' ,M'-

>';>• -^ẁ, ■m'. .

M.M.. .

m;;.*

'Uiì'^í'ri'ri?;

n

^ 'íliíííì/''

'^ ■*//'/

s fiípiỳi'í

%ifm

mui

From the Lihrary

of PÁDRAIG Ó BROIN

í^/^^

n

'/r

lETHODISTIAETH CYMRU:

SíiF

HANES BLAENOROL A GWEBD BRESENOL

METHODISTIAID CALFINAIDÜ

O DDECHEEAD Y CÍSUNDEB HYD Y rLWYDDYN, 1S5U.

GAN Y PARCH. JOHN HüéHES, LIYERPOOL.

"Eto cofìaf fljmyddoedd deheiilaw y Goruclaaf. Cofiaf weithredoedd jt Arglwydd, ie, cofiaf dy wyrthiau gynt."— ASAPH.

CYFROL IL

GWllECSAM : - CYHOEDD'WYD GAN E. HUGHES A'l FAB, HEOL-ESTYN.

3IDCCCI.IV.

RHAGDEAETH I'R AIL GYFROL.

NiD oes genyf nemawr i'w ddyweyd ar orpheuiad y Gyfrol hon, ond ei chyflwyno i sylw a hynawsedd fy nghydgenedl. Nid oeddwn ar y dechreu yn dysgwyl y derbyniaswn gymaint swm o ddefnyddiau, a bernais nad oedd modd eu cyfleu gyda chysondeb dan unrhyw ben cyffredinol, gan eu bod o natur lleol ; ani hyny, tybiais mai gwell oedd eu trefnu yn y modd goreu ag a ellir dan enw y gwahanol siroedd. Dyry hyn, yn ddiau, ddyddordeb mwy i'r hanes, i'r graddau y bydd yn cyffwrdd â chartref pob un ; ond yr oedd hyn ar y Uaw arall yn fy arwain i ymhelaethu yn llawer mwy nag a feddyl- iaswn ar y cychwyniad. Ar yr un pryd, gan mai y gwaith hwn yw yr unig hanes cyffredinol ar gael o'r cyfundeb, a chan y coUid dros byth lawer o amgylchiadau dyddorol perthynol iddo, os na ddefnyddid yr adeg presenol ; ac hefyd, gan fy mod yn cael fy anog yn daer gan eraill, ac yn teimlo fy hunan radd o aidd i wneuthur y gwaith mor gryno a chynwysfawr ag a allwn, mi a ymollyngais i osod gerbrou gymaint o'r defnyddiau ag a farnwn yn fwyaf dyddorol i'r darllenydd, heb adael allan ddim o wir bwys.

Ond er ymhelaethu yn y modd hyn, yr wyf yn dyfalu y bydd llawer un yn teimlo yn anniddig, am na fydd yn cael un crybwylliad am ei le ei hun ac am na roddasid mwy o hanes personau adnabyddus iddo; personau, yn

îv. RHAGYMADHODD.

ol ei farn ef, llawn mor deilwng o goffâd anrhydeddus a neb arall. Wrth y cyfryw, dywedwyf, na ellir gosod y gwall hwn wrth fy nrws i, gan na ddaeth yr hysbysiad a dybid mor ddyddorol ddim i law ; ond gwnaethum fy ngoreu i wneuthur cyfiawnder â'r defnyddiau a dderbyniwyd.

Mae hanes amrywiol siroedd mewn a Gogledd eto ar ol ; ynghyda

hanes Methodistiaeth yn nhrefydd Lloegr. Mae hanes yr Henaduriaeth

Newydd yn siroedd Caer a Lancaster Hanes y Methodistiaid yn America

Bras hanes y ddwy Genadaeth a'r ddwy Athrofa ; hefyd, desgrifiad o gyfan-

soddiad, dylanwad, cyfrifoldeb, difi'ygion, a rhagoriaethau Methodistiaeth

Cymru, i fod yn gynwysiad y drydedd Gyfrol ; yn gysylltiedig â'r hon y bydd

Mynegair manwl o'r tair Cyfrol. Gwelir wrth y bras ddarluniad hwn y bydd

Uawer o amrywiaeth, a hwnw o natur tra dyddorol, yn y Gyfrol ddiweddaf ;

yr hyn a'i gwna o werth a phwys neillduol, yn llawn cymaint a'r un o'r ddwy

a'i blaenorodd, ac yn gyfryw na fydd y gwaith mewn un modd \ti gyflawn

hebddi.

JOHN HÜGHES.

Mount-Street, Liverpool, Ebrill, 1854.

CYNWYSIAD.

Y PEDWERYDD DOSBARTH ; SEF, HANESIAETH Y SIROEDD.

y PRIF LINELLAU YN HANES SIR ABERTErFL

PEN. I. HANESIAETH CYNTEFIG Y SIE.

Ansawdd crefydd yn y wlad ar ddechread 1700 Methodistiaeth yn ymgoríFori yu y

sir taa 1740 Rhestr o'r mân eglwj'si boreaf a ffurfiwyd Y wedd oedd arnynt, a'r

effaith a gafodd yr yniraniad amynt Moddion eu hadferiad Tudal.'l 10.

PEN. II. HANES LLANGEITIÎO. CjrTighorwyr yn codi dan weinidogaeth Rowlands Sefyllfa Rowlands fel gweinidog jT eglwys sefydledig Troi ysgubor Rowlands yn cwrdd Hen gytighonyyr Llan- geitho ^Adeiladn y capel cyntaf yn 1760 Syniad Rowlands am ei gysyìltiad ag eglwys Loegr Effaith ei droad allan Dysgrifiad o'r ail gapel a'r trydydd Y dull y

cedwid y moddion Marwolaeth Rowlands Diwygiadau Tudal. 10 20.

PEN. III. EGLWYSI BOllEAF Y SIK.

Ansici'wydd yr hanesiaeth o barth amser eu cychwyniad— Hanes Llechryd Lledrod Llangwyryfon Pont-rhydfendigaid T\\Tgwyn Capel Waunifor Swydd-ffynon Pennant— Aberteifi Rhiwb-n^SjLlanrhystyd Soar, plwyf Llanddewi-brefi. 20 44 .

PEN. IV. PaBHAD O HANES EGL"nYSI BOEEAF Y SIB. Tregaron— Aberffnvd Cwmyst-n^th Cynon Pontemyd— Llwyn-rhys a Llwvn-pi- od Ffosfîìn ac Abermeirig Y Parch. Thomas Gray Blaenpenal Taliesin, Tre'r-

ddol, a Llanilar Tudal. 44 65.

PEN. \'. PARHAD HANESIAETH YR EGLWYSI.

Llanon Penmorfa Blaenanerch Capel-y-Drindod, a Llanbedr Tudal. 65—78.

PEN. VI. PRIF LINELLAU HANESIAETH Y SIR. Gwahanol Gyftiodau yr hanes— Gweinidogaeth y DiwygT^-yr cyntaf— Gweinldogaeth Rowlands Anamledd y capelau Dafydd Morris Parch. John Williams, Lledr.

od Tudal. 78 91,

PEN. VII. PARHAÜ O BRIF LINELLAU HANESIAETH Y SIR. Peirch. Ebenezer Morris John Thomas, Aberteifi Ebenezer Richards a Jenkin Davies Amryw bregethwyr eraill Gwasanaeth dosbeirth eraill i Fethodistiaeth Hanesyn am dair benj^, ac am Daniel Rowlands Ceinevrydd a chapel Afan Y modd y cododd lleoedd diweddarach Tudal. 91 122.

y PRIF LINELLAU YN HANES SIR GAERNARFON. PEN. I. GOLYGIAD RHAGARWEINIOL. Agwedd y wlad ar ddyfodiad Howel Harris iddi gj-ntaf John WiIIiams ac Ellis Row- lands Eglwys ymneillduol Pwllheli— Agwedd }t offeiriaid-GriflSth Williams, esgob Kilkenny, a Rhys PaiTÌ y clochydd— Llafur Jenkin Morgan— John GriflSth Ellis, Evan Williams, a John Jones, Llaniestyn Pregethu yn erbyn Methodistiaid— Cangenau eglwysi yn cael eu ffurfio Cjmghorwyr cjmtaf Lleyn ac Eifionydd. Tudal. 122 140.

PEN. II. PARHAD HANESIAETH CYNTEFIG Y SIR. Prif bregethwyr y Methodistiaid yn Ngwynedd yn y tymhor bore hwn Dyfodiad Daniel Rowlands i'r wlad yn y fl. 1747- Capel Tŷ-mawr, Biyn-croes Siarl Marc Pregethu yn ardal Port-yn-Lleyn ac Ede_vm— Capelau Uwch-y-mynydd a Chlynog

Llanbenis— Cyhoeddiad"Dafydd Morris yn y fl. 1771 " Tudal. 140—149.

PEN. IIT. BYR HANES EGLWYSl HENAF Y SIR.

Hanes Methodistiaeth ya ardaloedd Brynengan Y Waunfawr CIjTiog Y Parch.

Mr Nanney Berthddu-bach Tudal 149 165.

PEN. IV. EGl.WYSI BOREAF Y SIR. Llanllyfni Y Buarthau— Cjandcithasfa yn Llanllyfni j^n y fl. 1769 PregethwjT Llan- Dyfni Pregethu j-n Ffridd-bala-deulj-n Nant NantUe a Thalsara Pregethu yn

^i, CYNWYSIAD,

Saethon-bach— Argyhoeddiad hynod— Adfywiad nodedig- Nefyn— Pregethu yn Cae-

rhýg— Arferion llygredig— PwUlieli-Michael Eoberts Tudal. 165—186.

PEN. V. HELYNTION LLEYN AC EinONYUD. Eobert Jones a'i amserau— D. Eowlands yn pregethu'n Tydweiliog a Gellidara— L.Bees yn cacl ei erlid yn Aberdaron— -Amryw erledigaethau— Cyfarfod pregetbu yn Mhen- morfa— Cyfarfod misül yn Dolydd-byrion— Griffith Siôn, Ynys-y-pandy, a'i helynt— Dechread a chynydd Methodistiaeth yn Medd-gelert a'i hamgylchoedd. 186—207.

PEN VI CYNYDD METHODISTIAETH AK OL YR ADFYWIAD YN Y FL. 1762, YN

ARFON.

Llanrug a'i hardaloedd— William Jones, Pen-yr-allt— Pregethu yn dechreu yn Llan- ruo- tuar fl. 1776— Pregethu yn Nhwll-y-clawdd— Ffurfio egl\vys yn 1783— Pregethu yn" Cae-Howel, Waunwina, Tý'n-yr-hendre', &c.— Chwedl am Evan Evans, Waun- faw ac am John Thomas, Llanberris- John Eoberts, Castell— Hugh William, y gof, Pentir-isaf— Holland Griffiths, Ysw., Môn Tudal.2Ql—2\%.

PEN. VII. CYNYDD METHODISTIAETH YN ARFON. Dechread yr achos yn Mr}Ti-yr-odjTi— Evan Siôn, Tyddyn-mawr Siôn Griffith a'i ^aio-— William Evan— By/hanes Bwlan, Ehostryfan, a Charmel Tref Caernarfon Parch. E. Eichardson Ei hanes, ei ddefnyddioldeb, a'i gymeriad. Tudal. 216 246.

PEN. VIII. METUODISTIAETH YN MANGOR a'i CHYFFINIAU. •John Williams, Llandegai— Dechread Methodistiaeth yn Llandegai a Llanllechid Ansawdd v wlad ar y pryd o ran gwybodaeth ac arferion Gwedd hynod y bobl mewn oedfà mewn ardal fynyddig- Pregethu yn yr Achyb— Dechread yr ysgol Sabbothol a'i llwyddiant Methodistiaeth yn Aber Parch. Daniel Jones— WiIIiam Jones, Aber-

caseg Tudal. 246-258.

PEN. IX. HANES AMRYW O HEN BREGETHWYR Y SIR. John Pierce John Eoberts, Llanllyfni Eobert Eoberts, Clynog Eobert Dafydd, Bryn-eni'-au John Wüliams, Llandegai John Jones, Edeyrn A Eichard Jones, Wèrn .t Tudal 258—281.

Y PEIE LINELLAU YN HANES SIE BENFEO.

PEN. I. GWEDD GYCHWYNOL METH0DI5TIAETH YN Y SIR.

Cydgychwyniad Howel Davies, Howel HaiTÌs, a Daniel Bowlands H. Harris yn sir

Benfro yn y fl. 1742 Adroddiad William Pritchard Yr hen Gynghorwyr Arferion

ac oferg'oeUon y wlad Tudal. 282 290.

PEN. II. EGLWYSI BOREAF Y SIR. Tj'-Ddewi Ymweliad cyntaf H. Harris â'r ddinas Ymosodiad ar Harris yn cael ei atal Ymweliad Daniel Eowlands ac eraill Pregethu yn y Llew-du, ac yn nhŷ Eichard Bowen Mr. Thomas Eees, Trepuet, a Mr. George Williams Cyfarchell Mr. Sampson Thomas— Solfach— Bhyd-y-gele William Edward. Tudal 290—302.

PEN. III. EGLWYSI BOREAF Y SIR. Woodstock Hynafiaeth a Hynodrwydd y lle Howel Davies yn Llys-y-fran John Harris, Treamlod CydlafurwjT John Harris Lleoedd y gweinyddid y Sacramentau John Harris yn Tenby Parch. Nathaniel Eowlands ^Parch. Evan Harris, a Siams Thomas ei was Casgwys Gosen Bumaston Hall Cas'mael Y Gwastad Mount- on— Narberth— Burness-hiU— Begeley Tudal. 302—319.

PEN IV. EGLWYSI BOREAF Y SIR a'u CANGENAÜ. Capel Newydd Cychwyniad yr achos Cynulliadau pen rais— Bwlch-y-groes Bych- ander ei gychwyniad— Öedfa hyiiod gan Jas. Matthias Ffyddlondeb Thos. Griffith Josiah Evans Codiad y capel Geo. Griffiths Pont-gareg Glanrhyd Cilgeran Thomas Morris— Adfywiad cyffi'ous a darostyngiad hen arferion... Tudal. 319 326.

1>EN. V. EGLWYSI BOREAF Y SIR a'u CANGENAU.

Aberíiwaun Erlid Iien bregeth^'v-r— ^Yhitfield yn pregethu j-n y dref John Harris yn Tre-Uau yu pregethu Adeiladu y capel John Dafydd -Croen-Llwyn Mr. Thomas Davies a Mr. Jones, Llangan Pregethwyr Abergwaun Wdig a Thre'-Ddaf- ydd Carnachen-wen a Threfin Milford Tudal. 326 337.

Y PEIP LINELLAU YN HANES SIE DEEFALDWYN.

PEN. I. EGLAYYSI BOREUAF Y SIR.

Llaobrynmair Y crefyddwyr cj-ntaf Adeiladu y capel— Dyfodiad Howel Harris i'r

wlad Pregethwyr ac adfywiadau Llanbrynmair Daroẁen Thomas Dafydd

CYNWYSIAD. Tii.

Wm. Lewis ac EUis Edward Machynlleth Samuel Lloyd yn pregethn Yr erlidiwr Lumley Y gymdeithasfa gyntaf Dr. Edwards Mr. a Mrs.Foulkes. T.d 337 355. PEN. II. EGLWYSI BOREAF Y SIR. . Howell Harris yn pregethu yn Llanidloes Jenkin Lloyd, Ysw., yn amddiíîyn y Methodistiaid Y Tyddyn Pregethu yn y dref Adeiladu y capel Yr hen cynghor- wyr Edward Watkin John Pierce Jeremiah Williams— HumphreyGwalchmai Yr ysgol Sabbothol - Cynydd yr achos— Cymdeithasfa 1819 Afionyddu ar y Parch.

John Elias Khaiadr-ar-wy Tudal. 355—368.

PEN. III. EGLWYSI BOREAF Y' SIR a'U CANGENAU.

Cychwyniad Methodistiaeth yn Nhref-egiwys Teulu Bowen y Tyddyn, a Woosnam y Tý-mawr— Garth-bwt Adgoíîon hen ŵr am y tymhor hwnw Adeiladu capelau Gleiniant a Saron Capel y Graig a Llawr-y-glyn Mochdre Llandinam Caersws Camo Y Drefnewydd Tudal. 368 381.

PEN. IV. YMEANGIAD METHODISTIAETH AK LANAü AFON DYFI. Cemaes Owain Siôn, Plas-ucha' Mallii^'yd Mrs. Sinai Pierce Adfywiad grymns— Richard Jones, Cwm-eidrol Helyntion John Parry Thomas Miles Llanwrin Erüd

pregethwyr yn y Eoel Parch. WiUiam Jones, Dol-y-fonddu Tudal. 381 390.

PEN. V. EGLWYSI BOEUAF Y WLAD a'u CANGENAU. Llanwyddelan Ysgogiadau cychwynol Yr hen gynghorwyr Erlid gan foneddwr Howel Harris yn pregethii Llangynog Morgan James mewn penbleth— Himant Rhos-y-brithdir Llanrhaiadr-yn-Mochnant Carneddau— Croesoswallt 390 410.

PEN. VI.— EGLWYSl CYNTAF GWAELOD Y SIR. Terfynau y Saeson Y Sarnau Morris Evans, Melin-y-Mardy Evan Wiliiams, o'r Fegin Erlid Y Groeslw^d Thomas Mason, y gof Pont-Robert-np-OIiver Mei- fod— Parch. Evan Griffiths— Llanfyllin Tudal. 410 422.

Y PRIE LIÎÍELLAU YN HANES SIR GAERFYRDDIN. PEN. 1. HEN EGLWYSI GOGLEDD-DDWYRAIN Y S1K. Cofnodau Trefecca Tal-llychau Mrs. Lloyd, Pant-yr-esgair Rhys Morgan, Capel- hir Cyrchu i Langeitho Mrs Griffiths, Glan-yr-afon-ddu-ganol Adfywiadau Llan- fynydd Dafydd Evan, Briscen, ac Evan, Tir-clai Dafydd Rhys Comelius Cob- ner Llansawel Caio Mr. Lloyd, Henllan Tudal. 423 433.

PEN II. CYRAU DWYREINIOL Y SIR. Hynodion y sir Adgofîon Jolm Bowen Yr adfpviad yn y fl. 1828 Llanddeu- sant Adfywiad yn llan y plwyf Dafydd Thomas Dafydd Griffith Rhys Dafydd Parch. John Thomas Miss Bowen, Waunifor a'i brawd Myddfai Llandeilo-fawr

Cefn-byrach a Llanlluan Tudal. 433 445.

PEN. III. PARHAD O EGLWYSI DWYREINIOL Y WLAD. Cli-y-cwm Gwedd foreuol Methodistiaeth yn y Ile— Parch. W. Williams, Pant-y-cel- yn Y crefyddwyr cyntaf Adfywiad John Evâns Mr. Llwyd, Caio Risiart Ifan Daíydd William, o'r Beili-glas Mr. a Mrs. Jones, Ystrad-wallter ysgol Sabbothol

gyntafyny sir Llanymddyfri Adfywiad Llangadog Llansadwrn 445 457.

PEN. IV. EGLWYSI GOGLEDD-ORLLEWJN Y SIR. CastelI-newydd-yn-Emlyn Chwaer D . Rowlands PhiHp Dafydd y clocsiwr Han- esyn am Dafydd Morris a Williams, Pant-y-celyn Y gymdeithasfa gyntaf Davies, Llanfymach, a James Matthias John Evan, Cenarth, a John James, barcer Cyn-

fil— Brechfa— Clos-y-graig Tudal. 457 466.

PEN. V. EGLWYSI GORLLEWINOL Y SÎR.

Caerfyrddin Whitfìeld yn pregethu John Bowen, Ysw. Gweini yr ordinhadau yn y dref Yr ysgol Sabbothol Cymanfa yr ysgol Parch. David Charles Parch. T. Jones, ac eraill T. Morris, Ysw. Capel Saesonaeg Llanddowror Banc-y-felin

Meidrim ^Llandyfaelog Llanstephan Tudal. 467 480.

PEN. VI. EGLWYSI DE-ORLLEWIN Y SIR.

Eettws Jacob Jones Adfywiad yn y fl. 1829 Capel-yr-Hendre Siôn Thomas Owain Pentwy-n John Davies Parch. John Evans Llanedi Henry Pugh Llangyndeyra Llandybie Llanddarog a Nantgaredig Cwmaman Cydweli Llan- Baint— Llanelli— Pen-y-bre Tudal. 480—495.

Yiii. CYNWYSIAD.

Y PRIF LINELLAU YN HANES SIR FON. PEK. 1. YSGOGIADATJ CYCHWYNOL METUOUISTIAETH YN Y WLAD. T. rritchard, Tv-gwyu, a'i deulu— P. WiUiams— Evan Griffitli, Chwaen-hen— Glan-y- górs— Erlid ya Chwaen-hen— LlanrhuddUid Adeiladu y capel Cemmaes Symud o'r Tŷ-du i Ystordy— Adeiladu capcl Bethesda— Llanfechell— Eriid gwýr dyeithr jmo— Mr. Bulkeley o'r Brynddu— P. WiUiams— Bcthlehem, neu y Gareg-lefa. T. d. 495—506.

PEN. II. HEN EGLWYSI DEIIEUOL Y WLAD. Niwb-nTch— Richard Jones— Siôn Dafydd, Tý'n-yr-allt, a'i feistr tir Thomas Williams, Pwll-yi-hwyaid— Adeiladu y capel— Dychweliad Mr. Rice Hughes— Sel hen wraig dduwiol o'r enw Annas Biynsiencyn a Dwyran Owain ac Ann Williams, Tai-coch- iou_Mr. Owen Jones, Cwyrt Adfywiad Llangristiolus— Robert y cowper— John Parry, Tŷ'n-y-pwll Y capel cyntaf yn Môn Capel Bethel Erlid tost Rowland a

Jane Owen— Cynydd yr achos Tudal. 506 519.

PEN. III. HEN EGLWYSI DEHEOL Y SIR. Prcgethu achlysurol yn Aberffraw Dwy hen ferch yn Uochi'r achos Wil William Prys y gof— Gwawdio pregethu— Mr. WiUiams, Lledrod Y gymdeithas egh^ysig gyntaf— Capel-huddygl Dyfodiaid crefyddol yn lloches i'r achos John Owens, Plas, Llangwyf- an Adeiladu capel newydd Griffith Edward William Evans Sefydliad Method- istiaeth yn Bethania, ac yn Nhre'gwalchmai Parch. RichardLloyd. Tudal. 5 1 9 532.

PEN. IV. DECHREAD A CHYNYDD METHODISTIAETH YN NGHAERGYBI. Y crefydd^Y^r cyntaf Lleoedd pregethu rìnvng 1755 a 1777 Erlidiau creu!avm Moddion yn Cerig-y-ddraenog Siomi erìidwyr yn eu hamcan Dyfodiad Richard Jones i'r "dref Cymeryd tỳ i bregethu ynddo Codi ysgol ddyddiol Dyfodiad Mr. Griffith Owen i'r dref Adeiladu capel Diwygiad Richard Jones, mab y cyntaf Cynydd yr achos, &c.— Hanes Owen Thomas Tudal. 532 545.

PEN. V. HEN EGLWYSI GORLLEWINOL Y WLAD.

Caergeiliog Hynafiaeth yr achos— Pierce Pritchard a Robert Pierce T. WiUiams a'i wraig Mynediad y wraig i Drefecca, a'i dychweliad yn ol Ei hynodion Adeiladu y capel Ymeangiad yr achos yn dair cangen— Tŷ'n-y-maen Dafydd Llwyd Adeiladu capel Cynulliad eglwysig LlanfnTOg John Thomas y gof Cyfodiad ysgol Sab-

bothol, &c Tudal. 545- 555.

PEN. VI. HEN EGLWYSI GOGLEDDOL Y WLAD. Amlwch Pregethu yn y Tŷ-du Dafydd Morris a H. Harris Pregethwyr a gododdyn y dref— Y Capel-coch Cae-maes-gafr a'r Cerig-llithir Penrhos-llugwy Llanerchy- medd Cychwyniad yr achos a'i gynydd Glasinfryn, a'r Waun-eurad. 555—567.

PEN. YII. EGLWYSI DWYREINIOL Y WLAD.

Beaumaris Dafydd Mon-is, Michael Thomas, ac Owen Thomas Rolant, yn pregethu yn y dref, y terfysg a'r erlid cysylltiedig Y gymdeithasfa gyntaf Parch. Richard Lloyd Llangoed Campau Marian-dyrys Aflonyddu addoliad a dynwarediad preg- ethu Gorthrj-mu y crefyddwyr Llanfair Risiart Morris Hugh Pritchard, o'r Depra-bach Risiart Evans, yr ysgolfeistr Marwolaeth Risiart Slorris, ac adfyw-

iad Tudal 567—581.

PEN, VIII.— PrvIF LINELLAU HANESIAETH MON.

Prif Gyfaodau yr hanes Nodweddiad y Cyfnod cyntaf— Y'' crefyddwyr cyntaf Eu hysbryd a'u hanfanteision Prinder pregethwyr, a bychander eu doniau Tai preg- ethu William Lewis Yr ail Gyfnod Y pregethwyr a gododd John Jones, Bod- ynolwyn Adeiladu capelau Doniau pregethu yn cjTiyddu, ac erlid yn Ueihau Cyfodiad yr ysgol Sabbothol Y trydydd Cyfnod Nodweddiad y Cyfnod Ysgrifenu yn erbyn y Methodistiaid Tudal 581 596,

PEN. IX.— OES Y PARCHEDIG JOHN ELIAS.

Bore ei oes, ei ddygiad at grefydd, a dechread ei weinidogaeth Ei ymroddiad i gyrhaedd gwybodaeth Ei ddyfodiad i Fôn Ei lafur a'i Iwyddiaut yno Ei ddoniau gweinidogaethol Effaith ei lafur ar y cyfundeb Ei olygiad àr y neiUduad Ei afiech- yd a'i farwolaeth Twrfa/. 596— 603.

. PARHAD Y PEDWERYDD DOSBAETH ;

SEP,

HANESIAETH Y SIROEDD.

PRIF LINELLAU YN HANES METHODISTIAETH SIR ABERTEIFL

PENNOD I. HANESIAETH CYNTEFIG Y SIR.

CYNWysIAD:-

ANSAWDD CREFYDD YN Y WLAD AR DDECHREUAD 1700— METHODISTIAETH YN YMGORFFORI YN Y SIR TUA 1740— RHESTR O'R MAN EGLWYSI BOBEUAF A FFURF^ IWYD Y WEDD OEDD ARNYNT, A'R EFFAITH A GAFODD YR YMRANIAD ARNYNT— MODDION EU HADFERIAD.

Yr ydym eisoes wedi rhocldi bras olwg ar y modd y cychwynodd Methodist- iaeth yn y sir hon, lle hefyd y gwelir bod cyffelyb ysgogiad yn cyineryd Ue, ar yr nn pryd, yn sir Frycheiniog, trwy Howel Harris ; ac yu sir Benfro, trwy y Parch. Howel Davies. Yr oedd sir Aberteifi yn isel ei gwedd, mewn pethau crefyddol, ar y pryd y dechreuodd Dauiel Eowlands gyífroi y wlad trwy ei weinidogaeth rymus ac eÊfeithiol. Pa faint bynag o lafur a fu yn y wlad hon, gan ddynion duwiol o fysg yr anghydífurfwyr, mewn dyddiau pell yn ol, eglur yw fod diflaniad gofidus wedi disgyn ar yr hen eglwysi Presbyteraidd yn y wLad hon, fel mewn gwlcdydd eraiU, erbyn dechreu y deunawfed canrif. Yr oeddynt wedi colli iachusrwydd yn yr athrawiaeth, a phurdeb yn y ddysg- yblaeth. Gwyrasant yn mhell mewn Ariaeth a Sosiniaeth ; yr oedd gwir nodweddau yr efengyl wedi coUi o'u mysg, a marweidd-dra digyffro, fel sydd yn mro a chysgod angau, wedi eu gorchuddio.

Yr oedd yma, er hyny, ychydig o eglwysi, yn mhlith yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr, yn cynal gair y bywyd, yn nghanol y dirywiad mawr hwu. Eto nid oeddynt ond ychydig iawn mewn rhifedi ar ddechreu 1700, a Ued farw- aidd a digynydd. Yr oedd gan y Bedyddwyr rai eglwysi, mwy ueu lai eu maint, yn y wLid ; a'r un naodd yr Annibynwyr. Yr oedd achos gan yr enwad olaf hwn yn Llechryd, Ffosflan, Llwyn-piod, Abemeirig, a'r Cilgwyn. Gan y Bedyddwyr nid oedd ond naw eglwys reolaidd yn holl Gymru, yn y fl. 1715, oud ni allai fod eu hachos ond gwanaidd yn y sir hon yn mhen ugain mlynedd wedi h}Tiy.

Am agwedd ysbrydol crefydd yn eglwys Loegr, nid oes Ue genym i feddwl

fod dim gwahaniaeth yn y wlad hon, wrth oedd arni yn siroedd eraiU y

dywysogaeth. Yr oedd y weinidogaeth yn nwylaw dynion cnawdol, gan

mwyaf ; a pha beth a eUid ddysgwyl oddiwrth y fath rai ond athrawiaeth

CyrROL II. B

2 HANESIAETH Y SIROEDD. [l)OSB. IV.

unol â syniadau y cuawd, a buchedd unol â thueddiadau natur. Nid oedd y manteision a gawsent mewn dysgeidiaeth, mewn un modd yn sicrhau santeidd- iad y galon, er iddynt eangu y deall. Ac nid oedd yr urddiad a fu arnynt gan yr esgob, chwaith, yn gwella dim ar natur lygredig. Os yn y cnawd o'r blaen, yn y cnaw^d y byddeut eto, o ran dim cyfnewidiad a allai eu hurddiad gynyrchu. Ar yr adeg y cyfeiriwn ati, gan hyny, sef dechreu 1700, nid oedd yma neraawr o wir grefydd i gael yn mysg neb, eglwysu^r nac ymneill- duwyr. Ond fe ddaeth yr amser bellach i drugarhau wrth Siou, ie, yr amser nodedig ; Duw a oUyngodd ei Ysbryd, a bu swn a chyffro yn mysg yr esgym sychion ; daeth bywyd a goleuni i fro marwolaeth, ac " adnewyddwyd wyneb y ddaear."

Afreidiol yn awr a fydd ail adi'odd y modd y dechreuwyd hyn, ond cyfeirio y darllenydd at yr hyn a ddywedwyd eisoes,* a myned rhagom yn awr i ol- rhain gradd ar gynydd y gwaith yn mysg y Methodistiaid, yn y wlad hön. Yn y flwyddwyn 1734, nid oedd \in aelod o'r enwad hwn i'w gael trwy hoU Gymru, ond erbyn hyn y mae, yn y sir hon yn unig, fwy na saith mil o gy- muuwyr. Y pryd hyny, nid oedd yma un addoliad, yn awr, y mae, o fewn ychydig, rhwng capelau ac ysgoldai, ddeg a phedwar ugain. Nid oedd y pryd hyny yr un plentyn dan addysg gi-efyddol ar y Sabboth, yn awr, y mae tros pymtheg mil dan addysg bob Sabboth. Nid ydym yn dweyd hyn mewn ffordd o ymffrost, ond i'r dybeu i ddangos pa beth a wnaeth llaw Duw-yn y wlad hon, yn ystod ychydig gyda chau' mlynedd. Nid wyf yn sicr a ellir cyfeirio at un wlad nac oes, yn hanesiaeth Cristionogaeth, o ddyddiau yr apostolion i waered, lle y ceir mwy o Iwyddiant ar bregethu Crist, nag a geii' yn Nghymru drwy y Methodistiaid ; ac wrth fwrw golwg ar y gwahanol siroedd sydd yn rhanu y wlad, y mae y su- hon yn dal lle ucliel ac arbenig. GeEir edrych ar Llaugeitho hefyd, yn fwy uag un man arall, yn gryd Methodistiaeth Cymru. Goleuwyd yma ganwyll ddysglaer ; ac fe'i gosodwyd hi ar ganwyll- bren, i oleuo i bawb o amgylch. Fe fu y c3T.Thu i Langeitho, o wahanol gyrau Cymru, am ysbaid triugain mlynedd a mwy, yn foddion nodedig i gyffroi ac i oleuo preswylwyr y gwledydd. Trwy y sylwadau a wnaed o'r blaen, gwelir fod y fath at-dyniad rhyfeddol, a'r fath rym anarferol, yn ngweinidogaeth Eowlands ei hun, am hanner can' mlynedd, fel ag i roddi ysgogiad grymus i grefydd efengylaidd trwy yr holl wlad.

Yn fuan ar ol i Rowlands a Harris ddechreu pregethu, yn y modd cyffrous a soniwyd, a d'od yn gydnabyddus â'u gilydd, ymgynghorasaut yn nghyd, mewn undeb a'r Parch. W. WiUiams, Pant-y-celyn, a'r Parch. Howel Davies, am y moddion a'r dull a ddylasid eu defnyddio i hyrwyddo mynediad yr adfywiad yn ei flaen. Yr oedd Uuaws o ddynion eisoes wedi eu defiT.-o yn ngwahanol barthau y wlad hon, fel siroedd eraül, ac^'r oedd yn angenrheidiol eu crynhoi yn gymdeithasau, er mwyn eu harolygu a'u hymgeleddu. Ymddengys fod rhyw gymaint o gychwyniad ar hyn wedi cymeryd lle tua'r fl. 1740. Yr

* Gwel tu dalen 66-73.

PEN. I.] SIR ABERTEin, 3

oedd eisoes amr\ w o wŷr lleŷg wedi dechreu cyügbon eu cyd-ddyniou, inewu amrywiol barthau o'r Deheubarth ; ac er mwyn trefn a chademid, rhaid oedd disgyn ar ryw gynllun cymeradwy i weithredu wrtho, ac i bawb fod yn ddar- ostyugedig iddo. Yr ydym eisoes wedi cyfeirio sylw y darllenydd at hyn yma,* fel nad rhaid ychwanegu. Ar yr uu pryd, teg ydyw rhoddi gerbron pa beth a wnaed yn y llwybr hwn yn sir Aberteifi.

Ynyfl. 1742, yr oedd lluaws mawr o fân ganghenau eglwysig wedi tarddu trwy hoU siroedd y Deau, ac yn nghẀT sir Drefaldwyn. Ymgynullai y rhai hyn mewn tai anedd gan mwyaf. Ehanwyd y gwledydd yn ddosbarthiadau, a gosodwyd gweinidog urddedig yn gymedj-olwr y cyfarfodydd perthynol i bob dosbarth. O dano ef yr oedd arolygwyr ; i'r rhai y perthynai fugeilio y dosbarth, neu ran o ddosbarth, trwy bregethu i'r mân gynulleidfaoedd a ddechreueut jangrynhoi, a phorthi y praidd ar ol eu corlanu. O dan yr arolygwyr hyn, yr oedd pregethwyr neu gynghorwyr fel eu gelwid; rhai o honynt yn gynghorwyr cyhoedd, ac eraill yn gynghorwyr anghyhoedd. Nid oedd i'r rhai olaf hyn gynghori ar gyhoedd ond yn unig yn yr eglwysi, tra y caniateid i'r cynghorwyr cyhoeddus faes helaethach, trwy bregethu i'r cynulleidfaoedd, ac mewn ardaloedd dyeithr hefyd.

Y Parch. Daniel Eowlands oedd cymedrolwr y dosbarth yr oedd sir Aber- teifi ynddo : ac ni a gawn ei fod ef yn fynych, os uad yn gyson, yn nghyfar- fodydd misol y dosbarth, heblaw bod yu fwy cyson mewn cyfarfodydd mwy corfforedig, y rhai a arolygent yr hoU ddosbarthiadau gyda'u gilydd ; ac i ba rai yr oedd cyfarfodydd y dosbeirth \n ddarostyngedig.

Yr oedd pregethu wcdi dechreu mewn amrywiol íauau yn y sir, mor gynar a'r fl. 174.0, neu cyn hyny, heblaw y lleoedd cysegredig. Yr oedd Howel Harris yn ddiflin yu gwibio, ar ei hynt ar hyd yr hoU wlad, ymron, ac yn bur gyftredin yn gadael eífeithiau dwysion ar ei ol, yn mhob nian ; dynion yn cael eu hysgy tio yn ddiarbed gan ei weinidogaeth finiog a tharanllyd, nes yr oeddynt fel rhai newydd ddeftroi o gwsg maith a thrwm, yn ymofyn gyda phrysurdeb a braw, " Pa beth a wnawn ? "

Yn y fl. 1743, yr ydym yn cael fod yu sir Aberteifi saith 0 gymdeithasau bychain, at y rhai y chwauegwyd dwy eraill yn y flwyddyn ganlynol.f

Yr oedd y pump ganlynol 0 dan arolygiad un WiIIiam Eichard, yr hwn hefyd a arolygai amryw 0 gymdeithasau yn sir Beufro, ar hyd glan y môr, hyd Dyddewi.

1. Dyffryn-saeth : cynwysai hon 2.3 0 aelodau.

2. Blaen-hownant : cyuwysai hon 10 0 aelodau.

3. TwRGWYN : cynwysai hon 9 o aelodau.

4. Llwyn-dafydd : cynwysai hou 10 o aelodau.

5. Aberporth : cyuwysai lion 20 o aelodau. Yr oedd uu Watkin Watkins yu steicard, neu ddiacon, ar yr ail, y drydedd, a'r bedwaredd gymdeithas, a WiIIiara Evan, a Daniel Eyan, ar y bumed.

* Tu dal. 158. f Trefecca Minutes.

4 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. 1T.

Tr oedd y cwbl o'r cymdeithasau ucliod yn gorwedd tua gwaelod y sir, ac wedi eu gosod o dan yr uu arolygiaetli a chymdeitliasau sir Benfro.

Yr oedd hefyd ddwy gymdeithas arall yn nes i'r rhan uchaf o'r wlad, ac wedi eu gosod dau arolygiad un James WiUiams, mewn cysylltiad â chym- deithasau yn sii- Gaerfja-ddin, sef Caio, Cil-y-cwm, Llanfynydd, ac eraill. Y ddwy hyny oeddynt :

1. Capel Gwynfil: cynwysai hon G4 o aelodau.

2. Llangwyuyfgn : cynwysai hon 25 o aelodau. Yn y fl. nái, chwanegwyd

3. COED-Y-BRAIN : ") j^j ^^^^j^ ^^^^ ^^^^^^^ j j^^^.^

4. Pfrwd-wenith : 3 •'

Y cyfryw ydyw yr olwg ar sir Aberteiíì yn y blynyddoedd 1742-5. Ac nid yw ein hanes yn cyrhaedd ddim pellach. Yr oedd yma achos bychan wedi ei gychwyn mewn naw o fanau, a rhyngddynt yn cynwys tua 1 70 o aelodau. Gan fod yr hanes a roddir yn fyr, a gwedd mor hynafiaethol arno, yn rhoddi golygiad ar gychwyniad Methodistiaeth yn sir Aberteifi, gan ddadlenu ysgogiadau ein hynafiaid yn eu Uafur crefyddol a swyddol, mi dyb- iwn y gwuawn yn anflyddlawn pe peidiwn a gosod yr holl adroddiad gerbron.

Äirodäiad y hraicd James Williams, yr hwn oedd yn Arolygwr dros y cym- deitJiasau ag oedd meicn rlian o sir Äberteifi, a sir Gaerjyrddin.

" Capel Gwynfil, Aelodau 64, 32 o ba rai ydynt wedi eu rhyddhau gan y Mab, ond nid yw y gweddill yn gallu gweled yn eglur eu rhan ya Nghrist.

Yn y lle hwn y gwelir gwaith Duw yn eglur, a phrofir ef yn rymus ar eneidiau yr aelodau : y maent mewn undeb nefol â'u gilydd, ac yn cyrhaedd gradd mwy 0 ryddid o bryd i bryd yn yr hyn a berthyn i'w hiachawdwriaeth, ac yn cynyddu gan gynydd Duw.

Llangwyryfon. Aelodau 25, 8 o honynt yn rhydd trwy waed Crist, ond y gweddül, i raddau mwy neu lai, dan anghrediniaeth.

Mae Duw yn dda i'w heneidiau, ac y mae rhai o honynt yn rhodio yn agos at Dduw, ac yn mwynhau llawer o'i breseuoldeb ; a'u gelynion a ddygir fwy- fwy o dan eu traed.

CwMAN. Aelodau 38, 4 o honynt wedi cyrhaedd llawn ryddid, ond y UeiU oll 0 dan y ddeddf.

Mae Duw yn fynych yn dyfod i'w mysg, ac eto y mae rhagfarn yn eu mysg, ac fel brodyr Joseph, y maent yn ymiyson yn nghylch rhyw betbau; ond credu jt: wyf, y daw Duw i lawr i'w plith eto yn fwy."

Yn yr adroddiad uchod, nid yw enwau yr aelodau, na phrofiad pob un wrtho ei hunan, wedi ei osod i lawr ; yn unig fe'u dosberthir yn ddwy ran, y naill yn rhydd, a'r Ueill dan radd mwy neu lai o gaethiwed.

Qnd y mae yr adroddiad a gaalyn, am y cymdeithasau bychain yn mhen

PEN. I.] SIR ABERTEIFI. 5

isaf y wlad, ya f\ry manwl, ac yu cynwys enwau yr boll aelodau, yn nghyda'u profiadau.

Adroddìad y brawd WilUam RicJiard oV cymdeithasau dan ei ofal yn sir

Aberteifi.

Cyfrif y gymdeithaa cynulledig yn Dyfeyn-saeth (rhwng Penmorfa a'r môr, tybygid). Gwŷr priod.'

Thomas Dafydd. Yn credu, ond dan amheuon trwy rym temtasiynan ; mao yn dy- muno ac jti liiraethu am fwy o ryddid.

Dafydd Morgan. Wedi proíi Ilawer o gariad Duw ; mae yn credu yn feunyddiol, a'i brofiad sydd oleu iawn.

Dafydd Rhys. Yn credu, ond o dan llawer c\vmwl ; wedi dyfod trwy lawer o brof- edigaethau, ond yn gorchfygu fwy-fwy.

Jenkin John. Dan brofcdigaethau dros dymhor ; tywyll a sych yn ei ysbryd.

Meibion heb briodi.

Jenhin Dafydd. Weithiau yn credu, weithiau yn amheu ; ond yn fanwl ei rodiad allanol.

Griffith Thomas,— Rhodiodd hwn yn agos at Dduw, a phrofodd llawer o'i ddaioni, ond yn awr y mae dan lawer o gymylau.

Rhys Dafydd. Ar hwn y mae argyhoeddiad yn ysgogi yn araf iawn.

James Morgan. Yn cynyddu yn hyfryd yn mhob gras, yn credu yn wastad, ac yn rhodio yn agos at Dduw.

Owen Evan. Dan argyhoeddiad, yn teimlo ei Iygredd yn gryf iawn, gyda llawer o anghrediniaeth.

Merched heb briodi.

Jane Rhys. Yn meddu amlygiad eglur o'i chyfiawnhad, yn rhodio mewn rhydd-deb mawr, ond yn awr dan rai profedigaethau.

Äfary Evan. Cristion dirodres a phrofiadol ; yn adnabod Ilawer o'r Arglwydd ac o honi ei hun.

Elizaheth Thomas. Yn credu yn wastad, ac yn hiraethu am gael bod gyda Duw.

Jane John. Yn meddu heddwch â Duw ; yn myned rhagddi yn hyfryd, gan bwyso ar ei hanwylyd.

Mary Evan. Yn meddu cymdeithas â Duw, eto i lawr ac i fyny, ac mewn ym- drech galed i fyned yn mlaen.

Elizaheth Owen. Yn öredu yn gadam yn yr Oen, ac yn teimlo undeb ag ef.

Mary John. Yn meddu Ilawn sicrwydd fiydd.

Sarah Thomas. Yn meddu tystiolaeth amlwg o'i hachubiaeth trwy Grist, ond mewn Uawer ymladdfa à phechod.

Mary ílugh. Wedi profi cariad Duw, ond o dan rai amheuon, ac oíhau, a phrofed- igaethau tiymion.

Eltzaheth Thomas. Yn absenol.

Catharine Thomas. Yn byw mewn anesmwythder mawr, ac o dan awdurdod anghrcdiniaeth.

Margaret Thomas. O dan fesur o argyhoeddiad, ond yn lled dywyll.

Ann Jenhin. Dau argyhoeddiad.

Elinor Thomas. Dan argyhoeddiadau, ond yn bur dywjdl.

Ann Dafydd. Dan y ddeddf.

Cymdeithas Blaenhownant, (amaetlidy, tybygid, oedd hwn, rhwng Pen- morfa a Thwrgwyn,) steward neu ddiacon, Watkin Watkins, yr hwn sydd yn rhodio gyda yr anwyl lesu, eto nid heb deimlo cynhyrfiadau llygredig-

Gwcl enghraifft byr o'r gymdeithas fechan hon, tu dal. 1G6-7.

6 IIANESIAETll Y SIHOIÌDD. [dOSB. IV.

aeth weithiau, oud ei fl'ydd yn gorclifygu fwy-fwy ; yn mwyuhau ei gyfiawn- had mewn gweddi ddirgel.* Gwŷr i)riod.

Thomas Dafi/dd.—'^lííe wedi cjThacdd lla^ra sicnvj'dd ffj'dd, ac yn gwybod jn feuu- yddiol i b^^7 y credasai . Gwŷr ieuainc.

Dafÿdd George. 0 dan argyhoeddiadau ;— wedi profi peth cariad, y mae arno hir- aeth am yr lesu, ond cto o dan lawer o aruhcuon.

Joìm Èhys. 0 dan lawer o amheuon ac ofnau ; yn cael ambell gip-olwg ar yr lesu, ond 0 dan ymosodiadau ciyfion oddifewu, ac yn hiraethu am i Grist ei ryddhau.

Thomas John. Mae h^sTi yn ôydd yr lesu, yii credu yn feunyddiol, ac yn rhodio llawer gyda Duw, oud yn awr dan dreialon trymion, ac yn dyhëu am ymwared.

John Dafìjdd. -Mac 'ei ckoedigaeth yn bur aralwg ; dyn dirodi-es, gouest, difrif, a sylwcddol iawn, ac wedi profî gradd o gaiiad, ond yn awr dan amheuon.

G^rragedd priod, Mary Rhys. Yn y íFydd, wedi profi arwyddion o gariad Duw, oud o dan gymylau lawer, ac jti profi temtasiynau oddiwrth Satan.

Merched ieuainc.

Elizabeth Rhjs. Yn llawn sici-wj'dd fíydd, ac wedi profi llawer o gariad Duw, mewn modd na all tafod dracthu ; y mae yn gyffredinol yn rhodio gyda Duw.

Mary Evan. Mae ganddi lawn sicrwydd ffydd, y mac yn rhodio gyda Duw yn wastadol, gan foliannu ei euw santaidd am y pethau mawrion a wnaed er ac yn ei henaid, ac y mae yn cwbl gredu na wTthyd yr Argh\-ydd ddim iddi ag sydd yn Nghrist.

Elizabeth Evan. Mae hon yn cysgu mewn clauarineb a marweidd-dra ysbi^d, eto y mae ynddi beth liiraeth am j^mwarcd.

Mary Richards (gwraig weddw). Mae \-n bj^ ar ei theimladau, y mae wedi profl llawer o gariad Duw yn ei henaid, a phrjaíiau eraiU y mae yn amheu y cwbl, ond gau belled ag j' medrwn ni ddcall y mae yn ddynes ddiwyd a thyner-galon.

Judith Rue. 0 dan awdurdod anghrediniaeth.

Cymdeithas Twrgwyn. Síeicard neu ddiacon, Watkin AYatiíins.

Gwýr priod.

Crriffith Evan. Dan argj'hoeddiad ; wedi cael cip-olwg ar ei hawl yn Nghrist, ond o dan lawer o ofnau ac o amheuon, a chorffy farwolaeth jti gwingo jn dost.

Gwŷr ieuainc.

Jenhin John. Yn rhodio mewn llawn sicrwj'dd ffj'dd, a chanddo adnabj-ddiaeth brofiadol o Dduw, o Grist, ac o hono ei hun, ac wedi profl llawer o'r cai-iad adfywiol sydd yn Nghrist.

Gwragedd priod.

Mary Evan. Wedi cael profiad hyírj'd o gariad Duw yn ei henaid, yn rhodio j-n fl^'dd yr lesu, ond yn cael ei phrofi yn bresenol gan rai ymosodiadau llj'mion. Thamar John. Yn absenol.

Merched ieuainc.

Mary Leicis. Wedi dyfod ti-wy lawer o drallodion Ilyraion, y mae yn awr wedi ei chyfiawTihau, a'i sclio gan jv Ysbryd Glan ; y mae yn rhodio Ilawcr gyda Duw, eto o dan rai cymylau.

Catherine Thomas. 0 dan deimlad dwj's o'i gwaeledd ; mae arni rai argoelion o droedigaeth, eto dan y ddeddf.

Margaret Bowen. Y mae yn cael ei henniU bob jn ychydig, mae llawer o anvyddion o ffydd a chariad ami, dan ymladdfeydd caledion â'phechod, ac o dan rai amheuon.

"Justified in secret prayer" yw yr ymadrodd arwydda, tybygwyf, ci fod yn profi ymwared yn fynych mewn gweddi oddiwrth " ofn drwg."

PEN. 1.] SIR ABEBTEin. 7

Elinor Evan. Un ag ai-goel amlwg o droecligaeth arni, ac wedi proâ cariad Duw, gan liiraetliu a sycliedu am Grist, ond o dan rai amheuon.

Cymdeithas Llayyn-uafyud (pentref gerllaw Pensarn), diacon Watein Watkins.

Gwýr priod.

Tliomas John. 0 dan argjhoeddiadau, yn gweled mwj'-fwy o waeledd ci galon, ei atinheilyngdod, a'i gyudynrwydd wrth naturiaeth.

James Thoinas. 6 dan ddwj's deimlad o'i bechodau, ac yn dymuno yn gryf am Waredwr.

Èlorgan Eoans. 0 dan rai argyhoeddiadau, ond yn dra thywyll ac anwybodus am dano ei hun.

Evan Evans. 0 dan argyhoeddiadau, wedi profi peth cariad a hyfrydwch, ond o dan amheuon trymion.

Gwragedd priod.

Susanah John. Dan argyhoeddiad, a chanddi ddymuniad cryf am gael ci gwareduj ond hyd yma o dan awdurdod anghrediniaetli.

Catherine John. Sydd ganddi galon ddrylliog am bechod.

Diana John. Sydd yn credu, a ohanddi lawer i'w fynegu am ymweliadau grasol Duw â'i henaid.

Merclied ieuainc. Jane Rhys. Sydd ganddi lawer o aduabyddiaeth o Dduw, o'i Fab, ac o honí ci hunan. Elitabeth Rhys. A. brofasai beth cariad, ond yn awr dau awdurdod anghrediniaeth. Susanah Rhys. Sydd yn credu, ond yn teimloyrhen ddyn a'i lygredd yu gryf iawn. Mae y ddwy ganlynol ar brawf, ac i gacl eu holi cto :

.Tane Edward. Ymddcngys ei bod dan beth argyhoeddiad, ond yn dywyll ac an- wybodus.

Gwen Hugh. 0 dan rai argyhoeddiadau.

Cymdeithas Aberporth. Diaconiaid, Wjlliam Evan a Daniel Evan.

Mae y ddau ddiacon yn credu ; mae y cyntaf yn gorchfygu ei elynion ; a'r olaf yn hiraethu am fuddugoliaeth trwy waed yr Oen.

Gwýr pi'iod.

Evan Ilugh. 0 dan argyhoeddiadau, yn canfod llawer o ddrwg ei galou, ac yn hir- aethu am Waredwr.

T'homas Griffith. Nid amlwg iawn yw ei droedigaeth, ond y mae yn profi gi"add o waitli Duw ar ei enaid.

Jeremiah Evan. 0 daii argyhoeddiadau, ond mewn tywyllwch mawr, eto wedi profi peth hyfrydwch.

Thomas John. O dan y ddeddf, ac yn teimlo ei hun yn euog yn mhob peth a wna, mewn dyledswydd a galwcdigaeth.

Tlìomas John. Wedi derbyn ffydd i gredu yn yr lesu.

Gwýr ieuainc.

Dafydd WiUiam. Sydd yn credu ; wedi profi Ilawer o ddaioni Duw, ac wcdi myned tnvy lawer o drallodion meddwl, ac yn dysgwyl gwybod pa fodd, a pha lc, y mae iddo ogoneddu Duw.

Nicholas Dafydd. Wedi bod yn hir dan awdurdod anghrediniaeth, a themtasiynau Satan, oud yn awr y mae weithiau yn teimlo Ilawer o neith Duw yn ei enaid, a'r pryd- iau hyny y mae yn credu.

Evan Rhys. Wedi profi Ilawer o gariad Duw, yn Gristion sylweddol iawn, ac wedi dyfod trwy lawer o draüodion dwysion.

John Evan. O dan rai argyhoeddiadau, ond mewn Ilawer o dywyllweh. Merched ieuainc.

Ann Evan. Y mac yn rhodio yn ffỳ-dd yr lesu ; wedi profi cariad mawr, ac yn dy- hëu am ryddhad.

8 HANESIAETH Y SIHOEDD. [DOSB. IV.

Letíicö Evan.—SyM yn rhodio yn y flfjdd ;— wedi profl llawer o brofedigaethau tryniion, a ilawer o gariad hefyd.

Jane Ecan. O dan argyhoeddiadau ; yn ffieiddio ei hun, gan edrych arm ei hun yn benaf o bechaduriaid, ond wedi profi peth cariad.

Margaret Thomas.—'èyàà yn rhodio yn flydd yr lesu.

Margaret Evan, Wedi ei hai-gyhoeddi o'i phechodau, eto mewnlla'ner o dywyllwch, ac vn hiraethii am vr lesu.

Jane PhUüps (gwTaig weddw). Dan argyhoeddiadau, ond mewn llawer o dywyllwch.

Ann Rhys.—Yu cael ei hennill bob yn ychydig, ac yn gweled mwy-fwy o'i gwaeledd ei hun.

Margaret John. Dan argyhoeddiadau, ac ya llawn o amheuon ac o&au.

Mary Dafydd. Sydd yn credu yn feunyddiol ac j-n hiraethu am ryddhad.

Magdalen 'Thomas. Dan amhcuou ac othau, heb allu credu fod Crist yn abl, nac yn ewyllysgar i'w hachub hi.

jane John. 0 dan y ddeddf.

Cymdeitlias Twrgwyn.

Am Gymdeithas y Twrgwyn, fe ddywed yr arolygydd, yn mis Medi, 1748, fel hyn:—

'■ yr oeddym ya arfer a mwynliau llawer o bresenoldeb Duw yn gyífredin- ol ; auaml y deuem yn ngliyd na fyddai yr Arglwydd yn ein plith ;.ac hefyd y mae y diafol wedi rhuthro aruom yn aml ac yn rymus, gan geisio ein gosod oll yn mhenau ein giìydd. (Deallwch, fy mrodyr, fod mwy na hanner y gymdeithas hon yn ymneillduwp*.*) Dyma'r ail waith y cafodd ef fantais amom, i weithio aughydfod yn ein mysg, a'r cwbl yn nghylch rhyw eiriau." Ymddengys fod amr}TV o'r rhai a achlysurodd anghydfod wedi ymadael â'r gymdeithas.

Mae yr arolygwr arall, James WiUiams, yn anfon ei adroddiad ar yr un amser i'r gymdeithasfa, gan olygu y rhan uchaf o'r sir, mewn undeb â rhyw gyfran o sir Gaerfyrddin. Yn adroddiad y brawd hwn, nid ydym yn cael yr un manylrwydd ag a roddid yn yr un o'r blaen. Ond fe ddyry yr arolygwr olwg gyífredinol ar ei ddosbarth, a nifer yr aelodau yn mhob lle, yn nghyda dysgrifiad cyífredinol o ansawdd eu meddyliau, megys yn y swm, ond heb roddi enwau yr aelodauj ac ansawdd profiad pob un wrtho ei hunan, fel y gwelwn i'r llall wneyd. Nid yn fynych y mae crybwylliad am ddim jTuosodiadau ífyrnig gan erlidwyr yn yr adroddiadau hyn, yr hyn a'n harwain i'r penderfyniad, fod y Deheubarth, ar y cyfan, yn llawer mwy rhydd oddiwrth erlidigaeth nag oedd Gwynedd; eto er hyn, ni a allwn gasglu oddi- wrth. ambell awgrym a loddir, yn awr ac eilwaith, fod yr un ysbryd yn achlysurol yn dangos ei hun yno hefyd. Ymddengys hyny yn yr adroddiad a ganljTi :

" Cyfrif y cjTndeithasau, dan arolygiaeth y brawd James Williams, arolygwr dan y Parch. Mr. Eowlauds mewn ífui-f o lythyr.

Anywl Frodyr yn ye Arglwydd, Hyn sydd i'ch hysbysu pa ddrws mor eang a agorAnd gan yr Hollalluog Dduw, yn y cjTudeithasau a enwir isod, ac o fynediad ll^yj'ddiannus yr efengyl

* Gweddillion yr hen cglwysi Presbytcraidd, ond odid.

PEN. I.] SIR ABERTEIPI, 9

yn mlaen yn eu mysg ; a chredu yn ddilys yr wyf eu bod yn rhagori ar bob rhan arall o fewn cylch fy adnabyddiaeth i, trwy dywysogaeth Cymru, mewn cariad at Dduw a'r efengyl; mewn gwyliadwriaeth 1 rodio yn ei hol, ac mewn undeb yn mysg eu gilydd, heb erlidigaetli nac aflonyddwch oddiwrth neb, ond yr ychydig a brofwyd yn ddiweddar yn Llanbedr.

" Pan oedd aelodau y gymdeithas yu gytun yn canu salmau ac yn gweddio Duw, daeth Ustus Heddwch a'i weision i mewn i'w hatìonyddu, a chymerwyd yr hwn ag oedd y pryd hwnw yn gweddio, yn garcharor. Ond trwy raglun- iaeth Duw y mae yr ymosodiad yn lliniaru, a'r carcharor crybwylledig eisoes yn rhydd ; ond y mae yr Ynadon yu parhau i'n bygwth eto."

Yma y canlyn cyfrif yr eglwysi, yn benaf yn sir Gaerfyrddin, a'r tair a enwyd o'r blaen yn y sir hon, sef capel Gwynfil, Llangwyryfon, a'r Cwman.

Yn y flwyddyn ganlyuol, ysgrifena William Eichard at y gymdeithasfa, gan hysbysu y brodyr, fod dwy gymdeitlias o newydd wedi eu casglu, un yn Nghastell-newydd, a'r llall yn Llanllwch-haiarn. Fei hyn yr ysgrifena :

" Mae dwy gymdeithas wedi eu gosod i fyny yn ddiweddar yn y rhan yma o pir Aberteifi ; un yn Nghastell-newydd, yn cynwys wyth enaid, a'r rhau fwyaf o honynt mewu agwedd tra hyfryd, y llall yn Llanllwch-haiarn, yn cynwys tri-ar-ddeg o eneidiau. Y maent yn sychedu am y gair, ac yr oedd- ynt yn ymgynull unwaith yn yr wythnos, am ysbaid dau fis, cyn i mi fyned atynt. Y mae yr Arglwydd yn ymweled â'r lleoedd sychion a charegog hyu â'i rad ras. Gogoniant i Dduw."

Yr holl gymdeithasau a osodasid i fyny yn sir Aberteifi, yn ystod y blynyddoedd 1736-44, sef wyth mlynedd ar oli Eowlands a Harris ddechreu cyfl'roi y wlad drwy eu gweinidogaeth, oeddynt y rhai a enwyd, sef i gyd yn 12 0 rifedi. Yr oedd y cymdeithasau hyn yn fychain iawn, ac ar lawer golyg- iad yn isel eu gwedd. Yr oeddyntyn ddarostyngedig i lawer o gyfnewidiadau, trwy blentynrwydd eu profiad, ac anwadalwch eu teimladau, trwy newidiad lleoedd eu hymgynuUiad, ac amgylchiadau eraill. Ac nid oes amheuaeth genyf, na ddiflanodd amryw o'r cymdeithasau a enwyd, yn ystod y blynydd- oedd dylynol, trwy i amryw o honynt ymuno â chynulleidfaoedd eraill, neu ymgorfí"ori yn ynghyd, pan ddaeth yr amser i ddechreu adeiladu capelau yn y wlad. Cyn pen Uawer o amser ar ol hyn, hefyd, y cymerodd yr ymraniad le yn y cyfundeb ; am yr hwn y soniasom eisoes : ac nid oes lle i amheu na theimlwyd i ryw raddau efl'eithiau yr amgylchiad gofidus hwnw, yn y wlad hon hefyd, er, o bosibl, i raddau llai nag mewn gwledydd eraill. Yn y wlad hon, yr oedd dylanwad gweinidogaeth Eowlands mor fawr, fel na thueddwyd cynifer o'r dysgybliou i ymlynu wrth Harris, ac i ymadael ag apostol eu gwkd eu hunain. Ar yr un pryd, barnu yr ydym, y rhoes enciliad Harris i neillduaeth Trefeca, ddymod angeuol i'r gyfundrefn a osodasid i fyny, yn beuaf, trwy ei ddyfais a'i ymdrech ef, ac a arolygid ganddo ef. Mae genym saü gref i feddwl, mai efe oedd prif ysgogydd y gyfundrefn hòno ; ac felly, y byddai ei hysgogiadau yn rhwym o arafu yn y fan y ciliai efe oddiwrthi : trwy hyny yr oedd yr arolygiaeth gyflredinol yn colli, a'r arolygwyr dosbarth-

10 HANBSIAETU Y SIROEDD. [dOSB. IV.

iadol yu colli eu cefu, ac fe ddichon eu cynaliaeth. Effeithiai hyny drachefn ar yr holl fàu gynulliadau eglwysig, gan nad oedd neb ar gael, wedi colli eu bugeiliaid gosodedig, i gymeryd eu gofal ; a hwythau, eto, yu rhy eiddil a phJentynaidd i ofalu am danynt eu hunain. I ba raddau y disgynodd y di- flaniad hwn ar gyradeithasau a cliyngliorwyr y sir hon yn neillduol, nid oes genym fodd i wybod. Diau geuym na allodd y wlad yma ddianc heb deimlo rhyw gymaint oddiwrth yr ysgytiad, er y credwn, ar yr un pryd, iddi deimlo llai na rhai gwledydd eraill.

Gan i'r diflaniad hwn barhau am amryw flynyddoedd, hyd y fl. 17G2, mewn llawer o barthau y dyAvysogaetb, y raae yn rhaid i mi edrych ar y tymhor hwn fel math ofwlch yn Methodistiaeth Cymru ; ac yn rhanu ei oes yn ddwy ran, fel y gwnaeth y diluw yn oes y byd. Ehaid oedd i Fethodistiaeth ail ddechreu, megys, ar ol y diflaniad hwn. CoIIodd yr hen gyfundrefn, ymron i gyd, yn y tro ; dystawodd llawer o'r cynghorwyr ; gwywodd llawer o'r eglwysi; ciliodd Ilawer o'r dysgyblion, raewn rhai cyrau o'r wlad, at enwadau eraill ; rnewn gair, y byd Methodistaidd, ag oedd y pryd hwnw, wedi ei orchuddio â dwfr yr ymraniad, a ddyfethwyd. Eto fe adawyd y gweddill i fod yn had i fyd uewydd. Parhaodd y dosbarth mwyaf eu gwybodaeth, eu doniau, a'u dylanwad, gyda'u gilydd yn yr amgylchiad galarus hwn, a hwy a aethant rhagddynt, gan bregethu y gair gyda nerth ac efí^eithioldeb mawr. Yn y parthau hyn o'r wlad yn neillduol, yr oedd gweinidogaeth anghydmarol Eowlands, yn nghyda yr eiddo Howel Davies yn sir Benfro, a William a Peter Williams yn sir Gaerfyrddin, yn foddion, o leiaf i gadw Methodistiaeth yn fyw ; ac fe fu eu gweinidogaeth hwy, mewn undeb ag eraill, megys David WiUiaras, John Harris, Johu Belcher ; a dyfodiad atynt o ddynion grymus, megys Christopher Basset, William Davies, Castell-nedd, a Jones, Llangan, yn ystod y diflaniad, yn foddion arbenig, dan fendith Duw, i adnewyddu y gwaith da eilwaith, a pheri i'r dift'eithwch flodeuo fel y rhosyn.

PENNOD II. HANES LLANGEITHO.

cynwysiad:

CYÎÍGHORWYR YN CODI DAN WEINIDOGAETH ROWLANDS— SEFYLLPA ROWLANDS FEL GWEINIDOG YR EGLWYS SEFYDLEDIG— TROI YSGUBOR ROWLANDS YN DY CWRDD— HEN GYNGHORWYR LLANGEITHO— ADEILADU Y CAPEL CYNTAF YN 1760— SYNIAD ROWLANDS AM EI GYSYLLTIAD AG EGLWY3 LOEGR— EFFAITH EI DROAD ALLAN— DYSGRIFIAD O'R AIL GAPEL A'R TRYDYDD— Y DULL Y CEDWID Y MODDION— MARWOLAETH ROWLANDS— DIWYGIADAU.

Yr oedd Mr. Eowlands eto yn parhau i weini yn yr eglwys sefydledig, er y byddai yn myned o amgylch y prif fl"yrdd a'r caeau, i gyrahell dynion i ddy- fod i wledd yr efengyl ; ac yr oedd ei weinidogaeth yn defnynu fel y gwlaw ar ddaear gras. Cynyddai ei ganlynwyr yn feunyddiol yn Llangeitho mewn rhifedi, ac yn yr holl wledydd ; ac yn mysg y rhai a gawsent les trwyddo yn Llangeitho, daeth i'r golwg rai dynion yn meddu awyddfryd a chymhwysder i gynghori

PEN. II.] SJR ABERTEIFI. 11

eu cyd-ddyniou, yu y pethau a berthyneut i'w heddvVch. Gwelodd Mr. Eowlauds yn y fan, fod cyfreithiau caeth yr eglwys wladol yn gwarafun i'r frith ddyuion bob mautais i gyfarch eu cyd-greaduriaid, heb iddyut fyned trwy y cylch gosodedig ; ac felly, rhoddid attalfa buau ac eífeithiol ar yr ad- fywiad a ddechreuasid. Ehaid oedd, gan hyny, ysgogi ar ryw law ; naill ai gadael i'r diwygiad ddihoeni a nychu, o fewn y fíìniau arferol, ai defuyddio rhyw foddion chwanegol, er mwyn rhoddi cryfhad ac eangiad arno. Disgyn- odd Rowlauds, luewn uudeb a 1)rodyr eraill, ar yr olaf ; bydded y caulyniad a fyddo. Nid oedd ond ychydig iawu o dai addoliad wedi eu hadeiladu yu un man trwy holl Gymru, gau y Methodistiaid, cyn yr ymraniad yn y fl. 1751; fe allai Uai na chwech o nifer ; ond yr oedd aragylchiadau a syniadauyn prysur addfedu i ryw gyfnewidiad.

Dywedir fod Rowlands, yn y tymhor hwu, wedi cael cyuyg ar bersonoliaeth dda yn Ngogledd Cymru; ac wrtli feddwl mai curad i'w frawd ydoedd ar y cyntaf, ac i'w fab henaf ei hunan, ar ol hyny, dros iyw dymhor; ei fod yii gwasanaethu dan ei frawd am £10 y flwyddyn ; a bod swn bygythiol oddi- wrth ei uwchafiaid, ua oddefididdo, yn hir, fwynhau yr ychydig a roddid iddo, ond y rhoddid taw liollol arno o fewu muriauyr hen eglwys; y maeyu hawdd i ni ddyfalu y gallasai cynygiad o'r fath (os rhoddwyd ef hefyd), fod yn dem- tasiwn gref iddo ei dderbyn ; ac yn enwedig, gan fod golwg mwy tywyll a chymylog ar y diwygiad o herwydd yv ymraniad, nag a fuasai. Dywedir hefyd, fod Mr. Rowlauds yn gogwyddo, fwy ua pheidio, i gydsynio â'r cais. Parodd hyn deimladau pryderus iawn yu mynwesau ei gyfeiUion crefyddol, y rhai ni fynent ar un cyfrif yn y byd iddo eu gadael, ac arferasant bob ymres- ymiad a thaerni ag oedd. ddichouadwy i'w attal. Oud ni phriodolir ei arosiad i'r cyfeillion hyuy, ond i hen wraig weddw pur dduwiol, yr hon a fawr berchid ganddo. Hou a ddaeth ato, a chyda dagrau a'i cjffarchodd, " Mr. Rowlands bach, pa beth a wna yr hen wraig weddw am damaid o fara y bywyd, ar ol eich ymadawiad chwi ? " Cyfíyrddodd hyn â'i deimladau, a pheuderfynodd aros Ue yr ydoedd.

Yr oedd Mr. Rowlands, ar y pryd, yn dal dau dyddyn bychan, sef y Wenallt a Meidrim, un ar bob ochr i Langeitho. Gan fod y persondy, ei le trigiannol ef, yu gydiol â'r Wenallt, efe a ddygai holl gynyrch y tyddyu arall i'r Ue nesaf at ei ; a thrwy hyny yr oedd adeiladau perthyuol i Meidrim i raddau yn ddiddefnydd iddo at achosion y tir ; ac felly trowyd hwy yn dai anedd i'w weithwyr. Ond yr oedd ysgubor Meidrim yn sefyll ar ei phen ei hun, tua lled cae bychan oddiwrth yr adeiladau erailL Ond fe ddichon y gofyna y darllenydd, paham y sonir am y fath bethau ? beth sydd a wnelo Methodistiaeth Cymru â thyddynod Llaugeitho, a'r Wenallt, nac â Meidrim chwaith : a Uai fyth â'r ysgubor, ac â thai yr anifeiliaid ? Na ; pwylled y darllenydd ronyn bach, ac fe gaití" weled fod a wnelo ysgubor Meidrim h Methodistiaeth Cymru ! Fe fu cysylltiad rhwngpeth mwy â Iletty anifeihaid cyn hyn ; " ar yr hyn beth y mae yr angyliou yn chwennychu edrych ! "

Yr oedd dynion, fel y dywedwyd, yn dechreu codi o dan weinidogaeth

12 HANESIAETH Y SIROEDD [dOSB. IV.

Bowlands, o'r un ysbryd ag ef ei hun, ac yn llosgi gan awydd i hyrwyddo yr un amcan ;— djTiion wedi cyrhaedd gradd helaethach o wybodaeth ysgrythyrol nao- eraill o'u cyd-gi'istionogion, ac wedi eu cynysgaethu â mesur helaethach o hyawdledd. Yr oedd rhwystr anarfod ar eu fifordd i gynorthwyo dim ar Eowlands yu ngwasanaeth y Uan, ac ymddangosai llawer mwy o barodrwydd, mewn Uawer man, i fwrw Eowlands allan, nag i'w derbyn hwy i mewn. Pa beth ynte a wneid?— ai llethu a Ueithio yr awyddfryd ag oedd ar eu meddyliau? Ehaid oedd ei lethu ar unwaith, neu ei ly wodraethu ; ei attal yn llwyr, neu ei gyfeirio yn mlaen. Y cyntaf ni allai, ni íeiddiai Eowlands ei wneyd. Pen- derfvnodd, gan hyny, roddi achles i'r awyddfryd crybwylledig dd'od i weith- rediad. A'r ysguhor icag a fyddai mangre eu cyfarfodydd ! le, dyma ddechreuad Methodistiaeth y tu allan i furiau y llan yn yr ardal hon !

Nid oedd yr hen ysgubor ond adeilad wael, a phrin y buasai yn werth traddodi ei henw trwy y wasg, o'i rhan hi ei hunan. Adeilad fechan ei maint ydoedd ; ei muriau oeddynt o bridd a chlai ; chwe' troedfedd i'r bargod oedd ei huchder ; a brwjai, a gwellt yn gymysg, oedd ei thô. Dyraa loches gyutaf Methodistiaeth Llangeitho ! Yr oedd yr adeilad hon yn cael ei dal gan Eowlands ei hun ; nid heb yn îcybod iddo, gan hyny, a llawer 11 ai, heb yn ìcaethaf iddo, y gwnaed y defnydd dyeithr hwn o honi. Dywedir hefyd y byddai Mr. Eowlands ei hun, yn aml, yn rhoddi ei bresenoldeb yn y cyfarfod- ydd a gynelid yn yr ysgubor, ond yn ddirgel, gan fod ofn yr esgob o flaen ei lygaid, os oedd arno ei ofn hefyd.

Mae ychydig o draíferth a gofal wedi cael eu defnyddio gan amryw ; mwy, tybygaf, nag a fuasai raid wrtho, i ddangos Eowlands jti eglwyswr o egicyddor, ond yn yraneiUduwr o orfod ; pryd y gellid meddwl, ar lawn cystal seiliau, eifod yn eglwyswr o ddamwa'm, a dygiad ifyny, ond yn ymneillduwr o gydwyhod. Neu mewn geiriau eraill, na oddeíìd iddo ryddid cydwybod ond ar dir ymneillduaeth. Nid mympwy ynddo ef a'i harweiniodd i'w gadael, gau fod tuedd ei ragfarn jti hytrach o'i phlaid hi ; ac nid cecraeth meddwl, ac anniddigrwydd ysbryd, a barodd iddo gydsynio i wneyd ei ysgubor yn cwrdd ymneillduol, ond barnu a wnaeth mewn pwyll, ac ystyriaeth, mai ei ddyledswydd ■^àoeàá. Buasai awgrym o anfoddlonrwydd oddiwrtho yn ddigon, ar y piyd o leiaf, a thros ryw dymhor, i lethu pob ysgogiad o'r fath, gan faint y parch a lochesid i'w farn ef, a'r ymostyngiad a roddid i'w ewyllys ef. Ond yr oedd ei waith yn caniatâu }t ysgubor yn flFaith na ellir ei gwadu, ac yn arwyddo, hwnt i ddadl, pa fath ydoedd ei syniadau.

Mae yn ymddangos oddiwrth yr ysgrif a dderbyniais oddiwrth \\-r * oedranus a chall }Ti y gymydogaeth, mai oddeutu y fl. ] 757 y bu hyn. Yr oedd hyn tua chwe' blynedd cj'n ei droad o'r llan. Yr oedd amryw o gynghorwyr, fel eu gelwid, mwy neu lai eu derbyniad, ar gael y pryd hwn ; megys, William Eichard Llwyd ; GriíRth Lewis Siôn; Evan Dafydd Jenkin ; a Dafydd Lewis. Yr oedd Evan Dafydd Jenkin yn daid i Mrs. Eichards, gweddw y

Mr. David Jones, Dolau-bach.

PEN. II.] SIR ABEUTEIFI. 13

diweddar Barcli. Ebenezer Ricbards, Tregaron. Yn yr hen ysgubor y byddai y cyfarfodydd eglwysig, cyfarfodydd gweddio, ac oedfaon gan y cynghorwyr, yn cael eu cynal ; ond i'r llan yr âi pawb pan y byddai Mr. Eowlands yn pregethu, neu yn gweiuyddu swper yr Arglwydd.

Ymddengys hefyd mai am ychydig amser y bu y fath ddefnydd yn cael ei wneuthur o'r hen ysgubor, gan y caed lle mwy helaeth a chymhwys i'r dyben yn mhen tair blynedd ar ol dechreu ei defnyddio ; a'r pryd hwn trowyd yr ysgubor yn anedd, lle y bu gŵr tra adnabyddus i holl Gymru yn by w, am lawer o flynyddau, sef John Williams, yr hwn hefyd a fyddai yn arfer cynghori yn achlysurol, ac yn cael ei gyfeuwi, gan rai, oddiwrth ei anedd, yn Siôn y 'Sgubor. Yn y fl. 1760 yr adeiladwyd y capel cyntaf. Mae angenrheidrwydd crafi"u ar yr amser, oblegyd y casgliad naturiol sydd i'w dynu oddiwrtho. Daeth ein hysbysydd i feddiant o'r amser uchod trwy foddion lled ddamweiniol, ac eto moddion cwbl sicr. Ni roddwyd, mae'n wir, yr un maen yn y mur i gofí"a i genedlaethau dyfodol, pa bryd y codwyd ef, a phrin yr oedd maen digon 0 faintioli yn y muriau i osod argraft" o'r fath arno ; oblegyd o bridd, gan mwyaf, y gwnaethpwyd muriau y hwn, a gwellt hefyd oedd ei ef ; ac erbyn hyn, yn y fl. T.852, buasai yn anhawdd os nad yn anmhosibl, cael neb yn fyw i dystio weled y cyntaf hwn yn cael ei godi. Oud fe ddy- gwyddodd amgylchiad, tua 1-i blynedd yn ol, fod y gŵr a enwyd eisoes yn ymddyddau â hen wraig 93 ml. oed, yr hon oedd yn byw y pryd hyny ger Tal-y-sarn, tua phum' milldir i'r de-orllewin o Langeitho. Pan oedd yr hen wraig hon yn llauces 15 ml. oed, yr oedd wedi bod yn yr ysgol, a'r ysgolhòno a gynelid yn y capel newydd. Y feistres a arolygai yr ysgol oedd Miss Ann Eowlands, merch Mr. Eowlands, a gwraig ar ol hyny i bregethwr o'r enw Mr. Daniel Jenkins. Pan y bu y Uances y soniwn am dani yn yr ysgol gyntaf, fe'i cynelid hi yn yr ?/sýw5or, sef tymhor y gauaf yn y fl. 1759-60; ond y gauaf canlynol, pan aeth y Ilances drachefn i'r ysgol, yr oedd yr ysgol wedi ei symud i'r Ue newydd. Yn yr adeg y bu hi yn yr ysgol y tro diweddaf hwn, gweithiodd sampler, fel y gwnai genethod yn fynych, ac arno y flwyddyn y gwnaed ef. Pan oedd ein hysbysydd yn ymddyddan â'r hen wraig, ac yn ei holi yn nghylch amser codiad y capel cyntaf, galwodd ar yr herlodes a'i gwasanaethai, i ddwyn iddi o'r gell y cedwid ef yn ofalus, y sampler ; ac ynÜdo yr oedd wedi ei gordeddu â gwniadwaith, y fl. 1761. Bernir, gan hyny, fod hwn wedi ei orphen tua dechreu y flwyddyn ganlynol ar ol adeiladu y capel newydd : a bod yn rhaid fod y capel wedi ei godi yn ystod yr haf o'r blaen, sefy fl. 1760.

Nid oedd y hwn, fel y soniwyd, ddim yn un gorwych : gyda bod ei furiau o bridd, a'i o wellt, nid oedd ei faint ond bychan ; 10 Ilaíh oedd ei hyd, a 6 llath ei led o fewn ei furiau. Gelwid ef, meddai yr hen wraig, yn Dy Seiat {society). Dyma oedd y gorlan yr ymgasglai y defaid iddi. Bernid mai anhawdd a fuasai ymgeleddu y sawl a archoUasid trwy y weinidogaeth yn y Uan, heb le o'r fath yma ; Ile y gallasai dynion di-urddau gynghorì, gweddio, a chanu, îe, a chanmol eu Hiachawdwr, heb fod yn gyfrifol i lywodraeth

14 IIANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

wladol, nac yu ddarostyngcdig i warafuniad yr arglwydd csgob. Yr oedd hwn ar yr un tir ag yr oedd y tai anedd, yn ngwahanol barthau y wlad, Ue y byddai y cynghorwyr yn gweini, a'r cymdeithasau eglwysig yn ymgynull.

Ymddcugys hefyd fod Eowhnds yn canfod nad oedd obaith iddo gael llon- yddwch nemawr yn hwy yn y Uan ; a'i fod eisoes yn cynllunio erbyn yr amser y troid ef allan. Yr oedd amryw o'i gyd-lafurwyr wedi eu troi allan eisoes, sef Howel Davies a'r ddau Williams ; a hawdd y gallasai yntau ddyfalu pa or- uchwyliaeth a'i cyfarfyddai. Fe dystiai yr hen wraig grybwylledig hefyd, ei bod hi, pan yr oedd ysgol yn y capel newydd, yn arfer myned i tafarn yn y pentref, gyda phlant y tỳ tafaru, y rhai oedd gyda hi yn yr ysgol ; y Ue hefyd vr eisteddai pregethwyr ac eraiU i aros amser y moddion, cyn fod yr un perthynol i'r capel f w gael ; ac iddi sylwi unwaith fod Mr. Eowlands yno gyda rhy w ŵr boneddig ; a bod Mr. Eowlands yn dangos iddo gynllun capel mawr ; a bod y gŵr boneddig yn gofyn iddo, a oedd yn penderfynu ei adeiladu ? ac yntau yn ateb ei fod ; "Ni chaf lonydd," meddai, " gan yr eglwyswyr ; ac yr wyf ynpenderfynu gadael y llau iddynt hwy; ond fe ddaw y bobl gyda íì."

" Yua," ebe y boneddwr, " os adeiledwch cliwi gapel, minau a roddaf gôr (pew) ynddo, yn ddioed."

Yr ydym eisoes wedi daugos i Mr. Eowlands gael ei droi aUan o'r llau yu y flwyddyn 1763, sef tua thair blynedd ar ol adeiladu y capel bach cyntaf, ac yn mheu chwe' blynedd ar ol yr ymueillduad i'r hen ysgubor. O'r blaeu yr oedd y gweinidog yn eglwyswr, a'r gynuUeidfa neu yr aelodau yn ymueill- duwyr, ond bellach fe'i ceir ef a hwythau ar yr un tir a'u gilydd. O'r blaen dcuai atyut yn ddirgel i'r cwrdd, oud bellach ar g'oedd. O'r blaeu yr oedd cyfraith yr esgob ag awdurdod arno ; y mae yn awr yu rhydd i arfer pob cydwybod i orsedd Duw, heb fod dau gaethiwed i osodiadau dynol.

Pan y trowyd ef allan, aeth y capel bychan 10 llatli o hyd yn llawer iawn rhy fychau ; cymaiut yn rhy fychau ag oedd y llanau a adawsid gauddo yn ormod. Cafodd y sefydliad gwladol, mae'n Avir, yr hen adeiladau, ond fe gafodd gŵr Duw y bobl. Nid wrth y sefydliad dynol yr oedd eu hymlyuiad hwy, ond wrth yr efengyl a bregethid, ac wrth y gweiuidog a'i pregethasai iddynt, er ys mwy na 25 o flynyddoedd, gyda'r fath eneiniad a grym. Ehaid oedd, gau hyny, ymosod at ryw ddarpariaeth gogyfer â'r amgylchiad ; ac yn y fl. 1764 fe adeiladwyd capel arall, llawer mwy na'r cyntaf ; muriau cerig ôedd i hwn, a Uechau yu dô. Y"r oedd yn 45 troed. o hyd, a'r uu faint o led, o fewn y muriau. Yr oedd iddo hefyd ddau nen {roofs), a cholofnau Uathraidd ysgwar danbob cwpl, yn nghanol yr adeilad, i gynal y nenau ; ac feUy yn rhanu y megys yn ddwy ran, y rhai a elwid y Tŷ-nesaf, a'r Tŷ-peUaf. Gan fod y tir yu codi yn serth ar un ochr i'r capel, gosodwyd y pulpud yu yr ochr hòno, a drws bychan i íyned o hono aUan ; yr hwn ddrws oedd yn gyd-wastad â'r Uawr yn y cefn. Yr oedd hyn yu gyfleusdra mawr lawer gwaith, gan y byddai y capel, y rhan amlaf, yn orlawn cyn y deuai Mr. Eowlands i raewu ; ond nid oedd raid iddo, o herwydd hyu, ymwthio trwy y gynuUeidfa i gyr- hacdd y pulpud. Nid oedd oriel (gallery) yn y capel hwn, ond yr oedd dwy

PEN. II.] SIR ABERTEIFI. 15

res o gorau wedi eu gwneyd gyda'r muriau, ar draul y teiduoedd a'u defnydd- ient, y rhai a ystyrid yu feddiaut i'r tculuoedd o oes i oes. Er mwjTi cliwanegu y Ue, yr oedd bwrdd y cymuudeb, neu yr alloì', fel y'i gelwid, yn cael ei godi a'i ostwng gan chwerfanau (pulleys) yn ol yr angen. Gan fod yr adeilad hwn, o herwydd y ddau nen oedd iddo, a'r colofnau a'u cynalient, yn cael ei ranu yn ddau hanner, fe barai edrych ar y ddwy ran, fel cynteddau y deml gynt, y naill i'r cenedloedd a'r llall i blaut Israel. Pan y canfyddid un o'r crefyddwyr yn uesu i'r parth pellaf oddiwrth y pulpud, edrychid arno yn argoel o wrthgiliad ; a phan y gwelid uu dibroffes yn dynesu i'r parth arall, edrychid ar hyny yu gystal arwydd o'r teimlad gwrthgyferbyniol. Yr oedd y flwyddyn yr adeiladwyd y capel yn gertìedig ar y cwpl, ac ar y pulpud, sef y flwyddyn 1764. Caed y gweithredoedd am y tir yn y fl. 1760, oblegyd ar yr un tir yr adeiladwyd y ddau gapel cyntaf hyn, a hwnw yr un Uanerch ag y mae y capel presenol yn sefyll arno.

Adeiladwyd y presenol rhw'Ug 1813 a 1815, Gosodwyd ei sail yn y cyntaf, a gorphenwyd ef erbyn yr amseriad olaf. Costiodd hwn tua dwy fil

0 bunau ; addawyd ato o l'ewn cylch yr eglwys £864, cyn chwalu yr heu. gapel, ac erbyn hyn nid oes oud ychydig iawn o'r ddyled heb ei thalu oll. Mae cynulleidfa luosog iawn yn parhau i wraudo yu Llangeitho hyd heddyw, er nad oes cyffelyb gyrchu yma ag oedd gynt. Ar yr un pryd, gallw^n feddwl fod yr ymgynulliad, ag a ellid ei olygu yn briodol i'r ardal, yu llawn cymaint, os nad yu llawer mwy, nag ydoedd y pryd hyny. I gael golwg gymhariaethol teg ar nifer y gwraudawyr, rhaid ystyried y canghenau a heidiasant oddiyma, ac ydynt bellach wedi ymsefydlu mewn cychod o'r eiddynt eu hunain. Gellir nodi y rhai hyny. Yu gyntaf Bethania : ardal tua phedair milldir i'r gorllewin. Bu pregethu yn yr ardal hon am flynyddau mewn anedd, ond yn awr y mae capel wedi ei adeiladu. Sefydlodd haid arall yn Bwlchllan, yn mhlwyf Llangwnlle ; a thrydydd haid yu Mhenuwch, plwyf Llanddewi-brefi, tua dwy filldir i'r gogledd-orllewin o Langeitho. Mae yn y canghenau hyn rhyngddynt tua 450 o aelodau. Yr oedd Uawer o bobl allau o gymydogaethau Abermeurig a Llwynpiod, yn dal cymuudeb â Llangeitho yn amser Mr. Eowlands, yn yr amser yr oedd Mr. Gray yn weinidog ar y cynulleidfaoedd yn y lleoedd hyny ; ond y mae yr aelodau sydd yn preswylio yr ardaíoedd hyny, er ys maith flynyddoedd bellach, wsdi cilio o Langeitho, ac ymsefydlu gartref, wedi i'r capeLiu hyny a'r cynidleidfaoedd ddisgyn i ofal y Method- istiaid. Ni a welwn fod pump o gynuUeidfaoedd, mewn rhan neu yn hollol, wedi canghenu allan o Langeitho, y rhai pe daethent i'r un man, a gyfansodd- asent gynulleidfa llawer mwy nag oedd cynulleidfa Llangeitho yn amser Mr. Eowlands ei hun.

Mae cryn ddiwygiad yn ymddangos yn awr ar ddull y gwrandawyr cyffredin gynt. Y pryd liyny, yr oedd y gynuUeidfa yn fwy rhanedig yu y o'r blaen nag yn yr un presenol. Yn awr y mae teuluoedd, crefyddol neu beidio, yn britho pob rhan o'r addoliad fel eu gilydd ; ac aelodau pob teulu, crefydd-

01 neu beidio, yn yr un côr yn ddiwahaniaeth. Isid oes yn awr neb yn aros

16 HANESIAETH Y 8IB0EDD. [DOSB. IV.

y tu allan i'r addoldy, fel y byddai ar araserau o wres gynt. Yr ydym eisoos wedi sylwi, pa mor dueddol ydyw y natur ddynol wrth heneiddio i edrych yn dywyll a phruddaidd ar bethau yr adeg, a gwynfydu na ddychweLii pethau i'r wedd ddymunol ag ocdd arnynt yn nhymhor boreuach eu hoes. A gwir ydyw fod dirywiad yu gysylltiedig â'r ddynoliaeth, os gadewir hi yn gwbl iddi ei hunan ; eto, er hyn, gellir priodoli peth o'r gwahaniaeth i ymollyngiad y natm- gan henaint, ac nid y cwbl i ddirywiad yn yr olygfa ei hun. Gellid meddwl ar ryw olwg fod achos crefydd wedi colli tir yn Llaugeitho er dydd- iau Mi'. Eowlands, mewn rhifedi yn gystal ag mewn ysbrydolrwydd, ond mewn golygiad arall, gellir amheu cywirdeb y syniad hwn. Tuag wyth cant, meddir, a fu y nifer mwyaf o gymunwyr pertliynol i Langeitho, jii amser ]\Ir. Eowhinds. Nid ydym yn cynwys yn y cyfrif hwn y dyeithriaid a ddeuent 0 gymydogaethau eraill, ac o barthau pell y dywysogaeth, y rhai a chwydd- ent y nifer yn fawr iawn. Yn awr, pan y cymerom i ystyriaeth y cynulleid- faoedd ag sydd wedi ymneillduo ar eu penau eu hunain, ni a gawn fod cyfanswm yr aelodau yn awr yn Uawer mwy nag oedd y pryd hwnw ; ac, yn yr ystyr yma, uid oes achos galaru na llwfrhau.

Gan faint y dyddoreb a'r hynodrwydd a berthynai i Langeitho yn hanner canrif cyntaf Methodistiaeth, y mae yn naturiol i'r meddwl ymofyngar ymholi i amgylchiadau, dibwys ynddynt eu hunain, ar gyfrif eu cysylltiad â lle mor gynefin i Fethodistiaid Cymru trwy hanes; ac er mwyn gaUu gwrthgyfer- bynu, neu gydmharu, yr hyn ydyw yn awr â'r hyn a fu gynt. Ymddengys fod rhai defodau yn aros yma, y rhai na cheir mo honynt mewn manau eraiU, a'r rhai na ellid eu codi i fyny, pe gwneyd cais at hyny ; ond yma y maent yn aros fel arferiad wedi ei sefydlu er ys tymhor maith, ac wedi ei choroni â budd- ioldeb boreuol, fel na ellir yn hawdd ei newid na'i diddymu. Fe fyddai codi y cyfryw arferiad i fyny mewn man arall, mor anhawdd ag ydyw ei dynu i lawr yn y Ue hwn. " Mae pob peth o ran ffurf moddion cartrefol," medd fy hysbysydd, " yn parhau fel yn amser Eowlands, oddieithr ychydig o eithriad- au. Yu ei amser ef, yr oedd yma ddwy bregeth ar y Sabboth, sef 10 o'r gloch a 3 : mae yma ddwy eto, ond fe'u cynelir hwy 10 o'r gloch yn y boreu, a 6 o'r gloch yn yr hwyr. Yn ei amser ef, yr oedd pregeth 12 o'r gloch bob wythnos, ar ddydd Mercher, a chyfarfod eglwysig mewn cysylltiad ; a'r un modd y mae eto. Dydd Sadwrn o flaen Sul y cymundeb, yr oedd oedfaon cyhoeddus am 12 o'r gloch, a thrachefn am 3 o'r gloch yn y pryd- nawn ; yr un olaf hou, yn benaf, er mwyn y dyeithriaid a ddeuent o bell i'r cymundeb. Yn awr hefyd, y mae oedfa a chyfarfod eglwysig menrn cysyllt- iad â hi, yn cael eu cynal, ar yr un dydd Sadwrn o fiaen y cymundeb, yn lle ar y dydd Mercher, fel wythnosau eraiU. Ac y mae yu beth syn pa mor rymus ydyw greddf ymarferiad. Yr oedfaon 10 o'r gloch boreu Sabbotb, a 12 o'r gloch ddydd gwaith, yw y rhai mwyaf poblogaidd yma hyd heddyw, a'r hyn a barai iddynt fod yn fwyaf poblogaidd ar y dechreuad, oedd, mai ar yr oriau lìyny y byddai Eowlands yn arfer pregethu." Yr oedd achos ueillduol i'w gwneuthur yn fwy poblogaidd ar y cychwyniad, ond hwy a barhant felly yn

PEN. II.] SIR ABEETEIFI. 17

rahell ar ol i'r achos h\vnw ddiflanu, trwy rym arferiad. Yr oedd yr oedfaon ddydd Sadwrn o flaen Sabboth y cymundeb yn nyddiau Eowlands, yn ateb dyben cyfarfodydd misol i'r sir hon, ac i raddau, i wledydd eraill hefyd ; gan y cyrchu a fyddai i Langeitho gan bregethwyr a blaenoriaid pob rhan o'r wlad. Rhoddid iddynt fantais trwy yr ymgynuUiad hwn i weled eu gilydd, ac i ddarpar gogyfer ag anghen eu hamrywiol ardaloedd yn ystod y mis dyfodol.

Ond fe fu yr oedfa ganol dydd ddydd Mercher, yn achles, trwy ei chyson a'i hù' barhad, i ddwyn cryn lygredigaeth i raewn. Ehoddid mantais i lawer gyfarfod â'u gilydd ar ddybenion bydol, ac i gyflawni amcanion eu raasuach ; a thrwy hyny, fod mwy o wedd íFair ar y cynuHiad, ua chwrdd crefyddol ; a rhaid a fu yn y canlyniad ei roddi heibio, er maint a fuasai ei fuddioldeb blaenorol, rhag y buasai ei ddrwg yn fwy na'i dda. Nid rhyfedd geuyni ddeall mai fel hyn y bu ; oblegyd nid dyma y tro cyntaf i brynwyr a gwerth- wyr halogi teml Dduw, a throi Dduw yn ogof lladron. Rhaid fod llygr- edigaeth y natur ddynol yn rymus iawn, pryd y blagura gymaiut mewu awyrgylch mor anghydweddol ag ef; mewn cyfarfodydd ag y dynoethir pechod, ac y rhybuddir dynion i'w ochel ef gymaint ; cyfarfodydd y ma^ tuedd uuiongyrchol y gwasanaeth priodol iddynt, i wrthweithio y llygredig- aeth hwnw. Pa ryfedd, ynte, os bydd cyfarfodydd mawrion y byd liwii yii llygredig, lle na theimlir dim oddiwrth egwyddorion gwrthwynebol ? Os ydyw cyfarfodydd i addoli yn dirywio ac yn achlesu Uygredigaeth, ai rhyfedd ydyw i gyfarfodydd difyrwch a gloddest fyned yn ddrwg eu sawyr ? Os ydyw gweinidogaeth pur eiriau Duw, a chyflwyniad gwasanaeth iddo mewn gweddi a mawl, yn aneö'eithiol i attal cenllif drwg-arferion i dori i mewn, pa beth a ellir ddysgwyl oddiwrth gyfarfodydd a gynelir hsb y cyfryw attalfeydd ynddynt ? Ai rawy efi^eithiol y delyn, y bibell, y cellwair, a'r dawns, m\ gweddio Duw a phregethu ei air? Ac os ydym yn petruso a ddylid cyual cyfarfodydd raawrion, ar ddybenion crefyddol, er cael sicrwydd fod Uawer enaid yn cael ei achub ynddynt, o herwydd yr achlysur a gymer dyuiou i ymlygru ynddynt, pa fodd y gaUwn lai nag anghymeradwyo cyfarfodydd eraiU, yn y rhai ni chyneUr un gwasanaeth crefyddol, ac nad oes enghraiä"t ar gael o fod neb erioed wedi derbyn Uesiant ysbrydol trwyddyut ?

Ond i ddychwelyd at hanes Llangeitho. Ni a welsom o'r blaeu fod yr Arglwydd wedi ymweled yn rhyfeddol â'r Ue hwn ag adfywiadau grymus iawn, a hyny mewn amserau boreuol ar Fethodistiaeth. lë, gweUr iddo dori aUan gyntaf dan weinidogaeth Eowlands yn Uan y plwyf, a hyny, pryd nad oedd neb yn y Ue, nac yn yr hoU whid, wedi gweled y cyff'elyb erioed o'r blaen. Oud heblaw yr adfywiadau cynaraf, am y rhai y gwuaethora grybwyUiad eisoes, ac am y rhai ni aUera wneyd nemawr fwy na'u crybwyU, o herwydd diflFyg yr hanes ; heblaw y rhai hyny, meddaf, fe sonir am un, dan yr enw "y diwyrjiad maìcr" yr hwn a gyraerodd le tua'r fl. 1781. Dywedir fod Mr. Eowlands wedi pregethu tua blwyddyn ar yr un testyn, ac raai tua diwedd y flwyddyn hòno y torodd yr adfywiad grymus hwn aUau.

Cafwyd ymweUad cyffelyb di-achefn yn y fl. 1790, yn mheu tua mis ar ol c

IS IIAKESIAETH Y SIEOEDD. [dOSB. IV.

ymattewiail yr lieu \feiu-itlog í'r ncfoôdd. Bama Uawer ddarfod achlysuro hwo, i ryw raddau, trw'y ei farwolaeth. Temtir ni i feddwl wrth cdrych droa haneâ bywyd y dyn hynod hwn, fod y Duw mawr wedi arfer ardderchogi gwahanol gyfnodan ei oes ag adfywiadau cyfFelyb, a bod ei farwolaeth wedi ei hynodì yT \m modd. Torodd un allan yn fuan ar ol iddo gael ei ddeffrö am ei gyfl^i' ei hun, ac ar ol iddo ddechreu pregethu yr efengyl yn ei hysbryd ei hunan ; fel pe rhoddasid iddo, trwy hyny, brofion o'i anfoniad. Dygwyddodd un arall yn mhen rhyw gymaint o amser ar ol yr anghytundeb â Howel Harris, megys i ardystio nad oedd y cwmwl ddim eto wedi cilio, Cafodd un arall yn ebrw^'dd ar ol ei droad allan o'r llan, megys i dystio boddlonrwydd y nef i'w lafur ymneillduol ; ac i ddangos nad oedd Tsbryd Duw ddim yn rhwym wrth fympwy na gosodiadau dynion. Yr un modd, ar ei dderbyniad i'r nef, fe orchymynwyd cawod helaeth o'r gwlaw graslawn i waered !

Gallem feddwl pa mor ofidus a allai fod teimladau jr eglwys a'r gj-nulleidfa yn Llangeitho, ac yn wir y cyfundeb drwj^ddo, pan y galwyd "apostol Cymi'U " oddiwrthjmt. Nid oedd bellach nemawr neb yn fyw yn cofio y byd crefyddol hebddo, ac yn ddiau ni fu y byd Methodistaidd erioed o'r blaen heb ei ddawn, ei lafur, a'i ddylanwad. Yr oedd ysgogi hebddo yn beth cwbl ddyeithr iddyut. Llanwasai le mawr iawn yn eu plith tra y bu efe gyda hwy, ac nid oedd ueb mewn golwg ychwaith i wneyd y bwlch i fyny. Hyd yn hyn yr oedd Uawer o fywyd a llwyddiant Methodistiaeth Cymru, yn cael ei amaethu trwy gynulliadau Llangeitho, a Daniel Eowlands ; neu yn hytrach, y Secinah a'u hardderchogai oedd yr at-dyniad yno. Wedi colli yr offeryn trwy yr hwn, gan mwyaf, y byddai y llaw yn arfer gweithio, ofnid yn fawr y coUasid y gweithiwr hefyd. Ond gwelodd Duw yn dda, gan gyd-ddwyn a gwendid fiydd ei bobl, roddi iddynt brawf nad oedd ei Ysbryd ef ddim yn rhwym wrth offerynau, pa mor ardderchog bynag ; ac y mynai ef iddynt hwythau ddyrchafu eu Uygaid heibio i bawb ato ef ei hun.

Dywedwyd gan hen bobl ag oeddynt yn cofio yr adfywiad hwn yn y fl. 1790, ddarfod iddo ddechreu i raddau yn wahanol i'r rhai blaenorol. Dechreu- odd hwn, meddant, mewn addoliadau teuluaidd; ac iddo ymwasgaru felly tros y wlad ; eto, er hyn, nid oedd y moddion cyhoeddus yn amddifad o hono. Yn y flwyddyn 1796, bu adfywiad arall, a chwauegwj'^d cannoedd at yr eglwys trwyddo. Un arall, ond nid mor rymus a chyffredinol, yn y fl. 1804. Dechreuodd un araU tu a'r Pasg yn y fl. 1811 ; gelwid hwn y diicycjiad mud, am nad oedd cymaint o dori allan mewn mawl a chlodforedd yn y moddion cyhoeddus ; a pharod oedd rhai i wertlifawrogi y chwanegiad a wnaed at yr eglwys y tro hwn yn llai ar y cyfiif hwn. Ond y fl. 1813, torodd adfywiad mor nerthol, yn ol cyfaddefiad pawb, ag un a welsid o'i flaen ; a pharodd chwanegiad o lawer o gannoedd at yr eglwysi drwy yr holl wlad. Yn y fl. 1824, yr oedd y Parch. David Evans, Aberaeron, ynpregethuyn Llangeitho, ar y geiriau, "Paham y sefwch chwi yma ar hyd y dydd yn segur ? " a disgyn- odd eíTeithiau grymus ar y gynuUeidfa, yr hwn amgAdchiad a fu gychwyniad i

PEN. II.] SIR ABEUTEIPI. 19

adfywlad grymus, fel y cbwanegwycl at yr cglwys y tro hwn, sef yn ystod yr adfywiad, tua dau cant o eneidiau. Cafodd yr adfywiad hwn amaethiad effeithiol trwy weinidogaeth y Parch. Ebcnezer Eichards, Tregaron.

Yr olaf a gaed oedd yn y fl. 1833, ar ddydd olafy gymdeithasfa flynyddol, pan oedd y Parch. WiUiam Evans o sir Forganwg, yn pregethu ar y geiriau, " Gwyn fyd preswylwyr dy dŷ, &c." Chwanegwyd at yr eglwys y tro hwn hefyd yn agos i ddau cant o aelodau. Y mac Aveithian tuag ugain mlynedd, ymron, er pan y cafodd y Ue hwn adfywiad grymus. " Mae llawer o hon- om," medd fy hysbysydd, " yn dymuno yn fawr weled amser o'r fath eto ; a diau fod tywalltiadau grymus ò'r fath a soniwyd yn dra eff'eithiol i ddarostwng gwlad i barchu crefydd, ac i ymostwng iddi, er yr hoU amgylchiadau gofidus a fydd yn fynych yil gysylltiedig â hwy."

Mae nodwedd cyhoeddus Mr. Rowlands yn llawer mwy adnabyddus na'i ymddygiadau cyffredin ft Ueol, Y mae pob rliyw bysbysiad, gan hyny, a ddyry radd o olwg i ni amo mewn cylch Uai, yn fwy dyddorol am ei fod yn fwy anghyfíì-edin. Fe ddyry yr hyn a ganlyn radd o foddhad ar y cyfrif hwn. Wedi iddo sefydlu achos ymneillduol, megys, yn y capel a godwyd yn yr ardal, efe a ymroddodd ymron yn hoUol i'r weinidogaeth gyhoeddus, heb ymyryd ond ychydig â bugeiliaeth yr aelodau, mewn ffordd o dderbyn i mewn nabwrw allan. Fe adawodd hyn yn gyfangwbl i ẃr o flaenor eglwysig o'r enw William Williams. Fe allai fod Mr. Rowlands tra yr oedd eto heb ei fwrw allan o'r eglwys, yn teimlo gradd o betrusder i ymyraeth â helyntion y capel yn gyhoeddus ; ac fe allai hefyd, ei fod yn argyhoeddedig mai yn ei weinid- ogaeth gyhoeddus y gorweddai ei fawr nerth. Ymgysegrodd, gan hyny, yn Uwyr i'r gwaith o bregethu yn unig. Nid ydym yn cael ei fod ar un adeg yn flaenUaw mewn Uywyddu a threfnu yr achos Methodistaidd, ond yr oedd brodyr eraiU yn mhell islaw iddo mewn talent, a rhai ieuengach nag ef, yn dangos mwy o barodrwydd, îe, a mwy o gymhwysder nag efe, mewn arolygu a llywio y peiriant crefyddol. Ymddengys yr un tueddfrydynddogartref hefyd. Ni chymerai nemawr neu ddim Uaw yn llywodraethiad yr achos, fel y dy wed- wyd, ond cyflwynai hyny i'r gŵr a enwyd. Gŵr oedd WiUiam WiUiams o sir Gaernarfon o enedigaeth, ond a ddaethai i Langeitho ar gyfrif y manteis- ion crefyddol. Gwniedydd ydoedd o ran ei grefft, a gelwid ef y rhan amlaf, WiUiam y teiliwr. Yr oedd wedi ymsefydlu yn y gymydogaeth trwy briodi, ac iddo ef yr ymddiriedai Mr. Eowlands ymron bob peth ond y pregethu. Efe, yn enwedig yn y blynyddoedd diweddaf, a fyddai yn dechreu yr oedfaon iddo,— yn darllen, yn gweddio, ac yn rhoddi y gair i ganu ;— pob peth ymron ond pregethu. Nid arferâi Mr. Eowlands ddyfod i'r golwg nes y tybiai fod y gynuUeidfa wedi canu digon, a bUn iawn a fyddai ganddo iddynt ganu dim yn hwy nag y codai ef i bregethu. Dyẁedir fod y gynuUeidfa unwaith wedi anturio canu y pennül drosodd, neu ran o hono, wedi iddo ddod i'r golwg, ac ar hyny iddo yntau droi allan, a chaled a fu y gorchwyl i'w gael yn ol. GaUwn ddychymygu oddiwrth hyn, ac oddiwrth amgylchiadau eraiU, fod Uawer o dân a bywiogrwydd yn ei natur, yr hyn, Avcdi ei santeiddio, a roddai

20 HANESIAETIl Y SIEOEDD. [dOSB, IV.

gymhwysder ynddo i roddi gi-ym ac awchlymder yn ei weinidogaeth, ond nid mor gymhwys, fe allai, ydoedd i lywodraethu a bugeilio.

Yr oedd yn anewyllysgar iawn i droi neb allan o'r eglwys, 'ie, er fod y bai yu galw am gerydd trwm iawn. Ei faru ef ydoedd ceryddu yn y tŷ, ac nid troi allan o hono, fel y gwna rhieni naturiol â'u plant hwy. " Clywais," medd ein hysbysydd, " am un amgylchiad pan oedd un o'r aelodau wedi troseddu, ac yn ol barn y diacon William WLlliams, yn galw am ei fwrw allan, ond iiid oedd felly yn gwbl yn ol barn y gŵr parchedig ei hun. Ond mewn cyfarfod eglwysig ryw ddiwrnod, galwyd y dyn i gyfrif, a diarddelwyd ef. Pan ddaeth hen forwyn Äli-. Rowlands adref o'r cwrdd, galwodd arni i'r parlawr, a gofynodd beth a wnaed i'r dyu ? ' Meistr bach,' ebe hithau, ' fe'i trowyd ef i maes.' * Dyna hi,' ebe yntau, ' fe wasgar Wil y teilmr fwy nag a gasglaf, fi agwneyd fy ngorau.'" Nid oes dim amheuaeth nad oedd llawer o danbeidrwydd naturiol yn nhymherau Mr. Eowlands, yr hyn, oni bai gras, a allasai ei arwain i eithafion nwyd a gorphwylledd.

PENNOD III. EGLWYSI BOREUAr Y SIR.

CTNWTSIAD :

ANSICRWYDD YE HANESIAETH O BARTH AMSER EU CYCHWYNIAD— HANES LLECHRYD LLEDROD LLANGWYRYFON BONT-RHYDFENDIGAID TWE6WYN CAPEL WAENIFOR— SWYDD-FFYNNON PENNANT ABERTEIFI EHIWBWYS, LLAN- HHYSTYD— SOAR, PLWYF LLANDDEWI-BREFI.

Mae yn ymddangos fod Methodistiaeth wedi dechreu rhoddi ei droed i lawr mewn amrywiol barthau o'r wlad hou er dyddiau Howel Harris. Yr ydym wedi crybwyll am rai manau yu rhanau uchaf ac yn rhanau isaf y sir, y plan- wyd eglwysi neu gymdeithasau bychain, fel y mynid eu galw, tua'r blynydd- oedd 1743-5. Gan nad oedd capelau yn. cael eu codi yn y tymhor hwnw, rhaid oedd fod gradd o ansicrwydd ac anwadalwch yn gysylltiedig ag aros- iadyr achos mewnlle ; ac nid ydym yn alluog, wedi treigliad cymaint o amser, i ob'hain gwahanol amgylchiadau y cymdeithasau hyny, yn y blynyddoedd dylynol, yn enwedig gan na chadwyd dim cyfrif rheolaidd o'u hanes. Ac hefyd, fe ddaeth dlfrod yr ymraniad i fwrw ei effaith gauafaidd dros ran fawr o'r wlad, fel y mae yr anhawsdra i obhain yr hanes gyda manyldra yn fwy, oblegid y bwlch galarus hwn. Y mae yn hysbys, pa fodd byuag, fod rhai capelau wedi eu cyfodi tua'r blynyddoedd 1760-5, a rhai cyn hyny ; fel y mae eu hanes yn ardystio. Yn mysg y lleoedd henaf yn y sir hon, y mae y rhai canlynol : Pennant, Lledrod, Llanrhystyd, Llangwyryfon, Aberteifi, Soar, Aberffrwd, Pont-rhydfendigaid, Tregaron, a Llechryd.

Nid ydym wrth eu henwi yn y modd yma yn sicrhau mai yn y drefn y mae pob un yn sefyll uchod, y dylai fod o ran ei hynafiaeth. Na : o ran hyny, fe ddichon fod yr olaf a enwyd, sef Llechryd, yn mysg y lleoedd hynaf. Y mae yn rhy anhawdd, yn ol dim a fedr yr ysgrifenydd gasglu, oddiwrth y defuyddiau mewn llaw, nodi yu benderfynol pa ryw amser penodol y sefydi-

PEN. III.] SIR ABERTEIFI. 21

wyd achos Metliodistaidd niewn llawer man ; o herwydd, mewn rhai manau, yr oedd pregethu achlysurol eyn ei fod yn gyson a sefydlog ; mewn ambell i fan hefyd, gwnaed crynhoad o amrywiol fân ganghenau, yn y rhai y buasai achos bychan a gwanaidd, er ys maith amser yn flaenorol, i le newydd a di- weddar mewn cymhariaeth ; ac anhawdd fyddai nodi yr amser penodol y gellir dweyd i'r achos gael ei sefydlu arno. Hefyd, yr oedd pregethu mewn am- rywiol ardaloedd, a hyny yn Ued gyson ; ac am gryu dymhor, cyn bod un math 0 addoldŷ, gwael na gwych ; sef mewn tai anedd, ac yn symudol o fan i fan. Mae yr amgylchiadau hyn oll yn tueddu yn fawr, yu absenoldeb hen groniclau neu adroddiadau wedi eu gwneyd ar y pryd, i ddyrysu y manyl- rwydd hwnw, am yr amser, a'r dull, ag y buasai da fod genym, mewn gwaith o'r fath hw^n : ac nid oes genym ond gwneyd y defnydd goreu o'r defnyddiau sydd genym.

LLECHRYU.

Pentref bychan yw Llechryd ar lan afon Teitì, tua thair milldir uwchlaw tref Aberteifi. Mae traddodiad fod gan y Puritaniaid achos boreu yn yr ar- daloedd hyn, sef yn y Tirllwyd, plwyf LLingoedmor, yn gyntaf ; a thrachefn, yn Ehos-y-gilwen, cwm yn sir Benfro, tua dwy íilldir o Llechryd ; ac wedi hyny yn nghastell Malgwyn, o fewn hanner milldir i'r pentref hwn. Dywedir eu bod wedi dyoddef llawer erlidigaeth ffyrnig, yn y canrif yr ail-ar-bymtheg, ond wedi i'r tywydd blin fyned heibio, iddynt anturio adeiladu capel Llechryd, tua'r fl. 1709, y capel ymneillduol cyntaf, meddynt, o'rcwblyn swydd Cered- igion.

Nid hir chwaith ar ol ei gychwyniad y bu Methodistiaeth heb roddi ei droed i lawr yn y lle hwn. Howel Harris, meddir, oedd y cyntaf o'r diwyg- wyr hyn a bregethodd yma. Gwnaeth hyny ar ddarn o dir gwag, cyferbyn â'r bont, Ile y mae masnachdy yn awr. Nid oes wybod am effeithiau neiU- duol y bregeth hon o eiddo Harris, ond y mae y ffaith fod cymdeithas eglwysig fechan wedi ei ffurfio o fewn miUdir i Llechryd ; Ue o'r enw Cerig- gwynion, yn sir Benfro, a hyny cyn i Howel Davies a Daniel Rowlands fod yn adnabyddus yn y fro, yn profi mai nid dieffaith a fu ei lafur ef, a'r eiddo eraill o'i gyd-Ieŷgion. Nid yw yn ymddangos fod Mr. Eowlands wedi bod erioed yn pregethu yn Llechryd, " ac ni chlywais," medd fy hysbysydd, " ei fod wedi bod ond unwaith yn y Capel Newydd, yr hwn oedd yn neiUduol dan olygiad y Parch. Howel Davies."

Cododd yr Arglwydd gysgod i'r blanigfa ieuanc a thyner hon, trwy osod yn meddyliau dwy ferch foneddig yn y gymydogaeth, y rhai oeddynt yn an- eddu yn y lle a elwir y Pentre, i roddi nodded a Uoches iddi. Hyn a wnaent drwy roddi Uuniaeth a Uety i'r pregethwyr, ac ymborth i'w ceflylau, Ar eu traul hwy hefyd y goleuid y Ue, er nad oeddynt yn cael eu hystyried yu ael- odau o'r gymdeithas yn Llechryd. Aent i wrando, tybygid, i eglwys y plwyf sef Manor-deifi ; a phob "mis aent i'r cymundeb yn y capel newydd, Ue y gweinyddid swper yr Arglwydd yn rheolaidd, gan y Parch Howel Dayies,

22 HANESIAETH Y SIROEDD. [UOSB. IV.

Oud cr nad oedd y boneddigesau hyu yn dal aelodaeth uniongyrchol yn Llechryd, eto hwy fuont garedig iawn at yr achos yno yn ei febyd a'i wendid, ac y uiae y coffa am eu henwau yn barchus hyd heddyw yn y lle.

Cyfarfyddwn â chrybwylliad am Llechryd yn ughofnodau Trefecca, mewn adroddiad o eiddo WiUiam Eichards yr Arolygwr, i'r gymdeithasfa yn y fl. 1743. Fel hyn y mae yr ysgrif : " Daethum i Llechryd, lle y cyferfydcl dwy gymdeithas. Yr oedd yr Arglwydd yn amlwg yn eu plith. Tr oeddwn o'r farn na allent yn gyfleus gyfarfod yma i barhau ; felly barnwyd yn oreu i'r sawl ag oedd o sii- Benfro, gyfarfod yno ar eu penau eu hunain, a chym- deithas Llechryd wrtlii ei hunau. I'r rhan gyntaf, yr oedd 18 o aelodau, pedwar o feibion heb briodi, a phedair ar ddeg o ferched ; mae llawer o hon- ynt yn eneidiau gostyngedig a hawddgar. Nid oes yu Llechryd ond chwech o rifedi ; un mab ieuanc, a phedair o fenywod. Mae yma ddau yn ychwaneg ar brawf, sef James Thomas ac Elin James."

Pan dorodd y Parch. Howel Davies allau, fe ddaeth, yn mysg mauau eraill, i Lechryd, a phregethodd yn y capel a berthynai i'r eglwys sefydledig ; ond fe aeth y capel hwn yn llawer iawn rhy fychan i'r gynulleidfa a ymgasglai i wrando; am hjay, arferai bregethu yn y fynwent, Uenwid y fyn^yeut hefyd, a'r holl le oddiamgylch sef y Ue a elwir 'Banc Llechryd.' Soniai jt hen bobl lawer iawn am y Uwyddiant a ddylynai ei weinidogaeth ; am jt effeithiau grymus a ddisgynai ar y bobl wrth ei wrando, nes y byddent yn dyrfa fawr yn tori allan mewn mawl a gorfoledd hyd y nos. Yn y cyfamser, âi y pregethwr ymaith yn y pryduawn, ac wedi cyrhaedd bryn a elwir Craig-cilfowjT, efe a safai am enyd, ac a edrychai yn ol ar y dyrfa orfoleddus, gyda syndod a diolchgarwch, Sonir hefyd am im tro neiUduol, pan y cyd-bregethai Howel Harris ag ef yn y Ue hwn. Tr hyn yn benaf a barai arbeuigrwydd ar y tro hwn ydoedd, fod un Howel yn pregethu y tu fewn i'r fynwent, a'r Howel arall y tu allan. Yr oedd un wedi bod dan law yr esgob, a'r llall heb fod : nid oedd caniatâd, gan hyny, i Howel Harris ddiurddau bregethu'r efengyl ar dir cysegredig. Er mai brodjt oeddynt yn yr Arglwydd, ac er mai yr un gwirionedd a gy- hoeddent, ac mai at yr^n nod yt amcanent, eto angenrhaid oedd gwneuthur cymaint a hyny o wahauiaeth 1 T cyfryw ydyw joifydrwydd llawer o osod- iadau dynol !

Ni Bonir fod llawer o ymosodiadau o erlid wedi bod ar y Methodistiaid yu y fro hon, mewn ffordd o faeddu a gortlirymu, er iddynt gael eu rhan yn ehelaeth mewn dirmyg a gwawd, Pan y byddai rhan o'r gyuulleidfa mewn hwyl yn moli yr Oen, fe fyddai tẃr arall o wawdAvyr ar eu cyfer, ac ar uwch tir, yn curo trybeddau â daiii o haiarn â'u hoU egni, ac yn gwaeddi yn wawdus, " Dewch, ymrowch iddi ; mae y gwenyn wedi codi." Tr oedd un gŵr o'r enw Grifíith Evan â gradd o hynodrwydd arno, yn mysg y rhai a dorent allan i foliannu, ac yr oedd heíỳ'd yn nod arbeuig i sarhad yr erlidwyr. Lluchiodd gŵr boneddig ddyruaid o drewlwch (smffj i'w wyneb pan ydoedd yn yr hwyl. Dro arall, mewn cymdeithasfa yn Aberteifi, gorchfygwj-d Griffith druan, a thorai allan i lefaiu yn uchel ; a hyuy yn nghanol poen dn-

PEN. III.] SIK ABERTEIFI. 23

ftiwr oddiwrth y ddauuodd. Ceisiasiai ei dynu y borcu hwuWj cyu dyfod i'r cyfarfod, a methodd, a rhyfedd o bocuus ydoedd ganddo. Ar ei waith yn tpri allan i waeddi, dygwyddodd fod hen wraig erlidgar yn sefyll gerllaw iddo ar y pryd, yr hon a ddywedai gyda dygasedd, " Beth yw yf hen darw yma, sydd yn buguned," a chyda hyny hi a'i tarawodd â'i dwm ar y dant tost; "a pheidiodd y gwayw," meddai yr hen ŵr gyda digrifwch, " am byth."*

Yn nechreuad gweinidogaeth Howel Davies yn yr ardal hon nid oedd yr un capel gan y Methodistiaid yn y broydd hyn ; ond trwy fod yr Arglwydd yn gwenu ar ei ymdrechiadau, a thrwy fod ei weinidogaeth yn foddion i gasglu cynulleidfaoedd mawrion i wrando, canfyddwyd yr angheurheidrwydd i gael Ile i addoli. A hyn a fu yr achlysur i adeiladu yr addoldy hwnw yn eir Ben- fro, a elwir Capel Newydd : aeth rhai o'r aelodau yno, a daeth y Ileill o'r Cerig-gwynion i arfer ymgynuU o hyn allau yn Llechryd. Lle eu cyfarfod oedd tyddynwr cyfrifol o'r enw Sephaniah Davies ; enw y Tyddyn oedd Pencraig. Tr oedd y gynulleidfa a fyddai yn arfer gwrando yma yn llawer gormod yn fynych i'r tŷ, ac ar yr aclüysuron hyny pregethid yn muarth {close) y tỳ. Yr oedd yn perthyn i'r gymdeithas hon rai gwŷr o ddawn a gwybod- aeth, yn nghyda gwir grefydd, y rhai a fuont yn addurn i'r achos di'os eu tymhor, megys Owen Jones y gof, Griffith Evan y pysgotwr, a Sephaniah Davies y tyddynwr. Mae euwau y gwŷr hyn yn arogli yu beraidd yn eu coíFadwriaeth hyd heddyw. Cryfhawyd eu dwylaw hcfyd, trwy ddyfodiad amaethwr cyfrifol arall atynt o eir Bcnfro, o'r enw Mr. Evaus ; yr hwu oedd wedi teimlo grymusder gweinidogaeth Howel Harris, neu yn hytrach, nerth yr Ysbryd trwy ei weinidogaeth, ac yn awr yn cael ei arwain gan ragluniaeth i dyddyn yn agos i Lechryd, o'r enw Llwyn-y-grawys. Ee fu y gŵr hwn yn ffyddlawn a llafurus gyda yr achos hyd ei fedd, a dylynir ei gamrau gau fab Mr. B. Evans, yr hwn sydd yn preswylio yn yr un anedd, ac yn blaen- ori yn yr un eglwys hyd heddyw,

Crybwyllir, gan yr hen bobl, fod yma gymdeithasfa wedi bod mewn adeg pur fore ar Fethodistiaeth. Adroddai Griffith Evan am dani gyda phleser raawr, gan dystio ei bod yn gyfarfod llewyrchus ac effeithiol iawn, a bod y Peirch. W. a Peter WiUiams yn pregethu yuddi, yn nghydag amryw o bregethwyr diurddau.

Adroddir hanosyn arall am yr hen GrifiSth. Yr oedd wedi bod yn glaf am rai misoedd, a chan y dibynai ja gwbl am ei gynaliaeth ar lafur ei ddwylaw, yr oedd mewn dirfawr dlodi, a phria yn cael digon o luniaeth i ddiwallu ei natiu-. Yr oedJ hefyd wedi rhedeg rhyAv gymaint yn ol o'i adduued ai' lyfr yr eglwys. Ac er nad oedd hyny ond swm bychan, eto yr oedd yn llawcr iddo ef ; a mawr oedd ci brydcr i gyflawni fii amniod. Wedi iddo led wellhau, galwodd am ei ddillad gorau, y fath ag oeddynt, gan y bwriadai íyncd i'r cyfarfod eglwysig y diwrnod hwnw. Yna rhoes di'o allan, i edrych pa un a fedrai gerdded yno ai peidio, ac wrth roddi ei law yn ei logell, cafodd yno ewllt er ci fawr syndod. Ond cododd ymryson yn ei feddwl, pa un ai at anghcnion y corff y rhoddid ef, ai at dalu ci adduncd cglwyeig ; pcnderfynodd mai at yr olaf y dylasai ci roddi ; ac fclly y gwnacth. Y prydnawn hwnw dcnodd un o'i feibion gydag ef i'r cwch i bysgota, oblegid pysgotwr ydoedd, a chyn pen awr, yr oedd Avedi ennill dcg swllt a chwe' cheiniog.

24 HANESIAETH Y SIROEDD. [DOSB. IV.

Parocìd uii amgylchiad fod y gymdeithas hon yn fwy cofiadwy i elynion a chyfeillion crefydd ; sef, darfod i geffyl un o'r pregethwyr, Betíj'amin Thomas (gwel tudal. 1 78) fel y tybir, syrthio dros ddibyn i gloddfa gerig gerllaw, a thi-engn yn y fan. Parodd hyn, fel y gellid dysgwyl, gryn lawer o siaiad yn y fro, a chan rai fe dynid casgliadau atgas a blin, oddiwrth yr anffawd.

Yr oedd yr efengyl, er pob peth, yn para i ennill tir. Yr oedd y moddion yn cynyddu mewn cysondeb yn Mhencraig, ac yn ymwthio i leoedd newydd- ion amryw, yn y fro. Sonir yn neiUduol am un lle, o'r enw WernjTiad, a fu yn enwog iawn gynt. Saif y lle hwn mewn cwm, tua hanner y ffordd o Lechryd i Blaenanerch. Cynelid moddion cyhoeddus ac eglwysig yn y lle hwn, gyda llewyrch a llwyddiant mawi- ; ac yn mysg y rhai y bu eu llafur yn nodedig, crybwyllir am ddwy wi-aig, o'r enw Pegi ac Estheì'. Soniasom o'r blaeu, a chawn achos i son eto, am wragedd a fu yn nodedig o ddefnyddiol yn nghychwyniad yr achos Methodistaidd, mewn llawer ardal a gwlad. Y cyf- ryw, tybygid, oedd y gwragedd clodwiw hyn. Hwy a lafurient yn orchestol am bregethwyr i ddyfod i draethu gair y bywyd i'w cymydogion, a pharod oeddyTit, yn ol eu gallu, ac iiwchlaw eu gallu, i gyfranu o'u meddiannau tuag at dalu rhw fân gostau anhebgorol. Gwnaent hyn, ar lawer achlysur, o'u dirfawr dlodi, a rhoddent brawf trwy hyny o rym angherddol eu cariad at Grist a'i deyrnas, fel nad oedd dim o fewn eu cyrhaedd yn rhy werthfawr ganddynt i'w aberthu er ei fwyn. Mab i un o honynt oedd Ehys Daries, yr hwn a fu bregethwr adnabyddus a pharchus yn y cyfuudeb hyd ei farw- olaeth.

Parodd y Hwyddiant a roddasid ar y gwaith eisoes i'r crefyddwyr yn Llecliryd, neu ei chymydogaeth, ddechreu meddwl am addold y.Mae hwn yn amgylchiad difrifol bob amser i gyfeiUion crefydd ; ond yn enwedig yn y tymhor bore liwnw, pryd yr oedd y draul yn anghyfartal â nifer y crefydd- wjT, a'r auhawsder yn Ilawer mwy nag yn awr i gael Ilecyn o dir i adeüadu arno, trwy fod mcddiannwyr tir, o fawr i fân, yn wrthwynebol iawn i'r sect newydd a gyfodasai yn eu plith. Teimlwyd gradd o hyn yn yr ardal hon. Medüyliwyd unwaith am y lle y pregethasid arno y bregeth gyntaf gau Howel Harris, a'r Ile hefyd y bu pregethu mynych ar ol hyny, ond ni cheid ef er dim gan y boneddwT a'i piai. Buont yn Ilygadu ar y naill fan a'r Ilall, ond yn cael eu siomi yn feunyddiol, er eu holl ymdrechion, nes oeddynt ymron wedi llwj'r ddigaloni. Oud yn y cyfwng, agorodd rhagluniaeth ddrws o ym- wared iddymt, a chafwyd ammod-weithred ar faes helaeth o dir gan Thomas Lloyd, Ysw., Goetmor, am un swllt ar hugain yn y flwyddyn. Yr oedd y tir yn ddigon helaeth i gael arno gyda'r capel, a gardd helaeth wrtho, ac i gael digon o wair a phorfa i geffylau y pregethwyr dros ystod y flwyddyn.

Ymddengys fod ymddygiad hen bobl Llechryd wedi amrywio gradd oddi- wrth lawer eraiU o'u brodyr, gan iddynt nacâu yn hollol roddi enwau yr offeiriaid yu ngweithred y capel fel ymddiriedolwyr, eithr mynasant ddewis ymddiricdolwyr o'u plith eu hunain ; a da fu hyn iddymt yn y canlyniad ;

PEN. III.] SIR ABEHTEiri. S5

oblegid hysbys ydyw fod cyflwyno yr ymddiried yn liollol i ddwylaw yr oífeiriaid wedi achosi llawer o draft'erth, goíid, a cholled, ar ol y fl. 1811, pryd .y cymerodd y neillduo gweinidogion le yn y cyfundeb. Gwi'thodasant hefyd yn lân a myned i gymuno i'r capel a berthynai i eglwys Loegr, lle y buasai y Parch. Howel Davies yn arfer gweinyddu iddynt gynt ; a phan y daetb yr amser, cytunasant â'r ymneillduad yn unllais, ac o un galon.

Ond er na pharodd yr ymneillduad nemawr niwaid a choUed yn y Ue liwn, eto yr oedd yi' eglwys fechan wedi teimlo yn ddwys ar achlysur blaenorol, sef yT adeg y bwriwyd allan y Parch. Peter WiUiams o'r cyfundeb. Eff'eithiodd y tro hwn yn ddwys ar rai o'r gwŷr blaenaf yn y Ue ; ac er iddynt oll gael eu hadferu, eto coUodd yr achos lawer o'i sirioldeb ar y pryd, a bu am gryn dymhor yn isel ac adfeiliedig. Yr oedd yr eglwys yn llesg a diepiledd, a'r cyfeillion yn llwfr a digalon; cymaint felly ag i'wtemtio i feddwlmai diíFodd a wnai yr achos yn y lle. Ond yu y cyfwug tywyll hwn yr ymwelodd yr Arglwydd â hwy " godiad haul o'r uchelder." Dynoethodd ei fraich, a gwnaeth rymusderau. Ehoes enyniad bywiog yn yr holl achos, a chodwyd ef i anrhydedd a bri y fath na welsid ef hyd yn hyn. Dygwyddodd hyn tua'r flwyddyn 1792-3.

Tr amgylchiad nesaf a roes ysgogiad yn mlaen i'r achos, oedd sefydliad yr ysgol Sabbothol. Gwnaed cynyg ar godi hon i fyny yn y fl. ISO-i. Yr oedd Charles er ys rhai blynyddoedd wedi bod yn gweithio yn egniol gyda'r gwaith hwn yn y Gogledd, ac yr oedd rhai manau eisoes wedi dechreu medi y fí'rwyth. Yr oedd y diweddar Barch. Thomas Jones, Caerfyrddin, wedi bod ar daith. yn Ngwynedd, ac yn dyst o'i efí'eithiau daionus yno. Wedi iddo ddychwelyd adref, ac ar ei ymweliad â Llechryd, efe a fynegodd ei syniadau i un neu ddau o'r cyfeiUion, gan ddywedyd, " Beth pe gwnaecli chwithau gynyg arni yn Llechryd ? " Cipiwyd y peth i fyny, a decbreuwyd gweithredu yn gyfatebol. Ond fe brofwyd cryn anhawsder i gael pawb i anadlu yn rhydd a siriol 0 blaid yr ymdrech, ac wedi ychydig gyfí"ro yn y cychwyn, adfeiliodd drachefn. Ni chafodd yr athrawon ond annogaeth bychan, a llaesodd eu hymdrechion, ac mewn canlyniad rhoddwyd yr ysgol i fyny. Ail-gychwyn- wyd hi drachefn gyda gwell golwg, a chyda mwy o sirioldeb. Cawsant gefnog- aeth rhyfeddol yu y gwaith trwy fod y Parch. Ebenezer Eichards wedi dyfod erbyn hyn i Aberteifi, ac -yia. rhoddi ei ysgwydd gref, mewn undeb â'r Parch. Ebenezer Morris, o dan y gwaith, ac yn ei ddwyn yn mlaen yn rymus a llwydd- iannus. Dywedir mai yn y fro hon y cynaliwyd cymanfa perthynol i'r ysgol Sabbothol, gyntaf o un man ya Nghymru ; ac os felly yr oedd, gellir ychwan- egu mai y gyntaf a gynaliwyd yn y byd ydoedd, gan nad oes hanes am gyfar- fodydd o'r fath wedi cael eu cynal erioed ond yn Nghymru. Cynaüwyd y gymanfa hon yn y flwyddyn 1808, ar ddydd Llun y pasg. Y Ue y cynaUwyd hi oedd Blaenanerch, a chyfarfod Uuosog a Uewyrchus ydoedd.

Parhaodd yr aehos mewn gwedd gyífredin, heb lawer o gyfnewidiad arno, er gwaeth nac er gweU, am flynyddau ar ol hyn. Yr oedd golwg brydferth a siriol arno, er nad oedd dim yn anghyíFredin. Yn y blynyddau hyn yr oedd

26 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

y pwno 0 ordeijaio neu neülduo gweinidogion iddynt eu hunaiu, wedi bod yu destyn ymddyddan myuych yn mysg y Methodistiaid, ac yn wir yn destyn ymddadleu hefyd. Profodd rhai eglwysi yn y cymydogaethau hyn yn chwerw iawn oddiwrth y newidiad, trwy fod yr aelodau yn wahanol eu golygiadau ar y pwnc. Ond ni fu niwaid oddiwrth hyn yn Llechryd, eithr derbyniasant y cyfnewidiad yn Ilawen ac unfrydol Galwyd yn fuan ar ol i'r neiUduad hwnw gymeiyd lle, ar y Parch. John Thomas o Aberteifi, i'r Ue i fedyddio ; ac efe oedd y cyutaf a wnaeth hyny o'r rhai a neiUduasid gan y cyfundeb ei hunau.

Yn y fl. 1822, cafwyd adfywiad neiUduol ar yr achos drachefn. Yr oedd yr ymweliad hwn yn rymus a nerthol iawn. Dychwelwyd ugeiniau o gyfeil- iorni eu ffordd, rhoddwyd cychAvyuiad adfywiol i'r eglwys yn ei blaen, a hoU ddeiliaid yr ysgol Sabbothol a euuiUwyd, oddicithr ychydig nifer, i fod yn aelodau eglwysig. Yr oedd yma rai yn hiraethu ac yn ocheueidio am y fath ymweliad, gan yr ofnent fod y gwrandawyr yn ymsefydlu mewn diofalwch, ^ deiUaid yr ysgol Sabbothol yn ymgjTiefiuo â*r Beibl heb brofi ei awdurdod. Ac er eu Uawenydd hwy a gawsant ddymuniad eu calon, Dechreuodd y diwygiad hwn mewn duU Ued ddisymwth. Ar bryduawn Sabboth yn mis Awst, 1822, yr oedd dau ŵr* yn pregethu, disgyuodd peth rhyfedd iawn ar y gynuUeidfa. Yr oedd gwUth hyfryd yn disgyn tra y bu y gŵr cyntaf yu Uefaru, a'r hoU gynuUeidfa yn gwrando gydag astudrwydd anarferol ; ond ar waith yr olaf yn darUen ei destyn, " A phan ddel, efe a argyhoedda y byd o bechod, &c,," fe gerddodd y gair fel meUten trwy y gynuUeidfa, a thorodd ugeiniau aUan yn un fouUef i waeddi fel rhai wedi eu brathu â chleddyf. Hid oedd un dyben, beUach, i'r jîregethwr geisio dywedyd un gair ; yr oedd ef hun wedi ei Iwyr orchfygu, ac ni aUai ond sefyU yu syn a rhyfeddu y peth 9 wnaethpwyd. Parodd yr ymweUad hwn chwauegiad mawr at y gynuUeidfa, y gymdeithas eglwysig, a'r ysgol Sabbothol, fel y bu r^id m.6ddwl am ail-ad- adeiladu y capel.

Yr anhawsder y tro o'r blaen i adeiladu oedd yn codi oddiwrth rai adgas oddi allan oddiwrth erUdwyr a gwrthwynebwyr cyhoeddus ; ond nid oedd hyny ynbodyn bresenol, ondy peryglyn awr oedd i'r aelodau anafu eu güydd trwy annoethineb a gorphwyUedd. Y tro cyntaf, hi fu yn anhawdd cael tir i adeiladu, ac addefodd y boneddig a ganiataodd y tii', ei fod wedi derbyn Uonaid ei freichiau o lythyrau o bob cẁr yn ei wrth-annog i ganiatâu y tir, ond yn awr yr oedd y tir mewn meddiant. Y tro o'r blaen, yr oedd anhaws- dra cael cerig, gan nad oeddynt i'w cael oud mewn un man, ac yr oedd eu perchenog yn gwbl wrthwynebol iddynt gael un gareg ganddo. Ond wrth ddyfod adref ryw noson tra yr oedd hyu ar droed, syrthiodd y boneddwr oddiar ei geffyl, a bu farw yn y fan. Boreu dranoeth, anfonodd y wraig ddyn yn unswydd at y Parch, Howel Davies, i ddywedyd fod y cerig i'w cael gyda chroesaw. Ond yn yr àil-adeiladu nid oedd anhawsder o'r fath yma chwaith. Eto, ofnid rhwystrau a thram^yddiadau oddi mewn ; ond trwy gymeryd

* Mr. David Dayics, Trefecca ; a Mr. Dand Hugheg, sir Benfro.

PEN. III.] SIB ABEETEIPI. 27

pwyll, acarferamyuedd, cafwyd modd i ochel hyn hefyd, a gwnaed yr ail ad- eüad mewu heddwch a chysur. Estynodd y gŵr boueddig, T. Lloyd, Ysw., Coetmor, mewn modd hynaws, y weithred ar y tir i fil o flynyddoedd, ar yr un ammod ag o'r blaen, sef un swUt ar hugain yn y flwyddyn.

ymddengys hefyd fod cymdeithasau bychain wedi cael eu fí'urfio yn Llan- gwyryfon, Lledrod, Penlan, Ehydfendigaid, a Than-yr-allt, y rhai a arolygid dros ryw dymhor gan gynghorwr o'r enw Morgan Hughes ; ond ar ol i'r gŵr hwnw eu gadael, ni ddywedir am ba achos, nac i ba le yr aeth, cafwyd gan y Parch. WiUiam Williams, Pant-y-celyn, ymweled â hwy yn awr ac eii- waith, a rhoddi adroddiad o honynt i'r gymdeithasfa. Ehoddwn yma un adroddiad o eiddo y gŵr parchedig gerbron y darllenydd.

y cyfrif a anfonodd y parchedig írawd William WiUiams, o'r cymdeithasau nad oes arolygwr arnynt yn awr, ond a arolygid gynt gan Morgan Hughes.

Cymdeithas Llangwyhyfon. Mae y gymdeithas hon dan olygiaeth Thomas Griífiths a Benjamin Hees, y rhai sydd yn eu holi ac yn eu cynghori unwaith yn yr wythnos. Mae yma tua 25 o aelodau rhai yn siriol a gwresog a rhai yn oerion. Yr oedd chwech yn ymgais am aelodaeth y tro diweddaf ; derbyniwyd tri, a gwrthodwyd y tri eraill hyd nes y ceffid mwy o sicrwydd am eu cywh-deb.

Cymdeithas Lledrod. Mac hon dan olygiaeth Dafydd WilHam, yr hwn sydd yn eu holi ac yn eu cynghori ddwywaith yn yr wythuos. Mae yma tua 40 o aclodau, y rhai a barhant yn eu gwres, a'u cariad cyntaf, ac a gynyddant yn rhyfedd mewn gras a santeiddrwydd. Mae dau g'iTpl o honynt ar fedr priodi (ac hyd eithaf ein gwybodaeth) yn yr Arglwydd, wedi ymgynghori cyn ymddyddan â'u gilydd. Mae yma rai aelodau wedi eu chwanegu. Mae y gymdeithas hon fel dinas ar fryn nid oes gan y byd an- nuwiol ddim a allant yn gyfiawn ei osod yn cu herbyn.

Cymdeithas Penlah. Arolygir hon gan Ehya Thomas, yr hwn sydd yn byw yn eu plith, ac yn eu cynghori yn fynych. Mae yma 28 o aelodau ; rhai yn gredinwyi' ced- yrn, ond eraill yn lled ddeddfol. Mae yma bump neu chwech newydd ddod i mewn, rhai ymneillduwyr, a rhai gwrtbgilwyr. Mae llawer yma yn meddu Uawer o wybod- aeth ysgrythyrol.

Cymdeithas EHrDFENDiGAiD. Hi gynwys tua 15 o aelodau gwresog. Rhys Thomas ydyw eu cynghorwr; y mao yn ymweíed â hwy unwaith yn yr wythnos. Nid oes neb yraa wedi gwrthgilio.

Cymdeithas Tan-te-allt. Mae hon yn parhau yn ei gwres, ei sel, a'i chariad, ac yn cynyddu mewn gwybodaeth a santeiddrwydd. Mae yma tuag 20 o aelodau. Mae y gwragedd yn fwy eu sel na'r gwýr. Mae Dafydd William a Ehys Thomas yn eu cynghori unwaith yn yr wy thnos. Yr wyf íy hun yn ymweled á hwy unwaith yn y díwech wy thnos, ac yn cadw cwrdd eglwysig gyda hwy, fel y gwypwyf eu syniadau a'u seíyllfa, &c.

Teimlwyf gariad ac ymlyniad atynt, ac felly hwythau tuag ataf finau. Y mae der- byniad caredig i'w cynghorwr anghyhoedd yn gyîfredinol yn eu mysg, a da ganddynt gael eu holi ganddo ef a chenyf linau. Yr wyf yn sylwi mai y fath a fydd y cynghorwr, pa un ai selog, siriol, a ffyddlawn, ai ynte claiar, &c., y cyfryw hefyd a iydd y bobl o dan ei ofal.

WILLIAM WILLIAMS.

Gan fod crybwylliad yn yr adroddiad uchod am rai Ueoedd ag y mae

Methodistiaeth yn blaguro ynddynt eto, megys Lledrod, Llangwyryfon,

a'r BoNT-EHYDFENDiGAiD, uid annatiuiol ydyw olrhain ychydig ar eu hanes

yn mlaen, cyn myned at leoedd eraiil nad oes son am danynt yn nghofnodau

Trefecca.

LLEDBOD.

Y Ue y dechreuwyd pregethu yn yr ardal hon ydoedd Pwll-pridd. Y

28 HANESIAETII Y SIUOEDD. [dOSB. ir.

prif offeryiiau a ddefnyddiwyd i'r dybeu hAvnw oedd WiUiam Eichard Llwyd, a David WiUiams. Anfonwyd y gŵi- olaf hwn, mewn imdeb â John Belcher, a dau eraiU, gan y gymdeithasfa yn y Deheudir, i lafurio yn Ngwynedd, raewn adeg nad oedd odid un pregethwr i'w gael trwy hoU siroedd y Gog- ledd ;— mewn adeg hefyd yr oedd erlidigaeth yn ffyrnig, ac yr oedd anwybod- aeth dudew yn gordoi y trigolion oU. Hwn, fel y tybiwyd, a anfonwyd drachefn i fro Morganwg ar annogaeth Mr. D. Eowlands i lafurio yno, Ue yr ymsefydlodd ac y treuUodd y rhan fwyaf o'i oes.* Ymddeugys fod y gym- deithas eglwysig yn y Ue hwn yn blaguro dan ofal D. WiUiams, a bod yma nid Uai na 40 o aelodau yn y fl. 174-4-5.

Adeiladwyd yma gapel bychan yn ymyl Rhydlwyd, yn bur gynar ar y diwygiad, ond nid oes sicrwydd am yr amser. bychan iawn oedd hwn, a o-wael yr olwg amo, Pridd oedd ei furiau, a brwyn oedd ei do. Yr oedd y piüpud yn ei dalcen, a chor o'i flaen yn debyg fel y gweUr Ue y cymundeb mewn rhyw addoldai. Ond nid oedd fawr o wychder ar y côr hwn. Yr oedd y canUaw wedi ei wneyd yn rhwyUog ag ais, fel ag a fyddo o flaen y gwartheg mewn beudai. Yr oedd simdde yn y talcen araU, ac ar y Uawr ueu yr aelwyd, yr oedd ychydig o dywjTch, Ue y byddid yn achlysurol yn cyneu y tân, yn enwedig ar gyfarfodydd egiwysig, pan y byddai yr hin yn oer iawn. GaU y meddwl ystyriol gael golwg ar ddirodresrwydd Methodistiaeth wrth ddar- lunio yn ei feddwl y addoUad hwn. Ni aUai fod yn y fath fwthyn bychan Uwyd un math o at-dyniad daearol ; os oedd yma rhyw beth yn tynu ato jTna, rhaid mai nid gwychder y Ue na'r cwmni ; eto, yr oedd yma sugn o natur uwch a mwy ysbrydol. Ehoddid yma ryw arwyddion o'r presenoldeb dwyfol, yn awr ac eüwaith, ag a lanwai y Ue tlawd â gogoniaut ac â mawredd, na cheir mo hono yn nghanol gorwychder ysblenydd y byd hwn.

Ni a aUwn feddwl y gweUd achos gwneyd newydd cyn hir amser, oddiar fod y hwn wedi ei gyfansoddi o ddefuyddiau mor ddarfodedig. Yr oedd y muriau pridd eisoes yn dechreu agenu, a'r adeilad yn prysuro i adfeiliad, pan y bu raid meddwl am adeüad weU. Yn y fl. 1783, gan hyny, adeiladwyd addoldy newydd, nid yn ydlan Ehydlwyd, fel jt un cyntaf, ond y fan y mae y capel preseuol yn sefyU. Yr oedd y cyntaf wedi sefyU tua 30 inlynedd, yn ol dim a fedrwn ni gasglu, cyn adeiladu y newydd, ond yr oedd achos wedi ei ddechreu ddeng mlynedd cyn hyny. Yr ydym yn casglu fod y gymdeithas eglwysig wedi arfer ymgynuU, er amser cynar ar Fethodistiaeth, i'r PwU- pridd, ac nid aunhebyg na buasai y moddion yn cael eu cynal ymo yn hwy, oni bai y bu raid i'r tyddynwr ymadael â'r tyddym o herwydd grefydd, ac feUy y chwalwyd y nythoedd ganddynt yn MhwUpridd, ac y gosodwyd math 0 angenrheidrwydd ymofyn am le araU.

Nid oedd y capel a godwyd yn 1783 ond bychan, er ei fod yn rhy^w gymaint mwy na'r nn cyntaf. Parwydydd pridd oedd i hwn, a thô gweUt oedd iddo. Yn mhen 26 mlynedd, adeUadwyd capel newydd drachefn, yn yr

* Gwel ei hanes yn sir Forganwg.

PEN. III.] SIE ABEBTEIFI. 29

un man, ond yn fwy ei faintioli ; ac yn mlien 24 mlynedd wedi hyny ail-ad- eiladwyd hwn dracliefn, gan ei wneuthur yn l'awer mwy ei faintioli, na'r un o'i flaen. Yr oedd hyn yn y fl. 1833.

Mae y lle hwn wedi ei enwogi trwy fod yn gartref i amryw o bregethwyr enwog a defnyddiol yn eu tymhor. Fe fu Dafydd Morris yn byw yma ju hir, yr hwn a wnaeth i Ddeau a Gogledd grynu dan ei weinidogaeth, ac am yr hwu y cawn grybwyll eto yn mlaen. Yma hefyd y bu Jentin Morgan yn aelod. Cafodd y gwv hwn oes faith, a threuliodd hi er dyddiau ei ieuenctyd yn ngwasanaeth ei Arglwj'dd. Ganesid ef yn y fl. 1742] ymunodd â'r eglwys yn y fl. 1761 ; a dechreuodd bregethu mewn dwy neu dair blynedd ar ol hyny. Bu farw yn 1824. Yr oedd y gvrr hwn, gac hyny, wedi bod yn pregethu am ysbaid 60 mlynedd ; ac er na ddywedii" dim yn hynod am ei dalentau gweinidogaethol, yr oedd o ysbryd rhagorol fel Cristion cywir, a gweithiwr diwyd a fiyddlawn yn ngwinllan ei Feistr, am yr holl amser hyny. Mae y Ue hwn hefyd yn gysylltiedig ag enw y Parch. John Williams, am yr hwn y bydd geuym air eto i'w ddywedyd yn mlaen. Fe fu yma un Eyan Jones, ac un William Morgan, yr hwn a fu farw yn 1797, ac un Evan Morgau, jt hwn a fu farw yn 1805, Symudodd Theophilus Jones oddiyma i Dregaron yn 1806, ac yn y fl. 1808 y daeth un Eees Jones i breswylio yma o'r Cwrt, yn sir Gaerfyrddin, ac a fu farw yma.

Yn y fl. 1795, fiFurfiwyd yma ysgol ar nos Sabboth, a hyu dan anfanteision lawer, o ddiffyg Beiblau. Y Uyfrau a ddefnyddid amlaf y pryd hwnw, oeddynt " Llyfr Egwyddor," gan y Parch. Grifílth Jones, a'r " Llyfr Gweddi Cyfí"redin ;" ond fe esgorodd hon yn y fl. 1807 ar yr ysgol Sabbothol mewn gwedd newydd, yr hon sydd yn aros hyd heddyw, ac i'r hon y mae effeithiau mor ddaionus trwy yr holl dywysogaeth.

LLANGWYEYFON (TahorJ.

Ni a welsom eisoes fod pregethu wedi dechreu yn yr ardal hon er yn gynar ar y diwygiad Methodistaidd, pryd yr oedd Harris a Eowlands eto yn cyd- weithredu. Y Ile y dechreuodd pregethu ynddo yn y gymydogaeth oedd Tref-clawdd. I'r lle hwn fe ddeuai y Parch. Daniel Eowlands yn aml i bregethu, ac i le a elwir yr Arddgoed fe ddeuai yr un g\\T i gadw cyfarfod- ydd eglwysig. Dywedir liefyd fod Howel Harris yn arfer dyfod yn ei amser yntau, ac mai mewn lle o dan Pen-y-cwm y byddai efe yn pregethu.

Yr oedd y dechreuad yn y Ue hwn, fel mewn Ilawer o leoedd eraiU, yn fychan iawn : y crefyddwyr yn ychydig iawn o rif, yn fyr iawn eu gwy- bodaeth, ac yn gwta iawn eu dawn. Gan leied oedd nifer y pregethwyr, a chan anamled oedd pregethu, nid oedd gan yr ychydig grefyddwyr oud gwibio yn mhell yn fynych i wrando pregeth, lle y dygwyddent glywed fod pregethwr i'w ddysgwyl, neu ynte, gyfarfod â'u gilydd i ddarllen a gweddio. Ac nid mor hawdd oedd cynal y cyfarfodydd hyn ychwaith, gan nad oedd, y pryd hwnw, ond ychydig nifer yn medru darUen, a Uai na hyny yn meddu ar ddawn cymhwys i weddio mewn cynuUeidfa. Dywedir yn hanes y Ue hwn, mai

30 HANESIAETH Y SIROEDD, [d08B. IV.

myiiych y dygwyddai i ŵr, wedi dechreu gweddio, fethu yn lân a myned rhagddo ; ac weithiau dywedai arall air yn nghlust y gweddiwr i'w gynorth- wyo i fyned yn mlaen. Yr un modd yr ydoedd, i raddaa, gyda'r cynghorwyr cyntaf. Gan faint yr angen, rhoddid cyfleusdra i ryw rai o'r brodyr i ddy- wedyd gair wrth gymydogion ; ac nid anfynych y dygwyddai fod ambell un yn ymosod at y gorchwyl, yn fwy ei awydd na'i fedrusrwydd, ac yn fwy ei sel na'i wybodaeth. Dywedir fod y cynghorwyr weithiau yn y Ue hwn, yu gorfod tewi yn llìvyr, lieb îin gair i'io dàyioedyd. Nid ydym yn synu cymaint at hyn chwaith. Yr oedd manteision yr hen bobl hyn yn fychain iawn. Hyd yn ddiweddar nid oeddynt, fe allai, wedi gweled Beibl erioéd, na gwrando efengyl. Nid oedd maes eu drychfeddyliau ond cyfyng iawn, ac ni allai fod eu dawn ymadrodd mewn pethau crefyddol ond cwta a phrin iawn. Fe ddi- chon eu bod, i raddau, dan lywodraeth y syniad, "Nad oedd myfyrdod a Uafur rhagflaenorol ddim yn angenrheidiol, ond y rhoddid iddynt ar y pryd y gair a lefarcnt wrth y bobl." Os felly, nid syn ydoedd eu bod dan ryw amgylch- iadau, pryd y gadewid hwy i raddau i'w hadnoddau eu hunain, yn methu yn lân ag ysgogi yn mlaen. Eto yr oedd aidd eu hysbryd, symledd cu hamcan, a daioni eu cais, yn esgusawd da drostynt ; ac yr oedd newyn a syched eu gwrandawyr am air y bywyd, a'u hymddifadrwydd trwm o hono, yn eu tueddu i edrych heibio i lawer o waeleddau ; pryd yr oedd eu dull siriol a thoddedig yn gwrando eu cynghorwyr dirodres, yn Uawer o gynorthwy i'r Uefarwyr draddodi eu meddyliau. Sonir hyd heddyw am ryw ŵr yn Llan- gwyryfon a fyddai yn íynych yn cyfi"roi yr hoU gynulleidfa trwy ei ddull gwresog 0 waeddi, " Gogoniant.'*

Y mae Llangwyryfon yn un o'r lleoedd hyny yn y sir hon yr adeiladwyd capel byehan ynddo yn bur foreu, sef y fl. 1769. Nid oedd y pryd hwn ond ychydig iawn o gapelau yn y wlad ; ar yr un pryd, yr oedd mwy na 30 o flynyddoedd wedi myned heibio er pan gychwynasai y diwygiad Methodist- aidd. Yr oeddyr achlysur o'i godi yn y fan y gwnaed, sef ar dir Mr. Williaras, Ehandir, y fan y mae y capel presenol arno, yn amgylchiad hynod. Yr oedd yn y lle hwn iTynon, lle y byddai lluaws o bobl, wrth fyned a dychwelyd o Langeitho, yn arfer eistedd i fwyta y tamaid a ddygent gyda hwy, gan dori eu syched o ddwfr y fí"ynnon. Yr oedd y niferi a gydgyfarfyddent yma o bryd i biyd, 0 bobl syehedig am air yr Arglwydd, yn ddigon i roddi awgrym fod yn y lle hwn gyfle i bregethu yr efengyl, ac y byddai adeilad a wasanaethai i'r dyben hwnw yn dra manteisiol. Nid oedd y capel cyntaf hwn, ond odid, ond cyfí"elyb i rai eraill a godwyd tua'r amser hwnw, bychan ei faint a gwael ei olwg, eto yr oedd yno goff'adwriaeth o enw y gwir Dduw ; pregethid ynddo Geidwad pechaduriaid, ac ymgasglai iddo lawer o wn-andawyr gwresog eu calonau at efengyl Mab Duw. Cyn hir, fe godwyd cysylltiedig â'r capel, yn benaf er cyfleusdra i'r teithwyr crybwyllcdig ; a dywedir mai hwu oedd y " Tŷ'r capel " cyntaf a gyfodwyd, ac mai i'r dyben h^vn yn unig y eyfodwyd ef.

Yr oedd yr achos crefyddol yn y tymhor boreu hwn yn wanaidd iawn, ac

PEN. III.] SIR ABEETEIFI. 8l

er fod y djaul o gj'nal moddion yn y lle pan y ceid hwy ond bychan, eto nl eilid eu cynal heb beth traul, a pharai beth ymdrech yn mhlith yr ychydig "bobl dnian dlodion " i gyfarfod â'r draul, er lleied ydoedd. Disgynai y gofal hvrn, tybygid, yn benaf ar yr hen ŵr a fyddai yn arfer dal ei het yn y cyfarfod eglwysig, ac, wedi bwrw iddi ryw swm yn gyntaf, a waeddai ar yr aelodau oll, " Dewch, gyfeillion bach, cyfrenwch at achos yr ÄJglwydd." Ac ni fyddai ei gj'farchiad ef ddim yn ofer. Yr oedd y gymdeithas eglwysig y pryd hwn tua 30 o nifer. Yn y blynyddoeddrhwng 1742 a 1745 yr oeddy nifer, fel y soniwyd o'rblaen,* yn 25, ac yma wedi i fwy nag ugain mlynedd fyned heibio, nid oeddynt ond 30. Ond yn ystod yr 20 mlynedd hyny y bu yr ymraniad alaethus y soniasom am dano yn y gwersyll Methodistaidd, nghyda'r gauaf du ddylynodd yr ymjraniad hwnw, nid oes llawer amheuaeth na chwalwyd yr eglwys gyntefig yn llwyr ar y pryd, er nad yw ein hanes yn sicrhau dim o hyn, fel ag y bu raid yn mhen blynyddoedd roddi cychwyniad i'r achos megys o newydd, yr un modd ag y bu mewn llaweroedd o fanaü eraill.

Yn y fl. 1789, fe fu yma adfywiad siriol ar grefydd, a chwanegiad mawr at yr eglwys. Yn mhen saith mlynedd, fe fu yma adíywiad grymus drachefn, pryd y chwanegwyd at yr eglwys 200 o eneidiau. Dan eífeithiau jt adfywiad hwn, aeth y eapel yn rhy fychan, a bu raid adeiladu un newydd llawer hel- aethach a chi-yfaeh na'r cyntaf ; lleihaodd y nifer drachefn trwy wrthgiliad rhai, symudiad eraill o'r ardal, a rhai a fuant farw yn eu cariad cyntaf. Par- haodd yr adfywiad hwn am ysbaid dwy flynedd. Yn mhen tuag wyth mlynedd cafodd yr ardal ymweliad grasol drachefn, sef yn y fl. 1804, pryd y chwaneg- wyd at nifer yr aelodau tua 150 o rifedi, Uawer o ba rai sydd yn aros hyd heddyw.

Yn yr un fl., sef 1804, y dechreuwyd ỳr ysgol Sabbothol ; ond hi gyfaríìi yma, fel mewn Uawer o fanau eraill, â pheth gwrthwjTiebiad, ac â mwy o ddi- faterwch, fel ag yr aeth i lawr drachefn ; ac ar lawr y parhaodd am yspaid pedair blynedd ; ond yn y fl. 1808, daeth Mr. Charles y Bala heibio, yr h^yn, trwy osod allan yr efl'eithiau daionus a'i dylynai yn y Gogledd, a'u hanogai i ymaflyd ynddi drachefn ; a hyn hefyd a wnaed, ac hyd yma y mae yn cael ei dal i fyny. Yr oeddid eisoes, er ys tua blwyddyn o amser, wedi dechreu ysgol Sabbothol, mewn lle a elwir Pentre-y-mynydd, a bu hyny yn ddechreuad canghen Fethodistaidd newydd, yr hon a elwir erb\Ti hyn yn Bethel.

Cyn y fl. 1820, adeiladwyd y capel y drydedd waith, ac o hyny hyd y fl. 1830, fe fu yma dri o adfywiadau mwy neu lai nerthol. Yn yr un a gymer- oddle yn y fl. 1822, fe chwanegwyd at yr eglwys tua 220 o aelodau.

Yn y fl. 1834, ymadawodd tua 93 o'r aelodau, ac ymsefydlasant yn gangen neiUduedig yn Bethel.

Fe fu amryw bregethwyr yn preswylio yu Llangwyrj-fon o bryd i bryd. Fe fu un Dafydd Edwards yn pregethu dros ysbaid maith o amser, o'r fl.

* Gweltudal. 6.

32 HANESIAETH Y SIEOEDD, [doSB. IV.

1769 hyd 1817, nid llai na 48 o flynyddoedd. Yr oedd yma liefyd un Dafydd Ricliard, ond fe aeth i orphwys yn y fl. 1781, wedi un mlynedd ar ddeg 0 lafur cyhoeddus. Sonir hefyd am Dafydd a Eees Lewis, a Johu Moses. Dechreuodd Dafydd Thomas bregethu tua'r fl. 1782, a bu farw yu y fl. 1825. Pe fu yma un Eees Evan9 yn pregethu, yr hwn, wedi deuddeng mlynedd o lafm- gweinidogaethol, a fu farw yn y fl. 1805 ; ac un Edward Williams. Nid oes gan yr ysgrifenydd ddim mwy o hanes y gwŷr hyn na'u henwau, ond nid oes amheuaeth na wnaeth pob un ei ran yn ngwasanaeth ei Arglwydd, er adeilad corfí" Crist o fewn cyfuudcb y Methodistiaid, a bod pob un 0 honynt bellach " yn derbyn ei briod wobr ei hun, yn ol ei lafur ei hun." 1 Cor. iü. 8.

PONT-RHYDFENDIGAID.

Dechreuoddy Methodistiaid ymosod ar y gymydogaeth hon, trwy ddyfodiad y Parch. Daniel Eowlands i bregethu i Lan y Eynachlog, yr hyn hefyd a wnaeth auirj'w weithiau. Yr oedd rhai o aelodau perthynol i gapel LIwjti- piod, dan olygiad y Parch. Philip Pugh, gweiuidog ymneiUduol yu mysg yr Annibynwyr, yn preswylio yn yr ardal hon eisoes, ac arferai 'Mr. Pugh, er ys amryw flynyddoedd, bregethu mewn Ue yn y gymydogaeth o'r enw Llwyn- y-gof. "\Yedi marwolaeth Mr. Pugh ac i Mr. Gray, ei olynwr, ymuno â'r Methodistiaid, rhoddwyd heibio bregethu yn Llwyn-y-gof ; ac ymwreiddiodd Methodistiaeth yn fwy-fwy jti y fro.

Heblaw oedfaon achlysurol gan ]\Ir. Eowlands, fe ymwelid â'r ardal gan amryw o'i gynorthwywyr boreuaf, megys, William Eichard Llwyd; Dafydd Jones, PwU-march ; John Dafydd Daniel, Camer ; a Dafydd William y gôf, Swydd-fiFyuon ; yn nghydag eraiU o gynghorwyr yr oes hòno. Pregèthid y piyd hwnw mewn amryw fanau ; weithiau wrth fur, ar bwys yr hen bout ; weithiau yn y felin, ac weithiau yn yr hen " Red Lion : " bryd arall me\Yn gerllaw y fan y mae y capel arno yn awr, a thrachefn mewn y tu arall i'r bont. Cafodd amrywiol dai ar hyd y fro yr anrhydedd o agor eu drysau i bregethiad yr efengyl. Nid yw yn ymddangos pa beth a ddarfu i'r ddeadell fechan y soniai y Parch. W. Williams yn ei adroddiad am dani, yr hon a ar- olygid gau Ehys Thomas. Fe ddichon iddi chwalu yn y cyS"ro a gymerodd le trwy ymraniad 1751 ; acnid oes genym hanes fod cymdeithas eglwysig wedi ei fí'urfio yma drachefn am lawer o flynyddoedd. Pa fodd bynag, yr oedd jTua " ychydig enwau " yn aros yn y tymhor tywyll hwnw, y rhai a ymgynullent mewn undeb ag eraiU yn Swydd-flfynon. Ai rhai o honynt bob boreu Sab- both i Langeitho i wrando, a phawb o honynt jtio i gymuuo bob mfs ; ac wedi bod yn Llangeitho y boreu yn gwrando, aent drachefn i Swydd-fíỳnon y prydnawn.

Yn amser boreuaf pregethu gan y Methodistiaid yn y lle hwn, fe brofwyd gradd o chwerwder erlidigaeth, fel yr ymddengys oddiwrth yr hanesyn can lynol. Pan oedd un Morgan Hughes, yn pregethu mewn tŷ, yn agos i'r fau y mae y capel arno yn awr, daeth yno ryw nifer o ddyhiriaid â phastynau yn

PEN. 111.] SIR ABERTEIFI. 33

eu dwylaw, gyda bwriad o guro a baeddu y pregethwr, a dyrysu ei amcan. Nid oes wybod pa drychiueb a gaulynasai, oni bai i'r pregethwr ddiauc o'r trwy y ffeuestr ; tyuodd hefyd ei got oddiam dauo, i'r dyben o ddyrysu ei erlynwyr, a methu yn eu gwrthddrych. Yn y wedd yma cafodd egwyl i gyrhaedd Llwyu-y-gog ; a diaugodd heb uiwaid.

Tro arall, pau oedd gŵr yn pregethu yn y ar gyfer y ffordd i'r Fynach- log, daeth bagad o derfysgwyr i'r lle, wedi ymarfogi â ffyn,' ac un Ehys Goch, fel y'i gelwid, mwnwr o sir Ffliut, yn flaenor y llu, i faeddu y truan a geisiai wueyd lles iddynt ; ond dyryswyd eu hamcan, gan i ẃr cyfrifol ag oedd yn preswylio yn mhalas y Fynaclilog, o'r enw Mr. Williams, gael ei gyuhyrfu i sefyll yu eu herbyn, a mynu llouyddwch i'r pregethwr. Ymddengys fod Ehys Goch yu fwy blaenllaw gyda y gwaith hwn na neb arall, gau y cawn ei enw drachefn, ar achlysur arall, wedi dyfod i aflonyddu yr addoliad, ac i faeddu y pregethwr, oud iddo fethu eilwaith yn ei amcan, trwy i un Ehys Thomas, o Lwyu-y-gog, waeddi aruo gydag awdurdod a grym, ues oedd ef yn delwi o'i flaen, " Gosteg, Ehys Goch : " a gosteg a gafwyd.

Yn y fl. 1794, adeiladodd uu a elwir Martha, oDdolfawr, gapelbychan, ar ei thraul ei hun, yn y fau y mae y capel yn awr ; gadawyd hwn ganddi yn feddiant arosol i'r cyfundeb, am chwecheiuiog yu y flwyddyu. Bellach cedwid cyfarfod eglwysig yn y lle, a chaed gan y Parch. Johu Williams ddy- fod yma i weinyddu swper yi' Arglwydd i'r aelodau heu a methedig yn uuig ; oud ni oddefid i neb arall ddyfod at y bwrdd, gan y dysgwylid i bawb a allai fyned i Langeitho ar Sabboth pen mis. Yu y fiwyddyn 1802, adeilad- wyd capel drachefn, ac ar ei agoriad darlleuai Mr. WiUiams wasanaeth yr eglwys sefydledig, ac nid hir ar ol cael y capel hwn y buwyd heb gael gwein- yddiad o swper yr Arglwydd hefyd yu y lle. Fel prawf o rym a dylanwad arferiad a dygiad i fyuy, gallwn grybwyll ffaith yn y lle hwn, ag sydd yn ymddangos i ni bellach yn beth chwith dros ben ; sef, fod gwrthwynebiad a gwawd mawr yn cael ei ddaugos pau y dechreuwyd bedyddio y troau cyntaf yn y capel ! Bedyddio yn y cwrdd ! Codai rhai eu dwylaw mewn syndod, a chwarddai eraiU mewn gwawd ! Cymerai rhai arnynt fod mor ddoeth ag awgrymu, uad oedd bedydd a weinyddid yn y fatli le o ddim gwerth, ac ymgroesent rhag dylui trwch y trueiuiaid a gyflwynent eu plant i ddyniou cyftredin a diurddau i'w bedyddio, a hyuy mewn cwrdd !

TWRGWYN.

Mae y lle hwn yu un o'r Ueoedd hynaf gan y Methodistiaid yn sir Aber- teifi. Crybwyllir yn nghofnodau Trefecca am gymdeithas Twrgwyn, yr hon, jTi y fl. 1743, a gyuwysai naw o aelodau.* Yr oedd gŵr yn byw mewu yn y gymydogaeth, o'r. enw Tanglwst, yr hwn oedd flafriol iawn i grefydd, a'r hwu a dderbyniai bregethu i'w yn awr ac eilwaith, pau y geUid ei gael. Symudwyd yu fuan i Twrgwyn, lle mae yr achos yn aros hyd heddyw, Fe

* Gwel tudal. 5. D

34 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

fu tadau y diwygiad yn arfer pregethu yn y Ue hwn, ac hyd heddyw y mae son am ryw bregeth nodedig o'r eiddo Howel Harris. Safai, meddant, yn yr awyr agored, wrth dalcen yn ogos i'r Twrgwyn, a dylynid ei weinidogaeth ar y pryd â'r fath rym, nes oedd y bobl yn syrthio ar y ddaear megys meirw o'i flaen.

Yn y fl. 1749, meddir, yr adeiladwyd y capel cyntaf yn yr ardal hon. Adeiladwyd hwn mewn lle a elwid y Garnedd. Yn y Ue hwn yr oedd claddfa i'r meirw yn bod yr amser hwnw, a thybid, gan yr hen bobl, fod capel esgob- awl wedi bod yn y Ue ryw bryd. Yny lle hwn, gan hyny, megys ar le cysegr- edig, yr adeiladwyd y cwrdd cyntaf, a galwyd ef yn ol enw y tyddyn y cynalient y moddion eisoes ynddo, sef Twrgwyn. Y pryd hwn nid oedd yr aelodau, medd yr ysgrif sydd o fy mlaen, ond cJiwech o nifer, ac fe ddywed cofnodau Trefecca, eu bod chwe' blynedd cyn hyn, yn naw o rifedi. Yr oedd yr olwg, gan hyny, ar y cynydd, neu yn hytrach ar y Ueihad, yn olwg ddigalon iawn i adeiladu capel. Nid oedd yn mysg y chwech, chwaith, meddir, yr un gŵr i gymeryd y blaen yn eu mysg, ond fe wneid hyny, dros ryw dym- hor, gan hen wraig ag oedd y pryd hwnw yn byw yn Penlan-las ;* eto nid hir a faont heb chwanegu atynt rai dynion a fu o ddefnydd gyda'r achos.

Yn y modd yma yr aeth blynyddoedd lawer heibio, a'r rhai hynyyn cynwys blynyddoedd y diflaniad, yr hwn a ddisgynodd ar Fethodistiaeth y gwledydd trwy yr ymraniad galarus ; ond am y 25 o flynyddoedd hyn, nid oes genym unhanes; ond yn y fl. 1774, symudodd Dafydd Moms, o Ledrod, i'r ardal hon i aneddu, a hyny ar gais y gynulleidfa fechan yn Twrgwyn. Galwyd ef i roddi heibio ei alwedigaeth, ac ymroddi yn llwyr i bregethu, ac i gynal cyfar- fodydd eglwysig ar hyd yr wythnos, a chynabyddent ef yn flynyddol am ei lafur. Nid mor ddyeithr i Fethodistiaeth y blynyddoedd hyny oedd galw dynion a ystyrid yn meddu cymhwysderau i ymroddi yn llwyr i waith y weinidogaeth, gan gyfranu yr hyn oedd angenrheidiol at eu cynaliaeth. Y mae y darllenydd, ond odid, yn cofio mai fel hyn y gwneid â'r arolygwyr cyntaf, a drefnwyd yn amser Howel Harris, i gymeryd dosbarth o wlad dan eu gofal. Gwnaed yr un modd â David Williams a John Belcher, pan an- fonodd y gymdeithasfa hwy a dau eraill, pob un ei dymhor, i lafurio yn Ngwynedd, ac yn neillduol yn y Bala. Y mae cynaliad y weinidogaeth, jrnte, yn bwnc a gydnabyddid gan yr hen Pethodistiaid, yn llawn mwy na chan rai o'u holynwyr yn awr. Fe ddadleua ambell hen ŵr yn erbyn cyualiad dynion i Iwyr ymroddi i'r gwaith, am ei fod yn beth newydd yn y cyfundeb, pryd, mewn gwirionedd, mai nid felly yr oedd, ond ei fod yn hytrach yn cael ei addef fel pwnc, ac yn cael gweithredu amo mor aml ag y goddefai amgylchiadau.

* Y wraig hon oedd yn blaenori yr achos yn y lle. Ami hi y disgynai cyhoeddi yr oedfaon dyfodol ; ac yr oedd ganddi ddull priodol iddi ei hunan, meddir, i wneyd hyny. Cyn ì'r pregethwr gymeryd ei destyn i bregethu, arferai y wraig hon godi i fyny a gofyn, " A oes neb o honoch yn dywedyd fod hwn a hwn yma yr amser a'r amser ? A bod y gŵr arall i fod yma y pryd a'r pryd."

PEN. III.] SIR ABERTEIFI. 85

Yn fuan ar ol dyfodiad Dafydd Morris i aneddu i'r fro, dylynwyd y wein- idogaetli ag effeithiau grymus, nes chwanegu lluaws maAvr at yr egl^'j's ; rhoddwyd gwedd siriol ar yr achos ; ac er i rai droi yn ol, eto parhaodd llawer o'r dysgyblion yn ffyddlawn hyd y diwedd. Y pryd hwn, sef tua'r fl. 1776, fe godwyd Methodistiaeth i olwg y fro, darostyngwyd gradd helaeth ar ragfarn y trigolion, a chymaint oedd chwanegiad rbif y gwrandawyr, fel y bu raid, yn y fl. 1778, helaethu y capel, am fod yr un o'r blaen yn rhy gyfjTig. Gan mai y flwyddyn hon ydyw amseriad yr hen weithred am y capel, gellir barnu na fu dim gweithred gyfreithiol am y cwrdd cyntaf, yr hwn o bosibl oedd adeilad gwael a diwerth, ond pan yr adeiladwyd tỳ mwy ei faint, a mwy ei werth, yn y fl. 1778, gwelwyd yn oreu ei sicrhau û gweithred gyíreithiol.

Yn y fl. 1784, fe fu adfywiad grymus iaM'n yn y Ue. Torodd allan dan weinidogaeth Dafydd Morris, ar foreu Sabboth, a chyrhaeddodd y gwran- dawyr yn gyffredinol, a lluaws mawr o honynt a argyhoeddwyd, ac a ddy- chwelwyd at Dduw. Parhaodd yr adfywiad hwn am hir amser.

Yn y fl. 178'J, daeth y Parch. Ebenezer Morris adref at ei dad. Yr oedd wedi bod oddi cartref dros dymhor yn cadw ysgol yn Mrycheiniog, lle y dygwyd ef i wybodaeth y gwirionedd, a'r lle hefyd y dechreuodd bregethu. Nid oedd ond ugain oed pan ddychwelodd at ei dad i Twrgwyn, ónd yr oedd wedi bod flwyddyn yn pregethu eisoes. Bu farw ei dad üafydd Morris, vn mhen dwy flynedd ar ol ei ddychweliad adref o Dref-castell, yn 47 ml. oed ; a mawr iawn oedd y galar ar ei ol gan yr eglwys a chan y wlad yn gyftred- inol, oblegid yr oedd ei weinidogaeth wedi tynu sylw yr holl wlad oddiam- gylch, a'r preswylwyr a ddeuent yn Lluoedd i wi-ando arno.*

O'r fl. 1792 hyd y fl. 1832, fe gafodd y lle hwn, fel yr ymddengys, amryw- iol ymweliadau adfywiol, nid Ilai na saith o weithiau. Sonir am un oedfa neiUduol gan y Parch. W. Davies, Cynwil, ar y geiriau, " Ynot ti y caiff vr ymddifaid drugaredd," fel un dra effeithiol, ac un a fu yn foddion i chwanetm llawer at y gynulleidfa, y rhai, gan mwyaf, a fu yn ffyddlawn hyd y diwedd. Cafwyd amryw adfywiadau ar ol dechreuad y ganrif hon. Sonir yn neillduol am bregeth o eiddo y Parch. John Elias yn nghymdeithasfa Aberteifi, yu y fl. 1819, fel un a fendithiwyd i lawer o bobl yr ardalhon; a phrofwyd dra- chefn gyffelyb ymweliad yn Twrgwyn, pan ydoedd y Parch. D. Jones, Llan- Uechid, yn pregethu. Yr olaf hon a gafwyd oedd yn y fl. 1832.

Yn y fl. 1800 y dechreuwyd yr ysgol Sabbotliol yn y Ile hwn. Yn y fl. 1816, adeüadAYj^d y capel o newydd ; a gwnaed hyny drachefn yn y fl. 1846.

CAPEL "WAUNIFOE.

Mae cyfodiad y capel hwn, a Chapel y Drindod, am yr hwn y sonir eto, yn wahanol i'r cyffredin o gapelau y Methodistiaid, yn gymaint ddarfod eu had- eiladu gan deuluoedd boneddig ar eu traul eu hunain, á'u cyflwyno wedi hyny i'r cyfundeb. Nid Ilawer o gapelau o'r fath a geir yn y dywysogaeth, o leiaf gan y Methodistiaid. Codwyd y rhau fwyaf o lawer gan y lluaîos

* Gweler mwy o hanes y gwỳr hyn yn mlaen.

36 HANESIAETJI Y SIUOEDD. [üOSB. IV.

tlodion, oud y rliai hyn gan yr rjchjduj cyfoetlwg. Codwyd capel Waunifor gan y diweddar Thomas Bowen, Ysw., o Waunifor, yn y fl. 1760, o fewn ychydig i'w balas. Yr oedd Mr. a Mrs. Bowen yn hofiì yr efengyl yn fawr, ac, yn ddiamheuol, yn wrthddrychau ei hymgeledd. Heblaw codi y capel ar eu traul cu hunain, Uetyent hefyd yr holl bregethwyr a weinyddent ynddo, a chyfranent yn haelionus tuag at draul yr achos yn ei holl ranau.

Ar ol eu marwoLieth hwy, fe fu eu merch, Miss Bowen, yn swcr da i'r achos am flynyddoedd Lnwer. Yr oedd brawd iddi yn oflreiriad yn eglwys Loegr, eto ar ol marwolaeth ei chwaer, dangosai yntau garedigrwydd i bregethwyr y Methodistiaid a ddeuent i wasanaethu i Waunifor bob Sabboíh, er na fyddai ef ei hun yn ymgymysgu dim â'r cyfundeb.

Gadawyd yr hawl i'r capel hwn i'r Methodistiaid Calfinaidd dros byth, yn ewyllys Mr. Bowen, yn yr hon ewyllys y gosodwyd fod Mrs. Bowen i gadw y capel mewn cywair da, tra byddai hi byw. Profwyd yr ewyllys hon yn y llys priodol yn Nghaerfyrddin yu y fl. 1806, gan y weddw, yi* hon a adawyd yn'unig Execîitrix i'r Uythyr cymun. Drwg gan yr ysgrifenydd nad yw ei ddefnyddiau yn caniatâu iddo roddi helaethach hanes am y teulu gwir grefyddol bwn.

SWYDD-FFYNNON.

Yr oedd cymdeithas fechan yn y fro hon, sef Pen4an, fel y gwelsom yn adroddiad Mr. W. Williams, er dyddiau Howel Harris ; ond y mae hanes Methodistiaeth yn y gjonydogaeth lion, fel llawer o fanau eraill, yn gorwedd mewn Uawer o dywyllwcli ac ansicrwydd dros lawer blwyddyn oddeutu yr ymraniad. Mae yn hysbys, pa fodd bynag, fod pregethu achlysurol yn y fro yn fuan ar ol i'r adfywiad gychwyn yn Llangeitho ; oblegid yr oedd yma bregethwr yn byw gerllaw, o'r enw Dafydd WilHam, Ystradmeurig. Yr oedd y pregethu, yn yr amser bore hwnw, mewn lle a elwid y Capel-croes ; adeilad ydoedd wedi ei godi ar dir Tŷ-mawr, yn ymyl y groes-ffordd. Yn y fl. 1781 y derbyniwyd y Parch. John WiUiams, Lledrod, fel yr adwaenid ef oreu, i gymdeithas y Metliodistiaid yn y Ue bwn, yr hwn a lafuriodd yn ffyddlawn dros lawer o flynyddoedd yn y cyfundeb, ac am yr hwn y bydd yn dda genym eto aUu rhoddi mwy o hanes gerbron y darUenydd, yn enwedig gan ei fod yn un o'r offeiriaid hyny a ddangosodd leiaf o ymlyniad sectaidd wrth yr eglwys wladol yn adeg yr ordeiniad, a cliwedi hyuy, fel y soniasom eisoes.

PENNANT.

Cychwynodd Methodistiaeth yn fore yn yr ardal hon. Sicrbeir gan jt hen bobl ei fod wedi dechreu yn y fl. 1738. Pe fu Mri. Eowlands a Harris yn arfer dyfod yma yn gynar ar jx adfywiad. Dechreuwyd pregethu mewn ardrethol agos i'r Ue y mae y capel presenol arno. Pregethid yn y hwnw gan un Mr. Pugh, Blaen-penal, ac hefyd gan gynghorw ag ydoedd yn byw yn y Ue, o'r enw Morgan Evan Hugh. Ni fu yma ddim aragylchiadau bHn- ion 0 erlidigaeth o'r dechreuad; ond yn y gwrthwyneb, fe brofwyd yma

?EN. III.J SIR ABEHTElfl. 37

llawer adtywiad grymus, a chaed profion lluosog a nertliol o allu gras Duw yu bendithio y weinidogaeth, a moddion eraill o ras, er dychwelyd Uawer o bechaduriaid o gyfeiliorni eu ffordd ato ef ei huu.

ABERTEIFI.

Fe fu gweinidogaeth Whitfield a Howel llarris yn foddion i ddeflroi meddyliau rhai dynion yn y dref a'r gymydogaeth hon mewn amser lled foreu ar Fethodistiaeth ; oblegid yr ydym yn cael fod rhan o anedd yn pentre Aberteifi wedi cael ei neillduo i bregethu yuddo, mor foreu a'r fl. 1740. Yr oedd y hwn yn sefyll yn y fan y mae y capel arno yn awi", a'r wraig oedd yn byw ynddo oedd un Eachel Evan. Nid oedd un capel ar y piyd gan un enwad ymneillduol. Y anedd hwn oedd yr unig le y byddai pregethu heblaw yn llan y plwyf ; ac nid y Methodistiaid yn unig a bregethai ynddo, ond euwadau eraiU hefyd, yn enwedig y Bedyddwyr. I'r dyben i ddiogelu y Ue a llonyddwch i'r cyfarfodydd crefyddol a gynelid ynddo, cofrestrwyd ef yn ol y gyfraith, fel lle ymneilhluol 1 addoli. Yr oedd yn häws cael hyn o amgylch, tybygid, oddiar fod enwadau eraill yn cyd-gynal moddion ynddo. Heb hyny, nid hawdd a fuasai gan y Methodistiaid, yn y tymhor hwnw, ymofyn am nodded y gyfraith drostynt ar dir ymneillduaeth, gan nad oedd- ynt yn ystyried eu bod eto yn sefyll ar y tir hwnw ; ac nid oedd y gyfraith yn canfod angenrheidrwydd am roi amddiffyn i neb arall. Cofrestrwyd y hwn, pa fodd bynag, yn ol cyfraith y Goddefiad. Y rhai a lafurient yn fwyaf cyson yma oeddynt John HaiTÌs, Benjamiu Thomas, a Dafydd George, o sir Benfro. Y gwŷr hyn a ddeuent atynt yn fisol, i bregethu ac i gynal moddion eglwysig, a hyfryd fyddai gan yr hen bobl son am yi- oedfaon llewyrchus a fwynhasent yn y cyntaf hwn. Yr oedd g\vr hefyd yn byw o fewu pum' milldir i'r dref, o'r enw ]VIr. Williams, yr hwn oedd weinidog ar egiwys i'r Bedyddwyr ; dywedir i'r gŵr da hwn fod yn swcr da i'r ychydig ddysgybl- ion tlodion a ymgynuUent yn nghyd y pryd hwnw, trwy ddyfod atyut yu fynych i'w cyfarfodydd eglwysig. Mynych gwna yr hen bobl grybwylliad parchus am enw y gŵr hwn, fel un y cawsent hyfforddiant ac ymgeledd trwy ei addysgiant yn eu plith.

Yn y fl. 1700 yr adeiladwyd y capel cyntaf yn y dref, dan yr enw Tabernacl, enw a roddid ar gapelau Whitfield ymrou yn mhob man. Nid oedd achos y Methodistiaid y pryd hyn ond gwan ac isel. Ychydig o rif, a thlodion o sefyllfa, oedd yr aelodau. Ond hwy gawsant gj'fnerthiad cyn hir trwy ddy- fodiaid a ddaethant yma i fyw o ardaloedd cymydogaethol. Daeth uu Cadben Eogers a'i wraig yma o Aberdyfi, y rhai a fuont o fawr wasanaeth i'r achos yn ei wendid. Yr oedd Mrs. Eogers yn rhagori mewn duwioldeb, a bu ffyddlawn dros ben yn gwasanaethu ei chenedlaeth yn ei thymhor, a pharhaodd felly hyd ddiwedd ei hoes. Y pryd hyn yr oedd y cynghorwyr yn amlhau, a'r moddion crefyddol yn chwanegu, Ymddangosai sirioldcb cynyddol ar y gynulleidfa fcchan. Ymunodd amryw o wragedd parchus craiilà'r gymdcithas,

38 HANESIAETH Y SIROEDD, [60SB. IV.

y rliai y coffeir eu lienwau hyd heddyw gyda Uawer o barch, a'r rhai a lyw- odraethid gan raddau helaeth o gariad at deymas y Cyfryngwr,

Yn y tymhor hwn hefyd, fe ddaeth offeiriad efengylaidd o Porganwg, o'r enw Mr, Joues, i fyw i Landudoch, pentref o fewn milldir i dref Aberteifi. Priododd y gŵr yma ferch grefyddol yn y gymydogaeth, a bu y ddau yn garedig a gwasanaethgar i'r achos Metliodistaidd am dymhor hir ar y cyutaf. Fe ddeuai y gŵr parchedig yn fynych i'r cyfarfodydd eglwysig, a pharod ydoedd ef a'i briod i ddaugos pob lletygarwch i'r dyeithriaid a ddeuent i bregethu o bryd i bryd i'r dref. Cynelid y moddion y pryd hwnw yn A.ber- teifi yn y dydd, a'r gynuUeidfa a âi yn yr hwyr i Landudoch i wrando Mr, Jones. I Landudoch yr âi llawer o'r aelodau i gymuno, ond rhai o honynt a aent mor bell a Llangeitho, i'r dyben hwnw, ar Sul y cymundeb. Cychwyn- ent boreu ddydd Sadwrn, a dychwelent yn llawen eu gwala nos Sabboth i'w cartrefi, o leiaf ddeng miUdir ar hugain o ffordd.

Rhyw dymhor ar ol hyn, byddid yn arfer myued i'r Capel Newydd yn nghẁr sir Benfro, i'r un dyben, ar Sul y cymundeb, gan yr arferid gwein- yddu swper yr Arglwydd yn y capel hwn er dyddiau y Parch. Howel Davies, yn nyddiau a thau olygiad yr hwn yr adeiladasid ef.

Gwedi hir ddysgwyl, cafwyd gweinyddiad yr ordinhadau arwyddol yn Aberteifi ei hun, ond fe fu hyn yn ddechreuad oerfelgarwch, ac yn y diwedd yn Uwyr ymadawiad, rhwug y cyfeiliion crefyddol â Llandudoch. Yn y fl. 1811, pan y bu urddo ar weinidogion gan y Methodistiaid eu hunain, fe ymadawodd yn y lle hwn rai oddiwrthynt, tua 22 o rifedi, ac a aethant, rai at eglwys y plwyf yn y dref, ac eraill i Landudoch. Amser blinder a fu hwn dros ryw dymhor, ond fe chwythodd y dymhestl heibio, a bu tawelwch mawr yn ol llaw.

Ni phrofwyd yma nemawr o erlidigaeth, heblaw mesur helaeth o wawd a dirmyg, fel yn mhob man arall ar y dechreuad, Yr oeddid yn ofni y buasai y dref a'r gymydogaeth yn sefyll yn erbyn cynaliad y gymdeithasfa gyntaf yn y Ue, Ar ddiwrnod y cyfarfod, yr oedd y gwrthwynebwyr wedi ymgasglu, ac yu penderfynu attal y pregethu, a gwasgaru y bobl, ond arosent i Farchog y dref, Syr Herbert Lloyd, Ffynnon-bedr, ddyfod i'r dref yn gyntaf. Y gŵr boneddig a ddaeth yn ol y dysgwyliad am dano, ond er mawr syndod a chywilydd i'r gwrthwynebwyr, fe roes ei wyneb i'r cyfarfod, ac nid ei ŵg ; parodd i'r gwrthwynebwyr ymwasgaru, ac nid y gynulleidfa ; ac efe ei hun a ddaeth i'r cyfarfod, a chyfarfod ardderchog ydoedd. Ni fu dim gwrthwyneb- iad 0 bwys byth wedi hyny.

Mae son mawr am y gymdeithasfa a gynaliwyd yma yn y fl. 1796, pryd y pregethodd Robert Roberts, Clynog, Ismael Jones, Mr. Lloyd, Henllan, ac eraill. Y cyfryw oedd yr ardderchogrwydd y gwisgwyd y pregethwyr ag ef, a'r cyfryw ydoedd yr arddeliad ar y gwirionedd, ag a gododd grefydd yn gyffrediuol, a Methodistiaeth yu neiUduoI, yn uwch yn syniadau y bobl, heblaw y Uesâd tragwyddol a brofodd eneidiau lawer. Caed aml gymdeith- asfa lewyrchus ar ol hon, a thrwyddynt oU, mewn undeb â moddion eraiU, y

PEN. III.] SIU ABERTEIFI. 39

mae teyrnas y Cyfryngwr, yr hon nid yw o'r byd hwn, wedi cyrhaedd graddau helaeth o uchafiaeth a bri yn y dref hon.

CAPEL BHIWBWYS, LLANRHYSTYD.

Mae y lle hwn yn un o'r llefydd hynaf yn perthyn i'r Methodistiaid yn y wlad hon. Nid oes sicrwydd manwl am yr amser y dechreuwyd pregethu yma, ond fod hyny wedi cymeryd lle yn fuan ar ol toriad y w^awr adfy wiol yu Llan- geitho. Nid oedd y pellder oddiyma i Langeitho ond bychan, tuag wytb milldir 0 íFordd, a liawdd y gallwn ddirnad fod gweinidogaetli Rowlands wedi eífeithio i ryw raddau, mwy neu lai, yn lled gynar ar y lle hwn ; naill ai trwy i Eowlands ddyfod at y trigolion, neu trwy iddynt hwy fyned ato ef, neu yn wir, pob un o'r ddau. Cadarnheir y dyb hon gan draddodiad yr henafiaid, y rhai a ddywedent y byddai yr hen bobl yn arfer myned i Langeitho bob Sabboth erbyn yr oedfa 10 o'r gloch y boreu. Yr un modd hefyd y gwneid mewn lluwer ardal o amgylch Dangeitho. Ni chedwid dira moddion cy- hoeddus ar foreu Sabboth o fewn rhyw gylch, er mwyn rhoddi mantais i bob ardal a fyddai o fewn pellder cyfleus, i fyned i Avrando Eowlands. Ond ar ol oedfa y boreu yno, chwalai y pregethwyr, a Iluaws o'r gwrandawyr, bawb i'w Ue, yn llawn o wres a grym i wneyd a allent dros Dduw.

Y lle yr ymgynullai yr ychydig gyfeillion crefyddol * a breswylient y fro hon, ar y cyntaf, oedd amacthdy bychan, o'r enw Trcfeglawdd, oddeutu tair neu bedair miUdir o Lanrhystyd. Yr oedd yn eu plith rai a fyddai yn arfer cynghori ychydig, sef Dafydd William, Pen-y-graig, Dafydd Eichard, Wern- fach, ac un Siôn Jereraiah. Yr oedd Dafydd Eichard yn cael y gair o fodyn bregethwr cymeradwy. Yr oedd hefyd yn eu plith un hen ŵr arall a deimlai gynhyrfiadau i gynghori yn achlysurol, o'r enw Eobert Siôn. Perchid y gŵr hwn fel Cristion gloyw a phrofiadol, yn fwy nag fel pregethwr. Ac un rhes- wm dros hyuy oedd, y byddai ei bregeth yn para yn bur hir, nes y byddai amynedd ei wrandawyr wedi Ued ddiffygio, LIoâ"a y byddai lawer iawn yn amgylchiadau ei destyn ; ac er y cymerai efe destyn fel rhyw bregethwr arall, yr oedd yn dygwydd yn wastad y byddai yn hir iawn cyn dyfod ato, ac wedi treulio dwy awr yn fynych yn ymlwybro tuag ato, cfe a roddai ben ar ei gynghorion, mewn cyfarchiad tebyg i hyn, " Wel, gyfeiUion bach, rhaid i mi, mae'n debyg geni', roi i fyny ; y mae geni' ragor i'w ddywedyd, oni bai fy mod yn eich gwel'd clnvi yn peudrymu." Un o Tour Crosses, sir Gaer- narfon, y dywedir ei fod o euedigaeth a dygiad i fyny ; dyfod a wnaeth i'r ardal hon er mwyn manteision crefyddol. Byddai yn arfer dyfod o'i wlad i Langeitho yn awr ac eilwaith erbyn y " Sabboth mawr ; " ac wrth weled lle i gael ei damaid yn y fro hon, a manteision crefyddol hefyd, efe a ymsefydlodd yn y gymydogaeth, gan ennill parch diffuant i'w gymeriad fel dyn cywir a duwiol.

Mae enwau vhai o lionynt ar gael eto, sef Williani Sión, Tỳ-hen, taid i'r blaenor- iaid presenol, Mri. David ac Evan Evans ; Dafydd Williani, Simon Dafydd, Tỳ'n-y- beili ; Thomas Morgan, Penfor; DanielLewis, Mabiisen, a William Evans, Rhydla,s.

40 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB, IV

Yn wyneb prinder moddiou gras, a'r gwrthwynebiad a brofai Uawer un oddiwrth berthynasau, neu uwcliafiaid dyeithr i grefydd, i fwynhau y moddion a fyddai ar gael, fe geir llawer o enghreift'tiau tra hynod, yn mysg yr hen bobl, o'u hawyddfryd a'u hymroddiad i ddefnyddio pob cyfle o fewn eu cyrhaedd i ymofyn llesâd ac ymborth ysbrydol i'w heneidiau. Sonir am hen wraig o'r fath hyn yn yr ardal hon. Yr oedd yr hen vvr yn gwbl ddyeithr i grefydd, ac yn Ued wrthwj^nebol iddi, o leiaf yr oedd yn ffyrnig yn erbyn fod dim a wnelai yr hen wraig â hi. Yr oedd hithau, o'r ochr arall, gýmaint ei syched am y moddion, ag oedd yr hen ŵr o wrthwynebol iddynt. Y ddyfais a ddefnyddiai yr hen wraig i ochel aughysur yn y teuhi, fyddai perswadio yr hen ŵr i fyned i'w wely ; cymerai hithau arni fyned i fwrw golwg ar y " ;" ac yu y beudy yr ymdrwsiai ronyn cyn cychwyn i'r cyfarfod eglwysig, ac yno eilwaith, ar ei dychweliad, yr ymwisgai yn yr hen ddiwyg drachefn.

Nid oes gwybodaeth pa faiut o amser y bu yr achos yn Trefeghnwdd ; ond fe'i symudwyd, wedi rhyw dymhor, i Peu-y-graig, i Dafydd WiUiam. Fe fyddai pregeth a chyfarfod eglwysig yno bob dydd Mawrth am 12 o'r gloch. Byddai pregeth yn achlysurol yn Ehydlas, yn nhŷ WiUiam Evan, ac yn fuan dechreuwyd prsgethu yn mhentref Llaurhystyd, am dri o'r gloch y Sabbothau, ar ol dychwelyd o Langeitho o'r oedfa y boreu.

Pan beidia erlidigaeth yn ei ymgyrchion gormesol, dyna yr amser peryglaf i lygredigaeth ddyfod i mewn. Ymddangosodd hyn i raddau yn cyfodi ei wyneb hagr yn yr ardal hon, yn enwedig yn mysg ieuenctyd, y rhai a gymer- ent achles oddiwrth gyfarfodydd crefyddol, bellach, wedi colli yr hen gyfar- fodydd gwarthus, i gwrdd a'u gilydd, ac i ymlygru y naiU yn ughwmni y UaU. Eithr yn drugarog, yr Arglwydd a wrandawodd gri ei bobl, ac a ddygodd ad- fywiad siriol ar yr achos, yr hwn a dorodd rym yr aunuwioldeb a flagurai yn yr ardal. Parodd osod yn y weinidogaeth rym anorchfygol, a chipiodd rai o flaeuoriaid y Uygredigaeth fel peutewyuion o'r tCiu, ac a'u gwnaeth yn glod- fawr ac yn enwog yn hoU dir eu gwarth. Aeth y cwi'dd yn Mhen-y-graig yn rhy gyfyng i'r gynuUeidía, a rhaid oedd meddwl am le helaethach ; ac wedi peth dadl am y Ue, cytunwyd am ei gael rhwng y pentref a'r bryniau, tua hanner miUdir o'r pentref ar y ffordd i Laubedr, a galwyd ef yn Gapel Ehiwbwys, yn ol y rhiw y mae yn sefyU arno. Yr oedd Methodistiaeth, beUach, yn ymwreiddio yn y fro, a daugoswyd Uawer o barodrwydd i gyfranu a gwasanaethu yn mhob duU tuag at adeiladu y cwrdd. Ymddaugosodd gradd o anfoddlonrwydd ar y dechreu oddiwrth berson y plwyf, ond diflanodd y gwrthwyuebiad hwn yn fuan, trwy i foneddwr a heddyuad yn yr ardal gynghori yr ofl'eiriad er dim, i adael y Methodistiaid yn Uonydd ; " Dynion rhyfedd ydynt," ebe fe, "hwy a'ch gweddiant chwi o'r byd." Ymddengys yn y caulyniad ddarfod i'w ymadi'oddion effeithio ar y gŵr urddasol, gan iddo fod yn bleidiol iawn o hyuy aUan i'r bobl a wrthwynebid ganddo gynt.

Gorpheuwyd yr adeilad yn y fl. 1781, a daeth yr " hen apostol " o Lan- geitho i bregethu ar ei agoriad. Yn mhen pump neu chwe' blynedd ar ol hyu, ymwelodd cyffroad crefyddol â'r ardal drachefn, a cheid aml un y pryd

PEN. III.] SIR ABBRTEin. 41

hwnw yn moliannu ar liyd y nos. Drachefn, fe adfeiliodd yr achos, a syrth- iodd i isehler mawr ; ond yn nyfnder yr isehler hwn, torodd diwygiad grymus drachefn, ac ennillwyd amrywiol o wŷr da, cadaru, a nerthol, at y gwaith, ac yn eu plith yr oedd y Parch. Evan Eees, yr hwn a fu am flynyddau yn bregethwr cymeradwy a defnyddiol iawn, ac a barhaodd felly hyd ei farwol- aeth yn y fl. 1834.

CAPEL SOAR, PLWYF LLANDDEWI-BREFI.

Nid yn aml y ceir addoliad mewn sefyllfa o'r fath ag y mae y capel uchod ynddo. Prin y gallwn dybied fod cymaint ag un cyfí'elyb iddo mewn bodohieth. Cydgyferfydd siroedd Ceredigion, Caerfja-ddin, a Brycheiniog, mewn mynyddoedd hirfaith ac oerion, y rhai a gyfansoddant un o'r rhanau mwyaf mynyddig, os nad y mwyaf oU, yn Nghymru. Yu y man culaf arno, y mae y mynydd hwn, pa un a elwir Mynydd Dewi, yn 13 o filkliroedd ar ei draws, ond yn llawer iawn mwy na hyny ar ei hyd. At y Ue yma y cyfeiria bardd Pant-y-celyn yn ei farwnad i'r Parch. D. Eowlands, pan ddywed,

Daeth y swn dros fryniau Dewi, Megys fflam yn llosgi llîn, Nes dadseinio creigydd Tywi, A hen gapel Ystradffin.

Yn ngheseiliau ac ar lechweddau y mynydd hirfaith hwn, gwelir ambell amaethdy. Ni chenfydd y llygad ond y naill fryn y tuhwnt ac uwchben y Ilall ymron yn ddiderfyn. Braidd y cyfarfyddir â'r ddraenen gwta yn yr holl eang randir. Ni ddarnodir y tir gan gloddiau na gwrychoedd, ac ni lonir y Ilygad gan goedwigoedd cysgodol. Nid oes gymaint a phentref bychan i'w gael, heb gymeryd taith bell i'w chwilio. Twrf y rhaiadrau gorwyllt, a brefiadau y defaid, ydynt ymron yr unig seiniau sydd yn achlysurol dori pruddaidd ddystawrwydd yr awel. Eto, ar ochrau y bryniau tawel a digy- nhwrf hyn, canfyddir ambell aneddle lonydd, ac fe'ch cyferchir gan ambell breswylydd gwledig ; ond y mae y tai yn anaml iawn, ac yn mhell oddiwrth eu gilydd. Mae oddeutu miUdir rhwng y rhai agosaf â'u gilyddj felly, y mae y gymdeithas yn brin rhwng y preswylwyr â'u gilydd. Anhawdd dychymygu am le mwy annhebygol i gasglu cynulleidfa o ddynion at eu gilydd, a mwy diobaith i sefydlu achos crefyddol ynddo; ac eto, yn yr hen anialdir mynyddig hwn y ceir capel Soar. Mae naw neu ddeg miUdir, meddir, rhyngddo â Thregaron, a'r un faint rhyngddo a Llanddewi ar y naill law, ac â Llanwrtyd ar y Ilaw arall, y pentrefi a gyfrifir agosaf ato. 0 fewn chwe miUdir i'r deau o Soar, saif hen gapel Ystradâin, al yr hwn y cyfeiria y pennill uchod. Arferai Piowlands fyned yn fynych i'r hen gapel hwn, a thros fryniau Dewi y byddai yn niyned. Yn nghymydogaeth y capel hwn y mae creigiau Towy. Mae syndod yn dal y meddwl fod achos yn y fath le a Soar, ac yn enwedig gan y Methodistiaid, gan fod newid y pregethwr moi' arferol yn eu mysg hwy, a'i newid ar yr un pryd mor anhawdd. Er hyn oU, y mae yn y lle hwn gynulleidfa, a hyny yn perthyn i'r Methodistiaid. Pe'i gwneir i fyny o breswylwyr conglau y mynyddau. Mae gan rai o honynt o

42 HANESIAETH Y SIROEDD, [DOSB. IV.

dair i wytli milldir o ffordd i ddyfod i addoli, ac i ymofyn am ymgeledd ysbrydol, ac nid oes ond ryw ddau deulu mor agos a miUdir i'r lle.

Y mae gan bob gwlad ry w ddull o bechu arbenig iddi ei hun. Nid llawer o ymarfer a r bêl droed a fu un amser ar y mynyddoedd hyn, oddigerth y dangosid rhyw duedd i ddynwared hyny ar ddydd Nadolig. Ymgadwai y trigolion yn lled glir oddiwrth feddwdod hefyd, hyd nes y dygwyddai angen- rheidrwydd i hebrwng y marw i Landdewi-brefi i'w gladdu. Hwy a fyddent yn Ued sicr o dalu yn ddau-ddyblyg y pryd hyny am yr hir ddirwest blaen- orol; ac nidoeJd ystyriaeth o'rffordd faith rhyngddynt a chartref yn ddigon i attal eu blys ar yr achlysuron hyn. Ond y pechod a osodid yn benaf yn eu herbyn cyn i'r efengyl osod ei gwersyllfa yn eu plith, oedd halogiad y Sab- both. Nid oedd yma y cyfleusderau i bechu, na'r hudoliaethau i ddrygioni, ag a geir mewn gwlad boblogaidd, neu drefydd mawrion; eto, yn y peth yr oedd ymosod arnynt, nid oedd diffyg prawf i'w gael o Iygredigaeth y natur ddynol yn y Ile hwn hefyd. Prif orchwyl y broydd hyn, fel y gellid dyfalu, ydyw bugeilio defaid. Mae crwydriadau y rhai hyn yu peri cryn lawer o fliuder. relly, yn ddiau, yr oedd gan mlynedd yn ol ; a phan âi rhai o honynt ar ddisberod, boed hyny y dydd a ddygwyddai o'r wythnos, nid oedd neb yn meddwl ymsymud cam ar ol y grwydredig hyd y Sabboth. Y diwrnod hwnw, codent yn blygeiniol at y gorchwyl hwn. Ymwasgarent, un y ffordd hyn, ac arall y ffordd draw, a dygeut adref yn yr hwjT, os llwyddent yn eu cais, gynifer ag a allent ar gefn yr anifeiliaid.

Ond y mae gwedd pethau yn y mynyddau hyn wedi newid er ys maith amser. Pan ddaeth goleuni dadguddiad i dywynu ar y gydwybod, nid oedd nerth ynddynt mwyach i ddal yr arferiad didduw yma i fyny yn hwy. Y cyntaf a bregethodd yma, fel mewn Iluaws o fanau eraiU yn y De a'r Gogledd, ydoedd Howel Harris, a hyny mor foreu a'r fl. 1740. Y' Ile yn mha un y pregethodd ydoedd dyddyn o'r enw Ehiwhalog, o fewn miUdir i'r Soar sydd yn awr. Y'r oedd rhai o'r preswylwyr eisoes wedi clywed ]\Ir. Eowlands yn pregethu yn Ystradffin. Yr oedd y son ag oedd am dano, a'r clod a roddid iddo, wedi sugno rhai o drigolion y bryuiau anhygyrch hyn i wrando arno. Eto Howel Harris a ddaethai yma gyntaf o neb. Galwyd gwraig Ehiwhalog trwy ei weinidogaeth, a gwnaed cryn ai'graff ar feddwl y gŴT ; cyraaint felly ag a barodd iddo brynu Beibl, yr hyn oedd yn gryn beth, gan ddruted ydoedd y Beiblau y pryd hyny.

Fe fu Mr. Harris yma rai gweithiau ar ei ffordd i sir Aberteifi, a bu ei ymweliadau yn foddion i ddeffro amryw o'u diofalwch, ond ni ddechreuwyd cadw cymdeithas eglwysig hyd 1747; feUy fe fu yma bregethu achlysurol, o leiaf tua saith mlynedd cynbod jTna un gymdeithas eglwysig wedi ei tlu-efnu; a phau ddaeth yr amser i hyny, daeth Mr. WiUiams, bardd Pant-y-celyn, yma yn unswydd i'r dyben hyny. Cafodd ei chynal flynyddoedd yn y y cadwyd y cyfarfod cyntaf ynddo, sef yn y Cwmdu, ynghyd â thyddyn arali o'r enw Bron-yr-helem. Arferid pregethu mewn amryw leoedd eraiU ai' y mynydd, hyd oni chodwyd y capel yn y fl. 1822. Nid yn fynych y raae

PEN. III.] SIR ABERTBIFI. 43

amgylchiad o'r fath yma chwaith, sef fod pregethu mewn. ardal, o i dŷ, am fwy na 80 o flynyddoedd, heb fod j'r ymgais wedi ei roddi i fyny, neu wedi esgor ar gael i addoli ynddo. Ac y mae hyn yn fwy syn, gan y cawn fod yr Arglwydd wedi gweled yn dda roddi arwyddion amlwg, yn enwedig ar rai tymhorau, o'i foddlonrwydd i'r ymgais, ac wedi coroni y llafur â llawer o fendith.

Yr ymweliad cyntaf a fu yma, mewn fí"ordd o adfywiad grymus, oedd yn y fl. 1779. Yr oedd eglwys wedi ei fifurfio bellach er ys 32 o flynyddau, ond nid oedd yr eglwys ar y pryd ond bechan ei nifer, er fod cryn lawer yn arfer gwrando. Dechreuodd y diwygiad yn mis Ebrill, 1779. Yr oedd gŵr a elwid y pryd hyny, Jack Edward Watkin, o Landdewi, yn pregethu yma ar brydnawn Sabboth. Beruid y pregethwr yn hen ŵr da o ran ei grefydd, eto cynghorwr lled ganolig o ran ei ddawn ydoedd. Yr oedd yr eglwys fel pe buasai wedi dechreu ymysgwyd ychydig o'i chwsg eisoes; ond ar y prydnawn Sabboth crybwylledig, torodd y gynulleidfa allan i lefain ac i waeddi mewn modd anarferol, y rhai crefyddol a digrefydd ynghyd, ac yn eu mysg dau o feibion y tŷ, a pharhausant i waeddi a moliannu hyd doriad y wawr ddj'dd Llun. Clybu Mr. Eowlands am y cyffro, ac o wir lawenydd am dano, anfonodd ei gyhoeddiad yn ebrwydd i fyned yno, a bu yn rhyfeddach yno y Sabboth hwn na'r un o'r blaen. "Tân grug yw hwn," ebe Mr. Eowlands, oblegid iddo ddechreu ar y mynydd, "a pheth i fyned yn ei flaen ydyw hefyd," ebe fe ; ac yn ei flaen yr aeth. Cyrhaeddodd yr adfywiad a dde- chreuasid fel hyn yn y mynyddoedd hyn, i lawer o barthau De a Gogledd cyn pen tair blynedd, a pharhaodd yn y Ue y dechreuodd, heb Iwyr ddifí"odd, am bedair blynedd. Daeth llawer i'r eglwys yn yr adfywiad hwn, y rhai a fuont yn ddynion tra defnyddiol dros eu holl oes.

Ni fu un adfywiad neillduol yn yr ardal hon ar ol hyn am 33 o flynydd- oedd, sef hyd y fl. 1813. Torodd y gynulleidfa allan fel o'r blaen, ond nid mewn fl"ordd o ddynwared yr un o'rblaen, gan fod yradfywiad cyntaf ymron wedi ei anghofio mewn ysbaid mor faith o ddystawrwydd. Yn yr adfywiad hwn hefyd, fe ehwanegwyd llawer at aelodau yr egiwys, rhai o ba rai a aros- ant hyd heddyw. Nid oedd y cyfí"ro hwn agos mor rymus a'r un o'i flaen, ac nid oedd megys ond rhag-redegydd i'r un a'i dylynodd yn 1819. Ystyrid hwn y grymusaf o'r cwbl, a pharodd chwanegiad mawr at yr eglwys. De- chreuodd mewn amaethdy o'r enw NantUwyd, gerllaw y lle y mae y capel yn awr, ar gyfarfod gweddio, a'r un modd y bu mewn lle arall y prydnawn. Parhaodd hwn yn lled nerthol am ysbaid dwy flynedd.

Ond er i chwanegiadau lawer gael eu gwneyd, o bryd i bryd, yn y modd a enwyd, eto nid oes yn y mynyddoedd hyn achles i niferi mawr artrefu ; ond y mae y preswylwyr, yr un modd a'r defaid a'r dyniewaid, yn cael eu magu i barthau eraill o'r byd. Felly y mae symudiadau, rhai i'r bedd, a rhai i froydd eraill mwy neu lai pellenig, yn cadw preswylwyr y mynyddoedd hyn yn ychydig o rif, o genedlaeth i genedlaeth. Gan hyny, nid yw yr eglwys yma eto nemawr fwy na 40 o aelodau; yr ysgol Sabbothol yn 70 ; a nifer y

44 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

gwrandawyr oddeutu 100. Mae llawer o lafura ffyddlondeb wedi ei ddangos gan rai gwŷr yn neiUduol, a'u teuluoedd; ac yn eu plitli y mae enw ]VIr, William Davies yn deilwng o'i goffâu, oblegid mai yn ei dỳ ef y cynaliwyd y gymdeithas eglwys'g gyntaf, ac am iddo barhau yn hir i olygu yr achos cref- yddol yn y lle, nid Uai na 55 o flynyddoedd, ac yr oedd ef a'i wraig yn mysg y rhai cjoitaf yn y lle a alwyd trwy yr efengyl, Fe fydd llawtr mwy p sylw yn y farn ar yr hyn a wnaeth Cristiouogion o'r fath yma, nag a fydd ar hoU ymgyrchion gorchestol Alexander Fawr,

PENNOD IV. PARHAD 0 HANES EGLWYSI BOREAF Y SIE.

CTNWTSIAD :

TREGAEON— ABERFFRWD— CWMYSTWYTH— CYNON— PONTEEWYD— LLWYNEHYS A LLWYNPIOD— FFOSFFIN AC ABERMEIRIG— Y PAECH. THOMAS GRAY— BLAEN- PENAL— TALIESIN, THEE'R-DDOL, A LLANILAR.

TREGARON.

Decheeuwyd pregethu yn yr ardal hon yn fore ar y diwygiad. Y lle y dywedir i bregethu ddechi-eu gan y Methodistiaid yma oedd, mewn Ue a elwir Nant-y-lles, ond nid hir y mae yn ymddangos yr arosodd yma cyn ei symud i Dan-yr-allt. Yr ydym eisoes wedi gweled yn adi'oddiad y Parch. William WiUiams, Paut-y-celjoi, i'r gymdeithasfa, fod cymdeithas eglwysig wedi ei ffurfio yn Tan-yr-allt, yn y fl. 17i4,* a bod y gŵr parchedig yn arfer ymweled â'r gymdeithas hon, dros iyw dymhor, bob chwech wythnos. Y'r oedd pregethu Ued gyson yn Nhregaron cyn y fl. 1750. Sonir fod yma ddau gyughorwr, o'r enw Dafydd William a Ehys Thomas, yn aneddu yn y gymyd- ogaeth, ac yn cynghori eu cydwladwyr y pryd hyn. Y'^r oedd hyn tua 30 ml. cyn bod un capel yn yr ardal. Eyw bryd yn y tymhor rhwng ] 744 a 1750, y daeth un John Dafydd Daniel i'r ardal hon i wasanaethu. Yr oedd y gŵr hwn eisoes yn arfer cynghori, ac yr oedd gair da iddo gan bawb a'i hadwaen- ai, Ganwyd y gwr hwn yn y fl, 1720. Y'mwelwyd ag ef yn fuan iawn ar ol cychwyniad yr adfywiad yn Llangeitho, tua'r fl. 1738, pan nad oedd ond deuuaw oed. Declu-euodd bregethu pan yn ugain oed, a pharhaodd yn ddiwyd a flyddlawn am ysbaid 54 o flynyddoedd, a bu farw yn hen ac an- rhydeddus ei gymeriad yn y fl, 1794, Ei ddywediad ar ei wely angau wrth y Parch, Evan Eichardson, Caernarfon, oedd, " Ni chelais ddim a ddaeth ar fy meddwl, heb ei fynegu wrth bob un, pwy bynag ; ac nid wyf yn teinilo anghysur cydwybod o herwydd dywedyd gormod wrth neb, di'os ystod fy ngweinidogaeth," Ehaid fod hwn yn -was ff//ddlaìcit a doetli ; jr hwn a os- ododd ei Argiwydd ar ei deulu, Ni chuddiai eiriau Duw oddiwrth neb, ac ni phrysurai i ddadgan yr eiddo ei hun. Yr oedd •^■wffyddlmcn am na attabai ddim o'r pethau buddiol, ac yn ddoeth, am y deallai pa bethau oedd fuddiol.

* Gwel tudal. 27.

PEN. IV.] SIR ABEllTEirr. 45

Souir fud cj'farfod misolwedi cael ei gynal yu y Ue hwu, o dan ryw dderw- eu sydd gerllaw Tan-yr-allt, yn yr hwn yr oedd Mr. Eowlands yn pregethu ; ac yu fuau wedi hyuy, fod yr oedfaon a'r cyíarfodydd egiwysig wedi cael eu symud i Peulau, wrth ymyl y dref. Adeiladwyd y capel cyntaf yma tua'r fl. 1775, ar y tir y mae y capel presenol arno, a galwyd ef yn ol euw y lle, Bwlch-gwyut. Nid oes lle geuym i feddwl fod yr achos yn flodeuog iawn yu Nhregarou y pryd hwn, oblegid ni a gawu yn mhen ugain mlynedd ar ol adeiladu yr addoldy, nad oedd yu perthyn iddo oud 40 o aelodau. Mae hyn yn ymddangos yu fwy rhyfedd fyth, wrth ystyried fod 48 o aelodau yn perthyn i Tan-yr-allt a Phen-Iau, hanner can' mlyuedd o'r blaen, sef yn y fl. 1744, ac yn y fl. 1794 nid oedd ond 40, a'r rhai hyuy yn hen bobl. Diau fod Ilawer tymhestl wedi chwythu ar yr achos yn ystod y blyuyddoedd hyny, nad oes un crybwylliad am dauynt. Yn y tymhor hwu y bu yr yraraniad rhwng Harris a Eowlands, ac er na ddywedir dim yn ueillduol pa efi'aith a gafodd ar Dregaron, y mae yn hawdd i ni feddwl nad aeth y rhuthr hwuw ddim heibio heb ryw gymaiut o anghysur ac aflwydd.

Yu y flwyddyu 1794 y bu farw John Dafydd Dauiel, ond ni adawodd efe mo'r maes heb adael un cynghorwr ar ei ol ; gŵr o'r enw Johu Edwards. Yn y flwyddyn 1806, daeth Theophüus Jones i fyw i Dregaron, vr hwn a fu farw yu yr uu flwyddyn a John Edwards, sef 1829. Yu mhen tair blynedd ar ol Theophilus Jones y daeth y Parch, Ebenezer Eichards i fyw yma mewn canlyniad iddo briodi, a bu ei sefydliad yma yn feudith fawr dros ben, nid yn unig i'r lle hwn, oud i'r sir oll, ac yu wir i holl Gymru. Ond nid ydym yn awr yn gwueuthur namyn crybwylliad am dauo ; cawu alw sylw y darllenydd eto at ei hanes ef ac eraill, gyda mwy o fauylrwydd.

ABERFPRWD.

ímddengys i Fethodistiaeth ddechreu yu y Ue hwn trwy ddyeithr-ddyu a ddaethai yuo i weithio. Mwuwr ydoedd o sir Ffliut, ag addaethai yma, ond odid, yn uuig er mwyu tamaid o fara ; ond Duw a fwriadodd hyny er daioni iddo ef ei hun, ac i eraiU. Bendithiwyd ef, a gwnaed ef yn fendith. Ei enw ydoedd WiUiam Jones. Cafodd oedfaon i'w dŷ, ac yu mheu ychydig amser ar ol hyny, dechreuwyd cadw cyfarfodydd egiwysig yn ei dŷ. Yr oedd hyn tua'r fl. 1756. Y pryd hwnw, yr oedd uifer y crefyddwyr yn bur ychydig, ac yn dyoddef Ilawer gan wawd a gwaradwydd. Arferent dros rai blynyddau gadw y cyfarfodydd eglwysig yu Aberfí'rwd a Llwyn-iorwerth bob yn ail wythnos. Oud tua'r fl. 1770, sefydlwyd yr achos yn y Ue hwn trwy adeiladu ysgoldy bychan. Nid oedd ei faint ond é^ Uath wrth 4 : pridd oedd ei bar- wydydd, a gwellt oedd ei dô. Nid oedd nifer y dysgyblion y pryd hwnw ond 12 neu 15.

Fe fu yma anal adfywiad er y pryd hwnw hyd yn awr ; adeiladwyd yma addoldy fwy nag unwaith neu ddwy, mewn canlyniad i'r chwanegiadau a wneid o bryd i bryd at y gwrandawyr, ac at yr aelodau.

46 HANESIAETH Y SIEOEDD. [dOSB. IV.

Mab i'r Williain Jones uchod oedd Dafydd Jones, pregethwr a fu byw y rhan ddiweddaf o'i oes yn Llanilar.

CWMYSTWYTH.

Dechreuwyd pregethu yn y lle hwn hefyd tua'r un amser ag y dechreuwyd yn Aberffrwd, sef tua'r fl, 1756. Tr oedd yma ŵr o'r enw Edward Jones, yr hwn oedd yn byw yn Mheugwerni, ac yn aelod, tybygid, yn Llangeitho. Dygodd hwn bregethu i'w dŷ, ac âi rhai o'r gymydogaeth hon i Pengwerni i wrando, ac wedi cael blas ar yr efengyl, mynasant gael pregethu yn Cefn- yr-esger. Yr oedd lle pregethu yn symudol o bryd i bryd, hyd y fl. 1783. Yn y flwyddyn hon, cymerwyd hen adeüad a fuasai unwaith yn efail gôf, a threfnwyd hon yn lle cymhwys i bregethu jnddi. Y pryd hwn, cadwent gyfarfod eglwysig jti Tŷ'n-ddol ar nos Sadwrn, a phregethid yn yr hen efail foreu Sabboth. Wedi lianner cant o flynyddau o bregethu, mwy neu lai cyson, uid oedd jma ond 16 o aelodau, a dyma'r pryd hefyd, sef tua'r fl. 1805, yr adeiladwyd yma y capel cyntaf, a hyny yn mhen tua thair blynedd ar ol sefydlu yr ysgol Sabbothol. Cafwyd yma adfywiadau myuych, pryd y chwanegwyd Uuaws, o bryd i bryd, at nifer yr aelodau proffesedig.

CYNON.

Ymddengys fod pregethu wedi dechreu gan y Methodistiaid yn yr ardal hon er yn gynar. Yr oedd gŵr o'r enw William Davies yn byw yn y Pyllau- isaf ; anfonodd y Parch. D. Eowlands at y gŵr hwn i ofyn ei ganiatâd i bregethu yn ei dŷ. Cafodd ganiatâd, ac mewn canlyniad bu Ilawer o bregethu yn y Pyllau-isaf, ac yn achlysurol yn Brena-bach hefyd. Byddai Eowlands yn arfer dyfod i fyny i'r ardal, ar nos Sabbothau, erbyn chwech o'r gloch yn yr hwyr. Symudwyd y pregethu drachefn mewu blynyddau dylynol, jti gynt- af i Dol-pandy, ac wedi hyny i Tŷ'n-Ion. Yr oedd hyn tua'r fl. 1772, pryd yr oedd rhifedi yr aelodau yn 30. Yr oedd crefyddwyr boreuaf yr ardal hon yn cyfarfod â Ilawer o warth a gwawd, ac weithiau ag aflon- yddwch. Byddent ar amserau, ar y dechreu, yn cilio tua glàn yr afon Eheidiol, i bychan, yn ddirgel, i gadw eu cyfarfodydd eglwysig, a chyfarfodydd gweddio, oblegid yr erlid oedd arnynt. Symudodd yr achos yn ddiweddaf oll i Cynon, Ue yr ymsefydlodd, a Ue y mae yn aros hyd heddyw. Yr oedd hyn tua'r fl. 1773. Pe fu yma lawer o bregethu ac o foliannu, er nad oedd y wedd allanol ond gwael a d\'stadl. Tua'r fl. 1791, adeiladwyd capel ar dir Glanystwyth, Ued cae islaw y capel presenol, Yr oedd y cwrdd hwn, fel eraiU a grybwyllwyd eisoes, yn fychan ei faint, a gwael yr olwg, Parwydydd pridd oedd iddo, a thô gweUt, Gwiail wedi eu plethu am bolion coed wedi eu gyru i'r llawr, ac asteU ar eu penau, a wasanaethai yn bulpud, Yr oedd y gwiaü plethedig hyn wedi eu dwbio â chymysgedd o glai a thaü, a'rllawr y safai y pregethwr arno, a wnaed o bridd a cherig. Profodd y Ue hwn hefyd aml aduewyddiad ar wahanol dymhorau, pryd y rhoddid gwedd mwy siriol ar y gwaith, a chwanegiad mawr at nifer y dysgyblion. Yn y Ue

PEN. IV.] SIR ABEETEIFI. 41

hwn y bu gŵr o'r enw Dafydd Rowland yn pregethu am lawer o flynyddoedd, nid Uai na 41. Yr oedd y gŵr hwn yn meddu doniau helaeth, ac ennülai, trwy ddichlynrwydd ei rodiad, a'i ddefnyddioldcb fel meddyg, raddau hel- aeth 0 barch ei gydwladwyr. Bu fai-w yn y fl. 1843 yn 74 ml. oed.

PONT-ERWyD.

Tua'r fl. 1765 y dywedir i un o'r Methodistiaid bregethu yn yr ardal hon gyntaf. Nid oedd ynddi ddim moddion gras cyn hyny, ond a oedd yn y Uan. Traddodwyd y bregeth gyntaf hon yn ymyl clawdd mynwent Yspytty Cynfin. Nid yw enw y pregethwr yn adnabyddus. Ar ol hyn, fe geid ambell bregeth yn achìysurol, am ysbaid deg neu ddeuddeng mlynedd, weithiau allan ar y maes, neu fin y fí"ordd, ac weithiau mewn tai anedd ar hyd y gymydogaeth. Ond tua diwedd y tymhor hwn, gwelodd yr Arglwydd yn dda beri i'r weinidogaeth efí"eithio yn fwy grymus ar feddyliau amryw o'r rhai a'i gwran- dawent. Daeth y rliai hyn i drallod am eu hachos ysbrydol, ac i sychedu am foddion gras yn fwy helaeth a chyson. O dan y teimladau deffrous hyn, aent weithiau i Langeitho, ac weithiau i fanau eraiU, yn ol y cyfíe a roddid i wrando gair y bywyd. Ond nid oedd ond prinder moddion yn y fro hon, nid oedd eto un gymdeithas eglwysig, na golwg ar neb i'w chadw, er fod yma " ychydig enwau" yn dyheu am gyfarwyddyd ac addysg mewn pethau ysbrydol.

Tua'r fl. 1777, fe gydymgynghorodd rhyAv nifer o'r dynion a chwennychent wybod ffordd Duw yn fanylach, pa fodd y gallent gydymgyfarfod i ymddy- ddan am bethau pwysig y "byd a ddaw." Ond nid oedd yr un o honynt yn gwybod dim am y fath gyfarfod, mwy na chlywed fod y fath \m yn cael ei gynal mewn manau eraill. Teimlent hwythau anghen am y fath gyfarfod, a pharod oeddjTit i wneuthur cais at gyflenwi y diffyg. Mewn canlyniad, cyf- arfuant â'u gilydd mewn amaethwr, o'r enw Bryn-chwith. Nid oedd yr aelodau ar y pryd ond pump neu chwech. Cynaliwyd y cyfarfodydd hyn, yn nghyda phob moddion crefyddol eraill, yn Bryn-chwith, Nant-cae'r-hedyn, ac un Ue araU, am ysbaid 20 mlynedd neu ragor. Yn y tymhor hwn, chwaneg- wyd Uawer at yr eglwysi o bryd i bryd, nes oedd y tai anedd yn rhy gyfyng ac anghyfleus i gynal moddion ynddynt gyda chysur a buddioldeb. Pender- fynwyd, gan hyny, ymofyn am le i adeüadu capel. Yn y fl. 1797, prynodd gŵr o'r enw WiUiam Morgans, Cwmesgyr, dyddyn, a elwid Pont-erwyd, yn benaf er mwyn cael Ue i adeUadu capel amo. Y flwyddyn ganlynol, dygodd hyny i ben ; a chan mwyaf ar ei di-aul ei hun. Gwir ydy w nad oedd y hwn ond bychan ei faintioU, tua phump Uath neu chwech o hyd y tu fewn i'r muriau, eto yr oedd ar wedd gryfach a gwychach na rhai o'r capelau bychain y soniwyd o'r blaen am danynt. Yr oedd muriau hwn o gerig ac nid o glai, a'i 0 lechau ac nid o weUt, yr oedd ei bulpud hefyd o wneuthuriad y saer, ac nid o wiaü a chlai.

Gwenodd yr Arglwydd ar ei bobl yn y Ue hwu, gan roddi Uwyddiant mwy neu lai ar eu hymdrechiadau ; ac yn neiUduol tua'r fl. 1805, sef yr amser y sefydlwyd yr ysgol Sabbothol. Y pryd hwn y bu ymweUad nerthol o eiddo

48 HANESIAETH Y SIROEUD. [dOSB. IV.

Ysbryd Duw â'r fro, a dychwelwyd llawer at yr Arglwydd. Aeth y capel yii raddòl yn llawer rhy fychau i'r ysgol ac i'r oedfaon, ac yn y fl. 1821, adeil- adwyd y capel presenol, yr hwn sydd yn llawer hehiethach na'r hen, a thal- wyd am dano trwy ymdrechiadau haelfrydig ac ewyllysgar yr ardal ei hunau, heb gymorth o \va man arall.

LLWYN-RHYS A LLWYN-PIOD, FFOSrriN AC ABERMEIRIG.

Mae y cynuUeidfaoedd uchod yn cael eu cysylltu yma gyda'u gilydd, am fod yn nghlyn â hwy amgylchiadau a hauesiaeth wahanol i gapelau eraill y Methodistiaid, yn neillduol am eu Ijod yn eu cychwyniad, a thros gryn dym- hor, yn perthyn i enwad arall, o dan olygiad yr hybarch Mr. Gray, ond sydd yn awr yn gwbl mewn undeb â'r Methodistiaid. Ymddengys fod hanes Llwyn-piod yn cyrhaedd yn mhell iawn yn ol, tua dau can' mlwydd, hyd at ddyddiau y Puritaniaid a'r AnghydÖ'urwyr. Pan basiwyd deddf yr uuft'urfiad, ac i ddwy fil o'r dynion gorau a feddai eglwys Loegr droi aUan am na allent yn gydwybodol gydsynio â gosodiadau caethion y Uywodraethwyr gwlad- ol ac eglwysig, caed yn eu mysg dri o'r sir hon, sef Ehys Powel, Llanbedr ; John Harris, Tregaron; a Thomas Evans, Ystrad, Y'r oedd hwn yn amser blin iawn i ddynion cydwybodol ; amser yr oedd rhyddid cydwybod heb ei ddeall, nac y caniateid mwynhad o hono, gan faint oedd traha a gormes llywodraethwyr gwlad ac eglwys.

Yn yr amser borau a blin hwn, ymddengys fod rhyw nifer o ymneillduwyr presbyteraidd yu arfer ymgynuU i weddio ac i bregethu yu Llwyn-rhys (tyddyn o'r enw heb fod yn mhcll o Lwyn-piod, ac yn mro Llangeitho) ; a hyuy ar hyd y nos, rhag cael eu carcharu a'u hysbeilio o'u meddiannau. Yr oedd yn byw yn Llwyn-rhys, ar y pryd, ẃr o'r euw Dafydd Jones, yr hwn oedd yn bregethwr, ac yn dad i'r Parch. Dafydd Jones, Llanbadarn-fawr. I hwn yr oedd mab yn filwr, ac am yr hwn ni dderbyuiasai ei rieni un math o hysbysiad dros rai blynyddau. Ehyw ddiwrnod, fe ganfu Dafydd Jones ŵr 0 wedd foneddig, ac yn marchogaeth ar farch giâs, yn dynesu at y tŷ. Yn yr adeg erlidigaethus hòno, nid oedd dyfodiad boneddwyr dyeithrol o'r fath i'r wlad, yn gyftredinol, yn argoeli dim ond y drwg a'r blinder ; a'r cyfryw ydoedd darogauiad Dafydd Jones ar waith y boneddwr yn nesâu at Llwyn-rhys ; tybiodd ef a'i wraig mai swyddog gwladol ydoedd yn ddiau, wedi ei anfon i'w dwyn i afaelion y gyfraith am ryfygu addoli Duw yn aaigen nag a orchymynasid. Penderfynodd y ddau, pa fodd bynag, i gyfaddef y cwbl, heb gelu dim o'r gwir, a deued arnynt y canlyniad a ddeuai, Daeth y marchog at y tŷ, a gofynodd,

" Ai hwn yw Llwyn-rhys ? " Daeth yr hen wraig i'r drws ac atebodd,

" lë."

" Ai dyma lle y mae Dafydd Jones yn byw?" gofynai y gŵr. Ar'hyn syrthiodd yr hen wraig mewn Uewyg ar y üawr, wedi ei Uwyr orchfygu gaii ofn. Pan ddeallodd yr hen ŵr hyn, daeth yntau yn araf at y drws, a dy wed- odd wrth y gẂT,

PEN. IV.] SIR ABERTEIFÍ, 49

" Peidiwcli a gwiieyd dim i'r hen wi-aig ; canys y mae bi yn eithaf di- niwed."

Ar hyn ni allai y gŵr ymattal yn hwy, gan fod ei ymysgaroedd wedi cyífroi, a gwaeddodd allau,

" O fy nhad ! ni wnaf íì un niwed iddi, fy mam yw hi ! " Ac ar hyn rhuthrodd atynt i'w cofleidio, gan hòni mai ei mab hwy oedd ! Codasid ef yn swyddog yn y fyddin o wŷr raeirch, ac o barch iddo, dywedir i'w dad a'i deuhi gael eu cadw rhag llymder yr erlidigaeth ar y pryd.

Yr oedd ystafell eang fel adeilad groes wedi ei chodi o'r tu cefn i anedd Llwyn-rhys, lle y byddid yn ddirgelaidd yn ymgyfarfod i addoli, tra y parhaodd y tymhor bhn hwnw. Ond yn y fl. 1689, daeth deddf y goddefiad i fod, a gosodwyd Llwyn-rhys dan nawdd y gyfraith, a pharhaodd i fod yn lle o addoliad ar ol y cofrestriad am ysbaid mwy na 60 mlynedd. Yn y fl. 1753, adeiladwyd addoliad tua milldir i'r gogledd oddiwrth Llwyn-rhys, a galwyd ef yn ol enw y tyddyn yr oedd yn sefyll arno, yn Llwyn-piod. Y Parch. Philip Pugh oedd y gweinidog a ofalai yn benaf am yr eglwys hon, yr hwn hefyd a arolygai y cynuUeidfaoedd yn y Cilgwyn, Abermeurig, a Chiliau-aeron. Yr oedd y gŵr hwn yn ŵr duwiol a llafurus iawu, yu fedd- iannol ar gryn gyfoeth, ac wedi cyrhaedd graddau helaeth o ddysgeidiaeth, Fe fu byw i oedran teg, ac a fu farw yn 81 mlwydd oed, yn y fl. 1761, wedi bod yn llafurio yn y weinidogaeth 52 mlynedd.

Fel yr oedd y gŴTr da hwn yn nesâu at derfyn ei oes, teimlai gryn bryder ar gael gŵr addas i arolygu yr eglwysi ar ol ei ymadawiad. Fe ddichon ei fod yn teimlo yn ddwysach yn yr achos, wrth ganfod fod gogwyddiad trwm yn amryw o eglwysi blaenaf y wlad hon at Ariaeth a Sosiniaeth.* Wedi marwolaeth Mr. Pugh, galwyd un Thomas Gray i fod yn olynwr iddo.

Gŵr ieuanc oedd hwn o gymydogaeth Abertawe, isel, tybygid, ei amgylch- iadau, ac isel hefyd o ran ei arferion yn nyddiau ei ieuenctyd. Gweithiai mewn gwaith gio, a chyffelyb ydoedd o ran ei gymeriad moesol i'r glowyr yn gyftredin, yn enwedig yn yr amseroedd hyny. Oud yr oedd gan'Dduw lygad ar Thomas Gray, " a meddyliau o hedd " am dano. Un diwrnod, an- fonwyd ef gan arolygwr y gwaith, ar neges drosto, i Gastell-nedd. Yn y cyfamser, aeth ei gydweithwyr at eu gwaith, ac wrth eu Uaesu i lawr i'r pwll, torodd y rhaff, a gollyngwyd hwy i lawr i'r dyfnder, a buont feirw oll yn y fan. Pan oedd Gray yn dychwelyd adref o'i neges, canfyddwyd ef gan un a'i hadwaenai, yn cysgu yn ei feddwdod ar ochr y ffordd. Aeth hwn at y meddw- yn, ac wedi ei ddeffroi, efe a ddywedai wrtho, " Pa beth, Twm Gray, ai ti sydd yma ? yr oedd.vn yn meddwl dy fod di yn uffern er ys wyth o'r gloch y boreu, gyda dy gyd-weithwyr." Yna hysbysodd ef o'r gyflafan a ddy- gwyddasai i'r dynion eraill. Efleithiodd hyn yn ddwys iawn ar ei feddwL

* D^'weilir fod chwech o'r eglwysi a elwid jn Henaduriaethol, wedi dirywio i'r cyfeiliornadau uchod, sef, Lhvyn-rhydowen, Pant-y-defaid, Capcl-y-fadfa, GaUt-y-placa, Capel-y groes, Cilgwyn, a Chiüau-aerou

E

50 HANESIAETII Y SIROEDD. [dOSB. IV.

CredofW mai yn uíFern y buasai mewn gwirioncdd, oni bai cyfryngiad rliag- luniaetli drosto. Daetli y gvvr ieuanc, bellaeh, i ddechreu ystyricd ci ffyrdd, i weled cu drwg, eu casâu, a'u gadael. Dan y tcimladau eyffrous liyn, ymofynai am ymgeledd ysbrydol, ac arweiniwyd cf i wrando y gair yn y Mynydd-bacli, ger Abcrtawc ; ymwasgodd â'r dysgyblion yno, a derbyniwyd ef yn aelod.

Fel y daeth riagddo yn ei yrfa grefyddol, canfyddwyd ynddo ryw ansodd- nu a argoelai gymhwysdcr i'r weinidogaeth, a thrwy annogaeth ei gyfeillion dechreuodd bregethu, acanfonwyd cf ynmhenrhyw dymhor i athrofa y Fcnni i ddysgn. Wedi bod yno yu yr ysgol dros ryw dymhor, dygwyddodd i Daniel Eowlands ddyfod i bregethu mewn llan yn y gymydogaeth ; a clian fahit y son am dano, teimlai efrydwyr yr athrofa awydd i gael ei glywed, er y gaUai fod cu rhagfarn yn erbyn eglwys^vr yn ddigon ymron i'w hattal. Cyrahellas- ant Gray hefyd i fyned gyda hwy, yr hwn, ar ol pcth petrusder, a gydsyniodd. Bendithiwyd y bregeth hon yn rhyfeddol i'r myfyriwr ie\ianc, a theimlodd argrafhadau dwysach na dim a deimlasai o'r blaen ; ìe, cymaint oedd y dy- lanwad ar ei feddwl, fel y bu am ddyddiau yn analluog i ddefnyddio dim ar ci lyfrau. Gwibiai ar hyd y meusydd fel hurtyn, gan wcddio weithiau, a syn-fyfyrio bryd arall; a chododd dymuniad yn ci galon, yr hwn hefyd a an- fonodd at orsedd Llywydd Mawr y bydoedd, mewn gweddi, ara iddo Avcled bod yn dda drefnu ci goelbren i ddisgyn mewn rhyw fan o'r byd lle y rhoddid cyflcusdra iddo i wrando yr offeiriad hwnw. Nid oedd ar y pryd yn gwybod pwy oedd y dyn hynod a glywsai, nac o ba le y daethai.

Pan oedd ei amser yn yr atlu'ofa ymron ar ben, dacth ymofyniad oddiwrth yr eglwys yn Llwyn-piod at yr athraw, ar iddo anfon atynt ŵr ieuanc a dyb- iai efe gymhwysaf, ar brawf, i fod yn wcinidog iddynt. Yntau a anfonodd Thomas Gray. Daeth yr ymgeisydd ieuanc i'r gymydogaeth ar uos Sadwrn, a lletyai y noson hono yn nhŷ im o'r diaconiaid, yr hwn a ddywedodd wrtho, y dysgwylíd iddo bregcthu am wyth o'r gloch y boreu Sabboth, gan chwancgu, mewn ffordd o eglurhad am forcuder yr awr, eu bod hwy, y pryd hwnw, yu arfer myned, ar Sabboth pcn mis, i Langeitho i wrando offeiriad o'r enw Daniel Howlands. Synai Mr. Gray at hyn, a phrin y gallai ymattal rliag teimlo yn anniddig, gan nad oedd yn mhlith yr ymnciUduwyr ddim arfer o'r fath. Pa fodd bynag, ni ynganodd ddim yn y gwrthwyneb, oud cydsyniodd â'u cais ; ac ar ol pregcthu, aeth gyda hwy i wrando yr offeiriad ; a mawr oedd ei syndod pan ganfii y pregethwr, a deall mai hwn ocdd yr un a glyw- sai efe gynt gerllaw y Fenni, gweinidogaeth yr hwn a fu mor cffeithiol iddo ; ciliodd yr anniddigrwydd bellach o'i feddwl, os oedd dim yn aros, a diolchai yn hytrach fod ei weddi wedi ei hateb yn y fath fodd.

Ehoes yr eglwys hòno alwad iddo, ac yntau a gydsyniodd â'u cais, ac a ymsefydlodd yn eu plith. Daetli i fod yn gyfaill mawr â Ptowlands, yr hwn a gafodd gauddo bregethu yn nghapel Gwyníil uuwaith yn y mis, sef pryd- nawn y Sabboth y byddai Eowlands wedi pregethu yno yu y boreu. Yr oedd llowlands, y pryd hwn, wedi ymadael ag eglwj^s Loegr, ac yn rhydd i ofyn iddo i bregethu yn ei gapel, ac feUy y parhaodd Mr. Gray i wneyd tra

PEN. IV.] SIU ABERTEIFT. 51

y Iju Mr. Rowlantìs fyw. Dygodd hyn Mr. Gray a'r Methodistiaid i ryw fath 0 undcb â'u gilydd ; yr hyn a barodd ar y pryd gryn anniddigrwydd yn meddyb'au llawcr o'r hcn aelodau, cymaint felly, fel y bygythiodd Mr. Gray ymadacl ar ryw dymhor ; ond trwy fod gradd o ysbryd y diwygiad wedi disgyn ar ei cglwysi, a cliryn chwanegiad atynt, darfu y gwrthwyncbiad. Yr oedd Mr. Gray yn soiyll ar dir cyli'elyb i ruchard Tibbot ; prcgethai y ddau yn nghapehiu y Methodistiaid, a chyraercnt i'an yn eu cyfarfodydd cyhocddus, fel y pregethwyr eraiU, pryd yr ocddynt yn gweinyddu i gyuull- eiilfaoedd annibynol fel gwciuidogion sefydlog. Trwyddynt hwy lcfeiniwyd eu hoglwysi â'r un ysbryd i fesur mawr, nes yr ymhoffent yn ngwcinidogaeth y Methodistiaid, ac y carent gymdeitliasu a chydweithredu yn fwy â hwynt nag y raac yn arferol rliwng eglwysi o walianol enwadau.

Llafuriodd Mr. Gray yn y modd yma dros amscr maith, neraawr lai na 50 ml. Yn yr ysbaid mailh hwn, bu fcirr/ y cyntaf o aelodau yr cglwysi dan ci ofal, y rhai y gellid mcddwl ocdd fwyaf gwrthwyncbol i Èetliodibtiacth, neu yn fwyaf tyn at egwyddorion cynullcidfaol yr ymneillduwyr, a chyfododtl cenedlaeth arall, oÛdieithr ychydig wcddillion, na welsent ond y cydweithred- iad a'r undeb rhyngddynt u'r Methodistiaid, fcl crbyn manvolaeth Jír. Grav, yn y íi. ISIO, nid oeddynt yn ystyried cu bod wcithian yn pcrthyn i neb arall. Yr oeddynt wcdi ymarfcr mwy û gwcinidogacth y Mctbodistiaid na'r eiddo neb arall, gan fod y pregethwyr mor fynych yn mhnlpudau Mr. Gray ag oedd ef yn eu pulpudau hwy. Yn unig hònent eu duU gwreiddiol o gymuno a dysgyblu. Wcdi marwolacth Mr. Gray, pa fodd bynag, cytunasant ymron yn un fryd, ncu gydag ychydig eithriaid, i ymuno yn Ilwyr â'r Mcth- odistiaid ; a chwanegwyd yr cglwysi Llwyn-piod, Abcrmeirig, a Ffosffin, at y cyfundcb, ac felly y p.arhant yn bcríFaith hcddychol hyd heddyw.

BLAENPENAL.

Dywedir fod crefydd wedi ymsefydlu yn y fro hon yn agos er deehrcuad ymneiUduaeth yn Nghymru, Tua'r íl. 1656, eafodd un Morgan Howel, gŵr o'r ardal hon, ci argyhocddi dan brcgeth Walter Cradoc, yn Nhrcgaron. Yn y canlyniad fc fu Morgan Howcl yn gweinidogaethu yn yr ardaloedil oddi- amgylch ara lawer o llynyddocdd. Yn yr ardal hon hefyd y preswyliai y Parch. Philip Pugh, enw yr hwn y cawsom achos ei grybwyll amrywiol wcithiau o'r blaen, mcwn anedd a elwir yr Ilendrc. Ganwyd y gŵr hwu tua'r íl. 1679, ac urddwyd cf i'r wcinidogacth yn y fl. 1709. Yr oedd yr Hendre wedi ei gofrestru fel Ue i addoli ynddo yn ol y gyfraith, a chasglwyd yma cglwys gynuUeidfaoI dan ofal Mr. Pugh. Ymddengys hefyd fod yma ddau o wŷr craiU yn pcrthyn i'r gynuUeidfa hon, scf Thomas Griflìths, Tan'r-allt, a Benjamin Rees y Pelin, yn cynorthwyo J\Ir. Pugh yn ei lafur gweinidogaethol.

Bu farw Mr. Pugli yn y 11. 1761, yn hen ac yn gyflawn o ddyddiau, a dy- wedir mai ei gynghor ef i'r gynuUeidfa hon wrth farw, gan yr ansicrwydil pwy fyddai yn weinidog iddyiit ar ei ol, ocdd, ar iddynt vviu;yd yn fawr o wciuidogaeth liowlands, Llangeitho. Yr ocdd doniau a Uwyddiaut Rowlauds

52 HANESIAETII Y SIROEDD. [DOSB. IV.

ar y pryJ wedi efleithiû yti rhyfeddol ar yr hoU froydd hya ; a chan pa ddaeth olynwr i Mr. Piigh o fysg yr Âniiibynwyr, i ynisefydlu yn yr ardal hon, ond i'r gynnlleidfa ymuuo â'r Methodistiaid yn Llangeitho, mae yr amgylchiadau yn argoeli gwirionedd y traddodiad uchod. Dywedir i HowerHarris ar ei hynt ymweled a r ardal hon, ac iddo bregethu ar y raaes ar gefn tir Esgersaeson ; ond wedi ymuno o'r gynuUeidfa â'r Methodistiaid, daeth yr oífeiriaid a'r cynghorwyr a berthynai i'r cyfundeb, i yraweled â Blaen-penal gyda mwy o gysondeb. Y Ueoedd y pregethid ynddynt cyn bod un capel wedi ei godi, oedd, Tan-'r-allt, Tŷ-new^dd, a'r Felin. Yn fuan ar ol dechreu pregethu yn y lleoedd hyn, sefydlwyd cyfarfod eglwysig yn }T ardal, ond nid adeiladwyd yma gapel hyd y li. 1783. Fel hyu, gwelwn fod yma bregethu gan yr ymneiUduwyr yn mhell dros gan' nüynedd cyn bod yma addoliad. Yr oedd yma tua 50 o aelodau eglwysig ar y piyd yr adeiladwyd y capel, y rhai a arferent fyned yn gyson i Langeitho i gymuno, ac felly y parhausant i wneuthur dros ílynyddoedd. Ymddangosodd yma rai yn lled wrthwynebol i neiUduad gweinidogion o fysg pregethwyr, eto ymostyngodd pawb i'r drefn newyild heb derfysg nac ymraniad.

Dechreuodd yr ysgol Sabbothol yma tua'r fl. 1800. Yr oedd dechreuad y sefydliad yma yn wanaidd iawn yn y Ue hwn. Nid oedd ynddi, yn fynych, ond un neu ddau o blant, a phryd arall chwyddent i 15 o rifedi ! Cedwid hi gan ddau athraw, pob un ei Sabboth, pryd yr âi y naill yn nifiỳ'^g y Uall i Langeitho i wrando. Ystyrid ei chadw, yn ddiamheuol, yn iau Ued anesmwyth. Yr oedd y gorcliwyl yn newydd, a'r athrawon lieb gynefino ag ef. Yr oedd sugn cryf yn ngweinidogaeth apostol Llangeitho, yn peri mwy 0 anniddigrwydd fyth yn neb i aros gartref, yn enwedig i gyflawni gwaith a brofid yn anhawdd gan faint oedd anwareidd-dra yr ysgolorion, ac anfedrus- rwydd yr athrawon. Ond yn mhen tua 10 mlynedd ar ol ei chychwyniad, ymddangosai sirioldeb ac adnewyddiad yn yr ysgol, a bywiogodd y gynulleidfa nes bu raid helaethu y capel yn y fl. 1813.

Er y fl. 1 790, íe fu yma bump neu chwech o ddiwygiadau neu adfywiadau crefyddol. Cafwyd y cyntaf yn y flwyddyn y bu Rowlands farw, a'r olaf yn y fl. 1834. Yn yr adfywiad a fu yn y fl, 1814, chwanegwyd at yr eglwys 66 o aelodau, ac yn yr un a gaed yn y fl, 1825, yr hwn a dybid oedd y grymus- af, chwanegwyd tua 110 at nifer yr aelodau,

TALIESIN A THRE'r-DDOL.

Yr oedd rhanau uchaf sir Aberteifi, fel y'u gelwir, yn gwbl amddifaid o bregethu yr efengyl gan un enwad o ymneillduwyr, hyd nes cododd y Meth- odistiaid. Yn hyn yr oedd peth gwahaniaeth rhwng y naill ran o'r sir a'r rhan arall. " Yr oedd parthau uchaf sir Aberteifi fel rhyw anialwch hollol w'yllt, heb eu gwrteithio erioed â moddion gwybodaeth, na'u hau â hadau efengyl ; ac felly yr oedd holl siroedd y Gogledd, oddieithr ychydig fanau. Cawsant hwy [y Methodistiaid] y lleoedd hyn fel maes agored iddynt eu hunain, oblegid nid oedd yno un enwad crefyddol arall wedi Uafurio neraawr.

í

PEN. IV.] SIR ABERTEIFI. 53

Yr oedd yr eglwys sefydledig yno yn gwbl ddiyindrech i wneuthur daioni ; ac felly aeth y Trefnyddion i'r maes megys gweithwyr yn Uawn liywyd, nerth, ac egai; a Uwyddasant i lenwi pob congl ag efengyl luewn ychydig amser."*

Cyffelyb i agwedd Gwynedd, a rhanau uchaf sir Aberteifi, oedd agwedd foesol Tre'r-ddol. Nid oedd aradr ymneiUduaeth wedi rhwygo dim ar y tir ditfaeth hwn. Gorweddai y preswylwyr yn ddiofal ddigou mewn anystyriaeth dybryd am bethau byd tragwyddol. Ac fel y gellid dysgwyl, yr oedd yr hen ofer-gampau yn y broydd hyn yn eu Uawn rwysg. Mewn ysgrif o fy mlaen darlunir ardal Tre'r-ddol yn debyg i hyn, " Prif arferion y canrif diweddaf oeddynt nosweithiau Uawen, y rhai a gyneUd ar gylch agos bob wythnos, a gwylmabsantau. I'r diweddaf ymgyniülai yr hoU blwyf ymron ; cyneHd yuddynt redegfeydd ceffylau ; ymrysonai gwŷr ieuainc, îe, a hen wragedd, redeg â'u gilydd ; a mawr yr hyfrydwch a fwynheid yn yr arferiad farbaraidd o ymladd ceiUogod. I'r un graddau ag y ffynai yr arferion isel hyn yn y fro, i'r un graddau y ccid gwrthwynebiad y trigoUon i bob ymosodiad o eiddo'r efengyl ar eu difyrwch. Gwnaeth Mr. Eowlands gais ar gael pregethu yn Tal-y-bont, pentref o fewn dwy fiUdir i Dre'r-ddol ; ond gan faint oedd ft'yrn- igrwydd y preswylwyr, bu raid iddo giUo ymaith, a da oedd cael dianc i ffbrdd heb ei anafu. YmUdiwyd ef o Dal-y-bont â cherig. Yr oedd wedi bwriadu pregethu yn Tre'r-ddol yr un Sabboth, a chlybu y bobl hyny ; a phenderfyn- asant ei iabyddio â cherig. Hysbyswyd eu bwriad gwaedlyd i Mr. Rowlands, a cheisiwyd ganddo yu daer i beidio myued trwy y pentref, ond dychwelyd ar hyd ryw ffordd araU. Ond â hyn ui chydsyniodd, gan fwriadu, ond odid, arfer cyfrwysder, a diauc o ddwylaw yr erlidwyr trwy ystryw ddiniwed. Aeth trwy y pentref ar garlam gwyUt, ac wrth fyned heibio i'r dorf a'i dys- gwyUai, efe a waeddai yn groch arnynt, ' Beth ydych chwi yn ei A\neyd yn y fan hyn, blant y diawl ? ' Dyrysodd hyn y cynllwynwyr ; tybiasant mai nid iaith pregethwr oedd hon. ' Nid hwn yw efe,' ebe un, ' Gvvt bon- eddig yw hwn,' ebe arall, a chafodd Rowlands trwy y ddichell hon fyned heibio yn iach a diogel." Darllenwu fod y cyffelyb ddichell wedi cael ei defnyddio ganddo ef ar achlysuron eraül, a chan bregethwyr eraiU, pan y bernid y gellid trwy hyny ochel ymosodiad yr erlidwyr.

Peter WiIIiams, meddir, oedd y cyntaf o'r Methodistiaid Calfinaidd a fu vn pregethu yn Tre'r-ddol, a hyny yn y fl. 1776. Safai y pregethwr ar y prvd wrth dalcen tafarn, wedi cael cauiatâd y tafarnwr i hyny. Dywedir fod effeithiau da wedi dylyn yr oedfa hon, ac i amryw gael eu dwysbigo yo eu calonau. Ond nid oedd yma un Ile wedi ei agor eto i dderbyn pregethu, ac nid oedd eto yr uu cynulliad eglwysig, nac yn wir, ddim moddion cyhoeddus mewn cysonedd. Tua'r fl. 1781, fe brofodd gŵr ieuanc o'r enw Thomas Edwards rym y gwirionedd ar ei galou a'i gydwybod, wrth wrando rhvw bregethwr a ddygwyddai ymweled yn awr ac eilwaith â'r ardal y dyddiau

* Paich, D. Murgan ar Ymnciildnacth,

54 HANESIAETU Y SIUOEDD. [üOSB. IV.

hyny ; a bwn oedd y cyntaf sydd a clirybwylliad pcnodol am ci enw a arferai weddio yn ei deulu. Yr oedd gwcddi deuluaidd, y pryd liwnw, yn bcth anarfcrol iawn, ac yn peri sylw neillduol a siarad lawer, ac yn peri gwarad- wydd mawr oddiwrtli lawcr. Pa fatlibynag a fyddai y canlyniad, penderfynodd y gŵr hwn na cliai ei ef ddim bod yn ddiwcddi. Actli son am dano yn fuan ír^w v gj'mydogaetli, fel im a arferai weddio bob dydd yn ei áỳ, ac ymgasglai uifer o vn-agedd ato ar adeg y weddi. Ymddeugys fod mwy na tfurf yn ugweddi Thomas Edward, oblegid disgyuai yu aml aruo ef ac ar y gwragedd a ddeueut yno, ryw deimladau auaríerol, ues tori allan i foliaunu a chanu mewn hwyl nefohìidd ; a pharhaent weithiau yu yr hwyl hou am rai oriau, pryd y l)yddai yr erUdwyr, hwythau, yu seíyll gerUaw i'w gwawdio a'u dirmygu.

Y'n uhŷ mam y gvvr ieuanc a enwyd y cafwj'd lloches i'r efeugyl ; yma y cynelid y moddion cyhoeddus a ueiUduol, hyd nes yr aeth yr ymgryuhoad yn fwv, ac y bu galw am le eangach. Yr oedd yma oddeutu 12 o aclodau Vv'edi ymuno mewn cymdeithas eglwysig, rhai o honynt yn pertliyn i'r Eglwys-fach, Ue y byddid yu arfer cynal y moddion ueiUduol ar gylch gyda Thre'r-ddol, hyd y gwelwyd augeu am hyny. Bob yu ychydig, cymerwyd anedd i'r'dyben o'i ueiUduo yu addoUad, ac yu y hwn y cyueUd y moddion, beUach, hyd nes adeihidwyd y capel. yr hyn a gymerodd le yn y fl. 17 92. Chwe' blynedd cyn hyn y ueiUduwyd Thomas Edwai-d yu flaenor, y blaenor cyutaf crioed yn y Uc, a chafodd ei gynysgaethu a bywyd, ac û gras i barhau gyda'i orchwyl hyd ci fanvolaeth, ysbaid 5 5 o flyuyddoedd.

Cafwyd tir y capel ar weithred (lease) o 60 mlynedd gan Charles Grifíiths, Ysw., Pen-y-bout-bren. Wedi bod 38 mlynedd yn y capol hwn, baruwyd ^Ti augeurheidiol ymofyn am estyuiad amser y lease (er mwyu helaethu yr addoldŷ, o bosibl) ond yr oedd y tir, erbyu hyu, wedi uewid ei bcrchenog, a chau wrthwynebrwj'dd y perchenog newydd i ymneiUduwyr, nid oedd obaith cael estyniad ar yr amser ; "Ewch i'r eglwys," meddai y boneddwr, " mae vuo ddigou 0 le i chwi, ac nid oes yma augeu am yr uu capel." 'Methwyd hefyd a chael tir ddim nes na pheutref TaUesiu. Yno cafwyd darn o dir gan Morris Uayies, Ysw., Aberystwyth, ac adeiladwyd capel araU, hehxethach na'r heu, Ue y gorphwys yr aehos hyd heddyw.

Ymwelodd yr Arglwydd â'r Ue hwn ag adfywiadau grymus amryw weithiau, pryd y chwanegwyd Uawer at yr eglwys. Sonir yn neiUduol am ddau o honynt, hynotach, tybygid, na'r Ueül, sef y cyutaf a'r diweddaf. Cafnyd y cviitaf yn mhen dwy flynedd ar ol codi y capel cyutaf. Yr oedd yr adfywiad hwu yn rymus iawn o ran ei eflcithiau ar deimladau y bobl, ac cfe a barhaodd hefyd dros hir amser. Ond yn yr olaf y chwanegwyd fwyaf at yr eglwys. Dywcdir fod y chwauegiad y tro hwn yu cynvrys 100 neu 120 o aelodau. Profwyd gradd o erUdigaeth hefyd yn y Ue hwn ar y dochreuad. Y rhai n gymercnt y blaen yn y gorchwyl peryglus hwn oeddynt yx oífeiriad a phrif oruchwyUwr Gogerddau. Trowyd gŵr o'r eaw Daíydd Evaus o'i am iddo ymuuo â'r Methodistiaid. Bygythiwyd un araU, yr hwn oedd ya

PEN, IV.] SIÎl ABEBTEIFI. 55

dal tyddyn bychan, ac yu cacl llawer o wailh gan y goruchwyliwr, y byddai raíd iddo naill ai gadael ei grcfydd, neu yntc y coUai ei dyddyn a'i waith hetyd. Te í"u y brofedigaeth hon yn rhy danllyd iddo aUu ei dal ar y pryd, ac wedi peth petrusder a chloffni, addawodd gilio oddiwrth y bobl grefyddol, er inwyu cael aros yn ei le. Ond nid lUiwer o fwyniant a gafodd, ond dechreu- odd ei feddwl drallodi; troes y temtiwr iddo yn gyhuddwr, a'r liwn a fynai o'r bhieu i(hto goelio nad oedd berygl, a fynai iddo goelio yn awr, nad oedd obaiîh. Mcddyliodd ei fod wedi pcchu yn erbyn yr Ysbryd Ghin, ac nad oedd obaith maddeuant iddo rnwy. CoUai y gŵr ei gwsg, a churiai ei gnawd gan ÌHg ei ysbryd. Ond wcdi bod yn y " chú tew a'r pridd tonilyd " am gryn dymhor, eymerodd ei daith i Langeitlio, i gael gair o ymddyddan û Mr. llowhinds. Wcdi gwrando ei gŵyn, gofynai Mr. Eowlands iddo, a ocdd arno ofn ei fod wedi pechu yn erl)yn yr Ysbryd Glan ? " Ocs," ebc y gŵr, " y mae arnaf ofn hyny yn fy nghalon." " Wel," ebc llowlands, " yr ydych heb wneyd hyny eto, ond cymerwch ofal na wnewch yr un pcth ag a wnaeth- och mwy." Bu yr ymddyddan hwn yn foddion gwaredigaeth i'r truan trallodus, a,dychwclodd adi'ef gan LT,wcnhau fod " dydd iechydwriath " heb derfynu.

Gostcgwyd gradd aryr erlidigaeth trwy ddylanwad un Mr. Williams, Castlc HiU, Aberystwyth, yr hwu wedi deall pa fodd yr ymddygai gwýr galhiog y fro at y crcfyddwyr tlodion, a cdliwiodd eu traha iddynt, gan rotldi amnaid iddynt mai gwcU oedd eu gadael yn llonydd, rhag y dygwyddai iddynt yr hyn na ddymunent. Cafodd hyn yr cffaith ddymunol, a Ihuiarodd yr crbd- igaeth.

Mae y duU y cychwynwyd yr ysgol Sabbothol yn y lle hwn yn galondid i bob <lyn wneyd a all ef tuag at hyrwyddo unrhyw achos da, heb ymollwng ar gyfrif nad oes ar ei law ef ddim awdurdod na gaUu i wneuthur dim, pryd, 0 bosibl, y gaìlai gair bychan o annogaeth i arall íbd yn foddion i roddi cychwyniad i beth mawr a phwysig. Y modd y cychwynwyd hi yn y lle hwn ocdd fcl hyn : Yr oedd gŵr o'r euw Rhys Owen yn byAv yn Tre'r-ddol, ac ar ryw foreu Saljboth, galwodd gŵr o'r euw Mr. Wüliams, Llanbedr, wrth ci dŷ, gan ofyn iddo, A. fcdrai efe ddarllen Cymraeg ? Yntau a ddywcdodd y medrai ychydig. Yna gofynodd iddo, a oedd yn ewyllysgar i gadw ysgol wythuosül i ddysgu plant y gymydogaeth i ddarllen gair yr Arglwydd? " Nid wyf íi," cbe Ehys, " wedi cael fy uwyn i fyny at y gorchwyl, ac y mac genyf alwedigacth arall mewn Uaw."

" Wel, ynte," ebe Wüliams, " gwnewch ymgais i gadw ysgol Sabbothol." Ac er mwyn ci gyinhell, dangosai y mawr angenrheidrwydd i ryw rai ymaf- Iyd yn y gorchwyl, a'r gresyni bhn oedd fod cynifer o eneidiau anfarwol yn colli o cisiau gwybodaeth, heb neb yu ymgais o ddifrif am eu dysgu. Dy- wcdodd heí'yd yr ymdrech a wneid gan Mr. Charìes i ddeífroi y wlad at y gorchwyl pwysig. Y boreu hwnw, gan hyny, yn ddiymaros, aetli Ehys o amgyleh y fro i grynhoi cynifcr ag a allai i ddod i'r capul i roddi cychwyniad i'r gwaith da. A hyu a fu ei dcchrcuad yn y llc ìiwn. Yr otdd hyu tua 50

56 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV,

mlyuedd yn ol, a rby anhawdd fyddai dywedyd pa sawl cant a ddysgwyd, nid yn unig i ddarllen y Beibl, ond heíyd i adnabod y pethau a berthynent i'w heddwch, o'r pryd hwnw hyd yn awr. Mae ei nifer yn bresenol yn terfynu ar 300.

LLANILAR.

Y Parch. Daniel Eowlands, meddir, oedd yr un a wnaeth y cais cyntaf i bregethu yr efengyl yn y pentref hwn, o neb o'r Methodistiaid. Oud ni wnaed y cais hwn heb i wrthwynebiad gael ei ddangos. Erbyn i ^Li'. Eowlands ddyfod i'r lle, yr oedd un Llr. Jones, Abermaud, a thorf o bobl gydag ef, wedi dyfod yno hefyd, ar fedr rhwystro yr oedfa. Ar waith Mr. Eowlands yn cynyg pregethu, ymosodasant arno mewn modd ífyrnig, gan ei luchio â cherig, ues oedd ei waed yn Uifo, Pan welodd y gŵr parchedig nad oedd obaith seibiant, efe a gymerth ei anifail, ac a ymadawodd ar ífrwst, gan ys- gwyd y Uwch oddiwrth ei draed yn dystiolaeth yn eu herbyn, a dywedyd, " Dwyn yr ydwyf yn fy ughoríf nodau yr Ai-glwydd lesu." Parodd gwrth- wynebiad IMf, Jones, Abermaud, yu nghyda gŵi- eglwysig o'r enw Mr. Hughes, yr hwn oedd yn byw yn Nglan-yr-afon, gerllaw Llanilár, na fu un cynyg ar bregethu drachefn, dros amryw flynyddau.

Cymeriad isel ac anfoesol iawn oedd i'r Mr. Jones hwn. Hen fab gweddw, neu fel y dywed eraill, hen lanc oedd, Yr oedd ganddo ddau was nodedig am balîìo ; y penaf oedd un Eichard James, a'r llall oedd wyddel, o'r enw Mic Daniel. Dygwyddodd i Mr. Eowlands, er y maeddu a fu arno y tro cyutaf yn yr ardal hon, gael ar ei feddwl roddi cynyg eilwaith arni, ond nid yn gwbl yn yr un Ue. Anfonodd air, gan hyny, y byddai efe yn pregethu yn Llanilar ar ryw ddiwrnod penodol, a chlybu Jones, a dechreuodd ymbarotoi i ymosod arno. Cytunodd â'r ddau ddyhii*yn gweision uchod i'w faeddu, a rhoes iddynt ariani'w gwario yu gyntaf yn y dafarn, modd y byddent wedi ymlenwi â diod gref yn gymhwysach at y gorchwyl, ac anfonodd hwy yn ddigon buan i'r fangre ryw gymaint cyn i'r oedfa ddechreu. Ymgasglodd lluaws o bobl yn nghyd, a dechreuwyd y gwasanaeth, a phan oedd y pregethwr yn gweddio, wele y ddau erlidiwr yn ymddangos. Ebe un wrth y Uall, " Aros ronyn yn llonydd, a gwrandawn pa beth a ddywed y pregethwr." Craffodd Dic Siams ei fod yn dywedyd rhyw beth sobr iawn, ac yn wylo yn drwm, ac ymaflodd ynddo yntau deimladau yn y fan, na ddilewyd mo'nynt yn Uwyr tra y bu byw. Yr oedd gan y gwyddel bastwn mawr yn ei law, a dywedai wrth ei gydymaith, " Mi âf fi yn mlaen ac a'i tarawaf."

•' Na chynyg ddim o'r fath," ebe Dic, " os tydi a wnei, mi a'th darawaf dithau, ac ni fydd raid i ti wrth ddim ychwaueg."

Eel hyn, yn annysgwyliadwj-, y cafodd Mr. Eowlands, y tro hwn, lonyddwch i bregethu yn ddiwarafun. Dychwelodd pawb i'w man, a'r ddau was hefyd at eu meistr i Abermand. Galwyd hwy i mcwn at y gŵr boneddig a gofyn- wyd,—

" A gur'soch chwi cf i bwrpas ?

PEN, IV.] SIR ARERTEiri, 57

•' Naddo," ebe Mic,

" Paliam hyny," gofynai y sqtdre?

" Dic Siams am rhwystrodd i," ebe yntau, " ac yr oedd yn fy mygwth i yn lle y pregethwr."

BeUach gofynai i Dic, " Paham na wnaethai fel yr addawsai ? " " Pan ddaethum," ebe yntau, " i olwg y pregethwr, yr oedd yn edrych yn ddifrif iawn, ac yn wylo yn anghyffredin, all'swn i ddim ei daro, a'r gŵr yîì llefain."

" Wel, wel," ebe Jones, " mi welaf fod eich ofti chwi arno, ac mi îcaranía' na welir mo'no yma mwy, ar frys." " Ond," ebe efe drachefn, " mae yn rhaid i ti Dic ddyfod i mewn i'r Plas, myned i ben 'stôl, a phregethu yr un fath ag ef." Ar hyn galwodd ei holl deulu yn nghyd i wrando Dic yn pregethu. Yr oedd y dyn hwn yn hynod o gryf ei gof, a pbarai lawer o ddigrifwch i'w wrandawyr gan ei fedrusrwydd yn y gorchwyl. Gyda ei fod yn terfynu, gan ddweyd " Amen," brathwyd ef, gan ei gydwybod, fel un a wnaethai ar fai, a bu y tro hwn yn aclilysur cychwynol ei argyhoeddiad, a blin a fu ganddo o'i blegid tra fu fyw, Dangosodd Eichard James ar ol hyn gywirdeb ei grefydd mewn llawer amgylchiad. Sonir am un tro neillduol o'r fath. Yr oedd ef a chrefyddwr arall, o'r enw Moses Siôn, crydd, yn gweithio dan foneddwr tra gelynol i grefydd, yr hwn oedd yn byw yn Llidiardau. Daeth cyhoeddiad rhyw bregethwr i fod yn Llanilar, i bregethu, ac i gadw cwTdd eglwysig ar ol y bregeth. Arwyddai y ddau gydymaith awydd cryf i gael y cyfarfod, ond yr anhawsder oedd ei gael, a chadw eu lle yn ífafr y meistr. Nid oedd ond colli eu gwaith neu golli yr oedfa ; ac yr oedd pob un yn bwysig. Pender- fynodd Moses, pa fodd bynag, fyned at ei waith a gadael yr oedfa, ond ei gyfaill a wuaeth yn y gwrthwyneb. Gofynasai ganiatâd y dydd o'r blaen gan ei feistr, ond yr ateb a gafodd oedd, " Os ti a ei, na thyred yn agos i fy uhŷ tra fyddech byw, ac ni chei un awr o waith genyf mwy." Eto, er hyn, aeth Dic Siams i'r oedfa, gan adael y canlyniad i Dduw, Boreu dranoeth dyma was y squire wrth Dic yn ei orchymyn at ei waith. " Af yn uuion," ebe yntau, Ac at ei waith ag ef, ac erbyn cyrhaedd y fan Ue yr oedd ei gyfaiU, wele y boneddwr yno er mawr ddychryn i'r truan, Ond y gair cyntaf a ddywedai oedd, " Wel, Moses, mi welaf fod gan Dic Siams grefydd, ond am danat ti nid yw dy grefydd yn werth ffjrUng." Mab i'r Eichard hwn oedd Isaac James y pregethwr, a mab, meddir, i s^uiì'e Jones, Abermaud, oedd Ishmael Jones, Llandinam.

Eto, nid oedd y Ue wedi ei roddi i fyny ; a phan y mae yn cau ar ddynion, y mae ymwared gyda Duw ; " Eithaf dyn," medd y ddiareb, " ydy w cyíle Duw." PeUy y torodd aUan yn y Ue hwn. Gan na chai neb ddyfod i Lan- ilar i ddwyn y marworyn gydag ef, anfonodd yr Arglwydd ŵr ieuanc o Lanüar i Ledrod i'w gyrchu, a hyny heb yn wybod iddo ei hunan, Yr oedd gŵr ieuanc o'r Gnw John Parry, yn byw yn y Tŷ-ucha', yn nyífryn Llar, yr hwn, ar y pryd, oedd yn ymroddi yn Uwyr i hoywder a nwyfiant ei natur, yn ol esampl ei gymydogion, a'i dueddiadau hunan, Ar ryw dro daeth hwn

58 HANESIAETU Y ÖIROEDD. [dOSB. IV.

i Ledrod, gyda brawd iddo, i'r oedfa, nid er mwyu iddo gael cyfle í wrando "•air yr Arglwydd, ond i gael difyrwch iddo ei bunan, trwy weled y bobl grefyddol yno yn neidio, a'u clywed yn moliannu, ac fel liyn dysgwyliai ci wala 0 ddigrifwcb ei bunan, a tbestynau o wawd i ddifyru eraill yn ol llaw. Eitbr Duw a fwriadodd yn wabanol. I'r oed/a yr aetb, oud nid bir y bu yu gwraudo y bregetb cyn teimlo y gwirionedd yn ymaflyd yn ei galon ; angbofiodd ei neges yn dyfod i'r lle, gau ddifrifwcb ei acbos ysbrydol; dwysbigwyd cf yn ei galon, ac ni allai ymattal, ond torodd allan i wacddi am ci fywyd, a fì^'ôdd i gymeryd gafael yn ngobaitb yr efengyl. Dycbwelodd ad- ref yn wabanol iawn ei deimbid a'i syuiad : " Yr beu betbau a aetbant beilúo, a gwnaetbpwyd pob petb o neAvydd." Wele'r marworyu jti cael ei ddwyn beUacb i Lanibìr. Daetli ar ei fcíblwl yn fiian bregetbu yr eíèngyi i'w gyd-becbaduriaid, ac anturiodd i Lanilar i roddi bloedd ar y trigolion yuo i ddeflroi. Yr oedd y ddau ŵr boneddig a enwyd ucbod yn para i fytheirio eu bygytbion yn eu herbyn, oud nid oedd y gŵv ieuanc yn gofabi dira am eu bygytbion. Yr oedd yn \vt ieuanc grymus o gortt', a gwrol o feddwl ; ^j'r oedd y tro a wnaed arno mor bynod a tbrwyadl, a'i weinidogaeth danbaid yn emiiU meddybau ei gymydogion gymaint, ncs oedd ncrtb yr erlidwyr yu di- flanu, a'u breicbiau yn gwywo, ac 1 raddau mawr fe ddarfu yr erlidigaetb.

Ond ni ddaetbai yr amser cto i Lanihir gael acbos erefyddol wedi ei sefydlu yn yr ardal. Syrtbiodd Jobn Parry, wcdi rbedeg yn gyliym ei yrfa fer, yn ysglyf- aeth i'r frecbwen. CoUwyd ef yu fuan oddiar y maes. " Yr oedd," mcddai liow- lauds, " fel canwyll yu Uosgi yn y ddau beu ar uuwaitb," a buan y diftbddodd. Ond er ei symud ef mor fuan oddiwrth ei waith at ei wobr, ni wnaed hyny, heb arwyddion fod rbai pentcwyuion wedi eu cipio o'r tân yn ei fro ei buu, y rbai a ymunasaut â'r gymdeitbas eglwysig yu Lledrod, y lle jt oedd Jobu l'arry ei huu yu aelod.

Yu mlien ycbydig amser ar ol byn, galwyd ar William a Jenlíin Morgan, Pcn- careg-fawr, a David Edward, Pwll-clai, i bregcthu. Cyd-lafuriodd y tri pbregethwr bjTi i arloesi y gymydogaetb o'r drygau a'i gorchuddiai, ac i ddeflroi y preswylwyr i ystyriactb ddifrifol am eu sefyllfa euog a pberyglus, a gwclodd yr Arglwydd yn dda fcnditbio eu Ibifur. Ymddaugosai arwyddion ar amryw na fu dyfodiad yr efengyl atyut ddim yn ofer. Scfydlwyd yma gymdeitbas fechan, \t.- hon a gyfarfyddai mewn gwalianol dai, dau gryn lawer o aufanteision. Tua'r fl. 178S y bu byn; o bynyhyd yn awr, er cyf- arfod â gwabauol dywydd, y mae yr achos Metbodistaiddynyr ardalbon, nid yn unig bcb ddiübddi, ond wedi cynyddu llawer.

Ymddeugys fod cyfarfod misol wedi caei ei gynal yn yr ardal bon cyn fod yma yr un addoliad ; cynaliwyd ef yn Peir-careg-fawr, ac un o'r rbai a bregethodd yn y c\'farfod oedd Dafydd Moras, gweinidogaetb yr bwn a arddcl- wyd mewn modd amlwg a nertbol, fel y bu yr amgylcbiad yn gryfbad i'r acbos yn ei fabandod.

Tua'rfl. 1715 ueu 1797,cafwydcaniatâd gau J. WiUiaras, Ysw., Castle-biil, i adgyweirio ben ar bwys mur y fynwent, i fod yn cyfarfod, a ohafwyd

PEN. IV.] SIB ABERTEIFI. 59

gwpithred arno am 60 mlynedd, «r yr ommod, os aiifoddlawn a fyddai yr etifedd pan y dcuai i'w oed, fod y lle yn cael ei roddi i fyny, a chostau yr adgyweir- -iad yu cael eu dycliwelyd, a hyu a wnacd yn mhen 27 nilynedd ar ol y taelu a fu arno. Gweddus ydyw chwanegu ddarfod i'r boneddwr uchod, yn nghyda T. Parry, Ysw., Llidiardau, ddangos Uawer o garedigrwydd i'r achos pan ocdd eto yu ei wendid. Cai'wyd daru o dir i adeiladu capel arall arno, ar ol ofni na cheid yr un ; mae hwu yn ciddo cyílawu i'r cyfundeb, a golwg siriol ar yr achos yn ei holl ranau.

Yn fuan ar ol trefuu yr adeiiad cyntaf, fe ddechreuwyd yr ysgol Sabbothol, scf tua'r íl. 1798, ond gwywedig iawn a fu dros lawcr o flynyddoedd. Ond cr })ob rhuthr a l\i arni, ac cr pob petrusder a fu am ci pharhad, y mae yn aros hyd y dydd hwn ; ac cr ys maith amser bellaeh y mae wedi ymwreiddio yn ddwfn yn serehiadau y trigolion, ac ynddi oddeutu 300 o aelodau; ac nid oes im amheuaeth chwaith nad ydyw wedi bod yn foddion iachawdwriaeth i lawer o eneidiau.

ABERYSTWYTII a'I IIAMGYLCUOEDD.

Nidyn fynych y byddai tadau y Methodistiaid yn anturio yn uniongyrcliol i'r trefydd, ond ymdrechent sefydlu achos yu rhai o'r ardalocdd cylchynolyn gyntaf, ac yna, yn mhen enyd o amser, mAvy ncu lai, pan y rhoddai rhaglun- iaeth arwydd fod drws yn agor, hwy a aent i mewn i'r drcf. Ac er íbd gan y Mcthodistiaid achos blodeuog mewu llawer o drcfydd Cymru, eto y mae eu llwyddiant a'u cynydd, i raddau hehieth, wedi codi oddiar y llwyddiant a fuasai eisoes yn y wLid oddiamgylch, trwy fod lluaws o breswylwyr y wlad yn dyfod i'r trefydd i brcswylio, ac felly yn chwyddo Uawer ar y gynuUeidfa. Mae gradd o hyn yn wir am Aberystwyth, iel am hiwer o drelydd craül. Nid oes un Ue yn awr, o bosibl, yn sir Aberteiíi, Ue mae Methodistiaelli yn uwch nag yn Aberystwyth ; eto yr ocdd wedi ymwreiddio mewn Uawcr o fanau yn y wlad cyn iddo gael Uc i roddi troed i hiwr yma.

Cyn dyddiau Mr. llowhmds, nid oedd dim pregethu yu y dref, ond a geid yn egiwys y plwyf, a hyny yn auaml a difywyd iawn. Ymddcngys fod yma rai gwỳr, pa fodd bynag, wedi blino ar y druth ddisylwedd a giywid yn y Uan, ac yn dyheu am ryw amgen gweinidogaeth. Pa un ai trwy ddarUen ncu ymddyddan â'u gilydd, ai trwy ryw foddion craill, y cyuyrchwyd y teimhìdau hyn, nis gwyddom ; oud tra yr oedd y dynion hyn yn teimlo eu hymddilad- rwydd, clywsant fod olfeiriad rhagorol yn LLìUgeitho, Ue oddeutu deng miUdir oddiwrthynt ; ac aeth amryw o honynt yno ; ac yn eu mysg yr oedd Morgan Llwyd, Bach-y-rhew, Jenkin Morris, Tŷ-Uwyd, Dafydd Evans, Tŷ'n- yr-helyg, Humphrey Pugh, Pen-y-graig, a Harri ei frawd o Aberystwyth, Dafydd y Gwŷdd, ac un Lewis y Cartman, Symudodd y gŵr a cnwyd olaf i le a elwir Tan-y-casteU, Pc fu y gvvr yma, a'i íab-yn-nghyfraith, yr hwn oedd yn byw gydag ef, yn gymhorth mawr i'r achos, yn gymaint felly, meddir, a ncb yn y wLid hon. Yr oedd gŵj yn byw yn Tan-y-bwich, o'r enw John Jcnkin, a ddangosai lawer o garcdigrwydd tuag at y rhai a g\Tch-

60 HANESIAETH Y SIROEDl). [dOSB. IV.

ent i foddion gras ; gelwid ei dỳ yn "Llety fforddolion," gan y cyniwaii- a fyddai iddo, a'r caredigrwydd a geid ynddo, yn ueillduol gan y crefyddwyr a ddeuent lieibio o sir Gaernarfon ar eu ffordd i Langeitho. C'yrhaeddent Tan-y-bwlch erbyn nos Sadwrn, aent i Langeitho erbyn y gwasanaeth boreuol, a dychwelent i'r un man i letya y noson drachefn. Fel hyn y gwnai Uawer o grefyddwyr boreuol ac effro sir Gaernarfon dros lawer o flynyddoedd, a llawer o esamplau sydd o'r fendith a fuont yu y teuhioedd lle y lletyent ar y fibrdd.

Cafodd yr efengyl ei throed i lawr yn ardal Rhyd-y-felin yn lled foreu. Prynodd Mr. Eowlands ddarn o dir yn y lle hwn i adeiladu capel arno, yr hwn oedd y cyntaf oll yn y gymydogaeth hòno. Pau y clywodd Dr. Powell, Nant-yr-eos, hyn, cyffrodd yn fawr iawn, a galwodd yn ddioed am ei oruch- wyliwr Mr. Davies, Crigiau, tad Gen. Davies, Tan-y-bwlch, a dywedodd yn gynhyrfus iawn, " Onid yw yn gywilydd dybryd fod y penau-cryniaid yn cael eu goddef i godi capel rhwng dwy eglwys ? A f u erioed y fath hyfdra ? Moeswch eich cynghor i'w hattaL"

I hyn yr atebodd ]\Ir. Davies yn bwyllog ac arafaidd, gan ddywedyd, " Mi a'ch cynghorwn chwi, syr, i adael llonydd iddynt ; oblegyd os o ddynion y mae hyn, fe ddaw yn fuan i'r dim, ond os o Dduw y mae, rhy beryglus ydyw i chwi na minau eu gwrthsefyll." Llonyddodd hyn y gŵr bonéddig, a chaf- wyd rhwyddineb i fyned â'r capel yn mlaeu yn ddiwarafun. Cafodd teulu Nant-yr-eos foddlonrwydd niai da fu ymddwyn yn ol cynghor y goruchwyl- iwr, gan y cawn fod lle i adeüadu capel yn Aberystwyth wedi ei ganiatâu, yn mhen amser ar ol hyn, ar eu tir hwynt.

Fe fu pregethu yn cael ei gynal yn y capel hwn dros lawer blwyddyn, a chyfarfodydd eglwysig, cyn bod neb wedi anturio i'r dref. Yn y cyfamser, daeth un John Pritchard, gŵr duwiol a defnyddiol iawn, i gadw ysgol ddydd- iol (Jymreig i'r capel, dan arolygiaeth Madam Eevan , a bu cynghorion ac esamplau y gŵr hwn yn dra bendithiol yn y fro hon, fel y bu y cyflelyb ysgolion mewn lluaws o fanau eraill yn Nghymru. Ond hyd yma, nid oedd neb wedi anturio dros y bont i dref Aberystwyth, er fod ambell bregeth yn cael ei thraddodi yn nghyflâniau y dref, megys yn Pen-maes-glas, ac yn y Dref-fechan.

Ond ar ol i Fethodistiaeth ymwreiddio yn Hhyd-y-felin, ac ennill rhai dysgyblion yn Aberystwyth, yr oedd y bwriad yn cryfhau o ddwyn pregethu at breswylwyr y dref. Yr oedd cyfarfodydd eglwysig yn cael eu cynal, yn y cyfamser, yn Ehyd-y-felin, i ba rai y deuai yr ychydig enwau a breswylient yn y dref ; a pharhausant dros ryw dymhor i ddod yma i'r cyfarfod eglwysig, ie ar ol i bregethu ddechreu yn y dref. Ehyd-y-felin oedd yn parhau yn fam- eglwys. Y lle y dechreuwyd pregethu ynddo yn Aberystwyth oedd allan ar Pen-raaes-glas, ac wrth yr hen gaer, wrth gefn y gwestty a elwid y Talbot. Fe fu Dafydd Morris, a Lloyd o Gaio, yn nghydag eraill llai eu henwogrwydd, yn pregethu yn y lleoedd hyn,

Tua'r fl, 1771, neu cyn hyny, dechreuodd pregethu, fel y soniwyd, yn Tref-

PEN. IV.] SIR ABERTEIFI, 61

fechau, er maint y gwrthwynebiad a ddangosid i hyny gan yr erlidwyr. Sonir am un tro neillduol y bu ymosodiad íFyrnig ar y pregethwr yn y Ue hwn. Pan glywodd yr erlidwyr fod pengrwn yn sefyll i fyny i bregethu yn y Dref-fechan, wrth Morgan Dafydd Evan, cynhyrfwyd hwy gan benderfyniad i'w attal ac i'w faeddu. Yr oedd gŵr o'r enw Charles Price yn brif swyddog ar gyllidau y goron yn y Ue, wedi cymeryd amo flaenori yr ymosodiad hwn, ac wedi cyflogi lluaws o oferwyr dyhiraf y dref i'w ganlyn, Lluchiodd un o honynt gareg at y pregethwr, a disgynodd ar y Beibl a ddaliai yn ei law, ond heb wneyd un niwaid i'r pregethwr ei hun. Y mae y Beibl hwnw ag ôl y gareg eto arno, yn meddiant gŵr yn Aberystwyth, sydd yn awr yn íŷw, o'r enw Eichard Jones. Nid yw yr hanes yn hysbysu pa fodd y dybenodd yr aflonyddwch hwn, ond yn unig fod un ferch wedi cael ei tharo â chareg, a choUi ei llygad raewn canlyniad.

Mae enwau pedwar o feibion yn cael eu crybwyll, y rhai oeddynt yn byw yn Aberystwyth y pryd hwn, ac yn cyrchu i Ehyd-y-felin i'r cwrdd eglwysig, sef Dafydd y gwehydd, Griffith Griffiths, Lewis Lewis, James James, a Tlichard Jones. Tua'r fl. 1774, pa fodd bynag, dechreuwyd cadw cwrdd eglwysig yma ambell dro, nid yn gyson, ond yn aclilysurol. Ymddengys y byddai Mr. Williams, Pant-y-celyn, ar ei ddyfodiad i'r dref, bob amser yn cadw cyfarfod neiUduol yma gyda'r ychydig aelodau, er mai yn Rhyd-y-felin yr oedd y fam-eglwys. Gellir cael drychfeddwl am ansawdd Methodistiaeth yn y dref tua'r pryd hwn trwy yr hanesyn canlynol. Yr oedd Ismael Jones, Llandinam, sir Drefaldwyn, pan yn ddyn ieuanc, yn dyfod i'r dref i bregethu; ond yr oedd wedi clywed fod y trigolion yn fíymig iawn yn erbyn y pengryn- iaid, ac mai nid diberygl oedd i neb o honynt ddyfod i'r dref, os deuai hyny yn adnabyddus i'r erlidwyr. Yr oedd y newydd trwm hwn wedi creu ar- swyd yn meddwl y pregethwr ieuanc, a threfnodd ei Iwybr fel ag 1 gyrhaedd y dref cyn goleuo y dydd. Pan daeth gerllaw y Porth-tywyll, canfu oleu mewn ífenestr, nesaodd ato, a chlybu lais un yn llefaru ; ac wedi ymwrando yn ddyfalach, deallodd mai rliyw un yn gweddio Duw oedd ; ar hyn aeth i mewn yn hydems, a chafodd mai un o'r Methodistiaid boreu ydoedd, ac mai cadw dyledswydd deuluaidd yr oedd y penteulu cyn dydd, rhag ei aflon- yddu gan yr erlidwyr. Y gweddiwr hwn oedd Dafydd y gwehydd. Bu Ismael Jones, a Dafydd y gwehydd, yn gyfeiUion calon dros eu hoes.

Tua'r fl. 1784 y cadwyd y gymdeithasfa gyntaf yn y dref hon. Yr oedd pobl y dref, ar y pryd, yn edrych yn ddirmygus iawn ar y penau-cryniaid, ond fe fu y cynulliad hwn yn foddion arbenig i ddarostwng rhagfarn Ilawer yn eu herbyn. Canfu dynion y byd, y rhai a farnent wrth y golwg yn unig, fod mwy o wychder a rhwysg yn perthyn i'r crefyddwyr nag a dybiasent fod. Syndod a'u daliodd wrtli weled boneddigion yn eu cerbydau yn dyfod i'r dref, sef Mr. Bowen, Llwyn-y-gwair, Griffiths o Nefera, Lloyd o Bronwydd, ac eraiU, a dechreuodd y Uuaws newid eu syniadau am y crefyddwyr, oddiar weled rhai o'r penaethiaid yn eu mysg. Nid oedd nifer y crefyddwyr a bres- wylient y dref, ar y pryd, ond tua deg o rifedi, a'r rhan fwyaf o honynt yn

62 HANESIaETH Y SritOEDD. [DOSB, IV.

dlawíì ac iscl cu hamgylchiadau. Disgyuodd y dyeithriaid, lawer o honynt, yn y Talbot, a chytunasant â ^v,i- y liwnw am ystafcll fawr yn y gwcstty i gynal y cyfarfodydd neiUduol. Cyfodwyd areith-glwyd (dafje) ar bwys y Uan, yr hon ocdd heb ci chwbl orphen. Yr oedd Mr. Jones, LUmgan, yn un o'r pregethwyr yn y gymdeithasfa, a dywedai, gan gyfeirio at y Ue y safent, " Ni a ddaethom yn agos iawn i'r eglwys, pwy ŵyr, cyn hir, na chawn fyncd iddi?" Dywedir fod y Parch. W. Davies, Castell-ncdd, Johu riercc, a Dafydd MoiTÌs, hebhiw y lleiU a enwyd, yn pregethu ynddi.

Ymddengys fod y gymdeithasfa gyutaf hon wcdi bod yu fcndithiol iawn i aralhau nifcr y crefyddwyr yn y dref, ac i godi Methodistiaetli yu Uawer uwcli yu ngolwg y prcswylwyr. Coronwyd y pregethau a nerth a gogouiaut mawr. Ac uid yn uuig yr ocdd y prcgethu cyhoeddus wedi ei wisgo ag ar- dderchogrwydd, ond yr oedd mo(kliou Uawer mwy disylw a Ihii cyhoeddus fclly hefyd. Noson y gymdcitliasfa, dywedir fod cyfi'ro a gorfoledd mawr wedi tori allan mewn bychau jaì y dref, lle yr oedd Mr. Williaras, Llcth'od, yn aros, a phau oedd yn cadw dylcdswydd deuUiaidd yn y tj. Ar hyn cerddodd y ucwy(Ul yn gyflym trwy y dref, a lluaws mawr a ddacth i'r llc. Arweiuiwyd y dorf i'r marchnad-dŷ, Ue y bu y crefyddwyr yn neidio ac yn molianuu Duw hyd y boreu ; ac, fel yr oedd yn rhyfedd, yr oeddynt " yu cael ífafr gan yr hoU bobl." Nid ocdd ncb o'r edrychwyr yu gallu cu gwawd- io ua'u haflouyddu, oiul ymddaugoseut fel pe disgynasai dychryn Duw arnyut, a dychwclcut i'w cartrefl, gau ddywedyd, " Bys Duw yw hyn." Llaesodd grym yr crlidwyr o hyn allan. Ni fu ychwaneg o sarhad ar y Methodistiaid yn Aberystwyth, ond ychydig o eiriau cas a ehwedlau disail, ac yr oedd y rhai'u yn .anamlach nag y gallesid cu dysgwyl wrth gofio y fíyruigrwydd blaeuorol.

Ymddcugys fod y gymdcithasfa grybwylledig wcdi efi^cithio yn rymus iawn ar y drcf a'r cymydogacthau, oblcgid, nid yu unig fc ddarostyugwyd rhag- farn Uawer yn erbyn yr aclios, ond fc chwanegwyd Uawer at yr eglwys, cymaiut íelly nes pendcrfyuwyd codi addoldy-yn ddioed yn y dref ; a hyny a wuacd yu y fl. 17S5. Yr ocdd y capcl hwu yn cacl ei ystyricd yn un hel- acth ar y pryd ; ac wedi ei wneyd yn ol y fí^urf arfcrol yn y dyddiau hyny, â chroes iddo, fel yr oedd ac y mae Uawer o lanau y plwyf. Acd o amgylch y dref 0 i i gasglu at y draul, a chafwyd Uawer o flyddlondeb a charedig- rwydd ar law y trcfcdigion, fel nad oedd dyled yu aros ar yr adcilad. Defn- yddid yr adeilad i bregethu, cadw ysgol ddyddiol, cyfarfodydd i wcddio, ac yn aehlysurol eyfarfodydd cglwysig ; ond hyd yma, yr ocdd y fam-eglwys yn Ehyd-y-feliu, ac fcUy y parhaodd hyd y fl. 1 798, pryd y barnwyd yu addas ymueiUduo oddiwrth E.hyd-y-feliu, a fí'urfio canghen o eglwys yn y dref.

Agorwyd y capel yn yr Ilydref y flwyddyn hòno ; ac ar achlysur ei agoriad pregcthodd y Parch. Peter WiUiaras i gynuUeidfa faAvr o bobl. Dygwyddodd damwaiu alaethus ar y pryd yr oedd oedfa yn cael ei chadw. Aethai cwch pysgota allan, a phurap o ddwylaw ynddo, ac wrth iddo fyned dros y Bar, trôdd y cwch, a boddodd tri o'r purap. Ar ddyfodiad y newydd, disgynodd

PEN. IV.] SIR ABERTBIFI. 63

ofn a dychryn ar y prcswylwyr, a rhai a îiònent mai argoel o anfoddlonrwydd yr Arglwydd oedd y ddamwain, am ddiystyru o honynt weinidogaeth yr cfcngyl. Eífcithiodd yr amgylchiad, pa fodd bynag, er nad ocdd dim gor- naturiol ynddo, i gencdlu rliyw fath o barch i grefydd. Ac nid ocs Uawer o amheuaeth uad y rhai parotaf, gan ragfarn, i erHd a baeddu o'r blaen, oedd y rhai parotaf yn awr, gan ofergoeledd, i ddelwi gan fraw. Pa fodd bynag ara hyny, fe droes yr amgylchiad hwn yn fantais i'r efengyl.

O lîyn allan, cynyddodd achos y Mcthodistiaid yn fawr yn y dref. Edrychid ar yr achos yn y dref, ac yn Ehyd-y-felin, megys un teulu. Deuai y naill gaiighen at y llall yn fynych i gynal cu gwahanol gyfarfodydd, a pharhausant felly dros flynyddau mcithion, mewn undeb a brawdgarwch diragrith. Ai torfcydd o honynt bob mis i Langeitho, ar Sul y cymundeb, erbyn naw o'r gloch y borcu, a dychwelcnt i'r oedfa a gynelid am bump o'r gloch yu llhyd- y-felin. Souir hyd Iicddyw gan yr hen bobl am y gyfcillach hyfryd a fu'yn- hacnt â'u güydd mewn ymddyddanion ysbrydol, wrth fyned a dychwelyd o Langeitho. Llyncid hwy i fyny, wcithiau, gan felusedyrymddyddanion hyn, nes anghoíìo eu hunain, ac weithiau torent allan mewn raawl a diolch ar hyd y flyrdd a'r meusydd, wedi anghofio yn Ilwyr eii blinder a'u lludded.

Ehoddìí^d aml ysgngiad i'r achos yu ei flaen, trwy ddyfodiaid o wahanol barthau o'r wlad, a thrwy adfywiadau mwy neu lai nerthol o bryd i bryd, ac yn neillduol trwy yr adnewyddiad a fu ar yr ysgol Sabbothol, yn y fl. ITJ'J, trwy offcrynoldeb Mr. Owen Joues a Mr. Eobert Davies,* yn y modd y son- iwyd eisoes. Sonir yn neillduol ara un adfywiad mwy grymus na'r un arall, yn y fl. ISOO, pryd y chwanegwyd at yr eglwys yn agos i gant o aelod- au ; y mae rhai o honynt yn aros hyd y dydd hwn, Ond er nad oes genyra ryw amgylchiadau hynod i'w coflau yu y tymhor hwn, eto teg ydyw cydnabod gyda diolchgnrwch fod Methodistiaeth wedi bod, ac felly hefyd yn aros hyd licddyw, dan amddifí'yniad neillduol perchen y gwaith ; nid yn unig mewn llnosogiad mawr ar nifer yr aelodau a gwi'andawyr, ac ar wedd allanol y gwaith, ond hefyd yn nhrefnusrwydd a dyfalwch ei ddygiad yu mlaen, ac yn heddwch a chyd-weithrediad cyfTrcdinol yr eglwys yn mhob canghen o'r gwaith. Y eyfryw ydoedd trefu ac eff'eithioldeb yr ysgol Sabbothol yn y Ile hwn, ag a dynai ganmoliaeth iddi oddiwrth awdwyr y " Llijfrau Gleision ;" ac yn hyn y mae yn sefyll yr uuig im yraron yn mhlith cannoedd. Dywedir yuo eu bod yu cynwys o 700 i 800 o aelodau ! Ehaid fod yma ddirfawr lafur a Uwyddiant er pan gychwynwyd hi gan IMi-i. Jones a Davies yn y fl. 1799.

Tua'r uu amser, yr oedd Methodistiacth yn ymledaenu i'r ardaloedd cylch- ynol, sef Penllwyn, y Garn, y Graig, y Borth, a Chapel Dewi. Y mae nn amgylchiad cysylltiedig â'r Garn yn teilyngu ei gofí'âu o herwydd ei hynod- rwydd, ac yr ydwyf yn fwy parod i'w grybwyD, gan ei fod yn eithriad yn amgylchiadau y blynyddoedd hyny. Sonir fod yn y lle hwn oífeiriad o'r enw Mr. Pugh, yr hwn oedd yn flafriol iawn i'r Methodistiaid, ac yn arfer

* Gwel tudal. 3-11 -343. Cyf. I.

64 HANESIAETH Y SIKOEDD. [OOSB. IV.

eu gwi-ando yn fynych pan y rhoddid cyfleusdra iddo. Pe fu y gẃr hwn hefyd yn foddion i dynu i lawr y campau annuwiol ag oeddynt y pryd hwnw yn fawr eu rhwysg yn y fro. Gresyn na fuasai ei hoU frodyr yr oíFeiriaid o'r un naws â'r gŵr hwn!

Nid yw Blaen-y-plwyf yn mhcll o x\berystwyth, eto fe ddiangodd yr ardal hon heb nemawr o bregethu cyson ynddi hyd ddechreuad y canrif presenol. Yr oedd pregethu wedi dechreu mewn llawer o fanau cyfagos i'r ardal hon er ys hanner can mlynedd, eto ni chaed drws agored i ymsefydlu yn y fro hvd y fl. 1802. Ruasai pregethu achlysurol ychydig amser yn ol mewn lle a elwid y Corn, yn nhŷ un Dafydd ]\Iorgan y teiliwr; ond yn y fl. 1802 y ff"urfiwyd yma ganghen fechan o eglwys, a bechan, tybygid, oedd hi, yn cynwys 8 neu 10 o aelodau. Gosodwyd ar y ddeadell fechan hon, yn mhen rhyw gymaint o amser, bedwar o ddiaconiaid, o ba rai nid oes yn aros ond William-Eowland, Cwrt-y-cwm. Y mae yn syn meddwl fod gwybodaeth gyflPredinol, ac yn enwedig gwybodaeth ysgi^thyrol, mor brin yn yr ardal hon ag y dywedir ei fod mor ddiweddar a dechreuad y canrif yma. Bernir nad oedd y pryd hwnw ragor na deuddeg o ddynion a fedrent ddarllen y Beibl yn yr holl blwyf. Yr oedd yn hen arferiad gan lawer i fyned i'r llan ar foreu Sabboth, ond gwneid byn, fel yr ymddengys, oddiar y rhocldid cyf- leusdi'a i nifer o'r cymydogion gyfarfod â'u gilydd i drefnu materion yr wythnos ganlynol. Ar ol y gwasanaeth y byddai y ffermwyr yn cyflogi dyn- ion i weithio iddynt yn ystod yr wythnos; a dyma y pryd y cytunid ar wahanol gyulhmiau a ddygwyddai fod yu galw am sylw yn mysg eu gilydd.

Ar ol bod yn y gwasanaeth boreuol, yr oedd yn arferiad hefyd yn mysg y rhai a dreulient y Sabboth i ymbleseru, i fyned y prydnawn i làn y môr i gyflawni rhyw ofer-gampau, neu i ymdrochi, yn ol y tymhor; ac yn yr hwyr ymgasglent i dai eu gilydd i adrodd hen chwedlau ofergoelus, a belyntion yr amser, yn nghyda Ilawer o ddychymygion disail am ysbrydion a gweledig- aethau. Yn y modd yma y treulid y Sabbothau; ac ni all fod prawf sicrach 0 grefyddoldeb neu anghrefyddoldeb ardal neu deulu, na'r modd y treulir y Sabboth ganddynt.

Tua dechreu y canrif yma, fel y dywedwyd, yx oedd i'w cael rhyw bump neu chwech o ddyuion ar hyd yr ardal, y rhai a brofasent radd o bryder yn nghylch achos eu heneidiau eu hunain, ac eneidiau rhai eraill, ac yn ymgryn- hoi i dai eu gilydd i gadw cyfarfodydd i weddio; oud yr oeddynt dan angenrheidrwydd yn fynych i alw ar rywun dibroffes i ddarllen cyfran o'r Beibl, gan nad oedd un o'r proffeswyr eu hunain yn medru darllen; eto ni roddent heibio wneyd a allent i godi coffadwriaeth o enw Duw yn mysg eu cymydogion. Ond oddeutu yr amser a nodwyd, cymerwyd bychan yu addoldy, yr hwn a aeth yn fuan yn rhy fychan; ac wedi cael tir i adeiladu gan Col. Powell, helaethwyd Ile y babell, a chodwyd capelhelaeth achysurus. Yn y capel newydd, Iluosogodd yr ysgol Sabbothol, yr hon, er y gwrthwy- nebid ac y rhoddid drygair iddi ar y dechreu, a f u y prif foddion i ddaros- twng y eampau ffol, a'r cynuUiadau Uygredig, ac hefyd i chwalu tywyllwch

PEN. V.] SIR ABERTEIFI. 65

ac ofergoeledd yr ardal. í mae j'ma, bellach, gyuuUeidfa luosog yn gwraudo ary Sabbothau. a'rysgol Sabbothol hefyd wedi cynyddu i fwy na 200 o rifedi, Dylasid dywedyd fod yr ysgol Sabbothol wedi ei chychwyu yu uhŷ William Rowland, a thŷ brawd-yn-ughyfraith iddo, ycHydig amser cyn myued i'r capel, eto nid oedd oud eiddil ac isel ; yr oedd ar yr un pryd yn dda ei gwaith, ac yn ardderchog ei hamcan, a choronwyd hi â llwyddiant mawr. "Wedi profi ei heffeithiau daionus yn yr ardal hon, ac wedi i nifer gael eu cymhwyso i raddau i fod yn athrawon, anfonwyd dau o'u mysg i ddechjeu ysgol Sabboth- ol arall yn y gymydogaetli ; a hyn a wuaethant. Ac wedi cael prawf o'r ysgol Sabbothol am ychydig amser, caed moddion eraiU mwy cyhoeddus, sef cyrddau gweddio a phregethu, ues y bu galwad uchel am gapel yn yr ardal hou eilwaith. Codwyd hwn yn y íl. 1833, a galwyd ei enw Elim. Dyma enghraifft chwanegol o wasauaethgarwch yr ysgol Sabbothol i rwyddhau cynydd ac ymledaeuiad yr efengyl mewn gwlad.

PENNOD V. PAEHAD HANESIAETH EGLWYSI Y SIR.

CTNWYSIAD :

LI.ANON— PENMORFA— BLAENANERCH— CAPEL DRINDOD A LLANBEDR. LLANON.

Cyffelyb oedd agwedd y bobl, o ran gwybodaeth ac arferion, yia yr ardal hon ag ydoedd yn gyffredin drwy yr holl wlad. Dangosai llygredigaeth ei hunan yn arbenig yn y duU y treulid y Sabboth. A hwn oedd y prawf sicraf o agwedd y wlad, o ran dylauwad crefydd ar y trigolion. Yu hyn yma y rhoddid gollyngiad diwarafuu i egwyddorion y galon, yn y pethau a berthyn i Dduw. Tr oedd rhwymau cymdeithas, callineb dynol, a chyfreithiau y wlad, yn gosod gradd o attaliad ar ddrygioni dynion, o ran lladd, lladrata, twyllo, a gorthrymu ; yr oedd cariad dyn at ei air da, ac at ei amgylchiadau bydol, yn ei gadw o fewu rhyw derfynau, o rau meddwdod a phuteindra, ond am anwybodaeth, ofergoeledd, a halogiad y Sabboth, nid oedd dim o'r egwyddorion uchod yu eu gwahardd, ond yr oedd pob achles a raaeth yu cael ei i-oddi iddyut yn ddigêl a diwarafun. Ac os ydyw eangder gwybodaeth, cywirdeb syniadau, a defuyddiad priodol o ddydd ac ordinhadau Duw, yn argoelion cywir o'r graddau y mae gan grefydd ddylanwad ar wlad, neu genedl, gallwn weled yn dra amlwg, pa mor amddifad oedd Cymru o hono yn y canrifoedd blaenorol. Fel y canlyn y mae ein hanes yn dysgrifio agwedd cymydogaeth Llanon a'i hamgylchoedd :

Ar ol bod yn y llan yn g^vrando darlleniad y Hithau, dywedir y byddai rhyw rai yn y fynwent yu darllen " llyfr y chwareuon," ac yn ymroddi yu ol ei gyfarwyddiadau, i ddawusio a chwareu fel ynfydion. Yr oedd yma lanerch fwy cysegredig at y chwareuon hyn, o'r enw " Banc y dawns" (bryn oedd hwn ar dir yr Allt-goch,) lle yr ymgyuuUai y Uuaws ar y Sabbothau i yraddifyru mewu dawns a phob digrifwch. lë, cymaint oedd grym arferiad, ac awydd am ddifyrwch, fei y gwneid trais ar deimladau natur, ac ar synwyr

F

66 HANESIAETH Y SIROEDI). [DüSB. iy,

dynol i'w gyrliaedd. Ar achlysiir o farwolacth neb yn yr ardal, ymgynuUent i y trengedig i chwareu rhyw gamp a alwent, " Chwareu y Glocsen." Ac nid rhyw amser maith iawn sydd er pan ddiddymwyd yr arferiad annaturiol hon, trwy gynal cyfarfodydd i weddio yn nhŷ y marw. Hefyd, yr oedd yn yr ardal hon ryw gamp, a elwid " Ci/ntafir Bwlch,''^ yr hon a gynelid ar ŵyl y pasg, ac yn yr hon y byddai y merched yn cymeryd eu rhan, tra y byddai y meibion yn troedio y bêl-droed. Parhaodd y campau hyn, gyda mwy neu lai 0 rwysg, yn mhell ar ol cychwyniad Methodistiaeth yn y fro. Ceisiwyd darostwng y carapau hyn trwy gynal cyfarfod i bregethu ar y pryd, ond canfuwyd fod hyny yn ihoddi achles i chwyddo a chryfhau y cyfarfodydd llygredig, a newidiwyd y dull o ymosod yu eu herbyn, trwy gynghori pob uu yn ei le a'i ardal ; ac felly, yn raddolj diflauodd yr holl gampau flbl, a hyny mor IIwyT, fel mai prin, erbyn hyu, y gŵyr llawer un yn y fro ar ba adeg yn y flwyddyn y mae y pasg yn disgyn. " Côf genyf," medd fy ugohebydd, " pan oeddwn blentyu, i mi weled ychydig o segurwyr yn chw^areu pêl wrth y clochdy, ar ddydd Llim y pasg, ond erbyn hyu y mae y twmpath chwareu wedi ei orchuddio â beddau, fel pe cyferchid y chwareuwyr gan breswylwyr cysgod angau, " Oni fu ein cynghorion yn eiu bywyd yn ddigon i attal eich ynfydrwydd, caiflf ein cof-adeiliau, wedi ein marw, wneuthur hyny."

Nid oes gwybodaeth fauwl yu nghylch yr amser y dechreiiodd pregethu gau y Methodistiaid yu yr ardal hon. Y mae yu adnabyddus, pa fodd bynag, fod pregethu yn bod mewu amaethdy rhwng Llanon ac Aberaeron, o'r enw Morfa-mawr, rhyw gymaint o amser cyn adeiladu capel yu y pentref. Tystiai yr hen bobl, y rhai fyddai yu arfer gwrando yn y Morfa-mawr, eu bod yn cael Uawer o'u gwawdio a'u haflonyddu yuo. Sonir yn neillduol am uu tro, pan y safai y pregethwr i gyfarch y gwraudawyr wrth dalcen oddi allan, fod dau o heddyuadon wedi dyfod heibio, ac wedi ymosod at y gorchwyl o aflonyddu y cyfarfod. Ond wrth Avneuthur hyny, dygwyddasant ddod ar draws gŵr o'r enw Yany, Gwyddel o waedoliaeth, a gwyllt iawn o dymher, yr liwu oedd yu preswylio yn ai"dal Peunant, ac a ddaethai i'r lle hwn i'r oedfa ; hwu wedi cael rhyw gil-gwthiad gau y boneddwyr yn yr ymgyrch, a fl"yrnigodd atynt, a chwiliodd, mewn gwylltineb, am geryg i ddial arnynt am y sarhad a gawsai, a bu gorfod ar y gwŷr mawr ddianc ar frys, a chafodd y pregethwr lonydd, trwy wylltineb y Gwyddel, i orphen y bregeth. Ond cyn iddynt adael y maes, gwaeddasant ar y pregethwr, ganfygwtli, os efe a barhäai i bregethu am fwy nag awr, yr edrycheut hwy am ei gosbi. Teimlai yutau yn Iled ddiofn, gau fod gauddo drwydded, a dywedai wrthynt, y gwyddai ef, yn llawTi cystal a hwythau, pa faint i barhau. Felly rhwng fi'yrnigrwydd y gwrandawi' Gwyddelig, a gwroldeb y pregethwr Cymi-eig, ui chafodd y gwŷi' anrhydeddus (?) nemawr o wobr am eu llafur.

Gwraig weddw, o'r enw Margaret, oedd y pryd hwnw yu dal y Morfa-mawr, yr hon, meddir, oedd yn wraig o gallineb a haelioni mawr. Symudodd y pregethu yn mhen rhyw gymaint o amser o'r Morfa-mawr, ar syraudiad y wiaig weddw oddiyno i fyw, i'r Storehouse : yn y Ile hwn y bu am ychydig o

PEN, V.] SIR ABERTEIFI. 67

amser, liyd nes adeiladwyd y capel. Dywedir mai dyu o'r enw Siôu Alban a adeiladodd y cwrdd cyntaf, ymron yn gwbl ar ei draul ei hun. Adeil- adwyd ef ar ry w gyttir (com.mon), nid ar unwaith, ond ar deirgwaith. Gwnai hyn, meddir, i edrych, wedi iddo gychwyn adeiladu, a gai ef lonydd gan elynion crefydd, i sefyll ar y cyttir, heb ei dynu i lawr. Ond wrth weled ei fod yn cael Uonyddwch, gorphenodd ef. Costiodd iddo, meddir, tua £15. Yr oedd hyn, medd fy ngohebydd, tua'r fl. 17G2. Wedi treigliad amser priodol, ac i'r lle ddyfod yn feddiant iddo yn ol y gyfraith, rhoes weithred anio i'r cyfundeb am fil o flynyddoedd ond im. Cyfl'elyb oedd y capel hwn i lawer anedd y pryd hwnw, hir a thô gwellt arno, y pulpud yn ei dalcen, a grisiau cerig mhwrion a charbwl o'r tu allan i fyned i'r pulpud. Yr oedd clwyd isel a rhwyllog o dan y pulpud yn ff"urfio matli o gôr mawr. Nid oedd yr olwg arno ond salw, fel yr oedd yr holl dai cyrddau ymron y pryd hwnw. Eto ymddengys i'r Hwn sydd yn preswylio y goruchelder a'r cysegi', weled bod yn dda roi ei brcsenoldeb yu y moddion a gynelid ynddo, fel ag i aoluib llawer o bechaduriaid, ac i chwanegu nifer eglwys Dduw.

Tua'r fl. 1795-G, bu adfywiad mawr trwy y wlad, a chwanegwyd llawer o aelodau at yr eglwys yn Llanon y pryd hwnw ; ac o honynt y mae rhai yn aros hyd heddyw. Yn fuan ar ol hyn, sef tua'r fl. 1797, daeth Mr. Herbert yn weinidog i lan y plwyf, ac yn fuan wedi hyny daeth Mr. Nathaniel Williams i'r ardal, trwy iddo briocU gweddw Siôn Alban, Penhin. Fe fu yr achos yn derbyn swcr a maeth trwy wasanaeth y gwŷr hyn am flynyddau, hyd nes y cymerodd neiUduad gwcinidogion le yn y corfí", pryd y dyrysodd yr achos i raddau, a tbros ryw dymhor ; pryd hef^^d y caed gwg y gŵr eglwysig yn Ue ei wên, a gwrthwynebiad Mr. WiUiams yn Ue ei nawdd.* Ond er y cwbl, parhaodd y Duw mawr i fendithio llafur ei bobl, mewn mesur mwy neu lai, hyd y dydd hwn.

Y mae yr oes a welodd weithredoedd nerthol Duw yu yr hen gapel a'r gwellt, wedi myned oU, ymron, o'r golwg ; oud y mae ambeU un eto ar gael, y rhai a fynegant i ni yn wresog iawn am yr ymweliadau grymus a brofwyd y pryd hwnw, y mwynhad a gaent wrth gyd-deithio íì'r hen bobl gyntaf i Langeitho, a'r llewyrchiadau tanllyd a roddid yno ar y weinidogaeth. Ond er maint a sonir ara ryfeddodau y tymhor hwnw, y mae anhawsdra mawr i gael dim ft'cithiau penodol, a hyny mewn ft'urf a threfn i'w dodi i lawr mewn ysgrifen. Crybwyllir, pa fodd bynag, am un Edward Evans, yr hwn a fu farw yn y fl. 1850, ac a fuasai flaenor am 50 o flynyddoedd, ei fod ef yn arfer myned i'r hen gapel pan yn wyllt ac anystyriol iawn ; a phan yr elai yno, gofalai am fyned i'r gongl bellaf oddiwrth y pregetliwr i wrando ; ond lui tro pau yn gwrando, gafaelodd y weinidogaeth yn ei gydwybod, nes ei lyncu yn Uwyr gan ystyriaeth a difrifoldeb ; ac ar ddiwedd yr oedfa, cafodd ei huuan yn ymyl y pulpud, wedi ei sugno yno, o gam i gam, heb yn wybod iddo ei hun. O hyny allan, ni feddyliodd am fyncd i'r gongl bellaf mwy :

* Gwel tudal. 469, Cyf. I.

68 UANESIAETH Y SIROEBD. [üOSB. IV.

oud os canfyddai iieb o'r aelodau yn rliyw encilio ychydig tiiag ati, parai i'r hen flaeuor amheu ei ysbryd ; ac oddiar y syniad hwn, clywid ef weithiau yn dywedyd, " Os gwelwch ddafad yn cilio oddiwrth y ddeadell, chwi ellwch fod yn sicr fod rhyw afiechyd arni."

Yn mis Ebrill, 1803, y dechreuwyd yr ysgol Sabbothol yn Llanon. Gwnaed hyn ar annogaeth y Parch, Ebenezer Richards, "a thrwy gynorthwy Daniel Davies, John Matthews, a John Rees. Nid oedd y wedd oedd arni yn ei chy- chwyniad ond isel iawn. Am rai misoedd nid oedd nifer ei deiliaid ond o 5 i 10. Hònid gan yr licn bobl mai aunheilwng oedd aros i addysgu plant i ddarllen, ac esgeuluso rayned i wrando pregethau, os byddai pregethau i'w cael 0 fewn cyrhaedd. lë, cyraaint oedd y difaterwch tuag ati, fel y bu gor- fod penodi pedwar o bersonau, a'u rhwyrao i fod yno y naiU yn niflyg y llall bob Sabboth. Ond er lleied oedd ei chychwyniad, ac er cymaint y gwrth- wynebiad a fu iddi dros ryw dymhor, hi aeth yn ralaen, ac a Iwyddodd, ac nid yw ei rhifedi bellach neraawr Ilai na 350. Yn fuan ar ol cychwyniad yr ysgol Sabbothol, y bu raid ail-adeiladu y capel. Gwnaed y newydd yn llawer helaethach na'r hen gapel a'r gwellt, ac yn y fl. IS^^, fe'i hadeilad- wyd y drydedd waith, ac yn awr y mae yn adeilad eang, hardd, a chyfleus.

Yn Llanon, y bu y Parch. Evan Eees yn preswylio; am yr hmi y gellid dywedyd ei fod ef yn " ŵr da, ac yn Ilawn o'r Ysbryd Glân ac o fl'ydd." Fe fu farw cyn cyrhaedd GO oed. Yr oedd yn bregethwr gwlithog a chymeradwy iawn, a tbeimlid colled fawr ar ei ol.

PENMORFA.

Fe adeiladwyd y capel cyntaf yn y gymydogaeth hon yn y fl. 1796, ond fe ymddengys fod pregethu yn y fro er ys 40 mlynedd cyn hyny. Adroddai gwraig yn yr ardal, yrhon a adwaenid yn gyfi'redin wrtli yr enw Pegi, Ffyn- nonberw, wrth y Parch. William Griffiths, Browydd, mai yn y raodd canlynol * y '^'yS^T'^ y Methodistiaid i ddechreu pregethu yn y Ile hwn. Yr oedd teulu, ar y pryd y cyfeiriwn ato, yn byw yn Mlaen-y-cwra, cynwysedig o ŵr a gwraig a chwaer y wraig. Yr oeddynt yn cadw siop fechan, ac yn dal ychydig 0 dir hefj'd. Nid oedd nemawr o bregethu yr efengyl yn y fro. Yr oedd Uyfrau crefyddol o bob math yn brinion iawn ; ond yr oedd " Canwyll y Cymry," gan Ficar Pritchard, wedi cyrhaedd y gymydogaeth hon, ac yn meddiant y teulu hwn. Arferai y ddwy chwaer ei ddarllen gyda gradd o ddwysder, ac nid yn ofer a difl"rwyth a fu eu gwaith. Parodd eiymadroddion dirodres argraff ddifrifol ar feddwl y chwiorydd, yn euwedigol un o honynt, ues peri anesmwythder yn nghylch eu hachos ysbrydol, a syched am adna- byddiaeth helaethach o bethau Duw. Nid oedd y gŴT yn profi dim o'r cyff"elyb weithrediadau, ond byw yr oedd yn ol helynt y byd hwn, heb " ofalu am ddim o'r pethau hyn." Arferai yn fynych halogi y Sabboth trwy werthu nwyddau o'r siop, a syrthiai yn fynych o dan rym nwydau drwg, i'r arferiad

* Caclarnheir yr hanes uchod gan y Parch. John Jones, Penniorfa.

PEN. V.] SJR ABERTEIFI. 69

isel 0 dyngu a rhegi. Parai yr ymddygiadau hyn gryu ofid i'r wraig, yr hon yn fynych a ymliwiai ag ef o'r herwydd.

Dygwyddodd i'r wraig unwaith ar ei ffordd i ffair y Ehos, glywed gŵr yn pregethu mewn pentref, o'r enw Talsarn, ar lan Aeron. Y pregethwr ydoedd William Eichard Llwyd, Lhmgeitho ; ac allan yn yr awyr agored y pregethai. Safodd y wraig ysbaid o amser, sef hyd ddiwedd yr oedfa, ar ei cheffyl, i wrando y bregeth ; jt hon oedd wedi dwysâu teimladau crefyddol ei mynwes i raddau mawr. Wedi darfod y bregeth, aeth at y pregethwr, gan daer erfyn arno addaw ymweled â'i chymydogaeth hi mor fuan ag y gallai. Cydsyniodd y pregethwr â'i chais, a phenderfynwyd ar yr amser a'r modd yr oedd iddo ddyfod. Ar ei dychweliad adref, mynegodd i'w gŵr pa beth a ddygwyddodd iddi yn ei thaith, yn enwedig y modd y clywsai y bregeth, ac y cawsai addewid gan y pregethwr i ddyfod i bregethu i Flaen-y-cwm, ar ryw amser penodol. Cyffrôdd y gŵr yn fawr wrtli glywed hyn, a chyda llŵ a ddywedodd, na " cha'i neb o'r fath ddyfod i'r hwnw, tra y byddai ei ddau lygad ef yn agored." Parodd hyn gryn bryder i'r wraig, a cheisiodd â'i holl egni ymliw â'i gŵr, a chael ganddo roddi derbyniad i'r gŵr dyeithr ; ond y cwbl yn ofer ; ni fynai mewn un modd gydsynio â'i chais ; a chan mor benderfynol yr ymddangosai yn ei wrth.wynebiad, nid doeth a diberygi hollol oedd i'r pregethwr ddyfod yno.

Yn y dyryswch hwn, aeth y wraig at frawd iddi, yr hwn oedd yn byw yn y gymydogaeth, mewn tyddyn o'r enw Nant-tŷ-mawr, ac a fyuegodd iddo ei phenbleth, gan daer ddymuno arno ef roddi caniatâd i'r gŵr dyeithr bregethu yn ei ef. Yntau, er mwyn boddloni ei chwaer, ac nid er mwyn cariad at yr efengyl, a addawodd y ca'i ef bregethu yno, os gwnai efe hyny dan berthi drain ag oedd yn ymyl y tỳ ; ond nid oedd yn foddlawn iddo ddyfod i'r tŷ. Ar yr addewid hon y bu raid i wraig Blaen-y-cwm foddloni. Daeth yr am- ser a benodwyd rhyngddi â'r pregethwr i ben, ac yntau a fu cystal â'i air, Ond er maint oedd gwrthwynebiad Thomas, Blaen-y-cwm, i dderbyn y pregethwr i'w dŷ, nid oedd heb deimlo rhyw ysfa i gael ci wrando ; naiU ai oddiar ddichell, gan ddysgwyl ciywed rhyw bethau a fyddent yn ddefnydd achwyniad yn ei erbyn, ac yn gryfhad i'w elyniaeth tuag at y penau-cryniaid, neu ynte, y gorchfygid ef gan ryw ysfa gywrain i glywed y cwbl. Pa fodd bynag, fe ddaeth yntau i'r oedfa, yn fwy fel ysbiwr nag fel gwrandawr. Ond er nad oedd ganddo ef neges â'r efengyl, yr oedd gan yr efengyl neges ag ef. Bu gorfod i'r ysb'iwr droi yu wrandawr. Teimlodd lewyrchiadau y gwirion- edd yn goleuo ei feddwl, ac yn deffro ei gydwybod. Aeth yn drech na'i gyn.. dynrwydd ; a gwnaed ef o hyny allan yn ufydd ddysgybl i'r addfwyn lesu. Ac nid gẃr Blaen-y-ewm oedd yr unig un a orchfygwyd gan y wcinidogaeth ar y pryd, ond fe fu yr oedfa hòno yn fendithiol i bedwar-ar-ddeg o eneidiau.

Pan agorodd yr Arglwydd galon Lydia i ddal ar y pethau a lefarid gan Paul, hi a ddywedodd wrtli Paul a Silas, " Deuwch i'm ac aroswch yno, A hi a'u eymhellodd hwynt." Yr un modd y bu gyda Thomas, Blaeu-y-cwm. Ar ddiwedd y bregeth, aeth at ei wraig yn fwynaidd iawn, a dywedodd^

70 HANESIAETH Y SIROEDD. [UOSB. IV.

" Cais gan y pregelliwr (Idyfod i'ii ui heuo i gysgu." Yn Ilawen iawn, yn ddian, y gwnaeth hithau hyny ; telly cafodd y gŵr fendith (h-agwyddol i'w enaid, y wraig ei hewyllys, a'r pregethwr ei lety. Ac nid yn waglaw, meddir, yr anfonwyd y pregethwr ymaith boreu dranoeth. Ehoes y gŵr iddo ddefn- ỳdd rhyw ddilledyn, cyn iddo ymadael, fel prawf o'i gywirdeb, a ífrwyth ei gariad.

Yn Mlaen-y-cwm y bu y pregethu am lawer o ílynyddoedd. Yn y hwn y dechrcuwyd y cyfarfod eglwysig gyntaf ; ac yn y teulu hwn yr oedd Pegi, Ffynnon-berw, yn forwyn ieuanc ar y pryd y soniwn am dano ; ac yma yr ymunodd â'r eglwys fechan, pan oedd tua un-ar-bymtheg oed. Nid oes lianes genym yn mha fodd, gyda manylrwydd, yr aeth yr achos yu ei ílaen yn y Ue hwn , ond nid oes amheuaeth nad trwy foddion cyfîelyb ag a ddefnyddid trwy yr hoU wlad, sef gweinidogaeth y gair, ac yraarferiadau crefyddol eraill, vn nohyda Uafur a diwydrwydd persouol rhai a garent enw Mab l)uw.

Dvwedir fod y Parch. William WiUiams, Pant-y-celyn, wedi rhagfynegu am. Iwyddiant yr achos yn y Ue, ac am y lle yr adeiledid capel arno, tuag ugain mlynedd cyn i hyny gymeryd lle. Pel yr oedd y gŵr parchedig un- waith yn myned o gymydogaeth Blaen-anerch i fíìniau Lhngranog i bregethu, ac yn myned heibio y fan y mae y capel arno yn awi-, efe a safodd ar ei geffyl, ac a ddywedodd wrth y dynion a gyd-deithient ag ef, " A welwch chwi bridd y waudd acw ? yn y fan yna y pregethir llawer ar yr cfengyl, ac yr achubir cannoedd o ddyniou." Yr oedd hyn 20 mlynedd cyn meddwl am gapel yn y Ue. A gadael heibio y syuiad fod un rhagfynegiad dwyfol yn y dywediad, y mae y cyd-darawiad rhw^ng y daroganiad â'r ffaith yn hynod.

BLAENANlîRCH.

Ee ymddengys mai yn y fl. 1794 yr adeiladwyd y capel cyntaf yn y Ue hwn. Ond nid oes i ni feddwl mai dyma oedd y tymhor cyntaf y rhoes Methodistiaeth ei droed i lawr yn y fro ; oblegid yr ydym yn cael yn nghof- uodau Trefecca am bregethu mewn Ue a elwir Ffrwd-wenith,* mor foreu a'r blynyddoedd 1742-5. Am y lle hwn y dywed yr arolygwr William Eichard, yiì ei adroddiad i'r gymdeithasfa, yn y fl. 1745 :

" Mae amryw o'r brodyr yn y gymdeithas hon yn dra siriol, ac wedi eu cadarnhau yn y ffydd, yn cynyddu yn hyfryd yn mhob gras, ac yn ngwybod- aeth y gwirionedd. Mynych y gorchfygir hwy gan aUu Duw, ac y llenwir hwy a Uawenydd yn yr Ysbryd Glân ; eto y mae yma rai nad yw gras Duw ddim yn llewyrchu mor ddysglaer ynddynt. Chwanegwyd un ar ol fy ad- roddiad diweddaf, a hyderwyf ei bod yn ferch i Abraham."

Yr ydym wedi son eisoes am hanes Llechryd,f fod yn y fro hon ddwy wraig a elwid Pegi ac Esther, y rhai a fu yn nodedig o lafurus a ffyddlawn gydag achos y Gwaredwr, mewn tymhor nad oedd iddo nemawr o nodded a sylw. Yr oedd un o'r gwi-agedd duwiol hyn yn byw yn Wernynad, Ile

* Gwel tudal. 5, Cyf. II. t Gwel tudal. 31, Cyf. 11.

PEN. V.] SIR ABEUTEIFI. 71

rliwDg Llechryd a Blaenanerch ; ei lienw priodol oedd Älargaret Daf\ dd Rhys. Ymddengys y bu pregethu di-os ryw dymhor yu Ngwerynad ac yn Ffrwd-wenith. Yr oedd Margaret Dafydd Rhys yn arfer myued o amgylch y wlad gyda rhyw fasnach oedd gauddi, ac yn cymeryd y cyfleusdra a roddid iddi trwy hyny i gyfarfod ag amryw bregethwyr a chynghorwyr, ac i gael ganddynt addaw dyíbd i'w hardal i bregethu. Y pryd hyny hefyd, yr oedd yu haws gan bregethwyr fyued ar gais cyfeillion crefyddol i bob man y clyw- ent fod drws agored i'w derbyn. Yr oedd Pegi, Werynad, yn y modd yma yn llwyddo i gael Uawer o wŷr dyeithr i ymweled â'i chartref, o Langeitho, a manau eraiU yn sir Aberteiíi, a'r siroedd cyfagos. Disgynai cynaliad yr achos yn y lle, ymron yn llwyr, arni hi, mewn undeb ag ychydig uiferyn y lle a garent yr efengyl.

Yn mhen rhyw ysbnid, symudwyd y pregethuo'r Ffrwd-weuith i Dremain. Yn y lle hwn cynelid y moddion yn uhŷ un Nicholas, Tŷ'r-groes, oiid y llety a geid yn nhŷ Margaret Dafydd Rhys. Cedwid y cyfarfod eglwysig yn y lle hwn bob pymthegnos. Yr oedd hefyd gyfarfod" eglwysig yn cael ei gynal yn Aberporth, neu mcwn cwm uwchlaw Aberporth, ac fe allai fod y cwrdd eglwysig yn y Ue olaf hwn wedi ei gychv,-yn o flaen yr un yn y Ffrwd-wenith. Sonir am gyradeithas Aberporth yn ysgrifion Trefecca, a hyny mor foreu a'r fl. 1743, fel yr hysbyswyd eisoes mewn Ile arall ; ac nid auuhebyg ydyw ua fyddai crefyddwyr y ddau le yn cyd-gyfarfod â'u gilydd yn fynych. Tua'r fl. 1776, sef tua 30 mlynedd ar ol cychwyu y gwaith yn Ffrwd-wenith, nid oedd nifer y dysgyblion oud 30. Gellid meddwl fod cryn anwadalwch yn perthyn i amryw o'r dysgyljlion ieuainc, a Ilawer o anwybodaeth, yn gymysg â thym- herau gwylltion, fel ag y ceid amryw o honyut yn cilio yn amser profedig- aeth. Y^n ystod y tymhor a nodwyd, yr oedd awelon gwenwyuig yr ymraniad wedi chwythu ar y planhigion ieuainc, fel nad yw ryfedd, wrth ystyried holl amgylchiadau y tymhor crybwylledig, nad oedd y uifer yn y fl. 1776 ond 30.

Tua'r fl. 1792 y dechreuwyd pregethu ar y Sabboth yn Tremain. Y rhai a ddeuai yma i bregethu oeddynt, WiUiam Lloyd, Caio ; William Eichard Llwyd ; Dafydd Morris ; Joues, Llaugan ; Sampsou Thomas ; Jones, Llandud- och ; a Griflìths, Nefern. Yr oedd y ddau olaf yn arfer pregetlui yn y lian, yn y Mant, yr un Sabboth ag y byddent yn Tremain. Disgynodd dafnau o'r cawodydd bendithiol, a roddwyd ar y wlad wedi marwolaeth Eowlands, ar y lleoedd hyn hefyd, sef tua'r fl. 1793 ; ac yu y flwyddyn ganlynol, adeiladwyd yma gapel, gan ei alw yn Blaeuanerch, oddiar y llaiu tir, meddir, yr adeilad- wyd ef arno. Yr oedd hyn tua 50 o flyuyddoedd ar ol dechreu pregethu yn y Ffrwd-wenith ac Aberporth.

Dechreuodd yr ysgol Sabbothol yn y Ue hwn tua'r fl. 1806, i'r hon y bu y Parch. Ebenezer Morris yn noddwr rhagorol, fel y cawn weled yn mlaen pan y deuwn at ei haues. Cynaliwyd yma gymanfa ysgolion * tua'r fl. 1808, a phrofwyd gradd helaeth o adfywiad ar yr achos yn y Ile, fel y bu raid hel-

* Dywedir mai hon oedd y gymanfa ysgolion gyntaf a fu, o leiaf, yn y Deheubarth.

72 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

aethu y capel. Tua'r amser hwn y sonir am bregeth ueillduol i Mr. Ebenezer Morris, pryd y daeth un-ar-ddeg i'r un cwrdd eglwysig mewn canlyniad iddi. Bu yma adfywiadau eraill drachefn, yn ueillduol yr un yn y fl. 1823, pryd y daeth tua 140 o aelodau i'r eglwys, y rhai gan mwyaf a barhausant yn ffyddlon yn eu profí"es hyd eu diwedd,

Yn y Ile hwn y dechreuodd y Peirch. John Jones a Daniel Davies, bregethu, y rhai ydynt eto yn aros ar y maes, yn nghryfder eu nerth a chauol eu dydd- iau. Ail-adeiladwyd y capel yn y fl. 1838.

CAPEL-Y-DRINDOD.

Dechreuodd yr achos Methodistaidd yn yr ardal hon yn Llandyfriog, yu nhŷ Mr. GrifRths yr off'eiriad, yr hwn oedd yn dra fi'afriol i'r diwygiad Methodistaidd. Cynelid y gymdeithas eglwysig, ary pryd, yn nhŷyr ofteiriad, ac yn y Uan y derbyniai yr aelodau y cymuu, eto er hyn, ystyrient eu huuain yn Fethodistiaid, ac ystyrid hwy feUy gan eraiU. Y cyfryw oedd teimlad cyfeiUgar yr offeiriad hwu, fel ag y byddai pregethwyr y Methodistiaid yn pregethu, fel y dywedwyd, yn ei dŷ, ac yn cael eu croesawu dau ei gronglwyd.

Yn y fl. 1792, tueddwyd meddwl Thomas Lloyd, Ysw., Bronwydd, at grefydd. Nid yw yr hysbysiadau sydd genyf yn mynegu pa fodd y dygwyd y cyfnewidiad mawr ar Col. Lloyd. Hysbys ydyw ei fod, yn flaenorol i'r tro hwn, yn ddyn anystyriol a chwbl ddifeddwl am ei ddiwedd ; dylynai, fel y rhan fwyaf 0 foneddwyr, y cẃti hela, a difyrwch cyffredin y dosbarth yr ysgogai ynddo ; ond trwy ba foddion bynag y bu hyny, cyfnewidiad mawr ac amlwg a wnaed arno. Ehoes heibio, ar unwaith a thros byth, yr arferion a dybiai yn ddiles ; dyfethodd y cŵn hela, gau ymroddi i wasanaethu ei Dduw a'i genedl- aeth, mewn Uwybrau Uai amheus, a Uawer mwy sylweddol. Dywedir ei fod ef a Mrs. Lloyd yn meddu ar dduwioldeb nodedig. Dywedai y Parch. Thomas Jones o Gaerfyrddin, jt hwn a gyfeiUachai Uawer â hwynt, na chyfarfu ef â gwY a gwraig duwiolach na hwy yn ei oes.

Yn nihen tua dwy flynedd, sef yn y fl. 1794, ar ol dychweUad y müwriad at grefydd, efe a osododd yn ei fryd i adeiladu addoldy ar ei dii', ae ar ei draul ei hun ; a hyny hefyd a wnaeth, ac a'i galwodd Capel-y-Drindod, gan awgrymu, o bosibl, ei wrthwynebiad cryf i syniadau yr Undodiaid, y rhai oeddynt, ac ydynt eto, yu Uuosog yn y parthau hyny. Yr oedd y capel hwn, ar y pryd, yn un o'r rhai harddaf, os uad yr harddaf o gapelau y sir ; ac wedi ei gwbl orphen, aeth y gŵr boneddig ei hunan i gyfarfod misol y Meth- odistiaid, yr hwn a gyneUd yn Mhen-y-morfa,* i'w gyflwyno yu anrheg i'r cyfundeb ; a hyn a wnaeth, mcddai yr hen bobl, mewn duU gostyugedig a hunau-ymwadol iawn. Yr oedd y milwriad hwn yn fwy ei gyfoeth, ac yn uwch ei swydd, na'r canwriad gynt, ond yn gyôelyb iddo o ran uaws ei ysbr^'d,

* Cjpelid y cwrdd niisol yu yr Esger, fferm yn nghymydogaeth Fen-morfa, sir Aberteiíi.

PEN. V.] SIR ABERTEIFI. 73

a'i gymeriad uchel, am yr hwn y dywedodd yr luddewon, " Y raae efe yn caru ein cenedl ni, ac efe a adeiladodd i ni synagog."

Nid yn fynycli y gwelii- milwriaid yn mysg crefyddwyr o un enwad, ac an- fynych, yn wir, yn mhlith y Methodistiaid ; ond odid na fu yn ystod y can' mlynedd sydd wedi pasio yr un milwriad (colonel) mewn cwrdd misol, yn anrhegu y Methodistiaid â thŷ hardd, diddyled, i addoli yuddo, ond hwn. Ac nid codi y capel oedd yr unig arwydd a roes Mr. Lloyd o'i gariad at yr efengyl, eithr efe a gyfranai yn helaeth tuag at gynaliad y weinidogaeth yn y lle. Dewisodd hefyd bedwar o weinidogion i bregethu yn y capel ar 'nail, fel y dywedir, neu ar gylch. Y rhai cyntaf a ddewaswyd oedd y Peirch. Samuel Lloyd, Abertawe ; John WiUiams, sir Benfro, gynt yn student yn Nhrefecca ; Hughes, oíTeiriad , a Benjamiu Evans, Drewen, Annibynwr ; a Morgan Jones, Trelech. Ar ol marwolaeth Samuel Lloyd, nodwyd Thomas Jones, Caerfyidd- in, ac Ebenezer Morris, i gyflawni y Sabboth hwnw bob yn ail. Ehoddai Mr. Lloyd hanner gini i'r pregethwr a wasanaethai y Sabboth, a thri swUt tuag at draul yr oedfa a gynelid yn y capel bob dydd Mercher y boreu !

Yn mhen tua phedair blynedd ar ol adeiladu y capel, cafwyd caniatâd gan y gymdeithasfa i weinyddu swper yr Arglwydd ynddo ; yr hyn, mae'n debyg, ni chawsid oni bai fod dylanwad y boneddwr yn cyrhaedd yn mhell, a Mr. Griíîiths, ofiFeiriad Llandyfriog, yn cydsynio. Arferai Mr. a Mrs. Lloyd gymuno yn y capel hyd ddydd eu marwolaeth, er eu bod yn ystyried eu hun- ain yn a^pdau o eglwys Loegr, ac yn arfer cyfranogi o swper yr Arglwydd yno hefyd. Tuag at barhad y weinidogaeth yn y Ue ar ol ei farwolaeth, gadawodd y milwriad £600 yn ei lythyr cymun, dyddiedig Gorphenaf 3, 1795, i ofal ymddiriedolwyr, i'w gosod aUan ar lôg, a'r Uôg o flwyddyn i tìwyddyn, i gael ei ddefnyddio i gynal pregethiad yr efengyl ddwywaith bob Sabboth, os byddai bosibl ; ac i dalu pob traul araU a ddygwyddai, ond na theUd gan deulu y Bronwydd eu hunain.

Yn y fl. 1808, bu farw y boneddwr parchus a duwiol; ond yr oedd Mrs. Lloyd yn feddiannol o'r un ysbryd a'i phriod, ac yn wraig hynod am ei synwyr cryf, yn gystal ag am ei duwioldeb. Ehoes Mrs. Lloyd £^00 yn ychwanegol at yr un swm a roddasid o'r blaen, i ofal yr ymddiriedolwyr, i'w gosod aUan yr un modd, ac i'r un dyben. Y mae y £1,200 hyn yu awr dan ofal yr un ymddiriedolwyr, a'r rhai hyny yn dri o foneddigion o feddiannau helaeth yn y wlad, a'r llôg yn cael ei ddefnyddio, hyd yma, gyda chysondeb, at y dybenion gosodedig, a'r capel hefyd yr un wedd yn cael ei gyflenwi yn Sabbothol â gweinidogaeth gyson. Un Sabboth yn y mis a gyflenwir, yn ol yr hen arfer, gan weinidog Annibynol, a'r tri eraiU gan Fethodistiaid ; ond er y cymysgiad hwn yn y weinidogaeth, nid oes yno ond un gangen o eglwys, a hòno yn Fethodistaidd.

Ee ymgynyg, yn ddiau, i feddwl y darUenydd, fel y gwnaeth i'r ysgrifen- ydd, paham y bu yr ymgymysgiad hwn ? Ar ryw gyfrifon fe ymddengys yn annaturiol, pan yr ystyriom nad oedd y milwriad yn proff"esu ei hun yn aelod gyda'r Methodistiaid, a Uawer llai gyda'r ymneiUduwyr ; a phan yr ystyriom

74 HANESIAETH Y SIROEDÜ. [UOSB. IV.

hefyd, ei íbd yu cyflwyuo y capel i'r Metliodistiaid yu uuig. 1 gyfarfod â'r ymofyuiad liwn, dywedir, yn gyntaf, fod Mr. Evans, Drewen, y gweinidog Aunibynol yno ar y pryd, pan y clybu am y cyfnewidiad a ddaethai ar y boneddwi-, a'r trallod ysbrydol a ddaliasai ei feddwl, wedi myned i ymweled ag ef, i'w gyfarwyddo a'i ddyddauu ; ac mewn teimlad o garedigrwydd ato, ddarfod i'r boneddwr ofyn iddo ddyfod i'w gapel un Sabboth yn y mis i bregethu, ac iddo yutau gydsynio â'r cais. Yn ail, dywedir fod pregethwyr ac olfeiriaid ]\Iethodistaidd, o bob cwr o'r wLid, yn arfer myned y pryd hwnw i'r ŵyl fisol i Laugeitho, fel ag y byddai anhawsdra cael gweinidog cymhwys i gyflenwi y Sabboth hwnw gyda chysondeb ; ac mai yr ystyriaeth o hyn a barodd i Mr. Lloyd ofyn cynorthwy Mr. Evans ar y Sabboth hwnw. Pa un bynag, hysbys ydyw mai Sabboth cymuudeb Llangeitho ydyw Sabboth yr Aunibyuwyr yuo hyd heddyw.

Mewu geiriau yn unig y trosglwyddodd y Milwriad Lloyd feíUliant o'r capel i'r Methodistiaid, heb wneyd hyny trwy weithred gyfreitl\iol, gan na thybid, ar y pryd, raae yn debygol, fod hyny yn angeurheidiol. Ond y diíîyg hwn a wuaed i fyny gan ei fab a'i etifedd, sef y diweddar Thomas Lloyd, Ysw., yr hwu, yn y fl. 1819, a roddodd weithred (leasej am 1/00 ml. ar y capel, ac ar ddarn o weirglawdd-dir gerllaw iddo, a roddasid gau ei dad yn gysylltiedig â'r capel, i ymddiriedolwyr. Mae yr'ymddiriedolwyr hyn i gael eu dewis o bryd i bryd, o blith aelodau y Methodistiaid, i'r rhai y perthyn yr hawl i nodi pregethwyr i gyflenwi y Sabbotbau. ^

Y'sgrifena fy hysbysydd ataf gau ddweyd, " Mae rhyw beth a fyuo teulu Bronwydd â chrefydd hyd y dydd hwn. Mab y dywededig foneddwr, yr hwn yutau a fu farw tua phedair neu bum' mlynedd yu ol, oedd ŵr boneddig a gerid yn fawr yn ei wlad. Yr oedd yn bleidiol iawn i wir grefydd, ac yn barchus o bobl dduwiol, o ba enwad bynag. Yr oedd yn llywydd i gangen o Eeibl gymdeithas yn ei ardal ; ac ar ei chylchwyl flyuyddol, areithiai yn gampus o'i phlaid. Arferai ef a'i foneddiges, yr hon sydd eto yn fyw, ddyfod i wrando, ymron bob Sabboth, i Gapel-y-Drindod, tra bu ef by w ; ac hyd heddyw, parod ydyw y weddw i ddaugos pob caredigrwydd i achos yr efeugyl. Mae Thomas Lloyd, Y'^sw., ŵyr i Col. Lloyd, yn \vr hynaws a chrefyddol. Aelodau ydyw ef a'i foneddiges yn eglwys Loegr, a dangosant lawer o ym- roddiad i wneuthur daioni yn y gymydogaeth, er darostwng pob anfoes yn mhlith y genedl, ac er lledaenu addysg a rhinwedd, trwy bob moddion o fewn eu cyrhaedd.

Ee fu y Mihvriad Lloyd farw, fel y dywedwyd, tua thair blynedd cyn i'r neiUduad gymeijd lle yn mysg y Methodistiaid ; ac yn mhen tua thair blynedd wedi i'r amgylchiad hwnw fyned heibio, fe fu ymraniad yn y gynulleidfa hon. Aeth tua'i hanner at yr offeiriad i'r Ilan, a bu y blaid hon yn cadw cyradeithas eglwysig yn y capel hyd y fl. 1836, sef ysbaid dwy flynedd ar .hugain; oud yn y flwyddyn grybwylledig, bu rai o wýr blaenaf y blaid feirw; ac yn raddol bu farw y gymdeithas hefyd. Ymddengys hefyd, na roddid caniatâd i neb weinyddu swper yr Arglwydd yn y capel hwn ond ofifeiriaid yn unig, am

PEN. V.] SIR ABERTEin, 75

lawer o flynyddoedd ar ol y neiUduad yn ISll. A'r cyntaf a gafodd ganiatâd i weiuyddu, heblaw offeiriaid wedi derbyn cyflawn urddau, oedd y Parch. John Evans, New Inn, fel y gelwid ef unwaith, o herwydd fe'i hystyridef yn hanner offeiriad. Yn y flwyddyn 1831 y bu hyn, sef yn mhen 20 ml. ar ol y neiUduad. Ar ol i'r bwlch hwn gael ei wneuthur yn y mur, daeth y Parch. Thomas Richards, Abergwaen, a Jeukin Davies i mewu. O'r diwedd daeth y capel hwn yn rhydd, fel capelau eraill, i hoU weinidogion y cyfundeb i weinyddu yr ordinhadau ynddo.

Yn y Ue hwn y dechreuodd Daniel Evans bregethu, yn y fl. 1808. Y mae enw y gŵr hwn yn dra adnabyddus mewn De a Gogledd, fel pregethwr cymeradwy. Teithiodd lawer ar y dywysogaetli, am 38 o flynyddoedd, a bu farw yn y fl, 1S-Ì5, yn 71 mlwydd oed. NeiUduasid ef i holl waith y wein- idogaeth yn y fl. 1826.

Y'n y lle hwuy dechrenodd Joseph Eees bregethu yn y fl. 1829, yr hwn oedd ŵr call a da, ac yn bregethwr derbyniol. Symudodd oddiyma î Bont-rhyd- fendigaid, yn y fl. 1839 ; ordeiniwyd ef yn y fl. 1841 ;— ond ni fu ei yrfa weinidogaethol ond bèr; bu farw yn y fl. 1847, ac y mae ei goffadwriaeth yn arogli yn beraidd yn mysg ei holl frodyr.

LLANBEDR.

Fe ymddengys wrth gofnodau'Trefecca, fod pregethu yn y dref hon, neu ei chyffiniau, wedi dechreu mor foreu a'r fl. 1 745 ; ac nid yn unig yr oedd yma bregethu, ond hefyd yr oedd yma gymdeithas eglwysig, dan arolygiad cynghorwr o'r enw James WiUiams, yr hwn a osodasid ar y dosbarth hwn o'r wlad, Fe ysgrifenai y gŵr hwn at y gymdeithasfa, yn y fl. 1745, gan gyfeirio at Lanbedr, fel hyn ; " Y mae cymdeithas fechan, oddeutu 22 o rifedi, yn Llanbedr, y rhai a ymgadwant mewn cymdeithas agos â'u gilydd, ac hefyd, mor bell ag y gallaf fi farnu, ymgadwant yn ddyfal gyda'r Arglwydd lesu, a mwynhant llawer gwledd nefolaidd. Y mae yma ychwaneg ar brawf, y rhai y dysgwyliwn a ddaw yn mlaen, fel y mae hefyd mewn Uawer o fanau eraill. Mae Uawer o eneidiau yn y Gogledd yn gw^ieddi am fwyd, gau hiraethu am weled teyrnas yr Arglwydd lesu yn uchel ; yr hyn caniataed Duw er mwyn Crist. Amen."

Yn mhen ychydig fisoedd ar ol ysgrifeuu yr adroddiad uchod, y mae yr un gŵr yn ysgrifenu drachefn, fel hyn : " Y mae yma yn Llanbedr 29 o aelod- au. Yr wyf yn credu fod rhai o honynt yn mwynhau Uawer o Dduw, fel y mae yn hyfryd bod yn eu pUth." JAMES WILLIAMS,

Y crybwyUiad cyntaf a gawn am Lanbedr yn nghofnodau Trefecca, ydyw yn y fl. 1 743, pryd y profwyd gradd o aflonyddwch oddiwrth Üstus Heddwch a'i weision.* Pa hyd y parhaodd y nifer dysgybUon hyn i ddyfod at eu gilydd, nis gwyddom. GaUwn feddwl fod dyryswch wedi dyfod i ran y cyfarfodydd eglwysig hyn, yn yr adeg y ciHodd Harris oddiwrth y Method-

* Gwel tudal, 9, Cyf. II.

76 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

istiaid; ac mai eu harfer, yn yr ardaloedd o amgylch Llangeitho, oedd myned yno, lawer o honynt yn Sabbothol, ac eraill yn fisol, pryd yr oedd y cyfar- fodydd lleol a gynelid unwaith yn eu mysg wedi eu goUwng i lawr, neu ynte yn cael eu cyual yn achlysurol, pan y damweiniai iddynt gael cynorthwy at hyny; ond pa wedd bynag oedd arnynt, nid oes genyf ddim hanes ysgrifenedig am danynt wedi y íl. 1746-7.

Dywedir fod y Parch. George Whitfield wedi bod yn pregethu yn Llan- bedr ; ei fod yn sefyll allau ar yr heol, a chynulleidfa fawr iawu yn ei wrando, ar brydnawn Sabboth. Bernir mai gŵr boneddig o'r enw Syr Herbert Lloyd, yr hwn, y pryd hwnw, a artrefai yn Ffynuon-bedr, hen balas gwych iawn gerllaw y dref, a fu yn offeryn i gymhell ì,ír. Whitfield i ddod i ymweled â'r parth hwn o Gymru. Nid oedd nemawr o arwyddion crefydd ar y boneddwr ei hun, eto yr oedd ganddo barch i grefyddwyi', ac i'r diwygiad Methodist- aidd. Hwyrach ei fod yn awr ac eilwaith yn gwrando ar Eowlands yn pregethu yn Llangeitho, a thrwy hyny fod ei farn wedi ei henniU o blaid crefydd, er na fynai ei ewyllys ei chofleidio. Tybir, hefyd, y gallai ymddy- ddanion ac esamplau dwy foneddiges dduwiol, y rhai oeddynt, tybygid, yn berthynasau iddo, ac yn byw yn y Foel-allt, yn LLanddewi-brefi, fod yn foddion i liniaru ei ragfarn, a'i euuill i fod yn bleidgar i grefyddwyr.

Ymddengys ddarfod gosod gradd o hynodrwydd ar yr oedfa grybwylledig, trwy mai y gẃr mawr uchod a gafodd ganddo ddyfod ; a thrwy fod y pregethwr ei hun yn hynotaf yn ei oes ; ac hefyd trwy fod pregethu allan ar yr heol yn newyddbeth, y fath na welsid erioed o'r blaen. Dywedir fod y bregeth hon wedi efifeithio yn fawr ar lawer, cymaint, o leiaf, ag a barodd iddynt son am dani dros amser maith, a meddwl yn well am bregethu y tu allan i eglwys y plwyf, nag a wnaethent cyn hyny ; eto nid oes son am neb wedi cael ei ddychwelyd at Dduw trwyddi.

Yn fuan ar ol hyn y bernir i foddion crefyddol gael eu sefydlu hwnt i'r afon, y tu allan i'r dref, mewn Ile a elwir Ty'n-yr-heol. Fe ddichon mai dyma oedd y Ile y cyfeiria cofnodau Trefecca ato, Ile yr oedd pregethu achlysurol gan ambell gynghorwr, a chyfarfodydd eglwysig yn cael eu cynal, dan arolygiaeth James Williams, fel y crybwyllasom eisoes, ac i'r achos ag oedd yma gael ei chwalu wedi i beiriandrefn Howel Harris ddyrysu yn y fl. 1751. Pa fodd bynag, nid oes genym ddim ychwaneg o hanes yr achos am jrsbaid 24 o flynyddoedd, sef hyd y fl, 1775. Y pryd hwu fe adeiladwyd addoldy yn nes i'r dref, mewn Ile mwy cyfleus na Thy'n-yr-heol, mewn man a elwid y Creigiau. Bemir fod yr addoldy hwn, i raddau helaeth, dan olyg- iaeth Mr. Eowlands, Llangeitho, a'i gynulleidfa ; mai efe a biai y tir y safai arno, a bod gofal y lle, i fesur, ar ryw hen ddiacon a berthynai i Langeitho. Yn y wedd yma yr ymddengys i'r achos gael ei gynal am flynyddau. Ai amryw o'r crefyddwyr i Langeitho, tua 10 milldir o fibrdd, ar foreu Sabboth, ac wedi mwynhau y gwasanaeth yno, dygent gyda hwy ryw bregethwr i'r Creigiau yn yr hwyr. Yr oedd yr achos yn ymwreiddio yn raddol yn y modd yma, a Methodistiaeth yn ymeangu. EnniIIid mwy o sylw y werin, a llawer

PEN. V.] SIK ABEUTEIFI. 77

a ddeuent i wraiido y gair. Cynelid moddion yn achlysurol mewn amrywiol fanau yn y broydd o amgylch, megys yn Tan-y-flForest, Deri Ormond, Pant- y-log, Nanteifiol, &c. Yr oedd gAveinidogaeth Llangeitho wedi ennill rhw nifer o ddysgyblion, yn yr holl barthau hyn oddi anigylch, y rhai a agorent eu drysau i dderbyn pregethu i'w tai, ac a sychedent am i air y bywyd gael ei gyfranu iddynt, bob un yn ei fro ei hun, Ar Sul pen mis, aeut oll ymron i Langeitho, yr unig le y pryd hwnw y gweinyddid swper yr Arglwydd iddynt.

Yn mhen rhyw nifer o flynyddoedd, symudwyd yr achos o'r Creigiau i'r dref, i Mr. David Jenkins.* Nid yw yn ymddangos fod cynydd Meth- odistiaeth wedi bod mor helaeth yn y fro hon, yn ystod ei arosiad yn y Creigiau, ag y bu mewn llawer o fanau eraill yn y wlad ; a bamwyd y galiai ei symudiad i le mwy cyfleus fod yn fuddiol. Cafodd yr achos nyth glyd yn nhŷ Mr. Jenkins am lawer blwyddyn. Yn y hwn yr ymgynullai yr eglwys ; yma hefyd y cynelid y pregethu, Yr oedd y moddion cyhoeddus yn chwanegu o flwyddyn i flwyddyn, fel yr oedd doniau gweinidogaeth De a Gogledd yn lluosogi, ac yn nhŷ Mr. Jenkins yr oeddynt oll yn cael eu cadw. ('ynaliwyd yma hefyd amryw o gyfarfodydd misol y sir, a cliofir yn hir am rai pregethau a draddodwyd yn y hwn, am eu coroni ag ardderchogrwydd tra nodedig. Sonir yn neillduol am un oedfa a gynaliwyd yma ar ddydd marchnad ; y pregethwyr oeddynt y Peirch. T. Eichards, Abergwaun, a John Eoberts, Llangwm. Cerddodd y fath awdurdod a grym gyda'r weinidogaeth y tro hwn, nes oedd y gynuUeidfa yn toddi mewn dagrau, y farchnad a'i helynt wedi eu hanghofio dros enyd, a'r meddwl wedi ei orlenwi gan bwysigrwydd pethau tragwyddoldeb.

Nid oedd yr eglwys eto ond ychydig o rifedi ; ond yr oedd ansawdd dy- munol ar eu hysbrydoedd, gan eu hoft'der at eu gilydd, a chan eu syched i fwynhau moddion gras, fel nad oedd raid eu rhybuddio i beidio esgeuluso eu cydgynulliad eu hunain. Yr oeddid, ar yr un pryd, yn Uygadu am dir i godi addoldy arno, gan na allai lai na fyddai anedd, ar lawer tro, yn anghyfleus i luaws i ddod yu nghyd iddo ; ond nid oedd \m man yn dod i'r gol wg am dym- hor maith, ond wedi hir ddysgwyl, deallwyd fod darn o dir yn y dref ar werth. Wedi cyd-ymgynghori â'r cyfeillion, ac ar anogaeth y Parch. Eben. Morris, yr hwn a ddaethai i'r dref i bregethu ar y pryd, aeth Mr. David Jenkins i flbrdd i Langadog, yn' sir Gaerfyrddin, ar dy wydd trwm o rew ac eira, i geisio prynu y darn tir; oblegid yno yr oedd ei berchenog yn byw. Llwyddodd yn ei amcan, a sicrhaodd y tir ar y telerau y cytunwyd arnynt ; ac ar ol hyn y deallodd y gwerthwr i ba ddyben y pryuodd ef ; parodd hyny ofid a blinder mawr iddo, pan mynegwyd iddo ei fod wedi gwerthu tir i'r Methodistiaid godi capel arno. Gweinidog yn eglwys Loegr oedd y gwerthwr, ac ni fynasai er dim werthu tir i'r Methodistiaid, gan faint oedd ei wrthwj-nebiad iddynt ; ond yr ocdd y weithred drosodd, ac ni ellid, bellach, ei galw yn ol.

* Tad-j-n-nghyfraith y Parch. John Jones, Llanbedr.

78 HANESIAETII Y SIUOEDD. [dOSB. IV.

Yr oedd adeiladu addoldy yn gryn anturiaeth i ddeadell fecbau ; ac uid oedd y crefyddwyr yn Llanbedr ddira heb deimlo yu bryderus wrth wynebu arno, rhag na fyddai ganddyut a'i gorphenai ; eto yu mlaen yr aed dan annogaeth eu brodyr yn y sir. Yr oedd yr hen cwrdd, y Creigiau, fyth ar ei draed, ond yn ddiddefnydd ; ac nid oedd, tybygid, yn debygol o ddyfod i ddefnydd o herwydd anghytleusdra ci sefyllfa ; ond yr oedd jiuddo ddefnydd- iau a alLni wasanaethu i'r adeilad newydd, os ceid cenad yr ymddiriedolwyr i'w cludo ymaith. Un o honynt oedd y Parch. Nathaniel Eowlands, ac fe allai yr unig un ar y pryd yn fyw, ac yr oedd yntau eisoes wedi ei fwrw ymaith oddiwrth y coríf. Dygwyddodd y gŵr hwn ddyfod i Lanbedr tua'r adeg yr ocdd y brodyr yn parotoi at yr adeihul newydd, a gofynwyd iddo ganiatâu i ddwyn defnyddiau yr lien adeilad at y newydd. Yntau gyda pharodrwydd a gydsyniodd â'u cais ; ysgafnhaodd hyn ychydig ar y baich, a dygwyd yr adeilad newydd yn mlaen yn Uwyddiannus hyd ei orpheniad. Ar ei agoriad, fe bregethodd y Peirch. John WiUiauis, Lledrod ; T. Gray, Aber- raeirig ; Eb. Morris, Twrgwyn ; a J. Thomas, Abertcifi.

Ni ellir crybwyll ara lawer o gyffroadau mawrion mewn flfordd o ddiwyg- iadau yn y dref hon ; eto fe fu yma rai tymhorau o adfywiad, pryd yr ysgafn- haodd yr awyr grefyddol i raddau helaeth, er na fu yma efteithiau mor gyft'rous a manau eraill. Sonir llawer am oedfa hynod, pan y pregethai Mr. Eichards, Tregaron, ar y geiriau, " Y goUedig a geisiaf, y darfedig a ddy- chwelaf, &c. ; " oedfa a goronwyd yn nodedig gan awdurdod ac effeithioldeb. Chwanegwyd amryw at yr eglwys mewn canlyniad i'r bregeth hon, y rhai yr ymddangosai ynddynt arwyddion eglur o ddwysbigiad calon, ac a roisant brofion o hyuy yn nghysondeb cu proftes yn ol llaw.

Ni fu eglwys Fethodistaidd Llanbedr erioed yn lluosog iawn o rifedi, eto cynysgaeddwyd hi â diaconiaid rhagorol ; yn ddynion call, pwyllog, a phrof- iadol. Yn awr, nid oes o'r cedyrn cyntaf o honynt yr uu yn ngweddill ; hunasant oll yn yr angau, a gorphwysasant oll oddiwrth eu llafur. Casglwyd y diweddaf o houyut at ei frodyr, tua thair blynedd yn ol, yn hen ac yu gyílawn o ddyddiau, uid amgen na naw a phedwar ugain ralwydd oed.

Y ddau bregethwr a gododd yn yr eglwys hon oeddynt y Parch. John Jones, yr hwn sydd eto ar y maes, ac un David Davies, yr hwn wedi ym- ddangos dros enyd fechan yu gyhoeddus, a fu farw yn y fl. 1833.

PENNOD VI. PRIF LINELLAU HANESIAETH Y SIR.

CTNWTSIáD :

GWAHANOL GYFNODAU YR HANES— GWEINIDOGAETH Y DIWYGWYR CYNTAF— GWEINIDOGAETH ROWLANDS— ANAMLEDD Y CAI'ELAU— DAFYDD MOERIS— PARCH. JOHN WILLIAMS, LLEDROD.

AYrtu graffu ar holl helynt Metbodistaidd y wlad hon, tueddir ni i feddwl fod rhyw gyfuodau arbenig yn pertbyn iddo cyfnndau y pertbyn iddynt ryw amgì/lchiadau neillduol cyfnodau yn raeddu gwasanaetb a dylanwad

PEN. VI.] SIR ABERTEIFI, 79

rhyw hersonau neillduol ac wedi eu coroiii â rhyw sefydUadau neillduol. Gyda'r defnyddiau sydd ganddo, nid yw yr ysgriienydd yn proffesu y gall gyrbaedd nemawr o fanyldra a chywirdeb, o ran amser a threfn, gan na chadwyd cofnodau teg am ddim o'r amgylchiadau dan sylw, er ys mwy na chan mlynedd. Eto, gyda'r defnyddiau sydd mewn Uaw, hwyracli y gellir rhoddi bras-ddarlun o brif linellau yr ysgogiad, ag a etyb yr un dyben a phe buasai yn fwy manwl a chywrain.

Y cìjfn.od cijntaf, d'r fi. 1736 hjd y diwyyiad yn y fl. 1162,— ysòaid 26 o ilynyddoedd.

Yr ail gyjnod, ó'rfi. 1762 îiyd gyfodiad yr ysgol SabbolJiol tuarfi. 1795, ysbaid 33 ofiynyddoedd.

Y trydydd cyfnod, ó'rfi. 1795 hjd yn awr.

Y CTírNOD CYNTAF, IIYD Y FL. 1762.

Yr ydym eisoes wedi olrhain graddau ar y cyfnod hwn, ac anfuddiol fyddai ail-adrodd yn awr yr amgylchiadau sydd eisoes wedi eu crybwyll: yr unig beth yr amcanwn ato yn bresenol ydyw rhoddi golygiad mwy unedig a chyffredinol ar Fethodistiaeth y wlad hon yn ystod y cyfnod boreol hwn.

1. Y peth cyntaf sydd yn tyuu ein sylw ydyw yr arloesi cyntaf a fu trwy weinidogaeth y diwygwyr ar wahanol ardaloedd yn y wlad. Yn hyn fe fu gweinidogaeth rymus Howel Harris yn wasanaethgar iawn. Gresyu na chadwasid dyddlyfr o'i deithiau a'i bregethau: diau y buasai yn syndod i'r byd. Prin y gallwn oh'hain hanes un gymydogaeth yn Nghymru, na chawn allan fod Howel Harris wedi bod yno rywbryd yn ysgythru yr anial gwyllt. Ac er fod gweinidogaeth Rowlands yn fwy sefydlog na'r eiddo Harris; eto y mae yn nodedig gynifer o fanau yn y sir hon y ceir hanes am dano yntau yn pregethu, pryd nad oedd ond naill ai cwbl ddifaterwch, neu eithaf gM'rth- wynebiad. Ac yn hyn yn ddiau yr yrahelaethodd ar ol iddo ymryddhau oddiwrth wasanaeth y Uanau. Yr oedd y Parch. William Williams, Pant- y-celyn, a'r Parch. Peter Wilh'ams, yn achlysurol yn cynorthwyo yn y wlad hon fel gwledydd eraill.

Yr oedd yn y tymhor hwn amryw o gynghorwyr, fel y'u gelwid, yn gwas- anaethu i'r un amcan, rhai yn fwy a rhai yn llai effeithiol. Sonir yn neill- duol am un David Williams, yr hwn a fu yn ddefnyddiol iawn ar ddechreuad yr achos yn Lledrod, a manau eraill o'r wLnd. Bu gweinidogaeth hwn yu dra bendithiol mewn amrywiol barthau o'r Gogledd, ac wedi hyny yn sir Porganwg, Ue y treuliodd y rhan fwyaf a'r rhau ddiweddaf o'i oes.

Mae coffa mynych yn cael ei wneyd am William Eichard, yr hwn oedd arolygwr ar amrywiol fân gymdeithasau yr ngwaelod y sir hon, ac hefj^d ar hyd làn y môr yn sir Benfro, ond nid oes genym ddim hanes oll am dano ond sydd yn "Nghofnodau Trefecca;" ac yno nid oes oud hanes ei lafur. Yr ydym wedi taraw wrth farwnad o waith bardd Pant-y-celyn i un o'r enw

80 HANESIAETH Y SIUOEDD. [dOSB. IV.

WiUiam Eichard o Abercarfan, yu mblwyf Llanddewi-brefi, yr hwn a fu

farw yn y fl. 1770, oud nid ydym yn sicrhau luai hwn oedd yr arolygwr

crybwylledig. Am hwn y dywed y bardd,

Gwelais ef av oriau hyfryd, Yn moreuddydd braf ei fywyd, Yn moliannu, yn proffsvydo, Yn flaena' o'r werin yn Llangeitho ; Chwys fel nentydd clir yn llifo, Taith tr^yy'i wisgoedd tew yn sîo. Cariad pur, gwerthfawr clir, yn g\-\vir enynu, Nes oedd cortF jn gorfod helpu Enaid allan i'w fynegu.

Y mae enw William Eichard Llwyd hefyd yn dyfod dan sylw yn fynych. Yr oedd hwn yn perthyn i gynuUeidfa Mr. Eowlands yn Llangeitho, ac yn arfer pregethu yn yr ysgubor a drefuwyd yno i bregethu ynddi. Wrth ryw weddülion a gawn o'i hanes, yr ydym yn cael lle i feddwl fod y gŵr hwn yn feddiannol ar ddoniau helaethach na Uawer o'i frodyr o'r un dosbarth ag ef, a bod ei weinidogaeth wedi bod yn dra gwasanaethgar, nid yu unig yn ei wlad ei hun, ond hefyd mewn parthau eraill o Dde a Gogledd. Gyda'r rhai hyn, yr oedd rhyw nifer o gynghorwyr eraill, megys Morgan Evan Hugh, Penaut; John Dafydd Daniel, Tregaron; Dafydd William; Ehys Thomas; Dafydd William, Pen-y-graig; Dafydd Eichard, Wernfach; Robert Siôn, Rhiwbwys. Nid oes genym nemawr fwy o'u hanes na'r crybwylliad am eu henwau, ac nis gallwn, gan hyny, ond myned heibio heb ychwaneg o sylw.

2. Effaith gweÌHÌdogaetli Rowlands yn Llangeitho ar y hroydd cylchynol. Yr ydym wedi dangos o'r blaen fod gweinidogaeth apostol IMethodistiaeth yn effeithio, mewu graddau mwy neu lai, ar gylch eang o'r wlad o amgylch Llangeitho. Y'mgynullai lluaws o bobl i'r lle hwnw, ar foreuau Sabboth, allau o lawer o'r cyraydogaethau cylchynol, o fewn 10 neu 12 milldir o am- gylch, a rhai o barthau Uawer pellach. Y rhai hyn a garient yr had da gyda hwy yn eu cof, yn eu calon, ac yn eu genau, i'w cartrefi, nes y teimlid ei ddylauwad ef hyd yn mhell. Wedi eu hadnewyddu yn y modd yma yn y boreu, gwasgarai y cynghorwyr a fyddent yn Llangeitho, yn nghyda'r crefyddwyr, i'r holl gymydogaethau o fewn eu cyrhaedd; ac yr oeddynt yn fwy cymhwys i fyned allan wedi gwresogi eu calonau ar aelwyd danllyd Llangeitho.*

* O herwydd fod jr awdwi- jm byw yn mheìl oddiwTth y cyhoeddwr, trwy ryw am- ryfusedd ni ymddangosodd y sylwadau hyn }-n eulle priodol ; darllener liwy yn niwedd pen. ii., yn nhudalen 20 o'r gyfrol hon.

Ni allwn roddi heibio ein hysgrifell, a dybenu ein sylwadau ar nodweJdiad "Apostol Cymru," lieb gyfeirio at y cyhuddiad a godwyd yn ddiweddar yn ei erl>yn. Aeth 60 mlynedd heibio cyn i neb feiddio cyhoeddi y cyhuddiad ! Pa fodd yr arbedwyd ei enw da cyhyd nis gwyddom ; ac wedi ei arbed cyhyd, paham yr ymosodwyd arno jti awr, nis gwyddom. Os oedd Eowlands yn euog o'r hyn y dywedir gan ei absenwr am dano, pa beth a allai Uiddias i hj-ny ddod i amlygrwj^dd yn mhell cyn hj-n ? Ehaid fod Rowlands yn un o fil, îe, yu un o fyrddiwn, i allu gochel tafod yr athrodwr dros ystod oes faith a chyhoeddus, a rhaid fod hynodi-wydd rhyfeddol yn ei gofìadwTÌaeth i ddianc rhag y Uychwin budr hwn am 60 mlynedd ar ol ei gUìddu ! Pa fodd y bu hjni ? Ai rhy fychan o ddygasedd oedd yn ei elynion i'w warthtuddo yn gyut? Ai jTite rhy

PEN. VI.] SIR ABERTüiri. 81

3. AnamUäd y capelau. Yn y cyfnod hwn nid oedd ond ycliydig iawn o gapelau gan y Methodistiaid trwy holl Grymru. Yr un modd yr oedd yn y sir lion. Mewn tai anedd, gan amlaf, yr oeddynt yn aifer pregethu, a hyny dros lawer o'r cyfnod hwn. Mae anhawsder niawr, gan hyny, i wybod gyda dim manyldra a sicrwydd pa bryd y dechreuodd Methodistiaeth yniwreiddio mewn llawer ardal ; oblegid yr oedd lleoedd pregethu yn ansefydlog, weith- iau yma ac weithiau acw mewn ardal ; bryd arall dechreuai mewn cymydog- aeth, apharhâai yno drosdymhor, ac a symudai eilwaith igymydogaeth arall. Fe godwyd ambell gapel, neu cwrdd bychiin, yn ystod y cyfnod hwn. Yr oedd ysgubor Lhingeitho yn cael ei defnyddio i'r dyben ; a chan fod hon o fewn y cwmwd a elwid Gwyníil, nid yw yn annhebyg mai y lle hwn, wedi ei droi yn cwrdd, a elwid yn nghofnodau Trefecca, yn Gapel Gwynfil, yr hym. hefyd yw yr enw sydd eto ar yr addoldy a berthyn i'r Methodistiaid yn y lle hwnw.

Yr oedd Ueoedd oyffelyb wedi eu codi yn Llechryd, Aberteifi, Penant, ac Fe allai Lledrod hefyd. Heblaw y rhai hyn, nid oes sicrwydd am un lle arall fel addohly yn bod gan y Metho listiaid yn y tymhor boreu hwn. Yr oedd y gwrandawyr, er hyny, yn aralhau, a'r tai anedd yu cael eu gorlenwi ; vr

fychan o onestrwydd yn ei gyfeillion i'w ddynoethi ? Os gwir y cyhuddiad, anonest fu ci lioll gyfcillion tnvy fwrw mantoll cêl dros y bai am gynifer o lîynyddoedd ; os gau y cyhuddiad, yna rhaid oedd aros liyd y úyddiau diwedúaf hyn i gael athrodwyr digon eofn a haerÜug i gyhoeddi yr anwiredd !

Ymddangosodd y cyhuddiad mcwn cyhoeddiaduch-eglwysaidd o'r enw y " Quarterly i?fir<etí;,''— cyhoeddiad Saesonacg ; ond wedi ei ysgrifenu yn ddiau gan Gymro, jt hwn a broífesai ci hun yn gyfarwydd yn helyntion y dwysogaeth. Parodd yr ysgrif, fel y gellid dysgwyl, lawer o syndod, a pheth cyfìì'O yn y rhai a'i darllenasant, am y cjTiwysai, fel y harnai Ilawer o honynt, ddifriad anwircddus ar goífadwi-iaeth un yr cdrÿch- asid arno gandclynt yn un o brif enwogion eu gwlad a'u cenedl. Yr oedd y cyhuddiad hefyd yn fwy sjm, am mai yn ddiweddar y gwnaed ef, wedi i fwy na hannercanrif fyncd heibio ar ol claddu y cyhuddedig ! Disgynodd y syndod ar ddynion yn perthrn i lìob enwad o Gristionogion, ymron fel cu gilydd ; nid ar aelodau y cyfundeb y perthyn- ai y cyhuddedig iddo yn unig, ond hefyd ar aelodau a g^veinidogion yr eghrys wladol, i'r hon hefyd. y perthynai y cyhuddwr Esgoi'odd y synedigaeth ar ymholiad, a'r ym- hoiiad ar ymchwiliad. Teg ydyw cydnabod mai gweinidogion yr eglwys wladol oedd yn bîaenori yn yr ynichwiliad hwn ; a gwnaed ef mewn modd ag a ddangosai eu bod yn ddiíFuaut a phenderfynol i fynu gwj'bod ar ba sail y gwnaed y cyhuddiad ; ac i'w ddynoethi ar g'oedd y byd, os ceid allan ei fod yn gamgyliuddiad.

8wm y cyhnddiad ydoedd, mai dan elfeithian diodydd meddwol y pregethai Eowlands mor rhagoroL* ~ - Revìew " mewn fynych," me

eíFeithiau yr arfcriad hwn, pan y byddai ar fcdr pi'cgethu." Caed allan hefyd jn yr ymchwiliad mai clerigwr o Gj'mro, o'r enw Willium Wiliiams, mab i un John Ẁilliams, Llangeitho, yr hwu a adwacnid fynychaf wrth yr enw Jack 'sgubor, neu Siôn y 'sgubor ; yr hwn hefyd a fu yn gwasanaethu i Rowlands dros ryw dymhor, ac yn arfer crnohori yn achlysurol yn mysg y ^íetliodistiaid ; mai mab i hwn, meddaf, a wnaeth v cv- huddiad ! Fe ddygwyddodd heíyd, fod mab arall i'r un gúr yu fyw yn awr, yr'hwn sydd ẃr oedranus, ac yn cofio Rowlands yn dda ; yr hwn hefyd y mae iddo yr enw o íod yn %vr gonest a diwyd. Hwn a ddywed yn y gwrthwyneb, na chlywsai efe erioed ei dad na ncb arall yn dy wedyd y fath beth am Rowlands ; ei ciriau ydynt, " ni chlv\v-

" His (Rowland's) wife prored unẃorthy of his aíToction, and he dranh deep consolation st n source which undoubtedly contributed to give his preaching ils peculiar energy."

G

82 HANESIAETH Y SIROEDD, [DOSB. Vf .

oedd yr amser yn prysur nesâu, gan hyny, piyd y gwelid yr angerheid- rwydd, os ewyllysid cyfarfod ag angeu y cynulleidfaoedd, i ddarpar lleoedd helaethach, mwy cyfleus, a mwy arosol, i addoli ynddynt. Yr oedd y crefydd- wyr hefyd yn amlhau yn feunyddiol, a'r cjoighorwyr yn lluosogi, fel ag yr oedd moddion i godi capelau yn chwauegu, a'r gobaith o gael pregethu cyson ynddynt hefyd yn cryfhau. Yn y cyfnod a ganlynai hwn, ni a gawn weled fod y cynydd yn myned rhagddo gyda phrysurdeb mwy nag arferol ; o leiaf wedi i effeithiau yr ymraniad gael eu dileu drwy y tywalltiad nodedig a gaed tua'rfl. 1763.

YU AIL GYFNOD, o'u FLWYDDYN 1763 HYD GYFODIAD YR YSGOL SABBOTH- OL AR DDIWEDD Y GANRIF DDIWEDDAF.

Parhaodd gweinidogaeth Eowlands i gyífroi y wlad hyd ddiwedd y cyfnod hwn ymron. Fe fu y cwmwl llawn hwn yn para i ddefnynu ar y wlad hyd y fl. 1790. Tua dechreuad y cyfnod hwn, y daeth Dafydd Morris i sylw, gv7einidogaeth yr hwn a fu mor rymus trwy Ddê a Gogledd i ddefi"roi y trio-olion o'u cwsg. Yn nechreuad y cyfnod hwn hefyd y daeth y Parch.

aig erioed gan dad na mam, na chan neb arall, jr awgrymiad Ueiaf, fod y diweddar Mr. Eowlands yn arfer diotta, nac ddarfod ei weled yn fcddw un amser erioed.^' Fe ym- ddengys, ynte, mai ar dystiolaetli y Parch. William WiUiamsyn unig y mae y cyhnddiad yn sefyll, a byny trvry iddo e/glywed hyny gan ei dad. Naturiol bellach ydpv gofyn, pa fath ddyn ydoedd hwn? pa fath nodweddiad oedd iddo? Ai nid oedd rhagfarn wedi ei lenwi ? neu, ai nid oedd ganddo rhy w ddyben gau i'w ateb tnvy gyhoeddi y sarhad hwn ? Am y gŴT, fe ddywed ei gyd-weinidogion ar g'oedd y dywysogaeth, " mai dyn oedd a yrwyd allan o esgobaeth Llandaf o achos ei ymddygiad tra ysgeler." Wele'r ffynnon y tarddodd y cyhuddiad o honi ! A thystiolaeth hwn ydyw yr unig sail iddo ! Gresyn na ymofynasai gohebwr y " Q,uarterly Eeview " yn well cyn anturio difrío gŵr llaẁer rhagorach nag ef ei him !

Heblaw tystiolaeth brawd y cyhuddwr, yn dadgan yn gryf na chlywsai efe ei rieni erioed yn dywedyd am Rowlands ei fod yn ddiotwr neu yn feddw, y mae tystiolaeth hen ŵr arall, o'r enw Jobn Jones, yr hwn a fuasai was i Rowlands ara ystod y saith mlynedd olaf o'i oes, ac i Mrs. Rowlands ar ol hyny, a thrachefn i'w fab yn nghyfraith, Mr. Lloyd, Cilpyll, hyd nes y bu y boneddwr hwnw farw yn y fl. 1837 ; yr hwn hefyd sydd eto yn fy\v, wedi cyrhaedd 84 ml. oed ; mae y gvvr hwn yn sicrhau yn y modd dwj'saf na welsai ef erioed yr arwydd Ueiaf o feddwdod ar y diweddar Daniel Rowlands, gar- tref nac oddi cartref. Y mae yn barod i gymeiyd ei Iw ar hyn un amser, ac mewn nn Ile y gelwir amo.

Heblaw y rhai uchod, y mae Iluaws mawr o wýr credadwy, gwŷr Ilên a gwŷr llëyg, adnabyddus o hanes D. Rowlands, ac wedi troi Ilawer yn mysg y rhai ag oeddjTit gyf- arwydd iawn yn nodweddiad y gẃr hynod hwnw, yn tystio na chlyrt'sent erioed yr achwyniad nes ei ddarllen yn y cyhoeddiad Seisonig crybwylledig. Mewn gair, y mae yn anhawdd darllen am wTthdystiad cad.amach nag a geir i'r cyhuddiad. Ac wrth feddwl mai i wrtlibrofi chwedl un dyn, a'r dyn hwuw o nodweddiad gwarthus, y gosod- ir gerbron yr holl dystioh-iethau uchod, cymhellh- ni ar unwait'a i farnu fod digon, i'e, a mwy na digon wedi ei ddywedyd. Eto, gan y parch a lochesir i goffadwri-téth Row- lands, a chan uched y safai ei enw fel Cristion cywir, ac íel pi-egethwr bendithiol, yr oedd hyn oll yn ofynol, modd y symudid ymaith yn Uwyr a thros byth y sclafoeriad difriol oddiar ei enw a'i goffadwriaeth.

Diolchgar ydym i'r gwŷr urddasol am eu parodn^ydd i ymaflyd yn y gorchwyl o chwilio gwirionedd y cyhuddiad, ac am eu medrusrwj'dd ynddo. Addefwn yn rhydd eu bod wedi rhoddi prawf mai mwy o bwys ganddynt ydyw gwirionedd a thegwch, na rhwymedigaethau plaid na allant oddef i dwyll gael ei ledaenu gan glerigwyr, heb ei ddynoethi, nac i ddifriad diachos gael ei roddi ar ymneillduwr, heb ei amddi'ffyn.

PEN. VI,] SIR ABERTEIFI. 83

Thomas Gray i'r wlad hon, ac yr ymunodd mor drwyadl â'r Methodistiaid. Cyfnerthwyd yr achos yn neülduol trwy ymuniad y Parch. John Williamg o Ledrod. Cafwyd cryfhad chwanegol oddiwrth weinidogaeth achlysurol, ac efengylaidd, Jones o Langan, a Davies, Castellnedd ; a chyn diwedd y cyfnod hwn y daeth y Parch. Ebenezer Morris, Twrgwyn, i'r golwg, yr hwn a fu yn uu o'r ser dysgleiriaf yn awyrgylch Ceredigion, ac a fu yn oíferyn neiUduol yu ei ddydd '* i wasanaethu Duw yn efengyl ei Pab ef," ac i wasanaethu ei genedlaeth trwy ewyllys Duw am agos i ddeugain mlynedd. Nid ydwyf yn awr yn crybwyll am y Parch. Ebenezer Eichards, am y daw ef dan ein sylw yn y cyfnod nesaf, ond dylasem grybwyll enw yr hybarch dduwinydd o Aberteifi, y Parch. John Thomas, yr hwn oedd gydoeswr a chydlafurwr dros dymhor maith ag Ebenezer Morris, ond a fu fyw 25 mlynedd ar ei ol.

DAFYDD MORRIS, LLEDROD.

Mae yn ofid genyf fod y defnyddiau am y gŵr hwn mor brinion. Nid yw yn ymddangos fod neb wedi ysgrifenu dim o hanes bywyd iddo. Un rheswm paham na wnaed hyny yn ddiamheu, os nad yr unig reswm, oedd yr an- mharodrwydd a deimlid yn gyffredinol ymron i ddefnyddio y wasg Gymreig, yn yr oesau a aethant heibio. Nid oes genym yn awr, pa fodd bynag, ond ceisio cipio ychydig o adgofion am dano, a'r rhai hyny wedi Uwydo llawer trwy dreigliad tri ugain mlynedd o araser, rhag i'r coffa am dano Iwyr ddiffoddi.

Ganwyd ef yn Lledrod, swydd Aberteifi ; bu iddo bedwar o blant, o ba rai Ebenezer oedd yr hynaf. Dechreuodd bregethu pan oedd yn ddyn ieuanc tua'r íl. 1765, pan nad oedd eto ond 21 ml. oed; a buan y cyThaeddodd enwogrwydd mawr yn y weinidogaeth, oblegyd yr oedd ei enw a'i boblog- rwydd yn y Gogledd mor hynod a nemawr a ddeuai yno. Nid ydym yn cael ei fod wedi cael dim manteisiou dysgeidiaeth yn ei ieueuctyd, eto efe a gyrhaeddodd fesui- helaeth o wybodaeth dduwinyddol ; ac a 'ddysgodd ddeall awdwyr Saesonig yn dda. Yr oedd hefyd yn medi-u ysgrifenu yn dda, ac felly yn rhagori, wrth ystyried yr oes yr oedd ef yn byw ynddi, ar lawer o'i gyd-wladwyr, Yr oedd golwg barchus arno o ran ei wynebpryd ; yn ei ieu- enctyd yn llyfndeg ei wedd ; ei wallt yn wineu-felyn ; ac yn disgyn yn deneu ar hyd ei dalceu ; yr oedd ei lygaid yn fawrion ac yn fywiog, a'i lais yn gryf, eglur, a soniarus. Daliodd tewder mawr ef yn ddyn lled ieuanc, a chynyddodd arno i raddau anarferol, nes oedd yn anghysunis iddo ei hun, ac yn syndod i eraill. Parhaodd felly hyd ei farwolaeth amgylchiad a'i goddiw- eddodd yn nghanol ei ddyddiau.

Prif uodwedd ei weinidogaeth oedd grymusder. Nid ydym yn deall fod neb yn cyfrif iddo gywreinrwydd neillduol yn nghyfansoddiad ei bregethau, er fod mwy o hyn, fe ddichon, nag oedd yn mhregethau llawer o'i gyd-oes- wyr, am yr ysgrifenai ef bi-if faterion ei bregethau, a hyn nis gwnai ond ychydig y dyddiau hyny. Mae genyf yn awr o fy mlaen gynlluniau arnryw o'i bregethau, wedi eu hysgrifenu ganddo ef ei hun ; rhai o honynt wedi eu

84 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

iiyagTÌfenu yu y fl. 1771, eraìU yu 1779, ac eraill yn 1789. Nid oes un math 0 gy wreinrwydd yn y pregethau hyu ; yn eu trefn nac yn eu cyfansodd- iad. Ymddengys ynddynt fod y pregethwr yu arfer defnyddio llawer ar ysgrythyrau, ac mai nodiadau dysglaer a llewyrchus ar yr adnodau a ddefn- yddid ganddo, gyda cliymhwysiad deífrous o honynt at gydwybodau ei wrandawyr, oedd prif ardderchogrwydd ei bregethau. Yr oedd cymhwysder arbenig yn ei weiuidogaeth i ddeíFroi dynion cysglyd a diofal, a'u cyflfroi i ddianc am eu bywyd at Grist y Gwaredwr.

Mae yn ymddangos, hefyd, fod Dafydd Morris yn parhau i gyfansoddi llawer o bregethau ar hyd ei ocs gyhoeddus. Yn y fl. 1789, sef dwy flynedd cyu ei farwolaeth, y mae o fy mlaen ysgrifion o saitJi o bregethau, wedi eu cyfansoddi o fewn cliwecli wythnos o amser ; ac nid oes un prawf fod hyn yn beth auarferol iddo, oud mai ei ddefod ydoedd cyfansoddi llawer o bregethau ar hyd ei oes. Dywedai Mr. Johu James, Castell-newydd, am dauo, ddarfod iddo ef ei wrando saith-hugain o weithiau, mewn un flwyddyn, a phob un o'r pregethau yn newydd. Yr oedd hyn yn nifer mawr mewn un flwyddyn, ond nid mwy, fe allai, nag oedd yn bod ; oblegyd fe ymddengys oddiwrth ei ysgrifion, ei fod yu cyfausoddi llawer o bregethau. Yr ydym yn casglu, gan hyny, ei fod yn ŵr o feddwl bywiog a dychymyg parod ; ac hefyd, yn arfer cryn lafur. Os ydoedd yn cyfansoddi saith o bregethau mewn chwech wythnos, pau oedd ei oes weiuidogaethol agos ar ben, a phan oedd tewdra ei gorff yn ddigon, tybygasid, i lesteirio iddo wneuthur dim o'r fath, y mae yn hawdd genym gredu y byddai amrywiaeth mawr iawn yn ei bregethau, pan nad oedd eto ond ieuaiuc, ac yn llawer Uai corffol.

Meddai y Parch. Christmas Evans am dano, " Yr oedd Dafydd Morris yn bwysig a thra defi"rous yn ei anerchiad at gydwybodau a serchiadau ei wran- dawyr. Nid hawdd yw darlunio yr eífeithiau oedd yn canlyn ei ddawn yn y dyddiau tanbaid a deff'rous hyny, trwy siroedd Caeruarfon, Mon, Dinbych, &c. Yr oedd dwysder j^n nodwedd berthynol i'w ddawn, yr hwn oedd yn dra chyfí"rous ; gellir gweled ei ddelw yn ei fab Mr. E. Monis."

Mawr y són a fyddai gan yr hen bobl am rymusder gweinidogaeth Dafydd Morris. Crybwyllasom eisoes am bregeth y goUed fawr.* Mawr fyddai y gwahaniaeth ar wedd Uawer un cyn ei bregeth ag a fyddai ar ei hol. Cyn yr oedfa, weithiau, fe'i derbynid yn Ued oeraidd, yu enwedig pan y dygwyddai ymweled ag ardal y tro cyntaf erioed, ond ar ol ei wrando fe ddangosid iddo y serchogrwydd mwyaf. Yr oedd unwaith, tua dechreu ei weiuidogaeth, yn teithio yn sir Ddinbych, ac yn dyfod o'r Bont-uchel i Adwy'r-clawdd, y ddau le uesaf at eu gilydd y pryd hwnw, ond erbyn cyrhaedd pen y daith, nid oedd iddo gyhoeddiad yn yr Adwy ; trwy ryw aufí'awd neu gilydd nid oedd yno neb yn ei ddysgwyl, ac nid oedd yno neb yn ei aduabod, gan mai hwn oedd y tro cyntaf iddo fod yn y wlad hòno. Cyfarfu, pa fodd bjoig, â rhai o'r gwragedd ag oedd yno yn proflfesu, i'r rhai yr hysbysodd ei hun, a'i fod wedi

* Tudal. 231, Cyf. I.

tEN. VI.] SIR ABERTEIFI. 85

dyfod yno i bregethu, ac yn gofyn ai nid oedd modd anfoii y gair ar led y gymydogaeth, a chynull rhyw nifer o bobl yn nghyd? Gyda hyn, wele y bhienor yn dyfod i'r lle, ae yn edrych ar y pregethwr dyeithr yn Ued chwith, gan ofyn iddo, Pwy oedd efe ? Ac a oedd efe jn werth i anfon alJan am wrandawyr iddo ? Ymddangosai hefyd yn afrywiog ddigon ei dymher, a bustlaidd ei ysbryd. Ond yr oedfa a ddaeth, a deallwyd yu bur fuan mai nid dyn cyffredin oedd y pregethwr. Disgynai ei weinidogaeth ar ei wran- dawyr gyda nerth anarferol ; Uyncwyd hwy i fyny gan rhyfeddod, ac yn fuan rhoddid arwydd o deimladau y galon yn y dagrau a redent yn llifogydd ar ruddiau pob wyneb, ac nid oedd amgen ar yr hen flaenor talgryí. Wedi yr oedfa, daeth hwn ato, gan ymesgusodi a dywedyd, " Dafydd Morris bach, gobeithio y maddeuwch i mi am fy ymddygiad atoch cyn yr oedfa." " Y dyn," ebe yntau, " mi wehaf mai ci wyt ti , dangos dy ddannedd a wneit cyn yr ocdfa, ac ysgwyd dy gynífon yr wyt ti yn awr " Un felly hefyd y dangosodd y blaenor ei fod ; yu fuan ar ol hyn, fe droes ei gefn ar yr achos, gan ymdrybaeddu mewn anfuchedd cyhocddus, ac mewu gwrthwyuebiad i achos yr efengyl.

Sonir hefyd hyd heddyw am bregeth hynod iddo yn Llanarmon-dyífryn- ceiriog ; pregethai dan goeden frigog o fasarn yn muarth Sarphle, ar y gair, "Dyro gyfrif o'th oruchwyliaeth, canys ni elli fod mwy yn oruchwyìiwr." Dan y bregeíh hon, torodd pawb ymron yn y lle i waeddi, ueu i wylo ; i foliannu neu i weddio. Y'r oedd Duw yn ei lef, a chyrhaeddai galonau. Nid oedd anystyriaeth rhai, na gwrthwynebiad eraill, yn gallu dal, toddai calon- au creiglyd fel cŵyr o fiaen y tàn. Golygfa ydoedd na welsid erioed ci chyíFelyb yn y wlad hòno, ac nid oedd gan edrychwyr paganaidd y fro un cyfrif i roi am y fath beth, oml fod chwiw o wallgofrvjyäd wedi disgyn yi; ddisymwth ar y gwrandawyr.

Teithiodd Dafydd Morris lawer trwy Ogledd a Dê, ac edrychid am ei ddy- fodiad trwy y wlad gyda llawcr o lawenydd a dysgwyliad, fel un a fendithid yn fawr gan yr Arglwydd i (b'oi pechaduriaid o gyfeiliorui eii íîordd. Anaml y cynelid cymdeithasfa yn ei ddydd na fyddai Dafydd Morris yn un o'r rhai a arferai brcgethu ynddi. Y'roedd yn un o'r llëygwyr gryrausaf ei weinidogaeth yn mysg ei frodyr. Y'r ydyra yn casglu ei fod raor adnabydtlus yu y Gogledd ag oedd yn y Dê, a'i fod yu teithio cymaint yn y naill ag yn y llall, gan y son sydd eto am dano yn mysg gweddillion o'r heuafiaid ar hyd y gwledydd.

Mae genyf o fy mlaen gyhoeddiad, neu gynllun, o'i daith yn sir Gaernar- fon, yn y fl. 1771, wedi ei ysgrifenu ganddo ef ei hun ; a chan ei hynafiaeth, gellir mcddwl mai dymunol fydd gan y darllenydd gael golwg arno :

Tachwedd 23, 1771, am 12, Waunfa^AT, nos, Ll«n-n-celyn.

Dydd Mawrth, Llanllyfui 2, a chadw jn hrifat (cytarfod egh^^sig.)

Dydd Mercher, am 10, Tý-nc\vydd, a'r nos, Bryn-y-gadfa.

Dydd lau, an\ 12, Ncfyn, nos, Tydweiliog.

Dydd Gwcner, am 10, Tŷ~mawr, prydnawn, am ô, Lôn-fndr.

Dydd Sadwrn, am 12. Sacthon-b.ach.

BÓrc Sul, PwlUieli.— Cricieth .am 2.

Dydd Lhm am 10. Bryn-cngan, a chadw yn hTÌfni j'n y Garn am .5.

86 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. ir.

Ychydig, fe ddichon, os dim, oedd o leoedd agored i bregethu ynddynt y pryd hwnw, yn sir Gaernarfon, ond y rhai uchod gan y Methodiatiaid, er fod mwy na 30 ml. wedi myned heibio er pan ddaethai Howel Han-is gyntaf i'r wlad ; felly, wedi llafurio am ddeng mlynedd-ar-hugain, nid oedd ond tua deuddeg neu bymtheg o leoedd agored i bregethu ynddynt, Prin yr edrych- asid ar hyny, yn y dyddiau hjn, oud Uwyddiant bychan ; a pharod ydym i feddwi fo'd llwyddiant Methodistiaeth yn cerdded yn llawer arafach yn y parthau hyuy o'r maes yr ymosodir arnynt yn awr, sef maes y genadaeth gartrefol, nag oedd yn y tymhor uchod, ond ni a welwn nad yw y ffaith ei hun ddim yn gosod saü i'r meddwl hwnw,

Yr oedd Dafydd Morrís yn un o'r pregethwyr hyny a gysegrodd ei oes i lafar teithiol gyda gweiuidogaeth y gair, Fe wnaeth hj'u hefyd, pryd yr oedd dan aufantais fawr, o herwydd ei faintioli corfforol. Yr oedd mor dew o gnawd, fel y profai anhawsdra yn fynych i allu myned trwy ddrysau y pul- pudau. Yr oedd mor dew a braisg, íel yr oedd dan demtasiwn i gysgu wrth farchogaeth ei geífyl, neu pan y byddai brawd yn dechreu yr oedfa iddo. Defnyddiai glustog o'i flaen ar y cyfrwy i'w alluogi i farchogaeth g^,'da gradd 0 esmwythder. Tynai lygaid pawb amo, ar hyd y ffyrdd a gjniiweiriai, gan ei faintioli. Yr oedd y fath dewchder yn anghyfleusdra mawr iddo i deithio, eto cysegrodd ei oes i hyuy. Edi-ychid arno ef yn gyffelyb fel yr edrychid ar Eobert Eoberts, Clynog, yn un o'r cynghorwyr galluocaf ei ddawn, a grym- usaf ei weinidogaeth o neb yn ei amser, a chroesawid ei ddyfodiad trwy y gwledydd gyda dysgwylìad a hoffder mawr. Yr oedd ei bregethau, pan y deuai yn achlysurol trwy'r ardaloedd, yn effeithio fel y gwna pylor wrth ergj'dio craig i'w dryllio, pryd y byddai y cynghorwyr eraill llai eu talentau, yn dyfod ar ol, â'u pigau bach, i godi y meini a ddiTlliasid ganddo ef. Yr oedd ganddo lais cryf a soniarus ia^vn, deall da, a dychymyg cyflym, fel pan dywynai llewyrchiadau ar ei feddwl, fel y gwneid yn fynych, yr oedd nerth anarferol yn ei weinidogaeth ; cymaint felly, fe allai, a nemawr un yn ei oes. A chan iddo aberthu ei oes i deithio y gwledydd, nid oes amheuaeth na fu ei lafur gweinidogaethol o ddefnydd tra mawr i achos y Cyfryngwr jti mhlith y Methodistiaid, mewn adeg yr oedd dù-fawr angen. Ni fu ei oes yn faith, ond hi fu yn effeithiol. Cyffrôdd lawer ar y wlad pan yr oedd yn cysgu yn di'wm anfonodd saeth argyhoeddiad i lawer calon anystyriol; a chyfeiriodd gamrau llawer ffoadur ofnus i'r ddinas noddfa.

Addefwn yn rhwydd nad oedd y pregethwr grj'mus hwn ddim heb ei waeleddau. Yr unig goll y sonir am dano ynddo, ydoedd y byddai yn an- wagelog pa faint a yfai, pan y rhoddid iddo ddiodydd meddwol. Hawdd ydyw i ni ddychymygu fod syched dyn o'i dewder ef jti fawr iawn, tra yr ydoedd yn Lafui'io yn eguiol ; a hawdd ydyw i ni ddychjnnygii, mewn adeg y tybid fod y diodydd meddwol mor fuddiol ac angenrheidiol ; ac mewn tymhor hefyd nad edrychid ar yfed yn ehelaeth yn fai mor wrthun, ac yn wir yn ddim bai, hawdd, meddaf, mewn adeg fel hyn, y gallwn ddychymygu pa wyliad- wriaeth mor fawr oedd yn angenrheidiol i ymgadw o fewn terfynau. Nid ydym

PEN. VI.] SIR ABERTEIFI. 87

yn dywedyd hyu i esgusodi y bai mewn iin inodd. Oud yr ydym yn meddwl na all neb dan amgylchiadau gwahanol yr oes bresenol wneuthur yn gyffelyb, heb fod ysgelerder llawer mwy yn y bai. Gwnaethant hwy hyny mewn gradd o anwybodaeth, a than rjin temtasiwn lem ; ond yn awr, byddai raid gwneuthur yr un peth yn wyneb goleuni, ac o wir galedwch a rhyfyg. Goddefwyd ynddynt hwy yr hyn ni oddefii' yuom ni. Yr oedd yn argoeli auwyliadwriaeth ac anwybodaeth ynddynt hwy, ond fe fyddai yn arwydd o ryfyg digywilydd ynom ni. Ni soniaswu air am y gwaeledd hwn yn gysyllt- iedig â gŵr a fu mor ddefnyddiol yn ei oes, oni bai y gallai rhyw rai dybied y buasai dirgeliad llwyr o'r ffaith yn anffyddlondeb tuag at y gwirionedd ; trwy na roddasid ergyd ar y bai, a rhybudd i bawb i'w ochel ar bob tir, ac i bob gradd.

Buasai yn ddifyr genym allu olrhain llawer mwy o'i haues, ond nid yw ein defnyddiau na'n terfynau ychwaith yn goddef i ni jinhelaethu. Bu farw Dafydd Mom's yn ardal Twrgwj-n, lle y buasai yn byw am enyd o amser, ar ol symud o Ledrod, yn nghanol ei ddyddiau, ar y 17eg o fis Medi, 1791, yn 47 ml. oed : wedi bod yn pregethu, fel y bernir, tua 26 o flynyddoedd. Cladd- asai ei wraig dair blynedd o'r blaen, a dau o'i feibion, Theophüus ac Eleazer, yn nyddiau eu hieuenctyd ; ond gadawodd ar ei ol un mab, yr hwn oedd eis- oes yn pregethu, sef Ebeuezer, yr hwn a lewyrchodd yn ddysglaer yn ffurfafen Methodistiaeth am lawer o flynyddoedd. Djbenwn hyn o hanes anmherffaith am dano trwy osod i lawi' fraslun o daith a wnaeth yn ei wlad ei hun, tua dwy flynedd cyn ei farw. Y mae wedi ei ysgrifenu ganddo ef ei hun.

GoEPHBNAir 18, 1789.

Capel Twrgwyn Isai 55. 3.

Glyn-y-rhedyn Luc 1. 74.

Aberteifi Can. 7. 1.

Llandudoch Luc*

Llechryd 1 Cor. 3. 21, 22.

Tremain Luc 1. 47.

Morfa-uchaf. 1 Cor. 3 21,22. Mewnangladd.

Teo I SAsrwN Llangeitho.

Yn y sasiwn jTi gyntaf. Can. 7. l.f

Llanddewi-brefi 1 Cor. 3. 21, 22.

Tregaron Act. 16. 30, 31.

Swydd-fíynon Heb. 6. 7, 8.

Lledrod 1 Cor. 3. 21, 22.

Llangwyryfon Luc 1. 74.

Llanbadarn-fawr Heb. 4. 3.

Aberystwyth Act. 16. 30, 31.

Rhyd-y-felin-fach Zech. 12. 10.

Llanrhystyd Phü. 3, 20, 21.

Llanon Heb. 2. 3.

Pennant Act. 16. 30, 31,

Y GeUy Act. 16. 30, 31. J

Llanarth Heb. 2. 3.

Genffbs Zech. 12. 10.

* Nil yw y testyn ar lawr. t Ymddengys yma ei fod yn pre^thu yn nghymdeithaífa ei wlad X Ymddengys fod ganddo saith o wahadol bregŵhau ar y testyn hwn.

88 HANEaiAETH Y SIROEDU. [UOSB. IV.

y PAKCH. JOHN WILLIAMS, GÌÍNT O LEDROD.

Y mae yn beth hynod ddarfod i'r gŵr parchedig hwn ddianc heb un math 0 gofiant iddo : yn enwedigol wrth ystyried yr amser maith y bu yn llafurio ar y macs Methodistaidd, a'r lle aurhydeddus ydoedd iddo yn serchiadau ei frodyr. Ond rhyw amryfusedd a f u ; a drwg ydyw gan yr ysgrifenydd nad ydyw yn ei allu yntau, o herwydd diffyg defnyddiau, i wneyd y gwall i fyny.

Ymddeugys, pa fodd bynag, ei fod yn fachgen gwyllt iawn yn nyddiau ei ieuenctyd, er fod ei rieui yn bobl grefyddol, ac mewn undeb â'r Methodistiaid. Anfonwyd ef i ysgol Ystradmeirig ; yn y lle hwn y cafodd gj maiut o ddysg- eidiaeth a dybid yn angenrlieidiol i'w gymhwyso i fod yn weinidog yn yr eglwys wladol. Yr oedd Mr. Williams, ar y pryd, yu ddigon rhydd oddiwrth bob rhith o grefydd, eto teimlai radd o barch i'r Methodistiaid, a gwyddai trwy adnabyddiaeth bersonol o honynt, mai disail oedd y rhagfarn a goleddid yn eu herbjTi, ac mai anwireddus oedd y chwedlau a ledaenid am danynt. Ond pan ddaeth yr amser iddo ymofyn am ei urddo, deallodd fod sibrwd wedi myned ar led ei fod yn gogwyddo yn ormodol at Fethodistiaetli. Yr oedd hen offeiriad yn y gymydogaeth, adnabyddus o hono, wedi addaw bod yn gyfaill iddo, yn yr adeg oedd arno, a'i gyflwyno i'r esgob i dderbyn urddiad. Oud pan aeth Mr. Williams ato i ofyn iddo am y cyflwyniad, dangosai yr offeiriad betrusder i gydsynio â'i gais, gan ddweyd ei fod wedi clywed ei fod yn tueddu at y Methodistiaid. Cymerodd yntau arno fod yn ddyeithr iawn iddynt, a gofynodd i'r ofteiriad pa fath bobl oeddynt. Yntau a'u darluniai yn dra echryslawn gan ddweyd, mai eu gorchwyl oedd cyniwair ar hyd y wlad i dwyllo pobl ddiniweid, gan hau heresiau gwenwynig a dinystriol. Ai' hyn, dywedai ]VIi-. WiIIiams yn ei ddull cyflym a chyffrous ei hun, " Nid adw^aen i neb d'vfath ddiawliaid, Syr. Ac os mynwch, mi geisiaf brofion oddi- wrth ddyuion cyfrifol nad oes a fynwyf fi â'r pethau diffaith." " Na, na," ebe yr offeiriad, " nid rhaid i chwi drafferthú i geisio y fath beth, oblegid y mae eich iaith ynsicrhau i mi nad oes a wneloch chwi â hwy." Ar hyn, rhoddodd iddo yr hyn a geisiai, a derbj-niodd yntau ei urddau yn y canlyniad !

Fe fu Mr. WiUiams, am ryw dymhor, ar ol ei urddiad i'r weinidogaeth, yn rhoddi arwyddion amlwg iawn ei fod hyd yma yn berfl'aith amddifad o'r cymhwysderau angem-heidiol i'r gwaith, trwy ei fod yn rhoddi ffrwyn yn ddiym- attal i'w^dueddiadaullygredig, a chydredeg yn heinif gyda'i gyfoedion i'r unrhyw "ormod rhysedd." Ar ol darllen yn y Ilan, arferai yn fynych dynu ei gót yu y fan, gan ymroddi â'i holl egni i chwareu pel gyda chwmni cyffclyb iddo ei hun. Ar ryw brydnawii dydd Sadwrn, yr oedd wedi bod yn chwareu pêl â'i holl egni am ry w wobr neu wystl (wager), dy wedodd ar ddiwedd y chwareu, " rhaid i mi fyn'd i ysgrifenu pregeth erbyn y fory."

" Na ofala fymryn," ebe un o'i gyfeiUion, " mae gen' i bregeth o eiddo Mr. Eowlands ; cei ei benthyg genyf."

" Nid oes eisiau ei gwell hi," ebe yntau, er ua wyddai ncmawr ani Mr. Eowlands, ond trwy glywed eraill yn ei ganmawl.

PEN. VI.] SIR ABERTEIPI.' 8^

Nid oes sicrwydd am yr amser y dwysbigwyd y rhith-bregethwr gwyllt hwn, nac yn mha le, ond hyn sydd sicr, mai trwy wrando Daniel Eowlands y cyrhaeddodd y saeth ei galon, ac mor sicr a hyny, fod yr argyhoeddiad a brofodd, ar y pryd, yn ddwfn iawn ; ac i'r cyfnewidiad a ganlynodd fod yn un amlwg a Uwyr. Os blaenorodd cyn hyn m^n gwylltineb ac oferedd, yr oedd bellach mor hallt a thanbaid yn erbyn pechod a phob ynfydrwydd. Yr oedd ei bregethati erbyn hyn yn tlaranllyd a llymion iawn, nes oeddynt yn peri braw amtlirol ar yr anniiwiolion a'i gwrandawai. " Clywais ef yn ad- rodd," meddai fy hysbysydd, " wrth gydfyned ag ef i gymanfa Aberteifi, am im aragylchiad a ddygwyddodd, ' Dyma lan,' meddai, ' am Blaen-porth, v bum yn pregethu, flynyddau maith yn ol, am eangder a manyh'wydd gofyn- ion deddf Duw yn gofyn pechadur, ac yntau yn euog yn ei hwyneb ac heb ddim i dahi,' fel yr eft'eithiodd mor ryraus ar feddwl yr lien oífeiriad y lle, yr hwn oedd ar y pryd yn gwrando, nes y collodd ei synwyrau, ac ni fu yn alluog o hyny allan i gyílawni ei swydd fel gweinidog y llan."

Fe fu Mr. Williams yn gweinidogaethu yn yr eglwys sefydledig, ryw dymhor ar ol ei ddeft'ro dan bregeth Rowlands. Ac er mai yn Lledrod yr oedd efe yn gwasanaethu yu sefydlog, eto yr oedd yn barod i bregethu yn mhob llan a roddai ddi-ws agored iddo. Ryw Sabboth yn Lledrod, pan oedd ei ysbryd yn eiddigeddu yn danbaid am achubiaeth ei wrandawyr, rhoes hysbysiad ar ddiwedd y gwasanaeth, y byddai dda ganddo gyfarfod â rhyw rai o'i wraudawyr, ar ryw noson o'r wythnos ganlynol, os oedd neb yn eu mysg dan drallod meddwl, a gofid ysbryd yn nghylch achos eu heneidiau, i'r dyben o'u cyfarwyddo a'u dysgu ; ac annogodd yn serchiadol y cyfryw rai i ddyfod i'r Ilan, ar ryw awr a benodai, gan addaw y deuai yntau yno i'w cyfarfod. Yr amser a ddaeth, ond ni ddaetli ond tri i'w gyfarfod ; un hen ŵr, a dwy hen wraig. Ar ol dechreu y cyfarfod trwy ddarUen a gweddio, troes at yr hen bobl i ymddyddan â hwy, ac i wybod eu helynt, er mwyn eu hyfforddi a'u cysuro :

" Pa beth," ebe fe, wrth un o'r ddwy hen wraig, " sydd yn bliuo eich meddwl chwi? "

" Ehyw wayw rhyfedd o boenus," ebe'r hen wraig, sydd yn fy ochr i, nes wyf yn methu cysgu y nos, na cherdded, na dim arall ymron; ac mi ddaethum yma, Syr, i ofyn a oedd gyda chwi yr un cynghor i mi rhagddo."

" A oes dim trallod ar eich meddwl am eich enaid, druan ? " gofynai yntau.

" Nac oes," atebai yr hen wraig, "yr wyf yn hollol dawel am fy enaid." Aeth at yr hen wraig arall, a gofynai iddi,

"Pa beth yn neiUduol oedd yn ei blino hi ? "

" Mi a ddaethum yma," ebe'r hen wraig, " i ofyu eich cymhorth chwi, Syr, i ymliw â'r overseer ; y mae wedi tynu fy nogn i o'r plwyf i lawr, ac ni allaf fyw ar y swm bychau a roddir i mi yn awr."

Yr oedd Mr. Williams, bellach, yn ftin ei ysbryd wrth weled y fath gaddug o anwybodaeth, a'r fath ddiofalwch perff"aith am bethau ysbrydol, a dechreu- odd draethu yn ddifrifol wrthynt am eu sefyllfa dmenus, gan ofyn, pa fodd

90 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSÜ. IV.

yr ymdarawent yn ngwyneb byd ar ol hwn ; fod iddynt afon fawr a dofn i'w chroesi, wrtli fyned o'r byd hwn i'r byd hwnw ; wrth giywed hyn, neid- iodd yr hen ŵr ar ei draed, a dywedodd, " A wyddoch chwi, Syr, yr oedd genyf fi hen gefiyl a fuasai yn nofio un afon yn y byd, ond gresyni yw ei fod wedi ei werthu ! " Y cyfry\äj^ydoedd dysgyblion cyntaf Mr. Williams. Ac er mor ddigrifol ydoedd atebion y trueiniaid tywyll, ni allai Mr. Williams, ac ni all neb ystyriol, lai na gresynu dros hen greaduriaid a ddangosent y fath ddideimladrwydd llwyr yn nghylch eu hachos tragwyddol. Ar yr un pryd, y cyfryw ydoedd agwedd a chyflwr cannoedd a miloedd o'r Cymru a fagwyd yn yr un amser a hwy.

Yr oedd Mr. Williams tua 32 ml. oed pan yr ymunodd ef gyntaf â'r Methodistiaid, sef yn y fl. 1781. Dywedasom o'r blaen ddarfod ei dderbyn at y Methodistiaid yn Swydd-fíynon,* ac o hyny allan edrychid arno yn aelod ac yn weinidog yn eu mysg. Dywedir ei fod wedi treulio 62 o flynyddoedd yn y weinidogaeth ; rhaid, felly, ei fod wedi cychwyn arni yn 20 neu 21 oed. Gan mai yn y fl. 1781 y derbyniwyd ef yn aelod at y Methodistiaid, yr oedd wedi treulio 12 ml. o'i weinidogaeth yn y llanau, a pha faint o'r 12 ml. hyny a dreuliwyd yn oferedd ei feddwl, nid oes genym hysbysiad. Parhaodd, pa fodd bynag, dros ystod yr hanner can' mlynedd y bu gyda'r cyfundeb, i lafurio yn ddiwyd a didramgwydd, a gorphenodd ei oes yn y fl. 1831, yn 82 ml. oed, " jn hen ac yn llawn o ddyddiau."

Yr oedd Mr. WiUiams yn un, fel y soniwyd o'r blaen, o'r ychydig nifer a safodd gyda'r Methodistiaid ar ol yr ymueillduad a fu ar bregethwyr y cyfundeb i weinyddu bedydd a swper yr Arglwydd. Dangosodd ei hun yn ẃr rhydd a diymhongar yn yr amgylchiad hwnw ; ac ennillodd iddo ei hun, trwy hyny, lawer o barch ac ymddiried ei frodyr, yn mysg y rhai y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes ; er iddo ddyoddef cryn lawer o edliwiad a gwg oddiwrth ei hen frodyr urddedig am na safasai yn dỳn dros hawliau yr urdd, a rhagor- freintian yr ofifeiriadaeth. Eto, er hyn, nid ydym yn cael lle i feddwl ddarfod i'r gŵr parchedig gael Ile i edifeirwch am y rhan a ddewisasai, ond yn hytrach, ddarfod iddo gymeryd ei le gyda'i gyd-lafurwyr yn berffaith siriol a heddychol, gan fod " yn gyd-ostyngedig â'r rhai isel-radd."

Fe fu Mr. W^illiams yn cyd-lafurio yn nhymhor boreuaf ei oes gyda hynaf- ion ei sir, megys y Peirch. D. Eowlands, T. Gray, a D. Morris, a'u cyd- oeswyr, a pharhaodd i gyd-lafurio am amser hwy, gyda'r Peirch. Ebenezer Morris, David Evans, John Thomas, ac Eben. Eichards, a'u cyd-oeswyr hwythau. Ehaid ei fod ef, gan hyny, wedi gweled achos y Methodistiaid yn ei febyd ; gwelodd ef yn tyfu ac yn ymgadarnhau ; bu yn cyd-Iafurio â'r dynion hynotaf a fu yn y cyfundeb erioed ; gwelodd ef bob cyfnewidiad o bwys a fu arno, ar ol ymneillduad Howel Harris, hyd o fewn ugain mlynedd yn ol. Gwelodd ef gychwyniad bychan yr ysgol Sabbothol, a bu fyw i weled ei llwyddiant rhagorol; yr oedd ef ar y maes pan y chwythodd

* Gwel hanes Swydd-flynon, tudal, 36, Cyf. II.

P£X. VII.] SIR ABEKTEiri. 91

tymhestl yr ordeiuio ar y corff, daliodd rym hòno, pryd yr aeth rhai o'i frodyr i ffordd. Cychwyuodd ei yrfa gyda'r Methodistiaid, pan nad oedd ond tuag 16 0 gapclau wedi eu cyfodi ganddynt yn y sir, a bu fyw i'w gweled, rhwno- capelau ac ysgoldai, yn agos i 90 o rifedi. Nid maint ei ddawn oedd yn ei hynodi gymaint, ond heddychlonedd ei ysbryd, cywirdeb ei amcan, a gwas- tadrw}'dd ei lafur. Yr oedd ]\Ir. Williams yn y De, yr hyn oedd Eobert Jones, Tŷ-Bwlcyn, yn y Gogledd, sef yn ddolen gysylltiol rhwng y tadau cyntaf Methodistiaid eu gwlad, a'r rhestr o'r gweinidogion henaf hyny sydd ar y maes yn awr. Cawsant hwy gyfrinachu a'r tadau cyntaf, ac â'r piant hefyd, a thrwyddynt hwy y mae ein cydnabyddiaeth ni o'r ganrif hon yn cyrhaedd y tadau yn y ganrif o'r blaen.

PENNOD VII. PARHAD O BRIF LINELLAU HANESIAETH Y SIR.

CTÎIWrSIAD :

PEIBCH. EBENEZER JIORRIS— JOHX THOMaS, ABERTEIFI— EBENEZER RICHARDS A JENKIN DAYIES A5IRYW BREGETHWYR ERAILL GWASAXAETH DOSBEIRTH ERAILL I FETHODISTIAETH— HANESYN AM DAIR BENYW— A DANIEL ROWLaNDS- CEINEWYDD A CHAPEL AFAN— Y MODD Y CODODD LLEOEDD DIWEDDARACH.

PARCH. EBENEZER MORRIS.

Mae y gŴT hwn yn dra theilwng o goffâd helaeth yn hanesiaeth Methodist- iaeth ei wlad, mwy felly o lawer nag a ganiatâ ein defnyddiau, a mwy hefyd nag a ganiatasai ein terfynau, pe buasai y defnyddiau byth gan helaethed, am ei fod yn un o'r ser dysgleiriaf a ymddangosodd yn ffurfafen IMethodistiaetb Ceredigion, ac am i Dduqj| ei ddefnyddio, mewn modd arbenig, i roddi ysgog- iad grymus i'r diwygiad yn ei fiaen yn mysg ei genedl.

Ganwyd ef yn mhlwyf Lledrod, ya. y fl. 1769. Efe ydoedd fab hynaf Dafydd Morris y soniasom eisoes am dano. Nid oes dim neiUduol yn cael ei grybwyll am ddyddiau ei ieuenctyd, ond ei fod yn fachgen bywiog ei gyneddf- au, a llawn o ddyhirwch ieuenctyd. Gall y darllenydd gael drychfeddwl cywiracli pa fath un ydoedd y pryd hwn, oddiwrth un hanesyn fer, na phe traethid yn faith am dano. Gosodwyd ef pan yn fachgenyn mewn athrofa (Grammar scJiool) yn mhlwyf Troed-yr-aur, yr hon a gynelid gan hen otfeir- iad o'r enw Davies. Yr oedd afon Ceri yn Uifo gerllaw ; ac yn yr afon hon,. arferai y bechgyn ymdrochi jti fynych ar dywyddteg. Dygwyddodd fod mewn rhyw fan ar yr afon lygedyn a elwid y " PwU-dwfn," am fod y dwfr yn y fan hòno yn Uawer dyfnach nag oedd yr afon yn gyffredin ; man oedd hwn na feiddiai neb anturio iddo ond a fedrai nofio. Ehyw ddiwrnod pan oedd amryw o'r bechgyn yn ymddifyru yn y dwfr, ac Eben. Morris yn eu pUth, fe safai gẃr ieuanc gerUaw y PwU-dwfn; i'r tu ol i hwn y daetb Eben, ac er ei fod yn Uawer Uai na'r gŵr ieuanc, efe a roes hergwd disymwth iddo â'i hoU nerth, nes oedd yn nghanol y pwU. Nid oedd y Ueucyn yQ gaUu nofio, a bu agos iddo goUi ei fywyd. Achwynwyd ar y dyhiryn bychaiì

92 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

wrth yr atliraw, a galwyd ef i gyfríf. Ni cbeisiodd yntau wadu y bai, ond cyn gosod y fflangell ar ei wàr, gwaeddodd allan, raewn ffordd o ymesgus- odiad yn grocb, " Betb wyddwn i na allai nofio fel pysgodyn?" Yr oedd Eben ei bun yn medru nofio fel pysgodyn, cymaint felly, fel y dywedid am ryw nofiedydd mwy campus nag arall, " Y mae yn gystal nofiwr ag Eben. Morris." Pa fodd bynag, gan mor ffraetb yr ymesgusodai y tro hwn, llin- iarodd gŵg yr hen athraw, ac arbedwyd y Avialen.

Ymddengys oddiwrtb yr hanesyn uchod fod gwrthddrycb ein sylw wedi cael rhyw raddau o fauteision dysg ; cymaiut, fe allai, ag a allesid dysgwyl iddo gael yn y tymhor hwitw ar y genedl, ac yn yr amgylchiadau yr oedd y teulu ynddyut. Pan oedd oddeutu dwy ar bymtheg oed, aeth oddi cartref i Drecastell, i sir Erycheiniog, ac efe a fu yno, dros ryw dymhor, yn cadw ysgol. ITyd yn hyu nid oedd dim arwyddion o ofn Duw ar y llencyn, ond efe a rodiai yn ol belynt y byd hwn, ac yn oferedd ei feddwl, " beb obaitb ganddo ac heb Dduw yn y byd." " Ond fe welodd Duw yn dda, yr hwn a'i neiUduasai o groth ei fam, ei alw ef trwy ras, i ddadguddio ei Fab ef ynddo;" a byn a wnaetb trwy weinidogaeth gûr y crybwyllasom ei enw eisoes, fel un o bregetbwyr boreaf y Methodistiaid, scf Dafydd William E-hys, a daeth yn fuan bellach i fod yn aelod yn eu mysg yn y lle ucbod.

Pan yn bedair ar bymtbeg oed, dechreuodd bregethu. Nid oedd ond ieuanc 0 ran oed, ac nid oedd chwaitli ond ieuanc o ran crefydd, eto, fe yraddengys ddarfod i'r brodyr gael graddau belaetb o brofion ynddo o dduwioldeb a gras, yn gystal ag o wybodaeth a dawn, cyn ei annog at y gwaitb pwysig o bregetbu'r efengyl i'w gyd-ddynion. Yr oedd hyn tua'r fl. 1788. Yn fuan ar ol iddo ddechreu pregethu, efe a aetb gyda'r hybarch weinidog, y Parch. David Parry, Brycbeiniog, trwy Ogledd Cymru, Jj&' hwn oedd y tro cyntaf erioed iddo fod yn pregethu yn Ngwynedd. Nid ocs dim yn cael ei ddweyd am effaith y daith bon ar ei feddwl ef ei bun, nac ycbwaitb am y lle a ennillodd yn raeddyliau y brodyr a'i clywsai yn pregethu.

Ar farwolaeth ei dad, yr byn a gymerodd le yn y fl. 1791, y flwyddyn ar ol i Eowlands, Llangeitbo, farw, symudodd Ebenezer Morris i ben gartref ei dad, yn mblwyf Troed-yr-aur, yn sir Aberteifi, pan nad oedd eto ond dwy-ar- bugain oed.

O ran ei gorÖ', nid oedd Ebenezer Morris yn ddyn tàl iawn, ond yr oedd 0 gyfansoddiad cryno a cborffol. Yr oedd o ymddangosiad hardd, o wyneb- piyd agored a tbeg, yn meddu ar bob cymhwysder golwg a gwedd i beri sylw a pharcb. Newidiai Liwer ar ei wedd ac ar ei lais wrth bregetbu. Medrai eu cyfaddasu at y materion mewn llaw gyda debem-wydd tra uatur- iol, ac mewn modd tra effeithiol. Yr oedd ei ymddangosiad yn y pulpud yn hardd dros ben ; yr oedd gwedd gonestrwydd a challineb yn ei wyneb- pryd ; yr oedd pereidd-dra a grym yn eilais; a gweddusrwyddarddercliog yn ei ymadroddion.

Nid oedd neb i'w gael â llai o rodrcs ft cboegedd nag efe yn y pulpud ; ni ddysgasai wenieithio i neb, nac mewn un man ; ac er mor wrol ydoedd o

PEN. VII.] SIK ABEHTEIFI. 93

feddwl, ac er lleied oedd aruo o ofn neb, nid oedd neb jni arfer llai o di*ais ar y gweiniaid; medrai fod yn fwyn heb weniaeth, a medrai fod yn hyf heb anweddeidd-dra. Ymddangosai y tri pheth hyn jm eglur ac ardderchog ynddo, gwroldeb, gonestrwydd, a cliallineb.

Yr oedd Ebenezer Morris yn feddiannol ar dalentau helaeth fel pregethwr, a'r rhai hyny yn naturiol ganddo. Ni chafodd lawer o seibiant gan amgylch- iadau i gysegru llawer o amser i astudio areithyddiaeth, i amaethu a choethi ei ddawn naturiol, nac i gyfansoddi ac ysgi-ifenu ei bregethau. Hawdd ydyw i ni gasglu na allasai gael seibiant i hj^ny, pe buasai ei fryd ar hyny, oblegid fe ddechreuodd bregethu yu ieuanc, ac yn fuau ar ol ei attal yn ei wylltineb ; fe briododd yn 20 ml. oed ; disgynodd arno ofalon teidu, a thrafferthion bydol, mewn canlyniad, ac efe a fu am ysbaid y 14. nen 15 ml. cyntaf ar ol priodi yu isel a thrafl'erthus iawn ei helyntion. Pan y cymerom yr amgylch- iadau hyn i ystyriaeth, a chofio hefyd fod jt alwad arno i bregethu yn ei fro ei hun, ac i deithio gwahanol siroedd a Gogledd, yn trethu ei amser i'r eithaf, nid yd^on. yn synu os na allwn ganfod cymaint o ol celfyddyd ac efrydiaeth ar ei bregethau ac ar ei ddawn. Cyneddfau naturiol ac ymarferiad a'i gwnaeth y peth oedd. Nid oedd naturiaeth, er hyny, ddim wedi ei gad- ael i redegyn wyllt ynddo ef, fel y ceir hi weithiau mewn rhai mawr eu dawn a bychau eu coethder ; ond ynddo ef yr oedd ei ddawn naturiol ya cael ei llywodraethu gan synwyr cryf, ac yn cael ei heneinio gan ras mawT.

Nid yn fynych y cyfarwyddwn â neb a ddaliodd ei boblogrwydd a'i ddefn- yddioldeb jti fwy gwastad nag a wnaeth ef. Yr oedd jii boblogaidd anarferol ar ei ymddangosiad cyntaf, ond nid yn fwy felly, nac ja. gymaint felly, ag yn ei flynyddoedd diweddaf. Meddai y diweddar Barch. David Charles, Caer- fyrddin, yn y cofiant byr a ysgrifenodd am dano, i gyhoeddiad Saesonaeg,* " Ei lais ydoedd hynod o ran ei bereidd-dra a'i awdurdod. Ni phaUai un amser i ennill a sefydlu sylw ei ^yrandawjT, a hyny gan amrywiaeth,hyawdledd, a bywiogrwydd, ei ddull. Ei gof cryf, ei barodrwydd, a'i ffraethineb, a'i cariai trwy froddegau hirion, cynwysfawr, a nerthol, yn eglur ac ardderch- og, er mawr syndod i'r gwrandawjT,"

Dysgleiriai ryw luchedau tanllyd yn fynych yn ei bregethaii, a fyddent yn wir anorchfygol. Teimlai ei wrandawyr yn aml, pan y gollyngai allan fygyth- ion Duw yn erb}Ti anwirfyd, mewn llais grymus, a chyda gwedd arswydlawn, eu bod megys ar ddibyn distryw, a theimlent eu gwallt yn sefyll yn syth, a'u cnawd yn crynu gan fi'aw. ('erddai nerth ac awdurdod anarferol yn fynych gyda rhyw air a draethai ; gair a adroddai drosodd a throsodd, nes y byddai pob wyneb yn Ui' o ddagrau. Cofus gan jt ysgrifeuydd ei wrando yn nghymdeithasfa y Bala, flynyddoedd lawer yn ol, pan yn pregethu ar y testyn, " Hwn a osododd Duw yn iawn," &c., ac yn adrodd eüwaith ac eil- waith y gair lawn ! lawn ! lawn ! gyda Uais giymus, ac ysbryd toddedig, nes oedd y miloedd pobl wedi eu raeddiannu â theimladau annhracthadwy.

* Eyangelical Magazine for April, 1826.

94 HANESIAETH Y SIllOEDD. [dOSB. IV.

Yr oedd Mr. Morris uiiwaith ya pregetliu yn Llangeitho, ychydig o amser cyn i'r neillduad gymeryd lle ar weinidogion i'r cyfundeb, a dygwyddodd fod yn yr ardal hòno wraig ag oedd yn teimlo yn gaeth a rhagfamllyd atto, am y tybiai ei fod ef yn brif oíferyu i ddwjai y neillduad hwnw oddi amgylch ; a chymaiut oedd chwerwder ei theimladau tuag ato, ar y cyfrif yma, fel y siaradai yn ddifriol am dano, ac y mynai nad oedd yn deilwng o'r parch a delid iddo gau y bobl ; ond er hyn oll, pan y dysgwylid iddo fod yn Llangeitho yn pregethu, ni allai y wraig hon lai na dyfod i'w wrando. A hi a ddaeth i'w wrando y tro hwu. Yr oedd yn pregethu ar y gair, " Cyfiog pechod yw marwolaeth, &c." Yr oedd y bregeth dan arddeliad dysglaer iawn ; effeith- iodd hefyd gymaint ar y wraig grybwylledig, nes oedd wedi cwbl ddyiysu ; disgynodd arni y fath syfyrdaudod, fel na wyddai pa le yr oedd. Yr oedd cjŵrfod eglwysig ar ol y bregeth, a phwy a welwyd yn mysg y bobl a safent ar ol ond y wraig hon. Nid oedd mewn undeb eglwysig, ac nid oedd neb yn dysgwyl ei gweled hi yn aros, yn enwedig ar y pryd yr oedd Mi-. Morris yno. Nodwyd hi allan gan iyw un, a gofynwyd iddi a oedd hi yn bwriadu ymuno â'r eglwys ? Ar hyn hi a ddaeth ati ei hunan ; deallodd bellach pa le yr ydoedd ; dadebrodd o'i syfrdandod, a hi a aeth allan.

Prif nodwedc^ ei weinidogaeth ef, fel yr eiddo ei dad, oedd grymusder a Jielaethrwydd. Nid oedd ei bregethau j'n gyífredinol ond byrion ; parhaent y rhan amlaf o 20 i 40 munud ; aufynych iawn y cyrhaeddent awr gyfan, ond y mae crybwylliad iddo unwaith bregethu awr a hanner, a hyny mewu cyfar- fod yr oedd dysgwyliad mawr wrtho, ac ar ol i frawd arall fod yn fyr iawn o'i flaen. Dywedai hen flaenor, gyda'r Annibynwyr am dano, jt hwn oedd wedi ei wrando gannoedd o weithiau, ac yn byw yn ei gymydogaeth, na chlywodd ef yn terfynu ei bregeth erioed " heh gael gafael yn y bohl" Defn- yddiai lawer ar ymadroddion ysgrythyrol, a defnyddiai hwynt, nid cymaint i harddu ei bregeth ei hun, ond i fachu cydwybodau ei wrandawyr. Deallai y bobl yn bur fuan ei fod yn Ilefaru icrthynt hicy, ac am danynt hwy, a hyny o ddifrif. Nid boddlon oedd y g\\T da hwn i brydferthu ei bregethau ag ym- adroddion tlysion, ac â brawddegau coeth ; llafuriai yn hytrach i ddwyn y gwirionedd (dan sylw) a'r gwrandawyr i gyfarfod â'u gilydd, modd y teimlid awdurdod y gwirionedd, yn hytrach na chanmawl y pregethcr.

Yr oedd llafur gweinidogaethol Mr. I\Iorris yn fawr iawn. Dywed un wrthyf mewn ysgrif sydd o fy mlaen, ei fod yn pregethu unwaith bob dydd yn yr wythnos, ond dydd Llun a dydd Sadwrn, a chadw cwrdd eglwysig, yn nghyda thair gwaith ar y Sabboth. " Gellir dywedyd yu gadarn," meddai y gŴT, yr hwn oedd yn gymydog iddo, ac yn dra chydnabyddus ag ef, "ei fod at eu gilydd, yn pregethu unwaith bob dydd am flyuyddau diweddaf ei oes. Arferai bregethu mewn amser ac allan o amser, îe, nid oedd jti oI i'r diwyg- wyr penaf yn hyn." Arferai bregethu mewn tai anedd, lle bynag y gofynid iddo, ar hyd y cymydogaethau, ac mewn angladdau, ac ar fwrdd y llongau, ie, tybid na fyddai Ilwyddiant i long newydd, oni fyddai Ebenezer Morris wedi bod yn pregethu ar yr achlysur o'i ìaunchio. Yr oedd yn gyson iawn yn

PEN. VII.J SIR ABERTEIFI. 95

nglijffarfodydd misol ei sir, ac yn nghyfarfodydd chwarterol y cyfundeb, ac nid llawer Uai na hanner ei amser a dreuliai efe yn y modd hyn oddi cartref. Nid oedd neb yn fwy awyddus i ddarllen nag ef, nac yn fwy dyfal wrth hyny pan y ca'i ychydig o seibiant, ond nid oedd ei amser yn caniatâu iddo ysgrifenu nemawr, ie, o'i bregethau ei hun, mewu trefn a chyda manyldra. Yr oedd ei bregethau yn llawn o gyfeiriadau ysgrythyrol, y rhai a adroddid ganddo gyda mawreddusrwydd rhyfeddol, ac a gymhwysid ganddo gyda sylw- adau dysglaer a grymus. Hyn, fel ei dad o'i íiaen, oedd swm ei bregethau.

Ennillasai Mr. Morris le mawr yn mysg ei frodyr. Collwyd Eowlands oddiar y maes pan oedd Mr. Morris eto yn ieuanc, ac wedi bo dyn pregethu ond dwy flynedd. Y flwyddyn ganlynol, aeth ei dad Dafydd Morris i'w gartref hir. Yr oedd Mr. Williams, Lledrod, wedi cychwyn ei daith weinid- ogaethol gyda'r Methodistiaid ychydig o'i flaen, a John Thomas o Aberteifì newydd osod ei law ar yr aradr. Gyda'r gwŷr hyn, yu nghyda Mr. Gray, y llafuriai Mr. Morris yn mlynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth ; ac nid gormod chwanegu ddarfod iddo gyrhaedd Uawn cymaint o ddylanwad, a llenwi llawn cymaint o le, yn ei wlad, a neb o'i gydoeswyr. Ac nid oedd ganddo ddim dylanwad chwalth ond a eunillodd. Pwys a chysonedd ei gymeriad personol, purdeb a grym ei weinidogaeth, a dyfalwch cyson ei lafur, a ennillodd iddo y dylanwad. Yr oedd yn iaoh oddiwrth y gwaeleddau a anurddai rai gwŷr da yr oes o'i flaen ; yr oedd mwy o farn a chydwybod yn ei lywodraethu, os oedd llai o dymherau a hwyliau. Gellid ymddiried mwy iddo, er ei fod yn Hawer ieuangach. Gosododd ei wyneb yn "erbyn pob gogwyddiad at ben- rhyddid mewn barn a buchedd, a safodd yn erbyn y genllif fel mur pres ; ac ni aUai na gwawd, na rhagfarn, na dylanwad neb, ei ysgogi. Yr oedd cadernid a diysgogrwydd yn nodwedd hynod yn ei gymeriad.

Ond er ei fod yn hallt a diblygu mewn pethau cydwybod, nid oedd neb tynerach nag ef tuag at y gweiniaid, a'r amryfus. " Yn y cyfarfodydd misol yr oedd fel tywysog tangnefedd yn ein plith," medd un o'i frodyr am dano. Dangosodd ambell un duedd i guro ei gyd-weision, ond Mr. Morris a agorai ei enau dros y mud, ac a ddywedai, " Nid curo ein gilydd sydd i fod yma, ond cynghori ein gilydd fel brodyr." Ei air ef a fyddai yn ddeddf yn y cymydogaethau Ue yr oedd yn troi amlaf ac yn cadw cyfarfodydd eglwysig fynychaf ; nid am y mynai ef lywodraethu, ond am y mynai yr eglwysi ei barchu. Yr oedd wedi tynu eu calonau ar ei ol, a hawdd oedd iddo gael ganddynt wneyd y peth a fynai, am na cheisiai ganddynt wneyd dim ond a ddylasent.

Yn y gymdeithasfa yr oedd Uygad pawb arno. Er ei fod dros ugain mlynedd yn cael ei ystyried ond pregethwr diurddau, neu gynghorwr, eto yr oedd y cynghorwr hwn yn enniU tir ar lawer gŵr urddedig yn nghydwybodau ac yn serchiadau y brodyr. Cyrhaeddai y gair a ddywedai yn mheU, ac efí"- eithiai yn ddwfn. Nid gẃr prysur ei dafod y cyfrifid Mr. Morris. Yr oedd yn meddu cryn fesur o bwyU ac arafwch, a Uawer iawn o galHneb, fel ag i adnabod amser a barn. Nid hoff" oedd ganddo siarad er mwyn siarad, ond

96 HANESIAETH Y SIROEDD. [doSB. IV.

pan y llefarai fe lefarai i bwrpas. Ei frodyr a wraiidawent arno, ac a ddys- gwylient ; dystawent wrtli ei gynghor; ac ar ol ei ymadrodd ni ddywedent eilwaitli." Ac nid Ue oedd hwn yr ymwthiasai iddo, ond a ennillasid ganddo trwy gymhwysder ; nid Ue yr amcanai efe ei gyrhnedd, ond lle a roddid iddo hcb ei geisio. Cyrhaeddasai hefyd y sefyllfa uchel yn mysg ei frodyr heb un fantais neülduol ar ei gychwyniad, ond } n gwbl trwy euniU ar eu serchiadau yn raddol, a thrwy roddi profion cyson o'i ras a'i ddoethineb.

Edrychid ar gymdeithasfa y Deheudir yn wag oui fyddai Mr. Morris ynddi, a braint fawr y cyfrifid cael ei bresenoUleb yn nghymdeithasfa y Gogledd ; a mynych iawn y bwriodd y Gonichaf gwmwl gogoniant drosto, pan y byddai yn gweini yn y cyfarfodydd cyhoeddus hyn. Sonir yn neiUduol am uu tro mewn cymanfa yn y Capel-newydd, ar ífinian siroedd Aberteifi a Phenfro, a fu yn fendithiol iawn i eneidiau lawer. Pregethai ar Diar. 4. 18. " Llwybr y cyfiawn sydd fel y goleuni, &c." Dylynwyd y bregethhon â'r fath nei'th ac awdurdod, nes y cyfrifwyd fod o 100 i 120 o ddynion wedi ymuno â'r eglwysi yn sir Aberteifi yn uuig, mewn caulyniad iddi, hcbkw yr hoU rai a ddaeth i mewn yn sir Benfro. Sonir Uaw^er hyd heddyw gan bobl oedranus am effeithiau tra rhyfedd a ddylynofld bregeth o'r eiddo ar Mat. xvi. 26 ; " Canys pa lesâd i ddyn os enniU efe yr hoU fyd, a choUi ei enaid ei hun ? " ar hyd siroedd Din- bych a Pflint. Yr oedd nerth ei weinidogaeth y pryd hwn yn mheU y tu hwnt i'w ddysgrifio ; cyff'elyb, meddai yr hen bobl, oedd yr effeithiau a welsent hwy dan weinidogaeth ei dad, pan yn pregethu ar yr un testyn. Yr oedd amryw o Avŷr craS^ a phwyUog yn barnu, fod rhai cannocdd yu y siroedd crybwyUedig wedi cael eu gwir ddeô'roi trwy ei bregethau ar y testyn uchod, yn ngwahanol barthau y wlad y tro hwnw.

Mae crybwyUiad yn cael ei wneyd am dano yn pregethu mewn angladd gwraig Ued gyfrifol, a fuasai farw ar enedigaeth plentyn, pregeth a goron- wyd ar y pryd ag awdurdod rhyfeddol, ac a ddylyuwyd yn ol Uaw h Ues mawr. Ei dcstyn oedd, " Y rhai ni wyddoch beth a fydd y fory. Canys beth ydyw eich einioes chwi? Síc." lago iv. 13 15. Am y bregeth hon yr ysgrifena brawd o'r gymydogaeth, " Y fath ydoedd yr awdurdod yn y bregeth hon, fel yr oedd tragwyddoldeb wedi Uyncu amser, a'i hoU amgylchiadau, yn meddyUau y gwrandawyr ; un gŵr cyfrifol, yn arbenig, a ddaUwyd â'r fath argyhoedd- iad, ag y bu am ddyddiau rai yn cryuu megys o flaen gorsedd Duw heb uu olwg am ddiangfa ; ac feUy y parhaodd nes ei wrando eilwaith yn pregethu oddiar 1 Pedr i. 18. "Nid â phethau Uygredig megys arian neu aur y'ch prynwyd oddiwrth eich ofer ymarweddiad, eithr â gwerthfawr waed Crist."

Teimlai weithiau gryn benbleth yn ei feddwl wrih bregethu ar achlysuron o'r fath. Teimlai yn neiUduol aughysurus unwaith yn sir Frycheiniog, pan oedd Ow^n Enos gydag ef yno ar daith trwy y wlad. Galwyd arno i bregethu mewn angladd mab i ryw un cyfoethog ; a bachgen annuwiol iawn a fuasai yr un trancedig. Y nos o flaen y bregeth, yr oedd Mr. Morris yn methu cysgu, gan feddwl am yr oedfa boreu dranoeth. Meddai wrth ei gyfaiU, " Yr wyf yn methu yn lân a chael Uonydd gan y gair hwnw, ' Ac yn uffern efe a

PEN. VII.] SJR ABEIITEIFI. 97

gododd ei olwg ac efe mewu poeuau ! " Ar y naill law, canfyddai gymhwys- der yn y geiriau i'r auigylcbiad, wrth ystyried cymeriad yr uu a fu farw ; ond ar y llaw arall, ofuai anafu teimladau pcrthynasau galarus, meddyüau y rhai, fe allai, oeddynt eisoes yn dra archolledig. Ni chauodd Mr. Morris ei lygaid trwy y nos, gan ymdrech ei feddwl ; eto ui allai gael ei fyfyrdod i ymgymeryd ag un gair arall, ac ar y gair uchod y bu raid iddo bregethu. Ni ddywedir pa effaith a gafodd hyn ar y perthynasau, ond sicrheir fod y bregeth hòno wedi gwneyd ei hol am byth ar lawer.

Er fod Mr. Morris yn ŵr fifraeth ei atebion, ac er ei fod o dymher siriol, fel y teimlai yu ddwys oddiwrth ryw ddigrifwch diniwaid, eto ui ddefnyddiai byth mo'r pulpud i ddangos dim ífraethiîieb a derfynai ar gymhendod ; ac ni ymollyngai byth i ysgafnder a digrifwch wrth ymdrin â phethau cysegredig. Te roddir drychfeddwl i'r darlleuydd pa fath ydoedd ei dymher uaturiol ef trwy fân amgylchiadau a goffeir, yn llawer gwell na thrwy draethawd manwl, pe gallesid gwneyd y cyfryw : oddiar yr ystyriaeth yma tueddir yr ysgrifenydd i gyfeirio rai o'r cyfryw, er y dichon fod yn rhai o honynt ddygwyddiadau lled ddigrifol.

Yr oedd ef ac Owen Enos, gvvr a ganlynai lawer arno yn ei deithiau, a gvvr yr oedd graddau helaeth o ddigrifwch yn ei dymherau, yn dychwelyd adref o gymdeithasfa yu sir Benfro, a chyda hwynt yr oedd blaenor o sir Aberteifi, o'r enw Thomas, yn dychwelyd hefyd. Ystyrid y blaenor hwn o'r ddau yn rhy ofalus am ei anifail ; o leiaf, yr oedd Owen Enos wedi llochi y dyb hòno. Eel yr oedd y tri yn dyfod i fyny y rhiw, disgynodd yr hen flaenor oddiar ei farch i gerdded, gan adael ei geffyl i ofal Owen i'w arwain. Aeth yr hen ŵr yn mlaen gan bwyll, a chau sỳnfyfyrio. Ond Owen a gy- merodd y cyfleusdra i fyned ar gefu ceffyl Thomas, gan arwain ei geffyl ei hun. Gwelodd Mr. Morris hyn, nes oedd ymron ag ymdori gan chwerthin wrth weled ystryw wagsaw ei gyfaill, ac wrth feddwl pa beth a feddyliai yr hen ŵr pan welai fod ei ofal am ei anifail wedi erthylu. Bob yn ychydig daethant i ben y rhiw, a throes Thomas ar fedr esgyn i'r cyfrwy eilwaith, ond er ei fawr syudod yr oedd yno farchog eisoes, ac nid oedd dim i'w wneyd bellach ond i bob un gymeryd ei geffyl ei huu, a phenderfynu, mae yn debyg, a wnaeth yr hen flaenor na roddai yr un fantais o'r fath i Owen drachefn. Y sylw a wnaeth Mr. Morris, pan allodd ef siarad oedd, " Wel, wel, Owenbach, y mae rhyw fath o gythreuliaid yn dy flino di na ŵyr pawb ddim am dauynt, trwy drugaredd ! "

Yr oedd Uawer o ffraethineb parod a naturiol yn perthyn i Mr. Morris, yr hwn, oni bai ei liniaru a'i Iywodraethu gau synwyr cryf, a gras mawr, a allasai gynyddu i eithafion niweidiol; ond ynddo ef fe'i cedwid o fewn terfynau ag oedd weddus i Gristion, ac i weinidog yr efengyl ; eto rhoddai brawf, yn awr ac eilwaith, nad oedd wedi ei ladd, ond ei fod dan deyrnged. Yr oedd rhyw ŵr, uid pell o'i gymydogaeth, wedi treiglo oddiwrth un blaid grefyddol at un arall, ac mewn Ilythyr at rai o'i hen gyfeillion, efe a ganmolai y bobl yr ymunasai â hwy, gan ddweyd eu bod eisoes wedi ei aurlicgu â cheffyì a cht/f-

H

98 HANESIAETH Y SIROEDD. [DOSB. IV.

ricy. Damweiniodd i Mr. Morris weled y llythyr, ae wedi i'w lygaid ddisgyn ar y ddau air ceffyl a chyfrwij, efe a ddywedai, " Hawyr bach ! os na chafodd ef ífrwyn yn ei ben ef hefyd, nid oes wybod pa le yn y byd y delir ef eto ! " Unwaith, wrth glyr^'ed rhyw ddynion yn gollwug eu tafodau yn rhy chwerwou ar eu gilydd, dywedai, " Da chwithau, torwch eich ewinedd cyn rhoddi eich bysedd yn nghlwyfau eich gilydd. Gwell i chv/i roddi aden ar glwy', na llaw drom."

Yr oedd yn eiddigeddu llawer dros y gwan a'r diamddiífyn na chai gam ar law y rhai cryfion. Yr oedd yn ymddyddan mewn rliyw eglwys â hen ŵr oedranus a pharchus o ran ei grefydd, gŵr nodedig o ddiargyhoedd ei rodiad dros ei holl fywyd, ond gŵr bychan iawn ei wybodaeth, a phlentynaidd ei amgyífred am egwyddorion crefydd, ac, o ganlyniad, lled drwsgl i adrodd ei brofiad yn drefnus. Yn ystod yr ymddyddan, cododd rhyw bregethwr, a dywedai, " Na wyddai ef yn y byd pa beth ì feddwl am ddyn- ion o'r fath; dynion," meddai, " wedi bod dros gjniifer o flynyddoedd gyda chrefydd, ac heb fod ganddynt nemawr neu ddim i'w ddweyd am sylfaen eu gobaith am fywyd tragwyddol." Gwrandawodd Mr. Morris ar hyn, ac eiddigeddodd dros y diniwaid : troes at yr hen ŵr, a gofynodd iddo : " Beth yw eich oedran ? "

" Yr wyf," ebe yntau, " yn ddeunaw mlwydd a thriugain." " Dros ba faint o amser yr ydych wedi bod gyda chrefydd ? " " Mae m^vy," atebai yr hen ẃr, " na deng mlynedd a deugain." " A fuoch chwi ddim allan o'r eglwys dros yr holl amser hyny ? " " Naddo, " oedd yr ateb, " er i mi haeddu cael fy mwrw allan lawer gwaith."

" A fuoch chwi ddim tan gerydd erioed yn yr eglwys ? " Dechreuodd yr hen ŵr wylo ar hyn, a'r bobl hefyd, a thrwy ei ddagrau efe a ddywedai :

" Naddo, ond yr wyf yn methu a deall pa fodd y ce's fy ngoddef cyhyd heb gerydd, gan faint a haeddais."

Ar hyn, troai Mr. Morris at y bobl, a dywedai, " Mae hynyna yn fwy nag a all llawer o ddynion flFraeth iawn ei ddweyd, a phe holwn chwi oU yn bresenol, fel yr holais yr hen ŵr, fe allai mai ychydig a geid yn abl siarad y sJiibboletli yna mor gi'oyw ag ef." Troes y cyfarfod eglwysig hwn allan ya dra llewyrchus.

Yr oedd Ebenezer IMorris yn meddu llawer o ysbryd barn a doethineb, yn enwedig i weinyddu cerydd yn y modd ac i'r graddau ag a atebai y dyben. Yn amser cyntaf yr ysgol Sabbothol, jt oedd rhai yn teimlo yn anfoddlawn iawn i'r gwragedd neu y merched ieuainc gael adrodd pennod ar ddechreu oedfa. Gallesid dysgwyl mai yn mysg yr hen bobl yr oedd yr anniddigrwydd hwn gan amlaí yn ffynu, o herwydd ni welsent hwy y fath arferiad yn eu dydd, ac ni allent hwy yn hawdd ddygymod â'r newydd-beth dyeithr. Dy- gwyddodd fod hen ŵr da o flaenor yn Blaenanerch, yn agos i gartref Mr. Morris, yn teimlo yn anesmwyth i'r ddefod newydd. Ni allai Michael Jones (oblegid dyna oedd ei enw ef) oddef i ferched a gwragedd ddechreu y cwrdd.

PEN. VII.] SIR ABERTEIFI. 99

ac yn enwedig ar y Sabboth ; a plie gallasai eu rhwystro, ui chawsai un o honynt agoryd ei gcnau. Ond pa beth oedd i'w Avneyd ? Yr oedd Ebenezer Morris, ac Owen Enos, yn rhy gryfion i Michael eu gorchfygu, nac yn wii- sefyll yn eu herbyn. " Ond dygwyddodd/' medd fy hysbysydd, " i'r hen Fichael gael gwared o Eben ac Owen am rai wythnosau ; ac yn yr adeo- hapus hon, cymerodd yr hen ẃr yr awenau yn ei law, a rhoes attah'ad buan ar ryddid y mcrched a'r gwragedd druain i adrodd penuodau. Oud nid oedd dim i'w wneyd ond dyoddef; ac eto bygythient, os byth y gwelid yr awr i Mr. Morris ddyfod adrcf, y ca'i yr hen ŵr weled y drws yn agored, a'r heol o'i flaen i fyned lle y mynai. Ac nid oedd gan yr hen v\t yntau hii na»- ar- swyd. Edrychai y ddwy ochr gyda chryn bryder am ddychweliad Mr. Morris ; canys byddai dynion yn dysgwyl wrtho fel wrth oracl o'r nef, a gellid cyfeirio ato eiriau Job, pen. xxix : " Pan ehii allan i'r porth trwy'r dref, pan barotoai ei eisteddfa yn yr heol ; Ihmciau a'i gwelent ac a ymgudd- ient ; a henuriaid a gyfodent ac a safent i fyny. Tywysogion a attalieut eu hymadroddion, ac a osodent eu llaw ar eu genau." Y dydd, o'r diwedd, a ddaeth y dydd yr oedd i'r farn eistedd ar yr achos, ac i benderfyniad gael eiroddiarno. Adroddwyd y cyhuddiad yn erbyn Michael druan; gwrandawai Mr. Morris ; a gwyddai eisoes, er fod yr hen ŵr yn ŵr da a ífyddlou, eto fod ynddo gryn afrywiogrwydd. Ofnai hefyd ddweyd dim a gryfhäai afrywiog- rwydd ei dymher, ar y naill law, nac a roddai uu wyneb i'w ymddygiad ar y llaw arall. Teimlai fod yr hen ŵr yn un o blant Duw, ac ni fynai amgen ua'i ymgeleddu, a theimlai hefyd fod yr ysgol Sabbothol, y pryd hwnw, yu ei babandod, ac yn galw am bob amddiífyniad.

Wedi gwrando yr aehwyniad, trodd Mr. Morris at Michael, ac edrychodd yn sỳn aruo, ac eto yn siriol, gan ddweyd dair gwaiíh ueu bedair drosodd, ' O ! yr hen Fichael dduwiol ! O ! yr hen Fichael dduwiol ! ' a thra yr oedd yn ei gyfarch yn y modd yma, canfa fod llygaid yr hen ŵr yn gwlychu, a'i galon yn toddi, nes oedd yn llymaid, ac yn ddigon ystwyth i bob peth.

Tn awr, yr oeddid yn deall fod y baniwr wedi ei ystyried yn euog, ac vr oeddid yn dysgwyl y ddedfryd beuderfynol o'i enau. Gofynai y uaill i'r Ilall, 'Beth a ddali di a ddaw iddo, ai ei droi e' o'r eglwys a wneir, ai ei atíal oddiwrth yr ordinhad? ' Y Ilall a atebai, ' Mae'u siwr o gael ei droi i ma's, ac nid oes dim mater chwaith, canys fe stopodd Pegi ui i 'îcet/d peunod.' Ond erbyn hyn dyma Eben yn codi ar ei draed, ac yn myiied i ben y faiiic, fel y gwnai yn fynych wrth osod penderfyuiad i lawr ; a phawb yn dysgwyl beth a ddeuai allan : a thra ua allai neb priu anadlu gan bryder, dyma'r ddedfryd i ma's : ' Wel, Michael, ti wyddost fy mod i bregethu yma prydnawn dydd Sabboth nesaf, ac y mae yn rhaid i ti ddechreu yr oedfa, a dewis di yr un a fyni o'r merched ueu y gwragedd i adrodd pennod ar y dechreu.' Dyna'r ddedfryd ! Boddlouodd yr hen ŵr iddi mewn myuud, oblegid yr oedd eisoes yn barod i un peth a ofyuid iddo. Boddlonodd yr oclir arail hefyd, a phawb a ystyrient y cerydd yn briodol iawn i natur y bai. A phan ddaeth y Sab- both, yr oedd yr hen vvr â'i lygaid fel ífynuouau, a'i wyneb fel gweirglawdd

100 IIANESIAETII Y SIROEDD. [dOSB. IV.

ddyfradwy gau ddagrai'i, wrtli Avrando ar y ferch yn adrodd y bennod."

Yr oedd Mr. Morris yu byw ar derfyn y parth hwnw o sir Aberteifi, lle y mae Undodiaid neu Sosiniaid lawer yn byw, a deuai yn awr ac eilwaith i gyfarfod â rhai o'r tylwyth yma, neu gelwid arno i bregethu yn eu clyw, a cheid ef ar yr achlysuron hyn yu eofn a chadarn yn amddiffyn yr hyn a fernid ganddo yn wirionedd, heb ofui wyueb neb, nac attal y gwirionedd mewn aughyfìawuder.

Pan yr oedd unwaith yu pregethu yn ngwlad y Sosiniaid, a Uawer o honynt yn y gynulleidfa, daeth ar draws yr aduod " Yr hwn sydd Dduw bendigedig yn oesoesoedd. Amen." Ar ol darllen ac eglurhau yr adnod gyda deheu- rwydd, a gwneuthur sylwadau grymus ar bersou aufeidrol y Cyfryngwr, cyfarchai y Sosiniaid, gan ddweyd, " Yn awr, Sosiniaid, gadcAYch gael eich Amen chwithau am unwaith." Gofynai hyn gyda'r fath wên onest a siriol ag a'u llwyr orchfygai.

Bryd arall, yr oedd yn teithio am ysbaid ugain milldir yn nghwmni un o honynt, a dadleu a wnaethant yr holl ffordd ; oud cyn ymadael gofynodd i'r Sosin yn araf bach,

" Beth y'ch chwi yn ei feddwl am Stephan ? pa un ai dyn duwiol ai annuwiol ydoedd ? "

" Dyn duwiol yn ddiau, a duwiol iawn, oedd Stephau," oedd yr ateb.

" Os felly yr oedd," ebe yntau, " pa fodd, dybygech chwi, y caniatawyd iddo yn ei awr ddiweddaf orchymyn ei ysbryd i ddwylaw'r lesu, os un fel y tybiwch chwi ydyw Crist, dim mwy na dyn ? " Tarawodd y Sosin ef ar ei ysgwydd, gan ddweyd, " Dyna air na feddyliais i erioed o'r blaen am dano."

Yr oedd dyJanwad Mr. Morris yn fawr iawu yn ei fro ei hun, ac yn fwy lle yr adwaenid ef oreu. Yr oedd gan bawb ymddiried perffaith ynddo. Yr oedd gonestrwydd a didueddrwydd yn nodedig ac uchel yn ei gymeriad. Pell oddiwrtho oedd pob cyfrwysdra a dichell. Yr oedd ei gymeriad personol fel dyu a Christion, yn gystal a'i dalentau a'i ddefnyddioldeb, yu rhoddi iddo ddylauwad anarferol ar bawb a'i hadwaenai.

Ar uu achlysur, galwyd arno i ymddangos fel tyst yn mraw^dlys Aberteifi, ar ryw achos cyfreithiol. Pan alwyd arno i ddyfod yn mlaen, dywedir fod dystawrwydd parchus yn meddiannu pawb yn y lle, a phan y cynygiwyd estyu iddo y llyfr i gymeryd ei Iŵ', i'r ustus warafun, trwy ddweyd nad oedd raid, y byddai ei dystiolaeth ef yn ddigon. Hyn a roes mewn duU mor ddirodres ac unplyg, fel ag i argraffu ar feddwl pob un mai gwT Duw ydoedd.

Cyfarfu unwaith â ]\Ii-. Lewis, Llys-newydd, uu o'r boneddwyr mwyaf yn y wlad hòno, ac ebe y gŵr boneddig wrtho; " Yr wyf jm ddiolchgar iawn i chwi, Mx. Morris, am eich llafur a'ch medrusrwydd, i gadw heddwch rhwng pawb â'u gilydd yn y gymydogaeth ;— yr ydych o weiih mawT yn y wlad ; yr ydych o fwy o werth fel gwladwr nag ydyw dwsin o honom ui yr ustus- iaid yma."

Yr ocdd yr uu boucddwr, dro arall, yn gadeirydd mewu cyfarfod perthynol

PEN. VII.] SIR ABERTEIFI. 101

i'r Feibl Gyradeithas, yn Ngliastell-newydd, yu yr hwn yr oedd Mr. Morris yn un o'r areithwyr. Wedi areithio rhyw gymaint, ymesgusodai Mr. Morris rhag cymeryd gormod o amser ei barchedig frodyr yr offeiriaid ag oedd yno ar y pryd, " O na," meddai y cadeirydd, "ewch chwi yu mlaen; '' ac yr oedd ei ddagrau yn treiglo tra y bu IMr. Morris yn traethu.

Yr oedd unwaith yn pregethu mewu angladd mewn lle yn agos i Lechryd ; ac ar yr un achlysur yr oedd gweinidog o enwad arall yn pregethu o'i flaen. Yr oedd yno gynulleidfa fawr wedi ymgynuU ; a thra yr oedd y gŵr arall yn pregethu, yr oedd y dorf yn wasgaredig, ac amryw yn siarad â'u gilydd, ond pan aeth Mr. Morris i fyny, wele yr holl gynulleidfa, megys mewn mynud, ac ar ffrwst, yn ymgrynhoi. Tybiodd rhyw ŵr boneddig o Sais ag oedd yn y lle, wrth ganfod y bobl yn arwyddo y fath frys, fod rhyw berygl yn eu bygwth, a gofynai gyda gwylltedd yn ei wedd, " Pa beth oedd yr achos ? " "Dim," ebe yr atebydd, " ond Mr. Ebenezer Morris sydd yn myned i bregethu."

Adroddir hanesyn am dano, cyffelyb i'r un a draddodir am John Evans o'r Bala, yn dangos ei degwch a'i onestrwydd. Yr ocdd rhyw dro, pan oedd yr anifeiliaid yn isel o bris, wedi prynu buwch. Ond y ff'air gyntaf ar ol hyn cododd prisiau y dâ. Deallodd Mr. IMorris fod y prisiau wedi gwellân, a galwodd Owen Enos i fyned gydag ef i y g\vr a werthodd y fuwch iddo, a dywedodd wrtho, " Yn ol prisiau y ffair ddiweddaf, yr wyf wedi cael gormod o newid ar y fuwch," yna rhoes gini yn ychwaneg iddo, er nad oedd y dyn yn dysgwyl dim o'r fath. Ymwreiddiodd y syniad am ei onestrwydd a'i degwch yn fwy fyth trwy yr amgylchiad hwn, ac edrychai pob graddau arno gyda pharch diffuant, cyffelyb fel yr edrychai meibion Heth ar Abraham, " Tywysog Duw wyt ti yn ein plith." Deuai hyn i'r golwg weithiau mewn pethau bychain iawn, fel yr ymddengys oddiwrth yr hanesyn canlynol : Yr oedd hen wraig, adnabyddus o hono, unwaith wedi anghofio ymofyn Uaeth nos Sadwrn, a hi a aeth i'w gyrchu boreu Sul. Ond ar y ffordd wrth ddychwelyd, canfu Mr. Morris yn dyfod i'w chyfarfod, Meddyliodd mai anfoddhaol ganddo ef ydoedd ei gwaith yn ymofyn llaeth ar foreu Sabboth, ac fe ddichon hefyd fod ei chydwybod yn dweyd mai Mr. Morris oedd uesaf i'w le yn hyn ; gan hyny, cyn iddo ei chyrhaedd, arllwysodd y llaeth ar y llawr, a drylliodd y sJäiüc yn yfflon yn y fan.

Mae hanesyn am dano yn sir Frycheiniog yn brawf ychwanegol o'r doeth- ineb a'r awdurdod a feddianuid ganddo mewn amgychiadau dyrys o ddysg- yblaeth eglwysig. Ee wyddai Mr. Morris yn lled gywir pa bryd i arfer tpieì'wch, a pha bryd i arfer toster. Yr oedd ef a'i gyfaill Owen Enos ar daith yn sir Erycheiniog ; ac yn eu crwydriadau o fan i fan, daethant i le yr oedd dwy wraig pur gyfrifol wedi cwyrapo allan â'u gilydd yn yr eglwys. Yr oedd pob ymdrech wedi cael ei wneuthur, gan weinidogion a phregethwyr penaf Cymru, i'w heddychu, ond y cwbl yn hoUoI ofer. Hysbyswyd yr achos i Mr. Morris y nos o'r blaen, gan erchi arno geisio eu dwyn i gyraod. Aeth i'r Ile dranoeth ; ac yn y cwa-dd eglwysig, galwodd am y ddwy wi'aigyn mlaen.

102 HANESIäETU Y SIROEUD. [DOSB. IV.

Hysbysodtl iddynt ei fod wedi dyfod yno dros Dduw i orcliymyn iddynt hwy, dwyforwyn y cyihraul, fyned allan, nes yr heddychent â'u gilydd. Ac allau yr aethant. Oud yn fuan, a thra yr oedd y cyfarfod heb derfynu, dyma y ddwy wraig yno yn ol, y ddwy yn barod i gofleidio eu gilydd, ac yn wylo yn hidl. Fe fu y ddwy wraig mewu heddwch â'u gilydd o hyny allan hyd eu beddau.

Yr ydym eisoes, ar achlysur bhienorol, wedi crybwyll am Mr. Morris yn y rhan a gymerodd yu neillduad gweinidogion. Tynodd p- amgylchiad hwnw arno ẃg yr offeiriaid, a rhai teuluoedd o gyfrif a dylauwad a deimlent yn wrth- wynebol i'r symudiad hwnw. Hyn, yn ddiamheuol, a ddysgwyliasid gauddo, ond nid oedd colli gwêu na mawr ua bach o bwysau plyfyn ganddo ef, pan fyddai gwirionedd Duw, neu Iwyddiant teyraas Crist, yn y drafodaetli. Yr oedd yr ofl'eiriaid wedi arfer llywyddu a threfuu pob peth yn mysg y ]\Ieth- odistiaid hyd ei ddyddiau ef ; ac, mewn rhai amgylchiadau, ymddangosai y duedd 0 " chwenuych y blaen " ynddyut yn rhy amlwg, ac o hòni y bken hefyd, ar gyfrif eu hurdd, nes oedd eu llywyddiaeth yn dechreu myned yn flin gan hiwer o'r bobl, a dechreuasant ocheneidio o herwydd eu caethiwed. Yr oedd dylanwad EbeEezer ]\Iorris, ar yr im pryd, yn cynyddu o flwydd^Ti i flwyddyn, tra yr oedd dyhnwad rhai o'r offeiriaid yn Ueihau. Yn mysg y pregethwyr nid oedd neb, tybygid, ar y pryd yn meddu cymaint o ddyhmwad ar y bobl ag efe. Yr oedd wedi bod yn pregethu, bellach, ugain mlynedd ; yr oedd ei gymeriad personol yn hardd a diargyhoedd ; yr oedd ei synwyr yn grj'f, ei ddefuyddioldeb a'i lafur gweiuidogaetliol yn fawr; nes oedd ar lawer cyfrif yn gymhwysach na'r un pregethwr diurddau arall yu y De, i sefyll dros yr hyn a ystyrid ganddo yn wir angenrheidiol ; ac nid Eben Morris oedd y dyn, yn anad neb, i gilio yn llechAvraidd yn ol, pan y galwai dyledswydd arno yn mlaen.

Yn y drafodaeth hòuo, fe gafodd ei wrthwynebwjT.- wybod mai nid hawdd oedd ei ddyrysu â íTug-resymau, na'i Iwfrhau trwy goeg-haeriadau. Canfu- wyd fod y rhesymau gauddo ef, a'r anwydau ganddynt hwy ; a chaed prawf fod achos da yn llaw dyn gonest a chall fel efe, yn Uawer cryfach na dysg, nac enw, nac urdd. Ar yr un pryd, fe gostiodd yr ymdi-echfa hòno iddo lawer o bryder ac ofn ; ac er iddo gario y dydd yn yr ymdrechfa, fe'i hysbeiUwyd ef o gymdeithas rhai gwŷr da a fawr berchid ganddo, a pharodd i eraiU a gyf- rifid yn gyfeUüon ymddyeithro yn Uwyr iddo. Ysgrifena un ataf ar hyn yn y modd yma, " Diau i lawer o'r eglwj'swyr ddigio j'u aruthr wrtho am y rhan a gymerodd yn yr ymueiUduad, yn y fl. 1811, ac na faddeuodd rhai o honynt iddo hyd y bedd ; er hyuy, yr oedd ymron bawb o'r cyfryw ag oedd yn gymydogion agosaf iddo, hyd yn nod y boneddwyr henaf, a adwaenent ei gymeriad ef oreu, wedi dyfod i gymod ag ef, pa un ai oddiar eu parch iddo ef ei huu, ai oddiar y dylanwad a wyddent oedd ganddo ar y werin, nis gwn ; gwrandawent ef yn pregethu, ac anfouent am dano, pau yr ymwelid â'hwy gan gystudd ; argoeUon yn profi na aUent, er pob temtasiwn i'r gwrthwyneb, ymattal yn Uwyr heb ddangos iddo y parch a deilyngai ei gjTneriad.

PEN. VII.] SIR ABERTEIFI. 103

Bu Mr. Morris fyw ddigon o amser ar ol yr ymneillduad i weled nad oedd achos iddo edifarhau am y rhan a gymerasai efe yn yr achos. Bu farw, mae'n wir, yn nghanol ei ddyddiau, yu y fl. 1825, pryd nad oedd onid 56 ml. oed; ar yr un pryd, yr oedd eisoes wedi bod ar y maes 37 o flynyddoedd. Collwyd hefyd, o fewn wythnos neu ddwy ar ei ol, frawd auwyl a gweinidog ífyddlon arall, yn y sir hou, sef y Parch. David Evans, Aberaeron. Tr oedd yr adwy a wnaed trwy y cyntaf a'r ail rwygiad hwn yn llydan iawn, ac yn peri dirfawr alar i'r brodyr a adawsid i lafurio ar y maes wedi eu colli. O'r ochr arall, yr oedd rhaghuiiaeth dyner y nef eisoes wedi dwyn y Parch. EbenezerEichards i ymsefydlu yn y wlad, ac yr oedd y Parch. John Thoraas, Aberteifi, eto ar y maes, a'r Parch. Johu Williams, Lledrod, eto heb yraadael. Da yw i Seion feddwl mai ei Duw hi sy'n teyruasu ; ac er fod y blaenoriaid, y rhai a draethasant i ni air Duw, yn cael eu symud ymaìth, y naill ar ol y llall, gan angau, eto fod " lesu Grist ddoe a heddyw yr un, ac yn dragywydd."

y PARCH. JOHN THOMAS, SIR ABERTEIFI.

Nid oes ond ychydig gyda dwy flynedd er pau ymadawodd y gvvr hwn â'n byd ni. Cafodd oes hwy na neraawr un o'i frodyr, nid Ilai na 89 o flynydd- oedd. Efe ydoedd yr olaf o'r holl bregethwyr a neillduwyd gyntaf yn mhlith y Methodistiaid, yn y fl. 1811. Ganwyd John Thomas yn y fl. 1760, a dechreuodd bregethu tua'r fl. 1794, pryd yr oedd ef tua 34 ml. oed. Yr oedd y rhan gyntaf o'i oes yn hynod o ran tlodi ei sefyilfa, ac amledd ei hel- bulon. Ond yn nghanol pob iselder, ui adawyd mohono i yrawylltio mewn oferedd, fel plant ei oes yn gytt'redinol. Gwnaeth broflcs gyhoeddus o gref- ydd pan yn bymtheg oed, a hyny gyda'r Bedyddwyr ; ond nid arosodd gyda'r enwad hwnw ond pedair blynedd, pryd yr ymunodd gyda'r Methodistiaid, y rhai yr arferai eu gwrando o'r blaen yn fynych. Mawr oedd ei hofí'der o wrando pregethau, a chyrchai yu mhell yu fynych i gael hyny. Ai weithiau gan belled â Chaerfyrddin i wrando rhyw holf bregethwr, megys Mr. Lloyd, Henllan, ac eraill. " Soniai lawer am y Twrgwyn," medd ei fywgrafí'ydd,* " ac am y modd y byddai gweinidogaeth Mr. David Morris yn trin ei gyflwr fel pechadur, ac am oruchwyliaethau yr Arglwydd tuag at ei bhnt."

Priododd John Thomas yn ieuanc iawn, a phrofodd i raddau helaeth pa beth oedd helbul magu plant mewn dirfawr dlodi, cymaint felly, nes iddo ymroddi i fyned i Lundain i weithio ei grefí"t o wniedydd, er mwyn gwella gradd, os oedd yn bosibl, ar ei amgylchiadau isel. Bu jfno yn ddyfal gvda'i alwedigaeth fydol am ryw dymhor, ac ar yr un pryd yn achub pob cyfle a allai i wrando yr hen Eomaine, er ei fod yn y cyfamser yn dal ei aelodaeth 1 fyny yn mysg y Cymry yn Wilclerness Row. Yn mhen rhyw amser, dy- chwelodd at ei deulu, a sefydlodd yu Aberteifi, Ue yr arosodd hyd ddydd ei farwolaeth. Dewiswyd ef i flaenori ar y gymdeithas eglwysig yn y dref hòno

Gwel " Gofiant " dyddorol am dano, gan y Parch. T. Phillips, Henffordd.

104. HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

fel diacon, yr hou swydd a gyflawnodd yn fi'yddlawn a chydwybodol, hyd nes yr ymosododd ar y weinidogaeth.

Pan oedd tua 34 ml. oed, sef yn y fl. 1794, torodd diwygiad grymus yn Aberteifi a Llandudoch, a phrofodd John Thomas, yn mhlith eraill, fesur o': rym, nes y byddai yn tori allan mewn gorfoledd a mawl yn y gynulleidfa Ac yn yr adeg yma hefyd y syrthiodd arno awydd cryf i gj'nghori ei gyd greaduriaid yn y pethau a berthynent i'w heddwch. Eto, cadwai hyn iddo ei hun, heb yngan gair am awyddfryd ei fynw^es wrth neb o'i gyfeillion, er ei fod ar yr un pryd, yn lled ddysgwyl y byddai i'w frodyr, ar ryw adeg neu gilydd ganfod fod yr awyddfryd hwn ynddo ; yn enwedigol gan y gelwid amo weithiau i weddio mewn anghladdau, ac ar un tro o'r fath, ei fod wedi traddodi rhvw lun o bregeth. Ond yr oedd rhyw ysbryd mud a byddar wedi dal gyfeillion, fel nad oedd neb yn rhoddi im math o gymhelliad iddo at y gwaith a pharai hyn gryn iselder i'w feddwl. Ond un prydnawn Sabboth, siomwyd y gynuUeidfa am y pregethwr a ddysgwylid j ac yn y benbleth am ryw un i gynal moddion ar y pryd, annogwyd John Thomas i fyned i ddarllen pennod ac i weddio, gan addaw y byddai eraiU i weddio ar ei ol. Aeth John i gôr bychan islaw y pulpud, a darllenodd y drydedd bennod o loan hyd y 14 a'r 15 adnod. Ond defnyddiodd yr adnodau hyn yn destynau i bregethu arnynt, a gwnaeth hyny, fel yr ymddengys, gyda Uewyrch a buddioldeb mawr, nes oedd yr hen bobl ddigalon yn llon eu gwala.

Hyn oedd dechreuad ei weinidogaeth. Cafwyd mwy o foddlonrwydd fyth ynddo, wedi cael cyfleusdr'a ychwanegol i wraudo arno. Cyflwynwyd ef yn Ued fuan i'r cwrdd misol. Yr oedd y Parch. John Williams, ar yr hwn y disgynai y gorchwyl o ofyn rhyw gwestiynau iddo, wedi ei glywed ef eisoes yn pregethu rai gweithiau, a dywedai, " Nis gwn i pa beth i ofyn iddo ; y mae wedi myned heibio i mi yn ddigon pell." Derbyniwyd ef yn fiian i'r gymdeithasfa, a chymhellwyd ef i ymweled â siroedd eraill y De. TJfyddha- odd yutau i'r gais, ac aeth ar ei draed i'r daith gyntaf hon. Pan glywodd y Parch. D. Jones, Llangan, ef yn pregethu yn y daith hon, sylwodd, " Y mae yr hen apostol lago wedi adgyfodi yn y gorllewin, a gwae i grefydd benrhydd mwy." Ymddengys fod ei weinidogaeth yn hallt a manwl anarferol, yn ol- rhain gau-lochesau dynion, ac yn dynoethi profí"eswyr cnawdol a phenrhydd, cymaint felly, nes achlesu y dywediad, " Nid oes dim lle i bechadur gael ei fywyd dan ei bregethau." Scfydlwyd ei gymeriad fel pregethwr ymron yn y fan. Galwyd am dano i Ogledd Cymru, ac anfonwyd ef i wasanaethu yr eglwys Pethodistaidd yn Llundain, a chymaint oedd yr alwad am ei weinid- ogaeth, fel y cymhellwyd ef i roddi ei grefft heibio, ac ymroddi yn boUol i'r gwaith 0 bregethu yr efengyl, a gwasanaethu yr eglwysi.

Ni chafodd John Thomas ddim manteision i gyrhaeddyd dysgeidiaeth. 0 ddysg, fel y cyfryw, yr oedd yn gwbl amddifad, ond y mae yn syn pa fodd, er hyny, y cyrhaeddodd y fath gylch eang o wybodaeth, a'r fath fedrusrwydd destlus 0 draddodi ei feddwl. Yr oedd ei bregethau yn nodedig am eu trefn a'u sylwedd. Nid yn fynych y clywid neb yn dadgan gwirioneddau y

PEN. VII.Ì SIR ABEllTEin. 105

Beibl gyda llai o rodres, na chyda niwy o ddifrifwch. Yr oedd ei ymadrodd- ion oll yn weddaidd a detholedig. Llefarai wrth y deall a'r gydwybod, heb amcanu cymaint yn uniongyrchol at y teimlad. " Syml a phrndd oedd ei olwg, a difrifoldeb mawr yn ei wedd.'' Dyn dystaw iawn ydoedd, anaml ei eiriau, ond dywedir y byddai yn dra siriol gyda'i gyfeülion mynwesol. Yr oedd golwg wanaidd arno ; ac er ys blynyddoedd yr oedd yn cael ei íîino gan ddiífyg anadl, eto dywedir ei fod o gyfansoddiad cryf, ac y gallai fyned trwy lafur trwm yn well na llawer un a golwg fwy heinyf arno.

Yr oedd John Thomas yn ddyn nodedig o ddianaf yn ei gymeriad fel pregethwr. Dywedai y Parch. Thomas Eichards, yn y bregeth aiighladdol, am dano, " Cysurus yw ar y fath achlysur a'r uu presenol, allu rhoi her i bawb ddangos un spotyn ar ei gymeriad, un anaf ar ei weinidogaeth nac archoll i frawdoliaeth."

Nid sothach gwael disylwedd

Un prjd oedd ganddo ef, Ond blwch o berlau gwerthfawr,

O fwnglawdd mawr y nef ; A phawb yn g\^Tandaw amo

'II un modd ag angel Duw, Tn gwahodd pechaduriaid,

At yr lachawdwr gwiw.

'E oedd difrifoldeb hynod

I'w ganfod yn ei wedd, Trwy ystod maith ei fywyd,

Nes myn'd i Iwch y bedd ; Yn mysg y cyfoethogion,

'R un modd y'mhlith y tlawd, Yn ofn Duw y rhodiai

Ein hybarch dad a brawd.

Evan Daties, yn ei Farwnad.

Yr oedd yr hen weinidog parchus wedi cael ei gyfyngu, er ys maith flyn- yddau bellach, gan afiechyd a henaint, ymron yn gwbl i'w gartref, a dangosai yn ei ddyddiau diweddaf berífaith dawelwch wrth feddwl am ei ymadawiad o'r byd. Dywedai wrth \vr parchedig a aethai i ymweled ag ef, " Mae fy ngliyrfa bron ar ben, a'm pregethu wedi darfod ; nid oes genyf yn awr ond y tragwyddoldeb mawr o'm blaen ! Mae fy Meistr yn fy ngalw adref." Mewn heddwch â'r byd, ac â'i frodyr, mewn heddwch â'i deulu, ac ag ef ei hun, am fod iddo heddwch â Duw, y llithrodd yn dawel i'r tragwyddoldeb hwnw, ar y 3ydd o Chwefror, 1849, yn 89 mlwydd oed.

Mae yr ysgrifenydd yn awr yn teimlo petrusder pa fodd i fyned yn mlaen â hanes pregethwyr eraill y sir. Deallwyf fod nifer y rhai a íu ar y maes, am dymhor mwy neu lai, y rhai sydd eisoes wedi eu cuddio yn y bedd, yn agos yn 60 0 rifedi. Te íyddai coffâu ond ychydig am bob un yn fwy nag a oddefai ein terfynau, ac yn fwy nag a gauiatâai ein defnyddiau, oblegid am lawer iawn o honynt nid oes genym ddim mwy na'r enw. Barnu yr ydym, gan hyny, y gorfydd i ni derfynu ein hanes am bregethwyr y sir gyda'r

106 HANESIAETH Y SIROEDU. [DOSB. IV.

crybwylliad byr a wnaethom am y rhai mwyaf cyhoeddus a fu yn gwasan- aethu yr achos mawr yn mysg y Methodistiaid yn y wlad hon : er y buasai yn dda genym, o ran teimladau personol, grybwyll, yn fwy neu yn llai ehel- aeth, am luaws o frodyr eraiU, y rhai a fu yn tfyddlon iawn yn eu dydd ac yn eu cylch ; y rhai a lanwent eu lleoedd priodol, yn ol eu doniau a'u hamgylch- iadau, mewn modd tra chanmoladwy a defnyddiol ; ac i'r rhai y perthynai nodweddiadau neillduol. Hoíf fuasai genym helaethu ein hysgrif am y Peirch. David Evans, Aberacron ; Evan Eees, Llanon ; T. Gray, Abermeurig; Dauiel Evans, Capel-y-Driiidod ; a Joseph Eees, Bont-rhydfendigaid. Nid ydym, eilwaith, wedi anglioíio hirfaith lafur aml un o'r hen bobl, megys John Dafydd Daniel, Tregaron ; a Jenkin Morgan o Ledrod ; ac Isaac James o'r Garn ; na'r gwasanaeth a dderbyniwyd gan yr hynod Theophilus Jones, Tre- garon, y mwynaidd William Davies, Pont-rhydfendigaid, y dwys Dafydd Jones, Llanilar, na'r efi'ro Ehys Jones, Rhydlwyd. Ond paham y nodwn ni y rhai hyn, tra y mae brodyr eraill lawer, cyft'elyb iddynt, y rhai ni welsom eu hwynebau erioed yn y cnawd, ac ni ddarllenasom nemawr fwy am danynt na'u henwau, eto, y rhai a gyd-wasanaethasant i gludo arch Duw Israel i'w bro ei hun. Ai nid gorchwyl cymhwys a dyddorol a fyddai i bob sir yn Nghymru gasgiu hanes byr o'r hoU hen bregethwyr a fu yn llafurio yn y wlad, gyda darluniad cryno o'u nodweddiad a'ii sefyllfa gyhoeddus, yn nghyda phob amgylchiad tarawiadol a hynodai eu hoes, a'i gyhoeddi dan nawdd ac ar draul y cwrdd misol ? 0 ddiff"yg hyn, y mae Uawer amgylchiad hynod wedi myned ar ddifancoll bythol, ac amgylchiadau cyfí'elyb a ânt eto felly, oni chyflawnir y difl"yg. Ac oni ddylai hefyd fod cof swyddol yn cael ei gadw 0 gychwyniad yr achos crefyddol yn mhob ardal yn mhob sir? o blaniad yr egiwysi ? codiad y capelau, ac o amgylchiadau hynod perthynol i'r lle ?

Nid wyf wrth grybwyll y pregethwyr yn unig, yn bwrw mai eu gwasanaeth a'u Uafur cyhooddus hwy a fu yr unig foddion i rwyddhau mynediad Meth- odistiaeth yn ei flaen. Yn y gwrthwyneb, yr wyf yn argyhoeddedig fod mesur mawr o'u Uwyddiant i'w gyfrif i ddiaconiaid, neu swyddogion eglwysio-, fel ofPerynau, yn nghydag i ddyuion caredig heb fod mewn swyddaueglwysig, y rhai, trwy letya pregethwyr, neu trwy gyfrauu o'u meddiannau at wahanol ddybenion crefyddol, a wnaethant wasanaeth mawr i achos yr efengyl yn eu jdydd. Dylid ar bob cyfrif grybwyll hefyd am y dosbarth lluosog hwnw o garedigion yr efengyl, athrawon yr ysgol Sabbothol, y rhai sydd wedi bod yn ddiwyd a ffyddlawn yb. hyfí"orddi ieuenctyd yr oes, wrth y miloedd a'r mii- oedd, yn egwyddorion santaidd a chywir yr ysgrythyrau. Tra y mae adeiLad yn cael ei chodi, y mae Uawer dosbarth o weithwyr yn cael eu defnyddio. Heblaw y prif-adeiladydd, neu y "pen saer celfydd," y mae llawer o grefiFt- wyr, pawb gyda'u gorchwylion priodol eu hunain ; a nifer Uuosog hefyd o iafurwyr, y rhai sydd yn cyflenwi difí'ygion pawb, ac yn gwasanaethu arnynt oU ; ac y mae y cwbl o honynt yn angenrheidiol i ddwyn yr adeilad i ben. Yr un modd y dygwyd yr achos crefyddol yn mlaen yn y sir hon fel siroedd eraiU

PEN. vn.] SIU ABEETEIFI. 107

yn Nghymru ; yr oedd llafur pob gradd, o'r gweinidog mawr ei ddawn, ac uchel ei swydd, hyd yr athraw bach dirodres yn yr ysgol Sabbothol, a'r pen- teuhi diwyd gyda'i bLint gartref, yn ofynol i ddwyn teml ysbrydol yr Ärglwydd yn y blaen ; " a phob un a dderbyn ei briod wobr ei hun, yn ol ei lafur ei huu." Barnu yr wyf, y bydd crybwylliad llawn mor anrhydeddus yn cael ei wneuthur yn y farn, gan " Farnydd yr holl ddaear," am garedig- rwydd a fiFyddlondeb personol a dystaw Uawer gŵr disylw, ag a wneir ar lafur swyddol a mwy cyhoeddus rhai eraill ; îe, barnu yr wyf y llenwir y fynwes â syndod, pan ddadguddir yn y dydd hwnw, pa wasanaeth ei faint a wnaeth aml fenyw dlawd, yr hon, dan ddirfawr anfanteision, a fu yn daer ei gweddiau, yn ddiwyd ei Haw, ac yn garedig ei chalon, at deyrnasacamynedd lesu Grist. Parodd yr hanesyn a ganlyn i mi feddwl, yn ddiau, mai felly y bydd. Nid wyf wedi cael allan yn mha barth o Ddeheudir Cymru y bu yr amgylchiad, ac fe ddichon hefyd uad yw yr hanes mor gyflawn ag y gallasai fod ; eto, fel y mae, y mae yn ddrych i osod allan o ba faint o wasanaeth y bu personau anghyhoedd i achos yr efengyl.

Ehoddwyd cyhoeddiad y Parch. WilHam Davies, Castell-nedd, medd jt hanes, i fyned un tro i ardal fynyddig ac anhygyrch, Ue yr oedd yr achos yn isel, a'r bobl yn bur dlodion. I'r lle hwn yr aeth y gŵr parchedig yn ol ei gyhoeddiad, a cliafodd brofiad fod y Ue yn mheL, a'r fl'ordd yn afrwydd iawn, nes peri iddo ymresymu ynddo ei hun, " Paham y gwnaed â fi fel hyn ? pa fodd yr arweiniwyd fi ar hyd y fath ffordd anhygyrch, ac i'r fath ardal anghysbell ? Wedi dyfod i'r lle, drachefu yr oedd yr olwg ar y fan, y tai a'r bobl, yn íoddion i chwanegu ei anniddigrwydd ef felly yn fwy. Nid oedd yn y golwg ond ychydig o dai tlodion gwellt, mewn bro a ymddangosai yn fynyddig ac anghyfanedd. Nid oedd y cìvi-dd, chwaith, ond y fath a gyd- weddai â thlodi y fro. Arweiniwyd ef, pa fodd bynag, ar ei ddyfodiad i'r fan, i bychan gwael, Ue y preswyliai tair chwaer, yn hen ferched heb bri- odi. Cymerwyd ei gefl'yl ef i'r stabl gan un ; arweiniwyd ef i'r bwthyn bychan gan y llall ; pryd yr âi y chwaer arall i agor y capel, a'i drefnu gogyfer â'r oedfa. Erbyn hyn yr oedd mynwes y pregethwr wedi cythruddo yn fwy fyth, am ei gyfarwyddo i'r fath le ; meddyliai, ar y pryd, dan ruthr y brofedigaeth, ei bod yn ormod o ddarostyngiad i ŵr o'i fath ef ddyfod i'r fangre, a braidd nad oedd y gŵr llariaidd yn teimlo ei hun yn ymddigio fel un a gawsai sarhad trwm.

Dan y teimlad hwn ydoedd pan ddaeth ys: amser i ddechreu yr oedfa. Pe ddaeth rhyw nifer }ti nghyd, ond nid oedd y pregethwr mewn un modd yn gwerthfawrogi ei fraint o gael cyfarfod â'r fath gynulleidfa. Er hyn oll, wrth fyned rhagddo gyda'r addoliad, teimlai yr awyr grefyddol yn ysgafn; rhoddai darlleniad y bennod iddo ryw gymaint o bleser, a chwanegid ei hy- frydwch drwy y canu. Teimlai ei hun yn cael drws agored at Dduw yn y weddi, fel pe tynasid ei hoU enaid ef allan mewn ymdrech gyda Duw. Cafodd rwyddineb anarferol drachefn i bregethu i'r bobl. " Yr oedd mor hawdd iddo wneyd hyny," meddai fy hysbysydd, " ag anadlu." Yr oedd ei ysbryd

108 HANESIAETH Y SIROEDD. [doSB. IV.

bellach mewn gwell naws nag ydoedd pan yn deelireu yr oedfa. Parod oedd yn awr, nid i sylwi ar dlodi yr hen ferched, ond. ar eu hysbryd. Uwyr ym- roddgar hwy gydag achos yr efengyl. Yn yr agwedd hon y dychwelodd. i'r bwthyn llwyd,

Gyda'i fod wedi eistedd, daeth im o'r chwiorydd â bwrdd bychan, cyfuwch â'i ben glin, o'i flaen. Ar y bwrdd y gosodwyd llian, bras yn Avir, ond hjmod 0 lân. Yr oedd yr hen ferch hithau wedi ymwregysu â llian bychan bras a gwjn. Prysurai ei hun, bellach, i godi ychydig o bytatws o'r Uudw mawn ar yr aelwyd, y rhai a roddasid yno i'w crasu; ac wedi eu sychu yn làn, a thyuu y croen, gosodai hwy ar y bwrdd, gan ofyn i'r gŴT boneddig erfyn bendith yr Argiwydd ar yr ymborth; ac nid ydyw yn ymddangos fod yno ar y pryd ddim ond. bara ac ymenyn, heblaw y pytatws hyn. Synai y pregethwr wrth yr olwg. Canfyddai ddirfawr dlodi a charedigrwydd yn cydgyfarfod. Gwelai amgylchiadau isel, ac ysbryd o dduwiolfrydedd a chwbl ymroddiad i wasanaethu Duw, wedi ymblethu yn eu gilydd. Nid oedd yn amheu, bellach, er mor fynyddig ydoedd, nad oedd Duw yn y lle, er mor anhygyrch y flfordd, mai braint oedd i ŵr boneddig gael ei theithio. Gofynai, erbyn hyn, i'r hen fenyw, pa nifer o aeiodau a berthynai i'r eglwys yno? "Nid oes o honom (ebe hithau) ond ìiyìii ill iaír."

"Pa fodd, ynte (gofynai ÄL'. Davies), yr ydych yn gallu dwyn yr achos yn ei flaen?"

"Mae i bob un o hononi (ebe hithau) ei gorchwyl. Un chwaer a ofala am y cwrdd, y Uall a edrycha ar ol y stabl a chefl^ylau y pregethwyr, a miuau a gafodd y fraint o weini i'r pregethwyr eu hunain. Yr ydym iU tair yn cyfarfod yn y cwrdd unwaitli yn yr wythnos i gadw cyfarfod eglwysig, gan adael y drws yn agored i bwy bynag a ewyllysio ddyfod atom, ac ymuno gyda ni."

Cyn i Mr. Davies jTiiadael, cynygiai yr heu ferch dmecìieiniog iddo, yn daledigaeth am ei wasanaetli! Mynai yntau wrthodpob taledigaeth o'r fath, am y canfyddai eu dirfawr dlodi. Ond ni fynai yr hen ferch ei nacâu. Dywedai, nid yr eiddom ni, bellach, ydyw y dernyn arian: y mae eisoes yn gysegredig i'r Arglwydd, ac ni feiddiwn ei ddefnyddio at ddim arall. Yntau a'i cymerodd, rhag eu tristâu, gan ryfeddu at eu hysbryd cysegredig, a'u caredigrwydd at enw Mab Duw. Gwelai yr ystyrid hi yn fraint ganddynt roddi y cwbl a feddent, "a'u heneidiau eu hunain," er cynal ei deyrnas.

Pan oedd yn cychwyn ymaith, daeth y tair chwaer ato i flfarwelio ag ef, a gofynent iddo, "Pa bryd y tybiwch y cewch y fraint o ddyfod atom eto?" Erbyn hyn yr oedd ei enaid yn Ilawn, Aeth i flFordd gan ei gyfarch ei hun, "l' eythraul halcli" am iddo edrych yn isel ar waith Duw, oblegid y wedd dlawd oedd arno yn y Ue. Yn mhen ychydig o flyuyddoedd, cafodd y fraint o fyned i'r lle hwnw drachefn, ac erbyn hyny yr oedd yr eglwys wedi cynyddu i naw ugain o rifedi.

Y PARCH. EBENEZER RICHARÜS, TREGARON.

Er fod cofiant Ued helaeth o'r gŵr ])archus uchod yn nwylaw ein darllen-

FEN. VII.] SIR ABEUTEIFI. 109

wyr, a'r angenrheîdrwydd oddiar hyny yn llai i osod hanes maith am dano yn y lle hwn; eto ni chyfrifem yn degwch â Methodistiaeth Cymru, nac â hanes sir Aberteifi, heb alw sylw arbenig at y gwasanaethgarwch a f u y gŵr duwiol hwn i'r genedl ac i'r cyfundeb. Angenrheidiol hefyd ydyw rhoddi bras-adroddiad o brif-hnellau ei oes, gan fod rhyw gysylltiad rhwng y rhan fwyaf o honynt a'r bobl yr oedd Mr. Pdchards mewn undeb â hwy, ac felly fe fydd eu gosod i lawr yn berflFaith gyson â'r amcan sydd genym yn y gwaith hwn.

Ganwyd Mr. Eichards yn Nhrefin, sir Benfro, yn y fl. 1781, ac felly yr oedd tua 12 mlwydd ieuangach na Mr. Ebenezer Morris. Yr oedd ei dad, Henry Eichards, yn ŵr duwiol iawn, ac yn bregethwr ífyddlawn a defnyddiol gyda'r Mcthodistiaid, yn mhlith y rhai y bu yn llafuiio am ysbaid triugain mlynedd. Cafodd Mr. Richard, gan hyny, y fantais fawr o gael ei ddwyn i fyny yn grefyddol, a chafodd y fraiut o yragadw oddiwrth yr oferedd a'r gwyUtineb a berthyn i lawer o ieuenctyd; ond yr oedd ei grefydd bersonol hyd yma heb fod yn amlwg a phenderfynol. Parhaodd felly, yn foesol ei fuchedd, addfwyn ei dymher, a thueddol at ddarllen a dysgu, ond heb arwyddion diymwad o dduwioldeb hyd nes ydoedd yn 15 mlwydd oed. Yn y tymhor hwn, sef y flwyddyn 1796, ymwelodd Duw ag ef mewn afiechyd trwm, trwy yr hwn y bu efe yn agos i angau; ond Duw a drugarhaodd wrtho ef, ac wrth ei rieni, gan roddi iddo estyniad oes, ac adferiad iechyd. Yn fuan wedihyn, derbyn- iwyd ef yn aelod cyflawn o'r eglwys, ar ei ymgyflwyniad ei hun, ac nid mwy- ach, fel o'r blaen, ar gyfrif ei rieni. Yn mhen ysbaid o amser ar ol hyn, aeth i gadw ysgol i Brynhenllan, Ue yn sefyll rhwng Trefdraeth ac Aber- gwaun. Crybwyllir yn ei hanes ei fod, tra yn aros yn y Ue hwn, wedi profi argyhoeddiadau Uymion iawn, cymaint felly ag y bu raid iddo roddi heibio ei alwedigaeth, a dychwelyd at ei rieni. Yr oedd ei deimladau ar hyn o bryd yn fwy ofnadwy nag a allasai na synwyr na bywyd eu goddef yn hir heb eu llethu. Yr oedd hyn tua'r fl. 1801, pan oedd yn ugain oed. Meddai ef ei hun am y noson olaf y bu yn y gwewyr hwn, "Y noswaith hon oedd y fwyaf ofnadwy yn fy mywyd, ond yr wyf yn gobeithio mai ynddi hi y dechreuodd dydd na bydd terfyn arno byth." Yr oedd, bellach, wedi cael golwg ar ddi- angía, ac wedi cael ei nerthu i iîoi i gymeryd gafael yn ngobaith yr efengyL Cafodd ei fywyd yn Nghrist, wedi iddo ei Iwyr goUi ar bob tir arall.

Dychwelodd yn awr i Brynhenllan yn ddyn newydd, a buan iawn y daeth hynodrwydd ei ddoniau, ac amlygrwydd ei ras, i'r golwg, a cheisiwyd ganddo gan gyfeiUion crefyddol y lle i arfer ei ddoniau yn gyhoeddus trwy ddechreu oedfaon, ac ymarferiadau eraill, fel ag y daeth ei gymhwysderau at waith y weinidogaeth yn amlwg, a chj^nhellwyd ef gan henuriaid yr eglwys i ddechreu Uefaru. Yr oedd pwysigrwydd y gwaith, pa fodd bynag, yn peri iddo fod yn araf a phetrusgar; ofnai ruthro yn rhyfygus, ac heb ei alw at y gwaith goruchel, ac y mae yn ymddangos mai gwrthsefyll pob cymhelliad a wnaethai i barhau, oni bai ofni digio yr Arglwydd, a dwyn arno ei hun bechod mawr. Bellach yr ydym i'w olygu mewn gwedd gyhoeddus. Derbyniwyd ef a'i

110 HANESIAETH Y SIHOEDD. [dOSB. IV.

frawd, y Parch. Thomas Richards o Abergwaun, i'r Cwrdd Misol, a hyny cyn hir ar ol iddynt ill dau ddechreu pregethu.

Yn y fl. 1806, symudodd i Aberteifi. Ymddengys fod iechyd Mr. Eichards yn y tymhor hwn yn wanaidd iawn, a barnai llawer, wrth yr olwg oedd arno, ei fod yn prysuro i'r bedd dan rym y darfodedigaeth. Aeth i Aberteifi i ymgYno-hori â meddyg yno, yr hwn a ddywedai wrtho, os efe a ai'osai dros dyrahor yn y dref, a chymeryd ei gyff"eri yn gyson, ei fod yn lled sicr o'i wellâu. Cydsyniodd yntau i aros, a throes dadganiad y meddyg allan yn wirionedd. Yn yr adeg yma, yr oedd gŵr boneddig duwiol, o'r enw James Bowen, Ysw., yn byw yn Aberteifi. Hwn a archodd ar Mr. Eichards i ddyfod i'w deulu ef, yn athraw i'w feibion; a chydsyniodd Mr. Eichards â'i gais. Efe a arosodd yn y teulu anrhydeddus a charedig hwn am ysbaid tair blynedd, a pharhaodd i lafurio yn ff"yddlawn a llwyddiannus yn y weinidogaeth, ac yn neiUduol gyda'r ysgol Sabbothol, yr hon oedd, bellach, yn dechreu ymledu ac ymwreiddio yn y wlad.

Yn y fl. 1809, priododd Mr. Eichards ferch ieuanc o Dregaron, yr hon oedd ŵyres i un o'r cynghorwyr boreuaf yn mhlith y Methodistiaid, sef David Evan Jenkin o Gysswch; ac yn ganlyuol i hyny, daeth i breswylio i Dregaron, y lle hefyd y bu ef byw dros weddiU ei oes. Yr oedd dyfodiad Mr. Eichhrds i sir Aberteifi yn adgyfnerthiad gwerthfawr iddi, a dewiswyd ef yn ysgrifenydd cyfarfod misol y sir y flwyddyn ganlynol i'w ymsefydliad yn Nhregaron; a bu ei wasanaeth yn hyn o werth mawr dros weddill ei oes.

Bu gweinidogaeth Mr. Eichards dan arddeliad neillduol, nid yn unig yn ei wlad ei hun, ond hefyd dros yr holl dywysogaeth, ac yn amryw o drefydd Lloegr. Defnyuai ei athrawiaeth ef fel gwlaw. Eel prif nodwedd ei wein- idogaeth, gellir dywedyd ei bod yn neiUduoI o iraidd a thoddedig. Yr oedd fel gweinidogaeth Apolos gynt, yn rhyfeddol am ddyfrhau. Uoronid ef ar brydiau ag oedfaon yn mha rai y byddai rhyw dywalltiadau mawrion iawn yn cymeryd Ue. Sonir yn neiUduoI ara bregeth o'r eiddo yn Llangeitho, ar Luc xvi, 23, "Ac yn uífern efe a gododd ei olwg, ac efe mewn poenau." Coronwyd yr oedfa hon ag arddeliad neillduol. Yn y gymdeithas eglwysig ddylynol, ymunodd deg-ar-hugain o newydd â'r ganghen eglwys hòno, a'r cwbl ond dau yn priodoli y cyfnewidiad i'r bregeth hon. Torodd y Parch. Mr. WiUiams o Ledrod allan, wrth ymddyddan â hwy ar eu derbyniad, "Garw gynifer o honoch a saethodd e' ar un ergyd." Ac yn ychwanegol at y nifer uchod, barnai dynion crafF fod rhai cannoedd o eneidiau wedi cael eu cyff"roi y tro hwn, rhwng Llangeitho a'r cymydogaethau cylchynol.

Llanwai Mr. Eichards le mawr, a hyny yn esinwyth iawn, nid yn unig yn y pulpud, ond hefyd yn nghyfarfodydd misol a chwarterol y corff, ac yn fwy- fwy felly fel yr ydoedd yn heneiddio. Efe a fu am flynyddoedd lawer yu dal y swydd o ysgrifenydd i gyfarfod misol ei sir, ac hefyd i gymdeithasfa chwarterol y Deheubarth, swydd y gŵyr y sawl a gafodd brofiad, sydd lawn o ofal, Ilafur, a manylrwydd; ond swydd, er hyny, a gyflawnwyd gan Mr. Eichards gyda sel, dyfalwch, a deheurwydd anarferol, a hyny dros ei oes.

PEN. VII.] SIR ABERTEllTI. 111

Y mae o'r pwys mwyaf i bob sefydliad neu gymdeithas, fod yr ysgrifenydd yn ŵr o ysbryd a medrusrwydd priodol. Y mae ar ei law ef i wneuthur llawer er rhwyddhau, neu er dyrysu, y gwaith. Oddiwrtho ef y deiUia yr álwad i bob un at ei waith, ac arno ef y disgyn gosod y drefn yn mha un y mae i bob un weithio. Efe ydyw llygad y gymdeithas, ei threfn, a'ihetfeith- ioh'wydd. (Jyflawnodd Mr. Eichards y swydd bwysig hon ymron yn ddigy- ífelyb, 0 ran llwyr ymroddiad iddi, a chwbl fedrusrwydd ynddi.

Yr ydym eisoes fwy nag unwaith wedi crybwyll am ei wasanaeth arbeníg i'r ysgol Sabbothol yn sir Aberteifi a'r Deheubarth. Nid oes un amheuaeth na fu ei lafur yn y flfordd hon mor fendithiol ag a fu mewn un ffordd arall. Yr oedd ei deimladau bywiog, ei ddull serchog a niwynaidd, yn dra ennill- gar; yr oedd y cymhwysderau hyn hefyd wedi eu heneinio â duwioldeb ysbryd, ac ag eiddigedd i lesâu dynion. Peiriant ydoedd yr ysgol Sabbothol a fen- dithiwyd gymaint a dim moddion eraill i lesâu Cymru, ac i eangu Method- istiaeth yn mysg y genedl; ond fe fu Mr. Eichards, Tregaron, yn un o'r offerynau mwyaf ffyddlawn a medrus yu tywallt olew i olwynion y peiriant hwn, ac yn hyrwyddo ei fynediad yn mlaen.

Anhawdd ydyw i'r anghyfarwydd ddychymygu faint oedd llafur y gŵr duwiol a defnyddiol hwn, mewn teithio, pregethu, myned i gyfarfodydd misol a chwarterol, mewn gohebiaeth â De a Gogledd, mewn ysgrifenu cofnodau y cymdeithasfaoedd, a chynal cyfarfodydd cyhoedd ac egiwysig, a hyny dros ysbaid deuddeg mlynedd ar hugain; ac nid oedd ei wobr am y cwbl nemawr fwy na'r lle a ennillodd yn serchiadau ei frodyr, a'r mwynhad a brofodd ef ei huu yn y gwaith. Ond dyddiau olaf Ebenezer Richards a nesasant. Blinid ef er ys blynyddau lawer gan fath o hûn-glwyf (letliargy), yr hwn a fygythiai ei amgylchu â chadwynau mor dỳnion na ellid eu dattod. Cafodd gyrch trwm o'r clefyd hwn yn y fl. 1833. Syrthiodd y pryd hwn i'r fath drymgwsg tost, fel na ddeffrôdd yn hollol am rai dyddiau, ac ofnid y pryd hyny mai cysgu a wnaethai i farwolaeth, ond yr Arglwydd a fu drugarog wrtho, ac a'i hadferodd. Yn mhen pedair blynedd ar ol hyn, ymosododd yr un anhwyl- deb arno eilwaith, pan oedd yn gweinidogaethu yn Llundain; a'r tro hwn hefyd, efe a fu mewn enbydrwydd am ei einioes, eto estynwyd ei oes dros dymhor byr; ond yr oedd arwyddion Ued ddiymwad fod ei afiechyd yu cryfhau, a'i gyfansoddiad yntau yn adfeilio, a chaed prawf gahirus o hyny yn gynar yn y flwyddyn ganlynol, oblegid dychwelodd y cwsg arno gydag adnewyddol rym, ac a roes derfyn ar ei oes lafurus a defnyddiol, yn mis Mawrth, 1837, pan nad oedd eto ond 56 mlwydd oed, a chladdwyd ef yu mynwent Tregaron.

Tn y cofiant a ysgrifenwyd am dano gan ei feibion, at yr hwn y dymunwn gyfeirio y darllenydd am helaethach hysbysiad, y mae adroddiad am Liwer o'i lafur cyhoeddus am ysbaid 22 mlynedd. Ymddengys y byddai Mr. Eichards yn cadw cofnodau o'i deithiau a'i bregethau, yr hyn nis gwnaeth ond ycliydig o bregethwyr y Methodistiaid, o leiaf cyn amser Mr. Eichards ; ac yn yr adroddiad a gasglwyd o'r cofnodau hyny, yr ydym yn cael ei fod wedi preg-

112 HANESIAETH î SIHOEDD. [doSB. IV.

ethu, o'r fl, 1815 byd ddiwedd y fl. 1S36, cliwe mil ac wytli caut a phedair- ar-byintheg-a-deugain o weitliiau, at eu gilydd tua 312 o weithiau bob blwyddyn. Fe deithiodd yn yr un ysbaid amser, agos i 60 mil o filldiroedd, neu ddwy fil a chwe chant a deuddeg-a-thriugain bob blwyddyn, neu un-ar- ddeg-a-deugain o filldiroedd bob wythnos. Cadwodd, neu yr oedd yn un a'u cadwai, agos i 700 o gyfarfodydd cyhoeddus, cyfarfodydd misol, chwarterol, a pherthynol i'r ysgol Sabbolhol. Nid Uawer a allasai ddangos dwy flynedd ar hugain wedi eu treulio yn gyíFelyb. "Ond y mae yn awr yn gorphwys oddiwrth ei kfur, a'i weithredoedd yn ei ganlyn." Aeth y gwas da a ífyddhiwn hwn i mewn i lawenydd ei Arg^wydd. Wedi iddo wasanaethu ei genedlaeth ei huu trwy ewyllys Duw, efe a hunodd, ac a ddodwyd at ei dadau.

Nid ydvw ein terfyuau yn caniatâu i ni ymhelaethu, ac nid ydym chwaith yn tybied ei fod yn cydweddu â natur y gwaith hwn i osod i Liwr hanes pob pregethwr a fu yn ddefnyddiol yu mysg y Methodistiaid, mvr\ na rhoddi hanes pob eglwys a blanwyd, a phob capel a gyfodwyd, canys yna ni fyddai prin derfyn ar lafur yr ysgrifenydd, nac amynedd digonol gan y darllenwyr. Ein haracan ydyw, gan hyny, rhoddi bras-olwg ar y modd yr ymwreiddiodd ]\Iethodistiaeth yn ngwahanol siroedd De a Gogledd, adroddiad byr am yr eglwysi boreaf, y prif oÖerynau a ddefnyddiwyd i'w planu,— a'r amgylch- iadau hynotaf cysylltiedig â'r gwaith yn ei holl ranau.

Y PARCH. JENEIN DAYIES, TWRGWYN.

Nid oedd Jenkin Davies yn un o dadau y diwygiad Methodistaidd, gan na auwyd moliono hyd nes oedd y canrif diweddaf ymron ar derfynu. Ni fu ychwaith ddim rhyw amgylchiadau hynod a tharawiadol yn gysylltiedig â'i redfa grefyddol ; ni fu ei oes weinidogaethol ychwaith yn faith iawn, ac ni chododd i sylw cyffredinol De a Gogledd i'r graddau y gwnaeth ambell un ; yr un pryd, barnwyf mai anuheilwng fyddai myned heibio iddo gyda chry- bwylliad o'i enw, gan y tybiwyf ei fod yn un o'r dynion teilyngaf ei efelychu 0 neb yn ei ddydd.

Yr ydym eisoes wedi crybwyll am ei dad fel un o brif gyfeillion Ebenezer Morris yn mhlith diaconiaid y wlad, ac fel un a gymerth ran arbenig yn neiUduad gweinidogiou y cyfundeb, yn gystal ag fel un tra theilwng ei gymeriad fel Cristion. Yr oedd ei fam hefyd yn wraig hynod yn ei chylch am ei gras a'i defnyddioldeb. Caíodd Jenkin Davies, gau hyny, y fraiut o gael ei ddwyn i fyny yn grefyddol, a hyny gyda Uawer o ofal, Uafm*, a gweddiau. Ymddangosodd ynddo jmtau yn foieu arwyddion nodedig o gaUineb y saríf, yn blethedig â diniweidrwydd y golomeu. Nid oedd ond bychan o gorfl'olaeth, dystaw a hynaws ei fryd, hofl" o neiUduaeth a dystaw- rwydd, a thra ymroddgar i wybod pob peth a ddeuai dan ei sylw.

Ymddangosai ynddo ragoriaethau yn ei febyd, a dynai sylw, nid ei rieni yn unig, arno, ond dyeithriaid hefyd. Gofynai Ebeüezer Morris i'w rieni yn fynychj oddiar ryw bethau hynod a ganfyddai ynddo, "Beth fydd y bach-

PEM, Vlî.] Sm ABERTEIFI. 113

genyn hwn ? " Gwclir, mewn gair, pa fatb ydoedd ei gyneddfau a chraífder ei feddwl, yn yr atebiad a roddodd unwaith, jîan nad ydoedd ond bachgen bychan, i gwestiwn a ofynwyd gan y gweinidog uchod i ysgol Sabbothol Pensarn ; cwestiwn na ofynid ond yn anfynych, ac a atebid yn fwy anfynych, sef "'Pa bryd y dechreuodd yr oruchwyliaeth efengylaidd ? " Gwedi bod hir ddystawrwydd, atebai Jenkin fychan yn wylaidd, " Marwolaeth Crist oedd terfyn yr hen oruchwyliaeth, ac adgyfodiad Crist oedd dechreuad y newydd,"

Ymdrechodd ei rieni i roddi iddo fanteision dysgeiditieth, y fath ag oedd i'w cacl niewn cyfleusdra, ac i raddau mwy nag a dybid yn angenrheidiol gan hiaws o rieni eraill ei roddi i'w plant;^ gwnaent hyn, fe aUai, oddiar ddirgel dybied fod rhagluniaeth y Nef, trwy ei gynysgaeddu â'r fath gyneddf- au ac ysbryd, wedi ei fwriadu i fod o ddefnyddioldeb neiUduol gydag achos Duw, Pa un bynag, cafodd y bachgen fanteision helaeth, a dybid felly o leiaf, i un o'i sefyllfa ef, Anfonwyd ef yn gyntaf i ysgol a gynelid mewn pentref a elwid Llwyn-dafydd ; wedi hyny i Aberteiíi, a thrachefn i'r Cci- newydd. Ac yn mhob man yr âi, parai argyhoeddiad yn y sawl a'i hadwaenai mai bachgen hynod oedd ; a dywediad cyffredin gŵr y bu ef yn lletya yn ei am ry w ysbaid ydoedd, " Mae îien ben ar Sianco."

Yr oecUl Jenkin Davics wedi yraroddi i gyrhaedd gwyl)odaeth. Llosgai gan awyddfryd i feddiannu ac i ddarllen llyfrau ; " ni ddiífoddai ei ganwyll ar hyd y nos, gan lynu wrth ei lyfrau hyd hyfryd doriad y wawr : " a mynych y cymhellid ci fani, rhag niwed i'w iechyd, ei anfon oddiwrth y llyfr i'r gwely, pan yn aros yn hwyr i ddarUen. Cadwyd ef dros ystod ei febyd a'i ieuengtyd yn nhŷ Dduw ; raethwyd ei faghi gan hudoliaethau y byd, na'i ddyrysu gan dueddiadau y cuawd ; gorchfygwyd y temtasiynau a ymosodai arno trwy awdurdod gair Duw, Er ei íagu yn eglwys Dduw gan ei rieni, yr oedd yn 16eg ml, oed cyn ei dderbyn yn gyflawn aelod, Yr oedd arlienigrwydd ncilUluol arno ar ol hyn, yn ngwresogrwydd ei weddiau, ac yn ei lafur diflino i ymgydnabyddu â'r Beibl yn ei lioU raiiau. A rhwng ei laí'ur cyson a phar- haus dros lawer o flynyddoedd, a'i gof cryf, yr oedd yn anhawdd cael neb yn ei oes yn fwy cydnabyddus na Jenkin Davics yn nghynwysiad ac yu ymadroddion yr ysgrythyrau. Yr oedd ei ddrychfeddybau yraron oll wedi eu gwisgo ag yraadroddion, ac yn cael ci traddodi yn íFugurau a chyfí"elyb- iaethau, yr ysgrythyrau.

Yn yr ysbaid hwn yr oedd yn llafurio Uawer gyda yr ysgol Sabbothol, a chododd i sylw neillduol a defnyddioldeb nodedig yn y rlian yma o waith yr Arglwydd. Derbyuiai lawer o annogaethau o bryd i bryd i bregethu, ond ymddangosai Jenkin yn Iled hwyrfrydig i anturio at y gwaith pwysig, ac ni wnaeth hyny ychwaith nes oedd yn llawn 28ain oed. Ofnai fod ganddo rhy fach 0 brofiad o bethau yr efengyl, yn ei ysbryd ei hun, i'w chyhoeddi i eraiU ; rhy fach 0 wybodaeth yn athrawiaethau'r efengyl i'w hagoryd i eraill ; a rhy fach o hyfdra a dawn ymadroddi i fod yn fuddiol mewn lle mor gyhoedd- us a'r pulpud, " eto," eb efe wrth gyfaiU iddo, " os bydd yr eglwys yn gyft'red'nol yn galw arnaf, nis gallaf anufyddhau yn hwy." Nid oedd eisicu

I

114 IIANESIAETH Y SIROEÜD. [dOSB. IY.

ycbwaueg ; yr oedd pob aeddfedrwydd yu meddyliaii ci frodyr er ys amser maitli, a Uaweu oeddynt ei fod yu boddloni i dderbyu eu galwad. Dechreu- odd ar y gwaith o Ìjregethu Crist yn gyhoeddus yn y fl. 1825. Yr oedd dysí^wyliad mawr wrtho gan y rhai a'i hadwaenai, ac ui chawsant eu siomi. Fe fu yn ddyfal i osod ei hun yn brofedig gan Dduw, yn weithiwr difefl, yn iawu gyfranu gair y gwirionedd. 0 hyn allan, iiid oes genym nemawr o am- gylchiadau hynod yn ei oes i'w coflfâu. Tn mlynyddoedd cyntaf ei weinidog- aeth, yr oedd y brawd hwn yn dyoddef gan yr un aufantais, a lluaws o'i frodyr o'i flaen ac ar ei ol ef, sef milwrio dros ei Arglwydd, ac ymrwystro â negeseuau y bywyd hwn ar yr un pryd. Gweithiai yn galed ar hyd y dydd gan ddar- paru dros yr eiddo, a'r nos a dreuliai i ddarllen a myfyrio. Nid ydym yn clywed ei fod yn edrych ar hyn ychwaith yn iau âroìn, ond fel un yr oedd ei galon yn y gwaith, un a " roddai ei ysgwydd yn ngwasanaeth ei Arglwydd," âi rhagddo yn ddyfal a dystaw, gan gynyddu mewn gwybodaeth a dawn, ymwreiddio mewn gras a phrofiad, a dwysâu mew^n cymeriad a dylanwad gyda'i frodyi'.

Neillduwyd ef i holl waith y weinidogaeth yn y fl. 183S, a pharodd yr ysgogiad hwn iddo ymgysegru yn Uwyrach nag o'r blaeu i weinidogaeth yr efengyl. " Anhawdd," medd ei fywgrafí'ydd, " oedd cael un yn fwy derbyn- iol yn ei eglwys gartrefol, na'r brawd hwn ; yn wir, Jt oedd y profí"wyd hwn mewn am-hydedd yn ei wlad ei hun. Ymddiriedid iddo lawer o achosion dyrys ei ardal ; byddai dynion digrefydd yn cyrchu ato, i ymgynghori ag ef, ac yn gyflfredin boddlonid hwjTit cyn jTuadael ; ac ni byddai yr eglwys chwaith yn foddLwn i drin unrhyw faterion yn ei absenoldeb. Mewn gair, efe oedd eu llygaid â pha rai y gwelent ; a'u dwylaw â pha rai y gweithient. A hawddach dychymygu teimladau yr eglwys na'u hadrodd, pan glywsant ei fod yn bwriadu ymadael oddiwrthynt."

Wedi marwolaeth y Parch. Ebenezer Morris yn 1825, disgynai mwy o ofal yr eglwysi o amgylch ei gartref ar Jenkin Davies, nag arferol. Buasai y gŴT hynod hwnw, fel y crybwyllasom am dano, yn arolygu y dosbarth hyny o'r wlad, a'i dad Dafydd Morris o'i flaen, ond yn awr disgynodd y gofal hwnw, i raddau helaeth, ar Jenkin Davies, ac anhawdd iawn a fuasai cael neb cjinhwysach. Arweiniodd hyn ymhen rhai blynyddoedd i'w symud- iad 0 Bensarn i'r Twrgwyn i aneddu. Yr oedd ei lafur yn ystod y tymhor hwn, pa fodd bynag, yn cael ei gyfyngu i fesur helaeth o fewn y dosbarth ag oedd yn neillduol dan ei ofal ; oblegid ni allai dori allan lawer dros y terfynau hyn, heb w^neuthur cam â'i alwedigaeth fydol. Deallai ei frodyr hyn, ac annogasant ef i ymryddhau yn fwy oddiwrth orcliwylion y bywj'd hwn, modd y gallai deithio mwy oddi cartref, a rhoddi prawf helaethach i eglwysi eraül o'i weinidogaeth. Mae yr adroddiad a ddyiy ef ei hun o'r amgylchiad hwn mor ddyddorol, fel na allaf lai na'i osod yn gyflawn o flaen y darllenydd. Fel hyn y dywed : " Yr wyf yn teimlo fy natur yn llesgâu, gan bwys y llafur wyf ynddo mewn amrywiol fíyrdd ; y mae fy ngwraig yn fwy analluog nag y bu i edrych ar ol y fferm yn fy absenoldeb, yr hyn sy'n peri aflonyddwch i

PEN. V1I.J SIR ABERTEIFI, 115

fy mcddwl pan oddi cartref. Hefyd, y mae fy mhlant yu rliy ieuainc, ac yu ddyeithr i orchwylion amaethyddiaeth, fel nas {^ellir eu hymddiried iddynt ; a phe baent mewn oedran i weithio, yr wyf yn ei hystyried yn ddyledsR^dd arnaf fel tad, i roddi i'm plant gymaint o ddysgeidiaeth ag a allaf, er eu hadd- asu at orchwylion y bywyd hwn, mewn oedran aeddfetach. Ond yn ol arwyddion presenol yr amserau, ymddengys i mi os cadwaf fterm, ac hefyd aros yn fy swydd fel gweinidog, y bydd sefyllfa fy mhlaut ymron fel yr eiddo caethweision, yn mhell islaw phint amaethwyr o'm cydradd, mewn dysgeid- iaeth. Wrth ystyried pethau fel hyn, penderfynais roddi y fferm neu y pregethu heibio. Ymgynghorais â'm priod pa beth i'w wneuthur. Hithau a ddywed- odd, ' Na roddwch y pregethu heibio er dim, rhag i chwi, wrth hyny, ddigio yr Arglwydd. Hwyrach y gwna yr eglwys ystyried a gwrando eiu cwyn.' Gwedi, hyn ymgynghorais â rhai o'm cyfeillion, hwythau a ddangosent yr anfoddlourwydd mwyaf i mi son am hyny, gan fygwth os gwnawn felly, na chawu byth gydwybod dawel a dirwystr tuag at Dduw a dyuion. A minau hefyd, a cheuyf dystiohieth yn fy nghydwybod fod lesu Grist ein Harglwydd wedi fy nghyfrif yu Öyddlou, gan fy ngosod yn y weinidogaeth, a rhoddi i mi genadwri, a chymhorih i'w thraddodi, lawer pryd ; gan hyny, peuderfynais wrando ar eu Uais, a rhoddais rybudd y rhoddwn y fferm i fyny yu Mihangel, 1838; ar yr hwu amser yr oedd cyfcillioii Twrgwyn a Salem yn rhoddi gwahoddiad taer i mi ddyfod i fyw i'w hardal, gan addaw gwueyd cyírif o honwyf er mwyn fy ngwaith. Oud yr oedd ymadael â'r ardal yu groes iawn i deimladau fy nheulu. Ni fynent, er dim, i mi goffa am y fath beth. Erbyn hyu, yr oedd fy sefyllfa wedi fy ngyru i gryu gyfyngder meddwl ; rhoi y lle i fyuy, aufoddlonrwydd fy nheulu i ymadael â'r ardal, yn nghyda rhyw siomedigaethau eraill, nes peri i mi, am wythnosau rai, i rodio yu alarus dau orthrymder y gelyu. Ond yr oedd cyfeiUiou dyft'ryn Troedyr-aur yn parhau i erfyn arnaf ddyfod atyut. Yua, wrth sylwi ar ar- wyddiou pethau oeddwn yn glywed a gweled, a chael hanner boddlonrwydd fy uheulu, peuderfyuais wrando ar eu cais ; ac mewn caulyuiad, cymerais cyfleus i fyw, sef y Maelon-uchaf. Pan oedd pethau yu y wedd hou, tua chanol yr haf, aethum i Lundain, yu ol penderfyniad y cyfarfod misol, i wasauaethu y dydd-gylch yno di'os y sir. Tra fum yno, yr oedd achos fy uhedu yu lladrata fy meddwl yu aml, ac ofuwn y byddai aufoddlonrwydd fy uheulu yn debyg o fod yn anghysur i mi a hwythau ; oud tra yr oeddwn i yma, yr oedd amgylchiadau wedi eu haeddfedu hwy, nes eu hennill i'r un cyffelyb feddwl a minau."

Yn yr amgylchad a adroddir yma gellir caufod, megys mewu drych, y ben- bleth a'r ymdrechfa a fu, ac sydd eto, yn terfysgu mynwes Ilawer o bregethwyr y Methodistiaid : yn euwedig y dosbarth hwnw o honynt y mae ysbryd y weinidogaeth yn rhoddi gogwyddiad cryf ynddynt i boeni yn y gair a'r athrawiaeth. Ofueut, ar y uaill law, wneyd cam â'u teuluoedd, trwy esgeuluso eu hamgylchiadau, ac arswydent, ar y Ilaw arall, rhag eu cael yn anffyddlawn i'w ' Meistr yu y uefoedd.' A mynych y tybieut mai eu Ile ydoedd rhoi

116 IIANESIAETH Y SIHOEDB. [dosB. IV.

lipibio y iiaiU neu y llall; gan cii bod yii argyhoeddedig na allent wneuthur cyfiawncler â'r ddau.

Wcdi i Jenkin Davies gael ei ryddhau cddiwrth orchwylion bydol i raddau, ymroddodd yn gwbl at waith y weinidogaeth. Bellach, cafodd Cymm a threfydd Lloegr ei weled a'i glywed. Tn y ddwy flynedd cyn clafychu o hono, fe deithiodd lawer, fel un a fuasai dan yr ystyriaeth nad oedd iddo ond ychydig o amser. Pregethodd, yn y fl. 1840, 315 o weithiau, ac jnifl. 1S41, 400 o weithiau. Ond yr oedd ei lafur a'i oes ymron ar ben. Yn y flwyddyn ganljmol, sef jti nechreu y fl. 1842, adfeiliodd ei iechyd i raddau mawr; ac er nad oedd ei afiechyd eto jti ei luddiais yn llwyr i bregethu, eto ni theimlodd. yn iach byth mwy, ond prysurwyd. ei symudiad gan lechedeu, a'i enaid a ehedodd ymaith yn Awst lOed o'r flwyddyn hòno.

Tr oedd Jenkin Davies yn un o'r pregethwjn* hyny a lafuriai lawer wrth gyfausoddi ei bregethau,* a chynwysid eu hardderchogrwydd yn sylwedd- oirwydd eu materion, ac yn nhlysni eu cyfansoddiad. Nid oedd ei lais ond gwanaidd, a'i ystumiau ond. ychydig ac unífurf. Ni chanfyddid ardderchog- rwydd ei bregethau gan y werin ddifeddwl. Nid oedd gauddo lais cyfí'rous, i gynhyrfu y teimladau ; ac ni amcanai at enniU sylw trwy frawddegau tan- baid a ffugyrau gwylltion, ond yr oedd. ei bregethau yn un gadwen fawr o feddylddrychau wedi eu goreuro â phur air Duw.

Nid yw hanes y sir hon wedi ei hynodi â dim erlidigaethau tiymion ar bregethwjT a phroflFeswjT crefydd, fel rhai siroedd eraiU, yn ncillduol yn Ngogledd Cymru. Fel y sylwasom o'r blaen, yr oedd ymneiUduaeth wedi yraledaenu yn fwy yn y De nag oedd yn y Gogledd, a gwerin a bonedd wedi

* Cyn llefara, dw^-s lafariai ; Yn y gair yn benaf poenai : Hwn oedd ei gydymaith, ynddo Treuliodd fywj-d yn ddiflino : IV berfeddjion dirg'el cloddiodd, Perlaii glwys i'r golwg ddygodd :

Defnydd iawn wnaeth o'i ddawn,

Y llestr lla-wn gwj-bodaeth ; Pob rhyw aeth oedd at wasanaeth, 011 jTi gweini i'w weinidogaeth.

Prydferth ydoedd yn y piüpud, Heb un ystuni hyll ac ynfj'd ; Nid â swrn o goeg ddych'mygion, Gemawg iaith am gibau gweigion, Ystranc íFol, neu wag uchel-floedd ; Ond à pliethau llonai'r lluoedd

Nid mawr 'stwr gadwai'r gŵr,

Eh)-w gynhwT' mal ffynon, Wrtli fyrlymu rhagorolion Maes yn iîrydiau megys afon.

Gaìareh gan W. Evans, Aherayron,

PEN. VII.] SIR ABBUTJiIH. 117

ymgynefino nawy ag ef. Yr oedd Methodistiaeth hefyd yu cael ei olygu gan y cyíì'redin yn fwy fel cangen gysyUtiedig ag eglwys Loegr, nag fel ymueill- duaeth digymysg. Yr ocdd Uawer o oífeiriaid efengylaidd, ac o foneddw\ r crefyddol, yu dwyn cysylltiad ag ef. Nid oedd dim o hyn yu y Gogledd. Nid oedd yuo yr uu oífeiriad wedi ymuuo û'r Methodistiaid am hanner cau' mlynedd ar ol y cychwyniad cyntaf, ac uid ymuuodd oud tri oJfeiriaid â hwy yn ystod mwy na chau' mlynedd.

Ond er fod Ihii o erlid yu sir Aberteifi wedi bod nag mewn parthau eraill o'r dywysogaeth, uid oes i ui feddwl, er hyny, ua chafodd y Methodistiaid boreuaf eu rhau yn ehelaeth o orthrwra a gwawd. Ac ni ddiangodd y Parch. Dauiel Eowlauds ei huu ddim yu gwbl a hollol j oud rhoddwyd iddo yutau, er bod yu weinidog urddedig yn eglwys Loegr, a chauddo ddylanwad mawr iawu fel pregethwr ardderchog, brofi, yu awr ac eilwaith, pa mor ífyrnig a chynddeiriog ydoedd gelyniaeth y byd yn erbyn y gwirionedd. Caiíf yr banesyn a gaulyu fod yu esiampl.

Tua'r amser yr oedd Mr. Eowlauds yn dechreu tori allan i bregetlui yn y prif-ífyrdd a'r caeau, dygwyddodd ar ryw Sabboth yu Llaugeitho, ar ol dy- beuu yr oedfa, a myned o Mr. Eowlands i'r ac eistedd, fod amryw o vvyr cyfrifol iawn yn dyfod ato, rhai o siroedd Peufro, Caerfyrddiu, a Morganwg ; îe, rhai o houynt wedi dyfod i Laugeitho yn eu cerbydau. Y boneddigion hyn a brofasent hyfryd flas yr efengyl, a thaer iawu oeddynt ar Mr. Eowlands i addaw dyfod i ymweled â'u gwledydd hwy. Yr oedd yntau, ar y pryd, yn ymddangos yn Ucd ddisylw o'u cais. Yu y cyfamser, yr oedd rhyw hen ferch dduwiol 0 Lanfihaugel-y-creuddyn, a adwaenid gau Mr. Eowlands, yn sefyll ar bwys y drws ac yu wylo. Caufuwyd hi gan Eowlauds, a sylwodd arni yu fwy nag ar neb o'r gwŷr mawr a'i hamgylchynai.

" Siani Evan Lewis," ebe fe, " paham yr wyt ti yn wylo ? pa beth sydd yn eisieu arnat ? "

" O ! Mr. Eowlauds anwyl," ebe hithau, " eisieu eich cyhoeddiad chwi sydd aruaf, i bregethu i'r bobl auuuwiol sydd acw gyda ni."

"Wel, Siani, mi ddeuaf y Sabboth ncsaf am burap o'r gloeh pryduawu." Mawr oedd llawenydd Siaui am iddi Iwyddo, ac i ffordd yr aeth yu wisgi ei chararau i hysbysu y newydd da i'w chyraydogion ; a mawr oedd syudod y bobl gerllaw, fod Mr. Eowlauds yu sylwi mwy ar Siaui Evan Lewis, nag ar y boueddigion o amgylch iddo. Gwnaeth Siaui gyfiawnder â'r cyhoeddiad ; hysbysodd drwy yr holl fro fod Mr. Eowlauds i'w ddysgwyl ; a bu Mr. Eowlauds cystal a'i air. Ar yr amser a benodwyd, aeth yno ; safodd i fyny yn ymyl clawdd y fonwent, (uid oedd yuo un cwrdd,) a dechreuodd yr oedfa gyda rhyw uifer o wraudawyr a ymgynullasai. Yn raheu yehydig amser ar ol iddo ddechreu pregethu, wele haid o erlidwyr yu dyfod, a Siôu WiIIiam y clochydd yn fiaenor arnynt, a chanddyut bob math o offer yn cu dwylaw, ac yn tyngu yn filaiu y lladdent hwy oll. Caufu Mr. Eowlauds nad oedd obaith cael llonyddwch, cymerodd gefu ei gefl'yl, ac i fí"ordd ag ef ar frys majvr ; a rhyw nifer o wỳr tracd yn rhedeg cu goreu i'w ganlyn. Yr

118 _ HANESIAETU Y SIROEDU. [dOSB. IV.

erlidwyr hwythau a ymlidient eii heithaf ar eii hol, gau eu Uuchio yu dost a thom ac â cherig, am ddwy fiUdir o íFordd, sef hyd Lnn afon Ystwyth. Aeth y gwrandawyr trwy yr afon ar ol y pregethwr, gan gyfeirio megys tua Lledr- od. Safasant, pa fodd bynag, yn nghongl rhyw gae, ac yn y fan hòno y cafodd Mr. Eowhmds hamdden i orphen ei bregeth, i tua deuddeg o bobl ag oedd wedi ei ganlyn ef dros yr hoU íFordd, pryd yr oedd lluaws mawr wedi methu gan flinder, ac wedi ymwasgaru tua'u cartrefi. Yr .oedd oedfa congl y cac, medd yr hanes, yn oedfa ryfedd. Ehoddwyd i'r pregethwr a'r gwran- dawyr daledigaeth lawn am y bliûder a'r sarhad, yn y mwynhad a gawsant yn yr oedfa. Yr oedd tad Mr. WiUiam Eowlands, Cwrt-y-cwm, ger Aber- ystwyth, yn un o'r deuddeg.

Mae rhai manau yn y sir hon, fel mewn siroedd eraiU, ac fe ddichon y rhan amlaf o honynt yu cynwys eglwysi Uuosog a blodeuog, heb fod dim hynod a tharawiadol yu gysylltiedig â'u hanes; dim henafiaeth raawr yn perthyn iddynt ; dim erlid erioed wedi bod ynddynt ; dim enghreifi'tiau nodedig o ddychweliad dyniou anferth eu drygioni at grefydd, a hyny raewn modd disymwth a rhyfedd ; dim diwygiadau nerthol a grymus wedi bod ynddynt ; ond yn lleoedd, er hyny, ag y mae yr achos crefyddol yn llawn mor gyson a siriol yn ei holl rauau ynddyut, ag ydyw yn un mau arall yu y wlad. Mynych iawn y gwelwn ni hyn yn y manau hyny a gawsaut eu cychwyniad o fewn y canrif preseuol. Yn y lleoedd hyn, uid oos amgylchiadau hyuod i'w croniclo, eto hawdd ydyw canfod eíFeithiau graddol moddiou gras ar drigolion y fro dylauwad y gwirionedd yn raddol yu gweithio ei ffordd i oleuo a chywiro y farn, i gyffroi y gydwybod, ac i enniU y galon. Yr ysgol Sabbothol, yn enwedig, a fu yn wasanaethgar iawn, megys i fagu dyniou yn ugeiriau y ffydd, ac i blauu ynddynt egwyddorion sautaidd, megys yn ddiarwybod iddynt pa bryd a pha fodd. Mae y desgrifiad hwn yn perthyn yn neillduol i'r lioll ganghenau hyuy sydd wedi blaguro a thyfu allan o'r eglwysi gwreiddiol a chyntefig, ac er bod rhai o honynt erbyn hyn wedi rhagori Uawer mewn grymus- der a rhifedi ar yr hen fam a'u hymddug, eto nid oes dim dygwyddiadau hynod yn gyuwysedig yn eu haues, a roddai ddyddordeb ueiUduol i'r darlleu- ydd. Cawn esiampl o hyn yn hanes y

CEINEWYDD (New Quay).

Tua'r fl. 1794, yr oedd tua deuddeg 0 frodyr a chwiorydd yn byw yn y lle hwn, ac yn yr ardal gerllaw, y rhai oeddynt aelodau yn Ffosfíin gyda'r hybarch Mr. Gray. Daethant yn raddol i deimlo eu sefyllfa wasgaredig, ac anghysbell o ran moddion, a barnasant mai buddiol fyddai, os oedd yn bosibl, cael moddion gras yn nes atyut, ac yn fwy cyfleus iddynt oll. Oddiar y syuiad hwn y ceisiwyd gau yr hen frawd Siôn Dafydd, pregethwr neu gyughorwr yn Ffosfíìn, ddj'fod yn awr ac eilwaith i bregethu i'w tai, a'r lle y pregethwyd gyntaf ynddo, oedd hen frawd o'r enw John Owen, o'r lle hwn.

Cynaliwyd hefyd gyfarfodydd eglwysig, a chyfarfodydd gweddio,yn nghydag

PEN. VII.] SIR ABERTEin. 119

ambell bregeth, yn bcnaf gan Siôn Dafydd, yn y a cnwyd, ac yn nliai brodyr eraiU, yn eu cylcb, hyd y fl. 1802. Y pryd liwn, trefnodd rhaglun- iaeth i ẃr o'r enw Evan Evan3 ddyfod i breswylio mewn yn y lle, a elwid Pen-y-wig ; i'r Ue hwn, bellach, y symudwyd yr achos, ac yma y cynelid yr hoU foddion. Ar yr un pryd, ystyrid y lle yn ganghen o Ffosfíin, ac yno yr âi yr holl frodyr i gymundeb. Ond tua'r fl. 1807, pan oeddy gwrandawyr wedi Uuosogi, a thŷ anedd yn rhy fach i'w cynal, barnwyd yn angenrheidiol adeiladu yma gapel. Cafwyd tir gan Evan Evans, Pen-y-wig, a thrwy ei gymhorth ef a brodyr eraiU, codwyd a gorphenwyd yr adeilad cyn diwedd y flwyddyn a enwyd, sef 1807.

Yr oedd yr ysgol Sabbothol wedi ei chychwyn eisoes er ys tua phum' mlynedd cyn adeiladu y capel, ac fel arferol, hi a fu yn foddion i chwanegu y gwrandawyr, ac i roddi ysgogiad grymus i'r achos yn ei flaen, nes y bu raid ymofyn am le helaethach na thŷ anedd. Cynyddodd y gwaith yn raddol o flwyddyn i flwyddyn, nes y bu raid tynu y capel i lawr, ac adeiladu un Uawer mwy. Mae y gwrandawyr cyíîredin, erbyn hyn, yn Uenwi y tỳ hwn, ac yn cyrhaedd tua 500 o rifedi, a'r un modd y raae cynydd yr eglwys a'r ysgol Sabbothol wedi bod yn cyfateb.

Gwelwn fod yma Iwyddiant mawr wedi bod, a hyny heb ddim tarawiadol a hynod yn yr amgylchiadau cysyUtiedig. Yr un fath ddysgrifiad y geUid ei roddi am luaws o leocdd eraiU yn y wlad, yn benaf y rhai a heidiasant o'r mâm-eglwysi yn ystod y canrif presenol.

CAPEL-AFAN.

Am y Ue hwn y dywedir fod ei gynydd wedi bod yn arafaidd iawn, ac er na fu yma erlidigaeth greulawn, eto fe fu yma ymosodiadau flyrnig i ymUd y pregethu ymaith yn Uwyr; îe, fe Iwyddodd yr ymosodiad mor Uwyr, fel ag i chwalu y rhai a gasgUisid unwaith at eti gilydd. Nid oes hanes fod neb o dadau enwocaf y diwygiad wedi bod yma yn pregethu. Dywedir fod Mr. Rowlands wedi bod yn Llanfihangel-y-creuddyn ; a bod Howel Harris wedi bod yn pregethu mewn tŷ' rhwng y Ue hwn a Llanilar, ac i'r gŵr boneddig oedd yn byw yn Abermaed ddod i'r oedfa ar y bwriad i'w attal. Ond nid gwaith mor hawdd oedd attal Mr. Harris. Troes i yraUw â'r gŵr boneddig, ac i'w amddifí"yn ei hun. Yna gofynai y boneddwr iddo, a wyddai efe â phwy yr oedd yn siarad ; a rhoes ar ddeaU iddo ei fod yn hedd-ynad. " Gwn o'r goreu," ebe Harris, "Uwch a Uudw ydych a fydd yn crynu boreu y larn." Diflanodd nerth yr erlidiwr ar hyn, ac aeth ymaith, a chafodd Mr. Harris lonyddwch i Ijregethu i'r gynulleidfa,

Ond er i'r gwŷr hynod uehod fod yn gweini yu achlysurol raewn Uanerch- au hcl) füd yn mheU, eto ni fu yr un o honynt, tybygid, yn yr ardal lion. Ar yr un pryd, rhoddwyd iddi glywed hoU gynghor Duw trwy ddynion ffyddlawn, y rhai y bu eu Uafur dan fendith i laweroedd. Aeih Uawer o'r blynyddoedd eyntaf ar yr achos heibio, heb r\w ymwcb'adau grymus, a phwanegiadaii Uuosog, fel y bu mcwn manau eraiU yn y wlad hon ; cto yn ddiwcddar, ic,

120 UANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB, IV.

mor ddiweddar ä'r fl. 1843, fe ddisgynodd cawod hyfryd ac adfywiol o'r o-wlaw graslawn ar y diffeithdir hwn nes peri iddo flodeuo fel y rhosyn. Bu chwanegiad at yr eglwys ar yr achlysur hwnw oddeutu 70 o aelodau.

Nid oes cwbl sicrwydd tua pha amser y ffurfiwyd yma eglwys ; ond bernir mai tua'r fl. 1794 y gwnaed hyny, a bod y nifer y pryd hwnw yn 10 neu 12. Yr oedd pregethu ymhell cyn hyuy, mor foreu a'r fl. 1774. Cyuelid ef mewn anedd o'r enw Blaenddôl, yr hwn a breswylid gan un John Jones. Ond yn y fl. 1809, yr adeiladwyd yma y capel cyntaf, yr hwn a agorwyd gyda phregeth gan y diweddar Barch. John Williams, Lledrod.

Ymddengys hefyd, fod yr ysgol Sabbothol wedi ei scfydlu rai blynyddoedd cyn adeiladu y capel, ac iddi hi fod yn foddion effeithiol yn y lle hwn, fel yn mhob man arall ymron, i roddi ysgogiad grymus i'r achos crefyddol yn ei flaen. Mae deiliaid hon, bellacli, yn gannoedd mewn rhif, a'r gwrandawyr Sabbothol felly hefyd.

Ar ol dechreuad yr ysgol Sabbothol y cododd heidiau mân allan o'r eglwysi henaf, gau ymsefydlu mewn ardaloedd eraill sydd eto heb eu hcnwi. Sefydl- odd haid, o'r Bontrhydfendigaid, yn Tsbytty, im arall o Cynon, ac Aber- ffrwd, yn Trìsaint, un arall o Swydd-ffynon, yn y Berth, un arall o'r Ehydlwyd, yu Bronant ; a lluaws eraill tua gwaelod y sir, am ba rai ni chaf- odd yr ysgrifenydd yr unhysbysiad. Mae yrholl fauau diweddar hyn, ymron heb eithriad, wedi codi oddiar i ryw frodyr ymi'oddi i fyned iddyiit i agor ysgol Sabbothol, cynal cyfarfodydd gweddio, a chael gan ambell bregethwr bregethu yn y lle yn achlysurol. Trwy y moddion hyu y crynhowyd y rhan fwy-af o'r eglwysi a fl'urfiwyd yn ystod y ganrif hon, Uawer o ba rai ydynt dra lluosog a llwyddiauuus.

Mae y wlad hon yn fwy 11w}t Gymreigaidd uag ydyw \t un wlad arall yn y De, ac hefyd yn fwy llwyr Fethodistaidd. Mae ei chapelau yn dra aml, a'r cynuUeidfaoedd yn dra Uuosog. Nid oes uu parth o'r wlad nad yw Method- istiaeth Avedi gwreiddio ynddi, ond y dosbarth a orwedd rhwng Llanbedr a'r Twrgwyn. Meddiennir y rhan yma o'r wlad gan yr Undodiaid, i raddau belaeth ; y rhai, er maint ydyw y gwahaniaeth rhyngddynt o ran syuiadau, a honant berthynas â hen eglwysi Presbyteraidd y wlad hon. Hòna y bobl hyn gymeriad uchel iddynt eu hunain ar gyfrif dii'agrithrwydd a gonestrwydd ; gyda pha deilyngdod, neu ar ba seiliau, y gwneir hyn, uid wyf yn gwybod; bydded hyny fel y byddo, nid arwydd o onestrwydd, tybygwyf, ydyw ymlynu wrth y broffes o Bresbyteriaeth, ac ymffrostio o'u holyniaeth i'r hen Buritan- iaid, pryd nad oes dim o rinweddau ysbrydol eu heuafiaid yn aros, nac o iachusrwydd eu syniadau, ond eu henw yn uuig. Gouestach a fyddai i'r tylwyth yma ymwrthod ag euw y Presbyteriaid, le, yn wir, ag enw Cristion- ogion, ac ymgyfenwi ar gyhoedd ac ar unwaith yn anffyddìaìd, o rau dwyfol- deb yr ysgrythyrau, gau nad ydyw eu duU o'u hcsbonio oud diddymiad ar eu synwyr, a thrais ar eu hymadroddion.

PEN. VII.] SIR ABERTEIFI. 121

Nid yclym yn y sylwadau blaenorol wecli son dim ymron am un enwad lieblaw am Fetliodistiaid sir Aberteiíì. Ni iynem, er liyny, i'r darllcnydd ddychymyg'U mai yr unig cyfuudeb o bobl grefyddol yn y wlad ydyw ; oblegid ni fyddai Iiyny yn wir, gan fod ynddi gynulleidfaoedd lawer, a rhai o honynt yn dra lluosog, yn perthyn i'r Annibynwyr, a'r Bedyddwyr, achos pa rai sydd mor hen neu henach, na'r eiddo y Metliodistiaid. Nid llawer sydd o Wesleyaid yn y sir hon ; daethant iddi yn ddiweddarach na'r enwadau eraill, ac nid ydynt hyd yraa wedi ymwreiddio yn ddwfn yn y tir, Nid wyf yn gydnabyddus ag ystadegau rhifyddol neb o enwadau yraneillduol y wlad hon, oddigerth yr eiddo y Methodistiaid, ac nid wyf, o ganlyuiad, yn gallu traethu, gyda sicrwydd, am ansawdd cydm'hariaethol yr enwadau, pe buasai hyny hefyd yn ddoetii. Oud am Pethodistiaeth y sir, gellir dweyd ei fod yn amlach ei ddeiliaid yn y sir hon na'r un sir arall yn y Deheubarth ; ac hefyd yn mcddiannu serchiadau y preswylwyr yn fwy cyffrediuol na'r uu enwad arall yn y wlad. Nid oes ar hyn o bryd, tybygid, ddim amgen ua chydfod a brawdgarwch rhwng yr hoU enwadau â'u gilydd, tra y mae pob enwad yn ysgogi yn mlaen, mor eguiol ag y gallo, pob un yn ei ffordd ei hun.

Mae cyfarfod misol y sir hon yn lluosog iawn ei aelodau. Fe gynwys tua 15 0 weinidogion, 17 o bregethwyr, a thros 200 o ddiaconiaid, heblaw rhyw nifcr fechan o ymgeiswyr am y weinidogaeth, oU yn agos i 250 o rifedi, y rhai a gyfrifir yn gynrychiolwyr eglwysi y sir, ac yn cyfansoddi dirprwy- aeth weithiol Ce.vecíitiveJ y wlad. Anhawdd fyddai dywedyd, pe byddai yn angenrheidiol dweyd, yn mha Ic y mae yr awdurdod penaf mewn gwir- ionedd yn gorwedd ; oblegid y mac cynrychiolwyr yr eglwysi mor gyfrifol i'w heglwysi, ag ydyw yr eglwysi eu hunain i gorff y cynrychiolwyr yn y cyfarfod misol. Nid dyben y gyfundrefn o'r dcchreuad oedd hòni na gweinyddu awdurdod y naill ddosbarth ar y Ilall, ond cyd-weithrediad a threfn y cyfan. lë, amgylchiadau gofidus bob amser, a mawr eu perygl i Iwyddiaut y gwaith, ydyw y rhai a ddyry eisteddle yr awdurdod i brawf, neu a eilw am weinydd- iad Uym o hono. Nid wyf yn gwybod fod y sir hon wedi cyfarfod â nemawr o'r amgylchiadau gofidus hyny, mewn ysbaid can' mlynedd ; a ffaith ydy w na ellir bod yn rhy ddiolchgar am dani, bod gwlad mor fawr, yn cynwys bellach dros 80 0 gyuulleidfaoedd, yn abl i fyned a'r achos crefyddol yn mlaen yn heddychol a Uwyddiannus. Pa faint bynag o effaith y gyfundrcfn sydd i'w gael yn y ffaith hon, gallwn yn hawdd briodoli y daioni hwu yn benaf i fywyd crefydd, neu ysbryd yr efengyl, heb yr hwn, ni atebai j/r mi gyfi,ndrefn y dyben yn hir.

Ar y dechreu, nid oedd cyfarfodydd misol y sir hon oud bychain, ac yn gwbl yn nwylaw yr offeiriaid Methodistaidd a berthynai iddo, yn nghyda'r Parch. Thomas Gray, yr hwn, er ei fod o ran dygiacl i fyny a thrcfn cglwysig yn perthyn i'r Annibynwyr, yr oedd, er hyny, o ran ysbryd a chyd-weithred- iad yn llawn cymaint yn pcrthyn i'r Mcthodistiaid. Oud yn nwylaw y rhai urddedig hyn y bu arolygiaeth y sir am lawer o fiynyddocdd. Yn nyddiau

122 HANESIAETH Y SIHOEDD. [dOSB. IV.

Ebenezer Morris, a'i gydlafurwyr, y deelireuodd dyuiou diurddau gyfodi i sylw a dylanwad mwy nag arferol. Ond yr oedd hanner cant o fiynyddoedd wedi rayned heibio ar Fethodistiaeth eisoes, ac nid trwy fwriad peuodol yn mlaenllaw y daeth y liywyddiaetli i dd\vylaw gwahanoi, ond yn hoUol trwy rym ac arweiniaid amgylchiadau ; a'r rhai hyny yn amgylchiadau na ellid eu hysgoi heb fod yn anffyddlawn i'r aohos crefyddol ei hun, ac encilio odddiwrth luman Tywysog y Uu.

PRIF LINELLAU HANESIAETH SIR GAERNARFON. PENNOD I.

GOLYGIAD RHAGARWEINIOL.

CrNWTSIAD :

agwedd y wlad ar ddyfodiad howel harris iddi gyntaf— john williams ac ellis rowlands— eglwys ymneillduol pwllheli— agwedd yr off- eiriaid— griffith williams, esgob kilkenny, a rhys parri y clochydd— llafur jenkin m0r6an— john griffith ellis, evan william.s, a john

JONES, LLANIESTYN— PREGETHU YN ERBYN Y METHODISTIAID— CANGHENaU EGLWYSIG YN CAEL EU FFURFIO— CYNGHORWYR CYNTAF LLEYN AC EIFIONYDD.

y MAE y sir hon yn cadw lle mawr yn hanes Methodistiaeth Cymru. De- chreiiodd ysgogiadau y diwygiad ynddi yn gynar; cododd ynddi fwy o breg- ethwyr nag un wlad arall yn y dywysogaeth; ac y mae hyd heddyw yu amlach ei haddoldai, ac yn lluosocach ei haelodau eglwysig yn y cyfanswm, iiag un sir arall yn y cyfundeb. Mae ei therfynau yn eang, a'i thrigolion yn Uuosog; y mae yr iaith Gymraeg yn ffynu yn gyffredinol trwyddi ; a Meth- odistiaeth wedi ei meddiannu mor llwyr a nemawr un wlad yn Nghymru. Mae yr ystyriaethau hyn yn galw arnora i osod lle aibenig i'w hanesiaeth yn y gwaith hwn.

Pan wynebodd Howel Harris arni gyntaf, yn y fl. 17-il, nid oedd ond un capel ymneillduol o'i mewn, sef capel Pwllheli. Ychydig effaith, gan hyny, a gawsai un yraosodiad crefyddol a diwygiadol ar y wlad hon gan y cvffro- adau a fu yn y deyrnas o ddyddiau Harri VIII i lawr. Ychydig o argraff a wnaethai cyffro ymneillduol 1640 ar y wlad hon, Effeithiodd hwnw vn llawer mwy ar y Deheudir nag ar y Gogledd, fel y traethwyd o'r blaen. Dywedir, pa fodd bynag, fod tri gŵr o'r sir hon wedi bod yn Pihydychain, a chael eu dwyn yno i wybodaeth y gwirionedd, ac ar ol dychwelyd adref, yn pregethu yr efengyl •^n ei dysgleirdeb, tua'r fl. 1746. Mae un Mr. Wliite- Iock yn dadgan, nad oedd yn Nghymru ddim cymaint o weinidogion efeng- ylaidd ag oedd o siroedd ynddi, yn y fl. 164-1; ond yn mhen dcuddeno- mlynedd wedi hyny, sef yn y fl. 1652, yr oedd jniddi dros 150 o wcinidog- ion effro a grymus :* eto ni chafodd y Goglcdd ond rhyw ddafnan o'r gawod fawr a bendithiol hon. Ac o ran dira hanes sydd genym, ni phrof- odd sir Gaernarfon ddim o honi, ond a brofodd trwy weinidogaeth y tri gvvr

* Gwel tiidal 32, Cyf. I, o'r gwaith Lwn.

PEN. I.] S1K GAERNARFON. 123

y cyfeiriwyd atyut. Nitl oes hanes geuym ond am un o lionynt, sef Jolm Williams: * am hwn ni a wnaethom grybwylliad o'r blaen, fel nad rhaid ychwanegu.

Crybwyllir hefyd am un Mr. Ellis Eowlands, yr hwn oedd yn trigo yn rhywle yn Arfon. Barnwn fod rhyw ddaioni cyhoeddus yn y dyn hwn hefyd, gan y bu gorfod arco ffoi, nid fel llofrudd neu leidr, i sir Gaer, Ile y bu farw tua'r fl. 1683. Bu gorfod iddo ddyoddef Ilawer trwy orthrwm caled gelynion crefydd, a hyny dan dylodi dwfn, gan nad oedd ganddo at ei gynaliaeth ond a ennillid gan ei wraig trwy gadw ysgol.

Ond er i amryw o "ddynion Duw " ymosod, o bryd i bryd, ar y gorchwyl pwysig 0 ddeffro a goleuo preswylwyr y wlad hon yn yr ail canrif ar bym- theg, eto nid ydym yn cael fod dim o ôl hyny ar y wlad yn gyffredinol. Ychydig 0 seibiant a gawsant gan erlidigaeth i lafurio, a byr a fu arosiad amryw o honynt, fel nad oedd ryfedd fod can Ileied o'u hol yn aros. Yr oedd "ychydig enwau," pa fodd bynag, wedi eu gadael, y rhai a ddygent gysylltiad â'r eglwys fechan ymneillduol yn jMhwUheli, megys wedi eu cadw i ffuríìo dolen gysylltiol rhwng dysgyblion yr oes derfysglyd o'r blaen, â'r oes fwy Uwyddiannus a ddylynai.

Mae yn ymgymhell, yn ddiau, i feddwl y darllenydd yn naturiol, i ofyn, "Yn mha le yr oedd offeiriaid y Ilanau yr holl amâer hwn?" Xid hawdd ydyw rhoddi un ateb i'r gofyniad hwn, ond dyweyd eu bod oll, ymron heb un eithriad, yn cysgu mewn perffaith ddifrawder am lesâd ysbrydol eu cyd- wladwyr; a'r unig beth a allai beri gradd o gyffro yn eu mysg, oedd dyfod- iad rhyw un i'r wlad i bregethu yr efengyl, a fyddai yn meddu gradd o'i hysbryd, ac yn eiddigeddu dros ei lledaeniad a'i Ilwydd. Yr oedd yn an- hawdd, fel y gallem feddwl, gael dynion cymhwys i weinyddu yn ngwasan- aeth y cysegr, yn Lloegr ei hun, gan mor isel ydoedd agwedd crefydd bur yn y wlad; ond yr oedd yn anhaws fyth i gael rhai felly i Gymni, gan leied oedd ar gael a fedrai yr iaith. Yr oedd y Uanau plwyfol, gan hyny, yn gwbl ddifudd i'r trigolion mewn pethau crefyddol. Nid oedd athi-awiaeth yr efengyl yn cael ei phregethu, na'i chyfreithiau yn cael eu harfer. Bed- yddio y plentyn, cadw y gwyliau, myned yn achlysurol i'r gwasanaeth ac i'r cymun, oedd holl gylch crefydd preswylwyr y tir. Yr oeddynt mor anwy- bodus o'r ysgrythyrau â'r paganiaid eu hunain; Ilawer o honynt heb weled. yr un Beibl erioed ; yr oeddynt mor ddyeithr i Grist, fel mai prin yr adwaen- ent ei enw. Nid oedd neb yn dychymygu bod angen am broíìad o'r efengyl yn y galon, a bod yia rhaid ufyddhau iddi yn y fuchedd. Cyflawuiad difyw- yd a diffrwyth o ryw ychydig o ddefodau oedd eu holl grefydd. Ac fel hyn y dyHgid y werin dywyll i feddwl. Eu " cyf arwyddwyr oeddynt yn peri iddynt gyfeiliorni, a Ilyncwyd y rhai a gyfarwyddid ganddynt." (Esay ix. 16.)

Gweddus, er hyn, ydyw crybwyll yma am y gŵr hwnw o blwyf Llanllechid, yn agos i Fangor, yr hwn wedi hyny a wnaed yn esgob Kilkeuny yn

* Tudal. 36, Cyf. I.

124 IIANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV,

Iwerddon. Enw y gŵrliwn oedd Griffitli WiUiams. Yr oedd yn berclienog ar drcftadaetli yn y plwyf liwnw, sef Plas-oífa. Dygwyd ef i fyny yn weiu- idog yn eglwys Loegr, a cliyrliaeddodd yii mlien rhyw amser i fod yn esgob. Yn amser Charles I, bu gorfod iddo ífoi o'r Iwerddon gan rym erlidigaeth, ac i'w dreftadaeth y daeth i ymguddio. Anfonwyd cenad ar ei ol i Blas Oífa i chwilio am dano : cyfarfii hwnw ag ef gerllaw y mewn hen ddillad gwael, a chryman drain ar ei fraich ; gofynodd iddo, a welsai ef yr esgob ? " Do," ebe ynte, "yr oedd ef yma yn bm* ddiweddar." Yn y modd yma ysgôdd ei ddal, a gorfu i'r genad fyned ymaith heb ei neges. Dygwyddodd fod ẃylnos yn ei hen gartref, tra yr oedd yn ymguddio yno, ac ar y pryd yr oedd yr esgob yn llechu yn y Ilofft. Yn yr \v'ylnos, yr oedd y clochydd yn darllen rliyw lith neu gilydd, a chafodd yr esgob ryw foddlonrwydd i'w feddwl wrth ei glywed yn darllen fod ynddo ryw ddaioni mwy na'r cyffredin o ddynion y wlad y pryd hyny. Gyrodd am dano, gan hyny, pan gafodd hamdden, a chafodd le i farnu, wedi hir ymddyddan, fod y clochydd yn ddyn duwiol; ac annogodd ef i ddyfod ato i Kilkenny, wedi i'r dymhestl fyned heibio, i gael ei urddo yn gurad yn Llanllechid. Felly, wedi i'r esgob gael dychwelyd, dylynodd Rhys Parri (oblegid hyny oedd enw y clochydd) yr esgob i'r Iwerddon, a chafodd ei urddo ganddo, a bu yn gweinidogaethu yn Llan- llechid amryw flynyddoedd. Darllen homili y bu, dros ryw amser, yn Ile pregethu. Gelwid ef gan ei wawdwyr yn Syr Ehys, gan ei ddirmygu o herwydd ei fod o radd isel yn y byd, ac yn enwedig ara ei fod yn tueddu at wir grefydd. "Ond er gwaeled yr offeryn (ebe Eobert Jones), arddelodd Duw ef i ddychwelyd amryw o'u ffyrdd drygionus, ac i droi eu hwynebau at Dduw; ac er nad oeddynt ond "praidd bychan," cawsant eu herlid yn chwerw. Byddai gorfod arnynt ddianc i'r mynydd i ymgyfarfod i weddio, i ganu mawl, ac i liyff'orddieu gilydd yn nghylch mater eu heneidiau; ond nid oes hanes i'r symlrwydd oedd yn eu plith barhau ar ol yr oes hòno. Gad- awodd yr esgob y Palas-offa i dylodion Llanllechid dros byth; ac y mae yr ardreth, sef yr arian, i'w rhanu bob hanner blwyddyn."*

Pan edrychom yn ol ar ansawdd y wlad hon tua dechreu 1700, a'i chyd- mharu â'r wedd bresenol sydd arni, gorfyddir ni i gydnabod daioni yr ymweliad a gafodd; rhaid i ni addef fod cyfnewidiad mawr wedi cyraeryd lle, a bod y cyfnewidiad hwnw yn \m ardderehog a buddiul. Os ydyw racddiannu a darllen yr ysgrythyrau yn ddaioni, y mae hyny wcdi ei ennill. Os ydyw pregethu yr efengyl yn well na rhigyraau masweddol y beirdd; os ydyw cyfarfodydd addoli yn rhagori ar yr Interludiau; os ydyw yr ysgol Sabbothol yn well na'r twmpathau chwareu; os mwy dyraunol ydyw dysgu ac adrodd y Beibl, nag adrodd hen chwedlau gwraclüaidd ac ofergoelion ftbl; os ydyw dirwest yn well na meddwdod; os ydyw ofn Duw yn well nag anystyriaeth, a Christiouogaeth yn rhagori ar anwybodaeth paganaidd; y raae yn rhaid fod daioni annhraethol wedi ei wncuthur yn sir Gaernarfon yn

* "Diych yr Aniserocdd," tiulal. 37.

PEN. I.] SÍK GAEBNARFON. 125

y can mlynedd diweddaf. Gwyddom yn dda tbd Uawer o waith eto i'w gyílawni, llawer o anwybodaeth i'w ymlid ymaith, a mwy na hyny o anys- tyriaeth a chaledwch; gwyddora fod graddau mawr o afreolaeth yn aros yu mysg y werin; fod Uawer o ragrith a thwyll yn mysg y crefyddwyr, a llawer o gysgadrwydd ac anghysonedd yn mhlith y saint eu hunaiu; ac wrth gyd- mharu yr agwedd sydd â'r agwedd a ddylai fod, y mae genym destynau lawer i ymofidio; eto, wrth ei chydmharu â'r hyu a fu gynt^ ni a welwn fod gwaith mawr wedi ei wneyd, a daioui annhraethol wedi ei ennill.

Yn ncchreu 1700, nid ydym yn cael sail i gredu fod yr efengyl yn cael ei phregethu yn ei blas a'i phurdeb mewn nemawr un o'r Uanau plwyfol trwy yrhoUwlad; nid oedd gan ymneillduwyr, chwaith, ond un addoldy yn y sir. Yr oedd y gynulleidfa hòno, gan rym yr ymosodiadau a fu arni, yu fechan a digalon, a phrin yji gallu cadw tŷ. Nid ocdd Methodistiaeth eto wedi cychwyn ei gyrfa, a'r Bedyddwyr a'r Wesleyaid oeddyut ar y pryd yn anadnabyddus yn y tir. Ond pabeth awelir yn awr? Deallwn fod moesau y clerigwyr yn llawer gwcH, a bod Ilawer mwy o efengyl yn IIiwio eu preg- ethau ; mae Methodistiaeth wedi britho y wlad hyd ei chonglau pellaf â'i thai addoliad, ac enwadau ymneillduol eraill wedi lluosogi yu rhyfeddol yn ystod yr hanner canrif diweddaf.

Nid ydym, er hyn oll, yn edrych ar ddychweliad dynion oddiwrth un blaid grefyddol at blaid grefyddol arall, yn unig, yn un gradd o wir elw, tra na ddychwelir dynion at Dduw. "Agoryd Uygaid dynion, a'u troi o dywyll- wch i oleuni, ac o fcddiant Satan at Dduw," ydyw hyn a dry allan yn elw. Nid lluosogi sect, ond chwanegu duwioldeb, ydyw y gwir ennill. A llawen- hau yr ydym am y cyfnewidiad a welir yn y wlad hon, nid oblegid fod un blaid wedi cael goruchaíìaeth ar blaid arall, ac nid yn unig am fod opiniynau dynion wedi newid, nac ychwaith fod eu harferion wedi newid, ond am y credwn fod mwy o wirionedd yn eu syniadau, mwy o burdeh yn eu moesau, a mwy o ofn Duio yn eu calonau. Nid oes dim araU a ddeil brawf y tân. Pe fydd "y coed, y gwair, a'r soíl," yn cael eu llosgi, ond "yr aur, yr arian, a'r meini gwerthfawr," yn aros. Nid newid y naill opiniwn am opiniwn arall ydyw yr ennill, ond newid twyU am wirionedd. Nid newid y Uau am y capel, neu y capel am y Ilan, a ddylai fod yn destyn Uawenydd, ond newid y byd am eglwys Dduw, pechod am santeiddrwydd, y rhith am y sylwedd.

Ymddengys fod gweinidogaeth Howel Harris yn y íl. 1741, ac ar ol hyny, yn nghydag addysgiadau Jenkin Morgan yn yr ysgol a gadwai, ac yn y pregethau a draddodai, wecU eu bendithio yn fuan iawn ac i raddau helaeth mewn amryw barthau o Leyn yn enwedigol.

Yr ydym eisoes wedi crybwyll y modd y caed Jenldn Morgan i'r wlad. Nid oedd Harris eto ddim wedi ymweled â sir Gaernarfon, nac yn wii- â'r Gogledd. Bu Uafur Jenkin Morgan yn fendithiol i lawer, trwy yr ysgol a gadwai yn Nglasfryn-fawi-, a thrwy bregethu o i dŷ, Ue y rhoddid derbyn- iad iddo. Yr oedd agor y i dderbyn pregethwr iddo y pryd hwnw, yn amgylchiad difrifol iawn, ac yn fynych yn dwyn anghysur a choUed fawr i'r

120 HANESIAETH Y SlllOEDD. [üOSB. IV.

neb a wuclai hyny. Parai hyn gryn anhawsder i gael caniatâd gan neb i dderbyn oedfa i'r tŷ. A phan yr agorid drws i dderbyn gŵr i bregethu, rhaid fyddai cadw hyny yn ddirgelaidd i fesur mawr, a gwahodd y cymyd- ogion hyny i'r oedfa a dybid yn hoíF o'r efeugyl. Felly y gwncid gyda Jenkin Morgan. Llunid cyfarfodydd iddo i bregethu, a deuai crjTi nifer i'w wraudo, ac nid ofer ychwaith a fu ei weinidogaeth. Yr oedd merch ieuanc y pryd hyny yn byw gyda'i nain yn Towyn, gerllaw Tydweiliog, yr hon, trwy ryw foddiou, a brofasai radd o argraffiadau crcfyddol. Hon a glywodd son am yr ysgolfeistr ; a thrwy daerineb, cafodd ganiatâd gan ei nain iddo ddyfod i Dowyn i gynghori, a bu ei ymweliad yn fendithiol yno. Ymunodd Jenkin Morgan â'r ymnciUduwyr, rhoes yr ysgol heibio, gaa ymroddi i bregethu yr efengyl ; ac efe, meddir, oedd y gweinidog sefytllog cyntaf yn mhlith yr ymneillduwyr yn Mon.

Y'r oedd yr efengyl, bellach, yn dechreu gwneuthur ei hol ar amryw ber- sonau trwy lafur Jenkin Morgan, a thrachefn trwy weinidogaeth rymus ac eífro Howel Harris. Crybwyllasom eisoes am un o'r enw John Griffith EUis a ddychwelwyd trwyddo, a than yr un bregeíh, un o ferched y Tyddyn Mawr. Dau bregeth Jenkin Morgau y dychwelwyd uu arall o'r enw Eichard Dafydd, yr hwn, yn nghyda John Griffith EUis, a fuont yn ddefnyddiol i gynghori eu cyd-ddynion yn y ífordd i'r bywyd.

Oddeutu yr amser hwn, daeth gŵr ieuanc duwiol arall o'r Deheudir i'r wlad hou i bregethu, gan fwriadu ymsefydlu ynddi. Ei enw ydoedd Evan Williams. Ni fu ei arosiad yn y wlad oud byr, ac nid yw yn ymddangos ei fod yn feddiannol ar wroldeb digonol fel dyn i sefyll yn ngwyneb ymosod- iadau yr erlidwyr. Y"r oedd yma hefyd ŵr o'r enw John Jones o'r Penrh^^n, Llaniestyn, yr hwu hefyd a fu yn cynghori. Nodwyd y ddau hyu gan yr erlidwyr i'w dal, a llwyddasant i gael gafael yn John Jones. Ar ol hyny, vmroisant i chwilio am Evan WiUiams. Nid oedd un Ue tebycach o'i gael na'r Tyddyn Mawr, am fod y Ue hwnw yn adnabyddus eisoes fel prif loches y Pengryniaid. Daeth yr haid ddireol i'r Tyddyn Mawr, a John Jones mewn dalfa ganddynt, a chwiUasant y yn fanwl am Evan WiUiaras. Ond gan i'r teulu gael amnaid blaeuorol o'u bwriad, gwnaethant eu goreu i'w siomi yn eu haracau, trwy guddio Evau WiUiams mewn cwpwrdd â chlo arno. Ar ol chwiUo Uawer, a methu ei gael, daeth un o honynt at y cwpwrdd, a chan ei daro â'i droed, efe a ddywedai gyda Uwon a rhegfeydd, "Hwyrach mai yma y mae ef ;" eto ni chawsant ef. A gwaeth na liyny, diangodd John Jones yn ddystaw i ífordd, tra yr oeddynt hwy yn ymofyn am Evan Wüliams ; ac yn y modd yma siomwyd hwy o'r ddau,

Fe ganfu Evan WiUiams uad oedd nemawr obaith iddo gael Uonyddwch gan ffyrnigrwydd yr erUdwyr, a phenderfynodd droi tua'i wlad ei hun. Dy- weûir fod ei iechyd wedi cael y fath ysgytiad yn yr adeg y bu ef yn y wlad, trwy ymosodiadau yr erUdwyr, fel na weUhaodd ef yn gyflawn byth mwy. Disgynodd arno y fath Iwfrdra ac ofu, fel y tybiai, am ryw dymhor, fod ei fywyd mewn enbydrwydd bob awr, Danfonwyd ef ran o'r ffordd ar hyd nos,

PEN. I.] SIR GAEBNAREON. Iá7

ac liyd nes y crocsodd ef afon Dyfì, a thirio yn nliir y Dehcubartli, ni allai ymddyosg oddiwrth y dyb fod pawb a welai am ei ddal a'i niweidio, neu ynte ei ladd. Treuliodd weddill ei oes yu sir Gaerfyrddin fel gweinidog 'duwiol a llafurus, ond parhaodd effeithiau y driniaeth a'i cyfarfu yn Ngwyn- edd arno tra fu byw.

Yn nghylch yr araser hwn, sef rhwng 1741 a 1744, fe ddaeth gŵr ieuanc o'r enw Mi\ David Jenkinö, brawd i Mr. Daniel Jenkins, Llangeitho, i'r whìd, gau fwriadu aros rhyw gymaint ynddi. Yr oedd y gŵr hwn wedi ei fwriadu i fod yn offeiriad, ond nid ydym yn alluog i ddweyd pa un a dderbyn- iasai efe gyflawn urddau ai peidio. Yr oedd yn ŵr ieuanc o ysbryd a thalentau rhagorol, allewyrchodd dros adeg fer fel seren ddysglaer, ond machludodd yn fuan, pan nad oedd ond pum'-mlwydd-ar-hugain oed. Yr oedd ei weinidog- aeth, dros y tymhor byr y bu ef ar y maes, yn rymus ac effeithiol iawn, a chyfatebol â'i ddefnyddiohleb yn ei fywyd, oedd y galar am ei golli, Pan glybu Mr. Howlands, Llangeitho, ei farw, dywedodd, gyda dwysder a galar, " Wele, fe dorwyd ymaith fy mraich ddeau." Gan ei fod yn offeiriad, fe dybiodd y cawsai bregethu mewn rhai, o leiaf, o lanau y plwyf, a chafodd led addewid o gael hyny gan berson Tydweiliog, ond gau ofni gwg ei frodyr parchedig, tynodd y person ei air yn ol ; yntau a ymroddodd i bregethu yn y mynwentydd, ac ai y prif-ffyrdd a'r caeau, a hyny er mawr ddeffroad yn mhlith ei wrandawyr. Cafodd llawer eu dychwelyd trwyddo pan y nacawyd iddo làn Tydweiliog, ac y bu raid iddo sefyll gcrllaw yr adeilad gysegredig, a phregethu gair y bywyd oddiar gareg fedd. " Un o'r oedfaon mwyaf ueillduol oedd hon 0 un a fuasai o'r blaen yn y wlad."

Pan oedd unwaith yn pregethu ar brif-ffordd yn rhyw le yn Lleyn, daeth rhyw erlidiwr creulawn yno, a chareg fawr yn ei law ; ergydiodd y gareg alo gyda ffyrnigrwydd, ond methodd ei nôd ; aeth y gareg heibio i'r pregethwr, a soddodd yn y clawdd.

Fel yr oedd y pregethu yn Uwyddo, a'r crefyddwyr yn lluosogi, yr oedd yr erlidigaeth hefyd yn trymhau. Yr oedd yr offeiriaid a'r boneddwyr yn anad neb yn cyffroi yn erbyn yr ysgogiad dyeithr, ac yn penderfynu gwneyd a allent i'w lethu yn Ilwyr. Ac nid oedd diffyg offerynau yn mysg y werin i osod eu cynlluniau creiüawn mewn grym. Yr ydym eisoes wedi son am y Canghellwr Owens fel na raid chwanegu.* Ac nid ti-wy erlid, yn uuig, y gwneid cais i lethu Methodistiaeth, ond hefyd trwy bregethu yn ei herbyn. Darlunid y pregethwyr yn ddynion pcryglus, a'u hathrawiaeth yn wenwyuig, a dinystriol i eneidiau dynion. Liiiuiwyd chwedlau celwyddog ar Jenkin Morgan yr ysgolfeistr, ei fod yn dysgu egwyddorion drwg i'r plant, a bod bwriad drwg ac ysgeler ganddo eí' a'i blaid tuag atynt, o dau y broffes o'u dysgu mewn pethau crefydd. Haerid fod amcan gan y bobl i werthu y plant yn gaethweision, a bod cyngrair i'r dyben hyny rhyngddynt â rhyw ddyhiriaid mewn gwledydd tramorj i anfon llong i ryw borthladd cyfagos i'w cyrchu

Cyf. T, tudal 101.

128 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

a'u cludo yraaitli. Myuai eraiU mai eu hamcan, wedi euuill rliyw uifer o ganlynwyr, oedd codi gwrtliryfel yn erbyn y llywodraeth, a dadymchwel pob trefn a sefydiiad gwladol. Ond er yr holl chwedlau hyn a'r cyífelyb, ac er pob dyfais ystrywgar, a phob ymgyrch gormesol a wneid, Uwyddo yr oedd yr achos. Po fwyaf y gorthrymid hwy, mwyaf oll yr amlhaeut.

Ond er fod y crefyddwyr yn amlhau yn ngwahanol barthau Lleyn ac Eifionydd, eto nid oedd un addoldy ar gael, hyd yu hyn, oud yr un gan yr Aunil)yuwyr yn Mhwlllieli. Yno, gan hyny, yr yragasgLai y dysgyblion newyddion, i ymofyn am ymgeledd a chyfarwyddyd, hyd ues y daeth Howel Harris yr ail neu drydedd waith i sir Gaernarfon. Pan welodd ef fod y rhai a ddeífroasid trwy ei weiuidogaeth ef ac eraill yn ymgasglu i Pwllheli, ac yn ymofyn am swper yr Arglwydd a chymdeithas eglwysig mewn cynulleidfa ymneillduol, efe a ddangosodd radd o anfoddlourwydd, gau ddweyd, " na ddylent gasglu yr holl halen i'r un cŵd ,• " ac a'u cynghorodd i ymsefydlu yn fân-gymdeithasau ar hyd y wlad, ac ar eu peuau eu hunain. Felly yn unol â'i gyughor ef y gwnaethaut. Nid hawdd, wedi treigliad cymaint o amser, ydyw sicrhau oddiar ba egwyddorion y rhoddai Mr. Harris y fath gynghor iddynt, nac oddiar ba egwyddorion y buout hwythau raor ewyllysgar i ufvdd- liau ; yn uuig fe sicrheir fod hyn wedi cymeryd Ile yu eilhaf heddychol o bob tu; nid oddiar dramgwydd, nac mewn terfysg a nwyd, nac ychwaith oblegid gwahaniaeth barn am athrawiaeth, ond am y syrthient i'r syniad a osodwyd i lawr gan Mr. Harris.

Nid oes amheuaeth nad oedd parch raawr yn myuwesau y dychweledigiou ieuaiuc i Mr. Harris, ar yr hwu yr edrycheut fel eu tad a'u harweinydd, a pharod oeddynt i gydffurfio ag unrhyw amneidiad a roddai efe iddynt, ac yn enwedig, pan y byddai lle i obeithio fod yr hyn a argymhellid iddynt yn tueddu i lesâu. Nid oes amheuaeth chwaith mai y cynllun a osodai i lawr i'r brodyr yn Llcyn, oedd y cyulluu y gweithredasai eisoes aruo yu y Deheubarth ; a'i fod ef yn cwbl gredu mai hwn oedd y Ilwybr goreu i ledaenu a chryfhau y Diwygiad ; a diau genym ei fod yn fwy tueddol i edrych ar Fethodistiaeth mewn gwedd wasanaethgar i'r eglwys wladol nag i ymneillduaeth, ac felly, yu wrthwynebol i'r dysgyblion a eunillasid trwy ei weiuidogaeth ef a'i frodyr, chwyddo cyfuudeb o bobl na fu dim cymdeithas, hyd yu hyn, rhyngddo ef u hwy. Pa fodd bynag, ymadael a wuaethant ; a dyma'r pryd cyutaf, yn y sir hon, yr ymgrynhodd y dychweledigion hyn yn blaid wabanol i'r Auni- bynwyr, ar y naill law, ac i'r eglwys wladol, ar y Ilaw arall. Ar yr un pryd, edrychai yr ymneillduwyr arnynt fel brodyr, oud edrychai yr eglwyswyr ar- nynt fel gelyniou. Cyfarfyddeut â chydymdeimlad oddiwrth y naiU, fel plant yr un tad, er byw dau gronglwyd arall, ond cyfarfyddeut â gwrth wynebiad cryf oddiwrth y llelll, fel estroniaid gormeslyd. Ac er hyu oll, dysgid hwy i feddwl yn dyuerach am yr eglwys wladol, ar gyfrif eu haniad o honi (fel y dywcdid) nag am ymneillduwyr, ac i ystyried eu yn hytraeh yn hunain chwanegiad ati nag yn enciliad oddiwrthi. Ac nid oedd rhai o'r tadau cyntaf yn foddlawn i gredu na oddefai y sefydlad gwladol

PEN. I.] SIR GA.ERNARFON. 129

yr un chmne<jiad mwy na lleihad, ond ar dir ymneiUduad oddiwrtlii, hyd nes y bu raid credu.

Nid ydym eto wedi cyfeirio at lafur gweinidogaethol neb o'r brodorion dycliweledig ; er fod amryw o frodyr wedi cychwyn ar y gwaith o gynghori yn fuan ar ol dyfodiad Harris i'r whid. Nid oes un sir yn Nghymru y cododd mwy o bregethwyr ynddi, yn nghyfundcb y Methodistiaid, na'r wlad hon, yn ol dim a aílwyf fi gasglu, a sicr genyf nad oes yr un yn Ngwynedd wedi cynyrchu cynifer. Mae oddeutu 60 neu ycliwaneg wedi meirw, ac y mae eto yn aros fwy na 50. Dechreuodd rhal o honynt yn bur foreu ar y diwygiad ; symudodd deg neu ddeuddeg o honynt i lafurio gwledydd eraiU ; ac yr oedd doniau amryw o honynt yn dra ardderchog. Y mae yn ofid genyf na allwn gael y flwyddyn y dechreuodd pob un o honynt bregethu, ysbaid parhad ei wcinidogaeth, a chyfnod ei farwolaeth. Ond am lawer o honynt y mae hyny yn anmhosibl. Nid oes ymron neb yn fyw yn awr yn cofio y cynghorwyr cyntaf, îe, yn eu dyddiau diweddaf, a Ilawer Ilai yn eu cychwyniad allan. Nid oes genym, gan hyny, ond gwneyd y defnydd goreu a allwn o'r hyn a wedd- illir, fel na syrthio eu henwau i ebargofiant Ilwyr.

Yn mysgy rliai cyntaf a ddechreuodd gynp;hori,yr oedd John Jone3,PenrIiyn; Eichard Dafydd, Lleyn ; Evan Dafydd, Hafod-y-rhwyg ; Hugh Thomas; Hugli Griffith ; a Morgan Grifiìth. Yr oedd y rhai'n oll oddigerth Evan Dafydd, yn Lleyn. Crybwyllasom am enw Richard Dafydd o'r blaen. Daethai i Lasfryn- fawr i wraudo ar Jenlcin Morgan yr ysgolfeistr yn pregethu, â chcrig yn ei logell- au, gan fwriadu eu taflu ato, ond gwaharddwyd hyn iddo. Anfonodd Duw ei air fel saeth i'w galon, a diflanodd ei fwriad creulawn yn y fan ; gollyngodd y cerig i lawr bob yn un, ac ymostyngodd i awdurdod y gwirionedd ar ei fedd- wl. 0 hyny allau, cafwyd arwyddion amlwg o dduwioldeb arno, a chafodd ei annog, yn mhen rhyw gymaint o amser, i roddi gair o gynghor i'r bobl ; a bu trwy hyny yn fendithiol i lawer.

JoHN JoNES, Penrhyn. Crybwyllasom enw y gŵr hwn hefyd eisoes, ac nid oes genym ddim i chwanegu am dano, ond ei fod ar adeg yr ymraniad a fu rhwng HoAvel Harris a Eowlands, wedi myned dros ryw dymhor i Drefeca, a pharhaodd i fynwesu parch mawr i Mr. Harris dros ystod ei oes. Bu mab iddo o'r un enw, yn pregethu am ysbaid maith, yr hwii oedd adnabyddus iawn yn ngwledydd y Gogledd a'r Deau, dan yr enw John Joues o Leyn.

EvAN Dafydd, Hafòd-y-rhyg-ucliaf. Yn nghymydogaeth y Waunfawr yn Arfon, yr oedd cartref y gvvr hwn. Ee fu y gŵr hwn farw yn y fl. 1750. Ni bu gyrfa y gŵr yma ond ber; ac y mae yn debyg ei bod yn ddigon ystormus ; dyoddefai lawer, nid oddiwrth y byd erlidgar, ond yn ei deulu ei hunan, gan fod ei wraig yn dra gelyniaethol i'w grefydd.

MoRGAN Griffith, Gauwyd y gŵr hwn yn Lleyn ; saer ydoedd wrth ei greff't. Yr oedd wedi cael ychydig o ddysgeidiaeth yn ei ieuenctyd, ac wedi ei godi i fod yn athraw ar Ddatganwyr * ei ardal, gan ei fod yn fedrus ar

* Y rhai a arforent ganu gyda'r tànau, neu ganu j-n y llanau. K

130 IIANESIAETII Y SIllOEDD. [dOSB. IV.

donau a Ihôii-nochui. Wedi priodi, ymsefydlodd yu y lyddyn a elwir Bwlcli-y-rhiw, yii mhlwyf y Ehiw, yn Lleyn ; ac ymarferodd a gwneuthur gograu, a thrwy hyny ennillodd iddo yr enw "Jfor^aw y i^o^nw." Tra yr oedd yu ymarfer a dysgu yr ieuenctyd 1 ganu, daeth i'w feddwl, megys yn ddigyfrwng, nad oedd eu canu ddim o'r fath a orchyraynid gan Dduw yn ei air, ac o ganlyniad ei fod yu anfoddhaol ganddo. Deuai i'w feddwl eiriau o'r fath hyn, " Gan lefaru wrth eich gilydd mewn salmau, a hymnau, ac odlau ysbrydol ; gan ganu a phyncio yn eich calon i'r Arglwydd."

CrybwyUasom o'r blaen fod clochydd Llanor wedi cyfansoddi interlude, am yr hon y derbyniodd arian lawer, a dyrchafiad ucliel, Yr enw a roddwyd ar V gân isel hòuo, oedd, " Interhide Morgan y Gogrwr" gan gyfeirio at y cynghorwr y soniwn am dano. Ond er ised yr edrychid ar Morgan Griffith gan y tylwyth hyn, yr oedd gan Dduw feddyliau o hcdd am dano, a gwaith i gael ei wneyd trwyddo. Parhaodd anesmwythder ar ei feddwl yn nghylch y canu llygredig a ffynai yn eu plith, a dwyshaodd gymaint nes aeth yn ormod gorchwyl iddo allu dyweyd, wrth fyned i ddechreu canu yn y llan, " Canwn fawl a gogouiant i Dduw, &c.," gan yr edliwiai ei gydwybod iddo, mai twyll a rhagrith oedd hyny. Ymroes y gŵr yma, bellach, i ddarllen y Beibl, ac i wrando pregethau, pan yn y cyfleusdra, a daeth i brofi tangnefedd i'w fynwes derfysglyd trwy waed Crist. Bellach ni allai ymattal heb rybuddio ei gyd-ddynion, a'u cynghori i fi'oi rhag y llid a fydd.

Rhaid ei fod, mi feddyliwn, wedi dechreu pregethu tua'r fl, 1744. Nid oedd ond tair blyuedd wedi niyned heibio er pan ddaethai Howel Harris gyntaf i'r wlad, ac ni allai fod yma nemawr gynghorwr yn y wlad ar y pryd y dechreuodd Morgan Griífith. Ac nid hir y bu ef yn cynghori, na chyfod- odd gwrthwynebiad fí"yruig yn ei erbyn, ac yn erbyn pawb a roddai wyneb iddo. Yn mhen rhyw gymaint ar ol iddo ddechreu, pan oedd yn dychwelyd adref o bregethu, ac yn agos i Sarn-folldeyrn, fe'i daliwyd ef gan ryw ddynyn gwael, y gwanaf bron, meddant, o holl ddynion Lleyn. Yr oedd Morgan Griflâth yn ddyn nerthol a gwrol, a hawdd a fuasai iddo ymysgwyd oddiwrth yr hwn a'i daliodd, ond hyn ni fynai, gan y deallai fod ganddo wŷs i'w ddaL Yr oedd, ar y pryd, yn ŵr gweddw, a chanddo ddau o blant, rhy ieuainc i ofalu am danynt eu hunain. Y plant hyn a ddygwyd gan ewythr iddynt, brawd i'w mam, i Bwllheli, mewn cewyll, a'r olwg arnynt yn Uwydion a thlodion, gau ddysgwyl, ond eu dangos i'r ynadon, y tosturient wrth yr am- ddifaid, ac y gollyngent eu tad yn rhydd, er eu mwyn. Eto cymaint oedd eu cynddaredd at yr ymosodiad dyeithr ar grefydd osodedig y wkd, fel nad oedd un tynerwch i gael ei ddangos at y tad, na mymryn o dosturi at y plant. Gofalodd rhagluniaeth Duw am y plant amddifaid, yn ol yr addewid; fel na bu arnynt eisiau dim. Dywedir fod yr ynadon, pan gosodwyd y plant o'u blaen, sef bachgen 8 ml. oed, a geneth 6 mL oed, wedi gofyn i'r bachgen a fedrai efe darllen ? a rhoddwyd llyfr iddo i'w brofi, yntau a'i darllenodd ; gwnaed yr un modd â'i chwaer, a hithau a ddarllenodd. Gwelent ysgelerder ychwauegol yn hyn, yr oedd dysgu ei blant i ddarllen yn drosedd na ellid

PEN. I.] SIK GAEBNARFON. 131

ei faddeii, arwyddai hyn benderfyniad Morgan Griffith i ddwyn ei blant i fyny yn yr un heresi ag ef ei hun ; ac i ddwyn ei fab i fyny, ond odid, i ddysgu dyuion i gyfeiliorni oddiwrth grefydd eu tadau ; a barnent mai gwell oedd llethu y drwg yn ei gychwyniad.

Dygwyd Morgan Griffith ymaith ; efe a rhyw nifer o'i gyfeillion a ddaliesid am goledd yr un heresi ag yntau, a chludwyd hwy o Bwllheli, yn gyntaf i Gaernarfon, a tlirachefn'i Gonwy. Dygwyddodd ei bod yn fath o ddydd gŵyl yn Nghonwy ar y pryd, a chan fod dysgwyliad am ddyfodiad y carchar- orion yno, yr oedd lluaws mawr o bobl wedi ymgynuU yn nghyd, i'r dyben i gael golwg arnynt. Ehoddwyd hwy i orphwys yn y carcliar, a thros ryw enyd hwy fuant yn ymholi yn nghylch gwirionedd eu crefydd, a phurdeb eu dybenion ; ond wedi iddynt ddeall fod yuo luaws o bobl oddiallan yn awyddus i'w gweled, fe safodd Morgan Griffith i fyny, ac a gyfarchodd y bobl, gan dystio eu bod hwy yno, nid am na Uadd, na Uadrata, nac am un trosedd arall ar gyfreithiau y wL^d, ond am ddarllen yr ysgrythyrau, gweddio, a chynghori eu gilydd yn achos eu heneidiau. Ac wedi tystio eu diniweid- rwydd eu hunain, yn y modd yma, cynghorodd Morgan Griffith y bobl, gyda difrifwch mawr, i ystyried eu ffyrdd, ac i droi at yr Arglwydd. " Ac am danom ni," ebe efe, " y mae ein cydwybodau yn dawel ; ac yr ydym yn llawen am ein cyfrif yn deilwng i ddyoddef anmharch cr mwyn enw Mab Duw." Dywedir mai nid dieffaith a fn y cyfarchiad hwn ar rai o'r gwrandawyr, ond fod ei eiriau fel saethau llymion wedi glynu yn nghalonau dau o ddynion ieuainc, y rhai a fuont ar ol hyn yn amddiffynwyr ac yn ymgeleddwyr i'r efengyl, yn eu hardaloedd, dros amser maith.

Symudwyd y carcharoriou o Gonwy, a rhoddwyd hwy, tybygid, ar fwrdd un 0 longau y llywodraeth, yr hon, ar y pryd, oedd yn un o borthladdoedd Lloegr. Yn mhen amser, cafodd Morgan Griffith, ac un o'i gyd-garcharorion, ysgrif-drwydded (furlough) i ddychwelyd adref am ryw dymhor. Yr oedd llawer yn meddwl y cawsent aros gartref hefyd, pe jn- ymattaliasent oddiwrth bob ymarferiadau crefyddol, ond a gyflawnid yn y llanau. Ond yr oeddynt hwythau, yn y gwrthwyneb, yn llwyr benderfynol i arddel yr achos y bu gorfod arnynt eisoes ddyoddef o'i blegid ; ac ar eu dychweliad, addawodd Morgan Griffith bregethu ar Ehoshirwaun y Sabboth canlynol, yr hyn hefyd a wnaeth, ar ol i'w gyfaili weddio ar ddechreu y cyfarfod.* Mewn canlyniad i byn, galwyd hwy i ffordd dracheí'n, cyn i dymhor Gufurlougîi ddod i ben. Anfonwyd Ilythyr o'u blaen fod y ddau ddyn hyn yn para yr un ag oeddynt cyn eu hanfon o'u gwlad y tro cyntaf; eu bod yn peri aflonyddwch atherfysg yn y wlad, ac mai Morgan Griflith oedd ddyfnaf yn y bai.

Ar eu dychweliad ar fwrdd y Uong, yr oedd eu huch-raddiaid yn barod i geisio trwy ystryw i roddi gorfod arnyut ollwng eu gafael o'u crefydd ; ac i'r dyben hyny, dywedasant wrth Morgan Griffith eu bod wedi cael gorchymyn

* Mae un sydcl jti cyfenwi ei hun yn G. Williams, yn dyweyd yn ei ysgrif i " Oleuad Cymra," yn y fl. 1823, ei fod ef ei hun wedi cael hyn gan ẃr oedd yn gwrando y bregetli hon.

133 HANESIAETH Y SIllOEDD. [üÜSB. IV,

gau y Uywodraetli yn ei achos, ac yn acliwyn arno fel blaenor y teifysgwyr, ac y byddai raid iddo ymddyosg oddiwrth ei arferion a'i syniadau crefyddol, a bod 0 hyny allan yn cglwyswr dystaw n llonydd, neu ynte y byddai raid ei osod ar y naill ben i'r llong, a'i saethu gan y milwyr. Penodwyd iddo am- ser i ystyried pa beth a wnai. Ond pan alwyd am ei benderfyniad, efe a ddywedodd, " ' Ehaid yw ufyddhau i Dduw yn fwy nag i ddynion.' Yr wyf yn cyflwyno fy hunan i ofal yr Hwn sydd abl i gadw yr hyn a roddir ato, ac yn penderfynu na chaiíf na gwarth na dyoddefaint beri i mi waradwyddo fy Meistr." Ar hyn gosodwyd ef ar ben y llong a saethwyd ato ; ond nid oedd dim yn y drulliau ond pylor. Troes yr amgylchiad hwn allan yn hytrach o'i blaid, a dangosid iddo fwy o barch nag a wnaethid cyn hyny ; cto nid hir y bu efe byw ar ol hyn, ond clafychodd o glefyd trwm ; a bu a farw.

Dychwelodd ei gyfeiUion i'w gwlad, pan nad oedd eisiau eu gwasanaeth yn y llynges, y rhai a roisant yr hanes uchod, gan dystio mai diwedd Morgan Griffith oedd tangnefedd.

Hwyrach yr ymddengys yr hanes a roddwyd yma am Morgan Griffith yn anhygoel i lawer un ; a thra naturiol ydyw iddo ymddangos felly i bob un nad yw eisoes yn gydnabyddus â hanesiaeth y tymhor hwnw^ Parod fydd i ofyn, " Pa fodd y goddefid y fath anghyfiawnder i gael ei wneyd tuag at neb 0 ddeiliaid coron Lloegr ? Pa fodd y gallai ynadon y siroedd draddodi dyn, heb yn waethaf iddo, ac heb brofi un bai yn ei erbyn, i ddwylaw swyddogion y gyfraith, a'i anfon ymaith o'i wlad ? Pe gwneid y fath beth yn awr, clyw- id gwaedd yr holl bobl yn erbyn y fath orthrwm, hyd eitliaf terfynau y wlad- wriaeth." Gwir : fe wncid felly, a disgynai y sarhad yn fuan ar ben y neb a feiddiai ei gyflawni. Ond nid oedd pethau felly y pryd hwnw. Ac nid yu Nghymru yu unig yr ymddygid yn y modd anghyfiawn uchod tuag at y bobl a elwid y Methodistiaid, fel y gwel y darUenydd wrth yr hanes canlynol.

Tua'r un amser ag yr oedd hyn yn dygwydd yn Nghymru, yr oedd y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleyaidd yn ymledaenu yn ddirfawr yn Lloegr, ac yn cyfarfod â phob math o ddirmyg a chreulondeb. Ni a grybwyllwn un amgylchiad yn unig, yr hwn oedd gyífelyb i'r liyn a gyfarfu â Morgan Griflith, ac a brawf nad ocs dim yn anhygoel yn yr hanes a roddasom am dano.

Yn mysg Methodistiaid Lloegr yr oedd un John Nelson, yr hwn oedd ŵr diurddau, eto a bregethai'r efengyl gyda diwydrwydd, a grym, a Uwyddiant mawr. Ond wrth grybwyll am dano, fe ddywed un ysgiifenydd, " Gan fod y gwarth cysylltedig â Methodistiaeth yn cryfhau, yr oedd yn agored i lawer o warth a dyoddefaint ; y clerigwyr oedd ei elynion chwerwaf. Mewn rhai am- gylchiadau, fe gymerid y fantais oddiwrth rhagfarn cryf y werin yn erbyn y Methodistiaid, i ddryllio eu drysau, ac ysbeilio eu tai ; ac mewn manau eraiU darostyngid hwy i greulonderau yn fwy o ran eu personau. Cafodd rhai o'r pregethwyr niweidiau trymion iawn ; eraill a ddelid o dan ddwfr nes byddent yniron wedi trengu, ac ara y gwragedd a'u dilynai, fe'u trinid gan y bobl

PEN. I.] SIR GAERNARFON. 133

ddidoriad mewii modd mor anwaraidd ac auifeilaidd, fel ua ddaelhaiit byth yu Uwyr atynt eu hunain. Mewn rhai manau, dwbiasaut y pregethwr drosto îi phaent ; mewn manau eraiU Uuchiasant y gwrandawyr â phlisg-ŵyau, wedi eu Uenwi â gwaed, a'u cyfanu â phŷg."

" Digon gwarthus i'r genedl oedd hyn ; ond yr oedd ymddygiad rhai o ynad- ou y wlad yn Uawer mwy felly, am yr ymostyngent, dan ddylauwad nwyd a drwg-deimlad, i gyflawni gweithredoedcl o orthrymder cì/icihjddus, dan rith cyfraith. Tybiai íicer y ]le yr oedd John Nelsou yn byw ynddo, sef Berstal, mai teg oedd cael gwared, trwy ryw foddion, o'r fath ddyn allan o'r plwyf ; dyu a bregethai gyda mwy o ddifrifwch a nerth nag ef ei hun ; ac efe a gyd- syniodd â chynygiad oddiwrth y tafarnwyr, arfod i Nelson gael ei ddal, a'i yru yn sawdiwr; arferiad a ffynai yn dost y pryd Tiwnw; fel y daeth cipio morwyr i'r un dybeu mewn tymhor diweddarach. Daliwyd ef, gan hyny, a dygwyd ef ger bron yv ynadon yn Halifax, yn mysg y rhai yr oedd y ficer ei hun yn eistedd ; ac er i nifer digonol o ddynion fod gerllaw i dystio dros ei gymeriad, dywedai yr yuadon y clywsent ddigou eisoes am dano, oddiwrth weiuidog y plwyf, fel na fynent glywed dim yn ychwaneg. ' relly, fouedd- igion,' ebe Nelson, ' mi a welaf nad oes i ddyn a elwir yn Fethodist, na chyfraith na chyfiawnder : ' a chan gyfarch y ficer wrth. ei enw, efe a ddy- wedai, 'Pa beth a wj'ddoch chwi am danaf sydd ddrwg? A phwy y gwuaethum gam ? Neu i bwy sydd arnaf ddyled na allaf ei thalu ? ' ' Nid oes genych, yn y golwg, ddim moddion i gael bywiolaeth,' oedd yr ateb. I hyn yr atebodd, ' Yr wyf mor abl i gael fy mara trwy lafur íy nwylaw ag un dyn 0 fy ughrefft yn Lloegr, a hyny a wyddoch chwi.' Ond ofer ocdd pob ymliw ; ymaith y bu raid iddo fyned, ac yu Bradford, rhoddwyd ef mewn carchardy, trwy orchymyn yr ynadon, yu yr hwn, nid oedd cymaint a chareg i eistedd arni."

" Yr oedd rhyw druau arall gydag ef yn y sefyllfa annedwydd hon, yr hwn a allasai newynu i farwolaeth am ddim a oíalai yr yuadon, oni bai dwyn bwyd iddo gan gyfeillion John Nelsou. Dangoswyd i Nelson lawer o gared- igi'wydd gan y rbai a'i hadwaenai, a chalonogid ef i barhau yn fifyddlawn gau ei wraig ei hun, yr hou a ddywedai wrtho, am beidio a rhagofalu am dani hi a'r plaut, gan y gwyddai yr edrychid ar cu hol gan Hwn a borthai gyw- iou y gigfran pan y bo eisiau arnynt.

" O Bradford cymerwyd ef i Leeds, a thrwy goelbren, rhoddwyd ef i ryw un o'r cadpeniaid ; ond ni fynai Nelson fod yn fUwr. Yr oedd Uadd dynion yn wrthwyneb i'w gydwybod, ac ni chynierai arian y brenin : am hyny anfonwyd ef, a'i ddwylaw yn rhwym, i'r carchar yn ei ol. Cyualiwyd prawf-holiad milwraidd aruo, a chynygiwyd arian iddo drachefn, oud ni fynai eu derbyu. Anfonwyd ef i'r llety milwraidd, gyda dillad milwr i'w rhoddi am dano ; yntau a ymostyngai i'w gwisgo, ond yu ardystio na halogai mo'i gydwybod trwy eu defnyddio er dim. Bu farw ei gyfaiU gau y driniaeth a gafodd, oud er niaint y creulonder a gyfarfu Nelson ag ef, rhoddwyd iddo allu i ddal y cwbl heb gael Uawer o niwaid i'w icchyd, na phcri llwfrhad i'w ysbryd. Yn mhcn

134 HANESIAETH Y SIROEDD, [dOSB. IV.

amser, clywodd larllps Huntingdon am ei garcliariad, a chafodd ymddyddan â Duc Marlborough, yr liwn oedd yn swyddog uchel yn y fyddin, ac wedi adrodd iddo yn deg yr amgylchiadau, hi a gafodd addewid y goUyngid ef yn rhydd ; yr hyn hefyd a wnaed ar yr 28ain o Orphenhaf, yn y fl. IT^S.

Gwelir wrth y dyfyniad uchod mai yr un gyffelyb driniaeth a dderbyniai Methodistiaid Lloegr a'r eiddo Cymru, ac mai oddiwrth yr un pleidiau y deiUieut, a'r rhai ffyrnicaf o honynt oedd athrawon cyflogedig yr eglwys wladol. Ond yn yr enghraifft uchod, nid oedd John Nelson prin mor ymos- tyngol ac ystwyth ag oedd Morgan GriíRth. Yr oedd yn feddiannol ar helaethach gwybodaeth am y byd a'i arferion, ac ar ysbryd mwy gwrol i wrthsefyll ei ymosodiadau. Digon, pa fodd bynag, ydyw yr enghraiö't uchod i ddangos nad oes dim yn hanes Morgan Griffith na allai fod yn wir, gan mai y fath a ddarluniwyd ydoedd ansawdd yr amseroedd hyny.

HuGH Thgmas. Yr oedd y gŵr hwn, yn gystal a Hugh Griffith o Aber- daron, yr hwn a ffôdd i wlad Mon, fel y crybwyllwyd o'r bh\en, yn arfer cynghori ei gymydogion ; ac yn agored i'r un erlidigaeth a Morgan Griffith ; ond fe gafodd Hugh Thomas egwyl i ddianc o Leyn i ardaloedd Caernarfon a Llanberis ; a thrwy hyny ysgoi y ddrychin a ddisgynodd ar goryn Morgan Griffith. Ymddengys, pa fodd bynag, y bu ei ffoedigaeth yn ofid iddo, i raddau mwy neu lai, dros ei oes, am na safasai ei dir yn wrol fel y gwnaethai Morgan Griffith, a dyoddef y canlyniad, bydded y peth a fyddai. Meddai ef ei hun wrth yr un gŵr ag a ysgrifenodd y byr-hanes ucliod am Morgan Griffith;—

" Fe wynebodd Morgan Griffith y brofedigaeth yn achos ei Arglwydd yn wrol ; y mae yn friw i'm calon i, hyd heddy w, am i mi ogwyddo neu ysgoi oddiar ei ffordd, yn rhy debyg i'r hyn a wnaethai Jonah gynt. Pan roddwyd y gwŷsion allan i ddal y crefyddwyr, mi a aethum at gyfaiLl i mi, yr hwn a ddywedai wrthyf, os gallwn ond ffoi i'r Cwm-glas, amaethdy yn Llauberis,* ei fod yn credu y byddwn ddiogel. ' Mi fum i yno,' ebe y cyfaill, ' yn lladd gwair y ddau haf diweddaf ; yr haf cyntaf, pan ofynais i'r teulu a ganiataent i mi ddarllen pennod a gweddio yn y teulu, ni chawn ganddynt un ateb, gan fath o gywilydd, am na welsent hwy erioed y fath beth ; ond mi a anturiais wneyd, a gwelais yn fuan effeithiau da yn canlyn. Anfonwyd am danaf yno yr haf diweddaf, ac ar ol swper bob nos estynid y Beibl i mi, gyda phob parodrwydd ; ac y mae arwyddion duwioldeb ar y teulu. Ffô yno ; a dywed mai myfi a'th gyfarwyddodd atynt.' Felly, mi a gyraerais gynghor fy nghyfaill, ac mi a aethum i'r Cwm-glas,

Wedi i mi gyrhaedd i'r Ue, a dywedyd y gwir am fy helynt, dangosasant bob parodrwydd i fy uiogelu, eto hawdd oedd canfod arwyddion o ofn, rhag eu dyfod i ryw benbleth o'm hachos. Yn y cyfwng hwn, penderfynwyd cyweirio gwely i mi mewn ogof yn y Wyddfa, ac i mi aros yno ddydd a nos, ac i'r bugail defaid ddwyn bwyd i mi gydag ef, pan ddeuai i fyny at y defaid

* Yr oedd tua 30 milldir rhwng Aberdaron a'r C\vmglas.

PEN. I.] SIR GAERNAllFON, 135

bob dydcl. Biim yn yr ogof wythnosau ; yn mhen rhy w amser, cefais gauiatâd i ddyfod i'r i gysgu y nos, a íìoi i'r ogof ar doriad y dydd, i lechu hyd yr hwyr ; ac o'r diwedd, gan gredu fod yr ymofyniad am dauaf yn marweiddio, cefais ganiatâd i aros yn y y dydd hefyd.

" Yr oedd fy ngwraig yr hoU amser hwn yn anadnabyddus o fy helynt, a minau yr un modd o'r eiddo hithau, a chan fod hiraeth am ei gweled, bellach, ymron a fy llethu, mi a benderfyuais fyned adref. Cychwynais o'r Cwm-glas ychydig cyn y nos, fel y gallwn gyrhaeddyd fy nghartref yn blygeiniol, a thra y gorchuddiai y tywyllwch y ddaear ; oblegid yr oedd arnaf fwy o ofii fel yr oeddwn yn nesâu i fy mro fy hun, i neb fy ngweled, ac achwyn arnaf. Felly a fu : mi a gyrhaeddais adref cyn dydd, a llechais yn fy ngwely dranoeth. Pan ddaeth y nos drachefn, gan yr ofnwn aros yn hwy yn fy nhŷ fy hun, rhag i'r am danaf fyned aUan, myfi a chyfaill i mi a wnaethom fwthyn, sef twU mewn clawdd pridd eithinog, yn agos i'm tŷ. Yr oedd yr eithin yn cuddio genau neu ddrws y twU, fel na eUid yn hawdd ei ganfod, tra y geUid goblygu yr eithin yn hawdd i roddi mynedfa i mewn ac aUan.

" Gan nad oedd gan fy ngwraig fodd i fy nghadw yn yr ymguddfa yma yn segur, ymosodais at wau rhwydau bychain at achosion teuhiaidd, a'r wraig a'u cymerai o amgylch i'w gwerthu, neu i'w newid am fwyd. Mi a ftim yn Uechu yn y clawdd hwn dahn o amser. Ar ol rhyw dymhor, antur- iais fyned i'm i gysgu y nos, a chiHo i'r ymguddfa yn ystod y dydd ; ond o'r diwedd daeth son i'r wlad fod y rhai a ddaUesid gyda Morgan Griffith i gael dychwelyd ; ac feUy yn raddol y bu, a miiiau a gefois fy rhyddid."

Mae yr hanes uchod ar hiwcr cyfrif yn ymddangos yn anhygoel. Anhawdd genym ni, y rhai ydym wedi ymgyneíîno û rhyddid crefyddol dros ein hocs, ac wedi gwcled Mcthodistiaeth yn ddyrchafedig yn y wlad, gredu y gaUai neb ymddwyn mor greulawn tuag at eu cyd-ddynion. Clywsom, mae'n wir, am greulonderau iiabyddion, ac uid gormod a fuasai coeUo y fath crchyll- bethau am danynt hwy ; oud fod Protestaniaid yn gwueyd hyu, fod gwŷr yu proflcsu sêl dros Eglwys Lloegr, yn gaUu gwneyd hyn, sydd yu ymddau- gos ymron yn aiighredadwy. Ond am yr amgylchiadau a goflawyd uchod, nid oes genym un Ue i'w hamheu, er mor erchyU. Ysgrifenir yr hanes gan y gŵr a adwaenai Hugh Thomas, a chafodd yr hysbysiad o'i enau ef ei huu.* Mae E,obert Jones hefyd ar fyr eiriau yn cyfeirio at yr un amgylchiadau,f yr hwn yn ddiau oedd adnabyddus o Hugh Thomas. A phan y cofiwn y fath dywyllwch o anwybodaeth oedd y pryd hwnw yn gordoi yr hoU wlad, a pha mor gryf oedd rhagfarn pob graddau yn erbyn y Methodistiaid, y rhai a gy- huddid gan rai, ac a giedid gan lawer, o fod yn euog o ddrygau anfad, yn enwedig o geisio dadymchwel Uywodraeth a chrefydd y wlad, nid oes dim achos edrych ar yr hanes uchod, íel pe byddai gwedd anghredadwy arni.

Pe fu Hugh Thomas byw i fyned yn hcn iawn. Nid oes genym nemawr o

* Gwel Gfjleuad Cymrü am Awst, 1823. f Gwcl Dri/ch i/r Amseroedd, tudiil, 110.

136 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

son am ei dalentau fel pregethwr, ond ymddengys ei fod yn adnabyddus fel dyn tyner iawn ei gydwybod, ac yn rhagori mewn duwioldeb. Crybwyllir un amgylchiad am dano, yr hyn a ddengys y parch mawr oedd ganddo i enw Duw a'i addoliad. Dygwyddodd unwaith fod ei gyhoeddiad ef a'r eiddo Hugh Griffith, y naiU o Leyn a'r Uall o Pôn, tybygid, i fod i bregethu yn I Iwyn-celyn, Llanberis, ar yr un dydd ac awr. Damweiniodd fod Ilugh Griiììth wedi cyrhaedd y Ue o flaen ei gyfaill, a dechreuodd yr oedfa ryw gymaint cyn i Hugh Thomas ddod i'r fan. Ond ar waith yr olaf yn dynesu at y tŷ, efe a glywai sain cân ; yn y fan, ymdeimlai fel gŵr yn ngŵydd Duw, tynai ei het oddiam ei ben, a cherddai yn araf, ac yn ben-noeth tua'r lle, yr hyn oedd encyd o fí"ordd oddiwrth y tŷ. Gwyddai yn dda nad oedd yn y Ue ddim ond cyffredin, a chynuUeidfa fechan o bobl dlodion, eto fe ystyriai fod yno enw Duw a'i addoUad, a theimlai yn rhwym i ddangos pob parch iddo. Gresyn na byddai gradd mwy o'r gwylder hwn yn aros hyd heddyw, ac yn meddiannu pcb gradd o ddynion wrth ddyfod i Dduw.

Tua diwedd ei oes, yr oedd ei lygaid wedi paUu, fel na aUai ddarUen, eto ni roddai heibio gynghori ei gyd-ddynion, eithr efe a archai i araU ddarUen pen- nod, ac o'r bennod a ddarllenid y cymerai achlysur i draethu ei neges dros Dduw wrth y bobh Dywêdir hefyd ei fod ef yn hynod mewn gweddi.

Charles Matic. Yr oedd y gŵr hwn yn un o hen bregethwyr Lleyn, er na aUwn sicrhau yr amser y dechreuodd bregethu gyda dim manyldra, nac ychwaith yr amser y bu ef farw.

Cyfrifid y gŵr hwn yn helaethach ei ddoniau na'i gyd-lafurwyr, a gelwid ef yn bregethwr, pryd yr ystyrid y UciU yn grjnghorícyr . " Dilmnwyd ef," meddai Eobert Jones, " yn moreu ei ddyddiau ; yr oedd yn ŵr o synwyrau cryfion, ac yn gadarn yn y wir athrawiaeth, a chanddo ddoniau eglur i dra- ddodi ei genadwri ; yr oedd yn barchus yn ei ardal, yn dderbyniol gan yr eglwysi, a'i rodiad yn addas i'r efengyl, ac yn ddeffrous, yn enwedig yn ei ddyddiau olaf." CoUodd y gŵr hwn hefyd ei olwg yn mheU cyn marw, eto parhäi i bregethu feUy ; ac ymddangosai yn y pulpud, a'r Beibl yu agored o'i flaen, mor siriol a phe buasai yn gweled. Bu yn orweddiog am gryn dym- hor cyn iddo farw, ond iradd a nefolaidd oedd ei ysbryd. Yn y sefyUfa gystuddiol yma oedd arno, cyfansoddodd amryw o hymnau, ac yn mysg eraiU enwir yr un canlynol fel ffrwyth ei fyfyrdodau.

Teg wawriodd arnom ddydd,

A welwyd gynt trwy fíydd, Gan rai sy'n awr o'r cystudd maw yn rhydd :

Ac os oedd dylcd arnynt hwy

Foliannu'r Oen, a'i farwol glwy', "Mae'n dyled ni genedloedd, fil miloedd foli mwy.

JoHN Griffith Ellis. Yr oedd y gŵr hwn yn mysg y cyntaf o bregethwyr sir Gaernarfon, ac yn scren o'r fath ddysgleiriaf yn eu pUth. " GeUir dywedyd," meddai Eobert Jones, " na chynysgaeddwyd neb yn Ngwynedd, yn morcu y diwygiad, â'r fatli gyflawnder o ddoniau goleu,

PEN. I.] SIR GAEKNARFON. 137

iraidd, a gwlitliog, ag efe ; yr oedd Gogledd a yn sychedu am ei weinid- ogaeth ; a pha ryfedd ? canys byddai efteithiau grymus a thoddedig yn dilyn ei genadwri." Sonir hyd heddyw am bregeth o'r eiddo yn nghym- deithasfa y Bala, ar y geiriau yn Zech. 13. 7, "Deífro gleddyf yn erbyn fy mugail, &c.," fod rhyw arllwysiad anarferol wedi disgyn ar y gynulleidfa, fel pe torasai cwmwl arnynt ; a'i fod yntau ei hun, gan rym yr ysbrydoliad, wedi Uesmeirio. Dylynid ei weinidogaeth yn achlysurol â'r fath rymusder, fel pe gollyngasid argaeau mawrion, ac yr ysgubid pob peth o flaen y cenllif rhyferthol. Ond y mae yn resyni ychwanegu ddarfod ci gloffi ef yn ei yrfa gyflym. Daeth cwmwl tywyll dros y goleuad dysglaer. Syrthiodd y Sam- son hwn i ddwylaw ei elynion, collodd ei wallt, difuddiwyd ef o'i nerth, a bylchwyd ei weinidogaeth dros flynyddau. Y ddiod feddwol a'i maglodd, ac a'i dyrysodd. Pwy na theimlai wŷn o ymddial arni am hyn ! " Llawer a gwympodd hi yu archolledig ; íe, gwŷr grymus lawer a laddodd hi." Gail- wn ddywedyd am dani fel y dywedodd y Philistiaid am Samsou, " yr hwn oedd yn anrheithio ein gwlad ni, ac a iaddodd lawer o honom ni." Eithr fe adferwyd John Griffith Ellis dalm o amser cyn ei farwolaeth, ond er iddo gael ei adferu o ran ei ysbryd, ac i'w le a'i swydd, ni fu cyftelyb arddeliad arno byth ar ol hyny.

Heblaw y rhai a enwyd, fe gyfododd yn Lleyn, yn gynar ar y diwygiad, fintai gref o gynghorwyr, megys : Evan Eoberts ; Eobert WiIIiams, Drewen ; Griffith Prichard a'i frawd ; Charles Prichard ; John Hughes ; Eobert Owen, Tŷ-gwyn ; Eichard Jones, Llanengan ; Eichard Dafydd ; Edward Eoberts ; Daniel Eoberts ; Johu Jones, ieu., Penrhyn ; William Daniel ; Eobert Owen, Bryn-gadfan ; Eobert Owen, Derwen-uchaf. Yn Arfon ac Eifionydd hefyd yr oedd rhai cynghorwyr wedi codi yn yr amser boreu hwn, megys : Eobert EIlis, Cwm-glas, Llanbcris ; Eichard Hughes, Brynengan ; Thomas Griffith, Waunfawr ; William Dafydd, Llanllyfni ; Thomas Evans, Waunfawr. Pe fu farw pedwar o bregethwyr y wlad hon, heb i Eobert Jones, Ehoslan, eu gweled na'u clywed, sef,

EoBERT Ellis o'r Cwm-glas. Ee ddichon mai ymddyddanion y pladur- wr o Leyn, y soniasom am dano, neu yr eiddo Hugh Thomas, pan y bu yn y fro yn ymguddio, a fu yn fendithiol i hwu. Nid oes nemawr ddim o'i hanes ar gael.

EvAN Dafydd. Ni adnabu Eobert Jones erioed mo hwn chwaith; ond fe ddeallai ei fod yn ŵr amlwg iawn mewn crefydd. Wedi cael ei ddeíFroi am ei gyftwr ei hun, pan y ca'i ychydig o'i gymydogion yn nghyd, fe ddar- Ucnai y Beibl, a Ilyfrau da eraiU iddynt, gan eu cynghori yn ddwys a difrifol i fí"oi rhag y Uid a fydd. Llawer taith a gymerth o fro Caernarfon i Leyn i wrando pregeth neu ddwy.

MoRGAN Griffitii ocdd y trydydd, am yr hwn y soniasom eisoes, ac EvAN EoBERT ocdd y pedwerydd. Gwnaeth yr olaf hwn a allodd o blaid teyrnas y Cyfryngwr. Nid hir y bu ar y maes, eithr galwyd ef yn gynar i'w orphwysfa.

138 HANESIAETII Y SlUOEDD. [üOSU. IV.

Gan focl yr hybarcli liobtnt Jones yn adnabod y rhai a ganlyii, ac wedi rlioddi arddrych hyr o'u nodweddau, a chan nad oes ar gael ond ychydig o'u hanes, hebk\v a draddodir i ni ganddo ef, nid wyf yn gwybod y galhìf wneyd yu gyíìawnach â'r daiilenydd, na rhoddi y darluniad o lionynt a geir yn "Nrỳch yr Amserocdd," a liyny, oddicithr ychydig eithriaid neu chwancg- iadau, yn ci eiriau cymhwys ef ci hun.

Ruhert Williams oW Drewen. Nid oedd y gŵr Lwn ond gwaolaidd o ran ei iechyd; eto ni fu na segur na diffrwyth i alw pechaduriaid at Grist. Yr oedd ei agwedd sobr, ei symh-wydd, a'i hirieidd-dra, yn brawf andwg o'i dduwiohleb.

Grijjílh Pritchard, a CJtarles Fritcìiard ei frawd. Nid oedd doniau na gwybodaeth y brodyr hyn mor ardderchog a rhai o'u cydlafurwyr, eto hwy a Avnaed yn fendith i lawer, a chynorthwywyd liwy i ddefnyddio eu talentan bychain yn ddiwyd ac yn ffyddlon hyd ddiwedd eu hoes.

John Ilughes. Gŵr isel yu y byd oedd hwn, ond o gymeriad diachwyn arno; ac os na chafodd ond raegys un dalent, ni chuddiodd hòno yn y ddaear, ond defuyddiodd hi yn ffyddhiwn dros ei Arglwydd.

Rohnt Owen, oW Tŷ-gicyn, oedd gynorthwyol i achos yr Arglwydd, yn ol y doniau bychain a dderbyniodd, tra y bu byw.

Richard Jones, Llanengan. Ni wnaeth ond ymddangos dros enyd fechan, a machludo yn angau.

Richard Dafydd. Dywedir mai lled anfedrus oedd y gŵr hwn o ran doniau i draethu ei feddwl, eto y byddai ar amserau yn cael ei godi yn mhell uwchlaw iddo ei hun, ac yn cael ei wisgo ag arddeliad anghyffredin, tuhwiit i bob dysgwyliad, ac i'w wcinidogaeth fod yn fendithiol i lawer.

WilUam Daniel, o gymydogacth Saethon-bach, yn Lleyn, lle y mae capel y Nant yn bresenoh Nid ocdd y gwr hwn mor enwog am ei ddoniau ag oedd am ei ffyddlondeb a'i symledd. Ni chlybuwyd iddo dori un cyhoedd- iad erioed, ond fc gadwai y cylch yr ocdd yn troi ynddo yn ddifwlch. Arferai bregethu â'i lygaid yn nghauad; ac ni allodd orchfygu yr arfer hon ]iyd ei ddiwedd.

Edward Roberts, gerllaw Pwllheli. Yr oedd cyraeriad y gŵr liwn yn uchel fel Cristion diargyhoedd, ond nid oedd ei ddoniau yntau ond byrion, ond efe a fu ffyddlawn dros ei Feistr i wneuthur yr hyn a allai.

Daniel Roherts. Galwai rhai y gŵr hwn, Daniel Roberts y gôf, o Leyn. Y"r oedd y hachgen hwn, meddant, wedi derbyn doniau ystwyth, iraidd, ac o dymher hynod o ennillgar. Aetli i America, ac yno y bu efe farw.

Robert Owen, Bryn-y-gadfan, oedd yn rliagori ar hiwer o broft'eswyr cref- ydd, raewn symlrwydd duwiol; a'i yraddyddanion yn gyffredin a fyddeiit ara bethau buddiol. Gŵyrodd yntau i gryn raddau at deulu Mr. Harris, ond adferwyci ef o'r amryfusedd liwn yn lìwyr, amser maith cyu iddo farw. Llcd gyuiysglyd oedd ei olygiadau ar rai o destynau y Beibl, ond nid mewu dim hanfodol i wir grcfydd.

Uichard Ilughes, o Fryn-engan. Ymddcngys fod y g\vr hwn wcdi kitiiio

PEN. I.] SIR GAERNARFON. 13Í)

mwy, trwy Ogledd a Deheudii' Cymru, na Uawer o'i gyd-gyngliorwyr. Yr oedd ganddo galondid a gwroldeb lielaeth, er nad oedd ei ddoniau gymaint felly, a pharhaodd i lafurio yn egniol a diflino hyd nes y goddiweddwyd ef gan angau. Anrhydeddid ef weithiau ag oedfaon anarferol eu gi-ymusder a'u heífeithiau. Bu farw yn nghanol ei ddyddiau.

Yr oedd y cynghorwyr uchod gan mwyaf oll yn cyfaneddu Lleyn, a bernid yn well rhoddi y bras-ddarluniad o honynt oll gyda'u gilydd yn y modd uchod. Fe ddaw hanes rhai eraill yn Aifon dan sylw pan y crybwyllir am yr ardaloedd y cyfaneddent ynddynt.

Ni a grybwyllasom o'r blaen fod Methodistiaeth wedi cychwyn ei yrfa yn y wlad hon ar ddyfodiad liowel Harris gyntaf iddi, neu yn hytracli ar ddy- fodiad Jenkin Morgan iddi, tur'r íl. 174-1. Y raanau y pregethodd Mr. Harris ynddynt y tro hwn oedd yn Nghisfryn-fawr, lle yr oedd WiIIiam Pritchard yn byw y pryd hwnw. Yr ail lle y pregethodd ynddo oedd Ty'u Llanfihangel, gerllaw Ehyd-y-clafdy. Y trydydd lle oedd Rhydolion, yn agos i Lanengan, ac yn Mhorth-yu-Ileyn, yn agos i Edeyrn. Nid oes son am nemawr o eífeithiau wedi dylyn ei bregeth yn Ehydolion; yii hytrach, dywedir mai oedfa Iled gymylog ydoedd, heb nemawr o arddeiiad arni, o leiaf mewn cydmhariaeth i'r rhai blaenorol; ac nid oes son am effeithiau yr oedfa olaf a gadwodd. Yn fuan gyda hyn y cododd amrywiol gynghorwyr yn y wlad, i gynorthwyo Jenkin Morgan yr ysgolfeistr, megys Llorgan Griífith, Hugh Thomas, John Griffith EIlis, ac eraill, y rhai y crybwyllasom eu henwau eisoes. Y'r oedd y pregethu yn y tymhor boreu hwn yn ansef- ydlog iawn o ran y Ueoedd, ac yn anwastad iawn o ran amserau. Nid oedd eto yr un capel wedi ei godi, ond fe bregethid gan amlaf mewn tai, ac allan yn y prif-ffyrdd a'r caeau. Ac er ei bod yn awT yn anhawdd olrhain my- nediad yr achos yn mlaen gyda dim manyldra, yr oedd y cynghorwyr bych- ain yn gwneyd a allent i wasgar arogledd y wybodaeth am Dduw ar hyd cymydogaethau Lleyn ac Eifionydd, ac ambell un yn anturio yn achlysurol i Arfon. Yr oedd goleuni ysgrythyrol yn y modd yma yn cael ei wasgar. Yr oedd cyffro yn cael ei godi yn mysg y werin ddiofal yn ngliylch eu hachos tragwyddol; ac i'r graddau yr oedd llafur y dynion dirwysg hyn yu Ilwyddo i hyny, i'r un graddau yr oedd cyft'ro gwrthwynebol yn codi yn mhlith yr offeiriaid a'r boneddwyr. Nid oedd un gynulleidfa sefydlog o ymneillduwyr i'w chael eto yn un man ond yr un ag oedd yn MhwIIheli, dan fugeiliaeth gŵr duwiol o'r enw John Thomas. Ag ef, gan hyny, yr ymunai Ilawer o grefyddwyr ieuainc yr ardaloedd, yr hyn a dynodd gawod o erlidigaeth ftyrnig ar y gynulleidfa hòno. Teflid cerig trwy ffenestri y capel mewn modd ag a beryglai fywyd y bobl oddifewn. A chan yr ofnai yr erlidwyr ruthro ar y gynulleidfa, pan yn yr addoldy, am ei fod wedi ei drwyddedu yn ol y gyf- raith, dysgwylient am y ti-ueiniaid i ddyfod allan, gan gynllwyn am dauynt ar eu ffordd adref, a'u IlUchio a'u baeddu mewn modd arswydus a ditbu- garedd iawn.

Ond er i ami'yw o'r crcfyddwyí icuainc hyn, y rhai a ddcffrowyd trwy

140 HANESIAETH Y SIEOEDD. [dOSB. IV,

weinidogaeth Howel Harris, a'r hen gynghorwyr Methodistaidd, ymuno dros amser, ac o herwydd cyfleusdra, â'r eglwys Annibynol yn Mhwllheli ; eto ni fu hyny yn barhaus, Bu farw y gweinidog duwiol ag oedd yno ar y pryd, a dylynwyd ef gan un Mr. Eichard Thomas, tua'r fl. 1743, gŵr o ryw barth o'r Deheudir. Dywedir nad oedd y g\\T hwn mor enwog am ei dduwioldeb a'i ragflaenydd, er ei fod yn llawn mwy ei ddawn ; achwynir hefyd nrno nad oedd ei olygiadau ar athrawiaeth yr efengyl mor glir ac iachus ag y buasai da; a bod ysbiyd y byd wedi ei lyncu yn ormodol i'w fasnach a'i ofalon. Nid yw yn annhebygol bod yr ystyriaeth o hyn yma wedi parotoi meddyhau y dychweledigion Methodistaidd i ymadael ; gan ymsefydlu yn fân-gymdeithasau ar hyd y wlad, yn ol y cynghor a roddid iddynt gau Howel Harris.

PENNOD II. PAEHAD HANESIAETH CYNTEFIG Y SIR.

CYNWTSIAD :

PRIF BREGETHWYR Y METHODISTIAID YN XGWYNEDD YX Y TYMHOB BOREU HWN— DYFODIAD DANIEL ROWLANDS I'R WLAD YX Y FL. 1747— CAPEL TY- MAWR, BRYNCROES— CHARLES MARC— PREGETHU YN ARDAL PORT-YN-LLEYN AC EDEYRX— CAPELAU UWCH-Y-MYNYDD A CHLYNOG LLAXBERIS— CYHOEDD- lAD DAFYDD MORRIS YX Y FL. 1771.

O'u amser hwn, pryd y gallwn edryeh ar Fethodistiaeth, nid Medi dechreu, ond wedi ymgorfí'ori gradd, hyd ddyddiau Eobert Jones, Ehoslau, yr oedd tûag ugain mlynedd. T Uafurwyr ar y maes yn ystod y tymhor hwn, oeddynt y rhai a nodwyd eisoes, neu y rhai henaf o honynt. Yn mysg y rhai blaenaf, fel y dywedwyd, o ran dawn a gweinidogaeth, oedd Charles Marc, a John Griíhth EUis. Yr oedd amryw wŷr o'r Deheudir, ac ambell uu o'r Gogledd, yn cymysgu eu llafur ar hyd y wlad gyda'r brodyr cartrefol hyii. Dysgwyl- iwn fod David Wüb'ams a John Belcher yn ymweled yn achlysurol â'r sir ; yr un modd y gwnai John Harris, sir Benfro ; William Jones, Llancothi ; a Williain Eichard Llwyd, Llangeitho. Yr oedd Eichard Tibbot a Lewis Evau, sir Drefaldwyu, hefyd yn mysg y cynorthwywyr. Yr oedd Dafydd Jones, Adwy'r-clawdd, y pryd hwn ar y maes, ac yn arfer teithio y gwledydd. Yr oedd y pregethwyr a nodwyd yn cael eu hystyried yn fwy eu doniau na Uawer o'u brodyr, ac yn arfer teithio allan o'u gwlad eu hunain. Heblaw y preg- wjT diurddau hyn, ymwelai ofl'eiriaid y Deheudir â'r wlad hon, y naill neu y llall yn fynych, sef y Peirch. D. Eowlands, WiIIiam WiUiams, Peter Williams, ac yn achlysurol Howel Davies, sir Benfi'o. Ee fyddai efteithiau mawrion yn fynych yn canlyn eu gweinidogaeth, nes adfywio y mân-eglwysi gorthrym- edig, a'u Iluosogi yn ddirfawr ; am hyny, edrychid am eu dyfodiad i'r wlad gyda sirioldeb ac an^ddfryd mawr, fel oíferynau a fendithid yu ueillduol gan Ai'glwydd y cynhauaf.

Yn y fl. T.747, meddir, yr anturiodd Daniel Eowlands gyntaf i sir Gacr- narfon. Yr oedd wedi bod yn pregethu yn rymus er ys agos i ddeuddeng

PEN. II.] SIU GAERNAUrON. 141

mlynedd cyn hyn, ac wedi ei fendithio i raddau anghyífredin. Yr oedd yr erlid yn drwm yn y wlad. Pan ddaeth Eowlands i Benmorfa, y lle cyntaf yn y sir y gwnaed sylw o hono, gan yr erlidwyr, bygythiwyd ef yn chwerw, gan sicrhau iddo, os yn mlaen y mynai fyned, y byddai ei esgyrn yn ddigon mûn i'w rhoddi mewn cŵd cyn y dychweLai. Eto yn mlaen yr aeth i Leyn ; lle y cyfarfu ag ycliydig gyfeillion siriol a charedig. Gan ei fod yn offeriad urddedig, ac yn gwasanaethu, hyd yn hyn, o fewn yr eglwys sefydledig, tybiwyd mai uid anfoddhaol fyddai gan y clerigwyr ganiatâu iddo bregethu yn y llanau. Felly ceisiwyd iddo gael pregethu yn Llan Folldeyrn, ond ni Iwyddwyd. Safodd yntau, gan hyny, ar gareg farch, wrth borth y fynwent, a phregethodd i dorf luosog o bobl, ar Jer. xxx. 21, " Canys pwy yw hwn a Iwyr roddodd ei galon i nesâu ataf fi ? " Oddiwrth y gair fe draethodd am hcyr ymroddiad Crist i waith y prynedigaeth, gyda nerth a goleuni anar- ferol, nes i lawer yn y gynulleidfa dori allan mewn wylo a moliannu i'r fath raddau na aUai fyned rhagddo. Bu côf am yr oedfa hon gan lawer dros eu holl ddyddiau.

Yu y tymhor hwn, sef 1744-52, y dychwelwyd Siân Lewis o Eadryn, a Miss (üuines, fel y soniwyd* o'r blaen yn y gwaith hwn, trwy weinidogaeth un o offeiriaid y Deheubarth. Y Miss Guines hon a roes le i adeiladu capel Tŷ-mawr, Bryn-croes, yn y fl. 1753. Yr ymddiriedolwyr i'r capel hwn oeddynt y Parch. Daniel Eowlands, Llangeitho ; John Belcher, Eglwys-llan, sir Forgan- wg ; David WiUiams, Llys-y -fronydd ; Charles Marc, Bryn-croes, sir Gaernar- fon ; Evan Eoberts, Llangwnadl ; John Griffith, Tydweiliog. Ymddengys fod yr addoldy hwn wedi ei godi yn y fan y gwnaed ar y pryd, oblegyd mai yno yr oedd y tir i'w gael, ac nid oblegid fod cynulleidfa yn arfer ymgynull yn y Ue ; gan y dywedir, y byddid yn pregethu mewu gwahanol dai anedd, Ue bynag y rhoddid derbyniad. CynaUent eu cyfarfodydd eglwysig mewn yn Ehos-hirwaun, yn agos i Dref-graig, a hyny yn ddirgel yn y nos, rhag ofn yr erUdwyr. Yr oedd Charles Marc yn byw yn y gymydogaeth hon, ac yn arfer pregethu draw ac yma ar hyd y fro. Ei gydlafurwyr oeddynt Hugh Thomas, Aberdaron ; John Griffith EUis, a John Jones, Llaniestyn. Bu gorfod i Charles Marc ffoi, meddir, noson ei briodas, gan iddo ddeaU fod haid o erUdwyr wedi penderfynu dyfod yn ddisymwyth, ac ymosod ar y ; ond trwy iddo gael hysbysiad prydlawn o'u bwriad, diangodd ef, a siomwyd hwythau. Nid oedd nifer yr eglwys a ymgasghai i'r Tŷ-mawr ond bychan,'a'r nifer hyny yn wasgaredig iawn ar hyd Aberdaron, Llaniestyn, Bottwynog, a manau eraiU.

Yr oedd cymdeithas eglwysig yn dechreu ymgrynhoi y pryd hwn yn Ehyd- y-clafdy. Dywedir fod y gymdeithas eglwysig yn bod yma cyn adeiladu y capel; a bod y capel wedi cael ei adeiladu beUach er ys can' mlynedd, ac mai yn hen Tŷ-hwnt-i'r-afon y cedwid y cyfarfod eglwysig cyn adeiladu y capel.

Yr oedd pregethu boreu yn ardaloedd TydweiUog, Lonfudr, Edeyrn, a

* Tudal. 319, Cyf. I.

142 HANESIAETII Y SIROEDD. [dOSU. IV.

Nefyn. Fe ddaeth Howel Harris i'r wlad yn 1741, ac fe ddywedir ei fod wedi yraweled â Pliort-yn-Lleyn y pryd hwnw. Yr oedd gwraig o'r enw Mrs. Wynne yn byw y pryd hwnw yn amaethdy Port-yn-Lleyn. Yr oedd hon yn perthyn i deulu Wynne, Cefn-amwlch, gŵr boneddig yn y gymydog- aeth ; a chan y wraig hon y derbyniwyd Howel Harris i dŷ. Ennillwyd gwraig Mr. Wynne, Cefn-amwlch, at y Methodistiaid ; ac er maint y gwaradwydd cysylltedig â'r amgylchiad, yr oedd Mr. Wynne yn ddigon goddefol i hyny. Ond yn mhen rhyw amser, ac ar ol enciliad Howel Harris oddiwrth y Meth- odistiaid, a'i ymneiUduad i Drefecca, cafodd gwraig Mr. Wynne ar ei meddwl, fel amryw eraill y pryd hwnw, fyned i Drefecca, a chyhuddwyd Mr. Harris o fod yn euog o'i denu yno. Pa faint bymng o sail oedd i'r cyhuddiad yn erbyn Mr. Harris, amlwg yw fod mynediad Mrs. Wynne i Drefecca wedi achlysuro teimladau chwerwon iawn yn erbyn y Methodistiaid yn gyífredinol, ac yn er- byn Mr. Harris yn neiüduol, yn nheulu Cefn-amwlch. Gan fod y teulu hwn yn meddiannu y rhan fwyaf o dyddynod y plwyfydd hyn, yr oedd ar eu Haw achosi cryu Lawer o ddyoddefaint a choUed i'r sawl a ddygwyddai syrthio dau eu soriant, a chafodd y Methodistiaid boreuol brofi hyny.

Nid anhawdd ydocdd cael dynion isel a gwenieithgar, y rhai fyddcnt yn barod, er mwj'u achosion personol, i wasanaethu y gwŷr mawr yn mhob dira. Yr oedd gŵr o'r fath i'w gael yn ardaloedd Tydweiliog a Llaniestyn gŵr y soniwyd ara dano eisoes ; ond nid gyda dim anrhydedd, sef Harri deneu, yr hwn oedd yn ewyllysgar iawn, îe, o hono ei hunan, a pha faint mwy pan y cyílogid ef gan eraiU, i wneuthur pob budr-waith mewn ffordd o greulondeb a thrais. Yr oedd hwn yn gwylio fel gwilliad, pwy oedd yn fwyaf esgeulus o wasanaeth y Uanau, ac yn fwyaf tueddol at y pen-gryniaid, modd y gaUai ddwyn y chwedlau yn gryno i'r boneddigion. Parai y cyfryw wrthwynebiad gryn lawer o anghyfleusdra, anghysur, a choUed, i rai o'r crefyddwyr, er iddo Iwyr fethu yn yr amcan o ddileu Methodistiaeth. Derbynid prcgethu yn y tymhor hwn i ficrm o'r enw Bryngwydd, Ue y preswyUai gwraig grefyddol, ond bu raid iddi gau y drws yn erbyn y pregethu, neu golU y tyddyn, yr hwn oedd eiddo Mr. Wynne.

Yn y tymlior blin hwn, cafodd gŵr o'r enw Hugh Grifíith,* ar ei feddwl brynu tyddyn a elwid Tŷ-mawr, Edeyrn. Yr oedd wedi ei ymlid allan o'r Ue yr oedd, o herwydd ei grefydd, a chafodd y Methodistiaid loches, beUach, dan gysgod crefyddwr ag oedd uchelwr ar ei dir ei hun. Yr oedd pregethu yn y Tŷ-mawr tua'r fl. 1753. Yr oedd hefyd yn Mhen-y-bryn, amaethdy araU gerllaw Edeyrn, hen lanc o'r enw Thomas Humphreys, yn preswylio, yr hwn oedd etifedd y lle. Yr oedd y dyn hwn, meddir, yn rhagori Uawer ar ei oes mewn gwybodaeth, a moesau da. Efe a gyfieithodd Iyfr Gurnal gyntaf i'r Gyraraeg. Daeth yntau i'r Tŷ-mawr i wrando, ac enniUwyd ef i'r heresi newydd ! BeUach, yr oedd dau ddrws yn agored i bregcthu ynddynt, Peu-y-

* Yr oedd y gŵr hwn yn hen daid i'r Parch. Griffith Hughes, Edeyrn.

PEX. II ] S1K OAERNAl?rON. 143

brj'u ii'r Tý-mawr ; ac yn y ildaii dỳ yma, bob yn ail, y parhaodd y pregethu hyd nes y lluosogodd y gwrandawyr, ac y bu raid cael capel.

Codwyd y capel cyntaf tua 80 lulynedd yn ol, gan Hugli Griffith a Thoraas Iluniphreys yn beuaf. Codwyd y capel ar dir Pen-y-bi'yn, a dywedir na wydda'i neb beth oedd y ddau ŵr yn ei wneyd, hyd nes adeiladwyd cryn gyfrau o hono. Mae hen gof-lyfr cyuidcithasfa Gwynedd o fy mlacn, lle y gwelir mai yn y fl. 1775 y gwnaed gweitliredoedd y capel hwn. Fe ddichon fod y capel wedi ei adeiladu dymhor maith cyn gwneyd y gweithredoedd. Yr ymddiriedolwyr oeddynt : Eobert Owen, Tŷ-gwyn ; Robert Jones, Rhoslan ; Hichard Lewis, Madrin ; Charles IMarc, Tŷ-maw-r, Bryncroes ; Eobert Ow-en, Lonfudr; Jolui Jones, Las-ynys. Nid oes amheuaeth uad addohly bychan oedd hwn, a buan y bu raid ei helaethu. Yn y fl. 1S0+, tynwyd ef i lawr, a gwnaed un newydd, ac yn y fl. 1842, fe wnaedyrun sydd yn awr ar gael.

Gadawodd Thomas Humphreys Pen-y-bryn i hen lances o forwyn a fu yn gwasanaethu iddo, gan orchymyn i'r lle fod yn gartref i bregethwyr yn wastadol, gau roi arwydd o hyny raewn raaen-argraff uwchben y drws, sef, " Deuwch i raewn i'm tŷ, ac aroswch yno." Daeth etifeddes Pen-y-bryn ar ol hyn i fod yn wraig i'r Parch. John Jones, Edeyrn, am yr hwn y bydd genym air eto i'w ddyweyd ; yr hwn hefyd a adawodd bedair erw o dir i fod yu gysylltiedig â'r capel^ ac at w^nsanaeth y Methodistiaid, i barhau. Gerllaw y lle hwn yr ocdd John Jones, Cil-llidiard, tad John Jones o Leyn, yn cyfan- eddu. Pe fu hwn, fel y soniwyd o'r blaen, dros ryw dymhor yn Nhrefecca, ac er nad oes amheuaeth am gywirdeb ei grefydd, eto nid oedd ei wybodaeth ond cyfyng, a'i olygiadau ar egwyddoriou ysgrythyrol ond cymysglyd.

ír oedd capel Lhvch-mynydd, Aberdaron, wedi ei godi ychydig o flaen capel Edeyrn, a chapel Pen-y-caerau ychydig ar ei ol ; o leiaf, felly y mae am- ser y gweithredoedd yn dangos. l^r ymddiriedolw^r i gapel Uwch-y-mynydd oeddynt : Harri Prichard, Pen-y-caerau ; Griffith Evan, Hendre ; John Joncs, Eobcrt WiUiam, a Charles Marc o Bryncroes.

Ymddiriedolwyr i gapel Pen-y-caerau oeddynt : Parch. Nathauiel Eow- lands, Parciau, sir Benfro ; Mr. WiUiam Lloyd, Henllan, sir Gaerfyrddin ; Mr. John Pierce, Brynengan ; Eobert Jones, Ehoshan ; Eichard Lewis, Mad- rin ; William Daniel, Llain-ganol ; a WiUiam Jones, Neigwh

Tua'r fl. 1750, meddir, yr adeiladwyd capel Clynnog, sef ychydig o flaen capel Ty-mawr, Bryncroes. A thua'r amser hwn, yr oedd cyfarfodydd misol yn dechreu cael eu cynal yn y wlad hon. Ymddeugys bod gradd o ansicr- wydd yn nghylch eu cychwyniad, gan fod Eobert Jones, yr hwn oedd ar y maes yn fuan wedi hyny, yn auadnabyddus o'u dechreuad, Ee ddywed, pa fodd bynag, mai mewn dau le yn sir Gaernarfon, sef y Ty-mawr, a'r Lôn- fudr, y cynelid hwy. "Nid oedd (meddai yr awdwr hybarch) un cyfarfod neillduol yuddynt y dyddiau hyny; yn unig y pregethwyr (rhyw nifer fechan iawn oeddynt) a ddeuent ynghyd ychydig cyn y bregeth, i drefuu eu teithiau sabbothol dros y mis i bregethu, Yna fe brcgethai un o honynt i nifer fechan o wrandawyr; ar ol hyny ai pawb i'w carirefi. Nid oedd yn y dydd-

144 IIANESIAETII Y SIROEDD. [DOSB. IV.

iau byny neb mwy na'u gilydd wedi eu sefydlu fel blaenoriaid yn mlilith y cymdeitluisau neilldiiol ; ac o lierwydd hyny, am nad oedd neb yn myned tros ei ardal i'r cyfarfod misol, byddai llawer cẁr o'r wlad, amryw o Sab- bothau, heb neb i bregethu. Ac fel yr oedd rhai o newydd yn cael eu cy- mhell i lefaru, a mwy o alwad ara weinidogaeth y gair trwy y wlad yn gyft'- redin, baniwyd yn angenrheidiol i'r cyfarfod misol gael helaethu ei derfynau. A chan nad oedd cyfleusdra i'w dderbyn, na galwad am dano, ond mewn ychydig o fanau yn y wlad, gorfu ei anfon, fel yr arch gynt, o fan i fan trwy y wlad : weithiau mewn pentrefi, a rhai trefydd, ceid cenad i'w gynal gan amryw o'r tafarnwyr, er mwyn yr ychydig elw a gaent oddiwrtho, Diau yn ei gylchdro fel hyn, i'r Arglwydd ei arddel i fod yn feudith i Liwer. Deuai cannoedd i wrando i leoedd cyhoeddus fel hyn, na ddeuent yu agos i bregeth mewn na chapel."

LLANBERIS.

Er mai yn Lleyn y dechreuodd Methodistiaeth gj'^meryd meddiant o'r sir hon, eto nid hir o amser a fu cyn iddo dori allan mewn amrywiol ardaloedd yn Arfon, ac un o'r Ileoedd cyntaf yr ymwelwyd ag ef oedd Llauberis. Nid oedd gwahaniaeth neillduol rhwng y lle hwn ag ardaloedd ereill o'r wlad o ran gwybodaeth a moesau. Yr oedd pob parth fel eu gilydd wedi suddo mewn anwybodaeth o Dduw, ac wedi ymroddi i chwareuon ofer, a champau llygredig. Yr oedd y trigolion o'r bron dan ddylanwad ofergoelion ynfyd, ac yn arfer ymgasglu at eu gilydd ar y nosweithiau i adrodd chwedlau hen a disail. Tr oedd meddwdod a godineb, er cymaint a ddywedir am ddini- weidrwydd yr hen bobl, yn ffynu yn arswydus yn y sir, ac ar y Sabbothau, nid oedd o gẁr bwy gilydd i'r wlad ond perft'aith ddibrisdod arno, trwy chwareuon ofer, ymladd ceiliogod, meddwdod, ac yn aml ymladdau gwacd- lyd. Yn yr agwedd yma yr oedd ardal Llanberis. Nid yw y gymydogaeth hon ond cyfyng o ran maintioli, ac ni allai, cyn agor y chwarelau ynddi, gynwys ond ychydig o drigolion. Amgylchynir hi gan greigiau llymion, a mynyddoedd uchel, ac ja ei mynwes y gorwedda llynoedd dyfnion, y rhai sydd hyd heddyw yn sugno trigolion o bellder byd i ddod i syllu gyda syndod ar ei rhyfeddodau anianyddol, ac i grj'fhau eu natur trwy yfed ei hawyr iachusol. Gan y byddai y Methodistiaid cyntaf, o herwydd tanbeid- rwydd erlidigaeth, yn arfer gochel y trefydd mawrion, ac jti cyfeirio eu hymdrechion tua chilfachau dystaw y mynyddoedd, yr oedd Llanberis yn llanerch tra thebygol o gael ymweliad boreu oddiwrthynt ; ac felly hefyd, meddii', y bu.

Nid oedd digon o sicrwydd pwy a fu yn pregethu gyntaf yu yr ardal hon, hebhiw gweinidogion yr eglwys sefydledig. Sonir am un William Parry, neu "William Harry, gŵr o'r Deheudir, yr hwn, meddir, a fu yma yn y fl. 1733. Nid wyf yn cael dim sail i gredu fod neb o'r fath mor foreu a 1733. Yn y fl. 1742, y mae argoelion fod gŴT o'r enw WiUiam Harry wcùì cael ei anfon gan y brodyr yn y Deheudir i sir Gaernarfon, i gadw ysgol ac i gynghori;

tEN. II.] SIR GAERNARFON. 145

oblegid yr wyf yn cyfarfod, yn nghofnodau Trefeca, â phenderfyniad a bas- iwyd mewn cymdeithasfa a gynaliwyd yn Llanddeusant, Chwefror 8, 1743, fel hyn:

"Bod i'r brawd WiUiam Harri gadw ysgol yn sir Gaernarfon, a chynghori cymaint ag a allo, rhwng oriau yr ysgol, yu y gymydogaeth."

Nid annaturiol oedd fod sylw ar sir Gaernarfon yn nghyfarfodydd y brodyr tua'r pryd hwn. Yr oedd líowel Harris wedi bod yn y sir y flwyddyn o'r blaeu, ac yn ddiau wedi sylwi ar ansawdd amddifad y wlad, ac yn tosturio yn ddwys wrth y trigolion tywyll ac ofergoelus, ac iddo ymofyn a oedd ueb yn mysg y cyughorwyr yn y Deheudir a ymroddai i fyned i'r Gogledd i addysgu y bobl trwy gadw ysgol, a thrwy bregethu, ac i William Harri gytuuo i fyned. Nid oes sicrwydd ai fel hyn y bu, ond nid oes dim annaturiol yn yr amgylchiadau i feddwl mai fel hyn yr oedd, pan y cyfar- fyddwn â'r fath benderfyuiad a'r un a nodwyd, yn cyd-daro i ryw raddau â'r traddodiad sydd yn nghymydogaeth Llanberis. Nid yw bod yr enw yn Parry yn lle Harri o nemawr bwys, gan mai yr un ydynt, ond fod ap o flaen Harri yn cael ei adael allan, Ac nid yw yr amser a nodir yn bwysig chwaith, gan mai chwedl draddodiadol yw y naill, ac ysgrif yw y Uall. Hawdd ydyw, wedi i fwy ua chan mlyuedd fyned heibio, fod wyth neu ddeng mlynedd o wahauiaeth yn dygwydd rhwng y traddodiad a'r gwir gyfrif.

Pa un bynag ai cywir neu beidio ydyw y dyb mai at yr un gŵr y mae cyfeiriad ysgrif Trefeca, a thraddodiad Llanberis, y mae yn ddiamheuol fod rhyw un o'r Deheudir wedi ymweled â'r ardal yn foreu iawn ar Fethodist- iaeth; ie, yn wir, cyn dechreuad Methodistiaeth, osyn y fl. 1733 y bu hyny. Ac os mai yn y fl. 1742 y bu, fel yr wyf yn hytrach yn barnu, yr oedd hyny hefyd ar gychwyniad Methodistiaeth yn Ngwynedd, ac yn ebrwydd ar ol yr ymgorfforiad cyutaf a fu ar Fethodistiaeth yn y Deheubarth. Dywedir hefyd am y gŵr hwn, ei fod yn " gryf o gorfi' ac yn wrol o feddwl ; " ac j'n wir, yr oedd yn rhaid ei fod felly i wynebu ar yr anturiaeth o ddyfod i'r Gogledd y pryd hwnw i bregethu. Clywodd WiIIiam Harri, meddir, ar ei daith fod drws agored iddo yn Llanberis, ac iddo yntau benderfynu cyfeirio ei gamrau tùag yno. Cyrhaeddodd Ysbytty Ifan, a gofynodd yno i ryw ddyn, pa fí"ordd yr âi i Lanberis : a da y gwnai, gan nad oedd yn Nghymru, mae yn debyg, un Ilygeidyn o wlad mwy anhygyrch i'w gyuiwair nag oedd y parth hwnw y pryd hyny. Yr holl ateb a gafodd gan y dyn oedd, fod Llanberis yn gor- wedd yn mhell draw, gan gyfeirio ei law at fynyddoedd mawrion ac ysgythrog Eryri. Ac yr oedd iddo o'r Tsbytty Ifan tuag 20 milldir o bellderoddiwrth Llanberis, a hyny o'r fath mwyaf disathr a pheryglus o fewn y deyrnas oll. Tn mlaen yr aeth, pa fodd bynag, a phan oedd y dyeithr-ddyn wedi cyrhaedd Bwlch-rhiw-ychain, aeth yn nos arno ; eto, yn rhyw fodd, ond ui wyddys pa fodd, ond fod " Uaw ddaionus ei Dduw gydag ef," efe a gyrhaeddodd y Cwm-glas ryw bryd cyn y boreu.

Dranoeth aeth y gair ar led fod y fath ddyn wedi dyfod, trwy y fath le, yn y nos, ac heb arweinydd ; a pharodd syiiciüd fwy na mwy yn mhawb adua-

L

146 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

byddus o'r wlad. Ediychent ar y peth yn ddim Uai na gwyrth. Nid oedd ffyrdd y pryd liwnw wedi eu gwneyd ; a gorweddai yr ychydig Iwybrau cvüion a geid ar lechweddau y creigiau, yn fynych, ar y llethrau mwyaf peryglus, uwchben nentydd dyfnion, a rhaiadrau gwylltion ; llwybrau y buasai cam gŵyr, hiwer pryd, yn hyrddio yr ymdeithydd dros glogwyni certh i'r ceudod dwfn. Nid rhyfedd, yn wir, i drigolion y fro pan glywsant am yr amgylchiad, gael eu gorlenwi â syndod. Deallasant hefyd fod y gŵr dyeithr hwn i bregethu yn y Cwm-gLis y nos ganlynol; a phenderfynodd gŵr o'r enw Pierce Williams, Gwastad-nant, y mynai efe ei wrando, " gan," eb efe, " fod yn rhaid fod rhyw hynodrwydd yn perthyn iddo, am iddo allu dyfod dros Fwlch-rhiw-ychain yn y nos, ac yutau yn ddyeithr ! " Aeth i'r bregeth yn ol ei benderfyniad, a bendithiwyd hi iddo, a gwnaed ef yn wir ddysgybl i Fab Duw, ac yn ewyllysgar o galou i dderb\Ti pregethu i'w dŷ.

Mae y darllenydd yn cofio yr hj^n a ddywedwyd o'r blaen am y Cwm-glas, sef y nodded a roddasid i Hugh Thomas o Leyn, ynddo, pan ydoedd ar ffô o'i gartref rhag ei ddal a'i anfon yn sawdiwr.* Yr oedd gradd o dynerwch wedi ei gynyrchu yn meddyliau preswylwyr y hwnw tuag at grefydd cyn i Hugh Thomas ddyfod yno, trwy ymddygiad crefyddol gŵr arall a ddeuai yno i weithio yu y cynhauaf. Yn ol a ddywedwyd eisoes, casglwn, fod ymweliad cyntaf y gweithiwr crefyddol hwn â'r Cwm^glas, wedi cymeryd lle tua'r fl. 1742, ac felly yr oedd yma barodrwydd i dderbyn y gwí dyeithr o'r Deheudir. Mae hyn hefyd yn ein cadarnhau mai nid yn y fl. 1733 y bu y tro hwn. Trwy gyfeirio at yr hyn a ddywedwyd yn hanes Hugh Thomas, fe wel y darllenydd pa fodd y daeth fod derbyniad i'r pen-gryniaid yn y Cwm- glas ; fe wel hefyd, fod Eobert Ellis ei hun yn arfer cynghori ei gymydogion ynypethauaberthynenti'wheddwch, ac iddo barhau i wneuthur hyny drosei oes, yr hou, yn ol a ddeallwn, ni fu yn faith, am ei fod yn un o'r pedwar pregeth- ■wi' a fuasent feirw cyn i Eobert Jones, Ehoslan, gael cyfleusdra i'w gweled. Yr ydwyf oddiar hyn yn barnu fod Eobert Ellis wedi marw cyn y fl. 1760.

Oud er i bregethu gychwyn yn gjniar yn ardal Llanberis, eto nid oes Ue i gasgbi ei fod wedi llwyddo ond ychydig iawn am lawer o flynyddoedd. Dy- wedir nad oedd yma ond pedwar gwv, ar ol marwolaeth Eobert Ellis, yn Fioff' 0 wraudo, ac yn daugos awyddfryd i glywed yr efengyl ; sef Pierce Williams, Gwastad-nant ; Dafydd Jones, Gareg-wen ; Dafydd Griffith, Cwm- ael-hir; a William Jones, Pen-'r-allt, ardal Dinorwig. Ee fu y pedwar hyn yn íawr eu llafiu* i gael mwynhau moddion gras ; aent jti fyuych ar y Sabbothau, i le a elwir Helyg-hirion, rhwng Llangybi a Phwllheli, tua 26 müldir 0 bellder, ì wi-ando pregeth neu ddwy. Ehaid oedd iddynt, i gael hyn, fyned trwy Nant-y-bettws cyn i'r trigolion godi y boreu, a dychwelyd drachefn wedi nos, gan faint oedd c\-nddeiriogrwydd y trigolion atynt, a chan y sarhad a'r anfri arswydus a ddysgwj'^lient ar eu llaw, os dygwyddai iddynt eu cyfarfod. Yr oedd y gwŷr hyii yn gwneyd eu goreu hefyd, nid yn

« Gwel tudal. 134, Cjf. II.

PEN. II.] SIR GAEHNARFON. 147

unig i fyned lle yr enwid Crist, a lle y pregetliid ei efengyl, er eu mwyn eu hunain, ond liefyd ymwtliient i walianol ardaloedd a cliymoedd, o amgylch Llanberis, i gynal cyfarfodydd bychain i ddarllen a gweddio, neu ymddydd- an ; ac yn fynych iawn dros rhyw Ûymhor yn ycychwyniad, rhaid oedd cadw y cyfarfodydd hyn yn y nos, a dychwelyd adref erbyn y boreu, i ochel eu haflon- yddu gan ryw rai a roddascut eu bryd ar lethu y cyfryw gyfarfodydd. Ai y pedwar g\vr a euwyd yn fynych i le a elwid Cwm-clorad, gerllaw Capel-curig, trwy flbrdd arw iawn, dan orchudd y tywyllwch, i gadw math o gyfarfodydd neillduol gyda rhyw nifer bychan a garent gael eu hyfl'orddi yn fí'ordd y by wyd. Ond er maint eu llafur a'u lludded, dywedir fod mwynhad y gwŷr hyn, yn y cyf- arfodydd bychain crybwylledig, yn fwy na thaledigaeth iddynt am yr lioll draul ; yr oedd difyrwch hyfryd eu mynwesau yn fwy na chyfartal i holl ludded eu cyrfl'.

Ar y dechreuad, nid oedd ond ychydig iawn o bregethwyr wedi cyfodi, yn enwedig yn Arfon; ac ychydig a fu eu nifer yu y parthau hyn am 30 o flyn- jddoedd. Deuai ambell bregethwr o'r Deheudir atynt, yn gymysgedig ag ambell gynghorwr o Leyn. Yr ydoedd gair yr Arglwydd yn werthfawr iawn yn y dyddiau hyny, eto yr oedd crefydd yn ymwreiddio fwy-fwy yu y tir; yr oedd rhagfaru y bobl yn Uacio, goleuni gwybodaeth yn ymeangu, a rhyw nifer, o bryd i bryd, yn cael eu chwanegu at eu rhifedi.

Crybwyllir fod Daí'ydd Morris, tad y diweddar Barch. Ebenezer Morris, v\'edi dyfod unwaith ar ei daith i bregethu i'r Gwastad-nant, yn ol yr addewid a roddasai, mewu adeg yr oedd gŵr y oddicartref. Nid oedd y wraig, tybygid, ddim wedi ei hennill i garu yr efeugyl ; a jDhan ddaeth y prcgethwr at y drws, efe a ofynodd i'r wraig, a oeddynt yn dysgwyl gŵr dyeithr yno ar y pryd ? " Nac ydym," ebe hithau, " nid oes yma ond swp o boblach dlodion, ar eu goreu yn ceisio magu eu plant." Dywedodd hyn mewu tymher mor chwerw, fel y barnodd y pregethwr fod yn rhaid iddo ymofyn am dderbyniad yn rhyw le arall ; ac ymaith yr aeth, heb iddo ef na'i anifail gael na Uuuiaeth na Uety : ac ar y mynydd, meddir, y buout y noson hòno, rhwng Llanberis a Llanrug. Blin iawn a fu liyn i deimladau Pierce Williams, pan y deallodd ar ei ddyfodiad adref pa fodd y bu.

Yn mhen rìiyw dymhor, a chyn marw y gwŷr a enwyd, ymagorodd drws arall, heblaw y Cwm-glas a Gwastad-naut, i dderbyn pregethu, sef Llwyn- celyn, yn Nant-isaf, Llanberis. Y''r oedd hyn tua'r fl. 1765. Eyw bryd yn ystod yr amser rhwng 1765 a 1777, y dechreuwyd cadw cyfarfodydd eglwysig gyda chysonedd, a hyny tra yr oedd y pregethu yn aros yn Llwyu-celyn. Arferid pregethu hefyd yu y tymhor hwn mewn beudy, o flaen y Ddol-fawr, ac yn y Ceunant. Y'r oedd rhai pregethwyr wedi codi, bellach, yn y cymyd- ogaethau, yn enwedig yn y AYauu-fawr, sef Thomas Evaus, Thomas Grifíith a'i fab, John Thomas. Y^ ddau olaf hyn, y tad a'r mab, a fu yn foddion i sefydlu y gymdeithas eglwysig, ac a arferent ddyfod trosodd o'r "Waunfawr i Lwyncelyn dros ryw dymhor i'w chadw. Nid oedd yr aelodau yn mhen pum' mlynedd ar ol ei sefydlu ond 16. Cynaliwyd yma gyfarfod misol tua'r amser hwn, yr hwn oedd y.cyfarfod cyntaf o'r fath a gynaliwyd yn yr ardal

148 HANESIAETH Y SIROEDD. [DOSB. IV.

erioed. Y pregethwyr oeddynt Charles Marc o Leyn, Thomas Evans o'r Wauufawr, a John Thomas, yr hwn a elwid ar ol hyn yn John Thomas o Lanberis. Nifer y gwrandawyr yn y cyfarfod hwn oeddynt tua 60.

Yu y fl. 1777, fe adeiladwyd capel yn Llwyn-celyn, yr hwn a ehvid y Capel Cocìi. Llwyddodd y gwaith fwy-fwy nes bu raid aü-adeiladu y capel a'i eangu. Eangwyd ef drachefn yn y blynyddoedd diweddaf hyn, heblaw fod dwy gangen flodeuog wedi hànu o honi, sef Eehoboth a Diuorwig.

Gwelwn wrth gyhoeddiad Dafydd Morris,* fod y rhan fwyaf o lawer o leoedd pregethu gan y Methodistiaid yn y flwyddyn uchod yn Lleyn. Nid oedd, mewn cydmhariaeth, ond ychydig iawn yu Arfon ac Eifìonydd ; ac mewn cydmhariaeth i'r hyn ydyw yn awr, nid oedd ond ychydig yn un dosbarth, er fod 30 o flynyddoedd wedi myned heibio er pan ymwelsai Howel Harris â'r wlad y tro cyntaf. Ond dylem gofio hefyd, nad oedd y deug mlynedd cyntaf ond rhpy gychwyniad bychan, dan erlidigaeth, diS"yg pregethwyr, ac anfanteision lawer ; a bod yr ymraniad drachefn wedi hanner lethu y cychwyniad hwnw yn ei wendid, efFeithiau dinystriol yr hwn a bar- haodd yn drwm ar y wlad am lawer o flynyddoedd. Yr oedd unedd y proflFeswp a'r pregethwyr i raddau mawr wedi colli y pryd hwn, a syniadau penrhydd yn dechreu chwalu eu dylanwad difaol, le, yn mysg y rhai a dybid yn flaenoriaid ac athravv'on. Amser tywyll a du oedd hwn ar Fethod- istiaeth Cymru. Prin y gellid dysgwyl ei adferíad, gan mor eiddil ac archoU- edig yr ymddangosai. A llawer o flynyddoedd a aethant heibio, cyn iddo yn gwbl ddadebni. Ond yn y fl. 1762, sef 11 o flynyddoedd ar ol ymadaw- iad Hams, fel y dywedwyd mewn rhan flaenorol o'r gwaith, y torodd adfywiad nerthol ar Fethodistiaeth, mewn llawer o ardaloedd Cymru. Yn y diwygiad hwn " fe geid tyi'faoedd lluosog yn mawrygu Duw heb allu ymattal, (medd awdwr ' Drych yr Amseroedd ; ' f) ond weithiau yn llamu o orfoledd, fel Dafydd gynt o flaen yr arch. Treulid weithiau nosweithiau cyfain mewn sain cân a moliant, fel tyrfa yn cadw^ gŵyl. Clywais gan hen wraig dduAviol iddo barhau dri diwrnod a thair uoswaith, yn ddigyswUt, mewn Ue a elwir Lôn-fudr, \ti Lleyn, sir Gaernarfon, y naiU dyrfa yn cylchynu y llall; pan âi rhai adref, deuai rhai eraíU jii eu lle ; ac er myned i'w cartrefi dros ychydig, ni alleut aros nemawr heb ddyfod yn ol. Pan ddaeth y tywalltiadau grymus hyn ar amryw gannoedd, os uad miloedd, trwy y Deheudii* a Gwyn- edd, bu llawer o gynhwrf a dadleu yn ei gjdch ; daliwyd llawer â syndod, gan ddywedyd, ' Beth a all hyn fod ? ' ' Meddwon ydynt,' meddai rhai ; ' O'u côf y maent/ meddai eraiU; yn debyg iawn i'r rhai hyny ar ddydd y Pentecost ; ond ni feiddiodd braidd ueb w^ieyd uiweid iddynt, ond yn iinig eu gwneuthur yn nôd i gynen eu tafodau."

Pthoes yr adfywiad hwn ail-gychwyniad i Eethodistiaeth sir Gaernarfon ; codwyd ef yn fwy i sylw, Uuosogodd lawer ar ei ddeiliaid, cododd amryw o bregethwjT o newydd, a pharodd aidd ac egni adnewyddol yn mhawb i oleuo

Gjvel y cjhoeddiad, Tudal. 85, Cyf. II. \ Tiidal. 140.

PEN. III.] SIR GAEENARFON. 149

ac efengyleiddio y ihanau eraill o'r wlad, y rhai, hyd yn awr, nid ymwelasid â hwynt.

PENNOD III. BÎR HANES EGLWYSI HENAF Y SIR.

CYNWTSIAD :

HANES METHODISTIAETH YN AEDALOEDD BRYNENGAN— Y WAUNFAWR— CLYNOG— Y PARCH. MR. NANNEY— BEKTH-DDU-BACH.

BRYNENGAN.

Y MAE Brynengan yn hcu le yn haues Methodistiaeth sir Gaeruarfon. Nid yw yr ardal hou yn mhell oddiwrth Glasfryn-fawr a Phenmorfa, lleoedd a fu yn faesydd llafur i Ilowel Harris, Jenkin Morgan, a Daniel Eowhinds. O Frynengan y cododd Lowri WiUiams, yr hou a fu yn oíferyn nodedig i ddwyn Methodistiaeth i froydd Maentwrog, Ffestiniog, a Thrawsfynydd, yu sir Peirionydd. Uu o'r fro yma oedd Jane Griffith, a aeth i gadw ysgol i ardal Dolgellau, ac a roes surdoes yn y blawd yn y Ue hwnw. Yr oedd Brynengan yn orsaf sefydlog gan y Methodistiaid pan oedd Penrhyn-deudraeth yn ei fabandod, er fod y Penrhyn yu un o'r Ileoedd hynaf yn Ngwyuedd. Nid yn mhell o'r gymydogaeth hon yr oedd Ehoslan, hen le preswylfod yr hybarch Eobert Jones. Yma hefyd y bu Eobert Dafydd fyw y rhan fwyaf o'i oes, a'i fab-yn-nghyfraith Eichard WiIIiam. Mae Brynengan, fel llawer mam, wedi magu Uawer o grefyddwyr da, ac wedi bod yn foddion i blanu amryw eglwysi blodeuog, ac eto heb ychwanegu llawer ar ei rhifedi parhaus ei hun. Y mae yn aros yn fwy aurhydeddus yn ei hynaíiaeth, ac yn ei defnyddioldeb, nag ydyw yn ei hymddaugosiad a'i rhif. Nid ydym yn deall fod un haues ar- benig erioed wedi ei roddi o'r lle hynod Iwn ; a phrofìr mwy o anhawsder i gael ei hanes, nag a allesid dychymygu.

Mae hanes Brynengan, pa fodd bynag, yn ymgordeddu â hanes Eobert Jones, Evan Eichardson, Eichard Jones o'r Wern, Eobert Eoberts o Glynog, a Eobert Dafydd, ac at y crybwyHiadau a wneir neu a wnaed am y gwŷi- hyny y bydd raid i mi gyfcirio y darlleuydd am oleuni ychwanegol ar hanes Brynengan,

Yr oedd y fro hon, fel y sir drwyddi, " yn eistedd yn dawel mewn tywyll- wch, ac yn mro a chysgod angau," cyn i Howel Harris ymweled â hi. Fe ddichon, ar yr un pryd, fod rhyw ambell un wedi meddiannu y Beibl, ac wedi cael blas ar ei ddarllen, ie, wedi cael o hyd i'r trysor cuddiedig ynddo, megis yn ddamweiniol, cyn bod nemawr o bregethu yr efengyl yn y wlad. Fe ddyry yr hanesyu byr canlyuol ryw awgrym o'r fath i ni. Arferai nifer o gymydogion ymgaslu i odyn, sef y lle y byddai ceirch yn cael ei grasu, mewn lle yu Eifionydd, yn nechreu-nos gauaf, i adrodd hen chwedlau hynod, er difyru eu gilydd ; a phau y deuai tro un gŵr yn eu plith i adrodd ei 'stori, yr hyn, tybygid, a wnaent bob uu yn ei gylch, âi hwu dros hanes Joseph yn Uyfr Genesis ; a pharai syndod a hyfrydwch mawr i'r gwraudawyr. Yr oedd hyn cyn bod nemawr o brcgcthu gan y Methodistiaid yn y wlad.

150 HANESIAETH Y SIEOEDD. [UOSB. IV.

Sonia Eobert Joues * am gyfaifod crefyddol a gynelid allan ya Rboslan, ar y Sabboth, pryd yr anfonodd yr oifeiriad, yr hwn hefyd oedd hedd-ynad, ei was yno i afionyddu. Y dull y gwneid hyny, oedd yn gyíFelyb i'r dull y gwneid yn fynych, sef chwythu mewn corn, à pheri y fath swn fel na ellid clywed llais y pregethwr. Fe fu yr amgylchiad hwn yn achlysur i Eobert Jones ysgrifenu a chyhoeddi traethodyn, dan yr enw " Lleferydd yr Asyn," mewn fifurf o lythyr at y gŴT,- boneddig. Addefir fod y gŵr urddasol yn ddjTi tra hawddgar o ran ei dymher, a gresjmir ei fod yu y tro uchod wedi darostwng cymaiut ar ei enw da. Nid oes amheuaeth na welodd, wedi i'r tro basio, ei fod ar fai, oblegyd ni chlybuwyd iddo wneyd yn gyö"elyb mwy. Prysurodd rhyw un ysgrifenu ateb i'r traethodyn crybwylledig, oud wedi ei ddangos i'r gAvr urddasol, barnwyd mai gwell oedd ei gadw yn guddiedig, ac felly y gwnaed.

Mae hanesyn tra rhyfedd o fy mlaen, wedi ei ysgrifenu gan y Parch. John Owen, Gwyudy, gerllaw Brynengan, gwirionedd yr hwn, fe aUai, a^amheuir gau lawer un. Adroddwyd yr hanesyn, pa fodd bynag, gan Ptobert Jones ei hunan ; a'r achos na roddasid ef yn y llyfr a ysgrifenodd oedd, am nad oedd ganddo, y pryd hwnw, gymaiut o sicrwydd am ei gwii'ionedd ag a gafodd ar ol hyny. Yr haues sydd fel hyn :

" Am yr afon â phaLis y g\vY a fu yn erlid yn Ehoslan y mae ftermdy, yn yr hwn, cyn yr amgylchiad hwnw, y byddai y Methodistiaid yn pregethu. Yr oedd hyny yn anfoddloni y person oedd yn byw yn y pahas yn fawr. Amlygodd hefyd ei anfoddlonrwydd, amryw weithiau, i ŵr y ; ond parhau yr oedd i noddi y pregethu. O'r diwedd, blinodd y gŵr boneddig, ac anfon- odd genad, ryw ganol dydd, i gyrchu y fiermwr. Wedi ddyfod at y palas, gwahoddodd y boneddwr ef i fyned gydag ef i roddi tro ar hyd un o'r meusydd. Dechreuodd holi y tyddyuwr am enwau amryw o lysiau a welid jn tyfu yn meusydd ; ac ya. mysg eraill nododd un llysieuyn yn neillduol, gan ofyn ei enw. ' Y hengaled ydyw,' ebe y ffermwr, ' Wel,' ebe y person, ' cyfí"elyb i'r llysieu- ym hATO, pengaled wyt tithau. Oui chrefais i araat lawer gwaith rwystro y rhai yna i'th ? Pe na byddeut i'w clywed yn gwaeddi o'm tŷ, ni chwynwn.'

" Effeithiodd y duU tyner hwn o ymliw ag ef yn fwy o lawer ar y fí'ermwr, na phe bygythasid ef yn Uym, a phenderfynodd, ac addawodd wrth y bon- eddwr, na chaent ddyfod i'w ef mwy. Ar hyn dychwelodd pob un i'w gartref, ac yr oedd bellach yu dechreu nosi. Pel yr oedd y fí"ermwr yn cerdded y nant, gerllaw yr afon, cyfarfyddai ag ef ŵt dyeithr, a chleddyf noeth yn ei law ; yr hwn a'i rhybuddiai i beidio troi y pregethu o'i ; ac yna aeth yTnaith. Gyrodd hyn y dyn i benbleth fiin. Gwelai fod ganddo achos i ofni awdurdod rhyw un, heblaw eiddo y person ; a thuag at wneyd y goreu a allai o'r amgylchiad anghysurus, symudodd o'r wlad i fyw, a sefydl- odd yn Môn."

Mi wn yn dda y rhoddir gwahanol esboniadau ar yr amgylchiad, gan

* Gwel " Lleferydd yr Asyn."

PEN. 111.] SIE GAERNAEFON. 151

wahanol ddarllenwyr ; rliai yn priodoli y ddrychiolaetli i ddychjmyg cyffrous y fferinwr ; rhai yn liòui mai cyfryngiad gor-natnriol yr Arglwydd ydoedd, mewn ffordd o amddiffyn ei achos dan amgylchiadau neillduol ; a rhai, hwyr- ach, ahaerant mai chwedl ddisail ydyw, heb ddim gwiriouedd ynddi. Y cwbl a ddywedaf fi ar hyn ydyw, fod yr hanes yn disgyn i law trwy dystion cywir ; fod amgylchiadau cyffelyb wedi eu crouiclo yn yr ysgrythyrau ; ac y sonia gwŷr da a duwiol, megis Elavel ac eraill, am ddygwyddiadau o'r un natur wedi cymeryd lle yn Lloegr, neu y bernid felly am danynt.

Fe wely darllenyddyn yr hanes a roddir yn mlaen am y Parch. E. Eichard- son, 0 ba wasanaeth y bu y gŵr hwnw i I'ethodistiaeth yn ystod yr amser y bu ef yn aros yn y Brynengau, a'r cymydogaethau gerllaw^ Mae yn briodol edrych ar ledaeniad Methodistiaeth yn yr ardaloedd hyu, yn ddau gyfnod. Yn y cyntaf, yr oedd awch a thanbeidrwydd y pregethu yn cyffroi' y wlad trwyddi. Y'r oedd troedigaeth disymwth ambell bechadur nodedig ei ddyhirwch, yn peri syndod ac ymofyniad. Eto yr oedd anwybodaeth ac anfoesoldeb y wlad yn gyffredinol yn aros heb eu symud. Cyrchid, yn y dyddiau hyny, o gryn bellder i Eryneiigan i wrando pregethau ; ac fe allesid dyfalu mai ycbydig o flas a fyddai gan bobl a ddeuent o bell i wrando preg- ethu miniog yr oes hòno, ar ddiod na chwmni y daíiun, ar y Sabbothau. Eto rhaid addef fod gormod o hyn yn bod. Ai llawer o wrandawyr Bryn- engan i dafarndai Llaugybi wrth fyned adref, ac uid mynych yr âi Sabboth heibio heb feddwi ac ymladd.

Y"r ail gyfnod, oedd sefydliad yr ysgol Sahbothol. Dyma fu y moddion peuaf i wareiddio a moesoli y wlad. Dechreuwyd trwy gadw ysgolion ar ddechreu-nos, yn nghanol ffenudai ; ac yn raddol i'w cadw yn y capelau ar y Sabboth. Cawsom achlysur i grybwyll y gwrthwynebiad oedd gan yr hen grefyddwyr i'r ysgol Sabbothol yn ei chychwyuiad ; felly, hefyd, yr oedd yn ardaloedd Bryueugan. Gwrthwyuebid hi ar ddau gyfrif; yn gyntaf, amheuent y priodoldeb o addysgu plant ar y Sabboth, mwy ua chyflawni rhyw orchwyl cyflTedin arall ; ac yn ail, edrycheut arni yn llesteirio i niferi o bobl, fychaiu a mawrion, fyned o amgylch i wraudo pregethau. Edrycheut ar uurhyw beth a dueddai i ymddií'adu y trigolion o hyu yu beth i'w ochel ar büb cyfrif, gan yr hyfrydwch a'r budd a gawsent hwy eu hunain ynddynt, a chan y baruent eu bod yn foddipn arbenig i achub pechaduriaid. Yr oedd y gwrthwyuebiad i sefydliad yr ysgolion Sabbothol, yn codi oddiar egwydd- oriou 0 Avedd mor grefyddol, fel mai prin y gallem feddwl y llwyddasid i'w sefydlu oU, oni bai y dylanwad rhyfeddol a feddai Mr. Charles, Bala, yn y cyfundeb. Edrychid ar y gŵr parchedig a duwiol hwn, fel angel Duw, a derbynid ei gyfarwyddiadau gydag ymostyngiad, ar bob peth ymron ; a thrwy fod ei ddylauwad ef mor helaeth, ei ysbryd mor addfwyn, a'i lafur dros yr ysgol Sabbothol mor ddibaid, fe Iwyddodd i raddau helaeth i ddarostwng y gwrthwynebiad oedd i"r sefydliad newydd, hyd nes y coed prawf digonol o houo, fod ei darddiad yn ddwyfol, a'i eflaith yn wir fuddiol ; yna fe wywodd y gwrthwynebiad iddo, megis o hono ei hun.

153 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IT.

" Sefydlu ysgol Sabbothol," medd y Parcli. John Owen, " a fu yn fodd- ion yn y nifer amlaf o ardaloedd Eifionydd i ddechreu achos crefydd. Cychwynid hi yn gyntaf mewn tŷ, mewn rhyw gymydogaeth jmddifad ; yna ceid pregeth yn achlysurol ; yn mhen enyd codid ysgoldy, a chesglid cj'm- deithas eglwysig at eu gilydd, ac o'r diwedd adeüedid capel."

Peth arall a eífeithiodd yn fawr, er Uwyddo Methodistiaeth yn yr ardaloedd hyn, oedd gwaith JT hen bregethwyr yn cadw ysgolion dyddiol. Bu Eobert Jones, Evan Eichardson, Eobert Eoberts, John Eoberts a'i fab Michael Eoberts, ac eraill hefyd, yn ofirerynau, trwy hyn, i ddwyn cyfnewidiad rhyfedd- ol yn y wlud. Yr oedd yr hen bobl yn eu dyddiau wedi eu dwyn i fyny yn eglwyswyr, ac yr oedd llawer o honynt yn Ued ddiystyrllyd o'r Methodistiaid, îe, er y deuent, yn awr ac eilwaith, i'w gwrando. Ond y plant a fagwyd yn wahanol. Anfonid y rhai'n at y pregethwr i'r ysgol derbynient ei hyffordd- iant a'i gynghorion, y rhai a gymysgid â gweddiau drostynt. Tmlithrai fel hyn i'w serchiadau, a gosodai dystiolaeth yn eu cydwybodau o blaid ei gref- ydd ; ac fel yr oedd y plant hyn yn dyfod yn raddol i le eu tadau, yr oedd S}Tiiadau ac arferion y wlad, yn naturiol, yn ymwisgo mewn gwedd newydd.

Cafodd yr ardaloedd hyn ymweliadau amry w o adfywiadau grymus, trwy y rhai y darostyngid rhagfarn y preswylwyr ymron oll, ac y rhoddid prawf, íia ellid ei wadu, mai llaw Duw oedd yn gweithio. Ni cheid ond ychydig yn y wlad oll a'r na chydnabyddent mai tywalltiadau o'r nefoedd oedd y diwygiadau hyn. Ac anhawdd ydyw peidio cydnabod yr un peth am danynt eto, wrth feddwl y gweddio a fyddai gan bobl dduwiol am danynt, ac wrth ediych ar yr effeithiau a'u dylynent.

Dywedir am Eobert Dafydd y pregethwr, yr hwn oedd yn byw yn Mryn- engau, ei fod yn gweddio llawer am rai blynyddau am ddiwygiad, cyn i'r adfywiad yn 1832 dori allan. Yr oedd hyn yn destyn ei weddiau dirgel. Mynyeh y cyrchai efe i'w ystafell ar y neges yma yn arbenig. Eai prydiau, fe ddygwyddai rhai o'i deulu ei glywed ef yn j'mdrechu â Duw ar yr adegau hyn. Yn ei weddiau, fe arferai enwi yr amaethdai yn y gymydogaeth, a gweddiai ar i'r Arglwydd achub eu hanneddwyr. "Ti wyddost (meddai), 0 Arglwydd, fod yma rai tai, a'r addolwyr a fuasai ynddynt wedi meirw, a bod yr hen allorau teuluaidd wedi eu bwrw i lawr. O fy nhad, gâd i mi weled un diwygiad eto cyn fy marw: gâd i mi weled fy nghymydogion wrth y degau yn troi eu hwynebau i dy dŷ, dan gerdded ac wylo; ac os caf, mi fyddaf foddlawn i farw y fynyd a fynech di."

Gwi-andawodd yr Arglwydd ei weddi yn hyn, a chafodd weled tua 140 yn ymofyn o newydd am le yn nhŷ Dduw yn Mrynengan. Bellach, ei neges yn yrhen ystafell oedd, "O Arglwydd, gâd i mi gael byw flwyddyn i fag-u y plant yma." Caniatawyd ei weddi yn hyn hefyd, a bu fyw 6 neu 7 mlyn- edd ar ol hyn. Yr oedd y diwygiad hwn yn un o'r rhai mwyaf sylweddol, meddir, a gafodd un gymydogaeth yn Nghymru erioed. Bendithiwyd yn neillduol bregeth Mr. Elias yn nghymdeithasfa Pwllheli, ar y geiriau, "Cyf- oded Duw, gwasgarer ei elynion, a ffoed ei gaseion o'i flaen," (Salni lx\üi, 1,)

PE2Í. III.] SIR GAEENAEFON. 153

i roddi ysgogiad cyehwynol i'r adfywiâd hwn. Cerddodd yn rj-mii3 ar ol hyn trwy lawer o ardaloedd Lleyn ac Eifionydd, a chwanegwyd at yr eglwysi dros 600 o aelodau, heblaw niferi mawr o blant.

Nid ydym wedi cael hysbysiad sicr pa bryd yr adeiladwyd y capel cyntaf yn Mrynengan, na pha faint oedd nifer yr aelodau yno pryd y codwyd y capel. Yr unig amnaid a feddwn ydyw yr hyn a gynwysir, megys yn achlys- urol, yn nghofnodau y gj'radeithasfa, y rhai sy'n dechreu tua'r fl. 17S0. Dy- wedir yno fod swm easgliad Brynengan, tuag at dalu dyledion capeli, yn £1 5s. 5c., yr hjTi, yn ol dimai yn yr wythiios ar bob aelod, a ddengys fod y gymdeithas eglwysig yn cynwys tua 47 o rifedi. Rliaid addef, pa fodd bynag, nad oes eithaf sicrwydd yn y dull hwn o gyfrif, gan nad yw y cof- nodau yn sicrhau pa uu ai im chwarter neu ychwaneg a gynwysid yn y swm a roddid ar lawr.

Pa fodd bynag am rifedi yr eglwys, y mae sicrwydd fod capel wedi ei adeiladu yn Mrynengan cyn y flwyddyn 17 80, gan fod cofnodiad ar lawr, fod pedwar swUt ar ddeg wedi cael eu talu gan y gymdeithasfa at lôg y ddy- led oedd y pryd hwnw ar y capel. Ond pa faint o amser cyn hyny y codasid ef, nid yw hysbys, ond y mae yn eithaf sicr fod gan y Methodistiaid achos mwy neu Lii blodeuog yn yr ardal hon er's mwy nag ugain mlynedd cyn hyny ; ond fod y dysgj'blion yn yr ardal hon, fel mewn Ihiaws o ardaloedd eraiU, yn hwyrfrydig iawn i godi yr un capel, gan ymfoddloni i bob math o anghyfieusdra mewn tai annedd, ar y maes agored, neu mewn hen adeiladauj ÿn hytrach na chodi addoldai ar w^hau oddiwrth yr eglwys wladol. Felly ond odid y bu yn Mrynengan.

WAUNFAWR.

Y mae amaethdy yn y gymydogaeth hon o'r enw Hafod-y-rhyg. Yn y lle hwn yr oedd y gŵr y crybwyllasom ei enw eisoes yn byw, sef Evan Dafydd. Yr oedd y g\\T hwn yn gynghorwr dros ryw dymhor cyn ei farw, yrhyn a gymerodd le tua'r fl. 1750. Yr oedd y cynghorwr hwn yn un o'r pedwar pregethwr a gododd yn sir Gaernarfon, am y rhai y dywed Eobert Jones na welodd ef erioed mo honynt. Pan y bu Evan Dafydd farw, nid oedd Eobert Jones ond pum mlwydd oed. Nid oedd ond naw mlynedd cyn marwoLieth Evan Dafydd, Hafod-y-rhyg, er pan ddaethai Howel Harris gyntaf i'r sir. Oddiar hyn ni a welwn fod gan y Methodistiaid ryw achos bychan yn y fro hon yn fuan iawn ar ol cychwyniad Methodistiaeth yn Ngwynedd. Nid oes hysbysrwydd genym pa bryd, na thrwy ba foddion, y dygwyd Evan Dafydd i wybodaeth y gwirionedd: yn unig fe ddywedir y byddai Howel Harris yn arfer dyfod i Hafod-y-rhyg i bregethu. Ac nid Hafod-y-rliyg, medd rhai hen bobl, oedd y Ue cyntaf y bu pregethu ynddo, ond mai Bryngoleu ydoedd, yr hwn le hefyd ydoedd ar dir Hafod-y-rhyg. Mewn cysylltiad â'r bregeth gyntaf hon, y mae traddodiad yn cyflwyno i ni ymddyddan a fu rhwng g\vr Hafod-y-rhyg a'i wraig, o'r fath a ganlyn:

154 HANESIAETH Y SIROEDD. LDOSB. IV.

Ebe y gŵr, "Y mae rliyw ddyu yn myned i bregetliu yn y Bryn-gcleu ; a ddoi di i'w wi'audo?

"Na ddo'f (ebe'r wraig), y mae arnaf eisieu rhoi bwyd i'r mocb."

"Wel yn wir, mi âf íì," ebe yntau. Ác i ífordd ag ef, pnd fe ddycìiwel- odd yn ol c^i^i i'r bregeth ddarfod; ac ar ei ddychweliad i'r tŷ, gofynai y wraig iddo, "Pa beth oedd gan y pregethwr i'w ddwsyd?"

Yntau a ddywedodd, "Yr oedd y Beibl ganddo o'i flaen."

"Wel, îe," ebe y wraig, "pa beth oedd ef yn ei ddweyd?"

"Yr oedd," atebai yntau, "yn edrych arnaf o hyd, ac yn dweyd mai dysgyblion y diafol oeddym, a bod nôd y diafol arnom."

"Pa'm," (ebe y wraig,) "na fuasit ti yn aros yno hyd y diwedd, fel y gall'- sit ofyn iddo, ai bugail y diafol oedd efe, gan ei fod mor gyrarwydd ar ei nod.''

Wedi marw Evan Dafydd, symudodd y pregethu o Hafod-y-rhyg i a elwir Tŷ-ucha'r-ffordd. Yr un oedd yn gofalu ara yr achos, bellach, oedd un Thomas Griffith. "Yr oedd y gŵr hwu o gyneddfau cryfion," meddai Eobert Joues, "craff ei olwg ar y wir athrawiaeth. Byddai ynarfer cynghori ei gydbechaduriaid, yn achlysurol, i gilio oddiwrth ddrygioni, ac i ffoi i'rwir noddfa." Tad oedd y gŵr yma i John Thomas, Llanberis, pregethwr a adwaenir yn dda, gan lawer sydd eto yn fy w ; a thad hefyd i'r godidog- fardd Dafydd Thomas, neu Dafydd-ddu-Eryri. Yr oedd Thomas Griffith eu tad yn byw yn Mhen-y-bont, ac yn cadw siop fechan. Arferai yn awr ac eil- waith ar foreuau Sabboth fyned i lan y plwyf i addoli, er mwyn dangos trwy hyny nad oedd ganddo ddim gelyniaeth at yr eglwys wL^dol; a chan ddys- gwyl y rhoddid llouyddwch gwell i'r crefyddwyr i addoli yn Tŷ-ucha'r- fl'ordd. Yu y llau, arferai gyfarfod yn fynych â rhyw rai ag oeddyut yn ei ddyled am nwyddau o'r siop. Deallasai y bobl eisoes na dderbyniai Thomas Griffith ddim arian ar y Sabboth gan y rhai a fyddent yn ei ddyled, ac am hyny cymerent achlysur oddiwrth dynerwch ei gydwybod i'w Ysbeilio yn anuheg o'i feddiannau. Wrth iddo ddyfod allan o'r Uan, cynyg- ient daledigaeth iddo o'r swm dyledus, ac os gwrthodai yr arian, galwai y dyhiriaid ryw rai gerllaw yn dystion o hyuy, a gomeddent dalu iddo byth mwy.

Nid oedd llawer o bregethwyr y pryd hwn yn teithio trwy y gwledydd, ond yn mysg yr ychydig hyny, yr oedd PLÌchard Tibbot o Lanbrynmair yn un; a mawr oedd serchogrwydd y derbyuiad a gaent gan yr ychydig gref- yddwyr gorthrymedig ag oeddynt y pryd hwnw yu dechreu britho y gwled- ydd. Dywedir am Eichard Tibbot,* pan ar ei hynt trwy y wlad, y deuai i olwg y Waunfawr, y dechreuai ganu; ac ar waith Thomas Griffith yn clywed ei lais, cynhyrfai di-wyddo, a lluchiai bob peth allan o'i law dan ddadgan, "Di/ma Tibbot, yr v)y n tybiedr

Ar ol colli Thomas Griffith, daeth un Thomas Evans yn swcr i'r achos

* Gwel ei hanes, tudal. 119, Cyf. I.

PEN. III.] SIR GAEBNABPON. 155

crefydclol yn y lle. Am y gŵr hwu y dywedir ei fod yn bregethwr: ystyrid ei fod uwclilaw cynghoncr. Yr oedd yn jmresymwr cadaru, ac yn gymer- adwy iawn gan fyd ac eglwys. John Pierce, Robert Jones, ac yntau, oedd ý tri blaenaf yn nghyfarfodydd misol y sir gynt ; ond fe ddywed Eobert Evans, gynt o Drefriw, yr hwn a'u hadwaenai hwynt yn dda, fod rhai pethau yn Thomas Eyans yn rhagori ar y lleiU. Cyfritìd ef yn uu o'r rhai gonestaf a mwyaf didderbyn wyneb o neb yn sir Gaernarfon. Ar yr un pryd, yr oedd ei ysbryd yn hynaws a chyfeillgar ; a derbynid oddiwrtho ef mewn flbrdd o gerydd, a hyny heb archoll na thramgwydd, yr hyn ni dderbynid ymron gan neb arall. Fe ddywed Eobert Jones am dano, yr hwn oedd gyd-oeswr a chyd-hifurwr ag ef : "Yr oedd Thomas Erans, "\Yaunfawr, o dymher addfwyn a chyfeillgar, gonest, a diddichell ; yr oedd ei ddoniau i bregethu yn eglur a dealladwy ; ac yn addas iawn i lawer o wrandawyr anwybodus y dyddiau hyny, a fyddai yn arferol o'i wrando. Yr oedd ei gynydd mewn doniau a defuyddioldeb yn amlwg fel yr oedd yn aeddfedu i ogoniant." Bu farw y gŵr da hwn o'r darfodedigaeth, pan nad oedd ond 48 mL oed.

Dengys yr hanesyn a ganlyn y wedd oedd ar yr achos yn y tymhor boreu hwn arno, ac ansawdd blentynaidd eto serchog y crefyddwyr at eu gilydd. Daeth taer wahoddiad i Thomas Evans i ymweled â'i frodyr yn y Deheudir ; yntau a betrusai gydsynio â'u cais, am nad oedd neb i gymeryd gofal yr achos bychan yn ei gartref. Hysbysodd ei betrusder yn y cyfarfod eglwysig, a dyma hen chwaer yn codi ac yn dweyd, " Ewch, ewch, Thomas bach, a rhoddwch lyfr i mi, minau a osodaf ar hiwr'ynddo bob peth a ddygwyddo yma heb fod yn iawn ; chwithau a gewch ei weled wedi y dychweloch yn ol." Felly yn ol cynghor yr hen chwaer, i'r Deheudir yr aeth am ysbaid chwech wythnos. Ar ol ei ddyfodiad yn ol, galwyd yr eglwys at eu gilydd, modd y rhoddid cyfle i Thomas Evans i adrodd hanes ei daith, ac i'r hen chwaer gyflwyno llyfr 'ei goruchwyliaeth hithau. Wedi adrodd ei hanes ei hun gof- ynodd, " Pa le mae llyfr y beiau ? "

" Dyraa fe," ebe yr hen chwaer ; " ni fu yma ddim o'i le ; mae y Uyfr yn wŷn i gyd."

" Wel, yu wir," ebe yntau, " ni wehìis i p- un eglwys erioed o'r blaen ary ddaear, ac ni ddarllenais am yr un, wedi bod chwech wythnos o amser heb bechu. Yn hyn yr ydych wedi tra rhagori arnaf fi ! "

Y'n y blynyddoedd boreu hyn ar yr achos crefyddol, âi crefyddwyr ar foreu Sabboth i Lanbeblig, ger Caernarfou, i'r gwasanaeth, ac yu fynych byddai raid iddynt fFoi oddiyno ar ffrwst mawr, ar ol yr addohad, rhag cynddaredd eu gelynion. Cilient i ochr mj'nydd Cefn-du, ac yno y byddent yn addoli mewn Ue a elwir Crug-y-brain. Yn mysg yr erhdwyr yr oedd un Wüham WiUiaras, Llwynbedw, yr hwu oedd yn ftyrnig iawn yn erbyn i'w wraig ymuno â'r penau-cryuiaid. Yr oedd y gŵr hwn, un diwrnod, ar ei ffordd i farchnad Caernarfon, pryd y damweiniodd iddo syrthio i ffrae ag un o'i gymydogion, ac mor boethlyd oedd eu nwydau nes iddynt ymroddi i gwffio eu gilydd. Yn y cyfamser, daeth gŵr dyeithr iddyut heibio, ac ôl baeddu tost arno mewn

156 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSL, IV

gwaed ac archoUion, a gofynocld i'r ddau a wnaent hwy gofio tri gair a ddy- wedai Angau, Bakn, a Thragwyddoldeb ; ac ymaith ag ef yn ei flaen. Y naill a ddywedai wrth y llall, " Pwy oedd y gwalch yna a siaradai mor grefyddol? Y mae ol ymladd arno yntau." A phwy hefyd oedd y dyn dyeithr? a pha beth a ddygwyddasai iddo? Pregethwr ydoedd wedi cael ei faeddu yn greulawu am geisio pregethu i'w gyd-ddynion yn y Bout-newydd, gerllaw Caernarfon, ac yn awr ar ei daith tua Llauberis. Nid yw enw y pregethwr hwn yn aduabyddus; ond pwy bynag ydoedd, bendithiwyd y geiriau a draethodd i William WiUiams. Nid aeth yn mhell o'r lle na theimlodd awch y tri gair yu gwaedu ei galon. Haws o lawer oedd iachau archoUiou y ífrae á'i gymydog, nag oedd cael esmwythdra i'w gydwybod euog. Yr oedd daroganau arswydus yn terfysgu ei fynwes, ac nis gwyddai pa beth i wneyd. Dychwelodd o'r farchuad heb wneyd ei neges ; ac nid yn feddw, fel yr oedd ei arfer, oud yn berífaith sobr.

Y noson hòno ar ei ddyfodiad adref, gofynodd i'w wraig, ai nid oedd hi ar fedr myned i'r cyfarfod eglwysig ? Syuodd y wraig, îe, dychrynodd, rhag fod gauddo ddybeu drwg yn ei herbyn, ac mai hyny a barasai iddo ddyfod adref mor gynar, Wedi deall yn amgen, a pha fath oedd ansawdd ei feddwl, y mae yn haws dychymygu ei theimladau na'u traethu, a Uawen fu ganddynt, o hyny allan, rodio i Dduw yn nghyd.

E,yw bryd, pan oedd pregeth yn Tŷ-ucha'r-ífordd, daeth dyn i mewn â gwedd hyf ac awdurdodol arno, yr hwn, gan gyfarch y jDregethwr, a ddywed- odd wrtho fod yn rhaid iddo dewi, Yr oedd y pregethwr yn ddyu cryf o feddwl ac o gorff ; a thros ry w enyd ni chymerodd gyífro, ond âi rhagddo gyda'i waith, Pfromodd y terfysgwr o hyny yn fwy, a chau faiut yr aflon- yddwch, bu gorfod i'r pregethwr dewi. Wedi rhoi heibio pregethu, disgynodd yn ddigyffro o'r fan lle y safasai, ac ymaflodd yn yr erlidiwi', ac fel pe buasai ond plentyn yn ei law, ac a'i gosododd ar ei gefu ar gist gref ag oedd ger- llaw, gan ei dylino fel toes, a hyny gyda nerth a phenderfyniad. Deallai yr erlidiwr enbydrwydd ei sefyllfa, a mynai ddianc, ond hyny ni roddid iddo, a gwasgai y pregethwr yu drymach arno, Ar hyn gwaeddai allau, " A wj'ddoch chwi gwas i bwyydwyf?" " Gwn o'r goreu," ebe y pregethwr, " mai gwas i'r cythraul ydwyt ; ond nid oes arnaf ddim o dy ofn di na dy feistr. A gwybydd na chei di ddim myn'd oddiyma, heb i ti addaw yn ngwydd yr holl bobl hyn, na ddywedi air mwy yn erbyn pregethu Crist i bechaduriaid."

Bellach, yr oedd yn dda gau y coryn gwael gael ymwared ar ryw ammodau ; addawodd y cw^bl a geisid gauddo, a hyny, ar y pryd, gyda phrysurdeb mawr ; ac felly goUyngwyd ef yn rhydd, a chiliodd i fí'ordd yn llechwraidd, wedi cael digon ar y gwaith o erlid pregethwyr. Ar ol cael llonyddwch, aeth y preg- ethwr drachefn i'w le, gan fyned yu mlaen yn ddigyflro, fel pe na buasai dim 0 bwys wedi dygwydd.

Yr oedd yr achos wedi bod, bellach, am araser maith iawn mewn tai, fel yr arch gyiìt rhwng cortynau, ac heb un deml sefydlog i addoli ynddi. Ehwng

PEN. III.] SIR GAEBNARFON. 157

Hafod-y-rhyg, a Tliŷ-ûclia'r-ffordd, fe fu pregethu yn yr ardal hon tua 40 ml. cyn adeiladu capel ynddi. Ond tua'r fl. 1785 cododd erlidigaeth oddiwrth ofteiriad Aber, a bu gorfod i'r crefyddwyr ymadael â Thŷ-ucha'r-ffordd ; lle y 'buasent yn aros ynddo cyhyd. Yu y cyfamser daeth John Evans o'r Bala, a Mr. Charles, yr hwn oedd newydd ymuno â'r Methodistiaid, heibio, a phrynasant ddarn o dir i adeiladu capel arno. Yr oedd hyn yn y fl. 1785. Yr ymddiriedolwyr oeddynt : Thomas Evaus, Waunfawr ; Hugh WiUiams ; Eobert Jones ; Parch. Thomas Charles ; John Evans, Bala. Yn nghofnodau cymdeithasfa a gynaliwyd yn y Bala yn y fl. 1787, y cawn liyn : Talwyd i glirio capel Wauufawr £5. Ee wel y darllenydd wrth yr hyn a ddywedwyd nad yw capel y Waunfawr ond diweddarach na llawer o gapelau Gwynedd, er fod achos Methodistaidd yn yr ardal yn fuau ar ol dyfodiad Howel Harris gyntaf i'r wlad.

Wedi cael capel yn y lle, caed merch i Thomas Griffith, yr hen bregethwr, i ofalu am y pregethwyr a ddeuai yno o bryd i bryd. Bu y fenyw hou yn gwasanaethu yn ffyddlawn a diwyd yn hyn o ran, a thros ei thymhor. Ac mor gymeradwy ydoedd ei gweinyddiaeth, nes y byddai dyeithriaid yn anelu eu teithiau i fod yn y Waun y nos. Yr oedd ei brawd Dafydd hefyd, trwy ei gwmniaeth, a'i farddoniaeth yn peri at-dyniad chwanegol i'r lle. Sonir am un tro, pan ydoedd üafydd Morris, Twrgwyn, yno, yr hwn oedd nodedig yn anad neb a welwyd erioed, mae'n debyg, yn mhulpudau y Methodistiaid, o ran ei dewdra a'i gorpholaeth, ddarfod iddo ofyn i'r bardd gyfansoddi penniU iddo, cyn ymadael. Daeth yr amser, pa fodd bynag, i'r pregethwr fyned i ffordd, ac a aeth ar gefn ei anifail, pryd y gofynodd eilwaith ara benill, a chafodd un, raegys yn ddifyfyr, dyma fe :

Am Dafydd Morris, yr ^vyf fi'n syn,

Nid oes (mae hyn yn rhyfedd), Berifeithiach Cristion mewn un phvy'

Yn cario m^vy o lygredd ; Ar fyr elied ei enaid ef

Yn iach i'r ncf feudigaid, A'i gorff" a fydd yn ngwaelod bedd

Ddanteithiol wledd i bryfaid.

Dylid crybwyll yma mai mab i Thomas Evans, Waunfawr, oedd Evan Evans ; gŵr ieuainc o'r fath fwyaf gobeithiol o ran talentau gweinidogaethol. Llew- yrchodd yn ddysglaer iawn am dymhor byr, ond buau y symudwyd ef o'r eglwys obiy i'r un orfoleddus fry. Efe oedd ganwyll yn llosgi ac yn goleuo, ac ewyllysgar oedd niferi mawrion i aros yn ei oleuni, ond ni roddwyd iddynt. Daliodd afiechyd ef yn ieuane, a symudodd am feddyginiaeth i fro Llanidloes, lle y dybenodd ei weinidogaeth a'i oes. Machludodd ei haul ef cyn cyrhaedd o hono ganol-ddydd oes cyffredin, er mawr alar i'r rhai a'i hadwaenent. Fe fu yma amryw o flaenoriaid * ffyddlawn ac effro, y rhai y

* Yn mysg y rhai boreuaf o'r blaenoriaid, enwir William Hughes, Glyn-afon ; William Parry, Gwastad-faes ; Thomas Jones, Gwridog ; Humphrey Thomas, Hafod- oleu; Evan Griffiths, Bryn-yr-eithin ; Henry Thomas, Crydd ; Dafydd Jones, Pen-v- cae ; John Hughes, Tŷ'n-twll ; a Morgan 0wen,"'Tŷ'n-cae-uew7dd.

158 HANESIAETH Y SIROEDD. [l)OSB. IV.

mae eu coífa yn barcluis a beudigedig hj^d heddyw. Dechreuodd yr ysgol Sabbothol yma yn y íl. 1791. Y prif oíferynau yn ei sefydliad oedd y rhag-grybwylledig Evau Evans, a John Prichard, yr hwn a fuyu aelod gyda'r Methodistiaid am 60 ml. Gellir edrych ar y Waunfawr fel maniaeth Meth- odistiaeth Caeruarfon, Salem, Rhyd-ddu, a Drws-y-coed. Dywedai Thomas Evans am Gaernarfon, nad oedd neb yn y dref a roddai iddo gwpauaid o ddwfr oer, fel pregethwr. Yr oedd y dref y pryd hwnw, fel yr oedd llawer o'r trefydd, yn garedig yn erbyn yr efengyl, íe, am amser maith ar ol iddo osod ei throed i lawr, a chael gorphwysdra yn y gymydogaeth gerllaw.

CLYNOG.

Mae bro Clynog yn un o hen wersyllfaoedd y Methodistiaid, ae yn ddos- barth o wlad y mae wedi hen wreiddio ynddi. Sonia Eobert Jones am ẃr eglwysig, o'r enw y Parch. Eichard jSTanney, yr hwn oedd yn fìcar y plwyf, ac yn ddyn rhagorol. Yr oedd yn byw yn y Farchwen, ac yn ^vr hynaws a thirion. Ehagorai yn ei weinidogaeth ar bawb ymron o'i frodyr urddasol yu yr hoU wlad. Y'r oedd, meddant, wedi ymddyosg mor llwyr oddiwrth y byd a'i ofalon, fel nad adwaenai ei anifeiliaid ei hun, oddieithr yr un a farchogai, Ee ymddeugys, er hyn, ei fod wedi parhau i lafurio dros dymhor maith heb nemawr Iwyddiant, ond tua diwedd ei oes ymddangosodd megys goleuni yu yr hwyr. Corouwyd ei weinidogaeth ag ar- ddeliadmawr ; diferodd fel y gwlaw ar ddaear grâs, a phrotìd hi fel olew a gwiu yn archolliou eneidiau trallodedig. Parodd hyn at-dyniad a sugn rhyfeddol i wa-audo arno, a chyrchai Uuaws mawr o ddynion o'r wlad o amgylch, nes oedd eglwys fawr Clynog, yr hou sydd fel eglwys gadeiriol o faiutioli, yu hauner Uawn o wrandawyr astud a thoddedig. Gan ei henaiut a'i lesgedd, yr oedd yu yn rhaid ei gynorthwyo i'r pulpud. Ar ol pregethu, eisteddai yn y pulpud i aros i'r gynulleidfa ganu salm neu hymn, a mynych, medd yr haues, y byddai tywalltiadau o orfoledd yr iachawdwriaeth yn gorlenwi Uawer o'r gwrandawyr, a'r adeilad fawr a ddadseiuiai yn hyfryd gan haleluia i Dduw a'r Oen.

Mae yr ysgrif sydd o fy mken, gan breswylydd parchus yn y plwyf, jm dadgan, yu chwauegol at yr hyn a ddywed Robert Joues am dauo, mai wrth wraudo ar y IMethodistiaid y cyrhaeddodd y gair galon Mr. Nanney. Os felly, y mae yn profi yu amlwg fod pregethu gau y Methodistiaid yn y lle hwn er yn foreu ar y diwygiad. Bu farw y Parch. Eichard Xanuey yu hen ac yu gyflawn o ddyddiau, pan ydoedd dros 80 ml. oed. Ar y dechreu, a thros rvw dymhor wed'yn, nid oedd neb a dderbyniai bregethu i'w dŷ, oud cynelid y moddion achlysurol ar yr heol, yn yr awyr agored. Yr oedd effeithiau grym- us anarferol, er hyny, yu cydgerdded â'r weinidogaeth y pryd hwn, nes byddai amryw yn tori allan i waeddi am eu bywyd, wedi eu dwysbigo yu eu calonau. Y'^r oedd y fath olygfa y pryd hwnw, yn amgylchiad dyeithr iawn, Y fath na allai y bobl gyffrediu ei ddeall, a thybient yn ddihü, fod y cyfryw rai wedi gwallgofi : ac o dan y syniad hwn aent yn awr ac eilwaith i ymufyn am reffyaau i rwymo y gwallgofiaid.

PEN. III.] SIR GAERWARFON. 159

Ond os oedd y gair yn eíFeithio mor ryraus ac iacluisol av rai, yr oedd eraill yn ymgaledu. Yn ughyfrif Whitfield gynt, nid oedd pregeth o nemawr o werth, oni byddai rhai o'r gwrandawyr yn bendithio ac eraill yn melldithio. •Dyoddefodd rhai o'r pregethwyr cyntaf luaws mawr o helbulon, ac yn eu mysg yr oedd Lewis Evan, Llanllugan, yr hwn oedd un o'r pregethwyr boreaf yn Ngwynedd."* Pan oedd y gŵr hwn yn cynyg pregethu yn Nghlynog, daeth boneddwr ag oedd yn byw yn y plwyf ato, ac a roes ddyrnod iddo â choes ei chwip, nes oedd ei waed yn llifo. Ond prin y cyrhaeddodd y gŵr mawr ei gartref nad oedd ei gydwybod yn ei aflonyddu yn ofnadwy, ae ni allai lai nag anfon ei was ar ffrwst yn ol i'r pentref, i ofyn yn nghylch helynt y pregethwr. Ond pa faint bynag oedd pigiadau ei gydwybod o herwydd ei ymddygiad annynol at ddyn cyfiawnach nag ef ei hun, ni welwyd un arwydd yn y canlyniad, o wir edifeirwch arno, eithr parhaodd yn ddyn anüwg an- nuwiol tra fu byw, a bu farw mewn modd disymwth ac arswydus, ar lawr ei dŷ, yn ysglyfaeth, fel yr ymddengys, i anwydau gwylltion, ac wrth geisio troedio ei forwyn.

Yn fynych iawn, pan fyddai gweision yr Arglwydd mewn enbydrwydd gyda'i achos, fel yr oedd Lewis Evan, ar hyn o bryd, fe gyuhyrfid rhy w un, a hyny, yn aml, heb ei ddysgwyl, i roddi nodded iddynt. Ee wnaed hyn y tro hwn. Nid oes wybod i ba raddau mor bell yr aethai y boneddwr yn ei greulondeb a'i wylltineb, yn baeddu y cynghorwr tlawd, oni bai i ẃr o'r enw Eobert Prys, o'r Eelin-faseg, sefyll drosto, fel na chafodd y pregethwr ail ddyrn- od. Fefu yr un gŵr yn noddwr i weision yr Arglwydd amryw droau ar ol hyn.

Yu mhen rhyw gymaint o amser ar ol y pregethu achlysurol hwn ar yr heol, fe gafodd gŵr o'r enw Hugh Griifith, neu Hugh Griffith Hughes, ícl y.'i gelwid, ar ei feddwl i roddi lle i arch yr Arglwydd. Dilledydd ydoedd o ran ei greff't, ac yn byw yn y Eoel, tua dwy filldir o'r pentref, Ond nid hir y bu y seibiant hwn, oblegyd codwyd Hugh Griffith, o'r Eoel, ac allan o'i gan ei feistr tir, am iddo dderbyn pregethu ; a bu yr achos drachefn, dros ryw dymhor, heb un lle i roi ei droed i lawr. Yn yr amgylchiad hwn, cafodd gŵr ag oedd yn byw ar ei dir ei hun, ar ei feddwl adeiladu tỳ ar ei dir, a'i osod i grefyddwr i fyw ynddo. Enw yr uchelwr a wnaeth y gymwynas hon oedd Hugh Evans o'r Berthddu, Nid oes lle i feddwl fod y gŵr hwn, ar y dechreu, yn adnabod yr efengyl, nac wedi profi ei dylanwad ar ei galon; a phahani y mynai ddangos y caredigrwydd hwn i achos a ddirmygid gy- maint gan wreng a boneddig, nis gwyddom ; gyda y gwyddom hefyd, fod calonau pawb yn llaw Duw, i'w tueddu, îe, yn ddiarwybod iddynt eu hunain, i fod yn offerynau i ddwyn ei amcanion gogoneddus i ben. Enw y crefydd- wr a gymerodd y Berthddu-bach, fel y gelwid y newydd, oedd Dafydd Prisiart Dafydd ; ac yn y hwu y bu yr efengyl yn cael lloches dros ryw ysbaid.

Yr oedd Hugh Evans, er ei dynerwch at y Methodistiaid, yn ymhoffi yn

* Gwel ei hanes, tudal. 123, Cyf. I.

160 HANBSIAETH Y SIUOEIíD. [dOSB. IV.

fawr mewn cauu a dawnsio, a phob difyrwch cnawdol o'r fath. Yr oedd yn berchen crwth neu ffidil, ac yn chwareuydd campus arni, ac ato efyr ymdyrai Uuaws o'i gymydogion diofal yn fynych, ar ddechreu-nos i ymddifyru mewn dawns a phleser. Dygwyddodd fod pregeth yn y Berthddu-bach, ar ryw noswaith, pryd y penderfynodd y cwmni llawen hyn, am y tro, roi heibio eu difyrwch, a myued i wrando y bregeth. Gwelodd Duw yn dda goroni y weinidogaeth y pryd hwnw ag awdurdod mawr, fel ag i gyrhaedd cydwy- bodau amryw o'r gwrandawyr, ac yn eu mysg yr oedd Hugh Evans, y pen carapwr ei hun. Aeth adref o'r bregeth, a dywedodd wrth ei wraig, yn un o'r pethau cyntaf, " Mi doraí yffidil yn ddarnau mâu ! "

" Na ; gresyn ! '' meddai y wraig, " peidiwch ei drylliOj fe fydd yn dda gan Wil Evan ei chael."

"Nage," ebe yntau, " ni wna ond y drwg iddo jnitau." Yna ymaflodd yn yr ofleryn, ac a ddechreuodd ei churo yn erbyn hen gist ystyfliog oedd yn ei ymyl, nes oedd yn chwilfriw mân ar hyd y llawr. Uu arall o'r gwrandawyr oedd hoff iawn o ymladd ceiliogod ; yntau a ddywedodd mai y peth cyntaf a wnai, ar ol cyrhaedd gartref, fyddai tori pen y ceiliog ; ac felly y gwnaeth. Yn y raodd yma y dangosent eu hymddial, dan rym argyhoeddiad, ar yr hyn a fuasai yn fagl ac yn dramgwydd iddynt o'r blaen, a'u penderfyniad na chae fod felly byth mwy.

Yn y Berthddu-bach y cynalient eu cyfarfodydd eglwysig ; ond mawr y rhagfarn oedd yn y fro yn erbyn y cyfarfodydd hyn yn anad dim rhai eraill. iRhaid oedd i'r aelodau ymlithro iddynt mor ddirgelaidd ag y gallent ; gan lechu yn fynych ya nghysgod y gwrychoedd, rhag eu canfod gan eu herlidwyr, fel pe buasent yn ddrwg-weitliredwyr erchyll, ac ofn arnynt gael eu dàl. Nid yn hir ar ol adeiladu y Berthddu, agorodd drws arall i dderbyn pregethu, sef Tŷ'u-lon, lle tua dwy fiUdir o'r pentref, a cherllaw y Ue y mae yr hen gapel yn awi- yn sefyll.

Tra bu yr achos yn y ddau le crybwylledig, cymerodd adfywiad grymus le, yn enwedig yn mhlith y plant, Ar yr adeg hon, torai allan yn waeddi ac yn orfoleddu yn eu plith ; deuent allan o Dŷ'n-lôn, ac arweinid hwy tua chartref, tra byddent yn moliannu ar hyd y ffordd. Dygwyddodd unwaith fod ficer y plwyf, yr hwn nid oedd o'r un ysbryd a'i ragflaenor Mr. Nanuey, yn dychwelyd adref i'r Gwynfryn, ar ei geftyl, ar ol cyflawni y gwasanaeth, a chwip fawr yn ei law, fel gŵr yn dychwelyd o liela ; pan ddaeth i'r fan a chlywed y phmt yn gwaeddi, ei ysbryd a gynhyrfwyd ynddo, a'r olynwr apostolaidd (?) a ddechreuodd chwipio y plant mewn nwydau cyffrous, gan eu gorchymyn i dewi. Ond i'w gwaredu, daeth Eobert Prys, y gwr a amddiffynasai Lewis Evans rhag y gŵr boueddig, allan o'i dŷ, ac a ymaflodd yn mhen y ceffyl, gan ddywedyd wrth y ficer, " Dyma'r ffordd i'r Gwynfryn, Syr. ' Pe tawai y rhai hyn fe lefarai y cerig yn y fan.' " Nid gwiw oedd tynu yn groes, ac nid oedd bellach gan y ficer ond cyfeirio ei Iwybr tua thref, rhag y dygwydJai iddo yr hyn a fyddai gwaeth.

Tua'r fl. 1759 y bu hyn. Yr oedd Hugh Griffith y dilledydd, yr hwn y

PEN. III.] SIR GAERNARFON. 161

soniasom am dano o'r blaen, a'r hẁn a drowyd allan o'i am dderbyn pregetliu iddo, yn byw bellacli mewn tyddyn a elwid Tŷ'n-y-coed. Tr oedd gwèn rbagluniaeth yn amlwg arno, a'r Arglwydd a'i llwyddasai yn ngwaith ei ddwylaw, nes y daeth yn alluog, erbjni hyu, i biynu tyddyn iddo ei hun. Ei enw ydyw Bryscyni-isaf. IMor ebrwydd ag y daeth yn feddiaut iddo, anrhegodd yr achos crefyddol â hanner erw o dir i adeiladu capel arno, yn rhad ac am byth. Anhawdd iawn yn aml, y pryd hwnw, oedd cael tir i ad- eiladu capel arno, gan fod perchenogion tiroedd, y rhan amlaf o lawer, yn gosod eu hwynebau yn benderfynol yn erbyn y crefyddwyr newyddion hyu. Eto dyma \vr tlawd, trwy ddiwydrwydd gyda'i grefft, yn alluog, nid yn uuig i roddi llain o dir i adeiladu addoldy arnOj ond hefyd i bwrcasu tyddyu yn feddiant iddo ei hun.

Wedi cael y tir yn y dull annysgwyliadwy hwn, aed yn mlaen i ddechi'eu adeiladu. Yr oedd hwn, drachefn, yn orchwyl pwysig a gorchestol i nifer bychan o bobl dlodion, a phrin y gwyddent pa fodd i ymosod arno. Pwy a geid i godi y cerig, ac i'w cludo i'w Ue ? Yn mha le y ceid arian i dalu i'r crefftwyr am eu gwaith ? Pa fodd bynag, cychMynodd gŴT o'r enw Eobert Siôn Evan i ymofyn am gerig, a dywedir iddo fod yn tirio, wrtho ei hunan, am ysbaid tair wythuos, mewn chwarel gerllaw, Hen ŵr arall o'r euw Oweu Hughes a roes fenthyg y cár-llusg, a'i ferlyn bychan, i'wllusgo at yr adeilad; a geneth fechan iddo, deg oed, oedd yr un a dywysai y merlyn. Daeth yr eneth fechan hon yu mhen amser i fod yn hynod mewn gras a defnyddioldeb. Bu yn aelod gyda'r Methodistiaid am 77 o flynyddoedd, ac yn ystod y tym- hor maith hwn tynodd ei chŵys mor union, fel na fu achos gweiuyddu un cerydd arni dros yr holl amser hwnw. Cyfrifai yn anrhydedd fawr iddi gael gweini yn rhyw fodd i achos y Cyfryngwr ; a chrybwyUai yn ei hen ddyddiau yn aml, am y fraiut a gawsai yu ei mebyd, o gynorthwyo i ddwyn yn mlaen deml i'r Arglwydd yn y lle, îe, yr addohly cyntaf,* neu y cyntaf ond un, yn sii' Gaernarfon.

Heblaw rhyw nifer bychan o ddynion ffyddlon a roddent eu llafur, nid oedd ond pedwar o ẅŷr i fyned tan y baich o adeiladu, sef, Hugh GrifBth, rhodd- wr y tir ; Morris Marc, Llangele ; Eobert WiUiam, Tan-yr-allt ; a Eobert Prys, Melin-faeseg. Wedi ei adeiladu, aeth dau o honynt aUau i gasglu hyny a alleut gael tuag at ei adeiladu. Yn mysg manau eraül, galwasant yn y Plas-newydd, gerUaw GlynUifon,f Ue yr oedd amaethwr cyfrifol, o'r enw EUis Hughes. Yr oedd y gŵr hwn yn eglwyswr týn, ac yn ddyn annhebyg iawn i estyn uu math o gymhorth i'r crefyddwyr dirmygedig hyn. Eto an- turiasant osod eu cwyn o'i flaen, ac yn y fan y deaUodd eu neges, bytheiriodd bob math o achwynion yn eu herbyn, gan eu cyhuddo o fod yn dwyUwyr ; ac yn Uwyr fwyta tai gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir weddioj

* DyAved Robert Jones mai hwu oedd y capel cyntaf yn sir Gaeiuarfon, ond mae o flaen fy llygaid, yn awr, lyfr o goftiodau y gymdeithasfa yn dadgan fod un capel, sef capel Tŷ- mawr, Bryucroes, wedi ei godi tuag 8 ml. o flaen yr amser y djTv'edh- i gapel Clynog gael ei godi. Hwnw yn y fl. 1752, hwn yn y fl. 1760, f Palas Argl-nydd Ne'^yborough.

M

163 , HANESIAETH Y SIliOEDD. [dOSB. IV.

gaii (Idibrisio heu sefydliadau eu gwlad. Oud nid oedd y ceuadau yn cyffroi wrtli iddo eu cyliuddo o'r fath droseddau, nac yn cilio yn ol yn ebrwydd mewn llwfrdra, oud safasant eu tir, gan ymresymu ag ef o'r Beibl, yr hwn a ddyg- wyd i'r bwi'dd ar yr achlysur ; ac ymresymu y buont o ganol dydd hyd nes oedd ymron yn nos. Ymddengys, pa fodd bynag, er canraoliaeth i synwyr yr eglwyswr, neu i ddoethineb y crefyddwyr, neu i bob un o'r ddau, fod rhag- farn y gŵr yn llai ar ymadawiad yr ymwelwyr nag oedd ar cu dyfodiad, gan y cawsant anrheg o ffiìii ganddo yu y diwedd.

Buwyd yn cynal moddion yn y Tŷ-newydd, fel y gelwid y capel ar y dechreu, am ysbaid pedair blynedd, heb ryw ymweliadau grymus ynddynt. Ondtua'rfl. 1763, torodd adfywiad allan, ond nid oes dim o hanes yr adfyw- iad hwn ond ei fod. Cafwyd adfywiad cyff"elyb drachefn tua'r fl. 1779. Dechreuodd hwn mewu cyfarfod gweddio a gynaliwyd ar aelwyd y capel. Ar p aclüysur hwn disgynodd y fath ddylanwadau ar y rhai ag oedd yn bresenol, na anghofiwyd mo'nynt tros eu hoes. î Sabboth canlynol yr oedd Eichard Dafydd, o Leyn, yn pregethu yno. Nid oedd y gŵr hwn, fel y cry- bwyllwyd o'r blaen, yn meddu ar nemawr o ddawn a medrusrwydd gweinid- ogaethol, eto coronid ef yn achlysurol ag arddeliad anarferol. Felly y bu y tro hwu. Gwisgwyd ef â nerth o'r uchelder. Yr oedd yr hen ŵr dan y fath ddylanwadau nerthol, nes oedd ei eiriau fel gwreichion tanllyd yn disgyn ar y gynidleidfa, fel nad oedd modd eu gwrthsefyll. Yr oedd nerth cenllif aruthrol yn y weinidogaeth, a than ei grymusder yr oedd Uawer mewn dychryn a braw yn gwaeddi am eu bywyd. Daeth 15 i ymofyn am ymgeledd ac aelod- aeth eglwysig yn y cyfarfod cyntaf a gaed i hyny, a Uuaws maAvr ar ol hyny, dros ryw dymhor. Oddiar yr amgylchiad hynod uchod y bu galw Eichard Dafydd yn Rowlands o Glynog, gan awgrymu ei fod, ar y pryd hwnw, yn pregethu yn Uawer tebycach i Eowlands o Langeitho, nag i hen gynghorwr bychan o Leyn. Nid oes i ni feddwl fod y cyftro hwn yn ngwersyll y Meth- odistiaid yn ddisylw gan eu gwrthwynebwyr, ond nid oedd nemawr i'w cael, er hyny, yn ddigon eofn i ymosod arnynt ; safai rhai yn syn fel rhai yn ymofyn beth allai y pethau hyn fod ; eraill a droent draw, gaíi eu dirmygu yn eu calon. Fe gaed un, pa fodd bynag, a anturiodd yn mhellach, a hwnw oedd ficer y plwyf. Daeth hwn ryw Sabboth i mewu i'r capel, dan waeddi yn gethin, "Pa beth yw y swn drwg sydd yma, o bryd i brj^d? " Yna, gan yniaflyd yn y pen meinaf i'r chwip oedd ganddo, gwnai ei ffordd tuag at y pregethwr, i'w íflangellu â'r chwip. Ond nis caniatawyd hyny iddo, oblegid ymaflodd gŵr o'r enw Wiiliam Parry, jt hwn oedd yn byw yn y Mynachdy, yn yr offeiriad, gan roi ar ddeall iddo na chai gyffwrdd â'r pregethwr ar ei berygl.

Ond er fod yr achos crefyddol, yn y modd yma, yn raddol yn ymwreiddio yn ddyfnach jti serchiadau y bobl, a'i ddeiliaid yn Uuosogi o bryd i bryd, eto nid oedd llawer o'i ddylanwad wedi cyrhaedd y werin yn gyffredin. Yr oedd anniweirdeb y fro yn uchel a brigog. Y Sabbothau yn cael eu hal- ogi gan ieuenctyd yn yradyru at eu gilydd, i gyflawui campau ftol a chwareu- on ofer, heb neb yn "meddwl am eu diwedd." Ond nid oedd yr ychydig

PEN, III.] SIR GAEENARFON. 163

grefyddwyr ddim yn segur, gan eiddigeddu dros lesâd ysbrydol y weriu ddi- ofal. Esgorodd eu hawyddfryd ar foddiou anarferol y pryd hwnw, sef agor ysgol nos i ddysgu i'r ieuenctyd ddarllen y Beibl. Nid oes geuym nemawr 0 hanes y wedd oedd ar y cyfaifodydd hyn. Gallwn yn hawdd ddirnad fod eu deiliaid ar y cyntaf o leiaf yn anwaraidd iawn, a'u hathrawon, ond odid, yn rhai trwsgl ac anghyfarwydd ddigon, eto yr oedd eu hamcan yn gywir, a bendithiodd yr Aj-ghv}-dd eu Uafur. Ar ddiwedd un o'r cyfarfodydd hyn, ac ar ol i un o'r brodyr weddio, fe roddwyd allan beuill i ganu, a hwn oedd y penniU

Fel fflamau anglierddol o dân,

Yw cariad fy anwylyd o hyd, Fe losgodd bob rh^\ystrau o'i íiaen,

Fe yfodd o'r afon i gyd ; Ymaflodd mewn dyn ar y llawr,

Fe'i dygodd â'r Duwdod yn un ! Y pellder oedd rliyngddynt oedd fawr,

Fe'i llanwodd â'i haeddiant ei hun.

Wedi rhoi y 'pennill allau, ni chaed neb yn mysg yr hen bobl i daro y dôn arno, er iddynt oll geisio at hyny. Ar hyn cynygiodd un o'r bobl ieuainc wneyd y diffyg i fyny, a llwyddodd. Parodd hyn awyddfryd yn y rhai ieuainc i'w gynorthwyo, nes oedd y canu, ar hyn o bryd, yn fwy grymus uag arferol. Cafwyd blas ar y gân, ac ar y geiriau ; a chwanegW'yd eu canu drosodd a throsodd, am gryn dymhor. Yn mhen enyd, torodd rhyw rai allau i lefain, a cherddodd yr un teimlad trwy y gynulleidfaj nes aeth pawb, yn hen ac ieuainc, i waeddi. Clybuwyd y swn o'r tai nesaf, a'u preswylwyr a ddaethant i mewn i ediych pa beth a allai fod yr achos ; ond gan gynted ag y deuent i mewn, disgynai arnynt hwythau deimladau cyffelyb ; parodd hyn i rai ofni myned i mewn, ond rhedasant yn ol i fynegu y newydd i dai eu cymydogion. Yr oedd, bellach, yn tynu tua chanol nos ; dywedent fod rhy w beth rhyfedd iawu yn y capel : cododd hyn fwy o gyffi'o fyth, a phawb a'r a allai a adawsant eu tai ac a aethant tua'r capel, a meddiannwyd hwy gan yr un ysbryd. Aeth un hen ŵr yno wrth ei fí'on, a chan rym y cynhyrfiad, cipiwyd ef i'r un agwedd, a dechreuodd foliannu â'i holl egni, er nad oedd dim difrifol wedi bod ar ei feddwl erioed o'r blaen. Erbyn hyn, yr oedd tuag un o'r gloch y boreu, a'r capel yn Ilawn braw a chyffro, y fath na welsid yn yr ardal hon y cyflelyb.

Cyfrifid yr adfywiad hwn yn un o'r rhai grymusaf, a chwanegwyd at y gymdeithas eglwysig tua 80 o aelodau. Yr oedd hyn yn y fl. 1793. Yr oedd yr achos Methodistaidd wedi dechreu yn wauaidd yn y fro er ys mwy na 40 mlynedd cyn hyn, ond fe dderbyuiodd yn yr amgylchiad hwn fwy o ysgogiad yn mlaen, megys mewn un noson, a hyuy trwy foddion annhebygol iawn, nag a gawsai o'r blaen am ysbaid deugain mlynedd a mwy. Pa gyfrif bynag a ddyry neb o'r peth hwn, a Ilawer o wahanol syniadau, ond odid, a lochesir am dano, y mae y ffaith yr un ; a'r ftaith hòno yw hyn ; Eod

164 HANESIAETH Y SIHOEDD. [ûüSB. IV.

teimladau toddedig a chyíFrous wedi disgyn ar ryw nifer o bobl, hen ac ieuainc, wrth ganu pennill ; a bod y teimladau hyn weui cerdded o galon i galon, nes cyíFro yr hoU ardal, fod nifer mawr o bobl ddiofal y fro wedi eu cynhyrfu, ac yn y diwedd fod eu rhagfarn yu cael ei orchfygu, ac iddynt gael eu hennill i ymuno â'r bobl a ddirmygasent o'r blaen ; a bod tua 80 o aelodau wedi eu chwanegu at y gymdeithas eglwysig.

Cafodd yr achos y fath ysgogiad a chynydd trwy yr adfywiad hwn, nes aeth y capel a adeiladasid yn y íi. 1760 yn rhy gyfyng, a helaethwyd ef yn y fl. 1796. Bellach, dechreuodd yr achos ymledaenu, ac estyn ei wreiddiau. Yn fuan wedi helaethu y capel, dechreuwyd pregethu tua'r Hen-derfyn-deu- blwyf. Bu pregethu yn y lle hwn dros flynyddau lawer ; ond o'r diwedd codwyd capel Bryneurau ; ac yn fuan wedi hyn chwalwyd yr hen gapel drachefn, a gwnaed yr un sydd yno yn awr. Adeiladwyd hwn yn y flwyddyn 1811.

Ymwelodd yr Arglwydd â'r ardal hon yn fuau ar ol adeiladu y capel y tro diweddaf hwn, mewn modd tra rliyfedd, ac i raddau tra helaeth. Yr oedd hyn tua'r fl. 1812. Dechreuodd jt adfywiad hwn mewn modd Ued ddyeithr a disylw. Yr oedd yr ysgol Sabbothol, erbyu hyn, wedi dechreu ennill ei lle yn sercliiadau y bobl, yn enwedig y bobl ieuainc, y rhai a arferent yn awr ac eilwaith adrodd pennodau o'r Beibl ar g'oedd y gynulleidfa. Y pryd hwnw, yr oedd newydd-deb yr arferiad, a dull efl^eithiol rhai yn adrodd peunodau, yn Uenwi mjnwesau y gwrandawyr â theimladau bywiog a chyff"rous. relly yr oedd yn Nghlynog. Yr oedd yma ferch ieuanc yn arfer tori allan yn fyu- ych i waeddi yn yr oedfaon, ond yn lled wanaidd. Arferai hefyd, gyda chyfeiUes iddi, adrodd pennodaii ar g'oedd. Un tro pan yn gwneyd hyn, ymddangosai y geiriau, m-th iddi eu hadrodd, yn eífeithio yn ddwys ar y ferch ieuanc arall, nes i hòno hefyd, wedi ei llwyr orchfygu, dori allau i lefaiu. Bellach, yr oedd y ddwy yn tori allan i lefain yn fynych y^i y moddion, ond nid oedd neb ond y ddwy. Cyhoeddwyd y byddai Robert Dafydd, Brynengan, a William Boberts, Clynog, yn pregethu gyda'u gilydd yno ar ryw amser pen- odol. Yr amser a ddaeth. Pregethodd WiIIiam Boberts yn gjTitaf oddiar Luc ix. 62, " Nid oes neb a'r sydd yn rhoi ei law ar yr aradr, ac yn edrych ar y pethau sydd o'i ol, yn gymhwys i deyrnas Dduw." Ond cyn iddo or- phen pregethu, disgynodd dylanwadau mor rymus ar y bobl, nes aeth y rhan fwyaf 0 honynt i waeddi, eraiU i wylo, a phawb a ddaliwyd a sjTidod. Nid anghofir y tro hwn byth gan y rhai a'i gwelodd. Ni roddwyd cyfleusdra i'r hen batriarch Eobert Dafydd roddi gair i mewn. Safai yn y pulpud yn syn, gan grafu ei ben a dyrysu ei wallt, â'i ddwylaw, yn ol ei arfer ; rhoddai ar- wyddiou fod ei lestr yntau yn orlawn, a'i fod yn barod i dori aUan i waeddi â'i holl egni. Teimlid yn gyfí'redinol fod Duw yn y Ile ! Yr oedd djTiion fel pe daüesid hwy â gwŷs oddiwrth orsedd y uef. Disgynai arnynt bryder a braw am eu hachos gyda Dduw, y fath na wyddent ddim am dano o'r blaen. Yr oedd y galon wedi ei phigo, yr ystyriaeth wedi ei ddeffroi, a'r gydwy- bod yn teimlo bys Duw yn ei ehyttroi. Hawdd ydyw i ddynionwrth ddarllen

FEN. IV.] SIR GAERNARFON. 165

yr lianes, betruso am natur yr orucliwyliaeth, ond uid oedd yr un ci yu medru cyfartb ar y pryd. Teimlai pawb oedd yn bresenol yn rliy wylaidd i ymddadleu yn ei gylcb, gau eu bod yn gwbl argyhoeddedig, fel Jacob am Bethel, fod '" Duw yn y lle ! "

Dygodd yr adfywiad hwn eilwaith efreithiau grymus ar yr achos, trwy chwanegiad helaeth at y dysgyblion, a thrwy ddarostyngiad hen arferion yn yrardal, y rhai a ddaliesid i fyny er's oesoedd, a'r rhai na fynasai y trigolion, mewn un modd, eu gollwng yn wirfoddol i lawr. Chwanegwyd, y tro hwn, tua 100 o rifedi at yr aelodau, ac nid oedd bellach ond ychydig o dai yn y gymydogaeth nad oedd allor i'r Arglwydd ynddynt. Darostyngwyd hefyd yr ymgynulliad a elwid GwyUnabsant, yr hon a gynelid gyda rhwysg mawr yn y pentref er cyn cof. Ymgasglai caunoedd, os nad miloedd, ar ddydd Llun y Sulgwyn, i gampio, meddwi, ac ymgecru ; a phrin y buasai un gyf- raith, pe gwnaethid un i'r dyben, yn ddigon grymus i fwrw yr ŵyl wttresol hon i lawr, eto diflanodd o íiaen y diwygiad hwn, megys heb orchest, fel y diflana tarth y boreu o flaen gwres yr haul : " diflanodd," meddai fy ngoheb- ydd, "mor llwyr, ues y gwelais y pentref mor lân oddiwrth ddim cynuUiad y diwrnod hwnw, mwy na diwrnod arall, ac ni chododd byth mo'i ben oud yn wanaidd iawn."

Bu adfywiadau eraiU yn îsrghlynog, mwy diweddar na'r rhai uchod ; un yn y fl. 1818, ac arall yn y fl. 1833. Yr oedd yr achos yn ymeangu mewn canlyniad i'r adfywiadau hyn. Ar ol y cyntaf o'r ddau olaf a enwyd, y cod- wyd capel Bryn-derwyn, a chapel Sîon. Codwyd yn ddiweddarach gapel yn mhentref Clynog, ac un arall yn mhen ucha'r plwyf. T"elly, o'r dyrnaid bychan dysgyblion yn y Berth-ddu, wele yn awr chwech o gapelau ! a'r achos gwanaidd, nad oedd iddo, ar y dechreu, ond prin ganiatâd i roddi ei droed i lawr, gan erlidwyr, yn awr wedi llwyr orchfygu y preswylwyr, ac wedi meddiannu yr holl fro !

PENNOD IV. EGLWYSI BOREAF Y SIR.

CYNWTSIAD :

LLANLL'iTFNI— Y BUARTHAU— -CYMDEITHASFA YN LLANLLYFNI YN Y FL. 1769— PREGETHWYR LLANLLYFNI— PREGETHU YN FFRIDD-BALA-DEULYN— NANT, NANTLLE, A THALSARN— PREGETHU YN SAETHON-BACH— ARGYHOEDDIAD HYNOD— ADFYWIAD NODEDIG— NEFYN PREGETHU YN CAE-RHYG— ARFERION LLYGREDIG— PWLLHELI— MICHAEL ROBERTS.

LLANLLYFNI.

Er mai yn Lleyn y dechreuodd Methodistiaeth ymwreiddio, eto ni bu rhanau eraill o'r wlad yn hir heb brofi gradd o'i ddylanwad, Crybwyllwyd eisoes fod capel wedi ei adeiladu yn mlüwyf Clynog mor foreu, medd rhai, a'r fl. 1750, yr hwn oedd y cyntaf, neu y cyntaf ond un, a godwyd yn hoU sir Gaernarfon ; ac ar y pryd y codwyd y capel hwn, nid oedd pregethu gan y Methodistiaid ond

166 IIANESIAETH Y SIHOEÜU. [uOSB. IV.

mewn ychydig o leoetld yii rhaudir Arfon. Yr oedd pregethu yn y Waun- fawr, a Llanberis, a'r Berthddu ; ond heblaw hyny y mae yn ansicr a oedd pregethu yn nn man arall, o Frynengan i Gonwy, oddieithr y gallai fod am- bell oedfa yn achlysurol. Mae Llanllyfni hefyd yn cael ei ystyried yn hen sefyllfa Fethodistaidd, ac yn ardal ag oedd, cyn i ddylanwad yr efengyl ei darostwng, yn nodedig am ei hannuwioldeb. Yr oedd gweithfaoedd llechau (slates) a chopr gerllaw, ac fel y bydd yn fynych mewn ardaloedd o'r fath, yr oedd y manteision gwhidol hyn yn achlysuro mwy o anuuwioldeb. Yr oedd anwybodaeth yn gordôi yr holl fro, fel niwlen dew, ac ni ddywedai neb, " Pa le y luae Duw yr hwn a'm gwuaeth i ? " eithr pawb oedd yn myned i'w ífordd ei hun, gan ddilyn tueddiadau ei natur lygredig. Meddwdod, llwon, halogiad y Sabboth, ymladd ceiliogod, a champau ofer eraiU, a fpynent yn mhob man, a hyny yn ddiwarafun. Ar nos Sadyrnau, ymgasglai y bobl yn lluoedd i'r pen- tref i yfed diodydd meddwol, ac yno yr arosai llawer o honynt hyd y boreu, yn meddwi ac yn ymladd â'u gilydd.

Yr oedd yma amry^y o faesydd neu dwmpathau penodol, Ue y byddai ugein- iau yn ymgasglu ar y Sabbothau i gyflawni pob math o chwareuon. Y rhan fwyaf crefyddol o honynt a aent i eglwys y plwyf y boreu Sabboth, ac at y campau y prydnawn. Ond yn ughanol yr annuwioldeb trwch hwn, dygwydd- odd i ŵr o'r enw WiIIiam WiIIiams glywed fod y Methodistiaid, ar amserau, yn dyfod i le yn mhlwyf Clynog, a elwir y Berthddu, i bregethu, a chododd blys arno i fyned i'w gwrando. Ehoddwyd cyfle iddo, ar ryw brydnawu Sabboth, i dori ei flys ; a myned a wnaeth ; ac efe, meddir, oedd y cyntaf o blwyf Llanllyfüi a fu yn gwrando neb o'r pengryniaid. Ymddengys, pa fodd bynag, ei fod wedi cael cymaint o flas yn yr oedfa hon, ag a'i tueddai i fyned drachefn, a pha amlaf y gwrandawai, mwyaf oll oedd ei syched. Aeth wedi hyny yn achlysurol i amryw fanau eraill i'w gwrando, gan ddenu ryw rai o'i gymydogion i fyned gyflag ef. Bu y moddion hyn yn fendithiol i'w ddychwel- yd ef, a thri o wŷi' eraül, oddiwrth eu hofer ymarweddiad, yr hon a gawsent trwy draddodiad y tadau, ac i'w gwneuthur yn flaenffrwyth yr efengyl yn mro eu genedigaeth. Enw y tri eraUl oedd, William Dafydd, William Jones, a William Eoberts. Y'^chwanegwyd atynt yn fuan chwaer WiUiam Wüliams, yr hon, ar ol hyn, a fu yn wraig i'r Parch. John Eoberts, Llanllyfni, y pryd hwnw, a Llangwm yn ei flynyddoedd olaf. Ai y dynion hyn i'r gymdeithas eglwysig a gynelid yn y Berthddu, oblegid nid oedd eto bregethu yn Llan- llyfni. Aent hefyd i wrando ar y áabbothau i ba le bynag y clywent fod pregethu ; ac nid anfynych y gorfodid iddynt fyned i eithaf Lleyn, dros 20 mUldir o íFordd, cyn cael oedfa ; ond digŵyn iawn oedd hyny ganddynt, gan y graddau helaeth o fwynhad a brofent yn y moddion.

Tua'r fl. 1763, meddir, y dechreuodd pregethu yn LlanUyfni. Ar y cyntaf, cynelid yr oedfaon yn agos i'r Buarthau, Ue y daeth WiUiam WiUiams ar ol hyny i fyw. Ni oddefid derbyn pregethu i'r gan berchenog y tir, yr hwn oedd y pryd hwnw yn byw yno. Yr oedd pob arall yn nghauad yn y gymydogaeth ; a phe derbyniasai un neu arall o'r pedwar gŵr a enwyd y

PEN. IV.] SIR GAEBNAHFON. 167

pregethu i'w dŷ, rliaid a fuasai iddo yrabarotoi i ymadael â'i auedd oblegid hyny ; dan yr amgylchiadau hyn yr oeddid yn pregethu, weitliiau ar fiu y ffnrdd, weithiau mewn cŵr o faes, a pliryd arall mewn hen dỳ gwag oedd yn agos i'r Buarthau.

Yn y íl. 1766, priododd William Williams ferch grefyddol iawn, o'r enw Catherine Pritchard, o blwyf Clynog. Yr oedd y wraig hon wedi ymuno â'r Methodistiaid er y fl. 1756, ac yn wraig hynod am ei chariad at yr cfengyl, a'i hymroddiad i'w gwasanaetliu hyd eithaf ei gallu. Fe fu y wraig hon dros ryw ysbaid yn Nhrefeca er mwyn oael gwrando gweinidogaeth Howel Harris. Ac yn ddiweddarach, hi gyrchai yn fynych i Langeitho i'r gymdeithasfa flyu- yddol yno, a bychan ganddi oedd cerdded 10 neu 15 milldir o ftbrdd i wrando pregethau ar foreu Sabboth. Cerddai yn gyffredin i Glynog, ac oddi- yno i'r Tŷ-mawr, Bryncroes, i wrando y dyeithriaid a ddeuent yn achlysurol drwy y wlad.

Wedi priodi, aeth i fyw gyda'i gŵr i'r Buarthau. Erbyn hyn, yr oedd perclienog y tyddyu hwnw yn fwy boddhaol, ac yn llochi tynerach meddwl am y Methodistiaid nag a wnaethai gynt ; a chaniatawyd idciynt ddwyn y pregethu i'r Buarthau. Yma hefyd, belUìch, yr ymgynuUai y gymdeithas eglwysig. Nid oedd y gymdeithas hon ond bechan iawn pedwar mab a dwy ferch ; ond er lleied eu nifer, ac er mor ddirmygus gan y byd ty wyll o'u hamgylch, yr oeddynt yn etholedig gan Dduw a gwerthfawr, ac yn dra hoff o'u gilydd. Fe ddywedir mai y Catherine Prichard uchod oedd y gyntaf yn sir Gaernarfon, a brofodd y fath hAvyl ar ei hysbryd, nes neidio mewn gor- foledd. Yr oedd awelon cryfion wedi disgyn amrywiol weithiau, raewn gwahanol fanau, nes byddai y gwrandawyr yn llefain neu yn moliannu ; ond hon oedd y gyntaf a neidiodd. Wrth wrando pregeth yii y Berthddu y bu hyn, a meddyliodd Ilawer o'r gwrandawyr mai cyrch gorwyllt o anmhwylledd ydoedd yn ddiau, ac o dan y syniad hwn ymaflodd rhyw un ynddi i'w dal. " Na ddeliwch fi," ebe hithau, " ' canys nid oes arnaf gywilydd o efengyl Crist, oblegid gallu Duw yw hi er iachawdwriaeth i bob un ag sydd yn credu,' a minau a'i profais felly." Cerddodd y son yn gyflym trwy'r fro hòuo, fod dynes yn rahlwyí' Clynog w.edi myned allan o'i synwyrau, wrth wrando ar y Methodistiaid yn pregcthu.

Wedi dyfod i'r Buarthau i fyw, bu hi a'i gŵr yn garedig iawn at achos yr efengyl dros dymhor maith o flynyddoedd, nid Ilai na deng mlynedd a deugain, gan gymeryd y draul ymron yn gwbl ar eu hysgwyddau eu hunain.

Ni a soniasom o'r blaen fod cymdeithasfa wedi cael ei chynal yn Llanllyfni, tua'r fl. 1769, ar y maes gerllaw pentref Llanllyfni.* Yr oedd y cyfärfodydd cyhoeddus hyn yn ddefnyddiol iawn, y pryd hwnw, i dynu sylw y wlad at yr achos crefyddol i roddi mantais i lawer i wrando na fynent, gan rym rhag- farn, ar un cyfrif, i neb eu gweled mewn pregeth, a gynelid mewn neu gapel ; ac i syraud ymaith y syniadau gau a dderbyniasid gau lawer trwy

* Gwel tudal. 382 o'r Gyf. I.

168 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

roddi clust i chwedlau celwyddog. Ond wedi clywed y pregethwyr eu hunain, a chael prawf na thraddodid ganddynt ond yr hyn oedd bwysig a da, lliuiarai eu rhagfarn, a darfyddai cu gwrthwynebiad. Nid oedd y cyfarfodydd hyn, ar y dechreu, ond bychain iawn, mewn cyinhariaeth i'r hyn ydynt yn awr, ond yr oeddynt yn fynych yn dra effeithiol, yn yr arddeliad a roddid arnynt, ac yn y gogoniant dwyfol â pha un y'u prydferthid.

Yn mhen blwyddyn neu ddwy ar ol y gymdeithasfa hon, Uuosogodd y gwrandawyr gymaint, fel y bu raid ymofyn am le eangach ; ac yn y fl. 1771, adeihidwyd capel ar dir y Buarthau ; a mawr, meddir, oedd y cablu ar y crefyddwyr gan di-igolion yr ardal, am ei wneuthur mor fawr, a sicrheid yn hyf a hyderus, na cheid byth ddigon o bobl i'w lenwi. A pha beth oedd ei faintioli ? Wyth llath o hyd, wrth chwech o led ! Nid mwy na chegin Uawer amaethdy !

Fe fu yma, fel mewn manau eraill yn y sir, amryw adfywiadau ar grefydd, mwy neu lai eu grym, a gwasanaethodd y cwbl i chwyddo, nid rbestrau Method- istiaeth yr ardal yn unig, ond nifer saint y Goruchaf hefyd. Dechreuodd yr ysgo) Sabbothol ei llafur yn yr ardal hon yn y fl. 1796. Yr oedd hon yn fechan iawn ar ei chychwyniad. Anhawdd iawn oedd cael neb yn foddlawn i fod yn athrawon ynddi. Ehaid oedd gosod math o orfodaeth ar ry w nifer, pawb yn eu cylch, i gymeryd y baich hwn arnynt. Ni cheid neb, y pryd hwnw, a edrych- ai ar y gwaith o addysgu plant ar y Sabboth yn amgen na Uafur caled, i'r hwn yr ymostyngent oddiar fath o orfod. Eto, er hyn oll, hi a Iwyddodd yn rhyfeddol. Ymgasglodd yr ieuenctyd iddi, yn lle i'r twmpathau chwareu. Ciliodd llawer o'r anwybodaeth a orchuddiai y wlad, trwy helaethach cydna- byddiaeth â'r ysgrythyrau ; gwelodd y crefyddwyr yn fuan ei llesoldeb, ac ennillwyd hwy i roddi eu liysgwyddau dani gydag ymroddiad llwyr a siriol, gan edrych ar y gwasanaeth bellach, nid fel iau drom, ond fel rhagorfraint oruchel.

Yn fuan wedi dechreu cynal cyfarfodydd egiwysig yn yr ardal, cafodd Catherine Jones, mam y Parch. John Eoberts, Llangwm, ar ei meddwl i ym- uno â'r ychydig Fethodistiaid yn y Buarthau. Yr oedd ei gŵr, Eobert Thomas, ar y Uaw arall, yn dra amddifad o grefydd, ie, ja dra gìTiihwynebol iddi. Dywedir ei fod yn ei ieuenctyd yn ddyn gwyllt, cryf, ac ymladdgar ; a chan rym ei elyniaeth at grefydd, ymddygai yu adgas at ei wraig, a bygythiai niwaid i'r cynghorwyr. Hysbyswyd iddo, gan ryw un, bod oedfa i fod ar ryw foreu Sabboth mewn lle a elwid Pencoed, yn Eifionydd, a phenderfynodd Eobert fyned yno, nid i wrando ond i aflonyddu yr addoliad ; ac efallai i ni- weidio y pregethwr ; ac nid oedd un sicrwydd, gan leied o feddiant oedd ganddo arno ei hun, pan mewn cyffro digofus, nad allai fod yu euog o lofruddiaeth. Cyn cychwyn i ffordd, rhoes ar ddeall i'w wraig ei fod yn bwriadu myned i Bencoed, ac i ba ddyben. Hysbysodd iddi ei fod ar fedr dysgu gwers ddigon chwerw i'r twyllwr, a ddeuai ar draws y wlad i gam- arwain ac i dwyllo dynion diniweid.

Y'n yr ysbryd hwn, ac ar y bwriad gwaedlyd yma yr aeth ef i ffordd ; a

PEN. IV.] SIR GAERNARFON. 169

chan adnabyddiaeth y wraig o dymher anhawddgar ei gŵr, ofnai yn fawr am y pregethwr, rhag y byddai iddo gael niwaid dwys, neu yn wir ei ladd, Par- haodd y wraig yn yr anesmwythder hwn trwy y dydd ; a mynych yr âi hi allan i ysbio a fyddai Kobert yn dod yn ol. Dychwelodd i'r lawer gwaith yn siomedig ac yn bryderus, a'i hofnau yn trymhau bob tro : o'r diwedd hi a'i canfu ef o bell yn dyíod, a phrysurodd i'w gyfarfod. Pan ddaeth ato, deall- odd ei fod yn ymddangos yn fwy dwys a difrifol nag y byddai yn arfer, yr hyn a barodd iddi ofni mwy, ei fod wedi tynu drwg yn ei ben, trwy niweidio neu ladd y pregethwr; a gofynodd iddo yn brysur iawn, "Eobertbach, a wnaethoch chwi ryw niwaid i'r dyu dyeithr ? "

" Na wnes i," ebe yutau, " ac nid o'm bodd i y caiíf neb arall wneyd niwaid iddo ? "

Deallodd y wraig yn bur fuan fod ei gweddiau wedi cael atebiad ; bod daioni yr efengyl wedi gorchfygu drygioni ei gŵr ; ac y byddai, bellach, yn gynorthwy, ac nid yn rhwystr iddi yn ffordd y bywyd. Ymunodd yn fuan ar ol hyn â'r gymdeithas eglwysig yn y Buarthau, a daeth arwyddion i'r golwg ei fod, bellach, gymaint ei bryder a'i awyddfryd am lesâd ysbrydol ei deulu, ag oedd ei ddiofalwch blaenorol. Codwyd addoliad teuluaidd yn ei dŷ, ac yu mhen ychydig, dechreuodd ymosod at y gwaith angenrheidiol o ddysgu ei blant i ddarllen. Yr oedd hyn yn fwy angenrheidiol o gymaint a bod ei deulu yn lluosog. Cadwai fath o ysgol gyda'i Ijlant lluosog ar nos- weithiau yr wythnos, ac ar y Sabbothau ; a dyledus ydyw Cymru, hyd beddyw, i Eobert Thomas, am y llafur hwn o'r eiddo, gan y bu yn foddion i wasan- aethu ei ran er parotoi y ddau frawd, John a Eobert Eoberts, i weinidogaeth yr efengyl; gwŷi- hefyd a fu yn uchel am y gwasanaeth a wnaethant i'w cenedl, ac i'w brodyr y Methodistiaid.

Acnidhyn oeddyrunig wasanaeth a wnaeth E. Thomas a'i wraig i grefydd, ond agorasant eu tŷ, sef Pfridd-bala-deulyn, i dderbyn pregethu iddo, Tua'r fl. 1768 y bu hyn, a pharhaodd y pregethu yn nhŷ Eobert Thomas am 52 o flynyddoedd. " Bum yn y yn ddiweddar," medd fy hysbysydd, "mewn cyfarfod gweddio. Sylwais ar yr hen bulpud, ac ar yr hen ganwyllbren cy- malog yn y pared. Y'r hen bregethwyr a ddeueut jTua i bregethu yn y tymhor boreuaf, oeddynt John Jones, Tŷ-gwyn ; Eobert Owen, Bryn-y-gadfa ; GriíBth Jones, Ynys-y-Pandy ; Thomas Evans, Wauufawr ; a William Dafydd, Llan- Uyfni."

Cododd yn yr eglwys hon, yn Llanllyfni, amryw o bregethwyr rhagorol ar ol WiUiam Dafydd, sef John Eoberts, Eobert Eoberts, a Michael Eoberts, am y rhai y bydd yn weddus dywedyd gair eto. Mae yr achos Methodistaidd yn Llanllyfni wedi ymledaenu Uawer er y fl. 1763, pryd y dechreuwyd pre- gelhu yma. Pan gychwynwyd cymdeithas eglwysig yma, nid oedd o aelodau ynddi ond chwech o bersonau ; ond yn awr y mae chwech o gynulleìdfaoedd blodeuog ; sef Llanllyfni, Bryn-'rodyn, Bwlan, Ehos-y-tryfan, Talsara, a Charmel. Ar y dechreu, rhy anhawdd ydoedd cael anedd i dderbyn pre- gethu ynddo, ond yn awr y mae dau gapel yn Llanllyfui, ac uu yn mhob un

i70 HANESrAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

o'r manau eraiil. Y mae genym sail liefyd, ni a obeithiwn, nid i lawenychu yn amledd ein capelau, ac yn Uuosogrwydd ein heglwysi, am yr eangiad sydd ar ein cyfundeb, ond yn hytrach o lawer, am y seiliau sydd genym i gredu, fod yma nifer mawr iawn, o'r dechreuad hyd yn awr, " wedi credu, ac wedi troi at yr Arglwydd."

Nid oes genym hanes cyflawn am William Dafydd, y pregethwr cyntaf a gododd yn y Ue hwn. Nid yw yn hysbys yn mha flwyddyn y dechreuodd, ac nid oes dim o amgylchiadau ei oes ef ar gael, o leiaf ni ddaeth dim o'r fath dan sylw yr ysgrifenydd. Dywedir ei fod yn ŵr doniol a dichlynaidd iawn, nodedig o barchus yn ei gymydogaeth a'i wlad. Ei ddull o bregethu oedd fyr a melys iawn. Yr oedd yn ŵr tirion, hynaws o dymher, a mwynaidd ei gyfeiUach, a hynod o hofí^ o blant. " EnniUasai air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun." Yr oedd yn llwyr ymroddi o galon i wasanaethu ei Ar- glwydd Crist, ac i wneuthur lles i'w gyd-ddynion.

Am rai blynyddoedd cyn gorphen ei daith, yr oedd yn afiach a musgrell iawn. Ehaid oedd cael ystôl neu gadair i'w gynorthwyo i ddringo ar gefn y ceö'y], ac yn mhell cyn ei ddiwedd, byddid yn ei gario o le i le, ac yn ei gy- northwyo i esgyn i'r pulpud. Yn raddol aeth mor afiach, na allai symud o'i dŷ, eto, pregethai yn fynych yno, gan gyfarch y gynuUeidfa o'i eistedd ar fwrdd, am na allai, bellach, sefyll ar ei draed.

" Treuliodd ei ddyddiau," meddai Robert Jones, " yn dra chyfeiilgar a siriol yn mysg ei frodyr ; teithiodd hyd y galiodd ar hyd y gwledydd i bre- gethu yr efengyl : yr oedd ei ymddygiad yn synwyrol ac addas, yr hyn oedd yn tueddu y cyffredinolrwydd i'w garu a'i fawr barchu." Ymddengys mai yr hyn oedd yn hynodi WiUiam Dafydd oedd hynawsedd ei ysbryd, ac iraidd-dra ei weinidogaeth. Agos oedd at ei frodyr, a magwriaethol iawn i bregethwyr ieuainc. Gallwn feddwl fod ganddo lygad craff, a sylw manwl ar ddynion ieuainc crefyddol ei amser a'i Avlad, oblegid fe ddywedir iddo ddarogan am bedwar o ddynion ieuainc, adnabyddus iddo, y byddent yn weinidogion yr efengyl, cyn i'r un o honynt ddechreu. Y rhai y cyfeiriai atyut oeddynt y Peirch. John Elias ; Eichard Jones, Wern ; Evan Evans, Waunfawr ; a John Parry, diweddar o Gaer. Daeth tri o honynt yn dra adnabyddus i Eethod- istiaid eu hoes, ond Evan Evans a fu farw yn ieuainc, ac yn fiian ar ol dechreu pregethu ; ond nid cyn iddo roddi argoelion nad oedd ef ddim yn ol i'r un o'r tri eraill mewn doniau gweinidogaethol.

Yr oedd rhyw gymaint o ragfarn o blaid eglwys Loegr yn nawseiddio yr ]ien Petliodistiaid, er adgased yr ymddygai yr offeiriaid tuag atynt. Teimient anhawsder i ymddyosg yn llwyr oddiwrth eu hen syiiiadau, ac i droi cefn yn llwyr ar eu hen arferion, yn enwedig gan yr ymwrthodai eu Ilywyddion ag enw ymneiUduwyr. Nid ydym yu cael fod nemawr o ddylanwad barn yn hyn, ond mwy o lawer o ddylanwad dygiad i fyny ; yr hwn ddylanwad a laciodd yn raddol yn ei rym, fel y daetli barn ac ystyriaeth i weithrediad. Yn yr hanesyn canlynol, rhoddir i ni ddrych i ganfod ansawdd y pleidiau hyntuagateu gilydd yn Llanllyfui, ar ddechreuad y diwygiad Methodistaidd.

PEN. ]V.] SIR GAERNARFON. 171

Arferui yr lieii Fethodistiaid, medd yr hanes, ddangos gradd o warogaeth i eglwys y plwyf, gau uad mor aunheilwng y cyfrifìd y gweinidog, yu enwedig ar ryw adegau neillduol, megys dydd ympryd ueu y cyífelyb. Ar ddydd ympryd, deuent yn foreu i'r capel, tua naw o'r gloch ; wedi i'r moddion ddybenu, aent yn gryno o'r capel i eglwys y plwyf ; ac o'r eglwys aent yn ol i'r capel. Dygwyddodd, pa fodd bynag, ar un o'r dyddiau hyn, iddynt fyned i'r Uan o'r capel, i'r gwasanaeth boreol, gan fwriadu dychwelyd i'r capel yn ol fel arferol ; ond y gŵr eglwysig, ar ol darfod gwasanaeth y boreu, a dar- llen y gweddiau a berthynai i'r achlysur, a ddywedodd wrth y gynuUeidfa, gan fod yn eu plith bobl o bell, yr âi efe rhagddo i ddarlleu gTV'asanaeth y gosber iddynt. Deallwyd, yn bur fuan, mai ystryw y gŴT urddasol oedd hwn, i ddyrysu y moddion prydnawn yn y capel, a than y syniad hwn, cymerodd un gŵr, mwy ei sel dros y capel na chyífredin, o'r enw Ovyen Morris, ei liet, ac a aeth allau o'r llan, a dylynwyd ei esampl gan yr hoU gyuulleidfa yn ddioed, gan adael y person i ddarllen y gosber iddo ei hun. ArchoUedig iawn, fel y gellid meddwl, oedd teimladau y gŵr eglwysig, o herwydd y sarhad hwn. Yr oedd pechod Owen Morris, yn anad neb, gan mai efe a gymerodd y blaen yn yr ysgogiad, yn anfaddeuol. Ehaid, gan hyny, oedd rhoddi ar ddeall iddo na ddyoddefid mo'r fath anfri ar ei law. Anfonwyd gwŷs iddo dranoeth i ymJdangos o flaen y person, i sefyll ei brawf, ac i roddi cyfrif am ei gam- ymddygiad. Ufuddhaodd Owen yn ddibetrus a diofni'rwŷs, ac ymddangos- odd yn wrol o'i ílaen. Y gŵr urddasol a'i bygythiai yn dost, gan sicrbau fod ei fai yn galw am ddirwy trwm, os nad hefyd am ysgymundod, a'i fod yn pen- derfynu rhoddi y gosb yn gyíiawn arno, oni syrthiai ar ei liniau o'i flaen, a gofyn yn ostyngedig iddo am faddeuant. I hyn yr atebodd Owen Morris yn gryf, y byddai ef yn arfer gofyn maddeuant ar law y Duw mawr, am bechu yn ei erbyn ef, ond " am fyned ar fy ngliniau," ebe fe, " o'ch blaen cliwi, Syr, a gofyn eich maddeuant, nid oes yn fy mryd i wneyd dim o'r fath beth ; a mwy na hyny, Syr, yr wyf yn sicrhau i cliwi, os dygwydd amgylchiad cyífelyb eto, mai yr un modd yr ymddygaf íìnau." Gwelwyd, bellach, nad oedd obaith dychrynu y gŵr Iiwn â bygythion, ac mai llawn cystal a fyddai gadael i'r amgylchiad anffodus syrthio i anghof mor fuan ag y byddai modd. Yr un gvvr oedd y person hwn â'r un y soniwyd am dano o'r blaen,* fel un a ~fu yn ceisio aflonyddu y gymdeithasfa gyntaf a gynabwyd yn Llanllyfni.

Dywedasom eisoes fod pregethu wedi dechreu yn y Ffridd, yr hwn a elwir Ffridd-bala-deulyn, cartref rhieni John a Robert Eoberts, yn y fl. 1768. Par- haodd pregethu yu hir iawn yn y Ffridd, nid amgen ua 52 o flynyddoedd. Ar y dechreu nid oedd y gwTandawyr ond ychydig o nifer, a'r yn fwy na digon i'w^ cynwys ; ond yn mhen amser, cynyddasant yn ddirfawr, nes byddai y mor llawn, ag i ddryllio y cwpgelloedd, a'r Uestri pridd, yn deüchion. Dyoddefai Catherine Siôn y cwbl yn dawel, gan fod argoelion fod pechadur- iaid yn cael eu darostwng trwy yr efengyl. Yr oedd yr achos yn y lle hwn

Gwel tuclal. 382, Cyf. I.

172 HANESIAETH Y SIEOEDD. [dOSB. IV.

yn dechreu sirioli tua'r amser y dechreuodd y Parch. John Elias bregethu, ac nid oes amheuaeth na fu ef yn un offeryn arbenig i ddwyn y llwyddiant hwnw rhagddo. Mae hanesyn am dano yn dyfod i'r Ffridd i bregethu, pan ydoedd yn dilyn ei alwedigaeth gyda Griffith Siôn, Ynys-y-pandy, gerllaw Penmorfa. Yr oedd i bregethu yn y Ffridd ar foreu Sabboth, a chychwyn- odd oddi cartref trwy Nant-y-penant, tros Pwlch-tros-bern i Gwm-tal-y- mignodd ; ond fe gollodd y ífordd ar y Cwm, mewn lle anial a pheryghis. Syrthiodd arno brofedigaeth dost, gan y teimlai ei hun wedi llwyr ddyrysu, a'r nos wedi ei ddal, fel nad oedd obaith iddo ddyfod i gyfanedd hyd y boreu. Ond gofalodd rhagluniaeth am dano, yn annysgwyliadwy. Dygwyddodd gwas yr amaethdy Tal-y-raignodd fod i fyny, yn yr hafod-dŷ, yn rhoddi hwyr- bryd i'r gwartheg, a goleuni ganddo mewn llusern. Canfu y pregethwr y goleuni, a phrysurodd ato ; felly cyfarwyddwyd ef yn ddiogel yn ei ffordd i'r Pfridd.

Yr oedd preswylwyr y fro hon, sef nant Nautlle, yn gyífelyb o ran eu moesau a'u harferion llygredig, ag oedd trigolion Lknllyfni, oblegid cymyd- ogion oeddynt. Y"r oedd chwarelwyr y Nant, a mwnwyr Drws-y-coed, yn cyfarfod â'u gilydd, ac yn calonogi eu gilydd mewn pob rhysedd ac annuwiol- deb ; eto fe fu pregethu íîyddlon a dirodres yn hen y Ffridd, yn foddion i oleuo a dofì y trigolion anwar hyn. Wedi i'r achos fod yn aros yn y Ue hwn, dan lawer o anfanteision, am 52 o flynyddoedd, symudwyd ef i'r ochr arall i'r Nant, i le a elwir Tal-y-sarn, yn y fl. 1821, acadeiladwyd yno gapel ; aeth hwn hefyd yn rhy fychan, a bu raid ei helaethu yn ddiweddar i gynwys y gynuUeidfa luosog a ymgasglai iddo. Yn fuan ar ol adeiladu y capel cyntaf, daeth y Parch. John Jones, o Ddolyddelen i Dal-sarn i fyw, sef yn y fl. 1823, ac yma y mae yn aros hyd heddyw, a'i weinidogaeth, fel yn mhob man arall, wedi ei choroni â llwyddiant mawr. Nid oedd ond dau neu dri yn nant Nantlle yn profiFesu crefydd gyda'r Methodistiaid, 80 mlynedd yn ol, ond yn y fl. 1850, yr oedd yr aelodau yn 160, ac mewn capel arall, a elwir Cesarea, yr hwn a hanodd o Dal-y-sarn, y mae tua 50 o aelodau, Gwelir yma y dull yr ymeangai Methodistiaeth yn y fro hon, yr hwn nid yw ond cynllun o'r modd yr âi rhagddo mewn parthau eraill o'r wlad, ac yn wir dros holl G^rmru i gyd. Dechreuai ymwreiddio mewn un man, a hyny mewn modd eiddil iawn, a thros lawer o flynyddoedd weithiau, heb nemawr o gynydd ; ond o'r diwedd, torai allan ar y Uaw dde, ac ar yr aswy, gan lenwi yr holl ardaloedd cylchynol.

SAETHON-BACH NEU GAPEL-Y-NANT.

Ymddengys fod pregethu gan y Methodistiaid wedi dechreu yn y Ile hwner yn foreu ar y diwygiad, ond fel y mae yn fwyaf gresynol, nid oes ond ychydig iawn o hanes y blynyddoedd cyntaf hyny, ac nid oes neb yn fyw yn cofio dim am amgylchiadau boreol yr achos yn y fro. Mae crybwylliad fod un Mr. Williams o'r Deheudir, yn pregethu unwaith yn y lle hwii, (ni ddywedir _pa Williams ; Williams, Pant-y-celyn, ond odid, neu Peter WiIIiams,) pan y

PEN. IV.] SIR GAEBNARFON. 173

dychwelwyd un gvvr oddiwrth ei ofer ymarweddiad mewn modd tra hyuod. Yn nghanol ei bregeth, dywedai y pregethwr, meddir, fod yn y gynulleidfa ryw ddyn mawr, yr hwn yr oedd yn rhaid i'r Arglwydd wrtho, ac yr oedd yn rhaid i'r Arglwydd ei gael ! Yr oedd y gynulleidfa ar y pryd yn sefyll, rhan 0 honi allan o flaen y tŷ, a rhan arall o fewn y tŷ. Wedi dywedyd y geiriau uchod, edrychai y pregethwr ar y bobl oedd allan, fel un a yspiai yn fanwl am y dyn mawr y chwiliai yr Arglwydd lesu am dano, Yn y cyfamser yr oedd math 0 arswyd wedi disgyn ar yr holl ddynion mawr a choríì'ol ag oedd yn y lle, a phob un yn ymofyn, gyda phryder a braw yn ei fynwes ei hun, " Äi myfi yw ? " Ond wedi i'r pregethwr edrych yn grafí:' ar y bobl oddiallan, a methu ei gael, fe droes, gan ddweyd, fod yn rhaid mai yn y yr oedd ; ac edrychai yn fanwl am dano, ond nid hir y gadawyd iddo chwilio am dano, cyn bod rhyw ddyn, a elwid Eobin y Bettws, yr hwn oedd hefyd yn ddyn mwy ei gorflolaeth na'r cyfl'redin, yn neidio i fyny fel un wedi ei ddal, gan lefain yn groch am ei fywyd ! Trwy y dull hynod hwn, fe'i daUwyd ef megys â gwŷs brenin ; teimlai argyhoeddiad sicr mai efe oedd yr un yr ymofynid am dano ; a chan deimlo mai ofer oedd iddo wingo yn erbyn y symbylau, efe a ymostyngodd, gan Iwyr ymroddi i Grist a'i wasanaeth o hynyaUan. Yr oedd y duU a ddefnyddid gan y pregethwr yn un anghyff'redin ; ac yn ddull na fyddaiyn weddus ei gymeryd yn esampl ; eto fe ddichon i fath o ysbrydob'ad weddeiddio a grymuso y dull, fel ag iddo fod yn foddion, o dan fendith Duw, i sobri a chyfnewid y pechadur anystyriol.

Yr oedd math o ymweliadau hynod o eiddo ])uw, mewn trugaredd neu farn, yn awr ac eilwaith yn cymeryd lle yn y dyddiau hyny, nad ydym ni, erbyn hyn, yn gwybod nemawr am eu cael. Mae yr enghraifl't uchod yn ar- ddangosiad o'r dull hynod a ddefnyddiai gras Duw er dychwelyd dynion, ond y mae yr hanesyn a ganlyn, yn enghraiíft o'r ochr arall, o'r modd di- symwth a ddefnyddid gan gyfiawnder Duw, i gosbi dynion rhyfygus, ac i rybuddio eraiU o'u perygl hwythau.

Yr oedd yn arferiad yn mro Saethon-bach, fel mewn llawer o fanau, yn yr amser y soniasom am dano, ie, yn wir, fel yr oedd yn mhob man, ymron, trwy Gymru oU, i'r gwŷr ieuainc, ar ol y gwasanaeth yn yr eglwys, ymdyru at eu gilydd ; ac wedi dyosg eu diUad at eu crysau, ymroddi i chwareu pêl ar dalcen yr eglwys am oriau ; yr hwn chwareu a ddybenai, ymron yn wastad, mewn taeru, tyngu, ac ymladd a baeddu eu gilydd. Yr oedd yn mysg y campwyr hyn, dii o ddynion yn fwy hynod na'r cyfí"redin, o ran auystyriaeth a drygioni, ac yn blaenori ar halogwyr y Sabboth yn y fro. Un tro, pan aethai y dynion hyn i glirio rhyw gerig ymaith, i rwyddhau eu myuediad i mewn i fí'au Ilwynog, llithrodd darn o ddaear garegog oedd uwch eu penau arnynt, a'IIaddodd uu o honyut yn y fan ; un arall a anafwyd mor drwm, fel y bu farw' yn mhen ychydig o ddyddiau ; y trydydd, wrth weled y trychineb a ddamweiniodd i'w gyfeiUion, a ddaliwyd â'r fath arswyd a braw, ac i'r fath raddau, nes, fel Nabal, " y bu ei galon farw o'i fewn, a myned fel careg," ac yntau hefyd a fu farw, Yr oedd yr amgylchiad hwn, wedi cyfarfod â thri o

174 HANESIAETH Y SIROEDD. [düSB. IV.

bencampwyr y fro, yn iiatiiriol iawn yn bwrw clychryn ar eu cymdeithion, ac yn foddion i ddyrysu eu cynuUiadau, ac i chwerwi eu difyrwch, i roddau mawr, 0 hyny allan.

Pe fu yr achos Methodistaidd, yn Saethon-bach, yn ddigon iscl ei uedd am lawer o flynyddoedd, cyn adeiladu y capel, sef capel y Nant. Ond er ised oedd ei wedd, yr oedd gofal gan Ben yr eglwys am dano ; ac ar amserau, fe ddisgynai Ysbryd Duw, mewn nerthoedd grymus "i gynhyrfu y dwfr," fel yr âi aml un oddiwrtho yn iach o'u phi. Tua'r fl. 1780, torodd diwygiad grymus iawn yn y lle hwn, pan yr adfywiwyd yr achos gwywedig yn rhyfedd- ol, yr oedd yn fath o wanwyn hyfryd ar ol gauaf llwm. Chwanegwyd rhif- edi y gwrandawyr, a nifer y dysgyblion, fel y dechreuasant siarad yn groyw, " Cyfyng yw y lle hwn i ni, dod le i ni, fel y preswyliwn." Gofynent gyda syndod, " Pwy a fagodd y rhai hyn? Wele nyni a adawsid ein huuain, o ba le y daeth y rhai hyn ? " Ac nid oedd ateb gwell i'w roddi na hyn, " Wele yr Argiwydd Dduw a gyfododd ei law at y cenedloedd, a dyrcliafodd ei faner at y bobloedd." Esaiali xlix, 19—22.

Daeth yr angen am addoldy yn yr ardal i wasgu yn drwm ar feddyh'au y sawl a ymgynullent i Saethon-bach ; canfyddid a chydnabyddid yr augen, gan frodyr iddynt, mewn manau eraill, yn enwcdig yn y Capel-newydd. Mewn cyfarfodydd eglwysig yn y capel hwn, dywedai un John Williams, Saethon, na wyddai efe ddim pa betli i'w wneyd i'r ddeadell oedd yn Saeth- on-bach. " Y mae yn amlwg," ebe eíè, " fod yr Ai-glwydd yn eu plith, ac yn eu llwyddo, yn barhaus ; ond y mae y lle yn rhy fychan, a hwythau yn rhy dlodioii i godi capel; pa beth a wneir iddynt nis gwn." Ar hyn, cyfiProdd calon rhyw ŵr yno, a dywedodd, " Mi ro'f fi bum' punt, tuag iddynt gael capel." Un arall o Lanengan a gododd, gan ddywedyd, " Mi ro'f finau bum' punt." Gŵr y Saethon hefyd a ddy wedodd, " Minau hefyd a ro'f bum' punt." Addawsant oll gyda'u gilydd, yn y fan, o £10 i £50. Aeth dau ŵr yn ebrwydd i ddwyn y newydd i drueiniaid y Saethon-bach, y rhai oeddynt yr un noson yn gynuUedig yn eu cwrdd eglwysig. Y canlyniad a fu codi y capel a elwir yn awr Capel y Nant. Yr oedd hyn yn y fl. 1783. Yr ydym yn cael fod y gymdeithasfa wedi cynorthwyo yn y gwaith da hwn. Yn y fl. 1784, meddir, yn nghofnodau y gymdeithasfa, talwyd at gapel yn Saethon- bach, £10. 9s. ; a thrachefn yn y fl. 1786, talwyd i glirio Capel Nant, £d. 1 9s. Gwnaed hyn o gasgiiad y ddimai yn yr wythnos oddiwrth bob aelod yn y cyfundeb ; ac os cymerir swm y casgliad o bob lle yn brawf o nifer yr aelod- au, yr oedd nifer yr aelodau yn Saethon-bach, yn y fl. 1780, yn 26. Yn ol yr un rheol, eglwys y Pentre-uchaf, a Phen-y-caerau, oedd y rhai amlaf eu rhif, y pryd hwnw, yn holl sir Gaernarfon, oddieithr Brynengan a'r Tirbach.

Nid ydym yn cael ychwaith fod y boneddwr a biai Sacthon, fel llawer o foneddwyr Cymru y pryd hwnw, wedi arwyddo dim gwrtliwynebiad i'r cref- yddwyr hyn. Deallwn mai yn y Deheudir yr oedd yn byw, ac er y gwyddai yn dda, fod amryw o ddeiliaid ei dir yn arfer derbyn pregethwyr i'w tai, ac

PEN. IV.] SIR GAERNARl-'ON. 175

yii aelodau proílesedig yn inhlith y penau-cryniuid, eto nid oes hanes iddo ddangos un gwg tuag atynt oblegid hyny.

Nid wyí' yn cael fod dini nodedig iV grybwyll am yr achos yn Nghapel y Nant dros flynyddoedd ar ol adeiladu y capel, Ymddengys i anaf trmn ddy- fod ar ol y cynhauaf toreithiog, ac y bu yr ychydig grefyddwyr ag oedd ynia yu dihoeui mewn gwedd nychlyd ac isel, am dymhor maith , ac nid oes hanes am un ysgogiad neillduol ar y gwersyll, nes fod blynyddoedd wedi treiglo heibio ar ol sefydlu yr ysgol Sabbothol yn y Ue, yr hyn a wiiaed, mae yn debyg, tua dechreu y canrif presenol. Yr oedd y íl. 1815, beUach, ymron wedi dirwyu i fyny, a'r rhai deflro yn mysg y bobl hyn yn poeni eu heneid- iau, o herwydd aneft'eithioldeb pob moddion o ras, ac o herwydd parhad y gwrandawyr, a deüiaid yr ysgol Sabbothol, mewn agweddau diíraw a chaled. Pan oedd pethau yn y wedd yma, meddaf, cafodd arolygwr yr ysgol ar ei feddwl, i ofyn yn daer a difrifol, i bob un a fedrai ddarUen, ymroddi i ddysgu yr " Hyfl'orddwr" ar dafod leferydd. Efl^'eithiodd ei gais ef hwnt i'w ddysgwyl- iad ; disgynodd yn benderfyniad ar ddeiliad yr ysgol i ddysgu y Uyfryn hwnw ; a hyn fu tros ryw dymhor yn brif destyn yr ymddyddan, ac yn brif amcan y Ilafur. Eto nid oedd arwyddion fod y Uafur hwn yn peri pryder yn nghyich eu liachos tragwyddol yn nieddyliau icuenctyd ; o leiaf, uid oedd dim neillduol, hyd yn hyn, wedi tori allan i sylw.

Yn yr haf canlynol, sef 1816, gosododd yr arolygwr, yr hwn hefyd cedd un o henuriaid yr eglwys, yr achos i lawr o fiaen y gymdeithas eglwysig ; gan ddywedyd ei fod yn ofni, fod yr holl ddysgu diwyd ac egniol y gauaf wedi myned heibio yn aneíFeithiol ; a dymunodd ar i bob brawd a chwaer yno neillduo rhyw amser penodol bob dydd, i erchi ar i'r Arglwydd ymweled â hwy trwy ei Ysbryd ; ac ar fod grymusderau achubol yn cyd-gerdded â phob moddion gras yn eu plith ; a dywedai hefyd, y gofynid yn y cyfarfod eglwysig nesaf i bob un a wnaeth efe hyn. Y cyfarfod nesaf a ddaeth, ac wrth ym- holi â'r aelodau, fe gaed fod pawb oddigerth un, yn y Ue, yn argyhoeddedig fod y peth oddiwrth yr Arglwydd ; ac mai nid hir y gadewid hwy i lefain arno, heb gael atebiad i'w gweddiau. Caed allan hefyd fod yr un peth wedi dechreu gyda'r plant, a'u bod hwythau yn gweddio am yr un fendith.

Fe ymddengys fod yr oedfa gyhoeddus yn cael ei chynal yn gyfl'redin am ddau o'r gloch, prydnawn Sabboth, a'r ysgol yn yr hwyr, o leiaf dros dymhor y gauaf. Y'r oedd y drefn hon yn achlysuro fod Ilawer iawn o blaut yn aros oddeutu y capel, heb fyned adref ar ol yr oedfa ddau o'r gloch ; ac fel y geUid dysgwyl, nid bychau fyddai yr anuhrefn yn eu mysg bob Sabboth. Dygwyddodd, pa fodd bynag, tua dechreu y gauaf fod un o'r bechgyn, a fuasai cynddrwg a neb o'i gyfoedion, yn arfer, beUach, ymneUIduo oddi- wrth y lleill, a chloi arno ei hun ya llofl't y capel, gan gynted yr âi y gynull- eidfa allan o'r bregeth y prydnawn. Fe wnai hyn, fel yr ymddangosodd yn ol llaw, am fod halogi y Sabboth wedi myned yn boenus iddo ; ac am yr hoff'ai, bellach, gael Uonyddwch oddiwrth y dyhiriaid eraiU. Yr oedd y bachgen hwn yn gloíf, ac ni allai, o herwydd hyny, fyned adref a dychwel-

176 HANESIAETH Y SIROEDD. [DOSB. IV.

yd mewn prycl i'r ysgol, gan fod iddo ffordd bell. Nid llawer o Sabbothau V bu ef wrtlio ei liun yn y llofft, cyn i'w gyfoedion ddeall hyuy ; ac os oedd eu twrf a'u terfysg yn fawr o'r blaen, yr oedd, bellach, yn Uawer mwy, gan eu- cais i fyned ato trwy y ffenestri, neu trwy ryw foddion eraiU. Caniatawyd, pa fodd bynag, i ryw rai ddyfod ato ; yn gyntaf, cafodd genethig fechan hyn trwy ei thaerineb, a chan addaw yn sicr na fiinai hi mo'no, gollyngwyd dau eraül i mewn yn mhen Sabboth neu ddau, ar yr un ammodau. Bellach, taer erfyniai eraiU ara gael derbyniad, a gollyngwyd crjTi nifer i mewn, o un i un, ar eu gwaith yn addaw yn sicr na roddent ddim poen i neb. Nid oedd neb oddi- allan yn cael gwybod pa beth oedd yn myned yn mlaen oddifewn, ond yr oedd y mwynhad a'r lles a dderbynid, gan y rhai a dderbyniasid i fewn, yn eu cylymu yn dỳn wrth eu cynulliad, ac ni fynent er dim ei golli. Yn raddol, gan faint eu hawydd, penderfynasant ddyfod at eu gilydd ryw noswaith, ganol yr wythnos, mewn rhyw lechwedd eithinog a dyrys yn y gymydog- aeth ; lle adnabyddus iddynt, fel llanerch ddirgel a neiUduedig iawn, lle na welid ac na chlywid hwy gan neb. A pha beth oedd y gorchwyl cuddiedig a gyflawnid gan yr ieueuctyd hyn ? Beth hefyd, oud gweddio o ddifrif am yr un peth ag y gweddiai yr hen bobl ar gyhoedd am dano. Dechreuodd y cyrddau gweddio hyn ar y pryd y cafodd yr enethig ganiatâd i fyned at y bachgen cloö" i lofft y capel ; ac ymddengys fod mesur o'r un ysbrydoliad yn disgyn ar bob un ar ei ddyfodiad atynt.

Yr oedd ysbryd gweddi yn amlwg wedi meddiannu y crefyddwyr, ac arferai amryw o honynt weddio trwy gydol y nos. Sonir yn neiUduol am un wraig weddw, merch i un o'r INIetliodistiaid boreaf yn Lleyn, Eobert Owen, Lôu- fudr ; a sicrheir y byddai y wraig hon am nosweithiau lawer yn ymdrechu â Duw mewn gweddi, yn ei hachos ei hun, ei theulu, a'i chymydogion. Yr oedd ganddi fachgen afradlawn a gwyllt iawn, yr hwn a adawsai ei fro ei hun, ac a aethai i Fon i wasanaethu. Nid oedd y weddw yn clywed dim oddi- wrtho oud yu anfynych iawn, a hyny trwy iddi ymholi â rhai eraill. Nid oedd ei fam ddim wedi ei anghofio ef, ond ymdrechai lawer â Duw drosto. Ond yn ystod ei gweddiau, deallai fod rhyw gyfnewidiad wedi cymeryd lle yn sefyllfa ei bachgen ; pa gyfnewidiad nid oedu hysbys iddi ; tybiai ei fod naiU ai wedi marw, neu ynte wedi ei ddychwelyd at Dduw trwy ras, Daeth gweiuidog 0 Pon i'r ardal i bregethu, yn mheu euyd, trwy yr hwn yr hysbys- wyd i'r weddw, fod ei bachgen gwyllt hi wedi ei dderbyn i gymundeb eglwys Dduw, er ys hyn a hyn o amser ; adeg ag oedd yn cyfateb i'r teimlad a gawsai hi yn ei gweddiau. Nid oes genyf ddim ond gosod y ffaith ger bron y dar- llenydd. Gwn yn dda nad yw pob teimlad a ddaw ar diaws ein mynwesau ni, mewn gweddiau, mwy na phob breuddwyd a derfysga ein penau mewn cwsg, yn galw am lawer o sylw ; eto fe ddichon, dan ryw amgylchiadau ueiU- duol, y teimlwn anhawsdra tra mawr i ymddyosg oddiwrth y naill a'r Ilall ; a thra na fydd hyny yn eiu harwain i droseddu egwyddorion amlwg y Bcibl, nid oes berygl ynddo. Ymddengys fod y wi'aig hon, er ei thlodi, yn medru

PEN. IV.] SIR GAEllNARFON. 177

ymaflycl yn Nuw mewu modd hynod yn ei gweddiau. Ymddyddanai â'i Harglwydd, " megys wyneb yu wyueb ; " rhoddid iddi nerth gyda l)uw, a gorchfygai.

Ond i ddychwelyd. Yr oedd hoU afreoLieth y plaut wrth y capel wedi diflauu, a gweddio wedi cymeryd ei le. Yu uechreu y fl. 1817, ymddaugosai arwyddion fod y gweddiau taerion hyn wedi dyfod mewn cofl"adwriaeth ger bron Duw. Ymddangosai fod y weiuidogaeth yu meddu mwy o awch, ac yu cerdded gyda mwy o nerth. Torodd yr herlodes ieuanc a aeth gyntaf at y bachgen cloíF i'r lloff't alla}i, i lefain ac i foliannu yu gyutaf ; wedi hyuy chwanegwyd pedair eraill ati. Yn mhen pymthegnos yr oedd y nifer o 15 i 20, ac nid aeth llawer o wythnosau heibio nad oedd 80, rhai o bob oed, dau gyífelyb gyfí'ro. Bellach, yr oedd dylanwad yr adfywiad hwu yn cyrhaedd ymron bawb yu y fro. Yr oedd pob Uafur a masuach wedi arafu, gau rym yr ymweliad. Yr oedd rhai, am ddyddiau a nosweithiau, heb fedru na bwyta na chysgu, gan ddwysder yr argyhoeddiadau. Ymgadwai rhai yu Uwyr o bob moddiou, gan ofh rhag eu dal hwythau gau gyfí"elyb argyhoeddiadau ; eraiU a aeut i'r moddion i wawdio, gan dyugu y cadweut hwy yu gUr oddi- wrth y fath waUgofrwydd. Ond uid oedd y naiU ua'r UaU yn ddiogel. Ar rai, fe ddisgynai y cyfíi'o gefu nos yn eu gwelyau ; ac ar rai ar hyd y flyi-dd ; ac ar eraiU yu y maesydd. Yr oedd y dylauwadau uerthol hyn yu cyniwair, fel y gwna haint, trwy y fro. Nid oedd ueb yu ddiogel ua ymosodid aruo gan y clefyd iacJmsol hwn ! Syrthiodd ar was Nauhoron, palas boneddwr yn y gymydogaeth, pau oedd yn ghinhau y ceflylau yn y stabl. Torodd allan i waeddi mor groch, nes oedd dychryn wedi meddiaunu pawb o fewn y palas, ac aUan o houo. Wedi myned a'r gweddau aUau i'r maes drauoeth, ymaflodd y dyhmwadau yn y Uanciau yuo drachefn, a disgynasant ar y ddaear ar eu gUuiau i ofyn am eu bywyd, ac yu yr agweddau hyu y par- hausant, hyd nes goUwng y gweddau gauol dydd. Y gŵr boueddig ei hun ni ddaugosodd uu math o ddiystyrwch arnynt, oud yn y gwrthwyneb ; mewu gair, yr oedd math o arswyd wedi meddianuu gwreng a boneddig ar y pryd, fel ua feiddiai neb symud ei dafod yu eu herbyn. Yr unig deulu a ddangos- odd ddygasedd at yr ymweUad, oedd teuhi person Llaneugau. Hwn a ddaeth at yr heu ŵr boueddig, i erchi arno droi y gwas i ffordd, ac i arfer ei hoU ddylanwad i roddi terfyn ar y gorfoledd. Oud yr ateb a roes y boneddwr iddo, oedd, " Na wnaf fi ; gweU genyf gly wed ei fod yn gweddio, nag yn rhegu y cefíylau, fel y byddai yn arferol o wneyd." Yr oedd gwraig y persou yn fwy fiyruig uag yntau. Uu noswaith, pau oedd uifer yu dychwelyd gyda eu güydd o gapel Llauengau, heibio yr offeiriad, a rhai yn eu mysg yu Uefain ac yu canmawl, methodd ganddi ymattal, ond hi a ddaeth allan, gau ymosod ar y genethod i'w curo yu ffyr- nigj a pharhaodd i Avneyd hyuy nes cyuhyrfu rhyw wraig, gref o íedd- wl a chorfi', i ymaflyd yuddi, a rhoddi gorfod arni droi o'r ffordd. Eto, hi a'u eanlynai yr ochr araU i'r clawdd, gau cu Uuchio â chcrig, tra y buont yn ei chyrhaedd.

178 HANESIAETU Y SlfiOEDD. [UOSB, IV.

NErYN.

Tref a phorthladd hyclian. yw Nefyn, ar lan ddeheuol Lleyn, o fewn tua dwy fiUdii- i Borth-yn-Lleyn. Ymddengys fod Methodistiaeth wedi ymosod ar y Ue hwn yn lled fuan ar ol ei gychwyniad yn y wlad hon ; mor foreu, meddir, a'r fl. 1757. Ymddengys fod pregethu cyn hyn yn y Lon-fudr, a'r Tŷ-mawr, Tydweiliog, a manau eraill ; ond nid oedd ymosod wedi bod ar Nefyn cyn y flwyddyn a nodwyd. Gallai fod gwrthwynebiad trigolion y dref hon, fel trigolion y trefydd yn gyffredin, yn fwy ffyrnig na'r eiddo pres- wylwyr y wlad oddi amgylch ; yr hyn a barai i'r pregethwyr cyntefig ym- gadw, dros ryw enyd, heb ymosod ar y dref.

Cawsom achos lawer gwaith i grybwyll y gwasanaeth a fu y gwragedd i achos yr efengyl yn Nghymru, ac wrth olrhain hanes y lle hwn hefyd, ni a gawn eughraift't ychwanegol o'r defnydd a wnaed o wraig i ddwyn moddion gras i'r lle hwu. Hawdd ydyw dychymygu pa fath ydoedd ansawdd crefydd yn llan y plwyf, wrth y driniaeth a gafodd Eowlands, Llangeitho, gan y gynuUeidfa pan oedd yn ewyllysio pregethu iddynt. Yr oedd, medd yr hanes, wedi cael rhyw led addewid, y caniateid iddo -gael pregethu yn eglwys Nefyn, ac aeth apostol Llangeitho yno ar y dysgwyliad hwnw ; ond attaliwyd ef trwy ystryw atgas a rhyfygus. Gorchymynwyd i'r cantorion dreulio am- ser y bregeth, trwy ganu yr 119 Salm ar ei hyd. Dan rith canu mawl i Dduw, buont "yn oerleisio am oriau," i'r unig ddyben i attal Eowlands i bregethu. Yn hyn hefyd y llwyddasant, ac ni roddasant gyfleusdra iddo gynyg pregethu. Yn Llangeitho, yr oedd gwaith Eowlands yn cyfodi yn y pnlpud yn amnaid bob amser i'r canu ddybenu, ond nid felly yr oedd yn Nefyn y tro hwn ; nid oedd y cantorion wedi derbyn y cyfryw orchymyn, ond cyfoded ef fynyched ag y myuai i bregethu, parhau yr oedd y canu, ac ni bu osteg i'r pregethwr hyd nes oedd yr amser oU wedi ei dreulio. Yr oedd y Ue hwn, gan hyny, yn yr un agwedd foesol a rhanau eraill o'r wlad ; y bobl " yn eistedd mewn tywyllwch, ac yn mro a chysgod angau: " " nid oedd neb yn deall, na neb yn ceisio Duw." Trwy ryw foddion neu gilydd, nid yw yn hysbys pa fodd, cawsai Lowri, gwraig un Eichard Arthur, flas ar wrando ; ac arferai fyned i'r Lon-dywell, Llangian, saith neu wyth milldir o fiíordd, i'r moddion a gynelid yno. Mor fuan ag y cafodd hi ei hunan flas ar ■wi'ando gair yr Arglwydd, hi deimlai eiddigedd yn achos ei chymydogion, ar iddynt hwythau gael yr un rhagorfraint ; a chan mai rhy anhawdd oedd eu darbwyllo i fyned i ymofyn am yr efengyl lle yr ydoedd, penderfynodd geisio dwyn yr efengyl atynt hwy.

Yr oedd amaethdy o'r enw Cae-rhyg, gerllaw Nefyn ; lle a berchenogid ac a breswylid gan un John Wüliam Humphrey a'i wraig. Ymddangosai y hwn yn lle dymunol i gychwyn pregethu ynddo, ar araryw gyfrifon ; yn un peth, yr oedd ychydig allan o'r dref, ac felly yn llai darostyngedig i ymosod- iad yr erlidwyr ; yr oedd ei breswylydd hefyd yn berchenog ar ei dir, a thrwy hyny, nid ocdd achos iddo ofni meistr tir ; ac fe ddichon hefyd y gwyddai

PEN. IV,] SIll GAERNARFON. 179

gwraig Eicbard Arthur, fod John William, a'i wraig, yu Uai eu gwrthdarawiad i'r penau-cryniaid nag eraiU yn y fro. Pa fodd bynag, gofynodd y naill wraig i'r llall, a roddai hi genad i bregethu ddyfod i Gae-rhyg ? gan addaw os gwneid dini sarhad, neu golled yn y tỳ, y byddai hi yn atebol am hyny. Hawdd ydyw canfod nad oedd yma ddim llai na dysgwyl erlidigaeth. Wedi ymofyn â'i gŵr, sef â John Williams, cafodd y wraig arall ganiatâd i ymofyn am oedfa i'r tŷ. Ac fel hyn y gwnaed. Nid oes son am erlid wedi bod yn y Ue hwn, eithr sicrheir ddarfod i ŵr a gwraig y tŷ, yn fuan gael eu bendith- io ag adnabyddiaeth brofiadol o'r efengyl, a lochesid fel hyn ganddynt ; a chynaliwyd pregethu yn eu am yr ysbaid maith o 28 o flynyddoedd.

O fesur ychydig ac ychydig, fe gasglwyd cymdeithas eglwysig fechan yn y hwn ; ond gan nad oedd holl ddeiüaid y yn aelodau, gwelent yr angen- rheidrwydd am ystafell y gallent ymneillduo iddi, a chadw y cyfarfodydd eglwysig ynddi. Wedi ymgynghori pa fodd y dygid hyn yn mlaen, pender- fynwyd codi anedd fechan yn gydiol â'r i'r dyben hwn ; ac ymosododd yr aelodau at y gorchwyl yn ddioed. Nid oedd yr ystafell hou yn fawr nac yn wych. Muriau pridd oedd iddi, a thô gwellt, ac nid hir y bu yr ychydig broffeswyr oedd yn y lle, un yn dwyn ei drawst, ac arall ei wellt, cyn iddynt orphen y gwaith. Yn y yr oedd y pregethu fyth, ond yn yr ystafell neill- duedig hon yr oedd y cyfarfodydd eglwysig yii cael eu cadw, Chwyddai y gynulleidfa yn achlysurol yn fwy nag a gynwysai y tŷ; agorwyd ffenestr fechan yn y mur, modd y gallai y rhan a fyddai o'r gynulleidfa allan o'r glywed y pregethwr oddimewn, yr hou ffenestr sydd i'w gweled hyd heddyw.

Fe fu yr achos yn hir yn Nghae-ryg cyn anturio i'r dref, ac yny cyfaraser, mawr oedd anwybodaeth ac ynfydrwydd y preswylwyr. Aent yn gyffredin i'r Ilan foreu Sabboth, ac aent i chwareu y bêl, neu ryw beth arall, o hyny hyd yr hwyr, Ar ddydd Ynyd, y meibion ieuainc a aent trwy yr hoU blwyf, gau alw am geiniog oddiwrth bob merch, yr hon a alwent, " ceiniog yr iâr" ac os na chaent eu dymuniad, casglent hen esgyrn ceffylau, os gellid eu cael, neu gwnaent ddyn gwellt ; ac ar nos calanmai newydd, rhwyment y cyfryw wrth ben y corn simne ; ond os caent y geiniog, rlioddent i'r raerched dusw o frig- au bedw. A'r arian hyn, neu ran o honynt, hwy brynent iâr, yr hon a ym- lidid yn ddidrugaredd gan blant y dref, gan ei dal i fyny gerfydd ei thraed. Yna ymgasglent i faes helaeth, a rhoddid mwgwd ar lygaid dau lanc, gan alw un yn iâr, a'r Ilall yn geiliog, y naill o honynt yn rhedeg ar ol y llall, gan geisio ei ddal ; ac ar yr ynfydrwydd hwn yr ymdyrai cannoedd i edrych ! Y gweddill o'r arian, a'r gweddill o'r dydd, a dreulid yn y dafarn. Dyma ddiniweidrwydd ein hynafiaid.

Ar Sul y Pasg, yr oedd yma gyffelyb arferiad ag oedd yn Nghonwy, am yr hon y traethasoni o'r blaen.* Ar ddydd LIuu y Sulgwyn, codent bawl mawr ar ei bcn, gan ei sicrhau yn y ddaear, a thrawstiau croesion iddo fel hwyl-

* Gwel tudal. 57, Cjf. I.

180 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

breu llong. Gwisgeut y pawl a'r trawstiau hyn â cliymaint o (IdiUad ag a gaent, gan ei alw polyn-haf. O amgylcli hwn y dawnsiai hen wragedd y gymydogaeth, fel ynfydiou, gan ymogoneddu yn eu cywilydd. Ond y mae yr heu arferiou disynwyr a llygredig hyn, er ys blyuyddau wedi diíianu. Edrychid yn awr ar bwy byuag a wnai y cyfryw bethau fel rhai gwallgof ; ac anhawdd a fyddai cael neb, yn ddigon isel ei chwaeth, ac yn ddigon digywil- ydd ei wyneb, i geisio adnewyddu y fath arferion.

Ond er maint oedd rhwysg annuwioldeb y peutref hwn, anturiodd y Meth- odistiaid iddo, a llwyddasant, nid yn unig i ddarostwng yr arferiou gwaelion crybwylledig, oud hefyd i ledaenu gwybodaeth o Dduw, ac o drefu yr iach- awdwriaeth trwy Gyfryngwr, yn mhlith cannoedd o'r trigolion. Arweiniwyd lluaws 0 bechaduriaid coUedig at Grist, a chawsant ddiogelwch a bywyd daa ei gysgod.

Adeikdwyd y capel cyntaf yn y fl. 1785. Ail-adeiladwyd ef yn y fl. 1805. Helaethwyd ef yu y fl. 1826. Trydydd-adeiladwyd ef yn y fl. 1833. Y mae yn y lle hwn, yn awr, gjamlleidfa fawr yn gwraudo yr efeugyl, ac eglwys luosog ei haelodau wedi ei phlauu. Magodd hefyd amryw bregethwyr uid aneuwog, y rhai sydd yn aros ar y maes hyd heddyw ; y rhai y mae eu gweiuidogaeth wedi gwasanaethu ei rhan i lesâu y geuedl ; a'r rhai, os estyuir iddyut oes a uerth, y bydd eu gweinidogaeth yu foddion i amaethu crefydd yn mhiith y Methodistiaid dros flynyddoedd i ddyfod.

PWLLHELI.

Mae Methodistiaeth Vedi liaufodi yn hir, ac wedi ymwreiddio yu ddwfn, yu y dref hou. Ond nid oedd PwUheli mor amddifad o foddion gras ag oedd Uawer tref a chwmwd o Gymru, gan' mlynedd yn ol, gau fod jTiia gapel gan yr YmneiUduwyr er yn foreu, fel y soniasom eisoes ; ac ni phrysurodd y pregethwyr Methodistaidd i ymosod ar BwUheH, mor gynar a rhai Ueoedd eraiU yn Lleyn ac Eifìonydd ; fe aUai oddiar gaufod nad oedd cymaint o augenrheidrwydd ; pa un bynag, fe fu y dref hon 25 o flynyddoedd heb un sefydliad Methodistaidd ynddi, ar ol dyfodiad Howel Harris y tro cyntaf i'r wlad. Yr oedd yma hen ŵr yn ddiweddar yn cofio y bregeth gyntaf gan y Methodistiaid ; o euau yr hwn, gan mwyaf, y cafwyd yr hysbysiadau caulyuol. Tua phedair blynedd yn ol y bu ef farw, yu 97 ml. oed. Y mae yr hanes a ddyry am y bregeth gyutaf hou yu fantais arbenig i'r darUenydd gael dirnad- aeth gywir am agwedd y wlad, ac anwybodaeth y trigoliou, am bethau cref- yddol. Y bregeth gyntaf a glywodd yr heu ŵr crybwylledig yn mhlwyf Deneio, sef yplwyf y mae y dref yu sefyll ynddo, a gynaliwyd tua'r fl, 1769, mewn Ue a elwir Peutafig, o fewn Uai ua chwarter milldir i'r dref, o du y gogledd iddi. Nid oedd yr heu ŵt yn aUuog i ddweyd euw y pregethwr, er ei fod yn cofio ddywedyd wrtho, ar y pryd, mai mab ydoedd i un o'r euw Daniel y gôf, gŵr o Ehoshirwaun, Lleyn. " Yr oedd yn ddyu hardd a golyg- us," meddai, " a gown du am dano, ac yn rhoi pregeth wrth ddyfod heibio i edrych am ei dculu yn Lleyn, o athrofa larUes Huutingdon, yn Nhi'efeca.'*

PEN. IV.] SIR GAERNAUFON, 181

Dywedir ei fod yu pregethu yu eglur, oud beb waeddi diiu. Yr ocdd yr olwg arno yn gall dros beu, ac oddeivta tri neu bedwar dwsin o bobl yu gwraudo amo. Ymddengys na fu y bregeth hou ddim yn ddieífaith. Addefai yr hen ŵr iddo ef ei hun broíì cryn gyffroad yn ei gydwybod trwyddi, a deallai fod Uawer o'r gwrandawyr eraill wedi teimlo yn gyffelyb. Ac er nad oedd yn cofio y testyn, yr oedd yu gallu adrodd rhai ymadroddion o'r bregeth, a effeithiodd ar ei feddwl, ac yn enwedig y geiriau diweddaf, sef, " Ehaid i chwi sydd yma gael iawn adnabyddiaeth o'r Duw a roes fod i chwi, yn Dduw iachawdwriaeth i chwi, neu fyned i uffern." Effcithiodd y bregeth gymaint arno, ac ar y rhan fwyaf oedd yn gwrando, fel ua allasant ddilyu eu campau di'os w^eddiU y Sabboth hwnw. Ond yr oedd yno eraill, yu lle gwrando, yn chwareu tenis tra parhaodd y bregeth, a hyny yn yr un maes, Yr oedd dau neu dri o dai bychain, gwellt, mewn pantle isLw y br^ai y safai y pregethwr arno, ac yn nrws un o'r tai yr oedd hen wraig yn nyddu y droell bach, o ddechreu y bregeth hyd ei diwedd ; ac wedi i'r pregethwr ddystewi, hi waeddodd, " Druau oedd ei galon o! Y mae yn gwybod wmbredd ! Ewch, bellach, i chwareu tenis, da chwi bobl ! " Dyma wedd Pwllhcli 80 ml. yn ol !

Yn mhen tair ncu bedair mlynedd gwedi y tro uchod, dechreuwyd preg- ethu yn achlysurol mewn hen auedd, yn lled agos i Lan Deneio, yr hwn, wedi hyny, oblegid y mynych bregcthu ynddo, a alwyd y Capel Beiigorn ; ac wTth yr enw hwn yr adwaenir y fan hyd heddyw. Yr oedd yn gofus gan yr hen ŵt ei fod yn gwrando ar amrai o hen bregethwyr Lleyn ; ac yu mhlith eraiU ar Hugh Thomas.* Dyruwr tlawd oedd Hugh Thomas, yn gweithio yn Madryn-isaf. Arferai ddyfod yn Ued aml i'r Capel deugorn ar y Sabboth- au ; ond nid ocdd fowr hamdden i gael hyd yr hwyr ; ac at yr hwyr, y rhan amLaf, y deuai y pregethwr. Weithiau, hefyd, fe ddeuai nos Sadwru, a thamaid yn ei òoced i'w fwyta, yr hyn a bâr i ni gasglu, nad oedd neb i'w gael, ar y pryd, yn ewyllysgar ac yn alluog i groesawu y cynghorwr. Wrth wrando Hugh Thomas y daeth yr hen ẃr (ein hysbysydd) i graffu gyntaf fod pregethwr yn arfer cymeryd testyn, a chan fod y testyu, a rhau o un bregeth, yn fwy cofus ganddo nag eraiU, efea roddai ddrych o ddullyr heu ddyrnwr tLìwd yn cynghori. " Wel, fy mhobl bach i, mae y testyn yn yr unfed Salm ar ddeg ; ' Ar yr anuuwiolion y gwLiwia efe faglau, tân a brwmstan, &c.' Y mae y ffaglau a fydd ar ochrau y bryniau yna weithiau yn fawr iawn, ac yu ymddaugos yn ddychrynllyd iawn. Ond beth pe gwelech chwi ffaglau f fel yna yn cael eu gwlawio, ar y byd yma ? Beth a wnaech chwi, fy mhobl anwyl i ? Wel mae hi yn siicr o ddyfod, Efe a wlawia ; cofiwch Du-w ydyw yr Efe yma, Mi ddywedaf i chwi, hefyd, ar bwy y disgyn y ffaglau tâu ; ar yr annuwiolion ! Wel, pAvy, meddwch chwithau, ydyw y rhei'ny ? Y rhai sydd yu halogi y Sabbothau ydyut, trwy roddi cciliogod i

* Gwcltudal, 134. f Gcllid mcddwl fod yr hen bregethwr yn syniad mai ffaglau ocdd i gacl eu gwla\\io, ac nid maglau.

182 HANESIAETH Y SIEOEDD. [DOSB. IV.

ymladd, a thaílii maeu a throsol, a chwareu tenis, ac arfer tesni ; cymeryd eiiw V Mawredd yn ofer, a mwy ua mwy o Jjechodau hylliou eraill ; a chofiwch fy mhobl i, mae yu rhaid eu gadael i gyd, ac ouide, rhaid dyoddef y gafod, îe, y gafod nad eiff hi byth yn hiudda ! Cofiwch hyny hefyd, nad oes dim ar y byd yma, mwy nag ar ddistryw, i rwystro tân Duw i lawr. Mor wir y gwlawia efe ar y byd annuwiol eto, a'i fod icedi gwlawio ar Sodom a Gom- orah gynt. Ond os dowch chwi yn awr i adael eich pechodau, ac i addoli mewn gwir ufydd-dod a pharch i orchymyuion Duw, cewch aur uwch eich penau, na ddaw na dwr na thân drwyddo yn dragywydd. Mae Duw wrth ei fodd yn maddeu i'r annuwiol, ac yn cyfarfod a'r penaf o bechadur- iaid ar y caiiad aur. Cofiwch, fy mhobl, mae'r TO aur * rhwng y saint a melldithion y gyfraith am byth."

Y cyfryw a'r cyffelyb oedd ymadroddion yr hen ddyrnwr gouest, wrth ry- buddio ei gydwladwyr tywyll a diofal. Ac er mai trwstan y trinid y gyd- mhariaeth, eto beudithiwyd y gwiriouedd. TywjTiodd goleuni tanbaid i feddyliau y gwraudawyr, ues oedd y rhan fwyaf o honyut yn gwaeddi megys am eu bywyd, a thrachefn yu neidio gan lawenydd, gan ddiolch yn felus am y aiir. Pel hyn y terfynodd y cyfarfod, a'r pregethwr, yntau, a eisteddodd i fwyta ei damaid bara oedd yn ei boced, gyda llymaid o laeth wedi ei dwvmno, ac adref ag ef yn Uawen ei wala, heb ddim am ei draed ond ei ddwy glocsen.

Fe fu amryw o euwogion y Deheudir yn y Capel Deugoru yn pregethu, megys Daniel Eowlands ; Dafydd Morris ; Da^aes, Cynfil, &c. Hefyd, bu bardd Pant-y-celyn, a Peter Williams, yma yn y cyfwng ; ond nid yn y Capel Deugoru : dewisodd y ddau hyn bregethu yn y dref. Pelly gwnaed ; ar gẁr yr heol, wrth ddrws a adnabyddir hyd heddyw wrth yr enw y College. Yr oedd teulu yn byw yn y hwn, er mawr syudod i'r trefedigion oU, yn ffafr- iol iawn i'r penau-cryniaid, ac yn dangos parodrwydd i'w croesawu.

Nid hir y buwyd, ar ol hyn, heb ddyfod i'r dref i bregethu. Yr oedd yma rai teuluoedd yn cuchio yn gethin yn erbyu dyfodiad y crefyddwyr i sefydlu achos yn y dref, ac jai dangos eu cyuddaredd, yn ol eu gallu, trwy An-thwyn- ebu. Aflwyddo, er hyny, a wnaethaut, ac y mae yn destyn sylw hyd lieddyw, na fu dim gwawr ar y teuluoedd hÿuy, nac ar eu hiliogaeth, mewn unrhyw tfordd, hyd y pryd hwn. Yr oedd yma rai, er hyuy, wedi rhoddi eu bryd i wueyd eu goreu o blaid achos y Gwaredwr, gan ddiystjTU pob gwaradwydd a fwrid arnynt. Yn mysg y rhai hynotaf o'r hynafiaid hyn, fe grybwyllir am ddau ŵr, John Thomas a John Eoberts, y rhai a " wasanaethasant swydd diaconiaid yn dda, gan ennill iddynt eu hunain radd dda." Yr oedd i'r gwŷr hyn "barch dauddyblyg." Nid oedd John Thomas jti ymadroddwr hyawdl, eto fe'i cyfrifid yn toeddiicr angîiydmharol ; a thra defnyddiol yn y gymdeithas eglwysig ; ac o'r ychydig o'i gydoeswyr sydd eto yn fyw, y maent yn cwyno eu colled ar ei ol hyd heddyw.

Gan gyfeirio, tybygid, at y dragareddfa, sef y cauad auraidd oedd i arch y dystiolaeth.

PEN. IV.] SIR GAERNARFON. 183

Tua'r fl. 1781 y caed addoldy yn nhref Pwllheli, a thrwy ymdrech y John Thomas uchod, yn benaf, y caed ef. Pwrcaswyd anedd mcT^-n lle a elwid Pen-y-moiiut ; a chyfaddaswyd ef i fod yn lle addoliad, gan ei helaethu, a rhoddi daru ato. Caed arwyddion Ued amlwg, yn fuan, o bresenoldeb yr Arglwydd gyda'i drueiniaid hyn ; fel y bu raid, yn mhen ugain mlynedd ar ól parotoi y cyntaf, ei helaethu gymaint arall. Yr oedd y gymdeithas eglwysig, bellach, yn 90 o rifedi, a'r hen anedd yn rhy gyfyng i gynwys yr aelodau yn unig. Yr oedd Jolm Roberts, yr hwn y crybwyllwyd ei enw eisoes, ac a elwid neu a adwaenid, weithiau, wrth ei enw barddonol, Siôn Lleyn, yn gydolygwi', bellach, â John Thomas. Y ddau hyn a gydwasan- aethent swydd henaduriaid yn yr eglwys dros ryw gymaint o amser ar ol parotoi y anedd yn Ue o addoliad ; ond sj^mudwyd John Thomas i'w orphwysfa, cyn adeiladu y newydd yn y flwyddyn 1801. Bu farw John Eoberts yn y flwyddyn 1817, a chladdwyd ef yn agos i'r fan v gorphwysai gwèddillion ei gydwas yn mynwent Deneio. Yr oedd Siôn Lleyn yn ŵr a berchid yn fawr ; bernid ef yn un o'r rhai cryfaf ei alluoedd o neb o'i gyd-grefyddwyr ; ie, bernid ef felly gan wŷr helaeth eu gwybodaeth, a chywir eu barn.

Y mae yn deilwng o sylw fod y ddau ŵr hyn wedi gwneyd cais ar gychwyn ysgol Sabbothol ymron mor foreu a Eobert Eaikes ei hun, a hyny ddwy neu dair blynedd cyn i Mr. Charles ymuno â'r Methodistiaid, ac ymsefydhi yn y Bala. Yr ysgrif o fy mlaen a ddywed, " Yr oedd John Thomas wedi cy- chwyn yr ysgol Sabbothol ycltydìg cyn y fl. 1783, ond nid bob Sabboth ; weithiau, bob yn fis ; bryd arall, bob yn Sabboth ; ond ni welodd ef ei chadw yn gyson bob Sabboth, fel yn awr, tra fu byw."

Y pryd hwnw, gan anamled yr oedfaon, a chan yr awyddfryd i'w mwynhau, fe wibiai y crefyddw^T yn mhell, yn fyuych, ar y Sabbothau, i wrando pregeth- au ; ac felly elid o eithafion Lleyn i'r dyben yma ; ond yr oedd gofal yr ysgol, yn y cyfamser, i gael rhyw un i'w chadw, yn disgyn ar John Thoinas a John Eoberts. Parhaodd yr ysgol hon (y gyntaf, fe allai, yn Nghymru) yn y wedd yma, o ran dim a allaf gasglu, hyd nes daeth ysgolion Sabbothol yn auilacli eu nifer, ac yn uwch eu bri ; a rhoddwyd iddi, bellach, ft'urf mwy cyson, ac ysgogiad mwy grymus ac eâ"eithioI.

Yr oedd cadw ysgol ar y Sabboth i ddysgu dynion i ddarllen y Beibl, yn gymaint trosedd yn ngolwg yr awdurdodau eglwysaidd, ag ydoedd i leyuion bregethu, a dechreuasant chwyrnu yn erbyn yr ymgais bychan yn Mhwllheli. Y newyddion am y cyfryw ysgogiadau a ddygid i glustiau y clerigwyr yu gyífredin gan y clochyddion, y rhai trwy ymgymysgu mwy â'r werin, oeddynt yn fwy cydnabyddus â mân helyntion y trigolion, a rhai, oblegid eu cyflymder a'u medrusrwydd yn sawrio eu hysglyfaeth, a elwid yn gŵn. Yr oedd cloch- yddion Llanor wedi ennill enwogrwydd yn y ftordd hon. Cyfarfu cloehydd Llanor unwaith â Siôn Lleyn, ar heol Pwllheli, a chododd ei ddwrn yn wyneb y bardd, a dywedai, " Wel, Siûn, y mae hi wcdi dod alat tithau o'r di-

184 HANESIAETH Y SIROEDD, [dOSB. IV,

wedd ; yr wyt ti yn ngafael cyfraith Bangor ; y macnt yno wedi clywed dy fod yn gweitliio ar y Sul."

" Pa waitli yw liwnw ? " gofynai y prydydd.

"Dysgu plant i ddarllen," oedd yr ateb.

Ar hyn edrychai Siôn yn Uym ar y prysur-ddyn diddiolch, a dywedai yn ddifyfyr :

Taw glochydd y dwl glechor, ag yngan A'n angof gŵn Bangor ; Cyfartli y maen' yr cwyn môr ; Gâd lonydd, glochydd Lhinor.

Heblaw y ddaii ŵr a grybwyllwyd, fe fu Uawer eraill yn wasanaetligar a ífyddlawn i achos y Gwaredwr yu MhwUheli, y rhai ni ellir, gau ddiffyg lle, wneyd un crybwylliad am danynt ; ond fe fyddai yn aufaddeuol gadael enw yr hynod Michael Eoberts heb sylw mwy arbenig arno,

Ganwyd y gŵr defnyddiol hwn yn mhlwyf Llanllyfni, yn y fl, 1780. Daeth i Bwllheli yn y fl. 1802, pan oedd yn 23 ml. oed. Yr oedd wedi dechreu pregethu flynyddoedd cyn hyny, fe allai bump neu chwe' blynedd. Yn fuan ar ei ddyfodiad i BwUheli, ymaflodd yn y gorchwyl o gadw ysgol ; gorchwjd ag y buasai amrai o bregethwyr sir Gaernarfon yn nodedig o ddefnyddiol ynddo i'w cenedl a'u gwlad gorchwyl a gymhellwyd i'w sylw trwy esamplau y dynion goreu yn y wlad, megys Eobert Jones, Ehoslan, Evan Richardson, Caernarfou; a thrwy esamplau ei berthynasau agosaf yntau, sef yr eiddo John Eoberts, ei dad, a Eobert Eoberts, ei ewythr. Llaf- uriodd Michael Eoberts yn ddiwyd gyda'r gorchwyl anrhydeddus hwn, dros flynyddoedd, a bu yn offerynol i wneuthur Uawer yn gyfarwydd, nid yn unig yn wyddorion cychwyuol dysgeidiaeth, ond hefyd yn " nechreuad egwyddor- ion ymadroddion Duw."

Yn y fl. 1806, fe briododd ; a ganwyd iddo bedwar-ar-ddeg o blant, chwech 0 ba rai sydd eto yn fyw. I fagu y teuhi hwii, gofynid Uafur a di- wydrwydd mawr, gan y dibynai eu cynaliaeth ar lafur y penteulu. Profwyd ef yn llym hefyd gan gystudd corfforol, yr hwn a ymaflodd ynddo yu lled ieuaiic, sef diflyg anadl (astlima), ac a barhaodd i'w ddilyn, mewn rhyw ffurf neu gilydd, hyd ei farwolaeth. Ond er ei hoU Lnfur gyda yr ysgol, a'i hoU ofal gyda theulu Uuosog ; nid mynych y byddai ei le yn wag yn nghyfarfod- ydd crefyddol yr eglwys. Arferai bregethu ai^ y Sabbothau ar hyd y wlad, a mynych y dychweki adref ar ddydd Llun y boreu, erbyn amser ysgol, wedi Uafurio yn galed y Sabboth, ac heb fod mynyd yn ei wely drwy y nos, o her- wydd diffyg anadl. Pregethai bob nos lau yn ei gartref, hyd y goddefai ei afiechyd, heblaw yn fynych ar y Sabboth. Oddeutu y fl. 1836, newidiodd ei afiechyd ei ffurf, a pharodd fylchiad galarus yn ei weinidagaeth am ysbaid 12 mlynedd, trwy effeithio ar ei synwyrau mewn mesur hcLaeth ; ond cyn ei symudiad o'r byd, dychwelodd ei aficcliyd i'w ffurf gyntefig, a chyda hyny adferwyd yntau i feddiant o'i aUuoedd, er Uawenydd annhraethol i'w hoU

PEN. ÌV.] SIR GAEUNARFON. 185

frodyr. Cafotld gyfleusdra, yn y modd yraa, fod yu bresenol mewn pedwar neu bump o gyfarfodydd misol ei wlad, ac unwaith yn nghym- deithasfa y Bala, lle y pregethasai efe gyuifer o weithiaii o'r blaen gyda'r fath rym a chymeradwyaeth ; ac ar ol lloni ei frodyr â'i bresenoldeb yu eu cyfarfodydd, ac ail-enyn eu dysgwyliad am adnewyddiad ei weinidog- aeth, o leiaf dros rai blynyddoedd, yn ddisymwth iawn iddynt hwy, fe'i cipiwyd ef oddiwrthynt, a dygwyd ef i dangnefedd.

Yr oedd y Parch. Michael Roberts yu uu o bregethwyr hynotaf ei oes. Er nad oedd ei gorff ond bychan a gwanaidd, yr oedd ei lais yu dreiddgar a chlir, mwynaidd a hyfryd ei sain. Darllenasai lawer yn ei dymhor ; yr oedd ed gof yn gryf, a'i ddeall yn gyflym. Nid gormod fyddai dywedyd ei fod mor gyfarwydd yn yr ysgrythyrau a neb o'i frodyr. Ehyfeddol o ddysglaer a fyddai ei esboniadau ar ranau o'r Beibl. Bernid ef, gau rai, ymron yn gydradd a'i ewythr Robert Eoberts ; ac o ran cyflawnder ei wjbodaeth, yr oedd yn ddiau felly, 'ie, yn rhagori arno. Yn y cyfíredin, yr oedd rhyw swyn hyfryd yn ei weinidogaeth, ac ar achlysuron yr oedd yn angherddol. Y" rhan amlaf, fe deimLii y gyuulleidfa wrth ei bodd yn ei wraudo, oud ar ryw amserau fe barai i holl deimladau y galon ddychlamu, fel y gwna cerddor i dànau yr offer cerdd. Rhwng dwys-ddifrifwch ei ysbryd, cywair toddedig ei lais, cywirdeb difai ei iaith, ac ardderchogrwydd ysblenydd ei ddrych- feddyliau, yr oedd yn cyrhaedd meddiant perffaith yn ei wrandawyr, a mynych y gwelid ugeiuiau a channoedd yn ymdoddi yn ddagrau, neu yn ymroddi i foliannu.

Yn Mhwllheli, fe ddeuai cynifer i'w wrando ef â neb ; ac amlaf y pregethai, lluosocaf y gwrandawyr. Ac er nad oedd ei sefyllfa ond isel mewn cyd- mhariaeth, a'i deulu yn lluosog, eto yr oedd dylanwad rhyfeddol p-anddo ar ei gyd-drefedigion, ac yn mysg ei frodyr crefyddol. Yu gyfateboi i'r parch a fynwesid tuag ato, yr oedd y galar a brofid pau gollwyd ei wasanaeth yn ystod ei neiUduaeth a'i ddyryswch ; ac er fod y deuddeug mlyneddhyny wedi lliniaru sydynrwydd yr oruchwyliaeth, eto yr oedd y teimlad yn gryf iawn yn meddyliau y rhai henaf, y rhai a'i hadwaenent ef oreu, fod " tywysoo- a gŵr mawr wedi syrthio," pan y symudwyd ef gan angau. Cyraerodd hyn le ar y 29ain o lonawr, 18J-8, pan oedd yn 68 ral. oed. Pregethodd y Parch. John Jones, Treraadoc, yn ei augUadd, ac anfonwyd ei weddillion i fynwent Deneio, gan "y dorf luosocaf," meddir, "a welwyd gynt na chwedi, yma. Yr oedd y canu ar hyd y ffordd j^n troi yn wylofain tost gan deiraladau galarus y bobl, y rhai a gofient ei werth, ac a gredent na welid ei wyneb ef mwy."

Yr oedd yr addoldy a adeiladwyd yn 1801, yn ystod y blynyddoedd a ddilynodd, sef y blynyddoedd y bu y Parch. Michael Eoberts yn cyfaueddu ac yn llafurio yu y dref, Avedi myned yn rhy gyfyng i gjaiwys y gynulleidfa, a'r eglwys hefyd wedi lluosogi nes oedd yn 250 o rifedi, a bernid yn ano-en- rheidiol i adeiladu im mwy. Yr oedd hyn yn raryd yr hen weinidog, cyn ei oddiweddyd gan ei gystudd blin, ond ni ddygwyd hyny yn gwbl i ben hyd y

186 HANESIAETH Y SIROEDI). [jJOSB. IV.

fl. 1841, pryd y gorphenwyd yr adeilad presenol, yr liwn a gynwys gymaint a thri o'r heu, neu fwy. Mae y capel hwn hefyd yn cael ei lenwi â gwran- dawyr, a'r gymdeithas eglwysig, er pob ymosod ac ymddifadu a fu arni, yn cynwys 316 o rifedi.

PENNOD Y. PARHAD 0 HELYNTION LLEYN AC EIFIONYDD.

CYÎIWTSIAD :

ROBEET JOXES, EHOSLAN, A'I AMSEEAU— D. EOWLANDS YN PEEGETHU YX TYD- WEILIOG, A GELLIDARA— LEWIS EEES \'X CAEL EI ERLID Y'X ABERDARON— AMRY'W ERLIDIGAETHAU— CYFAEFOD PEEGETHU YX MHEX-JIORFA— CYFAEFOD MISOL YN DOLYDD-BYRIOX— GRIFFITH SIOX, Y'XYá-Y-PAXDY, A'I HELYNT— DECHREUAD A CHYNYDD METHODISTIAETH Y'X MEDDGELERT A'I HAMGYLCH- OEDD.

NiD oedd nemawr fwy nag ugain mlynedd wedi treiglo heibio oddiar doriad y wawr rethodistiaidd, cyn i'r hybarch Eobert Jones, Ehoslan, fel y'i gelwid, ac awdwr "Drych yr Amseroedd," ddyfod i'r maes i gynorthwyo y diwyg- iad. Cafodd hefyd oes faith, yr hon a dreuliodd yu ngwasanaeth ei Arglwydd ; efe a welodd lawer o ymosodiadau ar Fethodistiaeth, mewn gwaradwydd ac erlid oddiallau, ac mewn heresiau ac ymrysonau oddimewn, yn ysbaid mwy na 60 mlynedd y bu ef ar y maes. Yn ystod y triugain mlynedd hyuy y bu V llwyddiant mwyaf ar Fethodistiaeth Cymru , y dygwyd i mewn y cyfnew- idiadau mwyaf, ac y cododd y nifer mwyaf o bregethwyr defuyddiol ac enwog. Gan y cyfeiriad mynych sydd ja y gwaith hwn at y llyfr a gyhoedd- odd, a ehan hynodrwydd yr amserau y bu ef yn oesi yuddynt, yn gystal a'i enwogrwydd ef ei hun, dyddorol, yn ddiau, a fydd gan y darllenydd gael byr olygiad ar ei oes gyhoeddus.

Ganwyd ef yn y ü. 17i5, yn Suntur, plwyf Llanystyndwy, sir Gaernarfon. Ychydig 0 fanteision ddysgeidiaeth a gafodd, fel y rhan fwyaf o ieuenctyd ei oes, ac oni bai y gogwyddiad cryf oedd yn ei feddwl ef ei hun i gyrhaedd gwybodaeth, ni allasai ragori yn hyn ar ei gydoeswyr. Fe fu farw ei fara pau oedd ef yn 1 1 ml. oed, a cholled fawr a fu hyn iddo, gan ei bod yn wraio- 0 synwyrau cryfion, ac yn arfer a darllen Uawer ar y Beibl a Llyfr Gweddi Cyffredin eglwys Loegr ; ac yn awyddus iawn, yn ddiau, i'w hyfforddi yntau i wneyd yr un modd. Ni chafodd ond yn nghylch chwech wythnos o ysgol ya ei oes. Ei fam a'i cychwynodd, a'i lafur a'i ddiwydrwydd ei hun a'i dygodd rhagddo, nes daeth ef i fod yu uu o'r dynion lielaethaf ei wybodaeth gyftredinol o neb yn ei wlad.

Ymddaugosodd syched angherddol ynddo am wybodaeth yn gynar, îe, cyn ei ddwyn i gofleidio crefydd. Y'^r oedd ei fryd ar ddarllen, ac ni chollai uu cyfleusdi-a i goethi ac eangu ei feddwl. Gosodai lyfr o'i flaen pan yn bwyta ei bryd bwyd, ie, gwnaeth ofteryn priodol i ddal y llyfr, modd y gallai ei ddefnyddio yn fwy hylaw pan y byddai yn bwyta. Yr oedd hyn yn beth anghyffredin iawn yn yr oes hòno, fod neb yn gosod ei fryd ar ddarllen.

PEN. V.] SIR GAERNARFON. 187

Daeth rhyw wraig i'r un tro, pan oedd â'i lyfr o'i flaen yn y modd hjTi, yn darllen, a thorodd allan yn fyrbwyll i ddywedyd, " Ymgroesa, Eobert ! oni wyddost ti mai trwy ddarllen wrth fwyta yr aeth A o'i gof ?"

Yr ychydig ysgol a gafodd oedd gydag un Thomas Gough, yr hwn a arferai egwyddori ei ysgolheigion yn Nghatecism y Parch. Griíîith Jones, Llanddow- ror. Daeth Eobert Jones yn berchenog ar un o'r Uyfrau da hyn pan oedd yn 17 ml. oed, darlleniad yr hwn, yn nghyda yr holwyddori blaenorol o hòno, a fu yn di'a bendithiol iddo, er difrifoli ei ysbryd, ac eangu ei wybodaeth yn athrawiaeth yr efengyl. Tua'r pryd hwn y daeth Lewis Evan o sir Drefald- wyn, a gŵr dyeithr arall gydag ef, i'r ardal i bregethu ; yntau a aeth i'w gwrando, a difyr iawn oedd ganddo graífu ar ystumiau ac ymadroddion Lewis Evan, yr hwn oedd y cyntaf a bregethodd, fel y gallai ei ddynwared wrth ei gyfoedion ; ond ar y pregethwr arall bu raid iddo wrando ; daliwyd ei fedd- wl, a sefydlwyd ei lygaid : ie, pigwyd ei galon ag argyhoeddiad, nes peri iddo ymadael â'i ofer ymarweddiad, ac ymuno â chymdeithas eglwysig yn Mryn- engan, yr unig un, ond odid, gan y Methodistiaid yn y fro hòno ; íe, fe allai, gan neb arall y pryd hwnw.

Dygwyd ef i fyny yn y grefft o saerniaeth coed, yr hon a fwriadai ei dylyn, a pherffeithio ei hun ynddi ; ond y cyfnewidiad a gymerasai le ar ei feddwl, a arweiniodd i gyfnewidiadau eraiU. Wedi ei ddeffroi am ei gyflwr ei hun, teimlai awyddfryd tanbaid yn ei fynwes i lesâu ei gydwladwyr, yn enw- edig y plant a'i gyfoedion ieuainc. Dan y teimladau hyn, cymerodd ei daith, ar ei draed, i Lacharn, hwnt i Gaerfyrddin, gan' milldir a mwy, at Madam Bevan, i ddeisyf arni dosturio wrth blant tlodion diddysg Gwynedd, ac anfon ysgol-feistriaid i'w dysgu. Cerddodd yno, medd yr hanes, gan weddio bob cam ; ond nid oedd y wraig foneddig gartref, a gorfu arno ddychwelyd heb ei neges. Eto, gadawodd anerchiad cwynfanus ati ar ei ol, a thaer ddymunai ei chynorthwy. Ond gan ei fod eisoes ar dir y Dehau, a chan faint a glywsai am Howel Harris, penderfynodd y mynai olwg ar Drefeca, ac ymddyddan ag awdwr y sefydliad yno. Ac felly y gwnaeth.

Aeth yr ail waith yr un modd at Mrs. Bevan, a hyny ar yr un ueges. Cofied y darllenydd mai llencyn ieuanc ydoedd, tua 18 ml. oed; ac nad oedd un cyfeisteddfod o wŷr cyfrifol yn ei anfon, nac yn addaw talu iddo am ei amser, a'i draul ; yn unig, awyddfryd ei fynwes ei hun a'i cymhellai, oddiar ddymuniad cryf i lesâu ei genedl a'i wlad, yn neiUduol yn yr hyn a berthynai i'w heddwch tragwyddol. Fe fu yn fwy Uwyddiannus y tro hwn. Cafodd y foneddiges gartref, a rhoddwyd cyfleusdra iddo osod ei gŵyn eilwaith o'i blaen ; ond gan y siomedigaethau a gawsai y wraig foneddig eisoes mewn dynion, a droisent allan yn athrawon anffyddlawn, yr oedd yn anhawdd ganddi wrando ar ei gais, ond ar fedr ei nacâu yn hoUol, er maint ei daerineb ; ond cyn llwyr benderfynu, dywedai wrtho, " Os ewch chwi eich hun i'w chadw, yr wyf yn foddlawn i'w rhoddi." Yntau a gydsyniodd, gan nad oedd obaith cael ysgol heb hyny, er na feddyliasai ymosod ar y gorchwyl o'r blaen.

Ymddengys mai yn Nghapel Curig, ardal rhwng Bangor a Bettws-y-coed,

188 HANESIAETII Y SIUOEDD. [dOSB. IV.

y declireuodd cf ar y gorcliwyl newydd ; ac yraa licfyd y declireuodd breg- ethu. Arferai eisoes cgwyddori plant yr ysgol raewn pctliau crefyddol, eu cynghori, a gweddio gyda hwy, fel ag yr oedd y cam oddiwrth liyn at gyng- hori dynion, gan Ueied eu gwybodaeth crefyddol â phlant, ond bychan a hawdd, a cham ydoedd a gymerwyd gan lawer o ysgol-feistriaid crefyddol yr oes hòno. Dygwyddodd fod gŵr dyeithr wedi ei gyhoeddi i bregethu mewn yn Nghapel Curig, ond ni allodd ddyfod, a chymhellwyd Eobcrt Jones, yr hwn a ddaethai yno i wrando, i roddi gair o gynghor i'r ychydig bobl a ddaethai yno yn nghyd. Yntau a ufyddhaodd i'w cais, a pharhaodd ar ol hyny gyda'r un gwaith hyd ddiwedd ei oes.

Nid hir y byddai ysgolion Madam Bevan yn aros yn yr un gymydogaeth ; symudid hwy, gan amhaf, wedi ychydig o fisoedd i ardal newydd, gan y bernid fod ychydig o fisoedd yn ddigon yn y cyffredin i ddysgu darllen y Beibl i Gymro ; ac wedi cyrhaedd yr amcan hwn mewn un ardal, symudid i ardal arall, er mwyn rhoddi cyfl'elyb fantais i hòno. Pel hyn y bu gyda Robert Jones. Symudodd o Gapel Curig i sir Ffiint,* ac oddiyno i Fryn- Siencyn yn Môn. Fe fu wedi hyny yn Llangybi, Brynengan, a LLìubadarn, yn sir Gaernarfon. Tra yr oedd yn y lle olaf a enwyd, âi i Lanllyfni, tua phum' miUdir o ffordd, i gadw ysgol y nos ; a bu ei lafur yn y ffordd yma yn fendithiol iawn. Fe ymddengys fod gan Eobert Jones lawer o gymhwysder i ennill serchiadau ei ysgolheigion, a duU mcdrus ac effeithiol i gyfranu addysg iddynt. Yr oedd trwy hyn yn enniU yr ieuenctyd i'w hofil yn fawr, er y byddai, yn fynych, yn dyoddef cryn warth ac erlid oddiwrth drigolion y lle y byddai yn cadw yr ysgol ynddo, ac nid oddiwrth neb yn fwy nag oddiwrth yr offeiriaid gelynol, fel y gwelir oddiwrth yr hanesyu a ganlyn :

Cyn pen llawer o amser ar ol iddo ymsefydlu yn Mryn-Siencyn, ennillodd lawer o blant i'w ysgol. Cenfigenodd gweinidog y plwyf gymaint wrtho, nes gosod ei fryd ar ei symud o'r ardal. Gwraidd ei ddrwg deimlad tuag ato, tybygid, oedd fod cynghorwr Methodistaidd yn enniU gormod o ddylanwad yn ei blwyf. Ysgrifcnodd, gan hyny, at Madam Bevan, gan ddarlunio yr ysgol-feistr oedd ganddi, yn ddyn peryglus i heddwch ei blwyf ef, ac i Iwydd- iant yr eglwys, ac erchi arni anfon ato orchymyn i ymadael â'r fro. Ond nid oedd y wraig foneddig ddim am roddi coel i bob gair a glywai, îe, oddi- wrth beriglor plwyf ; ac yn yr amgylchiad hwn, hi a gawsai y fath foddlon- rwydd yn Eobert Jones pan yn ymddyddan ag ef, fel na roes un gwrandaw- iad i'r cyhuddwr, nac atebiad i'w lythyr. Yn mhen ysbaid o amser, daeth y person at Eobert Jones, a gofynodd iddo :

" A gawsoch chwi yr un llythyr oddiwrth Madam Bevan yn ddiweddar ? "

"Naddo Syr," ebe Eobert Jones.

Ehyfeddodd y gŵr boucddig yn fawr na wnaethai Madam Bevan fwy o sylw o'i lythyr ; a rhag mai amryfusedd a fu, anfonodd lythyr arall i'r un

* Gwcl ci hanes yn Rhuddlan, yii haues dosbartli sir Ddinl)ych.

PEN. V.] S1K GAERNAIÎFON. 1S9

perwyl a'r cyutaf ; yna galwodd ar yr ysgol-feistr eilwaith, i ofyu a glywsai efe ddim oddiwrth y wraig foneddig ?

" Na chlywais i," ebe yntau.

" Mae hyn yn rhyfedd," ebe gweiuidog y plwyf, " ond pa fodd bynag am hyny, y mae yn rhaid i chwi ymadael oddiyma ; ni chewch chwi ddim cadw ysgol yma."

" Wel," ebe Eobert Jones, "yr wyf yu cyduabod eich awdurdod chwi, Syr, i fy nhroi i ffordd, ond a fyddwch chwi gystal a dywedyd wrthyf am ba achos y gwneir hyuy ? Byddant yn gofyn i mi yn sir Gaernarfou, paham y daethum adref cyu peu fy nhymhor ? am hyny, dywedwch yr achos, fel y byddo genyf beth i ateb i'm cymydogion."

" Wel," ebe y periglor, " yr ydych yn pregethu tua'r Bryu yna, ac yu hudo y bobl ar eich ol."

" Ho," ebe yntau, " ai dyna sydd pi fy erbyn ? Nid wyf yu gwneyd amgen na darllen cyfrau o air Duw, gweddio, a chanu mawl i'r Ai-glwydd, gau rybuddio y bobl i beidio halogi y Sabbothau, ac i ochel pechu yn erbyn Duw. Yr wyf yn meddwl, Syr, fod hyny yn well ua bod y bobl yn chwareu pel ar hyd y Bryn ar ddydd yr Aa'glwydd, ac mi a fyddaf yn cymeryd gofal am der- fyuu cyu amser gwasauaeth yr Eglwys."

" Pa fodd bynag," meddai y gweinidog, " ni waeth beth a fo, y mae yn rhaid i chwi fyned oddiyma."

" Wel, Syr, os hyuy sydd raid," ebe yr ysgolfeistr, " a fyddwch chwi gystal a rhoddi rhyw un i orpheu addysgu y plant ? yr wyf íi yu hoff o honynt, ac yn tostm-io wrth eu sefyllfa ; bydd yu dda geuyf, os rhoddwch chwi ry w uu i'w dysgu ? "

" Na ofelwch. chwi am hyny," meddai y periglor, " cerddwch chwi adref."

" Hyny a wnaf, Syr, oud cofiwch y bydd coffa am heddyw yu nydd y fam." Ac wedi dyweyd hyn, ymado a wnaeth yr ysgolfeistr, ond ui ofalwyd am y plant ; trodd yr offeiriaid hwyut allau gyda thrahausedd, a thau lefain aeth y plant i'w cartrefi, a phrin y gallent oll lai na darogan y deuai rhyw aflwydd i gyfarfod â'r gŵr urddasol cyu hir. Yr oedd gwraig foueddig yu agos i Beumorfa, IMi's. Lloyd o'r Gesaü, yn gydnabyddus a chyfeillgar â'r periglor h.wn, ac yn arfer ymweled â'u gilydd. Daetli y gŵr parchedig a'i wraig, ar uu achlysur, i'r Gesail, i ymweled â Mrs. Lloyd, Yr oedd gŵr yu y gymydogaeth, yr hwn oedd yn byw mewn tyddyn o eiddo Mrs. Lloyd, yn derbyu pregethu i'w ; ac er fod hyn yn bod, bellach, er ys amryw flynydd- oedd, nid oedd ueb, hyd yu hyn, wedi hysbysu y peth i Mrs. Lloyd. Yu ysbaid yr amser y bu y periglor yu aros yu y Gesail, aeth un tro i ymweled â gŵr ieuauc urddasol, o gyfaiU iddo, oedd yn aros yu y gymydogaeth. Yn ystod eu hymddyddanion, mynegwyd i'r periglor fod tyddynwr i Mrs. Lloyd yn derbyn pregethu i'w ; a hyny yu lled agos i'r palas ; a'i fod yn ofni nad oedd ueb eto wedi bod mor ffyddlawu a hysbysu hyny iddi.

" A ydyw y pcth yn wir ? " gofyuai y periglor.

" 0 ydyw," ebe ei gyfaiU, " yn ddigon siwr."

190 HANESIAETH Y SIROEDD. [DOSjì, IV.

" Wel," eb y cyntaf, " ni fwytaf fi fy nghiniaw heddyw, nes ei wneyd yn hysbys."

Ond ar ei ddychweliad i'r palas, pan ofynwyd iddo ryw air gan forwyuion y tŷ, ni cheid yr un gair ganddo, ie, er gofyn eilwaith ac eilwaith. Parodd yr amgylchiad hwn gyíìro mawr yn eu mysg, a rhedasaut ar frys i gyrchu ei wraig ato. Hithau, druan, a ddaeth ar frys, a mawr oedd ei braw a'i dychryn, pan ddeallodd na allai ddyweyd un gair wrthi, er crefu arno lawer ; ond nid oedd air i gael ganddo, ac ni chafwyd air mwyach gauddo tra fu byw, oddi- eithr rhyw air byr, ond bu farw yn mhen ychydig ddyddiau. Trwy yr ymweliad trwm hwn, fe waharddwyd iddo gan ragluuiaeth Duw hysbysu y gyfrinach i'r wraig foneddig, fod ei thyddynwr tlawd yn derbyn pregethu i'w dŷ. Cafodd ef a'i wraig lonydd hefyd o hyny allau i gadw eu drws yn agored i'r efengyl, hyd ddydd eu marwolaeth. Ni ddywedir paham y cawsant bar- had o'r llonyddwch, pa un ai oblegid cadw y gyfriuach oddiwrth ei feistres tir, ai ynte, yr hyn sydd debycach, fod amgylchiad marwolaeth y periglor wedi dod yn hysbys yn y fro, ac achosi gormod o fraw ar bawb ymyraeth dim yn ychwaneg â'r pregethu yn y lle. " Y rhai a ymrysouaut â'r Arglwydd a ddyfethir."

Nid ydym yn hòni nad allai amgylchiad disjanwth o'r fath ddygwydd ar lawer pryd, heb beri nemawr sylw. lë, nid annaturiol ydyw meddwl fod y cyfifro cryf a gynyrchwyd yn meddwl y periglor, ac yntau o bosibl yn ddyn o nwydau cryfiou, wedi dwyn arno gyrch angeuol o'r parlys mud. Oud er addef hyn oll, ni allwn lai ua meddwl nad oedd yn yr amgylchiad hwn gyf- ryngiad amlwg o eiddo rhagluniaeth Duw, mewn lîordd o amddiífyniad dros €Ì achos ei hun, o anfoddlonrwydd i ymyriad diachos y periglor, ac o rybudd i bawb eraill.

Ai' ol rhoddi yr ysgol i fyny yn y Bryn, a chyn gadael Môn, aeth Eobert Jones gyda gŵr eglwysig, sef un o'r oífeiriaid Methodistaidd, nid yw ei enw ar lawr, ar gyhoeddiad trwy yr ynys, gan bregethu yn y prif-fl;yrdd a'r caeau. Yr oedd cryn ymgasgliad, y pryd hwnw, i wrando oíFeiriaid a ddeuai o am- gylch . i bregethu, ond yr oedd Ilawer o ragfarn eto yn aros yn erbyn dyniou diurddau a wnai hyny. Y tro hwn, fe ddarostyngwyd Ilawer o'r ragfarn hwnw, gan i'r bobl gael cyfleusdra i wrando gŵr diurddau ac un urddedig gyda'u gilydd, ac fe ymddengys fod y gydmhariaeth a wneid rhyngddynt yn tueddu i arwain y gwrandawyr ystyriol i weled fod Ilai o achos derchafu un a darostwng y Ilall, nag a dybiasant o'r blaen. Yr oedd Eobert Jones yn bregethwr call a chynwysíawr ; yr oedd ei lais yn beraidd, a'i faterion yn sjrlweddol, cymaint felly fel ag i ennill lle mawr yn syniadau y bobl gallaf yn mysg y gwrandawyr.

Wedi iddo ddarfod â'r ysgol yn Mrynengan, cymerodd dyddyn o dir, sef Tir-bach, Ehoslan, plwyf Llanystundwy, dan rwym-weithred (lease) am saith mlynedd. Adeiladodd helaeth ar y tir hwn, un rhan o'r adeilad yn auedd, a'r rhan arall yu gapel. Gwnaeth y weiuidogaeth ei hol yn rymus yn y lle hwn tra y parhaodd y weithred, ond ar ol hyny, disgynodd y tir i

PEN. V.] SIR GAEBNAEFON. 191

feddiant eglwyswr, yr hwn a'i cynygiodd i Robert Jones drachefu, ond ar yr ammod iddo droi pregethu allan o'r tŷ. Ni chytunai yntau â hyn, ac felly bu gorfod arno ymadael. Chwalodd y gymdeithas eglwysig a gasglesid yn y lle, i amrywiol leoedd, megys y Garn, Bont-fechan, &c, Symudodd oddiyno i dyddyn yu Lleyn, yr hwn a elwir Tŷ-Bwlcyn, gerllaw Garnfadryn, lle yr arosodd dros yr amser y bu ei wraig yn fyw. Ond wedi ei chladdu hi, efe a roes y tir i fyny, ac o hyny allan, efe a letyai gydag un neu arall, gan ymddyosg oddiwrth ofalon y bywyd hwn, ac ymroddi, tra y goddefai iechyd iddo, i wneyd a allai gydag achos y Cyfryngwr.

Yr oedd Eobert Jones, trwy lafur ac ymdrech mawr, wedi ymeangu mewn gwybodaeth gyífredinol, yn fwy na nemawr un yn ei oes a'i wlad. Casglodd lawer o lyfrau da, a gwnaeth ddefnydd da o honynt. Tr oedd yn hoíf o ddarllen hanesion oesoedd blaenorol, ac yn gofiadur campus o hanesion ei oes ei huu ; yr oedd hefyd yn hoíf o'u hadrodd, ac yn fedrus i'w croniclo, i oesoedd dyfodol. Iddo ef, gan mwyaf, yr ydys yn ddyledus am hanesiaeth boreol Methodistiaeth Gwynedd. Fe dramwyodd Lawer ar Ogledd a I)e, gan breg- ethu ac athrawiaethu mewn dull iraidd, buddiol, a gwlithog, Safodd yn dyst cadarn yn erbyn penrhyddid ei oes, mewn athrawiaeth a buchedd. Yr oedd gwahanol gangenau athrawiaeth wedi eu mantoli yn dda yn ei bregethau, a chrefydd yraarferol yn blaguro yn iraidd yn ei rodiad. Ysgrifenodd amryw o lyfrau buddiol,* fel isod ; yr un penaf, ac wrth yr hwn yr adwaenir ef fwyaf, bellach, ydyw " Drych yr Amseroedd." Yr oedd Eobert Jones yn ddigon hen i gofio y rhan fwyaf o bregethwyr cyntaf Methodistiaid De a Gogledd ; ac efe a fu byw ddigon o hyd i weled llawer o hen. bregethwyr yr oes hon. Arferai ddyweyd yn ei hen ddyddiau, ei fod wedi gweled tair oes o Fethod- istiaid. Safai megys yn nghanol oes Methodistiaeth am 60 mlynedd ; aethai 20 mlynedd a mwy heibio cyu ei eni, ac yn awr y mae 20 mlynedd a mwy wedi treiglo ymaith ar ol ei gladdu ; yr oedd yntau yn ddolen fawr yn cysylltu yr oes foreuaf, a'r oes ddiweddaraf, gyda'u gilydd.

Treuliodd ei oes yn Ilafurus ac eft"ro ; gwasanaethodd ei genedlaeth yn ffyddlawn ac egniol ; cadwodd ei Iwybr yn ddiwyro mewn barn a buchedd ; ei gymeriad yn ddiachwyn arno, a dybenodd ei yrfa mewn tangnefedd. Bu farw EbriII 11, 1829, yn 84 ml. oed.

Fe fu Eowlands, Llangeitho, yn sir Gaernarfon aml waith ar ol y tro cyntaf yn y fl. 1747, am yr hwn y crybwyllwyd eisoes, ond nid oes genym un cof- lyfr yn ein hysbysu pa mor aml y bu, nac ar ba amserau ; yn unig dywedir ei fod wedi cyfarfod â Ilawer o anfri a gwrthwynebiad oddiwrth y rhai nid ad- waenent y gwirionedd. Sonir am un tro, pan oedd yn pregethu yn mhentref Tydweiliog, a rhyw ŵr cyfrifol, o'r enw Mr. Price, yn gweddio o'i flaen, i hwn gael ei daro â chareg gan ryw ŵr boneddig, nes oedd ei waed yn Ilifo,

* Cyhoeddodd gyfieithiacl o'r gyfrol gyntaf o waith Gurnal : Lleferydd yr Asyn : Arweinydd i'r Anwybodus : Ymddyddan rhwng Dr. Opium, Galio, a Discipulus : Grawn Sypiau Canaan :— Drych yr Amseroedd.

192 HANESIAETH Y SIEOEDD. [dOSB. IV.

ond nid yw awdwr " Drych yr Amseroedd " yu sicrliau a gafodd Eowlands lonyddwch i bregethu y tro hwn ai peidio.

Souir am dauo hefyd ryw bryd, wedi myned i le a elwir Gelli-dara, gerllaw PwUheli, ar fedr pregethu ; ac i haid o derfysgwyr ymgyuull yno i aflouyddu. Dygasant dabwrdd (drum) gyda hwy, er mwyn cadw digon o swn, a boddi llais y pregethwr. Oud yn nghyfi-if rhyw ddyhirjTi nwydwyllt o Bwllheli, nid oeddynt yn cyflawni eu gorchwyl trystfawr yn ddigon egniol ; enynodd ei ddigofaint atynt am eu hesgeulusdra, a'i sel dros yr amcan anrhydeddus f?J mewn golwg, nes iddo, mewn cyfl"ro mawr, gymeryd ei fl'on, a tharo y drum yn ddrylliau, gan ei gwneyd yn gwbl ddiddefuydd. Dyma'r pryd yr oedd y Parch. William Williams, Pant-y-celyn, yn cyd-deithio gydag ef, ac yr aeth Mr. Piowlands i Pôn y tro cyntaf, pryd yr attaliwyd ef i bregethu yn eglwys Llaugefui.*

Yr oedd rhagfarn y bobl, fawr a bach, gwreug a boneddig, yn erbyn pob ymneillduwr, yn fawr iawn, y pryd hyn. Dygid y pregethwyr gau yr erlidwyr at yr ynadon, a hwythau a'u traddodent eilwaith i ddwylaw yr erlidwyr. Nid oedd ofn y bobl yu lluddias y gwŷr mawr i wneyd cam û hwy, ac nid oedd ofn y gyfraith yn lluddias y bobl i'w baeddu. Edrychai pawb arnynt yn wrthddiychau rhy isel i'w parchu, a rhy ddi'wg i'w dyoddef. Ehoddir drych cywii- o ansawdd y bobl, ac 0 sefyllfa y crefyddwyi', yn yr adeg foreuaí" aruynt yn y wlad hon gan Eobert Jones, -nTth ddysgrifio amgylchiad a gyfarfu â Lewis Eees, yn Aber- daron. Dywedir i'r gv\T da hwnw unwaith ddyfod i'r Tŷ-cerig i bregethu ; ond erbyn ei ddyfod, yr oedd torf ddirfawr o erlidwyr wedi ymgasglu, ac un ]\Ii\ Morris Grifíith yn flaenor aruynt. Pan ddaeth Mr. Eees i'r Ue, cyfarfu Mr. Griflìth ag ef â'i gleddyf noeth yn ei law. " Os meiddi ddywedyd gair yma heddyw," ebe fe, " mi a'th redaf â'r cleddyf." I hyu yr atebodd Mr. Eees, yn addfwyn, a pherfl'aith feddiaut gauddo ar ei ysbryd, " Yr ydych yn llaw gŵr arall, Syr." Gyda'r gair hwn, gostyngodd ei gleddyf i lawr, fel pe na buasai grym ynddo i'w ddal i fyny. Eto ni phetrusai y dorf afreolus a myned yn mlaen gyda'u gorchwyl, a dechreuasant guro a baeddu, nid y pregethwr yn unig, ond cynifer ag a dybient ag oedd yno yn bleidiol iddo, mewn modd didrugaredd ; îe, y merched hefyd, trwy gael eu hanuog, oeddynt mor flaenllaw a neb, os nad mwy.

Yn y cyfí'ro direol hwn, cawsant y pregethv\T: i lawr dan eu traed, ac nid oes wybod pa beth a ddygwyddasai iddo, oni bai i ryw un caredig a gwrol or- wedd arno, a derbyn y dyrnodiau a fwriedid iddo, yn ei le. Ar ol i'r terfysg liüiaru ychydig, Uusgasant ]\Ii-. Eees i ryw dŷ, i'w gadw yn garcharor hyd dranoeth. Pan ddaeth y boreu, dygwyd ef o flaeu Owens, y canghellwr, meddai Eobert Jones ; ond o flaen Owens, periglor Llaniestyn, meddai Eoberts,f Llanbryumair, yr hwn oedd ustus heddwch. Yv offeryu a ddefn- uyddiwyd y tro hwn, fel ar amserau eraill, yn y gorchwyl o erlid oedd Harri deueu ; yr hwn, tybygid, ocdd yn barod i unrhyw weithred wael o*r fath.

* G wcl tiulal. 111, Cyf. I. t Gwcl Dysgedydd am lonawr, 1822.

PEN. V.] ' SIR GAERNARFON. 193

Ni wnaeth ustus Llaniestyn iddo, medd Mr. Hoberts, ond ei gynghori i beidio dyfod mwyach i'r wlad hòno heb ei license gydag ef. Rhoddwyd Mr. Moms Griffith yn llaw y gyfraith, a daeth swyddog o sir Ddinbych i'w ddal, Ond er ei fod yn ddyn cryf o gorfFolaeth, ac yn peri ei arswyd yn nhir y rhai byw, eto, pan ymaflodd y swyddog ynddo, ciliodd ei holl wroldeb, a diflanodd fel bretyn dan ei law.

Parhaodd yr erlid am faith amser ar ol hyu, gan dori allan yn ol yr am- gylchiadau, ar wahanol amserau, ac mewu gwahanol ddulliau, hvd nes y dofwyd y gwŷr mawr gan rym cyfraith, ac yr arafwyd gwylltineb y werin gan oleuni gwybodaeth. Daeth y bobl gyfiFredin yn raddol i ddeall mai an- wireddau oedd y chwedlau gwrthun a ledaenid am y crefyddwyr; fod y bobl a erlidid ganddynt yn haeddu mwy o barch ganddynt na'r gwỳr a'u gosodent ar waith ; felly yn raddol arafodd eu gwrtliwynebiad a'u rhagfarn, yn enwedig yn y cymydogaethau hyny, lle yr oedd pregethu wedi hen roddi ei droed i lawr. Ond yr oedd íFyrnigrwydd eto yn aros mewn llawer iawn o'r wlad, lle nad oedd gweìnidogaeth yr efengyl, hyd yn hyn, ddim wedi cyrhaedd. Yno yr oedd peuderfyniad yn aros yn meddyliau y trigolion i luddias ei dyfodiad atynt, rhag y dygwyddai iddynt hwy, fel ag y bu mewn manau eraiU, na ellid yn hawdd gael gwared o'r grefydd, os unwaith y caífai ddrus agored i ddod i mewn. Ond er pob penderfyniad o'r fath, yr oedd yr efengyl yn ennill ei flbrdd. Dygsvyddai, hefyd, yn awr ac eilwaitli, ryw am- gylchiad disymwth a brawychus, megys barn Duw ar erlidwyr, nes arafu rhyfyg a chreulondeb llawer o'r rhai a flaenorent yn y gorchwyl atgas. Lluniwyd cyfarfod i bregethu, meddai Eobert Jones, nid yn mhell oddiwrth Penmorfa ; ond erbyn i'r pregethwyr a'u cyfeillion ddod yn nghyd, gwel- ent nad oedd obaitli cael fawr o seibiant i gynal cyfarfod, gan y dorf afreolus a ddaethai yno i derfysgu ac erlid, Yn eu plith yr oedd dyn ieuanc yn rhagori ar bawb arall mewn cellwair, gwawdio, a dirmygu y gwaith hyd y gallai, Bu farw y gŵr ieuanc hwn yn ddisymwth, ac o fewu ychydig oriau i'i- amser y gwelwyd ef yn blaenori yr erlidwyr. Parodd marwolaeth mor ddi- syrawth, i'r fath un, ac o dan y fath amgylchiadau, fraw ar y Ueill.

Yr oedd y Methodistiaid, ymron er y dechreuad, yn arferol, fel y dywedwyd, o gyfarfod â'u gilydd yn fisol, er mwyn cael cyfleusdra i gynghori a dyddanu cu gilydd gyda gwaith yr Arglwydd, ac er mwyn trefnu eu cyhoeddiadau Sab- bothol am yr wythnosau dyfodol. Yr oeddid, ar yr achlysuron hyn, yn arfer pregethu yn gyhoeddus yn y Ue y cyfarfyddent. Yn y dechreuad, a thros amser maith ar ol y cychwyniad, nid oedd ond ychydig o leoedd cyfleus i gynal y cyfarfodydd hyn, ond fe farnai y brodyr mai buddiol fyddai yn awr ac eilwaith gynal y cynuUiadau hyn mewn Ueoedd newyddion, ac mewn ardal- oedd na fu nemawr o bregethu ynddynt o'r blaeu, ac ymostwng yn ddiddio- i'r anfanteision a berthynai i le o'r fath, er mwyn eangu dylanwad yr efeno-yl yn y wlad.

Penderfyiiwyd unwaith gadw cyfarfod misol mewn lle a elwir y Dolydd- byrion, a chytunwyd â gwraig oedd yn cadw tafarn yno i gae] ganddi ryw

194. HANESIAETH Y SIROEDD. * [doSB. IT.

gyfleusderau aiigenrlieidiol ar jt aclilysur. Ond crbyn i'r pregethwyr a'u cyfeillion ddyfod i'r lle yn yr awr a benodasid i bregethu, yr oedd y yn Uawn 0 ddynion, a ddaethent yno o bell ac agos, ar yr unig ddyben o rwystro y cyfarfod. Yr oedd y fintai mewn eithaf cywair at eu gorchwyl, ac yn eu mysg yr oedd amryw wŷr cyfrifol, oll yn benderfynol na chaniataent i'r penau-cryniaid fymryn o seibiant i gynal eu cyfarfod. Dygasant hefyd gyda hwy bob oíFer cymhwys, megys druUiau, a thabyrddau, i gynyrchu trwst a therfysg. Ac p oedd hyn i gyd yn cael ei wneyd dan rith o amddilfyn yr eglwys, a phleidwyr y gwŷr eglwysig yr ystyrid pawb a roddai law o gy- mhorth yn y gwaith. Fe welwyd yn bur fuan nad oedd wiw cynyg ar bregethu yn y fath le, yn y tŷna cherllaw iddo ; am hyny cyhoeddodd rhyw un, ar fod i bawb a ewyllysient gael gwrando, ddyfod i le arall, heb fod yn mhell, sef i Ehos-y-tryfan. Yno, gan hyny, y ciliasant. Ond cyn dechreu y cyfarfod yno, cîywsant dwi'f y tabwrdd yn dynesu tuag atynt, ac yn y fan yn dystewi. Drachefn y clywent ef eilwaith, ond nid llawer nes atynt. Yr oedd y crefyddwyr yn synu, ac yn methu gwybod beth oedd hyn. Ehoddwyd ar ddeall iddynt, pa fodd bynag, yn mhen enyd, fod y tabyrddwr, ar ol cychwyn tua chan llath oddiwrth y tafarn, wedi dechreu crynu yn ar- swydus. Aeth ei gyfeillion ag ef yn ol i'r tŷ, gan ei borthi yn fwy â diod gref, i'w gymhwyso yn fwy at ei waith. Cychwynwyd eilwaith tua'r cyfarfod pregethu, ond ni allent fyned dim pellach yn mlaen na'r waith gyntaf ; dis- gynodd y grynfa gerth ar y dyn fel o'r blaen. Yr oedd eu hysgogiadau yn y modd yma yn dyiysu, a'r adeg yn coUi, ac o'r diwedd rhoisant heibio yr ara- can yn gwbl, a dychwelasant yn ol i'r dafarn i orphen eu diwrnod gyda rhyw ddifyrwch arall. Yn y modd yma, cafodd y crefyddwyr lonyddwch i gadw y cjŵrfod yn dawel a heddychol. " Wrth i ni ddyfod yn ol o'r cyfarfod," medd Robert Jones, yr hwn, tybygid, oedd yno ar pryd, " heibio iddynt, gollyng- asant amryw ergydion dros ein penau. Cafodd un wraig feicliiog oedd yn sefyll gerllaw iddynt, y fath fraw wrth iddynt ollwng ergyd yn ei hymyl, ag a fu yn achos o angau iddi."

Eywbryd yn y tymhor erlidigaethus hwn, anfonodd gŵi' boneddig ei was i aflonyddu oedfa a gedwid ar y pryd, gan Griflith Siôn, Ynys-y-pandy, trwy chwythu mewn crogen, a boddi llais y pregethwr. Aeth y gwas yn ewyllys- gar, gan ei fod, ond odid, yn caru gwneyd ei oreu yntau hefyd yn erbyn y crefyddwyr. Ond fe fu y gorchwyl yn angau iddo, oblegid ar ei waith yn chwythu yn y grogen yn egniol, efe a syrthiodd i lawr yn farw, er dirfawr ddychryn i'r holl gymydogaeth. Ni ddywedii- pa fodd y bu hyn, pa un ai dryllio Uestr gwaed a wnaeth trwy yr ymdrech a wuai i chwythu y corn, ai trwy ymAveliad barnol mwy digyfrwng.

Yr ydym o'r blaen wedi galw sylw at Grifíìth Siôn, Ynys-y-pandy, neu y Sarnau, gerllaw y Bala, fel y gelwid ef yn mlynyddoedd olaf ei oes. Yr oedd y gŵr hwn yn ŵr crefyddol iawn : nid oedd ei ddoniau a'i wybodaeth ond bych- ain, eto yr oedd o ysbryd rhagorol, ac o ymarweddiad diírychau. Cyfrifid ef yn gynghorwr bychan, ond efe a fu flyddlawn ar ychydig, a gwnaed ef yn nod-

'PEN. V.] SIll GAERNARFON. 195

edig o ddefnyddiol yn ei dymhor i eangu teyrnas Crist yn mysg ei gyd-genedl, ac i ddycbwelyd pecliaduriaid at Dduw. Yr oedd o dymherau mwynaidd a gostyngedig, ac yn ei ieuenctyd yn ddyn cryf ei gorff, a gweithgar iawn. Arferid cynal cyfarfodydd gweddio yn ei yn fynych yn nechreuad ei oes grefyddol ; daeth hyn yn adnabyddus i berson y plwyf, yr hwn a dybiodd fod hyny yn afreolaidd, a bod yn rhaid defnyddio rhyw foddion i roi terfyn ar yr arferiad. I'r dyben hwn aeth ef ei hun i'r yn amser y cyfarfod, i aflonyddu ac i godi terfysg, ac ni fynai beidio er neb. Aeth Griffith Siôn ato i erchi ganddo adael Uonydd iddynt weddio Duw mewn heddwch, yn ei ei hun, gan nad oeddynt yn amcanu gwneyd drwg i neb. Ond po fwyaf yr ymresymid â'r gŵr urddasol mewn tiriondeb, mwyaf afrywiog yr ymddygai, gan dybied, ond odid, fod y tynerwch a ddangosid yn argoeli fod ei ofn ef ar y crefyddwy]". Ond yr oedd amynedd y crefyddwyr ymron wedi pallu, gan y sarhad a'r aflonyddwch a wnaed ganddo o bryd i bryd. Arferai guro y clresser â'i ffon, yn ddiarbed, nes byddai y llestri priddion yn disgyn yn ddrylliau, yr hyn, yu nghyda'i nwydau gwylltion, a'i eiriau cas, a gododd benderfyniad yn y dyoddefwyr, na chymerent lawer yn chwaneg o'r traha hwn oddiar ei law. Un Sabboth yr oedd cyfarfod i weddio yn nhŷ y gwe- hydd, ac wele y person, fel arferol, yn dyfod i mewn ar ganol y cyfarfod, pan oedd un o'r brodyr ieuainc jti gweddio. Ebe y person â Ilais uchel, " Ai ti sydd yna, Jaci ? " Ac at y Ilanc ag ef, yr hwn oedd eto ar ei liniau, ac ymaflodd ynddo. Yr oedd eisoes wedi gwneyd difrod ar y llestri priddion â'i ffon. Pan welodd Griffith Siôn nad oedd heddwch i gael, ac nid oedd ymliw tyner, nac ymresymu ag ef, yn eöeithio yn dda arno, efe a ymaflodd yn llaw y per- son, ac a'i gwasgodd yn arswydus, ac ni fynai, bellach, ei gollwng, ond a'i gwthiodd ef allan o'r tŷ, ac a'i bwriodd ar draws y domen dail. Bygythiodd y person roddi y cynghorwr yn ngafael y gyfraith, am y sarhad a wnaed iddo ; ond fe'i cynghorwyd gan y tafarnwr, yr hwn oedd yn gallach o lawer na'i athraw, i adael i'r amgylchiad fyned heibio yn ddystaw, ac â'r cynghor hwu y cytunodd yntau ar y pryd. Eto nid oedd yn medru anghofio yr anmharch a gawsai gan Griffith Siôn y gwehydd, ac nid oedd yn foddlawn chwaith i'r bobl gael llouyddwch i ymgynull yn ei i ganu a gweddio, yn lle dod i'r Uan, ac ymofynai ynddo ei hun, ai nid oedd modd symud Griffith o'r ardal. Wedi troi y cynllun yn ei feddwi, ol a blaen, efe a benderfynodd geisio gan ryw rai o'i blwyfolion roddi eu llaw wrth Iythyr at feistr tir Griffith Siôn, sef at Mr. Price, Rhiwlas, yn agos i'r Bala, i achwyn arno, ei fod yn aflonyddu ar heddwch ei gymydogaeth, ac yn troi yn erbyn yr eglwys a chyfreithiau y tir.

Pan glywodd y gŵr boneddig hyn, ac heb amheu dim am wirionedd y cyhuddiad, efe a anfonodd rybudd i Griffith Siôn ymadael â'i dŷ. Deallodd Griffith, hefyd, o ba le yr oedd y dymhestl wedi codi, a pha fodd ; am hyny ysgrifenwyd papyryn arall, ac arwyddwyd ef yn ewyllysgar gan ei gyfeillion, i ardystio wrth y boneddwr, mai holl fai Griffith Sion, mewn gwirionedd, oedd darllen y Beibl, a gweddio Duw yn ei gyda'i gyraydogion. Dygwyd

19G HANESIAETII Y SIllOEDÜ. [dOSB. IV.

y llythyr gan Griffith ei hun i sir Feirionydd, ond ewyllysiai, yn gyntaf, cyn ei gyraeryd ef at Mr. Price, ymgynghori â'r brodyr yn y Bala, yn euwedig â John Evans a Mr. Foulfces. Wrthynt hwy, gan hyny, efe a adroddodd yr holl amgylchiadau, ac a estynodd iddynt y papyryn i'w ddarllen. Hwythau a roisant eu dwjlaw wrth yr ysgrif, i dystio i'r gŵr boneddig fod ganddynt bob sail i gredu fod ei gyuwysiad yn gywir a didwyll, a rhybuddiasant Griffith i ochel hysbysu ei neges i'r garddwr, yr hwn, tybygid, a fyddai yn í^weini cryn lawer ar yr hen ŵr boneddig, ond oedd yn dra gelynol i'r cref- yddwyr.

" Aethum," meddai Griffith, " tua'r Ehiwlasyn Ued ddigalon, ond, er hyny, yn dra phenderfynol fy meddwl, ac yn fuan cefais alwad at fy meistr. Traeth- ais fy neges wrtho, a chyflwynais yr ysgrif ; gofynais yn ostyngedig, a gawn i fy nhyddyn ? "

•' Na chei Griffith," atebai ei feistr, " yr wyf yn cly wed dy fod yn cyfodi terfysg yn yr ardal, ac yn rhwystro y bobl i'r eglwys."

" Yn wir, fy meistr, nid wyf jti euog o'r un o'r pethau yna." " Ni waeth i ti heb wadu ;— ni chei di ddim byw o danaf fi, Onid wyt ti yn cadw y weddi dywyll, ac yn cynwys meibion a merched gyda'u gilydd i wneyd drẃg ? "

" Yn wir, fy meistr bach," meddai Griffith drachefn, " nid wyf fi yn gwneyd dim o'r pethau hyn."

" Beth, ynte ? yr ydych chwi yn cadw cyfarfodydd yn y nos." " Ydym, syr, weithiau : yr ydym yn cyfarfod â'n gilydd wedi i waith y dydd fyned heibio."

" Wel, pa beth fyddwch chwi yn ei wneyd yn y cyfarfodydd hyn ? " " Os gwelwch yn dda wrando, syr, mi a ddywedaf y gwir i chwi am yr hyn a wneir, heb gelu dim. Byddwn bob amser yn darllen y Beibl, syr, ac yn canu Salmau ; yn cynghori ein gilydd i fod yn onest a geirwir, i dalu pob rhent a threth, ac yn gweddio dros yr eglwys, y breniu, a'r wlad, Dyna yn wir, syr, ydym yn ei wneyd, yn nghydag annog eiu gilydd i beidio a phechu, ac ymofyn am ffafr Duw a bywyd tragwyddol. A chan nad ydym yn gwneyd dim drwg i neb, gobeithio, syr, os gwelwch yn dda, y caf fi aros yn fy ^am."

" Wel, Griffith, os gwnei di addo y rlioddi y cyfarfodydd hyn heihio, ti a gei aros yn dy le."

" Teimlwn fy hun yn cefnogi," meddai yr hen bererin wrth adrodd yr hanes, " edrychais yn eofn yn ei wyneb, a dywedais â llais cryf a phenderfynol, ' Fy meistr, pe rhoddech i mi hanner eich stät, ni pheidiaf, yn wir.' Yr oedd ei eiriau wedi myned i 'nghalon, ac yr oedd meddwl rhoi heibio darllen fy Meibl, a chadw y cyfarfodydd anwyl, yn annyoddefol."

" Gyda liyn gwelwn y dagrau yn treiglo i lawr gruddiau y boneddwr, fel un wedi ei orchfygu, ac er fy syndod a'm Uawenydd, dywedodd â gwedd dodd- edig ' Dos adre', dos adre', ti gei di aros yn dy le. A phan y byddi yn dyfod i sassiwn y Bala, tyr'd di a dy geffyl i Riwlas.' Pelly hefyd y bu."

PJiN.y.] SIR GAERNAUFON. 197

Daeth GrifS.th Siôu i fwy o sylw a pharch gan y boneddwr uag o'r blaen. Anrhegwyd ef ganddo yu mhen rhyw gymaiut â chaseg wen, gau y deallai fod yr heu wehydd gonest a diuiwed yn arfer myued o amgylch i gynghori ei gyd-ddynion, ahyny yn wastad ar ei draed. Fe fu y gaseg wenhon gauddo am amser maith, a thra adnabyddus a f a y pregethwr a'i auifail yn mysg Methodistiaid Gwynedd dros faith flynyddoedd.

Fe ddengys y chwedl ganlyuol dyn o ba fath ysbryd oedd GriflBth Siôn, a pha fath barch oedd gau ei feistr tir iddo. Yr oedd unwaith yu cerdded ar hyd yr heol yu Abermaw, a hyny yu lled foreu, pryd y clywai rhyw un jai galw yn uchel, " Grifììth ! Grifììth ! " Safodd yutau, gau edrych tua'r Ue y deilliai y llais, ac fe welai ben rhyw un trwy fl"enestr agored ; aeth yn ol tuag ato, ac er ei fawr syndod, pwy ydoedd oud Squire Priee o Eiwlas.

" Pa beth," gofynai y boneddwr, " wyt ti yu ei wueyd yraa, Grifîìth ? "

" Wedi bod yr wyf, syr, tua'r Dyfifryn yna, yn ceiáio cynghori fy nghyd- bechaduriaid."

" Da iawn, Grifîìth , oud rhaid i ti ddyfod ataf íì i gael breakfast,'' ebe

Mr. Price.

" Diolch yn fawr i chwi, meistr," ebe yntau, " yr ydwyf eisoes wedi ci gael." " Oud oh," meddai yr heu sant, "yr oedd yn edifar genyf yu y fan, am ddywedyd o honof fy mod wedi bwyta y boreu-bryd. Hwyrach, yn wir, y cawswu ofyn bendith ar y bwyd, ac y cawswn gyfleusdra i roddi gair i mewn am yr Arglwydd lesu ; a phwy a ŵyr pa ddaioni a allasai ddylyn? "

Yn mheu ychydig ddyddiau ar ol hyn, yr oedd cyfarfod ustusiaid yu y Bala, ac yr oedd gau Griffith neges gyda'i feistr. Safodîî y tu allan i'r Uysdŷ, wrth y drws, i ddysgwyl Mr. Price allan ; yr hwn pan ddaeth, a chanfod yr hen Gristion, a'i cyfarchodd, " Pa bryd y daethai adref?" a gofyn iddo, raewn Cymraeg Iled garpiog, " Ti eisiau fi, Grifíith ? " " Oes, syr," a mynegodd iddo ei neges, a chafodd ei gais, ac i ftordd ag ef. Dychwelodd Mr. Price at y boneddigiou eraill, a gofynent iddo am Grifìith, pwy ydoedd ? " Preg- ethwr," ebe yntau. " A ydyw hwnyna yn bregethwr mawr ? " gofyuid iddo yn ol. " Nis gwn," ebe ei feistr, " ond y mae yu ddÿn duwiol beth bynag.'^

BEDDGELERT.

Mae yr ardal bon yu hyuod, fei Llanberis, am iachusrwydd ei hawyr, gwedd wyllt ac ardderchog yr olygfa naturiol, a thawelwch neillduedig y fro, fel y mae er ys blynyddoedd, bellach, yu nieddu at-dyniad grymus i du- eddu dynion, wedi eu anraharu o ran eu hieci^yd, ueu wedi diffygio gau eu llafur, i droi heibio i gilfachau y mynyddoedd hyu, er rawyn adgyfuerthiad i gyfansoddiad gwan, a dadebriad i feddwl Uwfr. Anhawdd ydyw dychymygu am newidiad llwyrach uag a brofa y diuasydd, wrth adael yr heolydd culion, a'r awyr fyglyd ; wrth droi ei gefi. ar fwrdd y cyfnewid, llafur gwyllt a gofal difaol y farchnadfa, a disgyu i gestyll creigiau Arfon, ac ymdroi yn dawel a diofal yn neillduedd hyfryd Beddgelert ! Tîyftyd fydd gauddo rodio ar

198 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IY.

lanau y ffrydiau grisialaidd ; anghofia ei flinder yn swn y rhaiadrau cryfion, a brefiadau y defaid. Dyry uchder a serthi y mynyddoedd uchel, noethni Uym y creigiau ysgythrog, gwyrddlesni hawddgar y coed a'r llysiau, caniadau peraidd yr adar bach, a dystawrwydd tawel yr holl fro, y fath hyfrydwch i ysbrydoedd yr ymwelydd, ag sydd yn Uawer haws ei ddychymygu na'i ddarlunio.

Ond er maint ydyw tlysni anianyddol y fro, yr oedd yr ardal hon, fel ar- daloedd eraill yn Nghymru, wedi ei hanurddo ag arferion Uygredig, ac wedi ei gorchuddio â thywyllwch ysbrydol trwch dros ben, a hyny er ys oesoedd. Nid oedd yr addysg a geid yn eglwys y plwyf yn tueddu nemawr i chwalu anwybodaeth y fro, nac i ddarostwng defodau ofer y preswylwyr. A rhaid cyfaddef, pa faint bynag o wybodaeth ysgrythyrol sydd yn awr ar gael yn mhlith y bobl ; pa fanylrwydd bynag sydd mewn cadw y Sabboth ; pa faint bynag sydd o ofn Duw ; mai dyledus ydyw yr ardal i'r diwygiad Methodist- aidd, fel moddion, am y cwbl. Yr oedd gan y bobl ryw feddwl mawr am yr eglwys, " gan," meddynt, " mae son am yr eglwys yn y Beibl, ond nid oes air am y sectau." Yr oeddynt, fel yr luddewon, yn meddu ar sêl Duw, ond nid yn ol gwybodaeth.

Tua 90 ml. yn ol, neu ychwaneg, yr oedd Eobert Jones, Ehoslan, pan yn lled ieuanc, yn cadw ysgol ddyddiol yn y llan. Un diwrnod, rlioes ofyniad i'r plant, i'w gymeryd gyda hwy i'w cartrefi, ac i ddwyn atebiad yn ol iddo dranoeth. Y gofyniad ydoedd, " Pa le y mae eglwys Dduw ? " Pan glyw- odd un 0 ddoethion (?) y gymydogaeth y gofyniad, dywedodd gydag eithaf diystyrwch, " Pw ! ai dyua y fath feistr sydd genych ! Yn mha le y mae yr eo-lwys? ac yntau ynddi bob dydd." Dychwelwyd yr ateb i Robert Jones. Yntau a chwanegodd, fod son yn y Beibl am glustiau'r eglwys, a dymunai wybod drachefn beth oedd y rhei'ny ? Ar waith yr un gŵr yn clywed hyn, torodd allan i wawdio yn fwy fyth, gan ddyweyd, " Ond Ayfí't i'r fath lob ! Beth sydd haws iddo na gweled mai clochdy ydyw clust eglwys ! "

Ni arosodd Eobert Jones yn y lle hwn ond am ychydig amser, ac er maint oedd ei anfanteision yno gan anwybodaeth a rhagfarn y trigolion, ni fu ei lafur ddim yn gwbl ofer. Yr oedd yno lencyn o'r enw Eobert Dafydd, yr hwn a fuasai gynt yn wyllt ac ofer, ond trwy ryw foddion wedi cael ar ei feddwl i ddyfod i wrando ar Robert Jones yn holwyddori y plant, i'r dyben i gofio yr hyn a glywai, gan fod pob peth o'r fath yn gwbl newydd a dyeithrol iddo. î'e fu hyn yn foddion i'w argyhoeddi o'i bechadurusrwydd a'i berygl, a'i ddwyn i ffoi at Grist am ei fywyd, ac i ymgysegru iddo o hyny allan. Hwn ydoedd y Eobert Dafydd, Brynengan, am yr hwn y ceir crybwyll gair eto. Yr oedd Eobert Dafydd wedi coUi ei dad pan oedd yn blentyn, ac wedi bod yn by w gydag ewythr iddo, brawd ei dad, er pan oedd yn 1 2 neu 13 ml. oed. Yr oedd yr ewythr hwn, fel ei gymydogion oU, " heb Dduw yn y byd," ac yn eithaf gwrthwynebol i'r grefydd newydd yr oedd y son am dani yn dechreu terfysgu y wlad. Pan welodd hen wragedd y gymydogaeth fod Eobert Dafydd yn troi ei gefn ar ei hen gampau, a'i gyfeillion ofer.

PEN. V.] SIR GAERNARFON. 199

dechreuasant regu Eobert Jones am ei yru ef o'i gof. Nid oedd eto ddim pregethu gan y Methodistiaid yn Meddgelert, a rhaid oedd i'r sawl a fynai wrando, fyned i ardaloedd eraill i gael y fraint hòno ; ac nid oedd eto breg- ethu sefydlog yn un man nes na Brynengan. Ar yr un pryd, os dygwyddai fod cyhoeddiad rhyw un i bregethu yu rhyw le o fewn cyrhaedd, fe fyddai hyny yn hysbys, ond odid, i Eobert Jones, yr hwn a arferai hysbysu hyny i Eobert Dafydd, trwy anfon cenadwri ar bapyr ato. Ai Robert Dafydd, gau hyny, i wrando yn mhell ac agos. Yr oedd trallod ei feddwl yn fawr iawn. " Gofidiau ufiern a'i daliasant." Bu yn dymuno bod yn gythraul yn lle bod yn ddyn, gan dybied mai llai a fuasai ei boenau yn uftern. Gwrandawodd lawer ar hen bregethwyr Lleyn, megys Hugh Thomas, Grifíith Prichard, Charles Marc, Eobert Williams, ac eraill.

Yr oedd iddo gyfaill o'r enw Owen Thomas. Aihwn gydagef iFrynengan i wrando, a dychwelent yr holl flfordd, tua 12 milldir, ar byd y nos. Yr oedd hyn yn fwy nag a allai ei ewythr a'i deulu gyd-ddwyn ag ef, a bu raid iddo ymadael oddiwrthyut. Felly, fe aeth i Frynengan i fyw. Aeth Oweu Thomas hefyd i Fôn i wladychu. Pe fu hyn, yn nghydag ymadawiad Eobert Jones yn flaeuorol, yn ergyd trwm i'r achos bychan a gychwynasid, a bu dros ryw dymhor mewn Ilewygfa drom. Ac yr ydym yn casglu nad oedd dim pregethu cyson yn Meddgelert yn y fl. 1771, sef y flwyddyn y mae genym gyhoeddiad Dafydd Morris trwy wlad Arfon a Lleyn. Yr oedd ef, mae'n debyg, yn ymweled â phob lle yr oedd pregethu sefydlog ynddo, yn ei hynt trwy y wlad, ond nid oes son am Beddgelert. Pa fodd byuag, nid hir ar ol hyn y bu yr ardal heb gael pregethu yuddi. Mae ysgrif o fy mlaeu yn rhoddi desgrifiad o'r oedfa gyntaf gan Pethodistiaid yu yr ardal hou, a hyny tua 80 ml. yu ol.

Yr oedd Eobert Dafydd eisoes wedi symud i Fryneugau, ac wedi dechreu pregethu yno. Daeth ar ei feddwl ymweled â'i hen gymydogiou yu ardal Beddgelert, a thraethu iddyut air y bywyd. Peuodwyd ar y Sabboth, a rhoddwyd y gair allau y byddai pregeth yno. Yr oedd rhyw rai wedi darpar Ue i gadw yr oedfa ynddo ; pa uu ai gelyuiou a wnaeth mewu dichell, ai cyf- eiUiou a wuaeth yn eu diuiweidrwydd, nid yw hysbys. Y ile, pa fodd bynag, oedd Ty-rJíisgl, neu adeilad y rhoddid rhisgl derw ynddo i gadw yu y tymhor, yn nghymydogaeth Nautmor, yn nghẃr y plwyf. Cyu i'r amser ddyfod, yr oedd rhyw rai drwg eu bwriad wedi crogi daruau o goed yn uchel uwchben yn y rhisgl, gyda yr amcan o'u taflu ar y gynulleidfa yn amser yr oedfa.

Erbyu i'r amser addawedig ddyfod i beu, lluddiwyd Eobert Dafydd ddy- fod gan ryw amgylchiadau, a Eobert Jones a ddaeth yu ei le. Daeth cynuU- eidfa fawr yn nghyd ; Ilawer o honynt gjda y bwriad o aflonyddu yr oedfa, a baeddu y pregethwr. Oud ryw bryd ar yr oedfa, a chyu dechreu yr ym- osodiad, gwnaeth darauau arswydus, nes oedd y lle yn sigio. Disgynodd braw aruthrol ar y bobl, ac yn fwy o lawer ar y rhai yr oedd yu eu bryd wueuthur aflonyddwch ; yu enwedigol, gan uad oedd un arwydd o fellt a tharanau yn y tywydd ar y pryd. Cafodd y pregethwr ddau fantais oddi-

200 HANESIAETH Y SIROEIjD. [DOSB. IV.

wrtli yr amgylchiad ; sef Uonyddwch a seibiant oddiwrth ymosodiad yr erlidwyr, ac achlysur neiUduol i osod miu ar ei weinidogaeth, ac i ddeffro ystyriaeth ei wraudawyr, Ni esgeulusodd alw sylw ei wraudawyr at echrys- lonrwydd digofaint y Duw aufeidrol,

Yr hwn sy'n gyru'r mellt i 'hedeg, Ac yn marchog brig y dòn ;

gau alw eu sylw at daranau bygythiol y Beibl, y rhai sydd yn cael eu cyfeirio yu erbyn yr auuuwiol. Oddiwrth yr amgylchiad hwn y cododd dau beth, sef deffroad amrywiol o'r gwrandawyr i ystyriaeth a difrifwch, yn ughylch eu cyflwr tragwyddol, a llareiddiad yr erlidigaeth, megys yu ei gychwyuiad.

Ar ol yr oedfa gyntaf hon, dechreuodd rhyw dair neu bedair o ferched, y rhai a brofaseut radd o rym y gwiriouedd ar eu cydw^ybodau, ymgasglu at eu gilydd i weddio, ac i gyd-ymddyddau yn nghylch y " ft'ydd yn Nghrist." Bellach, hefyd, cyuelid ambell oedfa yn achlysurol, yn ol fel y ceid pregeth- wyr, mewu gwahanol fanau yn y gymydogaeth. Un o'r manau cyntaf ar ol Tŷ-rhisgl, y cadwyd cyfarfodydd creíyddol ynddo, oedd Odyn * Cae-dafydd. Tybid fod lle o'r fath yn lle y ceid llonydd ynddo, allan o sylw, ac o'r neiU- du ; ond fe aeth y newydd allan fod y gwragedd uchod yu ymgyuull i'r odyn i weddio. Cododd hyn ysfa yn meddyliau rhyw rai i glywed pa beth a ddywedent, a pha fodd y cedwid y cyfarfodydd dyeithrol hyn. Nid oedd neb yu meddwl y perthynai i neb weddio ond y person, ac nad oedd yn perthyn i hwnw weddio heb lyfr. Yr oedd meddwl fod merched neu wragedd yn gweddio, a hyny mewn odyn geirch, ac heb lyfr, yn beth na chlybu trigolion Cymra ddim am ei gyffelyb er ys oesoedd, os erioed.

Yn mysg eraill a deimlent awydd i lygadrythu i ddirgelion y cyfarfodydd hyn, yr oedd hen ŵr boneddig o'r gymydogaeth ; yr hwn, hefyd, oedd gryn wrthwynebwr i'r achos Methodistaidd, ac yn dymuno cael achlysur i'w ddarostwng a'i lethu. Hwn a ddaeth at ddrws yr odyn i wrando, ac wrth iddo bwyso yn Ued drwm, gollyugodd y di-ws ef, a syrthiodd yntau. Dy- gwyddodd fod y merched yn canu rhjTv beunill ar y pryd ; y mae hyn yn rhan o houo,

" Mae hyn yn heth mawr,foa Satan ar lawr •"

ac yr oedd rhai o honynt yn diolch yn gynhes am fuddugoliaeth Calfari, yn yr adeg. Tybiodd yr hen foneddwr, yu ddigou sicr, mai ato y cyfeiriai eu cân, a gwylltiodd yn gethin, a rhedodd ymaith, yn fawr ei ddychryn, ac yn ddrwg ei araeth.

Cyn hir ar ol hyn, fel yr oedd nifer y crefyddwyr yn amlhau, a'r pregethu yn dyfod yn fwy sefydlog a chyson, cymerwyd hen adeilad a elwid Stamps," i gynal moddiou ynddo. Yn y lle hwn yr ymddengys i'r gymdeithas eglwysig

* Odyn oedd adeilad y byddid yn crasu ceircli ynddi, mae yn debyg.

PEN. V.] SIR GAEKNARFON. 201

gael ei ffurfio gyntaf. Symiidwyd yr achos oddiyma yn mhen enyd i le a elwid Tŷ'n-y-coed, ar dir Meillionen. Yr oedd cyfreithiwr o'r enw Mr. Hughes, yn byw yn y lle hwn, ac ef a'i wraig yn aelodau o'r gymdeithas eglwysig. Ehoes y teulu hwn nodded ac ymgeledd caredig iawn i'r achos crefyddol yn ei wendid. Ond er cystal oedd y lloches yma, ni pharhaodd yn hir, oblegid bu farw Mr. Hughes, a gwywodd y cicaion. Bu ei weddw, er hyny, yn parhau yn ei charedigrwydd ar ol marwolaeth ei gŵr, ond hithau, hefyd, a symudwyd " i'r rhíigderfynedig i bob dyn byw."

Bellach, symudwyd yr achos crefyddol o Tŷ'n-y-coed, i bentref Beddgelert, i le a elwid Pen-y-bont. Tua 60 neu 63 o flynyddoedd yn ol y bu hyn. Yr oedd nifer yr eglwys yn yr adeg yma tua 40 o rifedi. Nid llawer o gynydd a fu ar yr achos yn y Ue hwn am dymhor maith, am ysbaid 27 o flynyddoedd, fe allai ; ueu hyd y diwygiad grymus a fu yno yn y fl. 1817. Ond er nad oedd nifer yr eglwys yn Uuosog, ac er nad oedd yr agwedd gy- fí'redin ar yr achos ond trymaidd a difywyd, eto yr oedd yma amryw o wŷr grymus eu gras, a hardd eu rhodiad, y rhai yr oedd eu dylanwad crefyddol yn fawr yn eu dydd, a'u henwau yn bcraroglaidd ar ol eu marw. Y cyfryw oedd Robert Roberts, Clynog, Nantmor ; Rhys William, Hafod-y-Uain ; a William WiUiams, Hafod-y-rhisgl. Yr oedd cywirdeb eu hysbryd, a chyson- deb eu profl"es, yn fwy nag eangrwydd eu gwybodaetb, neu faint eu dawn, yn ennill o'u plaid gydwybodau y sawl a'u hadwaenent oreu.

Tua'r fl. 1794 yr adeiladwyd y capel yn y pentref. Felly, yr oedd tua 30 ml. neu fwy, wedi myned heibio er pan fu Robert Jones yn cadw ysgol yn y Uan, cyn fod yma un capel wedi ei godi yn y pentref. Ac wedi ei godi, ymddangosai y gwersyll megys wedi sefyll, am lawer blwyddyn. Yr oedd yma i Dduw yn cael ei gadw, ond " sefyll yn nhŷ yr Arglwydd y nos," oedd agwedd y crefyddwyr. Yr ydym eisoes wedi crybwyll yn fyr am y diwygiad grymus a fu yn y lle hwn, yn y fl. 1817, a'r blynyddoedd dylynol,* pryd y chwanegwyd at yr eglwys yn agos i 200 o aelodau. Gwnaeth Duw " i'r anmhlantadwy gadw tŷ, a bod yn ILawen fam plant." Parod oedd yr eglwys yn y Ue i ddywedyd, y pryd hwn, gyda syndod, " Pwy a genedlodd y rhai hyn i mi, a mi yu ddieppil, ac yn unig, yn gaeth, ac ar grwydi- ? a phwy a fagodd y rhai hyn ? Wele, myfi a adawyd fy hunan ; o ba le y daeth y rhai hyn?" Esay xlix. 21.

Cyn yr ymweliad hwn, nid oedd ond ychydig o deuluoedd gweddi yn*'y plwyf. Nid oedd dim bywyd yn ymddangos mewn un addoliad, nac mewn dim defodau crefyddol. Ond heb arfer dim moddion penodol i beri adfywiad, adfywiad a ddaeth, Aeth y bobl i Rhys Wilham i wrando y bregeth, ar nos Sabboth, fel arferol ; heb ddysgwyl dim mwy nag y byddid yn arfer gael, ond fe gafwyd mwy na'r dysgwyliad. "Defí"rodd y gogledd-wynt, a chwyth- odd y deheu-wynt ar yr ardd, nes gwasgar ei pheraroglau." Yr oedd eff'eith- iau yr oedfa yn rhyfeddol ar y pryd, ac yn dylyn y gwrandawyr ar hyd y

* Gwel Cyf. I., tudal. 269.

202 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

flbrdd iV cartrefleoedd. Yn Ue y cellwair ofer, a'r ymddyddaniou gwag a fyddai gynt rhwng y bobl ieuaiuc â'u gilydd, wrtli ddycliwelyd o'r oedfaon, prin y teimlai neb ar ei galon ddywedyd gair wrtli ei gyfaill. Yr oedd syndod a difrifwcli megys wedi cloi eu myfyrdodau arbetliau tragwyddoldeb. Y Sabbotli canlynol, pan oedd dwy eneth ieuanc yn petruso i ba le yr aent i gael mwyaf o ddifyrwch, dywedent, " Awn i'r cyfarfod gweddi i llafod-y- llain, i gael sport wrth eu clywed hwy yn gwaeddi." Ond y sport a droes yn ddifrifwch arnynt, a dychwelasant yr holl ffordd adref gan waeddi megys am eu bywyd. Fel yr oedd un eneth ieuainc yn godro un o'r buchod, daeth ryw ysgrythyr i'w meddwl gyda'r fath nerth a goleuni, nes iddi adael ystên laeth, fel y gwnaeth y wraig o Samaria y Uestr dwfr, a thori allan i foliaonu Duw â'i holl egni ; a Ilanwyd yr holl deulu â syndod wrth ei chlywed.

Anhawdd ydyw dychymygu, chwaithach darlunio, mewn ysgrifen yn enw- edig, pa effeithiau mor rymus a ddylynai y weinidogaeth. Daw yr oedfa yn nhŷ Cornelius i gof, pryd " y syrtliìodd yr Ysbryd Glân ar bawb oedd yn clywed y gair." Disgynai mewn modd cyffelyb yma. Gorchfygai deiml- adau pob rhyw ddyn. Dadseiniai y bryniau gan sain gweddi a mawl. Yr oedd gwedd y fro wedi newid. Torodd gwanwyn hyfyd a siriol, ar ol gauaf hir ac oer. Awelon bywyd trwy yr efengyl, a roes gyfl'ro yn mysg yr esgyrn sychion, a'r anadl a ddaeth ynddynt, a buant fyw ; a safasant ar eu traed yn llu mawr iawn.

Parai yr adfywiad hwn syndod aruthrol i'r dyeithriaid o Loegr a fyddent yn ymdaith dros dymhor yn y gymydogaeth. Wrth gwrs, nid oeddynt hwy yn abl i ddeall y pregethau a draddodid, na natur y teimladau a brofid gan eraill wrth eu gwraudo. Gallem ddysgwyl, gan hyny, y byddai rhai yn dueddol i wawdio a dirmygu ; eraill gan synu, a ofynent pa beth oedd hyn ? Weithiau, pan yr eglurid i ambell unyr hoU amgylchiadau, testynau mawl rhai, a gofid y Ueill, mor ddwfu ydoedd eu hargyhoeddiadau, ac mor fawr y cyfnewidiad yn eu bywyd, fe'u cymhellid i addef gyda syndod a pharch, " Bys Duw yw hyn."

PENNANT.

Mae y lle hwn yn sefyll rhwng Tremadoc a Llanllyfni, nid yn mhell oddi- wrth y Garn, Dolbenmaen. Yr oedd yr ardal hon yn gwbl amddifad o breg- ethu hyd o fewn 60 ml. yn ol, ac fel pob ardal arall amddifado weiuidogaeth effro yr efengyl, yr oedd yr arferion Ilygredig o chwareuyddiaethau ar y Sabboth, yn gystal a meddwdod ac ymrysonau, yn ffynu yn ddiwarafun. Nid oedd yma gymaint ag un yw.proffesu crefydd flynyddau ar ol 1799. lë, ychydig o bregethu a fu yma cyn y fl. hon. Ond fe fu pregethu achlysurol mewn lle heb fod yn mhell, sef y Gyfyng, cyn hyny. Dywedir fod Mr. Gray yno unwaith yn pregethu ar Dat. xxi. 21, " A heol y ddinas oedd aur pur fel gwydr gloyw," a chrybwyllir am un sylw a wnaethai, sef, " Pe buasai yno gybyddion, mai ar eu gliniau yn crafu yr aur y buasent hwy." Fe fu Mr. ÌElias yuo hefyd, yn fuan ar ol iddo ddechreu pregethu, yn cadw oedfa ar

PEN. VI,] SIE GAERNAKFON. 203

ochr y ífordd. Wrth iddo fyned heibio i'r Ue, ychydig flynyddau cyn marw, dywedai wrth Mrs. Elias, gan gyfeirio at y clogwyn adnabyddus, " Mi fum i yn pregethu yn y fan yna."

Y teulu a agorodd ei ddrws gyntaf i'r Methodistiaid, oedd WiUiam a Jane Williams, Brithdir-bach. Merch oedd y wraig hou i'r hen bererin clodwiw, John Jonea, Hendre-howel. Byddai yno aml bregeth ar nos Sadymau, a phrydiau eraill. Ar amser yi' oedfaon hyn, safai y pregethwr wrtho ei hunau, wrth ben y bwrdd mawr yn y gegin ; Uuaws o gŵn, ond odid, wedi meddiannu canol yr ystafell ; a'r gwrandawyr yn sefyll wrth y parwydydd oddiamgylch, fel pe buasai arnynt fwy o ofn y pregethwr, nag oedd ar y c^íti. Yn y wedd isel a dyeithr yma y bu y gwaith yn y Brithdir-bach, am ysbaid 15 mlynedd. Dechreuwyd cadw ysgol Sabbothol yma yn Ued fuan ar ol cael pregethu i'r ardal, er nad oedd neb yn yr ardal ei hunan i'w chadw, ond y diffyg a wneid i fyny trwy fod amryw o frodyr o'r Garn yn dyfod yma. Bu amryw o bregethwyr yn ffyddlawn iawn yn dyfod i ymweled â'r Pennant, yn yr adeg isel yma. Sonir yn neillduol am yr ymdrech a wnaeth yr hen John Thomas, Llanberis, yr hwn a ddeuai yma dros fynyddoedd mawrion, ac ar ddrychinoedd llymion ; Eichard Jones, Coed-cae-du, hefyd, a John Jones, Tremadoc, a lafuriasant lawer yma.

Wedi bod 15 ml. yn gwersyllu yn y modd hyn yn y Brithdir-bach, cafodd chwech 0 amaethwyr yn y gymydogaeth, îe, rhai heb fod mewn undeb eglwysig â'r Methodistiaid, ond yn gymwynaswyr caredig i'r efengyl, ar eu meddwl gymeryd gwag a berthynai i'r Gyfyng, dan ardreth, i gadw ysgol Sabbothol, ac i bregethu ynddo ; ac ar ysgwyddau y gwŷr cymwynasgar hyu y dibynai yr achos am ei gynaliad dros ryw dymhor. Nid ymddangosai Uawer o Iwyddiant ar y gwaith am ysbaid 20 ml., heblaw fod gradd o ddi- wygiad mewn cadw y Sabboth, trwy nad oedd cynifer o gamp-chwareuon yn cael eu cynal. Ond tua'r fl. 1819, cafodd yr achos ysgogiad giymus yn ei flaen, trwy bregeth nodedig o eiddo Michael Eoberts, PwIIheli, ar Salm i. 5, " Am hyny yr annuwiolion ni safant yn y farn, na phechaduriaid yn nghy- nulleidfa y rhai cyfiawn." Mae Uawer yn cofio y bregeth hòno hyd heddyw. Dywedir fod y fath nerth yn cydfyned â'r dysgrifiad a roddid o gyflwr truenus yr annuwiol yn y farn, fel y tybiodd rhai fod y creigiau mawrion sydd gerllaw yn ymrwygo, a bod y Barnwr yn ei rwysgfawredd ofnadwy, ymron eisoes gerllaw. Cloffodd y bregeth hon wylmabsant Tremadoc o hyny hyd heddyw.

Yn mhen ychydig amser ar ol hyn, daeth yma ŵr ag oedd yn swyddog egiwysig yn y Bont-fechan i fyw i'r ardal, a chrynhowyd yr " ychydig enwau " ag oedd eisoes " yn meddwl am ei enw Ef," at eu gilydd yn gymdeithas gTef- yddol, dan ofal Eichard Griffìth. Ei nifer oedd 30. Chwythodd awelon adfywiol ar y fro tua'r pryd hwn, fel ag i beri sirioldeb ychwanegol ar y gwaith, a diwygiad amlwg yn ymarweddiad y preswylwyr. Cyn hyn p oedd tafarn o fewn ychydig latheni i ddrws yr addoldy, ond o hyn allan ni fu yma ddigon 0 gynaliaeth i un. Cyn hyn yr oedd mynweut y Ilan yn sathredig oll gan

204 HANESIAETH Y SIROEDD. LDOSB. IV.

y campwyr a halogwyr y Sabboth, fel mai prin y tyfai gwelltyn gwyrdd o'i mewn ; yn awr y mae y clochydd yn lladd gwair oddiarni bob blwyddyn !

Yn y fl. 1833, bu yma radd o adfywiad drachefn, a chwanegwyd at yr eglwjs tua 40 o rifedi; ac yn y fl. gaulynol, adeiladwydyma gapel. Symud- wvd y gwersyllfa, bellach, o'r Gyfyng, ar ol arosiad o 15 mlynedd, i'r capel, yr hwn, o hyn allan, a alwyd Pennant, yn ol enw y naut y mae yn sefyll ynddi. Yn y fl. 1840, chwanegwyd at yr eglwys drachefn, oddeutu 30 0 rifedi. Nifer yr eglwys yn breseuol (yn 1850) ydyw 70. Y mae i'r chwaer hon ferch fechan yn Nghwm-ystrallyn, lle y mae ysgoldy bychau wediei agor, yn agos i'r fan y dechreuodd Mr. Elias bregethu, ac y bu John Edwards, yr Einiog, a Griíîith Joues, Ynys-y-pandy, yn byw. Yn bresenoly mae yma ddau 0 bregethwyr,* a thri o flaenoriaid, a gwedd siriol a chynyddol ar y gwaith.

Yr ydym yn rhwym o derfynu ein hanes ar yr hyn a ddywedwyd, rhag ei chwyddo i ormod meithder. Mae yn y sir hon tua 60 o wahanol leoedd addoliad, na wnaed dim crybwylliad am danynt, a rhai o honynt yn hen o ran eu cychwyniad, a diau yn ddyddorol o ran eu hanesiaeth, megys y Pen- tre-uchaf, Pen-y-caerau, Llanengan, a Llithfaen, yn Lleyn ; a rhai manau cyfl^elyb yu Arfon ac Eifionydd. Yr un modd, y mae personau lawer, o bregethwyr a henuriaid eglwysi, a chymwyuaswyr da eraill, heb wueuthur un crybwylliad am danynt, nid am nad oeddynt deilwng, ond am na ddaeth dim o'u hanes i law ; a phe daethai, buasai yn gyfyng arnom wneuthur cyfiawnder â hwy, o ddiflÀ'g Ue, gan yr ofnwn chwyddo y gwaith i faintioli annymunol.

Yr ydym, ar yr un pryd, yn barnu fod yr hyn a fyuegwyd yn ddigon i ddangos i'r darllenydd, i gryn raddau, y modd y dechreuodd IMethodistiaeth ymwreiddio yn y wlad hon pa fanau y cafodd le i roddi ei droed gyntaf i lawr ynddynt pa rwystrau oedd ar ei flTordd pa ofí'erynau arbenig a ddefn- yddiwyd, a pha Iwyddiant a ddylynodd eu llafur. Mae y wlad hon, gan eanged ei thir, a chan luosoced ei heglwysi, wedi ei rhanu yu ddau ddosbarth, dan arolygiaeth dau gyfarfod misol ; un yn cynwys Lleyn ac Eifionydd, a'r llall Arfon. Mae cymanfa chwarterol yn cael ei chynal yn y sir hon bob blwyddyn, yn mis Medi:--y trefydd y'i cynelir ynddynt, ydynt Bangor, Caernarfon, a Phwllheli, bob un yn ei gylch ; a bernir mai cymanfaoedd y wlad hon ydynt y rhai lluosocaf yn NgT\-ynedd, os nad yn Nghymru oll.

BRO LLANAELHAIARN, SEF LLITHFAEN, CWM-CORYN, BRYX-Y-GADFAN, SíC.

Dechreuodd Methodistiaeth egino yn gynar yn y gymydogaeth hon. Yr oedd Eobert Owen, Bryn-y-gadfan, yn un o hen bregethwyr boreuaf yr ardal; ac yn ei ef y cynelid y moddion. Cynaliwyd cyfarfod misol yn ei ef mor gynar a'r fl. 1769, eto ni chodwyd capel yn y gymydogaeth hyd y fl. 1811 ; yr oedd hj-ny, mae'n debyg, hanner can' mlynedd, neu fwy, ar ol cychwyniad Methodistiaeth yn y gymydogaeth ; a rhwng y cyfarrod misol

* Dyledus ydwyf i un o lionynt, sef y Parch. Eran Roberts, am yr hanes dyddorol nchod.

PEN. VI.] SIR GAERNAllFON. 205

oyntaf a gynaliwyd yn Mryn-y-gadfan, a'r cyfarfod misol nesaf a gynaliwyd yn nghapel Cwm-coryn, yn 1844, yr oedd 75 o flynyddoedd.

Yy oedd yn yr ardal bedwar o ddynion a gyfrifid yn flaenff'rwyth Method- istiaeth y fro, y rhai a elwid mewn gwawd gan eu dirmygwyr, " Caradocs yr ochrau ; " sef Morris Hughes, Cwm-coryn ; Owen Thomas, Cae'r-wrach ; Dafydd Thomas, Llethr-ddu ; a Eobert Owen, Bryn-y-gadfan, y pregethwr. Edrychid ar Morris Hughes yn rhagori mewn rhyw bethau ar y tri eraill. Yr oedd ei dad yn berchenog ar ei dir ei hun ; yr oedd yntau yn ysgolhaig pur dda ; buasai yn Llundain yn moreu ei oes, dros ryw dymhor ; a chyrhaedd- odd cryn fedrusrwydd mewn ysgrifenu yn yr iaith Seisneg, yr hyn beth nid oedd ond ychydig o'r werin yn ei fedru. Arferai ysgrifenu ei brofiad mewn llyfr yn yr iaith Saesoneg, yn nghyda sylwadau o'r eiddo ar lawer o adnodau o'r Beibl. Mae rhai o'r tudalenau ar gael eto. Ymddengys mai yn eglwys y plwyf, wrth wrando darllen yr adnod, " Wele yr wyf yn sefyll wrtli y drws ac yn curo, &c.," y trywanwyd ei gydwybod ag argyhoeddiad ; ac mor ddwys oedd yr oruchwyliaeth ar ei galon, nes iddo fod am ysbaid pum' mlynedd fel dyn gorphwyllog, mewn braw a dychryn mawr, cyn mwynhau o hòno nemawr o gysur yr efengyl. Yn ystod y pum' mlynedd hyny, gan faint oedd ing ei ysbryd, a thrallod ei feddwl, amcanodd yn fynych ei ladd ei hun, ac aml waith yr aeth i'r beudy i'r dyben hwnw ; ond cyn cyflawni y w^eithred, tybiai mai dyledswydd arno oedd myned ar ei liniau i weddio ; a thra yr ymdrecliai gyda Duw mewn gweddi, âi ei amcan yn erbyn ei fywyd yn wastad yn anghof ganddo. Nid yw yn hysbys pa adeg ar ei oes y dechreuodd ei dra- llod, na thrwy ba foddion y tawelwyd ei feddwl ; modd bynag, treuliodd weddill ei oes mewn " taugnefedd heddychol," ac yn hynod mewnduwúoldeb. Er mwyn cadw ei feddwl gyda phethau santaidd, arferai ysgrifenu aduodau o'r Beibl, a'i sylwadau arnynt, a'u glydio o amgylch ei wely. Ar y Sabbothau hefyd, wrth fyned i foddion gras, arferai amgylchu llawer, yn hytrach na myned y flfordd agosaf, rhag i'r olwg ar ei anifeiliaid, neu ar gynyrch ei dir, sugno ei fyfyrdodau arnynt, a'u tarfu oddiwrth bethau gwell.

Yr oedd hefyd yn y gymydogaeth, ar ryw dymhor o'i oes, ẃi' o'r enw Ellis Jones, teiliwr wrth ei grefí"t, ac yn hen gristion da ; hwn a arferai fyned o amgylch i weithio ei greff't i dai ei gymydogion, fel y byddai yr arfer. Yn ei dro, fe ddaeth unwaith i Morris Hughes. Ar ei ddyfodiad, gofynai Morris iddo :

" Wel, Ellis bach, sut y mae arnat ti efo dy grefydd, y dyddiau hyn ? "

" Pur galed ydyw," ebe EUis.

"Eelly y mae gyda minau," meddai Morris, " ni ymwelodd yr Arglwyddâ mi, bellach, er ys tridiau, ond cefais le i obeithio yn y beudy y boreu heddyw, na fydd yn hir heb ymweled a mi : gâd i ni fyn'd at y Beibl ; fe allai y cawn ni ymgeledd yno." Yr oedd y Beibl ar y bwrdd, yn wastad wrth law ; ac ato yr aeth y ddau. Dygwyddodd i'r Beibl agor ar y gair, " Mae hwn yn derbyn pechaduriaid : " ar hyn torodd Morris allan i waeddi, " Gogoniant ; dyma hi, EUis ! dyma hi."— Bellach, aeth pob gwaith yn anghof, a'r diwrnod

206 HANESIAETH Y SIHOEDD. [dOSB. IV.

ar ei liyd a dreuliwyd, gan y ífyddloniaid hyn, mewn gorfoledd a mwynhad.

Dywedai hen bobl eirwir, y byddai dau o adar bychain yn dylyn Morris Hughes jTi gyífredin. Pan elai allan i'r maesydd, arferai alw arnynt, trwy waeddi, " Gŵiid, gŵrid : " hwythau yn adnabod ei lais a ehedent ato, a chan sef- yll ar ei law, bwytaent y briwsion a fyddai ganddo iddynt. A dywedir hefyd, ddarfod i'r adar hyn, ar y noson y bu efe farw, ddyfod at ei dŷ, a churo eu haden- ydd ar íîenestr ei ystafell wely, a gwaeddi ; ac ar ol ei farwolaeth, na welwyd hwy byth mwy. Yr oedd y gŵr hwn tua'r un oed a Howel Harris ; ganesid ef yn y fl. 17 i3, a bu farw ar y 5ed o Dachwedd yn y fl. 1781, yn 68 ml. oed.

Yr oedd pregethu yn Llithfaen, ardal rhwng Llanaelhaiarn a Nefyn, yn bur foreu. Nid yw y flwyddyn y cychwynodd yn hysbys. Arfcrent ym- gynull mewn lle a elwir Abergafren, bychan, gwellt, o fewn lled cae i'r ífordd ar y ddê wrth fyned at Nefyn ; yn Ued agos i'r lle y mae y capel yn bresenol yn sefyll arno. Weithiau hefyd, pan fyddai yr hin yn deg, a'r gynulleidfa yu Üuosog, arferent gynal moddion allan wrth ddrws y tŷ, dan gysgod draenen a dyfai yno. " Mae y a'r ddraeuen," medd fy hysbysydd,* yno eto, heb uemawr gyfnewidiad arnynt."

Yn mhen rhy w gymaint o amser, adeiladwyd lle mwy cyfleus, islaw y fí'ordd, hwnt i'r capel presenol, ar y llaw aswy wrth fyned tua Nefyn, a gadawyd yr hen â'r gwellt. Mae y lle diweddaf hwn yn awr ar gael, ond wedi ei droi yn anedd. Y'n y gymdeithas eglwysig hon, yr oedd Thomas Ellis o'r Hafod. Ymddengys fod y cynghorwr hwn yn nodedig am ei ffyddlondeb, a'i hunan-ymwadiad. Nid oedd ei ddoniau ond bychain, a'i wybodaeth ond cyfyng, a gwyddai yntau hyny ei hunan, Pan y gofynid cyhoeddiad iddo mewn cwrdd misol, ei ateb yn fynych a fyddai, " Wel, nid ydw'i ddira yn ffit i ddwad yn mhell : os methwch chwi yn lân a chael neb arall, mi ddeu- af ; treiwch eich goreu." Yr oedd ei hoU amser, ymron, yn cael ei dreulio mewn Uafur ar ei dyddyn ; ac i chwanegu yr anfautais, yr oedd ganddo wraig anniddig a chybyddlyd, yr hon ni chaniatâi iddo ganwyll i ddarllen y Beibl a'r ychydig lyfrau oedd ganddo. Yntau a gasglai swp o rug neu redyn, ac a'u dygai dan ei gesail adref, wrth oleuni y rhai y rhoddid iddo ddarllen ychydig yn y nos : dywedai na chai y cythraul o gybydd-dod ddim ei rwystro ef i ddarllen.

Wrth edrych ar y rhan hon o sir Gaernarfon, sef yparth a elwir, yn fynych, Eifionydd, yr ydym yn gweled fod Methodistiaeth wedi cynyddu llawer er ^^ 60 mlynedd yn ol. Y pryd hwnw nid oedd ond tair eglwys, sef Brynengan, y Gell, a Hendre-howel, ond yn awr y maent yn dair-ar-ddeg.f Yr oedd Brynengan yn eglwys fawr luosog ; ystyiúd hon yn Jerusalem Eifionydd ; yr oedd ynddi amryw o bregethwyr buddiol a llafurus, a diaconiaid eíEro ac

* Parch. Robert Hughes, Uwch-law-y-ffynnon. f Brynengan, Ysgoldy, Pencoed, Bwlch-derwydd, Garn, Cricieth, Bryn-melyn, Bontfechan, Pennant, Bethel, Tremadoc, Porth, Horeb.

PEN. VI.] SIR GAERNABFON. 207

ysbrydol. 0 hon yr hanodd yr Ysgoldy, Pencoed, a Bwlch-derwydd, ac y mae cryn nifer o aelodau yu y naill a'r llall.

Ffarmdy oedd y Gell, yn mhlwyf Llanystyndwy. Nid oedd pregethu yn y hwn, eto yma yr ymgynuUai yr aelodau gwasgaredig yn y Garu, Llan- ystundwy, a Threflys, i gadw eu cyfarfodydd eglwysig ; a chynelid y pregethu yn y Garn a Threflys. Yr oedd Treflys a'r Gell yn amaethdai ya etifeddiaeth Ormsby Gore, Ysw., a'i oruchwyliwr oedd ofteiriad, yr hwn oedd yn bywyn y Glyn, sir Feirionydd. Yr oedd lledaeniad Methodistiaeth yn anfoddhaol iawn i'r goruchwyliwr, a dangosodd ei wrthwynebiad iddo yn gyntaf trwy droi John Edwards, Eeiniog, o'i dyddyn, a thrachefn drwy warafun i'r cwrdd eglwysig gael ei gjTial yn y Gell. Achlysurodd hyn i'r gymdeithas eglwysig a ymgynuUai yno ymwahanu yn dair, sef y Garn, Bont-fechan, a Threflys, ac yn mhob un o'r rhai hyn, bellach, y mae cryn nifer o aelodau.

Hen sefydliad boreu oedd Hendre-howel. Yr oedd yma ŵr duwiol iawn yn byw. Dechreuodd broffesu mewm amser nad oedd ond ychydig o bregethu gan y Methodistiaid yn yr ardaloedd, a llawer gwaith y bu yn dal ei anifail foreu Sabboth heb wybod pa le y ca'i efe oedfa gyntaf ; a mynych y gorfyddai iddo fyned yu mhell i Leyn cyn cael yr un. Hwn oedd y gŵr, tybygid, y sonia Eobert Jones am dano, fel un yr oedd y clerigwr o Fôn wedi pender- fynu achwyn arno wrth ei feistres tir, sef Mrs. Lloyd o'r Gesail, ond a attaliwvd yn ddisymwth.

Lle diweddar, mewn cydmhariaeth, ydyw Tremadoc, a diweddarach fyth ydyw Porthmadoc. Yr oedd y Uanerchi hyn, hyd yn nghof dyn, heb bres- wylwyr ynddynt ; ond wedi cyflawni y gorchestwaith o gau y môr o fewn terfynau Uai nag a hònai gynt, fe ddylifodd lluaws mawr o drigoh'ou i'r fro ; sefydlwyd pregethu gan y Methodistiaid ; ac yn awr y mae y ddwy eglwj'^s hyn yn cynwys 200 o aelodau ; a'r ferch wedi myned yn amlach ei meibion na'r fam.

PENNOD VI. CYNYDD METHODISTIAETH AR OL YH ADEYWIAD YN Y FLWYDDYN

1762, YN AEFON.

CYNWTSIAD :

LLAÎfllüG A'I HARDALOEDD— WILLIAM JONES, PEN-YR-ALLT— PREGETHU Yíí DE- CHREU Yîî LLA^'RUG TUA'R FL. 1776— PREGETHU YX XHWLL-Y-CLAW"DD— FFURF- 10 EGLWYS YX 1783— PREGETHU YX CAE-HOWEL, WAUN-WINA, TY'X'R.HEXDRE, &c.— CHWEDL AM EVAN EYAJTS, WAUNFAWB, AC AM JOHN THOiIAS, LLANBER- IS— JOHN ROBERTS, CASTELL— HUGH WILLIAM Y GOP, PENTIR-ISAF— HOLLAND GRIFFITHS, YSW., MON.

LLANRUG a'i HARDALOEDD.

Yr oedd pregethu achlysurol wedi dechreu me\vn amrywiol ardaloedd, a phregethu mwy neu lai cyson, yn bod yn Nghlynog, Waunfawr, Llanllyfni, a Llanberis, eisoes, sef cyn adfywiad 1762; ond, oddigerth yr ardaloedd hyny, nid oedd Methodistiaeth wedi gwreiddio nemawr yn ardaloedd Ärfon. Ond nid hir ar ol hyn y bu cyn ymosod ar ardaloedd Llanrug, a Llanddeiniolen,

208 HANESIAETH Y SIROEDl). [üOSB. IV.

ac ymsefydlu yno, Yn y blynyddoedd 1750 1760, nid oedd ond ychydig o grefyddwyr ar gael ; un yma ac un acw a geid, ya ymofyn am gael clywed yr efengyl ; ac i'r dyben hwnw yn gorfod teithio yn mhell yn fynych. Dywedir fod William Jones, Pen-yr-allt, gŵr y crybwyllasom ei enw eisoes, yn arfer myned, yn nghyda'r ychydig frodyr eraiU o'r un meddwl ag yutau, i Fryn- engau, ngain milldir o ffordd, mwy neu lai, i gael cyfarfod eglwysig. Ym- ddengys, felly, er fod capel wedi ei godi yn Nghlynog tua'r fl. 1750, nad oedd eto yr un eglwys wedi ei ffurfio yno, nac, yn wir, yn holl Arfon, onide, paham yr oedd yn rhaid myned mor bell a Brynengan i gyfarfod eglwysig ?

Nid oes genym nemawr o sicrwydd am bregethu yn mhlwyfydd Llanrug a Llanddeiniolen, cyn y fl. 1776. Tua'r pryd hwn, fe ddywedir fod pregethu achlysurol mewn Ue yn yr ardaloedd hyn, o'r enw Garth. Yn mhen ychydig ar ol hyny, dechreuwyd pregethu wrth goeden, mewn Ue a elwir Adwy-y- ddeugae. Nid hir y caniatawyd hyn iddynt, eithr ymlidiwyd hwy ymaith o'r lle hwn, ar gyfrif, meddai eu gwrthwynebwyr, fod y cloddiau yn cael niwaid gan y bobl a ddeuent yn nghyd. Er mwyn symud y rhith esgus hwn, penderÍA'nwyd, ar ol hyn, ymgynull yn nghanol y Ehos, wrth ryw gareg adnabyddus yno, lle nad oedd clawdd i'w ddryllio. Yn y lle hwn, y gareg grybwylledig oedd y pulpud. Ar y gareg y safai y cynghorwr i draethu wrth ei gydwladwyr " fawrion weithredoedd üuw." Ond rhy dda pulpud i'r pengryniaid oedd y gareg, a rhy dda cyfleusdra i ymgyniül ynddo ocdd y Ehos ; ac oddiar wir ddygasedd fod Crist a'i groes yn cael ei bregethu, cymerodd rhy w un ei ordd, a drylliodd y gareg yn deilchiou. Symudwyd, gan hyny, oddiyma i ymyl maen Ued fawr wrth Glawdd y rhos. Yr oedd a elwid TwU-y-clawdd, yn sefyll gerllaw, ac yr oedd y gsvr a'i preswyliai yn ar- ddel crefydd, oud yr oedd ei wraig yn ffyrnig iawu yu ei herbyn. Unwaith, ar ddiwedd oedfa, wrth Ghiwdd-y-rhos, îe, ar ddiwedd yr oedfa olaf a gadwyd yno, cyhoeddwyd y byddai oedfa drachefn yno yn mhen tair wytlinos. Ond cyn i'r tair wythnos hyny fyned heibio, bu farw gwraig Twll-y-clawdd, a chafwyd rhwydd hynt, bellach, i gadw yr oedfaon yn y ti/, ac nid wrth y clawdd.

Pe fu pregethu yn y fro hon, ac o le i le ar hyd y Rhos, am ysbaid pum' mlynedd, cyn cael Ue arosol yn Nhv/ll-y-clawdd ; ac yn ystod y blynyddoedd hyn, yr oedd ambell un yn awr ac eilwaith yn cael eu hennill at grefydd, ac yn cael eu chwanegu at y crefyddwyr ; ac i'r Waunfawr yr aent oll i fwynhau cyfarfod eglwysig. Ond wedi i ddrws TwU-y-clawdd gael ei agor, a chael Ue sefydlog a diddos i ymgynuU yuddo, sefydlwyd yma gangeu fechan o eglwys. Y'^r oedd hyn tua'r fl. 1783. Y nifer gyfausoddai yr eglwys hon ar y cyntaf oedd 15.

Oddeutu yr un amser y dechreuwyd pregethu yn ardal Llanddeiniolen, ag y cychwynwyd ef yn Llanrug, er i'r olaf flaeuu gradd ar yr ardal arall mewn sefydlu cymdeithas eglwysig ac adeiladu capel. Dichon hefyd fod pregethu yn Uawn mor foreu yu Cae-IIowel, Ue yn nghymydogaeth Llanddeiuiolen, ag

PËN. VI.Ì SIR GAEBNARFON. 209

oedd yn y Gartli. Dywedir fod oedfaon yn cael eu cadw yn y lle hwn oddeutu y fl. 1770. Yr oedd mercli i William Jones, Pen-yr-allt, yn byw yno, ac nid annhebyg ydyw, mai hi a fu yn foddion i gael pregethu yno ; ac ar ei hymadawiad hi o Cae-Howel, ymadawodd y pregethu hefyd, yn mheu blynyddoedd ar ol yr amser a grybwyllwyd uchod, sef y fl. 1770. Llwydd- odd un Wiiliam Jones, Cae-corniog, i gael ambell oedfa i'r Waun-wina. Y cyntaf a gafodd oedd Eobert Jones, Ehoslan gynt, yr hwn oedd ewythr iddo. Safodd y pregethwr y tro hwn ar ben careg, yn agos i'r Cae-corniog, William Jones. Bu amryw o bregethwyr yn y lle hwn ar ol Eobert Jones ; ond yn mhen ysbaid o amser, neiUduodd WiUiam Jones ystafell groes a berthynai i'w dý, i fod yn Ue i gynal pregethu ynddo, a gwnaoth bulpud bychan, ac a'i gosododd yn yr ystafeU hon. Cynaliwyd y moddion, beUach, yn y Ue hwn, yn Ued gyson, tra y bu y gŵr duwiol hwnw fyw. Ar ol ei farwolaeth, fe fu yr achos dros dymhor yn ansefydlog, ond nid heb ddrysau agored i'w dderbyn, oddieithr dros ryw dymhor byr. Dywedir fod pregethu mewn amryw fanau ar hyd y fro, yn neiUduol fe sonir am le a elwir Tŷ'n-yr- hendre, Ue yr oedd un EowLind Davies yn byw, yr hwn a ddygodd y pulpud o'r Cae-corniog, ac a'i gosododd i fyny yn ei ysgubor ei hun.

Symudodd y gŵr hwn o Tŷ'n-yr-hendre i'r Hafod-olau, a derbyniodd bregethu yno hefyd, a dygai y draul gan mwyaf ei hun. Fe fu pregethu hefyd mewn manau eraiU, megys yn Tros-y-waun y rach-wen mewn bychan yn agos i Blas-yn-mhentir yn Blaen-y-cae yn y CasteU y Tyddyn- canol ac yn Aber-bach-awyr, a manau eraiU. Yn y Ue olaf a nodwyd, sonir am un oedfa nodedig i Evan Evans, Waunfawr, yr hon a gadwyd aUan yn yr awyr agored, Ar yr oedfa hon duodd yr awyr gan gymylau, a disgynodd gwlaw trwm iawn ar y bobl. Ar hyn gweddiodd y pregethwr, gan ddywed, "O Arglwydd, Creawdwr a Llywodraethwr pob peth, dyro seibiant am ychydig amser i gynghori hyn o bobl sydd a'u hwynebau ar y byd tragwyddol." Yn y fan attaUwyd y gwhiw.

Nid ydym yn cael fod rhyw lawer o erUd ar y crefyddwyr yn y broydd hyn, oddieithr yn achlysurol, ac i raddau bychain. Yr oedd diystyrwch wedi cymeryd Ue gorthrwm. Bwrid cenUif o wawd arnynt, ac edrychid gan lawer ar eu hachos islaw eu sylw, i sefyU drosto, nac i'w erUd chwaith. Ceir esampl o agwedd anystyriol y bobl yn yr hanesyn a ganlyn :

Yr oedd John Thomas, Llanberis, yn pregethu yu y gerUaw Plas-yn- Mhentir, ac ofnai yn fawr mai ei erUd a'i faeddu a gawsai ef a'r ychydig bobl a ymgynuUasent i wrando arno. Nid oedd gwrandawyr John Thomas yn y ond 6 neu 7 o rifedi, ond yr oedd mewn maes yn ymyl luaws mawr o oferwyr wedi dod at eu gilydd i droedio y bêl, a mawr oedd arswyd John Thomas a'i wrandawyr rhag i'w cynuUiad crefyddol hwy ddod yn adnabyddus i'r dyrfa oddiaUan ; cymaint feUy, fel yr ofnent roddi eu Uais aUan i ganu fel arferol, rhag eu clywed gan yr oferwyr, a'u haflonyddu ganddynt. Pa fodd bynag, anturio canu a wnaethant, a chlybu y dyhiriaid y swn, a rhuthrasant, dan dyngu a rhegu, i'r Ue, a chan fygwth y tynent y i lawr, oni ddeuai

p

210 HANESIAETH Y SIBOEDD. [doSB. IV.

y pregethwr allan i bregethu iddynt hwy. Ac allan y bu raid luyned. Gŵr ofnus oedd y pregethwr, eto, er maint ei arswyd, bu gorfod iddo wynebu y dorf ddireol hon ; ac, yn groes i'w ddysgwyliad a'i ofnau, cafodd lonyddwch ganddynt i bregethu, a hwythau ar ddiwedd yr oedfa a aethant yn ol at eu chwareu. Tro arall, rhoddwyd tywarchen ar gorn simnai y bychan yr oedd yr oedfa ynddo, fel ag i lenwi y â mwg, a thrwy hyny lesteirio y gwasanaeth crefyddol.

Nid oedd yr achos, yn y tymhor hwn, a gwedd sefydlog arno, gan fod y pregethu yn treiglo cryn lawer o bwy gilydd, eto fe sefydlodd, yn fwyaf, mewn lle a elwir Blaen-y-cae, Yn y lle hwn fe fu y Parch. Daniel Jones, gynt 0 Gaernarfon, yn myned yno bob nos rercher, am ysbaid blwyddyn, heb golli ond unwaith dros yr holl amser. Ac nid oes amheuaeth ua fu ei lafur yn fendithiol i laweroedd.

YnLIanrug, er hyn, yr oedd y cyfarfod eglwysig, ac aelodau o'r eglwys yno yr ystyriai yr ychydig grefyddwyr ag oeddynt wasgaredig ar hyd y fro eu hunain. Eto, am dymhor cyn adeüadu yr addoldy a elwid Ysgoldy, Llan- ddeiniolen, yr oedd cyfarfod eglwysig yn arfer a chael ei gadw yn lled gyson, ac o'r diwedd ymneillduwyd yn Uwyr oddiwrth y fam-eglwys yn Llanrug.

Yr oedd capel eisoes yn Llanrug. Codwyd hwn tua'r fl. 1798. Yr oedd cyttir helaeth yn y gymydogaeth hon, a barnwyd y gellid anturio adeiladu capel ar y cyttir, os byddai y plwyfolion yn caniatâu hyny. Cyhoeddwyd, gan hyny, am dri Sabboth, y byddai i vesírÿ y plwyf gael ei chynal yn y Uan i'r dyben hwn. Felly hefyd y bu. Ac yu y cyfarfod hwn, penderfynodd y plwyfolion ar ganiatâu darn o dir, digonol i godi capel arno, a chael gardd hefyd i'w ganlyn. Ond ni chaed hyn heb wrthwynebiad. Cododd rhyw " Sanbalat " ar fedr attal y gwaith, a chynuUodd wŷr i chwalu y muriau ; ond ni allodd ddwj'n ei amcan i ben, oblegid daeth Iluaws o ddynion, wedi clywed am ei fwriad, i lawr o'r cloddfeydd chwareli, ac a'i gyrasant ef a'i wŷr ar ífü. Effeithiodd hyn gymaint arno, fel y bu efe farw yn mhen ychydig ddyddiau.

Ar waith yr ychydig grefyddwyr yn ymneiUduo o Lanrug, rhoddwyd iddynt henuriad o ddiacon tra ffyddlawn a defnyddiol, sef Mr. John Eoberts o'r CasteU. Mae coffadwriaeth y gŵi- hwn yn arogli yn beraidd iawn yn y cymydogaethau y bu ef yn aneddu ynddynt. Y"r oedd trefn ei dŷ, cysondeb ei rodiad, manylrwydd ei broffes, hynawsedd ei ysbryd, yn nghyda'i ym- gysegriad cydwybodol i waith a theyrnas yr Ai'glwydd lesu, yn goron anrhydeddus i'w gymeriad, o'r fath na cheir ond anfynych iawn yr un mwy ei dysgleirdeb. Disgynodd bugeUiaeth yr eglwys fechan yn Llanddeiniolen, ymron yn hoUol arno, gan nad oedd yn y tymhor cyntaf neb a aUai ei gy- northwyo. Bu yn ffyddlon iawn yn ymofyn am bregethwyr i'w ardal. Am ysbaid 40 ml., ni fethodd unwaith a myned i gymdeithasfa y Bala, o'r pryd y gosodwyd ef yn ei swydd hyd ei farwolaeth. Agorodd ei a'i law i gynal achos yr efengyl, a gwnaeth hyny yn ddirodres a dirwysg; nid er mwyn ei weled, oud o wir gydwybod o'i ddyledswydd, ac o wir gariad at

PEN'. Vr.] SIR GAEUNAUFON. 211

Fab Duw. Bendithiwyd yntau yn ei enaid, yn ei blant, ac yn ngwaith ei ddwylaw. Bu farw Mai, 1826, yn 77 ml. oed. Mae ôl ei hyfforddiadau a'i esampl, yn nghyda'r eiddo ei Avraig, ar ei blant hyd heddyw, mewn cymeriad anrhydeddus fel gwladwyr, ac ar lawer o honynt fel dynion dysglaer eu gras, a helaeth eu defnyddioldeb.

Yr oedd yr erlid cyffredinol a fu ar y Mctliodistiaid yn eu dechreuad wedi diflanu i raddau mawr. Yr oedd o leiaf wedi newid ei ffurf, a dull ei yraos- odiad. Yr oedd rhagfarn y werin wedi lliniaru Uawer, ac nid oeddynt, bellach, yn offer mor barod i'w dcfnyddio gan y boneddwyr a'r clerigwyr, fel y buasent gynt. Yii awr yr oedd yr ymgyrch yn cael ei wneuthur ar bersonau neiUduol, trwy ddial arnynt, ar gyfrif eu crefydd, pan rhoddid rhyw gyfleus- dra i hyny. Yr oedd cymwynasau y mawrion yn cael eu hattal yn fwriadol oddiwrtliynt, a'u dylanwad, mewn llawer amgylchiad, yn cael ei arfer i'w gorthrymu a'u blino. Fel enghraifft, gellh' crybwyll yr aragylchiad cau- lyuol :

Yr oedd gôf o'r enw Hugh Williams yn byw yn y Pentir-isaf, yr hwn a gawsai ar ei feddvvl ymuno â'r Methodistiaid. Yr oedd gŵr cyfrifol yn byw, ar yr un pryd, yn y gymydogaeth, o'r enw Hugh Williams, Y'sw. Yr oedd y gôf wedi cael llawer o garedigrwydd ar law y boneddwr, dros lawer blwydd- yn. Edrychid arno, gan y gAvr mawr, yn ddyn gonest, da ei waith,. a pharod ei wasanaeth, ac ennillasai hyn iddo wyneb yr yswain. Ond hyd yn hyn, nid oedd Mr. WiUiams yn gwybod fod Hugh wedi ymuno â'r crefyddwyr, ac nid oedd Hugh, mae yn debyg, ar frys i hysbysu hyny iddo, gan y gwyddai mai blin iawn a fyddai hyny ganddo, a chan yr ofnai hefyd, o bosibl, y canlyniadau iddo ei hun. Ond tua'r fl. 1784, pan oedd cymdeithasfa yn cael ei chynal yn Beaumaris (y gyntaf, dybygid, a fu yno), methodd Hugh ag aros gartref, gan ei awydd i fwynhau gwledd mor ddymunol ganddo ; ac i'r gymdeithasfa yr aeth. Ebrwydd y cyrhaeddodd hyn i glustiau y boneddwr, a gwysiwyd y troseddwr, boreu dranoeth, i'w ŵydd. Ond cyn iddo allu cyrhaedd y tỳ, cyfarfu ar y tìbrdd â'r gŵr mawr, yr hwn oedd yn amlwg mewn gwŷn arswydus ; dechreuodd gyhuddo Hugh o'r bai aufaddeuol o ganlyn y pengryniaid, a bygythiodd ei guro â'i ffbn. Edliwiodd iddo y cymwynasau a wnaethai iddo, er pan oedd ef yn fachgen, gan ofyn, pa fodd y meiddiai efe ymuno â'r fath bobl, a newid ei grefydd heb ei grybwyll ef yn gyntaf, a mynu gwybod ai boddhaol a fyddai hyny ganddo, ai peidio ?

Wedi ysgyrnygu enyd yn y dull hwn, llareiddiodd ronyn, a rhoes hyny seibiant i Hugh ddweyd gair.

" Gyda'ch cenad, meistr, mae gen' inau air neu ddau i'w ddweyd."

Bon. Gan ail fiyrnigo, " Pa beth sydd genyt i'w ddweyd ? Oni ddy- wedais i y gwir ? Ond os oes genyt rywbeth i'w ddweyd, dywed : gâd glywed pa beth ? "

Hugli. Yi wyf yn cyduabod, syr, mai gwir yw y cwbl a ddywed'soch : chwi fuoch yn dda wrthyf, er pan yn blentyn, am yr l)yn yr wyf yn dra di- olchgar i chwi hyd heddyw."

213 HANESIAETH Y SIROEBD. [dOSB. IV.

Bon. " Wel, beth yn mhellach sydd geuyt ? "

llugh. "Nid rhaid i mi ddyweyd wrthych, am eich bod yn gwbl adnabydd- uSj pa fodd yr ymddygais inau wedi tyfu i fyny. Nid oedd ua ffair, gwyl- mabsant, ua uoswaith lawen, heb fy mod i yuddyut, hc ni ddarfu i chwi erioed gymaint a dywedyd mai drwg y gwuaethum. Ond pan aethum i geisio ìlcs i fy euaid, wele ch^i yn fy nwrdio, yn rhoddi enwau drwg arnaf, ac yn bygwyth fy nhroi o fy anedd. 0 ! meistr, nid oes genyf ond un enaid, ac y mae yr amser o hyn hyd angau i barotoi ar ei gyfer yn fyr iawn, a gwell fydd genyf, os rhaid y w, gymeryd fy nhroi aUan o fy llety, na gwneyd cam â fy enaid anfarwol ! "

Coclodd y boneddwr ei ddwylaw a'i lygaid i fyny, pan glywodd hyn, a dywedodd, " Yn enw y Mawredd, ni ddywedaf air yn dy erbyn byth mwy ! "

Cadwodd y gŵr boueddig ei addewid, ac ui ddywedodd air yn erbyn ei grefydd wrth y gôf o hyny allan.

Ond uid oedd profedigaethau Hugh y gôf ddim wedi darfod. Bu farw Mr. WiUiams, yr hwu a ddangosasai gymaint o garedigi'wydd iddo, sef yr hjmaf 0 dri o frodyr, a daeth yr ail fab i feddiant o'r drefdadaeth. Yr oedd Hugh, er pan fu farw ei dad, wedi cael ei a'i efail yn ddiardreth, a phan y daeth brawd ei feistr, yr hwn oedd yn offeiriad, i feddiant o'r eiddo, efe a gafodd allau, wrth olrhain y Uyfrau, nad oedd Hugh ddim wedi talu dim ardreth am ei er ys blynyddau. Yr oedd crefydd Hugh yn atgasach gan yr offeiriad, ua chan ei frawd, a rhybuddiodd Hugh y byddai raid iddo dalu ardreth y blynyddoedd a aethent heibio, yr hyn oedd gymaint ag a lethai fywiolaeth y truan ar unwaith.

Yr oedd gau Hugh frawd yn Maugor, yn gyfreithiwr, a chan fod blinder Hugh yn trymhau, aeth ato i adrodd ei helyut, a chafodd allan ei fod, ar gyfrif hir fwynhad o'r yn ddiardreth, yn feddiannydd arno yn ol y gyfraith, fel na ellid cael dim ardreth gauddo, na'i droi ef allan chwaith. Mynegodd Hugh hyn i'r offeiriad, yr hwn, bellach, a ddystawodd, gan ddweyd, " Mi a fadd- euaf i ti yr ardreth, ond y mae'n rhaid i ti ymadael." I hyn yr atebodd Hugh, " Yr wyf yn foddlon i hyny."

Ymadael hefyd a fu raid i Hugh Williams ; ond yr oedd yr addewid ganddo wrth gefn, " Pwy bynag a adawo neu frodyr, &c., er mwyn fy enw i, a dderbyn y càn cymaint yn y byd hwn, a bywyd tragywyddol a etifedda efe." A'r addewid hou a wiriwyd iddo yntau. Pan ddeallodd ei gyfeillion crefydd- ol ei benbleth, barnasaut mai eu Ue oedd ymofyn, o leiaf, am le arall iddo ; a phenderfynwyd ar fod i hysbysiad gael ei ddwyn, os byddai rhyw ddrws yn agor, i gyfarfod misol ag oedd i gael ei gynal yn mhen ychydig wythnosau, yn ysgubor y Fachweri. Yr oedd sefyUfa y gôf druau, beUach, yn draUodedig ìawn. Yr oedd yn gorfod ymadael â chymydogaeth Ue yr adwaenid ef yn dda, a Ue yr enniUasai ei gymeriad a'i fywiolaeth ; ac nid hawdd oedd i grefyddwr, ac enw pengrwn arno, gael Ue, y pryd hwnw, i ymsefydlu ; ac nid mor hawdd, wedi cael Ue, oedd gw'eithio ei ffordd, ac enniU ei damaid, yn w'yncb ceuUif o ragfarn a redai yu ei erbyn. Pan ddaeth Hugh i'r cwrdd

PEN. VI,] SIR GAEUNAUFON. 213

misol, dan obeithio y rhoddid hanes gan ryw un am le arall iddo ; cyfarfu â siomedigaeth drachefn, oblegid nid oedd neb wedi gwybod am un drws agor- ed. Ond cododd Eobert Jones, Tŷ-Bwlcyn, ar ei draed i'w gysuro, gan ddyweyd, " Paid a digaloni, anwyl frawd, er fod pob drws yn ymddangos yn gauedig, y mae \m drws eto yn agored, ac y mae curo wedi bod wiih hwnw, drosot ; nid oes un amheuaeth genyf nad oes darpariaeth gan raglun- iaeth ar dy gyfer di a dy deulu. Ti elli fod yn berffaith hyderus yn hyn ; ond na fydd dithau segur. Dos allan i chwilio, ac am a wn i mai cychwyn boreu fory a fyddai goreu."

Ehoes y cyfarchiad yma ail gyfnerthiad yn meddwl y truan trallodedig, a chychwynodd dranoethifyned, heb wybod, mwy nag Abraham gynt, i ba le ; ond cyn dychwelyd adref, yr hyn a wnaeth cyn y nos, yr oedd wedi cymeryd ac efail, yn nghydag ychydig dir yn gysylltiedig, digon i gadw buwch, ac i godi ychydig rawn at angenrheidiau teulu, y cwbl am £4> yn y flwyddyn ! mewn lle a eiwir Peutref-berw, Llanidan, Môn.

Yr oedd rhai boneddwyr ar gael, y pryd hwnw, yn ugwahanol wledydd Cymru, llai eu rhagfani nag eraill ; llai darostyngedig i anwydau, ac i dderbyn chwedlau ; a mwy parod a galluog i farnu pethau wrth eu teilyngdod priodol. Ymddengys fod boneddiges a'i mab o'r fath yma yn byw yn Môn, o'r enw Mrs. Griffiths, a Mr. HoUand Griffiths. Yr oedd Hugh Thomas, pregethwr, eisoes yn denant i'r wraig hon, ond oblegid fod brawd iddo, yr hwn oedd yn perthyn i'r Bedyddwyr, wedi dygwydd dwyn anair ar grefydd trwy ryw ymddygiad gwarthus'o'r eiddo, yr oedd Hugh Thomas danrybuddi ymadael â'i dyddyn, gan yr ofnai Mrs. Griffiths iddo ef droi allan yn gyffelyb i'w frawd. Wedi i Hugh William ddeall fod parodrwydd yn y wraig foneddig i osod y lle a geisiai iddo, efe a farnai yn onestrwydd i hysbysu iddi ar unwaith, ei fod yntau yn grefyddwr ; ac ebe fe, " Mae yn rhaid i mi, ma'm, ddyweyd y gwir wrthych. Yr wyf yn perthyn i'r bobl yma fydd yn pregethu yn y tai anedd ar hyd y wlad."

" Ho ! ho !" ebe hithau, " pa rai o honynt ? ai y dippers ? "

"Nage," ebe Hugh, "ond y bobl a elwir y Methodistiaid."

Ar hyn daeth ei mab, Mr. Holland Griffiths, i mewn, gan ofyn, " Pa beth sydd ? "

" Yr wyf ar fedr gosod," ebe hithau, " y Tŷ-gwyn i'r dyn yma. Mi fedd- yliwyf arno ei fod yn ddyn gonest ; ond fe ddywed wrthyf ei fod yn perthyn i'r bobl a fydd yn pregethu yn y tai."

" Pw ! pw ! " ebe yntau, " pa waeth am hyny ? Oni bai rhag cywilydd, mi awn i fy hun i'\¥ gwrando."

"Chwiaech, HoUand?"

" Awn yn wir," ebe yntau, " y maent yn well pobl o lawer na miloedd sydd yn eu beio."

" Wel, wel," ebe ei fam, " os felly y mae, rhaid i Hugh Thomas gael aros yn ei dyddyn, a rhaid i'r dyn yma gael y Tŷ-gwyn."

Ar hyn ysgrifenodd air gyda Hugh WiUiam i fyned at y goruchwyliwr, i

214 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

gymeryd y lle, ac erclii iddo, yn gyntaf, fyned i'r gegin i gael bwyd a diod. Trwy yr amgylchiadau liyn, gwellhawyd ar sefyllfa y gôf, ac amddiíîynwyd y tyddynwr rhag ei droi allan o'i dir yn ddiachos.

Mae yn deilwng o sylw arbenig pa wasanaeth a fu yr ysgol Sabbothol i ddwyn yn mlaen yr achos da yn y parthau hyn. Ymosododd WiUiam Jones, neu William Siôn, fel y gelwid ef, Cae-corniog, ar y gwaith hwn, gyda'i fod wedi dyfod at grefydd ; îe, pryd nad oedd ynddo ddim cymhAvysder at y fath orchwyl, heblaw gonestrwydd ei amcan, ac aidd ei enaid. Nid oedd yr athraw hwn ond anfedrus mewn darllen, eto fe fu yn cadw yr ysgol ei hunan heb gynorthwy neb arall am rai blynyddau. Cedwid hi ar y dechreu yn y tymhor haf yn unig, a symudid hi o fan i fau, fel y byddai cyfleusdra. An- hawdd i ddeiliaid ysgol Sabbothol yr oes hon ddychymygu pa fath galed- waith oedd ei chadw ar ei chychwyniad. Yr oedd y plant yn berífaith anghynefin ag un reol, ac heb un ymsyniad am Aveddeidd-dra. Yr oedd yr olwg arnynt yn farbaraidd, a'u hymddygiad yn wyllt ac anwar ; ac nid oedd neb yn eu mysg eto wedi eu trefnuso a'u dofi i fod yn esampl i'r lleill. Ehaid oedd i W^illiam Jones wrth y wialen fedw gyda phob rhan o'i orchwyl ; defnyddid hi wrth eu dysgu, ac wrth eu holi ; ie, mynych y gorfyddai iddo wedi dechreu gweddio, godi oddiar ei liniau i'w ceryddu ; ac wedi eu trefn- uso ronyn, syrthio ar ei liniau eilwaith, i orphen ei weddi. Yr oedd hyn cya y fl. 1796 ; ac mewn adeg nad oedd rhieni y plant yn gwneyd dim i gynorth- wyo yr athraw adeg nad oedd nemawr grefyddwr ar gael yn y fro, ac adeg hefyd, pryd nad oedd pob crefyddwr, îe, er bod yn ddyn da, ddim eto wedi ei enniU i roddi llaw o gynorthwy i'r gwaith. Ond o'r flwyddyn grybwylledig yn mlaen, fe gafodd William Jones gynorthwy amryw o frodyr, a fuont yn ffyddlawn a diwyd i ddal ei freichiau, ac i hyrwyddo ei amcan.*

Ond nid oedd addoldy priodol gan y Methodistiaid yn y plwyf eto, na chan un enwad ymneillduol arall. Ryw bryd oddeutu y fl. 1808, daeth ar feddwl y brodyr a lafurieut gyda'r ysgol Sabbothol, gael lle mwy cyfleus i'w chadw. Yr oedd hyd yn hyn yn cael ei cliynal mewn tai anedd, weithiau yma, ac weithiau draw ; a chan fod y Uafur hwn wedi ei goroni â gradd o fendith, teimlid eisieu lle mwy eang a mwy sefydlog, a soniwyd yn bryderus am godi ysgoldy. I hyn yr oedd y fam eglwys yn Llanrug yn dra anfoddlawn, er fod mwy na thair miUdir rhwng y ddau le â'u gilydd ! siaradent hefyd yn Ued ddiflas am jt anturiaeth, a galwent yr ysgoldy -^nffynnon diogi. Er hyn oU adeilad a gaed, ac ysgoldy y galwyd ef ; ac ysgoldy y gelwir yr addoldy yn yi' ardal hon hyd heddyw. Galwyd ef felly ar y dechreu, gan mai yr ysgol Sabbothol a alwodd yn arbenig am dano, ac hefyd, am na oddefai y gŵr mawr, perchenog y tiroedd, yr enw capel ar un adeilad o fewn ei derfynau. Nid oedd yr adeilad hon ar y cyntaf ond bechan a gwael, tuag 8 Uath wrth 6 ; bu ail a thrydydd adeiladu ar yr ysgoldy hwn, ac yn awr y mae yn

* Enwir un Rowland Evans yn un o'r rhai c^Titaf ; gŵr call, ac o ddylanwad hel- aeth : hefyd, Rowland Dafydd, Rowlaud Abraham, y ddau Robert Roberts, Blaen-y- cae, ac eraiU.

PEN. VI.] SIR GAERNAllFON. 215

addoldy helaeth a hardd, eto yn aros hyd heddyw dan yr hen enw Ysgoldy. Y pregethwyr a lafurient fwyaf yn yr ardal hon yn ysbaid y blynyddoedd cyntaf, oedd y rhai a breswylient y dosbarth hwn o'r wlad, megis John Thomas, Llanberis ; John Williams, Llandegai ; Evan Evans, Waunfawr ; Hugh WiUiams, Lianrug ; Evan Eichardson, Caernarfon ; Daniel Jones, Llan- degai, Ysgrifena gŵr cyfarwydd ataf, ac a ddywed, " Mr, Daniel Jones, Llandegai, a fu y prif oíferyn yn Uaw yr Arglwydd i ddarostwng annuw- ioldeb cyhoedd y fro hon ; Uaweroedd a drodd efe at yr Arglwydd. Bu yn dyfod unwaith bob wythnos, am ílwyddyn gyfan, ar ol cadw noswyl, dros y mynydd, i Blaen-y-cae i bregethu, a dychwelai yr un noson yn ei ol, wedi cerdded 9 milldir o ífordd, a hyny ar ol gweithio ei ddiwrnod. Byddai yn pregethu gyda rliyw ddifrifwch ofnadwy, nes byddai dynion annuwiol iawn ar lewygu gan ddychryn y farn ac ofn uffern. Efe a ]\Ir. Richardson a fyddai yn pregetliu amlaf o neb yn yr ochrau hyn ; a pha ddau erioed mor wahanol? ac eto, pa ddau erioed mor gymhwys ? Ar ol i Daniel fod nos lau yn Mlaen- y-cae yn lladd, fe ddeuai Mr. Eichardson am ddau o'r gloch y Sabboth i hen gapel Llannig ìfywhau; ac os dygwyddai y ddau fod yn cyd-bregethu, fel y buont lawer gwaith, priodol y gellid canu ar ddiwedd yr oedfa,

" Wele Sinai a Chalfaria, Heddyw wedi dod jmghyd."

Cymhwys ydyw coíîa, yn y Ue hwn, am yr hen frawd ffyddlawn Rowlaud Abrahara. Gwasanaethodd hwn swydd diacon yn yc Ysgohly ara ryw nifer 0 flynyddoedd, ond yn ystod y 18 ml. diweddaf o'i oes, fe lafuriai fel cynghor- wr, yn ngwahanol barthau o'r wlad. Dywedirei fod yn rhagori mewn cadw cyfarfodydd cglwysig, ac mewn holwyddori yr ysgol. Kid oedd yn ŵr o ddoniau na gwybodaeth helaeth, eto nid oedd amheuaeth am ei gywirdeb ; a'i ffyddlondeb ydoedd amlwg i bawb.

Yn rahen rhai blynyddoedd ar ol sefydlu yr achos yn yr Ysgohly, cododd haid o'r cwch hwn drachefn, gan yrasefydlu yn Mhentir, dan arweiniad Mr. John Roberts, Castell, Yn y Ue hwn hefyd, fel mewn lluaws raawr o leoedd eraill, yr oedd yr ysgol Sabbothol wedi rhagflaenu a pharotoi ei Ile i weinidog- aeth yr efengyl, a chynulliad eglwysi, Yr oedd y llawforwyn hon wedi bod yn llafurio yn Mhentir rai blynyddau cyn sefydliad cyson yr achos crefyddol yno, Bellach, y mae yno gapel helaeth, a chynuUeidfa luosog. Tua'r fl. 1816, symudodd cangen drachefn o'r Ysgoldy i'r Rhydfawr. Adeiladwyd yno gapel, a chasglwyd cynulleidfa. Yn y fl. 1 841, heidiodd raintai drachefn o'r Ysgüldy, a sefydlodd yn Nghefn-y-waun. Gan faint y cynydd yn y Ile hwn, bu raid adeiladu ac ail-adeiladu yr addoldy, yn mhen ychydig flyuydd- oedd. Y lintai olaf a heidiodd o'r Ysgoldy ydoedd un a ddisgynodd yu Mryn-yr-efail. Bu hyn mor ddiweddar a'r fl. 1 849.

Wrth gymeryd adolwg ar ysgogiadau Methodistiaeth yn yr ardaloedd hyn, cyrahellir ni i synu a dyweyd, " Wele, bcth a wnaeth Duw ! " iS'id ocs

216 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV,

nemawr dros 60 ml. er pan wynebodd WiUiam Siôn, Cae-corniog, ei hunan ar anialwch gwag erchyll plwyf Llanddeiniolen ; a dim ond 45 ml. er pan godwyd y capel bychan cyntaf yn y plwyf, ac y sefydlwyd achos crefyddol ynddo ; wrth gofio hyn a bwrw golwg ar y wedd bresenol sydd ar Pethod- istiaeth yn y fro, pa sawl capel a godwyd, pa sawl cynulleidfa a grynho- ŷfy(\ ; îe, pa faint o dywyllwch anwybodaeth a chwalwyd, a pha nifer o eneidiau a ddychwelyd at Dduw, parod ydym i ddyweyd, " Mor gadarn y cynyddodd gair yr Jrglwydd, ac y cryfhaodd ! "

PENNOD VII. CYNYDD METHODISTIAETH YN AEFON.

CYNWTSIAD :

DECHEEUAD METHODISTIAETH YN MRYN-YR-ODYN— EYAN SION, TYDDYN-MAWR— SION GRIFFITH A'I WRAIG— WILLIAM EVAN— BYR HANES BWLAN, RHOSTRY- FAN, A CHARMEL— DECHREUAD METHODISTIAETH YN NHREF CAERNARFON— Y PAECH. EVAN RICHARDSON— EI HANES, EI DDEFNYDDIOLDEB, A'I GYMERIAD.

BRYN-YR-ODYN.

Mae Bryu-yr-odyn yn adnabyddus fel un o wersyllfaoedd Methodistiaeth yn sir Gaernarfon. Yr oedd rhai lleoedd, mae yn wir, wedi cael y blaen amo, megis Llanberis, Waunfawi', Clynog, a Llanllyfni, yn nghyda Brynengan yn Eifionydd, ac amrywiol orsafoedd yn Lleyn ; eto gellir edrych ar y lle hwn fel un o fam-leoedd Methodistiaeth Arfon ; mae yn Ue hefyd y perthyn iddo rai enwau ac amgylchiadau, â'r fath wedd hynafiaethol araynt, fel y byddai yn wall anesgusodol ynof beidio eu gosod ger bron y darllenydd.

Mae Bryn-yr-odyn, fel y g\vyr Uawer o'n darlleuwyr, yn gorwedd rhwng Caernarfon a Chlynog, tua hanner y fí"ordd, yu mhlwyf Llandyruog. Yn agos ato y mae Dolydd-byrion, Ue a grybwyllir gan Eobert Jones, fel Ue wedi ei hynodi gan amgylchiadau ynglyn â phregethu, fel y soniwyd o'r blaen.* Y lle nesaf at Eryn-yr-odyn, y byddai pregethu yn lled gyson ynddo, oedd Llanllyfni.f Nid oes sicrwydd pa un ai cyn ai wedi dwyn pregethu i Fryn-yr-odyn y bu y cais ar gynal cyfarfod misol yn Dolydd-byrion, ac yn Ehostryfan, fel y sonia Eobert Jones. Ymddengys fod yma un gŵr o gref- yddwr yn byw yn yr ardal, sef yu Tyddyn-mawr, o'r enw Evan Jones, ryw gymaint o amser cyn sefydlu moddion cyson yn Mryn-yr-odyn. Ee ddaeth Evan Jones at grefydd tua'r fl. 1768, a chedwid ambell oedfa yn achlysurol yn ei ef ; ond nid oedd pregethu cyson yn yr ardal hyd y fl. 1773, sef yr amser y daeth Siôn Grifíìth a'i wraig i fyw i'r fí'ermdŷ a elwir Bryn-yr-odyn, sef y tyddyn y cafodd y capel ei enw oddiwrtho, Y dynion mwyaf amlwg gyda sefydliad yr achos yma oeddynt, Evau Jones, Tyddyn-mawr ; Eobert Hughes, Caelywarch ; a Siôn Griíîith, Bryn-yr-odyn.

Mab oedd Siôn Grifiith i Owen Griflatb, Dynog-felen-fawr. Nid oedd ei

Gwel tudal. 193. f Gwel ei hancs tudal. 165.

PEN. VII.] SIR GAERNAKFON. 217

dad na'i fam yn meddwl nemawr am grefydd, a tliyfodd Siôn i fyny, fel y gellid dysgwyl, yn fachgen gwyllt, îe, yn un o'r rhai mwyaf annuwiol yn yr holl fro. Wedi dyfod i oedran priodol, aeth i wasanaethu i ffermdŷ, yn mhlwyf Clynog, o'r enw Grainog. Yn y lle hwn, arweiniwyd ef unwaith i gyd- gau clawdd terfyn, gydag un KoAvland Williams o'r Henbant-mawr. Yr oedd Siôn Griffith, ar hyn o bryd, yn Uanc cryf o gorff, a thra anystyriol o feddwl, bras a thynglyd ei ymadroddon ; 'ie, yn rhagori ar ei gj^doeswyr yn hyn. Aml a rheg a roddai yn ystod yr amser y bu efe yn cyd-gloddio y clawdd-terfyn gyda Eowland WiUiams, yr hyn a barodd i'w gyd-weithiwr ddyweyd wrtho, gyda'r nos, " Wel, Sion, pe cai ti ddafad am bob a roddaist heddyw, byddit yn gyfoethog iawn heno." Suddodd y cerydd hwn i'w feddwl, a pharodd lawer o anesmwythder iddo. Ond er fod ei gydwybod yn ei frathu yn ddwys oblegid yr arferiad gwrthun a drygionus, eto cymaint a fuasai ei gynefindra â'r arferiad» fel y syrthiai i'r un bai di-achefn, a hyny ymron yn ddiarwybod iddo ei hun.

Yn y cyfamser, fe briododd Elizabeth o'r Penbryn-bach, Llanllyfni, Ue y bu, tybygid, yn byw dros ryw dymhor. Yr oedd yn parhau i ymladd yn erbyn y pechod parotaf i'w amgylchu, sef tyngu ; ac os dygwyddai syrthio i'r bai, chwanegai gyda brys, fel un yn cael ei bigo, " Duw fo'u raaddeu i mi ! " Wrth glywed hyn ganddo yn aml, dywedai ei frawd-yn-nghyfraith wrtho, " Siôn, rhaid i ti naill ai tyngu fel o'r blaen, neu beidio a thyncni o gwbl ; ac onide, mi a'th laddaf di â'r gyUell wair yma ; " o herwydd myned i geisio gwair yr oeddynt. Ar ol dyfod â'r baich gwair adref, aeth Siôn Griffith i'r ysgubor i weddio ; a neges fawr y weddi oedd, ymofyn am fodd i beidio tyngu. A dyma, medd fy hysbysydd, oedd y weddi y tro hwn : " O lesu Grist, os medri di wared pobl rhag pechu, gwared fi rhag tynnu ! " Ac yn ol tystiolaeth Siôn ei hun, fe wrandawyd ei weddi, a chafodd wybod fod lesu Grist yn medra gwared pobl rhag pechu.

Ymunodd yu fuan, beUach, â'r gymdeithas eglwysig yn Llanllyfni. Yr oedd argraffiadau dwysion y pryd hwn, îe, a chyn hyn, ar feddwl EUzabeth ei wraig, ond yr oedd ei rhienihiyn wrthwynebol iddi ymuno â'r crefyddwyr rhag y dysgwyUd arian ganddi at gynal yr achos. Gofynwyd iddi pan yn hen, " Pa un ai chwi ai Siôn a aeth gyntaf at grefydd ? "

" Siôn," ebai hithau, " a aeth gyntaf i'r eglwys, ond arnaf fi yr oedd tra- Uod gyntaf am fy nghyflwr."

" Pa beth a'ch cadwai chwi yn ol ? "

" Safai fy rhieni yn fy erbyn, rhag y byddent yn hel arian oddiarnaf. Yna dywedais wrth Siôn, ' Dos di i'r seiat, i edrych a ydynt yn hel ariau ;' ac wedi cael ateb ganddo nad oeddynt, aethum inau, ac yno y buom byth mwy."

Ni chafodd Siôn Griffith a'i wraig hir lonyddwch i grefydda, heb brofi peth o chwerwder erUdigaeth. Bu gorfod arnynt ymadael â Phenbryn-bach, a daethant i'r tyddyn a elwid Bryn-yr-odyn i fyw. Yn y fl. 1773 y bu hyn. Ymosododd Siôn Griffith o ddifrif, beUach, i gael pregethu i'w dŷ. Cy- mhwysodd y i'r dyben yma, trwy dori twU yn y mur, a gosod yno ffenestr, a

218 HANESIAETH T SIROEDD. [DOSB. IV,

gwneuthur math o bulpud yiio. Nid oedd ei dyddyn ond bychan, a'i fodd- iou yntau ond cyfyng, eto fe gynaliodd yr aclios, o ran bwyd a llety, i'r pregethwyr a ddeuai yno, am ysbaid 14 neu 15 mlyuedd.

Ymdrechodd Siôn Griffith lawer i gael pregethu i Fryn-yr-odyn, a llwydd- odd i'w gysylltu â Llanllyfni a Chlynog, jna daith Sabboth. Nid oedd yma, er hyn, ac am faith flynyddau, yr uu gymdeithas eglwysig. Aelodau oecldynt o eglwys Llanllyfui, ac yno yr aent yn gyson i'r cwrdd eglwysig. Mae enwau wyth neu uaw ar gael, y rhai a arferent fyned i Lanllyfui i'r cyfarfod neilldu- ol, cyn bod un eglwys wedi ei fl'urfio yn Mryu-yr-odyn.*

Yn mhen tua 16 ml. wedi i Siôu ddod i Fryn-yr-odyn, sef tua'r fl. 1789, cafwyd lle ar y tir i adeiladu capel, ac ymsefydlodd yr achos yu eglwys wrthi ei hunan. Yr oedd Evan Siôn, a Siôu Griffith, eisoes yu swyddogion eglwysig yu Llanllyfni, ond o hyn allau teimlent eu gwaith yu fwy pwysig nag o'r blaen, a rhwymau arnynt i fod yn fwy dyfal nag erioed. Mawr fu eu pryder a'u diwydrwydd yu ymofyu am bregethu i'r lle, a mynych yr aethant i Lan- geitho, Ue y cyfarfyddid â lluaws o bregethwyr, ac y ceid cyfleusdra i erfyn arnynt ddyfod i ymweled â'r Gogledd. Gwelodd yr Arglwydd yn dda wenu ar ymdrechiadau ei drueiniaid h^Ti, gan ddwyn tystiolaeth rymus i air ei ras, a chwanegu llawer at yr eglwys megys yn ei babandod, fel y daeth ei rhif tua 60 o aelodau.

Gellir gweled tlodi a íFyddlondeb yr ychydig " bobl druaiu dlodion," yn enwedig Siôn Griffith a'i wraig y wraig yn anad neb, yii yr hanesyn a ganlyu:— Ar ryw ddydd Sadwrn, pryd yr oedd angenrheidrwydd darparu rhyw luniaeth i'r gŵr dyeithr a ddysgwylid yno i lafurio y Sabboth, pryderai Elizabeth yn fawr am nad oedd ganddi ddim i'w ddodi ger ei fron. Ond yr oedd ganddi gyfeilles yn y Foryd, at yr hou y byddai yn troi mewn caledi ara gymhorth ; aeth ati y tro hwn i fenthyca swUt, a chafodd hyny. Ond mor fawr oedd ei siomedigaeth ar ei dychweliad adref, wedi cerdded yr hoU fí"ordd ar draed noetlúon hefyd, pan y cafodd allan mai swllt drwg a gaw-sai mewn amryfusedd. Eto ni roddai heibio ei hamcan ; aeth at yr hen gist flawd , yr oedd yno ychydig o flawd ceirch yn ngweddiU yn ngwaelod y gist ; casglodd hwn yn ofalus, a chymerodd ef filldiroedd o ffordd i Gaernarfou, i'w newid am ryw beth mwy at ei dyben. Dyma'r wraig a fu megys yn siglo cryd Methodistiaeth, tra yr oedd eto yn ei fabandod, yn y rhan yma o'r wlad ! Ni fynai Siôn Griffith byth ei nacâu o gyhoeddiad, ac Elizabeth hithau a ymdrechai, hyd at ddyoddef ei hunan, i wneyd y dj-eithr- iaid a ddeuai atynt yn gysurus.

Yr oedd Evau Siôn, Tyddyn-mawr, yn grefyddwr boreuach na Siôn Griffith, ac yu helaethach ei wybodaeth, a mwy ei bwyll. Yr oedd y dull y dygwyd yntau i ystyriaeth am ei gyflwr, gan ei fod yn byw rai miUdiroedd oddiwrth y Ile uesaf yr oedd pregethu ynddo, yu nodedig. Yr oedd yn

*Ea henwau oeddyut, Evau Siôu a'i wraig, Tyddyu-mawr ; Siòn Griffith a'i wraig, Bryn-yr-od}Ti ; Sadrach ac Eliuor Griffiths, Cae-cipris ; Owain a Jaue Parry, Groeslon; W ìlliam acElinor Gritfiths, Gegin-fain.

PEN. VII.] SIR GAERNAHFON. 219

gweitliio yn un o gloddfeydd y Cilgwyn, a elwid Cloddfa'r-Clytiau. Ei gydweithwyr oeddynt un Evan Siôu, Cae-haidd ; a Wiiliam Siôn, Pandy-hen, Llanllyfui, ac eraiU. Yr oedd yr olaf a enwyd eisoes gyda'r INIethodistiaid, ond nid oedd gŵr y Tyddyn-mawr wedi clywed pregeth erioed, oddieithr yn y llan. Rhyw ddydd gwaith, yr oedd pregeth i fod yn Efridd-lpala-deulyn,* yu nhŷ tad y Parch. John Eoberts, Llangwm, am hanner dydd. Mawr oedd pryder William Sion yn nghylch yr oedfa, gan awydd ei chael, ac ofn ei cholli, trwy i'w gydweithwyr fod yn aufoddlawn iddo. Ofnai sou am dani wrth Evan Siôn, Tyddyn-mawr, eto sou am dani a wnaeth. " Taw a dy sŵn," ebe Evan, Cae-haidd, " efo dy bregeth, Wil ; a dos yn mlaen âUh waith." Souiai drachefn am y bregeth, a derbyniai yr un gwrthdarawiad. Ond yr oedd gŵr y Tyddyu-mawr (\'r un a ofnid fwyaf), yn aros yu ddystaw, ac heb ddyweyd dim. Pan ddaeth amser y bregeth, pa fodd bynag, ymaith â Wil Siôn i'r oedfa, heb ddim cauiatàd ychwanegol ; ond mawr oedd ei syndod pau welai y ddau eraill, erbyn iddo gyrhaedd i'r lle, yn prysuro ar ei ol. Ilon oedd y bregeth gyntaf i Evan Siôn, Tyddyn-mawr, ei chlywed erioed gan ymneillduwyr. Bu y bregeth hefyd yn wir fendithiol iddo. Ym- gysegrodd o hyny allan i waith yr Arglwydd, gan ymuno â'r brodyr yn Llaullyfui. Yr oedd hyu tua'r fl. 1768. Pan ddeallodd ei wraig ei fod wedi ymuno â'r Methodistiaid, hi a gynhyrfodd yn dost. Edrychai aruo, bellach, fel un wedi ei gadael hi ; mynai ranu y plaut, ac iddyut ymadael â'u gilydd. Ond cyu dwyn hyn i Iwyr weithrediad, cytunodd i fyned gydag ef i Lau- llyfni i oedfa y boreu, ar yr ammod iddo yutau ddyfod gyda hithau i'r llan y prydnawn. Felly hefyd y bu. Aeth gydag ef i'r bregeth, oud y druanes a ddaliwyd dan y bregeth gyntaf ; ac yn Ile myned i'r Ilan y pryduawu, aeth gyda'i gẃr i'r cwrdd eglwysig. 0 hyny allan, ni fu neb yu fwy gafaelgar o'i braint na Jane Joues. Dywedai William ei mhab, na w-elodd ef ddim tywydd erioed a rwystrai ei fam i LanUyfui i'r seiat.

Yr oedd Evan Siou yn äáya egwyddorol a sefydlog ; tra eiddigus yu erbyn pechod 0 bob math, ac yn mhawb ; dan y cymeriad o ddyu hallt yu erbyn pechod, y mae yr oes hon o grefyddwyr Bryn-yr-odyu yn ei adgofio. Wrth ymliw íì rhyw frawd a wnaethai yn auweddaidd ar ryw achos, troai y trosedd- wr ato, gan ofyn, " Evan, a ydych chwi yn fy ngweled wedi colli fy Ile ? "

" Beth fyddaf fi haws a dy weled di, Wil, oni bai i ti weled dij Jnm ! " oedd yr ateb.

Yn y íl, 1789, fel y dywedwyd, codwyd y capel cyutaf yn yr holl fro hou. I hw^n yr ymgynullai y gwraudawyr o Ehostryfan, Carmel, a Bwlan. Nid oedd yr addoldy cyntaf hwn ond bychíjÿ, er, mae yn debyg, yr ystyrid y pryd hwnw yn gryu ehelaeth, Naw Ilath wrth wyth oedd ei faiut, a Uoíft ar bob pen iddo. Cafodd yr achos, yn Mryn-yr-odyn, amaethiad dyfal yn ei amser boreu, gan Mr. Johu Roberts, LlauUyfui. Deuai yno i'r cyfarfod eglwysig mor aml ag y byddai modd. Gofalai am y bobl ieuainc a aent

Gwel tudal. 169.

220 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

oddiyma i gymanfa y Bala, a Uafuriodd i gael Beiblau i'r ardal, mewn amser yi" oedd yn anhawdd eu cael. Perchid ef yn fawr gan yr aelodau, a thybient nad oedd un pregethwr mw;Y nag ef ar gael. Bu ei frawd Eobert Roberts, a Mr. Eichardson, Caernarfou, hefyd, yn Uafurus a bendithiol iawn yn y Ue hwn. Ni chafodd yr ardal hon y fraint o gael un pregethwr i fyw ynddi, oddieithr y bu un Grifíìth Jones, tua hanner can' mlynedd yn ol, \n aros yn nhŷ y capel am dyrahor byr, hyd nes daeth j\Ir. John Jones yno i aneddu, yr hwn hefyd sydd yn aros yno hyd heddyw. llhai ganedig o'r ardal hon yd- oedd y Peirch. John Parry, Caer ; a Griííith Solomon ; eto nid aelodau yn yr cî^lwys hon oeddynt hwy ar y pryd y dechreuasant lefaru, ac ni buant yn preswyUo yn yr ardal chwaith ar ol dechreu. Gwnaeth Pen yr eglwys y difFyg 0 fugeiUaeth, neu arolygiaeth pregeth\f)T, i fyny, trwy ei chynysgaethu â henuriaid effro, ffyddlawn, a Uafui-us.

Dywedir mai yma y sefydlwyd yr ysgol Sabbothol gyntaf yn y wlad hon. Nid oedd neb yn y fro hon, yn ddiau, yn gwybod ar y pryd fod y fath sef- ydUad yn un man araU. Yr oedd hyn tua'r fl. 1790. Yr oedd yr ysgol nos eisoes yn cael ei chynal, yn y gauaf, un noswaith yn yr wythnos. Hon a gedwid yn benaf gan Siôn Griffith, Evan Siôn, ac Owen Pany (tad Älr. Parry, Caer). Yr oedd mab i bob un o'r ddau olaf, sef Jolm Parry, a WiUiam Evans, newydd ymuno â'r eglwj^s, ac yn cynorthwyo yn y gwaith. Gresynai y ddau ddyn ieuanc fod yn rhaid rhoddi yr ysgol i fyny yn y gwanwyn, a bod yr ieuenctyd, trwy hyny, yn araddifad o addysg dros y tymhor haf ; a dechreuasant ymofyn, ai drwg fyddai cadw ysgol ar y Sab- both? Barnent hwy eu hunain, mai gwaith da oedd dysgu rhai i ddarUen y Beibl, ac y gaUent hwythau, eu hathrawon, gael dwy bregeth hefyd ar y Sabboth. Ymofynent â'r hen bobl, ai cyfreithlawn oedd hyny ai peidio ; ond ni chawsant ateb sicr ganddynt hwythau; eithr caniatawyd iddynt roddi c^TiVg ar y gorchwj'l, a than gysgod rhyw oddefiad, hwy a ymosodasant ar yr anturiaeth. Nid oedd yr henaf o'r ddau ond 17 ml. oed. Yn fuan wedi iddyut ddechreu ar y gorchwyl, daeth John Eoberts i Frj^n-yr-odyn i breg- ethu, yr hwn a'u calonogodd hwy yn y gwaith, gan eu hannog i ddal ato. Fe fu y ddau fachgenyn gyda'r gorchwyl da hwn am ysbaid blwyddyn, heb neb vn eu cynorthwyo. Yn fuan ar ol h^m, gadawodd John Parry yr ardal, a o-adawyd WiUiam Evans ei hunan, er nad oedd eto ond 19eg mlwydd oed. Parhaodd, er hyny, i lafurio ya ffyddlawn yn y gwaith, heb gynorthwywr, am flynyddoedd, ac enuiUodd y fath awdurdod ar ddeiUaid yr ysgol, fel na omeddent iddo ymron ddim a'r a geisiai ganddynt. A thrwy y dylanwad a feddai ar y bobl ieuainc, efe a (itlarostyngodd y cyfarfodydd Uygredig a o-yneUd ar ddyddiau gŵyl, ac ar y Sabbothau, yn Llanwyndaf a manau eraiU.

Ee gadwyd yr ysgol nos hefyd yn ei blaen am dymhor maith iawu, nid llai na 27 neu 28 o flynyddoedd; a hynod y nifer a ddysgodd rhwng y ddwy. Wedi talm o amser, daeth bechgyn eraiU, y rhai a fagesid yn ysgol Bryn-yr-odyn ei hunan, yn aUuog ac ewyUysgar i gynorthwyo, yn mysg y

PEN. VII.] SIR GAERNARFON, 221

rhai yr oedd Griffith Davies, (o'r Beudy-isaf y pryd hwnw, ond yn awr Griffith Davies, Ysw., o Lundain,)— gŵr y gall ei genedl ymffrostio o hono, nid yn unig ar gyfrif ei gyrhaeddiadau mewn dysgeidiaeth, a gwybodaeth gyffredinol, ond hefyd oblegid ei gymeriad ani'hydeddus a difrycheulyd. Teimlai y boneddwr hwn ei rwymedigaeth i William Evans am yr addysg a gawsai ganddo, a dangosai hyny trwy anfon iddo, rai troion, barau o ddillad, "yn gydnabyddiaetli (meddai) am ddysgu i mi yr A B."

Y llwybr a ddefnyddiai William Evans i dynu i lawr y cyfarfodydd llygr- edig a anurddent y cymydogaethau, oedd rhybuddio pawb^ rai wythnosau cyn amser eu cynaliad, nad elent iddynt, a bygwth y troid y neb a elai idd- ynt allan o'r ysgol, Cafwyd allan un tro, fod tua deuddeg o ddeiliaid yr ysgol wedi myned, ddydd Llun y pasg, i'r ŵyl waharddedig. Pau ddaeth y Sabboth, ac amser yr ysgol, safodd yr athraw ar ganol Ilawr y capel, a hys- bysodd fod achwyniad o'r fath yn bod yn erbyn rhyw rai, Galwyd hwynt yn mlaen. Ufyddhasant hwythau, gan gyfaddef mai gwir oedd y cyhudd- iad. Yntau, wedi eu cynghori a'u rhybuddio yn garedig eilwaith, a roes y ddedfryd o ddiarddeliad mewn grym, Ac er fod y troseddwyr ymron oU yn ddynion ieuainc wedi tyfu i fyny, ni syflodd yr un ei dafod yn erbyn yr athraw; ond gan gymeryd eu hetiau, hwy a aethant allan yn dawel a dinẃyd, Y Sabboth canlynol, wele 11 o'r 13 yn dychwelyd yn ol, i gynyg eu hunain drachefn i'r ysgol; ac ar eu hedifeirwch, fe'u derbyniwyd, Safodd y deu- ddegfed dros rai wythnosau yn ol; ond yntau hefyd a ddychwelodd. Dar- ostyngodd hyn y cyfarfodydd ofer ymron yn Ilwyr, ac ymwreiddiodd yr ysgol Sabbothol gymaint yn fwy yn serchiadau ei deiliaid, "nes (medd fy hysbys- ydd) y bu yn rhy anhawdd i'r un drwg ei hun ddenu neb allan o honi am flynyddau." Mae yr ysgol Sabbothol yn y Ile hwn yn awr yn agos i 300 0 rifedi, a'r gynuUeidfa tua 400, Y mae yma, bellach, gapel arall llawer mwy na'r cyntaf, ac eglwys yn agos i 140 o rifedi, er yr holl heidiau a god- asant o honi o bryd i bryd, i Bwlan, Ehostryfan, a Charmel.

Yr oedd Siôn Griffith yn ŵr syml, rhydd, a di-dderbyn wyneb. Bernid fod ei wraig EIizabeth yn fwy ei phwyll, yn helaethach ei gwybodaeth, a grymusach ei gras, nag ef; a dywedir iddi fod dros rai blynyddoedd mewn profedigaeth a phetrusder yn nghylch Siôn a oedd ef yn grefyddwr didwyll ai peidio, Cafodd gyfle unwaith i weled ei egwyddor, a bu y prawf a wnaed arno y tro hwnw yn foddion i chwalu ei phetrusder dros byth.

Ar ryw adeg, daeth pregethwr i Bryn-yr-odyn, ac angenrhaid oedd cael gwair i'w geffyl. Dygwyddodd fod yn y ddâs wair ddwy fainc, fel y dywedir, ar doriad, Yr oedd y fainc nesaf i ben uchaf y ddâs yn cynwys gwair Ilwyd a drwg, wedi- ei anmharu gan y tywydd; ond yn y llall, yn nes i ganol y ddâs, yr oedd gwair da a pheraidd. "Wel," meddai EIizabeth, "os oes twyll yn Siôu, fe gymer o'r gwair drwg i geffyl y pregethwr," Ac yn ddys- taw bach dylynodd ef; ac er ei dii'fawr foddhad, canfu Siôn yn cyfeirio yn uniongyrchol at y gwair goreu oedd ganddo, Iieb wybod íod neb yn Ilygadu arno. Symudodd hyn ei phetrusdero hyny allan. Mae'u wir mai amgylch-

223 HANESIAETH Y SIllOEDD, [UOSB. IV.

iad bychan ydoedd i brofi cywirdeb dyn wrtbo ; ond mewn pethau bychain yn fynych y dangosir cymeriad dyn, a naws ei galon, amlycaf; felly hefyd yr oedd yn y tro hwn.

Nid oedd Elizabeth, Bryn-yr-odyn, ond gwraig wladaidd a diddysg iawn, eto hi wuiieth fwy tuag at hyrwyddo teyrnas Crist yn ei gwdad nag a wnaeth un gŵr boneddig, fe aliai, yn sir Gaernarfon erioed. Cedwid cyfar- fod holwyddori plant yn egwyddorion yr efengyi yn ei thŷ bob wythnos. Mynych y disgynai y gorchwyl pwysig hwn arni hi ei hunan ; a hi, bob amser, a ddechreuai y canu. ]\Iae genym dystiolaeth un a fagwyd yn y lle am dani, "fod pereidd-dra anarferol yn ei llais, a phau j torai allan i waeddi, O diolch! fel y gwnai weithiau, fe gerddai iâs trwy bob teimhid yn y gynulleidfa."

Hen ẃr gwladaidd a dirodres iawn oedd yntau. Nid oedd y duedd o wenieithio a rhodresa yn ei gyfansoddiad ef. Yn yr oes bresenol, fe allai y buasai mwy o dynerwch, a choethder teimlad, yn hollol angenrheidiol; ond yr oedd Siôn Griffith yn cyfateb yn gymhwys i'r tymhor yr oedd yn byw ynddo. "Siôn Griffith," medd fy liysbysydd,* " oedá y dyn am blaefìdì-a ; yr oedd ei yraadrodd yn fynych yn drwsgl, ond yr oedd ei amcan yn wastad yn gywir, fel y gw^elir wrth yr hanesyn caulynol; Dygwyddodd uuwaith fod dau o'r aelodau wedi cwympo maes a'u gilydd, a phaffio, sef Evan William Siôn, a Morgan y gweliydd. Toresid y cyntaf allan o'r cyfundeb dair gwaith ar ddeg(!) o'r blaen, ara gyffelyb drosedd; ond ar ei ddychweliad, yr oedd ganddo y fath ddull toddedig a rhith-edifeiriol, nes y rhoddid ei le iddo drachefn a thrachefn. Bellach, yr oedd Siôn Griffith wedi deall ei ystryw, ac yu penderfynu, os dychwelai y tro hwn, na ellid goddef yr ystranciau hyn vn hwy. Yn ol y daeth leuan, gan adrodd ei drallod mewn dull edifeiriol iawn fel arferol. Methodd Siôn Griffith ddyoddef; cyfododd ar ei draed, a dywedodd, 'A welwch chwi y drefrc sydd ar y dyn! ]\Iae'n ffiaidd geu' i dy glywed di, Evau! mi deimlwu ar fy nghalon hoeri am dy ben di, Evan!' Ac allan y bu raid iddo fyned. Nid oedd gan yr hen flaenor ddim meddwl gwych am Evan o'r blaen. Weithiau, wrth ofyn syniadau yr aelodau ar ryw achos, dechreuai aruynt o'u cwr, gan eu heuwi ; oud wrth fyned yu mlaen, dywedai, 'Mi basia' i Evan William Sion; im go anianol ydi o!' Yr oedd yn rliaid bod yn blaen y pryd hwnw; a Siòn Griffith oedd yr iinig uu."

Ni ymwelwyd â Bryn-yr-odyn gymaint â Ilawer lle, trwy dywalltiadau o-rymus, ac adfywiadau cyffrous; a pharai hyn radd o sylw ac ymofyniad, paham y gwahaniaethai Bryu-yr-odyn yn hyn oddiwrth íanau eraiU nid yn mhell oddiwrtho? Gofynai Mr. Charles i Siôn Griffith gyda golwg ar hyn,

"Pa fodd yr ydych chwi yn gallu dal ati fel hyn trwy'r blynyddoedd, Siôn Griffith?"

"Wel, Mr. Charles," meddai yr hen greadur, "cael ambell gÿlch y

* Mr. John Joues, Bryn-yr-odyn.

PEN. YTI.] SIR GAERNARFON. 223

byddaf; onide ni ddaliwn ddim yn hir. ' Mae gan Dduw gylcli a ddeil o'u hamgylch hwy.' "

Dywedai John Jones, Edeyrn, fod pobl Bryn-yr-odyn yn cael braint fawr iawn, cael dyfod at grefydd mewn gwaed oer. Ond er na fu yma gyífro- adau mor rymus ag a fu yn Llanllyfni a Chlynog, a manau eraiU, eto anrhyd- eddwyd yr eglwys hon ag ymweliadau neiUduol ar ryw dymhorau. Gwnaed hyn tua'r fl. 1793, pryd y chwanegwyd llawer at yr eglwys mewn ychydig araser, y rhai ydynt oll, oddieithr dwy wraig, wedi ymadael â'r fuchedd hon. Dygwyddodd yr adfywiad hwn, fel y gwelwn wrth yr amser, yn mhen ychydig ar ol cychwyniad yr ysgol Sabbothol. Yr oedd y gwirionedd, er hyn oU, yn ymwreiddio yn raddol yn nghalonau y gwrandawyr, ac yn budd- ugoliaethu mewn modd dystaw ar eu cydwybodau. Yn y fl. 1850, pa fodd bynag, fe chwanegwyd tua 45 o aelodau at yr eglwys mewn blwyddyn o amser, yr hwn oedd yn chwanegiad mwy, tybygid, nag a wnaed erioed o'r blaen mewn amser mor fyr. Fe fu yr eglwys hon yn fammaeth dda i Feth- odistiaeth, îe mwy, hi fu yn Uawforwyn wasanaethgar i grefydd Mab Duw er ys 70 o flynyddoedd a mwy; canys o honi hi y seiniodd gair yr Arglwydd i'r broydd cylchynol, sef i Bwlan, Ehostryfan, a Charmel. (Jyn gosod i lawr y flaen y darllenydd grynodeb byr o'r tri lle hyn, priodol fyddai dweyd yn ychwanegol am WiUiam Evan ; wrth yr hwn yr oedd gan Siôn Grifíìth ymlyniad cryf. Un tro, pan oedd y cyflog yn fychan yn y cloddfeydd llechau, lle yr oedd William yn gweithio, ymosododd temtasiwn arno i fyned i sir Eeirionydd i breswylio. Deallodd Sion Griffìth hyn, a galwodd y gymdeithas eglwysig ynghyd, gan erchi ar yr hoU aelodau fod yn bresenol, i edrych "ai ni fedrent rwystro William Evan i fyned i fi^ordd." Fe fu y cynulliad yn foddion i'w gadw yn Mryn-yr-odyn.

Yr oedd Siôn Griffith yn cael ei boeui yn fawr, o bryd i bryd, gan dafarn oedd yn y gymydogaeth, wrth sylwi ei bod yn foddion i lochi Uawer o annhrefn ac anfoes, ac*i lygru ieuenctyd yr ardal. Dywedai William Evau fod fí"ydd wyrthiol gan Siôn Grifläth, o herwydd iddo fellditldo tafarn yr hen efail, yr hon yn y canlyniad a syrthiodd dan wywdra a diflaniad. Dewiswyd William Evan yn flaenor yn Mryn-yr-odyn, tua'r un amser ag yr adeiladwyd y capel, pan oedd ef tua 26 ml. oed, ac efe a wasanaethodd swydd diaconyn dda, yn yr eglwys hon, am 28 o flynyddoedd. Wedi hyny symudodd i Ehos- tryfan, ac yn ddiweddaf i blwyf Llanddeiniolen, lle y bu farw yn 64 mlwydd oed. Nid yn fynych y ceid, yn mysg dynion cyff"redin, ac iscl eu sefyllfa, neb wedi enniU cymaint o ddylanwad a gwir barch a WiUiam Evan. Diangai'r ieuenctyd cynulledig at eu gilydd i ofera, fel pe buasai marwolaeth ar eu gwarthaf, os gwelent WiUiam Evan yn dynesu atynt. "Israeliad yn wir ydoedd, yn yr hwn nid oedd twyll."

Bu farw Siôn Griffìth, wedi cyrhaedd henaint teg o dan effeithiau dolur y garreg. Barnwyd yn addas geisio esmwythâu ar ei boenau, ac estyn ei oes, trwy dynu y garreg trwy weithred feddygol ; a daeth tri o feddygon ato i'r dyben hyny. "Nichewch gyffwrdd a mi," ebe yr hen ẃr, "hebimiyn

224 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

gyníaf gael dyweyd wrth fy Nhad :" ac fel pe yr ofnai mai nid ar waredig- aeth, ond ar farwolaeth, yr esgorai y weithred ddirdynol, chwanegai, " mi âf unwaith eto at fy Nhad, tra mewn undeb â chnawd." Felly ciliodd o'p neilldu, a thywalltodd ei galon mewn gweddi ; yna dychwelodd, a dywedodd wrth y meddygon, " Deuwch, bellach, mi a gefais fy neges." Bu farw yn fuan ar ol hyn.

BWLAN.

Ymddengys y byddai pregethu, yn awr ac eilwaith, mewn amrywiol fanau tua godrau plwyf Llandwrog, yn mro y Bwlan, er amser lled foreu ar Peth- odistiaeth. Byddai ambell bregeth mewn amaethdy o'r enw Bodryn, ac weithiau yn y Morfa. Mae fy hysbysydd yn dyweyd iddo glywed un yn ardystio ei fod unwaith mewn oedfa yn y Morfa, ac i'r clochydd ddyfod yno, â gwialen fawr yn ei law, i aflonyddu arni. Ymwthiai i ganol y gyniüleidfa gyda rhuthr, gan hergytio hwn ac arall o'i iîordd, a chyfeirio ei redfa tua'r pregethwr. Ond cyn iddo gyrhaedd ei wrthddrych, ymaflodd rhyw un cryf, ag oedd yn y dorf, ynddo, gan ddweyd " os eisiau ei ysgwyd oedd arno, y gwnai efe hyny iddo yn ewyllysgar." Parodd hwn ei arswyd ar y gwalch, a chiliodd yn ol o'r gynulleidfa ar fí'rwst ; ond cyfeiriodd ei gamrau tua buarth y Morfa, gan benderfynu gwneyd hyny a allai o ymddial ar"y pen-giyniaid. Dan ddyLìn- wad y dymher fileinig, aeth at y buarth crybwylledig, a throes geífylau y gwrandawyr a ddaethent o bell, allan o'r buarth, gan eu gollwng i fyned lle y mynent.

Yr oedd y gŵr a'r wraig a breswylient yn Bodryn yn aelodau yn Mryn-yr- odyn, er yn foreu ; a phryd na ellid cael pregethau, neu na thybid yn ddoeth eu ceisio, i'r tŷ, cynelid cyfarfodydd gweddio mynych ynddo, gan fod amryw

0 aelodau Bryn-yr-odyn yn byw yn y fro. Yr oedd gŵr yn byw yn Bwlan, yn berchenog ar ei dir ei hun ; hwn, wedi dyfod yn aelod o'r gymdeithas eglwysig, a roes le i adeiladu capel. Yr oedd hyn tua'r fl. 1815. Yr oedd ysgolion Sabbothol yn cael eu cynal mewn rhyw dai yn y gj'^mydogaeth, flynyddau cyn hyn. Ymddeugys hefyd mai anfoddhaol oedd y gwaith hwn i berson y plwyf, yr hwn a ddeuai heibio yr ysgol ar y Sabboth i orchymyn y plant i'r llan ; ac er mai Ued anniddig oedd y plant i ufyddhau i'w urddas, eto, rhag ei ofn, hwy ymostyngent, ond nid bob amser ; nac un amser i gyd ; eithr diangai rhai oddiarno, gan ddringo dros y cloddiau, ac ymguddio o'r tu

01 i'r perthi. Mae hanes am un a ddiangodd dros y clawdd, ac i'r person fyned ar ei ol, a rhoddi cic iddo ! Ond hyn oll a ddarfu ar gyfodiad y capel. Nid llawer o gynydd a fu ar yr achos yn Bwlan, er ei gychwyniad hyd y fl. 1840 : ond yn y tymhor hwn cafodd adfywiad a chwanegiad mawi-, a bu raid helaethu y capel i'w faintioli presenol.

UHOSTRYFAN.

Mae yr ardal hon ar yr ochr arall i Pryn-yr-odyn, ac yu ardal y mae ei phreswylwyr yn dra aml. Cofydywgan y darllenydd i ni adrodd yr

PEN. VII.] SIR GAERNARFON. 225

hanes * a ddyry Eobert Jones am y cwrdd misol a aflonyddwyd arno, ac fel y bu gorfod cilio o'r Dolydd-byrion, a chynal y cyfarfod yn Rliostryfan ; a thracliefn, pan y pregethid ar brydnawn Sabboth yn Ehostryfan, y modd y troisai rhyw ŵr darw rhuthrog yn union at y gynidleidfa.f Ymddengys fod tua chanol y Ehos, ryw gareg nodedig, ar yr hon y byddai y pregethwr yn arfer sefyll i gyfarch y gwrandawyr. Medd fy hysbysydd, " Byddai ambell bregetb yn cael ei rhoddi ar y Rhos er yn foreu ; argaregtua chanol y Ehos y byddid yn pregetliu amlaf, Pan oeddwn i yn fachgen lled ieuanc, anfon- odd fy nhad fi i gyfarfod Mr. Eobert Jones, Ehoslan, ryw Sabboth, i'w arwain i'r capel y tro cyntaf y bu ef ynddo, ac hyd yr wyf fi yn deall, y tro olaj' hefyd. Dywedodd yr hen ŵr wrthyf, wrth basio y lle y mae y gareg ynddo, ' Yn y fan yma yn rhyw le, y mae y garcg y byddem yn sefyîl arni i bregethu, er ys llawer dydd ; yr oeddwn i yma ryw dro,' meddai, 'pryd yr oedd rhyw ddyn a arferai wneyd gograu, o'r enw Erasmus, wedi mynediben y gareg i rwystro i mi i fyned yno ; ond fe ddaeth rhyw un arall, o'r enw WiUiam Pugh, Pen-isa'r-rhos, ac a ddygodd ei liet yntau oddiar ei ben, ac a'i taflodd ymaith dros ben y gynulleidfa ; bu raid i'r gogrwr fyned i ymofyn ei liet, a minau yn y canlyniad a gefais fyned i ben y gareg.' Y nos Sadwrn o flaen y Sabboth hwn, fe ddygwyd baich o wair i'r stabl, gogyfer â chefi'yl Eobert Jones dranoeth, gan un Griflìth Llwyd. Wedi i'r hen vvr ddod at fy nhad, hysbysodd fy nhad iddo, mai mab oedd y Griflìth Llwyd hwn, a ddygasai wair i'w geflyl, i'r gŵr y sonia efe am dano fel un a droisai y tarw rhuthrog i'r gynulleidfa gyut." Gwelid nad oedd y mab ddim yn rhodio yn flbrdd ei dad, a diau mai hyfryd oedd gan Eobert Jones glywed nad oedd yr hen ddygasedd gynt at yr efengyl yn aros mwyach yn y teulu.

Yr oedd ysgol Sabbo^hol wedi ei chychwyn yn nghyflâniau y Ehos, er ys cryn amser, cyn cael pregethu cyson yno. Cymerwyd hefyd dŷ, a elwid y Tŷ-ucha', i bregethu ac i gadw ysgol Sabbothol ynddo, ac yn hwn y cyuelid y moddion hyd y fl. 1820, pryd yr adeiladwyd capel bychan, wyth llath wrth saith. Parhaodd yr achos i Iwyddo nes y bu raid cael capel llawer mwy na'r un cyutaf. Adeiladwyd hwn tua 15 ml. yn ol, sef tua'r fl. 1837.

CARMEL.

Caughen ydyw hon o hen gynulleidfa Bryn-yr-odyn. Mae yn sefyll ar fynydd y Cilgwyn. Mewn ysgol Sabbothol y dechreuodd y lle hwn flaguro, yr hon a gychwyuwyd er ys 40 ml. yn ol, ac a gynaliwyd yn nhŷ Eobert Jones, Bryn-llety. Methwyd, ar y cyntaf, a chael ysgoldy yn y Ue hwn, oblegid y draul i godi capel Ehostryfan. Yn y cyfamser, daeth yr Annibyn- wyr i'r ardal, ac a godasant gapel a elwir Pisgah. Ar hyn gollyngwyd yr ysgol yn Bryn-IIety i lawr, a gwasgarwyd ei deiliaid, rhai i Pisgali, a rhai yn ol i Pryn-yr-odyn ; ac yn mysg y rhai olaf yr oedd Eobert Jones ei hun, yr hwn afuasai arferol o arolygu a holwyddori yr ysgol. Yr oedd achos y brodyr

* Gwel tiidal. 216. f Gwel "Drych yr Amseroedd," tudal. 118 a 119.

a

226 HANESIAETH Y SIROEDD. LDOSB. IV.

yr AnnibynwYr, ar y pryd, yn wan, heb neb yn eu mysg yn alluog i gymeryd o-ofal yr ysgoi yu Pisgali ; am hyuy, buant daer ar Robert Jones i'w cynorth- . wyo. Yntau, wedi cael caniatâd ei frodyr yn Mryn-yr-odyn, a gydsyniodd â'u cais, ar yr ammod i'r ysgol yn Pisgah beidio a bod ar yr uu amser a'r oedfa yn Mryn-yr-odyn ; ac lelly y parhaodd ef i lafurio tra fu by w. Cadwai yr ysgol Sabbothol yn Pisgah, a deuai i'r bregeth a'r cm-dá eglwysig i'w hen gartref. Mae y capel yma hefyd wedi ei gael gan y Methodistiaid er ys 26 o flynydd- oedd. Yn y capel hwn y mae 50 o aelodau heblaw plant, a thua 170 o ddeiliaid yn yr ysgol Sabbothol.

Wele yr oedfa achlysurol yn Mryn-yr-odyn 80 ml. yn ol, wedi esgor, bell- ach, ar bedair o gyuulleidfaoedd Uuosog ! " Wele faint o ddefnydd y mae Ychydig dân yn ei enyn ! " Dygwyd hyn o amgylch trwy foddion ac offerynau, cymhwys o herwydd eu hanwiwder, i beri fod godidogrwydd y gallu o Dduw, ac nid o ddynion.

CAERNAEFON.

Cawsom achlysur yn fynych i sylwi, nad oedd yr hen Fethodistiaid yn aifer ymosod ar y trefydd, dros ysbaid o amser ar ol ymosod ar y cymydog- aethau o amgylch iddynt. Ac un achos neillduol, mae Ue i gasglu, paham y gwnaent hyn, oedd fod trigolion y trefydd yn fwy ffyrnig a diarbed yn eu herlid, a bod mwy o anhawsder i gael gan neb roddi ei i gynal pregethu jTiddo nag oedd yn y wlad. Yr oedd hyn yn ymddangos mewn lluaws o fanau mewn De a Gogledd. Yr oedd pregethu yn Ehyd-y-felin yn mhell cyn bod dim yn Aberystwyth : yn y Gopa-fach, cyn ymsefydlu yn Aber- tawe : yn Tan-y-fron cyn bod dim yn Ninbych : yn Adwy'r-clawdd cyn anturio i Wrecsam : yn y Berthen-grou cyn myjied i Dreffynnon : yn IMhant-y-cra cyn cael eaniatâd i ddyfod i Ddolgellau : yn Nghrafnant cyn dyfod i Lanrwst : felly hefyd yr oedd gradd o feddiannu wedi bod ar Lanrug, Llanberis, a'r Waunfawr, cyn cael lle i sefyll arno yn nhref Caernarfon.

Yn y Waunfawr, lle o fewn pedair milldir i'r dref, yr oedd pregethu wedi bod gan y Methodistiaid er ys blynyddau lawer ; yr oedd yno penodol i gynal moddion gras ynddo, ac j-no yr âi yr ychydig broffeswyr fyddent yn Nghaemarfon i addoli. A mawr oedd eu perygl wrth fyned a dychwelyd o'r moddion hyn, gan yr erlid a fyddai arnjTit, a'r gwylio a fyddai ar eu hysgog- iadau. Yr oedd yr erlidwyr, am hir amser, yn arfer myned i ffordd Llan- beblig i'w dysgwyl ar eu dychweliad adref o'r Waunfawr. Ond yr ychydig drueiniaid, i ochel eu cynddaredd, a arferent, weithiau, droi ar hyd y llwybr, trwy fj-nwent Llanbeblig, a dyfod i'r dref ar hyd ffordd Llanberis ; bryd arall, hwy droent ar hyd y llwybr i Porfa-y-saint ; ac yn y modd yma, llwyddent i gyrhaedd eu cartrefleoedd yn ddiogel. Wedi eu siomi yn y modd hwn yn fynych, blinasant yn y diwedd a chynllwyn, a rhoddasant y dull hwn o flino y crefyddwyr heibio.

Ond er maint oedd cynddaredd y trefedigion yu erbyn y penau-cryniaid,

PEN. VII.] SIR GAEBNARFON. 227

ac er Ueied o annogaeth a roddid i neb i bregetliu yn y dref, eto daeth yr amser i hAvn ac arall wneuthur cais i íylchu muriau y castell. Y pregethwr cyntaf o'r Methodistiaid y mae genym hanes am dauo a wnaeth gais ar bregethu yma, oedd y Parch. William WiUiams, Pant-y-celyn, yr hwn a fuasai yu Môn yn pregethu. Dywedir fod ei wraig gydag ef y tro hwn, fel y bydd- ai yn fynych, ac wrth groesi y culfor o borth Tal-y-foel, dyrysodd Mrs. Williams yn rhyw fodd neu gilydd yn ngodreu yr hwyl, a thaflwyd hi dros ymyl y cwch i'r môr. Yr oedd amheuaeth cryf, y pryd hwnw, mai y porth- weision, neu ryw rai eraiU jai y cwch, adnabyddus o honynt mai crefyddwyr oeddynt, a wnaetlient hyn o fwriad ! Pa fodd bynag, gwaredwyd hi rhag boddi, a thiriasant yu ddiogel yu Nghaernarfon. Ond deíillodd Mr. WiUiams, yn fuan, na allai auturio pregethu yn y dref, gan gymaint oedd penderfyniad y werin i'w rwystro, ueu yute i'w ladd ; a barnodd mai ei ddyledswydd y pryd hwn oedd Uechu yn ddystaw di'os y noson hòuo yn y dref, a myned mor ddirgel ag a allai i'w daitli dranoeth. Nid oes hanes fod y Methodistiaid wedi pregethu unwaith yn Nghaernarfon cyn y fl. 1780. Yr oedd hyn tua ml. ar ol i Fethodistiaetlid declu'eu ymwreiddio yn rhyw lanerchi yn Lleyn, a rhyw barth- au eraiU yn Ngwynedd. Y gŵr y dywedir iddo anturio gyntaf i bregethu yn y dref, oedd yr hybarch Eichard Tibbot o Laubrynmair. Y'r oedd hyn tua'r flwyddyn 1770, a phan oedd Tibbot yn weinidog gyda yr Annibynwyr. Yr oedd y gŵr da hwn wedi arfer tramẅy Uawer ar Ogledd a Deau, er ys agos i 30 mlynedd cyn hyn, ac wedi ymgyneíino llawer â gwarth ac erlid ; gŵr DÌd anghymhwys i wneyd cais at fylchu muriau rhagfarnUyd Caernarfon. Yr oedd yn ŵr cryf o gorfl" a meddwl, Uawn o bwyU a phenderfyniad, ac mor gymhwys a neb yn ei ddydd i yraosod ar dref o'r fath. Ond nid Uawer o groesaw a gafodd y tro hwn, canys carcharwyd ef a'i anifail * yn y casteU dros un noson o'r herwydd ; ond goUyngwyd ef i'w íFordd dranoeth heb dderbyn dim niwaid. Yn fuan wedi hyn, cynygiodd mab iddo, sef y Parch. Abraham Tibbot, bregethu yn Nghaemarfon , yntau hefyd a anmharchwyd yn ddirfawr. Dywedir fod yr erUdwyr wedi bwriadu ei ladd ef, ond iddo gael ei waredu mewn modd neiUduol.

Mae genym hanes ychydig helaethach am y bregeth gyntaf gan Eichard Tibbot, a da, yn ddiau, fydd gan y darUenydd ei gael mor gyflawn ag y mae modd, yn enwedig gan mai hon oedd yr oedfa gyutaf. Safodd, meddant, y tro hwn, ar risiau un Hugh Owen, Uedrwr (currier), gyferbyn â thŷ tafarn y "Delyn," yn ngwaelod heol Pen-'raUt ddeheuol. Ond nid oedd Uouyddwch iddo i bregethu, ac yn fuan ar ol iddo ddeehreu, daeth rhyw ddyhiryn, a elwid " Twm-y-goes-fawr," ac a safodd ar risiau cerig eraiU uwch, ac yn ogyferbyn â'r rhai y safai y pregethwr arnynt, ac a luchiodd bren-ddysglau {trencJiers) ato, gan eu hanelu at eu ben. G-wnaeth hyn hefyd mor effeithiol nes ei archoUi, a pheri i'w waed Ufo.

Daeth rhyw ddyhiryn araU, mwy anfad na'r cjmtaf, yn ystod ya- un oedfa,

Gwel "Hanes Ymneillduaeth," gan y Parch. D. Morgan, tudal. 276.

228 HANESIAETH Y SIBOEÜD. [dOSB. IV,

gan ddefnyddio offeiyn mT\'y arswydus, a chan lavv'n fwriadu, os nid ei ladd, ei archolli yn drwm. Annelodd hwn ei ddruU at y pregethwr, a thynodd y glicied (trigger) rai gweithiau, ond ni chymerai dân ; yna Uefodd y pregethwr arno, "Tro dy listol y tfordd arall, druan, ac efe â allan i ti." Gwnaeth yr adyn hyny, ac aeth yr ergyd allan yn y fan ! Yn yr un oedfa, gwaeddai rhyw un allan mewn cynddaredd, cyfartal a'i anwybodaeth, ac fe aUai mai y dyn â'r drull ydoedd, " I ba beth y mae y diawliaid hyn yn dyfod yma i ddicyn yr efengyl oddiar Grist, nis gwn i." Nid yw yr haues yn dywedyd wrthym pa fodd y dybenodd yr oedfa hon, na pha effeithiau a'i canlynodd.

Souir hefyd am oedfa arall, yr hon a gynaliwyd yn Mhen-'rallt ogleddol, oud nid oes sicrwydd am yr amser y bu hyny, ac nid yw enw y pregethwr chwaith ar gael. Y tro hwu daeth rhyw anfadyn i'r oedfa, i'r dyben i aflonyddu arni. Gwnai hyn trwy guro tabwrdd {driim), i foddi llais y pregethwr â'r swn, ac i lesteirio i'r bobl glywed yr hyn a ddywedid wrthynt. Digiodd hyn ryw ddyn cryf ac anystyriol yn y gynuUeidfa, a rhuthrodd ar yr aflonyddwr, a thorodd y tabwrdd yn ddrylliau ; ac felly y cafodd y llefarwr dawelwch i bregethu.

Y bregeth nesaf ar ol y rhai uchod a draddodwyd ja. y dref, oedd gan y Parch. David Jones, Llangan. Yr oedd hyn, fel y bernir, tua'r fl. 1786. Nid oedd y Methodistiaid, hyd yn hyn, wedi cael nemawr o seibiant i gynal moddion cyhoeddus yn y dref, er fod yma ychydig o enwau yn preswylio, ac mewn undeb eglwysig â'r brodyr yn y Waunfawr. Nid oedd un sicrwydd pan ddaeth efengylwr Llangan i'r dref, y rhoddid Uonyddwch iddo i bregethu ; ar yr im pryd, yr oedd yn penderfynu rhoi cais ar hyny ; a chyda'r bwriad hwn açth ef, ac ychydig nifer o gyfeiUion gydag ef, i'r heol, gan gyrchutua phorth y castell. Dygwyddodd fod trol neu fèn yn y lle ; i hon esgynodd y preg- ethwr. Ymgasglodd Uuaws o bobl i'r lle yn ebrwydd ; rhai tan wŷn o gynddaredd yn penderfynu na cha'i y penau-cryniaid ddim achles yno ; eraill dan ysfa o gywreinrwydd, ac yn chwennych cael gweled a chlywed y cwbl ; a rhai, ond odid, dan ddylanwad egwyddorion gwell. Y'n mhen enyd, diosgai Mr. Jones y gôb uchaf oddiamdano, ac ymddangosodd mwy o ed- mygedd a boneddigeiddrwydd ynddo nag a ddysgwyliodd y Iluaws gael mewn neb o'r penau-cryniaid. Bellach, hefyd, daeth y ^ozí;« i'r golwg, a'r napcyn gwỳn, yn nghyda'r labedi ysgwar yn disgyn ar y fynwes ; golygfa na welid, oud aufyuych, oddieithr yu y llan, a chan weinidog y plwyf. Effeithiai y fath olwg ar y werin yn llawer mwy ar eu dychymyg, nag a wnai gwiriouedd pwysig ar eu calonau. Y'r oedd cynghorwyr cyffredin y Method- istiaid yn berflaith amddifaid o bob rhwysg a rhi ; yr oedd eu hymddangosiad yn wladaidd a diaddurn ; ac un o'r fath a ddysgwylid y tro hwn hefyd ; ond mawr oedd syndod y bobl pan ganfuant ẃr boneddig o wedd biydferth, ac o wisg urddasol, Yr oedd yno un o leiaf a ddaethai i'r lle a'i logellau a'i ddwylaw yn llawn o gerig, gan Iwyr fwriadu archoUi a baeddu, os nad Iladd y truan a godai i fyuy i gyfarch y bobl. Ond pau ganfu y gweinidog mewn

PEN. VII.] SIR GAEHNAllFON. 239

gwedd mor foneddig, llwfrhaodd, a goUyngndd y cerig i lawr o un i un, mewn cywilydd a braw.

Yr oedd yn bwrw gwlaw ar y pryd ; o leiaf yr oedd gwlith-wlaw tyner yn disgyn. Yr oedd Mr. Jones o olwg siriol a plirydferth ; a phan y decbreuodd gyfarch y gynulleidfa, ymddangosai mor siriol a hyderus a phe buasai yu nghanol ei gyfeiUion. Teimlai hyder diysgog yn ei Feistr, na adewid mo'no yn ddiamddiffyn, ac yn gryf ei feddwl yn ngwirionedd a phwysigrwydd ei genadwri, nes peri fod ei wyneb megys yn dysgleirio gan hyfrydwch a siriol- deb. Gofynodd mewn modd serchog, a oedd yr un boneddwr yn y gynull- eidfa a fyddai mor fwyn a rhoddi benthyg umbrella i gysgodi ei ben rhag y gwlaw ? Ymddygiad Ued eofu, onide ? i ŵr ag oedd mewn perygl o gael ei luchio bob mynyd. Ar hyn aeth meistr y dyn a ddygasai y cerig i'w luchio, ymaith, a dygodd gysgodlen gydag ef, gan ei estyn at waeanaeth y pregethwr. Ar hyu ymostyugai y gweinidog yn barchus i'r boueddwr am y gymwynas, ac aeth rhagddo gyda gwên siriol ar ei wyneb, a geiriau gwirionedd yn ei wefusau, gan ddatgan, wrth ddechreu, ei fod mor gysurus dau yr wnbrella a phe buasai yn St. Paul yn LUmdain. Y cyfreithiwr a gafodd ar ei galon wneyd y caredigrwydd uchod ag ef, oedd un Mr. Howard, cyfreithiwr o ddy- lanwad mawr yn y dref, yr hwn yr oedd ei ŵg yn peri dychryn i lawer o ddynion. Nid yw yr hanes yn mynegu i ni pa beth a gymhellodd y cyfreith- iwr i hyn yma, na pha effaith a gaíbdd y bregeth arno ; ond fe gafodd Mr. Jones, pa fodd bynag, hamdden gysurus, a'r fath na chawsid o'r blaen yn Nghaernarfon, i draethu gairybj-wyd i bechaduriaid colledig. Y'n nghyntedd castell y brenin Edward y cyntaf y bu hyn ; " A difai sw-ydd," medd fy ngohebydd, "i'r hen gastell sefyll ar ei draed am 600 o flynyddoedd, i roddi cyfle i efengylwr Llangan ddadseinio ei hen furiau adfeiliedig â newyddion da yr efengjd."

Yr hanes nesaf a gawn ara Fethodistiaeth Caernarfon ydyw, fod John Eoberts, Llanllyfni, ac Eyan Eichardson, wedi dyfod yno i bregethu; ond cyn y gallwn yn rheolaidd oh-hain hanes Caernarfon yn mhnen, angenrhaid ydyw cyfeirio y darllenydd at hanes y gŵr a enwyd olaf, sef y Parch. Evan RiCHARDSON, gŵr, yn anad neb arall, a fu yn offeryn i blanu Methodistiaeth yn y dref boblogaidd hon, ac i'w faethu a'i ymgeleddu ar ol ei blanu, dros lawer o flynyddoedd.

Ganwyd Mr. Eichard, neu Eichardson, fel y mynai efe alw ei hun, yn sir Aberteifi, mewn Ue a elwid Bryngwyn-bach, plwyf Llanfihangel-genau'r- glyn, ac o fewn tua phum' miUdir i dref Aberystwyth. Crefftwr o saer maen oedd ei dad, o'r enw Eichard Morris Hugh. Cafodd Mr. Eichardson ddysg- eidiaeth dda yn ei ieuengtyd, fel y cafodd llawer eraül yn ei wlad, trwy y manteision a fwynheid i hyny yn ysgol Ystrad-meurig, Bwriadai ei dad i'r bachgen hwn fod yn weinidog yn eglwys Loegr ; a bwriadai hyny heb un golwg ar gymhwysder i'r swydd, ond dysgeidiaeth yn unig. Bywioliaeth íýdol, acniddyben crefyddol, oedd mewn golwg, fel y mae gan gamioedd eto, ie, fel y mae mwya'r gresyni, gan hiwer o rieni a broffesant bethau gwell. Yri

230 HANESIAETU Y SIROEDD. [dOSB. IV.

yr amgylchiad hwn, fe gofir am ddau angenrhaid, ond íe ollyngir y trydydd yn anghof. Ehaid i fy mab gael bywioliaetJi, medd y tad ; rhaid i'm gwein- idogion i gael dysgeidiaeth, medd yr eglwys ; rhaid i'm gweision i gael duwioldeb, medd Diiw, Mae y rhieni yn gofalu am y cyntaf y canonau a'r esgobionyn gofalu am yr ail ond pwy a ofala am y trydydd? Yn achos Mr. Eìchardson, fe osododd Duw y fath dynerwch ar ei gydwybod, er ieuang- ed ydoedd, fel na feiddiai gymeryd arno weinidogaeth yr efengyl, er mwyn sefyllfa ac elw bydol. Ofnai nad oedd ei gyflwr ei hun ddim yn ddiogel gyda Duw, a theimlai ormod o betnisder i ymaflyd yn arch Duw, heb aiwad gyfreithlawn oddiwrth Dduw i'r swydd.

Yr oedd rhyw aflonyddwch ar ei feddwl yn nghylch ei sefyllfa ysbrydol er yn ieuanc iawn, a chyn iddo glywed pregeth erioed ; ond yr oedd, ar yr un pryd, yn anghyfarwydd iawn am fí'ordd iachawdwriaeth. Wrth geisio gweddio, rhoddai ei liniau yn noethion ar lawr, gan dybied y gwnai hyny ei weddi yn fwy derbyniol ; golchai ei wyneb a'i ddwylaw yn lân, a thorai ei ewinedd hyd y byw, gan ddychymygu mai â'r cyfryw fanyh-wydd y gallai gyfarfod â gofynion deddf Duw. lë, tybiodd, ar oi darllen, " Heb ollwng gwaed nid oes maddeuant," na thyciai dim i dawelu ei gydwj^bod ond gwaed ei galon ei hun !

Ond Duw a drugarhaodd wrth y bachgen tyner hwn, ac a'i harweiniodd yn raddol oddiamgylch i beri iddo ddeall yn well. Clywai son am y Parch. Daniel Eowlands, a Dafydd Morris, yn pregethu mewu modd hynod ac eíf- eithiol, nes y cafodd ar ei galou i fynu eu gwrando ; a chafodd yn eu gweinid- ogaeth yr hyn yr oedd ei enaid yn dyheu gymaint am dano. Teimlai, bellach, at-dyniad cryf yn ei ddynesu at y bobl yr oedd yn mhob man gy- maint o ddywedyd yn eu herbyn ; a gosodai ei hun yn fynych tan ddirwy, o herwydd troseddu rheolau yr ysgol trwy fyned i'w gwrando.

Yr oedd ei waith yn gwrthod myned yn ofiFeiriad, yn tynu arno ŵg ei dad, yr hwn, tybygid, a fíromai yn aruthr wrtho, am daflu ymaith fywioliaeth gy- surus, ac ymuno â phobl isel a dirmygedig. Hyn nis gallai ei dad ei ddyoddef, ac i'r fath raddau o gynddeiriogrwydd y codai ei ddigofaint ar un adeg, nes iddo godi bwyell uwch ben y llanc yn ei wely, ar fedr ei ladd ef yn ei gwsg ! ac, am ddim a ellir wýbod, hyny hefyd a wnaethai oni bai ei luddias gan y fam ! Ac er iddo ddianc yn y modd yma â'i fywyd ganddo, yr oedd ei gartref, bellach, yn llwyr anghysurus iddo ; a chan na chymerai y fy wioliaeth a fwriedid iddo gan ei dad, gorfu iddo ymofyn am damaid o fara modd y gallai. Yr oedd y ddysg a gawsai, pa fodd bynag, yn ei gymhwj^so i gadw ysgol, a thrwy ' hyny, hyderai y gallai, nid yn unig gael cynaliaeth ei hun, ond gweinyddu llesâd i eraill.

Dros rhyw dymhor, fe fu yn cadw ysgol yn rhyw^ ardal yn ei wlad ei liun, nid yn mhell o Landdewi-brefi. O'r lle hwnw, âi yn gyson i wrando Rowlands i Langeitho, bob mis, ac ymuuodd, ni ddywedir yn hollol yn mha le, â'r Methodistiaid, pan oedd eto yn lled ieuauc. Daeth yn raddol i brofiad hel- aethach a melysach o'r efengyl, a theimlodd, bellach, awyddfryd cryf i

PEN. VII.] SIR GAERNARFON. 2âl

bregethu iV gyd-bechaduriaid, y Crist hwnw yr oedd ei ymddiried ef ei hun ynddo am íywyd tragwyddol. Eto, ni anturiodd at y gwaith hwn yn ebrwydd. Yr oedd ei dduwioldeb a'i ddawn, pa fodd bynag, yn ei ddwyn i sylw y brodyr yn fwy-fwy, a chymhellwyd ef ryw bryd i íyned yn gydymaith i off- eiriad Methodistaidd o'r enw Williams,* yr hwn, o herwydd bychander corffolaeth, -ac i'w ddynodi oddiwrth ryw Williams arall mwy ei faintioli, a elwid yn WiIIiams bach, ar daith i Wynedd, i'w gynorthwyo yu ei lafur trwy ddechreu yr oedfaon i'r g\\Tr parchedig. Nid oedd Mr, Eichardson yn arfer pregetbu cyn y daith hon, ac nid yw yn ymddangos iddo bregethu yn ystod y daith, hyd nes yr oedd wedi gadael sir Gaernarfon, ar ei ddychweliad yn ol. Fc ddywed Griffith Solomon, yr hwn a ysgrifenodd ei fywgraffiad, ei fod wedi ei glywed yn pregethu y tro hwn yn Nolgellau, ar ei ffordd adref,

Y modd y daeth i sir Gaernarfon oedd fel y canlyn. Gofynodd Mr. Eobert Jones, gynt o Ehoslan, i Mr. WiIIiams, sef y gweinidog y daethai Mr. Eichardson gydag ef, " Ai ni wyddai am ryw ŵr ieuanc o grefydd ac o ddysg yn sir Aberteifi a allai ei gyflwyno i Frynengan i gadw ysgol ? " I hyu yr atebodd Mr. WiIIiains, gan daro ei law ar glun Mr. Eichardson, a dyweyd, " Dyma y d}Ti." Y canlyniad fu i Mr. Eichardson symud, mor fuan ag oedd yn gyfleus iddo, i sir Gaernarfon i fyw. Tybir ei fod ef ar y pryd tua 23 rnl. oed. Fe ddywed ei fywgraffydd ei fod yn dechreu pregethu tua'r un amser a'r Parch. John Eoberts, Llanllyfni, ac os felly, dechreuodd tua'r fl. 1779.

Fe fu y gvvr ieuanc yn cadw ysgol dros ryw gymaint yn Mrynengan yn gyntaf, wedi hyny yn MhwUheli, a thrachefu yn Llangybi, gerllaw Glas-fryn- fawr. Yr oedd ei ysgol yn y Ile olaf hwn yu neillduol o Iwyddianuus ; ond nid hir y caniatawyd iddo aros yma, gan y llwyddodd rhyw rai gyda pherson y plwyf i'w droi ef allan oddiyno, o achos ei fod yn arfer gweddio yn yr eglwys ! Dywedir hefyd fod achos arall wedi gwasanaethu i'w droi ef allan, sef ei fod wedi bod yn foddion i ddwyn cyfnither i ry w ŵr boneddig yn y gymydogaeth at y Methodistiaid. Enw y ferch foneddig oedd Jane James. Yr oedd y ferch hon, fel eraill yn ei gwlad, yn eithaf cellwerus a diofal. Y cardiau a'r cwmni ofer oedd ei hyfrydwch, a diystyrllyd iawn oedd hi o'r Methodistiaid. Yr oedd Mr. Eichardson wedi ennill calonau llawer iawn o bobl yn yr ardal, ac nid trwy weniaith a thwyll, ond trwy wir deilyugdod. Dygwyddodd fod y gŵr y Iletyai IMi*. Eichardson yn ei dŷ, yn myued ryw bryJ ar neges i Miss James, a hi a gymerodd y cyfle i holi y gŵi- yu nghylch Mr. Eichard- son, gan ddyweyd gyda gwên, " Pa beth, a phwy yw y duw yna sydd genych chwi yn Llangybi ? " " Nid duw ydyw," ebe y gŵr, " ond dyn ieuanc duwiol a hynaws." Hithau a barhäai i wawdio y modd parchiis yr edrychid

* Nid wyf yn cael yn i-hcstr gweinidogion sir Abcrteifi yr un o'r cnw hwn, ond y Parch. John Williams, Lledrod ; yi- hwn oedd o gorffolaeth raawr. Parod ydwyH feddwl fod }-r enw Williams wedi ei ddcfnyddio }-n Ue Hiighes mewn amryfuserîd, neu ynte, fod y Williams hwn wedi cilio oddiwrth y Methodistiaid, a'i cnw "oddiar hyny, wedi ei adael allan o'r rhestr.

232 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IT.

arno, ac ar yr un pryd yn teimlo math o ysfa i gael gweled un yr oedd cymaint

0 son am dano, a chymaint o barch gan y wlad iddo ; ac ebe hi wrth Mr. Owen Thomas (oblegid dyna oedd ei enw), " Dewch ag ef yma, i mi gael gweled eich dmo chwi." Hysbyswyd hyn i Mr. Eichardson j yntau a ddywedodd, " Mi âf fi i edrych am dani, pwy a ŵyr pa beth a wna yr Arglwydd i'r hen bechadures." Efe hefyd a aeth yno, efe a'i letywr. Gofynodd Miss James i'w letywr, a wnai Mr. Eichardson ddarllen a gweddio gyda hi ? Hyny a wnaeth, ac yr oedd gwedd fwy difrifol arni ar ddiwedd y weddi, nag oedd o'r blaen. Gofynodd a ddeuai ef yno drachefn ? yntau a aeth ; a chyn iddo godi oddiar ei h'niau y tro liwn, yr oedd Miss James yn curo ei dwylaw, ac yn moliannu Duw â'i holl egni. Ymunodd â'r Methoclistiaid yn Mrynengan ar

01 hyn, a chyrchai yno i'r cyfarfodydd eglwysig trwy gryn anhawsdra, gan ei bod yn analluog i gerdded, a rhaid oedd iddi ddyfod ar farch. 0 herwydd hyn, meddant, y digiodd y boueddwr wrth Mr, Eichardson, ac y penderfyn- odd arfer ei ddylanwad gyda pherson y plwyf i'w droi ef allan o Langybi.

Ymadael a fu gorfod i Mr. Eichardson â'r Ue yr oedd y pryd hwnw yn cadw ysgol, er dirfawr ofid i drigolion yr ardal. Ni welwyd erioed gymaint o wylo ag oedd ar ei ymadawiad, naddo mewn cynhebrwng. Yr oedd y plant a'r bobl ieuainc ag oedd yn ei ysgol yn foddfa o ddagrau ; y cyfryw ydoedd yr afael a gawsai ar serchiadau y sawl a welsent fwyaf o hòno. Arosodd ryw gymaint ar ol hyn yn ardal Brynengan, ond yr oedd rhaghmiaeth fawr y nef yn parotoi y ffordd, trwy y gwahanol amgylchiadau hyn, i'w symud ef i dref Gaernarfon, y lle a benodwyd yn derfyn ei breswylfod am y rhan fwyaf o'i oes, ac yn faes penaf ei lafur a'i Iwyddiant.

Mae haues am dauo ef, a John Eoberts, Llanllyfni, yn pregethu cyu ei ddyfodiad i'r dref i fyw. Nid yw yn eithaf sicr yn mha flwyddyn y cadwyd yr oedfa hon. Deallir, pa fodd bynag, mai cyfarfod â'u gilydd yn fwriadol a wuaeth y ddau bregethwr, y tro hwn, yn Nghaernarfon, ar brydnawn Sabboth. Yr oedd y brodyr er ys llawer o amser yn eiddigeddu dros y dref, acyn gresynu na ellid sefydlu pregethu o'i mewn ; ond hyd yn hyn, nid oedd neb wedi cael llonyddwch i bregethu ynddi, oddieithr ar yr un oedfa y cry- bwyllasom am dani, gan Mr. Jones, Llangan. Daeth yr amser at wneuthur cais mwy egniol at bregethu yn y dref, a phenderfynwyd ar i'r ddau frawd uchod gyfarfod yno ar brydnawn Sabboth.

Ymddengys fod Mr. Eichardson, cyn y Sabboth hwn, ar daith yn prcgethu yn Môn,* ac nid y tro cyiitaf, tybygid, iddo fod yn Mon oedd hwn, a phan oedd yn dybenu ei daith yn y wlad hòno, daeth dau ŵr i gyfarfod ag ef, ar fedr dyfod gydag ef drosodd i Gaernarfon. Enw un o honynt oedd John Gibson, garddwr y pryd hwnw yn ngwestty Porthaethwy (George luu) ; y llall oedd Griffith o Benrhos, tyddynwr yn Môn, gerllaw y Borth. Am waith

* Mac lianes genyf fod Mr. Richardson yu Môn yn pregethu yn y fl. 1785, ond yr oedd hyn flwyddyn cyn yr amser y dyAvedir fod Mr. Jones, Llangan, yn pregcthu wrth y castell, a dwy flyuedd cyn yr amser y nodir iddo ef a John Eoberts gyfarfod â'u gilydd i bregethn yn Nghaernarfon.

PEN. VII.] SIR GAERNARFON. 233

John Roberts yn dyfod i'w gyfarfod, mae yr hyn a ganlyn, a gafwyd o enau ei fab y Parch, Michael Roherts, yn dangos pa fath dderbyniad a ddysgwyliai y gŵr hwnw gael gan drefedigion Caernarfon, am aflonyddii ar eu heddwch hwy trwy bregethu iddynt. " Mae yn dra chofus genyf," meddai y Parch. Michael Eoberts, " am y Sabboth yr aeth fy nhad i gyfarfod Mr. Eichardson i Gaernarfon, i gynyg pregethu, y waith gyntaf * i'r Methodistiaid fod yno. Nid oeddwn ond bachgenyn pur ieuanc. Ond y mae yn gof genyf ddarfod i fy mam ddwyn ei ddillad goreu i fy nhad, y Sabboth hwnw, gan y bwriadai fyned i dref Caernarfon i bregethu. Ond fy nhad, pan y'u gwelodd, a ddy- wedodd wrthi, ' Nid yw o un defnydd i chwi ddwyn i mi y dillad goreu heddyw, oblegid, mae'n debyg, mai budreddi a fydd drosof oll cyn y nos. Gwell i mi gael rhyw ddillad gwaelach.' Wedi i mi dyfu i fyny y deallais ystyr geiriau fy nhad, mai ofni yr oedd y gorfyddai iddo ddyoddef ei erlid a'i faeddu yn y dref."f

Wedi i'r ddau bregethwr gyfarfod â'u gilydd, a rhodio enyd yn heolydd y dref, pwy a'u cyfarfu ond y Parch. George Lewis, wedi hyny Dr. Lewis, awdwr yr Esboniad ar y Testament Newydd, gan yr hwn yr oedd anedd-dy wedi ei gyfaddasu i bregethuynddo.J Yr oedd y hwn wedi ei gyraeryd gan y Parch. E, Harris, gweinidog yr Annibynwyr, ac wedi ei gofrestru i'r dyben o bregethu ynddo, yn fuan ar ol yr amser y bu Tibbot yn y dref. Ymddengys mai y gweinidog cyntaf a fu yn sefydlog yn mhlith yr ymneiUduwyr yma, oedd un Mr. Griíîiths, yr hwn wedi llafurio yma yn llwyddiannus am ysbaid dwy flyn- edd, a symudodd i'r Penni, yn swydd Fynwy. Ar ei ol ef y daeth Mr. Lewis, tua'r fl. 1785, ac a arosodd yma tua dengmlynedd, pryd y dychwelodd Mr. Grifíiths drachefn, ac a lafuriodd yma yn llw^ddiannus hyd ddiwedd ei oes.

Yr achos fod y Methodistiaid yn fwy agored i gael eu herlid na gweinid- ogion ymneillduol eraill, oedd eu bod, hyd yn hyn, yn oedi ymofyn am eu trwyddedu yn ol y gyfraith, am nad oeddynt yn foddlawn eto i ymrestru yn myddin ymneillduaeth ; ac heb eu trwyddedu felly, a'r lleoedd y pregethent ynddynt yr un modd heb cu cofrestru, nid oedd ganddynt yr un amddiíFyn- iad, ond yr oeddynt yn agored i gael eu baeddu gan bwy bynag a deimlai yn ddigon caled i wneyd hyny. Ond awn yn mlaen at hanes yr oedfa gan Mr. Eichardson a John Eoberts.

Wedi iddynt gyfarfod â Mr. Lewis, cyfarchasant well iddo, gan ei hys- bysu am eu bwriad i draethu gair wrth y bobl, ond fod arnynt eisieu lle. Yr oedd y ddau bregethwr, tybygid, yn ddieithriaid i ì,íi\ Lewis, ac yr oedd yntau yn anewyllysgar i roddi annogaeth iddynt i bregethu, heb wybod mwy am danynt. Am hyny efe a'u holodd hwynt am eu credo, a'u dybenion, a John Eoberts a ddywedodd eu bod o ran eu fíydd yn cytuno a chatecism Westminster. Os felly, ebe Mr. Lewis, gwell i chwi sefyll wrth dalcen y

* Yr oedd Mr. Jones, Llangan, wedi bod o'r blaen. t Hysbyswj'd hyn gan y Parch. Darid Jones, Caemarfon.

X Y mae pregethu yn yr ystafell hon fyth. Y rhai a'i defnyddiant yn avn;, ac er amser maith, ydyw rhyw nifer bychan o fedyddwyr, y rhai a ebvir Sandemaniaid.

234 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

mur yma, oblegid uid oes digon o le i'r bobl yn yr ystafell. Cadwyd yr oedfa hon yn y parth liwuw o'r di*ef a elwir Tre'r-ffynuon ; yr oedd yno luaws o bobl wedi ymgasglu yn nghyd, ac yn groes i bob dysgwyliad, fe gafwyd bob tawelwch i bregethu ; ac ni fu yr oedfa hon ddim yn ofer.

" Yr oedd fy nhad," meddai y Parch. Micliael Eoberts, " yn marchnad Caernarfon yr wythnos gyntaf ar ol iddo fod yno gyda Mr. Eichardson yn pregethu. Sylwai fod rhyw ŵr yn canlyn ar ei ol i ba le bynag yr elai. Ym- deimlai fy nhad yn anesmwyth oblegid hyn, gan na wyddai pwy oedd y gŵr, ua pha beth oedd ei neges. O'r diwedd troes ato, a gofynodd iddo,

" A oes rhyw beth a fynech â íi ? "

" Y mae yn dda iawn genyf," atebai yntau, " gael siared gair â chwi. Yr wyf mewn blinder meddwl, ac yn methu cael esrawythder, er pan fuoch chwi, â gŵr arall, yma yn pregethu y Sabboth o'r blaen."

" Yna fy nhad, gyda syndod a nawenydd, a gymerodd y gŵr gydag ef, i ystafell o'r neilldu, i dafarn a elwid yr '^ Jngel ; " ac yma y cafodd hamdden i gyfarwyddo a chysuro yr enaid trallodedig, yn nghylch y pethau a berthyu- ent i'w heddwch. Hwn oedd y cyfarfod eglwysig cyntaf a fu gan y Meth- odistiaid yn Nghaeruarfon. Nid oedd ynddo ond dau, ond yr oeddynt yn wystl 0 dyrfa fawr ; ac er lleied oedd y nifer, ac anghymhwysed y gellid golygu y lle, eto nid oes amheuaeth, nad oedd ynddo fwy o fwynhad ysbrydol, nag a gaed lawer gwaith ar ol hyn, pan y cafwyd addoldy cyfleus, a Uuaws maw^r 0 ddysgybliou yn nghyd. Euw y gŵr hwn oedd Eichard Owen.

Wedi cael Uonydd y tro ucliod i bregethu yn y dref, a chael arwyddion hefyd o fendith yr Arglwydd ar yr ymdrech, yr oedd yr awydd yn cynyddu i ddwyn pregethu yn amlach, ac yn fwy cyson iddi nag o'r blaen. Ystyrid mai anturiaeth fawr oedd myned yuo i bregethu cyn hyn, a thybiai amryw o grefyddwyr yn y wlad mai rhyfyg oedd ; ond fe fu y llonyddwcli a gafwyd yn foddion i ddadebru graddau ar yr eneidiau llwfr hyn ; ac i ddwyn y cwrdd misol i benderfyniad, mai da fyddai cael rhyw un cyfaddas yno i fyw. Nid hir, pa fodd bynag, y parhaodd y pregethu yn y rhan hòno o'r dref a elwid Tre'r-flynnon, ond symudwyd wedi ychydig o bregethau i Dan-yr-allt, a chafwyd hefyd gan Mr. Hichardson ddyfod i'r dref i aneddu.

Y pryd hwn, nid oedd nifer y dysgyblion Methodistaidd yn Nghaernarfon ond ychydig iawn. O'r nifer yr oedd Eichard Owen, ac EIizabeth ei wraig. Yr oedd John Gibson hefyd wedi gorfod ymadael â'i le yn y Borth, o herwydd dilyn y peuau-cryniaid, ac wedi dyfod i aros yn y dref. Tua'r un amser y daeth uu Peter Ellis yma o sir Eflint. Heblaw y rhai hyn, fe ddichon fod Eichard Thomas, ac Elinor WiUiams, yr hon a fu yn wraig i Peter EUis, yu eu mysg. Yr oedd hyn, fel y bernir, yn y fl. 1787. Yr oedd y rhai hyn ar y pryd hwn, a chyn fod eglwys ffurfiedig a threfnus yn Nghaernarfon, yn arfer myned i'r Waunfawr i'r cyfarfod eglwysig, a rhai o honynt, yn achlysurol, gan belled a Brynengan. üywedir y byddai Eichard Owcn, a John Gibson, yn arfer myned i'r Uc oLif bob pymthegnos. Yr oedd amddifadrwydd Caer- narfon o foddion gras yn mhüth yr ychydig Fethodistiaid ag oedd ynddi, ac

PEN. VII,] SIR GAERNARrON. 235

annuwioldeb penuchel y dref yn gyfiFredinol, yn ddiau, yn peri fod y brodyr hyn yn meddwl ac yn dyfeisio Uawer pa fodd y gellid cyflawni y gwall, ac nid oes amheuaeth nad oeddynt eisoes wedi llygadu ar y llencyn glandeg a duw- iol a gyfarfyddent yn Mrynengan, ao wedi tfuríìo penderfyniad i wneuthur cais egniol at ei gael i'w tref i fyw, ao i gadw ysgol. Unwaith, pan oeddynt yn myned i Frynengan i'r cyfarfod eglwysig, penderfynodd y ddau frawd Èyn na ddychwelent yn ol heb addewid gan Mr. Eichardson i ddyfod i Gaernar- fon i fyw. Yn unol â'r penderfyniad hwn y cododd Eichard Owen yn y cyfarfod eglwysig, a hyny megys ar draws pob peth arall, i osod ei neges ger bron ; ac mor llwyr y gosodasai ei fryd ar ei chael, nes dywedai wrth Evan Eichardson, " Y mae yn rhaid i chwi ddyfod adref gyda ni ; ni ddychwelwn yno hebddoch ; y mae gan yr Arglwydd waith. i chwi i'w wneyd yno yn ddiau." "0 Richard bach," atebai Eichardson, " os deuaf acw, y bobl a'm Uaddent i." Gyda hyu codai hen chwaer o'r enw Siân i fyny, gan ddyweyd gyda brwdfrydedd mawr, " Y mae yn rhaid i ti fyned, Evan bach, ni wneir niwaid i flewyu o dy ben ; am hyny, dos gyda hwy."

Ymddengys hefyd fod gan y cyfarfod misol law ehehaeth yn anfoniad Mr. Eichardson i Gaernarfon, pryd yr oedd ef, gan ofn yr anturiaeth ar y naill law, a chan ymlyniad wrth ei hen frodyr ar y Uaw arall, yn anhawdd iawn ganddo fyned. Eto yr oedd taerni y trueiniaid oeddynt yn byw yn Nghaer- narfon, yn nghydag annogacth gref y cyfarfod misol, yn pwyso mor drwm arno, nes gosod math o ddirgymhelliad arno i ufyddhau ; ac ufyddhau a wnaeth.

" Ymchwiliais lawer," ysgrifena y Parch. David Jones, Caernarfon, " i gael sicrwydd am yr amser y sj-mudodd Mr. Eichardson o Frynengan i Gaernar- fon. Yr oeddwn y Sabboth diweddaf yn nhaith Brynengan, a chefais fod yn yr ardal lion hen bobl, heb symud o'r gymydogaeth o'u mebyd ; gŵr a gwraig o'r enw Owen EDis a Magdalen Evan. A dyma eu tystiolaethau. Dywedodd Owen EUis, ' Ceíais fy ngeni a fy magu yn y Gwyndŷ, y y bu Mr. Eich- ardson yn pregethu ynddo y waith gyntaf wedi iddo ddyfod i aros i'r ardal hon. Y'r oedd hyny pan oeddwn i yn 17 ml. oed ; ac yn awr yr wyf yn 88 ml. oed.' Y wraig, Magdalen Evan, a ddywedodd, ' Ymadawodd Mr. Eichardson oddiyma i Gaernarfon pan oeddwn i yn 33 ml. oed, ac yn awr yr wyf yn 87 ml. oed. Mae yn hawdd i mi gofio yr amser yn gywir, gan fy mod, y pryd hwnw, dan glefyd trwm. Clywais y rhai oeddynt yn y cyfarfod eglwysig yn Mrynengan, pan oedd Mr. Eichardson yn canu yn iach iddynt, yn dyweyd ei fod yn wylo yn hidl ; yn ymorwedd ar y meinciau, ac yn ym- dreiglo hyd lawr, dan lefain yn groch.' "

Yn ol y tystiolaethau hyn, fe ddaeth Mr. Eichardson i sir Gaernarfon yn y fl. 1771, ac wedi dechreu pregethu ryw flwyddyn neu ddwy cyn hyny. Sy- mudodd i Gaernarfou yn y fl. 1787, pan oedd oddeutu wyth neu ddeg-ar- hugain oed ; i'r Ue a fu yn faes ei lafur diflin, ac yn Uanerch ei Iwyddiant godidog, dros weddiU ei oes. Ofnodd lawer cyn symud i Gaernarfon, ond fe fu Duw yn well iddo na'i ofnau, îe, rhagorodd ar ei hoU obeîthion. Yr oedd yn ofni peth rhag ei lethu gan orthrwm yr eriidwyr ; ofnai yn fwy rhag

236 HANESIAETH Y SIKOEDD. ' [dOSB. IV.

ei niweidio gan faglau y gelyn, ac arswydai hefyd rhag mai yn ofer y byddai ei lafur crefyddol. Pan oedd ar ei ddyfodiad tua'r dref i aros ynddi, ac o fewn tua hanner milldir iddi, efe a safodd yn sydyn, a tharawodd ei Ifon ar y Uawr ; yua gan edrych tua'r dref, torodd allan 1 wylo a dywedyd, ' O'r dref annuw- iol, a llawn o demtasiynau, pa beth a ddaw o honwyf ynddi ! wedi gadael y wlad ddystaw a thawel ! ' Ond Duw a drugarhaodd wrtho ef, ac nid yn unig wrtho ef, ond wrth y dref y gresynai efe gymaint drosti, gan ei gynal ef yn ddiwaradwydd, a bendithio ei lafur i raddau anarferol, er eangu teyraas Crist ynddi, ac yn ei hamgylchoedd, mewn modd nodedig iawn.

Yn fuan wedi iddo ymsefydlu yn Nghaernarfon, cymerodd y Tan-yr-allt i gynal moddiou gras yuddo, yn nghẃr pellaf y dref. Dechreuodd ei ysgol hetÿd mewn rhyw ysgoldy yn nghanol y dref. Ymddengys mai cyn cael y yn Tan'r-allt yr oedd Mr. Richardson yn pregethu mewn lle yn y dref, pan ddaeth gŵr boneddig o'r enw Garners i aflonyddu arno. Cynhyrfwyd gẃr arall ar y pryd i'w amddiífyn. Gŵr oedd hwn o'r enw John Rowlands ; dyn cyftì-edin ei sefyllfa, ond hynod o gryf. Aeth hwn at y g^vr boneddig ; ac er ei fod yn uchel yn y byd, os nad yn Ynad Heddwch, dywedodd Eowhands wrtho, " Nid oes jma. neb yn aflonyddu nac yn peri annhrefn ond y chwi, syr. Os na fyddwch yn Uonydd, mi a âf a chwi fy hun i'r gwarchdwr."

Yr oedd yr ychydig o broff"eswyr ag oedd yn y dref, y pryd hyn, yn rhai rhagorol eu gras a'u hymroddiad i wasanaeth yr Arglwydd. Yr oedd un William Siôn y cigydd, o Lan-yr-afon, wedi hyny, o Gae-athraw, yn mysg proffeswyr boreuaf y fro hon. Gŵt o feddwl a chorff cryf oedd yntau, cymhwys iawn i fod yn noddwr i'r cynghorwyr pan yr ymosodid arnynt gan yr erlidwyr. Llawer gwaith yr aeth William Siôn o Gae-athraw, o ymyl Caernarfon, ar foreuau Sabboth, cyn glasiad y dydd yn yr haf, i'r Bala erbyn yr oedfa ddeg o'r gloch y boreu, yr hyn oedd tua deunaw miUdir ar hugain ; a hyny ar ei draed. Cai, ond odid, oedfa arall ddau o'r gloch ar ei ffordd tuag adref, ac wedi cysgu enyd, yn rhyw le ar y ffordd, dychwelai ef a'i gyf- aill yn brydlon at eu gwaith foreu Llun. Nid Uawer yn fyr oedd hyn o 80 milldir. Ehyfedd yr aidd oedd yn eu heueidiau, a rhyfedd y nerth oedd yn eu cyrff ! Eliyfeddai y bobl anwybodus at y crefyddwyr, gan ymholi pa beth yn y byd oedd yn eu cj'mhell. Nid oeddyut yn gweled un angenrheidrwydd am y fath ofal a Uafur gyda chrefydd, a synent pa wobr a ddysgwylieut am eu poen. Pau oedd Elizabeth Owen, gwraig y dywededig Eichard Owen, ar Ben'r-allt, hi gyfarfu, uuwaith, â nifer o bobl, tra chrefyddol yn eu tyb eu hunain, yn cyrchu tua'r Lhm, a'u Uyfrau tan eu ceseiliau, a chyfarchwyd hi ganddynt yu ddifrifol iawn, " Yn enw Duw ! Betti fach, i ba beth y dygwch chwi bethau fel hyn i'r fan yma, yr hen benau-cryniaid ! " gan gyfeirio at Mr. Eichardson a'r ychydig Pethodistiaid ag oedd gydag ef. Xi fu Eichard Owen fyw ond blwyddyn neu ddwy ar ol dyfodiad Mr. Eichardson i'r dref ; ac yn mhen rhyw ysbaid o amser ar ol ei farw, fe briododd Mr. Eichardson ei weddw.

Sonia yr hcn bobl lawer am Elinor Williams, gwraig Peter Ellis, y modd

PEN. VII.] STR GAERNABPON, 23?

y torai allan yn yr oedfaon yn llofft Tan'r-allt, gan lawned oedd ei llestr o orfoledd yr iacliawdwriaeth, a'r modd y baeddid hi gan yr erlidwyr, trwy ei llusgo drwy afon Saint ; ac oni bai i ryw rai sefyll drosti a'i hamddiffyn, nid oes wybod pa draha ei faint a wnaethid iddi. Un hynod hefyd oedd Dafydd Jones y cwper. Yntau hefyd a ymunodd â'r Methodistiaid yn lled foreu yn Nghaernarfon, ac a fu yn ffyddlawn iawn dros ei dymhor. Gresyn na buasai rhyw un cydnabyddus â'r gŴT hwn wedi ysgrifenu ei hanes, gan hynoted ydoedd ; diau y buasai crynodeb o'i lafur, ei ymadroddion, ac o'i gymeriad yn ffurfio traethawd tra dyddorol a buddiol ; ond nid oes y fath grynodeb wedi ei wneyd, na gobaith, bellach, y ceir un.

Agorodd rhagluniaeth y drws yn raddol i gael adeiladu capel mewn Ile llawer mwy cyfleus i'r dref. Prynwyd y tir, ac i'r dyben i gael dechreu ad- eiladu yn fuan, angenrheidipl oedd cael y bychan oedd ar y tir yn wag ac beb breswylydd. I'r dyben hwn aeth Mr. Eichardson at y rhai oedd yn byw yn y tŷ, a chydag ef yr oedd John Jones, Edeyrn, fel y galwyd ef ar ol hyny. Gofynwyd i'r preswylwyr ymadael yn ddioed o'r tŷ, o herwydd fod brys am gael yr adeilad i fyny, Ond y wraig a ddangosai wrthwynebiad i ymadael ; dywedai ei bod yn byw yno er ys ilawer blwyddyn, a bod ei plierthynasau yno er ys amser maith cyn hyny. " Gellwch," meddai, " gael Ile arall i godi capel ; mae gardd gerllaw a ellwch gael at hyny." Atebwyd y wraig yn lled arw gan Mr. Jones yn ol ei flraethineb arferol ; " Oh! " ebe fe, "y ehwi sydd felly yn myned i ymofyn am le i ni i godi capel ! " " Ni buaswn," ebe y wraig mewn ffordd o wrthwynebiad, " yn dysgwyl gan ŵr mor synwyrol a boneddigaidd a chwi y fath ffraethder." Yr oedd y wraig, mae'n wir, yn ddigon direswm, eto nid oedd y dull y cyfarchwyd hi gau Mr. Jones yn tueddu dim ond i'w chyffroi, a gwelodd Mr. Eichardson hyn, a dywedodd, " Nid fel yna y mae trin trueiuiaid. Mae genyf fi yn Pen'r-allt, hwyrach y gwyddoch am dano, Ile yr wyf yn cadw ysgol, chwi gewch hwnw i fyw ynddo yn lle hwn ; nid yw ei simdde ond cawell, ond mi a'i gwnaf o gerig. Perswadiwcli chwithau y wraig sydd yn byw gyda chwi mewn rhan o'r yma i symud gyda chwi yno." Trwy ei hynawsedd fe ennillodd ei amcan. Bu y gwragedd foddlawn i ymadael mewn tawelwch. Adeiladwyd y capel cyntaf hwn yn y fl. 1793.

Ymroddodd Mr. Eichardson i lafurio â'i holl egni. Yr oedd ganddo ysgol luosog a chyfrifol. Yr oedd ynddi lawer o ddeiliaid mewn oedran, a phlant i bobl gyfrifol yn y dref a'r wlad o amgylch. Cadwai gyfarfod un noson o'r wythnos, i holwyddori y plant, pregethai noson arall, a chadwai gyfarfod eglwysig y drydedd. Buan iawn y daeth Mr. Richardson i barch mawr yn y dref, a Ilwyddiannus iawn a bendithiol a fu ei lafur i'r preswylwyr. Yr oedd amryw gynneddfau yn nghymeriad Mr. Eichardson yn tueddu yu naturiol i ennill iddo barch ; yr oedd yn ddyn glân ei berson a'i wisg, ac o ymddygiad boneddigaidd a hynaws ; yr oedd uwclilaw pawb o'i gyd- ddinasyddion, ymron, mewn dysg a gwybodaeth ; yr oedd yn hynod o ddifrycheulyd ei rodiad, a grasol ei ysbryd ; ac yn nodedig o efengylaidd a

238 HANBSIAETH Y SIHOEDI). [doSB. IV.

gwlithog ei weinidogaeth. Yr oedd yn ŵr Duw, boneddigaidd ei foesau, helaeth ei ddysg, a thra defnyddiol ei lafur. Edrychid arno gan gyfoethog a thlawd yn barchiisaf yn mhb'th y trefedigion oU. EnniUasai yn fuan gyd- wybod a serch pob un a'i hadwaenai,

Yr oedd ei lafur gweinidogacthol, a'i boblogrwydd, yn cyd-gerdded â'u o-ilydd. Anhawdd ydoedd cyfarfod â neb helaethach ei lafur, na mwy ei dderbyniad. Arferai, weithiau, bregethu ddwywaith, neu dair, neu hyd yn nod bedair gwaith yr un noson ! mewn ŵylnosau, yn ngwahanol barthau y dref. Gwedi cynal rhyw foddion yn y capel yn yr hwyr, elai rhag ei flaen i gadw ŵylnos mewn rhyw dŷ. Pregethai ar yr achlysur am ysbaid chwarter awr, neu ychydig yn ychwaueg, mor fywiog ac eflfro a phe buasai yn llefaru yn no-hynianfa'r Bala ; yna gadawai y gynulleidfa, gan aralaf yn ei dagrau, a phrysiu'ai i arall ; pregethai yn hwn drachefn yr un raor effeithiol ; a chan adael y gynulleidfa mewn dagrau, ac nid anfynych mewn gorfoledd, âi ymaith i'r trydydd tŷ, a phregethai yr un modd. Ac nid amgylchiad anarferol acan- fynych oedd y fatli yma, ond y gwrthwyneb. Yr oedd rhyw amgylchiadau cyffelyb yn dygwydd yn fynych mewn tref boblogaidd o'r fath ag oedd Caer- narfon, a thybid yn rhyw fath o raid neu weddusrwydd cael gan Mr. Eichardson i bregethu. Pregethai yn fynych ar fwrdd Ilong newydd cyn iddi fyned allan i'r môr ; ar yr achlysuron hyn, ymgasglai tyrfaoedd mawrion iawn, ac anfynych y byddai un oedfa o'r fath yn myned heibio nad oedd ar- wyddion amlwg o wlith bendith yn disgyn ar y gynulleidfa.

Yr oedd hyn oll yn cael ei wneyd gan Mr. Eichardson tra yr ydoedd yn llafurus a diwyd gyda'i ysgol. Yr oedd ei ysgol yn gyffrediu yn Ihiosog ei rhifedi, a gofynai holl ymadferthoedd dyn i wneyd cyfiawnder â'i deiliaid, heb ddim gorchwyl ychwanegol yn ei aros. Ond fe gyflawnai Mr. Richard- son hyn oll, i foddlonrwydd i bawb, ac yn ol pob argoelion, yn gysums iddo ei hun. Gau y llwyddiaut oedd ar ei ysgol, gallasai gasglu Ilawer o arian yn ystod y maith flynyddoedd y bu efe yn Ilafurio yn Nghaernarfon, ond nid oedd hyny yn ei fryd. Yr oedd ei law yn wastad yn agored at achosion creíyddol, a thros lawer o flynyddoedd disgynai rhan fawr o gynaliad yr achos Methodistaidd yn y dref ar ei ysgwyddau ef ei hun. " Mewn gwirionedd,' Ysgrifena fy ngohebydd parchedig, " anhawdd fyddai nodi yr un dyn yn No-hymru na Lloegr, a fu yn foddion i ddyrchafu crefydd mor uchel yn ei gartref ag a fu Mr. Eicliardson, yn enwedigol pau y conom ei holl anfan- teision,"

Nid oedd Mr. Eichardson yn un a deithiai lawer ; yr oedd rhwymedigaeth ysgol yn llesteirio iddo. Eto pan y rhoddid cyfleusdra iddo ar doriad yr ysgol, fe ddangosai bob parodrwydd i fyned oddicartref, gan deimlo ei rwym- edigaeth hyd y gallai i bregethu'r eíeugyl i'w genedl yu mhob mau yn y dywysogaeth, ac yn nhrefydd Lloegr. Arferai dros flynyddau ymweled â'r Deheudir yn ngŵyliau y Nadolig ; ac wedi i'r wlad hòuo unwaith brofi blas ei weinidogaeth, nid oedd boddloni arni heb brawf helaethach. Dysgw^lid am ei ddyfodiad fel am y gwlaw. Y tro cyntaf, raeddant, yr ymwelodd â

PEN. VII.] SIR GAERNAllFON. 239

sir Gaerfyrddin, disgynodd ar nos Nadolig yu Nghaio ; mewn lle na wyddai neb ymron ddim am dano, ond ei enw. Yr oedd yr enwog William Lloyd, Henllan, gerllaw Caio, i bregetliu gydag ef y noson houo ; a dyeithr oedd Mr. Richardson iddo yntau. Pregethodd am ychydig amser o flaen Mr. Lloyd mor eífeithiol, nes oedd y bobl oll ar dân ; a'r uu modd y gwnai yn y plygain dranoeth. Ond yn LUmsawel y boreu wedi'n, pan oedd y ddau yn pregethu y drydedd waith gyda'u gilydd, y bu oedfa na ollyngwyd hi yn anghof dros flynyddau lawer, gan mor rymus y weinidogaeth, a hynoted yr eff"eithiau a'i dylynodd.

Ni a grýbwyllasom eisoes, yn hanes sir Feirionydd, am y modd y bu Mr. Richardson yn ofiFeryn i ddarostwng yr erlid ar y Methodistiaid yn Nghor- wen,* ac ni a gawn grybwyll eto, yn hanes sir Fflint, pa fodd y bu arno yn NhreÔynnon, yn yr adeg yr oedd Methodistiaeth heb gael, ond yn brin, roddi ei droed i lawr yn y dref hòno. Pan oedd ar daith unwaith yn sir Dref- aldwyn, gwnaed cais gwaedlyd at ei anafu, os nad at ei ladd. Yr oedd yn lletya yn y y buasai y noson hòno yn pregethu ynddo. Dygwyddodd iddo fyned allan i'r drws cyu myned i orphwys, ac wrth iddo ddychwelyd yn ol i'r tŷ, wele gareg drom yn sio yn chwyrn heibio iddo, ac yn crynu coeden gan ei rhuthr. Amcanwyd hyn ato ef, ond Duw a'i cuddiodd yn nghysgod ei law, ac ni ddaeth niwaid iddo.

Yr oedd ar ei daith unwaith yn Môn, a chyfaill iddo o'r enw Daniel Evans gydag ef. 'Feì yr oedd y ddau yn marchogaeth tua Phentref-y-bwäu, gwel- ent o'u blaen luaws o bobl mewn oedran, ar ganol y fíbrdd wedi ymddyosg hyd eu crysau, yn chwareu rhyw gamp, a'r Sabboth oedd hi.

" Wel Daniel," gofynai Mr. Eichardson, " a allwn ni ddangos fíyddlondeb i Dduw, os awn heibio i'r annuwiolion hyn heb eu rhybuddio ?

" Nac allwn, mae yn debyg," atebai ei gyfaill.

" Beth, ynte, a ddywedwn ni wrthynt ? "

" Pregethwch iddynt, fel i bechaduriaid eraill, Mr. Richardson, bach," ebe Daniel. Aeth y ddau yn mlaen, a phan ddaethant at y chwareuwyr, safas- ant, rhoes Mr. Eichardson awen y ft'rwyn yri llaw ei gyfaill ; tynodd ei het, ac a'i rhoes iddo ; yna tynodd, gan bwyll, Feibl bychan o'i logell ac a'i ha- gorodd. Erbyn hyn yr oedd yr holl luaws yn llygad-rythu arno, gan synu beth a allai hyn fod. Darllenodd Mr. Eichardson â llais eglur, yr 20fed ben- nod 0 Exodus, a'r 8fed adnod, " Cofia y dydd Sabboth i'w santeiddio ef." Gydag iddynt glywed hyn, ymaith â'r holl dyrfa, fel rhai wedi eu dal gan fraw aruthrol, fifoisant ymaith ar fiprwst mawr, rhai ar bob Uaw, dros glodd- iau a flfosydd, fel na adawyd yno neb i wrando dim ychwaneg na'r testyn a ddarllenwyd. Yr oedd Mr. Eichardson o wedd foneddigaidd, a thybiodd y Uuaws, yn ddiau, mai swyddog gwladol ydoedd, a'i was, wedi dyfod yno ar fwriad i'w cymeryd i fyny, a'u dirwyo, ara dori y Sabboth.

Crybwyllasom fod rhieni Mr. Eichardson yn anfoddlawn iawn iddo ymuno

Gwel yr hanes tudal. 563., Cyf. I.

240 HANESIAETH Y SIEOEDD. [DOSB. IV.

â'r Methodistiaid, a bod ei dad, o leiaf, yn ffyrnig ei nwydau o herwydd ei siomi yn ei gynlluniau bydol, trwy i'r mab wrtliod cymeryd urddau. Nid oes genym sicrwydd dros ba liyd, nac i ba raddau, y parbaodd ei dad yn ei wrthwynebiad, ond ni a gawn fod Mr. Eichardson wedi myned i edrych am dano ar ei wely angau; a bod ei fam, trwy ei waith ef yn gweddio dros ei dad, wedi cael ei deffro yn nghylch ei chyflwr ysbrydol, ac iddi dreulio gweddill ei hoes mewn aelodaeth eglwysig, yn yr un cyfuudeb a'i mab.

Yr oedd dull Mr. Richardson o bregethu yn wahanol i bawb ymron o'i frodyr. Pa faint bynag oedd ei wybodaeth o bynciau duwinyddol, a pha faint bynag oedd ei gyrhaeddiadau mewn canghenau dysgeidiaeth, nid oedd yr un pregethwr a ddangosai lai o hono ei hun yn y pethau hyny nag ef. Yr oedd pob cysondeb duwinyddiaeth yn ei weinidogaeth, heb ei ffurf ; a phob gwedd- usrwydd dysgeidiaeth, heb ei gwisg. Yr oedd ei ymadroddion yn fyrion, yn gryno, ac yn hyfryd ; yr oedd ei lais yn glir ac yn beraidd ; a'i ysbryd yn . fywiog ac efengylaidd. Nid yn fynych y ceid ef yn trin un mater fel pwnc noeth, er y byddai ei bregethau yn Uawn o sylweddau athrawiaethol. Nid oedd ei gyffelyb am fedru taro ar gnewyllyn ei bregeth, megys ar unwaith, heb uu rhagymadrodd, nac oh'heiniad graddol a bLaenorol. Yr oedd mor fywiog ar ddechreuad ei bregeth ag a fyddai ar ei chanol. Nid oedd angenrheidrwydd arno, tybygid, ara lawer o amser i enyn ci ysbryd, ac i ddwyn ei feddwl i'r cywair priodol. Nid oedd modd oh'hain y drefn a osodai iddo ei hun wrth bregethu. Nid oedd penau Liwer ar ei bregeth, na ffurf o ymbyncio. Nid dull 0 ymresymu yn gryf oedd ganddo, a llawer llai o ymddadlu, onddadgan mewn ymadroddion brawddegol a chryno, ac ysbryd a gwedd hyfryd, fawr gariad Duw yn Nghrist lesu at bechaduriaid colledig. Gallasai rhai feddwl y buasai cyfansoddiad mwy trefnus ar ei bregethau fod yn gynorthwy i'w cofio yn well, ac y buasai mwy o athrawiaethu yn fwy effeithiol i eangu y deall, ac i gywiro y syniad ; ond pa un bynag am hyny, fe fu gweinidogaeth Mr. E-ichardson yn enniUgar iawn i ddwyn dynion i wrando, ac yn fendithiol iawn i'r sawl a'i gwrandawent. Pan ddaeth gyntaf i Gaernarfon, arferai hen bagan- iaid ty wyll y fro ddyweyd, " Y mae yn rhaid i ni fyned i'r fan a'r fan heddy w i wrando ; mae Evan Richards' yno," " Y pregethwr goreu sydd i'w gael yw hwnw," meddai y naill ; "na," meddai y Uall, " nid oes dlm nad oes ei gystal." Hawdd ydyw gweled yn hyn, ffolineb y werin ar y naiU law, a dawn enniLlgar y pregethwr ar y llaw arall. Nid oes amheuaeth na fu ef yn un o'r prif offerynau i ddwyn trigolion Arfon i wrando'r efengyl ; ac nid ei ddawn poblogaidd, ei lais chr, a'i wedd siriol, yn ennill ar deimladau y werin ddifeddwl, oedd y prif ganmoliaeth yn y gweinidog hwn ; ond yr oedd yn perthyn iddo ddwysder cymeriad, hynawsedd ysbryd, doethineb ymddygiad, a ffyddlondeb llafur, a barai barch diffuant iddo, gan y rhai a adwaenent fw^^af o hono, fel gŵr Duw, a gweinidog cymhwys y Testament Newydd. Perchid ef yn Nghaernarfon yn fwy nag yn un man arall. Nid oedd neb dyeithr yn meddu cymaint o ddylanwad, na'r un pregethwr yn cael mwy o wrandawyr, nag a gai ef yn ei gartref.

PËN. VII.] SIR GAERNARFON. 241

Ond er maiut oedd ei ddefnyddioldeb a'i barch, syrthiodd arno, flynydd- oedd cyn ei forwolaeth, anmhariaetli trwm gan y parlys. Difuddiodd hyn ef i raddau mav/r am y gweddill o'i oes. Anraharodd yr aíìechyd hwn lawer ar ei gofjf ac ar ei olwg, ac nid Uawer ar ol hyn y symudodd o'i gartref ; eto yr oedd yn anhawdd ganddo ef ei hunroipregethuheibio yn llwyr,* ac anhawdd gan ei frodyr oedd ei lesteirio, îe, er gweled fod gradd o anturiaeth yn hyny, trwy fod ei gof yn agored i ballu. Ar ryw achlysuron, pa fodd bj'nag, "ie, yn y tymhor hwn, fe'i gwisgid ef â phrydferthwch, ac ag arddeliad anarferol, nes y byddai yr hoU gynulleidfa yn fyw trwyddi. Ond yr oedd yr amser, er hyn oll, yn dynesu ag yr oedd yn rhaid iddo roddi y "tabernacl hwn heibio," yr oedd y dyn oddiallan yn llesgau fwyfwy, ac amser ei ymddattodiad yntau a ddaeth. Ei eiriau olaf oeddynt, " Byw i mi yw Crist, a marw sydd elw." Bu farw mewn tangnefedd, Mawrth 29, 1824, yn 6.5 ml. oed, wedi bod yn pregethu, yn ol a allaf gasglu, tua 45 o flynyddoedd.

Bellach, dychwelwn at fynediad Methodistiaeíh yn mlaen yn y dref. Er maint a fu defnyddioldeb Mr. Eichardson i ddwyn yr achos yn ei flaen yn Nghaernarfon, eto y mae yn weddus chwanegu mai mewn cysylltiad â'i holl frodyr y bu hyn. Yr oedd yn cydlafurio gydag ef dros ystod mwy neu lai, amrywiol o weithwyr difefl ; y rhai yr oedd eu gweinidogaeth yn nerthol an- arferol. Yr oedd ehediadau eryraidd Eol^ert Eoberts o Glynog yn tynu sylw yr hoU wdad. Gan faiut y sun a fyddai am dano, jTngynulIai torfeydd Iluosog i'w wrando, a chan y tflachau tanllyd a fyddai yn ei bregethau, yr oedd nifer fawr o'i wrandawyr yn cael eu dal gan syndod a braw, a thrwy swjii hyfryd yr efengyl a ddadgenid ganddo, yn cael eu sugno yn ewyllysgar dan iau y Cyfryngwr. Nidhir o araser ar ol i Mr. Eichardson ymsefydlu yn Nghaer- narfon y daeth John Elias i'r golwg, gan gyífroi yr holl wlad trwy rym ei weinidogaeth. Cymysgai y gwŷr hyn, a lluaws o rai eraiü Ilai eu doniau cyhoeddus, ond tra defnyddiol eu gwasanaeth i achos yr efengyl, eu Uafur gyda'r eiddo Mr. Eichardson, nid yn Nghaernarfon yn unig, ond yn mhob man arall a fyddai o fewn eu cyrhaedd.

Adeiladwyd y capel, fel y soniwyd, yn y fl. 1793. Wedi cael Ile cyfleus i addoli, lluosogodd y gwrandawyr, a chwanegwyd Ilawer at yr egiwys. Yr oedd yr achos yn ymwreiddio ac yn ymledu yn y dref a'i hamgylchoedd, a chyn llawer o flynyddoedd aeth y capel yn rhy fychan ac anghyfleus i gynal yr oedfaon. Prynwydychwaneg o dir, gau hyny, i'w helaethu ; ac ail-adeilad- wyd ef yn y fl. 1806. Ystyriwyd y capel Iiwn, yn y wedd a roddwyd arno yn yr adgyweiriad a'r helaethiad presenol, yn adeilad eang a phrydferth. Yn yr adeg yma yr aeth Mr. Eichardson i Lundain i wasanaethu yr achos yn

* Clywais am dano yn y tymhor llesg hwn, prj-cl jr oedd ei olwg a'i gof wedi pallu yn fawr, ei fod mewn lle uid yn mhell o'i gartref, wedi codi i fjTiy yn y pulpud i gynyg pregethu, ond nid oedd. druan gvvr, yn abl i adgoffa ei destyn. Torodd allan i wylo, gan ddyweyd, " Dyma ti, hen bechadur, heb destyn, ac heb lygaid, ond nid heb Dduw ; bendigedig a fo fe, j;i 1 heb Dduw!" A'r ystyriaeth yma a fu yn destyu iddo, a phregethodd oddiwi-tho mcwu modd tra effeithiol.

R

242 HANESIAETH Y SIROEDD. ' [UOSB. IV-

mblitli y Cymry yno ; a chyu iddo orphen ei dymhor, bu raid iddo ddychwelyd, o herwydd marwolaeth ei wraig, yr hon a adawsai yn ei hiechyd cyfFredin. Yn yr un tymhor hefyd, sef yr adeg yr oedd y capel yn cael ei adeiladu, y torodd adfywiad crefyddol yu mysg yr ieuenctid. Parhaodd yr adfywiad hwu dro3 ryw ysbaid i ymledu ac i ymgryfhau, nes chwyddo llawer ar rifedi yr eglwys a'r gwrandawyr.

Parhaodd yr achos yu y wedd siriol oedd arno, er uad yn hollol gyfartal, am ysbaid 20 mlynedd. Ax y cyfan, yr oedd yn ymhelaethu yu raddol dros yr holl amser hyny, nes y bu raid meddwl helaethu y terfynau eilwaith ; a hyny a wnaed yn fl. 1826. Cafwyd Ue i adeiladu, mwy cyfleus i'r dref, yn Mhen'r-allt, ac adeiladwyd addoldy newydd a helaeth iawn, yr hwn a gostiodd yn agos i £4,500.

Parhaodd y gwrandawjT: i gyuyddu fwyfwy. Cyu nemawr o amser yr oedd capel mawr Pen'r-allt yn caelei orlenwi, yr eisteddleoedd oU wedi eu cymeryd, ac ymofyniad parhaus am ychwaneg. Parodd yr amgylchiadau hyn i'r ymofyn- iad godi, ai nid dyledswydd oedd ysgogi yn mlaen, a chan fod capel Pen'r-allt eisoes yn ddigon o faint i lais cyff"redin allu ei lenwi, ai nid buddiol a fyddai adeiladu capel arall, mewn cẁr arall o'r dref? Hyn, ar ol dwys ystyriaeth, a bwrw y draul, a benderfynwyd arno ; prynwyd lle yn y rhan o'r dref a elwir Tre'r-gof, ac adeiladwyd capel helaeth arno yn y fl. 1843. Mae hwn yn cael ei lenwi â gwrandawyr, ac nid rhyfedd fyddai, gan amled ydyw trigolion y di-ef, a chan y llwyddiant a welodd yr Arglwydd yn dda goroni yr achos, pe gorfyddid codi capel arall cyn byddo hir.

Y PARCH. WILLIAM LLOYD, B.A.

Yr oedd y gŵr duwiol hwn yn un o'r tri offeiriad a gawsant urddau esgobawl, ac a ymunasant â'r Methodistiaid yn Ngogledd Cymni. Y ddau arall sydd dra hysbys, sef y Peirch. T. Charles ac S. Lloyd o'r Bala. Mab oedd y Pareh. W. Lloyd i ]Mr. Robert Lloyd, Pen-y-maes, Nefyn, sir Gaer- narfon. Ganwyd ef yn y fl. 1771. Dygwyd ef i fyny yn Ehydychain, a chyrhaeddodd raddau helaeth o ddysgeìdiaeth, mwy felly, meddir, mewn rhy w gaughenau, na chyffredin, yn enwedigol yu yr iaith Lladin. Derbyniodd ei urddau gan Dr. Cleaver, esgob Bangor, yn y fl. 1801, ac feUy pan ydoedd yn 30 ml. oed. Cychwynodd ei weinidogaeth yn Ehosgolyn, Môn, gerllaw Caergybi. Yr oedd ar y pryd yn gwbl amddifad o'r cymhwysderau haufodol i weinidog jc efengyl. Dygwyd ef i fyny mewn dyeithrwch i grefydd ysbryd- ol. Ni wyddai ei rieni eu hunain ddim am dani, a'r cwbl yu eu golwg, yn ddiau, wrth ei ddwyn i fyny i'r eglwys, oedd parch ac elw y byd presenoL Felly hefyd y tyfodd y gŵr ieuanc i fyny. Yr oedd yn hardd ei berson, yn siriol ei dymher, ac yn foneddigaidd ei foes. EuuiUasai iddo ei hun barch y mawrion, a thynasai arno ei huu sylw arbenig yr esgob. Yr oedd yr hoU amgylchiadau hyu yn tueddu i enyn ynddo dyb uchel am dano ei hun ; a chan nad oedd Uywodraeth gan y gwirionedd ar ei galon, hawdd oedd ei

PEN. VII.] SIR GAEHNARFON. 243

llthro i gydymffurfiad hollol ag arferion y dosbarth y troai, bellach, yn eu mysg. Cadarnheid ef mewn tyb uchel am ei gjTnhwysder i'r swydd, trwy y gwyddai ddarfod iddo raddoli yn anrhydeddus yn y Brif Tsgol, yn enwedig gan ei ordeinio yn rheolaidd i'r swydd, a bod gan yr esgob feddwl uchel am dano. Ac er ei fod yn rhedeg yn ddinâg gyda'r lli, ac yn dylyn yn hoyw ar- ferion llygredig, a chwareuon ofer ei oes a'i gymdeithion, eto nid aeth i'w feddwl fod ei sefyllfa gyda Duw mewn un math o berygl, na bod un sail iddo amheu ei gymhwysder i weinidogaeth yr efengyl. Barnai fod yn rhaid ei fod yn blentyn i Dduw, gan ddarfod ei fedyddio yn rheolaidd, a hònai ei fod yn offeiriad awdurdodedig, gan ei fod yn yr olyniaeth apostohiidd, ac wedi ei gynysgaethu â dawn yr Ysbryd Glâu, am fod dwylaw yr esgob wedi eu har- ddodi amo.

Yn yr agwedd wagsaw ac anystyriol hon y treuliodd Mr. Lloyd flynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth. Eithr gwelodd yr Arglwydd yn dda gyfarfod ag ef yn ei ras, a hyny trwy foddion anarferol a dyeithr. Dygwyddodd fod gwledd bedydd i fod ar ryw Sabboth mewn gŵr boneddig, lle y dysgwylid, yn ol yr arfer y pryd hwnW, nifer o foneddwyr a chlerigwjT i yragyfarfod. I'r wledd hon gwahoddwyd Mr. Lloyd. Cafodd fenthyg ceffyl ar yr achlysur gan Mr. John Williams, Lledwigan, Mon. Ar ei ddychweliad, yr oedd y nos wedi cerdded yn mhell, ac wrth roddi gofal y ceffyl i'r gwas, gorchymynodd roddi llyffethair am ei draed. Ond tra yr oedd y gwas yn gwneuthur hyn, ac wedi sicrhau un egwyd i'r anifail, fe ddiangodd y ceffyl o'i afail cyn iddo allu sicrhau yr egwyd arall. Yr oedd y gadwyn, bellach, yn rhwym gerfydd un pen wrth yr anifail, yr hwn trwy ei fod yn rhedeg yn wyllt a chyflrous, a gurid yn arswydus gan y gadwen ; a chymaint felly nes ei archolli yn drwm iawn, Parhaodd y ceffyl i redeg, a pharhaodd y gadwen i'w guro nes iddi dori yn gwta yn agos i'w droed. ]\Iawr oedd profedigaeth Mr. Lloyd pan ddeallodd y modd y bu yr anffawd, a dechreuodd synfyfyrio jîa ryw oruchwyl- iaeth oedd hon ? Pa beth a allai fod yr achos o honi, a pha ddyben a allai fod iddi ? Daeth i'w gôf yn y fan mai ar y Sabboth y buasai yn gwledda, ac mai gwledda yn llygredig a wnaeth, dan esgus ordinhad grefyddol. Mewu gair, dygwyd ef fel yr afradlawn ato ei Jimi. Ymddangosai ei yraddvgiad, bellach, mewn gwedd newydd, a dyeithr iawn. Gwelai wrthuni yn awr lle y gwelsai harddwch o'r blaen ; gwelai bechadurusrwydd yn awr Ue y tybiasai fod diniweidrwydd o'r blaen ; ymaflodd euogrwydd yn ei gydwybod, a ffôdd tangnefedd o'i fynwes,

Gwnaeth Mr. Lloyd ei oreu i ysgwyd ymaith y teimladau pruddglwyfus hyn. Ehoddai brawf eilwaith ac eilwaith ar yr lien ddifyrwch, ac ymofynai yn nghwmni ei hen gyfeillion diofal a llygredig am feddyginiaeth i'w archoll, ond nid oedd dim yn tycio. Aeth unwaith i Nefyn i'w hen gartref ar yr un neges, ac heb ddim gwell llwyddiant. Cyfarfu unwaith ar y ffordd â gwi-aig y buasai lawer gwaith yn ei chwmni yn nghyfarfodydd ofer y boneddwyr, a Uonai wrth ei gweled, gan ddysgwyl y cawsai air oddiwrthi yn yr ymddyddan a liniarai ei ofid ; yn lle hyny ei chwanegu a wnaed. Yr oedd y wraig heb

244 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

wybod iddo ef, wedi gweled ei hunan oferedd ei hymddygiad, ac wedi troi oddi- wrtho yn hollol ac am byth ; ac ebe hi Avrth Mr. Lloyd, " Ehaid i ni ein dau, Mr. Lloyd bach, gael edifeirwch a maddeuaut am y duU ysgafn ac an- nuwiol a fu arnom." Yn y cyfamser, a thra yr oedd ei faich ymron yn annyoddefol iddo, daeth yn adnabyddus o lieu ŵr tlawd yn ardal Hhosgolyn, yr hwn a aduabyddid fel dyn duwiol iawn, ac yu aelod gyda'r Methodistiaid yn yr adal hòno. Fe fu cyfeillach â'r hen ẃr hwu yu foddion i'w arwaiu at Geidwad pechadur, a thrwy hyny i roddi gorphwysdra i'w enaid trallodedig.

Bellach, ymddangosai yn ddyn newydd yn y pulpud. Medd ei fywgrafiydd am dano y pryd hwn, " Auadlai anadl eiuioes i gorff marw y Llyfr Gweddi Cyffredin chwystrellai ysbryd trwy yr holl íTurf wasauaeth ; a melltenai fywyd trwy bob aelod o'r ífurf-weddiau." Llefarai, bellach, fel un ag awdur- dod ganddo. Swynai dyrfaoedd lawer i wraudo aruo ; a gwelwyd yn Ilanau Ehosgolyn, Llanfair, Llanfihaugel, yr eglwysi y pregethai ynddynt, gynull- iadau na welsid eu cyfi^elyb ynddynt erioed o'r blaen. Yr un wedd oedd ar bethau yu Nefyn pan aetîi yno i bregethu ; yr eglwys yn orlawn o wrandawyr, a'i weinidogaeth yntau yn dwyn profiou amlwg o eueiniad yr Ysbryd Glân.

Y''n fuau ar ol hyn, fe ymuuodd â'r Methodistiaid yn Ehosgolyn. Yr oedd nifer y crefyddwyr yn y lle hwn yn ychydig iawn ; cangheu ydoedd o'r gym- deithas eglwysig yu Nghaer-geiliog, ac nid oedd nifer yr aelodau yuy dduu le gyda'u gilydd, oud ychydig o rif, tua 18 o bersonau, a'r rhei'ny, ymrou oU, yn bobl ddiddysg ac isel, tra gwahanol i'r cwmni y buasai Mr. Lloyd yu troi yn eu plith yn fiaenorol. Wedi ei dderbyn yn aelod egiwysig yn Nghaer-geiliog, annogwyd ef yn fuan i ymgyfiwyno i'r cwrdd misol. Hyd yn hyn, nid oedd wedi pregethn ya un mau allan o'r Ilauau plwyfol ; ond nid hir y bu ar ol hyn na ddechreuodd bregethu mewn Ileoedd eraUI, Ileoedd anghysegredig ; a phrysurodd rhai o'i gyd-glerigwyr i achwyn arno wrth yr esgob. Yr oedd Mr. Lloyd yn rhagweled y caulyniad, ac wedi bwrw y draul, gan benderfynu, pa helynt bynag a'i cyfarfyddai, i gadw cydwybod ddirwystr tuag at Dduw yn y tro hwn.

Yr oedd Mr. Lloyd, yu fynych, yn teimlo ofnau dwysiou na alwyd ef i'r weinidogaeth, a pharai yr ofnau hyn lawer o nychdod i'w ysbryd. Dywedai, yn fynych, mai dyn yn uuig a roddasai awdurdod iddo i bregethu, a hyny pan ydoedd yn ddyn aunuwiol, ac yn hoUoI anghymhwys i'r swydd. Parha- odd y syniad hwn i aflonyddu arno, yn awr ac eilwaith, dros ei oes, ac nid oes amheuaeth ua fu yu llawer o wanychdod i'w feddwl gyda phregethu, gan ei wneu.thur o hjiiy yn barotach i ymaflyd mewn rhyw orchwyl bydol er mwyc bywioliaeth. Ar y pryd yr ymunodd ef â'r Methodistiaid, nid oedd neb yn gweinyddu yr ordinhadau arwyddol, ond y sawl yu eii plith a gawseut urddau esgobawl, ac o'r rhai'n nid oedd oud dau yn holl Wyuedd ; dan yr amgylch- iadau hyn yr oedd cael Mr. Lloyd i'r cyfundeb, pryd nad oedd uu amheuaeth am ei dduwioldeb, yn cael ei ystyried yn ychwanegiad manteisiol iawn; a galwyd arno i Iwyr ymroddi i'r gwaith, gan sicrhau iddo ua fyddai arno eisiau dira. Oud dewis a wuaeth yu hytrach ymaflyd mewu galwedigaeth fydol, a

PEN. YII.] SIR GAERNARFON. 245

phregethii ar y Sabbotliau mewn gwahanol fanau, fel y gelwid aruo. Y pen- derfyuiad hwn a'i harweiniodd i Gaernarfon i fyw, gan fod iddo frawd yn farcer yno ; yn ngwasanaeth yr hwn y bu efe yn foddlawn i aros dros ryw gymaint o amser. Wedi hyn aeth i Nefyn at ei fam a'i chwaer, a bu gyda hwy dros rai blynyddau yn arolygu yr ychydig dir oedd ganddyut, a gwasau- aethu yr eglwysi yn ngwahauol barthau o'r wlad. Symudodd o Nefyn i Fryn-eurau, yn mhlwyf Clynog, i gadw ysgol, a thrachefn symudodd i Gaer- narfon, yn y fl. 1817, lle y bu yn cadw ysgol am ysbaid 9 neu 10 ml. Yn y fl. 1826, priododd Miss Jane Eoberts, pan oedd yn 55 ml. oed, a chafoddynddi ymgeledd gymhwys, y fath a barai fod gweddiU ei oes yn brydnawngwaith teg a liyfryd, niewu cydrahariaeth i'r hyu a fuasai o'r blaen. Yn fuau wedi priodi, rhoes yr ysgol i fyny, gan ymroddi yn llwyrach i wasanaethu teyrnas y Cyfryngwr.

Anaml y cyfarfyddid â gŵr mwy ei ddiniweidrwydd na Mr. Lloyd. Cyn ei ddychweliad, yr oedd yn ddyn uchel ei fí"roen a balcliaidd ei naws, ond wedi hyuy yr oedd yn nodedig am ei dduwioldeb a'i ostyngeiddrwydd. Y dysgrifiad a roddai pawb o hòno, oedd, " Mr. Lloyd, dduwiol, ddiniwaid." Nid yn ei weiuidogaeth, rhaid addef, yr oedd ei enwogrwydd, ond yn ei ras. Os nad oedd yn hynod fel ymadroddwr ger bron dynion, yr oedd jti neiUduol felly fel yradrechwr gyda Duw^ Ni feddai hyawdledd mawr mewn pregethau, oud yr oedd iddo ddyfodfa at Dduw mewn gweddiau. Ac yn ei weddiau fe fyddai yn fynych yn derbyn arwyddion nodedig o foddlonrwydd Duw iddo, nes byddai ei lestr yn rhedeg drosodd. Yr oedd un nos Sabboth yn lletya yn nhŷ capel Llanrug, gerllaw Caernarfon. "Wedi myned i'r 'stafell wely, a disgyn ar ei liniau, llewyrchodd ar ei ysbryd, a llanwyd ef o orfoledd nes y gwaeddodd dros y tij, "Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd lesu Grist." Ar hyn, fe glywodd William WiUiams, gŵr y tŷ, y s\vn, ac aeth ato. Euynodd y tân ynddo yntau, ac yuo y bu y ddau heu bereriu yu moliannu Duw am oriau. Wedi llwyr ddifFygio eisteddent, gan adrodd y naill wrth y llall brofiadau eu mynwes, weithiau trwy adnod o'r Beibl, ac weithiau trwy benniU o hymn. Adroddai WiUiam y pennill

" Mi gaf fy nghorfF i fyny Fel fy an^^ylyd cu, &c."

ac atebai Mr. Lloyd iddo trwy adrodd yr adnod, " Yr hwn a gyfnewidia ein corff gwael ni, fel y gwnelid ef yr un ffurf a'i gorff gogoneddus ef," ac yna, gydag enaid toddedig y dywedai, " Beudigedig fyddo Duw ! " Y"na adroddai y geiriau, " Angau a lyncwyd mewn buddugoliaeth ;" a hjniy gyda'r fath flas hyfryd, a'r fath lewyrch dysglaer, ag oedd yn ddigon, pe buasai bosibl, i beri i'r cerig lefaru yn y fan ! Arferai yn gyffredin ar nos Sabbothau, pan yn ymddyddan â'i Arglwydd, roddi cyfrif o'i wasanaeth drosto yn ystod y dydd roddi diolch am uurhyw gymhorth a gawsai ; ac erchi am faddeuanl iddo ei hun o'i waeleddau, ac am fendith i eraill ar y gwirionedd a draeth-

246 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

asid gauddo. Ar uu o'r achlysuron hyn y defnynwyd i'w fynwes y fath ddiferion melys a goffawyd.

Tr oedd cymaint o dynerwch teimlad yn mynwes Mr. Lloyd, a chymaint o ofn gwneuthur dim a fyddai yn anweddus, chwaithach yn bechadurus, fel y mae yn sŷn, ar ryw gyfrifon, ei fod wedi casglu digon o benderfyniad meddwl i ymadael ag eglwys Loegr, ac ymuno â'r jTnneillduwyr, gan y gwyddai y gofid a barai hyn i'w deulu ; ond yr ydym yn cael fod tynerwch o natur arall hefyd yn ei galon, yr hwn a osododd arno fath o atigeyirheidncydd i gymeryd y cam a wnaeth. Tr oedd gwasanaeth bedydd yn yr eglwyg hòno yn ei boeni : edrychai ar ancydd y groes yn weddiU pabyddiaeth ; ac ar dadau a mamau bedydd yn afreidiol ac anysgrythyrol; a theimlai yr iau a osodid arno i fedyddio plant pawb yn ddiwahaniaeth, yn flinder i'w gydwybod. Tr un modd y teimlai anesmwythder annyoddefol wrth gladdu, a gweinyddu y cymun, ac ymweled â'r claf, Wedi ei oleuo am ei gyflwr ei hun, canfyddai y fath wrth- uni yn arferion llygredig clerigwyr ei oes, fel na fynai ar un cyfrif gael ei restru yn eu mysg, na dal cymundeb â hwy ; na fynai gymaint a bod felly meìs'n enw.* Tr ystyriaethau hyn a'r cyfí"elyb a ogwyddodd ei feddwl yn benderfynol, er pob colled a gwarth a ddyoddefai, i ymddyosg oddiwrth berthynas â'r eglwys wladol, ac i fwrw ei goelbren gyda'r Methodistiaid ; a threuliodd tua 36 o flynyddoedd yn eu cymdeithas, gan lafurio mwy neu lai, yn ol ei ddawn, ar gyhoedd yn y cyfundeb, a chan rodio yn ddyfal gyda Duw jTi y dirgel. EnniUodd iddo ei hun enw anrhydeddus, enw gwell nag ys- golhaig mawr, îe, gwell na bod yn bregethwr poblogaidd, sef yr enw o fod yn Gristion cywir, dihoced, a diargyhoedd. 0 hyn fe roddasai brofion lawer yn ystod ei oes, a chwanegodd lawer atynt yn ei glefyd diweddaf. Tn nghan- ol tymhestl marwolaeth, a phan oedd llestr ei natur yn }Tnguro ar greigiau certh y tragywyddolfyd, dywedai mewn llais croyw, " Mae yn daicel iawn oddi/ewn ! " Cynllun teg o'r tangnefedd oedd yn ei aros yr ochr draw. Bu farw Ebrill 16, 1841, yn 70 mL oed.

PENNOD VIII. METHODISTIAETH YN MANGOB A'I CHYFFINIAU.

OTHWTSIAD : JOHN WILLIAMS, LLÂNDEGAI— DECHREUAD METH0DI8TIAETH YN MHLWYFYDD LLANDEGAI A LLANLLEOHID— ANSAWDD Y WLAD AR Y PRYD O RAN GWYBOD- AETH AC ARFERION— GWEDD HYNOD Y BOBL MEWN OEDFA MEWX ARDAL FYNYDDIG PREGETHU YN YR ACHYB— DECHREUAD YR YSGOL SABBOTHOL, A'I LLWYDDIANT— METHODISTIAETH YN ABER— PARCH. D. JONES, A WILLIAM JONES, ABEROASEG.

JOHN WILLIAMS, LLANDEGAI.

Ganwyd y gŵx hwn tua'r fl. 1756 ; ao efe, meddir, oedd y Methodist cyntaf yn y dosbarth hwn o'r wlad, sef yn mhlwyíydd Llandegai a Llanllechid.

* Darllener Cofiant dyddorol iddo yn y " Dryaorfa " am y fl. 1846, gan y Parch. D. Jones, Caemarfon.

PEN. Vi:i.] SIR GAERNARFON. 247

Oddiwrth hyn y gwelwn nad yw Methodistiaeth ddim mor hen ag y gallesid dysgw^l yn y llanerchi hyn, wrth ystyried y nifer mawr o gapelau sydd yn britho yr ardaloedd, a'r cyniüleidfaoedd lluosog sydd yn awr yn eu Uenwi, priu y mae 70 ml. wedi myned heibio er pan y profodd John Williams radd o awdurdod y gwirionedd ar ei feddwl ; cymerodd hyu le tua'r fl. 1783. Y pryd hyn nid oedd dim pregethu gan y Methodistiaid, nac yn wir gan un enwad arall, yn yr holl ardaloedd hyn, oddieithr yn y Uanau plwyfol, nc yn y rhai hyny nid oedd y pregethu ond anfynych, a phan y byddai, nid oedd ynddo nemawr o efengyl. Yr oedd John Williams hefyd, hyd y pryd hwn, "yn byw yn ol helynt y byd hwn, heb obaith ganddo, ac heb Dduw yn y byd." Ond cyfarfu ag ef oruchwyliaeth heb ei dysgwyl, ag a fu yn foddion i weithio ynddo gyfnewidiad trwyadl, ac i'w wneiithur yn ddefnyddiol yn ei ddydd i " gynal gair y bywyd," yn ei ardal dywell, dros weddill ei oes. Fel hyn y bu :

Yr ydoedd unwaith yn ymbarotoi i fyned i wledd bedydd (yr oedd y cyf- ryw wleddoedd yn Iluosog yn y dyddian hyny) : ond cyn iddo orphen ymwisgo, cymerodd Feibl, yr hwn oedd yn ei ymyl, yn ei law, a dygwydd- odd iddo droi at 50fed Salm. Darllenodd iddo ei hun y Salm hyd yr 21ain adnod : " Hyn a wnaethost, a minau a dewais, tybiaist ditbau fy mod i yn gwbl fel ti dy hun, ond mi a'th argyhoeddaf, ac a'i trefnaf o flaen dy Iygaid." Cafodd y geiriau hyn efí'aith anarferol ar ei feddwl. " Ni allaf," meddai ef ei hun, " eu hanghofio byth." Aeth i'r bedydd, er hyny, a gwnaeth bob ym- gais i foddi blinder ei fynwes â diod gadarn, ond niethodd yn lân a meddwi dim. Sylwai y cwmui, nad oedd John WiIIiams mor siriol ac ysgafn ag y byddai ef yn arferol o fod, ond yr achos o dristyd ei wynebpryd a gadwai oddiwrthynt. Daeth adref o'r bedydd, ac fe aeth eilwaith at y ddiod, i dafarn yn ymyl ei ; ond yma, hefyd, fe ff"aeIodd yn Ilwyr a meddwi. Aeth i'r gwely, ond treuliodd y nos heb allu cysgu ; yr oedd y saeth lem yn glynu yn ei galon. Yn y blinder annyoddefol hwn y bu dros rai misoedd. Nid oedd ganddo neb yn yr holl wlad i ddyweyd ei gŵyn wrtho, ac nid oedd ef ei huu yn gallu dirnad pa beth a ddarfu iddo. O'r diwedd, penderfynodd ymofyn, ai nid oedd neb yn pregethu yn un man, modd y gallai eu gwrando, i edrych ai ni ysgafnheid ei faich trwy hyny. Dygwyddodd glywed, pa fodd bynag, fod gŵr dyeithr o bregethwr i'w ddysgwyl, ar ryw amser penodol, yn sir Fôn. Aeth yno, a chlywodd y peraidd efengylydd o Langan. Profodd y fath yrawared trwy y weinidogaeth yn y tro hwn, fel y dywedodd gyda llwyr ymroddiad, " Dyma fy mhobl i, bellach, am byth."

Mawr fu ei lafur, dros rai blynyddau, ar ol hyn, i fwynhau pregethiad yr efengyl. Ar y Sabbothau, âi i Lanberis y boreu, Llanrug y prydnawn, a Chaernarfon yn yr hwyr, a dychwelai adref drachefn, wedi cerdded yn ystod y dydd nid llai na 40 milldir o fi'ordd. Tua'r fl. 1787, fe Iwyddodd i gael oedfa i'w dỳ ei hun, yi- oedfa gyntaf, meddir, gan y Methodistiaid yn mhlwyf- ydd Llandegai a Llanllechid. Fe fu pregethu yn y tỳ hwii, sef y Felin-isa', am oddeutu 8 ralynedd^ erbyn hyn cododd erlidigaeth, a bu gorfod i John

248 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV,

Williams ymadael, oblegid y gwrthwynebiad oedd gan un Mr. Roe, perchen- og y tŷ, iddo lochi pregethu ynddo. Yr oedd yn gyfyng iawn ar John Williams erbyn hyn, gan fod ganddo deulu lluosog, ac nid oedd un man yn ymgynyg iddo i aneddu. Eto gofalodd rhaghiniaeth am dano ; cafodd bychan i fyned iddo ar ben y tymhor; a bu ynddo am ysbaid 15 mlynedd, er ei fod yn dra anghyfleus. Sylwai y cymydogion na íu Ilwyddiant ar y g\vr a'i gyrodd ef ymaith ; y cyfryw ydoedd syniadau y weriu ; a pha un bynag ai ofergoeledd ai peidio ydoedd y cyfryw syniadau, y mae y ffaith yr un. Aeth y gŵr, cyn pen y flwyddyn, yn ddall, a pharhaodd felly dros ei oes. CoIIodd hefyd ei fasnach, fel y bu raid iddo ymadael â'i dŷ, ac â'r wlad, a myned at ei deulu i Liverpool i orphen ei oes.

Tra yr oedd y pregethu yn aros yn y Felin-isaf, y cynaliwyd y cyfarfod pregethu cyntaf yn y wlad hon. Yn y cyfarfod hwn, yr oedd Mr. Eichard- son, Caernarfon ; John Jones, Edeyrn ; Eobert Eoberts, Clynog ; a'i frawd John Eoberts, yn pregethu. Yr oedd costau y cyfarfod pregethu hwn, yn nghyda chostau cyffredin y weinidogaeth, yn disgyn yn gwbl, dros ryw gy- maint o amser, ar John Williams. Y mae yn wir nad oedd y draul hòno ddim yn fawr, eto yr oedd yn fawr i ŵr yn ei sefyllfa, a chyda'i deulu ef. Nid oedd un lle i roddi ceffylau y pregethwyr a ddeuai i'r Ile, ond yn y dafarn, ac at John WiIIiams yr edrychid am dâl. Fe fu y gŵr hwn yn Ilafurio yn ffyddlon a dirodres iawn dros flynyddoedd lawer, pryd nad oedd iddo uemawr o gynorth- wy. Ee ddywed Eobert Jones am dano, " Fe fu yn ddefnyddiol iawn hir flynyddoedd, yn cynal gair y bywyd heb ddiffygio, yn wyneb llawer o ddi- galondid. Bu dros amser maith yn derbyn pregethwyr i'w heb gynorth- wy neb. Yr oedd yn llenwi lle mawr yn ei ardal, yu enwedig yn yr eglwys ; bu farw yn nghanol ei ddyddiau, er galar a cholled i lawer ; ac ni lanwyd ei le yn gwbl gan neb hyd yma." Yr oedd Eobert Jones yn ysgrifenu y dyst- iolaeth uchod am dano yn mhen ychydig flynyddau ar ol marw John WiUiams. C^anerodd ei farwolaeth le pan oedd yn 60 ml. oed ; yn y fl. 1816. Nid ydym yn sicr i ba raddau y gwobrwywyd John WiUiams cyn ei ymadawiad, trwy gael gweled Ilwyddiant yr achos y bu ef yn foddion arbenig i'w blanu yn ei ardal, ond sỳn, yn ddiau, a fuasai ganddo weled graddau ei gynydd presenol, pe cawsai fyw i gael hyny. " Aeth y bychan yn fil, a'r wael yn genedl gref." _

Wedi ysgrifenu hyn o hanes John WiUiaras, derbyniais ysgrifion eraill, yn traethu am gychwyuiad Methodistiaeth yn y parth yma o'r wlad. Dywedwyd mai John WiIIiams oedd y Methodist cyntaf, ac mai yn y fl. 1787, yu y Eelin-isaf, y bu yr oedfa gyntaf ; ond fe ddywedir gan eraill fod pregethu wedi bod yn awr ac eilwaith er y fl. 1777, ac mai yn y Tyddyn-isaf, un EIiza- beth EIIis, y cynelid ef. Dywedir i'r wraig hou fyned i Fochdre, Ile tua phedair milldir hwnt i Gonwy, felly dros 15 miUdir o ffordd o'i chartref, i ymofyn am gynghorwr bychan ag oedd yn byw yno, sef Thomas Hughes, i ddod i bregethu i'w thŷ, ac iddo yntau gydsynio â'i chais. Ee allai mai y gwir ydyw, mai yn nhŷ John Williams, yn y Felin-isaf, y bu yr oedfa gyntaf

PEN. VIII.] SIR GAEBNARrON. 249

yn mhlwyf Llandegai, ac mai yn nhŷ Elizabeth WiUiams, sef y Tyddyn-isaf, y bu y gyntaf yn mhlwyf LlanUechid. Os felly, fe gydsaif y ddwy dystiolaeth â'u gilydd. Oddiar yr un ystyriaeth y gellir, fe ddichon, ddyweyd mai John WiUiams oedd y proífeswr cyntaf yn mhlith y Methodistiaid yn Llan- degai, er y gallai fod ambell un fel Elizabeth Ellis, Tyddyn-isaf, o'i flaen yn mhlwyf Llanllechid ; pa fodd bynag, nid yw hyn o gymaint o bwys, a da hyny, gan yr anbawsder sydd i gyrhaedd sicrwydd amseryddol pethau, pan na chedwir cyfrif rheolaidd ac ysgrifenedig.

Pa un bynag ai yn y fl, 1777 ai 1787 y dechreuodd Methodistiaeth ym- ddangos yn y fro hon ; yr oedd yn mhell iawn ar ol ei ddyfodiad cyntaf i'r sir. Yr oedd 40 ml. ymron, os nad mwy, wedi treiglo ymaith cyn i neb o'r ymneiUduwyr ymweled â'r ardaloedd byn. Mae hyn yn fwy sýn, pan yr ystyriom nad yw Methodistiaeth ddim wedi gwreiddio yn ddyfnach, nac wedi ymdaeuu yu helaethach, yn un parth o'r wlad nag yn y fro hon. Nid oes un rhan o'r wlad yn amlach ei thrigolion ; nid yw y capelau yn un man yn amlach eu rhif, nac yn fwy eu maintioli ; yr ysgolion Sabbothol ddira yn amlach eu deiliaid; na'r addoldai yn llawnach o WTandawyr. Eto^ er hyn, os dychwclwn ni yn ol, ryw 70 ml., ni cheid yma yr im addoldy, ond llanau y plwyf; ni cheid neb o fewn y fro yn meddwl yn ddifrií am ei enaid ; nid oedd yma yr un ysgol Sabboíhol ; ond yr hen gampau yn eu Uawn rwysg, a thywyllwch fel cysgod angau yn gorchuddio yr holl fro.

Mor ddiweddar, yn -wir, a'r fl. 1793, Uai na 60 ml. yn ol, dywedir nad oedd nifer yr holl grefyddwyr yn mhlwyf Bangor, oud naw ! ac o'r naw nid oedd ond tri yn by w yn y dref. Yn yr adeg hon yr oedd pregethau, o ryw fath, yn anaml iawn, a phregethu efengylaidd yn anamlach fyth. Sicrhâi hen ŵr oedd yn byw yn Nant-y-gvaen, o'r enw Morris Davies, ei fod ef wedi sylwi, nad oedd yr un bregeth yn y llan am saith mlynedd, ond ar Sul y pasg ! Nid oes hanes chwaith am neb ond un o'r clerigwyr yn pregethu yr efengyl yn yr hoU froydd, y soniasom am dano eisoes, sef Mr. Morgans, Llanberis. Y"r oedd llawer o gyrchu i wrando ar y gŵr hwn, o wahauol barthau o'r wlad ; ac nid oes amheuaeth na fu ei weinidogaeth o les mawr i laweroedd. Yn mysg eraiU a elai yno, yr oedd dau ŵr tlawd o Eangor, sef Eobert Samuel, a William Lewis, dau grydd tlawd, ac o nifer y uaw crefyddwr ag oedd yn y plwyf.

Dan y fath amgylchiadau, pa fath oedd raid fod anwybodaeth y trigolion ! Dim ond un gŵr eglwysig yn pregethu yr efengyl yn yr hoU fro ! Y lleill yn ddeillion yn tywys y deiUion. Anaml iawn hefyd, yn y tymhor hwn, yr oedd Beibl yn meddiant neb o'r trigolion ! ac, fe allai fod Uai yn medm ei ddarllen, nag oedd yn ei feddu. Nid rhyfedd ynte, dan yr amgylchiadau byn, a phryd nad oedd ymneillduwyr o un enw wedi dechreu llafurio, os ceid fod anwybodaeth trwch, ofergoeledd ynfyd, ac anghrefydd perflaith, yn meddiannu y trigolion o'r bron ! lë, nid oes genym sail i feddwl yn amgen nad i'r un agwedd y disgyuai y dywysogaeth eto, pe darfyddai Uafur yr ym-

250 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSH. IV.

neilldiiwyr ynddi. Cawn ddrych o filoedd o ddynion yn Nghyraru, o ran gwybodaeth o air Duw, a phethau tragwyddol, yn yr enghraifft a ganlyn :

Yn Mangor, ychydig gyda 40 mlyuedd yn ol, yr oedd hen ŵr yn glaf, ac ya dyoddef yn dost gan ddolur y gareg. Aeth y diweddar David B-oberts i ym- weled ag ef, i'r hwn y gofynai yr hen ŵr mewn syudod, " Beth a all fod yr achos," gofynai, "fy mod i yu gorfod dyoddef cymaint? Dyma íì; yr wyf yn dyoddef mwy na chwi i gyd ; nid ydych chwi yn dyoddef dim poen, pryd y mae fy mhoenau i yn annyoddefol ; er," meddai y truan, " na thorais i ardd na pherllan neb erioed ; ni ddygais i ddim o eiddo neb, ac mi gauais hefyd bob llidiart ar fy ol. Yn enw y Mawredd, pa beth, tybied, a wnaethum i?"

" Wel," atebai David Roberts, " pechod ydyw y gwir achos o bob dyodd- ef." Aeth ymlaen i son am y modd y daethai pechod i'r byd, sef trwy i Adda gymeryd íFrwyth pren a waharddasid iddo, yn ngardd Eden.

" Yn boeth y bo ei * * *," ebe yr hen ŵr mewn nwyd ddigof- us, " paham y rhaid i ni ddyoddef o'i achos ef ? "

Wedi peth ymddyddan, darllenodd David Roberts bennod, a gweddiodd gyda'r dyoddefydd ; ac ar ei vv^aith yn cychwyn i ffordd, parai y cLif i'w deulu, " Telwch i'r dyn." " Na, na," ebe y llall, " nid oes dim tâl i fod." " Oes, oes," atebai y claf, " telwch i'r dyn, Nansi." Ond ymaith yr aeth, pa fodd bynag, gan M'rthod pob tâl ; ac yn fuan ar ol myned ymaith, bu gorfod i Nansi anfou darn o gosyn ar ei cl. Ymwelai David Roberts yn fyuych â'r hen ŵr, a hyny, o'r diwedd, a ddaeth i glustiau y íìcar oedd yn Mangor yr amser hwnw, a blin iawn oedd ganddo fod MetJiodist yn darllen ac yn gweddio gyda neb o'i blwyfolion ef yn ei selni. Peuderfynodd fyned at y claf ei hun, a gofynodd, " Ai gwir oedd fod Methodist yu arfer dyfod yno ? "

"Wel, ydyw," ebe yr hen ŵr, " mae Dafydd Roberts yn dyfod yma ; a dyna ei lyfr o, welwch chwi," gan gyfeirio at y Beibl a adawsai efe yno, gan nad ocdd yr un yn y cyn hyny.

" Anfonwch ei lyfr iddo," ebe y ficar, " nid oes dim o'i eisieu ef na'i lyfr yma ; mi anfonaf fi lyfr i chwi, ac a wnaf bob peth drosoch fydd eisieu." Yn ol ei addewid efe a anfonodd amgen (?) llyfr na'r Beibl, sef Llyfr y Weddi Gyffredin,

" Ni chaiff Dafydd Eoberts ddim dyfod yma eto, Nansi," ebe yr heu ŵr ; "anfonwch ei lyfr iddo." Ar waith y pregethwr yn myned yno drachefn, dywedai y truan wrtho, nad oedd dim o'i eisiau ef mwyach ; fod y ficar wedi gwneyd pob peth i fyny drosto ef !

Buasai yr ysgrifenydd yn petruso yn nghylch gwirionedd yr aragylchiad uchod, gan faiut oedd rhagfarn a thywyllwch yr hwn a hònai yr awdurdod i fod yn arweiuydd iddo, oui bai y gwyddai eisoes, nad oes dim anliygoel yu y chwedl. Teimlwn dosturi trwm at auwybodaeth a dallineb yr heu ŵr claf, gan wybod mai ychydig o fanteision a gawsai erioed i wybod yn well ; oad am ei ddysgawdwr cyflogedig, yr hwn a hònai awdurdod mor oruchel, ac a broffesai arwain dynion mewn pethau pwysig tragwyddoldeb, ac ar yr un

PEN.YIII.] SIK GAERNARFON. 251

pryd yn ddallach na'r ddyllhuan ei hun, pa fodd y rhoddwn esgus drosto ? Tawsem a son, er hyu oU, am hen ficariaid 40 mlynedd yn ol, oni bai fod iddynt olynwyr cyö'elyb yn eu honiadau eto yn y wlad. Darllenais draethodyn 0 waith un o'r urdd sydd yn awr yn y dref hon, yn yr hwn, y dywedir yn ddifloesgni, mai y cwbl sydd gan y plwyfolion i wueyd ydyw cyflwyno eu hachos ysbrydol i ddwylaw yr oífeiriad awdurdodedig, ac ufyddhau iddo yn ddiwarafun ; fod ganddo allu gyda Duw i wneyd achos yr hwn a wnel felly yn dda ! Fe ddichon nad yw sir Gaernarfon ddim yn iach hyd heddyw, oddi- wrth y fath athrawon pabaidd a hyn. Edrychwyf ar syniadau y Tractariaid neuPuseyaid yn heresi o'r natur waethaf ; llawn cymaint felly a phabyddiaeth noeth, am ei fod yn cynwys gwenwyn hanfodol y grefydd anghristaidd hòno, heb lawer o'r gwarth a berthyn iddi. Hen heresi ydyw mewn gwisg newydd ; heresi wedi ei haddurno â dysgeidiaeth Rhydychain, ac yn cael ei noddi gan fawredd a chyfoeth bydol. Yr ydym, fwy nag unwaith na dwy, wedi cyfeir- io at anwybodaeth trwch, ac anfoes gwrthun y nifer aralaf o glerigwyr y ganrif ddiweddaf, ond yr ydjm yn ofni, nad yw perygl Cymru nemawr lai oddiwrth glerigwyr y ganrif hon, er fod eu bucheddau yn Ilai anfad, a'u dysgeidiaeth yn fwy coeth, tra yr hònant ac y lledaenant y dychymyg fí"ol o olyniad apostolaidd, ac yr haerant gydag eondra sydd yn wir arswydus, fod gan greadur tlawd, ond iddo fod yn offeirìad rheolaidd, ryw ddylanwad yn achos ysbrydol dynion, na phriodola yr ysgrythyr m'ono ond i Ysbryd Duw yn unig ; a bod i'r cymun a weinyddir ganddo ef, ryw eíFeithioldeb, na pher- thyn, os gwir yr ysgrythyr, ond i aberth anfeidrol Mab Duw ei hun. HoíF genym yr efengyl gan bwy bynag y'i pregethir ; anwyl genym y Cristion di- rodres a chywir, yn mha le bynag y'i cyfarfyddir, yn yr eglwys wladol neu allan o honi ; ond yr ydym yn addef yn rhwydd, nad oes genym ddim cyd- ymdeimlad ag uchel honiadau dynion beilchion, a fynant i'r byd gredu, mai hwynt hwy yn uniy, ac nid neb arall, ar gyfrif eu hurddiad a'u holyniad rheolaidd, ydynt wir weinidogion y gair, ac mai ganddynt hwy y mae yr awdurdod i weinyddu sacramentau, ac mai trwy eu gweinyddiad hwy o hon- ynt yn unig y byddant efl'eithiol ! Gobeithiwn yn fawr fod gan blant yr ysgol Sabbothol ddigon o wybodaeth ysgrythyrol i allu canfod geudsb balch- aidd a fí"ol y fath dyb I

Ond i ddychwelyd at ein hanes. Mae un gŵr parchedig ag sydd eto yn fyw, yn rhoddi desgrifiad o'r hyn a wel'sai ef ei hun er ys llai na 40 ml. yn ol ; am- gylchiad a wasanaetha fel drych i ddangos ansawdd isel ac anwar ein cyd-genedl cyn eu dyrchafu, a'u coethi i raddau, gan air Duw ac ordinhadau yr efengyl. Yr oedd rhyw lanerchi mynyddig ao anghysbell o'r wlad yn fwy anwar na llanerchi eraiU ; yr oedd y preswylwyr yn fwy nodedig felly mewn parthau nad oeddynt yn cyfarfod nac yn ymgymysgu â neb ond â'u güydd, Ueoedd na fyddai dyeithriaid ymron byth yn eu cyniwair, Ueoedd na fyddai Uyfr yn cael ei ddarllen, nac un gelfyddyd ymron yn cael ei dysgu, Ueoedd y dibyuai y trigolion ymron yn Uwyr ar fagu dyniewaid, neu fugeilio defaid.

" Aethum," meddai y gŵr crybwyUedig, " dros fynyddoedd mawr yn sir

252 HANESIAETH Y SIROEUD. [dOSB. IV.

Gaernarfon, i i gadw oedfa, am ddau o'r gloch ddydd Sabboth. Yr oedd y yn adeilad helaeth, tra chyífredin a gwladaidd o fewn ac allan. Daeth preswylwyr y llanerch yn lled gryno i'r bregeth, y gyntaf a glywsai y rhan fwyaf o honynt erioed. Safent o amgylch y gegin fawr o bell, a phawb yn edrych arnaf gyda gradd o syndod. Yn nghanol y gegin yr oedd cŵn lawer iawn, a hen ŵr mawr yn sefyll yn eu plith, a phastwn cryf, gan uched a'i ben, yn ei law. Dy wedais yn araf bach, ' Da fuasai genyf, pe gadawsid y cŵn gaitref ; ofn sydd arnaf yr ânt i ymladd â'u gilydd, a dyrysu y cwbl.' Ond yr hen ŵr a'r pastwn a ddywedai wrthyf, ' Dywed ti dy wers, fy machgen, mi ofalaf íì am y cvvn.' Minau a aethum yralaen ; cymerais destyn, a dechreu- ais lefaru. Bellach, yr oedd y cŵn yn dechreu chwyrnu ar eu gilydd, ond yn dystewiyn y fan y codai yr hen ŵr y pastwn. Wedi hyuy, pan aeth amryw i chwyrnu ac i ysgyrnygu ar eu gilydd, a'r hen ŵr i roi bloedd arnynt, gan eu galw wrth eu henwau, mi dewais inau, gan weled nad oedd nemawr seibiant i'w gael.

Ar ol dybenu yr oedfa, daeth yr hen ŵr ataf, gan ddyweyd, ' Mi a gedwais i y cŵn, ouid do ? Ti ddywedaist tithau wers dda anmhosib ! Dyro damaid o dobaco am gadw y cŵn ! ' "

Wele wedd llawer o barthau mynyddig Gwynedd bedwar ugain mlynedd allai yn ol ! I'r trigolion eu hunaiu, nid oedd dim yn yr olygfayn ymddang- os yn lledchwith, na dim yn groes i drefn gweddeidd-dra. Y mae capel wedi ei adeiladu yn awr gerlhiw y Ue hwn, a gwedd Uawer mwy gwaraidd a threfnus ar y trigolion.

" Arfer trigolion y tri phlwyf hyn, sef Llanfair, Aber, a LLanlIechid," medd gohebwr arall, " oedd ymgasglu at eu gilydd ar brydnawn Sabbothau, igwílìo ceiiiogod a throedio y bêl ; curo òandi acymlaáá â'u gilydd, meddwi, a phob camp ddrwg arall. Y Ile y cyfarfyddent 1 hyn oedd cyttir mawr, a elwir y Dalar-hir. Ac wedi i'r campau cyhoeddus ddiflanu trwy ddylanwad yr efengyl ac ysgolion Sabbothol, ciliai y chwareuwyr o'r Dalar-hir i fynwent y 11 an. Ar dalcen yr eglwys, bellach, y curent y bêl, ac yn y fynwent ffi/- segredig y baeddent y landi. Ar y gwylmabsant, yr hon a gynelid ddydd Calan, heblaw ymroddi i ymddifyru mewn gioddest a meddwdod, yr oedd plwyfolion Aber a Llanfair yn ymosod yn egniol a ífyrnig i guro eu gilydd. Gwelais yr oífeiriad un tro, yn nghanol y miri, â chleddyf yn ei law, yn cadw chwareu teg i'w blwyfolion ei liun, yn yr ymladdau hyn ! a'i nwydau eisoes wedi eu cyffroi, a'i ben wedi hanner ddyrysu gan effeithiau diod feddwol !

Y mae, bellach, wedi myned yn rhy oleu i'r arferion anfad hyn ymddangos. Y maent yn awr yn rhy gywilyddus i'w harddel. Pa faint bynag ydyw dryg- ioni y ddynoliaeth, a pha amled bynag ydyw y drygau a gyflawnir eto yn yr ardaloedd hyn, y mae gwybodaeth ysgrythyrol wedi tyneru cymaint ar gyd- wybodau y trigolion, a choethi cymaint ar eu teimladau, fel y mae hen arfer- ion eu tadau yn rhy gethin ganddynt eu dylyn. Ac os ydyw effeithiau cyffredinol y Beibl mor fuddiol i wareiddio a threfnu cenedl, beth a raid fod ei effeithiau santeiddiol ar galonau a bucheddau y rhai a'i credant ?

PEN. VITI.] SIU GAERNARFON. 253

Eyw bryd tua'r un tymlior ag y Uwyddodd Jolin WiUiams y gôf, fel y son- iwyd, i gael pregethu i'r Felin-isaf, caed gan Evan Evans, o'r Waunfawr, ddyfod i bregethu i le a elwir Achyb, yn mhlwyf LlauUechid. Nrd ydym yn sicrhau ai hon oedd y bregeth gyntaf ai peidio, ac nid yw o gymaint pwys ; pa un bynag, nid Uawer o lonyddwch a gaed i gadw yr oedfa hon. Daeth yma dri o ddynion erlidgar i aflonyddu. Cododd un gŵr o'r enw William Williams ddymaid o laid y ffordd, ac a darawodd y pregethwr. CyfTrodd hyn wraig yr erlidiwr, yr hon oedd yn yr oedfa, ac yn hoffi gwrando, a lii a waeddodd arno, " O William, edrychwch beth ydych yn ei Avneyd. Oni welwch Feibl Santaidil Duw yn nghesail y gŵr, wrth yr hwn y bernirni yn y dydd olaf?" Ar hyn fe beidiodd y derfysg ; ond un o'r erlidwyr a weddiai, gan ddyweyd, " 0 Arglwydd Dduw, gwared Llanllechid oddiwrth y cyfryw ddynion melldigedig ! "

Dywedir mai Thomas Hughes, Mochdre gjnit, a Eowland Prys a bregeth- odd yma nesaf ; ac mai dwy wraig, sef Mary Ellis o'r Tyddyn-isaf, ac Elin WiUiams o'r Coch-winllan, a fu yn foddion i'w cael, trwy fyned un i Lansant- ffraid-glan-Conwy, a'r llall i Eochdre, i ymofyn am danynt. Hwy a ddaethant, a phregethasant ar gareg farch yn agos i glawdd y fynwent ; îe, dywedir fod Thomas Hughes wedi rhoddi hanner gini am ganiatâd i sefyll ar y gareg farch i gyfarch y gwrandawyr, ac mai tad y Parch, Daniel Jones, gynt o Landegai, a roes yr hanner gini iddo. Bellach, amlhaodd yr oedfaon ; caed gan amryw o'r pregethwyr neu o gynghorwyr yr oes hono ddyfod yn olynol i amrywiol leoedd yn y broydd hyn ; yn enwedig yn Nhai'n-y-coed, lle y preswyliai un Thomas W. Hughes ; a'r Cae, un Williani Parry ; a'r Felin- isaf, John Williams, yr hen bregethwr. Y daith Sabbothol erbyn hyn, oedd y tri thŷ crybwylledig; dechreuent yn y boreu yn Tai'n-y-coed, a dau o'r gloch, a'r hwyr yn y lleill. Cynyddodd y gynulleidfa cyn llawer o amser, yn fwy nag a gynwysid yn gyfleus yn Nhai'n-y-coed, a theimlwyd gradd o anes- rnwythder am gapel ; a Ilwyddwyd hefyd i gael darn o dir gan vvr o'r enw Mr. Hughes, Brynllwyd, Mon, ac ar y darn tir hwnw y codwyd yr hen gapel cyntaf yn mhlwyf Llanllechid. Galwyd ef Cajjel yr Jchyb, am ei fod yn nghwr y Ile a elwir yr Achyb-uchaf. Yr oedd hyu yn y fl. 179.3.

Sonir Ilawer gan yr hen bobl am yr oedfaon grymus a fwynlieid yn nghapel yr Achyb— oedfaon a bâr i'w Ilygaid ddysgleirio, a'u mynwesau ddychlamu, wrth eu hadgoft'a. Fe fu adeiladu y capel bychan hwn yn ddolur llygaid i anibell un yn yr ardal, tra yr oedd yr hcn grefyddwyr yn mwynhau y fath hyfrydwch ynddo. Pan oedd yn cael ei adeiladu, dywedai un Jane WiIIiams, Tyddyn-du, ei bod yn gobeithio y câi hi ei chladdu cyn y deuai yr amser i'w agor, rhag y gofid a fyddai iddi, wrth fyned a dychwelyd i lan y plwyf, weled y crefyddwyr dyeithrol hyn yn myned iddo, na'u clywed yn trystio, wrth iddi basio. Nid oedd hyn amgen na gwŷn ynddi, nid am y dymunasai farw raewn gwirionedd, yn hytrach na'u gweled, y dywedai y fath eiriau, eto fe'i cymerwyd ar ei gair ; oblegid ni chafodd weled y penau-

254 HANESIAETH Y SIllOEDD. [üOSB. IV.

cryniaid yn myned i'w capel newydd, na'u clywed yn tyrfu jiiddo ; ar ddiwi-nod ei agoriad y cludwyd ei gweddiUion i " bwU llygredigaeth ! "

Nid oedd yr acbos crefyddol, er ei sefydlu fel hyn, yn y lle ond bychan a lled ddisylw. Sonir llawer, hyd heddyw, er hyny, gan yr hen bobl am oedfaon rhyfeddol a grymus a geid, yn awr ac eilwaith, yn y capel bychan hwn. Ar yr un pryd, yr oedd tywyllwch y gymydogaeth yn aros heb ei chwalu, a hen gampau llygredig yn aros heb eu darostwng ; ac er fod ychydig nifer yn y fro wedi profi blas a grym yr efengyl, ac yn eiddigeddu dros iachawdwriaeth eu cymydogion, eto nid oedd hyd yma nemawr o argraff wedi ei wneyd ar y gymydogaeth yn gyffredinol.

Tn mhen tua phum' mlynedd ar ol dechreuad pregethu yn yr ardal yr agorwyd yr ysgol Sabbothol yn nghapel bychan yr Achyb ; yr oedd hyn yn y fl. 1792. Nid oedd ond ychydig amser er pan oedd yr ysgol Sabbothol gynt- af wedi ei sefydlu yn y wlad, gan y cawn mai ysgol Sabbothol Bryn-yr-odyn oedd y gyntaf yn y sir, ac mai yn y fl. 1791 y dechreuwyd hòno. Nid oedd ysgol yr Achyb ar y dechreu ond anwiw iawn. Y gwŷr a"i cychwynodd hi oeddynt Mri. David Wilson, Thomas W. Hughes, a Williara Thomas, Llan- llechid. Ei nifer yn ei dechreuad oedd 12. Cyfnerthwyd dwylaw y gwŷr uchod, cyn hir o amser, trwy gael atynt William Jones, Abercaseg, a'i frawd Richard Jones. Fe fu y cyntaf o'r brodyr hyn yn Ilafurus a fl'yddlawn iawn gyda'r ysgol Sabbothol am ysbaid 40 ml. a mwy. Nid oedd yn ddigon agor ysgol y pryd hwnw, a hysbysu fod cyfleusdra o'r fath i'w gael i bob oetlrau gael dysgu darUen y Beibl, a chael eu hegwyddori yn nysgeidiacth y grefydd Gristionogol, ond yr oedd raid myned ar ol y bobl i'w tai, ac ar ol yr ieuenc- tyd i'r maesydd, y cyttiroedd, a'r afonydd, Ue y byddent yn heidiau yn campio ac yn chwareu. Llawer o boen a gymerodd WiUiam Jones i fyned ar ol y bechgyn, i'w darbwyllo a'u cymhell i ddyfod i'r ysgol Sabbothol, a bendithion lawer a ddylyuodd ei lafur. Te fyddai cymaiut o'i arswyd ar fyddinoedd y chwareuwyr, a phe buasai ganddo wŷs i'w dal, neu gleddyf i'w liadd.

Pan oedd tua 18 ml. oed, neu yu y fl. 1793, clywodd Ishmael Joues yn pregethu yn Nhai'n-y-coed, ac yn fuan wedi'n y Parch. John Elias, a chy- nyrchwyd argrafíiadau dwysion ar ei feddwl. Ond fe fu yu ymgyndyuu yn erbyn yr ymrj^soniadau hyn am ysbaid tair blynedd, cyn iddo Iwyr ymostwng : ond pan oedd yn 21 ml. oed, fe ymunodd ag eglwys Dduw, ac a ymgysegr- odd i wasanaeth yr lesu. Dechreuodd ysgol Sabbothol yn Nhre'r-garth ; a chan farnu y buasai yn haws cael pobl iddi, efe a agorodd ysgol y nos yn yr wythnos ; a bu hyny yn foddion i ennill aml un iddi. Gwenodd Duw ar ei lafur ef a'i frodyr, mewn niodd neillduol, trwy beri adfywiad a chyfl*ro yn mhlith yr ieuenctyd ; yr hyn a fu yn sugn cryf i dynu eraill i mewn, ac amlha- odd lawer ar ei deiliaid.

Ehoddid hefyd fath o wobrau bychain i'r rhai mwyaf eu Uafur yn yr ysgol ; a hawdd ydyw canfod yn y gwobrau a roddid, pa mor blentynaidd ydoedd syniadau y deiliaid ar y pryd. Rhoddid pluen, fel cochade milwr yn het un.

PEN. VIII.] SIR GAERNARPOÎÍ. 255

a seren o ribanau brithion ar fynwes un arall ; a mawr yr egni a achosid trwy yr arwyddion hyn o ragoriaeth. Bu hyn, pa fodd bynag, yn foddion i beri trysori rhanau helaeth o'r Beibl yn y côf. Fe fu yr holwyddori yn yr ysgol- ion Sabbothol yn y cymydogaethau, yn foddion arbenig i ddeífroi ystyriaethau dynion at eu hachos tragwyddol, yr hyn, yn ughyda'r cynghorion a'r gweddi- au cysylltiedig, a fu o ddirfawr wasanaeth i eglwys Crist, nid yu unig yn yr ardaloedd hyn, ond hefyd dros yr holl dywysogaeth.

Erbyn y fl. 1 842, sef hanner can' mlynedd ar ol cychwyniad cyntaf yr ysgol Sabbothol yn nghapel bychan yr Achyb, ni a gawn hanes fod 1 7 o ysgolion wedi heidio o honi; ac yn Ile 12 o nifer, fel ar y dechreu, fod rhifedi y deil- iaid dros dair mil !

Fe fu y gwaith, er hyn oll, dros ryw dymhor ar ol ei gychwyn, yn Iled ddigynydd, a'r rhai a lafurient wrtho yn dra digalon. Am ysbaid o amser, fe ddeuai John WiUiams y gôf i gynorthwyo y brodyr i gynal y cyfarfodydd eglwysig yn yr Achyb, pryd yr oedd ganddo yr un fath gyfarfod bob wyth- nos yn ei ei hun. Ar hyn o bryd, yi* oedd y gwersyll yn Iled ddigychwyn, a dwylaw y crefyddwjfr i raddau wedi Uaesu. Ond Duw a drugarhaodd wrth ei drueiniaid, ac ymwelodd â hwy ag adfywiad cyffrous, ac â lluosgiad rhif. Aeth y lle yn Ilawer rhy fychan, a bu raid ymofyn am addoldai amlach ac eangach. Yn awr y mae y bychan yn fil, a'r wael yn genedl gref. Mae y cynulleidfaoedd a gododd o'r Ue bychan a nodwyd yn wyth o rifedi, ac yn cynwys tuag un-cant-ar-ddeg o aelodau eglwysig ! Mae capelau helaeth a «drudfawr wedi eu codi erbyn hyn yn Bethesda, Carneddi, Llanllechid, Gate- house, Pen-y-groes, Mynydd, Tŷ'n-y-maes, ac Aber. Am y Ue olaf hwn, nid oes genym lawer i'w ddweyd am ei gynydd a'i Iwyddiant. Yr oedd y gwrthwynebiad i ymneillduaeth ymsefydlu yn y pentref hwn yn dra mawr. Ee fu cyfeillion Bangor yn ymdrechgar iawn i sefydlu ysgol Sabbothol yn y Ile hTNn, ac er maint y gwrthwynebiad a fu, Uwyddo a wnaethant i ennül eu hamcan. Aeth Mr. Hughes, o Fangor, at ŵr a elwid Dr. Griffiths, i ofyn am le i'w chadw, ac o'i ran ei hun, yr oedd y gŵr hwnw yu eithaf ewyllysgar i ganiatâu eu dymuniad iddynt, oni bai ei warafun gan yr esgob. Tua'r fl. 1806, daeth y diweddar David Eoberts o Fangor yma i gadw ysgol ; a bu y brawd hwnw o wasanaeth mawr gyda'r ysgol Sabbothol. Arferai fyned i dai y cymydogion i ddarUen ac egluro yr ysgrythyrau, ar nosweithiau yr wythnos. Yma hefyd y dechreuodd bregethu, ac yma meddir y traddododd ei bregeth ddiweddaf.

Nid oedd yr offeiriad a weinyddai y pryd hwnw yn y Uan yn un addurn i'w eglwys ei hun ; ond yr oedd yn wrthwynebwr creidawn i'r ymneillduwyr. Pan y gofynodd pregethwr yn mhlith y Bedyddwyr unwaith am y Ue y byddent yn arfer pregethu ynddo, i ŵr o'r enw Owen Davies, fe welodd Owen fod yn dda, yn Ue cyfarwyddo y pregethwi', ei regu a'i feUdithio mewn modd arswydus ; am yr hyn, pan ddeaUodd y person yr hyn a wnaeth, efe a'i can- molodd yn wresog, am y weithred glodwiw o regu y pregethwr ! Yr oedd yr offeiriad hwn, fel y mae mwyaf y gresyn, yn arfer yfed yn uchel, ac yn y

256 HANESIAETH Y SIUOEDD. [doSB. IV.

bendro yn arfer iaith, ao yn ymollwng i agweddau cywilyddus eu hadrndd. Daeth unwaith i'r lle, pan oedd y Parch. D, Jones, Carneddi, yn pregethu, gan fytheirio, " G-d-z-nds, beth sy' yma yn myn'd yn mlaen ? Tynwch y dyn yna i hiwr oddiar y gader." Gwrthododd y pregethwr ddod i lawr, gan ddyweyd fod ganddo drwydded i bregethu, a bod y lle wedi ei gofrestru. " Mi ^nia inau y gwrandawyr," ebe y gŵr urddasol, " am sefyll ar y ffordd fawr." Fe fu yn foddion, pa fodd bynag, i rwystro yr oedfa hòno.

Dro arall, pan oedd pregeth wrth Dỳ'n-y-groes (hen tafarn), daeth y chwedl i glustiau y person, ac allan ag ef mewn cynddaredd wyllt, gan fyth- eiriollwon abygythion arswydus, ac at y gynulleidfa. Brawychodd llawer o'r bobl, a ffoisant ymaith, rhai i'r llofft, a rhai i'r seleì'. Yn eu mysg yx oedd gweithiwr i'r offeiriad, yr hwn pan glybu lais ei feistr a ddychrynodd ac a daflodd blentyn tair blwydd oed ag oedd yn ei freichiau, i'w naiu ; trwy yr hyn y cafodd y plentyn niwaid trwm. Mae y plentyn hwn yn ẃr, ac yn berchen tenlu yn awr, yn byw yn y pentref y dygwyddodd hyn. Gofynwyd i un o'r rhai oedd yn dianc, paham y ffoai gyda'r fath ffrwst o'r oedfa ? " Pa beth a wnawn yma," oedd yr ateb, " a'r cytlnaul wedi dyfod i'r lle? "

Dro arall, yr oedd Griffith Solomon yii pregethu, a gwnaeth yr un gŵr gais teg ar aflonyddu y tro hwn hefyd, ond methu a wnaeth. Erbyn iddo gyr- haedd y lle, yr oedd y bregeth drosodd, y yn wag, a chlo ar y drws. Deallodd mai yn y nesaf yr oedd yr agoriad yn cael ei gadw ; aeth i ym- ofyn am dano, a gwrthodwyd ei roddi iddo, yr hyn a dynodd ar ben y wraig y melldithion trymaf o'i eiddo, gan ffonodio y cawell mawn wrth y drws nerth ei fraich, fel pe buasai yn wallgof ! Pe fu adeiladu capelau yn Aber (ac nid oedd un man rlieitiach wrth gapel, gan anfadrwydd y gweinidog meddw hwn), yn ddolur Uygaid trwm iddo. Yr oedd yn arfer ymweled yn fynych u'r rhaiadr sydd uwchlaw y pentre'; ond wedi codi capelau, un o bdb ochr i'r ffordd a arweiniai i'r rhaiadr, ni allai y gŵr boneddig ddim dyoddef cyniwair mwyach y ffordd hòno, gan adgased ydoedd ganddo y capelau, ond gorfyddid iddo, bellach, er mwyn osgoi yr olygfa gerth, amgylchu yn mhell, rhag myned heibio y ddau gapel!

Y ffordd y caed llonyddwcli oddiwrth y blinbeth hwn, oedd, ddarfod i Gymdeithasfa a gynaliwyd yn Mangor, benderfynu anfon cenadwr ato, gan ei rybuddio, oddieithr iddo roddi heibio aflonyddu y cynuUiadau, y byddai raid ei roddi yn nghrafangau y gyfraith. Yntau, ar hyn, a addawodd fod yu llonydd, a llonydd a gaed o hyuy allan.

PARCH. DANIEL JONES, LLANDEGAI, NEU LANLLECHID, AC YN DDIWEDDAF

O GAEENARFON.

Wedi i ni ysgrifenu y nodiadau blaenorol am Pethodistiaeth y fro, y daeth y newydd galarus i'n clustiau fod y gŵr defnyddiol uchod wedi ei gyfrif gyda'r meirw. Priodol, gan hyny, cyn terfynu ein sylwadau, a fydd gwneuthur crybwylliad byi' am dano yn y lle hwn, gan mai yn y fro hon y treuliodd y

PEN. VIII.] Sm GAEIINA.RFON. 257

rhan fwyaf o'i oes. Fe fu Daniel Jones yu llafurio yn yr ardaloedd hyn am ysbaid 50 o flynyddoedd, ac felly wedi gweled Methodistiaeth yn ei wendid dechreuol, ac yn ei rymusder presenol.

Ganwyd ef tua'r fl. 1780. Yr oedd ei dad, yr hwn oedd yn byw yn y Maes-mawr, yn un o garedigion yr efengyl, fel y deallwn ar ei waith yn rhoddi hanner gini am ganiatâd i Thomas Hughes, Mochdre, gael pregethu yn mhentref Llanllechid. Ymunodd Daniel ei fab â'r Methodistiaid, pan yr ymgynullent yn nhŷ John WiIIiams, yr hen bregethwr yn y Felin-isaf, ger Llandegai, a hyny pan oedd tuag 16eg oed. Ymddengys hefyd ddarfod iddo ddechreu ar y gorchwyl pwysig o bregethu pan ydoedd yn 20 neu 21 ml. oed, a pharhaodd yn íFyddlawn gyda'r gwaith hyd ei farwolaeth. NeiIIduwyd ef yn y Bala yn y fl. 1823.

Nid oes nemawr bregethwr yn Nghymru yn fwy adnabyddus yn y cyfun- deb nag oedd y Parch. Daniel Jones. Teithiodd lawer ar bob rhan o'r ' dywysogaeth, a pharhasai i wneyd hyny am 50 o flynyddoedd j'mron ; parai hyn, yn nghyda rhyw hynodrwydd, priodol iddo ei hun, yn ei ddawn a'i dduU, ei fod yn dra adnabyddus i holl wrandawyr Methodistaidd yr oes. Eto, rhaid addef, nad yw y rhan ieuengaf o'r genedlaeíh hon yn gwybod pa fath ydoedd Daniel Jones yn ei rymusder cychwynol. Nid yw yn ormod dyweyd am dano, am y 30 ml. cyntaf o'i oes weinidogaethol, na fu neb yn fwy bendithiol uag ef, i ddarostwng ofer-gampau ei gydwladwyr, ac i ddeflroi ystyriaeth y werin-bobl at eu hachos tragwyddol. Ysgrifena un gŵr parch- edig ataf fel hyn. Wedi enwi amryw o hen bregethwyr llafurus Arfou, megys John Thomas, Llanberis ; John WiIIiams, Llandegai ; Evan Evans, Waunfawi"; Hugh Williams, Llanrug; a Mr. Eichardson, Caernarfon ; fe chwanega, " Ond yn benaf, y diweddar Daniel Joues, gynt o Landegai, a fu yn foddion yn Ilaw yr Arglwydd, ynfwy na neb arall, i wareiddio annuwiol- ion yr ardaloedd hyn, i godi teyi'nas lesu Grist ; Ilaweroedd a drodd efe at yr Arglwydd. Bu yn dyfod unwaith bob wythnos am flwyddyn gyfan, ar ol cadw noswyl, dros y mynydd, i Flaen-y-cae, i bregethu, ac adref yn ei ol cyn cysgu. Felly cerddai ar ei draed, ar ol gweithio ei ddiwrnod, rhwng myned a dychwelyd, tua naw milldir o fí"ordd arw ac oerllyd. Byddai yn pregethu gyda rhyw ddifrifwcJi ofiadwy, nes byddai dynion annuwiol iawn ar lewygu gan ddychryn y farn, ac ofn uflern,"

Nid oedd Daniel Jones, er hyn oll, ond duwinydd bychan, ac nid oedd ei bregethau o gynwysiad mawr ; eto fe fu ei lafur ifyddlon, ei agwedd ddifrif, ei ysbryd cyff"rous, a'i bregethau taranllyd a diymhongar, yn fendithiol " i droi Ilawer at gyfiawnder ; " yn gymaint felly a nemawr un yn ei oes. Mae yntau, bellach, wedi ei " oichfygu gan angau, ac wedi ei ddanfon i fí'ordd." *

TJn 0 gyfoedion Daniel Jones, ac un o'i gyd-Iafurwyr, ond mewn cangheu arall o'r gwaith, oedd WiUiam Jones, Abercaseg, am yr hwn y soniasom eisoes. Yr oedd cyfl"elyb eiddigedd yn y ddau yn erbyn pechod, a chyffelyb

* Dysgwylir y ceir Cofiaut lielaeth o'r brawd defoyddiol uchod, cyn hh- o'r argraffwasg.

S

258 HANESIAETH Y SIROEDD, [dOSB. IV.

benderfyniad i ymosod arno yn ei ffurf gyhoeddus. Pan oedd William Jones, unwaith, yu dychwelyd adref, wedi bod jai cadw ysgol nos, yn Nhre-y-garth, clywai ganu a dawnsio mewn yn Pen-y-groes. Yr oedd y yn orlawn o bobl, ac yn ymroddi i'w difyrwch, a chryn anturiaeth ydoedd i neb fyned i mewn i'w canol ar y bwriad o ddyrysu eu hamcan. I mewn, er hyn, yr aeth William Jones ; hwythau yn y fan a ddiffoddasant y canwyllau, gan obeithio y rhwystrid ei amcan gan y tywyllwch. Yntau, yn Ue cilio o'r fan, a aeth ar ei liniau, a dechreuodd weddio drostynt â'i holl galon. Chwerwodd hyn y di- fyrwch, a dyrysodd hyny y cynuUiad. Addefai fod arno ddirfawr arswyd, rhag ei leith-losgi (scald) â dwfr poeth, neu ei daro â phastwn, neu roddi arno ryw anfri atgas, tra yr ydoedd ar ei liniau yn y tywyllwch ; ond ni ddy- gwyddodd dim o'r fath iddo, eithr dychwelodd, ar ol dyrysu y cyfarfod, a rhoddi tystiolaeth o'i eiddigedd dros Dduw yn eu cydwybodau, yn ddiogel at ei deulu, Llawer o gynuUiadau Uygredig ar y Sabboth a chwalodd ; niferi lawer a ddenodd i'r ysgol Sabbothol ; llawer cydwybod a ddeffrodd trwy ei rybuddion gonest a di-dderbyn-wyneb ; a Uawer a dwfn a f u y trist- wch ar ol ei golli, yn mynwesau cannoedd o'i gymydogion. Yntau hefyd a fu farw, a dangosai yn ei oriau olaf yr un awyddfryd i lesâu dynion, trwy anfon cenadwri gyda y Parch. Daniel Jones at ysgol y Carneddi. " Dywedwch wrthynt ddarfod i mi eu rhybuddio lawer gwaith i ymadael â'u pechodau, ond y mae yn alar genyf feddwl fod yn rhaid i mi farw, gan adael Uawer o honynt yn annuwiol ; fe fydd uffern y gwŷr ieuainc a fyddant farw yn annuwiol o ysgol y Carneddi yn boeth iawn ; a minau wedi eu rhybuddio, wyf yn lân oddiwrth waed pawb oU. Yna dywedwch wrthynt drosof fi, Ffarwel ! ffarwel ! ffancel ! ffarwel ! " Haws ydyw dychymygu nag a fyddai traethu yr effeith- iau a gynyrchodd y cyfarchiad olaf hwn ar deimladau pawb yn y lle.

PENNOD IX. HANES AMRYW O HEN BREGETHWYR Y Sm.

CTNWTSIAD : JOHN PIERCE; JOHN ROBERTS, LLANLLYFNI; A ROBEET ROBERTS, CLYNOG— ROBERT DAFYDD, BRYN-ENGAN— JOHN WILLIAMS, LLANDEGAI— JOHN JONES, EDEYRN— RICHARD JONES, WERN.

Tn mysg y pregethwyr a fu o fwyaf gwasanaeth i'r achos Methodistaidd, ac a godasant yn sir Gaernarfon, yn ystod yr hanner diweddaf o'r canrif olaf, gallwn nodi y rhai canlynol ; John Pierce ; John Eoberts ; Robert Eoberts ; John Edwards, Eeiniog ; Johu Elias ; Eichard Jones, Wern ; John Parry, Caer; David Hughes, Llanrwst; a Griffith Jones, Çarnau, gynt o Ynys-y- pandŷ. Symudodd y rhai hyn oll, wedi arosiad mwy neu lai yn eu gwlad eu hunain, i wledydd eraill, oddieithr Eobert Eoberts. Symudodd John Pierce i Lanidloes i gyfaneddu, ac yno y bu efe farw. Dywedii fod y g\\'r hwn yn bregethwr grymus yn ei oes, ac yn nodedig o fuddiol mewn cyfarfodydd €glwysig. Yr oedd yn dra darostyngedig i dymherau isel a phruddglwyfus,

PEN. IX.] SIR GAERN.ARFON. 259

yr hyn a barai ei fod yn llai ei gysur iddo ei luin, ac yn llai defnyddiol i eraill. Dechreuodd bregethu yn Llangeitho ; y lle hefyd y daeth ef gyntaf i sylw fel Cristion, ac y bu dros ryw dymhor yn gweini fel gwas cyflog. Wedi iddo gael ei ddwjTi i sylw, ac iddo ddechrcu ymddangos yn gyhoeddus, fe fu yn llafurus iawn i gyrhaedd gwybodaeth ; ac er maint ei anfanteision dechreuol, efe a ddysgodd ddeall yr iaith Saesonaeg, modd ag i allu cyfieithu rhyw gyfran o lyfr Gurnal i'r Gymraeg, mewn cysylltiad â Robert Jones, Ehoslan, a hyny trwy lafur caled, a than anhawsderau dii'fawr. Wedi treulio rhyw gymaint o amser yn ei wlad ei hun, arweiniwyd ef trwy briodi i Lanidloes i fyw, lle y darparasai rhagluniaeth iddo ymgeledd gymhwys, a sefyllfa barch- us. Ehoddwyd iddo yn y modd yma rwyddineb i deithio Uawer, h.eb fod galwedigaeth a gofalon bydol yn ei lesteirio. Ei gyfaill, gan amlaf, fyddai Edward Watkin, pregethwr yn byw yn yr un dref ag yntau. Yr oedd Edward Watkin yn wahauol iawn yn ei dymherau iddo ef, ac oblegid hyny yn gy- mhwysach, fe allai, i fodyn gydymaith i'r fath un. Dyn bychan, bywiog, oedd Edward Watkin, Uym ei lygad, cyflym ei ystumiau, fí'raeth ei dafod, a lled grâs ei dymherau, Yr oedd John Pierce yn y gwrthwyneb, yn ẃr]trymaidd a phnidd- glwyfus, darostyngedig i ddychymygion ac ofnau, eto diniwaid a phlentyuaidd. Adroddir Uawer chwedl ddigrifol am y ddau gydymaith hyn. Pan oeddynt un- waith ar gyhoeddiad yn sir Fflint, syrthiodd ofn cvvn ar John, fel nad ellid cael ganddo gychwyn o'r Ue yr ydoedd, i fyned rhagddo i'w gyhoeddiad er dim.

" Y mae yn sŷn genyf atocb, John," cbe Edward, gan droi ato yn brysur, " fod eich ft'ydd chwi mor wan, gan fod addewid wedi ei rhoddi, ' Yn erbyn neb o blant Israel ni symud ci ei dafod.' "

" O'r goreu, Ned," ebe John Pierce, " gan fod gair fel yna yn y Beibl, ni a gychwynwn heb ddim ychwaneg o siarad. Pa beth yw cŵn i ni mwy ? "

Llawer o chwedlau cyifelyb a draethir am y ddau, oiid digon, fe allai, yw yr un uchod i ddangos diniweidrwydd plentynaidd y naill, a fl^raethineb parod y llall. Yr oedd John Pierce yn nghanol yr lioll ddychyraygion a'i blinai, yn argoeli llawer iavra o dynerwch cydwybod, deheurwydd mawr i drin cyflyrau dynion, ac ymroddiad ewyllysgar i wasanaeth yr Arglwydd. Efe a fu farw yn Llanidloes, Chwef. 1, 1793.

JOHN A ROBERT ROBERTS, LLANLLYFNI.

Nid oes eto ugain mlynedd wedi myned heibio er pan ymadawodd y cynt- af a'r henaf o'r ddau frawd hyn, â'r byd hwn. Efe a fu farw yn Llangwm, y lle y symudasai efe iddo trwy briodi, a'r Ile y treuliasai y 25 ml. diweddaf o'i oes. Cyrhaeddodd oedran mawr, sef 82 ml. oed. Fe fn yn pregethu am ysbaid 55 ml. ac yn aelod eglwysig am 66 o flynyddoedd. Tua saith mlyn- edd oedd ef ieuangach na Robert Jones, ond yr oedd Robert Jones wedi dechreu pregethu tua 15 ml. o'i flaen. Ganesid ef yn y fl. 1752, a bu farw yn y fl. 1834, tua 5 mlynedd ar ol Eobert JoiiCs,

260 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

Yr oedd John Robertsyn fab i Eobert a Chatherine Thomas o'r Ffrith-bala- deulyn, yn mhlwyf LLinllyfni, ac yn henaf o 13 o blant. Profodd argraffiad- au boreuol ar ei feddwl yn nghylch pethau tragwyddol. Yr oedd ei rieni, fel y soniwyd eisoes, wedi ymuno â'r Methodistiaid yn y Buartliau, ac yn dangos awyddfryd a gofal canmoladwy i ddysgu i'w plant a'u tylwyth gadw o honynt ífordd yr Argiwydd. Cadwai Eobert Thomas weddi deuhiaidd, a chadwai fath 0 ysgol Sabbothol yn ei ei hun, gan Uuosoced oedd ei deulu, cyn fod son am ysgol Sabbothol mewn un cẁr o'r wlad. Ar nos Sabboth, arferai gymeryd hamdden i holi pawb o'i deuhi am yr hyn a ddysgasent, gan ddysgu iddynt holwyddoreg, neu gatecism ar athrawiaeth yr ysgrythyrau. Fe ddaeth Johu y mab hynaf yn fuan yn gynorthwy iddo yn y gwaith da hwn ; a chan ei fod yn henaf o'r plant, ac yn tueddu yn ieuanc at grefydd, yr oedd o fawr ddefiiydd yn y teulu mewn dysgu a hyfforddi y phmt eraill, yn absenoldeb y tad ; ac felly cymhwyswyd ef o'i ieuenctyd i fod yn ddefnyddiol i chwalu ar- ogledd gwybodaeth yr efengyl yn mysg ei genedl.

Fe fu John Eoberts, yn mlynyddoedd cyntaf ei broífes, yn ddefuyddiol i'w genedl, ac i grefydd, trwy gadw ysgol ddyddiol ; ac fel y dywedwyd yn hanes Brynengan, fe fu gwaith yr hen frodyr Eobert Jones, Evan Eichardson, John Eoberts, Eobert Eoberts, a INIichael Eoberts, yn cadw ysgoHon dyddiol ar hyd y gwahanol ranau o'r whìd, yn foddion arbenig i hyrwyddo Methodist- iaeth yn ei íiaen. Ymwthiodd John Eoberts i raddau lled helaeth o wybod- aeth, er nad oedd ei fanteision ond prinion mewn cydmhariaeth. Yr oedd yn gwbl gyfarwydd â'r iaith Saesonaeg, o ran ei deall, a defnyddio awdwyr ynddi. Dechreuodd ar y gwaith o bregethu pan oedd tua 27 ml. oed, ar ol bod yn proffesu tua 10 ml., ac ar ol bod dros ryw ysbaid hefyd yn cadw ysgol.

Fel pregetliwr, bernid ef yn rhagori ar nemawr neb yn ei wlad yn mlyn- yddoedd cyntaf ei weinidogaeth. Yr oedd ef, a Mr. Eichardson, Caernarfon, yr hwn oedd wedi cyd-ddechreu pregethu ag ef, yn cael eu hystyried yn ddwy 0 ser dysgleiriaf sir Gaernarfon. Yr oedd John Eoberts yn meddu ar gorff cryf, er nad oedd ond bychan o faint ; yr oedd ei feddwl yn llawn o yni a bywiogi-wydd ; yr oedd yn helaethach ei wybodaeth, ac yn rliwyddach ei ymadrodd, na Ilawer iawn o bregethwyr ei oes, Teithiodd lawer ar wled- ydd y Gogledd a De, yn nghyda threfydd Lloegr, a hyny dros fwy na hanner cant 0 ílynyddoedd. Yr ocdd yn weithiwr egniol, parod, a^blaeullaw gydag achos yr Arglwydd, a diamheu ddarfod i'w weinidogaeth fod yn foddion i droi Ilawer at gyfìawnder.

Llafuriodd, fel y dywedwyd, am y 25 ml. olaf o'i oes, yn Llangwm, ac yn mroydd mynyddig Meirion. Ymdrechodd lawer, yn yr ardaloedd cylchynol i'w gartref, i sefydlu ysgolion Sabbothol, codi capelau, a phlanu eglwysi ; ac wedi oes hir a llafurus, efe a fu farw mewn tanguefedd, Tach. 3, 1834.

Brawd iddo ef oedd yr hynod Eobert Roberts, Clynog, neu " Eobin bach o'r North," fel y galwai y Deheuwyr ef. Yr oedd Eobert ddeng mlynedd ieuengach na'i frawd John, ac yn mlynyddoedd ei febyd yv oedd arwyddion o wylltineb ac aílywodraeth wedi ymddangos ynddo. Pan ydoedd tua 14

PEN. IX.] SIR GAERNAHFON. 261

ml. oed, dechreuodd ymddyosg oddiwith oí'al a llywodraeth ei frawd a'i rieni, gan ymlynu wrth gyfeillion ofer a diofn Duw, ac ymroddi i bob math o gamp- au a chwareuon flbl, a ffynent y pryd hwnw^ yn y wlad. Anliawdd iawn, bellach, oedd ei gael at ei lyfr, nac i'r pregethau, er maint yr ymdrech a wueid i gael hyny. Ond pau oedd tuag 16 ml. oed, daeth cyhoeddiad Mr. Jones, Llangan, i'r wlad ; ac, yn mysg manau eraill, yr oedd ef i'w ddysgwyl i bregethu yn Mryn-yr-odyn, lle ag sydd yn gorwedd rhwng LLanllyfui a Chaeruarfon, a llwyddodd ei frawd John i'w gael gydag ef i ddyfod i wrando y gŵr parchedig. Daeth i'r oedfa, mae'n wir ; ond yr oedd agwedd wamal a chellwerus arno, gyda rhyw gyfeillion eraiU, tebyg iddo ei huu, yu dyfod yno. Gan y nifer a ddaethai yu nghyd, a chan gyfynged y lle y pregethid ynddo, bu gorfod ar Mr. Jones i bregethu yn yr awyr agored. Llefarodd ar Zech. ix. 12 : " Trowch i'r amddiffynfa chwi garcharorion gobeithiol, &c." Dylynwyd y weinidogaeth y tro hwn, fel y gwnaed lawer gwaith cyn, a chwedi hyn, ag effeithiau grymus iawn. Yr oedd llawer o'r djTfa yu wylo yn hidl, rhai wedi eu dal gan fraw, ac eraill gau syndod ; ac yn mysg y rhai archoll- edig, yr oedd Eobert \\amal. Canfuwyd ef gan ei frawd^ar wedd un a fu- asai yn sâl, ei lygaid yn sỳn, a'i wedd yu llwyd. Chwiliodd am dano ar ol dybenu y moddion, ond methai a'i gael, ond fe'i goddiweddodd ar y ffordd yn mhell tua'i gartref, yn rhodio yn benisel, ac w^-tho ei hun. Deallodd ei frawd yn bur fuan mai nid selui corff oedd aruo, ond trallod meddwl. Yr oedd Duw wedi dod i'wgydwybod, a'i euaid wedi ei ddeftro mewn ystyriaeth am ei gyflwr tragwyddol. Esgorodd yr argyhoeddiad hwn ar wir ddychwel- iad at Dduw yn Nghrist. Yr oedd hwu yn ddechreuad dyddiau i Eobert. Y'r hen bethau a aethent heibio. Ciliodd am byth oddiwi-th yr hen gyfeiUion ofer, a'r hen arferion ffol ; ymuuodd yn ddioed ag eglwys Dduw, gan ymgy- segru, 0 hyu allan, i wasanaeth ei Peistr newydd.

Hyd yma, yr oedd yn arfer gweithio mewu Ilechgloddfa a elwir y Cilgwyn, gerllaw ei gartref ; ond fe farnodd ei deulu yn oreu iddo fyned i wasanaethu at amaethwr, a llafurio y ddaear. Mewn canlyniad, aeth i Gefu-Peucoed yu Eiíiouydd, yn ardal Bryneugan. Bu yu y Ile hwu bum' mlynedd yn mrou. Aeth drachefn at un John Pritchard, Coed-cae-du, tad y Parch. Eichard Jones, Wern, a bu yn y Ile hwn ddwy flynedd. Yr oedd, bellach, yn ddyn cryf, bywiog, a gweithgar ; o gyneddfau a chof anarferol ; ac wedi gwrando pregeth, ei arfer fyddai myned o'r ueilldu, a'i hysgrifenu ; a hyn a wnai ymrou yn gyflawn oddiar ei gôf. Ai Uawer, y pryd hwuw, i Langeitho i wraudo Eowlands, ac yn eu mysg fe âi Eobert Eoberts, gan ysgrifeuu pregethau Eowlands ymron yu ddigoU. Wedi hysbysu hyn i Eowlands, ac iddo gael prawf o'i fedrusrwydd, efe a dorai allan i ddweyd " Mi a welais lawer o ladron yn dyfod i Langeitho erioed, ond tydi y w y Ileidr goreu a welais eto."

Yn ystod yr amser y bu efe yn gwasanaethu, cafodd amryw o waredig- aethau hynod rhag ei ladd gau ddamwciuiau ; bu y ihai'n yn foddiou i ddwyshau Ilawer ar ei feddwl, ac i'w dueddu at fyfyrio a darllen, a threuliai oriau meithion wedi cadw noswyl, yu darllen wrtho ei hun. Ymaflodd ynddo

262 HANESIAETH Y SIEOEBD. [dOSB. IV.

y pryd hwn, afiechyd a pheswch trwm, ond trwy y moddiou a ddefnyddiai ei feistres, efe a wellhaodd o'r peswch, ond disgynodd yn boen i'w aelodau, ac yn gryd-cymalau i'w esgyrn. Y pryd hwn, efe a briododd, a chynyddu a wnaeth ei afiechyd, nes ei Iwyr analluogi ef at ei waith, a bu yn gorwedd yn ei wely am naw wythnos, mewn poenau dirfawr, nos a dydd. Cafodd ryw gyfar- wyddyd, pa fodd bynag, a fu yn foddion i liniaru ei boenau, ond gadawodd yr afiechyd ei ol arno tra y bu byw. Pan ddechreuodd godi, ymddangosai fel pe buasai ei holl gymalau allan o'u lle, ei gefn wedi crymu, ac wedi ei gwtogj a'i anfifurfio. Eto, trwy arfer moddion, cafodd wured o'i boenau, a chryfhad lawer i'w iechyd yn gyífredinol. "Eto," meddai Richard Joues am dano, "fe weithiodd ei afiechyd mor gryf, nes ei wneuthur o fod yn ddyn lUmiaidd a thàl, yn gwrach byr a chrwcca, a thyma agwedd ei goríî afiachus yu llafurio,- holl ystod ei weinidogaeth." Bu mam Richard Jones yn dyner iawn o hòno, a bu yn foddion, mae'n debyg, trwy ei gwybodaeth am ddaii a Uysiau, i estyn ei oes a gwella ei afiechyd. Hi arferai ddyweyd, os byddai neb yn bwrw ei bod yn cymeryd mwy o boen nag y buasai raid, " Fe däl Robin i'w ymgéleddu."

Pan oedd Robert Eoberts tua thair neu bedair ar hugain oed, ymwelodd yr Arglwydd â Brynengan ag adfywiad grymus iawn. Dyhidlai y gwlaw graslawn yn gawodydd mawrion ar y cynulleidfaoedd a ymgasglent yno, nes peri afywiad rhyfeddol ar bob oedran a gradd. Dadseiniai yr ardaloedd gan lais cân a moliant, nos a dydd. Ac yn mhlith y rhai a brofodd raddau hel- aeth o'r adfywiad hwn, jt oedd Robert Roberts. Trwythwyd ei ysbryd y pryd hwn â goruchwyliaethau grymus iawn ; taniwyd ei enaid â chariad at Grist, ac â sêl dros achubiaeth dynion ; ac yn bur fuan ar ol yr ymweliad hwn, efe a ddechreuodd ar waith y weinidogaeth.

Ni chawsai y dyn tlawd hwn nemawr o ddim manteision mewn dysg a gwybodaeth gyffredinol. Yr oedd wedi dysgu darllen y Beibl Cymraeg er yn ieuanc, ac efe a fu am ychydig amser ar ol tyfu i fyny, gyda Mr. Evan Rich- ardson yn dysgu Saesonaeg, yr hyn, gyda'i ymdrechion diflino ef ei hun ar ol hyny, a'i galluogodd ef i wneyd defnydd o waith duwinyddion yn yr iaith hòno. Ond er lleied a fu ei fanteision, er tloded oedd ei sefyllfa, er gwaned oedd ei iechyd, ac er mor anffurfiol oedd ei wedd gorfforol ; eto, fe wnaeth yr Arglwydd ddefnydd anarferol o hono. Coronodd ef o ran ei weinidogaeth, yn mhell o flaen neb o'i gydoeswyr. Meddai y Parch. Richard Jones o'r Wem am dano : " O ran ei gymhwysderau i'r weinidogaeth, er ei fod, o ran agw-edd ei berson, yn wael, eto yr oedd ei lais yn glir, a'i barabl yn groyw, ac 0 gôf da ; ac er nad oedd yn deall ffugyrau areithyddiaeth na rhesymiaeth chwaith, eto yr oedd yn egiur i bawb ag oedd yn eu deall, eu bod fel ffrydiau yn tryloywi yn naturiol yn nghymhwysder ei eiriau, a phriodoldeb ei gy- ffelybiaethau, a phwys ei resymau, yn enwedigol pan y byddai Duw yn llewyrchu ai' ei ysbryd ; a chyda hyn, yr oedd bywiogrwydd ac eondra digonol yn ei ysbryd a'i wynebpryd. Ond y peth mwyaf nodedig yn ei holl gymhwys- derau i'r fath orchwyl pwysig a goruchel, ydoedd yr addurn dwyfol o'r nef ;

PEN. IX.] SIR GAERNAHFON. 263

yr hwn ydoedd fel gwisgoedd Ueision Aaron, yn ei guddio o'i ben i'w draed ; pa waeledd bynag a allai fod danynt, yr oedd arogl y pomgranadau, a saiu y clychau aur, yn cyhoeddi ei santeiddrwydd trAvy hoU Israel. Eithr, y mae yn debyg na wisgwyd yr oífeiríaid erioed â'r fath addurn ag y gwisgodd yr Arglwydd yr offeryn tlawd hwn, ac a'i cadwodd i lewyrchu yn danbaid yn ffurfafen yr eglwys ues gorphen ei dymhor ; ac a'i cynaliodd fel angel tanllyd i ehedeg yn nghanol y nef, gan gyhoeddi efengyl y deyrnas yn ei phurdeb a'i nerth."

Fe dreuliodd rai o'r blynyddau cyntaf, ar ol priodi, mewn a gardd a osodwyd iddo gan dad Richard Jones, a defnyddiai ei amser mewn cadw ysgol Gymraeg yn ngwahanol ardaloedd Eifionydd, ac efe fu yn y modd yma, trwy ei addysgiadau fel athraw, a thrwy ei lafur cyhoeddus fel pregethwr, yu offeryn i gynyrchu Uawer o ddaioni. Ond yr oedd ei iechyd yn raddol yu gwanychu, a'r alwad am ei weinidogaeth yn cynyddu, ues y cymheliwyd ef, ar Lais yr eglwysi, a chynghorion cyfeülion, i roddi yr ysgol heibio, ac ym- roddi yn gwbl i bregethu y gair ; ac felly y gwnaeth hyd ei farwolaeth. Nid hir ar ol^rhoddi heibio yr ysgol y bu heb symud o'r Ynys-galed i dŷ, yu perthyn i gapel uchaf Clynog, ac yno y trigiauodd weddill ei oes.

Ardderchogrwydd peuaf Robert Eoberts ydyw y peth anhawsaf ei ddarlunio. Pe buasai rhyw amgylchiadau hyuod wedi nodweddu ei oes, gallesid, ond odid, eu hoLrhain, neu pe cyfarfuasai ag erlidigaethau chwerwon, neu â g-waredigaethau lawei', gallesid yn hawdd eu gosod ger bron. Ond uid oedd ei oes ef wedi ei hynodi ag amgylchiadau felly, eto yr oedd yn uu o'r dynion hynotaf a welodd Gwynedd erioed ; ac er mor hyuod ydoedd, y mae anhawsdra anorfod i roddi drychfeddwl priodol i'r darllenydd am ei enwogrwydd. "Am ei weinidogaeth," ysgrifenai ei nai, y Parch. Michael Roberts, Pwllheli, " y mae yn anhawdd rhoddi desgrifiad o honi. Meddyliais lawer gwaith wrth glywed yr hen bobl yn son am yr enwog Mr, Eowlands o Langeitho, mai y tebycaf a glywais i erioed iddo, oedd Eobert Eoberts, yn ol ei radd. Astud- iai ei destynau ar amrywiol gangheuau o athrawiaeth, a'r addysgiadau a dynai oddiwrthynt, i'r manylrwydd eithaf, yn ol y manteision ag oedd ganddo ; a Ilefarai yn gyffredin yn drefnus ar y materion a ragfyfyriasai arnynt, olynol. Ond yr hynodrwydd mwyaf arno, oedd byv.'iogrwydd taullyd ei ysbryd, yn y pethau, wrth eu traddodi ; a'r arddeliad, y llewyrcb, a'r tywalltiadaii a ddisgynai arno ef a'i wraudawyr ; a dull ei wynebpryd mor briodol i'w araeth, nes y byddai yn anhawdd i neb fod heb ryw effeiíhiau arnynt, y pryd hwnw, o leiaf. Gwelais y cynulleidfaoedd ddegau o weithiau yu wylo, fel nas gwel- wn braidd wyneb sych. Os taranu bygythion a mellditli y ddeddf uwchben ei throseddwyr y byddai taranau, mellt, a dychryn, megys wrth Sinai, a fyddai yno. Os cyhoeddi dyfnion bethau yr athrawiaeth, am ddirgelwch y Driudod, person yr Emanuel, y cyfararaod hedd, a threfn yr iachawdwriaeth, Ilenwid yr enaid â syndod a gorfoledd."

Yr wyf yn fwy parod i gyfcirio y darllenydd nt dystiolacthau y ddau ŵr {>archedig, ac adnabyddus uchod, o hcrwydd yr oedd y cyutaf yu adwaeu

264 HAKESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

Robert EobertSj o'i ieuenctyd, ymron yn well na neb aralL, yn bersonol, teuluol, a chyhoeddus ; a'r olaf wedi ei ganlyn lawer, yn ei deithiau, gartref ac oddicartref ; a'r ddau yn wýr tra chymhwys i roddi barn am ei alluoedd, ei ysbryd, a'i ddoniau. Ond y mae tystiolaethau Uaweroedd yn mhob cẁr o'r wlad, llai cyhoeddus na'r gwŷr a nodwyd, yu cyd-daro â'r eiddynt hwy, am ddoniau a llwyddiant gweinidogaethol ILobert Eoberts. Dywed pawb a'i clybu, na chlywsant ei gyffelyb erioed. Yr oedd ehediadau ei feddwl yn ar- dderchog ; ac wrth ystyried ei anfanteision, yn ymddangos ymron yn wyrthiol. Nid oes modd, tybygid, i roddi cyfrif, am ddysgleirdeb ac ardderchogrwydd gw^einidogaeth y dyn tlawd a diniwaid hwn, ond fod y Goruchaf ei hun wedi ei wisgo, megys i ddangos i bawb, pa bethau eu maint y dichon iddo eu gwneuthiu- yn y Uwybr yma.

Gŵi' a ga'dd ei ddwyn i'r arf dŷ,

Ac fe'i gwisgwyd yno yn llawTi ; Fe'i prydferthwyd â grasusaii,

Fe'i goreurwyd â phob dawn,- Allan daeth a'i gledd a'i wregys,

Llurig gref, a'i darian fa^^T ; Saethau heb rif, a'i fwa anelog,

I darfu Ujdiog dorf y llawr.*

Ni fu rhedfa Hobert Eoberts yu faith, ond hi fu yn nodedig. Bu farw megys yn ughanol ei ddefnyddioldeb, yn y fl. 1803, pan nad oedd ond 40 ml. oed, wedi bod yn pregethu bymtheng mlynedd. Wedi ei ddefnyddio mewn modd anarferol i ddeffiro ei gydwladwyr o'u cwsg, efe ei hun a gadw- odd noswyl, ac a hunodd yn yr angau.

BOBERT DAFYDD, BRYNENGAN.

Er mai mewn cysylltiad â Brynengan yr adwaenir yr hen bregethwr hwn, eto nid un ganedig yu Mryneugan ydoedd ; ond am iddo dreulio ei holl oes, grefyddol a chyhoeddus, fel preswylydd yno, fe gysylltir ei enw â Brynengan. Fe'i ganwyd yn y Cwm-bychan, yn agos i Bont Aberglasglyn, yn mlilwyf Bedd- gelert. Enw ei dad oedd Dafydd Pritchard, Gwehydd, yr hwn a fu farw pan oedd Eobert yn blentyn blwydd oed. Bu gyda'i fam nes oedd tua 12 neu ]3 ml. oed, yna aeth at ei ewythr brawd ei dad, a bu yn gwasanaethu yn y Ue hwn, hyd nes y bu raid iddo ymadael, gan y gwrthwynebiad a ddangosid i'w grefydd. Yn ei ieuenctyd, ni chafodd Eobert Dafydd ddim manteision cref- yddol. Nid oedd yma nac ysgolion Sabbothol, na phregethu yr efeugyi, yn yr holl fro, ac yr oedd yntau fel eraill yu yr ardal, yn hollol dywyll am bethau yr efengyl, ac yn llwyr anystyriol am ei achos ysbrydol. Ymddifyrai mewn chwareuon, a champau ofer a llygredig ei oes, ac nid oedd neb a warafunai hyn iddo nac a geisiai ei hyfforddi mewn pethau gwell.

* Gwel rarwnad iddo gan John Roberts, Pwllheli, yu y " Goleuad," llyfr. vi. tudal. 248.

PEN. IX.] SIR GAERNARFON. 265

Pan oedd tuag 21 ml, oed, dygwyddodd iddo gael gwrando un yn pregethu, o'r enw Siôn Eobert Lewis o Gaergybi, a bu byny yn foddion, tybygid, i ysgogi gradd ar ei feddwl at bethau tragwyddol. Daetb i ddechreu ystyried fod gwahaniaeth rhyngddo ao anifail, a bod iddo achos gyda Duw fel crcadur cyfrifol i orsedd ei Greawdwr. Daeth Eobert Jones, Ehoslan, i gadw ysgo], dros ryw dymhor byr, i'w ardal, a Eobert a âi i wrando arno yn holwyddori y plant mewn pethau crefydd. Yr oedd egwyddorion cyntaf crefydd yn ddyeithr iddo y pryd hwnw, a difyr oedd ganddo glywed am bethau mor newydd a dyeithr. Ond nid hir y bu cyn deall fod a wnelai y gwirioneddau a glywai ag ef ei hun ; argyhoeddwyd ef o'i sefyllfa euog a pherygius, a phrofodd ddirfawr drallod ac ing ar ei feddwl. Bellach, ymddaûgosai cyf- newidiad ar ei wedd, ei eiriau, a'i ymddygiadau, a dechreuodd hen wragedd y fro regu Eobert Jones am yru Eobert Dafydd o'i gôf, Mawr oedd ei awydd, bellach, i wrando pregethu ; nid esgeulusai yr un oedfa a fyddai yn ei gyrhaedd ; a rhaid oedd iddo gerdded yn mhell yn fynych, gan leied oedd o bregethu yn agos i'w gartref. Nid oedd nemawr bregethu cyson yn nes iddo na'r Waunfawr ar y naill law, neu Frynengan ar y llaw arall. I'r Ile olaf hwn yr arferai fyned amlaf ; a Ilawer a wrandawodd ar hen bregethwyr Lleyn, sef Hugh Thomas, Griíììth Pritchard, Charles Marc, Eobert Williams, ac eraill.

Yr oedd trallod ei feddwl yn parhau yn ddirfawr, ac jt oedd yr ymosodiad aruo oddiallan yn cynyddu. Cyraerwyd achlysur gan deulu ei ewythr, oddi- wrth ei fod yn gwibio mor aml i Frynengan, ac yn dychwelyd oddiyno mor hwyr y nos, i roi ar ddeaU iddo, mai mwy dymunol a fyddai iddo fyned i le arall i fyw. Aeth yntau, yn y canlyniad, i ardal Brynengan, lle y preswyliodd o hyny allan. Eyw bryd, yn yr adeg yr oedd ei ysbryd ymron a chael ei lethu gan ofn uflfern, ac euogrwydd cydwybod, cafodd y fraint o wrando Dafydd Morris, sir Aberteifi, yn pregethu ar y gair, " Dygwch allan y wisg oreu, a gwisgwch hi am dano ef, Síc." Yn yr oedfa hon chwalwyd ei ofnau, a drylliwyd ei IyfFetheiriau ; gollyngwyd ei enaid yn rhydd, a rhoddwyd yn ei " enau ganiad newydd o foliant i'n Duw ni."

Yr oedd yn arferiad y pryd hwn, ac er ys amser maith cyn hyn, i grefydd- wyr y gwledydd fyned, os gallent hefyd, i Langeitho, i wraudo Eowlands yn pregethu. Yr oedd y desgrifiad a roddid o'i ddoniau, ac o'r arddeliad rhy- feddol a fyddai ar ei weinidogaeth, y fath, na aUai lai na chodi awyddfryd angherddol yn meddyliai'y dysgyblion ieuainc i gael ei wrando. Penderfynodd Eobert Dafydd hefyd fyned hyd yno, a chydag ef yr oedd John Pierce. Yr oedd iddynt oddeutu 80 milldir o fifordd i'w cherdded ; ac nid oedd i'w ddysgwyl ond gwawd a sarhad yn y pentrefydd yr aent trwyddynt ; ac felly y bu iddynt y tro hwn. Hwtiwyd hwy yn fíyrnig yn Tan-y-bwlch, a bu Uefain gwawdlyd ar eu hol yn Nolgellau, ond cyrhaeddasaut Llangeitho yn Uuddedig, erbyn amser yr oedfa ddydd Sadwrn o flaen y cymundeb. Ond cyn pen llawer o fynydau o wrando Eowlands, yr oedd eu hoU ludded wedi

266 HANESIAETH Y SIEOEDD. [doSB. IV.

àiflanu, eu holl ofìdiau wedi eu hanghofio, a'u Uestri yn rhedeg drosodd gan orfoledd yr iachawdwriacth.

Tr oedd yr anhawsderau i fyued i, a dychwelyd o, Langeitho y pryd hwuw, yn fwy nag y inae yn hawdd i ui, yu y dyddiau hyu, ddychymygu eu bod. Yr oedd y fíyrdd yn anhygyrch, a phreswylwyr yr ardaloedd yr aent trwyddynt yn annyddig, ac weithiau, cyfarfyddent â thywydd blin o wynt a gwlaw, neu o eira a lluwchfeydd, nes y byddai yn anmhosibl ymron iddynt fyned neraawr ymlaen. Dygwyddodd i Eobert Dafydd unwaith, ac un Kichard Morris, yr hwn oedd gydag ef, ar eu dychweliad o Langeitho, pan yn croesi y Traeth- bach, gael eu hamgylchynu gan y llanw, a bu y ddau yn agos i angau. Yr oedd Eobert Dafydd, yr hwu cedd o faintioli Iled fawr, hyd at ei geseiliau yn y dwfr, a Eichard Morris, jr hwn oedd yn Ilai o faintioli, at ei wddf. A chyda bod y dwfr fel hyu yn ddwfn, yr oedd y noson yn oer iawn, o lew ac eira, a rhyfedd ydyw iddynt ddianc a'u bywydau ganddynt, eto dianc a wnaethant. Buant ddyddiau cyn gallu cyrhaeddyd i'w cartrefi, gan faint oedd y Iluwchfeydd eira, a chau anhawsed oedd myned trwyddynt.

Crybwyllai Eobert Dafydd am dro chwerw o erlid a baeddu a fu unwaith yn Mhenrhyn-deudraeth. "WiIIiam Evans o'r Tedw-arian oedd yno yn preg- ethu, a hyuy mewn gweithdŷ cylchwr {cooper). Daeth torf fawr o erlidwyr yno ; torasant dyllau yn y ; ac yn mysg y rhai prysuraf o honynt yr oedd dau fab i ofi'eiriad, yn eu crysau, ar nen y tŷ, yn bwrw talpiau mawr o dy- wyrch ar y bobl ; eraill yn curo pob un a ddelai i'r â gwrysg o goed ; cafodd eraill gyrn gwartheg mewn barc-dŷ, a defnyddient y rhai'n yn off"er i faeddii y crefyddwyr. Ffaelodd Wiìliam Evans a phregethu, eto hi a dorodd yu orfoledd ar y trueiniaid ryw bryd yn ystod yr oedfa, yr hyn, mae'n debyg, a fi'yraigodd yr erlidwyr yu fwy. Canlynent ar ol y crefyddwyr ara ysbaid milldir 0 ffordd, gan eu euro yn gethin â'r cyrn gwartheg. Ac nid oes wybod dros ba faint o ffordd yr ymlidiasid hwy yn y modd yma, oui bai i ryw hen ymladdwr adnabyddus eu cyfarfnd. Hwn, er mwyn dangos ei nerth a'i wi'oldeb, fe allai, neu ynte, o dosturi dros y rhai a ddyoddefent gymaint ar gam, a waeddodd, gan godi ei ffon uwch ei ben, myn y gvvT drwg, y mjaiai efe lonydd i'r bobl, neu y dyfethai cfe hv/ynt oll. Eelly y cafodd y bobl druain ymwared, pan oeddynt leiaf yn ei ddysgwyL

Nid oedd Eobert Dafydd yn cael ei ystyried yn bregethwr mawr ei ddawu a'i boblogrwydd. Yr oedd yn hytrach yn perthyn i'r dosbarth a alwai yr heu bobl yn gìjnghorwyr . Yr oedd golwg batriarehaidd ar ei berson ; ei wallt yn fawr ac yn rhanedig yu ei dalcen, ac yn ei henaiut yn wýn fel Ilin. Nid cy- maint a driniai efe ar bynciau athrawiaethol crefydd, ond yn fwyaf ar grcíydd brofiadol ; natur argyhoeddiad, a marw i'r ddeddf ; y gwahaniaeth rhwng y gwehilion a'r gwenith, y gwir Gristion a'r rhagrithiwr. Dywedir ei fod yn fwy hynod mewn gweddio nag mewn pregethu, ac yn fwy raedrus ar gadw cyfarfodydd cglwysig, nag oedfaou cyhoeddus. Ystyrid ef yu hallt iawn yn erbyn pechod, yn llym vn ei geryddon, a didtlcrbyn wyncb. "Wedi oes Iled

PEN. IX.] SIR GAERNARFON. 267

faith 0 wasanaethu genedlaeth trwy ewyllys Duw, efe a hunodd gyda'i dadauj yn heu a chyflawn o ddyddiau.

Y PARCH. JOHN JONES, EDEYRN.

Mae y gŵr parchedig hwn wedi marw, bellach, er ys dros 30 ml,, ao felly heb ei weled na'i glywed erioed gan gorfl' mawr ein darllenwyr. Gan ei fod yn un o'r pregethwyr grymusaf yn sir Gaernarfonyn ei ddydd; a chan y mynych gry- bwyllir am dano, fel un hynod am ei fl'raethineb ; ac yn enwedig, gan y gwnaed defnydd amlwg o hono i rwyddhau Methodistiaeth Cymru yn ei flaen, dymunol yn ddiau, a fydd gosod i lawr grynodeb byr o'i hanes, fel un y mae y dywysog- aeth yn ddyledus iddo, yn mysg eraill, am y wedd sydd arni yn bresenol.

Fe fu John Jones yn pregethu am ysbaid 38 mlyncdd ; a chychwynodd ar ei weinidogaeth tua'r amser yr ymunodd Mr. Charles â'r cyfundeb. Ei gydoeswyr oeddynt y Peirch. Evan Eichardson, Caernarfon ; John Eoberts, Llanllyfni ; a'r enwog Robert Eoberts ei frawd. Yr oedd Robert Jones, Tŷ-bwlcyn, ar y maes ugain mlynedd o'i flaen ef, a chychwynasai y diwygiad Methodistaidd yn Ngwynedd 40 mlynedd cyn iddo droi allan i lafurio yn ngwinllan Crist. Yn fuan ar ei ol ef y cychwynodd y Peirch. John Elias, Môn ; John Parry, Caer; a John Edwards, Eeiniog gynt, neu Blas-yn-Nghaerwys ar ol hyny ; a Eichard Jones o'r Wern ; oll o'r un sir, ac am dymhor hir yn cyd-weithredu yn egniol â'u gilydd ar yr un maes, i gyrhaedd yr un amcan.

Brodor oedd Mr. Jones, Edeym, o Eôn, mab i Methusalem Jones, Tyddyn- Dafydd-ddu, plw}'f Llandwrog. Yn mhen ychydig ar ol priodi un Anne Jones, Bettws-fawr, o'r un plwyf, a phan oedd John yn blentyn hanner blwydd oed, symudodd ei dad i Gaernarfon i fyw. Y''n y dref hon, gan hyny, y bu y bachgen fyw hyd nes cyrhaedd o hono 1 7 ml. oed. Yr oedd Caeruarfon ar y pryd hwn yn amddifad hollol ymron o bregethu gan ymneiUduwyr, ac nid oes haues genym fod nemawr well nag enw efengyl ar weinidogaeth Uan y plwyf. Nid oedd i'w ddysgwyl, gan hyny, yn y dref ar j pryd, ond fod pawb yn gwneyd bob uu yr hyn oedd dda yn ei olwg ei hun, ac nid oedd neb yn gwarafun iddynt, am yr ymgadwent rhag tori cyfraith y tir. Dan amgylchiadau o'r fath, gellid dysgwyl i fachgenyn o yni a medrusrwydd John Jones ragori yn mhob camp a dybid yn uchel gan y trigolion. A hyn hefyd a wnaeth. Ym- ösododd ar gampau ei wlad â'i holl egni, a chyfrifid ef yn rhagori mewu asbri a dyhirwch ar y cyfFredin o'n gyd-ieuenctid. Trwy geisio ymwthio i ystafell lle y cynelid dawns-gyfarfod (òall) gan foneddigion y fro, heb ganiatâd, brathwyd ef yn ei gefn gan geidwad y drws, ag oflFeryn miniog ag oedd ganddo yn ei law, ac o'r braidd y diangodd heb ei ladd.

Wedi derbyn gradd o niwaid drwy y tro hwn, barnai ei rieni yn oreu ei osod yn Irentia at ryw greff"t ysgafnaidd, a phenderfynwyd ei anfon at eilliwr (barier) i'r Wyddgrug, sir Fflint, i ddysgu y grefl"t hono. Wedi bod yno ddwy flynedd, aeth at ei rieni, y rhai ocddynt, belhich, yn byw yn Amlwch yn Môn. Nid oes son am dano aragen na'i fod yn rhodio "yn oferedd ei feddwl," fcl yr oedd helynt y byd o'i amgyloh, hyd ues ydoedd tuag 30 ral.

268 HANESIAETH Y SIROEDD. [DOSB. IV.

oed. Dygwyddodd un Sabboth fod dau ŵr o Amlwch yn troi allan o'r dref i fyned i wraudo pregeth i ardal rhwng eu cartref a Llanerchymedd, o'r enw Lledrod, ac wrth fyned tarawsant wrth y harher ieuano, a chyfaill iddo, yn chwareu gyda rhyw gamp, a gofynasant iddo, " John bach, tyi'ed gyda ni heddyw i wrando pregeth i Ledrod." Yntau yn rhwydd a gydsyn- iodd, ac ni fu ei fynediad ef yno yn ofer ; leimlodd saeth y gwirionedd, am y tro cyntaf, yn brathu ei gydwybod. Eífeithiodd yr oedfa hon arno i arafu gwylltineb ei gamrau, ac i droi ei sylw at bethau yr efengyl. Collodd flas ar ddifyrwch y cnawd, dychlamai ei fynwes gan arswyd digofaint Duw, a chyrchai yn ddiwyd, bellach, i wrando pregethau, gan ymofyn iachâd i'w ysbryd ar- cholledig.

Nid yn ebrwydd iawn ar ol hyn yr ymunodd y gŵr ieuanc â'r gymdeithas eglwysig ; ac yr oedd y bachgen gwyllt, dibris, a diriad, wedi ei sobri drwyddo. Yr oedd yr hen ymadroddion a'r arferion flbl a anurddai ei rodiad gynt, yn awr wedi eu rhoi heibio ; ac nid^eu rhoi hwy heibio ei hunan yn unig, ond daethant i fod yn annyoddefol ganddo mewn eraill. Clywodd un diwrnod fenyw o'r enw Catrin Eandle yn arfer Ilwon, wrth werthu teisenau gerllaw ei weithdŷef, ac aeth allan ati, gan ddyweyd, "Catrinbach, er mwyn Duw, a'ch enaid eich hun, edrychwch beth a ddywedwch." Fe fu y gair hwn yn fodd- ion, dan fendith Duw, i ddwyn y fenyw hòno i ddechreu ystyried ei flyrdd, ac i droi at yr Arglwydd. Ac un liynod a fu Catrin yn ei thymhor. Nid oedd nemawr bregethwr yn yr oes hòno nad oedd yn gwybod am daiii. Torai allan yn fynych, ac yn aml yn ddisymwth, dan y pregethau, a bloedd gyfl'rous iawn, nes cynhyrfu pawb yn y Ile. Yr oedd yn dra adnabyddus yn ngwahanol barthau y wlad, fel un a ymwelai â gwahanol dai gyda'i galwedigaeth o drwsio plyf gwelyau ; ac yr oedd wedi enniU iddi ei hunan, er tloted ei sefyllfa, air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun, am ei diragrithrwydd a symledd ei chrefydd. Ond nid oedd dychweliad Catrin Eandle ond blaenff"rwyth o'r cynyrch a gesglid ar ol hyn i'r ysgubor, trwy lafur John Jones.

Nid oedd John Joues eto wedi ymuno â'r dysgyblion yn Amlwch, ac fe ymddengys, pa faint bynag oedd grym yr argyhoeddiadau a brofasai o'r bluen, mai trwy weinidogaeth yr hynod Dafydd Morris, Twrgwyn, y cafodd efe ei ennill i gofleidio y gwirionedd, ac i ufyddhau iddo o'r galon. Dywedir y byddai y Ilencyn hwn yn arfer canlyn y pregethwr crybwylledig, pan y deuai i Fon i bregethu, ar ei draed, o fan i fan, tra y byddai yn y wlad. Ac uid ymlyniad wrth Dafydd Morris yn unig a barai y fath ymdrech, gan y gwuai yn.gyff'elyb a rhai eraill, er fe allai, mai nid i'r un helaeth.rwydd.

Torodd John Jones allan i bregethu tua'r fl. 1784. Yr oedd ei weinidog- aeth ef, yn y blynyddoedd hyn, yn rymus a bachog iawn. Yr oedd gwedd ddiarswyd arno, ei lais yn glir ac uchel, ei Iygaid yn Ilymiou, a'i ymadrodd- ion yn nodedig am eu fl:raethineb. Terfynai, weithau, ar ymylon ysgafnder ; a thueddai ei ddull a'i fí'raethineb, yn achlysurol, i beri gradd o ddifyrwch i ryw ddosbarth o wrandawyr, ac o dristwch i ddosbarth arall. YmoIIyngai, weithiau, i arfer sŵn neu ystum a fyddai yn cydweddu â'r ffaith a ddarluuiai,

PEN. lî.] SIR GAEENARFON. 269

i raddan, a dybid, yn ormodol ; megya pan yn olrLain hanes Pedr, fe wnai sŵn fel pe buasai ceiliog yn canu ; neu y gwartheg yn brefu, pan yn son am y modd y dygwyd yr arch i'w bro o wlad y Philistiaid, Eto yn nghanol hyn yr oedd gwirioneddau . mawrion yn cael eu bwrw allan, gyda grym a deheu- rwydd mawr, fel ag i droi y chwerthin yn wylo mewn mynyd, ac' i beri fod Uawer a ddaethent i wrando ar Jach y harber, er mwyn digrifwch, yn cael eu dàl gan argyhoeddiadau llymion, ac yn dychwelyd adref, a'u calonau yn gwaedu gan synedigaeth a braw.

Yraddengys iddo gael ei arddel, i raddau helaeth, gan Arglwydd y gwaith, fel ag i fod yn offeryn i droì Uawer at gyfiawnder. Yr oedd ei weinidogaeth ar ei gychwyniad, yn dreiddgar a tharanllyd iawn ; a llawer o rai dewrion a chedyrn-galon a fwriwyd i lawr ganddo. Dywedir ddarfod dychwelyd naw ugain o dan yr un bregeth o'i eiddo. Pan y cyhoeddwyd hyn gyntaf trwy y wasg, parodd amheuaeth yn meddyliau aml un, ai gwir oedd hyn ? Achlys- urodd yr amheuaeth ymchwiliad manylach, a chaed gan un ó'r ihjclmeledigion fod y nifer yn naw ugain a deg. Yn yr AberíTraw yn Môn, meddir, y bu hyn, a'r tro cyntaf hefyd i John Jones fod yno yn pregethu. Ni ddygwyddodd i mi glywed am nifer mor fawr wedi cael eu galw dan yr un bregeth, oddieithr ar ddydd y Pentecost yn Jerusalem, pan y pregethwyd y bregeth Gristionogol gyntaf erioed.

Adroddwyd yr hanesyn canlynol gan Eobert Jones, Tŷ-bwlcyn, wrth Griffith Solomon. Pan yr oedd Mr. Jones, Edeyrn, yn ddyn ieuanc, ac ar gyhoeddiad yn Nhrawsfynydd, ddydd gwaitli yn y cynhauaf gwair, dywedai rhyw amaethwr wrth y dwylaw oedd yn Uadd ac yn cyweirio y gwair, yn feibion ac yn ferched, " Mi a'ch gadawaf chwi am enyd, ac a âf i'r capel i wrando pregeth ; gwnewch chwithau eich goreu." Aeth ymaith ar hyn, ond troes yn fuan yn ei ol, ac a ddywedodd, " Yr wyf yn clywed fod rhyw beth anghyífredin yn canlyn y dyn sydd i fod yn y capel heddyw ; mi hoífwn i chwi ddyfod i gyd i wrando arno." Eelly hefyd yr aethant oll, yn chwech o nifer, a sicrheir fod pob un o honynt wedi derbyn bendith gan Dduw, a'u gwneuthur yn greaduriaid newydd yn Nghrist lesu.

Wedi i Mi-. Jones fod yn pregethu am ddwy neu dair blynedd, aphan oedd yn 25 ml. oed, efe a briododd un Mary WiUiams, etifeddes Pen-y-bryn, Edeyrn, ac yn y Ile hwn y bu efe byw o hyny allan, sef ysbaid 35 o flynydd- oedd. Yn nechreu ei oes weinidogaethol, arferai fyned ar ei draed o fan i fan i bregethu, a darluniai y tro cyntaf y darbwyllwyd ef i gymeryd ceffyl dano mewn modd Iled ddigrifol. " Pan oeddwn," meddai, " yn byw yn Amlwch, cefais addewid o geffyl i fy nghario i gyfarfod misol Niwbwrch. Aethum ar gefn y ceffyl, ond cyn myned dros rwd o ffordd o'r lle y cefais ei fenthyg, sef y Groeslon, ar ffordd Llanerchymedd, gwelwn ef yn cyrhio ei ben, ac yn ym- ddolenu fel sarff; a minau y pryd hwnw mor serfyll ar geffyl ag ŵy ar ben trosol : ac yn mhen ychydig amser, pa le y cawn fy hun ond ar wastad fy nghefn yn y flbs, ac wrth fy ngadael yno, rhoes i rni gic yn nghroth fy nghoes ; ac nid wyf yn meddwl y bu dau yn fwy boddlawn i ymadael â'u gilydj o

270 HANESIAETH Y SIROEDD, [DOSB. IV.

hyny hyd yn awr." Ond fe ddysgodd Mr. Jones fod yn well marchogwr ar ol hyny, a theithiodd lawer dros Gymru oll, a rhai o drefydd Lloegr, am ysbaid 30 ml. a mwy.

Y PARCH. EICHARD J0NE3, WERN.

Tua chwe' blynedd ar ol Robert Eoberts y dechieuodd gŵr enwog arall bregethu, ac yn agos yn yr uu ardal, sef y Parch. John Elias ; yn y flwyddyn ganlynol, dechreuodd y Parch. Richard Joues ; yntau hefyd, yn yr un fro ; ac nid hir ar eu hol y dechreuodd y Parch. John Parry, Caer, ac yntau hefyd oedd o'r un sir ; ond gan i'r cyntaf a'r olaf o'r gwŷr hyn ymadael yn Ued foreu a'u gwlad eu hunaiu, ni a ohiriwn y crybwylliad a wneir am danynt, hyd y lle priodol, ond gan i Eichard Jones dreulio y rhan fwyaf o'i oes yn ci wlad ei hun, ac nad aeth, wedi ei symudiad nemawr oddiwrth ei therfynau, ni a osodwn ger bron yn awr ychydig grybwylliad am y gŵr enwog hwn.

Mab ydoedd i John Pritchard o'r Coed-cae-du, plwyf Llanystyndwy, yn nghymydogaeth Brynengan, sir Gaeruarfon. Y mae amryw nodweddau yn hanes Eichard Jones, yn gwahaniaethu oddiwrth amryw o'i frodyr yn sir Gaernarfon. Yn gyntaf, yr oedd ei rieni yn fwy clyd eu hamgylchiadau na'r cyífredin. Drachefn, fe roddwyd iddo fwy o fanteision yn ei febyd i gyr haedd dysg a gwybodaeth gyfiFredinol. Hefyd, ymddengya ei fod ef ei hun 0 duedd mwy pwyllog, arafaidd, a meddylgar, ac ar y dechreu yn Uai dysglaer a hyawdl na rhai o'u gydoeswyr, ac yn ychwancgol at hyn, fe ogwyddai yn fwy na llawer yn ei oes at chwilio, a darllen, ac ysgrifenu ; ac er na pharodd gyftVo mawr, ar ei gychwyniad cyntaf allan, eto cyrhaeddodd ddefnyddioldeb a dylanwad mawr yn mysg ei frodyr, ac hwyrach mai nid gormod fyddai chwanegu, wrth ystyried bychander disylw ei ddechreuad, na pbarhaodd neb o'i gydoeswyr i gynyddu mor gyson ag ef, hyd nes yr edrychid arno yn un o brif golofuau Methodistiaeth Gwyuedd.

Dechreuodd bregethu tua'r tìwyddyn 1794, a pharhaodd i lafurio yn wastad a chysou hyd y fl. 1833, ysbaid o 39 o flynyddoedd ; pan y bu efe farw mewn tangnefedd.

Pe gawsai y pregethwr hwn, yn fwy na llawer o bregethwyr y Methodist- iaid, ychydig o ddysg yn ei ieuenctyd, dan yr athraw parchus Evan Eichardson, yr hwn, fel y soniason o'r blaen, oedd yn cadw ysgol ar y pryd yn y fro hòno, Cafodd gychwyniad i mewn i'r Saesonaeg, Lladin, a Groeg. Llafur- iodd yntau ei hun ar ol ymadael â'r ysgol, yn ngwahanol gangheuau gwydd- orion, a chyduabyddid ef yn rhagori cymaiut ar ei gymydogion yn y rhagor- iaethau hyn, nes y tueddwyd rhyw ŵr boneddig yn ei ardal, yr hwn oedd uch-gyfreithiwr {òarrister), gynyg ei ddwyn yutau i fyny i'r un alwedigaeth. Hyn, pa fodd bynag, a wrthododd oddiar ryw gyfrifon anadnabyddus yu bresenoL Yn nhymhor cyutaf ei ieuenctid, dau beth arbenig a âi a'i fryd ; adnabyddiaeth o amaethyddiaeth, ^c o'r gioyddorion Cscieìices). Nid oedd y pryd hwn nemawr o arwyddion fod ynddo lawer o deimladau crefyddol ; yn

PEN. IX.] SIE GAEBNARFON. 271

unig yr oedtl yn hardd ei rodiad, ac yn ddifrycheulyd ei íywyd. Nid oedd Eich- ard ieuanc ddim yn hollol gydredeg gyda neh. Nid oedd yn ymwylltio gyd chyf- oedion difeddwl a di-iau, i gyflawni arferion fl^ol ac anweddaidd. Nid oedd chwaith, hyd yn hyn, wedi ymuno â'r crefyddwjT, nac wedi rhoddi arwydd- ion amlwg i neb feddwl ei fod yn gogwyddo at bethau crefydd. Yr oedd o dymher ddystaw a phwyllog, ac ychydig a draethai o'i feddwl a'i deimladau wrth neb ; a barnai rhai oddiwrth ei ddystawi-wydd, nad oedd ganddo nemawr deimladau crefyddol.

Un tro, pan oedd gyda'i orchwyl ar fin llwybr tramwy, daeth dynes gref- yddol o'i ardal ato, wrth fyned tua'r capel i wrando pregeth, yr hon oedd yn lled hyf arno, a gofynodd iddo, " A ddowch chwi ddim i'r capel heddyw ? "

" Na ddeuaf," ebe y gẃr ieuanc.

" O'r hen Pharaoh," ebe hithau, ac yn mlaen â hi. Gellir meddwl nad oedd hyd yma wedi sylwi llawer ar hanes Pharaoh, ond gan y barnai fod y wraig wedi ei gyfi"elybu i rj'w un Ued ddrwg, penderfynodd ddarllen yr hanes, a dywedir i hyny fod yn foddion arbenig i ddwyshau argrafiìadau crefyddol ei fynwes. Ymunodd cyû hir â'r gymdeithas eglwysig, er mawr syndod i'w gymdeithion, gan nad ymddangosai nemawr gyfi'ro arno. A gwir oedd hyny, ymwasgodd â'r dysgyblion oddiar argyhoeddiad barn, a phenderfyniad meddwl yn ddiau, ond megys Inewn gwaed oer. Mawr hefyd oedd syndod y teulu pan un noson y cydsyniodd i weddio am y tro cyntaf yn y teulu, pryd na wyddai neb ond ei fam, ac un o'r gweision, ei fod yn aelod eglwysig, na bod dim neiUduol ar ei feddwl yn achos ei gyfiwr. Yr oedd eu syndod, gan hyny, yn fawr, ei glywed yn ymdrechu â Duw mewn gweddi ; a chan y dwysder a'r taerineb a ganfyddid yn ei weddi, nid oedd neb yn y fan yn medru ymattal heb wylo, a thystiai y gwas crefyddol ag oedd yno, na theiml- odd erioed y fath eífaith yn canlyn gweddi deuluaidd.

Gan eifod eisoes yn ŵr ieuanc hardd ei rodiad, ac o ran y llythyren, "wedi cadw y gorchymynion oll o'i ieuenctyd," nid oedd cyfnewidiad amltog i'w ddys- gwyl ynddo ; eto yr oedd yn perthyn iddo ddiwydrwydd a llafur i gynyddii fwyfwy. A chynyddu fwyfwy a wnaeth, mewn eangder gwybodaeth a dyfnder profiad. Dywedai weithiau wrth y sawl a fyddai yn llawn gormod ei fí"raeth- ineb, " O ! na ddywedecît lai, ac na wnaech fwy." Un felly oedd ef ei hun ; un a ddywedai ycbydig, ond a lafuriai lawer.

Ymosodai profedigaeth arno yn fynych, oblegid fod y diill y daethai ef at grefydd yn wahanol i'r rhan luosocaf o'i gydoeswyr. Daethent hwy yn mlaen dau argyhoeddiau llymion, dan deimladau cyífrous a chwerwon iawn; a thrachefn, Uenwid hwy â gorfoledd annhraethadwy a gogoueddus ; torid hwy i lawr ar unwaith oddiwrth eu hofer ymarŵeddiad, a'u hanfad arferion ! yntau a ddygwyd yn mlaen yn raddol bach, megys dan rym pwyll, ymresymiad, a barn ; nid oedd ganddo ef ddim arferion anfad, na phechodau gwarthus i'w gadael ; nid oedd chwaith wedi teimlo graddau anarferol o gysur a gorfoledd crefydd, er y teimlai, yn ddiau, dawelwch a mwynhad mewn treiddio i wybodaeth o'r ysgrythyrau, ac mewn ymarferiadau crefyddol. Yn raddol, pa

272 HANESIAETH Y SIUOEDD. [dOSB. IV.

fodd bynag, cafodd oruchafiaeth ar yr ofnau hyn, gan benderfynu ynddo ei hun fod yr ysgrythyr yn ddigon eglur yn dadgan, " Ni chollir picy bynag a gredo." Yn raddol hefyd, ciliodd drwg-dybiaeth ei frodyr am dano, gan y canfyddent ei fod, pa fath bynag oedd ei gychwyniad, yn dal ei ífordd ac yn chwanegu ei gryfder.

Yr oedd rhai o hen bobl grefyddol Brynengan yn ofni am dano hefyd, am ei fod yn ymyraeth graddau â barddoniaeth, cygystal â changhecau eraill o ' wybodaeth. Meddai un hen wraig dduwiol am dano, wrth adrodd helynt jt eglwys wrth ambell Avr dyeithr, " Mae yma ryw fachgenjTi o hrydydd gyda ni, yr hwn, mae arnaf ofn, a wna y mawr ddrwg i'r achos." Ofuid yn fawr hefyd y byddai iddo ymgadarnhau mewn hunan a balchder, gan y gwelid yn eglur brofion ynddo o beuderfyniad na chymerai ddim ar antur, ac megys o draddodiad, heb ymofyn drosto ei hun, ai gwirionedd ydoedd ai peidio. Bernid hyn gan yr hen bobl dda yn ormod o gryfder mewn dyn ieuanc, yn yr hwn, o herwydd oedran a lle, y dysgwylid mwy o ŵylder ac ymostyngiad. A da y gwyddom fod y llwybr yn bur gul, rhwng ymoUyngiad caethwasaidd i opiniynau rhai eraill, ac ymlyniad tj-n ac anhyblyg wrth yr eiddom ein hunain. Barnu yr ydym fod yr heu bobl yn canfod y perygl ar y naill law, ond heb ganfod y Uall. Gofalodd yr Arglwydd am Richard Jones, pa fodd bynag, a chadwodd ef rhag mympwy peugryf ar y naiU law, a rhag Uacrwydd pen- chwibau ar y llaw arall.

Mewn ffordd o eglurhad ar y sylw uchod, adroddir am dano yr hanesyn a ganlyn : Traethai rhyw oíîeiriad o'r üeheudir, pan yu pregethu yn ]\Iryn- engan, ar natur ffydd, a'r desgrifiad hwnw yn Ued amheus. Eto, gan fod y bregeth, ar y cyfan, yn Ued efi'eithiol ar dymherau y gwrandawyr, ni chaniat- eid i neb feio ar un rhan o honi. Cyfarfu yr hen wraig a nodwyd eisoes â Eichard Jones yn mhen rhai dyddiau, a gofynai, " Onid pregeth ragorol a gawsom gan Mr. ? "

" lë," ebe yntau, " oud nid oeddwn yn gallu cydweled ag ef yn mhob peth a ddywedai."

" Pabeth a ddywedodd o'i le ? " gofynai hithau.

" Yn fy marn i," ebai yntau, " ni ddywedai yn iawn am ffydd." Yna gosododd ei fam ei hun ar gyfer dywediad yr offeiriad. Synodd yr hen wraig at ei eondra y meiddiai bachgen mor ieuanc dybied dim yn groes i'r offeiriad ; ac ni esgeulusai adrodd, wrth bob pregethwr cyfrifol a ddeuai i'r lle, ei hofn- au, pa faint o boen a rh\vj^str i'r achos a fyddai dyn ieuanc hunan-ddoeth o'r fath. O'r diwedd, daeth Mr. Charles ar ei daith i Piynengau, a mynegwyd iddo yntau yr hanes. Ar hyn gofynai Mr. Charles, pa beth oedd y pwnc mewn dadl, ac wedi deall y ddwy ochr, efe a ddywedodd, " Yn fy marn i, jt offeiriad oedd yn cyfeiliorni, a'r bachgen oedd yn ei le." Dystawoddyr hen wraig 0 hyny allan, eto yr oedd y chwedl wedi myned allan eisoes, yn ei gwedd gyntefig, a Ilawer fiflangell a ddyoddefodd Eichard Jones, gan bregeth- wyr ac eraill, a dderbyniasent yr achwyniad yn ei erbyn, heb ymofyn dim i'w gwirionedd.

PEN. lí.] SIR GAERNARFON. 273

Oncl er maint y drwg dybiau a lochid ar y dcchi'eu am dano, ac er amled y cernodiau a roddid iddo oddiar y drwg dybiau hyny, fe gafodd amynedd a barn i fod yn ddyoddefus, gan fod yn sicr ynddo ei hun nad oedd yn eu haeddu, ac mai oddiar amryfusedd a byrbwylldra yr oeddj'nt yn codi.

Yn y fl. 1794 y dechreuodd bregethu. Nid oedd hynodrwydd deniadol yn ei gychwyniad gweinidogaethol, mwy nag yn ei gychwyniad crefyddol , os nad oedd y ffaith o fod dawn trwsgl, a gwybodaeth helaeth, yn gosod hynod- rwydd arno. O ran ei wybodaeth, ni cheid yn Nghymru neinawr un a lafur- iodd fwy am dani, nac a gyrhaeddodd fwy o honi, na Eichard Jones. Ac nid gwybodaeth yn unig a'i hynodai, ond yr oedd ei ddifrifwch a'i bwyll yr un mor hynod. Am ei ddawn gellir dyweyd ei bod hithau yn liynod hynod am nad oedd neb cyffelyb iddo. Cyrhaeddodd ei wybodaeth, gan mwyaf, trwy lafur caled, ac ymroddlad penderfynol, Parai hyn fod cryn wreiddiohleb yn ei ddrychfeddyliau, a dull priodol iddo ei hun yn eu gosod hwy allan. Gellir ei ddynodi yn bregethwr " afrwydd dyddorol'' Mae rhai pregethwyr yn y gwrthwyneb yn rlmydd iawn eu hyraadrodd, ond yn annyddorol iawn. Nid un felly oedd Eichard Jones. Dychymygwyf ei weled yn ŵr tàl, maina Uuniaidd, prydweddol ei berson, eto yn ddirodres iawu ; yn hîn, ond heb un gradd o wychder, yn sefyll o flaen y gynuUeidfa. Tynai sylw yr holl wrandawyr ; araf y llefarai, a chryn lawer a besychai, eto ennillai sylw ; yr oedd ei arafwch yn argoeli ei fod yn drwm Iwythog o fater ; yr oedd ei floesgni a'i geciau yn arwyddo mai anhawdd oedd cael ymadrodd rhwydd i osod allan y meddwl cryf. Yr oedd ei floesgni heb gethinwch ynddo, ac yn nghanol yr holl af- rwyddineb i gyd, dysgleiriai syniadau coeth a phwysig. Pwysai ei wrandawyr ar ei wefusau ; cadwai eu hastudrwydd yu ddyfal, a'u dysgwyliad jti effro ; ac ar rai achlysuron, disgynai oddiwrtho, fel cenllif gref, ryw fírwd o feddyliau cryfion, ues gorlenwi pob mynwes â syndod, a rhoddi llaweroedd mewn dagrau.

Treuliodd Eichard Jones gryn lawer o'i amser i ysgrifenu, a bernir ei fod yn fwy o ysgrifemcr nag o areithiicr. Ysgrifenai yn fynych i'r " Goleuad," ac wedi hyny i'r " ürysorfa; " adnabyddid ef yn y rhan amlaf o'r ysgrifion hyn, o dan y fíugenw "Cymro Gtoyllt .•" a thynodd arno ei hun wrthwynebiad cryf oddiwrth un gŵr da, y gwnaethai sylwadau anghymeradwyol ar ei waith. Casglwyd yr ysgrifion hyn drachefn gyda chwanegiadau, a chyhoeddwyd hwy dan yr enw " Drych y Dadleuwr."

Cyfansoddodd hefyd gryn lawer o hymnau, crynodeb o ba rai a ymddang- osodd trwy y wasg, yn Uyfryn bychan. Yn ei holl weithion hyn, dangosai Eichard Jones ei fod yn \vr o gyneddfau cryfion, o olygiadau treiddgar, a thra gwrthwynebol i bob eithafion.

Yu y fl. 1832, dechreuodd ei iechyd adfeilio, eto anturiodd daith i sir Drefaldwyn yn yr haf, ac i'r Deheudir yn mis Hydref. Parhau yr oedd ei iechyd i anmharu, a pharhau yr oedd yntau, er hyny, i dreulio oriau meithion bob dydd, fel y byddai yn arfer cyn hyn, yn ei Iyfrgell, ac erbyn lonawr 1833, yr oedd ei wendid ymron wedi ei Iwyr orchfygu, fel mai o'r braidd y

T

274 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

gallai adael ei ystafell wely ; a chyn i Chwefror oerllyd derfyim, gorphenodd yntau ei daith ar y 26ain o'r mis, yn y fl. 1833, yn 60 nil. oed. Mae "coff- adwriaeth y cyíìawn jm fendigedig." *

O enaid bendigaid ! dy ado raid im',

Ni fedraf íì briddyn, dy ddilyn di ddim !

Yn mreinlys gogoniant dy fẅ-j-niad sydd fad,

Yn rhydd awch pob rhyfel : Ffarwel, O fy nhad !

AUan 0 alareb Y Pabch. Roger Edwards .

Y PARGH. GRIFriTH SOLOMON.

Nid oes ond 13 ml. er pan ymadawodd y brawd uehod â'r fuchedd hon^ pau nad oedd oud 66 ml. oed. Cof ydyw gau y darllenydd, ond odid, ddar- fod i ni grybwyll mai gŵr o ardal Bryn-yr-odyn oedd Grifiìth Solomon, er mai nid yn yr ai'dal hòno yr oedd yn byw pan y dechreuodd bregethu. Ymddengys iddo brofi grym y gwirionedd yn arafu ei wylltineb pan oedd eto jTi ieuanc, nid mwy nag 16eg oed, trwy weiuidogaeth Johu Jones o Edeyrn.

Nidoes genym ryw amgylchiadau hynod yn oes y brawd hwn i'w crybwyll, a chan mai nid ysgrifenu cofiant ydyw ein gorchwyl priodol, nid oes genym ond dyweyd fod Griífìth Solomon wedi gwneyd ei ran i hyrwyddo Methodist- iaeth yn ei redfa, yn gyntaf trwy gadw ysgol mewn amrywiol ardaloedd, a íhrachefn yn fwy cyhoeddus a chyfi'redinol trwy bregethu yr efengyl am fwy na 40 mlynedd. Yr oedd yn rhagori ar lawer o'i frodyr mewn medrusrwydd i ddarlleUj ac mewn gweddusrwydd a phriodoldeb ei iaith wrth bregethu. Ehedai ei ddawn yn ei lafur cyhoeddus yn fwy mewn didl o esbonio ac eglur- hau ; ac yn hyn y tybid fod ei brif ragoriaeth. Dywedai y Parch. John Parry, Caer, am dano, " ei fod yn rhagori fel esboniwr ar y cyffredinolrwydd yn ei oes." Yr oedd deheurwydd a gweddusrwydd neiUduol yn ei ymadi'- oddion. Ordeiniwyd ef yn y fl. 1836. Fe deithiodd y brawd hwn lawer ar Ogledd a Dehau ; ac ar ei daith yr ydoedd, tua Merthyr-Tydfil, pan gymerwyd ef yn glaf o'r clefyd y bu efe farw o hono. Gyda llawer o anhawsdra y galíodd gyrhaeddyd ei gartref, ac ar y trydydd dydd ar ol iddo gyrhaedd ei ei hun, efe a fu farw.

Y PAHCH. JAMES HUGHES, LLEYN.

Y mae rhyw ddosbarth o ddynion, tra defnyddiol a pharchus yn eu dydd, ac yn ddynion cyhoeddus gyda gwaith jt Arglwydd, dynion yn teilyngu cael eu hefelychu gan y rhai a ddeuant ar eu hol, ac ar i'w cofladwriaeth barhau hyd genedJaethau pell, eto pan yr ymosodir ar y gorchwyl o ysgrifenu eu hanes, yr ydym jti teimlo nad oes genym nemawr i'w ddyweyd a fyddai yn ddyddorol i'r^ darllenydd. Cymhwj's, mewn rhan, ydyw y sylwadau hyn

Gwel Gofiant iddo, gan y Parch. John Joues, Tremadog.

PEN. IX.] SIR GAERNATÎFON. 275

gyda gol wg ar y Parch. James Hughes o Leyn. Treuliodd oes o 73 o flyn- yddoedd, a 50 mlynedd o honynt niewn swydd gyhoeddus. Cerddodd ei Iwybr yn hynod o ddiwyrni, a chadwodd ei ddillad yn hynod o lân, dros yr holl amser maith uchod; eto, er hyn i gyd, nid ydym yn cael dim trahynod yn amgylchiadau ei oes, a fyddai yn deilwng o'i groniclo i genedlaethau dyfodol. Ni chrybwyllir dim hynod am ei droedigaeth ; ni fu erioed yn hynod mewn aunuwioldeb ; a threuliodd ei oes drachefn mewn modd ag a'i gosodai yn uchel yn ymddiried a serchiadau ei frodyr ; eto nid mewn modd ag i dynu sylw mawr. Yr oedd ei weinidogaeth yn iraidd a serchog ; ei ystum a'i lais yn hawddgar ; a'i iaith a'i fater yn hynod o ran cymhwysder diachwyn arnyut, eto uid i beri cyíFro mawr.

Dywedasom nad oedd dim hynod yn ei droedigaeth. Gallasem ddyweyd, mae'n wir, fod moddion ei droedigaeth yn liynod am eu symledd a'u dirod- resrwydd. Yr oedd James, pan yn fachgenyn, yn hoff, fcl llawer o fechgyn eraill, o chwareu pêl, ac fe ddichon ei fod yn treulio mwy nag a ddylasai o amser gyda'r difyrwch hwn, a'i fryd wedi rhedeg yn ormodol arno, fel ag i ddi- sodli pethau gwell yn ei fynwes. Ar ryv/ uos Sabboth y pasg, aeth i wrando gŵr dyeithr yn pregethu yn nghapel Tŷ-mawr ; a dygwyddodd fod y bêl yn ei boced, Cyfeiriai y pregethwr at arferiadau yr oes, a'r campau ofer a gynelid ar y Sabboth, ac yn eu mysg crybwyllodd chwareu pêl, gan ychwanegu mewn duU cyfeiriol at ei wrandawyr, " Fe allai fod y bêl yn dy boced di yn awr erbyn y fory." Teimlodd James yr ymadrodd cyfeiriol hwn yn ddwys ; daliwyd ef megys â gwŷs; a dywedai ei gydwybod wrtho, " Tydi yw y gŵr." Nid oedd ar y pryd ond 14 ml. oed, ond o hyny allan rhoes heibio oferedd ieuenctid ; ymunodd yn fuan ag eglwys Dduw ; a bu yn aelod hardd ynddi am yr ysbaid maith o 60 ml., ac yn weinidog defnyddiol a pharchus ynddi am 50 ml.

Yr oedd yn ŵr o faintioli cyffredin, yn tueddu at fod yn gorffol. Yr oedd gwedd drwsiadus arno, a'i ngwedd yn foneddigaidd, heb ddim coegni ; yu weddus odiaeth, ond heb ddim rhodresgar. Yr oedd flynyddoedd yn ol wedi teithio graddau ar Ddê a Gogledd, eto Lleyn oedd prif faes ei lafur. Go- sodasai rhagluniaeth ef mewn parth o'r wlad nad oedd dramwyfa fanteisiol i ddyeithriaid wrth deithio o'r naiU wlad i'r llall, ac mewn dosbarth lled an- aml ei phregethwyr ; parai hyn iddo ymroddi yn llwyrach i wasanaetliu ei fro ei hun, hwyrach iiag a wnaethai, pe gosodasid ef mewn amgylchiadau gwa- hanol. Hunodd yn yr lesu, Hydref 12fed, 18.51, yn 73 ml. oed, gan adael coíFadwriaeth beraroglaidd ar ei ol.

Mae tair oes ymron, bellach, o bregethwyr sir Gaernarfon wedi cilio o'r golwg. Yr oes gyntaf oedd Charles Marc, Hugh Griffith, a'u cydlafurwyr ; yr ail oes, Eobert Jones, Thomas Evans, Waunfawr, a'u cydoeswyr hwythau ; a'r drydedd oes oedd yr un y llafuriai James ITughes, a Danicl Jones ynddi. Y mae un neu ddau eto yn aros o'r oes hon heb eu cymeryd ymaith, ond ni ellir dysgwyl y ceir hwythau yn hir. Da i ni wrth feddwl am ein blaenoriaid,

276 HANESIAETH Y SIROEDÜ. [DOSB. IV.

y rhai a draethasaiit i ui air Duw, ac edrych ar ddiwedd eu hymarweddiad, goíio fod " lesu Gristj ddoe a heddyw yr un, ac yn dragywydd."

MK. JOKN HUXLEY,

Ychydig a gafodd Cymru fwynhau o weiuidogaeth y g\vr hwn. Maes ei lafur ymron yn hollol oedd Caernarfon a'i chyfîiniau. Nid ydym yn deall iddo fyned oddicartref ar gyhoeddiad i siroedd eraill erioed, oddieithrunwaith, a hyny er ys agos i 40 ml. yu ol. Ganesid ef yn Liverpool, ac yr oedd yn Sais perífaith hyd nes y daeth i ardal Caernarfon i fy w, yr hyn a fu pan oedd yn fachgenyu ieuainc. Fe fu Mr. Huxley yn pregethu o 39 i 40 mlynedd. Yr oedd iddo gymeriad uchel fel dyn call a synwyrol, ac o chwaeth goethedig. Cawsai ddys'geidiaeth helaeth. yn moreu ei oes, a pharhaodd ifod yn ddarllen- wr mawr hyd ei diwedd. Teimlai ei hun gartref mewn hauesyddiaeth, pa un bynag ai gwladol ai eglwysig, a bernid nad oedd nemawr un i'w gael yn mysg y Cymry yn fwy cyfarwydd nag ef yu hyn.

Yr oedd yn bregethwr melus odiaeth. Yn Llaurug, Ue y dechreuasai bregethu, a lle y pregethai efe amlaf, yr oedd ei wiandawyr luosocaf. Ni byddai uu amser yn faith yn traddodi ei bregeth, ond yn lled fyr, ac yn hynod 0 ddifyrus i'w wrando. Yr oedd ganddo lais peraidd, ac agwedd foneddigaidd, a chan ei fod yn ŵr call, ac yn meddu ar ystôr helaeth o faterion, yr oedd yn gallu sicrhau astudrwydd yn ei wrandawyr. Bu yn ffyddlawn iawn gyda'r ysgol Sabbothol, ac yn mhob moddion cartrefol eraill. Nid oedd yn ddaros- tyngedig i dymherau cyfnewidiol cymaint a llawer un, ond yn bwyllog a phenderfynol ; hawdd oedd ei ennill trwy dirioudeb, ond anhawdd oedd ei blygu trwy orthrech. Parchus iawn ydoedd fel dyn ac fel dinesydd. Bu farw mewn tangnefedd Gorph. 8fed, 1846, yn 76 ml. oed.

YNYS-ENLLI.

Mae yr ynys hon yn fwy adnabyddus i'r morwyr nag ydyw i breswylwyr Cymru yn gyífredinol. Angeurheidiol ydyw i'r morwr ei hadnabod, gan y perygl sydd o daro arni, a chan y goleuni sydd arni i'w ryhuddio i gadw draw oddiwrthi. Nid rhyfedd ei bod yn ddisylw gau breswylwyr y íir, gan mor fechan ydyw o ran maintioli, a chan lleied o drafodaeth sydd rhyngddi â'r byd. Eto, er lleied ydyw, y mae yr efengyl wedi gweithio ei ffordd iddi, ac wedi cynyrchu effeithiau priodol iddi ei huuau ynddi.

Nifer preswylwyr yr ynys hon yw, o 80 i 100. Cyfansoddir hwy o 12 teulu yn dal tyddynod, neu yn trin ychydig o dir, 2 deiüu heb dir, a 2 eraill yn perthyn i'r goleudŷ (lìglitlioii^e) .• 16 o deuluoeddyw y cwbl sydd yn y ŵ^^mas hon. Meddiennir y tir gan Lord Newborough, a llywodraethir yr ynys gan un a elwlr yn frenin. Nid oes ynddi na degwm ua threth o uu math. Nid oes ynddi chwaith na siop na thafarn, na dim ond un crefftwr o'i mewn, a hwnw yn asiedydd (joiner). Tybir y bu yma fonachlog er ys Uawer dydd,

PEX. IX.] SIR GAHRNARFON. 277

ac ar y Uanerch y tybir ei bod yn sefyll gynt, y mae yn seí'yll ryw hen glochdŷ. Yn gysylltiedig â hwn y mae claddfa y meirw, lle a ddefnyddid i'r un dyben yn yr oesoedd gynt. Mae cnlfor terfysglyd o ddwy filldir ar ei draws, mwy neu laì, \n gwahanu yr ynys oddiwrth bentir Lleyn ; a chan arwed ydyw y culfor hwn, fe fydd trigolion Eulli, dros hir amser, ar ryw dymhorau, heb ymweled unwaith â'r lan draw, ac heb weled neb ond y cy- mydogiou trigiannol.

Ye fu yr ynys hon am oesoedd heb ddim moddion gras o'i mewn. Nid oes un eglwys blwyfol ynddi, a hyd o fewn-30 mL yn ol, nid oedd achos crefyddol sefydlog o'i mewn gan neb. Gwir y byddai ambell un yn achlys- urol yn myned drosodd i bregethu cyu hyny, ond nid oedd hyny wedi esgor ar ddim parhaus a sefydlog, hyd o fewn yr amser a nodwyd.

Ymaeyma yn awrweinidog yr efengyl yn aneddu yn yr ynys, yr hwn sydd, bellach, er ys blynyddau lawer, yn arfer cyfranu gair y bywyd i'r trigolion amddifaid, gyda llawer o ffyddlondeb a derbyniad. Ar y dechreu, nid oedd ond dau grefyddwr o fewn yr ynys, sef Eobert Williams, y pregethwr cry- - bwylledig, ac un gŵr arall, a fuasai unwaith yn perthyn i'r Wesleyaid.

Yn y fl. 1819, yn amser adfywiad crefyddol yn Lleyn, aeth trosodd hiaws 0 frodyr, y naiU yn nifl'yg y Ueill, o Aberdaron, i gynal cyfarfodydd gweddio yn Enlli, a thorodd adfywiad grymus iawn allan yn mhlith y brodorion, nes oedd yr holl ynys mewn cyffro. Yn ystod yr adfywiad hwn, chwanegwyd at y ddau frawd a enwyd, tuag ugain o rifedi o newydd. Gcllid meddwl fod y rhan fwyaf o'r trigolion mewn oed wedi ymuno â hwy y pryd hwu. Lleiha- odd y nifer eilwaith ; bu rai feirw, ac ymfudodd araryw eraill i America, nes dwyn nifer y crefyddwyr drachefn i ddau, sef Robert WiUiams, a'i wraig. Ond er lieied oedd y nifer, fe farnai y ddau oedd yn ngweddill, mai eu Ue oedd cadw cwrdd eglwysig yr un modd a chynt, pan yr oedd eu nifer yn amlach. Eelly y ddau a aent, bob nos Wener, i'r capel bychan, gan gynal y moddion fel arferol ; a hyn a wnaent am bedair blynedd a hanner. Drachefn, lluosogodd y nifer i ddeuddeg, ond yn y flwyddyn 1851, yr oeddynt trwy ymadawiad o'r ynys, a thrwy farwolaeth, wedi eu lleihau i ddeg.

Mae Piobert WiUiams wedi bod yn pregethu i'r trigolion er ys mwy na 22 o flynyddau. Mae ysgol Sabbothol wedi ei sefydlu ynddi yn cynwys 60 o rifedi, ac felly y mae pawb yn y wlad hou yn ddeiliaid yr ysgol Sabbothol, oddigerth ychydig nifer o rai hen, neu y rhai a fydd yn gorfod bod yn absenol. Ee ddaw yr holl ynys yn nghyd ar y Sabboth i wrando gair Duw. Fe ofynwyd unwaith i Eobert Williams gan ryw foneddigion a ddaethent drosodd i edrvch yr ynys, ai nid dymunol fyddai adeiladu Uan, a chael ofTciriad i weinyddu ynddi? Yr ateb a roes yntau oedd, nad âi neb o'r trigolion i'r Ilan, oni fyddai y gweinidog yn ddyn duwiol, ac yn pregethu'r efengyl. Os byddai felly,' na fyddai dim gwrthwynebiad ganddynt fyned i'r Ilan, ond nid i esgeuluso y capel.

Fe fydd ambell ẃr dyeithr yn myued drosodd i bregethu pau fydd cyfleus- dra ì hyny, a'r tywydd yn caniatâu. A phan y bydd pregcthwr yn «wyllysio

273 HANESIAETU Y SIROEDD. [dOSB. IV.

myned trosodd, cyueuir tâii ar dir Aberdaron, ar gyfer Eulli, yn arwydd o hyny, a chyda pliob parodrwydd fe ddaw rhyw rai o'r preswylwyr drosodd mewn cwch i'w gyrchu, a'i anfon yn ol yr un modd. üellir casglu yr holl ynys i wi-ando mewn ychydig fynydau. Tua deg mynyd sydd yn ddigon i roddi hysbysiad i'r hoU drigolion o ddyfodiad pregethwr.

Pan ddygwyddo priodas yn yr ynys, yr hyn sydd yn Ued anfynych, rhaid i'r pleldiau ddyfod trosodd i Aberdaron i hyny, ond fe fydd Eobert Wüliams yn arfer claddu y meirw, a bedyddio plant yr aelodau crefyddol.

Ni welir un amser ddyn meddw yn yr holl deyrnas.

CAPEL DINAS, NEU Y LON-FrDR.

Dylasai hanes y lle hwn fod wedi ei gj'fleu yn llawer cynarach yn y gwaith hwn, pe buasai mewn llaw mewn pryd ; ond er diweddared ydy w, ni ddylid ei adael allan. Dywed fy ngohebydd am y gymydogaeth hon, fel hyn : " Fe'm hysbyswyd gan hen ŵr a fu farw yn y fl. 1847, yr hwn oedd ar y pryd dros 100 ml. oed, ei fod ef wedi clywed fod yma bregethu gan y Methodistiaid flynyddoedd amryw cyn ei eni. Dywedai mai un Eichard Lewis o Fadryn, ail ŵr i Siân Lewis,* o'r un Le, oedd yr hwn a arolygai y gymdeithas eglwysig yma, y piyd yr oedd ef tua 14 ml. oed, sef tua 90 o flynyddoedd yn ol."

Nid yw hysbys pwy a fu yma yn pregethu gyntaf ; ond y lle yr arferid cynal moddion, dros ryw dyrahor yn y dechreuad, oedd yn yr awyr agored ar y Khos-ddü. Yn mhen enyd o amser, daeth amryw dai yn agored i dder- byn pregethu, bob un yn ei dro. Y cyntaf y pregethwyd ynddo oedd Madryn, sef y palas a breswylir yn awr gan Lieut. Gen. Syr Love P. J. Parry. Lle arall yr arferid ymgynull ynddo oedd Brynodol. Ymddengys fod yma gryn gyrchu i wrando, ar ryw achlysuron ; cymaint felly ag i dynu sylw dynion wrth fyned heibio. Yr oedd person Tydweüiog yn teimlo yn dra chyffrous wrth weled y niferi pobl yn myned heibio y llan, i'r iỳ uchod i wrando, a dywedai wrth y clochydd mewn nwyd wyllt, " Tincia, Tincia, Siun ;" ond yr ateb a roddai Siôn iddo, oedd, " Tinciwyf fi a allwyf, i gwch Brynodol y myn yr haid fyn'd i ddisgyn ! " Yr oedd gwraig foneddig yn byw yn Cefnamwlch y pryd hwnw, a gawsai flas ar yr efengyl, ac er mwyn cael diogelwch i addoli, mynodd gofrestru tŷ, o'r enw Nant-yr-hen-lyn-uchaf, i bregethu ynddo. Nid oedd ei gA\'r yn foddlawn iddi fjTied i'r fath le, a myn- ych y clybuwyd ef yn dyweyd, ar ei gwaith yn myned yno, " Dacw y gigfran dd 1 yn myn'd eto i'w nyth." Aeth hyn yn acen yn y gymydogaeth, ac yn y canlyniad, galwyd y lle hyd heddyw, " Nyth-y-gigfran ! " Y prif le, pa fodd bynag, yr arferid ymgynull ynddo, oedd amaethdŷ a elwir y Lon-fudr, lle y preswyliai un Eobert Owen, calon yr hwn oedd yn berwi gan awydd " i wneuthur daioni i Dduw a'i dŷ." "Wedi i'r achos fyned i mewn i y gŵr hwn, fe gartrefodd yno dros flynyddoedd lawer, ac hyd nes jt adeiladwyd y

* * Gwel hauee ei throcdigaeth, Cyf. I., tudal. 319.

PEN. IX.] SIR GAEENARFON. 279

capel, yr hv/n a elwir Capel Dinas, yn y íl. 1 794, Mae craig gerllaw, yn cael ei galw Careg-dinas, o'r hon y cafwyd cerig i adeiladu, ac ar enw yr hon y galwyd y capel. Codwyd ef o fewn ycliydig latheni i'r Ijon-fudr, a helaethwyd ac adgyweiriwyd ef yn y fl. 1831. Yn y Lou-fudr, ynghyda'r Tŷ-mawr yn Mryncroes, cynelid cyrddau misol cyntefig y Methodistiaid yn sir Gaernar- fon; a llawer Cristion cywir ac aiddgar a deithiai 30 o filldiroedd, o eithaf Arfon, ar foreuau Sabboth, â thamaid o fara a chaws jti ei logell, i wrando un bregeth yn y lleoedd hyn !

Y Eobert Owen hwn, a Eichard Lewis o Padryn, oedd y dynion cyntaf a alwyd i swydd diaconiaid yn yr eglwys hon. Ennillasant iddynt eu hunain radd dda, a dylanwad helaeth yn mysg y rhai a'u hadwaenent oreu. Brawd i wraig Eobert Owen oedd yr hen bregethwr y sonia Eobert Jones am dano fel un a fuasai farw cyn iddo ef ei weled, sef Evan Eoberts, Pen-y-graig. Yr oedd y gŵr hwn yn un o'r Methodistiaid cyntaf yn Lleyn , ac fel y byddai arferol, y pryd hwnw, aethyn dipyn o gynghorwr bach, ymron yn ddiarwybod iddo ei hun. Yn y fau wedi ei ddyfod yn Gristion, a chyda ei fod yn ad- nabod gradd ar ífordd y by wyd ei hunan, efe a ymroddai i fynegu fi"ordd iach- awdwriaeth i eraill. Y'r oedd dros ryw dymhor fel seren foreu eglur, a chaa faînt ei eiddigedd yn erbyn pechod, a'i sel yn ngwasanaeth ei Arglwydd, bu raid iddo fyned "trwy ymdrech mawr o helbulon." Yn ei dymhor ef yr oedd yr ymosodiad ar ymneillduwyr yn flyrnig iawn, a mawrion a bychain, gwreng a boneddig, wedi gosod eu bryd i f^niu eu broydd yn lân oddiwrth y pla dyeithr a ddaethai i'r tir. Y moddion a farnent fwyaf efi'eithiol i gael yr ymwared, oedd anfon y rhai a flaenorent yn yr achos allan o'r wlad; a chan focl ar ei fawrhydi y brenin eisiau miIw}T ar y pryd, tybid yr atebai ddau ddyben anfon cynghorwyr y Methodistiaid yn sawdwyr; felly cryfheid y fyddin, a llethid ymneiUduaeth hefyd. Gwnaed cais teg i ddal Evan Eoberts, fel y gwnaed â Morgan Gritìith,* ac fel y ceisiwyd gwneyd â Hugh Thomas,f i'r dyben i'w anfon o'r wlad, a'r hyn oedd yn fwy annaturiol na'r cwbl, nid oedd neb o'i elyn- ion yn fwy egniol yn y gorchwyl na'i frawd naturiol ei hun. Y brawd hwn oedd y dyhiryn y soniasom fwy nag unwaith am dano, sef Harri Eoberts, neu fel y gelwid ef fynychaf, ^'Harri Beìmi" gẁ-r a gyflogid gan elynion crefydd 1 erlid dysgyblion Mab Duw. Er mwyn dangos ei aidd a'i fí'yddlondeb yn ei wasanaeth, yr oedd wedi gosod ei fryd ar ddal ei frawd, a'i aberthu i gyn- ddaredd yr erbdwyi'. I osgoi y bradwr annaturiol hwn, rhaid fu arno fyned, bob boreu, yn blygeiniol iawn, o'i ei hun, i fyuydd Cefnamwlch i ymguddio, yr hwn fynydd oedd ar y pryd yn Uawn eithin niawrion. Uuwaith, pan ddaeth Harri i ei frawd i'w ddal, mewn llawn hyder ei fod o fewn y muriau, ac nad oedd niodd iddo ddianc o'i grafangau, cyfarchodd gwraig y ef mewn modd dwys-ddifrifol : " Pa beth o ddifrif, Harri, a ddy wed dy gydwjbod wrthyt, tra y deui yma ar y fath neges ? " " Betli bynag a ddy- wed," atebai Harri, " mi a'i trechaf yn awr er ei gwactbaf." A threchu ci

Gwel tudal. 129. f Tucbl. 134.

280 HANESIAETH Y SIROEIjD. [dOSB. IV.

gydwybod a wnaeth, ond ei fìT.'thddrycli nis cafodd. Yr oedd bryn eithinog Cefnamwlch yn ei lochi. Ac nid hir y bu raid i'r Cristion diniwaid wrth y loches hon, oblegid " Duw a'i cymerodd ef " ato ei hun ; bu farw mewn tano-nefedd; aeth ei gorff i'r lle y mae yr " annuwiolion wedi peidio â'u cyffro, a lle y gorphwys y rhai lluddedig," ond ei enaid a " gymerwyd gan angylion i fynwes Abraham." Tn y íl. 1760 y bu hyn. Am Harri ei frawd, er ffyddloned y gwasanaethodd ei feistr, ni chafodd nemawr wobr ; bu farw yn druenus mewn lle a elwir Betris,^ gerllaw palas Nanhoron.

Yr oedd Evan Eobert yn ẃr o synwyr" ; o dymher bwyllog ; yn ddrych i'r byd am gysoudeb ei grefydd ; a tlira chymeradwy yn mysg liuaws ei frodyr ; un a geisiai ddaioni i'w genedl, ac a ddymunai heddwch Jerusalem. Mae rhai o'i hiliogaeth eto ar gael, ac yn rhodio yn llwybrau eu hynaíìad,

Un o'r ardal hon hefyd oedd Hugh Thomas,* am yr hwn y soniasom o'r blaen, ac mewn cysylltiad â'r eglwys lion y treuliodd ei oes grefyddol ar ei hyd. Yn mlynyddoedd olaf ei oes, preswyliai mewn tyddyn o'r enw Cil- llidiart, ar y Ehos-ddu ; ond cyn iddo ehedeg yinaith o'r byd, bu fyw dros enyd dan gronglwyd Siarl Marc, lle y mynodd fyned wedi colli ei wraig.

Y'ma hefyd y treuliodd Eichard Dafydd f ran o'i oes, er mai brodor o Eifionydd ydoedd. Gŵr tyner ac ofnus iawn oedd hwn. Y'r oedd i raddau mawr mewn caethiwed o herwydd ofn marwolaeth. Unwaith, pan ar ei daith yn Môn, mynegwyd iddo fod un o'i frodyr, yr hwn a ymfudasai yno o Leyn, wedi marw ; cafodd y newydd y fath effaith arno, fel na fu un diwrnod yn iach 0 hyny allan, er iddo fyw rai blynyddoedd.

Bu dyfodiad Eobert Jones i'r Tŷ-bwlcj'n, gerllaw Dinas, fel bywyd o feirw i'r achos crefyddol. Ar ol ei ymadawiad, daeth y Parch, Hobert Owen, gynt o Nefyn, i gartrefu yma dros enyd ; oud wedi iddo ef ymadael yn y íl. ] 826, fe fu yr eglwys hon yn amddifad o un pregethwr hyd y íi. 1842, pryd y daeth y Parch. Moses Jones i breswylio i'r gymydogaeth ; yntau hefyd a symudodd i fro arall nid yn mhell, ac yn awr y mae yn cartrefu yn y Ue bregethwr arall o'r enw Mr. Evan Hughes.

Nid oes hanes, medd fy ngohebydd, am ddim nodedig yn offeiriaid y plwyf hwn, eryr amser y sefydlwyd Uan y plwyf gan lestyn, tua'r fl. 565, hyd y dydd hwn, Nid oes llawer o gwyno wedi bod am unrhyw wrthwynebiad atgas o'r eiddynt at ymneiUduaeth ar ei ddyfodiad i'r plwyf, ac nid oes llawer o son am gymaint ag un y gellir meddwl ei fod yn efengylaidd ei bregethau, ac yn fucheddol ei rodiad. Ehaid addef, ar yr un pryd, y bu yma un a clwid yn g}ŵedin " Hughes fawr," yr hwn, meddir, a bregethai yn dda a grymus, nes t\Tiu Ilawer i'w wrando, a cheid y gwrandawyr, yn fynych, yn wylo y dagrau yn hidl ; eto i'r dafarn yr ymlithrai hwn ar ol y gwasanaeth, a rhwng yfed yn Tŷ'n-Uan, ac arolygu y chwareu a fyddai ar barwydydd yr eglwys, nid ymadawai o'r Ile hyd fachlud haul.

Dywedir fod yma lawer o loches yn cael ei roddi i ddiotta a meddwdodyn

* Gwel tudal, 134, Cyf, II. f Tudal. 162,

PEN. IX.] SIR GAERNARFON. 28l

y blynyddoedd hyny, ac fe allai y codai y gw'rtliwynebiad a ddangosid^ i Fethodistiaetli ymsefydlu yn y fro, oddiar yr elw a dderbyniai rliai, a'r pleser a fwynbäai y Ueill, yn y campau a gynelid yma. Deallid yn dda befyd, os Metbodistiaetb a ymsefydlai yn yr ardal, y byddai ymosodiad egniol yn cael ei wneyd ar y diotta yn y lle, a'r holl lygredigaetbau cysylltiedig. Y pryd hwnw, yr oedd yma cbwecb o dafarndai ; yn awr, nid oes cymaint ag ini. Yn lle nn y mae beudŷ, trowyd un arall yn weitbdŷ saer, ac arall yn weitb- crydd, y trydydd yn ardd gauedig, a'r ddau eraill yn dai anedd i dyddynwyr bycbain.

Te fu yma amryw o adfywiadau grymus o bryd i bryd. Sonir yn neillduol am yr un a gymerodd le yn y fl. 1762, dros lawer o baríbau Debeudir a Gwyn- edd, ac a roes cbwanegiad rbyfeddol at rifedi y Metbodistiaid trwy yr hoU dalaetb. Y pryd hwn, disgynodd graddau belaetb o'r gafod gyuyrcbiol ar y Lon-fudr ; parhaodd y gorfoledd yn y lle, ar un achlysur, yn ddidor am di'idiau a tbeirnos. Clywid sain cân a mobant ymron yn mbob oedfa y pryd hwnw', a llawer a ddycbwelwyd yn ddiau at yr Arglwydd. Cafwyd ymweliad drachefn yn y fl. 1785, a dywedir y bu ymwebad Mr. Cbarles o'r Bala â'r wlad y pryd hyn, sef y daith gyntaf iddo ar ol ymuno â'r Metbodistiaid, yn foddion neillduol i gynyrchu yr adfywiad hwn. Parodd y cyff'elyb adfyw- iad yn y fl. 1818, ychwanegiad mawr drachefn at yr aelodau, nid yn unig yn y Ue hwn, ond hefyd drwy yr boU wlad. Gwnaetb yr Arglwydd betbau mawrion drachefn yn y fl. 1832, a cbafwyd defnynau eilwaitb yn y fl. 1840. Gan i ni draethu yn ebelaetb eisoes ar y diwygiadau byn, fel moddion arbenig 0 gyuydd Methodistiaeth, afreidiol, yn awr, a fyddai i ni belaethu, ond cyf- cirio y darlienydd at yr hyn a ddywedwyd o'r blaen.*

Wrtb adael sir Gaernarfon, fe wel y darllenydd fod yr baneswedi ymestyn i gryn belaethrwydd, mwy, mae'n debyg, nag a oddef ein gofod i nemawr sir arall. Ond er cymeryd y rhyddid bwn, y mae yr ysgrifenydd wedi gorfod cwtogi a chrynboi cryn lawer, ac y mae yn argyboeddedig fod yn perthyn i Fetbodistiaetb y sir hon banesion dyddorol lawer eto heb eu casglu ; personau tra defnyddiol yn eu hoes, beb gymaint a cbrybwylliad am danynt ; a Uiaws o amgylchiadau teilwng o'u croniclo i'r oesoedd dyfodol, beb eu casglu. Fely dywedwyd wrth ddechreu traethu ei hanes, fod y sir hon o faintioli helaetb, a bod Metbodistiaetb wedi dechreu ynddi yn foreu, wedi ymwreiddio ynddi yn ddwfu, ac ymledaenu drosti oll ; fod y pregetbwyr a godasant ac a lafuriasant ynddi yu Uuosog o nifer, a Ilawer o bonynt yn enwog eu defnyddioldeb ; ac hefyd, bod yr amgylcbiadau a gymerasant le yn ngbycbwyniad a chynydd yr achos, o'r fatb hynodrwydd, ag y buasai yn resyni eu celu : yr ystyriaethau hyn a'r cyfifelyb u ogwyddasant yr ysgrifenydd i roddi mwy o le i hai.es y sir hon nag a fydd ganddo i un sir arall, heb iddo cbwyddo y gwaith i faintioli mwy nag a fyddai yn ddymunol ganddo ei hun a'r darllenydd.

* Cyf. I., tudal. 246-74.

282 HANESIA.ETH Y SIROEDD. [doSB. IV,

PEIF LINELLAU HANES METHODÎSTIAETH Sm BENFRO.

PENNOD X. GWEDD GYCHWYNOL METHODISTIAETH YN Y SIR.

CTJÍWTSIAD :

CYD-GYCHWYNIAD HOWEL DAYIES, HOWEL HARRIS, A DANIEL ROWLANDS— HABRIS Yîí SIR BENFRO YN Y FL. 1739— GWEDD YR ACHOS YN Y FL. 1742 AC YN MLAEN— ADRODDIAD WILLIAM RICHARD YR HEN GYNGHORWYR— ARFERION AC OFER- GOELION Y WLAD.

Mewn rtan flaenorol o'r gwaitli liwn, dangosasom fod Methodistiaelh wedi dechreu ja y sir hon tua'r un amser ag y dechreuodd yn siroedd Aberteifi a Brycheiuiog. Yr oedd y Parch. Howel Davies, yr hwn a olygir fel tad Methodistiaeth y wlad hon, yn dechreu cyS"roi ei gydwladwyr cysglyd, trwy ei weinidogaeth efengylaidd a grymus, tua'r un amser ag y gwnai Eowlands hyny yn Llangeitho, neu Howel Harris, y Ueŷgwr, hyny yn ardaloedd Trefecca. A pheth sydd hynod ydyw, fod y tri hyn yn Nghymru, yu gystal a Whitfield a Wesley yn Lloegr, ac ar yr un pryd, yn gwneyd yr uu peth, a hyny heb yn wybod i'w gilydd. Prawf teg, tybygid, eu bod dau ddylanwad yr un medd- wl, wedi eu gwresogi gan yr un tân, ac wedi eu bedyddio â'r un a'r unrhyw Ysbryd.

Am yr ychydig hanes a allem roddi am y Parch. Howel Davies, ni a gyf- eiriwn y darlleuydd at ran arall o'r gwaith hwn.* Gan fod " gair yr Arg- Iwydd wedi ei gau o fewn ei esgyrn ef," ni allai ymattal heb ei draethu, a hyny gyda goleuni a grym priodol i'r gwirionedd, er maint y cyífro a barai yn mysg y Ueygion, a'r gwrthwynebiad a barai yn mhlith y clerigwyr. Ai yr apostol hwn, gan hyuy, i bob eglwys yn y wlad, agored i'w dderbyu, ac adroddai "eiriau gwirionedd a sobrwydd," mewn difrifwch a dwysder mawr, nes i lawer dybied mai " ynfydu yr oedd." Ond fe ddug yr Ysbryd Glân dystiolaeth i'w lafur, nes oedd lluaws mawr o ddynion yn cael eu deff"roi yn achos eu heneidiau yn ngwahanol barthau o'r wlad. Ac wedi iddo gael fod yr eglwysi yn gauedig rhagddo wedi iddo fyned yn elyn i'r clerigwyr, yu unig trwy ddyweyd y gwir, " ni phetrusodd draethu holl eiriau y fuchedd hon," mewn lleoedd anghysegredig ; gan benderfynu mai ei ddyledswydd oedd ufyddhau i Dduw, trwy wneuthur felly, yu hytrach nag ufyddhau i ddynion trwy beidio.

Nid oes eithaf sicrwydd pa faint o amser a fu cyn i'r gwŷi- a enwyd ddy- fod yn gydnabyddus â'u gilydd. Yn y fl. 1739, tua thair blynedd ar ol i Howel Harris ddechreu pregethu i'w gymydogion, y mae yn son ám Mr. Eowlands, ac am y cyËFro a barai ei weinidogaeth yn sir Aberteifi'; ond nid yw yn ymddangos eu bod, y pryd hwnw, yn gydnabyddus â'u gilydd, oddi- eithr yn unig trwy glywed son. Y mae yn hysbys hefyd nad oedd llafur a

* Cyf. I., tudal. 80.

PEN. X.] SIR BENFRO. 283

llwyddiant Mr. Davies ddim yn guddiedig oddiwi-tho, gan y dywed yn ei ddyddlyfr, fod dau neu dri eraill, lieblaw Mr. Eowlands, "o weiuidogion ieuaiuc yn eglwys Loegr, wedi cael eu galw," meddai, " i bregethu'r efengyl yn yr un modd a minau."

Mae lle i feddwl befyd ddarfod i Harris ymweled â sir Benfro mor foreu a'r fl. 1739. Yn nechreu y flwyddyn hon yr ymwelodd ef â Gwynedd y tro cyntaf ; a chan nad aeth y tro hv/n ddim pellach na'r Bala, ni threuliodd yn y Gogledd ond ychydig amser, ond " mi aethum," meddai ef ei hun, "yn mlaen 0 sir Drefaldwyu, trwy siroedd deheuol Cymru, hyd nes im' ddyfod i Gaer- dydd." Dyma'r pryd y cyfarfu ef â Whitfield gyntaf, oddiwrth yr hwn y derbyniasai lythyr flwyddyn yn ol, sef lonawr 1738, " yn ei galonogi i fyned yn mlaen yn hyderus yn y gwaith." Mae yr haues sydd genyf o Ddewi, hefyd, yn awgrymu mai oddeutu y fl. 1739 y daethai Harris i'r dref hòno. Yr ydym yn tueddu i edrych ar yr ysgogiadau hyn, mewn gwahanol barthau, fel cychcyniad MetJiodistiaeth, er mewn gwirionedd mai yn mysg aelodau a gweinidogion eglwys Loegr yr oeddynt yn bod, ac er nad oedd eto un dychymyg i fí"urfio cyfandeb ar wahan oddiwrthi. Eto, er hyn oll, priodol, tybygywf, ydyw priodoli cychwyniad Methodistiaeth Cymru i'r adeg foreuol hon, gan fod yr ysgogiadau cychwynol hyn ja cynwys elfenau Jianfodol ym- neillduaetJi, y rhai, oddieithr eu llethu yn llwyr, neu eu lliniaru yn fawr, a gynyrchent ymneillduaeth gweithredol ; ac hefyd, gan fod arwyddion lled benderfynol .^wedi ymddangos eisoes yn yr eglwys wladol ei hun, na oddefid y fath afreolaeth a Methodistiaeth o fewn ei flìniau hi. Nid oedd eto chwaith ddim-cydweithrediad ffurfiol rhwng y tadau hyu â'u gilydd. Yr oedd Harris yn un cwr, Eowlands yn y cwr arall, a Davies yn y trydydd ; pob un yn g^yeithio wrtho ei hun, heb im cysylltiad amlwg a ffurfiol rhyngdd^ymt â'u gilydd ; a pha faint bynag o gymdeithas a gawsant yu bersonol â'u gilydd yn y cyfamser, amlwg ydyw ddarfod i chwe' blynedd gyflawu fyned heibio, o'r cychwyniad cyntaf, cyn i im ymgorfforiad penodol gymeryd Ile rhyngddynt.*

Tua'r fl. 17412, yr oedd cryn nifer o ddynion wedi eu dychwelyd trwy lafur y tadau hyn, mewn llawer parth o'r wlad, ac yn eu mysg yr oedd llawer o wŷr yn meddu ar gymhwysderau, mewn gwybodaeth a doniau, i ddysgu eu cyd-ddynion yn mhethau bywyd tragwyddol. Yr oedd hyn yn bod yn am- ryw lanerchi o'r sir hon ; ac yn y fl. 1743, Mehefin yr Sfed, cynaliwyd cym- deithasfa fisol yn y wlad, mewii Ue a elwir y Long-Jioiise. Yr oedd y Peirch. D. Eowlands, a H. Davies, yn bresenol, ynnghyda Howel Harris fel arolygwr cyffredinol yr ysgogiad Methodistaidd trwy Gymru. Yn y gymdeithasfa hon, cytunwyd, ar dri o wŷr i fod yn arolygwyr y gwahanol gymdeithasau eglwysig a fturfiasid yn y sir. Yn gyntaf, " Cytumoyd, fod y brawd TFilliam BicJiard i fod yn arolygwr y cymdeithasau ar làn y môr hyd Ddewi, yn nghyda'r cymdeithasau yn sir Aberteifi hyd Blaenporth."

* GTV'el Cyf. I., tudal. 158.

284 HANESIAETH Y SIllOEDD. [UOSB. IY.

2. " Cijtimtcyd, fod y brawd Thomas Meyler yn arolygwr y cymdeithasau yn Wesclmrch, Trewman, Morfil, a Llys-y-fran."

3. " Cytunwyd, fod y brawd Jolin Harris i fod yn arolygwr y cymdeithasau yu Llawhaden, Lhmdystilio, Llanbeston, Prendergast, Jeíferson, Carew, a Threfaughan wrth Whitelaud."

Cytunwyd hefyd yn yr un cyfarfod i'r brodyr John Lloyd a Thomas John, fod yn gynorthwywyr i William Richard, arbrawf ac i John ]Morris, a George Bowen, gynorthwyo Thomas Meyler, yr un modd ; ac i John Harris gael ei gynorthwyo gan George Gambohl a John Joues.*

Yr oedd saith o gymdeithasau eglwysig dan ofal William Eichard a'i gy- northwyw^r yn sir Benfro ; sef Llwyn-y-graicys ac Eglwys-ertc, Pen-gare, Trefdraeth, Binas, Ahergwaun, Longhouse, a Thy-Ddewi. Yr oedd yn y sir hon, gan hyny, dan olygiad y tri gŵr a enwyd, 18 o gymdeithasau bychain, mor foreu a'r fl. 1743, yn cynwys rhyngddynt oll tua 123 o aelodau. Y cymdeithasau mwyaf lluosog eu rhif y pryd hwnw, oeddynt Abergwaun a Llwyn-y-grawys, pob un yn cynwys 35 o aelodau. Arypryd hwn, nid oedd yn Nhŷ Ddewi ond 11 o aelodau.

Nid annerbyniol, fe aUai, gan y darllenydd a fyddai cael adroddiad William Uichard o'r cymdeithasau dan ei ofal yn sir Benfro, yn gyflawn, yn enwedig gan mai dyma yr adroddiad cyntaf, a'r unig un manwl, sydd ar gael am y crefyddwyr boreuol hyny.

Cymdeithasau Llwyn-y-geawys ac Eglwys-erw.

Gwŷr priod. Tfiomas Ilughes. Yu credii, ac yn hiraethu am fwy o Av')aihad o Dduw. Gwýr icuainc.

Stewaì-d. Dafydd George. Yn credu yn wastadol, ond yn teimlo eilygredd yn gryf ar amscrau.

Tliomas Harri. Ychydig o ffydd, a llawer o amheuon, ac ya hh-aethu am fod yn fwy santaidd.

John Erans. Yn dysgwyl yn biraethlon am lesu Grist, ond yn awr mewn tywyll- wch ac anghi'ediniaeth mawr.

Gwragedd priod.

Jane Evan. AYedi profi peth hyfi'ydwch a chariad, ond weithiau yn amheu. Elizaheth Jones. Yr un modd.

Mary George. Wedi credu unwaith, ond yn tmr mewn amlieuon ac ofnau. Margaret Phillips. Yn credu, ond yn hii-aetliu am ddatguddiad amlycach. Judith Jenldn. Weithiau i fynj', ac M-eithiau i lawr, heb wybod yn mha le y mae. Mary a Martha Evan. Dan argyhoeddiadau.

Merched ieuainc. Anne WilUams. Yn credu yn barhaus, yn rhodio llawer gyda Duw, ac yn dymnno gì^'neyd hyny yn ddibaid.

Margaret George. Yr uu modd.

Elinor George. Yn credu ac yn gweled ei holl yn Nghrist.

Anne l^wining. Dan argyhoeddiadau, ac yn hiraethu am y Gwaredwr.

Elisabeth Evan.—B.hai pelydrau o gariad, gan hiraethu ara Grist.

* Trefecca Minutes.

PEN. X.] SIR BENFUO. 285

Alice Dafÿdd.—Weàì profi peth cariad, ond yn penderfynu dysgAvyl am yr lesu. Catlierine Morris. Tywyll ac anwybodus, eto yn dymuno adnabod Crist. Jane Evan. Yn credu yn yr Arglwydd Ìesu, ac yn teimlo carlad ato. Mary Richard. Wedi profi cariad, ond dan amheuon. Elizahe(h Eynion. Dan argyhoeddiadau, ac yn hiraethu am jr Arglwydd. Margaret Lewis.—Yn glaiar iawn, eto dan argyhoeddiadau. Margaret John. Dan argyhoeddiadau, ac yn ymofyn am y perl gwerthfawr. Anne Thomas a Mary Hughes. Yr un modd.

John Matthias, Mrs. Twining, Mrs, Gamhold, Mrs. Rowlands, Leltice Thomas, Jane Matthias, Margaret Evan, Jane Evan, a Sarah David. Yn absenol. George John a John Phìllips.— Ar brawf.

Oymdeithas Pengaue.

Gwŷr ieuainc.

John Morgan a John Gihhon,

John Abram. Yn rhodio yn ff"ydd Abraham, yn adnabod llawer o hono hun, ac yn Gristion hyfryd.

Merched ieuainc.

Martha Thomas. Yn credu ; ac yn cael yr Arglwydd yn dyner wrth ei henaid.

Mary Thomas. Yr un modd.

Mary Gihhon. Dan anghrediniaeth, ond yn hiraethu am Grist.

Lettice PhilUps. 0 dan awdurdod anghrediniaeth.

Cymdeitlias Trefdraeth.

Gwyr ieuaine.

William Priichard. —'Enaìd tyner iawn, wedi profi peth cariad, ac yn canfod Uawer o'i waeledd ei hun. James Eran. Dan y ddeddf, w-edi profi peth cariad, &c. Thomas James a Williaru John. Yn absenol.

Merched ieuainc.

Elizaheth Grijfith. Weithiau yn credu, 'weithiau yn amheu.

Lettice Watlcin. Dirodi'cs a phrofiadol, ond weithiau yn amheu, weithiau yn gweled hyny yn ddrwg, ac yn ei fawr ofni.

Mary Dafydd ìlewn ymdrech am sicrwydd : wedi profi galhi Duw unwaith yn ei chynorthwyo i gredu, ond yn awr dan amheuon.

Margaret 'Hoyd. Yn argyhoeddedig o'i hangen am Waredwr.

Martha Lewis. Yn ceisio.

Elizabeth Williams. Yn dj-wyll, ond o brofiad syml.

Mary Nicholas. Amheuon ac ofnau.

Anne John, Yr un modd.

Gweddw. Mary WatHn. Dan argyhoeádiadau ac amheuon.

Cymdeitlias DtNAS. Goruchwyliwr, John Lloyd. Gwŷr priod.

John Griffith. Yn credu yn barhaus ; Cristion syml profiadol, wedi dyfod trwy galedi mawr, yn a\\T yn mwjnihau rhyddid.

William Griffith, Dan argyhoeddiadau, mewn rhyfel poeth â'i lygredigaethau, ac yn dysgwyl cael goruchafiaeth.

David Griffith. Ffydd sefydlog ac arosol.

Merched ieuainc.

Anne Lloyd a Mary James. 111 dwy yn credu, eto nid heb amheuon ar amserau. Jane Griffith. Dan argyhoeddiadau, gan waeddi a hiraethu am yr lesu.

286 HANESIAETH Y SIBOEDD. [dOSU. IV.

Cymdeithas Abergwaun. Gomchwylwyr, John Hugh a John Mobgan, ill dau yn mwynhau Uawer o Dduw, ac yn dysgwyl wrtho am fodd i orchfygu eu hoU elynion. Gwŷr ieuainc.

John Gihbon.— Yn credu yM. bai"liaus, ie, pan y bydd yn gymylog amo ac yn cael ei demtio ; mae cariad yn ei gymhell i ddymuno gogoneddu Duw.

Jolüi Rimmond. Yn rhodio yn fîydd yr lesu, ac yn meddu llawer o'i ySbryd.

Thomas Hugh. Yn meddu ÁFydd barhaus i gymhwyso teilyngdod Crist at ei enaid.

William George. Wedi cael prawf amlwg o'i flydd mewn tymhestl ar y mór, ac yn rhodio llawer gyda Duw.

John Owen. Wedi ei gyfiawnhau mewn gweddi ddirgel ; ac yn hiraethu am fwy o rj'ddid.

John Thomas.— Y mae iddo nodau Crîstion.

John Morris. Wedi profi gradd o gariad Duw, ac yn gweled mwyfwy o'i galon ei hnn.

Thomas Llewelyn. Yn ddiweddar wedi profi gradd o gariad a hyfrydwch.

Eaton Griffilh. Dan amheuon, ac yn canfod gwaeledd ei galon ei hun.

James Gwynne. Dan argyhoeddiad.

Gwýr priod. John Wilüams. Hen ŵr newydd eni ! Merched ieuainc.

Ánne a Margaret Evan. Ffydd sylweddol yn barhaus.

Elizabeth Evan. Yn hiraethu yn wastadol am Grist.

Anne Morris.— Yn meddu ifydd sylweddol, a chan f\vynhau heddwch â Duw, yn dymuno ei ogoneddu.

Alice Boicen. Weithiau yn credu, weithiau yn amheu.

Elizaheth Rees. Yn credu ; wedi profi llawer o hyfi-ydwch, ac yn dymuno mwj o ryddid.

Martha Thomas. Wedi derbyn Mab Duw ac yn credu ynddo, ac wedi cael tystiol- aeth ychwanegol y nos hon.

Rebecca Rowland. ín meddu fí'ydd sylweddol ; yn casâu pob pechod ; ac wedi profi llawer o hyfrydwch.

Elizabeth Thomas. Cristion hofí^, profiadol, a chanddi fíydd ddiysgog yn yr lesu.

Margaret James. Yr un modd.

Anrie Llewelyn ac Anne Wathin. Dan argyhoeddiadau, amheuon, ac ofnau.

Anne George. Credu ac amheu bob yn ail ; wedi profi Uawer o fwynhad.

Susana Rowlands Dan argyhoeddiadau ac amheuon trymion.

Catherine Adams.—GTa.ù.á o obaith yn nghanol llawer o amheuon.

Margaret Llewelyn Dan argyhoeddiad ac ofoau trymion.

Margaret John. Yr un fath, ac yn Ilefain am Waredwr.

Martha Owen, Lettice Hugh, Margaret James. Yr un modd.

Susana George. Yr un modd.

Grace Rowland. Dan argyhoeddiadau.

Cymdeithas Longhouse. Goruchwyliwr, JoiiN Williams. Gwŷr ieuainc.

George WiUiams. Yn credn, ac yn dymuno gogoneddu Duw, ond ar amserau dan amheuon, oddiar ysbryd deddfol.

Geo. Morris. Yn credii, ac yn sychedu am fwynhad helaethach o Dduw, gan rodio yn ddiesgeulus.

John Walter. Dan argyhoeddiadau ; wedi profi peth mwynhad, ond ja awr dan amheuon.

David Bowen Yn credu yn barhaus ; aeth trwy galedi a thywyllwch mawr, oud yn hyderus ynddynt oll ; Cristion gonest ydyw.

David Harri. Dan argyhoeddiad ; weithiau ya credu. yn ymdrech llawer yn erbyn pechod, ond yn ei gasâu i gyd.

PEN. X.] SIR BENFRO, 287

David Morgan. Dan argyhoeddiad, wedi profi peth cariad ; dan amheuon, eto yn pendei-fynu dysgwyl mewn gobaith.

Merched ieuainc.

Anne Tliomas. Yn mcddn undeb â Christ, a heddwch â Duw.

Elizaheth Thomas. Wedi profi llawer o gariad a thynerwch Duw, ond eto dan amheuon a thywj'llwch.

Martha WÍlliams. Yn credu yn barhaus ; yn teimlo undeb â Christ ; ac yn tooliannu Duw am dano.

Jane Morris Yn credu yn barhaus ; Cristion gonest, syml ; yn gwybod llawer am Dduw, a Christ, a hi ei hunan.

Jennet Dafydd. Yu credu, ac yn llefain am fwy o ddelw Crist.

Martha WiUiams. Yn credu yn barhaus, gan foíiannu Duw am ei ddaioni gwastadol.

Anne John. Yn credu, ac yn profi llawer o gariad.

Mary Morgan, Yr un modd ; ond yn awr dan amheuon ac mewn tywyllwch.

Elinor Watts.

Lettice Rohert. > Ar brawf, ac i ddod dan arholia,d eto.

Elizaheth Mends.)

Y cyfryw ydyw adroddiad William Eichard i'r gymdeithasfa, y tro cyntaf erioed, o ansawdd y cymdeithasau dan ei ofal ef yn sir Benfro ; yr oedd hyn mor foreu a'r fl. 1743. Mae yr adroddiad a ddyry John Harris i'r un gymdeithasfa, yn llai manwl, gan nad ydy w ond yn darlunio agwedd gyffredinol y cymdeithasau, ac nid profiad pob un. Am ei adroddiad ef, ni a gyfeiriwn y darllenydd i ran flaenorol * o'r gwaith. Nid oes genym un adroddiad o eiddo yr arolygwr arall, sef Tliomas Meyler, ac nid yw yn ymddangos iddo anfon yr un ; ac mewn cymdeithasfa fisol a g\Tialiwyd yn Mhorth-y-rhyd, ger Llanymddyfri, penderfynwyd anfon ato i ymliw ag ef am Iwyr esgeuluso y cymdeithasfaoedd. Nid yw yr adroddiadau dylynol o eiddo William Eichard, chwaith, yn rhoddi dim ond agwedd gyff'redinol y gwaith yn mhob lle, heb enwi pob aelod ar ei ben ei hun. Ymddengys hef\^d fod cryn lawer" o ansicr- wydd yn gysylltiedig â'r cymdeithasau hyn. Cynelid hwy oll mewn tai anedd, ac yn aml yn symudol o un tỳ i'r llall ; fel y mae yn anhawdd, erbyn hyn, ddyweyd pa beth a ddaeth o honynt yn y diwedd. Y mae yr hanes sydd genym am danynt yn cyfeirio hefyd at dymhor o flaen yr ymraniad y soniasom am dano, yr hwn, ond odid, yn y wlad hon fel gwledydd eraiU, a barodd effeitliiau galarus, ac a achlysurodd adfeiliad a gwywdra ar y gwaith yn gyfl'redinol, a dadymchweliad llwyr, fe ddichon, ar amryw o'r cymdeithasau bychain y crybwjdlwyd eu henwau.

Ciybwyllasom mai chwech o gynghorwyr anghyhoedd, neu gynorthwywyr, oedd ar gael yn y fl. 1 743 ; ond mewn cwrdd misol a gynaliwyd yn Hwlff'wrdd yn mhen dwy flynedd ar ol hyny, y mae genym enwau deg o'r cynghorwyr hyn ; ond nid yw yn ymddangos i neb o honynt droi allan yn ddynion cyhoeddus gyda'r Methodistiaid, er maint a allai eu defuyddioldeb a'u gwerth fod yn eu lleoedd penodol neu gartrefol. Dyma eu henwau : Geo. Gambold, John Harry, Geo. Bowen, Dafydd EYan, John Lloyd, John Sparks, Christo- pher Mends, William Edwards, John Morris, John Owen. Mae enwau dau

* Cyf. L, tudal. 167.

288 HANESIAETH Y 8IR0EDD. [DOSB. IV.

a enwasid o'r blaen i gynorthwyo yr arolygwyr, sef Thomas Joîin, a John Jones, weili eu gadael allan o'r rliestr uchod. Ni ddy^edir wrthym pa beth a ddaethai o honynt, fcl na allwn ddyweyd dim gyda sicrwydd, Ni a gawn, pa fodd bynag, am ryto John Jones a fyddai yn arfer cynghori, fod pender- fyniad wedi ei basio am dano yn ngwrdd misol Longhouse, o'r natur yma, " Cytumoìid, ar i John Jones fod yn ddystaw dros ryw dymhor, er mwyn ei ordeinio, ac hyd nes y bydd ei ordeiniad ef trosodd.* "

Mewn cyfarfod arall, " Cytunwyd, ar i'r brawd William Edward ymweled â'r eglwysi yn Nhŷ Ddewi, Penrhos, a Monton, yn wythnosol ar brawf, hyd y gymdeithasfa nesaf ; a Bod iddo ef, a'r holl gynghorwyr anghyhoedd eraill, ymweled â lleoedd eraill, mor bell ag y gallout wneuthnr hyny, heb Êsgeuluso eu cymdeithasau priodol na'u galwedigaethau bydol ; a hyny o dan gyfar- wyddyd eu harolygwyr."

Ehoddir ar ddealJ i ni hefyd, " Eod George Gambold wedi anfon llythyr i'r gymdeithasfa yn nghylch ei alwad i gynghori yn ddirgel neu ar gyhoedd ; ac raewn canlyniad i'r Uythyr hwn, fod y brodyr wedi deall fod ei ddoniau ef yn fwy gwasanaethgar i adeiladu y saint nag i ddeffro pechaduriaid, a'i fod, yn ol pnb hanes, wedi ei fendithio i'r dyben hwnw, mewn amrywiol leoedd, yn cyflwyno ei achos, ar ol ei bwyso o flaen yr Arglwydd, i ofal y brawd Howel Davies, i'w gyfarwyddo yn mha leoedd yr oedd iddo gynghori yn gyhoeddus, ac yn mha le yn ddirgel yn unig, a hyny ar brawf liyd y gymdeithasfa nesaf." Oddiar yr olwg a geir trwy " Gofnodau Trefecca " ar y wlad hon, gallwn gasglu cymaint a hyu am Fethodistiaeth y tymhor hwn yn y wlad hon.

Yn gyntaf. Fod gweinidogaeth Howel Davies, cyn ac ar ol ei droad allan o eglwys Llys-y-frân, Avedi ei bendithio i ddeffroi llaweroedd o eneidiau, mewn gwahanol barthau o'r wlad hon ; ac yn fwy o lawer ar ol ymroddi o hono i bregethu yn mhob man, lle bynag y rhoddid caniatâd neu gyfleusdra iddo.

Tìi ail. Mai y tri a ymddengys fwyaf cyhoeddus gyda'r gwaith o'r lleygion boreuaf, a fu yn offerynau i gychwyn ac amaethu Methodistiaeth y wlad hon, mewn cysylltiad â'r gvvr parchedig uchod, oeddyut John Harris, ^Yilliam Eichard, a Thomas Meyler.

Tn drydydd: Fod tua 1 7 neu ychwaneg o fân gymdeithasau eglwysig wedi cael eu planu mewn gwahanol bartliau o'r sir, cyn y fl. 1745 ; oud gan eu bod yn cael eu cynal mewn tai anedd, ac wedi eu cyfansoddi o ddysgybl- ion ieuainc a phlentynaidd, nad oedd llawer o sefydlogrwydd yu perthyn iddynt, fel cymdeithasau, er, yn ddiau, fod yn eu mysg lawer iawn o wir ddysgyblion i Pab Duw.

Tn hedioerydd. Tod yma 10 neu 12 o gynghorwyr bychain ac anghyhoedd wedi eu nodi a'u galw i gynorthwyo yr arolygwyr, i addysgu ac amaethu y dysgyblion ieuainc hyny, mewn gwybodaeth, profiad, a buchedd santaidd.

* Gellid meddwl mai g\vr ieuanc oedd hwn ar fedr cymeryd urddau yn eglwys Loegr.

PÊN. X.] -!R iìtSFiio. 289

Yn yr amser hwn hefyd yr oedd Howel Jlarris, Eowlandâ, Llaugeitho, Mr. Whitfield (a Mr. Wesley hefyd yn achlysurol), yu ymweled â'r wlad, a phob un yn foddiou i gadarnhau y diwygiad, ac i chwauegu nifer y crefyddwyr. Eto nid oes geuyra ddim hanes manwl ara y wlad hou cyn yr ymraniad, oddieithr yr ychydig a fedrwn ui ei loífa, megys uchod, allan o gofuodau y cymdeithasfaoedd, y rhai a gedwid yn Nhrefecca.

Yr oedd y wlad hon yn gyíìelyb o ran ei hanwybodaeth a'i harferiou i wledydd eraiU Cymru. Nid oedd gwybodaeth o Dduw yn y wlad. Nid oedd neb yn deall, uid oedd neb yn ceisio Duw. ^Y mae yn anhawdd rhoddi cyfrif am untfurfiaeth y chwareuon a'r campau a arferid trwy y dywysogaeth oll, oddieithr ei briodoli i eftaith hen " Lyfr y chwareuon," a ddarllenid gynt yn yr eglwysi plwyfol ; ond pa gyfrif bynag a roddir am hyny, y mae y ffaith yruu. Ac nid ydoedd sir Benfro ddim yu eithriad. Defnyddid y fynwent i chwareu, newydd ddefnyddio yr eglwys i addoli. Gellir meddwl nad oedd y gwasanaeth o fewn nemawr fwy cymeradwy gan Dduw nag óedd eu chwareu oddiallan. Yr oedd y gwasauaeth crefyddol oddimewn yn hynod am ei farw- eidd-dra, a'r chwareu oddiallan mor hynod am ei fywiogrwydd. Yn y cyntaf nid oedd dim ond y ffnrf, ond yr oedd yHhryä jv\ yr olaf. Ond am y ddau y dywedai Duw, " Maent yn faich ainaf, blinais yn eu dwyn." Tra byddai'r ieuenctyd yn chwareu, yr hen bobl a eisteddent ar y cerig beddau, i edrych arnynt i'w calonogi. A byn oll ar ddydd yr Argl\¥ydd ! Yr oedd Uawer o greulondeb yu gymysgedig â'r chwareuoii. Un chwareu mawr ei rwysg oedd " Ymlid y cadnaw," neu " Hela y Ilwynòg." Un tro yn Aber- gwaun, pan yn y chwareu hwn, y daeth y dyn a gyfrifid yn gaduaw trwy y fynwent, ac heibio hen adyn ag oedd yn eistedd ar gareg fedd, a phasíwn mawr yn ei îaw ; hwn a'i tarawodd â'r pastwn nes oedd ei waed yn ffrydio ! a mawr yr ymffrost oedd gauddo ei fod wedi gallu taro y cadnaw !

Crybwyllir am lawer enghraifft o ofergoeledd y trigolion. Av Sul v Pas<', aeut i'r Ilau yn nhraed eu hosanau, sef heb eu hesgidiau, rhag, meddent, gyftroi y pridd ! Ar foreu Nadolig, cyfodent cyn dydd i edrych y Rhosmari, a thaerent ei fod yu blodeuo! Ond rhyw ftbrdd neu gihdd, nid oedd y blodau byth yn aros hyd doriad y dydd ! Yn esgobaeth Tŷ-Ddewi yu uuig y dywedid fod y drychiolaethau, a chauwyllau corff, yn ffyuu ; a mawr v sŵn, ac arswydus y chwedlau, a fyddai am danynt. Pjin y gallai neb fyned allan o'i dŷ, wedi swper, heb weled, hwyrach, ddwy )icu dair o'r canwyllau hvu yn myned íua'r Uan, a drychiolaeth yr anghladd yn eu canlyn ; hwn a elwid Cyfresgyn, a pherygl dirfawr y dywedid fyddai i neb gyfarfod â hwnw ar y ffordd y tramwyai, gan y byddai yn sicr o gael ei lusgo at borth y fynwcut, a'i AYasgu yno, nes ei archolli yn drwm ; a da fyddai os diangai â'i fywyd ganddo. Adroddid y coelion hyn yn nghlyw y plant, nes eu llenwi â braw, fel nad oedd modd cael ganddynt fyned dros y drws, neu i neges, yn vr hwyi-, pe buasai tân yn y tŷ, gan faint ydoedd iasau ofn arnynt. Yr oeddynt vu credu fod ysbrydion yn y Ilan ar nos galan-gamf, yn cyhoeddi enwau pawb a fyddai farw yu y plwyf o fewn corft" y flwyddyn ! Ceid ambeli un mor wrol

ü

290 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

a myned dau ffenestr y gaogell i wraudo ; ac nid oedd ond un ar unwaith i fyned, onide ni chlywid dira ; a chyfrifid y neb a feiddiai fyned yno felly yn rhagori mewn gwroldeb.

Ar ddydd calan-mai yr oedd rhyw gamp ífol a elwid, " Gwisgo y fedweu," Ypryd hwnymdyrai lluaws ynghyd i yfed ; a meddwi a churo eu gilydd, ond odid, a fyddai y diwedd ! Myrdd o'r fath arferion a syniadau a anurddai ein cyn-dadau diniweid (?) ar hyd ac ar led yr holl dywysogaeth. A chyda bod yn ddifraw am bethau ysbrydol, ac yn ddiofal yn nghylch achosion y byd anweledig, yr oedd llawer o amser yn cael ei dreulio, naill ai mewn seguryd diles, neu mewn oferedd*gwag. Nid oedd y ddaear yn cael nemawr o driniaeth. Bwrid ychydig o }^d i'r maesydd, ychydig yma ac ychydig acw ; a hjTiy heb na chlawdd na gwrych o'i amgylch ; a thra fyddai yn tyfu, eu gwaith fyddai ei warchod, a chadw yr anifeiliaid o hono ! Nid hon yw yr enghraifft gyntaf o waith efengjd, nid yn unig yn achub eneidiau dynion, ond hefyd yn gwella eu hamgylchiadau, a gwareiddio eu harferion. Dyma agwedd y wlad pan ddechreuodd y Parch. Howel Davies godi ei lef uwchben yr esgjTn sychion, a phan y daeth Howel Harris fel rhyw loan redyddiwr " yn Ilef un yn llefain j^n y diffaethwch," er troi jt anufydd i ddoethineb y cyfiawn, a gwneuthur i'r Arglwydd bobl barod.

PENNOD XI. EGLWYSI BOREUAF Y SIE.

CTNWTSIAD :

TY-DDE"WI— YMWELIAD CYNTAF HOWEL HAEEIS A'E DDIN'AS— AEGYHOEDDIAD SION GEIFFITH— YMOSODIAD AE HAEEI3 YN" CAEL EI ATTAL— YMWELIAD DANIEL E0WLAND3 AC ERAILL PEEGETHU YX Y LLEW-DU, AC YN NHY EICHAED BOWEN— MR. THOMAS EEES, TEEPUET, A ME. GEOEGE WILLIAMS— CAEFAECH- ELL— ME. SAMPSON THOMAS SOLFACH— EHYD-Y-GELE— WILLIAM EDWAED.

TY-DDEWI.

Mae y ddinas hon yn sefyll ar lanerch mwyaf gorllewinol Deheudir Cymru, ac yn ddinas gadeiriol. Yr oedd ynddi ddarpariaeth helaeth, gan hyny, mewn rhifedi digonol o wŷr llên, ac adnoddau arianol, i wasgar anwj'bodaeth y ddinas a'r wlad oddiamgylch iddi ; ac yr oedd oesoedd wedi treiglo heibio, er pan y cynysgaethwj'd y Ue â'r rhagorfreintiau hyn. Eto, er hyn, nid ydym yn darllen fod y ddinas hon, a'i hamgylchoedd, ddim goleuach na gwareiddiach na rhanau eraill jti sir Benfro. Yr oedd rhai o'r trigolion, mae'n wir, yn mjTied i'r llan ar foreu Sabboth ; ond yr oedd hyn yn fwy o ddefod na dim arall ; yr oedd y gwasanaeth crefyddol hefyd yn cael ei gynal, ond nid oes nema^rr arwyddion fod yno ddim amgen na fínrf. Yr oedd jt holl dref ymron, ynghyd â'r wlad o amgylch, " yn eistedd yn llonydd ; " " yn eistedd jTi mro â chysgod angau," " yn rhodio yn ol helynt y byd hwn, ac yn ol tywysog llywodraeth yr awyr." Yn yr agwedd yma yr oedd pethau wedi

PEN. XI.] SIR BENFEO, 291

parhau er ys oesoedd rai, ac nid oedd uu arwydd fod newidiad ar gymeryd Ue.

Tua'r fl. 1739, jrmwelodd Howel Harris a Tliŷ Ddewi. Ar ei ddyfodiad, rhoddwyd hysbysiad allan fod gŵr dyeitlir yn bwriadu pregethu wrth y Groes, yn nghaiiol yr heol. Yr oedd hyn yn beth cwbl newydd, ac yn tueddu i greu chwilfrydedd mewn rhai, ymofyniad yn eraill, a gwrthwynebiad yn y gweddill. Ymgasglodd y Uuaws yn nghyd, a dechreuodd y pregethwr draethu ei genadwri mewai modd dirodres iawn. Yn ol ei arfer, fe ddynoethodd arferion llygredig y dinasyddion yn ddiarbed a difloesgni ; " ac yr oedd pob darn yraadrodd o'i enau yn gwreichioni ac yn melltenu mor daranllyd i gydwybodau ei wrandawyr, nes yr oeddynt yn arswydo ac yn ofni fod y farn gyö'redinol wedi eu goddi- weddyd ; íe, yr oedd efifeithiau mor rymus yn cydfyned â'i ymadroddion, fel yr oedd dynion dewrion a thalgryfion yn syrthio yn gelaneddau ar yr heol, mewn llewygfeydd gan fraw a dychryn." *

Nid oecld Mr. Harris yn arfer, o leiaf yn mlynyddoedd cyntaf ei weinidog- aeth, cymeryd un aduod neiUduol yn destyn, a phan y defnyddiai adnod i'r dyben hyny, nid ei arfer oedd ei hysbysu. Yr oedd ei bregethau hefyd yn cael eu cyfeirio yn neiUduol yn erbyn pechodau yr oes, neu arferion llygredig y genedl ; a hyn a wnai mewn duU mor ddifrifol ac awchlym, gan ddatgan fod digofoint Duw yn anocheladwy ar blant yr anufydd-dod, nes byddai ei wrandawyr, yn fynych, wrth yr ugeiniau yn teimlo saethau Duw yn eu calonau, ac ar geulan anobaith, ymron, yn liefain ara eu bywyd, ac yn ymofyn am le i ddianc. Felly y bu y tro hwn yn Nhŷ Ddewi. Ni ellid casglu oddiwrth ei bregeth fod dim yn aros y trigolion ond dinystr anocheladwy ; ni roes un awgrym am drefn cadw pechadur. Ond fe fu y tro yn eâ"eithiol ymron i Iwyr ddadymchwel, o hyny hyd heddyw, yr hen gampau a'r chwareuon, ag oeddynt yn uchel eu penau ar y Sabbothau. Trwy awr o draethu, fe ddymchwelodd lygredigaeth oesoedd ! Fe wnaethmewn un oedfa, aryrheol, beth na allodd dysgeidiaeth, doniau, ac urddau yr eglwys gadeiriol ei gwblhau er ys oesoedd ! ünd nid i Harris yr ydym am roddi y gogoniant. Duw oedd yn y weinidogaeth ; parodd glywed ei lais trwy weinidogaeth ddiaddurn ; a pharodd anrhydedd ar weinidogaeth ddiurddau, fel y byddai godidogrwydd y gallu o Dduw, ac nid o ddynion.

Ni ynganodd Harris y tro hwn, fel y soniwyd, am un waredigaeth go- gyfer â dyn coUedig, ond fe adawodd y trueiniaid aicholledig dan arteithiau llymion eu cydwybodau euog, hyd nes daeth yr ail waith i ymweled â'r dref ; ac nid trallod bychan a fu, tybygid, ar amryw o honynt. Fel enghraifift, sonir ara un Uencyn 15 oed, mab i ŵr o'r enw Siôn Griffith, yn nhŷ yr hwn y bu y prcgethu dros araryw o flynyddoedd ar ol hyn. Aeth y Ilanc hwn fel eraill i wrando y gŵr dyeithr, o wir gywreinrwydd, ac yn eithaf difeddwl ; ond os difeddwl ydoedd yn myned i'r ocdfa, nid felly yr oedd yn dychwelyd o honi. Glynodd y gwirionedd yn rymus yn ei feddwl ; cafodd rhyw olwg ar

* Gan Mr. T. Kees, Trepuet.

292 HANESIAETH Y 91R0EDD. [BOSB. IV.

ei sefyllfa beryglus, nes oedd ei orphwysdra wedi diflanu, a chynyddai ei draìlod fwyfwy ddydd a nos ar oi eu gilydd. Yr oedd ing ei fynwes yn terfynu ar wallgofrwydd ; ao yn y cyfyngder hwn, penderfynai roddi terfyn ar ei hoedl, drwy ymfwrw yn bendramwnwgl dros ddibyn i'r môr. Barnai mai lluosogi ei bechodau, a thrymhau ei gosp, a wnai wrth fyw, ac mai goreu po gyntaf iddo derfynu ei oes. Ond tra yr oedd yn cyfeirio ei gamrau, gyda'r bwriad gwallgof hwn, tua'r geulan, clybu air yn cael ei lefaru wrtho, ac yn dyweyd, " Ha fab, maddeuwyd i ti dy bechodau." Daeth y gair hwn at ei feddwl mor ddisymwth, a chyda'r fath rym a goleuni, nes syrthio o hono yn gelain ar y ddaear. Wedi dadebru graddau, dechreuodd ddadleu mai nid iddo ef y perthynai y gair ; ond ofer oedd ei fwrw heibio, swniai megys yn ei glustiau, a glynai yn ei galon ; cymhwysid y gair megys ato ef yn bersonol, a chafodd oruchafiaeth ar ei ofnau. Erbyn iddo godi ar ei draed, ymddangosai gwedd newydd ar bob peth o'i amgylch ; ymwisgai y greadigaeth megys â phryd- ferthwch, a'i fynwes ef ei hun a lanwyd â " thangnefedd heddychol." Bu y bachgenyn hwn fyw i weled 80 ml. oed, ac nid amheuodd wiiionedd y dad- guddiadhwn dros ei holl ddyddiau.

Effeithiodd gweinidogaeth Harris ar amryw eraill i raddau helaeth, ond rhai o honynt a ddiffoddasant yr ymrysoniadau, ac " iachawyd eu briw yn ysgafn ; " ond yr oedd rhyw nifer, pa fodd bynag, fel yr un a grybwyllwyd uchod, yn aros dan ddylanwad y gwirionedd, ac yn sychedu am orphwysdra i'w heneidiau. Daeth y rhai hyn, cjti hii', yn adnabyddus o'u gilydd, ac fel y gellid dysgwyl, hwy eiddigeddent am gyfle i arllwys eu teimladau y naill wrth y llall. Cyrchent, bellach, at eu gilydd, a hyny i leoedd neillduedig a dirgel, rhag eu haflonyddu gan ymyrwyr prysur, na'u gwawdio gan watwor- wyr câs. Yn y cyuulliadau hjTi, rhoddid iddynt gyfleusdra i adrodd y naill i'r llall eu syniadau newyddion, a'u teimladau archolledig. Nid oedd gan y trueiniaid hyu neb wrth law i'w harwaiu ; ac nid esiampl neb arall a'u dysgai vn y modd yma i ymgrynhoi at eu gilydd ; ond ansawdd eu meddyliau a ffui'fiai y gogwyddiad, a'u hamgylchiadau amddifad a seliai y buddioldeb. T cyfarfodydd hyn oedd dechreuad cymdeithas eglwysig y Methodistiaid yn Nhŷ Ddewi ! Parai y cyfarfodydd hyn lawer o siarad ac ymchwil ar y pryd. Rhai a ddywedent eu bod yn myned at eu gilydd i weddio ; eraül, eu bod yn cyffesu eu pechodau wrth eu gilydd ; dychymygai eraill, eu bod yn bwrw pridd a lludw ar benau eu gilydd, yn arwydd o'u galar a'u tristwch o herwydd eu pechodau ; ac nid oes amheuaeth na roddai eraiU awgrymiadau dystaw, eu bod yn cwrdd â'u gilydd i ddybenion llawer gwaeth. Eto ni feiddiai neb ymgysyiltu â hwynt, ond y sawl a íyddai dan drallod meddwl am ei sefylifa ysbrydol, ac yn ymofyngar ara adnabod ffordd gwaredigaeth.

Fe fu Mr. Harris yn Nhŷ Ddewi amrywiol weithiau wedi y tro cyntaf uchod ; ennillasai hefyd barch mawr yn meddyliau y Iluaws o'r bobl, îe, yn meddyliau rhai o'r dynion mwyaf annuwiol yn y dref ; ac nid ydym yn cly wed ddarfod iddo gyfarfod â dim aflonyddwch a therfysg, oddieithr ar un tro. " Yr oedd," ysgrifenaMr. Eees, "wedi esgyn i'r Groes, y lle arferol i bregethu,

P£i\. XI.] SIR BENFllO. 293

a'r gynuUeidfa wedi ymgasglu ynghyd i wrando. Y pryd hyu, daeth rbyw ddyhiryn i fysg y dyrfa, mewn gwedd tra hagr, gyda bwriad i aflonyddu a therfysgu y gwrandawyr. Ond fel y bu yr anhaj) annedwydd iddo, darfu un 0 fiaenoriaid byddin y diafol ymosod arno, a'i,fwrw i'r Uawr, ac o'r braidd yr achubwyd ei fywyd ; jt: hyn a wnaed trwy ei lusgo i oedd yn agos i'r fan. Yr oedd gan Mr. Harris gymaint o ddylanwad ar ei wrandawyr yn y dref hon, fel y buasai amryw o'r rhai mwyaf annuwiol yn ei amddiflyn hyd at waed. Ẅedi tawelu y C)i;hrwfl hẃn, aeth yn mlaen â'i bregeth yn effeithiol iawn."

Heblaw Howel Harris, ymwelai eraiU yn achlysurol â Thŷ Pdewi yn yr amser boreuol hwn. ÌTn eu mysg yr oedd y Parch. Daniel Eowiands, a'r Peirch. George WTiitfield a John Wesley, a rhai o bregethwyr y Morafiaid. Cafodd Eowlands ar ei ddyfodiad ganiatâd i fyned i'r llan i bregethu ; a ben- dithiwyd ei weinidogaeth y tro cyntaf y bu yma, meddir, ag eff'eithiau tra nodedig. Heblaw y gwŷr enwog uchod, y rhai a ddeuent yn achlysurol i'r wlad, yr oedd y dref hon yn mwyuhau llafur gwŷr eraill mwy cartrefol ; yn neiÛduol yr eiddo Howel DaYÌes, a Mri. John Harris a Benjamin Thomas. Yr oedd y gwŷr hyn ar y maes cyn yr ymraniad, ac yn cydlafurio â Howel Harris cyn ei ymueilldnad i Drefecca. Yr oedd hefyd, fel y cr\bwyll\vyd, ryw nifer o gynghorwyr anghyhoedd eraiU yn Uafurio yu ngwahanol ranau o'r wlad, y rhai, fe aUai, na phrofwyd nemawr o'u doniau yn Nhŷ Ddewi.

Y Ue yr oeddid yn arfer pregethu yn y blynyddoedd cyntaf hyn, heblaw Siôn Grifíith, oedd tafarn, dan arwydd y Llew Du, neu ynte ar yr heoi. Ymddengys fod yma ddeadell fechau yn aros yn y blynyddoedd hyn hcb eu chwalu, ond fod yr ymraniad yn y fl. 1751 wedi gwneuthur peth difrod yn mysg y dysgyblion yn y Ue hwn hefyd ; oblegid fe ddywedir fod rhai o houynt wedi mynedoddiymaiDrefecca, a dybenu eu hoes mewn cysylltiad â sefydliad Hariis yno. Yu y blynyddoedd cyntaf hyn, nid oedd.yr ordiuhadau arwyddol o fedydd a swper yr Arglwydd yn cael eu gweinyddu i'r dychweledigion Methodistaidd, ond yn y Uanau plwyfol ; yr oedd y dysgyblion yn Nhỳ Ddewi dan yr un anfantais, ac felly y buont yn aros hyd nes y daeth Mr. Whitfield unwaith i'r wlad, ac anturio gweinyddu swper yr Arglwydd raewn Ile anühysegredig, sef cwrdd yu Woodstock. Ehaid eu bod felly er ys 15 mlynedd, o'r amser y daethai Howel Harris gyntaf i'r wlad hyd adeiladiad capel Woodstock yn 1754, heb gyfranogi o swper yr Arglwydd ond yn y llanau, ac yn yr hen dduU. Ond er fod y Ue hwn tuag ugain miUdir o Ddewi, mynych yr âi y dysgyblion cyntefíg yno ar Sabboth cjTnnudeb.

Wedi i'r moddion gael eu cynal dros 20 mlynedd a mwy yn nhý Siôn Griffith, sef y Llew-du, ac ar yr heol, cafodd loches dracLefn am amryw flynyddau yn nhŷ un Eichard Bowen. Dros ryw ysbaid, fe gedwid cyfarfod- ydd crefyddol yn ei ef bob nos Sal)both. Ymddengys fod y gŴT hwn yu arfer rhoddi gair o gynghor i'r bobl a ddeuent yn ngliyd. Ni edrychid ar v cyfarfodydd hyn yn amgen na chyrddau i weddio a darllen, er y rhoddid math 0 gyfarchiad difrifol, ar wedd cynghor, i'r bobl. Ehaid oedd bodíìloni

294 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

ar y moddioa liyn, a da oedd eu cael, gan leied oedd rhif y rhai a gyfrifid yn bregethwyr, neu yn weinidogiou urddedig. Ac nid anfuddiol chwaith a fu y cyfarfodydd bycliain a dirodres liyn. Ychydig a ddeuai iddynt, ond y sawl a deimlent ryw radd o bryder yn aclioa eu heneidiau ; a mynych y coronid hwy yn ardderchog gau arwyddion amlwg o bresenoldeb Duw. Yn achlysurol, fe ymwelai cenadau mwy amlwg ac enwog â hwy ; megys y Peirch. W, Williams a Howel Davies ; John Harris a Benjamin Thomas, hefyd, yn eu cylcb ; yn ddiweddaracli daeth y Parch. Peter Williams i ymweled â hwy ; Dafydd Morris, befyd, a William Llwyd o Gaio ; ac yn raddol cawsant wasanaetb mawr oddiwrtli Henry Eichard, Trefin, a Sampson Thomas, y rhai oeddynt yn byw yn y fro.

Bellach, yr oedd y gwrandawyr yn lluosogi, ac aeth Eichard Bowen yn rhy ""yfyng i ^dal y gynulleidfa. Pan oedd yr anghyfleusdra hwn yn gwasgu arnynt, cafwyd cenad i bregethu mewn llofit a berchenogid gan uu Mr. Davies, Ynys-y-barnu. Mae y llofft hon yn awr yn nwydd-dŷ (wareliouse) o-an fasnachwr. Un tro, pan oedd Mr. 'William Llwyd o Gaio yn pregethu yno, a chynulleidfa fwy na chyffredin wedi ymwthio i mewn, ymollyngodd y trawstiau "•an bwys y bobl ; syrthiodd y Uofft, a disgynodd y bobl yu bendra- mwnwfl, a chyda dychryn a braw, i'r gwaelod. Ond er fod arswyd trwm wedi ei gynyrchu, diangodd pawb heb gael nemawr niwaid. Pe fu y ddam- wain hon, yn nghyda bod y gwrandawyr yn lluosogi, jti foddion i beri ymofyniad am le eangach a mwy cyfleus. Aed at IMr. Davies eilwaith am le a chymhorth i godi addoldŷ. Gyda hynawsedd a haelioni, teilwng o efelycb- iad, cydsyniodd yntau â'u cais ; ac nid yn uuig fe roes y tir, ond fe gododd yr addoldŷ hefyd, yn gwbl ar ei draul ei hun. Gorphenwyd hwn yn y fl. 1785. Yr oedd felly 45 o flynyddoedd a throsodd wedi treiglo ymaith cyn cael Ue sefydlog a pbarhaus i addoli ynddo, er pan yr ymwelodd Howel Harris gyntaf â'r dref.

Yr oedd gwedd lled siriol ar j-r achos yn y lle, er jt anfantais uchod. Y mae Ddewi, ymron o'r dechreuad, yn rhagori ar nemawr ardal arall yn y wlad am luosogrwydd y gwrandawyr. Lluosogodd y rhai hyn lawer wedi cael lle helaethach. a mwy cyfleus, Bu raid eangu ac ail-adeiladu hwn drachefn. Cvmerodd byn le yn y fl, 1S16, Aethai 70 o flynyddoedd heibìo ar Fethodist- iaeth vn Nhŷ Ddewi, heb fod un gweinyddiad o fedydd a swper yr Arglwydd yn eu plith, ac yn eu lle eu hunain ! Tfaith ag sydd joi ymddaugos ar yr olwg gj-ntaf arni, ymron yn anghredadwy. Eto fel hyny y bu ; oblegid yn y fl. 1811, ac nid cjti hjTiy, y caed y ragorfraint hon; ac ni chaed hi y pryd hwnw, wedi aros 70 mlynedd am dani,heb wrthwynebiad cryf, a chanlyniad-

au gofidus,

Yn y neillduad hwn, fe wnaeth sir Benfro ei rhan i'w ddwyn yn mlaen, ac ni bu Tỳ Ddewi yn ol i un man arall yn y sir, Cof gan y darllenydd yr hyn a grybwyllwyd am y gwasanaeth a roddodd Mr. Eees, Trepuet, i ddwyn hjTi yn mlaen ; g\vr ag sydd, bellach, wedi cyrhaedd oedran patriarchaidd, un ag y mae gwÄt gwŷn yn goron anrhydeddus iddo, gan mai yn ffordd cyf-

PEN. XI.] SIR BENPKO. 295

iawnder y rhodia efe, gŵr hefyd y buasai yn dda gan yr ysgrifenydd osod mwy o'i hanes ger bron y darllenydd ; ond hyny nis gellir ei wneyd, gan na chauiateir i ni draethu liawer am neb heb eu cyfrif yn gyntaf gyda'r meirw. Ond yr oedd gŵr arall, ieuangach nag ef o ran oedran, ond wedi blaenori arno yn ngorpheniad ei yrfa, am yr hwn y dylid crybwyll ychydig yn hel- aethach, sef Mr. George Williams. Nid ydym yn bwriadu ysgrifenu cofiant i'r gŵr da hwn ; ac afreidiol a fyddai hyny, gan fod hyny eisoes ar gael,* a thramor fyddai hyny hefyd i amcan y gwaith hwn ; ar yr un pryd, y mae yn briodol ac yn weddus i ni alw sylw ein darllenwyr at y dynion hyny a fuont 0 wasanaeth arbenig i I'ethodistiaeth, yn enwedig pan fyddo defn- yddiau o'r fath wrth law.

Yr oedd Mr. George Williams yn ŵr a gawsai lawer o fanteision dysgeid- iaeth yn mlodau ei oes, a hyny, mae'n debyg, am y bwriadai ei dad ei ddwyn ef i fyny i'r offeiriadaeth. Yr oedd y g\vr ieuanc ei hun hefyd â'i fryd ar yr un amcan. Yn yr adeg hon, tra yr oedd yn ymbarotoi i fod yn weinidog yn eglwys Loegr, yr oedd mor llawn o ragfarn a neb o'i gyfoedion tuag at ym- neiUduwyr yn gyíFredinol, a thuag at y Methodistiaid yn neillduol. Yr oedd ei ddygasedd tuag at yr enwad hwn yn fwy, am fod rhai o'i deulu wedi damwain iddynt, fel llawer eraill, i gael eu dal gan yr heresinewydd, dynesiad agos yr hon a ddeíFrodd ei ragfarn yntau yn fwy. Yr oedd ei fam eisoes ya aelod ; a phan oedd George tua 18 ml. oed, ymunodd brawd iddo â'r cyfundeb, yr hyn oedd yn ddolur Uygaid tra mawr i'r emhryo o offeiriad. Cymaint oedd ei elyniaeth y pryd hwn at y Methodistiaid, yn ol ei gyfaddefiad ei hun yn ol llaw, ag y buasai yn hoffi eu llethu oll o'r fro. Eto, darostyngwyd ei feddwl yntau, Daeth i hoffi y Methodistiaid gymaint ag y casasai hwynt o'r blaen. Daeth hyn o amgylch, yn gyntaf, trwy argraff y gair yn Preg. xi. 9, " Gwna yn llawen ŵr ieuanc yn dy ieuenctyd, a llawenyched dy galon yn nyddiau dy ieuenctyd, a rhodia yn ffyrdd dy galon, ac yn ngolwg dy lygaid : ond gwybydd y geilw Duw di i farn am hyn oll : " a thra yr oedd y pigiad hwn heb iachau, clybu fod adfywiad yn mhlith y Methodistiaid, a bod rhai yn eu mysg yn moliannu ac yn neidio, mewn rhyw gyfarfodydd o'r eiddynt. Penderfynodd y Uanc fyned i'r cwrdd canlynol, gyda dysgwyliad o gael testyn i wawdio y crefyddwyr ; ond pan aeth i'r lle, pwy oedd yno yn gweddio ond gŵr tra adnabyddus iddo, un a fuasai yu cyd-ddysgu gydag ef ; a pha beth a glywai yn cael ei adrodd gan y gweddiwr ond yr un adnod ag oedd eisoes wedi archolli gradd ar ei gydwybod. Aeth y geiriau yn ddyfnach fyth i'w galon, a dychwelai adref yn dra archolledig, ac wedi ei orlenwi gan gywilydd ac ofn.

Nid hir ar ol hyn, daeth dau ŵr o'r Gogledd i Ddewi i bregethu, sef R. Jones, Wern ;. a John Eoberts, Llanllyfni. Arweinid hwy i'r dref gan Mr. WiUiams, Llandygige, y gŵr a glywsai George yn gweddio yn y cwrdd, a disgynasant yn nhŷ ei rieni. Bu Mr. Williams yn daer ar i'r cyfaiU ieuanc

Gwel j " Drysorja " am y fl. 1839 ; tudal. 194,

290 UANESIAETH Y Slr.OEDÎ). [iJOSB. IV.

ddod i'r oedfn ; a thrwy gryn orchest y plygwyd i ddyfod. Cwblhaodd yr oedfa hon yr hyn a ddechreuasid o'r blaen. Bwriodd George ei arfau i lawr. Chwalwyd ei ragfarn yn Uwyr, a sugnwyd ei galou i gymdeithas y bobl ddirmygedig. Gadawodd yr ysgol eglwysyddol yn fuan wedi hyn, ac yra- unodd â'r Methodistiaid.

Siomedigaeth fawr oedd hyn i'w dad, a gofid trwm a dynodd hyn arno yntau. Yr oedd ei gynlluniau bydol trwy hyn wedi eu llwyr ddadymchwel, ac nid oedd yr un drws eto yn agored o'i flaen. Meddyliodd unwaith fyned i India, feì ysgrifenydd i ŵr boneddig, a pharotôdd at y daith ; hyn hefyd a ddyrysodd, a hyny trwy foddion a ymddengys i rai, fe allai, yn ofcrgoeledd. Pan oedd yn barod i gychwyn, ac o fewn diwrnod ueu ddau i hwylio i fl^ordd, aeth i wrando Eobert Dafydd o sir Gaernarfon, yn pregethu, dan feddwl mai hon a fyddai y bregeth Gymraeg olaf, fe allai, a glywai byth. Y testyn oedd Euth iii. 18, " Yna y dywedodd hithau, Aros, fy merch, oni wypech pa fodd y dygwydda y peth hyn, &c." Teimlodd y gair fel cenadwri ato ef ei hun, a phenderfynodd ymbwyllo dros euyd, fel y gwybyddai gyda mwy o sicrwydd pa beth ydoedd ewyllys yr Arglwydd tuag ato.

Yn mhen rhy w gymaint o amser, ac ar annogaeth y Parch. Ebenezer Morris, aeth i Gastell-newydd-yn-Emlyn i gadw ysgol. Wedi ennill iddo ei hunan gymeriad anrhydeddus yn y lle hwn, bu gorfod iddo roddi yr ysgol heibio o herwydd afiechyd. Oddiyno symudodd i Gaerfyrddin, a mawr y Ues a gafodd yno oddiwrth gymdeithasu â'r Parch. David Charles, yii ystod y flwyddyn y bu efe yn aros yn y dref. Pan oedd yn 26 ml. oed, bu farw ei fam, a dy- chwelodd yntau yn y flwyddyn ganlynol i'w ddinas enedigol i arolygu y siop ag oedd gan ei dad. Yma yr arosodd o hyny allan. Gwenodd rhagluniaeth ar ei lafur a'i ddiwydrwydd, a pharhaodd ymgeledd yr efengyl i gadw ei ys- bryd. Yn y fl. 1810, priododd ; yr oedd hyn yn mhen tair blynedd ar ol ei ddewis yn ddiacon yn yr eglwys. Gwasauaethodd y swydd hon am 31 o flynyddoedd, gyda Uawer o ff"yddlondeb a diwydrwydd. Ee fu ei dros amser maith yn llety cysurus i bregethwyr a Gogledd ; llawer calon a ddyddanwyd ganddo ef a'i briod, trwy y sirioldeb a ddangosid i ddyeithriaid, a'r ymgeledd a weinyddid iddynt ar eu teithiau. Gwnaeth eu croesawiad serchog argraff na ddilewyd mo hono ar feddwl ysgrifenydd y Uinellau hyn, pan yr ymwelodd y tro cyntaf â dinas Dewi Sant, yn y fl. 1822. Ac nid aethum byth yno ar ol ei golli, na theimlais hiraeth am Mr. George Williams. Ond y raae yntau wedi ei gyfrif gyda'r meirw er y fl. 1838 ; ond ei goff"adwr- iaeth sydd fendigedig, a'i blant ydynt yn awr yn fauerau ar dir Immanuel, gan wirio yr ymadrodd, " Plant dy weision a barhânt, a'u hâd a sicrheir ger dy fron di."

Yn y lle hwn y cododd y Parch. Dauiel Evans, yn awr o Woodstock; ac yma, bellach, er ys blynyddau, y preswylia y Parch. WiUiam Morris, gynt o Gilgeran. Mae yma gynuUeidfa luosog o wrandawyr, yr eglwys yn flodeuog ei gwedd, yr ysgol Sabbothol yn uchel ei bri, a'r achos ar y cyfan dan goron 0 amddiS"yniad a nodded " Preswylydd y berth."

PICN. XI.] SIR BENFRO. 297

CAKFAKCHELL.

Mae y lle hwii ynghylch tair neu bedair milldir i'r gogledd-ddwyrain o Ddewi. Ymddengys fod Methodistiaeth wedi ymsefydlu yma er yn foreu. Yr ydym yn casglu hyny oddiwrth y ffaith fod capel wedi ei godi yma mor gynar a'r fl. 1763 ; adeg pryd nad oedd ond nifer fechan iawn o gapelau wedi eu hadeiladu gan y Methodistiaid yn holl Gymru. Dywedir hefyd fod y addoliad hwn wedi ei godi dan amgylchiadau tra hynod, " mor hynod," meddir, " ag a fu mewn uu lle arall yn y dywysogaeth." Cyffrodd gwrthwyn- ebiad cryf a haerllug yn erbyn y bwriad yn y fan y deallwyd fod y crefydd- wyr ar fedr adeiladu cwrdd, Yr oedd yr esgus a roddid o blaid y gwrthwynebiad yn argoeli fod y gwrandawyr yn y lle yn lled luosog, a bod cryn sugn yn y weinidogaeth. Yr esgus yn erbyn codi yr addoldy oedd, "y gwneid y tir yn y fro yn sathrfa i'r lluaws pobl a gyniweirient i'r lle." Nid anhawdd canfod gwendid yr esgus hwn, eto, bernid y pryd hwnw ei fod yn llawn ddigon i wi-thwynebu amcan y crefyddwyr. Ac nid rhith o wrth- wynebiad a wnaed iddo, ^ mai rliitli o esgus a roddid yn ei erbyn. Yr oedd boneddwr yn byw yn y gymydogaeth, yr hwn a berchenogai ryw gymaint o dir gerllaw : ymunodd hwn yn egniol gyda'r gwrthwynebwyr eraiU, a phender- fynasant oll yn unfryd, ac â'u holl egni, i wrthsefyll yr amcan. I'r dyben hwn, cymerasant y gyfraith yn eu dwylaw eu hunain, gan gymeryd gafael trwy drais yn y ceffylau a'r certi a ddygent ddefnyddiau i'r lle, ie, hyd yn nod y rhawiau a'r ceibiau, neu rhyw gelfi eraill, a ddefnyddid gan y gweith- wyr. Ond er hyn oll, yr oedd y cymydogion wedi gosod eu bryd ar gael yr adeilad i fyny ; a gwiriwyd yr hen air, * Trech gwlad nag arglwydd : ' oblegid po fwyaf 0 wrthwynebiad a ddangosai un blaid yn erbyn, mwyaf oU a íyddai penderfyniad y blaid arall o ochr yr amcan. Yr oedd ysbryd gwrando, ar y pryd, wedi meddiannu yr ardalwyr i raddau helaeth, ac arwydt'iou lawer wedi eu cael fod y weinidogaeth dan arddeliad neillduol. Felly yr oedd digon wrth gefn i gyflenwi pob gwall, gan fod yr efengyl wedi ennill lle mawr yn serchiadau y bobl. Pa faint bynag a gaethiwai yr uchelwyr ar y certi, vr anifeiliaid, a'r celfi gweithio, fe geid rhai eraill yn eu Ue ; a chyda brys ac awyddfryd mawr y cariai y trigolion yr adeilad yn ralaen. Yr oedd yr adeilad yn agos i 15 llath o hyd, a thros 5 llath o led, adeilad a gyfrifid yn eang y pryd hwnw ; a chodwyd hon i fyny, meddir, mewn tri diwrnod ar ddeg, o'r amser y gosodwyd y gareg sylfaen hyd yr amser y rhoddwyd arno ! Prawf teg fod " yn y bobl galon i weithio."

Wedi methu o berchenogion y tiroedd lesteirio codi y capel trwy drais, ymosodasant ar ei ddifuddio ixvi-^ gyfraith. Codwyd yr achos i'r llys gwladol ; ni ddywedir dan ba esgus ; oddieithr mai yr un ydoedd a hòuid o'r dechreuad, sef y cam a wneid â'r tiroedd o amgylch. Ond trwy ryw fusgrellni neu gilydd, gan faint oedd y brys a'r ffwdan i ddwyn yr achwyniad yn mlaen, fe gaed rhyw wall yn yr erlyniad, a thaflwyd yr achos allan o'r llys. Wedi eu

298 HANESIAETH Y SIEOEDD, [dOSB. IV.

gorchfygu yn y modd yma, ar bob tir, nid oedd ysbryd yn y gwrthwynebwyr í wrtlisefyll dim yn hwy.

Wedi cael lle cyfleus a sefydlog i addoli, aeth yr achos yn ei flaen drachefn yn Uwyddiannus. Coronwyd y weinidogaeth yn y lle hwn ag arddeliad anarferol, dros lawer o dymhorau, a thros faith flynyddau. ISÍid peth anghyfl'redin, meddir, oedd gweled cannoedd o wrandawyr yn y cwrdd hwn ar unwaith, â'u gruddiau oll yn wlybion gan ddagrau. Yr un pregeth- wyr, gan mwyaf, a wasanaethent y Ue hwn a Thŷ Ddewi. Yr oedd John HaiTÌs 0 Dreamlod (neu Diramlad), yn ymweled â'r lle yn rheolaidd yn ei dro dros lawer o flynyddoedd, ar y Sabbothau ; fe ddeuai hefyd yn fisol yma i bregethu yn yr wythnos, ac i gadw cwrdd eglwysig, a pharhaodd at hyn vma hyd ddiwedd ei oes.

Yn agos i'r Ile hwn yr oedd Mr. Sampson Thomas yn byw. Yr oedd y lle yn mwynhau graddau helaeth o'i ddoniau a'i lafur gweinidogaethol yntau. Yr oedd Mr. Henry Richard o Drefiu, tad y diweddar Mr. Eichards, Tregaron, a'r presenol Mr. Richards, Abergwaun, yn arfer ymweled yn fynych â Chyf- archell, hablaw y brodyr ífyddlawn a fu yn cydoesi ac yn goroesi y brodyr a enwyd. Dywediad cyff'rediu y llefarwyr oedd, eu bod yn mwynhau mesur helaethach o gymhorth i draddodi eu gweinidogaeth yn Ngharfarchell, nag yn un man arall yn y wlad.

Ychydig 0 hanes Mr. Sampson Thomas sydd ar gael, er ymofyn Ilawer. Y mae y to adnabyddus o hono, bellach, wedi gada.el ein daear ni, a chan nad ysgrifenwyd dim o'i hanes yn yr adeg briodol, nid oes obaith, mwyach, am wneyd y gwall i fyny. Ymddengys, pa fodd bynag, mai ganedig ydoedd o Drelech, yn sir Gaerfyrddin. Ganwyd ef tua'r fl. 1739. Nid oes wybodaeth am ei rieni, pa un ai crefyddol ai peidio oeddynt. Gan fod hen cglwys gan yr Annibynwyr yn ei le genedigol, bernir mai yno y byddai ei rieni yn arfer addoli ; a chan fod mwy o naws ymueillduwr ynddo yntau nag oedd yn gyff- redin yn yr hen Eethodistiaid, bernir mai trwy rhyw gysylltiad â chynull- eidfa Tielech y cynyrchwyd hyny.

Yr oedd yh ieuenctyd yn llanc lled wyllt, ac yn dueddol i yfed llawer, ac efe hefyd oedd pen ymladdwr y fro ; a chan gyfateb i'w enw Sampson, yr oedd yn g^ŵedin yn arfer bod yn drechaf. Ond ni chafodd ei rwysg i aros yn y gwasanaeth caled hwn yn hir, eithr fe'i galwyd pan oedd tuag 21ain ml. oed, i wasanaeth meistr gwell, ac at waith anrhydeddusach. Nid yw ein hanes yn ein hysbysu pa fodd y dychwelwyd ef at grefydd, na pha bryd y dechreuodd bregethu. Daeth i sir Benfro yn y fl. 1773, pan oedd yn Sdi ml. oed, trwy briodi gwraig weddw, yr hon oedd yu byw mewn Ile a elwir Trecadwgan, yn aigos i Solfach. Fe fu yn Ilafurio yn y sir hon yn benaf, o hyny allan, sef am ysbaid o flynyddoedd ; byd nes y goddiwedd- wyd ef gan angau yn y fl. 1807, pan oedd yn 68 ml. oed. Mae yu nodedig ddarfod iddo ef a'i Avraig farw yr un amser, a chael eu claddu yr uu diwrnod, ac yn yr un bedd, yn mynwent Tregroes.

Yr oedd Sampson Thomas yn cael ei gyfrif yn ŵr cadarn yn yr ysgrythyrau.

PEN. XI.] SIR BENFUO, 299

Arferai rhai o'r lien bobl ddyweyd ei fod yn un rhagorol iawn yn y cyfarfod- ydd eglwysig. Arferai ddyfod i Abergwaun bob mis ; gelwid y Sabboth hwnw, mewn canlyniad, yn Sabboth Mr. Thomas.

SOLFACH.

Lle ydyw hwn gerllaw y môr, tua phedair milldir i'r dwyrain o Ddewi. Er nad yw yr achos yn y lle hwn ond bychan, eto fe ymddengys fod yma bregethu wedi bod agos mor foreu a Charfarchell. Nid adeüadwyd yma yr un addoldỳ hyd y fl. 1815. Ehaid, ynte, fod'pregethu wedi cael ei ddal i fyny mewn tai anedd, neu ystordai, am fìynyddau lawer, nid llai, tybygid, na 60 mlynedd, a mwy, cyn codi y capel. Yr oedd gan y Methodistiaid achos bychan yn y lle hwn flynyddau lawer cyn bod yma yr un enwad arall ; a bu eu gweinidogaeth hwy yn ddiamheuol yn foddion arbenig i hau y maes hwn, er, fel y gwelir heddyw, mai enwadau eraiU a ddaeth i mewn i'w llafur, ac i fedi y fl'rwyth. Ac er fod yma gymdeithas eglwysig wedi ymgorffori, bellach, er ys 40 mlynedd, eto nid yw ond bechan ac eiddil.

RH.YD-Y-GELE.

Mae y Ue hwn ychydig o filldiroedd o Solfach. Mae hon fel Solfach yu hen orsaf Methodistiaeth ; ac fel y lle hwnw, yn aros hyd heddj-w, yn eiddil a nychlyd. Ehandir yr hen ymneiUduwyr, tybygid, yw hon, a hwy sydd yn meddiannu yr ardal, bellach, er ys oesoedd. Yr unig beth nodedig am y lle hwn mewn cysylltiad â Methodistiaeth, ydy w ei fod yn drigle hen gynghorwr, hynod yn ei oes, o'r enw William Edward. Y'r oedd hwn yn un o ddychwel- edigion Howel Harris, a'r unig un o'r cynghorwyr anghyhoedd y tymhor boreuol hwnw, y mae genym ddim adgofion am danynt. Am hwn y bernir fod " Cofnodau Trefecca " yn son,* am yr hwn y cytunwyd ar iddo ymweled â'r eglwysi yn Nhŷ Ddewi, Penrhos, a Mounton, yn wythnosol, ar brawf, hyd y gymdeithasfa ddyfodol. Yr oedd y dysgybl hwn yn ddyn hynod. Yr oe'dd tân lawer yn ei gyfansoddiad. Nid oedd nemawr lywodraeth wedi bod arno, ond y graddau a roes ofn Duw arno, na dim coethi wedi bod arno erioed gan ddysgeidiaeth. Trwsgl iawn a difedr oedd fel cynghorwr. Nid oedd o-wedd pregeth ar ei gyfarchiadau ; " llef un yn Uefain " ydoedd mewn gwiriouedd ; cymhwysach i bregethu mewn diffaetlLWcU o lawer, nag i sangu " tai brenin- oedd." Yr oedd yn byw yn nghanol hen anghydfí'm-fwyr; nid oedd yn y fro nemawr o grefyddwyr ond y cyfryw ; ac er nad oedd WiUiam Edward ddim vn proâ"esu ei hun yn ymneiUduwr, ond yn ddysgybl Howel Harris, fe ganiateid iddo eistedd yn eu mysg, îe, rhoddid Ue iddo yn mhliíh eu swyddogion ; ac, mewn gair, derbyniai gryn fesur o diriondeb oddiar eu dwylaw, Yntau, yr ochr araU, a ymwasgai atynt hwy4;hau, gan eu bod a mwy o arwyddion gras arnynt

Gwel tudal. 284, Cyf. II.

300 HANËSIAETH Y SlliOEDD. [UOSB. IV.

na neb arall yn y fro. Edrychent hwy arno ef yn rhy danbaid a dii'eol gyda'i ddefodau crefyddol, ac edrychai yntau arnynt hwythau yn rhy farwaidd a gorfanylaidd. Ehoddent hwy rai cyfarwyddiadau iddo ef, weithiau, yn tu- eddu i'w drefnuso a'i harddu (ac yr oedd digon o achos) ; yntau a'u hysgytiai hwythau yn ol am eu claearineb a'u cwsg ; ao nid afreidiol oedd hyny, tybyg- id, chwaith. Unwaith, pan oedd ei gefnderi hyn yn ei gynghori i fod yn fwy trwsiadus a rheolaidd wrth bregethu, yn lle derbyn eu cynghorion yn ddystaw a diolchgar, efe a ddechreuodd ddesgrifio y gwahaniaeth oedd rhyngddo ef â hwy, drwy ddau ddull o osod allan ar dâu, ynghanol nos, a'r teulu yn cysgu.

" Dyma," meddai, " eich dull chwi yn pregethu. Wrth deithio yn y nos," meddwch, "yn laf, ,Mi ganfum dân. Yn 2il, Mi welais fwg. Yn Sydd, Mi ddeallais fod y ar dân. Yn 4ydd, Mi wybum fod y teulu yn cysgu. Yn 5ed, Mi a ddaethum i'ch deffro, a'ch galw allan, rhag eich llosgi."

" Dyna," meddai William, " ydyw eich dull chwi. Fy nuU inau, wedi deall fod y ar dâh, a'r teulu yn cysgu, ydyw gwaeddi heb na chyntaí nac ail, ' Iwb ! Iwb ! Hawyr ! Hawyr ! Deffrowch ! Deffrowch ! deuwch aUau ar frys ; mae y ar dân ; onide fe'ch Ilosgir yn lludw ! ' "

Gan anamled oedd pregethu yn y dyddiau hyny gan y diwygwyr Method- istaidd, fe fyddai William yn aml yn gwrando ar yr ymneillduwyr hyn. Ac yn mlilith yr henuriaid a'r diaconiaid y byddai yn eistedd. Dygwyddai am- bell dro i'r llefarwr daro wrth fater a fyddai yn cyffwrdd â'i deimladau ; pryd hyn, fe neidiai WiIIiam ar ei draed, ac a waeddai nerth ei geg, " Gogonìant ! yn mhlith y ceffylau mudion hyn ! " Yr oedd hyn iddynt oll fel ysgytiad trydaniaeth (electricity). Os marwaidd fyddent o'r blaen, bellach, byddent yn eithaf effro.

Saer oedd WiIIiam Edward wrth ei grefft, Wrth ddylyn ei alwedigaeth, arweiniwyd ef unwaith i blith y Saeson sydd yn preswylio rhan o'r wlad, i weithio, a hyny mewn plasdŷ, Ile yr oedd teulu lled foneddigaidd, a Ile yr oedd cryn nifer o weithwyr a gwasanaethyddion. Wedi bod yn eu plith di'os ryw ysbaid, cododd sibrwd yn eu mysg fod y saer yn bregethwr, a chryfha- odd y syniad mai gwir oedd hyn. Daeth y chwedl i glustiau y wraig fon- eddig, a hi a'i galwodd ef ati, a gofynodd iddo, " Ai pregethwr oedd ? " Atebodd yntau, " Y byddai yu arfer rhoddi gair o gynghor weithiau i'w gymydogion, pan y byddai cyfleusdra yn caniatâu." Ar hyn, y foneddiges a ddywedodd, " Fod yn rhaid iddo bregethu iddi hi a'i tbeulu y Sul canlynol." Y Sul a ddaeth, a'r teulu mawr a alwyd at eu gilydd, a'r m'aig foneddig yn eu plith. Gosodw}-d y pregethwr i sefyll ar ystôl, modd y byddai ychydig yn uwch na'i wrandawyr. Wedi i'r gynulleidfa ymlonyddu, ac ymbarotoi i wrando, safodd William i fyny, a thynodd hen lyfryn o'i logell, ac wedi ei agor a ddarllenodd yn destyn, yn Saesoneg, " ' Pwy bynag a ỳr allan ei was neu eiforwyn i godi tatws^ neu i dori cawl, ar foreii Sabboth, a ddemnir dros bji^h.' Dyma fy nhestyn, madam, mi af yn mlaen, bellach, gyda'ch cenad." " Nac ewch, yr adyn," ebe y foneddiges, dewch i lawryn y fan ! dim ychwan-

PE.N. XI.] Sl!l BEKFaO. 301

eg o'r fath glebar 1 " I lawr y gorfu i William ddyfod, a darfu yr oedfa gydag iddo gymeryd y testyn 1

Gwelir wrth yr hanesyn uchod pa fath un oedd y cynghorwr hwn. Yr oedd tân lawer yn ei gyfansoddiad, ac nid yn wastad y llywodraethid ei natur a'i dymher gan ddoethineb a barn, Yr oedd ymwylltio tan ruthr profedigaeth yn fagl barhaus iddo, ac yn ei ddwyn weithiau i ddyryswch a blinder. Un tro, yr oedd ef a chymydog iddo, o'r enw Thomas Hooper, yn gweithio gyda'u gilydd ; a thrwy ryw anffawd, cyfododd dadl rhyngddynt ; a bu yr ymryson mor boeth, nes darfu i William Edward yn ei anwydau, roi gwtliiad i'w gymydog, a pheri iddo syrthio ar ei ben yn erbyn careg, neu arf, a chael archoll trwm ar ei dalcen. Prin yr tfedd y fl'rwgwd yma drosodd, uad oedd y newydd trwm wedi cyniwair drwy y fro, fod William Edward, pre- gethwr, Hhyd-y-gele, wedi taro ymenydd Tom Hooper allan â'i gaib. Yr oedd yr ychydig gyfeillion oedd ganddo yu yr ardal, erbyn hyn, ymron mewn llewyg, gan bryder a braw yn ei achos. Ni wyddent pa beth i feddwl, yr oedd yr achos yn ymddangos yn rhy ysgeler iddynt ei drafod ymron. Eto caniatawyd iddo ddyfod i'r cwrdd eglwysig, er mwyn cael cyfle i'w ddiarddel yn rheolaidd o'u mysg. Gofynwyd iddo, pa amddifiyniad oedd ganddo iddo ei hun ? Yr unig beth a geid ganddo oedd, na tharawodd efe mo Tom Hooper. Ond pa fodd y gellid ei gredu ? yr oedd yr archoll yn profi y gwrthwyneb, ac nid oedd i'w wneyd ond rhoddi y ddedfryd mewn grym, a'i fwrw ef allan yn ddioed. Ond cyn myned allau, gofynodd ganiatâd i gael myned i weddi cyn troi ei gefn. Caniatawyd hyn iddo. I weddi yr aeth, ac mewn agwedd ddrylliog iawn y cyfeiriai at yr amgylchiad galarus, gan apelio cyn dybenu at hollwybodaeth y Goruchaf yn yr achos, a dyweyd, " Er fod fy mrodyr yn gwrthod fy nghredu, Ti wyddost Ti, 0 ! Arglwydd mawr, na tharewais i mo Tom Hooper yn ei dalcen â'r gaib," ac wedi ychydig o eiriau yn ychwaneg, fe derfynodd ei weddi. Gorchfygwyd ei frodyr trwy hyn, a chytunasaut oU i beidio ei fwrw ef allan. Felly hefyd y bu, a'r hyn sydd yn hyuod am dano, yn y canlyniad, ei fod wedi cael Ilwyr oruchafiaeth ar ei anwydau o hyny allan, a bu ei arafwch a'i larieidd-dra, beUach, yn hysbys i bawb a'i hadwaenai, hyd ddydd ei farwolaeth.

Parod ydyw y darllenydd, yn ddiau, i synu at gymeriad yr hen gynghorwr. Ond rhag ei gondemnio yu ormod, cofied yi' amser yr oedd yn byw ynddo; yr an- fanteision y cafodd ei fagu danynt ; leied o ymgeledd ac addysg a aUai neb o'i gydgrefyddwyr tlodion yn yr ardal roddi iddo; a chofied gyda phob peth fod cy- wirdeb a gonestrwydd yn coroni ei enw da, ac iddo gael ei ddysgu, cyu diwedd ei oes, i roi heibio *' y pechod oedd barotaf i'w amgylchu," ac enniU iddo ei hun gymeriad anrhydeddus, yn yr hyn y bu efe gynt yn fwyaf diflygiol ynddo.*

* Fe ganodd William Edward, unwaith, iddo ei hun, fel hyn :

Mae cannon mawr yn Rhyd-y-gele, Wedi ei loado hyd y genau, Y mae yn barod i fyn'd allan, 'N erbyn calon y d 1 ei hunan !

303 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

Pe fu gŵr arall yn byw, dros ryw dymhor, gerllaw y Ue hwn ; gyŷr gwa- hanol iawn i William Edward. Ei enw oedd John Williams ; gelwid ef yu aml, TYilliams y student, am ei fod unwaith yn mhlith efrydwyr Trefecca, yu athrofa larlles Huntingdon, a fu dros ysbaid yn y Ue hwnw. Yr oedd y gŵr hwn, gan hyny, yn meddu ar raddau o ddysgeidiaeth ; a dywedir ei fod yn ŵr cadarn yn egwyddorion sylfaenol y grefydd Gristionogol, er nad oedd yn cael ei gyfi'if mor hyawdl ei ymadrodd, a phoblogaidd ei ddoniau, ag ambell un. Bu yn Nhŷ Ddewi yn preswylio am ychydig o amser, ond yn Rbyd-y- gele y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes weinidogaethol ; ac yma hefyd y dybenodd ei yrfa. Fe fu ei lafur yn fuddiol a chymeradwy drwy y sir, ac yn neillduol yn y rhanau Seisnig o honi.

PENNOD XII. EGLWYSI BOREUAF Y SIR.

CTNWTSIAD :

W00DST0CK— YMA Y CODWYD Y CAPEL CYNTAF YN Y WLAD— HYNAFIAETH A HYNOD- RWYDD Y LLE— HOWEL DAYIES Yîí LLYS-Y-FRAN— JOHN HARRIS, TREAMLOD— CYDLAFURWYR JOHN HARRIS— LLEOEDD GWEINYDDIAD Y SACRAMENTAU YN Y SIR— JOHN HARRIS YN TENBY— NATHANIEL ROWLANDS— Y PARCH. EVAN HARRIS SIAMS THOMAS, EI WAS— CAS'GW^YS GOSEN— BRIMASTON HALL CAS'- MAEL— Y GWASTAD— MOUNTON— NARBERTH, NEU ARBERTH— BURNESS HILIr— BEGELEY.

WOODSTOCK.

Mae y lle hwn ja. enwog yn hanes Methodistiaeth sir Benfro. Yn yr ardal hon y mae eglwys Llys-y-frân, lle y bu y Parch. Howel Davies yn gweinidog- aethu gyntaf, Adeiladwyd yma gapel mor foreu a'r fl. 175-i adeg nad oedd gan y Methodistiaid ond nifer fechan iawn o dai addoliad yu holl Gymru. Yn y lle hwn y rhoddwyd cychwyniad i weinyddiad yr ordinhad o swper yr Arglwydd gyntaf mewn Ue anghysegredig, yn y wlad hon, ac fe allai mewn un wlad arall, yn mysg y Methodistiaid, yn Neheudir Cymru. Fe íu y Ile hwn, gan hyny, yn gyrchfa nodedig i Pethodistiaid y rhan ddeheuol o'r sii', dros lawer o flynyddau ; o'r lle hwn hefyd y mae amryw o eglwysi eraiU wedi hanu, fel y gwelir yn yr hanes a roddir isod.

Mae capel Woodstoct yn sefyll yu mhlwyf Treamlod, wrth gyfleusdra croesÔyrdd, lle y mae ychydig o dai anedd, ac a elwir Bwlch Woodstock. Yr oedd preswylwyr y fro hon, fel eraill o'u cyd-genedl, yn yr amser y cychwyn- odd Methodistiaeth, yn ddynion cwbl anwybodus am betliau crefydu ; ond yn rhagori Ilawer, meddant, ar breswylwyr Uawer man, am eu naws garedig a heddychlawn â'u gilydd ; ac felly y dyw^edir eu bod yn parhau hyd y dydd hwn. Ymddengys eu bod wedi ryw ymsefydlu mewn diofalwch heddychol, heb ofalu am ddim, ond am ddigon o arian, y bibell, a'r cwpan. Yr oeddynt, tybygid, i fesur " wedi derbyn eu gwobr," wedi cael yr hyn yr oeddynt yn

PEN. XII.] SIR BENFRO. 303

éi geisio, gan eu bod, ar y cyfan, yn meddiannu cryn raddau o bethau da y bywyd hwn. Yr oedd yr ardal hon hefyd yn gwahaniaethu oddiwrth lawer o ardaloedd eraill yn hyn, na fu yma yr un gradd o erlid ; ond dangosai y bobl, yn gyífredin, barodrwydd a sirioldeb i dderbyn yr efengyl o leiaf i'w bro.

Yr oedd y tyddyn y mae y capel yn sefyll arno yn cael ei ddal gan un Mx. Morgans, gŵr hynod am ei dduwioldeb, a'i haelioni at bob achos da. Cyn y íl. 1754, sef y ílwyddyn y codwyd yr addoldŷ, nid oedd capel gan un enwaçj 0 grefyddwyr yn yr hoU wlad o amgylch. Y llanau plwyfol hefyd oeddynt oll yn weigion. Boddlawn oedd yr oífeiriaid i bawb gael eu ffordd, am y caent hwy y degwm. Ond fe barodd dyfodiad Howel Davies i bregethu yn sefydlog i eglwys Llys-y-frân, gyífro yn mysg yr esgyrn sychion hyn ; by whawyd Uawer 0 bechaduriaid meirwon drwy ei weinidogaeth ef ac eraill o'r diwygwyr a ddeuent yn achlysurol i'r wlad, fel ag y cafwyd nifer o ddefnyddiau cymhwys i ymgorffori yn eglwys Gristionogol ; yr hon, fel y gwelwn, a ymsefydlodd yn raddol yn nghapel Woodstock. Yr oedd y Parch. Howel Davies yn pregethu ar agoriad y capel, yn nghydag eraill, y rhai y mae eu henwau mewn anghof. Yn mhen tua blwyddyn ar ol codi y capel, ymwelodd Whitfield â'r fro hon, a bu yn pregethu yn y capel newydd. Dan ofal Howel Davies, pa fodd bynag, y gosodwyd y ddeadell yn y Ue hwn.

Mae yn ymddangos hefyd oddiwrth Gofnodau Trefecca, fod amryw fân ddeadellau wedi eu crynhoi mewn ardaloedd heb fod yn mhell o'r fro hon, ddeng mlynedd a mwy cyn adeiladu capel Woodstock, gofal pa rai a roddwyd ar John Harris, Treamlod, ac at y rhai y cyfeiriwyd o'r blaen,* sef yn Llaw- haden, Jefiferson, Carew, Gelli-dawel, &c. Nid oes hanes am y deadellau hyn, wedi y fl. 1745, a Ile i amheu sydd, eu bod wedi eu goresgyn i raddau mawr â diflaniad, tua'r 1751, pryd y bu dymchwelfa arswydus ar Fetl^pdistiaeth y gwledydd oU, trwy yr ymraniad y soniasom o'r blaen am dano.f Mae yn ddigon tebygol fod yma, fel mewn manau eraill, ryw radd o fwlch yn Meth- odistiaeth y dosbarth, wedi dygwydd dros ryw ysbaid ; ac ar ol iddo ail gychwyn, ddarfod iddo ymsefydlu yn y capel newydd yn Woodstock.

Yn yr ardal hon y bu yr hybarch John Harris, a'i fab Evan Harris, yn byw. Dechreuodd John Harris ymwasgu at y Methodistiaid yn gynar, tua'r fl. 3 742, pan nad oedd ond 21 ml. oed. Fe fu y gŵr hwn farw tua'r fl, 1788, ac íelly yr oedd wedi bod yn Ilafurio yn y weinidogaeth am ysbaid 46 o flynyddoedd ; edrychid ar y gŵr hwn, i fesur mawr, yn dad Methodistiaeth sir Benfro. Fe deithiai drwy y sir unwaith yn y mis i bregethu yr efengyl, ac i blanu ac amaethu yr eglwysi. Ni chysgai, meddir, yn ei ei hun, ond un noswaith yn ystod y mis, am flynyddoedd, gan mor ddiwyd a chyson a fyddai yn Uafurio er adeiladaeth yr eglwysi. Gwnai hyn, hefyd, heb edrych am un wobr, ond oedd ynghadw iddo yn y uef. Cynorthwyid ef i gyflawni hyn oll, heb bwyso ar yr eglwysi gweiniaid, trwy fod ei wraig a'i fab, yr hwn a droediodd yn ei gamrau, yn cymeryd gofal y tyddyn a ddelid ganddo. Yr

* Gwel Cyf. I., tudal, 167, lle ceir adroddiad John Harris o'r lleoedd dan ei ofal vn y fl. 1743. t Cyf. L. tudal. 386.

304 HANESIAETH Y SIUOEDI). [dOSB. IV,

oedd John Harris yn #r o gyneddfau cryfion ; a'i arafwch a'i bwyll yn hysbys i bawb. Yr oedd uniondeb ei farn ar bethau, yn nghyda dwysder ei gymer- iad fel Cristion, yn naturiol yu ennill iddo le a dylanwad mawr yn mysg ei frodyr.

Yr oedd yn cydlafurio gyda John Harris, ac yn gydoeswyr iddo, John Gibbon o'r Gelli, Benjamin Thomas, a William Gambold. Yr oedd yr olaf hwn \'n frawd i esgob Morafaidd o'r enw Gambold. Fe fu William Gambold gj'da John Harris rai gweithiau trwy y Gogledd ar gyhoeddiad ; ac unwaith yn neillduol, fe ddywedir iddynt fod mewn perygi am eu bywyd wrth ryw bont, lle cyfarfu â liwyut lu o ddyhiriaid ar fedr eu baeddu, os nid eu Uadd. Nid yw fy hanesydd yn nodi y lle na'r amser y bu hyn ; er hyuy, uid oes dim anhygoel yn y chwedl, gan mai mewn amser pell yn ol, 80 ml. neu fwy, y bu hyn ; adeg y gwyddom oedd yn nodedig am ragfarn a chreuloudeb y werin tuag at grefyddwyr.

Yr oedd Mr. Hill o Lundain yn gydnabyddus iawn â John Harris, ac yn mynwesu meddwl uchel iawn am dano. Yr oedd unwaith yn pregethu yn y y buasai John Harris fyw ynddo, a hyny pau oedd ei fab, y Parch. Evan Harris, yno. Yr oedd gweddw yr hen bregethwr eto yn fy w, wrth yr hon y dywedai Mr. HiU, wrth ganu yn iach iddi, " Os ewch chwi i'r nefoedd o'm blaen i, cofiwch fi at John Harris, a dywedwch wrtho, fy mod inau hefyd yn dyfod." Dro arall, pan aeth y Parch- T. Harris, gynt o Hwlflbrdd, ac ŵyr i John Harris, i gyfarch gwell i ]\Ir. Hill yn Llundain, gofynai yr hen ŵr boneddig iddo, " Pwy ydych chwi?

" Yr wyf yn ẃyr i'r diweddar John Harris o Dreamlod {Amhleston).'" Ar hyn, ebe fe, heb wneyd un sylw pellach, " Os oes un dyn o'n byd Ilygredig ni yn y nef, y mae yr hen John Harris yn sicr o fod." Meddai gohebydd arall am dano, " Yr oedd John Harris yu ŵr nodedig o dduwiol a Uafurus gydag achos ei feistr. Anaml yr âi noswaith heibio na fyddai yn rhyw fan neu güydd yn y gymydogaeth, yn rhybuddio ei gyd-bechaduriaid i ffoi rhag y llid a fydd ; ac hyd yn nod ar y ffordd fawr, dywedai air wrth hen ac ieuainc, am eu cyflwr tragywyddol ; a hynod fel y perchid ac y cerid ef."

Gosodir i lawr yma bigion o Iythyr a ysgrifenwyd gan John Harris at Howel Harris, o St. Kenox, dyddiedig Mai y 12fed, 1745. Gwelir yn y llythyr hwn pa fath oedd y pregethwr, o ran gwroldeb meddwl, a pha fath ydoedd yr anhawsderau a'i cyíarfyddai, yn awr ac eilwaith, yn ei lafur fel efengylwr. Fel hyn y dywed :

" Mae hiraeth aniaf am eich gweled, er mw\Ti rhoddi i chwi fyr-hanes am

Iwyddiant yr efengyl yn y sir, y newyddion mw^'af derbyniol, tjdjygaf, gan yr anwyl frawd Harì-is o bob newyddion ; ac yn wir, yr wyf íinau fy hun yu llawn calon gyda'r gwaith : bendigcdig fyd'do Duw ! Mae teyrnas ein Harglwydd wedi dyfod, a dydd dial ein Duw yn erbyn pechod. Y mae yr Arglwydd yn lielaethu lle ei babell fwyfwy; nid oes, bellach, yr un rhan o'n sir na fum i yn cynghori ynddi, ond tref Penfro, a bwrdeisdref Tenby, yr hon sydd boithladd tua phump neu chwech milldir o Benfro. Mi fum yn llefaru nos Wener diweddaf, o fewn dwy filldir i'r llc, ac uid oedd genyf ond un brawd crefyddol yn byw yn Tenby ; mjTiych y ceisiasai \wTn genyf ddjfod i bregethu i'r dref; ac yn awi' aufouais ato i ddjT^eyd y deuwn i'w i letya; ac o-s

PEN. III.] SIR BENFRO. 305

gwelai ef yn oreu y gallai wahodd rhyw nifer o wŷr a gwragedd, adnabyddus iddo ef, fel rhai yn chwennychu gwrando, i fy nghyfarfod, a minau a esboniwn ychydig o adnodau yn yr ystafell gefn. Felly hefyd y g^rnaeth y gŵr.

Ond pan oeddwn ar ganol y gwasanaeth, daeth y ceisbwl (constaUe) i mewn, gan ddyweyd, ' Syr, rhaid i chwi dewi : gorchymynir i mi gan y maer i'ch dwyn chwi }ti ddioed o'i flaen ef.' Minau a ddywecTais, ' Mi a gydsj-niaf â'i gais, ond gan fy mod ar wasanaeth meistr arall yn awr, yr vryi yn erchi cauiatâd i draddodi fy neges.'

Gyda hyn efe a adawodd yr ystafell. Cyn i mi orphen, daetli y curad i mewn, a chydag ef yr oedd y ceisbyliaid a phedwar neubump o wŷr boneddig. Y curad a fynai i'r swyddog fy llusgo i lawr. Ond i hyn y swyddog a atebai, ' Gresyn fyddai hyny, cyn iddo orphen, oblegyd y mae yn llefaru yn felus.'

' I lawr ag ef,' ebe y curad, ' onide mi ro'f gyfi-aith arnat ti am esgeuluso dy ddyledswydd.'

Er fod y dynion (y ceisbyliaid) yn hanner meddw, eto cefais ganiatád i orphen yr oedfa ; ac yn wir, yr oedd yn hyfryd ar fy ysbryd i, ac ar fy ngwrandawyr hawddgar. Eu nifer oedd tua 40.

Miaddisgynais oddiar y lle y safaswn ; a thra yr oeddjmt yn ymesgusodi oreu y gallent wrth ŵr y tŷ, yr oedd eu gwedd yn Ilwyd i ryfeddu.

'Ni a ddaethom,' ebe hwy wrth ŵr y tŷ, ' i weled y darluniau (pictures) gwych sydd genych, Mr. Thomas.'

Minau a atebais, ' Tybygwyf, foneddigion, mai fi yw y darlun y daethoch chwi i'w weled.' Ar hyn y swyddog a roes ei law ar fy ysgwydd, gan ddyweyd, ' Yr ydych yn garcharor, syr, a rhaid i chwi ddyfod o flaen y maer.'

' Yr wyf ti yn barod i ddyfod gyda chwi,' ebe finau. Pan ddaethum i'r heol, a hyny rhwng 9 a 10 o'r gloch y nos, yr oedd, yr wyf yn credu, o leiaf fil o bobl, yn wýr a gwragedd, gyda'u llusernau a'u canwyllau, yu fy nysgwyl, ac yn Uefain yn echrys, ' Ymaith ag ef ! ymaith ag ef ! '

At y maer y daethom. Hwn, heb edrych yn fy wyneb, a ofynodd i mi am fy license, Atebais nad oedd genyf yr nn. Gofynodd,

' Pa fodd y meiddiwch ddyfod i'n tref ni i bregethu ? '

I hyn atebais : ' Ni chyhoeddwyd fi i bregethu yma ; ond mi a ddaethum yma i letya, ac wedi i'r bobl wybod fy nyfodiad, hwy a ddaethant i mewn yma, a minau a esboniais iddynt ychydig adnodau, a ni a ganasom benniU neu ddau, ac a weddiasom.'

' Rhaid i chwi,' ebe y maer, ' roddi meichiafon am eich ymddangosiad yma yn y chwarter sessiwn nesaf.' Gofynais inau,

' Da fyddai genyf wybod, syr, beth sydd genych i'w roddi yn fy erbyn.'

Eich gwaith yn pregethu yma,' oedd yr ateb.

'Os hyny yw y trosedd, chwi gewch, syr, y meichiafon yn bur ewyllysgar ; am ba swm y gofynir hwynt ? '

' Am ddau cant o bunnaii,' oedd yr ateb. Yr oedd yno ddau o frodyr yn barod i ymrwymo ; ond fe ofynodd rhyw rai oedd yn sefyll gerllaw i mi, ' A roddwch chwi eich gair, na ddeuwch chwi yma i bregethu mwy, os cewch eich gollwng yn rhydd yn awr? '

' Hyny,' ebe finau, ' ni allaf ei wneyd ; ac er na ddaethum i yma y tro hwn i breg- ethu, eto nid oes slcrwydd genyf na fydd raid i mi bregethu yma cyn nos y fory : oblegid nid oes geuyf awdui-dod arnaf fy hun.'

' Gan bwy, atolwg, y mae awdurdod arnoch ? ' ebe gwraig y maer.

' Dan awdurdod fy meistr yr wyf.'

' Pwy y w eich meistr, ai y diafol ? '

' Nage, fy meistr i sydd feistr ar y diafol hefyd, ac arnoch chwithau yn gystal.'

' Hist,' ebe y maer wrth y wraig, ' tewch a son.' Gyda hyn galwyd arnaf i law- arwyddo yr ymrwymiad, a gollyngwyd fi yn rhydd."

Nid yw y llythyr yn hysbysu dim mwy am yr amgylcliiad, ac nid ydyra yn cael un hysbysiad mewn un hanes arall, pa fodd y dybenodd hyn o benbleth : hyn a chwanegir gan John Harris ei hun, fod y terfysgwyr yn dorf fawr mewn gwedd ffyrnig yn sefyll oddiallau i y maer, yn dysgwyl am dano, a hawdd ydyw dyfahi, gan yr esiampl a roddid i'r werin gan eu huwchafiaid, a chan y wedd oedd ar y bobl pan aethai y pregethwr i mewn, pa fath driniaeth oedd yn ei aros ar ei ddyfodiad allan. Ond Duw a ddarparodd amddiffynwr iddo

w

306 HANESIAETH Y SIROEDD. [d033. IV.

mewíi modd annysgwyliadwy. Yr oedd yn y lle ynad heddwch, yr hwn a deimlai ei hun dan rwymau i ryw frawd crefyddol adnabyddus i John Harris ; hwn, o wir garedigrwydd at ei gymwynaswr, a roes ei aden drosto y nos- waith hòno, gan ei amddiíFyn rhag y terfysgwyr, ac a'i lletyodd ef fel "mab brenin." Yntau, dranoeth, a ddychwelodd i'w dŷ, " a'r dagrau," meddai ef ei hun, " yn rhedeg dros fy ngruddiau, o wir dosturi at drigolion tlodion Tenby."

Llawer o hanesion cyíFelyb i'r un uchod, yn ddiau, a allesid eu cofrestru yn mywyd John Harris, ac eraill o'i gydlafurwyr, yn amser boreuaf y diwygiad, ond nid oeddneb yn meddwl y pryd hwnw am eu hysgrifenu "i'r oes a ddel;" eto y mae ambell amgylchiad fel yr un uchod wedi dianc, megys yn ddifwriad ac aeldysurol, i roddi i ni drem i mewn i helyntion boreuaf ein tadau. Dy- ddorol a buddiol, yn ddiau, a fuasai pe cawsem fwy.

Dywedasom o'r blaen fod John Harris yn ddiflino yn cyfarch ei gydwladwyr yn mhob man y byddai, pa un bynag ai hen ai ieuainc, tlawd neu gyfoethog, gan ddyweyd rhyw air wrthynt yn nghylch eu hachos pwysig gyda Duw Yr oedd unwaith yn lletya mewn íFermdŷ dros nos, pryd y cymerai achlysur i sibrwd gair wrth y gweinidogion yn nghylch crefydd. Boreu dranoeth, galwai y feistres ar y llances o forwyn, gan ddyweyd, " Dos â botasau y gŵr dyeithr iddo, Siâni fach."

" Nac âf íì yn wir," ebe y llances.

" Paham hyny ? " gofynai y feistres.

"Fe 'wêd wrthw'i fy mod yn hechaäw" oedd yr ateb. Deallai y forwyn na esgeulusai y gŵr dyeithr hwn un adeg i geisio llesâu y rhai a ddeuent i'w gyrhaedd. Esiampl deilwng o efelychiad

Fe fu y Parch. Howel Davies yn gweinyddu yn fisol yn Woodstock am 1 6 0 flynyddoedd, sef o'r amser yr adeiladwyd y capel hyd ei farwolaeth yn y fl. 1770. Yr oedd tri Ue arall yn y sir, yn y rhai y gweinyddid yr ordinhadau o fedydd a swper yr Arglwydd, sef Capel-newydd, am yr hwn y cawn eto son, a dau gapel eglwysaidd ond diwaddol, sef capel Mounton ger Narberth, a St. Daniel ger Penfro. Yr oedd y ddau olaf hyn yn terfynu ar gyf&niau y rhan Seisnig o'r wlad. Yn y pedwar lle hyn y gweinyddai Howel Dayies bob mis, pob Ue ei Sabboth. Ar Sabboth pen mis yr oedd cyrchu mawr i Woodstock, 0 Ddinas Dewi, Trefin, Abergwaun, a Hwlfí"ordd, a'r manau cyf- agos i'r Ueoedd hyn. Hwy a ymgasglent, gan mwyaf, ar brydnawn Sadwrn, a mawr y fí'yddlondeb a'r caredigrwydd a ddangosid yn yr ardal, mewn fí'ordd 0 letya yr holl ddyeithriaid a ddeuent yno ar yr achlysuron hyn ; a rhyfeddol y mwynhad a brofid yn y moddion.

Yn y fl. 1770, fel y dywedwyd, y bu farw y Parch. Howel Davies, y cyntaf o weinidogion eglwys Loegr yn y wlad hon a droes allan i bregethu yr efengyl y tu allan i'r muriau cysegredig, a'r unig un yn y wlad a arferai weini yr ordinhadau o fedydd a swper yr Arglwydd yn mysg y Methodistiaid

PEN. III.] Sia BENFRO. 3Ô?

hyd ei farwolaéth. Ar ^ farwolaeth, fe ganai yr hen WiUiaras yn alarus am dano;

*' Pwy sydd yn y coffin pygddu, trwm ynghanol y fath hi ? Medd trafaelwyr ar y gefn ffordd, rhei'ny'n synu hefyd ; HowEL Daties, ífyddlon, cywir, bugail pedair eglwys fawi- ; Sydd yn myn'd i fynwent Prengast, heno i orwedd yno i lawi*."

Oddeutu yr amser hwn y daeth y Parch, Nathaniel E,owlands, mab i'r -enwog Daniel Eowlands, i'r wlad hon. Arferai ddyfod i bentref a elwir Castell-newydd-bach, i bregethu yn yr eglwys yno ; nid oedd, tybj-gid, yn pregethu, o leiaf hyd y pryd hwn, oud yn yr eglwysi. Mawr iawn oedd y 'cyrchu i wrando arno. Yr oedd euw ei dad yn un at-dyniad raawr, ac hefyd, yr oedd iddo enw o fod yn meddu ar dalentau helaeth. Yragasglai lluaws mawr i'w wrando, pa fodd bynag, a derbyniwyd lluaws mawr o aelodau i'r •cymundeb yn yr eglwys hon, ac yn eu raysg lawer o aelodau Abergwaun ac ardaloedd eraiU. Y mae y lle hwn tua 6 milldir i'r deau o Abergwaun, a 3 railldir o Woodstock, Ar ol rhyw gyraaint o araser, fe'i galwyd ef i weinyddu yn eglwysi Howel Davies, y rhai, bellach, a deimlent yn ddwys eu hamddi- fadrwydd wedi colli eu hen fugail. A'r alwad hon y cydsyniodd yntau ; a phriododd fer<;h ei ragflaenor, gan sefydlu ei gartref, bellach, mewn lle a elwir Parciau. Parhaodd i weinyddu i'r pedair eglwys a grybwyllwyd o'r blaen, at y rhai y chwanegwyd Hwlffordd yn rahen rhyw gyraaint o amser, o'i alwad hyd ei ddiarddeliad, tua'r fl. 1805. Adwaenid y Sabbothau yn Wood- stock, a raanau eraill, wrth enw y pregethwr y disgynai ei dro i'w cyflenwi. Sul pen rais a elwid Sul Eowlands ; Sul pythefnos oedd Sul John Harris ; y trydydd oedd Sul Henry Eichard ; a'r olaf oedd Sul WiIIiam Griffith.

Fe fu John Harris yn cydoesi ac yn cydlafurio gyda Eowlands am ysbaid 18 mlynedd ymron, ar ol coUi y Ilariaidd Howel Davies ; ond ei haul yntau a fachludodd, Bu farw yn y fl. 1788, yn nliŷ offeiriad yn Trefdraeth. Yn ei anghladd, pregethodd Sarapson Tliomas, oddiwrth Dat, xiv. 13 : " Gwýn eu byd y meirw y rhai sy'n raarw yn yr Arglwydd." Pregethodd Mr. Eowlands hefyd yn eglwys Trearalod, oddiwrth 1 Pedr iv, 18 : " Ac os braidd y mae y cyfiawn yn gadwedig, pa le yr ymddengys yr annuwiol a'r pechadur ? " Wele H, Davies, a John Harris, bellach, wedi cüio o'r gohvg ! y ddau gyutaf, a'r ddau hynotaf yn raysg yr henafiaid yn sir Benfro ; y ddau a fendithiwyd yn arbenig i blanu ac i ddyfrhau eglwysi Methodistiaid y wlad houo am lawer o flynyddoedd ; gwŷr y mae eu coffadwriaeth yn beraroglaidd ar y ddaear, a'u gwobr yn fawr yn y nefoedd.

Bellach, yr oedd mab John Harris ar y maes y Parch. Evan Harris. Hwn oedd y cyntaf o bregethwyr Ileŷgaidd sir Benfro a ordeiniwyd yn y fl. 1811, Ymddengys fod Mr, Harris wedi cychwyn ar waith y weinidogaeth rai blynyddoedd cyn raarw ei dad, sef tua'r fl. 1784, Yn ol y cyfrif hwn, treuliasai 35 ral. yn y gwaith cyhoeddus, gan raai yn y fl. 1819 y bu efe farw, Yr oedd Mr. Harris yn cael ei ystyried yn weinidog helaeth ei ddawn a'i

308 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

gyrhaeddiadau, ac yn ŵr o gymeriad da, ac o ddylaiiwad mawr yn ei wlad. Fel hyn y dywed gŵr o Woodstock am dano, gŵr a'i hadwaenai yn dda : " Yr oedd y Parch. £van Harris yn un hynod yn mhlith ei frodyr ; er ei fod 0 dymher Ued drymaidd, eto yr oedd ei galon yn bwrlymu o gariad at ei frodyr, fel yr oedd yn hawdd i'r lleiaf nesâu ato yn gystal a'r mwyaf, a'r gwanaf yn yr eglwys i ddyweyd eu proíìadau wrtho yn gystal a'r cryfaf." Yr oedd yn ŵr o gryn feddiannau bydol, ac mewn sefyllfa gysurus, eto ym- wadai â llawer o'i esmwythyd ei hun er mwyn achos yr lesu, ac er mwyu gwasanaethu ei genedlaeth trwy ewyllys Duw. Mynych yr âi fiUdiroedd o fFordd, ac weithiau, er mwyn cymdeithas ei frodyr, ar ei draed, ar nosweithiau gwaith, i bregethu, neu i gadw cyfarfodydd eglwysig, i'r wlad o amgylch ei gartref.

Yr oedd gŵr o'r enw George Thomas, un o'r henuriaid a berthynai i Woodstock, yn cartrefu gyda Mr. Harris, ac yn gweithio iddo. Yr oedd Siors, fel y gelwid ef fynychaf, yn hoíf iawn o'i feistr, ac nid amgen y meistr 0 houo yntau. Bernid Siors yn ŵr crefyddol iawn, eto yr oedd yn perthyn iddo ryw bethau a dybid yn blentynaidd. Un diwrnod, gadawodd ei waith yn fyrbwyll, ac aeth at Mr. Harris, gan ddyweyd, "Harris bach, nis galhif weithio mwy heddi." " Paham hyny ? " gofynai Mr. Harris. " Mi welais gymaint o ogoniant yn N'ghrist nes wy'i ymron myn'd yn ddwl," oedd yr ateb. A chan y gwyddai ei feistr mai nid rhith a rhodres oedd hyn, eíFeith- iodd yn ddwys iawn ar Mr. Harris, ac o'r braidd y gallodd gynwys ei deimladau.

Yr oedd Siors, dro arall, yn teithio gyda Mr. Harris fel cydymaith iddo, yn sir Aberteifi ; ac ar uu tro, wrth weddio o flaen y pregethwr, dygwyddodd, wrth daer erfyn am ryw fendith, gyfarch lachawdwr dynion â'r enw " lesu hacli anwyl." Ar ddiwedd yr oedfa, daeth yr hynod Owen Enos at Mr. Harris, gan ddyweyd, " Wel, Mr, Harris, mi glywais lawer erioed o ddyweyd am yr lesu, ond ni chlywais neb o'ìffnndiau erioed o'r blaen yn galw bach arno ! "

" 0," ebe Siors, " gwyddai fe o'r goreu mai o gariad ato y gwnaed

i>yny."

Y Sabboth cyn ei farwolaeth, daeth ei fab, y Parch. Thomas Harris, gynt o Hwlfifordd, yr hwn a fuasai yn pregethu y Sabboth hwnw yn Ue ei dad, i'r ystafell lle yr oedd yr hen ddiacon fíyddlon yn gwjdied y gweinidog. Y''n yr adeg, fe fu yr ymddyddan canlynol :

" Yn wir, Harris bach," ebe Siors, " fyddwch chwi ddim byw."

" Paham yr ydych yn meddwl hyny ? " gofynai y chif.

x\tebodd yr hen ŵr, " Mi a'ch gwelais yn glaf amryw weithiau, ond fe fyddai gweddiau yr eglwys mor hynod, fel nas gallwn feddwl y byddech farw : ond nid felly y mae yn bresenol." Drachefn, ebe efe, " Yr ydych yn edrych yn esmwyth a didaro yn yr olwg ar fyd tragwyddol ; carwn wybod pa beth sydd yn eich gwneyd chwi felly ? "

I hyn yr atebodd y chif : " Mae fy mhecliodau wedi bod o flaen fy meddwl.

PEN. III.] SIR BENFRO. 309

ac wedi bod yii pwyso arnaf fel mynyddau o blwm ; ond y mae un gair wedi eu gwasgaru : ' Ond y mae gyda thi faddeuant fel y'th ofner ! ' "

" O Harris bach," ebe Siors, " O ! na allwn ddod gyda chwi ! Ni wn i ddim siwt i fyw ar eich ol ! " " Cariadus ac anwyl oeddynt yn eu bywyd, ac ni allai marwolaeth eu gwahanu," oddieithr dros dymhor byr. Aeth yr hen was íîyddlawn, a'r brawd anwyl, ar ei ol cyu hir, ac ar ei wely angau nis gadawyd yntau. Ar ddyfodiad un o'i gyd-ddiaconiaid i ymweled ag ef, dy- wedai yn orfoleddus ei enaid, " Mae y llyfrau wedi eu croesi â gwaed ; a'r penaf bechadur yn achubol trwyddo." Yn ei gynhebrwng, pregethodd y Parch. T. Harris oddiwrth Ehuf. xiv. 7, 8.

Yr oedd pedwar o bregethwyr yn eglwys Woodstock gyda'r Parch. Evan Harris, sef WiIIiam Griffith, Tan-lan ; John Gibbon, Gelli ; William Gambold ; ac Edward Griffith. Am y brodyr hyn y dywed yr un hysbysydd, " Eubod yn pregethu yn dra bywiog, plaen, a diaddurn ; nid yn annhebyg i ddyn yn 'boxi6'r cwmpas,'' o Genesis i'r Dadguddiad ; ond y byddai dylanwadau ar brydiau yn eu gwneuthur yn ' feistriaid y gynulleidfa.' Ehaid cyfaddef y bydd- ent yn troi fel hen felin, yn Iled dolciog ar amserau, eto yr oedd y gynuU- eidfa newynog yn ymborthi ar y blawd yn hyfryd." Pe fu y brodyr hyn "flyddlawn ar ychydig, gosodwyd hwy ar lawer, ac aethant i mewn, yu ddiau, i lawenydd eu Harglwydd."

Yr oedd Woodstock fel rhyw heu eglwys gadeiriol (cathedral) yn nghanol y wlad, yn gwasgaru ei dylanwad i'r parthau cylchynol. Arferid pregethu, a chedwid cyfarfodydd eglwysig, mewn llawer iawn o íFermdai o amgylch, yn y rhai y mae capelydd yn awr, ac eglwysi wedi eu sefydlu wrthynt eu hunain ; ie, rhai o honynt yn fam-eglwysi i gynuUeidfaoedd eraill. Yu y fl. 1828 a'r ddwy ganlynol, fe fu yma, sef Woodstock, adfywiad nodedig. Chwanegwyd, y pryd hwnw, lawer at yr eglwys ; yr oedd yma ûs yn y pentwr, mae'n wir, ac aethant ymaith gyda'r awelon a chwythodd arnynt ; ond yr oedd yma rav/n pur hefyd, y rhai sydd erbyn heddyw oll, oddieithr un, wedi eu casglu i'r ysgubor. Aeth rhai o'r dysgyblion adref yn eu gwresogrwydd cyntaf; eraill, wedi dwyn pwys y dydd a'r gwres, ydynt wedi cyrhaedd gorphwysdra, fel uad oes yn aros o honynt ond un, ac yntau, bellach, yn 80 ml. oed, a'i dj pridd yn ymollwng, ond y dyn oddimewn yn cael ei adnewyddu o ddydd i ddydd.

Fe fu yr eglwys hon, ar ol colli Mr. Harris a'i gyd-oeswyr, dros hir amser yn amddifad o un pregethwr yn byw ynddi. Yn ddiweddar, pa fodd bynag, daeth y Parch. Daniel Evans, gynt o Ddewi, i breswylio gerllaw y Ue hwn, ac un Caleb Evans hefyd ; y rhai y mae eu cymeriad a'u Uafur yn dra chymeradwy a defnyddiol. Mae y Ue hwn yn fwy cryno a diwall arno na Uawer man. Mae yma ganghen o'r Feibl Gymdeithas, ac nid yw Dirwest ddim wedi ei hesgeuluso. Adeiladwyd ysgoldy hefyd yn y fl. 1848, i roddi addysg ddyddiol i blant tlodion, ac fe wnaed hyn heb ddim cynorthwy. Mae yma yn aros, er yr heidiau a aethanti gymydogaethau gerllaw, eglwys luosog, a chynulleidfa fawr o wrandawyr astud ; ac nid yw y weinidogaeth chwaith, tjTwy drugaredd, ddim yn hollol ddiefí'aith yn y dyddiau diweddaf hyn ; eithi'

glö HANESIAETH Y SIROEÜO. [doSB. 1T.

fe geir aml un, yu awr ac eilwaitli, "yn ymofyn y ífordd tua Sion, a'u hwyneb- au tuag yno." -

CASTELLGWYS, NfiU CAS'&WYS (Widon)r

Fel V crybwyllwyd eisoes, yr oedd eglwys Woodstock yn tori allan ar y ddê a'r aswy, a chynelid pregethu yn Llys-y-fran, Bullhook, Fenton, Ffynnon- gain, Gelli, Blaen-y-wern, Castell-blaidd, Castell-y-fuwch, Felindre', PorehiU, &c. Ymddengys hefyd na fu y Uafur yn y manau hyn ddim yn ofer ; y mae,. weithian, eglwysi wedi eu planu, a chapelau wedi eu codi, yn yr ardaloedd y mae y flermdai uchod ynddynt, y rhai y bu y pregethu ynddynt yn foddion iV cynyrchu. Yn eu mysg, yn un o'r Ueoedd cyntaf, y mae Cas'gwys. I'r gog- ledd o'r Ue hwn yi oedd Woodstock, ac i'r deau yr oedd Mounton, ac nid oedd Bullhook a'r Gelli ddim yn mhell. Yr oedd pregethu fel hyu wedi amgylchu y Ue, ond yr oedd y lle ei hun wedi ei esgeuluso dros lawer o flynyddoedd ar ol eychwyniad Methodistiaeth yn Woodstock ; a dyddorol ydyw crafl'u y modd y mae symudiadau rhagluniaeth yn gwasanaethu i ledaeiiiad teyrnas Crist.

Oddeutu y fl. 1790, daeth merch o sir Gaerfyrddin, pertbynol i eglwys y Cwm-bach, i wasanaethu i'r gymydogaeth, ac oddeutu yr un amser, daeth un John Proper, o ardal Ddewi, i breswylio yn agos i'r un man. Daeth y ddau hyn yn fuan yn gydnabyddus â'u gilydd, a chan eu bod fel alltudion, yn gyffelyb i'w gilydd, wedi coUi eu hen gartref, ac yn teimlo amddifadrwydd eu cartref newydd, teimlent radd o at-dyniad at eu gilydd, a chytunasant i gyfarfod ar brydnawn Sabboth er mwyn adeiladaeth ysbrydol yn nhŷ John Proper ; ac ymunodd â hwy un John Dafydd. Cedwid y cyfarfodydd hyn yn raddol yn gyfarfodydd gweddio, ae ymgasglai lluaws o bobl iddynt. Parha- odd y cyfarfodydd dirodres hyn dros amser maith, ac o'r diwedd llwyddwyd o-yda'r Parch. E. Harris i ddyfod yno i bregethu ; ac o hyny allau fe geid pregethu i'r Ue mor fynych ao y gellid ei gael.

Cedwid oedfaon hefyd yn fynych yn y tymhor hwn mewn lle a elwid Broadioay, ac yn Roger's-hook. Yr oedd g-ŵr Eoger's-hook yn ẃi' cyfrifol iawn, ac jti fab i un o'r hen bregethwyr. Priodasai hefyd ferch o un o'r teuluoedd Methodistaidd yn ardal Abergwaun. Yn nhŷ y gŵr hwn y cy- nelid y pregethu, gan mwyaf, y pryd hwn. Yma y cedwid y cyfarfodydd eo-lwysig, a gŵr y a flaenorai arnynt fel swyddog eglwysig. Ymddengys hefyd fod gogwyddiad cryf yn meddwl y gŵr hwn at yr eglwys wladol, er ei fod vn aelod yn Woodstock, a phan y daeth yr amser i neillduo gweinidogion i'r corff, gwelwyd arwyddion o dymhestl yn agosâu ; a phan hysbyswyd pa beth oedd penderfyniad y gymdeithasfa ar yr achos, ac mai neillduo a wneid, penderfynodd y gŵr hwn ddangos ei ochr, a gosod ar yr holl aelodau a ar- ferent ymgynull i'w wneyd yr un modd. Pelly, ar ryw ddiwrnod tra chofiadwy i rai hyd heddyw, wedi dybenu y cyfarfod eglwysig yn ei barlawr ei hun, gosododd yr achos ger bron, a galwodd arnynt oll i ddod i bender- fyniad pwy a ddewisent, ai yr eglwys wladol ai y Methodistiaid, gan ardystio am dano ef ei hun, mai wrth yr eglwys yr ymlynai. Y'mddengys hefyd

PEN. III.] SIR BENFRO. 311

nad oerdd un petrusder yn ei feddwl wrth osod yr achos i lawr, na fyddai ei esiampl a'i ddylanwad yu ddigon i dueddu pawb i ogwyddo yr uu ífordd. Ond er dirfawr siomedigaeth iddo, penderfynodd yr hoU gymdeithas, oddi- eithr dau neu dri, yn y gwrthwyneb, gan dystio, " Ni a ddylynwn ein preg- ethwyr i ba le bynag yr elont."

Mae y Ue hwn yn terfynu ar fro Seisouig, a Uawn cymaint o Saeson ag sydd 0 Gymry yn byw ynddo. Ar ddechreu y pregethu yn y lle, bygythiwyd erlidigaeth ac aflonyddwch. Un tro, pan oedd Mr. Harris yn pregethu, saethwyd ergyd o ddryll yn agos iawn at Mr. Harris ; ond yn Ue terfynu ac ymollwng, fel y gallesid dysgwyl, aeth y pregethwr yn fwy hyf a gwrol, gau bregethu gyda nerth mawr. O'r diwedd, aeth y gynuUeidfa yn ormod i'r tŷ, a theimlwyd awyddfryd am le mwy cyfleus ac eang. Ymddengys fod yma ŵr o'r enw John Williams, a fyddai yu arfer cynghori yn y lle hwn yn fynych gyda gradd helaeth o gymeradwyaeth, a hyny hyd nes yr agorwyd y capel.

Trwy waith Mr. Williams, Llandegigau, yn cyflwyno deisyílad at Lord Cawdor, cafwyd tir i adeiladu, ac yn y fi. 1813 agorwyd yr addoldŷ new\'dd, pryd y pregethodd y Peirch. E. Harris, Eb. Morris, a J. Evans, New Inn. Mae achos y Gwaredwr yn raddol yn ysgogi yn mlaen yma hyd heddyw. Yma y dechreuodd y Parch. "William Llewelyn, a'i frawd, bregethu, Mae yr henuriaid ag oedd yu y lle hwn yn y dechreuad oll wedi myned i eu hir gartref. Gwŷr dysyml oeddynt, a fíyddlawn iawn yn eu gwaith. Arferid eu galw, " heddychol fíyddloniaid " Cas'gwys.

GOSEN.

Yn mhen rhyw amser wedi adeiladu capel Cas'gwys, teimiodd rhai o'r ael- odau yn ddwys ynachos pentref bychan yn y plwyf nesaf, sefplwyíSlebech, Barnwyd mai buddiol a fyddai cynal rhyw gyfarfodydd crefyddol yn y pen- tref, os gellid cael lle i'w cynal. Gyda'r dyben hwn, aeth un o'r aelodau ag- oedd yn byw nesaf ato i'r pentref, gan ymofyn pwy a fyddai ewylìysgar i roddi ei dŷ; ond gwrthodwyd ei gais yn mhob yn y pentref, ond yr un yr aeth ato ddiweddaf. Caniatawyd ei gais yn y hwn, a threfnwyd i'r Parch. W. Llewelyn fyned yno y Sabboth canlynoì, A dyma i'a dechreuad Method- istiaeth yn y Ile hwn. Cynaliwyd moddion yma am fiynyddau, a gosodwyd sêl bendith ar y weinidogaeth i ddwyn amryw i ymuno ag egìwys Cas'gwys, ae yn mhlith eraill, teula y y cyneîid y cyfarfodydd ynddo. Yr oedd yn y teulu fab, yn ŵr ieuane, ac yn eael ei ddwyn i fyny yn gyireithìwr; ond yn y canlyniad, gadawodd y gyfraith, ac ymroddodd i ■weinidogaeth yr efengyL Yr oedd cael gwasanaeth gŵr ieuanc gobeithìol o'r fath yn werthfawr iawn yn Cas'gwys, gan ei fod yn gyfarwydd ar yr iaith Saesonaeg, ac anfynycli y cyfarfyddid y pryd hyny â'r fath un. Ond wedi treulio rhai blynyddocdd yn yr ardaloedd hyn, coUwyd ei wasauaeth yu Uwyr o fro ei enedigaeth. Nis gwyddom gyda sicrwydd pa beth a barodd hyu, ai detcìsìad ai (jorfod,- ond pa un bynag, fe'i collwyd ef i Gymru, íel llawer uo gobeithiol íuall ; ac y mae

312 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

yn awr yn weinidog i gynulleidfa yn Stone, swydd Stafford. Ei enw yw y Parcla. Mark Butler. Y mae yn gysur, er y cwbl, i'r meddwl ystyriol fod y llafur dirodres yn Slebech, yn sir Benfro, yn magu gweinidog i drigolion Lloegr, Fel hyn, yn ddiau, y goruwch-lywodraethir amgylchiadau o ofid a cholled i un ganghen o eglwys Crist, i fod yn adeiladaeth a llwyddiant i ganghen arall.

Nid yw eglwys Cas'gwys ddim wedi bod yn hollol ddieppiledd, fel y gwelir uchod, ac y gwelir eto yn fwy. Cof, fe allai, gan y darllenydd, fod crybwyll- iad wedi ei wneyd o gymdeithas eglwysig yn cael ei chynal yn Llawhaden,* sef y plwyf y mae Gosen ynddo, er dyddiau boreaf John Harris, agos i gan' mlynedd cyn adeiladu capel yma i'r Methodistiaid. Fe fu bwlch maith iawn yn Methodistiaeth y fro hon. Ond fe ddaeth yr amser i ymweled drachefn â phlwyf Llawhaden. Aeth gŵr a gwraig ieuainc, newydd briodi, o ardal Woodstock, i amaethdŷ o'r enw Forterdade, yn agos i Lawhaden. Derbyniodd y teulu ieuanc hwn bregethu i'w ; yn raddol, cafwyd moddion Ued gyson i'r Ue, a Uawer o bobl a ymgasglenl yno i wrando. Yn y fl. 1840, adeiladwyd addoldŷ gerllaw terfynau tir Porterslade, a galwyd ei enw Gosen. Cafodd y gẃr da sydd yn preswylio yn Porterslade, sef Mr. John Lewis, weled ffrwyth y pregethu a achleswyd mor ffyddlawn ganddo yn ei dŷ, mewn cyfleus i addoli, ac mewn cynulleidfa luosog yn gwrando'r efengyl gyda chysonedd ac astudrwydd, Yn yr eglwys hon y mae cartref Mr. David Llewelyn.

BRIMASTON HALL.

Crybwyllasom eisoes fod pregethu achlysurol mewn lle a elwid Castell-y- blaidd. Yr oedd yn byw yno ŵr cyfrifol o'r enwMr. John Meyler, amaethwr. Ymwelai yr hoU enwogion Methodistaidd, yn awr ac eilwaith, â Chastell-y- blaidd. Parhaodd hyn holl ddyddiau Mr. Meyler, a thrachefn yn nyddiau ei fab ef dros gryn dymhor. Yr oedd pregethu achlysurol, yn y cyfamser, yn yr Hall ; ond ar y neillduad a fu ar leŷgion i Aveini yn y corff, ciliodd Mr. Meyler a'i wraig yn ol i'r eglwys wladol, a thrwy hyny ymsefydlodd y pregethu yn hoUol yn yr Hall. Trefnuswyd hen ysgubor i fod yn addoldŷ, ac yn yr adeilad hon y buwyd yn addoli cbos ysbaid rhai blynyddau. Yr oedd yma rai o aelodau Woodstock yn byw yn y fro hon, y rhai, gan mor anghysbell oedd capel Woodstock oddiwrthynt, a chan y gobaith a roddid o foddion cyson yn fwy cyfleus, a ymffurfiasant yn eglwys yn yr Hall, at y rhai y chwanegwyd llawer o bryd i bryd. Bellach, y mae yma gapel hardd a chysurus wedi ei godi, a chynulleidfa dda yn gwrando. Teg ydyw crybwyU yma, pa mor Uafurus a tfyddlawn a fu Mr. J. Harris gyda'r achos yn y Ue hwn, o'i ddechreuad hyd yn awr. Ehoes ef a'i briod, yn iighyda'r teulu oU, eu hysgwyddau dan arch Duw, a hyny hyd heddyw, er fod y penteulu, bell- ach, wedi cyrhaedd gwth o oedran.

Gwel Cvf. I,, tudal. 167.

PEN. III.] SIR BENFRO. 813

Yn yr eglwys hon yr oedd cartref yr hen frawd ffyddlawn John Ehydderch. Nid oedd doniau cyhoeddus y brawd hwn yn cael eu hystyried yn fawr, eto cyfrifid ef yn ŵr cadarn yn yr ysgrythyrau, a pherchid ef gan bawb a'i had- waenai, fel un ífyddlawn a defnyddiol. Arferai bregethu yn y ddwy iaith, ac 0 hyny yr oedd yn fwy cymhwys i wasanaethu ei genedlaeth yn y parth hwn o'i wlad. Y mae yma bregethwr eto yn byw yn y gymdeithas hon, sef Mr. Stephen Lewis, ac yn arfer pregethu yn y ddwy iaith.

Yr oedd gan John Meyler bedair o chwiorydd, oll yn grefyddol. Priododd pob un o'r chwiorydd i deuhioedd cyfrifol, ac aethant a'u crefydd gyda hwy i dai eu gwŷr, a phregethu hefyd, un i'r JNIynydd-hir ; un arall i Lŷs-y-fran ; un arall i Gastell-y-fuwch ; a'r bedwaredd i Drefdraeth. Yr oedd pregethu hefyd yn nhŷ chwaer i Siôn Meyler, sef Tŷ-llwyd, Pont-gynon. Ehedai crefydd megys yn ngwaed y teubi yma, ac fe ddywedir nad oes argoelion yr ymedy yn fuan chwaith. Yr Hall a olygir fel ailferch Woodstock.

CASTLEMAEL.

Yr oedd ychydig o bregethu yn y lle hwn 80 xa\. yn oL Mae y lle yn sefyll 0 fewn tna thair milldir i Woodstock, ac yn yr ardal yr oedd amryw o aelodau yr eglwys hòno yn cyfaneddu. Sonir yn neillduol am un Joseph Eoberts, Llŷs-y-dryw, ac un Dafydd Petr, fel rhai hynod yn mysg yr hen bobl. Cadwai y cyntaf addoliad teuluaidd dair gwaith yn y dydd, a chyfrifid ef yn hynod am ei dduwioldeb, Cyfarfyddai hwn a Dafydd Petr â'u gilydd yn fynych mewn annhrigiannol, a byddent yno, lawer noswaith, dan y boreu, gan dreulio yr oriau meithion yn ddifyr mewn ymddyddanion â'u gilydd, ac mewn gweddiau.

Yn yr amseroedd boreaf, y gwŷr a arferent ymweled â'r ardal hon i bregethu, yn fynychaf, oeddynt Siôn Evan, Cenarth ; Thomas Dafydd Siôn ; un Lewis Siôn yr ysgolfeistr ; a Ehys Davies. Gwas oedd yr olaf mewn íFerm o'r enw Creinar. Pentref bychan a thlawd oedd Castlemael, ac nid ydym yn cael fod neb 0 enwogion y Methodistiaid wedi bod yn arfer dyfod yma y pryd hyn. Tua milldir o Gastlemael yr oedd y y crybwyllasom ei enw o'r blaen, sef Castell-y-fuwch, lle y daethai un o chwiorydd Siôn Meyler i fyw. I'r lle hwn, fe ddeuai amryw o'r gwŷr enwocaf ar eu tro. Tua 40 ml. yn ol, dech- reuwyd ysgol Sabbotliol yn Castlemael, ac yn eglwys y plwyf y cedwid hi, Pregethid hefyd yn nhŷ un Lewis Evan : hen ŵr hynod am ei grefydd oedd hwn hefyd. Ar ol ei farw, dywedai ei gymydogion yn alarus, " Wel, wel, ni chawn byth mwy weled ei hen ben gwỳn ef, yn nghẃr y cae yn gweddio ! " Ofnid a pherchid ef gan bawb yn y pentref.

Dygwyddodd, yn nhrefn rhagluniaeth, i ŵr ieuanc o'r enw Shem Evans, raab i'r Parch. Arthur Evans, sir Gaerfyrddin, ddyfod i'r gymydogaeth i fyw. Panwr ydoedd wrth ei gelfyddyd. Bu hwn yn ofí"eryn i gyflFroi yr ardal i gael capel ynddi, a Uwyddodd yn ei amcan ; ond er dü-fawr golled i'r ardal bu

314 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV,

farw yn fuau wedi hyny, Agorwyd y capel newydd yu y fl. 1827.* Mae yma yn awr tua 48 o aelodau. Tarddodd cangen allan o'r eglwys mewn lle rhwno- Castlemael ac Abergwaun, o'r enw Mamre, lle mae achos siriol a gob- eithiol.

Y GWASTAD.

Y ganghen olaf a darddodd o eglwys Woodstoct; y w y cynulliad sydd yn y lle hwn. Yr oedd pregethu cyson wedi bod yn Forehill er ys blynyddau. Anhav.'dd fyddai dyweyd gormod am fi^yddloudeb yr hen Mrs. Eoblin, Fore- hiìl, a'r eiddo ei mab ar ei hol, yn nghyda'i deulu ; ac afreidiol hefyd ydyw dyweyd llawer, gan fod eu " tyst hwy yn y nefoedd, a'u tystiolaeth yn yr uchelder." (Job xvi. 19.) Wedi blynyddau o lafur yn ForehiU a Llys-y- frân, barnwyd yn fuddiol cael capel yn y fangre, lle y gallai trigolion y fro ymgrynhoi iddo. Yn y fl. 1836 fe'i hadeiladwyd, ac y mae gwedd obeithiol ar y gwaith. Symudodd Mr. Roblin, yn mhen enyd ar ol adeiladu yr addol- dŷ, 0 Forehill, gan adeiladu cysurus iddo ei hun a'i wraig gerllaw y tỳ cwrdd. Y mae efe wedi tramwyo ífordd yr holl ddaear er ys blynyddau. Mae ei weddw eto yn aros, ac yn dangos "yr un fíyddlondeb da " tuag at yr efengyl ag a ddangosasai yn ForehiII ; a'i nai sydd yn awr yn aneddu yr heu breswylfa, yr hwn hefyd sydd yn un o'r swyddogion eglwysig yn y Gwastad.

Gan mai aelodau Woodstock a flfurfient gorfl^ y canghen-eglwysi yn Cas'- gwys, yr Hall, Castlemael, Gosen, a Mamre, rhaid oedd fod hyny yn lleihau nifer y dysgyblion yn y fam-eglwys i raddau cyfatebol. Ond er hyny, mae yn deilwng o sylw neillduol, ddarfod i'r diwygiad a fu yn y lle tua'r fl. 1828-9, godi y bylchau i fyny yn Ilawn ; ac fe ymddengys yr achos yn Woodstock eto yn Ilawn mor llewyrchus a siriol ag y gwnaethai cyn haniad y lleill o hono.

MOUNTON

Er nad oes gan y Methodistiaid ddim achos yn y Ile hwn yn awr, eto an- faddeuol a fyddai myned heibio iddo yn ddisylw, gau faint a fyddai o ymgy- nuU iddo gan hen Fethodistiaid y rhan fwyaf ddeheuol o'r sir yn y blynydd- oedd gynt. Y'r oedd y lle hwn, fel y crybwyllwyd o'r blaen, yn un o'r pedwar lle t hynod hyny y gweinyddid swper yr Arglwydd ynddynt, pan oedd y gweinyddwyr, a lleoedd gweinyddu ynddynt, yn dra anaml. Mae capel Mounton yn sefyll yn mhlwyf Narberth, a thua dwy filldir o'r dref hòno. Mae yn sefyll wrtho ei hun mewn gweirglawdd, ar derfyn coedwig Canaston. Ym-

* Pregethodd ar ei agoriad am 1 0 o'r gloch, y Peirch. Wilham Morris ac Ebenezer Richards. Am 2 o'r gloch, D. Grifíìths, a T. Richards. Ac am 6 o'r gloch, D. Meyler a D. Griffiths.

t Y lleoedd eraiU oeddjnt, Woodstock, Capel-uewydd, a St. Daniel's.

PEN. III.] SIRBENFRO. 315

ddengys fel rliyw ben lan o ran ei lun, ac nid annhebyg ydyw na chawsai rywbryd gysegriad esgobawl mewn amseroedd pell yn ol, fe allai cyn gwawr y " Diwygiad Protestanaidd " yn y wlad hon. Disgynasai yr adeilad, pa fodd bynag, i anarferiad Uwyr hyd y diwygiad Methodistaidd, Nid oedd, tybygid, yn werth gofalu am dano, na gwneuthur defnydd o hono, gan nad oedd gwaddol yn perthyn iddo. Nid yw yn hysbys yn awr pa fodd y daeth y Parch. Howel Davies i gael dyfodfa iddo, ond y ffaith sydd sicr iddo gael, a'i fod ef a'i gyd-ddiwygwyr wedi gwueuthur defnydd da o hono, i bregethu yr efengyl, ac i weinyddu swper yr Arglwydd i gynuUeidfaoedd lluosog a ymgrynhoeut i'r lle, a hyny dros flynyddoedd hiwer.

Ymddengys y byddai araryw o'r diwygwyr a dderbyniasent urddau esgob yn gweinyddu yn Mounton, y naill yn nitfyg y llall, tra y bu dan fugeiliaeth Howel Davies, megys Whitfield, ac wedi hyny, WiUiam Williams, Pant-y- celyn, Peter Williams, Nathaniel Eowlands, a Rowland HiU ; a rhai heb fod M'edi derbyn y cyfryw urddau, megys J. Cenrick, Howel Harris, Toriel Joss, ac efrydwyr Trefecca, pan oedd athrofa Arglwyddes Huntingdon yno. Y inae y lle ar gyffiniau y Saeson, a defnyddid ef, gan hj'ny, i bregethu yn y ddwy iaith yn ol yr amgylchiadau. Yr oedd yma gyrchfa fawr o bobl, a chafwyd fod y weinidogaeth yn rymus a nerthol ; a diamheuol ydyw ddarfod i hiaws mawr o bechaduriaid gael llesâd tragwyddol trwyddi. Wedi marw- olaeth Howel Davies, cymerodd ei fab-yn-nghyfraith, Nathaniel Eowlands, y lle dan ei fugeiliaeth, a chyflawnai ef a'r Parch. D. Griffiths, Nefern, y Sabbothau misol, bob yn ail, dros ryw gymaint o amser. Wedi marwolaeth Mr. Griffiths, gwnaed cynygiad o'r Ile i gyfarfod misol y Methodistiaid yn y sir, trwy ddeiseb ysgrifenedig wedi ei harwyddo gan lawer o'r gynulleidfa. Y cyfarfod misol yntau, wedi ystyried yr achos, a ddaeth i benderfyniad i dderbyn y cynygiad, ac i wneyd defnydd cyíFredinol o'r lle fel addoldŷ arall ; penodwyd hefyd ar frodyr i gyflawni rhai Sabbothau ynddo. Ond cyn gosod hyn mewn gweithrediad, a chyn i'r Sabboth cyntaf a benodwyd arno i gychwyn y drefn newydd ddyfod, cyffrôdd rhai o'r offeiriaid oedd yn y fro, gan dybied, ond odid, nad anrhydeddus a fuasai i adeilad gysegredig gael ei defnyddio gan bregethwyr Methodistaidd, a safasant yn erbyn cais y gynull- eidfa, a sicrhasant y Ile iddynt eu hunain. Yjnddengys hefyd fod ofieiriaid y fro hyd heddyw, neu rai o honynt, yn gwasanaethu yn y capel hwn ar eu cylch, unwaith yn y mis ; ond ar y Sabbothau eraill, y mae y lle yn wag. Eglur yw mai enw priodol ar y lle yn awr a fyddai, " Ichabod, y gogoniant a ymadawodd ; " a phe deuai neb heibio a'i cofiai gynt, parod fyddai, wrth edrych ar ei anghyfanedd-dra presenol, i " synu a chwibanu, a dywedyd, ' Pa- hara y gwnaeth yr Arglwydd fel hyn i'r yma ? Pa ddigter yw'r digofaint mawr hyn ? ' "

NARBERTH NEU ARBERTH.

Dywedasom fod y dref hon o fewn tua dwy filldir i Mounton, a deallwn

316 HANESIAETH Y SIROEUD. [UOSB. IV,

fod aclios gan y Methodistiaid yma er yn lled foieu. Codwyd yma gapel yn un o'r lleoedd cyntaf yn y sir ; ond trwy ryw amgylchiadau anorfod, neu ynte trwy ryw esgeulusdra gwallus, fe goUwyd y capel hwnw yn llwyr a thros byth, ac nid oes gan y Methodistiaid yn Narberth hyd heddyw nemawr fwy nag enw o sefydliad crefyddol.

Yr oedd un o flaenoriaid neu ddiaconiaid yr achos gynt yn byw gerUaw yr hen gapel, ac yn eadw gwestty {Inn). Yr oedd yr addoldy a'r gwestty ar yf un tir, ac yn eiddo i Lord Kensington. Wedi marw y diacon, daeth y gwestty ar osod, a chymerwyd ef gan dyddynwr o'r wlad, yr hwn oedd yn awyddus i feddiannu yr holl adeiladau oedd yn ei gyraeriad. üeallodd yn fuan fod yr addoldy a'r gwestty gyda'u gilydd ; hònodd ei hawl i'r cwbl, trowyd yr addolwyr i maes, a gwnaed y cwrdd yn ceífylau. Syrthiodd y tafarnwr i dlodi ac iselder, a bu gorfod iddo ymadael ; yr lien adeilad hefyd a dynwyd i lawr ; a phrin y mae y lle y safai arno yn adnabyddus yn awr, wedi deugain mlynedd o amser. Profîesodd y boneddwr mai ei gamarwain a gawsai yn y tro annyben hwn ; a bod yn ddrwg iawn ganddo yr anffawd. Tebyg ydyw fod rhyw un arall, neu rai eraiU, yn fwy eu pechod yn y tro na'r boneddwr ei hun, fel y bu lawer gwaith yn hanes Methodist- iaeth Cymru.

Y pryd hwnw, nid oedd un addoldy yn y dref gan un enwad ymneiUduol, ond yr un hwn gan y Methodistiaid. Ond wedi yr amgylchiad hwn, syrthiodd achos y Methodistiaid ymron i'r dim, a dechreuodd enwadau eraiU feddiannu y tir. Yn y fl. 1843, pa fodd bynag, prynodd y Methodistiaid ddarn o dir, ac adeiladwyd capel drachefu ; gyda pha faint o ddoethineb, nid yw amlwg iawn. Fe aUai fod cymaint o esgeubisdra wedi bod yn y cyfwng blaenorol ag a fu o fyrbwyUdra yn yr adeg breseuol. Mae yn y dref rywychyd- ig 0 enwau mewn cymundeb â'r Methodistiaid, eto fe ymddengys mai cryn anturiaeth ydoedd adeiladu yma, tra yr oedd y tir wedi ei ragfeddiannu gan enwadau eraiU.

Ymddengys fod yn y fro hon, yn nghymydogaeth Jefferson, rai dysgybUon er boreu y diwygiad. " Gwelais un o honynt," medd fy ngohebydd parch- us, " yr hwn oedd ŵr Ued oedranus, o'r enw John Griffith, gŵr a fuasai unwaith yu arfer cynghori ei gyd-ddynion, ond yn awr wedi dystewi yn yr angau er ys amser maith. Ychydig cyn ei farw, anfonodd genadwri i'r cwrdd misol, gan ddyweyd, " Mi a fum 40 ml. yn yr Aipht, ac yr wyf, beUach, wedi bod 40 ml. yn yr anialwch, ac eleni yr wyf yn dysgwyl tirio yn Nghan- aan-wlad." * Anfonwyd yn ol ato gan ei gyfarch, a dywedyd, " Dymunem i chwi, hen frawd, fynedfa rwydd a diogel." f Nid oes un achos yn awr gan y Methodistiaid yn Jefferson, nac yn Carew, Ueoedd y bu yr hen Siôn Harri yn Uafurio ; % ac nid Uawer o ôl Uafur crefyddol sydd ar y rhan yma o'r wlad

* I have been 40 yccars in Eg-ypt, and now 40 years in the wilderuess, and this year I expect to land on Canaan shore." Saesueg a siaradai. ■|- " We wish you, old brother, a free and a safe passage." ÎTudal. 168., Cyf. I.

PEN. III.] SIR BENFllO. 317

oU, 011(1 i fesur mawr y mae yn aros yii wyllt a diamaetliiad, gan eglwyswyr ac ymneillduwyr er ys llawer blwyddyn.

BURNESS-HILL.

Mae y lle liwn yn ngwlad y Saeson, ac yn gyfagos i'r Ue y soniwyd yn brin am dano eisoes, sef St. Daniel's , un o faesydd llafur y Parcli. Plowel Dayies. Nid oes neb ar gael ya awr ag sydd yn cofio Howel Davies yn pregethu yn St. Daniers. Tpryd hwnw, nid oedd pregethu yn un man arall, ac yno y cyrchai trigolion y broydd oddiamgylch, yn enwedig ar Sabboth pen mis, pryd y byddai Howel Davies, ar y dechreu, yn gweinyddu swper yr Argiwydd ; ac ar ei ol ef y deuai Daniel Eowlands, Lhmgeitho, a'i fab Nath- aniel, yn nghydag eraill o'r offeiriaid Methodistaidd. Bernir mai rhai o aelod- au gwasgaredig St. Daniel's a gychwynodd yr achos yn Burness-hiII. Y mae yn sefyll tua 6 milldir o Mounton. Hwn oedd cartref y Parch. John Evans, yr hwn a fu farw yn ddiweddar. Nid oedd y brawd hwn yn adnabyddus iawn yn Nghymru yn gyffredinol, am mai Sais ydoedd. Arferai flynyddoedd lawer yn ol, ddyfod yn fynycn i Gaer, a threulio yno lawer o amser yn achlysurol, mewn ffordd o wasanaethu yr eglwys sydd yn arfer ymgynuU yn nghapel yr Octagon. " Yr oedd efe yn wr da, ac yn Ilawn o'r Ysbryd Glân ac 0 ffydd." Adeiladwyd yma gapel yn y fl. 18 14. Mae Iluaws o'r glowyr yn arfer gwrando yn y Ile hwn, ac yn ddiweddar bu chwanegu amryw at yr eglwys.

Heblaw Burness-hill, y mae yn y parth Seisnig hwn o sir Benfro bump 0 gapelau eraill ; sef

TFallaston. Lle y mae tua 20 o aelodau.

TJiorn. Lle y mae tua 40 o aelodau.

Gilead. Lle diweddar, yn cynwys tuag 20 o aelodau.

Penfro. Lle y mae tua 50 o aelodau.

Pembrohe-doclc, neu Pater. Lle y mae tua 200 o aelodau, a'r lle y bu y Parch. John Davies yn llafurio gyda chymaint o gymeradwyaeth a llwyddiant.

Hundleton. Lle y mae tua 17 o aelodau.

BEGELLEY.

Ymwelid â'r gymydogaeth hon yn achlysurol gan y Parch. John Eees, Caerfyrddin, a James Matthias, Castell-newydd, mewn blynyddoedd pell yn ol ; eto nid oedd moddion cyson yn y lle cyn y fl. 1824. Tua'r pryd hwn, anfonwyd gẃr o'r enw Mr. W. Lloyd i fyw yma. Yr oedd y gŵr hwn yn swyddog y cyllid (excise officer), ac yn byw cyn hyn yn swydd Drefaldwyn. Gan faint oedd ei barch i dalentau gweinidogaethol rhai o frodyr sir Benfro, y rhai a glywsai yn achlysurol yn Ngwynedd, efe a archodd y gyUidfa ei nodi ef i le yn y wlad hòno, Ile y gobeithiai gael gwrando ei bregethwyr

31S HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV,

dewisol yn amlacli. Llwyddodd yn ei gais gyda bwrdd y cyllid, a symudwyd ef i ddosbartli Begelley ; ond mawr oedd ei siomedigaeth a'i benbleth, pan ddeallodd, ar ei ddyfodiad i'r lle, nad oedd yno na chapel na pln-egethwr Methodistaidd trwy ei ddosbarth oll. Eto ni Iwfrhaodd, ond mor eb- rwydd ag y cafodd gyfleusdra, Uwybrodd ei gararau i Gas'gwys, a chyfarfu yno â'r Parch. Thomas Harris o Hwlffordd gynt, a chafodd ganddo addaw dyfod i Begelley i bregethu. Ar ol hyn llwyddodd gydag amryw o bregeth- wyr y wlad, galluog i bregethu Saesonaeg, i ymweled â'r lle mor aml ag y geÜid, Ni fu Mr. Lloyd yma yn hir, cyn dyfod yn gydnabyddus â rhai o hen aelodau Mounton, y rhai a gytunasant ag ef i sefydlu ysgol Sabbothol yn y lle. Cynaliwyd hi yn ysgubor yr HoUy-bush, yn mhlwyf East Williamson ; cyuelid cyfarfodydd gweddio hefyd mewn amrywiol fanau yn y gymydogaeth, ar y Sabbothau, ac ar nosweithiau yr wythnos.

Penderfynwyd yn raddol adeiladu yma gapel bychan yn mhlwyf St. Isells ar ochr y brif-ffordd sydd yn arwain o Begelley i Tenby. Bu y trigoliou yn egniol a llafurus gyda'r adeilad, a chafwyd y capel yn ddiddyled ar ei agor- iad. Caniatawyd ar yr un dydd i Mr. Lloyd, yr hwn a arferasai gynghori yn y cyrddau gweddi, ryddid i bregethu o hyny allan ; " felly cafodd y gy- mydogaeth hon," medd fy hysbysydd, " gapel a phregethwr yn yr un dydd." Enw y capel yw Bethesda. Yn y fl. 1826 y bu hyn. Yn y cyfamser yr oedd ysgol Sabbothol yn cael ei chynal yn mhentref Begelley, a chymdeithas eglwysig wedi ei ffurfio eisoes ; ac yn mhen dwy flynedd ar ol y llall, cafwyd capel yma hefyd, ac ymddangosai arwyddion fod Ilaw yr Arglwydd yn gweithio. Yr oedd gan Mr. Lloyd galon i weithio, a bu yn foddion i gyfranu mesur o'r un ysbryd egniol i eraill o'r aelodau. Cynelid rhyw gyfarfodydd bob nos yn yr wythnos, ac arogl esmwyth arnyut oll. Nid hir y caniatawyd i Mr. Lloyd fod yma, oblegid yn y fl. 1830, sef dwy flynedd ar ol codi y oapel olaf o'r ddau, efe a symudwyd i gylch arall yn Llandysil. Ond er lleied yr amser, fe Avnaed yn yr ardal hon fwy nag a wuaethid o'r blaen er ys cannoedd o flynyddoedd gydag achos crefydd.

Bu yn offeryn i sefydlu dwy ysgol Sabbothol ; i godi dau gapel ; ac i ffurfio eglwys yn cynwys tua 30 o aelodau, a'r cwbl heb fwy na £13 o ddyled, yr hyn a dalwyd yn ebrwydd ac ewyllysgar gan gwrdd misol y sir.

Gan mor ychydig oedd pregethwyr Saesoneg y Avlad hon, a chan mor amddifad oedd y ddeadell fechan, wedi colli eu bugail Mr. Lloyd, archwyd i'r Parch. W. Llewellyn fyned yno i breswylio, i ofalu am yr achos ieuanc yn y Ue. Cysylltwyd Bethesda a Begelley yn fuan â'r Genadaeth Gartrefol, yn ngwasanaeth yr hon y bu Mr. Llewellyn yn llafurio hyd y fl. 1844, pryd y daeth y Parch. Thomas Ashford yn olynwr iddo. Yn ystod yr hoU amser, yr oedd nifer y gwrandawyr yn Iluosog, a chwanegid rhyw nifer o bryd i bryd at yr eglwysi. Ond yn ngauaf y fl. 1849-50, bu dynesiad haint y Cholera Morbus i'r gymydogaeth, yn foddion i beri i ddifrifwch a braw ddisgyn ar lawer o'r trigolion, ac i fod yn achlysur i ddwyn llawer i feddwl gyda dwys- der am eu diwedd. Chwanegwyd at yr eglwysi, y pryd hwn, nid llai na 50

PEN. IV.] SIR BENFRO. 319

o aelodau, y rhai, heb un eithriad, sydd yn glynu yn eu proffes, a phob arwyddion arnynt fod Uaw Duw wedi cyffwrdd â hwynt.

PENNOD IV. EGLWYSI BOREUAF Y SIR, A'U CANGHENAU.

CYNWTSIAD :

CAPEL NEWYDD— CYCHWTNIAD METHODISTIAETH YN Y FRO— ADEILADIAD Y CAPEL Y CYNULLIADAU AR SUL PEN MIS YNDDO— BWLCH-Y-GROES— BYCHANDER EI GYCHWYNIAD— OEDFA HYNOD GAN JAMES MATTHIAS— FFYDDLONDEB THOMAS GRIFFITH— JOSIAH EVANS— CODIAD Y CAPEL A BYWIOCAD YR ACHOS— AIL A THRYDYDD ADEILADIAD Y CAPEL— GEORGE GRIFFITHS— PONT-GAREG— GLAN- RHYD— CILGERAN— THOMAS MORRIS— ADFYWIAD CYFFROUS, A DAROSTYNGIAD HEN ARFERION.

CAPEL-NEWYDD.

Yr ydym wedi cyfeirio at y lle hwn rai gweithiau yn achlysurol, fel un o hen orsafoedd Methodistiaid sir Bení'ro. Y mae yn sefyll ar gẁr mwyaf gogleddol y sir, ac yn nodedig yn hanes Methodistiaeth, am ei fod yn un o'r ddau gapel Methodistaidd y gweiüyddid swper yr Arglwydd ynddynt yu y sir hon yn amser Howel Davies. Y llall, fel y crybwyllasom, oedd capel Woodstock. Y mae hwn yn dynesu at derfynau sir Gaerfyrddin o du y dwyrain, ac at sir Aberteifi o du y gogledd.

Fe ymddengys fod Howel Harris wedi ymweled â'r broydd hyn yn bur fuan ar ol cychwyuiad Methodistiaeth yn y wlad. Sonir fod cymdeithas fechan wedi ei ffurfio mewn lle a elwir Cerig-gwynion, cyn bod pregethu yn y Capel-newydd. Yr oedd hyn tua'r fl. 1743. Ymddengys hefyd fod y gym- deithas a gyfarfyddai yu y Cerig-gwynion, yn raddol wedi ymranu er mwyn cyfleusdra ; y naill ddosbarth i gyfarfod o hyny allan yn Llechryd, a'r Ilall yn yr Hen-barciau, sir Benfro, sef ffermdŷ yn mhlwyf Clydau. Yr oedd pregethu achlysurol hefyd mewn lle arall, tua dwy fiUdir o'r Hen-bai'ciau, sef y Fach-hendre', yn mhlwyf Capel Coleman. Yr oedd hyn tua'r fl. 1750.

Y prif offerynau a ddefnyddiwyd i ddwyn y gwaith da yn mlaen yn yr ardal hon oedd y Parch. Howel Davies ; John Harris, Treamlod ; Henry Eichards o sir Benfro ; Enoch Davies, Penbont-bren ; a Mr. Godfrey, Parc-y-bedw, o sir Gaerfyrddin. Bu y gwýr hyn yn flyddlawn a Ilafurus i ddwyn yn mlaen yr achos yn y fro hon, pan ydoedd yu isel arno, a gwenodd yr Arglwydd ar eu Ilafur, megys y gwelir heddyw.

Tua'r fl. 1751, meddir, y ffurfiwyd y gymdeithas eglwysig reolaidd gyntaf yn y Ile hwn. Nid oedd ei nifer ar y dechreu ond ychydig, ac nid annhebyg ydyw na fu yr aelodau a gyfarfyddent unwaith yn y Cerig-gwynion, wedi y dosbarthiad a fu arnynt yno, heb un cyfarfod eglwysig rheolaidd dros ryw dymhor, sef o'r fl. 1743 hyd 1751, Amser oedd hwn pryd yr ymgynullai Uuaws 0 bobl o'r amgylchoedd i wrando Howel Davies yn eglwys Llechryd,

320 HANESIAETH Y SIROEDD. [DOSB. IV.

yr lion yu fuau a aeth yn rhy gyfyng i fldal y gwrandawyr ; yna fe bregeth- ai yn y fynwent yu fynych, a thra bendithiol y dywedir fod ei weinidogaeth.

Y gwŷr a arweinient y praidd bychan yn yr Hen-barciau oedd Thomas Griffith, preswylydd y ; Richard. Griffith ; a Dafydd Evan. Mae rhai sydd. eto yu fyw yn cofio y gwŷr hyu yn eu henaint, ac yn dyweyd llawer am eu rhagoroldeb fel dyniou ysbrydol a gwerthfawr. Isel oedd eu hamgylchiadau bydol, ond yr oedd eu cymeriad yu uchel ac anrhydeddus iawn. Blaenorent mewn gweithredoedd da, parent eu harswyd ar annuwiolion y fro, a gosod- asant argraft' ar gydwj^bodau pawb a'u hadwaenent mai dynion Duw oeddynt.

Llwyddodd yr achos yn yr Hen-barciau, amlhaodd y gwrandawyr, ac ym- ddangosodd yr angen am le mwy cyfleus i addoli ynddo. Ymofynwyd am dir i adeiladu arno, ond yu aflwyddiannus am ryw ysbaid. Yr oedd tir-feddiannydd helaeth iawn o'r enw Stepheu Colby, Ysw., o'r Fynnonau, yn preswylio yn y gymydogaeth, yr hwn oedd gadben yn y Llynges, a boneddiges yr hwn oedd yn garedig i'r Methodistiaid. Cafwyd addewid gan y teuhi hwn o le i ad- eiladu capel. Ehyw amser, pan oedd y Parch. Howel Davies \ti dyfod dros y bryn o Lechryd i'r Hen-barciau, efe a ddywedodd wrth y cyfeiUion oedd gydag ef, "Dyraa'r fan y mae jtì rhaid cael capel," gan gyfeirio at ysmotyn o dir ynghanol yr eithin mân, a thaflu ei chwip i lawr arno. Cafwyd y Ue gan y boneddwr crybwylledig, ac yn y fl. 1763, adeiladwyd capel eang arno. Yr oedd capel Woodstoclc wedi ei godi naw mlynedd cyn hyn. Galwyd hwn y Capel-netcydd j a phregethodd y Parch. Howel Davies yuddo cyn fod arno, oddiar y geiriau, " Gad, llu a'i gorfydd, ac yntau a orfydd o'r di- wedd."

Dywedir hefyd fod Howel Harris wedi bod yn pregethu yn y capel hwn rai troion. Rhaid oedd fod hyn ar ol i archolUon yr ymraniad fod wedi iachau graddau. Sonir yn neiUduol am un oedfa o'r eiddo. Fel yr oedd yn pregethu yn y capel hwn ar ryw bryduawn Sabboth, i filoedd o bobl a ddaethent i'w wrando, fe safai jti ífeuestr y pulpud, ac a ganfyddai ŵr ieuanc gwamal yn nghẁr pellaf y dyrfa, o'r tu aUan i fur y fynwent, yn ceUwair ; ar hyn edrychodd arno, a chyfeiriodd ei ymadrodd ato, a hyny gyda'r fath )ym- der a nerth, ues y syrthiodd y gŴT ieuanc, er cryfed ydoedd, i lewyg yn y fan.

Fe fu y Capel-newydd yn enwog am agos i hanner cant o flynyddoedd fel casgl-fan Methodistiaid yr hoU ardaloedd cylchynol bob mis i gyd-gyfranogi o swper yr Arglwydd ; canys hwrt oedd yr unig gapel y gweinyddid yr ordinhad hòno ynddo yn yr hoU ardaloedd hyny. A chan fod flbrdd beU o'r fro hon i ■\Voodstock yu sir Benfro, Llangeitho yn sir Aberteifi, neu LanUuan yn sir Gaerfyrddin, y Ueoedd nesaf eraül y gweinj'ddid swper yr Arglwydd yn fisol ynddynt, yr oedd yma luaws mawr iawn yu cyrchu i'r Ue hwu ar yr adegau hyny. Y gwŷr a weinyddent yma oeddynt, Howel Da-säes yn benaf, tra y bu byw ; ac yn ei absenoldeb ef fe fyddai Dauiel Eowlands, neu ei fab Nathaniel Eowlauds; Davies, GasteU-nedd; D. Jones, Llangan ; neu WilUams, Lledrod. Yn y capel hwn y pregethodd Eowlands, yn y fl. 1773, ar Heb. iv.

PEN. IV.J SIR BENFEO. 321

15 ; y bregeth a roes y fath argraffiadau dyfnion ar feddwl Mr. Charles y Bala, na anghofiodd ef mo'nynt byth.* Yn y capel hwn hefyd y pregethodd Jones, Llangan, ei bregeth olaf.

Ni fu y gangheu eglwys yn y lle hwn un amser yn lluosog iawn ei rhif, eto fe fyddai rhyw dywalltiadau rhyfeddol yn disgyn yr amseroedd hyny ar y cynulliadau a fyddent yma. Yr oedd y mwynhad a geid yma ar Sabbothau cymundeb yu fwy, ymron, nag a ellir yn hawdd ddychymygu. Mae rhai o'r hen bererinion hyny eto yn fyw, ac 0 ! gyda'r fath deimladau by wiog y soniant hyd heddy w am yr amserau hyny, y dadseiniai y ífyrdd a'r bryniau gan lais cân a moliant, fel y dychwelai yr addolwyr o'r ẃyl. Dywedir mai o 60 i 80 oedd rhifedi yr eglwys yn y Ue hwn y pryd hwnw, a thua'r nifer hyuy ydyw eto.

Yn y fl. 1812, dechreuodd gŵr ieuanc, o'r enw Philip James, bregethu yn y lle hwn, ond wedi llafurio yn ddiwyd am ysbaid 10 ml., efe a fu farw. Daeth yma bregethwr arall o sir Gaerfyrddin i breswylio, o'r enw Thomas Nathan ; hwn hefyd a redodd ei yrfa, ac a fu farw yn y fl. 1848. Hefyd, dechreuodd gŵr ieuanc arall o'r enw John Davies, bregethu ; ac wedi gwas- anaethu ei genedlaeth yn ífyddlawn am dymhor byr, symudwyd yntau o'r byd yn y fl. 1846. Yn y fl. 1848, ail-adeiladwyd y capel. Mae yn awr yn adeilad hardd, eang, a chyfleus, ac arwyddion boddlonol fod y gogoiiiant heb ymadael.

BWLCH-Y-GROES.

Nid yw y capel hwn ond tua hanner milldir o'r Hen-barciau, y ffermdy y bu pregethu yuddo am flynyddoedd, Yr oedd hyn tua'r fl. 1750, fel y cry- bwyllwyd o'r blaen. Cyfí"elyb oedd cychwyniad y Ile hwn, o ran dull ac amser, a'r Capel-newydd. Nid oedd yn y gymdeithas eglwysig, am rai blynyddau, ond tri aelod, sef un l'homas Grifíiths a'i wraig, a gwraig arall o'r enw Ann Morris. Ar Sabbothau cymundeb, cyn adeiladu y Capel-newydd, âi y tri hyn i Woodstock i'r cymundeb, er fod iddynt tuag ugain milldir o fi:brdd. Nid oedd y nifer hwn ond bychan, a phan yr ystyrioni fod eu ham- gylchiadau yn isel, y mae yn rhaid y dangosid llawer o flyddlondeb i gadw y moddiou i fyny, gyda gradd yn y byd o gysondeb. Yr un pregethwyr a fyddai yn Uafurio yn y Ue hwn ag a lafuriai yn y Capel-newydd, a mawr a fu eu Ilafur a'u ffyddlondeb dros flynyddau. heb lawer o arwyddion aml wg o Iwyddiant.

Wedi cryn amser o iselder ar yr achos, dygwyddodd amgylchiad a roes radd o ysgogiad iddo yn mlaen ; amgylchiad a barodd radd o gyffro ya mhlith y trigoliou difraw, ac a wasanaethodd i beri mwy o astudrwydd yn nghylch pethau bywyd tragwyddol, Yr oedd cyhoeddiad un Dafydd Jones, o'r Derlwyn, i fod yn pregethu yu y gymydogaeth. Yr oedd y pregethwr yn adnabyddus fel un helaethach ei ddawn na'r cyffredin, ond nid oedd, er hyny,

Gwel Cyf. I., tudal. 326.

322 HANESIAETH Y S1K0EDD. [iJOSB. IV.

cystal ei gymcriad, fel yr ymddangosodd ar ol liyu. Y tro hwii, pa fodd bvnao-, ni ddaeth y pregethwr a ddysgwylid ; a chymhellwyd Jaraes ìîatthais 0 Gastell-uewydd-yn-Eiulyn i gadw'r oedfa. Yntau a nfyddhaodd ; ac ar ganol yr oedfa, duodd yr awyr i raddau anarferol, gorweddai cyraylau duon a thewion ar yr holl fro, fel mai o'r braidd y caniateid i oieuni yr haul dreiddio trwyddynt. Uechreuodd y mellt wau, a'r taranau ruo yn arswydus ; a dis- o-ynai y gwlaw, îe, ''gwlaw mawr ei nerth," nes oedd pob calon yn dychlamu gan f.('aw, gan gwbl gredu fod diwedd y byd wedi dod. Edrychai pawb ar eu gilydd heb yngan gair, gan ddysgwyl, yn ddiau, yr ymddangosai y Barn- wr yn ebrwydd. Nid oédd dim gornaturiol yn yr amgylchiad hwn, er ei fod yn dra mawreddig ac ofnadwy ; ar yr un pryd, gwasanaethoíhl, dan fendith yr Arglwydd, i beri gwrandawiad astud a difrifol i genadwrí y prfgethwr, a bu yr oedfa yn foddion i ddychwelyd Uuaws o bechaduriaid ; a chwanegwyd at yr eglwys gryn nifer o wŷr a gwragedd.

Bellach, aeth Thomas Griffith yn rhy fychan i gynal y gynuUeidfa ; a pharodd bryder mawr yu ei feddwl pa beth a ellid ei wueyd i gyfarfod â'r angen. Pcnderfynodd, pa fodd bynag, i wneyd cais ar adeiladu newydd helaethach na'r hen. Ymosododd hefyd at y gorchwyl yn ddioed, ac wedi cloddio peth o'r ddaear, a chael Ue i osod ei sail, syrthiodd yr hen bererin ar ei liniau yn y Ue, a gweddiodd yn ddwys ara Iwydd ar ei ymdrechion, gan addaw, ar ei orpheniad, y cai y ei gysegru i Dduw a'i waith. Atebwydei weddi, a rhoddwyd iddo ei ddymuniad. Gorphenwyd y newydd, a galwyd ef Farciau ; a chynaliwyd moddion ynddo am 20 ml. Yn yr ysbaid hwn, yr oedd rhai enwogion yji gweini eu cynorthwy achlysurol, trwy bregethu yn y Parciau, megys Mr. W. Lloyd, HenUan ; Mr. Samuel Lloyd, Abertawe ; a Mr. John "\Yilliaras, student (fel y'i gelwid). Yr oedd yn y gymdeithas eglwysig yma un pregethwr yn mhlith ei haelodau, sef Mr. Josiah Evan3. Cafodd y gŵr yma araser maith i lafurio yn ngwinllan ei Arglwydd, a llafurus a fFyddlawn a fu am 60 mlynedd. Gwelodd gapel Bwlch-y-Groes wedi ei adeiladu y drydedd waith.

Wedi i'r pregethu fod yn y Parciau am 20 ral., symudwyd ef dan ddylan- wad rhyw amgylchiadau, i le arall yn y gymydogaeth, o'r enw Coed-mor, neu Coed-mawr ; a bu yno am ysbaid pum' mlynedd. Bellach, yr oedd yr achos yn dechreu ymwreiddio, a'i ganghenau yn ymestyn ac yn lluosogi. Yr oedd yr aelodau a'r gwrandawyr wedi amlhau llawer, yn ystod y 40 ral., a mwy, y bu, fel uchod, yu cyfaneddu mewn pebyll, a gwelid y priodoldeb, bellach, i geisio mwy eaug a sefydlog i Arglwydd y Lluoedd. Adeiladwyd yma gapel, gau hyny, dan yr env/ Bwlch-y-groes, yn y fl. 1797. Yn mhen rhyw dymhor ar ol adciladu yr addoldy cyntaf hwn, gweiodd yr Arglwydd yn dda ymweled â'r achos drachefu, mewn adfywiad grymus. Cychwynodd y cy- ffroad hwn dan weinidogaeth yr hen weinidog llafurus, a orphenodd ei yrfa yn ddiweddar, sef y Parch. William Havard, swydd Erycheiniog. Yr oedd y tro hwn, medd yr hen bobl, yn un tra nodedig. Cerddai y fath rym ac awdurdod gyda'r gair ar y pryd, nes eíTeithio mewn modd gweithredol a

PEN. IV.] SIR BENFRO. S2S

gweledig i ranu y gynuUeidfa, fel pe buasai y Baniwr yno. Ciliai y naill ddosbartli oddiwrth y Uall, a phawb at ei ddosbarth ei hun, i bob pen i'r capel ; y naill ddosbartli- yu mwynhau ac yn moliannu, a'r dosbarth arall yn delwi gan fraw aruthrol. Ehwng y ddau yr oedd cyfwng gwag, ac yn awr ac eilwaith, fFoai ambell un oddiwrth yr eiddo, sef y fintai annychweledig, at y nall, niegys un yn dianc am ei fywyd. Chwanegodd jr ymweliad hwn lawer at nifer yr aelodau crefyddol, a'r gwrandawyr ; a pharhaodd yn ei dan- beidrwydd dros rai misoedd. Gwelwyd angenrheidrwydd yn fuan am addoldy eangach na'r cyntaf, ac felly, yu y fl. 1813, yn mhen 16 ml. ar oi adeiladu y tro cyntaf, ymosodwyd at y gwaith o ail-adeiladu. Gwnaed y tŷ, y tro hwn, yn llawer heLnethach na'r un o'r blaen, a pharhaodd yn ddigon helaetli i'r gynuUeidfa am agos i 20 ml. Fe fu y gwersyll yn aros yn Ued sefydlog dros ystod y tymhor hwn, heb ryw ysgogiatl grymus ynddo yn mhieu ; ac i'r graddau nes yr aeth yr lien bobl i gwyno yn drwm gan ddi- eppiledd S'ion. Braidd nad oeddynt barod, bellach, i ddyweyd, mewn di- galondid a llwfrdra, " Yr Arglwydd a'm gwrthododd, a'm Harglwydd a'm Jianghofiodd."

Ond yr Arglwydd a ddychwelodd ac a drugarhaodd eilwaith wrth ei drueiniaid, a gwnaeth yr anmhlantadwy yn llawen-fam plant. Yn y fl. 1833 Y bu adfywiad dracliefn, ac y chwanegwyd niferi at yr eglwys. Y tro hwn hefyd, aeth y capel yn rhy fychan drachefn, ac adeiladwyd ef y drydedd waith, ac agorwyd ef ar y 4ydd a'r 5ed o Awst y fl. hòno. Mae hwn yn addoldy hehaeth a phrydferth iawn ; ac wrth edrych arno yu awr, a chofio y wedd oedd ar rethodistiaeth pan oedd y pregethu yn y Parciau, hen a newydd, prin y gellir ymattal rhag tori allan mewn syndod a diolchgarvvch, a dyweyd, " Beth a wnaetli Duw ! "

Yr oedd hefyd yn byw gerllaw y lle hwn bregethwr arall o'r enw George Griffiths. Cyfrifid hwn yu fwy ei ddoniau gweinidogaethol na chyffredin ; a gresyn na bai mwy o'i hanes ar gael nag sydd. Yr oedd hwn, fel Eobert Eoberts, Clynog, o gorff" aniTurfaidd, y naiU ysgwydd yn uwch na'r llall ; ar yr un pryd, gwisgid ef weithiau ag arddeliad rhyfeddol. Nid oetld Josiah Evans yn meddu ar gymaint o ddawn, eto fe safai yn uchel iawn o ran ei gymeriad fel Cristion gloyw, ac fel cynghorwr fí"yddlawn a chywir. Meddai un brawd am dano, brawd a'i hadwaenai yn dda, " Cymerai ei safle ar ryw air o'r Beibl, a dilynai yr hen gyfrol, o'r Aiff't, at y Môr Coch ; ac i'r anial- wch ; at y sarff" bres. a'r preu ya Mara ; wedi hyny yn Babilon, at y llanciau yn y ffwrn, a Daniel yn y fí"au ; ac yn olaf i Bethlehem a Chalfaria ; ac fel un wedi cyrhaedd digonedd, a derfynai. Bu yn "fl'yddlawn hyd angau, a rhodd- w'3'd iddo goron y bywyd."

PONT-GAEEG.

Mae y Ue hwn yn sefyll yn mhlwyf Cenarth, sir Gaerfyrddin, ond yn gy- sylltiol â chwrdd misol sir Benfro. Canghen ydyw wedi tarddu o Fwlch-y-

324 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

groes, ae mewn rhan hefyd o'r Capel-newydd. Tr oedd yma rai aelodau perthynol i'r ddau le yn byw yn y gymydogaeth, y rhai a deimlent awydd i wneuthur rhywbeth er eangu teyrnfis Crist. Ymosodasant ar hyn yma, yn gyntaf, trwy gynal cyfarfodydd i weddio yu wythnosol, mewn tỳ auedd bych- an yn yr ardal. Esgorodd hyn ar sefydliad Ysgol Sabbothol yn yr un lle. Calonogwyd y brodyr, trwy y llwyddiaut a roddwyd ar eu llafur gyda'r ysgol, i ymofyp am bregethu i'r lle ; caed hyn yn y dechreu yn yr wythnos, ac wedi hyny ar y Sabbothau hefyd. Bellach, ffurfiwyd yma gymdeithas eglwysig, fel canghen o Fwlch-y-groes. Cedwid y cyfarfodydd neillduol ar y dechreu, unwaith jn y pymthegnos, Yn raddol, fe Iwyddodd y gwaith yn ei holl ran- au, yn enwedig yr ysgol Sabbothol. Cynelid amrywiol ganghenau o honi mewn tai eraill, mewn gwahanol gymydogaethau, gan na chynwysid ei deiliaid, 0 herwydd eu rliif, yn yr anedd-dŷ cyntaf, Bellach, yr oedd yr angenrheid- rwydd am gapel neu ysgoldy yn nheimlad pawb, ac er gwneyd pob ymdrech i gael tir i hyny, yr oedd y cwbl yn aíiwyddiannus. Yn y fl. 1817, prynodd un o'r aelodau dyddyn mewn lle tra chyfleus yn y gymydogaeth, a'r gwaith cyntaf a wnaeth wedi cymeryd meddiant o'r tir, oedd neillduo hanner erw o hono i adeiladu capel arno, fel oífrwm i'r Arglwydd. Yn awr, yr oedd pob rliwystr wedi ei symud, a'r addoldy a adeiladwyd yn y fl. ganlynol ; ac er nad oedd yr adeilad ond bychan a diaddurn, gwerthfawrogid ef yn fawr gan y preswylwyr, am roddi ^^iddynt, trwy hyn, arosfa sefydlog i'r achos yn eu plith. Yn yr addoldy hwn y cynelid y moddion, bellach, a pharhaodd i fod yn cwrdd am 27 ml. Erbyn y fl, 1844, yr oedd y gwrandawyr wedi lluosogi, a'r aelodau wedi amlhau, ues bu raid dyfod i benderfyniad i ail-adeil- adu ac eangu y cwrdd, a hyn a wnaed yn y fl, 1845. Yn bresenol, mae yn adeilad hardd a chyfleus, teilwng i'r achos, a chymhwj^s i'r gymydogaeth.

Mae y swyddogion cyntaf oll wedi gorphwys oddiwrth eu Uafur, oddigerth un ; yn nhŷ yr hwn y dechreuwyd yr achos, a'r hwn, bellach, sydd dros ei 80 ml, oed. Cododd yma un gŵr ieuanc i bregethu o'r enw Lemuel Phillips. Mae nifer yr aelodau tua 72.

GLANRHYD.

Mae y lle hwn yn gorwedd yn mhlwyf Nefern, ar fin y fí'ordd, a thua hanner y ffordd o Aberteifi i Drefdraeth, Dechreuwyd pregethu gan y Methodistiaid yn y gymydogaeth tua'r fl. 1764, mewn dau anedd-dŷ, sef y Fagwyr-goch, lle y preswyliai un Mr, Johu Llwyd ; a Chwrt-y-mwnws, Mr. John Matthias. Fel hjm y bu am agos i 40 mlynedd. Tua'r fl. 1800, cafwyd pregethu hefyd i'r Rhydgaled, cartref yr hen bererin duwiol, Mr. Eynon Griflaths.

Y pregethwyr a fu yn Uafurio yn benaf gyda'r achos yn ei ddechreuad oedd Mr. John Llwyd o'r Fagv*yr-goch ; a Mr. David George, Ty wen-fro ; ill dau o'r ardal. Byddai Mr. John Harris, Treamlod, Henry Eichards hefyd, a'r diweddar Barch. John Thomas, Aberteifi, yn cyd-gynorthwyo.

PEN. IV.] SIR BENFRO, 825

Nid oedd yr aelodau yn y lle hwn, am agos i'r 80 ml. cyntaf, ond o 10 i 15 mewn rhifedi. Yn yr eglwys fechan hon y cartrefai y Parch. David Griffiths, Llantwood, yr hwn y mae ei glod trwy yr hoUeglwysi. Neillduwyd efyn y fl. 1814, a bu farw yn y íl. 184.5. Bydd coffadwriaeth y cyfiawn hwn yn fendig- edig, yn enwedig yn y rhanau uchaf hyn o sir Beufro, am flynyddoedd lawer. Tua'r fl. 1792, torodd diwygiad allan yu y Fagwyr-goch, ar brydnawn Sabboth, tra yr oedd y diweddar Abel Thomas, Castell-newydd, yn pregethu. Yn ystod yr adfywiad grymus hwn, chwauegwyd at yr eglwys 30 o rifedi. Nid yn hir ar ol hyn, tybygid, yr adeiladwyd y capel, yr hwn yn ddiweddar a adnewyddwyd ac a harddwyd,yn benaf gan fab Mr.Eynon Griffiths,Ehydgaled, yr hwn sydd yn byw yn yr un Ue a'i dad, a'r hwn a gynorthwywyd yn ffydd- lawn ac ewyllysgar gan eraill. Mae y gymdeithas yn awr tua 88 o rhifedi.

CILGERAN.

Mae hon yn dref fechan, o fewn tair neu bedair miUdir i Aberteifi. Mae son i Howel Harris ymweled â'r dref hon yn foreu ar ol i wawr Methodist- iaeth dori ar Gymru ; ac mai nid dieffaith a fu ei ymweliad. Yr oedd ei weinidogaeth mor Uym, a'r fath awdurdod yn cydgerdded a hi, nes oedd y gwrandawyr yn syrthio ar y ddaear, ac yn llewygu gan ofn a dychryn. Ehoddodd rhai heibio eu gorchwylion, gan gredu fod diwedd y byd ar y drws. Daeth Harris heibio drachefn, gan efengylu pethau daionus am Waredwr pechaduriaid, nes rhwymo y rhai briwedig o ysbryd, a chysuro pob galarus. Aeth pawb, bellach, at eu gwahanol orchwylion yn llawen eu calon.

Yr oedd yma rai crefyddwyr, tybygid, er dyddiau Harris i waered, y rhai oeddynt aelodau yn eglwys y Capel-newydd, y Ile, fel y crybwyllwyd, oedd prif gyrchfan crefyddwyr y broydd hyn. Ond wedi treigliad cryn amser, ni ddywedir pa faint, cafwyd pregethu i'r dref hon, ac ymffurfiodd yr ychydig grefyddwyr, ag yr oedd hyny yn gyfleus iddynt, yn eglwys fechan yn y dref,

Yr oedd yma dri o wŷr yn golygu yr achos y pryd hwn, sef dau frawd, Thomas a Stephen John, a Thomas Morris, Wyr i Thomas John ydyw y gŵr ieuanc o'r un enw sydd yn pregethu yn y lle yn awr. Yr oedd Thomas Morris yn ŵr tra ffyddlawn, ac yn ofni Duw yn fwy na Ilawer. Yr oedd îddo air da gan y rhai oddiallan, ie, gan y gwirionedd ei hun. Yn mhen blynyddoedd ar ol ei osod i gydolygu yr achos yn y Ile, annogwyd ef i lefaru yn gyhoeddus. Cysyniodd yntau â dymuniad ei frodyr, a pharhaodd i gynghori ei gymydogion hyd ddydd ei farwolaeth. Agorasai ei i achos y Gwaredwr, ac ynddo y bu pregethu, a phob moddion eraill, am flynyddoedd. Mab iddo ef ydyw y Parch. WiIIiam Morris, yn awr o ddinas Dewi Sant ; ond a ad- waenir, yn enwedig yn Ngwynedd, dan yr enw William Morris, Cilgeran. Mae yn deilwng o sylw, mai efe oedd yr unig blentyn a fagwyd, yn yr oes hòno, o'i febyd, yn eglwys fechan Cilgeran. Diau fod coffadwriaeih Henry Eichards, Trefin, a Thomas Morris, Cilgeran, yn haeddu parch dau ddy- blyg, gan y gwasanaeth tra mawr a wnaeth eu meibion, sef y Peirch. Ebenezer

g26 HANJiSlAETH Y SIROEUÖ. [iJuSB. ÍT,

a Thomas Richards, a Wüliam Morris, i Fethodistiaeth, yn hytrach, i deyrnas y Cyfryngwr, yn mysg eu cyd-genedl.

Tua'r fl. 1794, daeth un John Edwards, Lhinddewi-brefi, i Gilgeran i lefaru, a chofiadwy iawn hyd heddyw, i'r rhai oedd yno, oedd y tro. Gyda'i weinidogaeth, arllwysodd y fath arddelwad nes torodd diwygiad allan, y fath na fuasai erioed yn y lle ; yr oedd pawb, ymron, yn y Ile, naill ai yn wylo, llefain, gweddio, neu yn moliannu, a'r pregethwr yn eu mysg ; ac felly y buont hyd dranoeth. Ac nid hwn oedd yr unig dro, er mai hwn oedd y cyutaf, y gwelwyd y fath olygfa ; ond mynych, ar ol hyn, y treulid nosweithiau vn yr un modd. Parodd yr adfywiad hwn ei ol nid yn unig ar y erefyddwyr, neu ar y gwrandawyr, ond hefyd ar arferion y dref a'r gyraydogaeth. Di- flanodd yr hen gampau ffol, a'r ymladd ceiliogod a ffynent gymaiut o'r blaen, fel na chodasaut byth mo'u penau. Bu yma ryw arferiad gan yr hen bobl o ganu ffegodau gorweigion ar y Sabbothau, gau ddysgu a Ilithio y bobi ieuainc i'r arferiad. Ond yn y tro hwn, cafodd y bobl flas ar foliannu Duw, a syrthiodd yr hen arferiad hono i'r Ilawr. Ac er i ryw un (Gwyddel, medd- ant, 0 genedl) wneyd cais teg ar eu hadferu, fe gafodd fod goleuui y dydd yn ihy gryf i'r dyllhuauod hyn ymddangos.

Bu yr adfywiad hwn yn foddion i chwanegu rhai ugeiniau at y ddeadell fechan. Aeth rhai o honynt yn eu cariad cyntaf i'r bywyd ; rhai a droisant yn eu hol, ac ni rodiasant mwyach gyda'r lesu. Eraill a adferwyd, rhai a "ddaliasant eu ffordd, ac a chwanegasant eu cryfder ; " a rhyw ychydig nifer 0 honynt ydyut yu aros hyd y dydd hwn. Adeiladwyd yraa gapel bychan yn y fl. 1795. Helaethwyd hwn yn y fl, 1832. Mae dau lefarwr yu preswylio yma, Mri. Thomas John, ac Ebenezer Bowen. Dywedir fod dau weinidog, perthynol i wahanol enwadau, yn Uafurio yn Cilgeran, cyn fod pregethu gan y Methodistiaid yn y dref, ond na fu llawer o ôrwyth i'w Ilafur. " Byddai un," meddynt, " yn pregethu teyrnasiad persouol Crist ar y ddaear, a'r Ilall yn tynu gwaith ei gymydog i lawr; ac uö'ern, mae lle i feddwl, yn chwerthin am ben y ddau, tra yr oedd anwybodaeth a drygfoes yn gorchuddio yt holl fro."

P E N N 0 D V .

EGLWYSI BOREUAF Y SIR, A'U CANGHENAU.

cîswysiad:

ABEEGWAUN— DECHREUAD METHODISTIAETH YN Y DREF— ERLID RHYWHEN BREG- ETHWR— WHITFIELD YX PREGETHU YN Y DREF— JOHN' HARUIS, YN TRELLAN YX PREGETHU— ADEILADU Y CAPEL— JOHN DAFYDD, CROEN LLWYX— MR. THOMAS DAYIES, A MR. JONES, LLANGAN— PREGETHWYR ABERGWAUN— WDIG A THRE'-DDAFYDD— CARXACHEN-WEX A THREFIN— MILFORD.

ABERGWAUN.

NiD oedd y dref hon a'i hamgylchoedd ddim yn eithriad i barthau eraiU o'r sú-, 0 ran aafoes, ofergoeledd, ac auwybodaeth, cyn i Howel Dayies a

PEN. V.] S1K BBNFIÍO. 327

Joha Harris ddechreu eu llafur yriddi. Crybwyllasom eisoes pa fath ydoedd yr arferion hyny, a rhag meithder ni a gyfeiriwn y darllenydd at y desgrifiad a roddwyd yn oL*

Ymddengys fod Howel Harris wedi ymweled ag Abergwauii yr un amser ag yr ymwelodd â Thŷ Ddewi, sef y û. 1739, yr un fl. ag y sangasai gyntaf ar dir y Gogledd. Safai y pregethwr, y tro cyntaf hwn, ar ben grisiau hen ar gyfer y llan. Yr oedd yr hen a'r grisiau yn sefyll hyd y fl. 18á4, pan y tyuwyd i lawr amryw o hen dai, a hwn yn eu nifer, i gael lle i adeiladu marchnadfa. Mae grisiaii yr esgynfa bresenol i Neuadd-y-clref (Towri Hall) yu gymhwys ar y fan y safai Howel Harris i draethu ei neges dros Dduw. Yr ail dro y bu yraa, fe safai yn N^gardd-y-taned, wrth ochr orllewiuol y fonwent. Nid yw yr amgylchiadau hyn, mae'u wir, ond o bwys bychan iawn; ar yr un pryd, maent o leiaf yn profi yr amgylchiad a goíi'cir, gau y gellir cyfeirio at y fan a'r lle y bu hyuy. Nid ydym yn cael fod ncrthoedd a rhyfeddodau mawriou yn cydgerdded â'i weinidogaeth y tro hwn, y fath ag a fyddai yn fynych, eto y mae profion fod rbai persouau wedi cael eu dai gan ystyriaeth a difrifwch y tro hwn. Ymddangusodd y difrifwch hwu truy eu bod yn ymgynull at eu gilydd, ar brydnawn Sabbothau, i hen dỳ a elwid Peu-y-gnwc, yr hun oedd yn agos i'r fau y saif y copel arno yn awr, i ddar- Uen llyfr y Ficcr; yr hwn, fe allai, oedd yr unig lyfr crefyddol ag oedd y pryd hwnw yn eu cyrhaedd.

Nid oes sicrwydd am ysgcgiadau y crefyddwyr hyu, dros ryw an.ser ar ol dyfodiad cyntaf Ilowel Harris i'r lle. Yn mhen rhai blyuyddoedd, pa fodd bynag, daeth y Parch. Daniel Piowhinds i Abergwauu ; cafodd bregetìiu y tro hwn yn eglwys y plwyf, a'i destyn ydoedd, " Pob beth sydd barod, dcuwch Vr briodas." Nid oes hanes am effeithiau y bregeth hon ychwaith ; yn unig dywedir fod rhyw ddyhiryn wedi cymeryd arno fyued oddiamgylch y drcf, a gweithdai y gofaint, i wawdio y pregethwr. I^id oes hanes am neuiawr erlid wedi bod yn y dref hon, oddieithr ar un achlysur. Dywedir fod hen ŵr unwaith wedi cynyg pregethu ar yr heol, ac i ryw ddyn ddod yu mlaen ac ymaflyd yn ei ysgwydd, gan ddyweyd ei fod ef ar ei yn rhwym o gymeryd i fyny bob dyn a gynygiai bregethu allan o'r eglwys. I hyn yr atebodd yr hen bregethwr, " Pe dâl yr Arglwydd i ti a'th hiliogaeih am y sarhad hwn." Y'r oedd eglwysi gan y Bedyddwyr a'r Annibynwyr yn agos i'r dref tua'r fl. 1707, ac felly cyn fod Methodistiaeth wedi ei eni, a bernir mai pregethwryn perthyn i'r naill neu y llall o'r enwadau hyny oedd yr heu ŵr. Nid oes hanes m\vy am y pregethwr, ond í'e sicrheir am y dyn a aflonyddodd arno, d<larfod ei oddiweddyd ag auíFawd dost : pydrodd ei goes yuiaith cddiwrth ei goríì'; achofus gan rai sydd eto yn fyw weled mab iddo, yn heu \vrgwael, a'i aelodau yn wywedig, ac yn cael ei alw mewn gwawd, " Brtn'm Llanychare"

Mae hanes hefyd fod y Parch. George Whitfield wedi bod yn y dref hon yn pregethu fwy nag unwaith. Safai un tro wrth ddrws boueddur o'r euw

Tii<lal. 289, cyf. ü.

328 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. It.

Burnell, Sais o genedl, ac yn byw yn y sydd yn llythyr-dŷ yn awr. Dro arallj mewn a elwir y Cwrt, yn y dref isaf, lle yr oedd boneddigion o'r enw Fentons yn byw. Mae boneddwr anrhydeddus o'r teulu yn byw yn y dref isaf yn awr. Mae y tro hwn yn fwy cofus, gan ei bod ar y pryd yn rhew caled, ac mai jti nhraed eu hosanau yr oedd y bobl yn gallu myned i lawr y llethr serth i'r dref isaf.

Yr sedd John Harris yn un o'r cynghorwyr cyntaf a ymwelodd a chymyd- ogaeth Abergwaun, o blith y Methodistiaid, ar ol Howel Harris. Y lle y derbyuid cf iddo oedd amaethdy, o'r enw Trellan. Deuai yma yn achlysurol ar brydnawn Sabboth, ac ymgasglai Uuaws o bobl ynghyd. Yr oedd pregethu mewn tai anedd, neu ar yr heolydd, yn beth newydd a dyeithr y pryd hwnw, a chan ei newydd-deb, fe sugnai y dull hwn o bregethu lawer o bobl i wrando. Mae Trellan o fewn dwy íìlldir i Abergwaun. Yr oedd y teulu a gyfaneddent y hwnw yn mhlith y rhai cyntaf a ymunodd â'r Methodistiaid ; ac y mae crefydd wedi aros yn y teulu hyd heddyw. Mae tair cenedlaeth eisoes wedi treiglo heibio, a'r bedwaredd sydd yn awr yn blaenori gyda'r achos, ac nid oes arwydd, hyd yn hyn, fod crefydd ar gymeryd ei haden yn fuan o'r tealu.

Er nad oedd, hyd yn hjTi, ddim pregethu cyson gan y Methodistiaid yn y dref, eto yr oedd rhai personau o'r dref yn arfer gwrando yn Trellan, ac wedi eu henniU hefyd trwy air y gwirionedd i fod yn flaenffrwyth Methodist- iaeth yn y dref ei hun. Eiddigeddai y rhai hyn am gael Ue mwy cyfleus i gwrdd â'u gilydd o fewn y dref ; ac i'r dyben hwnw, trwsiwyd hen ysgubor fechan, yn agos i'r fan y mae y capel yn awr, i fod yn lle addoliad. Ni ddy- wedir, yn sicr, dros ba hyd y bu y pregethu yn yr hen ysgubor, ond y mae sicrì\7dd ddarfod adeiladu capel tua'r fl. 1758-9. Bu hj-^n yn mhen pedair blynedd neu burap ar ol adeiladu capel Woodstock, a thua'r un faint o amser cyn adeiladu y Capel-newydd. Soniai yr hen bobl lawer am yr amserau y bu Eowlands, Llangeitho, yn pregethu ynddo, a'r modd chwimwth y neidiodd efe allan trwy fí"enestr y pulpud, yn y fan y darfyddai bregethu.

Nid oes fawr hanes am yr ugain mlynedd cjTitaf ar ol adeiladu y capel, mwy na chrybwylliad anrhydeddus am uu hen wr nodedig o dduwiol, o'r enw Siôn Dafydd Hugh, yr hwn oedd yn blaenori yn y cyfarfodydd neillduol ; ac am John Harris, Treamlod, felun a fu yn nodedig ei ddiwydrwj'dd yn am- aethu yr achos yn ei fabandod. Yr oedd Mr. Howel Dayies yn dyfod yma, ond 0 angenrheidrwydd ni allai hyny fod ond yn achlysurol ; a bu farw, fel y crybwyllwyd, yn mhen ychydig gyda deng mlynedd ar ol adeiladu y capel. Yr oedd hefyd bregethwr o'r enw John Dafydd yn byw yn Croen-llwyn, yn agos i'r dref, ac yn ŵr cyfrifol a duwiol iawn. Bu hwn farw yn y fl. 1765, pan nad oedd ond 45 ml. oed. Cyfansoddwyd marwnad iddo gan un Morris Griffith, yr hwn hefyd oedd bregethwr gyda'r Methodistiaid ar y pryd ; ond ar ol hyny a aeth at y Bedyddwyr.

Nid oedd yr aelodau ond ychydig o rif hyd y fl. 1790, tua dwy flynedd ar ol marwolaeth John Harris. Yn y cyfamser, fe gyflawnid y Sabbothau gan John Harris, Sampson Thomas, Thomas "Williams, a John Beran. Tua'r

PEN. V.] SIR BENFRO. 329

amser y bu farw John Harris, pa fodd bynag, yr oedd gwedd fwy gobeithiol ar y gwaith, a bu raid helaethu y capel. Yrawelodd yr Arglwydd â'r ganghen eglwys â gradd o adfywiad hyfryd, a daeth lluaws o bobl ieuainc i'r eglwys, Uawer o ba rai a barhausant hyd y diwedd. Tua'r amser hwn, daeth yma bregethwr o sir Gaerfyrddin i fyw ; gŵr oedd hwn mewn swydd dan y Uyw- odraeth, fel gwyliedydd y Portliladd (Tide waiter), o'r enw Thomas Davies. Dangosai y gŵr hwn lawer o ofal am blant y diwygiad, a bu yn egniol i gael magu plant yr aelodau o fewn yr eglwys. Nid oedd y pryd hwnw yn cael nemawr o gefnogaeth yn ei amcan, eto fe gadwai gyfarfodydd gyda'r bobl ieuainc, gan ymdrechu yn egniol i'w Uesâu mewn pethau ysbrydol. Bu y gŵr hwn farw tua'r fl. 1800.

Yn y fl. 1794, daeth y Parch. D. Jones, Llangan, fel y crybwyllwyd o'r blaen,* a chan y lluosogiad a gymerodd le ar y gwrandawyr, bu raid helaethu y capel drachefn. Yr oedd y cyntaf oll, erbyn hyn, wedi meirw, oddigerth Mr. James Harris, Trellan. Hen fab gweddw, neu, fel y dywedir yn y Gogledd, hen lanc ieuanc, oedd ef, nodedig mewn duwioldeb, a thra gofalus am yr achos yn ei holl ranau. Yr oedd y Parch. Nathaniel Rowlands yn hofí' iawn o hono, ac yn arfer ei alw yn ei fí'ordd ddigrifol ei hun, " Siams, gtcas y hohl.^'' Bu farw y gŵr da hwn yn y fl. 1802.

Yn y fl. 1799, gwelwyd yn angenrheidiol neillduo tri o henuriaid i gynorth- wyo yr unig un ag oedd yn aros ; a phenodwyd ar Mri. J. Mortimer, Tre'- howel ; Thomas Harris, Trellan ; ac Ebenezer Davies, Abergwaun. Ond ar ol marwolaeth Thomas Davies, fe fu y dref hon yn hir heb yr un pregethwr yn aneddu ynddi ; ac nid oeddy Parch. D. Jones ond yn achlysurol yraa, er fod ei brif gartref yn Maenorowen, gerllaw. Ond y mae yn wahanol iawn, bellach, er ys llawer blwyddyn. Os bu yn hir heb bregethwr, y mae yn awr yn gyf- oethocach nag un dref arall yn y sir, os nad yn Nghymru.

Tua'r fl. 1814, dechreuodd gŵr ieuanc, o'r enw David Meyler, bregethu; yr hwn sydd yn aros, ac yn Uafurio yn fíyddlawn, hyd heddyw ; neillduwyd ef yn y fl. 1834. Ar ei ol ef, dechreuodd gŵr ieuanc arall, o'r enw Enoch Lewis, yr hwn a neillduwyd yn y fl. 1842. Dechreuodd gŵr arall bregethu, rhwng y ddau uchod o ran amser, o'r enw Thomas Eowlands ; hwn a symud- odd i sir Gaerfyrddin. Ar ol Enoch Lewis, dechreuodd Thomas Lamb, ac wedi hyny John Lewis, yr hwn a neillduwyd yn 1849. Hysbys hefyd i'n darllenwyr, yn ddiau, mai yn y dref hon y preswylia y Parch. Thomas Eichards, bellach, er ys Uawer blwyddyn, a'r hwn, er fod y dyn oddiallan yn llygru, y dyn oddimewn, er hyny, sydd yn adnewyddu o ddydd i ddydd.

Mae Abergwaun, gan hyny, ar lawer cyfrif yn un o brif amddiflynfeydd Methodistiaeth sir Benfro ; lle y cynaliwyd llawer cymdeithasfa er y fl. 1773. Mae y addoliad yn helaeth, y gwrandawyr yn Iluosog, a'r aelodau yn 200 0 rifedi. Mewn cysylltiad ag Abergwaun y mae capel Wdig, yr hwn a adeiladwyd yn y fl. ] 830, ac yn cyfansoddi yr un daith Sabbothol.

.* Cyf. I., tudal. 446.

330 HANESlAtTU Y SIROEDD. [nOSB. iV.

O fewn tua cliwe' miUdir i Abergwaun, y mae hen le, nodedig yn haues Methodistiaeth, sef Pontfaen. tíen blasdỳ boneddwyr ydyw, a Uan yn ei ymyl. Tua dechreuad y diwygiad Methodistaidd, yr oedd yn byw yno un Mr. Higgon, gŵr da, siriol, a charedig. Yno y cyrchai yr hen bererinion, y ddau WiUiams, WiUiam Davies, Castellnedd, Benjamiu Thomas, ac eraiU, a chaent loches yno megys cartref. Adeiladwyd capel bychan ar y bryn y tu aralUi'r afon, mewn lle a elwid Tre'-ddafydd. Bu llawer o bregethu yu y lìe hwn, a golwg hyfryd ar y gwaith. Aeth raab i Mr. Higgon, a soniwyd, i fyw i dyddyn yn ymyl y capel, ac er ei fod yn otfeiriad, dangosodd bob sir- ioldeb at y Methodistiaid yn Nhre'-ddafydd tra fu byw. Bu feirw yr heu grefyddwyr heb fod iddynt olynwyr, a clio(h)dd y Bedyddwyr gapel gerllaw ; a rhwng y naiU a'r Uall, bron na ddiifoddüdd y ganwyll yn Nhre'-ddafydd ; eto ni ddiífoddodd yn llwyr a hollol. Y mae, weithian, fel un wedi teimlo ei afiechyd, ac heb ei h^dd ganddo, yn dechreu dadebru drachefn. Y mae yu awr mewn cysylitiad â'r Ddinas, a llochesir gobeithion fod y gauaf caled wedi myned heibio, a bod gwanwyn hyfryd yn dechreu uesâu.

CARiNACIIlCN-Wl'.N A TIIREFIN.

Er nad oes achos gan y Methodistiaid yn Ngharnachen-wen yn awr, eto y mae yn anhawdd myned heibio heb wueuthur ccffa parchus ara dano, gan gymaint o garedigrwydd ac o loches a gafodd Metliodistiaeth ynddo. Yr oedd Mr. a Mrs. Eogers yn bobl gyfrifol iawn yn y byd, ac yn haelionus a gweithgar iawn yn eglwys Dduw. Yr oeddynt mewn undeb eglwysig yn Nhrefiu. Eu hefyd oedd yn gartref clyd i bregethwyr yr efengyl am ílynyddau hiw£r. Merch iddynt hwy oedd y ddiweddar Mrs. Davies, Carnachen-weü. Gan- wyd hi yn y fl. 1772. Nid oes hysbysiad pa mor foreu y daeth i bercheuogi gras yr efengyl, ond yr oedd yn gydnabyddus â dysgeidiaeth ac â dysgawd- wyr yr efengyl er yn blerityn, ac nid yw yn annhebygol nad oedd yn adnabod gras yr efengyl hefyd cyn bod yn ugain oed. Daeth Mr. Jones, Llaugan, i breswylio yn agos i'w chartref, pau ydoedd hi tua 22 ml. oed, adeg y sicrheir ei bod yn mysg y crefyddwyr, ac yn un o'r rhai hynod yn eu mysg. Daeth yn gydnabyddus ag un Mrs. Needham, gweddw i swyddog milwraidd ; neu yn hytrach, daeth Mrs. Needham yn gydnabyddus â Miss Rogers, trwy gael blas ar weinidogaeth Mr. Jones, Lhiugan ; ac wedi profi blas y gwirionedd, archodd gael trigo dan gronglwyd ei chyfeiUes, er mwyn y fraint o'i chym- deithas, ac o foddiou crefyddol ; ac yn Ngharnachen-wen yr arosodd tra fu byw, gan arddangos ei chariad at Ddnw a'i bobl, hyd ddydd ei marwolaeth.

Y'n y fl. 1807, bu farw mam Miss Rogers, ac yn mhen rluii blyuyddoedd, hi briodwyd â D. Davies, Y'sw., arianydd, Aberystwyth ; eto trigai, gan mwyaf, yn ei hen gartref. Ei thad, ei phlenlyn, a'i gŵr, a fuont feirw yn olynol, mewn ychydig flyuyddoedd, a hithau a adawyd ei hunan heb fod ganddi yr un perthynas agos, namyu gŵr ieuanc gobeithiol a hawddgar o fab i'w gŵr. Hwn oedd mor hoíf ganddi a phe buasai yn blentyn iddi, a theil-

PEN. V.] aiU BENFRO. S3I

wrig hefyd ydoedd o'i serchiadau tyneraf. Gwasanaethodd y boueddwr ieuanc hwn ei geuedlaeth a'i Dduw, mewn modd gostyugedig a ffyddlawn, dros ei dymhor, yr hwn ni fu ond byrj a bu farw mewn tangnefedd yn ddyu ieuanc. Glynodd Mrs. Davies yn ei phroöes trwy ei hoU brofedigaethau, îe, gloywodd yn ei gras, ac ymgysegrodd yn llwyrach i wasanaeth ei Har- glwydd.

Yr oedd Mrs. Davies yn wraig hynod o ran ei chyneddfau, yn gystal ag o ran ei chrefyddoldeb. Hi ddarllenai lawer ar dduwinyddiaeth, a chyrhaedd- asai syniadau clir a chadarn ar egwyddorion erefydd. Medrai famu pethau â gwahaniaeth rhyngddynt ; ac ni fyddai pregeth yn ei boddhau oni fyddai yuddi fwy o sylwedd nag o swn. Arferid ei thý yn addoldỳ tros lawer o flynyddoedd. Cedwàd ysgol Sabbothol ynddo bob Sabboth, a phregethid ynddo yr un modd a chapelau y sir.

Yr oedd Carnacheii-wen wedi ei hynodi ag un gwrthddrych arall, sef hen fab gweddw, o'r enw^ David Thomas ; yr oedd bwn yn ŵr duwiol a deallus, ac yn oruchwyliwr ar hwsraonaeth y tyddyn er cyn marw ei thad. Dechreu- asai D. Thomas grefydda er yu ieuanc ; a bernir mai yu Rhyd-y-gele y dech- reuodd ei yrfa fel Cristion. Symudodd wedi hyny i Ddewi, a bu yn cadw ysgol yno, dros ryw dymhor, cyn ei osod yn oruchwyliwr yn Carnach- en-wen. Gwasanaethodd swydd diacon yn nghapel Trefin, yr eglwys yr oedd Caruachen-wen yn ganghen o honi, hyd ddydd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le yn y fl. 1840, yn 75 ml. oed. Gadawodd swm o arian tuag at gynal ysgol ddyddiol yn Nhrefiu, yn nghyda chynorthwyo y weinidogaeth Sabbothol yno. Yr oedd Mrs. Davies wedi adeiladu ysgoldŷ yno yn barod.

Nid adeiladu yr ysgoldŷ hwn ydyw yr unig brawf a gaed o haelioni Mrs. Davies. Y gwir ydyw, yr oedd ei hoes yn gyfres o ddychymygu haelioni. Gyfranai, ymron, at bob achos da, a bernid ei bod yn cyfranu ugeiniau 03 nad cannoedd 0 bunnau yn flynyddol at achosion crefyddol ac eluseugar, hebîaw y Uoches a roddai dros ei hoes yn ei thŷ, ac wrth ei bwrdd, i genad- on Crist ! ac heblaw cannoedd o bunnau a adawodd yn ei llythyr cymuu i'w gweiuyddu ar ol ei marw. Nid hir y bu hi fyw ar ol ymadawiad ei hen oruchwyliwr ffyddlon, ond adfeüiodd ei natur yn raddol, ac yn y fl. 1846, yn 74 ml. oed, ei henaid hithau a ymadawodd mewn tangnefedd, gadawodd le gwag, a choffadwriaeth fendigedig ar ei hol.

Yr oedd cyfeilles a chyfuither iddi, o'r enw Mrs. Thomas, yn perthyn i eglwys Trefin, yr hon oedd gyffelyb i ^Mi-s. Davies 0' ran ei hynodrwydd gydag achos Mab Dnw. Yr oedd Mrs. Thomas yn byw yn Bank Court, Trefin, a chyn hyny yn y Long-house, yn yr uu ardal. Yr oedd y Long- house wedi bod yn enwog er dyddiau cyntaf Methodistiaeth yn sir Benfro, fel Iloches crefydd, Ile y cynelid oedfaon cyhoeddus a chyfarfodydd eglwysig. Cafodd Mrs. Thomas oes hir i wneuthur daioni ; rhoddwyd iddi hefyd galon a modd i wasanaethu ei rhan er rhwyddhau teyrnas y Cyfryngwr yn y byd ; ac wedi buchedd ddefnyddiol ar y ddaear, hi a ehedodd o'r byd tua dau fis 0 flaen Mrs. Davies, ac a aeth, yn ddilai, i mewn i lawenydd ei Harglwydd.

332 HANESIAETH Y SIEOEDD. [dOSB. IV.

I'r gymdeithas eglwysig yn Nhrefin y perthynai yr hybarch Henry Richard, tad y ddau frawd, y Peirch. Ebenezer a Thomas Richard. Nid oes gan yr ysgrifenydd lin cofiant o'r hen bregethwr hwn i ddyfynu dim o hono, ac ni ddaeth un hanes penodol am dano i law ; ond wrth yr hyn a loffir yn achlys- urol am dano, deallii* ei fod wedi bod yn athraw ysgol mewn amrywiol fanau yn y a'r Gogledd, ac yn pregethu efengyl y deyrnas i'w gydwladwyr, a hyny dan lawer o anfanteision. Nid ydym yn cael lle i feddwl fod talentau Henry Eichard yn nodedig eu graddau, ond yr oeddynt wedi eu heneinio ag ysbryd rhagorol. Sonid am dano fel gweddiwr heb ei gyfl^elyb. Cofiai ei ysgolorion am ei weddiau drostynt gydag ofn a pharch. Dilynent rai o honynt dros eu hoes, ac ni allodd cyfnewidiadau araser, na helyntion bydol, na diwygiad crefyddol ychwaith, ddim dilëu yn Uwyr yr argraff a gynyrchas- ant. Bu yn pregethu am yr ysbaid maith o 60 mlynedd. Perchidefyn fawr yn mysg lluaws ei frodyr, am gysonedd ei rodiad, am sefydlogrwydd ei gymeriad, am ffyddlondeb ei ymdrechiadau, ac am ireidd-dra ei ysbryd. Cyd- oesodd â Howel Davies, a John Harrís, yn y boreu ; ac Evan Harris, Sampson Thomas, ie, ac â David Griffiths, yn y prydnawn.

MILFORD NEU ABERDAUGLEDDTF.

Milford sydd dref lled ddiweddar, wedi codi o fewn y 60 ml. diweddaf. Ei chodiad a achoswyd trwy sefydliad y Gadlas Ereiniol {Royal Dock Yard) gerllaw iddi, lle yr adeiledir llongau at wasanaeth y Uywodraeth. Mae yr hen bentref gerllaw y dref yn cadw ei enw cyntefìg hyd heddyw, sef Hakin, neu Hagen (Agen), oddiwrth ei sefyllfa ar fin cilfach gysgodol, lle y gall llongau lechu rhag pob gwynt.

Tua thriugain ml^^nedd yn ol, nid oedd yn y pentref hwn un lle o addoliad ; yr oedd eglwys y plwyf hefyd tua hanner miUdir o ffbrdd oddiwrtho, pell- der digonol i fod yn esgus i'r sawl a fyuent ymesgusodi i beidio myned iddi ; heblaw nad oedd dim yn y gwasanaeth, neu o leiaf y duU y'i cyflawnid, yn meddu nemawr o at-dyniad iddi. Yr oedd y pentref, ar y pryd, yn nodedig o annuwiol, fel y gellid dysgwyl, oblegid beth a wna y natur ddynol ond ym- lygru fwyfwy tra yn amddifad o foddion adferiad ?

Fe ddechreuodd Methodistiaeth yn y lle hwn, fel y gwnaethai yn fynych mewn lleoedd eraill, trwy foddion dystadl, a thi'wy amgylchiadau rhaglun- iaethol, yn hytrach na thrwy un cynllun dynol. Yr oedd y lle hwn wedi ei amgylchu gan yr iaith Saesonaeg am filldiroedd, a thra anfanteisiol oedd y lle, 0 herwydd hyny, ac achosion eraiU, i ymosod at ffurfio achos Cymreigynddo. Eto, dan yr holl anghyfleusderau, cododd yma achos i'r Gwaredwr yn mysg y Cymry, megys yn ddifwriad ac annysgwyHadwy. Fel hyn y dywedir y bu:—

Yr oedd gwraig o'r enw Jemima Jones yn byw yn Abergwaun, yn aelod gyda'r Methodistiaid yno, ac yn cael ei chyfrif yn sylweddol ei chi-efydd, a gwresog ei hysbryd ; ond nid oedd yn deall ond yr iaith Gymraeg yn unig.

PEN. V.] SIR BENFRO. 333

Y wraig hon a arweiniwyd gan ragluniaetli i Milford i fyw. Ei sefyllfa newydd oedd yn un tra amddifad, CoUasai ei hen gyfeillion i gyd, a theimlai ei hunan yn alltudes amddifad yn nghanol pobl estronol eu hiaith, ac annuw- iol eu hagwedd. Nid oedd, bellach, yn ei chyrhaedd ddim gwasanaeth crefyddol a allai hi ei fwynhau, a mawr oedd ei hiraeth am ei breintiau gynt, a'i galar o herwydd eu coUi. Yn mhen enyd, hi a ddaeth yn gydnabyddus ag eraill ag oedd fel hithau yn newynog eu henaid am air y by wyd yn eu hiaith eu hunain. Daeth i'w sylw hefyd, fod yn y porthladd, yn achlysurol, luaws o forwyr Cymreig, a thosturient wrthyut ara nad oedd darpariaeth o foddion crefyddol ar eu cyfer yn yr unig iaith a ddeallent.

Cyn treigliad llawer o amser, daeth y wraig grefyddol a enwyd yn adna- byddus o rai morwyr crefyddol. Cyn hyn yr oedd hi a'i theulu yn arfer nesu at eu gilydd ar y Sabbothau i ddarllen y Beibl, ac i ganu hymnau bardd Pant-y-celyn ; bellach, hi a daer wahoddodd y morwyr crefyddol a gawsai, i ddyfod i'w thŷ i gadw cyfarfodydd i weddio. Yn nghylch yr un amser hefyd, daeth rhan o'r fyddin gartrefol (militia), perthynol i sir Gaer- fyrddin, i aros am ysbaid o amser yn y gymydogaeth hon ; ac yn eu plith yr oedd amryw yn proíFesu crefydd, ac un neu ddau yn dechreu pregethu. Defnyddiwyd yr adeg hon gyda dyfalwch a sirioldeb ; daeth y crefyddwyr yn nghyd ; a than yr amgylchiadau, mwyuhaent y moddion a roddid iddynt yn awr, gyda gradd helaethach o felusder, am eu bod oll yn ysgaredig oddiwrth eu teuluoedd, eu cartrefi, a'u breintiau crefyddol. lë, mor felus oedd y mwyn- iant yn eu cynulliadau yn ystod y tymhor hwn, nes oedd yn wiw gan v cyfeillion cartrefol, o leiaf, son am dano gyda Ilawer o hyfrydwch yn mhen 40 mlynedd ar ol hyny, îe, yn oriau difrif marwolaeth.

Yr oedd gŵr yn mhlith y milwyr hyn, o'r enw Henry Havard. Ystyrid ef yn ŵr duwiol a phrofiadol ; arweiuiwyd hwn i gartrefu yn y Ile. Yr oedd hyn, drachefn, yn gryfhad ychwanegol i'r ychydig drueiniaid yma, yn enw- edig gan ei fod yn meddu gradd o gymhwysder i fod yn ddefnyddioi. Ym- ddengys fod y gŵr hwn wedi treulio cryn amser yn Milford, a'i fod wedi ennill graddau Iled helaeth o gymeradwyaeth ei gyfeillion ; yr unig beth vr achwynid arno oedd, ei fod yn ddarostj^ngedig iawn i'r pruddglwyf, yr hyn, ar dymhorau, a fyddai yn ei lethu yn drwm ; eto, er hyn, fe fu o wasanaeth i'r achos crefyddol yn y lle hwn, tra yr ydoedd eto yn wan ac eiddil, a theiral- wyd colled ar ei ol pan y symudodd oddiyma, yn y fl. 1843, i Liverpool i aneddu. Bu farw Havard yn y di'ef fawr hòno, yn y fl. 1849.

Crybwyllir enwau dau o forwyr fel rhai a flaenorent yn y cyfarfodydd gweddi ac eglwysig, sef Capt. Llewelyn Davies, a Chapt. Evan Evans, ac enwau dau eraill a arferent bregethu i'r bobl pan ddygwyddai iddynt droi i mewn i'r hafan, sef Capt. WiUiam WiIIiams, Caer ; a Chapt. David Eichards, Solfach. Yr oedd y gwŷr hyn yn ddynion cymeradwy iawn, a gair da iddynt gan bawb a'u hadwaenai ; gwŷr y mae efi'eithiau eu Ilafur heb gwbl ddiflanu eto yn mhlith morwyr Cymru. Dygwyddodd fod y ddau ŵr yma ar y Sabboth, 12fed o Eagfyr, 1819, yn pregethu. D. Richards y boreu, a

334 HANESIAKTU Y SlROEDl). [üüSB. IV.

Williams yn yr liwyr ; ond ow ! galarus yw ychwauegu ddarfod i'r ddau, y dydd Gwener canlynol, mewn awel drom o wynt, gyfarfod â dyfrllyd-fedd, a'u dwylaw oll a gollwyd oddigerth un o bob llestr, niegys wedi dianc i fyn- egu i eraill y modd y bu.

Eífeithiodd y tro galarus hwn ar holl Gymru, ond yn neillduol ar Milford ; y lle y buasent yn pregethu ddiweddaf, a'r lle y byddent arferol o ymweled ag ef mor fynych ; y lle hefyd a gawsai y fraint o fwynhau eu gweinidog- aeth yn fwy na neb pregethwyr eraiU, yn y tyrnhor liwnw. Yn y fl. 1822, chwanegwyd at rifedi y proff"eswyr trwy ddyfodiaid o leoedd eraill, y rhai trwy eu bod yn fwy cyfarwydd â phregethwyr y sir yn gyíFredinol, a fuontyn foddion i gael pregethu amlach i'r lle ; eto, er hyny, hwy fyddent am aml fis neu chwech wythnos heb un oedfa. Gwibiai y cyfeiUion i Hwlffordd a man- au eraill i ymofyn am damaid o fara y bywyd. Nid oedd eu nifer ond ychydig, a'u sefyllfa ond isel, ond fe ddangosid cryn garedigrwydd gan y morwyr a droent i mewn, y rhai, er na fyddent oll mewn cymundeb eglwysig, eto a gyfranent yn ewyllysgar tuag at gynal yr achos. YmgynuUent, yn V tymhor hwn, yn nhai y naiU a'r llall, ac heb le arosol i drigo ynddo. Troes un o'r rhif yn anfiyddlawn i'r gwaith, a chauodd ddrws ei dý, rhag i'r brodyr ddyfod i mewn, i gadw y cynulliad eglwysig yn ol y drefn, gan eu bwrw i'r heol gyda gradd o ddiystyrwch. 0 hyny allan, rhoddwyd iddynt gael defn- yddio y Uoflft a logid gan y " Bethel Union," ac yn y llofí"t hon y buont hyd y fl. 1840 ; a chawsant brofi, yn y cyfamser, raddau helaeth o falais a chenfigen rliai y gallesid dysgwyl pethau gwell oddiwrthynt. Yn awr, pa fodd bynag, y mae y Uoff't wedi ei gadael, a chapel cyfleus wedi ei godi er y fl. 1839 ; ac er iddo gostio £450, eto fe dalwyd y cwbl mewn ysbaid 6 mlynedd. Yn hyn 0 orchwyl, fe fu y cyfeiUion yn y Ue, yn nghyda'r morwyr (lymreig, yn dra fi"yddlawn a haelionus ; a thrwy hyny, yn nghyda'r cynorthwy a roddwyd iddynt o'r sir, fe gaed capel hardd a chyfleus iawn. Bellach, y mae y lle wedi ei gymeryd dan ofal y cyfarfod misol, ac yn cael ei ystyried yn daith Sabboth. I allu cyflenwi y lle hwn â moddion Cymreig, rhaid arfer llawer o fìPyddlondeb, gan fod tuag 16 o filldiroedd rhwng y lle hwn â phreswylfod yr agosaf 0 bregethwyr y sir ; ond er y pellder hwn, canmolir y brodyr yn fawr am eu llafur a'u cywirdeb yn hyn.

Mae Capt. William Evans, yr hwn sydd enedigol o ardal Abergwaun, yn arfer pregethu er ys blynyddoedd pan fyddo yn gyfleus. Mae ei gartref yntau, o ran ei deulu, yn Milford, eto nid llawer o'i weinidogaeth ef a fwynheir yma, gan mor Ueied o amser y dichon iddo aros yn yr un raan. Ni ellir dysgwyl i'r ddeadell gynyddu llawer mewn lle Seisonig o'r fath ; eto, y mae wedi cyrhaedd sefyllfa o ran rhif a sirioldeb, na ddysgwyliwyd. Mae rhif yr aelodau, rhwng plant a'u rhieni, tua 72.

Er fod Methodistiaeth wedi cychwyn yn y wlad hon mor foreu, fe allai, ag un man yn y dyrtrysogaeth, ac er y bu yn perthyn iddi, ac felly hyd heddyw, rai gwŷr Uên, a Heŷg, mor fawr eu gras, a helaeth eu dawn, ag a fu neu sy

PliN. V.] SIK BENFRO. 335

mewn un wlad, eto nid ydyw wedi ymwreiddio ac wrdi ymeangu oymaint ag a wnaeth mewn gwledydd eraill. Mae rhan fawr o boui yn Saesoiiaeg o ran iaith, a thrwy hyny cyfyngwyd llafur y Methodistiaid i derfynau llai, gan na cheisient, dros lawer o flynyddoedd, ymosod yn egniol at oresgyn ac efengyl- eiddio y rhan hyny o'r wlad. Yn awr, er hyny, a chyn hyn dros lawer o flynyddoedd, y raae rhyw barthau Seisonig o'r wlad wedi eu meddiannu mewn rhan. Mae yn y rhanau hyny tuag 11 o gapelau, ac wa'th ystyried fod rhan fawr o'r sir yn Seisonig, ac nad oes yn y rhan Gymreig o honi ond poblogaeth deneu mewn cymhariaeth i rai manau eraill, fe allai nad yw Methodistiaeth yn y sir hon ddim Ihiwer yn ol i siroedd eraill.

Fe fu gwedd ar Fethodistiaeth sir Benfro am Liwer o flynyddau, gwahanol, ar ryw gyfrifon, i siroedd eraiU y Deau, a gwedd wahanol arno yn y Deau i'r hyn oedd arno yn y Gogledd ; nid yn ei gyfansoddiad gwreiddiol, na'i egwyddorion hanfodol, ond mewn rhyw amgylchiadau achlysurol. Te fu y whid hon, fe alhii, yn llwyrach nag un wlad arall dan arolygiaeth yr oífeir- iaid, a'r rhan fwyaf o'r rhai hyny yn fwy eglwysaidd eu syniadau nag ofFeiriaid siroedd erailL Yr oeddynt oll felly oddigerth Howel DavÌ8s. Y'r oedd ei íab-yn-ughyfraith, NathanielEowhinds, yn sefyll yn dỳn iawn dros ei urdd tra bu ef o fewn y cyfundeb. Yr oedd yr enwog Jones, Llangan, hefyd yn tueddu yn rahell yr un ffbrdd ; ond Duw a'i cymerodd ef ato ei hun. Gan rym eu gwrthwynebiad i'r neiUduad yn 1811, cih'odd y tri eraill oddiwrth y cyfundeb yn llwyr.

Cyn y neillduad yn 1811, yr oedd yma amrywiol gapelau yn meddu y rhagorfraint o gael gweinyddu bedydd a swper yr Arglwydd ynddynt, pan y ceid oífeiriad i'w gweinyddu ; ond yr oedd Uuaws o leoedd eraill heb y rhagorfraint hon. O ba le y cododd hawl y naill eglwys, neu y naiU gapel, i hyn yn hyirach na chapel arall, nis gwyddom. Yr oedd Mounton a St. Daniel's yn Ueoedd cysegredig, ac ni phetrusai neb o'r oö"eiriaid weinyddu yn y rhai hyn. Ond fe gaed hyn i gapel Woodstock hefyd, yn mhen tua 15 mlynedd ar ol y cychwyniad ; Ue heb ei gysegru gan esgob yn y byd ! Cam oedd hwn y buasai yn ormod o beth ei gymeryd, oni bai i Whitfield wrol agor y bwlch. Dros flynyddau drachefn, nid oedd ond y Capel-newydd a Woodstoct, 0 leoedd angJiysegredig, yn cael y fraint. O'r diwedd, chwaneg- wyd Hwlífordd a Threfin, ac yn ddiweddaf oll Abergwaun.* Amgylchiadau oedd yn dwyn hyn oU oddiamgylch, ac nid egwyddorion. Ychydig o farn, ond llawer o fympwy, oedd yn hyn oU. Beth a aUai wneyd un capel yn fwy cysegredig na'r llall, yn yr un sir, neu yn yr un dalaeth, nis gwyddom ; a pha- ham y gwrthodid gweinyddu y sacramentau yn Uuaws capelau y Deheubarth, pryd y cydsyniai yr un personau urddedig wneyd hyny yn lioll gapelau Gwyn- edd yn ddiwahaniaeth, sydd i ni yn rhyfedd ! Ond er rhyfedded ydyw, feUy yr oedd y ífaith. Gweinyddid yn Woodstock pryd na wneid yn Nhŷ Ddewi, ac yn y Capel-N"ewydd pryd na wneid yn Abergwaun. Pe buasai y tadau yn

* Gwel yr lianes, Cyf. I., tudal. 445.

336 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

ymgadw at adeiladau eglwysaidd yn unig ac yn hollol, a hyny yn mhob man, a thros hoU Gymru, buasem yn canmawl eu cysondeb, er condemnio eu mympwy ; ond nid ydym yn canfod na chysonedd nac egwyddor yn eu gwaith yn gweini mewn un adeilad, ac yn gomedd yn y Uall, prydyr oeddynt oll mor anghysegredig a'u gilydd. Ond y mae hyny, bellach, wedi myned heibio er ys 40 ml. a mwy, ac y mae yr amser wedi dyfod " pryd ni addolir y Tad yn y mynydd hwn nac yn Jerusalem," mwy na'u gilydd, ond yr edrychir ar bob mau yr un mor gysegredig ; a'r unig beth y rhoddir pwys arno, bellach, ydyw fod yr addoliad yn cael ei roddi " mewn ysbryd ac mewn gwirionedd."

Dyoddefodd y wlad hon gryn lawer, mwy, fe allai, nag un arall, oddiwrth y neiUduad yn 1811. Yr oedd syniadau gwrthwynebol Mr. Jones, Maenor- owen, yn eífeithio ar ddosbarth o bobl wedi ei symud ef i'r bedd. Yr oedd doniau a sefyllfa Mr. Griffiths, Nevern, hefyd yn cario dylanwad ar feddyliau rhai eraiU. Yr oedd Mr. Jones, Llandudoeh ; a Mr. Davies, Llanfyrnach, yn cynorthwyo y niwaid ; a chan fod y gwŷr hyn oU yn preswylio yr un wlad, gallasem ddysgwyl y disgynasai y difrod arni trwy eu henciliad, yn drymach nag ar wledydd eraill. Fel hyny hefyd, yn ol a ymddengys, y bu. CoIIwyd am- ryw gapelau; ciliodd rhai cynulleidfaoedd ymron yn gyfain; ymadawodd amryw bersonau, mwy neu lai eu dylanwad, o gynulleidfaoedd eraill ; chwerwodd tymherau rhai eraill, er iddynt aros mewn cymundeb, a chollwyd gwasanaeth rhai pregethwyr yn yr adeg. Effeithiodd hyn, o augenrheidrwydd, yn drwm ar Fethodistiaeth y wlad. Safodd olwynion yr achos dros enyd. Yr oedd dynion da, dros dymhor, yn sefyll yn sỳn, megys yn petruso pa beth a wnaent. Yr oedd dynion ofnus yn Ilwfrhau, gan dybied y dyrysai y gwersyll yn Uwyr, a dynion Ilesg ac anwadal yn troi eu cefnau. Eto, er hyn oll, ni roddodd Duw ei etifeddiaeth yn llwyr i'r gelyn. Safodd yma lawer j'n wrol dros yr hyn a dybient hwy yn wirionedd, deued y canlyuiadau a ddeuai, gan ymdrechu ysgogi yn mlaen er maint y dyryswch a'r gwrthwynebiad. Cod- odd yr offeiriaid enciliedig achos ar wahan oddiwrth Eethodistiaeth, ac ar wahan oddiwrth eglwysyddiaeth hefyd. Fe gadwyd cyfarfodydd misol yn y llanau plwyfol, yma ac acw ar hyd y wlad, gan fwriadu sugno y bobl oll oddiwrth y Methodistiaid atynt eu hunain ; ond fe welwyd yn fuan na thyciai y beirian-drefn ddim. Ceisiai Mr. Grifl&ths ddysgyblu gradd ar ei frodyr offeiriadol, a'u llunio yn agosach at ei feddwl ; hwythau a luchient ymaith yr iau gan ddyweyd, "Pa beth y mae yn ei geisio gyda ni ? Hen Eethodist ydyw ef ei hun ! " Erbyn hyn, y mae yr holl gyfarfodydd clerig- aidd hyn wedi syrtliio i'r Uawr, a chyfododd oes arall o Eethodistiaid, yr hon nid yw gaeth trwy ddygiad eglwysaidd i fyny, nac yn ddarostyngedig i un urdd ddynol, ond yn bertfaith rydd i gymeryd ei harwain gan egwyddorion y Testament Newydd. Mae yr hen archollion, bellach, wedi cwbl iachau, a'r ■wlad hon dan gystal mantais i fyned ag achos y Cyfryngwr yn mlaen ag un wlad arall.

Mae yr achos wedi ymeangu Uawer er y pryd y souiasom am dano. Yu

PEN. I.] 8IR DREPALDWYN. 337

awr y rnae 27 o gapelau Cymreig, ac 11 o gapelau Seisonig. Fe berthyn iddynt oU tua 1890 o aelodau mewn eymundeb, 24 o bregethwyr, a 3000 o ddeiliaid yr ysgol Sabbothol. Mae y cyntaf o bregethwyr ac o bro- ffeswyr wedi cilio oddiar y maes er ys blynyddoedd. Nid oes ond y cof am yr enwogion Howel Davies, John Harris, Benjamin Thomas, a Henry Eichards ! Mae Sampson Thomas, Evan Harris, a WiUiams y student, hefyd wedi eu dylyn, ac nid oes yn awr oud cenedlaeth arall gyda'r Peirch. Thomas Eichards, Abergwaun, a William Moriis, Ddewi, fel dolenau cyswUt rhwcg yr oes a fu, a'r oes sydd yn awr. Ond tra yr ydym fel hyn yn meddwl am ein blaenoriaid, y rhai a draethasant i ni air Duw, a thra yr ydym yu ceisio dylyn eu ffydd, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt, ein cysur a'n cynaliaeth dihysbydd ydyw, " Fod lesu Grist yr un ddoe, heddyw, ac yn dragywydd."

Wrth ddybenu hanes y wlad hon, cydnabyddwn yn rhwydd nad oes yma ond prin grybwylliad yn cael ei wneyd am leoedd, am bersonau, ac amgylchiadau y buasai yn dda ymhelaethu yn eu cylch ; eto fe ddichon fod yr hanes yn llawn mor fanwl ag y gellid dysgwyl ei fod yn hanes cyffredinol y cyfundeb ; a sicr ei fod mor ehelaeth â'r defnyddiau a ymddiriedwyd i'r ysgrifenydd.

PRIF linelláu hanesiaeth sir drefaldwyn.

PENNOD I. EGLWYSI BOREUAF Y SIR.

CTNwysiAD :

LLANBRYNMAIR— Y DYCHWELEDIGION CYNTAF— ADEILADU CAPEL— HANES MANYL- ACH AM DDYFODIAD HOWEL HARRIS I'R WLAD— Y PREGETHWYR A GODODD, A'R ADFYWIADAU A GAFWYD YN LLANBRYNiIAIR— DAROWEN— THOMAS DAP- YDD— WILLIAM LEWIS AC ELLIS EDWARD— SIACHYNLLETH.

CoF gan ein darllenwyr, yn ddiau, ein bod wedi caei achlysur, eisoes, i olrhain gradd ar gyclmyniad Methodistiaeth yn y sir hon. Y pryd hyny dangoswyd pa fodd, a pha bryd, y daetli Howel Harris gyntaf i'r wlad hon,* y Ilwyddiant a goronodd ei bregeth yn Llanbrynmair,f a'r baeddu fu arno yn Nghemaes, a MachyuUeth. Ehoddasom hefyd hanes byr am Eichard Tibbot a Lewis Evan, blaenffrwyth pregethwyr Methodistaidd y sir, os nad Gwynedd oll ; % crybwyllasom am amryw gymdeithasau eglwysig a ffurfiwyd dan arolygiaeth cyffrediuol Howel Harris ; ac amryw gynghorwyr bychain, a arferent yii achlysurol wasanaethu yr achos yn fwy cyhoeddus uag eraill ; eiu gwaith, gan hyny, rhagllaw, fydd olrhain mynediad Methodistiaeth yn mlaen, yn enwedig yn y lleoedd iieu y gorsafoedd henaf yn y wlad.

*Cyf. I., tndal. 97. f Tudal 98. îTuclal. 1 18-35. Y

33S HANESIAETH T SIROEDD. [dOSB. IV.

LLANBRYNMAIR,

Dywedasom * fod pedwar o wŷr wedi cael eu dal yn rhwyd yr efengyl dau Aveinidogaetli Howel Harris, pan y pregethodd yn jt ardal hon y tro cyntaf, sef yn y ö, 1739 ; enwau y gw}'r hyny oeddynt, William, Edward, a Eichard Howel, tri brawd, a Eichard Humphrey. Ymunodd y gwŷr hyn, ynghydag e^aill, yn gymdeithas eglwysig yn bur fuan, a pharhaodd y gymdeithas hon i ymgynull yn ddifwlch o hyny hyd yn awr. Nid felly y bu gydag amryw gymdeithasau bychain eraill yn y wlad hon, y rhai er eu sefydlu yn fuan ar ol yr un yn Llanbrynmair, a goUwyd yn Uwyr, dros ysbaid maith o flynyddau, fel y ceir gweled eto yn mlaen.

Parhaodd y tri brawd uchod yn broffeswyr gloyw, ac yn llafurwyr ffyddlon gj'dag achos yr efengyl dros eu hoes. Yn Melin-y-pennant y bu TFilUam Hoicel byw, a'i fab William ar ei ol. Yr oedd iddo ddau o feibion eraiU, sef Daniel a Lewis, ill trioedd yn swyddogion ffyddlon yn eglwys Dduw ; buont feirw mewn oedran teg, pob un uwchlaw 80 ml. oed.

Y'n Nghae-madog y bu Edward Hoîcel byw. Fe fu yntau a'i deulu yn lletya pregethwyr, ac yn mhob modd yn cyr.orthwyo yr achos am flynyddoedd lawer. Mae nifer mawr o'i hiliogaeth yn aelodau o'r eglwys yn y lle hyd heddyw. Yr oedd Richard Hoicel, y trydydd o'r tri brawd, yn byw yn Mhen-deintur (lle nad oes tỳ anedd yn bresenol), ac yn ei ef y bu y pregethu dros flynyddoedd ; ac am y bai hwn, cafodd ei godi o'i tua'r fl. 3 765, a phreswyliodd ar ol hyny mewn lle bychau o'r enw Cwm-yr-hîn.

Y'r oedd Richard Hmnphrei/, y gŴT arall a ddychwelwyd yr un amser, a than yr un bregeth a'r tri crybwylledig, yn byw yn y Foel ; aeth oddiyno i'r Gelli-dywyU. Fe fu y gŵr hwn, a'i frodyr, a'i blant, yu ffyddlawn iawn gyda'r achos dros eu tymhor, ac y mae Uawer o'i hiliogaeth yn aelodau eglwysig yn Llanbrynmair, a manau eraiU, hyd heddyw.

Fe fu pregethu gan y Methodistiaid, yughyda chyfarfodydd eglwysig, yn caeleu cynal dros ysbaid blynyddoedd, mwy na 25 ml., mewn tai anedd, heb un addoldy ganddynt. Cyuygiwyd Ue i adeiladu capel arno gan feistr tir Eichard Howel, Cwm-p-'hîn, ond fe gafwyd Ue mwy cyfleus gan foneddwr araU, sef, y Ue y mae y capel presenol arno. Adeiladwyd y capel cyntaf hwn yn y fl. 1767, sef 28 ml. ar ol i Howel Harris bregethu yma y waith gyntaf. Yr oedd y gorchwyl o godi capel yn anturiaeth bwysig iawn y pryd hwnw mewn Uawer man, ac feUy hefyd yn Llanbrynmair. Nid oedd y gynuUeidfa ond bechan, a'i moddion yn brin. Ac er iddynt gael tir, yr oeddynt yn cyfarfod ag anhawsdra mawr i gael cerig, o herwydd fod dylanwad yr offeir- iad ar berchenogion y tiroedd yr oedd cerig ynddjnit, yn Uesteirio iddynt, dros ryw dymhor, eu cael. Safodd y gwaith am ryw ysbaid oblegid hyn, ond fe symudwyd rhai o'r gwrthwynebwyr yn fuan oddiar y ffordd trwy angau, a chafwyd rhwyddineb i fyned yn mlaen.

Tudal. 98, cyf. I.

PEN. î.] SIU DREFALDWYN. 331

Ond er fod y gwrthwynebiad yn y modd yma wedi llaesu, eto lled ddigalou oedd y trueiniaid gyda'u hanturiaeth. Nid oedd Uawer o sicrwydd yn eu meddyliau y llwyddai y gwaith ; ac os felly, disgynai eu holl lafur yn ofer ; a thra yr oeddynt yn y pryder hwn, fe bhanodd Richard Howel bhnnigyn o bren celyn yn nghiawdd cae y capel, gan ddweyd ynddo ei hun, os tyfai y gelynen, yr edrychai ar hyny yn rhagarwydd o Iwyddiant y gwaith. Tyfu a wnaeth y gelynen, a llwyddo wnaeth yr achos. Nid yn íynych y gwelir celynen o fath hon, gaii y maintioli sydd iddi : y mae yn 40 troedfedd o uch- der. Braidd na ddychymygem glywed rhagluniaeth, gan gyfeirio ati, yn dywedyd, "Pe blanwyd y gelynen hon dan amgylchiadau hynod, ac fe gaifF tŵf hynod fod iddi." Y mae y goeden hynod hon yn ei lle fyth, yn gofgolofn o bryder yr hen Gristion, ac o hynawsedd Perchen y gwaith.

Nid ydym yn cael fod yma nemawr o erlid wedi bod yn y fangre hon, y fath a fu mewn manau eraill ; fe ddichon mai yr achos o hyny oedd, fod ynyr ardal hon eisoes achos gan yr ymneillduwyr, a bod y Parch. Lewis Rees yn gwcinidogaethu yma. Yr oedd y presAvylwyr, gan hyny, wedi yragynefino gradd â phregethu y tu allan i fariau yr eglwys wladol, er ys rhai blynyddau cyn i Howel Harris fod yraa. Mae y darllenydd, fe allai, yn cofio ddarfod i ni ddyweyd mai ar gais Lewis Rees y daeth Harris i'r Gogledd, ac i ni ddyweyd hefyd mai tebygol ydoedd ddarfod iddo ddyfod y tro hwn i Lan- brynmair, er nad oedd crybwylliad am hyny yn ei ddydd-lyfr ; * ond yn awr, trwy yraehwiliad manylach i'w lythyrau, yr ydyra wedi cael yr hanes yn fan- ylach ac yn sicrach. Rhoddwn rai dyfynion o'i lythyrau :

Rhaiadr, Chwef. 3i/dJ, 1739. Cynortliwywyd fi ddoe i lefaru dd\vj'waith, ac i drafaehi 10 milldir, ac

ysgrifenu llawer o htliyrau. Heddyw teithiais chwe' milldir, a pliregethais ddwywaith, a chedwais ddwy ddyledswydd deuUiaidd, ac ysgrifenais chwech o lythyrmi. lleno daetli i'm elustiau y newydd hyfryd (?) fy mod yn sicr o gael fy nal yn sir Drefaldwyn. Mae cyfarfod wedi bod ganddynt i'r dyben hyny. Gosododd yr Arglwydd yr adnodau yn 1 Pedr iii 11 15, ar feddwl cyfaill, yr hwn a ddaeth hyd yma i fynegu i mi am dano. Cuddied yr Arglwydd fy mhen yn nydd y frwydr. Yfory yr wyf yn niyned i wylmabsant Cwm-ty-ddŵr, a nos yfory i ran o sir Drcfaldwyn.

Drachefn ysgrifena :

Llanhîstr, Chicef 5ed, 1739.

Cefais ddiwrnod ardderchog d.l.ìe bum mewn gwyhnabsant mawr.

Dewisaîs wrthwynebu satan ar ei dir ei hun, ac t'v]\y lleferais o fewn ychydig latheni i"r tafarndy lle yr oedd y gloddest i fod. Ar y cyntaf mytì oedd gryfaf, ond o'r diwedd, wrth lefaru am droedigaeth Zaccheus, a cheisio eu tynu â chariad, mi gollais fy awdur- dod, ac yr oedd yn fanvaidd a sych ; hyd nes oeddwn agos a dybenn, pryd y dcrchaf- odd yr Arghvydd íy llais i fel udgorn, a chefais allu i ddwyn y gwirioneddau adref am ben gclynion yr Arglwydd. Ni phrofais erioed fwy o nerth. Credu yr wyf i rai gael eu brathu drwy eu calonau ; yr oedd yno lawer yn wylo, ac un a lewygodd. Teimlai eraill gryndod arnynt, a syrthiasai ofn ar bawb. Oddiyno aethum i le a elwir y Lodge

* Cyf. I., tudal. 98,

340 HANESIAETH Y SIBOEDD. [dOSB. IV.

(neu y Llety), yn Llandinam, yn sir Drefaldwj'n, lle y galluogwyd fi i lefaru gyda nerth. Ni chyfarfum â dim gwrthwynebiad neithi\^T na heddyw, ond llawer a gawsant gyfarfodydd hyfryd. Yr oedd llawer wedij eael eu hattal i ddyfod i wrando trwy fod chwedl ai' led, yr hon a haerid oedd yn eithaf gwir, fy mod i mewn cynghrair â brenin Hispaen ! a bod £40 o wobr i bwy byuag a'm cymerai yn garcharor ; yfory yr wyf yn dysgwyl cael fy nàl ; ond os gwneir, mi a ysgrifenaf yn ebrwydd o fy llety newydd. Yr wyf yn teimlo angenrhaid wedi ei osod arnaf i erfyn ar fy nghyfaill beidio gadael i gareg fod heb ei throi dros Dduw, &c.

Un arall :

Lhnhrynmair, Chwef. %fed, 1739.

Hyd yma y mae yr Arglwydd wedi sefyll gyda mî, gan roddi i mi

Iwyddiant amlwg fwyfwy. Mae satan yn ymddangos fel un wedi ei rwymo. Yr oedd- wn i yn dysgwyl fy rhwjTuo yu feuuyddiol, eto ni chefais ddim gwrthwynebiad. Credu yr wyf fod fy nyfodiad i yraa, oddiwrth Dduw. Mae yma waith mawr i'w wneyd yn y Ue hwn. Yr wyf wedi rhoddi heibio y bwriad o fyned i sir Benfro, gan gredu fod gan yr Arglwydd waith i mi jnna. Ddoe mi a gyfarfyddais â Mr. Lewis Rees, ac chef- ais eto yn fj' holl deithiau y fath nerth ag a gefais i neithiwr wrth lefaru i fil o bobl yn mhlwyf Llan.* Yr oedd gallu Duw yno mewn modd rhyfeddol gallasech glywed calonau yn dryllio yn chwilfriw y fath ocheneidiau, a dagrau, a llefain, ni chlywais ond anfjTiych eu cỳffelyb. Agorwyd llawer o galonau, mi obeithiaf, i lesu Grist. Car- iwyd fi megys hwnt i mi fy hun. Molwch Dduw di"osof.

Yn yr uu daith ysgrifena drachefn :

Sir Feirionydd, ger y Bala, Dydd Mawrth, Chwef. \2fed, 1739.

Pa fodd y celaf oddiwi'th fy anwyl gyfaill ddim a ddygwydd i mi ?

Rhoes yr Arglwydd yr anrhydedd arnaf o gael fy nghymeryd j'n garcharor imwaith eto pan ar ei waith ef yn mhlwj'f Cemaes, sir Drefaldwyn, gan ynad o'r enw Wynne, jT hwn, gydag ynad arall, a boneddwr, a'r person, a ddaethant amom, ar ol anfon ys- biwyr jTi flaenorol ; daeth jt heddgeidwad ataf ac a ymaflodd ynof. Ond nid oeddwn eto i gael jtt anrhydedd o fyned i Drefaldwj-n f mewn cadwynau, ond hwy a gymeras- ant sylw o'r ffaith, ac o bersonau dan Iŵ, gan fwriadu gofyn a oeddwn yn agored i gyfraith, a chan ddadgan, os oeddwn, y gwnaenteu heithaf i fy nirwyo o £20, gẁr y tỳ o ,£20, a'r gwi"andawjT bob uu 5 swllt ; ac yna gollyngwj'd fi ymaith. Dylj'nwj^d fi o'r Ile gan rai dwsinau o ddynion, a chefais gyfleusdra i draethu iddj'nt fod yn rhaid sefyll j'n nydd j' ddrychin, &c. Heddj'ìv mi a ddaethum 12 mUldir o ffordd i'r lle hwn.J Lleferais ddwywaith ar y tìbrdd yma. Cefais fy maeddu. Rhai bechgyn a'm dyljTiodd i encj'd o ffordd, gan waeddi, "Lawr â'r Pengryniaid ! ' Cododd un wraig foneddig(?) laid y ffordd i'm lluchio, gan fy ngalw yn gythraul dam i 1 ! Ceisiasant gŵn i fy ymlid, eto pan ddaethum i'w cyfarfod, bu gosteg am enyd, ond wedi i mi fyned heibio, dechreuasant grochlefain eilwaith, gan fy hwtio yn erchyll. Yfory yr wyf ar fedr myned i dref y Bala.

Dyddiwyd y llythyr hwn ar ddydd Mawrth. Dydd Gwener canlynol, y mae yn ysgrifenu drachefn o Lanbrynmair, ac yn adrodd ei daith i'r Bala ac yn ol, yr hwtio fu arno yn Llan-y-mowddwy, a'r baeddu arswydus fu arno yn Machynlleth, § a'i ddychweliad yn ol i Llanbrynmair. Dywedai fod tywyll- wch a ellid ei deimlo yn y wlad hon drwyddi. " Y mae y sir hon ymron oU dan felldith," meddai, " a'r boneddwyr ymron oU yn elynion."

Nid y w y gair wedi ei orphen yn ei ysgrif. f Prif dref y sir, lle yr oedd y carchar. f Llanuwchllyn fe allai. § Cyf. I., tudal. 99.

PEN. I.] SIR DREFALDWYN. 341

Pe fu Howel Harris rai gweithiau yn Llanbryumair heblaw y tro cj'ntaf hwu ; dywedir iddo bregethu uuwaith yn agos i'r Belam, yn y Pennant, a thro arall Avrth Bant-y-glo. Yr oedd yma ŵr o'r enw Eichard Wood, jti byw yu Mron-derw-goed, yr hwn, gydag amryw o'i deulu, oeddyut grefyddol. Mab i hwn oedd Mr. Abraham Wood o goleg larlles Huntingdon, yr hwn a fu farw yn y fl. 1779. Canodd WiUiams, Pant-y-celyn, farwnad i'r gŵr hwn, a'i fara, yr hon a fu farw yn y fl. 1781. Bu farw y gŵr ieuanc duwiol hwn yn 31 ml. oed.

Prin y gwelwyd dyn fwy gonest

Dyn fwy syrul îs y rhod, Gwcll ei gof, llareiddiach natur

Ncmawr iawn nid oedd yn bod.

Chmliwch allan bw}-Il, amynedd,

A diwydrwydd, ysbryd gwiw ; Abra'm oedd yn berchen amynt,

Gymaint un a neb yn fyw.*

Cafodd Llanbrynmair yr anrhydedd o fagu amryw o bregethwyr, heblaw y ddau a enwyd eisoes, Richard Tibbot, ac Abraham Wood. Un o'r ardal hon oedd Thomas Meredith, Eichard Williams, a'i fab, sef y Parch. Eichard Williams, o Liverpool, yn niwedd ei oes. Fe fu Jeremiah WiLliams yn byw rhyw gymaint yn yr ardal ; yma hefyd y cododd John Owens, yr hwn a ym- fudodd i America, ac a fu farw yno.

Fe gafodd Llanbrynmair brofi rhai adegau o adfywiad ar yr achos crefydd- ol, er, fe allai, mai nid cymaint a rhai manau eraiU. Fe fu y cynydd yn y lle hwn yn Ued raddol a gwastad, eto nid yn gwbl felly, yn enwedig yn mlyn- yddoedd cyntaf ei haues. Sonir yn neiUduol am un adfywiad a dorodd aUan tua'r amser yr adeiladwyd y capel. Cyn y diwygiad hwn, dywedir fod y cyfarfodydd eglwysig ymron wedi syrthio, a bod yr ychydig enwau y pryd hwnw yn rhy Iwfr a digalon i gynal eu cyfarfodydd neiUduol. Eyw Sabboth y Pasg, yn y tymhor gauafaidd hwn, aeth rhyw gymaiut o'r bobl ieuainc crefyddol i gyfarfod pregethu yn Naroweu ; ac wrth ddychwelyd adref, eisteddasant ar ben Bwlch-glyn-y-mynydd, gan ymddyddan y naiU â'r Ualh Dywedai Abraham Wood, " Bydd yma gyfarfod Uuosog gan y diafol, tua'r Uan yma, yn mhen yr wythnos ; beth a fyddai i ninau gael cyfarfod â'n gilydd ? " Cytunodd pawb â'r amnaid, a pheuderfynwyd cael cymdeithas eglwysig mewn bychan a elwid y Foel-fach, yn agos i Gae-madog. Ehoes y cyfarfod adnewyddiad ac ail-gychwyniad i'r cyfarfod eglwysig, ac i'r achos yn gyffredinol, fel ag iddo fyned rhagddo gyda mwy neu lai o rwyddineb, o hyny hyd yn awr.

Dyfrhawyd y wiuUan hon, o bryd i bryd, â gweinidogaeth y rhai mwyaf nodedig o'r Deheuwyr, gan ei bod yn gorwedd \ti eu fFordd i'r Gogledd. Bu

Trys. 1834, tudal. 63,

342 HANESIAETH Y SIKOEI;D. [öOSB. IV

Rowlauda, Llangeitho ; y ddau Williams ; D. Morris ; Davies, Castell-nedd ; Jones, Llaugan ; Lloyd o Gaio, ac eraill cylFelyb, yu fyuycb yn Llanbrynraair, ar eu hynt i'r Gogledd, neu ar eu dychweliad. Yr oedd hyn yn cael ei sicrhau, trwy fod yr heu grefyddwyr yu arfer mynychu Llaugeitho, ac yno yn cwrdd â lluaws o bregethwyr a gweinidogiou y Deau, y rhai a arferent ym- gynuU yno, yu neUlduol ar Sabbothau y cymuudeb.

Dechreuwyd yr ysgol Sabbothol yu y Ue hwu mor foreu a'r fl. 1795 adeg, mae yu debyg, nad oedd nemawr uu i'w chael yn yr holl fro oddiamgylch, ac nad oedd Uawer i'w cael yn Nghymru. Ffurfiwyd caugheu o honi yn y Pennant yn y fl. 1807, a tharddodd caughen o honi dracheíu ju Crygnaut, yn y fl. 1811 ; ac un arall, yu y flwyddyu ganlynol, yn y "Wern. Yr oedd yr achos, yn y modd yma, yn ymwreiddio ac yn ymeangu. Ilelaethwyd y capel cyntefig yn y fl. 1820; ac adeiladwyd capel yn y Peunant yn y flwyddya ganlyuol. Nifer aelodau Llanbrynmair ydynt tua 150, ae aelodau y Pennant ydyut 60.

Yr oedd un hynodrwydd ar yr achos Methodistaidd yn y lle hwn yn anad un Ue arall yn Ngwynedd, sef yr uuedd oedd rhwng y ddau enwad, yr An- uibynwyr a'r Methodistiaid, â'u gilydd. Yr oedd amryw dai yn arfer lletya pregethwyr y ddau enwad yn ddiwahaniaeth, ac aelodau y naill yn cael perffaith ryddid i fwynhau breiutiau y Uall yn ol cyfleusdra, fel pe buasent yn un cyfuudeb ; a pharhaodd y gyd-gyfeiUach hon hyd o fewu tuag 20 ml. yn ol. Yr achosion a barodd hyn yn Llanbrynmair, mae yn debyg, oeddyut rhyw amgylchiadau neillduol yn nghychwyniad Methodistiaeth. Yr oedd y Parch. Lewis Rees, y gweinidog cyntáf a fu ar yr eglwys Annibyuol, yn ŵr rhydd iawn, ac yn llochesu meddwl uchel am y diwygiad Methodistaidd, yr hwn oedd newydd ymddangos. Y''r oedd Richard Tibbot hefyd, yr hwn a fu fyw oes hir yn y fro, ac i'r hwn yr oedd dylanwad mawr, yn ŵr cyffelyb ei ysbryd i Lewis Eees. Fe fu hwn gyda'r Methodistiaid yn pregethu am ysbaid 25 ml., a chyda'r Auuibynwyr y 35 mlynedd olaf o'i oes ; ar yr un pryd, yr oedd y ddau enwad yn cael mwynhau ei ddawn a'i galon, i'r gradd- au yr oedd hyny yn bosibl, fel eu gilydd. Disgynodd y syniad uuol hwn, gan hyny, fel etifeddiaeth oddiwrth y tadau i'r plant. Sonir yn neiUduoI am Mr. Evan Eoberts, tad y diweddar Barch. John Eoberts, fel un nodedig o hael ei ysbryd, a hoff o galon o'r ddau enwad. Bu yn byw yn y Gwyn-fynydd, plwyf Llanwnog, prj'd yr oedd yn aelod gyda'r Anuibynwyr yn Llanbrynmair. Tra yr oedd yn y Ile hwnw, er nad oedd ei sefyllfa yn helaeth arni, croesawai bregethv/yr y ddau enwad, a chyuorthwyai y ddau achos fel eu gilydd. Cynaliwyd un cyfarfod misol yn ei dỳ, a Ilawer o enwogion y Deheubarth a groesawyd ganddo. Yn y fl. 1787, symudodd i Lanbrynmair, i Pelin Dol- gadfan, yn ymyl capel y Methodistiaid. Yr oedd capel yr euwad arall encyd o ffordd oddiwrtho ; parodd hyn iddo fynychu y gymdeithas eglwysig, a gweithredu fel swyddog gyda'r Methodistiaid ; ac uid ymddangosai dim gwahauiaeth rhyngddo â hwy, ond ei fod yn cymuno gyda'r Annibynwyr. Anghofiodd unwaith fod dim gwahaniaeth rhyngddynt, pan oedd efengylwr

PEN. I.] SIR DREFALDWYN. 343

Llaugan yn pregethu ac yn cyfranu yno, tiwy iddo o liono ei hun ymgy- raysgu gyda'r teulu wrth yr un bwrdd ; a gwnaeth hyny pan oedd ei lestr yu Uawn o win y wlad nefol. Nid oedd dim gwahaniaeth rhwug y ddau enwad am bynciau athrawiaethol. Bu farw y gŵr duwioi hwn yn y fl. 1814, yn 85 ml. oed.

DAROWEN.

Yr oedd achos y Methodistiaid yn cyd-ddechreu yu Llanbrynmair, Dar- owen, Cemaes, a CJiarno, ac, fe allai, yn Nhrefeglwys hefyd. Nid oes nemawr o hanes Methodistiaeth yn yr ardal hon ar gael cyn yr ymraniad a fu rhwng Harris a Rowlands. Amlwg ydyw fod yma bregethu ymron mor gynar a Llanbrynmair ; ac ymddengys mai un o'r dysgyblion boreuaf a enniUwyd trwy weinidogaeth Howel Harris oedd un Thomas Dafydd o'r Tŷ-coch. Ym- ddengys hefyd fod yma ryw uifer heblaw Thomas Dafydd wedi eu hennill at grefydd cyn y fl. 1751, sef blwyddyn yr ymraniad, gau y cawu ni fod y gym- deithas eglwysig yn y fro hon wedi ymranu ar yr achlysur, a bod y moddion. yn yr adeg annedwydd hon yn cael eu cynal mewn dau dŷ, yn y rhai yr ym- gynullai pobl Rowlands a phobl Harris ar wahan. Y ddau oeddynt y Tŷ-coch, ac Aberdeuddŵr ; yr oedd y ddau o fewn tua chan' llath at eu gilydd. Aeth Thomas Dafydd i ürefecca, ond nid hir yr arosodd yno. Yr oedd yn ŵr cyfrifol, yn byw ar ei dir ei hun, a chyda hyny yn ŵr duwiol iawn. Dywedir mai " blaeuor oedd Thomas Dafydd na chododd yn yr ardal hòno, byth mo'i gyffelyb." Arferaiy gŵr yma fyned o amgylch i gynal cyfarfodydd eglwysig fel pe buasai bregethw^r ; i hyn, yn ddiau, yr oedd ganddo fwy o gymhwysJerau nag eraill, onide ni roddasid y cyfryw alwad iddo. Aeth rhyw rai eraill o'r ardal hon i Drefecca, ac yno y buont feirw.

Ail-gychwyuodd ìMethodistiaeth yn y fro hon ar ol anrheithiad yr ymran- iad, mewn dau neu dri o dai anedd. Un o honynt oedd bychun yn AberJiosan ; yn agos i hwn yr oedd pregethwr o'r enw William Lewis ; y llall oedd PenrJios, pregethwr o'r enw EIIis Edward ; a'r trydydd lle oedd Tŷ'n-llwyn, Ile y preswyliai gŵr o'r enw Edward Eobert, yr hwn hefyd oedd un o flaen-ffrwyth yr efengyl, ac a fu yn flaeuor ffyddlawn iawn, a thra hallt yu erbyn pecLod. Yr oedd Aberhosan a Phenrhos yn mhlwyf Penegos, a Thŷ'n-IIwyn yn mhlwyf Darowen. Yr oedd Aberhosan yn meddu gradd o enwogrwydd yn mlynyddoedd cyntaf yr achos ; beruir hyuy am fod cymdeith- asfa wedi cael ei chynal yn y lle mor foreu a'r fl. 1770. Nid oedd y ei huuan, pa fodd bynag, ddim mwy na saith llath bob ffbrdd, a'i yn y pea uchaf iddo yn taro wrth y ddaear. ydoedd a ardrethid yn benodol i bregethu ynddo, ac am hyny ennillodd yr enw, wrth yr hwu y gelwir ef hyd. yma, " 7r Hen Gapel ■" er na fu pregethu ynddo, bellach, er ys agos i 50 o flynyddoedd. Yn y gymdeithasfa a gynaIiwyd_yno, yr oedd Peter Williams, meddir, a William Wiiliams, Dafydd Morris, a Dafydd Jones o'r Derlwyn, yn pregethu.

344 HANESIAETH Y SIROEDD. [bOSB, IY,

Yr oedd gan yr Annibynwyr pregethu o fewn lled cae i Aberhosan ; ac ymddengys fod cyffelyb deimlad yn y naiU enwad tuag at y llall, yn y Ue hwn, ag oedd yn Llanbrynmair, gan y byddent yn arfer ymgymysgu â'u gilydd mewn cyfarfodydd gweddio, a chyfarfodydd eglwysig. Sonir am ryw gwrdd gweddio nodedig a gynaliwyd yn addoldy yr Annibynwyr, yn yr hwn yr oedd gŵr ieuanc, perthynol i'r Methodistiaid, ac yn cadw ysgol yn y gymydog- aeth ar y pryd, yn gweddio, pryd y torodd allan i lefain ac i foliaunu mewn modd tra hynod. Crybwyllai yr adnod, " Py anwylyd sydd wýn a gwridog yn rhagori ar ddeng mi]," a chwanegai gyda nerth mawr, "dengmìl o'r peth a fynocJi ; " ac ysgogai ar yr un pryd, ar ei iiniau, o amgylch yr ystafell, fel un wedi ei orlenwi a mwynhad ysbrydol, ac heb allu yn hollol feddiannu ei hun. Daeth y gŵr ieuanc hwn i fod yn bregethwr enwog ar ol hyn.

Yn yr ardal hon yr oedd William Lewis y cynghorwr yn byw, Yn Cwm- hafod-y-march yr oedd yn preswylio. Dywed fy hysbysydd,* fod yr hen bobl yn arfer dyweyd am dano, nad oedd llawer o gymhwysder ynddo i bregethu, ond ei fod j-n gywir a ffyddlawn. Yr oedd hen rigwm yn cael ei adrodd am dano yn mysg y plant :

" WiUiam Lewis o Gwm-hafod-y-march, Y mwya'i boen, a lleia'i barch."

Fe arferai bregethu yn lled hir, a hyuy heb lawer o gysonedd na blas. Dy- wedir ei fod ef ac Edward Watkin yn cyd-bregethu gyda'u gilydd dros ryw ysbaid, ac ar ddiwedd y daith, ddarfod i William roddi amnaid i Edward, mai da fyddai iddynt ddyweyd y naill wrth y llall, cyn ymadael, pa fai neu feiau a ganfyddent yu eu gilydd,

" Da iawn," atebai Edward, yr hwn oedd yn meddu ar gryn ddawn a ffraethineb, "dywedwch yn rhydd, os oes dim ar eich meddwL"

" Y peth penaf a welais i yn wallus ynoch chwi Edward," ebe William, " oedd eich bod yn pregethu yn rhy aml ar yr un testynau."

" Felly," ebe Edward, " a'r peth yr wyf fi yn ei weled yn feius ynoch chwithau, ydyw eich bod jti pregethu yr ìin pregethau ar waîianol destynau."

Mae yr adgofi.on uchod yn ymddangos yn dra dibwys ynddynt eu hunain, eto y maent yn cyfateb yn berffaith i wedd jt amserau hyny, ac yn rhoddi arddangosiad i'r darllenydd, mor gywir a dim, o agweddau ac amgylchiadau yr hen dadau, Cyffelyb hefyd ydyw y chwedl a ganlyn. Yr oedd yx hynod Theophilus Jones, sir Aberteifi, unwaith yn y Ue hwn, ac i bregethu yn add- oldy yr Annibynwyr ar ganol dydd. Yr oedd y pregethwr, fel y mae yn hysbys, â Uawer o hynodion yn perthyn iddo, a phan y disgynai mewn capel, ymddangosai yn Uawn ffwdan.

" Gỳr 0 dan y tatws yna," ebe Siôn Evan wrth y wraig, " fel y caffo y gẃr dyeithr ei giniaw cyn myn'd i'r cwrdd."

* Mr. Richard Jones, gŵr a ddygwyd i fyoy yn yr ardal, ond yn awr yn preswj'lio yn Lerpwl.

PEN. I.] SIR DEEFALDWYN. 845

"Mi fyddaf fi wedi darfod yr oedfa," ebe y pregetliwr, "cynybyddy tatws yn barod."

" A ydyw y bregeth mor barod â hyny genycli ? " gofynai Siôn.

" Ydyw," atebai Theophilus ; ac i'r capel yn brysur ag ef ; ac, meddai fy hysbysydd, yr oedd yr holl wasanaeth crefyddol yn ardderchog ; a dylynwyd y bregetb ag eíFeithiau anarferol, îe, cymaint felly ag y bu ei hol ar yr ardal dros flynyddoedd. "Ffol-bethau y byd a etholodd Duw fel y gwaradwyddai y doethion."

Mae gan yr Annibynwyr gapel a chjTiuIIeidfa dda yn y pentref hyd heddyw, ond ni fedd y Methodistiaid achos yno er ys 40 ml. ymron. Yr oedd cryn lawer o drwstanwch plentynaidd, yn gymysgedig â fí"yddIondeb gwresog, dan amgylch- iadau o dlodi ac amddifadrwydd, yn hynodi yr hen bobl yn gyíFredinoI. Pan ddeuai Eowlands, Llangeitho, i bregethu i Benrhos, cyfarfyddai ag anhawsder cyrhaeddy bwthyn y pregethid ynddo,gan ei fod yn ymdaith y pryd hwnw mewn cerbyd, ac nid oedd y mân lidiardau culion ddim wedi eu cyfaddasu i'r cerbydau ddyfod trwodd, a rhaidfyddai coàì pysty llìdiardau i'r dyben i roddi trwydded i'w gerbyd, a hyn hefyd a wnaed rai gweithiau pan y deuai i'r Ile hwn.

Yn y Ile hwn yr oedd EUis Edward, yr hen gynhorwr, yn byw. Nid oedd doniau y gŵr hwn ond byrion, ond yr oedd yn dra flPyddlon, hyddysg iawn yn yr ysgryíhyrau, a hallt a didderbyn wyneb yn erbyn pechod. Ymddengys fod yr hen frawd duwiol hwn wedi bod o gryn ddefnydd i achos crefydd yn ei ddydd a'i ardal. Sonir Ilawer am hen ŵr arall o'r enw Rowland Eichard, yr hwn oedd gloff ac yn ymlusgo wrth ei faglau, Yr oedd hwn yn byw tua dwy fiUdir oddiwrth Penrhos, y Ile y cynelid y moddion, a chymerai iddo bedair awr o amser i gerdded, neu yn hytrach, i ymlusgo y ddwy filldir hyny, gan nad oedd ei gam ond hanner hyd ei droed ! eto anaml y byddai y cynull- iad hebddo, ac nid Ilawer a gadwai yr amser yn well.

Dywedasom fod pregethu hefyd yn Tŷ'n-llwyn, plwyf Darowen, yn nhŷ Edward Robert. Yn y Ue hwn, meddant, y dechreuodd Ishmael Jones bregethu. Traddododd ei bregeth gyntaf o flaen WiIIiam Lewis, a dywedai gŵr ag oedd yno, mai pur fer oedd y bregeth, ac heb ddim geiriau annoeth ; ond bod Ilawn cymaint o synwjT ynddi ag oedd yn mhregeth hir WiUiam Lewis. Nid hir yr arosodd Ishmael Jones yn yr ardal hon ar ol dechreu pregethu ; ond am ei symudiadau dylynol, nid oes genym hanes ; yn unig, hysbys ydyw, mai yn Llandinam, gerUaw Llanidloes, y treuliodd flynyddau diweddaraf ei oes, ac yno y bu efe farw.

Wedi marwolaeth Edward Eobert, darfu y pregethu yn Tŷ'n-IIwyn, a phen- tref Darowen, dros dymhor maith, nid Uai nag 20 ml. Darfu y pregethu hefyd gan y Methodistiaid yn Aberhosan, mae'n debyg, trwy farwolaeth WiUiam Lewis ac eraiU. Ond tua'r amser y bu EUis Edward farw, neu gynt, sef yn y fl. 1786, daeth gŵr crefyddol, o'r enw Hugh Hughes, a'i deulu, i fyw i dyddyn a elwir Ehiw-griafol, a symudwyd y pregethu a'r cyfarfodydd crefyddol oU, 0 Benrhos, hen gartref EUis Edward, yno. Yn ddiweddarach, daeth g\vT arall, o'r enw Evan Jones, i fyw i ffarm arall. Yr oedd hwn yn grefyddwr ac

Siô HANESIAETH Y SIROEDl). [DOSB. IV,

yn henuriacl eglwysig. Yn amser hwn yr adeiladwyd capel yn y gymydog- aeth, sef yn y fl. 1812; adeiladwyd ef yn Rhyd-y-felin, yn mhentref Melin- barhedin. Mae y capel hwn yn sefyll megys yn y canol, rhwng y raanau y buasai pregethu gynt ynddynt, ac yn ymyl y Tŷ-coch, cartref cyntaf pregethu gan y Methodistiaid yn y fro. Tua'r fl. 1811, bu farw Hugh Hughes, Rhiw- griafol, a daeth un William Bebb o Lanbrynmair i fyw yno. Yr oedd gan hwn ddau o feibion yn ddyuion crefyddol, ac uu o honynt, sef William, yr hynaf, eisoes yn swyddog eglwysig ; yr ieuangaf hefyd, sef Edward, a alwyd ar ol hyny i'r un swydd. Yn y fl. 1846, yrafudodd William Bebb i'r America, ond y mae y brawd arall yn yr ardal eto, ac yu arolygu yr achos cref- yddol yn y lle hyd heddyw. Dywedir am y teuhi hwn nad oeddterfyn i'w haelioni at achos yr Arglwydd, ac i'r tlodiou. Yr oedd eu yn agored i bregethwyr yn Avastadol, a phob ymgeledd iddynt hwy a'u hanifeiliaid yn cael ei roddi yn ewyllysgar a siriol. Ond er maint eu haelioni, yr oedd rhag- luniaeth yn eu bendithio fwyfwy. Aeth stabl a beudy ftermwr bychan yn yr ardal unwaith ar dân, a llosgwyd y gwair a'r ŷd ymron i gyd. Pan glywodd hen ŵr Rhiw-griafol yr hane?, gorchymynodd i'w weision fyned â Ilwyth o wair i'r cymydog yn ei drallod, ynghyd ag ŷd i hau y tir, a chymerodd rai o'r anifeiliaid i'w cadw hyd Galanmai. Gwiriwyd y ddiareb yn y teulu hwn, "Ehyw un a wasgar ei ddâ, ac efe a chwanegir iddo."

Adeiladwyd capel arall yn Ilan Darowen, tua'r fl. 1824, cyfagos i'r l!e y buasai pregethu o'r blaen, 20 ml. a mwy yn ol, sef Tŷ'n-Ilwyn. Y mae yr ar- daloedd hyn wedi dyoddef cryn lawer oddiwrth nifer y teuluoedd a aethant o'u gwlad i'r America ; parodd hyn, ynghyd ag amgylchiadau anghysurus er- aill, radd o nychdod ar yr achos crefyddol yn y ddau gapel, fel nad yw y wedd sydd arno ddim mor Uwyddiannus ag y buasai da.

MACHYNLLETH.

Cof gan y darlleuydd, ond odid, ddarfod i ni adrodd y modd y bu ar Howel Harris yn Macliynlleth * y tro cyntaf yr ymwelodd â Gwynedd, yn y fl. 1739. Prin y diangodd y pryd hyny â'i fywyd ganddo. " Parhaodd trigolion Machynlleth a'r ardaloedd," ysgrifeuai Robert Joues.f " mewu eithaf gelyn- iaeth at grefydd lawer o flynyddoedd. Cawsant afael raewn pregethwr unwaith, a Uusgwyd ef ger bron rhai o'u pendefigion ; ac am na ddarfu i'r rhai hyuy gosbi digon arno i foddio eu cynddaredd hwy, curasaut a baedd- asant ef eu hunaiu yn dra chreulou, ac oni buasai i ryw vvr a mwy o dosturi na hwy ei achub, buasai yu debyg o gael ei ladd gauddynt. Cafodd yr un gŵr ei guro a'i faeddu yn Llan-y-mowddwy, wrth fyned oddiyuo ; gorfu arno roi cyflog i ddyn am ei anfou tros Pwlch-y-groes tua'r Bala. Byddai yn berygl y dyddiau hyny i grefyddwyr fyned hyd yn nod i'r farchuad, rhag cael eu herlid gan drigolion y dref."

* Cyf. I. tudal. 99. f " Drych yr Amscroedd," tiulal. 126.

PEN. 1.] SIB DREFALJDWYN. 3-i7

Nid llawer o bregethu n fu yn y dref wedi hyn dros flynyddau. Cynygiodd Jones, Llaugan, bregethu yma, ryw bryd cyn fod pregethu rheolaidd yn y dref, ond terfysg a gyfododd ; cipiwyd y Beibl o'i law, ac wedi baeddu ychydig arno, gofynodd rhai o'r mawriou, a wuai efe addaw, os gollyngid ef ymaith yn heddychlawu yn awr, na ddeuai efe yno byth mwyach i bregethu. Atebodd yntau yn bwyliog ac yn siriol ; " Nid oes un addewid yu perthyn i chwi na'ch tad." Gollyngwyd ef yn rhydd, ond ni chafodd bregethu. Rhaid fod hyn 20 ml. a mwy, ar ol yr amser y bu yr ymosodiad creulawn ar Howel Harris.

Ond er fod y dref yn gauedig, yr oedd pregethu yr efengyl yn ei hamgylchu, ac yr oedd nifer y crefyddwyr yn lluosogi. Nid oes hanes fod Eowlauds, Llangeitho, wedi pregethu yn y dref erioed ; ymddengys hyn yn Iled ryfedd, am fod y dref yn rhydd oddiwrth erlid am ysbaid 20 ml., neu fwy, cyn ei farw ef ; ac hefyd am fod yn rhaid ei fod wedi myned trwodd neu heibio, yn ei Iwybri siroedd Meirion, Arfon, a Môn, rai gweithiau wedi i'r ffyrnigrw^dd cyntefig ddiflanu. Sonir, pa foddbynag, ddarfod iddo unwaith letya mewn gwestty yn y dref. Clybu yr erlidwyr ei fod i ddyfod, ac aethant i'w gyfarfod, i'r dyben i'w faeddu; a phan welodd y fath nifer o honynt, gofynodd iddynt, yn ol ei arfer, " I ba le y mae y diawliaid yu myned ? " Wrth glywed y fath ym- adroddion, penderfynasant yn y fan, mai nid efe oedd y gwrthddrych a geisient ; a chafodd fyned heibio yn ddiwarafun. Mae yn hysbys iddo bregethu amryw weithiau yn nhŷ Ellis Edward, Penrhos, tua 5 neu 6 milldir o Fach- ynlleth ; ac fe ddywedir fod Harris yn pregethu yn nhŷ Thomas Dafydd, Tŷ- coch, 0 fewn miUdir iddo, ar yr un dydd ac awr, a bod y bobl yn petruso ar ba un o'r ddau yr aent i wrando. Rhwug y ddau le hyny y mae capel Ehyd- y-felin, fel y crybwyliasora o'r blaen.

Sefydlwyd pregethu yn mheu rhyw gymaint o amser mewn lleoedd eraill, nes i'r dref na Phein-hos ac Aberhosan ; un o'r Ileoedd hyny oedd Cwmdyr- gi, a lle arall oedd gerllaw y GlasbwII, mewn a elwid Brynelwy, neu Brynelwydd. Nid yw y hwnw ar gael yn awr, ond enw y gŵr a'i pres- wyliai y pryd hyny oedd Evan Yincent. Yn mysg y crefyddwyr boreaf y fro hcn, crybwyllir enwau Mr. Eowland Jones, a John Jones, Glanfechan. Wrth fyned i'r Glasbwll i wrando, yr oedd yn rhaid iddynt fyned trwy dref Machynlleth, neu trwy ryw gẁr o honi o'r neilldu. Fel yr oeddynt un Sab- botli yn cyfeirio eu camrau tua'r Glasbwll, ac yn dringo i fyny craig a elwir Caergybi, cyfarfu â hwynt lu o erlidwyr, y rhai a amheuent mai i'r addoliad yr oeddynt yn cyrchu. Gofynasant iddynt, " I ba le yr ewoh y ffordd yma ? " " Mae genym wartheg yn porfâu ar Luest y WaunbwII," oedd yr ateb. Tybid yr ateb yn foddhaol gan yr erlidwyr, ac yn mlaen yr aeth y ddau grefyddwr. Yr oedd ganddynt wartheg yn y Ile crybwylledig, er mai nid yno yr oeddynt yu awr yn myned. Bu farw Eowland Jones yn y fl. 1816, yn 95 ml., a Mr. Joh.n Jones yn y fl. 1843, yn 94 ml. oed. Y mae ŵyr i Eowland Jones, a nai fab cliwaer i'r John Jones uchod, yn preswylio Glanfechan yn awr, ac yn un 0 swyddogion eglwysig y Methodistiaid yn Machynlleth,

Yn mhen rhyw gymaint o amser, yr oedd pedwar o Fethodistiaid yn byw

348 HANESIAETH Y SIEOEDD. [dOSB. rV.

yn y dref, sef Griffith Simon, Dafydd Meredith, EUis Richard, a John Pugh : yr oedd y ddau olaf yn meddu ychydig o'r byd, ac yn cael eu hystyried yn w^r cyfrifol ; ond y ddau eraiU yn dlodion, Nid oedd eto yn ddiberygl i'r dyuion gyfarfod â'u gilydd i gynal dim moddion, o fewn y dref, rhag y daethai hyny yn adnabyddus i'r erlidwyr, a bod terfysg a choUed yn canlyn. Sychedeut, er hyny, am ryw gymundeb â'u gilydd, a chynygiasant fyned allan •o'r dref, i le a elwid Coed Llynlloedd; coed yn perthyn i balas o'r enw hwnw. Yn nghanol y coed yr oedd rhyw lauerch lâs a dirgelaidd, lle dystaw, a diogel, lle y gallent ymddyddan â'u gilydd, a galw ar eu Duw, heb eu Ues- teirio gan neb. I'r Ile neillduedig hwu, gan hyny, y cyrchent ar adegau penodol, un y ífordd yma, a'r Ilall y ffordd draw, rhag enyn drwgdybiaeth eu gelynion ; a chadwent yma gyfarfodydd gweddio ar brydnawn Sabbothau pan y byddai yr hin yn goddef hyny.

Adroddai EIlis Eichard am un tro, wedi yragyimll i'r lle hwn i weddio, ddarfod i haid o erlidwyr ddyfod arnynt yn ddisymwth, pan oedd Griffith Simon ar w^eddi. Yr oedd y gweddiwr, tybygid, mewB hwyl nefolaidd yn ymddyddan â'i Arglwydd ; ei ddwylaw ar led, a'i lygaid fry ; a phan welodd yr erlidwyr ei agwedd, a chlywed ei ddeisyfiadau, nid oedd nerth ynddynt mwyach i ddwyn eu hamcanion i ben.

Dechreuodd pregethu yn y dref tua'r fl. 1770, neu yn ddiweddarach ; yn ol un hysbysydd yr oedd yn ddeng mlynedd diweddarach. Y mae yn Ued debyg fod cyfarfodydd eglwysig yn cael eu cynal yn nhŷ un John Pierce, cyn anturio dwjai y pregethu yno ; os felly, dichon mai y cyfarfodydd hyny a gynehd o'r amser cyntaf a nodwyd, a phregethu tua'r fl. 1780. Yr oedd, y pryd hwn, tua 12 o nifer yn arddel crefydd yn y dref. Fe ddeuai John EIlis, Abermaw, cyn iddo ddechreu pregethu, a'r pryd yr oedd yn gweithio ei greö't jTi Llanbrynmair, i Fachynlleth i gynorthwyo y brodyr i gadw y cyfarfodydd eglwysig. Yr oedd profedigaethau y crefyddwyr boreu hyn yn fawrion iawn, drwy y gwarth a'r gorthrwm a ddyoddefent oddiwrth eu cy- mydogion ; weithiau dyoddefent lawn cymaint oddiwrth eu teuluoedd a'u perthynasau agosaf. Yr oedd un o leiaf o'r deuddeg proffeswr hyn yn dyoddef llawer yn y dull olaf a nodwyd. Yr oedd gwraig EIIis Richard yn dra gelynol i grefydd, a hi a ddeuai i'r cwrdd eglwysig, weithiau, yn llawn anwydau digofus, i gyrchu ei gŴT allan. Ac nid digon oedd ganddi ei gael ef allan, ond hefyd hi a roddai ysgytiad i bob un arall a fyddai rhyngddi ag ef, ac wedi ei gael ef, hi a ymaflai ynddo ac a'i llusgai ef i'r drws yn y dull cethinaf ; ac unwaith aeth allan felly heb ei het. Mawr fyddai y cweryl ag ef ar foreuau Sabboth, ar ol dyfod o'r cwrdd gweddi, am iddo feiddio rayned ar ei liniau i ddifwyno ei ddillad ! Mynych y gofynai genad yn fwynaidd iddi i gael darllen ychydig o'r Beibl ar ol boreu-bryd ; hithau a gipiai y Uyfr o'i law, ac ag ef a'i tarawai yn fi'yrnig. Y'r oedd Griffith Simon wedi dyoddef oddiwrth erlidwyr, a'i wraig hefyd. Gwneuthurwr menyg a llodrau lledr oedd ef wrth ei grefiFt ; ac fe ymddengys ei fod ef dan ddylanwad crefydd pan y bu Mr. Jones, Llangan, yn ceisio cael pregethu ar yr heol. " Cafodd hwn brofedig-

PEN. I.] SIR DREFALDWYN. 349

aeth trwy watwor ; ìe, gwnaethpwyd ef weithiau yn wawd trwy waradwydd- iadau ; ac weithiau byddai yn gyfranog â'r rhai a drinid felly." Pan geisiodd Mr. Jones bregethu ar yr heol, yr oedd terfysg nid bychan yn y lle. Disgyn- odd rhyw nifer o ddyhiriaid ar Griffith y glover, gan droi tìferwig y tu gwrthwyneb allan, a'i gosod felly am ei ben ; yna pardduo ei wyneb a'r hudd- igl a geid oddiar y badell íFrio, a ddygasid i'r Ue i drystio â hi. Yr oedd gwraig Griffith Simon hefyd yn anfoddlawn iawn iddo. Yr oedd ef un boreu Sabboth wedi peuderfynu myned i oedfa a gedwid yn Mhenal, pentref ychydig fiUdiroedd o'r dref ; deallwyd ei fwriad gan y wraig, a chuddiodd ei esgidiau o'r tu ol i ryw lestri gwerthfawr ganddi yn y cwpbwrdd. Daeth yntau yn y boreu, cyn iddi hi godi o'r gwely, o hyd i'w esgidiau, a diangodd gyda phob prysurdeb i'w ffordd.

Yr oedd hefyd yn mysg crefyddwyr boreuaf Machynlleth un John Owen, a'i wraig Elizabeth. Siopwr oedd y gŵr hwn, ac yn well arno yn y byd na rhai o'i frodyr. Yr oedd hefyd yn ẃr heketh ei wybodaeth, ac yn fardd rhagorol. Cyfansoddodd rai Uyfrau, y rhai a brofant ei fod yn mhell o flaen y cyôredin o'i genedl mewn llenyddiaeth a gwybodaeth gyffredinol. Ar ol marwolaeth ei wraig, symudodd y gŵr hwn i Gaerfyrddiu.

Rhoddir gair da i John Pugh, yr hwn oedd grydd a lledrwr (currier) o ran ei alwedigaeth, am ei dduwioldeb, a'i rodiad cyson gyda Duw. Mae chwedl Ued anhygoel wedi disgyn am droedigaeth y gŵr hwn, sef ddarfod ei arafu yn ei wylltineb trwy lais o'r nef yn galw arno erbyn ei enw, pan oedd ar y parc gerllaw y dref. Ond os cychwynodd mewn dychymyg, fe ddybenodd mewn dychweliad gwirioneddol at Dduw. YmneiUduai y gŵr hwn yu fyn- ych i ryw ogof oedd yn y parc, lle y byddai yn ymroddi i weddi ddyfal,

Ond yn nhŷ John Pierce y cedwid y moddion. Bernir ddarfod dewis ei ef yn hytrach na'r eiddo John Pugh, am ei fod yn sefyll mwy o'r neilldu, ac mewn Ue mwy dirgelaidd. Yr oedd person y plwyf yn Heddynad hefyd, a phan glywodd fod moddion yn cael eu cynal yn nhŷ John Pierce, efe a an- fonodd am dano, i'w fygwth y gyrid ef o'r dref i fyw, oni pheidiai a derbyn y pengryniaid i'w ; ac o'r dref y buasai raid iddo fyned, tybygid, oni bai iddo allu dangos ei rwym-ysgrif (Indentures) ; a bod ganddo hawl i aros ynddi. Mynych yr aeth ef a Dafydd Meredith y crydd i Langeitho, 30 milldir neu fwy o ffordd, erbyn Sabboth cymundeb.

Yn yr adeg hon, pryd yr oedd cael chwanegiad o un neu ddau at eu nifer yn amgylchiad pwysig i'r crefyddwyr, fe'u llonwyd trwy ddyfodiad gŵr ieuanc atynt o'r enw Edward Jones, yr hwn oedd yn by w ychydig yn y wlad rhwng y dref a'r Dderwen-Iâs. Hwn, wedi priodi, a ddaeth i fyw i'r Tollborth, yn nghẃr y dref, ac yn nhŷ hwn y lletyai rhai pregethwyr, a bu yn swcr i Pethodistiaeth, yn ol ei radd, dros ystod ei oes.

Cyn i'r pregethu ymadael â thŷ John Pierce, chwanegwyd at y dysgyblion ŵr ieuanc arall, o'r un John Davies, Uedrwr wrth ei gelfyddyd. Gŵr oedd hwn o Ben-morfa, sir Gaernarfon, yr hwn a ddaeth i'r dref i agor maelfa iddo ei hun. Mewn tref fechan o'r fath, yr oedd dyfodiad dyn dyeithr iddi i fyw

350 HANESIAETH Y SIROEDD. [nOSB. IV.

yn enwedig os byddai cyhoeddusrwydd yn pertliyn \\v fywioliaeth, yn ebrwydd yn hysbys i'r trefedigion oU. Yn mysg eraill, daeth yr amgylchiad yn wybyddus i'r ofieiriad, yr hwn, pan ddeallodd hefyd ei fod yn un o'r Method- istiaid, a benderfynodd lesteirio iddo ymsefydlu yno ; a diau y llwyddasai yu ei amcan, oni bai i John Pugh ei gyflogi am flwyddyn i gyweirio lledr iddo ef, a thrwy hyny fe'i gwnaed yn blwyfol yn y dref, a chafodd y dyn lonydd.

Yr oedd gelyniaeth y galon yn erbyn yr efengyl yn tori allan yn awr ac eilwaith, yn wyneb rhyw achlysuron ueiUduol, fel y gwelir yn yr adgoíìon canlynol:

Ymwelodd un Mr. Samuel Llwyd unwaith â'r dref, gyda'r bwriad o bregethu ar yr heol. Buasai y gŵr hwn unwaith yn filwr, ond yr oedd weithian yn filwr da i lesu Grist, ac yn pertliyn i gyfundeb larlles Huntingdon. Safai ar risiau tŷ, gerlUiw neuadd y dref ; ymwisgai yn ngwisgoedd ei swydd (goicn and handj, ac ymddangosai gwedd llawer mwy boneddigaidd arno, nag a fyddai yn gyfll'redin ar gynghorwyr bychain dirraygus y Methodistiaid. Ym- gynuUodd liu o erlidwyr hefyd, y rhai, gan sefyíl wrth gefn rhyw dai bychain gerllaw, a luchient y cerig yn gyntaf ar nen y tŷ, y rhai a ddisgynent oddi- yno yn gawodydd i'r lle y safai y pregethwr arno. Ond yr oedd cryn wrol- deb yn y gweinidog hwn ; dywedai yn ddigon digyffro, y buasai efe gynt o dan gawodydd mwy peryglus na chawodydd o gerig ; ac ddarfod ei waredu oddiwrthynt oU. Felly hefyd y bu y tro hwn. Er maint oedd cynddaredd ei wrthwynebwyr, a pherygl ei sefyllfa gan y cerig, ni ddygwyddodd iddo un math o niwaid.

Y'r oedd yn y dref un gŵr m.wy nodedig fel erlidiwr a gwawdiwr yr efengyl na neb o'i gymydogion, gŵr o'r enw Lumley. Yr oedd y dyn hwn wedi ymroddi i feddwdod ; a'i waith yn y tafarndai, a phob man arall, a fyddai dynwared y Methodistiaid mewn gwawd. Oud nid hir y goddefwyd iddo fyw. Yr oedd yn rhy annuwiol, a " bu farw cyn ei amser." Syrthiodd un iioswaith wrth fyned i'r dafarn, a thorodd ei goes ; troes bon allan, er pob ymdrechiadau i'w gwella, yn anfeddyginiaethol. Ba farw fel y bu fyw, yn elyn i bob peth crefyddol : oblegid ni fynai gymaint a gweled gweinidog y plwyf. Syrthiodd ei gorff i lygredigaeth ebrwydd, y fath ag oedd yn ann^'-- oddefol, a hyny mewn llai o araser, ac i raddau Uawer mwy na chyffredin. Syrthiodd dau erlidiwr arall yn ysglyfaeth i farwolaeth, mewn duU ag a osododd arswyd ar y gweddiU; a Uiniarwyd y gorthrwm o hyny aUan.

Mae son mawr hyd heddyw, gan ambell un sydd eto yn fyw, am y gyra- deithasfa gyntaf a gynaliwyd yn MachynUeth. Torasai yn orfoledd mawr ar lawer o'r crefyddwyr oedd yn bresenol, ac yn eu mysg, dywedir fod y Parch. Peter WiUiams ; a bod rhyw hynodrwydd rhyfeddol yn ei waith ef yn canu ac yn moUannu. Yr oedd Uuaws o edrychwyr wedi driugo i benau y clodd- iau, ac yn rhodio o amgylch cyrau y dorf, gan wawdio y sawl a welent yn y mwynhad, fel rhai "yn Uawn o win melys." Y pryd hwn, cododd dyn bychan, eiddil yr olwg arno, o'r enw Evan WUUams, ac a ddarUenodd yn destyn, " Y farn a eisteddodd, ac agorwyd y Uyfrau ; " yr oedd yr olwg arno yn

PI;N. I.] " SIE DREFALDWYN. 351

effeithiol gan ddifrifwch ei wedd ac amledd ei ddagrau, a bu ei weinidogaeth dan arddeliad ardderchog : disgynodd y gwatwarwyr oddiar y cloddiau. Safodd y rhodianwyr diofal fel rhai wedi eu dal gan wŷs brenin, a disgynodd difrifwch y farn ar ddynion cellwerus ac ysgeifn. Bu ol y gymdeithasfa hon ar y dref o hyny allan. " Beth a wnaeth Duw ! "

Yii y cyfarfod hwn y dah'wyd yr hen bregethwr duwiol a ffyddlawn, John WiUiams, yr hwn a fu farw yn ddiweddar yn y Drefnewydd, wedi treulio oes hir mewn rhodio gyda Duw, a phregethu efengyl y deyrnas. I'r cyfarfod hwn hefyd y daeth un Edward Giles, â ffon fawr yn ei law i ymofyn ei chwaer, yr hon, tybygid, oedd wedi dianc i'r cynulliad heb yn wybod iddo ; ond yn lle gyru ei chwaer adref â'r ffbn, daliwyd ef ei hun yno gan " wialen ei nerth ef." Deallodd yn fuan, medd fy hysbysydd,* wedi dyfod i swu y weinidogaeth, mai gwell oedd " peidio â digofaint, a gadael ymaith gynddar- edd," ac yn Ile gwiugo yn erbyn y symbylau, mai diogelach oedd plygu, gan fod Ilaw Duw eisoes wedi cyffwrdd ag ef.

Tua'r fl. 1184<, pan oedd y crefyddwyr yn dyheu am le mwy cyfleus a sefydlog i addoli, dygwyddodd i yn heol y Maengwyn ddyfod yn wag ; ac ymddangosai y tỳ hwn yn un dymunol i'r dyben, pe buasai yn bosibl ei gael. Ond ei gael oedd yr anhawsder. Perchenog y tỳ oedd y cyfreithiwr y sonia Eobert Jones am dano, a driniodd Howel Harris mor gethin pan geisiodd bregethu y tro cyntaf yn Machynlleth.f Yr oedd hwn yn frawd i'r offeiriad ; yr hwn hefyd oedd yn un creulawn yn erbyn dyfodiad y Methodistiaid i'r dref. Ymddengys, pa fodd bynag, fod rhagfarn y cyfreithiwr wedi Ileihau i raddau er y tro crybwylledig, gan iddo gael helaethach adnabyddiaeth o'r crefyddwyr, trwy forwyn oedd ganddo; yr hon a ennillasai iddi ei hun air da fel mercb grefyddol, a gweinidog gwerthfawr ; rhoddasai argraff ar feddwl ei meistr am y crefyddwyr, gwahanol i'r hyn a lochesai gynt. Ar yr un pryd, nid hawdd oedd gan neb anturio ato i ofyn iddo osod y gwag i'r Method- istiaid. Yr oedd ei gael ganddo, braidd yn fwy nag a allasent ddysgwyl, wrth gofio ei ymddygiad gynt, a'i gysylltiad â boneddwyr eraill y fro. Ar y llaw arall, gwyddent mai dymunol fyddai ganddo osod y tŷ. Pa faint bynag oedd neu a fuasai ei ragfarn at y crefyddwyr, gwyddent mai nid anfoddhaol ganddo dderbyn ardreth am y gwag. Felly yr oedd gradd o flys arnynt ysgogi at gael yr adeilad, er nas gwyddent yn iawn pa fodd. Yr oedd yn eu plith eiUiwr (barber) a fyddai yn arfer gwneyd swydd felly i'r cyfreithiwr, ac yn ddyn Iled eofn a medrus. Tarawodd i feddwl un o'r brodyr mai yr eiUiwr hwn a fyddai y dyn i ofyn y cwestiwn i'r gŵr mawr. Ar waith un yn cry- bwyll yr amcan wrth y barber, cynygiodd yn fyrbwyll o hòno ei hun, ofyn am y gwag. Pan aeth at y boneddwr, anturiodd ddyweyd ei fod yn deall fod ganddo ar osod, a'i fod yn deall hefyd fod ar y Methodistiaid eisiau o'r fath ; y rhoddent ardreth dda am dano, ac y cymerent ef am nifer o flynyddoedd. " Aie, fachgen ? " ebe y cyfreithiwr, " dywed wrthynt y cânt o."

* Mr. John J. Joues, MachjTilleth. f " Drycb yr Amseroedd," tudal. 126.

352 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

Ac felly y bu. Cymerwyd lease arno am 14 o flynyddoedd. Fe ddywedir fod y cyfreithiwr yn tybied ar y pryd, mai darfod a wnaethai y Methodistiaid yn fuan, ac mai gwych oedd ganddo gael gafael ar EIlis Eichard am yr ar- dreth, dros gynifer o flynyddoedd. Pa beth bynag am ddyben y boneddwr, fe gaed y tŷ, a chafwyd pregethu ynddo, ynghyda phob moddion eraill, hyd nes yr adeiladwyd y capel cyntaf.

Pau glybu perthynasau y cyfreithiwr am yr hyn a wnaethai, ífromasant yn aruthr ; ac yn enwedig ei frawd, Dr. Edwards, olfeiriad y plwyf, Yr oedd yr offeiriad ar gyfrifon eraiU yn ddyn cymwynasgar i'w gymydogion, a rhoddai fenthyg arian, ar ryw achlysuron o angen, i'r neb a ofynai ganddo, ond nid i neb o'r Methodistiaid, nac i neb a fyddai yn arfer gwrando arnyut. Dywedai yn fynych o'r pulpud, " Y Methodistiaid drygiouus ! a phobl ddrygionus sydd yn eu canlyn ! Methodistiaid.drygionus ! yn eu twyllo eu hunain ac yn twyllo pobl eraill hefyd ! Methodistiaid drygionus ! pwy o honyn' nhwy, nis gwn i, a fu yn y drydedd nef, fel St. Paul ? " Pregethai unwaith ar y testyn, " Efydd heb weithredoedd marw yw," a dywedai, " Mae y Methodistiaid yn dyweyd mai ix\\y ffydd y cyfiawnheir dyn, oad yr wyf fi yn dyweyd, mai flydd heb weithredoedd tnarw yw." Hwn pan glywodd fod ei frawd wedi gosod iddynt i bregethu, a ofynodd iddo, " Ai gwir yw eich bod wedi gosod i'r Methodistiaid bregethu ynddo ? "

" Ic," atebai yntau, " pa waeth gen' i i bwy ; am y ca'i ardreth da am dano?"

Yn y gwag hwn o eiddo y cyfreithiwr y bu y pregethu, bellach, dros ystod y lease, sef 10 ml. medd un, 14 ml. medd un arall; ac nid oes son fod dim ymosodiad haerllug wedi bod ar y crefyddwyr ar ol cael y tỳ hwn i bregethu ynddo. Yn yr yspaid hwn o amser, fe drefuodd rhagluniaeth i Mr, FouIkes, o'r Bala gynt, a'i wraig, ddyfod i'r dref hon i breswylio, Y modd y tueddwyd y teulu caredig hwn i ddyfod i Pachynlleth oedd fel y canlyn. Yr oedd Mr. Eoulkes ar fedr gadael y Bala ; a thra yr oedd yn llochi y bwr- iad 0 fyned i Euthyn, Ile y deallai fod drws agored iddo, daeth gwas Mr. Charles ato, yr hwn ar ei daith a fuasai yn aros noswaith yn Machynlleth, ac a ddarluniodd pa safle mor bwysig i Eethodistiaeth oedd y dref hòno, trwy ei bod yn sefyll rhwng De a Gogledd, ac yn debyg o fod yn dramwyfa lluaws o bregethwyr wrth deithio o'r naill ran o'r dalaeth i'r llall. Yr oedd hyn yn ddigon gan Mr. a Mrs. Eoulkes i droi y fantol. Ac er nad oedd neb o'u perthynasau yn byw yn y fro, na hwythau eu hunain ond estroniaid iddi, eto penderfynasant anturio ymsefydlu ynddi, yn unig oddiar olwg y rhoddid mantais iddynt wasanaethu yr efengyl yn fwy. Pelly i Fachynlleth y daeth- ant, a gwenodd rhagluniaeth arnynt, gan eu Uwyddo yn rhyfeddol yn mhob modd, 0 ran eu hysbrydoedd, ac o ran eu hamgylchjadau bydol liefyd.

Merch oedd Mrs. FouIkes i Simou Llwyd, Ysw., Plas-yn-dre', Bala, a chwaer i'r Parch. Simon Lloyd, B.A., o'r un lle. Dygasid ei thad dan ar- grafliadau crefyddol yn gynar wedi cychwyniad Methodistiaeth yn y Bala. Ei mam hefyd oedd Miss Boweu, merch y Tyddyn, sir Drefaldwyn, am yr

PEN. I.] SIR DREFALUWíN. 353

hwn deulu y sonir eto yn hanes Trefeglwys. Aethai dwy o ferched y Tyddyn, er mwyn mwynhau gweinidogaeth Mr. Harris yn gyson, i Drefecca ar waith Harris, trwy yr hwn y dygasid hwy a'u rhieni i wybodaeth o'r gwirionedd, yn cilio oddiwrth y Methodistiaid. Nid ydym yn cael eu bod wedi aros yn hir o amser yn Nhrefecca, gan y cawn fod un wedi priodi, a chanddi ddau o blant, yn y fl. 1758, pryd nad oedd adeihid yno i'w derbyn cyn y fl. 1752. Cyfrifid Mrs. Bowen, mam y merched hyn, yn wraig dduwiol iawn, ac yn un o'r crefyddwyr cyntaf yn sir Drefaldwyn. Bu farw yn nhŷ ei merch yn y Bala, pan oedd yu 88 ml. oed. Tynai ei chysur o'r efengyl hyd ei diwedd. Ai i gapel y Bala wrth ei dwyffon, a chymerai deisen yn ei phoced, fel y gallai aros yno o'r naill oedfa i'r llall. Ei merch hefyd, mam Mrs. Foulkes, yr uu modd, oedd yn gyfranog o'r un ysbryd. Daeth S. Lloyd, Ysw., yn gydnabyddus â hi pan ydoedd hi yn aelod o deulu Mr. Harris yn Nhrefecca. Daeth i'r Bala, gan hyny, tua'r fl. 1754 neu 5, adeg yr oedd crefydd yn isel yno, a Methodistiaeth ond yn ei fabandod. Ond hi a fu yn ffyddlawn yn y Bala, megys y bu ei mam yn y Tyddyn, a dygodd ei hoU blant i fyny yn grefyddol, chwech o nifer. Bu ]\Ir. Lloyd farw yn ddyn ieuanc 33 ml. oed, a disgynodd holl ofal ei theulu lluosog arni hi, a hi a fu ffyddlawn i'r ymddir- ied pwysig i raddau anarferol.

Yr oedd Mrs. Eoulkes yn ferch henaf iddi. Ganwyd hi yn y fl, 1758. Dygwyd hi yn foreu, tua 10 ml. oed, dan argrafíìadau crefyddol, ac yn fwy fyth pau oddeutu 18 ml. Bu dan ai'gyhoeddiadau llymion iawn ; bu yn hir dan arteithiau anobaith, ac heb allu sugno dim cysur oddiwrth un gair o'r Beibl, mwy na phe buasai yn seliedig yn ei herbyn. Gwahoddwyd hi gan ei modryb iBwllheli ; a than addewid y ca'i ddarllen hanes bywyduuMr. Hart, yr hwn y dywedid ei fod wedi profi cyffelyb drallod a hi, hi a gydsyniodd. Bu darlleniad y llyfr hwnw i raddau yn gysur iddi. Gwahoddwyd hi gan ŵr cydnabyddus â'i modryb, o'r enw Mr. Lewis,* gydag ef adref, ac ar Sul y Pasg cymhellai hi i fyued gydag ef i wrando Mr. Davies, Castell-nedd, yn nghapel Tŷ-mawr, Bryncroes ; a than y bregeth hòno y llewyrchodd goleuni mawr ar ei hysbryd, a'i rhwymau tynion a ddrylliwyd. Ymgysegrodd yn y fan i'r Arglwydd, a glynodd wrtho trwy gyfammod tragwyddol. Bu ar ol hyn dros dymhor yn nhŷ brawd i'w mam, yn sir rrycheiniog, a cbafodd ddod i gydnabyddiaeth yuo â'r larlles Huntingdon, a Lady Ann Erskine, trwy fod athrofa yr larlles yn Nhrefecca y pryd hwnw. Arferai fyned i Lan- geitho hefyd i wrando Mr. Eowlands, a dangosai ei barn am dano trwy ddy- weyd y talai myned i'r America i wrando y fath un. Pan yn 29 oed, ueu yn y flwyddyn 1787, yn fuan ar ol dyfodiad Mr. Charles i fyw i'r Bala, hi a briodwyd â Mr. Thomas Eoulkes ; ac mewn canlyniad, daeth i gyfan- eddu 0 hyny allan yn MachynUeth, fel y dywedwyd uchod.

Yr ydym eisoes wedi rhoddi crynodeb o hanes boreuol Mr. Poulkes,f ac wedi crybwyll graddau am ei lafur a'i flyddlondeb gydag achos yr efengyl,

* Ai gŵr oedd hwn i Siaii Lewis, o Fadryn ? f Cyf. !■, tudal. 501.

z

3^4 HANESIAETH Y SIEOEDD. [dOSB. IV.

tra y preswyliai yn nhref y Bala. Tynodd ei lysferch ef, Mr. Charles, i fyw i'r dref hòno, a bu hyny yn achlysur i anfon Mr. Foulkes i Fachynlleth, a'r ddau amgylchiad yn foddion i wasanaethu achos yr efengyl. Parodd dyfod- iad Mr. Charles i'r Bala ysgogiad grymus i Fethodistiaeth drwy holl Wyn- edd, îe, drwy Gymru oU ; a pharodd symudiad Mr. a Mrs. roullces i Fach- ynlleth gyfnod newydd ar yr un achos yno. Ar eu dyfodiad, nid oedd y crefyddwyr ond tlodion a dirmygus, gan mwyaf, ac yn addoli mewn adeilad ardrethol; ond ar eu dyfodiad, newidiodd amgylchiadau eu gwedd. Gwasan- aethodd sefyllfa a chymeriad Mr. Foullíes, ynghyda'i haelioni diderfyn, i ddarostwng llawer ar y rhagfarn a fynwesid yn erbyn y Methodistiaid yn flaenorol.

Nid oedd Mr. Foullces yn ystyried ei hun yn bregethwr, ond cyughorwr bach ; ond er lleied oedd ei ddawn, yr oedd ei ffyddlondeb ymron yn ddigy- ffelyb. Nid cuddio yr mi dalent yn y ddaear a wnaeth, fel y gwna gwŷr yr un dalent yn fynych, ond fe'i defnyddiodd gyda diwydrwydd a chysonedd anarferol. Er fod ei gartref yn glyd, a'i amgylchiadau yn gysurus, eto ym- wadai yn ewyllysgar â'i esmwythyd personol, er mwyn llesâu eneidiau dynion. Ehybuddiai ddynion, "nos a dydd, â dagrau lawer." Codai yn foreu, yn enwedig ar y Sabboth, a chymerai damaid o fara a chaws yn fynych yn ei boced, rhag pwyso ar bobl dlodion. Byddai ei deithiau ar y Sabboth yn aml yn 40 neu 60 milldir, rhwng myned a dychwelyd; ond wedi teithio cymaint ar y Sabboth, a phregethu dair neu bedair gwaith, ac yntau mewn gwth o oedran, fe godai yn foreuach ddydd Llun na neb yn y dref, a dangosai gy- maint o ddiwydrwydd gyda'i fasnach ar hyd yr wythnos, ag a ddangosai o ffyddlondeb gyda chrefydd ar y Sabboth,

Llochesai Mr. Foulkes barch mawr i Mr. Wesley yn bersonol, ac i'r cyfun- deb sy'n dwyn ei enw yn gyffredinol ; eto yr oedd wedi llwyr gartrefu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Clywyd ef unwaith yn adrodd ei brofiad gyda chyfeiriad at hyn yma, " Yr wyf yn beudithio Duw am gael Ue yn ei dŷ, a chyda'r bobl yr wyf yn eu plith ; a dymunwn gael fy nghynal hyd y diwedd gyda hwynt, a bod fy mhlant ar fy ol yn cartrefu gyda'r un bobl."

Wrth olrhain cymeriad Mr. Foulkes, anhawdd ydyw penderfynu pa un ddysgleiriaf, cyfiawnder manwl i dalu pob gofynion, ai haelioni dibrin i ddiwallu pob angenion. Yr oedd gonestrwydd a thosturi yn cyd-deyrnasu yn ei fonwes. Ni fynai attal oddiwrth neb yr hyn a berthynai iddynt, ac ni allai lai na rhoddi yr hyn ni hònid oddiwrtho. Ehoddai ar ddiwrnod peuodol bob blwyddyn, tua gwerth deugain neu hanner cant o bunnau mewn gwlanen neu frethyn bras i'r tlodion, a bernir nad oedd hyn prin hanner y swm a roddai oll yn ystod y flwyddyn.

Bu farw y gŵr duwiol a diddichell hwn yn y fl. 1802, yn 71 ml. oed, wedi bod yn pregethu tua 40 mlynedd. Gadawodd Mrs. Foulkes yn weddw gyda chwech o blant. Hithau a barhaodd i noddi achos yr efengyl â'i hoU galon, ac a fu ofalus iawn i ddwyn ei phlant i fyny yn ofn yr Arglwydd. Gwenodd rhagluniaeth ar ei hymdrechiadau gyda'r byd, a chadwodd ei hen-

P£N. II.J SIR DHEFALDWYN. 355

aid hefyd dau ymgeledd yr efengyl tra y bu byw. Hithau hefyd a gasglwyd i'r bedd, wedi gweled rhai o'i phlant yn cael eu gosod yn y pridd, a'u gweled oll wedi priodi. Cafodd hefyd y boddlourwydd na chafodd ond ychydig ei fwy, sef gweled ei phlant yn golofnau dan yr un achos a hi ei huuan.

PENNOD II.

EGLWYSI BOEEUAF Y SIE.

crswrsiAD:

H. HARRIS YN PREGETHU YN LLANIDLOES— JENKIN LLOYD, Ystt., YN AMDLIFFYN Y METHODISTIAID— Y TYDDYN— PREGETHU YN DECHREU YN Y DREF— ADEILADU CAPEL— YR HExV GYNGHORWYR— EDWARD WATICIN— JOIIN PIERCE— JEREMIAH WILLIAMS— HUMPHREY GWALCHMAI— YR YSGOL SABBOTHOL— CYNYDD YR ACHOS— CYMDEITHASFA 1819— AFLONYDDU AR Y PARCH. JOHN ELIAS— RHAIADR- AR- WY.

LLANIDLOES.

Wkth oh'hain cychwyniad Methodistiaeth yu Ngwyuedd, yr ydyin wedi cry- bwyll fod cymdeithasau eglwysig bycliaiu wedi eu ffurfìo yn Tyddyn, Llan- dinaiü, a Llangurig,* lleoedd gerllaw Llanidloes, mor foreu a'r fl. 1743, eto nid ydym yn cael fod Methodistiaeth wedi cael lle i roddi ei droed i lawr yn Llauidloes dros rai blynyddau ar ol hyny. Yinwelodd y Parch. Peter Williams â'r dref mor foreu a'r fl. 174fi f Gellir meddwl fod yn y dref, a cherllaw iddi, y pryd hwnw, rai enwau caredig at y Methodistiaid, rhai wedi eu defFro i raddau am eu sefyllfa druenus fel pechaduriaid, ac yn yraofyn am fi'afr Duw yn Nghrist ; ond nid oedd yma nemawr o fl"urf eglwys ar yr ychydig gyfeillion hyn hyd ar ol hyn. Mae sicrwydd, pa fodd bynag, fod Daniel Rowlands a Howel Harris wedi bod yn y dref rai troion yn pregethu. Yr oedd Mr. Eowlands, ar yr achlysuron hyn, yn cael caniatâd i bregethu yn eglwys y plwyf, ond nid oedd rhyddid o'r fath i Harris. Ediychid ar Eowlands yn wahanol i Harris. Ac er mai yr un oedd eu hegwyddorion a'u hamcan, eto edrychid ar un gyda gradd o warogaeth, am ei fod yn ofteiriad, ac ar y Uall gydag eithaf drwgdybiaeth fel pengrwn terfysglyd.

Daeth Mr. Harris yma unwaith gyda'r bwriad o bregethu. " Disgynodd," medd yr hanes, " oddiar ei geftyl wrth gnap o dir o'r tu deau i'r dref, a chymerodd un Mr. John Marpole ei anifail i'r ystabl i'w ymgeleddu. Safodd Harris ar y cnap tir, ac a bregethodd i iyw nifer fechan o \\randawyr," ond nid hir y caniatawyd Ilonyddwch iddo, tybygid, canys cododd rhyw ddyhiriaid y fath gyffro a therfysg, fel mai prin y cafwyd amser na chyfle i ddwyn ei geffyl iddo ; ond pan y'i dygwyd ato, aeth yn brysur ar ei gefn, gan ddianc ymaith ar ffrwst, heb gael na thamaid na Ilymaid, nac un amgeledd arall.

Tro arall, daeth Hams i'r dref, gan fwriadu pregethu, ond fe'i llesteiriwyd

* Cyf. I., tudaî. 171. f Cyf. I. tuda^. 133.

356 HANESIAETH Y SIBOEBD. [DOSB. IT.

dracbefn. Cynliyrfwyd un Eobinson, Exciseman, i sefyll yn ei erbyn. Hwn a gasglodd nifer o blant direol y dref ato, ao a'u cyflogodd i waeddi fel yn- fydion o amgylcli y lle yr oedd y pregethwr yn sefyll. Nid oedd bosibl clywed uu gair gan faint y sŵn, a llwfrhaodd Harris, a'r ychydig gyfeillion a ddaethant o'i amgylch, ac ymadawsaut ; a da fu hyny, cauys yr oedd yr er- lidwyr creulawn yn parotoi dwfr berwedig yn ngwestty y Lion, i'w fwrw ar y pregethwr a'i ganlynwyr ; a chyn fod y dwfr yn ddigon poeth i'r dyben, 3'madawodd y pregethwr, nid rhag ofu y dwfr poeth, oblegid ni wyddai efe am hwnw, ond wedi canfod nad oedd obaith iddo gael gwraudawiad, gau nadau erchyll y dyhiriaid bychaiu cyflogedig.

Daeth i'r dref dro arall, a chafodd lonyddwch y tro hwn ; oud mewn modd auuysgwyliadwy. Yr oedd yn y dref ddyn o'r enw Eichard German, yr hwn oedd ddyn mawr o gorS"olaeth, ac yn arswyd i'r dref fel pen pafíiwr ; hwu a gymerodd yn ei beu amddifl"yü y pregethwr, gan ddyweyd, " Mi fynaf fi chwareu teg iddo ; " a chan ei arsRjd, cafodd Harris lonyddwch i bregethu : hyn fu tua'r fl. 1750.

Sonir am dro arall yr ymwelodd Harris â thref Llauidloes, ac at y tro hwnw y cyfeiria Mr. Robert Jones.* Safai y tro hwn ar risiau yu agos i un Johu Lewis ; ac i'w aflouyddu y tro hwn, caed hen feuyw ysgeler i gymer- yd y gorchwyl mewn llaw. Ehoddwyd iddi hi yn gyntaf ei gwala o ddiodydd meddwol, ac wedi ei gweithio i'r naws ag oedd gymhwys at y fath waith, a rhoddi iddi arf priodol i'w gyflawni, sef crj'man drain, míniog, hi a gychwyn- odd tua'r lle y safai y pregethwr, a chan fytheirio llwon hi a fj'gythiai " hollti y gŵr dyeithr yn ysgyriou," ac yn yr agwedd yma hi ddaeth at gẁr y gyuulleidfa. Yr oedd yno ŵr o'r enw John Hughes, cyfi-wywr a menygwr, yn sefyll a chanddo mawr gydag ef ; pan ddaeth y fenyw ysgeler i'r lle, hi a darawodd y â'r cryman, nes tori asgwrn ei gefn, i ddangos, oud odid, beth a wnai i'r pregethwr. Ar hyn cyfí'rodd perchen y cî, a rhoes iddi hithau ddyruod â'i ddwrn nes oedd yn disgyn yn chwyrn ar yr heol. Dofodd y dyrnod hwn'fíyrnigrwydd gorwyllt yr hen genawes, ac wedi iddi allu cyfodi llithrodd ymaith yn anfoddog o'r lle. Cafodd Harris lonyddwch ar ol hyn i bregethu.

Nid oedd Llanidloes yn mhell iawn oddiwrth gartref Howel Harris, ac nid rhyfedd os ymwelodd â'r dref hon yn fynych, yn enwedig gan fod cynulliadau Methodistaidd yn bod mewn amryw leoedd yn nghylch y dref. Cawn ei fod uuwaith yn sefyll wrth hen y farchnad, pryd y cafodd ei luchio ag M^au gorllyd, ac â thom yr heol. Safai un gŵr a gyfrifid yn barchus yn y dref o'i flaen, gau ddyweyd wedi pob brawddeg a draethai, " Dyna gelwydd ! Cel- wydd a ddywedi ! 8:c." Ond yu mlaen yr aeth Harris er hyn oU.

Codid amddifí'ynwyr i'r trueiniaid gorthr\Tnedig weithiau yn ddisymwth, a thrwy foddion nad oeddid yn dysgwyl. Adroddid yr hanesyn canlynol gan Edward Lewis, hen flaenor ya. Llanidloes ; " Ar ryw achlysur yr oedd

*"Drychyr Amseroedd," tudal. 125 (ail-argraffiad).

PEN. II.] SIU DSEFALDWYN. o57

amryw o Avŷr mawr y dref a'r gymydogaeth wedi ymgasglu ynghyd mewn gwestty, tua'r amser yr oedd yr hen ddiwygwyr yn dechreu aflonyddu ar y dref a'i chyffiniau. Syrthiodd eu hymddyddan ar y dyeithriaid hyn a gyniweir- ient y wlad, gan aflonyddu ar heddwch y trigolion, a gyru dynion diniwaid yn wallgof, a dangosent bob parodrwydd i'w dirmygu, gan eu galw yn Caradocs a phengryniaid ; ac nid yn unig i'w dirmygu, ond hefyd i'w cosbi, os ceid allan. y gellid gwneyd hyny yn ddiberygl. Dygwyddodd fod yn eu mysg hen \vr boneddig a pharchus o'r enw Jeukin Lloyd, Ysw. Y gŵr hwn oedd Hedd- ynad, ac ato yr âi pawb o'r dref a'r wlad, ymron, y pryd hwnw, i ymofyn am gynghor mewn achosion cyfreithiol. Wedi i'r boneddigion eraiU arllwys eu syniadau difriòl mewn modd diarbed ar y pregethwyr, gan eu galw yn grwydriaid direol ac atgas, cododd Mr. Lloyd i fyny ac a'u cyfarchodd i'r perwyl yma ; " Wele, foneddigion, chwi a wyddoch yn dda ddigon am yr an- nhrefu sydd yn mhlith ein hoÔeiriaid ni. Mae offeiriad Llangurig fel ar

fel, Llanidloes , Llandinam , Trefeglwys ,

Carno , Llanwnog , a Phenystrywaid ," gan

ddarlunio eu drwg-fucheddau, a dynoethi yr afreolaeth cethin oedd yn eu plith, a dangos pa mor ddiofal oeddynt am eneidiau eu plwyfolion ; " A pha ryfedd," meddai, "os ydyw gwŷr dyeithr sydd yn eiddigeddu dros lesâd eneidiau dynion, yn tramwy atom i ddywedyd wrthym y noethwir am ein hymddygiadau ? " Wedi clywed y cyfarchiad Ilym hwn, ac heb allu gwadu cywirdeb y darluniad, tewi a wnaethant, " a gadael y dynion hyn yn llonydd."

Er bod y dref yu gwrthod rhoddi croesawiad i'r efengyl y pryd hwn, eto ni bu yn gwbl ddiswcr yn y wlad gerllaw. Agorodd Mr. a Mrs. Bowen o'r Tyddyn eu i dderbyn pregethu ynddo, gan ymuno â'r Methodistiaid, er maint y sarhad yr oeddynt dano. Gan gyfeirio at y teulu hwn y dywed Eobert Joues,* " Y tro cyntaf y daeth Mr. Harris i'r wlad yma, aeth o Lau- brynmair i blwyf Llanwnog ; ac oddiyno i'r Tyddyn, yn mhlwyf Llandinam, cartref Mrs. Bowen. Bu yno dderbyniad croesawgar i'r efengyl amryw flynyddoedd ; ac y mae llawer o'i hiliogaeth, nid yn unig yn barchus ac yn glyd eu sefyllfa, ond hefyd, amryw o honynt, yn ddefnyddiol yn yr eglwys. Y'n nhŷ y wraig hon y cynaliwyd y cyfarfod neiUduol cyntaf yn y sir."

Byddai rhai o dref Llanidloes a'i chyffiuiau, y rhai y cyfiyradasai yr efengyl a u calonau, yn arfer myned i'r Tyddyn i'r cyfarfodydd eglwysig uchod, pryd na chaniateid iddynt gyfarfod â'u gilydd o fewn y dref. Agor- wyd drws hefyd i dderbyn y Methodistiaid mewn lle arall yn yr un plwyf a'r Tyddyn, sef plwyf Llandinam ; y Ue hwn oedd un Morgan Wüliam o'r Ddolwen ; a lle arall gan Mr. a Mrs. Woosnam, Tŷ-mawr, Tref-eglwys; a chan Owen Brown, o Grawlom, yn mhlwyf Llanidloes, a Eeiuallt Cleaton, o'r un plwyf. Yr oedd un Evan Morgan, Glyngynwydd, yn mhlwyf Llan- gurig, yn un o garedîgion yr achos. Fel hyn yr oedd Methodistiaeth yn lefeinio bro Llanidloes, i raddau helaeth, cyn fod nemawr dderbyniad iddo

* "Drych yr Amseroedd," tudal, 125.

358 MANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

yn y dref, a hyny mewn adeg foreu arno. Parodd yr ymraniad rhwng Harris a'i frodyr yn y fl. 1751, effeithiau galarus, yn ddiau, yn mysg y dysgyblion yn y parthau hyn, a pharhaodd yc etfeithiau dros gryn dymhor, tua deng mlyn- edd, mwy neu lai. Yn y tymhor gauafaidd hwn, ni ddeuai nemawr o'r Deheuwyr enwocaf i ymweled â'r wlad, gan fod teimlad cryf yn mysg y crefyddwyr o blaid Harris, ac felly ni cheisient gan y pregethwyr a safent gyda Rowlands ddyfod atynt dros ryw ysbaid. Safodd Eichard Tibbot a Lewis Evan, pa fodd bynag, gyda Rowlands, ac yn mhen rhai blynyddau ar ol enciliad Harrís i Drefecca, gorchfygwyd rhagfarn y crefyddwyr yn erbyn Eowhinds a'i frodyr, gan eu syched augherddol am weinidogaeth y gair, ac ymofynasant eilwaith am eu gwasanaeth. Ail-gychwynodd *y gwaith yn y caulyniad.

Tua'r amser yr oedd yr achos yn adfywio eilwaith, y bernir iddo gaei drysau agored yn nhref Llanidloes ; sef yn nhai, John Lewis, y watclmalcer ; Eisiart Humphrey, y gôf; ac Evan Jenkin, y crydd. Dechreuwyd cadw cyfarfod eglwysig yn fuan, bellach, yn uhŷ John Lewis. Dywedai gwraig o'r enw Mrs. Davies, yr hon a fu farw o fewn llai nag 20 mlyuedd yn ol, yn 80 ml. oed, ddarfod iddi hi fyned i'r gymdeithas eglwysig pan nad oedd ond 6 ynddi, sef yn y fl. 1778. Cedwid hi y pryd hyn yn uhŷ John Lewis. Bu y wraig hon yn proffesu am yr ysbaid o 56 o flynyddoedd.

Yr oedd yr erlid ffyrnig erbyn hyn wedi llouyddu, er fod y crefyddwyr yn cael eu rhan }ti ehelaeth o wawd a dirmyg. Yr oedd y tafod yn rhydd i'w difrio, er fod y dwylaw yn rhwym i'w baeddu. Cafwyd llonyddwch i bregethu yn y tai, a rhoddwyd i'r gwrandawyr y fraint o fwynhau gweinidogaeth "William Williams, Pant-y-celyn ; Peter Williams ; Lloyd, o Gaio ; Dafydd Morris ; John Evans, Cil-y-cwm ; a Jones, LL^ngan ; ynghyda brodyr mwy cartrefol. Nid oedd eto gymaint ag un addoliad o fewn y dref ond Uan y plwyf ; a mynych y cyferchid proffeswyr y dyddiau hyny, wrth fyned i'r neu wrth ddychwelyd o'r, cyfarfodydd crefyddol, â rhyw ymadroddion atgas, megys, " Dacw nhwythau y Pengryniaid ! Dacw nhwy' yn mj^n'd i'r weddi dywyll ! " a'u cyffelyb.

Tn y fl. 1778, y dechreuwyd ymofyn o ddifrif am le cyfleus i addoli. Hyd yn hyn, nid oedd i gynal y cyfarfodydd ond yr heol, yn yr awyr agored, neu ynte mewn tai bychain anghyfleus. Ac nid oedd y rhai a roddent eu tai i'r dyben ddim heb radd o betrusder ac ofn, gan faint oedd dygasedd y bobl eto at yr efengyl, rhag y gwueid niweid iddynt hwy neu i'w tai. Yr oedd hyn yn perí fod yr angen am le priodol i addoli yn dyfod yn fwyfwy teimladwy, a rhoddai y pregethwyr a ddeuai atynt yn achlysurol i bregethu, bob annog- aeth i godi capel mor fuan ag y gellid, Bu y Parch. Peter Williams mor dirion a dyfod atynt i estyn cynorthwy iddynt gyda'r gorchwyl. Aeth gyda John Lewis, ac eraiU, o amgylch y dref a'r gymydogaeth, i ofyn cymhorth y trigolion mewn arían a chlud ; a chafwyd cryn lawer o garedigrwydd ; llawn cymaint, os nad Uawer mwy, nag a ddysgwylid yn mlaen llaw. Llwyddwyd hefyd gyda Eein^t Cleaton, o'r Garn, gan yr hwn yr oedd Ue cyfleus yn ei

PEN. II.] SIR DREPALDWYN. 859

feddiant, i gael tir. Felly yn y fl. 1779, adeiladwyd capel byclian cyíîeus, o dan arolygiaeth James Matthias, yr hwn oedd yn greíFtwr ac yn bregethwr. Cryn anturiaeth oedd adeiladu capel y pryd hwnw, gan leied oedd nifer, a chan dloted oedd sefyllfa, y rhau fwyaf o'r proíìeswyr, a chan gymaint oedd y gwrthwynebiad i gael un addoldy heblaw eglwys y plwyf. Nid oedd chwaith y pryd hwn ond un capel wedi ei godi yn yr hoU sir, gan y Method- istiaid, a hwnw oedd capel y Bont yn Llanbrynmair, yr hwn a godasid ddwy flynedd yn ol. Wedi gorphen y capel, llwyddwyd i gael yr enwogion Eow- lands, 0 Langeitho ; a Jones, o Langan, i'w agor. Dywedir nad oedd y gynuUeidfa ddim yn Uuosog, er enwoced y pregethwyr, ond fod y pregethau yn ardderchog.

BeUach, yr oedd Methodistiaeth yn meddu gwedd mwy sefydlog a chyson yn y dref ; mwy nag a ftiasai arno o'r blaen, a mwy felly nag oedd arno mewn llawer o ardaloedd eraiU o amgylch. Cadwyd moddion gras yn yr addoldy newydd yn fwy cyson, yn wythnosol a Sabbothol, ac ymunodd amryw o'r rhai a ddychwelasid trwy'r efengyl, ag oeddynt yn byw yn agos i'r dref, â'r ychydig frodyr yn y dref, sef Mrs. Bowen, Tyddyn ; Beinallt Cleaton, Garn ; Evan Morgan, Glyngynwydd ; Morgan William, Dolwen ; Mrs. Woosnam, Tŷ-mawr ; Owen Brown, Crawlom ; hwy a'u teuluoedd. Bellach, yr oedd eu nifer yn (wy Ilaosog, eu meddyliau yn fwy calonog, a'u hysgog- iadau yn fwy trefuus. Yr oedd y pregethwyr befyd yn y sir, ac yn Ngwyn- eddoll, yn cynyddu yn gyflym mewii rhif a doniau, Ilafur y rhai a fendithiwyd niewn modd nodedig yn Llanidloes, i ddwyn yr achos yn mlaen i uchafiaeth a Ilwyddiant.

Fr lien gynghonoyr. Crybwyllason o'r blaen * fod yma amryw o ddynion yn y rhan yma o'r wlad yn arfer cynghori ychydig, megys Evan Jenkins, crydd, Llanidloes ; Evan Morgan, Glyngynwydd ; Eeinallt Cleaton, Garn ; yr oedd yraa hefyd un John Thomas, ysgolfeistr ; a Benjamin Cadman. Aeth yr olaf at yr ymueillduwyr yn lled faan. Dywedir hefyd yn nghofnodau Trefecca, am Evan Morgan, " ei fod icedi rhoddi heibio gynghori, ond heb Iwyr dynu yn ol." f Dywedir yn yr un cofnodau, mewn adroddiad o eiddo Eichard Tibbot, yn y fl. 1774, fel hyn, " Mae genyf le i gredu fod Duw yn bendithio ac yn Ilwyddo y brawd Lewis Evau, Llanllugan, ac Evan Jenkin, Llanidloes, Mae arddeliad mawr ar eu llafur i dueddu y bobl i agor eu drysau i'r efengyl, ac i ddyfod i wrando y gair." Nid oedd gan amryw o'r cynghorwyr hyn oud doniau a medrusrwydd bychan iawn. Ni aracanent at bethau uchel, ac ni thraethent ar bynciau dyfnion duwinyddiaeth ; dywedent yn ddirodres iawn yn erbyn y pechodau rawyaf arferol yn mysg eu cymydocr- ion, gan ddysgrifio y dynion euog o honynt, mewn iaitli a dybiasid yn awr yn fras ac isel. Dywedent, weithiau, am ddynion annuwiol cyhoeddus, " Fod nod y diawl yn eu talcenau, ac y byddai i'r diawl eu cymeryd ymaith ar ei gyrn ! " Swniai ymadroddion o'r fath yn fliu i'n clustiau ni ; a byddent yn

* Cyf. I., tudal. 130. f Tiulal. 132.

360 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

debyg o wneyd mwy o ddrwg nag o dda ; ond yn y dyddiau tywyll hyny, yr oedd difrifwch y pregethwr, ac anwybodaeth y gwrandawyr, yn peri fod y fath ymadroddion yn llai gwrthun, ac yn fwy buddiol, i ddofi dynion, nag yr ydym ni yn chwannog i feddwl.

Y pregethwr cyntaf, heblaw yr hen gynghorwyr aenwyd, a fu yn preswylio tref Llanidloes, oedd Edward Watkin. Dechreuodd y gŵr hwn ar ei wasan- aeth cyhoeddus tua'r un amser ag yr adeiladwyd y capel, sef 1779. Te fu yn fraich gref i'r achos yn ei wendid, trwy bregethu a chadw cyfarfodydd eglwysig, a chafodd yr hyfrydwch o weled "ewyllys yr Arglwydd yn llwyddo yn ei law ; " Uuosogodd y gwrandawyr a'r aelodau crefyddol ; ac yn ystod y 35 ml. y bu efe yn Uafurio, ymddangosodd gwedd newydd ar Fethodistiaeth yn Llauidloes, wrth a welsid ar ei gychwyniad. Cododd ei ben er pob gor- thrwm i safodd ei dir er pob ymosodiad ; gwreiddiodd 'y pren, dan ruthr- iadau y d^onhestl, a lledodd ei gangenau. Daeth llawer o wawdwyr crefydd i'w chofleidio, a'i herlidwyr i'w phrofí'esu.

Dyn bychan o gorífolaeth oedd Edward Watlíin, cyflym ei ysgogiad, a ffraeth ei ymadroddion. Sonir am dano ar ddechreuad ei lafur cyhoeddus yn cyd-deithio â Dafydd Morris trwy wledydd y Gogledd, a thrachefn ni a'i cawn yn gydymaith cymhwys i'r pruddglwyfus John Pierce. Teithiodd hefyd lawer ar Gymru wrtho ei huu, gan bregethu efengyl y deyrnas ; a bu farw ar ei daith yn Môn, yn nhref Caergybi, Tachwedd, 1815. Yn mhen tua 6 blynedd ar ol i Edward Watkin ddechreu pregethu, sef tua'r fl. 1785, y daeth John Pierce, o Erynengan, sir Gaernarfon,* i Lanidloes i fyw, ond ni bu ei dymhor yma ond byr, canys efe a fu farw ynghanol ei ddyddiau, pan nad oedd ond 49 ml. oed, wedi bod yn trigo yn ei gartref newydd ond ysbaid 8 mlynedd.

Bu un Jeremiah Williams hefyd yn byw dros ychydig amser yn y plwyf, ac yn cydlafurio â'r ddau bregethwr a enwyd, ond symudodd yn fuan i Lan- wyddeLm. Fe fu yr hynod Evan Evans, o'r Waunfawr, sir Gaernarfon, yn ymdaith yma dros ysbaid blwyddyn. Gyrasid ef yma gan afiechyd i geisio gwellhad, ond efe a fu farw dan efi"eithiau yr afiechyd hwnw yn Chwef. 13, 1797. Yma hefyd y bu y tyner Barch. Humphrey Gwalchmai yn byw y rhan fwyaf o'i oes, nid llai na 30 ml. Daeth yma yn y fl. 1813, a Uafuriodd lawer yn ddirgcl a chyhoeddus ; coronwyd ei wasanaeth â Uwyddiant nodedig. Ennülodd iddo ei hun air da gan y rhai a'i hadwaenent ef oreu, fel dyn hynod o hawddgar ei dymher, cyfeillgar, a diddichell. Yr oedd wedi ei gy- nysgaethu â mesur helaeth o wybodaeth a dawn, ac yn bregethwr da a chanmoladwy ; ond er iddo gychwyn ei oes mewn amgylchiadau cysurus, fe roddwyd iddo brofi yn ehelaeth o eliwerwder profedigaethau y byd hwn. Nid ocdd ganddo gymhwysder, tybygid, i amddifi'yn ei huu rhag siomedigaethau masnachol, a bernir mai cam ag ef oedd ei adael dan angenrheidrwydd i ym- rwystro â negeseuau y byd hwn. Ond er i helyntion bydol fylchu ei ddefn-

* Gwel ei hanes boreuol yn Cyf. I., tudal. 218.

PEN. II.] SIR DEEFALDWYN. 361

ycldioldeb dros dymhor, eto cafodd adferiad i'w swydd a'i le, rai blynyddoedd cyn iddo farw. Symudasai i Groesoswalit i fyw rai blynyddau cyu ymadael â'r byd hwn, a bu farw yn y fl. 1847 yn y 59 ml. o'i oed.

Yn Llanidloes hefyd y bu y Parch. Edward Hughes, yn awr o Aberystwyth, yn byw ; a'r Parch. David Williams, yr hwn a ymfudodd i'r America. Mae yma yn aros ddau frawd arall, sef y Parch. Eobeit Evans, a Mr. Eichard Evans, y rhai sydd yn llafurio, yn ol eu talentan, gyda chysonedd a chymer- adwyaeth canmoladwy.

Fr Fsffol Sabbothol. iSíi bu un sefydliad yn fwy effeithiol i wreiddio ac eangu Methodistiaeth yn mysg y Cymry na'r Ysgol Sabbothol ; felly hefyd y bu yn Llanidloes. " Yr hanes cyntaf am yr Ysgol Sabbothol," medd yr ysgrif* 0 fy mlaen, sydd, " mai j^n nhŷ Owen Brown, Crawlom, y cedwid hi. Yr oedd y gŵr hwn yn arfer rhoddi llety i bregethwyr yn ei dŷ, cyn y fl. 1769 ; ond y mae y flwyddyn hòno yn nodedig am iddo roddi caniatâd i bregethwr o'r enw Jenkin Morgan i ddyfod i le, yn ymyl Crawlom, o'r enw Tŷ'n-y-fron, i gadw ysgol ddyddiol dan nawdd Madam Bevan. Crawlom yw y lle y dechreuwyd cadw ysgol Sabbothol gyntaf yn Nghymru, na Lloegr, hyd y gellir cael hanes ; a sicr ydyw ei bod yn cael ei chynal rai blynyddau cyn i Mr. Eaikes roddi cychwyniad iddi yn NghaerIoyw,f a'r achlysur o'i chadw ar y Sabboih oedd hyn. Nid oedd ond y jo/cth^ yn gallu dyfod i'r ysgol ddyddiol, ac er fod awydd mawr mewn eraill mwy oedranus i dderbyn addysg, nid oedd eu hamgylchiadau yn caniatâu iddynt ; am hyny pender- fynwyd cadw ysgol nos yn Crawlom, fel y gallai pob oedran ddyfod iddi, a hyny ar nos Eercher, oddieithr gorfod newid yr amser o herwydd anghyfleus- dra. Cyuyddodd yr awydd i ddysgu yn fwy wedi profi gradd o'i flas, a phenderfynwyd cadw ysgol ar nos Sabbothau hefyd. Bellach, cyrchai Iluaws i'r Ue, o'r holl ddosbarth, am bum' milldir o amgylch ; a hysbys ydyw, mai trwy y moddion hyn y rhoddwyd i'r trigolion, gan mwyaf, y tymhor hwnw, gael dysgu darllen gair yr Arglwydd yn eu hiaith eu hunain. Y mae capel yn bresenol wedi ei godi yn yr ardal, ac y mae yr ysgol nos, a'r ysgol Sab- bothol, yn parhau yno hyd heddyw."

Ymddengys fod ysgol Sabbothol wedi ei chychwyn yn y modd a grybwyll- wyd yn nghyffiniau Llanidloes, cyn ei chychwyn yn y dref, ond y mae sicr- wydd ei bod yn y dref yn y fl. 1796 ; pa sawl blwyddyn cyn hyny, nid yw hysbys. Yr oedd yma un John Lewis yn athraw ysgol ddyddiol Saesonaeg, ac efe, ar y pryd, oedd y prif athraw yn yr ysgol Sabbothol. Cedwid hi. ar ol yr oedfaon brydnawn Sabbothau, am oddeutu wyth mis o'r flwyddyn, sef tra y byddai y dydd yn caniatâu ; ond wedi i'r dydd gwtogi yn ormodol, rhoddid hi heibio hyd y gwanwyn drachefn. Yn fuan wedi hyn, cynygiodd rhai eraiU eu gwasanaeth i gynorthwyo John Lewis, a dechreuwyd ysgol arall tua thair milldir o'r dref, mewn lle a elwir y Parc. Cynelid hon yn ystod y pedwar mis gauaf y rhoddid hi i fynu yn y dref, ar brydnawn Sab-

* ysgrifenedig gan Mr. D. Davies, Llanidloes. f Yn y fl. 1782 y bu hyn.

363 HANESIAETU Y SIROEDD. [DOSB. IV.

bothau, a threfnwyd 16 o athrawon i fyned yno, bob yn bedwar, i'w chadw, Agorwyd ysgol arall yn Nant-yr-hebog, tua dwy filldir o'r dref, ar yr un cynllun, a chedwid hon hefyd gan pedwar pedwariaid o athrawon.

Pe fu yr ysgolion hyn yn neiUuuol o wasanaethgar i'r achos crefyddol. Cododd cryn gytfo yn mysg y bobl, yn enwedig yn mysg yr ieuenctyd; ychwanegwyd at yr eglwys amryw ddynion defnyddiol a llafurus. Mae llawer o'r rhai hyn eisoes wedi ymadael â'r byd hwn, wedi bod yn addurn i'w proffes yn eu bywyd, ac wedi rhoddi tystiolaeth, cyn eu symud, ddarfod iddynt ryngu bodd Duw. Mae rhai eraiU o honynt eto i'w cael yn ffyddlawn ar y maes, a rhai o herwydd oedran ueu lesgedd, wedi gorfod tynu o'r neill- du. Oud er amlyced oedd effeithiau daionus yr ysgol Sabbothol, yr oedd y syniad yn ffynu yn gryfynmysg hen bobl y parthau hyn fel manau eraill, mai dyledswydd crefyddwyr oedd yn hytrach fyned o amgylch i wrando pregethau, nag aros gartref i addysgu pLant ac eraiU ar y Sabbothau. Eff'eith- iai y syniadau hyn i beri esgeuluso yr ysgolion ar ryw achlysuron, nes y byddai eu deiUaid hefyd yn ymwasgaru, ac y disgynai gwedd fwy gwywedig ar y gwaith.

Ar yr un pryd, ni roddwyd y gwaith heibio yn Uwyr, eithr ymddangosai rhyw rai, o bryd i bryd, yn eiddigeddu dros yr ysgol, ac yn bwrw eu haden drosti. Yn y fl. 1805j daeth gŵr ieuainc o Aberystwyth yma i aros dros dymhor, sef Mr. Owen Jones (o'r GeUi wedi hyn), am yr hwn y soniasom o'r bhien,* dyfodiad yr hwn a fu yn foddion adfywiad anarferol i'r ysgoUou gwywedig, ac yn gychwyniad i amryw o rai newyddion. Gan faint y Uwydd- iant a ddylynai ei lafur, nid yn unig trwy gasghi Uuaws i'r ysgoUon, oud hefyd trwy fod cyffro yn cael ei godi yn eneidiau Uaweroedd ynghylch eu hachos tragwyddol, efe a fu yn offeryn i ddarostwng pob rhagfarn yn erbyu yr ysgoUon, ac hefyd i enniU Ihiaws mawr o athrawon ac atlirawesau i ym- gysegru i'r gwaith, wedi eu Uenwi â mesur o'r uu aidd ag oedd ynddo ef ei hun ; ac feUy rhoddwyd ysgogiad grymus iawn i'r sefydUad daionus hwn trwy yr hoU wlad. Dygwyd yr ysgol yn Llanidloes i weU trefn, caniatawyd araser mwy manteisiol i'w chadw, a heidiodd o honi niferi mawr o athi'awon aiddgar a medrus i sefydhi ac i amaethu ysgoUon eraiU hefyd.

Nid oedd Mr. Jones y pryd hwn oud gŵr ieuanc, eto cymaint oedd ei ddifrifwch, ac mor enuiUgar oedd ei dduU, fel mai prin y gaUai neb wrthod iddo ei gais. Fel yr oedd unwaith yn myned i ymweled ag ysgol yn y wlad, ac, ar ei ffordd, yn myned heibio i goed lawer, galwyd ei sylw at amryw fechgyn a Uanciau yn difyru eu hunain trwy ysbeiUo y brain o'u nythod ac o'u cywion. Aeth IMr. Jones atynt, a dechreuodd ymresymu â hwynt yn ei dduU priodol ei hunan, ynghylch creulondeb eu gorchwyl, ac yn neUlduol ynghylch y drwg o halogi dydd yr Arglwydd, gan eu cymheU hwynt i ddyfod gydag ef i'r ysgoL Ni aUodd y bechgyu ei nacâu, gan mor enniUgar ei dduU, a chydag ef yr aethant, ac amryw o gywion y brain yn eu pocedau.

* Cyf. I., tudal. 343.

PEN. II.] SIR DREFALDWYN, 363

Ac er maint eu hofnau i'r brain eu bradychu hn'y, ac aflonytldu ar yr ysgol, eto nid oedd modd cilio yn ol ; y fath oedd ei ddylanwad ef arnynt, fel yr oeddynt hwy gymaint yn raeddiant Mr. Jones ag oedd y cywion brain yn eu meddiant hwy.

Yn ystod yr amser y bu Mr. Jones yn aros yn Llanidloes, fe ddefnyddiai foddion newyddion i ennill rhai i'r ysgol, sef ymholi am y teuhaoedd hjaiy yn y dref ag oeddynt ddifater am yr ysgol, a myned atynt, gan ddeisyf caniat- âd. ganddynt i ddwyn rhy w nifer o blant yr ysgol gydag ef i'w tai i'w holi yn ngwydd y teulu. Wedi cael hyn, gofynai i'r teulu cyn ymadael, a ddeuent hwythau i'r ysgol, a chan amlaf llwyddo a wnai. Hynod, erbyn hyn, ydyw y cyfnewidiad, Y pryd hwnw nid oedd ond ambell un o'r werinos yn meddu Beibl, nac yn medru darllen gair ar lyfr, ond yu awr, a hyny yn benaf trwy lafur yr ysgolion Sabbothol, ni chyfarfyddir â nemawr deuhi yn yr holl wlad, nac â nemawr bleutyn mewn teuhi, na fedr ei ddarllen !

Fe fu y capel cyntaf ar ei draed am 25 mlynedd, o'r flwyddyn 1779. Yu ystod y tymhor hwn cynyddodd y gwrandawyr yn ddirfawr, " hyd. na anent yn y tŷ," a bu cri am " helaethu Ue y babell," ac ar annogaeth Mr. Charles, o'r Bala, aü-adeiladwyd ef. Cafwyd tir i hyn gan Älr. John Cleaton, mab i'r gŵr y cafwyd tir ganddo o'r blaen. Yr oedd hyn yn y fl. 1804. Hwn, drachefn, a aeth yn rhy gyfyng yn f uan, ac yn mhen 1 7 o flynyddau, adeiladwyd y capel y drydedd waith yn y fl. 1821 ; a hwn yw yr adeilad sydd yn aros hyd. heddyw. Gwnaeth y cyfeillion a'r trefedigion yn anrhydeddus mewn peth arall, ni orphwysasant nes cael " eu cyfarfod " yn ddiddyled; ac yn awr y mae claddfa i'r meirw hefyd wedi cael ei pharotoi a'i sicrhau mewn lle cyfleus.

Cafodd Llanidloes brawf amryw weithiau o awdurdod ac awchlymder* y gwirionedd. a bregethid, trwy droedigaethau hynod, a thrwy fod Ilaweroedd yn troi at yr Arglwydd, Sonir am un tro, pan oedd John Prydderch, o Frycheiniog, yn pregethu, ac yn darlunio y modd y byddai y gŵr sarug, y wraig anynad,y plant cyndyn, a'r gweision anufydd, yn anghysuro y teuluoedd, pryd y dygwyddodd fod yn yr oedfa ŵr a gwraig o'r wlad ; yr oedd y wraig yn proífesu, ond nid oedd y gŵr, a damweiniodd y tro hwn fod y wraig wedi dyfod i'r dref o flaen ei g\vr, Ar ol yr oedfa, troisant tua thre', a sylwodd y wraig fod wynebpryd y gŵr wedi syrthio, ac nad oedd tuag ati fel c^'Ut. Ceisiai dynu ymddyddan ag ef, ond nid oedd yn llwyddo ; o'r diwedd gofyn- odd iddo, " Pa beth oedd yn ei flino ? "

" Pa beth sydd yn fy mlino yn wir ! " ebe yntau ; " mae digon yn fy mlino ! " Yna dechreuodd edliw iddi :

" Pa achos oedd i chwi fyned at y pregethwr, cyn yr oedfa, a hysbysu iddo fy nghastiau i ? "

"Ni fum i ddim, gyda'r pregethwr," ebe y wraig.

" Do chwi fuoch," meddai y gẃr yn sarug ddigon ; ac er iddi sicrhau iddo na fu dim ymddyddan o'r fath rhyngddi â'r pregethwr, ni choeliai efe, hvd oni aethant i'r dref drachefn, ac i y gẁic y lletyasai y pregethwr ynddo, a

364 HANESIAETH Y SIROEDD, [doSB. IV.

gofyn i'r gŵr ; " A fu fy ngwraig ddim yn eicli yn adrodd fy hanes i wrth y pregethwr, y pryd a'r pryd ? "

" Naddo," ebe yntau : " ni fu yma ddim o'r fath beth, ond y gwir ydyw fod yr Arglwydd yn dysgu ei weision i draethu yr hyn a fyddo yn gymhwys at sefyllfa ac arferion eu gwrandawyr, i'r dyben i'w troi hwy oddiwrth eu pechodau." Bu y tro hwn yn fendith i'r gŵr ; ymunodd yntau â'r eglwys, a glynodd yn ei broífes tra fu byw.

Sonir llawer hyd heddyw am gymdeithasfa a gynaliwyd yn Llanidloes yn niis EbriU, 1819, yr hon a fu yn dra bendithiol, ac yn foddiou dychweliad Uawer o bechaduriaid at Dduw ; yn enwedig pregeth y Parch. Michael Eoberts, PwUheli, ar Salm i. 4, 5, " Am hyny yr annuwiolion ni safant j'n y farn," &c. Dangosai pahara na allai yr annuwiolion sefyll, ac yn mysg pethau eraill, un achos oedd, " FoD EU mateu yn ddrwg." Yr oedd sylw y gy- müleidfa fawr eisoes wedi ei enniU, ond ar M^aith y pregethwr yn dadgan fod "achos yr annuwiol yn ddrwg," yr oedd y bobl megys dynion yn cael eu trywanu â chleddyf : teimlent eu hunain yn cael eu dàl megys â gwŷs, ac yn cael eu dwyn o flaen y Barnwr. Gwelid wynebau cannoedd yu amliwio, a llawer yn tori allan i waeddi am eu bywyd, fel rhai yr oedd dychryn Duw wedi eu meddiannu, ac yn barod i ofyn, " Pwy a all sefyll o flaen yr Arglwydd Dduw santaidd hwn ! "

Ychwanegwyd at yr eglwys bob wythuos o hyny allan dros rai misoedd, nes oedd nifer y dychweledigion erbyu y Nadolig dros gant o rifedi. Ac nid y dref yn unig a gafodd fedi yr holl ífrwyth, eithr fe chwanegwyd lluaws mawr at yr eglwysi trwy yr hoU fro ; dyeithriaid lawer o sir Aberteifi, a ddaethent i'r cyfarfod, a ddychwelasant wedi eu clwyfo hyd yr enaid.

*Y noson o'r blaen, fel yr oedd Michael Eoberts yn dyfod i lawr ar hyd yr heol o'r oedfa, doluriwyd ei glustiau, wrth glywed rhyw segurwyr wrth iddo basio yn gwawdio ac yn cablu. Effeithiodd eu hagwedd gymaiut arno, nes iddo fethu a bwyta ei swper, na'i foreufwyd dranoeth ; ciliasai ei gwsg oddi- wrtho, a thrwy ympryd a gweddi efe a ddeisyfai ar i Dduw amddiffyn ei enw ei hun. Tueddwyd ei feddwl ef yn y canlyoiad at y testyn crybwylledig ; Duw yntau a wrandawodd ei weddi, gan ddwyn tystiolaeth anwrthwynebol i air ei ras, nes mai prin y ceid un galon yn mysg y miloedd cynulledig, heb deimlo rhyw raddau oddiwrth rym y gwirionedd.

Ymddangosodd yn y dref hou radd o wrthwynebiad i bregethu yr efengyl mor ddiweddar a'r fl. 1819. Yr oedd y Parch. John Elias, o Fôn, yu y wlad yn pregethu, a'i gyhoeddiad yn damwain bod yn Llanidloes ar ddydd Llun, a hwnw yn ddydd Llun-y-gwyl-mabsant. Gan fod yr ŵyl hon, er ys blynyddoedd, yn ddolur llygaid i'r rhai tyner eu cydwybodau yn y dref, o herwydd y Ilygredigaeth a lochid ynddi, tybiasant mai da fyddai gwneyd ymdrech i'w darostwng, a bod dyfodiad pregethwr mor enwog i'r dref yn dygwydd bod yn yr amser, yu argoeli bod yr amser yn gyfleus, ac na ddylid ei ollwng heibio. Gofynwyd caniatâd, gan hyny, i gadw yr oedfa ar yr heol, o flaen y gwesttŷ dan arwydd y Llew. Caniatawyd eu cais iddynt gan

PEN. II.] SIU DREFALDWYN. 365

ŵr y tŷ, a chafwyd pedrol-fen (loaggonj i'r lle yn barod erbyn yr amser, i'r pregethwr sefyll ynddi i gyfarch y gynulleidfa. Dechreuwyd yr oedfa gan y Parch. H. Gwalchmai ; yna wedi canu, cymerodd Elias ei destyu, loan xii. 32, " A minau os dyrchefir fi oddiar y ddaear, a dynaf bawb ataf fy hun." Bernir fod tua phum' mil o bobl yn gynuUedig. "Wedi i Mr. Elias bregethu tua hanner awr, a'r gynulleidfa wedi eu rhw^ymo i wrando, ymddangosodd boneddwr o Hedd-ynad yn dyfod tua chẃr y dyrfa, ac yn dynesu at y wagen. Wedi dyfod ati, gwaeddai ar foneddwr arall, Hugh Jones, Ysw., yr hwn oedd yn grefyddwr, ac yn sefyll yn ymyl y pregethwr, i ddyfod ato ; ar hyn nesa- odd Mr. Jones, a Mr. D. Davies, at y pen hwnw i'r fen i gyfarfod â'r gŵr mawr, gan ddeisyf arno adael i'r pregethwr fyned yn mlaen dros enyd yn hwy. Ar hyn llwyddodd am ysbaid ugain mynyd. Yna canfuwyd ef yn dyfod yr un fi^ordd drachefn, gyda llwyr benderfyniad i roddi terfyn ar y bregeth ; dringodd gyda pheth ymdrech i'r wagen, ac aeth yn unionsyth at Mr. Elias, a chan roddi ei law ar ei ysgwydd, a orchymynodd iddo dewi.

Anmhosibl ydy w dysgrifio yr olwg ar y dorf fawr ar hyn o bryd. Yr oedd Uawer yn llewygu gan fraw ; yr oedd yno gannoedd yn ymddigio yn arswydus wrth yr Ustus, ac eraill yu gwaeddi yn groch gan ddychryn. Ond nid cy- maint o gyffro a ymddangosai yn y pregethwr, ond gan droi at yr Ynad, gofynai yn dirion ganiatâd i oUwng y gynuUeidfa ymaith trwy weddi ; a chaniatawyd hyn iddo. Y mae yn deilwng o sylw, er fod yr oedfa i raddau wedi ei rhwystro, eto, hi fu yn fwy eífeithiol na dim arall i ddarostwng yr ŵyl lygredig a gynelid ar y diwrnod hwnw.

Ar ol dybenu y gwasanaeth ar yr heol, aeth hyny o'r gynuUeidfa a allai fyned, i'r capel, lle y cyfarchai Mr. Elias hwy drachefn, a chan gyfeirio at yr amgylchiad a ddygwyddasai, cyngliorai y bobl i beidio dangos dim anfri na digter at y gŵr boneddig, gan yr ymddangosai yn amlwg mai ei ddirgy- mhell a gawsai gan eraill, ac ychwanegai, " Yr wyf yn meddwl yn sicr, wedi ymddyddan â'r gŵr, y cawswn bregethu wrth ei balas." Yr oedd Mr. Elias wedi cael ymddyddan â'r gŴT boneddig, ac yn yr ymddyddan, deallodd mai nid o'i fodd y gwnaethai ; ar yr un pryd, hònai mai nid Ile priodol oedd yr heol i bregethu.

Fe fu amser pryd y byddai y weriu yn terfysgu y cyfarfodydd crefyddol, ac ambell foneddwr yn eu noddi rhag y rhuthr ; ac fe fu amser hefyd pryd y defnyddid y werin gan eu huchafiaid yn off"erynau i aflonyddu ; ond mewn ysbaid o amser, gwelodd y weriu-bobl eu camsyniad, ac yn Ile cymeryd eu harwain fel cynt, i faeddu y dynion a geisient eu lles, hwy a'u croesawent ac a safent o'u plaid, a hyny yn fynych yn erbyn y boneddigion. Pan oedd Dafydd Cadwaladr yn pregethu unwaith yn Penual, ger Machynlleth, daeth yno yswain a meddyg i aflonyddu. Dynwaredent y pregethwr wi-th iddo ddarllen ei destyn, gan ateb eu gilydd a chwerthin yn wawdlyd, a gofyn i'r pregethwr, *' Pwy a ddywedodd hyna wrthyt ti ? " Ceisiai rhyw rai yn y gynulleidfa ganddynt dewi, ond gwaeth yr aent hwythau. Bellach, cerddodd annyddigrwydd trwy y gynuUeidfa, difi"oddwyd y cauwyllau, a dechreuwyd

366 HANESIAETH Y SIBOEDIJ. [dOSB. IV.

gwasgu y boiieddwyr yii dost. Deallodd y gwŷr, bellach, mai doethach oedd cilio ac ymgeisio am y drws ; ond. nid mor hawdd oedd dianc. Safai dynion cryfion rhyngddynt ac allan, gan osod eu bryd ar wasgu yr aflonyddwyr, nes rhoddi digon iddynt ar eu hystranciau drwg ; a rhwng rhai yn eu gwasgu, ac eraill yn y tywyllwch yn eu troedio, clybuwyd hwy yn Ucfain yn groch am arbed eu bywyd. Yn mhen rhyw ysbaid gollyngwyd hwy ymaith, ac i'r tafarn gerllaw yr aethant i lechu, wedi coUi pob awydd i aflonyddu ar gyfar- fodydd crefyddol o hyny allan. Bu farw yr yswaiu yn yr haf canlynol.

rvHAIADR-AIl-"Wy.

Tref fechan yw Ehaiadr yn sefyll yn nghydiad siroedd Maesyfed a Brycheiniog, ac ar derfyn y Saeson a'r Cymry. Er fod gradd o ddiwylliad crefyddol wedi bod ar Lauidloes ar y naill law, ac ar Lauhir a Llanfair-muallt ar y llaw araU, er ys cryn amser yn ol, eto ni wnaed ymdrechion cyson i lesâu y dref hon gau y Methodistiaid hyd yn ddiweddar. Tua diwedd y canrif ddiweddaf, y mae yn gofus i rai ddarfod i'r Parch. John Elias, wrth iddo ddychwelyd o daith o'r Deheudir, addaw pregethu yn y dref, os ceid cyfle iddo wneyd hyny. Aeth dau neu dri o frodyr o Lanidloes yno i'w gy- farfod, ac wedi methu cael yn agored i'w dderbyn, cafwyd caniatâd i gadw yr oedfa yn addoldy yr Annibynwyr. Ehif y gynulleidfa, yu ddyeithrol a chartrefol, oedd. 18! Dro arall 'aeth dau ŵr o Lanidloes yno i gyfarfod â Mr. Charles, o'r Bala, a'i gyfaiU William Hugh, ar eira mawr ; a chyfl^elyb oedd rhif y gwrandawyr y tro hwu hefyd.

Tua dechreu y ganrif bresenol, arweiniodd rhagluniaeth ŵr a gwraig i dyddyn tua miUdir o'r dref, o'r enw üolafallen ; yr oeddynt wedi cael eu magu yn Llangurig, a thŷ tad y wraig wedi arfer bod yn agored i bregethu'r efengyl. I'r hwn, bellach, a thros ryw dymhor, y cyrchai pregethwyr sir Drefaldwyn i ddysgu fí"ordd iachawdwriaeth i'r bobl. Nid oedd yma yn perthyn i'r gymdeithas eglwysig, ond gŵr a gwraig y a'u morwyn ; a thra chanmohidwy a fu eu fi"yddlondeb i achos yr efengyl yn ei wendid,

Tua'r fl. 1806 y cafodd y diweddar Barch. Owen Jones ar ei feddwl gy- chwyn ysgol Sabbothol yn Ehaiadr, pan ydoedd eto yn llencyn ieuanc, a chyn iddo ddechreu pregethu. Cafwyd Ue cyfleus i'w chadw mewn gwag ar y Maesbach, a chynyddodd yn ebrwydd i 340 o rifedi. Parodd gyfi'ro adfywiol trwy y dref a'r gymydogaeth ; heidiai lluaws iddi i gael addysg, a dilys ydyw fod Uawer iawn wedi dysgu yuddi, ar y pryd, i ddarUen eu Beiblau, y rhai ni wyddent o'r blaen air ar lyfr. Dechreuwyd cadw cyfarfodydd eglwysig yn nhŷ un Samuel Eoberts, er nad oedd yma, ar y dechreu, ond tri neu bedwar o ymgeiswyr.

Ar ol hyn, cafwyd Ue yn y dref i bregethu, yn nhŷ un Margaret Evans. Tv oedd dwy o ferched y wraìg hon, sef EUnor a Margaret, wedi rhoddi profion eisoes o'u cariad at yr efengyl, a buont fi'yddLìwn i wneyd a aUent at gynal- iad yr achos yn ei wendid, trwy roddi tamaid a Uety i'r pregethwyr a ddeuent

PEN. II.] SIR DREFALDWYN. 367

yu aclilysurol i'r Ue, ac i'r aíhrawou a ddeuent o Lauidloes i gyuorthwyo gyda'r ysgol Sabbothol.

Bu cyfarfod pregethu hefyd ar ryw ddiwrnod penodol, yn foddion arbeuig i alw sylw trigoliou difraw y fro at y pethau a berthyneut i'w heddwch. Cy- nelid y cyfarfodydd hyn yn yr awyr agored, ynghanol y dref, wrth y marchuad, a chafwyd proíiou fod ambell uu yu cael ei ddal trwyddynt.

Ni bu yu Ehaiadr nemawr o erlid ar grefydd ; o leiaf yn yr hanner canrif diweddaf, gau ddarfod i'r ysgol Sabbothol, megys ar uuwaith, ddarostwng rhagfarn pawb. Yn mhen enyd, adeiladwyd yma gapel, yn yr hwn y mae y gwaith yu cael ei ddwyn yn mlaeu hyd heddyw. Gan fod Ehaiadr yn orsaf bellenig oddiwrth bob eglwys Fethodistaidd, ac yn sefyll ar gyffiniau tair sir, Trefaldwyn, Maesyfed, a Brycheiniog ; a cháu ei bod, o herwydd y pellder, yu anghyfleus i frodyr Llauidloes allu parhau i ofalu am y Ue, cyflwynwyd y Ile i sylw " Cenadaeth Gartrefol y Deheubarth." Dan naw^ddy gymdeithas hon, fe aufonwyd yu olynol yma, y Peirch. Johu PhiUips, yn awr o Fangor ; Isaac WiIIiams, Llanbrynmair ; a Daniel Joues, yr hwu hefyd sydd yn preswylio yn y Ile yn awr. Dylasid dyweyd fod y Parch. Eobert Evaus, Llanidloes, wedi bod yu aros yma flwyddyu gyfau, yn cadw ysgol ddyddiol, ac yn gofalu am yr achos yn ei wahanol rauau, cyn fod y lle wedi ei roddi i ofal ceuad- aeth y Deheudir.

Ehoddir crybwylliad gan y brawd olaf a enwyd am un aragylchiad perth- ynol i'r cẃr hwn o'r wlad, y byddai yn resyn ei adael allan.

Ar ryw adeg o ddiwygiad neu adfywiad crefyddol a fu yn Llangun'o-, Ile rhwng Llanidloes a Ehaiadr, daeth un Mary Bound i wasanaethu i'r ardal, o gẁr uchaf sir Aberteifi. Yr hyn a'i tueddodd oedd y sugn a deimlai yu y moddiou. Ar ol arafu yr adfywiad yn Llangurig, torodd diwygiad grymus allan yn Llanir, y tu arall i'r Ehaiadr, yn sir Faesyfed, yu benaf dan weinid- ogaeth Hugh Prichard, clochydd Llanir. Hwn hefyd a aeth heibio, a'r crefyddwyr a fuont feirw o un i uu, ac yn eu mysg Hugh Prichard ei huuau. Nychodd yr achos dros ryw dymhor, ac yn raddol diflanodd yn Ilwyr, o ddiS"yg ymgeledd, ac o herwydd absenoldeb moddion gras, dirgel a chy- hoeddus.

Erbyn hyn yr oedd Mary Bound yn briod, ac yn fam i nifer o blant, ac felly yn analluog i symud o le i le fel cynt. Dan rym amgylchiadau, ymos- ododd ei gŵr a hithau at y gorchwyl o godi caban bychau ar gyttir tua dwy filliir a hanner o'r Bont-newydd, ar fiu y ffordd sydd yn arwaiu i'r Ehaiadr. Yn mhen amser, bu farw ei gŵr, a chwalwyd ei phlant ; gadawyd Mary yn weddw, ac erbyn hyn yn hen, clofí", ac unig. Tuag 20 ml. yn ol, yr oedd rhyw frodyr yn myned o Eaiadr i bregethu yn agos i'r lle yr oedd ei chaban hi, sef i un Eobert Powel. Crafifwyd ar yr hen wraig gloff a ymlusgai yn gyson i'r oedfaon, ond ni wyddai neb ddim am ei haues boreuol ; ond ar uu bregeth, pan yr oedd gradd o lewyrch yn tywynu gyda'r gwirionedd, torodd yr hen wraig allan, gan lefain : " Dyma'r hen deulu a goUais i er ys dros 20 mlynedd ! A dymaeu Duw hwy hefyd ! Hwn hefyd yw fy Nuw inau ! "

368 HANESIAETH Y SmOEDD. [dOSB. IV,

Disgj'nodfl ei bloedcl mor gyffrous nes gorclifygu y pregethwr, a pteri effeith- iau hynod ar y gynuUeidfa. Shyfeddol y deffroad a weithiodd y tro hwn yn ei hysbryd hithau. Ymlusgai wrth ei dwyffon i Eaiadr mor fynych ag y gallai ; ac am y gweddill o'i hoes, hi a lewyrchodd yn ddysglaer mewn gras a duwioldeb, nes oedd yn ddiareb yn y fro yr oedd yn byw ynddi.

Dygwyddodd i ŵr boneddig brynu y rhandir yr oedd ei thŷ hi, ynghyda lluaws o dai bychain eraiU, wedi ei godi arno. Penderfynodd y boneddwr, wedi cael ja- hawl, roddi yr hawl mewn grym, trwy orchymyn tynu y mân dai i lawr ; a daeth yn bersonol i rybuddio yr aneddwyr. Yn mysg y lleiU efe a ddaeth at gaban Mary Bound, gan hysbysu iddi fod yn rhaid iddi ymbarotoi i ymadael. Daeth ati pan oedd yr hen wraig yn addoli.

" Mi a ddaethum," ebe y boneddwr, " i'ch rhybuddio, fy mod ar fedr tynu eich i lawr, ac y bydd raid i chwi ymadael."

" Felly, syr," ebe hithau, " pe gallech aros dros ychydig amser, ni fydd eisiau y fath gaban arnaf, canys mi fyddaf wedi myned adre' yu iach ! "

"Pa le y mae eich cartref ? " gofynai y gŵr.

" Yn y nefoedd, syr," atebai hithau, " gyda Christ, a Uawer iawn gwell ydyw."

Hyn a ddywedai gyda'r fath wres a serchogrwydd, nes effeithiodd yn' ddwys ar feddwl y boneddwr, ac addawodd yn y fan y gadewid ei chaban iddi tra fyddai byw. Hyn hefyd a wnaeth, ond erbyn hyn nid oes hanes am y weddw na'i bwthyn ; symudwyd y uaiU i gartref gwell, i dỳ tragwyddol yn y uefoedd, a thynwyd y Uall i lawr.

PENNODIII. EGLWYSI BOREUAF Y SIR A'U CANGHENAU.

CTNWTSIAD :

CYCHWYNIAD METHODISTIAETH YN NHEEFEGLWYS— TEULU BOWEN Y TYDDYN— A WOOSNAM, Y TY-MAWR— GARTHBWT— ADGOFION HEN "WR AM Y TYMHOR HWNW'— ADEILADU CAPELAU GLEINIANT A SARON— CAPEL Y GRAIG, A LLAWR- Y-GLYN— MOCHDRE'— LLANDINAM— CAERSWS— CARNO— Y DREFNEWYDD.

TREFEGLWrS.

Mae Methodistiaeth wedi dechreu yn Nhrefeglwys, a'r fro o amgjdch, mor foreu &"■ un man yn Ngwynedd. Gosodasom o flaen y darllenydd eisoes,* adroddiad Eichard Tibbot i'r gymdeithasfa a gynaliwyd yn Watford, swydd Forfanwo-, mor gynar a'r fl. 1743, o'r cymdeithasau bychain a osodasid dan ei ofal ef. Ac yn mysg eraiU yn y wlad, fe nodir dwy neu dair yn y fro hon, sef Mochdre', Llandinam, a Llangurig. Barnwyd am yr olaf yn lled fuan y gallai yi- aelodau ddyfod i'r Tyddyn, a rhoddwyd heibio cynal y cynulliad yno. Er mai Llandinam a euwir yn Nghofnodau Trefecca, eto bariiu yr

* Cyf. L, tudal. 170-173.

PEN, III.] SIR DREFALDWYN. 369

ydym mai yn y Tyddyn, o fewn plwyf Llandinam, yr oedd y gyradeithas eglwysig, a phob moddion eraiU, yn cael eu cynal y pryd hwnw. Yr oedd tenlu o'r enw Bowen yn byw yn y Tyddyn, yr hwn a fu yn gynaliad mawr i Fethodistiaeth yr oes hòno ; oes yr oedd pob sarhad yn cael ei roddi arno. Yr oedd y teulu hwn yn deulu cyfrifol yn y byd, ac " wedi ymroddi i ofu Duw." Nid ydym yn cael hanes pa fodd y dygwyd y teulu yn gydnabyddus ar y cyntaf â'r efengyl, ond y mae Ue crýf i gasglu mai trwy weinidogaeth finiog Howel Harris y dygwyd un neu ychwaneg o'r teulu i adnabod y gwir- ionedd. Cyn y fl. 17-13, nid ydym yn cael fod yma nemawr un wedi bod yn pregethu yn y fro hon ond Harris. Ehoddasom eisoes lythyr o'i eiddo, dyddiedig, Llanbrynmair, Chwefror 9fed, 1739, yn yr hwn y dywed ei fod y dydd o'r blaen wedi llefaru gyda nerth, a than arddeliad mawr yn mhlwyf

Llan ; ni ddywed pa lan, ond y mae Ue i feddwl mai Lhnwnog neu

Laudinam a feddylir, ar ei íTordd i Lanbrynmair. Yr oedd ef yu gydnabyddus eisoes â Lewis Hees, Llaubrynmair, a thuag yno yr oedd yn cyrchu. Yr oedd y swn wedi myned allan trwy y fro hon fod y fath ddyn i'w ddysgwjd ; dyn, meddai rhai, a welsai weledigaethau hynod ; dyn, meddai eraül, a am- canai at ddadymchwel pob trefn yn y wlad a'r eglwys ; a dyn, meddai eraiU, yr oedd gwỳr mawr yr hoU wlad yn bwriadu ei gymeryd i fyuy a'i ddodi mewn dalfa. Dan eíîeithiau y fath chwedlau, nid rhyfedd genym ddarUen yn ei lythyr, fod rail o bobl yn ei wrando y diwrnod cyn iddo gyrhaedd Llanbrynmair. Ymddengys hefyd fod yno luaws raawr o'i wrandawyr dan argraffiadau dwysiou, a phwy a ŵyr nad oedd rhai o'r Bowens, y Tyddyn, yn mysg ? Nid yw yn annhebygol chwaith na phregethodd ef eilwaith ar ei ddychweh'ad o'r Bahi, yn yr un ardal ag y cawsai y fath arwyddion Uewyrchus 0 bresenoldeb ei Feistr yr wythnos o'r blaen, Addefwn nad oes sicrwydd hoUol yn hyn ; eto yn absenoldeb pob tystiolaeth wrthwynebol, ac yn wyneb yr amgylchiadau y cyfeiria efe ei hun atynt yn ei lythyrau, yr ydym yn gryf ein barn ei fod ef, ar y daith gyntaf hon i'r Gogledd, wedi gosod sail Meth- odistiaeth, nid yn unig yn Llanbrynmair, ond hefyd yn ardaloedd Trefeglwys a Llandinam.

Oud pa un bynag ai cywir ai peidio ein dyfaliad am y moddion a ddygodd deulu y Tyddyn dan iau Crist, ac i lochi Methodistiaeth, sicr ydyw fod y teulu liwnw wedi gosod eu gyddfau dan iau Crist ryw gymaint o amser cyu y fl. 1742, a hyny rai blynyddoedd, gan y cawn fod cyfarfod misol yn cael ei gynal yno y flwyddyn hòno, a bod ehwech o gymdeithasau eglwysig eisoes wedi cyfodi yn y fro, ac yr enwir Thomas Bowen yn steward neu ddiacon arnynt.

Yn Mawrth laf, 1742, cynaUwyd cymdeithasfa yn Nglan-yr-afon-ddu, sir Gaerfyrddin, Ue y peuderfynw^yd hyn yn mysg Uawer o bethau eraill :

" Fod Morgan Hughes i gymeryd gofal y cynideithasau yn Tyddyn, Moch- dre', Bwlch-y-cae-haidd, Llanwyddelen, LlanUugan, Llanfair, Llaubrynmair, Llanidloes, a Threfeglwys ; a bod y brawd Lewis Evan i'w gynorthwyo yn Llanfair, LlanUugan, a Lhanwyddelen ; a'r brawd Benjarain Cadman i'w gy- northwyo yn y cwbl, hyd y gaUo."

2 A

370 HANESIAETH Y SIROEBD. [dOSB. IV.

Yr oedd hyu cyn i Eichard Tibbot ddychwelyd i'w wlad ei hun o'r Deheu- barth, a phryd yr oedd y brodyr yn golygu iddo ef fyned i sir Benfro i gadw ysgol. Yn y flwyddyn ganlynol, pa fodd bynag, y mae adroddiad gan Eichard Tibbot yn cael ei gyflwyno i'r gymdeithasfa, yr hyn a brawf ei fod wedi dychwelyd i'w fro ei hun, ac wedi cymeryd arolygiaeth y gwaith yn lle Morgan Hughes. Yn ol yr adroddiad hwn, 40 o aelodau oedd yn Llandinam, neu y Tyddyn, fel y bernir. Yn mysg yr aelodau, fe enwir un gyda gradd o hynodrwydd arni, trwy gysylltu Mrs. wrth ei henw, sef Mrs. Anne Bowen. Enwir un mab a dwy fercb ar yr enw Bowen yn yr un ysgrif, a thueddir ni yn gryf i feddwl mai plant i Mrs. Bowen oeddynt.*

Fe ymddengys fod teulu y Tyddyn wedi parhau i noddi Methodistiaeth, o leiaf, hyd yr ymraniad, ac mai y Tyddyn oedd prif gyrchfa y crefyddwyr yn y tymhor hwnw. Pa anrheithiad a ddisgynodd ar y gymdeithas grefyddol yn y lle hwn, pan ymadawodd Harris a Rowlands â'u gilydd, sydd anhawdd ei fynegu, gyda bod yn hysbys fod dwy o ferched y Tyddyn wedi glynu wrth Harris, ac wedi myned ar ei òl i Drefecca, ac aros yno dros dymhor. Mam i'r Parch. Simon Lloyd, B.A., o'r Bala, oedd un o honynt. Ond pa wasgar- iad bynag a fu ar y crefyddwyr, a pha wywdra bynag a ddisgynodd ar Peth- odistiaeth, trwy yr ymraniad galarus hwn, ymddengys ei fod wedi cymeryd gwraidd yn y cymydogaethau hyn, fel ag i allu dal pob tywydd garw fu arno y pryd hwnw, ac o hyny hyd yn awr, heb ei Iwyr ddyfetha. O'r Tyddyn, gan hyny, ar y naill law, ac o 'FocMre' ar y llaw arall, y deilliodd yr amrywiol gynuUeidfaoedd sydd yn awr yn britho y broydd hyn.

Nid peth hawdd ydyw olrhain yr amgylchiadau yn ystod y 40 ml. cyntaf, ac yn enwedig o'r fl. 1751 hyd 1780, yr adeg y teimlid fwyaf oddiwrth eífeithiau difaol yr ymraniad. Ymddeugys, pa fodd bynag, fod pregethu mwy neu lai cyson wedi parhau yn ardaloedd Trefeglwys, a Llanwnog, o'r dechreuad hyd yn awr. Ond wedi colli y Tyddyn, fe cbwalodd y pregethu i wahanol dai, mewn amrywiol gymydogaethau, nes o'r diwedd ymsefydlu mewn amrywiol gapelau, fel y gwelir heddyw. O'r Uafur boreuol hwn, y mae y cynuUeidfaoedd canlynol yn fí'rwyth : Llandinam, Saron, Caersws, Glein- iant, Llawr-y-glyn, a'r Graig.

Hen gartref yr achos ar ol y Tyddyn oedd y Tŷ-mawr. Mereh Mr. Bowen, y Tyddyn, oedd y wraig a breswyliai y Tŷ-mawr. Yr oedd hi yn briod â Mr. B/ichard Woosnam, yr hwn hefyd oedd yn mhlith y crefyddwyr. Byddai Uawer o gyrchu i'r Tŷ-mawr, a chafodd crefydd nodded a lloches glyd yno dros enyd o amser. Yr oedd un Edmund Morgan hefyd yn mhlith y Meth- odistiaid. Hwn a briododd Margaret, chwaer Mr. Woosnam, a phreswylient y ffermdy a elwir Glangwden : yr oedd pregethu achlysurol yn eu hwythau hefyd. Yr oedd y ddau deulu hyn, wrth fod eu henwau yn Nghofnodau Trefec- ca, mor foreu a'r fl. 1743, o nifer crefyddwyr cyntaf y parth hwn o'r wlad. Fe ddisgyn enw Mrs. Woosnam, y Tŷ-mawr, i ni fel gwraig nodedig ei duw-

* Gwel ychwaneg o hanes y teulu, tudal. 353, Cyf. II.

PEN. III.] SIK DÄEFALDWYN. 371

ioldeb, a thra ffyddlon gydag aclios y cyfryngwr. Merehed iddi oedd Mrs. Davies, Fraiikwell, Llanidloes, a Mrs. Jaraes, Pen-blaen, gwraig y Parch. James James. Sonir hefyd fod pregethu yn yr AlmsJioiise ; yn y Llwyntew ; ac yn nhŷ Mrs. Jones, Gleiniant ; drachefn oyuelid moddion yn y Sentry, yr Argoed, a Phen-ddol. Tua phen uchaf y plwyf, fe fu pregethu yn Ehiw-defaid- dŷ, ac yu y Foel, Llwyn-y-gôg, a Thŷ'n-yr-wtre.

Y prif le y pregethid yuddo yn mhlwyf Llauwnog oedd y Garthpwt. Ar ryw achlysuron, fe ddeuai lluoedd o bobl o'r manau eraiU a enwyd i'r Garth- pwt. Mae gŵr sydd yn preswylio y tyddyn hwn, ac yn awr tua 87 ml. oed, o'r enw Mr. Matthew Davies, yn cofio iddo glywed Howel Harris yn pregethu mewn lle a elwir y Gro-fach, wedi myned yno yn blentyn bychan yn llaw ei fam. Rhaid fod hyn flynyddoedd ar ol yr ymraniad, ac fe ymddengys mai o fewn ychydig i'w farwolaeth. Ehoddir ger bron y darllenydd yr ymddyddan a fu rhwng y Parch. John Herbert, o'r ürefnewydd, ar yr achlysur, â'r hen ŵr o'r Garthpwt :

" Pa beth ydych chwi yn ei gofio gyntaf o berthynas i'r Methodistiaid yn Llanwnog ? "

" Yr wyf yn cofio fod fy mam wedi gwneyd i\\ 11 yn mhared y siimber i allu myned i'r cyfarfodydd. Yr oedd ei mam hi yn ferch i ofteiriad o'r enw Evan Bowen, ac yn edrych yn gilwgus ar gyfarfodydd yr YmneiUduwyr ; ofnai fy mara, gan hyny, fyned iddynt yn gyhoeddus, ond rayned a wnai drwy y pared, gan nad allai yn ddiogel fyned drwy y drws ; ac yr wyf yn cofio myned gyda hi i wrando Howel Harris i'r Gro-fach."

" Pa fath gyfarfod oedd hwnw ? "

" Cyfarfod tawel a heddychol ; heb derfysg na gwawd, a chyfarfod yr oedd effeithiau cryfion ar y gwrandawyr."

" Pa beth yn ychwaneg ydych chwi yn ei gofio ? "

" Yr wyf yn cofio fod uu Evan Dafydd, o agos i Lanfair, yn dyfod i breg- ethu i'r ardal. Nid oedd yn raedru darllen, oud yr oedd yn medru pregetbu yn dda, fel y byddent yr amser hwnw."

" Pwy arall a fyddai yn dyfod i bregethu ? "

" Yr oedd Lewis Evan yn arfer dyfod i un Richard Gittins, o'r Plasau- duon ; ac un John Thomas, o felin Llanllugan. Yr oedd pregethu hefyd yn Gilfach-y-rhew, ac yn Llwyntew. Yn y lle olaf hwn yr oedd gwraig yn byw a dybiodd fod £10 yn y flwyddyn i gael am dderbyn pregethu i'w thŷ, ond pan ddeallodd y gwrthwyneb, hi a gauodd y drws rhag dim chwaueg o breg- ethu ; ond yn rahen y flwyddyn ar ol troi y pregethu allau, aeth ei thŷ ar dàn ; a thybiodd ei hoU gymydogion mai barn Duw oedd hyny í.m wrthod y preg- ethu ; a bu yr amgylchiad yn foddion effeithiol i roddi derbyniad i'r pregethu, a gwrandawiad i'r gair, yn y cymydogaethau hyn."

" Pwy ydych chwi yn ei gofio gyntaf yn dyfod i Garthpwt i bregethu ? "

" Y cyntaf wyf fi yn ei gofio ydoedd un Robert Newel, o sir Eaesyfed, o gymydogaeth flynnonau Llandrindod. Sais oedd ef. Nid oedd yn cael ei ystyried yn bregethwr mawr, ond yr oedd yn bregethwr deniadol a hyfryd i

372 UANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

wrando aruo. Yr oedd uu arall ya arfer dyíbd, nid wyf yu coflo ei enw priodol, ond adwaenid ef wrth yr euw Clochydd Llanir ; a Sais arall o'r enw Mr. Dunn, o sir Frycheiniog, heblaw y rhai mwy cartrefol, megys Eichard Tibbot, ac Abraham Wood, o Lanbryumair, ac eraiU cyífelyb."

" A 063 dim cof genych chwi am un oedfa mwy nodedig na'u gilydd yn y tyjphor hwnw ? "

" Oes : mae cof genyf am John Eyaus o'r Deheudir yn pregethu unwaith wrth borth y llan, yn nrws Evau ìlorgan. Yr oedd yno hiwer o bobl wedi dyfod yn nghyd i wrando, a rhai terfysgwyr wedi dyfod i aflonyddu. Oud pan oedd y derfysg yn dechreu gyda godreu y dorf, daeth melinydd Llwyd-coed, dyn mawr a chryf, yn mlaen, ac a dyngodd y mawr l\v, gan ddyweyd, os y nhw' a aflouyddai ar y cyfarfod, mai efe oedd y dyn i gyfrif â nhw'. Parodd hyn lonyddwch i'r pregethwr, a seibiant i'r bobl i wrando hyd y diwedd j a chwalodd y gynulleidfa wedi cael ei mawr foddhau." " A oes genych ddim cof am ryw oedfaon hynod eraill ? " " Yr wyf yn cofio y byddai gorfoleddu mawr yn fynych yn yr oedfaon y pryd hwnw, ac ar un amgylchiad yn neillduol yr oedd y cyftro yn fwy nag y gwel'swn ef erioed o'r bhien ; sef pan oedd im Evan Evans, Waunfawr, sir Gaeruarfon,* yn pregethu mewu cyfarfod misol yn Ngarthpwt. Yr oeddid yn barnu fod yno o ddwy i dair mil o bobl, a'r hoU dorf dan effeithiau cryfion iawn. Gwaeddai un gŵr ieuanc cyfrifol, o'r enw Capt. Kinsey, allan yu Saesonaeg, ' is hetter to repent tlian to be damned ! ' f Mewn canlyuiad i'r oedfa hon, daeth ef a'i frawd yn aelodau eglwysig. Testyn y bregeth oedd, * Ac y mae tnigaredd yn gorfoleddìi yn erhyn harn.^ Yr oedd eglwys gref yn perthya i Garthpwt, ac ar achlysuron fe ddeuai aelodau o Eochdre', a manau eraill, i'r Ue, yn enwedig ar gyfarfodydd misol, neu ryw gynuUiadau anarferol erailL"

" A oedd yr un gymdeithas eglwysig arall yn y fro heblaw yr un oedd yn Garthpwt ? "

" Oedd, yr oedd eglwys fechan yn y Gwynfynydd, yn nhŷ un Evan Eoberts, tad y Parch. John Eoberts, gweinidog yr Auuibynwyr yn Llanbryn- mair; oud wedi i Evan Eoberts fudo o'r Gwynfynydd i Laubrynmair i fyw, ymunodd y gymdeithas oedd yn ei ef â'r un oedd yn Garthpwt ; bellach, aeth y Ue yn anghyfleus i gynwys y nifer a ddenent yn ughyd. Teimlwyd yr anghyfleusdj-a yn fwy fyth, trwy i ddiwygiad bywiog gymeryd lle yn yr ardal- oedd, yr hyn a sugnodd lawer yn ychwaneg i wrando, ac a hiosogodd lawer ar yr aelodau. Bellacli, yr oedd gwaedd y lle yn uchel iawn, ' Dod le i mi fel y preswyliwyf.' "

Y cyfryw o ran swm ydoedd jt hanes a roddwyd gan yr hen ŵt ; a'r unig un, tybygid, yn fyw a allai ei roddi. Llawer o amgylchiadau hynod eraill, yn ddiamheu, a ddygwyddasant yn y tymhor boreu hwnw, y rhai nid ydynt yu awr ar gael, ond fe roddir ryw gipolwg i'r darllenydd ar wedd ac ausawdd

* Mae yn well edifarhau na chael fy namnio. f Gwel ei hanes, tudal. 157, Cyf. II.

PBN. III.] SIR DREFALUWifN. 373

Methodistiaetli av y pryd, ond nid digon i ddiwallu ei syclied, ac i foddhau ei cliwilfrydedd.

Mewn canlyniad i'r Uuosogiad a gymerodd le, ac i'r anedd fyned yn rhy gyfyng, dechreuwyd ymofyn o ddifrif am le i godi addoldy. Yr oedd y gym- deithas eglwysig a'r gynulleidfa yn cynwys dynion o Drefeglwys, ac o blwyf Llauwnog, ond yn cydgyfarfod yn Garthpwt ; a phan oeddid yn ceisio ymsef- ydlu ar le i adeiladu, cododd dadl yn eu mysg. Cynygiodd Mr. Matthew Davies, Garthpwt, dir yn mhlwyf Llanwnog, mewn lle a elwir Ehos-pont-dol- goch, a hyny yn rhad ac am ddim ; cynygiodd Mr. Swaucoat, Brynwgan, dir yr ochr arall yn Nhrefeglwys. Mynai y rhai oedd yn byw rhwng Garthpwt a Threfeglwys dir Mr. Swancoat ; a'r rhai a breswylient yr ochr arall dir Pont-dol-goch. Safai pob plaid yn dỳn at ei chyfleusdi'a ei hun ; a chyfododd y ddadl i'r fath boethder, nes penderfynu y mynai pob pL^id gapel iddi ei hunan. Felly hefyd y bu. Codwyd capel Saron yn mhlwyf Llanwnog, a chapel Gleiniant yn Nhrefeglwys ; a pha faint bynag o deimladau chwerwon a gychwynwyd ar y pryd, a pha faint bynag o wanychdod i'r achos trwy y rhanu a fu arno, y mae y teimladau hyny er ys llawer dydd wedi llonyddu, ac achos y Cyfryngwr wedi enniU tir. Bellach, y mae dwy eglwys, a dwy gynuUeidfa gref, yn y plwyfydd poblogaidd hyn.

Dywedasom eisoes y byddai pregethu boreu yn rhanau uchaf plwyf Trefeg- Iwys, sef yn nhŷ Thomas Eoberts, Ehiw-defaid-dŷ ; ac yn y Foel, yu nhŷ MorriS Eichards, tua'r un amser ; ac yn y diwedd, ymgrynhödd y cynulliadau hyn i gapel y Graig.

Ehwng capel y Graig a chapel y Gleiniant, y mae capel Llawr-y-glyn. Fe fu pregethu yn yr ardal hon ar y dechreu, mewn amrywiol dai anedd, megys Meliu-dyrnwr, un Miles Evans, tua 90 ml. yn ol ; wedi hyny yn Glan-yr- afon-ucha', un Evan Jones ; ac yn y Penrhyn, lle yr oedd un Morgan Owen yn byw ; hefyd, yn Llechwedd, John Jones, tad y diweddar Barch. Abraham Jones ; ac wedi bod pregethu yn awr dros ryw ysbaid yn y naiU a'r llall, ac mewn rhai o honynt dros dymhor maith flynyddau, adeiladwyd capel Llawr-y-glyn, i'r hwn yr ymgrynhödd y cwbl yn un gynuUeidfa.

MOCHDRE.

Yv oedd achos yn y Ue hwn yn amser Howel Harris, fel y soniwyd eisoes. Yn yr adroddiad cyntaf o eiddo Tibbot i'r gymdeithasfa, dywedir, " Fod yma lawer yn dyfod i wrando, ac oddeutu 12 dan argyhoeddiadau cryfion."* Drachefn, dywedir gan yr un gŵr, "Mae derbyniad i'r brawd Thomas Meredith yn Mochdre, ac yr wyf yn gobeithio ei fod yn cael cymhorth gan Dduw i fod yn ddefnyddiol yn eu plith." Yn y fl. 1745, y dywedir drachefn, " Maent yn ddiweddar wedi codi cymdeithas neillduol yn Mochdre ; mae yu siriol arnynt yno, ac yr wyf yn gobeithio fod yr Arglwydd yn cu Ilwyddo."

*Cyf. I., tiutal. 172.

374? HANES1A15TH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

Dywedir mai mewii ile a elwir y Peuthryn y cynelid y moddion y pryd hwnw. Bu yma lawer o gaumawl a gorfoleddu yn mysg y crefyddwyr boreaf hyny. Yr oedd clochydd Llauir yn ymweled â'r Ue hwn fel manau eraill. Yr oedd Thomas Meredith yn byw yn Coed-y-rhos. Pan ddaeth yr ymraniad i ledaenu ei eflfeithiau difaol ar y crefyddwyr, fe deimlodd Mochdre radd o'r niwaid ; aeth Thomas Meredith i Drefecca i fyw, ond nid y w yr hanes yn dàdgan dros ba hyd o amser yr arosodd yno, Ymddengys, pa fodd bynag, ei fod yu ŵr o wroldeb a sêl, ac iddó ddyoddef llawer oddiwrth amdditfynwyr llvgredigaeth yr oes. Cafodd ei faeddu yn dost unwaith yn mhentref Moch- dre, wrth geisio darostwng rhyw goeg-chwareu a gynelid yno ; ond er iddo gael ei guro yn drwm gan yr ynfydion, y mae pob tebyg iddo fod yn ofiferyn i achub blaenor y gamp. Yr hanes sydd fel hyn :

" Aeth Thomas Meredith at Evan Roberts, tad y diweddar Mr. Roberts, Llanbrynmair, i erchi arno i ddyfod gydag ef i wrthwynebu yr ofer-gamp a gynelid yn y dreflan. Yntau a gydsyniodd, ac aethant ill dau at y dorf ddi- reol. Ar eu dynesiad, gofynodd Thomas Meredith i'r prifchwareuwr, ' TFill you be so happy, think you, as you now aì'e, at the day of judgment ? ' "

" Indeed, Sir, I do not hiow,"* oedd yr ateb, a hyny mewn Uais difrifol, fel un wedi teimlo gwenwyn y saeth yn ei gydwybod. Fe fu y gair a ofynwyd iddo fel hyn, meddir, yn foddion dychweliad iddo oddiwrth ei ofer ymarwedd- iad, yr hon a gawsai yn ddiau trwy draddodiad y tadau ; ac ymddangosodd arwyddion amlwg fod ganddo grefydd dda hyd ei ddiwedd. Ond fe gafodd Thomas Meredith gurfa dda am ei waith, gan y dyhiriaid a ddaethent yno i chwareu. Ond diangodd Evan Eoberts hcb nemawr niwaid. Dywedir i'r Thomas Meredith f hwn, yn mhen rhyw gymaint o amser ar ol myned i Drefecca, ŵyro i raddau at egwyddorion Antinomaidd, ac iddo ymuno ag un Thomas Seeu, yr hwn a flaenorai y rhai a wyrasent fel hyn, fel eu prif athraw. Ymdaenodd gauaf maith ei ddylanwad fferllyd a gwywedig ar ol hyny ar Poch- dre ; a thros 40 ml. nid oes genym nemawr hanes am y Ile ; eto ni a gawn i ryw ŵr o Fochdre fyned ar ei draed at Mr. Charles i'r Bala, i ymofyn cyhoedd- iad ganddo, ac iddo Iwyddo yn ei gais. Yn ol ei addewid, fe ddaeth Mr. Charles, ac a bregethodd yn Ilan Mochdre. Pihaid fod er h\Tiy dros 40 ml,, fe allai dros 50 ml., ond yr oedd Methodistiaeth ymron wedi ei anghofio, ac erbyn heddyw, y cwbl a ellir ddyweyd ydyw, " Mae Eglwyswyr, Bedyddwyr, a Methodistiaid, yn pregethu yn y plwyf, ond heb fawr o eífeithiau da oddiwrth neb." Mae gan y Methodistiaid gapel yma, yn yr hwn y cynelir ysgol ddyddiol a Sabbothol, ac y pregethir yr efengyl yn gyson ar y Sabbothau, o dan nawdd y " Gymdeithas Genadol Gartrefol ; " eto, er hyn oll, cryn " anghyfanedd " ydyw Mochdre ; a myuych yr ymlithra hen brophwydoliaeth Ismael Jones am y lle, i'r meddwl yn ddiymwrthod, " Ni fydd byth ddim daioni yn Mochdre." Nid yn fynych y ceir un fangre yn Nghymru, Ile y dechreuodd pregethu mor

'* A fyddwch chwi, debygech, mor ddedwj'dd yn y farn ag ydych yn awr ? " " Yn wir, Syr, nis gwn." f "Drych jt Amseroedd," tudal. 138 145.

PEN. III.] SIR DREFALDWYN. 375

gynar a'r fl. 1742, a Ue y mae pregethu wedi ymarhoi yn wauaidd a bylchog hyd heddyw, a chan lleied o ol yr efengyl arno, ag ydyw y lle hwn. Hyfryd fydd gweled yr amser y bydd yr anghyfaneddle hwn yn llawenychu, a'r di- ffaethwch hwn yn blodeuo fel y rhosyn.

LLANDINAM.

Mae capel wedi ei adeiladu ya y peutref hwn er ys blynyddau lawer, Nid yw ein hysbysiad ond byr mewn perthynas i hanes y lle hwn. Yn y plwyf hwn yr oedd y Tyddyn, amaethle cyntaf Methouistiaeth y fro, ac oddiyno yr ymdaenodd, fel y dywedwyd, ar y dde a'r aswy, ac yn mysg manau eraill, agorwyd drws o dderbyniad iddo gerllaw y pentref hwn. Cynaliwyd pregethu dros rhyw dymhor yn y Ddolwen, un Morgan Williams. Yr oedd y ddau frawd Kinsey, hwy a'u gwragedd, ynghydag un Dafydd Evans, Peu-y-chwilan, wedi ymuno â'r achos, ac yn gwneyd eu hegni tuag at adeiladu y capel.

CAERSWS.

Mae yma hefyd gapel a chynulleidfa yn perthyn i'r Methodistiaid. Dech- reuwyd pregethu yma yn amser John Pierce. Yr oedd yma rai yn arfer gwrando cyn hyny; cyrchent i foddion gras i Garthpwt, neu ynte i Fochdre, cyn fod dim moddiou yn cael eu cynal yn y pentref ei hun. Yn Mhen-dref, amaethwr cyfrifol o'r enw Jeremiah Brown, y cafwyd drws agored i dd'od i mewn. Y gŵr hwn oedd y cyntaf a'r unig broífeswr y pryd hwnw, a thros ryw dymhor. John Pierce, Llanidloes, meddir, oedd y cyntaf a br( gethodd yma, ar y geiriau, " Ymchwel, Israel, at yr Arglwydd dy Dduw." Mae yma, bellach, gynulleidfa Iled dda, a nifer o aelodau yu cyfansoddi y gymdeithas eglwysig.

CARNO.

Mae yn gorweddyn gymhwys ar y ffordd rhwng Llanbrynmair a Llanwnog. Yr oedd Methodistiaeth wedi dechreu ymsefydlu yn Lianbrynmair, fel y cry- bwyllasom, er yn foreu ; felly hefyd yn Tyddyn, plwyf Llandinam. Yr oedd Carno a Llanwnog yn gorwedd rhwng y ddwy orsaf gynarol hyn ; ac felly, ni a allem ddysgwyl na Iwyr esgeuhisid ef gan " arloesìcr ihwr y gwledydd" Howel Harris. Gwych oedd ganddo ef ymosod yn eofn ar gestyll anauwiol- deb, a darostwng Uygredigaeth penuchel y wlad. Yr oedd Carno, fel yr holl wlad 0 amgylch, yn Ilawn o ofer-gampau Ilygredig. Ai y trigolion, luaws o honynt, mae yn wir, i wasanaeth y Ilan foreuau Sabboth, ac yn heidiau dra- chefn at eu hoferedd y prydnawniau. Gellir casglu pa fath ydoedd y gwas- anaeth y boreu, wrth ei fod yn cydsefyll mor heddychol á'r ynfydrwydd gorwyllt y prydnawn. Pa faint bynag o wirionedd a ddarllenid neu a draethid yn y gwasanacth crefyddol, yr oedd y fath wedd ffurfiol wedi ei amwisgo, fel na theimlid dim oddiwrth ei awch mwy nag oddiwith glcddyf yn y wain.

376 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB, IV.

Felly ni rodcìai y gwasanaetli ddim ond achles i'r bobl ddod ynghyd i hys- bysu eu cynlluniau ar y fynwent ; ac wedi trwyddedu eu cydwybodau â rhith grefydd yn y boreu, teimlent yn fwy rhydd at eu campau y prydnawn, a phrofent fwy o felusder ynddynt. Yr oedd gwylmabsant Carno, gweddill hen drefdadaeth babyddol ein hynafiaid, yn uchel iawn ei bri, ac yn fwy felly i'r graddau y byddai y meddwi, y gloddest, a'r ymladd, yn ífynu. Yn y gwyliau hyn, llawer o esgyrn a ddrylliwyd, ie, llawer bywyd a goUwyd ! Profion teg, onide, o ddiniweidrwydd yr hen bobl ! Yn y gwyliau hyn, mewn íFordd o'u haddurno yn fwy, a gosod ynddynt fwy o sugn a swyu, cynelid yn fynych goeg-chwareuon (interludesj , a mawr yr hyfrydwch a fwynhäi y werin penchwibau ynddynt. Coronwyd, yn hytrach anurddwyd, un o santwjd- iau Carno, â marwolaeth un dyn, yr hwn a gyrhaeddodd ei ddiwedd echrydus mewn ymladdfa ! I'r fath gynulliadau â'r rhai'n yi* hofí"ai Howel Harris, a'i gydlafurwyr, fyned i bregethu ; a Howel Harris yn anad neb. Nid am y di- brisiai efe ei gysur a'i fywyd, ond am yr eiddigeddai yn angherddol dros ogoniant Duw, a thros achubiaeth dynion a sarnent ddeddf Duw dan eu traed, heb ^yybod beth oeddynt yn ei wneuthur.

Bu fy hysbysydd * yn ymddyddan â dwy hen wraig yn y gymydogaeth, y rhai ydynt wedi eu priddo weithian er ys llawer o flynyddoedd ; y rhai a ad- roddent wrtho fel y buasent hwy, pan yn blant ieuainc, yn mhentref Carno yn gwrando Interlude o'r fath a soniwyd. Y^r oedd yno gynulleidfa fawr ynghyd ; a-mawr, tybygid, oedd y difyrwch. Ond yn nghanol y chwareu, daelh sypyn bychan o bobl, gwahanol iawn yr olwg arnynt, yn mlaen i gẁr y gynulleidfa ; ac o'u plith cododd un gŵr i fyny, a chan sefyll ar ben rhyw garnedd o gerig, efe a ddechreuodd bregethu i'r bobl. Yr oedd hyn yn tueddu i rwystro y chwareu, a dyrysu y difyrwch, ac felly yn ysgogiad na allai rhai o'r bobl ei ddyoddef. Mewn cyffro mawr, gau hyuy, dechreuasant floeddio, Iluchio, a saethu, mewn modd arswydus, a chymaiut felly fel y gorfu y pregethwr a'i gyfeillion symüd eu sefyllfa. Ciliasant, gan hyny, a rhyw uifer o'r oferwyr yn eu dilyn ; ac yn eu plith, y ddwy herlodes ieuanc grybw^'IIedg, a daeth- ant yn mlaen hyd at ryw groesffordd, yn lled agos i'r man y safai y capel arno yn awr; a chafodd y pregethwr lonyddwch yn y Ile hwn i bregethu. Yr oedd hyn, mor agos ag y gellir casglu wrth oedran yr hen wragedd, tua'r fl. 1745; neu o hyny i 1747.

Nid yw enw y pregethwr ar gael, ac nis gellir gyda sicrwydd ddyfalu pwy a allai efe fod. Gwyddom fod Howel Harris wedi dechreu tramwy y wlad hon er y fl. 1 739 ; gwyddora hefyd fod Carno.yn sefyll yn gyfleus iddo wrth deithio o'r Tyddyn i Lanbrynmair, neu wrth ddychwelyd ; a gwyddom hefyd nad oedd neb cjTuhwysach o ran gwroldeb meddwl, a chyfaddasrwydd gwein- idogaeth i'r fath le, nag ef, fel ag y mae yn naturiol i ni ddyfalu mai Harris oedd y pregethwr. Oud uid yw hyny, ar yr uu pryd, o ddim pwys, gan fod sicrwydd mai uu o'r diwygwj-r Methodistaidd ydoedd.

* Älr. Edward Owen, diacon parchus yn y llc hwn.

PEN. III.] SIR DUEFALDWYN. 377

Hon, dybygid, oedd yr oedfa gyntaf gan y Methodistiaid yn y plwyf. Ar ol hyn, arafaidd iawn yr ysgogai yr achos yn mlaeu. Ennillwyd ambell un o'r tlodion, wrth ddygwydd iddynt gael gwrando pregeth yn rhyw gẁr neu gilydd o'r fro ; ac yn mysg y rhai cyntaf, yr oedd un John Thomas, Tŷ'n-yr- helyg, a William Thomas, Khyd-y-felin. Nid oedd Tŷ'n-yr-helig a Ehyd-y- felin ond bythynod bychain a llwydaidd iawn. Yn y lle cyntaf o'r ddau y dywedir y byddai y cyfarfodydd eglwysig yn cael eu cynal yn y cychwyniad, a thrachefn yn Ehyd-y-felin. Chwanegwyd at y trueiniaid tlodion yn mhen rhyw amser, amaethwr mwy ei foddion na'r Ueill, o'r enw Thomas Êichards, Llanerch, neu Llanerchymedd, fel y gelwir y lle yr oedd yn byw. Yr oedd y gŵr hwn, yn ol yr hanes sydd am dano, yn ŵr duwiol iawn, a rhai o'i deulu hefyd yr un modd ; ac yn achlysurol, o leiaf, cedwid y cyfarfodydd yn ei yntau. Mae yn beth nodedig fod crefydd yn hoffi arhoi yn y teulu hwn hyd heddyw. Tua'r fl. 1767, daeth gŵr o Lanbrynmair i fyw i'r plwyf hwn. Yr oedd ef a'i wraig yn rhai amlwg iawn mewn crefydd a duwioldeb, fel y bu eu plant a'u teuluoedd ar eu hol. Mab iddynt hwy oedd Thomas Meredith, \t hwn a fu yn bregethwr parchus a defnyddiol dros lawer o flynyddoedd ; a'r hwn hefyd a fu yn cadw ysgol rad dan olygiad Mr. Charles. Fe fu y ddau deulu a ènwyd olaf yn ddiamheuol yn achleswyr nodedig, yn llaw rhagluniaeth, i'r achos gwan yn y lle hwn, ac i'r sawl a ddeuent yma i bregethu.

Dylid crybwyll un amgylchiad nodedig arall a gymerodd le yn yr ardal pan oedd Methodistiaeth yn wan ac isel. Yn y fl. 1781, yr 20fed o Fehefin, pan oedd yr ychydig grefyddwyr wedi cyfarfod â'u güydd yn nhŷ William Thomas, Ehyd-y-felin, i gynal eu cwrdd eglwysig, fel arferol, ymgasglodd yn dra di- symwth ystorm fawr o fellt a tharauau, ynghyd a gwlaw trwm iawn, cymaint felly, nes peri Uifogydd cryfion, a dryllio y yr ymgynullent ynddo, a'i gy- meryd ymaith, a boddi pedwar o'r rhai oeddynt oddifewn. Boddodd Thomas Eichards, Llanerch, a'i ferch, y rhai a gyfrifid yn wir dduwiol ; boddodd gwraio- William Thomas hefyd, yr hon oedd yn byw yn y tŷ, hi a bachgen bychan o ŵyr iddi. Cymerodd rhyw rai achlysur oddiwrth yr oruchwyliaeth ddyeithr hon, i ddifrio y crefyddwyr, fel be buasai Duw wedi dangos ei anfoddlonrwydd tuag atynt yn y tro ; eto nid yr un teimladau a gynyrchid a phe dygwyddasai i ddynion ar y pit ceiliogod, neu wrth y ddawns, a'r cardiau. Mwy dewisol a fuasai gan y trigolion ofergoelus, er yr holl sibrwd a wneid ar y pryd, eu dal gan y llifeiriant yn gweddio, nag yn cablu, yn darlleu y Beibl ac yn canu mawl, nag yn diota yn y dafarn, neu yn ymladd yn y flair. Yr oedd yr or- uchwyliaeth alarus, yn ddiau, yn ddyrnod trwm i'r achos gwan, eto fe'i cadwyd ef heb ddiífoddi ; ac y mae y berth, er ei llosgi yn dân, hyd yn hyn heb ei difa. Fe fu yr achos yn y fangre hon, fel yr arch gynt yn Israel, heb un cartref sefydlog, ond yn crwydro megys o fan i fan, a hyny o'r amser y bu y bregeth gyntaf hyd yr amser yr adeiladwyd y capel yn y fl. 1811, ysbaid 66 0 flynyddoedd. Ail-adeiladwyd a helaethwyd y capel drachefn yn y fl. 1843. Nid yw y plwyf hwn ond bychan, a chan nad oes ynddo ddim mwngloddiau, na gweithfaocdd o un math, ni all fod y trigolion ond ychydig o rifedi, mewn

378 HANESIA.ETH Y SIEOEDD. [dOSB. IV.

cydmhariaeth i lawer o lanercbi eraill yn Nghymru, eto y mae yma gangen o eo-lwys siriol yn cyuwys SO o rifecli, a chynuUeidfa dda o wrandawyr astud ar y Sabboth. Yma, bellach, y preswylia y Parch. Joseph Thomas, er ys rhai blynyddoedd, er mai ei fro enedigol ef ydyw Llangynog.

Y DREFNEWYDD.

Yr ydym eisoes wedi dangos fod Methodistiaeth wedi dechreu mewu rhyw ardaloedd o'r sir hon mor foreu ag un man yn Ngwyuedd, ond uid felly yr oedd yn y dref hon. Nid oedd gan y cyfundeb uu achos yn y Drefnewydd am 65 0 flynyddoedd ar ol dyfodiad Howel Harris i'r wlad. Tua'r fl. 1804 y gellir dyweyd i'r achos ddechreu yma. Yr oedd yma ambell oedfa yn cael ei chadw cyn hyny, yn nghapel y Bedyddwyr, gan ambell lefarwr a ddeuai heibio, megys yn achlysurol. Yu y fl. 1803, arweiniodd rhagluniaeth un John Evans, o Lanidloes, i'r dref i fyw ; a gwelir yn yr aragylchiad, fel y gwelsid lawer gwaith o'r blaen, pa mor ddyledus ydyw Methodistiaeth i ragluniaeth y nef am ei ledaeìàad '^n gystal ag am ei amddijfyriiai. Nid oedd y John Evans hwn, rhaid cofio, ddim mewn undeb eglwysig â neb crefyddwyr pan yr ymadawodd o Lanidloes, eto yr oedd yn wrandawr cyson, ac yn arfer ]iroH, i raddau helaeth, awdurdod y gwirionedd ar ei gydwybod ; ac wedi addunedu laweroedd o weithiau ymuno â'r eglwys yn Llanidloes, ond hyd yu hyu nid oedd ei adduuedau wedi eu cyflawui.

AYedi dyfod i'r Drefnewydd, a chael ei hun yn amddifad o'r moddiou yr arferai gael ymgeledd trwyddynt, fe ddaeth i deimlo ei ddirfawr golled ; ac i sychedu yn fwy am dauynt uag o'r blacn. Ar y Sabbothau, gau hyny, fe gyrchai i foddion gras i bob man o fewn ei gyrhaedd, a bychau fyddai gauddo fyned i Lanidloes yn fynych ar foreu Sabboth, 13 milldir o fl'ordd, i oedfa. Eel hyn y bu arno am ysbaid blwyddyu, heb fod gauddo neb o gyff'elyb feddwl ag ef ei hun, ac yn alltud i raddau mawr oddiwrth freiutiau crefyddol yn ei iaith ei huu, ac yn mysg y bobl y cawsai efe fwyaf o les wrth eu gwrando. Oud yu y flwyddyn gaulyuol, sef ISO-t, aufonodd yr un ragluuiaeth \v-r arall o'r enw Richard Hughes, yr hwn oedd ar y pryd yn aelod eglwysig yn Ngharno, i'r Drefnewydd i fyw. Parodd hyn lawenydd mawr i John Evans. Yr oedd gauddo, bellach, un gẁr i dywallt ei fynwes iddo, ac i dderbyu amgeledd gyf- riuachol drwyddo. Bellach, cryfhaodd y bwriad i geisio oedfaou amlach i'r dref, ac nid er rawyn y ddeuddyu hyn yn unig, ond hefyd er mwyn y tref- edigion ; llawer o ba rai oeddynt yn Ilwyr esgeulus o bob moddion crefyddol, Ceisiwyd gan Ishmael Jones, Llandinam, yr hwn oedd yn byw tua saith milldir 0 0'ordd o'r dref, i ddyfod yma i biegethu. Cydsyuiodd yr heu breg- ethwr â'u cajs, a chadwyd yr oedfa, fel y byddid arferol pau ddygwyddai fod oedfa, yn nghapel y Bedyddwyr ; ac ar ddiwedd yr oedfa hou fe gadwyd cyfarfod eglwysig yn nhŷ Richard Hughes. Hwn, meddir, oedd y cyfarfod cyntaf o'r fatb, mewn cysylltiad â Methodistiaeth, yn y dref hon, ac yn y cy- farfod bwn y cafodd John Evans ci hun, y cyfleusdra i gyflwyno ei hun fel

PEN. 111.] SIR DREfALDWYN. 379

ymgeisydd am aelodaeth eglwysig, y tro cyntaf. Nid oedd y gyindeithas hon ond pedwar o rij' ; dau eraiU heblaw y ddau grybwylledig. Bychan, mae'n wir, oedd y dechreuad hwn, eto í'e fu yn gycliwyniadi achos a gyiiydd- odd lawer yn ol Uaw, ac a fu yn foddion Uesâd i eneidiau lawer.

Wedi dechreu yn y modd uchod, parhawyd i gadw ambell oedfa, yn awr ac eilwaith, yn yr un capel, a'r cwrdd eglwysig yn nhŷ Eichard Ilughes, a hyny am ysbaid blwyddyn o amser. Yn y flwyddyn ganlynol, sef 1805, cafwyd cymdeithasfa i'r Drefnewydd. Yr oedd y cymdeithasfaoedd y pryd hwnw, yn fwy fel cyfarfodydd pregethu nag ydynt yn awr. Nid oedd nifer y swydd- ogion a ddeuent ynghyd ond ychydig, ac ychydig hefyd oedd yr achosion allanol a drinid ynddynt, ond yr oedd cydgasgliad rhyw nifer o bregethwyr ynghyd i'r un Ue, a'r rhei'uy a graddau mwy o gyhoeddusrwydd yn perthyn iddynt, yn foddion arbenig i godi yr achos i fwy o sylw. Mynych iawn hefyd y coronid y pregethau cyhoeddus ag arddeliad anarferol, fel ag i ddeffro Uawer o ddynion i ystyriaeth ac ymofyniad. Nid oedd Methodistiaeth yn y Drefnewydd, pryd nad oedd o'i mewn ond pedwar o ddynion yn aelodau eglwysig, ond egwan ac eiddil iawn, gallesid meddwl, i gynal cyradeithasfa ; a phe buasai y wedd bresenol ar y cymdeithasfaoedd hyny, hi fuasai yn rhy anhawdd ei chynal dan y fath amgylchiadau. Ond ei chadw a wnaed, a chan mai hon oedd y gyntaf, dyddorol gan y darllenydd gael enwau y pregethwyr a'u testynau. X noson gyntaf, pregethodd Mr. John Jones, Caergwrle, ar Dat. i. 5 ; a'r Parch. T. Charles, Bahn, ar Hos. xiii. 9. Am chwech o'r gloch y boreu dranoeth, pregethodd Mr. Dafydd Cadwaladr, ar Diar. xxxi. 13 ; a Mr. John Eoberts, Llanllyfni, ar Isai liii. 10. Am ddeg o'r gloch, pregeth- odd y Parch. T. Charles, ar 1 loan v. 13 ; a Mr. John Elias, ar Heb. ii. 11. Am ddau o'r gloch, pregethodd Mr. James, Pen-blaen, ar Isai xlix. 24, 25. Cadwyd yr oedfaon, mewn rhan yn nghapel y Bedyddwyr, ac raewn rhan ar yr heol, o flaen un o'r enw Jane Jones. Yn y gyradeithasfa hon, areithiodd Mr. Charles mor elfeithiol am yr angenrheidrwydd am yr ysgol Sabbothol, a'r buddioldeb o honi, nes cyífroi crefyddwyr y dref, o bob enwad crefyddol, i ysgogi tuag at ei sefydlu. Felly hefyd ei sefydhi a wnaed, megys ar un- waith, gan yr holl enwadau. Dechreuodd y Methodistiaid, bellach, gynal cyfarfodydd i weddio, ar nos Sabbothaii, yn nhŷ Eichard Hughes. Dywedir fod y cyfarfodydd hyn wedi bod yn fendithiol iawn i laweroedd, yn foddion i ennill llawer i wrando pregethau, ac i fod yn godiad neillduol i'r achos yn y dref. Yr oedd, bellach, amryw, yn awr ac eilwaith, yn yrauno â'r eglwys, ac arwyddion tra amlwg o law yr Arglwydd arnynt.

Yn y fl. 1806, cymerwyd ystafell, yr hon a elwid " Ystafell pen-y-grisiau," neu yn hytrach, " Ystafell pen-y-s^ai'rs," i gadw y moddion ynddi. Yn yr ystafell hon y cynaliwyd y moddion, bellach, am ysbaid 4 blynedd.* Cafwyd "byd braf " lawer gwaith yn " Ystafell pen-y-grisiau." Gwenai Duw ar ei

* Y pregethwyr a fu yn gweini gyntaf ynddi, ocddynt Mri. Abraham Jones, Thomas Meredith, Edward Watkin, Thomas Jones, ac Ishmael Jones.

380 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

bobl, ac aroglai arogl esmwyth ar eu cynuUiadau, dadguddiodd ei fraich, a gwnaeth ryinusderau, Sonir yn neülduol ani un wraig, o'r enw Susana Humphreys, yr hon oedd 56 ml. oed, yr hon a ddaeth i'r ysgol Sabbothol, heb fedru llythyren ar Iyfr. Dywedir iddi gael blas ar yr ysgol nes ei ch'Iymu wrthi, a pheri llwyr ymroddiad yuddi i ddysgu darUen. Hyn hefyd a gyr- haeddoid yu mhen ychydig amser. Daeth y wraig hon yn hoff o'i Thesta- meut, a chynyddodd mewn awydd am bob moddion crefyddol. Ar un achlysur, pan yr oedd dau ŵr o sir Gaerfyrddin yn pregethu, ty wynodd y fath belydrau i'w meddwl, nes y torodd allan i wylo yn hidl, ac i lefain a moliannu. Nid oes lle i feddwl fod y wraig hon wedi gweled na chlywed neb arall erioed yn gwneuthur y fath beth ; a dyeithr iawn ydoedd hefyd i'r rhan fwyaf yn y ìle ; am hyny daeth ati ryw rai i geisio ganddi dewi. " Pa fodd," ebe hithau, " y gallaf dewi; mae rhyw dân yn fy nghalon, ni thawn i yn fy myw." Ym- unodd yn ebrwydd, bellach, â'r eglwys, a hi a fu yn aelod hardd ynddi dros weddill ei hoes. Nid oedd ei mwyniant daearol oud prin iawn, ond yr oedd ei heuaid yn byw yn dda ar " frasder Dduw," ac yn yfed yn ehelaeth " o afon ei hyfrydwch."

Tn y fl. 1810, yr oedd yr eglwys wedi cynyddu i 40 o rifedi, rhai yn ddy- fodiaid 0 eglwysi eraill, ond y rhan fwyaf o honynt yn wrandawjT yn y Ue. AYrth weled fod yr achos yn myned rhagddo, y guTandawyr a deiliaid yr ysgol Sabbothol yn Iluosogi, gwelwyd angenrheidrwydd am le eangach a nlwy cyfleus i addoli. Wedi peth ymofyn, cafwyd tir i adeiladu, a thrwy lafur ac egni codwyd capel bychan 12 Uath wrth 8. Mawr oedd Uaweuydd y bobl, bellach, wedi cael pabell gyfleus a sefydlog, a mwy oedd eu llawenydd wrth weled fod y gwaith yn parhau i Iwyddo fwy-fwy, Yn mhen tua 10 mlynedd, gwelwyd augenrheidrwydd 4 " helaethu lle eu pabell." Yr oedd nifer yr ael- odau, bellach, yu 100. Ymosodwyd yn egniol at y gorchwyl i adeiladu helaethach, a thrwy lawer o anhawsderau fe godwyd yr addoldy presenol, yr hwn sydd gymaiut arall, ymron, a'r un o'i flaen.

Yn y lle hwn y bu John Williams, yr hen bregethwr duwiol, yn byw y rhan ddiweddaf o'i oes, er nad oedd ef yn auedig o'r Drefnewydd, oud o Fachyn- Ileth. Dechreuodd bregethu pan yn 19eg oed, parhaodd i lafurio am yr ys- baid maith o 55 mlynedd, a bu farw yn Ebrill, 1847, yn 74 ml. oed. Yr oedd Johu Williams yu un " o heddychol ífyddloniaid y tir." Bu yn ddiwyd a ffyddlawn gyda gwaith yr Arglwydd, yn ol ei aliu, hyd ddiwedd ei oes. " Yr oedd yn ysgrythyrol yn ei bregethau, yn adeiladol yn ei ymddyddanion cyfifredin, ac yn fywiog iawn yn y cyfeiUachau eglwysig."

Y mae y brodjT oedd gyda'r achos yn ei gychwyniad, oll wedi myned i or- phwys oddiwrth eu llafur. Hyfryd a fuasai eu henwi bob yn un ac un, a thraethu y gwasanaeth a wnaethant i achos y Cyfryngwr, ond amser a gofod a ballai i wneuthur hjTiy. Mae y gwaith, pa fodd bynag, yn myned rhagddo, cyflogwyd gweithwyr eraill i'r winllan, y rhai nid ydynt yn ol mewn Ilafur a ffyddlondeb i'r rhai a'u blaenorodd. Dechreuwyd amryw ysgolion Sabbothol fel caugenau yn tarddu o ysgol y dref, megys yu Dolfawr, Abermule, Pen-

PÊN. IV.] STB DREFALDWYN, 381

tre'-rhedyn, Milford, a changen fechan a darddodd allan o honi mewn cẃr arall o'r dref ; yr oedd hon yu ysgol Saesonig, ac yn cynwys tua 60 o ysgolheigion. Ond trwy ryw amgylchiadau neu gilydd, fe'i gollyugwyd hi i lawr, ac ar lawr y gadawyd hi am agos i 17 o flynyddoedd. Gwrthododd yr henafiaid diryn rhodd ar Ben-y-gloddfa i adeiladu capel Saesonig, oud yn mheu 18 neu 20 mlynedd wedi hyny prymcyd tir yuo, ac adeiladwyd capel hardd a chyfleus. Mae y ddwy ysgol Sabbothol yn cynwys, bellach, tua 600 o rifedi ; a'r aelod- au yn y ddau gapel, rhwng plant a'u rhieui, tua 800.

PENNOD IV. YMEANGIAD METHODISTIAETH AR LANAU AFON DYFI.

CTNWrSIAD : CEMAES— MALLWYD— LLANWBIN— PAECH. WILLIAM JONES, DOL-Y-FONDDU.

CEMAES.

CttYBWYLLASOM eisocs am y cais a wnaethai Howel Harris i bregethu yn Nghemaes, a üinas-mowddwy, a pha mor ftyrnig yr ymddangosai y trigolion rhag i Pethodistiaeth gael Ue i sefyll arno. Ymddengys íod y gwrthwynebiad hwn i'r efengyl wedi parhau dros gryn dymhor. Nid oedd dros rai blynyddau ar ol dyfodiad Harris i'r wlad, nemawr bregeth i'w chael yn un man yn y fro. Yr oedd ambell bregethwr yn dyfod y flTordd yma ar ei daith o'r Delieudir i Wynedd, ond nid oedd derbyniad i neb o honynt yn y fro hon; ac os gwybyddid mai pregethwr a fyddai'r ymdeithydd, prin y cai ef lety yu uu man, íe, er talu am dano ; ac nid oedd ueb yn fwy eu gwrthwyuebrtt^'dd na'r tafarnwyr o Fachynlleth i'r Bala. Ond yr oedd un tafaruwr yn Ninas-mowddwy, yn Ijyw mewn a elwid y Sign, am fod arwydd y gloch arno, o deimlad gwahanol i'w frodyr. Hwn, nid yn unig a lochesai grefyddwyr a phregethwyr yn ei dŷ, ond hefyd a wnai ei oreu i'w hamddifí'yn rhag sarhad rhai eraill. Pau ddeuai pregethwr yno ar ddamwaiu, rhoddai geiniog neu ddwy i ryw un am fyued o amgylch i hysbysu y cedwid oedfa yno, ac ymgyuuUai 10 neu 13, fe allai, i wrando. Yr oedd Owen Siôu, o'r Plas-ucha', yn cofio bod yn rhai o'r oedfaon hyn, pan oedd tua 9 ml. oed, sef tua'r fl. 174^2.

Oud er nad oedd ond ambell oedfa achlysurol i'w chael, a hyny am ysbaid blynyddoedd, eto yr oedd rhyw un ueu arall yu yr oedfaon hyn yn derbyn Ilesâd i'w heneidiau. Nid oedd y nifer, dros flynyddoedd lawer, oud ychydig iawn, a'r rhai hyny yn cael edrych aruynt gyda Ilawer o wawd ; a chan rai, gyda drwg-dybiaeth.

Yr oedd pregethu boreu iawn yn Aberangell, yn rahlwyf Mallwyd. Yr oedd yno un dysgybl hefyd, y mae son mawr am ei ras a'i fíyddlondeb, sef un EUis EUis. Yr oedd hwn yn arfer myned can belled â Llanbryumair i gael cyfarfod eglwysig, mewu amser, tybygid, nad oedd yr un cynulliad o'r fath i'w gael yn nes ato. Yr oedd cymdeithas eglwysig yn Machyulleth tua'r fl.

3S3 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

1770, ond gan yr âi y dysgybl ieuanc crybwylledig i Lanbrynmair, i gael y fath gyfarfod, cymhellir ni i gasglu fod hwn yn aelod gyda'r Methodistiaid er amser boreuach na liyny. Dywedir hefyd fod yma un David Williams wedi bod yn yr ardal hon, dros ry w dymhor, yn cndw ysgol ddyddiol ; a'i fod yn arfer cynghori ; ni ddyw'edir pa bryd y bu hyn, na pha effaith neilhluol a gan- lynodd ei Lnfur. Fe fu EUis EUis y crydd, pa fodd bynag yn Ihifurus iawn yn ceif-io pregethu i'w ardal mor aml ag y gaHai, ond fe fu hwn farw yn Ued ieuanc. Fe fu David AYilliams yn Nghemaes hefyd yn cadw ysgol ddyddiol, sef yr ysgol a berthynai i ]\Iadam Bevan. Yr oedd gweinidogaeth y gvvr hwn, meddir, yn daranllyd iawn, a bu yn foddion, mewn rhan o leiaf, i ddychwelyd Owain Siôn, o'r Plas-ucha'.

Yr oedd pregethu mynychach yn cymeryd Ue yn ysbaid y tymhor 1760 1770. Pregethid mewn amrywiol dai anedd, lle y byddai y rhai a'u preswyl- ient yn dechreu dangos gradd o gariad at yr efengyl. Nid oedd eto yr un capel i'w gael, a symudai y pregethu, gan hyny, o i dŷ, yn ol fel y byddai y cyfleusdra yn caniatâu, neu yr amgylchiadau yn galw, Yr oedd amryw o wŷr o'r Deheudir yn ymweled â'r parth hwn o'r wlad wrth fyned i, neu ddy- chwelyd o, Wynedd, sef Daniel Eowlands, WiUiam a Peter "WiUiams, David Morris, Lloyd o Gaio, Jones, Llangan, ac eraiU. Yr oedd hefyd Richard Tibbot, Llanbrynmair, a Lewis Evan, Llanllugan, a phregethwyr y Bala, yn dechreu cyraysgu eu Uafur gyda'r Deheuwyr hyn ; ac yr oedd eu Uafur yn raddol yn effeithiol, nid yn unig i ddarostwng rhagfarn achreulondeb y weriii, ond hefyd i ddychwelyd arabell bechadur at y Duw byw.

Ynmysg eraüladdaliwyd, yr oedd Owain Siôn, Plas-ucha'.* Ganesid hwn gerllaw Dinas-mowddwy, yn y fl. 1733 ; ac er fod ei fam yn wraig ddifrifol, ac yn dwyn Owain gyda hi, pan geffld y cyfle, i wrando pregethau, eto fe fu Owain dan lywodraeth gwylltineb ieuenctid, ac yn dylyn oferedd ei oes, nes oedd tua 35 mh oed : sef tua'r fl. 1768. Trwy lafur mawr, a thrwy gynorth- wy ei feistr, pan oedd yn was yn Ngarthbeibio, fe ddysgodd ddarllen, yr hyn oedd yn beth anghyffredin y pryd hwnw. Llochesai Owain feddwl tyner am ei feistr, fel un a dra ragorai ar ei oes mewu difrifwch, a moesoldeb ; ac fel un a ddangosai lawer o barch i ddydd yr Arglwydd. Yn y fl. 1774 daetb Owain Siôn i'r Plas-ucha', yn Mallwyd, i fyw. Yr oedd, bellach, yn ŵr priod, ac yn arfer gwrando yu awr ac eilwaith ar y Methodistiaid ; ac yn mysg y rhai cyntaf y bu ef yn eu gwrando ar hyn o bryd, oedd David Williams, yr hwn yn cadw ysgol yn Aberangell.

Y'^n fuan ar ol sefydliad Owain Siôn yn y Plas-ucha', dechreuwyd pregethu yn achlysurol yn Nrws-y-nant, a Thŷ'n-rhos, a Chwmllwnc, lleoedd yn nghy- mydogaeth y Cemmaes. Ffurfiwyd yma gymdeithas eglwysig, â'r hon yr yra- unodd Owain Siôn yn mhen tua dwy flynedd ar ol ei ffm-fiad. Yn fuan ar ol hyn, fe allai tua dwy flynedd diweddarach, dechreuwyd cadw ambell gyfarfod eglwysig yn Mallwyd. Yr oedd yn y gymydogaeth hon wraig weddw gref-

* Cyf. I., tudal. 296.

P£N. IV.] SIR DREFALDWYN. 383

yddol a chyfrifol yn byw, o'r enw Mrs. Sinai Pierce, yr hon a fuasai unwaith yn cadw gwesttŷ yii Mallwyd am lawer o flynyddoedd. Yr oedd y wraig hon yn aelod gyda'r Methodistiaid yn Nghwrallwnc, a hi oedd yr un a agorodd ei drws, gyntaf o neb, i'r efengyl yn Mallwyd ; a'r Parch. Peter Williams, ar ei ífordd i gymdeithasfa y Bala, oedd y cyntaf a bregethodd yno. Ond yn y Plas-ucha' y cedwid y cyfarfodydd eglwysig, ac yno yn gyffredin y Uetyai y pregethwyr. Yr oedd y Mrs. Sinai Pierce uchod yn fam i'r ddiweddar Mrs. Joues, Dol-y-fonddu. Yr oedd pregethu achlysurol mewn amrywiol leoedd eraiU, megys y Farchell, yu agos i'r Dinas, a Phenant-tegi, wrth droed Bwlch- oerddrws. Yn nhŷ Mrs. Pierce, ac yn y Plas-ucha', y cynelid y moddion yn fwyaf cyson hyd yr amser y symudwyd i Hen Neuadd Camlan : gwnaed hyn yn y fl. 1801. Nifer yr aelodau pan y dechreuwyd yn y Plas-ucha', yn y fl. 1786, oedd 24, ond yn y fl. 1797, yr oeddynt yn'62 o rifedi.

Tua'r fl. 1797, ymwelodd yr Arglwydd â'r ardal trwy adfywiad grymus, yr hyn a barodd y chwanegiad crybwvlledig at rìfedi yr aelodau. Sonir am un oedfa nodedig yn y Plas-ucha', pan oedd Mr. Richards, Caernarfon, yno yn pregethu ; ddarfod i lawer o'r gwrandawyr dori allan i lefain, ac i foliannu fel na ellid clyw- ed dim a ddywedai y pregethwr ; ar hyn aeth y pregethwr i ran arall o'r tŷ, a'r gwraudawyr ar ei ol ; yno hefyd hi dorodd allan yn y gynulleidfa yr un modd, ac nid oedd, bellach, yn mhob pen i'r ond dynion, naiU ai yn Uefain am eu bywyd, neu yn clodfori gras Duw am eu cipio megys " pentewynion o'r tân." Cafwyd ymweliadau cyfí'elyb ar ol symud i'r Hen Neuadd Camlan, nes peri cryn chwanegiad at rif yr aelodau. Crybwyllir am oedfa nodedig yn y lle hwn dan bregeth R. Roberts, Clynog. Wrth son am dragwyddol barhad y byd a ddaw, pa un ai yn ei wae neu yn ei wynfyd, arferai y pregethwr gyfifelybiaeth, a hyny mewn duU priodol iddo ei hun, duU na ellirei ddychymygu, chwaithach ei ddys- grifio,"fodyc^ocwedi sefyU yn uffern ar hanner nos! ac yn y nef ar hanner dydd!"

Ymddengys fod Morris Jones, Drws-y-nant, a Grifíìth Jones a'i wraig, 0 Dŷ'n-rhos, yn mysg y rhai blaenaf a ymunodd â'r Methodistiaid yn mhlwyf Cemaes. Ymunodd Eichard Jones, Cwm-eidrol, hefyd, tua'r fl. 1783 ; efe oedd meddiannydd y tir yr oedd lle pregethu arno, sef Drws-y-nant ; a bu yn ffyddlawn, meddir, gyda'r achos hyd ei farwolaeth. Gan ei amheuaeth o'i alluoedd a'i fedrusrwydd i gadw dyledswydd deuluaidd, a chan awyddfryd, er hyny, i'w chael, efe a ddarllenai weddiau allaa o'r Llyfr Gweddi Cyffredin eglwys Lloegr ; ond dygwyddodd ryw ddiwrnod fod y llyfr ar goll, a bu gor- od arno wneyd a allai hebddo ; ac hebddo mwyach y gwnaeth hyd ddydd ei farwolaeth. Mae hanes am un oedfa i Dafydd Morris, yn Drws-y-nant, pryd yr effeithiodd rhywbeth yn rymus ar feddwl merch i Eichard Jones, Cwm- eidrol, yr hon oedd ar y pryd tuag 20 ml. oed, nes ei chymhell ar ddiweddy bregeth, i roddi y penniU canlynol i'w ganu :

Ni thro'f fy wyneb byth yn ol,

I 'molyn pleser gau ; Ond mi a deithiaf tua'r wlad,

Sydd a'i phleser yn parhau.

384 HANESIAETH Y SIllOEDD. [dOSB. IV.

Yr oeddy pennillyn ddarluniad teg o agwedd ei meddwl, a phenderfyniad ei hysbryd, a rhoes brawf diymwad mai gwir oedd y fath broífes, oblegid, er iddi gyfarfod â llawer o brofedigaethau a gwaradwydd, " ni throdd ei hwyneb byth yn ol," ond hi a deithiodd yn gyson tua'r wlad am 65 neu 70 o flynydd- oedd, ac weithian y mae yn mwynha\i y " pleser sydd i barhau."

Symudwyd y moddion o Drws-y-nant i Cemaes oddeutu yr amser hwn ; a dylynwyd y Methodistiaid yno gan yr Annibynwyr. Deallwn fod cymdeith- asfa wedi cael ei chynal yn y Cemaes, tua'r fl. 1787 ; ond uid oes gan yr ysgrifenydd ddim o'i hanes, ond yn unig y ffaith o'i bod. Fe fu un Lewis Watkin hefyd yn Nghemaes, yn cadw ysgol ddyddiöl, ac efe, meddir, a fu yr offeryn i ddysgu y rhan fwyaf o hen bobl yr ardal i ddarllen. Brawd oedd ef i Edward Watkin y pregethwr ; a bu ei addysgiadau, ei gynghorion, a'i weddiau, o fawr ddefnydd i ddwyn achos y Cyfryngwr yn mlaen yn Nghemaes.

MALLWYD, a'i CHAKGHENAU.

Y lle y dechreuw}''d cadw cymdeithas eglwysig yn y plwyf hwn oedd y Plas-ucha', y tyddyn a breswylid ar y pryd gan Owen Sion, am yr hwn y crybwyllasom o'r blaen; yr oedd hyn tua'r fl. 1786, ac yn mhen tua 12 ml. ar ol i Owen Siôn ddod i Plas-ucha' i fyw. Symudodd y gwersyll, fel y cry- bwyllwyd, i Hen Neuadd Camlan, yn y fl. 1801. Yn y fl. 1803, adeihdwyd y capel, yr hwn a elwir capel Bryn-y-ffynnon. Nid hir, bellach, a fu cyn ym- estyn i Gywarch ; ond er fod yma bregethu Ued gyson flynyddoedd o'r blaen, nid oedd yma gapel hyd y fl. 1809 ; ac wedi cael addoldy, nid oedd yma yr un gymdeithas eglwysig wrthi ei hun, hyd y fl. 1813; ond yr oedd yr ychydig aelodau yn aros mewn undeb â'r eglwys yn Bryn-y-flynou. Cododd naid arall o'r hen gwch, a disgynodd yn Aberangell. Yn y fl. 1833, adeil- adwyd capel yn y Ue hwn draehefn dan yr enw Hebron. Pel hyn yr âi y gwaith rhagddo, cyffelyb " i losgiad a chymid tân." Y tro cyntaf y bu Lewis Morris yn y wlad hon yn pregethu, yr oedd yn Penuant-tegi uos Sad- wrn, Plas-ucha' boreu Sabboth, Cemaes ddau o'r gloch, a Mythafarn nos. Yn y ffurf yma y bu yr oedfaon am flynyddoedd. lë, o fewn hanner can' mlynedd yn ol, nid oedd ond dwy daith Sabbothol yn yr hoU wlad hon ; yn awr y mae chwech o deithiau ar lanau yr afon Dyfi o Fachynlleth i fyny.

Sonir Uawer am lafur a flyddlondeb Eichard Morris, o'r Peunant-tegi, a'r eiddo Owen Siôn, o'r Plas-ucha'. Yr oeddynt yn mysg y rhai cyntaf a ym- unodd â'r ^Methodistiaid, ac er nad oedd y mauteision mewn cydmariaeth i'r hyn ydynt yn awr ond prinion, gwnaethant ddefnydd da o'r rhai oedd gan- ddynt ; dangosasant lawer o garedigrwydd at achos y Cyfryngwr, a hyny dan Liwer o warthrudd a chaledi. Treuliodd yr olaf y 27 ml. olaf o'i oes yn Nghamlau-uchaf. Daeth i'r lle hwn tua'r fl. 1802, a chafodd y fraint o weini rhyw wasanaeth i'r efengyl dros ei oes. Pan ofynwyd iddo, tua blwyddyn cyn ei farw, pan oedd weithian yn 92 ml. oed, " Ai nid oedd ef wedi bhno ar wasanaeth yr lesu, wedi cynifer o flynyddoedd ? " I hyn yr atebodd.

PEX IV.] SIR DREFALDWYN. 385

" Ni chefais erioed un siomedigaeth ynddo ef, er cymaint a gefais ynof fy hun ac eraill ; cynaliodd fi hyd yn hyn, ac yr wyf yu hyderu y cynal fi hyd y diwedd."

Yr oedd llawer o'r crefyddwyr boreu hyn yn cyfarfod â lluaws o wrthwyn- «biadau cryfion, oddiwrth eu huchafiaid weithiau, oddiwrth y clerigwyr yu fynych, ac oddiwrth eu tealuoedd eu hunain hefyd yn aml. áonir am un gŵr o'r enw John Parry, yr hwn a ddyoddefai lawer oddiwrth ei wraig, yr hon oerW yn dra gvi'rthwynebol iddo i ymuno â'r gymdeithas eglwysig. Yr oedd ef wedi jonuno â'r gymdeithas a ymgynullai yn y Plas-ucha', ac unwaith, pan oedd hi oddicartref, efe a aeth i'r cynulliad eglwysig. Hithau a ddy- chwelodd yn lied fuan ar ol iddo gychwyn, ac wedi deall i ba le yr aethai, newydd ddiosg eu hosanau a'i hesgidiau, y rhai oeddynt yn wylbion gan ôd- wlaw oerllyd, hi a gyfl'rüdd gymaiut, nes codi ar flrwst mawr i'w ddylyn, gan ddysgwyl ei orddiwes cyu iddo gyrhaedd pen y daith. Hyn a geisiodd heb gyraeryd amser i wisgo ei hosanau na'i hesgidiau, ond ymaith â hi yn wisgi gan nwyd, yn gwbl droednoeth, trwy yr eira gwlyb, dair milldir o flPordd ! ond mawr oedd ei siomedigaeth, yr oedd Siôn wedi cyrhaedd y Plas o'i blaen, ac nis caniatawyd iddi fyned i mewn. Pan welai na allai gael gafael arno ei hunan, yna hi a ddyfeisiai bob math o chwedlau celwyddog, gan ei gyhuddo 0 bethau cas a bryntion, er mwyn cael gan y brodyr ei droi allan. Gwnai bob peth a allai i lesteirio iddo fwynhau moddion gras ar y Sabboth, mwy na dydd gwaith. Un boreu Sabboth, gollyngodd y moch tewion allan, a dywedai wrtho yntau, mai tori i maes a wnacthent, a bod yn rhaid iddo fyned ar eu hol i'w dwyn adref. Yntau yn ddiniwaid a wnai. Ar ol eu cael i'w lle, efe a roddai gryg o ddrain neu rywbeth cyö"elyb i'w hattal, yu ol ei dyb ef, i fyned allan eilwalth : yna hi a alwai ar rywun o'r un ysbryd a hithau, yn dyst, ac a ddywedai, " A weli di y fath grefyddwr ydyw Sionym ni ! Dyma fo yn cau ar ddydd Sul i " Pan y ceisiai gadw addoliad teuluaidd, yr oedd y teulu bob un wrth ei orchwyl rhag ofn y feistres ; er hyny ni roddai Siôn y ddyledswyd heibio, O'r diwedd, hi a addawodd wrando arno, os darllenai efe weddiau o Iyfr. Addawodd yntau wneyd, a phrynodd hithau lyfr iddo. Gwnaeth hyn dros lawer o amser ; ond rhyw noswaith, diffcddodd y ganwyll ! Aeth y gweddiwr yn mlaen fel pe na buasai dim wedi dygwydd, gan y medrai Siôn weddio jn y tywyllwch fel yn y goleuni. Ond fe ddeallodd y wraig mai nid y Uyfr a ddarllenai mwy, a gwylltiodd ei nwydau; lluchiodd at ei ben y peth nesaf i law, gan waeddi, " Yr wyf wedi prynu llyfr o weddiau iddo, ac yntau wedi addaw ei ddefuyddio, nud mi welaf yn awr ei fcd yn ormod o ŵr boneddig, boed siwr! i edryeh ar y llyfr." Ond eryr holl sarhad i gyd, parhaodd y truan i ddal ei ffordd, a'r wraig hithau a roes heibio ei aflonyddu rai blynyddau cyn ei marw. '*

Yr oedd Siôn Parry yn arfer gwrando wrth ddrws y pulpud. Gofynwyd iddo unwaith paham, gan nad oedd trymder ei glyw yn galw arno i ddyfod mor agos ? I hyn yr atebodd : " Nid oeddwn bob amser yn arfer a bod mor agos ; ond ar un achlysur, pan oedd un o'r hen bregethwyr yma yn pregethu, a'r gynulleidfa, fel v bvddai yn arferol, yn rhanedig : y crefvddwyr, gan mwvaf,

2 B

3S6 IIANESIAETH Y SIROEDD. [.1)088. IT.

wrth y puìpiid, neu yn agos ìMo, a'r gwrandawyr dihroffeg J^n nghefn y capel, a'r canol yn wng rhyogddynt, dygwyddais i fod yn raysg y rhai pell yn gwrando, Ebai y pregethwr, " Mae arnaf ofn mai i uffern yr â y bobl hwnt i'r meinciau !" Wrth fyned allan dywedai un, fel y cly wais, " Os i uffem yr awn, fe fydd Slôn Parry yno gyda ni I " " O hyn allan," ebe yr hen Gristion, " nid aethum i'w cwmni mwy."

Gwell 0 lawer a fyddai gan y rhieni weled eu plaut yn myned i'r gŵyl- raabsantau, y chwareu cardiau, a'r Interludiau, y rhai oeddynt yn uchel eu bri y pryd hwnw, nag oedd ganddynt eu gweled yn cyrchu i wrando pregeth- au ; ac ambell waith defnyddiai rhai y cyfleusdra, yn lle myned i'r ŵyl fel yr annogid hwy, i fyned i'r bregeth. Yr oedd yn y gymydogaeth hon ddwy ferch ieuanc yn cael eu hannog gan eu mam i fvned i'r cyfarfod llygredig. Hwythau wedi ymwisgo yn wycli, ac yn gymhwys i'r fath achlysur, a gymerent ddiUad Uai gwych gyda hwynt, ac ar y ffordd troent i mewn i i ail-ym- wisgo, ac aent i'r oedfa. Os oedd dichell yn esgusodol ar achlysur yn y byd, ni a allera feddwl ei fod felly ar yr amgylchiad hwn. Mae y ddwy chwaer hyn, ar ol bywyd o rodiad addas i'r efengyl, er ys blyuyddau, bellach, wedi myned i mewn i lawenydd eu Harglwydd.

Mewn undeb â'r gymdeithas yn Mallwyd yr oedd un Thoraas Miles, o'r "Fron-goch, plwyf Llanymawddwy. Efe, meddir, oedd y cyntaf yn y plwyf hwn a wnaeth broffes neiUduol o grefydd. Fe'i ganwyd ef yn y fl. 17-48. Yr oedd yn rhagori ar Liwer iawn o'i gymydogion o ran moesoldeb ei fuchedd, cyn iddo wybod dim yn brofiadol am grefydd. Nid yw yr hanes am dano yn dadgan trwy ba foddion y cafodd ei alw ; ond yr oedd y tro a ddaeth arno yn anfoddhaol iawn gan ei dad, yr hwn a ymddygai yn greulawn iawn tuag ato. Cafodd y drws yn gauad Liwer gwaith ar ei ddychweliad adref wedi bod raewn cyfarfodydd crefyddol, a bu gorfod arno lawer noswaith anghysurus fyned i'r beudŷ at yr auifeiliaid i orwedd hyd y boreu. Un tro, yr oedd ef a'i ferch wedi myned i oedfa ar nos Sabboth ; wedi dyfod adref cawsant y drws yn gloedig ; gofynodd yn addfwyn, eto yn daer, am gael eu gollwng i mewn, ond gyda geiriau chwerwou fe'i nacawyd. Wedi gweled nad oedd obaith iddo gael agoryd y drws, efe a droes yn ol, gan ddyweyd, *' Bu fy ngwell i mewn beudŷ cyn heno." Ond er maint oedd dyoddefiadau y crefyddwyr boreu hyn, yr oedd eu dyddanwch yn llawn gyfateb iddynt. l'elly yr oedd gyda Miles. Efe a fu ffyddlawn hyd angeu, ac yn y diwedd efe a dderbyniodd goron y bywyd.

Fe fu mab i'r gŵr hwn, sef Job Miles, yn Uafurus a ffyddlawu iawn gyda'r ysgol Sabbothol, pan oedd yn ei mabandod, Gwelais ysgrif o'i eiddo ef ei hun, yn tystio iddo fod yn cadw ysgol mewu dau-ar-hugain o wahaîTol fanau yn ei gymydogaeth, rhwug tai anedd ac ysguboriau. Mae effaith y llafur hwn ar y cymydogaethau hyny hyd heddyw. Bu yn foddion i ddysgu i niferi lawer i ddarllen gair Duw, a'u harwain i wybodaeth y gwirionedd. Yu awr, y mae yntau wedi marw, ond ei weithredoedd a'i canmolant ef fel esampl yn y byd hwn, ac a'i canlynasant ef fel gwobr i'r byd a ddaw.

PEN. IV.] Sia DREFALDWYN. 387

LLANWBIN.

Mae y plwyf hwn yn agos i Cemmaes, ond yr ochr arall i'r afon Dyfi. Ond er fod y ddwy ardal yn agos i'w gilydd, nid oymaint o gyfathrach sydd rhyngddynt, o herwydd fod yr afon yn cyfryngu, ac heb un bont yn gyfagos i'w chroesi. Mae Llanwrin yn gorwedd hefyd ychydig o fiUdiroedd i'r Gog- ledd o dref Machynlleth, ar yr ochr orllewinol i afon Dyfi. Y moddion i ddwyn Methodistiaeth i'r ardal hon, meddir, oedd i un John Evans, wedi hyny o ])ywyll-nodwydd, fyned i'r Cemraaes i wasanaethu ; a thrwy hyny cafodd gyfleusdra i wrando y Methodistiaid yn pregethu ; bendithiwyd y moddion iddo, a theimlodd yn y fan yn awyddus i gael y cyffelyb bregethu i blwyf Llanwrin. Nid hir y bu cyn cael addewid gan EUis Edward, o Beurhos, i ddyfod i bregethu i ei dad ; bychan a elwid y Eoeì. Pan ddaeth yr araser, ymgasglodd llawer yn nghyd, ond nid pawb i'r un dyben. Cafwyd allan yn lled fuan, os oedd rhai yn sychedu ara wrando y gair, fod yno eraill a'u bryd ar eu rhwystro. Bwriadwyd cadw yr oedfa allan ar y maes, ond deallwyd na cheid llonyddwch i hyny, oblegid yr oedd Siôn Dafydd o'r Ddolwen, ac Isaac o'r Henddôl, yn blaeuori haid o derfysgwyr, wedi dyfod yno, ac yn penderfynu gwneyd a allent i ddyrysu yr amcau. Chwythai Siôn raewn corn, er mwyn cadw digon o drwst ; eraill a luchieut bridd a llaid neu rywbeth arall o íewn eu cyrhaedd ; a cbiliodd y pregethwr a'i bleidwyr i'r tŷ, gan obeithio cael mwy o haradden yno ; ond Isaac yr Henddol a ddringai i nen y bychan, yr hwn oedd a'i dalcen yn y ddaear, ac a fwriai gerig i lawr trwy y simnau. Ond er maint yr aflonyddwch, llefarodd yr hen ŵr i gynifer obobl a allentyrawthio i'r tŷ, oddiwrth Joel ii. 13, " A rhwygwch eich calon ac nid eicli dillad, &c." Hon oedd yr oedfa gyntaf yn rahlwyf Llanwriu ; yr oedd hyn tua'r fl. 1782. Ni fu yraa yr un oedfa drachefn ara ysbaid dwy flynedd. Wedi yr ysbaid hyny o araser, daeth John Evans adref i fyw, a chafodd gauiat;ul i'r oedfaon gael eu cadw yn Tŷ'n-y-coed, Mythafarn, Yr oedd yma ryw rai yn parhau i aflonyddu. Yn mysg eraill, souir am un Mr. Evans, o Esgirgeiliog, ac hefyd un Dafydd Ellis. Yr oedd yr olaf yn bryd- ydd, ac yn arfer dylyn y cyntaf, gan wneuthur rhigymao yn erbyn y Method- istiaid, i'w difrio, ac i wahodd ei gymydogion i'r erlyniad ;

AwrL gyda'n gilydd bawb o'r fro, I dosió'r Methodisiaid, &c.

Ond nid hir y canialawyd i'rprydydd ei rwysg; eithr efe a alwyd gan Dduw, ac a wnaed yn araddiffynwr y fìydd a aniheithiasai gynt. Cyscgrodd ei hun, bellach, a'i awen, a'r cwbl, at wasanaeth ei Arglwydd.

Parhaodd graddau o atìonyddwch hyd nes daeth Mr. Sarauel Lloyd, gŵry soniasom o'r blaen ara dano, trwy y wlad i bregethu. Y'r oedd y gŵr hwn, yn ol arfer efrydwyr larlles Huntingdon, yn ymwisgo mewn gŵn du, a gwedd wahan- ol arno i'r diwyg a fyddai ar y cynghorwyr Methodistaidd. Tybiodd y werin an- wybodus fod gan hwn awdurdod i bregethu nad oedd gan y UeiU, ac ofiiasant

388 hànesiaeth y siroedd. [dosb. iv".

wneuthur un sarhad iddo, a bu hyn yn foddion i laesu yr erlid ar bawb arall.

Yr oedd cyhoeddiad John Pierce, Llanidloes, erbyn hyn, i fod yn Llanwrin, ond fe ddamweiniodd aragylchiad na ellid yn gyfleus gadw yr oedfa yn y arferol. Ehaid, gan hyny, oedd ymofyn ar frys am le arall i gadw yr oedfa, myned i gyfarfod John Pierce i Machynlleth i'w hysbysu yntau, a gwneyd yn hysbys yn yr ardal yn mha le y byddai yr oedfa yn cael ei chynal. Disgynai hyn oll ar John Evans. Aeth yn gyntaf i ymofyn mewn amryw dai am le i gadw yr oedfa, ond nid oedd neb yn foddlawn i'w derbyn ; ond yn y cyfwng, ebe un Dafydd WiUiam, " Os byddi yn methu cael lle yn y byd, tyr'd ag o yma." TYedi cael cymaint a hyn o addewid, aeth John Evaus, y boreu Sab- both y dysgwylid y pregethwr i Fachynlleth, i'w gyfarfod ; ymofynodd dra- chefn am ryw un i ddod gyda'r pregethwr i Lanwrin, a rhedoddyntau ei hun o'u blaen yn ol i Lanwrin, erbyn i'r hoU bobl ddyfod allan o'r llan, a chan sefyll wrth glawdd y fynwent cyhoeddodd yr oedfa i fod yn nhŷ Dafydd WiUiam. Pregethodd John Pierce y tu allan i'r tŷ, a chafodd John Evans yr hyfrydwch o weled lluaws o bobl yn myned i wrando yr un gŵr yn yr hwyr. Dywedir ddarfod cyhoeddi Mr. Sampson Thomas, o sir Benfro, yn y lle yn yr un modd.

Mewn lloíft yn nhŷ Dafydd William yr ymgynuUodd ychydig nifer, .5 neu 6, i gadw eu cyfiufodydd eglwysig cyntaf ; a chynaliwyd ef ar ol hyn mewn a elwir y Cogsed, ac fel hyn y bu hyd nes y cafwyd lle yn muarth Myth- afarn. Tr oedd yma gwag, cysylltiedig â Mythafarn, ac o fewn y buarth ; yn hwn, bellach, y cynelid y moddion. Ymunodd Mrs. Watkins â'r crefydd- wyr, a bu yn swcr ac ymgeledd i'r gwaith yn ei wendid, ac yn fwy felly trwy briodi y Parch. WilUam Jones, am yr hwn y gwnawn grybwyUiad eto. Wedi i Mr. a Mrs. Jones ymadael o Mythafarn, bu y pregethu mewn amrywiol dai eraiU ar hyd yr ardal, yn Bryn-melyn, Cae-Iago, Maes-y-creiau, a'r Tŷ-isa', a pharhaodd yn y wedd yma dros rai blynyddau. Ond yn y flwyddyn 1821 y codwyd addoldy. Aeth gwahanol amserau lieibio ar yr achos crefyddol yn y Ue hwn ; weithiau ymddangosai arwyddion fod Arglwydd y winUan yn myned aUan i gyflogi gweithwyr iddi ; ac yn y tymhorau hyn Uuosogai nifer y dysgybUon, nes bu raid codi addoldy araU heblaw y cyutaf ; ond ar bryd- iau eraiU, trwy angau a thrwy symudiadau, Ueiheid y nifer ; yn awr y mae yn aros tua 67. Y mae yma un pregethwr o'r enw Rowland Jones yn byw yn y Ue ; yr hwn, er na theithiodd nemawr oddicartref, ac feUy yn anadnabyddus i'r rhan fwyaf o barthau y wlad, eto y mae yn para yn ddiwyd a chyson i lafurio yn ol ei aUu a'i ddawn yn amgylchoedd ei gartref.

y PARCH. WILLIAM JONES, DOL-Y-FONDDü.

Ni eUir cyfrif Mr. Jones yn mysg yr " hen bobl," mewn ystyr briodol, gan mai dechreu y ganrif bresenol y cychwynodd ar ei redfa gyhoeddus yn mysg y Methodistiaid ; nid oedd ychwaith yn cael ei ystyried yn y radd uchaf o ran ei dalentau, nac yn fwyaf cyhoeddus fel pregethwr teithiol ; eto fe gafodd ras

fEN. IV.] SIR DREFALDWYN. 3Sd

i fod yn ífyddlawn. Mae ei enw fel Cristion dysglaer, fel gwladwr parchus, a gweinidog defnyddiol, yn beraroglaidd iawn. Gosodir ef yn mhlith ser dysgleiriaf y wlad hon yn ei ddydd, ac fel y cyfryw teilynga grybwylliad an- rhydeddus yn hanes y cyfundeb y perthynai iddo.

Gŵi- ydoedd o blwyf Trawsfyuydd, Meirion, o enedigaeth. Yr oedd ei dad yn amaethwr ac yn borthmon cyfrifol, a dygodd ei fab William i fyny i'r un alwedigaeth. Yn ei ieuenctyd, fe gafodd y bachgen hwn fwy o fanteision dysgeidiaeth nag a fyddai arferol yn y dyddiau hyny ; ond dangosodd, fel y gwnai ei gyfoedion, fod ei fryd ar oferedd, heb un gofal ganddo am ei achos ysbrydol gyda Duw. Ar yr un pryd, arferai wrando pregethu yr efengyl yn achlysurol, a daeth yr ystyriaeth am ei gyflwr ysbrydol yn raddol i bwyso arno, yn enwedig ar farwolaeth ei fara, yr hon a hoífai yn fawr. Nid yn ebrwydd, er hyn, yr ymunodd ag un enwad crefyddol, ond fe fu dros ry w ysbaid yn methu penderfynu â phwy yr ymgysylltai. Yr oedd ei alwedigaeth yn ei arwain i Lundain, ac yno y clywodd yr hyglod Eomaine yn pregethu : efteith- iodd ei weinidogaeth gymaiut arno nes gogwyddo ei feddwl i ymuno yn ebrwydd ar ei ddychweliad â'r Methodistiaid.

Yr oedd ei dad yn eglwyswr selog ; uid am y gwyddai nac y gofalai pa wahaniaeth sylweddol oedd rhwug CydfFurfwyr ac Anghydfí'urfwyr, ond am y dj'gasid ef i fyny gyda'r naill, ac am ei fod yn Ilawn rhagfarn, fel Uawer o'i gyfoedion, yn erbyn y lleill. Yn yv amgylchiad hwn, daugosai yr hen ẁr ei sêl droB yr eglwys drwy warafun i'w fab gadw addoliad teuluaidd yn y ! Ond yr oedd y Ilencyu yn penderfynu ennill ei amcan, ac i'r dyben cynygiai ddarllen gweddiau eglwys Loegr. Yr oedd hyn yn fwy boddhaol gau y tad a'r ewythr, yr hwn oedd yn byw gyda'r teulu, a rhwng bodd ac anfodd can- iatawyd gweddio yn y teulu. Nid oedd y gŵr ieuanc, pa fodd b\-nag, yn barnu yn angenrheidiol ymgadw at y ífurf yn y Ilyfr ; eithr tywalltai ei galon ger bron l)uw, fel y rhoddid ymadrodd iddo ar y pryd, a chyraaint oedd an- wybodaeth y teulu, fel na wyddent nod darllen y Llyfr Gweddi yr ydoedd. Un tro, pa fodd byuag, diffoddodd y ganwyll, a chan nad oedd hyn yn dyrysu dim ar y gweddiwr, daeth yr ystryw i'r golwg, a gwaeddodd y tad, " Beth wyt ti yn ei wneyd yrwan, Wil ? " ei ewythr hefyd a gauodd ei ddwrn, ac a'i bygythiodd yn llym, er na tharawodd mohono.

Pan oedd yn 24 ml. oed, priododd wraig weddw yr hon oedd yn byw yn Mythafarn, ger Machynlleth, o'r euw Mrs. Susan Watkins, a symudodd yno i fyw. Yn mhen tuag wyth mlynedd ar ol hyn, dechreuodd ar y gwaith o bregethu, a pharhaodd i lafurio yn egniol a flyddlawn yn ngwinllan ei Ar- glwydd hyd ddydd ei farwolaeth. Yr oedd pregethu wedi cael peth Iloches yn Mythafarn cyu dyfodiad Mr. Jones yno i fyw ; ond wedi hyny, daeth yn fwy cyhoeddus, ac i effeithio yn fwy ar y plwyf. Ar hyn cyffrodd Mr. Hamer, yr hwn oedd y periglor ar y pryd, a gosododd yn ei fryd yru Mr. Jones, a Mr. Meredith Morgan, Maes-y-creiau, allan o'r plwyf, gan y barnai mai hwynthwy oedd colofnau cryfaf yr achos. Dygwyddodd y gŵr parchedio- unwaith ddyweyd wrth ry w hen wreigan, y medrai ef gael tenantiaid i Svr

390 HANESIAETU Y SIUOEDD. [D03B. IV.

W ii^ heblaw Mr. Joues, Mythafarn, a Mr. Morgan, Maes-y-crehiu, ac y gos- odai efe orfod arnynt, naiU ai i fyned allan o'r plwyf, neu ar y plwyf. Fe Iwydd- odd hefydi gael Mr. Jones o'i dyddyn, ond nid o'r plwyf ; gofalodd rhaglun- iaeth am Mr. Jones trwy agor ífordd iddo gael tyddyn arall, nid yn mhell, yn etifeddiaeth, yr hwn sydd yn ei deulu eto ; ond am Mr. Morgan, methodd y clerigiwr yn lân a'i symud ef o'i le ; y mae yn Maes-y-creiau hyd heddyw, yn hen, ond yn para yn ôyddlawn gyda'r gwaith, a bendithiou y ddau fyd yn ei goroni. 0 hyn allan bu Mr. Jones fyw yn Nôl-y-fonddu, hyd ddydd ei farwol- aeth, Ymroddodd hefyd i wasanaethu Duw yn efengyl ei Fab ef, gyda diwyd- rwydd a íFyddlondeb tra chanmoladwy. Llanwai le mawr yn nghyfarfodydd misol y sir o hyn allan ; ac edrychid arno yn un o'r colofnau penaf yn mysg ei frodyr. Rhoddwyd prawf o'r cyfrif a wnaed o hono, trwy y dewisiad a wnaed o hono i gael ei neillduo yn y fl. 1811 ; ac yr oedd yn un o'r wyth cyntaf yn y Gogledd a alwyd ac a urddwyd i weini Bedydd a Swper yr Arglwydd yn y cyfundeb.

Yn y modd yma yr aciii rhagddo, gan lafurio yn egniol yn ngwasanaeth yr hwn a'i galwodd, hyd ei farwolaeth, sef ysbaid 35 o flynyddoedd. Nid oedd ei amgylchiadau yn caniatâu iddo deithio llawer o'i wlad, eto fe fu rai troion trwy amryw siroedd Gwynedd, a'r Deheubarth ; ond sir Drefaldwyu a fu prif faes ei lafur. Bu farw Mawrth y laf, 1837, yn 67 ml. oed.

Cyn gadael glanau Dyfl, dylid crybwyll fod yma amryw o bregethwyr eto yn yr ardaloedd, megys y Peirch. FouIk Eyaus a Thomas Hughes, Machyn- lleth ; y ddau yu anedig yn sir Feirionydd, ac wedi dechreu pregethu yno ; hefyd David Davies, Cywarch, a Eichard Jones, Aberangell. Mae yr hen bobl a ymunodd gyntaf â'r Methodistiaid, oU wedi meirw, ac nid oes o'r ail o honynt ond ambell un, a'r rhai hyny yn hen a methedig. " Ac yn hyu y mae y gair yn wir, Mai arall yw yr hwn sydd yn hau, ac arall yr hwn sydd yn medi. Myfi a'ch anfonais chwi i fedi yr hyn ni lafuriasoch ; eraill a lafur- iasant, a chwithau a aethoch i mewn i'w llafur hwynt." loan iv, 37, 39.

P ENNOD V. EGLWYSl BOREÜAF Y SIR A'U CANGENAU. '■''^.

CYNWTSIAD :

LLANWYDDELAN— TSGOGIADAü BOREAF YR ACH03 YN Y FRO— YR nEIÍ GYNGHOR-, WYR— ERLID GAN FONEDDWR— HOWEL HARRIS YN PREGETHU— JERHMIAH WILLIAMS— JOHN THOMAS, RHOS-FAWR— THOMAS ROWLAND— JOHN DAVIES Y CENADWR— PREGETHU YN YR ARGOED— LEWIS EVAN A'I FRAWD JAMES— Y PREGETHWYR A GODODD YN LLANWYDDELAN— ROBERT ROBERTS, CLYNOG, YN PREGETHU YN YR ARDAL— BARN DUW AR AFLONYDDWYB EI ADDOLIAD— LLANGYNOG BEITHDIR, &c.

LLANWYDDELAN.

Yr oedd cymdeithas fechan o grefyddwyr Methodistaidd yn mhlwyf Llau- Uugan, yr hwn sydd yn terfynu ar blwyf Llanwyddelan, mor foreu a'r fl.

PEN. V.] SIR DREFALDWYN. 391

1743. Yr ydym yn darllen adroddiad am daiii i'r prymdeithasfa, gan Richard Tibbot, yn y flwyddyn hòno, yn Nghofnodau Trefecca.* Yr oedd yn y gymdeithaa hon ar y pryd 20 0 ae'oilau, gan mwyaf yn bobl ieuainc. Yn y fl. 1744, fe ysgrifena Richard Tibbot íim gymdeithas Llardhigan, " Nid yw cymdeithas LLìnllugan ond Ued wan mewn gras, ac felly rhoddir cryn le i'r byd, i anghrediniaeth, a meddyh'au culion am eu gilydd, yn eu meddyliau, eto y maent mewn hwyliau hyfryd, weithian, wríh wrando." Nid oes genym ddim i'w draethu am y pregethu boreaf yn yr ardaloedd hyn, heblaw fod sicrw'ydd fod yma rai pregethwyr cartrefol yn arfer ymweled â'r ardal, ac yn arolygu y gymdeithas eglwysig. Yn eu raysg yr oedd Lewis Evan, a'i frawd James , un Evan Dafydd, 0 blwyf Llanfair ; ac un John Thomas a Dafydd Jehu. Cyfeiria Til)bot at lafur y gwŷr hyu mewn adroddiad diweddarach na'r un uchod. Fel hyn yrysgrifena, " Y mae derbyuiíìd i'r brawd Thoraas iteretlith yn Mochdre, a gobeitbiwyf fod yr Arglwydd yn ei nerthu i fod yn ddefnydd- iol yn eu plith. Mae Johu Thomas, Evan Dafydd, a Dafydd Jehu, yn arfer llefaru yn Llanfair, ac weithiau yn Llanllugan, ac y mae gan rai dderbyniad iddynt, ond ni vvn i am ddim gwaith neillduol wedi ei wneyd ganddynt neu trwyddynt." Vn yr un aúroddiad y mae yn cwyno fod cryn farweidd-dra wedi disgyn ar y gymdeithas fechan yn y Ile hwn. Pa hyd y parhaodd yr ychydig eiiwau ag oedd yina i gyfarfod â'u gilydd, nis gwyddom ; a pha un ai para i wneyd hyny u€u bei(h'o a wnaethant, ni allwn sicihau, gau uad ocs geiiym ddim o'i hanes wedi y fl. 174.5 dros gryn amser. Yr oedfa gyntaf v mae hanfn genym am dani, am mai hi oedd y gyntaf, raae'n debyg, a diin hynodrwìidd arni, a gynaliwyd ar ddarn o dir agored yn agos i eglwys Llan- llugan. Enw y pregethwr oedd John Evans, Cil-y-cwm. Yr oedd bagad o bobl wedi ymgynull i wrando ; ond yn fuan ar ol dechreu y bregeth, daeîh gŵr boneddig o'r enw Devereux, yr hwn oedd yn ẃr 0 gyfoeth a dylanwa<l yn y plwyf, ì'f lle, ac a ymosododd yn greulawn ar y pregethwr. Yr oedd yn ci ganlyn haid o oferwyr parod i wneyd ei gais yn hyn o orchwyl, y rhai a luchient y dyeithr-ddyn yn gethin â cherig, tom, ac wyau gorllyd, nes y gorfu iddo roi heibio pregethu. Wedi ei faeddu yn Llanllugan, aeth Johu Evans, a rhyw nifer o'r gynuUeidfa gydag ef, dros yr afon i blwyf Llanwydd- elan, a chafodd lonydd yuo i draethu ei genadwri.

Ond er maint oedd ymgyrch yr erlidwyr i attal y gwirionedd trwy anghyf- iawnder a thrais, y mae yn aros hyd heddyw yn y ddau blwyf uchod, pryd y mae teulu yr erlidiwr crybwylledig, er eu bod unwaith yn gyfoethog iawn, ac yn fawr eu dylanvv'ad, wedi syrthio i iselder a thlodi. Gwerthwyd eu heti- feddiaeth 0 fewn cof fy hysbysydd,f a rceddiannir y rhan fwyaf 0 honi gan Liliogaeth y rhai a dderbyniasant yr efengyl,

Nid oes hysbysiad pa effeithiau a ddylynodd ymweliad John Evan3 â'r fro y tro hwn ; ond yn fuan af ol hyn, daeth Howel Harris i'r ardal; ac yn mhlwyf Llanllugan y pregethodd yntau. Daeth yr erlidiwr Devereux i'r

* Gwcl adroddiad ai-ali o'i ciddo, C^-f. I , tudal. 130. f ParcU. Richard Jone», LUafair

392 HANESIAETH T SIROEDD. [DCfSB. Ti.

oedfa hon hefyd, ond efe a fethodd yn ei amcan y tro hwn. Yr oedd y fath nerthoedd yn cydfyned â'r weinidogaeth, "nes yr oedd dynion yn ymrwygo, ac yn ysgrechian gan ddychrynfeydd y farn." Ymddengys fod amryw wedi eael eu dychwelyd yu yr oedfa hon, ac yn mysg ereiU Jeremiah WiUiams, yr hwn a fu yn pregethu ar ol hyn am 54 o flynyddau. Ymddengys fod hyn cyn y fl. 1760 ; ac yn fuan ar ol y bregeth hon y bernir i'r rhai a ddeffrowyd trwy y gwirionedd ail gychwyn eu cymdeithas eglwysig, yr hon, fel yr ym- ddengys, oedd naill ai wedi gwywo i raddau mawr, neu wedi llwyr ddarfod, cyn ei hadnewyddu y pryd hwn. Ond nid oedd neb a agorai ei i'w der- byn ; ac o ganlyniad, ymgyfarfyddent yn y nos dan bren Afallen fawr, yn agos i le a elwir Cefn-caled, yn mhlwyf Llanwyddelan. Wedi bod yn ym- gynull dros ryw dymhor dan yr Afallen, symudodd un o'r enw Phillips o ryw le i Dolmareh, ac agorodd ei i'r oedfaon cyhoeddus, ac i'r cyfarfod^ ydd eglwysig. Tra yr oedd y frawdoliaeth fechan yn ymgyfarfod yn y Ue hwn, daeth rhyw ddaroganiad i feddwl Jeremiah Williams yn ystod yr wythnos flaen- orol, y gelwid arno ef yn y cynnlli^d eglwysig nesaf i weddio. Dan y syniad hwn, ymosododd yntau at y gwaith o barotoi ; a bu yn ddiwyd ya. cyfansoddi, yn ysgrifenu, ac yn dysgu y weddi yn dda. Troes ei ddysgwyliad allan yn gywir, a galwyd arno i weddio. Aeth Jerry ar ei liniau, yn bur hyderus, ond gyda'i fod ar lawr, ac iddo gau ei lygaid, ciliodd ei weddi bob gair, gan ei adael mewn tywyllwch fel y fagddu. Cafodd ei falchdcr a'i hyder, yn ddiau, yn y tro hwn, archoll dwfn, y fath fel na Iwyr anghofiodd yr amgylchiad dros ei oes.

Y lle nesaf a ymagorodd i dderbyn pregethu iddo oedd y Felin-isaf, yn mhlwyf Llanllugan, ac yn ymyl y fan y bu John Evans yn ceisio pregethu. Yn y hwn yr oedd un William Thomas yn byw, mab i'r hwn oedd John Thomas, Ehosfawr, plwyf Llanfair, yr hwn a fu yn bregethwr fl^yddlon a chymeradwy ; ac y mae ei ŵyrion a'i or-ŵyrion yn aelodau gyda'r Methodist- iaid hyd heddyw.

Yraddengys fod y WiUiam Thomas hwn o gymeriad da fel Cristion, a'i fod yn un o'r rhai cyntaf o'r crefyddwyr boreu hyny. Dywedir yn ad- roddiad Eichard Tibbot i'r gymdeithasfa yn y fl. 1744, am un William Thomas, aelod o gymdeithas Llanllugan, " Ei fod yn ymorphwys ar Dduw trwy fl^ydd, ond nad oedd eto yn mwynhau llawer o gysur mewn dim." Fe fu ei yn agored i'r efengyl am flynyddau lawer, yr hon y mae y drydedd a'r bedwaredd genedlaeth, bellach, yn mwynhau ei bendithion.

Yn mhen talm o amser, symudwyd y moddion o Lanllugan i le a elwir Llwyn-capa, yn Llanwyddelan. Yr achlysur o hyn ydoedd dyfodiad crefydd- wr cywir a gweithgar, o'r enw Thomas Rowland, yno i gyfaneddu. Symud- odd yno o'r Wtre-wen, ger Llanfair. Yr oedd wedi bod yn un o ddau grefyddwr yn holl blwyf eang Llanfair, ac yn ei ef y bu yr achos nes yr adeiladwyd capel yr Adfa. Bu Thomas Eowland yn hynod o fl"yddlawn a haelionus am flynyddau lawer ; yr oedd ei dŷ, ei amser, a'i fec'diannau, at wasanaeth crefydd. Gofynai rhyw un iddo, " Pa fodd yr oedd yn llwyddo

PEN. V.] SIR DREFALDWYN. 3>&3

cymaint yn ei amgylchiadau bydol ? " Ei ateb oedd, " Fod meddiannydd nefoedd a daear, yn rhoddi iddo ef, fel y gallai yntau roi at achos y Gwaredwr."

Teithiai y gŵr hwn yu fynych i Langeitho, ac un aracan ganddo, oedd cael pregethwyr i Lanwyddelan yn neiUduol, ac i'r sir yn gyffredinol ; a dy wedir am dano, os methai eu cael â geiriau, fe fyddai yn sier o Iwyddo â dagrau. Llwyddodd ei ddagrau, meddir, i gael un gymdeithasfa i Lanwyddelan ; a dyma y pryd yr agorwyd y capel cyntaf. Pan yr oedd eraiU yn taeru am y gymdeithasfa, dywedai Mr. Eowlands, " Gadewch i Thomas, druan, ei chael ; nid oes neb o honoch yn wylo am dani ond efe."

Cydwasanaethodd amrywiol amgylohiadau i beri i Fethodistiaeth ym- wreiddio ac ymeangu yn Llanwyddelan. Diau y bu Ilafur Thomas Eowland yn cyrchu pregethwyr yno yn un moddion effeithioh \x oedd yn Llanllugan, yu nghylch y pryd hwn, ofteiriad hynod o feddw (!) Dygwyddodd iddo un Sabboth gysgu yn y pulpiid. Wrth ganfod liyn, torodd un hen ŵr allan i lefain, " Dowch oddiyma bobl, yn Ue mocio gair yr Hollalluog ! " Parodd y dygwydd- iad hwn a'i gyffelyb i amryw ymadael o'r llan, acymroddi i wrando y Method- istiaid. Peth arall a fu yn fendithiol iawn i'r un dyben, oedd sefydliad ysgol rad yn y gymydogaeth. Ys fuan wedi dechreu yr achos yn Llanwyddelan, a chyn adeiiadu y capel, bu yno ysgolfeistr o'r enw Dafydd Williams ; yr hwn hefyd oedd yn bregethwr canmoladwy a phoblogaidd. Fe fu Ilafur y gŵr hwn, fel ysgolfeistr a phregethwr, o fudd i lawer. EnniUai y plant yn gyntaf, a'r plant a enillent eu rhieni, i wrando, a thrwy wrando fe ddygwyd dynion perflaith ddiofal am grefydd, i'w chofleidio a'i lledaenu. Nid oes sicrwydd pwy oedd y Dafydd William hwn. Yr ydym yn cael pedwar o'r enw hwn, mewn un cyfarfod a gynaliwyd yn y fl. 174-1. ; ond pa un o honynt nid yw hysbys ; neu a ocdd ef yn un o honynt sydd ansicr ; ac nid yw ychwaith o gymaijit pwys,

Yn ddiweddarach, fe fu John Davies, y Cenadwr, fel y'i gelwir mewn modd o hynodrwydd, am mai efe oedd y cyntaf, mae'n debyg, o blith y Cymry a anfonwyd i fysg y paganiaid ; fe fu hwn, meddir, yn cadw ysgol yn Llauwyddelan, ac o fudd i lawer. " Cofus genyf glywed fy mam yn dy- wedyd," ysgrifena y Parch. Eichard Jones, Llanfair, " fod yno wylo mawr yn Llanwyddelan pan oedd ef yn ymadael." Nid oes amheuaeth na fu yntau 0 fuddioldeb mawr yn y lle hwn. Tua 60 ml. yn ol, yr oedd Thomaa Meredith, pregethwr can.moladwy gan y saint, yn cadw ysgol yn y Ile. Fe fu ymddyddanion difrifol hwn hefyd â'i ysgolorion, yn fendithiol iawn i amryw o honynt. Cawn esampl o un sydd eto yn fyw, neu a oedd felly yn ddiwedd- ar, o'r effeithiau da a ganlynai gyfarchiadau difrifol yr ysgolfeistr hwn. Aeth hon yn ferch ieuanc wyllt ac anystyriol ato i'r ysgol am bymthegnos ; yntau a ymroes i alw ei hystyriaeth at achos drwg ei henaid anfarwol. Effeithiodd yr ymddyddan arni yn anarferol ; cymaint felly nes i'w chyfoedion dybied ei bod yn gvvaIIgofi. Mae hon wedi bod yn aelod eglwysig, bellach,er ys 60 ml., ac mor gyson fu ei rhodiad fel na fu dan un math o gerydd eglwysig

394 HANESIAETH T SIHOEDD. [doSB. IV.

dros vr hoU amser. Difyr ydyw ei ohlywed yn adrodd helynt y daìth, ac yn datgan daioni Duw tuag ati ; a thystiai yn ddibetrus mai ymddyddanion yr ysgolfeistr gynt a fu yn foddion ei chychwyniad.

Yn fuan ar ol dyfodiad Harris i'r wlad hon y tro cyntaf, eododd amryw gy- no-horwyr, ac yn mysg y rhai hyny, 09 nad yr hynaf oll, yr oedd Lewis Evan o'r ardal iion. Gan ein bod eisoes wedi olrhain cryn lawer ar ei hanes, afreidiol chwanegu nemawr. Gyda bod ei lafur a'i ddyoddefiadau raewn gwaliauol barthau o'r dywysogaeth, yn ehehieth a nodedig, nid yw ei gymydogaeth ei hun ddim heb gyffelyb brofion o'i ffyddlondeb a'i sel. Efe abregethoddgyntaf yn mhlwvf Tregynon, yn agos i le a elwir yr Argoed. iSid derbyniad gwych a oafodd yn y lle hwn. Yn fuan wcdi iddo ddechreu pregethu, dyma gawod 0 bridd a thom yn gyraysgedig â cherig yn disgyn arno, fel nad oedd nemawr obaith iddo allu myned yn mlaen. Ond yn y cyfwng, ymddangosodd fod amaethwr parchus o'r enw Mr. Llwyd yn y dyrfa, yr hwn hefyd oedd yn Warden y flwyddyn hòno ; hwn a ddaeth yn mlaen gan waeddi ei fod ef yn swyddog yn y plwyf, ac y mynai efe lonydd i'r prcgethwr. Ar hyu, llonydd- odd y cyffro, ac aeth y pregethwr rhagddo ; beiidithiodd Duw y bregeth, a galwyd merch i Mr. Llwyd drwy ras. Priododd hon un Mr. Owen Brown, yr hwn hefyd oedd grefyddwr. Yu yr Argoed yr oedd Mr. Llwyd yn byw, yr hwn le sydd wedi bod yn lloches dda i achos yr efengyl hyd heddyw. Yn ao-os i'r lle y pregethai Lewis Evan y tro cyntaf hwn, y mae cnpel yn ddi- weddar wedi ei godi dan yr enw Gerasim.

Yr oedd i Lewis Evan frawd o'r cuw Jaraes Lewis yn bregethwr ffyddlon. Nid oes genyra nemawr hanes ara deithiau o'i eiddo ef, na dim ymgyrchion gormesol arno, o'r fath a berthynai i'w frawd ; eto fe geir ei fod yntau wedi gwa?anaethu yr efengyl yn ei deulu a'i ardal yn ddiwyd a fl'yddlawn. Bu un mab iddo yn ddiacon ffyddlawn yn Llanwyddelan am dymhor maith ; ei enw oedd Eicliard Lewis, ac y mae ŵyr iddo yn yr unrhyw swydd heddyw. Fe fu mab arall i James Lewis yn bregethwr dros dymhor. Yr oedd hv, n yn fardd da, meddir, ac yn meddu ar wybodaeth helaeth, a graddau 0 hyawdl- edd, ond oblegid rhyw ddyryswch yn ei amgylchiadau, efe a roes heibio bregethu flynyddau cyn ei farw. Mae creí'ydd wedi para ac ymdaenu yu hynod yn y teulu hwut

Heblaw Lewis Evan, a'i frawd, a'i nai, fc gododd amryw, "ie, lluaws o bregethwyr, yn Llanwyddclan 0 bryd i bryd. Yr ydym wedi enwi Jeremiah WiIIiams eisoes, yr hwn a fu yn Ilafurio am yr ysbaid 0 5i 0 flynyddoedd. Hefyd:—

Thomas Jones, yr hwn oedd yn meddu ar ddoniau hyfryd.

Jo/in Thomas, wedi hyny o'r llhos-fawr.

Edîcard Gicalchmai, tad y diweddar Humphrey Gwalchmai. Yr oedd hwn yn ŵr hynod 0 brydferth, ac mewn amgylchiadau cysurus yn y byd. Cafodd ei ddwyn i fyny mewn ysgolion da, ac yn meddu ar raddau helaeth o ddysgeidiaeth ; 0 leiaf, rhagorai lawer ar ei gymydogion yn hyn, cymaint feUy nes oedd syniad yn mysg yr heu bobl am dauo, ei fod, cyn ei droedig-

PEN. V.] SIR DUEFALUWYN. 895

aeth, yn medru codi a bwrw i lawr ysbrydion drwg. Daetli liwn i fod yu bregethwr cymeradwy iawn.

Htmplirey GicalcJimai ei fah, am yr hwn yr ydym wedi crybwyll, yn hanes Llanidloes, lle y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes gyhoeddus, er mai Llanwyddelan oedd ei le genedigol, ac mai yma y dechreuodd ef bregethu.

Thomas GriffitJi, llafuriodd y gŵr dirodres hwn yn ffyddlawn, a hyny drwy gryn lawer o gystudd corff, a thlodi sefyllfa. Cafodd yr anffawd o gael gwely Uaith pan oedd ar daith gyda Mr. Joncs, Dol-y-fonddu, yn sir * * * Ar ol hyn ni fu iddo nemawr o iechyd. Bu farw yn Lhangefni, pan ar ei daith yn Môn.

TJiomas Davies, yr hwn oedd yn " frawd anwyl, ac yn weinidog ífydd- lawn." Bu farw yn nghauol ei ddyddiau o'r frechwen, yn 49 ml. oed, yn y fl. 1842.

RicJiard Newell, nid oes ond ychydig fisoedd er pan ymadawodd y brawd hwn o'r byd. Yr oedd er ys Uawer blwyddyn wedi symud o ardal Lhmwydd- elan i'r Plas-bach yn agos i LansantfFraid-yn-Mechan.

Cododd pregethwyr eraiU yn Llanwyddelan, y rhai sydd eto yn aros ; o'u nifer y mae Mr. Richard Mumford neu Bumford, y Parch. Thomas Francis, yr hwn a symudodd i Wrecsam ; a'r Parch. Richard Jones, yn awr o Lanfair.

Tua'r fl. 1782, ymwelodd yr Arglwydd â'r ardal â diwygiad nerthol. Yr oedd annuwioldeb cyhoeddus yn gwywo o'i flaen, a gwnaed yr eglwys yn llawen-fam plant. Yn y diwygiad hwn y galwyd R. Lewis, a Thomas Jones, ac eraill, y rhai a fuont ddefnyddiol mewn mesur mwy neu lai dros eu hoes. Ac er i'r gelyn ddod 1 mewn, a gwneyd anrhaith o rai, trwy eu hyspeilio o'u hanrhydedd, eto cafodd Ilawer feddiant o grefydd dda, y rhai a fuont ffyddlawn hyd angeu. Pe fu yma ami-yw o ddiwygiadau grymus ar ol yr un uchod, trwy y rhai, yn ol pob sicrwydd, y cafodd cannoedd eu hachub, ac y codwyd Methodistiaeth i wedd anrhydeddus yn y fro fynyddig hon.

Sonir llawer gan yr hen grefyddwyr am rymusder gweinidogaeth Robert Roberts, Clynog, pan y deuai ar ei hynt i'r ardal. Cynyrchodd ei weinidog- aeth danbaid ffrwyth lawer. Gan y nerth a amwisgai ei bregethau, yr oedd annuwiolion yn gwelwi o'i flaen, a'r cestyll yn cael eu bwrw i lawr ganddo. Yr oedd y son am dano yn cerdded o'i flaen fel y bu gyda Jonah yn Ninefeh, a sugnai gynulleidfaoedd lluosog i'w wrando, ac yn eu plitli, yu fynych, y byddai pen-campwyr y diafol. Yr oedd, y pryd hwnw, yn Llanwyddelan, fel yn mhob parth o Gymru, luaws mawr o gampau ofer ac ynfyd, ac yn y fro hon arferent ddewis swyddog penodol am ysbaid blwyddyn i arolygu y campau hyny.* Dygwyddodd fod un Richard Mumford yn y swydd pan ddaeth Robert Roberts unwaith i'r wlad. Oddiar rhyw gymhelliad neu gilydd, aeth ef, ac eraill o'i gyd-oferwyr, i'r oedfa, Richard a ddaliwyd ; aragylchwyd ef gan rwyd yr efengyl, a gorfu iddo wylo yn hidl ynghauol ei gymdeithion.

* Fel steward y jRoce course yu awr.

396 HANESIAETH Y SIROEDD. DOSB. IV.

O hyn allan collodd bob mwynhad yn ei hen orchwyl, a gadawodd ei hen gymdeithion dros byth. Mae hwn, bellach, yn hen bregethwr.

Mae Methodistiaeth wedi ymledaenu llawer yn yr ardaloedd hyn. Cod- odd amryw fân-eglwysi o amgylch, y rhai a addefant Lanwyddelan yn fam ; megys Tregynon, Beulah, Carmel, a Horeb. Ymunodd rhai teuluoedd o gyfoeth â'r achos yn Nhregynon, a hyny yn ei wendid, sef Mri. Colley, a Soley. Priododd y cyutaf Miss Bowen, o'r Tyddyn, yr hon ynghyda'i chwiorydd Mrs. Tees a Miss Bowen, a fuont yn aelodau gyda'r Methodistiaid dros eu hoes yn yr Amwythig. Mae meibion i Mr. Soley eto yn ddiaconiaid parchus, un yn Nhrefaldwyn,* a'r llall yn y Drefnewydd, hyd y dydd hwn.

Cof gan y darllenydd, fe allai, weled yn " Nrych yr Amseroedd," hanes cyfarfod misol a gynaliwyd yn Mynafon. " Erbyn dyfod ynghyd," ysgrifena Eobert Jones, " i'r cyfarfod hwn, yr oedd yno ddarpariaeth go ryfedd wedi ei barotoi yn eu herbyn. Gorchymynodd yr eglwyswr parchedig ganu y gloch ; danfonodd yn mhell am drum a rhyw offer eraill, raegys padell ffrio, &c., y rhai fyddent debycaf o ddyrysu y cyfarfod. Dechreuodd y ddwy oedfa ar unwaith, y gŵr urddasol yn trefnu ei fyddin, a bagad o'r gwerinos dylion yn trin eu celfi trystfawr yn dra ewyllysgar, ac yn eu mysg y clochydd, yr hwn sydd yn rhwym i ddyweyd amen yn wastad gyda'i feistr. Ond am yr oedfa arall, nid oedd arfau milwriaeth hono ddim yn gnawdol, ond yn nerth- ol, trwy Dduw, i fwrw cestyll i'r Ilawr ; ac ni Iwydda un offeryn a lunir yn erbyn yr efengyl. Ac er yr hoU drwst a'r terfysg, methasaut attal sain drum yr efengyl. Cafodd y gwrandawyr hamdden i glywed gair y gwirion- edd, ac ymadael yn siriol."

Y cyfryw ydyw y darluniad a ddyry yr hybarch hanesydd o gwrdd misol Mynafon ; y cyntaf, yn ddiau, a fu yuo erioed ; a'r olaf hefyd, o leiaf dros faith flynyddau. Ymddeugys i'r ardal hon gael ei gadael gau y Methodist- iaid am dymhor maith ; ac yr oedd y fro yn nodedig am bob math o annuw- ioldeb. Tua dechreu y ganrif hon, pa fodd bynag, yraosododd y Methodist- iaid arni eilwaith, ac yn awr y mae capel Beuhih yn sefyll yn y Ue y bu gorseddfainc Satan, ac o fewn miUdir i'r lle y cynaliwyd y cyfarfod misol

Yn y wlad hon, fe wiriwyd yr hyn a honasora o'r blaen, fod Methodistiaeth wedi derbyn ysgogiad nerthol a llwyddiannus iawn trwy gyfodiad yr ysgol Sabbothol. Yr oedd Uuaws o wŷr cymhwys i fod yn athrawon wedi cael eu magu ar aelwyd yr hen fam yn Llanwyddelan ; a phau y gwawriodd y ganrif bresenol, neu yu fuan wedi'n, torodd allan o Lanwyddelan luaws o athrawon yn Uawn awyddfryd gwresog i wneyd a allent i arlcesi yr anial gwyllt o'u hamgylch. Felly ymosodasant ar Langadfa, Llanerfyl, Mynafon, Llanwnog, a manau eraiU yn mhlwyf LLmfair ; ac erbyn hyn y mae capehìu wedi eu codi ynddynt, ác eglwysi bychain wedi eu planu. Golwg hyfryd, yu ddiau, a gawsai Cristion brwdfrydig, pe codasid ef, lua dechreuad y ganrif bresenol,

* 'Wedi ysgrifenu hyn, daelh y newydd fod y gŵr hwn wedi marw.

PEN. V.] SIR DREFÄLDWYN. 397

i le digon uchel, a rhoddi iddo lygaid digon craff, i weled holl barthau y dy- wysogaeth. Canfyddasai filoedd o ddynion a brofasent felusder yr efengyl eu hunain, yn troi allan ar y dde ac ar yr aswy i arloesi y ffordd o'i blaen. Gwel'sai gannoedd o ddrysau newyddion yn ymagor i groesawu gair Duw, a miloedd ar filoedd o ieuenctyd yn ymgasglu i'w ddysgu ! Golygfa na welsid ei chyffelyb erioed o'r blaen. Ysgogiad yn llawn bendithion i " dru- einiaid y mynyddoedd, a'r glynoedd a'r gîl ! " Edrychodd Duw i lawr o'r nefoedd, a bu foddlawn i'r amcan ; anfonodd ei Ysbryd, ac adnewyddwyd wyneb y ddaear.

Anhawdd ydyw i feddwl ystyriol a diragfarn beidio llochi y syniad fod rhagluniaeth yn hòni yr hawl i sefyll dros y rhai a noddent yr efengyl, yn gystal ag i ddangos gvvg yn erbyn ei gorthrymwyr, wrth olrhain ei belyntiou yn Nghymru tua dechreuad y diwygiad Methodistaidd. Canfyddwn fod y syniad hwn yn cael ei gadarjihau trwy ryw amgylchiadau cysylltiedig â'r ardal hon. Un tro, pan oedd Jeremiah Williams yn pregethu, mewn lle a elwir Dolgwyn-felyn, sylwyd fod yn y gynuUeidfa dri o bobl ieuainc, dau fab ac nn ferch, yn ymroddi i aflonyddu. Erfyniodd y pregethwr arnynt lawer gwaith i ymdawelu, ond yn gwbl ofer ; yn hytrach, parai hyn iddynt gynhyrfu yn fwy, a'i herio yntau yn waeth. Ymattaliodd y pregethwr dros enyd ; ac wedi ail ddechreu, galwodd sylw y gynulleidfa, gan ddyweyd, fod aro-raff cryf ar ei feddwl y deuai y tri aflonyddwr yn fuan i ddiwedd echrydus !

Yr oedd un o'r tri wedi dianc oddiwrth ei fyddin. Yn fuan wedi hyn, fe'i daliwyd, ac hebryngwyd ef ymaith o'i fro, ac ni chlybuwyd mwy am dano. Yn agos i'r un amser, cymerodd y ferch ieuanc wenwyn, a bu farw yn hunan- leiddiad ! A'r trydydd, o'r hwn yr oedd y ferch yn feiehiog, a fu farw yn fuan mewn dychrynfeydd annyoddefol !

Nid yn mhell oddiwrth yr un gymydogaeth, yr oedd gŵr arall yn pregethu (nid yw ei enw yn hysbys yn awr), yn agos i goeden fawr, yn yr awyr agored.. Dringasai dau frawd i'r goeden, a difyreut eu hunain yn mrigau y pren, trwy nadau blin, o wir ddyben i anhwylio y pregethwr, a dyrysu y cyfarfod. Dy- munodd y pregethwr arnynt yn fwynaidd a mynych i fod yn ddystaw, ond nid oedd dim yn tycio ; ac o'r diwedd dywedodd mewn modd cyffrous, ei fod yn credu y byddai llaw Duw yn erbyn y dynion hyny mewn amser byr,. ac mewn modd disymwth ! Yn gyfatebol i'r daroganiad, ar ryw ganol dydd hyfryd yn yr haf, aeth y ddau frawd gyda'u gilydd i ymdrochi mewn afon fèchan, a chafwyd y ddau wedi boddi, heb neb yn gallu dywedyd pa fodd ! " Peth ofnadwy yw syrthio yn nwylaw y Duw byw ! "

LLANGYNOG.

Mae Llangynog yn gorwedd agos ar derfyn gogleddol' y sir, ar y ffordd 0 Lanfyllin i'r Bala. Mae yn Ilechu mewn dyffryn bychan tlws, wedi ei gylchynu gan fynyddoedd uchel, ac yn mhell oddiwrth bob tre' farchnad. Bernir mai tua'r fl. 1770 y bu y bregeth gyntaf gan neb o'r Methodistiaid

398 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

yn y plwyf. Gadwyd yr oedfa hon yn nhŷ un Thomas Hugh, n elwid yr Eithin. Perchenogid y lle gan un John Evans, o Franas, a chafwyd cenad gan y perchenog, am unwaith yn unig, i gadw yr oedfa. Y pregethwr oedd Siôn' Moses, o'r Bala, taid y diweddar Barch. John Jones (Tegid), Perigh^r Nefern, sir Benfro. Yn fuan ar ol hyn, daeth y Parch. Peter WiUiams heibio, wrth fyned o LanfylUu i'r Baha, a phregethodd yn gyntaf ar íin y ffordd, yn Yrayl y Ue a' elwir Pen-y-garnedd, a thrachefn yn Llangynog, ar gareg farch, yn 'ymyl tafarn. Ar ol liyn fe ddeuai y pregethwyr, ag oedd yn preswyUo 'tref a chymydogaeth y Bala, yn fynych i ymweh^d â'r ardal, megys Siôn Moses, John Evans, a WüHam Evans, o'r Fedw-arian. A chan fod y Ue yn o-orwedd yn gyfleus o ranau isaf sir Drefahlwyn i'r Bahi, fe geid ambeU uii, yn awr ac eilwaith, o bregethwyr enwog y Deheudir, i ymweled â'r ardaL Yr oedd yr hen gampau a gedwid, yraron, yn mhob man yn Nghymru, yn y ganrif ddiweddaf, yn fawr iawn eu rhwysg yn Llaiigynog. Yraddifyrai y trigolion, heb nemawr eithriad, mewni Interludiau, gŵyl-mabsantau, ymladd ceiliogod, a throedio y bêl. Ond yn y cyfamser, anfonwyd yma ysgolfeistr o'r enw WiUiam IMatthews, i gadw ysgol ddyddiol yn eglwys y plwyf. Bu y gŵr hwn o wir fendith i'r gymydogaeth. Rhoddai ei wyneb yn egniol o blaid Uafur y pregethwyr Methodistíiidd a ddeuentyno, a gwnai a aUai i ddar- ostwng yr annuwioldeb pen-uchel a anurddai yr ardah

Yr oedd pregethwyr y Bala yn para i ddyfod, a phregethent mewn Ue a elwid Blaen-v-cwm, yn y Pennant ; ac oddiyno i le gyferbyn a Lhingynog, a elwid y Cloc, Y'n y Ue diweddaf hwn y bu y moddion yn cael eu cynal dros ryw ysbaid, ond nid heb beth aflonyddwch, a'r un a fu yn fwyaf blin wrtliynt oedd o-weinidog y plwyf. Hwn a ddeuai arnyrit, yn awr ac eilwaith, yn gyffrous a Uidiog iawn, gan ymosod arnyntyn ddiarbed, a'u curo ; a chymaint oedd Yi' aflonyddwch oddiwrtho, ag y bu gorfod arnynt symud eu Ue. Ar ol hyn, dros dymhor hir, ymgynuUent mewn hen ysgubor, a chadwent eu cyfar- fodydd eglwysig mewn gerUaw, sef Evan Parry. Yn nhŷ y gŵr hwn yr arferai y pregethwyr letya. Y''n fuan, beUach, cymerasant hen anedd dan ardreth, gan ei adgyweirio a'i gymhwyso i fod yu addoldy bychan ; ac er mwyn Uonyddwch i gyfarfod ynddo yn ddiogel oddiwrth sarhad yr erUdwyr, gosodasant yr addohly dan nawdd y gyfraith, yr hyn a fu yn foddion " i ostegu y gelyn a'r ymddialydd."

Ond er cael Ue penodol i addoU, a chael Uonyddwch oddiwrth erUdigaeth uniongyrehol, nid oedd yr achos ond isel a gwael yr olwg. Nid oedd nifer y dysgybUon ond bychan iawn, ac oU, ymron, yn dlodion. Yr oedd y tỳ yr vmo-ynuUent ynddo yn fychan, a Uwydaidd iaw^n, eto fe welodd yr Arglwydd yn dda ymweled â'i drueiniaid hyn ag adfywiad grymus ; rhoddwyd nerth mawr yn y weinidogaeth nes oedd swn a chynhwrf yn mhhth yr esgyrn sych-

ioii ; suo-nai hyn lawer mwy i wrando ; rhoddid argraffiadau difrifol ar

gydwybodau Uawer, fel na aUent hii ua pharchu yr achos a ddiystyrasid gy- maint ganddynt o'r bhien. Yr oedd y gwaith yn ymeangu ac yn ymwreiddio yn gyflym, ac nid oedd dim amlycach nad arwydd oedd hyn o foddlonrwydd

PEX. V.J 3Itt DREFALUWYN. 399

Y nefoedd iddo, gan nad mor fychan oedd ei gychwyniad, mor anwiw oedd yr offerynau, mor gryf oedd y rhagfarn a'r gwrthwynebiad, ac, nr y llaw arall, gan nad mor ddaionuâ oedd yr effeithiau, ac mor ddiamheuol oedd y llwydd- iant.

Ar yr un pryd, yr oedd Uawer o hen arferion y gymydogaeth yn parhau yn eu rhwysg. Oblegid, er ennill amryw i ymroddi dan iau Crist, nid oedd eu nifer ond ychydig iawn mewn cydmhariaeth, a phrin y gwybyddid eto fod achos gan yr Arglwydd yn y fro. Ond yr oedd gwawr yr ysgol Sabbothol wedi tori ar Gymru. Erbyn hyn, yr oedd Mr. Charles a'i gyd-weithwyr ar y raaes, a chychwynwyd yr ysgol Sabbothol yn yr ardal hon hefyd ; ond fe wnaed hyn mewn duU, a thrwy foddion lled ddiolwg. Dechreuwyd hi nid yn y pentref, ond yn ardal y Pennant ; nid gan y rhai a ílaenorent yr achos crefyddol, ond gan wraig weddw o'r enw Mrs. Sidney Jones, yr hon a fu yn ffyddlawn a Uafurus gyda'r gorchwyl dros ryw dymhor, a llwyddodd i ddysgu y rhan fwyaf o ieuenctyd ei hardal i ddarllen gair Duw. Yn mhen rhyw gy- maint o amser, dechreuwyd ysgol yn l.langynog, Yr oedd yma fawr angen am y fath sefydliad. Yr oedd y chwareu pcl ar dalcen yr eglwys yn ei lawn rwysg yn y pentref ; y gwŷr a'r gwragedd yn eistedd ar fur y fynwent i edrych ar y bechgyn yn chwareu, a'r person, yntau, yn ei ardd gerllaw, yn gwasanaethu yn ddyfal i ddwyn y gwaith enniUfawr (?) yn mlaen, trwy daflu y bêl yn ol os dygwyddai fyned trosodd i'w ardd ; y Sabboth yn cael ei hal- ogi gan bob gradd, heb fod neb yn meddwl am ei enaid. Pan oedd pethau yn y wedd hon, yr ymosodwyd at godi ysgol Sabbothol yn y pentref. Ac yn fuan ar ol hyn, dechreuwyd ysgol arall yn Rhiwarth. Yr oedd y cwm hwn hefyd yn suddedig mewn tywyllwch ac anfoes. Arferai lluaws o benau teuluoedd ymgasglu at eu gilydd ar brydnawn Sabbothau, i yraddyddan am yr hela, neu yr ymhadd ceiliogod a fuasai yn y fro, neu ynte am y ffair, y farchnad, neu helyntion eu cymydogiou. Blinai hyn feddwl gŵr crefyddol ag oedd yn byw yn Mlaen Ehiwarth, a barnodd mai y moddion tebygaf i ddileu y cynulliadau hyn, oedd dwyn ysgol Sabbothol i wahanol dai yn y gymydog- aeth yn olynol ; ac i bob yr ái yr ysgol, yr oedd y hwnw mwyach yn gauedig rhag yr hen gynulliadau. Fel hyn, wrth eu symud o i dŷ, a rhoddi blas i'r preswylwyr ar bethau annhraethol mwy sylweddol a pharhaus, fe ddarostyngwyd yn llwyr yr hen gyfarfodydd, fel nad oes yn awr ond coff- adwriaeth prin am danynt. Adeiladwyd ysgoldy gan Eobert Jones,* ar y Uannerch y byddai yr ieuenctyd amser yn ol yn cadw twmpath chwareu arno ; yr hwn ysgoldy a gododd gan mwyaf, os nad yn hoUoI, ar ei draul ei hun.

Oddeutu y fl. 1807, anfonodd Mr. Charles i'r Ile hwn \\t ieuanc crefyddol a siriol i gadw ysgol.f Cafodd,y cyfarfodydd llygredig ar y Sabbothau yn fawr eu rhwysg yn Llangynog, yn y Pennaní, ac yn enAvedig yn Hirnant, ond ddarfod tori llawer ar eu grym trwy foddion Iled hynod. Yr oedd gẃyl

* Y gẂT ag sycld jn byw yn Blaen Rhiwarth. f CafwTd yr hanes gan y gẁr

ienanc ei hun, yr hwn sydd jti awr mewn gwth o oedran, y" Parch. Kobert Evans, Llanidloes.

400 HANESIAETH Y SIUOEDD. [dOSB. IV.

fawr 0 ddawûsio, ar y pryd, yn cael ei chynal yn Hirnant, Ar ol yr oedfa yn Llangynog, aeth y gŵr ieuanc yno, yn llawn eiddigedd dros ogoniant üuw a sauteiddiad y Sabboth. Daeth yn ddisymwth i ganol y dawnswyr, gan gyfeirio ei gamrau rhwng y rhenciau at y ^'ŵr ,- yn yr hwn yr ymaflodd, gan ei orchyrayn i ynibarotoi i'r farn, i roddi cyfrif am ei waith yn halogi Sabbothau Duw. Gwnaeth hyn mewn dull mor ddisymwth ac awdurdodol, nes peri dystawrwydd yn y fan. Disgyuodd arswyd hefyd ar y chwareuwyr oddiar euogi'wydd cydwybod, nes peri iddynt oll ífoi ymaith gyda phrysur- -deb ; a gadawyd y crythor yn unig. Yr oedd braw wcdi ei ddal yntau hefyd, a chaed ganddo addunedu na ymheliai efe mwyach â'r fath wasanaeth. ^6 ddywed fy hysbysydd, ddarfod dywedyd wrtho yn mhen araser maith ar ol hyny, fod y crythor wedi cadw at ei adduned, a bod ei fy wyd blaenorol yn ofid iddo hyd ei fedd, gan arddangos arwyddion gobeithiol, fod ymgeledd gras wedi ei wneuthur yn greadur newydd. Parodd y tro hwn ergyd chwanegol ar yr hen gampau Uygredig, a pharhau a wnaethaut i adfeilio a syrthio, fel yr oedd goleuni gwybodaeth trwy weinidogaeth yr efengyl yn ymeaugu.

Crybwyllir am un amgylchiad lled ddigrifol a ddygwyddodd yn Hirnant ; amgylchiid a ddyry ddrychfeddwl lled gywir am yr anwybodaeth trwch a orchuddiai, nid Hirnaut yn unig, ond yr hoU wlad ymron, cyn sefydliad yr ysgolion Sabbothol, ac i bregethiad yr efengyl ymsefydlu ynddi. Yr oedd pregethwr o'r Deheudir o'r enw Morgan James ar ei daith yn y gymyd- ogaeth ; ac wrth iddo ymholi am yr athraw a gadwai yr ysgol, fe'i gwahodd- wyd ef i dŷ, yn yr hwn yr aneddai rhai a ddygeut gryn lawer o sêl dros hen -opiniynau a hen arferion, ond yn eithaf anghyfarwydd yn egwyddorion y grefydd Gristionogol. Wedi peth ymddyddan yn ngbylch Ihiaws o bethau íübwj's, dygwyddodd i wraig y sylwi mai gŵr o'r Deheudir oedd y preg- ethwr wrth ei iaith, a pharodd hyuy iddi ddyweyd,

" Fe fu yma offeiriad o'ch gwhid chwi yn gweini yn y llau yma am fwy na 50 0 flynyddoedd."

" Felly, yu wir," ebe Morgau James, " fe fu yma am dymhor maith, pa sawl un a gafodd ei ail eni yma dan ei weinidogaeth ? Fe lafuriodd lawer, boed siwr, ond a ail anwyd llawer yn y tymhor hwnw ? " Ar hyn cynhyrf- odd y gwragedd oedd yn y Ue yn ddirfawr, a dechreuodd un o honynt yiuofyn ;

" Pa beth yw ail eni y soniwch am dano ? Ni ail anwyd yma neb erioed mi wnaf Iw ; a gobeithio y daw pob peth o'r gorau yn y diwedd, heb yr ail eui ! "

" lë, îe, ail eni yu siwr," ebe y pregethwr. " A rhaid ydyw eich geni clmithaií drachefn." Yr oedd y mater yn ymddangos yn rhy ddwfn a dir- gelaidd i'r gwragedd allu gwneyd nemawr o hono, ond rhaid, er hyny, gan fod dadl wedi codi, gael taw ar y pengrwn. " Gau hyny," ebe un o'r gwragedd, " jt ydych chwi yn gofyn cwestiynau trymion i lawer ; caniatewch i minau ofyn ychydig i chMáthau."

" O'r goreu," ebe Morgan, " gofynwch."

" "Wel, ynte, pa le y tyfodd y pren y croeshoeliwyd lachawdwr y byd

PEX. V.] Sm DREFALDTv"YX. 401

nrno ?" Yr oedcl hyn yn mhell uwclilaw gwybodaeth y pregethwr, a gwclai yn y fan nad oedd fawr obaith iddo am oruchafiaeth ; ond nid oedd dim i wneyd ond rhoddi yr atcb goreu ag a allai, ac ebe efe :

" Nid oes un ateb i'r cwestiwu yn fy Meibl i."

Yr oedd y gwragedd erbyn hyn yn ymhyfhau, ac wele ofyniad dyrys arall :

" Pa faint o amser a fu Adda yn uffern ?" meddent.

" Ni fu ef yno erioed," atebai Morgan.

" Ow ! druan," chwanegai y wraig, " ni wyddoch ehwi ond ychydig eto yn nghylch pethau mawr eu pwys,"

" Ma'm" ! ebe Morgan yn bur frysiog, "nid yw pethauo'r fath o nemawr bwys eu gwybod, onide buasent yn y Beibl ; mae y cwbl yno sydd eisieu ci wybod am bob peth. Nid lle i fyned i mewn ac allan iddo ydyw uffern. Os aeth Adda yno unwaith, yno y mae eto !"

"Na, na, vvr dyeithr, nid felly chwaith," meddai y wraig. " Bu Adda yno ddwy fil o flynyddoedd, ond fe ddaeth oddiyno drachefn."

Ar hyn, bu dadl boeth drachefn ; ac fel yr oedd yn parhau, yr oedd yn poethi fwy-fwy, a gwelai y gŵ- dyeithr mai doethineb oedd iddo ef gilio o'r fi'ordd, a rhoi y maes i'w wrthwynebydd, a hyny gàn gynted ag a allai : ac felly y gwnaed, a phob ochr yn llochi syniadau isel iawn am wybodaeth yr ochr wrthwynebol.

Ni anghofiodd Morgan James byth mo'r tro hwn. Bob amser y rhoddid iddo ymddydclan â rhyw un o'r fro, byddai yn wastad yu yniofyn am y a'r tylwyth uchod ; a chwanegai yn wastad, " Ni fum i erioed yn fy oes mewn fath yraladdfa ! "

Ond i ddychwelyd. Nid oedd yr addoldy yn Llangynog, fel y dywedwyd, ond hen llwydaidd, a'r llofft oedd arno ond rhidyll-giwyd ddigon ysig. Yr oedd, bellach, yn cacl ei lenwi â gwrandawyr, yn enwedig ar rai achlysuron. Ar ryw nos Sabboth, yr oedd y Parch. Evan Grifiìths, Meifod, yn pregethu yma, pryd y Uanwyd y llawr a'r llofft o bobl. Aeth yr oedfa hon heibio heb niwaid ; ond erbyn tranoeth, caed un pen i'r hen wedi syrthio, a lle agored i'r gwynt a'r gwlaw ddod i mewn. l'r oedd y llc, belJach, wedi myned yn anghysurus iawn ; eto, gau nad oedd gan y trueiniaid tlodion un Ile gwell i fyned iddo, uid oedd ond gwneyd a allent i^r hen fel yr oedd. Llan- wasant yr adwy agored, gan hyny, â gweìlt ; er hyny, yr oedd gwynt a gwlaw yn cael eu ffordd i mewn, abyddai raid, ar rai achlysuron, gael llusern (lantern) i ddodi y ganwýll ynddi, rhag ei chwythu allan. Nid oedd ar y pryd oncl deg neu ddeuddeg o grefyddwyr yn perthyn i'r achos, ac anmhosibl oedd iddynt hwy, heb gymhorth lawer, adeiladu addoldy newydd ; eto yr oedd angen am un yn gwasgu fwyfwy, a thosturiodd eu brodyr yn y sir wrthynt, gan addaw, os caent le i adeiladu, y cynorthwyid hwy i godi yr adeilad. Ys- grifenwyd, ganhynj', at foneddiges yn sir Fflint, yrhonoedd j-n berchenog ar dir mewn lle cyfleus, gan ddeisyf ei hynawsedd yn yr achos. Hithau a addawodd ddyfod cyn hir i weled y Ue : ac yn ol ei haddewid hi a ddaeth. Ond ar ci fí'ordd, galwodd gvda boneddwr adnabvddu3 iddi, a dangos-

2 c

402 HANKSIAETII Y STROEUl). [DOSB. IV.

0(1(1 Y llythyr a gawsai yu ngliylch cael tir i godi capel arno. Aiighymer- adwvodd v boneddwr yr amcan yn fíìwr, a cheisiodd ei darbẅyllo hithau â'i holl eo-ni i wrthod y cais, gau sicrhau i'r wraig íbneddig na wuaethai ef mo'r foth beth er dira, ac nad oedd yr uu boneddwr yn y wlad a wraudawai ar y fath bobl, a chaniatâu iddyut y fath gais. Bellach, yr oedd yr olwg yu ddû iawu, Aeth y foueddiges i Luudain, ac ymddaugosai fod pob gobaith am dir y capel wedi colli. Ond yn Llundain, daeth merch y foneddiges yn gyd- nabyddus â boneddwr llai ei ragfaru at yr Ymueülduwyr na Uawpr o'i radd, yr hwn cyn hir a'i priododd. Caed aHan fodgorucliwyliwr y boneddwr hwn vn uu o'r Methodistiaid, yr hwn, wedi ei hysbysu, a osododd yr amgylchiad gerbron ei feistr, ac ar ei gais, y tir a gafwyd. Adeiladwyd y capel yu y fl. 1826 ; tua 60 ml. ymron ar ol dechreu pregethu yn yr ardal. Ehoes adeiladiad y capel ysgogiad grymus i'r achos yn ei flaeu. Wedi cael lle cyfleus i addoli, lluosogodd y gwrandawyr ; a Duw a ddug dystiolaeth i air ei ras, nes y chwanegwyd amryw at yr eglwys. Yn mheu tung 11 ml., sef yn y fl. 1840, bu raid helaethu y capel, oherwydd ei fod weithian yn rhy gyfyng i'r rhai a gyrchent iddo i wrando.

HIRNANT.

Buwyd yn llafurio yu y lle hwn, er y fl. 1810, dan lawer o ddigalondid ac anfantais, am ysbaid 20 mlynedd heb fod nemawr o arwydd fod neb yn yr ardal wedi cael ei ddychwelyd. Nid oedd neb chwaith yn y lle yn ewyll- ysgar, nac yn alluog, i roddi na llety ua Uuniaeth i'r pregethwyr a ddeuent yuo i bregethu. Yr uuig gyfnerthiad a gaeut oedd Uymaid o ddwfr allan o gwpan breu a fyddai ar fiu fí"yuou fechau gerllaw drws y y pregethent yuíldo. Fel hyn y bu y gwaith yn eiddil a nychlyd dros hir amser ; a pharhau yr oedd y cyfeillion i anfon yno rai i gynal moddion dros yr hoU amser ; o'r diwedd, cyfi"rôdd yr Arglwydd feddwl gŵr cyfrifol yn yr ardal, yr hwn oedd yn arfer gwrando gyda chysoudeb, i ymofyn ag ef ei hun, pa beth a allai fod yn cymhell y cenadon i ddyfod atynt mor gyson, ac am amser mor faith, piyd nad oedd neb yn y fro yu dangos un parodrwydd i'w cynorth- wyo na'u croesawu. Meddyliodd hefyd fod rhagluniaeth wedi bod yn dda wrtho ef, ac y dylasai yntau wneuthur rhywbeth o blaid achos yx efengyl. Y''rauuodd ef, gan hyny, a'i wraig, a dau eraiU yn y gymydogaeth, â'r eglwys yn Llangynog. Agorodd ei dŷ, bellach, i dderbyn pregethu iddo, ac i letya y pregethwyr eu hunain, Ehoes ei ysgwydd dan yr achos yn ei holl am- gylchiadau : a clian fod y gwaith dan ryw anfantais, o ddifl'yg penodol i addoli ynddo, cafodd ar ei feddwl godi capel bychan yn ei gymydogaeth, a hyi^y íir ei draul ei hun. Y^ mae cymdeithas eglwysig, bellach, wedi ei sefydlu yn y lle hwu, a phregethu Ued gyson, mewn undeb â Llangynog.

IMae chwedl lled hynod ar gael am gyfryngiad rhagluniaeth yn erbyn pech- adur rhy anuuwiol yn ardal Llangynog, yn yr amser yr oedd pregethu ymron

PEN. V.] SIR DREFALDWYN. 403

yn decbreu. Dywedir fod Dafydd Morris * imwaith yn pregetlui yma pan ar ei daith trwy y wlad. Safai wrth ddrws y tafarn, a chyferbyn iddo yr ochr arall i'r íFordd yr oedd tair coeden yn tyfu gyda glàn yr afoii. lihyw- bryd ar ol dechreu y bregeth, daeth dyn meddw lieibio, yr hwn a waeddai allan, wedi pobymadrodd o eiddo y pregethwr, "Celwydda ddywedi T Parha- odd i wrthddywedyd dros ryw cnyd, a chynhyrfwyd y pregethwr o'r diwedd i ddátgan yn nghlyw y gynuUeidfa, " Gwrandewch ! bydd y tair coeden yna yn dwyn tystiolaeth yn erbyn y dyn y na yn y farn ; os na oddiwedda dialedd ef cyn hyny." Sylwodd y bobl ar y dywediad, ac yn mhen ychydig o amser dygwyd y dywediad i gôf drachefn, trwy i'r un dyn yn ei feddwdod ar ryw nosM^aith syrthio dros y mur i'r afon, a boddi. Yr oedd hyn ó fewn ychydig latheni i'r lle y safai y gŵr dyeithr arno i brcgethu ! " Na fydd rhy annuwiol : ac na fydd ífol : paham y byddit farw cyn dy amser ?" Preg, vii. 17.

Gellir cael golwg ar ansawdd crefydd yn ILan y plwyf ar gychwyniad Methodistiaeth, trwy y chwcdl a ganlyn. Un tro, yr oedd Siôu Moses o'r Bala wedi bod yu cadw oedfa, ac ar ol darfod aeth cf ac eraill gydag ef i'r llan i wrando yr offeiriad. Yr oedd yr offeiriad y pryd hwnw yu gwasanaetliu dwy eglwys, ac yn fliu ei deimlad gan bwys ei hifur. Wedi darfod y gwas- anaeth, daeth at y pregethwr, gyda gradd o sirioldcb, oherwydd y parch a roddasid iddo trwy ddyfod i wrando arno, ac a ddywedodd, " Mae arnaf fi eisiau cyw rhad garw iawn i'm cynorthwyo." " Yn wir, Syr," ebe Siôu Moses, "ui wn i ddim pwy gewch chwi rhatach na ni." Cymerwyd yr ateb yn siriol, ac wedi ychydig o ymddyddan peîlach, ymadawsant. Pa beth a ellid ei ddysgwyl oddiwrth y fath fugeiliaid ? Y cyfryw, pa fodd bynag, oedd clerigwyr Cymru, heb ond ychydig eithriaid, yu y ddcuuawfed ganrif, a pha drugaredd mor fawr oedd i lewyrch goieuni dori ar dywyllwch mor arswydus !

Ni a grybwyllasom am y gwasanaeth a wnaeth yr ysgol Sabbothol i ymb"d ymaith dywyllwch y fro, ac i ddarostwng ei drwg-arferion ; dylem hefyd ddyweyd i ysgolion dyddiol rhad fod yn wasauaethgar iawn i'r un dyben. Y uesaf ar ol William Matliews, tybygid, oedd uu Thomas Mcredith, ac wedi hyny Eobert Evaus ; y ddau ohif hyn o appwyutiad Mr. Charles o'r Bak. Bu llafur y Parch. üobert Davies, gynt o'r Brithdir, ac yn ddiweddar o Lanfair, yn wir fendithiol i'r ardal hon a'r rhai cylchynol, fcl y gwelir yu mheUach wrth fyned yn mlaen.

RIIOS-y-BRÍTHDlU, PLW^YF LLANIUIAIADR.

Mae Rhos-y-Brithdir yu sefyll rhwng Llanfylliu a Llausiliu, ar derfynau siroedd Dinbych a Threfaldwyn. Nid ydym yn cael fod pregethu yn yr ardal hon gan y Methodistiaid, hyd y fl. 1760. Cyu hyny, yr oedd yr un fath wedd ar yr ardal hon ag oedd yn anurddo y dywysogaeth. Yr oedd y trigolion yu aros yn foddlawn mewn perffaith ddyeithrwch i bethau yr cfengyl ;

* Dywcd rhai iiad oc? sicrwydd pwy oedd y gŵr dyeithr.

404 IIANESIAETII Y SIROEDD. [dOSB, IV.

anwybodactli tYv:c\ì a düai yr holl wlacl lialogi Sabbothan, gyda pliob math 0 chwareuon ac ofer-gampau, oecld yn ffynu ar bob llaw. Ymddcngys, pa fodd bynag, fod rhyw ddau ueu dri yn y fro wedi clywed yr efeugyl yn rhy wle, ac wedi profi ei bhis a'i grym. Cododd awydd ynddynt trwy hyny am i eraill gael etifeddu yr un peth a hwythau ; ac i'r dyben hwn ceisiwyd pregethwr i draethu i'w cymydogion " hoU eiriau y fucliedd hon." Dy- Avedir mai yn nhŷ un Dafydd Davies, Moel-y-froches, y bu y bregeth gyntaf yn y plwyf hwn, sef plwyf Llanrhaiadr. Nid oes sicrwydd pwy oedd y pregethwr, ac nid oes hanes pa effeithiau a ddylynasant y bregeth. Dylynwyd hyn ag oedfaon eraiU mor aral ag y ceid pregethwyr, ac yn mhen enyd ym- gorfforwyd yTi gymdeithas eglwysig fechan. Cedwid y cyfarfodydd eglwysig hyn yn yr un tŷ, ond nid oedd nifer yr aelodau ond tri, heblaw Dafydd Davies a'i wraig ; y tri eraill oeddynt, Ehys Davies a'i wraig, ac Owen Jones. Yr oedd pregethwr o'r enw Thomas Morris yn dyfod atynt yn fynych i'w cynorthwyo, yr hwn, tybygid, oedd yn byw ar y pryd yn y Brithdir. Symudodd y pregethwr o Foel-y-froches i'r Rhos Isa' ; ac yma yr arosodd dros dymhor lled faith, Symudodd eilwaith i le a elwid Cae-pant. Yn y Ue diweddaf hívn y dechreuwyd cadw ysgol Sabbothol, ac yn y Ue hwn y parhaodd y pregethu hyd nes y codwyd y capel ; ond symudwyd yr ysgol i heu wraig o'r enw Siân Howel, yn agos i'r fan y mae y capel yn awr yn sefyll. Yr oedd nosweithiau llawen yn arferol o fod yn nhŷ yr hen wraig hon ; a chynelid hwy yno, nid yn unig er mwyn difyrwch i"r rhai a ddeuent iddynt, ond hefyd er mwyn cynaliaeth i'r hen wraig. Wedi dwyn yr ysgol Sabbothol i'r tŷ, gwelai rhyw rai yu y fan fod yn rhaid i'r naill gyfarfod neu

V llall giHo, gan na chydweddai yr ysgol Sabbothol a'r nosweithiau Uawen â'u gilydd. Am hyny, cynygiodd rhyw rai i'r hen Wraig y gwnaent ei cholled i fyny, os rhoddai heibio y cyfarfodydd hyny ; hithau a gytunodd â'r cynygiad, ac ni fu yno noswaith lawcn byth mwy. Bu yr ysgol yn ei thŷ dros rai blynyddoedd, a hyd nes adeiladuy capel yn y fl. 1807. Cafwyd

V tir i'w adeiladu gan Mrs, Jones, gwraig y diweddar Barch. Abraham Jones, a daugoswyd ffyddìondeb mawr gan y cyfeillion a'r eymydogion i ddwyn y gwaith i ben.

Nid hir ar ol codi y capel y bu cyn i'r Parch. Eobert Davies ddyfod yma i fy w, a thra llafuras a llwyddiannus a fu. Nid un ganedig o'r rhan hon o'r wlad oedd ef, ond o blwyf Cemmaes. Dechreuasai bregethu pan oedd tua 2^ mlwydd oed. Te ddaeth i'r Brithdir o dyddyn bychan yu mhlwyf Llan- fair. Cafodd y wlad hon, o Langynog i Groesoswallt, ymron yn Ilwyr araddifad o bregethu yr efengyl, heblaw yr hyn a elwid, neu a gam-enwid felly yn Ilanau y plwyfydd ; oud ar yr un pryd, yn llawn o anwybodaeth ac arferion drwg. Yn yr olwg ar agwedd dywell a llygredig y bröydd o'i amgylch, cynhyrfai ei euaid ynddo, ac ymosododd g\"dag egni ac ymroddiad anarferol i arloesi yr anialwch gw^yllt : a bu yn llw\'ddiannus hwnt i bob dys- gwyliad, fel y ceir gweled eto. Mae hanes y Brithdir, bellach, yn ymgysylltu â hanes Llanrhaiadr a'r amfi;vlchoedd.

PEN. T.] SIR DEEFALDWYN. 405

LLANUIIAIADU-YN-MOCHNAKT.

Nid yw Methodistiaeth y fro hon yu gallu hòni nemawr o heuafiaeth. Yr oedd pregethu yn Llangyuog ar un Uaw, ac yn y Brithdir ar y Uaw arall, cyn bod dim o'r fath yn y Uan, Yr oedd pregethu dros ryw dyrahor, ac ar umserau, mewn Ue a elwir Llwyn-bryn-dinas, lle ar ochr y fíbrdd rhwng Llanrhaiadr a Chroesoswallt, tua 4 miiltir o'r Ue cyntaf, Yr achos fod y pregethu yno oedd, nad oedd neb yn y llan a'i derbyniai i : a phan y byddid yn achlysurol yn auturio dyfod yn nes, yr oedd dyuionyn y pentref yn barod i'w hymlid ymaith. Ond yn Llwyn-bryn-dinas y caent lonydd, gan eu bod hwnt i dcrfynau plwyf Llanrhaiadr, ac o fewn plwyf Llangedwin.

Dywedir fod rhyw bregethwr, ar ei waith yn dyfod yn rhy agos i gyífiniau Llanrhaiadr, wedi cael ei ymlid ymaith gan oíFciriad o'r enw Dr. Worthington : yr hyn, tybygid, a roes anrhydedd chwanegol i'w enw yn mysg boneddwyr yr ardal ; oblegyd dywedir iddo, pan oedd, ar oly tro uchod, yn myned tua Llan- fyllin, weled uwch l^en porth yn arwain at rhy w ŵr mawr, y llincUau hyn :

" Ymagor bortli, ac na fydd gaeth I Dr. Worthiagtou a'i fath."

Ac iddo yntau chwauegu

" Bydd gauad borth, nac agor byth l'r un o'r rhith fugeiliaid."

Oddeutu yr adeg hou, daugosodd amaethwr cyfrifol, yr hwn oedd yn byw gerllaw Llwyn-bryy-dinas, mewn Ue a elwir Brynhadla, garcdigrwydd i'r achos crefyddol drwy agor ei i'r pregethu. Nid oes sicrwydd i ba enwad crefyddol y perthynai y g\vr hwn : ond bu pregethu achlysurol yn ei dros ryw dymhor. Nid oedd y pregethu, pa fodd bynag, ond achlysurol, ac i raddau mawr yn ddieffaith, dros iawer o flynyddoedd. Ar yr un pryd, cawn le i gasght y byddai, ar ambell oedfa, ryw gyíi'ro rhyfeddol yn mysg y gwrandawyr, nes y byddent yn tori allan i waeddi ac i foliaunu. Ar un achlysur, yr oedd un o fechgyn y Brithdir yn moUannu yn y modd yma, a hyny Ue y clywai person Llanrhaiadr ef; a chododd ei flbn uwcliben y bach- gen, gan ei fygwth i dewi, íe, a gwneyd peth uiwaid iddo. Yr oedd y sou wedi dyfod i glustiau y gŵr parchedig, fod y pregethwyr yn gyrn dynion o'u côf, a chlybuwyd ef yn dyweyd, " Pe cawn i afael arnynt ! " ac yn y fau i'r bachgen ddyfod dan orfoleddu i'w gyrhaedd. Ymaflodd yntau ynddo, gan ddyweyd, " Dyma un yrŵan o'i gôf, a phwy a ŵyr a ddaw ef bvth ato ei huu!"

Nid ydym yn cael, cr hyuy, fod yr un o olynwyr Dr. Worthington wedi ar- ddangos nemawr o wrthwynebiad ífyrnig i'r pregethu ; ond gwŷr oeddynt, tebyg i Galio gynt, Ued ddiofal pwy a brcgcthai neu pa beth. Daeth rhy wun i achwyn wrth Mr. W , olynwr Dr. Worthington, fod y ^lethodistiaid

406 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

yn dyfod i bregetliu i'r plwyf, a'i ateb yiitau iddo oedd, " Gadewch iddynt ; os ydynt ar ddaioni, liwy a gynyddant ; oud os ar ddrwg, hwy ddarfyddant ! " Y dysgriíìad a roddir o Llanrhaiadr yn yr adeg hon, sydd fel hyn : " Yr oedd y wlad hon yn llawn o chwarcuyddiaethau, IJawer o honynt ar y Sab- bothau ; luterludiau, ymladd ceiliogod, ymryson rhedeg, nosweithiau llawen, a gŵjdmabsantau. Pob prydnawn Sabboth teg yn yr hâf a dreulid mewn chwareu pêl ar glochdy y llan, a phrin yr arosid i'r gosper ddybenu, gan yr awydd i ddechreu ; wedi blino chwareu, elid i'r tafarnau, a dybenid y dydd, y chwareu a'r yfed, trwy feddwi ac ymladd â'u gilydd. Yn ystod y chwareu, y clochydd a gadwai chwareu teg i'r chwareuwyr ; ac ar Sabbothau a g\vyl- mabsant, ymgasglai cannoedd o bob oedran i'r fynwent, a pharhäai yr oferedd dros ddydd Llun a ÄLiwrth.

" Deuai yr hen bobl i'r eglwys ar foreu Sabboth gyda lluaws o fân neges- euau, ond ar yr un pryd dan esgus addoli. Yr oedd eisieu pedol neu ddwy ar y ceíîyl, yr oedd eisiau gweled y saer, a chael rhyw nwyddau o'r siop. Yr oedd rhyw bethau ar goll, neu ynte wedi eu cael, a defnyddid yr achlysur i hysbysu hyny, pryd y rhedai un ar glawdd y fynwent, gan gyhoeddi y cyfryw bethau ; neu ynte fod íîair ar eiddo rhyw un ; neu fod y cigydd yn Uadd buwch dew arun o'r dyddiau canlynol."

Sonir, pa fodd bynag, fel yr oedd goleuni yn ymledaenu, fod un offeiriad o'r enw Mr. Jones wedi gwarafun chwareu pel ar y Sabbothau, ac i'r ieu- enctyd ddawnsio, o leiaf nes i'r Sabboth fyned heibio. Yn awr, y mae amser y gvvylmabsant wedi ei golli o gôf y mwyafrif o'r ieuenctyd, a'r twmpathau chwareu wedi eu gorchuddio â gwyrddlesni.

Fe fu y Parch. John DaYÌes, sefyr hybarch genadwr yn Tahiti, pan yn lled ieuanc, dros hanner can mlynedd yn ol, yn cadw ysgol ddyddiol yn y lle hwn. Cadwyd unwaith bregethu cyhoeddus un Cyfarfod INIisol yma, pryd yr oedd y cyfarfodydd neUlduol yn cael eu cynal yn y Brithdir. Sonir am Ismael Jones yn pregethu unwaith yn ymyl tafarn, gan sefyll ar gareg farch, ae iddo gael ei lucliio gan ryw ddyhiriaid, nes oedd ei waed yu IHfo. IMynych y soniai ar ol hyn, pan y deuai i Lanrhaiadr, am yr amgylchiad, a chwanegai, " Maent hwy yn y bedd er ys talm, a minau wedi hen faddeu iddynt." Ad- roddir hefyd am Lewis Morris yn pregethu yraa unwaitb, a bod y warden wedi cael ei anfon i edrych a oedd ganddo Licence. Ar ol y bregeth, aeth i'r tŷ, a gofynodd a oedd y pregethwr yno ? Ar hyn cododd y pregethwr, yr hwn oedd, fel y gwyddom, yn fawr o faintioli, a'r pryd hyny yn ei nerth, a dywed- odd, " Dyma íì, beth sydd eisiau? " Pan welodd y warden ef, dywedodd dan grynu, " Fy meistr a'm hanfonodd atoch i ymofyn a oes genych Licence." " Perwch i'ch meistr ddyfod yma ei hun, ac fe gaiff ei gweled," oedd yr ateb.

Ar ryw adeg foreuol, nid oedd yma oud dwy wraig yn proffesu ; ond os oedd eu nifer yn fychan, yr oedd eu hysbryd yn rhagorol ; ac i'r Brithdir yr aent i'r moddion. Lled hir a fu Methodistiaeth cyn cael lle i ymsefydlu yn y llan. Arferid pregethu mewn amrywiol fanau o amgylch y Uan cyn cael safle ynddi. Bu y Peirch. Eobert Evans, Llauidloes, a Thomas Davies, Llan-

?KN. V.] SîSl Di'EFALDAWN. 407

wyddelan, yraa yn cadw ysgol ddyddiol flynyddoedd lawer ar ol John Davies, Tahiti. Prcgetliid liefyd inewn amaethdy o'r enw Ceunant, wedi hyny niewn lle a elwir y Tŷ-ucha', o fewn hanner milldir un ochr i'r llan. Ai y pregetliwyr oddiyma trwy y llan, i'r Gefnir-fach, ac oddiyuo yn ol i'r Erithdir. Anturiwyd drachefn i bregethu ar ryw adegau teg yn yr hâf yn y llau, o dan gysgod rhyw ddau bren cysgodfawr llanerch a ddefnyddid gau wahanol enwadau crefyddol, pawb yn eu tro. Cofus iawn gan lawer eto ydyw un oedfa a gadwyd dan gysgod y coed hyn. Y pregethwr ydoedd Edward Goslet, 0 sir Fynwy. Cerddodd grymusderau gyda'r weinidogaeth y tro hwn, nes oedd teimLidau pawb yn cyffrôi, a'u llygaid yn ddagrau.

Parhaodd llawer o'r hen arferiou i ddal eu penau i fyny er pob peth ac er pawb, hyd nes daeth Eobert Davies i fyw i'r Brithdir. Yr oedd y brawd hwn yn llawn o wroldeb meddwl, ac o ysbryd cenadol, Pregethai yn mhob mau y caniateid iddo, ac ymgasglai torfeydd lluosog i wrando arno. Gal- wyd ugeiniau, yn ddian, trwy ei weinidogaeth. Rhoddai brofion lawer o'i gywirdeb a'i ddifrifwch mewn üafur dygn, a dagrau lawer, ac anrhydeddwyd ef i fod yn offeryn i ddarostwug y cynulliadau llygredig a fuaseut yu uchel eu bri dros oesocdd cyn ei eni ef.

Y capel cyníaf a adeiladwyd gau y ]Methodistiaid yn yr ardaloedd hyn oedd yn y Cymdŷ ; wedi hyny, codwyd y capel sydd yn y llau yn y fl. 1838. Yn y fl. 1839, adeiladwyd un arall ychydig dros fiUdir o'r llan, yr hwn a elwir " Elim," i'r hwn y symudwyd y moddion o'r Tỳ-ucîia'. O fewu dwy filldir i'r llan, mewn dyffryn is-Iaw, adeiladwyd capel arall yn y fl. 1845 mewn ardal a elwir Pentrefclin. Yn y flwyddyn ganlynol, sef 1846, adeilad- wyd y pumed capcl yn Maen-gwynedíl ilae capel Elim wedi ei godi ger y lle a fuasai gynt yn bit ceiliogod, a'r Cyradŷ yr un modd ar hen dwmpath chwareu. Costiodd y capelau bychain hyu yn mhell ar fil o bunnau yn lle yr anwybodaeth a orchuddiai yr hoU fro gyut, y mae yma ganuoedd o ieuenctyd y wlad bob Sabboth dan addysg. Pregethir yr efengyl yn mhob cwm ; mae yr hen gampau fí"ol wedi Uwyr ddifianu ; a rhai cannoedd, fel y bernir, o'r dechreu hyd yn awr, wedi cael eu gwir ddycliwelyd at Dduw. Fel hyn, o ddechreuad bychan, a thrwy oft'erynau gwaei, y dug yr Arglwj'dd ei amcanion grasol i ben. Trwy y fath ysgogiad dirwysg y gorchfygwyd rhagfarn cryf y wcrin, a gwrthwynebiad cryf y gwŷr mawr, acyrhoddwyd i drigolion tywyll y cymoedd a'r bryniau, " glywed, yn eu hiaith eu hunain, yn yr hon y'u ganed, fawrion weithredoedd Duw."

Heblaw Hobest Davies, Llauwyddelan, bu y Parch. Abraham Jones yn Uafurio llawer yn yr ardaloedd hyn ; John Owens hefyd, gynt o Lanbryn- mair, ac wedi hyny o America, lle hefyd y bu farw, John Williaras, Pridd- bwll, a .John Evans, yuawr o America, a fuont ífyddlawu gyda'r un gwaitfa. Gellid enwi rhai eiaill, ieuangach na'r rhai hyn, y rhai ydynt eto ar y raaes yn rhyw barth o'r wlad, yn prcgcthu Crist i'w cyd-ddynion, megys Edward Williams, D. Humphreys, D. WiUiams, Edward Hughcs, Joscph Thoraas, a John Lewis, gyut o'r RhosHanerchrugog.

408 HANESIAETH Y SIROEDD. D03B. IT.

CARNEDDAU.

Aiílal yiv hon sycld o í'ewn ychydig fiUdiroedd i dref Croesoswallt (Oswes- iry). Y modd y dywedir i bregethu gael ei ddwyn i'r ardal hon gan y Meth- odistiaid, oedd i ddau frawd * fyned i Lanarraon-dyífryn-ceiriog i wrando ar William Evans, o'r Fedw-arian, gerllaw y Bala ; ac ar ol i'r oedfa ddarfod, iddynt fod yn daer ar y pregethwr i ddyfod i'w hardal hwythau ; îe, cymaint, meddir, oedd eu hawydd a'u taemi, fel yr aethant ar eu gliniau o fiaen y pregethwr ; llwyddasant hefyd yn eu cais, a hyn a fu y moddion i ddwyn y marworyn cyntaf yno. Nid oes hanes am ddim nodedig wedi cymeryd lle yn nygiad yr achos yn mhien yn y lle hwn; ond er nad oes dim cyíFrous i'w groniclo, eto y mae hyn i'w ddadgan, fod crefydd a gweinidogaeth yr efengyl, mewn modd graddol a dystaw, enniU dylanwad helaeth yn yr ardal, a pharch cyffredinol oddiwrth y trigolion.

CROESOSWALLT.

Mae hanes cychwyniad Methodistiaeth yn y dref hon yn ymgordeddu mor llwyr â'r hanes a roddwyd am modryb Susan,f fel nad oes nemawr o ddim ychwanegol i'w draethu. Bu Susan farw, ond y mae Methodistiaeth eto yn aros. Cafodd ddyfodfa i'r dref Seisuigaidd trwy wreigan o Gymraes dlawd a diddysg, ond cymerodd wraidd ac a gynyddodd. Mae yr achos yma, fel yn yr hoU drefydd ar gyífiniau Lloegr, a lle y mae yr iaith Seisonig yu ffynu fwyaf, dan lawer o anfanteision ; eto y mae cystal gwedd arno, hwyrach, ag a ellid dysgwyl fod dan yr amgylchiadau. Gwelsom yn yr hanes a rodd- wyd, fod addoldy wedi ei gael cyn i Susan farw. Bu y diweddar Mr. Charles, o'r Bala, yn ymdrechgar iawn i gael y capel i fyny, gan fyned o amgylch y dref gydag un o'r cyfeiUion i gasglu tuag at y draul. Yr oedd chwaer i'r Parch. Simon Lloyd, o'r Bala, yn byw yn y dref ; hon hefyd a ddangosodd ymlyniad cryf wrth achos y Cyfryngwr dan lawcr o anhawsderau, oblegid yr oedd ei gŵr, Mr. Gwynne, yn ddyeithr, îe, yn wrthwynebol i grefydd, ac y mae ol addysgiadau ac esampl y fam i'w ganfod hyd heddyw ar amryw o'i phlant. Yn y fl. 1824, helaethwyd y capel, ac yn y fl. 1836 adeiladwyd y capel presenol, yr hwn sydd adeihid hardd rhagorol, mwy felly nag un capel arall gan y cyfundeb yn y rhan yraa i'r wlad. Dangoswyd ffyddlondeb a haelioni mawr gan yr ycliydig grefyddwyr Cymreig yn y dref i gyfarfod â'r draul fawr a aeth i'w godi, ac y maent wedi llwyddo i leihau fwy na'r dryd- edd ran o'r draul gyntefig.

Fe fu yma amryw o bregethwyr, o bryd i bryd, yn preswylio, ac yn gwas- anaethu eu rhan i ddwyn yr achos yn mlaen, megys Mri. Foulk Parry, Ed- ward Price, Johu Edwards, Robert Davies, ac yn ei flynyddau diweddaf, Humphrey Gwalchmai; Daniel Davies hefyd, yr hwn a fu dros amser yn preswylio yn Cefn-canol, ond a ymfudodd ar ol hyny i America.

* Sef Robert Williams a Robert Danicl. f Cyf. I., tudul. 304- 308.

PEN. V.] SIB DllErALDWYN. 409

Y mae Ihiaws o eglwysi, mwy neu lai eu maintioli a'u lienafiaeth, gan y Methodistiaid yn britho y rhanau yma o'r wlad, am y rhai ni ddaeth dim hys- bysiad i law ; megys Cefn-canol, Lhmsilìn, Ehiwlas, íiwern-y-bant, ac eraill amryw, am y rhai digon ydyw dyweyd eu bod oll, ymron, wedi eu sefydlu trwy foddion cyffredin, a thrwy lafur a flyddlondeb rhyw grefyddwyr a berthynent yn wreiddiol i fanau eraiU, ond wedi eu symud iddyut i breswylio, a thrwy hyny roddi lloches i'r ysgolion Sabbothol a gweinidogaeth y gair, nes casglu cynuUeidfaoedd Uuosog, a chodi capelau eang a chyfleus. Mae amryw o'r lleoedd uchod yn perthyn i ddosbarth crefyddol sìr Drefaldwyn, er eu bod o fewn fíiniau sir Ddinbych.

Ymddengys fod Uafur y Parch. Robert Evans, yn awr o Lanidloes, yr hwn, fel y soniwyd, a fu yn cadw ysgolion dyddiol yn ei ieuenctyd, dan arolygiaeth ]VIr, Charles, wedi bod o ddefnydd neiUduol i roddi ysgogiad i Feíhodistiaeth yn y parthau hyn o'r wlad. Medd ef ei hun ; " Yn y fl. 18Ü8, mudwyd fi i Lansilin.* Dechreuwyd cadw yr ysgol mewn rhan o y tlodion, yn nghẁr uchaf y peutref. Nid oeddwn yu gwybod am uu crefyddwr o un enwad am dair milidir o gwmpas. Yr oedd achos crefyddol wedi bod yn y Lawut, ond yr oedd hwnw wedi syrthio, y crefyddwyr wedi eu symud, rhai i'r bedd, a rhai wedi myned i ardal y Carneddau i fyw. Y'r oedd yr holl fro, gan hyny, yn anialwch gwag erchyll, ac heb ddim ofn Duw yn y lle. Yr oedd yma, er liyny, un hen ŵr yn hofl' o wrando, ac Avrth ymddyddan ag ef, deallwyd mai dymunol fyddai gwneuthur cais ar ddwyn yr efengyl i le, heb fod yn mhell, o'r enw Llangadwaladr. Penderfynwyd cynyg ar y gorchwyl, a chafwyd addewid am oedfa yno ar ryw brydnawn Sabboth ; ond aeth y son ì glust- iau gwrthwynebwyr, a chasglodd lluaws mawr o Lansilin, Cymdŷ, a Ilhiwlas, yn Uawn cynddaredd, a lluchiwyd y pregethwr, a'i bleidwyr, â darnau o lechau ; clwyfwyd llawer, ac yn eu mysg, tarawyd yr hen ŵr crybwylledig yn oehr ei ben ; torwyd ei het, ac archollwyd ei ben yn dost. A phan welodd y pregeth- wr fod ei wrandawyr mewn perygl o gael eu hanafu, efe a ymattaliodd ac a aeth ymaith, gan ysgwyd y llwch oddiwrth ei draed, a dyweyd, 'Maeyr efengyl yn gadael Llangadwaladr ! ' Mae y daroganiad hwn, i fesur mawr, wedi ei wirio hyd heddyw."

" Ar ol mudo i Lansilin," medd yr un gŵr, " gwnaed pob ymdrech i gadw ysgolion wythnosol, Sabbothol, a nosweithiol. Sefydlwyd rhai yn Llausilin, Ehiwlas, Clynin, ac mewn ffarm yn agos i Moelfre. Cafwyd Uuaws o blant i'r ysgolion, ond ni chaniatawyd i'r gwaith fyned rhagddo heb lawer o anghysuron a mân-ymosodiadau, ac yn mysg gofidiau eraill, pregethwyd yn fy erbyn gan weinidog y plwyf. Ond er pob gofid, cefais y fath hyfrydwch gyda'r plant na anghofiaf dros fy oes. Eai blynyddoedd ar ol hyn, mewn oedfa yn Cefn-canol, yr ardal nesaf, cefais yr hyfrydwch ychwanegol o weled amryw o'r rhai a fuasent yn blant yn yr ysgol yn Llansilin, yn awr yn ngafael iachawdwriaeth, yn canu ac yn gorfoleddu am y Gwaredwr. Golygfa na

* 0 Langynog, tybj'gid.

410 HANESIAETII Y SIIÎOEI)!). ÍDOSIÎ. IV.

allaf ei hanghofio. Pel hyn, mewn amseroedd tywyll, a thrwy foddion disylw, y goleuodd yr Arglwydd ganwyll fechan yn Llansilin, líhiwlas, Cymdŷ, &c., na ddiífodda, mi hyderaf, hyd ddiwedd amser."

"Ar ddymmiiad Mr. Charles, ac wedi rhyw gymaint o arosiad, symudwyd i Lanrhaiadr-yn-mochnant, Cymerwyd hen ysgubor i gndw yr ysgol ynddi yn agos i'r bont. Daetli ychydig o blant yn nghyd y prydnawn cyntaf ; ond yr hyn a barodd gyffro anfertli yn y Ue hwn ocdd fod yr athraw yn giceddio mewn lien ysgubor. Arferol oeddwn o ddybenu yr ysgol trwy ganu a gw(!(ld- io ! Cauwyd y drws yn ebrwydd rhagof, rhag na fyddai yr ysgubor yn dda i ddim byth. mwy. Gwnaed yr hoU derfysg yma gan rai a ddyiaôcnt wybod yn wcU. Yn awr, raac yma gapel prydferth, a chynuUeidfa dda, a golwg obciLhiol ar y gwailh."

PENNOD VI. EGLWYSl CYNTAF GWAELOD Y SIR.

CTNWTSIAD :

TERFYNAU Y SAESON— SARNAU— MORRIS EVANS, MEL1N-Y-5I.1RDY— F, VAN WILLIAMS, O'R FEGIN— ERLID— Y GROESLWYD— THOMAS MASON, Y GOF— PO.NT ROUEHT- AP-OLIVER— MEIFOD— PARCH. EVAN GRIFFITHS— LLANFVLLI.\.

Hysbys i lawer o'n darllenwyr fod yr iaith' Saesonaeg wedi ennill llawer o dir yn y dywysogaeth, yn ystod y 80 ml, diweddaf ac yn neillduol yn y siroedd liyny sydd yn cyffinio ar Loegr. Mae sir Drefaldwyn wedi teimlo oddiwrtli hyn i gryn raddau, fel y mae yr iaith Saesonaeg yn cael ei siarad yn awr yn gyffredin mcwn manau nad ocdd dim ond y Gymraeg gynt. O herwydd hyn y mae Methodistiaeth wedi colli o ryw fanau y bu unwaith yn ffynu, ac yn para yn eiddil a nychlyd mewn rhai manau eraill nad ydyw eto wedi llwyr ddiffoddi. Mae y sylwadau hyn yn gymhwys i araryw fanau yn ngwaelodion y sir hon. Bu cynulliad gan y Methodistiaid am lawer o flynyddoedd mewn Ue a elwir y Sarnau, yr hwn sydd yn sefyll yn ngwaelod plwyf Meifod, ac ar gyffiniau plwyf Llaudrinio, ond y mae yn awr wedi diflanu.

Yn ngwanwyn y fl. 1774, aeth iin Morris Evans, ac un Mr. John Higgius, amaethwr cyfrifol o'r gymydogaeth, gydag ef, i gymeryd melin yn mhlwyf Llandrinio. Yr oedd y felin hon yn perthyn i dyddyn helaeth o'r enw Mardỳ, ac yn cael ei pherchenogi gan dri o frodyr, y rhai oeddynt yn byw yn y Mardŷ, Pan ddaeth Morris Evans a'i gyfaiU i geisio cymeryd y felin, dy- wedai un o'r tri brawd wrtho ; " Yr wyf fi yn clywed, Morris, eich bod chwi yn arfer gwrando ar y bobl yna ; ond am danaf fi, neb ond Crist i mi."

" Felly finau," ebe Morris. Boddlonodd yr ateb hwn y gŵr, a chytunodd i Morris gael y felin. Aeth ef a'i wraig, gan hyny, i felin y Mardŷ i fyw yn mis Mai canlynol. Ar y pryd hwn, nid oedd Morris Evans na'i wraig wedi ymuno â'r Methodistiaid ; yu unig yr oeddynt yn arfcr gwrando aruynt yu pregethu yn awr ac eilwaith, fel y byddai cyfleusdra, ac yu cyfeillachu â

PEN. VI.] 3IR DREFALDWYN. 411

pliregethwr yu y fro o'r eaw Evan Williams, yr liwn oedd ar y pryd yn byw mewn lle a elwir y Fegin, yn agos i ben nchaf plwyf Gygidfa.

Gosodwyd gorfodaeth ar Morris Evans, pan y byddai yr hîn yn syct a'r dwfr yn briu, i falu ar y Sabbothau, ac er mai prin y barnai fod hyn yn ei le, eto rhwng bodd ac anfodd efe a gydsyniai ; ac wedi bod with y gorchwyl dros ryw dymhor, aeth ei feddwl yn fwyfwy auesmwyth, cymaint felly, nes iddo ddisgyn ar y penderfyniad o roddi hyny heibio yn llwyr, deued y can- lyniad a ddeuai. Deallodd un o'r meistriaid tir nad oedd y felin yn malu ryw Sabboth, ac aeth at y melinydd, gan ofyn yn awdurdodpl, " Paham y mae fod y felin yn sefyll, Morris? "

" Am mai Sabboth ydyw heddyw," ebe Morris.

" Beth," gofynai yntau, " a oes arnoch chwi ofn y Sabboth? "

" Y mae arnaf ofu Arglwydd y Sabboth," atebai Morris, " ac nis malaf ar y Sabboth byth mwy." Ac efe a fu ffyddlon i'w air. Tad a mam yn nghyfraith i'r Parch. John Hughes, Pont-Robert, oedd y Morris Evans h.wn a'i wraig.

In y tymhor hwn, yr oedd tywyllwch fel y fagddu yn gorchuddio y trigol- iol, a gweithredoedd y tywyllwch yn cael eu cyflawni gydag ymíFrost ac egni diwarafun. Yr oedd nosvveithiau chwareu, canu a dawnsio, chwareu cardiau ac Inierludiau yn eu Ilawn rym. Cedwid y rhai olaf a enwyd, nid yn unig gerllaw y tafarnau, ond yn fynych mewn tai amaethwyr yu y gymydogaeth. Arferid unwaith yn y flwyddyn, ar ryw ddiwrnod penodol, ymofyn am arth i'w faeddu, a mawr fyddai y difyrwch a fwynheid yn yr oferedd creulawn hwn. Yr oedd yr ŵylmabsant hefyd yn ei llawn rym, a'i Ilygredigaethau cethin yn parhau dros amryw ddyddiau. Ar Sul y Drindod, arferid ymgasglu yn dorfeydd i'r tafarndai i yfed dwfr a siwgr, gan ymroddi i bob agweddau Uygredig yn ganlynol i hyny. Byddai yn rhy beryglus i neb fyned heibio mangre y cyfryw gynulliad i w'rando pregeth, gan mor orwyllt a didrefn fyddai yr oferwyr. Rhaid oedd tori dros y gwrychoedd, a myned ar hyd manau disathr, os mynai neb gyrcliu i gyfarfod crefyddol, ac osgoi y dyhir- iaid direol. Dygwyddodd unwaith fod Morris Evans a'i deulu yn myned heibio y cynidliad cyffrous ar ryw Sabboth, ac wedi gorfod tori dros y fíin- iau er mwyn myned heibio yn ddiogel ; ond pan ddaeth i'r ffordd ar ol pasio y perygl, dywedai wrth ei blant, " Na hidiwch chwi mo'r arferiad yufyd hon bydd yn y lle hwn gapel i bregethu yr efeugyl ynddo eto ; " a chyfeiriai at y Ilygedyn tir y mae capel y Tahernacle yn awr yn sefyll aruo !

Yn mhen rhyw ysbaid o amser wedi i'r teulu hwn fyned i felin y Mardŷ i breswylio, ymofynodd Morris Etans am gael pregethu i'w dŷ, ac ymunodd ef a'i wraig â'r eglwys fechan a gyfarfyddai y pryd hyny yn y Fegin, sef Evan WiUiams, yr' hwn oedd tua 7 milldir o ftbrdd o'r Mardŷ. Nid oes amheuaeth chwaith nad yr Evan Williams hwn oedd y pregethwr cyntaf a fu yn cadw oedfa yn melin y Mardŷ ; ar ei ol ef daeth eraill, megys Lewis Evan, Jenkin Morgan, a rhai diweddarach, sef Dafydd Edward, a Dafydd Cadwaladr, o'r Bala. Pan ddechreuodd y pregethu cyhoeddus yn y Felin,

412 IIANESIAETH Y SIEOEDD. [dOSB. IV.

mawr oedd y cyffro, a'r cynliwrf, a'r clebar oedd trwy yr lioll fro. Gyda syn- dod a digofaint y dyw^edai y naill wrtli y Uall, Mae Methodist yn byw yn y felin, a pliregetliwyr y Metbodistiaid yn dyfod yno i bregethu ; a Uawer un a brysurai i acliwyn i'r meistriaid tir, pa bethau oedd yn myned yn mìaen yn y felin. Nid rhyfedd, dan y fath amgylchiadau, os ceir fod rhyw sarhad a choUed yn cael ei amcanu yn erbyn y teulu.

Dygwyddodd unwaith, pan oedd pregeth yn nhŷ y felin, i ryw un hyfach a chasach na'r cyffredin, ddyfod at y tŷ, a sicrhau y drws âg ystwffwl, i lesteirio y bobl i ddyfod allan ; yna aeth at y felin, a gollyugodd y dwfr arni, o wir ddyben i'w niweidio, os nad ei dinystrio. Pan ddeallodd Morris Evans yr hyn a wnaethid, efe a redodd ar frys i'r llofft, ac a ollyngodd ei hun o'r ffenestr i lawr, a disgynodd i grugyn o gerig ; ond er fod iddo gryn uchder, ac er disgyn ar le garw, eto diangodd heb niwaid, yr hyn a barai syndod i bawb a adwaenai y lle. Parodd y terfysg fwlch yn yr oedfa, ond ar ddy- chweliad gŵr y yn ei ol, adgychwynwyd y gwasanaeth drachefn, pryd y dywedai y pregethwr, gan gyfeirio at ei waith ysgeler o ollwng y dwfr ar y felin," " Peth rhyfedd os na fydd ar y gŵr a wnaeth hynyna eisieu dyferyn o ddwfr ei hunan cyn hir." Troes y daroganiad hwn allan yn gywir ; oblegid bu farw yr erlidiwr yn bur fuan, a hyny mewn modd hynod o druenus !

Trwy fod amryw yn y gymydogaeth yn parhau i achwyn wrth y meistr tir fod Morris Evans yn myned i wrando pregethwyr y Methodistiaid yma a thraw, ac yn eu derbyn hefyd i'w ei hun, efe a gafodd aml rybudd i ym- adael o'r feliu ; eto aros yn y felin yr oedd, a myned i wrando a derbyn preg- ethu yr un modd. O'r diwedd, ymddangosai ei feistr o ddifrif i ddwyn yr achos i benderfyniad, am hyuy penodwyd amser iddo i ystyried, pa un a wnai ai ymadael â'r felin ynte a'i grefydd. Cyn y diwrnod yr oeddynt i ymadael, sef y noswaith o'r blaen, pryd yr oedd y teulu mewn pryder mawr pa beth a ddeuai o honynt, gan nad oedd eto un olwg ar le i fyned iddo, dygwyddodd i wraig y melinydd freuddwydio ei bod yn gweled ci anferth o faint yn ym- gais ani ruthro arnynt, ond wrth graffu, hi a welai ei fod wrth gadwen gref, fel na allai eu cyrhaedd. Pan ddeffrodd, adroddodd ei breuddwyd wrth ei gŵr, gan ychwanegu ei syniad fod rhywbeth rhyfedd yn eu haros. Yntau a ddywedai, nad oedd nemawr goel i'w roddi ar freuddwydion, ac ni osododd y peth at ei galon. Yr un noson, hi a freuddwydiodd drachefu, ac a welai fur mawr ac uchel oddiamgylch y felin. Ar ei gwaith yn deffroi, hi a adroddodd y breuddwyd hwn hefyd i'w gŵr. Ar hyn, efe a dorodd allan i ddyweyd, " Y mae yn rhaid i ni hwylio allan oddiyma mor fuan ag y delo yn ddydd." Y boreu a ddaeth, ac ymbarotodd y teulu trist i ymfudo ymaith, heb fod ganddynt uulle i droi iddo ond y flbrdd fawr. Ond tra yr oeddynt yn pryderu pa beth a wnaent, ac i ba le y gallent fyued, wele genadwri yn dyfod oddi- wrth y meistri tir, yn eu hysbysu y caent aros yn y felin fel o'r bhaen. Yn raddol hefyd, daeth Morris Evans a'i wraig yn wrthddrychau o barch ac ym- ddiried gan y meistri tir, a buont yn dra chymwynasgar a haelionus tuag atynt, fel ag i'w codi i fwy o gyfrif yn y gymydogaeth.

PEN. ■VI.] SIU DREFALDWYN. 418

Yr oedd Morris Evans yn hynod o lafurus i gymhell pawb a ddeuai i'r felin, a phawb a gyfarfyddai ar y ffordd, i ddyfod i wrando pregethu yr efengyl. Sonir yn ncillduol am un wraig o'r enw Anne Williams, yr hon y bu efe daer arni, yn fynych, i ddyfod i wrando, ond yr hon, er ei holl daerni, a wrthodai gydsynio, gan ddyweyd wrtho, " Morris, chwi ewch o'ch cof yn sicr," Atebai yntau, " Na, dyfod i'm cof yr wyf fi." Ond ar ryw foreu Sabboth, tybiai y wraig hon ei bod yn clywed llais yn dywedyd wrthi gyda grym mawr, ar iddi fyned i'r felin i wrando yr efengyl. A pha beth bynag oedd hyn, ai gwir ai gau, efe a fu yn foddion i gael ganddi ufyddhau. Y Sabboth hwnw, y tro cyntaf erioed, hi a ddaeth i wrando, a bu y bregeth yn dra bendithiol iddi. Bu cyfnewidiad amlwg arni o hyny allan ; a chafwyd ynddi arwyddion amlwg o dduwioldeb dros ei hoes ; a bu farw yn orfoleddus yn y diwedd.

Y pryd hwn, gan mor anamled oedd gweinidogion efengylaidd yn eglwys Loegr, a chan brined oedd gweiuyddiad swper yr Arglwydd yn mysg y Meth- odistiaid, âi Morris Eyans a'i wraig i'r Amwythig, tua 17 o fiUdiroedd o ffordd, ar Sabbothau cymundeb, er mwyn cyfranogi o swper yr Arglwydd, o law offeiriad efengyhnidd, sef y diweddar Barch. Eichard Decourcy. Yr oedd sêì y Cristionogion hyn yn Uawer gormod, neu y mae sêl y Cristionogion pres- enol yn llawer rhy fychan !

Wedi i'r pregethu yn y felin Iwyddo er dychwelyd amryw yn y gymydoo-- aeth, planwyd eglwys fechan yn nhŷ gwraig weddw a elwid Mrs. Catherine Pool, yr hon oedd yn byw yn y tyddyn nesaf at dyddyn y Mardy. Ym- daenodd y pregethu i amryw dai yn y gymydogaeth,* heblaw Mrs. Pool, ond ymsefydlodd yn fwyaf cartrefol yn nhŷ un Thomas Prys, o'r Sarnau ; vr hwn a íu yn ffyddhawn gyda'r achos tra y bu efe yn aros yn gymydogaeth. Wedi iddo ef ymadael, cafodd yr achos gartref yn nhý gwraig weddw a elwid Mrs. Hannah Eoberts. Yr oedd y wraig hon yn cadw siop yn y Sarnau, ac ymbriododd ag un Mr. Evan Evans, Yn eu hwy y cafodd yr efengyl gar- tref am lawer o flynyddoedd. Sonir hefyd am ŵr arall a berthynai i'r eglwys fechan yn y Sarnau, o'r enw 01iver Jones ; gŵr thiwd ei sefyllfa, yn dibynu yn gwbl am gynaliaeth iddo ei hun a'i deulu ar lafur ei ddwyhiw, ond gŵr ymroddgar ei ysbryd i ofn Duw. Ai y dyn thiwd hwn yn fynych i Lan- geitho ar ei draed, tua 60 miUdir o ffordd, i ymofyn pregethwyr i ddyfod i'r Sarnau ! Yr oedd yr hen bobl hyn yn cael eu ffwoòr i raddau yn eu (jwaith. Mwynhaent foddion gras i raddau anarferol. Yr oedd y mwyniant yn cyf- ateb i'r llafur, a dyddanwch eu mynwesau yn cyfateb i drais eu gelynion.

Mae y Sarnau yn awr heb un achos gan y Methodistiaid yn yr ardal, eto ni bu ILafur yr henafiaid ddim yn ofer, oblegid o'u Uafur dechreuol hwy yn y Sarnau, y tarddodd yr eglwysi sydd yn awr yn iVy?<?mí-^-öa«/, Llansant- ffraid^ Tabernacle, Salem, a'r Geuffordd.

* Sef, Joseph DaYÌes, John Jones, Thomas Davics, yr hwn a elwid y Tý- poetb, a thŷ Thomas Prys, o'r Sarnan.

414 HAKESIAETII Y SIHOEDD, [l)OSB. TV.

Y GllOESLWYD.

Mae Y lle liwn gerllaw pentref Cygidfa (GiáUfidd), ac yn terfynu ar fro y Sarnau. Mae yr iaith Saesonacg wedi enniU tir i raddau lled helaeth yn yr ardal hon, a'r achos Metliodistaidd yn cael ei gynal ymron yn gwbl yn yr iaith hòr.o. Ond nid dyma oedd y wedd gynteíig. Cymraeg a bregethid yn y fro hon ar y dechreu, a thros lawer o amser ar ol hyny. Yr oedd pregethwr o'r enw Evan WiUiams yn byw yn y Fegin, plwyf Llandrinio ; ac felly heb fod yn mhell oddiwrth y Ue hwn. Yr oedd yn ŵr duwiol, ac yn gynghorwr ffyddlawn yn ei dymhor. Dywedir mai yn Lhmdain y cafodd ei argyhoeddi, dan weinidogaeth y Parch. George Whitíicld ; pa achosion a'i gyrasant i Lundain,* neu pa fodd yr arweiniwyd ef drachefn i blwyf Llandrinio, sydd an- hysbys ; yn unig, dywedir am dano ddnrfod iddo lafurio llawer i oleuo ac i lesâu ei gydwladwyr, yn ol mesur ei ddawn a'i gyíleusderau, a pharhau felly hyd ei ddiwedd.

Yr oedd Morris Evans, o Felin-y-jNLirdy, yn gydnabyddus ag un Thomas Mason, y gôf, yr hwn oedd yn byw yn y Groeslwyd, a hyny cyn iddo symud i'r Eelin i fyw. Yr oedd y gôf hwn yn adnabyddus fel un nodedig o elynol i giefydd ; pan ddygwyddai weled pregethwr neu broffeswr yn myned heibio, efe a redai allan o'r efail, ar ol y crefyddwr, mewn gwŷn cyffrous, â haiarn gwynias yn ei law, gan ei fygwth yn echrydus ; eto anturiai Morris Evans ei daer gymhell i ddod i wrando ar y Methodistiaid, niodd y gallai efe farnu drosto ei huu ; a hyn a wnai yn mhob man y dygwyddai gyfarfod ag cf ; ond vr oedd pob taerni yn aneffeilhiol dros ryw gymaint o amser. Yr oedd rhyw fath o ofn yn gystal a digofaint yn ei attal. Yr oedd chwedl ar hyd y wlad y Uygad-dynid pob un a elai i wrando ar y Methodistiaid, ac yr oedd Mason, y gôf, wedi rhoddi coel i'r chwedl benchwiban hon. Ar yr un pryd, yr oedd rhyw ysfa o gywreindeb ynddo, i fynu elywed beth á ddywedid gan y bobl yr oedd cymaint o achwyn arnynt ; a theimlai, weithiau, duedd i gydsynio â thaer gais ei hen gydnabod, Morris Evaus ; ond yr oedd arno ofu syrthio dan rym y swyn. Ond yn y cyfwiig, cofiodd glywed am gyfaredd eff'eithiol rhag y fath swyn ; sef gwden o bren criafol, neu helyg. Deallid, os byddai y fath wden gan ddyn yn ei hoced, y gallai auturio yu ddigon diberygl i swn y pregethu, ac na effeithiai dim arno i'w Iygad-dynu. Peuderfynodd y gôf, gan hyny, fyned unwaith o leiaf i'w gwrando, gan sicrhau ei huu rhag yr effeithiau yn y modd uchod. Ond er fod yr wden griafol yn ei logell, ac er fod rhagfarn cryf yn ei galon, eto bu gorfod iddo blygu ; bu ad-dyniad yr efengyl yn gryfach na'i gyndynrwydd, ac ymostwng a fu raid iddo i gael ei gaethiwo i ufudd-dod Crist.

Y tro cyntaf y gwelodd Mason ei hen gydymaith, Morris Evans, ar ol hyn, yr oedd y cyfarchiad yn hynod o wahanol i'r hyn a fuasai gynt. Bellach, yr

* Dywedir mai gwniedydd (taüor) ydoedd wrth ci grcff't, ac mai ei greff't a'i harwein- iodd i Lundain.

PEN. VI.] SIR DHEFALDWYN. 415

oedd yr erlidiwr cas yn ddysgybl. Derbyniai, bellacli, bregethu i'w dỳ ; ac yn ei y cafodd yr efengyl nodded ac amddiftyniad am lawer o flynyddoedd. Ac er nad oedd eglwys wedi ei ffurfio y pryd hwnw yn y Groeslwyd, eto ymunodd Thomas Mason, a dwy o'i ferched, yn nghydag eraiU yn y gymydogaeth, â'r ganghen eglwys a arferai ymgynuU mewn am- rywiol dai ychydig o ffordd uwchhnw y Groes ; sef y gymdeithas y perthynai Evan WiUiams iddi, lle y derbyniwyd y Parch. Evan Griffiths, Meifod, gyntaf yn aelod eglwysig, a'r lle hefyd y dechreuodd bregethu. Yr oedd gwraig y pregethwr yn chwaer i fam Mr. Griftìths ; merched y Maes- mawr oeddynt, teulu a ymunasant yn foreu â'r Methodistiaid, ac a fuout o wasanaeth helaethach i achos yr efengyl, yn y tymhor boreuaf arno, na nem- awr neb yn eu bro.

PONT-UOBERT,

Yr oedd pregethu gan y Methodistiaid yn mhlwyf Llanfair-Caereinion, tuag ardal Pentyrch, er yn gynar iawn ar y diwygiad Methodistaidd ; ac ym- grynhôdd rhyw nifer at eu gilydd yn y tymhor boreuol hwnw yn gymdeithas eglwysig fechan, a chododd yn eu plith dri o gynghorwyr bychain, sef Dafydd Powell, Dafydd Jehu, acEvan Dafydd.* Bu Dafydd Powell farw yn fuan, a llwfrhaodd Jehu hefyd yn yr ymraniad, a rhoes heibio gynghori. Ond am Evan Dafydd y dywedir, ddarfod iddo ef barhau i gynghori ychydig tra fu byw, a'i fod yn ŵr o ymarweddiad duwiol ; ond nad oedd yn feddiannol ar liehiethrwydd o ddoniau." Ond bu Pont-Eobert am ysbaid 30 mL neu fwy, ar ol i'r ysgogiad diwygiadol ddechreu, mewn rhai cyrau o'r wlad, heb fwynhau nemawr o lafur y diwygwyr. Ond tua'r fl. 1770 5, daeth yr amser i ymweled â'r ardal hon hefyd. A'r modd y cychwynodd oedd fel hyn. Yr oedd dau ddyn o blwyf Llanfihangel (y plwyf y mae Pout-Eobert ynddo) yn gweithio eu crefft o saerniaeth i ŵr yn ardal Pentyrch, yr hwn a dderbyniai bregethu i'w dŷ, Cawsant, yn y modd hwn, y fautais i glywed yr efengyl, a bu ei gwraudo yn y duU damweiniol hwn yn foddion deffröad ac ystyriaeth iddynt ; cymaint o leiaf ag i addaw lle i gadw oedfaon yn eu tai gartref. Yn ganlynol i hyn, aeth Evan Dafydd, Ehos-y-gweision, a John Thomas, o Lanfair, i un o'r dyuion hyny i bregethu ar y Sabboth. Ond nid oes son am ddim eft'eithiau neillduol wedi dylyn yr oedfa hon. Yn fuan ar ol hyny, aeth Mr. Abraham Wood, o Lanbrynmair, i y g\vr arall i bregethu, a dylynwyd y bregeth hon ag effeithiau grymus. Galwyd amryw trwyddi, y rhai yn raddol a ymffurfiasant yn gymdeithas grefyddoL Bu pregethu mewn amrywiol dai yn y fro yma hefyd, megys yn Halfen, yn Dolwar-fawr, yn Llaethbwlcb, yn Moel-y-fronllwyd, acyn Mhenllys, Ond yn y Ue olaf a euwyd y bu cartref yr achos am amryw flynyddoedd. Yn ngwanwyny fl. 1795, cynaliwyd Cymdeithasfa yn Llanfair Caereinion, a bu y

*GwelCyf. I., tudaL 132.

416 IIÄNESIAETII Y SÎROEDI». [üOSB. IV.

weinidogacth yn y cyfaifod hwn yn dra bendithiol i amryw o bobl amgylch- oedd Pont Eobert ; ac yn y canlyniad, cafwyd prcgethu i Bont E,obert mcwn yno, neu yn yr awyr agored. Bendithiodd yr Arglwydd y weinidogaeth mewn modd nodedig, a bu adfywiad mawr a grymus, yr hwn a barhaodd ( dros amryw fiynyddoedd. Ar yr achlysur hwn, symudwyd cartref yr achos o Benllys i'r Bont. Yny fl. ISOO^adeüa^lwydy Capel. Fe fu dau bregethwr yn perthyn i'r eglwys hon yn ei thymhor boreuaf, sef WiUiam Joncs, a Thomas Morris. Amaethwr cyfrifol oedd y cyntaf yn byw yn Uaethbwlch : yr oedd hefyd yn bregethwr cadarn a chymeradwy, ond nid Uawer a deithiodd oddicartref. Nid oedd Thomas Morris yn ŵr o wybodacth helaeth, ond yr oedd 0 naws effro a bywiog iawn ; teithiodd hefyd gryu lawer, ond gàn mwyaf fel cyfaill gyda rhai o'r hen bregethwyr. Bu farw William Jones, Gorphenaf, 18 18, yn 77 ml. oed : ond bu Thomas Morris fyw hyd y fl. 1841.

Aelod o'r eglwys hon oedd y Parch. John Davies, Cenadwr yn Tahiti. Ymadawodd y gAŶ'r defnyddiol hwn û gwlad ei enedigaeth yn nechreu yr hâf yn y fl. 1800, pan oedd tua 27 ml. oed. Y mae, bellach, wedi bod ar y maes cenadol er ys 52 ml., ac wedi cyrhaedd ymron 80 ml. o oedran. De- allwn fod ei olwg wedi paUu cr ys rhai blynyddau ; ond fod ci ysbryd yn iraidd, ac yn rhoddi profion diymwad o'i addfedrwydd i'r cryman.

Afreidiol ydyw i mi grybwyll mai i'r eglwys hon y perthyn yr henafgwr adnabyddus a pharchcdig John Hughes, yr hwn sydd wedi teithio llawer ar Ogledd a Deheudir Cymru, yn nghyda threfydd Lloegr, lle bynag y mae Meth- odistiaeth yn ft'ynu. Y mae yr hen frawd parchcdig ar y maes gweinidog- aethol er ys 52 ml., ac nid mynych y bu neb yn fwy ffyddlawn a diwyd, yn ei wlad ei hun, a thros yr hoU dywysogaeth. Nid oedd, pan y dechreuodd cf bregethu, sef yn y fl. 1800, ddim ond 8 o gapelau yn holl sir Drefaldwyn gan y cyfundeb, a'r rhei'ny yn iled fychain ; yn awry mae 75 o gapelau, heblaw y rhai sydd yn y rhanau Saesonaeg o'r wlad ; ac o'r wyth capel ag oedd yn y sir y pryd hyny y mae saith o honynt wedi eu hail-adeihndu. Mae yn awr tua 84 o gapelau yn y wlad hon rhwng y Cymry a'r Saeson, a thua 22 o leoedd pregethu ac ysgoldai yn ychwancgol : a hyn oll ymron yn oes un gŵr.

Y' mìe gradd o hynodrwydd ar Bont-Robort hefyd, am mai dyma oedd cartref Mrs. Ann Grifíiths, awdures y penniUion hymnau, a gyhoeddwyd yn gyntaf gan Mr. Charles, ac a genir, yn fynych, hyd heddyw yn addob'adau y Methodistiaid. Yr oedd y ferch hon yn byw o fewn pedair milUlir i Bont- Eobert, mewn amaethdy o'r enw Dolwar-fechan. Yr oedd ei theulu, a hithau ci hun, ar y cyntaf yn eglwyswyr aiddgar, tra dyeithr i, a thra rhagfarullyd at ymneillduwyr o bob enw, ac yn enwedig at y Methodistiaid. Trwy ddarllen llyfr 0 waith Baxter, dygwyd brawd iddi i radd o bryder am ei achos tra- o-wyddol, yr hyn a barodd iddo osod ei helynt, a thrallod ei feddwl, o flaen ofi'eiriad y plwyf ; ond yr unig gynghor a gafodd oedd, iddo ymlid y syniadau pruddaidd i fí'ordd, trwy ymroddi yn fwy i'r ddawns a'r wledd, a phob digi-if- wch dinwaid arall. Cafodd y gŵr ieuanc ei siorai yn y gŵr parchedig ; a

PEN. VI.] SIR DllEFALDWYN. 417

phenderfynodd fyned i Benllys i wrando ar y Methodistiaid, gan obeithio cael ei arwain i orphwysdra. Cafodd yma yr hyn yr ymofynai am dano, ac ymunodd â'r bobl ddirmygedig hyny, er mawr syndod i'w gymydogion, ac er peth tristwch i'w deulu ei hun. Yr oedd ei chwaer Anne, ar y pryd, yn hoíf iawn o ddifyrwch ieuenctyd, ac yn wawdlyd ddigon o'r crefyddwyr, a dywedai, wrth ganfod rhai o honynt yu cyrchu heibio i Gymdeithasfa y Bala, " Bacw y pererinion yn myned i Mecca.'^ Ond nid hir y goddefwyd iddi rodio yn y ffordd hon. Trwy wrando, yn gyntaf, a hyny yn ddamweiniol, ar un Mr. Benjamin Jones, gweinidog parchus yn mysg yr Annibynwyr, pan yn dygwydd fod yn pregethu yu Llanfyllin ; a thrachefn, trwy wrando ar Ismael Jones, darostyngwyd ei rhagfarn, ac ennillwyd hi yn llwyr dan iau Mab Duw. Ond bu hithau yn gwingo dros ryw amser yn erbyn y sym- bylau, cyn ymddarostwng yn ilwyr. Wedi gwrando y pregethwr cyntaf a enwyd, aeth hithau at oífeiriad y plwyf; ond nid oedd ef yn abl i'w chyfar- wyddo, druan, ond trwy ei ymddyddan ífol a brwnt, cynyrchodd yn ei mynwes Iwyr ffieiddiad o hono.

Yn fuan ar ol hyn y clywodd Ismael Jones, ac y daeth, mewn caulyniad, yn aelod o'r gymdeithas ag oedd, bellach, yn y Bont. Yr oedd hyn tua'r fl. 1797, pau ydoedd hi yn 17 ml. oed. Ni bu oes y ferch hon ond ber, gan iddi farw yu 25 ml. oed, ond yr oedd yr wyth mlynedd olaf o honi yn ddys- glaer o brofiad a buchedd.

Hawdd ydyw dirnad wrth ddarllen ei hemynau, fod ganddi alluoedd cryf- ion, a phrofiad ysbrydol. Mae anadl enald yn cymdeithasu â Duw yn Nghrist arnynt oll ; ac wrth ddarllen ei hanes, yr ydym yn cael, mai nid grym medrusrwydd i gyfansoddi oedd ei hawen gymaint, ond enaid yn arllwys profiadau gloywon yn ffrydiau naturiol. Byddai, yn fynych, yn tori allan mewn hwyl nefolaidd dan y pregethau, neu ynte, pan y byddai hi a'i chyfeill- esau yn cydweddio. Ond y mae yn rhaid ymattal, gan nad ein gorchwyl ydyw ysgrifeuu cofiant iddi,* yn unig cyfeirio ati fel engraitft hynod o rym y weinidogaeth, ac o'r modd y Ilwyddai yr Arglwydd ei achos. Bu hi, a'i brawd, a'i gŵr, Mr. Thomas Griffiths, yn ddefuyddiol iawn i achos yr efengyl yn y fro hon : teilwng ydynt o goffadwriaeth barchus, ac efelychiad cyffredinol.

MEIFOD.

Mae hanes Methodistiaeth y Ile hwn yn blethedig â hanes y Parch. Evan Griffiths, Ceuuant ; efe a fu yn offeryn i ddwyn Methodistiaeth i'r ardal hon, a bu yu dad-maeth iddo ar ol hyny. Ganesid ef yn Ehos-fawr,- yn mhlwyf Meifod ; oud pan oedd tuag wyth mlwydd oed, symudodd ei rieni i dyddyn arall, yn mhlwyf Cegidfa (Guilsfield), ac yn y plwyf hwn y treuliodd y 18 ml. dylyuol o'i oes. Yn y Ile hwn y dychwelwyd ef at grefydd yr ymun- odd â'r gymdeithas eglwysig, ac hefyd, y dechreuodd bregethu ; eto yn

* Gwel Gofiant iddi yn y " Traethodydd," am y fl, 1846. 2 D

/^

418 ÍIANESIAETIl Y SIUOEÜJJ. [üOSB. IV,

Meifod y treuliodd 35 o flynyddoedd, sef ei lioll oes gylioeddus oddigerth dwy flYiiedd, yr ysbaid y bu yu aros yn y Cefu-du ar ol dechreu pregethu.

Eo-lwyswyr oedd rhieni Mr. Griffiths. Isid oedd, mewn gwirionedd, ddim pregethu gan un euwad o Ymneillduwyr yn eu plwyf hwy, pan oeddynt hwy yn ieuaiuc. Yr oedd pregethu yn mhlwyf LLinfihangel, sef yn Mhenllys, Ue vr arferai ei fam yu achlysurol, ac raegys yn lladradaidd, fyned pan oedd yn preswylio yn Rhos-fawr ; gwuai yr un modd wedi symud i'r Cefn-du ; Uithrai, weithiau, i'r Paut i wrando, ond nid oedd, er hyn, wedi profi nemawr, os dim, 0 argraffiadau dwysion ar ei meddwl. Yr oedd brawd a chwiorydd iddi mewn undeb â'r Methodistiaid ya mhlwyf Cegidfa, er amser Harris a Eow- lands, a'r diwygwyr cyntaf. Chwaer iddi oedd gwraig Evan WiUiams y pregethwr, a brawd iddi ydoedd Mr. Evan Evans, o'r Sarnau. Chwaer arall a briododd un Thomas Davies ; a'r tri theulu yma a fu prif swcr Methodist- iaeth vn y parth hwn o'r wLnd. Yr oedd mam Mr. Griffiths, gau hyny, oddiar fod ei pherthynasau agosaf yu grefyddwyr, a hithau yn ei hieuenctyd yn arfer yn achlysurol wrando yn eu cynuUiadau, yn Uai ei rhagfarn at grefydd a chrefyddwyr y capel nag oedd ei gŵr. Trwy briodi, aeth i fyw i ardal am- ddifad o bregethu, oddieithr yn Uan y plwyf, a pharhaodd yn ddyeithr i fodd- ion gras dros lawer o flynyddau ar ol priodi, oddigerth ar ambeU dro, y diangai yn Uadradaidd i BenUys. Ond bu farw ei gŵr tra yr oedd y teulu yn aros yn y Cefn-du ; daethai ei dau ftib, Edward ac Evan, at grefydd ; hithau, beUach, a yraroddodd i wrando, ac a ddaeth, pan tua 40 ml. oed, yn aelod eo-lwysig. Wedi hyn, pan oedd drysau eraiU wedi cau, hi a dderbyn- iodd bregethu i'w thŷ yn ewyUysgar, a hyfrydwch penaf ei hoes, o hyn aUan, oedd o-weini i'r saint, a gwneuthur a aUai o blaid teyrnas Crist yn y byd.

Dan yr amgylchiadau uchod, ni chafodd Mr. Griffiths ddim manteision crefyddol yn ei febyd. Gadawyd ef, gyda bechgyn ei ardal, i halogi Sab- bothau yn ddiwarafun, gan eu treuHo mewn oferedd a chwareuyddiaeth, ac vn berffaith ddyeithr i wybodaeth ysgrythyrol. Yr oedd perchenog y tydd- yn, Cefu-du, yn ŵr tra rhagfarnUyd at grefyddwyr, a gelynol iddynt. Ac wrtli osod y tyddyn i dad Mr. Griffiths, gwnaeth yr ammod na elai ef, na neb o'i deuhi, i wrando ymneülduwyr o un enw ; ac os aent, y byddai hyny vn tori y cytuudeb, ac yn rhybudd i ymadael. Mynych, gan hyny, y rhy- buddid y plant a'r teulu oU o'r perygl o fyned i un man i wrando, ond i eglwys y plwyf ; a magwyd ofn y fath anflFawd yn mynwesau y tylwyth oU. " Mae vn gofus genyf," ysgrifenai Mr. Griffiths ei hun, " i mi unwaith gael fy anfon ar neges i fy ewythr, brawd fy mam, a phan aethum yno, yr oeddyut yn darUen pennod o'r Beibl ; a phan aethant ar eu gUniau i weddio, daliwyd fy meddwl gan y fath ddychryn, wrth gofio am rybuddion fy nhad, nes yr aethum adref heb hysbysu fy neges."

Yr oedd y bachgen hwn wedi ei osod dan anfanteision dirfawr i ymgydna- byddu â chrefydd, Ac er nad oedd na thad na mam yn prolfesu atheistiaeth, eto ni sonient am Dduw, am enaid, nac am dragwyddoldeb, wrth eu plant, mwy na phe buasent heb fod ; oud er yr anfantais hon, mynai gras Duw ym-

PEN. VI.J SIR DUEFALÜWYN. 419

weled â'r llencyn. Yn ddamweiniol megys, cyn ei fod yn 12 ml. oed, clybu ymddyddan rhwng ei ewythr a rhyw wraig yn nghylch llywodraeth Duw ar v byd, yr hwn a effeithiodd yn rjinus iawn ar ei feddwl ; cynyrchodd gyfres o fyfyrdodau dyeithr yn ei fynwes, a pharodd awyddfryd cryf i gyrhaedd awy- bodaeth am y Bôd Mawr, yr hwn y dywedid oedd yn llywodraethu y byd. Yn fuan ar ol hyn, clywodd fod rhyw un i'w ddysgwyl i bregethu yn y gy- mydogaeth ar ryw Sabboth ; a phenderfynodd, yn lle myned gyda'r teulu, fel arferol, i'r llan, i lithro i'r bregeth, gan ddysgwyl clywed gair am y Lly wodr- aethwr Mawr. Pregethodd y g\vr dyeithr ar Act. xxiv. 25 : " Ac fel yr oedd efe yn ymresymu am gyfiawnder, a dirwest, a'r farn a fydd, Ffelis a ddy- clirynodd, &c ; " a bu y bregeth hon yn eífeithiol i ddyfnhau yr argraífìadau a ddechreuasid o'r blaen ; dychwelodd adref raewn dychryn mawr ; ac ar y cyfle cyntaf a gafodd, llosgodd ddau bâr o geilys, a thair neu bedair dcch o gardiau, gan benderfynu na chyífyrddai mwyach â'r cyfryw ofer-bethau.

Ehy faith a fyddai oh'hain y modd y dygwyd ei feddwl, o radd i radd, ac o bregeth i bregeth, i adnabod llygredigaeth ei natur, a thrueni ei gyflwr, yn nghyda fibrdd cadwedigaeth trwy Grist. Daeth yn fuan i deimlo yn awyddus am gymdeithas â'r crefyddwyr, ac am ymgeledd eglwys Dduw, ond pa beth a ddywedai ei dad ? a pha beth a ddywedai y feistres tir ? Yr oedd yr hen feistr tir wedi marw, bellach, a nith iddo, llawn mor elynol agyntau, oedd yn etifeddu y tyddyn. A thra yr oedd ei feddwl mewn trallod a phenbleth, daeth i'w feddwl y geiriau, " Pan yw fy nhad a fy mam yn fy ngwrthod, yr Arglwydd a'm derbyn." -Rhoes y geiriau rym i'w feddwl, a phenderfynodd, bydded y canlyniadau a fyddeut, ymuno û'r gymdeithas eglwysig, a gwneuthur proff'es gyhoeddus o grefydd. Wedi ymgynghori â'i ewythr, cynygiodd ei hun i eglwys y Pant, lle y rhoddwyd iddo dderbyniad croesawgar a serchog, pau nad oedd ond 14 ml. oed.

Cafodd lai o wrthwynebiad oddiwrth ei dad nag a ddysgwyh'asai ; yn unig dywedodd y deuai ystorm ar y teulu o achos hyn, ac y byddai raid ymadael â'r tyddyn. Yn mhen rhyw ysbaid, anfonwyd y Uencyn ar neges at y feistres tìr, a rhaid oedd iddo aros yn ei thŷ dros nos. Yr oedd, trwy hyn, yn gorfod dyfod yn agos iawu i fl'au y wiber, ac ofnai y canlyuiad. Yn yr ymddydrlan a fu rhyngddynt, tybiodd y foneddiges fod ei leferydd yn ei gyhuddo o fod yn yragymysgu â'r Methodistiaid, gan y barnai fod rhai o'i ymadroddion yn debyg i'r eiddynt hwy. Cyfi"rodd y wraig yn arswydus. Collodd feddiant arni ei hun gan nwydau gorwyllt, a cheisiodd chwip y ceff'yl i'w íflangellu. A hon hi a gurai y bwrdd a'r coed o'i anigylch, ond ni roddodd un dyrnod i'r Uencyn dychrynedig. Dwrdiai ef yn ddiarbed, gan sicrhau os efe, neu neb o'r teulu, a aent i wrando y peugryniaid, y raynai hi hmhau ei tbir oddiwrth y fath sothach ; ac os cai wybod fod neb o'r cyfryw yn dyfod i un o'i thai hi, y rhoddai y liwuw ar dàn, fel na fyddai y drygsawr yn aros ar ddim o'i hetifeddiaeth.

Cafodd y llencyn fyned i wely cysurus i gysgu, er cymaint y dwrdio a fuasai arno ; a thranoeth vr oedd y dôn wedi newid graddau. Yn awr, rhodd-

420 HAÎiESIAETH Y SIROEDD. [UOSE. IT.

wyd heibio fygwth, a defnyddiai weniaith a chynghor. Dywedai, " Yr ydych yn deulu parchus yn fy ngolwg ; mynwn i chwi beidio gwneyd eich hunain yn ifyliaid, trwy gyfeillachu â phobl mor ddrwg ac isel a'r Methodistiaid." Fel hyn, yr oedd y bachgen yn debyg o gael ymadael mewn gwell heddwch nag vr ofnasai, ac heb orfod gwueuthur un addewid iddi am yr amser dyfodol ; ond cyn iddo ymadael, gofynai iddo wneuthur neges drosti drauoeth, sef y Sabboth. Bwriodd hyn ef i benbleth cymaint ag o'r blaen, ac ni wyddai pa fodd i'w boddhau heb droseddu cyfraith ei Dduw. Ocheneidiodd at Dduw am gymhorth, ac anturiodd ofyn yn ostyngedig iddi, ai ni chawsai adael y neges heb ei chyflawui hyd ddydd Llun, ac y gwnai ei dymuniad o fodd ei galon, os gallai ei ohirio hyd hyny. Ar hyn, ymwylltiodd gymaint a'r nos o'r blaen ; ac yr oedd, bellach, yn wallgof gan gynddaredd. Ond yn nghauol y terfysg blin, curodd rhywun wrth y drws, a daeth y forwyn i mewn oddiwrth y genad, i ymofyn y neges a geisid ganddo ei gwneuthur ar y Sabboth. Mawr oedd llawenydd y bacligen tyner ei gydwybod pan ddeallodd hyn. Ehoddwyd iddo, gyda'r demtasiwn, ddiangfa hefyd. Ni ymosododd y fonedd- iges arno byth wedi hyn yn achos ei grefydd, gan gredu ei fod hwnt i bob gwellhad ; a bu ei benderfyniad diysgog yn y tro yn foddion i'w achub rhag ychwaneg o'r cyífelyb ymgyrchion.

Cyn llawer o amser, bu farw ei dad, a daeth ei fam a'i frawd yn aelodau gyda'r Methodistiaid, a symudwyd y moddion i'w gartref, sef i'r Cefn-du ; ac yma y cynaliwyd hwy, bellach, hyd nes y symudodd y teulu i'r Ceunant, ger Meifod. Pan ydoedd Mr. Griífiths tua 'M ml. oed, dechreuodd bregethu, tua'r un amser ag y dechreuodd Mr. Jones, Dol-y-fouddu ; Mr. John Hughes, Pont Eobert, a Mr. Abraham Jones. Yr oedd yr achos cref- yddol yn cael ei gynal yu ei dŷ, ar ol iddo symud i'r Ceunant, a pharhaodd felly, hyd nes yr adeiladwyd capel yn mhentref Meifod. Yr oedd Mr. GriíTiths yn un o'r wyth pregethwr llëygaidd a neillduwyd gyntaf gan y Methodistiaid, yn y û. 1811. Prawf diymwad o'r parch a'r lle a enuiUasai yn serchiadau a barn ei frodyr.

Nid oes genym nemawr o amgylchiadau hynod am dano yn ei yi'fa gyhoedd- us i'w gosod i lawr, ac nid oes genym ofod i'w hebgor, pe buasai genym y fath. Digou ydyw chwanegu am y " brawd anwyl, a'r gweinidog ífyddlawn" hwn, ei fod " wedi dangos pob ífyddlondeb da," fel cristion, gwladwr, a gweinid- og; ac wedi harddu athrawiaeth Duw ein Hiachawdwr i raddau helaeth iawn. Safai yn uchel ei barch yn syniadau ei gyd-blwyfolion, nid yn unig fel perchen gradd helaeth o feddiannau bydol, ond fel gŵr cydwybodol, cyf- iawn, a thra chymwynasgar. Bu farw yn y fl. 1839, j^n 61 ml. oed, wedi bod yn pregethu am ysbaid 37 o flynyddoedd,

Mae amryw eglwysi wedi eu plauu yn y cymydogaethau hyn, am y rhai ni chafwyd un hysbysiad ; ac am y rhai, fe allai, na fuasai dim nodedig, mewn amgylchiadau hynod, i'w groniclo ; y^n unig, eu bod yn fí'rwyth diwyd- iwydd a fi"yddlondeb, trwy sefydlu ysgolion Sabbothol mewn ardaloedd tywyll a diofal, a thrwy ddwyn i mewn weiuidogaeth y gair ; yn y modd

PEN VI.] SIR DREFALDWYN. 421

yma casglwyd, yii rhai, bellacli, ydynt Uawen-famau plant.

yma casglwyd, yn y 40 ml. diweddaf, luaws mawr o gynulleidfaoedd, y rhai, bellach, ydynt alluog "i gadw tỳ;" ac yn cael yr anrhydedd o fod yn

LLANFYLLIN.

Nid yw yr achos Methodistaidd yn y dref hou oud bychau a lled ddigyn- ydd. Yr oedd ymneillduaeth, er hyny, wedi rhoddi ei droed i lawr er yu foreu ynddi, gan mai yma y cawu fod uu o'r chwe' capel ymneillduol ag oeddyut yu Ngwynedd ar ddechreuad y gaurif ddiweddaf.

Yr hanes cyntaf am gais y Methodistiaid i sefydlu achos yn y dref hou a ddygwyddodd tua'r fl. 1778. Y pryd hwu, dywedir i ddau bregethwr, John Thomas a WiUiam Jones, ddod i'r dref gyda'r bwriad i bregethu. Deallwyd eu bod yu dyfod, ac ymbarotôdd y werin ragfarnllyd i'w cyfarfod, ac i roddi ar ddeall iddynt, nad oedd eu heisiau yu eu tref Gristiouogol awy. Derbyn- iwyd y ddau bregethwr i gapel Peudre', ond cymaint oedd y swn a'r derfysg y tu allau i'r addoldy, fel na ellid clywed yr uu gair. Rhoes WiUiam Jones heibio bregethu, gan roddi lle i Johu Thomas. Yntau hefyd a orchfygwyd ; ac nid rhoddi taw arno oedd yu ddigou ganddyut, ond gwnaent gais teg ar ei faeddu hefyd ; a'i faeddu yn dost a gawsai, nieddii', oni bai i ryw wraig, yr hon oedd yu berthynas i William Joues, ac yu briod â truUiad gŵr boneddig yn y gymydogaeth, ei amddiíFyn. Ehoes hyn seibiaut i Johu Thomas ddianc o'r dref ; a hyny a wuaeth ar ei draed, gan adael ei geífyl ar ol, a WiUiam Jones yn ei ddylyu ; a da iawn oedd cael eu hoedl yu ddiangol, a'u hesgyru yu gyfaiu.

Nid ydym yn cael fod uu cais wedi ei wueyd i sefydlu pregethu yn y dref, ar ol y tro hwu, hyd y fl. 1795, ysbaid 17 o' flynyddoedd. Y pryd hwn, daeth. Edward Watkin, o Lanidloes, 1 bregethu yma, yu ol ei gyhoeddiad, ar Sabboth pryduawu, a chasglodd tyrfa fawr o bobl i'w wrando, Wedi iddo ddarllen a gweddio, taflwyd careg ato gau ryw lauc yu y gynulleidfa, a tharawyd ef yn ei arlais nes oedd ei waed yu ff'rydio, ac yu dyferu ar y Beibl. Mae y dref yn im fwrdeisiol, ac wedi ei rhanu yn ddosbarthiadau (wards), ac i bob icard y mae ei swyddogiou cyfreithiol ei hun. Gyda bod y pregethwr wedi ei daro, dechreuodd y gynuUeidfa derfysgu, rhai o blaid a rhai yn erbyn, a phob ochr yn arddangos ei theimlad gyda gradd o gyfí"ro. Yu y cyfamser, daeth gwraig y persou i'r lle, a chyda hi yr oedd constahle ar fwriad i gymer- yd y pregethwr i fyny, a'i roddi mewn dalfa. Ond ni oddefid hyn gau uu Richard Pugh, yr hwn oedd uu o'r crefyddwyr, gan ddyweyd wrth y con- stahle, nad oedd yr achos yu perthyn i'w ddinas-rau ef. Wedi methu yn liyu, achwynwyd yu erbyu Eichard Pugh, a phump o frodyr crefyddol eraill, a berthyneut i'r gymdeithas yu y Brithdir, a chodwyd yr achwyiiiad i frawdlys (sessions) y sir. Nid yw fy hysbysydd yu dadgan pa uu ai enuiU ai colli a wnaeth Richard Pugh a'i gyfeiUiou, ond dywedir fod dros £20 o gostau wedi disgyu aruynt.

4.22 IIANIÍSIAETI! Y SÎROEDD. H>OSB. IV.

Y canlyniad a fu i Richard Pugh gofrestru ei yn Ue i bregethu, o'r pryd hwnw ; a thros ryw dymhor, bu y pregethu yn ei ef. Wedi hyny, cofrestr- wyd arall yr uu modd, sef un Thomas Eoberts ; a chynaliwyd y moddion yn y Ue hwn dros rai blynyddau, tra yr oedd Richard Pugh yntau yn derbyn ac yn lletya y pregethwyr a ddeuent i bregethu i'r dref. Yn y fl. 1807, sy- mudodd Mr. Abraham Jones i'r dref i fyw, trwy briodi Mrs. Jones, gwraig weddw grefyddol ag oedd yn cadw masnachdy yn y dref. Cymerodd y teulu hwn, bellach, ran o'r baich (os baich hefyd) o letya y pregethwyr ; ac wedi rhyw ysbaid, cymerasant ef yn Uwyr ar eu hysgwyddau eu hunaiu. Cyualiwyd yr achos yn y modd yma dros lawer o flynyddau. Bu Mr. a Mrs. Jones yu swcr da iddo, ac felly y mae mab Mrs. Jones a'i deulu hyd heddyw.

Gweddus, yn y Ue hwn, ydyw dyweyd gair am y Parch. Abraham Jones, gan mai yn Llanfyllin y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes, er mai nid yn y dref hon y dechreuodd nac y dybenodd ef ei yrfa. Ganesid ef yu mhlwyf Tref- clwys, yn y fl. ] 775, Dychwelasid ei fam trwy weinidogaeth yr hybarch Eichard Tibbot, Llanbrynmair, oud yr oedd ei dad yn oedranus pan ymun- odd â'r Methodistiaid, er ei fod yn y cyfamser yn ŵr nodedig o foesol a chymydogol, a thros lawer o flynyddoedd yn rhoddi ei i dderbyn pregethu, ac i letya pregethwyr. Gweinidogaeth danllyd Eobert Eoberts, Clynog, a fu yn foddion argyhoeddiad i Abraham Jones, yu y fl. 1796 ; ac yn mhen dwy flynedd ar ol hyny, dewiswyd ef yn flaenor neu yn ddiacon yn yr eglwys ; yn y fl. 1802, dechreuodd bregethu, pan oedd yn 27 ml. oed; a pharodd i wein- idoo-aethu yn ei wlad ei huu,ac ar hyd siroedd De a Gogledd, am ysbaid 38 o flynyddoedd. Yr oedd wedi ei neillduo er y fl. 1823, a dangosodd ei hun yn ŵr call iawn, fí'yddlawn, a llariaidd. Tynodd ei gŵys, fel ŷch arferol â'r iau, yn gywir hyd ei diwedd, ac ymadawodd â'r byd, wedi gweithio ei ddydd- gylcli, i fwynhau yr orphwysfa.

Ehaid i ni, bellach, derfynu hanes y sir hou. Pe buasai ein ter"ynau yn goddef, dymunol fuasai genym ymhelaethu. Ond gan y chwyddai y gwaith yn ormodol i ni prin grybwyll am luaws o eglwysi eraill yn y sir; megys Tregynon, Beulah, Horeb, Soar, Llanfechan, Gwern-y-bant, Trallwm, Cefn- canol, a Iluaws o rai eraill nac am niferi o bersonau defnyddiol, o bregeth- wvr, henuriaid, a charedigion eraill, y rhai a weithiasant yn dda, ae ydynt yn awr yn gorphwys oddiwrth eu Ilafur ; rhaid i ni derfynu ar hyn, gan ddadgan ein dymuniad ar fod pob lle, er lleied fyddo, yn cadw " Llyfr Coíf- adwriaeth " perthynol iddo ei hun, ac yn gosod i lawr ynddo bob amgylch- iad, fel y dygwydd o bryd i bryd, i fod yn barod, pan y gelwir am dauo, iV gyhoeddi i'r cyfundeb oll, ac i'w draddodi i'r genedlaeth a ddelo ar ol.

PEN. 1.] SIll G.\EKFYiíî)I)IN'. 42;5

PRIF LINELLATI HANESIAETH SIR GAERFYRDDIN.

P E N N O Ü I . HEN EGLWYSI GOGLEüD-DDWi'UAIN Y SIÎL

CYNWÎSIAD :

COFNODAU TREFECCA— TAL-LLYCHAU NEU TYLAU— MRS. LLOYD, PAXT-YR-ESGAIR

RHYS MOEGAN, CAPEL-HIR— CYRCHU I LANGEITHO— MRS. GRIFFITHS, GLAN- YR-AFON-DDU-GANOL— ADFYWIADAU LLANFYNYDD— DAFY'DD EVAN, BRISCEN, AC EVAN, TIR-CLAI— DAFYDD UHYS— CORNELIUS COBNER— LLANSAWEL— CAIO— MR. LLOYD, HENLLAN.

Ymddengys oddiwrth Gofnodau Trefecca, fod amryw eglwysi wedi cael eu planu yn y rhanau hyny o'r wlad agsyddyn gorwedd i'r Gogledd oddiwrth yr afon Towy, er amser cyntaf Methodistiaeth. Sonir am amryw o honynt yn y blynyddoedd 1743 —7, y rhai a arolygid gan uu James Williams, yr hwn, tybygid, oedd gynghorwr cymeradwy yn ei dymhor. Yr oedd y dosbarth dan ei olygiaeth ef yu cyrhaedd o'r afon Towy hyd Langwyryfon, yn sir Aberteiíì. Y cymdeithasau yu sir Gaerfyrddin a arolygid ganddo oeddynt, Lhmgathen (Cross-Tnu yn awr), Llanfynydd, Llansawel, Tal-llychau, Caio, a Chil-y-cwm. Mewn un adroddiad tua'r fì. 1743, rhoddai rifedi yr aelodau yn rahob lle fel hyn :

L]ansaAvel 40 Tal-lljchau M

Llanfynydd 50 Caio 55

Llangathen 29 Cil-y-cwm 29

Ymddengys fod cryn anwastadrwydd ac anwadalwch yn y rhifedi, weithiau yn fwy a phryd arall yu llai ; ymddengys hefyd eu bod yn dyoddef ciyn lawer o wawd, ond nid liawer o drais a gorthrwm. Yr oedd cryn auwybodaeíh a llawer o ddiniweidrv/ydd yn nodweddau y dysgyblion ieuainc hyn ; yr oedd- ynt hefyd yn ddarostyngedig i deimiadau cryfion, weithiau o ofu a digalondid, a phrydiau eraill o lawenydd mawr dros ben. Yr oedd y pregethu yu cael ei gynal, gan mwyaf, mewn tai, neu yn yv awyr agored; ac weithiau, yu ach- lysurol, canialeid i rai o'r offeiriaid Methodistaidd, megys Mr. Eowlands, Llangeitho, neu W' illiams, Pant-y-celyn, bregethu yn îlan yplwyf. Nid oedd, yn y tymlior hwn, yr un capel neu addoldy wedi ei godi yn unlle j'n y wlad, oddieithr fod un yu Llansawel, o dan yr enw " i ddybenion crefyddol," yr hwn, yn ol dim a fedrodd yr ysgrifenydd gael allan, oedd y cyntaf gan y Methodistiaid yn Nghymru. Penderfynwyd ar i hwn gael ei godi yn y fl. 174t, sef tair blynedd cyn yr amser y codwyd capel Llanfair-yn-Muallt. Yr oedd cyfarfodydd misol yn cael eu cynal yn Abergorlech, Glan-yr-afon-ddu, Porth-y-rhyd, a Dygoedydd ; y lleoedd a dybid yn fwyaf cyfleus, ar gyfiif fod ynddynt deuluoedd mwy eu gallu a'u hewyllys i letyn a chroesawu y dyeithr- iaid, na manau eraill.

424 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IT.

TAL-LLYCHAU.

DywedÌT mai yn y fl. 1794 y dechreuodd yr achos ymffurfio i wedd sefydl- og yn yr ardal hon. Y mae hyn yn peri gradd o syndod, gan fod yma gym- deithas eglwysig er ys 50 mlynedd cyn hyny. Ond pa mor syn bynag yr ymddengys hyn i ni, felly yr oedd ; ac nid yn y lle hwn yn unig y bu yr achos fellj", ond mewn niferi o fanau eraill. Yn y flwyddyn grybwylledig, rhoes gwraig foneddig dduwiol yn y gymydogaeth, sef Mrs. Jane Lloyd, Pant- yr-esgair, o'i heiddo, yr hwn oedd yn sefyll ar ei thir, 1 fod yn lle addoliad. Trefnuswyd hwn i'r dyben hyny, a dygwyd yr achos yn mlaen yn y lle hwn hyd y fl. 1806. Y pryd hwn, rhoes yr un foneddiges dir i adeiladu capel arno, a chae bycban i'w ganhai. Yn hwn yr arferid ymgymül hyd y fl. 1828, pryd yr helaethwyd ef i'w faintioli presenol.

Nid oes genym nemawr o hanes pa fodd yr oedd ar yr achos yn ystod llawer 0 flynyddoedd cyntaf ei hanfodiad ; yn unig, fe draddodir i ni enwau rhai gwŷr a gwragedd, swyddogiou ac aelodau, a fuont ymroddgar a ffyddlawn i'r achos yn ei wendid. Sonir am Thomas Lewis, y gof ; John Thomas, Cwm- sidan ; a David Morgan, o'r Merdy, Taliaris, fel rhai nodedig eu gras a'u defnyddioldeb. Crj^bwyUir j'n barchus iawn am un Morgan Ehys, Capel-hir, yr hwn a fu yn pregethu yn llafurus ar hyd ac ar led y dywysogaeth am fwy na 60 mlynedd. Nid yw yn ymddangos fod y gŵr hwn yn berchen ar ddouiau helaeth, eto cafodd ras i fod yn ffyddlawn, a choronwyd ei lafur dirodres â Uwyddiant mawr.

Gan lleied oedd nifer y pregethwyr ar y dechreu, a chan mor anwastad oedd y moddiou yn y parthau hyn, yr oedd cjTrchu mawr gan y rhai a brof- asent flas yr efengyl i Langeitho i wrando Mr, Eowlauds, yn euwedig ar Sul cymundeb. Ai llawer o'r ardal hon yno ar eu traed dros y myuyddauuchel, a'r corsydd dyfnion, 30 milldir o ffordd, erbyn yr oedfa naw o'r gloch y boreu, a dychwelent drachefn erbyn boreu ddydd Llun, gan deimlo eu bod wedi cael mwy na thâl am eu hoU lafur. Mae enwau y rhai hynotaf o hon- ynt eto ar gael,* ond eu lle nid edwj^n ddim o honynt mwy. Arferent gadw cyfarfodydd yn nhai eu gilydd ar gylch, drwy yr holl ardaloedd hyn, i ym- ddyddan am bethau ysbrydol, ac i Aveddio. Coronid eu cyfarfodydd yn fyn- ych â mwynhad rhyfeddol, rhedai eu Uestri dros yr ymyl, myuych y byddent yn canu ac yn moliannu drwy y nos, a'r meusydd a ddadseinient gan eu mawl wi'th fyned i'w cartrefi. Disgynai syndod ar lawer wrth eu gweled, eraiU a'u gwawdient, a rhai a'u cablent.

' Nid oes hanes am uemawr o erlid a fu ar y crefyddwyr yn y tymhor hwn. Cyfrifir fod hyn yn codi, naiU ai oddiar fod yr offeiriaid yn berffaith ddiofal

* Siôn Dafydd Harri ; WiUiam Harri (Annibynwr yn perth}Ti i Grug-y-bar); Siôn Edward, Glan-yr-afon-ddu-isaf ; Mrs. GrifEths, Glan-yr-afon-"ddu-ganol ; Rhydderch Siôn Huw, Nant-yr-hogfaen, Caio ; Ehys Dauiel, Tir-allen ; Evan Rhys, Troed-y-rhiw, Llanwrda ; William Timothy, Heol-y-gelli ; Gwen Evan Ówen, Cefn ; Siôn Zachari ; a Siûn Siencyn, y Parc, yn ardal Llansadwrn.

PEN. 1.] SIK GAERFYRDDIN. 425

pa beth a ddeuai o'u plwyfolion, neu oddiar fod personau o gYyn gyfrif a dy- lanwad yn y wlad yn eu pleidio, yn liytracli nag yn eu gwrthwynebu. lë, yr oedd amryw o'r crefyddwyr eu hunain yn bobl gyfrifol yn y byd, ac iddynt barch mawr o herwydd eu sefyllfa yn gystal a'u cymeriad. O'r cyfryw rai, yr oedd yn ardal Llangadog, Mri. T. W. Watkin, Llwyndewi, a Benjamin Morgan, Cae-Sieucyn ; yn ardal Llansadwrn, yr oedd Williara Jones, Aber- marlais, a Gwen Evan Owen, o'r Cefn ; ac yn ardal Tal-llychau, yr oedd Mr. a Mrs. Griífiths, Glan-yr-afon-ddu ; Mrs. Lloyd, Pant-yr-esgair ; a Morgan Ehys, Capel-hir.

Byddai yn anfaddeuol, er lleied ein gofod, beidio a rhoddi hanes helaeth- ach am y Mrs. Griffiths hon. Ymddengys ddarfod iddi hi a'i gŵr, Mr. Thomas Griffiths, ddyfod i fyw i Glan-yr-afon-ddu-ganol tua'r fl. 1728. Yr oeddynt yn berchen amryw dyddynod eu hunain, er mai dan ardreth yr oedd y tyddyn hwn ganddynt. Cymerodd Mr. Griffiths amser ar y tyddyn dros dair oes, yn y fl. 1734, gan Syr Nicholas Williams, Ehyd-odyn, am J650 yn y flwyddyn, tyddyn sydd yn awr yn werth £200 yn y flwyddyn. Yr oedd ganddyut ar y pryd fab bychan, ychydig wythnosau oed. Rhoddwyd bywyd y rhieni a'r plentyn yn y weithred. Bu farw y plentyn yn 8 ml. oed, a'i dad hefyd a fu farw yn y fl. 1768. Yr oedd Mr. Griffiths yn ẃr duwiol, a chy- mwynasgar i achos yr efengyl, a pharhaodd felly dros ei oes. Ond nid cy- maint o goff'a sydd am dano ef ag sydd am ei wraig, yr hon, fel yr ymddengys, oedd yn un hynod am ei rhinweddau Cristionogol, ac am ei haelioni crefydd- ol. Ymddengys mai gwraig o gyneddfau cryfion oedd hi, gywir, a dirodres. Troai allan yn wastad yn well na'r dysgwyliad, Yr oedd ei chyfarchiad cyntaf yn aml yn Ued anfwyn, gan y rhoddai y gair garwaf yn mlaenaf ; parai hyn radd o gamsyniad am dani yn mysg dynion dyeithr iddi. Yr oedd ei thŷ, o ddechreuad Methodistiaeth ymron, yn " llety ff"orddolion ;" yn Ile cyfarfod, ac yn gyrchfa pregethwyr ac eraill i letya. Yr oedd Glan-yr-afon-ddu yn sefyll yn gyfleus i'r bobl a gyniweirient i Langeitho o ranau deheuol a gorllewinol y sir, ac o sir Forganwg, i droi i mewn iddo ; a chan fod y gair am ei Ilety- garwch hi wedi myned ar led, nid ychydig nifer a fyddai yn troi i mewn, ac ar rai achlysuron cyd-gyfarfyddai nifer mwy nag arferol ; y pryd hyn hi a dorai allan yn ddirodres i ddyweyd :

" Hawyr fach ! i b'le 'r'ych ch'i'n myn'd i gyd? "

" O, i 'mofyn Ile i gysgu genych ch'i, Mrs. Griffiths fach, yr y'm ni," fyddai yr ateb.

" O b'Ie ca'i fwyd i ch'i gyd, i ch'i'n meddwl ? "

" 0, mae digon o fwyd a gwelyau i gael yma, os nad yw hi yn ods nag y mae yn arfer bod yma."

" ( )'r goreu, ynte, dewch lawr, dewch i'r tŷ. Siôn (enw y gwas) a oes lle gyda ti i'r holl geffylau yma, wyt ti yn meddwl ? "

" Oes, oes, meistres fach," atebai Siôn.

" A oes digon o wair yna iddyn' nhw i gyd, wyt ti yn meddwl ? "

" 0 oes, digon o wair hefyd, meistres fach."

426 HANESIAETH Y SIROEDU. [üOSB. IV.

"O'r goreu," meddai y feistres wedi'u, " dewch mewn.di-uaiu bacli." Bellach, dangosai iddynt bob caredigrwydd. Ac os dygwyddai fod yr addoliad teulu- aidd nos neu foreu, yn Uewyrchus (a hyn a ddygwyddai yn fynych y tymhor hwnw), byddai ei serchogrwydd, bellach, yn llawer mwy uag a fuasai anserchogrwydd y cyfarchiad ; a chyn eu gollwng ymaith, gosodai yn drwm ar bob un i cfalu troi i mewn pa bryd bynag y byddai yn myned heibio. Pel yr oedd ei moddion yn helaeth, felly yi' oedd ei Uaw yn agored. Hi a anrbegodd Mr. Eowlands â gig i deithio ynddi ; a pharodd i galon y tlawd lawenychu yn fynych trwy ei haelfrydedd. Gadawodd dyddyn, £50 yn y flwyddyn, trwy weithred gyfreithiol, i'r ardreth gael ei gyfranu yn flynyddol dros byth, yn mys^^ tlouioii eglwysi Llaugeitho, Tal-llychau, Caio, Llan- sawel, a Llanfynydd. Gwnaed cais rai blynyddoedd yn ol, gau ofleiriaid y plwyfydd hyny, i droi y ffrwd uchod i dlodiou y plwyfydd dan eu harolyg- iad hwy, gan mai enwau y plwyfydd oedd yn y weithred, ac nad oedd cym- deithasau eglwysigy Methodistiaid ddim wedi eu dynodi yn ddigon manwl. Ond trwy fod yr ymddiriedolwyr yn ddynion cywir, terfynodd y ddadl o blaid cyfiawnder.

Dvgwyddai i'w haelioni, weithiau, gymeryd llwybr lled ddyeithr ; llwybr \ na feddyliasai neb am dano ond hi ei hunan. Yr oedd yn arferiad tra chy- fí"redin, y pryd hwnw, i bregethwyr ac eraill wisgo cadach, neu fel y gelwir ef gan rai, ft'unen, neu napcyn (handkerchief) , am eu penau. Tarawodd yn mhen Mrs. Grifíìths unwaith roddi i saith o brif ddiaconiaid ei hardal, bob un ei gadach sidan. Galwodd y saith ŵr i Laii-yr-afon-ddu, ar ryw ddiwrnod, i gadw cyfarfod eglwysig ; a chyn eu gollwng i'w ffordd, galwodd hwynt oU i'r parlawr, ac o'u nifer yr oedd Ehydderch Siôn Huw, a Siôn Dafydd Harri, ei phen gwas ; ac wedi peri iddynt oU eistedd, hi a ddygodd yr anrheg i'r golwg, ac a'u cyfarchodd :■

" Wel, frodyr bach, yr w'i wedi cael ar fy meddwl i roi i bob un o houoch handjcercîiief sidan i wisgo ar eich penau, yn arwydd o'r parch sydd genyf i ch'i." Disgyuodd syndod ar bawb. Gofynent yn ddystaw bob un iddo ei hun, paham y gwnai y wraig foneddig y fath beth. Torodd Ehydderch Siôu Huw, yr hwn oedd yn well ei fyd na rhai o'r lleiU, allan, gan ddyweyd, " 'Allai i byth ei gymeryd e' o gydwybod does dim o'i eisieu ef hefyd arna' i, ac yr wyf yn ei weled e' yn ormod o werth o lawer i mi."

" Wel, Rhydderch," meddai hithau, " yr wyf fi yn amheu a yw dy galon di yn gwbl ddiragrith yn hyna, ai peidio. Ond os cymeri di ef, yn awr yw yr amser, tra fo fy nghalon i yn agored ; o waith, os cauiff fy nghalon i, yr hyn y mae yn dra thueddol i wneyd, dygwydd fydd iddi agor yn fuau, i ti gael yr ail gynyg aruo." Prin y mae achos chwanegu na wnaeth ef, na'r un o'i frodyr, un wn-thddadl rhag derbyn yr aurheg wedi liyn o hèr.

Agorwyd y capel, fel y dywedwyd, yn y fl. 1806, ac ar ei agoriad pregethai Mr. Llwyd, Caio, a Mr. Jones, Llangan, ac eraill, i dyrfa fawr iawn. Xn ystod yr hen cyntaf, ac am ysbaid 23 o flynyddau ar ol adeiladu y capel, cafwyd adfywiadau mynych a chynyrchiol, fel y chwaneg'wyd Ilawer at rifedi

PEN. I.] 3IR GAEUFYRDUIN. ' 427

yr eglwys. Tiia'r amser yr agorwyd y capel, neu ychydig o flynyddau cyn hyny, y codwyd yr ysgol Sabbothol hefyd. Y prif offerynau i'w chodi, gyda chynorthwy rhai eraiU o'r brodyr, ydoedd Thomas Lewis, a John Thomas. Cymerai y brodyr hyn bob un ei dro, un i fyned i gwrdd y pregethwr, y boreu i Gaio, Llansawel at ddau, a'i arwain ef i Esgairnant neu Tal-llychau, erbyn yr hwyr ; a'r llall gyda'r ysgol y borcu, mewn rhyw ganghen o'r neiUdu, a'r prydnawn yn y capel. Parhaodd hyn am lawer o flynyddoedd. Yn wa- hanol i'r mwyafrif o'i urdd, dangosai Arglwydd Eobert Seymour, o Taliaris, lawer o garedigrwydd anmhleidgar tuag at yr ysgol Sabbothol, fel y gwnai at luaws 0 achosion da eraill. Un tro, pan oedd diff"yg Testamentau yn yr ysgol, anrhegodd y pendefig yr ysgol, ar gais Mr. D. Morgan, Merdỳ, a rhai dwsinau o honynt. Trefnusodd hefyd ysgubor ar dyddyn gerllaw ei balas, drwy draul go fawr, i fod yn Ue cyfleus i bregethu ynddo, modd y gallai ei weithwyr Cymreig, ac eraill a ewyllysient, fyned yno, i glywed gair y bywyd.

Cafodd achos yr efengyl yn raysg y Methodistiaid brofion mynych o ewyll- ys da boneddwyr a gwŷr cyfrifol y fro lion, dan amryw amgylchiadau heb- law a goffawyd eisioes. Dywedasom o'r blaen mai Mrs. Lloyd, Paut-yr- esgair, a roes dir i adeiladu capel, yn nghyda maes bychan gydag ef dan lease 0 fil ond un o flynyddoedd ; ond trwy ddiofalwch ac esgeulusdra, bu agos i'r anrheg werthfawr fyned o'r meddiant, am na chofrestrwyd hi yn ol y gyf- raith ; ac allan o feddiant yr aethai hefyd, oni bai i garedigrwydd y gŵr parcb- us Mr. Walters, etifedd Mrs. Lloyd, wneuthur y bwlch yn wirfoddol i fyny.

Amser a ballai i ni gymaint a chrybwyll am ffyddlondeb a charedigrwydd lluaws o gyfeiUion eraill i'r achos a fu yn y gymydogaeth Iion, o'r dechreuad hyd yn awr. " Mae eu tyst hwy yn y nefoedd, a'u tystiolaeth yn yr uchelder."

Ymwelwyd amrywiol weithiau â'r ardal hon drwy adfywiadau hyfryd, cawodydd cynyrchiol o'r gwlaw graslawn, nes y byddai y tir cras yn ffynnon o ddwfr. Ac er profi tymhorau gwahanol i hyn, eto, ar y cyfan, cadwyd yr achos mewn gradd helaeth o sirioldeb, a pharhaodd i gyuyddu, ar y cyfan, hyd yn awr. Mae yma tua 150 o aelodau mewn cymundeb rhifedi lled fawr, wrtli ystyried mai dosbarth amaethyddol o wladydyw, a'i thrigolionyn deneu mewn cydrahariaeth i rai manau eraill.

Yn y fl. 1847, bu farw y pregethwr aberthynai i'r eglwys hou, Ehys Mor- gan, yn 83 ml. oed, yn hen a chyflawn o ddyddiau, wedi bod yn Ilafurio yn gyhoeddus gyda'r gwaith o'i ieuenctyd, ysbaid maith o 63 o flynyddoedd. Ychydig o'r dechreuad hyd heddy w a dreuliasant gynifer o flynyddoedd mewn llafur cyhoeddus.

LLANFYNYDD.

Mae Methodistiaeth y Ile hwn yn meddu yr un hawl i henafiaeth a'r eg- Iwys yn Tal-llychau. Yr oedd yma gymdeithas eglwysig yn amser Howel Harris, ac fel y cymdeithasau eraill a nodwyd eisioes, dan olygiaeth un Jamcs Williams. Crybwyllir yn ysgrifion Trefecca, fod yma un Dafydd William yn

428 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

gynghorwr, ac uii Morris John, yn ddiacon neu steward, fel y gelwid ef yn y cofnodau.

Dywedir niai yn nhŷ un Dafydd Evan, Briscen Helyg, y bu y pregethu gyntaf gan y Methodistiaid yn yr ardal hon. Sonir hefyd am ddau bregeth- wr ag oedd yn mhlith yr hen bobl, sef Evan Dafydd Evan, a Dafydd William Ehys. Mae crybwylliad am waith Howel Harris yn pregethu oddiar gareg farch wrth y raawr, yn mhentref Llanfynydd ; wedi hyny y cafwyd der- byniad i Cwmban-fawr. Ymddengys gradd o anghysouedd rhwng yr adrodd- iadau uchod. L'n a ddywed, mai yn Briscen Helyg, a'r llall mai yn Cwmban- fawr, y rhoddwyd achles i'r pregethu gyntaf; ond y mae y ddau draddodiad yn gyson os ystyrir dau ddechreuad i Felhodistiaeth yn y fro hon, fel ag y bu mewn lluaws o fauau eraill. Y cyntaf gan Howel Harris a'i gyd-lafur- wyr, o'r fl. 1738 hyd y fl. 1751, pryd y bu bwlch gauafaidd yn y diwygiad trwy yr ymraniad a fu rhyugddo â Rowlands, a'i enciliad oddiwrth ei hen frodyr am flynyddoedd. Y'^r ail ddechreuad, tua'r blynyddoedd 1760 70. Barnu yr ydym, mai ar p' ail gycliicynlad Imn y derbyniodd Dafydd Evan y pregethu i'w dŷ. Llocheswyd y pregethu hefyd yn Stangrach, lle yr an- neddai tad a mam y Parch. WiUiam Davies, Castell Xedd. Wedi eu marw- olaeth hwy, dygwyd yr achos yn mlaen yn nhŷ Ehys Evan, o'r Gallt, ac hefyd yn Tir-Clai, lle y preswyliai yr hyuod bregethwr Evan Dafydd Evan, neu, fei y gelwid ef amlaf, Evan Tir-Clai. Bernir hefyd fod gweinidogaeth yr Aunibynwyr yn Nghrug-y-bar wedi bod yn fendithiol i rai o'r ardal hon, y rhai a ymuuasant, ar ol hyny, gyda'r Methodistiaid. O hyny hyd yn awr, y mae wedi bod mewn cysylltiad â'r achos, luaws o ddynion da eu gair, eiddigeddus eu hysbryd, a S"yddlawn eu gwasanaeth,* y rhai, oU ymron, ydynt wedi eu symud, a'u lle yn cael ei lenwi gan eraill.

Bernir ddarfod ad-fí"urfio yr eglwys yma, ar ol gwasgarfa yr ymraniad rhwng y blynyddoedd 1755 a 1760. Adeiladwyd y capel cyutaf tua'r fl. 1771, dan arolygiaeth Dafydd Evan, Briscen, ac Evan Tir-Clai. Yn fuan wedi ei adeiladu, cynaliwyd yma Gymdeithasfa, pryd yr oedd Mr. Eowlands, ac amryw o'r ofí"eiriaid a gyd-lafurient ag ef, yn pregethu ar yr achlysur. Cawsant ganiatâd i'w chadw y tro hwn yn llan y plwyf. Y ficer oedd un Cornelius Cobner, gŵr hoUol anghymhwys " i wylio dros eneidiau," gan nad oedd yn gwylio dim ar ei enaid ei huu: " glwth a meddw oedd efe ;" eto yr oedd yn Uai ei ragfarn, fel yr ymddengys, at y Methodistiaid, na rhai o'i frodyr, gan y rhoddai y Uan at eu gwasanaeth ar yr achlysur. Lletyai feddwl mawr am dalentau gweinidogaethol Rowlands, ac nid Uawer Uai am ei gymhwys- derau ardderchog ei hunan, gan y dywedai yn fynych, mai dau ofl'eiriad en- wog oedd yn Nghymiu, Eowlands yn sir Aberteifi, ac yutau yu sir Gaer- fyrddin !

* Megys, Morgan lîliys, Awdwr yr Hymnau ; William Morgan Thomas, Gallt- llan ; Thomas Lewis, Pant-gwineu ; homas Lewis, Pentre-felin ; Rhys Rhys, a'i fab John Rhys, tàd a brawd y Parch. Dafydd Ehys ; Dafydd WiUiam, y Saer ; a Thomas Jones.

PEN, I.] SIR GAERFYRDDIN. 429

Yr oedd Llaufynydd, fel cyraydogaetliau eraiU o amgylch, yn mwynhau gweinidogaeth y ddau Williams, Lloyd o Henllan, John Evans, Cil-y-Cwm, a Dafydd Morris, yn gymysg â'r eiddo cynghorwyr eraill, llai eu doniau cy- hoeddus, bawb yn eu cylch ; a chynyddai yr aclios yn raddol, ergweledgwa- hanol dymhorau, dan eu Uafur cyhoeddus hwy, a than fugeiliaeth llai cyhoedd- us henuriaid ífyddlon a duwiol.

Yr oedd rhai o'r hen gynghorwyr yn ddynion anghelfydd a diaddum iawn, er bod yn nodedig am eu cywirdeb a'u Uafur. Ymwisgent mewn diwyg mor wladaidd, a chyfarchent y bobl mewn duU ac iaith mor gyffredin, ag a barai i ni, yn y dyddiau hyn,synu pa fodd y goddeíid hwy i ymddangos ar goedd cynulleid- faoedd ; ond y gwirionedd ydyw, fod eu gwrandawyr hwy, hefyd, gan mwy- af, yn boblach wladaidd ac anghoethedig, a chan mor amlwg fyddai eu cy- wirdeb, a difai a fyddai eu cymeriad, edrychid heibio, gan y rhai callaf o'u gwrandawyr, i ambell wrthuni a ymddangosai ynddynr.

Un o'r cyfryw gynghorwyr oedd Evan Tir-clai. Yr oedd yn wladaidd iawn ei olwg, yn fras iawn ei gyfarchiad, ac yn fynych yn drwsgl iawn ei weinidogaeth. Eto, oblegid ei grefydd, a chyfanrwydd difwlch ei rodiad, temtir ni i edrych arno yn gymhwysach "olynwr i'r aj)ostolion" nag ydoedd ficer ei blwyf, na'i gyö'elyb. Digon i beri i'r un mwyaf pruddaidd wenu ydyw y darluniad a roddir i ni o bregeth o'r eiddo, yr hon a wrandawyd, ac a adi'oddwyd wedi hyny, gan Mr. Llwyd, Henllan. Pregethai Eyan ar edifeirwch, ac atebai y gofyniad, "Beth yw edifeirwch?" fel y canlyn :

1. Aqua fortis, yr hwn sydd yn tori yn ddau y peth oedd yn un.

2. Powdwr jalap, yr hwn sydd yn clirio gwaelod y briw.

3. Tincture of viyrrlí, yr hwn sydd yn iachâu y briw yn drwyadl, ac nid yn ei groeni ar gig marw!

Y mae yr enghraifft hon yn ddigon i ddangos, nid pa fath oedd pawb o gynghorwyr yr oes hòno, ond pa fath un oedd Evan Tir-clai, o ran coethder ei chwaeth, a chymhwysder ei ymadrodd. Ond un hynod ydoedd ef ymron yn mhob peth : nid annhebyg 1 Siencyn Thomas, Pen-hŷdd, yr hwn, yn wir, a genedlwyd ganddo yn yr efengyl ; y ddau yn ddynion gwir grefyddol, eto o ddiwyg ac ymddygiad perffaith anghoethedig a diaddurn.

Y mae Llanfynydd yn gysylltiedig, yn meddyliau Methodistiaid hynaf yr oes hon, ag enw Dafydd Kees, yr hwn, er ei fod yn ogyfuwch ag Evan Dafydd Evan mewn gras a duwioldeb, oedd yn gwahaniaethu yn ddirfawr oddiwrtho 0 ran ei chwaeth a'i weinidogaeth. Ni welodd sir Gaerfyrddin nemawr weinidog mor grj'no a difai a Dafydd Rees. Yr oedd ei weinidog- aeth yn uodedig, nid am orwychder taubaid, a grymusder aruthrol, ond am ei sylwedd a'i chymhwysder. Yr oedd ei bregeth yn nodedig am ddwysder ei mater, ysgrythyroldeb ei thraethiad, ac agosrwydd ei chymhwysiad. Gan- wyd ef yn y fl. 1751 ; dechreuodd bregethu yn y fl. 17S2 ; a Uafuriodd yn fFyddlawn ac efl'ro yn ugwinllan ei Arglwydd am oddeutu 35 o flynyddoedd; a bu farw yn nghanol ei waith, yn Mhont-y-pridd, pan ar ei daith yn sir Forganwg, wedi ychydig ddyddiau o glefyd, yn y fl. 1818. Yn fuan ar ol

430 HANESIAETH Y SIROEDI). [dOSB. IV.

iddo ddechreu pregethu, disgynodd y coelbren arno i fod yn filwr; a chan ei fod yn ddyn iraidd, tàl, a golygus, cafwyd anhawsder mawr i'w gael yn rhydd; a diau hefyd na chawsid ef yn rhydd, oni bai i K. Jones, Ysw., Pantglas, sefyli o'i blaid, a gosod ei fryd ar fynu ei ryddhau. Teithiai lawer yn V Deheudir; ymwelai â'r Gogledd uuwaith yn y flwyddyn ; a chafodd cynulleidfaoedd y Methodistiaid yn y dywysogaetli, drwy hyny, brawf hyfryd o'i gjnnhwysder i "iawn gyfranu gair y gwirionedd," ac i "gadarnhau eneid- iau y dysgyblion." Yr ydoedd efe yn un o'r nifer a neiUduwyd gyntaf, yn y fl. 1811, i gyflawn waith y weinidogaeth. Amlygai y cyfryw ddewisiad y mawr barch a fynwesai ei gyfeillion tuag ato, a'r ymddiried diö"uant a roddent ynddo.

Y mae yr hanesyn canlynol yn cyflwyno awgrym i'r darllenydd pa fath rai oedd athrawon cyflogedig y bobl yn y cyfamser, ac yn rhoddi cipolwg hefyd ar hynawsedd a ffraethineb Mr. Jones, Llangan. Dywedasom fod offeiriad o'r enw Cobner, yn gweini jm Llanfynydd dros ryw dymhor. Yn ei amser, arferai aelodau clwb i'r cleifion ymofyn am bregeíh ganddo ar ddydd Llun y Pasc bob blwyddyn, a thalent bum swllt iddo am ei wasanaeth. Dygwydd- odd un flwyddyn fod Mr. Jones, Llangan, i fod yn pregethu yn Llanfynydd, a thybiai rhai o aelodau y clwb mai dymunol fyddo cael pregeth ganddo ef, gan fod yr achlysur yn rhoddi. Dan ddylanwad y syniad hwn, aeth rhai o honynt at Mr. Cobner, gan osod eu cyullun o'i flaen. Wedi eu gwraudo, dj'wedai y gŴT parchedig, "O'rgoreu; peidiwch chwi a gofalu, mi siaradaf fi â Mr. Jones. Yr wyf fi yn llawn mor gyfarwydd a neb o honoch chwi â Mr. Jones." Pan ddaeth yr amser, daeth Mr. Jones yn ol ei addewid. Yr un modd hefyd, daeth Mr. Cobner ato i drefnu yn nghylch y bregeth.

"Yrwyffi, Mr. Jones," ebe efe, "ibregethu heddyw i ddeiliaid y clwb sydd yma. Y mae yn arferiad cyson i wneyd hyny ar ddydd Llun y pasg."

" O'r goreu," meddai Mr. Jones, "mi âf fi heibio, ynte, at yr oedfa nesaf."

"0 na, Mr. Jones," chwanegai yr offeiriad, "y mae yn rhaid i chwi breg- ethu, syr, Yr wyf fi yma yn wastad, ac y mae y bobl yn gyfarwydd iawn â mi ; ond er hyny, Mr. Jones, y mae yn rìiaid i nii gael y goron."

" O stop, Mr. Cobner," meddai Mr. Jones, " os rhaid iddi fod fel hyny, ni ro'f fi ddim o ' ngJioron i chwi mor rhad a hyna ; ond os y pim-swllt sydd vn eich golwg, chwi a'u cewch a chroesaw, ond nid y goron !"

Ymddengys fod Methodistiaeth wedi ymwreiddio yn y dosbarth hwn o'r sir yn cynwys Caio, Llansawel, Tal-llychau, Cross Inn, a Llaufynydd er yn foreu iawn. Yn y dosbarth hwn yr oedd y cymdeithasfaoedd cyntaf, sef math 0 gyrddau misol bychain, yn cael eu cadw, sef yn Abergorlech a Glan- yi"-afon-ddu, pryd y byddai y tadau J\Iethodistaidd yn cyfarfod i dderbyn adroddiadau yr arolygwyr, ac i gydymgynghori yn nghylch y dull goreu i ddwyn yr achos yn mlaen. Gŵr o'r enw James Williams oedd yn arolygu y cymdeithasau a gyfarfyddent yn Caio, Tylau, Llansawel, Llangathen, (Cross Inn,) a Llanfynydd, heblaw rhai manau yn sir Aberíeifi. Perthynai cryn nifer o aelodau i rai o'r lleoedd hyn tua'r blynyddoedd 1 742-5, fel y crybwyll-

PEN. I.J SIR GAERFYRUDIN. 431

wyd o'r blaen, er ei bod yii auhawdd ohhain eu hanes oddiyno i waered, yn en- wedigol gan nad oedd eto nemawr o leoedd sefydlog i addoli ; ond cyfaríyddent mewn tai anedd,weithiau mewn un, ac weithiau raewn un arall, yn ol cyfleusdra.

Caio.

Am y Ue hwn y cofnodir fod yraa 44 0 aelodau, a dau gyughorwr anghy- hoedd o'r enw John Thomas, a Richard Jones, yn y flwyddyn 1743. ])y- wedir fod 24 o'r 44 aelodau hyn yn Iióni liaicl yn Nghrist, a'r gweddill oll dan y ddeddf. Dywedir drachefn am danyut, " Mae gwaith Diiw yn myned yn mlaen yn rhwydd ; hwy rodiant mewn cariad mawr, gau deimlo fod Crist yn gweithio yn rymus yn eu heneidiau. Maent yn byw yn unol iawn â'u gilydd, a rhagfarn yn cael ei ddiwreiddio fwy-fwy o'u mysg. Maent yn fwy sylweddol yn eu heueidiau, ac yn edrych mwy ar yr lesu."

Cynaliwyd cyfarfod yma av yr 28aiu o Hydref, 1745. Yr oedd yn bres- enol, y Parch. Daniel Rowlands ; y Parch. William WiUiams ; y Parch. Jenkin Morgau, gweinidog ymneiUduoI ; Mr. Howel Harris, arolygwr cyff- redinol ; James Williams, a William John, arolygwyr ; Thomas Jones, arol- ygwr cynorthwyol ; John Thomas, John Dafydd, John Thomas, Dafydd John, Morgan Evan, William Samuel, John Dafydd, John Ehys, a Jaraes Edwards, cynghorwyr anghyhoedd.

Cytunwyd yn y cyfarfod hwn,

1. " I gyffroi y bobl i ddarllen yr ysgrythyrau, ac i ffurfio eu hymad- roddiou yn eu hol ; ac i sefydlu holwyddori yn y duU mwyaf bywiog a buddiol.''

2. "Arfod i bawb a allo gadw dydd Gweuer nesaf, Tachwedd laf, yn ddiwrnod. i weddio yn erbyn gelyuiou ein crefydd, a'r Preteìider ; a bod i'r sawl na allo, ei gadw yn mheu yr wythnos, a gosod o flaeu y bobl pa fath ydyw y grefydd babaidd, &c.; a bod i'r rhai na allant gyfarfod ar yr un o'r dyddiau crybwylledig, gadw rhyw ddiwrnod yr wythnos nesaf, neu mor fuan ag y byddo modd."

3. "Ar fod i'r brodyr anfon am 50 o'r ' Hanes Wythnosol,^* a bod i'r aelodau gymeryd un bob un o honynt."

Anmhosibl ydyw oh-hain hanes y lle hwn o'r amser boreol uchod hyd yn awr. Nid yw yr ysgrifenydd wedi derbyn un hysbysiad penodol o'r lle hwn, ac felly yn fwy analluog i osod dim gerbron y darîlenydd. Pa fodd bynag, y mae y lle hwn yn nodedig o herwydd ei gysylltiad â'r enwog William Llwyd, Ysw., Henllan, am yr hwn y mae genym ychydig ddefnydd- iau wrth law.

Ganwyd Mr. Llwyd yn y flwyddyn 1741. Mab ydoedd i Mr. Dafydd Llwyd, Blaen-y-clawdd, plwyf Caio. Nid oes goffa neillduol am dano yn moreu ei oes, ond ei fod wedi cael graddau o fanteision dysgeidiaeth, dan

* Cyhoeddiad Cyfuodol, a roddid allan gan y Diwygwyi-.

432 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

olygiaeth y Parcli. Owen Davies, a'i fod o dan fesur o argylioeddiad, yn ol ei dystiolaeth ef ei hun, er pan ydoedd yn saith nalwydd oed, Ond pan gyr- haeddodd ddeunaw mlwydd oed, dyfnhawyd yr argyhoeddiad i raddau llawer rawv dan weinidogaeth y Parch. Peter WiUiams. Bu am agos i flwyddyn ar gyffiniau anobaith, ond trwy weinidogaeth un Mr. Evan Jones o Ledrod, Ceredigion, goUyngwyd ei enaid i ryddid. Bellach, ymroddodd â'i hoU galon dan iau y Cyfryugwr : cychwynodd yrfa, yr hon a ddybenodd mewn llaweuydd a gogoniant.

Dywedir iddo ymuno ar y cyntaf gyda'r ymneiUduwyr yn Nghrug-y-bar ; ond rywbryd, er nas gwyddys pa bryd, nac o herwydd pa beth, ymunodd â'r Methodistiaid. Dywedir* mai yn y flwyddyn 1760 y fí"urfiwyd cymdeithas neiUduol gan y Methodistiaid yn y plwyf hwn gyntaf, pryd y gwelwn fod Cofnodau Trefecca yn crybwyllam gymdeithas o'rfath yno yn y fl. 1743, a'i bod yn cynwys 44 o aelodau. Dywed Mr. Charles hefyd yn y Brysorfa fod y gymdeithas yn Nghaio yn cynwys ond tua 18 o nifer pan yr ymunodd Mr. Llwyd â hi, ond ei bod ar ol hyny, ac erbyn dechreu y ganrif bresenol, wedi chwj^ddo yn 300 o rifedi. Nid oes, er hyny, yr anghysondeb lleiaf yn y ddau hysbysiad ; oblegid cyfarfu Methodistiaeth, fel y dywedasom yn fynych yn y gwaith hwn, ag amserau blinion, ac â difrod trwm, o'r flwyddyu 3 750 hyd 3 760. Yn y cyfnod hwn y ciliodd Howel Harris, y llaesodd dwylaw llawer o'r cynghorwyr cyntefig, y dyrysodd ysgogiad y peiriant crefyddol a osodasid i fyny gan y diwygwyr, ac y chwalwyd lluaws mawr o'r mân-eglwysi, a gasglesid at eu gilydcl yn y blynyddau blaenorol. Tr oedd yr achos Methodistaidd, gan hyny, megys yn ail-ddechreu o newydd tua'r flwyddyn 1760, acarolhyny; ac nid oes dim annheíjyg nad fel hyn y bu hefyd yn Nghaio.

Nid oedd Mr. Llwyd ond 22ain oed pan y galwyd ef i bregethu yr efengyl ao- Y profasai eisoes gymaint o'i chysuron, dan weinidogaetli hynod yr anfar- wol Rowlands. A gwnaeth yr Arglwydd ddefnydd mawr o hono. Ebe Mr. Charles, " Yr oedd tyrfaoedd lluosog yn tyru i'w wrando, lle bynag yr elai, a Uawer yn cael eu galw trwyddo. Aeth yn fuan yn un o'r pregethwjT mwyaf poblogaidd yn Nghyn^ru yr amser hwnw. Yr oedd yn gweinidog- aethu yn danllyd ac yn argyhoeddiadol, yn aml; yn dangos yn oleu mawr berygl pechaduriaid, ac yn datguddio llochesau celwyddog rhagrithwyr hyn a wnai yn oleu, yn finiog, yn danllyd, ac yn rhagorol."

" Tangnefedd^^T, cai-wr heddwch,

Meddyg mwj-n at gh^yfau y gwan ; Ond dwm o blwon ar ben rhagrithiwr,

I'w giiro i lawr, i'w gael i'r lan."

Ond ymddengys mai Crist a'i aberth, golud ei ras, a chymhwysder ei iachawdwriaeth, oedd prif faterion ei bregethau. Pel pregethwr " yr oedd yn mhob ystyr yn enniUgar ; ei berson yn hardd, ei ystumiau yn addas, ei lais

* Gwel Trysorfa Ysbrydol, Rhag. 1809, tudal. 101.

PEN. 11.] SIR GAfJîFYUDDlN. 433

Fe fu Mr. Llwyd yn cydlafurio Uawer â Mr. Rowlands, yn agos i 30 o flynyddau. Yn fuan ar ol iMr. Llwyd ddechrea y cafwyd cymliorth Mr. Jones, Llangan, a thua'r un amser y dechreuodd Dafydd Morris, sir Aberteifi, gyff- roi yr hoU wlad â'i weinidogaeth odiaeth. Nid oes un amheuaeth na fu yr yr ychwanegiadau hyn ac freintiau y Methodistiaid yn foddion arbenig i godi Methodistiaeth o'i ddirfawr iselder ; deehreuodd ddadebru eilwaith ar ol y llewygfa a brofodd yn y blynyddoedd 1750 60. Yr oedd Daniel Eowlands, y ddau Williams, a Howel Davies, ar y maes er ys blynyddoedd ; ond bu colli Howel Harris fel tori eu braich ddeau ; eto trwy yr ychwanegiad o Dafydd Morris yn sir Aberteifi ; Jones, Llangan, yn sir Forganwg ; a WiUiam Llwyd, yn sir Gaerfyrddin, ac nid yn hir ar ol hyn, William Davies, Castell- nedd, gwnaed y goUed i fyny, a rhoddwyd ysgogiad grymus iawn i'r achos yn ei flaen.

Bu Mr. Llwyd yn teithio Cymru, De a Gogledd, am ysbaid 40 ml. a mwy, gan ddefnynu cawodydd maethlawn ar y tir cras.

Llawer gwaith trwy daith y teithiodd,

Holl siroedd oer y Gogledd dir ; Ei unig neges oedd hysbysu, < Holl gynghor Duw, mewn goleu clir,

Parhaodd ei boblogrwydd a'i ddefnyddioldeb hyd ddiwedd ei oes, a rhodd- wyd iddo yntau allu i lafurio am 44 o flynyddoedd ymron yn ddifwlch, hyd o fewn pura' niwrnod cyn iddo roddi i fyny yr ysbryd. Yr oedd yn pregethu yn Llanddeusant a Llansadwrn y Sabboth y tarawyd ef yn glaf ; daeth adref, a chyn y Sabboth canlynol yr oedd wedi ei goUi o dir y rhai byw, Ebrill J 7, 1808, yn 67 ml. oed. Dymunasai gael marw heb hir saldra a nychdod, a rhoddwyd iddo ei ddeisyfiad.

PENNOD II. CYRAU DWYREINIOL Y SIR.

CYNWYSIAD :

HYi\0D10N Y SIR— LLANDDEUSANT— ADGOFION JOHN BOWEN— YR ADFYWIAD YN V FLWYDDYN 1828 ADFYWIAD YN LLAN Y PLWYF— DAFYDD THOMAS DAFYDD— GRIFPITH RHYS DAPYDD— PARCH. JOHN THOMAS— MISS BOWEN, WAUNIFOR, A'I BRAWI) MYDDFAI— LLANDEILO-FAW^R— CEFN-BYRACH A LLANLLUAN.

Mae y sir hon yn nodedig yn mhlith y Methodistiaid am hynafiaeth yr achos ynddi, am y niferi o wŷr enwog a fu yn preswylio ynddi, ac ymeangiad yr achos Metbodistaidd drwyddi. Gall ymfi'rostio mai brodorion o honi oedd Bardd Pant-y-celyn ; Llwyd, o Gaio ; John Evans, o Gil-y-cwm ; George Grifíìths, ac eraill o'r hynafiaid ; ac yn ddiweddarach, ynddi hi y cododd yr enwog Charles, o'r Bala, a'i frawd o Gaerfyrddin. Gosododd John Evans, New Inn ; Dafydd Eees, Llanfynydd ; Dafydd Evan, Llanwino, yn nghydag eraiU lawer, hynodrwydd enwog arni. Mae y wlad hon, fel sir Aberteifi, yn

% £

43-i HANESIAETH Y SIROEDD. [UOSB. IV.

fwy Cymreigaidd ua siroedd eraiU y Deheubarth, ac felly dan fantais i gael ei diwyllio yn fwy gan bregethwyr y Methodistiaid, y rhai, gan mwyaf, yd- ynt analluog i lafurio mewn un iaith ond iaith eu mam.

LLANDDEUSANT.

Mae Llanddeusant yu mhlith y gorsafoedd henaf yn y wlad hon, ac yn gorwedd yn agos i derfyn eithaf y sir tua'r dwyrain, o fewn yehydig filldir- oedd i Langadoc ar y naiU law, a Llauymddyfri ar y Uaw arall. Nid oes dim enwogrwydd cysylltiedig â'r lle mewn ystyr auianyddol neu wladol. Y raae yn llechu yn ddystaw, yn nghanol ardal dawel, amaethyddol, a bryuiog, Nid ydyw chwaith yn enwog am faint ei haddoldy, nac amledd dirfawr ei gwran- dawyr, er fod yr addoldy a'r gynulleidfa, ac ystyried pobh)grwydd y gyrayd- ogaeth, yn rhagori ar nemawr le arall yn y sir. Ond y mae hyuodrwydd yn perthyn i Landdeusant yn ei gysylltiad â Methodistiaeth, o herwydd ei fod yn un o'r lleoedd hynaf, ac o herwydd mai yn y Ue hwn, sef yn nhŷ un Jeffrey Dafydd, y cynaliwyd y gymdeithasfa fisol gyntaf yn y sir, os nad hefyd y gyntaf yn Nghymru. Yr oedd hyn yn Chwef, 3, 1742.*

Am y lle hwn, dywed y patriarch John Boweu, yn awr o Bont-y-pool, fel hyn : " Yr wyf yn cofio fy rhieni, y rhai oeddynt yn aelodau o'r cyfundeb Methodistaidd cyn fy' ngeui i,-j- yn adrodd am waith yr Arglwydd yn Llan- ddeusaut, a rhan o blwyf Myddfai, ac yn adrodd pwy a fu ewyllysgar i agor ei i dderbyn yr efengyl ; a pha bregethwyr a lafurient amlaf yu eu plith. Yr oedd yr achos wedi dechreu, a society wedi ei ffurfio yn drefnus a rheolaidd, yn mhell iawn cyn fy nghof i. Ond yu fy amser i, nid oedd eu nifer yn Uu- osog, a llawer o'r aelodau yn hen mewn dyddiau, ac yn byw er harddwch i'r efengyl. Yr oedd rhai o'r meibiou, y rhai a alleut fod o 30 i 40 ml. oed, yn hynod am ddawn ac ysbryd gweddi un o honynt yn rhagori arnynt oU ; pan ddisgynai hwn ar ei liniau i ymdrechu â Duw, ni fyddai nemawr un o'r byd nac o'r eglwys yn gwrando yn sych eu gruddiau. Ei enw oedd Griffith Eees Dafydd." Er nad oedd y gymdeithas eglwysig yn y lle hwn ond bechan 70 ml. yn ol, eto cyfrifir hi megys mam i'r rhan fwyaf o'r eglwysi yn y cymyd- ogaethau hyn. Yr oedd 40 ml. agos wedi myned heibio, wrth hyny, heb lawer o Iwyddiaut, ac nid rhyfedd fod yr aelodau proffesedig, yn y cyffredin, yn ddynion wedi cyrhaedd gwth o oedran. Nid yw yn ymddangos fod yr achos yn y lle hwn wedi cyrhaedd nemawr o uchafiaeth mewn rhif a dylan- wad cyn dyddiau yr ysgol Sabbothol, neu cyn dechreu y ganrif bresenol,

Nid oes mewnllaw nemawr o hanes ysgogiadau y gwaith.ar wahanol gyfnod- aù, }Ti ystod y can' mlynedd, a mwy, sydd bellach wedi myned heibio. Yn

* Ymddengys ■wTth ysgrifion Trefecca, fod y lleoedd h^-n, neu y cymdeithasau eglwysig ynddynt, dan ofal un James Williams, fel arologwr a chynghorwr ; sef Llan- ddeusaut, Tal-llychau, Caio, Cil-y-cwm, Llansawel, Llangathen, a Llanfynydd. Yr oedd Meidrim, Caerfyrddin, Llanegwad, Llanarthne, Llan-pum-saint, dan ofal . un William John ; a Llânon, Cil-carw, Pendre, Hafod, a Trelech, dan ofal un John Eichard, Llansamled. f Y mae John Bowen dros 80 ml. oed.

PEN. II.] SIR GAEllFYRDDIN. 435

unig coíFeir am yr adfywiad a fu yma tua'r fl. 1828. Yn y flwyddyn o'r blaen yr lielaethwyd y capel i'r maint a'r wedd sydd arno yn awr. Yr oedd hyn yn arddangosiad fod y gynuUeidfa wedi lluosogi llawer ; a chan ddarfod talu am yr adeihìd, ymron yn ebrwydd ar ei gyfodiad, gwelwn fod yu y "bobl galon i weithio." Gwnaed hyn hefyd heb achlysuro ymrysonau a drwg deimlad, fel y gwna yn rhy fynych, ond yr oedd yma gyd-weithrediad hyfryd, a hyny trwy y plwyf yn gyfl'redinol. Yr oedd gradd o sirioldeb wedi ymddangos ar yr achos erefyddol mewn amryw eglwysi cymydogaetliol, cyu bod dim cyffroad neillduol yn y Ue hwn. Eto yr oedd rhyw ysgogiad dystaw eisoes wedi cymeryd lle, trwy fod y bobl yn cael eu sugno yn lluoedd i'r manau cyfagos, Ile yr ymddangosai gradd o adfywiad yn barod. Di?gynodd hefyd ar feddyliau yr eglwys yn y Ile hwn i yraofyn yn neillduol a Duw yn yr achos, ac i erchi arno eu cofìo, gan roddi iddynt dywalltiad o'i Ysbryd. Yr oedd Seion eisoes wedi clafychu, a dysgwylid fod yr adeg gerllaw pryd yr esgorai ar ei raeibion.

Cafwyd ychydig o'r gwlith yn flaenorol, megys yn ernes o'r gwlaw mawr, ac yn wystl o hono. Mewn cwrdd gweddi yn nhŷ Dafydd Thomas, un o henuriaid yr eglwys, y dechreuodd yr awyr ysgafnhau, wrth gauu y peuniU,

Agorodd ddrws i'r caethion, I ddod o'r cystudd mawr, &c.

Yn mhen ychydig ddyddiau, pregethai Mr. Joshua Phillips yn y Ile, ar loan iii. 3; a gwelodd yr Arglwydd yn dda wisgo ei was â nerth, ac anfon saethau y gwirionedd i lynu yn nghydwybodau y gwrandawyr. Nid oedd yr oedfa hon ond y gyntaf o gyfres o rai cyftelyb a ddylynodd. Yr oedd y cyfarfod- ydd i bregethu ac i weddio yn rhoddi mwynhad Ilawer helaethach nag arferol i'r addolwyr, ond y cyfarfod hynotaf o'r cwbl oedd cyfarfod i wedíìio am Iwyddiant yr efengyl, ar nos Lun cyntaf o'r mis. Darllenwyd y 60fed o Isaiah, a rhoddwyd y pennill i ganu,

Beth yw'r cynhwrf garw iawn,

Sy"n y goedwig ; A yw'r atfaeth fawr ei dawn,

Ddim yn ddiddìg, &c.

Ac ar ddiwedd y cyfarfod, rhoddwyd penniU arall allan i ganu,

Os gofyn neb o'r bobl,

Beth yw'r llawenydd mawr, * * * «

Wrth wcled plant afradlawn, Yn dyfod tua thre'.

Arhyntorodd unenethig fechan allan, gan ail-adrodd mewn modd cyffrous iawn y Ilinell olaf o'r pennill, ac yn y fan yr oedd Ilaweryn gwaeddi yn groch, "Pabeth a wnawn fel y byddwn gadwedig ?" Fel hyn y dechreuodd y cyffro,ond nid oedd ond ei ddechreuad; aeth rhagddo gan ychwanegu nerth a grym,dros fis- oedd 0 amser. Yr oedd y weinidogaeth megys yn medi lluoedd o'r gwrandawyr o

436 hànesiaeth y sirüedu. [dosb. iv,

bob oedran i lawr, o 7 ac 8 ml. liyd yn 80 ml. Chwanegwyd at yr eglwys yn y tymhor hwn tua 2*80 o rifedi. Nid oedd, bellach, prin i'w gael yu y plwyf heb fod allor i Dduw wedi ei chodi ynddo ; a dychryn Duw oedd megys wedi disgyn ar drigoliou yr holl fro. Mynych y byddŵi dynion cryfion yn tori allan i lefain neu i foliannu yn y meusydd, pan gyda'u gorchwylion. Cyrhaeddai eu swn i glustiau rhai erailJ, a disgynai math o ysbrydoliaeth ar- nynt hwythau, nes y byddai y fro yn adsain gan sain cân a moliant. Wrth gadw dyledswydd deuluaidd, mynych y byddai preswylwyr y tai yn tori allan i foliannu, a pharhaent felly yn fynych hyd hanner nos, ac weithiau hyd foreu dranoeth. Tynid sylw dyeithriaid wrth ymdaith trwy y cymydogaethau yn y nos, gan sain y moliannu a fyddai yn y tai. Mor rymus oedd y dylan- wadau, nes y byddai y pregethau a'r cyfarfodydd crefyddol, gan amlaf, yn cael eu bylchu, ac hyd yu nod gorchwylion cyffredin tyddynwyr ymrou yn sefyll, yn achlysurol, îe yn amser cynhauaf. A'r hyn oedd yn rhyfedd, nid oedd neb yn achwyn oblegid hyn. Argreffid ar galonau yr ardalwyr oll, " O'r Arglwydd y daeth hyn." "A phwy ydym ni i geisio Uuddias Duw ! "

Y mae yn werth nodi yn y lle hwn, fod y cyffelj-b ddylanwad wedi cyrhaedd llan y plwyf. Fe ddaeth yno i bregethu un Sabboth prydnawn offeiriad ieuanc duwiol, yr hwn sydd hyd heddyw yn ddyn hynod mewn gras, a dawn, a defnyddioldeb, ac yn mhen enyd wedi iddo ddechreu pregethu, torodd y dorf allan i foliannu a chanmawl. Y gweinidog hefyd wedi ei orlenwi â'r un ysbryd, a dorodd ar yr hen ffurf, bwriodd oddiwrtho ei wisg, a disgynodd i ganol y dorf, gan foliannu Duw â llais uchel. " Irwyd ei ben ag olew, a'i phiol oedd lawn." Parhaodd hyn dros rai oriau.

Ymestynodd dylanwad yr adfywiad hwn dros ran fawr o'r sir, a dywedir fod tua 2000 o aelodau wedi eu chwanegu at yr eglwysi. Ond yn Llan- ddeusant yr ymddengys fod grym y gawod wedi disgj'u. Dofwyd yma ugeiniau rai o ddynion tra annuwiol, ac y mae llawer o honynt yn aros hyd heddyw, a'u hysgwyddau dan arch Duw, tra y mae eraiU o honynt wedi eu galw i ffordd yn eu cariad cyntaf. Ychydig, meddir, o ffrwyth y diwyg- iad a gollwyd, neu ychydig o'r rhai a ddygasid at grefydd dan ei ddylanwad a droisant eu cefnau mewn gwrthgiliad. Ni fu, fel y bernir, yr un adfywiad mor rymus a hwn o'i flaen, ac ni chaed un cyftelyb iddo hyd heddyw ar ei ol, er nad ydyw Seion, ar yr ur^ pryd, wedi ei gadael yn ddieppil.

Cafodd yr hen bobl ras i fod yn ffyddlawu yn eu dydd, er na anrhydedd- wyd hwynt i weled llwyddiant mor fawr ac mor ebrwydd a'r un a nodwyd uchod. Sonia John Bowen am un Dafydd Thomas Dafydd, yr hwn a lafur- iodd yn egniol gyda'r gwaith pan yr oedd eto yn lìed isel ei wedd. Tydd- ynwr cryf a pharchus gaii bawb ydoedd, a'i wraig ydoedd gyffelyb iddo, ao yn ei gymhell, uid yn ei rwystro, i ymroddi ac i ymgysegru i wasanaeth yr efengyl ; a chau nad oedd iddynt deulu, ac yn meddiannu yn ehelaeth o'r byd, yr oeddynt yn alluog, gyda chalon ewyllysgar, i wneuthur llawer o was- anaeth i'r achos yn ei wendid. Yn eu hwy y lletyid y pregethwyr ; ie, yn eu hwy, dros lawer blwyddyn cyn bod capel, y cynelid y moddion.

PEN. II. J SIR &AERFYRI>D1N. 437

Yr oedd ymborth eu bwrdd, a chynyrch eu tir, yn rhwydd a siriol yn cael eu rhoddi i'r dyeithriaid a'u hanifeiliaid a gyniweirient i'r Ue,*

Yr oedd y cyfarfod eglwysig yn y dyddiau boreuol hyny yn cael ei gynal, gan amlaf, mewn bychan a safai ar dir y blaenor, ac a breswyb'd gan hen ferch grefyddol. Nid oedd yma ond golwg isel, o ran gwedd allanol y gwaith, ond rhyfeddol, meddir, y mwynhad a geid yn fynych yn y cynuUiadau eg- Iwysig bychain hyn. Yr oedd pabell Duw gyda dynion, ac efe a breswyliai yn eu mysg !

Yr oedd yn eu mysg, fel y dywedwyd o'r blaen, rai dynion hynod mewn gweddi, yn enwedig Grifíìth Rhys Dafydd. Un tro, dysgwylid WiUiams, Pant-y-cel^'-n, yno i bregethu ; ond yr oet'd yr hen fardd, fel y byddai yn rhy dueddol o fod, yn ol Ilaw o ran ei amser. Wedi cryn ddysgwyl am dano, aeth tad John Bowen i weddi ; ond nid oedd WiIIiams eto wedi ymddangos, a'r amser i ddybenu y cwrdd ymron wedî dirwyn i fyny ; gan hyny, galwyd ar Griffith, yr hwn oedd yn sefyll a'i gefn at y cloc, ei le arferol, i fyned ì weddi. Gyda'i fod yn tywallt ei galon mewn deisyfiadau, yr oedd y nefoedd yn rhoi, ac yn rhoi yn ddibrin tywalltai mor ehelaeth nes oedd Uestri pawb wedi eu gorlenwi, a Ihiaws o'r dysgyblion yn tori allan mewn mawl. Gyda hyn, clybuwyd traed ceffyl gerllaw y tŷ, a phwy oedd yno ond y pregethwr, ac mewn syndod mawr yn ymofyn ynddo ei hun, pa beth a allai y twrf yn v fod. Llithrodd, pa fodd bynag, i mewn, gan ymgais i guddio ei hun rhag sylw, trwy fyned i'r pen arall i'r tŷ, a llechu yn y parlawr. Wedi gwrando enyd ar y gweddiwr, Uanwyd ef â syndod, a gofynodd, pan gafodd gyfle, i wraig y tŷ, yn ei ddull cyfeiUgar eihun, " Neli, pwy un oedd y bachgen yna oedd ar weddi ?" " O ! Mr. WiUiams bach, Griffi' Ehys Dafydd oedd e'." " O ryfedd ! siwt weddiwr y w ef ! mae fy enaid yn ymlynu wrtho."

Anhawdd fyddai olrhain hoU eífeithiau y pregethu boreuol a fu yn nhŷ Jeffrey Dafydd, a manau eraiU ; ond gallwn fod yn hyderus o hyn, fod mwy o ddaioni wedi ei wneyd nag a wyddom ni, a llawer mwy nag a ddaeth erioed i'r golwg. Mae yr hanes a ganlyn yn brawf o'r sylw a wnaed.

Yr oedd gŵr o'r enw John Thomas, yn adnabyddus i hen Fethodistiaid cyntaf yr ardal hon, yr hwn oedd bregethwr ar y cyntaf gyda'r Methodist- iaid, ond ar ol hynÿ a neillduwyd yn weinidog yn mhlith yr Annibynwyr. Ysgrifena ei hanes ei hian fel hyn :

" Fe'm ganwyd mewn a elwir Còl, yn mhlwyf Myddfai, sir Gaerfyrddin, yn y fl. ] 730. Fy rhieni oeddynt dlodion ; bum yn gweini yma a thraw am flynyddau. Cefais fy argyhoeddi dan weinidogaeth Mr. Howel Harris, yn nhŷ Jeffrey Dafydd, Llanddeusaut. Er fy mod cyn hyn a rhyw goncern am fy nghyflwr, ac yn aml yn darllen gweddiau yn Ilyfr y Parch. Griffith Jones, Llanddowror; ond wedi yr oedfa uchod, aeth yn golli bywyd arnaf. Yn mhen ychydig wedi hyn, ymgysylltais ag ychydig bobl dduwiol ag oedd yu

* Crybwyllir yii l)arcl)us hefycl am William Thomas, Paiií-y-gwîn ; William Da. fycld Owen ; Morgan Thonias, a Tliomas Owen, &c.

438 HANESIAETH Y SIROEDD. [DOSB. IV.

arferol o gyd-gyfarfod niewn cymdeithas ar Gefn-telycb, yn mUwyf Myddfai. Ynyfl. 1745, aetlium i weini at y Parch. G. Jones, i Landdowror, lle y cef- ais lawer gwledd i'm henaid wrth ei wrando. Wedi bod am flwyddyn yn Llanddowror, daeth ar fy meddwl i fyned i'r ysgol, ond nis gadewais Llan- ddowror nes oeddwn yn 18 ml. oed, a daethum i Drefecca i'r ysgol. Cefais hyn trwy Mr. H. Harris, a mawr diriondeb a gefais ganddo tra bum yno. Arosais yno am oddeutu blwyddyn. Yr oedd yn hyfryd arnaf o dan weinid- ogaeth Mr. Harris, ac eraiU, pan oeddwn yno."

Rhy faith fyddai dylyn yr ysgrifeuydd yn fanwl, ond yraddengys ei fod, ar ol cael ychydig addysg, wedi cael ei alw i Lanfigan, sir Frycheiniog, i gadw ysgol ; ac â'r alwad hon, wedi ymgynghori â Mr. Harris, y cydsyniodd. Yr oedd, bellach, yn arfer cynghori y plant yn yr ysgol, a'r aelodau eglwysig, ao nid hir y bu heb lefaru yn fwy cyhoeddus. Dechreuodd ar hyu yn mhlwyf Cantre, ger Áberhonddu. Wedi hyn, sef yn y fl. 1756, aeth i sir Benfro, a bu yu cadw ysgol yn St. Lawrence, yu y wlad hòno, am rai misoedd, gan bregethu ar y Sabbothau a nosweithiau trwy y wlad. Ar ol hyu, teithiodd dros ry w dymhor trwy siroedd y dywysogaeth, De a Gogledd, gan bregethu yr efeiigyl. Unwaith, pan oedd yn llefaru mewn lle a elwir Cefn-Lhuifair, tor- odd merch ieuanc allan i waeddi ; y ferch ieuanc oedd Miss BowT,n, Waun- ifor, chwaer i Thomas Bowen, Ysw. Yr ocdd rhyw weithrediadau ar fedd- wl Miss Bowen cyn hyn, trwy farwolaeth chwaer iddi yn ddiweddar. Ar ol yr oedfa, hi a ofynodd i Mr. John Thomas fyned gyda hi i'r palas. "Nis gwyddwn," meddai ef ei hun, " pa fodd i dori at y gŵr boneddig yn nghylch mater ei enaid, rhag ofn ei dranigwyddo ; ond wrtli chwedleua ag ef am grefydd, mi welais ei fod o ysbryd gostyngedig, ac yn barod i dderbyn. Wedi ymddyddau ychydig, dywedodd wrthyf ei fod ar fedr rhoddi ysgol i blant tlodion y gymydogaeth, ac y byddai yn well ganddo i mi ddyfod i'w chadw na neb arall. Miuau a ddywedais, " Syr, er mw^yu eich boddloui chwi, mi a ddeuaf ar fy nychweliad yn ol, wedi cyflawni fy nghyhoeddiadau trwy Wynedd."

Nis gwyddai y gŵr boneddig ar y dechreu pa le y ceid i gadw yr ysgol ; ond erbyn fy mod wedi dychwelyd, yr oedd un o'i ddeiliaid wedi marw, a'r Ue yn rhydd. Y Ile oedd Llwyn-bedw-bach. Wedi gosod i fyny yr ysgol, dechreuais lefaru ar y Suliau ynddo yn y pryùnawn, a myned gyda Mr. Bowen, y boreu i'r Uan ; o'blegid nid oedd ef eto wedi tori allan i wran- do, ond yn glyuu wrth y llan. Ond ei chwaer ydoedd yn dra selog. Yr oedd yn felus a rhydd arnaf pany deuwn i Wannifor i weddio gyda'r teulu; ac ar un boreu Sabboth, wrth fyned tua'r Ilan, ebe 'fe, ' Gan eich bod chwi yn dyfod gyda fi yn y boreu, mi ddeuaf finau gydachwithau yn y prydnawn, i'ch gwrando chwi yn pregethu :' ae felly y bu."

Yr oedd Ilawer o bobl wedi ymgasglu ynghyd .yn Llwyn-bedw-bach, a syn iawn oedd ganddynt weled Mr. Bowen yn eu plith. Wedi hyn, dymunodd John Thomas ar Mr. Bowen ddyfod gydag ef i wrando Mr. Eowlands, yr hwn oedd i bregethu yn Twrgwyn, a chydsyniodd ; ar ol hyny ni pheidiodd

PEN. II.] SIR GAEHFYRDDIN. 439

a gwrando y Methodistiaid dros ei oes. Yn mhen ychydig ar ol hyn yr ad- eiladodd Mr. Bowen gapel "Waunifor,* lle y mae pregethu yn aros hyd heddyw.

Wedi bod yn cadw ysgol mewn amiywiol o fanau, ymunodd John Thomas â'r Annibynwyr ; ac yn y fl. 1761, aeth i Athrofa y Fenni. " Yn y gwyliau," meddai ef ei hun, " byddwn yn rhoi tro i sir Aberteifi, i gael tipyn o dân Llangeitho, i gadw fy enaid rhag sythu yn y fro tua'r Fenni."

Yn y fl. 1767, neiUduwyd ef yn weinidog ar yr eglwysi Annibynol, Ehaiadr- ar-wy, a Cae-bach, sir Faesyfed, Bu yr un gŵr yn pregethu Uawer yn deithiol ar ol hyn ; gan ddyweyd, " Mwy dewisol genyf ddylyn esampl Crist, gan fyned o amgylch i wneuthur daioni." Dywedir gan hen bobl adnabydd- us 0 John Thomas, y rliai sydd eto yn fyw, mai gŵr da a duwiol ydoedd, a diwygiwr enwog yn ei ddydd ; a'i fod wedi bod yn off"eryn yn llaw yr Ar- glwydd i ddychwelyd Uawer o ddynion at y Duw byw.

MYDDFAI.

Yr oedd pregethu yma a thraw ar hyd y plwyf hwn dros lawer o flynydd- oedd cyn bod yma na chapel na chynulliad eglwysig : íe, nid oedd cymaint ag un aelod yn y plwyf, pryd yr oedd Uaweroedd mewn plwyfau cymydog- aethol. Ar yr un pryd, nid gwrthwynebiad y preswylwyr a barai hyn ; oblegid yr oedd y bobl yn hynod o serchog a pharchus o'r efengyl a'i chen- adon, a cheid pregethu mewn unrhyw neu ysgubor trwy'r hoU blwyf ; ond eto nid oedd yma gymdeithas eglwysig wedi-ei fi"urfio.

Dygwyddodd i ryw ŵr o saer maen, yr hwn oedd yn aelod mewn Ue araU, ddyfod i weithio i'r gymydogaeth. Wedi bod yn arosol dros ryw dymhor yn y fro, gwelodd yr angenrheidrwydd o gael rhyw le sefydlog i addoli, a phenderfynodd wneyd ei oreu tuag at ei gael. Ymofynodd, gan hyny, yu ddioed am dir, a Uwyddodd i'w gael, Aeth o amgylch y gymydogaeth i ymofyu cynorthwy i'w adeiladu, ac yntau ei hun a ddygai gareg ar ei ysgwydd, gan ei bwrw i'r pentwr meini wrth yr adeilad newydd, o ba le bynag y deuai. •' Yn y modd yma," meddai yr hybarch John Bowen, y cafwyd " y capel cyntaf yn Myddfai. Mae achos cryf gan y Methodistiaid yno yn awr."

LLANDEILO-FAWR.

Wrth bob hanes, y cyntaf o dadau diwygiad y ganrif ddiweddaf a breg- ethodd yn y dref hon, oedd Howel Harris. Mae hanes am dano yn sefyU ar yr heol gerUaw y Ue y mae y George Hotel bresenol. Yr oedd i ddyn bregethu y tu aUan i furiau y Uan, ac yn yr awyr agored, yn beth newydd iawn yn y dyddiau hyny, a chymaint feUy yn Llandeilo ag un Ue. Nid oes amheuaeth chwaith, os oedd y bwriad yn adnabyddus, nad oedd rhagfarn

* Gwel hanes Waiiüifor, Tudal, 33.

440 HANESIAETH Y SIROEDD. [üOSB. IV.

wedi parotoi gwi'thwynebiad. Felly- hefyd y mae yr hanes, fod gŵr wedi dwyn dryll gydag ef, a chan sefyll y tu arall i'r berth, neu y gwrych, wedi ceisio saethu y pregethwr, ond fod y dryll wedi methu tanio ; ac ar hyn, fod Harris wedi galw arno i droi íFroen y dryll ífordd arall, ac yr âi yr ergyd i maes ; ac mai felly y bu, ac i'r pregethwr, gyda hyn, ahv ar y gynulleidfa, " Cymerwch sylw o'r dyn yna ; ni fydd ef ddim marw ar wellt ei wely." Yn mhen rhyw gymaint o amser, bu y dyn farw yn ddisymwth wrth chwareu pÊl yn mynwent y llan ! Mae crybwylliad am amgylchiad ueu ddau cyffelyb i'r un uchod yn y gwaith hwn, yr hyn yn ddiau a bâr demtasiwn i ryw un dybied, fod y chwedl yn gwbl ddisail, neu fod yr amgylchiad, mewn gwirion- edd, wedi dygwydd mewn rhyw le arall, a'i briodoli mewn amryfusedd i Landeilo. jNid oes gan yr ysgrifenydd ddim mwy i'w ddyweyd ar yr achos, na bod yr ysgrif yn cynwys y chwedl wedi disgyn i law oddiwrth wŷr geir- wir, y rhai ni phetrusir dderbyn eu tystiolaeth ar ashosion eraill.

Ar yr achlysur uchod, yr oedd bagad o bobl wedi dyfod ynghyd, ac yn eu plith, yr oedd gẁr o'r enw Morgan Nathan, ceidwad helwriaeth i'r Milwr- iad Rice, o Gastell Dynevor, taid yr arglwydd Dynevor presenol. Dwys- bigwyd Nathan i'r galon ; ac yn fuan, bu iddo ef a'i wraig ymuno â'r Meth- odistiaid yn nghapel Llanlluan, yr hwn oedd yr unig le, y pryd hyny, yn y gymydogaeth, y gallai fwynhau breintiau crefyddol ; a lle oedd Llanlluan hefyd ag oedd, ac a barhaodd i fod, yn gyniweirfa i lawer o Pethodistiaid y wlad hon, dros flynyddau lawer.* Ymddengys fod Nathan yn barchus yn ngolw^g ei feistr, ac na chollodd ei ffafr ychw^aith wedi iddo ymuuo â'r 'crefyddwyr ; prawf teg fod ei feistr yn fwy ei gallineb, ac yn llai ei anwyd- au, na Ilawer o'i radd ; neu ynte, bod y gwas wedi ennill lle mawr yn ei gyfrif : fe ddichon y ddau. Eyw dro, gwnaeth Nathan mor eofn a chymeryd ceffyl o'r ystabl, a'i farchogaeth i Lanlluan i'r oedfa. Prysurodd rhyw un drwg ei lygad i achwyn arno wrth ei feistr, gan ddysgwyl, yn ddiau, y gosodid mawr gyfrif ar ei ffyddlondeb, ac y byddai yn foddion dyrchafiad iddo ei hun, a darostyngiad i'r crefyddwr.

" A gymerodd Nathan y ceô'yl i fyned i'r cwrdd ? " gofynai y gŵr bon- eddig.

" Do, syr," oedd yr ateb.

" Wel ! y tro nesaf y byddo yn myned, gofala di am gyfrwyo y ceffyl iddo dy hun," oedd y peuderfyniad. Fel hyn, ennillodd y boneddwr enw da iddo ei hun, amddiffynodd ei was diniwed, a siomodd ei fradwr di-ddiolch. Mae teulu Dynevor hyd heddyw yn ganmoladwy am eu haelfrydedd tuag at anghydffurfwyr. Tebygol ydyw, mai Nathan a'i wraig a fu yn offerynau i roddi swcr i Fethodistiaeth yn Llaudeilo. Nid hir ar ol cael crefydd y bu ef byw ; ac ar ol ei farw ef, symudodd ei weddw i'r dref i fyw, a Iletyai yno n pregethwyr a ddeueut i'r dref yn awr ac eilwaith i bregethu. Nid oedd ei hamgylchiadau ar ol claddu ei gŵr ond isel, eto yr oedd yn dwyn mawr

* Gwel hancs Llanlliian yn nilacn, tudal. 442.

PEN. II.] SIR GA.ERrYRDDIX. 441

serch yn achos yr efengyl. Y rhai a ddeuent yma amlaf ar y dechreu, oedd Mr. Llwyd, Caio; Mr. .Jones, Llanfihangel ; Jacob Jones, o'r Bettws ; Dafydd Eees, Llanfynydd, &c. Nid hir y bu y weddw hon, gan fod yn ei bryd wneuthur cymwynas i deyrnas y Cyfryngwr, na chynysgaethodd rhag- luniaeth hi â modd. Cafodd hyn trwy briodi gẁr gweddw di-deulu, o'r enw Siôu William Rhydderch, Llety-glyd. Yr oedd gan Siôn dipyn yn lew o gyfoeth, er nad oedd rhyw lewyrch mawr ar ei grefydd, ond yr oedd ei feddiannau ef yn lles i'r wraig, a gras y wraig yn lles iddo yntau. Arferai y wraig ddyweyd gyda theimlad, " Gwnaeth yr Arglwydd drugaredd â mi ;" ac nid oes amheuaeth nad oedd yn llawn cymaint trugaredd â Siôn. Gwerth- odd y gŵr ei holl feddiannau ar y tyddyn, ac a ddaeth ati hi i fyw i'r dref. Yr oedd yma loches gymhwysach, bellach, i'r efengyl, ac yma y Uetyai yr holl bregethwyr a ddeuent i bregethu i'r dref, hyd nes yr adeiladwyd y capel.

Y gwŷr yr oedd gofal yr achos crefyddol arnynt, yn benaf, yn y tymhor hwn, oedd Siôn William Ehydderch, a William Rhydderch, y gwehydd. Bu yr olaf o'r ddau yn egniol iawn 1 godi ysgol Sabbothol yu y dref, pryd nad oedd yma yr un gan un enwad. Yr oedd William Ehydderch yn adnabyddus iawn yn y byd Methodistaidd, yn enwedig yn mlynyddoedd olaf ei oes, fel cydymaith y Parch. John Evans, New Inn gynt. Bu rai gweithiau yn y Gogledd, a mynych ar hyd siroedd y Deau. Gelwid ef gan rai, Wil y gwe- hydd, a phryd arall, Wil y 7Fkite Horse. Xx oedd rhagluniaeth wedi ei Iwyddo yu ei amgylchiadau, ac wedi rhoddi calon iddo i weithio, a bernir na fu neb mor eífro a ífyddlawn ag ef gyda'r ysgol Sabbothol yn y dref, o hyny hyd yn awr.

Yn y Ü. 1788, cymerwyd ac addaswyd anedd yn y dref, i wasajaaethu yn Ue capel. Gwnaed hyn, yn beuaf, drwy oíferynoliaeth Mr. Jones, Llan- fihangel. Helaethwyd ef drachefn a thrachefn ; a'r un presenol ydyw y pedwerydd adeiladaeth. Y mae, bellach, yn gapel cyfleus a hardd, a'r gwaith yn myned rhagddo yn siriol.

Mae rhwng dau a thri chant o ddeiliaid yn yr ysgol Sabbothol, a'r addoldy yn cael ei lenwi yn dda ar y Sabbothau o wrandawyr astud. Yma y dech- reuodd y diweddar Barch, Thomas Jones, Llanddarog, bregethu, Mr. Har- ris, y Chandler, a gvvr arall o'r enw George Grifíìths, yr hwn a fu farw yn bur ieuanc. Yma, yn bresenol, y mae yn preswylio y Peirch. B. D. Thomas, a Morgan Morgans.

Mae yma hen ŵr yn 85 ml. oed, yn swyddog yn yr eglwys hon, yr hwn sydd oruchwyliwr gydag arglwydd Dyuevor, o enau yr hwn, gan mwyaf, y cafwyd yr hanes uchod.

CEFN-BYRACH.

" Clywais Mr. David Eees, Bryn Martin," meddai yr hysbysydd, " yn dyweyd ei fod ef yn cofio plwyf Llanfihangel, (y plwyí y mae capel Cefn-

442 HANESIAETH Y SIROEDD. [doSB. IV.

byrach ynddo,) pryd nad oedd ond pedwar crefyddwr gyda'r Methodistiaid o'i fewn ; ac nid oedd un o honynt ond ymdeithydd ac alltud ynddo : sef Henry Richard, Trefin, yr hwn a fu yma dros ryw dymhor yn cadw ysgol ; Mr. William Griffith Jones, a'i frawd, a Henry Jones, Rhyd-goch. Adeilad- odd Mr. W. G. Jones gapel cyntaf Cefn-byrach ar ei dir ei hun, a rhoddodd weithred arno, am bedair ceiniog yn y flwyddyn. Gwnaeth hyn, medd fy hysbysydd, yn y fl. 1747, yr un flwyddyn ag yr adeiladwyd capel Alpha,' Llanfair Muallt, y capel a dybid a godwyd gyntaf gan y Methodistiaid yn Nghymru. Y mae wedi cael ei helaethu ddwywaith wedi hyny. Ar ol i'r noddwyr cyntaf golli o dir y rhai byw, bu Mr, John Thomas, Llanfihangel, a'i briod, yn dra ymgeleddgar i'r achos am flynyddau lawer. Yr oedd eu yn llety y fí"orddolion a gyrchent i Lanlluan erbyn Sul y cymundeb ; mynych iawn y pregethai D. Rowlands, neu y ddau Williams, yn eu ar y nos Sadwrn o flaen y cymundeb, ac yn nghapel Cefn-byrach nos tranoeth, ar eu dychweliad yn ol, wedi cwrdd , y cymundeb. Dywedir fod Howel Harris wedi bod rai gweithiau yn yr ardal hon yn ei oes ef ; ond nid oes adgofion manwl am ei ymweliadau.

Wedi marw Mr. John Thomas, priododd bregethwr o'r enw Mr. John Jones ei weddw ef. Parhawyd, gan hyny, i ddangos yr un caredigrwydd i achos yr efengyl. Ymddengys fod y wraig hon yn wraig o alluoedd yn gystal ag o dduwioldeb, gan y byddai yn arwain y ddyledswydd deuhiaidd ei hunan pan dygwyddai Mr. Jones fod oddicartref. Ar ol coUi Mr. a Mrs. Jones trwy angau, ymunodd rhai eraill â'r achos ; a rhai o honynt a fuont yn llafurus a defnyddiol ; sonir yn neiHduol am Mr. David 1 ìees, Bryn-martin. Bu y gŵr hwn yn oruchwyliwr fí'yddlawn am dymhor maith, mwy na deugain mlynedd. *' Yr oedd yn un o'r dynion hynotaf," ysgrifena fy hys- bysydd, " a welais i erioed, o ran santeiddrwydd a fí'yddlondeb, Ni dder- byniai wyneb boneddig na gwreng, ond eiddigeddai dros achos ei Dduw gyda gonestrwydd anarferol. Daeth ef at grefydd yn ieuanc, a thynodd ei gŵys yn union hyd ei therfyn ; teimlwyd mai colled fawr oedd ei ymadawiad."

Bu yma adfywiadau amryw, a rhai o honynt yn rhai grymus, o bryd i bryd, er nad oes dysgrifiad neu adgofion manwl o'r un o honynt yn awr ar gael. 'Fél hyn y cadwodd Duw gofi"adwriaeth ei enw i fyny yn yr ardal hon er ys can' mlynedd a mwy ; ac nid oes arwydd, hyd yn hyn, fod y gogoniant yn ymadael.

LLANLLUAN.

Yr ydyra amrywiol weithiau wedi crybwyll enw y lle hwn, fel un o'r lleoedd breiniol hyny yn y deheubarth, y gweinyddid swper yr- Arglwydd ynddynt gan yr offeiriaid Methodistaidd, ac fel Ile ag a fyddai yn gyrchfa lluaws mawr 0 grefyddwyr ar Sabbothau cyraundeb. Yr achos i'r naill le gael y fraint hon yn hytrach na Ile arall, a fyddai yn anhawdd ei ddyfalu ar egwyddorion cyffredin'o gyfleusdra neu hawl. Y gwir ydyw, yr oedd rhai, o leiaf, o'r Ueoedd breiniol hyn yn ddigon anghyfleus. Pentref bychan yn nghanol

PEN. II.] siR gaerfyr:;din. 443

mynyddoedd oedd Llangeitho ei hun, a Ue bach ar gîl, heb ddira enwog- rwydd yn perthyn iddo, oedd Llaulluan hefyd. Yr oedd y crefyddwyr yn amlach tuag ardal Cil-y-cwm, neu Lanfynydd ; yr oedd y ffyrdd yn rhwydd- aoh i'r trefydd, a'r cyflensderau yn amlach i gynwys lluaws o bobl ; ond er hyn oU, nid i'r trefydd yr elid ; nid ymofyn a wneid ani rwyddineb y flfordd, neu amledd y crefyddwyr, ond fod y llc yn fwy cyscgredig na ileoedd eraiU. Ystyrid ef yn gysegredig, os bu, neu os byddai rhy w gysylltiad rhyngddo a'r cglwys wladol, neu os dygwyddai fod rhyw oífeiriad o'r eglwys hòno wedi gosod yr anrliydedd hon, dan ryw amgylchiadau neiUduol, ar y lle. Gosododd Whitfield yr anrhydcdd yma ar Woodstock, yn sir Benfro; Howel Davies y cyíTelyb ar y Capel-newydd yu y wlad hòno ; gosododd Rowlands yr un bri ar gapel Gwynfi!, yn Llan^eitho; a Dayies, Caste'l-nedd, ar gapel Gyfylchi, yn sir Forganwg. Am Motniton a St. Daiiiels, yn sir Benfro, Llanlluan yn sir (ìaerfyrddin, a Llangan yn sir Forgan wg, eglwysi neu gapelau eglwysaidd oeddynt, ac wrth gwrs yn gysegredig at y gwaith o'r dechreu. Parod ydyw yr oes hon yn diiiamheu, ac yn enwedig crefyddwyr Gwynedd, Ue ni fu y fath arferiad erioed, i ddiarebu rhag ofergoeledd, neu ragfarn, neu rywbeth, yr hen bobl dda yn hyn o beth. Pa fodd bynag, rhaid addef ddarfod i'r Hwn y mae y nef yn orseddfainc iddo, a'r ddaear yn Ueithig i'w draed, ymddaros- twng yn fynych i anrhydeddu y cynuUiadau a gyneb'd yn y lleoedd crybwyll- edig, nid, tybygwn, ar gyfrif y lle y cynelid hwy, ond ar gyfrif yr enw a'r achos y daethent ynghyd o'i herwydd, nes y byddai yr offeiriaid yn methu gwasanaethu gan ddysgleirdeb y gogonifint a orchuddiai y gwaith.

Adeiladesid capel Llanlluan, mewn cysylltiad â'r eglwys wladol, yn mhell cyn y diwygiad Methodistaidd ; ond uid llawer o ddefnyddio a fu aruo dros ara- ser maith, fel y bernir, hyd yr amser y defnyddiwyd ef gan y Methodistiaid. Dywedir ddarfod iddynt hwy ei adgyweirio yn y fl. 1745, neu yn hytrach, ddarfod i Phibp Lloyd, Ysw., wneyd hyny ar eu rhan, ac ar ei draul ei hun. Taid oedd y boneddwr hwn i Mrs. Lloyd Davies, Gallt-yr-odyn, sir Aberteifi. Dywed yr hen bobl mai Whitfield a Howell Harris oedd y ddau gyntaf o'r diwygwyr a fu yn pregethu yn yr ardal hon. Bu yr ohif o'r ddau hiwer gwaith yn yr ardal hon. Pa yn Nghymru, yn enwedig deheudir Cymru, na f u ? Y teulu a dderbynient yr ofi'eiriaid a'r pregethwyr i yn yr amser cyntaf, oedd yr eiddo Mr. David Jones, o'r Wcrn ; a pharhaodd y derbyuiad wedi claddu y penteubi. Yr oedd Mrs. Jones yn hynod am ei gras a'i Uety- garwch. Ar ei hol hi, agorodd Mr. Philip Walters, o'r tyddyn a elwir " Y Capel," ei ^ddrws ; ac ani hanner can' mlynedd efe a gadwodd ei ddrws yn agored i dderbyn pregethwyr yr efengyl, ar ei draul ei hun ; pa un bynag ai 0 dde neu o ogledd y deuent. Yr oedd llawer o bregethu ar hyd yr ardai mewn gwahanol dai, ond yn nghapel Llanlluan y pregethai yr offeiriaid. Ys- tyrid y capel yn perthyn i eglwys Loegr, ar ryw gyfrifion, er mai ar dir ar- glwydd Dynevor yr oedd yn sefyll; a thybid mai afreohaidd, os nad rhyfygus, a fyddai i un pregethwr lleygaidd anturio esgyn i'r pulpud hwn. Ond y mur hwn 0 wahaniaeth a fwriwyd i lawr. Ac fel hyu y bu :

444 HANESIAETH Y SIROEDI). ["j)OSB. IV.

Yr oedd Mr. Üaniel Jenkins, Ceredigion, yn yr ardal ryw nos Sadwrn, wedi dyfod yno i bregethu ; dysgwylid oífeiriad i weini yn y capel y boreu Sabboth ; ond yr offeiriad, trwy ryw ddamwain, ni ddaeth. Ymgynullodd lluaws i'r lle i wrando'r offeiriad, ond nid oedd dim yn y golwg ond siomad- igaeth. Y'r oedd yno bregethwr, boed siwr, ond yr aflwydd ydoedd, nad oedd ef ddim wedi bod dan law esgoh erioed, ac felly tybid mai trawsedd eofn a fuasai i'r fath uii, îe, er ei gymhwyso gan yr Y''sbryd Glân, bregethu yn mhulpud offeiriad. Ond beth a wneid ? Yr oedd y gynulleidfa yn dysgwyl ; yr oedd cyfleusdra manteisiol yn ymgymhell i draethu geiriau y fuchedd hon wrth y bobJ, ac yn y cjŵng anturiodd Mr. Philip Walters osod ar y preg- ethwr, gan ddyweyd :

" X mae yn rhaid i chwi, Daniel Jenkins, fyned i'r capel i bregethu." " N'a wnaf, er fy mherygl," atebai y pregethwr.

" Wel," meddai Walters, "os taw My Lord DyneTor," sef ei feistr tir, "a'i pia, y'mae genyf hawl i'ch cymhell i fyned iddo, o herwydd y mae genyf lease ar fy fferm, ac ar y tir sydd o dan y capel. Os taw yr esgob a'i pia, yr wyf fi eleni yn warden yr eglwys. Os taw y Methodistiaid a'i pia, y mae geuych chwi kawl i'w ddefnyddio fel un o'u pregethwyr." Trwy argymell yr ystyr- iaethau hyn arno, efe a Iwyddodd i'w gael i bregethu, a daugosodd y nef- oedd, meddant, gymaint o foddlonrwydd i'r pregethwr a phe buasai yn offeiriad ! Nid oedd y bobl yn deall dim gwahaniaeth rhwng yr efengyl o'i enau ef, mwy na phe buasai wedi ei ordeinio gan esgob ! Chwalodd pawb o'r lle, heb fod un gydwybod yn archoUedig am y traha a wnaethpwyd ! A chan fod y bwlch wedi ei wneyd, ac nad oedd un arwydd o anfoddlourwydd y nef wedi yraddangos, nac un ias cydwybod wedi ei deimlo, yr oedd yn haws ei ddefuyddio yr ail dro na'r tro cyntaf ; a'i ddefnyddio hefyd a wnaed o hyny

allan.

Yr oedd offeiriad y plwyf, er mwyn cadw hawl ynddo, yn dyfod iddo, yn awr ac eilwaith, i ddarllen gwasanaeth ; ac nid yw yn anmhosibl fod ei ym- weliadau, bob yn ychydig, yn myned yn fwy anamserol, a mwy anghroesaw- gar ; digon felly i argoeli mai " pawb ei gapel" a fyddai gymhwysaf. Feliy yn y fl. 1840, adeiladwyd capel newydd, heb fod yn mhell oddiwrth yr hen. Yn awr nid oes dim gwasanaetli crefyddol yn cael ei ddal i fyny yn yr hen gapel, ond y mae wedi ei ollwng, meddir, i fod yn furddjTi adfeiliedig heb fod neb yu gofalu am dano. Tra yr oedd y Methodistiaid yn ei ddefnyddio, fe'i cedwid mewn cywair drwsiadus, ond yn awr y mae yn berffaith anghyf- anedd. Er mor enwog ydoedd capel Llanlluan yn y dyddiau gynt, yn enw- edio- ar Sul y cymundeb, ni chafwyd ynddo gymdeithas eglwysig reolaidd hyd y fl. 1809, ond yr oedd y crefyddwyr a breswylient y fro, yn aelodau yn eglwysi Llanddarog a'r Cefn-byrach. Yn awr, yn y capel newydd y mae pob moddion yn cael eu cadw gyda chysondeb, a golwg siriol ar y gwaith.

PEN III.] SIR GAERFYRDDIN. 445

PENNOD III. PAltHAD O EGLA^^YSI DWYEEINIOL Y WLAD.

CTSWYSIAD :

CIL-Y-CWM;— GWEDD FORETOL líETHODISTIAETH YX Y LLE— PARCH. WILLIAM WILLIAMS, PANT-Y-CELYN— Y CREFYDDWYR CTNTAF— ADFYWIAD— JOHÎf EVANS MH. LLOYD, CAIO— RISIART IFAX— DAFYDD WILLIAM, O'R BEILI-GLAS— -MR. A MRS. JONES, Y6TRAD-WALLTER— YSGOL SABBOTHOL GYNTAF YX Y SIR— LLANYMDDYFRI— ADFYWIAD— LLANGADOG— LLANSADWRN.

CIL-Y-CWM,

Yr hanes cyntaf a gawn ni am y lle hwn, yn ei gysylltiad â Metliodistiaeth, sydd yn y fl. 1742, ac wedi ei ysgrifenu yn nghofnodau y gymdeithasfa,* fel hyn :

" CiL-y-cwM. Y mae yma gymdeitJias ieuanc, ond Jieb ei tJirefnu yn rJieolaidd."

Ymddengys wrth hyn fod yma bregethu eisoes wedi bod &r ys rhyw am- ser, a bod yma rliyw fîrwyth i'r pregethu wedi ymddangos ; ond nid oedd fí'urf drefnus wedi ei rhoddi ar y gymdeithas eglwysig. Yr oedd v lle hwn, yn nghyda Caio, Tal-llychau, Llansawel, Llangathen, a Chymau, dan arolyg- iaeth cynghorwr o'r enw James Williams. Yn mhellach yn mlaen yn yr un flwyddyn, y dywedir am dani :

" Mae yma 24 o aelodau. John Thomas yw y cynghorwr anghyhoedd, ac Isaac Dafydd y goruchwyliwr (steicard). Newydd ddechreu yw y gymdeith- as hon. Maent oli dan argyhoeddiadau, ac ar yr un pryd, gymaint dan ddylanwad anghrediniaeth fel na all neb o honynt ddyweyd mai eu Han- wylyd hwy ydyw Crist."

Yn y fl. 1744, ysgrifena Siams WiIIiams am y crefyddwyr yma, " Maent yn fwy bywiog o fewn ac o faes. Mae cymdeithas fechan yn Ys- trad-ffin yn dechreu ymfi"urfio; mae yno tua 10 o aelodau. Yr wyf yn arfer myned yno i ymweled â hwynt, gan ddysgwyl yn hyderus ar i Dduw o-ario ei waith yn mlaen ynddynt."

Mewn ysgrif arall yn yr un flwyddyn, ysgrifena, " Mae yma oddeutu 27 o aelodau, y rhai, ar y cyfau, a ddysgir gan Gri.st, er fod y diafol yn ceisio trwy lawer modd, eu chwalu ; ond nid oes dim yn tycio, ac y mae yn cael ei siomi. Mae genym chwaer fechan,yr hon,yn mhlith eraill,ni allaf ei hano-hof- io. Arferai yr aelodau yma gyfaríbd yn Ystrad-ffin, ac weithiau yu Gallt-y- bere; naw o aelodau ydynt, Mae y gelyn yu Uawn o falais tuag atynt, drwy anfonrhywrai i'w gwawdio ; ond pa fwyaf y dirmyg, amlafy cyfarfyddant; ac er fod eu rhif yn fychan, eto y mae yn eu plith rai eneidiau hawddo-ar, y rhai, mi gredaf, a fyddant yn y nef."

Yr oedd y Parch. WiIIiam Williams, Pant-y-celyn, y pryd hwn wedi ym- uno â'r Methodistiaid, er uad oedd ar ddechreu ei weinidogaeth wedi Uwyr

* Cofnodau Trefecca.

446 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

ymadael ag eglwys Loegr ; a thra yr oedd yn gweini yn Llanwrtyd a Llan- ddewi-Abergwesin, ni allai fod o neraawr ddefnydd i'r eglwys fechan yn Cil- y-cwm. Ond yr oedd Eowlands yn pregethu yn Llanddewi-brefi, ae yn awr ac eilwaith yn nghapel Ystrad-ffin, a Howel Harris yn ddiau yn ymweled â'r gymydogaeth. Nid oes amheuaeth chwaith nad oedd cynghorwyr sir Aber- teifi a Brycheiniog, yn ymweled â Chil-y-cwm yn eu tro ; a thrwy eu gwein- idogaeth unedig, yr oedd y gwaith yn raddol yn gwreiddio ac yn ymeangu. Ar yr un pryd, yr oedd trigolion plwyfydd Llanfair-ar-y-bryn, a Lhindingad, vn gystal a Chil-y-cwm, mewn tywyllwch dudew ; ac er fod gwasanaeth crefyddol yn cael ei gynal yn yr eglwysi plwyfol, nid oedd y gwasanaeth, er cystal y gweddiau, ond ft'urf, a'r offeiriaid ond gwylíedyddion deillion. Yr oedd un capel gan y Bedyddwyr yn mheii ueliaf plwyf Cil-y-cwm, a gweinidog yn perthyn iddo ; yn yr hwn yr oedd ychydig o aelodau. Dan y fath amgylch- iadau anfanteisiol, ni ellid dysgwyl lai na bod tywyllwch fel cysgod angau yu gorchuddio y trigolion, yniron yn ddiwahaniaeth.

Pan oedd y whad yn y cyfiwr gresynol hwn, tua'r fl. 1738, cynhyrfodd yr Arglwydd ysbryd ei was Daniel RowLands i ddyfod yma i bregethu Crist wedi ei groeshoelio, a'r Ysbryd Glân hefyd yn cyd-dystiolaethu trwy oleuni a nerth, nes oedd calonau rhy w nifer yn íuan wedi eu cyífroi gan bryder a braw yn nghylch eu hachos tragwyddol. Nid hir y buont ar ol hyn * heb ddechreu .ymgrynhoi at eu gilydd. Y lle y cynelid eu cynulliadau oedd mewn bach yn yrayl y fan y mae y capel yn awr. Yraddengys hefyd fod capel wedi ei godi yn y lle hwn yn bur foreu,f ond nid mor foreu a'r flwyddyn 1740, tyb- V"'em. Pa beth bynag am y tìwyddyn, dywedir mai Mr. Rowlands a brynodd ddarn o dir gan un Mr. Prydderch, Dolgynon, yr hwn a sicrhawyd mewn gweithred i adeiladu addoldy arjio.

Y'n mheu ychydig flynyddoedd, torodd diwygiad aUan yn y lle, yr hwn oedd nerthol a thanbaid iawn, ac ychwanegwyd at yr eglwys tua 80 o aelodau newyddion. Yn y gymdeithas hon, yr oedd y Parch. William WiUiams, Pant-y-celyn, a'i briod, yn aelodau, a pharhausant yma hyd angau. Yr ydym eisoes wedi oh-hain peth o hanes y gŵr enwog hwn, ac nid oes genym le i chwanegu llawer. Y mae yn syn, gan ei fod yu teithio llawer, a hyny mewn amser yr oedd rhagfarn yn gryf iawn yn erbyn y crefyddwyr a phregethwyr, pa fodd na chlywsem am ychwaneg o ymosodiadau íirno gan erlidwyr yn Ngwynedd. Y rheswm a roddir am hyn ydyw, ei fod yn/arŵ-" a bod y son am dano fel y cyfryw yn drwydded iddo rhag erlidigaeth, naiU ai o barch iddo fel perchenog yr awen, neu rhag ofn eu gwneyd yn destyn ei gan- iadau, a'u dynoethi trwy yr holl wlad. Ond er i Williams, Pant-y-celyn,

* Mae enwau wyth o'r crefyddwyr bore hyn ar gael ; sef Siôn Thomas Siôn, Ochr- íForest ; Risiart Siôn, Coed-Ifan ; WiUiam Lloyd, Dygoedydd ; Isaac Prydderch, Dolgynon ; Ifan, y panwr ; Rhys Thomas Siòn, y glover ; Beti, yr Eithin-duon ; ac Ann Siams, Dolfallt.

•f Dywed yr ysgrif o fy mlaen mai yn y fl. 1740 y codwyd y capel ; os felly, hwn, yn ddiau, oedd y cyntaf gan y Methodistiaid yn Nghymru.

PEN. III.] SIR GAEUFYRDDIN. 4-1.7

gael llai o'i erlid na rhai o'i gydlafurwyr, eto ni ddiangodd yntau ddim yn Uwyr. Crybwyllir ara uu tro y cylioeddwyd ef i bregetliu yn Ngogledd Cymru, with, ueu mewn tafarn, ac i ^ŷr boneddig, a rhyw fugeiliaid gydag ef, ddyfod i'r lle i'w faeddu. Ciliodd WiUiams i'r tŷ, a chymliellodd y tafarn- wr ef i ymrithio mewn dillad bentliyg a roddodd efe iddo. Wedi gwneyd hyn, yr oedd yn abl i fyned i blith yr erlidH-yr, heb iddynt allu ei adnabod ; ond ei gydwybod a'i trywanodd am hyn, trwy ei gyhuddo nad oedd yn cy- fFesu ei Feistr gerbron dynion. Felly bu raid iddo, er mwyn heddwch ei fynwes, ymwisgo eilwaith yu ei ddillad ei hun. Adnabuwyd ef yu ebrwydd yn y rhai'n, a dechreuwyd ymosod arno, ac nid oes araheuaeth na chawsai brofi pob anfri a sarhad, os nad niwaid trwra, oni bai i'r tafarnwr ei wared ef o'u dwylaw. Mewn Ue arall, dywedir iddo gael ei ollwng i waered fel Paul, mewu basged, ac felly diangodd o fFordd ei erlynwyr. Bryd arall, fe fu mewn perygl bywyd yn yr uu parth o'r wlad, ac raai mewn ystabl yr ymguddiodd ac y cysgodd y nosou hòuo.

Yr oedd y Parch. WiUiam WiUiams yn bregethwr da, a helaeth ei ddoniau a'i ddysg; ond dywedir mai yn y cyfarfodydd wythnosol, raisol, neu chwarterol, y llewyrchai efe fwyaf. Bernid ef yn un medrus a chraff i brofi ysbrydoedd dynion, i ddynoethi hunan-dwyll, ac ysbryd hunau-gyfiawu, i gynal y gweiniaid ac ofnus, i gyfarwyddo yr ymofyngar, ac i gysuro pob galarus. Mae ei enw, yu anad dira, yu gysylltiedig wrth y llyfrau a ysgrifen- odd, ac yn euwedig yr hymnau, gahirebau, a'r treithodau barddouol, a gyf- ansoddodd. Afreidiol ydyw dyweyd, yr hyn sydd eisoes yn wireb mor adnabyddus, ddarfod cyuysgaethu Wüliams, Pant-y-celyn, â dychymyg hedegog, ac â dawn hylithr i gyfansoddi ; a bod ei ddawn a'i feddyliau wedi eu cysegru at wasanaeth yr Arglwydd a'i deulu. A phwy fedr ddweyd, pa sawl meddwl a gyfl"rowyd, pa sawl cydwybod a ddeS"rowyd, pa sawl calon a wresogwyd, trwy ei gyfansoddiadau, yn ystod y can' mlynedd diweddaf. Cysylltir pregethau Daniel Rowlands, a chaniadau WiUiams, â'u güydd, fel prif foddion cyífredinol llesâd y genedl yn y ganrif ddiweddaf.

Eu brif gyfansoddiadau ydynt hymnau, dan yr enw, " Haleluia," " Ffarwel Weledig," "Golwg ar deyrnas Crist," " Theomemphus." Mewn rhyddiaith, efe a gyhoeddodd amryw fâu draethodau ; megys, " Tri wýr o Sodom a'r Aipht," "Crocodil Afou yr Aiíft," " Doctor Nuptiarura," " Philopur," " Philo Evaugelius." Ysgrifenodd tua 40 o alarebau ar ol gweiuidogiou euwog, neu bersonau hynod mewn gras a defnyddioldeb.

Pel hyn y treuliodd Williams, Pant-y-celyn, ei oes i lesâd ei genedJ, ac i ogoneddu ei Dduw. Nid ymrwystrodd gyda dim o negeseuau y bywyd hwn, fel y rhyngai fodd yn fwy i'r Hwn a'i dewisodd yn filwr. Llafurus iawn hefyd a fu ef yn ei dyrahor. Bernir iddo deithio yu agos i gan' mil o fill- diroedd i bregethu'r efeugyl, mewn tua 43 o flynyddoedd ; a rhwng ei breg- ethau a'i gauiadau, nid oes uu amheuaeth ua fu ef yu oâ'eryn i droi llawer at gyfiawnder, ac y Ilewyrcha efe fel dysgleirdeb y ffui-fafen dros byth. Bu farw

448 HANESIAETH Y SIUOEDÜ. [dOSB. IV.

yn Uawn hyder yn yr lesu, lonawr Jleg, 1791, a chladdwyd ef yn mynwent Llánfair-ar-y-bryn, yn y 74aiii fl. o'i oed.*

Mae enw John Evans yn gysylltiedig genym, ymron bob amser, â Chil-y- cwm ; ac yn fwy felly na'r eiddo y bardd parchedig y soniasom ara dano. Tad oedd y John Evans hwn i'r Parch. John Evans, yn awr o Landeilo. Am y cyntaf, y mae yn ddrwg genym na fuasai cofiant rheolaidd am dano, modd y gallesid rhoddi crynodeb byr o'i hanes yn y lle hwn. Ond nid yw yn yra- ddangos fod yr un o'r fath wedi ei gyhoeddi. Yr imig beth a allwn ni, gan hyny, wneyd yn awr, ydyw crybwyll ei enw fel pregethwr gwlithog a der- byniol iawn. O ran ei weinidogaeth, safai John Evans yn uchel yn mhlith ei frodyr. Teithiai lawer ar dde a gogledd, a gadawodd arwyddion lawer ar ei ol am yr efengyl a bregethid ganddo, nad ofer fu. Ysgrifenai un gŵr ataf am dano, fel hyn ; "Am John Bvans, Cil-y-cwra, y dywedir, ei fod o ddawn melus anghyö'redin ; fod rhyw swyn yu ei lais peraidd, nes bod yn abl i hudo y gwenyn o'r cwch, braidd. Yr oedd ei athrawiaeth yn dyferu fel y gwlaw, ' fel y gwlith-wlaw ar îr-wellt, ac fel cawodydd ar lasweUt.' Arferai Mr. Llwyd, o Gaio, ddyweyd am dano, fod ei weinidogaeth yn hynod o fuddiol i ddyfrhau a dyddanu y saint."

Ymddengys y bu ef gyda Mr. Llwyd, o Gaio, neu Henllan, fel y gelwir ef yn aml, ar deithiau yn y gogledd ; lle y cyfarfuant ag erlid, yn enwedig un tro. Nid yw yn mynegu pa le na pha bryd y bu y dygwyddiad. Ond hyn a ddywedir, fod y ddau bregethwr wedi eu cyhoeddi i bregethu, ac i wrth- wynebwyr Methodistiaeth gyiîroi, yu neillduol gweinidog y plwyf. Hwn a alwodd am gynorthwy rhyw nifer o ddynion, cymhwys at y fath orchwyl, ac a roes iddynt helaethrwydd o ddiod gref, i'w haddasu yn well i'w gyflawni yn eö'eithiol. Daeth y dyhiriaid hyn yn llawn fíyrnigrwydd i'r lle pan oedd John Evans yn pregethu. Canfuwyd hwy gan Mr. Llwyd, ac ofnai yn fawr, os oedd ganddynt arfau tân, y gallai niwaid trwm, ueu dywaUt gwaed, gymeryd Ue, gan mor ddibris y wedd oedd arnynt. Ond er syndod iddo ef, ac i bawb araU, yn lle terfysgu, dechreuasant ymwrando. Barnai rhai mai pereidd-dra Uais y pregethwr a ddisgynodd arnynt fel swyn, gan ddirymu eu nerth, ac iddynt, heb yn ddysgwyl i bawb, ac heb un cyd-ym- gynghoriad â'u gilydd, megys ar unwaith, goUi yr amcan y daethent o'i her- wydd, a gwrando yn astud fel eraill yn y gynulleidfa. Ond yr oedd hyn yn beth blin i un o'r haid, yr hwn, gan dybied mai peroriaeth Ilais y pregethwr a barasai ddyrysu yr amcan, a brysurodd i ymofyn am badell bres, a thrwy drystio â'i holl egni â hon, tybiai y gallai foddi swn y pregethwr, ac y dych- welai ei gymdeithion i'w pwyll. Ond rhyw ddyu cryf o ddyspaddwra ddygwyddodd fod yn mhlith y bobl, a ddaeth at y terfysgwr, gan godi yr haiarn dyspaddu uwch ei ben, a dyweyd, " Oni thewi â dy 'stwr, mi a'th dar- awaf di yn Uech â'r haiarn yma, nes byddi di yn swp marw." Uychrynodd hyn ef, a bu tawelwch mawr dros ystod yr holl gyfarfod.

* Gwel Gofiant helaeth o hono yn Saesoneg, gan y Parch. E. Moi'gan, M. A., Syston.

PEN. III.] 91K GAEHFYRDDIN. 449

Yr oedd pregethwr arall, o'r enw Eisiart Ifan, yn cyd-oesi gyda John Evans yn y lle hwn. Bu hwn, raeddir, yn fendithiol i droi Ihiwer o bechadur- iaid 0 gyfeiliorni eu ffordd, i gadw Uawer enaid rhag angau, ac i guddio lluaws o bechodau. Cododd pregethwyr eraiU ar ol y ddau hyn, sef David Morgan, William Jones, a John Evans, mab y pregethwr o'r un enw, a John Jones, yn awr o Landdeusant.

Bu yma rai henuriaid rhagorol, a beirdd godidog. O'r rhai cyntaf, sonir am WiUiam Dafydd Rhys, Nant-ddu, felblaenor rhagorol yr hwn oedd hynod yn mysg ei frodyr, fel y buasai Andronicus a Junia yn mhlith yr apostolion. Un arall tra hynod, a thra adnabyddus, oedd Dafydd Wiliiams, Beili-glas. Gẃr cryf ei amgy ffrediad,meddir, oedd hwn ; helaeth ei wybodaeth ysgrythyrol; tra chydnabyddus â gwaith Gurnal ; gŵr yr oedd ei gof yn gryf, ei farn yn graff, a'i ddawn yn barod. Tad ydoedd i'r Parch. Ebenezer Williams, Pen- y-bont, Maesyfed. Ganwyd ef yn mhlwyf Llandysul, sir Aberteifi, yn y fl. 1765. Hanai o deulu Sosinaidd eu barn ; ond pan oedd ef tuag 20 ml. oed, daeth arno chwant i fyned am unwaith i wrando ar y Methodistiaid, gan faint y son oedd am danynt ar hyd y wlad. Yn unol a'v blys hwn, efe a aeth, ryw foreu Sabboth, i gapel Waunifor : ac yn y fan y darllenodd y pregethwr ei destyn, ymaflodd y gair gyda grym yn ei feddwl, cymaint felly nes anghofio o hono yr hoU bregeth, Y testyn oedd, " Y mab ieuanc, yr wyf yn dywedyd wrthyt, Cyfod." Ar ei ddychweliad o'r cwrdd, deallodd ei deulu yn fuan fod ei wedd wedi newid, ac ymosodwyd arno yn ddiarbed, i'w hwtio mewn gwawd ac anfri. Yn mhen rhai wythnosau wedi canfod gogwydd penderfynol ei feddwl, trodd y gwawd yn llid, a'r chwerthin yn erlid ; îe, aeth yr erlid mor bell nes ei anghefnogi gan ei deulu a'i ardal yn ei alwedigaeth (canys gôf oedd efe) ; bu raid iddo symud o'i wlad, a gadael ei bobl ; ac i ardal Cil-y-cwm yr arweiniwyd ef i wladychu. Yr oedd Meth- odistiaeth wedi ymwreiddio yn ardal Cil-y-cwm er ys 40 ml. a mwy, cyn hyn, a chafodd y ffoadur trallodedig dderbyniad croesawgar yn mhlith y crefyddwyr. Cymerodd William Dafydd Ehys, y blaenor, ef erbyn ei law ; parhaodd y ddau yn gyfeiUion mynwesol tra bu yr hen flaenor fyw ; ac ar ol ei farw, galwyd Dafydd William i'r swydd yn ei le, a gwasanaethodd hi yn ffyddlawn am ysbaid hanner can' mlynedd. Teithiodd lawer i gyfarfodydd cyhoeddus y cyfundeb mewn De a Gogledd. Meddai gryn lawer o ddawn barddonol, a chyfansoddasai amryw o hymnau ac odlau ysbrydol. Ond ei brif hynodrwydd oedd ei fedrusrwydd i gadw y cyfarfodydd eglwysig, Nid oedd neb yn meddwl yn uwch nag ef am dadau y Methodistiaid ; bu yn cyd- oesi â Eowlands 16eg o flynyddoedd wedi dyfod at gi'efydd, ac yn yr un eglwys a Williams, Pant-y-celyn, am 15eg mlynedd ; eto, ni chlywid ef ua amser yn dyrchafu yr hen dadau trwy ddarostwng ei gydoeswyr, Yr oedd ef yn mysg y rhai blaenaf yn sefydiu ysgol Sabbothol a phregethu yn nhref Llanymddyfri ; a chafodd fyw i weled yr achos wedi llwyddo yn fawr yn y dref hòno. Ennillodd enw peraroglaidd yn mysg ei genedl, a disgynai enw Dafydd, Beili-glas, yn soniarus ar glustiau gwreng a boneddig.

2 r

450 HANESIAETH Y SIUOEUD. JUOSB. IV.

Bu farw mewn henaint teg, yn fab dwy flwyrld a phedwar ngaiii.

Yn y Ue hwn hefyd yr oedd y prydydd rhagorol hwnw, Morgan E.hys, awdwr y llyfr hymnau, " Golwg o ben Nebo." Yma y preswyliai caniedyfhl arall a elwid Jaci Siams, neu loan ap lago, fel y galwai efe ei bun. Yr oedd y gwŷr hyn yn grefyddwyr da, ac yn barchus gan bawb a'u hadwaenent.

Bu yn y Ue hwn ddiwygiad grymus lawer gwaith, trwy y rhai y byddai yr Arglwydd yn dwyn gwanwyn hyfryd ar ei achos ar ol gauaf dû, yn peri i'r anmhlanladwy gadw tŷ, a bod yn llawen-fam plant ; ac yu rhoddi ysgog- iad o-rymus i'r holl achos yn gyffredinol yu ei flaen. Yr oedd amryw ag oedd yn byw yn nhref LLinymddyfri, yn aelodau yn Cil-y-cwni cyn bod achos sefydlog a rheolaidd gan y cyiundeb yn y dref hòno. Gerllaw y dref, sef yn Ystrad-wallter, yr oedd gŵr cyfrifol o'r enw William Jones, Ysw., vr hvvn, vnghyda'i briod, oeddynt noddwyr galluog, a chyfeillion serchog, i achos yr Arglwydd lesu Yr oeddy teulu hwn, fel amryw deuluoedd cyffelyb yn ngwahanol barthau y dywysogaeth, wedi cael ewyllys a gallu i weithio. " Ymroddent i ofn Duw," a rhoddent y " gwddf yn ngwasanaeth eu Har- ghwdd." Wedi marw Mr. Jones, symudodd ei weddw i Henllys-fawr, lle y preswyliodd dros weddiU ei hoes, ac yn aelod yn Nghîl-y-cwm.

Ymddengys mai chwaer oedd Mrs. Jones i Major WiUiams, o Henllys- fawr. Pan oedd yn ieuanc, arferai fynychu cymdeithasfaoedd y Method- istiaid yn v Deheudir. Sonir am dani unwaith yn myned i gymdeithasfa y Bala, gyda Mr. Eowlands, Llangeitho ; a Mr. a Miss Bowen, Waunifor. Llety- asaut yn Mallwyd, sir Drefaldwyn, ar y ffordd. Cyn cychwyn dranoeth, daeth swn i'w clustiau fod pobl Dinas-Mowddwy yn parotoi i'w herlid. Ond nid oedd hyn yn rhyfedd y dyddiau hyny, ac nid oedd yn llaesu dim ar aidd a sel V crefyddwyr, ond ei awchu yn hytrach ; felly, yn mlaen â hwy. Pan ddaethant i'r Ue, dyma yr erìidwyr yn ymgasglu at eu gilydd, gan fwriadu ymosod arnynt yn ddiarbed. Aeth Mr. Rowlands yn mlaen tuag atynt ; ac yr oedd golwg mwy boneddigaidd arno ef nag ar gynghorwyr cyttredin y Methodistiaid, a thebycach i ustus heddwch nag i bregethwr ; a phan y daeth atynt, gwaeddodd arnynt yn awdurdodol, " Pwy ddiawl a ddaeth â chwi yma, i rwystro pobl i drafaelio y ffordd fawr ? " Ar hyn yswatiodd pawb mewn mynyd, gan sisial yn mysg eu gilydd, " Nid dyma nhw." FeUy caniatawyd i'r ymdeithwyr fyned heibio yn heddychol. Wedi dyfod i'r pen- tref, ac i'r cymdeithion ddod at eu gilydd, gofynai Mr. Rowlands iddynt, " A glywsoch chwi i'r diawl wneyd rhy w ddaioni erioed o'r bhìen ? "

Yr oedd hyn, yn ddiau, mewn adeg foreuol ar Fethodistiaeth yn Ngwynedd. Mae Mrs. Jones wedi marw, beUach, er ys rhai blynyddoedd, yn 96 ml. oed, wedi bod gyda chrefydd er pan ydoedd yn 13 mL oed, sef yr ysbaid maith o 83 o flynyddoedd. Yr oedd hi ar y pryd yn ferch ieuanc, ac wrth hyny yr ydym yn casglu mai un o'r troion cyntaf oedd hwn y cynaHwyd cymdeith- asfa yn y Bala ; os feUy, nid mor rhyfedd genym glywed fod yno rhyw ddy- hiriaid yn saethu at y crefyddwyr a ymgynuUent yno ; nid at eu penau, mae yn wir, ond at eu coesau ; nid i'w Uadd, ond i'w bUno a'u terfysgu ; a dy-

PEN. lir.] SIR GA.ERFYRDniN. 4.51

wedai Mrs. Jones wrth Lewis Morris, ei bod hi a Miss Bowen, Waunifor, wedi tynu llawer o shots o'u hosanau, ar ol myned i'r !

Yr oedd brawd Mrs. Joues, sef y Col. Wiiliams, yn ŵr cyfoetbog, ac vn ddiblant ; ond nid oedd yu grefyddwr, a da fuasai ganddo lesteirio ei chwaer i ymuno â'r Methodistiaid, ac yn euwedig i'w derbyn i bregethu i'w thŷ. Ebe efe wrthi, " Os ua rwystrwch chwi y x\Iethodistiaid i'cb tŷ, gad- awaf fy stât i rywun arall."

" Y mae yn well genyf goUi eich stât, fy mrawd, na throi lesu Grist allan o'm tý," oedd yr ateb.

Pa fodd bynag, bu Col. Wiìliams farw heb wneyd ewyllys, a daeth ei stât i feddiant ei nai, mab Mrs. Jones. Symudodd hithau wedi rhyw gymaint o amser i Henllys, a bu groesawgar i bregethwyr y cyfundeb tra fu byw, Pihoddodd £20 tuag at adeiladu capel Cil-y-cwm y drydedd waith. Yr oedd yr hen gapel cyntaf wedi myned yn rhy fychan, ac ail-adeiladwyd ef yn Uawer helaethach yn y fî. i786, a thrachefn y drydedd waith yn y fl. 1836. Cyfran- odd Mrs. Jones £50 at Athrofa Trefecca, a £100, neu log y swm hyny, at gynal yr achos yn Cil-y-cwm tra íydd etifedd o'r âch yn Henllys-fawr.

Y'n y lle hwn y dywedir y codwyd yr ysgol Sabbothol gyutaf yu y sir hon. Cadwyd hi yn nhỳ un Dafydd Elias, tad y Parch, T. Elias, sir Frycheiniog, gan ofifeiriad o'r enw Parch. William Williams, mab i Rhys Wiliiam, Glan- gwenlas. Yr oedd Rhys \Villiam yn aelod gyda'r Methodistiaid cyntaf ya Nghil-y-cwm. Bu ei fab ef, wedi derbyn urddau eglwysig, yn gweiui yn Lloegr dros rhyw dymbor, ond rhoes y weinidogaeth heibio o herwydd ei iechyd, fel y tybir, ac a ddychwelodd i'w fro enedigol, ac a ymunodd jtio â'r Methodistiaid ; a'r peth cyntaf, meddant, a wnaeth ar ei ddychweliad, oedd codi ysgol Gymraeg ar y Sabbothau yu y rhag-grybwylledig. Yr oedd,felyr ymddengys, yn gyduabyddus ag ysgogiadau Mr. Raike3,yu Nghaer- loyw, îe, dywedir ei fod wedi cael ymddyddan â Mr, Raikes ar hyn. Bu Mr, WiUiams yn offeryn i gychwyn ysgol Sabbothol yn Bout-rhyd-y-bere, a Llanwrtyd hefyd. Gŵr syml a chrefyddol, meddir, oedd y gŵr parchedig, a'i amcan ydoedd gwneuthur daioni dros ei Dduw.

O Gil-y-Cwm yr ymeangodd yr achos i Lanymddyfri, lle y mae eglwys a chynulleidfa gref yn awr, ac at yr hon y cawn alw sylw y darllenydd eto, Cododd haid arall, gan ymsefydlu yn y capel a elwir Salem. Cyn codi y capel hwn, yr hwn sydd yu sefyll yn Rhandir-mŵn, yr oedd pregethu er ys blynyddoedd mewn bychan a elwir y Pannau. Erbyn hyn, y mae canghen wedi tarddu o Salem eilwaith, yr hou a elwir Gosen, lle y mae!]cynull- eidfa dda, a golwg siriol ar yr achos. Adeiladwyd y capel hwn yn y fl. 1845. Yr oedd pregethu gan y Methodistiaid yn yr ardal er ys blyuyddau lawer, rai ugeiniau o flynyddoedd, ac ysgol Sabbothol hefyd er ys Uawer dydd. Yr oedd cynifer o aelodau a breswylient yr ardal yn perthyu i Gil-y-cwin, ac i Salem, ar y dechreu, ond wedi adeiladu y capel cyfansoddwyd hwy yn eglwyg wrthi ei huuau ; ac er nad oedd y rhifedi ar y dechreu ond ychydig, y maent, bellach, dros 80 o rifedi. Mae y lle hwn gerllaw y ffordd sydd yn arwain o

452 HANESIAETH Y SIROEDU. [dOSB. IV.

Lanymddyfri i Lanwrtyd, ac yn sefyll ar derfyn y ddwy sir, Caerfyrddin a Brycheiniog.

LLANYMDDYFRI.

Canghen yw yr eglwys hon wedi tarddu yn wreiddiol, fel y dywedwyd, o Gil-y-Cwm, ac ar y cyfrif hyny, fe allai mai dyma y lle i wneuthur crybwyll- iad am Fethodistiaeth Llanymddyfri, er nad ydyw yr achos yn y dref hon ond diweddar mewn cydmhariaeth i lawer man yn y sir.

Tua 60 ml. yn ol, nid oedd yma nemawr o grefydd na chrefyddwyr. Hawdd a fuasai i ddyeithr-ddyn a ddygwyddai ddyfod i'r dref, y pryd hwnw, ar y Pasg, neu y Sulgwyn, weled "nad oedd ofn Duw yn y Ue hwn." Ar y gwyl- iau crefyddol (?) hyn, yr oedd pob gradd ac oedran yn ymroddi i oferedd. Rhoddai y crefftwr ei orchwyl heibio, a'r maelwr ei fasnach o'r neilldu, gan ymroddi i ryw chwareuon diles, a dawnsiau ynfyd ; eraill a ymddifyrent mewn ymladd ceüiogod ; dygid y cwbl yu mlaen dan ddylanwad diod- ydd meddwol, a dybenai y cwbl, y rhan amlaf, mewn ymladdau gwaedlyd, ac mewn gweliau heb achos.

T pryd hwn, nid oedd yma achos sefydlog gan un enwad o ymneLllduwyr. Yr oedd y dref, o ran hyny, yn gwbl yn meddiant yr eglwys wladol, a hyny er ys cannoedd o flynyddoedd. Ond fe ddaeth yr amser y byddai ambell oedfa yn cael ei chynal gan ymneillduwyr. Galwai Dafydd Morris, Twrgwyn ; Llwyd, 0 Gaio ; a Dafydd Eees, Llanfynydd, heibio, wrth fyned i'w teithiau, a phregethent ar yr heol ar ddydd fí'air neu farchnad. Ar ol hyn, cedwid oedfaon yn fwy cyson gan Annibynwyr a Methodistiaid gyda'u gilydd mewn anedd. Cyfaneddid rhan o'r hwn gan hen wraig a adwaenid yn gyfiFredin wrth yr enw Nanni Gainy ; ond ei henw priodol ydoedd Anne Edwards. Yn y hwn y bu y ddau enwad am flynyddau yn ymosod ar annuwioldeb y dref.

Yn y fl. 1797, adeiladodd yr Annibynwyr addoldy iddynt eu hunain, a gadawyd y Methodistiaid yn y anedd. Nid oedd eu nifer ond ychydig ; ac yr oeddynt, ar y pryd, yn cyfrif eu hunain yn aelodau yn Cil-y-cwm. Yr oedd y Parch. John Williams, Pant-y-celyn, mab yr hen fardd, ac am yr hwn y cawn eto son, yn byw gerllaw, ac yr oedd William Jones, Ysw., yn byw yn Ystrad-Wallter, o fewn ychydig i'r dref ; daeth ar feddwl y gwŷr da hyn brynu y yr oeddid yn pregethu ynddo. Wedi gosod yr achos gerbron cwrdd misol y sir, a chael cefnogaeth oddiyno, ymosodasant ar y gorchwyl o adeiladu y capel cyntaf. Yn y fl. 1802 y bu hyn. Yr oedd y Parch. John Evans, yn awr o Landeüo, a mab i John Evans, Cefnllan, Cil-y-cwm, bellach, yn byw yn y dref, ac yn ei dỳ ef y cynelid y cwrdd eglwysig * cyn fod capel yn bod, di'os ryw gymaint o amser.

* Y rhai canlynol a gyfansoddent yi' eglwys y pryd hwn : Parch John Williams, Pant-y-celyn ; Ẅilliam jones, Ysw., Ÿstrad-Wallter ; John Erans, j prcgethwr, a'i wTaig ; David Thomas, Rock, a Harri Harris, glover, y blaenoriaid ; GwTaig Harri Harris ; Mrs. Jones, Dolau-gwynion ; Nel, Cefn-cerig ; Nancy Jack Hopkin ; Pali, AberogwT ; Pali Jack Thoraas ; Samuel WiUiams, a'i wraig.

PEN. m.] SIR GAERPYRDDIN. 453

Ystyriai y Parch. John Williams ei hun yn perthyn fel pregethwr, i sir Frycheiniog ; oblegid yno yr oedd pan ymunodd ef gyntaf â'r Methodistiaid, eto yr oedd yn aelod eglwysig yn Llanymddyfri, a diau iddo ef a Mr. Jones, Ystrad, fod yn fraieh gref i'r achos pan yr oedd eto yn ei fabandod a'i eidd- ilwch,

Gan fod iechyd Mr. Williams yn wanaidd, rhaid oedd iddo gael y cwrdd eglwysig, bob amser, ganol dydd, am 12 o'r gloch, ac arferai yn wastad es- bonio y bennod a ddarllenai wrth ddechreu y cyfarfod. Bu y gŵr da a pharchedig hwn o wir wasanaeth i'r achos crefyddol yn y dref dros weddiU ei oes, ac nid ei fai ef ydyw na fuasai yr arian y gadawsai eu Uog i hyny, yn gwasanaethu yr un achos ar ol iddo ef farw.

Wedi adeiladu y capel, symudwyd yr achos yno, wrth gwrs. Tua'r un amser dechreuwyd yr ysgol Sabbothol. Cedwid hi ar y dechreu mewn tai anedd yn y dref, gan ystyried fod y rhif yn rhy fychan i fyned i gapel mawr, a'r tywydd, yn fynych, yn rhy oer. Yn mhen rhyw ychydig o amser ar ol ei chychwyniad, ymunodd y brodyr yr Annibynwyr â'r Methodistiaid i ddwyn yr ysgol Sabbothol yn mlaen. Mewn canlyniad, symudwj'd yr ysgol i gapel y Metbodistiaid, a bu y ddau enwad yn ei golygu yno dros ryw dymhor. Ciliodd yr Annibynwyr cyn hir i'w haddoldy eu hunain, a symudwyd yr ys- gol eilwaith i dai auedd. Yn y tymhor hwn, daeth John Eoderick o Langad- og i fyw i'r di-ef, a thrwy ei lafur diflin ef, Uuosogodd yr ysgol yn fawr, a bu raid ei symud drachefn i'r capel, lle y gorphwysodd hyd y dydd hwn.

Oddeutu yr un amser, anfonwyd yma ysgol feistr o'r euw Eees William Morgan, yr hwn oedd yn aelod yn eglwys Cil-y-cwm, i gadw ysgol G-ymraeg ddyddiol, perthynol i elusen Madam Bevan. Cadwyd yr ysgol hon yn nghapel y Methodistiaid, a bu yn lles mawr i lawer o blant yn y dref a'r gymydogaeth ; ond yn mhen y tymhor arferol, sef hanner blwyddyn, symud- wyd hon i le arall.

Fe gasgla y darllenydd mai eiddil a bechan oedd yr ysgol Sabbothol ar ei chychwyniad, ac mai lled nychlyd y parhaodd dros ryw dymhor, ond erbyn hyn y mae wedi cynyddu yn ddirfawr. Y mae, nid yn unig, yn lluosog yn y dref, ond weíti bwrw allau chwech o ganghenau o amgylch y dref, ac wedi gwasgar yr anwybodaeth caddugol a orchuddiasai y dref er ys oesoedd, a darostwng yr hen ofer-gampau a'r arferion a'i hanui'ddai er cyn cof.*

Dadganai Yicer Pritchard uwchben y dref ddau can' mlynedd yn ol,

" Mene Tecel, tref Llan'ddyfri, Pwysodd Duw di yn dy fryuti." Ond beth pe codai yr hen Ficer yn awr o'i fedd, a chanfod yr hoU fanteision sydd gan y trigolion, mawr yn ddiau a fyddai ei syndod, ac nid bychan a fyddai ei law enydd. Parod fyddai i ofyn, "O ba le y daeth a phwy a genedlodd, y rhai hyn ?

* Mae yn y dref hon lawer o fanteision crefyddol heblaw sydd gan y Methodistiaid. Mae gan y Wesleyaid, y Bedyddwyr, ac eglwys Loegr, bob un ei hysgol Sabbothol, yn nghyda moddion crefyddol eraill. Mae yma ysgolion National a Brítish Schools hefyd. Yn ddiweddar hefyd, codwyd yma ysgol Eamadegol, wedi ei gwaddoli yn dda, ac yn cael ei bwriadu i fod yn llesad i'r Cymry heb wahaniaeth plaid, a rheolau gorgyfyng.

454 HANESIAETH T SIROEDD. [dOSB. IV.

Wele, gadawsid fi yu unig, yn gaeth ac yn ddieppil ! " Yr ateb a roddid iddo a fyddai hefyd, " Duw a gododd ei law at y cenedloedd, a'i faner at y bobloedd. O'r Arglwydd y daeth hyn, a hyn sydd ryfedd yn ein golwg ni."

Yr oedd Llanymddyfri, ar y pryd y dychwelodd yr ysgol Sabbothol yn ol i'r capel, mewn cysylltiad â Chil-y-cwm, fel tailh Sabbothol. Cedwid yr oedfa y boreu yn y dref, yn Cil-y-cwm y prydnawn, a'r nos yn fynych fe breo-ethid mewn tai anedd yn y cymydogaethau, megys Ystrad-wallter, Hen- Uys-fach, a DoLiu-gwynion. Pregethwyd llawer iawn yn Ystrad-wallter, yu amser Mr. a Mrs. Jones, a hir y cofiwyd, ac y cofir eto, am oedfaon nodedig yuo, ac yn Dohiu-gwynion. Mae y Parch. Rees Phillips yn cofio un o'r oedfaon hynod hyny yn y lle olaf a grybwyllwyd, pan oedd un Williara Jones, Cydweli, yn pregethu. Arllwyswyd cawod o ddylanwadau neithol ar y gyn- ulleidfa, nes oedd pob calon yn cyfiFroi, a bloedd o orfoledd a mawl yn tori allan, y fath na chly wsid ond anfynych ei chyífelyb. Mae Dolau-gwynion hyd heddyw a'i ddrysau yn agored i dderbyn cenadon Mab Duw, o Dde a Gog- ledd, er maint y bylchau a wnaed gan angau yn y teulu.

Yr oedd Ihiwer o bregethu yn Nglan-towy am flynyddoedd, a mawr y car- edigrwydd a ddangosid i achos yr efengyl gan deulu Mr. Jeíl'reys. A'r un modd wedi iddo syraud i Ystrad-walUer, lle y mae yn awr yn preswylio. Mae y lle hwn fel wedi ei osod i dderbyn pregethu iddo a thra niawr y fl'ydd- londeb a ddangoswyd gan y teulu hwn, fei teulu Mr. Jones a fu yn preswylio yma gynt. Pregethid llawerar nos Sadyrnau, a rhai prydiau eraiU, yn Pant- y-wheel hefyd. Yr oedd Llanyraddyfri yn fynych heb oedfaon nos Sabboth dros ryw dymhor, o herwydd fod pregethu gymaint yn y tai o amgylch y dref. A phan y daeth y pregethu yn fwy cyson yn y dref, nid rhyw Iwydd- iant mawr a'i dylynodd dros rai blynyddau. Ond yn y fl. 1819, torodd di- wygiad grymus iawn allan, a chwanegwyd Uawer at nifer yr aelodau. Dyma y pryd y profodd y Peirch. Rees Phillips, a'i frawd Thomas PhiUips, yn awr 0 Henft'ordd, ddylanwad y gwirionedd, ac y darostyngwyd hwy dan iau Crist. Bu adfywiad drachefn yn mhen tua dwy flynedd ar ol y liall, a chyn i'r cyntaf Iwyr ddiÖ"oddi. Chwanegwyd Uawer at yr eglwys trwy yr adfywiad hwn hefyd. Dyma y pryd y dygwyd pregethu mwy cyson i bentref Myddfai, ac y sefydlwyd ysgol Sabbothol. Yr oedd y brodyr o Landdeusant cyd- gynorthwyo yn y gwaith hwn. Yn y fl. 1823, adeiladwyd capel Myddfai, ac erbyn heddyw y mae yno gynuUeidfa dda, ac eglwys yn rhifo uid llawer yn fyr o 60 o aelodau.

Yn y fl. 1828, bu adfywiad arall yn y wlad, am yr hwn y coffawyd yn hanes Llanddeusant. Adfywiad oedd hwn a ysgydwodd y wlad trwyddi, o leiaf y parthau uchaf o honi, ac ni fu Llanymddylri yn llwyr amddifad. Y prydhwn, codwyd yr achos crefyddol yn fwy i olwg preswylwyr y dref. Yr oedd cyfarfod misol y flwyddyn o'r blaen wedi parotoi y fibríid i hyn ; cyfar- fod a hynodwyd nid yn unig â phresenoldeb dau ŵr enwog o'r Gogledd, sef y Peirch. John EUas, Môn, a John Jones, Talsarn, ond yn fwy o lawer â phresenoldeb Duw ei hunan. Yr oedd y gynulleidfa, bellach, yn dechreu

PEN. III.] SIU GAEHFYRDDIN. 455

cwyno gan ddiffyg lle, a'r addoldy, erbyn hyn, wedi rayned yn rhy gyfyng, a bu raid yraosod at adeiladu newydd ac eangach na'r hen. Yr oedd hyn rai blynyddau ar ol y diwygiad crybwylledig. Yr addoldy uewydd a agor- wyd yn y fl. I8.16, oedd yn adeilad helaeth a hardd iawn.

Ymwelodd yr Arglwydd drachefu â'i bobl yn y wlad hon, tua'r fl. 1849, mewu atebiad i weddiau yr eglwysi. Ymwelodd rhagluniaeth y uef â'r deyrnas â haint, yr hwn a ysgubodd niferi mawr o ddyniou yn ddisymwth i'r bedd. Bendithiwyd yr oruchwyliaeth hon i lawer a weddiliwyd gan augau. Hi fu, fel aradr, yu foddion i rwygo y tir ; a chafodd yr had aullygredig ddis- gyn i galonau wedi eu parotoi i'w dderbyn. Daliwyd llawer yn y dref hou ag ofnau, darostyngwyd ac ystwythwyd llawer o rai cyndyu, a dygwyd Uawer un a fuasai yu hir yn cloffi, i Iwyr benderfyniad. Chwauegwyd at yr eglwys hon tua 42 yr un uosr.aith !

O'r rhai a ddechreuasant bregethu yn yr eglwys hon.y mae tri wedi marw, sef Ebenezer Evans, Thomas Evans, a Daniel Williaius, ac uid hir y bu yr un o'r tri hyn ar y maes cyn eu galw i orphwys. Mae tri arall yn awr yn Uafurio mewn cyrau eraill o'r maes, sef y Parch. Thomas Phillips, yn awr o Heuffordd ; y Parch Ebenezer Williams, Peu-y-bout, Maesyfed ; a'r Parch. Richard Sauiiders, yr hwn sydd yu awr yn aeiod 0 gwrdd misol sir Forganwg. Nid oes yn aros yn yr eglwys bou, o bregethwyr, o'r holl feibion a fagodd, oud y ddau frawd, y Peirch. Rees a Jonah PhiIIips.

LLANGADOG.

Yn ol tystiolaeth henafgwr sydd eto yn fyw, yr hwu a dderbyuiodd yr haues gan ei dad, yr ydym yn deall mai Howel Harris oedd y cyntaf o'r Methodistiaid a bregethodd yn y fangre hou, mewu ile a elwir y " Bauc," a hyny i dyrfa fawr. Tystia yr uu gvvr ddarfod iddo bregethu amrywiol weith- iau ar ol hyny yn muarth y Red Lion, yn nghylch 90 ml. yn ol. Tystiolaeth- ai un Job Thomas, un o'r Crynwyr, yr hwn a drigai gerllaw tref Llangadog, ei fod ef yn cofio clywed Howel Harris yn pregetliu yno amryw weithiau. Deuai ei gydlafurwyr, y Peirch. D. Rowlauds, U'illiam WiIIiams, Howel Davies, a Dafydd Morris, i ymweled â'r ardal yn eu tro. Y Ileoedd y preg- ethid amlaf ynddynt yn yr amser boreu hwnw, oedd Tŷ'n-y-Iôn, Cae-siencyn, Llwyn-dewi, a Chwmsawdde. Bernir mai yn Nghae-siencyn y dechreuwyd cynal y cyfarfodydd eglwysig ; ar ol hyny, yn Llwyn-dewi, lle y parhawyd eu cadw hyd adeUadiad y capel.

Y capel a adeiladwyd yn y fl. 1770. Yr oedd adeiladu capel y pryd hwnw yn orchestwaith o'r fath nad oedd ond ycliydig yn raeddu digon 0 wr- oldeb i ymosod arno. Ond yr oedd gŵr o'r fath ysbryd yn mysg crefyddwyr y fro hon, sef Rhys Daniel, Llanwrda. Yr oedd amryw 0 ddynion da yn mhlith y dysgyblion, eto Rhys oedd raid wynebu pob caledwaith. PeUy y bu gydag adeiladu y cwrdd. Cefnogwyd ef, er hyny, yn wresog, gan W. Watkins, Llwyn-ddewi, a B. Morgan, Cae-siencyn; athrwy gymhorth y cy- raydogion, dygwyd ef yn fuan i ben.

456 HANESIAETH Y SIROEDD. [DOSB. IV.

Ehoddir enghraifft o wroldeb ëofn Ehys Daniel, yn yr amser yr oedd y capel yn cael ei adeiladu. Yr oedd gŵr parchus iawn yn byw yn y gymydogaeth, yr hwn a fuasai gynt yn proffesu gyda'r jMethodistiaid, ond erbyn hyn wedi gŵyro at heresi y Sandemaniaid. Gofyuai ei gyfeiUioa i Ehys, " A anturiai efe i ofyn cynorthwy gan y boneddwr hwn at adeiladu y capel ? "

" Gwnaf," ebe Rliys, " paham lai ? "

Yn ol ei addewid, aeth at y gŵr boneddig, a thraethodd ei neges. " Ehys," ebe'r boneddwr, mewn dull cwta a chwerw, "mi wnawn un peth a allwn i chwi fel cymydog ; ond cludo coed neu gerig i adeiladu teml i Satan, nis gwnaf byth ! "

Bu yr hen ŵr yn ddystaw dros enyd, ar ol derbyn yr atebiad atgas hwn, ond yn fuan, fe dorodd allan gan ddyweyd, " Syr, mi feddyliais cyn hyn fod llaw yr Arglwydd wedi ei gosod arnoch er daioni ; ond yn awr mi a welaf yn amlwg eich bod dan faru Duw, wedi eich diosg o bob daioni, ond gonest- rwydd rhwng gŵr a gŵr ; ac nid rhyfedd fydd genyf os ceir chwi yn amddi- fad o hyny, cyn eich marw."

Dywedir i'r geiriau hyn effeithio yn ddwys ar y gŵr mawr, ac mai anes- mwyth a fu ei gwsg am wythnosau lawer. Enghraifft arall o ysbryd gwrol yr hen ŵr crybwylledig, a gofnodir. Pan diriodd y Tfrancod yn sir Benfro, cyffrôdd ei ysbryd yn ddirfawr, heb amheu dim na elwid ar yr hoU wlad i fyned dan arfau. Penderfynai yntau i wneyd ei ran, a mawr oedd ei bryder yn mha le y gallai adael ei Feibl mewn diogelwch, rhag i'r gelynion ei losgi !

Coffeir yn arbenig am lafur y Parch. Peter Williams yn Llangadog, 3 diau y bu llawer o lafurio o hyny hyd yn awr gan luaws o ddynion ffyddlawn ac efl'ro. Y gymdeithasfa gyntaf a gynaliwyd yma oedd yn haf y fl. 1798. Mae yma, bellach, gapel a chynuUeidfa dda ; ac nid oes amheuaeth nad oes daioni lawer yn cael ei wneyd, er nad yw y lle hwn, fel liawer o fanau eraill, mor fywiog a chyffrous ag y bu "yn y dyddiau gynt."

LLANSADWRN.

Barna rhai fod Howel Harris wedi bod yn yr ardal hon cyn ymweled â Llangadog, a dywedir maiyn Maes-y-gwdir, plwyf Llansadwrn y bu. Nid oes amheuaeth nad oedd yr ardaloedd hyn, sef Llansawel, Llangathen, Caio, Llansadwrn, a Llangadog, yn mwynhau gweinidogaeth yr hen dadau, cy- maint ag un man yn y wlad ; ond gan mai mewn tai anedd yr oedd pregethu dros lawer o flynyddoedd cyntaf Methodistiaeth, a bod amrywiol ardaloedd oddeutu y Ile pregethu yn ymgasglu, y pryd hwnw, i'r un fan, y rhai mewn tymhor diweddarach a ymsefydlasant bawb yn eu hardaloedd eu hunain yn fwy, y mae yn anmhosibl ymron cael allan, gyda manylrwydd, pa fodd yr aeth yr achos yn mlaen, pob ardal wrthi ei hunan, o'r dechreuad. Ac nid yw chwaith o gymaint pwys, gan fod Ilawer o gyffelybrwydd rhwng y naill a'r llall. Mwynhaent yr un weinidogaeth, gosodent i fyny yr un sefydl- iadau, ac ymwelid â hwy trwy gyffelyb oruchwyliaethau. Ara Lansadwrn

PEN. IV.] SIR GAERFYRDDIN. 457

hefyd y gellir dyweyd, gan fod y Ue yn cyffinio â Tal-llychau, Cil-y-cwm, â Llangadog, ac yn cyfranogi i fesur mawr yn yr un ysgogiadau, nid oes genym ddira i'w draethu ara y Ue yn ychwanegol.

Ondy maeun peth yn galw am sylw cyn myned heibio, sef mai yn yr ardal hon y cartrefai y Parch. Eichard Davies, gyrit o Gaio, yn mlynyddoedd olaf ei oes. Ganwyd y gŵr hwn mewn lle a elwir Bedw-gleision, yn mhlwyf Caio, yn y fl. 1770. Dechreuodd broff"e.''u pan ydoedd yn 20 ml. oed. Yn mhen chwe' blynedd wedi hyny, dechreuodd bregethu. Wedi bod yn preg- ethu agos 20 mlynedd, neillduwyd ef i'r weinidogaeth yn gyflawn, yn y tì. ] 815 ; ac wedi llaíurio yn gyhoeddus dros hanner can' mlynedd, efe a fu farw yn y fl. 1847. Nid oes nemawr o goíion am ryw amgylchiadau hynod yn ei oes gyhoeddus, ac yn y wedd hyny y raae a wnelom ni ag ef, er nad oes amheuaeth genym nad oedd rhai hynod yn bod, pe buasai ef ei hun neu ryw un arall yn eu cofnodi. Dechreuasai Methodistiaeth yn mhlwyf Caio yn amser ei hynafiaid. Efe a fu yn gyfaill a chydymdeithydd i'r hynod Mr. LIoyd,Caio,yn ei wib-deithiau mynych ar hyd y gwledydd. Yr oedd ei ddawn yn rhwydd, ei ymadroddion yn ddetholedig, ei ysbryd yn iraidd, a'i lafur yn gyson a llwydd- iannus. Enwogrwydd mawr ar Eisiart Dafydd, oedd ei fod yn ŵr mawr mewn gweddi. Bu farw mewn henaint teg, yn 77 ml. oed, a theimlir colled ar ei ol hyd heddyw.

PENNOD IV.

EGLWYSI GOGLEDD-ORLLEWIN Y Sm.

cynwtsiad: CASTELL-NEWYDD-YN-EMLYN— CHWAER D. ROWLANDS— PHILIP DAPYDD, Y CLOCS- IWR— HANESYN AM DAFYDD MORRIS, A WILLIAMS, PANT-Y-CELYN— Y GYM- DEITHASFA GYNTAF— DAYIES, LLANFYRNACH, A JAMES MATTHIAS— JOHN EVAN, CENARTH, A JOHN JAMES, Y BARCER— CYNFIL— BRECHFA— CLOS-Y- GRAIG.

CASTELL-NEWYDD-YN-EMLYN.

Mae y dref yn sefyll yn mhlwyf Cenarth, ar fin yr afon Teifi o bob ochr, ac felly y mae rhau o honi yn sir Aberteifi, sef y rhan a elwir Adpar, a rhan yn sir Gaerfyrddin. Gelwid y dref gynt yn Ddinas-Emlì/n, a saif tua thair milldir o eglwys Cenarth, sef eglwys y plwyf. Yn ystadegau y Methodistiaid, cyfrifir yr achos crefyddol yn y dref yn perthyn i gyfarfod misol sir Gaerfyrddin.

Nid oes sicrwydd pa bryd, na thrwy ba foddion, y dechreuodd Methodist- iaeth ymwthio i'r dref hon. Mae yr hanes cyn y flwyddyn 1760, yn lled dywyll ac anmherfi"aith. Ond y mae yn hysbys fod Mrs. Powell, chwaer i'r Parch. Daniel Eowlands, yn un o'r dysgyblion cyntaf yn y lle. Gwraio- weddw ydoedd hi i un Samuel Powell, gôf wrth ei gre8"t, genedigol o ardal Llangeitho. Priododd yn groes i ewyllys ei pherthynasau, a chartrefodd gyda'i gŵr yn mhentref Cenarth ; efe yn gweithio ei greff"t, a hithau yn cadw y daíarn gerllaw llan y plwyf. Gwraig aml ei phrofedigaethau oedd Mrs. Powell, ond un hynod mewn duwioldeb. CoIIodd ei gŵr yn o ieuanc, a chafodd

458 HANESIAETU Y SIIIOEDD, [üOSK. IV.

ei gadael gyda phedwar o blant bychain, heb nemawr ar eu cyfer ond rhag- luniaeth y Duw a ddywedasai, " Gâd dy amddifaid, niyfi a'u cadwaf hwynt yn fyw, ac ymddirieded dy weddwon ynof íi." Wedi marwolaeth ei gŵr, daeth i fyw i le a elwir yr Hen-hafod, gerllaw y dref hon ; ac wedi hyny symudodd i'r dref ; ac yn ei thŷ hi y cedwid y cyfarfodydd eglwysig cyntaf y mae hanes ar gael am danynt.* Y pryd hwnw, nid oedd y cyfarfodydd hyn oud bychain, a Ihia disylw gan y byd, oddieithr mewn ffordd o sarhad. Un tro, pan ydoedd yr ychydig grefyddwyr wedi cyfarfod a u gilycUl yu nhŷ Mrs. Powell, daeth dyn meddw o gymydog i mewn, a Uonaid gogr o gau- wyllau ganddo. Yr oedd ei wraig a'i chwaer yn mysg y crefyddwyr. Dywedai wrthynt, ei fod yn barnu mai tywyll iawn oeddynt ar bynciau bywyd, a'i fod ef wedi d\f()(l iV goleiio ; yiia dechicuodJ ranu y canwyllau yn ol graddau tywyllwch pob un. Mrs. Powell, yn ol ei farn ef, oedd y fwyaf goleu, ac iddi hi rhoes un ganwyll, ond i Siani, ei chwaer, y rhoes lonaid ei law, am y barnai mai hi oedd y dywyUaf

Pa faint o amser y bu y cyfarfodydd yn cael eu cadw yn nhŷ Mrs. Powell, nid yw yn hysbys ; ond y mae hysbysiad eu bod cyn y fi. 1760, o herwydd fod profion ar gael eu bod yn cael eu cynalyny flwyddynhòno mewn arall, sef Philip Dafydd, clocsiwr wrth ei greS"t, yr hwn fu wedi hyny yn bregeth- wr. Un prydnawn, yn y flwyddyn grybwylledig, pan oedd Philip wrth ei orchwyl, daeth i'w ẃr ieuanc, tencu-teneu, a glandeg yr olwg arno, yn ol darJuniad Philip o hono, yr hwn a ddywedai wrth y clocsiwr, y byddai yn dychwelyd trwy y dref dranoeth, ac y pregethai yn ei ef am 10 o'r gloch. Llawen oedd gan Philip glywed y newydd ; ond yn anffodus, y noson hòno, cymerwyd Sarah ei wraig yn glaf, a ganwyd iddi fab. Tranoeth daeth y pregethwr at ei addewid, a mawr oedd penbleth gŵr y tỳ, am na wyddai yn iawn pa beth i wneyd. Teiralid yn ormod o beth golli yr oedfa, gan y gwerth a roddid ar ei chael; ac nid oedd arall a'i derbyniai ; teimlid, ar yr un pryd, yn gryn beth anghysuro y wraig glaf, ac hwyrach beryglu ei bywyd hi a'r plentyn. Penderf'ynwyd, pa fodd bynag, wedi peth ymgynghoriad, ar i'r oedfa gael ei chadw ; ac yn y cyfamser, cymerai gwraig dduwiol o'r dref ofal y plentyn tra y gwrandawai ar y bregeth, a gofalai Phihp am ei fam, rhag i'r bobl dyru yu ormodol i'r pen hwnw o'r Ile yr oedd y wraig glaf. Ond cyn fod hanner y bregeth drosodd, yr oedd y ddau wedi anghofio gwrthddrychau eu gofal, gan yniuno ag eraill yn y lle i foliannu Duw am drefn iachawdwriaeth. Gofalodd rhaghniiaeth ara y fam a'r plentyn, fel na ddygwyddodd iddynt hwy ddim niwaid, a chafodd y tlodion eu diwallu â bara y by wyd. Y pregethwr teneu hwn oedd Dafydd JMorris, Twrgwyn ; a hon oedd y bregeth gyntaf iddo yn y dref hon, a'r bregeth gyntaf gan neb arall y mae dim coffa benodol am dani. Gelwid y yn Tŷ-crwca, a safai ym mhen ddeheuol y dref, ar y gornel lle yr oedd yr heol yn ymwahanu yn ddwy, un i'r de a'r llall i'r dwyrain.

* Rhwymedig ydyw yv ysgrifenydd i Mr. Griffith Thomas, Aherystwyth yn awr, ond o Gastell-newydd gynt, am yr hysbysiad.

PEN. IV.] SIU GAElíFYBDDIN. 459

Tua'r fl. 1770, a'r blytiyddoedd caiilynol, íirferid pregethu bob yii ail, yn y ddwy brif dafarii. Yr oedd un yn mhen ddeheuo! y dref, ac yn inyued daii yr enw y Gafe, lle, fel yr ymddeiijíys, y bu porth i'r dref unwaith yn sefyll, a hyny oesoedd cyn bod son am y toU-byrth cyffredin sydd yn awr. " Felly," medd fy hysbysydd, " gerllaw y porth, yn rahen y dref, yu ymyl y drysau, y byddai doethineb yn gwaeddi, a deall yn llefain." Y dafarn arall a elwid Pen-y-bont, ond wedi hyny a elwid y Saliäation, ac a fu yn brif westty yn y dref hyd o fewn llai nag ugain mlynedd yn dl. Pan y byddai pregeth i fod yn y dref, ni wyddid weithiau pa le o'r ddau y cedwid hi, hyd oni ddelai y pregethwr i'r dref. Dibynai lle yr oedfa ar ei Iwybr ef. Os deuai o sir Aber- teifì, cedwid yr oedfa yn Mhen-y-bont, ondos deuai i'r dref o'r pen arall, cedwid hi yn y Gate. Er hyn, Pen-y-bont oedd cartref yr achos, a hyny, fe allai, am fod y yn eangach, ac hefyd, am fod gwraig y tŷ, Mrs Catherine Davies, a thri o'i phlant henaf, yn aelodau crefyddol.

Cedwid y cyfarfodydd eglwysig yn mharlawr y tŷ, a phan y byddai yr hîn yn deg, pregethid ar ben y gareg farch wrth ochr y tŷ. D\ígwylid unwaith am Wilüams, Pant-y-celyn, i bregethu. Y'r oedd y gynulleidfa yn rhy fawr i'r tŷ, a'r hîn yn rhy oer i sefyll allan. Y'r oedd yr eira yn disgyn yn dew, a'r awel yn oer iawn. Yr oedd y pregethwr yn llawn o'r Hi/p* ac yn dra unwydog, eto nid oedd dim i'w wneyd ond ymbarotoi i sefyll ar y gareg farch yn nghanol yr eira. Y'mwisgai yn ei got fawr, a mantell ar hyny, dau gad- ach (handkercMef) am ei ben, ac ar hyny ei het walciog, ac yn y wedd yma anturiai sefyll o flaen y gynulleidfa. Ond yr oedd y gwynt yn chwifio y fantell ac yn ei anghysuro, ac nid allai fyned rhagddo ; ond wedi ei rhw\ mo yn dỳn am ei ganol â ffiled gaws, cafodd hwyl i bregethu, a gwrandawai y gynul.eidfa arno yn astud hyd y diwedd, er maint ydoedd grym y gwyut ac iâs yr eira.

Tua'r fl. 1774 neu 5, o herwydd symudiad John a Chatherine Davies o Ben-y-bont, neu ryw amgylchiad arall, symudwyd y pregethu drachefn i Philip Dafydd, yr hwn oedd, bellach, yn byw mewn eangach ua'r Tŷ-crwca, ac yn nes i ganol y dref. Yn y tỳ hwn y parhaodd y pregethu hyd nes y cafwyd capel. Hyd yn hyn, nid oedd yr un addoldy cyhoeddus o un math, na chan un enwad, o fewn y dref ; ond y pryd hwn, adeiladwyd Chapel of Ease vn gysylltiedig â'r eglwys sefydledig. Yr oedd gan y Bedyddwyr eglwys yn y dref wedi ei chorffori er ys 80 ml. cyn hyn, ond nid oedd ganddynt yr un addoldy, Arfereut addoli mewn fferm yn y dref, a eiwid Tyddyn-pen- dref. Ymddengys fod cryn nifer o'r rhai a arferent wrando ar y Methodistiaid wedi cael eu tueddu i gymeryd eu bedyddio eilwaith yn ol duU y Bedyddwyr, ac wedi eu chwanegu at eu heglwys yn Nghastell-newydd a'r Pant-teg. Bedyddiwyd fel hyn tua 60 o nifer mewn tua wyth mis o amser, yn dybenu yn mis Mai, 1774. Gan fod llawer o'r dysgyblion wedi ymgyfeillachu â'r Methodistiaid, ac yn hoff o'u dull o addoli yn fwy mewn rhyw bethau na'r

Hj'p, oddiwrth y gair IJypochondriacìsm, afiechyd y gîau (newous affection).

460 HANESIAETH Y SIEOEDD, [dOSB. IV.

eiddo y Bedyddwyr, a chan y cyfarfyddent â gwrthwynebiad cryf oddiwrth ran arall o'r eglwys, barnasant yn well ymadael nag ymryson, ac ar y 25 o Fawrth, 1775, aeth o gylch 50 o'r aelodau ieuainc ymaith.* Yr oedd hyny 0 Fethodistiaid ag oedd yn y dref yn teimlo yn gynhes tuag at yr aelodau enciliedig hyn, a chan fod y ddwy blaid, sef y Methodistiaid a hwythau, yn teimlo angen am gapel fel y'u gilydd, byddent yn fynych yn ymgynghori, ai ni allai un addoldy wneyd y tro rhyngddynt, yn hytrach na myned i'r draul i wneuthur dau. Ac un noswaith, pan oedd Mr. Williams, Pant-y-celyn, yn pregethu yn Mhen-y-bont, aeth rhyw nifer o frodyr o'r ddwy blaid ato, gyda'u gilydd, ar ol darfod yr oedfa, i ofyn ei gynghor a'i gyfarwyddyd. Yntau, wedi clywed yr achos, a ddywedodd yn ei dduU sydyn ei hun, " Pob 0 gapel pob o gapel; codwch chwi un," ebe efe wrth y Bedyddwyr, "ger- llaw yr afon yma ; a chwithau," ebe efe wrth y Methodistiaid, " yn mhen arall y dref." Pelly, yn y íl. 1776, cododd pob un ei gapel. Nid oedd capely Methodistiaid ond capel bychan a diaddurn iawn, eto edrychid ar ei godi y pryd hwnw yn orchestwaith, a mawr y mwynhad a'r Ues a gafwyd, yn ddiau, gan laweroedd trwy air y gwirionedd yn y hwn. Codwyd anedd wrth ei dalcen, yn perthyn i'r achos ; ac ynddo y preswyliodd yr hen Mrs. Powell o'r amser hwnw hyd ddydd ei marwolaeth; yr hyn a gymerodd le yn y fl. 1796, pan oedd yn 85 ml. oed. Gwraig dduwiol iawn y cyfriíid Mrs. Powell, " a pherchid hi," meddir, " i hynodrwydd," gan uchel ac isel radd, a hyny yn unig 0 herwydd amlygrwydd a symledd ei duwioldeb.

Yn mhlith y pregethwyr a arferent bregethu yn y lle, cyn codi y capel, heb- law "Williams, Pant-y-celyn, a Dafydd Morris, yr oedd Peter Williams ; Llwyd, 0 Gaio, a'i gyfaill John Evans, Cil-y-cwm ; John Harris, sir Benfro ; Thomas Davies, f Abergwaun ; Sampson Thomas ; ac Enoch Davies, Trelech. Byddai Mr. Griffiths, gweinidog plwyf Llandyfriog, yn arfer dyfod i'r cyfar- fodydd eglwysig yn Mhen-y-bont. Yr oedd pregethwyr ac oflfeiriaid eraill yn eu tro yn cyd-lafurio â'r gwŷr a enwyd, ond y rhai a nodwyd oedd yma amlaf.

Yn y fl. 177-i neu 5, cynaliwyd cymdeithasfa yma, y gyntaf a fu yma erioed. Pregethwyd y dydd cyntaf o dan dderwen fawr a safai y pryd hyny Ue y mae y marchnad-dŷ yn awr. Yr ail ddydd, pregethwyd ar faes yr hen gastell, yn ymyl y dref. Y llefarwyr oeddynt David Williams, Llys-y-fron- ydd ; Peter WiUiams ; William Davies, Castell-nedd ; Daniel Rowlands ; D. Jones, Llangan, ac eraiU. Cedwid y cyfarfodydd neiUduol yn mharlawr Pen- y-bont ystafell ag oedd wedi cael ei hynodi lawer gwaith â phresenoldeb " Preswylydd y Berth," ac â dylanwadau nerthol Ysbryd üuw. Mae un hen chwaer eto yn fyw,o leiaf yr oedd yn ddiweddar, yr hon a welodd wraig Dafydd Morris, a gwraig Llwyd, o Gaio, yn cyd-neidio o orfoledd ar lawr y parlawr, ar ddiwedd oedfa, gan adrodd mewn hwyl hyfryd y pennill,

Bydd melys lanio di-aw, ' Nol bod o dòn i dòn ; Ac mi ro' f tFan\-el maes o law, I'r ddaeai- hon.

* Gwel " Hanes y Bedyddwyr," gan Joshua Thomas. f Gwel Hanes Abergwaun.

PEN. IV.] SIR GAERFYRÜDIN, 461

Dwy wraig nodedig oeddynt am eu gras a dysgleirdeb eu crefydd. Yr oedd Mrs. Morris yn arfer dyfod yn fynych i'r dref i gadw cyfarfodydd eglwysig. Ymddengys y byddai y cyfarfodydd neiilduol yn Nghastell-newydd yn meddu gradd o enwogrwydd, ac iddynt y cyrchai aelodau Methodistaidd o'r ardal- cedd cylchynol, ac arferai dynion o ddawn a gras ddyfod yma hefyd i'w cadw, o ba rai y bu y Parch. Arthur Evans, Cynwyl, yn nodedig o ffyddlawn.

O'r brodyr a berthynent i'r eglwys y pryd hyny, cododd tri i waith y weinidogaeth, Philip Dafydd, James Matthias, a David Davies, mab hynaf Mr. a Mrs. Davies, Pen-y-bont. Aeth yr olaf hwn i offeiriadaet h yr eglwys sefydledig, a bu, dros flynyddau lawer, yn ficer Llanfyrnach, sir Benfro ; a pharhaodd i gydweithredu â'r Methodistiaid hyd y neiUduad yn y fl. 1811. Bu Philip Dafydd ffyddlawn ac egniol gyda'r gwaith hyd ei farwolaeth. Bu farw yn y fl. 181-1, yn hen a llawn o ddyddiau, yn 82 ml. oed. Yr oedd teulu y pregethwr hwn yn fawr, a'i amgylchiadau yn isel. Anhawdd ydyw dirnad pa faint a aberthodd hwn, yn ei dlodi a'i gyfyng amgylchiadau, er rhwyddhau mynediad yr efengyl yn mhien. Unwaith, fe sylwyd ddarfod iddo fyned adref ar ddiwedd oedfa, heb aros y cyfarfod neillduol a gynelid wedi hyny, a beiwyd arno am hyny ; ond pan yr hysbysodd y truan nad oedd yn ei dŷ, y diwrnod hwnw, yr un briwsionyn o fwyd ar gyfer tẁr mawr o blant, esgusodwyd ef am y tro ! Yr oedd yn ddarn o brydydd, a chyhoedd- odd amryw farwnadau, a darnau barddonol eraill.

Am James Matthias, gellir dyweyd ddarfod iddo dreulio oes hir iawn yn yr eglwys filwriaethus. Bu farw yn y fl. 1833, yn 93 ml. oed. Arferai bregethu hyd o fewn tair blynedd i'w ymadawiad, pryd o'i wir anfodd y gorfu iddo roddi heibio gan fusgrellni henaint, a bloesgni ymadrodd. Tym- her darawaidd a sech oedd ei dymher ef trwy ei oes, ond yn ei henaint yr oedd yn fwy gostyngedig ac iraidd. Kyw dri mis cyn ei farwolaeth, fe allai y tro olaf y bu ef yn y capel, ar foreu Sabboth, yr oedd y gynulleidfa wedi eu siomi am y pregethwr; a phenderfynwyd cadw cyfarfod gweddi. Wedi darllen pennod a gweddio gan un o'r brodyr, dyma'r hen batriarch 93 ml. oed, yn codi ar ei draed, ac heb neb yn dysgwyl wrtho, yn pregethu darn o hen bregeth oedd ganddo yn ei gof, gyda mwy o egni nag arferol, a chydag ymddangosiad o gymaint o fwynhad iddo ei Jmn ag erioed, ond yn gwbl ddifudd i'r gwrandawyr, am fod ei floesgni yn llesteirio iddynt ei ddeall.

Pregethwr arall, a gododd yn lled foreu y ny lle hwn, oedd Abel Thomas gŵr a garai bawb, ac a gerid gan bawb. Bu yn llafurus iawn gyda'r gwaith, ac yn gynorthwy mawr i'r achos yn y dref a'r gymydogaeth. Bu farw yn nghanol ei ddyddiau a'i ddefnyddioldeb, yn y fl. 1799, yn 48 m]. oed. Gadawodd deulu Uuosog ar ei ol ; a bu ei weddw yn fam ymgeleddgar i'r achos hyd ei marwolaeth, yn y fl. 1838 ; ac y mae ei thỳ a'i holynwyr yn rhodio yn ei llwybrau.

Pregethwr arall a fu yn cyd-lafurio yn hir â'r gwŷr a enwyd, oedd John

46-2

HANESIAETH Y SIUOEDÜ.

[dosb. IV.

Evans,* o'r Argoed. Araaethwr oedd efe, yn byw yn yrayl pentref Cenartli. Symudodd, trwy briodi, i fyw i Gaerfyrddin, lie y gorph(;nodd ei yrfa. Hen

' Rhoddir \iua Gan o'i eiddo, a gyfansodíhwd ar ai-hlysur Cymdeithasfii a g.Yral- iwvd yn Aberteifì, yn y fl. 1796.

0 brysia D>wysog Ihi'r Ar;;lwydd, Yd ebnvvdd i arddel dy air.

Ti wvddost \n hysb\s yr amser,

Dvdd iMercher n lau 'nol G\Vyl-f^iir.

Bvdd yno fa^vi' nifer yn erfyn* Am weled y Brenin yn d'od;

Fe godir banerau yn uchel,

Yii arwydd bod rhyfel ar droed.

Aiîwvddiant i Satan a'i aracan,

I guro rhai eg\van i \a.\w. Mah Dafydd ar gvfer Goliah

Mi w'rantaf y c\v\ m])a fe'r cawr. Ac er mor greulcned yw'r fìlain

Fe'i clvwvd e'n ochain cvn hyn; Fe'i maeddwyd— fe'i concrwyd ganhwnw

Fu farw ar Galfari fì-yn.

Mae hrodyr i Hur ac i Aaron, O'u calon am gvnal i'r lan,

Y hreichian f'o yn y fih^TÌaeth, Trv olwyn rhagluniaeth o'u rhan.

Yr haul g\ nt a safai'n Gibëon, A'r lleuad vn Ajalon draw;

Y cenllysg, a hen afon Cison,

A rows y gel\ nion mewn braw.

Mi deithiais i dre' Aberteifì,

Lle gwelais gwmpeini ma«T iawn ; 'Roedcì miloedd o'r Ihioedd, 'rwy'n credu,

Dan fauer yr lesu a'i ddawn. A chwech o'r gwyr arfog a safodd

Ar gvhoedd rhwng nefuedd a Uawr, A RoBüRTst o"r Gogledd ddechreuodd,

A'i ddoniau mor ddysglaer a'r wawr.

I'r ddegfed o lyfr y Datguddiad,

A'r adnod flaenorol o hon ; Lle d'wedir am angel cryf arall

Dd!sgvnodd o'r nefoedd yn llon. A'i draed oedd fel pres o gadernid.

A'i wvneh fel haul heb un Uen, A'i enw vn bur, ogoneddus,

Ac enfys o gwmpas ei ben.

Yr ail a'i canhnodd e'n dirion,

GrayJ addfwyn a'i chwariodd hi'ir deg, A'i destyn oedd yn Zachariah,

Y bennod y drydedd ar ddeg ; Lle d'wedir am íFynnon agorwyd,

A darddodd i waered o'r bryn,

1 olchi aflendid a phechod,

A gwneyd y euog yn wyn.

A JoxEs§ o Drefaldwyn yn drydydd,

Osodai'n ddiduedd i ma's, O'r wythfed o Lyfr y Caniadau,

Am hanes rhinweddau rhad ras: "Dod fi megys sèi ar dy galon,

" Ac ar dy fraich hefyd 'run wedd; " Can's cariad sydd gryf megys angau,

" Eiddigedd mor greulawu a'r bedd."

A'r brawd Daftdd Parry|| 'n bedwerydd,

A'i ddoniau oedd ddefriydd i'r gwan; I'r pummed o Ly'r y Pregethwr,

Fe chwariodd fel milwr ei ran; " Pan byddech di'n myn'd i dŷ'r Arglwydd,

"Yn ebn^ydd, O, gwiiia 'r dy droed; "Fe chwilir yn fanol dy feddwi,

"Gan un «yr y cwbl erioed."

Y pummed a"i fyny 'n galonog, LLWYo^enwog a'i ddoniau oedd wych,

I'r drydedd-ar-ddeg o'r Corinthiaid, Lle d'wedir am weled ti-n^ ddrych;

" Mewn dammeg yn awr yr adwaenwn, "Ond wyneb yn wyneb a fydd;

"Ffvdd, gobaith, a chariad sy'n aros, "Nes trodd y tywyll-nos yn ddydd."

A RowLAN'Ds** barchedig yn chweched,

I'r nifcr o N umeri a ai ; I'r adnod ddiwediiaf o'r bennod,

Son am y cyfammod difai; "Ac felly gosodant fy enw

" Ar feibion yr Israel yn awr; " Ac mi a"u bendithiaf hwy wedi'n,

" Medd brenin y nefoedd a'r llawr."

Y g\vr a'i farch gwyn a drafaelo I chwilio bob congl o'r hvd ;

I droi y Paganiaid, yr Indiaid,

A'r Miihometaniaid i gyd: A pheri had Abr'am sydd grwydriaid,

Yn para mor ddigred eu gwedd, I gredu fod lesu 'n teyrnasu

Yn rasol ar orsedd o hedd.

Os gofyn rhyw Gymro o estron

Bryd bu'r Asasasiwn yn llyn, Mil saith gant a'i cyfri hwy'n gywTain,

Pimi ugain ond pedwar, at h_vn;

Y ddwyfed-ar-bymtheg o Chwefror, A dal a'r deunawfed yn dyn;

Gobeithio bydd canu am dani 'Nol Uosgi pob mynydd a bryn.

* Dvsgwyl. + R. Roberts, Clynog. í Pareh. Thomas Gray. § Pa un ai T. Jones, Llanwydd- elan, ai Ismael Jones, Llandinam, ai W. Jones, Dol-y-fonddu, ydoedd, ni ddywedir. |{ O sir Frych- einiog. ir Llwyd, o Gaio. ** N. Rowlands.

PEN IV,] Sltt GAEUFYRDDIN. 463

frawd arall, teilwng o goffadwriaeth barchus, oedd John Jnmes y Barcer. Bu ef yn noddwr i'r achos yn y He hwn, am oes hir. Brodor ydoedd o blwyl Diuas, yn sir Benfro ; ond pan oedd yn fachgenyn go ieuanc, cyuierwyd ef gan ewythr iddo, yr hwn oedd farcer, ac yn byw tua dwy íìlldir o'r dref hon, i weithio yn y grefft hòno. Arferai y llencyn ddyfod gyda'i fodryb i'r cyfarfodydd erefyddol yu Mhen-y-bont a'r Gate. Yr oodd ei fod- ryb yn wraig grefyddol a rhiuweddol iawn. O dan gronglwyd o'r fath, ac yn y mwynhad o'r fath freintiau crefyddol, daeth y gŵr ieuanc i brofi gradd o awdurdod y gwirionedd ar ei galon ; yn lled fuau peuderfynodd ymofyn ara aelodaeth eglwysig; ac i'r dyben hyny, gosododd yn ei fryd aros yu y cyfarfod neiUduol cyutaf a gedwid ar ol oedfa yn Mhen-y-bont. Un pryd- nawn, daeth fel arferol gyda i Fodryb i'r oedta ; a dygwyddodd eu bod yn derbyn cyfraniadau y frawdoliaeth ar ol yr oedfa hon, yn y cwrdd eglwysig, tuag at adeiladu capel Yr oedd gau y gvvr ieuanc, fel y dygwyddodd, han- ner coron yn eiboced, a bwriadai roddi ei hunan a'i hanner coronyr un pryd; a llawen ydoedd wrth feddwl í'od ganddo gymaint i'w roddi. Yn ol ei fwriad, arosodd yn ol ; oud heb i neb (hlyweyd gair wrtho, a chyn iddo yntau gael haradden i ddyweyd gair o'i fwriad wrth neb arall, dyma ddwy o'r aelodau yn dyfod ato, ac yu gafael uu yn mhob braich iddo, gan ei arwaiii allan yn ddirodres iawn dros y drws ! Cythruddodd hyn raddau ar feddwl y llencyn, fel y gellid dysgwyl, ac arferai ddyweyd wrth adrodd yr hanes, " Mi ddigiais yn fawr wrthynt ; ond yr oeddwn yn falch fod fy hanner coron yn fy mhoc."

Ni ddywedir beth a ddaeth o'r hanner coron wcdi hyn. Oud yn mhen rhyw enyd, maddeu y camwri hwn a wnaeth y gŵr ieuanc, ac ymuno á'r frawdoliaeth. Yn mhen rhai blynyddoedd, daeth i'r dref i fyw, a gosododd ei hun i fyny yn yr alwedigaeth yr oedd ef eisoes ynddi, a bu yn llwydd- iannus ynddi. Ni lithiwyd ef chwaith i anghoíìo Duw yn ei Iwyddiant, ond efe a fu yn llafurus a chynorthwyol iawn gyda'r achos dros fîyuyddau lawer : a phan adeiladwyd yr ail deml, sef yr addoldŷ presenol, efe oedd y cyfranwr helaethaf ati ; aethai ei hanner coron yn ffan' punt. Yr oedd ganddo ŷalon i roddi hanner coron at y capel cyntaf, a chafodd/oí/íi? i gyfiannu can' punt at yr ail. Bu farw yn y fl. 18Ì3, yn 88 ml, oed, wedi bod mewn cy- sylltiad â'r gwaith 72 o flynyddoedd, a goroesi holl aelodau cymdeithas par- lawr Pen-y-bont. Claddwyd ei weddiUion, yn ol ei ddymuniad, o flaen y capel ar gyfer^fwe.síry pulpud; ac yno, gyda gweddiilion hen frawd arall o'r enw David Powell, yr unig rai a gladdwyd yno, o leiaf ar y pryd y daeth yr hysbysiad uchod i law, y cysgant yn dawel hyd ganiad yr udgorn.

Yr ail gymdeithasfa a gynaliwyd yn y dref, oedd yn y fl. 1802, tymhor yr oedd y rhyfel yn boeth rhwng Ffrainc â'r wlad hon, ac ofn mawr i'r gelyn Iwyddo i oresgyn y tir, Y peth hynotaf a grybwyllir am y gymdeithasfa hon, ydyw pregeth Mr, Jones, Llangan,* oddiar Jer, xlviii, 10, " Melldig-

* Y gwýr eraill ag oedd yn pregethu yn y cyfarfod, oeddynt Mr, Gray ; Mr, Llwyd, Beaumaris ; Mr. E. James, Morganwg ; Mr. Charles, o'r Bala, ac eraill.

464 HANESIAETH Y SIROEUD. [dOSB. IV.

edig fyddo'r hwu a wnelo waith yr Arglwydd yn dwyllodriis, a melldigedig fyddo'r hwii a attalio ei gleddyf odditcrth waed." Ymddengys fod rhyw hys- bysiad wedi ei roddi am fwriad Mr. Jones i bregethu y bregeth hon, tuedd yr hon oedd dangos dyledswydd y bobl i amddiffyn eu gwlad, gan fod bon- eddwyr, ynadon hedd, a swyddogion milwraidd yr hoU wlad o amgylch, wedi dyfod i'w gwrando ; peth na welsid erioed o'r blaen, ac na welwyd byth wedi hyny. Mwy dyddorol, tybygid, oedd gan y gwŷr mawr i ddeiliaid gwlad amddififyn eu brenin, nag ydyw i ddynion y ddaear ogoueddu eu Duw. Gwneid yr olaf yn mhob pregeth cyn, ac wedi, y tro hwn, ond ni osodai y boneddwyr hyny at eu calon, ac ni roddent eu presenoldeb ar un o'r fath achlysuron. Mwy gofalus ydyw dynion yn gyíFredin i ddangos ífyddlondeb i frenin daearol, nag i ddangos ufydd-dod i Dduw y uefoedd. Pa fodd byn- ag, mawr y boddlourwydd a gafodd boueddigion yn y bregeth hon. Caw- sant, 0 leiaf, wybod nad oedd y Methodistiaid ddim yn llochi amcanion brad- wrus yn erbyn eu gwlad, ond fod y llyfr a'u dysgai i " ofni Duw," yn eu dysgu hefyd i " anrhydeddu y brenin." Ni allai y gwrandawyr chwaith lai na chanfod fod Mr. Jones wedi taro ar fater lled ddyeithr i'w weinidogaeth arferol, yr hyn a gynpchodd y dywediad, y naill wrth y llall, " Hyuod mor rhyfelgar oedd y gŵr addfwyn heddi."

Ni fu un Gymdeithasfa yn Nghastell Newydd am 35 o flvTiyddoedd ar ol yr un uchod, sef hyd y fl. 1837; ond o'r flwyddyn hòno, hi a ddaeth yn rheolaidd yn ei thro, bob saith ml^'uedd.

Bu yma bregethwr arall, o'r enw David Davies, yn cartrefu dros dymhor, ond nid yma y dechreuodd ar y gwaith. Efe a gychwynodd ar y gwaith o gynghori ei gyd-ddynion pan ydoedd yn filwr ; yr oedd yn cael ei gyfrif yn ddyn duwiol, ac yn bregethwr cymeradwy. Ni chafodd ond arosiad byr yn y dref hon ar ol gadael y fyddin, oud gorpheuodd ei oes fer yn y fl. 1817.

Yn y fl. 1820, adeiladwyd yma gapel newydd. Aethai hen gapel y college, fel y gelwid y cyntaf, yu gyfyng, heblaw ei fod yn salw, a pheuderfynodd y gynuUeidfa adeiladu un newydd. Cafwyd tir gau Arglwydd Cawdor dau lease. Torodd diwygiad grymus allau yn fuan ar ol hyny, a chwanegwyd llawer at yr eglwys. Nifer yr aelodau yn 1850, oeddynt 158. Mae yma un gweinidog yn cartrefu, y Parch. John Jones, gynt o Gapel-Dewi, a dau breg- ethwr, Beujamin Howels a John Joues.

CYNFIL NEU CYNWYL.

Mae enw y lle hwn yn aduabyddus mewn Gogledd a De, yn ei gysylltiad, yn gyntaf, â'r hen oËFeiriad o'r enw Davies, yr hwn, meddir, oedd yu breg- ethwr da, ac a fu dros flyuyddau yn Uafurus ac yn Uwyddiannus yn pregethu efeugyl y deyrnas trwy y dywysogaeth. Cof gan y darllenydd i ni ddyweyd fod y gŵr parchedig hwn wedi cilio oddiwrth y Methodistiaid, ar y ueillduad a gymerth le yn y cyfundeb, yn y fl. 1811, ac iddo lafurio o hyuy hyd ei farwolaeth yn Eglwys Loegr. Mae Cyuwyl hefyd yn adnabyddus fel cartref

PEN. IV.] SIll GAERFYRDDIN. 465

y Parch. Arthur Evans. Ymunasai y gŵr hwn â'r Methodistiaid pau nad oedd eto ond 18 oed, sef tua'r fl. 1773. Amcanodd ar un adeg o'i oes i fod yu weinidog yn Eglwys Loegr, a bu mewn athrofa am rai blynyddau, mewn fifordd 0 ragbarotoi at hyny. Trwy ryw ddygwyddiad neu gilydd, methodd a chael urddiad, ond tua'r fl. 1782 fe ddeohi-euodd bregethu gyda'r Methodist- iaid, a pharhaodd i weinidogaethu yn eu plith hyd y fl. 1837, pan yr ymad- awodd â'r byd hwn mewn tangnefedd, yn 82 ml. oed, wedi bod yn pregethu dros y tymhor maith o 55 o flynyddoedd. Gŵr tawel, pwyllog, a dirodres iawn oedd Artbur Evans. üyfal a chyson yr ysgogai gyda'i ddyledswydd, a thrwy hyny, yn fwy na thrwy un gorwychder ysblenydd yn ei ddoniau, efe a ennillodd barch ac ymddiried mawr yn mysg ei frodyr. Yr oedd ef yn un o'r rhai a neillduwyd gyutaf yn y deheudir, yn y fl. 1811. Mynwesai Mr. Charles, Caerfyrddin, syniadau uchel am ei ras, yn gystal ag am ei bwyll ; a mynych y clybuwyd ef yn dyweyd, " Mae cymaint o ras yn Arthur ag sydd mewn saith o honom." Nid un oedd ef a ymwthiai i sylw ; yn hytrach yn y gwrthwyneb, yr oedd dystawrwydd a neillduaeth yn fwy hoff ganddo, ac oblegid hyn, ynghyd a'i fod heb ddim nodedig yn ei ddawn, ni ddaeth i sylw cyfí'redinol yn y cyfundeb ; ond yn y Ueoedd yr adwaenid ef oreu y perchid ef fwyaf.

Nid oedd yn y plwyf yr un capel gan y cyfundeb pan y dechreuodd Arthur Evans bregethu, eto yr oedd cymdeithas eglwysig wedi ei fí"urfio, a phregethu yn cael ei wneyd er ys blynyddau lawer cyn adeiladu y cwrdd. Hyn a wnaed y tro cyntaf, yn y fl. 1792; a'r ail waith, yn 1829. Dywedir mai mewn lle a elwir y Brongwyn, dwy filldir o'r pentref, y dechreuwyd cadw cyfarfod eglwysig gyntaf ; a thros amser maith wedi hyny, cynelid y cyfar- fodydd neiUduol ar gylch mewntrille; sef Rrongwyn, "Waun-yr-hafod, a Phen-y-caerau. Cododd yma amryw o bregethwyr heblaw Arthur Evans ; megys, Hhys Jones ; David Evan, a John PhiIIips. GadaAvodd gwraig, o'r enw Catherine Harri, ddeg punt yn y flwyddyu tuag at gynal y weinidogaeth yn y Ue hwn, tra fyddai Methodistiaeth yn y plwyf,

BRECHFA.

Dechreuodd Methodistiaeth yn yr ardal hon, yn nhŷ un Titus Dafydd, y gôf. Y pregethwr a fu yma gyntaf oedd John Evans, Cil-y-cwm, a hyny tua'r fl. 1770. Adeiladwyd y capel yn y fl. 1790, wedi bod yn cadw modd- ion cyhoeddus a neillduol, gan mwyaf, yn nhŷ Titus Dafydd, y gôf, am ys- baid 20 mlynedd. Cododd yma ddau bregethwr, sef Timothy Davies, yr hwn a fu farw yn y fl. 1837, wedi bod yn pregethu yn dderbyniol am ysbaid 25 mlynedd ; a David Grifíìths.

CLOS-Y-GRAIG.

Adeiladwyd capel yn y Ue hwn mor foreu a'r fl. 1734; adeg, nad oedd

2 G

466 HANESIAETH Y SIÍIOEDÜ. füOSB. IV.

gan retliotìistiaidoutl ycliydig, mewn cydmhariaeth, o gapelau yn Nghymru. Yr oedd yr achos, er hyn, wedi dechreu ynia amryw flynyddaii yn foreuacli, ac yn y tymhor boreuol hwn, fe gynelid y raoddion mewn amryw o dai anedd; a mynych y tywalltai y nefoedd ei gwlaw ar y cynuUeidfaoedd bych- ain hyn. Hynodid y Ue hwn, meddir, yn yr amseroedd hyny, â nifer o wragedd a ragorent mewn duwioldeb, y rhai a feruid yn famau yn Israel ; ac hefyd, â henuriaid enwog a thra defnyddiol ; oud y rhai sydd, bellac]i, ymron oU wedi myned allan o'r golwg, ac wedi eu cuddio yn y bedd.

Bu byw yn yr ardal hon, mewn lle a elwir y Cefn, bregethwr o'r enw George Griffiths, yr hwn a gyfrifid yu un o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd yn y wlad hon, yn ei dymhor. Y mae anhawsder mawr i gael dim o'i hanes, er fod ei enw yu dra hysbys i lawer o heu bobl sydd eto yn fyw. Gẃr bychan a chrwca o gorff ydoedd, ond yn meddu ar lais peraidd a chlir. Sonir ei fod ef, a Robert Eoberts, Clynog, unwaith yn pregethu gyda'u gilydd yn nghymdeithasfa y Bala, a bod yr oedfa hòno, yn anad yr un arall, wedi ei hynodi gan lewyrchiadau tanbaid ac effeithiau grynius ; cymaint felly, nes i Mr. Jones, Edeyrn, dori allan mewn ymadrodd ffraeth priodol iddo ei hun ; "Gwỳn fyd na baem ni oU yn meddu ar gefn crwn ;" gan gyfeirio at y ddau a bregethasent. Bu hwn hefyd, fel Dafydd Rees, Llanfynydd, farw oddicartref, er nad yn mhell oddicartref; sef yn Merdy Taliaris, yn agos i Dal-Uychau. Pregethodd Mr. Lloyd, Henllan, yn ei anghladd.

Cododd yn y Ue hwn amryw bregethwyr, o bryd i bryd ; megis, Evan

Thomas, Gilfach-las ; Dafydd , o Felin-y-cwrt ; Luther Evan ; Eben-

ezer Rees ; Dafydd Davie3 ; Thomas Davies ; a John H. Jones.

Cafodd yr hoU eglwysi hyn eu dyfrhau â gweinidogaeth y gwŷr hynod y crybwyllasom eu henwau mor fynych eisoes ; megys, Eowlands, Llangeitho, yn achlysurol ; ac yn fwy cyson gan yr eiddo P. a W. WiUiams ; John Evans, Cil-y-cwm ; Mr. Lloyd, Henllan ; Dafydd Morris, ynghyd ag eraill, Uai eu cyhoeddusrwyd'd. Ni fu yn yr hoU fanau hyn ddiui erlid haerllug ar breg- ethwyr nac aelodau. Fe aUai mai un achos o hyny oedd fod y bobl wedi ymgynefino, i raddau, ag ymneiUduaeth, cyu i'r Methodistiaid ymosod ar y fro ; ac hefyd, yr oedd yu mysg y crefyddwyr boreuaf yn y wlad hon luaws o bersonau, a theuluoedd cyfrifol iawu, y rhai oedd yn meddu graddau helaeth o gyfoeth a dylanwad, fel na chafodd trais a sarhad haerllug prin le i ymddangos. Yn hyn yr oedd y Deheudir yu gwahaniaethu Uawer oddi- wi'th y gogledd. Yn Ngwynedd, ychydig iawn o gyfoethogion a alwyd dros ysbaid maith o flynyddoedd ar ol dechreuad Methodistiaeth ; ond nid felly yr ymddengys ei bod yu y deau. Yr oedd Uai o ragfarn hefyd yn erbyn y crefyddwyr yn y de, am eu bod yu ddylynwyr i'r clerigwyr Methodistaidd, o ba rai yr oedd cryn nifer yn y rhan hòno o'r dywysogaeth, ac i ba rai yr oedd dyledus barch yn cael ei ddangos ; ond yn y go^ledd nid oedd cymaint ag un o'r fath o fewn y cyfundeb, cyn y fl, 1785.

PEN. V.] SIR QAERFYRDDIX. 467

PENNOD V.

EGL^YYSI GORLLEWINIOL Y SIR.

CYiiwysiAD :

CARRFYRDDIN— WHITFIELD YN PREGETHU— JOHN BOWKN, YSW.— GWEINI YR OR- DINHADAU YN Y DRllF— YR YÖGOL SABBOTHOL— CYJUNFA YR YSGOL— PARCH. DAVID CHARLES— PARCH, T. JONES, AC ERAILL T. MORF'.IS, YSW.— CAPEL SAE3- ONAEG LLANDDOWROR BANC-Y-FELIN— MEIDRIM— LLANDYFAELOG— LLAN- STEPHAN.

CAERFYRUDIN.

Ar dclecbreuad y ganrif ddiweddaf, tiid yw yn ymddangos fod gan ymneilldu- wyr ond un gynulleidfa yn nhref Caerfyrddin, sef cynuUeidfa o Anuibynwyr, yr hon sydd yn awr yn yragyfarfod yn Heol-Awst. Yr oedd cynulleidfa fechan o Fedyddwyr wedi bod yn y dref yn ystod yr eilfed ganrif ar bymtheg; ond ni fu ond gwanaidd ar y dechreu; a íhua'r fl. 1690, yr ydym yn cael yn y llythyrau a aufonwyd o Gymru i'r gymanfa yn Llundain, fod yr eglwys yn " Nghaerfyrddin wedi ei chwalu." Dros ba hyd y bu yr achos perthynol iddynt ar chwa1, nid wyf yn hysbys.

Eernir fod y Parch. George Whitfìeld wedi ymAveled amrywiol weithiau â thref Caerfyrddin ; ac ar un tro, bu ei welnidogaeth yn fendithiol i'r Parch. Petsr WiUiams, yr hwn, ar y pryd, oedd yn ŵr ieuanc yn yr athrofa. Daeth i'r athrofa yn y fl. 1739, ac a'i gadawodd yn y fl. 1743; ond pa bryd, yn ysbiid y p'^dair mlynedd hyn, y bu Whitfield yn y dref, sydd anhysbys. Nid oes-araheuaetli, tybygid, na fu Howel Tiarris yny dref mor gynar a'r fl. 1739, ac y mae yn hysbys fod yma rai dysgyblion Methodistaidd wedi eu crynhoi at eu gilydd yn y fl. 1743. Meddai yr arolygydd W'illiam John am dani yn ei adrodiliad i'r gymdeithasfa, " Fe gynwys y gymdeithas yma 12 o aelodau ; maent yn wan iawn, ac i raddau mawr dan y ddeddf ac anghrediuiaeth." Yn y fl 174-5, y mae yn adrodd drachefn ei hanes, ac yn dywey.l, " Mae rhai wedi eu chwanegu at y gymdeithas, ond nid oes, er hyny, ond ychydig o fy- wyd yn eu plith : y mae yn eu mysg lawer o anghrediuiaeth, ihagfarn, a thywyllwch, yr Arglwydd a'u goleuo, ac a'u rhyddhao. Amen." Yr hanes olaf a gawn am y crefyddwyr boreu hyn, sydd yn yr un flwyddyn ; fel hyn : " Mae Caerfyrddin wedi ei chau i fyny er ys mis beüach, fel na chaiff" neb o honom lefaru yno ; ac uid oes dira tebygrwydd am lonyddwch i draethu nac i wrando. Tra y cawsom lonydcîwch, yr oedd llawer yn dyfod i wrando, a than gryn deimlad. Dyged yr Arglwydd hwy yn eu blaen. Amen."

Ymwelodd Whitfiehl â'r dref drachefn, a bu yn foddion i ddychwelyd un John Bowen, Ysw., o'r Tý-gWyn, gerllaw y dref. Ar dyddyn o dir, perthynol i'r gŵr boneddig hwn, yr oedd bychan a elwid Cwm-yr-iwen ; yn y hwn, beUach, yr arferid cyfarfod i addoli. Yr oedd yn sefyll yn agos i Mr. Bowen. Hebhaw Mr. Bowen, yr oedd yma amryw o ddynion, o wŷr a gwragedd, wedi eu dychwelyd, er nad yw eu henwau yn awr ar gael. Mae Mr. Harris, yr hynaf, Heol-y-dwr, yr hwn sydd yn awr yu fyw, ond mewn

468 HANESIAETH Y SIROEDD. [d03B. IV-

gwth 0 oedran, yn cofio yn dda glywed son, pan yn ieuanc, y fath. oedfaon rhyfeddol a fwynheid yn Nghwm-yr-iwen ; y modd y tywalltai y nefoedd ei gwlaw graslaw^n yn gawodydd ar y gynuUeidfa. Wedi bod yn aros dros ryw dymhor yn y hwn, cymerwyd ystafell arall yn Heol-y-gwyddau (Goose- street), a dyma y pryd yr ymsefydlodd yr achos eilwaith yn y dref. Nid yw y flwyddyu y bu hyu yn hysbys ; ac nid oedd moddion cyson eto yn cael eu cadw, 0 herwydd prinder offerynau ; ond fel yr oedd y gwaith yn llwyddo yn y wlad, a'r cynghorwyr yn amlhau, yr oedd y moddion yn cael eu cadw yn fwy cyson. Nid yw yr hanes sydd genym am ysgogiadau yr achos yn y dref, o'r dechreuad hyd y fl. 1771, ond prin iawn. Yn nechreu y tymhor, yr oedd y cynghorwyr yn ychydig, a'r erlid a'r aflonyddwch yn fawr ; ac yn ystod yr adeg rhwng 1750 a 1760, y disgynodd effeithiau difaol yr ymraniad ar y cymdeithasau, fel mai nid ar fyr y gellid dysgwyl iddynt ymadnewyddu. Ond yn y fl. 1771, pa fodd bynag, codwyd capel yn y dref, ar dir y Parch. Peter Williams, yn Heol-y-dwr. Yr oedd y gẃr parchedig, ar y pryd, ac er ys mwy nag 20 ml. cyn hyny, yn llafurio yn eÔro ac ya. llwyddiannus mewn undeb â'r Methodistiaid, ac am agos i 20 ml. ar o! hyny ; ond pan attaliwyd ef i breg- ethu gan y Methodistiaid * yn eu capelau hwy, efe a hònodd ac a gadwodd feddiant yn y capel hwn o hyny allan, sef hyd ei farwolaeth. Wedi colli y capel yn Heol-y-dwr, bu gorfod ar y praidd bychan ymofyn am ystafell arali i ymgynull ynddi. Wedi cael un at eu meddwl yn Friar's ParJc, y tu cefn i Heol-Awst, hwy a'i cymerasant, ac yn yr ystafell hon y buont (oddigerth rhyw nifer fechan a lynasant wrth Mr. Williams) hyd y fl. 1796, sefy flwyddyn y bu ef farw ; pryd y gwerthwyd y capel yn Heol-y-dwr, gan weddw Mr. Williams, i'r Methodistiaid.

Dan ofal y boneddwr y soniwyd eisoes am dano, John Bowen, Ysw., Mr. David Cbarles (wedi hyny y Parch.), ac un William Harri, tiirner, fel henur- iaid, y dygwyd y gwaith yn mlaeu yn y tymhor hwn. Yn y fl. 1800, yr oedd nifer yr eglwys yn 80; acynlSOl, jt oedd yn 93. Hon oedd y flwyddyn, sef 10 ml. cyn y neiUduad, y cafwyd caniatâd y gymdeithasfa i weinyddu yr ordinhadau arwyddol yn y capel hwn gyutaf. Ac nid heb beth anhawsdra y cafwyd hyn. Safodd y Parch. N. Eowlands yn erbyn â'i hoU egni ; ac oni buasai dylanwad cryfach Mr. Jones, Llangan, yr hwn a ogwyddodd o blaid y cynygiad, attaliesid y gynulleidfa oddiwrth ei hawlfraint yn hwy. Y gwŷr urddasol a weinyddent amlaf ar yr achlysuron hyn, oeddynt, Mr. Jones, Llan- gan ; Mr. Hughes, Sychbant ; Mr. Williams, Lledrod ; ac weithiau, Mr. Charles, o'r Bala.

Tua'r fl. 1803, neu yr un ganlynol, gwnaed ysgogiad tuag at addysgu y rhai hyny o'r aelodau eglwysig na fedrent ddarllen, i gyrhaedd hyny. Gwnaethid cynygiad ar sefydlu ysgol Sabbothol yn y dref cyn hyny, gan offeiriad duwiol, genedigol o Gil-y-cwm, o'r enw William Williams,f ond gwrthodwyd y cynygiad y pryd hwnw, gan faint oedd rhagfarn crefydd-

* Gwel tudal. 414, Cyf. I. f Gwel grybwj'lliad am dano yn hanes Cil-y-cwm.

PEN. V.] 31R GAEEFYRDDIN. 469

wyr yr oes hòuo yn erbyn cadw ysgol ar y Sabboth ; a clian y dygent fawr sel dros santeiddiad dydd yr Arglwydd, teimlent eiddigedd cyfatebol yn er- byn ei halogiad, ac yn erbyn pob peth a farnent hwy yn tueddu at hyny. Ond wedi deall fod y cyfryw sefydliad mewn mauau eraill yn eífeithio jti dda, codai anesmwythder mewn rhai o'r brodyr yn y dref, ac ewyllysient wneuthur prawf o honi eu hunain. Felly, yn y flwyddyn a nodwyd, wedi llawer o gydymgynghoriad, penderfynwyd cyhoeddi y byddai ysgol yn cael ei chadw ar y Sabboth canlynol. Y Sabboth a ddaeth, ac ymgynullodd i'r ysgol tua 30 o blant ; felly, nid y rhai y bwriadasid yr ysgol iddynt ar y cyntaf, oedd y rhai parotaf i wneyd defnydd o honi. Tr oedd y Parch. W. WiUiams erbyn hyn wedi symud o'r dref i Bristol i fyw; ond pan glywodd fod cychwyniad wedi ei wneyd ar ysgol Sabbothol yn Nghaerfyrddin, ni allodd ymattal heb ddyfod i Gaerfyrddin i ddadgan ei lawenydd prawf teg fod ei holl galon yn y gwaith. Eto yr oedd y sefydliad yn eiddil iawn, ac anhawdd ydoedd sicrhau, mwy nag am lawer baban egwan, pa un ai byw ai marw a wnaethai. Yr oedd yr athrawon yn brinion iawn; y crefyddwyr yn ystyried mai gormod o hunauymwadiad oedd iddynt gaethiwo eu hunain gyda swp o blant anwar, a cholli yr oedfaon a fwynhaent mor fawr. lë, gan yr anhawsder i gael athrawon, bu raid cyflogi dyn i ofalu am daui. Ehôddodd yr eglwys alwad ar un Evan Davies, yr hwn oedd gloíf, i gyflawni y gwasanaeth, vr hwn a barhaodd gyda'r gorchwyl, a hyny dan gyflog, am ysbaid pum' mlyn- edd neu ychwaneg; sef hj'd y fl. 1809,

Yn y flwyddyn hon, cynaliwyd cymanfa mewn cysylltiad â'r ysgol Sabboth- ol ; ac 0 hyny allan, Ilwyddodd y sefydliad yn rhyfeddol. Bu y cyfarfod crybwylledig yn foddion arbenig i godi yr ysgol i sylw y trefedigion, i ddarostwng y rhagfarn yn ei herbyn yn mysg y crefyddwyr, ac i ail enyn sêl ac yradrech y rhai oeddynt eisoes yn ei hofíì. Lluosogodd rhif ei deiliaid a'i hathrawon yn fawr iawn ; bu ynddi, dros lawer o flynyddau, tuag 800 o rifedi, a thros ryw dymhor, uid llai na 1000. Eyw bryd yn ystod y tymhor hwn, daeth John Jones, Ysw., aelod seueddol dros y dref, i ymweled â'r ysgol ; ac ar ei waith yn dyfod i mewn i'r capel, gydag un D. Jones, Ysw., Banker, yr hwn oedd ar y pryd yn aelod eglwysig, safodd y Iluaws ysgolorion oll ar eu

traed. Syrthiodd syudod aruthrol ar y boneddwr wrth ganfod y fath olygfa

fod cynifer o gannoedd, a hwy gan mwyaf yn feibion a merched ieuaiuc, wedi cael eu hennill i dderbyn addysg ysgrythyrol ar y Sabbothau ; a meddiannwyd ef â'r ystyriaeth pa efi"eithiau mor ddaionus a ganlyneut ymdrechion mor ganmoladwy. Gan y dylynwyd y gymanfa grybwylledig ag eífeithiau mor ddymunol, penderfynwyd ar fod cyfarfod cyífelyb i gael ei gynal bob blwvdd- yn, a chadwyd at y penderfyniad hwnw hyd heddyw. Y pryd hwuw, nid oedd ysgol Sabbothol gan neb arall yn y dref ; ond erbyn hyn, y mae wyth neu naw o ysgolion cyS'elyb wedi eu sefydlu, a chyfanswm rhifedi yr ysgolor- ion yn fwy nag erioed.

Yr ydym eisoes wedi crybwyll enw Mr. David Charles fel un ag oeod yn cydlafurio gyda Mr. Bowen, a William Harri. Mae enw Mr. Charles vn

470 hanesiaetü y siroldd. [dosb. iv,

galw am lielaethach syhv ; ac er iiad ein lle ydy w ysgrifeiiu eofiaut iddo, eto byddai cronici Methodistiaeth yn dra diffygiol heb goffâd helaethach a mwy arbenig na chrybwylliad cyffredin am dano.

Afreidiol, fe allai, ydyw i ni adgoffa i'r darllenydd mai brawd ydoedd i'r anfarwol Thomas Charles, o'r Bala, Gauwyd ef yn y fl. 1762 ; daeth i brofi argraffiadau dwysion crefydd pan oedd yn 15 ml. oed ; neiUduwyd ef yn flaenor neu ddiacon pan oedd yn 21? ml. Priododd, tua'r un amser, ferch i Samuel Lefi Phillips, Ysw, Yr oedd y gŵr hwn yn anedig o Franhfort on tlie Mabie, ond yn preswylio weithian yn Hwlrtbrdd, ac yn arianydd yno. Yr oedd yn fab i Rabbi luddewig, ac wedi ei ddwyn i fyny i'r grefydd hòno, ond wedi ei ddychwelyd i ffydd yr efengyl yn fuan ar ol ei ddyfodiad i Bryd- ain. Dychwelwyd ei ferch, Mrs. Charles, bellach, trwy weinidogaeth y Parch. Êowland Hill, at yr hwn, fel ei thad ysbrydol, y teimlai serchogrwydd mawr.

Gwasanaethodd Mr. Charles swydd diacon am ysbaid mwy nag 20 ml., a phan oedd ya 46 ml. dechreuodd bregethu. Gwuaeth hyu ar gais a thaerineb ei gyfeillion crefyddol, ac yn arbenig ar annogaeth ei frawd. Wedi treulio 20 ml, drachefn yn y wcinidogaeth, fe'i goddiweddwyd ef ag afiechyd, drwy yr hwn y difuddiwyd ef o'i leferydd ac o'i ddefnyddioldeb ; ac am y chwe' blyn- edd olaf o'i oes, bu yn garcharor gan y parlys ; ond yn y fl. 1884, pan ydoedd yn 72 ml. oed, rhyddhawyd ef o'r rhwym hwn gan angau. Y cyfryw ydyw prif linellau ei fywyd. Nid oes Uawer i'w draethu am droion ei oes, ond y mae llawer i'w ddyweyd am ei gymeriad uchel, ei syniadau eryraidd, ei brofiad dwfn, a'i ffyddlondeb difwlch yn ngwasauaeth ei Arglwydd. Nid yn fynych y gwclodd Cymru, os un aniser, neb yn meddu syuiadau dyfnach, cysouach, mwy gwreiddiol, a mwy ysbrydol, na Mr. Charles, Pan oedd yn gwasanaethu swydd diacon, yr oedd yn rhagoii yn mhell ar ei gydswyddog- ion o ran treiddgarwch ei ddirnadaeth, pwyll a cliywirdeb ei farn, ac ysbryd- olrwydd dwfn ei brofiad, Ac wedi iddo gymeryd Ile mwy cyhoeddus, mwy amlwg fyth yr ymddangosai ei ragoriaethau. Ni wnaeth ei ymddangosiad ef yn y pulpud ond dyfnhau y syniad uchel a fynwesid eisoes am ei gymhwys- derau. Er ys ugaiu mlynedd cyn hyny, rhoddid y blaen iddo yn nghyfarfod- ydd misol a chwarterol y cyfuudeb, yn y rhai yr oedd eisoes yu cyfranu gair y gwiriouedd, er uad oedd eto wedi boddloni i wueuthur hyny yn gyhoeddus a chynulleidfaol.

Am yr ugain mlynedd y bu ef yn pregethu, edrychid arno fel colofn fawr y cynulliadau chwarterol, yn enwedig yn y cyfarfodydd neillduol a fyddai yuddynt, a phan y byddai rhyw fater athrawiaethcl dan sylw. Ar rai o'r achlysuron hyn, ymddangosai, uid yn unig yn mhell uwchlaw ei frodyr, ac yn eu mysg yr oedd rhai gwroniaid ardderchog, ond hefyd uwchlaw iddo ei hun- an. Sonir yn neillduol am uu tro, pan yr ymdrinid â'r mater pwysig ac ofnadwy hwnw, " Priodoliaethau Duw." Ai'ferai ysgrifenydd y gymdeithasfa gofuodi y sylwadau a wueid yn y cyfryw gyfarfodydd, a medi'us auarferol oedd yr ysgrifenydd, sef y Parch. Ebenezer Richards, yn ei orchwyl. Y tro

PEN V.] SIR GAEUFYRDDIN. 471

liwii, ehedai Mr. CharlfS mor uchel, arllwysau t'eddyliau mor gryfion, mewu iaith mor ardderchog, ncs llenwi y cyniüliad â syndod ac â gorchwyledd . Gofalai Mr. Eichards bob amser gofnodi sylwadau Mr. Charles, gan ystyried y byddent yn rhagori mewn dwysder ac ucheledd ; ac ar ol y cyfarfod dan sylw, cyferchid ef gan ei frodyr, gan obeithio ei fod wedi rhoddi ar lawr yr hyu a glywsid gan Mr. Charles ; ond yr ateb oedd, " Naddo ; y fath ydoedd dysgleirdeb a thanbeidrwydd y syniadau, a'r fath ydoedd eu dylanwad ar fy nheimladaUj/c'^ na ellnis ys.jriftnii un gair ! "

Dechreuodd Mr. Charles bregethu tua thair bîynedd cyn y " neillduad " cyntaf. Penderfyniad y gymdeithasfa yn yr achos oedd neiilduo yn mhob sir ychydig nifer o frodyr y cawsid prawf digouol o'u cymhwysderau, a hyny hyd y gellid o blith yr hynafgwyr ; a gosodwyd hefyd yn rheol ua ddewisid neb heb ei fod yn gweinidogaethu eisoes er ys pum' mlynedd. Nid oedd Mr. Ch.arles wedi pregethu ond tair blynedd, ac ara hyny yr oedd y rheol yn ei gau ef allan ar y pryd ; eto nid oedd modd myned heibio iddo, a gwell gan y bobl, trwy gydsyniad cyífredinol, droseddu y rheol, neu wneuthur eithriad iddi, na'i adael ef ar ol. Felly pendei-f_)Tiwyd, er cystal oedd y ddeddf, fel rheol gyffredin, ei hysgoi y tro liwn ; a neiUduwyd Mr. Charles yn gyfatebol yu mhlith y rhestr cyntaf ; acui wnaed eithriad i reol ddoeth erioed gyda llai o anhawsder, ar y pryd, na chyda rawy o foddhäd yn y canlyniad.

Y mae yn beth liyuod yn hanes Mr. Charles, ei fod wedi ymroddi mor ilwyr i'r weinidogaeth, gan ei fod yn oedranus yn dechreu, a chan fod gan- ddo alwedigaeth bwysig i ofalu am dani, oddiwrth ýr hon y dysgwyliai gynal- iaeth iddo ei hun a'i deulu. Hysbys ydyw i'r brodyr yn y deheubarth ddarfod iddo deithio Uawer i gyfarfodydd, a chyflenwi diffygion y siroedd, yn mysg y Saeson a'r Cymry, gyda Uawer o ffyddlondeb, a'r cwbl yn hoUol ar ei draul ei hun. Nid oes amheuaeth na niweidiodd hyn ei aragylchiadau : uid yn uuig yr oedd y draul a ddisgynai arno wrth deithio, ond hefyd yr oedd ei absenoldeb oddiwrth ei alwedigaeth, yn tueddu yn uniongyrchol i hyny. Cymhellwyd llawer arno i dderbyn rhydd ac ewyllysgar roddion yr eglwysi a wasanaethai ; ond ofer fu pob taerineb. Nid ydym yu abl i ddad- gan y rheswm paham y gwnai Mr. Charles hyn. Tueddir ni ar un Uaw i feio arno, fel un yn gwneyd cam ag eglwysi üuw, oddiwrth y rhai y dyUd "ceisio tfrwyth yn amlhau erbyn eu cyfrif hwynt;" ac fel uu yn gwneyd cam agef ei hun, ac â'i deuhi, trwy wneuthur mwy nag oedd ddyledus arno ; ac ar y Uaw araU, tueddir ni i ryfeddu ac i ganmawl yr ysbryd di-hunangar a'i cymheUai i ymroddi mor Uwyr, ac i lafurio raor helaeth, heb un cymheU- iad nac amcan ond gogoneddu Duw yn llesâd ei gyd-ddynion. Diambeuol genym fod ganddo ef reswm a'i boddlonai ef ei hun, ac nid oes Ue i betruso, a barnu wrth ei gallineb arferol, nad oedd y Uwybr a gerddai yn hyn, yn anrhydeddus iddo fel Cristion gostyngedig, ac fel gweinidog Uwyr ymrodd- gar, er nad ydym yn alluog i hysbysu oddiar ba egwyddorion penodol y gweithredai ; nac yn ystyried ei fod yn hyn yn galw am efelycbiad cyffredinol.

Nid Uawer a deithiodd IMr. Charles yu Ngwyncdd, ac ychydig, mewn cyd-

473 IIANESIAETH Y SIUOEDD. [UOSB. IY.

mhariaeth, a wybuwyd am dano gan y brodyr yno. Gan na fii yn defnyddio y pulpud ond 20 ml. a chan iddo dreulio cymaint o amser i wasanaethu y rhan ddeheuol o'r ualaeth, ni ellid dysgw^yl ei fod wedi gwneyd ei hun yn adnabyddus iawn yn y Gogledd.

Yr ydym eisoes wedi crybwyll fod blynyddoedd olaf ei oes wedi eu cymylu gan afiechyd trwm. Yn y fl. 1828, tarawyd ef â'r parlys, a difuddiwyd ef am y gweddill o'i oes. Collodd ei leferydd, er na chollodd ei synwyr. Ym- ddangosodd rhyw arwyddion cychwynol o'r aíiechyd hwn arno pan y bu yn Llundain yr ail waith, sef yn y fl. 1827 ; ond trwy ddefnyddio moddion priodol, dadebrodd drachefn dros dymhor byr ; ond yn y flwyddyn ganlynol, ymaflodd yr anmhariaeth angeuol ynddo gyda nerth ychwanegol, ac ni oll- yngodd ei afael o hono, nes " newidio ei wyneb ef, a'i ddanfon ef i ffordd." Bu farw yr 2il o Medi, 1834, yn 73 ml. oed.

Wedi rhoddi hyn o ddarlun byr o hanes Mr. Charles, awn rhagom at y gweddill 0 hanes Methodistiaeth yn y dref. Tua'r un amser ag y dechreu- odd Mr. Charles bregethu, y galwyd hefyd Mr. G. Harris, Heol-y-dŵr ; IMr. W. Eoberts, tad y Parch. D. Eoberts, yn awr o Bont-faen ; ac uu Thomas Griffìths, gynt o Feidrim, i'r ddiaconiaeth. Nid oes ond y cyntaf yn awr yn fyw, ac yntau, bellach, wedi ei ddifuddio, i fesur mawr, gan anhwyldeb corfforol. Bu y gwŷr hyn yn dra ffyddlawn, yn eu dydd a'u cylch, gyda phob rhan o'r gwaith, ac yn arbenig gyda'r ysgol Sabbothol. Cafodd y sefydliad hwn swcr da dan eu haden, a buont yn ymdrechgar a Ilwyddiannus, mewn cysylltiad â brodyr eraiU, i sefydlu Iluaws o ysgolion yn y wlad o amgylch.

Mae Caerfyrddin yn gysylltiedig ag enwau amryw o brgethwyr heblaw â Mr. Charles. Un o'r rhai hynaf, ydoedd y Parch. Thomas Jones. Bu y gŵr hwn yn preswylio yn gyntaf mewn lle a elwir Trebedw, gerllaw Capel-y- Drindod, yn swydd Aberteifi. Gelwid ef fynychaf yn y gogledd, Thomas Jones, Llanpumsaint, am y bu yno yn cyfaneddu dros ryw dymhor. Daeth i Gaerfyrddin i arolygu argraífiad o Peibl y Parch. Peter Williams. Yr oedd Mr. Jones yn ŵr dirodres iawn, ac yn bregethwr rhagorol. Teithiodd lawer i draddodi gair y bywyd i'w gydwladwyr, ac ysgrifenodd rai Ilyfrau buddiol, megr\'s, Esboniad ar Bum' Llyfr Moses, ac Esbouiad ar Lyfr Job, ar Ganiad Solomon, ac ar yr Hebreaid. Bernir ei fod yn dduwinydd da, acyn Gristion trwyadl. Bu farw lonawr ISfed, 1830. Mae enwau eraill yn deilwng o goffadwriaeth cysylltiedig â Chaerfyrddin. Sonir am hen bregethwr o'r enw Siôn Evan,* am yr hwn nid oes genym ddim amgen adgofion na'r penill isod.

* Yr oedd liwn yn Fardd, ac ar rvw achlysur cyd-deithiai ag offeiriad, jx hvra nid oedd enwog am ei grefydd, a'r hwn a osodai ar y bardd i gyfansoddi penill iddo ; a'r testyn oedd, " Y cac gwenith," yr aent heibio iddo. Wedi ei hir gymhell, canodd y bardd,

" Mae yma wenith g\seddol, Yn tyiiu 'mlaen yn raddol, Ond y degfed ran a â i maes, I gj-nal gwas y diafol."

Ehocs y "pcnill" dcrfyn bnan ar yrÿmddyddan.

PEN. V.] SIR GAElirYRDDIN. 473

O'r fl. 1813 hyd 1848, cododd yn Nghaerfyrddin y gweinidogion a'r preg- ethwyr canlynol : y Peirch. Thomas Evans ; PhiUip Luke ; Owen Howells, yn awr yn Tarvine, ger Caerlleon ; John Evans, gynt o Brilley ; John Evans, yn awr yn yr eglwys wladol ; a D. Charles, mab i'r cyntaf c'r enw. Yn y dref hon hefyd y ganwyd yr enwog John Eees, o Crown Street, Llundain, yr hwn, ynghyda'r Parch. Theophilus Jones, o Wootton-under-edge, a fu mewn cysylltiad agos â'r eglwys Fethodistaidd yn y dref hon.

Adeiladwyd y capel presenol yn Heol-y-dŵr, yn y fl. 1813. Tarddodd amryw ganghenau hefyd o'r eglwys. Yn y fl. 1824, adeiladwyd ysgoldy tua hanner milldir o'r dref, mewn Ue a elwir John's Town, yr hwn sydd gysylltied- ig â'r dref, feltaith Sabboth. Yn y fl. 1835, adeiladwyd capel bychan arall, yr hwn a elwir y Babell. Yn y lle hwn yr oedd ysgol Sabbothol er ys blyn- yddau, yr hon sydd yn parhau yn siriol a llewyrchus hyd heddyw. Yn chwanegol at y Ueoedd hyn, cynelir ysgol Sabbothol mewn lle arall, sef Login, plwyf Llangwnwr. Nifer yr aelodau yn awr yn Heol-y-dŵr, ydyw 353 eu plant, 211, Nifer yr ysgolorion, 470.

Annheilwng, fe aUai, a fyddai terfynu hyn o hanes am Fethodistiaeth Heol-y-dŵr, heb grybwyll un enghraifl't o haelioni, a sefydlogrwydd un o aelodau yr eglwys hon. Ymunodd â'r achos crefyddol yn ei ieuenctyd, a pharhaodd yn íFyddlawn gydag ef tra y bu byw yn Nghaerfyrddin. Ac er ei fod wedi ymadael â'r dref er ys blynyddau, bellach, ac yn byw yn Lloegr, eto y mae yn para mewn cymundeb eglwysig yn ei le trigiannol. Nid yw, chwaith, yn anghofio tlodion ei bobl. Dyrchafodd rhngluniaeth ef i sefyllfa gysurus; a rhydd brawf o'r syniad mai goruchwyliwr ydyw ar eiddo Un arall, trwy anfon £40 neu £50 bob blwyddyn i'w rhanu rhwng aelodau anghenog eglwys Heol-y-dŵr. A phan y dygwydd i'r boneddwr ddyfod i aros dros enyd yn ei dref enedigol, fe ddyry brawf o'i ymlyniad parhaus wrth bobl ei ddewisiad boreuol. Y boneddwr hwn yw T. Morris, Ysw., brawd i aelod seneddol dros y dref.

CAPEL SAESONAEG CAERFYRDDIN.

Llawer o ymddyddan a fu yn nghylch cael addoldy Saesonaeg yn y dref mewn undeb â'r Methodistiaid, dros rai blynyddau cyn ei gael. Yr oedd llawer yn barnu y buasai yn dda ei gael ; ond gan fod mwy na siarad yn angenrheidiol i ddwyn y fath amcan i ben, a chan fod ambell un yn ofni mai aflwydd mewn rhan a barai cynulleidfa Saesonaeg i'r un Gymraeg, a chan hefyd yr ymddangosai peth anhawsder i ddwyn y bwriad i weithrediad, yr oedd yn aros mewn dymuno ac ymddyddan yn unig. Efl"eithiodd yr ym- ddyddanion, pa fodd bynag, ynghyd ag annogaethau cryfion oddiwrth rhyw frodyr, heb fod yn byw yn y dref, i beri cychwyniad ar y gwaith. Cynaliwyd cyfarfod ar yr achos ; ac er fod traethu rhydd o blaid ac yn erbyn, eto mewn ysbryd brawdol, penderfynwyd ar wneuthur cais i ddwyn yr amcan i ben, a phenodwyd personau i ymofyn am dir i adeiladu arno. Methwyd a chael

47^- HANESIAETH Y SÍROBDD. [DüSB. IV.

tir dros ryw ysbaid ; ond yn mis Ebrill, 1850, cafwyd lianes tir cyfleus. Gösodwyd yr achos eilwaith o flaen yr eglwys, a tlirachefn ó tìaen cwrdd misol y sir ; a chafwyd pob annogaeth i fyued yn mUien. Felly adeiladwyd capel hardd a helaeth, dan yr enw capel SiON. Agorwyd ef yn Awst yr un flwyddyn, pryd y pregethodd y Peirch. T. E. Thoresby, o Spa Fields, Llun- Uaiu; D. iluwells, Abeitawe; a I). Charles, A. B., Trefecca. Ciliodd tuag 20 0 aelodau y capel Cymraeg i'r un Saesoaaeg, trwy gydsyniad y fara eg- Iwys, a fifurfiwyd yn y babell newydd eglwys reolaidd, dau fugeiliaeth y Parch. William Howells, nai i'r gẃr hynod o'r un enw, a weiuidogaethai yn nghapel Long Acre, Llundain ; a diaconiaid detholedig.

ívíae yma tua 4 0 o at'lodau mewu cymuiideb, a thua 100 yn yr ysgol Sab- bothol. Mae Ilafur a ffyddlondeb y brodyr sydd yn gofalu am y Ue hwn, wedi bod yn ganmoladwy iawn, ac hyd yma yn llawn mor llwyddiannus ag y gellid dysgwyl.

LLANJJÜOWROR.

Mae y Ue hwn yn enwog trwy ei gysylltiad ag enw anfarwol Cnffith Jones. Yn ei amser ef, mawr oedd y cyrchu a fyddai i'w wrando, mawr oedd ei ddiwyd- rwydd yntau gyda holwyddori a phregethu, a mawr yn ddiau a fu y lles a gynyrchwyd. Oud efe a fu farw ! a galarus ydyw ychwanegu, ni chaf:)dd olynwyr teilwng. Rhoddwyd terfyn ar yr holwyddori, a chwalodd y gynull- eidfa, am nad oedd sugn, bellach, yn y weinidogaeth. Yr ydym wedi traethu eisoes ychydig 0 hanes Mr. Jones, am yr hwn y mae yn anhawdd traethu gorraod, yr hwn yn ddiau oedd " Seren Foreu" y diwygiad Cyrareig. Temlir ni, pa fodd bynag, gan i ni daro wrth ei eiiw eilwaith, i adrodd un hauesyn am dano yn ychwanegol.

Galwyd Mr. Jones unwaith i bregethu o flaen y frenines Anne; yr oedd hyny mewn amser yr oedd ymdaith i Lundain, ac yu ol, yn orchwyl anghyf- leus a pheryglus. Ar waith Mr. Jones yn dychwelyd (fel y tybir), o Lun- dain, daeth ef a'i was i dref lle yr oedd nifer o filwyr yn gorsafu ; i'r rhai, ar eu taer ddyrauniad, y cydsyniodd Mr. Jones bregethu. Gosodai yn ei fryd gyrhaedd tref arall i letya, a gadawodd y milwyr gyda'r bwriad hwnw, er iddynt fod yu daer arno i letya y noson hòuo yn y dref yr oeddynt hwy ynddi.

Ond yn mlaen ar ei daith yr aeth ; a chyn iddo ef a'i was gyrhaedd milldir 0 ffordd, gvveleut fod cysgodau yr hwyr yn ymestyn yn gyflym, ac ofnent, gan eu bod yn ddyeithriaid i'r ffordd a'r whid, fyned rhagddyut, yn ol eu bwriad, a throisant i westty a gawsant ar fin y ffordd. Ar ol swper, ar- weiniwyd hwy gan forwynig i'r ystafell wely, a chyda eu bod ynddi torodd y llances allan i wylo yn drwm, a chyfaddefodd, wrth eu holi, mai o'u hachos hwy yr oedd yn wylo, ac ebe hi, " drwg ydy w hwn ; a rhy debyg ydyw mai eich Uadd a gcwch cyn y boreu ! Ond os diangwch, cofiwch ara danaf fi, i'ra dwyn o'r Ue bwn."

PEN. V.] SIR GAEHFYRÜDIN. 475

Aiihawdd dychyruygu, chwaithach desgrifio teimladau y dyeithriaid, wrth ddeall eu sefyllfa. Yr oedd eu ceíFylau mewn diogelwch, a dianc oedd yn anmhosibl. Nid oedd ddim i'w wneyd ond gorchymyn eu hunain i ofal rhagluniaeth. Felly aethant i'r gwely, a gailawsant y ganwyll yn oleu, ac, ebe Mr. Jones wrth y gwas, " Diau raai fy einioes i a geisiant gyntaf, ac felly, hwyrach y cei di dy fyAvyd. Pan ddelo y lleiddiaid i mewn, gan hyny, Uithra dithau allan, a brysia i íynegu fy sefyllfa i'r milwyr, o herwydd yr wyf yn credu mai trwyddyut hwy y'n gwaredir."

Gyda hyn, wele y flleiuiaid yn dechrcu ciiro y drws, gan orcliymyn iddynt ei íigor. Ei agor a wnaed, ac i raewn y daethaut, ac allan y Uithrodd y gwas. Gorchymynodd y dyhiriaid i Mr. Jones ymbarotoi i farw, ac nad oedd ganddo ddim aniser i'w goUi. Amcau y gŵr duwiol, bellach, oedd gohirio yr amser gymaint ag a aÜHÌ ; ac i'r dyben hyny, yn fwy nag oddiar un dysgwyliad y gallai ddofi cyuddaredd y fath ddyniou anfad, y dechreuodd ymliw â hwynt am ddrygioni eu hymddygiad, a dangos pa beth mor ddifrifol ac ofuadwy oedd i ddyn gael ei hyrddio mor ddirybudd i'r byd aralL Ond nid oedd hyn yn tycio dim gyda hwy i roddi eu bwriad heibio; "yr oedd yn rhaid iddo farw." " Wel, wel," ebe yntau, " gan mai raarw sydd raid, caniatewch i mi ychydig amser i weddio ac i ymbarotoi." Caniatawyd iddo chwarter awr ! Yr oedd y chwarter awr yn amser byr i'r gwas gyrhaedd y milwyr, a dychwelyd ; ond yr oedd ei gael, er hyny, yn enyn gobaith. Syrthiodd Mr. Jones ar ei liniau, a thywalltodd y fath weddi na wnaethai eriocd o'r bLnen, am na fu erioed yn y fath sefyllfa, a'r fath weddi na chly wsai ei lofruddion, ond odid, erioed ei chyffelyb. Ond, y chwarter awr a ddaeth i ben, a thra yr oedd ef eto yn ymbil â Duw, gwaeddodd y d^'hiriaid fod yr amser i fyny. Erfyuiodd yutau eilwaith ara bum mynyd yn ychwanegol ; ac er caleted eu calcnau, methodd gauddynt ei nacâu. Treuliwyd yr adeg yma drachefn yr un modd, hyd nes y daeth i'r terfyn. Beliach, yr oedd pob gobaith iddo allu dianc wedi colli; y lleiddiaid hefyd yn galw aruo fod yr amser i fyny ; ac yn parotoi i roddi iddo yr ergyd angeuol ; ond cyn taro, clybuwyd swn tabwrdd y milwyr wrth y tŷ. Mewn amrantiad hwy a ddeall- asant eu perygl, a ffoisant gyda rhuthr brawychus allan o'r ystafell ; ond erbyn cyrhaedd gwaelod y grisiau, daliwyd hwy gan y milwyr. Pa beth a fu y canlyniad iddynt hwy, nid yw yr hanes yn hysbysu, na pha beth a ddarfu i'r llances forwyn; ond yr oedd Mr. Jones a'i was yn ddiogel !

Wedi byn o wibio oddiwrth ein hamcan, dychwelwn am fynyd at hanes Llanddowror. Bu farw y Parch. Griffith Jones yn y Û. 1761, ac nid ydym yn cael fod nemawr ymosodiad wedi ei wneyd ar chwalu tywyllwch y fro, nac i arwain y trigolion at " Geidwad dyn," am 35 o flynyddoedd ar ol ei farwolaeth ef. Yr oedd yr ardal, gau hyn'y, wedidisgyn i'w hen agwedd gynt- efig, a chenedlaeth arall wedi codi, y rhai nid adwaeneut Griflìth Jones, ac na chlywsent ei leferydd.

Yr hanes cyntaf sydd genym am Fethodistiaeth Llanddowror sydd yn y fl. 1797. Y pryd hyn yr oedd ychydig nifer o'r rhai oedd yn aelodau eisoes

47G HANESIAETH Y SIUOEUU. füOSB. IV.

yn Banc-y-felin, yn arfer ymgynull at eu gilydd yn nhŷ un Josiah Beynon, yn mhentref Llanddowror ; a dywedir fod yn eu mysg rai hen bobl a fuasent yn aelodau gyda Mr. Jones. Y pregethwyr a lafurient yma amlaf, oeddynt, John WiUiams, Meidrim ; a John Phillips o'r un lle ; ac un Job Thomas, o Lasfach, oedd y blaenor cyntaf. Codwyd y capel cyntaf yn y íl. 1838 ; ail adeiladwyd ef yn y íl. 18-I-5. Yr oedd yma ysgol Sabbothol yn amser Grifíìth Jones, ond ar ol ei golli ef, diflanodd yr ymdrech gyda'r ieuenctyd, a hyny dros lawer o flynyddoedd, hyd nes y sefydlwyd ysgol Sabbothol gan y Meth- odistiaid. Nid ydym yn cael fod dim pethau hynod wedi bod mewn cysjdlt- iad â'r aclios crefyddol yn y lle hwn. Nid oes hanes genym am erlid a gwrthwynebiad mawr ar y naill law, nac am ryw dywalltiadau rhyfeddol ar y llaw arall, eto y mae yma gapel da, moddion cyson, a chynulleidfa siriol.

BANC-Y-FELIN.

Dechreuwyd pregethu yn y lle hwn mewn amser boreu ar y cyfundeb, tua'r fl. 1760, mewn lle a elwir Leger, anedd-dŷ tua dwy fiUdir oddiwrth y Banc ; symudwyd o'r hwn i le arall gerllaw y lle y mae y capel presenol arno. Math o ysgoldy oedd hwn, wedi ei gymhwyso at bregethu. Y ddau ŵr mwyaf nodedig, yngofalu am yr achos yn yblynyddoedd cyntaf hyn, oeddynt, Samuel Thomas, yr Hafod, a Eichard Thomas, Pant-y-deri, dau dyddynwr cyfrifol yn y gymydogaeth. Nid annhebyg ydyw fod pregethu yn Leger cyn y fl. 1760, a'i fod yn lle a hynodwyd yn fawr gau dywalltiadau grymus. Ymddengys hefyd, fod yr ysgoldy yn lle nodedig, gan y cyrchu a fyddai iddo ar Sabbothau cy- mundeb, o'r hoU ardaloedd cylchynol. Soniai yr hen bobl lawer am y mwyn- had a gawsid yn y cynuUiadau hyn, yn amser Davies, Cynwil ; Davies, Cas- tell-nedd ; WiUiam a Peter Williams ; a Jones, Llangan. Adeiladwyd y capel presenol yn y fl. 1788 ; ac o hyny hyd y fl. 1811, gweinyddid y sacra- mentau, gan mwyaf, yn y lle gan Mr. Davies, Cynwyl, yr hwn oedd yn byw ya yr adeg o fewn dwy filldir i'r Banc, mewn lle a elwir Aberhenllan ; a gweinidogaeth yr hwn a fu yn foddion arbenig, dros amryw o flynyddoedd, i gasglu cynulleidfaoedd mawrion i'r Banc ; ac nid i'r Banc yn unig, ond hefyd yn y Cwmbach, Äleidrim, Llanddowror, a manau eraill. Bu farw y gŵr hwn tua'r fl. 1821, tua 10 ml. ar ol ei ymadawiad oddiwrth y Method- istiaid. Ymadawodd, medd rhai, nid oddiar ddylanwad egwyddoriou gymaint, ond oddiar rym gwahanol amgylchiadau ; a dywedir iddo gyfaddef wrthfrawd sydd eto yn fyw, brawd a'i hadwaenai yn dda, ac a fyddai yu fynych yn ei gyfeillach, na theimlodd ef byth mo hono ei hun gartref ar ol ymadael â'r Methodistiaid. Mae ei Iwch yn gorwedd yn mynwent Llanddowror, nid yn mhell oddiwrth weddillion yr hybarcli Griífith Jones ; ond nid oes, meddir, yr un gof-golofn wedi ei gosod i ddynodi y lle y gorwedd, yr hwn ddifiyg y mae y rhai a letyant feddyliau uchel am dano, ac a dderbyniasant lesâd trwyddo, yn bwriadu ei gyflenwi.

Sonir am amryw o ddynion a fu yn Ilafurus a fíyddlawn dros ben gyda'r

PÈN. V.] SIR GAEUFYRDDIN. 477

achos crefyddol yn y lle hwn yn ei amser boreuaf, ac oddiyno i waered. Heblaw y ddau a enwyd eisoes, crybwyllir am frawd i'r Peirch. Thomas a David Charles, ac wedi hyny am un D. Howells, tad y Parch. D. Howells, Abertawe. Bu y gŵr olaf hwn, ynghyd ag un Sion Griffith, yn íFyddlawn a defnyddiol iawn ; felly hefyd Abel Thomas, a Jeremiah Lewis.

Mewn cysylltiad â'r eglwys hon yr oedd R. Walters, Ysw., arianydd. Crybwyllir am dano fel boueddwr crefyddol, ac un a ddaiigosodd lawer o letygarwch a thirioudeb i'r gwaith da, tra fu ef byw. Dechreuwyd ysgol Sabbothol yma trwy oíferynoldeb Mr. Charles, o'r Pala, tua'r fl. 1798. Yn y fl. 1838, bu yma adfywiad grymus, a chwanegwyd Ilawer at nifer yr ael- odau ; ac o'u raysg cododd dau o wŷr ieuainc gobeithiol i bregethu, sef dau frawd o'r enw John a William Lewis, o'r Drefnewydd, Bu farw y ddau frawd yn yr un flwyddyn, 1837, newyddiddynt ddechreu dyfod i sylw a defn- yddioldeb. Gellir edrych ar yr eglwys hon yn fam i amryw o eglwysi cylch- ynol, megys Meidrim, Llanstephan, Llanddowror, a Llanfihangel, Y preg- ethwr sydd yn byw yma yn awr ydyw Joshua PhiIIips.

MEIDllIM.

Mae y Ue hwn yn gorwedd un ochr i Leger, lle y dechreuodd Methodist- iaeth y fro, a Banc-y-felin yr ochr araîl. Y''mddengys fod yma rai yn peithyn i'r eglwys fach yn Leger, cyn symud i'r Banc, ac i'r personau hyny o-ael ar eu meddyliau roddi cychwyniad i achos cyflelyb yn Meidrim. Cedwid y cyf- arfodydd eglwysig ar y dechreu yn Nghastell-gorfod, sef palas J. Bowen, Ysw. Yr oedd y boneddwr hwn, cyn i ras ymweled ag ef, yn ŵr ieuanc tra annuw- iol. Pel Ilawer o'i radd, yr oedd wedi ymwerthu i ddifyrwch cnawdol, megys hela, ymladd ceiliogod, a phethau cyftelyb ; ond trwy ryw foddion, darostyn»-- wyd ef gan awdurdod yr efengyl ; ac yn y fan, heb ymgynghori dim â chig a gwaed, rhoes heibio yn Ilwyr, a thros byth, yr hen arferion ; a dechreuodd ym- ofyn pa fodd y gallai ddefnyddio ei amser, ei gyfoeth, a'i ddylanwad, i ddy- benion uwch a gwell. Un o'r pethau cyntaf a wnaeth oedd troi Eennel y cim yn Ile i bregethu ynddo. Cymhwysodd ac addurnodd ef yn gapel tlws dros ben. BuasaiMeidrim unwaith yn ddiareb am ei champau a'i drwg arferion,ond y maent oll wedi diflanu er ys blynyddoedd, trwy weinidogaeth y gair, sefydliad yr ysgol Sabbothol, a dylanwad crefyddwyr yr ardal. Gallwn feddwl nad oedd magu ceiliogod i ymladd ddim yn orchwyl a dybid yn rhy isel i ẃr boneddig ei wneuthur, gan y gwnai Mr. Bowen ei hunan hyny unwaith. Ar ol iddo roddi heibio yr " hen bethau " hyn, anfonodd gŵr boneddig arall ei was ato ar un achlysur i ofyn iddo am fenthyg ceiliog. Pa un ai mewn an- wybodaeth am ei droedigaeth yr oedd hyn, ai ynte math o adgoff'âd edliwgar iddo o'r hyn a fuasai gynt, nis gwyddom ; ond pa un bynag, anfonodd Mr. Büwen yn ol iddo Peibl yn lle ceiliog, gan ddyweyd mewn Uythyr, ei fod y fath na chollodd ef ymladdfa erioed, ac na chollai byth ! Bu y tro, meddir, yn foddion i beri i'r boneddwr hwnw roddi heibio ymladd ceiliogod o hyny

478 HANESIAETH y SIIÎOEÜI). [l)OSB. IV.

allan. Yn mlien rliyw amser, cadwyd y cyfínTodydd eglwysig yn mhentref Meidrim, bob yn ail a cbapel tlws y Castell. Adeiladodd Mr. Bowen hefyd weithdŷ Uian helaeth yn y pontref. NeiUduwyd rhan o'r adeiladaeth hon at gynal cyfarfodydd crefyddol ; a rhan arall o'r un adeiladaeth ydyw y capel presenol. Gwrthododd y gŵr boneddig hwn un swydd yn yr eglwys oddiar deiralad o'i anghymhwysder, a raynych y galwai ar y rhai ag oedd yn gwein- yddu y ddysgyblaeth i beidio ei ar1)ed ef mwy na phe buasai y tlodaf yn y lle. Bu gofal y Ue hwn dros ryw dymhor ar un Marc Jaracs, o Lanwinio, yr hwn oedd ddiacon yr eglwys yn y Cwmbach ; ond wedi rhyw ysbaid o amser, cododd gwŷr yn Meidrim ei hunan, i ofalu am y gwaith.

Anrhydeddwyd y lie hwn ar y dechreu ag adfywiadau cyflelyb i'r rhai a fwynheid yn Banc-y-fslin, yn ei araser boretuif. Bu llawer o ganmol, îc, a nei.Ho, meddir, yn ngliennel y citni, ac yn ymyl palas yr yswaiu ; a chafwyd tywalltiadau grymus ar ol hyny yn y pentref. Tua"r fl. 1796 y bu yma ad- fywiad grymus iawn, yr hwn a barhaodd am dair blynedd. Cafwyd un cy- ä"elyb drachefn yn y fl. 1805.

Cododd amryw bregethwyr tra defnyddiol o'r eglwys hon, sef John Williams, yn ddiweddar o Abertawe ; Parch. David Bowcn, Lhmsaint ; Josuah PhiUips ; William Williams, o'r Cwm ; a John Davies. Dechreuodd yr ysgol Sabbothol yma tua'r un amser ag y dechreuodd yn Banc-y-felin, a dylynwyd ei sefydliad â diflaniad ar yr heu .arferion llygredig, ac â hyrwyddiad grymus i achos yr efengyl yn ei flaen.

LLANDYFAELOG.

Nid yw y lle hwn yn mhell oddiwrth dref Caerfyrddin. Y mae yn nodedig am mai yn yr ardal hon y bu y Parch. Peter WiUiams, dros ryw dymhor o'i oes, yn preswylio ; ac efe hefyd, fel yr ymddengys, a fii y pril ofi"eryn i roddi cychwyniad i Fethodistiaeth yn yr ardal.

Yr oedd Mr. Williams, fel y mae yn hysbys, yu teithio llawer ; ond pan y dygwyddai fod gartref, dywedir y byddai yn awr ac eilwaith yn myned i eglwys y plwyf i wrando yr off'eiriad. Y'r oedd gweinidog y plwyf, yn gy- ífelyb i luaws o'i frodyr yn yr amseroedd hyny, yn ddyn perfl'aith ddiofal yn nghylch y praidd a roddasid i'w ofal. Nid gwaeth ganddo ef pa beth a ddeuai o'r bobl, ani y diweUid ef â digonedd o'r ddiod feddwol. Ei enw ydoedd y Parch. James Edwards ; ond, fe'i gelwid y rhan amhif, mewn S'ordd o ddynodi hynawseddei dymher, a diofalwch ei ysbryd, yn "Jemmy Bdiddig.''

Ai Mr. WiUiams, weithiau, fel y crybwyllwyd, i wrando y gŵr hwn i'r Uan, nid am y dysgwyliai cael llesâd oddiwrth ei weinidogaeth, ond am y dysgwyliai gael cyfleusdra i wneuthur llesâd i drigoUon ei ardal, trwy hy- nawsedd y person diddig hwn. Ymddengys fod gan yr ofí"eiriad gryn barch i Mr. WiUiams fel dyn, ac fel pregethwr; a chan ei fod wedi derbyn urddau, fel ef ei hun, os canfyddai ef yn mhlith y gynulleidfa, rhoddai ar ddeall iddo y byddai caniatâd iddo gyfarch y bobl, ar ol iddo ef, yr o0"eiriad, orphen

PEN. V.] STK GAEKFYRDD1N. 479

y gwasanaetb, ar yr amniod nad âi i'r pulpiul. Yn y modd yraa y cafodd y pregethwr gyfle i rybuddio y bobl, yr byn a wnai mor efteithiol o'r côr, ag a wnaethai o'r pulpud.

Wedi rhyw gymaint o amser, cymerodd Mr. Williams bychau, gerllaw y llan, dan rwym-ysgrif, i'r unig ddyben i bregethu ynddo. Eboes hen wraig i fyw ynddo, yn un pen, a phulpud yn y pen arall. Weithiau, ar ol gwasan- aeth y Uan, ymdroai yn mysg y bobl a fyddent yn campio yn y fynwent ar ol y gwasanaeth ; ac wedi ymgymysgu â hwy, dros enyd, ac enniU gradd ar eu sylw a'u serch, efe a'u deuai gydag ef i'r bach gerllaw, lle y traethai efe wrth y bobl hoU eiriau y fuchedd hon. relly, rhwng y cyfarchiadau a roddid o bulpud y anedd, ac o gôr y addoli, fe roes gychwyniad i Fethodist- iaeth yn Llandyfaelog.

Mae yraa, bellach, gapel hardd, a chynulleidfa luosog. Mae ŵyr i'r gŵr parchedig yn byw hyd heddyw yn yr ardal, ac yn weinidog parchus,* yn y cyfundeb.

LLANSTEPHAN.

Dywedir fod yn yr ardal hon dair o wragedd crefyddol yn preswylio, yn mhell 0 amser cyn fod gan y Methodistiaid ddim achos sefydlog yn y fro. Nid oes hysbysiad pa fodd y daeth y gwragedd hyn i brofì rhinwedd yr efengyl ; ond pa fodd bynag, fe ymddengys eu bod yn rhai hynod yn mhlith eu cymydogion. Cyrchent yn fynych i Langeitho, er fod yn agos 50 milldir o daith, a llwyddent yno i gael ambell gyhoeddiad i'w hardal. Ymddengys hefyd y byddai y Parch. Peter WiUiams, ac eraiU, yn ymweled yn lled fynych â'r ardal hon, ar y cyntaf, a hyny cyn i achos gael ei sefydlu yn rheolaidd ynddi. Dywedir hefyd mai 1 wraig ddibroífes, y pryd hwnw, y rhoddwyd vr anrhydedd o Iwyddo i gael pregethu cyson i'r fro. Aeth y wraig hon, sef Mrs. Sayer, o Bentwyn, yn unig swydd i gyfarfod misol, a gynelid, ar y pryd, yn Llanddarog, i erchi ar i'r brodyr ddwyn hyn oddiamgylch, a hi a Iwyddodd yn ei chais. Mewn canlyniad, bu cryn Iwyddiant ar yr achos yn y Ue. Daeth Uawer " i ymofyn y íFordd tua Sion," ac yn eu mysg Mrs. Sayer ei hun. Planwyd yma eglwys, a neiUduwyd swyddogion iddi. Adeiladwyd yma gapel yn y íl. 1803, ac ail adeiladwyd ef yn 1837. Bu y diweddar Barch. T. Evans, Caerfyrddin gynt, yn dra Uafurus i gael hwn i fyny, ac i'w gael yn ddiddyled ; ni fu yma ychwaith ddim pethau rhyfedd o blaid nac yn erbyn yr achos, ond y mae yn raddol wedi cyrhaedd graddau helaeth o sir- ioldeb a Uwyddiant.

ST. CLEAR, NEU ST. CLARE.

Mae y lle hwn tua naw miUdir o Gaerfyrddin, ar y íFordd i Hwlífordd, yn mhlwyf Llanfihangel-Abercowin. Byddai amryw o'r hen bregetüwyr yn ar-

* Y Parch. David Humphreys.

480 HANESIAETU Y SIROEDD. [dOSB. IV,

fer pregetliu yu j-r ardal houj tua 60 ml. neu fwy yn ol, yn yr amser yr oedd boneddwr o'r enw Capt. Bowen yn byw yma. Fe fyddai DaYÌes, o Gynfil ; Ebeuezer Morris ; Jobn Evans, New-Inn ; Dafydd Eees, ac eraill, yn ymweled â'r Ue yn achlysurol, mewn amser diweddarach. Cadwyd ysgol Sabbothol yma amry w droion, dan olygiad brodyr o Banc-y-felin ; ond ni ífurfiwyd yma eglwys hyd y fl. 1828. Cyfarfyddid yn eglwysig dros ryw dymhor yn uhŷ Michael Davies, yr hwn sydd un o'r diaconiaid presenol, ac ymunodd rhai o'r aelodau a berthynent i Banc-y-felin, a'r Cwm-bach, â'r eglwys yn ei gwendid.

Yn y fl. 1829, trwy garedigrwydd gwraig foneddig, o'r enw Mrs. Williams, Miss Joues y pryd hyny, cafwyd tir i adeiladu capel arno. Adeiladwyd ef yu ddioed, a thrwy haelioni y gymydogaeth, a chynorthwy cwrdd misol y sir, y mae erys amser, beUach, yn ddiddyled. Hefyd, fe adeiladwydtŷyn ddiweddar yn gysylltiedig â'r capel, a gwnaed mynweut i gladdu y marw. Mae y Ue hwn o fewn tua milldir i le genedigol y Parch. T. Charles, o'r Bala, a'i frodyr.

PENNOD VI. EGLAYYSI DE-ORLLE^YTN Y SIE.

CYNWYSIAD :

BETTWS— JACOB JONES— ADFYWIAD YN Y FLWYDDYN 1829— CAPEL YR HENDRE— SION THOMAS OWAIN— PENTWYN— JOHN DAYÍES— Y PARCH. JOHN EYANS— LLANEDI HENRY PUGH LLANGYNDEYRN LLANDYBIE LLANDDAROG A NANT-GAREDIG— CWMAMAN— CYDWELI— LLANSAINT— LLANELLI— PEN-Y-BREY^

BETTWS.

Mae y lle hwn yn sefyll rhwng Llandeilo-fawr a Llanelli. Ymddengys fod pregethu achlysurol wedi bod yma er yn foreu, gan hen dadau Methodistaidd ; ond nid oes hanes cryno am hyny ar gael ; a bod yma ddau neu dri o berson- au yn proflesu, mewn undeb â'r gymdeithas a fí"urfiasid yn y Goppa-fach, a hyny cyn fod yr un gymdeithas eglwysig yn y lle, ac yn mhell cyn fod. yma un capel wedi ei adeiladu. Adeiladwyd y ca^el tua'r fl. 1795. Cyn ei adeiladu, fe gedwid y cyfarfodydd ueillduol yn y Merdy-mawr, bob yn a MaesIIech. I'r cyfarfodydd hyn, fe ddeuai Grifíith Morgan, l'sw., Glynhir, yu fynych, i roddi ei gyuorthwy i'w cadw. Llaw-feddyg nodedig oedd y gŵr hwn, wedi ei ddychwelyd trwy weinidogaeth Mr. Eowlands, Llangeitho ; o-ŵr hefyd a fu yu effro a ffyddlawn dros achos yr efengyl o hyny allan, Yr oedd yr ychydig grefyddwyr yn y Bettws yn cael cryn anhawsdra i gael tir i adeiladu capel arno, ac wedi cael cael eu siomi unwaith ar ol cael addewid 0 dir, ac weithiau ymron wedi Ilwfrhau. Dygwyddodd fod Mr, Morgan, Glynhir, wedi dyfod un diwrnod i gj'farfod gŵr dyeithr i'r Bettws ; a thra yr oedd yn syn-fyfyrio pa beth a ellid ei .wueyd yn yr achos, fe safodd ar yr heol, a chan gyfeirio at ardd gerllaw, a berchenogid gan gymydog iddo, fe

PEN. VI.] SIR OAEnF'YRI)i)!N. 481

ddywedodd, "Dyma fan cyfleus i adeiladu capel ; mynaf ef i chwi cyn nos." Felly hefyd y bu. Llwyddodd gyda'r gŵr a bîodd yr ardd i'w chael i'r dyben.

Yr oedd yraa ŵr ieuanc, o'r eiiw Jacob Jones, yn ysgol-feistr, yr hwn a fuasai yn efrydydd yn athrofii larlles Huntingdon. Ymunodd hwn â'r ychydig gyfeillion oedd yn y lle yn fuan ar ol iddynt ymffurfio yn ganghen eglwys, a bu ar ol hyn yn bregethwr cymeradwy yn y cyfundeb hyd ddiwedd ei oes. Edrychid arno yn ŵr da a duwiol, a pliregethai, meddir, yn "fyr ac yn felus." Symudodd oddiyraa yn niwedd ei oes, i Gapel yr Hendre. Yn rahen rhai blynyddau ar ol adeiladu y capel, torodd diwygiad allan, a chwanegwyd Ihiaws raawr at rifedi y crefyddwyr yn y Ue. Fe fu y Bettws mewn cysyllt- iad â'r Goppa-fach dros rai blynyddau, a phob mis arferai yr aelodau fyned i Lanlluan i'r cymundeb, lle yr yragynullai tyrfa fawr o grefyddwyr yr hoU wlad o aragylch. Ymunodd amryw o'r ochr draw i'r afon, o'r gymydogaeth y mae capel yr Hendre yn awr ynddi, â'r ganghen eglwys yn y Bettws, Buwyd yn talu i ddyn, dros ryw dymhor, am gadw ysgol sabbothol yn y Ue, ond prin, er hyn, yr oeddid yn gallu ei chynal i fyny. Hi fu mor isel lawer Sabboth, nad oedd ond ychydig iawn yn ymofyn ara dani ; a thros rai Sabboth- au, nid oedd yn dyfod iddi ond un crwt, yr hwn a ddeuai, â'i Peibl dan ei gesail, at hen wraig ag oedd yn byw yn ymyl y capel ; ond er mwyn rhoddi ysgogiad ynddi ynmlaen, disgyrioddarfeddwl rhywrai gael cymanfa ysgolion i'r lle. Trefnwyd ar fod tair o ysgolion yn cyd-gyfarfod yn y lle ar ddydd Llun y pasg, a pharodd newydd-deb y peth i luaws mawr ddyfod ynghyd. Arferiad ar y dydd Llun hwn oedd i nifer ymgasglu i droedio y bêl ; felly daeth ychydig ynghyd i'r dyben hwn hefyd. Ond trwy fod y cwmni yn llai nag arferol, a thrwy hyny yn fwy Ilwfr, buan y rhoisant y gamp i fyny, a chy- tunwyd i fyned i gyfarfod yr ysgolion, ac o h^ny hyd yn awr, ni fu nemawr fwy na rhith yr hen chwareu-gamp.

Yn y íl. 1829, bu yraa adfywiad grymus iawn, pryd y chwanegwyd ugeiniau rai at nifer yr eglwys. Yn yr haf canlynol, tynwyd i lawr yr hen gapel, ac adeiladwyd un mwy. Mae yma yn awr gynulleidfa luosogyn gwrando, ac ysgol Sabbothol flodeuog ; a chan fod yr ardal yn lluosogi mewn trigolion, trwy fod gweithfaoedd gerllaw, bernir mai ar gynydd yr â yr achos yn y lle o hyn allan.

CAPEL-YR-HENDRE.

Dechreuwyd yr achos yn y gymydogaeth hon mewn Ile a elwir y Tŷ-llwyd, a breswylid gan un Siôn Thomas Owain. Nid yw yn hysbys pa bryd y bu hyn. Yr oedd y gŵr a enwyd yn un hynod yn ei oes, a bernir na chododd yn yr Hendre, byth wedi hyny, yr un henadür o fath hwn, er fod yma amryw o wŷr rhagorol wedi bod. Dychwelwyd ef at grefydd trwy weinidogaeth Mr. Davies, Castell-Nedd, pan oedd y gŵr parchedig hwuw yn gweini yn eglwys Llanon. Ymunodd â'r gymdeithas a yragynuUai y pryd hvny yn

2 G

482 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

Eitliinog, ger capel Llanlluan. Yr oedd pregethwr, o'r enw Dafydd Thomas, yn byw yr amser hyny yn Eithinog. Yn mhen rhyw ysbaid, caniatawyd i Siôn Thomas Owain gadw y moddion liyu yn ei ei hun ; a thros rai blynyddau, nid oedd yn y gymdeithas ond pump o aelodau, sei tri heblaw efe ei hun a'i wraig. Ymwelodd yr Arglwydd yn mhen rbyw enyd â'r ardal ag adfywiad hyfryd, a chwanegwyd amryw at y pump uchod, ac yn eu mysg, un Mrs, Leigh, gwraig y Parch. Edmund Leigh, offeiriad Llanedi, yr hwn, raeddir, oedd yn ŵr duwiol iawn. Un hynod hefyd oedd Mrs. Leigh. Arferai yn fynych ddechreu neu ddiweddu y cynulliad eglwysig trwy weddi. Cafwyd oedfaon hyfryd lawer gwaith yn Tŷ-Uwyd. Mynych y bu y crefyddwyr yn mwynhau ac yn moliannu hyd ddau o'r gloch y boreu. Disgynodd awel o'r fath, unwaith, ar y Parch. John Thomas, Eisca, pan yr oedd yn pregethu yn Tŷ-Uwyd, a bu yntau yn moliannu heb dewi hyd hanner nos.

Wedi i'r dysgyblion amlhau, bu raid ymofyn am le helaethach na'r Tŷ- llwyd, ac yn y fl. 1812, adeiladwyd capel yn y gymydogaeth, o fewn tua miUdir neu fwy i'r hen le cyfarfod, yn benaf, meddir, trwy law Siôn Thomas Owain, Yn y fl. 1841, bu raid ail-adeiladu y capel, ac yn awr y mae yn addoliad helaeth a thaclus iawn. Cododd amryw o bregethwyr yn y Ue hwn ; sef, Thomas Jones, yr hwn sydd wedi gorphen ei daith ; Dafydd Mor- ris; y Peirch. William Jones, Bout-ynys-wen, a Benjamin D. Thomas ; ynghyd a John Morris, yr hwn, yn ddiweddar, sydd wedi gorphen ei efryd- aeth yn Nhrefecca.

PENTWYN.

Cangen o'r un uchod yw y gynulleidfa sydd yn ymgynuU yn awr yn Peu- twyn. Mae yma gapel tlws a chyfleus, wedi ei godi, yn benaf, trwy lafur Mr. John Davies, un o henuriaid y lle. Bu y gŵr hwn yn arolygu yr achos yii yr Hendre dros dymhor maith, ac yn awr y mae wedi cyrhaedd yr oedran mawr o 94 ml., acwedi hen arfer gwasanaethu yr achos crefyddol gyda llawer 0 ffyddlondeb a charedigrwydd.

Mae yn y Ue hwn gynuUeidfa luosog yn gwrando, a'r ysgol Sabbothol luos- ocaf, meddir, yn y dosbarth. Yn ymyl y capel hwn y gorwedd gweddülion y gŵr enwog hwnw, y Parch. John Evans, New Inn, wedi hyny, Llwynffor- tun, ac yn ddiweddaf o Bentwyn. Ganwyd y gŵr hwn yn y fl. 1779. Yr oedd ei rieni yn perthyn i eglwys yr Annibynwyr yn Mhencader, i'r hon yr oedd ei dad yn ddiacon. Y'mddengys fod naws grefyddol ar ei feddwl eryn blentyn, ac addysgiadau ei fam,'tybygid, a fu y prif foddion i gynyrchu y naws hòno. Pan oedd tua 14eg oed, aeth gyda'i dad i Waunifor, i wrando Mr. Jones, Llangan, ac mewn canlyniad, ymunodd â'r Methodistiaid yn y lle hwnw ; ond wedi y tro cyntaf hwn, nid aeth eilwaith i Waunifor, ond ymun- odd i barhau â'r eglwys yn New Inn ; ac wrth enw y lle hwnw yr adwaenid ef oreu yn y gogledd dros ei oes. Dywedir i'w dad fyned gydag ef, ac wrth ei orchymyn i ofal y blaenor, yn y New Inn, iddo ddyweyd, " Dyma fe i

PEN. VI.] âlR GAERFYRDDIN. 483

chwi ; mi fetbais yn lân a gwneyd Bissenter o hono." Nid oedd ar y pryd ond 16 ml. oed. Yr oedd Mr. Evans wedi cael dysgeidiaeth dda yn ei ieuenctyd ; ac, ar ol ymuno â'r eglwys yn y New Inn, aeth i gadw ysgol i Lanpumsaint, ac yno y dechreuodd bregethu. Ymddengys iddo ddyfod i'r golwg fel pregethwr ymron yn ebrwydd, er nad oedd eto ond prin 18 ml. oed. Cerddodd y son am dano trwy yr hoU wlad gyda phrysurdeb mawr ; casglai cynuUeidfaoedd mawrion i'w wrando, a choronid ei bregethau â dylan- wadau rhyfeddol. Yn y modd yma y bu yn llafurio am oddeutu 11 ml., pryd y priododd wraig weddw o'r enw Mrs. Jones, Llwynffortun. Yflwydd- yn ganlynol, fe wnaeth gais i fyned i'r eglwys wladol, ac urddwyd ef yn ddi- acon gan Dr. Watson, esgob Llandaf. Efe a fu yn Uafurio mewn gwahanol eglwysi plwyfol am ysbaid blwyddyn ; ac yn y tymhor hwn, llenwid y llanau y clywid ei fod ef i bregethu ynddynt yn orlawn, ac yntau, er mwyn cyfleus- dra, a âi allan o'r cysegredig i'r fynwent i bregethu i'r bobl. Weithiau gwrthodid iddo gael myned i'r llan yn ol a ddysgwyliwyd, yntau a bregethai oddiar y cerig-beddau. Tybid fod ymddygiadau fel hyn yn afreolaidd; gelwid ef gan rai boneddwyr a boneddigesau yn ddyn gwyllt, ac yn lloerig ; a digon gwir iddo bregethu unwaith yn nghapel y Bedyddwyr, ac unwaith yn nghapel yr Annibynwyr, pan ydoedd dan urddau esgobawl. Yr oedd y pethau hyn yn droseddau blin, y cyfryw nad ellid eu goddef, a gwrthodwyd iddo urddau offeiriad. Dsallwyd yn bur fuan nad ellid ei gyfyngu o fewn y cloddiau canonaidd, ac mai gwell i'r eglwys fod hebddo ef, a gwell iddo yntau fod heb yr eglwys ; felly, yn mhen ychydig gyda blwyddyn, dychwel- odd yn ol at ei frodyr, a pharhaodd gyda hwy hyd ei ddiwedd.

Anfynych y cyfarfyddir â gŵr cyffelyb i Mr. Evans. Yr oedd hynodion lawer ynddo. Yr oedd yn ŵr hardd a lluniaidd ei gorff, ac o gyfarchiad tra boneddigaidd. Ar y naill law yr oedd gwedd ac ystum fawreddig arno, ac ar y llaw arall ymddangosai mor wirion a'r plentyn bach. Blinid ef yn fawr gan y pruddglwyf, hadau yr hwn oedd yn ei gyfansoddiad o'i febyd : gwreidd- iodd ynddo yn ddwfn iawn, a pharodd anghysur mawr iddo ef ei hun ac i'w deulu. Nid oedd yn fuddiol i ddim ond i ymarfer â phethau cysegredig. Gryda'r rhai hyn yr oedd golwg ardderchog arno; yr oedd yn ysgrifenydd wedi ei ddysgu i deyrnas Dduw ; ond gyda phob peth arall yr oedd anfedrusrwydd plentynaidd yn ei anghymhwyso yn llwyr i wneyd dim â hwy. Mawr berchid ef gan bob gradd. Hoff fyddai gan Arglwydd Dynevor gael gair o ym- ddyddan ag ef, a gorchymynai i'r cerbyd sefyll i'r dyben hwnw ar y ffordd. Ar ei waith yn myned heibio ar y ffordd, neu ar yr heol, safai pawb i edrych arno. Ymgadwai y meddw oddiwrth ei hoff ddiod, er mwyn cael ei wrando. Yr enwadau crefyddol oll a'u hoffent ef. Cariad a thynerwch oedd yn Uyw- odraethu ei fynwes ei hun, a hyny a dderbyniai yntau oddiwrth bawb arall.

Hawdd fyddai ysgrifenu Uawer am y gvvr hynod hwn : gellid llenwi cyfrol ymron o adgofion am dano. Y mae y chwedlau am ei hynodion yn lluosoo- iawn, a Uawer o honynt yn codi oddiar ei naws bruddglwyfus ef. Parai ei olwg hynod, ei ystumiau priodol iddo ei hun, ei syniadau pruddglwyfus, ei

484 HANESIAETH Y SIROEDü. füOSB. IV.

fympwyou plentyuaidd, yu ughyda'i ddiniweidrwydtl bawddgar, ei dduwiol- deb dwfn, a'i hyawdledd ardderohog ; parai, nieddaf, y fath gymysgedd o bethau mawr a bach, gwych a gwael, yu cydgyfarfod yu yr un un, iddo gael edrych arno yn wahanol i bawb arall. Ni fernid ef wrth yr un rheol a dyn- ion eraill. Codai ya y fynwes tuag at Mr. Evans, deimladau cymysg o dos- turi dwys, o ddigrifwch siricl, ac o warogaeth paichus, y fath ni cheid yn yr un fynwes tuag at un gwrthddrych arall. Parai y fath gyd-gyfarfyddiad o deithi mor wahanol, a hyny i raddau mor fawr, deimladau yn y werin a gyffinient ar ofergoeledd. Prin yr ystyrid ef ganddynt yn perthyn i'n byd ni, nac y dysgwylid iddo fod yn ddarostyugedig i'r im deddfau â dynion er- aill. Yr oedd ynddo gynifer o bethau i gyd-ddwyn â hwynt, gynifer o bethau i'w rhyfeddu a'u parchu, a chan ileied o bethau i'w beio, fel nad yw yn syn genym fod y fath warogaeth dwfn a chyffredinol yn cael ei roddi iddo. Ond ofer i ni ychwanegu. Yntau hefyd a fu farw ! Wedi pregethu efengyl y deyrnas gydag ardderchogrwydd, ymron digyffelyb, am ysbaid 50 ml., efe a hunodd yu yr lesu, y 6ed o Hydref, ÌS-íl, yn 68 ml. oed. Claddwyd ei weddillion wrth gapel Pentwyn, y Ue a ddewisasai ef ei hun, gyda phob ar- wyddion o alar dwys ac o barch diffuant.

LLANEDI.

Bernir fod pregethu yn y gymydogaeth hou er's can mlynedd ymrou. O fewn dwy neu dair miUdir i'r capel hwn y mae Ue a elwir y Waungron, yn mhlwyf Llandeilo-tal-y-bont, Morganwg. Yr oedd y lle hwn ju nodedig gynt fel twmpath chwareu, Ue yr ymgynuUai Uuaws mawr o ddynion, o bob oedran a graddau, ar ddyddiau gŵyl ac ar y Sabbothau. Mae hanes genym fod Howel Harris, yu ol ei arfer, wedi wynebu y dyrfa chwith hon. Safodd i fyny i bregethu iddynt, a dylynwyd ei weinidogaeth â'r fath nerth nes peri gradd o ddyryswch yn ngwersyU yr oferwyr; sjTthiodd y crwth o law y crythor, torodd ef ac eraiU aUau i wylo ac i waeddi, fel rhai wedi eu harchoUi. Cyffrodd hyn y UeiU. Ni aUent oddef i'w chwareu gael ei ddyrysu. Yu y gamp yr oedd rhai gwŷr cyfrifol yn y byd, y rhai oeddynt wedi brochi yn ddirfawr at yr ymyrwr pengi-ynaidd ag oedd fel hyn wedi peri diflasdod ar eu chwareu. Oddiar nwydau drwg, a chyda rhegfeydd arswydus, bygythient ladd y pregethwr, a phrysurai un o honynt i'w dŷ, sef Pentre Pasgedwyn, i geisio ei ddryU i'w saethu. Cyfeiriodd ei ffroen at Mr. Harris, a chynyg- iodd, fwy nag unwaith, oUwng yr ergyd aUan, ond aUan nid âi. DeaUodd Harris ei sefyUfa, a gwaeddodd yn wrol ar yr erUdiwr, i droi ffroen y dryU draw, ac yr âi yr ergyd aUan yn ddirwystr, gan ddyweyd hefyd, " Mae y Duw yr wyf fi yn ei wasanaethu yn abl fy nghadw." EeUy y bu, meddir. Aeth yr ergyd aUan wedi troi y gẃn draw.

Pe fu y bregeth hon yn foddion i ddychwelyd amryw at Dduw, ac yn eu mysg yr oedd un Heury Pugh, o Lanedi. Wedi hyn, daeth Howel Harris 1 Lanedi i bregethu, a'r Ue cyntaf iddo bregethu oedd o dan fiereu, ger Peu-

PEN. VI.] SIR GAEBFYRDDIN. 485

tre-ardd, tyddyn yn y plwyf. Ar ol hyn, bu y Parch. Peter Williams yn pregethji ar brydnawn Sabboth, mewn lle a elwir Cwra-bach, yn agos i eg- Iwys y plwyf. Yr oedd tyrfa fawr yn ei wrando, ac yntau a safai ar gareg farch yn yr awyr agored. Pan oedd wedi dechreu pregethu, daeth cŷnydd neu heliwr gŵr boneddig, Mr. Pryse, Plas-newydd, yr hwn oedd ynad hedd- wch, i'r lle ; a gwelwyd ei fod wedi ei barotoi trwy wirodydd, i'r gwaith o aflonyddu yr oedfa. Nesäodd at y gynulleidfa, gan fytheirio llwon a rheg- feydd yn erbyn y pregethwr a'i waith. Ymattaliodd Mr. Williams dros enyd, gan ofyn a oedd yno neb a allai gael gan yr aflonyddwr fyned ymaith. Aeth dau ŵr ato, un o honynt oedd Henry Pugh, gan ei attal i ddyfod yn mlaen at Mr. Williams, ond ei arwain ymaith. Galwodd y pregethwr sylw y gynulleidfa ato, ac a ddywedodd mewn modd difrifol, " Os wyf fi yn genad dros Dduw yn llefaru yma heddyw, nid fel dynion eraill y bydd y dyn yna farw." Yn mhen tua naw niwrnod ar ol hyny, fe syrthiodd yn ei feddwdod i bwll glo agored, yr hwn oedd yn ddwfn iawn, a drylliwyd ef yn arswydus !

Y mae yn amgylchiad i sylwi arno, mai yr un modd ag y dywedai John Evans, o'r Bala, am foneddwyr erlidgar sir Feiriouydd, felly y dywedir am y boneddwyr uchod, ddarfod i'w meddiannau doddi ymaith, a'u hetifeddiaethau fyned oddiwrth eu teuluoedd i estroniaid. " Diau fod Duw a farna ar y ddaear!"

Yr oedd Henry Pugh yn un o'r rhai cyntaf a ymunodd â'r Methodistiaid yn y Ue ; a gwelodd oedran mawr o 1 00 ml. Mae ei hiliogaeth yn lluosog yn yr ardal, a lluaws o honynt yn arddel enw Mab Duw. Bu Llanedi yn hir wedi yr amser uchod, sef yr araser yr ymwelodd Howel Harris gyntaf â'r ardal, cyn cael un addoldy, nid neraawr llai na 90 ml. Buwyd dros ugeiniau 0 flynyddau yn cynal moddion o i dŷ, weithiau yma, ac weithiau acw ; ac ar y dechreu, deuai cyfeillion drosodd o'r Goppa-fach, i gynorthwyo y gwein- iaid mewn cynal cyfarfodydd eglwysig, ac yn eu mysg bu Mr. Morgan, Glyn- hir, yn nodedig o íFyddlawn. Crybwyllir yn barchus am y teulu hwn, y tad, y mab, a'r ẃyr.. Rhoddodd rhagluniaeth iddynt fodd, a chynysgaeddodd gras hwynt a chalon, i wneuthur gwasanaeth mawr i achos y Cyfryngwr ya y Ue y'u gosodwyd, a'u cymwynasgarwch sydd yn aros hyd heddyw.

Wedi i'r achos fod ar y wedd ansefydlog a nodwyd am rai ugeiniau o flvn- yddoedd, arweiniodd rhagluniaeth bregethwr o'r enw John WiIIiams yma i fyw. Dechreuasai bregethu yn Meidrim, a gorphenodd ei yrfa yn Abertawe, ond bu yn aros dros ryw dymhor yn Llanedi. Yn y tymhor hwnw, cedwid y cyfarfodydd eglwysig bob wythnos yn ei ef ; ac ar ol iddo fyned i Abertawe, cedwid hwy yn nhŷ un John Prancis, yr hwn oedd henuriad, ac yn byw yn Pen-y-cryg, ao felly y safodd, hyd nes yr adeiladwyd y capel yn y fl, 1836. Cododd yma ddau bregethwr, John Pugh a Eichard Hughes, y rhai sydd yn aros hyd heddyw.

LLANGYNUEYRN.

Y cyntaf o'r Methodistiaid a fu yn pregethu yn y lle hwn hcfyd ocdd

486 HANESIAETH \ SIROEDD. [ÜOSB. IT.

Howel Harris, a hyny ar ddydd Llun y pasg, pryd yr oedd Uuaws wedi dyfod yngliyd, fel arferol y diwrnod hwnw, i ymladd ceiliogod, ac i gampio a gloddesta. Gan fod hysbysiad yn mlaen llaw fod Harris i bregethu yn y lle, daeth llawer ynghyd i'r dyben o wrando. Clybu gŵr boneddig, Mr. Gwyn, o'r Wempa, fod Harris i'w ddysgwyl i bregethu, ac yutau a benderfynodd fyned yno hefyd, nid i wrando ond i aflonyddu, ac i rwystro, nid y chwareu, ond y pregethu. A dyfod a wnaeth, ar gefn ei farch, a'i gleddyf wrth ei glun, gan fwriadu niweidio, neu oleiaf ddyclirynu y pregethwr ; ond ei ddychrynu ni allai, a'i niweidio ni chaniateid iddo. Pan ddaeth i'r fan, ac i Harris graffu arno fel yn amcanu dyfod ato, efe a alwodd ar y bobl gilio, gan agor y ffordd iddo ddyfod yn mlaen. Ond tra yr oedd yn nesu rhagddo drwy y gynuU- eidfa, rhusodd y march, fel o'r braidd y gallodd y marchog gadw ei le, a da fu ganddo, gan mor beryglus oedd ei sefyllfa, gilio, gynted y gallai o'r fan. Tn y modd yma cafodd Harris fodd i fyned rhagddo yn ddirwystr i bregethu i'r dyrfa. Ni wnaed un cais byth wedi hyn i aflonyddu nac i erlid,

Bu yr ardal hon flynyddau lawer ar ol y tro uchod heb ddim moddion cyson gan y Methodistiaid ; ond daeth ymabregethwr i fyw i'r ardal, WiUiam Jones, gynt o Gil-y-cwm, a bu ef yn foddion i gael lle i adeiladu capeh Hyn a wnaed yn y fl, 1809, ac ar y lle y bu Harris gynt yn pregethu. Ehoddodd Mr. Humphreys, Nant-y-Uan, tad y Parch. D. Humphreys, gynorthwy ma\vi' i ddwyn yr adeilad i ben. Yr oedd yma gymdeithas eglwysig wedi ei ffuríio er ys blynyddau lawer cyn hyny, yr hon a arolygid, gan mwyaf, gan frodyr a ddeuent yma o Gaerfyrddin ; trwy y rhai v sefvdlwvd yr vsgol Sabbothol vn ylle.

LLANDYBIE.

Bu pregethu yn y lle hwni yn ystod y ganrif ddiweddaf, gan y Parch. Peter Williams, a Mr. Jones, Llanmihangel ; ond esgeuluswyd y lle ar ol marw Mr. Jones am flynyddau meithion, pryd nad oedd ond ambell bregeth yn achlysurol. O'r diwedd, cafwyd Ue i bregethu yn fwy cyson ynddo, sef yn nhŷ un John Jenkins. Wedi hyny, mewn tafarndy am ysbaid tua blwyddyn. Ar ol hyn cymerwyd dan ardreth, lle y buwyd yn addoli hyd nes adeiladu capel, yr hyn a wnaed yn y fl. 1829. Nid yw y gwaith yn y lle hwn ond isel mewn cydmhariaeth, eto dywedir fod golwg mwy gobeithiol arno nag a fu, cymaint felly ag i fod yn annogaethol i lynu wrtho gyda sirioldeb.

LLANDÜAROG.

Dechreuwyd pregethu yn y gymydogaeth hon yn y Felin-fach, wedi hyny jn Mhant-y-pwU, ar gjdch ; ac ar ol hyny mewn amrywiol dai eraiU, megys Cwmhebog, Parc-y-dwyrain, a Choed-adam. Bernir mai Howel Harris a fu yma gyntaf yn pregethu, ond nid yw yr amser yn hysbys ; ac ni ddy- wedir chwaith pa fodd y dygwyd Thomas Jones, o'r Felin-fach ; Dafydd

PEN. \í.] 3IR GAERFYRDDIN. 487

Thomas, o'r Bryn-menda-isaf ; a Dafydd Siôn Hugh, o Goed-adam ; gŵyr a flaenorent fwyaf gyda'r gwaitli yn ei ddechreuad, at grefydd, Dylynwyd hwy gan wŷr cyífelyb iddynt, y rhai ydynt oll, oddieithr un neu ddau, wedi gad- ael y maes.

Adeiladwyd y capel yu y fl. 1795, ac ail-adeiladwyd ef yn y fl. ISiS, Fe gadwyd cymdeithasfa yn Llanddarog, flynyddau cyn fod yno yr un capel. Afreidiol ydyw dyweyd y byddai Eowlands, y ddau WiUiams, a'u cydoeswyr llafurus, yn ymweled yn eu tro â'r Ue hwn. Tua'r amser yr adeiladwyd y capel cyntaf, bu yma ddiwygiad grymus iawn, yr hwn a barliaodd ara ysbaid dwy flynedd. Bu nifer yr aelodau yn y lle hwn, ar adeg lled foreuol, yn 300 o rifedi, ac o'r eglwys hon y blagurodd Llangyndeyrn a Llanarthney.

NANT-GAREDIG.

Mae Methodistiaeth wedi hen wreiddio yn yr ardal hon. Yr oedd yma gapel mor foreu, meddir, a'r fl. 1758, neu o hyny hyd 1762 ; adeg pryd nad oedd neraawr gapel yn y wlad. Yr oedd yma gynghorwr, y pryd hv/nw, yn byw yn y Ue, sef Mr. Evan Richard, Glantowy, yr hwn, meddir, a fu fíydd- lawn iawn gyda'r gwaith yn ei ddydd, a thrwy yr hwn, yn benaf, y cafwyd y capel i fyny. Cyfarfu â llawer o wrthwynebiad ac anhawsder yn y gorchwyl hwn. Yr oedd adeiladu capel yn yr adeg foreu hon yn anturiaeth bwysig iawn ; adeg yr oedd nifer y crefyddwyr yn fychan, a'r rhan amlaf o honynt yn dlodion iawn. Adeg heíyd yr oedd yn anhawdd cael tir i adeiladu arno, nac arian i dahi am dano ; 'ie, yr oedd yn adeg hefyd, yr oedd Ilawer o flaen- oriaid y Methodistiaid yn teiralo gradd o wendid a phenbleth. Mynent ochel pob ysgogiad a fyddai yn argoeli ymadawiad â'r eglwys sefydledig, a deallent fod pob capel a godid yn cael ei ystyried yn gara pellach yn y cyfeiriad hwnw. Eto, capel a fynai Evau Richard yn ei ardal. Pan aeth at ryw ẃr mawr ag oedd, y pryd hwnw, yn byw yn y gymydogaeth i geisio cynorthwy, cafodd atebiad cwta iawn. " Nid oes eisiau y penboethion yn fy ardal i," ebe y gvvr boneddig, " ac os chwi a ewch yn mlaen i'w godi, minau a ddanfonaf ddynion ar hyd y nos i'w dynu i lawr."

" Syr," ebe Evan Eichard, " gwaith y diafol a fyddai hyny ; ond er eich gwaethaf chwi a'r diafol, trwy gymhorth yr Arglwydd, mi fynaf ei godi." A'i godi Iiefyd a wnaeth. Wyres i'r hen bregethwr gwrol hwn oedd un Mrs. Simpson, Glantowy, yr hon a fu fí'yddlawn a charedig i'r achos ag a wasanaethid gan ei thaid, a'r hon a fu farw yn y fl. 1842, wedi enniU iddi ei hun " air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun."

Y ddau flaenor cyntaf jra y Ue oeddynt, Siôn Hugh, llafurwr; a Daniel Lewis, y gwehydd. Mawr y son sydd hyd heddyw am y gŵr cyntaf a enwyd. Dywedir ei fod yn un o'r blaenoriaid neu ddiaconiaid hynotaf yn y sir yn ei dymhor, er nad oedd ond gweithiwr tlawd. Yr oedd ei dduwioldeb a'i fiydd- londeb didderbyn-wyneb mor nodedig nes iddo enniU dylanwad rhyfeddol, gan yr afael oedd ganddo ar gydwybodau dynion. Adroddir ei ddywediadau

4ö8 HANESIAETH Y SlKOEDi>. ["DOSlí. IV.

yii fynycli hyd heddyw, mewn cyfarfodydd misol, fel *' Gemau Detboledig." Gresyn na buasai mwy o adgofion am dano ar gael, oud y mae ei hoU gyd- oeswyr, bellach, wedi marw, ac nid oes yn aros am Siôn Hugh ond coífad- wriaeth peraroglaidd o gymeriad rhagorol, fel swyddog ífyddlon, a Christion gloyw.

Mae yn Nantgaredig gynulleidfa dda, ysgol Sabbothol flodeuog, ac eglwys gref, cymaint felly ag odid Ue gwledig arall yn y sir.

CWMAMAN (Tabfrnacl).

Dechreuwyd yr achos yn y lle hwn yn fwyaf trwy lafur William Reea, Nant-yr-afr ; Thomas Eees, Tŷ-Uwyd ; a gwraig o'r enw Mary PhiIIips (yr hon a elwid Mary Ifan Thomas Siôn), yn y fl. 1763. Yr oedd hyn tua'r amser yr oedd Methodistiaeth yn dechreu adfywio ar ol adfeiliad galarus yr ymraniad. Nid oedd y dysgyblion yn gyffredin ond plant mewn gwybodaeth, ac nid oedd eu hathrawon ond ychydig o rifedi. Teimlent, er hyny, yn an- hebgorol iddynt gynal cyfarfodydd eglwysig, er lleied oedd eu dawn a'u gwybodaeth. Yr oedd WiUiara a Thomas Rees wedi büd unwaith neu ddwy mewn cyfarfod o'r fath yn Llaiifihangel-Aberbythych, yn y fan y mae Capel- Byrach yn awr, cyfarfod a arolygid gau bregethwr o'r enw Mr. Jones.

Dechreuodd WiIIiam a Thomas ar eu gwaith trwy ymddyddan â Mary Ifan Thomas Siôn, oud deallwyd yn y fan ei bod hi yn deall mwy na'i hathrawon, a dywedodd y naill wrth y Ilall, " Cystal fyddai i iii adael Mary, gan yr ymddengys fod rhyw un gwell na ni wedi bod yn ei dysgu." Y gwir ydoedd fod y wraig hon w'edi dysgu darîlen ei Beibl er yn bleutyn, peth anghyft'redin y pryd hyuy, ac wedi profi ei awdardod hefyd cyn hyn, trwy weinidogaeth hen oífeiriad parclnis, Mr. Leigh, Llauedi, pan oetldyn pregethu yn eglwys Llandybie. Yr oedd yr amgylchiad hwn iddi hi yn un mor nodedig, ag a barai iddi ei gofio a'i gotlàu yn wastadol, a chadwai yn ei mynwes barch mawr i'r gweinidog ac i'r lle dros ei hoes.

Cedwid y cyfarfodydd bychain ac eglwysig hyn mewn gwahanol dai anedd, yn eu cylch, am tua 13 mlynedd. Y pregethwyr a ymwelai amlaf â hwynt, oeddynt Dafydd Thomas, John Dafydd, a'r Mr. Jones crybwylledig o'r blaen. Yr oedd y tri hyn o gymydogaeth Llanlluan. Tua'r fl. 1776, cytunodd yr ychydig grefyddwyr yn yr ardal, yn Fethodistiaid ac yn Annibynwyr, i godi capel rhyngddynt, gerllaw y fan y mae Bethel a Cwmaman yn sefyll yn awr ; a buont yn addoli gyda'u gilydd yn yr addoldy cyÖredinol hwn am flyn- yddoedd.

Ymddengys, pa fodd bynag, i'r Annibynwyr luosogi yn y Ile, yn fwy na'r Methodistiaid, ac ar ryw Sabboth, pan ddaeth y dywededig Mr. Jones i'r Ile, ar fedr pregethu, cafodd y capel wedi ei gloi yn ei erbyn ; ac ar ben crugyn o gerig, gerllaw y drws, y safodd y pryd hwnw i bregethu. Nid yw yr hanes sydd mewn llaw yn rhoddi dim awgrym i'r ysgrifenydd paham y

PJiN. VI.] . SIR GAEBFYRDDIN. 489

gwnaethpwyd fel hyn, ond yn unig fod nifer y naiU blaid yn Uuosocach na'r Uall.

Bu yr amgylchiad, pa fodd bynag, yn foddion i ysgar y ddwy'.blaid oddi- wrth eu gilydd ; ciliodd y Methodistiaid, bellach, ar eu penau eu hunain, ac am flynyddoedd lawer, buont yn addoli heb yr un capel ; ond yn ol eu hen aríer, pregethent o i dŷ, fel y byddai y cyfleusdra. Ai y crefyddwyr hyn i Lanlluan bob mis i gymuno, a rhai mor bell a Llangeitho, a hyny'wedi cadw noswyl nos Sadwrn, gan ddychwelyd erbyn amser gwaith boreu ddydd Llun, wedi cerdded, rhwng myned a dychwelyd, 50 o fiUdiroedd.

Wedi bod fel hyn yn gwibio o i am flynyddoedd, disgynasant yn fwy sefvdlog i yr hen frawd, Ifan Lodwick, Glyn meirch, yr hwn sydd eto yn fyw. Dangosodd y gAŶr hwn lawer o flyddlondeb gyda'r gwaith, tra y bu yr arch yn ei dŷ. Y mae ef, ynghyda'i wraig, dros 80 ml. oed, ac wedi bod yn profl^esu er ys tros 50 mlynedd.

Nid oedd yn y Ile hwn ond saith o aelodau, a hyny dros flynyddoedd ; rhaid, gan hyny, fod yma lawer o egni a fì'yddlondeb, gan i nifer mor fychan allu cynaì yr achos dros amser mor faith. Yn y fl. 1840, pa fodd byna<>-, agorwyd gwaith glo newydd yn y gymydogaeth, a pharodd hyn radd o gyftro yn y gymydogaeth, lluosogodd y trigolion mewn rhif, a bywiocaodd eu medd- yliau i anturiaeth. Daeth ar feddwl yr ychydig grefyddwyr yn yr adfyw- iad cyflPrediuoI, i ymofyn ai ni allent adeiladu capel. Ac nid hir wedi vm- ddwyn ar yr amcan, na esgorwyd ar y weithred. Capel a wnaed. Chwan- egodd y gynulleidfa, a Iluosogodd yr aelodau i 50 ac uchod. Bywiocaodd yr ysgol Sabbpthol, a rhoddwyd gwedd gynyddol a blodeuog ar yr hoU achos. Mae yma ddau bregethwr yn cyfaneddu, un yn ddyfodiad o Lanelli, a'r llall wedi codi yn yr ardal.

CYDWELY A LLaNSAINT.

Dywedir mai mewn tri Ile y bu erlid ar y Methodistiaid yn sir Gaerfyrddin sef Llangyndeyrn, Llandyfri, a Chydwely, a'r gwaethaf o'r tri oedd Cydwely. Mae y dref hon yn gorwedd tua naw milldir i'r de o Gaerfyrddin. Mae traddodiad fod Howêl Harris wedi bod yn y Ue yn pregethu, ac wedi dyoddef yn dost oddiwrth ddyhiriaid y dref, ond nid oes genym ddim adgofion man- wl am yr amgylchiad.

Yr oedd y Parch. Peter WiUiams yn cartrefu o fewn tua 4 miUdir i'r lle a naturiol ydyw meddwl ddarfod i'r gŵr hwnw, gan gymaint oedd ei sel a'i wroldeb, wneuthur cais, fwy nag unwaith, i sefydlu pregethu j^n y Ile. Aeth yno, medd yr hanes, ryw brydnawn Sabboth. Fe safai ar gareg-farch ger- llaw gŵr o'r enw John Rees ; ond nid hir y bu cyn fod haid o oferwyr yn y lle, a hawdd oedd deall eu hamcan wrth y wedd oedd arnynt. Yn eu mysg, yr oedd dau ddyn mwy nodedig na'r lleill yn eu blaenori : enw un oedd D'io Goch, a'r Ilall oedd ddyn mawr o gorflPoIaeth, a chryf ei esgeiriau. Yr oedd gyda'r ddau hyn tua dau ddwsin o ganlynwyr. Wedi i'r preo'ethwr

490 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

ddarllen pennod o'r Beibl, a phan ydoedd ar fedr myned i weddio, neidiodd y dyn mawr iddo, gan gipio y llyfr o'i law, a'i dynu i lawr oddiar y gareg- farcli. Bellach, yr oedd yn eu gafael, a chan eu bod wedi eu oymhwyso at y gorchwyl, trwy eu Uenwi â digon o ddiod gref, (ar gais oflPeiriad y plwyf, meddir,) ymosodasant amo yn ddidrugaredd, gan ei faeddu yn dost â'u ffỳn. EraiU 0 honynt a gymerasant ei geffyl, ac a'i gyrasant yn greulawn ar hyd y morfa, gan ei symbylu i neidio y ffosydd, a rhyfedd na fuasai yr anifel wedi tori ei goesau, a'r marchog wedi tori ei wddf. Wedi baeddu Mr. Williams â'u fíyn, dros ryw gymaint o amser, llusgasant ef i'r dafam, gan benderfynu ei feddwi. Gofynasar.t iddo, a yfai efe ? " Gwnaf, fel yr ych," oedd yr ateb. Estynwyd y ddiod iddo ; yntau yn ddirgelaidd a'i tywalltai, nid i'w enau, ond i'w fotasau, nes oeddynt weithian yn Uawn. Wrth weled yr amser yn myned yn mhell, ac yn ofni trais y trigolion, anfonodd ei wraig y gweision i edrych ei helynt, ac i'w gyrchu adref. Ar eu dyfodiad i Cydwely, hwy a'i cawsant ef yn garcharor gan y treisiaid yn y dafam, a thrwy eu cynorthwy hwy y cafodd ei ryddid.

Yn fuan ar ol hyn, daeth gŵr arall, â gwedd offeiriad arno, ond nid yw enw ar gael, i gynyg pregethu yn Cydwely. Safai hwn wrth y " Pelican ;" ac ymddangosai pob argoelion mai ei erlid a ga'i yntau fel y llall, oblegyd fe ymgasglodd yr erlidwyr ynghyd i'r dyben hyny, ond pan welsant arno wedd gŵr boneddig, hwy a ofnasant ac a giliasant ymaith, gan ddyweyd, " Offeiriad y brenin yvo hwn"

Llawer o waradwydd a ddyoddefai ihai o'r crefyddwyr cyutaf yn yr ardal hon, os nad peth coUed a phoen. Yr oedd yn byw yn Llansaint, plwyf ger- llaw Cydwely, hen wyryf gloff, a elwid " Cadi Siencyn," yr hon oedd yn hynod mewn duwioldeb. Hon a ddeuai yn fynych i Cydwely, pan y dy- gwyddai fod yno ryw ẃr yn pregethu ; ac o herwydd ei bod yn gloff, hi a farchogai ar gefn asyn. Un tro, pan oedd yn dyfod fel hyn, gwelai fagad o ddyhiriaid ar bont Cydwely yn ei dysgwyl, gan fwriadu gwneyd ryw sarhad neu niwaid iddi. Yn y fan y gwelodd hwy, amheuodd eu dyben, a dechreu- odd ganu :

" Pa fater sydd fod rhai'n i gyd

Yn cael pob dirmyg gan y byd ; Eu henwau da, en parch a'u bri

Sy'n nghadw yn y nefoedd íìy."

Effeithiodd ei chân gymaint ar blant y fall, fel na feiddiodd un o honynt godi llaw, nac ysgwyd tafod yn ei herbyn.

Fe ddarfu yr erlid yn fuan ar ol hyn. Un achos o'i ddarostyngiad, yn ddiau, oedd dyfodiad un Mrs. Bevan, Pengay, at y Methodistiaid. Yr oedd i'r wraig foneddig hon gryn ddylanwad yn yr ardal. Dechreuasai gyda chrefydd er yn ieuanc, o dan ymgeledd y Parch. Griffith Jones. Yr oedd ei mab, Mr. Bevan, Pengay, yn ynad heddwch, ac felly yr oedd dylanwad y teulu yn fwy fyth. Ennillwyd Miss Bevan hefyd at grefydd ; dywedir

PEK. VI.] SIB GAERFYRDDIN. 491

ei bod yn hynod raewn duwioldeb, ond iddi ymadael â'r byd hwn yn ei hieueuctyd. Dan yr amgylchiadau hyn, ni feiddiai neb aflonyddu. Parhaodd y wraig foneddig hon mewn undeb â'r Methodistiaid hyd ei marwolaeth. Wedi marw ei gŵr, ac i'r etifedd ddyfod i feddiaut o'r dref-dadaeth, hi a symudodd i dref Caerfyrddin, ac yno y bu hi farw.

Dechreuodd yr achos Methodistaidd yn Cydwely mewn undeb â'r Presbyt- eriaid, ac wedi ymadael â hwy, cawsant le i adeiladu addoldŷ iddynt eu hun- ain, ar dir a berchenogir yn awr gan Squire Bristoc. Cafwyd y tir, y pryd hyny, trwy fod goruchwyliwr y boneddwr a'i piai ar y pryd, yn dueddol a charedig aty Methodistiaid. Tua'r fl. 1784 6 y bu hyn.

Canghen o Cydwely ydyw Llansaint. Mor ddiweddar a'r fl. 1817 yr ag- orwyd y capel cyntaf yn y Ue a enwyd olaf, er fod yma bregethu flynyddau lawer cyn hyny, mewn gwahanol fanau. Dywedir mai Mr. Evans, Pentwyn, oedd yr un a bregethodd gyntaf yn yr ardal hon, a hyny pan oedd yn ieuanc iawn ; ac mai trwy ei weinidogaeth ef yr ennillwyd Mr. a Mrs. Stephens, Burtwn, a Miss Bevan, Pengay ; ac mai yn yr un oedfa y dychwelwjd gwraio- arall a fu yn ddefnyddiol gyda'r achos, sef Elizabeth Evan. Ymunodd y rhai hyn â'r eglwys yn Cydwely, ond wedi cael capel yn Llansaint, darfu iddynt hwy, ynghyd a'r Parch. David Bowen, ymgorfí'ori yn eglwys yno ar wahan oddiwrth y fam eglwys yn Cydwely.

LLANELLI A PHENBRE.

Mae Llanelli yn dief boblogaidd, ac yn borthladd y môr, ac yn cynwvs, meddir, tua 12 mil o drigolion. Y mae yn sefyll agos ar derfynau siroedd Morganawg a Chaerfyrddin, ac yn Uawn o weithfaoedd Glo a Haiarn. Yr oedd achos gan y Bedyddwyr, yn y Eelin-foel, ger Llanelli, cyn i Feth- odistiaeth roddi ei droed i !awr yma. Yr achlysur, meddir, i ddwyn Meth- odistiaeth yma oedd, i ddau, neu ychwaneg, o aelodau gyda'r Bedyddwyr, lyned ar ol yr oedfa boreu Sabboth, heb aros y cymundeb, i'r Goppa-fach, lle yr oedd pregethu gan y Methodistiaid ynddo, tua naw milldir o fi"ordd, i wrando Mr. Jones, Llangan. Am yr afreolaeth hwn fe'u galwyd i gyfrif, yr hyn a achlysurodd eu hymadawiad â'r eglwys yn y Felin-foel. 0 hyn allan, ymunasant gyda'r Methodistiaid yn y Goppa-fach. Enw un oedd Walter Bowen, dilledydd a masnachydd cyfrifol, (tad i'r diweddar Barch. John Bowen, Llanelli) ; ac enw y llall oedd Henry Eees, Tyddynwr, y ddau o Lanelli. Teithiasant i'r Goppa-fach am gryn amser, ond o herwydd pell- der y fí'ordd yno, ymgyfarfyddent weithiau yn nhŷ hen ferch weddw yn y dref, o'r enw Martha, yr hon oedd aelod gyda'r Bedyddwyr, ac yn ddynes dduwiol iawn. Byddent hwy, yii nghydag amryw o'r Bedyddwyr, yn cyfar- fod yno i gynal Society brofiad, a chyfarfodydd gweddio. Dynodid yr ym- gynulliad hwn wrth yr enw, " Societt/ Martha;" a llawer gwledd hyfryd, meddir, a gafwyd yno.

492 HANESIAETH Y SIEOEDD. [dOSB. IV.

Eto ni adawai tafod yr enllibiwr lonydd iddynt, ond Uedaenid yn ddystaw chwedlau tra difrîol am ddybenion y cyfarfodydd ; ac er mwyn proô y gwrth- wyneb, arferai y gwŷr gymeryd un neu ddau o'u plant gyda hwy i'r cyfarfod- ydd, modd y gellid " gan y gwirion gael y gwir."

Modd byuag, yr oedd ' Society Martha ' yn ennill tir mewn rhifedi ac mewn dv1anwad, fel y penderfynodd y ddau ŵr uchod ardrethu bychan yn y dref, o'r enw Gellyon. Yn y lle hwn y dechreuwyd pregethu, tua'r fl. 1786. Wedi cael hyu o loches, arferid pregethu mewn manau eraill yn nghyffiniau y dref ; megys yn Penbedw, fl"ermdŷ ar fiFordd Cydweli ; pregethid yn aml hefyd yn Penbre, sef yn ysgubor Wales, yn y Cwrt, Gwrath, Melin- achddu, a lleoedd eraiU yn y gymydogaeth hòno.

Cafwyd cynorthwy mawr i'r achos ar ol ei sefydlu yn Gellyon, gan un Mrs. Bowen, o Poreb, plwyf Penbre. Cyfranai yn haelionus tuag at gynal y weinidogaeth, a theithiai lawer ar gefn ei chefiyl gwýn i ymofyn cyhoedd- iadau. Bu rai troion gan belied a'r Bala. Ennillodd y cymeriad o fod yn wraig rinweddol a duwiol iawn. Bu Mr. Morgan, Glynhir, un o flaenoriaid vr eglwys yn y Goppa-fach, o gynorthwy mawr yn sefydliad yr achos yn Gellyon, trwy ddyfod i gynal cyfarfodydd eglwysig, a chymeryd rhan yn yr oedfaon cyhoeddus. Ymwelai y Parch. Hopkin Bevan, yr hwn oedd yn byw gerllaw y Goppa-fach yn lled gyson â Llanelli, ac â Phenbre, a bu ei wasan- aeth o ddefnydd mawr i'r gwaith. Yr oedd y crefyddwyr, yn ystod yr am- ser y buont yn cyfarfod yn Gellyon, yn cael rhai oedfaon rhyfeddol ; a rhoddid iddynt, ar rai achlysuron, y fath hwyl a mwynhad fel na allent ymadael hyd y boreu. Ond er i"r achos Iwyddo llawer yn Gellyon, eto nid oedd swper yr Arglwydd yn cael ei weinyddu yno. Rhaid oedd myned i'r Goppa-fach, neu gapel Llanlluan, i'r cymundeb ; ond o'r diwedd, fe Iwyddwyd i gael hyny i Gellyon, a Mr. Davies, Cynwyl, a fu yn gweini gyntaf. Yn y lle hwn y sefydlwyd yr ysgol Sabbothol gyntaf yn Llanelli. Ar ei chychwyniad, nid oedd cymaint ag un yn gyfarwydd ar y wyddor Gymreig, ond yr oedd yma ryw ddyn o sir Aberteifi, wedi dyfod i weithio i'r lle, fel y mynai rhag- luniaeth ; hwn a ddysgodd y wyddor i amryw eraill. Bu ymweliad Mr. Charles o'r Bala â'r lle hefyd yn foddion i ddwyn yr ysgol i fwy o sylw.

Aeth Gellyon yn rhy fychan yn fiian ar ol sefydlu yr ysgol Sabbothol, a phenderfyn^n'd adeiladu capel ychydig uwchlaw y dref, yny fan y maey capel presenol amo. Hwn a "wnaed yn y tl. 1809 adgyweiriwyd ef drachefn yn y fl. 1821. Parhaodd yr achos i Iwyddo, a'r gynulleidfa i luosogi, fel y bu raid ymofyn am le helaethach. Tynwy^d y capel i lawr, ac adeUadwyd un arall llawer mwy, ji' hwn a gostiodd tuag £1600. Casglwyd ar ddydd ei agoriad, £400. Gwnaed hyn yn y fl. 1840. Mae y Gymdeithas eglwysig yn awr dros 300 o rifedi, a deiliaid yr ysgol Sabbothol dros 400. Wele, faint o ddefnydd y mae ychydig dân yn ei enyn ! * Society Martha ' a esgorodd ar hyn oU !

Dau bregethwr a gododd yn y gymdeithas eglwysig hon, sef y Parch. John Bowen, a Mr. Abel Jones. Mae yr olaf o'r ddau wedi ymfudo i'r America, a'r cyntaf wedi gadael y ddaear yu Awst, 1852. Treuliodd Mr. Bowen ei

PEN. VI.] SIU GAEUFYUDDIN. 493

oes yn yr eglwys bon. Arferai ddiwydrwydd a gofal mawr am yr acbos yn ei holl ranau. Yr oedd iddo barch mawr yn yr eglwys ac yn y dref yn gyffredinol. Nid Uawer a allodd ef deitbio oddicartref, o herwydd ei amgylcbiadau, ond fe fu yn dra ffyddlawn a derbyuiol o fewn ei gylch Sab- bothol.* Mae ymneillduwyr yn Uuosog iawn yn Llanelli, a cbynuUeidfaoedd cryfion gan yr Annibynwyr, y Bedyddwyr, a'r Wesleyaid. Mae gan y Metbod- istiaid befyd ganghen ysgol wedi ei sefydlu yn y fl. 18.^0, mewn Ue a elwiry Ffwrnes, tua milldir o'r di-ef, Ue y mae tua 100 o rifedi yn derbyn addysg.

PENBRE.

Canghen wedi tarddu o Lanelli yw yr achos yn y lle hwn. Dechreuwyd ef tua'r fl. 1800, yn yr Ysgubor-wen, dan olygiad diaconiaid Llanelli, Henry Jones, y gof, a Harri Eees. Buwyd dros dymhor yn pregethu yn nhai y gwŷr a flaenorent yr achos, yn enwedig yn nbŷ un David Roger. Dylasid dyweyd fod pregethu wedi bod yn y gymydogaeth yn llawer cynaracb na'r amser crybwylledig, gan "Williams, Pant-y-eelyn ; Peter Williams ; a Jones, Llangan, ac eraill, mewn ffermdy o'r enw y Cwrt ; a thros ysbaid maith o amser, âi y crefyddwyr i Lanelli i'r cwrdd eglwysig, er fod tua pbum' milldir o ffordd. Adeiladwyd yma gapel yn 1812, yr bwn a ailadeiladwyd tua'r fl. 1850. Mae y Ue addoliad yn adeilad hardd ac eang, a cbynuUeidfa luosog yn gwrando. Ni fu yma ddim erlid ar grefydd uu amser, na diwygiad nerthol ; ond cynydd grac'dol a pharhaus. Mae yma ddau bregethwr yn byw yn y lle, David Wales, a David Roger.

Yr ydym, bellach, wedi dyhysbyddu ein defnyddiau am eglwysi y wlad hon. Ymwybodol ydym, ar yr un pryd, fod yma luaws o gangbeuau mwy neu lai blodeuog, heb un crybwylliad am danynt. Gwyddom hefyd fod llawer o bersonau, pregethwyr ac eraiU, wedi dianc beb eu coffâu, dynion a fu mor ftyddlawn yn eu tymbor a neb o'r rbai a grybwyllwyd. Dymunir rhoddi ar ddeall i'r darllenydd mai nid ar ddewisiad yr ysgrifenydd yr oedd hyn yn gorwedd ; ond ei fod wedi ei achosi, naill o ddiffyg hysbysiad, neu o ddiffyg gofod. Mewn hanesiaeth cyffredinol o'r fatb hwn, ni ellir dysgwyl gymaint a chrybwylliad am bob lle, neu am bob brawd neu cbwaer ; nac yn wir, am neb na dim, ond a fyddai yn darawiadol i'r darllenydd, neu yn angenrbeidiol i osod allan ansawdd gyffredinol Methodistiaeth yn mhlith eiu hynafiaid.

Mae y sir y buom yn awr yn ei holrhain yn un o'r siroedd amlaf ei phreg- ethwyr a'i haddoldai yn y debeudir. Dechreuodd Methodistiaetb flaguro ynddi mor gynar ag un dosbartb o'r dywysogaeth. Gosododd bardd Pant- y-celyn, ac Awdwr " Y Beibl Teuluaidd," a'r Parch. Davies, Cynwyl, enwog- rwydd arni yn y wedd gyntefig a fu ar Pethodistiaeth. Casglai lluaws mawr

* Mae yma ddau bregethwT eto yn byw, y Parch. William Morris, a Mr. John Roberts.

494 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB, IV.

0 grefyddwyr iddi, pan y cynelid y cynulliad mawr misol yn Llanlluan. Coronid hi yn y dyddiau boreuol hyny â gweinidogaeth ardderchog Lloyd, Henllan ; John Evans, Cil-y-cwm ; a George Grif&ths, Clos-y-graig. Cafodd yr anrhydedd fawr o gynyrchu yr anfarwol Charles, o'r Bala, a'i frawd o Gaerfyrddin. Mae enwogrwydd hefyd arni yn gysylltiedig ag enwau Dafydd Eees, Llanfynydd ; Arthur Evans, o Gynwyl ; a Dafydd Evans, Llanwinio. Yn ei ífurfafen hi y ty wynodd yr hynod John Evans, New-Inn ; coífa yr hwn a bery dros oesoedd lawer ; ac yu mysg ei henwogion hi y mae enwau Thomas Jones, Caerfyrddin; a Eichard Davies, Llansadwrn. " Mewn ffydd y bu farw y rhai hyn oU, heb dderbyn cwblhad o'r addewidion, ond o bell eu gweled hwynt," ond yn awr y maent eisoes wedi cyrhaedd eu Tad, a chwmni eut Brawd, " ac eto yn dysgwyl y mabwysiad, sef prynedigaeth y corff."

Nid ydym yn cael fod y neillduad a fu ar rai pregethwyr Ueygaidd yn y fl. 1811, wedi effeithio morniweidiol ar y sir hon, ag a wnaeth ar sir Benfro. Yr unig glerigwyr Methodistaidd o'i mewn, ar y pryd, oeddynt mab y bardd o Bant-y-celyn, y Parch. John Williams, ac oddiwrtho ef ni chaed un gwrth- wynebiad, a'r Parch. Davies, Cynwyl, yr hwn a ymadawodd. Nid oedd Uywyddiad yr achos, gan hyny, yn nwylaw offeiriaid, yn y wlad, a dygwyd y cyfnewidiad oddiamgylch heb nemawr gwrthwynebiad, o leiaf oddiwrth y rhai a dybid yn golofnau yn mhlith y brodyr. Ar yr un pryd, fe ymddangosodd gradd o anfoddlonrwydd i'r cyfnewidiad, yn enwedigol yn mysg rhyw ddos- barth. Ysgrifena un gẃr parchus, yr hwn oedd ar y maes y tymhor hwnw, mewn sylwedd fel hyn : " Am y neillduad yu 1811, gellir dyweyd fod yr hen bobl henaf, gan mwyaf, yn lled aufoddlawn. Yr oeddynt ya tybied yn hollol, nid oddiar argyhoeddiad barn, ond oddiar ddygiad i fyny, fod yn rhaid cael urddiad esgobawl cyn bod yn addas i weinyddu y sacramentau. Yr oedd rhai yn barnu mai yr unig obaith i fyned a'r gwaith yn mlaen oedd dy- fodiad offeiriaid allan o'r eglwys sefydledig at y Methodistiaid, o bryd i bryd, fel y byddai yr angen yn galw ; ac o ddiffyg hyn, y byddai raid i'r gwaith ddyrysu. Ar yr un pryd, dywedent yn hyderus, y gofalai yr Arglwydd am anfon y cyfryw weinidogion yn ol y byddai yr angen, yr un modd ag y mae yn arfer gwneyd bob amser â'i bobl. Nid oes dim o eisiau y fatb gyfnewidiad yn awr ; y mae lluaws o offeiriaid genym ar y maes, megys J. Williams, Pant-y-celyn ; Williams, Lledrod ; Davies, o Gynwyl ; a Howels, Trehill ; bydd yn ddigon buan i son am neillduo eraill, pan y byddo y rhai hyn wedi meirw."

Eel hyu, tybygid, y llefarai rhai yn y sir hon ; " Ond," meddai yr un gohebydd, "yr oedd dosbarth arall yn y sir hon, yn deall 'arwyddionyr amserau' yn well na'r dosbarth cyntaf, er eu bod yn hen bobl. Yn yr anghydwelediad yma, addefir yn gyffredinol, mai y Parch. Thomas Charles, o'r Bala, a f u y prif offeryn i dori y ddadl. Yr oedd pob dosbarth o bobl, hen ac ieuainc, yn llochi parch mawr iddo ef, fel gŵr dysgedig, duwiol, a defnyddiol dros ben ; a phan y rhoes ef ei ddylanwad o blaid y neillduad, nid oedd ond ychydig ar gael a safai yn erbyn. Heblaw hyny, yr oedd ei frawd.

PEN. I-l SIR FON. •Ì95

Mr. David Charles, yn sefyll yn uchel yn meddyliau y bobl gallaf yn y sir ; a chan fod prif arweinwyr y fyddin oll yn gogwyddo yr un íFordd, ni phrofwyd anhawsder mawr, yn y wlad hou, i ddwyn yr ysgogiad yn mlaen, a hyny heb rwygo gyraaint ag un eglwys, na choUi nemawr o aelodau cyiîredin.

Mae yn y sir hon yn awr tua 70 o addoldai, ac amryw o honynt yn fawrion a chostus, a'r rhan fwyaf o honynt yn dai da a chyfleus. Mae tua 50 o weinid- ogion a phregethwyr mewn undeb â'r cwrdd misol, a thros 200 o ddiaconiaid. Mae yr aelodau sydd raewn cymTindeb rhwng pump a chwech mil, a deiliaid yr ysgol Sabbothol rhwng saith ac wyth mil. Cwynir, er hyn oL, fod cryn farweidd-dra yn gorwedd ar luaws o'r eglwysi, a theimla y gwylwyr yn bryd- erus, rhag i'r gogoniant a'r amddiífyn gilio. Nid oes adfywiad o'r fath a gafwvd gynt, wedi ei brofi er ys blynyddoedd ; nid oes y cyífelyb awch ar y weinidogaeth ag a welwyd gynt ; ni phrofir chwaith argyhoeddiadau ^mor ddyfnion, na gwleddoedd mor felusion. Barna Ilawer nad yw y swyddogion eglwysig ddim mor gwbl ymroddgar ag a fu eu henafiaid ; y cwbl yn galw ara brofion helaethach o bresenoldeb Duw.

PRIF LINELLAU HANESIAETH SIR FON.

PENNOD I. EGLWYSI BOEEAF Y EHAN OELLEWINOL O'E YNYS.

CYNWTSI4D :

AGWEDD Y WLAD— TEULU THOMAS PRITCHARD, TY-GWYX— PETER WILLIAMS YN Y WLAD— MEIBION THOJIAS PRITCHARD— EVAN GRIFFITH, CHWAEN-HEN— GLAN- Y-GORS— ERLID YN CHWAEN-HEN— LLANRHYDDLAD— ADEILADU Y CAPEL CEMMAES SYMUD O'R TY-DU I YSTORDY— ADEILADU CAPEL LLANFECHELL ERLID GWYRDYEITHR YNO— MR. BULKELEY, O'R BRYNDDU— PETER WILLIAMS— ERLIDIGAETH ARALL— BETHLEHEM, NEU Y GAREG-LEFN.

NiD oes nemawr wlad yn Nghymru ag y mae Methodistiaeth wedi ei medd- iannu mor llwyr a gwlad Môn. Pan aeth William Pritchard drosodd yno i breswylio, nid oedd ynddi gymaint ag un adnabyddus iddo ef, na neb arall, yn ymneillduwr. Yr oedd yr holl wlad o un meddwl am grefydd, heb neb yn gwahaniaethu oddiwrth eu gilydd, a hyny oblegid nad oedd neb yn gofalu am y pethau hyn ; am fod pawb yn ymddifad o grefydd y Beibl, nac yn ym- ofyn am dani. Yr oedd " gair Duw yn werthfawr yn y dyddiau hyny, ac nid oedd weledigaeth eglur ; " ac yr oedd athrawon y bobl yn peri iddynt gyf- eiliorni.* Yr oedd tangnefedd a diddigrwydd y fath ag sydd rhwng pres- wylwyr gwlad marwolaeth, rhwng deiliaid gwlad Môn â'u gilydd, yn nghylch pethau crefydd, ar ddechreuad y ganrif ddiweddaf. lë, nid oedd gwyll

•^Gwel Cyf. L, tudal. 104.

496 HANESIAIÍTII Y SIRÜEÜD. fDOSB. IV.

gwawr prin wedi tori yn ysbaid y 40 ml. cyntaf o'r ganrif hòno. Eto, yr oedd y lefain grasol wedi dechreu ymweithio yn nheulu Thoraas Pritchard, o'r Tŷ-gwyn, ger Llangefni, mor foreu a'r fl. 1730 , ond nid oes genym hanes ani ddim cyffro cyffelylj yn un man arall, na bod neb yn ceisio Duw ond y teulu crybwylledig, hyd nes daeth WiUiam Pritchard i fyw i Blas Pen-raynydd ; ac yn y fl. 1742 y bu hyny. Yn y fl. 1743, yr ymwelodd Lewis Pees â'r wlad, a'r flwyddyn ganlynol y daeth Benjamin Thomas, yr hwn a bregethodd yn Minö'ordd, y a gofrestrwyd gyntaf erioed gan ymneiUduwyr Môn i breg- ethu ynddo. Safai y hwn ar fin y fí'ordd i Langefni o'r Borth, a cherllaw y lle y saif y cnpel a elwir "Gilead" yn awr,

Ond o'r dechreuad bychan hwn y cododd bethau mawi-ion. Cynyddodd Methodistiaeth yn raddol o hyny hyd yn awr, a hyny, am yr hanner canrif cyntaf, yn ngwaethaf gwrthwynebiad o'r fath flyrnicaf. Yr oedd rhagfarn y werin, drwg-dybiaeth y boneddwyr, a gorthrwm y clerigwyr yn cyd-haeru yn groch na chai y newyddbeth hwn wreiddio yn y tir. Ond pa beth a welwn ni yn awr ? Wele y werin ymron oU wedi eu hennill, a'r boneddwyr gan amlaf yu bleidgar ! Gan y Methodistiaid eu hunain y maè 80 o gapelau ac ysgoldai yn yr ynys, ac nid yw yr ynys ond bechan Mae eu gweinidogion a'u pregethwyr yn 40 o mfedi, eu henuriaid yn 15 5, a'u haelodau cyflawn yu terfynu ar 7000. Mae gan enwadau eraill luaws mawr o dai addoliad yn y wlad hefyd, ond nid yw y cyfanswm wrth law gan yr ysgrifenydd ; ac yn awr gellir dyweyd fod y wlad ag oedd ychydig gyda chau' mlynedd yn ol heb gyraaint ag un ymneillduwr ynddi, yn awr yn llwyr, ymron, yn eu medd- iant ; a mwy na hyny, gellir sicrhau fod y wlad, ag oedd, ar y tymhor cry- bwylledig, ymron yn gwbl ymddifad o wybodaeth efi'eithiol o'r ysgrythyrau, yn awr yn sefyll mor uchel yn yr ystyr hyny, ag un wlad arall yn Nghymru, os nad yn y byd !

Gan ein bod eisoes wedi ceisio olrhain gradd ar gychwyniad Methodistiaeth yn ]\Iün, afreidiol ydyw ychwanegu, ond cyfeirio y darllenydd at y dosbarth hwnw o'r gwaith,* amyned rhagom i osod ger bron, i'r graddau y cyrhaedd ein defnyddiau, y modd a'r duU yr aeth y gwaith yn mlaen.

Ar y dechreu, nid oedd nemawr o bregethu sefydlog mewn un man, oddi- eithr mewn ambell i anedd-dŷ, Ile y preswyliai rhyw un caredig at yr efengyl ; ac yn yr ysgogiad cyntaf, sef tua'r fl. 1742, a chyn hyny, nid oedd neb o'r cyfryw i'w cael, ond William Pritchard, Plas Penmynydd, a meibion Thomas Pritchard, o'r Tŷ-gwyn. Yu foreu hefyd, a thrwy ymddyddanion Harri Thomas, un o'r meibion uchod, enniUwyd William Thomas Owain, o'r Fag- wyr, i'r un syniadau. Nid oedd gan y pregethwyr cyntaf a anturiasant i'r wlad, ond anturio pregethu yn rhyw le y caeut bobl i'w gwrando, neu yn nhai yr ychydig grefyddwyr ag oedd yn y wlad. Dyiy y Parch. Peter Williams ddesgrifiad cywir o'r wedd oedd ar bregethu teithiol y pryd hwnw, ac o'r anhawsderau a gyfarfyddid â hwynt. " Oddiyno," meddai (sef o Leyn),

*Cvf. I., tudal, 104—108.

PEN. I.] SIR FON. 497

" aethum i sir Fôn, wedi cael hanes pregethwr o swydd Arfon, yr hwn a aethai i'r wlad hòno ; ymholais, a chefais ei fod yn dywedyd yn erchyll am ŵyr Môn, a'r cynlluniau ofnadwy oedd ganddynt yn erbyn pregethwyr teithiol, a'r rhai a fyddent yn eu canlyu ; * * * * Pa fodd bynag,

anturiais bregethu ar liyd y hryniau, yma ac acto, lle hynag y gallîcn gael pmip neu chwecît o iorandawyr yn gynulledig ." * Yr oedd hyn yn y fl, 1746 ; ac fclly yr oedd chwe' blynedd wedi myned heibio er pan fu pregethwr ym-

neillduol gyntaf yn y wLid ; sef y pregethwr a amddififynwyd gan Lewis,

Ysw., Llysdulas ; a W. Bulkeley, Ysw,, Bryndu, Ond er maint oedd cyn- ddaredd y bobl yn erbyn y rhai a alwent yn ben-gryniaid, yr oedd ambell yn agored i'w derbyn. Yr oedd tai meibion Thomas Pritchard felly ; un yn Trefollwyn, y llall yn BiclcJi-y-fen, a'r trydydd yn Mlien-yr-allt, Hen- eglwys,

Derbyniodd WiUiam Thomas Owen, o'r Fagwyr, eu câr, bregethu i'w yntau ; ac wedi iddo symud i'r Tŷ-mawr, Llantrisant, gwnaethai yr un modd pe goddefasid iddo gan ei feistr tir. Cyn dyddiau y gwŷr hyn, yr oedd yr holl wlad yn eistedd yu mro a chysgod angau,

" Pobl gryíìoii o un grefydd,

Yn dàl yn glòs i gadw eglwysydd ; "

"cyffelyb bobl ac offeiriaid," wedi eu llwyr feddiannu gan anwybodaeth, ac ofergoeledd ; ac yn dal i fyny yn dra egniol, arferion llygredig yr oes.

Wedi cau y Tŷ-mawr rhag derbyn pregethu iddo, agorwyd drws y ffermdy oedd yn terfynu arno, sef y Clmaen-hen. Yn y lle olaf liwn yr oedd un Evan Griffiths yn byw. Gŵr tal a grymus o.gorffolaeth ydoedd, Pan yn ŵr ieuanc, cyfrifid ef gailuocaf o gorff o neb o'i gydnabod. Cytunodd unwaith i flaenori haid o ddyhirwyr, i wneuthur ymgyrch ar gynuUeidfa fechan a fyddai yn arfer ymgasglu at eu gilydd i addoli mewn yn y gymydogaeth, Ymbar- otodd yn mlaen llaw at ei orchwyl, trwy lenwi ei logell â cherig, mewn llawn fwriad o'u Uuehio at y pregethwr. Eithr wedi dyfod i'r lle, a gwrando enyd ar y gwirioneddau a draethid, daliwyd ei feddwl yn gaeth ganddynt yn y fan, diryrawyd ef fel na allai gyflawni ei amcan, ac mewn cywilydd fe ollyngodd y cerig i lawr gyda'i ochr ; ac er dirfawr syndod i'w hen gymdeithion, efe a giliodd yn ddiddichell i blith yr ychydig grefyddwyr yn y lle, gan fwrw ei goelbren yn eu plith o hyny allan. Ac nid hyn oedd y cwbl, ond efe a agorodd ei i ddeibyn pregethu iddo, ac a agorodd ei enau hefyd i draethu yr efengyl i'w gydwladwyr. Hwn oedd y pregethwr y soniasom am dano o'r blaen,f yr hwu oedd yn ŵr call ac arafaidd, ac yn bregethwr da a buddiol.

Cafwyd yr hanes uchod drwy un WiUiam Thomas, Glan-y-gors, mab yr hwn sydd yn awr yn fyw, a thros 80 ml. oed. Yr oedd gŵr Glan-y-gors yn gyd- oeswr ag Evan Griffith, ac yn dra chydnabyddus ag ef. Yr oedd Glan-y- gors yn un o'r tai y derbynid pregethu iddynt yn achlysurol, ac oblegid

Cyf. I., tudal. 117, f Cvf. 1. tiidal, 112, 113.

2 H "

498 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IT

hyny, bu gorfod ar y tyddynwr ymadael, a hyny er dirfawr goUed iddo, gan ei fod ddwy flynedd cyn liyny wedi adeiladu tŷ, a thai i'r anifeiliaid, ar y tyddyn, ar ei draul ei hun. Hyn a wnaethai, o herwydd addawyd iddo gael aros yn y Ue, y Ue y V)uasai ei henafiaid er ys oesoedd.

Un tro, yr oedd rhyw un yn pregethu yn Chwaen-hen, allan yn yr awyr ag- ored, pryd y daeth yno haid o aflonyddwyr, ar fedr dyrysu yr oedfa trwy ddyn- warediad diystyrllyd o honi. Yr oedd ganddynt un yn gweithredu yn rhith pregethwr, wedi ei ddyrchafu goruwch y bobl, ar ryw fan a barotoisid i hyny. Yr oedd ganddo o'i flaen i ddynwared Beibl, ystrodur a'i gefn i lawr ; a phan y cymerai y pregethwr ei destyn, gan ddynodi y Uyfr, y bennod, a'r adnod, y gwatwarwr hefyd a wnai yr un modd, gan ddyweyd, " Y lOfed bennod o'r Penau llydnod, a'r Bed adnod o Ganol y gors," ac yna âi rhagddo i faldorddi unrhyw druth a ddeuai gyntaf ar ei dafod, a thrwy hyny beri difyrwch i'w blaid ei hun, a gosod gwarth ar y blaid arall. Wedi darfod y bregeth, rhodd- wyd allan y byddai y pregethwr yn cadw oedfa drachefn am ddau o'r gloch, mewn man arall. Y gwatwarwr, hefyd, a gyhoeddodd y byddai yntau yn pregethu yn yr un man, ac ar yr un awr. Bellach, chwalodd y ddwy gynull- eidfa, ac aeth pawb i'w ífordd ; y gwatwarwyr yn ymogoneddu yn y gwaith a wnaethent y boreu, ac wedi gosod eu bryd ar wneuthur yn gyffelyb y prydnawn.

Pan ddaeth yr amser i gychwyn at eu gwaith rhyfygus yn y prydnawn, anfonwyd gŵr o'u mysg i gyrchu ceft'yl i'r hwn oedd i sefyll fel pregethwr. i stabl y Chwaen-wen, tyddyn-dŷ arall yn y gymydogaeth. Pa fodd bynag, ni ddychwelodd y genad o fewn yr amser y dysgwyliasid iddo, ac anfonwyd un arall ar ei ol. Erbyn i hwn gyrhaedd y stabl, efe a ganfu ei gydymaith yn ymdreiglo ar y llawr mewn cynddaredd o ofid, ac heb allu llefaru un gair wrth neb. Yr oedd yr oruchwyliaeth hou mor sydyn a dyeithr, ac wedi disgyn ar y dyn dan amgylchiadau mor anfad ac ysgeler, nes y disgynodd ar- swyd cyffredinol ar ei holl gymdeithion, a dybenodd y cellwair mewn gofid a chywilydd. Buan y troes y chwareu iddyut yn chwerw iawn.

Yr ydym yn barnu mai effaith y pregethu yn y Chwaen-hen ydoedd y gynuUeidfa a ymsefydlodd bob yn ychydig yn y lle a'r addoldy a elwir yn awr, Tỳ'n-y-maen, fel y ceir dangos eto ymlaen.

LLANRHUDDLAD.

Ymddengys ddarfod i wraig weddw o'r enw Catherine Morris, yn nghyda'i mab, Morris Edward, agoryd eu drws i dderbyn pregethu yn yr ardal hon. Enw y tyddyn oedd y Gareg-gam. Dywedir fod pregethu mor foreu a'r fl. 1748 yn y Gareg-gam, ac ddarfod i'r mab gadw drws ei yn agored i'r efengyl, ar ol marwolaeth ei fam, îe, hyd oni adeiladwyd y capel cyntaf yn Llanrhuddlad. Yr oedd y lle hwn yn un o'r tri Ue a ffurfient y daith Sabbothol yn y rhan yma o'r wlad. Y ddau le arall oeddynt y Chwaen-hen yn y de, a'r Tŷ-du, rhwng Cemmaes ac Amlwch, yn y gogledd.

PEN I.] siR roN, 499

Wedi bod yn ymgyfarfod ysbaid 25 ml., ueu ychwaneg, yu y Gareg-gam, daeth awydd ar y crefyddwyr yn yr ardal i adeiladu capel. Cawsant lain o dir i'r dyben hwnw, gan William Prichard, Clwchdernog, dan ammod-rwym, yn y íl. 1772 ; ac adeiladwyd ef, nid i'r Methodistiaid yn unig, ond hefyd i'r Annibynwyr a'r Bedyddwyr yn gystal. Yr oedd enwau tri o ddynion ar drawst yr hen gapel, sef y tri wŷr a flaenorent gyda'r tri enwad ar y pryd. Y gwŷr oeddynt, William Pritchard, Clwchdernog, dros yr Annibynwyr ; WiUiam Eoberts, Bodhedd, dros y Bedyddwyr ; a Morris Edward, dros y Methodistiaid.

Daeth haues am y lle hwn i law yn gwahaniaethu ychydig oddiwrth yr un uchod, a theg, tybygid, ydyw gosod y ddau hanes o flaeu y darllenydd : Sylwedd yr olaf yw hyu :

" Cafodd Morris a Siân Edward, o'r Gareg-gam, flas ar yr efengyl trwy wrando ar Howel Harris, pan yn y wlad. Mewn canlyniad, hwy gawsant addewid gan y gŵr hynod hwnw ddyfod i bregethu i'w hwythau. Wedi rhoddi y gair ar led, daeth nifer fechan yn nghyd, ac yn eu mysg yr oedd Evan Thomas, yr hen feddyg-esgyrn, yr hwn oedd yn by w ar y pryd yn Maes- y-brethyn-brych, Llanfair-yn-Nghornwy ; Richard Thomas, Tŷ-wian ; Thomas PhiUips, Pen-yr-orsedd ; a Eisiart Parry, Llanfflewyn. Ymddengys fod y gwŷr hyn wedi eu dal yn y rhwyd ar y pryd, a rhoisant brawf o wirionedd eu dychweliad trwy barhau yn íFyddlawn hyd angau.

Sefydlwyd cymdeithas eglwysig yn y lle ; ac yn mhen rhyw amser, aeth y bach,y Gareg-gam, yn rhy fychan i'r gynulleidfa ; ac yn yr uu adeg daeth gŵr ag oedd yn byw yn y tyddyn y mae capel Llanrhuddlad arno, i'r gymdeithas eglwysig. Yr oedd y gŵr hwn yn eangach na'r Gareg-gam ; yno, gan hyny, y symudwyd. Cynyddodd y gymdeithas nes aeth y hwnw hefyd yn rhy fychan, yr hyn a barodd gryn benbleth iddynt, pa le a pha fodd y caent le helaethach. Daeth i'w meddwl, pa fodd bynag, i fyned at y meistr tir, sef Mr. Lloyd, Bwlch-y-fen, i ofyn y gymwynas ganddo ef. Yntau, yn wahauol i lawer yn ei oes, a ganiataodd iddynt eu cais ar ysgrif-rwym. Eelly ymosod- asant ar y gwaith o adeiladu, Gyda'u bod yn cychwyn y gwaith, Iledaenodd y son fod y penau-cryniaid yn codi capel ; a chan fod y lluaws yn y wlad yn tybied mai dyhiriaid peryglus i wlad ac eglwys oedd y crefyddwyr dyeithr hyn, cododd cryn gyffro yn yr achos, yn enwedigol yn mysg y boneddigion. I'r dyben i gael ymgynghoriad â'u gilydd, gan hyny, galwyd cyfarfod o'r mawrion, dan rith gwledd, i balas uu o houynt, sef y Gareg-Iwyd, yr hwn oedd 0 fewn tair miUdir i'r capel. Wedi gosod y mater gerbron, gan fod y mwyafrif o'r cwmni o'r un meddwl, buan y pasiwyd penderfyniad i chwalu hyd lawr yr adeilad oedd wedi ei ddechreu. Ar hyn cododd hen beriglor Llanrhuddlad i fyny, a dywedodd, 'Wŷr boneddigion, edrychwch beth a wnewch yn yr achos hwn ; os o ddynion y mae, fe ddaw i'r dim, ond os o Dduw, ofer fydd eich gwaith, ac fe'ch ceir chwithau yn ymladd yn erbyn Duw.'

Ar hyc, disgynodd math o ddychryn ar y cwmni oll, ac ni fu grym yn neb

500 HANESIAETH Y 8IR0EDD. [dOSB. IV,

i ymyraetli â'r nchos rawy. Adeiladwyd y capel yn lled fuan. Adeilad bychan a o-wael ydoedd, wedi ei wneyd o glai a phridd, a galwyd ef, ' Y Capel Mtod' Yn mhen rhyw gymaint o amser, aeth hwn hefyd yn rhy gyfyng, a bu raid adeiladu un arall, yr hwn, er yr edrychid arno yu y dyddiau hyn yn fychan, a alwyd ' T Capel Maicr'* Yn mhen rhyw amser, dechreuodd brawd y bon- eddwr a roes y lease ymgyfreithio ag ef yn achos y tir ; ennillodd y gyfraith, a thorodd y lease ; eto, cauiataodd y capel, ond fod yn rhaid talu £5 yn y flwyddyn o gydnabyddiaeth, yn lle 10 swllt felo'r blaen.

Nid oedd y gynulleidfa eto ond bechau, tybygid, gan y teimlent yn an- hawdd casglu y £5 yn y flwyddyn i dalu ardreth yr addoldy. I'w galluogi i wneyd hyny, cynygiodd y Parch. John Elias bregethu ryw noson yn agos i amser talu yr ardreth, er mwyn gosod yr achos o flaen y bobl. Felly gwnaed, a chasglwijä^ medd y gohebydd, ' £5 uiùon ; nid micy na llai.'' Yn nihen rhyw gymaint o amser, fe awgiymwyd yn ddystaw wrth berchen y tir, mai cryn orthrwm oedd codi y fath ardreth ar adeilad a godasid gan ddynion tlodion, i'r unig ddyben i addoli Duw ynddo ; a dynion hefyd anhawdd iawn iddynt dalu yn flynyddol y fath swm. (Iwrandawodd y g\Ŷr ar yr awgrymiad, a chydsyniodd i'w adael iddynt am yr ardreth gyntefig. Aeth y capel hwn hefyd yn rhy fychau, ac yn awr, er ys blynyddau, y raae capel arall, mawr a chyfleus, yn llawn o wrandawyr astud."

Nid yw yr hysbysydd cyntaf yn eithaf clir pa fodd y daeth y capel yn llwyr eiddo y Methodistiaid. Y chwedl ydyw, fod y ddau frawd wedi myned i ymryson am yr etifeddiaeth, ac oddiar hyny y rhoddwyd y capel ar arwerthiad cyhoeddus(pí<5^îc anction) yu Llanerchymedd, ac mai trwy ei brynu yno y daeth yn eiddo hoUol i'r Methodistiaid. Nid oedd y capel hwn, pa fodd bynag y bu, prin yn werth taeru llawer yn ei gylch, gan mai bychan iawn ydoedd o faint, a darfodedig iawn ei ddefnyddiau. Clai neu fwd oedd ei furiau, a gwellt ei dô. Gelwid ef gan amlaf, " Y Capel Mwd." Wedi i bregethu cyson gael ei sefydlu yn y capel, bu cynydd mawr ar y gynuUeidfa, a bu raid, cyn hir, ymosod ar y gorchwyl o " helaethu lle y babell." Hyn a wnaed tua'r fl. 1787. Gwnaed yr helaethiad hwn o gerig ; felly yr oedd darn o'r capel yn fwd, a darn yn faen. Aeth y capel hwn drachefn yn rhy fychan ; ac yn y fl. 3 799, tyuwyd rhan o hono i lawr, ac yn gysylltiedig a'r rhan a ad- awyd, adeiladwyd capel cwbl newydd, gan droi y rhan a safai o'r hen gapel yn anedd. Gwnaed y capel y tro hwn yn adeilad gref, wedi ei thoi â llechau, ac yn lle cysurus i addoli.

Cynaliwyd moddion yn yr adeilad hon am ysbaid maith o flynyddau, nid llai nag 41 o flynyddoedd. Ar ol treigliad cymaint o amser, yr oedd yr ad- eîladyn dechreu anmharu, achefyd yn rhy gyfyng; fellyyn y fl. 1840, adeilad- wyd ef yn ei wedd bresenol, yn adeilad hardd a chyfleus. Yr oedd rhan o'r hen " gapel mwd" yn sefyll i fyny hyd y fl. 1840 yn rhan o'r tŷ; ond erbyn heddy w, y mae gweddillion yr hen gapel wedi llwyr ddiflanu. Mae yma gladdfa hefyd yn awr wedi ei darparu, a'r gweddillion cyntaf a roddwyd i gadw * Ai nid hwn oedd y capel }t oedd a wnelo William Pritchard ag ef ?

TEN. I.| SIR roN. 501

ynddi oedd yr eiddo John Jones, un a fu yn henuriad ffyddlawn a pLarchus yu Llanrhuddlad am lawer o flynyddoedd. Bu farw yn y fl. 1846.

CEMMAES.

Dywedasom eisoes fod pregethu mewn lle a elwir y Tŷ-du, nid yn mhell o'r ardal hon. Yr oedd y Tŷ-du yn sefyll yn mhlwyf Ämlwch, ac yn cael ei ddal gan un Thomas Phabby. " Yr oedd crefydd," medd fy ngohebydd, "ar y pryd hwn, yu dra dilewyrch; ychydig iawn oedd yma yn ymofyti am dani, ac j'chydig oedd y nifer a wnaent broffes o honi. Nid oedd y moddion yn y Tỳ-du ddim yn gyson a gwastad ychwaith. Wedi i'r achos gjmyddu ychydig, a'r aelodau luosogi, hwy aent i Amlwch i'r cynuîliad eglwj'sig ; ond nid oeddynt eto ond nifer bychan iawn. Cynelid oedfaon, yn ddamweiniol, yn mhentref Cemmaes ; deuai ambell ŵr dyeithr heibio yu achlysurol, vn enwedig o'r deheudir, yr hyn a barai radd o gyffro yn yr ardal.

Arferai y gynulleidfa fechan ymgynuU y pryd hwn mewn math o Ystordŷ ŷd. Mae fy hysbysydd yn cofio iddo ef fod yn gwrando ar Eàwarci Watkin, a Mr. Williams, o Ledrod, yn y lle hwn. Wedi hyny, cafwyd llofft anedd 1 bregethu ynddi dros ryw dymhor. Yn mhen enyd o amser, daeth yu bwysig ar feddyliau yr ychydig grefyddwyr yn y lle i gael capel ; ond yr an- hawsder oedd, cael llé i'w osod i lawr. Yr oedd perchenog y tir yr oedd Uygad y bobl arno, yn ŵr mcwn urddau eglwysig, a thybiai, o bosibl, mai anweddus fuasai iddo ef ganiatâu tir i adeiladu capel ymneillduoi arno. Oud yr oedd gŵr yu y Ile wedi cael rhwym-ysgrif, ar ran o'r tir i ad- eiladu arno, a Uwyddwyd gyda'r gŵr hwn i gael tir dan rwym-ysgrif ; a thrwy gryn ymdrech, fe adeiladwyd capel bychau yn nghr.nol y pentref. Yr oedd hyn tua'r fl. 1786, neu 67 o flynyddoedd yn ol. I^íí'wn caulyniad, llu- osogodd y gynulleidfa, ac ymunodd amryw â'r eglwys. Parhaodd yr achos i Iwyddo ac ychwanegu, a bu raid ymofyn am le helaethach. Cafwyd tir gan y Parch. John Elias, yr hwn, bellach, oedd wedi priodi Miss Pritchard, Tre'r- gof; ac ar ran o'r tir a berthynai iddi hi, fe adeiladwj^d y capel presenol, jiiy íl. 1817. Mae y capel hwn yn adeilad da a phrydferth, ac ynddo yr ymgynull lluaws o wrandawyr bob Sabboth i glywed "geiriau y fuchedd hon.""

Nid yw yn ymddangos y bu dim erlid ar grefyddwyr yn yr ardal hon, o leiaf, nid oes hanes genym am ddim o'r fath. Dyoddefasant, er hyny, lawer o wawd a gwaradwyddiadau, a hyay dros ysbaid maith o flynyddoedd, pryd yr oedd eu nifer yn fychan, a'u hamgylchiadau yn isel. Eto, yr oedd y gwaith yn myned yn ei flaen yu raddol yn ystod y 40 ml. cyntaf o'i gychwyn- iad, mewn gwahanol ranau o'r wlad ; y rhagfarn yn erbyn y crefyddwyr yn lleihau ; y campau a'r arferion Ilygredig yn gwanychu ; gwybodaeth iach- awdwriaetb yn ymeangu ; nifer y dysgyblion cywir yn lluosogi, a'u dylanwad yn cynyddu gyda'u rhif.

503 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

LLANFECHELL.

Nid yw Methodistiaeth wedi hanfodi yn y pentref hwn, ar wedd sefydlog a rheolaidd, hyd yn ddiweddar iawn ; eto fe ymddengys fod yma bregethu ach- lysurol yn y pentref a'i gyffiniau er yn foreu. Yma hefyd yr ymsefydlodd y Parch. Johu Elias, ac y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes weinidogaethol. Ond gan y mwynheid ei lafur cyhoeddus yn fwy yn y cymydogaethau cylchynol nag yn Llanfechell, lle ei breswylfod, ni a adawn ei hanes ef hyd ryw adeg arall ; ac yn awr, ni wnawn ond crybwyll am ryw amgylchiadau a ddygwyddasant yn y lle hwu a'i gyffiniau, mewn adeg lled foreu ar Pethodistiaeth yn y sir, yn mhell iawn cyn fod yma un gymdeithas eglwysig wedi ei íFurfio, nac un addoldy wedi ei godi, íe yn wir, cyn fod yma ddim ond ambell oedfa achlysurol,

Mae crybwylliad yn cael ei wneyd gan amryw bersonau gwahanol, fod dau 0 wŷr dyeithr o'r deheudir wedi ymweled â'r pentref hwn, a gwneuthur cais at bregethu. Nid yw eu henwau ar gael, na'r amseriad penodol chwaith, eto mae cysondeb ac amledd y traddodiad yn gosod y ífaith ar dir diddadl. Dywedir fod y gwŷr dyeithr wedi dyfod i'r pentref ar ddiwrnod ffair. Fe ddichon hefyd mai nid yn ddamweiniol, oud yn fwriadol, yr oedd hyn : gan y defnyddiai yr hen bregethwyr cyntaf unrhyw gyfleusdra o gynulliad nifer o bobl at eu gilydd, i'w cyfarch ar achos pwysig eu heneidiau. Weithiau aent yn fwriadol i ganol y twmpathau chwareu, weithiau codent eu Ilef gerllaw y llanau, lle y byddai nifer o bobl, ar ol y gwasanaeth, yn ymddifyru mewn rhyw gamp neu gilydd yn y fynwent, ac weithiau, megys yma, safent i fyny mewn ffair, o fewn y dref, neu gerllaw iddi, neu pa le bynag arall y caent ddynion i'w gwrando. Safai y pregethwyr, yn y tro dan sylw, meddir, wrth dalcen a elwir yr Hall, mewn bwriad o bregethu. Yn ebrwydd wedi deall eu neges, ymgasglodd haid o aflonyddwyr, ar fedr eu rhwystro a'u baeddu. Yn y cj'famser, daeth gẃr boneddig i'r Ile, gŵr ag oedd ynad heddwch, ac yn fawr ei barch yu ei wlad, sef Mr. Bulkeley, o'r Brynddu, ac a gynghorodd y dyeithriaid i gilio allan o derfysg y ffair i bregethu ; " oblegid," ebe fe, "ym- gynulliad at achosion bydol sydd yn y llan heddyw, a phe yr aflonyddid arnoch, ni ellid eich amddiffyn cystal a phe baech mewn Ile amgen."

Gwrandawodd y dyeithriaid yn barchus ar y boneddwr, a chiliasant allan o dwrf a chyffro y fíair, i le a elwir y Baron-hill, gerllaw y pen- tref. Dechreuasant bregethu yno i'r sawl ag oedd wedi ewyllysio eu dylyn. Ond nid oedd heddwch iddynt yma chwaith. Daeth rhyw ddyn o'r ffair ar eu hol, gŵr a breswyliai y Felin-wen, ac a darawodd un o'r pregethwyr yn ei ben â chareg fawr, nes ei waedu a'i archolli yn erchyll. Clybu Mr. Bulkeley am y niwaid a wnaed i'r gŵr dyeithr, ac ar frys anfonodd am y ddau bregethwr i'w dŷ, gan orchymyn iddynt bob ymgeledd : ac ebe fe, " gan i chwi ar fy nghais gilio o'r ffair, fel na rwystrech y drafodaeth fydol, yr wyf yn teimlo yn rhwym i'ch araddiffyn chwithau." Anfonodd ara y tros- eddwr i'w ŵydd, a gofynodd iddo :

"Pa beth oedd dy foddwl, dywcd, wrth daro dyn à cliarpg o'r fath hon?

fEN. 1.] SIR FON. 50S

(gan ddangos y gareg iddo). Nid oedd genyt un bwriad ond ei ladd, ac am hyny, mi fynaf weled dy grogi, can sicred a'th fod yn ddyu."

Gwelodd y dyn yn y fan ei sefyllfa, a syrthiodd o flaen yr ynad mewn ofn a dychryn mawr, gan erfyn maddeuant a gollyngdod. Gan nad oedd dim yn ngolwg y boneddwr, ond dysgu i'w gydwladwyr nwydwyllt na chaniateid iddynt niweidio dynion yn ddiachos, o dan uu esgus, a chan y canfyddai mai rhyw sel benboeth a chamsyniol a barasai yr anffawd, efe a dosturiodd wrtho, ac a'i goUyngodd, ar yr ammod na ymddygai efe byth yn gyffelyb rhagllaw. Dywedir ddarfod i waith Mr. Bulkeiey yn amddiffyn y gwŷr hyn osod terfyn ar erlid yn y gymydogaeth hon o hyny allan.

Mae aml grybwylliad aurhydeddus yn cael ei wneuthur ara enw y gŵr boneddig hwn, fel gŵr pwyllog, ac uwchlaw rhagfarn disaih Crybwyllasom ei enw o'r blaen,* fel un a safasai yn bleidiwr i WilUam Pritchard, pryd y trowyd ef allan o'i dyddyn, sef o Fodlew, plwyf Llanddaniel, o herwydd ei fod yn rhyfygu (?) meddwl yn wahanol iV gymydogion ofergoelus am beth- au crefydd ; ac a osododd dyddyn iddo, mewn amser yr oedd yn anhawdd iawn i grefyddwr gael tyddyn yn un parth o'r wlad, na chael aros, yn wir, mewn tyddyn yr oedd eisioes ynddo ; a pharhaodd yn gyfeillgar ag ef tra fu byw. Nid gwroldeb bychan oedd yn angenrheidiol mewn gŵr boneddig i sefyll 0 blaid pobl "yr oedd yn mhob man ddywedyd yn eu herbyn," pobl yr oedd y werin yn eu baeddu, y gwŷr mawr yn eu gorthrymu, y beirdd yn eu gwaradwyddo, a'r clerigwyr yn eu disodli ; eto yr oedd William Bulkeley, Ysw., yn feddiaunol ar y cyfryw wroldeb meddwl, ac efe a safodd yu ddiysgog yn nghanol y llifogydd cryfion o ragfarn a chelwydd a redent yn er- byn y Methodistiaid, gan amddiffyn eu cam, a phleidio eu hamcan. Fe ym- osododd ar un o'u gwarthruddwyr trwy y wasg. Gwnaethai un Mr. EUis, curad Caergybi, ei hun yn nodedig, trwy bregethu yn ddyfal, ac ysgrifenu yn ffyrnig, yn eu herbyn, gan eu darlunio yn y lliw erchyllaf ag oedd yn bosibl ; a phwy a gaed i agor ei enau dros y mud, ond y boneddwr o'r Brynddu. Hyn a wnaeth trwy ysgrifenu ateb i'r curad, a dynoethi ei gam-dystiolaethau.

Mae hanesyn yn cael ei adrodd am y Parch. Peter "WiUiams, ei fod yntau unwaith yn yr ardal hon, ac yn pregethu ar y Garnedd-fawr, yn myuydd Mechell, a bod offeiriad wedi dyfod yno, yr hwn a fuasai yn gydymaith iddo pan yn yr athrofa, a dyweyd wrtho, " Ffei, Peter ! pa fodd y meiddi bregethu mewn lle angUysegredig ?"

"Maddeuwch fy anwybodaeth," atebai Peter, "yr oeddwn dan ddylanwad y syniad fod yr hoU ddaear wedi ei chysegru, er y diwrnod cyutaf y gosod- odd Ceidwad pechadur ei droed arni."

Teimlodd y clerigwr golyn y ffraeth-atebiad hwn, ac mewu cywilydd troes draw, gan adael rhwng y pregethwr a'i gynulleidfa, a chafodd seibiant i bregethu, heb un aflonyddwch pellach, hyd ddiwedd yr oedfa.

Mae hanesyn arall mewn llaw, cysylltiedig â Llanfechell, yn crybwyll am

Cyf. I. tiidal. 111.

504 fiANESIAETH Y SIEOEDD. [DOSB. IV.

amgylchiad boreuach, tybygid, na'r rhai a grybwyllwyd. Yr oedd y tro hwn hefyd yn dygwydd ar ddiwrnod ffair. Daeth yno bregethwr o'r enw Harri Jones, a safodd ar risiau camfa y fynwent, ac a gymerodd destyn o'r Beibl, ac a ddechreuodd bregethu, heb ddarllen pennod, acheb weddio. "Newydd iddo ddechreu pregethu, dyma y person, a rhyw un gydag ef," meddai yr hysbysydd, " yn sefyll wrth ochr fy nain, ac yu mwngialu rhyw beth an- nealladwy iddi hi. O'r diwedd, wrth graffu arno yn well, deallodd mai yr achos o'i fod yn mwngialu mor aneglur oedd, fod gauddo gnöyn mawr o dobaco yn ei geg ; a gwelais yn fuan pa beth a fwriadai wneyd ag ef. Yr oedd ganddo chwip fawr yn ei law, a nesäodd at y pregethwr, gan geisio ys- twffio y lohaco i'w enau. Hhwystrodd y pregethwr hyn â'i íraich ; ac wedi siomi yr erlidiwr yn hyn, cynddeiriogodd yn fwy ; tynodd y pregethwr i lawr, ac a ddechreuodd ei fflangellu yn arswydus â'i chv>'ip. Y cwbl a ddywedodd y truau wrtho, oedd, " Fe ddaw y diwrnod piyd na fydd y chwip yn eich llaw chwi!"

" Ar hyn, dyma ddeiliaid y ffair yn codi, fel gwenyn allan o gwch, a phawb a'u cernod arno. Aethaut dan ei guro allan o'r pentref am filldir neu ychwaneg o ffordd, a'i waedyn " Iliwio'r Uawr," hyd nes daethant at lidiart y fferm a elwir y Coeden. Aeth fy mam i'w canlyn yr holl ffordd dan wylo yn hidl, rhag iddynt ei ladd. Wedi iddynt flino yn ei ganlyn ac yn ei guro, gadawsant ef, ac yntau a aeth rhagddo, fel y tybir, tua thŷ Morris, Tyddyn- bach, Llanbabo ; gŵr a gyfrifid yn ddyn duwiol, ac, yn achlysurol, yn arfer cynghori."

Adroddwyd yr hanesyn uchod gan hen ŵr o'r enw Eobert Hughes, gynt 0 ardal Llanfechell, ond yn awr o ardal Bodedern, yr hwn sydd uwchlaw 80 ml. oed, ac wedi clywed ei nain a'i fam yn adrodd yr hanes uchod lawer gwaith ; yr hyn ni allai ei fam ei wneuthur un amser heb dywallt dagrau.

Erbyn hyn, y mae yn Llanfechell addoldŷ wedi ei adeiladu, a chymdeithas eglwysig wedi ei Öurfio, a golwg siriol a Ilewyrchus ar y gwaith.

BETHLEHEM NEU Y GAREG-LEFN.

Ymddengys fod pregethu gan y Methodistiaid yn yr ardal hon mor foreu ag odid le arall yn y sir. Mae yn ddiddadl fod Howel Harris wedi bod yma yn pregethu : ni ellir gwybod pa mor fynych. Mae hen rigwm ar gael, a gyfansoddwyd, yn ddiamheuol, er difno y Methodistiaid, ac ar yr un pryd, yn profi boreuder y pregethu yn yr ardal :

" Howel Harris ar ei horsc,

O Lanerchymedd i Lan-y-gors, Ac oddiyno i'r Gareg-lefh,"

Amaethdy ydyw y Gareg-lefn o fewn ychydig filldiroedd i Lanfechell. Gelwir y capel yr ymsefydlodd yr achos ynddo, yn Bethlehera. Un Marsley

PEN. 1.] SIR FOK. 503

oedd yn byw yn y Gareg-lefii yn nhymhor cyntaf pregethu yn y lle. Addefai hwsmon Bodewryd gynt, ei fod ef ac eraiU yn myned i erlid i'r Gareg-lefn, ond ddarfod i fath o dditfrwythder ymaílyd ynddo wedi dyfod i'r lle, fel na allai ysgogi i gyflawni ei anican mewn un modd. Yr oedd gŵr o'r enw Cliancellor Wynneyn byw ar ryw adeg yn Modewryd, yr hwn oedd yn flin iawn o her- wydd y pregethu a lochesid yn y Gareg-lefn. Dywedir hefyd, ddarfod iddo anfon llythyr at y gŵr boneddig y crybwyllasom ei enw fwy nag unwaith eisoes, sef W. Bulkeley, Ysw., o'r Brynddu, yn llaw ei was, i erchi arno, os nad allai attal pregethu yu y lle trwy ryw foddion íynerach, ar iddo dynu y i laior. Wedi i Mr. Bulkeley ddarllen y llythyr, ac ystyried ei gynwys, efe a aufönodd genadwri yn ol at y Canghellwr, i ddyweyd fod yn ddrwg gan- ddo orfod nacâu iddo ddim a'r a ofynai; ond y dymunai arno ddarllen y 5ed bennod o'r Actau, ac yn enwedig cynghor Gamaliel i'r Sanhedrim luddewig. Ar ol hyn, ni chlybuwyd mwy am dynu y i lawr, nac am anfon neb i erlid yno,

Symudodd pregethu yn mheu rhyw dymhor o'r Gareg-lefn i Bant-y-coli ; ac wedi aros yn y lle olaf hwn dros ryw ysbaid o amser, symudodd yn ol eil- waith i'w hen gartref, lle yr arosodd hyd y fl. 1806, pryd yr adeiladwyd v capel presenol. Gellir meddwl fod pregethu wedi dechreu yn yr ardal 60 ml. cyn adeiladu y capel. Yr oedd y moddion ar eu cychwyniad, ond odid, ywfylcliog ac acJdysurol, gan brinder pregethwyr ; ac ar ol eu cael yn fwy gwastad a chyson, yr oedd y gwrandawyr yn ychydig, ac yn dyoddef Ilawer gan warthrudd eu cymydogion. Dywedai John Thomas, LlangwRlIe, vr hwn oedd yn oesi yn ddiweddarach na rhai o'i frodyr, ei fod ef wedi bod yn pregethu uwch ben dwsin o bobl yn y Ile hwn. Deallwn mai Mr. Henry Jones, Bodewryd y pryd hyny, a brynodd y Gareg-lefn, i gael Ile i adeiladu capel arno.

Mae yma eglwys a chynulleidfa gref yn y lle hwn er ys llawer o flynydd- oedd bellach, ac angenrheidrwydd i helaethu lle y babell, fel y mae addoldy tra helaeth yn cael ei adeiladu yno yn bresenol (1854), ond heb ei o-wbl orphen.

Crybwyllasom enw pregethwr a fu yn byw yn Mhant-y-coli, o'r enw Eisiart Dafydd, ond nid oes genym nemawr ychwaneg o'i hanes na chrybwýlliad o'i enw. Deallwn mai yn nghymydogaeth Amlwch y ganesid ef, oddeutu y fl. ] 730. Yno hefydy tueddwyd ef i ymuno â chrefydd, ac y bu ef byw am 50 mlynedd o'i oes. Yr oedd ei yn wynebu tua'r Borth, a chan ei fod yn arfer addoli Duw yn ei deulu, yr hyn oedd yn arferiad aughyffredin y pryd hyny, tynai sylw y morwyr a ddeuent i'r Borth, a bu yn ddefnyddiol iddynt, meddir, trwy hyny. Symudodd i Bant-y-coli pan oedd mewn gwth o oedran a derbyniai bregethu i'w dŷ. Dechreuasai gynghori yn Amlwch, ond nid vd- ym yn cael fod ei ddoniau ond byrion iawn, ac mai ychydig a deithiai oddi- cartref. Sonir am un tro yr aethai can beUed â'r Aberffraw, gan gymeryd ychydig luniaeth yn ei logell, a dychwelai adref, ar ei draed, yr un diwrnod wedi teithio o 30 i 40 o filldiroedd.

B06 HANESIAETH Y SIROEDD. [üOSB. IV,

Ymgymerodd Risiart Dafydd â'r Ysgol Sabbothol ar ei hymddangosiad cyntaf yn y wlad, a bu yn íTyddlawn gyda hi pan na ellid cael ond ychydig i roddi cynorthwy i'w chynal, Yr oedd yr hen gynghorwr hwn yn un o rai Uariaidd y ddaear, Y nos Sabboth olaf y bu William Roberts, y crydd, yn cynghori yn Pant-y-coli, cymer^yyd ef a Risiart Dafydd, yr hwn a ddechreuasai yr oedfa, ill dau yn glaf y noson hòno, o'r clefyd y buont feirw ; ac felly gor- phenasant eu gyrfa yr un amser a'u gilydd, ac aethant i mewn i lawenydd eu Harglwydd.

PENNOD II. HEN EGLWYSI DEHEUOL Y WLAD.

CYNWTSIAD :

NIWBWRCH— RICHARD JONES— SION DAFYDD, TY'N-YE-ALLT, A'I FEISTR TIR— THOMAS WILLIAMS, PWLL-YR-HWYAID— ADEILADU Y CAPEL— DYCHWELIAD MR. EICE HUGHES— SEL HEN WRAIG DDUWIOL O'R ENW ANNAS— BRYN-SIENC- YN A DWYRAN— OWEN AC ANN WILLIAMS, TAI-COCHION— MR. OWEN JONES, CWYRT ADFYWIAD— -LLANGRISTIOLUS— ROBERT, Y COWPER— JOHN PARRY, TY'N-Y-PWLL Y CAPEL CYNTAF YN MON— CAPEL BETHEI^ERLID TOST— ROWLAND A JANE OWEN— CYNYDD YR ACHOS.

NIWBWRCH.

Yr oedd yr hen bregethwr, Richard Jones, Niwbwrch, yn un o'r crefyddwyr cyntaf yn yr ardal hon. Dywed fy ngohebydd ei fod gyda chrefydd 112 o flynyddoedd yn ol, sef yny fl, 1742. Dichon fod hyny yn amseriad rhy foreu, oddieithr iddo fe gyfrinachu â meibion Thomas Prichard, o'r Tŷ-gwyn, Llangefni, a phrofi argraffiadau o'r gwirionedd trwy ymddyddan â hwy, neu ynte, trwy ddarllen ei hunan, fel hwythau, air Duw, gan nad oes lle i feddwl fod yma nemawr oedfa wedi bod yn yr ynys gan un blaid o ymneillduwyr mor foreu a'r fl. 1742. Yn y fl, 1743, y daeth Lewis Rees ar gais William Pritchard ; ac yn y flwyddyn ganlynol yr ymwelodd Benjamin Thomas, o'r deheudir, â Phlas Pen-mynydd ; a chyfrifir mai ganddynt hwy y traddodwyd y pregethau cyntaf gan ymueillduwyr yn y wlad,

Pa un bynag a oedd Richard Jones wedi profi blas yr efengyl mor foreu a'r fl. 1742 ai peidio, a thrwy ba foddion bynag y dygwyd ef i'w brofi, fe ymddengys ei fod ef yn un o'r rhai cyntaf yn y cymydogaethau hyn. Yr oedd ef a'i wraig, yn nghyda'i chwaer, yn flaenflfrwyth yr efengyl yn y fro. Yr oedd y ddwy chwaer uchod, Elin a Jane, yn chwiorydd i fam y diweddar Barch. David Jones, Dwyran. Y Ile yr ymgynullent ynddo ar y dechreu, oedd Tŷ'n-yr-allt, amaethdy bychan gerllaw pentref Niwbwrch, Y tyddynwr, y pryd hwnw, oedd John Davies, neu Siôn Dafydd, fel y gelwid ef y pryd hyny, a'i wraig, taid a nain David Jones, Dwyrau. Yr oedd derbyn preg- ethwyr y pengryniaid i yn cael ei ystyried yn drosedd mor ysgeler, nes y tybiai y bobl mai gwneuthur gwasanaeth i Dduw a wnai y neb a'u hymlidient hwy i íFordd. Tybiodd person Niwbwrch mai ei ddyledswydd, yn ddiau, oedd achwyn ar John Davies wrth ei feistr tir. Yr oedd y gŵr boneddig,

PEN. II.] 8IR FON. 507

perchenog y tyddyn, yn byw yn Bodfal, yn Lleyn, sir Gaernarfon. Mewn canlyniad i'r cwyn hwn oddiwrth y person, wele boneddwr Bodfal, wrth Tŷ'n-yr-allt, wedi dyfod trosodd yn un swydd i chwiiio i mewn i'r achos pwysig dan sylw, a'r person gydag ef :

" Wel, Siôn," ebe yr hen foneddwr, "'yr wyf fi yn clywed dy fod di yn rhoi dy i'r penau cryniaid i bregethu ynddo."

" Hwy fyddan' yn cynghori tipyn yma, weithiau, Syr," atebai Siôn.

" Cynghori ! beth yw hyny, Siôn? 'dwy'i ddim yn dy ddeall di," meddai y boneddwr,

" Wel, Syr, mi a ddywedaf i chwi, meistr bach ; dyweyd tipyn am lesu Grist, ac am y drwg o ladrata, tyngu, a dyweyd celwydd, a'r cyffelyb bethau, ydyw cynghori."

" 0 ! ai dyna ydyw cynghori, âi 'ie ? "

Yna, yn mhen enyd, gofynai y boneddwr, " Beth yw y twll acw, Siôn, sydd yn nhô y ? Cau o gynta' gelli, rhag i gynghorion o'r fath ddianc allan drwyddo ; ac yna pregetha di faint a fyni."

Gyda dyweyd hyn, rhoes fflangelliad i'w geffyl, ac i ffordd ag ef, er dirfawr siomedigaeth i'r offeiriad, ac er mawr foddhad i Siôn Dafydd ; vr hwn ni aflonyddwyd arno mwy.

Mab-yn-nghyfraith i'r gŵr hwn oedd Eichard Jones, y cynghorwr. Nid oes genym ond ychydig iawn o hanes y gŵr hwn. Ymddengys ei fod wedi bod yn cynghori am ysbaid maith o flynyddau, 40 ml. neu fwy, a marw tua'r fl. 1788, a'i goron ar ei ben. Buasai unwaith yn pregethu tua'r ardal y mae y capel a elwir Bethel yn sefyll ynddi, a chafodd ei erlid yn dost, fel y buasai mewn enbydrwydd am ei einioes, oni bai ei waredu mewn llwybr annysgwyl- iadwy. Pregethu allan yr oedd, ac yn sefyll ar graig. Ymosododd y ter- fysgwyr arno yn ffyrnig, a bu gorfod amo ddianc am ei hoedl, a'r fintai waed- wyllt, fel bytheiadgwn ar ei ol. Eithr dygwyddodd i'r ail yn y rhes sathru ar sawdl y cyntaf, yn y prysurdeb mawr, a'i daflu ef i ìawr. Llidiodd hwn wrth y llall, gan dybied mai o fwriad y gwnaeth, ac aeth y ddau i ymladd â'u gilydd ; ac i edrych arnynt yn ymryson, troes ^ erlynwyr oddiwrth Eichard ^0^^^,"^^ hwn a gafodd egwyl i ddianc, a chyrhaedd ei gartref yn ddioo-el.

Wedi marw Siôn Dafydd, Tŷ'n-yr-allt, symudwyd yr achos crefyddol oddiyno i le a elwir Plas-Niwbwrch, preswylfod rhieni y Parch. D. Jones, Dwyran, a bu yn aros yn y lle hwn am oddeutu 7 mlyncdd. Wedi hyny symudodd eilwaith i un Owen Jones, gerllaw y pentref, ac felly yn sy- mudol y bu am ysbaid 40 o flynyddoedd. Yn foreu yn y tymhor hwn y cododd WiUiam Lewis, Tŷ'n-y-coed ; a Thomas WiUiams, Pwyll-yr-hwyaid, pa rai a fuont yn ymgeleddwyr i achos crefydd yn yr ardal dros flynyddau. Bu Pwll-yr-hwyaid yn gartref i Fethodistiaeth am amser maith; a Thomas WiUiams ei hun yn un o'r swyddogion ffyddlonaf a mwyaf gweithgar o neb yn ei ddydd. Cafodd yntau deimlo oddiwrth wg ei feistr tir, yn unig am ei fod yn grefyddwr aiddgar ei hun, ac yn noddwr i bregethwyr y Methodistiaid. Trwy ei lafur ef yn neiUduol yr adciladwyd y capel cynlaf yn Niwbwrch, yr

oOS HANESIAETH 1 SIUOEDÜ. [üOSIi. IY.

hyn a wnaed tua'r fl. 17S5, wedi deiigain mlyuedd a mwy o bregethu o d^ i dŷ.

Yn fuan wedi adeihìdu y capel hwn, y bu farw Eichard Joues yr hen breg- ethwr ; a thua'r un amser y dychwelwyd gŵr at grefydd, mewn modd an- nysgwyliadwy, yr hwn a berthynai i ddosbarth o bobl dyeithrach i grefydd a chrefyddwyr na'r cyffredin ; sef Mr, Rice Hughes, Treferydd ; yr hwn oedd ysgrifenydd cyfreíthiolyn Dinam * ar y pryd. Rhyw Sabboth, aeth y gŵr hwn i ddangos ei fedrusrwydd yn mysg prif gampwyr ei ardal, " i daflu maen," yr hwn oedd prif orchest-gamp yr amser, at odyn galch a berthynai i Dinam ; ond dygwyddodd, pan ar ci egni yn hyrddio y maen, iddo golli ei fantol, a chael ci dyiiu i lawr i waelod chwarel ddofu ag oedd yn y lle. Ac er nad ydym yn cael ddarfod iddo gael llawer o niwaid corfforol, amlwg ydy w iddo gael Uawer o les ysbrydol, trwy i'r codwm fod yn foddion i'w ddwyn i ystyr- iaeth a phwyll, oblegid y gair cyntaf a glybuwyd oddiwrtho oedd, " Yr wyf yn rhyfeddu na buaswn wedi syrthio i uttern ar unwaith, am fy ngwaith yn tori y Sabboth." Pa fodd bynag, dychrynwyd ef yn.fawr ar y pryd, a bu y dychryu yn foddion i'w ddwyn i werthfawrogi yr efengyl yn y caulyniad.

Yn y fan wedi iddo yrauno â'r Methodistiaid, collodd ei le yu Dinam ; ond fe gafodd le arall gyda Mr Williams, Llanidan, yr hwn a gyfrifid yn brif gyfreithiwr Cymru yu ei dymhor.f Bu llice Hughes yn offeryn i wneuthur llawer o ddaioni, meddir, yn ei oes a'i wlad, a pharliaodd i ddal ei broffes, ac i gynghori ychydig yn achlysurol, dros ei oes.

Cadwyd cymanfa yn Niwbwrch, yn mhel!, tybygid, cyn adeiladu capel yno, a'r gwỳr y sonir yn neillduol am danynt yn pregethu ynddi, oedd Mr. Jones, Llangan, a Mr. Sampson Thomas, sir Benfro. Cofiai hen ŵr un o ddywed- iadau Mr. Jones ar y pryd : " Bu amser arnaf y buaswn yn dyoddef merthyr- dod cyn y buaswn yn pregethu Ciist ; ond, yn awr, dyoddefwn ferthyrdod cyn y peidiwn."

Ar ol y gymanfa hon, neu ar ei diwedd, meddir, yr aeth hen wraig dduwiol, o'r enw Aunas, yr hon oedd yn bur dlawd, at Mr. Jones, i ofyn am addewid ganddo i ddyfod drachefn i'r wlad ; ebe hi,

" Pa bryd, Mr. Jones bach, y deuwch chwi yma eto ? "

" Pan y deui di, Annas, i Langan i ymofyn am danaf," oedd yr ateb.

Cydiodd yr hen wraig yn yr addewid, a chan gwbl gredu nad âi gvvr o fath Mr. Jones ddim yn ol o'i air, hi a benderfynodd fyned i Langan. Yr oedd iddi gant a hanner o filldiroedd i fyned, ac nid oedd ganddi am ei thraed ond y clocs, nac yn ei llogell ond a gardotai, nac yn ei chylla ond a roddid iddi ar hyd y íFordd ; eto yn ebrwydd ar ol i Mr. Jones ymadael â'r wlad, cychwyn- odd Annas i'w tbaith. Dyddorol a fuasai cael hanes yr hen wreigan ar hyd y daith hon ; pa leoedd y Iletyasai ar y ffordd, pa anhawsderau a'i cyfarfu, pa sarugrwydd a gafodd oddiwrth rai, a pha dosturi oddiwrth eraiU; pa faint o amser a gymerth i deithio cant a hanner o fiildiroedd, a lluaws o bethau

* Palas boneddwr gerllaw Niwbwrch. f Arferai WiUiams ddjweyd, " Rice a'i bin, a Goodman (ysgrifenydd. arall) a'i ben, ac nid ofnaf gyda hwy na dyn na d 1

PEN. II. J SIR roN. 509

cyffelyb ; oiul iiicl oea genyin ara y cwbl ond y dychymyg; ond cvrli;iedd Llangan a wnaeth, er mawr syndod i Mr. Jones. Ehyw ddiwrnod wrth edrych drwy ffenestr ei dŷ, fe ganfu yr hen wreigan, a'i ffon yn un llaw, a'r cŵd yn y llall, yn dyfod at y tŷ, Aeth i'w chyfarfod, gan ddyweyd, " Och fi ! Ayinas ; a ddeiiaist ti yn aior ? " Y canlyniad fu, medd yr hanes, ddarfod iddi ddychwelyd adref i Niwbwrch, wedi ei llawn wybrwyo am ei llafur, gan iddi Iwyddo i gael tri o efengylwyr penaf eu hoes i ddyfod i sir Fôó, sef, Jones, Llangan ; Rowlands, Llangeitho ; a Llwyd, o Henllau. Bu y gwỳr yn ffyddlon i'w haddewidion, a chafodd Môu, cyu hir, fedi y ffrwyth oddiar y maes a hauodd Annas dlav.d.

Priodol ydyw gwneuthur ycliydig grybwylliadau ychwauegol am Thoraas Williams, Pwll-yr-hwyaid. Ymddengys i ryw argraíRadau crefyddol ddechreu ymweithio yn ei feddwl, trwy wrando un Mr. Williams, Llaneilian, pan oedd ef yn îs-beriglor yn Llanidan, tua'r fi. 1769. Cynyddodd ei drallod yn ddir- fawr, ond nid oedd ef na'i deuhi ddim yn deall gwir natur ei gystudd. Nid oedd eto ond lloucyn 20 ml. oed, a mawr oedd ofnau ei rieni, yr effeithiai yr anesmwythder newydd a ddaethai arno, i'w wneuthur yn wallgofddyn diüysur a diddefnydd dros weddill ei oes. Penderfynasant, gan hyny, ymofvn am gynghor meddygol iddo yn ddioed ; felly aethaut â'r llencyn trallodedio- at y meddyg mwyaf ei air, a goreu ei fedr, a wyddent am dano. Ond yn ofer y bu hyn'oll. Dyfnhau yr oedd trallod y bachgen, a dyfnhau yr oedd dyryswcli ei rieni ; ond yn ddamweiniol, tarawodd wMth yr hen gynghorwr, Richard Joncs, yr hwn a ddeallodd yn ebrwydd o ba ffynnonell y codai anesmwythder y Ilanc, a dywedodd wrtho ; "O Twm bach ! mi welaf beth sy'n eisiau arnat; rhaid cael seiat breifat (cwrdd eglwysig) at dy achos ; mae gi,vr dyeithr iV ddysgwyl i'r wlad yn bur fuan, ac fe fydd yn cadw seiat yn Niwbwrch, pan y daw, a thi a gei wybod yr amser." Ni wyddai Thomas, druan, ar y pryd ddim am y seiat breifat, mwy nag am y dyn yu y Ileuad ; ni chlywsai erioed yr enw ; ond fe gafodd wybod av ol hyn. Cafodd ynddi y feddyginiaeth ag ydoedd gyfaddas i'w ddolur; ac yn mhen 16 ral. ar ol hyn, efe ei hun oedd swyddog y cyfryw gymdeithas yn Niwbwrch. Bu ef, mewn undeb â William Hughes, o'r Hen-dỳ, a John Hughes o'r AUt, yn arolygu y gwaith yn y lle hwn am 30 o flyuyddoedd. Ymddengys fod cymhwysder yn y naill i gyf- lenwi diffyg y llall. Dywedid, " Mai Thomas WiUiams fyddai yn dal, William Hughes yn blingo, a John Hughes yn meddyginiaethu ; " ac felly, anfynych iawn y byddent yn methu adgyweirio y beius. Arfereut yn gyntaf fwrw golwg ar unrhyw achos a ddygwyddai ddyfod i sylw, yn eu plith eu hunain, ac wedi dyfod i gydweled arno, dygent ef yn mlaeu yn ngwydd y brodyr, ond nid heb hyny.

BRYN-SIENCYN A DWYRAN.

Mae yr ardaloedd hyn yn cyfíinio ar Niwbwrch, ac y mae yr hanes sydd mewn llaw am y tri man yn yragordeddu y naill yn y Ilall, fel ag i'n tueddu

ÖiO HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV,

i'w gosod megys yn yr un rhestr, a gadael i'r darllenydd wneuthur y didoliad, os bydd yn gweled hyny yn oreu.

Dechreuodd Methodistiaeth wreiddio yn yr ardaloedd hyn tua'r fl. 1765. Yr oedd yma ŵr a gwraig yn byw yn mhlwyf Llanidan, mewn amaethdy o'r enw y Tai-cochion, y rhai a dderbynient y Methodistiaid i'w tŷ, a hyny mewn amser nad oedd neb arall o fewn rhai milldiroedd o gylch yn fodd- lawn, neu yn meiddio gwneyd hyny ond hwynthwy ! Eu henw oedd Owen ac Anne Williams. Parhausant i wneuthur y caredigrwydd hwn ag achos y Cyfryngwr, am ysbaid 25 o flynyddoedd. Nid oeddynt, rhag ofn y meistr tir, yn meiddio derbyn y pregethu i'r Tai-cochion ; ond yr oedd ganddynt, dan lease, ryw hen amaethdy arall, gwael yr olwg, a thô gwellt iddo, am y terfyn, yr hwn a elwid y Chwarelau. Bernid nad oedd y perygl ddim cymaint i sefydUi pregethu yn y bach hwn ; cynelid y cyfarfodydd eglwysig, pa fodd bynag, yn y Tai-cochion, a chyfarfodydd gweddio hefyd. Nid oedd teulu y Chwar- elau eu hunain wedi ymuno â'r crefyddwyr, ond yr oeddynt yn hoffì gwrando yr efengyl, ac yn fawr eu parch i grefyddwyr. Felly cawsant y fraint am ysbaid 25 mlynedd o wrando ar rai o'r doniau ardderchocaf a gafodd Cymru erioed, megys Eowlands, Llangeitho ; Dafydd Morris ; Jones, Llangan ; Lloyd, Henllau, ac eraill.

Yr oedd gwTaig Tai-cochion hefyd yn un o'r mamau hyny yn Israel ag oeddynt hynod yn mysg eu rbyw. Tebyg oedd hon i Elin Dryhurst; y son- iasom o'r blaen am dani, a chyfí"elyb 1 rai eraill a gododd mewn gwahanol fanau yn y wlad yn y tymhor hwnw ; gwraig yn meddu ar gymhwysderau helaethach mewn gwybodaeth, gras, a dawn i flaenori mewn cyfarfodydd crefyddol, nag eraill o'r gwragedd, îe, na'r gwŷr ychwaith. Yr oedd y pryd hwnw wraig hynod, a elwid Betty Marc, yr hon oedd yn byw yn sir Gaernar- fon, ac a gyniweiriai y gwledydd i gynal cyfarfodydd eglwysig ; gan yr hon, meddir, yr oedd doniau nodedig at y gwaith. Deiiai hon drosodd, weithiau, i Fôn, ac yn mysg manau eraill i'r Tai-cochion, i gynorthwyo ei chwiorydd yn yr un gorchwyl. Addefwn, ar yr un pryd, mai nid rheol gyfí'redin yr Arglwydd wrth fyned a'i achos yn mlaen yw defnyddio gwragedd i lefaru yn yr eglwysi, eto ni allwn wadu na ddichon adegau fod ar y gwaith y bydd yn dda cael eu gwasanaeth hwy. Nid y gwragedd a ddefnyddid yn gyfí"redinol i amddifi'yn Israel rhag gelynion, eto fe anrhydeddwyd Deborah a Jael, mam- au yn Israel, i gyflawni gwasanaeth fel hyn.

Nid oedd nifer y gymdeithas yn y Tai-cochion, ar y pryd y cyfeiriwn ato, ond bychan, tua 30 neu 25. Nid eu nifer oedd eu hardderchogrwydd pçnaf, ond eu cariad at eu gilydd, eu íîyddlondeb dros Dduw, a'u haiddgarwch dros ledaeniad teyraas Crist yn eu gwlad. Nid oedd dim yn ormod gan deulu y Tai-cochion i wneyd yn y fifordd yma, I'r hwn y cyfeiriai pregethwyr dyeithr a ddeuent i'r wlad, am lety ac ymgeledd ; a hyny a roddid iddynt, nid yn unig yn ddirwgnach, ond yn Uawen ; gan ei ystyried, nid yn ddyledswydd yn unig, ond yn fraint oruchel, yn fraint na fynent er dim ei cholli,

Nid hir iawn y cawsant hwy ddianc, heb gael profi chwerwdod erlidigaeth,

PEN. II.] SIR FON. 511

fel eraill o'u cydgrefyddwyr, yn enwedig y rhai a achlesent y pregethwyr, ac a roddent eu tai i gynal cyfarfodydd. Dylynodd gwg y mawrion Owen Williams a'i wraig, oblegid hyn ; ac yn flaenaf oU, ac yn íTyrnicaf o bawb, yr oedd oífeiriad y plwyf. Yr oedd y ffordd a gymerwyd i lethu Methodistiaeth yn yr ardal hon yn un anghyffredin, ac eto tra effeithiol i ddwyn dinystr a gwarth ar y teulu ; ac ar yr un pryd i gelu y gwir weithredwyr allan o sylw. Cytunwyd â rhyw wraig faleisddrwg a thwyllodrus i gymeryd gyda hi rhyw sypyn o Jieb ei dretJiu, a'i adael yn ngofal gwraig y Tai-cochion, hyd nes y galwai hi am dano eilwaith, dan fantell rhyw esgus a wnaed ar y pryd. Derbyniodd Anne Williams y tô, yn niniweidrwydd ei chalon, ac a'i cadw- odd yn y parlmor yn ofalus hyd nes gelwid am dano. Nid hir y bu, pa fodd bynag, nad agorwyd ei llygaid, ac y deallodd yr ysti^yw : oblegid hi a welai ryw ddiwrnod swyddogion y gyllidfa o Gaernarfon, yn dyfod i'r tŷ, gan ei chyhuddo o dderbyn nwyddau rhedeg (smuggled goods), a dechreu chwilio y yn awdurdodol iawn, ac i'r parlawr ar eu cyfer, a chael y sypyn yn y lle y rhoddasid ef i gadw.

Dan yr amgylchiadau, nid oedd o un dyben eglurhau, nac ymesgusodi. Nid yr amcan oedd cael allan y gwir, ond cael pobl y yn euog ; a chan fod y swyddogion yn y gyfrinach, nid oedd dim a allent wneyd, ond dyoddef, gan lawenhau fod ganddynt dystiolaeth cydwybod dda. Dirwywyd hwy yn ddi- arbed, ac i'r fath swm, nad oedd gan y trueiniaid ddim modd i'w thalu, o leiaf yn yr amser a ganiateid gan eu gorthrymwyr, heb wneyd arwerthfa ar eu meddiannau. Felly yr arwerthfa a fu, a phwy a ddaeth yn mlaen i brynu ond boneddwr, mawr ei ddylanwad yn yr ardal, a thra erlidgar ; yn erbyn yr hwn ni feiddiai neb gynyg ; ac felly prynodd y cwbl am lai bedair gwaith nag oedd eu gwir werth. üwnaeth y peth i fyny gyda swyddogion y gyllidfa, a dychwelodd yr anifeiliaid a'r nwyddau eraill a brynodd i Owen WiIIiams, am y pris y prisiodd efe hwynt yn yr arwerthfa. Bernir mai euogrwydd cyd- wybod a'i cymhellodd i hynyma, fel yr unig foddion i liniaru ychydig ar y gyflafan a ddygasai ar bobl ddiniwaid.

Ond er Uiniaru graddau ar y goUed, eto bu yr amgylchiad yn brofedigaeth lem, ac yn sarhad trwm ar deulu y Tai-cochion, a theimlasant oddiwrth ei heffeithiau dros weddill eu hoes. Ac nid teulu y Tai-cochion oedd yr unig rai a gafodd deimlo oddiwrth orthrwm y boneddwr hwn a'i deulu ; ond dywedir, gyda sicrwydd, fod cannoedd o ymneillduwyr yn Mon wedi teimlo yn dost oddiwrth eu traha. Yr oedd y boneddwr hwn yn ŵr cyfoethog, a chanddo etifeddiaeth wych, yr hon a ddisgynodd i'w fab. Dangosodd y mab yr un naws erlidgar at y crefyddwyr ; ond fe wiriwyd yn y teulu hwn ddy- wediad John Evans, o'r Bala, am y gwŷr mawr a fu yn erlid yn ei ardal ef, sef ddarfod i'w hetifeddiaethau lithro i ddwylaw estroniaid, ac iddynt gael eu darostwng yn eu hamgylchiadau, fel nad oedd ganddynt mwy yr awdurdod a'r dylanwad a fu ganddynt, a'r hwn hefyd a gamddefnyddiasid mor ysgeler ganddynt.

Yn y fl. 1785, ymlidiwyd un Mr. Owen Jones, o Bodhelen, yn Lleyn, sir

512 HA.NESIAETH Y SlllOEDl). [dOSB. IV.

Gaernarfon, o achos ei grefydd, a'i ymlyniad wrth f ethodistiaeth. Yr oedd y gŵr hwn yn swyddog eglwysig, ac yn oËPeryn defnyddiol, ac yn ŵr o feddwl ymroddgar gydag achos yr efengyl, a theimlid yn ddolurus o herwydd ei golli o'i wlad, eto yr hyn a fu yn goUed i sir Gaernarfon a fu yn ennill mawr i Pôn ; ac er i'r gelyn gael arllwys ei wenwyn, ni chafodd gyrhaedd ei nod. Nid an- fon Owen Jones o'i wlad oedd yr amcan, ond llethu Methodistiaeth, a'i anfon yntau o'i dyddyn oedd y moddion. Defnyddiwyd y moddion, ond methodd yr amcan. Wedi i'rgŵr dan sylw gael ei droi o'i dyddyn, trefnodd rhaglun- iaeth iddo gael disgyn i'r Cwyrt, tyddyn helaeth yn ughymydogaeth y Dwyran a Brynsiencyn. Wedi ymsefydlu yn ]\Iôn, ymroddodd Owen Jones o ddifrif i wasanaethu achos yr efengyl. Cysegrodd ei amser, ei ddawn, ei dŷ, a mesur helaeth o'i feddiannaUj at achos y Cyfryngwr. Dywedid am dano ar ol ei ymadawiad, gau y sawl a'i hadwaenent, " Ni chlywsom neb cyflfelyb i Owen Jones o'r Cwyrt, am gadw seiat." EraiU a ddywedent gyda theimlad dwys, " Nid oes o'i fath ar y ddaear heddyw." Yr oedd ei ras, ei ddawn, a'i weith- garwch, yr un mor ddysglaer a chanmoladwy a'u gilydd.

Ar y neiUduad cyntaf a fu ar weinidogion i'r coríf, Owen Jones oedd y gŵr a anfonwyd i gynrychioli gwlad Môn, yn y gynadledd bwysig hòno, yr hyn oedd brawf arbenig o'r cyfrif a wneid o hono gan ei frodyr. Ni fynai rhai o'r brodyr yno neillduo ond ua i sir Fôn, ond fe fynai Owen Jones gael dau, a bu gryn ddadl ar hyny, ond o'r diwedd gofynwyd i'r cynrychiolydd a foddlonai efe i farn Mr. Charles ? " Gwnaf," ebe yntau, " ond i mi gael gosod y mater o'i flaen ef fy hun." Caniatawyd hyn iddo, felly aeth ef a brawd arall at Mr. Charles. A'r canlyniad fu iddo enniU y gŵr da hwnw i'r un golygiad ag ef ei hyn, a phenderfynwyd neillduo Mr. Elias, a Mr. Llwyd, Beaumaris, ar unwaith.

Daeth ar ei feddwl tua'r fl. 1813, i gael capel newydd yn Nwyran, y cyntaf a adeiladwyd yn yr ardal, er fod yno bregethu eisoes er ys amser maith. Ac yn yr ymddyddan a fu yn y cyfarfod misol ar yr achlysur, cawn ddrych o'r hen bobl dda yn trafod materion o'r fath ; dull nad oedd dim niwaid yn- ddo pan mewn dwylaw da, ond dull na atebai i bob amgylchiad.

Mr. Jones, Bodynolwyn, o herwyád ei oedran a'i le yn y wlad, oedd y cadeirydd ; gŵr yr oedd Owen Jones yn gyfaill mawr iddo, ac yn hŷf iawn arno ; a gŵr hefyd a berchid yn fawr gan y frawdoliaeth oll. Cyfarchai Owen Jones ef fel hyn :

" Mae arnom ni, Mr. Jones, eisieu capel yn Nwyran acw."

"Y mae, Owen," meddai Mr. Jones, "pa beth a wnei di ag ef?"

"Pa beth bynag a wnaf fi ag ef, y mae yn rhaid i mi ei gael."

"Ehaid i ti eigael?"

•' Ehaid, Mr. Jones, pe costiai i mi haner cant o bunnau, o'm mhoced fy hun."

"Wel," ebe y Cadeirydd, "y mae'n rhaid iddo ei gael, mi welaf." A dyna'r ddadl ar ben.

Gosododd gynllun yn ebrwydd ar droed i gael cyfraniadau ato, ond prin

fEN. 11.] SIR FON. 513

yr oedd yr adeilad wedi ei orphen cyn iddo yntau orplien ei yrfa, " ei lafur a'i waitìi yr un wedd." Yr oedd wedì treulio 28 lulynedd yn Mou, a thros yr holl amser hyny yn llwyr ymroddgar i wasanaeth ei Dduw. Gwrandawai bob Sabboth y byddai gartref, mewn tri ehapel, sef Llanddaniel (Gaerwen), Brynsieucyn, a Niwbwrch, y daith Sabboth, ac felly teithiai 15 milldir i'r pregethau bob Sabboth.

Dylasid dyweyd mai wediei ddyfodiad ef i'r wlad, a thrwy ei fiyddlondeb a'i egni ef, i radd fawr, yr adeiladwyd capelyn Mrynsiencyn. Yroeddei enw fel gŵr grasol, cymwynasgar, a chyfiawn, yn ddiareb yn mysg y sawl a'i had- waenent ef.

Tua'r fl. 1794, ymwelodd yr Arglwydd â'r ardaloedd hyn ag adfywiad grymus iawn, y cyntaf a'r grymusaf a fu yma erioed. Effeithiodd yu rymus, nid ar y broydd hyn yn unig, ond ar Fon yn gyffredinol, a pharthau o Arfon. Dechreuodd ar ddydd ympryd gwladol, a gynelid yn achos y rliyfel oedd. rhwng y wlad hon a Ffrainc. Ar ddiwedd dydd yr ympryd, penderfynwyd holwj-ddori y plant yn y cynuUiad liwyrol ; ond ar ganol y gorchwyl, gorfu ar yr holwyddorwr syrthio ar ei iiniau i weddio, a hyny am na allai ymattaî. Disgynodd cyffelyb deimladau ar y plant, y rhai, bellach, oeddynt yn ei gylchyuu, ac yn gwaeddi am eu bywyd. Yu yr adfywiad hwn yr effeithiodd y gwirionedd gyntaf ar feddwl y Parch. David Jones, Dwyran, cymaint, o leiaf, fel na anghofiodd y tro byth ar ol hyny. Y"r oedd ei ddylanwad gy- maint ar yr ieuenctyd, fel nad aeth cymaint ag un o honynt i weled y rhedeg ceffylau a gynaliwyd gan y gwŷr mawr, o fewn llai na hanner milldir i'w tai.

Teimlodd Brj'nsiencyn yn ddwys iawn oddiwrth yr adfywiad. Y^r oedd ymron bawb megys wedi eu caethiwo gan ei swyn. Nid oedd oud dau o'r aelodau eglwysig na orchfygwyd hwy i'r graddau na allent yniattal heb lefain ; a dy wedir am un wraig, na wnaeth hi ddim ymron am uu wythnos gyfan, ond canu a chanmawl.

Fe fu amryw bregethwyr yn cyfaneddu y rhan yma o'r wlad, heblaw yr hen Eichard Jones, Niwbwrch; sef John Edwards, Tre'r-dryw; Thomas Jones, Llanddaniel ; Manuel Evans ; ond oll, bellach, ac er ys blynyddau lawer, wedi diflanu ; ac yn ddiweddaf oll, y Parch. David Jones, Dwyran. Yr oedd y gŵr diweddaf yn gristion gloyw ac unplyg, heb fod na rhodres na thwyll yn perthyn i'w gymeriad. Y'r oedd yn bregethwr o syniadau gwreidd- iol, ac yn dra chymeradwy fel cristion a gweinidog. Neillduwyd ef i weinyddu y sacramentau yn y fl. 1835, a bu farw dan eftaith difaol v cancr ar ei wefus, mewn perffaith daugnefedd, wedi bod yn pregethu vn mhell ar hanner cant o flÿnyddau.

LLANGHISTIOLUS.

Y traddodiad ydyw, mai yn y lle hwn yr adeiladodd y Methodistiaid eu capel cyntaf yn sir Eon, a hyny yn y fl. 1764. Ond yr oedd pregethu yn vr ardal flynyddau lawer cyu hvn. Dechreuodd v pregethu mewn anedd

2 I ' J '

514 HANESJAETH Y SIHOEDT). [DOSB. IV.

a elwid, Bryn-y-gors-bacb, lle yr oedd un Eobert yn byw, yr hwn a gyfenwid, gan amlaf, yn Eobert y Coicper, gan mai cylcliwr ydoedd wrth ei grelît. Un o hen gampwyr Mon oedd Robert yn ei dymhor ; \m a fedrai droedio y bêl yn gampus ydoedd; ac wrth ei throedio uu Sabboth ar forfa Malldraeth y torodd ef ei glun, a bu hyny yn achlysur, nid yn unig i dori ei flys at y gamp hòno, ond at bob camp arali, oddieithr "camp uchel alwedigaeth Duw yn Nghrist lesu."

Wedi ei ddychweliad at grefydd, dangosodd gyífelyb awyddfryd ac egni i'w gwasanaethu hi, ag a ddangosasai o'r blaen i wasanaethu chwantau ac amryw feluswedd. Derbyniodd bregethu i'w dŷ. Bellach, ni adawai lon- ydd i'w gyraydogion heb eu cymhell i ddyfod i wrando yr efengyl, a phan y gwelai yr ieuenctyd ef yn dyuesu atynt, pan yn berwi yn eu chwareuyddiaeth ar V Sabbothau, hwy íFoent rhagddo gan ei ofa, o herwydd ni allent oddef awch ei eiriau.

Dan arolygiaeth yr henadur ffyddlawn hwn, fe gynyddodd yr achos, a chwanegwyd amryw at yr eglwys ; ac yn eu plith, yr oedd amryw o wýr ieuainc, y rhai, yn raddol, a gyrhaeddasant raddau helaeth o wybodaeth, dawn, a defnyddioldeb ; mwy, efallai, nag oedd gan yr hen gylchwr ei hun. Cymerodd y gelyu achlysur oddiwrth hyn i enyn eiddigedd yn mynwes yr hen ŵr yn erbyn y gwŷr ieuainc, gan dybied eu bod yn amcanu myned o'i flaen, ac y syrthiai yntau i ddiystyrwch. Ac er nad oedd dim gwir sail iddo dybied hyn, mwy na bod y uatur ddynol yn dra darostyngedig i ddrygau o'r fath, eto syrthiodd yr hen gristion gymaint dan ddylanwad y dyb, nes ei gwbl ddifuddio. Ni wnai na chanu, gweddio, na chynghori neb yn y cyfar- fodydd eglwysig ; ac yn y cadwynau hyny y bu yn ymdroi dros ryw dymhor, yn anghysurus iddo ei hun, ac yn ddifudd i eraiU,

Yr oedd hen bregethwr, o'r enw "V\'illiam Roberts, yn byw y pryd hyny yn Amlwch. Hwn a ddaeth i Langristiolus, wedi deall y wedd oedd ar y gym- deithas eglwysig, i edrych ai ni ellid gwellhau archollion Robert y Cowper; ac er mwyn dangos ansawdd pethau yn yr oes hòno, a duU yr hen bobl yn ymdrin â phethau o'r fath, rhoddir y darluniad canlynol gerbron, o'r hyn a gymerth le yn y cyfarfod eglwysig.

"Beth yw dy oed di, Eobert?" gofynai y pregethwr.

"Hyn a hj^n," oedd yr ateb.

" Pa nifer o blant sydd genyt ? "

" Hyn a hyn."

"Bethywdy grefft di?"

" Coicper ydwyf wrth fy nghrefft."

" I ba gelfyddyd yr wyt ti yn dwyn dy feibìon i fyny ? "

" I Gowperaeth," atebai Eobert.

" A fedri di wneyd piserau mor hardd a llyfn yn awr ag a fedret ti gynt, pan yn mlodau dy ddyddiau ? "

"O na fedraf, o lawer; yr wyf, bellach, yn hen a dwl."

" A ydyw dy feibion gystal crefftwyr a thi ? "

PEN. II.] Sl!l FON. 515

" 0 ydynt, yn llawer gwell nag y bum i erioed."

" A wyt ti yn foddlawn iddynt ragori arnat ti ? "

" 0 ydwyf -. goreu po fwyaf y c^'nyddant mewn medrusrwydd yn eu crefft."

" Wel, Eobert ! a weli di y bechgyn ieuainc yma sydd Avedi dyfod atat i'r eglwys ? Tydi fu yn gweddio am eu troedigaetli ; tydi fu yn Uafurio i gael pregethu i'r ardal ; tydi fu yn llawenychu yn eu dychweliad at Dduw ; tydi fu yn eu dysgu, ac yn eu cynghori ; mewn gair, dy hlant di ydynt y rhailiyn oll, Rohert. Yr oedd hyn yn ddigon ; mewn myuyd, yr oedd enaid Robert yn rhydd ; toddodd calon yr hen ŵr, a gwelodd ei gamsynied. Bu y tro hwn yn fendith iddo ef ac i'r eglwys ; a pharhaodd, gyda bywiogrwydd a fFyddloudeb, i borthi yr ŵyn, ac i fugeilio y defaid, hyd angau.

Yn mhen ychydig, aeth yr haid yn rhy luosog i"r cwch yn Mryn-y-gors- bach, a bu raid symud i le mwy. Y nesaf a roes dderbyniad i'r achos, oedd Ty'n-y-pwll, lle y preswyliai un John Parry. Am hyn, bu gorfod i John Parry ymadael â'i dyddyn ; ond gofalodd rhagluniaeth am dano, a chafodd dyddyn arall yn yr ardal, a elwir Maes-y-llan, yn yr hwn le y bu yn byw yn gysurus dros flynyddau Liwer.

Bellach, daeth yr amser i adeiladu capel. Cafwyd lle i adeiladu gan un William Thomas, o'r Glyn, yn agos i fynydd Bodafon, dan rwym-ammod, am 999 0 flynyddoedd, ar tua hanner erw o dir, am 4s. yn y flwyddyn o gyd- nabod. Cryn orchestwaith, mae'n debyg, y cyfrifid codi y capel cyntaf hwn yn Mon. Nid oedd, o bosibl, ond rhyw ddau neu dri o gapelau gaa y Meth- odistiaid y pryd hyny yn hoU Wynedd. A chan leied oedd nifer y cref- yddwyr, a chan mor isel oedd eu hamgylchiadau, yn nghyda llawer o wrth- wynebiadau oddiallan, yr oedd adeiladu capel yn anturiaeth o gryn bwys ac anhawsder.

Bu y capel hwn dan gwellt am y 13 mlynedd cyntaf ar ol ei godi; yna eaugwyd ef, a rhoddwyd cerig arno. Yn y fl. 1810, helaethwyd ef i'w faintioli presenol. Diwedda fy ngohebydd trwy ddyweyd, " Mae genym lawer o destynau diolch fod yr achos yn y lle hwn wedi bod dan amdditryu- iad a nawddy Goruchaf; nes y mae y capel yn cael ei lenwi o gyuulleidfa fawr 0 wrandawyr; ac ymaeyraa eglwys luosog, dangnefeddus, a llwydd- iannus."

CAPEL BETHEL.

Mae y capel a elwir ar yr enw Bethel, yn sefyll yn mhlwyf Trefdra^th, yn y dosbarth deau-ddwyreiniol o'r ynys. Mae y capel yn sefyll tua thair milhlir o'r Aberfí"raw, yn y cyfeiriad tua Llaugefni. Nid yw yn hysbys pa mor foreu y dechreuodd Methodistiaid bregethu yn y plwyf liwn ; ymddeng- ys, pa fodd byuag, fod yma ambell oedfa achlysurol yn cael ei chadw cyu fod un drws yn agored i dderbyn pregethu cyson ynddo.

Nid anhawdd ydyw i'r darllenydd ddyfalu pa fath ydoedd raid fod sefyllfa y plwyf hwn cyn i ymneillduwyr gael lle i roddi troed i lawr ynddo, oddiwrth

516 HANESIAETII \' SIROEDÜ. [l)OSB. IV.

yr hanesyn a gaiilyn : " Yr wyf yn cofio," raeddai hen vvr, "fod un Dr. Bowles, yr hwn oedd yn analluog i ddarllen Cymraeg, wedi cael personiaeth plwyf Trefdraeth, unwaith, a bod y plwyfolion, fel un gŵ'r, wedi codi yn ei erbyn. Y canlyniad fu i'r per.<on fyned i gyfraith â'r plwyfolion, a chodwyd yr achos i'r Court of Jrches, yn Lluudain. Gwysiwyd chwech o'r plwyfol- ion i ymddangos yn y llys, i brofi anghymhwysder eu gweinidog. Yn mysg holiadau eraill, gofynwyd iddynt, " Pa iaith oedd y person yn ei defnyddio wrth ddarllen iddynt ? " Hwythau a atebasant, na wyddent hwy pa iaith yd- oedd, ond gwydder.t yn dda mai uid Cymraeg oedd Id. Ar hyn, trodd y ddedfryd yn fuan yn erbyn y person, ac o blaid y plwyfolion ; eto, archwyd ar y plwyfolion oddef i'r hen ŵr fwynhau ei fywiolaeth am ei oes ; a rhwng bodd ac aufodd, cydsyniwyd i wneyd hyny, a daliodd ei swydd megys o oddefiad hyd ddiwedd ei oes."

Hawdd dychymygu mai ychydig o (Iymry uniaith a welid yn y llan yn gwrando Dr. Bowles a hawdd dychymygu hefyd pa fath ydoedd ansawdd grefyddol, neu yn hytrach anghrefyddol, yr ardal, pan oedd athraw crefyddol y bobl heb fedru eu hiaith, a hyny mewn amser nad oedd dim moddion cref- yddol i'w cael yn unlle arall o fewn y plwyf. Cof gan y darllenydd i ni wrth grybwyll ychydig am Eichard Jones, o Niwbwrch, yr hwn, tybygid oedd un 0 bregethwyr henaf y wlad hon, ddarfod i ni son am yr erlid a fu arno yn yr ardal hon, pan yn ceisio pregethu i'r bobh Yn ychwanegol at yr hyn a ddywedwyd yno, hysbysir mai y canghellwr Lewis, o'r Siamber-wen, a flaen- orai yr erledigaeth. Yr oedd y pryd hyny gan bob teulu gorn, ac y mae gan lawer o amaethwyr eto, yr hwn a ddefnyddir i alw y teulu o'r maesydd at eu pryd bwyd. Ar yr achlysur y cyfeiriwn ato, yr oedd y canghellwr wedi sicrhau lluaws o'r plwyfohou i ddyfod gydag ef, ac i ddwj'u pob un ei gorn i'r oedfa, yr hwn a guddid hyd amser priodol, o dan eu dillad, Ar waith y pregethwr yn rhoddi pennill allan i'v/ ganu, tynodd pob un ei gorn allan i'w chwythu ; eraill a groch-nadent, fel ag i ddyrysu yr addoliad ; a rhai a ddechreuent luchio cerig at y pregethwr. Gwelwyd yn bur fuan nad oedd dim gobaith cael llonyddwch i gadw yr oedfa ; ac nid hyny yn uuig, ond ei bod yn beryglus aros yn y lle ; felly, fí'oi a Avnaeth Páchard Jones ; a thrwy afou Malldraeth, yn yr hon yr oedd cryn lanw ar y pryd, y cafodd ddianc i'w gartref. Ciliodd rhai o'r gwrandawyr i bentref Trefdraeth, gan lechu mewn yno, ac yn eu mysg yr oedd Siôn Eolant (yr Hafod ar ol hyn) ; deallodd y canghellwr eu bod yno, a daeth i'r tŷ, ac a ymaflodd yu ngwddf Siôu Eolant, gan ei ysgytio yn dost. Ceisiai Siôn Eolant amddifl'yn ei hun, trwy ddyweyd mai gwrandawr, ac nid pregethwr, oedd ef. " Pa un bynag," atebai y canghellwr, " yr wyt tithau yn un o honynt, ac mi fynaf dy gosbi yn ddiarbed, oni roi di heibio eu canlyn."

Sonir am bregethwr arall yn ceisio pregethu jti yr un man, sef ar ben y Graig-wen, yr hwn hefyd a gafodd ei erlid yn gyffelyb i'r llall ; ac wrth ganfod na fynai y terfysgwyr wrando ar ddim a ddywedai, efe a'u gadawodd, wedi dadgan, " Hyd yn nod y Uwch, yr hwn a lynodd wrthyf, yr wyf yn ei j'^sgwyd

PEN. II.] SIR FON. 517

ymaith yn dystiolaeth yn eich erbyn," ddarfod i mi eich rhybuddio i ffoi rhag. y llid a fydd !

Yn y tyrahor hwn, pryd yr oedd y gwŷi- mawr oU yn erbyn pob rhith o ymadawiad oddiwrth yr eglwys, a phryd hefyd yr oedd y werin yn offer ewyllysgar ganddynt i wneyd yr hyn a fynent, yr oedd yn anhawdd iawn cael un man mewn ardal, Ue y gellid dysgwyl cael llonyddwch a seibiant i addoli, i'r ychydig bobl a ewyllysient hyny. Mae yn y fro hon fath o gytir eang, yr liwn oedd y pryd hwnw heb ei gau, sef Morfa Malldraeth. Ar y cytir hwn, gan ei fod yu lle cyffredin a dystaw, ac yn mhell o gartref y canghellwr, yr ymgynullai tyrfaoedd o bobl i wrando pregethau. I'r lle hwn, wrth bychan, o'r enw Ty'n-y-morfa, yr ymgasglai cryn luaws o bobl yn achlysurol. Cyferchid hwy gan William Lewis, Richard Jones, Hugh Griffith, ac eraiU o'r hen bregethwyr ; a melus y coffa a fyddai gan yr hen bobl am oedfaon ]\Iorfa Malldraeth, gan mor rymus a nerthol a fyddai yr arddeliad ar y weinidogaeth. Dychwelai minteioedd adref, rhai i'r Aberffraw, eraill i Niw- bwrch, ac i wahanol gymydogaethau o amgylch, yn fynych dan foliannu Duw mewn hwyl nefolaidd, nes byddai y ffyrdd a'r bryniau yn adsain gan eu sain. Yr oedd y tymhor erlidigaethus hwnw yn dymhor o fwyuhad. Os ymosódid ar y dysgyblion oddiallan, gan orthrwm, cysurid hwy yn gyfatebol oddimewu â mwyuhad. Fel eu dydd, felly eu nerth.

Yr oedd y tymhor trallodus hwn ar grefyddwyi', yn dymhor cyuydd ar grefydd. Fel yr oedd ar blant Israel yn yr Aipht, po fwyaf y'u gorthrymid, mwyaf oll yr amlhaent. Gallesid raeddwl y buasai rhagfarn y weriu, a dy- lanwad y mawrion, wedi ymgynghreirio â'u gilydd, yn Ilawn ddigon i lethu achos nad oedd ua dysg na defod, cyfoeth na rhif, awdurdod na dylanwad, o'i blaid ; eto methu a wnaeth pob ymosodiad, ac ar gynydd yr aeth y gwaith. Nid yw gwŷr mawr yn ddoeth bob amser. Hyn a wiriwyd yn y canghellwr. Wedi Ilwyddo i derfysgu ac aÜonyddu ar y Methodistiaid pan yn pregethu mewn Ileoedd heb eu cofrestru, ymhyfhaodd i estyn ei law yn erbyn eraiU. Un Sabboth, niedd yr ysgrif o fy mlaen, ar ol y gwasanaeth yn y Uan, aeth i gapel yr Annibynwyr, a elwir capel Paradwys, gan daro y pregethwr yu ei ben i îawr yn y pulpud ! Yr oedd hyn yn draha ua ellid ei ddyoddef, yn enwedig mewn swyddog eglwysig, ac yuad heddwch. Anfonwyd cvvyn yn ei erbyn i Lundain ; ac mewn caulyniad, anfonwyd swyddog o'r brif-ddinas i'w wasanaethu â gwys i ymddangos o flaen y Ilys. Parodd hyu y fath fraw a dychryn iddo, fel ag y clafychodd yn ebrwydd, ac y bu farw yn mhen ychydig wythnosau ! Ehoes hyn derfyn ar aflonyddu addoliad o hyny allan.

Nid yw yn ymddangos fod pregethu cyson a sefydlog gau y Methodistiaid yn yr ardal hon cyn y fl. 1776. Yr oedd gŵr a gwraig, o'r enw Eowland a Jane Owen, yn byw mewn tyddyn o'r enw Glan-traeth, gerllaw y Morfa cryb- wylledig. Y rhai hyn a agorasant eu drws i dderbyn pregethu iddo, ac yn Glan- traeth y cadwyd y moddiou am oddeutu l^ o flyuyddoedd. Yn y fl. 1790, symudodd y teulu i Ure-ddafydd i fyw. Ynia, bellach, y cedwid y moddion hyd y fl. ] 804. Yn y flwyddyn hon yrauuodd tuag 20 o nifer, y rhai a fuas-

5]3 HANEsiAF/rn Y siROEDu. [dosb. IT.

ent hyd yn hya yn aelodau yu Aberffraw, gan mwyaf, i ffurfio eglwys arni ei hunan yn Nhre-ddaíydd. Eowland Owen, a Manuel Evans, oedd yn ei gol- ygu ; ac o hyn allan, gellir cyfrif bod pregethu cyson yn y l)e. Yn y fl. 1810, bu adfywiad grymus ar grefydd yn y lle hwn, a chwanegwyd 12 neu ychwan- eg 0 rifedi at y gymdeithas eglwysig. Yn y fl. 1814, symudwyd y moddion 0 Dre-ddafydd yn ol i Glan-traeth, lle yr oedd gwraig weddw yn preswylio, o'r enw Anne Williams. Bu y wraig hon a'i meibion yn dirion iawn at achos yr efengyl tra y cynelid y moddion yn ei thŷ. Y pryd hyn, cedwid y cyfar- fodydd eglwysig yn Ty'n-'r-allt, cartref Henry Thomas, Fe fu yr achoa crefyddol yn nhŷ Rowland Owen, o'r fl. 1776 hyd 1814, ysbaid raaith o 38 0 flynyddoedd, a mawr y flyddlondeb a ddangoswyd ganddo ef a'i wraig, trwy weini pob ymgeledd a llety i'r pregethwyr a ddeuent yno yn eu cylch. Bu y wraig ftU'w yn y fl. ]815, y flwyddyn gyntaf ar ol i'r pregethu gael ei syraud o Dre-ddafydd, a'r gŵr y flwyddyn ganlynol. Wedi gwasanaethu eu cenedlaeth yn fl'yddlawn, ac yn ol ewyllys Duw, rhoddwyd hwy i huno gyda'r tadau.

Yr oedd ysgol Sabbothol wedi ei dechreu yn Tre-ddafydd er ys naw mlyn- edd, neu ychwaneg, cyn marw y gŵr a'r wraig. A thua'r un amser, codwyd ysgol arall ar yr ochr arall i'r plwyf, yn Ty'n-llwyn, lle y preswyliai Manuel Evans, gŵr a fu yn bregcthwr poblogaidd a derbyniol am lawer o flynydd- oedd. Symudwyd yr ysgol yn mhen tua blwyddyn o Dy'n-llwyn i Dy'n- 'r-allt, lle yn nes i ganol y plwyf; ac yn y fl. 1815, unwyd y ddwy ysgol yn y capel, yr hwn a godwyd, fel yr ymddengys, yn y flwyddyn hono.*

Gwelir cynydd yr achos yn y cyfrif a ganlyn :

Yn 1804 yr oedd 20 o aelodau.

1810

)>

35

1815

ij

55

1821

»)

80

1822

)j

200

Fellv, mewn Uai nag ugain mlynedd, yr oedd nifer ycymunwyr wedi lluos- oo-i o 20 i 200 0 rifedi. Blwyddyn o adfywiad rhyfeddol ar yr achos yn Bethel, a manau eraill yn Mon, oedd y flwyddyn 1822, tymhor yr oedd y rhai a fu yn hau mewn dagrau, yn cael medi mewn gorfoledd, tymhor y cafodd yr hwn a fu yn myned rhagddo ac yn wylo, gan ddwyn had gwerth- fawr, ddyfod drachefn mewn gorfoledd, gan gasglu ei ysgubau. Yn yr adeg hyfryd hon, yr oedd Seion yn llawen-fara plant : yr oedd y gwlaw graslawn vn disgyn yn gawodydd cynyrchiol, ac etifeddiaeth Arglwydd y lluoedd yn cael ei gwrteithio wedi blino. Ehoddid y fath rym yn y weinidogaeth nad oedd neb yn abl ei gwrthsefyll. Dynion celyd yn toddi fel cwyr ; meibion a merched gwamal ac annystyriol yn cael eu dal megys â gwỳs brenin ; plant ieuainc yn mwynhau profiadau henafgwyr ; dyniou digrefydd yn sefyll yn

* Llafurns a ffyddlon iawn gyda'r \ sgol Sabbothül a fu Robert Owen, Careg-yr-iar, a WiUiam Griffith, Careg-ruffydd.

PEN. III.] SIK FOiN'. 519

syn, gaa ofyn, " Pa beth a all hyn fod ?" gwrthgilwyr yn troi yn ol, wedi eu dwys-bigo yn eu calouau ; a phob teimlad anghysurus wedi toddi ymaith fel yr yn ngwres yr haul. Disgynai y syniad i feddwl pob edrychydd ystyr- iol, " Bys Duw yw hyn ! "

Mae yn aros yn eglwys Bethel yn awr, sef j-n y fl. 1853, tua 180 o aelod- au, a hyny ar ol Uawer o farwolaethau a symudiadau, ac hefyd ar ol i ddwy haid godi o honi, un i Soar, tua dwy filldir i'r Gogledd-orllewin, un arall i le a elwir yr Yard, tua'r un bellder i'r de-ddwyrain, Ehwng y tri Ue hyn, y mae tua 350 bob Sabboth dan addysg grefyddol, yn cynwys rhai o bob oedran, o'r plentyn pedair blwydd oed hyd at yr hen ŵr triugain.

PENNOD III. HEN EGLWYSI DEHEUOL Y SIR.

CYNWYSIâD ;

PREGETHU ACHLYSUROL YX ABERFFRÂW— DWY HEN FERCH YN LLOCHI YR ACHOS— WIL WILLIAM PRYS, Y GOF— GWAWDIO PREGETHU— MR. WILLIAMS, LLEDR- OD— Y GYMDEITHAS EGLWYSIG GYNTAF— CAPEL HUDDYGL DYFODIAD PREG- ETHWR I HENLLYS-FAWR— HANES EVAN THOMAS— JOHN OWENS, PLAS— AD-

EILADU CAPEL NEWYDD— GRIFFITH EDWARD— "WILLIAM EYANS, BETHANIA

SEFYDLIAD YRYSGOL SaBBOTHOL, AC ADEILADIAD Y CAPEL— TRE-WALCHMAI— PARCH. RICHARD LLWYD.

ABERFFRAW.

Mae hanes ar gael yn mhlith yr hen bobl fod pregethu, achlysurol o leiaf, yn yr ardal hon, mor foreu a'r fl. 1760 ; a bod y pregethwyr a anturient yma, y pryd hwnw, wedi cyfarfod â llawer o ddirmyg a gwaradwydd, ond llai o'u baeddu a'u harchoUi nag a brofwyd mewn rhai manau eraiU. Ar yr un pryd, yr oedd y gwrthwynebiad i'r sect newydd ddyeithr hon, yn gryf a phender- fynol iawn. Ond tra yr oedd y gwŷr mawr, a gwŷr urddasol y fro, yn nghyda chorfl' y bobl gyflredin, yn bygwth yn wgus, ac yn gwawdio yn ddi- ystyrllyd, tueddodd yr Arglwydd galonau dwy hen ferch yn y dref i roddi gradd o wyneb a derbyniad i'r pregethwyr a ddeuai atynt. Caniatawyd i Lewis Evan, Llanllugan,* unwaith sefyll i bregethu wrth dalcen bwthyn un o honynt. Ar hyn, enynodd y fath flyrnigrwydd yn mynwes rhyw ddyn o ôf, yr hwn a elwid Wil WiUiam Prys, fel ag y prysurodd i roi haiarn yn tân, a thyngai y mawr Iw y rhoddai yr haiarn gwynias trwy gorn ei îoddfd; ac yn ebrwydd canfyddwyd ef, fel dyn wedi ei feddiannu gan ddiafol, â'r haiarn poeth yn ei law, yn rhedeg tua'r lle yr oedd y pregethwr yn sefyll, gan am- canu yn ddiau ei niweidio yn drwm, os nad ei ladd. Trwy gael hysbysiad dioed o'i berygl, ciliodd y pregethwr o'r fl"ordd, a hyny, o'r braidd, cyn i'r

Gwel ei hanes Cyf. I., tudal, 123.

520 HANESIAETH Y S1UÜ£DI>. [DOSB. 1T,

creadur cythreulig ei gyrhaedd. Yr oedd gwrthwynebwyr crefydd, lawer o honynt, er na fynent eu hunain fod yn euog o'r fath anfadrwydd, yn ddigon llawen fod iddynt y fath offeryn a Wil y gôf ; ond uid hir y rhoddwyd iddynt fwynhau y llawenydd hwnw, oblegid symudwyd y gôf druan i fyd arall, yn mhen ychydig iawu o amser ar ol y tro uchod.

Ehyw dro arall, yr oedd offeiriad o'r deheudir, o'r enw Hughes, wedi ym- weled ag Abeífi'raw i bregethu. Cafodd ganiatâd i sefyll wrthdŷgŵr o'r enw OwTu William Cellar, yn nghẁr y dref. Penderfynodd yr erlidwyr y mynent hwythau eu cynulliad gerllaw yr un lle ; a phau oedd y pregethwr wrth ei orchwyl ef, ymroisant hwythau i droedio y bêl â'u holl egui. Yn mhen ychydig, hyrddiwyd y bêl i ganol y gwrandawyr, athreiglodd at draed Owen "WiUiam Cellar, yr hwn oedd berchen y tir. Nid oedd y gŵr hwn yn cymeryd arno fod yn grefyddol, ond yr oedd yn meddu ar synwyr a phwyll, ac yu penderfynu ystyried pethau drosto ei hun. Yr oedd hefyd yu ddyn cryf o gorff, a gwrol o feddwd ; a phan ddaeth y bêl ato, ac eisoes yn teimlo yn an- foddog na chawsai y sawl a ewyllysient wrando lonyddwch i hyny, efe a gododd y bêl, ac â'i gyllell a'i torodd yn ei hanuer, gan ddatgan y gwnai ef yr un peth â phwy bynag a feiddiai aflonyddu y cyfarfod ; " o herwydd," eb efe, "nid y w y pregethwr yn gofyn dim genych, uac yn aflonyddu dim arnoch ; a chan hyny, mi fynaf fiuau lonyddwch iddo yutau." Dywedir i'r bregeth hon fod yn foddiou iachawdwriaeth i laweroedd.

Bu Mr. Williams, Lledrod, yn pregethu yn Aberffraw mewn amser boreu ar rethodistiaeth yno, a bu ei ddyfodiad yn dra bendithiol i'r gy- mydogaeth. Ehoddir enghraiü't o dyvvyllwch dudew y trigolion (ac nidydyw, yn ddiau, ond drych i arddaugos sefyllfa Uaweroedd yu y tymhor hwnw), yn yr ymddyddan canlynol. Gofynai merch i'w mam, wrth fyned adref, wedi bod yn gwrando Mr. Williams, " Pwy oedd yr lesu Grist yr oedd y pregeth- wr yn son cymaint am dano ? "

" Fy ngeneth fach i, ni wn i ddim ; nid adwaenais i neb o'r enw. Mae'n debyg mai rhyw ddyn cymwynasgar o Sais ydoedd," oedd ateb y fam,

"Nage," ebe y tad ; " oni wyddoch chwi fod Duw Avedi gwneyd lesu Grist, wrth iddo farw ar y groes, yu Geidwad i bobl y byd ; ac mi waranta mai hwnw yr oedd y gŵr yn son am dano."

Ond er tywyìled oedd y teulu hwn, wreiddyn a changhen, eto yr oedd eu hystyriaeth wedi ei ddefi'ro, ac awydd i wybod mwy am y pethau hyû wedi ei enyn ; a buan y daethant i adnabod ac i brofi y pethau a berthynent i'w heddwch.

Bu yr achos yn wanaidd yn Aberff'raw yn hir ar ol dechreu pregethu yn achlysurol yn y Ue. Nid oedd eto nemawr ddefnyddiau eglwys, er fod yma amryw wedi cael blas ar air y bywyd, Bu y lle yn hir heb gynulliad eglwysig, ac heb weinidogaeth gyson ; a mynych y cyrchai rhyw rai o'r ardal i Lan- gristiolus, neu i Lauerchymedd, i oedfa, pan glywent fod yno bregeth i'w dysgwyl. Er hyn oll, yr oedd y gwaith yn ymsefydlu fwy fwy, trwy fod dy- fodiaid 0 ardaloedd eraill yn dyfod i drigiannu yn yr ardal. Daeth a

PEN. III.] siK roN. 521

gwraig yma i fyw o Gaerlleorij a thrwy wrando rhyw bregt^'th, emiiUwyd y wraig at grefydd. Daeth gŵr o'r emv Robert Parry, o gymydogaeth Lhm- gristioliis, yma i fy w, yn nghydag uu John Thomas Pierce, a'i deulu, y rhai a ennillwyd i gymeryd yr iau arnynt, ac i achlesu yr aclios Yr oedd hyn, meddir, tua'r fl, 1771. Y flwyddyn ganlynol, ymunodd y tri uchod, sef Hobert Parry, John Thomas, ac Ann, gwraig Thomas Evans, i gynal cyfarfod eglwysig. A mawr y twrf a barodd hyn yn y pentref, Galwyd y cyfarfod hwn yn "weddi dywyll;" a chan yr eiddigeddai y crefyddwyr cyntaf na ddelai neb i'r cynuUiad eglwysig, na hen nac ieuauc, ond y cefiid arwyddion Iled amlwg 0 law Duw arnyjit, rhoddwyd mwy o achles nag a fuasai raid i'r enllib a ledaenid am danynt. Mawr fu yr hwtio a'r gwaradwyddo a fu ar y tri hyn, dros ryw dymhor, o achos eu bod yn ymneillduo i ymddyddan â'u gilydd yn nghylch gwaith gras ar eu heneidiau. Tua'r amser hwn, cafodd Eobert Parry ar ei feddwl neillduo anedd i fod yn addoldy, oblegid hyd yn hyn nid yw yn ymddangos fod ganddynt un Ile sefydlog i bregethu, os oedd un Ile hefyd heblaw yr awyr agored. Galwyd yr addoldy newydd, sef y anedd a roddasid i bregethu ynddo, yn " Gapel Huddijgl ; " ac wrth yr enw hwn yr adnabyddid ef yn gyíîredin.

Bcllach, ymrödd yr ychydig grefyddwyr yn fwy nag o'r blaen i gael preg- ethu cyson i'r addoldy ; a chan nad oedd cyfarfod misol rheolaidd yn y wlad, nid oedd un cyfleusdra i gael gafael ar bregethwyr, ond trwy dori i'w cvfarfod i ba le bynag y clywid eu bod i ddyfod. Felly aent, yn fynych, 15 neu 20 milldir 0 ffordd i gyfarfod â phregethwr, er mwyn cael addewid ganddo i ddyfod i'r Aberflraw. Y pryd hyn, yr oedd Evan Griffiths, Chwaen-hen ; William Lewis ; Owen Thomas Eowland, ac eraill o'u cydoeswyr, yn yraweled ag Aberff"raw, yn nghydag ambell un o siroedd eraill y gogledd, neu o'r deheudir ; a rhyfeddol, meddir, a fyddai y grymusderau a brofid, weithiau, yn y " Capel Huddygl." Yr oedd y gwrandawyr, bellach, yn Iluosgi, a nifer y crefyddwyr yn amlhau, a'u sel hefyd yn cael ei wresogi fwy fwy. Mynych yr âi nifer o honynt, pan y byddai gŵr o fwy o enwogrwydd nag arferol yn y wlad, i Amlwch erbyn 9 o'r gloch boreu Sabboth, Llanerchymedd erbyn 3 o'r gioch prydnawn, ac Aberfiraw erbyn yr hwyr, wedi teithio, rhwng myn- ed a dychwelyd, 40 milldir o ffordd. Tua'r fl. 1776, medd yr ysgrif sydd o fy mlaen, torodd adfywiad grymus ar yr achos crefyddol yn yr Aberffraw, yr hyn a barodd chwanegiad mawr at y dysgyblion ; ac o hyn aîlan, golygid fod Methodistiaeth wedi ymwreiddio yn yr ardal. Ennillodd, bellach, oruchaf- iaeth. Ni bu, o hyn allan, yn wrthddrych gwawd, ac yn cael ei archolli gymaint gan enllibiau. Tua'r tymhor hwn y cafodd Richard Jones, mab i'r gŵr a gadwai fasnachdy yn Nhrefdraeth, ei dueddu i wrando, a'r hwn ar ol hyn a fu mor ddefnyddiol gyda'r achos yn Nghaergybi.*

Yn y fl. 1780 y daeth Mr. John Jones, pregethwr, ac uu John Thoma&, gŵr crefyddol arall, i fyw i Henllys-fawr, tyddyn eang yn y gymydogaeth, 8

* Gwel yn mhcllach am clano yu hanes Caergj'bi.

5-22 ir.vNr.siAF.Tti y siroeud. [üosü. iv.

rhoes eu dyfodiad ysgogiad grymus i'r achos crefyddol yn ei flaen. Gŵr oedd John Jones, ganedig o sir Aberteifi ; yn y sir hòno hefyd y dechreuodd breg- ethu. Ganwyd ef yn y fl. 1747, ac ar ddymuniad rhyw foneddiges, daeth trosodd i sir Gaernarfon i gadw ysgol, ac i bregethu. Yn y wlad hòno y priododd, ac y bu fyw dros ryw dymhor. Tua'r fl. 1780, pan ydoedd yn 33 ml. oed, daeth ar ddymuniad r^yw gyfeillion, i Fôn i fyw. Cymerodd y fferam fawr a enwyd, mewn cysylltiad ag un Evan Thomas, gŵr ag oedd gyfaiU iddo, ac a droisid allan o'i dyddyn yn Aberdaron, Lleyn, o herwydd ei grefydd. Bu y ddau ŵr hyn yn cyd-lafurio yn y tyddyn am ysbaid dwy flyn- edd ; ac ar ol y tymhor hyny, symudodd ]\Ir. John Jones i fy w i Bodynolwyn, lle y preswyliodd o hyny allan tra fu byw.

Bu dyfodiad y gwŷr hyu i lleuilys-fawr, o wasanaeth mawr i Fethodist- iaeth Aberä"raw, yn enwedig yr eiddo John Jones. Ac nid Aberöraw yn unig a fedodd fí'rwyth oddiwrth lafur y gŵr parchus hwn, ond y wlad yn gyffredinol. Ymgysegrodd i wasanaethu yr achos crefyddol dros weddill ei oes. Bu yn Uafurio yn y wLid hou am ysbaid 34 o flynyddoedd. Edrychid arno fel blaenor y cyfarfod misol am yr holl amser y bu ef yn preswylio yn y wlad. Tr oedd pregethwyr cyntaf y sir yn dechreu heneiddio pan ddaeth ef i'r wlad, ac nid oedd liawer o gymhwysder yn y rhau fwyaf o honynt i hwyluso achosion cyfarfodydd o'r fath. Nid oedd y gwŷr enwog a ymddang- osodd yn y wlad yn ddiweddarach ond ieuainc gyda'r gwaitb, pan oedd tymhor Jones,Bodynolwyn, ymron wedi terfynu; felly rhwng fod y naiU yn hen, a'r UeiU yn ieuainc, disgynai llywyddiaeth yr achos yn y wlad yn naturiol i'w ddwylaw ef. A bu ef ffyddlawn i'r yraddiried a roddasid ynddo. Ar ei ddyfodiad cyntaf i'r wlad, a phan nad oedd Methodistiaeth, mewn llawer parth, prin yn adnabyddus oddieithr trwy enlUbiau, cyfarfu Mr. Jones â graddau o erlidigaeth trwy gael ei luchio â thom ac â cherig ar rai achlysur- on. Ond nid oedd yn gwneuthur cyfrif o ddim o'r fath ; yn hytrach cyfrifai yn fraint ei fod yn cael ei gyfrif yn deilwng i ddyoddef anraharch er mwyn yr enw rhagorol oedd arno. Hynodid ef am ei fanylrwydd yn cyflawni ei gyhoeddiadau, ac yn dechreu yr addoliad yn yr adeg a gyhoeddwyd, ie, i'r fynyd. Safodd yn wrol yn erbyn adeiladu capelau dan ddyled, a Uwyddodd hefvd yn ei dymhor ef i gael ei amcan ; ac er na saf«'yd at yr uu rheol ar ol ei farwolaeth, cto y mae yn Mon heddyw frodyr a wnaeth orchestwaith yn hyn, nid trwy attal y cyfarfod misol rhag tynu dyled aruo, oiid trwy ei gael aUan o ddyled ar ol rayned iddi.

CrybwyUasom fod gŵr o'r enw Evan Thomas wedi dyfod i HenUys-fawr yr un amser a Mr. Jones. Dyddorol, yn ddiau, a fydd gan y darUenydd gael gair am y gŵr hwn, er mwyn dangos y tywydd garw a gyfarfyddai â'u heuaf- iaid gyda'u proffes, ac er dangos hefyd fel y byddai eu hymUd o'r naiil le yn foddion i rwyddhau y gwaith mewn manau eraiU.

Ganesid Evan Thomas, mewn tyddyn yn Aberdaron, o'r enw Tri-hobaid. Cafodd ddygiad i fyny da, jm mheU uwchlaw y cyffredin. Yr oedd yn raeddu rhyw gymaint o wybodaeth yn yr ieithoedd Groeg a Lladin, yn gystal a

PEN HI.] SIli FON. 523

Saesonaeg. Yroeddyn dd^ín nia-.vr, cryf, a gwisgi, ac yn rliagori yn nghamp- au ei oes a'i wlad. Cytunodd ef, a thri eraill o Aberdarou, gyfarlbd â phed- war 0 ddynion o Fon i chwareu ffeils am y goreu i gastell Caernarfon, ar ddydd Llun y pasg ; ond cyu i'r araser penodedig ddyfod i fyny, yr oedd y dynion a gyfansoddai y ddwy blaid, wedi eu dysgu i ganfod ofered oedd y fath orchwylion, ac wedi ymroddi i wasanaeth mwy anrhydeddus. Yr oedd gŵr dyeithr o'r deheudir, fel y bernir, i fod yu pregethu mewn congl cae neu faes yn nghymydogaeth Aberdaron, a hyny gatiol nos rhag ofn yr erlid- wyr. Ond yr erlidwyr a glywsant, ac yn eu mysg yr oedd pedwar o ben carapwyr Aberdaron. Y terfysgwyr a benderfynasant fyned i'r lle yn yr amser, gan lawn fwriadu niweidio, os nad lladd, y pregethwr.

Aèth yr haid erlidgar i'r lle ; a chyn ymosod ar y pregethwr, cytunasant aros dros enyd o'r neilldu, er mwyn cael difyrwch o glywed y crefyddwyryn moliannu, cyn codi terfysg ; ond wrlh wrando, dwysbigwyd hwy eu hunain yn eu calonau, ac yn Ue erlid y neb a dorai allan i waeddi, cafwyd hwy eu hunain yn llefain yn groch, gan ddychrynfeydd cydwybod wedi ei deffro ; ac yn eu mysg yr oedd Evan Thomas. Aeth i fyw ar ol hyn i Bodarnawy, yn Aberdaron, ond ychydig o lonydd a gafodd. I'r graddau yr oedd ef yn dy- fod yn amlwg gyda chrefydd, i'r un graddau y byddai gwrthwynebiad iddo yn cryfhau. O'r diwedd, penderfynodd y clochydd a'r ficer i gael gwared o hono yn llwyr o'r parth hwnw o'r wlad. Aethant at Mr. Wynne, Cefn- amwlch, ei feistr tir, i achwyn arno, gan dystio mai efe oeddy pengrwn penaf yn y wlad, a'i fod yn gwneyd ei oreu i dynu y bobl o'r eglwys, a'u gwneyd yn ddiserch at y llywodraeth. Mewn canlyniad, anfonwyd am dano i Gefn- amwlch, pryd y gosodwyd y cyhuddiad yn ei erbyn, ac r.ad oedd dim iddo i'w wneyd ond un ai ymadael â'i dyddyn, neu â'i grefydd; a bod yn rhaid iddo roddi ateb y pryd hwnw. Yntau a ddewisodd ymadael â'i dir, yn hytrach nag â'i broffes ; gan ardystio, ar yr un pryd, gan ei fod yn talu ei ffordd, rcai trais a chreulondeb oedd troi dyn i ffordd o'i dyddyn yn unig am ei fod yn hòni hawl i farnu drosto ei hun mewn pethau crefyddol. Felly ymadael a wnaeth. Ond nid digon oedd hyu o sarhad a cholled, ond gosodwyd dyn- ion diras ar waith i'w ymlid a'i flino, aed i'r lle yr ehd. Ir ymosodiad di- weddaf a fu arno oedd ar ben Garn-fadryn,* Ue y cafodd yr erlidwyr ef ar ei liniau yn gweddio; bu raid iddo ddianc ar ffrwst, gan y gawod gerig a deflid ato. O hyn alian, penderfynodd ymadael â'r wlad, ac wcdi cytuno â John Jones, ei gyfaiU, fel y crybwyllwyd, cymerwyd Henllys-fawr rhyngddynt. Nid hir y bu Evan Thomas yn y tyddyn mawr hwn ar ol i'w gyfaill fyned i Bod- ynolwyn, ond wedi yfed graddau hehneth o gwpan profedigaethau, ymadaw- odd. Cawn ef ar ol hyn yn Llanerchymedd, a thrachefn yn Amlwch, lle y gorphenodd ei yrfa mewn tangnefedd, wedi gwasanaethu yr achos crefyddol am ysbaid 60 mlynedd. Bu colled sir Gaernarfon yn ennill i sir Fon.

Tua'r amser y daeth y ddau ŵr uchod o Leyn i fyw i Henllys, y cododd

* Mynydcl uchel yn Lleyn.

S24 HANESIAETH Y SIBOEUU. [üOSB. iV.

William EvanSj o'r Aberffraw, yr hwn a fu, dros ryw dymhor, yn flaeuor, ac wedi hyny yn bregethwr, a'r hwn hetyd a wasanaethodd yr achos gyda ffydd- londeb mawr.

Tua'r fl. 1784, daeth gŵr crefyddol arall, o'r euw John Owens, i fyw i Blas- Llangwyfau. Daeth yma o'r Cwyrt, a thaid ydoedd i'r heuuriad Mr. John Jones, yr hwn afu yn ddiacon yn yr eglwys hon am ysbaid 34 o flynyddoedd. Yr oedd John Owens yn ŵr galluog yn y byd, yn barchus fel gwladwr, ac yn ŵr dichlynaidd a hardd fel crefyddwr. Cafodd wrthwynebiad cryf iawn oddiwrth ei wraig, yr hon oedd yn dra gelynol at y Methodistiaid, ac yn peri anghysur mawr i'w gŵr mewu canlyniad. Ymdrechai â'i holl egni i'w attal ef i'r bregeth, ac i'r cyfarfod egiwysig. Ni welwyd hi ond uuwaith yn plygu ei gliuiau ar amser y ddyledswydd deuluaidd, a'r uuwaith hyny pan'oedd tymhestl o daranau a mellt wedi ei dychrynu. Ond, ar ol i'r ystorm fyned heibio, disgyuai drachefn i'w hen agweddau, ac yn waeth, os yn bosibl, uag o'r blaen. Un tro, fel yr oedd yn bliuo ei gŵr trwy drahausder câs, galwodd John Owens ar y gwas i ddwyn ei geffyl wedi ci gyfrwyo, iddo, at y drws. Aeth ar ei gefn, fel un parod i daith, a galwodd ar ei wraig ato, gan ddy- weyd, " Wel, Annas, yr wyf yn baruu ein bod yn llawer tebygach i fod yn felldith i'n gilydd uag yn feudith. Yr wyf wedi peuderfynu mai gwell ydyw bod mewn congl ar nen tŷ, nag mewn mawr eang, gyda gwraig auyuad ; ac felly yr wyf yn ffarwelio â thi heno am byth ! raae yu well genyf ymad- ael â thi, nag â chrefydd lesu Grist ! "

Disgyuodd ei gyfarchiad ar ei chlustiau fel twrf taran, mor ddisymwth ac mor ofuadwy. Torodd allan i wylo, a chyda dagrau ymbiliodd arno beidio ei gadael ; " Disgynwch, John Owen bach, ac ni ddywedaf air wrthych yu erbyn eich crefydd bytli mwy ! " Yr oedd ei aracan, bellach, wedi ei ennill, a disgynodd yn ewyllysgar, a chadwodd y wraig ei haddewid o hyuy allan.

Aeth y gwrando yu fwy-fwy lluosog ; aeth y " Capel Huddygl" yn rhy fychan; rhoddwyd ffeuestr fawr arno, lle y gallai y pregethwr sefyll, ac felly gyf- arch y gynuUeidfa, yr hon a fyddai yn Ilawn cyraaint oddiallan ag oedd oddi- fewn. Coronid y weinidogaeth yn fynych â grymusder anarferol, nes toddi y gynulleidfa mewn dagrau, ac y parhaent i foliannu hyd oleuui y dydd drau- oeth. Soniai yr hen bobl lawer am ryw oedfaon tra hyuod a gawsid dan weinidogaeth WiUiam Lewis, a Eobert Eoberts, Clynog, oedfaou a fyddai yu fwy cynyrchiol mewn ychydig oriau, na rhai cyffredin dros flynyddau cy- ffelyb i'r " helfa fawr o bysgod," pan ar orchymyn yr lesu, i'r dysgyblion fwrw y rhwyd i'r deau i'r Ilong.

Tua'r fl. 1785, meddir, adeiladwyd capel newy dà, y cyntaí a ffodwì/d ì'v dyben hwnw, wedi bod yn ymgyfarfod yn " Ngliapel Ruddycjl " am ysbaid 12 mlynedd neu fwy ; ac er gwaeled yr olwg ar hwn, bu hiraeth ar lawer am y mwynhad hyfryd a gawsent ynddo laweroedd o weithiau. Tua'r amser y codwyd y capel newydd, ueu yn fuan wedi hyny, y daeth un i fy w i'r gymyd- ogçieth a f u 0 wasanaeth tra mawr i'r gwaith, nid yn Aberftraw yn unig, oud yn sir Fon yn gyffrediuol, sef Griífith Edward, o'r Clafdy. Yr oedd yn

PÉN. Iir.J SIR FON. 525

fldiacon cyn dyfocl i*r rYberfrra^y, sef yn Llangoed, ond nid \w yr ysorif yn hysbysu pa faiut o araser, cyn iddo symud ei drigfa. Hyn sydd sicr, ddarfod iddo gael ei ahv at grefydd pan nad oedd ond yn brin IS ml. oed, ac nid oes amheuaeth ua chychwynodd ar waith henuriad eglwysig yn y fan y cafodd brofi graddau o danguefedd yr efengyl, ac yn mhell cyn iddo wybod beth oedd y swydd, a chyn bod eglwys yn alluog i'w alw iddi, na rheolau gosod- edig i'w gosod ynddi. Bu farw yn y fl. 1847, yn 86 ml, oed, •' wedi gwasan- aettu sydd diacon yn dda " dros 68 o flynyddoedd. Arferai ddyweyd ei fod yn henach na chyfarfod misol Mon, ac nad oedd mantais ganddo ar ei gy- chwyniad i gael pregethwr i'w ardal, ond ymofyn am dano goreu a allai, ac yn fynych "y cyntaf ei droed, a'r gwresocaf ei galon, a ennillai y dydd." 0 ganlyniad, yr oedd o werth anuhraethol i ardal gael dyn ynddi a fyddai yn eífro a llafurus yn ymofyn am bregethu iddi, pryd nad oedd eto un gyfundrefn reolaidd i wneuthur hyny ; ond y cwbl yn dibynu ar lafur personol un neu ddau 0 ddynion. Bu Griflath Edward, nid yn unig yn ddiacon gofalus a chyson, ond bu ei hefyd yn Uety i'r pregethwyr a ddeuai i'r ardal o dde a gogledd am yr amser maith o 60 mlynedd. Yr oedd ei wraig hefyd, heb gydweithrediad yr hon ni allasai wneuthur y caredigrwydd hwn, o'r nn ysbryd ag yntau. Gellir meddwl, os y w " gweithredoedd y saint yn eu canlyn " i'r byd a ddaw, ac os ydyw fod "ffrwyth yn amlhau" yn rhywbeth erbyn y "cyfrif," mai "mawr a fydd gwobr y cyfryw rai yn y nefoedd."

Yn mhen tua 17 o fiynyddoedd, aeth y capel yn rhy fychan eilwaith, a cliwanegwyd y gofod ynddo trwy osod oriel ((jallery) ar bob talcen iddo. Parhaodd yr addoldy yn y wedd yma am 20 mlyuedd; ond o herwydd fod y gynulleidfa yn Iluosocach nag oedd Ile iddynt, bu raid tynu yr hen o-apel i lawr, ac yn fl. 1822 adeiladwyd un newydd. Mae hwn eto, er ei fod yn ad- eilad helaeth, yn rhy fychan i'r gynulleidfa, a chwyno mawr am ei helaethu. Mae nifer yr aelodan, bellach, tua 200 o rifedi, a'r ysgo'orion Sabbothol yn gyffelyb mewn rhifedi.

Bu yma bregethwr o'r enw William Evans yn byw yn Aberffraw am flyn- yddoedd rai. Drwg genym na allwn roddi hanes y gŵr hwn, ond ni ddaeth dim hysbysiad am dano i law, Oddiar ryw ymddyddanion damweiniol am dano, dealJasom ei fod yn rhagori o ran dawn a phoblogrwydd ar lawer o'r hen gynghorwyr, a'i fod wedi bod yn dra ffyddlawn a Ilafurus yn y gwaith tra y gadawyd iddo aros ar y maes. Os nad ydym yn caragofio, deallasom hefyd ddarfod iddo gael ei alw i orphwyso yn nghanol ei ddyddiau, a bod ei goffadwriaeth yn fendigedig.

BETHANIA.

Mae y capel a elwir ar yr enw hwn yn mhlwyf Llangaffo ; ac er nad ydyw Methodistiaeth yn y lle hwn ddim yn gallu hòni llawer o henafiaeth, eto y mae golwg siriol ac iraidd arno, a'i gynydd, ac ystyried adeg ci gychwyniad, wedi bod mor brysur a llwyddiannus ag un lle arall ymron yn yr holl wlad.

526 IIANESIAETH Y SIllOÜDD. [UOSB. IV.

ysgrifenwycl swm yr liyn a gaiilyii gaii y diweddar Hugh WiUiams, o'r Fron- deg, tua 19eg mlynedd yn ol, yr hyn a ddyry olwg ar y modd y cafodd Methodistiaeth ei sefydhi yn y gymydogaeth hon.

" Yr oedd yma ychydig nifer, o feibion a merched, mewn cyfammod eglwysig â'r frawdoliaeth yn Niwbwrch. Ond yr oedd y fí'ordd yn mhell, a'r anghyf- leusdra yn fawr i gael moddion gras gyda dim cysonedd. Ymgymysgent weithiau mewn cyfarfodydd gweddio, ac yn yr ysgol Sabbothol, gyda'r An- nibynwyr ; eto yn dyhëu am gael Ue iddynt eu hunain i addoli. Nid oedd y gwaith ychwaith ddim ya myned yn mlaen yn llwyddiannus yn y Groeslôn ; ac erbyn y fl. 1831, yr oedd yr ysgol Sabbothol yniron wedi diífodd. Yn y cyfamser, arferai rhy w r.ifer o Fethodistiaid a gyfaneddent yn yr ardal, ym- gynull i'r hwn neu arall, i gynal cyfarfodydd i weddio ; ac ar eu dychwel- iad un noson o uu o honynt, safodd tri neu bedwar o houynt ar y ffordd, gan ymofyn â'u gilydd, ai nid oedd dim yn eu gallu hwy er defnyddio rhyw fodd- ion ychwanegol i lesâu eu cymydogion, ac yn enwedigol y bobl ieuainc; y rhai, lawer iawn o honynt, oeddynt heb fedru darllen y Beibl, ac heb awydd am ddysgu. O'r diwedd, amneidiodd un o honynt, ai ni fyddai yu well gofyn i'r person, (oífeiriad y plwyf,) a ellid cael bentliyg "yr ysgubor dde- gwm" dros ryw dymhor, i gadw ysgol Sabbothol ynddi. Cipiwyd yr am- naid hwn i fyny, a pheuderfynwyd myned at yr ofteiriad yn ddioed. Hyny hefyd a wnaed ; derbyniwyd yr archiad gan y gŵr parchedig gyda hynawsedd mawr, a chaniataodd iddynt eu dymuniad. Yr oedd hyn yn mis Chwefror, 1831. Dechreuwyd yr ysgol yn ddioed : daeth iddi y Sabboth cyutaf 72 o ysgolorion. Yn y cyfamser, yr oedd ambell un yn ymddwyn yn rhy debyg i Sanbalat a Tobia gynt, yn gwawdio ac yn diystyru y cychwyniad bychan hwn. Galwent yr ysgol yn " Gyfarfod Degwm," a daroganent y byddai pen buan arni.

Yr oedd yn adnabyddus na ellid cael yr ysgubor oud tros ryw dymhor, a Uawer o bryder a deimlid pa le a geid i'w chadw ar ol i'r cynhauaf alw am yr ysgubor. Parhaodd yr oS'eiriad i ddangos wyneb siriol i'r ymdrech, a rhybuddiodd nad oedd na gwair nac ŷd i gael eu rhoddi yu yr ysgubor nes y byddai Ue arall yn barod i dderbyn yr ysgol. Ond erbyn canol mis Gor- phenaf, yr oedd un o'r brodyr wedi darpar adeilad i dderbyn yr ysgolorion, mewn Ue a elwir y " Dafarn-bridd." Nid oedd yr adeilad hon yn fawr; ni ddaliai ond prin 100 o blant, a gwelwyd yn bur fuan ei bod yn llawer rhy gyfyng. Lluosogodd yr ysgol gymaiut, nes y byddai y ddau cysylltiedig â'r ysgoldy yn llawn, heblaw yr ysgoldy ei hun. Cynelid cyfarfodydd gweddio, a chyfarfodydd eglwysig, yn achlysurol yn ol cyfleusdra, a chafwyd ambell bregeth nos Sadwrn i'r Ile.

Pan gychwynodd yr aclios hwn, nid oedd nifer yr aelodau eglwysig ond 21 ; ond yr oedd sirioldeb llewyrchus yu y cynuUiadau, a Ilaw yr Arglwydd yn gweithio trwyddynt nes y chwanegwyd at eu rhifedi, mewn amser byr, 30 eraill. Y''r oedd " yr anmhlantadwy, bellach, yn abl i gadw tŷ, ac yn llawen-fam plant." Yr oedd cyfyngdra y Ile, gan hyny, yn myned yn fwy

l'EN. III.] SIll FON. 527

gofidus, a nicddyliau pawb yii yradroi yn ngbylch y modd i'w lielactlm. Nid oedd caniatâd gan gyfarfod raisol y sir i fyned i ddyled, gan nafl oedd yn y golwg ddim i'w thalu. Penderfynodd y brodyr, gau hyny, vm- osod o uii ysgwydd i wneyd eu goreu, mewn il'ordd o gasghi a chyfranu ; a chasglwyd yn Yuan y swra o £64 ; swm a dybid a âi yn mhell tuag at fod yn ddigon, gyda chynorthwyon eraiU a geid, i gael adeilad fwy, o leiaf, na'r un oedd ganddynt. Caed tir yn y gymydogaeth mewn ammod-rwym, am 99 o flynyddoedd, ac adeiladwyd y capel a alwyd Bethania, yr hwn a agorwyd Tachwedd ^, 1832."

Gwenodd yr A,rglwydd ar ymdrech ei bobl yu y l!e hwn, fel ag y cryfliaodd y gynulleidfa a'r eglwys yn y lle, inewn rhif, ac mewn adnoddau, a bu raid adeiladu capel Uawer mwy. Hyn hefyd a wnaed, ac er fod y draul wedi bod yn gynifer o gannoedd ag oedd y llall o ugeiuiau ; eto gan fod gan y bobl galou i weithio, fe'i cwblhawyd gyda rhwyddineb, a hyny heb adael arno ddim dyled.* Agorwyd hwn yn Mehefin, 1852. Mae j'^ma gynulleidfa dda, ac eglwys siriol. Yma y preswylia y pregethwr adnabyddus John Jones, gynt 0 Niwbwrch. Pwy all lai na chydnabod daioni yr Arglwydd tuag at drigolion yr ardaloedd hyn, trwy anfon atynt ei genadau, y rhai sydd yn mynegu i'r trigolion ffordd iachawdwriaeth, a thrwy fendithio y llafur er achubiaeth i eneidiau lawer.

Yn terfynu ar yr un ardal y mae cymydcgaeth y Gaerwen, Ile y mae achos cryf, a chynulleidfa luosog. Nid yn mhell o'r gymydogaeth hon yr oedd Hugh GriíBth, Llanddaniel, yn byw, a Michael Thomas, Garnen-wen, dau o hen bregethwyr boreuaf y Methodistiaid yn y wlad. Ni ddaeth hysbysiad i law am ysgogiadau cychwynol yr achos yn y Gaerwen. Deallwn fod cym- deithas eglwysig yn ymgryuhoi yn Llanddaniel, i'r hon y deuai yr ychydig aelodau a breswylient yn Llanfair a'i haragylchoedd; ac yn yr hon y golygid hwy yn aelodau, a hyny cyn fod capel wedi ei godi yn Llanfair ar y naiU lan^, nac yn Bethauia ar y llaw arall. Wrth hyn, yr ydym yn casglu fod Meth- odistiaeth wedi yrawreiddio yn y fro hon yn gynar, ond nid hysbys i ni yw gwahanol ysgogiadau ei gynydd. Mae y gyuulleidfa sydd yn arfer ym- grynhoi i'r capel hwn, pa fodd bynag, yn un o'r rhai Uuosocaf, oddieithr y trefydd, o fewn y wlad. Mae yr ardal yn Iluosog ei thrigolion, ac heb nemawr eithriad yn arfer addoli yn y naill neu y llall o'r capelau sydd yn y fro, ond yu fwyaf o lawer yn nghapel y Methodistiaid.

Yn yr ardal hon y preswylia y Parch. Eobert Hughes, yr hwn y mae ei enw a'i ddefnyddioldeb, bellach, yn adnabyddus yn y cyfundeb drwy y dywysogaeth.

GW^ALCHMAI NEU TREWALCHMAI. ,

Yr oedd agwedd yr ardal hon cyn cyfodiad Methodistiaeth yn gyffelyb fel yr oedd agwedd Cymru yn gyffredinol, wedi ei gordoi ag anwybodaeth du-

Dygwyd hyn i ben, yn benaf, trwy yTndrech a haelioni Mr. Hngh Hughes, yr hwn sydd yn byw gerllaw, ond nid heb gynorthwy eraill yn yr ardal, a'r brodyr yn y sir.

528 HANESIAETli Y SIUOEDD. [üOSB. IV.

(lew ; y trigolion wedi eu llyfietheino gan ddifaterwch perffaith yn nghylch pethau ysbrydol, ac yu ymroddi i arferion ofergoelus a nwyfus eu hoes. Ysgrif- ena un gŵr ataf, gau ddarlunio yr ardal yn debyg i liyn. "Tua 68 mlynedd yn ol, yr oedd golwg resynus ar ein hardal, o ran ei hagwedd foesol ; tir ty- wyllwch ydoedd y pryd hyny, a heb drefn. Ychydig iawn oedd yn meddwl, a llai yn ymofyn, am gi'efydd. Coeg chwareuau, nosweithiau llawen, chwareu cardiau, a throedio y bel, oedd yn cario y dydd. Yr oedd dydd yr Arglwydd yn cael ei halogi, heb fod neb yn gosod hyny at ei galon ; arferid llŵon, y fath ag a ferwinai gnawd eu cly wed ; ymladd ceiliogod oedd yn uchel ei fri, a gwreng a boneddig yn rhoddi gwyneb iddo.

Byddai y llanau plwyfolyn lled lawnion ar foreuau Sabboth, a'r mynwent- ydd yn Uawnach y prydnawniau yn chwareu pêl ; y bryniau yn frithion, os byddai yr hin yn deg, gan sypiau o bobl, o bob oed, yn adrodd hen chwedlau gwiig, a hen ofergoelion yr henafiaid. Yr oedd diota a meddwdod hefyd, yn nghyda phob aflendid, yn gwneyd y wlad yu domen o lygredigaeth trwy- ddi."

Y'r oedd pregethu wedi decbreu yn Mhentre-bwäau, plwyf Llandrygarn, er yn foreu ; ac nid oedd y lle hwn ond milldir neu ddwy o Drewalchmai. Yn mhen rhyw enyd o amser, ymestynodd o'r Pentre i "Walclimai, a chynelid y raoddion raewn bwthyn bychan a elwir Cemmaes-bach. Nid oedd na chapel na chymdeithas eglwysig yn yr ardal hon, hyd yn ddiweddar mewn cydmhar- iaeth, sef o fewn y 60 ml. yn ol ; ond er mai diweddar ydyw, y mae yr achos wedi ymwreiddio yn ddwfn, ac ymeangu yn fawr. Bellach, y mae y rapel wedi cael ei adeiladu dair gwaith drosodd ; ac heblaw y gymdeithas eglwysig sydd yn aros yn Ngwalchmai, y mae tair eraili wedi heidio o honi, sef Hehron^ Bothan, a Gad.

Y pregethwyr a lafurient yn y parthau liyn oeddynt y rhai a enwyd eisoes ; sef, William Eoberts, y crydd ; WiIIiam Lewis ; OwenThomas; John Jones, Bodynolwyn; Edward Jones, Pen-y-dref ; William Evans, Aberffraw ; Owen Hughes, Cefn-y-dderwen ; a'r diweddar John Jones, o Edeyrn. Yr oedd yr olaf hwn yn byw yn Amlwch ar y pryd, ac newydd droi allan yn gyhoeddus, a'i weinidogaeth yn daranllyd ac awchlym iawn, cymaint felly, nes y byddai llaweroedd yn syrthio i lewygfeydd dan ei athrawiaeth.

Yn Ngwalchmai hefyd y dechreuodd y Parch. Richard Lloyd, Beaumaris, ei vrfa grefyddol. Yr oedd yn ŵyr i'r clodwiw WiIIiam Pritchard, Cloch- dernog, am yr hwn y soniasom amryw weithiau, a'r hwn a fu yn un o brif offerynau i ddwyn ymueillduaeth, neu yn hytrach achos yr efengyl yn mhlith ymneiUduwyr, i Pon. Nid y w yn ymddangos i Mr. Llwyd gael y fantais o gael ei ddwvn i fyny gan rieni crefyddol. Bu farw ei dad pan oedd ef yn ieuanc iawn, a'i fam a'i dygodd i fyny yn ofalus, oblegid yr oedd hi yn ferch i WiIIiam Pritchard, ac yn gwybod llawer am grefydd ; er, fe ymddengys, nad oedd hi ar ddechreuad gweinidogaeth ei mab yn aelod eglwysig.

Ystyrid y Ilencyn hwn yn ŵr ieuanc hardd a rhinweddol, prydferth iawn o wedd, a chlŷd ei amgylchiadau. Cafodd hefyd fwy o fanteision dysgeid-

PEN. III.] SIR FON. 539

iaeth, na'i gydoeswyr, ac yn ueillduol na'r o bregethwyr a godasai o'i flaen ef yn Mon. Yr oedd pregethwyr cjutaf Mon, oll heb eithriad, yn ddyn- ion cwbl diddysg a diaddurn, ond yr addurn a roddasai gras arnynt ; ac hyd oni ddaeth Jones, Bodynolwyn, atynt, yr oeddynt ymron oll yn isel eu ham- gylchiadau. Nid oedd ganddynt, wrth hyny, ddim dylanwad, ond a feddent yn eu cysylltiad â'r gwirioneddau pwysig a draethent, neu y cymeriad cref- yddol a feddiannent.

Yr oedd dyfodiad un o gymhwysderau Mr. Lloyd at nifer y pregethwyr, yn tueddii i osod gradd o anrhydedd ar Fethodistiaeth yn ngolwg y rhai a edrycheiitar amgylcîiiadau allanol crefydd, yn fwy nag ar ei theilyngdod priod- ol. Ymddeugys fod y gwrthddrych y soniwn am dano yn profi llawer o ym- rysoniadau oddiwrth air Duw â'i gydwybod, pan oedd yn blentyn, ymron ; ac er i'r tynerwch hwn ei gadw rhag Uwyr ymroddi i dueddiadau ei natur, eto ni thorwyd mohono oddiwrth gwmni gwag, a rhai o arferionofer ei oes, yn enwedig halogi dydd yr Arglwydd. Ymgyfarfyddai ef, ac eraill o ieuenctyd plwyf Llanbeulan, yn mynw^ènt y llan, cyn neu ar ol y gwasanaeth, i gyd- synio am y Ue a'r amser i gyfarfod y prydnawn, Ue yr ymddifyrent nai]l a'i niewn ymddyddanion gwag, neu gampau ofer; difyrwch, erhyny, a gyfrifid gan y cyöredin yn gwbl ddiniwed. Dygwyddodd un Sabboth, pan yr oedd ef, a dau gyfaiU iddo, wedi ymgyfarfod i gampio ar fryn nchelyn y gymydog- aeth, ddarfod iddynt eistedd i orphwys dros enyd; a thra yr eisteddent, troes yr ymddyddan ar fater dyeithr i'w hymddyddanion cyífredin. Fel hyn y dywedai ef ei hun, a chan mai yr amgylchiad hwn oedd y pegwn y troai an- sawdd gweddiU ei oes arno, teimlwn demtasiwn i'w osod ger bron yn ei eir- iau ef ei hun :

" Trodd yr hin yn wlawog iawn y pryduawn hwnw ; ac ni feddai diafol neb o'i hoU blant mor ífyddlawn i'w wasanaethu ef ag oedd WiUiam Eoberts, Eobert Eoberts, a minau. Gan gymaint oedd y gwlaw, aethom i gysgod y graig serth i ymochel rhagddc ; ac yn rhyw fodd, yn ddamweiniol i mi, aeth- om i ymddyddan yn nghylch crefydd, a dwysâu a wnaeth yr ymddyddan yn fawr iawn, gan gofio ambell air o bregethau a wrandawyd yn achlysurol genym. Wrth fyned yn mlaen yn yr ymddyddan, soniwyd am ddau ŵr ieuanc cyfrifol, oedd yn proffesu crefydd y pryd hyny, a gofynwyd, pa un ai ffolach ai doethach oedd y bechgyn hyny na ni ? Eu bod hwy yn canlyn hen bobl, y rhai oedd yn gweddio, ac yn galaru : a ninau yn dylyn oferedd, a gwag ddifyrwch. Penderfynwyd yn y fan hono, mai hwy oedd yn eu Ue, a'n bod ninau aUan o'n Ue yn hoUol. Yna ebe y naiU wrth y UaU, gweU fyddai i ninau fyned i wrando pregethau, a pheidio dylyn oferedd a drygioni, fel yr ydym. Penderfynwyd gwneuthur feUy, ac raai Uawer iawn gweU a fyddai hyny. Yna gofynodd un, " A oedd pregeth yn rhyw le yn ein har- dal, fel y gaUem ni gael ei gwrando y nos hòno ? Ond ni wýddent hwy na minau am yr un a aUem gael."

" Ar hyn, cytunwyd ar fod i bob un o honom fyned i'w gartref yn ddioedi, at araser tê, ac ymholi â'n teuluoedd, a wyddai neb yn mha le yn gyfagos

2 K

530 HANESIAETH Y SIHÜEDD. [dOSB. IV.

yr oedd pregetli i fod y uoson hòiio, fel y gallem fyned i'w gwrando ? Dy-

wedodd un O J s, oedd yn byw ar y tir Ue yr oeddwn i, fod pregeth

i fod y noson hòno yn ein cymydogaeth, mewn a elwid Cemmaes Bach. Daethom ein trioedd at y graig fawr drachefn, i edrych a gawsai neb hanes pregeth. Hysbysais iddyut y byddai pregeth y nos hòno yn y lle a enwyd. Aethom yno, a safasom i wando yn nghauol yr ychydig brofl'eswyr, o üaen y pregethwr. WiUiam Evans, o'r Aberffraw, oedd yn Uefaru ; . a R. O., Glan-y-traeth, yu dywedyd ychydig o'i tiaen ef. Tybiasom nad oedd y fath lefarwyr ar y ddaear a'r ddau hyny. Yn y cyfarfod hwnw, clywsom gyhoeddi gẃr o sir Gaernarfon, sef R. Jones, o Ben-y-caerau, i fod y Sabboth canlynol vn Llangì'ütiolus, Aherffraw, a^r Cemmaefs-bach; aethom i wrando arno i'r tri Ue, a buom heb un tamaid o fwyd, o chwech o'r gloch y boreu hyd ddeg o'r o-loch y nos. Yna dechreuodd yr holl gymydogion ddal sylw arnom ; rhai o honynt yn ein gwawdio, ac eraiU yn cydymdeimlo â ni, ac yn tosturio wrthym ; ond yr oeddym ni wedi cael cyfnewidiad neiUduol ar ein meddyliau, fel nad-oeddym yn gofalu llawer beth a ddywedai neb.

*' Bum am enyd yn myned i eglwys y plwyf yn llawer manylach nag o'r bken, gan geisio, trwy hyny o ddiwygiad, feddyginiaeth ac esmwythâd i fy meddwl ; ond bu raid i mi roi i fyny fyned i'r llan, i'r dyben hyuy, Ym- roddais i fyned i wrando pregethau yn mysg y Methodistiaid, yn agos ac yn mhell, ond bu fy meddwl am beth amser heb gael tawelwch."

Nid rhvfedd fydd genym ddeall, yr edrychid ar yr hen graig fel rhyw lyg- edyn cysegredig gau y tri chyfaiU hyn ; aent yno dros rai blynyddau wedi y tro uchod, i ymddyddan â'u gilydd am bethau crefyddol, bellach. Yn y lle neillduedig hwn, tywalltai y cyfeiUion hyn eu meddyliau i'w gilydd, ac ni ys- goo-ai yr un o honynt mewn un anturiaeth o bwys heb ymgynghori â'r Ueill. Yn y modd yma y dechreuodd y gwirionedd ymatìyd yn y dynion ieuainc hyn, ac nid hir y buont cyn ymotyn am le yn eglwys Dduw. Ymunodd y ddau eraiìl â'r gymdeithas a ymgyuuUai yn Mhentre'-bwäau ; a Mr. Lloyd â'r un yn Ngwalchmai, gan ei bod ychydig yn fwy cyfleus iddo. Nid oedd y gym- deithas eglwysig yn Ngwalchmai oud gwanaidd yu mhob ystyr y pryd hyny ; nid oedd ynddi ond i4 o feibion, ac ychydig o ferched ; a chan leied oedd doniau y meibion, gelwid ar.rai o'r gwragedd yn fynych i weddio yn gy- hoeddus. Yn mhen tua blwyddyn ar ol i Mr. Lloyd ddyfod yn aelod, am- ddifadwyd yr eglwys o'i dau flaenor, trwy farwolaeth un, a thrwy symudiad y- llall ; a galwodd yr eglwys ar y brawd ieuanc hwn i ymwisgo â'r swydd bwysig hòno, a hj'n a ddygwyddodd yn y fl. 1790. Yn mhen tua phedair blyuedd wedi hyn, aunogwyd ef yn daer i geisio llefaru neu bregethu yn gy- hoeddus. Yntau a gydsyniodd : nid heb lawer o betrusder, yn nghauol peth awyddfryd, ." Y waith gyntaf y ceisiais bregethu," meddai ef ei hun, " oedd ar ddydd ympryd, a gyhoeddwyd gan y llywodraeth, yn mis Mawrth, 1794." Dywedai rhyw rai oedd yn ei wrando y tro cyutaf hwnw, ddarfod iddo, ryw bryd ar ganol pregethu, dori allan, a dywedyd : " Fy mrodyr, yr oeddwn, ac vr ydwyf, yn teimlo cryndod mawr yn fy meddwl wrth ystyried y gorchwyl

PEN. III.] SIU FON. B31

mawr a phwysig yr wyf yu wynebu arno ; ond yr wyf yn teimlo cvmhorth, mewu goleu a rhwyddiueb, wedi dechreu. Parhewch i weddio droswyf ; ac am i'r Arglwydd eiu bendithio fel ceuedl."

Bu y gvvr ieuanc hyuaws hwn gartref gyda'i fam a'i dad-yn-nghyfraith, am ysbaid chwe' blynedd ar ol dechreu pregethu ; ond yn y fl. 1800, pan oedd yu 29 ml. oed, priododd, a symudodd o Drewalchmai i Beaumaris i fyw. Cyfeiriwu y darlleuydd, bellach, at y gweddiU o'i hanes, i'r lle hwnw.

Mr. Richard Llwyd oedd y pregethwr cyntaf a gododd yn Ngwalchmai, ond nid yr olaf. Nid aeth llawer o flynyddoedd heibio hyd nes daeth y brawd anwyl a'r gwcinidog ffyddlawn, John Charles, i'r golwg, yr hwn sydd eto ar y maes ; a theulu yr hwu a anrhydeddwyd yn fawr yn yr ystyr yma. Gal- wyd pedwar o'i feibion i'r weiuidogaeth ; mae dau o'r pedwar eisoes wedi eu galw oddiar y maes ; sef Hugh a William ; a dau eto yu aros, sef John a David. Am y brodyr ymadawedig, ni a ddylem ymhelaethu ychydig. Yr oedd yr hynaf o'r ddau, sef Hugh Charles, yn ŵr ieuane o gymeriad rhagorol, ac yn bregethwr cymeradwy a defnyddiol ; ond ni chyrhaeddodd hyd at ei frawd. Auhawdd fyddai i neb, mewn ychydig le, roddi gwell crynodeb o'r gŵr ieuanc hawddgar hwn, nag a roddir gan ysgrifenydd cyfarfod misol Mon, yn y DRYsoRfA ; ac afraid ydyw gwneuthur un esgusawd am ei osod ger bron y darllenydd.

" lonawr 13, 1849, bu farw y Parch. William Charles, Gwalchmai, Mon, yn 31 ml. oed, wedi bod yn pregethu yr efengyl dan amddiff"yu dwyfol, 13 0 flynyddoedd. Yr oedd ein hanwyl frawd hwn yn un o rai rha^rol y ddaear. Ganwyd ef yn eglwys Ddu.w, magwyd ef yn ngeiriau y fiydd, ac yr oedd er yn fachgen yu gwybodyr ysgrythyr lân. Derbyuiwyd efi gymuudeb eglwysig yn 14 oed, ac nid oedd neb a'i hadwaenai yn beiddiò amheu ei dduw- ioldeb ; 'yr oedd iddo air da gau bawb, a chan y gwirionedd ei hun.' Dech- reuodd bregethu yn rheolaidd, pan rhwng 18 a 19 ml. oed. Bu yn Athrofa y Bala dair blynedd. Teithiodd ychydig trwy ogledd a deheudir Cymru ; bu yn Liverpool a ]\Ianchester droiou, ac eglurhaodd Crist arogledd ei wybodaeth trwyddo yn mhob lle. Y mae yn ddiamheu fod ugeiniau yn Mon, a Uawer yu ychwaueg trwy Gymru, y rhai y bu ei weinidogaeth ef yn foddion i'w dwyn i benderfyniad i roddi eu hunain i'r Arglwydd. Dysgwylid am dano gan y cynuUeidfaoedd fel am y gwhiw, a mwynheid ei weinidogaeth gan hen ac ieuanc, ' fel y diweddar wlaw a'r cyuar wlaw i'r ddaear.

" O herwydd ci fynych wendid, amddifadwyd cynulleidfaoedd y sir o'i lafur gweinidogaethol er ys tair blynedd ; ond ychwanegodd raddau o grvf- der er's ychydig gyda blwyddyn, a dangosodd nad oedd yn werth ganddo íyw oud er mwyn pregethu. Cafodd cynulleidfa Gwalchmai, a rhai manau cyfagos, fwynhau brasder a hufen ei weinidogaeth yn y flwyddyn ddiweddaf. Traddododd iddyut, trwy lawer o wendid, ddwy neu dair ar hugain o breg- ethau ýíì. y cyfamser, pa rai a gyfansoddwyd ganddo megys yn awyr y byd tragwyddol, a'i bwys ar fynwes yr addfwyn Oen, ac mewn' cymdeithas ddi- gwmwl â'i Dad Nefol ; a hir a maith y cofir am danynt yn Ngwalchmai a'r

532 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

cylclioedd. Gobeithiem y pryd hyny, yr estyiiid iddo ail oes i'n gweini fel o-wlad ; ond pregethodd ei bregeth olaf, y Sabbot/t olaf, a'r diwrnod olaf, yn y fl. 1848. Felly cyflawnodd ei weinidogaeth, gorphenodd ei yrfa, a chad- ■wodd y öydd. Bu farw mewn mwynhad o dawelwch diysgog ; ei eiriau diweddaf oeddynt, * Pob peth yn dda yn yr ymdrech caled pob peth yn dda ! "'

Er mai Ue gwledig ydyw Tre-walchmai, eto y raae yn Uuosog ei breswyl- wyr, ac nid yn fynych y cyfarfyddir, mewn gwlad, â chynulleidfa fwy nag sydd yma. Ychydig o deuluoedd sydd yn y pentref neu y gymydogaeth o amgylch na ddeuant yn gryno i wrando. Gwneir hyn hefyd, heb lawer o wahaniaeth, ar ddyddiau gwaith, fel ar y Sabbothau. Mae yr eglwys sydd yma yn gref, a'r achos yn hardd a choronog. Pwy na lawenychai fod yr hen Interludiau wedi rhoi lle i ysgolion Sabbothol ; yr hen gampau fl"ol wedi llwyr ddiflanu ; a'r gaddug o anwybodaeth ac ofergoeledd wedi ei chwalu, a phelydrau dysglaer yr efengyl yn Uoni y bröydd a'r bryniau !

PENNOD IV. DECHREUAD A CHYÎíYDD IMETHODISTIAETH YN NGHAERGYBI.

CYN-WTSIAD :

Y CREFYDDW^YB CYXTAF— LLEOEDD PREGETHU RHWNG 1755-1777— ERLID CREU- LAWN— 5I0DDI0X YN CERIG-Y-DRAENOG— SIOMI ERLIDWYR YN EU HAMCAN— DYfODIAD RICHARD JONES I'R DREF— CYMERYD TY I BREGETHU YNDDO— CODI YSGOL DDYDDIOL— DYFODIAD MR. GRIFFITH OWEN I'R DREF— ADEILADU CAPEL YN 1808— DIWYGIAD— RICHARD JONES, MAB Y CYNTAF— GWEDD YR ACHOS— HANES OWEN THOMAS ROWLAND.

CAEKGYBI.

Ymwelai rhai o'r tadau Methodistaidd yn achlysurol â'r dref hon, ar eu hynt genadol drwy y wlad, a hyny yn mhell cyn fod yma un satìe penodol wedi ei ennill o fewn y dref. Yn ngwaethaf gwrthwynebiadau cryfion, a than erlid- iau creulawn, yr ymosodid, yn awr ac eilwaith, ar y trigolion rhagfarnllyd a thywyll, hyd nes gwneuthur gradd o argraff ar feddyliau rhyw nifer bychan o honynt. Llwyddwyd i gyffroi meddul ambell un i wneuthur proffes o Grist, trwy barch ac anmharch, anghlod a chlod, y rhai a ddyoddefent luaws mawr o helbulon. Yn mysg y rhai cyntaf o'r crefyddwyr boreuol hyny, yr oedd y rhai canlynol : John Rowland, Fron, Ue ar ochr mynydd pen Caer- gybi ; John Williams, Saer coed ; Hugh Meyrick ; hen ŵr a heu wraig, a breswylient dyddyn bychan o fewn milldir i'r dref, o'r enw Hafod-y-brain ; hen ferch o'r enw Margaret Hughes ; Cadi Jones, ac un neu ddwy erailL

Ehwng 1755 1777. Yn yr amser hwn yr oedd y pregethu achlysurol yn cael ei gynal, mewn gwahanol fanau, ar gylch, o fewn milldir neti ddwy i'r dref. Gormod anturiaeth, mae yn debyg, a fuasai dyfod yn nes i enau y ffau, neu furiau y castell. Ond er maint yr anturiaeth, fe wnaed hyny yn

PEN. IV.] SIR FON. 533

achlysurol, a chafwyd prawí' pa mor beryglus ydoedd, fel y gwelir yii yr han- esyn a ganlyn.

Daeth rhyw bregethwr * i'r dref unwaith, ar fedr cyhoeddi y newyddion da am Geidwad i'r trefedigion ; a chan na wyddai at bwy, nac i ba le yn ben- odol i fyned, efe a antuiiodd sefyll yn y farchnadle, a datgan ei genadwri wrth y nifer a ewyllysient roddi clust iddo. Yr oedd y Ile ar gauol yr heol, ac yn agos i borth y fynweut. Oud pa waeth pa le? gan fod ganddo ne- wyddion mor dda ! Oud prin y rhoddwyd cyfleusdra iddo draddodi ei neges, nad oedd Iluaws o ddyhiriaid yn y lle, y rhai a ddechreuent ei hwtio, ei wawdio, îe, a'i gernodio. Cymerwyd ei het yn ddirgelaidd o'i law, a rhodd- wyd yuddi dom dyuiou (!) a chyda'r ffieidd-dra hwn ynddi, rhoddwyd hi am ei ben : y fileiniaid annynol ! Yna tynasant ef i lawr oddiar yr esgynlawr ar ba un y safai, a elwidy " Groes," a Ilusgasant ef tua glàn y môr, a thynas- ant ef trwy bwll budr, o ddwfr a Ilaid, nes mai prin y gellid gwybod pa greadur oedd ganddynt, gan y diwyg oedd arno ; íe, prin y diangodd yn fy w o'u dwy- law ! Ond da genym chwanegu, er anrhydedd i ddynoliaeth, ddarfod i ryw rai dosturio wrth y truan, a'i wared ef o'u dwylaw.

Yn yr erlidigaeth hon, yr oedd tri o ddyuion yn rhagori ar eu cymdeithion mewn creulondeb a fiyrnigrwydd ; a nodwyd jM:ri, megys gan ragluuiaeth, yn wrthddrychau dialedd, er rhybudd i eraill. Tarawyd un o honynt yn fuau ar ol y tro uchod, mewn modd ag a'i difuddiodd o'i synwyr hyd ddydd ei farwolaeth. Y'r ail, yr bwn a elwid " Siôn y Saer," a syrthiodd i'r fath anghymeradwyaeth ac anfri yn mysg ei gyd-drefedigiou, fel na chafodd ddi- wrnod o waith mwyach o fewn y dref ; a'r enw cyfí"redin a alwyd arno o hyny allan, oedd " Sión y saer segur!" Yr olaf o'r tri, a'r mwyaf ei ddylanwad a'i gynddaredd, oedd un Lewis WiIIiams, swyddog y Gyllidfa, (Custom House Oŷicer.J Un diwrnod, diangodd "Baedd" o ifermdy, tua miUdir o'r dref, o'r enw Llanfawr, a daeth dros draeth lleidiog ar ei gyfer i'r dref, ac yn un- iongyrchol i swyddfa Lewis TYiIhams. Yr oedd i'r swyddfa risiau cerig i'w dringo i fyned iddi, ac ar y pryd,yr oedd y swyddog yn sefyll y tu ol i fwrdd y cyfnewid. Dringodd y baedd y grisiau, ac aeth yn syth at yr erlidiwr, ac a'i brathodd yn ei sawdl i'r fath raddau ag y bu yn gloíf dros weddill ei oes ! Wedi hyn, fel un wedi cyflawni neges arbenig, ac heb ddim ychwaneg yn galw am dano, dychwelodd yn ol trwy y dref, heb wneuthur niwaid i neb na dim arall !

Ond odid na chyferfydd y Ilinellau hyn â Uygad ambell un, a fydd yn tu- eddu yn gryf i amheu cywirdeb yr hanes, ar y naill law, neu y casgliad a wneir yn naturiol oddiwrtho. Am gywirdeb yr hanes, nid oes i'w ddyweyd ond fod yr amgylchiadau uchod yn rai hysbys ar y pryd i luaws o bobl y dref, cyfeiUion a gelynion crefydd, ac y maent wedi eu traddodi i ni gan ddyniou, ac mewn dull a barai grediniaeth sicr am bethau eraiU, ag y cyfrifid eu hamheu, yn brawf o ddrwgdybiaeth disail, neu o gulni meddwl

* Tybia rhai mai Lewis Evan, Llanllugan, ydoedd ; ond nid yw hjny yn sicr.

534 HANESIAETH Y SIBOEDD. [DOSB. IT.

diachos. MaeUawer heddyw yn fyw yn Ngliaergybi a glyw-saiit yr haues- ion uchod gan y rhai ag oeddynt dystion eu hunain o honynt.

Am y casgliad a dynir oddiwrthynt, mai cyfryngiad aibenig ydoedd o eiddo rhagluniaeth Duw, uid wyf ar hyn o bryd yn sefyll i'w amd<liíFyn : yn unig dywedaf, mai nid teimlad hapus i unrhyw ddyn ystyriol, a fuasai cyfarfod â'r fath oruchwyb'aeth, wedi bod yn euog o'r fath aufadrwydd. Ac er uad arfer Llywodraethwr y byd ydyw cospi ei elynion, na gwobrwyo ei bhiut, yn y byd hwn ; eto gormod o haerllugrwydd fyddai gwadu na allai fod amgylchiadau weithiau yn dygwydd, pryd y bydd doethineb, cyfìawnder, wu ddaioni, yn galw ar fod pob uu o'r ddau yn cael ei wneyd. Ac Efe ei hun yw y cymhwysaf i farnu pa rai fydd yr amgylchiadau hyny.*

Yn y tro crybwylledig, gwelir ba anturiaeth beryghis oedd ceisio pregethu o fewn y dref, a pha gallineb ydoedd i'r hen bregethwyr ymgadw dros ryw dyuihor allan o honi ; ac er iddynt wneuthur hyny, prin y caent lonyddwch i bregethu, na neb arall lonyddwch i'w gwrando. Eyw amser yn yr un tymhor a nodwyd uchod, daeth rhyw bregethwr arall i'r gymydogaeth. Ymgasglodd y gynulleidfa fechan mewn tyddyn o'r enw Cerig-y-draenog, yn nghylch dwy filldir o'r dref. Yn mhlith eraiU, aeth dyn o'r enw Siôn i wrando aruo. Pan wybu ei wraig fod Siôn #edi cymeryd ei genad, heb ymgynghori â hi, a myned i wrando y " penau-crynion," terfysgodd yn ddirfawr, gan fytheirio pob math o enllibiau a gwaradwyddiadau arno ef, ac ar bawb eraiU a aent yn agos atynt. Mewn anwydau drwg, ac o wir ddirmyg ar ei gŵr, cymhellodd ei mab i fyned i ben clawdd, i ddynwared pregethwr, a gwneuthur yr oer- iiodau hyllaf a allai. Ac nid oedd hyn yn ddigon, prysurodd i'r dref ei hun- an i achwyn i'r offeiriad fod y " bobl ddíygionus" yn ymgynull yn y fan a'r fan, ac yntau heb wybod. Ond ar y ffordd, cyn iddi gyrhaedd yr offeiriad, cyfarfu ag un o'i chymydogion yn dychwelyd o'r dref; hysbysodd iddo ei neges, gan arwyddo yn ei gwedd a'i Uais ei bod mewn trallod dwfn iavvn. Wedi gwrando arni yn traetlm ei blinder, y gŵr a'i cyughorodd i ymlonyddu, gan chwanegu, " Gwell ydyw i chwi beidio cyffroi a therfysgu, a chymeryd y fath aragylchiad diachos yn destyn cymaint o drallod, rhag ofn y cewch achos Uawer mwy pwysig i'ch trallodi."

Cafodd y cynghor gymaint o effaith arni ag a barodd iddi droi yn ol, ond nid un mymryn Uai ei heiddigedd rhag i'w gvvr droi allan yn benarwn. Ond erbyn ei dychweliad i'w thŷ, y newydd galarus a'i cyfarfu oedd, fod ei mab wedi myned i dynu nythod adar gwylltion i rai o greigiau y môr, ac itldo syrthio a marw !

Dro arall, daeth i glyw yr erlidwyr fod dysgwyliad am bregethwr dyeithr i'r dref, ar ryw ddydd ac awr penodol, a chydfwriadasant lesteirio iddo gael ei amcan. I'r dybeu, penderfynasant fyned i'w gyfarfod at Bont Ruppont, tua 4 miUdir o'r dref, am y gwyddent fod yn rhaid iddo ddyfod y ffordd hòno, gan amcanu, nid yn unig ei attal i'r dref, ond hefyd ei faeddu yn ol

Gwel nocUadau helaethach ary matcr hwn yn Cyf. I., tuclal. 376.

î>EN. IV.] siR roN. 535

hewyllys. Eu bwriad,.,pa fodd bynag, a ddaeth, trwy ryw foddion, yn ad- nabyddus i'r cyfeiUion crefyddol ; ac anfonasant genadau drostynt yn ddioed, ac o flaen yr erlidwyr, i fynegn iddo ei berygl. Cyfarfuasant ag ef oddeutu y Ue a grybwyllwyd, mynegasant iddo y brad oedd yn ei erbyn, ac erfyn- iasant arno droi yn ol. Ond er eu taerui hwy, a brad y lleill, penderfynai y gŵr dyeithr fyned rhagddo, deued a ddelo i'w gyfarfod. Felly prysurodd ei hunan ar ei geflfyl tua'r dref^ ar wedd g\vr yn dyfod ar ryw neges fydol, a chán adael y cenadau ar ol. Yr oedd ganddo ei ddyfais, tybygid, pa fodd i ysgôi brad yr erlidwyr. Cododd ei het yn dair cwalc, a chyn hir, cyfarfu â'r fintai, a gAvaeddodd arnynt yn groch, " Beth ddiawl y mae cyraaint a hvn o honoch yn ei geisio?"

Nid oeddynt yn dysgwyl y fath ystum ar bregethwr, na chlywed y fath iaith ganddo, a dechreuasant sibrwd yn mysg eu gilydd, ai hwn oedd gwrth- rych eu hymofyniad ai peidio. " Ai dyma fe?" meddai un. " Na choelia' i," atebai y llall, " oni chlywaist ti ef yn tyngu? "

Trwy ddichell o'r fath y twyllodd efe hwynt, ac y siomwyd en dysgwyliad : dichell, fel y gwelsom fwy nag unwaith o'r blaen, a ddefnyddid ar rai achlys- uron i ddallu dynion, mwy eu cynddaredd na'u cyfrwysdra. Nid ydym wedi cael enw y pregethwr hwn , ond dywedir iddo ddyfod yn ddiogel i'r dref, ac iddo bregethu yn wrol a llwyddiannus iawn, a'r prif derfysgwyr wedi eu gadael, yn dysgwyl yn ofer am eu hysglyfaeth, fiUdiroedd o fi'ordd yn y wlad.

Yn y, raodd yma yr oedd crefydd yn raddol yn gweithio ei fl"ordd, ac yn ennill tir. Ond nid oedd loches iddynt eto o fewn y dref ; ond yr oedd yr ^mser y mynai rhagluniaeth iddi gael safle yn y dref, weithian ar y drws. Tua'r fl. 1777, yr oedd gŵr o'r enw Richard Jones yn byw yn yr Aberfl'raw. Mab ydoedd i'r gŵr a gadwai y siop newydd, Trefdraeth ; priododd Sarah, merch y Berllen-grin, yn agos i Niwbwrch ; ac wedi priodi, daethant i fy w i'r Aberfí"raw.

Yr oedd y "Richard Jones hwn yn ŵyr i'r Parch. Mr. Hughes, Perfeddgoed, gerllaw Bangor, unig fab i'w ferch henaf, Elizabeth Hughes. Yr oedd Mr. Hughes yn beriglor Trefdraeth, Mon, ac yn ganghellwr i eglwys gadeirioJ Bangor. Trwy ei gysylltiad â'i daid, cafodd Richard Jones ei ddwyn i fynv yn ysgol ramraadegol Bangor, a chyrhaeddodd raddau o ddysgeidiaeth a gwy- bodaeth gyS"redinol na cheid ond anfynych gan fechgyn cyffredin ei oes a'i wlad. Tyfodd i fyny hefyd yn ddyn meddylgar a chrafl^; o dymher fywioo-, ac ysbryd anturiaethus.

IJn Sabboth, pan oedd un o hen ofi"eiriaid Methodistaidd y deheudir vn pregethu yn y pentref, wrth dalceu rhy w dŷ, aeth Eichard Jones i rywle o fewn clyw : teimlodd ryw air, megys mewn mynydyn, yn cyfiwrdd â'i feddwl, a thynodd ei het yn arwydd o'i barch i'r genadwri. Ar ol i'r oedfa fyned heibio, "aeth i'w dŷ, ac a osododd y pethau a glywsai at ei galon." Ym- ddengys fod Bichard yn medru chwareu y ffidl neu y crwth, ac yr arferai efe wneyd hyny ar ryw achlysuron, er difyrwch i'w gymydogion, a chwblhau diffygion y ddawns.

536 hane'siaeth Y ÎSIROEDD. [d03B. IV.

Ond y Sabboth canlynol i'r bregeth uchod, nid oedd y crythor ddim ar gael fel arferol ; caed allan fod diflasrwydd wedi ei roddi ar y difyrwch ffol, a bod arwyddion fod Eichard Jones wedi ei swyno gan beroriaeth yr efengyl. Tynodd hyn gymaint o ŵg arno, bellach, ag oedd o wên iddo gynt. Yr oedd wedi troseddu yn aufaddeuol yn erbyu preswylwyr y pentref, am iddo feiddio meddwl yn wahanol iddynt hwy. Codwyd erledigaeth arw ; yr oedd, bellach, yn gymaint nod i drais a gwaradwydd, fel y darfu iddo ben- derfynu ymadael o Aberífraw. Nid oedd wedi bod yno yn hir, ac fe allai fod yn haws ganddo, o herwydd hyny, fyned i fiFordd, na phe buasai wedi hen wreiddio yn y lle. Achwynodd rhyw ddyu o'r enw Williaras arno ef, ac ar un arall o'r enw Eobert PaiTy, wrth berson y plwyf, ei fod wcdi eu gweled yn sicr, ö'm hetiauyn eu dwylaw, yn gwrando y penau-cryniaid ;— y person yn- tau, gan fod prawf diddadl fel hyn fod y dynion yn euog o drosedd mor anferth, a achwynodd wrth y boneddwr oedd yn byw yn Bodorgan, palas yn y gymydogaeth, boneddwr a berchenogai lawer o'r tir, a dylanwad yr hwn oedd yn fawr yn y fro. T canlyniad fu, i Eichard Jones gael rhybudd i ym- adael â'i dyddyn. Hyn, ynghyda'r gwawd a'r anghysur a godai oddiwrth ei gydradd a'i isradd, a ogwyddodd ei feddwl i ymadael ag Aberífraw.

Y benbleth, er hyny, oedd, i ba le yr âi ? Nid oedd ganddo un Ile mewn golwg. Yr oedd ganddo, bellach, wraig a phlentyn yn dibynu arno. Un diwrnod, pan mewn cryn gyfyngder meddwl, dywedai wrth ei wraig, " Sarah, a weli di y ffon yraa sydd yn fy Uaw ? gosodaf hi ar ei phen ar ganol y llawr, ac i ba le bynag y gogwydda wrth syrthio, yno yr âf ! " Pa beth bynag a feddylir am y duU hwn o benderfynu dadl, felly y gwnaed y tro hwn, ac fe wnaed hyny gyda llawer o ddiniweidrwydd calon, a phenbleth raeddwl. Syrth- iodd y ffon tua'r gogledd-orllewin, ac felly yn cyfeirio yn union tua Chaer- gybi. Mae pethau mawrion yn fynych yn dibynu ar amgylchiadau bychain. T'elly gellir dywedyd yma ; er lleied peth oedd syrthiad ffon yn yr Aberffraw yn y fl. 1777, y mae hyny fel modrwy yn y gadwen, wedi effeithio ar Feth- odistiaeth Caergybi yn y fl. 1850.

Wedi i Eichard Jones benderfynu y Ile i gyfeirio ei gamrau iddo, dech- reuodd ymbarotoi yn ebrwydd i fudo i Gaergybi. Nid yw yn ymddangos fod yno neb yn ei ddysgwyl, na neb yn parotoi i'w dderbyn; fe allai, gan ei fod yn awr yn grefyddwr, mai po ddystawa, goreu yr ysgogai, rhag na chawsai un Ue i roddi ei ben i lawr ; ac mai mwy dewisol oedd ganddo ym- ddiried i ragluniaeth y nef am ffyniant, nag i drigolion y dref am ffafr. I Gaergybi, pafodd bynag, y daeth ef a'i deulu ; ac ar eu dyfodiad, disgynasant eu dodrefn ar yr heol, nid yn mhell oddiwrth y Ee y mae capel y Methodist- iaid yn awr yn sefyll ; eisteddai y wraig ar gareg gerllaw yn gwylio y dodrefn, a phlentyn tri mis yn ei breichiau ; a phrysurodd Eichard i fyned o amgylch i edrych am ryw dỳ gwag, i fod yn anedd iddyr.t.

Ar ei hynt, cyfarfu ag Elizabeth Williams, Bol-haul, a gofÿnodd iddi a wyddai hi am yr un gwag yn y dref, gau neb o'r bobl a elwid y " penau- crynion?" " Gwn," ebe y wraig, "mae yn top yr allt yna."

PÊN. IV.3 SIR FON. 537

Felly hefyd yr oedc]. Y hwnw a gymerwyd, a bu yn nodded i grefydd, ac yn llety i'r hoU bregethwyr, tra y bii Ríchard Joues fyw, sef am ysbaid 2 1 mlynedd, a hyd i'r fl. 1808.

Ar ddyfodiad Eichard Jones i'r dref, yn y fl. 1777, nid oedd y Methodist- iaid eto wedi anturio ymgynull at eu gilydd o fewn y dref, ond yn y wlad ; ond yn ebrwydd ar ol iddo ef ymsefydlu yn ei gartref newydd, cafodd ar ei galon ymofyn am ardrethol, i fod yn addoldy o hyn allan. Penodwyd ar a elwid Ty'n-y-llidiart, yr hwn a osodwyd gan Anne Thomas, wedi hyny 0 Tan-Ian, Trefdraeth, Mon. Hwn ydoedd y capel cyntaf, a thebyg ydoedd i lawer o gapeli cyntefig y Methodistiaid. (ìosodwyd hen chwaer i fyw yn ìin pen iddo, a gwnaed math o gell yn y pen arall i fod yn bulpud ; ond fe wellhawyd ac fe eangwyd hwn o dro i dro. Bu dyfodiad Richard Jones i'r dref yn gyfnod newydd ar Fethodistiaeth ynddi. Cymerodd y trueiniaid erlidiedig galon wedi ei ddyfod atynt, a chymeryd gradd o arolygiaeth gofalus a thyner drostynt.

Un o'r pethau cyntaf a fynai Eichard Jones, ar ol cael i bregethu ynddo, oedd codi a sefydlu ysgol ddyddiol yn y dref ; ac mewn cysyUtiad â'r amcan hwn y daeth y diweddar Barch. John Parrj% Caerlleon, i'r dref i gadw yso-ol ; ac ar ei symudiad ef i Gaer, daeth Eichard Jones yn gydnabyddus â Mr. Grifíìth Owen, trwy gyfarfod â'u gilydd yn nghymdeithasfa y Bala, am yr hwn y cawn eto grybwyll yn helaethaeh. Nid oes dim amheuaeth na fu yr ysgol ddyddiol hou yn foddiou, mewn cysylltiad â gweinidogaeth yr efengyl, i ychwanegu Ilawer ar ddylanwad Methodistiaeth, nid yn unig yn nhref Caer- gybi, ond yn Mon yn gyS'redinoI.

Yn mhen ychydig amser ar ol dyfodiad Eichard Jones i Gaergybi, anfon- odd Syr Nicholas Barley, tad y Marq^im of Aììglesey, ato, i ddyweyd wrtlio, os efe a ymddyosgai yn llwyr oddiwrth fod yn bengrwn, a glynu fel yr arferai gynt wrth yr eglwys sefydledig, y rhoddid iddo swydd * dan y llywodraeth yn y dref. I hyn yr atebodd, " fod ei grefydd yn addaw iddo bethau Uawer mwy na hyny ; fod ganddo bob cysur eisoes yn y byd hwn, a gobaith bywyd tragwyddol yn y byd a ddaw."

Arferai Miss Jane Hughea, chwaer ei fam, ymweled yn achlysurol â'r bon- eddwr crybwylledig yn y Plas-newydd, ac aros yno wythnosau, a thrwy- ddi hi y daethai Syr Nicholas yn adnabyddus o helyntion Eichard Jones. Ehoes dyfodiad y gŵr hwn i fyw i Gaergybi achles dda i Fethodistiaeth o fewn y dref. Cafodd pregethwyr y sir, "ie, pregethwyr Cymru, lety cysurus a chroesawgar, ac nid pregethwyr y Methodistiaid yn unig a gafodd hyn ganddo, ond pregethwyr enwadau ymneülduol eraiU. Gofalodd rhagluuiaeth hefyd am dano yntau ; bu ei Iwyddiant bydol yn cyfateb i raddau ei sel, ei lafur, a i haelioni gyda chrefydd. Ni adawyd mo Eichard Jones chwaith yn amddifad o fwynhad ysbrydol yn ei yrfa grefyddol : rhedai drosodd weith- iau, fel llestr wedi ei orlenwí. Unwaith, pan oedd Mr. Jones, Llangan, yn

Collector of Customs.

538 IIANESIAETH Y SIROEDD. [DOSB. IV.

gweini Swper yr Arglwydd, ac yu cyffwrdd â'r gair " Mewu diolchus gof am am fy lesu mawr," cipiodd Richard Jones y meddwl, gan chwanegu, " Fu ar y groes rhvvng uef a llawr,

"Gwithrych ni wel fy enaid gwan, Ond Icsu i bwyso arao yn rhan."

Ar hyn, torodd allan yn orfoledd, a pharhaodd hyd ganol nos.

Eywbryd, tua dechreu y ganrif bresenol, y daeth Mr. Griffith Owen i fyw i'r dref; a dewiswyd ef yn ddiacon y flwyddyn gyntaf ar ol ei ddyfodiad. Ganesid ef yn mhlwyf Dolyddelen, a dygwyd ef i fyny mewu rhagfarn at y Methodistiaid, fel y cyíFredin o'i gydoeswyr. Ond wedi clywed Romaiae yn pregethu yn Llundain, daeth arno flys i wybod pa fath oedd y bobl yr oedd cymaint o ddywedyd yn eu herbyn. Ond cyn rhoddi clust iddynt, ewyllysiai ymgyrghori ag oífeiriad, am yr hwn y llochesai feddwl uchel, sef Mr. Morgaus, Llanberis.

Cafodd gyfleusdra i gael meddwl Mr. Morgans drwy iddo ddyfod i bregethu i eglwys Dolyddelen; ac yn ei bregeth, efe a ardystiodd wrth ei gynulleidfa, mai gwŷr da aduwiol oedd y rhai a ddeueut o'r deibregethu, ac mai eu hamcan oedd Ilesâu eu cydgenedl. Penderfynödd hyn feddwl Mr. Owen ; aeth i wrando y Methodistiaid ; ac yn fuan ymrestrodd yn aelod yn eu plith. Nid oedd ar y pryd ond 18 ml. oed. Pel hyn y dechreuwyd cymhwyso swyddogi eglwya y Methodistiaid yn Nghaergybi, yn gyntaf yn Llundain, trwy weinidogaeth William Romaine, a thrachefn yn Nolyddelen, trwy weinidogaeth y Meth- odistiaid eu hunain. Ehoes ei bresenoldeb a'i wasanaeth ef, mewn undeb ag eraill o'i gydweithwyr, ysgogiad ychwanegol i'r achos crefyddol yn ei flaen yn y dref hon.

Yn y fl. 1808, ychydig ddyddiau cyn marwolaeth Richard Jones, yr oedd y brodyr yn cynllunio capel newydd. Adeiladwyd ef yn y canlyniad ; ac er nad oedd ond bychan, sef 12 llath wrth 9, eto bernid fod cryn orchest wedi ei wneuthur. Yn mhen saith mlynedd ar ol hyny, ail-adeiladwyd ef, gan ei helaethu yn fwy na chymaint arall a'r un o'i flaen.

Yn y blynyddoedd canlynol, cododd yr achos yn Nghaergybi i sylw a pharcli neillduol. Ystyrid yr eglwys, o ran swyddogion, undeb, a haelioni, yn un o'r rhai enwocaf yn Nghymru.

Ar ryw adegau, fe fyddai Ysbryd yr Arglwydd yn gweithio yn fyw amlwg, ac i raddau mwy iierthol, nag ar amserau eraill. Sonir yn neillduol am efl^eithiau un bregeth o eiddo Robert Roberts, o Glynog, mewn cymdeithasfa a gynaliwyd yn y dref hon, tua 60 ml., neu ychydig yn Ilai, yn ol. Nid oedd y pregethwr yn cael dywedyd ond ychydig eiriau ar unwaith, na fyddai y gynulleidfa, megys yn cael ei haredig gan rym y gwirionedd, ac yn tari allau yn un floedd fawr, gan lesteirío i'r pregethwr fyned yn mlaen, cyfí"elyb fel yr oedd yn y deml gynt pan y Ilanwyd hi gan y cwmwl, " fel na allai'r oS'eiriaid sefyll i wasanaethu." Yr oedd y gair yn ngenau y pregethwr yn dân, a'r bobl yn gynud, a rhyfeddol fel yr enynai y naill y llall. Y pryd hwn.

PEN. IV.] SIU FOX. 539

syrthiodd amryw yn farw gau ddycbryij, yn mysg y rhai yr ocdd un ferch, yr hon na ddadebrodd byth !

Dylyiìwyd Eichard Jones yr heuaf gau ei fab o'r un enw i'el swyddog yn yr un eglwys. Nid oes genym ddim anigylchiadau hynod yn oes y mab i'w croniclo, y fath a berthynai i'w dad, eto nid oedd y mab yn ol i'w dad mewn cymeriad ucheL fel crefyddwr, ac mewn llafur a gwir òial calon am achos yr efengyl, Yi- oedd Mr. Eichard Jones yu ŵr o feddwl rliydd a haelfrydig, yn fwy na llawer o'i gydoeswyr crefyddül. Yr oedd gwir ysbiyd diwygiwr ynddo. Nid newydd-deb peth, na'i hender chwaith, a enuilîai ei gymerad- wyaeth, ond ei lesoldeb. Ni ymlyuai wrth beth yn uuig am ei fod yn hen, ac ni ruthrai at beth yn unig am ei fod yn newydd. Ymdrechodd hiwer i gael capelau Mon yn ddiddyled, a mawr oedd ei awydd i gael rhyw gynllun anrhydeddus ac eífeithiol i roddi cynaliad teilwug i weinidogaeth y gair. Wedi blynyddoedd o lafur, gofal, a defnyddioldeb, yntau a hunodd yu hedd- ychol yn yr lesu, yn y fl. 1 847, yn 66 ml. oed.

Mae cynulleidfa y Methodistiaid yn Nghaergybi, bellach, yn dair canghen, Heblaw y fam-eglwys yn y drcf, yr hon sydd un o'r rhai mwyaf yn Mon, íe, yn Nghymru, y mae, weithian, ddwy gangen wedi tarddu o honi, un ar bob llaw i'r dref ; cynuUeidfaoedd siriol eu gwedd, a Uuosog eu rhif. Y mae yn awr yn preswylio yn y dref, rhwng y rhai a ddechreuodd bregethu o fewn yr eglwys, ac eraiU o ddyfodiaid, bump o bregethwyr, sef y Parch. Hugh Jones ; Mr. Eichard Jones, ŵyr i'r gŵr o'r euw a fu mor lìwyddiannus i sefydlu Methodistiaeth yn y dref ; yn nghyda Eobert Jones; Evau Thomas, ac Owen Hughes,

OWEK THOMAS ROWLANÌ).

Wedi gwueuthur ychydig grybwylliad am y gŵr hwn o'r blaen,* daeth hanes helaethach am dano i law, a chan ei fod o gymeriad tra hynod, a'i oes yn gyfiawnach na chyíìredin o droion tarawiadol, yr ydym yn barnu mai ein dyledswydd ydyw ail-alw sylw y darllenydd ato. Ysgrifeuwyd ei hanes gai Mr. Daniel Jones, mab Eobert Jones, Ehoslan, o'i enau ef ei /tun.

Ymddeiigys iddo gael ei eni tua'r fl. 1735; ac am yr 28 ml. cyutafo'i oes, ddarfod iddo ragori ar nemawr un yn ei oes a'i wlad mewn diofahych am ei enaid, ac mewn dibrisdod o'i gorff ; dyn oedd heb ofni Duw, na pharchu dyn ; dyn bras ei iaith, ac anfad ei fuchedd. Ai i Beaumaris bob sessiwn, a deg swllt a deugain neu dair punt yn ei logell, (swm mawr y pryd hyny), ac a'u gwariai oU cyn dyfod adref. Addefai iddo yfed dau chwart o gwrw ar un traflwnc ; tywelltid ef i'w enau megys y tywelltir i gostrel. Chwareu cardiau a wnai y dydd, ac yfed cwrw y nos. Pawb a ddywedent wrth ei fam, mai ei fagu i'r crogbren a wnaeth, Dyn ydoedd yn goíalu ychydig iawn am gyfraith ei wlad, a liawer Uai am gyfraith ei Dduw. Am yr 20 ml, cyntaf

Cyf, I., tudal, 113.

540 HANESIAETH Y SIROEUD. [DOSB. IY.

o'i oes, iiid oedd nemawr bregethu yn y wlad oddieitlir yn llanau y plwyf ; arferion y wlad oeddynt dra llygredig, ond yr oedd 0. Thonias yn nodedig yn mysg y rhai aufad eu hunain, ac yn ben ar sect y barbariaid.

Ehoddir drychfeddwl cy wir pa fath ddyn ydoedd trwy ei ymosodiad unigol ar neidr fawr, a barai ei harswyd yn yr hoU fro, a chau fod a v/nelo yr am- gylchiad ag arafu gradd ar ei gamrau, priodol, tybygid, ydyw gosod yr am- gylchiad i lawr. Can mlynedd yn ol, pryd yr oedd yr haf yn boethach, a'r preswylwyr yn deneuach nag yn awr, fe ymddengys fod y whid hon yn cael ei blino gan luaws o bryfed gwenwynig, y rhai oeddynt o wahanol faintioli, a rhai yn diauc heb eu lladd nes byddent wedi cyrhaedd maintioli peryglus i un neu ychwaneg o ddyuion, ymosod arnynt. Y cyfryw oedd y neidr hon. Yr oedd y creadur wedi tyfu i faintioli arswydus ; yr oedd yn adnabyddus i'r trigolion, a Uawer wedi ei gweled, ond pawb yn ofni ymosod arni. Tybygid mai yn mhlwyf Llechgynfarwy yr oedd, y plwyf yn mha un yr oedd Owen Thomas y pryd hyny yn byw.

Ar ryw Sul y pasg, aeth i'r cymun, bid siwr, ac ar ol yr ymbarotoad defos- iynol (?) hwn, penderfyuodd ymosod ar y neidr. Aeth i'r efail, (oblegid gôf oedd efe), ac a gymerth droed pigfforch, dwy lath o hyd, yn ei Liw, ac a aeth 0 amgylch y maesydd i chwilio am y pi'yf. Yr oedd Owen Thomas tua 24 ml. oed, ac mor wisgi a chyflym ag y medrai '* ddal dafad helj lyfl'ethair arni." Wedi chwilio enyd am daiii, disgynodd ei lygaid arni yn gorwedd yn dorch- au, gan ymblethu yn ddiofal ar fol clawdd. Parodd yr olwg arni gyfí'ro trwy ei hoir natur, ac er fod yr anturiaeth yn un a allai gostio iddo ei fy wyd, efe a ffyrnigodd at yr ymdrechfa. Nesaodd ati ac a'i tarawodd a'i holl egni. Dysgwyliai i'r dyrnod fod yn ddigon, os nad i'w lladd, i'w gwanychu a'i hanafu ; ond fe ddygwyddodd ei bod wedi ymdorchi o amgylch careg, ac yn anflfodus i'r gôf, disgynodd grym mwyaf y dyrnod ar y gareg ; torodd troed y bigíforch yn ddau, ac ni wnaeth y dyrnod i'r neidr nemawr amgen na'i chyn- ddeiriogi. Nid oedd gan Owen Thomas, bellach, yu ei law, ond pwt byr o'r troed, tua hanuer Ilath o hyd, a'r darn mwyaf wedi ei hyrddio yn mhell.

Yn awr, gau hyny, yr oedd yr ymdrech yn dechreu. Wedi derbyn rhan o'r dyrnod, Uamodd y neidr oddiar y clawdd, a'i cheg fawr goch yn agored, ac yn chwythu yn arswydus ; osgôdd yntau ei naid, a chafodd gyfle mewn aeliad i neidio tros y clawdd ; cafodd y darn arall o goes y bigflorch ; a thaflodd ei gót a'i wascot ymaith ; bellach, yr oedd ei elyues yn ei ymyl, ac yn ceisio at ei goesau. Bu yn ymladd â lii dros ryw enyd, gan osgôi ei llamiadau trwy gUio o'r neUldu, nes oedd ymron allan o wynt, ac yn ofni colli y dydd. Tybiodd, bellach, fod ei diogelwch yn nghyflymder ei droed, ac i ífordd ag ef ; hithau mewu eithaf cynddaredd a'i dylynodd, ac fel yr oedd ei wynt ef yn byrhau, yr oedd hithau yn ennill arno, nes oedd ymron wrth ei sawdl. Wedi deall ei bod mor agos, a'i anadl yntau yn coUi, ceisiodd ddyr- nod iddi, megys o'i ol, a dygwyddodd ei tharo mewn Ile atgas, nes ei syfrdanu dros fynydyn, a nodi coes y bigfl'orch a gwaed. Dadebrodd hyn ron- yn aruo yntau, a chan brysuro ei gam ennUIodd beth tir arni. Ond am enyd

PEK. IV.] SIR FON. 541

bach y bu hyn. Wedi mynyd o lewygfa, hithau a adfywiodd ; ac yn fwy cynddeiriog nag o'r blaen, hi a adnewyddodd ei llamiadau, fel un wedi ymroi i ddial ar ei gelyn, ues oedd drachefa wrth ei sawdl. Nid oedd ganddo, bellach, ond un ymdrech i'w wneyd, ac os methai hwnw, nid oedd i'w ddys- gwyl ondbod yn ysglyfaeth i'r creadur gwenwynig a Uidiog. Wedi deall, trwy droi ei olwg yn ol, ei bod o fewn cyrhaedd dyrnod, efe a'i ceisiodd hi a'i hoU egni, a tharawodd hi eilwaith mewn Ue atgas, nes iddi syrthio, a'i gwaed yn cerdded. Trodd yntau yn ol, gan gymeryd y fantais ar ei llewyg, ac a gurodd ei phen yn siwtrws. Syrthiodd yntau ei hunan i lawr yn ei hymyl, ymron wedi darfod am dano.

Dywedir ddarfod i'r yradrechfa hon fod yn foddion i arafu peth ar ei gam- rau, a lliuiaru ychydig ar ei ddibrisdod. Symudodd ei gartref, ac aeth i fyw i Dulas. Yn mhen tua phedair blynedd ar ol bod yn ymladd â'r neidr, a phan oedd yn 28 ml. oed, dygwyddodd fyned i wrando Hugh Grifîith, Llan- ddaniel, y tro cyntaf erioed iddo glywed pregeth gan neb o'r ymneillduwyr : ac yn mhlwyf Penrhos-Llugwy y cadwyd yr ocdfa, yn y fl, 1763. Meddai ef ei hun, " Fy hudo i'r oedfa a wnaed, ac wedi myned i mewn i'r unwaith, anmhosibl oedd dyfod allan, gan faint oedd y tyndra; minau a dawelais i aros, ae a lechais yn nghîl y drws. Wrth i'r gŵr bregethu, torais allan i lefain dros y tŷ. Soniai, fel yr oedd Moses yn sefyll ar yr adwy, ac yu attal dyrnod dialedd i ddisgyn ar Israel ; ac argyhoeddai yn llym y tyngwyr a'r rhegwyr. Effeithiodd y bregeth hon yn ddwys arnaf, a thrôdd fi yji llwyr odüiwrth yr arferion o dyngu, rhegu, a thori y Sabboth."

Charles Marc, o sir Gaernarfon, oedd y nesaf a glywodd yn pregethu. Golwg wladaidd a thlawd oedd ar y pregethwr ; ac wrth ei weled, teimlai Owen Thomas eienaid yn ei ddiystyru; "oud," meddai, " pan ddechreuodd bregethu, cefais fy aredig gan argyhoeddiadau saith mwy nag o'r blaen. Ar y gair hwnw y pregethodd, ' Am hyny yr annuwiolion ni safant yn y farn, na phechaduriaid yn nghynulleidfa y rhai cyfiawn.' Bu'm am flwyddyn yn crîo ac yn llefain yn y moddion, a hyny, yn aml, pau oedd eraiU yn nofio mewn gorfoledd.

" Ond wrth wrando William Prisiart Siôn,* pregethwr tanllyd a selog o'r deheudir, yn traethu ar y testyn, Gwir yw y gair, ac yn haeddu pob der- byniad, ddyfod Grist lesu i'r byd i gadw pechaduriaid,' yr ymoUyngodd y cadwynau oddiar fy enaid, a methais inau ymattal heb ganu, canmol, diolch, a neidio.

" Enyd ar ol hyn, aethum i gymeryd y cymun i lan y plwyf, a ff"aelai3 ymattal yno heb waeddi dros y Uan, wrth feddwl am farwolaeth Crist dros- of, y cyfiawn dros yr anghyfiawn. Ar hyn, digiodd yr offeiriad a'r bobl wrthyf yn aruthrol, a chollodd y gwin ar y bwrdd ac ar y llawr yn y cyffro ; a Uawer o fygythion a gefais y rhoddid fi yn Ilys Bangor, am halogi yr eg- Iwys."

* DyTTedir yn " Nrych-yr-Amseroedd," tudal. 91, mai Peter Wüliams oedd y pregethwr.

543 HANESIAIÍTH Y SIROEDD. [döSB. IV.

Er foJ y torí allau i waeddi j^n beth dyeithr iawn yn y llanau, yr oedd yn dygwydd yu fyuych iawn dan bregethau etfro a Uynaion y diwygwyr ; a phrin, yu ül tystiolaeth 0. Thomas, y byddai oedfa yn pasio heb fod rhyw un yn cael ei ddwysbigo yu ei galon.

" Yn mhen pum mlynedd a hanner," defnyddiwn ei eiriau ef ei hun, *' ar ol dechreu gwrando, dechreuodd y diafol gynhyrfu ei oíferynau ; person y plwyf, a rhyw wraig foueddig, a fyuasant gael canu yn erbyn y crefyddwyr, yr hwn a wnaeth lawer o'i ol ar y gymydogaeth."

Dyma uu pennili :

" Mae'r gôf ^Trth bwyntio'i hoelion,

Yn tybied yn ei galon, Ei fod jTi weìl ei ddysg a'i ddawn,

Na llawer iawn o 'sgobion."

Y pennilliou a anfonwyd gan y wraig foneddig i bob tŷ, a mawr oedd y o\'fîro a goilwyd yn yr holi fro. Ymddengys oddiwrth yr arauaid a roddir yn y penniil uchod, fod 0. Thomas wedi dechreu cynghori y pryd hyuy. Ond nid hir ar ol hyn y bu, cyn fod gorchymyn iddo ef, a i7 eraill o gi-efyddwyr, dílyfod 0 fiaeu goruchwyliwr Lord Bostou, a pherson y plwyf, i roddi cyfrif ara eu proÖ'es. " Aethom yno," meddai y gôf, yn ol y gorchymyn. " Gof- vnwvd i ni, a svnaem ni amrnod i beidio gwrando dim oll ar y Methodistiaid ? Os gwuaem, y caem aros ya ddiddig yn ein tai a'n tiroedd, ac onide, rhaid ocdd i ui eu gadael. Yr oedd y goruchwyliwr, ar y pryd, yn dal yn ei law bapurlen fawr, yn cynwys gorchymyn ei feistr, ac yn ei darllen.

" Anturiais i bledio fod rhyddid cydwybod yn y Uywodraeth i bob dyu addoli Duw, yn y Ue y myno ; ond uid gwiw oedd pledio ; yr unig ateb a geid, oedd, ' Dyma orchymyn fy meistr.'

" Dechreuodd un o honom, gyda hyn, ollwng ei het ilawr, curo ei ddwylaw, a dechreu neidio yn mharlawr y gŵr boneddig, a llefaiu, ' Bendigedig f 'o Duw ! Hosanna i Fab Dafydd ! ' Pan geisiai y person ganddo beidio, âi i lefain yn fwy o lawer, nes oedd gwyuebau y boneddwyryn glasu gan gymysg deimladau, a'r goruchwyliwr yn goUwng y bapurlen i'r llawr. Aeth y cref- yddwr allan dan lefain, ' Ffarwel, frodyr anwyl, pwy bynag a wertho deyrnas liardd, a chorou deg, am dyddyn o dir, a thalu yn ddrud am dano, os caf gymhorth, gan y brawd a anwyd erbyn caledi, ni wnaf fi byth ! "

Ar ol hyn, aeth pawb adref, oud yu mheu ychydig amser, daeth 15 o'r 18 yn ol i yrarwymo i beidio gwrando byth mwy ar y Methodistiaid, ond safodd y tri arall, sef, Owen Thomas Eowlant ; Richard Hughes, sîop Rhos-tyddyn ; a Hichard Williams, Tyddyn-bach. Y'' gŵr olaf a enwyd, medd yr hanes, oedd yr un a dorodd allan i folianuu, a galwyd ef yn y canlyniad yn Bic y tân. Trowyd y tri hyn allan o'u tyddynod.*

* Mae gradd o wahaniaeth yn yr hanes uchod a'r un a roddasid o'r blaen, Cyf. I., tudal. 113, ond gan mai yr olaf ywy tebygaf o fod yn gpvir, rboddir ef yma i Ìawr.

PEN. IV.] SÍR FON. g4g

Ond er i'r pymtheg eì-aill gael aros yu cii tyddynod, cüllasaut gyniaiut a hyny o barch ; syrthiasant i ddiystyrwch cyffredinol ; gelwid hwy yn Tnrn- coais, a buont byw a marw mewn gwrthgiliad a chaledwch gresynol. Am y ddau eraill, Eichard Hughes, a Eichard WiUiams, buont f'yw yn hapus, a buont feirw yn orfoleddus : a gorfoledd mawr a fu yn y llan ar gynhebrwng Richard WiUiams ; torodd y bobl allan i ganu, canmawl, a neidio, nes ffaehi o'r offciriad gael darllen y gwasauaetb arferol.

Wedi methu cael gan Owen Thomas roi heibio ei broffes na'i gynghori, nid oedd dim ond ceisio ei ymlid o'r wlad trwy dori ei fywìoliaeth. l'r dyben yma, rhoddwyd rhybudd i hoU dyddynwyr y wladi beidio anrbu gwaith iddo, dan berygl cael eu troi o'u ftermydd. Dyrysodd hyn ei amgylchiadau, nes ei ddarostwng i dlodi dwfn.* lë, cymaint oedd eu cynddaredd yn ei e)»byn, íel na chai fyned i ymweled â'i fam ond yn y nos, rhag, os deallid ei bod yn rhoddi un swcr iddo, iddi hithau gael ei throi o'i thyddyn.

Wedi iddo fod yn y blinder hwn yn hir, peuderfynodd adael ei wlad, a cheisio gorphwysdra yn rhyw ran arall o'r byd. Frlly ymadael a wnaeth, ac yn Lerpwl y disgyuodd. " Cefais," meddai, " bob derbyniad gan bobl Mr. Wesley ; gwnaethant i mi bregethu Cymraef' yn eu capel yn PiU-síreet, yr hwu oedd yn cael ei adeüadu, ond heb ei orphen y pryd hwuw. Deuai yno lawer o gannoedd o Gymry, a chefais lawer o aunogaeth i ymuno â'u corft" hwy. Addawent ddysgu Saesonaeg i mi, ac na chai fod arnaf eisieu dim, oud i mi lafurio gyda hwy dros fy oes. Ond gwrthod y cwbl a wneuthum. Bum yn Lerpwl dri chwarter blwyddyn rhwng dau dro, ond ftaelais gael gorphwysdra yu fy ysbryd nes dychwelyd yn ol i fy hen wlad. Wedi dych- welyd 0 Lerpwl y priodais .

" Llawer o luchio cerig a fu arnaf wrth fyned trwy dref Llanerchymedd. Yr oeddynt yn disgyn o fy nghwmpas ymrou mor aml a'r cenllysg. Wrth bregethu yno unwaith, cefais gnoc ar fy nghlust, ac ar fanau eraill, nes íy ar- cholli yn drwm, a pheri i mi goUi cryn lawer o waed."

Y cyfryw ydyw y darluniad a ddyry y gŵr hyuod hwn o hono ei hun. Ym- ddengy fod Llanerchymedd ar y tymhor y cyfeiria Owen Thomas ato, yn gau- edig iawn yn erbyn yr efengyl, a'r erlid yn greulawn ar y rliai a gynygient ei phregethu. Bu y gŵr hvvn yn gorfod tyuu y Ilaid a'r dom oddiar ei wyneb wrth bregethu, gan faint o hono oedd yn caei ei luchio arno. Unwaith, ya y dref hon, anfonodd y meddyg rhyw gyfaill iddo â gwydraid o wirod, i'w lierio arno tra yr oedd yn llefaru.

Pan oedd Owen Thomas yn G6 ml. oed, ac yn dychwelyd adref, wedi bod yn pregethu i ychydig o Pethodistiaid Cymreig yn y dref hon, (Lẁerpool), cyfarfu a chryn anhawsder ar y fibrdd, os nad perygl am ei iechyd neu ei fywyd. Cychwynodd o Lerpwl 2 o'r gloch y prydnawn, ar ẃyl Fair, gan gyfeirio tua Park-gate, er mwyn croesi oddiyno i sir Fflint. Tarawodd wrth

* Cyfaddefai ei fod yn gorfod golchi ei grys yn aml yu y ffosydd, a'u sychu ar y perthi, gan iym yr erlidigaeth oedd arno.

544 HANESIAETH Y SIROEDD. [OOSB. IV.

ddyn ieuanc, yr hwn, dan rith caredigrwydd, a'i harweiniodd i ganol y maes- ydd, o-an broffesu fod Uai o ffordd iia phe yr aethid ar hyd y brif-íFordd. Wedi i o-ysgodau yr hwyr orchuddio y wlad, gadawyd y truan yn y tywyll- wch, ac yn nghanol gwlad ddyeithr, ac estron genedl, ac yntau heb fedru dim o'u hiaith. Erbyn hyn, yr oedd raewn penbleth tìin, ac nid oedd gan- ddo yn gyfarwyddyd i geisio am y ífordd fawr, ond cyfeinad y gwynt, wrth yr hwn yr oedd yn dyfalu ar ba law i droi. Fel hyn y bu yn crwydro ani ysbaid tri chwarter awr cjti cyrhaedd y ffordd. Ymroddodd i gerdded, bell- ach, gan ddysgwyl y deuai al ryw ; ond fe fu yn cerdded ar liyd íFordd drom, trwy wynt a gwiaw, nes oedd wedi llwyr ddiffygio gan flinder a diga- londid. Wedi Uwyr anobeithio cyrhaedd llety y noson houo, (yr oedd, bellach, yn 8 o'r gloch,) efe a benderfynodd letya dan y berth dûrain ; a chyn gor- wedd i lawr i orphwys, yn ei ddillad gwlybiou, dan y berth, aeth ar ei liniau i orchymyn ei hunan i'r Arglwydd, ac erfyn ei nodded trosto. " Wrth geisio o-weddio," meddai, " am i'r Arglwydd, os oedd ganddo ragor o waith i mi i'w wneyd, ddiogelu fy mywyd a'm hiechyd, ni allwn lai," medd yr hen o-ristion trallodedig, " na diolch fy mod cystal fy Ue, mewn cydmhariaeth i'r rhaiy sonia yr lleg bennod o'ríHebreaid am danynt ; ' y rhai fu yn crwydro mewn crwyn defaid a chrwyn a geifr, yu ddiddym, yn gystuddiol, yn ddrwg eu cyílwr; yn crwydro mewn anialwch a mynyddoedd, a thyllau ac ogofeydd y ddaear."

Gyda'i fod yn codi oddiar ei liniau, a'i enaid wedi ei ddigoni gan y syn- iadau crybwylledig, ac yn parotoi i orwedd dan y berth, wele bedrolen yn dyfod heibio, a'r certwynwr yn canu ei oreu. Trwy ryw fodd, fe ganfu yr adyn dan y berth, a gwaeddodd arno, gan ofyn iddo y naill gwestiwn ar ol y Ilall, ond, gan ddiíFyg iaith, nid oedd ateb i'w gael, ond gofyn yn floesg, " Wliere 's Tarh-gaie." Ar hyn, deallodd ei gyflwr, a chipiodd ef i fyny i'r o-ludfen, gosododd ef i eistedd ar ^^w farilau gweigion, a rhoes hugan fawr drosto, gan ddangos caredigrwydd mawr tuag ato. Yn y modd hwn y gwar- edwyd ef y tro hwn rhag fferu gan wlybaniaeth ac oerni.

Nid oes brawf genym am yr amser yr aeth i breswylio i Gaergybi, ac nid oes hanes genym wrth law, pa bryd y bu ef farw ; hyn a wyddom, ei fod yn fyw dros ryw dymhor ar ol dechreu y ganrif bresenol. Nid oes amheuaeth am ei gywirdeb, ac y mae llawer o broíìon ar gael ddarfod ei fendithio i lesâu llawer o'i gydwladwyr tywyll ac anfoesol. Yr oedd llawer o gymhwysder ynddo i gwblhau gwaith garw y weinidogaeth, ac i ddyoddef triuiaeth arw y gwrthwynebwyr. "Cefais," meddai, *'gryn erlid yn Amlwch, ac yn Llan- fechell, ond po fwyaf o dom a luchid i fy wyneb, mwyaf a estynid o gym. horth i mi, a mwyaf di-ildio yr ymdeimlwn, fel na chymerais fy rhwystro erioed gan yr erlidiwyr." Peth cyffredin iawn, tybygid, iddo ef, oedd ceisio ei attal i bregethu trwy floeddio, tyngu, rhegu, a difenwi ; ond nid oedd yn gwneuthur un cyfrif o ddim o'r pethau hyn, ond defnyddiai bob cyfle a roddid iddo i rybuddio ei gydwladwyr o'u perygl. " Ar y ffordd bost, yn agos i Lanynghenedl," meddai, " tarewais i ganol llu o ddyniou yn chwareu,

PEN. V.] SIR FON. 545

ac wrth eu clywed yn rhegu yn ddychrynllyd, ffaeliais a'u dyoddef, ac ym- ollyngais i'w cynghori. Cefais lonyddwch am chwarter awr neu ugain mynyd, a chymhorth i'w rhybuddio gyda phob addfwynder a thosturi, gan ddangos parodrwydd y Duw mawr i faddeu iddynt, ac i'w derbyn i ffafr." Daeth llawer o'r gwrandawyr hyn i brofi grym y gwirionedd eu hunain, ac i broffesu yr Arglv/ydd lesu.

PENNOD V. HEN EGLWYSI GORLLEWINOL MON.

CYNWYSIAD ;

CAERGEILIOG HYNAFIAETH YR ACHOS— PIERCE PRITCHARD— THOMAS WILLIAMS A'I WRAIG— MYNEDIAD Y WRAIG I DREFECCA, A'I DYCHWELIAD YX OL EI HYJI-

ODION— ADEILADU CAPEL YN 1786— YMEANGIAD YR ACHOS YN BEDAIR CAXGHEX

JOHN JONES, CEFN— ROBERT JONES, CAE'R-DDOL W'ILLIAM JONES, GLAN-YR- AFOX— TY'X-Y'-MAEX— DAFYDD LLOYD— ADEILADU Y CAPEL— CYXULLIAD EG- LWYSIG LLANFWROG JOHX THOMAS Y GOF— CODI YSGOL SABBOTHOL, &c.

CAEEGEILIOG.*

Yr oedd achos gan y Methodistiaid yn y gymydogaeth hon er yn foreu. Yr oedd yma eglwys wedi ymgorffori, a chynuUeidfa yn ymgasglu, cyn y flwyddyn 1763 ; ond nid yw yr hanes yn ein hysbysu pa gyhyd cyn hyny, Yn Ty'n- y-merddyn, pa fodd bynag, yr ymgynullent. Meddai hen ẃt o'r enw John Jones, Cefn Caergeiliog, cyn iddo ymadael â'r byd, wrth \vr sydd yn awr yn fy w,f " Dy daid, Pierce Prichard, oedd y blaenor pan y cefais i y fraint o ymuno â'r cyfeiUion yn Ty'n-y-merddyu, yn y fl. 1763, a chanddo ef y cefais y Testament Newydd cyntaf a fu yn fy meddiant erioed. Ni ellais gaelBeibl o fewn yr ynys ; ond John Robert Lewis, Caergybi, ar ei daith yn Lleyn, sir Gaernarfon, a fu yn ofieryn i'w gael. Cefais fy nghynal yn nghymdeithas fy mrodyr am 65 o flyuyddoedd. Nifer y cyfeiUion, pan yr ymunais i â hwy, oedd pedwar, sef Pierce Pritchard, Cryglas, a'i frawd Owain, yn nghydag Owain Williams, a'i wraig, y rhai a gyfaueddent y ar y pryd."

Nid oes ar gael ychwaneg o hanes y blaenor Pierce Pritchard fel crefydd- wr, ond yr hyn a ysgrifeuwyd ar ddalen Beibl yn y gymydogaeth ar ol ei farwolaeth, ac nid ydyw ond byr iawn, er bod yn dra anrhydeddus. " Yn y flwyddyn 1767, ar y 3ydd o fis Ebrill, bu farw Pierce Pritchard, yr hwn a fu fíyddlawn yn ei oes."

Yn y flwyddyn 1775, neillduwyd ei fab, Eobert Pierce, iflaenori yr eglwys yn Ty'n-y-merddyn, ac yn 1780, cafwyd cyfarfod misol i'r lle, y cyntaf a fu yno erioed. Yn fuan ar ol hyn, sef yn y flwyddyn 1781, symudodd Thomas Williams a'i wraig, o'r Pentref-bwâau i Dy'n-y-merddyn i fyw. Mab oedd ef i William Thomas Owain, o'r Fagwyr, ac wedi hyny o'r Tŷ-mawr, Llan-

y mae capcl Caergeiliog yn sefyll ar fin y íFordd fa-\\T o Fangor i Gaergybi, o fewn rby^y bump neu chwe milldir i'r lle olaf.

t Mr. Eobert Pierce, Cryglas. 2 L

546 HANESIAETll Y SÎHOEUD. [UOSB. IV.

trisant, am yr hwu y soiiiasom eisoes. Yr oedd y mab ya meddu yr un ysbryd, ífydd, duwiolfrydedd, a dianwadalwch, a'i dad, ac yn ẃr o dymher addfwyn ac enniUgar. Ei wraig oedd Elin, neu Eliuor Dryburst, yr hnn y mae ei choffadwriaeth yn fendigedig yn ei gwlad hyd heddyw. j\Ierch oedd hon i Hugh Dryhurst, ac ŵyres i John Dryhurst, yr hwn a ddaethai o Scotland yn amser Cromwell, ac a wladychodd yn ngogleddbarth Mon. Yr oedd i Elin Dryhurst ddwy chwaer a brawd, wedi eu hamddifadu o'u rhieni er yn ieuaiuc, ac oU yn byw gyda'u gilydd yu eu cartref cyntefig. Yr oedd iddynt oU nodweddiad da, a chyírifid y tair chwaer y tylueddesau goreu yn y wlad. Yr oedd eu brawd Hugh yn ddyn o gymeriad da, ond efe a lofrudd- iwyd ar y ffordd adref, wedi bod yn gwerthu gwartheg yn ffair Llauerch- ymedd. Yspeiliwyd ef o'i arian, a thartwyd ei gorff i'r dwfr; a galwyd y bont a groesai yr afon yn y Ue, yn Bont-y-pwU-coch hyd y dydd hwn.

Dy wedir mai trwy weiuidogaeth Howel Harris y dygwyd Elin Dryliurst ati ci hunan, ac at Geidwad pechadur ; a hyny cyn iddi briodi. Ymddengys hyny wrth y dnll y gwahoddid ei gŵr hi gan ewythr iddo, i ymweled ag ef, yn mhen ychydig wedi priodi. "Tyr'd i edrych am dana'i, Twm, a dy 'bengrwn' gyda thi, gael i mi ei gweled." A mawr y boddhad a gaíodd yr ewythr ynddi. Nid oes amheuaeth nad ei fagu a gafodd Thomas Williams ei hun, fel Timotheus, yu ngeiriau y ffydd o'i ieuenctyd. Wedi iddo orfod ymadael â'r Tŷ-mawr, Llantrisant, o herwydd ei grefydd, efe a symudodd i'r Pentre, Llandrygarn, a chymerodd y cyfle cyntaf i agoryd ei i weinidog- aeth yr efengyl, gan ei gofrestru i hyny yn ol y gyfraith. Wedi bod yn preswyb'o yn y Pentre am nifer o flynyddoedd, a bod o swcr ac ymgeledd i achos yr efengyl yno, efe a symudodd eüwaith i'w dir ei huu, sef Ty'n-y- merddyn, ger Caergeiliog, yn y flwyddyn 1781.

Bu Elin Dryhurst yn drallodus iawu ei meddwl o dan yr argyhoeddiadau cyutaf, a chan fod y crefyddwyr ar y pryd yn anaml, a moddion gras yn brin, a chan y swn oedd arhyd y wlad am fanteision Trefecca yn anad un lle arall, hi a beuderfynodd fyued yno. Yr oedd hyn ar ol priodi, a phan oedd ganddi blentyn sugno. Ni ddywedir pa faint o les a fwynhaodd yn y sefydliad hwuw, ond hi a ddeallodd yn fuau uad oedd ansawdd ei hiechyd hi, ar y pryd 0 leiaf, yn alluog i ateb i'r rheolau caethion, a'r Uuniaeth garw, oedd yn y Ue hwnw.

Yn mhen enyd o amser, daeth ei gẃr, Thomas Wiüiams, i Drefecca i'w chyrchu adref. Y'^n y cyfamser, bu teulu Trefecca yn daer iawn arni i addaw dyehwel^'^d atyut yn ol. Hithau, oddiar eu taerineb hwy, a rhyw ystyriaethau eraiU, a led-addawodd y gwnai. Ond wedi dyfod adref, daeth ar ei meddwl betrusdod cryf, a phenbleth flin o herwydd ei haddewid, fel y teimlai yn amheus a phrofedigaethus yn nghylch ei dyledswydd. Yn y cyfamser, ymwelodd gŴT dyeithr o'r deheudir â'r wlad, a bernir mai y Parch. Peter WiUiams ydoedd, i'r hwn y mynegodd hi ei hoU helynt, gan erchi am ei gynghor a'i gyfarw^ddyd. Rhoes y gŵr parchedig ei feddwl iddi yn ddibetrusder, gau ddweyd, " ei fod yn barnu mai ei dyledswydd oedd aros yn

PEN. V.] SIR FON. 547

ei chartref yn ddiddig, gan ddangos iddi mai wrth hyny y byddai yn fuddiol i'w theulu, ac o fwyaf o ogoniant i Dduw. Cysurodd hi hefyd â'r gohaith yr aralhâai ei breintiau cyn hir o amser yn ei gwlad, ac yn y cyfamser mai nid peth bychan oedd iddi hi fod ganddi a chalon i roddi llety, ac i ddangos caredigrwydd i weinidogion yr efengyl, mewn gwlad mor Ihiwn o ragfarn, ac mor wag o wir grefydd."

Trwy y cyfryw gynghorion, cadarnhawyd hi yn y penderfyniad i aros yn ei ehartref. Cyn hir ar ol hyn, daeth dau ŵr o Drefecca ati, gan geisio ganddi werthu ei meddiannau, a mudo yn llwyr, hyhi a'i gwr, ac ymsefydlu yn mhlith y teulu yn Nhrefecca. Ond yr oedd y wraig yn benderfynol, a uacaodd gydsynio. Ar hyn, ífromasant yn erwiu wrthi, a gwrthodasant luniaeth ganddi, er eu taer gymhell ; bytheiriasant felldithion uwch ei phen, gan ysgwyd hyd yn nod y liwch oddiwrth eu traed yn dystiolaeth yn ei herbyn ; ac felly, ujewn agwedd ddigofus a chyíFrous iawn, hwy a aethant ymaitb, heb gyraaint ag eistedd yn ei thŷ. le, meddir, raor haerllug a nwydwyllt oeddynt, fel ag i felldithio y plentyn bach ag oedd ar y pîyd yn ei breicbiau. l)an ymddygiad mor annynol, llawer Uai Cristionogol, hi a droes ymaith, a'i henaid yn llesraeirio gan syndod a braw, a thros enyd nid oedd uerth ynddi. Oud yn y raan hi a ddadebrodd, a thywynodd heulwen hyfryd ar ei hysbryd, mwy nag a fwyuhasai o'r blaen, megys o ddyben i wrthweithio y felldith ddiachos a gyhoeddasid arni."

Mae yn anhawdd rhoddi i'r darllenydd ddrychfeddwl cywir am y wraig hon. Yr oedd yn uu o'r gwragedd hynotaf yn ei hoes. Yr oedd ei gwy- bodaeth, ei dawn, ei gras, a'i defnyddioldeb, yr un mor ddysglaer. iv cedd megys Miriam yn y gwersyll, neu fel Deborah yn fam yn Israel. " Yr oedd y wraig hon wedi ei chynysgaethu â'r fath ddoethineb a deall," medd un gŵr, " hyd onid oedd ei chynghor a'i chyfarwyddyd yn teilyngu sylw yr eglwysi. Gelwid arni yn fynych i weithredu yn gyhoeddus yn yr eglwys a'r gynulleidfa, a pharhaodd yn ddysglaer mewn gras a defnyddioldeb dros ystod ei hoes."

Yn y flwyddyn 1785, tua phedair blynedd ar ol i Thomas WiUiams ddyfod i gyfaneddu Ty'n-y-merddyn, cymerwyd ef yn glaf, a bu yn agos i angau. Yr oedd Ty'n-y-merddyn, erbyn hyn, wedi ei orlenwi â gwrandawyr, îe, yr oedd y pedwar gŵr a gyfansoddent yr eglwys ar y cyntaf wedi cyrhaedd 80. Yr oedd y tý, bellach, yn rhy fychan, ac weithiau yn dra anghysurus gau ddiffyg Ile. ünwaith, pan oedd Mr. Charles yno yn pregethu, yr oedd y gynulleidfa mor fawr, a'r mor annigonol i'w cynaî gydag un math o gysuf, nes eadarnhau y bwriad a lochesid eisoes i adeiladu capel. Felly yn ddioed ar ol i'r gŵr wella o'i glefyd, efe a neillduodd ddarn o dir, tua 200 o latheni oddiwrth ei dŷ, i adeiladu capel arno. Yn yr adeg yma, yr oedd y Parch. Evan Richards yn dygwydd bod yno yn pregethu. Dranoeth y boreu, gof- ynai Mr. Eichards iddo am fenthyg ceffyl, i fyned i Gaergybi.

" Y mae yn anhawdd i mi roddi benthyg un heddyw, Evan, eto ti gei," oedd ateb Thomas Williams.

548 HANESIAETH Y SIROEDD. [uOSB. IV.

"Beth sydd a wneloch chwi â'r b^'d hwn, Thomas?" gof^'^nai Mr. Eichards iddo; "pa helynt sydd yn rhwystro i chwi fenthyg y ceöyl? pe'r elai un tìwyddyn eto dros eich pen, ni byddai raid i chwi wrth ddim o hono,"

Felly yn gymhwys y dygwyddodd. Bu farw yn mhen blwyddyn, newydd orpheu adeiladu capel Caergeiliog, yn y flwyddyn I786, ac a gladdwyd yn mynwent Llandrygarn. Symudodd y w^eddw, bellach, yn ei hol at ei merch i'r Pentre. Yr oedd gwaeledd iechyd, ac unigrwydd sefyllfa, erbyn hyn yn prysur addfedu ei meddwl i fyd arall. Hiraethai am ei chyfnewidiad. Cof- iodd i Mr. Eichards ddarogan marwolaeth ei gŵr, a daeth arni rhyw chwil- frydedd plentynaidd i ofyn iddo, pan rhoddid cyfleusdra iddi, pa bryd y rhoddid iddi hi gael myned at ei gŵr. " Oh !" ebe Mr. Richards, gan wenu, "gall hen wraig fel chwi fyw yn burion bum mlynedd yn hwy." Hithau a dristaodd wrth feddwl byw cyhyd. Ac er mai yn ddiamcan y llefarodd Mr. Eichards, eto ei air a wiriwyd drachefn ; oblegid yn mhen y pum mlynedd, hithau a fu farw, yn y fl. 1791, yu 68 mlwydd oed.

Yn V flwyddyn 1795 y bu farw Eobert Pierce, yn 45 mlwydd oed. Wedi adeiladu y capel, Uuosogodd y gwrandawyr, a'r aelodau eglwysig, ya rhyf- eddol, cymaint felly nes i bedair cynulleidfa godi 0 honi : un i Bodedern, un arall i Ehoscolyn, y drydedd i Lanfwrog, a'r bedwaredd i'r Bryndu.

Bu dyniou o enwogrwydd yn dwyn cysylltiad â'r eglwys hon ar ol i'r capel gael ei adeiladu ; megys, John Thomas, wedi hyn o Lanfwrog, a'i fab, Thomas Jones, Amlwch ; y Parch. William Lloyd, Caernarfon ; a Mr. Eees Lloyd, Treflesg.* Yr oedd y gŵr olaf a enwyd yn un 0 henuriaid penaf y wlad yn yr oes ddiweddaf. Yr oedd yn fwy ei wybodaeth na'i hynafiaid, heb fod yn llai ei bwyll a'i ras : gŵr ydoedd dan Iywodraeth barn ac nid nwyd, yn ysgogi wrth egwyddor, ac nid wrth esiampl. Teilwng o'i goffâu ydyw WiIIiam Owen, yr hwn a fu gyda'r brodyr, rhwng Ty'n-y-merddyn a'r capel, tua 60 mlynedd.

Helaethwyd y capel drachefn yn y flwyddyn 1S17, yr hwn sydd adeilad da a phrydferth. Yr oedd yma wragedd nodedig eraill, heblaw yr un a enwyd, megys, Mrs. Letitia Lewis, Mrs. Margaret Lloyd, Treflesg, a Mrs. Catherine Eoberts, Aberalaw, y rhai oeddynt hynod yn mhlith y dysgyblion.

Yr ydym wedi crybwyll enw John Jones, Cefn, fel un a gafodd y fraint o Ymuno â'r ychydig nifer oedd yn meddwl am ei enw Ef yn yr ardal, mor fore a 1768. Teilwng ydyw ychwanegu am dano, mewn trefn i ddangos pa mor ddirgelaidd y mae rhagluniaeth Duw yn gwasanaethu achos yr efengyl, trwy y dull y dygwyd ef gyntaf i feddwl am ei ddiwedd. Meddai ef ei hun, a mynych yr adroddai hyny gyda dagrau, " Pan oeddwn yn byw yn Dinam bach, cyfarfum â damwain, trwy yr hon y torais fy nghoes ; ac yn yspaid yr amser y bum yn garcharor gan y ddamwain, mi ddysgais ddarllen fy Meibl." Edrychai ar y dygwyddiad hwn yn un 0 amgylchiadau hapusaf ei oes. Efe a ddaeth, drwy yT oruchwyliaeth hon, yn fwy cydnabyddus â Ilyfr Duw

Gwel Gofiant 0 hono, Trysorfa 1845, tudal. 55.

PEN. V.] ~ SIR FON. 549

na'r rhan amlaf o'i gydwladwyr. Yn mhell ar ol hyn y Uwyddodd, fel y dywedwyd, i gael Llyfr y llyfrau yn feddiant iddo ei hun. Cafodd y gŵr hwn y fraint o ddechreu y canu, o gyhoeddi yr oedfaon, ac o ofalu am geíFylau y pregethwyr, am fwy ria deugain mlynedd. Edrychai ar y gwas- anaeth hwn i achos yr efengyl gyda mwy o foddhad nag yr edrych dynion y byd ar y pentwr cyfoeth a gasglesid ganddynt, neu yr edrych buddugoliaeth- wyr y ddaear ar y gorchestion mewn medrusrwydd a gwroldeb a wnaethid ganddynt ar hyd eu hoes. Wedi myned yn hen, a'i olwg wedi pallu, cwynai yn fwy na dim ei fod wedi ei analluogi i ddarllen y Beibl, " Byddai yn well genyf gael fy ngolwg," meddai un tro wrth gymydog, " i ddarllen y Beibl, na phe cawn dy bwysau di o aur."

Ehydd yr hanesyn canlynol ddrychfeddwl ara wedd pethau yn mhlith y crefyddwyr boreol hyny. Cafodd un Eobert Jones, Cae'rddol, ar ei feddwl i ymgyrhaedd am y weinidogaeth. Nid annhebyg ydoedd hefyd fod ei awydd- fryd ef at y gwaith yn llawn mwy nag y barnai rhai o'r cyfeillion fod ei gymhwysder ; ac ar yr un pryd, yr oedd yn anhawdd cael rheswm digonol i'w attal, gan nad oedd dim yr. ei gymeriad fel Cristion yn ei luddias. Ond dygwyd yr achos i benderfyniad yn y modd canlynol. Mewn cyfarfod eglwysig, gosodwyd cais Eobert Jones dan sylw, a barnwyd yn weddus rhoddi penderfyniad arno. Gofynodd Elin Dryhurst iddo, " At bwy y mae dy genadwri di? ai at y byd, ynte at yr eglwys?"

" At yr eglwys," ebe Eobert.

" O'r goreu," ebe hithau, "wele gyfleusdra i ti ei thraddodi. Dos ar dy draed ar y dimpan yna, a gâd i ni ei chlywed."

Cododd Robert i fyny ar fedr traetlm yr hyn oedd ar ei feddwl, ond tywyllodd a dyrysodd ei feddyliau, fel nad oedd ganddo nemawr ddim i'w ddywedyd. Meddyginiaethodd hyn ef o'i glefyd, ac ni bu angenrheidrwydd ei luddias i bregethu, pe buasai bwriad i wneyd hyny, gan na wnaeth ef ei hun un ymgais at hyny rhagllaw.

Mae pob prawf a roddid o garedigrwydd y tadau at achos yr efengyl, ac o'u hymgysegriad iddo, yn werth ei goffâu a'i gofnodi. Gwneir hyny yn nydd y farn ; crybwyllir yno gyda chymeradwyaeth, gan " Farnwr yr holl ddaear," pa gymwynasau a ddangoswyd ato ef a'i frodyr lleiaf, pryd na fydd un gair o son am orchestion plant y byd hwn. Bychan yn ngolwg Uawer, îe, amheus os nad beius yn ngolwg y dysgyblion, oedd gwaith y wraig yn tori y blwch enaint, ac yn ei dywallt ar ben yr lesu ; ond teilwng, er hyny, yn ngolwg yr lesu ei hunan oedd fod coffa yn cael ei wneyd am y weithred pa le bynag y pregethid yr efengyl ynyr hollfyd, a hyny hyd ddiwedd amser.

Yr oedd gŵr crefyddol, o'r enw WiUiam Jones, yn byw mewn lle a elwir Glan-yr-afon, lle, tybygid, rhwng Caergeiliog a Chaergybi, pryd yr oedd y ddau le hyny yn gysylltiedig fel taith Sabboth, gan bregethwyr y Methodist- iaid, ac angcnrheidrwydd mynych eu cyrchu neu eu danfon i'r naiU neu y llall. Yr oedd WiUiam Jones yn byw mewn llecyn cyfteus i hyn yma. Eyw bryd yn y tymhor hwn, dygwyddodd i gaseg cymydog iddo friwo ci choes, a

&50 HAKESIAETH Y SIROEDU. [dOSB. IT.

baruwyd fod y bnw yn anfeddyginiaethol, ac nad oedd yr anifail yn werth dim. Ond yn hytraoh na'i lladd, rhoes ei pherchenog hi i Wüliam Jones. Yn mhen rhywfaint o amser, gwellhaodd y gaseg, yn groes i bob dysgwyliad. Wedi ei chael fel hyn mewn duU rhagluniaethol, barnai ei phercheu newydd mai priodol a íheg oedd ei defnyddio yn ngwasauaeth yr Un a'i rhoes. Felly, oífrymodd y gaseg o hyny allan i'r gwasanacth o gyrchu a daufon pregethwyr, neu uurhyw nege-:euau eraill o'r fath natur. Un tro, wedi bod yn danfon pregethwr i Lanfwrog, ac yn dychwelyd adref tmy y traethau oedd ar ei íiordd, dygwyddodd iddo yn amryfus ddyfod i lecyn o draeth byw, yn yr hwn y suddodd y gaseg, ac y glynodd. Methodd ei pherchenog, er pob ymdrech, ei chael allan ; ac o'r diwedd, nid oedd ganddo ond ei gadael yno, gan ddiauc oildiyno ei hunan cyn i'r llauw ei gyrhaedd. Felly, cymer- odd y cyfrwy a'r íîrẅyn, ac yn drisî iawn gadawodd yr anifail i foddi, a dychwelodd adref. Ar ei ddyfodiad adref, gofynai y wraig iddo, Pa le y gadawsai efe y gaseg? Ond nid atebodd William y wraig, eithr troes ei gofyuiad heibio oreu y gallai. Yn fore iawn dranoeth, pa fodd bynag, ymbarotodd William i fyned i'r traeth i flingo yr anifail marw ; ond er ei ddirfaTi\T syndod, yr oedd y gaseg eisoes wrth y tŷ, Ymryddhasai o'r traeth fel y daeth y Uanw i lacio y tywod, ac i'w uofio hithau. Ystyrid yr hen gaseg, yn ddiamheuol, o hyn allan yn fwy cysegredig nag o'r blaen. Yr oedd marwolaeth ddwywaith, bellach, wedi cael ei siomi o'i ysglyfaeth, a hyny mewn modd na allai meddwl tyner William Jones lai na chanfod llaw Duw ac amnaid rhagluniaeth yn y tro.

ty'n-y-maen.

Mae y capel a elwir ar yr enw hwn yn uu o hen gapeli y wlad hon. Y mae yn sefyll gerllaw y lle y soniasom yn fynych am dauo, sef Chwaen-hen, cartref yr hen bregethwr Evan GriflBth. Yn y hwn y ganed uu Dafydd Lloyd, tad y diweddar B^es Lloyd, Treflesg, am yr hwn y crybwyllasom eisoes. Yr òedd mam y üafydd Lloyd hwn yn wraig i'r pregethwr crybwyll- edig, fel ei hail ŵr. Cartrefodd y Ihmc gyda'i dad-yn-nghyíraith hyd nes y cvrhaeddodd 20 mlwydd oed, a chafodd lawer o ragorfreintiau crefyddol yn y Chwaen-hen, trwy fo.d ei rieni iU dau yn bobl wir grefyddol. Pan yn 20 mlwydd oed, symudodd at deulu crefyddol arall, sef i'r Tŷ-mawr, yn yr uu plwyf, Ue y preswyliai ar y pryd Thomas ac Elin WiUiams, alias Dryhurst, ara y rhai y soniasom fwy uag uiiwaith. Bu Dafydd Lloyd yu aros yn Tŷ-mawr am flynyddoedd ; a phau ymadawodd y teulu i drigo yn Pentre- bwäau, aeth yntau gyda hwy. Hawdd ydyw i ni ddyfalu ddarfod i'r acho3 yn Ty'n-y-maen, dan aden y teuluoedd hyn, gael swcr ac ymgel- edd, ac er i Evau (jriíììths gael ei alw i ei hir gartref, ac er i Thomas ac Eliu Williams ymadael o'r ardal, eto parhaodd Pen yr eglwys i ofalu am ei ddeadell yn yr ardal hyd hedd}w.

Yn yr ardai hon hefyd yr oedd Chwaen-wen, Pendre, a Bodonolwyn,

PEN. V.] SIR FON. 551

amaetlidai y bu y rliai a'u haneddent yn yrageleddw'yr Öyddlawn, ac ynnodd- wyr cyson i'r efengyl, dros flynyddoedd lawer.

Adeiladwyd capel Ty'n-y-maen tua'r Üwyddyn 1800. Dywed fy ngolieb- ydd am dauo, " Yr oeddwu fy liun yn bresenol yn y bregeth gyntaf ynddo, a hyny cyn fod y pulpud wedi ei gwbl orphen, a'r pregethwr oedd Mr. Davies, Cynwyl ; a'i destyn oedd 1 loan iii, 1, ' Gwelwch pa fath gariad a roes y Tad arnom, Síc.' " Pregethid er's rhai blynyddoedd cyn hyn mewn amaethdy cyfagos, o'r enw Pendre, cartref yr hen bregethwr duwiol, Edward Jones. Cedwid y cyfarfod eglwysig ar y pryd yn y Chwaen-wcn, amaethdy arall yn y gymydogaeth, am 11 o'r gloch bore dydd Gweiier, bob wythnos. I'r Ue hwn yr ymgynuUai y crefyddwyr o ddeg o blwyfydd cylchynol, a chyfar- fodydd rhyfeddol a fyddent, y fath ag oedd yn peri dychryn megys yn vr holl gyraydogaeth. Cyrchai gwŷr a gwragedd iddynt ar eu cetfylau, o fìlldir- oedd 0 tìbrdd, allan o'r deg plwyf y cyfeiriwyd atynt. Y pregethwyr a fydd- ent yn eu cadw oeddynt, John Jones, Bodonolwyn, ac Edward Jones, Peudre ; ac yn eu cynorthwyo yr oedd William Owen, Chwaen-wen. Yr oedd y society hon yn Ile ofriadwy, ac ymron yn annyoddefol i ragrithiwr neu ddyn anuuwiol fod ynddi. Gellid dyweyd mewn modd arbenig am v cynuUiad, " Mor ofnadwy ydoedd y Ue hwn ! nid oedd yma onid i Dduw, ac wele yma borth y nefoedd !" Yr oedd y ddysgyblaeth yn llem ; ni roddid un wyneb i bechod na bai, eto yr oedd cariad a heddwch yn teyrnasu.

I ddangos pa mor Ifyddlawn a didderbyn-wyneb jx ymddygai y naill aelod at y Ilall, gellir crybwyll rhai amgylchiadau bychain. " Dygwyddodd un- waith fod un o'r aelodau, g\vr cyfrifol ei sefyllfa, sef Mr. John Roberts, Aberalaw, wedi colli dechreuad y cyfarfod, trwy fod rhyw amgylchiad bydol wedi ei lesteirio. Daeth i mewn pan oedd John Jones, Bodynolwyn, yn dybenu y weddi gyntaf, a rhagddo ag ef i'r lle yr arferai eistedd. Oud John Jones a sefydlodd ei lygad arno, gan ymbarotoi trwy drefnu ei wallt, yn ol ei ddefod, i'w gyfarch. ' John bach (ebe efe), y mae eisieu eich argy- hoeddi arnoch yn eich cydwybod ; yr ydych wedi Iladrata amser y societij.* Dro arall, yr oedd John Jones yn traethu yu hallt iawn yu erbyn euliib, athrod, a gwag ehwedlau, ei ffon yn ei law, a'i law ar ei gefn, ac yn cerdded oddiamgylch y Ue, ac o'r diwedd daeth gyferbyn â gwraig, yr hon a gyfarch- odd wrth ei henw, ' Annas fach, y mae arnaf ofn eich bod chwi yn euog yu ngwyneb y pethau hyn !' "

Y'r oedd nifer yr aelodau y pryd hyu tua 80, ae yn eu raysg yr oedd amrywiol wragedd tra hynod mewn synwyr, gras, a (iefnyddioldeb, y rhai oeddynt mor ymroddgar a ft'yddlawn gydag achos yr efengyl a neb yn yr hoU wlad, pa un bynag ai gwŷr ai gwragedd. Sonir yn neillduol am wraig Bodynolwyn, gwraig Pendre, gwraig Ty'n-y-maen, gwraig Plas-yn-glyn, gwraig Aberalaw, a gwraig Chwaen-wen, heblaw amryw eraill, y rhai nid oeddynt mor amlwg, am fod eu hamgylchiadau bydol yn îs. Yr oedd y gwragedd hyn yn wir famau yn Israel ; ond erbyn heddyw, y niaent oll wedi eu symud, a'u Ile nid edwyu ddim o honynt mwy.

552 HANESIAETH Y 8IR0EDD, [dOSB. IV.

Ond er y sirioldeb cyntefig a welid ar yr fichos yn Ty'n-y-maen dros flyn- yddoedd lawer wedi ei sefydliad cyntaf, daeth tymhorau gauafaidd drosto ar ol hyny. Bu farw yr hen fugeiliaid cyntaf, a rhai blaenoriaid ieuainc tra gobeithiol ar eu hol hwynt ; cododd egl\vysi eraill fel blagur iraidd allan o'r hen gyff, a choUodd y cynulliad yn Ty'n-y-maen y bri cyntefig a berthynai iddo. Ond er fod yr eglwys a fu gyda'r fwyaf blodeuog yn y wlad o ran doniau a llewyrch, wedi disgyn i sefyllfa israddol, ac yn awr yn ymddangos fel seren llai ei maintioli, eto y mae yn aros hyd heddyw ; y mae ynddi weddill yn abl i sefyll yn nhŷ yr Arglwydd y nos, ac un o'i hen flaenoriaid yn aros, a'i law ar yr aradr er pob cyfnewidiadau. Pan yr ystyriom hefyd fod yn perthyn i'r Methodistiaid, er yr amser y dechreuodd yr achos yn Ty'n- y-maen, nid llai na chwech o gapeli, heblaw y rhai a berthyn i ymneillduwyr eraill, a hyny o fewn y cylch neu y plwyfydd y gwneid i fyny gynulleidfa Ty'n-y-maen gyntaf o honynt, cymhellir ni i ddweyd fod y " fechan yn fil, a'r wael yn genedl gref."

LLANFWROG.

Ni ellir dyweyd fod Methodistiaeth y Ile hwn yn nodedig ara ei hynafiaeth : mae llawer man yn Mon yn fwy felly ; ac yn neillduol y manau y soniwyd eisoes am danynt, sef, Llanrhyddlad, y Gareg-Iefn, a Chaergeiliog ; eto, gan fod cysylltiad rhwng y lleoedd hyny â hwn, fe allai mai dyma'r lle cymhwys- af i wneuthur crybwylliad am dano. Yr oedd Methodistiaeth wedi ymweled â Mon er ys agos i 40 ml. cyn iddi gael nemawr loches yn mhlwyf Llanfwr- oo". Dywedir fod pregethu achlysurol wedi bod yn Nhrelywarch, lle y preswyliai un Thomas Cadvfaladr, cyn y fl. 1764 ; a bod rhai o enwogion y deheubarth wedi bod yno ar eu tro, megys y Parch. Howel Davies, sir Ben- fro ; a rhai o gynghorwyr y gogledd, megys Lewis Evans, Eichard Tibbot, ac eraül. Ond nid oes hanes fod eu gweinidogaeth, er mor rymus a ben- dithiol ydoedd mewn manau eraiU, wedi gwneyd nemawr o'i hol yn yr ardal hon, oddieithr i rai o deulu Thomas Cadwaladr ei hun. Darostyngwyd un mab ac wŷres iddo i awdurdod yr efengyl, y rhai y bu eu bywyd yn gyson â'u proffes hyd ddiwedd eu hoes.

Ond fe fu Thomas Cadwaladr farw yn y fl. 1764, ac nid oes genym hanes fod dim pregethu yn yr ardal hon, gan y Methodistiaid, am yr ugain mlynedd a ddyljTiodd. Yn y fl. 1783, yr ymunodd John Thomas, y gôf, â'r Methodist- iaid, yn Nghaergeiliog, plwyf Bodedern ; ac yn fuan ar ol hyn, llwyddodd i gael ambell oedfa i'w dŷ. Yr oedd John Thomas, ar y pryd y daeth at gref- vdd, yn 28 oed. Ganesid ef yn mhlwyf Llangeinwen, mewn cwr cyferbyn- iol i'r ynys ; ac yr oedd yn 19 ml. oed pan ddaeth i ardal Llanfwrog. Treul- iodd y 25 ml. cyntaf o'i oes, fel eraill o'i gydnabod, yn gwbl ddifraw am bethau tragwyddol, gan ddylyn oferedd yr oes, a thueddiadau ei natur, yn ddiwarafun ; ond ar ryw nos Sadwrn, fel yr oedd ef a chyfaill iddo yn dych- wclvd adrcf o farchnad Amlwch, heibio i gapel Llanrhyddlad, gwelsant ar-

PEN. V.] 5ÎR roN. 5§S

wyddion fod rhwy foddion yn cael eu cynal yn y capel ar y pryd ; felly yn ddifwriad, ac megys o gywreinrwydd, cytunasant â'u gilydd i droi i mewn. Michael Thomas oedd yn pregethu ac er na effeithiodd y bregeth nemawr arno ar y pryd, eto dylynwyd ef â'r gwiiioneddau a glywsai, suddasant yn ddwys i'w fyfyrdod, a rhoisant nrgraíf dwfn ar ei gydwybod ei fod yn euoo- gerbron Duw. Gan ei fod eisoes yn medru darllen Cymraeg, ymroddodd i ddarllen y llyfrau a fyddent yn ei gyrhaedd, a chododd syched ynddo i wrando pob pregethwr a ddeuai i'r fro, pa un bynag ai Sabboth ai dvdd gwaith fyddai ; ac yu fynych, rhaid oedd iddo deithio milldiroedd i'w cael. Bellach, daeth cyfnewidiad amlwg yn ei rodiad, yr hyn a ddygodd arno cd- liwiadau ei gymydogion, y rhai a fynent iddo ymddwyn yn llawen a nwyfus fel cynt.

Felly yn y fl. 1783, bwriodJ ei goelbren gyda'r crefyddw-yr yn Nghaer- geiliog; ac yn fuan wedi profi o rinwedd yr efengyl ei hun, efe a deimlodd eiddigedd ar fod iV gymydogion, o leiaf, gael y fantais o glywed gair Duw, a llwyddodd, fel y dywedwyd, i gael arabell oedfa i'w ei hun. John Jones, Bodynolwyn, raeddir, oedd un o'r rhai cyntaf a aeth yno. Llafuriodd John Thomas fel hyn i gael moddion gras i'r ardal dros rai blynyddau, dan o-ryn lawer o anfanteision. Nid oedd ganddo at ei fywiolaeth ond ei greíTt, ac yr oedd ei deulu yn Iluosogi. Ilefyd, nid oedd dim arwydd, am rai blynydd- oedd, fod neb yn cael eu galw a'u dychwelyd. Yn y fl. 17S7, ymwelodd yr Arglwydd â'r ardal trwy anfon y frech-wen iddi ; ac yn mhlith eraill, dis- gynodd yn drwm ar deulu John Thomas. Arferai rhai o'r cymydogion ddyfod i'w foreu a hwyr yn yr adeg hon ; ac wrth sylwi ar ei weddiau taerion dros ei deulu ei hun ac eraill, ar yr achlysuron hyn, gorchfvo-wvd eu rhagfarn, i raddau, yn erbyn crefydd a chrefyddwyr, a buant fwy dvfal yn dyfod i wrando pregethau. Ehoes hyn o arwydd er daioni ysgogiad newydd yn meddwl John Thomas, i ddyblu ei ddiwydrwydd, mewn fí"ordd o o-ael moddion mwy cyson i'w dŷ. Cafodd ei dderbyn yn aelod o'r cwrdd misol ac felly mewn gwell mantais i gael cyhoeddiadau pregethwyr ; ac erbyn hyn, yr oedd tri o'r cymydogion wedi ymrestru yn mhlith y crefyddwyr.

Yr oedd yr ardal yn gyö'redinol yn aros, ymron yn hollol, mewn ao-wedd ddiofal am grefydd, a phob arferion Uygredig yn dal i fyny yn eu rhwysf. " Yr ydoedd yn hen arferiad," ysgrifena John Thomas, "gan drigolion y Ue hwn ar foreu Suliau, ar ol dyweyd eu pader, ac ymsanteiddio, fyned a'u llyfrau gyda hwy, i eglwys y plwyf, gan gyd-ddarllen y gwasanaeth gyda'r gweinidog ; a da iawn oedd hyny yn ei le. Ond och ! yn y prydnawn, vm- gasglent ynghyd i chwareu pêl, taflu maen, neidio, a champau cyffelyb, i aros amser y gosper, O'r diwedd, bamodd un * o honynt mai addasach fuasai iddo ef fyned adref i ddysgu ei blant i ddarllen ; ac wedi iddo ddechreu ar y gorchwyl hwnw, daeth plant y tai nesaf hefyd ato i gael eu dysgu. Yn y fl. 1786, daeth g^vr o'r ardal ato i roddi y cynorthwy a allai i'w dysgu, er na

* John Thomas ei hun oedd rr un hwn.

554 HANESIAETH T SIROEDD. [dOSB. IV.

wyddai ef ei hun mor llythyrenau yn dda. Wrth lafurio gyda'r plant, fe ddysgodd ddarllen yn rhagorol, mewn ychydig amser."

Ehy faith fyddai dylyn yr ysgrifenydd yn fanwl, ac eto y mae y dysgrifiad a ddyry o gychwyniad yr ysgol, cychwyniad ag oedd mor foreu, ymron, ag oedd eiddo Raikes yn Ngaerloyw, ac yn ddiau cyn i'r son am y fath sefydliad vn Nghaerloyw gyrhaedd Cymru. Arferent holwyddori y plant allan o lyfr Griffith Jones, Llanddowror, yr unig un, y pryd hyny, yn eu cyrhaedd. Deuai i'r holwyddori hyn, bobl mewn oedran, i wrando ar y plant yn ateb. Ac er fod rhai yn ddrwgdybus o'r addysg a roddid, ac yn ei ddrwgliwio, eto aralhau yr oedd rhifedi yr ysgolorion, nes aeth y lle yn rhy fychan iV cynwys. Wedi bod tua saith mlynedd yn Ihifurio yn y modd hyn, cafwyd cauiatâd, trwy hynawsedd ofiFeiriad y plwyf, i gadw yr ysgol yn y llan. Dygodd hyn yr ysgol i fwy o sylw, a daeth lluaws mawr o drigolion y plwyf i'r fyn- went, y rhai ni fynent ar un cyfrif ddyfod i mewn i gael eu dysgu ; oud pan Y deallent fod yr ysgol ar ddybenu, a'r holwyddori ar ddechreu, rhuthrai segurwyr y fynwent i mewn, mevi^n dull afreolus iawn, " tebyg," medd yr un gwr, "fel yr luddewon gynt ar Jason." (Âct. xvii. 5.)

Wrth. weled yr afreolaeth hwn yn parhau, penderfynwyd, yn y fl. 1798, roddi yr ysgol i fyny am byth. Eyw noson, pa fodd bynag, cyn gwneuthur hyuy, wedi cadw y Ilyfrau, rhoddwyd caniatàd i ryw fachgen adrodd y ben- nod a ddysgasai, sef y 5ed o'r Rhufeiniaid ; ac wrth adrodd y 6ed adnod, " Cauys Crist, pan oeddym ni eto yn weiniaid, mewn pryd a fu farw dros yr anuuwiol," torodd allan i wylo. EíTeithiodd hyny ar bawb oedd yn y lle, a llanwyd yr edrychwyr â difrifwch. Methwyd myned yn mlaen fel arferol, a rhoddwyd peuniU allan i'w ganu; sef hwn :

" Mi gana' am waed yr Oen,

Er maint íy mhoeii a' mhlâ, 'Does geni'n wj'neb calon ddii,

Ond lesu y meddyg da," &c.

Gyda hyn, aeth yr edrychwyr i ganu, ac i ddt/òlu canu ; ac yu Ile rhoddi pen ar yr ysgol, ymaflwyd ynddi yn fwy yraroddgar. Parodd y tro hwn gyfnew- idiad mawr trwy yr holl ardal, Ehoddwyd terfyn swta ar y chwareu, trwy fod y trigolion w^edi cael gafael ar orchwyl Ilawer rhagorach.

Ond nid oes byth ddim da yu cael ei wneyd, na íydd rhyw un \n tram- gwyddo. Bu rhyw uu mor brysur a myned at y person i achwyn wrtho vr annhrefn oedd yn y Ilau, sef fod yno ddynion yn gweddio //eò hjfr, ac yn ail- adrodd y geiriau wrth ganu. Y caulyuiad fu, i'r ysgol gael ei bwrw allan o'r eglwys. Mewn canlyniad, hi fu yn cael ei symud o i dros rai blyn- yddau ; ond ar gais Mr. Edward Elias, Plas-yn-glyn, cafodd ganiatâd i fyned i'r Ilan eilwaith, ar yr ammod na fyddai yno ddim annhrefn. Y tro vr ach- wynwyd arno oedd yr un a grybwyllwyd eisoes, pryd y daeth un Catrin

PEN. VI.] SIR FOK. 555

Rondol * i mewn, megys yn achlysurol, yr hon, wedi ei llenwi â hwyl, a aeth i ben mainc lled bwdr ; torodd y fainc odditani, a pliarodd gryn gyÔ'ro ar y pryd : a hyn fu yr achlysur i ddwyn achwyniad i'r person.

Dyma ddechreuad yr achos Methodistaidd yn Llanfwrog. Yn y fl. 1811, cafwyd yma gapel cyfleus, ac nid oes un ardal yn y wlad, erbyn heddyw, y raae mwy o ôi dysgeidiaeth yr ysgol Sabbothol, a dylanwad gweinidogaeth yr efengyl arni, nag ardal Llanfwrog. Tad oedd y John Thoraas uchod i'r Peirch. Thomas Jones, Amlwch, a fiees Jones, Browyr, sir Forganwg.

Adroddai John Thomas, ychydig cyn raarw, wrth gyfaill, yr hwn sydd eto yn fyw, hanes y bregeth gyntaf yn ei ef. Eyw foreu Sabboth, aeth John Thomas i Dy'n-y-maen, neu yn hytrach i Beiidre, lle y cynelid y moddion ar y pi'yd, i gyrchu y pregethwr. Y pregethwr a ddaeth, ac ychydig gyfeiU- ion gydag ef, a dechreuwyd yr oedfa. Yr oedd rhyw nifer o drigolion Llan- fwrog wedi yragasglu i'r Ue, ond yr oeddynt yn swp y tu allan i riniog y tŷ. Nid oedd eu rhagfarn yn ddigon cryf i'w rhwystro i'r swn, ond yr oedd eu hofn yn eu hattal i'r tŷ. Yr oedd chwedl wedi ymdaenu ar hyd yr ardal, y byddai pawb a elai i John Thomas i wrando, mewn perygl o gael eu llygad-dynu, neu eu swyno ! Ond er iddynt fod yn ocbelgar rhag y fath an- - ôawd, trwy sefyll y tii allan i'r drws i wrando, eto eu llygad-dynu, pe llygad- dynu hefyd, a gafodd rhai ; ac felly o hyny hyd yn awr, fel nad oes nemawr blwyf yn Mon wedi ei ennill yn llwyrach i ymarfer â phethau crefydd na phlwyf Llanfwrog, a hyny lawer iawn yn ífrwyth llafur a gweddiau y Cristion cywir a dirodres, John Thomas, y gôf.

PENN OD VI. HEN EGLWYSI GOGLEDDOL Y WLAD.

CTNWTSIAD :

ÀMLWCH— PEEGETHU YN Y TY DU— DAFYDD M0KRIS A HOWEL HARRIS— PREGETH- WYR A GODODD YN Y DREF— Y CAPEL COCH— CAEMAES-GAFR A'R CERIG LLITHIR— PENRHOS-LLUGWY— LLANERCHYMEDD— CYCHWYNIAD YB ACHOS A'I GYNYDD— GLASINFRYN A'R WAUN-EURAD.

AMLWCH.

NiD oes genym nemawr hanes am ysgogiadau cychwynol Methodistiaeth yn y dref hon. Ymddengys, pa fodd bynag, mai yn y Tŷ-dû, rhwng y dref a Chemmaes, yr oedd eisteddle yr achos yn y dechreuad, yr hwn le a fu yn gysylltiol, dros ryw dymhor, â Llanrhyddlad. Ar yr un pryd, cafodd yr achos achles yn Amlwch yn Ued foreu, gan yr adeiladwyd yma gapel raor gynar a 1777, pryd y symudwyd y moddion o'r Tŷ-dû. Ymddengys hefyd y byddai yma ambell oedfa cyn fod y capel wedi ei godi. Cafwyd cyhoedd- iad Dafydd Morris i ddod yma, a'r Ue y safodd oedd wrth dalcen yr hen

■" ^enyw dda a diiwiol, a thr» adnabyddus yn yr hoU wlad.

556 ÎÌANESIAETH Y SIROEDÖ, [üOSB. IV,

bregethwr ag oedd yma yn byw y pryd byny, sef WiUiara Eoberts y crydd. Yr oedd llyn o ddwfr, meddlr, y pryd hwnw, ar y íîordd at William Boberts, llyn lled fawr, a lled fudr ei ddwfr yn gyffredin. Yr oedd hefyd dyddynwr yn byw yn y gyraydogaeth ar y pryd, yr hwn a lochesai ddygas- edd go fawr at y Methodistiaid tlodion, o achos eu crefydd. Penderfynodd y gAYT hwn, wedi deall fod cyfarfod crefyddol i fod yn y dref, wneuthur gwawd 0 hono, a'i aflonyddn. Daeth i'r dref ar ei geffyl, gan fwriadu marchogaeth trwy y gynuUeidfa, a thrwy hyny eu dyrysu a'u chwalu. Dys- gwyliai y rhoddid iddo ef ei hun ddifyrwch wrth weled penbleth y trueiniaid, ac y dyrysid yr amcan hefyd. Gyda'r bwriad hwn, gan hyny, aethrhagddo; a phan ddaeth at y Uyn, mynodd y ceffyl droi i'r ilyn, er gwaethaf ei ber- chenog; taflodd ei farchog oddiar ei gefn, ac, meddai yr hanes, gorweddodd ar ryw ran ohono, fel naallai y gŵr symud. Ofnai yr edrychwyr iddo foddi yn y llyn, a gwaeddent ar i rywun ei achub ef. " O na," ebe rhyw hen wraig, mwy ei nwyd, tybygid, na'i gras, " gadewch iddo ; gan i'r Llywydd mawr weled yn dda fyued ag ef yna, yna y dylai efe fod." Tybiai rhai fod llygad yr hen wraig ar Diar. xxviii, 17, " I>yn a lonelo drmcsedd i waed neb, affýtr picll; nac uttalled neb ef^ Oud pa fodd bynag, rhuthrodd rhyw rai i'r pwU, a Uusgasant y gŵr allan o'i orweddfa beryglus, heb fod nemawr yn waeth, ond fod ei ddiwyg yn Uawer butrach.

Siorawyd yr erlidiwr. Nid difyrwch, ond poen, a fu y tro iddo ; ac yn lle dyrysu y moddion, cafodd y gynuUeidfa bob hamdden i wrando, heb fod neb yn beiddio gwrthddywedyd.

Ymddengys hefyd i Howel Harris fod unwaith yn pregethu yn y dref, ond nid oes dim adgofion am y bregeth hòno, ond fod y pregethwr yn sefyll ar fwrdd crwn yn nhŷ yr un WiUiam Soberts y crydd. Yr oedd pregethu liefyd mewn tyddyn heb yn mhell o'r dref, sef lle o'r enw Tyddyn-engan, yn ardal Nebo.

Yr oedd William íloberts y crydd yn un o bregethwyr boreaf y wlad hon, ac wedi marw ymrou cyn cof neb sydd yn awr yn fyw. Nid oes nemawr adgofion wedi eu gadael am dano, ond yr hyn sydd a gyflwynir. " Yr wyf yn ei gofio, er o'r braidd," ysgrifena fy hysbysydd*; " dywedir mai dyn ofer a gwageddol a fuasai cyn cael crefydd ; a thybiwn ei fod, o ran ei dymher naturiol, yn wyllt a sydyn, Pel pregethwr, ni chynysgaethwyd ef â thalentau gorwych ; ond fel Cristion, yr oedd yn ddysglaer ; a thrwy ei ymarweddiad cywir, fe fu yn godiad i Eethodistiaeth yn y dref hon. Ni feiddiai neb a'i liadwaenai araheu ei air, na chywirdeb ei amcan, raewn un modd. Ni chy- merid yn cbwith ynddo ef, gan mor ddihoced y bernid ef, os dywedai wedi dyfod o'r capel, o'r cyfarfod gweddio at ei frodyr i'r tŷ, ' Wel, frodyr anwyl, mi a'cli curais chwi bob un wrth weddio heddyw,' ac ni thybiai neb ei fod yn arddangos un teimlad annheilwng wrth ddweyd hyny."f

Y Parch. William Roberts, Amlwch. t Y mae y Scientijìc HaU jti Amlwch wedi ei hadeiladu ar j Uygedjn j bii W. R,

b}-w a marw jnddo.

PEN. VI.] SIR FON. 557

Grybwyllir yn hanes AberíFraw, yn y gwaith hwn, am un Evan Thomas, yr hwn a ddaeth i'r ardal hòno o Aberdaron gyda John Jones, Bodjrnolwyn, a gellir chwanegu am dano, ddarfod iddo ymsefydlu dros flynyddau diweddaf ei oes yn Amlwch. Bu yn flaenor ttyddion yn yr eglwys yma dros lawer blwyddyn. Bu farw yn Ued ddisyrawth, trwy iddo gyfarfod â damwain. Rhedodd y cefiyl a farchogai, a thaflwyd yntau ; ac er iddo ddadebru dros ychydig, eto marw a wnaeth yn ddisymwth yn mhen ychydig ddyddiau. Pregethodd y Parch. William Eoberts yn ei anghladd ; ac yn mheu ychydig fynydau, ar ol i'r gweinidog fod yn ceisio cysuro yr hen wreigan yn ei hunig- rwydd, syrthiodd hithau yn ddisymwth yn farw, a chladdwyd y ddau yr un diwrnod ! Bu Evau Thomas yn gwasanaethu achos yr efengyl yn mhlith y Methodistiaid am ysbaid 60 mlynedd.

Bu yma bregethwr arall, o'r enw Owen Owens, yn byw yn y dref hon ; ond nid oes genym ddira ychwaneg o'i hanes, na chrybwylliad o'i enw. Yn y dref hon y cyfaneddodd Thomas Joues, mab i John Thomas, Llanfwrog, dros y rhan fwyaf o'i oes. Bu farw Gorphenhaf 6ed, IS^T, yn 70 mlwydd oed, wedi treulio yn agos i 40 mlynedd yn y weinidogaeth. Yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf o'i oes, efe a gyfieithodd amryw lyfrau buddiol, 0 waith Jouathan Edwards, Scott, ac eraill, i'r Gymraeg. " Yr oedd yn ŵr nodedig o ddysyml a didwyll, diargyhoedd, a diniwaid. Preg- ethai yn dra dirodres, a hynod o fyr ; ei amcan oedd goleuo y deall, yn fwy na chyff"roi y teimladau. Nid llawer a deithiai heblaw ar y Sabbothau, ac yn ei wlad ei hun. Barnai mai gan ychydig yr oedd cymhwysderau teilwng i fod yn bregethwyr teithiol, a golygai nad oedd ef ei hun ddim yn feddiannol ar y cymhwysderau hyny."

Afreidiol ydyw adgofl'a i'r darllenydd mai yn y dref hon y preswylia y Parch. William Eoberts, yr hwn sydd, beUach, yn henafgwr, ac wedi bod yn gweini i'r efengyl mewn modd cyhoeddus am fwy na 45 o flynyddoedd, i'r hwn yr ydym yn ddyledus am amryw hysbysiadau a roddir yn y gwaith hwn. Yma hefyd yn bresenol y preswylia dau bregethwr arall, o'r enw John Pritchard, ac EUis Foulkes.

Mae Methodistiaeth wedi enniU tir helaeth yn y dref hon a'í chyfíìniau. Mae y gymdeithas eglwysig yn cynwys rai cannoedd o aelodau, a'r addoldy helaeth yn llawn o wrandawyr cyson. Yn ystod y 80 mlynedd sydd wedi myned heibio ar yr achos, ni fu yraa ddim pethau blinion, ond yn hytrach amryw o ymweliadau, y rhai fel cawodydd o wlaw cynyrchiol a barent adfywiad ar yr hoU achos.

Y CAPEL COCH.

Mae'r capel hwn yn sefyll yn mhlwyf Llanfihangel, Tre'r-beirdd, ac o fewn y gymydogaeth a gyfrifir yn agos i ganol y sir, mor agos o leiaf ag y gellir cael canol ar sir heb fod yn hollol gron. Gellir bwrw íod yr henafiaid yu edrych ar yr ardal yma felly, gan fod yma faes, yr hwn a elwir er cyn cof,

55S HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

" Cae bogail Moii." Edw y capel sydd fel uchod, " Capel Coch," am mai o fath y geryg cochion yr adeiladwyd ef.

Ymddengys fod Methodistiaeth wedi cychwyn yn yr ardal hon er yn foreu. Y crefyddwr cyiitaf gyda'r cyfundeb yn y fro oedd gŵr o'r enw Robert Dafydd, yr Hen-siop. Dywedir mai trwy weinidogaeth un Evan Moses y profodd ef awch y weiuidogaeth gyntaf. Aethai i'r cymilliad, nid gyda'r bwriad o wrando, ond i aflonyddu y cyfarfod, ac i niweidio y pregethwr. Pan aeth i mewu i'r tŷ, yr oedd y pregethwr yu darllen ei destyn, ac yn mlaen yr ymwthiai yutau drwy y bobl, gau fwriadu llusgo y pregethwr i lawr oddiar yr ystôl y safai arni. Ond cyn iddo gyrhaedd ei amoan, brath- wyd ei feddwl gan ddarlleniad y testyn, fel nad oedd nerth na gwroldeb ynddo i ddwyn ei fwriad diffaith i ben. Ymddengys mai un o'r piegethwyr a j^munasant â Howel Harris, ar ol enciliad Rowlauds, oedd yr Evan Moses hwn. Dywedir ei fod ef, a chynghorwr arall o'r enw James James, wedi ymweled â'r wlad hon ar ol 1751 ; ac i'w Uafur fod yn fendithiol i ddwyn llawer, yma a thraw ar hyd y wlad, i drydar yn nghylchi crefydd.

Cvn hir ar ol dychweliad Robert Dafydd at grefydd, daeth Howel Harris ei hun i'r wlad, ac yu nhŷ Eobert Dafydd yr arosai tra y bu yn yr ardal hou, a dywedir mai ar gae yn perthyn i'r Hen-siop y bu yn ceisio pregethu. Ymddengys fod rhyw rai wedi penderfynu rhwystro y cyfarfod, trwy gasglu pob oífer trystfawr a allent gael, ac ymroddi i orchfygu Uais y pregethwr â swn. Dyma yr unig erlid, meddir, a fu ar grefydd yn yr ardal hon. Cy- merai Harris Eobert Dafydd gydag ef i wahanol fanau yu y sir, a Ihybir raai er amddiöyniad iddo ei huu y gwnai hyuy, gan fod Robert yn ddyu cryf a thal 0 gorffolaeth, ac yn fwy galluog, os byddai raid, i sefyll drosto. Bu gydag ef unwaith yn ardal y Gareg-lefn ; a chanfyddir pa fath dderbyniad oedd i bregethwr y pryd hyny yn y wlad, trwy y ffaith nad oedd dim yn cael ei gynyg i Harris ar ol yr oedfa ond tamaid o fara haidd, a Uymaid o laeth-enwyu.

Bu Robert Dafydd a'i wraig droion yn Nhrefecca. Aroseut yno am ysbaid pythefnos, a dychwelent yn ol ; yua yn mhen tua blwyddyu, aeut yno eilwaith am bythefnos arall. Yr oedd gwraig y gŵr hwn yn fwy nodedig am ei duw- ioldeb nag ef ei hun. Nid yw yn hysbys a oedd un gymdeithas eglwysig i'r ddeuddyn hyn ymuno â hi, o leiaf o fewn cyfleusdra iddynt hwy gyrchu yn fynych iddi ; ond yraddengys ddarfod i ychydig nifer yragorffori cyn hir yn fath 0 gyradeithas grefyddol yn yr ardal hon. Symudasai Robert Dafydd o'r Heu-siop i amaethdy o'r enw Caemaesgafr, ac yma, meddir, y ffurfiwyd y cynulliad eglwysig cyntaf yn y fro. Nid oedd nifer yr aelodau ond wyth. neu naw, a'r rhei'ny yn dra phell oddiwrth eu gilydd. Mae (ìrií5,th Jones, Cefn-dwy-ffrwd, yr hwn sy'u henuriad yn perthyn i gapel y Parc, a'r hwn sydd dros 80 mlwydd oed, yji dyweyd ei fod pan yn fachgen yn aros yn Nghae-maes-gafr fel math o gartref, gan raai amduifad ydoedd ; a'i fod yn cofio ar ryw noswaith weled y forwyn yn glanhau ychydig ar y tŷ, ac yn parotoi Ue i ryw ddyeithriaid i eistedd, trwy gyfleu yr ychydig ystolion

PRS. VI.] SIR FON. 559

oedd ganddynt, ac yntau yn blentyn yn dyweyd, " Fan yma eistedda' i ;" a'r ateb a gafodd oedd, " Ebaid i ti fyned i dy wely, Gutto bacli ; mae seiat i fod yma liouo."

Yn yr amser hwn, pryd yr oedd Methodistiaetb mor isel a babanaidd, y daeth Siôn Eolant i fyw i dyddyn yn y pen arall i'r gymydogaeth, o'r enw Cerig-llithir.* Yr oedd y gŵr hwn eisoes yn grefyddwr ; ac yn ei ef, bellach, ac yn nhŷ Robert Dafydd, y cyuelid yr achos. Dywedir mai yu îígerig-llithir y cafwyd y cyfarfod misol cyntaf yn Mcn, ac mai Siôn Robert Lewis, Caergybi, tad Robert Eoberts, y seryddwr, oedd un o'r pregi^thwyr oedd yaddo. Mae yn yr ardal hon yn awr, ueu yr oedd yn ddiweddar, un hen ŵr ag sy'n cofio uu o'r cyfarfodydd misol hyn. Bychan iawn, meddai y gŵr hwn, ydoedd ; er y pregethid allan yn yr ydlan, a'r pregethwyr, i ochel y gwyut cryf a chwythai o'r de ar y pryd, a safent mewn bwlch a wuaethid mewn dâs wair. Evan Griíîith, Chwaen-hen, oedd un a bregethai yn y cyfar- fod. Nid oes lle i feddwl fod y derbyniad i'r cyfryw gyfarfodydd, ac i'r rhai a'u cynalient, ond prin hefyd, gau bobl y gymydogaeth. Geliir casglu hyny oddiwrth yr hyn a ddywed Griffith Jones : " Cofus yw genyf, pan yn fachgenyn yn Nghae-maes-gafr, fy mod wedi cael gorchymyn, ar un cyfarfod misol a gynelid yno, i ddanfon Richard Morris, o Langair, oddiyno i'w lety uoswaith y cyfarfod. Ond erbyn ein bod wrth y llety, yr oedd pawb o'r teulu wedi myned i'w gwelyau, a da oedd gan yr hen bregethwr fyued i orphwys, heb fod neb yn y lle yn cynyg iddo damaid o fwyd ! "

Tn 1785, adeiladwyd yraa gapel bychan ; ao yn mhen ychydig, bu raid helaethu hwnw. Yn y ü. 1812, adeiladwyd y capel presenol, yn yr un man ymron, ag yr oedd yr hen gapel bychan yn sefyll. Cafwyd tir gan Mr. Lewis Jones, Tŷ-mawr, yr hwn hefyd a roddodd ddeial yn nghyntedd y capel. Mae y ddeial yn aros yno hyd heddyw, ac yn argrafiedig arni, " llie gijt of Letcis Joiies, Tŷ-mawr, 1785." Yr oedd y cyfryw offeryn o gryn ddefnydd y pryd "hyny, adeg nad oedd ond ychydig o beiriannau i ddynodi yr amser mewn defnyddiad cyftredinyn Mon. Cafwyd cyfarfodydd cyhoeddus ac eglwysig tra nodedigyn Nghae-maes-gafr, ac ynNgherig-IIithir; oedfaony byddai llygaid yr hen bobl yn gloywi wrth eu hadgofl'a ; oedfaon a fyddent yn ysu fel tân, yn darostwng rhagfarn, yn deflro cydwybodau, ac yu ennill serchiadau y gwrandawyr. Cododd yma bregethwr, yr hwn oedd yn fwy ei ddawn na Uawer o'r hen gynghorwyr, ond nid cystal ei egwyddor. Cyn hir o amser, svrthiodd yn waradwyddus ; cafodd ei frodyr dristyd mawr o'i herwydd, ac yntau ei hun a fu farw mewn gwrthgiliad i Ond os cafodd yr eglwys hon ei harchoUi gan y pregethwr, cafodd ei maethu dros lawer blwyddyn gan ei henuriaid, Y cymeriad a roddir iddynt ydyw, " eu bod yn fíyddlawn a di- niwaid." Mae dau o honynt, fel y bernir, yn haeddu helaethach goâ"âd. TJn oedd Mr. Johu Eoberts, Erw-ddraenog. Enwogrwydd hwn oedd ei fod yn fwy dysglaer mewn duwioldeb, ac hefyd yn meddu dawn uodedig mewn

* Cyf. L.tudal. 114.

560 HANESIAETII Y SIROEUD. [dOSB. IV.

gweddi. Yr oedd hefyd yn brydydd canmoladwy ; a thrwy y naiU dalent a'r llall, ond yn benaf trwy ireidd-dra ei ras, a f^wlith ei weddiau, efe a enniUasai barch a dylauwad mawr yn mysg ei gydnabyddiaeth. Arweiniwyd ef, trwy briodi, i ardal Brynsiencyn, lle y gorphenodd ei yrfa, ac y gorphwys ei ■weddillion. Yr henuriad arall oedd Eice Hughes, Ysw., Bodafon. Cyfreith- iwr oedd hwn, ac yn gyfranog, medd rhai, â'r cyfreithiwr hynod hwnw yn ei ddydd, Mr. Williams, Llanidan.* Yr oedd canfod gŵr o'i swydd a'i sefyllfa ef yn arddelwi cysylltiad â'r Methodistiaid diystyredig, yn olygfa anghyflred- in ; ac yr oedd ei weled ef yn awr ac eilwaith yn toddi fel y cŵyr o dan y pregethau, ac yn wylo fel y gwlaw, yn olygfa rhyfeddach fyth. Oddeutu yr amser yr ymunodd â chrefydd, priododd wraig weddw gyfrifol, yr hon oedd yn byw mewn tyddyn a elwir Meillionen, yn ardal Beddgelert. Wedi bod yn cartrefu yno dros ryw dymhor, dychwelodd i Fon eilwaith, a bu fyw weddill ei dymhor yn Bodafon ; yma hefyd, medd ein gohebydd, y bu farw. Yn Bod- afon hefyd y bu ei wraig farw.f Nid yw fy hysbysydd yn sicr a fu Mr. Hughes yn gwasanaethu swydd diacon neu henuriad cyn symud i Bodafon, ond fe gafwyd rhyw arwyddion yu lled fuan ei fod yn tueddu at bregethu, a chan- iatawyd hyny iddo ; ond cyn pen liawer o amser, galwyd ef allan o'r byd ; bu farw ynŵr canol oed, yn 42 nil. oed, 1794-.

Ystyrid ef yn ŵr da achrefyddol iawn. Rhoes heibio ei swydd fel cýfreith- iwr yn lled fuan ar ol ymuno â chrefydd, a hyny yn hollol er mwyn gwasan- aethu crefydd yn well. Bu Mrs. Hughes fyw ar ei ol ef 25 mlynedd. Nain ydoedd i Mr. Williams, Bodafon, perchea presenol y Ue.

Bu Edward Jones, Pendre', yn byw mewn amaethdy yn y gymydogaeth, sef yn Maen-eryr, dros ry w gyfran o'i oes, ac yma yr arosodd tra y gallodd fod 0 nnrhyw ddefnydd gyda'r gwaith. Nid enwogrwydd dawn, ond enwog- rwydd duwioldeb, oedd prif ragoriaeth Edward Jones. Sicrbeir am dano na thorodd ef gyhoeddiad erioed, er iddo barhau i fyned a dyfod ues oedd yn mhell ar 80 ml. oed, os nad oedd dros hyny.

Bu Mr. Hugh Charles dros dymhor byr, sef ysbaid 3 i 4 blynedd, yn y gymydogaeth hon ; ond er Ueied y cafodd ef aros yma cyn i angau ei gipio ef ymaith, yr oedd wedi enniU serch ei gymydogion i raddau anarferol. Bu farw yn ddyn ieuanc, 33 ml. oed. Yma hefyd y dechreuodd Mr. W. O.' Williams bregethu, yr hwn sydd, bellach, er ys blynyddau, yn Dymeirchion, sir Eflint.ì

Cododd dwy eglwys feclian o hon. Y' gyntaf oedd Llangwyllog. Y mae vn y lle hwn gapel, bellach, îe, ail gapel, a chynulleidfa dda yn ei lenwi. Y llall vdy\v Mynydd Bodafou. Yr oedd yma bregethu mynych er ys blyn- yddau, ac ysgol Sabbothol dda. Mae y capel hwn tua dwy filldir oddiwrth

* Gwel ychydig o'i hanes dau Niwbwrch, j lle y daeth at grefydd. jf Wrth gydmhai-u y ífeithiau uchod â'r hyn a ddywed^yyd yn tudal. 201 o'r Gyfrol hon, ymddengys gradd o anghysondeb, gan yr arweinir y darllcnydd i gasglu mai yn MeilUonen y bu f'arw y ddau ; ond nid t'elly, tybygid, y bu.

% Bu y Parch. Darid Hughes ya aros yma hcfyd dros ryw dymhor.

PEN. VI.] ' STR FON. 561

y capel coch, ac erbyn hyn yn ganghen arni ei hunan, ac arwyddion boddhaol fod yr achos yn rayned rhagddo. Y mae i'r lle hwn ysgoldy bychan mewn cysylltiad, lle y cynelir ysgol Sabbothol, a chyfarfodydd gvveddio.

Yr oedd pregethu boreu mewn cyraydogaeth heb fod yn rahell o'r lle hwn, sef yn Penrhos-Llugwy. Sonia Eobert Jones yn " Nrych-yr-Amseroedd," am dro y bu y Parch. Peter V.'illiams yn pregethu yn y lle hwn, fel y erybwyllasora o'r blaen yn y gwaith hwn.* Mae hanes am dro arall y bu yr un gŵr yn pregethu gerllaw eglwys Penrhos, ar brydnawu Sul. Gan fod ei ddyfodiad yn adnabyddus i'r hoU gymydogaeth yn ralaen Ilaw, ymgynull- asai i'r Ile luaws o ddynion o bob math, ond nid i gyd i'r un dyben. Daeth- ai rhai yno yn ddiau i wrando yr efengyl, gan ddysgwyl llesâd ysbrydol trwv hyny ; eraill, îe, nifer fawr, meddir, o gellweirwyr erlidgar, a'u pastynau yn eu dwylaw dynion yn hoíR difyrwch, ac yn dirmygu crefydd. Dysgwyliai y dynlon hyn enuill y ddau amcan wrth erlid y pregethwr, sef difyrwch creulawn iddynt eu hunain, a gosod anfrí ar y crefyddwyr. Yn mysg y dyhiriaid hya yr oedd hen ŵr ar gefu caseg wcn. Yn ei law yr oedd pastwn ercliyll, ac yn ei fynwes yr oedd bwriad creulawn i arwain ei gymdeitbion i'ryuigyrch ffyr- nig yn erbyn y pregethwr. Wedi iddo ddyfod i'r gynuUeidfa, dygwyddodd i ryw un, yn ddamweiniol, gael allan na oddefai yr hen gaseg i neb gyffwrdd â'i chrwper heb iddi ddangos cryn anfoddlonrwydd. Wedi cael alian fod yma ffynnonell o ddifyrwch, defnyddiai y naiU ar ol y Ilall yr achlysur i gyffwrdd â'r hen gaseg yn y Ileoyn peryglus, er mwyn ei gweled yn gwingo. Gosodai un ei law, ac arall ei bastwn, ar ei chrwper, a hithau a âi yn bob ystumiau, gan wingo yn ofnadwy. Tynodd hyn sylw eraiU, a chanfu y rhqn fwyaf 0 íìntai yr hen ŵr, sef gwŷr y pastynau, mai llawn cystal difyrwch a fyddai dylyn yr hen ŵr a'r gaseg weu, ag a fyddai erlid y pregethwr ; a throisant oll, megys o un fryd, i guro y gaseg â'u pastynau ; ymaith, bellach, yr aeth yr hen ŵr, a hwythau ar ei ol, a'r gaseg wen â'i thraed i fyny yn bygwtli yn arswydus y neb a ddeuai yn agos ati, ac yn cario ei pherchenog, bodd neu anfodd, yn ddigon pell oddiwrth y pregethwr a'i wrandawyr. Anhawdd iawn ydyw peidio gwenu wrth ddychymygu gweled yr hen gaseg wen, megys wedi ei meddiannu fel nioch y Gadareniaid, yn ffroeni yn ddig- Ilawn, a'i sodlau yn y gwynt, yn diauc megys am ei hoedl o gyrhaedd ei herlidwyr. Nid Ilai digrif chwaith ydyw gweled yr hen stoncyn ar ei chefn wedi cael ei ddal yn ei rwyd ei hun. Daethai i'r oedfa i erlid un arall, ond wele ef ei hun yn cael ei erlid. Y pastynau a fwriadwyd i faeddu y preg- ethwr, a ddefnyddiwyd i ftyrnigo ei auifail. Tueddwyd y terfysgwyr, megys heb un bwriad, yn lle baeddu y diniwaid, i gospi yr euog ; a thybiwn fod yr hen greadur, wrth chwyrnellu i ffordd, ac o'r braidd yn gallu cadw ei le ar y cyfrwy, wsdi dys^u yr hen wers gywir, " Drwg y ceidw y diawl ei was 1"

€yf. L, tudal. 118. 2 M

562 HANBSIAETH Y SiaOEDD. [DOSB. IV.

LLANEHCHYMEDD.

Nid yw yr hane? sydd genym am ddechreuad a chynydd Methodistiaeth yn y dref hon ond prin ac anghyflawn. Nid yw yn ymddangos, pa fodd bynag, fod yr achos crefyddol yn mhKth y cyfundeb wedi ymsefydlu yma mor foreu a llawer lle yn y sir. Gwir fod aml gais wedi ei wneyd i ddwyn pregethu i mewn ; ond yr oedd y trefedigion, fel preswylwyr y trefydd yn gyffredin, yn wrthwynebol iawn i ddyfodiad y penau-cryniaid i'w tref hwy, ac \Ti gwneyd eu goreu i'w hattal. Tr oedd Methodistiaeth wedi dechreu cael swcr eisoes mewn aml dyddyn yn y wlad o amgylch, ac amryw bregeth- wyr wedi codi mewn ardaloedd cyfagos. Trigianai un Eichard Hughes yn mhlwyf Coedana, ac yr oedd Owen Thomas Eowland wedi codi yn mhlwyf Llechgynfarwy ; nid oedd William Eoberts, y crydd, John Jones, Bodynol- wyn, ac Edward Jones, Pendre, ddim yn mhell ; Evan Grifíìth, Chwaen-hen, a Eichard Lewis, Mechell, oeddynt hefyd o fewn cyrhaedd : eto nid yw yn ymddangos fod nemawr ddim yn effeithiol wedi ei wneyd yn Llanerchymedd dros y 30 mlynedd cyntaf wedi dyfodiad ymneillduaeth i'r wlad. Yr oedd pregethu mynych mewn amryAviol leoedd o amgylch, heb fod yn mhell iawn, megys Cae-maes-gafr, Cerig-llithir, Pentre-bwâau, Waun-eura, Chwaen-hen, a manau eraill ; ac jt oedd ambell un o drigolion Llanerchymedd a'i chyffiniau wedi ei ddeffro am ei gyflwr, eto nid oedd, dros dymhor, ddim achos sefydlog o fewn y dref ei hun.

Mae yr hen rigwm a grybwyllwyd eisoes yn peri i ni feddwl fod Howel Harris wedi ymweled â'r dref rywbryd :

" Howel Harris ar ei horse,

O Lanerchymedd i Lan-y-gors ;"

cto nid oes dira adgofion ychwanegol am dano, o leiaf wedi dyfod i law. Mae crybwylliad, pa fodd bynag, yn cael ei wneyd am ymweliad Rowlands, Llangeitho, â'r dref, fe allai 80 mlynedd, fwyneu lai, yn ol. Cafodd genad, medd yr hanes, i bregethu yn yr eglwys, trwy ei fod yn offeiriad urddedig, a son mawr am dano. Taenodd y newydd fod y fath un i bregethu yn y llan i'r holl gymydogaethau, a daeth lluaws mawr ynghyd. Llanwyd yr eglwys yn orlawn, a bu raid i Mr. Eowlands sefyll i bregethu ar gareg-fedd yn y fynwent. Ond pan ddechreuodd bregethu, ymddaugosodd fod yn y gynull- eidfa derfysgwyr, a'u bod yn bwriadu lluchio a baeddu y pregethwr. Deallodd gŵr o'r enw John Hughes, Clwchdyrnog, hyn, ac ymaith ag ef ar frys at ŵr boneddig (BuUceley o Gronant, meddir), yr hwn oedd yn y llan ar y pryd, i'w hysbysu fod Mr. Eowlands yn debyg o gael ei faeddu yn drwm, ac y byddai y canlyniadau yn dra niweidiol. Galwodd y boneddwr yn y fan ar foneddwr arall, cadben milisia, yr hwn a ddygwyddai fod yn y dref, i amddiffjTi y gŵr dyeithr rhag sarhad y terfysgwyr. Gyda phob parodrwydd fe wnaeth yntau hyny ; ymddangosodd yn y fynwent gyda'i gleddyf yn ei law, gan orchymyn i Mr. Eowlands fyned rhagddo, a sicrhau iddo na chai

PEN. VI.] SIR FON. 56S

neb ei uiweidio. Parodd hyn dawelwcb ; ofuodd y terfysgwyr, a cbafodd y gynulleidfa fawr bob hamddeu i wraudo y bregetb, yr hon, meddai yr hanes, a etFeithiodd yn ddwys iawn ar yr holl dyrfa.

Mae hen ŵr* sydd yn awr yn fyw, ond yu mhell dros bedwar ugaiu oed, yn crybwyll am dro arall yn Llanerchymedd, tro yr oedd rhyw betbau cyffelyb ynddo i'r un a grybwyllwyd eisoes. Dywed hefyd ei fod ef ei bun yn y lle ar y pryd. Yr oedd y tro diweddaf bwn yn gysylltiedig â'r Parcb. Nathaniel Eowlands, mab Eowlands, Llangeitbo. Pan oedd Mr. N. Eow- lands yn y wlad, cafodd yntau geuad, tybygid, i bregetbu yu eglwys Llau- erchymedd, fel amryw eglwysi eraill yn y wlad. Gwahoddwyd Mr. Eowlauds, ac un Mr. Lewis, Ceidio, i giuiawa gyda Mr. Llwyd yu Llwydiartb, palas yn nghwr y dref, gau fwriadu iddo ddarlleu y gosber am ddau o'r gloch. Wedi ciuiaw, gan fod yr amser i ddechreu y gwasanaeth wedi dyfod, aeth Mr. Eowlauds i'r llan. Arhôdd y ddau ŵr boneddig ryw gymaiut o amser yn mbellacb wrtb y bwrdd a'r gwin ; ac erbyu y'u dyfod at y Uau, yr oedd mor Uawn o bobl, fel nad oedd bosibl i neb allu myned i mewn. Cytbrudd- odd y ddau oblegid hyn, a galwasant ar Mr. Eowlands i ddyfod allan o'r Uan ; ac allan y daeth ef, a'r gynulleidfa hefyd, a chauwyd y drws ; ac ar gareg-fedd yn ymyl y drws y ba yntau, fel ei dad o'i fiaen, yn sefyll i bregetbu.

Mae amryw yn crybwyll am hanesyn arall am Lanerchymedd, banesyn sydd yn dangos pa mor anbawdd oedd cael drws agored i bregethu yn y dref, gan mor ífyrnig oedd y gwrthwynebiad, a chan mor eofn a dibris oedd y terfysgwyr. Yr hanes sydd fel hyn : Yr oedd gŵr dyeithr (o'r debeudir fel y bernir) yn pregethu unwaith yn nghwrt ueu fuarth y tafarn a elwid, " Yr Y'sgub Wenith," ac y.chydig o bobl, tua 15 o rifedi, jn ei wrando, yu mysg pa rai yr oedd rbai crefyddwyr. Pan oedd y pregetbwr yn gweddio cÿn decbreu pregethu, daeth yno ryw ddybyryn gyda dyrnaid o dail ceíFylau ganddo, ac a'i Uuchiodd i safn y gŵr dyeitbr. Parodd hyn, wrth gwrs, attalfa ar y gwasanaeth dros ryw gymaint o amser. Gyda hyn, aeth gŵr cyfrifol 0 grefyddwr at y dyn, enw yr liwu oedd Cornelius Pritcbard, Tŵr- llechiad, gan ymliw ag ef am ymddwyn mor aunynol at ŵr diniwaid. Ar hyn, rhuthrodd yr adyn eilwaitb i Cornelius, gan fwriadu ei drybaeddu yntau mewn tomen dail oedd gerllaw. Yr oedd Cornelius, er nad oedd o iaintioli mawr, yn ddyn cbwimmwth, ystwyth, a chryf, a cbafodd y dyn a'i rhutbrodd ddeall byiiy ; ac wrth weled fod yr erlidiwr yn debyg o fethu yn ei amcau, daetb rhyw ddyhiryn arall i'w gynorthwyo, gan geisio codi sodlau Cornelius. Metbodd un Eichard WiIIiam Mereditb, crefyddwr arall yn y Ue, ddyoddef hyn, ond efe a ddaeth allan i amddiíîyn ei gyfaill. Dros ryw gymaint o amser, bu y pedwar yn ymdreiglo ar hyd y domen dail, byd nes y cafodd yr aflonyddwyr ddeall eu bod wedi tynu eu trecb yn eu pen.

Erbyn hyn, yr oedd y gŵr dyeithr wedi glanhau ei enau, ac yn barod i

* Gwilym Alaw,

564 HANESIAF.TII Y SIHOEBD. [dOSB. IV.

ddechreu pre^ethu ; ymadawodd y terfysgwyr yn eu cywllj-dd, a cliafodd y pregetliwr bob llonyddwch i orphen yr oedfa. Bernir fod hj'n rhwng 1770-80, Nid vw yn ymddangos fod pregethu cyson yn Llanerchymedd yn yr amser V bu vr ymosodiadau uchod, ac nid oes lle i feddwl fod un gymdeithas eg- Iwysi"- wedi ei ffurfio yn y dref. Yr oedd crefyddwyr boreuaf yr ardaloedd cyfagos yn arfer myned i'r cyfarfod eglwysig, a gynelid y pryd hyny yn Cae- maes-o^afr, neu yn Cerig-Uithir. Dywed yr henafgwr, Griílith Jones, Cefn- dwy-ftrwd, ei fod ef yn cofio pan yn fachgenyn, sef tua'r fl. 1783, fod cyfarfod eo-lwysig yn cael ei gynal yn Nghae-maes-gafr, a bod amryw o'r frawdoliaeth fechau a ymgynuUeut yno, ac yn eu mysg, Herbert Jones, Bettws, plwyf Coedana, ac un Siani Thomas, Tafarn-y-bottel, yn canu yn iach i'r eglwys vno, o-an hysbysu na ddeuent yno mwy, o herwydd eu bod yn bwriadu ym- ffurfio yn eghcys yn Llanercliymedd.

Dyma ddechreuad yr achos Methodistaidd yn ei wedd sefydlog a chorffor-

edig yn Llanerchymedd. WiUiam Davies, y crydd, a John Dafydd, Tre'r-

ddol, oedd y gwŷr a arolygeiit yr eglwys fechan ar y pryd, ac am rai blyn-

yddoedd wedi hyny. Tua'r fl. 1789, cynelid gwasanaeth crefyddol yn nhŷ

un John Tliomas, Turner. Nifer yr aelodau eglwysig ydoedd oddeutu 12;

yn mhlith parai yrydoedd Mr. Johu Thomas, y Siop; Mr. John JForsyth; a

Mr. Roberts, Lledrwr, y rhai oeddynt o fawr gynorthwy i'r achos, Y blaen-

oriaid eo-lwvsig oeddynt, Mr. Owen Jones, Boohbinder, a Mr. John Eorsyth ;

o-wŷr a feddiannent raddan lielaeth o synwyr cyffredin, ac o wybodaeth ys-

grythyrol, yn ol ansawdd pethau yn yr oes hòno. YmgynuUai i wraudo, o

50 i 60, pan y byddai cyhoeddiad rliyw ŵr dyeithr i bregethu yno ; cynull-

eidfa a gyfrifid, yn y tymhor, yn un luosog ; a chan raai y cyfryw fyddai y

o-ynuUeidfa yn gwrando gŵr dyeithr, gellir dyfalu mai Uawer llai a fyddai ar

amserau eraill. Amlwg, gan hyny, ydyw, nad oedd Methodistiaeth eto wedi

enniU ond ychydig o dir yn y dref, a bod rhagfarn rhai, diofalwch eraill, a

ffyrnio"rwydd y gweddill, ddim eto wedi eu darostwng. Un moddion tra

hynod i attal ymosodiadau terfysgwyr oedd yr un canlynol. Ar ryw achlysur

neu o-ilydd, dangosodd rhai o'r trigolion wrthwynebrwydd i'r achos, gan

arwyddo eu bod yn bwriadu, pan ddenai y pregethwr nesaf i'r dref, godi

terfysf a chyffro. Ar hyn, ymgynddeiriogodd brawd a chwaer, y rhai a ys-

tyrid yn lloerig, yn erbyn y terfysgwyr ; a hyny i'r fath raddaü, nes y rhedent

yn ol ac yn mlaen ar hyd yr heolydd, gan fygwth, yn y raodd mwyaf echrys-

lawn, ladd pwy bynag a wrthwynebai y pregethwr. -Bu hyn yn foddion i

attal terfysg ac erlid yn ol Ilaw. Barnai y terfysgwyr, ond odid, mai diogel-

ach fyddai peidio cyffroi y fath rai, rhag iddynt mewn gwŷn osod eu bygyth-

iad mewn grym ; ac felly, cafodd y crefyddwyr lonyddwch yn eu cysgod.

Yn mhen tua bh\yddyn ar ol yr amgylchiad a grybwyllwyd, codwyd yr hen gapel : y cyntaf gan y Älethodistiaid yn y Ile. Yr oedd y capel hwn yn sefyll 0 fewn tua hanner milldir i'r dref, a gelwid ef weithiau, oddiar enw y lle y codwyd éf arno, yn (Japel Llwyn-drain. Aeth y capel hwn yn rhy fach ; ac yn v fl. 1818, adeiladwyd jt un presenol yn y dref, yn adeilad helaeth a

PEN. VI.] SIR FON. 565

hardd, Hwn hefyd, er ys blynyddoedd, a lenwir â gwrandawyr ; a bychan y gallai neb ddychymygu, wrth edrych yn awr ar luosogrwydd y gymdeithas eglwysig, Ysgolorion yr ysgol Sabbothol, y gynuUeidfa, a gwedd gyifredinol yr achos yn Llauerchymedd, y dygasid y fiith gyfnewidiad yn mlaen mewn am- ser mor fyr, trwy foddion mor ddirwysg, ac ar dref a ddangosasai gymaiut o wrthwynebiad penderfynol i'r ysgogiad ar ei gychwyniad.

Nid oedd yr hen bobl yn y dref hon, mwy nag mewu ilawer o fanau eraill, yu yrafoddloni ar eu cyfran o bregethu cyhoeddus yn unig ac yn hollol; defnyddieut hefyd uurhyw foddion eraiU a ymddaugosai iddyntyn fuddiol. Yroedd ganddynt luosogrwyddogyfarfodydd i weddio, a chyfarfodydd ueillduol gyda'r phant a'r ieuenctyd, yn y rhai y byddent yn ymddyddan â phob un yn bersonol, gan gymhwyso y gwiiioueddau a wraudawsid yn y pregetliau, neu a ddysgas^id yn yr ysgol Sabbothol ; a choronid y cyfarfodydd hyn yu fynych â llewyrch- iadau dysglaer anarí'erol. Cynelid yu y dref, yu nhŷ un Sion Thümas, gyfarfod i weddio, bob boreu Sabboth am saith o'r gloch. Arferai un Harri Owen hefyd gyfarfod â'r plant yu gysou, unwaith yn yr wythnos, er mwyn ymddyddan mwy cymhwysiadol. Torodd diwygiad mawr a grymus yn y cynulliad hwu, pan oedd Harri Owen yn dybenu y cyfarfod trwy weddi ; ac yn y canlyniad, chwauegwyd ilawer at nifer yr eglwys, a pharodd luosogiad mawr at nifer y gwrandawyr.

Maeyr eglwys yn awr yn cynwys taa 200 o rifedi, a gradd helaeth o sir- ioldeb ar bob rhan o'r gwaith. Cododd Iluaws o bregethwyr defnyddiol o blith aelodau yr eglwys hon yn ystod yr hanner cau' mlynedd diweddaf ; sef y Peirch. Griffith Davies ; Hugh Jones ; Ebeuezer Davies ; Yv''illiam Eoberts, yn awr o Euncoru ; John Hughes, yn awr o Bont Menai ; hefyd, Eichard Eoberts ; a Hugh Joues, yr ieuangaf. Magwyd yn yr eglwys hon ddau eraiU, y rhai sydd yu awr yn weinidogion parchus gydag enwad arall. Eu mab i'r hybarch Johu Jones, Bodynolwyu, yn pregethu tros dymhor ; ond er enyu gobeithion helaeth am ei ddefnyddioldeb dros ryw ysbaid, ymddyrysodd yn helyntion y byd presenol, a chollodd ei goron ; eto ar ol cyfnewidiadau lawer, a chrwydriadau meithion, efe a ddychwehvyd, nid i'r pulpud mae'n wir, ond at T?ugail ac Esgob eneidiau, ac a fu farw yn aelod gobeithiol yu eglwys Dduw.

Yn y fl. 1820, torodd allan adfywiad hyfryd a uerthol. Y^r oedd Ilaw yr Arglwydd gyda'r -weinidogaeth, a nifer mawr a gredodd ac a drodd at yr Arglwydd. Chwanegwyd y tro hwn at yr eglwys, 80 o aelodau. Ac er na fu yr uu adfywiad cyflelyb ar ol yr un uchod ; eto y mae Ile i gredu uad yw yr eglwys yn y lle hwn ddim yu ddieppiledd. Mae chwanegiadau at yr eglwys wedi bod, ac yn para i fod o hyny hyd yn awr ; mwyuheir, mewn mesur mwy neu lai, raddau o arwyddion o bresenoldeb " Preswylydd y berth," fel nad oes Ile i Iwfrhau, nac i laesu dwylaw gyda'r gwaith.

GLASINFRYN.

Mae y Uc hwii yu mhlith Methodistiaid, yu gysylitiedig ag ciiw AYiUiani

566 HANESIABTH -Jf älIlOEUD. [d03B. IV.

Lewis, JT hen bregethwr, gan mai yn yr ardal hon t treuliodd ran fawr o'i 068 gyhoeddus. Mae y capel yn sefyll yn nosbarth gogledd-ddwyreiniol yr vnvs, rhwng Llanerchymedd a Beaumaris, ac nid yn mhell o Bentraeth. Dechreuodd Methodistiaeth yn yr ardal hon yn foreu ; fe allai tua chan' mlynedd yn ol. Enw y lle y rhoes ei droed i lawr gyntaf oedd, y Waun- cura, neu eurad. Dywedir fod ambell un yn fyw yu awr, a welodd, ac a fu yn gwrando yma, Mr. Eowlands, Llangeitho ; Dafydd Morris ; Jones, Llan- gan, ac eraill o'r hen dadau. lë, dywedir fod Howel Harris wedi bod yn pregethu yn y Waun-eura ; ond traddodiad ydyw hyny am amgylchiad rhy foreu i neb sydd yn fyw yn awr ei gofio.

Nid yw yn ymddangos, pa fodd bynag, fod yr achos wedi llwyddo Uawer yn ystod y 35 ml. cyntaf, gan y dywedir mai chwech* oedd nifer yr aelodau tua'r íl. 1780. Dywedir, er Ueied oedd nifer y crefyddwyr yn y lle, y byddai cyfarfodydd tra rhyfeddol yn cymeryd Ue ynddo, a hyny yn achlysurol, o'r cychwyniad hyd ei symudiad i'r lle y mae yn awr. Arferai orefyddwyr ardal- oedd eraiU, am lawer o fiUdii-oedd o amgylch, gyrchu i'r Waun-eura, i ryw foddion arbenig ; a mawr iawn, yn íynych, a fyddai y mwynhad. Ymddengys y cynelid yma ysgol ddyddiol ryw bryd, a thros ryw amser, yn y tymhor boreu a fu ar yr achos. Yr oedd yr ysgolfeistr yn ddyn da a duwiol, ac yn. arfer rhoddi addysgiadau crefyddol i'r plant, ac yn gweddio Uawer drostynt. Torasai yn orfoledd mawr unwaith ar y Sabboth ; a phan oedd yr ysgolfeistr, yn yr wythnos ddylynol, yn holi y plant yn yr ysgol, torodd yn orfoledd yno hefyd ; disgynodd ar yr ysgolfeistr, a'r plant oU, ond dau : mae un o'r ddau eto yn fyw, ac yn tystio nad oedd ganddo ef a'r bachgen araU ddim i'w wneyd ond synu, gan ymofyn, " Beth yn y byd a aUai hyn fod ?"

Adroddir hanesyn araU gan un Eichard Hemans, am amgylchiad a ddyg- wyddodd i'w dad, yr hwn oedd yn un o'r crefyddwyr. l'r oedd yr hen ŵr yn myned, un Sabboth, tua'r Waun-eura i'r addoliad ; ac ar ei ffordd, cyfarfu a nifer o fechgyn yn chwareu ; a Uwyddodd gyda hwy i adael eu chwareu, ac i fyned gydag ef i'r bregeth. Ond ar y ö"ordd, daeth i'w cyfarfod ddau filwr, y rhai a gydiasant yn ffyrnig yn Eichard Hemans, gan roddi ar àdeaU iddo, ei fod, beUach, yn ddiogel yn eu gafael ; ac yn Ue myned ar ol ei grefydd, fod ganddynt hwy waith araU iddo. Annogodd yntau y bech- gyn i fyned i'r addoUad, ac ymoUyngodd yn ddiddig i fyned gyda'r milwyr. Aeth y bechgyn, fel yr annogwyd hwy, i'r cwrdd ; a bendithiwyd y moddion iddynt. Gan mor dawel a diddig yr ymddangosai eu caffaeUad, nid edrych- odd y ceidwaid mor fanwl ar ei ol ; rhoes hyn iddo seibiant i gael bod yn rhydd oddiwrtbynt ; a ffôdd nerth ei draed, a chafodd egwyl i ymguddio rhag ei erUdwyr, trwy lechu dan y gweUt yn ysgubor yr Olgref-gerig ; feUy, wedi aros yn Uonydd rai oriau yn ei ymguddfa, diangodd yn lân o'u cyrhaedd.

Crybwyllir enwau amryw o honynt, Siôn Rolant, yr Hafod ; Morris Williams, Ty'n-y-mynydd, .Tregenau ; Thomas Jones, Carog-fain ; Owen Ellis, Cae-newydd, Llansadwrn ; ac Owen Dafydd, Cae-maeç-gafr.

VEN. VII.] SIR POIf. 66T

Pa un ai gwneyd hyn o wir ddireidi a'r pengrwn diniwaid, a wnaeth y mil- wyr, ai gyda bwriad o'i dreisio i'r fyddin, nid yw yr hanes yn hysbysu.

Tua'r fl. 1787, symudoddyr achos o'r Waun-eura i'r Capel, yn Glasinfryn, Ue yr arosodd hyd heddyw ; ac er nad yw yr eglwys a'r gynulleidfa yn y lle yn lluosog, eto, y mae y Waun-eura a Glasinfryn wedi magu llawer o grefyddwyr da, y rhai a ymfí"urfiasant yn wahanol eglwysi yn yr ardaloedd cylcbynol. Oddiyma y cododd, o leiaf, i raddau, yr eglwysi sydd yn awr yn ymgyfarfod yn Llanallgo, Tabernacl, Pentraeth, Pen-y-garnedd, a Llanddona, Mae Glasinfryn, fel llawer mam, wedi magu Uawer o ferched ; ac wrth eu cychwyn hwy wedi ei gwanychu ei hunan. Ar yr un pryd, y mae gan y Cyf- ryngwr ddiadell yn aros yn yr hen gorlan hyd heddyw, ao arwyddion nad ydyat mewn anghof gan y Pen-bugail.

PENNOD VII. EGLWYSI DWYEEINIOL Y WLAD.

CTNWTSIAD :

BEAUMARIS— DAFTDD MORRIS, MICHAEL THOMAS, AC 0WE>î THOMAS ROLAÎfT, T^ PREGETHU YN Y DREF, A'R TERFYSG A'R ERLID CYSYLLTIEDIG— Y GYMDEITH- ASFA GYNTAF PAROH. RICHARD LLOYD— LLAN60ED— CAMPAU MARIAN-DYR- YS— AFLONYDDU ADDOLIAD, A DYNWAREDIAD PBEGETHU— GORTHRYMU Y CRB- FYDDWYR— LLANFAIR— RISIART MORRIS— HUGH PRITCHARD, O'R DEPRA-BACH— RISIART EVANS, YR YSGOLFEISTR— MARWOLAETH RISIART MORRIä, AC ADFYWr- lAD TN CANLYN.

BEAUMAKI3.

Ni ellir dyweyd fod Methodistiaeth yn hen yu Beaumaris ; er, ar yr un pryd, fe fu ymgais i ddwyn pregethu i'r dref er ys cryn amser yn ol. Ya nghofiant y Parch. Richard Lloyd, dy wedir fod yr achos crefyddol yn mhlith y Methodistiaid yn Beaumaris yn isel iawn, er fod hyn mor ddiweddar a'r fl. 1800 ; nad ocdd yno ond tri neu bedwar o frodyr, ac ychydig chwiorydd, yn y gymdeithas eglwysig, ac mai bychan gwael iawn oedd ganddynt i bregethu ynddo ; ond ddarfod i'r gwaith fyned rhagddo yn gyflym ar ol iddo ef fyned yno i fyw.

Ond er mai yn y ganrif bresenol y bu yr holl Iwyddiant ar Fethodistiaeth yn Beaumaris ; eto, fe ymosodwyd ar y dref, fel y crybwyllasom, yn achlys- urol, yn mhell cyn hyny, er mai nid llawer o Iwyddiant a ddylynodd ar y pryd. Meddai un hen ŵr, dros 80 ml. oed, ganedig yn y dref : "Dechreu- wyd pregethu yn Beaumaris tua 78 o flynyddoedd yn ol. Y cyntaf o'r pregethwyr Methodistaidd a fu yno, trwy wybodaeth i mi, oedd Dafydd Morris, o'r deheudir. Safodd i fyny ar yr heol, a dechreuodd bíegethu ; ond terfysg mawr a thwrf a gyfododd, fel ag y Uuddiwyd ef yn deg i orphen pregethu. Gorchfygwyd ef yn lân gan y swn, y cyffro, y dom, a'r cerig : er ei fod yn uchel iawn ei lais, ac yn wrol iawn ei feddwl. Yr oedd William Lewi» y pryd hyny yn ddyn ieuanc cryf a bywiog ; yr oedd ganddo feddwl

56S HANJJSIAETU Y SIROBÜD. [dOSB. IV.

cadarn, a Uais fel udgorn ; hwn, wedi i'r leríysgwyr orchfygu Dafydd Morris, a safodd i fyny yn wrol a di-ofn, gan ymliw â'r bobl ara eu hymddyg- iad at ŵr dyeithr a pharchus a ddaethai o bell i geisio eu daioni. Gostegodd hyn raddau ar y terfysg, a chafodd lonydd gweddol i draddodi ei genadwri.

"Bu Beaumaris heb bregethu rai bîynyddau ar ol hyn. Ymddangosai y drws yn rhy gauedig i neb wneuthur cais i fyned i mewn. Eto nid oedd cyflwr isel y trigolion ddim wedi ei anghofio. Disgynodd yn bwysig ar feddwl Michael Thomas, o'r Garnen-wen, un o'r hen bregethwyr, fyned yno, fel, os oedd yn bosibl enniU rhyw nifer i wrando gair Duw ; a chan obeithio hefyd y byddai ffyrnigrwydd y gwrthwynebwyr ryw gyraaiut yn llai.

"Nid oedd, ar y pryd, ond dwy wraig yn proffesu crefydd yn y dref, sef Jaue Williams, nain i'r diweddar Rarch. WiUiara WiUiams, Manchester ; ac Anne Thomas, nain i Mr. Eichard LewiSj yn awr o Fodedeyrn. Anfonodd Michael Thomas at y gwragedd hyn i hysbysu iddynt ei fod ar fedr dyfod i bregethu i'r dref y Sabboth nesaf. Gyrodd y newydd hwn y gwragedd i radd o benbleth. Ar y cyntaf, ni wyddent yn y byd pa fodd i wneuthur y peth yn hysbys ; ond wedi enyd o betrusder, ymwthiodd y cynllun canlyuol i'w meddwl. Yr oedd ynTjyw yn y dref, hen wraig adnabyddus iddynt, tra gelynol ac erlidgar, a'i bryd i wneyd a allai hi i rwystro, ac i k;thu ymsef- ydliad y sectariaid yn y dref. Barnai y ddwy wraig nad oedd dira yn ychwaneg yn angenrheidiol, na hysbysu yr amcan iddi hi, ac y sicrheid lledaeniad y cyhoeddiad trwy y dref. Hyny a wnaeth y gwragedd ; defnydd- iasant forwyn y fal! i hysbysu fod ' gwas y Duw Goruchaf yn dyfod i'r dref i fynegu ffordd iachawdwriaeth i'r bobl.' Hyn hefyd a wnaeth gyda fl'ydd- londeb a diwydrwydd mawr; a chafodd y trefedigion wybod fod y fath breg- ethwr i'w ddysgwyl atynt; ond ni hysbyswyd iddynt yn mha le y gellid ei ddysgwyl. Yr oedd y ddwy wraig grefyddol yn y cyfamscr mewn gradd o bröfedigaeth yu nghylch y Ue. Nid pob lle a dybid ganddynt yn ddiberygl ; ac er eu bod yn hoíìi yn fawr i'r trigolion gael clywed gair y bywyd, ni fynent er dim fod niwed yn cael ei wneyd i'r pregethwr. Yr oedd yn gyfyng arnynt o bob tu ; teimlent bwysigrwydd y gorchwyl a osodwyd arnynt, a'u hymüdifadrwydd o uu dyn, o gyffelyb feddwl, i ymgynghori ag ef. Nid oedd dim yn rhoddi iddynt gymaint o ymwared ag oedd gosod eu sefyllfa gerbron Duw mewn gweddi. Hyn a wnaethant eilwaith ac eilwaith, a hyny gyda thaeriueb mawr. Ond tra yr oeddynt hwy yn pryderu yn ddirfawr yn vr achos, a'r Sabboth gerlhiw, daeth atynt ryw ddyn tlawd o grydd, yr hwn a gynygiai i'r pregethwr gael sefyll ar risiau ei dỳ ef. Yr oedd ef yn byw mewn math o gynteddfa (com-t), i'r hwn nid oedd ond un myuedfa, fel math o borth. Addawai hefyd y ceisiai efe ddynion i gadw y porth, fel na chai neb ddyfod i mewn i afionyddu ar yr oedfa. Gwelai y gwragedd fod eu gwcddiau wedi eu hateb, a bod noddwyr i'r gwaith wedi cyfodi o le, ac mewn duU, nad oeddynt hwy yii gallu eu rhagweled.

" Y Sabbath a ddaeth ; ac nid oedd y pregethwr yn gwybod dim pa beth ocdd i'w ddysgwyl ; a hawdd y gallwn ddyfalu, os bu penbleth y ddwy

PEN. Tll.] Slli fOK. ^ 569

wraig yn fawr i gael lie iddo sefyll, fod ei bryder ef yn llawn cymaint, \u enwedig gau nad oedd eto yn adnabyddus o'r ddarpariaeth a wnaethid gogyfer a'i ddiogelwch. Cychwynodd oddicartref, pa fodd bynag, gan Iwyr fwriadu, yn ol ei addewid, bregethu i'r trefedigion. Cychwynodd pump neu chwech o frodyr crefyddol o'r wlad gydag ef ; ond pan ddaethant i olwg y dref, llesgaodd ei enaid gan ofu y bobl, a phetrusodd fyned rhagddo. Wedi sefyll dros enyd mewn anmhenderfyniad blin, syrthiasant oll ar eu gliniau ; ac mewn gweddi at yr Hwn a biai y gwaith, tywalltasant eu calonau o'i flaeu. Archasant gyfarwyddyd pa beth i wneyd ; os ewyllys yr Arglwydd oedd iddynt fyued yn ralaen, ar iddo gyfnerthu meddwl ei was, a rhoddi iddo ddrws agored i draethu yr efengyl wrth y gwrandawyr. Wedi parhau rhyw gymaint o amser raewn ymbiliau yn y modd yma, dadebrodd calon y pregethwr, a pheuderfyuodd fyned yu mlaen yn wrol, deued y can- lyniadau a ddeleut.

" Erbyn i'r brodyr hyn gyrhaedd y dref, deallasant trwy y gwragedd pa ddarpariaeth a wnaethid i'w derbyn ; a hwythau a ddiolchasant i Dduw, ac a gymerasant gysur. Aeíhant i gynteddfa y crydd, a chawsant y Ile yn barod iddo i bregethu, a'r bobl yu ei ddysgwyl. Safodd y crydd at ei air : cafwyd llonyddwch i gadw yr oedfa, oddigerth ambell gareg a hyrddid i'r cynteddfa dros benau y tai ; ac o'r Sabboth hwnw hyd heddyw, y mae pregethu cyson gau y Methodistiaid yn nhref Beaumaris."

Ünd er i bregethu barhau yno o hyny allan, eto nid oes i ni feddwl na chyfarfu â llawer Ilewyg, os na fu yn aros ar wedd isel a diystyr dros flyn- yddau. Nid hir, ar ol cael pregethu Iled gyson i'r dref, y buwyd heb fod cyfarfod eglwysig yn cael ei gynal, er nad oedd yn y dref ei hun ond ychydig iawn- 0 nifer. Cynelid y cyfarfodydd, dros ryw dymhor.'mewn "llofft allan," a berthynai i tafara yn y dref, sef lloflt lieb fod o fewn rauriau y tafarndv. Yn y llofft hon y cynelid y cyfarfodydd eglwysig, a dywedai Eichard Jones, henuriad yn Mhen-y-garnedd, ei fod ef am flynyddoedd yn arfer myned i'r cwrdd eglwysig i lofl't y tafarn yn Beaumaris. Yr oedd yn byw yn y dref ddyn o'r enw Manuel, gwehydd wrth ei grefift, ac yn perthyn i'r milisia. Cyfrifid y dyn hwn yn ben-cecrwr y dref, ac yn un dideimlad a diegwyddor. Parod oedd, am wobr, neu am ddiod, i gyflawni unrh^w erchylldra ymron ; a pharotach nag at ddim arall, i erlid y crefyddwyr. Tybid nad oedd dim gwarth yn gysylltiedig â hyn, ond yn hytrach yr enniUai r^nrhydedd a ftaír yn ngolwgboueddwyr y dref, Yr oedd eu hymlid hefyd yu fath o ddifyrwch, tebyg i'r difyrwch a fwynha rhyw fath o bobi wrth erlid yr ysgyfarnog. Yr oedd Manuel, y gwehydd, yn eithaf parod i'r gorchwyl y gelwid ef ato ar Lyn o bryd ; ac yn enwedig, gan y rhoddid iddo ei wala a'i weddill o ddiod gadarn, a thrwy hyny ei wneuthur yn fwy penderfynol ac ymroddgar. Ei orchwyl peuodol ef oeddmynedi'r Ilotft, a mynu ei ífowld drwy y gynuUeidfa at y pregethwr, a'i lusgo ef allau at ei gymdeiíhion, y rhai a ddysgwylient mewn man arall am dauo, modd y gallent wneuthur iddo fel y gwelent hwy vn dda.

570 UANE81AETH T SIHOEÜD. [dOSB. IV.

üygwyddodd, pa fodd bynag, i un WiUiam Prys, o'r Bryngolau, ddyfod i wybod am y cynllwyn aufad hwn. Nid oedd y gŵr hwn yn arddel crefydd, ond yr oedd yn ddyn moesol, ac yn caru gwrando, ac hefyd yn hofîi cyfiawn- der a thegwch. Heblaw hyny, yr oedd yn ddyn cadarn a nerthol o goríf ; a dywedid fod ganddo y fath afaeliad, nad oedd obaith i ddyu cyfi"redin gael ei hun yn rhydd o'i grafanc. Wedi deall fod Manuel yn bwriadu dyfod i'r lloff"t, gosodai y gŵr arall ei hun wrth y drws i'w ddysgwyl ; ac yn y fan y deuai, ymaflai ynddo, gan ei wasgu yn ddystaw, nes y byddai ei wyneb yn glasu. Deallai y dyhiryn yn y fan, mai eiddil oedd ef i geisio ymwrio â'r fath ddyn; ac mor fuanag y caniateid iddo, Uithrai i ffordd yn llechwraiddi fynegu i'w gymdeithion pa mor siomedig y troisai y cynllwyn allan. Dygwyddai amgylchiadau o'r falh yn aml, pryd na fyddai y gynulleidfa oddifewn i'r lloQ"t yn gwybod dim am yr ymgyrch a fyddai wrth y drws.

Ymddengys y byddai cyfeillion o Ben-y-garnedd a Llaugoed yn arfer myned i'r hen loff"t, i gyfarfod â'r ychydig aelodau oedd yn byw yn Beau- maris, i gadw cyfarfodydd eglwysig ; a thystiai yr henadur Eichard Jones, y byddai torf o ddyhiriaid, ymron bob amser, yn aros y cyfeiUion hyn allan, nid i'w baeddu gymaint, ond i'w gwawdio a'u dirmygu yn y modd atgasaf a fedrent ddychymygu. Ehoddent awgrymiadau gwawdlyd, mai cadw rhyw ddawns y bu y crefyddwyr yn y cynuUiad ; a chan fod gwraig Eichard Jones yn fwy corffol ac anystwyth na'r cyffredin, ac hefyd yn fwy trwsiadus ei gwisg, a selog ei chrefydd, na rhai, galweut hi, "Fr /len laiy of the ball," a honent mai hi a fuasai yn agor y ddawns. Mynych y gwaradwyddid y crefyddwyr yn y modd yma, gan obeithio, os na wnai creulondeb, y gwnai cywilydd iddynt ymadael â'u crefydd ; ond nid oedd na'r naiU r.a'r Uall yn tycio, canys yr oedd eu nifer yn aralhau, ac yn Ue cilio yn llecliwraidd o'r maes, ymddangosent yn fwy penderfynol, o ddydd i ddydd, i fynu eunUl j dydd ar eu gwrthwynebwyr.

Ond er mai Dafydd Morris oedd y cyntaf a geisiodd bregethu, yn nghof yr henadur teilwng* a fynegai yr hanes, y mae genym ie i gredu fod cais wedi cael ei wneuthur i bregethu yn y dref, gan y cynghorwyr hyny a elwid pobl Howel Harris ; ond ni fu eu cais oud aflwyddiannus, "ie, a thra pher- yglus, oblegid fe'u Uuchiwyd allan â cherig, gyda'r fath ffyrnigrwydd gwaUgof, fel y mae yn syn eu bod wedi gallu dianc heb eu lladd. Yr oedd hyn, fel y gellir barnu, rhwng y blynyddoedd 1750 a 1760. Ar ol yr ymgyrch hwn, cafodd trigolion Beaumaris y maes iddynt eu hunain am 14 o fljmyddoedd. Ond ar ddiwedd y cyfnod hwn, anturiodd Owen Thomas Eolant yno. Meddai ef ei hun, " Aethum yno mewn Uawer o ddigalondid, gyda 12 neu ragor o'm cyfeillion. Yr oedd yno yn ein dysgwyl dyrfa fawr iawn 0 bobl, a minau yn dysgwyl y byddai fy ymenydd ar y pared cyn pen chwarter awr. Cymaint oedd fy ofn a fy arswyd wrth ddechreu, fel na allwn ymaflyd yn y Beibl, gan fel yr oedd fy nwylaw yn crynu. W^rth i mi

Mr. John Thoma«, Hebron.

PBN. Vlí.] SIK FON. 571

weddio, yr oedd yno y fath swn, gan y murinur a'r terfysg oedd yn mlilith y bobl, fel nad oedd bosibl i neb glywed ond ycbydig ; ond wrth ddiweddu y weddi, mi ddywedais y pader: pan glywodd y bobl hwn, rhedodd rhai o ddrysau y tai, ac ochrau y cloddiau, a chan dynu eu hetiau, nesasant at y dorf. Ar hyn, gwaeddodd John Parry, y bragwr, ar y bobl, ar fod i bawb wrando yn ddystaw, ac na wnai neb, er ei berygl, ddim aflonyddwch ; ac na thaflai neb gymaint a phlisgyn ŵy, oherwydd," ebe efe, " yr wyf fi wedi rhoi cenad i'r gŵr sefyll ar fy nhir, ac mi a edrychaf ara chwareu teg iddo. Y canlyniad o adrodd y pader, a thraethiad araeth y bragwr, a fu cael Uonydd- wch perfl'aith i mi i bregethu."

Yr oedd Owen Thomas, er cyn ei ddychweh'ad at grefydd yn hollol adna- byddus i bawb yn Beaumaris. Gwyddent mai hwn oedd yr un a fyddai yn arfer dyfod i'w tref hwy bob sessiwn i chwareu tenis, yfed cwrw, a chyflawni pob anfadrwydd. Yr oedd canfod y fatli gyfnewidiad ynddo, a bod yr hwn a fuasai gynt yn greadur mor wallgof, yn awr wedi cael ei ddwyn ato ei hun, yn eífeithio yn ddymunol ar lawer o'i hen gymdeithion ; tra yr oedd eraiU yn teimlo yn awyddus i ddial arno am iddo droi ei gefn arnynt, ac yrarestru mewn byddin mor wrthwynebol iddynt. Yr ydym yn cael ein tueddu i feddwl fod y tro hwn ar Owen Thomas wedi dygwydd ychydig cyn y tro y bu Dafydd Morris yn y dref, neu yn fuan ar ol hyny, sef rhwng 1770-80.

Yr ydym eisoes wedi cyfeirio at y gymdeithasfa gyntaf a gynaliwyd yn Beaumaris,* pan y rhoddasid ar ddeall i Lord Bulkeley, gan ryw ddynion llawer mwy eu hystryw na'u gras, fod Baron-hiU, ei balas, îe, yn wir, fod y deyrnas oU mewn perygl, trwy fod y fath luaws o bobl yn ymgasglu at eu gilydd, dan rith crefydd. Ni allai fod y gymdeithasfa uchod wedi cymeryd Ue ondmewn adeg ddiweddar mewn cydmhariaeth, sef yn 1784.

Daeth Mr. Lloyd, fel y crybwyllasom, i fyw i'r dref ar ddechreuad y ganrif bresenol, a bu ei ddyfodiad iddi yu fywyd o feirw i'r achos gwan. Yn fuan ar ol iddo ddyfod i breswylio yn y dref, cafodd addewid o le i adeiladu capel, a bu cael y fath gyfleusdra yn foddion i luosogr y gwrandawyr yn fawr; ac yn mhen ychydig flynyddoedd, aeth y capel yn rhy fychan, a bu raid ei wneuthur yn llawer helaethach. Parhaodd y gwrandawyr a'r aelodau i luosogi fwy-fwy, nes y bu raid helaethu y capel drachefn. Cafodd Mr. Lloyd hyn o amgylch yn ystod y fiwyddyn olaf y bu efe byw, sef yn 1833-4.

Bu Mr. Lloyd a'i wraig yn offerynau nodedig i ddwyn yr achos i'r wedd sydd arno. Nid yn unig bu ei weinidogaeth bersonol ef ei hun yn wasan- aethgar i hyny, ond bu ei yn llety i'r dyeithriaid a ddeuent i wasanaethu achos yr efengyl i'r dref, o ddeheudir a gogledd, am faith flynyddau, ie, tra y bu ef ei hun byw, a thra y bu ei weddw fyw ar ei ol. Gwasgarodd lawer yn y ffordd yma ar ei ddâ, ond fe chwanegodd iddo. Bwriodd rhagluniaeth ei haden gysgodfawr drosto, a pharodd iddo Iwyddo, fel na fu arno ef, na'i

* Cyf. I, tndal. 870,

572 HANESIAETH Y SlROEUD. [UOSB. IV.

dylwyth ar ei ol, eisieu uim daioui a berthyu i'r byd hwn. Beudithiwyd ei dŷ, fel yr eiddo Obededom, er mwyn arch Duw.

Yr oedd Mr. Lloyd yn ŵr call a phwyllog, ac o dymher siriol ac ennillgar. Yr oedd gwên yn Uewyrchu yn naturiol ar ei wyneb. Er na allwn ei osod yn mhlith y ser dysgleiriaf o ran ei dalentau gweinidogaethol, eto yr oedd yn mhell uwchlaw y radd gyífredin. Ymddangosai yn biydferth, fel un yn cyfateb i'w ]e, pan y gosodid ef o flaen cynulliadau lluosocaf y cýfundeb. Cawsai ei gyfaddasu yn fwy i gydweithredu nag i arglwyddiaethu. Yr oedd sirioldeb ei wedd, a mwyneidd-dra ei ysbryd, yn ei gymhwyso mewn modd nodedig, nid yn unig i gydweithredu ei hun â'i frodyr, ond hefyd i beri cydweithrediad cyífredinol yn eraiU, yn y cylch y teimlid ei ddylanwad. Bu farw Mr. Lloyd yn nghanol ei ddyddiau, yn 1834-, pan oedd yn 63 ml. oed, wedi bod yn pregethu yr efengyl am ysbaid 40 mlynedd.

Yn nechreuad y ganrif bresenol, yr oedd Methodistiaeth yn arddangos by wiogrwydd a chynydd mawr ; yr oedd trigolion y wlad, bellach, mor bleidiol iddo ag a fuasent gynt o wrthwynebol ; eto yr oedd yn aros gryn lawer o'r hen ragfarn cyníefìg yn rahlith rhai o foneddwyr y wlad. Dangos- wyd hyn yn Beaumaris mor ddiweddar a 1809. Cynaliwyd cyradeithasfa yn y dref yn mis Mehefin y flwyddyn hòno. Am bump o'r gloch y prydnawn cyntaf, pregethodd y Parch. Joliu Roberts, Lhuigwm, a'r Parch. Thomas Charles, o'r Bala. Ar y cyfryw gyfarfodydd, y mae yn arferiaa bob amser fod gweddi deuluaidd yn cael ei chynal naw o'r gloch yn yr hwyr, yn rahob y lletya neb o'r crefyddwyr ; yr hon awr, oherwydd hyn, a elwir, " Yr awr weddi." Lletyai Mr. Elias yn y gwestty a elwir y Bull Hotel ; a phan oedd efe yn.cyflawni y gwasanaeth difrifol hwn, a'r ystafell yr oedd ynddi yn orlawn o bobl, y ífenestri yn agored, a lluaws o wrandawyr yn sefyll oddiallan wrth y ö'euestri, daeth boneddwr i'r lle ; ac yn ddigllawn'wrth weled y Ihiaws pobl, a'r wedd grefyddola ymddaugosai ar bawb o'i amgylch, cfe a oUyngodd allan ergyd o ddryll yn ymyl y flenestr agored, er dychryn mawr i'r holl rai a gyfranogent yn yr addoliad, ac i Mr. Elias ei hun. Oínai llawer un fod rhyw rai wedi en niweidio, os nad wedi eu lladd ; ond nid oedd sail i hyny, gan, fel y deaUid ar ol hyiiy, mai i'r awyr y saethodd y gŵr yr ergyd, ac mai ei unig ddyben oedd terfysgu yr addohad. Ehoddwyd heibio y canu ar ol y weddi, ar gais gŵr y tŷ, rhag i hyny chwanegu y niwaid. Dywedir i Mr. Elias ymddyddan â'r boneddwr y noson hòno, ac iddo amlygu ei ofid o herwydd ei ymddygiad rhyfygus ac annynol."

LLANGOED.

Mae y Ue hwn o fewn dwy fiUdir ucu dair i Beaumaris, a'i haues yu ymblethu yn hanes y dref. Meddai un gŵr am yr ardal hon : " Tua 1802, ac o hyny hyd 1808, arferai trigolion Lhaugoed fyned brydnawniau Sabboth i ben bryn yn y gymydogaetb, a elwir y Marian-dyrys, i ymddifyru mewn halogi y Sabbotb, yr ieuainc trwy gampio a cliwareu, a'r hen bobl trwy

PEN. Vir.] SIR FON. 573

adrodd hen chwedlaii. Gosodid gorfod ar bawb a ddeuent i'r lle, i aros yno hyd ddiwedd y gamp ; ac enbyd oedd i neb geisio myned i ffordd, pe yr ewyllysiai, cyn yr adeg appwyntiedig. Os dygwyddai fod neb yn ddigon byf i droseddu y rlieol hon, rhaid oedd iddynt ddysgwyl y canlyniad. Cospid y cyfryw trwy fwrw cerig ar eu hol hyd lethrau y brj'n, nes y byddai perygl iddynt am eu hesgyrn, os nad am eu bywyd. Y moddion penaf a ddefnydd- iwyd, ac a fendithiwyd, i gael yr hen arferion Uygredig hyn i lawr, oedd gweinidogaeth yr efengyl, a chyfodiad ysgolion Sabbothol.

Dygwyddodd un tro nodedig yn yrardal hon, yr hwn a roes ergyd marwol i gyfarfod llygredig. Yr oedd rhyw nifer o gyfeiUion crefyddol, ar ddiwedd un o'r cyfarfodydd gweddi, wedi doall, cyn iddynt ymwasgaru oddiwrth eu gilydd, fod cyfarfod dan yr enw nomaitli lawen i gael ei gynal y noson hòno, mewn lle a elwir Forto Bdlo, sef hen balasdy mawr wedi ei oUwng i ddi- rywio, a'i droi yn fân dai i bobl gyffredin : yn nhy un WiUiam Doyle yno y cynelid y cyfarfod. Effeithiodd hyn yn ddwys iawn ar feddwl un o'r brodyr, sef Eichard Buckley, a dy wedodd, ' Nis gallaf mewn un modd fyned adref, a gadael y bobl hyn yn y fath le, a chyda'r fath waith o haîogi dydd yr Arglwydd, heb wneyd rhyw ymgais i'w rhybuddio a'u hachub.' Anfonodd, gan hyny, at y warden, o'r enw John Rowlands, Tyddyn-grugwr, yr hwn ei hun oedd yn myned adref o'r cyfarfod gweddi, i erchi arno ddyfod gydag ef i Porto Bello, i'w gynorthwyo yn ei amcan. Danfonodd John Rowlands yn ol gyda'r geiiad, ar i'r hen ŵr fyned adref, a pheidio gwirioni : na wnai pobl y ' noswaith lawen ' ond gwneyd gwawd o hono, a chwerthin am ei ben, os peidient a gwneyd rhyw niwaid iddo : 'ond,' ebe efe, 'am danaf fi, ni ddeuaf fi yn agos atynt.' ' Nid oes mo'r help,' ebe Eichard Buckley, pan fynegwyd iddo pa ateb a roisai y warden, 'Cleddyf yr Arglwydd a (ìedeon,' mi af fi yno, doed a ddelo o honof.' "

Aeth yr hen ŵr yno, ac wedi cael myned i mewn, cyfarchodd y bobl, gan ddywedyd, " Wel, lanciau bach, syn genych, mae'n debyg, fy ngweled i yma yn eich mysg : y gwir ydyw, nid oedd ffrwyth ynof i fyn'd adre', a'ch gadael chwi yn y fan yma, i fyn'd y ffordd unionaf i uffern, heb eich rhybuddio." Teimlodd rhywun awch y cyfarchiad gouest hwn yn brathu ei gydwybod, a galwodd am hel y siot, fel y gallent fyned adref yn ddioed. Cytunwyd ag ef yn y cynygiad gan bawb oud un, a hwnw yn fab i rieni crefyddol. Hwn a ddywedodd, "Na wnewch sylw o'r hen ddyn, gadewch iddo ef fyned adref, ond pahara yr awn ni ar ei gais ef ?"

Pa fodd bynag, i ffordd yr aethant oll yn bur fuan, ac nid hir y bu y rhan fwyaf 0 honynt heb ddyfcd i gofleidio crefydd yr lesu, ac i wneuthur proffes gyhoeddus o'i enw, îe, bu yr un a ddangosasai radd o wrthwynebiad i gais yr hen ŵr yn eu plith ar ol hyny, yn henuriad ftyddlawn yn eglwys Llangoed hvd ddiwedd ei oes ! Pa beth na all ft'yddlondeb a gweddi ei wneyd ! Yva- v?regysodd yrhen vvr, fel Gedeon gynt, a ' chleddyf yr Arglwydd,' a gwnaeth wrolwaith ; ac er nad oedd ganddo na dawn na dylanwad, ond y dylanwad a berthynai i uniondeb ei amcan, a chysondeb ei gymeriad, eto 'yr oedd Duw

574 HANESIAETII Y SlllOEDD. [dOSB. IV.

gydag ef.' Y Duw hwuw a gyffiôdd ei galon i wneuthur yr ymgais, a feu- dithiodd y moddion i gyrhaedd yr amcan, " fel ua orfoleddai un cnawd yn ei olwg ef."

Ar ddechreuad pregethu yn yr ardal hon, fel mewn ardaloedd eraiU, yr oedd rhyw fath o ddynion yn chwannog i wneyd yn hyf ar yr addoliad, gan edrvch arno yn ddim amgen na chynulliad cyffredin o ddynion tlodion, dynion a'u penau yn llawn o fympwy, a dynion nad oedd un amddiffyniad cvfraith drostynt ; ond dynion y gellid eu sarhau fel y mynid, a hyuy yn beríFaith ddiberygl. Ond nid anfynych y defnyddiai yr Arglwydd yr amf^Ylchiadau hyn yn foddion i ddwyn hyd yn uod y gwawdwyr eu hunain i wybodaeth y gwirionedd. Yn yr un Ue ag y cynelid y cyfarfod gweddio ag V cyfeiriwyd ato uchod, dygwyddodd tro arall tra hynod, yn yr hwn y gellir gweled anwybodaeth dybryd ar y naill law, a chyfryngiad grasol y Goruchaf ar y llaw arall. Mewn rhyw gyfarfod crefyddol a gynelid yn y lle, daeth dyn i mewn unwaith, a cheseiliad o bŷs ganddo ar ei wellt o dan ei gôt, a bwytäai y pŷs, gan lygadrythu o'i amgylch a oedd pawb yn edrych arno. Ei amcan, tybygid, oedd difuddio y cyfarfod trwy dynu sylw pawb ato ei hun. Yr oedd John Rowland, Tyddyn-grugor, y gŵr y crybwyllasom ei enw o'r blaen, yn ddyn grymus iawn o gorff, ac yn arfer, pan y ceisiai neb aflonyddu ar y cyfarfodydd crefyddol, ymaffyd ynddynt, " a'u tafiu allan," medd fy hysbysydd, " wrth y cwpl, fel pe lluchiai un gM'pl o gorgwn." Aeth y gŵr yraa at y llall, a dywedodd wrtho, " Onid êi di allan ar frys, mi a dy daflaf di allan. Clybu hen ŵr crefyddol y bygythiad, a dywedodd, ' Na, gad- ewch iddo John Rowhmd, mi âf fi ato, ac a'i perswadiaf ef i fyned allan rhag aflouyddu yr addoliad." Fe aeth ato, ond ni allodd Iwyddo gyda'r dyn i fyned allan ; ond llwyddodd i gael ganddo gau ei gôb ar y pŷs, a bod yn berfí"aith lonydd yn y cyfarfod. Dywedai yr aflonyddwr ar ol hyn, na fu morgaled arno erioed gan euogrwydd cydwybod, ag a fu arno y noson hòno; ac nid hir y bu yntau heb ddyfod i broffesu crefydd.

Nid oedd dim ynboddhaugwrthwynebwyr y sectariaid yn fwy na gwrando ar ryw un medrus yn dynwared eu cyughorwyr yn pregethu. Ehoddai hyn ddigrifwch mawr iddynt hwy eu hunain, ac yr oedd yn foddion effeithiol, yn ol eu tyb, i ddwyn ymneillduaeth i ddirmyg. Er mwyn gallu gwneyd hyn yn fwy medrus, rhaid oedd weithiau eu gwrando ; a thra yr oedd y bregeth yn fywiog yn y cof, traddodid rhyw gyfran o honi, wedi ei hanffurfio a'i drwg- liwio, i ddifyru yr erlidwyr, ac i ddifrio y crefyddwyr. Ac yn gyffredinol, credid y camddarluniadau a roddid yn y dull gwawdlyd hwn, gan lawer, fel gwirionedd ; yn enwedigol gan fonedd y wlad, y rhai na ymostyngent i wrando drostyut eu huuain.

Yr oedd gŵr ieuanc medrus yn y cyfryw orchwyl, o'r enw Robert Owen, yn byw yn ngw^asanaeth Mrs. Griffith, Tyddyn-y-gwynt ; yr hon, fel llawer o'i gradd, oedd yn Uochi cryn lawer o ragfarn at Eethodistiaeth, gan gwbl gredu mai anghristiaeth perffaith oedd pob ffurf o grefydd ond eglwysydd- iaeth ; pa un bynag ai pabyddiaeth ar y naill law, neu sectariaeth ar y llaw

PKN. Vri.] SIR FON. 575

arall, Yr oedd Tyddyn-y-gwynt yn sefyll nid yn mhell oddiwrth gnpel Llan- goed, ond yn mhlwyf Llanfaes. Mab oedd y gẃr ieuanc hwn i Owen Thomas, y Fron-bach, plwyf Pen-mon.

Arferai y Uencyn hwn ei ddawn a'i fedrusrwydd i ddynwared pregethwyr, oddiar ben tomen gerllaw y tŷ. Un tro, üygA\'yddodd fyned i Langoed i gyfarfod gweddio, gan ddysgwyl yn ddiau y cai yno ryw destyn difyrwch a gwawd ; ond Duw a feddyliodd yn wahanol. Yn y cyfarfod gweddi, anfon- wyd rhyw wirionedd fel saeth i'w galon. Pwysodd euogrwydd arno yn y fan mor drwm, fel na aUai godi ei ben, nac edrych i fyny. Dychwelodd i'fv le, nid i wawdio mwy. Rhy anhawdd, bellach, oedd celu y cyfnewidiad oddiwrth wraig y tỳ, a blin iawn oedd ganddi y newydd ; ac annyoddefol ganddi oedd fod un o âch y Methodistiaid, weithian, yn Uechu dan ei chronglwyd. Yr oedd y boen a barai y crefyddwr iddi yn fwy na'r difyrwch a roddasai y gwawdiwr ; ae nid oedd amser i'w goUi, ond glanhau ei thŷ mor fuan ag oedd modd oddiwrth y fath halogedigaeth. Yn mhen tridiau, galwodd am y Uencyn ati, a dywedodd yn groch iawn, mor syn ac arswydol oedd ganddi ei fod wedi pendroni gymaint ; a rhybuddiodd ef y byddai laid iddo, allan o law, ymadael â'i grefydd, neu ymadael â'i gwasanaeth ; a galwai arno i benderfynu. Dysgwyliodd, ond odid, y buasai y cyfryw fygythiad yn ddigon i beri iddo ymadael â'r bobl ddirmygedig yn ddibetrusder ; a mawr oedd ei siomedigaeth, pan rhoes y bachgen ar ddeall iddi, er ieuanged crefyddwr ydoedd, mai nid gwerth na gwobrwy a'i gyrasai ef at grefydd ; ac mai nid gwerth na gwobrwy a barai iddo ei gadael. Ymadael hefyd â'i le a wnaeth, ac ni chafodd achos i edifarhau am y dewisiad a wuaethai. Yr oedd hyn tua dechreu y ganrif bresenol.

Eai blynyddau ar ol hyn, dangoswyd cyífelyb ddygasedd at grefydd, gan ŵr boneddig ag oedd yn byw y pryd hyny yn Henllys. Yr oedd gŵr a gwraig, o'r enw Eowland ac Elizabeth Thomas, yn byw, yn y fl. 1814, yn mhorthor-dŷ (lodge) yr Henllys, ac yn gwasanaethu y boneddwr. Trwy ryw foddion neu gilydd, yr oeddynt wedi bwrw eu coelbren yn mhlith y Methodistiaid. Daeth hyn, ryw bryd, yn adnabyddus i'r Major ; yr oedd digon 0 ddynionach prysur a diddiolch a hoffent ddwyn y fath newydd i'w glustiau ; gorchwyl ydoedd a gyflawnid fynychaf, mewn amgylchiadau cyffelyb, gan berson y plwyf. Wedi deall fod y porthor yn un o'r crefydd- wyr, enynodd digofaint y boneddwr, a phenderfynodd, allan o law, ymlid y teulu i ffordd, fel rhai annheilwng o fyw yn ngwasanaeth gŵr o'i sefyllfa ef. Yn ddioed, gau hyny, aufonodd am y porthor ato, a gofynodd iddo yn ffyrnig iawn, pa fodd y meiddiai efe ddewis crefydd wahanol i'r eiddo ei feistr ? A chan iddo ryfygu gwneuthur hyny, y rhoddai ar ddeall iddo nad oedd ond ei grefydd, neu ei wasanaeth, iddo gael. Yr oedd gan y gŵr, erbyn hyn, ddau blentyn ; ac nid oedd ganddo, yn yr adeg, hanes na thŷ na lle ; a hawdd y gallwn feddwl fod y dyrnod disymwth yn effeithio yn drwm ar ei deiraladau. Wedi dadebru gronyn, gofynodd y gweithiwr i'w feistr, a oedd ganddo ryw achwyniad yn ei erbyn, heblaw a berthynai i'w grefydd ? " Nac oes," ebe y

576 HANESIAETH Y SIROEDD. [l)OSB. IV.

meistr, "ddim arall; ie, mi roddwn lawer yn eich ffordd, os ymadewch â'r sectariaid hyn."

" Hyny," ebe y gweithiwr, " nis gallaf. Ac er nad wyf yn gwybod pa le yr âf, na pha beth a'm cyferfydd i, fy iigwraig, a'm dau blentyn; eto ni chaifî nn ystyriaeth am bethau y bywyd hwn beri i mi archolli fy nghyd- wybod."

Wedi yr ymddyddan, ymadawodd y boneddwr hcb esmwythâu dim ar y bygythiad, a'r porthor yntau a ddycliwelodd i'w dŷ, ac a fynegodd y cwbl i'w wraig. Hithau a'i cysurodd ef, gan ddyfalu y gofalai rhagluuiaeth am danynt, ac y cyfodai ymwared o le arall.

Yn mhen tua hanner awr, daeth mam y gŵr i mewn, â llythyr yn ei llaw, w«di ei ysgrifenu gan ŵr a gymerasai waith mawr i'w wneyd gan y llywod- raeth, yn Nghaergybi, yn ymofyn am ddwylaw ychwanegol ato. Nid oedd y gŵr hwn yn gofalu pa fath grefyddwyr a fyddai y dynion dano, am y cai ef y gwaith wedi ei wneyd. Fel hyn, gofalodd rhagluniaeth am drefnu Uwybr i'r truan gorthrymedig gael bywioliaeth llawn cystal, os nad llawer gwell, heb gyfyngu dim ar ei ryddid na'i freintiau crefyddol. Cyfaddefodd y boneddwr ar ol hyny, mai Owens, Llandyfrydog ; Lloyd, Maes-y-porth ; a Mrs. .Tones, Henllys, oedd y prif ymyrwyr yn yr achos hwn. Nid y tro cyntaf ydyw hwn yn y byd, nac yn Mon, " i'r penaethiaid ymgynghori yn nghyd yn erbyn yr Arglwydd, ac yn erbyn ei Grist ef. Ond yr Hwn sydd yn preswylio yn y nefoedd a chwardd, a'r Arglwydd a'u gwatwar hwynt. Yna efe a lefara wrtliynt yn ei lid, ac yn ei ddigllonedd y dychryna efe hwynt. Efe a'u dryllia â gwialen haiarn, ac a'u maluria hwynt fel llestr pridd. Gan hyny, yr awr hon, freninoedd, byddwch synwyrol ; barnwyr y ddaear, cymerwch ddysg. Cusenwch y Mab rhag iddo ddigio, a'ch diíetha chwi o'r ffordd, pan gyneuo ei lid ef ond ýchydig. Gwyn eu byd pawb a ymddiriedant ynddo Ef."

LLÂNFAIU-PWLL-GWYNGYLL.

Llawer llan yu Nghymru sydd wedi ei alw ar enw Mair, a chan luosoced ydynt yn y gwledydd, ac weitbiau yn yr un wlad, y mae yn angenrheidiol ychwanegu at yr enw, er mwyn dynodi y Llanfair a feddylir, megys uchod ; a chan amled eu rhif, rhoddir i ni brawf tra amlwg gyraaint oedd y syniad pabaidd am Fair y Eorwyn yn ffynu yn y tir, pan adeiladwyd y llanau. Mae y Llanfair y gelwir sylw y darllenydd ati yn awr, yn gorwedd o fewn dwy neu dair milldir i'r 'gorllewin, neú de-orllewin, o Borth Menai ; a'r capel sydd gan y Methodistiaid yn y plwyf, yn sefyll o fewn ychydig i íin y brif-ffordd sydd yn arwain i Gaergybi o'r Borth.

Nid yw Plas Pen-mynydd, lle y bu WiIIiam Pritchard unwaith yn pres- wylio, a Minffordd, y Ile cyntaf yu Mon a gofrestrwyd gan YraneiIIduwyr i bregethu ynddo, ond ychydig o ftbrdd oddiwrth Llanfair. Yr oedd Hugh GrifRth, Llanddaniel, a Michael Thomas, o'r Garnen, dau o hen bregethwyr

VËîs. VII.] SIR FON. 577

boreu y wlad Lon, yu byw uid yn mhell o'r llecyn hwn. Oddiwrth yr ana- gylchiadau hyu, rhoddir Ue i ni gasglu fod pregethu gan y Methodistiaid yn y fro hon, mewn rhyw fan neu gilydd, er yn gynar ; ond uid yw yr hanes sydd genym am y lle yn peri i ni feddwl fod Methodistiaeth wedi ennill nemawr o dir yn mhlwyf Llanfair hyd ddechreuad y ganrif hon. Pan ddaeth Eisiart Morris i fyw i Lanfair, nid oedd ond ychydig iawu o grefyddwyr yn y plwyf : tua naw, meddir, oedd eu nifer ; a'r pryd hyuy, nid oedd cyf- arfod eglwysig yn cael ei gynal gan yr ychydig bobl hyn, oddieithr pan anfonid atynt, yn awr ac eilwaith, fod rhyw un neu arall yn dyfod i'w cynorth- wyo ; a hwythau a aeut yn wythnosol i'r cyfarfod eglwysig a gynelid ar y pryd yn Llanddaniel.

Ychydig cyn dyfodiad Eisiart Morris i aneddu i'r ardal yr adeiladwyd y capel ; a chasglu yr ydyra mai tua'r fl. 1785 y bu hyny. Nid yw yn ymddangos ei fod ef yn arfer pregethu pau y daeth gyntaf i Lanfair i fvw, ond ei fod wedi bod yn cadw ysgol ddyddiol a nosweithiol, ac yn llafurio fel cenadwr yu yr ardal mewn gwahanol ffyrdd, am ysbaid deng mlynedd, mwy neu lai, cyn iddo gael caniatàd i bregethu. Efe a fu farw, medd ei fvw- graffydd, yn y fl. 1824, wedi bod yu pregethu 30 o flynyddau.

Ymddengys fod mam Eisiart Morris yn wraig grefyddol a moesol iawn, o leiaf, mewn cydmhariaeth i'w chymydogion. Cyrehai yn gyson i'r llan ddwy waith ar y Sabboth, ac yradrechai lawer i ddwyn ei phlant i fyny mewn pob arferion da adnabyddus iddi hi. Ehoddwyd Risiart yn yr ysgol, a dysgodd ddarllen Cymraeg, yr hyn beth nid oedd ond ychydig nifer yn y plwyf yn medru arno y pryd hyny. Ond pan oedd Eisiart yn 13 oed, sef yn y fl. 1762, bu farw ei dad a'i fam dan rym clefyd, a chladdwyd y ddau yn yr un dydd. Wedi coUi ei fam, dechreuodd y bachgen waethygu yn ei foesau yn fuan. Cyrchai, bellach, fel ieuenctyd eraill y fro, i nosweithiau llawen, a hoff oedd ganddo y ddawns a'r delyn, ac ofer gampau yr oes a pharhaodd yn y dull hwn o fyw, hyd nes oedd tuag 20 ml. oed ; eto yn fynych, fe deimlai arteithiau arswydus yn ei gydwybod, nes gwneuthur ei fywyd yn faich iddo. Tua'r adeg grybwylledig, syrthiodd i fath o lewyg, a pharhaodd ynddi hyd dranoeth, a bu yn ddarostyngedig i'r cyffelyb lewygfeydd, o hyny allan, tra fu byw; eto yn llai eu grym a'u parhad. Bu y llewygfeydd hyn yn foddiim, yn Ilaw yr Arglwydd, i arafu ei gamrau ; a dechreuodd ymwasgu, bellach, â'r ychydig grefyddwyr oedd yn Llanddaniel. Yr oedd ar y pryd vn bvw yn Myfyrian-isaf, plwyf Llanidan, ei le genedigol, nid yn mhell o Landdaniel. Derbyníwyd ef yn Ilawen i gymdeithas y brodyr yno ; ac yn fuan, gan faint ei aidd i rybuddio ei gymydogion am eu perygl, dango3ai awyddfryd i bregethu ; ond er na chaniatawyd hyn iddo ar y pryd, eto ymroddai i wneuthur a allai i rwyddhau llwyddiant yr efengyl tiwy foddion eraill. Aeth yn fuan, ar ol ymuno â'r crefyddwyr, oddicartref i wasanaethu. Ymofynodd am deulu crefyddol, lle y gallai gael mwynhau manteision eglwysig ; cafodd le felly yn nheulu Siôn Eolant, Cerig-Ilithir. Dychwelodd drarhefu i'w hen gymydogaeth, a chafodd le gyda'r pregethwr, Michael Thomas, o'r

Ü N

575 HANESIACTH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

CJarneii, ac oddiyno aeth i'w gartref genedigol, a'i iechyd yn lled anmharus.

Pan oedd yn 24 ml. oed, fe briododd, a ch/merodd dyddyn yn mhlwyf Llanddaniel ; symudodd yn fuan oddiyno i Langoed, lle yr arosodd am ysbaid deng mlynedd. Gŵr aml ei brofedigaethau oedd Eislart. Morris drwy y blynyddoedd hyn ; ac felly yr un modd y blynyddoedd dyfodol ; eto yr oedd yn parhau yn ei bertfeithrwydd crefyddol yn nghanol pob adfyd, ac yn cael ei weithio fwy-fwy i dynu ci gysuron o " ffynnon lawer gwell." Ryw- bryd, pan wedi ei ddarostwng i weithio wrth y dydd, arweiniwyd ef, a rhyw nifer o ddynion eraiU, i weithio i ynys Seiriol ; * a thra yr oeddynt yno, dygwyddodd i ystorm gref o wynt godi, yr hon a barhaodd i chwythu dros bum niwrnod, ac mor arswydus oedd y rhyferthwy, fel na allent hwy fyned allan o'r ynys, na neb ddyfod atynt o'r wlad gyferbyn. Nid oedd ganddynt bwythau ddim Uuniaeth gogyfer â'r fath amgylchiad, na dim i'w ddysgwyl yn yr ynys lom. Efe oedd yr unig grefyddwr o'r fintai, a phriodohù ei gym- deithion eu trychineb iddo ef ; ac mor gynddeiriog yr aethant gan newyn a dygasedd, nes oedd yn arswydo bob mynyd am ei hoedL Yr oedd eu cyn- ddaredd a'u rhegfeydd yn ofnadwy. Ond cyn trengu o neb o honynt, a chyn i neb ymosod arno yntau, tawelodd y gwynt, a rhoddwyd iddynt ddiangfa,

Yn fuan ar ol hyn, ac ar gais y gŵr a fu yn brif foddion i adeiladu y capel, symudodd i Lanfair, ac yno yr arosodd ara weddill ei oes. Yr oedd pregethu achlysurol mewn a elwir Dryll-y-bowl, cyn codi y capel, er mai nid Uawer 0 Iwyddiant a fu ar yr achos hyd nes adeiladu y capel. Mawr oedd y gwawd a fwrid ar yr ychydig grefyddwyr yn y lle. Estynent fys at blant Risiart Morris, fel pe buasai rhyw anfad wrthuni arnynt ; ac meddai y naill wrth y llall, " A weli di? dyma blant bach person y cythraul ! " Yr oedd yr inter- ludiau, chwareu cardiau, y ddawns, a'r digrifwch, wedi meddwi y trigolion mewn oferedd, a'u hoff bleser fyddai gwneyd rhyw sarhadneu ddiystyrwch i'r crefyddwyr. Pan y deuai yr ychydig enwau ag oedd yma, tuag 8 neu 9 o rifedi, at eu gilydd i gadw cyfarfod eglwysig, ymgynullai rhyw nifer o'r dir- mygwyr wrth bared y capel i watwar ; a thra yr oeddynt unwaith wrth y gorchwyl rhyfygus hwn, tarawyd un o honynt â barn, fel y camodd, neu yr anífuriodd ei enau, ac ni ddaeth yn union byth wedi hyny. Bu hyn yn hys- bys, meddir, yn yr holl gymydogaeth, ac yn foddion i liniaru gradd ar hyfdra rhyfygus y gwatwarwyr,

Mae agos yn anghredadwy y blinder a brofai rhai o'r crefyddwyr boreuaf oddiwrth eu perthynasau a'u teuluoedd, yn unig o herwydd eu gwaith yn mynychu y cyfarfodydd crefyddol. Yr oedd hen ẃr, o'r enw Hugh Pritchard, yn byw, tua 70 «neu ychwaneg o flynyddoedd yn ol, yn y Depra-bach, cy- mydogaeth Llanfair. Yr oedd yr hen ŵr wedi cael ei ennill i wrando y Methodistiaid, ac yn profi gradd o awdurdod y gwirionedd, yr hyn oedd yn ddolur Ilygaid annyoddefol i'w heu wraig, Dorti. Anhawdd ydyw dychy- mygu pa mor ffyrnig ac ysgeler oedd dygasedd yr hen fenyw tuag at y

Ptiffin Island.

PEN. VII.] SIR FON. 579

penau-cryniaid, a tliuag at Hugli ei gŵr, am y mynai efe fyned i'w gwrando. Deallai yr lieu ŵr fod pregeth i fod mewn rbyw le pell neu agos, a phenderfynai fyned i'w gwrando ; ond rhaid, er mwyn heddwch, oedd cadw ei fwriad yn guddiedig oddiwrth Dorti, a rhaid hefyd oedd ymrithio mewn diwyg an- nhebyg i un yn myned i addoliad, trwy gycbwyn o'r tŷ, yn ei ddillad cy- ffredin, neu heb ffunen (handhe^chief) am ei wddf, rbag i'r hen wraig wybod ei amcan. Dygwyddai, weitbiau, i'r ystryw ddyfod i'r golwg cyn iddo allu myned nepoU oddiwrth y tŷ, ac yn y fan ymaith yr âi hithau ar ei ol, gan fytheirio ei bygytbion, a'i lucbio yn ddiarbed â cherig, nes ei droi yn ol. Yr oedd Ilugh unwaitb wedi dianc i Dryll-y-bowl, i wrando pregeth ; deallodd yr hen wraig i ba le yr aetbai, llanwodd ei ífedog â cberig, ac i ffordd â hi ar ei ol, Nid oedd ond tua deunaw o nifer yn yr oedfa, a hyny wrth dalcen y tŷ, o'r tu alhm iddo. Yr oedd Hugh druan wedi cael hamdden i gilio, cyn i Dorti ddyfod i'r lle, ac ymguddiai yn ngbysgod perthi o ddrain duon, y tu cefn i'r tŷ, fel na elbid yn bawdd ei weled ; eto yr oedd yn ddigon agos i glywed y bregeth. Ond ar waitb yr hen wraig yn dyfod i'r lle, ac yn methu yn ebrwydd a cbanfod y gwrthddrych i arllwys ei dygasedd arno, hi a waeddai alhin, " Pa le y mae yr hen gmf? " pe cawn i hyd iddo mi a'i merthyrwn ef ! " Yr oedd gŵr ieuanc o'r enw William Parry, a'r hwn oedd yn hofîì yn fawr yr olwg a fyddai ar yr hen fenyw yn lluchio ei gŵr, wedi dyfod i'r oedfa, nid i wrando y bregeth, ond i fwynhau y difyrwch crybwylledig ; hwn, wedi deall y lle yr oedd Hugh yn llechu, a'i dangosodd i'r lien wraig, a mawr y difyrwch a fwynhâai wrth weled yr hen ŵr yn cael ei luchio. Ond er maint y gwrtbwynebiad, parhau a wnaeth yr hen ŵr i wrando ; ymunodd befyd â'r ycbydig bobl öeddyn ymgynull yn Dryll-y-bowl. Mynych, meddir, y deuai yr hen wraig yno i'w gyrchu oddiyno ; ymaflaiyn ei wallt, a cliurai ei ben ef yn erbyn y pared ; o'r diwedd, pallodd amynedd gŵr y tŷ, cododd i amddiífyn yr hen ẃr, a rhybuddiodd yr hen Dorti, os byth y deuai hi i'w ef i aflonyddu drachefn, y rhoddid hi yn y fan yn ngafael cyfraith y tir. Mewn canlyniad, bu raid iddi roddi i fyny afionyddu y cyfar- fodydd cyhoeddus, a boddloni ar byny o wrtbwynebiad a tbrahausdra a allai arllwys ar y truan ag oedd nior anífodus a bod dan rwymau i gydfyw â hi, mewn rhyw ddull gwabar.ol.

Oddeutu yr amser y decbrenodd Risiart Morris gynghori ei gydwladwyr yn gyhoeddus, sef tua GO ml. yn o!, dacth un Richard Eyansi'r gymydogaeth i gadw ysgol ddyddiol Gymraeg, fe allai trwy anfoniad Mr. Charles. Yr oedd y gŵr hwn yn ddyn duwiol a Ilafurus iawn gyda'r gorchwyl a osodwyd iddo ; a bu yn dra delhyddiol, nid yu Lbmfair yn unig, ond befyd mewn Ilawer o ardaloedd eraill. Ar ei ddyfodiad i'r ardal hon, aeth ef a Risiart Morris drwy yr ardal i ymweled â phob tŷ, gan erchi ar iddynt ddyfod i'r capel ddwy noswaith o'r wythnos i ddysgu darllen Cyraraeg ; y byddai yn dda ganddynt eu gweled, ac y gwnaent a allent i'w dysgu a'u cyfarwyddo. Llwyddasant hefyd gyda Iluaws o'r cymydogion, ac yn mysg eraili y dyn a fuasai gynt yn gwatwar ; addawodd hwn ddyfod i gadw y drws rhag dim aíîoDyddwch.

580 tlANESlAETIl SlIÌOEDÌ). [l)OSU. lV.

Ehoes y moddion hyn j'sgogiad grymus iawn i'r achos crefyddol, darostyng- odd ragfarn llawer, dysgodd llawer i ddarllen Cymraeg, eaiigwyd llawer ar ddeall yr ieuenctyd, a chwalwyd gradd o anwybodaeth y fro i ffordd. Un tro wedi i Eichard Evans holwj'ddori yr ysgolorion am y pethau a berthynai i lesu Grist yn ei fywyd a'i angau, rhoes y penniU canlynol allau i'w ganu :—

Fe genir yno am y gwaed, Flotiodd feia', Ac am y goncwest t'awr a gaed, Ar Galfaria, Am iddû lynM i lawr i'r bedd, A chyfodi, Fe wclir miloedd ar ei wedd, Yn ei foli.

Ond cyn gorphen canu penniU, torodd y gynuUeidfa allan i waeddi a moliannu, bawb ymron yn y Ue, yn hen ac yn ieuainc ; ac yn yr hwyl y parhausant, rai 0 houynt, hyd ddydd dranoeth, Cyffrodd hyn y gymydogaeth trwyddi ; cododd rhai o'u gwelyau y noson hòno i ddyfod i'r Ue, ac i ymofyn pa beth oedd hyn? Parhaodd yr adfywiad nerthol hwn dros gryn dymhor, nid nemawr Uai na dwy flynedd; a bu yn foddicn i Iwyr ddarostwng yr hen ofer- gampau ysgubwyd hwynt ymaith megys â chenUif,~fel na chodasant eu penau mwyach. Chwauegwyd Uawer at rifedi yr eglwys yn yr adeg yma ; daeth 16 o bobl ieuainc i ymofyn Ue yn nhŷ Dduw yr un noson, a Uawer iawn ar ol hyny. Parhaodd Uawer o honynt yn addurn i'w proffes hyd ddiwedd eu hoes, eraiU a dyuasant yn ol, ac ni rodiasant rawyach gyda'r lesu, a rhai sydd yn aros hyd heddyw. Mae yr achos yn parhau yn siriolyn y Ue hyd y dydd hwn, ac eglwysi cryíìon, megys y Borth a Llandegfan, wedi deiUiaw o hono.

TreuUodd Risiart Morris y 15 ml. olaf o'i oes yn gwbl gyda phregethu yr efengyl, yn ue a gogledd Cymru. Parhaodd yu ei ddefuyddioldeb hyd derfyn ei oes. Y flwyddyu y bu ef farw, bu chwanegiad mawr drachefu at yr e"-lwys; daeth 15 o newydd y noson y claddwyd ef, a 40 eraiU yn ystod y flwyddyn. Llawer o honynt a addefent ddarfod iddynt dderbyn rhyw lesâd ysbrydol trvyy ei weinidogaeth. Bu farw EbriU, 1824, yn 75 * ml. oed.

Mae amrywiol o gynuUeidfaoedd cryfion yn y parth hwn o'r ynys, heblaw y rhai y mae eu hanes genyra. Ni ddaeth dim i law am ddechreuad yr achos yn y Borth, Llandegfan, na Gilead. Dichon mai un aehos o hyn oedd, na ddygwyddodd dim amgylchiadau hynod a tharawiadol yn y Ueoedd h\m, mwy na Uawer o leoedd diwedihir eraiU. Hysbys ydyw, ar yr un pryd, fod Meth- odistiaeth wedi gwreiddio yn ddwfn, a gweithio yn rymus, yn yr ardaloedd uchod ; ac er nad all yr eglwysi hòni hyuafiaeth, neu gychwyniad boreu, cymaint, o leiaf, a rhai manau eraiU yn y sir, eto, mewn Uuosogrwydd, siriol- deb, a dylanwad, y maent o leiaf yn gyfartal i eglwysi boreuach eu cychwyn- iad, os nad ydynt yn rhagori aruynt.

* Mae gradd o anírhysondeb yn y " Cofiant" a roddir o hono. Dywedir ei eni yn y fl. 1749, a marw yn 1824, yn 65 ml. oed ; yr hyn ni all fod.

VEN. VIII.] SIR FON. 581

PENNOD VIII. PRIF LINELLAU HANES Y SIE.

CTNWTSIAD :

Í^RIF GTFNODAU YR HANE3— XODWEDDAU Y CYFNOD CYNTAF— Y CREFYDDWYR CYNTAF— EU HYSBRYD A'U HANFANTEISION— PRINDER A BYCHANDHR Y PRR- GETHWYR— TAI PREGETHU— WILLIAM LEWIS— YR AIL GYFNOD— PREGETH WYK A GODODD— JOHN JONES, BODYNOLWYN— ADEILADU C.4 PELAU— DONIAU PRE- GETHU YN CYNYDDU, AC ERLID YN LLEIHAU— CYFODI YR YSGOL S4BBÖTH0L— Y TRYDYDD CYFNOD— NODWEDDAU Y CYFNOD— Y8GRIFENU YN ERBYN Y METH- ODISTIAID— RHOS-Y-BOL, NEU Y GORSLWYD— TALWRN.

Ymddengys y byddai rhoddi golygiad cyffredinol ar ysgogiadau Methodist- iaeth y wlad hon mewn gwahanol gyfnodau o'i hanes, yn beth dyddorol gaa y darllenydd, ac yn fuddiol iddo allu ffurfio drychfeddwl cywir am fynediad yr achos yn ei flaen. I'r dyben hwn, iii a ddosbarthwn y 110 o flynyddoedd i dri chi/fnod ; y cyntaf yn cynwys tua 40 mlynedd, blynyddoedd mebyd yr adfywiad; yr ail yn cynwys 20 mlynedd, pryd yr oedd Methodistiaeth yn ymgadarnhau yn y wlad, ac yn ymwisgo mewn diwyg trefnusach a mwv rheolaidd; a'r trydydd yn cynwys yr 50 mlynedd diweddaf, yr hwn oedd prif gyfuod ei gynydd a'i Iwyddiant. Dygid yr achos yn mlaen yn y cyfnod cyntaf dan lywyddiad Evan GrifRth, Chwaen-hen, a'i gyd-Iafurwvr, sefy cyntaf o bregethwyr Methodistaidd Mon, íe, yn wir, y cyntaf o breo-eth- wyr ymneillduol o un enw a welodd y wlad erioed ; yr ail gyfuod, dan Iywyddiad John Jones, Bodynolwyn, a'i gyd-oeswyr; a'r trydydd, dan lywyddiad y Parch. John Elias, a'i gyd-lafurwyr yntau. Cyfeiriwyd at y personau uchod, nid am mai ar eu hysgwyddau hwy yr oedd yr achos yn dibynu, ond am fod eu henwau yn fwy adnabyddus fel dynion cyhoeddus a'u dylanwad, yn eu dydd, lawm cymaint a'r eiddo neb arall, os nad vn íwy.

Ymddengys fod i bob un o'r cyfnodau hyn ei nodwedd ei hun, a bod y naill gyfnod yn parotoi y fl'ordd i gyfuod arall, ac yn ymarllwys iddo. Nid oes i neb feddwl, wrth gwrs, fod y pregethwyr, a noddwyr eraill yr achos perthynol i gyfnod, yn dechreu nac yn diweddu eu tymhor oU ar unwaith mwy nag y mae un genedlaeth ; mae y naill yn dechreu yn gynt, ac eraill yn aros yn hwy, ac felly, fel dolenau cadwen, yn cydio y naiU gyfnod wrth y Ilall.

Yr oedd y tymhor cyntaf, sef y cyfnod a orwedd rhwng dyfodiad Method- istiaeth i'r wlad, tua'r fl. 1743, a'r flwyddyn y daeth John Jones, BodvnoI- wyn iddi, fel rhyw wawr boreu gwanaidd a hyfryd. Ar y cyfddydd hwn deffrôdd ambell un, yn ngwahanol gyrau y wlad, yn bur foreu, pryd yr oedd eu cydwladwyr yn cysgu yn drwm. Clywsant yr alarwm o flaen eraill, a cheisiasant ddeffroi eu cyd-genedl ; ond eu cilgwthio a gawsant yn chwerw- dost. Parhau a wnaeth y gwyliedyddion i rybuddio dynion nes deffroi eraill ; daeth y dydd yn fwy goleu, a'r haul uwchlaw y terfyngylch, a minteioedd bychain yn troi allan i weithio. Bellach, cerddodd y syniad yn gyffredinol, ei bod hi weithian yn bryd i ddeffroi o gysgu ; darfu y gwrthwynebiad Uym a

^SÜ líANESlAETII Y SIROEDD. [dOSB. IV.

ddangoswyd ar y cyiitaf, a cliwanegwyd llawer at rifedi y rhai a weithient yn ngwinllan Arglwydd y lluoedd.

Ehy anhawdd fyddai i ni allu nodi, gyda manylrwydd a sicrwydd, amseriad gwahanol symudiadau ; eto, fe ellir gwneyd hyny gyda boddlonrwydd i ateb dybenion cyft'redinol.

Yn y tymhor cyntaf a enwyd, nid oedd ni'fer y IMethodistiaid ond ychydig, ond vr oedd eu hagwedd yn effro a gweithgar iawn. Yr oedd pob un a ddeiîroid yn ymosod at ddeffro arall. Wedi dyfod yn gydnabyddus â'r lesu ei hunan, ymddygai fel y gwnaeth Andreas â'i frawd Pedr, neu fel Philip â Nathanäel, trwy ddwyn ei gydnabod ato. Dywedai y dysgybl newydd agor ei lygaid, wrthbawb a fyddaiyn agos ato, "Deuwch, gwelwch ddyn, yr hwn sydd i mi yn bob peth sydd eisieu ; onid hwn yw y Cri.çt?" Yn y fan y dar- ostyngid ef gan leferydd Mab Duw, torai allan mewn ymofyniad, *' Pa beth a fyni di i mi ei wneuthur?" Wedi profi gradd o awdurdod yr efengyl ei hunan, ymdrechai â'i hoU egni i ddwyn yr efengyl i glyw ei gyraydogion, ae i'w darbwyllo hwythau o'i gwerth.

Y'n y cyfíiod hwn, nid oedd yr un gyfun(h-cfü wedi ei gosod i fyny i anfon yr efengyt i ardaloedd amddifaid ; a phe buasai, yr oedd y llafurwyr nior an- aml, a'r amddifadrwydd mor fawr, fel nad allasai efieithio nemawr, pe buasai un vn bod. Ond nid oedd yr nn, Gadewid i'r achos gerdded yn mlaen trwy ei nerth ei hunan, a tban amddiff'yniad rhagluniaeth y Goruchaf. Mewn amser nad ocdd neb yn rhag-drefuu rhyw gyuUun i anfon cenadau i Fon, anfonodd Duw WiUiam Pritchard iddí ; athrwy hyny, goruwch-lywodraethodd orthrymder y gelyn i hyrwyddo y peth a aracenid ei ddyfetha, ac i wueyd ei hunan, trwy drefniadau rhagluniaeth, y peth nad oedd eto un cyiiUun dynol yn bod i'w ddwyn ef i ben, Pryd uad oedd yr un genad ftyddlon yn yr ardal vn rhybuddio dynion o'u perygl, parodd Y^sbryd Duw i ddarUeniad yr ysgrythyrau gynhyrfu rhai o deulu Thomas Pritchard, Tŷ-gwyn, Lhmgefni, i ymbalfalu am y gwirionedd, ac i brysuro i ddianc. Wedi uuwaith gael yr amnaid Ueiaf fod bwlch bychan wedi ei wneyd yn y castell, a bod gwahoddiad i fvned i mewn, wele Lewis Eees, o Lanbiynmair, á Benjamin Thomas, o'r deheudir, yn cymeryd y cyfleusdra i anturio i'r wlad, a hyny dan ddirfawr berygl. O fiaen erUdigaeth yn Lleyn, ymlidiwyd Hugh Griffith i'r wlad, a ehafodd loches yn nhŷ yr un WiUiam Piitchard fyth, yr hwn, beUach, oedd wedi gorfod symud ei gartref i Bodlew, plwyf Llanidan. Yn y tymhor boreu hwn hefyd, y dychwelodd Richard Thomas i'w wUid, wedigweUa yn ei amíìYlchiadau bydol, ac wedi ei danio â sel dros achubiaeth dynioii, ac yn dechreu pregethu i'w gydwladwyr. Yn y blynyddoedd o 1744-48, deuai ambell un drosodd o wledydd eraiU, i gynoithwyo y ddau gynghorwr ag oedd yn y wlad eisoes. Yr oedd Lewis Evan, a Richard Tibbot, eisoes ar y maes, ac arabeU un o sir Gaernarfon a gyrchai drosodd. Howel Harris hefyd, John Belcher, David WiUiams, a John Harris, a ddeuent yn achlysurol i'r ynys ; y rhai yr oedd eu gweinidogaeth yn Uawn o rymusder, trwy fod yr Arglwydd yn dwyn tystiolaeth i air ei ras. Yr oedd nifer y crefyddwyr yn anilhau dan

PEN. VIII.] SIR FON. 583

weinidogaeth y gwŷr hyn, a Ileoedd agored i bregethu ynddynt yn lluosogi ; a'r achos, er maiut y gwaradwydd a fwrid arno, a'r gwrthwynebiad a wneid iddo, yn ymwreiddio ac yn ymeangu.

Nid oedd, dros lawer o flynyddoedd cyntaf y cyfnod hwn, yr un capel o fewn yr ynys, oddieithr fod y a gofrestrasai William Pritchard yn Min- ffordd yn cael ei gyfrif yn un. Aeth 20 mlynedd heibio o bregethu mewn tai anedd, cyn adeihidu un capel, a elwid yn briodol felly, yn y wlad. Capel Lhmgristiolus, fel yr ymddengys, oedd y cyntnf ; adeiiadwyd hwnw yn y íiwydüyn 17 64', 20 ralynedd a mwy ar ol dyfodiad WiUiam Pritchard i'r wlad. Yn y tymhor hwn, yr oedd nifer o dai agored i bregethu ynddynt ar gael, megys TrefoUwyn, Rwlch-y-fen, Pen-yr-allt, Hen-eglwys, y Fügwyr, cartref WiUiam Thomas Owen, Pentref-l)wäau, Llandrygarn ; y Gareg-gam, plwyf Llanrhuddlad ; Bryn-y-gors-bach, Llangristiolus ; Ty'n-yr-allt, Niw- bwrch ; ac fe allai rai manau eraill. Pregethid hefyd lawer iawn allan yn yr awyr agored, pa le bynag- yr ymddangosai cyfleusdra, ar y ffyrdd, gerllaw y mynwentydd, a'r twmpathau chwareu ; a Uuaws, trwy yr ymosodiadau hyn, a ddygwyd i wybodaeth y gwirionedd, ac i arddel Crist a'i groes.*

Chwanegwyd yn raddol at y ddau bregethwr a enwyd amryw eraill, sef Eichard Jones, Niwbwrch ; Evan Grifíìth, Chwaen-hen ; Eichard Dafydd, y gwehydd ; Richárd Lewis, Mechell ; W^iIIiam Roberts, y crydd ; Eichard Hughes, Coedana ; WiIIlara Lewis ; Owen Thomas, y gôf; a Michael Thotnas, Garnen-wen ; Edward Jones, ac eraill. Yr oedd Evan Grifíith, Chwaen-hen, tybygid, yn cael ei ystyried yn ẃr cyfrifol a phwyllog ; yn bregethwr sylweddo', ac yu meddu cryn ddylanwad yn mysg ei frodyr. Desgrifir rhai o'r hen bregethwyr hyn gau j Parch. Wiiliam Eoberts, Amlwch, yn y modd a ganlyn : " Yr oedd Edward Jones, Pen-y-dref; Oweu Thomas Eowland, a WiIIiara Lewis, fel ser yn tynu at fachludo pan y daethum i ddechreu ymgymysgu â hwynt. Edward Jones oedd ŵr duwiol a dichlynaidd iawn, yn nghyfrif pawb a'i hadwaenent, ac yn gyngborwr dwys a da. Arferai gynghori ei wrandawyr yn benaf trwy gyfeirio at esiamplau duwiolion y Beibl, megys Abraham, Job, Samuel, Moses, Daniel,- ac eraill. Cycliwynai ei ymadrodd trwy ddweyd, ' Yr ydym yn clywed ' am hwn neu arall. O ran ei ddullwedd, ni arddangosai neb fwy o sobrwydd îia'r gŵr hwn.

" Owen Thomas Eowland oedd \\t o gyfrifiad cywir gan bawb a'i had- waenai, ond o ymddangosiad lled erwin a rough. Dangosai ddrycbfeddyliau treiddgar, ondadroddai hwy mewn dull tra diaddurn, a thiwy hyny dangosai mai yr un dyn anghoethedig ydoedd yn awr ag oedd yn ei sefyllfa anny- chweledig, ond ei fod gyda phethau gwell. Weithiau, gyrai ei ddull cyö're- din 0 ddweyd ei wrandawyr i gryn ysgafnder; er hyny, mynych y dychwelai bwy i Iwyr sobrwydd, trwy- gymhwyso ei sylwadau at eu hystyriaethau

* Edrycher y desgrifiad a ddj-rj- y Parch. Peter Williams o'i ^mweliad á Mod, yn r flwyddyn 1746, cjf. i, tudal 117.

584 HANESIAETII Y SIROEÜÜ. [iJOSB. IV.

persouol ; felly yr oedd yn y gŵr hwn lawer o gymhwysderau i rybuddio yr oes y codwyd ef i'w haddysgu, a bu yn fuddiol iawn i lawer o'i gyd- ddynion."

WiUiam Lewis hefyd oedd un o hen gynghorwyr y wlad hon. Y lle yr oedd ei deulu ef yn by w oedd Ty'n-Uwyn, Llanfair-Uwyfo, yn agos i Lysdulag. Cafodd ef, a rhai o'i deulu, eu dwyn i adnabod y pethau a berthynent i'w heddwch trwy foddion Ued annysgwybadwy. Yr oedd ei dad yn amaethwr, ac yn arfer cyflegi dynion i'w gynorthwyo amser cynauaf. Dygwyddodd i ryw ŵr dyeithr crefyddol ddyfod mewn llong i'r ardal, a chyflogi gyda thad William Lewis dros y tymhor prysur hwnw. Catodd y dyeithr-ddyn hwn ganiatâd i gadw gweddi deuluaidd yn nhy ei feistr; a bu hyny yn foddion, dan fendith yr Arglwydd, i beri efteithiau grymus ar y teulu, ac yn enwedig ar feddwl WiUiam Lewis. Ehoes y tro hwn gychwyniad i'w yrfa grefyddol, a pharliaodd i'w rhedeg hyd nes yr ennillodd y garap.

Ymddengys oddiwrth yr adgofion eraill ara dano, ddarfod iddo fyned i ardal Llaiirhyddlad i fyw. Dichon mai yr amíiylcliiad a'i symudodd yno i íyw oedd fod yno i'wy o faiiteision crefyddol nag oedd ar y pryd yn ei fro enedigol. Meddai ein goiiebydd am daiio, " Yr oedd uu WiUiam Lewis yn byw o iewti chwarter uiiliilir i'r capel (Llanrhyddhid). Llafurwr lled isel yn Y l)yd ydoedd ; oiid yr oedd yn aelod eglwysig, a dawn canu mwy na chyff"- redin gaiiddo. ir oedd yn nodedig hefyd am ei ddawn gweddi, mwy na neb yn y gymydogaeth, Aeth y dyn yma yn bregethwr, ac yn y dyddiau hyuy ystyrid ef yn bregethwr hynod dda. Pregelhai yn fynych ryw noswaith yn yr wyihnos, ac ar y Sabbothau hefyd. Nid oedd dim addurn allanol arno ; nid oedd ganddo yr un gôt doú na napcyn gwyn ; pregethai yn yr WYthnos," medd yr hysbysydd, "yn ei droicsus-pais* aihtn garpiau^ a chynydd a Uwyddiant mawr a goronodd ei gynghorion dwysion, a'i sel difiuant. Symudodd o'r ardal hon (Llanrhyddlad) i fro Glasinfryn, ac yuo hefyd y bu eíe farw."

Y'chwanega ein hysbysydd am dano : " Yr oedd y William Lewis yçia ya ddyn gwrol iawn, ac heb ddim 'ofndyn' arno. Cyfarfu unwaith â brawd o bregethwr, yr hwn mewn ymddyddan ag ef a adroddodd iddo y brofedig- aeth a fu arno yn ddiweddar, trwy i ryw ŵr, uwch ei sefyllfa yn y byd na'r cyfl'redin, ei wahodd ef (y pregethwr) i'w dŷ. Yr oedd y boneddwr hefyd, dan rith caredigrwydd, yn medru archolli crefyddwyr trwy fath o wawd trahaus, neu gyfrwysdra bachellaidd. Aeth y pregethwr gydag ef i'w dŷ, ac yn mhen rhyw enyd cyfarchwyd ef gan y gŵr uiawr, ' Yr wyt ti yn breg- ethwr; gâd i mi dy glywed yn awr; y testyn fydd, ^ CylliLl a fffirc T Ar y fath gyfarchiad, ac o herwydd y fath gais, gwywodd y truan o'i flaen, a rhwng gwylder a braw, ni allai prin roddi un atebiad iddo. Pan glywodd WiUiara Lewis am y peth, dywedodd, 'Gwynfyd na chawswn i y cyfle yn dy le ! buaswn yn dangos iddo pa fodd yr oeddyut yn trin yr hen aberthau

* Ccitlen, neu yn ol y Saesneg, Smock-ÍTOck, gwisg uchaf g^^-eithwyr ar y tir.

ÍEN. VI.] SIR FOX. 585

seremoniol gynt, ac yn defnyddio eu cyllül a'u cigwaint tridant. Mi rowswn iddo gyllill a fifyrc, trwy gymhorth !' "

Ymddengys mai nid hir y bu William Lewis, ar ol profi awch y gwirion- edd ei Imnan, cyn iddo ddechreu ei gyhoeddi i eraill, Wedi bod dros ryw dymhor yn trigiauu yn ei wlad ei hun, aeth i drigianu i Adwy'r-Clawdd, ardal gerllaw Gwrecsam, lle yr ynisefydlasai IMethodistiaeth er yn foreu. Nid ydym yn sicr pa bryd y daeth William Lewis i dri^ianu yn yr ardal hon. Bu farw Dafydd Jones, y pregethwr a fuasai yno yn byw o'i tiaen ef, yn y flwyddyn 1774, a sicr ydyw mai ar ol yr amser hwn rywbryd v symudodd William Lewis yno. Nid ydym yn sicr dros ba amser yr arosodd yno cyn dychwelyd yn ol i'w wlad. Pa foddbynag, buyno amryw flynyddau, ac nid oes betrusder na fu yn dra defnyddiol yno, ac mewn lleoedd eraill vn y parth hwnw o'r wkd. Deallwn hefyd fod WiUiara Lewis wedi aros ryw gymaint o amser yn Ninbych cyn myned i'w hen gartref ; '"a dywed y tra- ddodiad, mai yn y flwyddyn 1798 y gadawodd efe dref Dinbych ; ac os felly, dychwelodd i'w wlad tua blwyddyn cyn i'r Parch. John Eiias fyned yno i gartrefu.

Cyfrifid W^iUiara Lewis, yn ei amser, yn un o'r pregethwyr enwocaf a feddai Mon. Yr oedd ganddo nerth corfforol tra mawr, a llais anarferol o rymus ; ac nid hyn oedd y cwbl a feddai, ond yr oedd yn llawn gwres a difrifwch, penderfyniad, a gwroldeb. Yr oedd hefyd yn llawn mwy o ath- rawiaethwr na llawer o'i gydoeswyi*. Medd Mr. Roberts, Amlwch, am dano, "Yr oedd Wiüiam Lewis yn ẃrcadarn a nerthol ; profodd driniaethau llyraion yn ei ddychweliad at grefydd ; ac wedi ei alw i bregethu, cyrhaedd- odd enwogrwydd mawr yn fuan ; enwogrwydd na allai y sawl a'i clywsent yn mhrydnawn ei fywyd yn unig, ddeall pa fodd y'i cyrhaeddasai. Teimlodd deau a gogledd Cymru rymusder ei weinidogaeth ; îe, perchid ef yn fawr gan Eowlands, Llangeitho, Dafydd Morris, a holl enwogion y deheubarth, yn ei ddydd." Mae yr ysgrifenydd hefyd yn cofio ei glywed yn preo-ethu imwaith tua'r flwyddyn 1813. Yr oedd ei lais y pryd hyny wedi tori, a gosodai penwyni arno wedd henafgwr yn tynu at 80 mlwydd oed. Deallwn iddo farw yn ardal Glasinfryn, Mon, yn y flwyddyn 1821, a chladdwyd ef yn mynwent Llanfair-llwyfo, sef yn y plwyf y ganesid ef.

Nodwedd arall ar y cyfnod hwn, neu ar y rhan fwyaf o hono, oedd, fod y wlad hon heb un cyfarfod misol ynddi. Crybwyllasora o'r blaen, yn hanes Aberfl"raw, am ddywediad GriflSth Edward, o'r Clafdŷ, ei fod yn hŷn na chyfarfod misol sir Fôn. Oddiwrth y dywediad hwn, cesgh'r nad oedd yn Mon yr un cyfarfod misol yn y flwyddyn 1779 ; ond barna eraill mai nid cywir y syniad hwn. Fe allai mai syniad yr hen frawd a enwyd oedd, ei fod yn hynach fel dyn, ac nid fel diacon, na'r cyfarfod misol ; os felly, rliaid i ni fyned tua 18 mlynedd yn mhellach yn ol na'r adeg grybwylledig ; ac er fe allai nad oes sicrwydd i'w gael, o ddiffyg cyfnodau awdurdodedig, am sefydliad y cyfarfod misol yn y wlad, eto tueddir ni i farnu, oddiar amrywiol ystyriaethau, mai ar ol y flwyddyn 1760, yn hytrach uag o'i blaen, y rhodd-

5Sf) HANESIAETH ¥ SlUO^UD. [iJOSB. IV.

wyd cychwyuiad iddo. Ar y dechreuad cyntnf, nid cedd priu ddefnyddiau i'w ífurfio, na gwaith yn galw am dano. Aeth yr ugain mlynedd cyntaf heibio heb adeih;da un capel ; ac am yr ychydig gynghorwyr ag oedd yn y wlad, nid oedd yuddynt neraawr gyinhwysder i ffurfio dim o'r fath; a phrin y buasai eu nifer yn cael ei ystyried yn ddigonol i'w galw ynghyd. Cry- bwyllir, pa fodd bynag, am gymdeithasfa, y gyntaf, meddir, yn y wlad hou, yn cael ei chynal yn ysgubor Chwaen-hen, plwyf Llantrisant. Nifer y brodyr a ddaeth ynghyd y pryd hyny o bob gwlad, gogledd a de, oedd 12! Pa bryd oedd hyu, niddywedir; ond gellir dyfalu ei fod ryw enyd bach cyn adeiLìdu y capel cyntaf yn Llanrhyddlad ; ac nid llawer cyn hyny chwaith, gan y dywedir fod Eobert Jones, gynt o Ehoslan, ynddi. Y mater a fu dan svlw y brodyr yii eu cyfarfod neiUduol y pryd hyny, oedd, ' A oedd pob un gwir argyhoeddedig gan Ysbryd Duw yn gwybod ei fod felly gyda sicrwydd? ac vn gwybod hefyd pa bryd, a thrwy ba foddion ?' Dywedai amryw yn y cyfarfod yn gadarnhaol ei fod, ond Roberl Jones a safai dros y gwrthwyneb. Ar hyn, bu dadl hirfaith iawn, hyd hanner nos neu bellach. Ni allai Eobert Jones fod y pryd hyny ond dyn ieuanc, ac y mae yn debyg iddo oifod sefyll, ar hyn o bryd, yn erbyn amryw henach nag ef ei hun.

Yn y cyfnod hwn hefyd y profwyd mwyaf o erlid a gwawd. Yr oedd pob ffurf 0 gieíydd ond yr un wladol yn gwbl ddyeithr i ynys Mon ar y pryd. Yr oedd anwybodaeth perffaith, ymron, yn gordoi y v,-erin, a hawdd, gan hyny, oedd cyffroi eu rhagfarn yn erbyn pwy bynag a ymosodai ar eu hen arferion. Gellid dysgwyl hefyd y byddai llawer o'r ofteiriaid yn flin gan- ddynt fod dynionach diddysg yn cymeryd arnynt orchwyl a berthynai yn unig i'w gwell. A hawdd ydyw dyfahi y gwnaent eu goreu i gyffroi rhag- farn y werin, ar un llaw, a gwithwynebiad y boneddwyr, ar y llaw arall, yn erbyn yr ysgogiad. Eto, bu Uai o erlid a baeddu ftyrnig nag a allesid ddys- gwyl, wrth ystyried fod y wlad mor llwyr yn meddiant yr ofteiriadaeth. Fe ddichon fod yr amddift'yniad a gafodd Wiiliam Pritchard drosto, trwy i ddynion o ddylanwad mewn gwlad arall gymeryd ei blaid, ac erlyn ei erlid- wyr, fel y bu gorfod ar rai o honynt ymadael â'u gwlad rhag ofn, yn foddion i ddofi gradd ar ffyrnigrwydd y creuloniaid. Gwelsom hefyd ddarfod i Mr. Bulkeley o'r Brynddu estyn ei aden dros y dyoddefwyi', a bygwtli y mynai efe weled crogi un dynan a wnaethai ei hun yn hynod fel erlidiwr a baeddwr dyn gwell nag ef ei hun.*

Am y pregethwyr eraiU ag oedd yn cydoesi ag Evan Grifläth, nid oes genym ddim hanes, sef, Eichard Hughes, (Joedana ; ilichard Lewis, Mechell; Michael Thomas, Garnen-wen ; Owen Hughes, Cefn-y-dderwen. Yr oedd y gwŷr hyn, ueu y nifer amlaf o honynt, yn perthyn i'r cyfnod cyntaf, gari mai yn hwnw y treuliasant y rhan fwyaf o'u Ilafur, er i amryw o honynt gyrhaedd y cyfnod canlynol.

* Gwel hyn jn hanes Llanfechell.

PEN. V1IÍ.J SIR PON. 587

Vr AiL Gyfnod. Yr ydym yn edrych ar hwn yn dechreu gyda'r amser yr aeth William Lewis allan o'r wlad, ac y daeth John Jones, Bodynolwyn, i mewn iddi, tua'r flwyddyn 1780. Gwahaniaethai y cyfnod hwn oddiwrth yr un o'i flaen, trwy fod Methodistiaeth yn ymflurfio i wedd mwy rheolaidd a threfnus cyfarfodydd misol yn cael eu cynal capelau yn cael eu hadeil- adu rhagfarn y bobl gyfifrediu, a gwrthwynebiad y boneddwyr, yn Ueihau. Ar ddechreu y tymhor hwn, nid oedd ond ychydig o gapelau wedi eu had- eiladu; yr oedd un yn Llangristiolus er's blynyddoedd; yr oedd un yn Amlwch, a chapel "Huddygl" yn AberS'raw. Yr oedd capeli bychain yn Llanrhyddlad a Niwbwrch ; un arall yn Nghaergeiliog, neu yn fuan ar ol dechreu y cyfuod hwn, ac adeilad wedi ei drefnuso yn addoldy yn Nghaer- gybi. Dichon hefyd fod capel Llanfair wedi ei godi yn y tymhor hwn.

O'r flwyddyn 1780 hyd 1800 y cododd amryw bregethwyr eraill yn Mon, megys Owen Owens, Amlwch ; John Edwards, Tre'r-dryw ; Tliomas Jones Manuel Evans, a Eichard Morris, Llanfair. Ystyrid Mr. Jones, Bodvnol- wyn, yn cadw lle mawr yn mhlith ei frodyr. Cyfrind ef yn enwog mewn cywirdeb fel cymyuog ac fel cristion ; arferai y gair garwaf yn mhienaf, ond odditan gerwinder ymddangosiadol, llochesai deimladau tyuer. Dywedir ei fod yn un o'r dynion mwyaf ei hynawsedd at y truan a'r gorthrymedig. l^r oedd ei lais fel pregethwr yn groch a soniarus, ac ymgasglai torfeydd lluosog i'w wrando. Tua diwedd ei oes, ac wedi i Lloyd, Beaumaris, ac Elias, ddod i'r golwg, byddai ei lygad yn y cyfarfodydd misol arnynt hwy, am eu barn a'u cyfarwyddyd ; oud efe fynychaf a osodai y mater gerbron, ac efe a wnai hyny mewn dull cadarn iawn dull y gellid casglu oddiwrtho, mai prin yr oedd yn bosibl iddo gamsynied.

Yn ei ddyddiau ef hefyd yr adeiladwyd cryn nifer o gapelau yn y wlad ; ond fe safodd yn gryf yn erbyn eu codi dan ddyled. Dy wed un gohebydd, " y byddai yn rliuo fel llew yn y goedicig" yn erbyn rhoddi dyled ar y wlad ; ac fe ymddeugys ddarfod iddo Iwyddo yn yr amcan hwn tra y rhoddwvd iddo fyw, ond wedi iddo farw, fod y wL'idyn fuan wedi ymsuddo i ddyledion trymion, trwy godi adeiladau newyddion, a thrwy lielaethu y rhai hen. Ar ryw gyfrif, yr oedd hyn yn destyn llawenydd ; nid ara fod dyled, ond am fod y cynulleidfaoedd yn cynyddu, a drysau newyddion yn ymagor, a gwaedd uchel yn cyfodi o bob cwr, "Dod le i mi, fel y preswyliwyf;" eto y mae yii bosibl fod rhy fychan o wyliadwriaeth, rhy fychan o ragddarbodaeth, a rhy fychan o arolygiaeth yn yr achos hwn, fel ag i ychwanegu y ddyled yn Uawer mwy nag a fuasai raid. Ac fe ddysgwyd cymaiut oddiwrth benbleth am- gylchiadau dyledog capehm, ag yr ymosodwyd yn egijiol, mewn tymhor diweddarach, i ddileu y ddyled yr aeth y tadau iddi, ac i benderfynu na chai vr oes nesaf ddim sail i achwyn ar yr un a'i blaenorodd am osod arnynt faich o'r natur yma rhy drwm i'w ddwyn. Yn hyn, fe wnaeth y brodyr yn Mon yn ganmoladwy iawn.

Bu farw Mr. Jones yn nghanol ei ddyddiau, cyn fod henaint nac un pall

Ö88 HANESIAETH Y SIROEDD. [DOSB. IV.

wedi gwywo dim ar y cyraeradwyaeth oedd iddo, uac anmliaru dim ar ei ddefnyddioldeb.

Yn y cyfnod hwn hefyd yr oedd Mr. Jones, Llangan ; Robert Eoberts, Clynog ; Mr. Charles, o'r Bala ; Mr. Richardson, Caernarfon ; a Mr. Jones, DinbYch, yn liewyrchu ; a chan yr yrawelent oll yn eu tro â gwlad Mon, a rhai o honynt, gan raor gyfagos yr oeddynt yn preswylio, a gyniweirient yn fynych iddi, gweinidogaeth y rhai a ddefnynai fel gwlaw ar y ddaear, fe adfywiodd Methodistiaeth ynddi yn gyfatebol'. Yr oedd y cyfarfodydd misol a chwarlcrol yn dra choronog gan arddeliad y nef ; a diwygiadau grymus yn tori allan mewn gwahanol barthau o'r tir, nes oedd gwedd siriol ar y gwaith, wrth a welsid erioed o'r blaen. Yr oedd Seion yn llawen-fam pjant.

Yn y cyfnod liwn y cychwynodd yr ysgol Sabbothol. Gwir ei bod yn ystod yr 20 mlynedd cyntaf ar ol ei chychwyniad boreuaf yn wanaidd ac eiddil ; eto yr oedd tua diwedd y ganrif ddiweddaf wedi dechreu ymwreiddio yn y tir ; yr oedd ei gwerth wedi dechreu dyfod i'r golwg, ei goleuni ya dechreu chwalu y tywyilwch a orchuddiasai y wlad er ys oesoedd, a'i dylan- wad yn ymlid ar ífo yn brysur yr hen ofer-gampau ynfyd yr oedd y teidiau diniwaid (!) yn ymhyfrydu cymaint ynddynt. Ymwelodd yr Arglwydd â gwahanol ranau o'r wlad ag adfywiadau grymus iawn ; ond nid yr un, tybygid, mor gyft'redinol a nerthol a'r un a gyraerth le tua diwedd y ganrif ddiweddaf.

Gwelodd diwedd y ganrif 170Ü ddynion nodedig ar faes Methodistiaeth vn Mon, yn enwedig yn mhlith yr henuriaid. Rhagorent lawer yn eu gradd a'u swydd ar y pregeíhwyr yn eu gradd a'u lle hwythau. Cyn dyddiau Elias, nid oedd cymhwysderau pregethwyr Mon ond prinion, niewn cydmhar- iaeth, oddigerth un neu ddau ; ond yr oedd yn y wlad henuriaid rhagorol, megys Richard WiUiams, Pentre-bwäau ; Thomas Williams, Pwll-yr-hwyaid ; Owen Jones, Cwyrt ; John Hughes, yr Allt ; Griffith Edwards, Clafdŷ; Robert WiUiams, Llangefni ; Owen Lewis, Eferam-isa ; Thomas Owen, o'r Olgra; John Thomas, Llanfwrog ; Edward Elias, Plas-y-glyn, ac amryw eraill. Yr oedd presenohleb y gwŷr hyn mewn cyfarfodydd misol yn peri calondid tra mawr i'r sawl y byddai awenau yr achos yn eu dwylaw ; ac yr oedd dylanwad eu cymeriad yn y whid yn fath o gysgod i achos crefydd yn mhlith y Methodistiaid yn yriys Mon.

Cyn y tymhor yr oedd y gwŷr uchod yn blodeuo, yr oedd yr achos crefyddol yn cael Uawer o swcr gan wragedd hynod o ran crefydd, synwyr, a medrusrwydd. Yr oedd hyn, gan mwyaf, pan oedd Methodistiaeth yn fahan ; ond wedi iddo dyfu, rhoddwyd ef yn fwy i ofal y tadau.

Yr ydym yn awr yn dyfod at y Trydydd Cyfnod yn haues y sir. Yr ydym yn bwrw fod y cyfnod hwn yn dechreu gyda dechreuad y ganrif bres- enol. Hwn ydyw cyfnod cynydd mawr Methodistiaeth yn Mon. "Pan ddaethum," ysgrifena Mr. Roberts, Amlwch, " i berthynas â chyfarfod misol sir Fon, fwy na deugain mlynedd yn ol, yr oedd yn perthyn i'r cyfundeb yn y wlad hon 24 o gapelau ; pa rai sydd, erbyn heddyw, wedi eu hail-hadeiladu oll ond tri, a thybygaf fod yn y wlad 27 neu 28 o gymdeithasau eglwysig y

PEN. Vin.] SIU FON. §8v>

pryd hwnw, ac felly yr oedd amryw o honynt yn ymgynull mewn tai auedd neu mewn ysguboriau; erbyn hyn, y raae nií'er y capelau a'r cymdeithasau yn 51, a 13 o ysgoldai heblaw hyny ; yn y rhai hyn oU fe bregethir gair y bywyd ar ddydd yr Arglwydd, oddigerth uu neu ddau."

" Oddeutu y fl. 1800," medd yr un gvvr, "yr oedd pregethu yr efengyl wedi darostwng rhagfarn y trigolion yn lled Iwyr, oddieithr ychydig eithriaid, a hyny yn mhlith rhai gwŷr mawr a gwŷr eglwysig. Oddiwrth yr ychydig uifer yraa, fe gododd erlidigaeth go chwerw yn rhyw barthau o'r wlad, ond dybenodd hyny yn fwy er darostyngiad ar yr erlidwyr, nag o rwystr i achos crcfydd."

" Yr oedd hefyd hen arferion paganaidd a phabaidd yr oesau o'r blaen ar Iwyr ddiflanu, fel na chlywid, bellach, sou am nosweithiau i ddawnsio neu i chwareu cardiau ; yr oedd ymladd ceiliogod, interludiau, a chwareu pel, troed neu law, ar ddydd yr Arglwydd, wedi cywilyddio allan o olwg, heb fod neb, ymron, a'u harddelwai. Eto nid oedd yr ysgol Sabbothol yma ond yn ei mabandod ; dau neu dri, mewn eglwys, a geid i fod yn athrawon ; ychydig hefyd a geid iddynt i'w dysgu ; ond yr oedd y iiifer fwyaf o'r aelodau eglwys- ig, ac eraiU lawer yn cyrchu yn lluoedd o'r naill gẁr i'r wlad i'r Uall i ẃrando pregethau, yn enwedig, pan y byddai cyhoeddiad rhyw rai a gyfrifid yn fwy eu henwogrwydd nag eraill, yn eu cyrhaedd. Dysgwylient am adegau o'r fath gyda syched rhyfeddol cyn eu dy*"od, ac ymddyddanent am dauynt ar ol iddynt basio, gyda hyfrydwch anghydraharol." ^

KIIOS-Y-BOL, NEÜ Y GORSLWYD.

Mae y Ue hwn yn gorwedd o fewn dwy neu dair milldir i Lanerchymedd ar y ffordd i Amlwch. Mae yma gapel da a chynuUeidfa luosog, eto nid ymddengys fod yr achos yn y Ue hwn yn hen iawn, gan y dywedir nad oedd yma yn y fl. 1781', onid un ferch yn proftesu crefydd, sefEUen Prilchard, o'r Glas-grug-isa', yr hon, ar y pryd, oedd yn aelod yn Amlwch. Yn fuan ar ol yr adeg grybwylledig, daeth un Richard WiIIiams, yr hwn oedd yn aelod yn Lledtroed ar y pryd, i'r Glas-grug-bach i fyw. Nid oedd yr ardal, ar y pryd, oud anaml ei thrigolion mewn cydmhariaeth, ond tua'r fl. 1791 rhan- wyd dwy fterm yn y gymydogaeth yn fân dyddyuod, a'u gosod dan leases i'r bobl godi tai arnynt, a pharodd hyn luosogiad rhyfeddol ar y trigolion. Y cyntaf o'r dyfodiaid hyn yn proftesu oedd un John Pritchard, yr hwn a ddaeth yma o Lanerchyraedd, a pharodd ei ddyfodiad, er Ileied ynddo ei hun, gryfhad yn meddyliau y ddau eraiU i geisio cael pregethu i'r ardal. Felly cymerasant anedd i gynal pregethu ynddo ; a gelwir y hyd heddyw yn Gapel-bach.

Cryfhaodd yr achos, bellach, yn gyflym, a llwyddodd i'r fath raddau nes aeth y Capel-bach yn rhy fychan. Bellach, yr oedd dau o feibion Ellen Pritchard, John a WiIIiam, ynghyda Thomas Jones, Pen-gwydd, a WiUiam Jones, o'r Gaer, wedi cydosod eu hysgwyddau dan yr arch. Eto níd hir y

590 HANF.SIAETJI Y SÍROEDH. [DOSB. IV.

bu yr achos \n ymwisgo fel byn â llwyddiant, cyn i awel gref o wrthwynebiad ymosod aruo. Adeiladwyd capel ar ryw ran o'r tir ag oedd wedi ei ddos- ranu ; ond, trwy ryw amryfusedd neu gilydd, cafodd rhagfarn fantais i godi gwrthwynebiad. Dan ddylanwad rhyw wŷr eglwysig, meddir, gorchym- vnodd boneddwr yr oedd y cyfryw awdurdod yn ei law, dynu yr adeilad i lawr. Ac i lawr y tynwyd y capel a chludwyd ei ddodrefn, sef y pulpud a'r eisteddleoedd, i fynydd Paris, a gwnaed cais ar eu gwerthu mewn arwerthiad cyhoeddus. Ond pan oedd yr arwerthwr yn eu gosod i fyny i'w gwerthu, daeth amaethwr, yr hwn oedd yn byw yn y gymydogaeth, yn mlaen, ac a waedd- odd yn groch, " Gwyliwch, bobl, a chyraerwch ofal ar eich hoedlau, na chy- ffyrddwch â llestri y deml ; ■cofiwch Belsassar ! " Ar hyn, dyrysodd yr arwerthiant, am na cheid neb a'u prynai, a gadawyd hwy i bydru yn y lle. At yr amgylchiad gofìdus hwn y cyfeiria Mr. Eoberts yn yr ysgrif o'i eiddo a roddasom uchod.

Yr oedd yn byw yn y gymydogaeth ŵr crefyddol, ond lled isel ei amgylch- iadau ; hwn a eiddigeddodd dros achos yr efengyl, wrth weled y difrod a wnaed, a phenderfynodd wneyd a allai tuag at wneuthur y camwri i fyny. Ei enw ydoedd Richard WiUiam Meredith. Hwn a ddaeth at un Mr. Williams, Treban, a chaibdd ganddo le i adeiLndu capel arall. Yr oedd anhawsder ar- a!l yn ei gyfarfod wedi cael tir, sef pa fodd y ceid cerig? Nid ellid dysgwyl y gymwynas gan y gŵr a orchymynasai dynu y capel arall i lawr. Ofnid ^n fawr na cheid mo'r ffafr gan foneddiges arall, yr hon a allai, os mynai, symud yr anhawsder hwa oddiar y ffordd. Cafodd Eichard WiUiara Meredith gan un 'Mr. Williams, siopwr o Lanercliymedd, fyned gydag cf at y wraig foneddig, sef Mrs. Llwyd, o Lwydiarth, ac wedi adrodd iddi ei drallod, a gofyn ei hynawsedd, efe a gafodd ei ddeisyfiad.

Bellach, ymosodwyd at gcdi yr adeilad newydd yn ddioed. Un diwruod, pan oedd bachgen Henry Jones, o'r Pwll-coch, yn cario cerig ato, cyfarfu y goruchwyliwr ag ef, a gofynodd, " I ba le yr wyt ti yn cario cerig ? " "I adeiladu capel newydd, syr, yn Ile yr un a dynasoch chwi i lawr," oedd yr ateb. íiodclefodd Ilawer o'r brodyr erlidigaeth dost tua'r adeg y collwyd y capel, ac yr adeiladwyd y newydd. Colynwyd y gwrthwynebwyr yn erchyll gan y gwarthrudd cyffredinol a dynasent arnynt eu hunain, a chan y siomed- igaeth a'u cyfarfu yn eu hamcan, fel y dangosent lawer o barodrwydd i wasgu ar bawb o bleidwyr y Methodistiaid pan y rhoddid iddynt gyfleusdra, gan yr edrychent arnynt fel gwrthwynebwyr. Cafodd y crybwylledig Jobn Pritchard yr hwn a ddaethai i'r ardal hon o Lanerchymedd, ei dynu gerfydd ei glust o renc y Tolenteers yn Amlwch, am iddo esgeuluso dod yno y Sabboth i fyned i'r eglwys. Y rheswm a roddai y boneddwr a roes y sarhad hwn arno dros ei ymddygiad oedd, " Yr wyf yn deall dy fod ti yn un o ddysgyblion y pro- ffwyd Ebas." Yr oedd hyn tua declireuad y ganrif bresenol.

Mae yn ymddangos mai Iled isel a fu j'r achos yn y capel newydd dros rai blynyddau ; ac i hyn wasgu cymaint ar feddwl Eichard Williams, Glas- ííiug-bach, nes iddo fyned at Mr. Elias i Lanfechéll, i roddi pob beth i fyny

PEN. VIII.] SIR FON. 591

allan o'i ddwylaw, fel un wedi llv,'yr ddiffygio gyda'r gwaith, ac wedi digal- oni gweled, Uwyddiant arno. Ond yn y íl. 1811-12, wedi liirnos dywyll, torodd gwawr ar yr achos, a cbwanegwyd nifer mawr at yr eglwys. Ni fu dim ymweliad neillduol ar yr achos wedi hyn hyd y fl. 1822. Y flwyddyn hon, cynaliwyd cyfarfod misol yn y ; a chan fod y gynulleidfa yn Uawer mwy nag a gynwysai y capel, cynaliwyd y moddion cyhoeddus ar y niaes gerllaw y capel. Yr oedd adfywiad neiUduol y fiwyddyn hòno, ymron, trwy yr hoU wlad, a bu y cyfarfod misol yn foddion arbenig i ddwyn y cyfiFelyb adfywiad i gynuUeidfa y Gorslwyd. Torodd ugeiniau aUan i lefain, fel rhai wedi eu dwysbigo _\ii eu calonau, ac i ymofyn yn bryderus, "Beth a wnaent i fod yn gadwedig."

Eibynhynyr oedd y capel yn rhy fychan. Oherwydd eigodi gan dlodion, a hyny mewn adeg o gyfyngdra, nid oedd ar y gorau ond gwael yn gystal a .bychan, ac wedi ei wneuthur yn y modd, ac o'r defnyddiau Ueiaf eu cost. Un Sabboth wedi yr adtywiad crybwylledig doriallan, pan oedd y gynuUeidfa yn y Ue a'r gweinidog yn pregethu, rhoes y ddylath ar ei draws glec uchel, nes yr ofnodd y pregethwr a'r gwrandawyr fod nen y capel ar syrthio arnynt. Parodd yr amgylchiad hwn argyhoeddiad trwyadl ei bod yn Uawn bryd chwalu yr adeilad ac adeiladu capel mwy a chadarnach yn ei le. Hyn hefyd a wnaed yn y fl. 182 7.

Tua'r fl. 1849, bu chwanegiad mawr drachefn at yr eglwys, pryd y daeth tua 50 0 rifedi i ymofyn am aelodaeth eglwysig. O hyny hyd yn awr, y mae gwedd gysurus ar yr achos, a nifer yr aelodau yn 120.

TALWRN.

Yn yr ardal hon y preswylia y Peirchn. John Prydderch a Cadwaladr WUUams ; y mae yn gorwedd o fewn ychydig fìUdiroedd i Langefni yn nghyf- eiriad Beaumaris. Nid yw Methodistiaeth ddim yn hen yn yr ardal hon ; a chyn ei sefydliad, pryd nad oedd gwirioneddau yr efengyl yn cael eu preo-- ethu, nac ysgol Sabbothol wedi ei chodi, yr oedd trigolion yr ardal hon, fel preswylwyr cymydogaethau ymddifaid eraiU, yn isel eu moesau, a phob math 0 ofer-gampau, ac anfad arferion mewn llawn rwysg ar y Sabbothau.

Y modd y dygwyd Methodistiaeth i'r ardal hon oedd, ddarfod i rai teulu- oedd ag oedd mewn undeb gael eu symud gan Ragluniaeth, o ardaloedd eraiU, i'r gymydogaeth i fyw. Gan fod pedair milldir o flbrdd gan y teulu* oedd hyn i'w cherdded cyn y gaUent gael eu breintiau crefyddol ; daeth ar eu meddyliau wneuthur cais ar gael pregethu i'w cymydogaeth newydd, mor aml ag y gallent. Llwyddasant hefyd yn eu cais, a chafwyd oedfaon achlysurol i'r ardal y rhai a gyneUd, weithiau mewn tai anedd, ac weithiau yn yr awyr agored. Yr oedd hyn tua'r fl. 1798. Yn mysg eraiU daeth y Parch. John Elias yn y fl, 1799 i bregethu i'r ardal. Nid oedd, ar y pryd, ond dyn ieuanc, 25 ml. oed, a'i weinidogaeth yn gwreichioni yu danbaid iawn. Pregethodd y tro hwn ar y geiriau, "O herwydd na wneir barn yn erbyn gweithred

593 HANESIAETU Ÿ SIROEDÜ. - [DOSB. IỲ4

(ìdrwg yu fuan, am hyny calon plant dynion sydd yn llawn ynddynt i wneuth- ur drwg." Yr oedd ei weinidogaeth ar y pryd yn nerthol iawn, ac eífeithiodd i beri dychryn of'nadwy ar araryw o'r gwrandawyr. Tua'r un amser hefyd sefydlwyd ysgol Sabbothol yn y fro. Cychẃynwyd hon mewn amrywiol dai anedd yn eu cylch, ond buan y cynyddodd gymaiiit mewn rhif, nad oedd un anedd yn ddigon eaug i gynwys eu deiliaid ; a bu gorfod eu chynal allan "yn nghanol yr eithin mân a'r gnig," pan y byddai yr hin yn caniatâu.

Pan y clywodd y diweddar Mr. John Jones, gynt o üre-y-dryw, am yr anghyfleusdra yr oedd yr achos ynddo ynyTalwrn, cafodd ar ei feddwlroddi hanner erw o dir, sef rhan o dyddyn oedd yn feddiant ganddo yn y gymyd- ogaeth, yu anrheg dros byth i'r achos, i adeiladu capel arno, yn nghyda £10 0 arian i ddwyn yr adeilad yn mlaeu. Fel hyn, rhyddhawyd y ffordd i gael addoldyymron heb ei ddysgwyl, a hyn a fu yny fl. 1805. Rhoes adeiladiad y capel ysgogiad grymus i'r gwaith yn ei tìaen. Daeth Illiaws y gymydog- aeth i wrando iddo, ac ymunodd y mwyafrif â'r ysgol Sabbothol ; ond nid oedd ond 12 neu 15 eto yn aeh)dau eglwysig. Nid hir, pa fodd bynag, y bu y gymydogaeth heb arwyddion hylryd fod Ilaw yr Arglwydd yn gorphwys yn y lle. Ar amrywiol adegau fe dd ug yr Arglwydd dystiolaetb i air ei ras, nes oedd nifer y dysgyblion yn amlhau o bryd i bryd ; yn enwedigol yn y fl. 1813, bu yma adfywiad gryraus iawn, yr hwn a barhaodd yn ei sirioldeb am ysbaid dwy flynedd. Cliwanegwyd y pryd hwn at yr eglwys oddeutu 60 o rifedi, ac ni wrthgiliodd o honynt, meddir, ond un mab a thair merch. Yn y fl. 1852, ail-afleiladwyd y capel i'r maintioli presenol ; ac erbyn hyn y mae yn pertliyn iddo nid Ilai na 150 o aelodau eglwysig.

Yn nechreuad y ganrif hon hefyd, yr yraddangosodd, am y waith gyntaf, draethodau argraHedig yn erbyn y Methodistiaid yn neillduol, ac yn wir ya erbyn ymneillduwyr yn gyffrediiiol. Awdwr y traethodau hyn oedd, Periglor Llaiidyfrydog, Mon.* Ysgrifenwyd y cyntaf f yn Saesonaeg, a'r Ihill + yn Gymraeg. Yr olaf hwn a ysgrifenwyd drachefn yn Saesonaeg.

HoU gynwysiad y traethodau hyn ydyw cais haerllug i osod i fyny yr hen ffol-ddychymyg o " Olyniad Apostolaidil,^' a haeru mai yn ngweinidogion yr eglwys wludol yn unig y mae yr olyniad hwnw yn gorwedd ; mai i'r es- gobion meitrog, yr arglwyddi mein-we-lhiwesog, ýn unig yr ymddiriedwyd yr awdurdod hwn ; ac inai Ua.lron ac ysbeilwyr ydyw pawb na ddelo i mewn drwy y drws hwn. Oddiary sail hon, y mae yn hòni nad oes gan neb hawli bregethu yr efengyl ond offeiriad y plwyf, ac mai sismaticiaid ydyw pawb er- aill. Gydag ysgrifell wedi ei throchi mewn bustl, y mae yn peiityru enwau drwg ar ddynion cyfiawnach nag ef ei hun, ac yn arddangos gwenwyu ei ysbryd trwy eu drwgliwio, eu henllibio, a'u diystyru. Haerai mai oddiar anwybüdaeth trwch, a balchder aunyoddefol, yr oedd y dyb yn cyfodi, mai cymhwys neb i weini yn y cysegr ond a urddid gan csgob. Priodolai i'r

*Parch. T. E. Owen. f " Hints to Heatls of Families." % " Cynghor difrif

Periglor i'w Blwyfolion."

PEN, YIII.J SIR FON. 593

Methodistiaid y dybeuion mwyaf bradwrus i'r wlad ac i'r eglwys. Mynai i bawb gredu mai cefnogi brad a theriysg mewn gwlad ydoedd eu hamcan ; mewn gair, yr oedd y cyhuddiadau mor noethion a disail, yn cael eu cyhoeddi mor haerllug a bustlaidd, fel ag i roddi argraíf ar feddwl y neb a ddarllenai y traethodau, mai mwy ydoedd gwenwyn y cyhuddwr na bai y cyhuddedig. Yr oedd trigolion Mon, iieu rhy w barthau, o leiaf, o'r ynys, er ys hanner cant o flynyddoedd yu gwybod pa fath oedd y Methodistiaid, o ran eu hathraw- iaeth a'u dysgyblaeth, yn Uawer gwell na Pheriglor Llandyfrydog. Yr oedd- ynt wedi gwrando eu pregethau, wedi sylwi ar eu bucheddau, ac wedi cael cynifer o brofion o'u hegwyddorion, fel nad oedd nemawr berygl i haeriadau mor ëofn a diachos a'r eiddo Mr. Owen effeithio arnynt, oddieithr i'w cylymu yn fwy wrth y sectariaid dirmygedig, a'u dyeithro yn fwy oddiwrth eu henllib- iwr uch-eglwysaidd.

Fel prawf ychwanegol o'r rhagfarn a lochesid tuag at y Methodistiaid gan rai a ddylaseut wybod yn well ac ymddwyn yn wahanol ; ac fel enghraifft o'r moddion a ddefnyddid mewn malais i'w drwg-]iwio, rhocldir gerbron yr hanesyn canlynol, wedi ei ddyfynu allan o gofiant y Parch. J. Elias. Ad- roddwyd yr hanesyn gan ŵr o'r enw John Davies, Caio, yr hwn, pan dyg- wyddodd yr amgylchiad, oedd yn filwr gyda Milìtia swydd Gaerfyrddin, y rhai oeddynt yn Dublin y pryd hwnw. Pel hyn y dywed :

"Yn y mis Gorphenaf, 1800, dygwyddodd i'r diweddar Barch. John Parry, Caerlleon (yr hwn a breswyliai yr amser hwnw yn Nghaergybi), ddyfod trosodd i Dublin ar ryw neges, a chyfarfu, yn ddamweiniol, ag amryw o'r milwyr Cymreig ag oedd yno. Gofynodd iddynt a fyddent yn cael clywed pregethu yr efengyl ; dywedasant wi'tho y byddent, ac y byddai un o'r milwyr* yn pregethu iddynt yn Gymraeg. Yna efe a ofynodd a fyddai yn dda ganddynt gael pregeth gan ŵr dyeithr ; gan ychwanegu, ei fod ef yn gwybod am un a bregethai iddynt. Atebent hwythau, y byddai hyny yn ddymunol iawn ganddynt. Ar hyn, daeth Mr. Parry gyda hwynt i'r filwrfa (barraclcs) ; ac wedi ymddyddan ag ef, aethym i ofyn i flaenoriaid y capel Wesleyaidd, lle y byddem yn cael cenad o'r blaen i bregethu, a hwy a roisent ganiatâd yn rhwydd a siriol ; a phregethodd Mr. Parry yno am ddau o'r gloch. Yr oedd y capel hwn-yn Gravel Walk, yn gyfagos i Palitime-square ; a chynelid moddion pregethu genym yno, am ddau o'r glocTi prydnawn, bob Sabboth, ac unwaith neu ddwy yn yr wythnos, pryd y deuai cant neu ychwaneg o'r milwyr ynghyd, Wyth o'r milwyr oeddnyt gyda chrefydd pan ddaethant i Dublin ; ond yr oeddynt yn un-ar-ugain pan ymadawsom oddiyno,

"Ar ol y bregeth hòno, gan Mr. Parry, gofynais iddo, onid oedd raodd i ryw bregethwr ddyfod atom o sir Pon ? Dywedodd yntau y gallai Mr. John Elias, a Mr. E. Lloyd ddyfod, ond i ni anfon llythyr i ofyn iddynt. Yn ganlynol, nyni a wuaethom felly ; a chyn pen hir, derbyniasom lythyr oddi-

* Sef John Davies, Caio. 2 0

594 HANESIAETH Y SIROEDD. [üOSB. IV.

wrtU Mr. Parry, yn bysbysu y byddai i Mr. Elias ddyfod trosodd ar y dydä a'r dydd, ac yn peri i ninau ei gyfarfod wrth y pier. Cylioeddasid yr oedfa i fod am ddau o'r gloch, y diwrnod y daeth efe drosodd, a thri chyfaiU gydag ef. Yr oedd o dri i bedwar cant o'r milwyr Cymreig yn ei wrando y tro hwnw ; a daeth lluaws mawr o'r Wesleyaid hefyd i wrando arno ; ac er nad oeddynt yn deall yr iaith a lefarai, tystient iddynt gael Ues ; canys yr oedd ei ddull pwysig, difrifol, a bywiog, yn effeithio yn fawr arnynt. Arosodd yno gyda ni dri diwrnod, gan bregethu bob dydd am ddau o'r gloch ; a chadwodd society hefyd y ddau ddiwrnod diweddaf. Y nifer yn y gym- deithas hòno ydoedd wyth o íìlwyr ; sef dau aelod gyda'r Annibyuwyr, un gyda'r Bedyddwyr, a phump gyda'r Methodistiaid ; a holodd Mr. Elias bob un o honom am ei brofìad ysbrydol o bethau crefydd. Yr oedd rhyw lewyrcb tra íiodedig ar y cyfarfodydd hyn, wrth iddo ein cynghori i fyw yn dduwiol, a'n cyfarwyddo pa fodd i ochelyd temtasiynau a phrofedigaethau. Bu y gatrawd yn aros yn milwrfa Dublin am tua blwyddyn o amser, yn cynwys oddeutu mil o wŷr.

" Wedi i Mr. Elias ddychwelyd i sir Fon, cododd rhyw offeiriad, a thci

neu bedwar eraill, gynhwrf mawr yn y wlad hòno yn nghylch ei ddyfodiad

drosodd i Dublin. Anfonodd Mr. Elias ataf yn erfyn am i »ii yru iddo

destynau y pregethau a draddodwyd ganddo, ynghyda chymaint o'r materion

a fedrwn gofio. Anfonais inau yn ol ato ei ddymuniad, sef y testynau, penau

y pregethau, &c ; gan ddioleh iddo am y cynghorion gwerthfawr a roddasai

i ni. Arwyddwyd y llythyr gan saith o houom. Y llythyr diweddaf

a dderbyniwyd ar yr achos hwn, oedd yn mhen tua dwy flynedd wedi hyny,

yr hwn a aufonwyd at yr Uch-gadpen (major) ag oedd yn llywyddu y

gatrawd, yn hysbysu fod Mr. J. Elias a Mr. R. Lloyd, Beaumaris, yn y

carchar. Galwodd y major arnom ni ato, sef pedwar neu bump o'r crefydd-

wyr, a gofynodd i ni pwy oedd wedi eu gwahodd i Ddublin. Dywedais

inau mai myfi a wnaethai, ynghydag eraiU o'm brodyr milwraidd. Gofynai,

A oeddym yn eu hadwaen o'r blaen ? Atebais ein bod. Yna efe a ofynodd,

Pa beth oeddynt yn eu bregethu i chwi ? Atebais, Mai pregethu lesu Grist

yn Geidwad i bechaduriaid yr oeddynt. Nid hyny oeddwn yn ei ofyn, medd-

ai yntau, y mae achwyniad eu bod wedi dyfod yno i gynhyrfu y milwyr yn

erbyn y llywodraeth ; ac y maent yn awr mewn carchar am hyny. Dywedais

wrtho nad oedd dim gwirionedd yn y fath achwyniad ; ac y gwyddai efe fod

corff y Methodistiaid yn fwy cywir a ffyddlon i'r llywodraeth na hyny. Dy-

wedodd yntau, nas gwyddai ; gan chwanegu y byddai raid i ni deithio can-

noedd o fiUdiroedd i brofi yr hyn a ddywedasom mewn llys cyfreithiol. At-

ebasom ninau ein bod yn foddlon i wneuthur hyny gyda'r parodrwydd

mwyaf. Ni ddywedodd o ba le y derbyniasai y llythyr ; ond yn unig fod y

dynion yn garcharorion. Anfonais lythyr yn ddioed at Mr. Elias i'w gartref,

neu ynte i'w yru ato i'r carchar, os ydoedd yno. Derbyniais atebiad oddi-

wrtho, yn hysbysu nad oeddynt yn y carchar, ond eu bod dan fygythiad yu

mhen y naw niwinod.

PEN. VIII.] SIR FON. 59.5

" Mewu canlyniad i'r cyliuddiadau disail a ddygid yn eibyn y Methodist- iaid, yu gystal ag yn erbyn Mr. Elias a Mr. Lloyd, ysgrifenodd Mr. Charles, o'r I3ala, amddiffyniad rhagorol i'r corff, yn Saesonaeg, yr hwn a elwid " The WelsJi Methodists Vindicated." Cyfansoddodd Mr. Thomas Edwards (Twm ó'r Nant), gàn sengar a llera i'r offeiriad a flaenorai yn y gorchwyl, yr hon a genid yn y ffeiriau a'r marchnadoedd, trwy yr holl wlad, nes y towyd y gwrthwyn- ebwyr â gwarth a chywilydd."

Ni wnaed dira mwy na bygwth y carchar ar y ddau bregethwr; nid, yn ddiau, o ddiffyg dygasedd yn y cyhuddwyr, ond o ddiffyg euogrwydd yn y cyhuddedig. Gresyn, ar ryw gyfrif, na roddasid y dynion diniweid hyn yn y carchar, ac na ddygasid yr aclios gerbron y wlad yn y brawdlysoedd, raodd y gwelid pwy, a pha fath rai, oedd y gwŷr a gynllwynent yn ddirgel yn erbyn y gwirion ; ac y dynoethid eu hystry wiau dichellgar ar g'oedd yr holl deyrnas. Drwg genym ddeall fod gwŷr o'r un rhywogaeth yn f;/w eto, y rhai, trwy ddilyn Ilwybrau eu tadau, ydynt yn cyflawni mesur eu hanwiredd. Ni ddywedir yn awr fod y Methodistiaid yu anffyddlon i'r llywodraeth, neu yn fradwyr i'w gwlad, ond drwg-liwir hwy trwy haeru eu bod yn llochi drwg- arferion y genedl. Cyhuddir y Cymry fel rhai nodedig mewn trythyllwch a ffìeidd-dra ; fel rhai tra chwanog i chwiliena, twyllo, a Iladrata, a bod y dryg- au hyn yn cael swcr oddiwrth ymneillduwyr yn gyffredinol, ac oddiwrth v Methodistiaid yn neiUduoI. Gwyddom yn dda o ba le y cyfyd yr achwyniou hyn. Gwyddom hefyd er ein gofid fod drygau, íe, drygau lawer, ynglyn â'n cenedl ; drygau y byddai yn dra dymunol eu darostwng, a drygau, gobeith- wn, na ellir dros byth gyhuddo ein cenedl o honynt. Gwyddom hefyd raai y gwŷr sydd barotaf i ddynoethiy genedl, ydyw y rhai a wnaethant leiaf tuag at ei diwygio, ac mai y rhai a ymdrechodd fwyaf i ddarostwng y drygau ydynt y rhai a gyhuddir o fod fwyaf yn eu llochi. Anhawdd iawn, wrth ddarllen ysgrifau y gwŷr hyn, ydyw peidio meddwl mai nid dygasedd at y drygau sydd yn eu cynyrchu, ond dygasedd at yr yraneillduwyr ; ac niai eu darostwng hwy, yn fwy na darostwng y troseddau sydd raewn golwg. Pa fodd bynag, Y mae hyn yn sicr, fod yradrechion lawer wedi cael eu gwneuthur gan y Methodistiaid ac eraiU, er ys blynyddoedd, i roddi terfyn i'r drygau a han- fodent cyn fod yraneillduaetli yn y tir ; a thra y byddant yn ffyddlon i'r egwyddorion a broftesent, ni pheidiant ag yraegnio yn eu herbyn rhagllaw, gan obeithio y coronir eu hymdrechion â llwyddiant.

Wrth weled a chlywed honiadau cyffelyb yn cael eu gwneuthur megys o newydd, gan ddynion yr oes hon, sydd wedi eu bedyddio yn drwm i ysbryd a golygiadau Tractariaid Ehydychain ; ac wrth ddeall yr ystrywiau a arferir, weithiau mewn gêwn a gwobrwy, ae weithiau mewn gwg a bygythion, i chwanegu dysgyblion, parod ydyra i lawenhau, oni bai y teiralwn fod mwY yn y chware na lluosogiad sect. Sicr genyra mai cryfhau yraneillduaeth a wna holl ystranciau diegwyddor o'r fath ; a Ilawen fyddera wrth eu canfod yn aralhau, pe na bai genym ddira arall mewn golwg; ond credwn raai ein gofid ydyw fod gwirionedd yn syrthio yn yr heol ; bod eneidiau dynion yn

596 HANESlAETH Y SIROEDD. [doSB. IV.

cael niweid ; a bod crefydd yr addfwyn lesu yn cael ei barchoUi. Oni bai hyn, meddwn, siriol fyddai genym glywed fod syniadau ac arferion Puseyaidd yn ffynu yn mblith offeiriaid Cymru, gan mai y cyfryw betbau a fyddent y moddion mwyaf effeitbiol, a ellid eu defnyddio, i ddyeithro y Cymry eto yn fwy llwyr, os yw hyny yn bosibl, oddiwrth yr eglwys wladol.

Ysgrifenodd Mr. Charles, o'r Bala, a Mr. Jones, o Ddinbych, mewn un- deb â'u gilydd, amddiffyniad i'r Methodistiaid yn wyneb y cyhuddiadau a osodid yn eu herbyn. Nid oedd raid hyn gymaint o ran y weriti, ag o ran boneddwyr y wlad, y rhai ni chawsent yr un fantais i adnabody rhai cyhudd- edig. Am hyny, ymddangosodd yr amddiffyniad yn Saesonaeg yn unig. Tua'ríl. 1802-3 ybu hyn.

Ond yr oedd auniddigrwydd a chwerwder y dosbarth gwrthwynebol yn brawf o'r fath sicraf fod yr achos a ddrwgliwient yn llwyddo. Hyn hefyd oedd y ffaith yn Mon, ar y pryd yr ymddangosodd y gwrthwynebiadau uchod. Un achos neiUduol o'i Iwyddiant oedd dyfodiad y Parch. John Elias i'r ynys i gyfaneddu; gweinidogaeth yr hwn, a fendithiwyd, iroddi ysgogiad anarferol i'r gwaith yn ei flaen. Mae yn angenrheidiol, gan hyny, fod bras-olwg yn cael ei roddi i'r darllenydd ar fywyd y gŵr hwn ; ond gan fod cofiantau helaeth 0 houo wedi ymddangos drwy y wasg Gymreig a Saesonig, nid rhaid i ni ond cyffwrdd yn ysgafn â phrif-linellau ei oes gyhoeddus, (yr hyn a wnawn yn y bennod nesaf,) gan gyfeirio y darllenydd at y cofiantau argraffedig am hanes helaethach o hono.*

PENNOD IX. OES Y PARCHEDIG JOHN ELIAS.

CTNWYSIAD :

BOREU EI OES— EI DDYGIAD AT GREFYDD, A DECHRi;UAD EI WEINIDOGAETH— LI YMRODDIAD I GYRHAEDD GWVBODAETH— EI DDYFODIAD I FON— EI LAFUR A'I LWYDDIANT YNO— EI DDONIAU GWEIlSriDOGAETHOL EFFAITH EI LAFUR AR Y CYFUNDEB— EI OLYGIAD AR Y NEILLDUAD— EI AFIECHYD A'I FARWOLAETH.

Ganwyd John Elias yn y fl. 1774, yn mhlwyf Aberch, ger Pwllheli, swydd Caernarfon. Dygwyd ef i fyny gyda'i daid, yr hwn oedd hoff o hono, mewn moesoldeb a rhinwedd ; dysgwyd iddo yn foreu ddarllen Cymraeg, a defnydd- iwyd y medrusrwydd hwn i'w ymgydnabyddu, yn ieuanc, â'r Ysgrythyr Lân ; nes oedd wedi ei ddarllen o'r dechreu hyd ganol Uyfr Jeremiah, pan ydoedd ond saith mlwydd oed. Arferai fyned yn gyson gyda'i daid i eglwys y plwyf ; a gwnaeth y gwirioneddau a ddarllenai ac a glywai o'r Bibl, argraff- iadau dwysion ar ei feddwl yn ei ieuenctyd ; yr oedd arswyd y farn, a digof- aint yr Anfeidrol, yn fynych iawn yn aflonyddu ei gydwybod. Pan oedd tua 9 mi. oed, neu ychydig yn ychwaneg, clywodd son fod pregethwyr hynod o'r deheudir, a manau eraill, yn áchlysurol, yn pregethu yn y Pentre-ucha',

* Cofiant y Parch. John Elias wedi ei gyhoeddi ar annogaeth y cyfarfod misol Mon. " Memory of Kev. John Elias, by Rev. Edward Morgan, Vicar of Syston."

PEN. IX.] SIR FON. 597

lle 0 fewn dwy fìlldir i'w gartref. Teimlodd awydd cryf gael eu gwrando, a Uwyddodd gyda'i daid i ddyfod yno gydag ef. Ar rai achlysuron, pan y byddai nifer o bobl yn sefyll yn segur i ddysgwyl y pregethwr, annogai ei daid ef i ddarllen i'r bobl ; ac unwaith, gwthiodd ef i bulpud y Pentre-ucha' ,i'r dyben hwnw, pryd y darllenodd, er mawr syndod i'r gwrandawyr, ran o bregeth Crist ar y mynydd. Yr oedd fod bachgen mor ieuanc yn medru darllen yn dda, yn beth rhyfedd y dyddiau hyny. Ond tra yr oedd yn dar- Uen, daeth y gŵr dyeithr i mewn ; yntau, mewn braw, a roes heibio ddarllen, gan ddisgyn ar frys o'r pulpud, a chymeryd ei le yn mysg ei gyd-wrandawyr.

Yr oedd yn y pregethau ryw ad-dyniad, a barai iddo sychedu am eu gwrando, er nad oedd eto yn alluog i ddeall ond ychydig o honynt. Nid oedd cwmni ieuenctyd anystyriol yn rhoddi iddo ond poen, ac ofnai ym- wasgu at y crefyddwyr, gan ystyried ei hun yn rhy annheilwng ; am hyny, fe fyddai lawer wrtho ei hunan wrth fyned i, neu wrth ddychwelyd o'r pregethau. Parhau yr oedd i wrando, a chynyddu yr oedd ei serch at fodd- ion gras. Taráwai, weithiau, wrth grefyddwr, a phrofai adeiladaeth rhyfeddol yn y gwmuîaeth, fel ag i sychedu fwyfwy i ymuno â'r crefyddwyr yn eu cyfarfodydd eglwysig ; ond teiralad o'i anghymwysder a'i lluddiai. üechreu- odd gadw gweddi deuluaidd yn nhŷ ei rieni pan oedd tua 15 ml. oed, a phryd nad oedd yn aelod eglwysig. Clywsai lawer o son am Daniel Rowlands, Llangeitho, a mawr oedd ei awydd ef i gael ei weled a'i glywed, a thra yr oedd y dymuniad hwn yn fyw yn ei fynwes, troai yn achlysurol i gapel yr Annibynwyr, yu Mhwllheli, a chlywodd y gweinidog, y Parch. B. Jones, yn darllen, fel testyn ei bregeth, " Oni wyddoch chwi i dywysog, ac i ŵr mawr syrthio heddyw yn Israel," Yroedd Daniel Rowlands wedi marw ! apostol Methodistiaeth Cymru wedi ei gymeryd ymaith !

Yr oedd cymdeithasfa y Bala, erbyn hyn, yn dechreu dyfod i enwogrwydd mawr, ac nid ychydig fyddai yr awydd yn mysg crefyddwyr yr oes i fyued i'r ŵyl flynyddol hòno. Y''n y fl. 1793, aeth y llanc Elias yno; mwynhaodd y Gymanfa hòno i raddau anarferol, a dychwelodd yn fwy cysegredig ei feddwl i Dduw nag erioed. Bellach, yr oedd ei awydd i fod yn aelod eglwysig yn angherddol, a dechreuodd gynllunio pa fodd y gaU.ai ddyfod i gymdeithas pobl grefyddol yn fwy. . Yr oedd wedi ei ddwyn i fyny yn we- hydd ; a dychymygai, pe cawsai efe waith gyda rhyw wehydd crefyddol, y buasai hyny yn fantais fawr iddo, ac yn foddion, ond odid, i gael iddo aelod- aeth eglwysig. Nid hir a fu cyn i ddrws o'r fath ymagor o'i flaen ; arwein- iwyd ef at bregethwr o wehydd, Griffith Jones, Ynys-y-Pandy, i weithio ei grefi't. Yn y Ue hwn yr aeth i'r eglwys, ac yn y Ue hwa y dechreuodd bregethu.

Deallwyd yn bur fuan fod defnyddiau helaeth ynddo, a cherddodd v son am dano drwy yr holl ardaloedd. Derbyniwyd ef yn aelod o'r cyfarfod misol, gan roddi caniatâd iddo gynghori ei gyd-ddynion yn y manau y gelwid am dano, yn y fl. 1794, pan oedd yn 20 ml. oed. Nid oedd angenrheidrwvdd rhoddi iddo helaethach charter nag iddo gael myned i'r Ileoedd y gelwid am

598 HANESIAETH Y SIHOEDD. [dOSB. IV.

dano, oblegyd yr oedd yr alwad am dano yn fawr iawn ; ac er ei geryddu, gan rai, o fod yn teithio yn rby bell, ac yn pregetbu yn rby aml, eto parhau yr oedd ei boblogrwydd, a chynyddu a wnai ei weinidogaetb mewn awch, dwys- dei", a defnyddioldeb. Penodwyd ef mewn Cymdeitbasfa yn Llanfair Caer- einiou, yn ystod y daitb gyntaf y bu ef yn y wlad hòno, i ddecbreu un o'r oedfaon trwy weddi ; hyny a wnaeth gyda'r fatb ddwysder ac eneiniad, nes oedd mwy o son ara weddi y bacbgen o sir Gaernarfou, nag am un o'r pre- getbau a draddodasid yno.

Yr oedd, ar yr un pryd, yn ymwybodol ynddo ei bunan, yn fwy nag yr yraddangosai byny i neb arall, o'r anfantais yr oedd dano, o ddiffyg dysgeid- iaeth, neu wybodaetb gyflredinol. Gyda Uafurio yn galed ei huiiau, gwnaeth gais ar gael myned i'r ysgol ; erthylodd ei gais cyntaf i gael myned i Manchester, ond llwyddodd wedi hyny i gael myned dan addysgiad y Parcb. E. Eichardson, Caernarfon; ac er na fu yn yr ysgol ond ychydig fisoedd, eto bu yr ycbydig byny o wertb mawr iddo. Daetb yn fuan i ddeall Saesoneg yn dda, a gosodwyd ef ar ben y ífordd i gyrbaedd gwybodaeth gyíì'redinol trwy ei lafur ei hun. Diwygiwyd llawer arno o ran ei ddull a'i ystumiau wrtb bregetbu; a gwnaed ef, trwy hyny, yn gymhwysacb i sefyll uwch ben, ac i gyfarch y cynulleidfaoedd mawrion a gyrchent i wrando arno.

Yn y íl. 1799, daeth i sir Fon i gartrefu, trwy briodi Elizabetb, merch hynaf Mr. Eichard Broadbead, Tre'r-gof, Llanbadrig. Yr oedd hi yn byw yn Llanfecbell, ac yn cadw siop yno ; ac yno y bu Elias fyw byd farwolaeth ei wraig, yn y íl. 1828. Yn y fî. 1830, priododd Lady Bulkeley, gweddw Syr John Bulkeley, Presaddfed, a daetb i fyw i'r Fron, ger Llangefni, lle yr arosodd byd ei farwolaetb.

Nid oes un araheuaeth na fu llafur cybóeddus Mr. Elias, yn ngbyda cby- fodiad yr ysgol Sabbotbol, yn mblith y prif foddion a ddefnyddiodd yr Arglwydd i ddwyn y wdad hon i'r wedd sydd arni. Yn fuan ar ol ei ddyfod- iad ef i'r ynys, fe cbwanegwyd eraill at restr y pregetbwyr yn y wlad, gwŷr tra grymus, y rbai a weiniasent eu rhan tuag at hyrwyddo yr un amcan ; sef

Y Peirch, Cadwaladf WilliamS ; Jobn Pryddercb ; William Eoberts, Amlwch ; y diweddar Barcb. David Jones, Dwyran ; a Mr. John Evans, Bodedern. Parodd hyn chwanegiad helaeth at adnoddau Methodistiaeth y wlad. Ehoddwyd dylanwad i'r pulpud mwy nag erioed. Sugnai gweinidogaeth Elias, yn enwedig, fawr a mân i'w wTando ; ac yr oedd min ac awdnrdod anarferol ar ei weinidogaeth, er deffroi dynion cysglyd a diofal, ac arafu dyn- ion gwylltion ac anystyriol. Pa le bynag y cyhoeddid ef i bregethu, ym- gasglai Uuaws mawr i wrando arno ; ac nid un dosbarth o bobl cbwaitb, ond pob dosbarth, ymron, yn y wlad. Heblaw aelodau eglwysig, a gwrandawyr cyson, y rbai a ddeuent o wabanol ardaloedd cylchynol i'r lle y dysgwylid ei fod ef yn pregethu, yr oedd lluaws o rai eraill na wrandawent ar neb, yraron, un amser, yn ymdyru i'r fan y byddai efe. Gwebilion y bobl, y rbai mwyaf diofal a dibris yn nghylch eu hachos tragywyddol, a ddeuent i wrando Elias.

Y gwŷr mwyaf cyfrifol hefyd mewn ardal, y rhai a dybient yn ddarostyngiad

PEN. XI.] SIR FON. 599

idclynt wrando ar y pregethwyr, blith draphlith, a arferent yn gyson ddyfod i wrando arno ef. A llawer iawn, yn ddiamheuol, o'r gwrandawyr camsyniol hyn, a ddaliwyd trwy ei weinidogaeth, ac a wnacd yu ddysgyblion ymroddgar a defnyddiol i Fab Duw.

. Ar ddyfodiad Mr. Elias i wladychu i Fon, yr oedd ilawer o hen arferion Uygredig y wlad yn aros heb eu Uwyr ddaroatwng, er fod argoelion o wyw- dra arnynt wrth a fuasai yr olwg arnynt gynt. Eiddigeddai Elias yn ang- herddol mewn awydd am ddarostwng y cyfryw ormod rhysedd ; i'r hyu orchwyl yr oedd ynddo neillduol gymhwysder. Adroddir hanesyn yn ei gofiant yn gwirio yr hyn a ddywedasom. Arferai trigolion Llanfair-yn- Nghornwy, ymgasglu at eu gilydd ar y Sabboth y Sulgwyn, i losgi nyth y gigfran ; yr hon a arferai nythu bob blwyddyn, ar ysgythredd craig serth, a elwir y Gadair. Gwneid hyn, ar y dyb fod yn y nyth gywion ar y pryd, Ehwyment â thres haiarn, ryw swp dirfawr o eithin a grug, ac wedi ei danio, gollyngent ef i wared wrth gadwen, ac yna tynent ef i fyny at y Ue ; ac yn nghanol bonllefau y fintai, rhoddid y nyth ar dân, a llosgid y cywion a fyddent ynddo. Er saled difyrwch y gellid meddwl oedd i'w gael mewn am- can gwaeth na phlentynaidd, eto ymgasglai tyrfaoedd Iluosog i'r Ile ; ac wedi arìlwys eu creulondeb ar y gigfran a'i chywion, ymosodai yr ynfydion ar eu gilydd, a chan fytheirio Ilwon a rhegfeydd arswydus, rhuthreut y naill ar y llall, mewn ymladdfeydd g\vaedlyd ac erchryslawn; a dybenid y diwrnod a'i ddifyrwch, mewn anwydau drwg, esgyrn briw, a gwelîau heb achos. Tua 40 ml. yn ol, penderfynodd Elias wneyd cais ar ddarostwng yr anfadrwydd uchod, trwy fyned i blith y bobl hyn a phregethu iddynt. Aeth yno, a dynoethodd y pechod o halogi dydd yr Arglwydd, mor llym ; a chyhoeddodd waëau arswydlawn y gwirionedd yn erbyn pechaduriaid anedifeiriol, mewn dull mor ddifrifol a dwys, nes Ilenwi y bobl euog â dychryn ac â braw ; a rhoddwyd heibio yr arferiad farbaraidd yn Ilwyr ac am byth.

Nid y tro hwn oedd yr unig un i Elias fod yn foddion i dynu hen gampau Uygredig y Cymry i lawr. Cymerodd hyn le lawer gwaith, mewn gwahanol barthau yn Mon, ac mewn gwledydd eraiU. Cynelid cyfarfod Ilygredig o'r fath ar dydd lau Derchafael, yn ardal Pentir, sir Gaernarfon. Ar gais Mr. J. Roberts, o'r Castell, addawodd Elias ddyfod yno i bregethu y dydd o'r blaen. Fe ddaeth yn ol ei addewid, a phregethodd oddiar gareg-faroh, ar ochr y ffordd, gyferbyn â'r fan yr arferid chwareu arno. Ei destyn oedd Josiah. vi. 26 : " Melldigedig ger bron yr Arglwydd fyddo y gŵr a gyfyd ac a adeilado y ddinas hon, Jericho." Trwy y bregeth rymus hon, Ilanwyd y prif gampwyr â braw ; yr hyn, yn nghyd a'r dygwyddiad o gwymp yr esgyn- lawr, a thoriad braich y prif gampwr, a fu yn foddion i ddyrysu y difyrwch y diwrnod hwnw, ac i'w ddiddymu o hyny allan.

Er nad oedd Mr. Elias, fel y crybwyllwyd, wedi cael ond ychydig o fan- teision dysgeidiaeth yn ei ieuenctyd ; ac er ei fod yn teithio Ilawer iawn ar Ogledd a ; yn ymweled yn fynych â Llundain, Liverpool, a Manchester ; yn bresenol, ymron, yn hoU gyfarfodydd misol Mon ; ac er fod ei fywioliaeth

600 IIANESIAETH Y SIROEDI). [dOSB. IV.

ef a'i deulu yu dybynu, yu fwyaf, ar y siop oedd ganddo, ac felly yr oedd ei amser yn cael ei lyncu i fyny i fesur mawr, o angenrheidrwydd, fel nad allai dreulio cymaint o araser a llawer un yn y llyfr-gell ; eto y mae yn syn i ba raddau mor fawr y cyrhaeddodd ef wybodaeth gyffredinol. Yr oedd, nid yn unig, yn gyfarwydd mewn duwinyddiaetb, ond yr oedd hefyd wedi ymwthio i mewn i'r gwyddion a'r celfyddydau yn rhyfeddol. Ehaid oedd ei fod yn berchenog ar alluoedd cryfion, a rhaid hefyd oedd iddo arfer diwydrwydd a llafur anarferol, cyn y gallasai ddringo i'r rîs a gyrhaeddodd.

Teg ydyw cydnabod, a chyfiawnder â Mrs. Elias ydyw coffâu, ei bod hi wedi gwasanaethu i wneyd ei gŵr y peth a fu Ymgymerai â holl ofal a llafur y fasnach, gan mwyaf, arni ei hunan, a hyny yn ddirwgnach iawn ; a thrwy hyny, cafodd yntau y fantais o dreulio llawer o'r amser y byddai gar- tref yn ei fyfyr-gell, yr hyn uis gallasai wneyd, oni bai ei llafur a'i ffyddlon- deb hi.

Ofer ydyw i ni yn y gwaith hwn geisio ymhelaethu ar ei gymhwysderau gweinidogaethol. Mae ein gofod yn brin, a'n raedrusrwydd yn brinach fyth. Yr oedd ei wedd, ei lais, ei ystum, ei aceniad, ac yn neillduol ei fater, yn gosod hynodrwydd arno. Y'r oedd tân lawer yn ei uatur ; yr oedd difrifwch dwfn yn ei ysbryd ; nerth a dymuuohleb yn ei lais ; prydferthwch coronog yn ei wedd a'i ystuni ; a halltrwydd anarferol yn ei faterion. Y'mddangosai llafur a gofal yn nghyfansoddiad ei bregethau ; eto, yr oedd ei iaith yn rhydd a naturiol, fel un a ddefnyddiai iaith yn unig i ddangos ei fater. Ehaid ychwanegu hefyd, yr hyn, tybygem, oedd ei brif ragoriaeth, mai g^vr gwir grefyddol ydoedd ; ei euaid wedi ei drwytho yn y gwirioneddau a draddodai, ac Y^sbryd yr Arglwydd yn gosod ei sêl wrtliyut ; y ddau beth olaf hyn, yn anad dim, a wnaethant Elias yr hyn ydoedd. Prif nodwedd ei weinidogaeth, oedd eglurder a nerth. Y'r oedd gweinidogaeth Elias yn weinidogaeth o ddifrif. Ni cheid ynddi byth ddim ag oedd fach ua dim ag oedd ysgafn. " Yr oedd rhyw liyuodrwydd yn ei ddawn ar bawb a glywais erioed," raedd un gweinidog parchus am dano, " yn ei bregethau nerthol, yn ei ddull difrifol, ac yn yr argraff a fyddai ei ymadroddion yn ei wneyd ar ei wraudawyr. Yr oedd yn feistr aruo ei hun yu feistr ar ei fater yn feistr ar ei lais ya feistr ar y gynulleidfa ; ac yn wir, ar bob peth yr ymaflai ynddo."

Pregethodd yn ughyfarfodydd misol Mon, am 40 mlynedd olynol ; a byth ni chly wid yr un traethawd ganddo ond uuwaith yuddynt ; y fath ydoedd amrywiaeth ac amledd ei bregethau. Cyrhaeddodd boblogrwydd anarferol. Dechreuodd ei boblogrwydd, ymrcn, gydag iddo ddechreu pregethu. Cyn- yddodd i raddau uwch, na neb arall yn Ngwynedd, o leiaf os nad yn Nghymru. Parhaodd yn ei boblogrwydd hyd ddiwedd ei oes. Meddai Mr. Eichards, Tregaron, am dano, " Llawer gwaith y bu braidd ofn aruaf glywed ei fod yn dyfod trwy y wlad, gan gymaint y sŵn a fyddai am ei ddyfodiad, a phawb yn ymbarotoi gyferbyn ag ef, i'w bwyso a'i fesur, ewyllyswyr da a drwg. Yr oedd arnaf ofn rhag y buasai yn cael ei ddarostwng yu eu mysg, ac na fuasai yn ateb y dysgwyliad, fel braidd nad oedd flin genyf ei weled ef,

PBN. IX.] SIR FON. 601

a'u gweled hwjí^thau yn dyfod i'w wrando ; ond erbyn eu dyfod hwy ac yntau yn nghyd, byddai yn dda iawn genyí, erbyn hyn, fod y ddau lariy yao, a phawb yn cael mwy na'u dysgwyliad, ac yn myned adref, os nid wedi eu hargyhoeddi, o leiaf, wedi eu synu. Ni welais neb yn codi yr achos ag un bregeth yn ngolwg pawb, fel y gwnai efe."

Dywedasom o'r blaen fod ei weinidogaeth wedi ei choroni â llwyddiant anarferol. Ysgolion Sabbothol Mr. Charles, a gweinidogaeth John Elias, a fuont y moddion penaf i wneyd Cymru yr hyn ydyw. Nid oedd capelau Mon ond bychain ac anaml pan ddaeth ef i wladychu ynddi gyntaf ; ac nid oes amheuaeth na fu ei lafur ef, a nerth rhyfeddol ei weinidogaeth, yn mhlith y prif foddion i ddeffroi y wlad i wrando ; i ddarostwng arferion llygredig yr oes ; i sefydlu ysgolion Sabbothol-; i luosogi deiliaid yr eglwysi; i goroni cyfarfodydd cyhoeddus ; ac i ddychwelyd pechaduriaid at Dduw. " Yn fy holl deithiau trWy Gymru," meddai y Parch. D. Charles, " ni chlywais am un gweinidog, ag y bu ei weinidogaeth mor gyffredinol fendithiol i ddychwelyd pechaduriaid, ag y bu yr eiddo Mr. John Elias. Bron yn mhob ardal, pen- tref neu dref, gellir cyfarfod â rhyw berson neu bersoiiau a briodolent eu troedigaeth i ryw bregeth o'i eiddo ef."

Ni chafodd cymdeithasau y Biblau a'r Traethodau erioed yr un a ddad- leuai yn rymusach trostynt. Ehoes ei nawdd calonog a galluog dros gym- deithasau Dirwest a Diweirdeb. Cadwodd ei le yn uchel ac anrhydeddus yn mhrif gyfarfodydd y cyfundeb dros yr hoU amser y caniatawyd iddo eu mwyn- hau. Ychydig o flynyddau ar ol i Mr. Elias ddyfod i sylw, cododd y cwestiwn, " Ai ni ddylid neillduo rhyw nifer o bregethwyr y cyfundeb i wein- yddu yr ordinhadau o fedydd a swper yr Arglwydd ? " Cwestiwn oedd hwn a barai deimladau cyfl'rous, o blaid neu yn erbyn, mewn llawer mynwes ; a chwestiwn a fygythiai heddwch ac undeb y corff ; yn neillduol yn y Deheu- dir, y rhan o'r wlad y preswyliai corff y clerigwyr ynddi, ac y teimlid eu dylanwad rymusaf. Gan ein bod eisoes wedi gosod ger bron brif amgylch- iadau yr ysgogiad pwysig hwn, mewn rhan blaenorol o'r gwaith, nid ymhel- aethwn, ddim mwy na chyfeirio yn fyr at y rhan a gymerth Mr. Elias ynddo.

Yr ydym eisoes wedi dyweyd mai nid hannerog a fyddai Mr. Elias mewn dim a gymerai mewn Ilaw ; ac ni ellid dysgwyl i ŵr o'r fath benderfyniad meddwl ag ydoedd ef i fod yn glaiar yn hyn. Yr oedd Elias wedi bod yn pregethu am ysbaid 15 ml., ac wedi cyrhaedd llawn cymaint o ddylanwad yn ngj-nghorau Methodistiaeth a neb o'r lleygon yn Ngwynedd ; ac nid rhyfedd fydd gan y darllenydd ddeall pa ochr i'r ddadl a gymerodd. Hysbys ydyw hefyd i',r sawl a'i hadwaenent y pryd hwnw, fod ei deimladau yn Ilai tyner tuag at yr eglwys wladol, nagoeddynt yn ei flynyddoedd olaf, am yrhyn newidiad yr achwynir arno gan rai, ac y canmolir ef gan eraill. Pa un bynag, ai gwell ai gwaeth oedd hyn, nid ein gorchwyl, ar hyn o bryd, ydyw penderfynu ; ond ar yr adeg y cyfeiriwn ati, dilys ydyw ei fod yn llochi syniadau cryfion, ac yn fynych, yn defnyddio ymadroddion cryfion, o blaid y " neillduad ;" ac yn erbyn y syniad, nad oedd un nrddiad ar weinidogion yr efengyl yn ysgryth-

2 p

602 HANESIAETH Y SIROEDD. [dOSB. IV.

yrol, nac yn oddefol, ond yr un esgobaidd. Bu aml ymddyddan tỳn rhyng- ddo â Mr. Charles ar y mater hwn ; ac nid oes amheuaeth na fu cyfodiad dyniou, megys Elias, ac eraill cyfifelyb iddo, mewn Gogledd a Dê, yn foddion arbenig i fantoli mor llwyr o blaid y neiUduad. Yr oedd Mr. Jones, 0 Ddinbych, a Älr. Elias yn y Gogledd ; a Mr. Ebenezer Morris yn arbenig yn y Dê, ynddynt eu hunain gymaint a llu o blaid yr ysgogiad ; a diau genym, eu bod yn ymohebu â'u gilydd yn yr achos ; ac ar yr un pryd, nid oedd dim a ewyllysient yn fwy, na dwyn y cyfnewidiad yn mlaen mewn modd esmwyth, heb archoUi teimladau brodyr a garent mor fawr, ac heb achosi un ymraniad yn y cyfundeb. Gosodwn yma lythyr oddiwrth Mr. Elias at gyfaill iddo yn Liverpool, yn yr hwn y gwelir ei syniadau ar yr achos.

Llanfechell, Tachwedd 26, 1810. Anwyl Fbawd,

Cefais lythyr oddiwrth Mr. Ebenezer Morris ar ol cymdeithasfa Abertawe, yn rhoddi i mi hanes cysiu'us, eu bod yno wedi cydsynio â'r hyn y cytunwyd amo }ti y Bala, ya nghylch chwanegu breintiau yr eglwysi. GuTiaed hyny yno (yn Abertawe) yn dawel iawn ; hefyd, cydsyniodd coríF y gymdeithasfa, heb gymaint ag un yn codi ei law i arwyddo ei anfoddloni-wydd. Bu tro hynod mewn rhagluniaeth i gael hyn oddiamgych mor dawel : yr oedd ja fwj nag oeddid yn ei ddysgwyl. Clywodd y Parch . Rowland HiU am gymdeithasfa Abertawe, a bod y mater hwn i gael ei drin yno ; cynhyrfwyd ei feddyliau fel y daeth o Bristol i Aber- tawe i'r gymdeithasfa ; ac mae yn debygol mai yr Arghvydd a'i danfonodd, a'i fod wedi Uwyddo ei ddyfodiad i raddau mawr. Cynygiodd rhai o'r offeiriaid (fel y gelwir hwy) gyfodi rhai gwrthddadleuon yn erbyn i'r corff gael y chwanegiad maent yn ei geisio i'w breintiau ; atebodd Mr. Hill eu holl wrthddadleuou, ac a ddangosodd yr angenrheidrwydd i'r corff gael yr hyn y maent yn ei geisio. Dywedodd ei fod o ddygiad i fyny yn ffafriol i Eglwj^s Loegr ; a'i fod eto yn caru y gweinidogion sydd yn pregethu yr efengyl ynddi ; ond yn gymaint a bod y cyffredinolrwydd o'i gweinid- ogion yn gwadu'r athrawiaeth a dyngasent iddi gynt, fod duwiolion, o orfod, yn cilio oddiwrthi, ac nas gall plant Duw fyw ar ûs. Hefyd, dywedodd am yr enwog Mr. Whitfield, ei fod wedi coUi yn fawr, eisieu gwneyd yn ei oes, yi- hyn y mae ein corff ni yn ei geisio ; pe gwnaethai felly, y buasai yn debygol i'r holl gorff fod yn nn corff lluosog trwy y deymas ; yn lle hyny, ei fod wedi rhanu }ti Ilawer o ganghenau : a dywedodd y bydd ein corff ninau yn sicr o fyned yr tm modd os na chaent eu gofyniad. Felly cytunwyd i adael i gymdeithasfa y Bala fyned a'r peth yn mlaen yn gyntaf, ac yna hwythau i ganlyn. *

Ysgrifenwch i'r Bala i geisio gan Mr. Charles neu Mr. Llwyd ddyfod atoch i weini yr ordinhadau ; ac os na ddeuant, nid wyf yn meddwl y byddai yn bechod mawr i chwi geisio gan Mr. Jones, o Ddinbych ddyfod atoch. * * *

Wyf, eich cyfaill,

JOHN ELIAS.*

Afreidiol ydyw i ni chwanegu fod Mr. Elias yn un o'r wyth hyny a neiU- duwyd gyntaf yn y Gogledd ; ac nid rhyfyg, tybygem, ydyw datgan na fu

* Trwy ddarllen yr hanes a roddir am y neillduad yn Cyf. I., tudal. 434-462, caiff y darllenydd eglui-had ar wahanol ranau y llythyr uchod.

PEN. IX,] SIR FON. 603

urddiad erioed ar ddjTi cymliwysach i'r swydd. Ond y mae yn rhaid i ni dynu ein sylwadau ar y gweinidog hynod hwn i ben, a chyfeirio ein darllen- wyr eilwaith at y cofiantau argraffedig i gael hysbysiad helaethach am dano. Wedi llafur mor galed a difwlch, am gynifer o flynyddoedd, naturiol ydyw dysgwyl clywed am argoelion adfeiliad. Cawsai ysgegfa drom yn y fl. 1832, trwy gael codwm o gerbydan (gig) wrth fyned o Fronhaulog i'r Bala, pedair milldir 0 ffordd, y fath ysgytiad a osododd ei ôl amo tra fu byw. Syrth- iodd ar ei ben gyda rhuthr ; bu yn hir megys un marw, ac yn analluog i ym- adael â Bronhaulog am wythnosau. Teimlodd yn ddwys iawn pan gollodd ei hoffus gyfaill Mr. Llwyd, Beaumaris, yn 1834. Cawn ei fod yn cwyno yn drwm drachefn yn y fl. 1837, pryd yr oedd wedi gorfod teithio yn arafach, a phregethu yn anamlach. Yn y fl. 1839, bu drachefn yn garcharor dros rai raisoedd, a hyny dan ddolur peryglus. Yn Ebrill, 1840, yr oedd yn pre- gethu ychydig drachefn, unwaith yn uuig ar y Sabboth ; ac er dadebru ych- ydig, yr oedd y cyfansoddiad yn llacio, ac amser ei ymddatodiad yn nesâu. Cafodd oerfel i'w draed yn y flwyddyn grybwylledig, ac erbyn ei diwedd vr oedd Mi-. Elias yn cwyno yn drwm gan boen yn ei droed, ac weithiau, cym- erai achlysur oddiwrtho i ddarogan canlyniadau angeuol a allent ddylyn. Parhau a wnaeth y gofid yn ei droed, nes ei garcharu yn llwyr i'w dŷ, ac yn raddol i'w wely, ac yn y diwedd i'w fedd. Felly, wedi pregethu yr efengyl am 47 o flynyddoedd, gyda llwyddiant anarferol, efe a hunodd yn yr lesu, Mehefin 8ed, 1841, yn 67 ml. oed. Cludwyd ei weddillion o'r Fron i Lan- faes, ger Beaumaris, i'w gosod wrth ochr gweddillion ei hen gyfaiU Mr. Llwyd. Ni welwyd, mae'n debyg, orymdaith augladdol erioed yn Mon o fath hon. Ar y ffordd tua Beaumaris yr oedd yr orymdaith yn fiHdir a hanner o hyd, ac yn cynwys tua 1 0 mil o bobl. Wrth fyned trwy y dref, tynasai pawb y Ueni ar y ffenestri, a chauasai pawb eu siopau. Eiddigeddasai eglwyswyr, ac ymneillduwyr o bob enwad, i ddangos eu parchedigaeth i'w ffoffadwriaeth.

Wrth adolygu hanes Methodistiaeth yn Mon dros ysbaid y can' mlynedd diweddaf, y mae gwahanol syniadau yn ymgymhell i'n sylw. AUan o ddech- reuad bychan, y mae yma, fel y gwelsom, bethau mawrion wedi tarddu. Bychan, yn wir, oedd y cychwyniad ; gallesid meddwl mai tra hawdd a fuasai ei lethu. Fel y gareg a welodd Daniel yn cael ei thori o'r mynydd, " Nid â llaîo" y bu cychwyniad Methodistiaeth yn y wlad hon. " Nid â llaw," sydd ymadrodd yn dynodi mwy o Bduio nag o ddyn ; mwy o drefniad rhagluniaeth y nef, nag o gynllun a chelfyddyd dyn. Nid llaw dyn a welwn yn nygiad yr efengyl yma gyntaf, pan oedd y clerigwyr oll, am a wyddom, yn berffaith ddiofal am eu gwaith a'u pobl ; a'r preswylwyr, ymron oll, mor ddyeithr i'r Beibl ag oeddynt i'r Alcoran. Y pryd hyn, dechreuodd y llyfr santaidd ym- liw â theulu Thomas Pritchard, o'r Tŷ-Gwyn. Nid o fwriad, na thrwy gyn- llun dynol y bu hyn ; ac nid cymdeithas Genadol a anfonodd WiUiam

604 HANESIAETH Y SIBOEDD. [D03B. IV.

Pritchard, o Lasfryn-fawr, i Blas-pen-mynydd i fyw, ond rhagluniaeth ddoeth y nef. Defnyddiwyd offerynau, mae'n wir, ond yr oedd yr offerynau a ddefnyddiwyd yn gyfryw ag a barai na chai " un cnawd orfoleddu ger ei fron ef," yn tueddu i guddio balchder oddiwrth ddyn ; ac i ddangos, fod godidogrwydd y gallu o Dduw ac nid o ddynion. Am y 30 mlynedd cyntaf, yr oedd y pregethwyr yn ychydig iawn eu rhif, ac yn fyr iawn eu dawn. Nid oedd gan yr un o honynt ddim o fanteision dysg na dawn, cyfoeth nac awdurdod. Yn unig yr oeddynt o gymeriad da, o ddyben cywir, ac o rodiad diargyhoedd. Eiddigeddent dros ogoniant Duw, a thros achubiaeth eneidiau dynion ; cymhwysderau a roddwyd iddynt, " Nid â llaw." Am lawer o flyn- yddoedd, nid oedd gan y tadau yr un addoldy i'w derbyn ; ond yr oedd ambell i dyddynwr, wedi ei dueddu, yn ddiau gan Ysbryd Duw, yn awyddus i roddi lloches iddynt. Yr un Ysbryd hefyd, yn ddiamheuol. a barasai bryd- ferthwch ar y dynion diaddurn hyn, ac a osodasai y fath awchlymder anarferol yn eu geiriau. Ymddangosant yn ddynion o ddifrif gyda'u gwaith. Pa mor fychan bynag oedd eu medrusrwydd, yr oedd eu gonestrwydd yn amlwg i bawb. Ymddangosai eu cywirdeb yn ngwedd eu hwynebau, yu sŵn eu Ueisiau, ac yn helaethrwydd eu dagrau.

Bu dyfodiad John Jones, Bodynolwyn, i'r wlad i aneddu ; ac yn ddiwedd- arach, dyfodiad John Elias, yu foddion arbenig i hyrwyddo y gwaith da yn mlaen. " Nid â llaw" ychwaith yr anfonwyd hwythau iddi. Nid cyfundrefn ddynol, ond goruchwyliaeth ddwyfol, a'u harweiniodd. Tua'r amser y daeth Elias i'r wlad, y torodd gwawr yr ysgol Sabbothol ; sefydliad yr hon, yn cyd- weithredu â doniau helaethach yn y weinidogaeth, a barodd ysgogiad anar- ferol i'r achos yn ei flaen. Parhaodd i gynyddu nes Uenwi yr holl wlad ymron â moddion gras ; a chasglu y preswylwyr ymron oll i'w defnyddio. Pa sawl mil o ddynion a ddygwyd yn gydnabyddus â gwirioneddau y Beibl, yn y can' mlynedd diweddaf yn Mon, sydd anmhosibl ei wybod ; ond nid gormod, tybygid, fyddai dyweyd, fod mwy o wybodaeth ysgrythyrol wedi cael ei chyfranu, a mwy o ryra y gwirionedd wedi cael ei brofi, yn yr ysbaid hwnw, nag a gawsid yn ystod mii a saith gant o flynyddoedd a aethant o'r blaen ! Gyda syndod a diolchgarwch y'n cymhellir i gydnabod, " Beth a WNAETH Duw !"

DIWEDD YR AIL GYFROL.

GWP.ECSAÎI : ARGRAFFWYD GAN P, IIUGHES A I FAB.

\ %. JUL f

JUL 1976

PLEASE DO NOT REMOVE CARDS OR SLIPS FROM THIS POCKET

UNIVERSITY OF TORONTO LIBRARY

Hi^^^*^«3if^

;%^. r

F

^>*! .^'m: . Ŵ

^.Jfl

^t.:%