■■■■""•'. "11)111

CO

^£^^5^

mmm

R EPISTOL

AT YR

EBREÂ1D

Ao UiiAnLCu fcUWflnUo

r3*t9BVmtH9HtMKeS9IM!*t

wmammmim)memmem*ec9w.i*i4u.-u-VMk2

mmimmimzz

N

Digitized by the Internet Archive

in 2010 with funding from

University of Toronto

http://www.archive.org/details/yrepistolatyrhebOOedwa

s

LLAWLYFRAU

UNDEB YSGOLION SABBOTHOL

METHODISTIAID CALFIXAIDD

DAN" AROLYGIAETH

PWYLLGOR Y GYMANFA GYFFREDINOL.

YR EPISTOL AT YR HEBREAID.

CAERNARFON : ARGRAPHWYD A CHYHOEDDWYD GAN D. ^V. DAVIE* & CO., SWYDDFA " Y TRAETHODYDD " A'!! " LLUSEKN.

"5TPI

EPISTOL AT YR HEBREAID,

ARWEINIAD I MEWN A NODIADAU.

GAN

THOMAS CHARLES EDWARDS, M.A., D.D.»

Prifathraw Coleg y Brifysgol i Gymru, Aberystwyth.

YR AIL ARGRAFFIAD

CAERNARFON : D. W. Davies & Co.

Cyflwynedio

C" I

Bwyllgoe Undeb Ysgolion Sabfgthol

Y

MeTHODIÈTIAID* CALFINAIDD,

fel ap.wydd o baech diffuant a chydymeoddiad i waith

Yb Aeglwydd Iesu.

RHAGYMADRODD.

Ysgrifenwyd y llyfr hwn ar gais Pwyllgor Undeb Ysgolion Sabbothol y Methodistiaid Calfinaidd. Yr amcan mewn golwg oedd cynorthwyo y dosbarthiadau henaf yn yr Ysgolion wrth lafurio yn y maes a osodir iddynt am y ddwy flynedd fydd yn dechreu yn Ebrill nesaf. Ymdrechais gadw yr amcan hwn yn gyson o flaen fy llygaid.

Golygai y Pwyllgor, yn mhellach, y dylai y Llawlyfr fod o ran ei bris o fewn cyrhaedd pawb. Gorfu i mi, oherwydd hyn, dalfyru llawer a gwasgu y nodiadau i le rhy fychan ; ac nid wyf heb ofni i hyny beri fod rhai o'r nodiadau meithaf braidd yn dywyll. Yr oedd yn ofid i mi nas gellid, oherwydd ei bris, fabwysiadu Esboniad rhagorol a hollol eglur Dr. Thomas ar yr Epistol. Ond dymunwn yn galonog ei gymhell i sylw yr athrawon. Mantais fawr i bwy bynag a ddarlleno y nodiadau a ganlyn fydd astudio golygiadau gwahanol ysgrifenwyr; a cheir yn Esboniad Dr. Thomas, am y waith gyntaf yn Gymraeg, hysbys- rwydd lied gyflawn am syniadau y beirniaid a'r esbonwyr goreu. Daeth Esboniad prydferth y Proffeswr Westcott i'm llaw wedi argraffu y rhan fwyaf o'r nodiadau, fel na chefais y fantais o roddi ystyriaeth i'w olygiadau ond yn unig tua'r diwedd. Gwnes ddefnydd o amryw nodiadau a ymddangosodd mewn cyfrol ar yr Epistol yn yr Expositor's Bible. Ond ail ystyriais y cwbl, ac yn awr ac eilwaith ni phetrusais newid fy marn. Digon tebygol ydyw y câf yr hyfrydwch o wneyd hyn eto.

Wedi astudio yr Epistol unwaith yn rhagor, ofni yr wyf ei fod yn rhy anhawdd i lawer o'r Ysgolion. Cyfyd yr anhawsder

Vi HHAGYMADRODD.

mewn rhan o arucheledd y prif syniadau, mewn rlian o dreidd- garwch (braidd na ddywedwn, treiddgarwch yn hytrach mawredd} yr ysgiifenwr sanctaidd, mewn rhan o neillduolrwydd ei ddull o esbonio yr Hen Destament, mewn rhan o'n hanwybod- aeth anffodus am safle y Cristionogion Hebreaidd yn eu per- thynas â"r Cristionogion Hellenistaidd. Bu un anhawsder arall. Yr oedd y dybiaeth mai yr Apostol Paul ysgrif- enodd yr Epistol yn ei gloi i fyny ar unwaith, ac yn demi allan o'r llwybr mor sicred ag y llithiwyd teithiwr erioed gan oleu y gors. Ond y mae symudiad yr anhawsder hwn oddiar y ffordd wedi ereu anhawsder arall. Oblegid pan olygai yr esbonwyr mai Paul oedd yr awdwr, gallent ddwyn syniadau neillduol ac ieithwedd yr Apostol i'w cynorthwyo yn eu cais i egluro yi Epistol. Erbyn hyn cytuna y beimiaid, gydag ychydig iawn o eithriadau, nad oes genym ddim o gynyrch meddwl yr awdwr. pwy bynag ydyw, ond yr Epistol hwn. Nid wyf yn tybied y gall unrhyw Esboniad byth wneyd yr Epistol yn hawdd ei ddeall i"r neb nad ymfoddlona ar fod yn arwynebol. Ond enill fydd dangos beth ydyw yr anhawsderau. Dymunwn anog yr athrawon yn daer i gynal cyfarfod wythnosol yn eu plith eu hunain i astudio yr Epistol. Os gallant sicrhau gweinidog neu iyw athraw athrawon i'w harwain, goreu oil.

T. C E Aberystwyth, Maurth 6, 1890.

RHAGYMADRODD T'R AIL ARGRAFFIAD.

Ar un olwg y mae braidcl yn ofidus genyf fod eisiau ail argraffiad mor fuan, am na chefais ddigon o amser i ail ystyried a newid fy mam. Nis gallaf ychwaith ymgysuro yn y gobaith mai cymhwysder y llyf r i gyf arf od anghenion yr Ysgolion sydd yn peri bod yn ofynol ei ail argraffu, gan na ddaeth yr argraffiad cyntaf eto i'w dwylaw. Ond yr wyi yn llawenhau eu bod yn dangos y fath awyddfiyd i astndio yr Epistol.

Diwygiais rai gwallau, yn nghanol prysurdeb ac ar gychwyn i daith bell.

T. C. E.

Aberystwyth,

Mawrth 29am, 1890.

CYNWYSIAD.

Tud.

Arweiniad i Mewn: . . . . . . ix.

I. AWDWR YR EPISTOL . . . . ix.

II. Yr Hebreaid . . . . . . xlv.

III. Pa bryd ac o ba le yr Ysgbifenwyd

YR EPISTOL . . . . . . 1.

IV. Amcan yr Epistol . . . . li.

V. DOSRANIAD Y PrOFFESWR WeSTCOTT O'r

Aberthau . . . . . . lvii.

VI. Pynciau ac Adranau cymhwys i'w hastudio mewn cyssylltiad a'r

Epistol . . . .' . . Ix.

VII. Amlinelliad o Gynwys yr Epistol . . Ixv.

Yr Epistol; gyda Nodiadatj . . . . 1

Cyfieithiad o'r Epistol . . . . . . 219

TALFYRIADA U.

ADN. Adnod.

C.A.S. Y Cyfieithiad Awdurdodedig Saesneg (The English Authorised Version) a gyhoeddwyd yn 1611.

C.D.S. Y Cyfieithiad Dtwygledig Saesxeg (The English Revised Version) a gyhoeddwyd yn 1881.

O.C.— Oed Crist.

ARWEINIAD I MEWN

I. AWDWR YR EPISTOL.

YMAE y cwestiwn pwy a ysgrifenodd yr Epistol at yr Heb- reaid yn fwy pwysig gyda golwg ar esboniadaeth y llyfr na chyda golwg ar ei awdurdodiad fel rhan ganonaidd o'r Testament Newydd. Os Paul yw yr awdwr yr ydym at ein rhyddid i esbonio yr Epistol oddiwrth Epistolau Paul ac i roddi yn hollol yr un ystyr i eiriau megis " ffydd," " cyfiawnder," " sancteiddrwydd," " cnawd," " ysbryd," &c, wrth ddarllen yr Epistol ag a roddir iddynt yn yr Epistol at y Rhufeiniaid. Ond os gellir dangos nad ydyw yn debygol mai Paul yw yr awdwr, nid oes genym hawl i gymeryd yn ganiatol mai yr un ystyr sydd i ymadroddion pwysig duwinyddiaeth yn yr Epistol hwn ac yn Epistolau Paul.

Nid yw y cwestiwn yn effeithio dim ar le yr Epistol yn mhlith llyfrau y Testament Newydd, os na fabwysiadwn y golygiad di- angenrhaid nad oes dim i fod yn y canon ond a ysgrifenwyd gan Apostolion. Yn wir y syniad hwn barodd lawer o'r anghysondeb a'r dyryswch o berthynas i awduriaeth yr Epistol yn yr eglwys foreuol. Dadleuai rhai, am nad yw wedi ei ysgrifenu gan Apostol, na ddylid ei dderbyn fel cyfran awdurdodedig o'r Ysgrythyr. Dadleuai eraill, am ei fod yn rhan hanfodol o'r Testament Newydd, fod yn rhaid mai Apostol yw ei awdwi'. Ni pherthyn i mi, yn y üe hwn, ystyried jr jmiholiad cjŵedinol beth sydd yn penderfynu hawl unrhyw lj-fr i le yn nghanon y Testament Newydd. Yr un pryd y mae yn angenrheidiol dangos nad yw p* atebiad i'r cwest- iwn yn nghylch awdwr yr Epistol at yr Hebreaid yn gwanhau ei awdurdod fel rhan o'r Ysgrythyr sanctaidd, beth bynag fydd yr atebiad yr arweinia ymchwiliad diragfarn iddo.

Dichon mai y golygiad a fiyna yn Nghyniru am awdurdod ganonaidd llyfrau y Testament Newydd ydyw yr hwn a gyfleir yn gryno gan Dr. Hodge, yn ei Systematic Theology, fel y canlyn : " Y 2

X. YR EPI8T0L AT YR HEBREAID.

mae yr egwyddor ar ba un y penderfynir canon y Testament Newydd yn syml. Nid oes unrhyw lyfr i'w gydnabod fel yn meddu awdurdod ddwyfol, oddieithr y llyfrau a ysgrifenwyd gan Apostolion neu a gynieradwywyd gan Apostolion." Yn awr, y tebygolrwydd yw, fel y disgwyliaf ddangos yn fuan, nas gellir dyweyd hyn am yr Epistol at yr Hebreaid. Nid gan Apostol yr ysgrifenwyd ef, ac nid oes genym dystiolaeth dan law Apostol, yn rhoddi sel ei gymeradwyaeth iddo. Ond y mae y golygiad a ddyf - ynwyd uchod yn codi o ddarnodiad rhy gyfyng o natur ysbrydol- iaeth a syniad rhy beirianyddol am ei amcan. Ac yn y lie hwn daw yr Epistol at yr Hebreaid i mewn. Pe na byddai dim i fod yn y Testament Newydd ond cofnodi ffeithiau bywyd daearol y Duw- ddyn a datguddio yr athrawiaethau sylfaenol sydd yn gorwedd yn y ffeithiau hyny neu yr ymarferiadau moesol sydd i yniagor allan o'r ffeithiau a'r athrawiaethau ynghyd, gallem yn hawdd ddeall a chydnabod yr angenrheidrwydd am gyfyngu y gwaith neillduol hwn i ddynion a fuont mewn cymundeb personol â Christ neu a dderbyniasant gymeradwyaeth uniongyrchol y dynion hyny ; er mwyn cadw y ddysgeidiaeth Gristionogol mewn athrawiaeth a moesau yn hanesyddol yn ei seiliau. Credai y Montanistiaid gynt mai math o lewygfa neu ecstasy oedd ysbrydoliaeth yr ysgrifenwyr sanctaidd. Yr oeddynt dan orf od i ddal y golygiad hwn, er mwyn gwneyd ysbrydoliaeth yn bosibl yn eu plith hwy eu hunain. Ond y mae yn ffaith bwysig, tra yr oedd tafodau dieithr yn ddawn yn yi eglwys apostolaidd, na chaniataodd Ysbryd Duw i'r ddawn hon gael unrhyw ran yn ffurfìad y Testament Newydd. Y mae y llyfr yn gorwedd ar hanes ac ynichwiliad i ffeithiau. Cynwysa ddat- guddiad o athrawiaeth au sydd yn codi o'r hanes, a gorchymyna ddysgyblaeth foesol sydd yn gofyn awdurdodiad apostolaidd oddi- wrth Ben yr eglwys i'w gosod yn ddeddf i'r eglwys.

Ond pan ddarllenwn yr Epistol at yr Hebreaid, buan y can- fyddwn y neillduoli*wydd hwn ynddo, sef nad yw yn datguddio o'r newydd ddim un o athrawiaethau yr efengyl nac yn gosod i lawr am y waith gyntaf ddim un ymarferiad Gristionogol. Yr awdwr hwn oedd y prophwyd a'r athraw a ddilynai y rhai yr oedd datguddiad ganddynt. " Yn gyntaf, apostolion ; yn ail, prophwydi ; yn drydydd, athrawon " (1 Cor. xii. 28). Ac os cauwyd allan ber- Lewyg y tafodau dieithr yn ngwneuthuriad y Testament Newydd, rhoddwyd lie ynddo i"r prophwyd a'r athraw, yn gystal ag i'r

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. XI.

apostol. Fel hyn seiliwyd y llyfr, fel yr eglwys ei hun, ar sail o apostolion a phrophwydi (Eph. ii. 20). ITewn gair, esboniad ydyw yr Epistol at yr Hebreaid ar y datguddiad. Ffordd neillduol yr awdwr o esbonio y datguddiad cyflawn yn y Mab ydyw ei gymharu â'r datguddiad rhanol yn y prophwydi. I wneyd y gwaith arbenig hwn, yr oedd yn anhebgorol i'r esboniwr fod yn hollol gyfarwydd â'r ddau ddatguddiad ; ac yn sicr yr oedd awdwr yr Epistol at yr Hebreaid felly. Hawdd iawn ydyw dangos ei fod yn ysgrythyrwr cadarn, yn hyddysg hefyd yn nysgeidiaeth Iago, Pedr ac loan, yn gwybod am rai o Epistolau mwyaf Paul, ac yn gyfarwydd yn hanes yr Arglwydd Iesu. Er nad yr Epistol hwn yw yr olaf o ran amser a ysgrifenwyd o lyfrau y Testament Newydd, eto gellir ystyried ei fod, o ran trefn naturiol y datguddiad dwyfol, yn dilyn y lleill, am fod yr Epistolau eraill wedi eu hysgrif enu gan ddynion oeddynt eu hunain yn athrawon i awdwr yr Epistol hwn. Gor- phwysa ar yr athrawiaeth gyfrredinol a gynwysant oil. Yr hyn sydd yn wreiddiol a newydd ynddo ydyw yr esboniad a rydd ami yn ngoleuni y datguddiad blaenorol.

Gan mai esboniwr ar ddatguddiad yn hytrach na datguddydd, prophwyd athrawaidd yn hytrach nag apostol, ydyw yr awdwr, nis gallaf ganfod un angenrheidrwydd iddo fod wedi gweled Crist a derbyn ei awdurdodiad ganddo, fel yr oedd yn ofynol i Paul yr un fath ag i Iago, Pedr ac loan. 0 ran hyny, y mae ei waith arbenig fel adolygydd ac esboniwr yn gofyn ei fod yn sefyll ychydig ar wahan oddiwrth y pethau a adolygir ganddo.

Hyderaf y bydd yr hyn a ddywedwyd yn ddigon i dawelu meddwl y neb all fod yn pryderu yn nghylch ysbrydoliaeth yr Epistol, yn wyneb yr ymchwiliad i'w awduriaeth. Y mae yn wir fod yn ofynol i ni eangu peth ar y golygiad a gynwysir yn y dyfyniad uchod o Dr. Hodge, a chaniatau bod Ysbryd Duw yn defnyddio ac yn awdurdodi esboniwr yn gystal â datguddydd. Ond ni a welwn mai un heb fod yn perthyn i'r oes gyntaf o Gristion- ogion oedd gyinhwysaf i wneyd y gwaith.

Rhaid gadael y cwestiwn cyffredinol yn nghylch seiliau awdurdodiad llyfrau y Testament Xewydd heb ei gyffwrdd, a disgyn ar un waith ar yr ymchwiliad i awduriaeth yr Epistol. Y mae y rhesymau sydd yn penderfynu pwnc llenyddol o fath hwn yn ym- ranu yn naturiol yn ddau ddosbarth, y profion allanol a'r profion tufewnol. Wrth y profion allanol y golygir tystiolaethau ysgrif-

ill. YE EPISTOL AT YR HEBREAID.

enwyr boreuol a thraddodiad eglwysig. Cynwysa y profion tufewnol yr holl ystyriaethau sydd yn ymgynyg wrth ddarllen yr Epistol ei hun, ac yn codi o natur yr athrawiaethau a ddysgir, ieithwedd yr awdwr, ac unrhyw gyf eiriadau awgrymiadol a all f od yn llechu yn yr Epistol.

1. Y Profion Allanol.

I sicrhau trefn, bydd yn fanteisiol i ni grynhoi y tystiolaethau sydd yn dal perthynas âg awduriaeth yr Epistol o amgylch tri chanolbwnc daearyddol, Syria ac Asia Leiaf; yrAipht; a'r eglwysi gorllewinol, y rhai a gynwysant Rufain a Gogledd-barth Affrica. Xid yw y dosbarthiad hwn yn hollol yr un peth â*r dosbarthiad cenhedlaethol, sef yr eglwysi Hebreaidd, yr eglwysi Groegaidd, a'r eglwysi Lladinaidd; obiegid fod Iuddewon yn y rhan fwyaf o'r eglwysi Groegaidd, a Groegiaid mewn rhai o'r eglwysi Lladinaidd. Er hyny, y mae y ddau ddosbarthiad yn agos at eu gilydd. Fe welir ein bod yn cau allan yr eglwysi yn ngwlad Groeg, am nad ydynt yn cynyg unrhyw dystiolaeth ar y pwnc dan sylw, a'r eglwysi mawrion yn Nghaercystenyn a manau eraill yn y bedwaredd ganrif , am en bod yn rhy ddiweddar o ran amser i effeithio nemawr, os dim, ar y cwestiwn.

1. Y mae traethawd ar gael a adwaenir dan yr enw " Epistol Barnabas." Y mae yn sicr mai nid Barnabas, cyfaill Paul, oedd yr awdwr. Ond Hebrewr Cristionogol ydoedd ; a bernir gan y rhan fwyaf o'r rhai sydd wedi chwilio i mewn i'r cwestiwn ei fod wedi ei ysgrifenu tna dechreu yr ail ganrif o.c. Y mae gwahan- iaeth mor fawr fel y gellir ei alw yn wrth gyf erbyniad rhyngddo o ran ei syniadau am yr hen oruchwyliaeth a'r Epistol at yr Hebreaid. Gellid meddwl yn lied sicr wrth ei ddarllen fod yr awdwr yn gwybod am gynwys yr Epistol hwnw. Ond ni wna nn cyf eiriad at enw awdwr yr Epistol. Yr hyn sydd yn bwysig ydyw fod yr ysgrifenwr Cristionogol hwn, pwy bynag ydoedd, yn tahi gwarogaeth i awdurdod 5T Apostol Paul ac yn ysgrifenu, ni ddy- wedaf yn gyson â'i athrawiaeth, ond yn ddiddadl dan ddylanwad ei Epistolau ; ac eto y mae yn dysgu golygiadau am yr hen oruchwyliaeth sydd yn amlwg yn hollol wahanol a chroes i olygiadau awdwr yr Epistol at yr Hebreaid. Nis gallaf dybied fod yr ysgrifenwr yn gwybod nac yn dychymygu mai Paul oedd awdwr yr Epistol.

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. Xlll.

Yn Mhalestina yr oedd Justin Ferthyr yn byw yn nghanol yr ail ganrif . Tybir ei f od yn gwybod am yr Epistol at yr Hebreaid, gan ei fod yn galw Crist wrth yr enw " ein Hapostol," ymadrodd a geir yn y Testament Newydd yn yr Epistol at yr Hebreaid yn unig. Y mae y cyfeiriadau a wna at wroniaid ffydd yr Hen Destament, yn ei ddadl yn erbyn yr Iuddew Trypho, yn clebyg iawn i ranau blaenaf yr unfed benod ar ddeg o'r Epistol. Ond ni wna Justin unrhyw grybwylliad am enw yr awdwr.

Yn y lie hwn y gellir yn fwyaf naturiol grybwyll yr hen gyfieithiad Syriaeg o'r Testament Newydd a elwir " Y Cyfieithiad Syml " (Peshito) yr hwn a wnawd mor fore â diwedd yr ail ganrif. Ceir yr Epistol at yr Hebreaid yndclo, ond ar ol Epistolau Paul, hyd yn nod y rhai a ysgrifenwyd, nid at eglwysi, ond at bersonau unigol, fel yn ein Biblau ni. Yn y llawysgrifau henaf sydd ar gael o'r Testament Newydd yn yr iaith Roeg, cyfieir yr Epistol at yr Hebreaid ar ol Epistolau Paul at yr eglwysi ac o flaen yr Epistolau a ysgrifeuodd at bersonau unigol. Nid oes un o'r llaw- ysgrifau hyny yn hýn na'r bedwaredd ganrif. Ond ysgrif enwyd y Peshito yn yr ail ganrif. Y mae pwvs, gan hyny. yn nghyflead yr Epistol ynddo. A wgryma y cyflead nad ystyrid ef yn un o Epistolau Paul.

Y tyst nesaf y dylid cyfeirio ato ydyw Irenaeus, Esgob Lug- dunum (yn awr Lyons) yn neheubarth Gallia (yn awr Ffrainc), yn yr ail ganrif. Ond geilw Dr. Thomas sylw yn hollol briodol at y ffaith fod Irenaeus yn frodor o Asia Leiaf ac yn ei ieuenctid yn ddisgybl i Polycarp. yr hwn a welsai yr Apostol loan yn Eph- esus. Pan gofiom hyn, y mae yn anhawdd iawn credu na wyddai Irenaeus beth oedd syniad yr eglwysi cyntaf yn Asia Leiaf am awduriaeth yr Epistol at yr Hebreaid, os gwyddent am y fath Epistol o gwbl ac os eu golygiad oedd mai Paul oedd yr awdwr. Ond pan drown i lyfrau Irenaeus " Yn erbyn Heresiau," ac i'r " Gweddilliçn " o'i weithiau. yn argraphiad Stieren ni chawn un- rhyw gyfeiriad o gwbl at awdwr yr Epistol, nac, o ran hyny, ond un neu ddau, can belled ag y sylwais, o ddyfyniadau ohono. Yn mhellach, yn y nawfed ganrif ysgrifenodd Photius, Patriarch (Jaercystenyn, lyfr o ddyfyniadau allan o hen lyfrau, neu fath o tcrapbook, ac ynddo dywed fod awdwr o'r enw Gobar yr hwn oedd yn byw ddau gan mlynedd eyn ei amer ef, yn sylwi nad oedd nac Irenaeus na Hippolytus (esgob Ostir. porthladd Rhufain, yn yr

XIV. YR EPISTOL AT YR HEBREAID.

ail ganrif,) yn priodoli yr Epistoi at yr Hebreaid i Paul. Os jrdyw hyn yn wir, nid cywir hollol ydyw sylw Jerom fod yr troll ysgrifenwrr Groegaidd yn haeru mai Paul yw awdwr yr Epistoi.

Oddiwrth hyn oil ymddengys i mi yn gasglia 1 hollol natur- iol nad oedd eglwysi Syria ac Asia Leiaf yn priodoli yr Epistoi i Paul.

2. Yn yr Aipht y mae gwedd wahanol ar y cwestiwn. Yn Alexandria yn yr ail ganrif yr oedd athrofa Gristionogol enwog iawn dan lywyddiaeth Pantaenus, ac ar ei ol ef Clement, ac ar ei ol yntau Origen Y mae pob tin o'r tri hyn yn dyweyd my wbeth am awduriaeth yr Epistoi at yr Hebreaid.

Ceir syniad Pantaenus (yn yr ail ganrif) mewn dyfyniad a wna yr hanesvdd eglwysig Eusebius o weithiau Clement, olynydd Pantaenus Fel y canlyn y dywed Clement : ' Megis y dywedodd yr henuriad bendigaid [y mae yn eglur oddiwrth eiriau Eusebius mai Pantaenus a olygir,] oblegid fod yr Arglwydd, am ei fod yn Apostol yr Hollalluog, wedi ei anfon at Hebreaid, nid yw Paul, oherwydd gwvlder, gan mai at y cenhedloedd yr anfonwyd ef. yn cyfenwi ei bun yn Apostol yr Hebreaid, oblegid yran- rhydedd a berthynai i'r Arglwydd ac oblegid ei fod o'i orgyf- lawnder yn ysgrifenu at yr Hebreaid hefyd, tra yr oedd yn genad ac Apostol y cenhedloedd." Y ma. yn eglur fod Pantaenus yn credu mai Paul oedd awdwr yr Epistoi. Ond nis gwyddom pa un ai trosglwyddo traddodiad a dderbyniasai oddiwrth y rhai fu o'i flaen y mae ai ynte chwilio am resymau dros briodoli yr Epistoi i Paul, fel awgrymiad hollol newydd o'i eiddo ei hun, er mwyn gwneyd yr Epistoi mor awdurdodol âg Epistolau eraill y Testament Neẁydd Ni fynwn roddi barn ar hyn:'* Yn unig dylid cofio mai hwn yw yr awgrym cyntaf oil a gawn yn y brif eglwys mai Paul yw yr awdwr ac nad oes unrhyw sicrwydd o gwbl fod Pantaenus yn trosglwyddo traddodiad yr hynanaid yn yr hyn a ddywed

Ehydd Eusebius hefyd olygiad olynydd Pantaenus yn athrofa Alexandria yn niwedd yr ail ganrif a dechreu y drydedd. Dywed fod Clement yn priodoli yr Epistoi i Paul, ond yn dal mai i

*Dadleua Zahn yn gryf, yn ei lyfr diwecldar ar Banes y Canon, mai amcan Pantaenus oedd rhoddi eyfrif am y traddodiad. Ond y mae rh^^vheth i'w ddyweyd ar yr ochr arall, mai ei amcan oedd cadarnhau awdurdodiad ddwyi'ol yr Epistoi.

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. XV.

Hebreaid yn yr iaith Hebraeg yr ysgrifenwyd ef, ac mai Luc yn ofalus a'i cyfieithodd ac a'i cyhoeddodd i'r Groegiaid, ac mai am y rheswm hwn y mae yr un ieithwedd i'w chanfod wrth esbonio yn yr Epistol ac yn yr Actau; ond fod yr enw "Paul Apostol" heb ei ddodi o flaen yr Epistol, yn naturiol; oblegid wrth ysgrifenu at Hebreaid, y rhai a goleddent ragfarn yn ei erbyn ac a'i drwg- dybient, yn ddoeth gochelodd eu tarfu yn y cychwyn trwy roddi ei enw. Cyfeiria Clement yn ei weithiau sydd ar gael ainryw droion at yr Epistol a dyfyna ef fel Epistol Paul. Ond wrth i ni adolygu y dyfyniad a ddodwyd uchod ac a geir yn Eusebius, y mae yn hawdd gweled fod Clement wedi syrthio i un camgymeriad pwysig, pan y dywed mai yn yr iaith Hebraeg (neu Aramaeg) yr ysgrifenwyd yr Epistol gyntaf ac i Luc ei gyfieithu i'r Groeg. Nid oes unrhyw le i dybied mai yn yr Hebraeg yr ysgrifenwyd ef. Nid oes son o gwbl yn unman arall am y fath Epistol; ac y mae yn eithaf eglur oddiwrth gynwya yT Epistol ei hun mai yn yr iaith Roeg y cyfansoddwyd ef. Ni fynwn ddwyn yn mlaen ddau ystyr y gair diatheke yn pen. ix. 1G, 17, gan fod rhai esbonwyr enwog yn dal nad ydyw yr awdwr yn chwareu ar ddau ystyr y gair. Ond, os ydyw, yn y Groeg yn unig y mae yn bosibl iddo wneyd hyny. Ond cymerer i ystyriaeth yr ymresymiad yn nghylch Melchisedec yn y seithfed benod. Ai y cyfieithydd roddodd i mewn yr esboniad ar yr enwau "Mel- chisedec" a "Salem?" Ac eto, heb yr esboniad, ni fyddai yr ymresymiad yn bosibl. Neu meddylier am yr ymresymiad yn x. 5, 10. Yno gwneir dyfyniad o gyfieithiad o"r Hen Destament i'r Groeg gan y Deg a Thriugain. Yn y cyfieithiad digwydda yr yniadrodd "corph a gymhwysaist i mi," ac yn y ddegfed adnod dywed yr awdwr fod y geiriau hyn yn cyfeirio at gorph yr Arglwydd Iesu. Gwnaf gais ar esbonio hyn yn y nodiad ar yr adnod. Ond yn bresenol fy amcan ydyw dangos fod yn rhaid mai yn yr iaith Roeg yr ysgrifenai yr awdwr, oblegid nid yw yr Hebraeg gwreiddiol yn cynwys y gair "corph" o gwbl. Y mae y cam- gymeriad hwn o eiddo Clement yn tynu llawer oddiwrth ei awdurdod ar y pwnc o awduriaeth yr Epistol; am ddau reswm. Yn gyntaf, ni a welwn fod Pantaenus ac yntau yn haeru yn bendant, pan nad yw yr hyn a ddywedant ond eu golygiad eu hunain. Yn ail, y mae bron yn anmhosibl i ni gredu fod traddodiad boreuol a chryf yn eglwys Alexandria mai Paul oedd yr awdwr.

XVI. YR EPISTOL AT YR HEBREAID.

pan, ar yr un pryd, yr oedd y traddodiad wedi gadael y cwestiwn yn mha iaith yr ysgrifenwyd ef yn ansicr.

Yr athraw nesaf ar ol Clement yn athrofa Alexandria oedd Origen, y dyn mwyaf, yn ddiddadl, a gododd yn yr eglwys o ddyddiau yr Apostolion hyd ddyddiau Awstin. Bu farw ychydig ar ol y fiwyddyn 250 o.c. Ysgrifenodd Origen Haws mawT o lyfrau, a hyny dros ysbaid maith o amser. Y mae hyn yn ddigon i'n gosod ar ein gwyliadwriaeth i beidio disgwyl cysondeb hollol yn yr hyn a ddywed o bryd i bryd ar unrhyw gwestiwn. Dyfyna yr Epistol at yr Hebreaid yn fynych fel Epistol Paul. Ond ni ddywed unwaith ei fod yn rhwymo ei hun wrth y golygiad mai Paul oedd yr awdwr, fel pwnc o- feirniadaeth. Yn hytrach awgiyina mai cymeryd y traddodiad cyffredin yn ei ddyddiau ef yn ganiataol y mae. Ond ymddengys oddiwrth yr hyn a ddywed Eusebius fod Origen wedi ysgrifenu Homiliau ar yr Epistol at yr Hebreaid. OV gwaith hwn nid oes dim ond dau ddernyn bychan ar gael, y rhai a gadwyd yn unig trwy fod Eusebius yn eu dyfynu yn ei '"Hanes Eglwysig;" a digwydda. yn dra ffodus, fod y ddau yn cyfeirio at yr ymholiad yn nghylch awdwr yr Epistol. Y maent yn bwysig fel datganiad o syniad Origen yn addfedrwydd ei alluoedd beimiadol. Y mae y cyntaf fel y canlyn: "Nidyw arddull yr Epistol a gyfenwir, 'At yr Hebreaid.' yn dangos fod yr awdwr yn anghyfarwydd mewn ymadrodd. yr hyn sydd nodweddiadol o'r Apostol, gan ei fod ef yn eydnabod ei hun yn anghyfarwydd mewn ymadrodd, hyny yw mewn arddull. Ond y mae yr Epistol hwn o ran cyfansoddiad yn fwy clasurol. Addefir hyn gan bob dyn sydd yn alluog i roi barn ar wahaniaeth arddull. Ac ar y llaw arail, drachefn, cydnabyddai f>ob dyn sydd yn sylwi wrth ddarllen ysgrifeniadau yr Apostolion, fod syniadau yr Epistol yn ardderchog ac nid yn ail i'r ysgrifen- iadau a gydnabyddir yn apostolaidd."

Y mae y dernyn arall fel y canlyn: "O'm rhan i, mi a ddywedwn fy marn, mai yr Apostol bia y syniadau, ond fod yr arddull a'r cyfansoddiad yn perthyn i rywun a goffaodd ac a ddododd i lawr nodiadau megis oV pethau a ddywedasid gan yr athraw. Os oes, gan hyny, unrhyw eglwys yn derbyn yr Epistol fel yr eiddo Paul, cadwed ei henwogrwydd hyd yn nod yn yr amgvlchiad hwnw; canys nid neb reswm y mae y rhai gynt wedi ei draddodi ef i ni fel Epistol Paul; ond pwy a ysgrifenodd yr

YR EPISTOL AT YR HEBREAID~ XVU.

Epistol, y gwirionedd ar hyn Duw yn unig ẁyr. Yr hanes a ddaeth i lawr i ni ydyw, yn ol rhai mai Clement,* yr hwn fu yn esgob y Rhufeiniaid, a ysgrifenodd yr Epistol, ond yn ol eraill, mai Luc, yr hwn a ysgrifenodd yrEfengyl a'r Actau."

Oddiwrth y dyfyniadau hyn o Origen gellir tynu rhai casgliadau :

Yn gyntaf, y mae yn eglur nad oedd yn werth ganddo sylwi ar yr hyn a ddywedasai Clement, yr athraw o'i flaen yn Alexandria, mai yn Hebraeg yr ysgrifenasid ;r Epistol gyntaf. Gallwn yn ddibetrus wrthod y golygiad h\vn, er fod Eusebius yn ei dderbyn.

Yn ail, ymddengys mai nifer fechan o eglwysi, efallai dim end un, yn amser Origen, oedd yn dal mai Paul oeddyr awdwr, gan ei fod yn dyweyd, " Os oes unrhyw eglwys yn derbyn yr Epistol fel yr eiddo Paul ;" ac y mae y geiriau dilynol, " cadwed ei henwog- rwydd," yn awgiymu mai golygiad eglwys Alexandria oedd hyny, a'r eglwys hono yn unig. Ni wyddis am un eglwys arallyn amscr Origen yn golygu felly.

Yn drydydd, gellir casglu fod y traddodiad hyd yn nod yn Alexandria yn anirywio. Dywedasai rhai o bobl y dyddiau gynt mai Paul oedd yr awdwr. Rhaid mai "rhai" a olygir ; canys dywed Origen ei hun fod rhai traddodiadau yn dysgu mai Luc, a rhai mai Clement o Rufain a ysgrifenasai yr Epistol. Pwy oedd y rhai a ddywedent mai Paul oedd yr awdwr, nis gwyddom. Ond, os cyfreithlawn bamu oddiwrth yr hyn a ddywedwyd o'r blaen, gallwn gasglu, gyda rhyw gymaint o sicrwydd, mai at Pantaenus a Clement y cyfeiria Origen.

Yn bedwerydd, pwy bynag oedd wedi " traddodi " y syniad mai Paul oedd yr awdwr, nid ystyriai Origen fod y traddodiad hwnw yn ddigon sicr i'w atal i ddatgan ei farn mai nid Paul ysgrifenodd yr Epistol. Tybia rhai beimiaid (yn eu plith y mae Olshausen, Delitzsch, a Samuel Davidson) mai y cwbl a olyga Origen wrth y gair " ysgrif enu " ydyw gosod i lawr mewn ysgrifen o enau Paul yr hyn a ddywedai ar y pryd ; yn debyg fel y geilw Tertius ei hun yn ysgrifenwr yr Epistol at y Khufeiniaid (Rhuf. xvi. 22). Ond y mae y geiriau " arddull " a " ch}-fan- soddiad" yn gwrthbrofi y golygiad hwn. Y meddwl yn ddiau

Dichon mai nid afreidiol ydj-w rhybuddio y darllenydd mai nid yr un ydyw Clement o Rufain a Clement o Alexandria. 3

XVU1. YE EPISTOL AT YR HEBREAID.

ydyw niai Paul oedd ffynonell y syniadau, ac mai rhywun arall gyfansoddodd y traethawd sydd yn corphori y syniadau hyny. Camgymerodd Alford ar yr ochr arall, trwy dybied mai yr ystyr ydyw nad oes sicrwydd pa un ai Paul ai Clement ai Luc oedd awdwr y syuiadau a'r cyfansoddiad.

Yn burned, yr oedd amcan gan y tri athraw hyn yn Alexandria wrth geisio cyssylltu enw Paul â'r Epistol. Gwelir hyn oddiwrth y ffaith f od pob un o honynt yn cynyg esboniad o'i eiddo ei hun ar neillduolion yr Epistol a'i hanes ; ac y mae esboniad pob un o'r tri yn wahanol i esboniadau y Ueill. Barnai Pantaenus mai Paul oedd yr awdwr, ond ei fod yn cuddio ei enw er anrhydeddu ei Arglwydd. Golygai Clement mai Paul oedd yr awdwr, ond iddo ysgrifenu yr Epistol yn Hebraeg, ac i Luc ei gyfieithu. Awgrymai Origen mai Paul oedd awdwr y syniadau, ond mai rhywun arall gyfansoddodd yr Epistol. Paham y cynygiant oil olygiadau newydd ar y pwnc ? Yy unig beth sydd yn rhoddi cyfrif am dano ydyw eu bod oil yn awyddus i gadarnhau awdurdod ganonaidd yr Epistol trwy ei gyssylltu rvwfodd âg enw Paul, ac fod pob un o honynt yn teimlo anhawsder yn y golygiad ac yn yr esboniadau a gynygid i symud yr anhawsder. Os ymholir, yn mhellach, paham yr oeddynt hwy yn awyddus i gadamhau awdurdod yr Epistol mwy nag yr oedd yr eglwysi gorllewinol, nid oes genyf ond ateb fod cynwys a dull yr Epistol yn llawer mwy cydnaws âg ysbryd y dwyrain nag ydoedd a ffurf meddwl y Cristionogion yn y gorllewin. Xis gallaf ddychymyga Awstin yn ymhyfrydu gy- maint ynddo ag yr ymhyfrydai y fath ddyn âg Origen.

Yn chweched, y mae yn deilwng o sylw fod Clement ac Origen yn dyfynu yr Epistol a elwir yn gyffredin "Epistol Barnabas" dan enw Barnabas ; ac eto nid oes neb o'r beirniaid a anturiai ddyweyd yn y dyddiau hyn mai Barnabas ydyw awdwr yr Epistol hwnw. Paham y priodolir mwy o aw lurdod i farn Clement ac Origen ar awduriaeth yr Epistol at yr Hebreaid ? Gellir gwneyd yn hollol yr un sylw am Jerom hefyd.

Kid ymddengys i mi fod llawer o bwys yn ngolygiadau neb yn yr eglwysi dwyreiniol ar ol dyddiau Origen. Y mae Eusebius o Caesarea, Dionysius ac Athanasius o Alexandria, ac eraill yn derbyn y golygiad mai Paul oedd yr awdwr. Ond y maent yn rhy ddiweddar o ran eu hamser i feddu gwerth annibynol fel tystion

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. XIX.

am y traddodiad eglwysig. Yr oedd y syniad a gododd yn eglwys Alexandria yn amser Pantaenus wedi cael digon o amser bellach i sefydlu ei hun, ac yr oedd yr awydd i sicrhau awdurdod ganonaidd yr Epistol yn ddigon o res win dros beidio anonyddu ar y golygiad hwnw.

3. Gallwn droi yn awr at yr eglwysi Lladinaidd yn y gorllewin. I bob amcan ymarferol yn yr ymholiad hwn ni raid i ni edrych y tu allan i gyffiniau dwy eglwys orllewinol, sef yr eglwys yn Bliufain ac eglwys Affrica (gan olygu wrth yr enw hwn y wlad arforawl yr ochr ddeheuol i For y Canoldir ar gyfer yr Ital).

(1) Eglwys Rhufain, Ysgrifenodd Clement, esgob yr eglwys yn Rhufain, ei Epistol at eglwys Corinth tua diwedd y ganrif gyntaf. Hwn yw y dernyn boreuaf sydd genym o lenyddiaeth Gristionogol ar ol dyddiau' yr Apostolion. Yr amseriad a dder- bynir gan y goreuon o'r beirniaid diweddaraf ydyw rhwng 93 a 97 o.c., yr hwn sydd yn ein dwyn o fewn oddeutn deng mlynedd ar hugain i ddyddiad tebygol yr Epistol at yr Hebreaid ei hun. Dyfyna Clement yr Epistol lawer gwaith ac yn f wy mynych nag un rhan arall o'r Testament Newydd. * Ond y mae yn hynod nad ydyw Clement yn enwi yr awdwr o gwbl. Pe gwyddai mai yr Apostol Paul, am yr hwn y llefara yn ei Epistol gydag edmygedd zelog a gostyngedig, oedd yr awdwr, y mae yn annhebygol iawn y gadawsai ei enw allan. Mwy na hyny, pan y dyfyna yr Epistol at yr Hebreaid, ni ddywed unwaith mai dyfyniad ydyw y geiriau. Cymysga y dyfyniadau bob amser â'i eiriau ei hun, fel dyn yn teimlo ei fod ar yr un tir â'r awdwr ac yn meddu yr un faint o awdurdod. Ni ddyfyna yr Epistol fel rhan o'r hyn a elwir yn y brif eglwys " y gwirionedd apostolaidd," ac ni apelia ato i sicrhau âg awdurdod apostol yr hyn a ddywed ef ei hun. Yr un pryd, y mae y cyfeiriadau at yr Epistol yn Epistol Clement yn werthfawr dros ben; oblegid, ar ol Clement, nidoes genym yr un cyf eiriad di-

*Golyga Dr. James Donaldson (Apostolic Father») y gall mai awdwr yr Epistol at yr Hebreaid sydd yn dyi'ynu o Epistol' Clement, ac nid Clement o'r Epistol at yr Hebreaid. Nl chlywais ond am ddan hyd yn nod yn miüith yr Ellmyniaid yn credn hyn. Bydd im angraifft yn ddigon i ddangos mor annaturiol yw y iath dybiaeth. Y mae yr hyn a ddywedir yn nechreu yr Epistol at yr Hebreaid am Berson y Mab yn rhan hanfodol a bywydol o ymresymiad yr awdwr; ond, er fod yr un geiriau yn Epistol Clement, rhoddir hwynt i mewn lei addiuniadau yn nghanol cynghorion ymarferol a gellir eu gadael allan heb gytfwrdd a i.ywyd y traethawd. Ond, heb son am amnviirtiau, y mae gvrreiddioMeb dwfn-dreiddiol yr Epistol at yr Hebreaid a bychander Irwynebol BpistoJ Clement yn profi pa un o'r ddau bia y drychieddyliau mawrion am y Mab iel disgJeüdeb haniod ac argraff sylwedd Duw.

XX. YE EPISTOL AT YE HEBEZATD.

amheuol* ato yn yr eglwysi gorllewinol ain oddeutucan' mlynedd. Fel yr oedd yr eglwysi hyny yn myned yn fwyfwy cenhedlig, a'r elfen Iuddewig yn gwanhau, yr oedd yn hollol naturiol i Epistol a fwriadwyd i Hebreaid gael ei esgeuluso. Y mae yn bin- amheus a ddeallid y fath Epistol ganddynt. Oni buasai, gan hyny, fod Epistol Clement, yn niwedd y ganrif gyntaf, yn dangos fod yr Epistol at yr Hebreaid yn hollol adnabyddus yn eglwys Rhufain, buasem heb sicrwydd fod eglwys y gorllewin yn gwybod am dano am gant a haner o fiynyddoedd ar ol ei ysgrifenu.

Cyn diwedd yr ail ganrif gwnawd rhestr yn Rhufain o'r llyfrau a gyfrifid yn ganonaidd. Nid oes ond dernyn o'r rhestr anmhris- iadwy hon ar gael. Darganfyddwyd h\vnw gan un Muratori yn Llyfrgell yr Archesgob Ambros neu Emrys yn Milan yn y flwyddyn 1740 o.c. Nid yw enw yr Epistol at yr Hebreaid yn y dernyn hwn. Gallai fod, bid sicr, yn y rhan sydd ar goll. Ond dywedir ynddo mai at saith o eglwysi yr ysgrifenodd Paul ac mai nifer ei holl Epistolau ydyw tii ar ddeg. Y mae hyn yn cau allan yr Epistol at yr Hebreaid.

Drachefn, dywed Eusebius fod henuriad tra chyfrifol o'r enw Cains yn perthyn i'r eglwys yn Rhufain yn niwedd yr ail ganrif a dechreu y diydedd, a'i fod ef yn dyweyd mai trí ar ddeg o Epistolau a ysgrifenwyd gan Paul. Ychwanega Eusebius mai yr Epistol at yr Hebreaid oedd yr un y bwríadai Caius ei gau allan, a bod y " Rhufeinwyr'' (sef, fe ddichon, yr eglwysi Lladinaidd) hyd ei amser yntau (Eusebius) yn dal mai nid Paul oedd yr awdwr. Y mae dau gasgliad y gellir eu tynu gyda gradd o sicrwydd oddiwrth eiiiau yr hanesydd. Yn gyntaf, oddiwrth ei ddywed- iad fod rhai }*n Rhufain hyd ei ddyddiau ef yn parhau i haeru mai nid Paul oedd awdwr yr Epistol, gellid meddwl mai hon oedd y f am gyffredinol yn yr eglwys hono yn amser Caius, ac mai yn raddol y dyg^wd y golygiad arall i mewn i'w plith. Yn ail, dywed rhai mai yr un dyn oedd y Caius hwn â Hippolytus, esgob Ostia. Os felly, y mae geiriau Eusebius yn cadarnhau .gwirionedd yr hyn, fel y gwelsom eisoes, a ddywedir gan Photius am Irenaeus ; ac y mae tystiolaeth neu ddystawrwj'dd Irenaeus, i fy meddwl i, mor bwysig â dim ar y cwestiwn. Ond, os nad jt un dyn oedd Caius â Hippolytus, yna y mae genym ddau

* Bernir fod "Y Bugail" wedi ei ysgrifenu yn Rhufain cyn y flwyddyn 150 ^i.C. Ond ni chytuna y beirniaid goreu ar y cwestiwn pa un a oes cyfeiriadau ^ nddo at yr Epistol at yr Hebreaid ai nad oes.

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. XXI.

dyst, yn lie un, i ddangos nad oedd yr eglwys yn Rhufain yn nechreu y drydedd ganrif yn golygu mai Paul oedd yr awdwr.

(2) Eglwys Africa. Rhan o'r eglwys Ladinaidd oedd hon. Yn Lladin yr ysgrifenodd Tertullian, Cyprian, ac Awstin, tri duwin- ydd mawr yr Eglwys Gristionogol yn ngogleddbartk Affrica. Bydd yr hyn a ddywed y tri ar y pwnc sydd genym dan sylw yn ddigon i roi golwg gywir i ni ar farn yr eglwysi a gynrychiolant, Yr oedd Tertullian yn byw yn niwedd yr ail ganrif a dechreu y drydedd. Dyfyna Tertullian bob un o Epistolau Paul lawer gwaith. Y mae ei ddyfyniadau o'r Testament Newydd oil yn amryw filoedd mewn nifer. Rhaidfod rhyw reswm, gan hyny, anr y ffaith hynod na ddyfyna Tertullian yr Epistol at yr Hebreaid fwy nag unwaith, yn uniongyrchol, er fod amryw (oddeutu deg, efallai,) o ddyfyniadau anuniongyrchol yn ei amrywiol draethodau. Rhoddaf i lawr yma yr unig ddyfyniad uniongyrchol, a dymunaf ar i'r darllenydd sylwi arno yn fanwl. Wedi ceisio dangos oddi- wrth ranau eraill o'r Testament Newydd nad oes modd adíer y neb a syrthia ymaith, dywed :

" Ond yr wyf yn dymuno ychwanegu, er nad oes angenrheid- rwydd, dystiolaeth un oedd yn gydymaith i'r Apostolion, yr hwn sydd yn gymhwys i gadarnhau, fel awdurdod ail-raddol, ddysgybl- aeth y meistriaid. Canys y mae ar gael y cyfenwad 'Epistol Barnabas at yr Hebreaid,' g\vr o gymaint awdurdod fel y gesyd Paul ef wrth ei ochr fel esampl o ymataliad, ' Ai myfi yn unig a Barnabas, nid oes genym awdurdod i beidio gweithio?' A pha fodd bynag, y mae Epistol Barnabas yn cael ei dderbyn yn fwy yn yr eglwysi na 'Bugail' apocryphaidd y godinebwyr. Gan rybuddio y disgyblion, gan hyny, wedi gadael pob dechreuad, i gyrchu yn fwy at berffeithrwydd, ac i beidio gosod i lawr drachefn seiliau edifeirwch oddiwrth weithredoedd meirwon, dywed, Canys annihosibl yw," &c. Yna dyfyna Tertullian Heb. vi. 6 8. Wedi hyny ychwanega, " Hyn a ddywed un a ddysgodd gan yr Apostolion ac a gyfranodd addysg gydag Apostolion," &c.

Oddiwrth y dyfyniad tra hjmod hwn, gallwn gasglu y pethau canlynol :

Yn gyntaf, nid oedd Tertullian yn priodoli yi* Epistol i Paul. Ie, nid oedd yn gwybod fod eglwysi i'w cael y rhai a'i derbynient fel Epistol Paul. Y mae yn hawdd i bob darllenydd weled mai mantais i ddadl Tertullian fyddai gallu dyfynu geiriau awdur-

XXll. YE EPISTOL AT YK HEBREAID.

dodol Paul i brofi fod yn anmhosibl adnewyddu y rhai a syrth- iant ymaith. Gwna ei oreu i godi awdurdod yr Epistol mor uchel ag sydd yn ddichonadwy, trwy roi pwys ar y iFaith fod y gŵr a ystyria efe yn awdwr iddo yn gyfaill ac yn ddisgybl i Apostolion, ac, am hyny, fod rhyw gyrnaint o awdurdod yn perthyn i'w eiriau.

Yn ail, os na wyddai Terüúlian fod rhai eglwysi yn dal mai Paul oedd yr awdwr, y mae yn ddiddadl nad oedd eglwysi Rhuf ain a'r Ital ac Affrica yn golygu felly. Nid oedd llawer o fasnach yn yr oes bono rhwng y dwyrain a gogleddbarth Affrica. Ond yr oedd tramwy parbaus rhwng Rbufain a'r gwledydd a orchfygasai a'r dinasoedd a sefydlasai yr ochr arall i For y Canoldir, Bu Tertullian ei bun yn aros heiyd yn Rhufain.

Yn drydydd, sylwer ar y sicrwydd â pha un yr ysgrifena Ter- tullian. Nid yw yn dyweyd yr hyn y mae efe ei hun wedi ei ddyfalu. Ysgrifena fel un yn gwybod mai hyn oedd y traddodiad yn y gorllewin, ac nad amheuid y peth gan ei ddarllenwyr ; ac yr oedd Tertullian yn ddadleuydd rhy graff i anturio datgan fel iFaith yr hyn nad oedd ond tybiaeth. Yn wir, y mae y gair " cyfenwad," yr hwn a ddefnyddia, yn awgrymu fod y copi oedd ger ei fron o'r Epistol yn cynwys yr enw hwn, " Epistol Barnabas at yr Heb- reaid." * Yn mhellach, y mae y geiriau u y mae ar gael," yn awgrymu nad oedd yr Epistol yn y copiau adnabyddus y pryd hwnw yn eglwysi Affrica o'r hen gyfieithiad neu gyfieithiadau Lladin cyn amser Jerom o'r Testament Newydd. Os ydyw hyn yn wir, y mae yn ffaith bwysig.

Y mae Cyprian, esgob Carthage, yr hwn oedd 3m byw yn haner cyntaf y bedwaredd ganrif, yn dyfynu pob llyfr o'r Testament Newydd, oddieithr yr Epistol at yr Hebreaid a dau Epistol byrion, sef Epistol Paul at Philemon a Thrydydd Epistol loan. Ni wna unrhyw gyfeiriad at yr Epistol at yr Hebreaid. Dywed fwy nag unwaith mai at saith o eglwysi yr ysgrifenodd Paul. Ond y mae yn rhaid fod Cyprian yn gwybod am yr Epistol. Oblegid yr oedd yn astudiwr dyfal ar weithiau Tertullian. Y mae sylw Tertullian yn ddigon ynddo ei hun i brofi fod Cyprian yn ystyried yr Epistol yn israddol mewn awdurdod ac nad oedd yn rhan o'r canon.

* Os oes eisiau prawf pellach nad oedd Tertullian yn golygu mai Paul oedd yr awdwr, ceir ef yn yr hyn y geilw Bleek sylw ato, sef ei fod yn beio yr heretic Marcion am dynu 1 lawr Epistolau Paul i ddeg, a dywed y dylasai fod wedi cymeryd i'r cyfrif y ddau Epistol at Timotheus a'r Epistol at Titus. Gwrthodai Marcion gydnahod yr Epistol at yr Hebreaid, ac nid yw Tertullian yn beio arno am hyny.

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. XxiiL

Gochela ei ddyfynu am yr un rheswm ag y gâd yn ddisylw hollol y llyfr arall a enwir gan Tertullian yn y dyfyniad uchod, sef "Y Bugail."

Y mwyaf ar lawer cyfrif o holl dduwinyddion y brif eglwys oedd Awstin, esgob Hippo, yr hwn oedd yn byw yn niwedd y bedwaredd a dechreu y burned ganrif. Bu farw yn y fl. 430 o.c. Teilynga Awstin ein sylw ar y pwnc presenol, nid fel tyst o'r hyn oedd y traddodiad, ond am y dengys ei eiriau y symudiad graddol a sicr oddiwrth olygiadau Tertullian a Cyprian i'r golygiad mai Paul yw awdwr yr Epistol. Cyn amser Awstin yr unig ysgrif- enwr yn eglwys Affrica sydd yn dyfynu yr Epistol ydyw Tertullian. Dyfyna Awstin ef yn fynyeh, weithiau fel yr eiddo Paul, ond yn fwy mynych gyda rhyw awgryin fod rhai yn amheu hyny ; megis fel hyn: "yr epistol a ysgrifenwyd at yr Hebreaid, yr hwn a briodolir gan y rhan fwyaf i Paul, ond gwedir hyn gan rai;" neu, " yr epistol a gyfenwir, At yr Hebreaid." Rhaid i ni, fe welir, ystyried fod Awstin ei hun yn derbyn y golygiad mai Paul yw awdwr yr Epistol. Y mae hyn, pe na byddai dim arall, yn ddigou i roddi cyfrif am ledaeniad y syniad hwn yn eglwysi y gorllewin. Nid anhawdd esbonio pa fodd y digwyddodd i Awstin fabwysiadu 7 golygiad. Rhaid priodoli hyny i ddylanwad dau ddyn, i'r rhai yr oedd Awstin, mewn rhai cyfeiriadau, yn talu gwarogaeth, sef Jerom, y mynach Lladinaidd, fu am flynyddoedd yn byw yn y dwyrain, ac Ambros, esgob Milan yn yr Ital. Fel y gwelsom eisoes, derbyniodd Eusebius o Caesarea y golygiad mai Paul oedd yr awdwr oddiwrth eglwys Alexandria; ac ymledodd y syniad trwy Asia Leiaf a Chaercystenyn yn yr oes nesaf ar ol dyddiau Eusebius ac Athanasius. Derbyniwvd ef gan holl Dduwinyddion tnawr y dwyrain yn oes Basil a'r ddau Gregory. Daeth Jerom i'r dwyrain ac i adnabyddiaeth â rhai o honynt. Astudiodd weithiau Origen. Cludodd i'r gorllewin lawer o'u golygiadau, ac, yn mysg sraill, y golygiad hwn mai Paul oedd awdwr yr Epistol at yr Hebreaid. Eto dyfyna yntau yr Epistol yn fynyeh gydag awgrym fod amheuaeth ar y pwnc. Dywed: "Epistol Paul at yr Hebreaid, neu pwy bynag arall a ystyriwch fel ei awdwr;" "syhva yr Apostol Paul, os derbynia neb yr Epistol at yr Hebreaid ; " "derbynir yr Epistol gan y Groegiad oil a chan rai Lladinwyr." &c. Bu farw Jerom yn y fl. 420 o.c. Yr oedd Ambros hefyd weJi astudio g weithiau Origen a duwinyddion eraill y dwyrain.

A' XIV. YE EPISTOL, AT YE, HEBREAID.

Ond deil ef yn gyson a dibetrus y golygiad mai Paul ysgrifenodd yr Epistol. Mewn un o'i weithiau ymdrecha broü fod y geiriau sydd yn Heb. vi. 4 yn gyson â'r hyn a ddywed Paul mewn Epistolau eraill. Ei esboniad ydyw mai gwahardd y mae yr Apostol yn y geiriau hyn ail fedydd i'r rhai a syrthiasant yniaith. Dylanwadodd Ambros a Jerom ar Awstin, a'r tri gyda'u gilydd a benderfynasant olygiad eglwysi y gorllewin am holl ystod y canol oesau.

Y llawysgrif nesaf at B. Aleph, A a C mewn henaint ac awdur- dod ydyw y Llawysgrif Claromontanaidd (D, neu, er ìnwjm ei gwahaniaethu oddiwrth un arall, D2.) Ysgrífenwyd lion yn y -ehweched ganrif yn y gorllewin, a cheir ynddi, nid yn unig y Groeg £wreiddiol, ond hefyd gyfieithiad o'r Groeg i'r iaith Ladin. Y mae dau beth o berthynas i'r llawysgrif hon yn deilwng o sylw. Y naill ydyw nad oes ynddi un cyfenwad o gwbl uwchben yr Epistol. Nid yn unig ni ddywedir "Epistol Paul yr Apostol," ond ni ddywedir ychwaitk "At yr Hebreaid.'' Yn lie hyny, cawnar ddiwedd yr Epistol at Philemon restr o lyfrau yr Hen Destament a'r Newydd, yr hon ni chynwysa enw yr Epistol at yr Hebreaid, ond a gynwys yr enw "Epistol Barnabas." Yn awr, y mae y gofyniad yn ymgynyg ar unwaith, ai y llyfr a elwir yn gyffredin •'Epistol Barnabas" a olygir, ai ynte yr Epistol at yr Hebreaid? Y mae atebiad y beirniaid sydd yn gyfarwydd â'r lawysgiifau yn hynod ac yn ddyddorol. Ymddengys fod y rhestr hon o enwau llyfrau y Testament Newydd yn hysbysu pa sawl llinell sydd yn mhob llyfr; a dywed fod 850 o linellau yn "Epistol Barnabas." Ond nifer y Ilinellau sydd yn y tri Epistol, At y Galatiaid, yr Ephesiaid, a Titus, wedi eu rhoddi at eu gilydd, ydyw 865 ; hyny ydyw, dim ond 15 llinell yn fwy. Yn awr, with gymharu llawysgrif au eraill, yn y rhai y ceir yr Epistol at yr Hebrew, ú'u gilydd, ni a gawn fod yr Epistol at yr Hebreaid (a chym- meryd y canolrif) yn ymestyn i 703 u linellau a'r tri Epistol, At y Galatiaid, yr Ephesiaid, a Titus, i 702 o linellau, sef yn bur agos yr un nifer; tra, ar y llaw arall, y mae yr Epistol a elwir ar enw Barnabas gryn lawer yn hwy. Y casgliad naturiol ydyw mai yr Epistol at yr Hebreaid ydyw yr Epistol hwnw a briodolir i Barnabas yn y Llawysgrif Claromontanaidd, ac nid yr Epistol a gyfenwir yn gyffredin ar enw Barnabas. Os felly, dynia dystiolaeth annibynol hollol ar Tertullian mai Bar-

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. XXV.

nabas oedd yr awdwr. Yn ail, gyda golwg ar y cyfieithiad Lladin sydd yn y llawysgrif hon, nid cyfieithiad Jerom ydyw, ond cyfieithiad, neu gymysgedd o gyfieithiadau, a wnawd cyn dyddiau Jerom. Nid ydyw ychwaith yn gyfieithiad o'r Groeg sydd yn y llawysgrif ei hun, ond y mae wedi ei wneyd o ryw lawysgrif henach. Yn mhellach, y mae y cyfieithiad Lladin a f abwysiadwyd i raddau gan Jerom wedi ei wneyd, yn niarn Westcott, nid gan yr un dyn ag a gyfieitliodd Epistolau Panl. Y mae yr ystyriaethau hyn, o'u rhoddi at eu gilydd, yn ffurfio ymresymiad lied gryf, er -nad yw yn penderfynu y pwnc, nad oedd na chop'iwr y llawysgrif lion nac awdwr y cyfieithiad Lladin sydd ynddi yn credu mai Paul yw awdwr yr Epistol.

Credaf fod yr hyn a ddywedwyd pi rhoi bras olwg gywir ar yr holl dystiolaeth gyntefig. Fel tystion uniongyrchol i'r tra- il dodiad eglwysig nid oes ond ychydig o werth yn marn neb o'r ysgrifenwyr galluog a godasant ar ol amser Eusebius. Dygais eu henwau i mewn yn fwy i ddangos pa fodd y mae wedi digwydd fod enw Paul wedi ei gysylltu wrth yi* Epistol am oesau meithiou. Ond ni pherthynant i swm "y dystiolaeth gyntefig." Oddiwrth y dystiolaeth hono gallwn yn dég a dibetrus dynu y casgliadau canlynol:

Yn gyntaf, nid oes un awdwr cyntefig o gwbl yn dal mai Paul vsgrifenodd yr Epistol yn yr iaith Roeg, yr iaith yn yr hon y ceir ef yn awr yn y Testament Newydd. Haera y rhai sydd yn dal mai Paul yw yr awdwr iddo ei ysgrifenu yn Hebraeg. Gwelsom fod y golygiad hwn yn sicr o fod yn gyfeiliomus. Gan hyny, os uad yn Hebraeg yr ysgrifenwyd yr Epistol, pa sail o gwbl sydd genym i gredu oddiwrth y tystiolaethau hyn mai Paul a'i hysgrif- enodd?

Yn ail, yr oedd yr eglwys yn Hhufain yn gwybod am yr Epistol yn y ganrif gyntaf; oblegid dyfynir ef yn Epistol Clement at y Corinthiaid. Ond i lawr hyd ddyddiau Eusebius nid oes ond i lifer fechan yn Rhufain, fe ellid tybied, wedi clywed na dychymygu mai Paul oedd yr awdwr. Ymddengys hyn i mi yn anarferol o bwysig. Oblegid y mae y cysylltiad rhwng yr Epistol a'r eglwys yn Rhufain yn llawcr agosach nag y tybiai neb oddiwrth y dyfyn- iadau sydd yn Epi>tol Clement. Yn yr Epistol at yr Hebreaid ei hun ceir cyfeiriad at rywrai " o'r Italy" sydd yn anfon eu4tanerch at yr Hebreaid. Rhaid fod y geiriau yn golygu un ai fod yr 4

XXVI. YE EPISTOL AT YR HEBREAID.

awdwr yn yr Ital pan yn ysgrifenu ei Epistol ai fod yr Hebreaid yn yr Ital pan yn ei ddarllen. Yn y nodiad ar yr adnod (xiii. 24) rhoddir rhesymau dros dderbyn y golygiad blaenaf, mai o'r Ital yr ysgrifenai yr awdwr. Ond, pa un bynag o'r ddau olygiad sydd gywir, y mae y casgliad yn anwrthwynebol, fod anwybodaeth ddi- amheuol yr Eglwys yn Rhuf ain am y syniad mai Paul ysgrif enodd yr Epistol yn anesboniadwy, os efe oedd yr awdwr.

Yn drydydd, cyfyd gwrthddadl yn y fan hon. Os o'r Ital yr ysgrifenai yr awdwr neu os i'r Ital yr anfonwyd yr Epistol (ac y mae y naill neu y llall o'r golygiadau hyn yh ymddangos fel pe byddai y tuhwnt i bob amheuaeth), pa fodd y digwydd nas gwyddai Clement a'r eglwys yn Rhufain pwy oedd yr awdwr? Ond nid wyf yn haeru nas gwyddent. Credaf eu bod yn gwybod. Ond, os nad Paul oedd yr awdwr, nid gan neb o'r Apostolion yi ysgrifenwyd yr Epistol. Ystyrient fod yn rhaid i Epistol awdurdodedig gael ei ysgrifenu gan Apostol. Y mae hyn yd esbonio paham na enwir yr awdwr gan Clement a phaham y cymysga ei ddyfyniadau o'r Epistol â'i ymadroddion ei hun. Eglura hefyd paham na ddyfynir ef gan Cyprian, a phaham yi esgeulusir ef gymaint gan Tertullian, a phaham y llefara yr ysgrifenwr hwn mor bendant ar y cwesth\n; a pha fodd y digwyddodd i'r wybodaeth am enw yr awdwr syrthio yn fuan i ebargofiant yn y gorllewin, gan fod yr Epistol ei hun o'r dechreuad yn ddienw. Ni ddylid synu ychwaith fod y traddodiad am awduriaeth yr Epistol wedi ei golli yn mhlith yr Hebreaid eu hunain, os oedd yr awdwr yn yr Ital a hwythau yn Jerusalem. Y mae yn ddiddadl oddiwrth yr anerchiadau yn y benod olaf fod y rhai yr anfonwyd ef atynt yn gwybod pwy oedd yr- ysgrifenwr. Rhaid ei fod wedi ei anion gyda rhyw frawd a allai roddi hysbysrwydd iddynt. Paham y peidiodd yr awdwr- roddi ei enw ar y llythyr sydd ofyniad y bydd yn angenrheidiol ei ystyried. Ond oferedd ydyw tybied, fel y gwnai Clement o Alexandria, fod yr awdwr- yn ymddieithrio oddiwrth ei ddarllenwyr. Os oedd y Cristionogion yr anfonwyd yr Epistol atynt yn gwybod pwy oedd yr- ysgrifenwr-, y mae yn ddiddadl i ddinjsfcr y ddinas a gwasgariad yr Hebreaid Cristionogol achlysuro fyned o swrn o draddodiadau ar ddifancoll. Un o'r colledion penaf yn y gan- rif gyntaf ydyw ein bod yn gwybod can Ueied am Gristionogaeth Hebreaidd.

YE EPISTOL AT YE HEBEEAID. XXVU.

2. Y Piojion Tufevjnol.

Wrth geisio penderfynu pwy yw awdwr llyfr henafol, y mae y profion tufewnol o angenrheidrwydd yn llawer pwysicach na'r profion allanol, am y rheswm fod y profion allanol yn gorphwys yn benaf ar draddodiad, yr hwn all fod yn brin ac yn ansicr, ac yn fwyfwy anhawdd ei olrhain o'r naill oes i'r llall, tra y mae y profion tufewnol yn ein gosod ar yr un tir â darllenwyr cyntaf y llyfr, os ymddibynant hwy ar brofion tufewnol am eu gwybodaeth o enw yr awdwr. Yn wir, dichon i ni fod mewn gwell mantais na hwy i roddi barn ar y cwestiwn oddiwrth ansawdd y llyfr ei hun.

Gyda golwg ar yr Epistol at yr Hebreaid, nid wyf yn tybied bod neb a ddarlleno yn ystyriol yr hyn a ddywedwyd uchod na chydnebydd fod y profion allanol oddiwrth draddodiad eglwysig yn llawer rhy ansicr i brofi mai Paul oedd yr awdwr ; ac, yn ychwaneg, fod y tystiolaethau, pan gymharer y naill â'r llall, yn myned yn mhell i wneyd y golygiad hwnw yn anhebyg iawn o fod yn wir. Yr un pryd, nid yw y cwbl a ddywedwyd yn ddigon i benderfynu y pwnc ar y naill ochr na'r llall. Y cwestiwn bellach ydyw hwn, A yw ei leferydd yn ei gyhuddo ? Os ceir fod y profion tufewnol yn ein harwain i gredu mai I'aul ysgrifenodd yr Epistol, rhaid gosod o'r neilldu yr ymresymiad gwrthwynebol i hyny sydd yn codi oddiallan, a chydnabod bod rhai pethau yn nglýn â'r traddodiad eglwysig nas gallwn ar hyn o bryd roddi cyfrif am danynt. Ar y llaw arall, os bydd y profion tufewnol yn anghyson â'r syniad mai Paul yw yr awdwr, gallwn ddwyn i mewn y casgliad a dynwyd oddiwrth y profion allanol i gadarnhau y golygiad yr arweinir ni iddo.

Ond, tra y mae llawer mwy o werth yn y pro*fion tufewnol, y maent, ar yr un pryd, yn llawer mwy anhawdd eu hiawn am- gyfîred a phenderfynu eu gwir werth yn yr ymresymiad. I wneyd hyny yn dda ac effeithiol rhaid fod y beirniad wedi dysgyblu ei archwaeth i adnabod cam flas. Fel un ffordd ragorol i gynyrchu y gallu hwn, dymunwn anog yr efrydydd i ddarllen yr Epistol lawer gwaith drosodd a darllen yr Epistolau at y Rhufeiniaid ac at yr Ephesiaid hefyd lawer gwaith drosodd. Yr wyf yn crybwyll yr Epistolau hyn, am mai hwy o holl Epistolau Paul, ydynt y rhai tebycaf mewn arddull i'r Epistol at yr Hebreaid. O'm rhan fy hun, ymdrechaf ymlwybro yn araf a gochelgar.

XXVIU. YR EPISTOL AT YR HEBREAID.

Bydd yn fantais i ni os trefnwn y profion tuf ewnol yn ol y dosbarthiad a ganlyn :

1. Cynwys yr Epistol ;

(1) Yn ei gyfeiriadau at bersonau ac amgylchiadau ;

(2) Yn ei syniadau.

2. Arddull yr awdwr.

1, (1) Y cyfeiriadau sydd yn yr Epistol at bersonau ac am- gylchiadau.

(a) Yn ii. 3 dywed yr awdwr fod yr iachawdwriaetk wedi ei sicrhau iddo ef a'i ddarllenwyr gan y rhai a glywsant yr Arglwydd. Ymddengys oddiwrth yr esbonwyr Groegaidd fod y geiriau hyn yn anhawsder ar eu ffordd i gredu mai Paul oedd yr awdwr, gan fod Paulyn hawlio yn Gal. i. 1, 11, 12, 15 ; ii. 6 ; 1 Cor. ix. 1; xi. 23 ; ac Eph. iii. 2, 3 iddo dderbyn ei efengyl, nid trwy ddyn, ond trwy ddatguddiad Iesu Grist. Gosodir llawer o bwys ar y ddadl hon yn erbyn y golygiad mai Paul yw yr awdwr gan Cajetan, Luther, Calvin, Grotius, gan Haws o esbonwyr diweddarach, a chan Westcott, y diweddaraf oil. Fe wel y darllenydd oddiwrth y nodiad ar yr adnpd nad wyf yn cydnabod grym y ddadl. Nid ffeithiau hanes bywyd Iesu a ddatguddiwyd i Paul, ond ysty*# ffeithiau, y peth hwnw sydd yn gwneyd yr kanes yn efengyL Yr unig ffaith yn hanes yr Iesu y mae genym grybwylliad sicr fod Paul wedi ei derbyn trwy ddatguddiad ydyw sefydliad y swper sanct- aidd. Gwel 1 Cor. xi. 23. Xid ymddengys i mi, gan hyny, fod Heb. ii. 3 yn profi dim y naill ochr na'r Hall.

(b) Mynych y cyfeiria yr hen esbonwyr at x. 34, :' Chwi a gyd-ddi'oddefasoch â'm rhwymau i hefyd," fel dadl dros briodoli yr Epistol i Paul. Ond nid oes neb a ddefnyddia y ddadl hon yn awr. Y mae yn fwy na thebyg mai cam ddarlleniad ydyw y geiriau hyn, Yn lie desmois raou rhaid darllen desmiois ; hjmy ydyw, yn He " â'm rhwymau i," rhaid darllen, uâ'r rhai sydd yn rhwyro."' Ac nid yw y geiriau sydd yn xiii. 19 yn tybied o gwbl, fel y mae Uawer wedi dyweyd eu bod, mai yn y carchar yr oedd yr awdwr ar y pryd, ac, am hyny, mai y tebygolrwydd ydyw mai Paul ydoedd yr awdwr. Y mae adn. 23 yn golygu nad oedd yr awdwr ar y pryd yn garcharor, gan ei fod yn gosod y tebygol- rwydd y gaU efe ymweled â hwynt i ymddibynu, nid ar ei rydd- had ef, ond ar ryddhad Timotheus.

YB, EPISTOL AT YB, HEBREAID. XXII.

(c) Y mae ychydig, ond nid llawer, o werth mewn dadl ar yr ochr arall, yr lion sydd yn awgrymu mai nid Paul yw yr awdwr. Yn ei holl Epistolau dechreua Paul gyda chyf arch yr eglwys neu y dyn yr ysgrifena atynt. Ond nid oes un cyfarchiad yn nechreti yr Epistol at yr Hebreaid. Gellir cyfarfod yr wrthddadl trwy ddyweyd fod yr Apostol yn dymuno ymddieithrio. Y mae yn wir nad oedd yn bwriadu ymgnddio oddiwrth ei ddarllenwyr. Y mae yn sicr oddiwrth y benod olaf o'r Epistol y gwyddent hwy pwy ydoedd yr awdwr. Ond gall fod yr amgylchiadau, am y rhai nas gwyddom ni ddim oil, yn peri mai doethineb oedd i'r awdwr roddi ei enw, nid ar ei lythyr, ond trwy enau y negesydd a'i dygai i'r Hebreaid.

(d) Gesyd y rhai a gredant mai Paul a ysgrifenodd yr Epistol ormod o bwys ar y cyfeiriad at Timotheus yn y benod olaf. Dywedant fod Timotheus yn dal yr un fath berthynas âg awdwr yr Epistol ac â'r Apostol. Y mae yn wir nad oes grym yn ngolygiad Calvin y buasai Paul yn galw Timotheus yn fab, nid yn frawd. Gwel 2 Cor. i. 1. Ond nid oes dim o gwbl yn y cyfeiriad at Timotheus yn Heb. xiii. 23 i awgrymu ei fod yn sefyll yn yr un berthynas â'r awdwr ac â Paul.

(e) Y ddadl sydd ar yr olwg gyntaf y gryfaf dros awduriaeth Paul yw yr hon a dynir o 2 Pedr iii. 15, "a chyfrifwch hir- amynedd ein Harglwydd yn iachawdwriaeth ; megis ag yr ysgrifenodd ein hanwyl frawd Paul attoch chwi." Dadleuir mai at yr Epistol at yr Hebreaid y cyfeiria y geiriau hyn. Ystyria Bengel a lliaws ar ei ol (yn eu plith yr esbonwyr Cymraeg, Peter Williams, Dr. George Lewis, Thomas Jones o Gaerfyr- ddin, a Dr. William Rees) fod y ddadl hon yn penderfynu y cwestiwn mai Paul yw awdwr yr Epistol. Y mae yn eglur oddiwrth 2 Pedr iii. 1 mai at yr un darllenwyr yr ysgrifenwvd dau Epistol Pedr; ac y mae yr un mor eglur oddiwrth 1 Pedr i. 1 mai at yr Iuddewon Cristionogol oedd ar wasgar yn Pontus, Galatia, Cappadocia, Asia, a Bithynia yr ysgrifenwyd yr Epistol Cyntaf . Yn awr, os at yr Hebreaid Cristionogol yn Jerusalem, neu mewn rhyw fan arall yn Palestina, neu, er mwyn crybwyll pob tybiaeth y mae rhyw gymaint o liw iddi, yn yr Ital, yr ysgrifen- wyd yr Epistol at yr Hebreaid, pa fodd y gall darllenwyr yr Epistol hwn fod yr un rhai a darllenwyr Epistolau Pedr? Ni pherthyn i mi geisio penderfynu at ba un yn fwyaf neillduol o

XXX. YR EPISTOL AT YR HEBREAID.

Epistolau Paul y cyfeirir yn 2 Pedr iii. 15. Un o'r rhai a ysgrifenwyd at eglwysi Asia Leiaf ydyw. Yr oedd Iuddewon crediniol ynddynt oil. Efallai mai yr Epistol at yr Ephesiaid yw y mwyaf tebygol. Ond yn sicr nid yr Epistol at yr Hebreaid ydyw.

Wrth adolygu y cyfeiriadau sydd yn yr Epistol ei hun, a'r cyf- eiriad yr haerir fod Pedr yn ei wneyd ato, nid ymddengys i mi eu bod yn efîeithio nemawr ar y cwestiwn. O'r ddau tueddant braidd yn erbyn, yn fwy nag o blaid, y golygiad mai Paul a ysgrifenodd yr Epistol. Ond nid ydynt yn penderfynu y pwnc.

(2) Y mae yn bur wahanol i hyn pan drown at y syniadau a gynwysir yn yr Epistol. Er nad oes, yn sicr, ddim ynddo yn anghyson â'r hyn a gawn yn Epistolau Paul, y mae sane y ddau ysgrifenwr yn wahanol. Os edrycha dau ddyn ar yr un olygfa o safleoedd gwahanol, nid yn hollol yr un olygfa a welant ; ac ymddengys yr un gwrthrychau mewn perspective gwahanol iddynt. Hyn yn hollol yw y gwahaniaeth rhwng Paul ac awdwr yr Epistol at yr Hebreaid. Yr hyn sydd yn amlwg ac yn nghanol y darlun gan un, prin y gwelir ef yn narlun y llall.

(a) Er esampl, y mae gwahaniaeth rhwng safleoedd y ddau ysgrifenwr gyda golwg ar amcan yr hen oruchwyliaeth. Ystyria Paul fod y ddeddf wedi dyfod i mewn fel ein tywysydd at yr athraw, yr hwn yw Crist (Gal. iii. 24) ; ond y ffordd y gwna y ddeddf ei gwaith ydyw trwy ein cau i fyny dan bechod a gwarchae arnom, nes ein dwyn i anobeithio cyfiawnhau ein hunain trwy weithredoedd, ac i geisio y cyfiawnder sydd trwy ffydd. Wedi i ffydd ddyfod, nid oes angen am y tywysydd ; yr ydym oil yn feibion Duw; nid oes nac Iuddew na Groegwr. Y mae yr Apostol yn derbyn y canlyniadau, nad yw y gwahaniaeth cen- hedlaethol i fod mwy. Y mae y ddeddf yn sanctaidd, a'r gor- chymyn yn sanctaidd, ac yn gyfiawn, ac yn dda (Rhuf. vii. 12). Yr oedd y gorchymyn wedi ei fwriadu i fywyd ; ond, oblegid fod pechod yn cymeryd achlysur trwyddo i weithio trachwant caed ef i farwolaeth. Felly, goruchwyliaeth a ddaeth i mewn yn gyf- ochrog â'r addewid, neu yn ychwanegol ato (jpareisêlthen), oedd y ddeddf (Rhuf. v. 20). Fel yr arferai un egluro y peth, rhodd- wyd yr etifeddiaeth yn y chancery, hyd nes y deuai yr etifedd i oed. Gwel Gal iv. 1 7. Cymharer hyn oil â'r hyn a geir yn yr Epistol at yr Hebreaid. Yno desgrinr yr hen oruchwyliaeth fel

YR EPISTOL AT YR HEEREAID. XXXI.

cyfundrefn o ddefodau addoliad a sefydlwyd gan Dduw trwy Moses i gyfarfod y teimlad o euogrwydd, yr hwn, yn ol darluniad Paul, a gynyrchid ganddi; a'r achos paham y gosodir y gyfundrefn o'r neilldu yn Nghrist ydyw ei methiant i gyflawni y gwaith yr amcenid iddi ei wneuthurj Fel hyn, daw y ddau awdwr, o gyf- eiriadau hollol wahanol, i'r un man yn y diwedd. Gan fod y ddeddf yn gofyn ufudd-dod, medd Paul, a'r troseddwr heb ufudd-dod i'w gynyg, trwy weithredoedd y ddeddf ni chyf- iawnheir un cnawd yn ngolwg Duw; ac nid oes dim yn dyfod trwy y ddeddf ond adnabod pechod (Rhuf. iii. »20). "Nid adnabum i bechod, ond wrth y ddeddf" (Rhuf. vii 7); hyny ydyw, mor bell ydyw y ddeddf o fod ei hun yn bechod, fel nad adwaenai Paul beth oedd pechod ond trwy y gwrthdarawiad rhyngddo â sancteiddrwydd y ddeddf. Y mae ymresymiad yr Epistol at yr Hebreaid yn wahanol iawn ; er hyny, yr un peth yn hollol yw y casgliad. Dywed ef, nid fod y gorchymyn yn sanct- aidd, ac yn gyfiawn, ac yn dda, ac y gosodir ef o'r neilldu oherwydd nad oes ei eisiau pan y mae Crist wedi rhoi yr ufudd-dod a ofyna, ond fod y gorchymyn yn cael ei ddiddymu oherwydd ei lesgedd a'i afles, a daw ei afies i'r golwg yn hyn, na pherffeithiodd y gyfraith neb, ac nas gall ychwaith; anmhosibl yw i waed teirw a geifr dynu ymaith bechodau ; yr oil, gan hyny, a wneir trwy yr ym- drechion poenus ac ofer hyn i lanhau y gydwybod, ydyw adgoffa pechodau. Mor bell ydyw y ddeddf o fod yn foddion i symud pechod, fel y mae yn hytrach yn cadw yrnwybodolrwydd o hono yn fywyn yr enaid. Gwel Heb. vii. 18, 19 ; x. 1—3. Fe welir fod y ddau awdwr yn caniatau fod y ddeddf o ddwyfol osodiad. Ond y mae dau wahaniaeth rhyngddynt wrth ynidrin â'r gwirionedd hwn. Yn gyntaf, yn ol Paul, gosododd Duw y ddeddf i beri i ddynion anobeithio a thrwy anobaith eu tywys at Grist ; yn ol yr Epistol at yr Hebreaid, gosododd Duw y ddeddf yn y ffurf o gysgodau a rhagbrawf o Grist er mwyn cadw yn fyw obeithion y genedl. Yn ail, tra y gesyd Paul osodiad dwyfol y ddeddf yn y goleu cryfaf, ni sonia o gwbl am dani yn yr ochr ddynol a berthynai iddi ; ond golyga awdwr yr Epistol at yr Hebreaid fod y ddeddf ar unwaith wedi ei gosod gan Dduw ac yn ddatganiad 0 gydwybod dyn. Nis gellir dychymygu Paul yn ysgrifenu y fath eiriau â'r rhai hyn: Oblegid yna hwy a beidiasent â'u hoffrymu, am na buasai gydwybod pechod mwy gan y rhai a

XXxii. YE EPISTOL AT YR HEBREAID.

addolasent wedi eu glanhau unwaith " (Heb. x. 2) ; hyny ydyw, pe unwaith am byth ac yn effeithiol y glanbeid hwynt. Yn ol fel y desgrifir yr aberthau yn yr Epistol at yr Hebreaid, nid dwyn i mewn beth newydd a wnaeth Duw wrth ordeinio aberthau i Israel, ond gwneyd deinydd o'r hyn oedd eisoes yn bod a'i droi i anicanion uwch. Y mae rhyw gyniaint o wir, gan hyny, yn yr hyn a ddywed Justin Ferthyr wrth ymresymu â'r Iuddew Trypho, mai oblegid gweled o'r Arglwydd y bobl yn addoli y llo tawdd, yr ymostyngodd at eu cyflwr isel, ac, er mwyn eu diddyfnu oddiwrth eilunod, y caniataodd iddynt aberthu, ond gan orchymyn iddynt wneyd hyny i'w enw ef . I'r un perwyl y dywed Irenaeus, Chrysostom ac era ill. Seilia Jerom y golygiad ar Esaiah i. 12, "Pwy a geisiodd hyn ar eich Haw?" ac ar Jer. viii. 22, "Ni ddywedais i with eich tadau ac ni orchymynais iddynt, y dydd y dygais hwynt o dir yr Aipht, am boeth- oft'rymau ac aberthau." Ond y mae ochr arall i'r gwirionedd- Nidcaniatad* yn unig oedd yr aberthau, ond gosodiad, trwy eu dyrchafu i ateb dybenion grasol parotoad a dysgyblaeth hyd oni ddelai y Crist.

Ni fynwn ddyweyd fy mod yn Tstyriedhynyn benderfyniad ar y cwestiwn pwy ysgrifenodd yr Epistol. Er mai yn Epistolau diweddaraf Paul y ceir y syniad o natur gysgodol yr hen oruch- wyliaeth (megis yn Col. ii. 17, "y rhai ydynt gjTsgod pethau i ddyfod ; ond y corph sjàà o Grist,") eto yr oedd yr Apostol wedi cyrhaedd a meddianu y syniad. O'r ochr arall nis gellir ystyried ei fod wedi gwneyd defnydd o hono, mwy nag y gwna awdwr yr Epistol at yr Hebreaid ddefnydd helaeth o'r gwirionedd cyferbyn- iol sydd yn yr Epistolau at y Rhufeiniaid a'r Galatiaid. Tra y gallwn dybied Paul yn ychwanegu y naill syniad at y Hall, prin y gallwn ddychymygu ei iod jn troi heibio y naill er mwyn y Hall.

(b) Arweinia hyn at wahaniaeth araH, neu, yn hytrach, yr un g^-ahaniaeth mewn Surf mwj eang. Y maeyn hawdd dangos fod Paul yn gjîarwyàd âg ysgiifeniadau Philo ac yn defnyddio, yn ochelgar, ei dduH alegoraidd o esbonio y digwyddiadau a gry- bwyllir yn yr Hen Destament (er angraiSt, yn Gal. iv. 22 31). Ond ni cheir yn Epistolau Paul y syniad Platonaidd fod pob peth gweledig yn gysgod o sylweddau anweledig. Ymddengys i mi ein

* Y mae y geiriau a arf erid gan yr ysgrifenwyr Groegaidd foikonotninj a Lladin- aidd (dùpetìMtw) yn awgryniiadol i'r efiydydd.

YE, EPISTOL AT YR HEBKEAID. XXX111.

bod yn rhwym o gydnabod dylanwad prif feddylddrych Plato ar y meddwl Iuddewig yn yr oes neu ddwy oes cyn dyddiau yr Apostol- ion, er, ar yr un pryd, ei bod yn dra thebygol mai Did trwy Philo, ond trwy feddylwyr yn Mhalestina, y dylanwadai, er angraifrt ac yn arbenig, awdwr "Llyfr Doethineb" ar loan, ynmhlith yr Apos- tolion, ac ar awdwr yr Epistol at yr Hebreaid y tuallan i'r cwmni apostolaidd. Dylanwadodd Philo ar Paul ac ar awdwr yr Epistol yn fwy trwy awgrymu geiriau ac ambell gyffelybiaeth. Ond y mae y syniad a gawn yn Heb. xi. 3 yn ddatganiad o feddylddiych Platonaidd, sef fod yr hyn oil a welir wedi ei greu yn ol cynllun anweledig yn meddwl Duw. Gwel y nodiadau ar yr adnod. Pa un bynag a dderbyniwn ai peidio yr eglurhad a gynygir yn y nodiadau a ganlyn ar yr adnod neillduol bon, rhed jr un syniad trwy yr Epistol oil gyda golwg ar drefniadau Duw yn y datguddiad a roddodd o'i fwriadau tuag at ddyn. Y mae y naill ddatguddiad yn gysgod o un gwell ac yn barotoad ar ei gyfer. Cynwysa yr arwyddlun anniherffaith wirionedd hanfodol y sylwedd sydd i ddyfod ar ei ol; ond ychwanega y datguddiad perffeithiach y syniad o sylweddolrwydd ysbrydol, o fywyd a nerth, o barhad diddiwedd. Y mae yr hen gyfamod yn cynwys gwirionedd han- fodol y cyf amod newydd o ran ffurf , megis amlinelliad cysgod ; ond yn Nghrist y mae y gwirionedd hwnw yn fyw, yn egniol, yn llym, yn cyrhaeddyd trwodd, yn barnu yn derfynol, ac yn achub i berffeithrwydd achubiaeth. Tra y dywedai Philo ac awdwr y llyfr diweddarach a elwir "Epistol Barnabas" nad oes gwirionedd o gwbl yn yr hen oruchwyliaeth ei hun, nad ydoedd y cwbl ond ymddangosiad a ffug i ddysgu megis trwy alegori, a bod y gwir- ioneddau a ddysgid ynddi i'w tynu allan trwy ddychymyg bywiog a medrusrwydd dyfeisgar pob meddyliwr i ateb ei amcanion neill- duol ef ei hun, a thra yr awgryma Paul fod y corph o Grist, ond heb egluro pa fodd, seilia awdwr yr Epistol at yr Hebreaid ei ath- rawiaeth am natur gysgodol yr hen oruchwyliaeth ar yr egwyddor gyffredinol fod pob peth daearol yn gosod allan mewn arwyddlun wirioneddau ysbrydol ; nad yw cysgodau yr hen oruchwyliaeth ddim ond angraifft mewn un cyf eiriad o wirionedd eangach. Rhydd hyn gyfle iddo i gymhwyso y syniad mewn amryw gyfeiriadau yn ei berthynas â'r pwnc sydd ganddo mewn llaw. Yn gyntaf, dengys gyssylltiad Crist â dynoliaeth yn gyffredinol. Iesu ydyw y mynegiad perffaith o ddpi fel creadur. Eglurir hyn yn feistrol-

XXXIV. YR EPISTOL AT YR HEBREAID.

gar yn yr ail benod o'r Epistol. Yn ail, Iesu yw sylwedd pob offeiriadaeth. Nid yn unig y mae Aaron yn gysgod o hono, ond cysgod o hono ydyw Melchisedec hefyd, ac nid tw Melchisedec ond un esampl o lawer o offeiriaid y tu allan i'r he* oruchwyliaeth sydd yn gysgod o'r sylwedd sydd yn Xghrist. Yn drydydd, y mae yr efengyl ei hun, can belled ag y perthyna i ddaear ac amser, yn gysgod o'r ffurf nefol sydd ami yn y byd ysbrydol.

Y peth agosaf at hyn yn Epistolau Paul ydyw y syniad dwfn mai yn Xghrist y crynhoir pob peth a'r sydd yn y nefoedd ac ar y ddaear, ac mai ynddo ef y mae pob peth yn cydsefyll. Crist sydd yn rhoddi ystyr i bob peth, ac ystyr hefyd i gyd-osodiad a pher- thynas pob peth y naill â'r llall. Pa un bynag ai yn y ffurf y cyflëir y syniad mawr hwn gan Paul ai yn y ffurf a ddeallwyd gan awdwi yr Epistol at yr Hebreaid, y mae yn anmhosibl gosod gonnod o bwys arno yn ein dyddiau ni. Xid oes drychfeddwl y mae anffyddwyr wedi gwneyd mwy o ddefnydd na defnydd mwy effeithiol o hono yn y ganrif hon na'r gosodiad mai effaith naturiol ac angenrheidiol dadblygiad yr oesoedd blaenorol ydyw Cristion- ogaeth. Tybient eu bod drwy y syniad hwn yn dinystrio ar unwaith bob elf en oruwchnaturiol yn Xghrist ac yn ei grefydd. Y gwirionedd ydyw fod y syniad eisoes yn gorwedd yn yr Epistol at yr Hebreaid ; i'e, mai ar y sylf aen hon yn arbenig yr adeilada yr awdwr ei yniresymiad. Y mae Cristionogaeth yn orpheniad a choron yr oil a fu o ddechreuad y byd. " Cyflawnder yr oesoedd " ydyw yr amser pan p- ymddangosodd y Crist. Yr hyn ydyw Iuddewiaeth a phob datguddiad arall o Dduw, pa un ai union - gyrchol ai anuniongyrchol, yn yr eginyn. hyny ydyw Cristionog- aeth yn yr aeddf ed ffrwyth. Ond pell ydyw hyn o brofi, f el y myn y rhai a geisiant gymhwyso Hegeliaeth at hanes dechreuad Crist- ionogaeth, nad oedd Crist a'r eglwys yn oruwchnaturiol. I'r gwrthwyneb, y mae yr un mor wir na buasai y dadblygiad rhag- barotoawl hwn byth yn cyrhaedd ei orpheniad cymhwys oni buasai fod y goruwchnaturiol yn gweithio ynddo. ac, wedi ei berffeithio ef, yn disgyn iddo fel heulwen ar laswellt. Hyn ydyw neillduol- rwydd yr Epistol at yr Hebreaid, dadlenu y syniad fod y paro- toad ar gyfer y datguddiad o Dduw yn Xghrist yn oruwchnaturiol ei hun. Crist cedd dan yr Hen Destament yn parotoi y byd. Hewn un wedd arno nid yw ymadrodd Tertuliian yn rhy feiddgar, fod Crist mewn Iuddewiaeth yn dysgyblu ei hun megis mewn

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. XXXV. ,

rehearsal ar gyfer ei ymgnawdoliad a sefydliad ei eglwys yn ei ffurf berffeithiaf yn mhlith dynion.

(c) Y mae athrawiaeth yr Epistol am Berson Crist nid yn xinig yn hollol gyson âg athrawiaeth Paul, ond yn rhedeg yn bur agos ar yr un llinellau. Cytunant i ddysgu mai Iesu yw y Crist; bod Crist yn Fab Duw; bod y Mab yn bod cyn dyfod i tlith dŷnion ; mai efe yw Creawdwr pob peth; a'i fod yn " ddelw yDuw anweledig" (dyna eiriau Paul, Col. i. 15) neu, yn ngeiriau awdwr yr Epistol at yr Hebreaid, yn " argraff ei sylwedd" (Heb. i. 3). Er hyny y mae gwahaniaeth yn eu sane. Defnydd prin iawn wna Paul o hanes bywyd Iesu ar y ddaear, oddieithr y tri amgylchiad amlycaf, ei eni o wraig, ei farwolaeth, a'i adgyfodiad. Y rheswm yn ddiau ydyw mai yn y tri pheth hyn y cawn elfenau hanfodol athrawiaeth yr Apostol am yr lawn. A hyd yn nod pan y cymhella ei ddarllenwyr i ostyngeiddrwydd, yn ymgnawdoliad yr hwn oedd ar ffurf Duw a'i ufudd-dod hyd angau y ceisia Paul ei esampl benaf o feddwl gostyngedig Crist. Y mae awdwr yr Epistol at yr Hebreaid mor ddieithr â Paul, ar y cyntaf , i amgylchiadau yr hanes. Gan y rhai a glywsant yr Iesu ei hun y sicrhawyd iddo yntau y gwlrionedd hanesyddol. Ond ymhyfryda efe mcwn olrhain ei gamrau ar y ddaear. Crybwylla iddo gael ei demtio (ii. 18) ; sonia am ei lefain cryf a'i ddagrau (v. 7), ei ddysgyblaeth trwy ddyoddef (v. 8, 9), ei gymeriad sanctaidd (vii. 20), ei fynediad i mewn i'r gwir gysegr (viii. 2), ei wroldeb yn ymgynhal dan waradwydd y groes (xii. 2), ar yr hon y trengodd y tu allan i borth Jemsalem (xiii. 12). Gyda golwg ar un amgylchiad daw gwahaniaeth sane y ddau i'r golwg yn arbenig, ond mewn dull pur wahanol i'r hyn a ddywedwyd uchod. Sonia Paul am adgyfodiad Crist lawer gwaith. Y mae i'r anigylchiad le hanfodol yn ei athraw- iaeth. Ond yn yr Epistol at yr Hebreaid ni chrybwyllir y peth ond unwaith, a hyny ar ol gorphen yr ymresymiad ac yn niweddglo y llythyr : " Duw yr heddweh, yr hwn a ddug drachefn oddiwrth y meirw ein Harglwydd Iesu." Nid oes le i'r athrawiaeth am adgyfodiad Crist yn ymresymiad yr Epistol ; ac ni sonir o gwbl ynddo am ymddangosiadau yr Iesu i'w ddisgyblion ar ol ei adgyfodiad. Gesyd Paul bwys neillduol amynt. Gwel 1 Cor. xv. 3—8, Ac yn y cyssylltiad hwn nid heb lawer o rym j cyfeiria yr esbonwyr at absenoldeb yr haeriad a wna Paul yn

XXXY1. YE EPISTOL AT YE HEBEEAID.

Gal. i. 12, mai nid gan ddyn y derbyniasai efe yr efengyl, eithr trwy ddatguddiad Iesu Grist. Ond yn yr Epistol at yr Hebreaid aeth Crist trwy ac yn ei f arwolaeth i mewn i'w gysegr nef ol, ac yno yr erys hyd nes y daw i'r farn. Gwelnodiad ar ix. 27, 28. O safle yr awdwr hwn nid oes dim yn cymeryd lie rhwng niarwolaeth Crist a'i esgyniad; neu, yn hytrach, oddiar y groes, ac nid o fynydd yr Olewydd, yr aeth Crist i'r nef. Tra nad yw yn gwadu yr esgyn- iad, nid yw yr esgyniad yn ffurfio unrhyw ran yn ei ddadl. I'r gwrthwyneb, y mae yr ymresymiad yn ei gwneyd yn angen- rheidiol iddo ei gau allan o'r olygfa. Yn awr, y mae yn anmhosibl dychymygu Paul yn gwneyd hyny gan mor hanf odol i'w gyfundrefn ■dduwinyddol ydyw y gwirionedd fod Crist wedi ei egluro yn Fab Duw trwy yr adgyf odiad oddiwrth y meirw a'i fod wedi ei draddodi dros ein pechodau ni ac wedi ei gyfodi i'n cyfiawnhau. Gwel Rhuf. i. 4 ; iv. 25.

Fel yr esgeulusir i raddau belaeth yn yr Epistol y gwirionedd am adgyfodiad Crist, felly befyd, ac am yr un rhesymau, ni chrybwyllir ycbwaith adgyfodiad y saint, ac ni sonir am y corph ysbrydol. " Cbwi a ddaethoch i fynydd Sion." Y mae niarwolaeth wedi ei ddiddymu ac y mae y ffordd i'r cysegr nefol yn agored i bobl Dduw. Byddai ysgrifenu y bymthegfed benod o'r Epistol Cyntaf at y Corinthiaid yn orchwyl na f edi ai yr awdwr hwn arno, er mor ardderchog ydyw ei athrylith.

Barna rhai (e.g., Dr. Owen, Hilgenfeld, ac eraill,) mai Mab Duw a olyga yr awdwr wrth yr enw " gair Duw " yn iv. 12, 13. Golygant iddo fenthyca gan Philo y syniad fod y Crist yr un â'r Gair (Logos) tragwyddol, neu Ddatguddydd Duw. Pe byddai y golygiad hwn yn gywir, byddai athrawiaeth yr Epistol yn ymdebygu yn fwy i'r hyn a ddywed loan nag i athrawiaeth Paul. Ond camesboniad ydyw Dyddorol a syn ydyw gweled Dr. Owen yn nghwmni Hilgenfeld ! Syrthiasant i'r un camsyniad, ond am resymau pur wahanol.

(d) Nis gall neb ystyriol ddarllen yr Epistol at yr Hebreaid heb sylwi na cheir ynddo y gair "cyfiawnhau." Nid yw y syniad o " gyfiawnhau trwy ffydd" yn yr Epistol ; er fod Hilgenfeld yn haeru ei fod. Ysgrif ena yr awdwr at bobl Dduw, eiddo y rhai yw holl gynawniad ysbrydol yr addewid i Abraham, a'r cysgodau a roddwyd trwy Moses. Nid oes neb a all eu hamddifadu o'u "bendith a'u genedigaeth-fraint, ond hwy eu hunain. Rhaid iddynt

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. XXXVU.

hwy eu gwerthu yn wirfoddol, yn ysbryd y bydol-ddyn Esau. Felly, yn lie yr athrawiaeth o gyfiawnhad yrannuwiol trwy ffydd, y gwirionedd cyferbyniol sydd yn yr Epistol hwn, sef gwrthod- edigaeth pobl Dduw trwy anghrediniaeth. Yn lie anfon negesydd i gyhoeddi telerau heddwch i elynion, fel y desgrifia Paul ei weinidogaeth, daw Crist i gyhoeddi y newydd da fod yr addewid- ion bellach yn cael eu cyflawni. Ac oblegid y gwahaniaeth hwn yn eu syniad am yr efengyl, Paul oedd y pregethwr cymhwys i fyned at y cenhedloedd, ond awdwr yr Epistol hwn oedd y cym- hwysaf i gyfarch y bobl gysegredig a'u gyru i eiddigedd trwy ddangos mai yn Nghrist y caiff holl osodiadau a bwriadau grasol Duw tuag at had Abraham eu cyflawni.

(e) Dengys hyn hefyd y gwahaniaeth rhwng safleoedd y ddau yn eu syniad am natur ffydd. Yn athrawiaeth Paul ymddiried y gwan ydyw ffydd ; yn yr Epistol at yr Hebreaid gwroldeb y cry/ ydyw. Gwel y darllenydd fod y gwahaniaeth hwn yn cyfateb i'r gwahaniaeth rhwng y ddau o berthynas i amcan y ddeddf. Dysga Paul fod y ddeddf wedi dyfod i mewn i gau pawb dan bechod, a gyru y condemniedig i lefain. Ys truan o ddyn ydwyf fi ! pwy a'm gwared ? Ond dysga yr Epistol at yr Hebreaid mai y ffurf allanol ydyw y ddeddf ar y daionus bethau oedd i ddyfod, ac mai gwaith ffydd ydyw tori trwy y pKsgyn at y cnewyllyn, sicrhau y pethau yr ydys yn eu gobeithio a sylweddoli y pethau nad ydys yn eu gweled.

Yn wyneb yr ystyriaethau hyn ar syniadau yr Epistol nis gallaf dderbyn y golygiad a awgrymwyd gan Origen mai yr Apostol Paul bia y syniadau ac mai rhyw un arall a'u gosododd wrth eu gilydd. Y mae neillduolion meddyliol yr awdwr hwn a'r Apostol yn hollol wahanol i'w gilydd. Ond mabwysiedir golygiad Origen mewn rhan gan rai beimiaid rhagorol nas gallant ei dderbyn yn gyflawn. Golygant mai dysgybl i Paul oedd yr awdwr. Perthynai, meddant, i uysgol?' yr Apostol, a gesyd allan athrawiaethau Cristionogol fel y disgw^'lid i un wneyd yr hwn sydd yn helaethu ar dduwinyddiaeth Paul ac yn ei chymhwyso mewn cyfeiriad neillduol. Ond, os edrycha y darllenydd eto trwy y rhesymau a grybwyllwyd uchod yn erbyn y golygiad mai Paul yw yr awdwr, credaf y gwel eu bod un ai yn annigonol i brofi hyny ai yn ddigon i brofi cryn lawer ychwaneg. Nis gallaf dybied fod Timotheus, neu Silas, neu Luc, disgyblion Paul, yn. ysgrifenu traethawd ar egwyddorion penaf Cristionogaeth, ac yn gadael allan

XXXV111. YR EPISTOL AT YR HEBREAID.

yr athrawiaeth o gyfiawnhad trwy ffydd, neu yn ffurflo ymresym- iad meistrolgar sydd yn gofyn, tuag at iddo feddu dim grym, i ni gau allan ar y pryd y gwirionedd am adgyfodiad yr Iesu oddiwrth y meirw. Y mae athrawiaethau cyffredinol yr holl Apostolion yn yr Epistol, a hyny mor eglur ac mor llwyr f el na raid i neb betruso rhoddi lie i'r traethawd arddunol hwn yn nihlith ysgrifeniadau awdurdodol y Testament Newydd. Os myn neb ddeall grym yr hyn a ddywedir ni raid iddo ond cymharu yr Epistol hwn â'r Epistol a gyf enwir, yn gyfeiliornus, ar enw Barnabas. Iè', y mae yr Epistol at yr Hebreaid yn ddigon mawr i fod mor annibynol ar Paul ag ydyw ar lean. Nid oes yndclo nac efelychiad na benthyg nac ofn, ond cyflawn ryddid, gwreiddiolder, a nerth. Heblaw hyny, y mae perygl, wrth son am " ysgol Paul," i ni gael ein harwain i dybied bod nrwy o bellder nag sydd niewn gwirionedd rhwng Paul a'r Apostolion eraill yn eu hathrawiaetb. Yn wirr cawn awgrjTn yn Heb. ii. 3 am ffynonell Cristionogaeth yrawdwr. Sicrbawyd ef am wirionedd fíeithiau hanes yr Arglwj'dd Iesu gan y rhai a gly wsant un ai yr Iesu ei hun ai ynte y rhai a glywsant y rhai a'i clywsent ef. Gwyddai fod y Mab trag^vyddol wedi cymeiyd ei ran o'r un gwaed a chnawd â ninau. Gwyddai fod Iesu wedi ei ddisgyblu mewn trugarowgrwydd a fíyddlondeb, ac wedi ei demtio yn ol cyffelybiaeth ein temtasiynau ni. Gwyddai fod yr Iesu hwn, er ei demtio, yn ddibeehod. Gwyddai iddo ddyoddef, gweddio, colli dagrau, a chael ei wrandaw oblegid ei dduwioldeb. Gwyddai iddo ddysgu ufudd-dod trwy ei ddyoddefiadau. Gwyddai fod ganddo feddiant ar ei einioes ac iddo ei clodi i lawr o hono ei hun. Gwyddai iddo ddyoddef gwaradwydd a marwolaeth y groes y tu allan i'r porth. Gwyddai hefyd am ei adgyfodiad, ac am ei esgyniad, ac am ei addewid i ymddangos yr ail waith. Rhaid fod hanes Iesu Grist yn gyrlawn o flaen ei feddwl. Yr oedd hyn yn ddigon. Esbonio ystyr yr hanes hwn yn ngoleuni yr hen Desta- ment oedd gorchwyl neillduol yr awdwr yn mhlith ysgrifenwyr y Testament Xewydd; a gwnaeth ei waith mor ardderchog, trwy rym meddwl mawr yn cael ei oleuo hyd at ysbrydoliaeth gan Ysbiyd Duw, nes cynyrchu un o'r rhanau dyfnaf a mwyaf gogon- eddus o Ysgrythyrau Cristionogaeth.

2. Oddi^rrth gynwys yr Epistol, yn ei gyfeiriadau at bersonau ac amgylchiadau ac yn ei syniadau athrawiaethol, awn yn mlaen i yst}i*ied arddull yr awdwr o'i gymharu âg arddull yr Apostol Paul.

Yít EPISTOL AT YR HEBREAID. XXXIX.

(a) Dyfyna Paul yr Hen Destament gan mwyaf o gyfieithiad y Deg a Thriugaiu, yn yr hwn y darllenai Iuddewon yr oes hono yn gyffredinol eu Hysgrythyrau. Ond gofala yr Apostol gywiro y cyfieithiad pan y mae y Deg a Thriugain wedi camgymeryd yr ystyr. Nid felly awdwr yr Epistol at yr Hebreaid. Dyfyna yntau bron bob amser o'r Deg a Thriugain. Newidia ychydig ar y cyfieithiad weithiau, ond ni chywira ef unwaith. Gellid meddwl weithiau na ddarllenai ef ei hun y Bibl Hebraeg ; oblegid cawn angreiíFtiau yn yr Epistol o ymresymiadau sydd i raddau (nid yn gyfangwbl) yn gorphwys ar gyfieithiad y Deg a Thriugain, hyd yn nod pan y mae y cyfieithiad hwnw yn anghywir. Y mae yn hoilol wir nad yw y camgyineriadau hyny yn effeithio ar nerth yr ymresyrniad a grym y casgliad a dỳn yr awdwr oddiwrtho. Yr un pryd y mae y ii'aith yn aros fod yn yr Epistol ddyfyniadau o'r Hen Destament yn ol camgyfieithiad y Deg a Thriugain. Gwel y nodiadau ar i 7 ; x. 5 ; xii. 5, 26. Y mae yn hoilol anmhosibl credu fod Paul yn gwneyd hyn. Yn wir, dywed y beirniaid sydd yn gydnabyddus â llawysgrifau cyfieithiad y Deg a Thriugain fod Paul yn darllen y cyfieithiad hwnw mown llawysgrif oedd yn debycach o ran ymadroddion i"r llawysgrif Yaticanaidd (B), ond fod awdwr yr Epistol at yr Hebreaid yn defnyddio copi oedd yn fwy tebyg i'r llawysgi'if Alexandriaidd (A). Ni ddylid gadael yn ddisylw y ffaith ddyddorol fod Paul yn dyfynu yr Hen Destament gan mwyaf o'i gof, weithiau yn ol yr Hebraeg, y rhan fynychaf yn ol cyfieithiad y Deg a Thriugain. Ond nid yw awdwr yr Epistol at yr Hebreaid yn gwneyd hyn. Dyfyna o'r llawysgrif oedd o'i flaen, oddigerth ei fod weithiau yn newid trefn y geiriau ryw ychydig.

(b) Yn y Llawlyfr hwn nis gellir egluro y gwahaniaeth rhwng Paul ac awdwr yr Epistol yn eu dull o ysgrifenu yn yr iaith Eoeg. Y mae y naill fel y llall yn Hebrewr. Ond ysgrifena Paul yn y Groeg gyda rhyw gymaint o anhawsder. Mynych iawn Uithra priod-ddull Hebreaidd i mewn, ac y mae y brawddegau weithiau yn doredig. Hyawdl a nerthol iawn ydyw ei arddull, ond nerth rhaiadrau yn ynidryllio yn erbyn y creigiau a deimlir yn ei Epistolau.* Fel arall yr ysgrifena awdwr yr

* Dadleun Tholuck yn erbyn hyn drwy ddyfynu Actau xxvi. 4, 5 fel ancraifrt o areithyddiaeth leJfn a phrydferth yr Apostol. Ond nid oes grym yn y ddadl, am y rheswm nad ydym i dybied i'od Luc yn rhoddi i lawr eiriau— ipsusima \erba—yr Apostol yn hoilol fanwl.

XL YE EPISTOL AT YR HEBREAID.

Epistol at yr Hebreaid. Y mae yn ddiddadl ei fod yn llawer mwy cyfarwydd â'r Groeg nag â'r Hebraeg. Nis gall fod cymhwysach beirniad arddull yn yr iaitb Roeg nag Origen, ac fe gofia y darllenydd ei fod ef yn argyhoeddedig mai nid Paul a ysgrifenodd yr Epistol am fod yr arddull yn fwy clasurol (yn fwy " hellenaidd" ac yn llai " bellenistaidd"). Ond y mae y gwahaniaeth rhwng arddull yr awdwr hwn ac arddull Paul mor fawr fel nas gall neb beidio ei weled sydd yn arfer darllen llawer ar y Testament Newydd. Edrycher, er esampl, ar Eph. ii. 1 5, a chyraharer " y bachau a'r dolenau " yn yr adnodau hyny â ffurf y frawddeg yn Heb. i. 1 4. Neu cymharer Rhuf. i. 15 21 â Heb. vii. 11 19. Ond y mae yn anmhosibl dangos y peth mewn geiriau. Ehaid i'r neb a anturia roddi barn arno feddu synwyr wedi ei ddisgyblu trwy arfer.

Os nad Paul ysgrifenodd yr Epistol, pwy yw yr awdwr ? Dywedwyd wrtbyf fod y rhai a wadant awduriaeth Paul yn gyffelyb i'r anffyddwyr, y rhai a ddinystriant bob amser, ond nad adeiladant ddim yn lie yr hyn a dynant i lawr. Y mae un peth gwaeth na thynu i lawr, a hwnw ydyw adeiladu ar dywod. Yr wyf yn bur argyhoeddedig mai enill dirfawr i'r neb a fyno astudio yr Epistol yn drwyadl fydd rhoddi o'r neilldu yn llwyr y dybiaeth mai Paul yw yr awdwr. Yn annibyniaeth yr awdwr ar Paul y gorwedd llawer o ddyddordeb yr Epistol. O'm rhan i, nid wyf yn meddwl ei bod o gymaint pwys o lawer i ni allu penderfynu mai Luc, neu mai Barnabas, neu mai Apollos yw yr awdwr, ag ydyw ein bod yn yinysgwyd oddiwrth yr hunllef sydd wedi rhwystro cymaint o dduwinyddion i ganfod prydferthwch a newydd -deb yr Epistol at yr Hebreaid, am eu bod yn chwilio ynddo am syniadau ac ymadroddion Paul.

Cyfeiria Origen at y golygiad mai Clement o Rufain gyfan- soddodd yr Epistol. Ond rhaid cofio fod Origen yn dal mai Paul bia y syniadau. Onide nid wyf yn tybied y meddyliai am briodoli yr Epistol i Clement. Y mae Epistol Clement at y Corinthiaid yn arwynebol a diddym o'i gyniharu â'r Epistol at yr Hebreaid. Byddai mor anmhosibl i'r esgob rhagorol ysgrif enu yr Epistol hwn ag y byddai iddo gynyrchu Epistol Paul at y Rhufeiniaid. Nid oes neb yn tybied yn awr mai Clement yw yr awdwr. Ond hwn oedd golygiad Erasmus ; a dywed Calvin hefyd ei bod yn debygol mai Luc neu Clement a'i hysgrifenodd.

TR EPISTOL AT YR HEBREAID. xli.

Y llall a grybwyllir gan Origen ydyw Luc. Derbyniwyd y golygiad hwn gan Grotius, ac, yn ein dyddiau ni, gan Delitzsch. Sylfaenir y dybiaeth yn gyfangwbl ar gyffelybrwydd yn yr arddull. Yma a thraw y mae Delitzsch yn gallu cyfeirio at rai ymadroddion tra thebyg yn yr Epistol ac yn Efengyl Luc a'r Actau. Ond y mae yr Epistol yn llawer rhy annibynol ar Paul i ni allu credu mai Luc a'i cynyrchodd. Sylwa Westcott yn gywir y gellid derbyn y golygiad mai Luc a'i cyfieithodd i'r iaith Roeg, pe gellid credu fod Paul wedi ei ysgrifenu yn yr Hebraeg.

Nid oes ond dau enw yn aros, sef Barnabas ac Apollos. Bydd yn fanteisiol os cadwn o flaen ein meddyliau rai o'r cyfeiriadau at y naill a'r llall ohonynt sydd yn y Testament Xewydd. Yr oedd Apollos yn Hebrewr Hellenistaidd ; hyny ydyw, yr oedd yn Iuddew o waed ond yn enedigol o Alexandria yn yr Aipht. Rhaid ei fod, gan hyny, yn gyfarwydd â Pliilo a'i olygiadau, oblegid yr oedd yn gydoeswr âg ef ac yn \vr dysgedig, " cadarn yn yr Ysgrythyrau." Daeth yn Gristion yn annibynol ar Paul, ond ffurfiwyd cyfeillgarwch agos iawn rhyngddynt, ac y mae yn hawdd gweled i feddwl cryfach yr Apostol ddylanwadu ar Apollos yn f\vy nag y dylanwadodd Apollos ar Paul. Gwel ar y g\vr hynod hwn Act. xviii. 24 28. Rhaid cydnabod fod y cwbl a ddywedir am Apollos yn y Testament Xewydd yn tueddu ein meddyliau i dderbyn y syniad mai efe ysgrifenodd yr Epistol at yr Hebreaid ; yn arbenig y ffaith fod awdwr yr Epistol mor gyfarwydd â gweithiau Philo ac i raddau yn ddyledus am ffurf ei ymresymiadau iddo.

Ond y mae un wrthddadl yn erbyn y golygiad mai Apollos yw yr awdwr, ac nis gallaf deimlo ei bod hyd yma wedi ei chyfarfod yn foddhaol. Yr wrthddadl ydyw dystawrwydd hollol y brif Eghvys ar y pwnc. Xid yinddengys fod neb o gwbl cyn dyddiau Luther wedi taflu allan yi* awgrym lleiaf mai Apollos yw yr awdwr. Crybwylla Origen Luc a Clement, ond nid Apollos. Yr un pryd, y mae un ystyriaeth sydd i raddau yn tori grym yr wrthddadl hon. Y mae enw Apollos mor naturiol i'w grybwyll, fel y gellid tybied fod rhyw reswm arbenig gan Origen ac eraill dros beidio ei enwi. Anhawdd ydyw credu na feddyliodd neb o honynt am dano. Beth all fod y rheswm dros eu dystawrwydd ? Gwelsom eu bod yn dal mai Paul bia y syniadau. Dichon, gan hyny, eu bod yn gwybod fod Apollos yn feddyliwr annibynol ac

xlii. YR EPISTOL AT YE HEBREAIB»

yn gwahaniaethu oddiwrth Paul o ran ei safle athrawiaethoi ; ac felly nas gallent ddychmygu Apollos yn benthyca syniadau Paul ac yn eu gwisgo yn ei ddullwedd ei hun. Ond i'r rhai sydd yn teimlo fod yr Epistol at yr Hebreaid yn hollol annibynol ar Paul ac wedi ei ysgrifenu oddiar safle gwahanol, y mae dystawrwydd y tadau am Apollos ynddo ei hun, i ryw fesur, yn ddadl o'i blaid.

Yr oedd Barnabas hefyd yn Hebrewr ac yn Lefiad ; ond, fel Apollos, yn Iuddew Hellenistaidd, gan ei fod yn enedigol o Ynys Cyprus. Gwel Act. iv. 36. Yr oedd efe yn Nglirist o flaen Paul ac yn uchel mewn dylanwad gyda'r Apostolion yn Jerusalem. Efe oedd y cyntaf oil yn eglwys Jerusalem i gredu yn ngwirion- eidolrwydd troedigaeth Paul. Dygodd ef at yr Apostolion a chafodd ganddynt roi deheulaw cymdeithas iddo. Barnabas, drachefn, a ddewiswyd gan yr eglwys yn Jerusalem i fyned i Antiochia i roddi bam ar achos y brodyr a bregethasent yr Arglwydd Iesu i'r Groegiaid. Yn lie eu condemnio, bu lawen ganddo. Aeth i Tarsus i geisio Paul, yr hwn efallai oedd wedi ymneillduo i'w hen gartref, heb ganfod dim y gallai ef ei wneyd dros yr Iesu. Ond dygodd Barnabas ef i Antiochia ac arosodd gydag ef, fel cyd-brophwyd a chyd-athraw. Pan fwriadodd yr eglwys yn Antiochia anfon cymhorth i'r brodyr yn Judea, Bar- nabas a Paul a ddewiswyd i ddwyn y rhodd iddynt. Gwel Act. xi. 19 30. Y ddau hyn a neillduwyd gan yr un eglwys i bregethu gair Duw i'r Iuddewon ar wasgar, a dywedir yn bendant gan yr hanesydd fod Barnabas yn cytuno â Paul i droi oddiwrth yr Iuddewon yn Antiochia yn Pisidia a phregethu Crist i'r Cen- hedloedd. Gwel Act. xiv. 46. Yn Iconium galwodd y bobl Barnabas ar enw y penaf o dduwiau y Groegiaid, Zeus neu, fel yr enwai y Rhufeiniaid y drychfeddwl agosaf oedd ganddynt at syniad y Groegiaid, Jupiter ; a galwasant Paul ar enw negesydd Zeus, y parablwr Hermes (neu Mercurius y Rhufeiniaid). Bwr- iadent, y mae yn eglur, osod mwy o urddas ar Barnabas nag ar Paul. Hwynt-hwy, drachefn, a anf onwyd o Antiochia i Jerusalem at yr Apostolion a'r henuriaid yn nghylch y cwestiwn, A raid «nwaedu y credinwyr Cenhedlig ? Gwel Act. xv. 2. Wedi eu dychwelyd i Antiochia, bu ynrrafael rhwng Barnabas a Paul yn nghylch cymeryd loan, a gyfenwid Marc, i ymweled â'r eglwysi y pregethasent ynddynt o'r blaen. Mordwyodd Barnabas a Marc i Cyprus. Gwel Act. xv. 36 39.

ÍR EPISTOL AT YR HEBREATD. xliii.

Yn awr yr unig wrthddadl bendant yn erbyn tybied mai Barnabas ydyw awdwr yr Epistol at yr Hebreaid ydyw yr hyn a ddywed Lünemann ac aniryw esbonwyr eraill y buasai Barnabas yn rhy gyfarwydd â'r deml yn Jerusalem a'i gwasanaeth i wneyd y camsyniadau yr haerant a wneir gan awdwr yr Epistol, yn y nawfed benod. Ond gorphwysa yr wrthddadl hon ar y dybiaeth hollol ddisail a chamsyniol mai am y deml a'r gwasanaeth fel yr oeddent yr amser hwnw y llefara yr awdwr. Y gwir yw mai am y tabernacl yn yr anialwch, ac nid am y deml o gwbl, y sonia yr Epistol. Fe welir, gan hyny, f od yr wrthddadl yn erbyn Barnabas yn llawer gwanach na'r wrthddadl yn erbyn Apollos.

Gellir crybwyll rhesymau o blaid Barnabas sydd yn ei osod ar gystal tir âg Apollos, a rhai nad ydynt yn bod o gwbl yn ffafr Apollos.

Yn gyntaf, sylwer ar gyssylltiad agos a hirfaith Barnabas a'r eglwys yn Jerusalem. Ar y dechreu gwerthodd y tir oedd ganddo yn Cyprus, a dygodd yr arian a gosododd hwynt with draed yr Apostolion. Dewiswj'd ef gan eglwys Jerusalem i*w chynrychioli ddwywaith yn Antiochia, a chan eglwys Antiochia i'w chynrychioli hithau ddwywaith yn Jerusalem. Yn Jerusalem, drachefn, yr oedd ei chwacr, mam loan a gj-fenwid Marc, yn preswylio yn ei thŷ ei hun. Gwel Col. iv. 10, a chjmiharer Act. xii. 12. Ni wyddys am unrhyw gyssylltiad rhwng Apollos a'r eglwys yn Jerusalem, ac anhawdd ydyw credu iddo anturio ysgrifenu llythyr o gwbl ati, }*n arbenig ll)i:hp' mor awdurdodol a llym. Ond y mae perthynas agos a hirfaith Barnabas â'r eglwys hono yn gwneyd y dybiaeth iddo ysgrifenu yr Epistol yn dra naturiol.

Yn ail, yr oedd Barnabas, fel Apollos, yn Hebrewr Hellenist - aidd. Y mae genym gyrnaint o reswm dros gredu mai Groeg oedd yr iaith a siaradai yn gyffredin ag sydd genym drcs gredu hyny am Apollos Y mae yn wir nad oes un crybwylliad am Alexandria mewn cyssylltiad â Barnabas. Ond rhj'fyg fyddai gwadu hyny. Yn wir, y mae yn debygol mai i ysgolion Alex- andria yr äi Iuddew ieuanc cyfoethog o ynys C}*prus yn }T oes hono, tra y cyrchai rhai llai goludog ac efallai mwy crefyddol a selog, fel Saul o Tarsus, i Jerusalem.

Yn drydydd, y ddadl gryfaf o blaid Barnabas ydyw geiriau pendant Tertullian.

xliv. YR EPISTOL AT YE HEBREAID.

Yn bedwerydd, yr oedd traddodiad boreuol, yr hwn sydd ar gael yn y llyfr a elwir Becognitiones, fod Barnabas wedi bod yn llafurio yn Rhufain, a chawsoni eisoes le i gredu fod yr Epistol at yr Hebreaid wedi ei ysgrifenu o'r Ital, neu, o'r hyn lleiaf, ei fod yn adnabyddus yn yr eglwys yn Rhufain o fewn deg mlynedd ar hugain ar ol ei ysgrifenu.

I derfynu, pe na byddai genym ond yr ystyriaethau sydd yn codi o'r Epistol ei hun, dyfalem un ai Apollos ai Barnabas ; pe gorphwysem yn hollol ar draddodiad, dyfalem un ai Paul ai Barnabas. Y mae cynwys yr Epistol yn sicr o fod yn cau allan Paul, ac y mae traddodiad yn hollol ddystaw am Apollos. Ond t mae y naill a'r llall yn gyson â'r syniad mai yr awdwr ydyw Barnabas. Nis gallaf anturio defnyddio gair cryfach.

Ar ol dj'ddiau Awstin y golygiad cyffredinol oedd mai Paul oedd yr awdwr, ac ni aflonyddwyd ar y syniad hwn hyd amser y defíroad ynyr eglwys, o'r hwn y cododd y Diwygiad Protestan- aidd. Yn eglwys Rhufain y pryd hwnw amheuwyd y golygiad gan y Cardinal Cajetan ac Erasmus. Yn mhlith y Diwygwy: gwrthodwyd ef gan Luther, Calvin, Melanchthon, ac, ar y cyntaf. gan Beza. Ond yn yr argraffiad diweddaf a gyhoeddodd o'j Esboniad ar y Testament Newydd tuedda Beza yn fwy yn ffafi Paul neu Apollos. Yn Eglwys Rhufain rhoddwyd terfyn disyfyd ar bob ymchwiliad i'r pwnc gan Gynghor Trent yn y flwyddyrj 1546, yr hwn a benderfynodd fod yn ofynol i'r ffyddloniaid gredu mai Paul a ysgrifenodd yr Epistol at yr Hebreaid. Cafodd \ golygiad hwn le hefyd yn rhai o'r Cyffesau Protestanaidd ; ei angraifrt, yn Xghyffes Geneva (1566), yr hwn a ddylanwadodd ai yr Esgob Morgan (er fod Salesbury a Davies yn tueddu i adael j cwestiwn heb ei benderfynu *), yn ychwanegol at y ffaith fod Jerom yn ei gyfieithiad Lladin yn priodoli yr Epistol i Paul. Nid gormod ydyw dyweyd mai Jerom, ysgolhaig y burned ganrif, sydd yn gyfiifol am yr ymlyniad rhyf edd sydd yn. Nghymru heddyw wrth y s}Tiiad mai Paul ysgrifenodd yr Epistol. Erbyn dyddian y Paritaniaid hwn oedd y golygiad a ystyrid yn uniawngred, a'i rheswm am hyny ydyw ofn caniatau i neb llai nag Apostol fod vl

•Felhyn y dywedir yn yr "Arerument" ^*n Nhe.=tament Salesbury: "Pa vr bynac ?.i Paul } toedd (yr hyn nyd yw gyffefip] ai Luc. ai Barnabas, ai Clement ai vn arall."' &c.

YE EPISTOL AT YR HEBREAID. xl\V

awdwr yr Epistol, rhag trwy hyny wanhau ei awdurdod fel rhan o'r canon ac fel Uyfr ysbrydoledig.*

Yn un o'i ganeuon desgrifia Browning arlunydd yr hwn a ddewisai fod yn anadnabyddus ac i gynyrchion ei ysbryd a'i law farw yn hytrach nag iddo ef a hwythau fod yn destynau siarad gan ddynion anysbrydol. Ond y mae awdwr yr Epistol arddunol hwn at yr Hebreaid yn rhy orlawn o gydymdeimlad â dynoliaeth yn ei gwendid i gilio i'w neillduaeth mewn dirmyg. Y gwahan- iaeth rhyngddo â'r arlunydd ydyw fod y naill yn aiiunio er mwjii cynyrchu prydferthwch, a'r llall yn ysgrifenu er mwyn achub a chynorthwyo. Ond nid oes ar unig gynyrch ei enaid angen enw yr awdwr i'w gynhal mewn grym. Saif arno ei hun, yn fwy felly o lawer hyd yn nod nag Epistolau Paul. Ac mewn canig arall gan yr un bardd ceir tair llinell sydd yn ddiau yn datgan teimlad pob un a astudio yr Epistol ac a wêl ei ogoniant :

How spake the Oracle ? Care for no name at all !

Say but just this : "We praise one helpful whom we call

The Holder of the Ploughshare. The great deed ne'er grows small.

II. Yr Hebreaid.

Nid yw yn debygol fod unrhyw gyfenwad uwchben yr Epistol pan y gollyngai yr awdwr ef o'i law. Oblegid y cyfenwad henaf y gwyddom am dano ydyw "At yr Hebreaid," ac y mae hwn yn rhy anmhenodol hyd yn nod os anfonwyd yr Epistol, fel yn ddiamheu y gwnaed, trwy law negesydd. Ymddengys fel pe ychwanegasid y cyfenw hwn pan oedd yr eglwysi Cristionogol yn dechreu anghofio at ba eglwys yr anfonasid ef. Ond iddo gael ei ysgrifenu at eglwys neu eglwysi neillduol, ac nid at Hebreaid Cristionogol yn gyffredmol, sydd eglur oddiwrth y cyfeiriadau ynddo at bersonau ac amgylchiadau. Gwel v. 11; vi. 10; x. 32; xii. 4; xiii. 7, 17, 19, 23, 24. Y mae yn ddiddadl hefyd mai Hebreaid Cristionogol oedd yn cyfansoddi yr eglwys neu yr eglwysi yr ysgrifenai yr awdwr atynt. Heblaw fod y cyfeiriadau sydd ynddo at y gyfraith, y tabemacl a'i wasanaeth, ac at wroniaid ffydd dan yr hen gyfaniod. y mae amcan penaf ac athrawiaeth sylfaenol yr Epistol yn dal

•O'r esbonwyr Cymraeg y eyntaf, can belled ag y gwelais, i amheu awdur- iaeth Paid yw y diweddar Barch. John Ogwen Jones, yn A hi nent yr Ysgol Sabbothol. Ond ymfoddlona ar ddyweyd nad oes sicrwydd mai Paid yw yr awdwr. Y eyntaf i ddatgan y farn nad Paul yssrrifenodd at Epistol oedd y Parch. Dr. O. Thomas, yn Esboniad Kitto. Tuedda yn ffafr Apollos.

Xlvi. YE EPISTOL AT YE HEBEEAID.

perthynas â Hebreaid yn unig. Cymer yr awdwr yn ganiataol fod ei ddarllenwyr yn meddu hawl, am eu bod yn had Abraham, i'r cyfiawniad ysbrydol o'r addewid a roddwyd i Abraham; a rhybuddia hwynt nas gall neb eu difreintio ond hwy eu hunain. Xid oes le i feddwl fod y Groegiaid yn mhlith aelodau yr eglwys hon, neu yr eglwysi hyn; oblegid ni chyfFyrddir â'r cwestiynau yr oedd yn ofynol i Paul eu hateb wrth geisio heddychu yr aelodau Iuddewig a'r aelodau Cenhedlig yn yr eglwysi. Y mae hyd yn nod eu perygl pi codi o'r ffaith mai Hebreaid oeddynt. Prudd- der ac anobaith, syrthni a musgrellni, sydd wedi dyfod drostynt. Hyderent fod Iesu Grist yn dyfod yn fuan i adfer mewn fFurf ogoneddus yr oruchwyliaeth a sefydlasai Duw trwy Moses. Gorchwyl yr awdwr yw eu cymhell i dori pob cyssylltiad a'r hen ddefodau. i fyned at Iesu y tu allan i'r gwersyll, a dwyn ei waradwydd.

Os ysgrifenwyd yr Epistol ychydig amser cyn dinystr Jeru- salem, i ba eglwys bynag o Hebreaid Cristionogol y bwriadwyd ef, daeth iddynt yn yr adeg dywyllaf yn yr oes apostolaidd. Yr anhawsder cyntaf a gododd yn ffordd yr Apostolion oedd y cwestiwn yn nghylch derbyniad y Cenhedloedd crediniol i'r eglwys. Yr ail oedd lleihad yr elfen Iuddewig yn yr eglwysi cymysg a chryfhad y syniadau Cenhedlig. A'r trydydd oedd gwanhad Iuddewiaeth ei hun, oddi allan i gylch yr eglwysi Cristionogol, dan ddylanwad Cristionogaeth. Pan ysgrifenwyd yr Epistol at yr Hebreaid, yr oedd llwyddiant yr efengyl yn mhlith y Groegiaid yn gwanhau gobaith yr Hebreaid crediniol y byddai i Grist adfer yr hen oruchwyliaeth, ac yn peri fod yn rhaid iddynt hwythau beidio cyssylltu mwy yr hyn, fel yr oedd anigylchiadau yn dangos, a wahanasai Duw. Ofer erbyn hyn oedd rhoi darn o frethyn newydd ar hen ddilledyn, neu win newydd mewn hen gostrelau.

Yr oedd yr eglwys yr ysgrifenai yr awdwr ati wedi ei sefydlu er's amser lied faith. Dywed wrthynt y dylasent fod yn athrawon o ran yr amser. Yr oeddynt eu hunain unwaith wedi cynieryd eu hysbeilio o'r hyn oedd ganddynt yn llawen, ond erbyn hyn yr oeddynt mewn perygl o wrthgilio. Gallent weled fod y dydd yn nesau.

Yn niha le y ceir eglwys sydd yn cyfateb i hyn oil? Y maŵ ei bod yn gyfansoddedig o Hebreaid yn unig (neu gan mwyaf,)

YR EPISTOL AT YR HEBREÀID. xlvii.

yn ddigon i gau allan bob eglwys Gristionogol yn y gwledydd Cenhedlig, yn y deg mlynedd cyn dinystr Jerusalem. Yn wir yr unig eglwys y tu allan i gyfnniau Palestina y mae unrhyw debyg- olrwydd mai ati hi yr anfonwyd yr Epistol ydyw yr eglwys yn Rhuf ain ; a'r unig ddadl o blaid hono ydyw y cyf eiriad yn xiii. 24 at "y rhai o'r Ital." Ond yr oedd hon yn eglwys gymysg o Iuddewon, Groegiaid, a Phufeinwyr, ac yn ddiamheuol yr oedd yr •elfen Iuddewaidd yn lleihau ynddi yn barhaus. Nid Iuddew oedd Clement, yr hwn a wna ddefnydd mor fawr o'r Epistol at yr Hebreaid. Ac os at eglwys Rhufain yr ysgrifenwyd yr Epistol, pa fodd y gallai yr awdwr ddyweyd nad oedd neb yn eu plith wedi dyoddef merthyrdod (xii. 4), gan nad oedd llawer o amser er pan ddechreuodd Nero eiiid yr eglwys a lladd y Cristionogion (o.c. 64)?

Dadleua rhai o blaid yr eglwys yn Alexandria yn yr Aipht. Ond lied wan ydyw y rhesymau. Un ydyw fod desgrifiad yr awdwr o wasanaeth y deml yn Jerusalem yn anghywir, ac y gall fod yn gywir fel desgrifiad o'r gwasanaeth yn y deml a godasai rhai Iuddewon yn Leontopolis yn yr Aipht. Ond nid oes neb yn gallu dyweyd fod yr hyn a ddy wedir yn y nawfed benod o'r Epistol yn fwy cywir gyda golwg ar Leontopolis na chyda golwg ar Jeru- salem. Eel y sylwyd eisoes y mae esboniad arall a gwell i'w gael o eiriau yr Epistol. Dadl arall o blaid Alexandria ydyw yr an- nhebygolrwydd y buasai Apollos yn anfon llythyr o gwbl at •eglwys apostolaidd Jerusalem. Cydnabyddaf rym yr yniresyrniad fel gwrthddadl yn erbyn y golygiad mai Apollos yw awdwr yr Epistol. Ond, am na raid i ni farnu mai Apollos yw yr awdwr, syrth y ddadl hon o blaid Alexandria i'r llawr. Drachefn, dadl- euir na buasai neb ond eglwys Alexandria yn deall ymresymiadau yr Epistol. Ystyr hyn, mae yn debygol, ydyw mai yn Alexandria yn unig yr oedd dull Philo o esbonio yr Hen Destament yn ffynu. Nid oes dim grym yn y ddadl hon. Defnyddia Paul alegori wrth ys- grifenu aty Galatiaid. Heblaw hyny, mae mwy o ddylanwad y llyfr ■a elwir " Doethineb Solomon " ar awdwr yr Epistol nag o ddylan- wad Philo, ac yn Mhalestina y ceir y syniadau hyny. Yn wir, nid oes dim yn ein harwain i dybied fod dylanwad Philo yn gryf ac eang ar yr eglwys Gristionogol yn Alexandria. Mwy tebygol ydyw iddo ddylanwadu ar ychydig mewn llawer o fanau nag ar y lliaws mewn unrhyw le. Dy wedir, yn mhellach, o blaid

Xlviil. YR EPISTOL AT YE HEBEEAID.

Alexandria, fod y rhestr o lyfrau y Testament Newydd a ddargan- fyddwyd gan Muratori yn enwi " Epistol at eglwys Alexandria," ac y dichon mai yr Epistol at yr Hebreaid ydyw hwnw. Ond, os felly, pa fodd y bu i Pantaenus a Clement yn Alexandria ei hue ddychymygu mai yn yr iaith Hebraeg yr ysgrifenwyd yr Epistol, yr hyn sydd yn sicr o fod yn gamsyniad ?

Y mae yr enw " Hebreaid" yn awgrymiadol. Golyga y gaii yn y Testament Newydd weithiau bawb a berthynent i'r genedl, yn mha le bynag y preswylient (megis yn Phil. iii. 5, er fod Pau] wedi ei eni yn Tarsus), weithiau yr Iuddewon hyny a siaradenl yr Aramaeg, mewn gwrthgyferbyniad i'r rhai a siaradent yi iaith Roeg (megis yn Act. vi. 1, " bu grwgnach gan y Groeg- iaid," neu yn hytrach, yr Hellenistiaid, sef yr Iuddewon a siaradent Eoeg, "ynerbyn yr Hebreaid"). Ond camgymeriad ydyw tybio na fedrai lliaws o'r Hebreaid hyn hefyd Eoeg. Y dosbarthiad oedd Iuddewon yn siarad Groeg yn unig, fel awdwi yr Epistol, a'r Iuddewon a siaradent Aramaeg o ddewisiad ac a ddeallent Roeg yr un pryd. Yr oedd y gwahaniaeth yn gyffelyb i'r hyn a welir yn mhlith y Cymry heddyw. Ni feddyliai neb fod dyn yn llai Cymro Cynireig am ei fod yn niedru Saesneg, os medr Gymraeg. Ond y mae eisiau enw ar y dosbarth hwnw o Gyrnry ca fedrant Gymraeg. Yr un modd enw ar Hebreaid na fedrent fawr ar yr Aramaeg ydyw Hellenistiaid. Os at eglwys Jerusalem yr anfonodd yr awdwr ei Epistol, nid oes dim yn syn yn y fíaith iddo ysgrifenu yn yr iaith Roeg. Gan ei fod yn dyfynu yr Hen Destament o'r Deg a Thriugain, ac nid o'r Heb- raeg, a hyny pan yn ysgrifenu at Hebreaid, y tebygolrwydd yw na fedrai ond ychydig ar yr iaith,— digon i esbonio yr enw Melchisedec ac efallai nid Uawer mwy. Ond y mae digon o brofion fod yr iaith Roeg yn cyd-redeg â'r Aramaeg yn Palestina cyn dinystr Jerusalem. Cyfeiriwyd eisoes at y dybiaeth a gododd yn Alexandria mai yn yr Aramaeg yr ysgrifenwyd yr Epistol. Cynwysa hyn awgrym mai at Hebreaid Palestina yr anfonwyd ef, ac y mae yn sicrhau nad yn Alexandria ei hun y preswyliai y darllenwyr.

Yn mhellach, os yn Palestina yr ydym i edrych am yr eglwys lion, ai yr eglwys yn Jerusalem ydoedd ? Y mae yn anmhosibl ateb yn hollol sicr. Dadleua Rendall yn erbyn y syniad hwn, trwy ddyweyd fod yr eglwys yn Jerusalem wedi ei sylfaenu gan

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. xLx.

yr Arglwydd ei hun, tra y dywed yr Epistol niai gan y rhai a'i clywsent y sicrhawyd yr efengyl i'r darllenwyr. Xid oes grym yn y ddadl hon. Ystyr yr awdwr ydyw ei fod ef a'i ddarllenwyr yn perthyn i'r ail neu y drydedd oes er pan sylfaenwyd yr eghvys yn y lie. Dadl arall gan Rendall ydyw fod rhai o arweinwyr yr eglwys yn Jerusalem wedi eu mertliyru. Ond y cwbl a olyga yr awdwr yn xii. 4 ydyw nad oedd yr oes hono wedi gweled merthyru y saint. Dadl gryfach yn erbyn y golygiad mai at yr eglwys yn Jerusalem yr ysgrif enwyd yr Epistol ydyw y casgliad a dynir gan rai esbonwyr oddiwrth dlodi tybiedig yr eglwys hono. Gwel Act. xi. 30, &c. Ond angenoctid am dymhor oedd hwn, a achoswyd gan y newyn yn amser Claudius Cesar.

Gofynir weithiau, pa gyssylltiad allai fod rhwng " rhai o'r Ital" âg eglwys Jerusalem? Os ysgrif enwyd yr Epistol yn yr Ital, y mae yn hawdd ateb y cwestiwn. Anfonai y Cristionogion mewn un eglwys eu hanerch at eu brodyr mewn eglwysi eraill. Os nad o'r Ital yr ysgrifenwyd yr Epistol, y mae y gofyniad yn f wy anhawdd. Ond bydd yr un anhawsder i'w wynebu i ba eglwys bynag y bwriadwyd ef .

Os Barnabas oedd yr awdwr, gallwn roddi cyfrif boddhaol am y datganiad yn xiii. 19 o ubaith yr awdwr y rhoddid ef iddynt drachefn yn gynt. Nid oes genym un sail i gredu fod unrhyw gyssylltiad wedi bod erioed rhwng yr eglwys yn Jerusalem ac Apollos. Ond gwyddom fod Barnabas wedi bod yn aelod amlwg o'r eglwys hono cyn myned i Antiochia, ac nid oes dim yn yr hanes yn gwarafun i ni dybio ei fod yn un o arweinwyr yr eglwys wedi iddo ef a Paul ymadael a'u gilydd. Yn Jerusalem yr oedd cartref ei nai loan, yr hwn a gyfenwid Marc, ac i mam Marc, chwaer Barnabas, yr aeth Pedr pan waredwyd ef o'r carchar. Gwel Act. xii. 12; xiii. 13; Col. iv. 10*

"Mewn adolygiad ar Esboniad Westcott yn y Speaker (Mawrth 1, 1890) dadleua Dr. Fair bairn o Rydychain yn erbyn y golygiad mai at eglwys Jerusalem yr aiifonwyd yr Epistol, am y rhesymau a Lranlyn :— " Colonists idealise the institutions of the mother country more than its own people ; and it is an

idealised not an actual worship that is here described Such terms and

metaphors as ii. 1; vi. 19; x. 33; xi. 13; xii. 1, 11, 23, imply the discipline and experiences of life in a Greek city by the sea." Y mae y rhesymau hyn yn gryf i brofi mai allan o Palestina yr oedd yr awdwr, ond nid ydynt yn cyffwrdd â'r ymholiad yn mha le y preswyliai yr Hebrenid. Yn wir y mae y ddadl iiaenaf yn awgrymu y sylw mai amcan yr awdwr oedd codi yr Hebreaid i gymeryd golwg mwy ideal ar yr hen oruehwyliaeth a'r efengyl hefyd. 6

1. IB EPISTOL AT YB HEBEEAID.

III. PA BEYD AC YN 3IHA LE YR YSGEIFENWYD YR EPISTOL?

Nid oes sicrwydd ar y naill na'r llall o'r cwestiynau hyn. Ond wrth geisio penderfynu yr amser mor agosed ag y gellir, rhaid i ni gyineryd bellach yn ganiataol rai o'r casgliadau yr arweiniwyd ni iddynt eisoes. Er angraifft, mi a gymeraf yn ganiataol mai at yr eglwys yn Jerusalem yr ysgrifenwyd yr Epistol, ac mai nid Paul oedd yr awdẃr. Y mae amcan yr Epistol yn amlwg hefyd. Gorchwyl yr vs°rifenwr ydyw cvmhell Hebreaid Cristionogrol i beidio llwfrhau, ond i yniysgwyd oddiwrth bob cyssylltiad à defodau yr hen oruchwyliaeth, i dderbyn dedfryd eglur rhaglun- iaeth, i gredu mai niewn ffurf ysbrydol yr oeddent hwy, trwy lynu wrth yr Arglwydd Iesu, yn cael cyflawniad o addewid Duw i Abraham. fynwn yinresyniu oddiwrth fod yr awdrr yn defnyddio yr ainseriad presenol pan yn eyfeirio at wasanaeth y cysegr ; oblegid am y tabemacl yn yr anialwch y sonia o'r dechreu i'r diwedd, ac nid am y deml yn Jerusalem. Gwel ix. 25, <fcc. 0 ran hyny, pe y deml a ddesgrifìd, ni byddai gronyn nrwy o rym yn y ddacll hon ; oblegid y mae Josephus hefyd, yr hwn a ysgrif'- enodd ei Hynafiaefhau ar ol dinystr Jerusalem, yn defnyddio yr amseriad presenol wrth ddesgiifio gwasanaeth y deml. Ar y llaw arall, nid yw yr amseriad gorphenol yn ix. 1 yn profi fod yr awdwr yn ysgrífenu ar ol dinystr Jerusalem. Y ddadl sydd yn penderfynu mai cyn dymchweHad y ddinas yr ysgrifenwyd yr Epistol ydyw amcan cyffredinol yr awdwr. Ni byddai yr Heb- reaid Cristionogol inewn unrhyw demtasiwn i droi yn ol at Iuddewiaeth ar ol dinystriad y deml. Er hyny, nid oedd yr am- gylchiad yn raliell. Ehybuddir hwynt fod y dydd yn nesau, ac nad oedd ond ychydig bachigyn eto cyn dyfodiad yr Arglwydd (x. 25, 37). Yr oedd Crist ei hun wedi dysgu ei ddysgyblion i weled yn ninystr Jerusalem, un ffurf ar ddyfodiad Mab y dyn. Drachefn, dangosir oddiwrth gyfeiriadau yn yr Epistol fod ysbaid 'j amser wedi myned heibio er pan sylfaenwyd yr eglwys. Gwel v. 12; x. 22. Yr oedd yr arweinwyr cyntaf oil wedi marw. Gwel xiii. 7. Yn wir nis gallwn yn hawdd dybied fod neb, hyd yn nod Barnabas, er cymaint ei ddylanwad, yn ysgrifenu y fath Epistol at Eglwys Jerusalem tra yr oedd Iago yn fyw ac yn llywyddu ar yr eglwys hono. Merthyrwyd Iago, yn ol y traddod- iad a adroddir gan Hegesippus, ychydig cyn dinystr Jerusalem.

YB EPISTOL AT YE HEBREAID. H. Í

Nid oes sicrwydd, er hyny, am y flwyddyn. Gesyd rhai yr amgylchiad mor fore â 62 o.c., a rhai mor ddiweddar â 69 o.c. Ond y ddau ddyddiad rhwng pa rai yr ydym yn rhwym o osod yr Epistol ydyw merthyrdod Iago a dinystr y ddinas. Byddwn yn ddyogel wrth ddyweyd nas gall fod yr Epistol wedi ei ysgrifemi cyn y flwyddyn 62 o.c. nac ar ol gwanwyn y flwyddyn 70 o.c, pan warchaewyd ar Jerusalem gan Titus Vespasian. Yr oedd wedi ei dinystrio cyn yr Hydref. Dichon y gallwn ddyfod yn nes. Anturia Westcott enwi y flwyddyn 07 o.c. Tybiaf fod yn rhaid fod yr Epistol wedi ei ysgrifenu cyn dechreuad y rhyfel yn y flwyddyn hono, pan yr oedd Nero yn ymerawdwr ac yr anion - wyd Vespasian ganddo i ddarostwng y gwrthryf el ; oblegid cawn yr awdwr yn datgan ei obaith y gallai ddychwelyd at ei braidd gyda Timotheus.

Gyda golwg ar y lie yn. yr hwn yr ysgrifcnwyd yr Epistol, nis gwyddom ddim i sicrwydd. Ni raid dyweyd nad oes unrhyw awdurdod yn yr ol-ysgrif yn niwedd yr Epistol hwn nrwy nag yn. y lleill: "At yr Hebreaid yr ysgrifenwyd oV Ital, gyda Timo- theus." Y mae yn sicr mai camgymeriad ydyw y rhan olaf o'r attodiad hwn. Nid Timotheus oedd cludydd yr Epistol ; oblegid dywed yr awdwr ei fod yn bwriadu dyfod ei hun gyda Timotheus (xiii. 23). Ond am y rhan gyntaf o'r ol-ysgrif, ymddibyna ei gywirdeb ar yr esboniad a dderbynii ar y geiriau "y rhai o'r Ital" yn xiii. 24. Os yr ystyr ydyw "y rhai sydd yma gyda mi, wedi dyfod o'r Ital," y mae yn canlyn mai nid jti yr Ital yr ysgrifenai yr awdwr. Ond os, fel yr yinddengys i mi, yr ystyr ydyw " y brodorion Italaidd sydd yma gyda mi," y mae yn canlyn mai yn yr Ital yr oedd yr awdwr ar y pryd. Esbonia hyn y cyssylltiad agos sydd rhwng yr Epistol a'r eglwys yn Rhufain. Nid ydyw o gwbl yn annhebygol mai yn Rhufain yr oedd Timotheus wedi bod yn y carchar, a hyny, efallai, er amser yr erlidigaeth g}*ntaf dan deymasiad Nero yn y fl. 64 o.c.

IV. Amcak yr ErisTOL.

Geilw yr awdwr ei hun yr Epistol yn " air yr anogaeth " (xiii. 22) ; ac y mae holl rediad y traethawd yn dangos, er ei fod ar brydiau }*n llym, efallai jm fwy llym nag un rhan arall o'r Testa- ment Newydd oddieithr rhai o eiriau yr Arglwydd Iesu, mai nid

1Ü. YR EPISTOL AT YR HEBREAID.

ceryddu yw ei amcan, ond cymhell a chalonogi. Yr oedd yr Hebreaid hyn yn suddo yn raddol i syrthni a musgrellni hen ddydd- iau ; eu dwylaw yn llaesu a'u gliniau yn ymollwng. Eu perygl oedd llithro heibio i'r angorfa, heb nerth i gymeiyd gafael sicr a bachu eu hangor yn y pethau sydd o'r tu fewn i'r lien ; tybied en bod eisoes wedi syrthio yn fyr o'r orphwysfa a addawsai Duw i'w bobl ac nad oedd Sabbath eto yn ol iddynt i edrych yn rnlaen ato, megis yr edrychai y caethwas at flwyddyn y Jubili. Yr oedd rhai o honynt ar fedr bwrw ymaith eu hyder a'u proffes ac yn y diwedd wrthod yr hwn oedd yn llefaru. Desgrifir hwynt yn yr Epistol, nid fel dynion balch a difater, ond fel dynion siomedig a digalon. Yr un pryd rhybuddir hwynt fbd llwfrdra yn arwain

ìyfyg, ac anobaith i chwerwder ysbryd. Pa beth, gan hyny, a gynyrchodd ynddynt y llwfrda hwn ?

Siomwyd yr Iuddewon yn Nghrist pan yr oedd efe ar y ddaear ; a thrachefn siomwyd y rhai o honynt a'i derbyniasant yn yr amgylch- iadau a ddigwyddodd ar ol ei farwolaeth. Yr oedd siomiant y ddau ddosbarth yn yr un cyfeiriad, ond nid oedd yn hollol yr un peth. Disgwylient oil i'r Crist roddi drachefn y frenhiniaeth i Israel. Ond gwrthodwyd yr Iesu gan gorph y genedl am na ddaeth fel brenhin daearol i adfer iddynt eu hannibyniaeth cen- hedlaethol ; a dalient i ddisgwyl am y f ath Grist â hyn hyd yn nod pan yr oedd Jerusalem yn yr ymdagf a olaf ac yn trengu o flaen eu llygaid. Am y rhai a gredasant yn yr Iesu, ac a ddalient i lynu wrtho er holl dramgwydd a chywilydd y groes, disgwylient hwythau iddo ddychwelyd i adfer a diwygio Iuddewiaeth. Onid addawsai yr Iesu ddychwelyd, ac onid oedd addewidion yn yr Hen Destament am amseroedd yr adferiad? Ond yr oedd y blynydd- oedd yn rhedeg yn mhell, ac ni welsai neb arwydd Mab y djm. I'r gwrthwyneb aethai Iuddewiaeth yn fwyfwy digrefydd, halog- edig a ckreulawn. Wrth glywed fod byddinoedd Vespasian, ac, ar ei ol ef, Titus, yn agoshau, gallent ddeall fod jv eryrod yn ymgasglu o amgylch y gelain, a bod y diwedd yn ymyl. Yn lie dychwelyd i adfer yr hen grefydd naill ai ti*wy wneyd Cristionog- aeth ya rhan o honi ai ynte trwy ei gwneyd hi yn rhan o Gristion- ogaeth, naill ai trwy orfodi pawb a fynai fod yn Gristion i ddj-fod

: mewn i'r eglwys trwy borth Iuddewiaeth ai trwy wneyd Iuddew- iaeth yn gyfuudrefn mwy ysbiydol ac yn ymgorphoriad teilwng o'r

ef engyl, gadawai y Crist iddi di-engu o honi ei him. Yr oedd am-

YR EPISTOL AT YE HEBREAUJ. ÜÜ.

gylchiadau yn penderfynu y cweryl yn nghylch Iuddewiaeth yn mhlith y Cristionogion eu hunain yn ffafr yr ochr a gynrych- iolid yn arbenig gan yr Apostol Paul. Profent mai nid ffurf ddi- wygiedig ar Iuddewiaeth oedd Cristionogaeth ac, yn mhellach, nas gallai Iuddewiaeth fyw yn hwy, ond y gallai eglwys Crist, wedi i Iuddewiaeth ddiflanu.

Ond os felly, pa gymhelliad a osodid o flaen yr Hebreaid Cristionogol i gofleidio Iuddewiaeth? Phaid cofio mai tu fewn i'r Eglwys Gristionogol y ffynai y syniadau uchod. Dilynwyr yr Iesu oedd yn canfod y pydredd a'r farwolaeth a oddiweddasai Iuddewiaeth; a hyny gan mwyaf trwy ddylanwad yr Apostolion, y rhai a glywsent yr Arglwydd ei hun yn rhagfynegu y pethau a ddigwyddent cyn ei ail-ddyfodiad. I lygad yr Iuddew anghred- iniol gwahanol iawn oedd yr olygfa. Ni bu gwasanaeth y deml erioed yn fwy dysglaer a phoblogaidd, na chrediniaeth y bobl yn nyfodol eu crefydd yn fwy dwfn, na'u zel dros Dduw yn fwy tan- 11yd. Yn yr hen aniseroedd cadwent ar wahan oddiwrth y cen- hedloedd. Nid oes darpariaeth o gwbl yn nhrefniadau Moses i argyhoeddi y byd o wirionedd Iuddewiaeth ; ac ni olygai yr enw "proselyt" ddim mwy na bod cenedlddyn yn dyfod drosodd at Iuddewiaeth o hono ei hun heb ei gymhell. Yn nyddiau Crist a'i Apostolion yr oedd holl deimlad y genedl wedi newid. Ynidrech- ent broselytio.* Troisant eu gwasgariad yn mhlith y cenhedloedd yn fantais i enill dylanwad a phregethu Iuddewiaeth. Yn Jeru- salem ei hun yr oedd plaid y Zelotiaid wedi cynyddu yn ddirfawr. Pe edrychid yn unig ar agwedd allanol pethau, nid hawdd fyddai credu fod Iuddewiaeth yn marw o ddarfodedigaeth tufewnol. O dan yr holl wychder yr oedd pydredd. Ffiachiai y ganwyll cyn diffodd. Ffordd i guddio o olwg yr Iuddew ei hun y cancr marwol oedd yr holl ymddangosiad'hwn o nerth ac effeithiolrwydd. Natur- 10I oedd i'r Cristionogion yn eglwys Jerusalem ddigaloni a theimlo tuedd gref i droi yn ol at Iuddewiaeth. Erbyn hyn yr oedd yr oil o'r Apostolion wedi ymadaw o'r ddinas, ac Iago wedi ei ferthyru. Diflanasai y gobaith o weled yr holl genedl gyda'u gilydd yn derbyn Cristionogaeth, a'r tebygolrwydd ydyw nad oedd ond

* Dy wed un hanesydd Iuddewig yn Ffrainc, Salvador, mai y Cristionogion yn unig yn mhlith yr Iuddewon a geisient enill eraill at eu crefydd hwy- Ond prin y mae hyn yn gywir. Yr oedd proselytio yn perthyn i Iuddewiaeth er amser y Maecabeaid. Gwel Matt, xxiii. 15 ; Act. ii. 10 ; vi. 5 ; xiii. 43 ; yn enwedig iv. 21. I)y wedir fod yn agos yr oil o'r benywod yn Damascus yn amser yr Apostolion yn broselytiaid.

UV. YR EPISTOL AT YR HEBREAID.

ychydig, os oedd neb, yn ymuno â'r eglwys. Y mae yn sier hefyd f od y credinwyr yn cael eu herlid gan yr Iuddewon, er nad oedd neb o'r oes hono eto wedi eu lladd. Teimlent fod yn rhaid un ai myned yn ol ai ynte tori pob cyssylltiad âg Iuddewiaeth. Amcan yr Epistol ydyw eu cymhell i beidio edrych drach eu cefn, ond troi ymaith oddiwrth yr hen gyfaniod yn llwyr ac am byth.

Dengys annibyniaeth yr awdwr ar yr Apostol Paul mai Hebrewr o genedl, er nad o iaith, oedd yntau. Xid " Pauliniaeth " wedi dadblygu yw ei sane. Yn hytrach cynrychiola Gristionog- aeth Iago, brawd yr Arglwydd, gyda'r boll oleuni cryf a deflid ar natur yr efengyl gan eangder syniadau a gwybodaeth brofiadol un o'r Hellenistiaid. Yr oedd ef ei hun eisoes wedi dihatru y dillad Iuddewaidd fu am amser yn wisg i Gristionogaeth, a dpved vrrih ei frodyr oedd eto yn ofni y 11am, nad oedd dim bellach i'w wneyd ond gadael dinas a gwersyll Iuddewiaeth. Prif syniad yr Epistol ydyw eu hargj'hoeddi oddiwiw natur yr hen gyfamod ac oddiwi*th eiriau eu Hysgi*}i;h}Tau hwy eu hunain fod Iuddew- iaeth yn agos i ddiflauu, 1 wneyd lie i*r hyn sydd yn aros.

Eglura iddjTit, yn gyntaf, tra yr oedd datguddiad gwirioneddol o Dduw yn y prophwj'di, mai y datguddiad yn y Mab yw y cyf- lawnaf a?r diweddaf a roddir i ddynion. I*r datguddiad hwn y mae y blaenaf yn dwyn tystiolaeth ti*wy ddatgan rhagoriaeth y Mab ar y creaduríaid uwchaf ; 'ie, yn. wir, ei ddwyfoldeb tra- gwyddoL

Yn ail, awgi'}-ma yr Hen Destament fod gan Dduw amcan llawer eangach ac uwch na dim a gyrhaeddir trwy Iuddewiaeth. A gj*fyngodd Duw ei sylwi Iuddewon? Neu ai trwy eu proselytio at Iuddewiaeth y trugarha Duw wii;h genhedloedd y byd? I'r gwiihwyneb, }*n narostyngiad a dyi*chafiad Iesu y cyflawnir pro- phwj-doliaeth y Salmydd am y ddynoliaeth yn gyffredinol. Y mae had Abraham yn yr ysbryd yn. llawer iawn eangach na had Sara yn ol y cnawd. Y mae archoffeiriadaeth y Crist mor llydan â'r euogi-wydd sydd yn gofyn fiFyddlondeb i wneyd cymod i Dduw di'osto ac mor ddwfn á'r tiTieni y mae eisiau cydymdeimlad i waredu o hono.

Yn drydydd, ystyr ysbiydol sydd i ddrychfeddyliau sylfaenol Iuddewiaeth, megis syniad Duw am y Sabbath. Ond nid*"yw Iuddewiaeth yn gallu sylweddoli ei syniadau ei hun.

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. lv.

Yn bedwerydd, yr oedd ei phrif ddrychfeddyliau yn bod cpi i Iuddewiaeth gael ei sefydlu. Y mae y Sabbath yn hŷn nag Iuddewiaeth ; yr oedd Melchisedec cyn Aaron.

Yn burned, rhagfynega y prophwydi eu hunain ddinaniad yr hen gyfamod a dygiad i mewn un rhagorach.

Yn chweched, anhawsder mwyaf yr Hebreaid Cristionogol yw un o ragoriaethau penaf yr efengyl. Digalonent am na ddych- welasai Iesu i'r ddaear. Ond rhydd yr awdwr bwys mawr ar arosiad Iesu yn y cysegr nef ol. Deuai allan oddiyno pe na byddai ganddo ond ffug o aberth, fel yr aberth a offrymai yr archoffeiriad dan y gyfraith ar ddydd y cymod, neu pe na byddai ei aberth yn effeithiol ond am amser terfynol. Y mae ei arosiad yn y sanct- eiddiolaf yn profi fod ei waed yn wir a digonol aberth a bod ei rinwedd yn ymestyn dros holl ddynolryw hyd byth. Pan y daw allan o'r cysegr, daw fel barnwr a brenhin.

Yn seithfed, y casgliad ymarferol ydyw y dylai yr Hebreaid crediniol ddal i gredu, cymeryd gafael newydd a sicrach yn eu proffes, defnyddio eu rhyddid yn eofn i fyned i mewn i'r sanct- eiddiolaf ysbrydol, a sefyll yn ddewr dan bwysau eu profedig- aethau trwy y ffydd hono sydd yn gweled ac yn sylweddoli yr Anweledig. Oblegid trwy y ffydd hon y derbyniodd saint Duw cyn rhoddiad y gyfraith ac yn ystod blynyddoedd meithion yr hen oruchwyliaeth dystiolaeth oddiwrth Dduw eu bod yn etifeddion ei addewid. Trwy yr un fath ffydd yr yinwrolodd Iesu ei hun dan waradwydd y groes. Gochelant hwythau, gan hyny, ysbryd dibris Esau ; rhedant yr yrfa gan ystyried mai gosodiad Duw ydyw ; ac ymostyngant i'w prof edigaethau, gan gofio eu bod yn ddysgybl- aeth Tad.

Yn wythfed, y mae y cyferbyniad rhwng yr hen gyfamod a'r cyfamod newydd yn gyffelyb i'r gwahaniaeth rhwng tymhestl Sinai a heulwen Sion;* a'r gwahaniaeth ydyw hwn. Y dat- guddiad ofnadwy o Dduw sv Sinai oedd yn galw am sefydliad aberthau yr hen oruchwyliaeth ; ond y mae aberth cyflawn a pherffaith Crist yn y cyfaniod newydd yn sail ddigonol i ddatgudd- iad o Dduw mewn maddeuant a chymundeb. Y mae holl fen- dithion y cyfamod eisoes o fewn cyrhaedd. Cwynai yr Hebreaid crediniol fod dyfodiad Iesu mewn gwendid a thlodi a dare styngiad

* Ystyr y gair Sion ydyw "heulog."

lvi. YR EPISTOL AT YE HEBREAID.

a marwolaeth yn groes i ragfynegiadau y prophwydi am ei ddyfodiad brenhinol a gogoneddus. Am beth amser ar ol ymad- awiad yr Arglwydd o'r byd hwn, ceisiai yr Apostolion a'r holl gredinwyr ynidawelu yn y gobaith y deuai drachefn, yn ol ei addewid, a hyny ar fyrder, byd yn nod cyn i'r genhedlaeth hono fyned beibio. Erbyn hyn yr oedd llawer yma a thraw, yn mhlith y Groegiaid hefyd, yn gystal ag yn mhlith yr Hebreaid, yn digaloni ac yn gofyn, rhai bron mewn gwatwar, Pa le y mae addewid ei ddyfodiad ef ? Y mae ateb awdwr yr Epistol at yr Hebreaid yn ddeublyg. Yn gyntaf, efe a ddaw yn mhen ychydig bacbigyn eto i ddial ei gam ar yr anffyddloniaid. Yn ail, y mae ystyr ysbrydol i ddyfodiad Crist ; ac yn yr ystyr goreu hwn y mae pob pellder lie wedi ei ddiddymu. " Cbwi a ddaethoch i fynydd Sion." Y mae y naill o'r ddau wirionedd hyn ar gyfer y llall. Oblegid cynwysa y cyntaf ddinystriad llwyr a bythol y deml weledig a dilead hollol yr hen gyf amod ; ond cynwysa yr ail f od pob peth gwerthfawr yn yr omchwyliaeth hono wedi ei gadw a'i ysbrydoli a'i anfarwoli yn y cyfamod newydd, yr arch- offeiriad, yr aberth, y cysegr, y gyfraith, y bobl sanctaidd, y Sabbath, a gwlad yr addewid.

Xis gwyddom beth fu effaith ysgrifenu yr Epistol. Ond nid yw o gwbl yn annhebygol mai yr Epistol cynhyrfus a chalonogol hwn a gymhellodd y Cristionogion yn Jerusalem i adael y ddinas, ychydig cyn dyfodiad y Rhufeiniaid, ac ymofyn am noddfa mewn trefan y tuhwnt i'r Iorddonen a elwid Pella yn Decapolis. Pa fodd bynag am hyny, y mae dylanwad yr Epistol wedi bod yn fawr ac yn arhosol ar yr Eglwys. Yr awdwr ardderchog hwn sydd yn benaf o holl ysgrifenwyr y Testament Newydd wedi di- ddyfnu meddyliau Cristionogion oddiwrth y disgwyliadau cnawdol am ddychweliad Crist i sefydlu brenhiniaeth ddaearol. Yn ystod yr oesau boreuol, pan yr oedd yr Epistol hwn megis dan gwmwl, heb ei gydnabod yn rhan awdurdodol o'r Testament Newydd, yr oedd yr eglwys yn ormodol o dan ddylanwad syniadau isel am y mil blynyddoedd. Pan gymerodd yr Epistol hwn ei le priodol ei hun, yn y dwyrain ti*wy ddylanwad Origen, yn y gorllewin trwy ddylanwad Awstin, fel nn o gynyrchion dyfnaf a mw}'af arddunol yr oes apostolaidd, ciliodd y syniadau hyny i'r cysgod. Un o'r prif fendithion a geir o astudio y traethawd ydyw amgyffrediad eglurach o natur ysbrydol Cristionogaeth.

YR EPISTOL AT TR HEBREAID. lvii. "

V. DOSRANIAD Y PROF. WeSTCOTT O'r ABERTHAU.

Hwn yw y dosraniad goreu a welais eto o'r aberthau dan y gyfraith. Cefais ganiatad parod y Prof. Westcott i'w roddi yn y Llawlyfr. Dymunaf ei gydnabod yn ddiolchgar am ei garedig- rwydd. (Gwel Esboniad Westcott ar yr Epistol, tud. 288.) Yn Gymraeg da genyf allu cyfeirio y darllenydd at gyfrol fechan ond rhagorol Dr. Owen Evans o Lundain ar " Yr Aberthau."

I. Y gwahanol fathau o aberthau :

A. Aberthau a onrymid pan yr oedd y berthynas gyfamodol rhwng Duw a'r bobl heb ei thori :

1. Y poeth-offrwni. Lef. i. 3—17.

2. Yr aberth hedd, yr hwn oedd o dri math ; sef ,

(1) Aberth diolch ;

(2) Adduned;

(3) Rhodd o wirfodd. Lef. iii. 1—17; \ii. 11 21.

3. Y bwyd-offrwm. Lef. ii. 1 16.

4. A bara gosod. [Exod. xxv. 23 30.]

5. Y blaen-ffrwyth.

B. Aberthau a onrymid gyda golwg ar droseddiad o'r cyf-

amod:

1. Y pech- aberth. Lef. iv. 1 35.

2. Yr oifrwni dros gamwedd. Lef. v. 15 vi. 7.

C. Ychwaneger y Pasg a'r gwahanol aberthau er puredigaeth, megis er puredigaeth y gwahanglwyfus (Lef. xiv.), er puredig- aeth aflendid (Lef. xv.), ac er puredigaeth ar ol cyirwrdd â chorph marw (Num. xix. 11 22).

II. Y pethau a aberthid :

1. Cynyrch y ddaear : gwin, olew, yd. Ni offrymid ffrwythau na blodau. Yr oedd yn ofynol fod llafur dynol wedi dwyn cynyrch y ddaear i'r ffurt yn yr hwn y gellid ei oifn-mu. Xi offrymid arogl-darth ar ei ben ei hun. Gwenith oedd yr yd a offryTnid ; nid llai nag omer o hono, sef yr hyn a fwyteid mewn diwrnod. Haidd oedd ysgub y blaenfirwyth, am mai yr haidd oedd gyntaf i aeddfedu. Ni dderbynid lefain ; na mêl, yr hwn a offrymid gan y cenhcdloedd i'r meii*w.

1VÜÌ. TB EPISTOL AT YR HEBREAID.

2. Anifeiliaid: nid gwylltfllod, ond creaduriaid gwâr, megis bustych, def aid, geif r, colomenod, y rhai oeddynt ymborth dynion. Yr oedd yn ofynol iddynt fod yn berffaith- gwbl (Deut. xvii. 1; Lef. xxii.,) yn wrywiaid gan mwyaf ac, fel rheol, yn flwyddiaid. Helltid pob aberth. Anif- eiliaid yn nnig a offrymid yn yr aberthau dros bechod a thros gamwedd. Yn y poeth-offrwm a'r aberth hedd offrymid bwyd offrwin a diolch offrwm gy da'r anifail.

III. Dull offrymiad yr aberth :

1. Gosodiad dwylaw yr aberth wr ar ben yr aberth. Yr oedd

hyn yn ofynol gyda golwg ar bob aberth, oddieithr adar ac yn y Pasg. Trwy y ddef od hon golygid fod yr aberth yn cynrychioli yr aberthwr.

2. Lladdiad yr aberth. Lleddid ef , fel rheol, gan yr aberth wr

pan offrymai aberth dros ddyn, er fod awdurdod i'r offeiriad i ladd yr anifail. Pan offrymid aberth dros y genedl, lleddid ef gan yr offeiriaid. Ar ddydd y cymod lleddid yr aberth gan yr arch -offeiriad. Lef. xvi. 15. Yn nglanhad y gwahanglwyfus hefyd lleddid yr aberth gan yr offeiriad, am fod yr aberthwr ei hun y tu allan i'r gwersyll. Lleddid pob aberth mor ddiboen i'r anifail ag oedd bosibl. Nid poen yr anifail a'i gwnai yn gy- meradwy.

0. Derbyniad y gwaed gan yr offeiriad, fel moddion apwynt- iedig y cymod. Lef. xvii. 11. Weithiau cymysgid y gwaed â dwfr. Lef. xiv. 6.

4. Cynihwysiad y gwaed. Hwn oedd y rhan fwj*af arwj'dd- ocaol o'r aberth. Cynihwysid y gwaed gan yr offeiriaid yn unig, a hyny mewn pedwar dull :

(1) Taenellid ef ar yr allor o amgylch. Lef. i. 5;

iii. 2. Gwnelid hyn wrth offrymu y poeth- offrwm, y pech- aberth, a'r aberth dros gamwedd.

(2) Rhoddid ef ar gyrn allor y poeth-offrwm, a

thywelltid y gweddill wrth waeiod yr allor. Lef. iv. 30. Gwnelid hyn pan bechai un o bobl y wlad (ar ymyl y ddalen, " un o'r werin.") mewn anwybod. Lef. iv. 27.

FK EPISTOL AT YR HEBREAID. Hx#

(3) Cymerid ef i'r cysegr, a rhoddid peth o hono ar

gym allor yr arogl-darth, a thaenellid peth o hono ar y wahanien seithwaith. Tywelltid y gweddill wrth droed aUor y poeth-offrwm. Lef. iv. 6, 7, 17, 18. Gwnelid hyn os offeiriad eneiniog a bechai, neu os pechai holl gynulleidf a Israel, mewn anwybod.

(4) Cymerid ef i'r sancteiddiolaf, a thaenellaiyr arch-

offeiriad ef â'i fys ar y drugareddfa seithwaith. Wedi hyny rhoddid ef ar gyrn aUor y poeth- offrwm. Lef. xvi. 14—19. Gwnelid hyn ar ddydd y cymod.

6. Yr hyn a wnaent i'r anifail. Wedi y eymodiad trwy y gwaed, rhoddid yr anifail i Dduw trwy dân. Cedwid y tân i gyneu ar yr allor bob amser. Lef. vi. 13. Llwyr- losgid y poeth-offrwni a'r offrymau y cymerid eu gwaed i'r cysegr neu i'r sancteiddiolaf (sef y pech-aberthau dros yr offeiriad neu y gj*nulleidfa). Lef. iv. 11. 21 : xvi. 27; Heb. xiii. 11. Felly hefyd yr offrymau di-waedlyd dros yr offeiriaid. Bwytai jt offeiriaid neu yr aberthwr jt offrymau eraill, ar amodau neillduol. Yma dylid sylwi ar ddwy ddefod oeddynt, yn ol pob tebyg, yn perthyn yn unig i'r Iuddewon, sef " cyhwfanu " yr offrwm ger bron yr Arglwydd (Exod. xxix. 24—28 ; Lef. vii. 34 ; viii. 27—29; xxiii. 11, 20; Num. v. 25) yn "offrwm cy-

hwfan;" a "dyrchafu" yr offrwm (Num. xv. 19 21;

xviii. 26—32) yn " offrwm dyrchafael."

6. Yr hyn a fwyteid o'r aberthau. Gwnelid defnydd mewn gwahanol fEyrdd o'r rhanau hyny o'r aberth na fyddent wedi eu llwyr-losgi.

(1) Bwytai yr offeiriaid yn unig yn y cysegr yr

offrymau diwaedlyd, oddieithr y rhanau a losgid yn aberth tanllyd i'r Arglwydd. Lef. vii. 9, 10; x. 12, 13.

(2) Bwytai yr offeiriaid yn y cysegr gig yr aberth dros

gamwedd a'r aberth dros bechod un o'r bobL Lef. vi. 25— 30; vii. 6—8; x. 16—18.

iX. YE EPISTOL AT YR HEBREAID.

(3) Gyda golwg ar yr hedd aberth o ddiolch bwytai yr aberthwr y gweddill o fewn amser penodedig ac mewn lie penodedig, gyda'i deulu a'i gyfeillion, a'r tlodion. Lef. vii. 15, 16; x'x. 5, 6; xxii. 29, 30 ; Deut. xii. 6—14.

VI. Pynciau ac Adranau.

Ceisiodd Pwyllgor yr Undeb genyf dynu allan restr o gyfeir- iadau at rauau eraill o'r Ysgrythyr, er mwyn y dosbarthiadau hyny all fod yn yr Ysgolion yn analluog i dreulio dwy fiynedd yn fucldiol yn maes yr Epistol ei him. Credaf y bydd astudio y rhanau eraill hyn yn adeiladol i'r boll ddosbarthiadau. Ond ychwanegais nifer o bynciau dyddorol a phwysig sydd yn dal cyssylltiad llai uniongyrchol â'r Epistol. Rhoddais gyfeiriadau at Ysgrythyr gyda rhai o honynt. Gadewais eraill yn fwriadol heb gyfeiriadau, gan obeithio fod yr athrawon, o'r hyn lleiaf, yn ymdrechu bod yn gyfarwydd yn en Biblan o Genesis hyd Lyfr y Datguddiad. Un o"r diffygion penaf mewn lliaws o Ysgolion ydyw dieithrwch yr athrawon i'r Bibl yn ^ryffredinol.

PEN. I.

1. Y Mab a'r datguddiad o Dduw ynddo : Matt. xi. 25—30: loan i. 1—18; iii. 1—21, 27—36; vi. 44—69; viii. 28—32; xii. 35—50; xvii.

■6—8, 26 ; Phü. ü. 6—11 ; Col. i. 15—20.

2. Khagoriaeth Crist, fel Mab Duw, ar yr angelion : Salm ii. 6—12 ; Eph. i. 20 23 ; yn nghyd a'r dyfyniadau o*r Hen Destament yn Heb. i.

3. Fod Crist yn Dduw: loan i. 1—14; Khuf. i. 2—5; Phil. ii. 6—11; 1 Tim. iii. 16; 1 loan i. 1—3.

4. Yr angelion yn ysbrydion gwasanaethgar ; Matt. i. 20; iv. 11; xiii. 39 ; xvi. 27 ; xviii. 10 ; xxiv. 31 ; Luc i. 11 ; xvi. 22 ; xxii. 43 ; xxiv. 31 ; loan xx. 12 ; Actau i. 10, 11.

PEN. II.

1. Y gwyrthiau fel prawi o wirionedd y datguddiad . loan v. 20, 36; x. 25, 38 ; Actau ii. 22.

2. Mawredd dyn fel creadur : Gen. i. 26 ; 1 Cor. xi. 7 ; xr. 27.

3. Ffydd Crist.

4. Gwir ddynoliaeth Crist : loan xix. 30 ; Gal. iv. 4, 5 ; Phil ii. 7, 8.

5. Beth a olygir wrth Salm Fessianaidd? Beth sydd yn penderfynu pa un a ydTW Salm vn Fessianaidd ai nad ydyw ? ,

YR EPISTOL AT YE HEBREAID. lxi.

PEN III.

1. Angreifftiau o ffyddlondeb Moses i Dduw.

2. Fod Crist wedi derbyn awdurdod am ei fod yn Fab: Salm ii. ; xlv. ; ixxii. ; ex. ; Esaiah ix. 6, 7; Luc i. 31—33 ; Eph. i. 20—22.

3. Angreifftiau yn hanes yr Israeliaid yn yr anialwch

(1) offydd;

(2) o anghrediniaeth.

4. Hanes y gwahanol amgylchiadau yn y rhai y gwrthododd j. - i blaut Israel gael myned i mewn i Ganaan.

PEN. IV.

1. Augreifftiau yn yr Hen Destament o gyhoeddi newyddion da i bechaduriaid, neu bregethu.

2. Hanes y Sabbath dan yr Hen Destament

(1) yn ei sefydliad ;

(2) yn hanes y patriarchiaid ;

(3) yn nghyfraith seremoniol Moses ;

(4) fel rhan o'r ddeddf foesol ;

(5) yn yr esamplau a gofnodir o ddynion yn tori y Sabbath ;

(6) yn llyfrau y prophwydi ;

(7) yn yr Efengylau : syniad Crist mewn gwrthgyferbyniad i

syniad y Phariseaid am y Sabbath. Gen. ii. 3 ; iv. 3 ; viii. 10, 12 ; xxix. 27, 28 ; 1. 3, 12 ; Exod. xvi. 23 ; xx. 8—11 ; xxvi. 23, 26; Esaiah lvi. 4—8; lviii. 13; Jer. xvii. 20— 27; Ezec. xx. 12 ; Matt. xii. 5, 12 ; Marc iii. 4, Luc xiv. 1 14 ; loan vii. 23, 24 ; Actau xx. 7 ; 1 Cor. xvi. 2 ; Dat. i. 10.

PEN V.

1. Y gwahanol fathau o bechod yr oedd maddeuant am danynt dan gyfraith Moses.

2. Hanes yr arch-offeiriaid o Aaron yn mlaen, yn yr Hen Destament, gyda golwg yn neillduol ar unrhyw gyfeiriadau a geir (1) at eu hawdur- dodiad ac (2) at eu cydymdeimlad.

3. V cyferbyniad, can belled ag y daw hyny i'r golwg yn yr Hen Destament, rhwng yr arch-offeiriaid a'r prophwydi, o ran swydd ac o ran ■crefyddolrwydd person ol a dylanwad.

4. Crist fel gweddiwr.

5. Crist yn ufuddhau.

0. Crist yn cydymdeimlo.

7. Crist yn datgan ei awdurdod, ac yn ymdeimlo tVr pwysigrwydd sydd yn ei osodiad gan Dduw.

8. Pa fodd y mae apwyntiad Crist i fod yn Waredwr yn profi ei ap\rçyntiad i fod yn Arch- off eiriad ?

9. Cynydd yr Iesu. Yn mha bethau y gallai ac yn mha bethau nis .gallai gynyddu.

Ixii. YR EPISTOL AT YE HEBREAID.

10. Dangoswch pa fodd yr oedd amgylchiad bywyd yr Iesu yn ddys- gyblaeth ac yn berffeithiad arno i'w waith.

11. Ar adnodau 11—14 astudier Matt. xi. 25—30; xiii. 11—17 ; 1 Cor. ii. 6 iii. 2.

12. Pa mor bell y mae genrm angreifftiau o Grist neu ei Apostolion yn cymhwyso eu hathrawiaeth i gyf arf od cyrhaeddiadau eu gwrandawyr ?

PEN. VI.

1. Athrawiaeth yr Ysgrythyr am Ragluniaeth Duw. A ddysgir fod ffrwythlondeb y ddaear yn ymddibynu ar fendith Duw? Gen. viii. 21, 22 : 1 Sam. ii. 6, 7 ; Nehem. ix. 6 ; Job xii. 10; Salm xxxi. 15 ; lxvi. 7 ; lxxv. 6, 7; civ. 21—28; Dan. iv. 25, 35; Matt. v. 45; vi. 26, 30; x. 29; Actau xiv. 17 ; xvii. 25, 26 ; Col. i. 17.

2. Hanes y nerthoedd gwyrtbiol yn yr oes Apostolaidd. Pa fodd y dylid eu dosranu ? Marc xvi. 17, 18 ; Actau ii. 1—20 ; 1 Cor. xii. 1—31 ; xiv. 1—33.

3. Hanes cynydd y datguddiad a roddodd Duw i Abraham. Gen xii. 1_7; xv. i_21 ; xvii. 1—22; xviii. 1—33; xxi. 12, 13; xxii. 1—19.

4. Hanes y syniad o " etifeddiaeth " yn yr Hen Destament.

PEN. VII.

1. Beth yw alegori? Angreifftiau o alegori yn yr Ysgrythyr. Beth yw y gwahaniaeth rhwng alegori a dameg ?

2. Hanes yr arferiad o dalu degwm yn yr Hen Destament.

3. Cyfeiriadau yn yr Epistol hwn ac Epistolau eraill at amgylchiadau bywyd yr Iesu ar y ddaear.

4. Angreifftiau yn yr Ysgrythyr o ddynion yn bendittio dynion.

5. Angreifftiau, heblaw Melchisedec, yn yr Hen Destament o offeir- iaid y tu allan i urdd Aaron. Gen viii. 20; xiii. 4: xxvi. 25 ; xxxv. 1 ; Exod. xviii. 1, 12 ; Barn. vi. 19 ; xiii. 19; xvii. 5 ; 1 Sam. ix. 13.

6. Angreifftiau yn yr Hen Destament o'r offeiriadaeth a'r frenhiniaeth yn cyfarfod yn yr un person. 1 Sam. xiii. 9 ; 2 Sam. vi. 13 ; 1 Bren. ix. 25 : 2 Bren. xvi. 12.

7. Y rhesymau dros y gwahanol enwau a roddir ar Grist yn yr Epistol. Yr enwau ydynt "Mab;" "y Mab ;" "Mab Duw;" "Iesu;" "Iesu Grist;" "Iesu, Mab Duw;" "Crist;" "y Crist;" " yr Arglwydd;" " ein Harglwydd Iesu." Beth yw y gwahaniaeth rhwng awdwr yr Epistol hwn a'r Apostol Paul gyda golwg ar yr enwau ar Grist ?

8. Hanes yr athrawiaeth o gyfryngdod rhwng Duw a dynion yn yr Hen Destament a'r Xewydd.

9. Beth yw eiriolaeth ? Hanes yr athrawiaeth am eiriolaeth Crist yn yr Efengylau a'r Epistolau. Luc xxiii. 34 ; loan xiv. 16 ; xv. 26 ; xvii. 9 ; Rhuf . viii. 34 : xi. 2 ; 1 loan ii. 1.

10. Pa un ai cyfamod gweithredoedd ai cyfamod gras a roddwyd trwy Moses ? Beth a olygir wrth gyf amod Sinai ?

11. A fyddai yn gywir dyweyd mai un cyfamod yn unig a fu erioed ac a fydd byth rhwng Duw a dynion, a hwnw yn gyfamod gras, ac nad yw

YE EPISTOL AT YE HEBEEATD. lxiii.

yr hyn a elwir yn gyfamodau ond gwahanol oruchwyliaethau neu ffurfiau ar y cyfamod hwnw ?

PEN. VIII. 1. Yn mha nodweddion y mae Jeremiah, fel prophwyd, yn gwahan- iaethu oddiwrth Esaiah ?

PENODAU IX., X.

1. Cymharer y desgrifiad o'r tabernacl a'i wasanaeth a geir yn yr Epistol hwn â'r desgrifiad sydd yn llyfrau Moses.

2. Am y tabernacl darllener fel y canlyn :

a. Y cyntedd : Exod. xxvii. 9 19; xxxviii. 9 31.

b. Allor y poeth-offrwm : Exod. xxvii. 1 —8 ; xxxviii. 1 7.

c. Yr olchfa neu noe bres : Exod. xxx. 17 21 ; xxxviii. 8.

d. Y babell neu y tabernacl : Exod. xxvi. 1—30.

e. Lien y babell neu y gaeadlen: Exod. xxvi. 36, 37; xxvii. 16,

17 ; xxxvi. 37, 38.

f. Y cysegr : Exod. xxvi. 31 ; xxviii. 29 ; Lef. vi. 16 ; xvi. 2.

g. Y bwrdd a'r bara gosod : Exod. xxv. 23 30 ; xxxvii. 10—16 ;

Lef. xxiv. 5—9 ; 1 Sam. xxi. 1 6 ; Matt. xii. 1—8. h. Y canhwyllbren : Exod. xxv. 31—40; xxxvii. 17-24; Lef.

xxiv. 1 4. i. Allor yr arogl-darth : Exod. xxx. 1 10; xxxvii. 25 —29. / Y wahanlen : Exod. xxvi. 31—33 ; xxxvi. 35, 36 ; Matt, xxvii.

51 ; Marc xv. 38 ; Luc xxiii. 45. k. Y sancteiddiolaf : Exod. xxvi. 33 ; Ezec. xli. 4. I. Yr arch: Exod. xxv. 10 22; xxvi. 34; xxxvii. 1 6. m. Y crochan aur : Exod. xvi. 33. n. Y manna : Exod. xvi. 1 36 ; Salm lxxviii. 24, 25 ; loan vi.

31—35, 48—58. o. Gwialen Aaron : Num. xvii. 10. p. Y llechau : Exod. xxv. 16, 21 ; xxxi. 18 ; xxxii. 15—19 ; xxxiv.

1—4, 27—29; Deut. x. 1—5 ; 1 Bren. viii. 9.

3. Am wasanaeth yr arch- off eiriad yn y cysegr sancteiddiolaf ar ddydd y cymod darllener Lef. xvi. 1 34; xxiii. 26—32 ; xxv. 9; Num. xxix. 7 40.

4. Am hanes cysegriad y cyfamod gan Moses darllener Exod. xxiv. 3—8.

5. Y gwahaiiiaeth rhwng cysegriad y cyfamod ac amcan aberthau dydd y cymod.

6. A wneid defnydd o waedyr aberth cyn amser Moses, can belled ag y gellir barnu oddiwrth yr angreifftiau o aberthu a grybwyllir yn yr Hen Destament ? ^

7. Pa fodd y cysonwch Exod. xxv. 2JU0er. vii. 22 ?

8. Pa fodd y cysonwch Lef. i. 9~i SaTm 1. 13 ?

9. Am ba rai o'r gwahanol aberthau a offrymid dan y gyfraith y crybwyllir yn yr Epistol hwn, ac at ba rai ni chyfeiria yr awdwr ? A oes rheswm dros y naill a'r Hall?

lldv. YR EPISTOL AT YP. HEBREAID.

10. Beth ddywed y Testament Newydd am y gydwybod, yn ei swydd, ei hawdurdod, ei phurdeb, a'i pherthynas â gwaed Crist ? Pa enw neu enwau a roddir ami yn y Testament Xewydd ?

11. Cymharer yr amrywiol fanau o'r Testament Xewydd, yn y rhai y ceir y geiriau " prynu," " prynedigaeth," " pridwerth," "pwrcas," «fee, i'r dyben o ffurfio syniad clir am eu hystyr pan arferir hwynt am waith iawnol Crist : Matt. xx. 28; Marc x. 45 ; loan xvii. 9, 10; Actau xx. 28 ; Rhuf . in. 24 ; viii. 23 ; 1 Cor. vi. 20 ; vii. 23 : Gal. iii. 13 ; iv. 5 ; Eph. i. 7, 14 ; iv. 30 ; Col. i. 14 ; 1 Pedr i. 18 ; 2 Pedr ii. 1 ; Dat. v. 9 ; xiv. 3 : &c.

PEN. XL

1. Cymharer yr hyn a ddywed yr Apostol Paul â'r hyn a ddywedir yn yr Epistol hwn am ffydd a'i gwaith : Rhuf. iii. 22 ; v. 1 ; Gal. ii. 6, 20; iii. 24; v. 6; Eph. iii. 17.

2. Darllener hanes y saint y crybwyllir am danynt yn y benod hon, can belled ag y dengys yr hanes yn yr Hen Destament nerth neu nod- weddion eraill eu ffydd.

PEX. XII.

1. Darllener hanes Esau. Dangoser y gwahaniaeth rhyngddo a Jacob yn rhagoriaethau a difiFygion y ddau.

2. Darllener hanes rhoddiad y ddeddf ar Sinai, a chymharer hyny â desgrifiad awdwr yr Epistol.

3. Pa mor bell y mae syniad yr Epistol hwn am Dduw yn gyffelyb i'r syniad Iuddewig, a barnu oddiwrth amgylchiadau neu ymadroddion a geir yn yr Hen Destament ?

4. A oes unrhyw nodweddion yn y datguddiad o Dduw yn yr Efengylau. na cheir mohonynt yn yr Epistol hwn ?

PEX. XIII

1. Pa gasgliadau ellir dynu, gyda rhyw fesur o sicrwydd, oddiwrth yr Epistol hwn gyda golwg ar ffurf-lywodraeth yr eglwys yr ysgrifenai yr awdwr ati ?

2. Amlinelliad o hanes yr eglwys yn Jerusalem ar ol y Pentecost.

3. Dangoswch trwy gymhariaeth rhwng yr Epistol hwn a rhanau eraill ei fod yn un o'r llyfrau mwyaf llym a mwyaf tyner yn y Testament Zsewydd.

w

AMLBfELLIAD 0 6TNWYS YR EPISTOL,

I. Y Datguddiad mewn Mab: i. 1—3.

II. YMab a'r Angelion: i 4 ii. 18.

1. Datguddydd Duw yn Fab Duw : i. 4— ii. 4.

2. Mab Duw yn Gynrychiolydd Dyn: ii. 5 18.

III. Unoh^eth y Ddwy Oruchwyliaeth: iii. 1— iv. 13.

1. Unoliaeth Awdurdod Sylfaenwyr y Ddwy Oruchwyliaeth

iii. 1—6.

2. Unoliaeth Bygythion y Ddwy Oruchwyliaeth: iii 7 19.

3. Unoliaeth Addewidion y Ddwy Oruchwyliaeth : iv, 1 11

4. Sail Unoliaeth y Ddwy- Oruchwyliaeth : iv. 12, 13.

IV. Yr Archoffeiriad Mawr: iv. 4 v. 10.

V. Ymliwiad â?r Darllenwyr: v. 11 vi. 20.

1. Adnewyddiad yn Anmhosibl: v. 11 vi. 8.

2. Methiant yn Anmhosibl : vi. 9 20.

VI. Yr Offeiriad yn ol Urdd Melchisedec: vii. 1 28.

VII. Y CyfamodNewydd: viii. 1— x. 18.

1. Arweiniad i mewn : viii. 1 6.

2. Ysbrydolrwydd y Cyfamod Xewydd: viii. 6 13.

3. Y Ddau Dabernacl a'r Ddau Wasanaeth: ix. 1 28.

4. Effeithiolrwydd Aberth Crist i ddwyn i mewn y Cyfamod

Newydd: x. 1—18.

lxvi. AMLIXELLIAD O GYNWTS YR EPISTOL.

VIII. Anogaethau Ymarferol: x. 19 xiii. 24.

1. Anogaeth i agoshau at Dduw ac arddel Crist: x. 19 35.

2. Anogaeth i Ymaros ffyddiog: x. 36 xii. 13,

3. Anogâètü l Wyliadwriaeth arnynt en hunain a'r Eglwys

xii. 14—17.

4. Rheswni arbenig dros Wyliadwriaeth, oddiwrth y Cyfer-

byniad rhwng y ddau Gyfamod: xii. 18 29. 6. Amiywiol Gynghorion: xiii. 1 25.

1 I ,91— " ill :dr- . ^M»V

,21

.71

:di

01

'

_

60

-I

.8 J 6 .iiiv :

"-— -I .£Í :ííÎ9i3i;jír,JB7

. iyO v awsni i aymbb i

YB

EPISTOL AT YR HEBREAID.

D

PENOD I.

UW, wedi iddo lefaru lawer gwaith a llawer modd gynt 1 wrth y tadau trwy y prophwydi, yn y dyddiau diweddaf

I.— Y Datguddiad mewn Mab. i. 1—3.

PEN. I. ADN. 1. Mynega yr awdwr ar y cychwyn amcan yr holl draethawd, sef profi fod Luw wedi rhoddi y datguddiad diweddaf o hono ei hun yn Nghrist. Gogoniant yr hen oruchwyliaeth oedd ei bocíyn grefydd ddatgnddiedig, ac o ddwyfol awdurdod. Ond erbyn hyn yr oedd yn amlwg fod yr oruchwyliaeth hono ar derfynu. Dichon fod lluoedd y Rhufeiniaid eisoes yn parotoi i warchae ar Jerusalem. Ofnai yr Hebreaid Cristionogol fod y cyssylltiad rhwng yr hen oruchwyliaeth a'r oruchwyliaeth newydd mor agos ac mor hanfodol fel y byddai dinystr y naill yn cynwys dinystry llall. Ysgrifenwyd y traethawd hwn i egluro y berthynas rhwng y ddwy oruch- wyliaeth ac i ddangos, yn enwedig, er mai Duw aroddasai y ddwy, eto fod yr oruchwyliaeth efengylaidd yn hollol annibynol ar yr oruchwyliaeth flaenorol. Yr achos o hyny ydyw ei bod yn ddatguddiad uwch o fwriadau Duw, ac felly nad oedd y llall ond goruchwyhaeth barotoawl a chysgodol.

Llefaru. Y gair Groeg lalein yw yr hwn a arferir am lefariad Duw trwy brophwyd neu oracl.

Lawer gwaith (gan ddilyn cyfieithiad Geneva) ; yn hytrach, "mewn llawer o ranau." Yr oedd y datguddiad yn anghyilawn, ac heb unoliaeth ; nid oedd y gwirioneddau yn crynhoi o amgylchun gwirionedd llywodraethol,

Llawer modd ; hyny yw, " mewn Rawer dull, "weithiau mewn breudd- wydion, weithiau trwy weledigaethau, dro arall trwy aberthau, &c. Gwel Num. xii. 6 8. Am fod y datguddiad yn rhanol ac anghyflawn, yr ydoedd hefyd yn cael ei drosglwyddo trwy foddion ac mewn frurflau israddol. O'r ochr arall, y mae y datguddiad mewn Mab yn y ffurf uwchaf , ac, am hyny, y mae ynddo ei hun yn gyflawn. Gwel ar adn. 2.

Gynt ; yn hytrach, " er cynt." Cyfeiria y gair at barhâd hirfaith yr amser yn ystod yr hwn y rhoddid y datguddiad, nid llai na mil o flynydd- oedd, a dweyd y lleiaf, mewn cyferbyniad i'r amser byr yn yr hwn y rhodd- wyd y datguddiad cyflawn ac uchel ei natur, sef ysbaid bywyd yr Iesu ar y ddaear. Gosodir allan y syniad hwn, mai ar unwaith, ac nid yn raddol, y lief arodd Duw yn ei Fab, yn amseriad y f erf yn y gwreiddiol.

Yn y dyddiau diweddaf hyn ; yn hytrach, "yn niwedd y dyddiau hyn," sef y dyddiau hirfaith y rhoddid y datguddiad blaenorol ynddynt. Mewn cyferbyniad i'r cyfnod cyn dyfodiad Crist, gelwir y dyddiau ar ol ei ddyfodiad " yr amseroedd diweddaf" (1 Petri. 20; Jud. 18), " cyflawn - der yr amseroedd " (Marci. 15 ; Gal. iv. 4 ; Ephes. i. 10), a " diweddy byd" (ix. 26). Y mae y geiriau yn cynwys tri syniad yn y cyssylltiad hwn : (1) mai araf a maith oedd rhoddiad y datguddiad blaenorol, o ddydd i ddydd,

2 YE EPISTOL AT YE HEBEEAID.

2 hvn a lef arodd wrthym ni yn ei Fab ; Yr hwn a wnaeth ef e yn etifedd pob peth, trwy yr hwn hefyd y gwnaeth efe y byd-

ychydig heddyw ac ychydig wedi hyny; (2) fod yr orach wyliaeth hono yn dyfôd i derfyniad o honi ei him, gan oedran a henaint ; (3) a'i bod yn parotoi at yr oruchwyliaeth well, yr hon a ddaeth i mevra yn uniongyrchol yn niwedd'y llall.

Yn ei Fab ; yn hytrach, " mewn Mab," neu " mewn un oedd yn Fab," mewn cyf erbyniad i'r prophwydi. Fod yr awdwr yn gadael allan y f anod yn fwriadol, er mwyn rhoi pwyslais ar fabolaeth Crist, sydd debygol, os nad vw vn hollol sicr ; oherwydd gesyd y fanod i mewn o flaen y gair " pro- phwydi." Fod Crist yn Fab sydd yn peri iod y datguddiad a roddir ynddo yn gyflawn, ac nid yn rhanol ; yn unffurf , ac nid mewn llawer dull. Y raae y Mab yn datguddio yr oil, ac yn datguddio yr oil yn y ffurf uwchaf . ^ylw'er mai " yn y prophwydi " ac " metcn Mab " a ddywedir, nid " trwy y prophwydi " na " thrwy Fab." "Trwy " ydyw y gair pan y sonir am yr angelion (ii. 2). Yr oedd Ysbryd Crist yn y prophwydi, ac, mewnystyr neillduol, yr oedd Duw yn Nghrist, 1 Pedr i. 11 ; 2 Cor. v. 19. Ni ddywedir yn unman fod Duw yn Ùefaru yn yr angelion ; ac ni ddywedir ychwaith ei fod yn llefaru trwy y Mab ; ond dywedir eifod ynllefaru trwy ac yn y pro- phwydi. Gwel Matt. i. 22. Rhoddid y datguddiad trwy yr angelion f el cenadon yn cario hysbysrwydd, adn. 7. Ond defnyddiai Duw fyfyrdod a phrofiad y prophwyd yn gyfrwng y datguddiad, yr hwn, oherwydd hyny, oedd yn orlawn o feddylgarwch, barddoniaeth, teimlad, a nerth. Yu hyn yr oedd y prophwyd yn debyg i'r Mab. Yr un pryd rhaid cofio fod Duw yn y Mab mewn ystyr wahauol i'w breswyliad yn y prophwyd, am mai Mab ydoedd, iii. 5. Sylwer hefyd mai trwy a ddywedir am y Mab ei hun fel Creawdwr, adn. 2.

ADN. 2. Mewn cyferbyniad i'r datguddiad mewn llawer o ranau y mae y datguddiad yn y Mab yn gyilawn ac yn unol, am mai efe yw yr «tiiedd a'r creawdwr, diwedd a dechreu holl weithredoedd Duw. Nid oedd y prophwydi yn gyfranog yn y bwriadau a'r cynlluniau dwyf ol a ddatgudd- ient, ac am hyny nis gallent, er ymofyn a manwl chwilio, amgyfrred a mynegu dim ond rhanau o honynt. Ond am y Mab, trwyddo ef, fel cyf- rwng creadigaeth, ac erddo ef, fel amcan, y crewyd pob peth, Col. i. 16 ; trwyddo ef y gwnaethpwyd pob peth, ac ar wahan oddiwrtho ef fel amcan ni wnaethpwyd dim a'r a wnaethpwyd. Oblegid hyny, ynddo ef y mae yr oil yn cydsefyll. Dealla efe uuoliaeth drychfeddyliau Duw, a gall eu dat- guddio.

Etifedd. Dygir i mewn y syniad o etifeddiaeth, oblegid fod yr awdwr yn son am Grist fel Mab. Gwel adn. 4. Desgrifia Philo y Gair fel drych- feddwl, a hwnw yn amcan holl feddyliau Duw ; ond dengys awdwr yr Epistol ei annibyniaeth ar Philo trwy dderbyn y syniad apostolaidd am Grist fel Mab ac etifedd personol. Nid amcan a gyrhaeddir trwy ddadblyg- iad ydy«' y Gair, ond etifedd a osodir gan Dduw i'r greadigaeth ac oddi- -allan iddi.

Hefyd. Golyga Calvin ac eraill mai fel y mae Crist yn ddyn y gelwir ef yn M etifedd." Ond ymddengys imifod yr awdwr yn rhoi y gair "hefyd"i mewn i ddangos fod y Mab wedi ei osod yn etifedd cyn i Dduw wneyd y byd- oedd. Oherwydd fod yr etifedd wedi ei osod y crewyd y bydoedd i fod yn etifeddiaeth iddo. Nid at ei ddyrchafiad i'r nef, gan hyny, y cyf eiria y gair 4 ' gosododd." Ymddengys, yn mhellach, mai nid ato fel Mab tragwyddol y cyfeirir yma, ond at arfaeth Duw tuag ato fel Duw-ddyn. Canys felDuw- •ddyn, a thrwy waith y prynedigaeth, y daeth efe i'w frenhiniaeth.

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. 3

oedd : Yr hwn, ac efe yn ddisgleirdeb ei ogoniant ef, ac pi wir 3

Y bydoedd. Nid at y bydoedd fel y maent yn bod mewn lie y cyfeirir yn unig yma, ond hefyd at y gwahanol oruchwyliaethau sydd yn cynyddu mewn gogoniant o gyfnod i gyfnod mewn amser. Defnyddir y gair yn y lie hwn, yn mlaenaf, i awgrymu i'r Hebreaid mai nid yr hen oruchwyliaeth f u yr nnig drefniant rhagbarotoawl, ond fod holl hane^ y byd er y dechreuad, yn gyfnodau neu oruchwyliaethau, ar wahan oddiwrth eu gilydd, ond dan oruchwyliaeth y Mab, yn cydweithio tuag at yr un datguddiad cyflawn. Awgryma y gair fod datguddiadau rhanol yn bod yn annibynol ar y dat- guddiad rhanol a roddasid yn y prophwydi, a bod y rhai hyny hefyd yn parotoi at ddyfodiad y Mab. Ónd. golyga y gair fwy na chyfnodau mewn amser, yn gymaint a bod Duw wedi gweled yn dda roi yr amrywiol ddat- guduiedigaethau mewn gwahanol leoedd, ac felly yn gyfamserol i raddau â'u gilydd, fel y gall y rhai syddyn byw mewn uncyfnod ddysgu oddiwrth y rhai sydd yn y cyfnod arall. Dengys yr hyn a ddywed yr awdwr yn xi. 3, lie y defnyddir yr un gair, ei fod yn cynwys y syniad o le yn gystal kg amser.

ADN. 3.- Fel y dengys yr ail adn. fod y datguddiad yn y Mab yn gyflawn. mewn cyferbyniad i'r datguddiad "mewn rhanau," f*lly y dengys y drydedd adn. fod y datguddiad yn y Mab yn y ffurf uwchaf, mewn cyf- erbyniad i'r datguddiad a roddwyd '"mewn llawer ffurf" israddol. Dy- wtdir yn yr ail adn. b^th ydyw y Mab trwy osodiad ; ac yn y drydedd, beth ydyw yn wreiddiol a hanfodol ; oblegid gwahaniaeth graddau sydd rhwng y datguddiad rhanol a'r datguddiad cyflawn, ac am hyny gwahan- iaeth graddau a grybwyllir yma rhwng y Mab a dynion, y rhai ydynt yn etifeddion (adn. 14), er uad yn etifeddion pob peth, a'r rhai ydynt yn gyf- ryngau israddol i weithrediadau Duw. Ond gwahaniaeth natur sydd rhwng y datguddiad a roddwyd yn y ffurf o udatguddiad mewn Mab ; ac felly gwahaniaeth hanfodol a grybwTllir yn awr rhwng y Mab a dynion ac ang- elion. Y Mab yn unig yw llewyrchiad gogoniant ac argraph sylwedd Duw. Oherwydd hyny efe yn unig all roi y datguddiad mwyaf gwirioneddol, mwyaf ysbrydol, mwyaf person ol, o Dduw. Bwriedir yr ymadroddion a ddefnyddia yr awdwr i ddangos fod yr o/n ydyw y Mab yn wreiddiol ynddo ei hun yn ei gymhwyso i ddatgudd*o Daw yn y ffurf uwchaf. Y mae i Dduw ei sylwedd, yr hwn sydd megys sylfaen o dan ei holl briodoleddau. Y Mab yw argraph y sylwedd dwyfol. Ond, yn mhellach, y mae i Dduw ei ogoniant, yr hwn sydd megys arddango>iad o'i sylwedd. Y MaD yw llewyrchiad y gogoniant dwyfol. Fe wêl y darllenydd oddiwrth hyn mai gwell ydyw dechreu gyda'r ymadroddion olaf, wrth egluro yr adn., a gweithio ein ffordd yn ol yn y drefn a ganlyn,— " person," " gwir lun," "gogoniant," " dysgleirdeb."

Yr hwn ac efe; yn fwy llythyrenol, a gwell, "yr hwn gan ei fod.' Cyferbynir yn y gair hẁn yr hyn ydyw y Mab ynddo ei hun yn bersonol a hanfodol â'r hyn ydyw trwy gael ei wneyd neu ei apwyntio (adn. 2 4). Cvdmarer Phil. iii. 6 â loan i. 14.

Ei berson; yn hytrach, " ei sylwedd," (u his substance" C. D. 8.)l Dygwyd y gair " person " i mewn i'r adnod gan Beza. Ond "sylwedd " yw y gair a ddefnyddiwyd gan y tad Lladinaidd Jerom, awdwr y cyf- ieithiad Lladin a elwid y cyfieithiad Cyffredin (Vulgate). Defnyddid y gair gwreiddiol (hupostasis) gan y tadau Groegaidd mewn dau ystyr, sef weithiau am yr hanfodiad sydd yn perthyn i'r Tad, i'r Mab, ac i'r Ysbryd Glân, fel eu gilydd ; weithiau am y ffurf hwnw ar yr hanfodiad ddwyfol sydd yn wahaniaethol yn y Tad, yn y Mab, ac yn yr Ysbryd Glân. Parodd hyn lawer o ddyryswch, yn mhlith y tadau Groegaidd eu hunain.

4 YR EPI8T0L AT YE HEBREAID.

lun ei berson ef, ac yn cynnal pob peth trwy air ei nerth, wedi

Ond yn y fl. 362 o.c, mabwysiadwyd y gair hupostasis yn yr ystyr o berson, a'r gair ousia yn yr ystyr o sylwedd. Yn yr adn. hon y mae yn sicr mai " sylwedd " yw ystyr y gair hupostasis. Dadleua Beza nas gallai y Mab fod yn argraph sylwedd y Tad, gan mai un sylwedd neu han- fod sydd i'r Tad ac i'r Mab ac i'r Ysbryd. Ond nid fod sylwedd y Mab yn argraph o sylwedd y Tad a ddywedir yn yr adn. hon, nac ychwaith fod person gwahaniaethol y Mab yn argraph o berson gwahaniaethol y Tad. Yr ystyr ydyw fod person y Mab yn argraph o sylwedd Duw, yr hwn sydd yn y Mab fel y mae yn y Tad. Dywed Charles, yn y Geiriadur (dan y gair " Delw ") " fod Crist, o ran ei Berson, yn hanfodol, ac nid yn argraphiadol, nac yn greadigol, yn ddelw, neu yn wir lun Person y Tad." Y mae hyn yn wir, am mai Mab ydyw. Ond nid hwn yw yr ystyr yn yr adn. hon, fel y dengys y Geiriadur dan y gair " Person," ond yn hytrach fod Crist yn argraphiadol (fel y mae hefyd yn hanfodol) yn ddelw o sylwedd y Tad.*

Gwir lun. Dyma gyneithiad yr Esgob Davies, yr hwn a'i cymmerodd o Fibl Geneva, "express image;" ond ceir y darlleniad hwn yn Awstin. Ystyr y gair gwreiddiol ydyw argraph a wneir trwy osod sel ar gŵyr todd- «dig. Felly y dywed Philo, fod " y gair tragwyddol yn argraph sêl Duw." Y mae y dyfyniad hwn yn ddigon i brofi beth yw ystyr y gair yn yr adn. hon. Y mae y gyffelybiaeth yn cynwys, nid yn unig fod cyffelybrwydd perffaith rhwng y Tad a'r Mab, ond hefyd mai y Mab sydd yn derbyn ei ffurf wahaniaethol, ac nid y Tad ; ac yn mhellach, fod y ffurf wahaniaethol a dderbynia y Mab o'r Tad, yn gosod allan, neu yn datguddio, yn hollol, y sylwedd dwyfol sydd yn perthyn i'r Tad ac i'r Mab. Y ffurf wahan- iaethol ar y sylwedd dwyfol fel y mae yn y Tad ydyw ei fod yn Dad, ac am hyny, ei fod (1) yn Dduw i'w ddatguddio, ac (2) yn rhoi bod erioed i'r ffurf wahaniaethol ar y sylwedd dwyfol sydd yn ei ddatguddio. Ond yn y Mab, y ffurf wahaniaethol ydyw ei fod yn Fab, ac, am hyny, ei fod yn argraph neu ddelw sydd yn datguddio Duw ; Col. i. 15 ; Phil. ii. 6. Golyga Beza mai Crist fel dyn a f eddylir, am mai yn ei ddynoliaeth y mae Crist yn ddatguddiad i ni o Dduw. Ond hawdd ateb hyn, trwy ddyweyd na fuasai Crist fel dyn yn datguddio Duw oni buasai ei fod fel Mab tragwyddol yn argraph ei sylwedd.

Ei ogoniant. Perthyna i'r sylwedd dwyfol nid yn unig ei argraph neu ei ddelw, ond hefyd ei ogoniant ; hyny ydyw, nid yn unig y mae i Dduw ei Fab ond y mae iddo hefyd ei briodoleddau. " Llewyrchiad ei ogoniant, ac argraph ei sylwedd " a ddywedir yma ; ond yr un fyddai yr ystyr pe dywedid, "llewyrchiad gogoniant ei sylwedd ac argraph ei syl- wedd." Perthynas y Mab â'r sylwedd dwyfol ydyw ei fod yn argraph neu ddelw o hono. Ond y mae perthynas rhyngddo hefyd â gogoniant y syl- wedd dwyfol ; hyny yw, rhyngddo â'r priodoleddau dwyfol. Ymddengys yn eglur fod hanfod Duw yn cynwys ynddi ei hun, nid yn unig y posibil- rwydd o gael ei datguddio, ond'hefyd dueddfryd at hyny. Y mae ei myn- ediad allan yn ddeublyg ; y naill mewn Mab, a'r Hall mewn gogoniant neu briodoleddau teilwng o honi ei hun. Ac er fod y Mab yn ddelw yr hanfod neu y sylwedd dwyfol, ni fuasai yntau yn ddatguddiad o Dduw oni buasai fod perthynas rhyngddo a'r priodoleddau dwyfol. Hwn yw y rheswm fod yr awdwr yn crybwyll y gogoniant yn gystal â'r argraph.

Dysgleirdeb. Gwel Doeth. vii. 26. Yn Philo, gan yr hwn y cafodd yr awdwr ef, y mae i'r gair a ddefnyddir yma ddau ystyr, sef (1) adlew-

* ^ichon, er hyny, fod peth aneglurder yn y Geiriadur, oherwydd fod yr awdwr yn dyfynu y geiriau "delw y Duw anweledig " i brofi y ddau bwnc.

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. 5>

puro ein pechodau ni trwyddo ef ei hun, a eisted4bddí^áẃ t-

r 'rimvá ,.>

yrchiad," fel y llun sydd mewn drych, "reflexion;" (2) ^üftwjÿchiad, allan," "dysgleiriad," "effulgence" (C. D. S.), "radiance.", [wgriçfl yw yr ystyr yn y lie hwn, oblegid dau reswm: (1) Pe adlewyrchiafiLo -p^pí^ant mewn drych fyddai y Mab, golygai hyny fod y gogoniant yn i<^8gleiripar ryw sylwedd gwahanol i'r Mab ei hun i gynyrchu y ddelw yn y ch*ycb.. Y mae yn bollol briodol dyweyd ein bod ni yn edrych ar ogoniant«y Mab yn adlewyrchu yn ei fywyd dynol ar y ddaear, ond anmhriodol fyddaiidy??eyd mai adlewyrchiad mewn drych ydyw y Mab ei hun. Gwel 2,Qpx{.iV^. 18. (2) Y mae eisiau ystyr i'r gair yn y lie hwn fydd yn dangos cymhwysder y Mab i ddatguddio Duw i ddynion, ac nid i ddatguddio Duw idda^h'uíu Y mae y geiriau eraill, "argraph" a "gogoniant," yn dynodi yrhya «ydd ynNuw, onddynoda y gair " dysgleirdeb " ddatguddiado hyny i ddynion. Golyga y geiriau "argraph" a "gogoniant" hunan-ddatgud<|if^l Puw, a thybiant, yn ddiau, athrawiaeth y Drindod. Cynwysant heíyd^ gan hyny, nid yn unig fod yn bosibl i Dduw ddatguddio ei hun i eraüj, pud fod tuedd a chymhwysder cynhenid ynddo i hyny. Ond y gair " dysgleiriad " sydd yn gosod allan y ffaith fod y Mab yn ddatguddiad o Dduw "i -eraill. Yn y gair hwn, gan hyny, y mae yr awdwr yn symud o'r syniad am y Mab fel y mae yn y Drindod at y Mab fel creawdwr, a thrwy y syniad hwn ;cys- sylltir yr adn. hon â diwedd yr adn. flaenorol. Trwy y Mab y gwniaetii- pwyd yr holl greadigaeth fel y mae hi yn oesoedd neu gyinodaU)Oi^dat- guddiadau sydd wedi cyraedd eu perffeithrwydd yn yr ymgnawdpUad. Ond nid gwneyd y cwbl mewn dull peirianyddol, fel y gfwna y crocbjTrydd ei bridd-lestri, yr oedd y Mab,' ond yn hytrach llewyrchu allan o honp, ei;ìaun ddatguddiad o ogoniant priodoleddau Duw. Felly hefyd y mae y Mabrjn cynal yr oil, nid fel peiriant yn cael ei adgyweirio, ond trwy air, neu ddat- guddiad o allu. Galluydyw y gogoniant neu y briodoledd sydd ynllewyxchu allan yn nghynhaliad yr oil gan y Mab. Oddiwrth yr adn. hon y cymnaerwyd yr ymadrodd yn Nghredo Nicaea a chredoau boreuach, "goleuni o oleuni."

Yn cynhal; neu, "yndwyn;" "yn cynhal yn mlaen." Nid yr ystyr ydyw fod y Mab yn dal y pwysau, ond ei fod yn cario y cwbl, gyda chyfeir- iad at symudiad yr oil a wnaethpwyd ymlaen yn nghyfeiriad neillduol y datguddiadau at ymddangosiad y Mab yn y cnawd. "A

Ei nerth, sef nerth y Mab, nid nerth'y Tad; ac nid "gair nerthol:" yw yr ystyr. Gtsyd yr ymadrodd allan mor hawdd y mae y Mab yn cynhal ac yn dwyn yr oil i ben, sef trwy air; gyda chyfeiriad at hanes y cread-yrt Gen. i. Gwel xi. 3. Y mae ei air yn ddatguddiad o'i allu.

Wedi puro ein pechodau; yn llythyrenol, "wedi iddo wneuthmr puredigaeth y pechodau." Dygir y syniad hwn i mewn yma yn hynod o- fedrus i barotoi y ffordd at ymresymiad arbenig y traethawd, sef mai gogoneddiad y Mab ar ddeheulaw y Mawredd, fel iachawdwr pechaduriaid, trwy ei wacd ei hun, ydyw y datguddiad uwchaf o Dduw. Bellach cyfynga yr awdwr ei sylw i hyn. Gad o'r neilldu bob datguddiad arall, mewn creadigaeth, mewn cynhaliad, neu yn y goruchwyliaethau a chyf- nodau a osodasai Dduw yn mhlith dynion.

Puro. Gwell oedi ystyriaeth fanwl o'r gair hyd y nawfed benod. Yr un peth a olygir wrth "buro pechodau" a " phuro oddiwrth. bechodau," Ond y mae "puro pechodau" yn penderfynu ystyr cyffredinol y gair "puredigaeth." Nifl gallai yr awdwr alw diwygiad moesol mewn dyn yn "buredigaeth y pechodau." Piu-edigaeth yn unig- oddiwrth j pechodau fyddai hyny. Yr hyn a elygir wrth " buredigaetbl, y pechodau" ydyw symud yr euogrwydd. Ac nid yw y geiriad hwn oa

6 YE EPISTOL AT YE HEBEEAID.

4 ddeheulaw y Mawredd yn y goruwchleoedd ; Wedi ei wneuthur o hynny yn well nâ'r angelion, o gymmaint ag yr etifeddodd

gwbl yn anghywir. Dewisa yr awdwr ef yma er mwyn rhoi pwyslais ar y Mab, yr hwn sydd yn dwyn oddiamgylch y puredigaeth hwn ; felly ceidw yr awdwr allan o ystyriaeth yn fwriadol y rhai y gwneir y puredigaeth arnynt. Oblegid hyn y dywed hefyd, "wedi gwneuthur puredigaeth y pechodau i'w ddybenion ei hun," hyny ydyw, er ei ogoneddiad ei hun. Iíhaid gadael aìlan y geiriau "trwyddo ef ei hun," y rhai ni cheir yn y llawysgrifau henaf . Ond golyga ffurf y gair gwreiddiol (poiêsamenosj ei fod yn'gwneuthur y weithred iddo ei hun, er nad arno ei hun. Perthynas y Mab yn hyn oil â Duw ydyw prif syniad yr adnodau hyn ; a defnyddir y cwbl drachefn yn y gweddill o'r benod i ddangos rhagoriaeth y Mab ar yr angelion. ì'r dyben o enill iddo ei hun, neu etifeddu, enw mwy rhagorol na hwynt-hwy y gwnaeth y Mab buredigaeth y pechodau.

A eisteddodd, &c. Benthycir y geiriau o Salm ex. 1. Gwel pen. x. 12. Ni a gawn weled eto fod y cyssylltiad sydd rhwng brenhin- iaeth Crist a'i offeiriadaeth, yr hwn a awgrymir yma, yn un o wirioneddau mwyaf pwyeig y traethawd. Ond fel caniyniad ei offeiriadaeth y gosodir allan frenhiuiaeth Crist yn y lie hwn, ac yn yr holl Epistol. Yn yr adn. hon ni wna yr awdwr ond crybwyll y peth, heb esbonio y cyssylltiad yn fanylach. Êi amcan yn bresenol ydyw dwyn i mewn y cyferbyniad rhwng y Mab a'r angelion.

Ar ddeheulaw y Mawredd, neu, yn hytrach, " ar ddeheulaw Mawredd," sef deheulaw Duw (x. 12), fel Mab ac etifedd yr orsedd.

Yn y goruwchleoedd. Yn y penodau dilynol desgrifir esgyniad Crist fel mynediad yr archoifeiriad i'r cysegr sancteiddiolaf ; ond yn yr adn. hon nid hwn yw y syniad. Gwell gan yr awdwr ddangos ei uwch- afiaeth ar yr angelion, yrhai ydynt yn y nefoedd, tra yr eistedd y Mab mewn lie goruweh y nefoedd. "

II.— Y Mab a'r Angelion.

i. 4— ii. 18.

1. Datguddydd Duw yn Fab Duw.

i. 4— ii. 4.

ADN. 4.— Yn adn. 1 cyferbynir y Mab a'r prophwydi. Perthyna ef i'r byd goruwchnaturiol. Ond yr oedd Duw yn llefaru o dan yr hen oruchwyliaeth, nid yn unig yn y prophwydi, ond hefyd trwy angelion, y rhai eu hunain a berthynant i'r byd goruwchnaturiol. Y mae o bwys, gan hyny, i'r awdwr allu dangos fod y Mab yn rhagori ar yr angelion hefyd. Ond y mae ei ragoriaeth ar yr angelion yn gynwysedig yn yr un peth, sef ei fod yn Fab ; ac y mae ei fabolaeth wedi sicrhau iddo urddas uwch, sef ei eisteddiad ar ddeheulaw y Mawredd, nag a gafodd neb o honynt hwy. Mai oblegid fod Duw wedi llefaru drwy angelion y cyferbynir y Mab a'r angelion vn j benod hon sydd eglur oddiwrth ii. 2.

"Wedi ei wneuthur, sef yn ei esgyniad i'r ddeheulaw, mewn cyfer- byniad i'r hyn ydoedd er tragwyddoldeb ynddo ei hun, yr hyn a grybwyllir yn adn. 3. Gwel ii. 7. Wedi iddo wneyd puredigaeth y pechodau, ac oblegid hyny, y gwnaethpwyd ef yn well na'r angelion yn yr ystyr a olygir gan yr awdwr yn y lie hwn.

Ỳn well ; hyny yw, yn uwch o ran sefyllfa. Cyfeirir yma at ei ddyrchafiad i ddeheulaw y Mawredd, nid at ei fabolaeth. Ond y mae ei sefyllfa yn uwch na'r angelion oherwydd ei fod yn Fab. Sylwa Alford na ddefnyddia Paul y gair hwn o gwbl i olygu nwchafiaeth sefyllfa, ond bod awdwr yr Epistol yn ei ddefnyddio yn yr ystyr hwn dair ar ddeg o weithiau

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. 7

efe enw mwy rhagorol na hwynt-hwy. Canys wrth bwy o'r 5 angelion y dywedodd efe un amser, Fy mab ydwyt ti ; myfi

Enw mwy rhagorol, sef yr enw Mab, fel y gwelir oddiwrth yr adn. ddilynol. Rhaid gwrthod golygiad swynol Delitzsch mai at yr enw cuddiedig a roddir ar y Mab gan Dduw, yr hwn nis gall neb ei wybod ond efe (Dat. xix. 12), y cyfeirir yma. Ond yn mha ystyr y dywedir iddo etifeddu yr enw Mab? Y mae yn eglur fod y dyfyniadau o'r Hen Destament yn yr adnodau dilynol yn cyfeirio ato fel Duw-ddyn. Ond athrawiaeth gyson yr Epistol ydyw fod y Mab yn bod cyn ei ymgnawd- oliad. Cyn wy sir hyn eisoes yn nghyssylltiad yr adn. gyntaf a"r ail. Golyga rhai o'r esbonwyr goreu mai yr ystyr ydyw fod y Mab yn enill lei Duw-ddyn yr hyn oedd ganddo eisoes fel Duw. Ond y mae yr esbonwyr hyn yn cymysgu dau beth gwahanol â'u gilydd, sef ei fabolaeth a'i ogoniant. Yr oedd y Mab trwy ddyfod yn ddyn wedi ymddihatru o'i ogoniant, a gweddiai am adferiad o'r gogoniant oedd iddo gyda'r Tad cyn bod y byd (loan xvii. 5). Ond nid oedd wedi ymddiosg o'i fabolaeth, ac nid gwobr am ei ufudd-dod oedd ei fab- olaeth fel Duw-ddyn. Dysgeidiaeth yr Epistol hwn ydyw iddo, er ei fod yn Fab, ddysgu ufudd-dod (vi. 8), ac nid iddo etifeddu ei fabolaeth fti gwobr am ufudd-dod. Ystyr priodol y gair a gyneithir " etifeddodcV ydyw "efe a gafodd i'w ran." Nid y syniad a awgrymir ydyw t: - glwyddiad etifeddiaeth o dad i fab, ond yn hytrach cyferbyniad rhwng un y syrthiodd rhywbeth i'w ran ac eraill na chawsant y peth. Sylwer, yn mhellach, ar ffurf y gair. Y mae y ferf yn yr amseriad sydd yn gosod -allan fod y peth yn parhau o'r gorphenol i'r presenol, yr hwn a arferir yn .gyffredin pan y dyfynir o'r Hen Destament. Gellir arall-eirio fel hyn : " 0 gymaint a'i fod yn yr Ysgrythyr wedi cael i'w ran enw mwy rhagorol na hwynt-hwy." Tueddir fi i olygu mai yr ystyr ydyw fod ymgnawdoliad a dyrchafiad y Duw-ddyn wedi ei godi ef i urddas cyfatebol i'r enw sydd wedi dyfod i'w ran yn yr Hen Destament, enw na roddir yno i'r angelion, sef yr enw Mab. Gwelaf fod Riehm wedi awgrymu yr un golygiad. Yn \mol â hyn fe geir fod yr adnodau a ddyfynir yn y benod hon yn son am y ddau beth yn eu cyssyìltiad â'u gilydd, sef ei fabolaeth a i ogoniant, a'r cwbl mewn cyferbyniad i'r angeliou, y rhai na feddant y fabolaeth, ac am hyny, nad oes ganddynt mo'r gogoniant ychwaith.

ADN. 5— ADN. 14.— Y mae yr adnodau hyn yn ymranu yn dair rhan.* Cynwysa y rhan gyntaf y burned a'r chweched adn., a'r pwnc ynddynt hwy ydyw datganiad o'r gwahaniaeth rhwng y Mab a'r angelion yn eu perthynas â Duw, o ran mabolaeth a gogoniant : y Mab yn unig sydd ganddo y fabolaeth, ac am hyny gorchymynir i'r angelion ei addoli. Y mae cyfeiriad yn hyu oil at yr enw "Mab," yn yr adn. gyntaf. Cynwysa yr ail ran y seithfed adn., yr wythfed, a'r nawfed. Dysgir yma beth ydyw yr angelion, gan nad ydynt yn feibion, a pha beth y w gogoniant y Mab yn ei berthynas â'r angelion : gweinidogion ydynt ìiwy ; Duw a brenhin ydyw ef, yn teyrnasu mewn cyfiawnder. Cyfeiria hyn at y drydedd adn., lie y desgrihr y Mab fel dysgleirdeb gogoniant ac argraph sylwedd Duw. Cynwysa y drydedd ran o'r ddegfed hyd y drydedd adn. ar ddeg. Y pwnc ydyw perthynas y Mab â'r greadigaeth a gogoniant ei fuddugoliaeth ar ei eìynion. Cyfeiria y rhan hon at ddiwedd yr ail a'r drydedd adn., lie y desgrihr y Mab fel creawdwr a chynhalydd a buddugoliaethwr. Yr unig ym-

* Y mae y rhaniad triphlyg hwn, gyda'r is-raniad deuplyg, yn. fwy eglur yn y gwreiddiol : 1. gar . . . de; 2. kai men . . . de ; 3. kai . . . de. I

8 TR EPISTOL AT YR HEBREAID.

heddyw a'th genhedlais di ? A thrachefn, Myfi a fyddaf iddo

6 ef yn Dad, ac efe a fydd i mi yn Fab ? A thrachefn, pan yw

yn dwyn y cyntaf-anedig i'r byd, y mae yn dywedyd, Ac

adrodd yn y desgrifiad o'r Mab a'i ogoniant, yn yr ail a'r drydedd adn., nad oes cyfeiriad ato yn y dyfyniadau hyn o'r Hen Destament, ydyw y geiriau " wedi gwneyd puredigaeth y pechodau." Ond daw hyn i mewn, fel y cawn weled, yn yr ail benod, ac yno y mae y cyferbyniad rhwng y Mab a'r angelion yn diflanu, a chyferbyniad rhwng yr angelion a had Abraham yn cymmeryd ei le (ii. 16). Ynlle " nid angelion sydd yn cym- meryd gafael yn had Abraham, ond y Mab," dywedir " nid mewn angel- ion y eymmer afael, ond yn had Abraham."

ÀDN. 5. Nid at y tragwyddol genedliad y cyf eirir yma. Byddai yn hollol anghyffeithlawn i ni briodoh' i'r Salmydd ddatganiad o athrawiaeth y tragwyddol genedliad, pan nad oedd athrawioeth y Drindod ei hun wedi ei datguddio yn eglur, os o gwbl. Heblaw hyny, amcan yr awdwr yn y dyfyniadau hyn ydyw profi yr hyn a ddywed yn y bedwaredd adn., fod y Mab wedi derbyn enw mwy rhagorol na'r angelion. Y mae yn eglur ei fod yn son am y Mab fel Duw-ddyn. Gwelsom eisoes nas gellir mabwys- iadu y golygiad mai yr ystyr ydyw fod y Mab, fel Duw-ddyn, yn enill yr hyn a fu yn eiddo iddo erioed fel Duw. Y golygiad tecaf ydyw fod yr awdwr yn cyfeirio at y Messiah fel yr un y sylweddolid ynddo y frenhiniaeth a gysgodid, i lygaid y Salmydd, yn mrenhiniaeth Dafydd a'i fab Solomon. Yn y Messiah y ccir yn ei berffeithrwydd y brenhin a osodwyd gan Dduw yn Israel. Desgrifir y brenhin yn cyfarch ei fab a'i etifedd, megis mewn dychymyg, "cyn ei enedigaeth," ac yn cydnabod ei fabolaeth frenhinol. Sylwer ar yr ymadroddion arbenig, "heddyw a'th genedlais," "mi a fyddaf," a " tithau a fyddi." Ymlawenycha y brenhin yn y gobaith am fab i etifeddu ei orsedd. Hyn wedi ei ddyrchafu i ffurf ddwyfol ydyw cyfarchiad Duw i'r Messiah cyn ei ddyfodiad i'r byd.

ADN. 6. Prin y mae y cyfieithiad, " A thrachefn, pan y dyg," yn gywir. Mwy diogel, a dyweyd y lleiaf, ydyw y cyfieithiad, "A phan drachefn y dyg," ice. Ond nid yr ystyr ydyw, "pan y dyg drachefn," neu " yr ail waith," fel pe byddai yr awdwr yn cyfeirio at yr ail ddyfodiad yn niwedd y byd. Ni sonir am yr ail ddyfodiad mewn un man fel gwaith y Tad yn dwyn y Cyntaf-anedig i'r byd, a chyf eirir ato mewn adnodau eraill, megis adn. 13, fel darostyngiad pob peth dan ei draed ef. Yn liytrach am ei ddyfodiad yn y cnawd y sonir yma ; a defnyddir y gair " drachefn " i gyssylltu y ddwy weithred a briodolir i'r Tad, sef cyfarch y Mab cyn ei ddyfodiad, a "thrachefn," ar ol ei ddyfodiad, gorchymyn i'r angelion ei addoli.

Pan y dyg ; yn hytrach, "wedi iddo ddwyn," mewn cyferbyniad i'r cyfarchiad a wnaeth cyn ei ddyfod.

Y Cyntaf-anedig, sef etifedd y brenhin (Gen. xxvii. 37; 2 G'ron. xxi. 3). Defnyddir y gair yn y lie hwn er mwyn dangos paham y mae Duw yn dwyn y Mab i'r byd. Ehaid cynwyno yr etifedd.

Y byd; neu fel y gellir arall-eirio, " i breswylfa dynion " (Luc ii. 1). Y mae yn debygol iawn mai ymgnawdoUad y Mab a feddylir, ond gyda y syniad ychwanegol o gyflwyno yr etifedd yn gyhoeddus i sylw ei ddeiliaid. Sonia yr adn , gan hyny, am frodyr a deiliaid a gweinidogion yr etifedd. "Brodyr;" oblegid Cyntaf-anedig ydyw " yn mhlith brodyr lawer," y rhai ydynt oil yn etifeddion mewn rhan, a hyny trwyddo ef yr hwn yw etifedd pob peth. "Deiliaid;" i'r rhai y cynwynir ef, fel eu brenhin, a chynwysir yn y gair bob creadur, yn y nef , ac ar y ddaear, ac yn uffern.

YE EPISTOL AT YE HEBEEAID. » I

addoled holl angelion Duw ef. Ac am yr angelion y mae yn 7 dywedyd, Yr hwn sydd yn gwneuthur ei angelion yn ysbrydion,

" Gweinidogion ;" sef yr angelion, y rhai y gelwir arnynt i blygu yn isel i'r hwn sydd ar ddeheulaw y brenhin. "Angelion Duw" ydynt; eto gorchymyna Duw iddynt ymgrymu ger bron ei etifedd. Nid oes un cyfeiriad yn y ddwy adn. hyn at ddwyfoldeb y Mab, ac nid yn yr ystyr neillduol o addoli Duw y defhyddir y gair "addoli" yn y He hwn. Dyfyna yr awdwr Deut. xxxii. 43. Ond y mae dau anhawsder yn ein cyfarfod. Y naill ydyw mai yn nghyfieithiad y Deg a Thriugain yn unig, ac nid yn yr Hebraeg gwreiddiol, y ceir y geiriau. Ond y mae lie i feddwl fod y Bibl Hebraeg yn cynwys y geiriau ar y cyntaf , a'u bod wedi eu colli ohono ar ol dyddiau awdwr yr Epistol. Y mae yn wir mai Cyfieithiad y Deg a Thriugain oedd Bibl yr ysgrif enydd hwn ; ac nad oes le i dybied ei fod yn gyffredin yn darllen yr Hebraeg. Ond rhyfyg fyddai haeru fod y Deg a Thriugain wedi rhoi y geiriau i mewn yn yr adn. eu hunain. Yr anhawsder arall ydyw mai at Dduw fel gwrthrych addoliad yr angelion y cyfeiria yr adn. yn y Deg a Thriugain, nid at y Messiah. Ond y mae yn hawdd ateb yr wrthddadl hon. Pwnc yr awdwr ydyw dangos fod yr angelion yn addoli, neu yn talu gwarogaeth. Cymer ef yn ganiataol fod y Mab yn Dduw, ond rhaid iddo brofi nad ydyw yr angelion yn ddwyfol, a'r prawf ydyw eu bod yn ymgrymu mewn gwarogaeth.

ADN. 7.— Dechreuir yn yr adn. hon yr ail ran o'r dyfyniadau, a chyferbynir y Mab, fel brenhin dwyfol, â'r angelion, fel ei weinidogion. Ond nid ar y gair ' ' gwneuthur ' ' y mae y pwyslais, fel pe byddai yr awdwr yn cyferbynu yr angelion fel pethau crëedig â'r Mab digrëedig. Y mae ffurf y frawddeg yn tybio fod yr angelion yn bod cyn i'r " gwneuthur" y sonir am dano yma gymmcryd lie. Yn hytrach pwysleisir y gair " angelion," i ddechreu, ac eglurir ei ystyr yn y llinell nesaf fel " gwein- idogion." "Cenadon" a "gweinidogion" ydynt. Y mae y gair "angel" yn y gwreiddiol yn awgrymu bob amser y syniad o "genad;" ac y mae y gair a gyheithir "gweinidogion" yn golygu swyddogion y llywodraeth (viii. 6). Yn ail, pwysleisir hefyd yr hyn y mae Duw wedi gwneyd ei angelion a'i weinidogion. Ystyr' lythyrenol y gair a gyfieithir " ysbrydion " ydyw " gwyntoedd. " Y mae y geiriau "fflam dân" yn y llinell nesaf yn profi mai " gwyntoedd" a feddylir. Gan hyny, yr ystyr yw fod Duw yn gwneyd ei angelion a'i weinidogion yn wyntoedd i ddwyn ei negesau ac yn fflam o dân i lwyr losgi pob peth a roddir gan Dduw i ddinystr. Y mae ei angelion yn gyffelyb i elfenau cryfaf natur. Cynygia rhai (e.g., Lünemannj olvgiad arall, sef fod Duw yn troi ei angelion yn elfenau, yn wynt ac yn dun, hyny yw, yn eu dinystrio fel angelion. Ceir y syniad dieithriol hwn yn rhai o'r Rabbiniaid. Ond nid oes unrhyw awgiymiad yn yr Ysgrythyi am draws -gyfnewidiad o'r fath. Heblaw hyny, y mae yn eglur mai cyferbynu y mae yr awdwr y Mab fel brenhin a'r angelion fel gweision. Gwell, gan hyny, ydyw y gclygiad fod Duw yn gwneyd ei angelion yn gyflym fel gwyntoedd ac yn ddrf aol fel y tan. Yr un pryd, nis gallaf deimlo yn hollol sicr nad ydyw yr hên gyfieithiad, aef '• ysbrydion," yn gywir, Gellid meddwl fod y gair a gyheithir " gwynt " yn awgrymu hefyd y syniad o "ysbryd,'"a bod yn hawdd i awdwr, yr hwn a ysgrif ena yn yr iaith Koeg, symud o'r naill syniad i'r syniad arall wrth ddefnyddio y gair, ie, ei bod yn anhawdd iddo weithiau gyfyngu y gair i un o'r ddau ystyr heb y llall. Felly y mae Crist yn symud o'r naill ystyr i'r llall yn loan iii. 8, lie y ceir yr un gair yn golygu "gwynt " ac ** ysbryd." Pan gofir fod yr awdwr yn defnyddio y gair yn yr ystyr o

10 YR EPISTOL AT YR HEBREAID.

8 a'i weinidogion yn fflam dan. Ond wrth y Mab, Dy orsedl- faingc di, O Dduw, sydd ynoes oesoedd: teyrn-wialen uniondeb-

9 yvj teyrn-wi'alen dy deyrnas di. Ti a geraist gyfiawnder, ac a gaseaist anwiredd : am hynny y'th eneiniodd Duw, sef dy Dduw

10 di, âg olew gorfoledd tuhwnt i'th gyfeillion. Ac, Tydi yn y

"ysbryd " yn adn. 14, wrth son am weinidogaeth yr angelion, ymddengys yn debygol fod y gair "ysbryd" ei nun yn awgrymu i'w feddwl ef y syniad o weinidogaeth, a hyny oblegid mai ystyr gyntaf y gair ydyw " gwynt."

ADN. 8. Mewn cyferbyniad i'r cenadon a'r gweinidogion y mae y brenhin, yr hwn yw y Mab. Y mae yn sicr fod y Mab yn cael ei alw yn '•Dduw" yn yr adn. hon. Eto nid dwyfoldeb y Mab yw y prif syniad. Y pwnc ydyw fod y Mab yn frenhin.

Gwialen uniondeb yw gwialen dy frenhiniaeth di ; yn hytrach, " gwialen dy frenhiniaeth di yw gwialen uniondeb." Yr hyn y sonir am dano yw " gwialen uniondeb ; " a'r hyn a ddywedir am dani /dyw mai gwialen brenhiniaeth y Mab ydyw. pa le bynag y ceir hi. Nid y meddwl ydyw fod teyrnwialen y Mab yn deyrnwialen uniawn, ond mai efe sydd yn llywodraethu yn mhob llywodraeth uniawn ac mai ei rag- lawiaid ef ydyw holl frenhinoedd y ddaear sydd yn llywodraethu mewn uniondeb.

ADN. 9. Nid yn unig y mae llywodraeth gan y Mab, ond y mae uniondeb ei lywodraeth yn seiliedig ar ei gyfiawnder personol ef ei hun. Oblegid ei fod ef yn caru cyfiawnder yr eneiniodd Duw ef yn frenhin, ac y rhoddodd iddo ef orfoledd brenhinol tu hwnt i bawb sydd yn gyfranog gydag ef mewn llywodraeth a gorfoledd.

Ti a geraist. Nid at fywyd Crist ar y ddaeai yn unig y cyfeirir yma, ond at holl weithredoedd Crist fel brenhin cyn ei ymgnawdoliad yn gy&tal ag wedi iddo ddyfod yn ddyn.

Eneiniodd, sef pan y gwnaeth ef yn Grist neu Eneiniog yn ei ymgnawdoliad, a phan y rhydd iddo y fuddugoliaeth yn y diwedd. Cynwysir y cicbl o lawenydd yr Arglwydd Iesu yn yr ymadrodd.

tuw, sef dy Dduw; neu, " dy Dduw, 0 Dduw."

^y gyfeillion; yn hytrach, " y rhai sydd gyfranog â thi." Dywedodd y prophwyd eisoes mai rhaglawiaid y Mab ydyw brenhinoedd sydd yn llywodraethu mewn uniondeb. Ychwanega yn yr adn. hon mai cyfranogi y maent hwy yn ei lawenydd a'i urddas brenhinol ef. Nis gallaf dderbyn golygiad Alford ac eraill mai yr angelion a feddylir wrth " y rhai sydd yn cyfranogi gyda thi." Nid ydynt hwy yn cyfranogi yn ei lywodraeth. Mwy dewisol ydyw golygiad Calvin mai ei frodyr, y credinwyr, a feddylir, y rhai a gyd- deyrnas ant âg ef mewn gogoniant.

ADN. 10.— Deuwn bellach at y drydedd ran o'r dyfyniadau o'r Hen Destament. Y mae y Mab yn rhagori ar yr angelion yn ei berthynas â'r greadigaeth. Ymddengys, ar yr olwg gyntaf, yn sj'n nad yw yr awdwr yn dyfynu adnod i brofi mai nid yr angelion a greodd y byd, yn enwedig pan ystyriom mai un o gyfeiliornadau yr oes Apostolaidd oedd yr athrawiaeth mai trwy yr angelion y creodd Duw bob peth. Y mae yn sicr fod athraw- iaeth y Gnosticiaid wedi dechreu mor fore â dyddiau Paul ac awdwr yr Epistol hwn. Eto nid yw Paul na'r awdwr hwn yn dyfynu geiriau yr Ysgrythyr i ddatgan yn eglur fod yr athrawiaeth hon am yr angelion fel Creawdwyr is-raddol yn gyfeiliornus. Y rheswm ydyw nad oes y fath adnod i'w chael : ac o ddystawrwydd yr Hen Destament ar hyny yr oedd

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. 11

dechreuad, Arglwydd, a sylfaenaist y ddaear: a gwaith dy ddwylaw di yw y nefoedd. Hwynt-hwy a ddarfyddant; ond 11 tydi sydd yn parhau : a hwynt-hwy oil fel dilledyn a heneidd- iant ; Ac megis gwisg y plygi di hwynt, a hwy a newidir : ond 12 tydi yr un ydwyt, a'th flynyddoedd ni phallant. Ond wrth ba 15 un o'r angelion y dywedodd efe un amser, Eistedd ar fy neheu- law, hyd oni osodwyf dy elynion yn droed-faingc i'th draed ? Onid ysprydion gwasanaethgar ydynt hwy oil, wedi eu danfon 14

yr hereticiaid yn cymmeryd achlysur i ddysgu eu cyfeiliornad. Y cwbl a ddywedir ydyw mai Efe, ac nid neb arall, a wnaeth y nefoedd, gan gynwys yr angelion yn y gair, yn gystal â'r ddaear. Salm cii. a ddyfynir, gyda chyfeiriad at fanau eraill.

ÁDN. 11.- A ddarfyddant. Gwel Es. xxxiv. 4, lie y sonir am In y nefoedd, yr angelion [? str], yn pydru. " A heneiddiant," Es. li. 6.

ADN. 12.— Gwisg; yn hytrach, " mantell," sef y wisg a deflir dros y dillad. Wrth blygu y dilledyn y golygir yma ymddiosg a rhoi heibio y wisg, i'r dyben o'i " newid " hi am un arall. Y mae y greadigaeth weledig fel gwisg i'r Mab. Pan ddewisa, efe a ymddiosg o'r naill wisg ac a'i gesyd o'r neilldu, gan gymmeryd un arall yn ei lie. Dyma ddesgrifiad tra barddonol y prophwyd o anian a'i chyfnewidiadau.

Tydi, &c. Yr un yw y Mab ; nid y naill Fab yn dilyn y Hall, fel y mae y naill wisg yn dyfod yn He y Hall ; a'r achos na newidir ef ydyw na heneiddia ac na phaUa ei flynyddoedd. Es. xlvi. 4.

ADN. 13. Buasem yn disgwyl i'r adn. redeg fel hyn : "Eistedd ar fy neheulaw wedi i mi osod dy elynion yn droedfainc i'th draed." Buasai y Mab yn cymmeryd ei le ar y ddeheulaw fel buddugoHaethwr. Ond yr ystyr ydyw fod y Brenhin yn gwahodd ei etifedd i gyfranogi yn y Uywodr- aeth gydag ef, a hyny yn hollol dawel am barhad diysgog ei awdurdod, yn gymaint ag y gofalai y Brenhin ddarostwng y gwrthryfelwyr dan ei draed. Am yr angelion, nid oes ganddynt hwy elynion. Ond Tywysog yw y Mab, a rhyfelwr. Y mae iddo ei elynion, ac y mae eu gelyniaeth hwy yn enyn cariad ei Dad ato yn fwy angerddol, i'w amddiffyn ef a'u darostwng hwythau.

Troedfainc i'th draed. Cyfciriad sydd yma at yr hen arferiad, yr hon a welir yn ngherfluniau Ninife, &c, fod i'r buddugoHaethwr osod ei droed ar wddf ei elyn.

ADN. 14.— Ar gyfer y gelynion y mae deiliaid teyrngarol y Mab, y rhai a orthrymir ganddynt. Tuag at y rhai hyn y mae gweinidogaeth yr angelion. Y mae yr angelion yn ysbrydion sydd yn gwasanaethu y Mab trwy amddiffyn y deHiaid ffyddlawn. Yr anhawsder yw gwybod paham y dywed yr awdwr y peth yn y ffiuf o ofyniad. Dichon nad oes an rheswm dros hyny ond yn unig ei fod wedi dèwis y ffurf hon yn yr adn. flaenorol.

Oil. Y mae pwys i'w osod ar y gair hwn. Y mae Uawer o raddau yn mhlith angelion. Ond ysbrydion gwasanaethgar ydynt hwy oil, o'r uwchaf hyd yr isaf.

Ysbrydion gwasanaethgar, mewn cyfeiriad at y geiriau "ysbryd- ion" a " gweinidogion " yn adn. 7.

Wedi eu danfon ; yn hytrach, "yn cael eu danfon," hyny yw, pryd bynag y mae eisiau eu gwasanaeth. " Danfon ar genadwri " yw yr ystyr, fel yn 1 Cor. i. 17. Cyfeiria at y gair " gwyntoedd " sydd yn adn. 7.

12 YE ZPISTOL AT YR HEBBEAID.

i wasanaethu er ìnwyn y rhai a gânt etifeddu iachawdwriaeth. PENOD II.

1 i M hynny y mae yn rhaid i ni ddal yn well ar y pethau a J\- gly^som, rhag un amser i ni eu gollwng hivy i golli.

I "wasanaethu, sef ar y Mab, gweinidogion yr hwn ydynt.

A gânt. Byddai "a gaeut " yn gyfieithiad llawn mor gywir. Y tebygolrwydd yw fod y ddau ystyr yn gynwysedig yn y gair yn yr adn. hon, a bod yr awdwr yn cyfeirio yn gyrTredinol at etifeddion yT iachawdwriaeth fcrwy yr efengyl, ac hefyd yn neillduol at blant Israel yn yr anialwch, etifeddion yr iachawdwriaeth dan yr hen gyfammod. Ymddengys hyn yn debygol oddiwrth y cyferbyniad yn ii. 3 rhwng y fctth iachawdwriaeth, 'sef yr iachawdwriaeth ysbrydcl trwy Grist, a'r iach- awdwriaeth lai, sef yr hon a ddygwyd oddiamgylch trwy offerynoliaeth angelion.

Etifeddu ; hyny yw. " cael i'w rhan," ond dewisir y gair " etifeddu " oblegid rnai fel cyd- etifeddion â'r Mab y maent hwy yn dyfod i feddiant o:r iachawdwriaeth.

PEN. II. ADN. 1— 5.— Ca.=gliad yrnarferol oddiwrth ragoriaeth y Mab ar yr angelion, yn enwedigol oddiwrth yr hyn a ddywedir am y Mab yn i. 13. yn buddugoliaethu ar ei elynion. Gelynion y Mab yn awr ydyw y dynion a wrthodant ei iachawdwriaeth, yr hon a sicrhawyd i ni trwy dystiolaeth. Ac os ni ddiangodd y rhai a wrthodasant y datguddiad a roddasid trwy angelion, y rhai nid ydynt ond gweinidogion, pa fodd y diangwn ni, os esgeuluswn y brenhin ?

ADN. 1.— Am hyny, sef yr hyn a ddywedwyd yn y benod gyntaf. Y mae yr awdwr wedi gorphen nn ran o'i yrorL^ymiad, sef y rhan sydd yn profi rhagoriaeth y Mab, fel Duw-ddyn, yn nesgrifiad yr Hen Destament ohono. ar yr angelion. Ar derfyniad y" rhan non rhybuddia ac anoga ei ddarllenwyr. Xid yw yn hollol gywir dyweyd fod yr awdwr yn tori allan i rybuddio or ganol ei ymresymiad. Ond sylwer ar y gwahaniaeth rhwng dullwedd yr awdwr a dullwedd yr Apostol Paul, yn eu n'ordd o ddwyn i mewn addysgiadau.

Yn well; yn hytrach, "yn helaethach." Gair tyner ydyw. Cydnebydd yr awdwr fod ei ddarllenwyr eiáoea yn dal ar y pethau a glywsent. ond anoga hwynt i ddal yn helaethach, oblegid rhagoriaeth y datguddiad yn y Mab. Nid yr ystyr ydyw y dylent ddal yn well nag y gwnaeth eu tadau ar leferydd y prophwydi.

Dal ar y pethau a glywsorn. Cymmer yr awdwr yn ganiataol fod ei ddarllenwyr yn cydnabod mai Iesu yw y Mab yn yr hwn y llefara Duw wrthyrn ni. Ysgrifenwyd yr Epistol at gredinwyr, nid at wrthodwyr yr efengyl. Cydnabyddent hwy, gan hyny. mai yr hyn a glywsent yn yr efengyl ac a bregethasid iddynt ydyw' swm a sylwedd y datguddiad a roddwyd trwy y Mab.

Rhag un arnser i ni eu gollwng i golli ; yn hytrach, " rhag digwydd mewn un modd i ni lithro heibio i'r angorfa." fel cwch nas gellir ei rwymo wrth y Ian, gan nerth y ffrwd. Gwel vi. 29. Y mae yn debygol mai y gyffelybiaeth oedd yn meddwl y cyfieithwyr Cymraeg ydyw fod perygl i:r gair redeg allan megys dwfr trwy lestr agenog neu dyllog. Ond Jii oddef y gair gwreiddiol y fath ystyr.

YE EPISTOL AT YR HEBREAID. 13

Canys os bu gadarn y gair a lefarwyd trwy angelion, ac os 2 derbyniodd pob trosedd ac anufudd-dod gyfiawn daledigaeth ;

Pa fodd y diangwn ni, os esgeuluswn iachawdwriaeth gym- 3

ADN. 2. Y gair a lefarwyd trwy angelion ydyw yr holl ddatguddiad a roddwyd o dan yr Hen Destament. Cyfynga y rhan fwyaf o'r esbonwyr y cyfeiriad at y gyfraith a roddwyd ar Sinai. Ond dywedodd yr awdwr cisoes fod yr angelion yn gweini yn achosion pobl Dduw, y rhai oeddent yn yr anialwch ar fedr etifeddu yr iachawdwriaeth. Felly, y mae holl weinidogaeth yr angelion, nid yn unig y gyfraith oedd yn gwarafun, ond hefyd yr addewidion a'r holl oruchwyliaethau daionus oedd yn arwain y bobl ymlaen i'w hiachawdwriaeth, yn gynwysedig yn yr ym- adrodd.

Cadarn. Deallir y gair yn gyffredin yn yrystyrhwn: " os cyflawn- wyd pob bygythiad." Ond gwell yw ei gymmeryd mewn ystyr arall : " Os profwyd fod pob gair yn wir ac wedi dyfod oddiwrth Dduw." Oblegid (1) Y mae yr ystyr arall yn gynwysedig yn y geiriau dilynol, " os derbyniodd pob trosedd gyfiawn daledigaeth ;" ac (2) defnyddir yr un gair gwreiddiol yn yr ail ystyr yn adn. 3, a " sicrhawyd i ni." Gan hyny, y cyfieithiad goreu yn y lie hwn ydyw, " os sicrhawyd y gair a lefarwyd trwy angelion," hyny yw, os profwyd ei fod yn wir ac yn ddwyfol, trwy y gwyrthiau a gyflawnwyd. <5cc.

Trosedd; gweithred groes i orchymyn Duw. " Anufndd-dod ;" yn llythyrenol, " eamglywed," hyny yw, peidio ufuddhau, esgeulusclra o'r gorchymyn. Gwel 1 Cor. xii. 6 11. Crybwylla yr awdwr yr ail beth yma oblegid mai esgeuluso, yn hytrach na throseddu, oedd perygl penaf yr Hebreaid Cristionogol.

Cyfiawn daledigaeth. Awgryma yr ymadrodd bod gwahaniaeth rhwng cosbedigaeth y rhai a anufuddhaent i'r gyfraith, a chosb y rhai sydd yn anufudd i'r efengyl. Yn y blaenaf, perthynas deddf sydd rhwng y trosedd a'r gosb. Yn yr olaf y mae yr anufudd-dod yn anmhareh per- sonol Gan hyny taledigaeth yn codi o gyfiawnder ydyw y gosb yn y blaenaf, ond yn yr olaf cynwysir hefyd eiddigedd a digofaint yn codi o gariad Tad sydd yn dial ar y rhai a ddianrhydeddant ei Fab.

ADN. 3.— Ni. Y mae pwyslais ar y gair hwn: " nyni, wrth y rhai y llefarodd Duw yn ei Fab."

Diangwn. Nid dianc rhag y golledigaeth yr ydym yn agored iddi fel pechaduriaid wrth natur a olygir, ond dianc rhag cosb Duw am wrthod y datguddiad a roddodd I . : i Fab. Y mae Duw yn digio mwy wrth y

rhai a ammharchant ei Fab nag wrth y rhai a wrthodasant y genadwri a anfonodd Efe trwy y gweinidogion. Y syniad yw fod Duw yn eiddigus dros anrhydedd ei Fab. Gwel Matt. xxi. 33 44, lie y dengys yr Iesu fod yr ammharch a daflwyd gan y llafurwyr drygionus ar fab perchenog y winllan yn taflu i'r cysgod yn hollol eu hanonestrwydd yn peidio rhoi cyfrif o'r ffrwythau. Felly x. 29. Y mae Duw yn Dad, ac y mae ei gariad at ei Fab yn cynwys llidiowgrwydd yn erbyn y rhai a ammharchant y Mab. Nid' at fawredd yr iachawdwriaeth y cyfeirir, ond at ei rhoddiad trwy y Mab, yn lie trwy yr angelion. Yn y geiriau dilynol ychwanega yr awdwr, at y ffaith mai yr Arglwydd Iesu lefarodd yr iachawdwriaeth, ei bod hefyd wedi ei sicrhau i ni trwy dyst- iolaeth lawnach na dim tystiolaeth a roddasid o ddwyfol awdurdod cenadwri yr angelion. Oblegid hyn y mae osgoi digofaint Duw am ei hesgeuluso yn ammhosibl. " Os esgeuluswn;" yn hytrach, "wedi i ni esgeuluso."

14 YR EPISTOL AT YR HEBREAID.

maint, yi* hon, wedi dechreu ei thraethu trwy yr Arglwydd, a 4 sicrhawyd i ni gan y rhai a'i clywsant ef: A Duw hefyd yn cyd- dystiolaethu, trwy arwyddion a rhyfeddodau, ac amryw nerth-

Wedi dechreu ei thraethu; yn hytrach, ' 'wedi cael dechreuad i'w thraethu." Y mae y gwahaiiiaeth yn bwysig. Daeth cenadwri yi augelion o'r nef, ac ni allodd neb dyn weled ei tharddiad. Ond oaf odd yr efengyl ddechreuad ar y ddaear. Tarddodd allan yn mhhth dynion, a gallwn ol- rhain yr afon i'w ffynonell yn Iesu Grist. Ei ffynonell ydyw ei bod wedi cael ei thraethu trwyddo ef , yr Arglwydd.

A sicrhawyd i ni. Efallai mai yr ystyr ydyw, "u sicrhawyd hyd atom ni." Os felly, y mae hyn yn egluro paham y dywed yr awdwr " gan y rhai a glywsaut," yr hyn yw y darlleniad cywir, ac nid " gan y rhai a'i clywsant ef." Yr oedd y rhai a glywent yr iachawdwriaeth yn cael ei dat- guddio gan yr Arglwydd Crist, yn traddodi y gwirionedd i eraill, a hwythau, ar ol clywed ganddynt hwy, yn ei draddodi i eraill drachefn, hyd nes y daeth y genadwri i lawr hyd atom ni. Sylwa Calvin, a lliaws o esbonwyr ar ei ol, fod y geiriau hyn yn ddigon i brofi mai nid Paul yw awdwr yr Epistol, gan fod Paul yn hawlio iddo dderbyn yr efengyl yn uniongyrchol oddiwrth yr Arglwydd. is' id ymddengys i mi fod grym yn y ddadl hon. Oblegid nid yw Paul yn un man yn haeru iddo dderbyn hanes bywyd daearol yr Iesu trwy ddatguddiad. Ystyr yr hanes a ddatguddiwyd iddo, .ac a wnaeth yr efengyl a bregethai.

ADN. 4. Yn cyd-dystiolaethu, hyny yw, " â'r rhai a glywsant," Marc xvi. 20. 0 dan yr Hen Destament yr oedd yr angelion yn cyd- -dystiolaethu â:r prophwydi, fel y dywedwyd yn y benod gyntaf ; yn yr efengyl y mae Duw yn cyd-dystiolaethu â'r rhai a efengylasant i ni. Nid yn y gwyrthiau arnynt eu hunain y mae eu gwerth, ond yn y berthynas rhyngddynt â'r dystiolaeth hanesyddol am fywyd a geiriau yr Iesu. Y mae y berthynas hono, drachefn, yn y ffaith fod y gwyrthiau eu hunain yn dystiolaeth, ac yn gyd-dystiolaeth. Nid ffeithiau tu allan i'r efengyl ydynt, ond rhan hanfodol o'r efengyl. Y mae yr efengyl yn y ffurf o ffeithiau gwyrthiol yn dystiolaeth i'r efengyl yn y ffurf o genadwri a draethwyd .gan yr Iesu am iachawdwriaeth y byd.

Árwyddion ; rhyfeddodau ; nerthoedd. Ceir y tri enw hyn ar wyrthiau gyda'u gilydd yn unig yn y lie hwn, ac yn 2 Cor. xii. 12. Def- nyddir y gair "arwydd" am wyrth yn fwyaf neillduol i gyfarfod ym- holiadau dynion, y rhai a glywsant y genadwri ddwyfol ac a ofynant am brawf neu arwydd o'i dwyfoldeb. Oblegid hyn, hwn yw y gair a arferir yn gyffredin am wyrth a gyflawnid i argyhoeddi yr Iuddewon, " Y mae yr Iuddewon ŷn gofyn arwyddion" (1 Cor. .i. 22). Ni cheir yr enw "rhyfeddodau" am wyrthiau yn un man ar ei ben ei hun, heb y gair "arwyddion" gydag ef, ond ceir y gair "arwyddion" heb y gair " rhyf- •eddodau," oblegid amcan y " rhyfeddodau" ydyw cynyrchu chwilfrydedd, I a thynu sylw at y genadwri a'r prawf ohoni ; ac ni byddai gwerth o gwbl mewn gwneyd rhyfeddodau heb fod arwydd a phrawf o wirionedd dwyfol y geiiadwri yn cydfyned â'r rhyfeddod, neu yn gynwysedig ynddo. Pan y byddai chwilfrydedd dynion eisoes wedi ei ddefiro, arwydd oedd y wyrth. Pan na byddent yn ymholi, yr oedd y wyrth yn rhyfeddod ac yn arwydd. ■Golyga y gair ''nerthoedd" y gwyrthiau hyny a wneid ar ddynion, trwy iachau y cleifion, <tc. Amcan y rhai hyn, fel rhan o'r dystiolaeth, oedd symud o galonau dynion y rhagfarn yn erbyn y genadwri, a dangos iddynt, trwy wneyd trugaredd i'w cyrph, natur y genadwri fel moddion iachawd- wriaeth ysbrydol Gan hyny, pan y gosodir allan yr holl brawf o wirion-

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. 15

oedd, a doniau yr Yspryd Glân, yn ol ei ewyllys ei hun? Canys 5

edd y genadwri, fel y gwna Paul yn 2 Cor. xii. 12, ac awdwr yr Epistol hwn yn yr adn. dan sylw, y mae yn ofynol enwi y tri pheth gyda'u gilydd, gwyrthiau fel arwyddion i'r Iuddewon rhith-grefyddol, gwyrthiau fel rhyfeddodau i ddynion difraw, megys y Groegiaid beirniadol ac anffyddol, a gwyrthiau fel nerthoedd i ladd rhagfam y naill a'r Hall.

Amryw. Arferir y gair hwn am y gwyrthiau hyny sydd yn gynwys- edig mewn iachau clefydau, ac nid am yr arwyddion a' r rhyfeddodau eraiU, oblegid yn amrywiaeth y clefydau a iacheir y mae y rhyfeddod a'r prawf. Matt. iv. 24; Marc i. 34; Luc iv. 40.

Doniau; yn hytrach. "rhaniadau." Yr ystyr ydyw fod yr Ysbryd yn cael ei gyfranu mewn gwahanol ffyrdd a gwahanol fesur i wahanol ddyn- ion. Nid y meddwl yw fod yr Ysbryd yn cyfranu. Canys am Dduw y dywedir ei fod yn cyd-dystiolaethu, a'i ffordd o dystiolaethu ydyw trwy gyfranu yr Ysbryd. Gwel vi. 4, "Cyfranogion o'r Ỳsbryd Glan;" a 1 Cor. xii. 4.

Yn ol ei ewyllys ei hun, sef Duw, yr hwn sydd yn cyd-dystiol- aethu. Dywed yr awdwr fod Duw yn gweithredu yn ol ei ewyllys ei hun wrth gyfranu yr Ysbryd i wahanol ddynion, er mwyn rhoi pwys ar weith- rediad personol ac uniongyrchol Duw yn y dystiolaeth. Nid oedd y fath reoleidd-dra yn y gwyrthiau ag y gellid eu golygu fel rhan o weithrediadau deddfau natur. Pe gellid eu darostwng dan ddeddf, fel y gellir gwneyd gyda gweithredoedd Duw mewn natur, peidient trwy hyny a bod yn wyrth- iau, a chollent ar unwaith eu gwerth fel tystiolaeth bersonol Duw.

2. Mab Duiv yn Gynrychiolydd Dyn. ii. 5—18.

Wedi dangos fod rhagoriaeth y Mab ar yr angelion yn codi o'i berthynas â Duw, ac wedi tynu y casgliad ymarf erol oddiwrth hyn yn y ffurf o rybudd i'w ddarllenwyr i beidio esgeuluso y fath iachawdwriaeth, try yr awdwr at yr ochr arall sydd i'r gwirionedd am y Mab, sef ei ragoriaeth ar yr angelion oherwydd ei berthynas â dynion, a therfyna ei ymresymiad hwn gyda desgrifiad tyner o aUu y Mab i gydymdcimlo a chynorthwyo y rhai a demtir.

ADN. 5.-Dechreua rhan newydd o'r ymresymiad yn yr adnod hon. Yr un pryd rhaid cofio nad oedd yr hen awdwyr yn rhanu eu traethodau yn benodau ffurfiol. fel y gwneir er dyddiau yr Ysgolheigwyr. Felly yma. Er fod yr adn. yn dechreu rhaniad newydd, eto y mae cyssyUtiad agos rhyngddi â'r adnodau blaenorol. Y mae yr adn. yn rheswm ("canys") ychwanegol dros y rhybudd i beidio esgeuluso y fath iachawdwriaeth â'r hon a draethwyd trwy yr Arglwydd, ac nid trwy angelion. Y rheswm ydyw mai nid i angelion y daro.-tyngodd Efe (sef Duw, yr hwn oedd yn cyd- dystiolaethu, adn. 4,) y byd oedd i ddyfod. Y cwbl a roddasai Duw yn llaw angelion oedd datguddio a gweini ("y gair a lefarwyd trwy angel- ion;" "ysprydion gwasanaethgar,") nid awdurdod i ddarostwng pob peth, na dim, dan draed dyn. Ond yn yr oruchwyliaeth newydd y mae yn gynwysi diir. nid datguddiad yn unig, ond hefyd ddarostyngiad pob peth iddo. Cawn weled eto mor agos y cyssyUtiad rhwng y darostyngiad hwn o bob peth i ddyn a gwaith y prynedigaeth, yr hwn yw testyn yr holl Epistol. Digon, ar hyn o bryd, fydd i ni ddal sylw ar y gwahaniaeth fjpwysig hwn rhwng y ddwy oruchwyliaeth; y naiH yn cynwys datgudd- Ijiad yii unig oddiwrth Dduw i ddynion, y llaU yn cynwys hefyd ddaros- 'tyngiad pob peth dan draed dyn. FeUy, nid yw yr adn. yn golygu fod yr

16 YE EPISTOL AT YR HEBREAID.

nid i"r angelion y darostyngodd efe y byd a ddaw, am yr h\vii

6 yr ydym yn lief am. Eithr un niewn rhyw fau a dystiolaeth-

odd, gan"ddywedyd, Pa beth yw dyn, i ti i feddwl am dano?

hen oruchwyliaeth yn wii wedi ei darostwng i angelion, ond nid yr oruchwyliaeth newydd. Yn hytrach, golyga na ddarostyngwyd dim i angelion dan y naill oruchwyliaeth na'r llall ; ac mai yn yr oruchwyliaeth newydd yn unig y darostyngir pob peth i ddyn.

bỳd a ddaw; yn hytrach " y byd yr hwn oedd i ddyfod," sef y byd dan oruchwyliaeth yr efengyl: pawb a phob peth yn y nefoedd ac ar y ddaear, fel y maent wedi eu darostwng i ddyn. Y mae yr adnodau dilynol yn dangos yn eglur mai goruchwyliaeth yr efengyl a olygir wrth yr ymadrodd " y lyd yr hwn oedd i ddyfod." Nid y byd tragwyddol, neu gyflwr pethau ar ol ail ddyfodiad Crist i farn, a olygir. Y mae yr awdwr yn edrych ar oruchwyliaeth yr efengyl o sane yr hen oruchwyliaeth wrth ei galw yn fyd oedd i ddyfod.

Am yr hwn yr ydym yn llefaru ; hyny yw, yr hwn yw testyn y traethawd. Iiywedir hyn fel awgrym fod yr awdwr yn nesu at amcan umongyrchol yr Epistol.

ADN. 6. Ft-1 y mae yr awdwr yn y benod gyntaf yn profì urddas y Mab trwy ddyfynu geiriau yrHen Destament, felly y gwna ynia drachefn. I gyfarfod yr Hebreaid Cristionogol, nis gallasai ddefnyddio dull mwy effeithiol i" w hargyhoeddi na thrwy ddangos fod yr oil a haera am Grist yn gynwysedig eisoea yn y>grifeniadau y prophwydi.

Un mewn rhyw fan a dystiòlaethodd.— DyfynaSalm viii. Ond gadewir enw y Salmydd allarj yn fwriadol, nid oblegid. ei fod yn afreidiol ei enwi am fod y darllenwyr yn gwybod pwy ysgrifenodd y Salm, ond er mwyn gallu defnyddio y dyfyniad fel tystiolaeth brophwydoliaethol ac anmhersonol. Nid am mai Dafydd a ddywedodd y peth y mae awdurdod ynddo, ond am fod geiriau Dafydd yn datgan meddwl yr Ysbryd ac felly yr un mor wirioneddol, er nad yn yr un modd, yn " dystiolaeth," ag oedd y gwyrthiau a grybwyllir yn yr adnod flaenorol. Y mae yr holl ddyfyniadau or Hen Destaraent yn yr Epistol yn ddienw, oddieithr y rhai hyny a lefarir gan Dduw, fel y dyfyniadau yn y benod gyntaf. Ystyr y gair " tystiolaethu " ydyw "llefaru" dros Dduw, fel prophwyd, a thrwy gynhyrfiad yr Ysbryd. Gwel loan xiii. 21.

Pa beth yw dyn, *&c. Golyga rhai esbonwyr (yr enwog Bleek yn eu plith, mai Salm Fessianaidd ydyw hon, ac mai y dyn Crist Iesu ydyw "y dyn" y cyfeiria y Samiydd ato. Ond y mae yn hoìlol anmhosibl i ni dybied tod y Salmydd, a llai na hyny fod awdwr yr Epistol, yn datgan syndod fod Duw yn ymostwng cymaint fel ag i sylwi ar y dyn Crist Iesu, pan gofioni yr hyn a ddywed yr awdwr am ei urddas dwyfol yn y benod gyntaf ; ac nid yw y Testament Newydd mewn un man arall pi awgrymu y fath syniad, sef ei bod yn ymostyngiad yn Nuw i gofio ac ymweled â Christ Iesu yn nyddiau ei gnawd. O'r ochr arall y mae yn anmhosibl i'r geiriau olygu, Pa mor ogoneddus yw Iesu, pan yr ymweli âg ef ! Eto rhaid eu bod yn golygu y naill neu y llall, os Salm Fessianaidd ydyw. Nis gall fod nemawr, os dim, ammheuaeth mai y golygiad arall sydd gywir, yr hwn hefyd yw golygiad yr hen esbonwyr Groegaidd. Am ddyn fel creadur y sonia y Salmydd, a datgan daioni Duw y mae wrth sylwi fel y mae pob peth wedi ei ddarostwng i greadur mor eiddil â dyn. Golyga y gair a ddefnyddia y Salmydd " ddyn yn ei eiddilwch." "O enau plant bychain," meddai y Salmydd, "a rhai yn sugno y peraist nerth." Cyferfydd Duw ei gablwyr á mohant babanod; corona yn frenhin y greadigaeth ddyn egwan;

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. 17

neu fab dyn, i ti i ymweled âg ef ? Ti a'i gwnaethost ef ychydig 7 is na'r angelion ; â gogoniant ac anrhydedd y coronaist ti ef, ac a'i gosodaist ef ar weithredoedd dy ddwylaw ; Ti a ddaros- 8 tyngaist bob peth dan ei draed ef. Canys wrth ddarostwng pob peth iddo, ni adawodd efe ddim heb ddarostwng id do. Ond

ac fel hyn gwaradwydda y doethion a gwna eu doethineb yn ynfydrwydd. Ond y mae awdwr yr Epistol yn canfod rhai pethau yn y Salm nas gellir eu cymhwyso yn briodol at ddyn fel creadur, ond sydd yn hollol gymhwys i'w dyweyd am y dyn Crist Iesu. Yn yr adnodau sydd yn dilyn, ei amcan ydyw dangos hyn, aphrofi, trwy hyny, mai " tystiolaeth " ysbrydoledig am fawredd Crist ydyw geiriau y prophwyd. Cadwn yn ein meddyliau y geiriau, "mab dyn," "gwneyd yn is," a " darostwng pob peth dan ei draed ef."

ADN. 7.— Ti a'i gwnaethost yn is. Prin y mae y cyfieithiad hwn yn gosod allan y meddwl. Golyga y gair gwreiddiol "darostwng," " gwneyd yn is yr hwn oedd o'r blaen yn uwch." Y mae yn wir y gall y gair Hebraeg sydd yn y Salm olygu " creu mewn cyflwr is." Ond cyfieith- iad Groeg y Deg a Thriugain a ddefnyddir yn yr Epistol agos ymhofc man, hyd yn nod pan y mae y cyfieithiad hwnw yn lied anghywir ; ac nis gall y gair Groeg yn y lie hwn olygu "creu mown cyflwr is." Golyga " ddarostwng o gyflwr uwch." Ac yn y nawfed adn. gesyd yr awdwr bwyg ar hyn i brofi mai am Grist y mae y prophwyd yn " tystiolaethu."

Ychydig ; yn hytrach, " am ychydig amser." Nid yr ystyr ydyw nad oedd dyn wedi ei wneyd ond ychydig yn is na'r angelion. Hwn yw ystyr yr Hebraeg, mae'n wir. Ond ystyr cyfieithiad y geiriau gan y Deg a Thri- ugain ydyw, "ti a'i darostyngaist am ychydig amser yn is na'r angel- ion." Y mae yn lied eglur hefyd mai yn yr ystyr hwn y deallir y geiriau gan awdwr yr Epistol, pan y'cymhwysa hwynt at Iusu : "am ychydig amser yn unig."

Na'r angelion. Ystyr yr Hebraeg ydyw " na Duw" neu " Elohim." Ond derbynia yr awdwr yma hefyd, fel arfcrol, gyfieithiad y Deg a Thri- ugain. Ÿn wir y mae y cyfieithiad hwnw yn gywir, gan belled à hyn, fod y gair Hebraeg yn golygu priodoleddau, ac nid hanfod, Duw. Ychwanega hyn yn fawr at y cyferbyniad y mae y Salmydd yn rhyfeddu ato. Yn lie darostwng pob peth dan draed creaduriaid uchel a sanctaidd, y rhai sydd wedi eu cynysgaeddu â phriodoleddau Duw, darostyngodd Duw bob peth i greadur isel ac egwan, sef dyn.

A gogoniant ac anrhydedd. " Gogoniant " ydyw yr amlygiad o'r hyn ydyw dyn yn y cyneddfau a'r urddas a roddodd Duw iddo. "An- rhydedd " ydyw yr effaith o hyny yn y parch a delir iddo gan eraill.

ADN. 8.-Eglurhad ar y gair "coronaist" ydyw y geiriau " ti a ddarostyngaist bob peth dan ei draed ef." Dyma ragorfraint y brenhin. Ond, fel y cawn weled oddiwrth yr adnodau dilynol, gesyd yr awdwr bwys ar y ffaith nad oes dim ond rhan o'r brophwydoliaeth eto wedi ei chyfiawni, hyd yn nod gyda golwg ar Grist. Y mae efe wedi ei goroni, ond nid ydyw eto wedi derbyn yr hyn a berthyn i frenhin, sef darostyngiad pob peth dan ei draed.

Wrth ddarostwng pob peth iddo, &c. Y mae awdwr yr Epistol yn ystyried fod "yr holl greadigaeth " yn gynwysedig yn yr ymadrodd "pob peth " a geir yn y Salm, ac felly yr eglura efe ef, trwy ychwanegu y fanod, "yroll." Dangos fod "yroll," sef yr holl greadigaeth. yn gy- nwysedig yn yr hyn a ddarostyngwyd i ddyn, ydyw amcan y geiriau hyn.

18 YK EPISTOL At YQ HËSHEÁID.

yr awrhon nid ydym ni etto yn gweled pob peth wedi en 9 darostwng iddo. Eithr yr ydym ni yn gweled Iesu, yr hwn a

Nid oes dim oil heb ei ddarostwngiddo, ac ni chyflawnir y brophwydoliaeth nes y darostyngir holl greadigaeth Duw i ddyn. Gan hyny, y mae hyd yn nod yr angelion i'w darostwng i ddyn. Nid i angelion y darostyngwyd y byd a ddaw ; i'r gwrthwyneb, y maent hwy yn ddarostyngedig i ddyn, yn ol y brophwydoliaeth sydd yn tystiolaethu am y byd a ddaw. Gwna Paul ddefnydd o'run brophwydoliaeth yn 1 Cor. xv. 27, ond gydag ychydig wahaniaeth. Golyga yr Apostol fod y Salm yn cyfeirio at y Mab yn union- gyrchol, nid at ddyn fel creadur. Yr un pryd, cydnebydd yntau mai fel blaenffrwyth a chynrychiolydd dynion y darostyngir pob peth dan draed y Mab. Ond y mae y gwahaniaeth hwn rhwng y ddau ysgrifenwr yn yr es- boniad a roddant ar y Salm yn deilwng o sylw ; sef fod y naill yn ystyried y Salm yn Salm Fessianaidd, a'r llall heb ei hystyried felly.

Ond yn awr, &c. Nid ydym yn gweled pob peth yn ddarostyng- edig i ddyn eto. Nid ymddengys i mi fod y geiriau yn cyfeirio at fod deddfau anian yn llywodraethu ar ddyn, y tân yn ei losgi, y dwfr yn ei foddi, &c. (fel y barna Dr. Thomas). mae yn wir fod anian yn ddaros- tyngedig i ddyn ; ond y mae yn ddarostyngedig yn ol deddf , ac nid yn ddi- ddeddf . Ond nid darostwng yn ddiddeddf y mae Duw byth, ond yn ol deddf. Heblaw hyny, y mae yn ofynol i ni ddisgyn ar rywystyr a gynwysa na sylweddolir darostyngiad pob peth dan draed dyn ond yn unig yn Iesu.

Y mae yn wir mai trwy Iesu yr adgyfodir y corph yn gorph ysbrydol, ac y mae yn debygol iawn fod hyny yn cynwys rhyddhad y corph oddiwrth ei gaethiwed yn y fuchedd bresenol dan ddeddfau anian. Ond yn y saint y bydd hyn yn cymmeryd lie. Dengys yr adnodau dilynol, ar y Haw arall, fod yr awdwr yn cyfeirio yma at ryw ddarostyngiad i ddyn na ddaw i ben oddieithr yn y dyn Crist' Iesu. Meddwl y geiriau, yn hy trach , ydyw na ddarostyngwyd "yroll" (nid "pob peth" a ddywedir yn y gwreiddiol, ond " yr oil "), sef yr holl greadigaeth yn ei dadblygiad o gyfnod i gyfnod, ac yn yr amcanion a gyrhaeddir trwyddi, i ddyn eto. Y mae y darostyng- iad hwn eisocs yn mwriad Duw, ac yn nghûdd yn y greadigaeth. Ond nid yw wedi ymagor fel y gallom ni ei iceled.

ADN. 9.— Eitbr yr ydym, &c. Yn hytrach, " Eithr yr ydym yn canfod yr hwn a ddarostyngwyd am ychydig amser yn is na'r angelion, sef Iesu," &c. Y mae y cyfnewicìiad hwn yn nhrefn y geiriau yn bwysig. I7n ynunig a ddarostyngwyd ^yn is nag angelion, ahwnwydyw y dyn Iesu.

Y mae hyn yn cynwys fod pob dyn arall yn is nag angelion, gan mai trwy ddyfod yn ddyn y darostyngwyd Iesu yn is nag angelion. Ond cynwysa hefyd fod Iesu yn uwch nag angelion cyn ei ddarostwng. Y mae yn eglur fod yr awdwr yn seilio ei ymresymiad. mai yn yr Iesu y cyflawnir mynegiad y Salmydd am ddyn. ar ystyr y gair " darostwng," sef gwneyd yn is yr hwn o'r blaen oedd yn uwch. Gwel nodiad ar adn. 7.

Ychydig; yn hytrach, fel yn adn. 7, "am ychydig amser," sef am ystod bywyd Iesu ar y ddaear.

Yn gẁeled; yn hytrach, "yn canfod." Newidia yr awdwr y gair o " gweled," yr hwn a geir yn adn. 8, i " canfod ;" oblegid y mae eisiau gair yn awr sydd yn golygu, nid gweled â'r llygaid, ond gweled â'r meddwl. Felly yn xi. 1.

Oherwydd dyoddef marwoiaeth ; yn hytrach, " oherwydd dy- oddefaint ei farwolaeth," yr hyn a gynwysa rywbeth mwy na'r ffaith ei fod wedi marw, sef mawredd a natur iawnol y dyoddefaint yr aeth ef e trwyddO' yn ei farwolaeth. Y mae cyflead y geiriau yn y gwreiddiol yn penderfynu

YE EPISTOL AT YE HEBEEAID. 1&

wnaed ychydig yn is nâ'r angelion, oherwydd dioddef marwol- aeth, wedi ei goroni â gogoniant ac anrhydedd : fel trwy ras

fod yn rhaid eu cyssylltu, nid â'r geiriau " yr hwn a ddarostyngwyd yn is nag angelion," ond â'r geiriau " wedi ei goroni â gogoniant ac anrhydedd." Y mae pwyslais ar y gair " oherwydd." Ni chanfyddai y Salmydd ond y cyferbyniad yn unig rhwng iselder dyn a'i ddyrchafiad. Gwel awdwr yr Épistol, nid cyferbyniad yn unig rhyngddynt, ond hefyd y cyssylltiad agosaf. Yn Iesu y mae dyrchufiad dyn yn gorphwys ar ei iselder. Oherwydd dyoddefaint ei farwolaeih y coronwyd ef. Nid oedd gan y Salmydd ddim i'w wneyd ond gofyn mewn syndod, "Beth yw dyn i ti i feddwl am dano ?" Y mae awdwr yr Epistol wedi esbonio y dirgelwch ; ac yn ymgnawdoliad a inarwolaeth Iesu ni a gawn yr achos o ddyrchafiad Iesu a phob dyn trwyddo. Golyga hyn, drachefn, mai at ganlyniad marwolaeth yr Iesu y cyfeirir yma. Myn Hofmann a Bruce mai y dyoddef a'r angau ydyw y coroniad â gogoniant ac anrhydedd. Golygant hwy mai meddwl yr awdwr ydyw fod yr Iesu wedi ei ogoneddu trwy gael yr anrhydedd o farw dros bechaduriaid. Ond y mae dwy ystyriaeth yn profi fod y golygiad hwn yn anghywir. Yn gyntaf, y mae hyn yn difodi y darostyngiad ; canys y mae yn rhaid fod rhywbeth annrhaethl fwy yn gynwysedig mewn darostwng yn is nag angelion na phreswylio mewn corph a bod dan ddeddfau mater. Ÿn ail, y mae y gair " oblegid" yn golygu niai canlyniad y dyoddefaint ydyw y coroniad, ac nid yr un peth â'r ' dyoddefaint. Nis gall fod llawer o amheuaeth mai am ddyrchafiad yr Iesu i'r nefoedd y sonir yma. Ond dylid sylwi mai yn y lie hwn yn unig y geilw yr awdwr hwn fynediad Crist i'r nefoedd yn ogoneddiad arno. Yn mhob lie arall desgrifir ef fel mynediad yr archoffeiriad i'r sancteiddiolaf i offrymu y gwaed i Dduw. Er hyny, cyssylltir gwaith yr archoffeiriad yn y cysegr âg eisteddiad gogoneddíis yr etifedd ar ddeheulaw y brenhin.

Fel trwy ras Duw y profai efe farwolaeth dros bob dyn. Darilenai rhai o'r tadau, yn lie "trwy ras Duw," " heb Dduw." Ond y mae yn sicr mai y darlleniad arall ydyw yr un cywir, ac felly oferedd fyddai ceisio penderfynu ystyr yr ymadrodd " heb Dduw " yn y lie hwn. Yn hytrach defnyddir yma yr ymadrodd ' ' trwy ras Duw " i awgrymu bod un gogoneddiad wedi ei roi ar yr Iesu, nid trwy ras, ond trwy hawl. Gweddiodd ei hun ar i'r Tad ei ogoneddu â'r gogoniant oedd iddo gyda'r Tad cyn bod y byd, loan xvii. 5. Perthynai hwn iddo fel Mab, ac adenillodd «f trwy hawl. Ond derbyniodd ogoniant arall gan ei Dad, set cymmer- adwyaeth ei farwolaeth iawnol gan Dduw er budd i bob dyn. C'afodd hyn trwy ras Duw. Y mae geiriau yr awdwr yn anhawdd iawn eu deall, fel y maent. Yr anhawsder ydyw hwn : Dywedodd yr awdwr eisoes fod yr Iesu, mewn canlyniad i'w farwolaeth, wedi ei ogoneddu ; ond ymddengys yma fel yn dywedyd ei fod wedi ei ogoneddu er vncyn iddo brofi marwol- aeth. Gwelsom eisoes fod rhai esbonwyr yn osgoi yr anhawsder hwn drwy ddal mai ei farwolaeth oedd ei ogoneddiad. Y golygiad mwyaf cyffredin ydyw mai ystyr y geiriau "fel y profai" ydyw "fel yr amlygid ei f od wedi profi ;" ac nid oes dim yn hyn yn annheg o ran grammadeg a dull o lefaru. Ystyr yr adnod, yn ol yr esboniad hwn ami, ydyw fod Iesu wedi ei ogoneddu yn ei ddyrchafiad i'r nef, fel y dangosid mai nid iddo ei hun yr oedd efe wedi marw, ond iddo farw dros bawb dynion. Y mae y golygiad hwn yn dwyn allan yn rhagorol syniad cyffredinol y benod, sef fod Iesu fel cynrychiolydd dyn yn rhagori ar yr angelion. Ni fu marw neb ohonynt hwy dros ddynion, ac, am hyny, nis gogoneddwyd neb ohonynt fel y .gogoneddwyd ef, sef i sicrhau perthynas ei farwolaeth â dynion. Ond am

20 ra EPISTOL AT YR HEBREAID.

10 Duw y profai efe farwolaeth dros bob dyn. Canys gweddus oedd iddo ef, o herwydd yr hwn y mae pob peth, a thrwy yr hwn y mae pob peth, wedi iddo ddwyn meibion lawer i ogoniant,

Iesu, y mae Duw wedi ei ogoneddu ef , ac y mae y gogoneddiad hwnw trwy ras Duw yn gwneyd ei angau yn fendith i bawb.

Dros, hyny ydyw, er budd i bawb. Kid oes cyfeiriad o gwbl yn yr adn. hon at yr athrawiaeth fod Crist wedi marw yn He dynion. Beth bynag am adnodau eraill, y mae hon, o'r hyn lleiaf, yn hollol gyson â'r athrawiaeth Galfinaidd, fel y cydnebydd y prif esbonwyr. Derhyddir y gair <<dros"yn yr un ystyr, "er budd," (nid "yn lie,") yn vii. 25, "i eiriol drostynt hwy."

Profi, sef "profi bias," " archwaethu." Prin y mae angen dyweyd mai nid y meddwl ydyw na wnaeth Iesu ddim ond profi bias marwolaeth, fel pe byddai hyny yn cynwys llai na dyoddef eithaf poen marwolaeth. Yn hytrach golyga yr ymadrodd mai Iesu yw yr unig un a brofodd flas marwolaeth. I'r un perwyl y dywedir iddo gael ei goroni oherwydd dyoddef aint ei farwolaeth.

ADN. 10.— Prawf ydyw yr adn. hon o'r hyn a ddywedir yn yr adn. flaenorol, fod gogoneddiad Crist yn sicrhau fod ei farwolaeth yn fendith i Jddynion. Y prawf o hyny ydyw fod dyoddef aint ei angau wedi ei 1 gymhwyso ef i gyflawni y gwaith o'u hachub yn a thrwy ei ogoneddiad. Y drefn hon o gymhwyso yr achubwr trwy farwolaeth oedd yn gweddu i Dduw, yr hwn yw Omega ac Alpha, amcan a gwneuthurwr pob peth. Yn Nuw, yn anad neb, y mae gweddusrwydd moesol ei oruchwyliaethau yn ofynol. Gweithreda dynion yn fynych trwy fympwyon ac yn anhardd. Ond, pwy bynag feiddia wneyd hyny, ni faidd yr Hwn y mae "yr oil" sydd mewn bod wedi ei wneuthur erddo a thrwyddo. Pe ymddygai ef yn anghymwys, pa sail fyddai i'r cymhwysder sydd yn mherthynas pob peth crëedig âg ef fel ei wneuthurwr a'i amcan? Yn yr adnodau dilynol dengys yr awdwr pa fodd y mae ei farwolaeth yn gymhwysder yn Iesu i fod yn Achubwr.

Wedi iddo ddwyn meibion lawer i ogoniant. Yn lie " wedi iddo" y mae lliaws o esbonwyr yn cyfieithu fel hyn : ' ' gan ei fod, neu pan y mae, yn dwyn meibion lawer i ogoniant." Goddef y gair gwreiddiol y naill gyfieithiad neu y llall. Os dewisir y cyntaf, rhaid fod yr awdwr yn cyfeirio at y saint oedd wedi eu dwyn i ogoniant y nefoedd o dan yr Hen Destament ; os yr ail, cyfeiriad sydd yma at y saint oil, cyn ac yn nyddiau yr efengyl. 0 blaid yr hen olygiad, sef mai at saint yr Hen Destament y cyfeiria yr awdwr, gellid crybwyll y rhesymau a ganlyn : (1) Y mae y cyfeiriad hwn yn gosod prydferthwch ar y gair "llawer," tra y mae y golygiad arall yn ei wneyd bron yn ddiystyr. (2) Y mae y cyfeiriad at saint yr Hen Destament yn datgan rheswni digonol a chryf dros gymhwyso eu Hachubwr, gan fod Duw eisoes wedi ymroddi ac ymrwymo iddynt trwy eu dwyn i ogoniant. Dyma weddusrwydd ychwanegol yn nhrefn Duw, sef y gweddusrwydd o sicrhau iechydwriaeth y rhai a ogoneddwyd o'r blaen. (3) Gellid meddwl mai at ogoneddiad saint yr Hen Destament y cyfeiria yr awdwr yn iii. 1, pan y cyfarcha ei ddarllenwyr fel cyfranogion o'r alwad nefol, sef cyfranogion a'r saint a alwesid cyn dyfodiad Crist. Yr un pryd y mae y golygiad arall, sef y dylem ddarllen " pan yw, neu gan ei fod, yn dwyn meibion lawer i ogoniant," yn dangos yn well fyth 7 cymhwysder oedd yn nhrefn Duw, a chymhwysder y drefn hono yw mater arbenigol yr adnod. Gan fod Duw yn arwain meibion lawer i ogoniant, y mae yn weddus iddo yn gyntaf oil ogoneddu y Mab hwnw yr hwn a osododd efe

YE EPISTOL AT YE, HEBEEAID. 21

berffeithio Tywysog eu biachawdwriaeth hwy trwy ddioddef- iadau. Canys yr hwn sydd yn sancteiddio, a'r rhai a sanct- 11 eiddir, o'r un y maent oil. Am ba achos nid yw gywilyddus

yn arweinydd iddynt. Ond gogoneddwyd ef fel canlyniad ei ddyoddefaint.

Cymhwyswyd ef i fod yn arweinydd â chymhwysder tuf ewnol yn gystal ag

awdurdod oddiuchod. Dengys y golygiad hwn, yn mhellach, ystyr y

..gair "arwain." Nid gosod gogoniant ar ddynion y mae Duw, ond

^ dysgyblu, arwain yn mlaen, cymhwyso, dynion i ogoniant, a'r dynion

hyny eisoes yn feibion. Y fabolaeth yn tori allan yn ffrwyth ydyw y

gogoniant.

Tywysog eu hiachawdwriaeth ; mewn cyfeiriad at Josua, ar- weinydd Israel i wlad yr addewid. Galwyd Crist eisoes ar ei fuw dynol, " Iesu," neu " Josua," yn adn. 9. Efe yw y gwir Josua. Gwel nodiad ar iv. 8.

PerfTeithio. ilwn yw yr ystyr, nid " cysegru," fel y dewisa Kendall

gyfieithu y gair teleioun bron ymhob man. Nid am offeiriadaeth yr Iesu

y sonir yma. Nid dyoddefiadau sydd yn cysegru offeiriad i'w swydd. Ond

t/üyoddefìadau sydd yn cynysgaeddu dyn â'r cymhwysderau moesol ac

' ysbrydol i fod yn achubwr.

ADN. 11 ADN. 18. Y mae yr awdwr yn profi fod marwolaeth Iesu yn ei gymhwyso i fod yn Achubwr : Y mae efe a'r rhai a achubir yn deilliaw o'r un Tad. Yr oedd, gan hyny, yn weddus iddo gyfranogi o ddynoliaeth ei frodyr, fel y gallai trwy farw ddinystrio eu gelyn a chynorthwyo y rhai a demtir.

ADN. 11.— Yr hwn sydd yn sancteiddio, sef Iesu. Llawer gwell ydyw y golygiad mai Iesu yn unig a feddylir wrth " yr hwn sydd yn sancteiddio." Nid gosodiad cyffredinol ydyw, sef fod pob un sydd yn sancteiddio yn rhwym o fod o'r un Tad â'r rhai a sanct<iddir ganddo. Yn wir nid oes ond un angraifft yn bod o hyn, a'r esampl hono ydyw Crist yn cysegru ei frodyr i Dduw. Er hyny, nid yw yr awdwr yn profi yr hyn a ddywed yma. Digon ganddo ei ddyweyd a'i adael i farn ysbrydol ei ddarllenwyr i gydnabod ei wirionedd. Nis gall Crist gysegrn dynion i Dduw trwy air ei nerth, fel y creodd ac y parha i gynhal pob peth. Deillia ei allu i gysegru o'i fabolaeth ef a hwythau, yr hyn sydd yn cynwys eu bod o'r un Tad a'i fod yn frawd iddynt. Rhaid iddynt hwy gael eu geni o'r un Tad âg yntau, a rhaid iddo yntau feddu yr un natur ddynol â hwythau. Gwell gohirio yr ymholiad beth yw ystyr y gair " sancteiddio " yn yr Epistol hwn hyd nes y deuwn at ix. 13. Digon, ar hyn o bryd, ydyw dyweyd na ddefnyddir ef gan yr awdwr, yn yr adnod hon o'r hyn Lleiaf, yn yr ystyr o gyfnewid anian dyn a'i gwneyd yn ysbrydol. Pe hyny a olygai, priodolai y gwaith i Dduw, ac nid i'r Iesu yn neillduol. Ynhytrach, golyga y gair yr un peth â'r gair " cysegru." Y mae yn wir, » angenrheidrwydd, mai cysegru i wasanaeth Duw ydyw y cysegriad tiwH. Ond yn hyn y mae neillduolrwydd trefn Duw, mai meibion f w y gweision, ac mai am eu bod yn feibion y maent wedi eu cysegru i'r g wasanaeth.

O'r un, sef o'r un Tad. Y mae hyn yn eglur oddiwrth y geiriau dilynol, yn y rhai y dywedir nad oes ar Iesu gywilydd eu galw yn frodyr am eu bod '* o'r un." Nid y meddwl, gan hyny, ydyw, " o'r un anian."

Nid oes arno gywilydd; hyny ydyw, "y mae yn ymffrostio ynddynt." Felly Rhuf. 1. 16, '-Nid oes arnaf gywilydd," hyny ydyw. "y mae yr efengyl yn orfoledd i mi." Dichon fod .yr -hyn av/ddywedir. yn Gen. xlvii. am Joseph yn meddwl yr awdwr>rn diaatbofrji u<;b d! ml

22 YR EPISTOL AT YR HEBREAID.

12 ganddo eu galw hwy yn frodyr; Gan ddywedyd, Myfi a fynegaf dy enw di i'm brodyr ; y'nghanol yr eglwys y'th folaf

13 di. A thrachefn, Myfi a fyddaf yn ymddiried ynddo. A

14 thrachefn, Wele, fi, a'r plant a roddes Duw i mi. Oblegid hynny, gan fod y plant yn gyfrannogion o gig a gwaed, yntau hefyd yr un modd a fu gyfrannog o'r un pethau ; fel trwy farwolaeth y dinystriai efe yr hwn oedd a nerth marwolaeth.

ADN. 12, 13.— Dyfyna yr awdwr eiriau y Salmydd i brofi fod yr Iesa yn ymffrostio yn ei frodyr. Ystyr y dyfyniad cyntaf ydyw ei fod yn mynegi enw Duw iddynt. Ar y ffaith ei fod yn datguddio Duw iddynt y mae pwys y prawf , nid ar fod yr enw ' ' brodyr " yn digwydd yn y geiriau a briodolir iddo yn y Salm. Gorfoledda gymaint ynddynt fel y mynega iddynt enw Duw. Nid hyny yn unig a wna. Mor fawr yw ei orfoledd fel y cymer ei le yn nghanoì yr eglwys ac yr una gyda hwynt yn e\\ mawl i Dduw. Diolchant hwy am dano fel eu Gwaredwr ; mola yntau Dduw am gael bod yn Waredwr iddynt. Mwy eto. Ymdeimla mor llwyr â'i undeb â hwynt fel ei frodyr, fel yr ymddirieda yn Nuw yn yr un ffydd sydd yn weddus iddynt hwy. Teimla, fel hwythau, ymddibyniad ffyddiog yn ei Dad ef a'u Tad hwythau. Drachein, fel y gweithreda ffydd ostyngedig gyda hwy yn nghanol eu trallodau, felly yr arddela hwynt yn fuddugoliaethus yn y diwedd. Geilw yr awdwr sylw at y ffaith hynod mai fel plant Duw y cyfiwynir hwynt gan yr Achubwr i'w Dad pan y dyg hwynt i ogoniant. Y mae un anhawsder yn y dyfyniad diweddaf sydd yn teilyngu ystyriaeth. Dyfyna yr awdwr eiriau y prophwyd Esaiah (via. 18). Ond yn Esaiah disgyblion y prophwyd a feddylir wrth ei blant, ac nid oes un cyfeiriad yn y geiriau at y Messiah. Y meddwl, mae yn debygol, ydyw fod yr Iesu yn teimlo yr undeb agosaf â'i weision, y prophwydi, nes y cymhwysa ato ei hun a'i frodyr y geiriau a ddefnyddia y prophwydi am danynt eu hunain a'u disgyblion.

ADN. 14.— Gan hyny, sef oblegid fod Iesu yn llawcnychu yn ei frodyr ac yn ei berthynas â hwynt. Gan eu bod hwy wedi cyfranogi o wendid y ddynoliaeth, yntau hefyd a gymmerodd ran yn yr un gwendid. Arferir dau air yn yr adn. hon am gyfranogi, y naill am y plant a'r llallam yr Iesu. Y gwahaniaeth ydyw fod y gair am y plant yn golygu cyfranogi o wendid hyd nes y mae cydymdeimlad a chymdeithas yn codi o'r gwendid hwnw rhyngddynt a'u gilydd. Golyga y gair a ddefnyddir am Iesugyfran- ogiad o'r un gwendid fel canlyniad ei ewyllysiad grasol ef .

Cig a gwaed ; neu yn hytrach, " gwaed a chnawd." Yr ystyr ydyw " dynoliaeth yn ei gwendid;" neu, yn wir, dynoliaeth yn ei bywyd a'i marwoldeb. Golyga y gair " gwaed" fywyd y ddynoliaeth, a'r gair " cnawd " ei marwoldeb.

Trwy farwolaeth ; neu, " trwy ei farwolaeth." Ymddengys i mi mai yr hyn a olygir wrth ddinystrio y diafol trwy farwolaeth ydyw yr hyn a awgrymir mewn adn. flaenorol, fod Iesu trwy ei farwolaeth wedi ei goroni â gogoniant ac anrhydedd, wedi eistedd ar ddeheulaw Duw, ac yno yn darostwng diafol, yn ei holl amcanion drygionus, yn droedfainc i'w draed. Nid yw yn debygol o gwbl fod unrhyw gyfeiriad yn yr adn. hon at natur iawnol marwolaeth Crist. Llawer llai y golyga yr awdwr fod marwolaeth Crist yn iawn i'r diafol ei hun, yr hon oedd athrawiaeth rhai o'r tadau.

Hyny yw, diafol. Crediniaeth yr Iuddewon oedd fod poen *&. marwolaeth dan lywodraeth angel, yr hwn a alwent yn Samael neu Satan.

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. 23

ganddo, hynny yw, diafol : Ac y gwaredai hwynt y rhai trwy 15 ofn marwolaeth oeddynt dros eu holl fywyd dan gaethiwed. Canys ni chjTiimerodd efe naturiaeth angelion ; eithr had 1&

Gwel Job i. Ond dysga awdwr yr Epistol, yn unol hollol â dysgeidiaeth Crist ei hun a'i apostolion, mai nid angel glân sydd yn achosi marwolaeth, ond angel syrthiedig, sef diafol. Egluro hyn ydyw anican yr esboniad a rydd efe yn yr ymadrodd, " hyny yw, diafol."

ADN. 15. Ac y gwaredài "hwynt, hyny ydyw, o allu a medd- iant y diafol. Nid oddiwrth ofn marwolaeth y gwaredwyd h"wynt. Yr un pryd, trwy gael eu gwared o feddiant y diafol, hwy a gollasant ofn marwolaeth. Yr oedd gallu y diafol wedi llethu eu hysbryd, a'u gwneyd yn gaethion mewn ysbryd yn gystal âg mewn cyflwr. Anfynych iawn y ceid neb cyn i Grist ddyfod i'r byd heb fod yn gaeth gan ofn marwolaeth. Yr oedd un pagan wedi ymryddhau oddiwrtho. Nid oes dim yn llenydd- iaeth y Groegiaid yn fwy prydferth na hanes oriau olaf Socrates. Ond yn y Testament Newydd nid oes neb o'r credinwyr nad ydynt yn hollol ddiofn i wynebu angau.

Caethiwed ; yr hyn a elwir gan Paul yn ysbryd caethiwed, Ehuf. viii. 15. Arferir y gair "caethiwed" yn yr awduron clasurol weithiau am lethu ysbryd dyn gan ofn. Felly yma.

ADN. 16. Yn yr adnodau blaenorol dangosir pa fodd y mae gogoneddiad Crist yn sylfaenedig ar ei ddarostyngiad a pha fodd, trwy hyny, y cyflawnir prophwydoliaeth y Salmydd am ddyn ac yr eglurir yr hyn oedd i'r Salmydd yn ddirgelwch. Y mae darostyngiad Crist yn golygu y pedwar peth hyn : (1) ei fod yn marw dros bob dyn, (2) ei fod wedi ei gymhwyso yn Waredwr trwy ddyoddef, (3) ei fod yn teimlo ei berthynas â dynion fel eu brawd, (4) ei fod wedi ei ddarostwng i ddiafol mor belled â hyn, sef fod nerth a chwerwder ei f arwolaeth yn ei law. Y mae ei ogoniant, drachefn, yn gynwysedig mewn pedwar peth cyferbyniol, sef (1) yn nghymmeradwyaeth Duwo'ifarwolaeth dros bob dyn, (2) yn ei apwyntiad i fod yn arweinydd ei bobl i'wgogoniant hwythau, (3) yn nghysegriad ei frodyr trwyddo, ac (4) yn ninystr y diafol. Yn yr adnodau dilynol hyd ddiwedd y benod y mae yr awdwr yn crynhoi hyn oil i'r syniad pwysig fod yr Iesu yn Archoffeiriad. Dyma un o " fachau a dolenau" yr Epistol. Yma y mae yr awdwr yn symud ymlaen, trwy gyssylltiad hollol naturiol, oddiwrth y desgrifiad o Berson Crist at ei archoffeiriadaeth. Y cyssylltiad ydyw nad oes neb ond archoffeiriad (1) yn gallu gafaelyd niewn dynoliaeth i'w hachub, (2) yn gallu cydymdeimlo â dynion yn eugwendid, (3) yn gallu eu cysegru i Dduw, ac (4) yn gallu gwaredu y rhai a demtir. Yn lie "nid naturiaeth angelion," &c, y ma^ yn ddiamheuol y dylid darllen, "nid mewn angelion y cymer efe afael." Yr un gair sydd yn viii. 9. Awgrym- wyd y cyheithiad anghy wir trwy fod esbonwyr yn tybied mai at ymgnawd- oliad y Mab y cyfeirir yma. Ac y mae yn rhaid cydnabod fod rhai o'r tadau Groegaidd, yn eu plith Chrysostom, yn esbonio y gair fel hyn. Felly Erasmus, oddiwrth yr hwn y daeth i'r cyfieithiad Cymraeg. Ond mwy tebygol ydyw mai goruchwyliaethau grasol Duw cyn yr ymgnawdol- iad a feddyHr. Yn yr adnodnesaf y daw yrymguawdoliad i mewn. Ond paham y crybwyllir yma am yr angelion ? Amcan y rhan hon o'r ym- resymiad ydyw rhoi cyfrif am ymgnawdoliad y Mab. Dechreuodd yr awdwr trwy ddyweyd mai nid i angelion y darostyngodd Duw y byd oedd i ddyfod, ond i ddyn ; ac y mae hyny, fel y dengys yr awdwr, yn cynwys fod y Mab yn cael ei berffeithio yn dywysog iachawdwriaeth trwy ddy- oddefiadau. Frawf pellach o'r angenrheidrwydd am yr ymgnawdoliad

24 YE EPISTOL AT YR HEBEEATD.

17 Abraham a gymmerodd efe. Am ba achos y dylaiefe ym mhob

ydyw mai nid mewn angelion, ond yn had Abraham, y cymer Duw afael. kid yn unig ni threfhir ac ni lywodraethir yr efengyl gan angehon, ond hefyd nid hwy a achubir, ac nid er eu mwyn hwy y darperir lii. Dygir ymlaen dystiolaeth y Salmydd i brofi mai nid i angelion y darostyng- wyd y byd oedd i ddyfod. Ond y mae y dystiolaeth hono yn cynwys hefyd mai dynion, ac nid angehon, yw gwrthrychau yr efengyl. Hwy a gofiwyd, ac á hwy y mae Duw yn ymweled. Diau f od llygad yr awdwr ar eiriau Esaiah, " Had Abraharn'fy anwylyd " (xli. 8). Ond y prawf penaf sydd yn ei feddwl ydyw yr hyn a wy'ddai ac a gydnabyddai yr Hebreaid Cristionogol hyn eu hunain am ffeithiau bywyd a marwolaeth yr Iesu. Ceir ymadrodd yn y gwreiddiol (dêpou) sydd yn cyfeirio at hyn. Ei ystyr yw " f el y gwyddoch," neu " bid sicr."

Had Abraham, sef "Jacob yr hwn a etholais " (Es. xli. 8), cenedl Israel. Y mae yn ffaith hynod nad oes yn yr Epistol hwn un datganiad hollol eglur fod yr efengyl i?w phregethu i'r byd cenhedlig ; ac anhawdd iawn, a dyweyd y lleiaf, ydyw credu mai Apostol y dienwaediad ysgrifen- odd y fath lythyr. Ond gwel nodiad ar iii. 1.

ADN. 17. Oherwydd mai nid mewn angelion, ond mewn dynion, y cymer Crist afael i'w hachub, iawn oedd iddo ymgymmeryd â holl amgylch- iadau dynion, fel y gallai feddu y cydymdeimlad sydd yn angenrheidiol, fel y cawn weled eto (v. 1 9), mewn archoffeiriad. Prawf ydyw yr adnod hon o'r angenrheidrwydd am yr ynignawdoliad. Desgrifiad yr awdwr o'r ymgnawdoliad ydyw y geiriau, " yn mhob peth fod yn gyffelyb i'w frodyr," neu, yn hytrach, " yn mhob peth ymgyffelybu i'w frodyr." Y mae y cy- wiriad hwn yn bwysig. Golyga y gair yn ddiamheuol fod Crist yn bod cyn ei ymgnawdoliad, ac mai gweithred Crist tuag ato ac arno ei hun oedd ei ddyfod yn ddyn. Golyga hefyd fod rhyw wahaniaeth rhwng Crist a dyn- ion, hyd yn nod ar ol ei ddyfodiad i'w natur, Nis gellid dyweyd am dd'yn- ion eraill eu bod yn ymgyffelybu i'w brodyr. Nid cyfFelybrwydd sydd rhyngddynt, ond unoliaeth natur. Ond am Grist yr oedd yn hollol gywir dyweyd y naill a'r llall. Y mae efe yn ddyn, ac y mae efe hefyd yn gyffelyb i ddyn. Yr esboniad ar y gwrth-ddywediad ymddangosiadol hwn ydyw y gwirionedd fod Crist yn Berson Dwyfol mewn natur ddynol. 0 ran ei

(natur ddynol yr oedd efe, nid yn gyffelyb i ddynion, ond yn ddyn. 0 ran ei Berson Dwyfol yr oedd efe, nid yn ddyn, ond yn gyffelyb i ddynion. Gwel Phil. ii. 7, "mewn cyffelybiaeth dynion," hyny ydyw, nid o ran ei natur ddynol, ond yn ei Berson. Felly hefyd Bhuf. viii. 3, " yn nghyffelybiaeth cnawd pechod," lie y mae lhaws o esbonwyr yn egluro y geiriau fel pe golygent fod dynoliaeth Crist yn gyffelyb i natur dyn- ion eraill, gyda"r unig wahaniaeth nad ydoedd yn bechadurus. Ond ni fuasai hyn yn wir. Yr oedd rhai pethau heblaw bod yn ddibechod yn wa- hanol yn nynoliaeth Crist rhagor pawb arall. Yr ystyr yn hytrach ydyw fod Person Mab Duw wedi drostwng ei hun i sefyìlfa gyfTelyb i'r sefyllfa y mae dynion ynddi trwy bechod. - '^

I'w frodyr. Y mae dynion yn frodyr i Grist, nid am ei-fod ef yn: ddyn, ond am eu bod hwy yn feibion i Dduw. Yr un pryd trwy ei fodef- yn ddyn y maent yn feibion i Dduw. Gwel adn. 11. Hyny ydyw. nid unrhywiaeth natur a olygir wrth'ddyweyd- fod dynion yn frodyr' i Grist, •rA unrhywiaeth perthyhas -ysbrydol dynion a Christ â Duw.' Obiegid i.'rüy v maê cýffelybr^ydá Crist i'ẅpfròdyr ýn- gynẃysedig mewn priò'dol- eîicla-u. mbésol ac ysbrydoÌ_. megis i:fugarowgrwydd a ffyddlondeb Crist fel- Jirworr^iriadv'"" Dichon fẅrlynyn rhôi^yfrif amy- ffaith' hynod nad ýwýr

YE, EPISTOL AT YK, HEBREATD. 25-

peth fod yn gyffelyb i'w frodyr: fel y byddai .drugarog ac Arch-ofFeiriad ffyddlawn, mewn pethau yn perthyn i Dduw, i

Efengylau yn rhoi darluniad o'r Iesu o ran ei gorph na'i neillduolion medd- yliol, tra y maent yn frith o fynegiadau am ei dosturi a'i burdeb a'i dduw- iolfrydedd. Er hyny rhaid fod yn perthyn iddo neillduolion meddyliol yn gystal â neillduolion corphorol.

Fel y byddai ; yn hytrach, "fel y delai i fod." Ond ai nid oedd y Mab yn drugarog cyn dyfod yn ddyn? Gellid tybied, ar y cyntaf, maiyr ystyr ydyw fod ei ymgnawdoliad wedi rhoi lie i'w drugarogrwydd ffrydio allan tuag at ddynion. Ond nid hwn yw y golygiad cywir, fel y gwelir oddiwrth y burned benod. Yn hytrach, dylem farnu fod cydymdeimlad yn rhan arbenigo ystyr y gair "trugarog" yn yr Epistol hwn drwyddo. Y Mab, nid y Tad, a ddaeth yn ddyn, ac a ddysgodd gydymdeimlo. Y Mab, oherwydd hyny, a gymhwyswyd i fod yn Archoffeiriad. Gwel v. 2.

Fel y byddai drugarog ac Archoffeiriad ffyddlawn. Y mae y cyfieithiad hwn yn well na'r un canlynol: "fel y byddai Archoffeiriad trugarog a ffyddlawn." Ei drugarogrwydd personol ydyw sail ei offeir- iadaeth. Ei drugaredd a'i cymhellodd i ddyfod yn Archoffeiriad ac sydd yn ei gadw yn ffyddlawn yn ngweinyddiad y swydd yn ngwyneb anffyddlon- deb ei bobl iddo ef. Nid "ffyddlawn i Dduw a thrugarog tuag at ddynion" a feddylir, ond ffyddlawn i'w waith dros ddynion oblegid ei drugarogrwydd tuag atynt. Awgryma yr awdwr yn anuniongyrchol y dylai ei ddarllenwyr fod yn fwy ffyddlawn i Grist, yr hwn a fu ffyddlawn iddynt hwy.

Archoffeiriad. Sonir am archoffeiriadaeth Crist yn yr adn. hon i barotoi meddyliau y darllenwyr i dderbyn yn ewyllysgar y cyferbyniad a wneir ar ol hyn yn yr Epistol rhwng Crist ac Aaron, ond y mae y cyssylltiad agosaf rhwng hyn a phwnc y rhan hon o'r benod. Nid i angelion, ond i ddyn, y darostyngodd Duw y byd oedd i ddyfod. Ond ar offeiriadaeth y mae y frenhiniaeth hon yn gorph wys. Yn Nghrist y sylweddolir y frenhin- iaeth, oblegid mai yn Nghrist y sylweddolir yr offeiriadaeth. Agorir hyn yn fwy helaeth gan yr awdwr mewn penodau dilynol.

Mewn pethau yn perthyn i Dduw; yn hytrach, "yn y pethau sydd tuag at Dduw," fel yn v. 1. Y mae y geiriau yn esbonio y gair " archoffeiriad." Yn y pethau sydd tuag at Dduw y mae archoffeiriad yn gweini ei swydd. Hyn yw y rheswm paham y dywed yr awdwr "arch- offeiriad," ac nid "offeirind." Yr oedd Uuaws o orchwylion i'w cyflawni gan yr offeiriaid nad oeddynt yn ystyr briodol y gair "tuag at Dduw." Ond yr archoffeiriad yn unig a allai fyned i'r sancteiddiolaf i ymwneyd â Duw ar ran y bobl. Yr ymwneyd hwn â Duw oedd canol-bwnc yr holl oruchwyliaeth.

I wneuthur cymod dros bechodau y bobl. Golyga yr ymadrodd gwreiddiol, nid amcan, ond canlyniad, gwaith yr archoffeiriad: "hydnes gwneyd cymod." Yr oedd efe mor drugarog a ffyddlawn fel na pheidiodd â gwaith ei archoffeiriadaeth hyd oni bu iddo o'r diwedd wneyd cymod. Golyga hefyd (y mae y ferf yn yr amseriad presenol) ei fod yn parhau i wneyd y cymod effeithiol hwnw dros bechodau y bobl yn y sancteiddiolaf, «ef y nefoedd ; ac y mae hyny yn gynyrch ei drugarogrwydd a'i ffyddlon- deb. Nid yw yr awdwr yn egluro yn y lie hwn natur y cymod. Gohiria hyny hyd benod ddilynol, a gwell yw i ninau adael y pwnc heb geisio ei esbonio hyd nes y deuwn i'r rhan hono o'r Epistol. Ond y mae yn eglur fod y darllenwyr yn deal! ystyr y gair. Bydd cofio hyn yn awgrymu i ninau beth a olygirwrtho.

26 YE EPISTOL AT YR HEBREAID.

18 wneuthur cymniod dros bechodau y bobl. Canys yn gymmaint a dioddef o hono ef, gan gael ei demtio, efe a ddichon gynnorthwyo y rhai a denitir.

PENOD III.

1 /\HERTTYDD paham, frodyr sanctaidd, cyfrannogion o'r

Y bobl, mewn cyferbyniad i'r archoffeiriad. Gwel v. 3 ; Lef . xvi. 30. ADN. 18.— Y cyfieithiad mwyaf tebygol o fod y goreu ydyw hwn:

"Canys yn y peth yn yr hwn y mae efe ei hun wedi dyoddef trwy ei demtio ;> (yn y peth hwnw) y gall efe gynorthwyo y rhai sydd yn cael eu temtio." Y mae dau gyfièithiad arall yn bosibl: (1) "Yn gymaint a dyoddef o hono ef," tc. (2) "Wediei demtio yn y corph ynyr hwn y dyoddefodd," kc. Prawf ydyw yr adn. hon o'r hyn à ddywedir yn yr adn. flaenorol, fod yn angenrheidiol i Grist gael ei'wneyd yn gyffelyb i'w frodyr, er mwyn iddo allu gweinyddu ei swydd archoffeiriadol yn effeithiol. Y prawf ydyw mai amcan y swydd hono ydyw cynorthwyo dynion yn nghanol eu temtasiynau, ond nas gall efe eu cynorthwyo heb gydymdeimlad a chyd-ddyoddef. Dywed yr awdwr yn yr adn. flaenorol fod Crist yn Archoffeiriad mor ffyddlawn fel na phaid â'i waith hyd nes y gwna gymod dros bechodau y bobl. Y mae efe yn y nefoedd yn parhau i weini ei swydd gyda'r un ffyddlondeb, a thrwy hyny yn cynorthwyo y rhai sydd yn parhau i gael eu temtio ar y ddaear. Y mae y gair am " gael eu temtio " yn yr amseriad presenol. Eto, er ei fod yn y nefoedd, nis gall eu cynorthwyo ond yn unig yn y peth hwnw y mae efe wedi dyoddef ei hun ynddo, trwy fod wedi ei demtio. Ond gan ei fod wedi ei demtio ac wedi dyoddef yn ei demtasiynau, y mae efe wedi enill y fath gydymdeimlad a ffyddlondeb fel y parha i weini ei swydd archoffeiriadol dros ei bobl, ac y parha, trwy hyny, i'w cynorthwyo yn eu temtasiynau hwythau.

III.— Unoliaeth y Ddwy Oruchwyliaeth. in. 1— rr. 13.

Y mae yr awdwr wedi dangos fod Crist yn rhagori ar yr angelion, a hyny mewn dau olygiad, sef fel datguddydd Duw ac fel cynrychiolydd dyn. Dyma ddau brif syniad y benod gyntaf a'r ail. Ond yr oedd awdwr yr Epistol yn byw yn nyddiau 'yr efengyl, a chyda naturioldeb a phryd- ferthwch defnyddia ddau enw neillduol iawn i osod allan y ddau syniad hynyn iaith y ddwy oruchwyliaeth, sef Apostol ac Archoffeiriad. Yn y geiriau cyntaf o'r drydedd benod anoga ei ddarllenwyr i ystvried Iesu Tn y ddau gymmeriad hyn, fel Apostol ac fel Archoffeiriad. Apòstol ydyw un Bydd yn genad dros Dduw at ddynion, ac Archoffeiriad ydyw un sydd yn genad dros ddynion at Dduw. *Bu angelion yn genadau dros Dduw 'at ddynion, ond nis gallant fod yn genadau dros 'ddynion at Dduw. Y mae y dyn Iesu yn gwneyd y ddau waith. Ar y ddau beth hyn, sef apostoliaeth ac archoffeiriadaeth yr Iesu, y mae gal wad nefol yr efengyl yn gorphwys; a'r hyn sydd eisiau tuag at i ddarllenwyr yr Epistol deimlo nerth ac urddas yr alwad hono ydyw ystyried yr Apostol a'r Archoffeiriad, sef y dyn Iesu. Hyn, mewn gwirionedd, ydyw holl gynwys y gweddill o'r Epistol,— ystyriaeth o apostoliaeth ac archoffeiriadaeth yr Iesu. Mater yr adran eydd yn agor o;n blaen yn nechreu y drydedd benod ac yn terfynu yn y drydedd adnod ar ddeg o'r bedwarèdd benod ydyw- ystyriaeth o'r Iesu yn

YE EPISTOL AT YE HEBEEAID. 27

^alwedigaeth nefol, ystyriwch Apostol ac Arch- off eiriad

sylf aeniad yr hen oruchwyliaeth ei hun. Ymddengys i mi fod y golygiad a fabwysiedir yn gyffredin am gynwys yr adran hon yn rhy gyfyng. Barna y rhan fwyaf o'r esbonwyr mai yr amcan ydyw dangos rhagoriaeth Crist ar Moses, fel y dangoswyd eisoes ei ragoriaeth ar yr angelion. Ond y inae y benod yn cynwys mwy na hyn, a'r peth mwy hwnw ydyw unoiiaeth y ddwy oruchwyliaeth. Yn nghanpl yr holl wahaniaeth sydd rhwng y ddwy oruch- wyliaeth, y mae unoiiaeth hanfodol ynddynt. Gallwn ranu yr adran fel y canlyn : 1. Yr un ydyw awdurdod "sylf aenwyr y ddwy oruchwyliaeth (iii. 1-6). 2. Yr un ydyw bygythion Duw dan y ddwy oruchwyliaeth (iii. 7—19). 3. Yr un ydyw addewidion Duw dan y ddwy oruchwyliaeth (iv. 1 11). 4. Sail unoiiaeth y ddwy oruchwyliaeth (iv. 12, 13 .

1. Unoiiaeth awdurdod sylfaemvyr y ddwy oruchwyliaeth.

in. 1—6.

PEN. III. ADN. 1.— Oherwydd paham. Dygir-i mewn gasgliad ymarferol oddiwrth yr hyn oil a gynwysir yn y ddwy benod flaenorol. Oherwydd fod Iesu yn datguddio Duw i ddynion ac yn cynrychioli dynion gerbron Duw, ystyriwch cf.

Frodyr sanctaidd. Dechreuodd yr awdwr yn y benod gyntaf ysgrifenu traethawd. Ond llithra yn raddol i ysgrifenu llythyr, yr hyn sydd yn ychwanegu llawer at effeithiolrwydd ei eiriau. Anercha ei ddarllenwyr fel " brodyr," yr enw á roddodd yr Iesu ar ei ganlynwyr, ac sydd yn dangos un gwahaniaeth pwysig iawn rhwng yr eglwys dan y Testament Newydd a than yr Hen. O'l blaen yr oedd aelodau yr eglwys yn "bobl Dduw'," yn "sanctaidd," hyny yw, yn gysegredig i Dduw, ac wedi eu neillduo alìan o blith cenhedloedd y byd. Ỳn awr y maent yn frodyr hefyd. Dypir y ddau syniad < ytt .-rl.tyniol hyn at eu gilydd gan yr awdwr, pan yr anercha ti ddarllenwyr fel " brodyr sanctaidd." Y mae eu cysegredigrwydd bellach yn gorphwys, nid ar neillduad cenhedlaethol, ond ar y berthynas hono sydd yn eu gosod ar yr un tir â Tjhawb arall o ganlynwyr Iesu.

Cyfranogion o'r alwedigaeth nefol; neu, "o alwad nefol." Galwad yr efengyl a f eddylir. Ystyr y gait "eglwys" ydyw cynnlleidfa wedi ei galw aUan. Gan yr Eesn y cafodd ysgrifenwyr y Testament Newydd y syniad. Mae yn debygol mai ei ystyr ydyw fod Cristionogaeth yn cymmeryd lie Inddewiaeth, ac mai canlynwyr yr Iesu ydyw "pobl Dduw " c hyn allan. Y mae y gair " galwad " yn dra chymhwys yn yr adn. hon, lie y sonir am Iesu fel Apostol, neu y genad ddwyfol sydd yn rhoddi yr alwad.

Nefol ; hyny yw, galwad o'r nef. fel yn Phil. iii. 14, " uchel alwedig- aeth Duw yn Nghrist Iesu." Wrth ysgrifenu at yr Hebreaid yr oedd priodoldeb neilkluol yn y gair. Pan yr oedd gobeithion y ddaear wedi darf od iddynt hwy , y mae galwad o'r nef atynt yn Nghrist . Ceir yr un cyferbyniad rhwng cyflwr isel y " dieithriaid ar wasgar " a'u hnrddas ysbrydol yn Epistol Cyntaf Pedr, a chyda'r un priodoldeb, 1 Pet. i. 3. Ond. heblaw hyn, un o brif syniadau yr Epistol at yr Hebreaid yw fod Iesu wedi mynedi'r nefoeddfel Archoffeiriad, a thrwv hyny yn "llefaru o'r nef " (xii. 25).

Cyfranogion ; â saint yr Hen Destament, neu â'r credinwyr Cenhedlig. Os yr olaf, y mae y gair yn hynod, am mai yn yr adn. hon yn unig y cawn awgrymiad am alwad y Cenhedloedd. Dywed Farrar ac eraill nad oes un cyfeiriad at y Cristionogion Cenhedlig yn yr Epistol hwn. Y mae hwn yn

£8 YE EPISTOL AT YE HEBEEAID.

'2 ein cyffes ni, Crist Iesu ; Yr hwn sydd ffyddlawn i'r hwn a'i

garngymmeriad, er nad y w gal wad y Cenhedloedd yii llenwi yn agos gymaint o le yn yr Epistol hwn ag yn Epistolau Paul. Mor fawr ydyw y gwahan- iaeth rhyngddynt yn hyn fel yr ymddengys i mi yn ddigon o reswni, pe na byddai dim arall, dros gredu mai nid Paul ysgrifenodd yr Epistol. Yr un pryd, y mae galwad y Cenhedloedd yn cael ei gymmeryd yn ganiataol gaii yr awdwr ; Uawer llai y dengys unrhyw duedd i'w wadu. Ond yn yr adn. hon yn unig y gwna ddefnydd o'r syniad. Crybwylla ef yma, nid yn gymaint i ddarostwng balchder yr Hebreaid Cristionogol, ond yn hytrach i'w cysuro a'u hanog, yn wyneb eu digalondid, yn hollol fel y gwna Pedr yn ei Epistol Cyntaf . Tarawiadol ydyw y cyferbyniad rhwng geiriau awdwr yr Epistol at yr Hebreaid, pan y cysurá yr Hebreaid hyn tarwy ddyweyd eu bod yn gyfranog á'r Cenhedloedd yn yr alwad nefol, a gwaith Paul yn coffhau i'r Ephesiaid eu bod yn gyfranog â'r Iuddewon yn yr addewid, Eph. iii. 6. Dengys y gwahaniaeth y cynydd dirfawr a wnaethai yr eglwysi Cenhedlig rhwng dyddiad y ddau Epistol. Fel yr ^esgeulusir galwad y Cenhedloedd bron yn hollol yn yr Epistol hwn, y mae yn fr'aith hynod, ar y Haw arall, nad oes un cyfeiriad o gwbl at Gristionogion Iuddewig yu y traethawd a elwir " Dysgeidiaeth y Deuddeg Apostol."

Ystyriwch. Ystyr arbenig y gair ydyw " edrych ar hyd llinell unionsyth," " sylwi yn fanwl ar wrthrych."

Apostol ac Archoffeiriad. Ystyr yr ymadrodd gwreiddiol ydyw •"yr hwn sydd yn Apostol ac Archoffeiriad." Golyga yr awdwr fod eraill yn apostolion, ac eraill yn archoffeiriaid, ond mai Iesu yn unig sydd yn llanw y ddwy swydd ; ac, oherwydd hyny, efe yn unig sydd, yn yr ystyr uwchaf , yn Apostol ac efe yn unig sydd, yn yr ystyr uwchaf, yn Arch- offeiriad. Yr hwn sydd yn anfonedig oddiwrth Dduw ac yn datguddio Duw y w y gwir Arehofieiriad, a'r hwn sydd yn gweini dros ddynion gerbron Duw yw y gwir Apostol. Fel Apostol ein cyffes, rhagora ar yr angelion, yn gymaint á'i fod yn Fab Duw, yn ol ymresymiad y benod gyntaf. Fel Archoffeiriad ein cyffes, rhagora ar yr angelion, yn gymaint â'i fod yn gynrychiolydd dyn, yn ol ymresymiad yr ail benod. Nid yw yr awdwr yn unman yn galw ei hun yn apostol. A fuasai Paul yn peidio? Ond awdwr yr Epistol hwn yn unig o holl ysgrifenwyr y Testament Xewydd sydd yn galw Crist yn Apostol. Y mae hyn yn hollol naturiol mewn un nad oedd yn apostol ei hun. Tra yr edrychai yr apostolion, y rhai a anfonasid yn uniongyrchol gan Grist ei hun, ar Grist fel anfonydd yn hytrach nag fel yr anfonedig, ymddangosai Crist i'r rhai a ddeuent ar ol'yr apostolion yn fwy fel anfonedig Duw. Gwel loan xx. 21. Yr oedd ei alw yn Apostol yn weddus ynddynt hwy, ond buasai yn ymddangos yn rhy debyg i ddarostyngiad ar Grist i'r un sefyllfa â hwy eu hunain, pe galwai yr apostolion ef yn Apostol. Y mae hyn eto yn tueddu i ddangos mai nid apostol yw awdwr y llythyr.

Ein cyffes ; hyny yw, " yr hwn abroffeswn yn Apostol ac Archoffeir- iad." Tra yn caniatau fod eraill yn apostolion a bod eraill yn archoffeiriaid, efe yn unig a gi/ffestcn, neu a arddelwn, fel y cyfryw. Hawliai yr Iesu gael ei broffesu, ond. ni hawliai neb o'i ganlynwyr hyny. Sonia yr awdwr am hyn "oherwydd mai perygLyr Hebreaid oedd gwrthgilio a pheidio proffesu yr Iesu fel eu Hapostol a'u Harchoffeiriad. Golygiad arall a gymmerir gan y rhan fwyaf o'r esbonwyr, sef mai ystyr y gair "cyffes " yw " ein ffydd " neu ' ' yr ef engyl : ' ' Crist y w Apostel yr ef engyl ac Archoffeiriad yr ef engyl, mewn gwrthgyf erbyniad i'r angelion, apostolion y gyfraith, ac Aaron, arch- offeiriad y gỳfraith. Ond y golygiad arall yw y mwyaf naturiol.

ADN. 2.-Yr hwn sydd fíyddlawn; neu, " ei fod yn ffyddlawn."

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. 20

hordeiniodd ef, megis ag y bu Moses yn ei holl ef. Canys 3 fe a gyfrifwyd liwn yn haeddu mwy gogoniant Moses, o gymmaint ag y mae yr hwn a adeiladodd y ty yn cael mwy o

Ei ffyddlondeb yw y peth cyntaf yn Iesu y gelwir arnynt i'w ystyr - ied.

I'r hwn a'i hordeiniodd ef ; ynhytrach, " yr hwn a'i gwnaeth," hyny yw, yn Apostol ac yn Archoffeiriad. Nid yr ystyr ydyw, fel y myn rhai, " yr'hwn a'i gwnaeth, neu a'u dygodd i fod." Y mae y syniad o ffyddlondeb yn gofyn yr ystyr o apwyntiad i swydd. Yr un pryd y mae ystyr briodol y gair gwreiddiol yn cynwys mwy nag apwyntiad. Rhaid cyfuno y ddau syniad. Felly, yr ystyr ydyw fod Duw wedi apwyntio yr Iesu yn Àpostol ac Archoffeiriad trwy ei wneyd neu ei gyfansoddi, o ran ei Berson dwyfol- ddyaol, fel Cyfryngwr,, yn gymhwys i gyflawni gwaith y swyddau hyn. Yn awr, yr hyn a ddisgwylir mewn goruchwyliwr ydyw ffyddlondeb. Gwel 1 Cor. iv. 2. Goruchwylwyr Duw oedd Moses ac îesu, y naill yn gystal a'r Hall. Nid amcanodd y naill na'r llall weithredu drosto ei hun ac i'w ddybenion ei hun. Yr un Duw drefnodd y ddwy oruchwyliaeth. Un syniad a gorphorir yn y ddwy. Gwaith Iesu a gwaith Moses oedd cario allan gynllun Duw yn ffyddlawn.

Yn ei holl dỳ ef. Dyfyniad o Num. xii. 7. Efallai mai gwell t'yddai gadael allan y gair " holl." O'r hyn lleiaf, nid ar y gair hwn y mae y pwyslais i fod yma, ond ar y gair " tỳ." Dyfyna yr aẁdwr y geiriau er mwyn dwyn i mewn y gyffelybiaeth o yn cael ei adeiladu, neu ynte ei drefnu a'i lywodraethu. Yr adeiladydd sydd yn gyfrifol am ffurf yr adeilad. Y cwbl a ofynir yn y llafurwyr ydyw ffyddlondeb i gorphori syniad yr adeiladydd mewn coed a cherig. Y meistr sydd yn gyfrifol am drefniad y teulu. Y cwbl a ofynir yn y gweision ydyw ffyddlondeb i wneyd yr hyn oil a orchymyna efe. Felly yn y ty a adeiledir neu a lywodraethir gan Dduw, goruchwylwyr ydyw Moses ac Iesu, abuont ffyddlawn i'rymddiried. ADN. 3. Canys. Rheswm ydyw yr hyn addywedir yn yr adn. lion dros yr anogaeth i ystyried ffyddlondeb yr Iesu ; canys, tra yr oedd efe mor ffyddlawn á Moses, cyfrifwyd ef yn haeddu mwy o ogoniant na Moses, yn gymaint a'i fod yn ffyddlawn mewn gorchwyl pwysicach. Y gogoniant mwy hwn ydyw y gogoniant a grybwyllir yn ii. 9, sef y gogoniant a dderbyniodd yn ei ddyrchafiad i'r nefoedd fel Apostol ac Archoffeiriad i'w gyffesu, ac fel ffynonell yr alwad nefol a dderbyniasom. Gwell ydyw y golygiad hwn ar ystyr y gair " gogoniant " na'r golygiad a f abwysiedir gan rai esbonwyr, sef mai at y gogoniant o adeiladu j y cyfeirir. Y mae y golygiad arall yn dangos y cyssylltiad yn eglurach. Heblaw hyny, pe yr ystyr hwn a olygid, arferasai yr awdwr yr ainser anmhenodol (aorht). Ÿ mae yr amser a arferir yma yn cyfeirio at amgylchiad sydd wedi cym- meryd lie yn ddiweddar cyn ysgrif enu yr Epistol, ac sydd yn cymmeryd lie yn bresenol pan y mae yr awdwr yn ysgrifenu.

O gymaint, &c. Yr oedd Moses yn rhan o'r tŷ, yn yr hwn yr oedd efe yn ffyddlawn. Y mae yr awdwr yn cael y syniad allan o'r gair " yn :,r " megis y bu Moses hefyd yn ei ef." Ond nid oedd Iesu yn rhan o'r tŷ. Xid yn y tj- y bu efe yn ffyddlawn. ond fel meistr arno. Gwel adn. 5. Drachefn, nid Moses, ond Crist yw yr un a adeiladodd y tỳ y bu Moses yn ffyddlawn ynddo. Gwel i. 2. Athrawiaeth gyson yr Epistol ydyw fod Crist yn bod ac yn gweithredu yn hanes y byd cyn ei ddyfod yn y cnawd. Golyga rhai esbonwyr (Hofmann, Delitzsch, ac eraill) mai nid Crist, ond Duw, yw ' yr hwn a adeiladodd y ty." Cud y mae y golygiad hwn yn hollol ddirymu. ymresymiad yr awdwr, sef mai Crist oedd gwir sylfaenydd yr hen oruch-

SO Tit EPISTOL AT YE HEBREAID.

4 barch nâ'r tŷ. Canys pob a adeiledir gan ryw un ; ond yr

ö hwn a adeiladodd pob peth yw Duw. A Moses yn wir a fu

ffyddlawn yn ei holl megis gwas, er tystiolaeth i'r pethau

wyliaeth, yn gystal â'r oruchwyliaeth newydd. Yn yr adnod nesaf y dygir i mewn y syniad mai Duw a sylfaenodd yr hen oruchwyliaeth. Ond dy- wedir hyny hefyd i ddangos mai tel goruchwyliwr dros Dduw y gweithredai Crist wrth ei sylfaenu.

ADN. 4.— A adeiledir, neu "adrefnir," "a lywodraethir." Di- chon fod y ddau syniad yn meddwl yr awdwr, adeiladu y ty a llywod- raethu y tylwyth. Y niae yr un gair yn y Groeg yn golygu ty a thylwyth, ac y mae y gair a olyga gosod i lawr gynllun sylf aen y yn golygu hefyd trefnu llywodraeth y tylwyth. Meddwl yr adn., mi a dybygwn, ydyw fod pob neu dylwyth yn tybied adeiladydd neu lywodraethwr, ac felly, os dywed yr Ysgrythyr fod Moses wedi bod yn ffyddlawn yn nhŷ Dduw, cy- nwysa hyny fod í)uw wedi adeiladu neu drefnu yr hen oruchwyliaeth. Dyledswydd Moses oedd bod yn ffyddlawn i'r ymddiried ; Duw oedd yr adeiladydd a'r llywodraethwr. O ran hyny, Duw sydd yn adeiladu neu drefnu pob peth. Y mae holl lywodraeth y greadigaeth a holl drefniadau hanes y byd yn ei law. Nid oes y fath beth a damwain na thynged. Y mae yr ystyriaeth hon, pe na byddai dim mwy, yn ddigon i brofi fod yr hen oruchwyliaeth yn rhan o oruchwyliaeth eangach,yr hon a gynwysaynddi ei hun holl lywodraeth Duw. Dywed yr awdwr hyn er mwyn dangos un- oliaeth amcan y ddwy oruchwyliaeth, yn y rhai mae Moses, ar y naill law, a Christ, ar y llaw arall, yn gweinyddu fel goruchwylwyr ffyddlawn dros Dduw, yr hwn a drefnodd bob goruchwyliaeth i'r amcan ion uchaf . Golyg- iad y tadau a lliaws o esbonwyr diweddarach ydyw y dylid darllen fel hyn, " ond y mae yr hwn a adeiladodd bob peth yn Dduw," ac mai amcan y geiriau yw profi dwyfoldeb Crist. Ond y mae y golygiad hwn yn dwyn i mewn syniad hollol anmherthynasol â rhediad yr ymresymiad.

ADN. 5. A Moses. Ỳstyr y gair " ac " yn y lie hwn ydyw ; " ac i fanylu ;" " i gyfyngu ein sylw ;" "i ddisgyn ar un o oruchwyliaetiiau Duw," sef ar yr hen oruchwyliaeth a sefydlwyd trwy Moses.

Yn ei boll dy, sef holl dỳ Dduw. Ŷ mae grymyn y gair "holl" yn yr adn. hon. Yr oedd eraill o weision Duw wedi bod yn ffyddlawn, ond mewn rhan o'r y gweinyddent, Moses a ddewiswyd i drefnu holl lywodraeth y ty yn ei holl ranau, a bu efe ffyddlawn, gan hyny, yn yr holl dŷ. Eto yn unig fel gwas, ac y mae y gweision yn rhan o'r ty yn yr hwn y maent yn gweini. Er mai efe a drefnodd yr holl dŷ, nid oedd efe ei hun ond rhan ohono. Ystyr neillduol y gair a gyfieithir " gwas " yn yr adn. hon ydyw ''treinydd," " goruchwyliwr." Nid yr ungair addefnyddir gan Grist yn loan viii. 35, pan y dengys efe y gwahaniaeth rhwng y gwas a'r Mab.

Er tystiolaeth, &c. Ymddengys i mi mai amcan y geiriau hyn ydyw egluro natur y gwasanaeth a gynawnai Moses, a dangos yr an gen - rheidrwydd am ffyddlondeb yn y goruchwyhwr. Gosodwyd ef i ddwyn tystiolaeth i'r pethau oedd i'w llefaru, ac er mwyn gwneyd hyny yn ddyladwy yr oedd yn angenrheidiol iddo fod yn ffyddlawn. Y mae ffyddlondeb yn angenrheidiol ymhob gwasanaeth ; ond yn arbenig yn y gwasanaeth neillduol hwn o ddwyn tystiolaeth. Ffurf uchel ar ffyddlon- deb ydyw geirwiredd a zel ymroddedig y tyst. Cynwysa yr ymadrodd, " y pethau oedd i'w llefaru," yr holl ddatguddiad a fwriadai Duw ei roddi trwy y prophwydi ac yn ei Fab, pen. i. 1. Yr oedd yr hen oruchwyliaeth yn dystiolaeth i ddvryfoldeb y datguddiad, yn gyffelyb fel y mae y gwlaw

YR EPISTOL AT YR HEBREAID.

31

"oedd i'w lief aru ; Eithr Crist, megis Mab ar ei ei hun : .6 ;yr hwn ydym ni, os nyni a geidw ein hyder a gorfoledd ein

o'r nefoedd a'r tymhorau ffrwythlawn yn dystion i'r datguddiad a rydd Duw ohono ei hun yn y gydwybod (Act. xiv. 17, Rhuf. i. 19), ac fel y mae yr arwyddion a'r rhyfeddodau yn dystiolaeth ddwyfol i'r efengyl (pen. ii. 4). Barna rhai esbonwyr mai yr hyn oedd i'w lefaru trwy Moses yn unig a feddylir yma, ac eraill mai at yr hyn a leferid gan Grist yn unig y cyfeiria yr awdwr. Ond gwell ydyw cymmeryd y cwbl i mewn. Y mae yr oruchwyliaeth yn dyst dros y datguddiad, ac fe fu Moses yn ffyddlawn i drefnu yr oruchwyliaeth yn y modd goreu i sicrhau eglurder ac effeithiol- rwydd ei thystiolaeth.

ADN. 6.— Gwas oedd Moses, ac felly y gelwir ef yn Num. xii. 7. Ond y mae yr awdwr wedi profi eisoes, yn y benod gyntaf , fod Crist neu y Messia yn Fab Duw. Y mae y Mab yn Arglwydd ar y t}-, neu y tylwyth. Fel y dywedasai yr awdwr o'r blaen mai un gwahaniaeth rhwng Crist a'r angelion ydyw fod pob peth wedi eu darostwng i Grist fel y Dyn, ond nad oedd dim erioed wedi ei ddarostwng i'r angelion, gan mai eu gwaith hwy oedd datguddio yn unig, ac nid llywodraethu ; felly hefyd y dywedir yma fod Moses wedi bod yn ffyddlawn i drefnu tystiolaeth i'r pethau oedd i'w lief aru, ond fod Crist yn ffyddlawn, nid yn unig fel tyst a datguddydd, ond hefyd, ac yn benaf, fel llywodraethwr, i'r hwn y mae holl d>* Dduw wedi ei ddarostwng. Y mae yr un fath wahaniaeth rhwng y Mab a Moses ag sydd rhyngddo â'r angelion. Tỳ Dduw a feddylir.

Ty yr hwn ydym ni. Amcan y geiriau hyn eto ydyw dangos nnoliaeth y ddwy oruchwyliaeth. Mewn gwirionedd, ac mewn un ystyr, un oruchwyliaeth ydynt. Y mae eglwys y Testament Newydd wedi dyfod i mewn i le eglwys yr Hen Destament. Tra y mae yr hen oruchwyliaeth wedi diflanu, y mae pob peth gwerthf awr ynddi wedi ei gadw a'i ddyrchafu yn yr oruchwyliaeth efengylaidd. Fel y dywed Paul, " yr enwaediad ydym m," Phil. iii. 3.

Ty. Sylwer fod yr awdwr yn chwareu ar ddau ystyr y gair, sef yr adeilad a'r tylwyth.

Os nyni a geidw; yn hytrach, "os gafaelwn yn." Y weithred o gymmeryd gafael a olygir. Gwel vi. 18. Ond y mae un gwahaniaeth rhwng yr hyn a ddywedir yn yr adn. hono a'r ystyr yma. ITn peth ydyw "cymmeryd gafael yn y gobaith a osodir o'n blaen;" peth arall yw " cymmeryd gafael yn ein hyder ac yn ngorfoledd ein gobaith.' ' Defnyddir y gair "gobaith" yn y ddau le am y gwrthrych yr ydym yn gobeithio ei feddu. Ond nid cymmeryd gafael yn y gwrthrych allanol yw yr unig ddyledswydd, ond hefyd gelwir arnom i gymmeryd gafael yn ein hyder tufewnol, er mwyn sicrhau ein gafael yn y gwrthrych, fel y bydd iyn, pan yn gafaelyd mewn rhaff âg un llaw, yn sicrhau ei afael trwy afaelyd yn y llaw hono á'r llaw arall.

Ein hyder. Mi ddy lid cyssylltu y gair "hyder" â'r gair "gobaith." N"id oes eisiau dyweyd " hyder ein gobaith," gan fod gobaith yn gynwys- edig mewn hyder. Gobaith sicr, neu obaith yn gweithredu ar obaith, ydyw hyder.

Gorfoledd ein gobaith, sef y gorfoledd sydd yn tarddu o obaith. Y mae eisiau cyssylltu "gorfoledd" a "gobaith;" oblegid y mae gor- foledd nad yw yn codi o obaith. Gwel Rhuf. v. 2, 3, 11. Rhaid gwahan- iaethu hefyd rhwng " hyder " a "gorfoledd." Nid y gwahaniaeth ydyw fod " hyder " yn edrych i'r dyfodol a " gorfoledd " i'r presenol ; oblegid ""yr ydym yn gorfoleddu dan obaith." Ond, tra yr edrych y ddau i'r

32 YR EPISTOL AT YR HEBREAID

7 gobaith yn sicr hyd y diwedd. Am hynny, megis y mae yr Ysbryd Glân yn dywedyd, Heddyw, os gwrandewch ar ei

8 leferydd ef, Na chaledwch eich calormau, megis yn y cyffroad,

9 yn nydd y profedigaeth yn y diffaethwch : Lie y temtiodd eich tadau fyfi, y profasant fi, ac y gwelsant fy ngweithredoedd

djfodol, teimlad dirgel ydyw hyder, a datganiad o'r teimlad hwnw wrtlr eraill ydyw gorfoledd.

Yn sicr hyd y diwedd ; yn ddiysgog hyd nes y cyflawnir pob addewid ac y cyrhaeddwn berifeithrwydd ac iachawdwriaeth hollol. Gwel pen. ri. 1, 9, 11, 12.

2. Unoliaeth bygythion y ddwy oruchwytiaeth . in. 7—19.

ADN. 7. Dywed yr awdwr yn yr adn. flaenorol mai Dduw ydym ni. Y mae y geiriau yn awgrymu iddo eiriau cyffelyb, a geir yn Salm xcv. 7, " Canys efe yw ein Duw ni ; aninnau ŷmbobl ei borfa, adefaideilaw." Y mae y geiriau hyn, drachefn, yn awgrymu iddo y rhybudd sydd yn dilyn yn uniongyrchol yn y Salm. Am ein bod yn dỳ Dduw, yn bobl ei borfa, ac yn ddefaid ei law, na chaledwn ein calonau. Felly y rhybuddia y Salmydd. Y cyssylltiad yn yr Epistol ydyw fod unoliaeth y ddwy oruch- wyliaeth yn awdurdod eu sylfaenwyr yn cynwys eu hunoliaeth hefyd yn eu bygythion. Y mae bygythion Duw yn erbyn y rhai anufudd dan yr hen oruchwyliaeth mewn grym eto dan y Testament Newydd. Yr Ysbryd Glân a lefarodd trwy enau y Salmydd.

Heddyw, os gwrandewch ar ei leferydd ef; yn hytrach, "os clywch ei lais ef." Yr ystyr ydyw eu bod wedi ymgyndynu gymaintfel y mae yn bosibl fod Duw wedi tewi wrthynt ; ond, os clywant ei lais, anogir hwynt i ddychwelyd hyd yn nod heddyw, ar ol cymaint o anufudd-dod.

ADN. '8-Yn y'cyffroad. Yn Meribah y bu hyn (Ex. xvii.), a galwyd y lie wrth yr enw hwn am mai ystyr y gair Meribah yw " cynnen." Cyfieithiad y Deg a Thriugain ydyw "cyffroad," a mabwysiedir_ y gajr gan awdwr yr Epistol, fel arfer. Ei ystyr yw i feibion Israel gyffroi digof- aint Duw trwy ymgynhenu â Moses. Num. xx. 1—13.

Yn nydd y profedigaeth. Galwyd y lie yn Massah, oblegid i feibion Israel ddwyn yr Arglwydd i brawf .

ADN. 9.— Lie y temtiodd eich tadau fi, y profasant fi. Y mae yn sicr y dylid darllen fel hyn : "lie y prof odd eich tadau fi yn y prawf," hyny yw, y prawf a roddai yr Arglwydd ar eu ffydd hwy. Yn He ymostwng ac ymddiried, hwy a amheuasant ei flyddlondeb ef, ac a rodd- asant brawf arno ef, yr hwn oedd yn eu profi hwynt. Xeu, ynte, gallem ddeall y geiriau fel hyn : "lie y profodd eich tadau fi â phrawf."

Ac y gwelsant fy ngweithredoedd ddeugain mlynedd. Ym- ost)-ngodd Duw i'r prawf a roddodd meibion Israel ar ei flyddlondeb, a hyny trwy adael iddynt weled ei weithredoedd nerthol tuag atynt am ddeu- gain mlynedd. Xid yr ystyr ydyw i feibion Israel roi prawf ar flyddlondeb Duw er iddynt weled ei weithredoedd.

Deugain mlynedd. Y mae yn anhawddpeidio meddwl fod yr awdwr yn dymuno awgrymu i'w ddarllenwyr gyfeiriad anuniongyrchol at yr hen grediniaeth a ffynai ymhlith yr Iuddewon y byddai y Messiah yn dychwelyd i farnu y byd ar ol aros am yr un ystod ag y bu yr Arglwydd yn hirymar- hous wrth feibicn Israel yn yr anialwch. Yr oedd yn ages i ddeugain

YE EPISTOL AT YE HEBEEAID.

33

ddeugain mlynedd. Am hynny y digiais wrth y genhedlaeth 10 honno, ac y dywedais, Y maent bob amser yn cyfeüiorni yn eu calonnau; ac ni adnabuant fy ffyrdd i. Fel y tyngais yn fy 11 llid, na chaent ddyfod i mewn i'm gorphwysfa. Edrychwch, 12 fiodyr, na byddo un amser yn neb o honoch galon ddrwg anghrediniaeth, gan ymadaw oddi wrth Dduw byw. Eithr 13

mlynedd erbyn hyn wedi myned heibio er pan yr esgynasai yr lesu. Beth ■08 yw yr hen goel yn wir, wedi'r cwbl !

ADN. 10.— Y genhedlaeth hono. Y mae yr awdwr yn adn. : yn awgrymu fod gwahaniaeth ymddangosiadol rhwng dull Duw o weithrrtra o dan yr Hen Destament ac o dan y Newydd. Gynt, digiai Duw wrth genhedlaeth gyfan ; yn awr ei drefn ydyw ymwneyd â phob dyn yn unigol a phersonol. Y mae cyferbyniad rhwng yr ymadrodd "cenhedlaeth" yn adn. 10, a'r geirian "yn neb ohonoch" yn adn. 12. Eto, y mae egwydd- orion llywodraeth Duw yr un. o dan bob goruchwyliaeth, fel y dengys yr awdwr yn adnodau 16, 18. Yr enaid a becho, hwnwafyddmarw. Felly, er fod y Salmydd yn son am Dduw yn digio wrth genhedlaeth gyfan, nid digio yn ddiachos yr oedd. Eu pechod, fel cenhedlaeth o bobl, a barodd iddo ddigio.

Cyfeiliorni ; neu, " crwydro," hyny yw, o ffyrdd Duw, y rhai nis ad- nabuant, hyny yw, y rhai ni chadwasant hwy. Cymmerwyd y gymhariaeth oddiwrth y daith trwy yr anialwch. Yr oedd gan Dduw ei ffordd iddynt ei thramwy o'r Aipht i wlad yr addewid. Ond crwydrent hwy o ffordd Duw i'w trofeydd, mewn ystyr gymhariaethol.

ADN. 11.— Fy ngorphwysfa. Cawn weled yn y benod nesaf fod y gair hwn yn cynwys mwy na'r orphwysfa yn Nghanaan. Y mae y bygythiad mewn giym yn amser y Salmydd ac yn amser awdwr yr Epistol.

ÀDN. 12.— Edrychwch. Gellir cyssylltu y rhybudd hwn a'r geiriau "am hyny" yn adn. 7, ac felly golygu yr holl ddyfyniad o'r Salm megis rhwng cromfachau. Neu, ynte, gelìir cyssylltu yr "am hyny" â'r geiriau "na chaledwch eich calonau" yn adn. 8, a golygu fod y rhybudd yn adn. 12 yn dyfod i mewn yn ddisymwth, ac o gymaint a hyny yn fwy tarawiadol. Y cyntaf yw y golygiad mwyaf tebygol, er meithder y dyfyniad; oblegid os ydyw yr awdwr yn defnyddio y geiriau ' ' na chaledwch eich calonau " fel ei eiddo ef ei hun, y mae yn annaturiol ynddo ei fod yn dyfynu y geiriau sydd yn adn. 7 fel geiriau yr Arglwydd, ac eto nis gall mai ymadroddion yr awdwr ydynt.

Yn neb o honoch.— Dyfethwyd cenhedlaeth gyfan yn yr anialwch. Ond os bydd tin ohonoch yn gwrthgilio, dyfethir yr un hwnw. Y mae Duw bellach yn ymwneyd â'dynion, nid fel cenhedlaeth, ond fel personau.

Calon ddrwg angnrediniaeth; hyny yw, calonddrwg, yrhon ydyw anghrediniaeth ; calon y mae ei drygioni yn gynwysedig mewn anghredin- iaeth. Keu, ynte, gellir golygu yr anghrediniaeth fel yr achos o ddrygioni y galon.

Gan ymadaw; yn hytrach, "yn yr ymadawiad." Gellid meddwl oddiwrth ffurf yr ymadrodd fod yr awdwr yn cydnabod fod ei ddarllenwyr «isoes yn ymadaw. Mewn manau eraill rhybuddia hwynt o'r perygl sydd yn hyny. Ond yma nid eu rh/buddio i beidio ymadael a wna, ond eu rhybuddio rhag y peth neillduol hwnw yn eu hymadawiad sydd yn debygol o wneuthur eu dychweliad yn anmhosibl; a'r peth hwnw ydyw calon o anghrediniaeth.

Duw byw. Dywedir hyn i ddangos ijr Hebreaid mai yr un ydyw

34 YE EPISTOL AT YR HEBREAID.

cynghorwch eich gilydd bob dydd tra y gelwir hi Heddy v.- -

14 fel na chaleder neb o honoch trwy dwyll pechod. Canys fe a'n gwnaed ni yn gyfrannogion o Grist, os daliwn ddechreuad ein

15 hyder yn sicr hyd y diwedd. Tra y dywedir, Heddy w, os gwrandewch ar ei leferydd ef, na chaledwch eich calonnau.

16 megis yn y cyffrôad. Canys rhai, wedi gwrandaw, a'i digiasant ef: ond nid pawb a'r a ddaethant o'r Aipht trwy Moses.

Duw o dan bob cyfnewidiad goruchwyliaeth. Y mae y goruchwyliaetiian wedi heneiddio a threngu, y naill ar ol y llall, o ddechreu y byd ; ond yi un yw Duw, am mai Duw byw ydyw.

ÀDN. 13.— Cynghorwch ; yn hytrnoh, " anogwch."

Tra y gelwir hi heddyw. Yr ystyr ydyw, tra y gelwir y gaii " heddyw " yn eich clustiau ; tra y deil Duw i'ch rhybuddio ; tra y clywoch ei lai? ef .

" Na chaleder. Nid r vnwja yr anogaeth a feddylir : ': ano.gwch eic-i gilydd na chaleder neb." Yr y>tyr ydyw i'od anog ein gilydd i beidi* ymadaw yn ein cadw ni einhunain ac eraüì rhag caledwchcalon yn yr ymad- awiad : "fel na chaleder."

Neb o honoch; yn hytrach, " neb ohonoch chwithau." Nid ar y gair " neb," ond ar y gair "chwithau," y mae y pwyslais. Ehybuddii chwi trwy esampl eraill. Caledwyd eu calonau hwy ; anogwch eich gilydd fel na chaleder eich calonau chwithau.

Trwy dwyll pechod ; yn hytrach, " trwy dwyll y pechod," sef y pechod neillduol hwn o ymadaw oddiwrth Dduw byw. Anogwch eich gilydd rhag ymadaw, fel, o'r hyn lleiaf, y cadwoch eich hunain a'ch gilydd rhag y caledwch hwnw y mae y pechod hwn o ymadaw oddiwrth Dduw yn arbenig yn hudo dynion iddo.

ADN. 14. Canys. Rheswm ydyw yr adn. hon dro? anng ein gilydd i beidio ymadaw oddiwrth Dduw yn ei efengyl, rhag caledu o'n calonau trwy y twyll .sydd yn perthyn i'r pechod neillduol hwn. Y rheswm ydyw fod gobaith yr efengyl yn sicr a diledryw. Ein twyllo y mae y pechod o wrthgiliad i dybied nad yw Duw yn meddwl yr hyn a ddywedodd nac yn bwriadu ei gyflawni. Ond y mae Duw yn eirwir. Xyni a wnaethpwyd mewn gwirionedd yn gyfrancg â'r holl saint yn y Messiah, yr hwn sydd wedi dyfod : cyfranog, hyny ydyw, os gafaelwn yn nechreuad ein hyder hyd ei orpheniad.

Dechreuad. Golyga yi* ymadrodd nad yw ein hyder eto ond dechreu. Ond os gafaelwn yn yr hyder gwan sydd wedi dechreu ynom, a gafael ynddo hyd nes y cwblheir ei mewn perffaith hyder, yna yr ydym eisoes yn gyfranog, er holl hudoliaeth pechod, yn y Crist addawedig.

ADN. 15. Tra y dywedir ; neu, " gan y dywedir." Y mae fod yr Ysbryd Glân trwy enau y Salmydd yn ein rhybuddio i beidio caledu ein calonau, tra y seinir y gair " Heddyw" yn ein clustiau, ynddo ei hun yn rheswm dros af aelyd yn dyn yn nechreuad gwan ein hyder, a'i gryfhau hyd at berffeithrwydd. Gweìl ydyw cyssylltu y geiriau " gan y dywedir " â'r geiriau blaenorol, "ni a wnaethpwyd yn gyfranogion o Grist," nag â'r geiriau dilynol, "na chaledwch eich calonau."

ADN. 16. Canys rhai, &c. Mae bron yn sicr mai y darlleniad cywir ydyw, " Canys pwy, wedi clywed, ai cyffroisant r" Bydd y gofyniad hwn felly yn cyfateb i'r ddau ofyniad yn adnodau 17 a 18. Gofyniad hefyd ydyw y gweddill o'r adn. : " Onid pawb a'r a ddaethant o'r Aipht trwy Moses r" Xid yw yr awdwr yn gT\meyd cyfrif o'r eithriadau, Caleb a Josua, a'r lleill ; ac, yn yr un modd, ni chrybwylla yr eithriadau, sef y rhai

YE EPISTOL AT YR HEBBBAID. 35

Ond wrth bwy y digiodd efe ddeugain mlynedd? onid wrth y 17 rhai a bechasent, y rhai y syrthiodd eucyrph yii y diffaethwch ? Ac wrth bwy y tyngodd efe, na chaent hwy fyned i mewn i'w 18 orphwysf a ef ? onid wrth. y rhai ni chredasant ? Ac yr ydym ni yn 1 9 gweled na allent hwy fyned i mewn o herwydd anghrediniaeth.

PENOD IV.

AFXWN gan hynny, gan fod addewid wedi ei adael i ni 1

a ufuddhasant, ac eto nad aethant i mewn i Ganaan. Ei bwnc ydyw fod cenhedlaeth gyfan wedi ei chadw allan o wlad yr addewid, ond mai oher- wydd iddi gyffroi Duw i ddigio wrthi y bu hyny. Er iddynt ddyfod allan o'r Aipht, a hyny trwy Moses, yn nghanol yr arwyddion rhyfedd o bresen- oldeb ac amddiffyn Duw, ac er clywed llais Duw trwy ei was Moses, eto hwy oil a'i cyffroisant i ddigio.

ADN. 17.— Nid yn unig hwy a gyffroisant Dduwunwaith i ddigofaint yn Meribah, ond am y deugain mlynedd hwy a'i digiasant, trwy bechu yn y^tod y deugain mlynedd. Mewn canlyniad i hyny, syrthiodd eu cyrph, y naill ar ol y Hall, yn awr a thrachefn, yma ac acw yn y diffaethwch. Er i'r holl genhedlaeth hono drengu, eto am eu pechod y syrthient, ouni un, yn ystod yr holl amser.

ADN. 18. O'r diwedd, tyngodd Duw na chaent fyned i mewn i'w orphwysfa ef. Cauwyd allan y genhedlaeth hono oil. Ond eto am eu hanufudd-dod y cauwyd hwy allan trwy lw Duw. " Ei orphwysfa ef" ydoedd. Cadwodd Duw yr allwedd iddi yn ei law ei hun, ac er iddo addaw y wlad iddynt, efe a dyngodd na chaent mohoni oblegid eu hanufudd-dod.

Ni chredasant; yn hytrach, "a anufuddhasant." ADN. 19. —Ac yr ydỳm ni yn gweled, &c. Nid yn unig cauwyd hwy allan trwy lw Duw, ond hefyd (" ac") ni a welwn, ni a ganfyddwii, fel casgliad oddiwrth yr hyn a ddywedwyd, nas gallent fyned i mewn. Oblegid yr oeddynt wedi ei ddigio, nid unwaith, ond am ddeugain mlynedd, ac yr oedd hyn wedi caledu eu calonau trwy y twyll sydd yn y pechod hwn o ymadaw â Duw, fel nas gallent fyned i mewn, hyd yn nod pe ymfoddlonai Duw iddynt wneyd y cais. Dangos y gallu hwn sydd mewn anghrediniaeth i dwyllo, i galedu y galon, i wneyd dynion yn anabl i dderbyn cyllawniad yr addewidion, ydyw amcan yr awdwr yn yr holl adnodau hyn. Sylwer ar y cynydd sicr, ond graddol. Dechreuasant trwy bechu, am yr hyn y digiodd Diiw wrthynt. Yna, fel ffrwyth eu pechod, anufuddhasant, am yr hyn y tyngodd Duw na chaent fyned i mewn. Canlyniad eu hanufudd-dod oedd anghrediniaeth neu galedwch calon, yr hyn a barodd nas gallent fyned i mewn, pe caent.

Oherwydd anghrediniaeth. Cymharer 1 Tim. i. 13, lie y mae y syniad o anghrediniaeth yn bur wahanol. Dywed Paul iddo gael trugar- édd am mai mewn anghrediniaeth y gwnaethai efe ddrygioni yn ddi- arwybod. Ond yn yr Epistol at yr Hebreaid, nid cyflwr pawb ydyw "anghrediniaeth," ond cyäwT y rhai sydd yn gwybod, ac, er hyny, yn gwrthod. Yr un peth ydyw â chaledwch calon.

3. ünolìaeíh addewidion y Bdwy Oruchwyliaeth.

iv. 1—11.

. PEN. IV.— Dengys yr awdwr, yn y He nesaf, fod addewidion Duw

hefyd eto mewn grym. Ond y mae yr ymresymiad yn wahanol i'r prawf a

36 YE EPISTOL AT YR HEBREAID.

i fyned i mewn i'w orphwysfa ef, rhag bod neb o honocb

ddygodd ymlaen yn y drydedd benod i ddangos fod y bygythion yr un o dan y ddwy oruchwyliaeth. Y prawf yn y drydedd benod ydyw mai am eu pechod y cauwyd meibion Israel allan o wlad Canaan, a chan mai â'r Duw byw a digyfnewid y mae a fynom ninau, y mae anghrediniaeth yn sicr eto o gau dynion allan o orphwysfa Duw. Yr un peth ydyw pechod, a'r un mor sicr ydyw ei ganlyniadau, o dan bob goruchwyliaeth. Ond yn y bedwaredd benod, wrth brofi fod addewidion Duw yn parhau yr un, nis gallai yr awdwr ymresymu oddiwrth sicrwydd gwobrwyon rhinwedd ; oblegid gras Duw, nid haeddiant dyn, yw sail yr addewidion. Y mae ymresymiad yr awdwr yn dra newydd, ac, ar yr olwg gyntaf , yn anhawdd ei ddilyn. Yr ymresymiad ydyw fod yn rhaid cyflawni holl addewidion Duw yn hollol, a chan na chyflawnwyd hwy ond mewn rhan o dan yr Hen Destament, eu bod eto yn aros mewn grym o dan yr efengyl.

ADN. 1. Ofnwn gan hyny; sef gan fod bygythion Duw eto mewn grym. Y gair hwn sydd yn cydio y ddwy benod wrth eu gilydd. Ond yn uniongyrchol gâd yr awdwr y syniad hwn am barhad y bygythion, a dwg i mewn syniad arall, sef parhad yr addewidion: " gan fod addewid wedi ei adael."

Wedi ei adael. Yn agos iawn yr un gair sydd yn adn. 9. Y gwahaniaeth rhyngddynt ydyw hyn : Ystyr y gair yn adn. 9 ydyw fod gorphwysdra wedi ei adael yn ystór i ni, wedi ei osod o'r neilldu, ar wahan i bethau eraill, y rhai a aethant ar goll. Ystyr y gair yn adn. 1 ydyw fod addewid wedi ei adael ar ol i ni ; nid yw yr addewid eto wedi ei gwbl ddyhysbyddu. Fe welir fod y gair yn adn. 9 yn cynwys mwy na'r gair yn adn. 1. Ond y gair yn adn. 1 sydd yn cynwys cnewyllyn yr ymresymiad, yr hwn ydyw na ddyhysbyddwyd yr addewid o dan yr Hen Destament. Profi hyn yw amcan yr awdwr yn yr adnodau dilynol. Y mae yr Esgob Davies a'r Esgob Morgan wedi camgyfieithu yn yr adn. hon, fel hyn : "trwy wrthod yr addewid." Dilyn Erasmus a Beza y maent. Ond ni oddef y gwreiddiol yr ystyr hwn ; a hyd yn nod pe byddai yn oddefol, y mae y gair sydd yn adn. 9, yn nghydag amcan amlwg yr awdwr yn yr holl ymresymiad yn profi mai y llall yw yr ystyr.

I fyned i mewn i'w orphwysfa ef. Yr oedd llawer o addewidion wedi eu rhoddi i Israel. Ond yr addewid am wlad Canaan a ddewisa yr awdwr i sylwi arno yn y benod hon ; a hyny (1) am mai at fynediad Israel trwy yr anialwch y cyfeiria y Salmydd yn y dyfyniad a roddwyd yn y benod flaenorol ; (2) am mai hwn oedd prif addewid Duw i'r genedl, o'r hyn lleiaf ymhlith yr addewidion a gyflawnwyd mewn rhan o dan yr Hen Destament ; ac un o'r addewidion hyny yn unig all ateb dyben yn yr ym- resymiad presenol ; (3) am mai cyflawniad perffaith yn yr ystyr uwchaf o'r addewid hwn sydd yn cyfarfod oreu anghenion neillduol yr Hebreaid Cristioiiogol yn eu hiselder a'u llwfrdra, y cânt fyned i orphwysfa Duw trwy Grist. Prin y mae eisiau ychwanegu mai at amser yr efengyl y cyfeiria yr awdwr yn yr ymadrodd " myned i mewn i orphwysfa Duw," nid at fynediad y credadyn i'r nefoedd yn angau. Nid yw yr olaf ond gorpheniad ar y cyntaf . Camddarluniad o'r efengyl ydyw ei desgrifio fel trefn Duw i sicrhau nefoedd i ddynion ar ol marw, heb yr ychwanegiad ei bod yn amcanu dwyn dyuion i sefyllfa ar y ddaear sydd yn eu cymhwyso i'r nefoedd.

Rhag bod neb ohonoch yn debyg i fod yn ol ; yn hytrach, " rhag mewn un modd i neb ohonoch dybied ei fod wedi syrthio yn fyr (ohoui)." Ni sonia yr awdwr ddim o gwbl am y tebygolrwydd o fod yn

YR EPISTUL AT YR HZBREAID.

yn debyg i fed yn ol. Canys i ninnau y pregethwyd yr efengyl megis ag iddynt hwythau : eithr y gair a glybuwyd ni bn fuddiol iddynt hwy, am nad oedd wedi ei gyd-dymheru â ffydd yn y rhai a'i clywsant. Canys yr ydym ni, y rhai a gredasom. yn myned i mewn i'r orphwysf a, megis y dywedodd

golledig yn y byd arall ar ol angau. Y mae y ferf yn y gwreiddiol yn yr amser gorphènol : " ei fod wedi syrthio yn fyr." Anog ei hun a'i ddar- llenwyr y mae yr awdwr i ofni y fath dybiaeth a hon, eu bod hwy yn rhy eldiweddar i hawlio cyflawniad addewid Duw, oherwydd fod yr addewid wedi ei ddyhysbyddu ac nad oedd dim ohono yn aros iddynt hwy. Of mud rhag y fath dybiaeth ; oblegid y mae y dybiaeth hon yn tarddu o anghrediniaeth ac yn digio Duw, "yr hwn sydd yn sicr o gau y neb a'i coledda hi allan o'i orphwysfa ef .

ADN. 2. Canys. Prawf sydd yma fod addewid yn weddill i ninau.

Y pregethwyd yr efengyl ; neu " y cyhoeddwyd newyddion da." Y mae ffurf y guir yn y gwreiddiol yn cynwys ein bod wedi ein trwytho megis mewn efengyl. Er mai addewid wedi ei adael yn weddill sydd genym, eto f e adawy d digon i lanw ein holl anghenion. ' ' Ef engyleiddiwy d ni," fuasai y cyfieithiad llythyrenol.

Y gair à glybuwyd ; yn llythyrenol, " gair y traddodiad." Yr ystyr ydyw y pregethiad o'r addewid.

Am nad oedd wedi ei gyd-dymheru á ffydd yn y rhai a'i clywsant. Y mae llawer o amheuaeth pa un o'r tri darlleniad canlynol ddylid ei ddewis : (1) " am nad oedd wedi ei gyd-dymheru â ffydd yn y rhai a'i clywsant ;" (2) " am nad oedd wedi ei gyd-dymheru trwy ffydd â'r rhai a glywsant ;" (3) " am nad oeddynt wedi eu cyd-dymheru trwy ffydd á'r rhai a glywsant." Efallai fod pwys a nifer y llawysgrifau henaf yn fwy fTafriol i'r darlleniad olaf hwn ; a hwn yw y darlleniad a f abwysiedir gan AYestcott a Hort. Ond y mae yn anmnosibl gwneyd cystal synwyr ohono ag a geir yn y darlleniadau eraill. Y mae yr awdwr newydd ddyweyd fod pawb a ddaethant o'r Aipht trwy Moses wedi eu cau allan o Ganaan, ac nid yw yn son dim am yr ychydig cithriadau. A ydyw yn debygol y dygai efe yr eithriadau hyny i mewn yma? Heblaw hyny, pakenn y <lywedai nad oedd y bobl a wrthodwyd wedi eu huno á'r rhai a glywsant*? Ymddengys i mi fod hwn yn un o'r manau hyny lie y mae yn rhaid i J8 tyriaethau esboniadol benderfynu y darlleniad, er y byddai dilyn y llaw- ysgrifau yn unig yn ein harwain fel arall. Ni a wrthodwn, gan hyny, y trydydd darlleniad. Eelly y gwna Tischendorf (yn ei argraphiad olaf, yr T.-ythfed). Cymmeradwyir y darlleniad cyntaf gan Calvin, De AYette, ac ■eraill. Y mae yr ystyr yn dda. Eto prin y goddefa y Groeg y fath gyfieithiad. Nid oes nemawr o wahaniaeth rhwng hwn a'r ail ddarlleniad mewn synwyr, ac y mae yr ail yn gyfieithiad mwy naturiol. Felly y dar- ]lena Delitzsch, Hofmann, ac eraill. Nid oedd y gair a bregethwyd wedi ei gyd-dymheru â natur ac ysbryd y gwrandawyr trwy ffydd. Yr oedd anghrediniaeth wedi caledu eu calonau. Buasai ffydd yn eu tymheru, fel y gallai y genadwri gymysgu á holl deimladau yr enaid. Dichon fod cvfeiriad yn y gair 4< cyd-dymheru" at y geiriau "caledu eu calonau." Eel y mae yr ymborth yn cael ei gyd-dymheru â'r corph, felly y mae yr efengyl â'r enaid.

ADN. 3. Prawf ychwanegol fod yr addewid yn weddill ; a mwy na hyny, ein bod ninau yn myned i mewn. Y prawf ydyw fod Duw yn cyhoeddi na chaiff rhai fyned i mewn ; yr hyn sydd yn dangos fod yr

38 YR EPISTOL AT YR HEBREAID.

efe, Fel y tyngais yn fy Hid, Os ânt i mewn i'm gorphwysf a i : er bod y gweithredoedd wedi eu gwneuthur er seiliad y byd.

4 Canys efe a ddywedodd mewn man am y seithfed dyád ielhyri; A gorphwysodd Duw y seithfed dydd oddi wrth ei hoU

5 weithredoedd. Ac yma drachefn, Os ânt i mewn i'm gor-

6 phwysfa i. Gan hynny, gan fod hyn wedi ei adael, fod rhai yn rnyned i mewn iddi, ac nad aeth y rhai y pregethwyd yn

7 gyntaf iddynt i mewn, o herwydd anghrediniaeth ; Trachefn. y mae efe yn pennu rhyw ddiwrnod, gan ddywedyd yn Dafydd.

orphwysfa eto yn aros, a hyny er fod gwaith y greadigaeth wedi ei orphen cyn i ÍMuw gyhoeddi y bygythiad. Y mae yn canlyn fod rhyw orphwys gan Dduw heblaw gorphwys oddi wrth y gwaith o greu. Hyn, mewn byi eiriau, ydyw ystyr yr adnod.

Yn myned i mewn. Yr ydym yn bresenol ac yn wirioneddol yn myned i mewn. Y mae mwynhad o orphwys Duw yn ffaith hollol sicr yn mhrofiad y rhai a gredasant.

Fel y tyngais yn fy Hid, &c. Ni ehawsant hwy, y rhai ni ehredasant, fyntd i mewn. Ond rhaid yw cyflawni addewid Duw. " Di- edifeiriol yw doniau a galwedigaeth Duw." " Os ni chredodd rhai, a wna eu hanghrediniaeth hwy ffydd Duw yn ddirym r" (Rhuf . iii. 3 : xi. 29). Nid yn unig ni ddirymir yr addewid trwy anghrediniaeth rhai, ond y mae eu hanghrediniaeth hwy yn sicrhau fod yr addewid yn aros ; oblegid rhaid cyflawni geiriau Duw. Gan hyny, y mae yr awdwr yn tynu anogaeth o'r bygythiad ei hun, ac yn ymresymu fod addewid Duw yn aros, a bod y rhai a gredasant yn myned i mewn.

Os ant. Dull o ymadrodd sydd yn gyfystyr á 11 w. ond yn ffurf fwy tyner o eirio. Ceir yr ymadrodd yn gyfan yn Ruth i. 17.

Er fod y gweithredoedd, &c. 'Dywed Duw trwy enau y Salmydd fod addewid o orphwysfa yn aros, er fod gwaith y creu drosodd lawer o oesau cyn amser Dafydd. Rhaid, gan hyny, mai nid y gorphwys hwnw oddiwrth y gwaith o greu a olygir yn unig yn addewid Duw am orphwysfa y Sabbath. Xid yw y gorphwys hicmv, pa fodd bynag, yn dyhysbyddu cynwys yr addewid.

ADN. 4, 5. Prawf ydyw y ddwy adnod yma fod rhywbeth mwy yn gynwysedig yn ngorphwysfa y Sabbath na gorphwys oddiwrth y gwaith o greu ; oblegid dywedir yn Gen. ii. 2, fod y gorphwys oddiwrth y gwaith o greu wedi myned heibio er y seithfed dydd; ac er hyny, yn amser Dafydd y mae yn eglur oddiwrth eiriau y Salm (xcv. 1 1) fod y gorphwys a gynwysir yn addewid Duw eto yn ol, gan fod Duw yn tyngu na chaiff xhywrai fyned i mewn i'w orphwysfa ef .

Os. Gwel ar adn. 3.

Fy. Y mae Duw yn amser Dafydd yn son am ei orphwysfa ef ei Iran fel peth dyfodol ; nid unrhyw orphwysfa roddir gan Dduw, ond yr orphwysfa i'r hon yr aeth Duw ei hun i mewn ar ol gorphen gwaith y greadigaeth.

ADN. 6, 7.— Cynwysa y ddwy adnod hyn ddatganiad cryno o'r hyn a brof wyd yn yr adnodau blaenorol, fel rheswm dros anogaeth y Salmydd i Israel i beidio caledu eu calonau. Yr hyn a brofwyd ydyw fod yn rhaid cyflawni addewid Duw, ond na chyflawnwyd yr addewid hwnw yn mynediad plant Israel i Ganaan. Xid yw yr addewid wedi ei ddyhysbyddu. Y mae hyn wedi ei adael. eto o gynwys yr addewid, heb waghau yr addewid yn

YR EPISTO'L AT YE HEBREAID. 09

lie"! Ivw, ar ol cymmaint o amser; megis y dywedir, Heddyw, 8 os gwrandêwch ar ei lef erydd ef , na chaledwch eich calonnau. Canys pe dygasai Jesus hwynt i orphwysfa, ni soniasai efe ar ol hynny am ddiwrnod arall. Y mae gan hynny orphwysfa 9

llwyr, sef fod rhai i fvned i mewn, ac na chyfiawnwyd yr addewid yn hollol mewn unrhyw amgylchiad a gymmerodd le yn hanes Israel yn yr anialwch.

Y pregethwyd; yn llythyrenol, "y cyhoeddwyd newyddion da iddynt." Und gwell yw y cyfieithiad, " yr efengylwyd iddynt ;" i ddangos mai yr un efengyl a'r un addewid a roddwyd i Israel ac i ninau. Golyga rhai esbonwyr mai nid yr un efengyl a feddylir. Felly Dr. Thomas. Ond, os hyny a olygir, pa fodd y gall yr awdwr ddyweyd na ddyhysbyddwyd yr addewid':'

Anghrediniaeth; yn hytrach, "anufudd-dod," canlyniad gweith- redol anghrediniaeth y galon.

Trachefn, y mae efe yn penu; yn hytrach, "y mae efe drachefn yn penu." Khaid cyssylltu hyn â'r " gan hyny" yn adn. ti. Gan fod yr addewid heb ei ddyhysbyddu yn hanes Israel yn yr anialwch, y mae Duw drachefn yn penu rhyw ddiwrnod mor ddiweddar âg amser Dafydd, gymaint o amser ar ol mynediad Israel i Ganaan.

Penu; hyny yw, "terfynu;" " gosod diwrnod" yn yr hwn y gelwir ar Israel i beidio ymgaledu, ac ar ol yr hwn nid oes galwad nac addewid. Y diwrnod hwnw ydyw heddyw. Dengya hyn pa fath bwyslais sydd i'w roddi ar y gair "heddyw" yn yr adnod hon. Mor ddiweddar âg amser Dafydd geilw Duw, fel y galwodd o'r blaen yn amser Moses; ac, yn y ddau amgylchiad, y mae efe yn penu diwrnod, hyny yw, yn cyfyngu yr alwad i ryw ddiwrnod neillduol, sef "heddyw." Ni chyrhaedda yr alwad yn mhellach na heddyw. Nid yr ystyr ydyw, "hyd yn nod heddyw." Yr ystyr yw, "heddyw, nid yfory." Y maeymr esymiad yr awdwr yn gorphwys ar y dybiaeth fod yr hyn oil a ddywed Duw trwy y íáalmydd wrth Israel yn parhau i gael ei lefaru gan Dduw wrth Israel pan y mae yr Epistol hwn yn cael ei ysgrifenu. Heb gadw hyn mewn cut yr ydym mewn perygl o fethu gweled grym yr ymresymiad mewn amryw fanau o'r Epistol. Gwel iii. 15.

Megis y dywedir. Y ciarlleniad cywir ydyw, "megis y cyhoedd- wyd." Tybiwyf mai yr ystyr ydyw, nid fod yr awdwr yn dyfynu yr rn geiriau o eiddo y iSalmydd yn y He hwn ag a ddyfynwyd ganddo yn y benod o'r blaen, ond yn hytrach fod Duw yn rhybuddio Israel yn amser Dafydd megis y rhybuddiodd hwynt o'r biaen yn yr anialwch. Nid yw yr ymadrodd yn cynwys fod Uuw yn defnyddio yr un geiriau, ond golyga ei fod yn rhoi yr un rhybudd ac anogaeth.

Òs gwrandewch ; yn hytrach, "os ciywch ei lais ef." Y mae hyny yn amheus; dichon iddo dewi; ond, os ciywch ei lais, gwyliwch nuululdhau, oblegid heddyw yn unig yw yr amser cymmeradwy.

ADN. 8. Wrth "Jesus" y golygir "Josua," a gwell fyddai mab- wysiadu y ffurf gyffredin ar ei enw. Ar y gair "hwynt " y mae y pwvs- lais. Pe hici/, y rhai a aethant i Ganaan trwy .losna, oedd yn derbyn cynawniad o'r aldewid am orphwysfa, ni soniai Duw amyr addewid hwnw drachefn yn amser Dafydd ac ni rybuddiai Israel i wylio rhag esgeuluso eu hadeg gymaint o amser ar ol dyddiau Josua. Nid oedd eu mynediad i Ganaan, gan hyny, yn gyflawniad o'r addewid am orphwysfa.

ADN. 9. Y casgliad oddiwrth yr holl ymresymiad o'r ail adn. ymlaen ydyw fod " addewid wedi ei adael i ni i fyned i mewn i orphwysfa Duw," fel y dywed yr awdwr yn yr adn. gyntaf . Ond y mae yr ymresymiad

40 YE EPI8TOL AT YB HEBEJEAID.

10 etto yn ol i bobl Dduw. Canys yr hwn a aeth i mewn i'w orphwysfa ef, hwnnw hefyd a orphwysodd oddiwrth ei weith- redoedd ei hun, megis y gwnaeth Duw oddi wrth yr eiddo yntau.

sydd yn profi hyn wedi dwyn i'r golwg ddau nodwedd pur neillduol ar yr addewid, sef (1) mai y ffurf arbenig ar yr orphwysfa a addawyd ydyw cadw Sabbath, ac (2) mai i bobl Dduw y rhoddwyd yr addewid. Crybwylla yr ysgrifenydd y ddau beth hyn yn y casgliad cyffredinol yn yr adn. hon. Yn gytitaf, yn lie y gair " gorphwysfa," yr hwn a ddefnyddiodd o'r blaen drwy yr holl ymresymiad, y gair a ddefnyddia yn awrydyw " Sabbatismos," sef " cadw Sabbath," a hyny, gallem feddwl, am dri rheswm, sef (1) oherwydd ei fod wedi profi mai gorphwysfa Duw ydyw gorphwysfa y credadyn, a gorphwysfa Duw oedd y Sabbath; (2) oherwydd fod y Sabbath yn cynwys mwy na gorphwys oddiwrth waith, a'r peth mwy hwnw ydyw fod Duw wedi bendithio y Sabbath ; (3) oherwydd mai gor- uchwyliaeth yr efengyl ydyw y ffurf uwchaf a pharhaus ar y Sabbath. Nid ydym i feddwl fod yr awdwr yn son dim yn yr adn. hon am y dydd cyntaf o'r wythnos f el Sabbath, f el y tybia rhai esbonwyr ; ond ymddengys i mi ei fod yn bwriadu dysgu mai y cyflwr y dygir dyn iddo trwy yr efengyl ydyw y gwir Sabbath a gwrth-gysgod y Sabbath o dan yr hen oruchwyliaeth. Nid ydym chwaith i feddwl mai y nefoedd a olygir yma. Athrawiaeth yr Epistol trwyddo, fel y cawn weled eto, ydyw mai yr un peth yn sylweddol ydyw cyflwr y credadyn ar y ddaear ac ar ol angau. Yn ail, yn lie " ein tadau," neu " y rhai a gredant," dywed yr awdwr yn awr "pobl Dduw," sef y gwir Israel. Gwel Rhuf. ii. 28, 29 ; Gal. vi. 16. I Israel y rhoddwyd y Sabbath trwy Moses, ac ni cheir y rhaniad o amser i wythnosau ymhlith cenhedloedd paganaidd y byd. Ond fel y mae y Sabbath Iuddewig wedi ei sylweddoli mewn ffurf ysbrydol trwy yr efengyl, felly hefyd yr eglwys Gristionogol, sef credinwyr (gwel Rhuf. iv. 12), ydyw pobl neu Israel Duw bellach. Trwy ddwyn i sylw y ddau nodwedd hyn ar yr addewid y mae yr awdwr nid yn unig yn tynu y casgliad oddiwrth yr ymresymiad blaenorol fod addewid wedi ei adael, ond hefyd yn gwneyd i'r ymresymiad wasanaethu amcan cyffredinol ei Epistol, sef dangos pa fodd y mae yr efengyl wedi cymmeryd i mewn iddi ei hun bethau goreu yr hen oruchwyliaeth.

Yn ol. Prin y mae eisiau dyweyd mai nid yr ystyr ydyw gorphwysfa yn aros pobl Dduw ar ol iddynt ymadaw o'r byd hwn. Ystyr yr ymadrodd 1 ' yn ol " ydyw fod holl gynwys y syniad o orphwys heb ei ddyhysbyddu mewn dim a ddigwyddodd o dan yr Hen Destament, ac, am hyny, fod yr addewid yn ol, yn aros mewn grym, o dan yr efengyl.

ADN. 10. Yn yr adnodau blaenorol y mae yr awdwr wedi profi oddiwrth eiriau y Salmydd fod gorphwysfa yn ol yn yr addewid i bobl Dduw. Un peth yn ychwanegol sydd eisiau i wneyd yr ymresymiad yn gyflawn, sef dangos, os gellir, fod yr addewid wedi ei gyflawni yn ei ystyr uwchaf tuag at ryw un. Y mae yn wir ein bod ni y rhai a gredasom yn myned i mewn i'r orphwysfa (adn. 3). Ond a oes rhyw un wedi myned i mewn ? Yn yr ail benod dyfyna yr awdwr eiriau y Salmydd i brnfi fod pob peth wedi ei ddarostwng i ddyn. Ond ychwanega, Nid ydym ni eto yn gweled pob peth wedi ei ddarostwng iddo. Yn gyffelyb yn y bedwaredd benod dyfyna eiriau y Salmydd drachefn, i brofi fod gorphwysfa eto yn ol i bobl Dduw. Ond a ydym ni yn gweied rhyw un wedi myned i mewn iddi? Yr hyn a ddygodd yr awdwr allan o'r dyryswch yn yr ail benod oedd darostyngiad pob peth dan draed Iesu : a'r hyn sydd yn ateb y cwestiwn yn y bedwaredd benod ydyw mynediad Iesu i orphwysfa Duw. Ond y mae

TR EPISTOL AT YE HEBBEAID. 41

Byddwn ddyfal gan hynny i fyned i mewn i'r orphwysfa 11

yr adn. yn cyuwys mwy na mynegiad o'r ffaith fod Iesu wedi myned i mewn i'r orphwysfa. Dywed yr awdwr fod Iesu, wrth fyned ei hun i mevra, wedi gorphwys oddiwrth ei weithredoedd. Efe oedd ein Josua ni. Nid yn unig aeth ei hun i mewn, ond arweiniodd bobl Dduw i mewn, ymladdodd eu brwydrau, sicrhaodd euhetifeddiaeth. Yr oedd yr Iesu yn "gweithio" yn ei fywyd ar y ddaear, fel y dywedodd «f ei nun, a gellir cymharu ei weithredoedd hyny i weithredoedd creadigol Duw, a'i orphwysiad ef i orphwysiad Duw ar y seithfed dydd. Trwy ei fynediad ef , gan hyny, i'r nefoedd, enillodd Iesu i'w bobl fynediad i'r un orphwysfa âg yntau ar y ddaear ac yn y byd arall. Y mae yr adn., gan hyny, yn dyweyd wrthym nid yn unig fod un wedi myned i mewn eisoes i'r orphwysfa sydd yn ol yn yr addewid i bobl Dduw, ond hefyd fod yr un hwnw wedi sicrhau iddynt hwythau fynediad i mewn i'r un orphwysfa, ac wedi gorphwys bellach oddiwrth y gweithredoedd trwy y rhai yr enillasai efe hyny iddynt. Ar hyn o bryd ymddengys i mi mai hwn ydyw ystyr yr adn. Y golygiad a gymmeradwyir, pa fodd bynag, gan y rhan fwyaf o esbonwyr ydyw fod yr awdwr yn cyfeirio, nid o gwbl at Grist, ond at bawb o dduwiolion yr Hen Destament, y rhai a aethant i mewn i orphwysfa Duw. Y mae rhai rhesymau cryfion yn erbyn y golygiad hwn: (1) Y mae y ferf, "a orphwysodd," yn y gwreiddiol yn yr amser sydd yn dynodi gweithred a wnawcl unwaith a dim ond unwaith (aorist). (2) Pe at y duwiolion y cyfeirid yma, ni byddai dyweyd "a orphwysodd oddiwrth ei weithredoedd ei hun " ond ail adroddiad o'r geiriau "a aeth i mewn i'w orphwysfa ef;" ond, 03 at Grist y mae y cyfeiriad, y mae dyweyd iddo ef orphwys oddiwrth ei weithredoedd yn cynwys mwy na'i fod wedi myned i mewn i'w orphwysfa. a'r peth mwy ydyw ei fod wedi gorphen y gweithredoedd a sicrhaodd i bobl Dduw fynediad i'r un orphwysfa. (3) Am waith Crist yn unig y mae y gair "gweithredoedd" yn briodol, yn enwedig y gymhariaeth rhwng y gweithredoedd hyn a gweithredoedd Duw. Kis gallaf weled y priodoldeb, nac yn wir y gweddusrwydd, o gymharu pechadur ' ' yn darf od â byw iddo ei hun" (felyr eglura Dr. Thomas) â gorphwysiad Duw oddiwrth waith y greadigaeth ; ond y mae gorphwysiad Crist oddiwrth waith y prynedigaeth yn hollol gyffelyb i orphwysiad Duw, fel y mae gwaith Crist yn orpheniad cymhwys i waith Duw. Gwel loan v. 19, 36. (4) Y ddadl benaf o blaid y golygiad mai y duwiolion a olygir ydyw gwaith yr awdwr yn peidio enwi yr Iesu. Gallem droi yr wrthddadl yn ol trwy ofyn paham na buasai yr awdwr yn dyweyd " pob un," yn lie " yr hwn." Ond y mae y gair " hwnw " yn penu rhyw un neillduol ; ac, heblaw hyny, y mae rheswm da dros adael allan yr enw, sef fod yr awdwr yn awyddus i roi holl bwys yr adnod ar y ffaith, ac nid ar y person. Y mae efe eisoes wedi cyfeirio fwy nag unwaith at y ffaith o esgyniad Crist i'r nefoedd, fel nad oedd angen dyweyd yma mai Crist oedd yr un hwnw yr hwn a aethai i orphwysfa Duw. Yn yr ail benod geilw sylw at y ffaith, ond yno ychwanega yr enw wedi hyny, gan mai hwn oedd y tro cyntaf iddo son am yr esgyniad. Gwel ar ii. 9. ADN. 11. Casgliad ymarferol oddiwrth yr holl ymresymiad, yn cy- nwys, yn wir, ail adroddiad o'r anogaeth sydd yn yr adn. gyntaf yn rhag- flaenu yr ymresymiad. Ond yn lie "ofnwn fod yn ol," y mae yr awdwr wedi casglu nerth i anog yn gryfach, " byddwn ddyfal i fyned i mewn ;" ac, yn ychwanegol at "fod addewid wedi ei adael," cyfeiria yma at y rhy- budd sydd yn anghrediniaeth a chwymp y rhai a fethasant fyned i mewn, ac a adawsant yr addewid trwy eu hangrhediniaeth a'u cwymp i ni heb ei ddyhysbyddu.

42 YR EPISTOL AT YE HEBREAID.

hoimo, fel na syrthio neb yn ol yr un siampl o anghrediniaeth.

12 Canys bywiol yw gair Duw, a nerthol, a llymmach nag un

cleddyf dau-finiog, ac yn cyrhaeddyd trwodd hyd wahaniad yr

Yn ol yr un siampl o anghrediniaeth. Darllemr gan amryw o esbonwyr fel hyn: "fel na syrthio neb i'r un siampl o anghrediniaeth." Y mae y naill ddarlleniad yr un mor gywir a'r llall fel cyfieithiad o'r gwreidd- iol, acy mae trefn y geiriau yn y gwreiddiol braidd yn ffafr yr ail ddarlleniad. Ond, fel y dywed Dr. Thomas, y mae y geiriad, " syrthio i'r un siampl" yn ymadrodd rhy ddieithr i' w fabwysiadu. Heblaw hyny, y gair li syrthio " a ddefnyddir mewn manau eraill am bechod a dinystr plant Israel yn yr anialwch. Gwel 1 Cor. x. 5, lie y gwelwn hefyd fod y gair yn cynwya eu ^echod yn gystal a'u dinystr.

4. tiail unoliaeth y ddicy aruchwyctaeth. iv. 12, 13.

ADN. 12, 13. Rhaid cyssylltu yr adnodau hyn â'r cwbl a ddywed yr ysgrifenydd am unoliaeth bygythion ac addewidion goruchwyliaeth Moses a'r ef engyl. Cynwysant y rheswm paham y mae y ddwy oruchwyliaeth, er yr holl wahaniaeth rhyngddynt, yn un yn eu prif nodweddion, fel datguddiad o fwriadau grasolDuw, ac o'r bygythion a'r addewidion sydd yn rhoi grym i'r bwriadau hyny ac yn cymhell dynion i ufuddhau. Sail unoliaeth y ddwy oruchwyliaeth ydyw y bywyd sydd yn ngair Duw. Efe lefarodd gynt wrth y tadau ac efe sydd yn llefaru wrthym ninau. Nid â un iod nac un tipyn o air Duw heibio, pa un bynag ai cyfraith ai ef engyl fyddo, pa un bynag ai bygythiad ai addewid, a hyny am mai gair Duw ydyw. Gall gweithred- oedd ei ddwylaw fyned heibio. Ond y mae yr awdwr eisoes wedi rhoi pwys ar y gwahaniaeth rhwng gweithredoedd a gair. Gorphwysodd Duw oddi- wrth ei weithredoedd, ac yr oedd y gweithredoedd wedi eu gwneuthur er seiliad y byd. Ond y mae y gair, yr h wn yn wir a wnaeth y gweithredoedd, yn fyw o hyd. Y gair hwn oedd y llw na chai y rhai ni chredasant fyned i mewn i'r orphwysf a ; y gair a addawodd y cai y rhai a gredant fyned i mewn ; y gair a f endithiodd y seithf ed dydd. Yn yr adnod hon cymer yr ysgrifenydd afael yn yr ymadrodd "lleferydd," neu yn hytrach "llais Duw," yn y dyfyniad o'r Salm. Gan mai llais Duw a glyw dynion, y mae y gair yn fyw ac yn aros yn barhaus yr un. Y ffurf a gymer y bywyd hwn ydyw barnu dynion. Y mae hyn yn angenrheidiol, oblegid mai mewn addewidion i'w derbyn a bygythion am wrthodiad o'r addewidion, y llefara y gair wrthynt. Gosod allan fywyd gair Duw fel barnwr yw cynwys y ddwy adnod hyn. Nid oes eisiau sylwi mai nid y Gair, sef Mab Duw, a olygir yma, er mai dyna esboniad Dr. Owen; oblegid y mae y golygiad yna yn dinystrio holl gyssylltiad yr adnodau âg ymresymiad y ddwy benod.

Bywiol; yn hytrach, "byw," hyny ydyw, lleferydd, llais Duw yn bersonol ydyw. Hwn yw y syniad cywir am ysbrydoliaeth y datguddiad dwyfol. " Fy ngeiriau i," medd Crist, ' ' ysbryd ydynt a by wyd ydynt." Xis gellir eu dadgyssylltu oddiwrth y Person sydd yn eu llefaru.

Nerthol; yn hytrach, "llawn o yni" neu " weithgarwch." Yr un gair yn ages sydd yn Ephes. i. 19, " gweithrediad uerth," a Phil. ii. 13, " gweithio ynoch." Am fod gair Duw yn fyw, y mae efe hefyd yn gweith- redu yn ddibaid. Nid bywyd goddefol, acyn troi ynddo ei nun ydyw, ond bywyd sydd yn llawn gweithrediad tuag at eraill.

Llymach nag un cleddyf daufmiog. Tori ymaith y mae cleddyf â min ar un ymyl, ond tyllu, neu dreiddio i mewn, yw amcan cleddyf ŷ mm ar y ddau ymyl (" daufiniog "). Dengys hyn mai nid at gledd.yf y

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. 43

«naid a'r yspryd a'r cymmalau a'r mêr; ac yn barnu meddyliau

dienyddiwr y cyfeiria yr awdwr, ac felly nid at allu gair Duw i gosbi, ond atei allu i dreiddio. Gail hyny, ffigwr sydd yma, (wedi ei fenthyca o Philo) , i osod allan yr hyn a ddywedir am air Duw yn y geiriau dilynol. Ond y mae y gair yn/wy llym hyd yn nod na chleddyf daufiniog, oblegid nad yw cleddyf neu ddager yn treiddio ond yn unig trwy f ater, tra y mae y gair yr cyrhaeddyd trwodd hyd at enaid ac ysbryd.

Gwananiad enaid ac ysbryd, &c. Y mae amryw olygiadau gar esbonwyr ar ystyr y frawddeg anhawdd hon. 1. " Yn treiddio trwy j cymalau a'r mêr, hyd nes gwahanu yr enaid a gwahanu,yr ysbryd. " 2 " Yn treiddio hyd nes gwahanu yr enaid a gwahanu yr ysbryd a gwahanu y cymalau a gwahanu y mér." 3. " Yn treiddio hyd nes gwahanu yr enaic a gwahanu yr ysbryd, hyny yw, eu cymalau a'u mér." 4. " Yn treiddic hvd nes gwahanu cymalau a gwahanu niêr yr enaid a'r ysbryd." 5. " Yr treiddio hyd nes gwahanu yr enaid oddiwrth yr ysbryd, y cymalau oddiwrtt y mêr." 6. " Yn treiddio hyd at y man lie y mae yr enaid yn gwaham; oddiwrth yr ysbryd, ac hyd at y man lie y mae y cymalau yn gwahanu oddiwrth y mêr. Ni a ystyriwn y golygiadau hyn, y naill ar ol y llall:— 1. Yr wrthddadl yn erbyn y golygiad cyntaf, yr hwn a gynygir gan Ken- dall, ydyw ei fod yn gosod allan allu y gair i dreiddio trwy y cymalau a'r mêr fel pethis-wasanaethgar i'r gwaith o wahanu yr enaid a'r ysbryd; ond, os nad ydym i ddeall y geiriau ''cymalau" a "mér" raewn ystyr anian- yddol, y mae y gair eisoes wedi gwahanu enaid ac ysbryd wrth dreiddic trwy y cymalau a'r mêr; a thrachefn, os deallir y geiriau " cymalau " a " mêr" mewn ystyr anianyddol, y mae yn anhawdd deall pa fodd y mae y gair yn treiddio trwy gymalau a mêr y corph hyd nes gwahanu at enaid ac ysbryd. 2. Yr ail yw golygiad Delitzsch. Myn ef mai yr hyn a feddylii wrth y geiriau "enaid " ac "ysbryd " ydyw y rhan ysbrydol o ddyn,' yi hon sydd yn ymranu drachefn yn ddwy, y rliai ydynt y bywyd sydd yn tarddu o Dduw trwy greadigaeth, sef, " yr ysbryd," a'r bywyd sydd yn tarddu o'r ysbryd trwy uniad yr ysbryd â chorph, sef "yr enaid;" ac mai yr hyn a feddylii wrth y geiriau "cymalau" a " mêr " ydyw y rhan gorphorol o ddyn, y cymalau yn golygu galln y corph i ymsymud, a'r mêr ei allu i deixnlo. Yr wrthddadl yn erbyn yr esboniad hwn ydyw nad yw Delitzsch yn gallu, nac yn ceisio, cymhwyso y gair " gwahanu " at y rhanau corphoTol a enwii fel y cymhwysir ef at yr enaid a'r ysbryd. Y mae y gair yn barnu y rhan ysbrydol o'r dyn fcrwy wahann yr enaid oddiwrth yr ysbryd, yn ol golygiad Delitzsch; ond ni ddeegrinr ef gan Delitzsch f el yn tarnu cyflwr y eorph trwy wáhann y gallu i ymsymud oddiwrth y gallu i deimlo. Arweinia hyn ni at wrthddadl arall, set fod Delitzsch, wedi'r cwbl, yn t^bonio y gair "gwahanu." pan y cymhwysir ef at y cymalau a'r mêr, mewn ystyr foe^ol; ac, am hyny, y mae yn rhaid deall y geiriau "cymalau " a " mcr " hefyd mewn ystyr foesol, sef i ddynodi effeithiad y cwymp ar gorph dyn ; ond nid oes dim cymhwysder yn y geiriau "cymalau" a " mër " i ddynodi hyny mwy na'r gair "corph" ei hun. 3. Y trydydd golygiad a dderbynir gan liaws o esbonwyr. Yr wrthddadl yn ei erbyn ydyw fod yr awdwr yn gadael y dull ffigyrol o lefaru pan y'sonia am yr enaid a'r ysbryd, a'i fod yn dychwelyd at y dull ffigyrol yn y geiriau '•eymalau" a " mêr." Nid ymddengys i mi fod nemawr o rym yn yr wrthddadl hon. Niigallwn gymhwyso at yr hen awduron re< lau rhetoreg y dyddiau pre^enol. Edrycher ar xii. 1. lie y mae yr awdwr yn defnyddio dull ffigyrol yn y gair "pwys," yn gadael y dull hwn yn y gair " i'echod," au yn dychwelyd iddo yn y gair " gyrfa." Y mae un rheawm o bLud y

44 SE, EPISTOL AT YR HEBEEAID.

13 a bwriadau y galon. Ac nid oes greadur anamlwg yn ei ohvg ef : eithr pob peth sydd yn noeth ac yn agored i'w lygaid ef am

golygiad hwn yn y gwreiddiol, sef fod yr awdwr yn defnyddio y gair gwreiddiol te ar ol y gair a gyfieithir " cymalau." Awgryma y gair fod y geiriau " cymalau" a " mêr" yn israddol i'r geiriau " enaid ac ysbryd," ac nid yn gydradd â hwynt. 4. Y pedwerydd jm? golygiad Hofmaun. O ran ystyr y mae yn gyffelyb i'r trydydd golygiad. Yn nghystrawen y frawddeg y mae y gwahaniaeth, ac y mae yn rhaid cydnabod ei fod yn gwneyd y frawddeg yn anhawdd ac afrosgo o ran gramadeg. 5. Y pumed golygiad yw esboniad Bengel ac eraill. Ond y mae gwrthddadl gref yn ei erbyn, sef nas gellir gweled unrhyw ystyr mewn dyweyd fod gair Duw yn gwahanu y cymalau oddiwrth y mêr, pa un bynag ai yn anianyddol ai yn ffigyrol y deallir y geiriau. 6. Y mae yr un wrthddadl yn erbyn y chweched golygiad ag sydd yn erbyn y pumed. Ar y cyfan ymddengys y trydydd golygiad y mwyaf tebygol. Y mae gair Duw, y datguddiad a roddodd Duw o'i fwriadau dan wahanol oruchwyliaethau, ac yn ddiweddaf oil yn ei Fab, yn treiddio trwy y dyn hyd nes gwahanu ei enaid a'i ysbryd. Gwa- hana gymalau yr enaid a'r ysbryd; hyny yw, treiddia hyd at y man hwnw lie y mae yr enaid yn ymwahanu oddiwrth yr ysbryd, y bywyd is ac anianol oddiwrth y bywyd goruwehnaturiol. Gair Duw sydd wedi datguddio i ddyn ei fod yn meddu ar ysbryd yn gystal ag enaid, ac wedi ysgar rhwng y dyn anianol neu eneidiol a'r dyn ysbrydol. Ond drachefn, nid yn imig treiddia at gymalau neu gwlwin cyssylltiad yr enaid a'r ysbryd, ond treiddia hefyd at eu mêr, at ranau tufewnol yr enaid ac â imewn i'r ysbryd hefyd; gan farnuy naturiol, megisnwydau, deall, cydwybod, a'r goruweh- naturiol, sef y dyn newydd, yr hwn sydd yn barnu pob peth, tra na fernir ef gan neb na dim ond gair Duw.

Yn barnu meddyliau a bwriadau y galon ; yn hytrach, "yn barod i farnu meddylfrydau ac egwyddorion y galon." Oddiwrth y syniad fod gair Duw yn treiddio y mae yr awdwr yn myned yn mlaen at amcan ac effaith y treiddgarweh, sef at allu y gair i farnu y pethau a geir yn mêr yr enaid ac yn mêr yr ysbryd. Y galon ydyw y canol-bwnc yn yr enaid, yn y dyn anianol, a'r canol-bwnc yn yr ysbryd, yn y dyn ysbrydol. Ond y mae yn y galon dueddiadau neu feddylfryd y rhai sydd yn cynyrchu ewyllysiad ; ac y mae yn y galon egwyddorion sefydlog, y rhai sydd yn ffurfio crediniaeth ac athrawiaethau dyn. Treiddia gair Duw at y naill a'r Hall a barna eu nodweddion moesol a'u gwerth crefyddol. Golyga y gair a gyfieithir yma yn y Bibl Cymraeg yn "feddyliau" yn hytrach y syniad o feddylfryd neu fwriadau; a golyga y gair a gyfieithir "bwriadau" yn hytrach y syniad o feddyliau neu egwyddorion.

ADN. 13. Dengys yr adnod flaenorol dreiddgarweh gair Duw; gesyd yr adnod hon allan mor eang ydyw gwelediad llygaid Duw. Y gair yw y barnwr, ond y llygaid sydd yn cyniwair trwy yr holl ddaear ac yn dwyn pob achos gerbron y barnwr yn ei holl gyssylltiadau. Golyga lliaws o esbonwyr mai llygaid y gair, nid llygaid Duw, a feddylir. Y'mddengys y fath ymadrodd i mi yn annaturiol, yn enwedig pan y dywed yr awdwr, " â'r hwn y mae a wnelom," yn niwedd yr adnod.

Anamlwg. Ystyr y gair ydyw nad oes un creadur yn aneglur, megis yn y niwl, heb fod ei amlinelliad yn hollol glir, i olygon Duw.

Noeth. Nid yn unig y mae yr amlinelliad yn glir, ond y mae pob rhan o'r creadur yn noeth i'w olygon, heb orchudd arno.

Agored. Y"styr llythyrenol y gair ydyw " gafael yn ngwddf gwrth- wynebydd." Ond y mae yn anmhosibl dyweyd i sicrwydd yn mha ystyr

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. 45

vr hwn yr ydym yn son. Gan fod wrth hynny i ni Arch- 14

y mae y gair yn cael ei gymhwyso yn yr adnod hon, am na cheir y gair end yn y lie hwn yn y Testament Newydd. Barna rhai fod yma gyfeiriad at yr anifeiliaid yr agorid eu gyddfau i'w haberthu. Ond nid oes un man arall lie y defnyddir y gair yn yr ystyr hwn. Barna eraill nad oes dim mwy i'w olygu na " dynoethi," fel y dynoethir gwddf ymladdwr gan ei wrthwynebydd. Yr wrthddadl ydyw nad oes dim mwy yn cael ei gynwys, yn ol y golygiad hwn, yn y gair nag a ddywedwyd eisoes yn y gair "noeth." Ymddengys i mi fod Aliord yn gywir, pan y sylwa y dylem fabwysiadu yn y lie hwn yr ystyr sydd i'r gair yn Philo, yr hwn sydd wedi dylanwadu yn f awr ar ieithwedd yr Epistol ; ac yn Philo nnig ystyr y gair ydyw " cydio mewn dyn gerfydd ei wddf," "llorio" gwrth- wynebydd. Dichon fod y gair blaenorol, " noeth," yn awgrymu i feddwl yr ysgrifenydd y gyffelybiaeth o ymladdwyr, y rhai sydd wedi ymddiosg i'r ornest. Y mae Duw fel ymorchestwr wedi rhedeg yn y gwddf fw wrthwynebydd ac wedi ei lorio. Gwell gadael ar yr ystyr ffigyrol yna, heb ychwanegu teimlad y gwrthwynebydd, "down-cast" (Kendall).

Am yr hwn yr ydym yn son. Cam-gyfieithiad yw hwn. Daeth i'r Bibl Cymraeg o gyfieithiad Luther. Dylem ddarllen, " â'r hwn y mae a wnelom;" fel y dywedir yn 1 Bren. ii. 14, "Y mae i mi air â thi." Dyma y cyfieithiad llythyrenol, a chynwysa fwy na bod yn rhaid i ni roi cyfrif i Dduw, yr hyn yw eglurhad yr csbonwyr Grocgaidd. Y mae y geiriau hyn yn orpheniad cymhwys i'r ymdrafodaeth am unobiaeth bygythion ac addewidion Duw, ac yn barotoad cymhwys i'r anogaeth i lynu yn ein proffes. Gwell gan hyny, ydyw peidio cymmeryd y geiriau fel eglurhad ar pwy a feddylir wrth yr "ef." Y maent yn frawddeg bron ar ei phen ei hun: hwn y mae a wnelom."

IV.— Yr ArchofFeiriad Mawr. iv. 14— r. 10.

ADN. 14.— Y mae cypsylltiad, i ddechreu, rhwng yr adnod hon a'r adnod flaenorol. "A hwn y mae a wnelom." Ond cynwysa hyny, nid yn unig ein bod i roddi cyfrif iddo, ond hefyd ein bod i'w arddel yn eofn gerbron dynion. "Am hyny, glynwn yn ein pro fifes." Yr un pryd, er y cyssylltiad hwn, y mae yr awdwr yn dechreu adran newydd o'i Epistol. Pwnc yr adran ydyw Archoffeiriadaeth Frenhinol Crist. Yn y cychwyn gofala yr awdwr grynhoi i ychydig eiriau gynwys y cwbl y mae efe eisoes wedi ei enill er dechreu yr Epistol. Gwyddom erbyn hyn fod Duw wedi llefaru wrthym ni mewn Mab, yr hwn svdd yn fwy na'r angelion ac yn gynrychiolydd dyn, ac fod yr Iesu hwn wedi myned at Dduw fel y cyfryw. Crynhoad o hyn oil ydyw dyweyd ei fod yn Archoff eiriad Brenhinol ; a chan fod i ni Archoffeiriad yr hwn sydd hefyd yn un mawr, arddelwn ef .

Gan fod genym. Gesyd yr awdwr bwyslais, yn sicr, ar y gair " genym," fel y gall unrhyw ddarllenydd ganfod yn y gwreidcQol. Ysgrifenai at bobl oeddynt wedi colli y cwbl, eu hanibyniaeth cenedl- aethol, yr oruchwyliaeth o grefydd a osodasai Duw ei hun yn eu plith ; a phan yr oedd yr Epistol yn cael ei ysgrifenu dichon fod lluoedd y Rhufeiniaid eisoes yn parotoi i warchae ar y ddinas sanctaidd a llosgi y deml. Ond yr oedd ganddynt eto eu Harchoffeiriad Mawr. "Wrth feddu yr Archoffeiriad, enillent yn ol mewn ffurf fwy ysbrydol a pharhaus y cwbl a gollasent mewn ffurf ddaearol. Oblegid yr archoffeiriad oedd enaid yr hen oruchwyliaeth ; gan mai amcan y sefydíiad oil oedd dwyn cymod trwy

46 TR EPISTOL AT YR HEBREAID.

offeiriad maw, yr hwn a aeth i'r nefoedd, Iesu Mab Duwt

15 glynwn yn ein proffes. Canys nid oes i ni Arch -offeiriad heb

fedru cyd-ddi'oddef gyd â'n gwendid ni; ond wedi ei demtio

aberth, a dygid y cymod i niewn trwy ymddangosiad yr Archoffeiriad gerbron Duw yn y sancteiddiolaf. Os ydyw yr Archoffeiriad, gan hyny, ganddynt, y mae ganddynt yr hyn oil sydd yn werthfawr yn yr oruchwyl- iaeth oedd yn awr yn ei flurf weledig yn trengu.

Mawr; Archoffeiriad sydd yn ychwauegu at ei Archoffeiriadaeth swyddogol fawredd personol, fel Mab Duw ae fel Dyn. Y mae efe yn Archoffeiriad yny cysegr ac yn Frenhin ar ei orsedd.

Yr hwn a aeth i'r nefoedd; yn hytrach, "wedi myned trwy y nefoedd." Efe a aeth "i'r nef" (ix. 24) ond "trwy y nefoedd." Aeth trwy bob nef is i'r nef ei hun, i'r nef yn ystyr uwchaf y gair, i gartrefle Duw. Gesyd y ddau ymadrodd gyda'u gilydd allan y syniad o Arch- offeiriad a Brenhin. Fel Archoffeiriad efe a aeth i'r nef uwchaf i ym- ddangos gerbron Duw. Ond nis gallasai fyned yno heb fod yn ddigon "mawr" yn ei Berson i fyned trwy yr holl nefoedd is ac eistedd ar ddeheulaw Duw.

Iesu; r Dyn, fel y desgrifiwyd ef yn yr ail benod. At hyn, yr wyf yn tybied, y mae y cyteiriad, ac nid at Josua yn tywys Israel i Ganaan (adn. 8), fél y myn rhai.

Mab Duw ; iel y desgrifiwyd ef yn y benod gyntaf .

Glynwn yn ein proffes; yn ein harddeliad ohono fel Mab Duw ac fel Dyn, fel Archoffeiriad a Brenhin. Gwel x. 2o.

ADN. 15. —I ddangos mawredd yr Iesu, dechreua yr awdwr ar y desgrihad o Iesu fel Archoffeiriad. Crybwylla ddwy elfen yn ei fawredd personol o*r adn. hon hyd v. 10, sef cydymdeimlad ac awdurdod. Sonia yn gyntaf am ei gydymdeimlad, er rnwyn calonogi ei ddarllenwyr yn wyneb y desgrifiad arewydlawn a roddasai yn yr adnodau blaenorol o air Duw. Os yw y gair yn iarnwr llym. y mae Iesu yn 11 awn o gydymdeimlad â ni : ac os oea a wnelom á Duw a ẃyr bob pt th, y mae a wnelom âg Archoffeiriad a ŵyr am ein holl ẁendidao, ac sydd wedi ei amgylchu à gwendidau. a'i demtio ymhob peth yn gyffelyb i ninau.

Cyd-ddyoddef ; yn hytrach, "cydymdeimlo." Gwel x. 34. Nid yr un gair yn hollol a ddefnyddir yn Rhuf. viii. 17 a 1 Cor. xii. 26 am "gyd" ddyoddef."' Old yma nid at ddyoddefiadau Crist y cyfeirir, ond at ei dosturi yn y nefoedd.

Wedi ei demtio; neu "eibroö." Y mae ei dosturi yn y nefoedd yn codi o*i demtasiynau ar y ddaear. Am ei fod wedi ei gyd-demtio neu ei gyd-brofi y mae efe yn gallu cyd-ymdeimlo. Pa un ai ei brofi gan Dduw ai ei demtio gan ddiafol a feddylir? Y naill a*r Hall. Arweiniwyd ef i fyny i'r anialwch gan Ysbryd Duw i'w demtio gan ddiafol. Yr oedd y ddau hefyd o flaen meddwl yr ysgrifenydd sanctaidd yn yr adn. hon. Oblegidymae y geiriau "heb bechod" yn cynwys eifod wedi ei demtio i bechu: ac y mae y geiriau " yr un ffunud" fel y maent yn y gwreiddiol yn golygu* fod ei demtasiynau yn brawf hefyd, wedi ei osod arno gan Dduw ac wedi ei drefnu yn ol cyffelybrwydd y prawf sydd yn gorwedd yn ein temtasiynau ninau.

Ym mhob peth. Ymddengys i mi mai nid yr ystyr ydyw fod yr Iesu wedi ei demtio ymhob peth neu â phob math o demtasiwn â'r hon y temtir ni, ond ei fod wedi ei demtio yn ei holl demtasiynau ef yr un ffunud ag y temtir ni yn ein temtasiynau ninau. Nid oedd dim an gen iddo gael ei demtio i bob math o bechod tuag at iddo allu cydymdeimlo â ni; ond yr.

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. 47

ym mhob peth yr un ffunud â ninnau, etto heb bechod. Am 16

oedd angen i'w demtasiynau fod yn gyffelyb i'n temtasiynau ninau yn yr elfenau hyny sydd wrth wraidd pob temtasiwri.

Yr un ffunud ; yn hytrach ac yn fwy llythyrenol, " yn ol cyffelyb- rwydd." Gwel Rhuf. viii. 3 ; Phil. ii. 7. Yr ystyr ydyw fod ein prawf ni wedi ei gymmeryd gan Dduw fel cynllun yn ol yr hwn y trefnodd efe brawf yr Iesu. Dywed yr awdwr hyn i egluro paham y temtiwyd yr Iesu i bechod. Yr oedd yn ein gwendidau ni elfen bechadurus, felV dywedir yn v. 3, fod yr Archoffeiriad dynol, oblegid y gwendid a'i hamgylchai, yn offrymu dros ei bechodau ei hun. Er mwyn i'r Iesu, gan hyny, aìlu cydymdeimlo â'n gwendidau ni, rhaid oedd iddo gael ei brofi gan Dduw yn ol ff'urf ein gwendid ni, sef trwy gael ei demtio i bechu.

Etto heb bechod. Nid y-w y gair " eto " yn y gwreiddiol. Er hyny eglurha yr ystyr yn gywir. Temtiwyd yr Iesu yn ol cyffelybrwydd ein temtasiynau ni, hyny yw, temtiwyd ef i bechu. Ond ni phechodd. er ei demtio i hyny. Yn sicr nid yr ystyr ydyw ei fod wedi ei demtio ymhob peth, oddieithr i bechu. Ni oddef y geiriad yr ystyr hwn ; ac nid yw yn wir. Fe demtiwyd, ond ni hudwyd, yr Iesu i bechu.

[NODiAn.— Ni pherthyn i eshoniadaeth freisio ateb y ewesliyuan duwinyddol am Berson Crist a awgrymir yn naturiol oddiwrth yr atinod hon ; megis, A oedd yn bosibl i Grist bechu ! Nid yw gerriau y Testament Newyddyn rhoi unrhyw le o gwbl i ni dybied fod yr ysgTifenwyr sanctaidd yn teimlo .anhawsder yn y fath ymholiad. Dysgant yn egltur fod Iesu Oris! yn Fab Duw ac yn lab Dyn, ac eto mai Cn ydyw. Oddiwrth hyn y mae y casgliad a dyn odd Athanasins yn canlyn o anprenrheidrwydd mai Duw oedd Iesu Grist ynddo " ef ei hun," neu, i ddefnyddio y gair a ddaeth i arferiad yn y ganrif ddflynol nr ol Athanasins, yn ei "jBerson," ac nid dyn; oblegid ni pheidiodd ;\ bod yr hyn ydoedd, sef Mab Duw. pan y daeth i i'od yr hyn na fuasai o'r blaen, yn Fab Dyn. Ond os Person Dwyfol ydoedd pan yn cael ei demtio, yna y mae vn dilyn nas gallasai bechu, gan mai gweithred bereonol ydyw pechu. Er hyny yr oedd ei demtasiwn yn wirioneddolj i-ran ei fod yn ddyn. a chan fod ei holl demtas- iynau yn apelio at wendidau dibechod ei ddynoliaeth. Ni fyddai yn weddus myned ymhellach na hyn mewn ymdriniaeth ar y pwnc yn y llawlyir hwn.]

ADN. 16. Agoshau at Dduw ydyw anogaeth fawr yr Epistol. Gwel x. 19, He y mae ymresymiad yr Epistol yn gorphen, ar wers ymarferol yn gorphwys ar holl athrawiaeth yr Epistol. Y wers ydyw agoshauat Dduw. Ond yn y bedwaredd benod y mae yr anogaeth yn daì cyssylltiad â'rhyn v ddywedir yn yr adnodau blaenorol am Dduw fel barnwr, á'r hwn y mae a wnelom. Rhaid i ni ymddangos ercrbron ei frawdle. Ond gan fodgenyra Archoffeiriad mawr, yr hwn a all gydymdeimlo á ni. nesawn at orsedd y barnwr yn hyderus, gan gofio mai gorsedd i roddi gras ydyw. Diau fo<l gweddio yn gynwysedig yn hyn : ond y mae mwy na gweddio mewn agoshau at orsedd gras. Cynwysa fod hoîl fywyd ein hysbryd yn gym- deithaa a Duw.

Dru^aredd ; neu " dosturi," sef y tosturi sydd yn nghydymdeimlad yr Archoffeiriad a'n gwendidau ni.

Gras ; sef y ffafr heb ei haeddu. yn cynwye maddeuant o'r pechodau sydd ynglyn a'n gwendidau ni. Dichon fod yebydig wahariiaeth rhwng " derbyn " a " chael." Y mae y geiriati yn y gwreiddiol yn awgrymn mwy o wahaniaeth na'r geiriau Cymraeg. Y mae y pechadur yn myned at yr orsedd am drugaredd; ond y mae yn en»'1, nid trugaredd yn uni?. ond hcfyd maddeuant a chymhorth at y dyfodol, yr hyn yr oedd wedi bod yn chwilio am dano mewn llawer man. ac yn methu dyfod ohydiddo. hyd nes y daeth at orsedd gras Yno y ' ' daeth o hyd ' * i ras. Gwel nodiad ar ix. 12 .

48 YR EPI6T0L AT YR HEBREAID.

hynny awn yn hyderus at orsedd-faingc y gras, fel y derbyniom drugaredd, ac y caffom ras yn gymmorth cyfamserol.

PENOD V.

1 /^ANYS pob arch- off eiriad wedi ei gymmeryd o blith dynion, \J a osodir dros ddynion yn y pethau sydd tu ag at Dduw, fel

2 yr offrvmmo roddion ac aberthau dros bechodau: Yr hwn a

Yn gymhorth cyfamserol. Yr ystyr ydyw "cymhorth mewn pryd."' cyn iddi fyned yn rhy ddiweddar. C'afodd y pechadur ras pan ai fin anobaith ac ar ymylon colledigaeth.

PEN. V. ADN. 1. Prawf ydyw yr adn. hon o'r hyn a ddywedwyd am gydymdeimlad ein Harchoffeiriad ni. Rhaid ei fod yn gallu cydym- deimlo, oblegid nid yn nnig y mae wedi ei demtio yn ol cynllun ein tem- ta.-iynau ninau, ond, yn nihellach, pe nas gallai gydymdeimlo, ni byddai yn deilwng i fod yn Archoffeiriad. Canys cymmerir pob archoffeiriad o blith dynion, a gosodir ef dros ddynion. Rhoddwyd y gyfraith trwy gyfryngdod angelion ; ond ni osodwyd angel erioed yn archoffeiriad. Y rheswm ydyw iod cydymdeimlad yn angenrheidiol mewn archoffeiriad.

Wedi ei gymmeryd ; yn hytrach, " gan mai o blith dynion y cymmerir ef ." Nid yr ystyr ydyw fod yr archoffeiriaid Iuddewig wedi eu cymmeryd o blith dynion, mewn cyferbyniad i Grist, yr hwn oedd yn fwy na dyn. >si oddef y gwreiddiol yr ystyr hwn. Dangos y mae yr awdwr fod Crist yn hyn yn debyg i bob archoffeiriad arall, yn cael ei gymmeryd o blith dynion -er mwyn medru cydymdeimlo. Ond y mae yn werth sylwi fod yr awdwr yn coffau yn y lie hwn am nodwedd yn yr archoffeiriaid Iuddewig na chrybwyllir yn un man yn yr Hen Destament na'r Xewydd. Nid yw yn ymddangos fod neb o dan yr hen oruchwyliaeth wedi sylwi ar, nac wedi derbyn unrhyw gysur oddiwrth, gydymdeimlad dynol yr archoffeiriaid. Oolyga y gair a gyfieithir " a gymmerir " fod pob archoffeiriad yn olynol, y naill ar ol y Hall, yn cael ei gymmeryd o blith dynion.

Dros ddynion. Pwysleisier y geiriau hyn. Gosodir yr archoffeiriad i bleidio, i gynrychioli, i eirol ; y mae cydymdeimlad yn rhan o'i gym- hwysder i sefyll dros ddynion gerbron Duw yn gystal ag i gynorthwyo y rhai a demtir.

Yn y pethau a berthyn i Dduw; yn hytrach, "yn y pethau «ydd tuag at Dduw ;" hyny yw, yn gystal âg yn y pethau sydd tuag at y pechadur ei hun, i'w gynorthwyo yn ei wendid.

Rhoddion ac aberthau. Y mae cydymdeimlad archoffeiriad i gynwys dau beth. Y naill yw gallu i deimlo yr unfath â'r pechadur, fel ag i gynrychioli a chyfrwyno ei deimlad ef gerbron Duw. Hyn a olygir yn y gair " rhoddion." Cyflwyna yr Archoffeiriad, yn ei gydymdeimlad, ddiolchgarwch addolgar y pechadur edifeiriol a'r rhoddion y mae y diolchgarwch hwnw yn ei gymhell ef i'w hoffrymu. Y llall yw gallu i deimlo dros y pechadur, fel ag i gyflwyno ' ' aberth " digonol i foddloni Duw ar ei ran. Gi.n hyny, ni byddai na " rhoaaion " nac " aberthau" yn cynwys y cwbl sydd yn anghenrheidiol i ddatgan holl gydymdeimlad archoffeiriad, heb y ddau gyda'u gilydd. Er hyny, gellir, ac fe ddichon y dylid, cyssylltu y geiriau " dros bechodau" â'r holl ymadrodd '-ofrrymu Thoddion ac aberthau."

ADN. 2.— Yr hwn a ddichon dosturio. Prin y mae y gair ■"tosturio " yn dangos yrystyr. Nis gwn am well esboniad ar yr ymadrodd

YB EPISTOL AT YE HEBREAID. 4^

ddichon dosturio wrth y rhai sydd mewn anwybodaeth ac amryfusedd; am ei fod yntau hefyd wedi ei amgylchu â gwendid. Ac o achos hyn y dylai, megis dros y bobl, felly 3 hefyd drosto ei hun, offiyTiimu dros bechodau. Ac nid yw neb 4

gwreiddiol na'r hyn a ddywed Dr. Thomas : " Y mae y gair, dybygid, yn golygu y tynerwch teimlad hwnw tuag at un a fyddo wedi troseddu, ag sydd yn gorwedd megis yn y canol rhwng llymder eithafol ar y naill law, a'r anwes diofal, y meddalwch difeddwl a diyni, os nad diegwyddor, neu ynte y caledwch dideimlad, ar y Haw arall, a all oddef pob peth yn gwbl ddigynhwrf." Cyfleithiad rhagorol sydd gan yr Esgob Davies : -Yx gymhesurol gydsynio cyflwr." Wrth gydsynio y golyga, yn ddiau» ystyried, barnu. Gelwid ar yr arehoffeiriad i farnu troseddau, pa un a oeddynt y cyfryw ag y gellid offrymu aberth drostynt yn gyfreithlawn ai nid oeddynt. Yr oedd o bwys, gan hyny, ei fod ef yn àbl i roi barn gyfiawn. Ehaid cyssylltu y geiriau yn dỳn â'r geiriau blaenorol, fel hyn: ' ' fel yr offrymo roddion ac aberthau dros bechodau yn rhinwedd ei aliu i roi barn dèg, heb ormod llymder na gormod meddalwch." Er mwyn iddo allu gwneyd hyn fel hyn y dewisir ef o blith dynion.

Wrth y rhai sydd 'mewn anwybodaeth ac amryfusedd. Xid oedd aberth i'w roi dros bechod mewn rhyfyg (Num. xv. 30] . Ifewn penderfynu pa un ai peehod o amryfusedd ai o ryfyg oedd unrhyw weithred y deuai gallu yr arehoffeiriad i roi barn gyfiawn i'r golwg. Ni ddylid anghofìo y gwahaniaeth rhwng "anwybodaeth" ac "amryfusedd." Gellid rhoi aberth am droseddau a gyflawnid yn anwybodol eu bod yn droseddau, sef " mewn anwybodaeth," ac hefyd am y trossddau a gyflawnid dan ddylanwad nwyd bechadurus natur lygredig, sef "mewn amryfusedd" (hyny yw, "heb ryfyg"), neu "mewn cyfeiliorni " oddiar" lwybr y gorchymynion. Y peehodau nad ellid rhoi aberth drostynt oedd y troseddau a gyflawnid, nid yn an-rhyfygus, ond mewn rhyfyg ; hyny ydyw, yn wyneb gwybodaeth a rhybudd, yr hyn sydd gyfystyr â " chablu yr Arglwydd."

Wedi ei amgylchu. Y mae holl agweddiad ei fywyd amgyleh ogylch gerbron dynion yn dangos y gwendid sydd ynddo. Gŵyr dynion am ei wendidau, a gŵyr yntau eu bod yn gwybod. Tuedda hyn i'w wneyd yn wyliadwrus a phwyllog wrth roi barn ar droseddau dynion. Y mae yn eglur mai gwendid pechadurus a feddylir, gan fodyr adn. nesaf yn dyweyd fod yn rhaid iddo offrymu drosto.

ADN. 3.— Ac o achos hyn. Gwell yw cyssylltu yr adn. hon a'r gair "am" yn yr adn. flaenorol : " ac am y dylai o achos (y gwendid) hwn." Y meddwl yw fod hyn hefyd yn tueddu i beri iddo roi barn gyfiawn; oblegid y mae efe dan angenrheidrwydd i aberthu dros ei bechodau ei hun yn gystal â phechodau dynion eraill." Gwel Lef xvi. 6, 11, 15; pen. vii. 27. ADN. 4. Wedi dangos cydymdeimlad yr Arehoffeiriad Mawr, try vr awdwr at y cymhwysder arall sydd ynddo, sef awdurdod gosodiad. Gosodir pob arehoffeiriad gan Dduw, a chan Dduw y gosodwyd Crist i fod yn Arehoffeiriad. Y rheswm nad oes neb i gymmeryd yr archoffeiriadaeth iddo ei hun ydyw mai ' 'anrhydedd" yw y swydd. Ehodd un o uweh safle yw pob awdurdod. Y mae gwahaniaeth barn yn mhlith yr esbonwyr yn nghyìeh eyssylltiad y ddau srymhwysder o gydymdeimlad agosodiad ynmeddwl vr awdwr. Barna Davidson mai prif amean yr adnodau ydyw dangos cydymdeimlad Crist, ac mai i'r dyben o ddangos hyny y dygir imewn ei ddwyfol osodiad i'r swydd; oblegid y mae y ffaith mai Duw a'i gosododd yn ddigon i brofi ei fod yn meddu y cymhwysder mawr o gydymdeimlad.

50 YR EPISTOL AT YR HEBREAID.

yn cymmeryd yr anrhydedd hwn iddo ei hun, oud yr hwn a

5 alwyd gan Ddirvr, megis Aaron. Felly Crist hefyd nis

gogoneddodd ei hun i fod yn Arch-olieiriad ; ond yr hwn a

Ond y mae y pwysigrwydd arbenig a roddir ar y gosodiad yn adn. 4 yn gwneyd yr esboniad hwn, i fy nieddwl i, yn annaturiol. Barna Bruce, ar yr ociir arall, rnai y gosodiad gan Dduw yw y prif syniad, a bod yr awdwr yn son am g} lymdeimlad Crist i ddangos yr angenrheidrwydd am y gosodiad, gan fod cydymdeimlad yn tyb^ed gwendid personol, ac ymdeim- lad o annheilyngdod i ymgymmeryd â'r swydd ac o anallu i gyflawni ei gwaith, ac feìly na chymmerai Crist y swydd iddo ei hun heb ei alw gan Dduw. Ymddengys y golygiad hwn i mi yn llawn mor annaturiol â'r Hall, os nad yw fwy feìly ; obîegid, fel y cydnebydd Bruce, galwyd Crist i'r archoffeiriadaeth cyn ei ymgnawdoliad. A ydym i feddwl mai ei deimlad o wendid personol a wnaeth yr alwad yn angenrheidiol ? Y mae yr hen olygiad yn llawer gwell, fod yr awdwr yn enwi y ddau gynihwysder neillduol mewn archoffeiriad, sef cymhwysder personol a gosodiad swyddol. Dadleua Davidson nad oes cyssylltiad rhwng gosodiad i'r swydd à dim arall yn yr adnodau. Ond y mae cyssylltiad. Heb yr awdurdod i gynorthwyo y rhai a demtir, yn gystal â chydynideimlad. pa i'odd y gall yr Archoffeiriad Mawr ddenu neb i iiiuddhau iddo ac i ddyfod at orsedd y gras trwyddo p

Yr hwn. Y mae agos yr holl lawysgrifau henaf yn gadael y geiriau hyn allan, ac yn darllen, " ond am ei fod yn cael ei alw." Nid yw neb yn cymmeryd yr anrhydedd iddo ei ìmn, ond pan y gelwir ef gan Dduw, yna efe a gymer yr anrhydedd, gan ei fod yn cydnabod ei rwymedigaeth i ufuddhau i alwad Dow!

Megis Aaron; hyny yw, megis y cymmerodd Aaron y swydd, mewn ufudd-dod i alwad Duw. Efallai fod yr awdwr yn enwi Aaron oblegid fod Uawer un ar ol hyny, yn enwedig yn yr oesoedd diweddaraf , wedi cymmeryd y swydd iddo ei hun. Ond ni fyn yr awdwr gydnabod archoffeiriadaeth y dvnion drygionus hyny, ac â heibio yn ddisylw ohonynt mewn dirmyg. Yn unig awgiyma i'w ddarllenwyr fod pob cyfeiriad a wna yn yr holl Epistol at yr hen oruchwyliaeth yn golygu gosodiadau Duw trwy law Aloses. ac nid y llygredigaethau a ddaethant i mewn ar ol hyny.

ADN. 5. Crist; yn hytrach, "y Crist," sef y Messiah. Y mae yn wir mai Iesu Grist a feddylir, ond cyfeirir ato yn ei sef y Ufa dragwyddol ddiddechrcu, cyn ei ymgnawdoliad, pan y llefarodd Duwwrtho, " Fy Mab ydwyt ti." Dangoswyd eisoes (ar y benod gyntaf) mai athrawiaeth yr Epistol hwn ydyw fod y Crist yn bod fel Mab Duw cyn iddo ddyfod yn ddyn. Yn y sefyllfa hono ni chymmerodd iddo ei hun yr anrhydedd o fod yn archoffeiriad. Fel y dywed Paul am gydraddoldeb y Mab â Duw, na thybiodd ei fod yn beth i ddal gafael ynddo (Phil. ii. 6;, felly y dywedir yma am ei gydraddoldeb â dyn fel ei gynrychiolydd archoffeiriadol, na chymmerodd yr anrhydedd iddo ei hun. Gollyngodd ei af ael o'i gydraddol- deb â Duw, a derbyniodd ei archoffeiriadaeth dros ddynion, yn yr un ysbryd o ostyngeiddrwydd. Yr oedd y naill yn anrhydedd na fynai ei gadw ; a'r llall yn anrhydedd na fynai ei gymmeryd ond trwy roddiad Duw. Ac eto dywed Bruce mai y rheswm paham na fynai Crist ogoneddu ei hun i fod yn Archoffeiriad ydoedd fod y swydd yn cynwys marw a dyoddef . Xid " gogoneddodd" a ddywedasai yr awdwr, pe hyn fuasai ei feddwl; ac ni fuasai peidio cymmeryd y canlyniadau arswydlawn hyn iddo ei hun, heb ei alw, yn brawì' o ddiffyg gostyngeiddrwydd.

Gogoneddodd. Xid ' anrhydeddodd " a ddywedir yma, er mai

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. 51

ddywedodd wrtho, Tydi yw fy Mab ; myfi heddyw a'th gen- hedlais di. Megis y mae yn dywedyd mewn lie arall, Offeiriad 6 wyt ti yn dragywydd yn ol urdd Melchisedec. Yr hwn yn 7

" anrhydedd " yw y gair yn yr adn. flaenorol. Anrhydedd ydoedd i Aaron i fod yn archoffeiriad, oblegid awdurdod swyddogol ac allanol a olygid yn hyny. ( tod gogoniant ydoedd i'r Crist, oblegid yr oedd ei archoffeiriadaeth yn codi o'i fabolaeth ac yn gorphwys ar yr hyn ydyw yn ei Benson.

Ond yr hwn a ddywedodd wrtho, &c. Rhaid ychwanegu y geiriau " efe a'i gogoneddodd i fod yn archoffeiriad.'' Ond paham y sonii yma am fabolaeth Crist r Gwelsoni yn y benod gyntaf (adn. 5) mai nid at j dragwyddoi genedliad y Mab y cyfeiria yr ail Salin. yr hon a ddyfynii/ yno ac ynia, ond at ei osodiad yn ei frenhiniaeth. Y mae yn bosibl, gani hyny, mai y cwbl a fwriada yr awdwr ei ddyweyd ydyw mai yr un Duw a osododd Grist yn frenhin ac a'i gosododd hefyd yn archoffeiriad. Felly Dr. Thomas. Ond y mae y golygiad yna yn syrthio yn fyr : oblegid, yn gyntaf, i ba ddyben y dymuna yr awdwr hysbysu hyny r Yn ail, paham y sonia am ei osodiad i fod yn frenhin yn y geiriau sydd yn gosod allan ei fabolaeth? Yn drydydd, mae y gair " gogoneddodd " heb I i egluro yn y golygiad hwn. Gwell yw golygu fod archoffeiriadaeth y Crist yn anwahanol gyssylltiedig a'i frenhiniaeth. Trwy ei wneyd yn archofi'eirfad y gwnaeth Duw ef yn frenhin. Yr oedd ei arehoffeiriadatth yn " ogoneddiad ': brenhinol amo. Yn hyn yr oedd efe yn ol urdd Melchisedec, ac nid yn ol urdd Aaron. Derbyniodd Aaron "anrhydedd" wrth gael ei wneyd yn archoffeiriad, ond derbyniodd y Crist " ogoniant," hyny yw, brenhixnaeth. Drachefn, fel y mae ei frenhiniaeth yn gynwysedig yn ei archoffeiriadaeth, felly y mae y naill a'r Dall, ei frenhiniaeth a'i archoffeiriadaeth, yn gynwys- edig yn ei 'fabolaeth. Datganiad Duw o'i fabolaeth a'i gosododd yn frenhin ac yn archoffeiriad. Y mae holl swyddau Crist mt-wn gwirionedd yn gorwedd yn mynwes ei fabolaeth. Am ei fod yn Fab, y mae yn weinidog, yn brophwyd, yn frenhin, yn archoffeiriad, ac yn larnwr.

ADN. 6.— Y mae yr hyn a ddywedwyd ar adn. 5 yn dangofl mai y cyfuniad yn Nghrist o Archoffeiriad a Brenhin, a'r naill a'r Hall yn ei fabolaeth pereonol a thragwyddol, ydyw pwynt y gymhariaeth rhyngddo à Melchisedec. Grwel Salm ex. 4.

Offeiriad. Y rheswm paham na ddywed " archoffeiriad " yw mai nid cyferbynu gwahanol rengoedd yn yr oftciriadaeth yw amcan yr awdwr, ond dwyn at eu gilydd y ddwy urdd o frenhin ac offeiriad, a dyweyd fod y Crist yn llenwi y ddwy swydd.

Urdd. Ffurf Gymraeg ar y Lladin oritn- ydyw " urdd " (fel y mae y gair Saesoneg garden yn ymddangos yn Gymraeg yn y ffurf •• gardd ' : . Ei ystyr ydyw '' trefniad.'' Wrth "'urdd Melchisedec" y golygir y trefniad hwnw gan Dduw a osododd Melchisedec yn offeiriad ac yn frenhin.

ADN. 7. Wedi traethu am y ddau gymhwysder oedd yn Nghrist ifod yn Archoffeiriad Mawr. set cydymdeimlad a gosodiad, cyfuna yr awdwr y ddau gymhwysder ac ystyria Grist yn yr amgylchiadau hyny yn y rhai y mae ei gydymdeimlad yn cael ei ddyfnhau trwy y pethau a ddaethiddo fel canlyniadau ei osodiad, a'i osodiad yn cael ei gydnabod gan Dduw ar sail y cydymdeimlad hwnw. Y gair sydd yn dynodi yr amgylchiadau sydd yn codi o'i osodiad ac yn perffeithio ei gydymdeimlad ydywy gairnfndd-dód, adn. 8 ; a'r gair sydd yn dynodi fod Duw yn cydnabod ei osodiad mewn canlyniad i'w ufudd-dod ydyw " cyfenwi " neu " cyfarch," adn. 10.

52 YE EPISTOL AT YE HEBEEAID.

nyddiauei gnawd, gwedi iddo, trwy lefaincryf a dagrau, offrwm gweddiau ac erfyniau at yr hwn oedd abl iV achub ef oddi

Yn nyddiau ei gnawd, sef ystod ei fywyd ar y ddaear, pan yr oedd ei gorph yn gorph anianol (1 Cor. xy. 44), yn meddu cnawd a gwaed. Ond ?onir am ddyddiau ei gnawd yn yr adn. hon mewn cyferbyniad i'r sefyllfa oruchel yr oedd efe ynddi cyn ymgnawdoli, yn yr hon ni ogoneddodd efe ei him i fod yn Archoffeiriad (adn. 5). Yr oedd yr un nieddwl ynddo pan ar y ddaear ag oedd ynddo erioed, sef y nieddwl i ddarcstwng ei hun. Gwel Phil. ii. 8. Ond awgryma yr ymadrodd fcynod " dyddiau ei gnawd" fod bywyd Crist yn anad neb yn llawn gofid a dolur. Gwel Es. liii. 3.

Gweddiau ac erfyniau. Y mae y gair '•' gweddi" yn edrych at y fendith y gofynir am dani, a'r gair "erfyniad" at yr ysbryd taer a gostyngedig yn yr hwn y gofynir am y fendith. Gwel 1 Tim. ii. 1.

Oddiwrth. farwolaeth. Y cyfieithiad Uythyrenol ydyw "o," nid 11 oddiwrth,'' ac y mae yn rhaid ychwanegu mai " o " ydyw yr unig gyf- ieithiad cywir. Gwel y geirlyfrau, megis Geirlyfr Grimm. Is is gall y gair gwreiddiol olygu fod Crist wedi gweddio ar gael ei gadw rhag marw. Y mae yn bosibl mai at ei ddyoddefiadau y cyf eiria yr awdwr, a'i fod yn galw y dyoddefiadau yn farwolaeth. Ond nid yw y golygiad hwn yn hollol foddhaol. Paham y galwai yr awdwr y dyoddefiadau yn farwolaeth, a thrwy hyny ddefnyddio geiriad sydd, a dyweyd y lleiaf , yn amwys ? Yr unig ystyr naturiol ir geiriau ydyw fod Crist yn gweddio yn daer ar i Dduw ci achub ef allan o'i farwolaeth trwy adgyfodiad a gogoneddiad. Yr anhawsder ydyw mai nid hyn oedd gweddi yr Iesu, fel y rhydd yr efengyl- wyr hanes ei ing yn Gethsemane. Gweddiai, nid am gael ei adgyfodi i fywyd ar ol marw, ond am i'r cwpan fyned heibio oddiwrtho, na byddai iddo yfed ohono (Matt. xxvi. 42). Fod yr awdwr yn cyfeirio at ei ing yn yr ardd sydd ddiamheuol. Ond y mae yr un mor sicr nad o'r efengylau y cymmerodd ef yr hanes. Ni sonir ynddynt hwy am " lefain cryf " nac am 1 ' ddagrau." Pihaid ei fod yn ymddibynu ar draddodiad na chadwyd yn yr eglwys ond trwy yrEpistol hwn. Y mae, gan hyny, yn bosibl fod traddodiad hefyd am gynwys y weddi na cheir dim ohono yn yr Efengylau. Heblaw hyny, y mae gweddi am achubiaeth o farwolaeth yn cael ei rhoi yn ngenau y Gwaredwr gan y Salmydd (Salm xxi. 4; xxii. 14—19), ac mewn Salm arall (xlii. 3) ceir cyfeiriad at ei ddagrau. Ymddengys oddiwrth hyn fod yr awdwr yn cyfuno yr hanes yn yr Efengylau á rhagfynegiadau y Salmydd, ac, efallai, à thraddodiaci. ac yn cyfeirio, nid at y weddi yn yr ardd yn unig, -ond hefyd at ymbiliau yr le>a yn holl amgylchiadau ei farwolaeth, gan gymmeryd i mewn ei weddiau ar y groes (gwel Salm xxii. 17, 18).

Offrwm. Y gair hwn sydd yn dangos fod gweddiau yr Iesu yn rhan o waith ei archoffeiriadaeth. Gwel adn. 1. Y mae ing pechadur yn codi o'i ymdeimlad o euogrwydd. Gan nad oedd pechod yn Xghrist, yr unig fiordd i gynyrchu yn ei" enaid sanctaidd y cydymdeimlad gofynol ageing pechadur oedd tristwch hyd angau, cuddiad wyneb Duw rhagddo yn ei angau, ac ofn rhag i Dduw adael ei enaid yn Hades. Efe a offrymodd y tristwch a'r unigedd a'r ofn hwn i Dduw fel iawn dros bechodau y bobl. Yr oedd yn ei gydymdeimlad â'r pechadur iawn hefyd i Dduw. Ond y mae rhai esbonwyr galluog yn derbyn golygiad Hofmanri, fod yr offrwm hwrpyn cael ei gyflwyno gan Grist drosto ef ei hun. Y mae yn wir fod yr awdwr wedi galw sylw at y ffaith fod yr archoffeiriad dan yr Hen Destament yn oifrymu drosto ei hun 311 gystal â thros y bobl ; ac y mae yn anhawdd gAveled paham y crybwyllai hyny yn y He hwn, os nad i ddangos fod Crist he fyd yn cyflawni y cwbl a ddisgwylir oddiwrth arch?offeiriad . Yr un pry d,

YE EPISTOL AT YR HEBEEAID. 53

wrth farwolaeth, a chael ei wrandaw yn yr hyn a ofnodd ;

ni3 gallaf gredu fod yr awdwr yn dysgu fod angen ar Grist i offrymu dim drosto ei him. Yn gyntaf, dywed yn adn. 3 mai dros ei bechodau yr offrymai yr archoffeiriad wrth offrymu drosto ei hun; yn ail, dywed yn vii. 27, nad oedd Crist yn gyffelyb i'r archoffeiriaid Iuddewig, y rhai a aberthent dros eu pechodau eu hunain, ac y mae hyny yn cynwys mai dro3 y bobl yr offrymai, yr hyn sydd yn cau allan unrhyw offrymiad drosto ei hun; yn drydydd, amcan yr awdwr wrth son am yr an genrheidrwydd i'r archoffeiriad offrymu dros ei bechodau ei hun ydyw dangos pa fodd y cynyrchid cydymdeimlad ynddo â gwendidau y bobl, set trwy y teimlad o euogrwydd ynddo ef ei hun; ond cynyrchid y cydymdeimlad yn Nghrist trwy brofedigaethau, nid trwy euogrwydd. Felly y mae golygiad Hofmanu, er mor gywrain, yn camgymmeryd amcan yr awdwr wrth grybwyll am ddyoddefiadau Crist yn yr adnodau hyn.

A chael ei wrandaw yn yr hyn a ofnodd. Y mae amheuaeth wedi bod yn meddyliau cyfieithwyr ac esbonwyr er yr oesoedd boreuaf yn nghylch ystyr y gair eulabeia yn yr adnod hon, pa un ai y meddwl ydyw fod yr Iesu "wedi ei wrando a'i waredu oddiwrth ei ofn," ai ynte ei fod " wedi ei wrando oherwydd ei dduwiol barch." Defnyddir y gair weith- iau am " ofn" (megis yn y LXX. yn Jos. xxii. 24) ac weithiau am "dduw- iol barch" (megis yn pen. xii. 28). Dywed Bleek ac Alford nad yw y gair byth yn golygu arswyd, ond ei fod weithiau yn golygu ofn gwylaidd. Prin iawn y caniateir hyny bellach. Gwell yw cydnabod fod i'r gair ddau ystyr, ofn a duwiol barch. Felly rhaid penderfynu pa un o'r ddau ystyr a olygir yma oddiwrth y cyssylltiad y saif y gair ynddo. Y mae y syniad fod yr Iesu wedi ei wrando trẁy gael ei waredu oddiwrth ei ofn yn hollol gyson á'r hyn a ddywed yr efcugylwyr. Ymddengya yn sicr i'r Iesu golli ei ofn ar ol gweddio yn yr ardd. Ond cynwys#y golygiad hwn na wrandawyd gweddi yr Iesu yn hollol. Gweddiai am id do gael ei achub naill ai rhag marw neu ynte o farwolaeth. Dywed yr awdwr, yn ol yr eglurhad hwn ar y gair. ua wrandawyd ei weddiyn hyn. ondy gwrandawyd hi i raddau, sef hyd at beri iddo golli ofn marw. Kid ymddengya i mi o gwbl mai y geiriau sydd yn y gwreiddiol a ddefnyddiai yr awdwr i osod allan y syniad hwn. Dywedai yn hytrach iddo gael ei wrando hyd at gael ei waredu oddiwrth ei ofn (megis yr ymadrodd sydd yn Rhuf. xii. 13 . Ond ni fynwn roi nemawr o bwys ar hyn, gan fod dull o ymadroddi yn ymddangos i unyn naturiol sydd yn ymddangos yn annaturioli un arall. Yr wrthddadl benaf yn erbyn cyfieithu y gair yn "ofn" ydyw fod yr ystyr hwn yn tynu y frawddeg allan o rediad yr yinresymiad sydd yn yr holl adnodàuh yn. Dangos y mae yr awdwr fod Crist wedi dysgu ufudd- dod trwy y pethau a ddyoddefodd. Un angraifft o hyn ydyw ei weddiau a'i erfyniau, yn nghyda llefain cryf a dagrau. Yn awr, os ystyr y gair eulabeia ydyw "ofn," y mae yr awdwr yn troi oddiwrth y syniad hwn o gydymdeknlad ac ufudd-dod Crist i wneyd sylw, megis rhwng cromfachau, ei fod wedi cael ei wrando i fesur, sef hyd at golli ei ofn. Onid ydyw braidd yn anhebygol y buasai yr awdwr yn dwyn i mewn sylw nad yw yn ateb unrhyw ddyben yn yr ymresymiad? Ar y Haw arall, y mae yr ystyr o "dduwiol barch" yn hoilol yr hyn sydd eisiau i ddangoa perffeithrwydd ei ymostyngiad i ewyllys ei Dad. Efe a ddysgodd ufudd- dod trwy ddysgu ymostwng; ac fe ymostyngodd mor llwyr i Dduw fel, er ei fod yn offrymu gweddiau ac erfyniau gyda llefain cryf a dagrau am gael ei achub o ganol marwolaeth, eto gadawodd y dyfodol mewn duwiol barch yn Haw ei Dad. Er gofyn na adewid ei enaid yn Hades, gadawodd hyny

hi YE EPISTOL AT YE HEBEEAID.

8 Er ei fod yn Fab, a ddysgodd ufudd-dod trwy y pethau a ddi-

9 oddefodd: Ac wedi ei berffeithio, efe a wnaethpwyd yn

i Dduw. Yn awr, yn y perffaith ymostyngiad duwiol hwn y cafodd Duw lwyr foddlonrwydd, ac oblegid ei dduwiol barch gwrandawodd Duw ei weddi ac achubodd ef o farwolaeth. Ei ymostyngiad i ewyllys Duw a wnaeth ei weddiau yn offrwm archoffeiriadol. Ni adawyd ei enaid yn uffern, ac ni oddefwyd i Sanct Duw weled llygredigaeth ; dangoswyd iddo lwybr bywyd. Y mae yn deilwng o sylw mai yn yr ystyr o dduwiol barch y deallir y gair gan yr holl dadau Groegaidd. Ac felly hefyd y cyfieitha Jerom. Daeth yr ystyr arall " yn yr hyn a ofnodd " i'r cyfieith- iad Cymraeg oddiwrth Beza a chyfieithiad Geneva.

ÁDN. 8. Er ei fod yn Fab. Y mae yn briodol a naturiol i fab ufuddhau : ond yr oedd Duw yn gofyn ufudd-dod mor fawr gan Grist fel yr oedd ufudd-dod yn anhawdd, ac, er ei fod yn Fab, yr oedd yn angen- rheidiol iddo ddysgu ufudd-dod. Yr achos paham y gofynid ufudd-dod mor anhawdd oddiwrtho ydoedd mai Archoffeiriad oedd, ac ufudd-dod mawr, ie, y mwyaf, oedd yr hyn a foddlonodd Dduw yn ei offrwm areh- orfeiriadol. Nid yr ystyr ydyw i Grist ddyoddef er ei fod yn Fab, yr hwn nad oedd dan rwymau i ddyoddef. Y mae trefn y geiriau yn gofyn yr ystyr fod Crist wedi dysgu ufudd-dod, er ei fod yn Fab, i'r hwn y mac yn naturiol ufuddhau. Drachefn, nid yr holl ystyr ydyw fod Crist, er ei fod yn Dduw, wedi ymostwng i gymineryd ei wneuthur o wraig, ac, fel dyn, ddysgu, megis y mae pob plentyn arall yn dysgu, ufuddhau. Nid yw y golygiadhwn yn gosod arbenigrwydd ar fabolaeth Crist. Drachefn. nid yr ystyr ydyw mai trwy ci ddyoddefiadau y projwyd ufudd-dod Crist. Nid "profi" ydyw "dysgu."

Trwy y pethau a ddyoddefodd ; nid ynddynt yn unig, ond trwyddynt. Dyma un rheswin, o'r hyn lleiaf, dros ei ddyoddefiadau, fel y dysgai oddiwrthynt yr ufudd-dod llwyraf ac anhawddaf.

Üfudd-dod; yn llythyrenol ac yn well, "yr ufudd-dod," neu " ei ufudd-dod.*' Bef yr ufudd-dod neillduol hwnw a ofynid ganddo ef ac na ofynid gan neb arall. Cofier o hyd mai y gair hwn sydd yn datgan y syniad ychwanegol a gynwysir yn yr adnodau hyn o'u cydmaru â iv. 15. Yno sonir am gydymdèimlad Crist, a dywedir fod y cydymdeimliad hwnw wedi ffynonellu yn nghyffelybrwydd ei demtasiynau ef i'n temtasiynau ni. Yr oedd y cydymdcimìad hwnw yn gymhwysder ynddo i fod yn Arch- offeiriad. Ond yn y burned benod, nid cydymdeimlad yw y gair a ddef- nyddir, ond ufudd-dod. Yr un cymhwysder personol sydd yn y naill a'r Hall. Ond y mac ufudd-dod yn seiliedig ar osodiad, yr hwn yw y cymhwysder arall i'r archoffeiriacìaeth. Yn yr adnodau hyn, gan liyny, dengys yr awdwr y naill gymhwysder yn ei imdeb â'r Hall, y cymhwysder personol fel y mae yn seiliedig ar y cymhwysder perthynasol o osodiad i'r swydd. Drachefn, yn y ffurf o ufudd-dod y mae ei gymhwysder personol yn cynwys nodwedd a berthynai yn unig i Grist, ac nid i ni. Yr oedd ei demtasiynau wedi eu trefnu yn ol cynllun ein temtasiynau ni (iv. 15). Ond efe a ddysgodd hefyd ei ufudd-dod, sef yr ufudd-dod hwnw oedd yn ei dduwiol barch, yr hwn a gynwysai lawer mwy nag ymatal oddiwrth bechod; mwy naclim ufudd-dod a roddir i Dduw gan neb ond gan Grist.

ADN. 9. ^Yedi dangos cymhwysderau Crist i fod yn Archoffeiriad dywed yr awdwr na f uont yn ofer, ond iddo wneyd gwaith ei archoffeiriad - aeth yn effeithiol yn achubiaeth dragwyddol y rhai a ufuddhant iddo.

Ẁedi ei berfFeithio. Golyga y gair ganlyniad y ddysgyblaeth yr aethai Crist drwyddi, yn ei demtasiynau, ei weddiau, ei dduwiol barch a:i

YR EPISTOL AT YR HEBEEAID. 00

Awdur iachawdwriaeth dragywyddol i'r rhai oil a ufuddliânt iddo ; Wedi ei gyfenwi gan Dduw yn Arch -offeiriad yn ol 10

-iifudd-dod. Y diwedd oedd ei berffeithio. Gan fod y pethau a enwyd yn cynwys dysgyblaeth foesol, rhaid fod y perffeithrwydd a gynyrchwyd trwyddi yn berffeithrwydd moesol. Myn Kendall fod y gair, yn y lie hwn ac yn ii. 10, yn golygu cysegru i'r swydd o archoffeiriad. Os ydyw yn golygu hyny, yr ystyr ydyw fod ei gyrnhwysder moesol i'r swydd yn gysegriad arno iddi. Ond yn yr adn. nesaf y dygir y syniad' hwn o gysegriad i swydd i mewn. Defnyddir y gair teleioun yn Philo ac yn y Testament Xewydd yn fynych am berffeithio mewn ystyr foesol. Gwel Phil. iii. 12. O angenrheidrwydd, nid oes glanhau oddiwrth lygredd yn mherffeithiad Crist, yr hwn a osodir allan bob amser yn yr Epistol hwn fel "y dibechod." Ond, fel y gwelsom eisoes, absenoldeb glanhad oddiwrth lygredigaeth moesol oedd yn gwneyd yn angenrheidiol ei berffeithio trwy ddysgyblaeth neillduol iddo ei hun.

A wnaethpwyd. Y mae yr iaith Gymraeg yn ddiffygiol o air i osod allm ystyr yr ymadrodd gwreiddiol. Yr ystyr ydyw, nid fod Duw wedi ei wneuthur, trwy benodiad, yn awdwr iachawdwriaeth, ond fod Crist wedi dyfod ifod yn awdwr iachawdwriaeth fel canlyniad naturiol y perffeith- rwydd a gynyrchwyd ynddo trwy ei ufudd-dod.

Awdwr; nid yn Archoffeiriad yn nnig, ond, fel canlyniad ei arch- offeiriadaeth, yn achosydd gwirioneddol ac effeithiol iachawdwriaeth. Er mwyn dwyn i'r golwg y syniad hwn o effeithiolrwydd archofiViriadaeth Crist, y mae yr ysgrifenydd sanctaidd yn gochel y gair "gwaredwr." gair na ddefnyddir yn yr Epistol hwn o gwbl. Y mae yr iachawdwriaeth wedi ei dwyn oddiamgyích mor effeithiol fel, yn gyntaf, y mae ynbarod ibawb; yn ail, nad yw yn gofyn gan neb ddim ond ufudd-dod i alwad Crist ; ac, yn drydydd, y mae yn parhau yn drafrywydd.

ADN. 10.— Yn adn. 6 dywedii fod gosodiad Crist yn ei swydd archoffeiriadol yn gynwysedig yn y cyfarchiad a roddodd Duw iddo, cyn ei ymgnawdoliad, fel Mab. Yma dywedii i Dduw ei gyfarch draehefn fel Archoffeiriad wedi iddo gael ei berffeithio trwy ei ddyoddefiadau. Fel y mae yr adnodau blaenorol yn desgrifio ei gymhwysderau personol yn caèl eu dysgyblu a'u perffeithio ar sail ei osodiad i'r swydd, felly y\\ yr adn. hon desgi'ifir ei osodiad i'r swydd fel yn. cael ei gydnabod gan Dduw me vn canlyniad i'w berffeithiad personol. Nid ydym i olygu fod cyfarciiiad Duw iddo yn osodiad newydd arno i'w su-ydd. Yn hytraeh cynwysa gymmeradwyaeth Duw o'r modd y cyflawnasai waith ei swydd. Trwy gymmcradwyaeth Duw iddo y daeth efe mewn gẅirionedd i fod yn awdwr iachawdwriaeth dragwyddol i'r rhai aufuddhant iddo. Cymmerad- wyaeth Duw ac ufudd-dod y pechadur sydd yn gwneyd yr iachawdwr- iaeth yn ffaith.

Wedi ei gyfenwi; yn hytraeh, "gan gael ei gyfarch." mewn cyfeiriad at y geiriau a lefara Duw wrtho, "Tydi ydwyt Offeiriad." áfcc., adn. 6. Cymer yr awdwr yn ganiataol yma, fel bob amser, fod geiriau y Salmydd i'w cymhwyso at Grist yn ei ddyrchafiad yn gy stal á chyn ei ymgnawdoliad. Yr achos o hyny ydyw parhad tr;iuwyddol archoffeiriadaeth Crist. Yn lie "Offeiriad," fel y mae yn adn. b\ dywedir yma " Archoffeiriad." Oddiwrth hyn tyn Dehtzsch a Hofmann y casgliad mai yn ei esgyniad i'r nef y gwnaethpwyd Crist yn Offeiriad yn ol urdd ]\Ielchisedec, ac mai Archoffeiriad ydyw yn yr ystyr o fod yn wrth-gysgod Aaron. Gwell ydyw oedi yr ystyriaeth o hyn hyd nes y deuwn at yr hyn a ddywed yr awdwr am Melchisedec ; ac nid doeth fyddai mabwysiadu

56 YB. EPISTOL AT YR HEBREAID.

11 urdd Melchisedec. Am yr hwn y niae i ni lawer i'w dywedyd,

y golygiad hwn yn fyrbwyll. Y mae llawer mwy yn gynwysedig yn y dywediad fod Crist yn Archoffeiriad yn ol nrdd Melchisedec na'i fod yu Frenhin yn gystal ag Archoffeiriad. Ond gellid crybwyll dau beth sydd yn ffafriol i'r golygiad hwn. Yn gyntaf , ni eilw yr awdwr Melchisedec mewn un man yn archoffeiriad, ond bob amser yn offeiriad ; ac yn ail, ni sonir fod Melchisedec wedi aberthu. Y casgliad ydyw fod Crist yn Archoffeiriad fel gwrth-gysgod o Aaron, ac eto ei fod yr hyn oedd yn ol urdd Melchisedec. Ond gormod ydyw tynu y casgliad nad oedd Crist yn ol urdd Melchisedec ar y ddaear ; a gadawaf y pwnc heb ei benderfynu ar hyn o bryd.

V.— Ymliwiad a'r Darllenwyr.

v. 11— vi. 20.

Y mae yr holl adran hon o'r Epistol megis rhwng cromfachau. Newydd ddechreu ar y tebygolrwydd rhwng Crist a Melchisedec, gedy yr a'wdwr y pwnc hyd y seittifed benod. Nid hawdd ydyw gwybod yn sicr paham y gwna hỳny. Tybiaf mai y rheswm ydyw fod yr hyn a brofwyd ganddo eisoes am Grist fel Archoffeiriad Brenhinol, yr hyn hefyd, mewn gwirionedd, ydyw pwnc yr Epistol, yn cynwys rhai pethau fyddai yn dra annerbyniol gan ei ddarllenwyr. Hyd yma dangosodd fod pob peth oedd o werth yn yr hen gyfamod yn aros mewn ffurf uwch yn Nghrist. Ond y mae yn awyddus i ddangos iddynt, ymhellach, fod yr hen gyfamod oil i gael ei ddileu. fel goruchwyliaeth annibynol ar Gristionogaeth, a'i lyncu ifynyyn ngoruchwyliaeth yr efengyl. Caled yw yr ymadrodd, ac y mae yn angenrheidiol parotoi meddyliau yr Hebreaid i'w gredu. Parotoi eu hysbryd i'w dderbyn yn ymarferol ac yn galonog ydyw amcan yr adran bresenol. Ymdrecha yr awdwr wneyd hyn mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, dengys iddynt y perygl sydd mewn balchder ysbryd, ac, yn ail, cysura hwyiit yn wyneb eu siomiant chwerw trwy gyfeirio eu meddyliau at addewid a ffyddlondeb Duw. Balchder oedd wrth wraidd dallineb yr Iuddewon a'u gwrthodiad o Grist. Fel y sylwa un hanesydd, "trwy addoli cyfoeth a mawredd ac awdurdod dalìwyd hwynt fel na welent >irydferthwch crefydd ysbrydol: yr un hunan-dwyll gorchfygol sydd yn dyfod i'r golwg yn y ddau amgylchiad, sef pan v gwrthodant y Gwaredwr a phan y galwant Herod yn dduw " (Merivale. Èomans under the Empire, ch. lis). Yr unig feddyginiaeth iddynt ydyw gollwng eu gafcel ar yr hen gyfamod a myned yn ol am esampl o ffydd ymhellach nag Aaron, hyd at Abraham, a chredu fod Duw yr un yn ei ffyddlondeb i'w addewid, yn cadw cyfamod a thrugaredd i'r rhai a'i carant ef ac a gadwant ei orchymynion, pan y mae yr hen oruchwyliaeth yn trengu, ag ydoedd pan y tyngodd i Abraham. ' Gallwn ranu yr adran, gan hyny, yn ddwy. Ÿ mae y gair " anmhosibl " yn digwydd'mewn man pwysig yn y ddwy, ac etyb y gair y pwrpas yn dda o ddangos neillduolrwydd y naill ran a'r Hall.

1. Adneicyddiad yn Anmhosibl .

v. 11— vi. 8.

ADN. 11. Am yr hwn. Gwahaniaetha esbonwyr yn eu barn ar y cwestiwn pwy a feddylir, pa un ai Crist ai Melchisedec, a darllena Uiaws "aniyrhyn," ynlle "yrhwn," gan olygu y cyffelybrwydd rhwng Crist a Melchisedec. Ymddengys i mi mai Crist a feddylir, ond Crist fel v mae yn Archoffeiriad yn ol urdd Melchisedec : am y rheswm fod y

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. 57

ac anhawdd eu traethu, o achos eich bod chwi yn hwyrdrwm eich clustiau. Canys lie dylech fod yn athrawon o ran amser, 12 y mae arnoch drachefn eisieu dysgu i chwi beth ydyw egwyddorion dechreuad ymadroddion Duw : ac yr ydych yn

gwirionedd hwn yn cynwys prif syniad yr Epistol, ac am hyny y dywedir yma fod llawer i'w draethu arno, ond fod yr hyn sydd yn meddwl yr awdwr yn anhawdd ei draethu, ac yn anhawdd iddyiit hwythau ei dderbyn. Nid v ffnrf o alegori yn yr hon y gwisgir y syniad yn y seithfed benod, ond y «yniad ei hun, a feddylir wrth y peth anhawdd.

Anhawdd eu traethu ; yn hytrach, fel y cyficitha Dr. Thomas, " caled i'w dehongli." Am fod eisiau dehongli arnynt, cyflwynir hwynt i gylw yn y seithfed benod mown alegori neu ddehongliad.

A'ch. bod; yn hytrach, " eich bod wedi myned." Yr oeddynt wedi dirywio, yn ystod y deugain mlynedd oedd wedf myncd heibio er pan vr esgynasai yr Archoffeiriad Mawr i'w gysegr. Gwel x. 32. Sylwa Bruce yn darawiadol ar y gwahaniaeth rhyngddynt a'r Corinthiaid. Yr oedd y naill a'r Hall yn rhai yr oedd llaeth yn briodol iddynt ; ond plant oedd y Corinthiaid, ac am hyny cwerylent ; hen bobl yn eu hail blentyndod oedd yr Hebreaid ac, am hyny, swrth a hwyr-drwm eu clustiau oeddynt. Y mae, pa fodd bynag, hyn o debygolrwydd rhyngddynt, fod plentynrwydd y naill a'r Hall yn gwreiddio mewn balchder, balchder deall yn y Cor- inthiaid, balchder crefyddol yn yr Hebreaid. Siomwyd y ddau trwy groes Crist. Gwel 1 Cor. i. 18-25.

Hwyrdrwm. Cyneithir yr un gair yn " musgrell " yn iv. 12. Dynion oeddynt wedi llaesu dwylaw, wedi colli hyder, os nad gobaith, yn tynu yn ol, ac nid yn gwthio ymlaen. Y mae y peth gwrthgyferbynioH'w gael yn y saint a enwir yn yr unfed benod ar ddeg.

ADN. 12. Dylasent fod erbyn hyn yn athrawon o egwyddorion dechreuad ymadroddion Duw, yn sefyll yn yr un berthynas a'r eglwysi Cristionogol eraill ag y saif yr awdwr ynddi tuag atynt hwy eu hunain. Dylasent hwy egluro i eraill gyssylltiad y ddwy oruchwyliaeth á'u gilydd, fel ag i wneyd ysgrifenu yr Epistol hwn atynt yn afreidiol. Pan yr oedd yr awdwr yn ysgrifenu, yr oedd yr "athrawon," y mae yn bur debỳg, wedi ymgorphori yn ddosbarth neillduol yn yreglwys. Ond y mae gwahaniaeth rhwng desgrifiad yr awdwr hwn ohonynt a'r hyn a ddywedir am danynt rai blynyddoedd ar ol hyn yn " Athrawiaeth y Deuddeg Apostol," y traethodyn henafol iawn a ddarganfyddwyd yn ddiweddar, lie y desgrifir hwynt fel dosbarth israddol i'r prophwydi. C'ymharer cyüwr isel yr Heb- reaid hyn, os eglwys Jerusalem yw yr hon yr ysgrifenwyd yr Epistol ati, -a'r hyn a adroddir yn yr Actau am Pedr, Barnabas, Paul, ac Iago, yn ymgynghori âg aelodau yr eglwys bono ynghylch rhai gofyniadau anhawdd. Beth ydyw egwyddorion; neu, "y mae arnoch eisieu rhywun i ddysgu i chwi egwyddorion," &c. Hwn ydyw y darlleniad goreu. Dull gwylaidd yr awdwr o gyfeirio ato ei hun ydywy gair " rhywun."

Egwyddorion. Ystyr gyntaf y gair ydyw pethau sydd, o'u gosod wrth eu gilydd, yn gwneyd rhes. Oddiwrth hyn y daeth y gair i olygu y wyddor, y llythyrenau sydd yn gwneyd geiriau, ac'yna " elfenau gwybodaeth " o unrhyw bwnc. Ehaid troi y rhai ddylent fod yn athrawon yn olir llyfr corn.

Ymadroddion, neu " oraclau ;" sef y datguddiedigaethau a roddodd Duw yn y prophwydi ac yn Nghrist ; i. 1.

Ac yr ydych yn rhaid i chwi wrth laeth, ac nid bwyd cryf. Gwel 1 Cor. iii. 2.

58 YR EPISTOL AT YR HEBREAID.

13 rhaid i chui wrth laeth, ac nid bwyd cryf. Canys pob un a'r sydd yn ymarfer â llaeth, sydd anghynnefm â gair cyfiawnder ;

14 canys maban yw. Eithr bwyd cryf a berthyn i'r rhai perffaith,

ADN. 13.— Canys pob un sydd yn ymarfer a llaeth sydd anghynefin a gair cyfiawnder ; yn hytrach, " Canys pob un sydd yn cynmieryd ei ddogn o laeth sydd ddibrofiad yn ngair cyfiawnder." Nid prawf ydyw yr adn. hon fod yn rhaid i'r Hebreaid wrth laeth, gan eu bod yn ddibrofiad yn ngair cyfiawnder. I'r gwrthwyneb, datgan ei syndod y mae yr awdwr fod yn rhaid iddynt hwy, yn anad neb, wrth laeth, yn gymaint ag /tad ydynt yn ddibrofiad yn ngair cyfiawnder. Oblegid i'r rhai sydd eto hob gael nemawr o brofiad, yr ymborth naturiol ydyw llaeth, am nas gellir edryeh ar y cyfryw ond megis babanod, ac ni feia neb ar faban am chwenychu y llaeth. Und i'r Hebreaid, y rhai nid ydynt yn fabanod, a'r rhai a gawsant lawer o brofiad yn ngair cyfiawnder, yr ymborth a ddylai fod yn gymhwys ydyw bwyd cryf. Eithr i'r rhai perffaith y mae bwyd cryf yn briodol, ac nid yw yr Hebreaid hyn yn rhai perffaith. Dyma yr anhawsder. ac nid oes gwaredigaeth trwy ddychwelyd at yr athrawiaethau sydd yn dechreu rhai yn Nghrist, y rhai a ddysgir i fabanod dibrofiad, nac ychwaith trwy roi bwyd cryf i rai y mae yn rhaid iddynt wrth laeth. Yr unig anogacth briodol ydyw i'r Hebreaid dynu ymlaen at berffeithrwydd a gadael yr athrawiaethau dechreuol.

Gair v cyfiawnder. Yr wyf yn methu boddloni fy meddwl pa un o ddau olygiad ar ystyr y geiriau hyn sydd gywir. Gallant olygu " yr athrawiaeth am drefn Duw i gyfiawnhau pechadur," yn gyffelyb fel y sonir am " yr ymadrodd am y groes " ac am "air y cymod." Pe gallaswn gredu mai yr Apostol Paul ydyw awdwr yr Epistol, derbyniaswn y golygiad hwn yn ddibetrus. Ond, gan nad oes un cyfeiriad araÜ yn yr Epistol at " gyfiawnhad," dan yr enw yna, tueddir fi i feddwl mai yr ystyr yn yr adn. hon ydyw. " athrawiaeth am berffeithrwydd moesol." Y mae y rhai bach yn Nghrist yn ddibrofiad yn yr athrawiaeth sydd yn dysgu perffeithrwydd, ac, o'i deall, yn ffurfio dyn perffaith, tra y mae y dyn perffaith yn gallu amgytfred yr athrawiaeth, yr hon sydd, ar ol cynyrchu perffeithrwydd, yn ei ddwyn ar gynydd yn barhaus. Nid gwybodaeth ydyw amcan yr athrawiaeth, ond ymarferiad. Y mae yr athrawiaeth sydd yn dechreu dynion yn Nghri>t yn cynyrchu cymmeriad ysbrydol, fel y mae llaeth yn peri cynydd y baban. Ond yn raddol, fel y mae y gallu i fwyta bwyd cryf yn cynyddu, y mae yr angenrheidrwydd am fwyd cryf yn cynyddu hefyd. Felly yn ysbrydol. Ar y dechreu y mae y credadyn yn ddyeithr o ran profiad i'r athrawiaeth am gyfiawnder, hyny ydyw, am berffeithrwydd moesol. Y cwbl a ẃyr ef ydyw fod yr efengyl yn dwyn iachawdwriaeth di-agwyddol iddo, ac ar yr athrawiaeth hono yr ymbortha. Ond yn raddol y mae ei gymmeriad moesol yn cryfhau, ac i'r graddau y daw efe i feddiant o fwy o berffeithrwydd mewnol, i'r un gradd y gall ddeall yr athrawiaeth am berffeithrwydd, fel y dysgir hi yn yr efengyl.

ADN. 14. Ond bwyd cryf á berthyn i'r rhai perffaith. Y mae y gair "perffaith" yn hollol gywir, can belled ag y golyga gymmeriad moesol. Ond prin y mae y gair yn awgrymu yn eglur y syniad syddynyr ymadrodd gwreiddiol, fod y perffeithrwydd hwn yn ganlyniad cynydd graddol, ac felly fod ymborth yn cynyrchu y gallu i ddefnyddio ymborth. Dylai y pwyslais fod ar y gair hwn, a gwell fyddai darllen, "i rai perffaith y perthyn bwyd cryf," ac am hyny of er fyddai porthi yr Hebreaid hyn â bwvd cryf, oherwydd eu bod wedi myned vn ol i gyflwr o ail blentyn- dod.

PR EPISTOL AT YE HEBREATD. 59

y rhai o hervvydd cynnefindra y mae ganddynt synwyr wedi ymarf er i ddosparthu drwg a da.

PENOD VI.

AMhynny, gan roddi heibio yr ymadrodd sydd yn dechreu rhai 1 yng Nghrist, awn rhagom at berffeithrwydd ; heb osod i

Y rhai oherwydd cynefindra, &c. Os cyẃ y golygiad a dder- byniasom ar y gair " cyfiawnder " yn yr adn. flaenorol, yr un peth a olygii yn yr adn. hon draehefn wrth y " da," sef " yr hardd " mewn ystyr foesol. Tra y mae y plentyn yn ddibrofiad o'r athrawiaeth sydd yn egluro ac yr cynyrchu perffeithrwydd cymmeriad, y mae y perffaith, oherwydd y cynydd hwnw sydd wedi ei wneyd ef yn ddyn perffaith, yn gallu adnabod cam flas, yn gallu gwybod trwy arferiad beth sydd yn hardd a pha beth sydd yn anhardd mewn moes a chymmeriad. Fel y mae synwyrau y corph yn cae] eu dysgyblu a'u coethi trwy hir ymarfer i wahaniaethu rhwng lliwiau, seiniau, aroglau, &c, felly y mae i r ysbryd ei " synwyrau," fel y gallem eu galw, y rhai sydd trwy hir arfer yn gallu gwahaniaethu ar unwaith, brorj yn ddiarwybod, ac heb ddefhyddio rheolau ar y pryd i' w cyfarwyddo, rhwng yr hardd a'r anhardd mewn ystyr foesol. Y mae mor wir fod gweled yr cryfhau y llygad ag ydyw nas gall neb weled heb lygad.

PEN. VI.— ADN. 1.— Am hyny. Am nad ydych yn fabanod dibrofiad, rhaid i rii adael o'r neilldu yr ymadrodd sydd yn dechreu rhai yc Nghrist ; ac am nad ydych yn rhai perffaith, nis gellwch dderbyn bwyd cryf ; am hyny, nid oes dim yn ol i chwi ond iymgyrhaedd at berffeithrwydd.

Gan roddi heibio. Awgryma y gair gwreiddiol ryw gymaint c ddiflasdod ar y peth : " gan daflu o'r neilldu," " let us have done with it.,:

Yr ymadrodd sydd yn dechreu rhai yn Nghrist. Y cyfieithiad llythyrenol ydyw " ymadrodd dechreuad Crist." Ond fe ellir cyssylltu y gair " Crist" á'r gair ''ymadrodd " neu â'r gair " dechreuad." Gall mai yr ystyr ydyw, gan roi heibio draothu am ddechreuad Crist, am ffurfiad cyntaf Crist yn yr enaid. Ond y mae y golygiad yna yn dwyn i mewn syniad na cheir mohono yn yr Epistol hwn, sef athrawiaeth sylfaenol duwinyddiaeth yr Apostol Paul am undeb â Christ (Col. i. 27). Ŷr ystyr arall yw, "gan roi heibio yr athrawiaeth hono a ddysgir gan Grist yn nechreuad y bywyd crefyddol." Yr wrthddadl yn erbyn y golygiad hwn ydyw ei bod yn annhebygol y buasai yr awdwr yn dwyn enw Crist i mewn pan yn anog ei ddarllenwyr i roi heibio yr athrawiaeth. Ond (1) ni raid ymwrthod, fel y sylwa Calvin, â'r sylfaen er mwyn codi y mur ; ac (2) wrth ddwyn enw Crist i mewn, y mae yr awdwr yn gwahaniaethu rhwng athrawiaethau dechreuol Cristionogaeth a defodau yr hen oruchwyliaeth. Rhaid rhoi heibio yr olaf er mwyn y cyntaf, a'r cyntaf draehefn er mwyn bwyd cryf.

Awn rhagom at berffeithrwydd. Ystyr llythyrenol y gair a gyfieithir " awn rhagom " ydyw " cluder ni." Ceir y gair yn 2 Pedr i. 21, " megis y cynhyrfwyd hwy gan yr Ysbryd Glân ;" neu " megis y cludwyd hwy." Yr ystyr yn y ddau le ydyw, " gosod eu hunain dan ddylanwadau cryfion Duw." Trwy wneyd hyn y cyrhaeddwn berffeithrwydd. Yr hyn y gelwir arnom ni i'w wneuthur ein hunain ydyw "taflu o'r neilldu yr athrawiaeth ddechreuol," a gadael i'r athrawiaethau uwch ein cludo ymlaen hyd at berffeithrwydd ; canys bywiol yw gair Duw a nerthol. Ond arferir y gair weithiau i olygu " pwyso ymlaen," "ymegnio." Dichon mai hwn yw yr ystyr yma. Y mae yr esbonwyr yn gwahaniaethu ar y cwestiwn,

60 YR EPISTOL AT YR HEBREAID.

lawr drachefn sail i edifeirwch oddi wrth weithredoedd meirwonr

pa un ai meddwl yr awdwr yw myned ymlaen i draethu ar bynciau uwch yn yr Epistol. ai ynte cyny ddu hyd at berffeithrwydd yn y cymmeriad C'ristionogol. O'm rhan fy hun, nid oes dim amheuaeth i fod ar y pwnc. Amcan yr awdwr yw dysgu fod perffeithrwydd cymmeriad ysbrydol yn angenrheidiol tuag at ddeall yr athrawiaethau uwch, fel y mae llaeth yn gymhwys i blant a bwyd cryf i ddynion mewn oed.

Heb osod i lawr, &c. Y golygiad canlynol sydd yn ymddangos i mi ar hyn o bryd y mwyaf naturiol ar ystyr y frawddeg anhawdd hon : Bod yr Hebreaid hyd yn hyn wedi bod yn ymdroi gyda'r athrawiaeth am y gwahanol fedyddiadau ac am arddodiad dwylaw, am adgyfodiad y meirw a'r farn ddiweddaf, a bod yr awdwr yn galw yr athrawiaeth am y pethau hyn yn sail ar yr hou y gall dyn godi adeiladaeth o edifeirwch a ffydd tuag at Bduw : ond ei fod yn awyddus iddynt fyned ymlaen i adeiladu rhyw bethau uwch eu natur nag edifeirwch a ffydd tuag at Dduw, sef llawn sicrwydd gobaith hyd y diwedd, ffydd ac amynedd (yn lie musgrellni), y grasusau sydd yn angori yr enaid yn ddiogel with y pethau sydd o'r tu fewn i'r lien, ac yn arbenig wrth Iesu fel Archoffeiriad tragwyddol yn ol urdd Melchisedec. Fel angraifit o'r ddau ddosbarth, gallem enwi Noah ac Abraham. Ffydd gyfyng ei gweithrediad oedd gan Noah. Hyderai gael ei achub, a hyny oedd y cwbl. Ond credai Abraham addewid eangach Duw, a gwelai y tir pell. Yn wir y mae yr Apostol Pedr yn cymharu ffydd Noah i ras dechreuol edifeirwch, pan y gofyna dyehweledigion am gael eu bedyddio, ar drothwy y bywyd ysbrydol (1 Pedr iii. 20). Yn ol y golygiad hwn nid ywy geiriau" edifeirwch n a " ffydd " yn gosod allan beth ydyw y sail ; ond yn hytrach. y grasau ysbrydol a adeiledir ar y sail ydyw ' ' edifeirwch a ffydd. ' ' Yn y rhan ddilynol y dywedir beth yw y sail, sef yn y gair "athrawiaeth." Y mae y beirniaid goreu yn gwahaniaethu gyda. golwg ar ffurf y gair gwreiddiol a gyfieithir "athrawiaeth" Q)a un ai didachës ai didochên ddylid ddarllen). O'm rhan fy hun. yr wyf yn derbyn y ffurf didaehên sydd yn gwneyd y gair yn eglurhad ar ystyr a chynwy;-' y " sail." Ymhellach, golygaf fod y geiriàu "bedyddiadau," " arddodiad dwylaw."' " adgyfodiad y nit-irw," "barn dragwyddol," i'w cyssylltu á'r gair " athrawiaeth." Yr ystyr, gan hyny, ydyw mai y sail athrawiaethol i edifeirwch a ffydd ydyw yr athrawiaeth (1) am natur bedydd CristionogoL o'i gyniharu â bedydcliadau eraill. 2 am arddodiad dwylaw fel datganiad awdurdodol o faddeuant pechodau yr edif eiriol, (3) am adgyfodiad y meirw a'r farn fel y ddau amgylchiad fydd yn penderfynu tynged dragwyddol y pechadur. Önd edrychwn i'r geiriau ychydig yn fanyìach.

Gosod i lawr sail. Golyga y gair yn y lie hwn " gosod i lawr i ni ein hunain." Gosododd Crist y sylfaen pan y pregethodd edifeirwch a. ffydd yn Xuw ; Marc i. 15. Nid oes angen i ninau osod y sail hon drachefn drosom ein hunain yn ein dysgeidiaeth athrawiaethol : llawer llai bod wrthi o hyd heb wneyd dim araU ond gosod i lawr y sylfaen, yn lie myned rhagom i oruwchadeiladu.

' Edifeirwch oddiwrth weithredoedd meirwon. Gall y gwreidd- iol oddef yr ystyr fod edifeirwch a ffydd yn cael eu gosod alían yma fel cynwys y sail. Ond llawer mwy tebygol ydyw y golygiad mai yr adeilad- waithì a godir ar y sail ydynt. Ar yr athrawiaeth a grybwyllir yn yr adn. y mae y gras o edifeirwch a ffydd yn gorphwys.

Meirwon. Gellir deall y gair fel cyfeiriad at yr halogedigaeth a. gynyrchid trwy gyffwi-dd â chorph marw (fel ynix. 14). Ond y mae yn emheus a fuasai y cyfeiriad hwn yn ddigon eglur i awgrymu ei hun i feddwl un o ddarllenwyr cyntaf yr Èpistol. Dichon mai yn y gair hwn yr

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. 61

ac i ffydd tu ag at Dduw, I athrawiaeth bedyddiadau, ac arddod- 2

ymguddia yr achos o'r edifeirwch. Try dynion ymaith oddiwrth eu gweithredoedd eu hunain, fel sail eu gobaith, fel y troant ymaith oddiwrth y marw sydd yn llygru. Sylwa Davidson na pherthyn i'r Epistol hwn y gwahaniaeth a gawn yn Epistolau Paul rhwng ffydd a gweithredoedd. Ymddengys i mi y byddem yn llawer nes i'r gwirionedd pe dywedera mai y gwahaniaeth hwn ydyw canolbwnc yr Epistol, ond yn unig f od yr awdwr yn ystyried y cwestiwn, nid oddiar safle cyfraith, fel y gwna Paul, ond oddiar safle addoliad a chrefydd. Os felly, eglura hyn paham y defnyddia yr awdwr yr ymadrodd dyeithr "edifeirwch oddiwrth." Xi cheir y dull hwn o eirio ond yn yr adn. hon. Y tebygolrwydd yw ei fod yn golygu, nid edifeirwch am weithredoedd pechadurus, ond edifeirwch sydd yn peri i'r dyn droi ymaith oddiwrth ei weithredoedd ei hun fel haeddiant gerbron Duw. Y mae y golygiad hwn yn dangos y rheswm paham y defnyddir y rhif lliosog, "bedyddiadau," a'r ffurf neíllduol baptûmos, yn lie y ffurf baptisma. Buasai yr olaf yn cyfyngu y cyfeiriad at y bedydd Cristionogol ; y mae y blaenaf yn cynwys hwn a'r lleill. Yn awr, yr athrawiaeth am fedydd ydyw y sail athrawiaethol i edifeirwch. Yr oedd loan yn bedyddio i edifeirwch (Matt. iii. 11), a'r apostolion a ddywedent, "Edlfarhewch a bedyddier pob un ohonoch" (Act ii. 38 41 ; iii. 13 19 ; v. 31 : xi. 18).

ADN. 2. Arddodiad dwylaw. Ithaid cyssylltu y geiriau hyn dra- chefn á'r gair "athrawiaeth." Yr oedd yr athrawiaeth am arddodiad dwylaw yn sail athrawiaethol i ffydd yn Xuw. Dodiad dwylaw yr apostolion oedd y ffurf allanol i arwyddo fod Duw yn derbyn edifeirwch y pechadur ac yn rhoddi iddo ddawn yr Ysbryd Glan. Gwel Act. viii. 17, lley dangosir fod bedydd yn anghyflawn heb arddodiad dwylaw ; Act. xix. 5, 6, lie y gwelir fod arddodiad dwylaw yn dilyn bedydd, a dawn yr Ysbryd yn effaith arddodiad dwylaw. Oblegid y eyssvlltiad agos hwn rhwng bedydd ac arddodiad dwylaw, y mae yn lied eglur mai at yr arddodiad dwylaw ar y dychweledigion ar ol eu bedyddio y cyfeiria yr awdwr yn yr adn. hon ; ac nid oes eisiau tybied fod yma unrhyw gyfeiriad at ordeiniad i swydd eglwysig.

Adgyfodiad y meirw a'r farn drag-wyddol. Cyssyllter y geiriau hyn â'r gair " athrawiaeth." Yr oedd yr athrawiaeth am yr adgyfodiad a'r farn yn sail athrawiaethol i edifeirwch a ffydd. I obaith yr adgyfodiad y bedyddid y dychweledigion. Yn wir, y mae y gair "bedydd" yn cynwys arddodiad dwylaw, a'r gair "adgyfodiad" yn cynwys y farn dragwyddol. Felly, y mae yr awdwr yn dwyn at eu gilydd y ddau gwestiwn mawr a phwysig sydd yn cyfarfod y pechadur ar drothwy ei yrfa grefyddol. Y naill ydyw barn yn y sefyìlfa ddyfodol, i'w gwynebu trwy edifeirwch a ffydd ; a'r Hall ydyw maddeuant ar amod edifeirwch a ffydd. Ond yr hyn y cwyna efe o'i herwydd vxlyw fod yr Hebreaid Cristionogol yn aros gyda'r pethau dechreuol hyn, y rhai ydynt oil yn troi o amgylch bywyd crefyddol y dyn ei hun, ac anoga hwynt i fyned rhag- ddynt hyd at y perffeithrwydd hwnw yn y cymmeriad ysbrydol sydd yn ymgodi at athrawiaethau eangach, fel yr athrawiaeth am Grist yn Arch- off eiriad yn ol urdd Melchisedec.

Y farn ; yn llythyrenol, "dyfarniad" neu " dedfryd." Ond dichon nad oedd yr awdwr yn bwriadu gwahaniaethu rhwng krisis a kruna.

Tragwyddol. Hyny yw, barn derfynol ; barn y mae ei chanlyniadau yn dragwyddol. Cawn weled eto mai athrawiaeth yr awdwr hwn ydyw ifod y farn ar ol angau yn derfynol. Gwel. ix. 27.

Barna rhai esbonwyr fod yr holl bethau a grybwyllir yma yn perthyn i

62 YB EPISTOL AT YE HEBREAID.

3 iad dwylaw, ac adgyfodiad y meirw, a'r f am dragywyddol. A

4 hyn a wnawn, os caniattâ Duw. Canys ammhosibl yw i'r rhai a oleuwyd unwaith, ac abrofasant y rhodd nefol, ac a wnaeth-

5' pwyd yn gyfrannogion o'r Yspryd Glân, Ac a brofasant

Iuddewiaeth yn gystal ag i Gristionogaeth, ac mai amcan yr awdwr ydyw cael gan yr Hebreaid godi at athrawiaethau arbenig yr efengyl. Diau fod gwir yn hyn. Ond y mae yn lied eglur hefyd ei fod yn awyddus iddynt ddyrchafu at athrawiaethau uwchaf Cristionogaeth.

ADN. 3. A hyn, sef myned rhagom at berfFeithrwydd mewn cymmeriad ysbrydol, "awnawn." Yn ol rhai o'r llawysgrifau henaf y darlleniad ydyw : "a hyn gwnawn." Ond y darlleniad arall yw y tebycaf.

Os caniatta Duw. Canys y mae rhai dynion yn cael eu cau allan gan Dduw, fel nas gallant byth fyned gam ymlaen yn nghyfeiriad per- ffeithrwydd ysbrydol. Y mae yr awdwr yn anturio hyderu nad yw yr Hebreaid hyn wedi syrthio dan farn Duw. Ond nid yw heb bryderu am danynt. I ddangos yr achos o'i bryder desgrifia yn yr adnodau dilynol pa f ath ddynion ydyw y rhai hyny y mae yn anmhosibl eu hadnewyddu ac na chaniata Duw iddynt fyned ymlaen, Wedi rhoi y darluniad pruddaidd hwn, ychwanega ei fod yn coelio am ei ddarllenwyr bethau ynglyn wrth iachawdwriaeth. Eto y rheswm paham y dŵg yr awdwr yr hyn sydd yn dilyn i mewn yma ydyw y perygl i ddynion sydd wedi peidio bod yn blant ac heb ddechreu bod yn berffaith syrthio ymaith oddi wrth Gristionogaeth ynhollol ac ail-groeshoelio Mab Duw a'i OBod yn watwar. Y mae yn eglur mai y geiriau "os caniata Duw" sydd yn cyssylltu yr anogaeth i fyned rhagddynt at berffeithrwydd â'r desgrrfiad difrifol iawn o'r rhai y mae yn anmhosibl eu hadnewyddu. Nid anmhosibilrwydd tufewnol yn y dynion eu hunain yn unig a òlygir, ond hefyd, yn ychwanegol at hwnw, anmhosibilrwydd yn codi o benderfyniad Duw i'w rhwystro. Gwel iii. 18, 19, lie y dywedir "na chaent," ac hefyd "na allent," fyned i mewn. Gochelwn dybied, gyda Davidson a Farrar, nad oes dim yn y geiriau " os caniata Duw " ond math o "pious formula."

ADN. 4— ADN. 6.— Cyn gwneyd cais i esbonio amcan ac ystyr cyffred- inol yr adnodau hyn, ymdrechaf egluro y prif ymadroddion sydd ynddynt.

A oleuwyd unwaith. Defnyddir y gair goleuo yn yr Hen Destament (Salm xix. 8) a'r Newydd am waith Duw yn datguddio i ddynion wirion- eddau ysbrydol yn eu pwysigrwydd a'u gogoniant. Gwel Eph i. 18 ; 2 Cor. iv. 4. Erbyn amser awdwr yr Epistol at yr Hebreaid y mae y gair wedi cael ystyr arbenig am ddechreu ad y bywyd ysbrydol, fel yn x. 32, yr hyn a elwir yn x. 26 yn " dderbyn gwybodaeth y gwirionedd ;" ac yn y ganrif nesaf daeth i olygu yr un peth â bedydd yn ei agwedd fwyaf ysbrydol a thufewnol. Golygiad y tadau oedd mai bedydd ydyw ystyr y gair yn yr adn. hon ; yn wir, y mae y cyfieithiad henafol i'r Syriaeg, y Pesliito, yn darllen yn yr adn. hon, "wedi eu bedyddio unwaith;" ond priodoli yr oeddynt ystyr i'r gair yn yr Epistol hwn oedd yn ffynu yn eu dyddiau hwy. Rhaid cydnabod, pa fodd bynag, fod y gair yn golygu yn yr adn. hon y goleuni ysbrydol hwnw nad ydyw gan neb ond gwir gredinwyr.

Ac a brofasant y rhodd nefol. Credaf ei bod yn annichon i neb benderfynu yn hollol pa beth yn arbenig a olygir wrth y " rhodd nefol." Tueddir fi i dderbyn y naill neu y llall o'r ddau olygiad hyn, sef un ai mai Crist ei hun a feddylir (fel yn 2 Cor. ix. 15), ai ynte y goleuni neu ddat- guddiad a grybwyllwyd eisoes yn y gair "goleuwyd." Ond ar yr

YR EPISTOL AT YR HEBRBAID. 63

ddaionus air Duw, a nerthoedd y byd a ddaw, Ac a syrthiant 6 ymaith, ymadnewyddu drachefn i edif eirwch ; gan eu bod yn

ymadrodd "a brofasant" ymae y pwyslais. Ystyr y gair ydyw "profi bias," " archwaethu." Cyfeiria yr awdwr at y dynion hyny sydd, nid yn unig wedi eu goleuo yn ysbrydol, ond hefyd wedi gwybod bias y rhodd sydd wedi dyfod o'r nef.

Cyfranogion o'r Ysbryd Glan. Ar ol eu goleuo ac mewn canlyniad i fedydd ac arddodiad dwylaw, derbyniai y dychweledigion ddawn yr Ysbryd Glân. Yr oedd y bywyd goruwchnaturiol wedi dechreu gweithio yn gryf ynddynt, ac un effaith o'i bresenoldeb oedd llefaru â thafodau. Ond nid oedd hyny ond un o'r effeithiau. Cyfeiria yr awdwr at y ddawn gyffredinol oedd wrth wraidd yr holl amrywiol amlygiadau hyny. Ni ddysgir yn yr Epistol hwn yr athrawiaeth am breswyliad yr Ysbryd Glân yn y credadyn, yr hon a ddysgir yn Epistolau Paul. Yr un pryd nid oes dim yn yr Epistol yn anghyson â hi.

Ac a brofasant ddaionus air Duw; neu, "ac a brofasant mor dda ydyw gair Duw." Nid yn unig y maent wedi profi ei flas, ond y maent hefyd wedi archwaethu mor dda ydyw ynddo ei hun. O'r blaen ar y gair ''profi" neu "archwaethu" yr oedd y pwyslais; ynawr ymaey pwyslais ar y gair "da." Erbyn hyn gall y rhai a archwaethasant y rhodd nefol edmygu, desgrifio, datgan priodoleddau cyffredinol y datguddiad y mae Duw wedi ei roddi yn yr efengyl. Y mae yr un gwahaniaeth rhwng y ddau beth ag sydd rhwng archwaeth dyn newynog ac archwaeth y neb sydd yn feirniad ar fwydydd a'u bias.

Nerthoedd y byd a ddaw. Dadleua Dr. Thomas yn gryf mai yr hyn a fcddylir ydyw "y profiad a gawsai y rhai hyn o'r dylanwadau sydd briodol i'r ystyriaeth am fodolaeth, am natur, ac am barhad byd araìl." Yr hyn sydd yn fy ngorfodi i gredu mai nid hwn yw yr ystyr ydyw y gair "nerthoedd," yn y rhif lliosog. Efallai y gallem ddeall y gair "nerth" yn yr ystyr o ddylanwad ar feddyliau dynion, megis yn Phil iii. 10, "grym ei adgyfodiad ef." Ond ymddengys yn lied eglur fod "nerthoedd" yn cyfeirio at y grymusderau goruwchnaturiol hyny a weithredent ar a thrwy ddynion yn yr oes Apostolaidd, o wahanol nod- weddau, rhai yn nerthoedd i gyflawni gwyrthiau, i adfer y claf , i lefaru â thafodau, &c; eraill o natur fwy ysbrydol, megis argyhoeddiad y lliaws ar ddydd y Pentecost. Gwel Act. ii. 16—21 ; Gal. iii. 5. Drachefn, ym- ddengys i mi fod yr enw " y byd a ddaw " yn golygu yn yr Ysgrythyr sefyllfa pethau ar y ddaear mewn adeg ddyfodol, nid yn y nefoedd. Yr unig gwestiwn sydd yn dra amheus ydyw hwn, Pa un ai cyfnod yr efengyl, o esgyniad Crist hyd ei ail ddyfodiad, a feddylir wrtho, ai ynte y cyfnod ar ol ei ail ddyfodiad? Ond gan fod yr awdwr yn yr adn. hon yn son am ddynion oedd eisoes wedi profi y nerthoedd hyn, dichon mai mwy dyogel ydyw tybied mai ystyr yr enw ydyw "y byd yr hwn oedd i ddyfod, ac a ddaw o hyn hyd ail ymddangosiad Crist."

Ac a syrthiant ymaith; yn hytrach, "ac a syrthiasant ymaith " Cymharer y geiriau " llithro ymaith " yn ii. 1. Rhaid esbonio yr ystyr oddiwrth x. 26—29. Nis gall fod yr adnodau hyny yn cyfeirio at ym- ddygiad gwaeth na'r adn. hon. Gan hyny, y mae yn gynwysedig mewn " syrthio ymaith" bechu yn wirfoddol, mathru Mab Duw, barnu yn aflan waed y cyfamod, difenwi Ysbryd y Gras, a thynu yn ol (x. 38). Nid syrthio i bechod a feddylir, ond ymadaw yn hollol â Christionogaeth. Ceir yr un gair yn Ezec. xx. 27, ac yn yr un ystyr, sef teyrnfradwriaeth yn erbyn Duw: "Yn hyn y'm cablodd eich tadau, gan wneuthur o honynt gamwedd i'm herbyn."

64 YE EPISTOL AT YR HEBREAID.

ail groeshoelio iddynt eu hunain Fab Duw, ac yn ei osod yn

Ymadnewyddu drachefn. Y cyfieithiad cywir ydyw "adnewyddu drachefn." Nid yr ystyr ydyw nas gallant hwy ymadnewyddu, hyny yw, adnewyddu eu hunain, er y gall Luw eu hadnewyddu. Hwn yw esboniad De Wette. Ond ni oddef y geiriau yr ystyr hwn. Y mae y gair i'w gyssylltu a'r gair " anmhosibl :" " Anmhosibl yw adnewyddu drachefn y rhai a oleuwyd unwaith," &c. Tybia y gair "drachefn " eu bod wedi eu hadnewyddu unwaith ; ac nid oes genym hawl i briodoli unrhyw ystyr gwanach i'r gair nag a roddir iddo gan yr Apostol Paul yn Tit. iii. 5 : " Yn ol ei drugaredd yr achubodd efe nyni, trwy olchiad yr adenedigaeth, ac adnewyddiad yr Ysbryd Glân." Y mae yn bosibl i ddynion syrthio ymaith oddiwrth yr adnewyddiad neu yr adenedigaeth yma, ac y mae hefyd yn anmhosibl eu hadnewyddu drachefn a;u hadfer i gyflwr o adenedigaeth. Hyn ydyw ystyr diymwad yr awdwr. Y mae yr holl dadau eglwysig, yn wir pob esboniwr cyn Erasmus, yn meddwl mai ail fedydd a olygir wrth yr adnewyddiad hwn. Barnent fod yr awdwr, tra yn caniatau y posibilrwydd o achubiaeth y gwrthgiliwr, yn gwahardd ail fedydd iddo. Ni raid dyweyd fod yr esboniad yn hollol annichonadwy ; oblegid (1) " i edifeirwch" a ddywedir, nid " ar eu hedifeirwch;" (2) y mae y rheswm a rydd yr awdwr i brofi fod adnewyddiad yn anmhosibl yn ddigon i brofi anmhosibilrwydd achubiaeth ; ac (3) nid oes dim pwysig mewn gwahardd ail fedydd, os caniateir y posibilrwydd o adferiad ysbrydol. Ond tueddai rhai o esgobion yr Eglwys Orllewinol i wrthod yr Epistol am ei fod, i'w tyb hwy, yn dysgu nad oes adferiad i neb a wrth- güiodd unwaith, tra y derbyniai Donatus yr Epistol am fod yr athrawiaeth hon ynddo.

I edifeirwch. Y rheswm paham nas gellir eu hadfer i gyflwr o adenedigaeth ydyw nas gellir eu hadnewyddu i edifeirwch, yr hwn yw amod adenedigaeth. Y mae yr anmhosibilrwydd ynddynt eu hunain yn gystal ag o ddigofaint Duw. Ni chant fyned i mewn am na allant.

Gran eu bod yn ail groeshoelio, &c. Y mae y geiriau " ac a syrthiasant ymaith ' ' yn golygu yn y gwreiddiol un weithred orphenol ; ond y mae yr awdwr yn y geiriau dilynol yn newid yr amser, a golyga y geiriau " ail groeehoelio" a " gosod yn watwar " weithred sydd ynparhau. Y mae y cyfnewidiad yn awgrymu cyfnewidiad yn y cyfieithiad, yr hwn eydd ynddo ei hun yr un mor gyfreithlawn, sef, "tra y parhaont i ail groeshoelio a thra y parhaont i watwar." Yr wrthddadl a ddygir gan Dr. Thomas yn erbyn y cyfieithiad hwn ydyw fod pob pechod, tra y parheir ynddo, yn gwneyd eadwedigaeth y pechadur yn anmhosibl. Ond a ydyw hyn felly r Ai nid dyledswydd pechadur ydyw dyf od at Grist fel y mae, yn ei bechodau, a hyny fel yr unig foddion effeithiol iddo gael ei wared odditan eu harglwyddiaeth ? Ond am y pechod neillduol o barhau i ail groeshoelio a gwatwar Mab Duw, y mae hwn yn gwneyd edifeirwch yn anmhosibl, yr hyn na wna unrhyw bechod arall. Yr un pryd tueddir i lynu wrth yr hen gyfieithiad (" gan eu bod yn parhau " yn lie " tra y parhaont "), am y rheswm y buasai yr awdwr, yn ol bob tebyg, yn dyweyd " os ail groeshoeliant," &c. Eto, y mae y cyfnewidiad yn yr amser yn bwysig ac yn arwain at wir ystyr yr adnodau. Yn ol yr hen gyfieithiad y mae y geiriau " gan eu bod yn parhau i ail groeshoelio," &c., yn esboniad ar y geiriau ;'aca syrthiasant ymaith." Er mai un weithred ydyw syrthio ymaith, eto cynwysa eu bod yn dal yn benderfynol a didor i ail groeshoelio a gwatwar Crist, a dywed yr awdwr hyn er mwyn dangos paham y mae yn anmhosibl en hadnewyddu. Gan hyny, golyga yr ymadrodd " syrthio

YE EPISTOL AT YE HEBEEAID. 65

watwar. Canys y ddaear, yr hon sydd yn yfed y gwlaw sydd 7 yn mynych-ddyfod ami, ac yn dwyn llysiau cymmwys i'r rhai

ymaith " lawer mwy yn yr adn. hon nag a olygid wrtho yn y brif eglwys, pan y cynwysai y gair ddau ddosbarth gwahanol o ddynion ; y naiíí oedd y gwrthodwyr fapostatai), a'r llall oedd y rhai a gwympent (lapsij. Y dosbarth blaenaf oedd y rhai a wrthgiKent ohonynt eu hunain ; yr olaf ©edd y rhai a wrthgilient gan ofn merthyrdod. îfì fynai Novatian adferu y naill na'r llall : adferai yr Eglwys yr olaf , ond nid y blaenaf. Ond yn yr adn. hon cynwysa yr ynoadrodd " syrthio ymaith" fwy na'r naill na'r llall, sef ysbryd gwawdhyd. Pe na buaeai syrthio ymaith yn cynwys hyn, ni buasai eu cyfiwr yn anobeithiol ; ac os ceir esampiau o ddynion yn syrthio ymaith, heb ddal yn benderfynol i watwar Crist, nid yw eu hadferiad jn amahoewl.

Ail groeshoelk). Ystyr y gair gwreiddiel yn y Uyfrau clasuro! ydyw " eroeshoelio." Ni cheir y gair yn y llyfrau Heilenhtaidd (hyny ydyw, y llyfrau a ysgrifenwyd yn yr iaith Roeg gan Iuddewon) ond yn y He hwn. Ar y cyfan, gwell ydyw gdygu mai ei ystyr yma ydyw "ail groeshoelio," mewn cyferbyniad i'r gair " a</-newyddu," ac ntewn cyssylîtiad â'r geiriau " iddynt eu hnnain."

Iddynt eu hunain. Tybia rhai mai yr ystyr ydyw "i'w dinystr eu hunain :" ond prin iawn y mae y cyfieithiad hwn yn oddefol. Tybia Bengel fod y geiriau yn golygu eu bod yn ail groeshoelio Crist eu hunain. fel y maent yn ei osod i eraill i'w watwar. Ond y mae y gair " eroeshoelio" yn tybied cyhoeddusrwydd, ac felly nid oes dim ystyr i*r cyferbyniad a ddychymyga Bengel. Tybia eraili mai yr ystyr ydyw eu bod yn ail groeshoelio Crist can belied ac y mae a fyntntf hut/ àg ef, ac felly eu bodyn ei Iwyr wrthod. O'r braidd. mi dybiaf, y goddef y gwreiddiol yr ystyr hwn o Iwyr wrthod. Gwell genyf yr esboniad eu bod yn ail groeshoeẀi Crist Hior bell ag y mae a fynont hwy âg ef , mewn cyferbyniad i'r croes- hoelio ar Galfaria, yr hwn oedd yn dal perthynas â chadwedigaeth dynol- ryw ac â ehyflwr dynion yn llywodraeth foesol Duw. Ond nid yw yr ail groeshocJiad yn cyrhaedd ymbeilach na'r gwatwarwyr eu hunain.

Fab Euw. Rhoddir yr enw hwn ar Grist yma i ddangos dau beth, (1) y rheswm paham y mae Duw yn digio eymaint ; (2) y rheswm paham y mae y dynion eu hunain yn analluog i edifarhau. Gwyddent mai Mab Duw ydoedd, ac eto croeshoeliasant ef. Croeshoeliasai eu tadau ef heb wybod pwy ydoedd (Luc xxiii. 34), ac am hyny gweddiai yr Iesu ar ei Dad faddeu iddynt.

Gosod yn watwar. Ychwanega yr awdwr hyn i ddangos eu hamcan a'u hysbryd pan yn ail groeshoelio Crist. Gwel 1 Cor. ir. 9.

Wedi ceisio egluro y geiriau ar eu penau eu hunain. deuaf , yn y öe nesaf. at amcan cyffredinol yr adnodau. Dywed yr awdwr ei bod yn anmhoeibl adnewydd». dynion hyn i edifeirwch. Yn gyntaf, ni ddylid gwanhau ystyr y gair •« anmhosibl," fel pe gallai olygu " anhawdd." Y mae yr ymadroddion cyfícìjb yn 3. 2t> yn profi hyii. Yn aii, nis gallaf dderbyn yr esboniad mai tybiaeth oamgylchiadnadywbyth yndigwyddsydd yn yr adnodau hyn. Nid y rheswm paham nas gallaf fj bwysiadu V syniad hwn ydyw y byddai y fath dybiaeth yn gwneyd y rhybudd hwn tb afreidiol. Gallaf ddeall yn hawdd fod Duw yn rhybuddio ei bobl rhag perygl, ac ar yr un pryd yn bwriadu eu cadw rhagddo, ond yn defnyddio eu hofnau hwy o'r perygl yn foddion i gyflawni ei fwriad grasol. Ond y mae ffurf yr holl frawddeg yn wahanol i'r hyn a ddisgwyliwn, pe tybiaeth o beth nas gall ddygwydd a gynwysai. Heblaw hyny, y mae desgrifiad yr awdwr o natur

66 YE EPISTOL AT YR HEBEEAID.

y llafurir hi.ganddynt, sydd yn derbyn bendith gan Dduw: 8 Eithr yr hon sydd yn dwyn drain a mieri, sydd anghyniineradwy,

y pechod yn peri ei bod yn anhawdd iawn gwrthod y syniad mai y pechod yn erbyn yr Ysbryd Glân sydd yn ei feddwl, ac nid tybiaeth na ddigwydd Dyth ydyw hwnw. Yn drydydd, nis gallaf ymryddhau oddiwrth y raeddwl nad oedd y pwnc athrawiaethol o barhad mewn gras neu gwymp oddiwrth ras o âaen llygad awdwr yr Epistol hwn. Nid ymddengys i mi ei bod yn angenrheidiol i ni ystyried fod holl athrawiaethau yr efengyl yr un mor eglur i bob un o ysgrifenwyr y Testament Newydd, mwy nag y mae yn ofynol i ni gredu fod pob un o ysgrifenwyr yr Hen Destament yn eu sylweddoli. Yr ydym ni yn Nghymru wedi arfer deffinio cymaint, a gosod pob athrawiaeth yn ei lie yn ein cyfundrefn, a phenderfynu gwir- ionedd pob syniad yn ol ei gysondeb â Chalfìniaeth neu Arminiaeth , f el y mae yn gofyn ymdrech meddyliol i ddychymygu ein hunain yn astudio awdwr duwinyddol nad yw yn gwybod nac yn meddwl dim o gwbl am na Chamniaeth nac Arminiaeth, ac eto, i'r dosbarth hwn o ysgrifenwyr y perthyn awdwr yr Epistol at yr Hebreaid. Yn bedwerydd, gan adael o'r neilldu yr ymholiad pa un ai gwir gredinwyr, ai eraill, a feddylir, y mae yr holl ddesgrifiad yn crynhoi o amgylch y syniad o oleuo y meddwl am bethau ysbrydol, a'r goleuni hwn ei hun yn cael ei ddefnyddio i watwar wist. Ni chrybwylla yr awdwr o gwbl am gariad at Dduw. I'r gwrthwyneb, •dwg y syniad hwn i mewn wedi hyn pan yn datgan ei grediniaeth nad oedd y desgrifiad a roddasai yn wir am yr Hebreaid. Yr oeddynt hwy wedi dangos llafur cariad, ac, am hyny, nid oeddynt wedi syrthio ymaith eto, adn. 10. Ond pan y mae dynion wedi derbyn trwy yr efengyl oleuni ysbrydol, wedi archwaethu y rhodd nefol, wedi cyfranogi o'r dylanwadau dwyfol ar eu hysbryd, wedi cael bias ar Air Duw, ac wedi eu dwyn dan weithrediadau goruwchnaturiol y cyfnod Cristionogol, ac yn troi yr holl oleuni a'r rhoddion goruchel hyn i watwar Mab Duw, y mae efe yn pechu yn erbyn awdwr y goleuni hwnw, sef yr Ysbryd Glân, ac y mae ei gyflwr ei hun, a barn Duw arno, yn peri ei bod yn anmhosibl ei adnewyddu i edifeirwch. Darllener Esaiah, pen. r.

ADN. 7, 8. Eglura yr awdwr ei feddwl trwy gyffelybiaeth am dir wedi ei arloesi yn dda ac yn dwyn llysiau cymwys neu ynte ddrain a mieri. Darllener Matt. xiii. 1 23.

Canys y ddaear yr hon sydd yn yfed y gwlaw ; yn hytrach, " Canys tir yr hwn a yfodd y gwlaw." Golyga y gair "yfed " gyflawnder, nes mwydo y tir. mae hyn yn y gyffelybiaeth yn cyfateb i'r goleuo unwaith, profi y rhodd nefol, cyfranogi o'r Ysbryd Glân, profi gair Duw, a nerthoedd y byd a ddaw, yn y cymhwysiad. Disgyn y gwlaw ar yr holl dir, a gwna ef oil yn fras.

Ac yn dwyn llysiau cymhwys i'r rhai y llafurir hi ganddynt ; neu, yn hytrach, " er mwyn y rhai hefyd y llafurir hi." Ar gyfer hyn y mae y dybiaeth am dir yn bwrw allan (canys dyna ystyr y gair) ddrain ac ysgall. Ni sonir yn y cymhwysiad o'r gyffelybiaeth am yr hyn sydd yn cyfateb i ddwyn llysiau cymhwys. Cyfynga yr awdwr ei sylw at yr ochr arall. Yr hyn sydd yn cyfateb i fwrw allan ddrain ac ysgall (gyda chyfeiriad at Gen. iii. 18, ond gyda hyn o wahaniaeth, maiyno am y gosb y crybwyllir, ond yma at yr hyn sydd yn haeddu cosb) , ydyw ' ' syrthio ymaith," fel y mae hyny yn cynwys gwatwar Mab Duw.

Yn derbyn bendith ; ac, ar gyfer hyny, ' anghymeradwy ac agos i felldith." Ni chrybwyllir yr hyn sydd yn cyfateb i'r cyntaf. Cyfeiria yr awdwr at Gen. i. 12 ; Salm lxv. 10. Ond yr hyn sydd yn cyfateb i'r olaf

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. 07

ac agos i felldith ; diwedd yr hon yw, ei llosgi. Eithr yr ydym 9 ni yn coelio am danoch chwi, anwylyd, bethau gwell, a phethau

ydyw anmhosibilrwydd adnewyddiad. Eto, dichon nad ydyw sylw Chry- sostom yn ddisail, fod yr awdwr yn dyweyd " agos" i awgrymu fod yn bosibl osgoi y f elldith trwy edifeirwch. O'r hyn lleiaf , y mae yn deilwng o sylw fod yr awdwr yn newid y gair yn yr adn. nesaf ; " yn nglyn wrth," nid " yn agos i."

Y mao y gyffelybiaeth hon yn ateb tri o ddybenion : Yn gyntaf, dengys y ddwy ochr, y fendith ar ffyddlondeb, a'r felldith am gynyrchu chwyn yn lie fL'rwyth. Yn ail, dengys fel y mae yr un tir, a'r un brasder. yn cynyrehu chwyn neu ffrwyth. Y dynion sydd wedi derbyn fwyaf o oleuni a dylanwadau ysbrydol ydyw y mwyaf anobeithiol, os syrthiant ymaith. Y mae y doniau hyny ddylai fod yn feithriniad i dduwioldeb yn cael eu troi i gynyrchu ysbryd gwatwar. Yn drydydd, dengys weithrediad Duw yn y peth. Yr achos fod y tir sydd yn ffrwytho yn ffrwytho mwy ydyw bendith Duw ; a'r achos fod tir sydd yn dwyn drain a mieri yn cael ei losgi ydyw melldith Duw. Felly gyda golwg ar ddynion. Nid ynddynt hwy yn unig y mae yr achos o'u lìwyddiant neu o'u dinystr, ond yn mendith neu yn mam Duw arnynt.

Y llafurir hi ganddynt; yn hytrach, "y llafurir hi, ie, erddynt." Golyga y gair mai er mwyn dynion yn unig y llafurir y tir. Felly, yn y cymhwysiad, er mwyn gogoniant Duw y rhoddir y fath fendithion ysbrydol i ddynion.

Anghymmeradwy. Ystyr cyntaf y gair ydyw "annerbyniol." Xid yw tarddiad y gair gwreiddiol yn cyfeirio o gwbl at brawf, fel pe yr ystyr fyddai " anghymmeradwy yn y prawf."

Yr hon. Y mae yn 'amheus pa un ai y tir ai y felldith a feddylir. Tueddir fi i dybied mai y felldith ; yn gyntaf, am mai hwn yw y gair agosaf ; ac, yn ail, am mai y cyfieithiad llythyrenol ydyw, "hydat losgiad," hyny yw, melldith hyd yr eithaf, hyd at hollol ddinystriad. Gwel x. 27.

Ei llosgi. Xid "ei goddeithio" a ddywedir, neu losgi y chwyn ar y wyneb. Cyfeiria yr awdwr yn hytrach at ddinasoedd y gwastadedd. Gwel Gen. xix. 24 ; Deut. xxix. 23.

2. Methiant yn Anmhosibl. vi. 9—20.

ADN. 9. Coelio. Y mae y gair yn rhy wan. Yr ystyr ydyw, " yr ydym yn argyhoeddedig."

Bethau gwell; yn hytrach, "y pethau gwell," sef fod y desgrifiad o'r tir sydd yn dwyn Uysiau cymhwys yn wir am danynt, ac nid y desgrifiad o'r tir sydd yn dwyn drain ac ysgall. Golyga y gair " gwell," nid " mwy ffortunus," ond " mwy daionus," mewn ystyr foesol. Yn hyn yr oedd gobeithion yr awdwr yn ymaflyd. Credai eu bod yn dwyn ffrwyth mewn gweithgarwch crefyddol, ac am hyny fod ynddynt rywbeth sydd ynglyn wrth iachawdwriaeth. Awgryma yr ymadrodd "pethau gwell" fod pethau gwaeth, a bod y rhai hyny mor arswydlawn fel na fyn yr awdwr gredu fod yr Hebreaid dan eu dylanwad.

A phethau ynglyn wrth iachawdwriaeth; yn hytrach, "y pethau gwell y rhai sydd hefyd (hyny yw, heblaw eu bod yn well ynddynt eu hunain mewn ystyr foesol) ynglj-n wrth iachawdwriaeth." Am ei fod yn credu eu bod yn debyg i'r tir a ddwg lysiau cymhwys, credai hefyd eu bod, m.twn canlyniad, yn agoshau, nid at felldith, ond at iachawdwriaeth.

(J 8 YE EPISTOL AT YR HEBREAID.

y'nglŷn wrth. iachawdwriaeth, er em bod yn dywedyd fel hyn.

10 Canys nid yw Duw yn anghyfiawn, fel yr anghofio eicli gwaith,

a'r llaf urus gariad, yr hwn a ddangosasoch tu ag at ei enw ef , y

Golyga y gair " iachawdwriaeth" yn yr Epistol hwn, nid cyflwr presenol y credinwyr, ond y gorpheniad buddugoliaethus, y niynediad i'r orphwysfa, cadwedigaeth derfynol yr enaid. Gwel v. 9 ; ix. 28.

Er ein bod yn dywedyd fel hyn ; hyny yw, er fod yr awdwr wedi dywedyd fod yn rhaid iddynt wrth laeth megis pe byddent wedi syrthio i'w hail blentyndod, ac er iddo ddarlunio y sefyllfa anobeithiol y mae y fath gyflwr yn dueddol i arwain iddo. Gobeithiai eu bod, yn hytrach, yn meddu y pethau gwell sydd yn arwain i iachawdwriaeth.

ADN. 10. Anghyfiawn. mae duwinyddion Eglwys Ehufain vn tvnu 7 casgliad oddiwrth y gair hwn y gall dyn adgenedledig wneyd gweithredoedd sydd yn haeddu gicobr. Galwant yr haeddiant hwn wrth yr enw meritum condigni, hyny yw, haeddiant yn codi o gyd-deilyngdod y dyn adgenedledig a gras Duw. Y mae Ebrard yn gwrthddadleu yn erbyn Ji athrawiaeth hon trwy esbonio mai ystyr yr awdwr ydyw y byddai i Dduw anghofio gwaith ei bobl yn anghyfiawn tuag at Grist. Ond nis gellir derbyn yr esboniad hwn. Pe hyn fuasai yr ystyr, dywedasai yr awdwr hvny yn eglur. Heblaw hyny, y mae y Testament Newydd drwyddo yn dysgu fod cyfiawnder Duw yn ei rwymo i wobrwyo ei bobl. Yr ateb i'r Pabyddion ydyw mai trefn rasol Duw sydd wedi gosod y cyfiawnder hwnw i fyny, ac mai gras Duw sydd yn wreiddyn pob gallu mewn dynion i wneyd dim sydd yn derbyn gwobr. Felly, esboniad ar y gair " cyfiawnder "" Duw yn hyn ydyw y gair " fEyddlondeb," yn 1 loan i. 9. Gan hyny, anghyaondeb yn y duwinyddion Pabaidd ydyw priodoli "haeddiant" i;r hyn sydd, yn ol eu haddefiad eu hunain, yn ras Duw mewn dyn.

Llafurus g-ariad. Y darlleniad cywir ydyw "eich cariad." Llithrodd y gair "llafur" i mewn trwy ddiofalwch copiwr ua o'r llawysgrifau, sef D, oddiwrth 1 Thes*. i. 3.

Tuag* at ei enw ef. Yr oedd eu caredigrwydd i'r saint yn weithred tuag at Dduw hefvd.

A weiniasoch. Gwel x. 32—34. Oblegid tlodi yr eglwys yn Jerusalem barna llawer o'r esbonwyr fod yr adn. hon yn ddigon i brofi mai nid at yr eglwys hono yr ysgrifenwyd yr Epistol hwn. Yr oedd Paid wedi bod vn casglu i'r saint yn Jerusalem yn eglwyai Galatia, Macedonia, ac Achaia (gwel 1 Cor. xvi 1 ; Ehuf. xr. 26). Khaid cydnabod fod llawer o rym yn y ddadl hon ; a dyddorol iawn ydyw yr awgrym sydd, yn ol y golygiad hwn, yn yr adn. fod Hebreaid yn parhau i gynorthwyo y saint tlodion vn Jerusalem. Nid oes lie i feddwl fod yr eglwyai cenhedlig wedi gwneyd'mwy nag un casgliad iddynt. Ar y Haw arall, dylid cofio nad oes genym unrhyw gyfeiriad o gwbl, os nad yn y lie hwn, fod eglwys o Hebreaid wedi anion cynorthwy i'r eglwys yn Jerusalem. Heblaw hyny, nid yw y gair "gweini" yn golygu o angenrheidrwydd gynorthwy arianol. Gwel Matt. xxv. 44. Pe gellid bod yn sicr fod yr enw " y saint " yn cael ei ddefnyddic yn y Testament Newydd am yr eglwys yn Jerusalem yn arbenig, fe fyddai mwy o rym yn y ddadl i brofi mai nid at yr eglwys hono yr ysgrifenwyd yr Epistol. Ond gan fod hyny yn ansicr, gallwn esbonio vr adn. hon fel canmoliaeth i'r aelodau yn eglwys Jerusalem am gynorthwyo eu gilydd. Y mae yr yniadrodd yn y gwreiddiol yn Ehuf. xv. 26 yn awgryniu fod rhai yn eglwys Jerusalem heb fod yn dlawd : " Y rhai hyny sydd yn dlodion o'r saint yn Jerusalem." Cyfeiria

YE. EPISTOL AT YE, HEBREAID. 6t>

rhai a weiniasoch i'r saint, ac ydych yn gweini. Ac yr ydym yn 11 chwennyeh fod i bob un o honoch ddangos yr un diwydrwydd, er mwyn llawn -sicrwydd gobaith hyd y diwedd: Fel na 12 byddoch fusgrell, eithr yn ddilynwyr i'r rhai trwy ffydd ac

y gair " gweiniasoeh " at un cynorthwy arbenig. Y inae hyn yn ffafr y golygiad a grybwyllir uchod.

ADN. 11. Pob un ; oblegid ni fyn awgrjmu nad oedd rhai eisoes yn gwneyd.

Yr un diwydrwydd; neu "zel," "dyfalwch;" yr un dyfalwch, byny ydyw, i gyrhaedd llawn sicrwydd gobaith ag a ddangooent i wemi i'r saint. Y mac yn egfcar fod y cyfieithwyr Cymraeg yn desill yr ystyr yn wahanol: "yr un diwydrwydd mewn gweini eto ag a ddangosasent o'r blaen, yr hyn 08 gwnant a ddwg iddynt lawn sicrwydd gobaith." Hwn oedd yr hen esboniad, * dadkua Dr. Thomas eto yn gryfdrosto. Ond y mae yr adn. nesaf yn cyfeirio, nid at garedigrwydd b*»wdol yn unig, ond at efelychu, mewn ffydd ac amynedd, etifeddion yr addewid. Yr unig ddadl o Uatd yr hen esboniad sydd yn siglo fy meddwl ydyw y drydedd a grybwylla Dr. Thomas, fod y gair " dangos " yn fwy cyfaddas i'w gyssylltu â diwydrwydd mewn. llafur gweledig nag â diwydrwydd mewn ymdrech mwy persoaoi a dirgel. Ond yr ateb ydyw fod yr awdwr yn awyddus iddynt gymheil eu gilydd trwy ddangos diwydrwydd. Calvin bia yr esboniad arafl. Mabwysiadwyd ef gan Bengel a'r nifcr h»of>ocai o esbon- wyr ar et oi ef. Nid amcan cyffredhaol yr awdwr ydyw cymhell i garedigrwydd brawdol, ond i ymlyniad yn Nghrist. Anoga hwyni i fod mor ddyfal i gyrhaedd llawn sicrwydd i'w hysbryd eu hunain ag yr oeddynt i gyflenwi angenion eorphorol eu brodyr.

Llawn sicrwydd gobaith. Gellir deall yr ymadrodd yn gyf ystyr â "llawnder c obaith." Ond amcan yr awdwr ydyw cryfhau eu hargy- hoeddiad o wirioneddau yr ei>ngyl. Felly, gwefl ydyw yr esboniad arall : "llawn sicrwydd yn eich meddyliau am yr eiengyl, a'r aierwydd hwnw yn codi o obaith." Perygl yr'Hwreakl oedd digakmdjd ac aaob»ith.

Hyd y diwedd. Yr ystyr ydyw, fel y gweiir odŵw*th üi. 14, "hyd at berffaith hyder." Ond gelwir y cyrhaeddiad hwn o berffeithrwydd eu hyder yn "ddiwedd," am mai dyfodiad yr Argrwydd, a diwedd yr oruchwyliaeth breaenol, fydd yn pcrffeithio hyder.

ADN. 12.— Musgrell. Gwel nodaad ar y. 11. Yr ystyr yw, "fel na byddoch hwyrdrwm mwy, fel y bnoch hyd yn hyn." Ond defnyddir yinadrodd pur dyner, " fel nad eloch."

Tn cMilynwyr, yn yr ystyr a drosglwyddir yn ein dyddiau ni yn y gair " efelychwyr," neu, yn iaith y Dcheudir, yn y gair " dyn wared wyr." Y mae y gair " efelychu " yn hen an yn Gymraeg, a dylid ei fabwysiadu yma.

Ffydd. Gan mai hwn yw y He cyntaf y eeir y gair "ffydd" ynddo yn yr Epistol, da fydd i ni gofto nad yr un ystyr yn holk>l sydd i'r gadr yn yr Epistol hwn âg yn ysgrifeniadau yr Apostol Paul. îŵi ek yfftyr yn yr Epistol hwn ydyw ymddiried yr ena4d ar Grist mewn eyferbyrnad i weithredocdd. Yn hytrach golyga y gwrokieb syddyn oyflawiii y gweifch- redoedd mwyaf nerthol. Y mae y ddau ystyr yn hottol gyson â'u gilydd; ìè, ý mae y naill beth yn cynyrchu y llall ; ac y mae atArcmmteéh Paul yn yr Epistol, er nad geiriau Paul. Eto y maent jn goeod aífewi ddwy oohr wahanol i'r un gras. Sylwer, yn mhellach, nad yw yr awdwr hydyn hyn wedi dwyn i'r golwg ystyr ddyfnaf y gair ffydd. Dew hyny mewn rhanau dîTynol o'r Epistol, lie y dengys mai ffydd yw y galhi i sylwe ddoli yr

70 YE EPI8TOL AT YR HEBREAID.

13 amynedd sydd yn etifeddu yr addewidion. Canys Duw, wrth wneutkur addewid i Abraham, oblegid na allai dyngu i neb

ysbrydol, wi weled yr anweledig." Hyd yma yr ua peth ydyw ffydd a hyder. Effaith y ffydd hon ydyw "amynedd;" a golyga y gair hwn drachefn, yn yr adn. hon, ddisgwyliad am y dyfodol, liid yn gymaint chysgogrwydd i ddal o dan bwysau anhawsderau a phrofedigaeth. Gwel x. 36 38, lie y defnyddir gair arall. Golyga y gair sydd yn yr adn. hon áawelwch hir-ymarhous i ddisgwyl; golyga y gair sydd yn x. 36 bender - fyniad i ymgynhal yn ddewr o dan "bwysau anhawsderau a phrofedigaeth. Ond ffydd ydyw y gair sydd yn gosod allan y gallu i sylweddoli yr ysbrydol yn y rhanau dilynol o'r Epistol ; a'r gallu hwn y w gwreiddyn hyder ac amynedd, y naill fel y llall.

Etifeddu. Esbonia Alford ac eraill y gair yn yr ystyr © etifeddion, heb olwg ar am?er. Ond ni byddai hyny yn dwyn i sylw yr anogaeth gref sydd yn y gair i amynedd. Gwell, gan hyny, ydyw y golygiad fod y gair yn yr amseriad presenol i ddesgrifio y saint yn dyf od i'r etifeddiaeth y naill mr ol y llall, a phob un ar hyd yr un llwybr o ffydd ac amynedd. Y mae yn eglur fod yr awdwr ar drothwy y darluniad gogoneddus a rydd yn yr unfed benod ar ddeg o wroniaid ffydd. Ond gwell ganddo ar hyn o bryd ymatal ; ef allai am na? gall, can belled ag y mae yr ymresymiad wedi ei arwain eto, ddesgrifio ffydd fel sylweddoüad o'r anweledig. Hyd yma yr un peth ydyw ffydd a hyder. Wedi iddo egluro natur y cyfamod newydd a mynedaad Crist i'r gwir gysegr, cawn weled fod ei ddarnodiad o ffydd wed! dyfnhau yn ddirfawr. Heblaw hyny, y mae yr awdwr yn awyddus i son am y llw a wnaeth Duw i Abraham, a hyny, nid yn unig i gysuro yr Hebreai'd, ond hefyd i barotoi eu meddyliau i ddeaÚ a gwerthfawrogi y gwahaniaeth a eglurir ganddo ar ol hyn rhwng yr offeiriaid a wnaethpwyd heb lw a:r offeiriad a wnaethpwyd trwy lw.

Etifeddu ; hyny yw, derbyn cyflawniad o'r addewidion, fel yn xi. 39. Er fod yr awdwr yn dyweyd yn yr adn. hono na dderbyniasant hwy yr addewid. y mae y ddwy adn. yn hollol gyson â'ù gilydd. Ni dderbyniasant

Igyflawniad or addewid ar y ddaear: ond y maent yn derbyn y cyflawniad yn y nefoedd. Gwel nodiad ar xi. 39.

ADN. 13 Canys. Defnyddir y gair yn fynych, nid i hrofi pwnc, end i ddwyn i mewn esampl o'r peth. Ond y mae esampl Abraham yn brawf hefyd. Ni wnai esampl neb arall y tro ond esampl Abraham yn y lie hwn. Oblegid i Abraham y rhoddwyd yr addewid y geilw yr awdwr yr Hebreaid i' w hetifeddu. Hwynt-hwy yw etifeddion Abraham, os dangosant ddiwydrwydd i gymmeryd gafael yn y gobaith a osodwyd o'u blaen, ac yn yr un efengyl y mae Abraham ei hun yn derbyn cyflawniad o'r addewid. Iddynt hwy y mae yr addewid; ond, os syrthiant ymaith oddiwrth eu hyder, fe ddichoa Duw o'r meini gyfodi plant i Abraham.

"Wrth. wneyd addewid. Gwell fuasai cyfieithiad mwy llythyrenol, 4iwrth addaw; " oblegid yr addewid am Grist a feddylir. Gwel Gal. iii. 16. Pe na buasem yn gwybod oddiwrth f anau eraill fod Abraham wedi deall fod yT addewid ya cyfeirio at Grist, gallasem dderbyn golygiad Davidson nad yw yr awdwr yn meddwl am unrhyw gyfeiriad o'r fath yn yr adn. hon. Ond yr oedd yr addewid i liosogi ei had jn Isaac yn cynwys llawer mwy nag a gynwysai yr addewid i liosogi ei had yn Ismael, ac am hyny rhoddodd Duw yr addewid yn Isaac trwy lw.

I neb .... iddo ei bun. Nid wyf yn sicr a yw y geiriau hya yn hollol ddiamwys yn Gymraeg. Nid yr ystyr ydyw, "tyngu er mwyn cadarnhau yr addewid i ryw ua." Yr ystyr ydyw, " tyngu yn

YE EPISTOL AT YR HEBREAID. 71

oedd fwy, a dyngodd iddo ei hun, Gan ddywedyd, Yn ddiau 14 gan fendithio y'th fendithiaf, a chan amlhâu y'th amlhâf. Ac 15 felly, wedi iddo hir-ymaros, efe a gafodd yr addewid. Canys 16 dynion yn wir sydd yn tyngu i un a fo mwy : a llw er sicrwydd, sydd derfyn iddynt ar bob ymryson. Yn yr hyn Duw, yn 17 ewyllysio yn helaethach ddangos i etifeddion yr addewid

enw rhyw un." Y mae hyn wedi ei fenthyca gan yr awdwr o Philo, yr hwn a ddywed: "Ti a weli nad yw Duw yn tyngu yn enw un arall; canys nid oes dim yn well nag ef ; ond yn ei enw ei hun, yr hwn yw y goreu o bawb." ADN. 14. Yn ddiau. Yn y geiriau hyn y mae y llw, ond gyda chyfeiriad at yr hyn a ddywedir yn Gen. xxii. 16, fod yr Arglwydd wedi tyngu.

ADN. 15.— Wedi iddo hir-ymaros. Y mae y cyfeiriad, nid yn unig at hanes ei fywyd ar y ddaear, ond hefyd at ei ddisgwyliad ffyddiog ac amyneddgar yn y nefoedd, hyd nes y gwelodd efe ddydd Crist ac y llawenychodd. Gwel loan viii. 56. Dengys yr awdwr yn xi. 40 fod y ffyddloniaid eraill hefyd, hyd yn nod yn y nefoedd, heb dderbyn cyflawniad yr addewid, fel na pherffeithiwyd hwy hebom ninau.

Efe a gafodd yr addewid. Pa bryd? Yn ngenedigaeth Isaac, medd y rhan fwyaf o esbonwyr. Ond ar ol genedigaeth Isaac y tyngodd yr Arglwydd i Abraham (Gen. xxii. 16). Heblaw hyny, cynwys yr addewid i Abraham oedd yr had, sef Crist. Onid ydyw in eglur mai yn nyfodiad Crist i'r byd ac yn sefydliad yr eglwys ysbrydol gan Grist yl derbyniodd Abraham gyflawniad llwyr o'r addewid ? Felly hefyd y' dywedir yn xi. 10 i Abraham geisio y ddinas y mae iddi y sylfaeni. Darluniad cyson y Testament Newydd o ffydd Abraham ydyw ei fod ef yn disgwyl bendith ysbrydol, nid bendith dymhorol yn unig.

ADN. 16.— Wrth un a fo mwy; yn hytrach, "yn enw yr un mwy," hyny yw, mwy na phawb, eef Duw.

A llw er sicrwỳdd, sydd derfyn iddynt ar bob ymryson ; yn hytrach, "ac ar bob gwrthddywediad y mae y llw yn derfyn hyd at sicrhad." Hyny yw, ni feddant ddim mwy i sicrhau gwirionedd unrhyw ddatganiad neu gadernid unrhyw ymrwymiad. Nid yw y llw yn sicrhau y peth. Ond am nas gallant wneyd dim yn mhellach, derbyniant ef yn derfyn ar bob cweryl neu wrthddywediad, a chymmerant y llw yn sicrhad. ADN. 17.— "Sn yr hyn. Y mae hwn yn gyfieithiad llythyrenol; ond y mae yn anhawdd gweled unrhyw ystyr i'r geiriau Cymraeg fel y maent. Dichon mai meddwl yr awdwr oedd, "yn wyneb yr hyn," sef oherwydd fod y llw yn rhoi taw ar bob gwrthddyweyd ymhlith dynion.

Yn ewyllysio ; nid yn unig yn foddlon, os bydd dynion yn gofyn, ond yn ewyllysio pan y mae eu ffydd hwy yn rhy wan i ofyn.

Yn helaethach ddangos ; hyny yw, yn helaethach nag y mae yr addewid heb y llw yn ddangos am ddianwadalwch y cynghor sydd yn gorwedd or golwg yn Kuw, ac sydd yn ffynhonell yr addewid. Y mae y gair cynghor yn tybied athrawiaeth y Drindod. Felly hefyd y mae y llw. Tybied, nid datgan.

A gyfryngodd. Y mae llw ymhlith dynion yn tybied dau berson, un i gymmeryd y llw, ac un arall, sef Duw, yn enw yr hwn y twng y llall. Pan bydd y llw yn cadarnhau ymrwymiad neu addewid, rhaid cael tri, sef y neb y gwneir yr ymrwymiad iddo yn ychwanegol at y ddau arall. Felly gellir ystyried fod Duw, pan yn cymmeryd ei lw yn ei enw ei hun wrth addaw . i Abraham, yn gosod ei him yn y canol rhyngddo ef ei hun ac Abraham.

/li YE EriSTOL AT YR HEBREAID.

18 ddi'anwadalwch ei gynghor, a gyfiyngodd trwy lw: Fel tr^y ddau beth d'ianwadal, yn j rhai if)- oedd yn ammhosibl i Dduw fod yn gelwyddog, j gallem ni gael cysur cryf , y rhai a ffoisom

19 i gymmeryd gafael yn y gobaith a osodwyd o'n blaen: Yr hwn

Dengys hyn i ni beth sydd yn ychwaneg yn y llw nag oedd yn yr addewid. Pan yn addaw, gesyd Duir ei hun megis rhwng Abraham fel derbynydd yr addewid ac Abraham yn eyilawni amodau yr addewid. Ac felly y gwnaeth Duw ug Abraham ar y cyntaf . Addawodd y fendith iddo ar yr amod ei fod ef yn ufuddhau, a hyny hyd éithaí y prawf mwyaf ehwerw. Ufuddliaodd Abraham jn hollol, a daeth trwy y prawf yn fuddugoliaethus, pau yr esgynodd i ben Moriah i offrymu ei unig fab Isaac, mab yr addewid. Am ei ufudd-dcd gwobrwyodd Duw ef trwy gymmeryd llw. Symudodd yr amod ©ddiar Abraham, a chymmerodd yr hoíl gyfrií'cldeb arno ei hun. Yn lie cyfrynga rhwng Abraham yn derbyn ac Abraham yn ufuddhau, safodd Duw rhwng Abraham fel derbynydd a Duw ei hun yn ei eirwiredd a'i fCyddlendeb iddo ei hun. With gymmeryd llw y mat dynion yn galw ar Dduw i'w lladd os nad ydynt yn eirwir. Wrtfc gytnmeryd llw y mae Duw yn g-wystlo ei fywyd ei hun ar ei eirwiredd.

ADN Ì8.— Dau beth dianwadal. Dengys y gair " dianwadalwch " ya adn. 17 mai cynghor Duw ydyw un o'r ddau beth dianwadal. Y mae jn eglur hefyd mai llw Duw, yr hwn sydd yn eadarnhau ei adch wid, yw y Hall. Nid yr addewid, gan hyny, a ieddylir. Gallai yr addewid fod yn amodcl, a byddai y cyfiawniad, oherwydd hyny, yn ansicr. Ond nid felly cynghor Duw, yr hwn sydd yn sicr o gael ei gyila^.vni. Nid yw y llw yn ychwanegu dim at ddianwadalwch y cynghor, ond rhydd sicrwydd i édynion mai cynghor neu benderfyniad Duw ydyw.

Anmhosibl. Dygir y gair hwn i mewn i ddangos y cyferbyniad rhwng anmhoiibilrwydd adferiad y rhai a syrthiasant ymaith a'r anmhosibilrwydd i'r rhai na syrthiant ymaith fethu derbyn cyfiawniad yr addewid a myned i'r etifeddiaeth. Yr ystyr ydyw nad oes dim yn anmhosibl i Dduw ond yn unig bod yn gelwyddog.

Cysur; yn hytrach, "cymhelliad," "anogaeth." Gelwir ef yn "gryi" am ei tod yn cryfhau dynion i gymmeryd gafael ddiysgog yn y gobaith.

A ffoisom; fel Lot o Sodom. Ymae meddwl yr awdwr yn symud eddiwrth haaes Abraham. Yn nghanol y tebygoirwydd rhwng ffydd Abraham a ffydd y ff'yddloiiiaid Cristionogol, yr oedcl llawer hefyd o wahaniaeth. Nid oes dim yn nghrefydd Abraham y gellir ei gymharu i ffoi rhag y Hid a fydd. Èi hiraeth ef oedd cael ei gasglu at ei dadau yn y ddinas y mae iddi y sylfeini. Dichon, gan hyny, fod yr awdwr, er mwyn gwneyd y gymìiariaeth yn fwy tarawiadol, yn meddwl am firoedigaeth Lot. ac efallai, yn y gair "cymmeryd gafael,*' yn cyl'eirio hefyd at y troseddwr yn ffoi at yr all or.

A osodwyd o'n blaen. Kk gellh, ystyried fod yr awdwr yn defnyddio y gair "gobaith" am wrthrych gobaith, yr hyn y gobeithir am dane ; oblegid sonir yn yr adn, nesaf am obaith fel teimlad oddifewn. Efallai fod yr. awdwr yn desgrifio y teimlad o obaith ei hun fel gwrthrych i ddal gafael sicr ynddo. Ein gobaith ei hun yw allor ein diogelwch. Gollwng ein gafael o obaith, hyny yw, llwfrhau, yw y perygl mwyaf. Y mae y gobaith syddwedi ei osodyn sefydlcg, yn gyferbyniol i "lithro heibio i'r angorfa :: a " syrthio ymaith."

ADN. 19.— Yr hwn; sef y gobaith. nid y cysur. Parha yr awdwr i ddesgrifio ein gobaith tufewnol fel gwrthrych, ond newidir y gyffelyb- iaeth oddiwrth allor dyogelwch at angor.

c

YR EPISTOL A.T YR HEBREAID. 73

■sydd gennym ni megis angor yr enaid, yn dd'iogel ac yn sicr, ac yn inyned i mewn hyd at yr hyn sydd o'r tu fewn i'r lien; I'r man yr aeth y rhag-flaenor drosom ni, sef lesu, yr hwn a 20 Avnaethpwyd yn Arch -offeiriad yn dragywyddol yn ol urdd Meldhisfed.ee.

PENOD VII AXYS y Melchisedec hwn, brenhin Salem, offeiriad y Duw I

Yn ddyogel a sicr. Y ruae yr angor yn (idyog^ am ei fod wecti ei wneyd o ddefnydd da ; ni thyr ac ni phlyga. Y mae yr angor yn u«h» am ei fod yn bachu yn .sicr yn y gwaelod. ^UlHJLi

Hyd at yr hyn sydd o'r tu fewn i'r lien. Newidir y gyffelybiaeth ■oto. Teflir angor i'r mùr. Ond y mae ein hangor ni. sef gobaith, yn myned i'i cysegr «ancteiddiolaf. Ystyr y gair "lien," ya. yr adn. hon, ydyw y lien rhvvng y cysegr a'r sancteiddiolaf. Gwel Exod. xxvi. 31—35. Gair Brail sydd yn golygu y lien rhwng y cyntedd a'r cysegr. Dygir y syaiad i mewn yma, er rawyn parotoi at y cyfeiriad yn yr adn. nesaf at lesu y«* myned i mewn i'r nefoedd.

ADN. 20. Y nefoedd yw y cysegr y Jaae ein gobaith, megis angor, yn myned i mewn iddo ac yn sicrhau ei afasl oddifewn ; y man yr aeth lesu iddo yn ei farwolaeta.

Rhagflaenor. Y mae y gyffelybiaeth unw*A.h eto yn newid. Aeth lesu i yn rhagredegydd i ni; aeth yno drosom ni, fel y mae yr

archoffeiriad yn myned i mewn i'r sancteiddiolaf dros y bobl ; ond aeth yno hefyd fel ein rl - Id ni, yr hyn nid oedd yr avchoffeiriad

luddewig i'r bobl, i si< liad ninau i mewn ar ei ol.

lesu ; Eeiriad at fynediad hanesyddol y dyn lean i'r nefoedd.

í >nd caw* weled mewn rhan ddilvnol o'r Epi^tol fod yn ofynol i ni beidio vmholi pa un ai at ei farwolaeth ai at ei eagyniad y eyfeiria yr awdwr. 1'w feddwl ef yr un mynediad i mewn yw y ddan. Wedi dyfod at y syniad fod lesu yn j nefoedd £el Offeiriad, y mae yr awdwr yn cydio à hyn y syniad J urdd Melchiaedec y mae efe yn Offeiriad. Y mae y ddan

viut A vn asio yn hollol. Yn y ffaith fod lesu yn Offeiriad yn ol urdd .Melchisedec yn y nefoedd y mae y cynihelliad eryfaf eto. Ac at hyn y dychwel yr awdwr bellach. Gyda'r crybwylliad am yr Archoffeiriad yn ol urdd Melchiaedec y dechreuodd yr adran hon sydd megis rhwng crom- fachau, a dengya ddeheurwydd neiilduol wrth gyinmeryd mantais ar y crybwylliad am Eeeu yn myned i aaewn i'r cysegr fel Offeiriad i ddyehwelyd. at y pwnc. Da fyddai cadw y geiriau " yn dragywydd" hyd ddiwedd yr adn., fel yn y gwreiddiol : "wedi dyfod ya ol urdd Melchiaedee ya Offeiriad yn dragwyddol."

VI.— Yr Offeiriad yn ol urdd Melchisedec.

vn. i— as.

Lychwel yr awdwr oddiwrth ei yinliwiad difrifol a'i gymhclliad calonogol at y pwnc y cychwynodd gydag ef yn v. 10, sef natur offt.iiiad- aeth Crist fel y dangosir hi yn bancs Melchisedec. Y mae y geiriau olaf o'r adran sydd mewn eromfachau yn o/nwys cnewyllyn y cwbl a gyrhaeddasai yr awdwr yn yr adranau blaenorol, sef fod lesu wedi myned i'r tu fewn i'r lien drosom ni ac fel em rhagredegydd ni, a chynwyea hyn drachefn ei fod yno yn Archoffeiriad tragwyddol. Hwn

74 YR EPISTOL AT YR HEBREAID.

Goruchaf, yr hwn a gyfarfu âg Abraham with, ddychwelyd

ydvw yr vmadrodd anhawdd ei draethu o achos fod yr Hebreaid yn hwyr- drẁm eu clustiau. Ymliw â hwynt oblegid hyny y mae yr awdwr yn y chweched benod. Erbyn hyn, yn y gobaith hyderus y gall gredu y pethau gwell am eu sefyllfa ysbrydol, dechreua ddehongli yr ymadrodd caled trwy gyffelybu Iesu i Melchisedec a dangos ei fod yn Offeiriad yn ol urdd Melchisedec. Y colyn y try holl ymresymiad y benod arno ydyw geiriau y Salmydd, "Tyngodd yr Arglwydd, ac nid edifarha, Ti wyt offeiriad yn dragwyddol, yn ol urdd Melchisedec," Salm ex. 4. Y mae y geiriau yn hynod f el awgrymia'd fod dymuniad am offeiriadaeth wahanol i offeiriadaeth Aaron yn Uechu yn rnynwes dynion mwyaf meddylgar a chrefyddol yr hen oruch- wyliaeth ei him. Ond yr hyn sydd yn gwneyd geiriau y Salmydd yn fwy dyeithrol fyth ydyw yr hiraeth a ddangosant am frenhin arall, yr hwn fydd yn fwy ca mab i Dafydd : " Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn fainc i'th draed " Salm ex. 1. Ac eto Dafydd ei hun sydd yn dywedyd hyn. Wrth Arglwydd Dafydd y llefarodd yr Arglwydd. Trwy gyfeiriad at yr un Salm y dyrysodd yr Iesu y Phariseaid, pan y gofynodd, "Os yw Dafydd, gan hyny, yn ei alw ef yn Arglwydd. pa fodd y mae efe yn fab iddòr" Sylwa Dehtzsch, yn ei Esboniad ar Lyfr y Salmau, "nad ydyw Dafydd yn gvvahaniaethu rhyngddo ei hun a Messia ond yn unig yn y Salm hon.'' Hyny ydyw. ymhob Salm Fessianaidd arall Dafydd ei hun yn cael ei ddesgrifio yn ei berffeithrwydd a chyflawnder ei ogoniant ydyw y Meema, ond yma darlunir ef fel Arglwydd Dafydd. Felly hefyd yn Llyfr Zechariah (vi. 11, 13), gorchymyna yr Arglwydd i'r prophwyd wneyd coronau a'u gosod ar ben Josua yr archoffeiriad ; a dywedir y bydd y gŵr a'i enw Blaguryn (gwel nodiad ar adn. 14) "yn offeiriad ar ei frenhin -fainc." Yn yr Apocrypha, drachefn, darlunir y tywysogion Maccabeaidd fel wedi eu gwisgo â gwisgoedd offeiriadol (1 Mace. x. 21). Y mae Philo wedi rhagflaenu awdwr yr Epistol yn ei ddeftgrifiad o Melchisedec fel offeiriad brenhinol. Oddiwrth hyn oil gellir casglu fod goreuon yr Hen Destament yn dyheu am ryw fath o frenhiniaeth well na brenhiniaeth Dafydd a rhyw fath o offeiriadaeth well nag offeiriadaeth Aaron, a disgwylient i'r fren- hiniaeth well a'r offeiriadaeth well gyfarfod yn yr un person. Ond tra y cydnabyddaf fod awdwr yr Epistol wedi cymmeryd y syniad o offeiriad brenhinol allan o ysbrydiaeth saint mwyaf yr Hen Destament ac o Philo, ychwanega efe un dìrychfeddwl yr hwn, mewn gwirionedd, sydd yn perffeithio y syniad ac yn ei wneyd yn gymhwysiadol at Iesu Grist, sef fod yr offeiriad sydd yn frenhin yn offeiriad tragwyddol. Yn wir, y drych- feddwl gogoneddus hwn oedd yn gwneyd hanes Melchisedec yn angen- rheidiol fel cysgod o Grist. Parhad diddiwedd yr offeiriadaeth yw y nodwedd neilìduol nas gellir ei dangos trwy y cysgodau byrhoedlog. Byddai mor hawdd i gysgod ddangos beth yw y corph ag a fyddai i ddefodau dros amser ddangos parhad tragwyddol. Yr unig ffordd i osod allan y syniad am offeiriadaeth dragwyddol ydyw trwy ryw offeiriadaeth nad oes son am na dechreu na diwedd iddi ; yn debyg fel yr arwyddoceir y tragwyddol ar gerfluniau yr Aipht trwy linell sydd heb ddechreu na diwedd, ond sydd yn troi yn ol ami ei hun, fel cylch. Offeiriadaeth fel hyn yw offeiriadaeth Melchisedec, a'r gwirionedd penaf a osodir allan trwyddi ydyw fod Iesu yn offeiriad yn dragywydd. Gellir rhanu y seithfed benod fel y canlyn : 1. Desgrifiad o favrxedd Melchisedec (1—10) ;

a Ynddo ei hun fel offeiriad a brenhin (1—3) ;

(b) Yn ei ragoriaeth ar Abraham (4—8) ;

(c) Yn ei ragoriaeth ar Lefi (9. 10Í.

YR EPISTOL AT YE HEBEEAID. 75

o ladd y brenhinoedd, ac a'i bendithiodd ef ; I'r hwn hefyd y 2 cyfrannodd Abraham ddegwm o bob peth : yr hwn yri gyntaf o'i gyfieithu, yw, Brenhin cyfiawnder, ac wedi hynny hefyd,

2. Rhagoriaeth Crist ar Aaron yn cael ei broü oddiwrth ei fod o urdd Melchisedec (11—28).

(a) Y mae fod Crist yn ol urdd Melchisedec yn cynwys cyfnewidiad yn

y gyfraith hefyd am osodiad yr offeiriad (11—14).

(b) Y mae fod Crist yn ol urdd Melchisedec yn cynwys ei fod yn

offeiriad yn ol nerth bywyd ac nid cyfraith gorchymyn (15— 19) .

(c) Y mae fod Crist yn ol urdd Melchisedec yn cynwys ei fod yn

offeiriad trwy lw, ac felly yn fachniydd cyfamod gwell (20—22).

(d) Y mae fod Crist yn ol urdd Melchisedec yn cynwys fod ei oôeiriad-

aeth yn drat> wyddol ac yntau yn alluog i achub i berffeith- rwydd (23—28).

PEN VII. ADN. 1.- Salem. Dadleua esbonwyr, rhai mai Jeru- salem, eraill mai Salem yn agos i Ainon (loan iii. 23) neu yn agos i Sichem (Gen. xxxiii. 18, ar ymyl y ddalen) a feddylir. Nid oes modd bod yn sicr. Ond y mae yn debygol iawn mai nid Jerusalem ydoedd y lie, gan mai Jebus oedd enw Jerusalem am oesoedd ar ol dyddiau Abraham. Dadleua Delitzsch o blaid Jerusalem, am mai dyna y traddodiad Iuddewig. Ond y mae yn bosibl rhoi niwy o bwys ar hyn nag a haedda, oblegid naturiol oedd i'r Iuddewon gasglu holl amgylchiadau henafol a gogoneddus y genedl i Jerusalem. Y mae y cwestiwn yn ddibwys. Gelwir Jerusalem yn Salem yn Salm lxxvi. 2.

Y Duw Goruchaf. Gen. xiv. 18. Yr oedd Melchisedec y tu allan i deulu Abraham ac i linell y datguddiad a roddwyd i Abraham. Eto nid eulun-addolwr oedd, ond addolwr yr un Duw ag y eredodd Abraham ynddo, pan y cyfrifwyd hyny iddo yn gyhawnder (Gen. xv. 6). Y mae Melchisedec, nid yn unig yn addoli y gwir Dduw, ond yn offeiriad iddo, er nad oedd yn perthyn i'r teulu yr hanodd Aaron ar ol hyn ohono. Y mae awdwr yr Epistol yn galw sylw at hyn, i ddangos fod yr urdd offniriadol y perthynai Crist iddi yn bod cyn ac ar wahan oddiwrth offeiriadaeth Aaron, ac felly y gall barhau wedi i hono ddarfod.

A gyfarfu ; neu, yn well, "a aeth i gyfarfod." Golyga y pair fwriad. Aeth fel offeiriad i fendithio Abraham, nid fel brenhin i gydnabod unrhyw rwymedigaeth iddo am ei amddiffyn, yr hyn ni cheir yn yr hanes ond am frenhin Sodom.

ADN. 2. Wrth dalu i Melchisedec y degwm o'r anrhaith, cydna- byddai Abraham ei offeiriadaeth. Felly y telid hefyd i deulu Aaron.

Brenhin cyfiawnder. Hyn yw ystyr yr enw 'Melchisedec. Dechreua yr awdwr " ddehongli." Gwel v. 10.

Brenhin heddwch. Ystyr yr enw Salem ydyw " heddwch." Cyfuner y ddau, a chawn ystyr yr holl enw " Melchisedec o Salem," "brenhin cyfiawnder a heddwch." Ond y ddau beth hyn gyda'u gilydd, cyfiawnder a heddwch, sydd yn gwneyd offeiriadaeth. Y mae cyfiawnder heb heddwch yn cosbi yr euog ; y mae heddwch heb gyfiawnder yn dianrhydeddu yr orsedd. Heblaw hyny, tra y mae cyfuniad o gyfiawnder a heddwch yn cyfansoddi offeiriadaeth, yr oedd Melchisedec yn. frenhin cyfiawnder ac yn frenhin heddwch. Y mae ei offeiriadaeth yn cynwys brenhiiiiaeth. Nid ymddengys i mi yn anmhriodol galw y defnydd a wna yr awdwr o hanes Melchisedec yn alegori. Y mae Bruce yn synu at hyn. Ond yr wyf yn methu gweled y gwahaniaeth rhwng hyn a desgrifiad yr Apostol Paul o'r ddau gyfamod dan enwau Agar neu fynydd Sinai yn Arabia neu y Jerusalem sydd yn awr a'r Jerusalem uchod. Eto dywed Paul ei fod yn llefaru mewn alegori. Dadleua Bruce nad yw yr awdwr yn profi offeiriad-

76 YE EPISTOL AT YE HEBEEAID.

3 Brenhin Salem, yr hyn yw, Brenhin heddwch ; Heb dad, heb fam, heb achau, heb fod iddo na dechreu dyddiau, na diwedd einioes ; eithr wedi ei wneuthur yn gyffelyb i Fab Duw, sydd

aeth Crist os nad yma. Ond y mae Crist yn Archoffeiriad MawT eisoes yn yr ail benod. Y mae alegori yn gosocl allan athrawiaeth yn hollol fel y mae dameg. Ceir alegori eto yn ix. 16, 17.

ADN. 3. Heb dad, &c. Wedi dyweyd pa f ath ydoedd Melchisedec fel brenhin, desgrifia yr awdwr ef, yn nesaf, fel offeiriaoL Nid ydym i feddwl mai yr ystyr yw ei fod heb rieni. Ond Melcfaìsedec yw y cyntaf yn Hyfr Genesis nad oes son am ei achau. Ymddengys yn ddisyinwth ac yn ddisymwth y diflana, a diüana mor llwyr fel na chrybwyllir am dano mwyach yn yr Hen Destament ond yn unig yn y Salm y seilia yr awdwr ei ddadl ami. Y mae yn sicr mai ymresymu y mae yr awdwr oddiwrth ddystawrwydd yr Ysgrythyrau am ei rieni; oblegid ymresyma Philo yn yr un dull. Yn offeiriaclaeth Lefi yr oedd achau yn anhebgorol. Gwel Xeh. vn. 64.

Wedi ei wneuthur yn gyffelyb i Fab Duw. Oni ddisgwyliasem i'r awdwr ddyweyd fod Mab Duw wedi ei wneuthur yn gyffelyb i Melchi- sedec r Yr ystyr ydyw mai Crist oedd y sylwedd o'r hwn yr oedd Melchisedec yn gysgod. Yn meddwl Duw, gan hyny, lluniwyd Melchi- sedec ar ffurf yr hwn oedd i ddyfod, ond yr hwn hefyd oedd eisoes yn bod ac yn gynllun* gweithredoedd Duw. Ac telly cyfeiria y geiriau hyn. nid at ei swydd yn unig, ond at ei yBftddangosiad ymhlith dynion, yr hwn a fwriadwydi drosgiwyddo y syniad fod Mab Duw. nid yn unig yn ei swydd, ond hefyd yn ei berssn, yn ddi-ddechreu a (M-ddiwedd. Nia gallasai Crist fod yn ol urdd Melchisedec c ran ei offeiriadacth pe nabnasai Atelchisedec o ran ei berson a!i gymmeriad wedi ei wneyd yn gyffelyb i Grist, fel yr oedd cyn ei ymgnawdoliad yn Fab Duw.

Sydd yn aros yn oifeiriad yn dra gy wydd. Rhaid cyssylltu y geiriau hyn à dechreu yr adn. gyntaf: "Y mae y Melchisedec hwn yn aros," kc. Ond y mae yr holl fniau sydd rhwng yr enw (''Melchisedec") a'r ferf (<-yn arcs"; yn rhoi yr achos paham y mae efe yn aros, a swm y cwbl ydyw ei fod yn off eiriad brenhinol. Am ei fod felly, efe a erys yn offeiriad byth. Ymddengys i mi mai Melchisedec ei hun sydd yn aros yn oifeiriad yn dragywyéd. Perthyna efe i'r dosbarth hwnw o ddynion y mae en swydd vn cocli o'u raawredd personol. Ond nia geHir rhoddi cyfnf am ymddangosèad y dynion hyn o bryd i bryd ai- y ddaear, ac nid oes terfyn ychwaith ar en dylamvad. Y maent heb dad. heb fam, heb achau, heb ddechreu dyddiau na diwedd einioes. Gyffelyb ydynt i'r rhai a aned o'r vsbryd, amy rhai nas gwyddom o ba le y daethant nac i ba le y maent yn myned, ac i Fab Duw, am yr hwn nis gallwn ddyweyd ond ei fod yn Fab Duw ac wedi dyfod oddiwrth Dduw. Nid oes diwedd yn aros y fath ddynion. Fel y dywedir fod awdwr bywyd ei hun yn fyw, felly y gellir dywedyd fod yii rhaid fod y neb sydd yn cynyrchu dylanwad ysbrydol diddarfod yn anfarwol ei hun. Ond yn arbenig y mae hyn yn wrr am offeiriaid y'ddrnoliaeth. Gweddiant dros ddynion, ac àtcbir eu gweddiau mewn bendithion diddarfod. Os yw eu gweddiau yn anfarwol, a ellir dvchymrgu eu bod eu hunain yn trengu? Na, y mae y dynion hyn yn anad neb yn meddu nerth bywyd" annherfynol. Wedi meirw ýn y cnawd, y maent tu bvw yn yr ysbryd. " Yr wrthddadl benaf yn erbyn y golygiad "hwn ar yr adn. vdyw y gellir dyweyd hyn oil am liaws heblaw Melchisedec. Gwn\ ond Melchisedec a ddewiswyd gan Dduw i fod yn y peth hwn yn gysgod o Grist. Oherwydd ei urddas personol apwyntiwyd ef i fod yn

YR EPISTOL AT YE HEEREAID. 77

yn aros yn Offeiriad yn dragywydd. Edrychwch faint oedd 4 hwn, i'r hwn hefyd y rhoddodd Abraham y patriarch ddegwm o'r anrliaith. A'r rhai yn wir sydd o feibion Lefi yn derbyn 5 swydd yr offeiriadaeth, y mae ganddynt orchymyn i gymmeryd degwm gan y bobl yn ol y gyfraith, sef gan eu brodyr, er eu

offeiriad. Y mae ei offeiriadaeth ef o osodiad Duw yn hollol mor wirioneddol â gosodiad Aaron. Y cwestiwn ydyw pa beth yn Melchisedec oedd yn peri tod ei osodiad ef yn ei wneyd yn offeiriad yn dragywydd. Yr ateb ydyw y north bywyd annherfynol hwnw sydd yn perthyn iddo ef, ac i liaws eraill, ond a ddewiswyd ynddo ef gan Dduw fel sail offeir- iadaeth a chysgod o offeiriadaeth Crist. Fel rhesymau ychwanegol dros y golygiad geílir crybwyll (1) mai nodweddion personol ydyw y cyfiawnder a'r heddwch a briodolir i frenhiniaeth Melchisedec, ac y mae yn llqd eglur mai fel nodweddion personol Melchisedec yr ystyrir hwynt gan yr awdwr: (2) " nerth bywyd annherf ynol " a enwir gan yr awdwr fel y neillduolrwydd cyferbyniol yn y gwrth-gysgod (adn. 16) ; ond beth yw y "bywyd" hwn ond mawredd personol Iesu Grist ? Felly hefyd. yn adn. 26, cyssylltir ei fod ef yn byw bob amser i eiriol â'i gymmeriad personol, fel Archoffeiriad sanctaidd, diddrwg, dihalog, did Idiwrth y

pechaduriaid; a dywedir yn adn. 28 'fod gair y llw yn gwneuthur un a berffeithiwyd yn dragywydd yn Archoffeiriad.

ADN. 4. Y patriarch. Yn yr Apocrypha y gelwir Abraham, Isaac, a Jacob, yn batriarchiaid. Ystyr y gair ydyw " sylfaenydd teulu." Gelwir Abraham felly yn yr adn. hon i alw sylw at y parch a d lid i Melchisedec gan hyd yn nod dad y genedl y perthynai Aaron a'i offeiriad- aeth iddi ; a diau fod yr awdwr wrth ddwyn yr enw i mewn ar ddiwedd yr adn. yn gosod pwya arbenig ar yr enw. Abraham oedd y patriarch. gwreiddyii holl Israel a"r holl rai sydd o ffydd Abraham trwyyr oesoedd.

ADN. 5, 6. Y mae yr offeiriad Letiticaidd yn cymmeryd degwm gan "bobl" Dduw, eu brodyr, rtifeddion yr addewid a roddwyd i Abraham. Nis gallent . ac ni wneyd y fath beth oni bua - nyn iddynt

wneyd, a hyny yn dl y g j Eraith neu yr oruchwyliaeth a sefydlodd Duw yn eu plith. Éithr y mae Melchisedec yn cymmeryd degwm gan Abraham ei hun, ac yn rhoddi bendith i'r hwn yr oedd yr addewidion iddo. a hyny heb un gorchymyn nae m<>wn cyssyütiad âg un gyfraith neu oruchwyliaeth.

A'r rhai yn wir sydd o feibion Lefi yn derbyn swydd yr offeiriadaeth. Y mae yn anhawdd penderfynu ystyr y geiriau hyn, pa un ai " y Lefiaid hyny y rhai sydd yn offeiriaid,'' ai ynte "y rhai sydd yn offeiriaid am eu bod o f< tbion Lefi." Yn ol y golygiad cyntaf, yr ystyr ydyw nad offeiriad pawb o lwyth Lefl. ac, am hyny, nad oedd hawl gan bawb i gymmeryd degwm. Ond fe roddoddyr Arglwydd bob degwm i feibion Lefi (Num. xa-üì. 21). Heblaw hyny. y mae yn anhawdd gweled paham y sonia yr awdwr am feibion Lefi o gwbl, yn He crybwyll yr offeiriaid yn nnig. Am y rhesymau hyn gwell genyf yr ail olygiad. Tebygol mai yr yw fod meibion Lefi yn cymmeryd degwm am eu bod yn derbyn yr offeiriadaeth. Am fod yr offeiriadaeth ganddynt, yr oedd y degwm gan- ddynt.

Gorchymyn. Y mae pwyslais ar y gair. Y gwahaniaeth rhyngddo a'r gair "cyfraith" yw fod yr olaf yn golygu yr oruchwyliaeth yn gyffredinol, a'r cyntaf y gorchymyn neillduol i gymmeryd degwm. Y mae y gorchymyn yn gorphwys ar y cyfraith, ac yn unol â'i hysbryd hi. Gwel Rhuf. vii. 9.

Y bobl; sef " pobl Dduw." Golyga y gair, nid yn unig y gwai.an-

78 YR EPISTOL AT YR HEBREATD.

6 bod wedi dyfod o lwynau Abraham : Eithr yr hwn nid oedd ei achau o honynt hwy, a gymmerodd ddegwm gan Abraham, ac

7 a fendithiodd yr hwn yr oedd yr addewidion iddo. Ac yn ddi-

8 ddadl, yr hwn sydd leiaf a fendithir gan ei well. Ac yma y mae dynion y rhai sydd yn meirw yn cymmeryd degymmau : eithr yno, yr hwn y tystiolaethwyd am dano ei fod yn fyw.

iaeth rhwng yr offeiriaid a'r lleygwyr f" laity "J, ond hefyd neillduad gan Dduw oddiwrth " y eenhedloedd." Gwel Act. tr. 8.

Ymddengys oddiwrth Xum. xviii. 28, fod y Lefiaid yn cymmeryd degwm gan holl Israel, ac yn talu degwm o'r degwm hwn i'r offeiriaid. Ni ddylai hyn beri nn anhawsder ; oblegid yr offeiriadaeth yn y llwyth oedd yn rhoi hawl i*r llwyth i gynimeryd degwm o gwbl, ac felly y mae yn eithaf priodol i'r awdwr ddyweyd fod yr offeiriaid yn degymu y bobl.

Eu brodyr. Dywedir hyn i ddangos na fuasai yr offeiriaid yn beiddio cymmeryd y degwm ganddynt, a hwy yn frodyr iddynt, heb orchymyn Duw. Gwel Matt. xvii. 25, 26, lie y mae yr ìesu yn ymresymu oddiwrth arferiad brenhinoedd y ddaear o gymmeryd teyrnged gan estroniaid yn iinig, fod plant Duw yn rhydd oddiwrth deyrnged y deml. Felly hefyd am y degwm yn Israel. Gorehymyn Duw oedd yn eyfreithloni y peth.

Er eu bod wedi dyfod o lwynau Abraham; sef y brodyr, y rhai a dalent ddegwm. Yr ystyr ydyw eu bod yn talu degwm, er eu bod yn etii'eddion yr addewid, ac yn "blant," fel y dywed yr Iesu yn Matt, xvii. 26.

ADN. 6. —Nid oedd Melchisedec yn y llinell o achau y gorchymynodd Duw i'r rhai a berthynent iddi gymmeryd degwm. Y mae y syniad o orchymyn neu awdurdod oddiwrth Dduw yn gorwedd yn y gair gwreiddiol a gyfieithir " yr hwn nid oedd ei achau ohonynt hwy." Y cyfieithiad llythyrenol fyddai, "yr hwn ni cheir yn yr âch a restrwyd (gan Dduw) ohonynt hwy.*'

Ac a fendithiodd yr hwn yr oedd yr addewidion iddo ; yn hytrach. " ganddo." Gan fod Abraham yn " meddianu" yr addewidion, pa angen oedd am ei fendithio? Eto yr oedd Melchisedec yn ddigon rnawr i roi bendith iddo ef . meddianvdd yr addewidion.

ADN. 7.— Yr hwn sydd leiaf; yn llythyrenol, "y peth llai;" i roddi yr holl bwyslais ar y bychander. Y casghad ydyw fod Melchisedec yn fwy *nag Abraham. Ond gadewir y casghad heb ei osod i lawr mewn geiriau. Gadewir ef allan am y rheswm mai nid y casghad hwn yw y prif bwnc yn yr ymresymiad, ond y llall, sef y cyffelybrwydd rhwng Melchisedec a Christ, fel prawf o ragoriaeth Crist ar Aaron.

ADN. 8. Yma, sef yn ngoruchwyliaeth Moses.

Yno, sef yn hanes Melchisedec.

Yn meirw ; mewn cyfeiriad at y llinach, o dad i fab.

Degymau ; hyny yw, y gwahanol fathau o ddegwm dan y gyfraith. Gwel Num. xvii. 8 13*

Yr hwn y tystiolaethwyd am dano ei fod yn fyw. Y mae yn sicr mai Melchisedec, nid Crist, a feddylir. Ceir y dystiolaeth yn yr hanes yn Llyfr Genesis fel yr esbonir yr hanes gan yr awdwr yn adn. 3. Sylwer maTnid y dystiolaeth ydyw yn unig y bydd offeiriadaeth Mel- chisedec yn parhàu, ònd fod Melchisedec ei nun yn fyw. Seilia yr awdwr hyn ar barhad diddiwedd ei offeiriadaeth. Ond y mae yr adn. yn brawf ychwanegol mai mawredd personol Melchisedec a feddylir o hyd. Yn fyw yn y byd ysbrydol yw yr ystyr.

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. 79

Ac, fel y dywedwyf felly, yn Abraham y talodd Lefi hefyd 9 ddegwm, yr hwn oedd yn cymmeryd degymmau. Oblegid yr 10 oedd efe etto yn lwynau ei dad pan gyfarfu Melchisedec kg ef . Os ydoedd gan hynny berfíeithrwydd trwy offeiriadaeth Lefi, 11 (oblegid dan honno y rhoddwyd y gyfraith i'r bobl,) pa raid

ADN. 9. Wedi dangos fod Melchisedec yn fwy nag Abraham, •dengys yr awdwr fod hyny jn cynwys fod Melchisedec yn fwy nag Aaron. Oblegid ni a allwn ystyried (dyna ystyr y geiriau, "fel y dywedwyf felly") fod Lefi yn talu degwm yn Abraham. Yr anhawsder ydyw gweled paham y sonia yr awdwr am Lefi, yn lie am Aaron. Yn adn. 11 crybwylla hyd yn nod am " offeiriadaeth Lefi," ac nid offeiriadaeth Aaron ! Y rheswm ydyw mai i lwyth Lefi fel y meddianai yr offeiriadaeth, ac nid i Aaron yn bersonol, y rhoddwyd y degwm. Pe dywedasai yr awdwr fod Aaron, yn lwynau Abraham, yn talu degwm i Melchisedec, yr ystyr fuasai yn unig fod y dyn hwn, Aaron, yn gwneyd hyny, fel pe byddai yn wtithred bersonol o'i eiddo. Ond pan y dywedir fod Lefi yn talu degwm, yr ystyr yw fod yr offeiriadaeth, yr hon a berthynai i'r llwyth hwn, yn gwneyd hyny. Y mae hyn hefyd yn cyfarfod anhawsder arall. Onid oedd Iesu yn lwynau Abraham, yn gyatal ag Aaron ? A phaham na ellid dyweyd fod Iesu trwy Abraham yn talu degwm i Melchisedec ? Yr ateb ydyw mai offeiriadaeth Lefi oedd yn cydnabod uwchafiaeth offeiriadaeth Melchisedec, ac yr oedd off eiriadac tli Lefi yn sylfaenedig ar "achau." Ond nid oedd offeiriadaeth yr Iesu yn gorphwys o gwbl ar haniad ei ddynoliaeth, ond, fel y dengys "awdwr yr Epistol, ar fawredd ei berson fel Mab Duw. Ac hyd yn nod pan yr olrheinia Luc achau dynoliaeth yr Iesu, y mae yn inyned yn ol tuhwnt i Abraham at " Adda, fab Duw."

ADN. 11.— Y casgliad oddiwrth yr hyn a ddywedir yn yr adnodau blaenorol am Melchisedec fel cysgod o Grist ydyw nad oedd perffeithiad trwy offeiriadaeth Lefi ; oblegid, pe buasai, pa angen fuasai am offeiriad yn ol urdd wahanol? Y mae "gan hyny" yn gyfieithiad cywir, ac yn well na'r cyfieithiad a gynygia Alf ord, sef ' ' drachef n. " Dadleua Rendall mai ystyr y gair a gyfieithir " perffeithrwydd" ynyr adn. hon ydyw "cysegriad" vr offeiriad i'w swydd, ac, felly, mai amcan yr awdwr ydyw ymholi, gan tod cysegriad drwy offeiriadaeth Lefi, pa angen oedd am offeiriad yn ol urdd wahanol. Ond y mae rhesymau digonol yn erbyn y golygiad hwn. Yn gyntaf, prin y gallasai yr awdwr ddyweyd fod cysegriad i'r offeiriad- aeth trwy yr offeiriadaeth ei hun. Yn ail, ceir yr un gair yn adn. 19, ac y mae yn eglur mai yr un ystyr sydd i'r gair yn y ddwy adn. ; ond cyfieitha Kendall ef yno, nid " cysegru," ond " cwblhau " (" complete "). Ond os cyfieithir ef " cysegru," dywed adn. 19 na chysegrodd y gyfraith ddim, yr hyn na fyddai yn wir. Yn drydydd, os yw golygiad Rendall yn gywir, y mae yn naturiol i ni ofyn yn mha adnod arall yr eglura yr awdwr yr angenrheidrwydd am offeiriad yn ol urdd wahanol ; ond nis gallwn ateb y cwestiwn. Rhaid, gan hyny, mai nid " cysegriad" i'r offeiriadaeth ydyw ystyr y gair. Yr un pryd, nis gallaf dderbyn golygiad y rhan fwyaf o'r esbonwyr mai y meddwl ydyw nad oedd cyflawn berffeithrwydd moesol drwy offeiriadaeth Lefi ; oblegid yn x. 14, dywed yr awdwr fod Crist âg un offrwm wedi perffeithio y rhai sydd yn cael eu sancteiddio (y mae gair i fod yn yr amseriad presenol, nid " wedi eu sancteiddio "). Y mae y per^ ffeithiad wedi ei orphen. Ymddengys oddiwrth hyn fod yr awdwr yn arfer y gair "perffeithio " am yr hyn a wnaeth Crist trwy ei un offrwm pan yr oedd yn ei offrymu. Os felly, beth yw y gwahaniaeth rhwng

80 YE EPISTOL AT YE EEBEEAID.

niwyach godi OfEeiriad arall 3*11 ol urdd ITelchisedec, ac

12 nas gelwid ef yn ol urdd Aaron? Canys wedi newidio yr ofTeiriadaeth, anghenraid yw bod cyfnewid ar y gyfraith befyd.

13 Oblegid am yr hwn y dywedir y pethau hyn, efe a berthyn i lwyth arall, o'r hwn nid oedd neb yn gwasanaethu yr aâlor.

14 Canys hysbys yw, niai o Juda y cododd ein Harglwydd ni: am

"perffeithio " a "phuror" Y mac y gair "puro" yn cyfeirio at yr euogrwydd a symudir, a'r gair " perffeithio " at y personau eu hunain.' y rhai. trwy y puredigaeth hvnw. a agoshânt at Dduw. Amoan yr adn. hon ydyw profi nad oedd y perfieithiad hwn yn cael ei gynyrehu drwy offeiriadaeth Lefi. Gwell ydyw y gair "perfEeitBiad" na"r gair "per- ffeithrwydd." :• 1 cyfieithiad o'r gwividdiol.

Oblegid dan hono y rhoddwyd y gyfraith i'r bobl. Yn fwy llythyrenol. " ar sail bono.'* Yr offeiriadaeth oedd syliaen yr oruchwyl- iaeth fel eyfraith neu osodiad dwyfol. Y mae yn wir mai rhan o'r oruch- wyliaeth oedd yr offeiriadaeth : end y rhan hono ydoedd yr hon a roddai ystyr i bob rhan arall ac i*r eruchwyha- th oil.

Arall. Golyga y gair sydd yn y lie hwn, " o natur wahanol.*'

Godi. Y mae y cyieirrad at Zech. vi. 1! a meddwl yr awdwr,

er rnai yn adn. 14 y ear y gyrnhariaoth yn gyflawn.

ADN. 12. Y'n yr adn. hon rhoddir y rheswm dros y gofyniad sydd yn yr adn. flaenorol. Ergyd y gofyniad hwnw oedd dangos fod ymddang- osiad offeiriad o urdd wahanol i urdd Aaron yn profi analln offeiriadaeth Lefi i gynyrehu perffeithiad. Dywed yr awdwr yn adn. 12 mai yr hyn sydd yn gwneyd y peth a brofir yn yr adn. flaenorol yn bwysig ydyw fod yr orach wyliaeth yn seiliedig ar yr offeiriadaeth, ac felly fod cyinewidiad yn yr off eiriadaeth yn dwyn gydag ef befyd gyfnewidiad yn yr oruchwyhaeth.

ADN. 13. Prawf ydyw yr adn. hon fod yr offeiriadaeth wedi ei newid Ysgrifena yr awdwr at GiMionogiem, y rhai a gredent mai yr Iesu oedd yr offeiriad yn ol urdd Melchisedec. Am dano ef y dywedai y Salmyddhyny. Y prawf fod yr offeiriadaeth wedi ei newid o urdd Aaron ydyw y fraith hanesyddol fed yr Iesu yn pert hyn i Iwyth gwahanol i'r llwyth offeiriadol dan y gyfraith. Yr oedd perthyn i lwỳth Lefi yn anhebgoroí i offeiriadaeth Aaron." Gwel Num. xvi. 40. Nid digwyddiad ydoedd. Er nad yw yr awdwr yn hysbys* i ni beth oedd yr aehos mai llwyth Lefi a ddewiswyd yn nnig. y mae ei yniresymiad yn y lie hwn yn gorphwy? ar yr angenrheidrwydd i'r offeiriadaeth yn ol urdd Aaron fod yn y llwyth hwn. ac yn cynwys y byddai cyfnewid y llwyth yn gyfnewidiad ar natur yr offeiriadaeth, a hyny drachefn yn gyfnewidiad ar yr oruchwyliaeth. Dy wedir mewn llyfr boreuol fod Iesu o lwyth Lefi.

A berthyn. Y cyfieithiad mwyaf llythyrenol ydyw "a ddaeth yn

tog o lwyth arall." Y rheswm dros arfer y gair anghyffredin hwn

ydyw. mi a dybygaf . fod yr awdwr yn golygu Iesu fel Mab Duw cyn ei

ymddangosiad yn y cnawd. Gan hyny cymmerodd ei le vn y llwyth y

perthynai ei ddynoliaeth iddo.

ADN. 14.— Er mai Iesu a feddylir yn yr adn. o'r blaen. ac nid yr offeiriad yn ol urdd Melchisedec heb unrhyw gyfeiriad at yr hwn sydd yn offeiriad yn ol yr urdd hono, eto nid ail ddyweyd yr un peth y mae yr awdwr yn yr adn. hon. Heblaw ei fod yn rhoi enw y llwyth y cymerodd Mab Duw ran ynddo. geilw sylw at y ffaith mai y llwyth brenhìnoì ydoedd hwnw. Yr oedd cyfuniad y brenhin a'r offeiriad yn rhan hanfodol o'r cysgod o Grist sydd yn Melchisedec. Dengys y ffaith fod Iesu yn perthyn

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. 81

yr hwn lwyth ni ddywedodd Moses ddim tu ag at offeiriadaeth. Ac y mae yn eglurach o lawer etto; od oes yn ol cyffelybrwydd 15 Melchisedec Offeiriad arall yn codi, Yr hwn a wnaed, nid yn 16

i Juda unpeth arall hefyd, sef ei fod yn frenhin yn ol urdd Dafrdd, tra

nad oedd yn offeiriad yn ol nrdd Aaron. Ni fu uewid ar y frenhiniaeth ;

fe fu newid ar yr offeiriadaeth. I ddangos fod y cyfeiriad hwn at y fren-

hiniaeth yn gystal a'r offeiriadaeth yn meddwl yr awdwr. y mae yn weddus

sylwi ar ddau beth : yn gyntaf, ei fod yn galw yr lean yn "Arglwydd;"

ac, yn ail, ei fod yn dyfynu gair o brophwydohaeth Zechariah a ddefnyddiwyd

ganddo o'r blaen. Yn y Bibl Cynnatg, yr hwn sydd yn gyfieith:

Hebraeg, y mae yn wirmai " Blaguryn" yw y gair yn Zech. vi. 12. Ond

rhaid cofio o hyd mai o'r cyfieithiad Groeg o'r Hm Destament, a elwir y

Deg a Thriugain, y dyfyna awdwr yr Epistol bron bob amser. A'r gaii

I gan y Deg a Thriugain yn Zech. vi. 12 ydyw, nid " Blaguryn," ond

" Gwawr ;" a hwn ydyw y gair a ddefnyddir, niewn ffurf arall.' gan awdwi

vr Epistol yn yr adn. hon : "o Juda y mae ein Harglwydd ni wedi codi

fel y wawr," gyda chyfeiriad amhvg at brophwydohaeth Zechariah, He y

rifii y Messia fel Offeiriad ar ei frenhin-fainc.

Tuag at offeiriadaeth; yn ol y darlleniad cywir, "yn nghylch

offeiriaid." Awgrymir fod yr YBgrythyr yn gosod enwogrwydd ar Juda

niewn ffordd arall, sef yn ei frenhineedd.

ADN. 15. Prawf arall ac eglurach eto fod cyfnewid yr offeiriadaeth yn cynwya newid yr oruchwyliaeth. Y prawf ydyw f od yr off eiria sydd yn ol urdd Melchisedec yn holl< 1 wahanol, yn ei nodweddion neillduol, i'r offehiadaeth sydd yn ol urdd Aaron, fel y dangoair yn yr adn. nesaf. V pwnc o hyd yn yr adnodau hyn, . ydyw fod y cymew-

idiad yn yr offeiriadaeth o urdd Aan i; i ordd Sl< labia d c, yr hyn a ddang- osh yn y gymhariaeth rhwng Mel i Christ yn nechren y benod, yn

cynwyB symud ymaith yr hen gyfann >d neu oruchwyliaeth a dygiad i nitwn oruchwyliaeth nen gyfamod newydd. Felly yma. Ond barna lliaws o -esbonwyr mai amcan yr adn. ydyw profi fod yr offeiriadaeth wedi newid. Ymddengys i mi fod hyn wedi ei broü yii y gwahaniaeth rhwng (_ i Melchisedec, a byddai yn annaturiol i ni dybied fod yr awdwr, ar ol myned odchwrth hyn at gyfnewidiad yr oruchwyliaeth yn adn. 12, yn dychwelyd at hyn yn yr adn. hon ; yn enwedig pan y mae y peth wedi ei broh i fodd- lonrwydd.

ADN. 16. Yma dywedir beth yw y nodweddion gwahaniaethol yn offeiriadaeth Lefi ac yn offeiriadai rhai sydd yn gwneyd cyfnewid-

iad yr oruchwyliaeth yn ang inrheidiol . Id offeiriadaeth Lefi

yn ol cyfraith, ac rist yn ol nerth. Dywedodd yr awdwr o'r

blaen mai ar suilx? offeiriadaeth y rhoddwyd y gyfraith i*r bobl; dywed yn awr mai yn ol y gyfraith yr < m .Id yr - >ff iriadaeth. Y mae y ddau ddywediad yn hollol rvBon. Yr offehiadaeth roddodd ystyr ac amcan i'r oruchwyliaeth, a'r oruchwyliaeth oedd yn curio allan yr amcan h'wnw i weithrediad. Yr oedd yr oruchwyliaeth yn cymmeryd y ffurf o gyfraith, nid i roddi awdurdod i'r offehiadaeth (oblegid yr offeiriadaeth oedd yn rhoi awdurdod . i'r gyfraith), ond i'w chadw niewn terfynau, i ddefihiio ei gweithrediad. Er angraifft, oni buasai am y gyfraith neu yr oruchwyliaeth lywodra I gallwn yn hawdd ddychymygu y po3Ìbürwydd i offeiriadaeth Aaron naill ai codi yn raddol i ffurf fwy ysbrydi >1 nes dyf od yn agofl at offeiriadaeth Melchisedec ai ynte (yr hyn sydd yn fwy tebygol) dirywio gymaint nes myned yn debyg i'r hyn oedd offeiriadaeth yn y byd cenhedlig. Ond yr oedd y gyfraith yn ei chadw rhag dirywiad gormodol ar y naill law ac yn

G

82 YE EPISTOL AT YE HEBREAID.

ol cyfraith gorchymyn cnawdol, eithr yn ol nerth bywyd

ei rhwystro i ymddadblygu ar y llaw arall. Ar gyfer yr offeiriadaeth hon, yr hon oedd yn cael ei llywodraethu gan gyfraith, saif offeiriadaeth Crist, yr hon a lywodraethid yn unig gan ei nerth cynhenid ef ei hun. Ynddi hi ei hun yr oedd ei chyfraith. Am ei bod yn ol nerth personol Crist, nid oedd anghen cyfraith i'w chadw rhag dirywio, ac nid oedd cyfraith a allasai ei rhwystro* i ymagor i berff eithr wydd. Yn ail, yr oedd y gyfraith a Tywodraethai offeiriadaeth Aaron yn cynyrchu gorchymyn, a'r nerth a 1 lywodraethai offeiriadaeth Crist yn cynyrchu bywyd. Ar yr olwg gyntaf, ymddengys yn fwy naturiol i ni olygu y bywyd hwn fel achos o'r nerth, ac nid fel ei eff aith ; oblegid mewn natur, bywyd sydd yn peri tŵf y llysiau a chadernid y pren. Ond y Hall, mi a dybiaf, yw yr ystyr yn y lie hwn, am y rhesymau canlynol : (1) Y mae yr ystyr hwn i'r gair " bywyd " yn anhysbys i'r hen ysgrifenwyr. Arferiad sydd wedi codi yn yr amseroedd diweddaraf hyn ydyw son am " fywyd" yn yr ystyr o achosydd cynhenid gweithrediad nerthol, fel pan y sonir am fywyd y greadigaeth. (2) Y mae cyd-rediad y ddau ymadrodd, "cyfraith gorchymyn" a "nerth bywyd," yn gofyn i ni ddeall y bywyd yn yr un berthynas â nerth ag y deallir y gorchymyn yn ei berthynas â chyfraith. Ond nis gelhr golygu y gorchymyn fel achos o'r gyfraith. ac, am hyny, nid yr achos o'r nerth ydyw y bywyd. Khaid i ni ddeall y gorchymyn fel eff aith y gyfraith, a'r bywyd fel eff aith y nerth. Golygiad lliaws o esbonwyr ydyw mai holl ddefodau a gosodiadau yr hen oruchwyliaeth sydd i'w ddeall wrth y gair " gorchymyn." Nis gallaf weled y buasai yr ystyr yna yn rhwymo yr awdwr i ddefnyddio y rhif lliosog, " gorchymynion." Gallai edrych ar yr holl orchymynion hyny fel un corph. Yr un pryd, gan mai yr offeiriad- aeth yw y pwnc mewn llaw, gwell ydyw cyfyngu y gair gorchymyn at osodiad yr offeiriadaeth. Yr oedd offeiriadaeth Aaron dan lywodraeth cyfraith yr hon a'i gosododd yn ei swydd trwy orchymyn, nid oblegid teilyngdod y dyn. Gallai yr offeiriad fod yn ddyn anwybodus neu ynfyd neu annuwiol ; ond nid 1 1 dd y naill na'r llall o'r diff ygion personol hyn yn effeithio dim ar ei offeiriadaeth, yr hon a orphwysai ar orchymyn, ac yr I oedd y rheswm dros y gorchymyn yn y gyfraith. Ond gosodwyd Crist yn | Offeiriad yn rhinwedd y bywyd sydd yn codi o'i nerth personol ef ei hun.

Y mae ei nerth yn cynyrchu gweithrediad, yni, cymundeb rhyngddo â'i bobl, cynhaliad ei eglwys yn y byd. cariad, hunan-aberthiad, eiriolaeth ; ac y mae yr holl bethau bywydol a gogoneddus hyn yn yr Iesu yn cymmeryd y ffurf o offeiriadaeth, fel yr oedd y gorchymyn yn gwneyd Aaron yn offeiriad. (Nid diberygl fyddai cymharu y gair " bywyd" yn y lie hwn âg ymadrodd Aristotle, energeia. Y mae y gwahaniaeth yn annhraethol fwy na'r tebygolrwydd. Eto dichon y gallai, ond bod yn ofalus, gynorthwyo yr efrydydd.) Yn drydydd, nodwedd arbenigol y gorchymyn a wnaeth Aaron yn offeiriad ydyw cnawdolrwydd, a nodwedd arbenigol y bywyd a wnaeth Grist yn Offeiriad ydyw annherfynolrwydd.

Y mae dau air Groeg yn y Testament Newydd a gyfieithir "cnawdol." Ystyr y naill (sarkikosj ydyw "yn perthyn i'r cnawd," " cyffelyb i'r cnawd;" ystyr y llall (sarkinos) ydyw "wedi ei wneuthur o'r cnawd." Ni ddywed yr awdwr fod y gorchymyn o ran ei natur yn perthyn i'r cnawd (sarkikosj ; oblegid darlleniad y llawysgrifau henaf ydyw sarkinos, hyny ydyw, gorchymyn yr hwn y mae ei ddefnyddiau yn bethau materol, daearol. Er hyny, y mae yn syndod fod yr awdwr yn defnyddio y gair hwn am orchymyn Duw. Nid yw yr esboniad cyffredin, "gorchymyn sydd yn gosod dyn yn offeiriad yn ol ei berthynas deuluaidd" yn ddigonol i

YR EPISTOL AT YE HEBREATD. 83

annherfynol. Canys tystiolaethu y mae, ofîeiriad wyt ti yn 17 dragywyàd yn ol urdd Melchisedec. Canys yn ddiau y mae 18 dirymmiad rr gorcliymyn sydd yn myned o'r blaen, o herwydd

gyfleu holl ystyr y gair. Golyga y gair, md yn. unig fod yr offeiriaid yn marw y naiíl ar ol y Hall, ond het'yd lod y gorchyinyn a'u gosododd yn eu swydd yn darfod ohono ei hun. Dywed Paul fod y ddeddf yn wan tricy y cnawd, ond ni ddywed ei bod yn wan ynddi ei hun. I'r gwrthwyneb, y mae y ddeddf yn ysbrydol, a'r gorchymyn y soma ef am dano yn gyfiawn, sanctaidd a da. Ond yn mynwes y ddeddf ysbrydol a'r gorchymyn aanctaidd y mae offeiriadaeth, yr hon y mae y gorchymyn a'i sefydlodd yn frau a darfodedig, tel peth wedi ei gyfansoddi o gnawd. Gwd ix. 10. Golyga y gair " cnawdol" freuolder a marwolaeth, fel y dywed Paul "na ddichon cnawd a gwaed etifeddu teyrnas Dduw." Gwel 1 Cor. 35 50. \ Ar y Haw arall, y mae bywyd yr offeiriadaeth sydd yn codi o nerth yn \ vnnherf ynol ac anfarwol ; neu, yn hytrach, i gyfieithu yn fwy cywir, " yn i -\nnatodol." Nid yn unig nid yw yn darfod ohono ei hun, fel y gorchymyn, ond nis gall neb arall ei ddinystrio trwy nerth cryfach na'r nerth sydd yn <ei gynyrchu ef, ac, am hyny, nid oes tin bywyd all ei oroesi. Y casgliad jr arweinia yr awdwr ni iddo ydyw fod y gorchymyn brau yn ysgubo vniaith gydag ef ei hun y gyfraith ar yr hon y safai, a bod y bywyd annatodol sydd yn offeiriadaeth Crist yn parhau tra y bydd y nerth personol a'i cynyrchodd mewn bod.

ÂDN. 17. Y mae yr hyn a ddywedwyd am barhad offeiriadaeth Crist yn gyson â thystiolaeth y brophwydoliaetb a ddyfynwyd eisoes, sef Salm ex. 4.

Tystiolaethu y mae ; neu, yn oi y darlleniad cywir, "tystiolaethir ■;im dano."

ADN. 18. Ar y Haw aiaH, os ^wiv y parha Crist yn Offeiriad yn dragywydd, y mae yr hyn a ddywedwyd am y gorchymyn, ei fod yn gnawd, vn wir hefyd. Prawf o i ireuolder ydyw yr hyn a ddywedir yn yr adn. hun. Y prawf ydyw gwendid ac aflea y gorchymyn. Nid ei ddüeu a gafodd, megis trwy drais. Trengodd ohono ei him. Gadawyd iddo fyw tra gallai. Nis gellir dyddio ei farwolaeth. a dyweyd i'r hen oruchwyliaeth cidybenu y diwmod j ganed Iesu, neu y diwrnod y bu farw ar y groes, neu ar ddydd y Pentecost. Y mae pob un or dyddiadau hyn yn gywir. ac nid oes un ohonynt yn fwy cywir na'u gilydd. Ln o amcanion yr Epistol hwn >rw cynorthwyo yr Hebreaid Cristionogol i sylweddob y ffaith ei bod hi wedi trengu. Teimlent hwy tuag ati yn debyg fel y sieryd cyfaill neu berthynas, " Yr wyf yn niethu credu fod fy anwyl-ddyn wedi marw." Ond diflanodd yr hen oruchwyHaeth yn raddol. ond yn llwyr, fel y diflana seren yn y wawrddydd. Dichon fod hyn yn meddwl yr awdwr pan y dywed fod ein Harglwydd wedi codi tel y wawr (adn. 14).

Dirymiad ; yn hytrach, ' ' diddymiad. " Yr ystyr ydyw fod y gorchymyn a osododd yr archoffeiriad yn ol urdd Aaron yn ei swydd yn syrthio i'r llawr, yn cael ei fwrw alian (dyna air Chrysostom,) er mwyn rhoi He i beth gwell.

I'r gorchymyn sydd yn myned o'r blaen ; yn fwy Uythyrenoi, heb y fannod: "i orchymyn oedd yn myned or blaen; " hyny yw, yr oedd y gorchymyn yn ateb dyben fel parotoad ar gyfer y sylwedd, ac fel y mae goleu leuad yn weU na bod hebddo, hyd oni chyfodo haul. Dyma un peth sydd yn gynwysedig yn y gair "cnawdol." Fel y dywed Paul, "yn gyntaf yr anianol, wedi hyny yr ysbrydol," i'r un perwyl y dywed awdwr yr

84 YR EPISTOL AT YR HEBREAID.

19 ei lesgedd a'i afles. Oblegid ni pherfîeithiodd y gyfraith ddimr namyn dwyn gobaith gwell i mewn a berffeithiodd ; trwy yr

Epistol, fod y gorchymyn yn barotoad ar gyfer y bywyd, yr hwn ni ddilynir gan ddiin sydd fwy nag ef .

Òherwydd ei lesgedd a'i afles. Dyma ddau nodwedd aiall o'r hyn sydd gnawdol. Yn gyntaf, y mae y cnawd ynddo ei hun yn wan ; fel y dywed Paul fod hyd yn nod y ddeddf yn wan yn ei gweithrediad oblegid gwendid j cnawd. Felly yma, y mae gwendid y gorchymyn, yr hwn sydd gnawd. yn gwanhau ac o'r diwedd yn diddymu y gyfraith yn yr ystyr y defnyddia yr awdwr y gair "cyfouth," sef goruchwyliaeth. Yn ail, y mae y cnawd yn aflesol. Fel y dywed Crist, geiriau yr hwn oedd. mae yr debygol. yn meddwl yr awdwr. "y cnawd nid yw yn lleshau dim." Gwel xffiL 9: loan vi. 63; Col. ii. 16 23.

ADN. 19. Prawi ydyw y rhan gyntaf o'r adn. o lesgedd ac afles y gorchymyn. Y prawf ydyw fod y gyfraith ei hun, ar yr hon y mae y gorchymyn hwnw yn gorphwys. yn methu cyrhaedd amcan offeiriadaeth, sef perffeithio yr addolwr, yn yr ystyr sydd i'r " perffeithiad " yn adn. 11 G-ochelwn dybied mai eglurhad ar ystyr yr adn. flaenorol sydd yma. Prawf ydyw; oblegid gwendid y gyfraith ydyw yr achos o wendid y gorchymyn.

Narnyn dwyn gobaith. gwell i mewn a berffeithiodd. Felly hefyd y C. A. S. Y mae y cyfieithiadau Saesneg a Chymraeg yn dilyn Beza. yr hwn yw y cyntaf, can belled ag y sylwais, i gynyg rhoi i mewn y geiriaù "a berffeithiodd," oddiwrth y frawddeg flaenorol. Ond y mae yn sicr nad hwn yw yr ystyr, am y rheswrn nad ydyw dyweyd fod dwyn gobaith gwell i mewn yn perffeithio yn proh* o gwbl lesgedd ac afles y gorchymyn: ac y mae y gair -'oblegid" yn gofynini olygu mai prawf ydyw y rhan gyntaf o*r adn. o'r hyn a ddywedwyd yn yr adn. flaenorol. G-olygiad a fabwysiedir gan amryw esbonwyr ydyw yr un a ganlyn, sef rhoi i mewn. nid " a berffeithiodd," ond 'ydyw," fel hyn: " canys ni pherffeithiodd y gyfraith ddim, ond dygiad i mewn obaith gwell ydyw hi " (sef y gyfraith). Feily Calvin : fel pe amcan yr awdwr fyddai cydnabod fod rhyw gymaint c ddaioni yn y gyfraith. Ond y mae dwy wrthddadl yn erbyn y golygiad hwn. (1) Golyga y gair a gyfieithir lidwyn i mewn" fod y peth yn cael ei ddwyn i mewn yn ychwanegol at rywbeth arall : ond ni fyddai synwyr mewn dyweyd fod y gyfraith yn dwyn i mewn obaith gwell yn ychwanegol at ddwyii ei'hun i meẁn [2~ Y mae dyweyd fod y gyfraith wedi dwyn i mewn yr efengyl yn hollol annaturiol a gwahanol i ddim a draethir yn yr Epistol hwn am dani. Awgrymir yr eglurhad mwyaf boddhaol gan y cyf erbyniad sydd rhwng diddymiad y gorchymyn oedd yn myned o'r blaen, a dygiad i mewn y gobaith gwell. Rhaid rhoddi y geiriau " y mae" yn adn. 19. y rhai syddeisoes yn adn. 18, ac er mwyn eglurder gwell fydd gosod y rhan gyntaf o adn. 19 mewn cromfachau, fel hyn: " Canys tra, ar y naill law. y mae diddymiad gorchymyn sydd yn myned o'r blaen, oherwydd ei lesgedd a'i afles. (canys ni pherffeithiodd y gyfraith ddim,) y mae, ar y liaw arall. yn ychwanegol ddygiad i mewn obaith gwell." Nid yw y gwrthddadleuon sydd yn erbyn y golygiadau eraill yn cyffwrdd â hwn, ac y mae y cyf erbyniad sydd rhwng "gorchymyn yn myned o'r blaen"1' a "dygiad i mewn yn ychuanegoV' yn ddadl gref o'i blaid.

Dwyn i mewn; yn gywirach, " dwyn i mewn yn ychwanegol," sef yn ychwanegol at y gyfraith. Gadawyd y gyfraith i fyw tra y gallai Diddymwyd hi trwy ddwyn gobaith gwell i mewn yn ychwanegol. Dyma angraifft o'r hyn a elwir heddyw " the survival of the fittest.''' Golyga

YE, EPISTOL AT YR HEBREAIB. 85

hwn yr ydym yn nesâu at Dduw. Ac yn gymmaint nad heb 20 lw y gwnaethpwyd ef yn Offeiriad : (Canys y rhai hynny yn wir 21 ydynt wedi eu gwneuthur yn offeiriaid heb lw: ond hwn trwy lw, gan yr hwn a ddywedodd wrtho, Tyngodd yr Arglwydd, ac ni bydd edifar ganddo, Ti sydd Offeiriad yn dragywydd yn ol

"dwyn i mewn" gludo i'r byd hwn at ddynion gan Dduw; ac effaith dwyn i mewn obaith i ni ydyw fod ein gobaith ninau yn myned i mewn hyd at yr hyn sydd o'r tu fewn i'r lien.

Gobaith gwell. Esbonia rhai yr ymadrodd fel yn golygu " dygiad i mewn rywbeth gwell, sef gobaith." Felly Alford. Ond gwell genyf esboniad" Chrysostom, fod yr awdwr yn cyferbynu gobeithion daearol yr hen oruchwyliaeth á gobeithion gwell a mwy ysbrydol yr efengyl, y rhai a ddygir i mewn yn ychwanegol at y lleill. Hapus iawn yw Bylw Hiraethog mai Epistol y pethau gwell ydyw yr Epistol hwn. Ond nis gallaf lai na meddwl fod yr ymadrodd, " gobaith gwell,' r yn golygu, nid yn gymaint obeithion gwell, hyny yw, wrthrychau rhagorach i obeithio am danynt, ond gobaith sicrach am feddiant ohonynt. Yr oedd yn anhawdd i ddynion obeithio yn gryf a thawel dan yr hen oruchwyliaeth, a hyny am ddau reswm. Yn gyntaf, yr oedd cyfiawniad yr addewidion yn ymddibynu ar amodau anhawdd t-u cadw yn hollol ddiwyro. Gallai yr addolwr a'r offeiriad fethu mewn defod, ac yr oedd yn anhawdd iawn i'r naill na'r Hall fod yn sicr ar unrhyw amser nad oedd wedi cyflawni rhyw drosedd fyddai yn anafu yr holl wasanaeth. Yn ail, yr oedd y datguddiad o ddaioni a maddeugarwch Duw yn aneglur. Dan yr efengyl y mae gobaith yn gryfach ; oblegid yr unig amod o gyflawniad yr addewidion ydyw ffydd. ac y mae y datguddiad o gariad Duw yn oleu a chadarn. Y mae hyn yn arwain yn naturiol at y pwnc sydd yn yr adnodau nesaf.

ADN. 20— ADN. 22.— Ivhaid cyssylltu y rhan gyntaf o'r ugeinfed adn. â'r rhan gyntaf o'r eilfed ar hugain : " yn gymaint nad heb lw, o gymaint â hyny y gwnaethpwyd," &c. Gellir rhoi y cwbl sydd rhwng y geiriau hyn mewn cromfachau. Ond y mae cyssylltíad yr adnodau â'r hyii «ydd yn myned o'r blaen yn fwy anhawdd ti benderfynu. Y golygiad cyffredin ydyw fod yr awdwr yn crybwyll rheswm newydd i brofi rhagor- iaeth offen-iadaeth Crist ar offeMadaeth Lefi. Y rheswm ydyw fod Crist yn offeiriad trwy lw. Ond ymddengys i mi fod amcan yr adnodau yn cael ei grybwyll gan yr awdwr yn hollol eglur yn adn. 22, sef fod Iesu yn Fachniydd cyfamod gwell, nid bod ei offeiriadaeth ynddi ei hun yn well ; oblegid y mae hyny eisoes wedi ei brofi. Prawf o ragoriaeth y cyfamod ydyw yr hyn a ddywedir am Grist wedi ei wneyd yn Offeiriad trwy lw, yn adn. 21. Hyd yn hyn gelwir yr hen oruchwyliaeth gan yr awdwr yn : "gyfraith," a seilir yr offeiriadaeth ar " orchymyn." Ond y mae y llw a osododd Grist yn Offeiriad pi dwyn i'n hystyriaeth syniad newydd, sef fod yr hen oruchwyliaeth a'r oruchwyliaeth newydd yn fwy na " chyfraith.'* Y maent yn gyfamodau, ond y mae un o'r ddau gyfamod yn cynwys llw a machniydd, tra nad oes na llw na machniydd yîi y Hall. I'r graddau, gan hynT> y mae llw yn dyfod i mewn, i'r graddau hyny y mae y cyfamod yn well \ a hyn, mi a debygwn, ydyw ymresymiad yr adnodau.

Yn adn. 20 y mae y cyfieithiad Cymraeg a'r C. A. S. yn rhoi i mewn ■eiriau nad ydynt yn y gwreiddiol, a diau fod yn rhaid ychwanegu rhyw eiriau i wneyd yr ymadrodd yn gyflawn. Ond pa eiriau, sydd amheus. Rhoddant hwy i mewn y geiriau, " y gwnaethpwyd Iesu yn Offeiriad," y rhai a gânt yn adn. 21. Y mae hyny yn bosibl. Golyga hyn fod yr awdwr

86 YE EPISTOL AT YR HEBEEAID.

22 urdd Melchisedec:) Ar destament gwell o hynny y gwnaeth-

yn bwriadu dyweyd, " ac yn gymaint nad heb lw y gwnaethpwyd Iesu yn Ofîeiriad, o gymaint â hyny y gwnaethpwyd Iesu yn Fachniydd cyfamod gwell;" ond iddo adael y rhan gyntaf o'r frawddeg yn anorphenol er mwyn dwyn i mewn y sylw fod yr offeiriaid Iuddewig wedi eu gwneyd yn offeiriaid heb lw. Yr unig wrthddadl sydd genyf yn erbyn y golygiad hwn ydyw ei fod yn tori ymaith bob cyssylltiad rhwng yr adn. hon a'r adn. fiaenorol, a hyny pan y mae angen rhywbeth ychwanegol yn yr adn. hono i ddangos pa fodd y mae y gobaith yn well. Oblegid hyn tueddir fi i roi i mewn yn adn. 20, nid " y gwnaethpwyd ef yn Oôeiriad," ond yr un gair ag a roddir yn adn. 19, sef " ydyw," fel hyn : ' ' ond y mae yma yn ychwanegol ddygiad i mewn obaith gwell, trwy yr hwn yr ydym yn nesau at Dduw : ac yn gymaint nad ydyw (c-ef nad ydyw y gobaith gwell yn cael ei ddwyn i mewn) heb lw," &c. Os felly, amcan yr adnodau ydyw dyweyd fod rhagoriaeth y gobaith, yn gymaint â'i fod yn seiliedig ar lw, yn profi rhagoriaeth y cyfamod. Gan hyny, prawf ydyw adn. 21 fod y gobaith gwell yn gwaelodi ar lw ; oblegid y mae offeiriadaeth Crist trwy lw, ac unig sylfaen gobaith pechadur ydyw yr offeiriadaeth. Barna rhai y dylid rhoi i mewn yn adn. 20 y geiriau "y gwnaethpwyd Iesu yn Fachniydd" o adn. 22. Ond nis gall hyny fod, gan fod machniaeth yr Iesu yn cael ei brofi fel y peth neillduol hvuiw sydd yn cyfansoddi rhagor- iaeth cyfamod a sylfaen ir ar lw.

Heb lw. Y mae y ffaith lod Duw wcdi gosod Aaron ynei swydd heb lw yn tynu sylw yr awdwr fel hynodrwydd ; oblegid yr oedd Dafydd wedi ei osod yn frenhin tiwy lw. Ni ddarlunir brenhiniaeth Crist megis yn dyfod i mewn yn lie brenhiniaeth Dafydd, eithr desgrifir Crist fel mab ac etifedd Datydd. Cud y mae offeiriadaeth Aaron yn cilio i wneyd lie i offeiriadaeth Crist : ac y mae absenoldeb y llw yn ngosodiad Aaron yn cael ei esbonio gan awdwr yr Epistol fel yn gwneyd diddymiad ei offeir- iadaeth yn bosibl. Ar y Haw arall, y mae fod Crist wedi ei osod trwy lw yn cynwys na newidia Duw y gosodiad byth : "Ni bydd edifar ganddo." Fel y gwelsom wrth sylwi ar vi. 17, y mae llw Duw yn gwneuthur ei addewid yn ddiamodol, fel cynghor neu benderfyniad yr hwn y mae yn rhaid ei gyfiawni.

Ar destament gwell. Ystyr y gair diathête, yr hwn a gyfieithir yma yn " destament, yn nghyheithiad y Deg a Thriugain o'r Hen Desta- ment ydyw " cyfamod." Gair arall a arferid gan y Groegiaid eu hunain am "gyfamod" (sunihêM). Dichon fod y cyfieithwyr yn teimlo nad gweddus fyddai defnyddio y gair hwn am unrhyw berthynas rhwng Duw a dynion, am ei fod yn golygu cytundeb rhwng dwy blaid gydradd â'u gilydd, tra y golyga y gair a ddewisasant hwy drefniad a osodir gan yr uwch ar yr is. Dichon fod yr un gwrthwynebrwydd i ystyried addewidion grasol Duw i ddyn yn gyfamod rhwng pleidiau wedi dylanwadu peth ar gyfleithwyr y Testament Xewydd drachefn i'r iaith Ladin. Mor fore âTertullian cawn yr enw "Testament" ar y casgliad o lyfrau a ystyrid yn ysbrydoledig ; dyma yr enw yn y cyfieithiad cyntaf i'r Lladin, sef yr Itala, a mabwysiadwyd ef gan Jerom yn ei gyfieithiad yntau, y Vulgate. Eglura Lactantius y rheswm (Inst. sx. 4), sef am fod awdwr "yr Epistol at yr Hebreaid (ix. 16, 1~) yn galw y cyfamod yn " gymunrodd " ddiweddaf Crist i'w bobl, ac mai trwy ei farwolaeth y daw y cyfamod. megis pob cymunrodd, i rym a gweith- rediad. Barna Dr. Hatch ("Biblical Greek," tud. 48) mai "cyfamod," ac nid " cymunrodd," ydyw ystyr y gair "Testament" yn y cyfieithiadau Lladin hyn. Yr wyf yn methu cael fod hyny yn gywir. Gellid tybiedfod

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. 87

pwyd Iesu yn Fachniydd. A'r rhai hynny yn wir, llawer sydd 2c

geiriau Lactantius yn ddigon i'w wrthbrofl. Pa fodd bynag, o gyfieithiac Jerom y daeth y gair "testament" i'r Beibl Cymraeg. Gall y darllenydc weled ar nn olwg, oddiwrth y daflen ganlynol, pa fodd y mae y gwahano! gyfieithiadau, sydd wedi dylanwadu iwyaf ar y Bibl Cymraeg, yn troi y gair diathtke:

Envo y

Cyfieithydd.

vn. 22.

VIII. 6.

IX. 15.

IX. 16.

Jerom

Testament

Testament

Testt. ment— Testament

Testament

Erasmus

Testament

Testament

Testament^Testament

Testament

Beza, 1556 . .

Cyfamod

Cyfamod

Cyfamod— Cyfamod

Testament

Beza, 1565 ...

Cyfamod

Cyfamod

Cyfamod— Testament

Testament

Geneva, 1557

Cyfamod

Cyfamod

Cyfamod— Testament

Testament

Geneva, 1560

Testament

Testament

Testament— Testament

Testament

Y r E s g o b

Davies, 1567

Testament

Testament

Testament— Testament

Testament

Yr Esgoh

Morgan, 1688

Testament

Cyfamod

Cyfamod- Cyfamod

Testament

Yr Esgob

Parry, 1620

Testament

Cyfamod

Cyfamod— Cyfamod

Testament

Yn Fachniydd. Ystyr y gair gwreiddiol ydyw dyn a lyddo yn taro ri Jaw fel arwydd ei fod yn ymgymmeryd â rhyw gyfrifoldeb dros ddyn irall. Gallem feddwl, wrth hyny, mai syniad yr adn. ydyw, gan ruai nid heb 1 w y daw y gobaith gwell i mewn, fod hyny yn cynwys fod gosodiad Iesu i fod yn Offeiriad gan Dduw yn fath o wystl i ni o gyflawniad yr addewidion. 0 dan yr hen gyf amod nid oedd na llw na machniydd, a hyny oblegid fod yr addewidion yn amodol ac yn ymddibynu am eu cyflawniad ar gyflawniad pob defod yn hollol yn ol y gorchymyn gan y bobl. Yn y cyfamod a wnaeth L»uw âg Abraham, yr oedd llw, ond nid oedd machniydd. Yn y cyfamod gwell y mae llw a machniydd. Yr achos o'r gwahaniaeth ydyw hwn. Yn y llw i Abraham cyfryngodd yr Arglwydd, hyny y w, gosododd ei him rhwng Abra- ham âg ef ei hun ; ac felly nid oedd eisiau machniydd, na lie iddo. Ond yn y cyfamod yn yr hwn y gosodir Crist yn Offeiriad, y mae Duw yn tyngu i Grist, nid i'r pechadur, gan ddywedyd, " Tydivrjt offeiriad yn dragywydd.'" Pa beth, gan hyny, a ddaw o hyder y pechadur r Yr ateb ydyw fod gosodiad Iesu yn Offeiriad yn wystl neu fachniaeth ar ran Duw i ni y ( yflawna Duw ei addewid, ac y gallwn ninau afaelyd yn y gobaith gwell. Am mai i Grist y gwnaeth Duw y llw y mae machniydd yn angenrheidiol i ni ; a'r machniydd hwnw i ni ydyw Iesu ei him, yn ei tywyd ar y ddaear, ei angau a'i fynediad i mewn i'r gwir gysegr fel Offeiriad. Y dyn Crist Iesu yw y prawf goreu o wirionedd Cristionogaeth, ac offeiriadaeth Iesu yw y prawf goreu o ragoriaeth y cyfamod newydd. Defnyddir yr adn. hon gan Cocceius, Turretin, a lliaws ruawr o dduwinyddion ar eu hoi, megi> Charles yn y Geiriadur, i brofi athrawiaeth Machniaeth Cri^t, wrth yr hyn y golygant fod Crist yn Fachniydd dros ddynion, hyny yw, ei fod wed' ymgymmeryd ar eu rhan â chyflawni yr holl amodau a ofynid oddiwrthynt. Pell ydym oddiwrth wadu yr athrawiaeth fod Crist wedi dyoddef dro* bechaduriaid, ond peth arall ydyw dal mai at ddyoddefaint Crist dro^ ddynion y cyfeiria yr awdwr yn yr adn . hon. Dadleua Dr. Thomas yn gryf o blaid y golygiad, a sylwa fel hyn : " Yn gymaint ag mai peth priodol iddo fel Offeiriad ydyw ei fod yn Fachniydd : a bod OflYiriad. yn ol natur ei swydd, yn un sydd yn gweinyddu dros ddynion yn y peth an hyny ag sydd yn uniongyrchol rhyngddynt ? Duw, y mae yn eglur y rhaid ei fod

■88 YR EPISTOL AT YR HEBEEAID.

wedi eu gwneuthur yn offeiriaid, o herwydd lluddio iddynt gar

24 farvvolaeth barhau: Ond hwn, ameifod yn aros yn dragywydd.

25 sydd ag offeiriadaeth dragywyddol ganddo. Am hynny

megis Machniydd, yn arbenig i'w olygu megis un dros ddyiiion i Dduw.' Fe welir fod Dr. Thomas yn myned ymhellach na Turretin, yr hwn e ddywed fod Crist yn Fachniydd dros Dduw tuag at ddynion yn gystal â thros ddynion tuag at Dduw ; ond, yn ol Dr. Thomas, nis gall fod machniydd dros Dduw tuag at ddynion. Heblaw hyuy, ai yr un petL ydyw bod yn offeiriad a bod yn fachniydd ? Onid ydyw machniaeth yn tybied llw ? A fyddai gwerth mewn ymgymmeryd i weithredu dros arall, os nad ydyw yr ymgymmerydd yn ,. r hyn oil a fedd wrth

ymrwyrno i gyflawni diffyg yr un arall ? Ond nid y w offeiriadaeth yn tybied llw. Yr oedd Aaron yn offeiriad heb lw. Drachefn, amcan eglur yr awdwr yn yr adnodau hyn ycìyw calonogi yr Hebrcaid i lynu wrth y gobaith gwell. am fod offeiriadaeth Crist yn offeiriadaeth well. Und yn mha beth y mat hi yn offeiriadaeth well ? Etyb yr awdwr, am ei bod trwy lw ; ac oblegic y llw y mae Iesu yn Fachniydd. Ond llw Duw i Grist ydyw, nid llw Crisl i Dduw. Cadernid addewid Duw a ddangosir, nid sicrwydd cyflawmad yi amodau gan Grist dros ddynion. Am y rhesymau hyn, gorfodir fi i gredu nad yr athrawiaeth fod Crist yn Fachniydd dros ei bobl a ddysgir yn yr adn. hon, ond yn hytrach fod Iesn, yn ei ddynoliaeth ac yn fi'eithiau hanesyddo] ei fywyd, ei farwolaeth. ei esgyniad, yn fachniydd dros Dduw i ddynion. Dywed Dr. Thomas, ymhellach, mai machniydd ydyw un yn ymrwymo i ateb gofynion dros arall mewn amgylchiadau ag y byddo yn bosibl i'r arall hwnw fod ei hunan yn analluog, neu ynte yn anffyddlawn, i'w cyfarfod. " Y mae felly yn tybied yn bosibl, ar du yr hwn ymachnier drosto, pethag sydd yn hoììol anmhosibl gyda golwg ar Dduw." Rhaid cydnabod gwir- ionedd hyn. Ond y mae yn bosibl i ddynion fethu credu nas gall Duw fod yn analluog neu yn anffyddlawn. 1 gylarfod eu hanghrediniaeth hwy, gesyd Iesu yn wystl drosto ei hun iddynt. am yr un rheswm ag y cymer ei lw i gadamhau ei addewid, fel y sylwa Dr. Thomas ei hun ar vi. 18.

ADN. 23. Daw yr awdwr bellach at yr hyn y mae y gymhariaeth rhwng Crist a Melchisedec yn fwyaf arbenigol yn ddangos, ac at yr hyn hefyd y mae yr adnodau blaenorol yn arwain iddo, sef fod Crist yn Offeiriad tragwyddol.

A'r rhai hyny, yn wir, llawer sydd wedi eu gwneuthur yn offeiriaid; yn llythyrenol , "ahwynt-hwy ydynt wedi myned yn offeir- iaid mwy mewn infer;" hyny ydyw, o'u cychwyniad yn Aaron hyd eu diweddiad yn ninystr Jerusalem, pan, yn ol Josephus, yr oedd tri a phedwai ugain wedi bod yn arch- offeiriaid.

Barhau ; hyny yw, yn eu hoffeiriadaeth. Yr oedd terfyniad bywyd yn terfynu y swydd. Ystyr y gair a gyfieithir "parhau" yma ydyw "aros yn ymyl rhywun," er angraifft i'w gynorthwyo. Felly y dywred Paul yn Phil. i. 25, ''mi a wn yr arosaf, ac yr arosaf gyda chwi oil, erekh cynyddJ' Priodol, gan hyny, ydyw y gair gyda golwg ar yr offeiriafa. Dengys sioraedigaeth yr addolwyr, y nailloes ar ol y llall, pan y deallent fod ji arch -offeiriad wedi marw.

ADN. 24.— Xewidir y gair gwreiddiol o "aros gyda" i "aros;" oblegid cyfeirir yn awr at barhad Crist mewn bywyd, mewn cyferbyniad i farwolaeth yr offeiriaid Iuddewi?.

Offeiriadaeth dragwyddol ; yn hytrach, "y mae ganddo yr offeiriadaeth yn un dragwyddol." Ystyr y gair a gy^eithir "tragwyddoF' ydyw "offeiriadaeth nas gellir ei threisio neu ei chyfnewid." Cynygiarhai

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. 89'

a ddichon yn gwbl iachâu y rhai trwyddo ef sydd yn dyfod at Dduw, gan ei f od ef yn byw bob aniser i eiiiol drostynt hwy .

gyfieithiad arall: " offeiriadaeth nad yw yn treiglo o'r naill i'r llall." Nid. ymddengys fod y gair yn cael ei ddefnyddio yn yr ystyr hwn. 'Ond paharn y mae offeiriadaeth dragwyddol yn rhagori ar olyniaeth ddiddiwedd o offeiriaid? Ateb y go fyniad hwn y mae yr adn. ddilynol.

ADN. 25. Iachau ; yn hytrach, "achub." Gelwir y fendith o fywyd tragwyddol wrth yr enw "achubiaeth'' oddiwrth waredigaeth plant Israel o'r Aipht ac o beryglon yr anialwch. Rhoddwyd i'r Gwaredwr yr enw hwn, " Iesu," mewn cyfeiriad at Josua. Gwel in 16 19; iv. 8. Gallem feddwl fod cyfeiriad at fynediad Israel i orphwysfa Canaan yn» llechu yn haner cuddiedig yn meddwl yr awdwr o ddechreu yr Epistol i'w ddiwedd. Yn nghanol yr holl ddeddfau a defodau a osodwyd yn yr anialwch yr oedd un petti arall yn myned ymlaen. set' gwaredigaeth.

Yn gwbl. Gyfieithiad cywir a da. Er hyny y mae yr holl esbonwyr Groegaidd yn ei esbonio felyn golygu, "am byth." Profi y mae hyn nas gellir ymddiried yn hollol hyd yn nod i'r rhai oeddynt yn siarad yr iaith Koeg dair eanrif ar ol dyddiau yr apostolion am ystyi geirian y Testament Newydd. Y mae yr ysgrifenwyr Groegaidd oedd yn byw yn yr un ganrif â'r ysgrifenwyr sanctaidd yn defhyddio yr ymadrodd yn yr ystyr hwn, " yn gwbl."

Y rhai trwyddo ef sydd yn dyfod at Dduw ; sef y rhai sydd yn addoli. Cyfeiriad ydyw y geiriau at y rhai a nesaent at Dduw trwy yi archoffeiriad ar ddydd mawr y cymod. Y mae y gair " achub," trwy gael ei gyssylltu â dyfodiad yr addolwyr at Dduw, yn dwyn at eu gilydd ddau brif amcan taith plant Israel trwy yr anialwch. Y naill amcan oed gwaredu o'r Aipht a'u dwyn yn ddyogel i Granaan, y llall oedd sefydlu crefydd yn eu plith. Ond cydredai y ddau beth hyn yn yr anialwch bron yn annibynol ar eu gilydd. Yn yr efengyl cyfunir hwynt. Y mae y waredigaeth trwy Grist, yr Offeiriad tragwyddol, yn perthyn yn unig i'r rhai sydd trwy Grist vn agoshan at Dduw mewn gweddi a chymundeb.

Gan ei fod yn fyw bob amser. Dyma yr achos ei fod yn gallu achub yn gwbl Hwn yw y syniad sydd, yn yr adn. flaenoroL yn deu s rhagoriaeth Crist fel un OfEeiriad tragwyddol ar yr olyniaeth, hyd yn nod pe byddai yn ddiddiwedd, o offeiriaid sydd yn meirw y naill ar ol y llall. Y mae ei fywyd diddiwedd yn cynyrchu dan neillduolrwydd nas gallent fod mewn' olyniaeth ddiddiwedd * Y cyntaf ydyw gallu, a'r ail ydyw eiriolaeth. Y mae y cyfieithiad Cynuraeg yn anarferol owan a diffygiol yn y gair "diehon." Yr ystyr ydyw "ymaeefe yn alluog." Y mae bywyd diddiwedd yn cynwya gallu, mewn cyferbyniad i lesgedd a darostyngiad. Bydd hyd yn nod cyrph y saint yn yr adgyfodiad mewn nerth, 1 Cor. xv. 43. Beth, 'gan hyny, fydd yr ysbryd, yr hwn ar y ddaear a rwystrir gai: gorph ein darostyngiad, pan y bydd y corph a lywodraetha yn gorph ysbrydol ? A llawer mwy y gallwn ofyn, beth yw Crist mewn dyrchafiad a gogoniant yn mywyd yr adgyfodiad r Yn Aaron hauir offeiriadaeth mewn llygredigaevh ; yn Nghrist cyfodir hi mewn anllygi'ecügaeth. Hi a hauwyd mewn ammharch ac a gyfodir mewn gogoniant. Hi a hau-uwd mewn gwendid, ac a gyfodir mewn nerth. Hi a hauwyd pi offeiriadaeth anianol yn Aaron ; hi a gyfodir yn Nghrist yn offeiriadaeth ysbrydol. Gan ìiyny, y mae efe yn alluog, yn abl, yn gryf, i achub yn gyfangwbl ac i berffeithrwydd eithaf achubiaeth. Yn ail. amcan ei fywyd annherfynol hwn ydyw cyflawni yn effeithiol waith offeii-iad, oblegid byw y mae i eiriol drosom.' Bywyd offeiriad ydyw oil. Nid gweithred achlysurol yvs* ci eiriol-

DO YR EPISTOL AT YE HEBEEAID.

26 Canys y cyfryw Arch- off eiriad sanctaidd, diddrwg, dihalog, didoledig oddi wrth bechaduriaid, ac wedi ei wneuthur yn uwch

aeth, ond gwaith ei f ywyd. Nid yw yr awdwr ond awgryniu y dry chf eddwl yn y lie hwn. Ni a gawii weled ychydig ymlaen f od bywyd offeiriadol Iesu yn y nefoedd yn un o brif wirioneddau yr Epistol.

ÀDN. 26. —I ddangos gwerth yr hyii a ddywedwyd am yr Iesu fel un sydd yn alluog i achub hyd berffeithrwydd ac fel un sydd yn byw bob amser i eiriol, dywed yr awdwr mai y cyfryw archoffeiriad â hyny sydd yn addas i'r fath rai â ni.

Oedd weddus. Yehwaneger o rai o'r llawysgrifau henaf, "hyd yn nod." Nid yn unig y fath un yr oedd angen arnom am dano, ond y fath un yn unig oedd hyd yn nod yn giveddu i ni.

Sanctaidd. Y gair mwyaf arferol am sanctaidd ydyw h agios, a'i ystyr ydyw cysegredig i wasanaeth Duw. Ond y gair a ddefnyddir yn yr adn. hon ydyw hosi'os, a'i ystyr ydyw, nid cysegredig o ran cyflwr, ond duwiolfrydig o ran anian. Yn Llyfr y Datguddiad yn unig yr arferir y gair hwn am sancteiddrwydd Duw ei hun ; xv. 4 ; xvi. 5.

Diddrwg; didwyll; "ni f eddwl ddrwg;" nid yn faleisus. Defhyddia yr awdwr ymadrodd nacaol, ond golyga y syniad cadarnhaol fod Crist j n tosturio o galon wrth ddynion, ac yn dymuno gwneyd daioni iddynr. Tuag at Dduw y mae Crist yn dduwiolfrydig : tuag at ddynion yn ddifalais. Nid yr ystyr ydyw fod ei natur ddynol yn ddibechod.

Dihalog. Hyn ydyw tuag ato ei hun. Y mae yn hollol rydd oddiwi-tli feddylian llygredig. Nid yn unig ni syrthiodd yn y temtasiynau i bechod gAveithredol, ond ni halogwyd ei ysbryd ganddynt.

Didoledig oddi wrth bechaduriaid. Nis gallaf dderbyn y golygiad mai y sancteiddrwydd perffaith, yr hwn a'i gwahanai yn ystod ei fywyd ar y ddaear oddiwrth bawb, a olygir yma. Y mae ffurf y gair "didoledig" yn cynwys fod rhyr\-un wedi didoli Crist, yn weithredol ac yn awdurdodol. oddiwrth bechaduriaid.* Heblaw hyny, y mae purdeb ei gymmeriad eisoee yn gynwysedig yn y gair " dihalog." Ar y Haw arall, nid yw y golygiad a gynygiwyd gyntaf gan Hervaeus ac yn ddiweddarach gaii Grotius ac a gymmeradwyir gan y rhan fwyaf o'r esbonwyr diweddar, yn ymddangos i mi yn hollol foddhaol, sef mai yr ystyr yw fod Crist wedi ei ddyrchafu i le ta wahan i bechaduriaid yn ei esgyniad i'r nefoedd. Nid "didoli," neu " wahanu," ydyw y gair priodol am ddyrchafiad Crist i le goruchel uwch law pechaduriaid. Cyfeiria Alford at yr ymadrodd " ar wahan oddiwrth bechod" sydd yn ix. 28. Ond ei ail ymddangosiad a feddylir yno, nid ei ddyrchafiad. Felly hefyd yn y darluniad a rydd Crist o ddydd y farn yn Matt. xxv. 32, dywedir ei fod yn "didol" (er mai nid yr un gair a ddefnyddir) y defaid oddiwrth y geifr. Ond ar ol eu didol y gwahoddir y rhai cyfiawn i ddyfod ac etifeddu y deymas. Cyn hyn y mae y ddwy ddiadell yn wyneb eu gilydd. Heblaw hyny, sonir am ddyrchafiad Crist yn y geiriau dilynoi. Tybiaf mai yr ystyr yn hytrach ydyw fod Duw wedi neilldao yr un' duwiolfrydig diddrwg, dihalog hwn i'w offeiriadaeth. Neillduwyd ef fel y cjfrjW o blith y pechadimaid yr oedd i fod yn Offeiriad erddynt : ac yr oedd y neillduad oddiwrthynt mor anhebgorol â;r eiriol drostynt. Sylwèr fod yr Apostol yn dyweyd, " y pechaduriaid," sef t dynion y mae efe i'w hachub.

Wedi ei wneuthur yn uwch na'r nefoedd. Cyfeiriad yn ddiau

* Ni fynwn osod goiiaod. o bwj^s ar y ddadl hon. Gwelais y gair yn Polybius yn yr ystyr li rhydd oddiwrth (annghyfiawnder)." Ond anaml dros ben yw yi angreiẅiau o hyn.

YE EPISTOL AT YE HEBBTCATD. 91

na'r nefoedd, oedd weddus i ni; Yr hwn nid yw raid iddo 27 beunydd, megis i'r offeiriaid hynny, offrymmu aberthau yn gyntaf dros ei bechodau ei hun, ac yna dros yr eiddo y bobl: canys hynny a wnaeth efe unwaith, pan offrymmodd ef ei hun. Canys y gyfraith sydd yn gwneuthur dynion a gwendid ynddynt, 28 yn arch -offeiriaid; eithr gair y llw, yr hwn a ru wedi y gyfraith,

at ei ddyrchafiad brenhinol. Fel Archoffeiriad efe a aeth i'r nef ei hun; fel Brenhin efe a aeth drwy y nefoedd i ddeheulaw Duw.

Y pethau hyn yn yr Axchoffeiriad oedd yn gweddu i ni ; sef cymmeriad (duwiolfrydig, difalais, dihalog), gosodiad yn ei swydd ar wahan oddiwrth bechaduriaid, a chymmeradwyaeth Duw i gyflawniad gwaith y swydd yn ei ddyrchafiad i'r frenhiniaeth. Yn y pethau hyn y mae Iesu yn Offeiriad yn ol urdd Melchisedec.

ADN. 27, 28. Yn y pethau a enwyd yn yr adn. flaenorol y mae yr Iesu yn wahanol iawn i'r arch offeiriaid dan y gyfraith. Yu gyntaf, nid oeddynt hwy wedi eu didoli oddiwrth y pechaduriaid yr offrynient drostynt. i'r gwrthwyneb, rhaid oedd iddynt offrymu drostynt eu hunain, a hyny cyn offrymu dros y bobl, fel pe byddai yn angenrheidiol iddynt, nid cael eu didoli, ond ymdeimlo â'u tebygolrwydd llwyr i'r bobl bechadurus. Yn ail, yr achos nad ellid eu didoli i'w swydd ar wahan oddiwrth bechaduriaid oedd fod eu cymmeriad yn ddifrygiol yn y pethau sydd yn cyfansoddi perffeithrwydd moesol. Yr oedd " gwendid" ynddynt. Nid oeddynt yn berffaith yn eu duwiolfrydedd tuag at Dduw nac yn eu didwylledd tuag at ddynion nac yn eu dihalogrwydd tuag atynt eu hunain.

ADN. 27. Beunydd. Y mae yr esbonwyr yn gofyn pa fodd y gellir dyweyd fod yr archoffeiriaid yn offrymu beunydd, gan nad offryment ond ar ddydd y cymod unwaith yn y flwyddyn. Yr esboniad cyffredin ydyw mai ystyr " beunydd " ydyw "yn fynych." Dywed eraill fod yr archoffeiriad yn offrymu beunydd trwy yr offeiriaid cyffredin. Ond y mae dwy wrthddadl yn erbyn y golygiad hwn. Yn gyntaf, ofFrymiad dydd y cymod ydyw y cysgod o aberth Crist a grybwylhr ymhob Ue arall yn yr Epistol ; ac, yn ail, fel y sylwa Dr. Thomas, ar ddydd y cymod yn unig yr offrymid dros yr archoffeiriad ar ei ben ei hun a thros y bobl ar eu penau eu hunain. Esboniad Hofmann ydyw, nad yw yr awdwr yn bwriadu dyweyd fod yr archoffeiriad yn offrymu beunydd, ac mai at Grist yn unig y cyfeiria y gair : "yr hwn nid oes angenrheidrwydd arno i wneyd o ddydd i ddydd yr hyn y mae angenrheidrwydd ar yr archoffeiriaid i'w wneyd," sef offrymu drostynt eu hunain a thros y bobl. Buaswn yn derbyn y golygiad hwn, oni buasai fod Philo yn dyweyd yr un peth am yr archoffeiriad, sef ei fod yn offrymu bob dydd. Dywed Edersheim fod dydd y cymod yn cael ei alw " y dydd," ac felly mai yr ystyr yn y lie hwn ydyw " bob dydd y cymod." Yna daw y geiriau yn niwedd yr adn. i mewn, i brofi nad oedd angenrheidrwydd ar Grist i offrymu drosto ei hun. Y prawf ydyw ei fod ef wedi offrymu dros y bobl unwaith am byth trwy offrymu ei hun. Pe byddai raid iddo offrymu drosto ei hun, rhaid fuasai iddo offrymu yn fynych ac offrymu rhywbeth arall ac nid ef ei hun. Ond nid yn fynych yr offrymodd Crist, ond unwaith am byth ; ac nid offrymu rhywbeth arall a wnaeth, ond ef ei hun. Y mae y ddau beth hyn yn profi nad oedd raid iddo offrymu drosto ei hun cyn offrymu dros bechodau y bobl.

ADN. 28.— Gair y llw, sef y llw a osododd Iesu yn Offeiriad yn dragywydd yn ol urdd Melchisedec.

$2 YR EPISTOL AT YR HEBREAID.

sydd yn gwneuthur y Mab, yr hwn a berfíeithiwyd yn dragywydd. PENOD VIII. PHEN ar ypethau a ddywedwyd yw hyn; Y mae gennym

Yr hwn a fu wedi y gyfraith, sef yn amser Dafydd (Salm ex.). Ond fe fu hefyd cyn y gyfraith, yn amser Melcnisedec ac Abraham. Yr oedd yn hollol annibynol ar y gyfraith.

Wedi ei berffeithio ; mewn cyfeiriad at y ddisgyblaeth lem y sonir am dani yn y burned benod, i'w gymhwyso i'r offeiriadaeth. Y* dyoddef a'r temtasiynau yr aeth Iesu trwyddynt oedd yn ateb yr un dyben iddo ef ag oedd offrymu dros ei bechodau ei hun yn ateb yn hanes yr archoffeiriad Iuddewig. Ni ddylid cyfieithu y gair yn " gysegru " yn y lie hwn, fel y gwna y C. A. S. Nid dyoddef sydd yn cysegru archoffeiriad, ond apwyntiad. Gynygia Ebrard esboniad cywrain ar yr adn. hon Gan fod Iesu yn ddyn, wedi ei demtio yr un ffunud â ninau, pa fodd y gellir dywedyd nad oedd ganddo ei wendid, fel yr archoff eiriaid dan y gyfraith P Golyga Ebrard fod yr awdwr pi caniatau fod gan Grist ei wendid, ac nas gellid ei osod yn offeiriad oni buasai hyny, ond fod Grist yn Fab hefyd, a'i fod wedi ei berffeithio fel Mab yn dragywydd. Ond yn erbyn y golygiad hwn gellir ■sylwi fod y gwendid y sonir am dano yn v. 2 yn wendid pechadurus, yn gymaint â bod yr offeiriad yn aberthu drosto ei hun o'i herwydd. Y iebygolrwydd, gan hyny, ydyw mai gwendid pechadurus a feddylir yma hefyd. Felly nis gellir priodoli y gwendid hwn i Iesu. Yn wir, golyga r awdwi fod Grist yn fwy na dyn, yn y cyferbyniad rhwng dyn a'r Mab. VII.— Y Cyfamod newydd. viii. 1 x. 18.

Y peth diweddaf a brofwyd gan yr Apostol ydoedd fod Crist yn i'achniydd cyfamod gwell. Y mae yr hyn a ddywedwyd am Melcnisedec yn y benod o'r blaen yn dangos fod yr hen drefniad neu gyfamod i fyned heibio. Y^ mae yn anmhosibl i ni sylweddoli mor gryf raid fod rhagfarn yr Hebreaid hyn yn erbyn y fath syniad ; ac nid heb lawer o ddeheurwydd a challineb y mae yr awdwr wedi tynu y casgliad dieithrol hwn. Ond y mae y pwnc wedi ei brofi oddiwrth offeiriadaeth Melchisedec. Yr hyn -.iydd yn aros bellach i'r awdwr draethu arno ydyw natur y cyfamod newydd o'i gyferbynu á'r hen. Hwn yw pwnc ei ymdrafodaeth o ddechreu yr wythfed benod hyd derfyn yr ymiesyniiad arno yn x. 18. Gallem ranu yr adran hon fel y canlyn :—

1. Arweiniad i mewn (viii. 1—6).

2. Xatnr ysbrydol y cyfamod newydd yn ol darlumad Jeremiah ohono

. (viii. 7—13).

3. Cyferbyniad rhwng tabernael a gwasanaeth yr offeiriaid o dan yr hen

gyfamod a thabernacl a gwasanaeth Crist o dan y cyfamod newydd (IX. 1— 28).

4. Effeithiolrwydd aberth Crist i ddwyn i mewn y cyfamod newydd

(x. 1—18).

1.— Arweiniad i mewn.

viii. 1 6.

PEN. VIII.— ADN. 1.— A phen ar y pethau a ddywedwyd

yw hyn. Yn lie " pen " darllena rhai esbonwyr " swm." Y'r wrthddadl

ydyw fod yn rhaid i ni ddarllen " a ddywedir" yn lie "a ddywedwyd."

JFelly nis gall fod yr awdwr yn symio i fyny yn yr adn. hon y cwbl a

YR EPI8T0L AT YE HEBEEAID. 93"

y fath Arch-offeiriad, yr hwn a eisteddodd ar ddeheulaw gorseddf ainc y Mawredd yn y nefoedd; Yn Weinidog y gys- 2: segrf a, a'r gwir dabernacl, yr hwn a osododd yr Arglwydd, ac nid

ddywedwyd ganddo o'r blaen. Dewisa y rhan fwyaf o'r esbonwyr olygu mai yr ystyr ydyw " prif bwnc," "y mater pwysicaf gyda golwg ar yr hyn a ddywedir yn ol ac yn mlaen." Gallwn dderbyn y golygiad hŵn

frdag un cyfnewidiad, sef darllen " ar " yn lie "gyda golwg ar." mddengys i mi fod yr awdwr, ar ol profi pa fath Archoffeiriad ydyw yr hwn sydd yn ol urdd Melchisedec, gyda gorfoledd buddugoliaethus yn dyweyd wrth yr Hebreaid gwan eu ffydd, ' ' A choron ar y cwbl a ddywedir yn yr holl Epistol ydyw mai dyna y fath Archoffeiriad sydd genym." Y mae y peth yn ffaith, a hyny ydyw dwyn y maeu peiiaf i mewn yn yr holl ymdrafodaeth.

Y fath. Y mae y gair yn edrych yn ol at y desgrifiad o'r Arch- offeiriad yn ol urdd Melchisedec yn y seithfed benod. ac ymlaen at y desgrifiad o Iesu yn y cysegr yn yr adn. nesaf Y diweddaf ydyw y peth sydd yn sylweddoli y blaenaf mewn ffaith.

ADN. 2. I ddangos pa fath ydyw ein Harchoffeiriad dywed yr awdwr, yn niwedd yr adn. gyntaf, ei fod yn Frenhin, ac, fel Brenliin, wedi cymmeryd ei eisteddle ar ddeheulaw gorsedd y Mawrhydi, hyny yw, y mae yr etifedd wedi ei alw i gyd-lywodraethu á'r Brenhin, yn y nefoedd. Gwel i. 3. Ond y mae efe hefyd, yr un pryd, yn weinidog. Nid yn unig y mae yn llywodraethu fel Brenhin, ond gwasanaetha hefyd fel ArGhoffeiriad. Y mae yr awdwr wedi ffurfio y frawddeg yn y fath fodd fel y golyga fod Crist yn eistedd yn Frenhin yn rhinwedd ei wasanaeth offeiriadol. Ystyr y gair " gweinidog " yn y lie hwn ydyw un yn cyflawni swydd offeiriadol. Dyna ei ystyr yn y Deg a Thriugain. Ond yn y llyfrau clasurol ei ystyr ydyw unrhyw swyddog yn y wladwriaeth. O'r gair gwreiddiol hwn y tarddodd y gair Saesneg liturgy.

Y gysegrfa. Cyfieithia rhai, "gweinidog y saint." Ond, heblaw nas gellir galw Crist yn weinidog i'r rhai hyny sydd yn hytrach yn weinidogion iddo ef, y mae cyssylltiad y gair â'r " gwk dabernacl" yn yr adn. hon yn ein rhwystro i dderbyn y golygiad hwn, a golygiad Luther hefyd, yr hwn sydd yn cyfieithu, " gweinidog y pethau sanctaidd."

Gwir, mewn cyferbyniad, nid i " ragrithiol," ond i " gysgodol." Felly y geilw Cri«t ei hun y icir winwydden, &c. Am y golygiad (yr hwn a dderbynir gan Chrysostom, Calvin, a Hofmann,) mai dynoliaeth ein H arglwydd a feddylir yma wrth " y gwir dabernacl" gwell oedi yr ystyr - iaeth o hyn hyd nes y deuwn i sylwi ar ix. 11. Y cwbl sydd i'w ddyweyd yn bresenol ydyw fod y geiriau uy gwir dabernacl " yn cynwys mwy nag eglurhad ar y geiriau "y gysegrfa." Pe eglurhad fyddent, ni roddid y fanod o flaen y geiriau " gwir dabernacl." O dan yr hen gyfamod yr oedd "ytabernacl" neu "ybabell" yn cynwys mwy na'r " sancteidd- iolaf." Cawn weled, fel yr awn ymlaen, fod yr awdwr yn rhoi pwys ar y gwahaniaeth rhwng y ddau, er mwyn dangos fod y gwahaniaeth wedi ei ddileu gan Grist yn y cyfamod newydd. Felly, yn y cysgod, y mae " y gysegrfa " a'r " tabernacl " yn ddau \e gwahanol ; ond yn y gwrthgysgod y maent yn myned yn un lie trwy rwygiad y wahanlen. Cyn hyny y maent yn ddau le, a dywedir yn ix. 11, 12 i Grist fyned trwy y tabernacl i'r gysegrfa.

Yr hwn a osododd yr Arglwydd, ac nid dyn. Barna yr esbon- wyr mai Duw Dad yw " yr Arglwydd " yn yr adn. hon. Ond gan fod j. cyferbyniad rhwng "y Mab " a dynion yn niwedd y benod flaenoroL

94 YR EPISTOL AT YE HEBREAID.

3 dyn. Canys pob arch-offeiriad a osodir i offrymmu rhoddion ac aberthau : o herwydd paham rhaid oedd bod gan hwn hefyd yr

4 hyn a oflrymmai. Canys yn wir pe bai efe ar y ddaear, ni

gallwn yn naturiol dybio mai Crist a feddylir yma hefyd; ac os ei ddynoliaeth a olygir wrth y ' ' gwir dabernacl, " nid ffurfiad ei ddynoliaeth yn mm y wyryf gan yr Ysbryd Glân yw yr hyn y cyfeirir yma ato, ond preswyliad y Mab tragwyddol yn y ddynoliaeth. Os mabwysiedir y golygiad arall, y nieddwl ydyw fod Crist wedi parotoi y nefoedd i fod yn gysegr lie y cyflwyna efe ei aberth i Dduw.

ADN. 3.— I ddangos fod Crist yn weinidog yn y nefoedd, dywed yr awdwr fod pob archoffeiriad yn gweini trwy offrymu rhoddion ac aberthau Ehaid, gan hyny, fod Crist hefyd yn offrymu, gan ei fod yn Archoffeiriad. Ond yn y nefoedd yn unig y gallai efe offrymu, oblegid ar y ddaear offeiriaid yr hen gyfamod sydd yn offrymu. Hyn, mi a dybygwn, ydyw rhediad yr ymresymiad. Profi y mae yr awdwr fod Crist yn weinidog y gysegrfa yn y nefoedd. Rhaid gochel rhoi yr adn. mewn cromfachau, fel y gwna Grotius ac eraill, fel pe ei hunig amcan fyddai profi fod Crist yn " weinidog." Y mae ei fod yn weinidog yn y nefoedd yn rhan hanfodol o'r ymresymiad.

Rhaid oedd bod gan hwn hefyd yr hyn a offrymai. Y mae yn eglur fod y cyfieithwyr Cymraeg yn golygu mai at offiymiad Crist ar y groes y cyfeirir yma, ac nid at ei offrymiad yn y nefoedd. Ond ato fel gweinidog y gysegrfa a'r gwir dabernacl yn y nefoedd y cyfeiria yr awdwr yn yr adn. flaenorol. Gwel hefyd ix. 12. Yr anhawsder ydyw fod yr awdwr fel pe yn dyweyd yn x. 12 mai yn ei farwolaeth yr offrymodd Crist. Gwel nodiad ar x. 12. Y gwir yw fod yr awdwr drwy yr Epistol yn gwrthod ysgar rhwng offrymiad Crist ar y groes a'i offrymiad yn y nefoedd. Yr un weithred ydynt. Oblegid hyn esgeulusa yr awdwr hwn adgyfodiad Crist a"i ymddangosiadau i*w ddisgyblion rhwng ei adgyfodiad a'i ddyrchafiad, yn nghyda'r esgyniad o f'ynydd yr Olewydd. I'w feddwl ef ac i amcanion ei ymresymiad aeth lesu i*r nefoedd fel cysegrfa sancteiddiolaf yn ei farwolaeth, ac ni ddaeth oddiyno drachefn. (Cawn gyfle eto fel yr awn ymlaen i geisio eglnro yr anghysondeb ymddangosiadol rhwng hyn â'r hyn a ddywed yr efengyhvyr a'r Apostol Paul am ei ymddangosiad ar y ddaear ar ol ei adgyfodiad.) Felly, gwell darllen fel hyn: " Oherwydd paham rhaid ydyw bod gan hwn hefyd yr hyn a offryma." Gwelir oddiwrth hyn nad am gyflwyno gweddiau y saint gan Grist yn y nefoedd y sonia yr awdwr,- ond am ei waith yn offrymu rhywbeth sydd ganddo ef ei hun yn mug i'w offrymu. Ni ddywed yr awdwr yn y lie hwn beth ydyw, a gwell i ninau ohirio yr ymofyniad hyd nes y deuwn at ix. 12, a x. 5. Cynygia Hofmann esboniad ar yr adnod hon sydd, fel llawer o'i olygiadau ef , yn îíwynol ac yn anmhosibl ei dderbyn, sef mai yr ystyr ydyw fod yn rhaid fod gan Grist rywbeth yn y nefoedd yr hwn a offrymodd efe ar y ddaear. Yr wyf yn crybwyll y golygiad hwn er mwyn yn unig rhoi y darllenydd ar ei wyliadwriaeth. Ond ni oddef graniadeg y frawddeg wreiddiol yr ystyr hwn.

ADN. 4.— Yn lie "canys" darllener "am hyny." Casgliad ydyw hwn oddiwrth yr angenrheidrwydd fod gan hwn rywbeth i'w offrymu. Os rhaid iddo offrymu, am hyny rhaid mai yn y nefoedd y mae yn offrymu. Yn wir, pe byddai ar y ddaear, nid yn unig ni byddai ganddo offrwm, ond ni byddai yn Offeiriad o gwbl. Dalied y darllenydd yn ei feddwl o hyd nad yw yr awdwr yn ysgar rhwng marwolaeth Crist a'i fynediad i'r nefoedd. Gan mai trwy farw yr oedd efe yn myned*'r cysegr, y mae yn canlyn mai

YR EPISTOL AT YE HEBREAID. 95

byddai yn offeiriad chwaith ; gan f od offeiriaid y rhai sydd yn offrymmu rhoddion yn ol y ddeddf: Y rhai sydd yn gwasan- 5 aethu i siampl a chysgod y pethau nefol, megis y rhybuddiwyd

yn y sefyllfa yr aeth ef e iddi trwy ei angau y mae ef e yn offrymu. Fe welir nad yw y golygiad hwn yn gwadu o gwbl ei fod yn offeiriad yn ei angau ; ac nid yw yr awdwr yn rhoi y lie lleiaf i ni dybied mai yn y nef oedd y daeth Crist gyntaf i fod yn Offeiriad. Cawn weled eto y perygl sydd yn y syniad hwn. Ond mynediad i mewn i'r cysegr oedd ei angau, ac yn y cysegr y mae pob archoffeiriad yn cyflwyno yr aberth a laddwyd y tu allan i'r cysegr. Yr achos na byddai Crist yn Offeiriad ar y ddaear, hyny yw, mewn unrhyw gysegr daearol, ydyw bod eisoes ddynion sydd yn ol y ddeddf yn offrymu eu rhoddion. Y mae yr ymresymiad yn hynod. Cynwysa ei bod yn anmhosibl i ddau fath o offeiriaid gyd-fodoli ar y ddaear ; ac y mae hyny yn wir, am y rheswm a ganlyn. Yr unig urdd o offeiriaid sydd wedi hollol lenwi y drychfeddwl o offeiriadaeth ddaearol ydyw urdd Aaron. Y mae yr urdd hon yn gymaint mwy nag unrhyw urdd offeiriadol yn mhlith y cenhedloedd ag ydyw urdd Melchisedec yn fwy na hithau. Gan fod offeir- iadaeth Aaron wedi dyhysbyddu holl f eddwl, a dangos holl fawredd, offeir- iadaeth ddaearol, nid oes lie i Grist fel offeiriad daearol. Yr unig le iddo ydyw fel offeiriad nefol yn myned i mewn trwy yr unig borth sydd yn arwain i'r cysegr ysbrydol. Gwelir ar unwaith, bellach, pa fath bwyslais sydd i'w roddi ar y geiriau " yn ol y ddeddf." Yr ystyr ydyw fod urdd Aaron yn offrymu ar y ddaear yn ol sefydliad ac awdurdodiad Duw, ac y mae hyny yn gosod mawredd ami sydd yn cau allan y posibilrwydd o unrhyw offeir- iadaeth arall ar y ddaear. Prin y mae angen dyweyd mai nid ystyr yr adnod ydyw na buasai Crist yn Offeiriad pe buasai heb farw. Ond y mae y golygiad hwn wedi ei dderbyn gan rai esbonwyr. Esboniad rhai ydyw na buasai Crist yn Offeiriad y gwir dabernacl, pe byddai yn offeiriad o urdd Aaron. Y mae hyn yr un peth a dyweyd na buasai yn offeiriad nefol pe na buasai yn offeiriad nefol.

ADN. 5.— Nid yn unig y mae offeiriadaeth Aaron yn llyncu i fyny bob offeiriadaeth ddaearol, ond, ymhellach, y mae hi hefyd yn awgrymu bod offeiriadaeth nefol, ac felly yn dangos pa fath oedd offeiriadaeth Crist i fod; oblegid gwasatuietha yr offeiriaid, gyda gostyngeiddrwydd, gysgod y cysegr nefol. Nis gellid dyweyd hyn am yr un offeiriadaeth arall ar y ddaear ond yn unig offeiriadaeth Lefi.

I siampl a chysgod. Dewisa lliaws o esbonwyr roddi "yn" i mewn yn lie "i," fel pe mai amcan yr awdwr fyddai dyweyd fod yr offeiriaid yn gweinyddu eu swydd yn y tabernacl hwnw sydd yn gysgod o'r pethau nefol. Ond byddai hyn yn amheus, a dyweyd y lleiaf, o ran gramadeg, yn y gwreiddiol. Yr ystyr, fe ddichon, ydyw fod offeiriadaeth Aaron yn talu gwarogaeth i offeiriadaeth nefol Crist trwy wasanaethu gyda phob gostyngeiddrwydd i (neu ar) y Uibernacl sydd yn gysgod o'i gysegr ef . Y mae y golygiad hwn, sef fod y geiriad wedi ei fwriadu i osod allan berthynas ostyngedig yr hen oruchwyhaeth â'r efengyl, yn ymddangos i mi yn well na'r syniad fod yr hen offeiriaid wedi colli golwg mor hollol ar wir ameanion yr oruchwyiiaeth fel y maent wedi myned i wasanaethu y tabernacl yn lie Duw y tabernacl. Gwel xiii. 10. Ystyr y gair a gyfieithir " gwasanaethu " yn yr adn. hon ydyw gweiniayn isel a gostyngedig. Nid yr un gair sydd yn adn. 2.

Siampl; yn hytrach, yn y lie hwn, "dangosiad/' "darlun." Ystyr gyntaf y gair ydyw "yr hyn a ddangosir dan ein Uygaid." Ond arferir ■ef yn y ddau ystyr o " esampl" (fel yn iv. 11), i wneyd cyfargraph oddi-

96 YB EPISTOL AT YE HEBEEAID.

Moses gan Dduw, pan oedd efe arfedr gorphen y babell: canys,

Gwel, medd efe, ar wneuthur o honot bob peth yn ol y portreiad

6 a ddangoswyd i ti yn y mynydd. Ond yn awr efe a gafodd

wrtho, a " chyf argraph " (fel yn yr adn. hon) wedi ei wneyd oddiwrth yr esampl. Y gwahaniaeth rhwng "dangoseg" a " chysgod ' ydyw hwn : yr oedd tt hen oruchwyliaeth yn dangos y pethau nefol, ond am nad oedd dim ynddi o natur y pethau nefol, cysgod ydoedd. Y mae "dang- oseg" yn gyferbyniol i " guddio;" ond y mae " cysgod" yn gyferbyniol i'r " corph," neu y "sylwedd." Gwel Col. ii. 17.

Y petnau nefol. Gelwir hwynt felly am eu bod yn y nefoedd. Yr ystyr ydyw, y gwir gysegr, i'r hwn yr aeth Crist i mewn. Gwel ix. 23, 24.

Megis y rhybuddiwyd Moses gan Dduw. Er nad yw y geiriau " gan Dduw " yn y gwreiddiol, y mae y gair a gyfieithir " rhybuddio " yn golygu yn fynych " rhybuddio gan Dduw." Hwn ydyw y gair a arferid gan y Groegiaid yn nyddiau yr Apostolion am atebiad oracl. Y mae amseriad y ferf yn y gwreiddiol yn golygu, " fel y cawn yn yr Ysgrythyr i Moses gael ei rybuddio gan Dduw."

Y portreiad. Felly yn Exod. xxv. 40; Act. vii. 44; ond "dull" ydyw y gair yn Num. viii. 4. Y mae y cyfieithiad hwn yn cynwys fod Moses wedi gweled ar Sinai, nid y pethau nefol eu hunain, ond portreiad ohonynt. Ond, er y gallai hyny fod, nid yw y gair a ddefnyddia yr awdwr yn golygu hyny o angenrheidrwydd. Ei ystyr yn y lie hwn ydyw " cynllun ;" ac fe ddichon mai y pethau nefol eu hunain a ddatguddiwyd iddo. neu fe ddichon iddo weled mewn gweledigaeth ffurf a dodrefniad y tabernacl ei hun. Ar y cyfan tueddir fi i feddwl mai yr ystyr yn Exodus a Numeri ydyw fod Moses wedi gweled cynllun neu ffurf y tabernacl mewn gweledigaeth : ond fod awdwr yr Epistol yn esbonio hyny fel yn golygu mai y pethau nefol ac ysbrydol eu hunain oedd y cynllun a ddatguddiwyd iddo. Os felly, y mae yr awdwr yn gwneyd defnydd o'r hanes ac yn ei droi yn alegori, fel y gwna gyda hanes Melchisedec. Dichon fod y gwahaniaeth rhwng y dull a gymmerodd Duw i gyfarwyddo Noah i adeiladu yr arch (Gen. vi. 14 16), a'r dull a ddewisodd i ddysgu Moses pa fodd i adeiladu y tabernacl, wedi awgrymu i'r awdwr fod ystyr gyfriniol yn yr olaf nad oedd yn y cyntaf .

2. Ysbrydolncydd y Cyfamod neicydd. vm. 6—13. ADN. 6.— Yn yr adnodau blaenorol, o'r gyntaf hyd y burned, dengys yr awdwr fod Crist yn weinidog y gysegrfa nefol ac felly yn rhagori ar yr offeiriaid oedd yn gweini yn unig ar y ddaear. Yn y chweched adn. dywed yr awdwr mai yr achos fod gweinidogaeth Crist yn y nefoedd yn rhagori ar weinidogaeth yr archoffeiriaid ar y ddaear ydyw fod y weinidogaeth nefol yn gorphwys ar gyf amod gwell na'r cyfamod y gorphwysai gweinidogaeth yr offeiriaid ar y ddaear arno. Nid yr amcan yn yr adn. hon ydyw profi fod Crist wedi cael gweinidogaeth ragorach. Profwyd hyn yn tt adnodau blaenorol. Yr hyn a wneir bellach ydyw dangos paham y rhagora ei weinidogaeth. Yn y benod flaenorol dywedir fod y gyfraith yn newid pan newidir yr ofFeiriadaeth. Yr offeiriadaeth, gan hyny, yw sylfaen yr oruchwyliaeth. Ymddengys, ar yr olwg gyntaf, fod yr awdwr yn myned i brofi yn yr wythfed benod mai yr oruchwyliaeth yw sylfaen tt offeiriadaeth. Ond camgymeriad fyddai tybied hyny. Nid yr un peth ydyw offeiriadaeth a gweinidogaeth. Yr offeiriadaeth ydyw y swydd sydd yn sail i'r weinidogaeth. Yn y nefoedd y mae Crist yn

YR EPISTOL AT YE HEBREAID. $7

weinidogaeth mwy rliagorol, o gymmaint ag y mae yn Gyfryngwr

weinidog y gysegrfa, ac am ei fod yn offeiriad y mae efe yn gweini. Felly meddwl yr awdwr ydyw fod gweinidogaeth nefol Crist yn rhagori ar weinidogaeth yr archotfeiriaid yn y sancteiddiolaf ar y ddaear i'r graddau y mae y cyfamod newydd, yr hwn yw sail ei weinidogaeth, yn rhagori ar yr hen gyfamod, yr hwn oedd sail eu gweinidogaeth hwy. Gellir gofyn, yn mha le, gan hyny, y daw yr offeiriadaeth i mewn yn y ehweched adn. ? Yr ateb ydyw mai pwnc rhan bwysig o'r seithfed benod oedd y cyssylltiad rhwng yr offeiriadaeth a'r cyfamod, a phwnc yr adnod hon ydyw y cyssylltiad rhwng y cyfamod arr weinidogaeth. Yn y seithfed benod dangosir fod y cyfamod yn gorphwys ar swydd yr offeiriadaeth, ac yn y benod hon fod gwemyddtad y swydd offeiriadol yn gorphwys ar y cyfamod. Felly y mae yr offeiriadaeth, y llw, a'r fachniaeth yn dyfod i mewn yn aiwedd yr adn. hon, fel moddion Duw i drosglwyddo a sicrhau yr addewid- ion gweil. Cynwys yr adn. ydyw fod gweinidogaeth well Crist yn y •ìefoedd yn gorphwys ar gyfamod gwell, a'r cyfamod gwell yn gorphwys ar addewidion gwell.

Yn awr ; nid i ddynodi amser, ond i ddwyn i mewn y casgliad ymresymiadol oddiwrth yr hyn a ddywedir yn yr adnodau blaenorol. Gau fod gan Grist weinidogaeth fwy rhagorol na gweinidogaeth yr archoffeiriai< t ar y ddaear, y mae yn canlyn ei fod yn Gyfryngwr cyfamod gwell. Hyny ydyw, nis gallai weini yn y nefoedd fel y gwna, mor effeithiol, mor

Idaionus, oni bai fod trefniad, neu gyfamod rhwng Duw a dynion, o nat . . «■vahanol i'r hen gyf»uiod, wedi ei ffurfio.

Cyfryngwr ; neu " canolwr." Eglurhad ydyw y gair hwn ar nat... i weinidogaeth, sef cyfryngu. Os gofynir ymhellach beth yw natur gyfryngdod, yr ateb yw "offeiriadaeth." Nid yw y syniad o gyfamoa

nddo ei hun yn tybied. cyfryngwr. Daw y cyfryngwr i mewn pan y mae y naill blaid yn methu cyflawni amodau y cyfamod, i ymgymeryd à chyfryngu drosti gyda'r blaid arall neu ynte i gyflawni yr amodau hyny yn ei lie. Pan y mae y cyfamod rhwng pechadur a Duw, y mae yn ofynol i'r cyfryngwr fod yn offeiriad i offrymu ac eiriol dros y pechadur. Ni a welwn, gan hyny, y gwahaniaeth rhwng "cyfryngwr" a "machniydd," fel y defnyddir y geiriau gan awdwr yr Epistol. Y mae Crist yn i «yfryngwr dros ddynion tuag at Dduw, ac yn Fachniydd dros Dduw ruag at ddynion. Nis gallaf dderbyn esboniad Theophylact ac eraill, mai ystyr y gair "cyfryngwr" ydyw "rhoddwr" neu "weinyddwr" y cyfamod 'iros Dduw, fel yr oedd Moses yn gyfryngwr, sef gweinyddwr, yn yr hen gyfamod. Y mae yn wir fod offeiriadaeth Crist, oherwydd mawredd ei Berson a'i aberth, yn fachniaeth dros ddynion; ac felly y mae y pri: dduwinyddion, o'r tadau yn y brif eglwys i lawr, yn ein dysgu. Y cwbl yr wyf yn ei ddyweyd ydyw mai nid yn yr ystyr yna y defnyddir y gair "machniydd" yn yr unig adn. lie y ceir ef yn y Testament Newydd Gofyna rhai esbonwyr paham y defnyddia yr awdwr yit yr adn. hon y gaii " cyfryngwr " yn hytrach na'r gair " offeiriad." Ond y mae y rheswm yn eglur. "Cyfryngwr" yw y gair priodol wrth son am gyfamod. Ffurf neillduol ar y cyfamod ac ar y cyfryngdod sydd yn gwneyd offeiriadaeth yn angenrheidiol. Geilw Philo Moses yn "gyfryngwr a chymodwr," ac y mae y dyfyniad hwn o Philo yn ddigon i brofi beth yw ystyr y gair yn y Testament Newydd ; ond fod yr Epistol hwn yn rhanu gwaith y cyfryngwr yn yr hen gyfamod, trwy briodoli ei sefydliad i Moses a'r cymodi i Aaron. Yn y cyfamod newydd gwna Crist holl waith y cyfryngwr ei hun. Esbon-

98 YR EPISTOL AT YR HEBREAID.

cyf ammod gwell, yr hwn sydd wedi ei osod ar addewidion gwell.

7 Öblegid yn wir pe buasai y cyntaf hwnnw yn ddifeius, ni cheis-

8 iasid lie i'r ail. Canys yn beio arnynt hwy y dywed efe, Wele y mae y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, ac mi a wnaf â

iad yr Ariaid ar y gair cyfryngwr ydyw "un rhwng bod yn Dduw a bod yn ddyn." Achos drwg yw yr un sydd yn gofyn y fath gamesbonio.

Yr hwn sydd wedi ei osod ar addewidion gwell; yn lie "gosod" y cyfieithiad llythyrenol ydyw, "wedi ei osod yn gyfraith." Esboniad ydyw hyn ar y geiriau " cyfamod gwell/' Yr addewidion gwell sydd yn peri fod y cyfamod yn well. Dywedir wrthym yn y dyfyniad sydd yn düyn o brophwydoliaeth Jeremiah beth yw yr addewidion gwell hyny oedd yn gofyn trefniad cyf amodol gwell na'r hen oruchwyliaeth i'w cyflawni.

ADN. 7. Ni cheisiasid lie ; hyny yw, gan y saint rhagoraf o dan yr hen gyfamod ei hun. Gwel sylwadau arweiniol ar y seithfed benod. Un o'r saint hyny oedd yn dyheu am y cyfamod gwell ac yn ei weled trwy ei ddagrau. Y mae y gair "Ho" yn awgrymiadol. Yr oedd offeiriadaeth Lefi yn llenwi yr holl le oedd i ofl'eiriadaeth ar y ddaear. Gwel adn. 4. Ond ceisio lie, ac heb ddyfod o hyd iddo, yr oedd y prophwydi. Crist ei hun ddatguddiodd i'w eglwys mai '"lie" y cyfamod newydd ydyw y cysegr nefol.

I'r ail; yn hytrach, "i ail."

ADN. 8. Yn beio arnynt. Nia gall fod nemawr amheuaeth fod y cyfieithiad hwn yn gywir ac mai nid yr ystyr ydyw ' ' yn beio arno (sef y cyfamod) y dywed efe wrthynt." Y mae yr hyn, yn debygol, yw y gwir ddarlleniad (sef autous) yn gwneyd y cyfieithiad olaf hwn yn anmhosibl. Yn yr adn. o'r blaen cydnebydd yr awdwr nad oedd y cyfamod ei hun yn ddifeius ; ac, yn wir, y mae y prophwyd yn y dyfyniad sydd yn dilyn yn dyweyd na fydd y cyfamod newydd yn gyfi'elyb i'r hen. Yr un pryd, beio y bobl y mae y prophwyd nad arosasant yn y cyfamod. Ond yn hyn yr oedd diffyg y cyfamod cyntaf. Nid oedd dim parotoad wedi ei drefnu ynddo i gadw y bobl yn ffyddlawn i'w amodau. Cmd y mae yn y cyfamod newydd gyfryngwr digonol ac addewidion gwell, ac, yn eu plith, yr addewid í roi y ddeddf yn meddwl a chalon y bobl, a maddeu eu hanghyfiavmderau. Cymharer yr hyn a ddywedir gan yr awdwr â Rhuf. vii. 7.

Y djrwed efe ; sef Duw, trwy ei brophwyd. Dyfyna yr awdwr o Jer. Yxxi. 31 34, a hyny yn ol cyfieithiad y Deg a Thriugain, hyd yn nod yn adn. 9, lie y mae y cyfieithiad hwnw yn anghywir. Gwel Jer. xxxi. 32, " er fy mod i yn briod iddynt." Ond nid oes dim pwys yn hyny. Y mae syniad cyfiredinol yr adnodau yn cael ei roi i ni yn gywir. Dywed y Deg a" Thriugain, yn eu Rhagymadrodd i Lyfr Jeremiah fod y prophwyd hwn yn y gaethglud " yn eistedd i wylo;" ond yn ei ddagrau efe a welodd y tir pell yn egiurach na'i frodyr.

Ty Israel a thy Juda. Israel a gaethgludwyd gyntaf, wedi hyny Juda. Y mae y desgrifiad o'r cyfamod newydd yn dangos mai cyfamod ysbrydol a fyddai, ac, am hyny, nid oedd dim a wnelai y cyfamod âg Israel na Juda fel y cyfryw. Ond profì y mae hyn mor anhawdd oedd i'r prophwydi ymysgwyd oddiwrth y syniad o genedl a sylweddoli mai personau unigöl, i ba genedl bynag y perthynant. oedd i etifeddu addewid- ion y cyfamod gwell.

YE EPISTOL AT YE HEBEEAID. 99

thŷ Israel ac â thŷ Juda gyfammod newydd: Nid fel y cyfam- 9 mod a wnaethum a'u tadau hwynt, yn y dydd yr ymaflais yn eu llaw hwynt i'w dwyn hwy o dir yr Aipht: oblegid ni thrig- asant hwy yn fy nghyfammod i, minnau a'u hesgeulusais hwythau, medd yr Arglwydd. Oblegid hwn yw y cyfammod 10 a ammodaf fi â thý Israel ar ol y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd : Myfi a ddodaf fy nghyfreithiau yn eu meddwl, ac yn eu calonnau yr ysgrif enaf hwynt : a mi a fyddaf iddynt hwy yn Dduw, a hwythau a fyddant i minnau yn bobl :

ADN. 9. Yn y cyfamod cyntaf ymafiai Duw yn eu llaw, fel tad yn arwain plentyn. Awgrymai y prophwyd mai plant oeddynt y pryd hwnw. Ond nid megis at blant yr ymddyga Duw atynt mwyach.

Nid yn ol y cyfamod. Yr oedd gwahaniaeth natur rhwng y ddau, nid gwahaniaeth graddau yn unig.

Oblegid ni thrigasant hwy yn fy nghyfamod i. Rheswm oedd hwn am newid y cyfamod, yr hwn nis gallai gadw y bobl yn ffyddlawn iddo. Yr oedd y diff yg hwn yn dangos nad oedd y cyfamod ei hun yn ddifeius. Ni chynwysai unrhyw ddarpariaeth i faddeu, fel y gwna y cyfamod newydd. Nid oedd i'w wneyd ond esgeuluso, megis mewn difaterwch, peidio co>bi a pheidio maddeu hefyd.

ADN. 10.— Ty Israel; hyny yw, nid Israel a Juda ar wahan a fyddant mwyach. end I>rael yn unedig, sef yr Israel ysbrydol.

Ar ol y dyddiau hyny. Nis gall y geiriau olygu ' ' yn y dyddiau hyny." Yr ystyr ydyw, ar ol y dyddiau yn y rhai yr ymddygais atynt inegi.s at blant, trwy ymaflyd yn eu flaw i'w harwain, a thrwy eu nesgeuhiso am beidio aros yn fy nghyfamod, fel y bydd tad yn troi ymaith oddiwrth ei blentyn bychan fyddo wedi anufuddhau.

Yn eu meddwl, nid mwyach mewn arch; "yn eu calonau," neu, yn hytrach. " ar eu calonau," nid mwyach ar lechau o geryg.

Mi a fyddaf yn Dduw iddynt, nid mwyach mewn ystyr genedl- aethol, ond yn ysbrydol a phersonol.

Yn yr adn. hon, gan hyny, ni a gawn un o'r addewidion gwell sydd yn sail i gyfamod gwell. Fe welir fod llygad y prophwyd ar rywbeth yn yr hen gyfamod sydd megis yn arwydd ac yn gysgod o'r peth gwell a addewir yn y cyfamod newydd. Ỳn gyntaf, datguddiad o ddeddf Duw oedd gwraidd dyfnaf ac achos penaf y cyfamod a roddwyd trwy Moses. Ond fe ddatguddiwyd y ddeddf foesol a thragwyddol hono mewn gorchy- mynion oddiallan, fe'i hysgrifenwyd hi ar lechau, ac fe'i cadwyd yn yr arch, fel y byddai safon yr hyn sydd iawn ar gael ac o fewn cyrhaedd i'r bobl trwy yr oesoedd, yn debyg fel y cedwir safon pwys a mesur y deyrnas. Yn ail, os datguddiad o ddeddf Duw oedd sylfaen yr hen gyfamod, ei goron a'i ogoniant penaf oedd fod Duw yn addaw bod yn Dduw i'r genedl a gwneyd y genedl fel y cyfryw yn bobl iddo ef . Ond yr oedd hyn hefyd yn allanol, ac yn gynwysedig mewn bendithion rhagìuniaeth ac amddiffyniad a gogoneddiad cenedlaethol. Yn awr, yr hyn y mae Jeremiah yn ragweled yn y cyfamod newydd ydyw y ddau beth hyn wedi eu sylweddoli yn ysbrydol a'u dyogelu byth. Ond beth a olygir wrth roi y gyfraith yn y meddwl a'i hysgrifenu ar y galon'r Dichon mai yr hyn a olygir ydyw y bydd dynion yn gwybod egwyddorion moesoldeb ac yn ufuddhau iddynt. Y mae gan boW Dduw yr eneiniad fel y maent yn gwybod pob peth, a gwisgant y dyn uewydd yr hwn & grewyd yn ol Duw mewn cyfiawnder a'r sancteiddrwydd 1 gfttyrchir giu y gwiiioaedd. Dyma y cyntaf o'r addewidion gwell.

100 YR EPISTOL AT YR HEBREAID.

11 Ac ni ddysgant bob un ei gymmydog, a phob un ei frawd, gan ddywedyd, Adnebydd yr Arglwydd: oblegid hwynt-hwy oil a'm hadnabyddant i, o'r lleiaf o honynt hyd y mwyaf o honynt.

12 Canys trugarog fyddaf wrth eu hanghyfiawnderau, a'u pechodau hwynt a'u hanwireddau ni chofíaf ddim o honynt

13 mwyach. Wrth ddywedyd, Cyfammod newydd, efe a farnodd

ADN. 11. Yr ail ydyw cyflawn adnabyddiaeth o Dduw, trwy ryw gyneddi yr hon sydd yn y lleiaf o'r saint fel yn y inwyaf. Os gofynir beth yw y gyneddf hou. nid oes ond un ateb, Cariad. Fel y mae rhoddi y ddeddi yn y meddwl a'r galon dan y cyfamod newydd yn cyfateb i roddiad y ddeddf ar Sinai dan yr hen gyfamod, felly y mae adnabod Duw trwy gariad yn cyfateb i wybod am dano trwy weledigaethau y prophwydi. Ond pa mor eglur a gogoneddus bynag a fyddo y weledigaeth, pa mor wir bynag fyddo y brophwydoliaeth neu y gyfundrefn dduwinyddol, nid hyn ydyw y gwir adnabyddiaeth o Dduw. Rhaid ei adnabod fel Tad, ac nis gellir trosglwyddo yr adnabyddia-.-th hon niewn geiriau. Nifl gall y naill gyfeirio megis â'i fys a dywedyd wrth un arall, Adnebydd yr Arglwydd. Ond gall y Qeiaf fel y mwyaf ei adnabod trwy gariad.

Ei gymydog. Yn ol y darlleniad cywir, yr hwn a dderbynir gan yr holl feirniaid, y gair ydyw "dinesydd;" a defnyddir ef yma, f el mewn awduron eraill weithiau, yn yr ystyr o " gyd-ddmesydd." Efallai, er hyny, fod y gair "cymydog" yn go sod all an y meddwl yn llawn eglurach i ni. Yr oedd y bywyd dinesig a chyhoeddus yn llawer mwy amlwg yn yr hen oesoedd nag yn yr amseroedd diweddaraf hyn. Pan weithredai dynion fel cymydogion "gyda'u gilydd, dywedent eu bod yn gweithredu fel cyd- ddinasyddion.

Ar "yr adn. hon darllener loan vi. 45; Es. xi. 2, 3; Joel ii. 28; 1 Cor. ii. 9—16.

ADN. 12.— Canys; yn hytrach, "oblegid/' ìiidrheswmiìjtafíyi hyn a ddywedir yn yr adnodau o'r blaen yw yr adn. hon, ond rhoddir i ni yn hon yr achos o'r ddwy fendith a grybwyllir fel yn perthyn yn arbenigol i'r cyfamod newydd. Yn y datguddiad o drugaredd a maddeuant Duwi bechadur y cynyrchir adnabyddiaeth o ddeddf Duw, ufudd-dod calon iddi, ac adnabyddiaeth hefyd o Dduw ei hun fel Tad. Yr oedd y fendith hon, drachefm yn rhan o'r'hen gyfamod, ond mewn ffurf is ac allanol. Yn wir, amcan penaf yr holl Epistol, oddiar un olwg, ydyw dangos pa fodd y mae y cyfamod newydd yn datguddio trefn Duw i faddeu yn annhraethol fwy eglur a gogoneddus nag y datguddir hi trwy offeiriadaeth Lefi.

Ni chofiaf. Y mae hwn yn gyfieithiad cywir. Y mae Alford yn cam-gyfieithu : "moke mention.''''

ADN. 13. Oddiwrth y dyfyniad uchod o brophwydoliaeth Jeremiah, ac yn envredig oddiwrth un gair sydd ynddi, yr hwn yn wir ydyw y colyn y mae y cwbl yn troi arno, y mae yr awdwr bellach yn tynu y casgliad^yr hwn ni feiddiasai ei osod i lawr mor noeth ac mor gryf ond fel casgliad eglur oddiwrth eiriau Duw ei hun. Wrth son am gyfamod newydd y mae Duw wedi gwneyd y cyfamod cyntaf yn hen ; ac y mae "hen " yn golygu "oedranus; " ac "oedranus"' yn golygu nad yw diûaniad ymhell.

Wrth, ddywedyd. Cofìer maì Duw, nid y prophwyd, a feddylir. Gwel nodiad ar ii. 6.

Efe a farnodd y cyntaf yn hen ; yn fwy cywir ac yn well, "efe a wnaeth y cyntaf yn hen." Trwy i Dduw son am gyfamod newydd, heneiddiodd y cyfamod cyntaf. Ýr oedd dylanwad y datguddiad o'r

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. 101

y cyntaf yn hen. Eithr yr hwn a aeth yn hen ac yn oedrannus, sydd agos i ddiflannu.

PENOD IX. k M hynny yn wir yr ydoedd hefyd i'r tabernacl cyntaf 1

newydd yn effeithio i lesgau a marweiddio pob rhan o'r cyfamod blaenorol. Gellid meddwl f od y cyfieithwyr a ddygasant i mewn yr ymadrodd ' ' a farnodd " yn tybied mai y prophwyd oedd yn llefaru. ac nid Duw. Ond nis gellir dyweyd o gwbl tod Duw yn barnu fod y cyntaf yn hen. Ac nid yr ystyr yw, ychwaith, fod Duw yn collfarnu, neu yn cyhoeddi diflaniad buan, y cyfamod. Yn hytrach, yr y-tyr ydyw mai yr hỳn a uunychodd y cyfamod cyntaf oedd y gobaith a gynyrchwyd am ymddangosiad cyfamod gwell.

Eithr yr hwn a aeth yn hen ac yn oedranus ; yn hytrach, " eithr yr hyn sydd yn heneiddio ac yn oedranu." Y gwahaniaeth rhwng y ddau air ydyw, fod " heneiddio " yn gyferbyniol i " ieuanc ; " y mae fod yr ieuenctid yn codi yn peri fod y rhai a ddaethant i'r byd o'u blaen yn cael eu galw yn hen bobl. Ond y mae "oedranu" yn gyferbyniol i. gryfder, yni, ystwythder, ac yn awgrymu, er, feallai, nad yw y gair ei hun yn golygu, effaith hen ddyddiau, Bef llesgedd a musgrellni. Y mae y geiriau yn gryfion ac yn llym. Frofant fod yr awdwr yn gweled bai yn y cyfamod yn gystal ag yn y bobl. Camesboniad ydyw dyweyd nad yw yi awdwr yn beio y cyfamod.

Agos i ddiflanu ; hyny ydyw, nid oes eisiau i neb arall ei roi ef i farwolaeth ; diflana yn araf a dystaw ohono ei hun, fel canwyll yn diffodd. Ceir yr un gair yn Iago iv. 11. "Tarth ydyw. yr hwn sydd dros ychydig yn yn ymddangos, ac wedi hyny yn diflanu." Syniad cyson yr awdwr ydyw fod yr hen oruchwyliaeth yn darfod ohoni ei hun. Y maey casgliad hwn, fodd bynag, yn cael ei awgrymu yn hytrach na'i ddatgan gan yr awdwr. Llefara yn gyffredinol, a gâd i*r darllenydd gymhwyso ei eiriau at yr hen gyfamod. Nid ymddengys i mi fod cyfeiriad yn y geiriau at ddinysti Jerusalem. Y pwnc ydyw fod ymddangosiad y cyfamod newydd wedi llesgau yr hen gyfamod, ac erbyn hyn y mae yr hen wedi oedranu ac yn raddol yn darfod.

3. Y ddau Dabernacl a'r ddau Wasanaeth. ix. 1—28.

Y mae yr esbonwyr yn gwahaniaethu yn eu golygiadau am gyssylltiad y nawfed benod â'r hyn sydd wedi ei ddywedyd eisoes. Barna rhai mai dychwelyd y mae yr awdwr at y gwahaniaeth rhwng y tabernacl daearol a'l tabernacl nefol, y pwnc oedd ganddo yn nechreu yr wythfed benod, a body dyfyniad o Jeremiah yn nghylch y cyfamod newydd yn myned allan o rediad yr ymresymiad, ac megis mewn cromfachau. LÌed annaturiol yw y golygiad hwn. Gwell genyf olygu mai y cyfamod newydd, nid y tabernacl, ydyw y syniad sydd yn llywodraethu yr holl adran hon o'r Epistol. Felly y mae yr wythfed benod yn codi yn naturiol o'r seithf ed, yn yr hon y dangosir fod cyfnewidiad yr offeiriadaeth yn cynwys newid y gyfraith, neu, mewn geiriau eraill, bod Crist yn Fachniydd cyfamod gwell. Un angraifft, yn wir y benaf , o'r cyfnewidiad yn y gyfraith sydd yn canlyn o angenrheidrwydd y cyfnewidiad yn y cyfamod ydyw cyfnewidiad y tabernacl. Yn lie y tabernacl ar y ddaear, y mae tabernacl nefol, yn yr hwn y gweinydda Archoffeiriad

102 YR EPISTOL AT YR HEBREAID.

2 ddefodau gwasanaeth Duw, a chyssegr bydol. Canys yr oedd

y cyfamod newydd ei swydd. Y mae cyfnewidiad y tabernacl yr arddang- osiad pwysicaf o gyfnewidiad y cyfamod, oblegid y mae y gwahaniaeth rhwng y ddau dabernacl yr un peth â'r gwahaniaeth rhwng cysgod a sylwedd, rhwng y daearol a'r nefol, rhwng y diflanedig a'r tragwyddol. Fel y tabernacl, felly y cyfamod, yr hwn sydd yn rhoddi ystyr i'w holl drefniadau. Ond y ffaith bwysicaf gyda golwg ar y tabernacl daearol ydyw fod ynddo ddwy ystafell a gwahanlen rhyngddynt. Defnyddia yr awdwr hyn i ddangos nad oedd y ffordd i'r sancteiddiolaf at Dduw yn agored eto. Yn y tabernacl nefol nid oes dwy ystafell na gwahanlen. Y mae y ffordd at Dduw yn agored. Hwn ydyw prif syniad y nawfed benod. Er mwyn dangos hyn rhydd yr awdwr y desgrifiad manwl a geir ynddi o'r tabernacl yn yr anialwch. Ar y cyntaf ymddengys braidd yn syn fod yr awdwr yn rhoddi desgrifiad manwl o'r tabernacl, ei ddodrefn, a threfniadau y gwasanaeth. Barna Bleek fod yr holl amgylchiadau yn nglŷn â'r tabernacl yn newydd i'r awdwr, a'i fod yn eu desgrino dan swyn y newydd-deb oedd ynddynt i'w feddwl ef ei nun. Ond y mae y fath gasgliad yn ddisail. Ei amcan eglur ydyw dangos, trwy ddarluniad o'r fie a'r trefniadau, fod y cwbl wedi ei f wriadu yn llawn gymaint i gadw y bobl yn y pellder oddiwrth bresenoldeb Duw ag ydoedd i'w dwyn i ryw fesur o gymundeb â Duw. Dywedir yn riii. 5 fod y gyfraith yn ddangoseg o'r pethau nefol, ac eto nad ydoedd ond cysgod yn unig ohonynt. Gellir ystyried mai y cyntaf, y gyfraith yn ddangoseg, ydyw pwnc y nawfed benod, ac mai yr ail, nad yw dangoseg ond cysgod, ydyw pwnc y ddegfed benod.

PEN. IX.— ADN. 1.— Yr ydoedd. Yn gyfrredin llefara yr awdwr am drefniadau yr hen oruchwyliaeth yn yr amser presenol (e.g., yn x. 22). Ond yn yr adn. hon teflir y cwbl yn ol i'r gorphenol Diau mai yr amcan ydyw awgrymu fod yr hyn oedd yn amser Jeremiah yn agos i ddiflanu erbyn hyn wedi diflanu.

I'r tabernacl cyntaf. Yn argraphiad cyntaf Stephanus, yn y flwyddyn 1546, y daeth y gair "tabernacl" i mewn i'r adn. (ond fod Erasmus wedi rhoi "tabernacl" yn ei gyfieithiad cyn hyny, gan ddilyn llawysgrifau gwael), ac o'r argraphiad hwnw y derbyniwyd ef gan Dr. Morgan i'r Bibl Cymraeg, a hyny pan yr oedd yr Esgob Davies a Beza yn ei wrthod. Y mae yn eglur mai Beza oedd yn ei le. Nid yn unig nid oes un o'r llawysgrifau da yn darllen "tabernacl," ond y mae y synwyr hefyd yn gofyn i ni roddi i mewn y gair "cyfamod." O'r adn. gyntaf hyd yr unfed ar ddeg y pwnc ydyw trefniadau y cyfamod cyntaf, o'r unfed adn. ar ddeg ymlaen sonir am Grist mewn cyferbyniad iddo.

Ddefodau gwasanaeth; neu yn well, ' ' ordeiniadau gwasanaeth." Hyn a enwir yn gyntaf yn yr adn. hon, a'r cysegr yn ail. Ond yn yr adnodau dilynol y cysegr a ddesgrifir gyntaf (adn. 2 5), ac ordeiniadau y gwasanaeth wedi hyny (adn. 6, 7).

Cyssegr bydol; yn hytrach, " a'i gysegr yn un bydol. "^ Nis gall fod llawer o amheuaeth fod y gair yn arwyddo yma "perthyn i'r byd hwn," mewn cyferbyniad i'r ' ' pethau nefol." G-wel adn. 11 . Yr oedd y tabernacl yn yr anialwch "o waith llaw" ac "o'r greadigaeth yma." Nid yw y golygiadau eraill ar y gair yn werth sylw. Y tabernacl oil a olygir wrth y gair " cysegr," ac nid un ystafell yn unig.

ADN 2,— Canys yr oedd tabernacl wedi ei wneuthur; yn Uythyrenol, "canys gosodwyd pabell." Yn lie cysegr, fel yn adn. I,

TB EPISTOL AT YB HEBREATD.

103

tabernacl wedi ei wneuthur ; y cyntaf, yn yr hwn yr oedd y canhwyllbren, a'r bwrdd, a'r bara gosod ; yr hwn dabernacl a elwid, Y cyssegr. Ac yn ol yr ail lèn, yr oedd y babell, yr hon a elwid, Y cyssegr sancteiddiolaf ; Yr hwn yr oedd y thusser

dywedir pabell, am fod yr awdwr yn defnyddio y gair cysegr mewn ystyr mwy cyfyng yn niwedd yr adn. Gresyn oedd dwyn i mewn i'r Gymrae°- y gair anghyhaith "tabernacl." Gwell fnasai defnyddio y geiriau "pabell," "pabellu," ymhob man.

Y cyntaf, sef y tabernacl cyntaf, neu y babell nesaf allan, yr ystafell y deuid iddi gyntaf o'r cyntedd.

Y canhwyllbren, i oleuo i'r offeiriaid pan yn gweini yn y cysegr neu y babell gyntaf ; oblegid nid oedd ffenestr i'r ystafell. Gwel Exod xxr 31—39 ; xxxvii. 17—24 ; Lef . xxiv. 2—4.

Bydd y cynllun a ganlyn o'r Cyntedd a'r Tabernacl yn gynorthwy i'r darllenydd i ddeall cyfeiriadau yr Epistol. Y mae y cynllun wedi ei dynu yn ol cyfartaledd :

'-*'

OC

Z2b

g. Bwrdd y Bara Gosod.

h. Y Canhwyllbren.

i. Allor yr Arogldarth.

j. Y Wahanlen.

k. Y Cy<egr Sancteiddiolaf.

I. Yr Arch.

a. Y Cyntedd.

b. Allor y Poeth Oflrwm.

c. Yr Olchfa.

d. Y Babell neu y Tabernacl.

e. Lien y Babell, neu y Gaeadlen. /. Y Cysegr.

A'r bwrdd a'r bara gosod. Gwel Exod. xxv. 13 30; xxxvii. 10 16 ; Lef. xxiv. 5—9 ; 1 Sam. xxi. 6 ; 2 Chron. xiii. 11 ; Marc ii. 26. Yr oedd y bara yn ddeuddeg teisen, y rhai a " osodid " ar y bwrdd bob dydd Sabbath, i fod yn ymborth i'r offeiriaid tra yn gweini yn y cysegr. Ond golyga y gair " gosod " fod y bara wedi ei fwriadu i'w ddangos gerbron wyneb Duw

ADN. 3. Yr ail len, sef yr hyn a elwir yn Exod. xxri. 31—33 y "wahanlen," i wneyd gwahan rhwng y cysegr a'r cysegr sancteiddiolaf. Gelwir hi yma " yr ail," hyny yw, y nesaf i mewn, i'w gwahaniaethu oddiwrth y " gaeadlen " (Exod. xxvi. 36,) yr hon oedd rhwng y cysegr a'r cyntedd.

Y babell ; hyny yw, nid fel pe hon fuasai yr unig babell, ond y babell hono yr hon a elwid, Y Cysegr Sancteiddiolaf.

ADN. 4.— Yr hwn yr oedd y thusser aur ynddo. Yn lie " ynddo " rhaid darllen "ganddo;" hyny yw, " yn perthyn iddo." Llestri ddal "thus" ydyw "thuser," a math o wyddlyd (gum) peraidd ei arogl ydyw "thus." Ond nid oes unrhyw gyfeiriad yn llyfrau Moaes at " thuser aur," er fod cyfeiriad at " thuser" yn Lef. xvi. 12, 13, ond i

104 YE EPISTOL AT YR HEBREAID.

aur ynddo, ac arch y cyfammod wedi ei goreuro o amgylch ; yn yr hem yr oedd y crochan aur a'r manna ynddo, a gwi'alen Aaron yr hon a flagura*ai, a llechau y cyfammod ; Ac uwch ei phen cerubiaid y gogoniant yn cysgodi y drugareddfa : am y

ddal marwor tanllyd yr oedd hwn, nid arogldarth. Yn nheml Solomon yr oedd thueerau aur (1 Bren. vii. 50). Ymddengys yn syn nad yw awdwr yr Epistol yn crybwyll dim am " allor yr arogldarth," am yr hon y sonir yn Exod. xxx. 1—10. Ond defnyddir y gair sydd yn yr adn. hon gan Philo a Josephue am allor yr arogldarth. Am y rhesymau hyn yr wyf yn derbyn y golvgiad a fabwysiedir yn lied gyffredin gan y beirniaid diweddaraf (oddieithr Harnack,) mai nid y thuser a feddylir yma o gwbl, ond allor yr arogldarth. Y mae yn wir mai yn y cysegr, ac nid yn y cysegr sancteiddiolaf , yr oedd allor aur yr arogldarth. Ond perthynai i'r sancteiddiolaf. Gosodwyd hi " gerbron arch y dystiolaeth" "o flaen y wahanlen" iExod. xl. 5,) " wrth y gafell " (1 Bren. vi. 22,) "o flaen y drugareddfa sydd ar y dystiolaeth, lie y cyfarfyddaf âthi" (Exod. xxx. 6.); ac yn Exod. xl. 26 dywedir ei bod " yn mhabell y cyfarfod.*' Yr oedd yn angenrheidiol iddi f od yn y cysegr, fel y gallai yr archoffeiriad gymmeryd arogldarth i fygu o'i flaen cyn meiddio myned i fewn i'r sancteiddiolaf. Arch y cyfamod. Gwel Exod. xxv. 10—16; xxxvii. 1 5; Jos. iii. 6.

Y crochan aur. Gwel Exod. xvi. 32—34, lie y gorchymynir i Moses osod y crochan ac ynddo lonaid omer o'r manna gerbron yr Arglwydd neu gerbron y dystiolaeth. Ond ni ddywedir fod y crochan yn arch y dystiol- aeth. Ÿn amser Solomon nid oedd dim yn yr aioli ond y ddwy lech faen (1 Bren. viii. 9). Ymddengys tod awdwr yr Epistol yn derbyn y traddodiad Iuddewig fod y geiriau " gerbron yr Arglwyddd " yn golygu " yn yr arch." Ofi felly, rhaid fod y crochan aur wedi ei golli cyn amser Solomon. Yn wir, ni sonir am dano o gwbl mewn cyssylltiad a'r deml.

Gwialen Aaron. Gwel Num. xvii. 1—11. Y pwys a berthynai i wialen Aaron oedd mai hi, trwy ei blagur a'i blodau, a benderfynodd mai yn llwrth Lefi yr oedd yr oífeiriadaeth i fod. "Gerbron y dystiolaeth" yr oedd y wialen' hefyd i'w dodi. Y mae awdwr yr Epistol yn dilyn y traddodiad Iuddewig yma eto, sef fod y wialen yn yr arch.

Llechau y cyfammod. Gwel Exod. xxv. 16, lie y dywedir fod y dystiolaeth i'w dodi yn yr arch, ac yn Exod. xxxi. 18, dywedir fod y dyst- iolaeth ar ddwy lech. Gwel Beut. x. 2—5.

ADN. 5.— Cherubiaid. Gwel Exod. xxv. 18—20. Wrth y gair ''gogoniant" y golygir yr arddangoẃad o'r presenoldeb dwyfol megis cwmwl ar y drugareddfa (Lef. xvi. 2). Desgrifir y cwmwl yn Exod. xl. 34 —38 fel vn aros ar y tabernacl oddi allan. Ond yn Exod. xxv. 22 dywedir fod Duw^yn llefaru " oddiar y drugareddfa. oddi thwng y ddau gerub y rhai a fvddant ar arch y dystiolaeth." Felly "cherubiaid y gogoniant " ydyw " cherubiaid yr oedd y gogoniant yn gorphwys arnynt neu rhyng- ddynt." Gwel Salm lxxx. 1.

Y drugareddfa. Gwel Exod. xxv. 17, 20, 21, lie y gelwir hi, yn ol cyfieithiad y Deg a Thriugain, yn " gaead y cymod ;" ac yn yr adn. hon mwy cywirna " thrugareddf a " fyddai " cymodfa," i arwyddo ei f od yn f an i gymodi Duw yn gyetal âg i drugarhau wrth ddynion ; ac felly y cyfieitha Jerom. Y mae yn debygol mai oddiwrth gyfieithiad Luther ydaeth y gair "trugareddfa" i'r Bibl Cymraeg. Ystyr y gair Hebraeg ydyw "caead," sef caead vr arch, ac oddiwrth hyny y daeth yr ymadrodd "cuddio pechod," fel yn Salm xxxii. 1 . Ond gelwir ef gan y Deg a Thriugain yn ' ' gymodf a ' '

YE EPISTOL AT YE HEBEEAID. 105

rhai ni ellir yn awr ddywedyd bob yn rhan. A'r pethau hyn 6 wedi eu trefnu felly, i'r tabernacl cyntaf yn ddiau yr äi bob amser yr offeiriaid, y rhai oedd yn cyflawni gwasanaeth Dvw : Ac i'r ail, unwaith bob blwyddyn yr äi yr arch-offeiriad yn 7 unig ; nid heb waed, yr hwn a offrymmai efe drosto ei hun, a thros anwybodaeth y bobl. A'r Ysbryd Glân yn hysbysu hyn, 8

am mai ar gaead yr arch y taenellai yr archoff eiriad waed y bustach a gwaed y bwch. Gwel Lef . xri. 14, 15 ; Num. vii. 89.

Am y rhai ; sef holl ddodrefn y tabernacl. Awgryma yr awdwr fod ystyr ysbrydol i bob dodrefnyn, ond dywed nad oedd yn bwriadu manyh? arnynt, a hyny, yn ddiau, oblegid mai un amcan oedd ganddo mewn golwg wrth ddesgrifio y tabernacl, sef dangos nad oedd y ffordd i'r cysegr sanct- eiddiolaf yn agored. Ond yr oedd yn angenrheidiòl crybwyll am bob dodrefnyn cyn y byddai yr ymresymiad ar hyny yn hollol ddeaìladwy.

ADN. 6. Ar ol desgrifio y tabernacl ä yr awdwr ymlaen at y petb cyntaf a grybwyllodd yn adn. 1, sef ordeiniadau y gwasanaeth. Dygir hyn gerbron yn olaf am mai yn yr ordeiniadau y mae y pwnc o fynediad i'r sancteiddiolaf yn gorwedd.

I'r tabernacl cyntaf; hyny yw, i'r babell nesaf allan, y cysegr.

Yr ai ; yn llythyrenol, " yr ä." Y mae yr awdwr yn newid yma o'r gorphenol i'r presenol. Gwel nodiad ar adn. 1. Dilynodd y cyfieithwyr Cymraeg Jerom yn yr adn. hon, a gadawsant Beza. Ond sylwero hyd jaa: am y tabernacl yn yr anialwch y sonir, ac nid am y deml . Nid y cwestiwn pwysig iddo ef ydyw beth oedd y ffaith yn ei ddyddiau ef , ond beth oedd amcan y trefniadau hyn yn meddwl Duw, wrth eu sefydlu.

ADN. 7. Yr ail; hyny yw. "y nesaf i mewn."

Unwaith ; hyny yw, ar un diwrnod, .«ef dydd y cymod. Ond äi yt archofPeiriad i'r sancteiddiolaf dair gwaith, os nad pedair gwaith, ar y dydd hwnw, y tro cyntaf fddwyn o fewn y wahanlen y marwor tanDyd a'r arogl- darth, yr ail dro i daenellu gwaed y bustach ar y drugareddfa, y trydydd tro i daenellu gwaed y bwch ar y drugareddfa, ac efallai y pedwerydd trc i lanhau y sancteiddiolaf oddiwrth y gwaed. Gwel Lef. xri. 12 16.

Anwybodaeth; yn llythyrenol, " anwybodaeth.au." Gwel nodiad ar v. 2.

ADN. 8. Yr Ysbryd Glân oedd awdwr y trefniadau hyn, nid Moses ef hun. Felly y priodolir hwynt yn llyfrau Moses i'r Arglwydd. Y mat awdwr yr Epistol yn golygu, y mae yn eglur, mai yr un yw yr Ysbryd Glân â Jehofah.

Yn hysbysu ; yn hytrach " yn dangos ;" hyny yw, trwy y trefniadau hyn, y rhai oeddynt alegori weledig i ddysgu plant Israel. Y mae y gair 14 dangos " yn yr amser presenol yma, a golyga fod yr Ysbryd yn parhau i ddangos o oes i oes.

Tra fyddai y tabernacl cyntaf yn sefyll. Wrth y "tabernacl cyntaf" y golygir yma eto, fel yn adnodau 2 a 6, "y babell, neu yr ystafell nesaf allan," hyny yw, y cysegr. Trwy rwygoyllen dilèodd Crist am byth y cysegr ac agorodd y cysegr sancteiddiolaf i'r holl gredinwyr. Ond yr oedd bodolaeth y cysegr, a'r wahanlen rhyngddo a'r cysegr sanct- eiddiolaf, wedi ei fwriadu gan yr Ysbryd Glân i ddysgu dynion nad oedd y ffordd i'r cysegr sancteiddiolaf yn agored eto.

Yn agored; yn hytrach, "wedi ei hamlygu;" hyny yw, "wedi ei datguddio," gan yr Ysbryd Glân. Y meddwl ydyw fod yr Ysbryd wedi trefnu y cysegr i guddio oddiwrth ddynion y wir ffordd at Dduw.

106 YE EPISTOL AT YE HEBBEAID.

nad oedd y ffordd i'r cyssegr sancteiddiolaf yn agored etto, tra 9 fyddai y tabernacl cyntaf yn sefyll : Yr hwn ydoedd gyffelyb- iaeth dros yr amser presennol, yn yr hwn yr offrymmid rhodd- ion ac aberthau, y rhai ni allent o ran cydwybod berffeithio yr

I'r cyssegr sancteiddiolaf; yn Hythyrenol, "i'r cysegr." Ond y mae yn eglur mai y sancteiddiolaf a olygir, ac mor eglur fel nad oes angen i'r awdwr ei alw y cysegr sancteiddiolaf yma.

Yn sefyll; yn hytrach, " yn meddu sefyllfa." Yr oedd y cysegr yn bod am fod iddo ystyr neillduol. Yr oedd yn meddu ei le yn yr oruchwyl- iaeth.

ADN. 9.— Yr hwn ydoedd gyffelybiaeth dros yr amser presenol. Gall y geiriau " yr hwn " fod yn cyfeirio un ai at y tabernacl cyntaf ai ynte at sefyllfa y tabernacl cyntaf . Gwell genyf y golygiad olaf, oblegid sefyllfa y cysegr, rhwng y bobl yn y cyntedd a'r cysegr sancteidd- iolaf oedd yn dangos nad oedd ffordd y sancteiddiolaf wedi ei hamlygu eto.

Dros ỳr amser presenol; neu, "hyd yr amser presenol." Y mae y naill gyfieithiad mor gywir a'r llall. Ond y cyntaf, mi a dybygwn, ydyw yr ystyr yn yr adn. hon, oblegid fod yr awdwr yn galw dyddiau yr efengyl, "y byd a ddaw " (ii. 5; vi. 5), a'i bendithion yn "ddaionu» bethau a fyddent" (ix. 11, ond y mae y darlleniad hwn yn amheus). Heblaw hyny, nid oe» ystyr perthynasol i'r ymresymiad mewn galw goruchwyliaeth yr efengyl yn beth presenol.

Cyffèlybiaeth, neu " ddameg." Nid yn hollol yr un ystyr sydd i'r gair hwn kg i'r geiriau "portreiad" a "chysgod" (viii. 5). Y mae " dameg " yn tybied llefarwr, fel y sonir am ddamegion Crist. Felly yma, cyfeiria y gair yn ol at yr Ysbryd Glân, yr hwn a grybwyllir yn adn. 8. Dameg yr Ysbryd Glân oedd y trefniadau hyn.

Yn yr hwn ; yn hytrach, "yn ol yr hwn" (neu "yr hon"). Kis gall y gair, yn y darlleniad cywir, gyfeirio at "yr amser presenol." Ehaid iddo gyfeirio un ai at " y tabernacl " ai at y " gyffelybiaeth." Ond nid yw yn hawdd gweled pa ystyr sydd mewn dyweyd " yn ol y tabernacl." Mwy naturiol ydyw y golygiad arall, " yn ol yr hon gyffelybiaeth."

A offrymmir. Dewisir yr amseriad presenol i arwyddo mai hyn oedd amean yr Ysbryd yn y ddameg. Pa un a offrymid yr aberthau pan ysgrifenai yr awdwr ai peidio sydd bwnc nad yw yr adn. hon yn ein cynorthwyo i'w benderfynu.

Cydwybod. Ceir y gair hwn gyntaf yn ysgrifeniadau un o'r Stoiciaid, Chrysippus, a golyga bob amser, nid, fel y dywed yr Esgob Saunderson, "gwybod gyda Duw," ond fel y dywed y Geiriadur, "gwybod gyda ni ein hunain," "gwybod ein perthynas foesol â rhyw weithred." Y mae geiriau yr awdwr yn yr adn. hon yn golygu fod cydwybod yr addolydd yn gwrthod perffeithiad trwy aberthau yr hen gyfamod. Yn adn. 13, 14, gwahan- iaetha rhwng puro y cnawd a phuro y gydwybod. Y cnawd ydyw y dyn yn ei berthynas â'r byd hwn ac â dyn ion ; y gydwybod ydyw y dyn yn ei berthynas âg ef ei hun ac â Duw. Gwel x. 1, 2. Pan y mae dyn yn sefyll o fiaen brawdle ei farn foesol ei hun, nis gall gredu fod Duw yn cael ei gymodi trwy waed teirw a geifr. Yr hyn a ddywed yr awdwr, gan hyny, yn yr adn. hon ydyw fod yr Ysbryd Glàn yn bwriadu dysgu dynion trwy drefniad y cysegr rhwng y bobl a phresenoWeb Duw, megis mewn dameg, nad oedd aberth a gymodai Ddnw wedi ei gael eto, ac felly amcanai yr Ysbryd Glân, gwaith yr Hwn ydyw goleuo yr enaid, sancteiddio y serch- iadau, ysbrydoli a thawelu y gydwybod, gadw cydwybod yr addolydd yn

YE EPISTOL AT YE HEBEEAID. 107

addolydd ; Y rhai oedd yn sefyll yn unig ar fwydydd, a 10 diodydd, ac amryw olchiadau, a defodau cnawdol, wedi en

anfoddog a chyffrous, er mwyn peri dyhead mewn dyniou ain ymddangosiad yr aberth digonol.

ADN. 10. Y mae amrywiaeth pwysig yn y darlleniad, yr hwn sydd yn ei gwneyd yn anmhosibl cyssylltu y geiriau "defodau cnawdol "â'r geiriau "bwydydd a diodydd ac amryw olchiadau." Rhaid gadael allan hefyd y gair "a" o fiaen "defodau." Eglurhad, gan hyny, ar y "rhoddion ac aberthau" ydyw y geiriau "defodau cnawdol." Ymhellach, y cyfieith- wyr sydd wedi rhoi i mewn y geiriau "y rhai oedd yn sefyll," a gwell ydyw eu gadael allan. Yr anhawsder yn awr ydyw gwybod beth all fod ystyr y gair "ar." Cynygia yr esbonwyr dri golygiad. (1) Gellir cyssylltu y gair " ar " â'r gair " gosod " yn niwedd yr adn., fel hyn : " rhoddion ac aberthau, y rhai ydynt ddefodau cnawdol wedi eu gosod yn unig ar fwydydd a diodydd ac amryw olchiadau hyd amser y diwygiad." Yr wrthddadl yn erbyn y golygiad hwn ydyw nas gellir yn hawdd ddeall pa fodd y mae y defodau wedi eu gosod ar fwydydd. (2) Gellir cyfieithu y gair " yn gynwysedig mewn:" "rhoddion ac aberthau, y rhai ydynt ddefodau cnawdol, y rhai sydd yn gynwysedig yn unig mewn bwydydd a diodydd ac amryw olchiadau." Dadleuir yn erbyn y golygiad hwn nad oedd yr aberthau yn gynwysedig mewn bwydydd, diodydd, a golchiadau. (3) Gellir cyfieithu y gair "yn ychwanegol at:" "rhoddion ac aberthau, yn ychwanegol at fwydydd a diodydd ac amryw olchiadau, defodau cnawdol yn unig, wedi eu gosod," &c. Yr wrthddadl ydyw nas gellir yn dêg gyssylltu y geiriau " yn unig " â'r geiriau " defodau cnawdol." Der- bynir y golygiad olaf hwn gan Dr. Thomas a chan un o'r esbonwyr diweddaraf oil, Keil. Ond nis gallaf weled paham y dygir y pethau ychwanegol i mewn o gwbl yn yr adnod. Er hyny buaswn yn mabwys- iadu y golygiad, oni buasai am yr wrthddadl a grybwyllwyd. Rhaid cyssylltu "yn unig" â'r geiriau "bwydydd a diodydd ac amryw olchiadau." Yr wrthddadl a ymddengys i mi yn benderfynol yn erbyn yr ail olygiad yw mai o'r braidd, a rhy brin, y goddef y gair gwreiddiol (epi) yr ystyr "yn gynwysedig mewn." Am y golygiad cyntaf nid wyf yn meddwl fod yr wrthddadl a grybwyllwyd uchod yn benderfynol. Paham nas gellir dyweyd fod y rhoddion a'r aberthau yn ymddibynu am eu cymeradwyaeth seremoniol ar fwydydd a diodydd a golchiadau? Ni wnai y tro i'r addolydd offrymu pob math o beth. Y mae mwy o rym, i fy meddwl i, yn yr wrthddadl fod trefn y geiriau yn ei gwneyd yn annaturiol cyssylltu y gair "ar" yn nechreu y frawddeg â'r gair "gosod" yn ei diwedd a dwyn i mewn rhyngddynt yr hyn a osodir, sef "defodau cnawdol." Ar y cyfan gwell genyf gyssylltu y geiriau " yn unig ar fwydydd a diodydd ac amryw olchiadau" â'r gair "offrymir" yn yr adn. flaenorol, fel hyn: "yn ol yr hon gyffelybiaeth yr offrymir rhoddion ac aberthau, er nas gallant o ran cydwybod berffeithio yr addolydd, yn unig ar sail bwydydd a diodydd ac amryw olchiadau, defodau cnawdol, wedi eu gosod hyd amser y diwygiad." Y mae yr jei \ r bron yr un peth â'r golygiad cyntaf uchod, sef fod cymmeradwyaeth yr offrymau yn ymddibynu ar fwydydd a diodydd a golchiadau. Nid oedd dim yn gymmeradwy fel aberth gan Dduw os nad oedd yn ddefnyddiol i ddyn pan nad oedd yn aberth.

Defodau cnawdol; yn fwy llythyrenol, " ordeiniadau y cnawd;" mewn cyf erbyniad i ordeiniadau y gydwybod. Gwel yr un cyferbyniad yn adn. 13, 14.

Diwygiad. Dichon fod y gair yn golygu mwy nag ad-drefniad y

108 YR EPISTOL AT YR HEBREAID.

11 gosod arnynt hyd amser y diwygiad. Eithr Crist, wedi dyfod yn Arch- off eiriad y daionus bethau a fyddent, trwy dabernacl

gwasanaeth (felly Dr. Thomas), a'i fod yn cyfeirio yn mlaenaf at adferiad dyn i'r berthynas iawn â Duw. Ystyr lythyrenol y gair gwreiddiol ydyw "uniawni yn hollol."

ADN. 11. Mewn cyferbyniad i'r cwbl a ddywedwyd am y tabernacl a'i wasanaeth o'r adn. gyntaf hyd yma, desgrifia yr awdwr fynediad Crist i'r gwir gysegr. Cymmerwn y geiriau mewn trefn.

"Wedi dyfod; yn hytrach, "wedi dyfod yma," sef i blith dynion. Gwel i. 6. Ond golyga y gair fwy na " dyfod." Cynwysa hefyd ei fod wrth ddyfod i'r byd yn cael ei wneyd yn rhywbeth nad oedd o'r blaen. Y gair a ddefnyddir yn y lie hwn ydyw y mwyaf priodol sydd yn boeibl i osod allan y ddau wirionedd, y naill yn y Hall, sef i Grist ddyfod fel Mab Duw ac iddo gael ei wneyd yr un pryd yn Fab dyn. Canlyniad y ddau gyda'u gilydd ydyw ei fod yn Archoffeiriad. Barna Rendall mai nid at ei ddyfodiad i'r byd y cyfeirir yma. ond at ei ymddangosiad yn y nefoedd gerbron Duw. Ond y mae y golygiad hwn yn gwneyd ei fywyd ar y ddaear yn barotoad arno i fod yn Offeiriad yn y nefoedd, ac nid yn rhan o waith ei offeiriadaeth.

Y daionus bethau a fyddent. Y mae y darlleniad yn lied amheus, ond nid mor amheus ag ydoedd oyn darcranfyddiad y llawysgrif Sinaitaidd. Y mae y llawysgrif henaf (B) yn darllen, "y daionus bethau sydd wedi dyfod:" ond y mae y ddwy lawyso-rif nesaf ati mewn awdurdod yn darllen, " y daionus bethau a fyddent (neu, a fyddant)." Nis gallaf lai nag ystyried dewisiad Westcott a Hort o'r darlleniad cyntaf yn un o'r profion o ormod tuedd yn yr ys£-olheigion hyn yn ffafr y llawysgrif henaf. Ond, ar wahan oddiwrth y llawysgrifau, nis gallaf gredu y buasai r.^grifenwr mor brydferth âg awdwr yr Epistol yn geirio mor anghelfydd à hyn : ' ' Crist wedi dyfod yn Archoff eiriad y daionus bethau sydd wedi dyfod." Os derbynir y darlleniad arall, beth yw yr ystyr, pa un ai "y daionus bethau a fyddent," sef bendithion yr efengyl ar ol dyfodiad Crist, ai "y daionus bethau a fyddant," sef y gogoniant a ddatguddir yn y nefoedd ? Yr ateb cywir ydyw na wneir y fath wahaniaeth â hwn gan awdwr yr Epistol. " Chwi a ddaethoch i fynydd Seion."

Trẁy dabernacl mwy a pherffeithiach. Cyssyllta rhai o'r tadau y geiriau hyn â'r geiriau "wedi dyfod yn Archoff eiriad, " ac eglura Hofmann ymhellach mai yr ystyr yw fod Crist wedi dyfod yn Archoffeiriad trwy ei gorph dyrchafedig. Ond, os felly, paham y geilw yr awdwr gorph Crist yn dabernacl o gwbl? Nid y tabernacl oedd yn gwneyd yr archoffeiriad yr hyn ydoedd. Rhaid cyssylltu y geiriau hyn â'r geiriau "a aeth unwaith i mewn i'r cysegr." Ond daw y gofyniad eto, Beth ydyw y tabernacl mwy ü pherffeithiach trwy yr hwn yr aeth Crist i mewn i'r cysegr? Yr unig olygiadau gwerth eu hystyried ydyw y rhai canlynol : (1) Mai dynoliaeth yr Arglwydd Iesu a feddylir. Y mae dwy ystyriaeth yn ffafriol iawn i'r golygiad hwn : Yn gyntaf, yn x. 20 dywedir fod Crist wedi cysegru y ffordd at Dduw trwy y lien, ac eglurir mai ei gnawd yw y lien rhwng y cysegr a'r sancteiddiolaf . Yn ail, os, yn lie dynoliaeth, y dywedir Person yr Arglwydd Iesu, yn y ddwy natur a'i cyfansoddai, y mae y golygiad yn fwy tebygol eto o fod yn gywir. Y mae yr eglurhad hwn yn rhoi cyfrif digonol am y geiriau "mwy" a " pherffeithiach;" oblegid y ddau ragoriaeth a grybwyllir yn yr Epistol yn Iesu fel Archoffeiriad ydyw ei fod yn " fawr " ac wedi ei " berff eithio " trwy ddyoddefiadau. Os, gan hyny, y Person mawr a pherffeithiedig hwn ydyw y gwir dabernacl yn gystal â'r gwir Archoffeir-

YE EPISTOL AT YE HEBEEATD. 109

mwy a pherfíeitbiach, nid o waith. Uaw, hynny yw, nid o'r

iad, y mae yn dra phriodol ei alw yn dabernacl mwy a pherffeithiach na'r cysegr cysgodol. Drachefn, yn adn. 14 dywedir iddo offrymu ei hun " trwy ysbryd tragwyddol," ac ystyr y geiriau hyn, mae yn debygol, ydyw iddo offrymu ei hun trwyddo ei nun. (2) Y golygiad arall ydyw mai nefoedd yr angelion a'r saint a feddylir, ac mai yr ystyr ydyw iddo fyned trwy breswylfa y creaduriaid sancteiddiaf ac uwchaf i'r cysegr sancteidd- iolaf, neu gartref digrëedig Duw. Ar yr olwg gyntaf, ymddengys y geiriau "mwy" a " pherffeithiach " yn ffafriol i'r golygiad hwn. Dywedir hefyd yn iv. 14 iddo fyned ".trwy y nefoedd." Yn ol y golygiad hwn ystyr y geiriau " nid o waith llaw" ydyw na chrewyd nefoedd yr angelion gan ddynion, fel y gwnawd y tabernacl gan Bezaleel ac Aholiab, ac ystyr y geiriau "nid o'r adeiladaeth (neu, yn hytrach, greadigaeth) yma " ydyw nad yw nefoedd yr angelion, er ei bod yn waith Duw, wedi ei chreu o ddefnyddiau materol, fel y tabernacl. Ond y mae un wrthddadl gref yn erbyn y golygiad hwn. Rhydd yr awdwr bwys neillduol, yn x. 20, ar rwygiad y lien. Cyfeiria yn ddiau at y rhwygiad a ddygwyddodd, yn ol rhai o'r Efengylau, ar y fomt-nt pan drengodd yr Iesu; ac esbonia y dygwyddiad rhyf edd hwnw fel alegori wedi ei bwriadu i ddangos fod ffordd y sancteiddiolaf o'r diwedd ac am byth bellach yn agored, nid i'r Arch- offeiriad yn unig, ond trwyddo ef i bawb o'r credinwyr i agoshau at Dduw. Gan hyny, y mae y cysegr wedi peidio bod, fel cyf erbyniad i'r cysegr sancteiddiolaf. Un cysegr sancteiddiolaf yw y cwbl. a phob man ynddo yr un mor agos at Dduw á phob rhan arall. Ond y mae y golygiad sydd dan sylw yn parhau y cyferbyniad rhwng y cysegr a'r cysegr sancteiddiolaf. Nia gallaf weled nad ydyw hyn yn beiiderfynol yn erbyn y golygiad. Ond, heblaw hyny. yn ol y golygiad hwn y mae yr awdwr yn crybwyll yn yr adn. hon yr hyn a ddygwyddodd ar ol i Grist farw ar y groes, ac yn dwyn i mewn y crybwylliad am ei waed wedi hyny yn yr adn. nesaf. 2sid wyf yn haeru fod yr wrthddadl hon yn penderfynu y pwnc ; ond y mae rhyw gymaint o rym ynddi. Yr wrthddadl derfynol ydyw y llall. Ond nid yw hono yn cyffwrdd â'r golygiad cyntaf a enwyd. Aeth Crist trwy ei Bt-r<on ei hun i mewn at Dduw Aeth trwy y lieu, sef ei gnawd, y peth hwnw ynglyn â'i Berson oedd rhyngddo a phresenoldeb uniongyrchol Duw. Pan rwygwyd y lien, hyny yw* pan fu Iesu farw, yr oedd y cysegr ar wahan oddiwrth y sancteiddiolaf yn peidio bod, ond parha i fod byth fel cysegr sancteiddiolaf, ac y mae holl Berscn yr Arglwydd Iesu, yn ei Dduwdod a'i Ddyndod, bellach yn gysegr sancteiddiolaf yn yr hwn y cyferfydd Duw â dynion. Y mae y golygiad hwn yn ogyhyd ac yn gymhwys, o ba gyfeiriad bynag yr edrychir arno. Ond dŵg y líall syniad i mewn nas gallai ganfod dim sail iddo yn yr Epistol hwn, er fod rhyw beth cyffelyb iddo yn nhraddodiadau y Babbiniaid ac yn Philo, sef fed y tabernacl yn yr anialwch wedi ei fwriadu i arddangos y greadigaeth ; ac nis gallaf weled y buasai y fath syniad yn ateb unrhyw ddyben o gwbl yn ymresymiad yr awdwr. Pa ddyben fyddai dyweyd yn yr adn. hon fod Crist wedi myned at Dduw trwy nefoedd yr angelion? Ac os yw hon yn wrthddadl yn erbyn y dybiaeth mai nefoedd yr angelion a olygir, y mae yn gryfach fyth yn" erbyn golygiad rhai mai y nefoedd serenog oedd yn meddwl yr awdwr. Ond y mae o bwys, i ddangos cadernid a gwerth yr ymresymiad, fod Crist wedi myned at Dduw trwy ei Berson ei hun. Yn unig cofier mai nid dynoliaeth Criat yn unig a feddylir, ond ei holl Berson. Os felly, yr hyn a olygir wrth y geiriau " nid o waith llaw" ydyw, fod y tabernacl neu y cysegr yr aeth Crist trwyddo at Dduw, nid yn waith dwylaw dynion, fel y

110 YR EPISTOL AT YR HEBREAID.

12 adeiladaeth yma ; Nid chwaith trwy waed geifr a lloi, eithr

tabernacl yn yr anialwch, ond yn Berson byw; yn debyg fel y dywed yi awdwr yn x. 20 fod y ffordd yn '? newydd a byw." Nid wyf yn credu fod un cyfeiriad yn y geiriau at ffurflad dynoliaeth yr Iesu gan yr Ysbryd Glân yn mm y wyryf , er fod yr eglurhad hwn yn cael ei dderbyn gan j tadau,' niegi? yr hen esboniwr gwych Primasius ; ond yr oedd hyn yn yi oes oedd yn llawn o'r dadleuon am gyfansoddiad Person yr Arglwydd Iesu a gwthiai'eu syniadau ar hyny i olygiadau y duwinyddion wrth esbonio.

Nid o'r adeiladaeth yma ; yn hytrach, ''nid o'r greadigaeth yma." Nid yr ystyr ydyw fod y tabernacl trwy yr hwn yr aeth Crist i'r cysegi sancteiddiolaf yn perthyn i ryw greadigaeth arall, ond y meddwl ydyw nad yw y tabernacl hwn, sef Person Crist, yn grëedig o gwbl. Y mae ffurf yi ymadrodd yn debyg i loan x. 16, *'y rhai nid ỳnt o'r gorlan hon." Yi ystyr ydyw, nid fod y defaid hyn mewn rhyw gorlan arall, ond nad ydynt mewn corlan o gwbl; crwydro y maent yn yr anialwch, a rhaid eu cyrchu. Gellid meddwl fod y dull hwn o eirio yn awgrymu rhyw f esur o ddiystyrwch : "nid o'r gorlan hon, gyda muriau wedi haner syrthio ;" " nid o'r greadigaeth yma, ond, yr hyn sydd yn rhagori, trwy dabernacl digrëedig ei Berson." Nid yn unig nid trwy gysegr wedi ei wneyd à dwylaw dynion, ond trwy gysegr heb ei wneyd hyd yn nod gan Dduw, trwy gysegr digrëedig ei Berson tragwyddol ei hun, yr aeth Crist i mewn i'r sancteiddiolaf.

Trwy. Teimla rhai esbonwyr anhawsder yn y gair hwn am fod yi awdwr ynymddangos fel pe yn eiddefnyddio mewndau ystyr hollol wahanol. Yn yr adn . hon gellid meddwl mai yr ystyr ydyw ' ' trwy le neu ffordd, ' ' ond yn yr adn. nesaf y mae yn eglur mai yr ystyr ydyw "trwy foddion neu gyfrwng." Ond y mae y golygiad a dderbyniwyd ar y tabernacl mwy yrj gofyn i ni ddeall y gair ' ' trwy " yn y ddwy adn . yn yr ystyr olaf , M cyfrwng. ' ' Y mae yn wir fod yr archoffeiriad dan y gyfraith yn myned trwy y cysegr fel lie i fyned i mewn i'r sancteiddiolaf. Ond anmherffeithrwydd y cysgod ydoedd yr achos o hyny. Gan fod yr holl drefniadau cysgodol yn faterol, yi unig drefh i gysgodi Person Crist fel cyfrwng oedd mynediad trwy le ac i le arall. Yn y gwrthgysgod nid oes eisiau symudiad o le i le i ddwyn Crist i bresenoldeb l)uw ; i'r gwrth-wyneb, y mae y cwbl yn bod o fewn ei Berson.

ADN. 12. Wedi dangos yn yr adn. flaenorol y gwahaniaeth rhwng y ddau dabernacl, ä yr awdwr ymlaen at yr ail beth a ddesgrifiwyd ganddo, sef y gwasanaeth yn y tabernacl. Ond cyfynga ei sylw i un gwasanaeth, sef mynediad yr archoffeiriad i'r sancteiddiolaf ar ddydd y cymod. Hwn oedd y gwasanaeth a ddangosai ragoriaeth ac effeithiolrwydd mynediad Crist i'r nefoedd.

Gwaed geifr [yn hytrach, gwaed bychod geifr] a lloi. Gwe] Lef. xvi. 1—20. Yr oedd gwaed llo ieuanc (Lef. ix. 2) neu fustach ieuanc (Lef . xvi. 3) i'w daenellu ar y drugareddfa dros Aaron ei hun, a gwaed un bwch i'w daenellu ar y drugareddfa dros y bobl. Nid yw yr awdwr yn son dim am y bwch arall, ar ben yr hwn y rhoddai Aaron holl gamweddau y bobl i'w dwyn i dir neillduaeth, yr hwn a elwid y bwch diangol. Y rheswm ydyw mai nid y pwnc yn yr adnodau hyn ydyw maddeuant pechodau, ond mynediad y gwir Archoffeiriad i'r gwir gysegr.

* Trwy 'ei waed ei hun. Rhaid i ni ochel pob syniad am waed materol corph Crist fel yr hyn y cyfeiria yr awdwr ato. Yn yr adn. flaenorol person Crist yn ei farwolaeth yw y tabernacl neu y cysegr trwy yr hwn yr ä Crist i mewn i'r cysegr sancteiddiolaf. Felly hefyd Person Crist yn ei farwolaeth yw y gwaed a ddwg Crist i mewn i'r sancteiddiolaf. Fel hyn y mae y golygiad a f abwysiadwyd ar yr adn. flaenorol yn ein cadw rhag syriiaw

YR EPISTOL AT YR HEBEEAID. Ill

trwy ei waed ei hun, a aeth unwaith i mewn i'r cyssegr, gan

yn gyfeiliornus am ystyr y gair -' gwaed" yn yr adn. hon. Yr wyf yn. tybied, pe tmasai Delitzsch wedi derbyn y golygiad cywir am y tabernacl mwy a pherffeithiach, na fuasai raid iddo draethu mor faith yn erbyii golygiad Quenstedt, Bengel, ac eraill, fod Crist wedi cymmeryd y gwaed materol a dywalltwyd o'i gorph sanctaidd ar y groes i'r gwir gysegr ar wahan oddiwrth ei gorph. Grwel nodiad ar xii. 24.

Ei hun. Gwel adn. 25, lie y dywedir fod yr archoffeiriad dan y gyf raith yn myned i mewn â gwaed arall, hyny yw, gwaed y bychod a'r lloi.

Unwaith ; nid bob blwyddyn, fel yr äi yr archoffeiriaid dan y gyfraith i mewn. Gwel adn. 25. Am ei fod yn myned i mewn trwy ei waed ei hun, hyny yw, trwy ei Berson ei hun, fel abcrth yn gystal ag fel tabernacl, yr oedd y gwaed yn ddigon yn ei werth i wneyd ail fynediad i mewn yn afreidiol.

I'r cyssegr ; sef y cysegr sancteiddiolaf, fel o'r blaen. Gwel nodiad ar adn. 8. Y mae gwahaniaeth, gan hyny, rhwng y tabernacl mwy a pherffeithiach yr aeth Crist trwyddo, a'r cysegr sancteiddiolaf yr aeth efe i mewn iddo. Pa un a yw y golygiad a dderbyniwyd ar ystyr y tabernacl mwy yn adn. 11 yn gywir ai peidio, nef y nefoedd, cartrefle Duw, yw y cysegr sancteiddiolaf. Presenoldeb Duw sydd yn ei sancteiddio. Ond wedi rhwygo y Hen a myned o Grist i mewn i bresenoldeb Duw trwy ei farwolaeth, y mae y cysegr sancteiddiolaf a'r cysegr bellach yn un ; yr un man i ni ydyw Person Crist a nef y gogoniant. Gwel adn. 2-4.

Gan gael i ni dragywyddol ryddhad. Barna rhai (yn eu plith Dr. Thomas) y dylid cyfieithu, " wedi caff ad," yn lie "gan gael." Ond yn y cysegr sancteiddiolaf yr oedd yr archoffeiriad dan y gyfraith yn cael y waredigaeth i'r bobl. Ni fuasai ystyr a dyben i'w fynediad i'r sancteidd- iolaf gyda gwaed, pc buasai y waredigaeth wedi ei chael cyn iddo fyned. Y mae yn anhawdd tybied fod Crist fel Archoffeiriad yn myned i'r gwir gysegr yn eiwaed, os ydyw y prynedigaeth drosodd cyn hyny. Yr wrth- ddadl a grybwylla Dr. Thomas ydyw, os at fynediad Crist i'r nefoedd y cyfeiria yr awdwr, yna fod y cymod heb ei wneuthur am fwy na deugain niwrnod wedi iddo farw. Ond yr wyf yn meddwl bod egwyddor i'w chael sydd yn egluro hyn, sef nad yw awdwr yr Epistol yn edrych ar farwolaeth Crist ar y groes ai esgyniad i'r nefoedd fel dau amgylchiad. Un weithred iawnol ydynt. Nid yw y ffaith iddo ymddangos i'w ddisgyblion dro ar ol tro rhwng ei adgyfodiad a'i esgyniad o'r Olewydd yn cffeithio dim ar y gwirionedd arall ei fod ar ol ei farwolaeth yn byw bywyd nefol ac ysbrydol o hyd. Yr oedd ei gorph eisoes wedi myned trwy y cyfnewidiad yr ä cyrph y saint trwyddo yn yr adgyfodiad ; ac yr oedd yn gymaint gwyrth iddo fwyta y darn pysgodyn wedi ei rostio a'r dil mêl ar ol ei adgyfodiad ag oedd iddo cyn ei farwolaeth borthi pum' mil o bobl â phum torth a dau bysgodyn. Ond yr oedd y naill weithred mor wirioneddol â'r llall. Nid ffug oeddynt. Gan fod ei fywyd ar ol ei farwolaeth yn fywyd y byd ysbrydol, yr oedd ei Berson o hyd yn y gwir gysegr gerbron Duw. Anhawsder arall a deimla Dr. Thomas ydyw golygu fod y rhangymejiad (participle) a ddefnyddir yma (aorist) yn gosod allan weithred gyfam-erol a'r prifair blaenorol, a bod yn rhaid cyfieithu y gair il wedi cael." Ond y mae yr esboniwr rhagorol hwn ei hun yn deall y rhangymeriad gorphenol (aorist) fel yn gyfamserol à'r prifair yn ii. 10, ac yn xi. 9. Tybiaf, pe buasai yr awdwr wedi defnyddio yr amser presenol, y bua.-ai yr ystyr yn newid, ac y golygai y gair fod Crist yn dal i gael, drachefn a thrachefn, y

112 YE EPISTOL AT YR HEBREAID.

13 gael i ni dragywyddol ryddhâd. Oblegid os ydyw gwaed teirw a geifr, a lludw aimer wedi ei daenellu ar y rhai a halogwyd,

prynedigaeth i ni. Buasai hyn yn anghyson â'r hyn a ddywed yr adn.. iddo fyned i mewn unwaith am byth.

Tragywyddol rydcLhad; yn hytrach, " tragywyddol brynedigaeth.' Felly hefyd y dylid darllen yn Lef. xxv. 10, lie y crybwyllir am brynedig- aeth y caethion ar y Jnbili. Defnyddir y gair weithiau yn fwy cyffredinol am " waredigaeth." Ond pan ddywedir fod y waredigaeth yn dyfod trwy waed, y mae yn eglnr mai y math hwn o waredigaeth a olygir, sef gwared- igaeth y caeth i ryddid trwy bwrcas neu bryniad. " Gwerth einioes " ydyw y gwaed sydd yn prynu y pechadnr o'r caethiwed sydd yn gynwysedig mewn euogrwydd neu rwymedigaeth i gosb. Gwel Math. xx. 28 ; 1 Cor. vi. 20; 1 Petri. 19.

Tragywyddol ; nid am flwyddyn, fel y waredigaeth a gaffai yr arch- offeiriad dan y gyfraith.

I ni. Rhaid gadael y geiriau hyn allan, a rhoi yn eu lie "i'w law ei hun." Golyga ffurf y gair gwreiddiol fod Crist wedi enill trwy ymdrech y gallu i roi prynedigaeth i'w bobl. Mor bell ydyw oddiwrth fod wedi enill hyn cyn myned i mewn i'r sancteiddiolaf fel y byddai yn fwy priodol dyweyd mai canlyniad ei ymddangosiad yno gerbron Duw ydyw yr awdurdod hwn sydd ganddo. Efe a drôdd y gymodfa yn orseddfainc ac oddiar ei orsedd gweinydda y fendith o brynedigaeth i ddynion. Cafodd ef y gallu hwn unwaith am byth, ond gweinydda y fendith hyd ddiwedd y byd. Felly, gellir golygu fod y gair "prynedigaeth" yn y lie hwn yn cynwys yr holl waredigaeth i'r holl waredigion. Gwel 1 Cor. i. 30.

ADN. 13, 14. Y mae Delitzsch yn dechreu adran newyddo'r Epistol yn y man hwn. Ond y ddwy adnod yma sydd yn gorphen y gymhariaeth rhwng y tabernacl a'i wasanaeth dan y gyfraith, ar y naill law, a myned- iad Crist i'r nefoedd, ar y llall. Yn adnodau 9 a 10 dywed yr awdwr nad oedd yr aberthau a ofrrymid dan y gyfraith yn alluog o ran cydwybod i berffeithio yr addolydd. Tuag at i'w ymresymiad fod yn gyflawn y mae yn ofynol iddo ddwyn i mewn y syniad fod aberth Crist yn puro y gydwybod. Gan hyny, ar ol cyferbynu y ddau waed fel moddion i roi mynediad i mewn i'r sancteiddiolaf ac hefyd i sicrhau prynedigaeth trwy eu taenellu yn y sancteiddiolaf gerbron Duw, cyferbynia hwynt yn awr yn effeithiolrwydd eu taenelliad ar y gydwybod. Gan mai hwn ydyw amcan yr awdwr nid oes dim yn erbyn iddo ddwyn i mewn gyffelybiaeth newydd ; nid y gwaed yn unig, ond hefyd bellach ìudw yr aner goch ; oblegid y mae y naill a'r llall yn f oddion dan y gyfraith i gyf arfod angen cydwybod ; ond gyda hyn o wahaniaeth, fod gwaed y bychod a'r teirw yn cael ei daenellu ar y gymodfa gerbron Duw, a'r fiyn sydd yn boddloni y pechadur ydyw gwybod fod Duw wedi ei foddloni ; ond taenellir y lludw ar gorph y dyn sydd wedi myned yn aflan, a'r hyn sydd yn ei dawelu yn awr ydyw gwybod ei fod ef ei hun wedi cyflawni pob peth yn ol y gyfraith. Yn y gwrthgysgod gwaed Crist a daenellir gerbron Duw ac ar gydwybod y pechadur hefyd. Ei waed yw yr hyn a arwyddoceir yn lludw yr aner yn gystal âg yn ngwaed y bychod a'r teirw ; ac f e ddygir y ddau beth i mewn wrth ddangos y cyferbyniad yn adn. 14. Fel y taenellid gwaed bychod a theirw i gymodi Duw, felly offrymodd Crist ei hun i Dduw ; ac fel y taenellid y lludw ar yr aflan, felly y mae gwaed Crist yn puro y gydwybod.

Os ; hyny ydyw, "gan fod." Y mae yr awdwr yn caniatau fod gwaed bychod a theirw a lludw aner yn sancteiddio mewn rhyw ystyr ac i ryw fesur. Gwel Lef. xvi. 30, 34.

YE EPISTOL AT YR HEBREAID. 113

yn sancteiddio i bureiddiad y cnawd ; Pa faint mwy y bydd i 14 waed Crist, yr hwn trwy yr Yspryd tragywyddol a'i hoffrym-

Lludw aner. Gwel Num. xix. 1 20. Nid oes son fod y ddefod yn cael ei harfer yn amgylchiad prophwydi fel Elias ac Eliseus. Gwel 1 Bren. xvii. 21 ; 2 Bren. iv. 34. Gallem dybied fod eu swydd fel prophwydi oeddent wedi eu hanfon yn uniongyrchol oddiwrth Dduw yn eu codi uwchlaw y ddefod.

Yn sancteiddio, yn ystyr y gair yn yr Epistol hwn, sef symud euog- rwydd y gydwybod, nid symud llygredigaeth y natur.

"Pureiddiad y cnawd; yn fwy Uythyrenol, " hyd at burdeb cnawd." Y mae yr ystyr sydd i'r gair '"cnawd" yn yr adn. hon yn wahanol i'r ystyi sydd iddo mewn manau eraill yn yr Epistol, ac yn ddynesiad at yr ystyr neillduol a roddir i'r gair mor fynych yn Epistolau Paul. Ac eto y mae gwahaniaeth. Golyga Paul yn fynych wrth y gair "cnawd" yr hyn oil sydd mewn dyn ar wahan i breswyliad Ysbryd Duw ynddo, a'r hyn sydd, oblegid hyny, yn ffynhonell llygredigaeth moesol. Y cyferbyniad, gan byny, ydyw "cnawd" ac "ysbryd." Ond yma y mae y cyferbyniad rhwng " cnawd" a " chydwybod." Eto ceir y cyferbyniad hwn hefyd yn yr Epistol at y Rhufeiniaid (yr unig un o Epistolau Paul y mae yn sicr fod awdwr yr Epistol at yr Hebreaid wedi ei ddarllen), ond defnyddir gair arall yn lie " cydwybod." Gwel Rhuf . vii. 25, lie y cyferbynir "cnawd" a " meddwl." Yr ystyr yn yr adn. dan sylw, gan hyny, ydyw fod gwaed y bychod a'r teirw, a'r lludw aner, yn symud euogrwydd can belled ag y mae a fyno y dyn â dynion eraill. Yn ei berthynas â'r byd neu â'r eglwys y mae yn rhydd oddiwrth euogrwydd. Ond nid yw y gwaed hwn na'r lludw yn cyffwrdd â chyssylltiadau moesol y dyn. Yn llys ei enaid ei hun, fel perchenog natur foesol, y mae yr euogrwydd heb ei symud a'r cywilydd yn parhau. Yn wir, nid yw y trosedd ei hun yn dyfod gerbron brawdle y gydwybod, oddieithr pan y mae hi yn blentynaidd. Cyffwrdd â chorph marw dyn oedd yn aflaneiddio, a chyffyrddia'd à lludw aner wedi ei lladd a'i llosgi oedd yn glanhau. Nifl gallai y naill na'r llall gyrhaedd ymhellach a dyfnach i'r dyn na'r cnawd, sef ei gyssylltiadau daearol.

ADN. 14.— Gwaed Crist; yn hytrach, "y Crist," hyny yw, yr Eneiniog, llys-negesydd y nefoedd, yr Archoffeiriad awdurdodedig gan Dduw ei hun, yn erbyn yr hwn y mae y dyn wedi pechu.

Trwy yr Ysbryd tragywyddol ; yn hytrach, " âg ysbryd tra- gwyddol." Y mae yn eglur fod y cyfieithwyr Cymraeg yn golygu mai yr Ysbryd Glân a feddylir. Dilynant yn hyn Jerom a lliaws o'r tadau, y rhai yn wir a ddarllenant " yr Ysbryd Glân " yn lie "yr Ysbryd tra- gwyddol." Ond nis gall fod amheuaeth mai nid yr Ysbryd Glân a olygir yma. Byddai hyny yn dwyn i mewn syniad sydd, a dyweyd y lleiaf, yn hollol anmherthynasol, os nad ydyw hefyd yn anghywir. (Nid wyf yn anturio dyweyd ei fod nac nad ydyw yn anghyson â chri yr Iesu, Paham y'm gade waist r) Pe yr Ysbryd Glân a olygid, diau y buasai yr awdwr yn dyweyd " yr Ysbryd," ac y mae ein cyfieithwyr yn amlwg yn teimlo hyny, oblegid dodant y fanod i mewn. Ond nid yw y fanod yn y gwreiddiol. Os nad yr Yebryd Glân a feddylir rhaid fod yr ymadrodd yn golygu Person Crist ei hun. Y mae y syniad hwn yn hollol gymhwys, yn wir yn angen- rheidiol, yn yr adnod. Yn un peth, dengys y gwahaniaeth anf eidrol rhwng yr aberthau dan y gyfraith ac aberth Crist. Yn lie bywyd anif ail direswm, ỳr hwn ni wyddai amcan ei farwolaeth, ac a lusgid â rhaffau o'i anfodd at yr allor, y mae Crist, yn mawredd ei bersonoliaeth tragwyddol, yn ymroddi- i offrymu ei hun, gyda holl feddwl ac ewyllysgarwch a nerth bywyd

114 YE EPISTOL AT YE HEBEEAID.

modd ei hiui yn ddifai i Dduw, buro eich cydwybod chwi oddi

annherfynol Mab Duw. Yn ail, y mae yr ymadrodd "âg ysbryd tra- gwyddol " yn esboniad ar y geiriau " tabernacl mwy a pherffeithiach," ac ar y geiriau " ei waed ei hun," a chrynhoant y ddaubetb pwysig hyn at eu gilydd i uil drychfeddwl. Yr oedd yr ben awduron, beb eithriad, yn cael anbawsder niawr i osod allan y syniad o bersonoliaetb. Cyfarfyddwn â'r anbawsder yn llyfrau yr athronwyr Groegaidd ac yn y Testament Newydd. Er angraifEt, pan y dywed Paul (Rhuf. vn. 22—25) ei fod yn "ymhyfrydu yn nghyfraith Duw yn ol y dyn oddifewn " a'i fod ef ei bun " â'r meddwl yn gwasanaethu cyfraitb Duw," enwau a roddodd yr Apostol ar y syniad o bersonoliaetb ydyw "y dyn oddifewn" a "meddwl." Ond y mae ar awdwr yr Epistol at yr Hebreaid eisiau gosod allan y syniad o bersonol- jiaeth. nid dyn, ond Mab Duw. Cafodd awgrymiad, efallai, oddiwrth yr {Apo-rtol Paul, yr bwn a ddywed fod Crist wedi ei nodi aUan yn Fab Duw mewn gaUu yn ol ysbryd sancteiddrivydd oddiwrth eiadgyfodiad oddiwrth y meirw (Rhuf. i. 4), a'i fod, ar ol ei amlygu, fel dirgelwch duwioldeb, yn y cnawd, wedi ei gyfiawnhau yn yr ysbryd (1 Tim. iii. 16). Y mae y naill o'r ddwy adn. yma yn egluro y llall. Adgyfododd yr Iesu "yn ol," neu yn ngrym, ei bersonobaeth ei hun, yr hwn oedd ffynbonell ei sancteidd- rwydd, fel nas geUid ei ddal yn hwy gan angau ; ac yn ei adgyf odiad yn ngrym ei ysbryd ei hun, cyfiawnhawyd ef, a phrofwyd gwirionedd ei haeriad am dano ei hun, ei fod yn Fab Duw. Ond at y gair " ysbryd" ycbwanega awdwr yr Epistol hwn y gab- " tragwyddol ;" oblegid ei amcan ydyw dangos yn mha bethau y mae rhagoriaeth gwaed Crist ar waed yr anifeihaid a offrymid dan y gyfraith. Y mae y rhagoriaeth mewn dau betb ; yn gyntaf, nid bywyd anifail a offrymir, ond bywyd Bod personol, ysbrydol, yr hwn a bertbyn yn gynhenid i'r byd goruwchnaturiol ; yn ail, I nid bywyd ysbryd crëedig chwaith, fel ysbryd dyn neu fel angel, a offrym- wyd. ond bywyd Bod digrèedig, diddechreu a diddiwedd, yn byw erioed i roddi ei hun yn nghyflawnder yr amser, ac yn byw byth, ar ol rhoddi ei hun i farw, i eiriol ac i achub. Soma yr Apostol Paul am bersonobaeth Crist fel yr hyn a'i cyfododd oddiwrth y meirw, a dywed awdwr yr Epistol mai ei bersonobaeth oedd grym ei hunan-offrymiad. Cynwysa hyn y syniad sydd yn ngeiriau Crist ei hun : " Yr wyf \yn dodi fy einioes i lawr ohonof fy hun ; y mae genyf feddiant i'w dodi hi i lawr ac y mae genyf feddiant i'w chymmeryd hi drachefn." Nid oedd y fath beth dan y gyfraith â hunan-offrymiad ; ac nis gallai fod, am nad oedd gan neb feddiant ar ei einioes ei hun ; ac, ymhellach, pe buasai y fath beth â hunan-offrymiad, ni fuasai hyny yn gwneyd achubwr i ddyn, am na buasai meddiant gan neb i gymmeryd ei einioes drachefn. Os yw yr eglurhad uchod yn gywir, fe welir mai nid ymroddiad ac egni yn natur ddynol Crist a feddylir, a thrachefn mai nid ei ddwyfoldeb yw yr ystyr, ond y naill gyda'r llall yn cyfansoddi "ysbryd," yr bwn sydd yn ddigrëedig yn ei wreiddyn yn nwyfoldeb Crist ac yn parhau byth yn ei Berson fel Duw- ddyn.

Difai. Gwel Lef. xxn. 20—25. Felly y geilw Pedr (1 Petri. 19) Grist yn " oen difeius a difrycheulyd." Y mae perffeithrwydd hollol ddibechod yn cael ei briodob i'r Iesu gan holl ysgrifenwyr y Testament Newydd. pywedodd yr awdwr eisoes fod Crist yn ddihalog fel Archoffeiriad, a chan iddo offrymu ei him, efe a offrymodd abertb dianaf .

I Dduw. Gellir cyssylltu y geiriau hyn á'r gab: "offrymodd" neu â' r gair "difai." Dichon fod yr awdwr yn bwriadu y naill a'r llall. Y mae hyny yn hollol yn ol dùllwedd yr iaitb Roeg ; a phe â'r gair

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. 115

wrth weithredoedd meirwon, i wasanaethu. y Duw byw ? Ac am hyxmy y mae efe yn Gyfryngwr y cyfammod newydd, 15

" offrymodd " yn unig y dymunasai eu cyssylltu, y tebygolrwydd yw y gosodasai y gair " difai " yn olaf. Yr ystyr felly ydyw i Grist offrymu ei hun i Dduw, a bod ei offrwm yn ddifai yn ngolwg Duw.

Y bydd i waed Crist buro. Gwel nodiad ar adn. 13. Puro y gydwybod ydyw symud yr euogrwydd o ran ei gywilydd ; gollwng y pechadur yn rhydd yn Ufa ei ysbryd ei hun. Y mae amseriad y ferf yn y dyfodol : " bydd iddo buro ;" oblegid nid bob amser y mae y gydwybod yn gollwng yn rhydd yr un pryd â Duw. Awgrymai y gair fod yr Hebreaid hyn hyd eto heb gyrhaedd gollyngdod cydwybod. Yr oeddynt yn yr un 8efyUfa ag y desgrifia Howel Harris a'i gynghorwyr rai o'u pobl, " dan y ddeddf." Ond siaradai yr hen Fethodistiaid iaith Paul. Pe siaradent iaith yr Epistol at yr Hebreaid, dywedasent fod y gydwybod heb ei phuro.

Gweithredoedd meirwon ; mewn cyfeiriad, fe ddichon, at gyffyrdd- iad â chorph marw yn aflaneiddio dyn dan y gyfraith. Y mae pechod yn peri aflendid cydwybod, sef y teimlad o gywilydd ac euogrwydd.

I wasanaethu y Duw byw. Defnyddir y gair " gwasanaeth" yn y lie hwn am " addoli," fel y soniwn weithiau am " y gwasanaeth dwyfol," yn yr ystyr o "addoliad Duw." Nid mewn cyferbyniad i'r duwiau meirwon, yr eilunod mudion, y gelwir Duw yn yr adn. hon yn Dduw byw, ond yn hytrach mewn cyferbyniad i'r " gweithredoedd meirwon." Os gelwir aflendid cydwybod yn farwolaeth, gelwir sancteidd- rwydd yn fywyd. Ni feiddiai y pechadur. cyn cymodi Duw a phuro ei gydwybod, agoshau mewn addoliad gwirioneddol at Dduw sanctaidd. O'r ochr arall arwydd sicr o gydwybod wedi ei chànu yn y gwaed ydyw ysbryd addoli.

ADN. 15. Casgliad oddiwrth y cwbl a ddywedwyd o ddechreu y benod ydyw yr adn. hon. Y mae y desgrifiad a roddodd yr awdwr o'r tabernacl a'i wasanaeth yn dangos y pethau canlynol am natur y cyfamod newydd : (1) Fodyr hen gyfamod a'i gyfryngwyr, sef yr archoffeiriaid, wedi myned heibio a rhoi eu lie i gyfamod newydd a Chyfryngwr newydd, sef Crist; (2) Fod y cyfamod newydd yn gorphwys ar farwolaeth Crist er prynedigaeth, fel yr oedd yr hen gyfamod yn gorphwys ar yr aberthau a'r offeiriadaeth, y rhai nis gallent o ran cydwybod berffeithio yr addolydd ; (3) Fod y cyfamod newydd yn dwyn i mewn gyflawniad o'r addewid neill- duol hono a roddodd Duw i Abraham.

Am hyny. Nid ydym i dybied mai yr hyn sydd yn dilyn yn yr adn. a olygir wrth " hyny." Byddai y fath olygiad yn tori y cyssylltiad rhwng yr adn. a'r hyn sydd yn myned o'r blaen, ac yn gadael y gymhar- iaeth a wnawd gan yr awdwr rhwng y tabernacl cysgodol a'r tabernacl mwy a pherffeithiach, rhwng yr offrymiad yn y naill a'r offryniiad yn y 11 all, heb fod yr awdwr yn tynu unrhyw gasgliad oddiwrthi. Yr wyf yn hollol gytuno â Dr. Thomas mai ar y gair " cyfamod" y mae y pwyslais. Am fod y cyferbyniad a enwyd rhwng y ddau dabernacl a rhwng y ddau offrymiad, y mae yn canlyn fod dau gyfamod, a bod Crist yn Gyfryngwr y cyfamod newydd. Rhaid gadael allan y fanod o flaen y gair " cyfamod." Y mae yr un mor amlwg mai cyfamod yw ystyr y gair dinthêhê yn yr adn. hon, ac nid testament.

Cyfryngwr. Gwel nodiad ar viii. 6.

Megis ; yn hytrach, " fel," yn gosod allan ddyben sefydliad y cyfamod newydd. Yr oedd yr hen gyfamod wedi methu dwyn dynion pechadurus i gymod â Duw. Ond y mae Crist wedi ei osod yn Gyfryngwr cyfamod arall, yr hwn oedd i gymmeryd lie yr hen gyfamod, i'r dybenhwn,fely

116 YR EPISTOL AT YR HEBREAID.

megis trwy fod marwolaeth yn ymwared oddi wrth y troseddau oedd dan y cyfammod cyntaf, y cai y rhai a ahvyd dderbyn

sicrheid y fendith. Nid wyf yn deall pa fodd y rhoddodd yr Esgob Davies " megis ;' i osod allan amcan, a llai na hyny pa fodd y dilynwyd ef gan Morgan, a Parry, a John Davies o Fallwyd.

Trwy fod marwolaeth. yn yniwared oddiwrth y troseddau oedd dan y cyfamod cyntaf. Gellid rneddwl oddiwrth y cyfieithiad hwn mai yr ystyr ydyw fod marwolaeth yr aberthau y cyflwynid eu gwaed gan yr archotfeiriaid yn y cysegr sancteiddiolaf yn waredigaeth oddiwrth bechod dan yr hen oruchwyliaeth. Ond y mae yn sicr nad hyn ydyw yr ystyr : oblegid un o amcanion penaf yr holl ymresymiad ydyw profi nad oedd marwolaeth yr aberthau hyny yn gymod dros bechod. Y mae braidd yn anhygoel fod Hengstenberg, ac eraiU, yn credu eu bod. Ehaid newid y cyfieithiad fel hyn : " trwy fod marwolaeth wedi cymmeryd lie er pryned- igaeth oddiwrth y troseddau oedd dan y cyfamod cyntaf;" hyny ydyw, trwy fod marwolaeth o'r diwedd, sef marwolaeth Crist, wedi cael tragwyddol brynedigaeth oddiwrth y troseddau hyny nad oedd prynedig- aeth oddiwrthynt trwy farwolaeth a gwaed yr aberthau yn amser y cyfamod cyntaf. Rhaid cofio yn barhaus fod yr Epistol yn golygu yr Iuddewon yn unig fel y prynedigion. Tra nad oes dim pendant ynddo am brynedigaeth y cenhedloedd, o blaid nac yn erbyn. amcan yr awdwr ydyw dangos pa fodd y mae marwolaeth Crist yn foddion i ddwyn i'r hen genedl gyflawniad o'r addewidion a roddasai Duw iddi yn Abraham. Golyga yr awdwr y genedl yn ei tfurf gyfansawdd. A*r genedl y gwnawd y cyfamod , y genedl oedd wedi troseddu y cyfamod ; adf eru y genedl i gymod Duw oedd amcan taenelliad gwaed y bẃch yn y sancteiddiolaf ar ddydd y cymod. Dyma neillduolrwydd aberth dydd y cymod. Tra yr oedd aberth beunyddiol dros bersonau. yr oedd aberth dydd y cymod dros y genedl. Gwel Lef . xvi. 5, "a chymmered^//* gymdleidfa metbion Israel ddau lwdn gafr yn bech-aberth, ac un hwrdd yn boeth-offrwm :" felly adn. 15, 16, 17, 21. Gan hyny, y mae cyflwr y genedl, fel pobl y cyfamod, heb ei newid hyd oni cheir marwolaeth ddigon haeddianol i sicrhau prynedigaeth y bobl. Y mae y troseddau oedd dan y cyfamod cyntaf yn parhau trwy hott t/stod y cyfamod hwnw (canys hyn yw ystyr fanwl y gair yn y gwreiddiol, epij, hyd oni syrnuda marwolaeth Crist hwynt. Nis gallaf dderbyn golygiad Alford ac eraill fod yr awdwr yn enwi y troseddau oedd dan y cyfamod cyntaf fel siampl o droseddau dynolryw yn gyffredinol.

Prynedigaeth. Gwel nodiad ar adn. 12.

Addewid ; yn llythyrenol, " yr addewid," sef yr addewid a wnaed i Abraham, yr hon oedd sylfaen y cyfamod. Y mae athrawiaeth yr awdwr am berthynas yr addewid i Abraham â rhoddiad y gyfraith trwy Moses yn hollol yr un peth. gydag un gwahaniaeth . á dysgeidiaeth yr Epistol at y Galatiaid. Daeth y gyfraith, neu y cyfamod cyntaf, i mewn ar ol yr addewid : ac eto yn Nghrist y mae yr addewid yn cael ei gyflawni, wedi i'r hon gyfamod fyned heibio. Yn hyn cytuna y ddau Epistol yn hollol. Y gwahaniaeth ydyw fod Paul yn desgrifio y ddeddf fel yn gwneyd ei gwaith trwy fod yn athraw, neu dywysydd, i ni at Grist. Ond yn yr Epistol at yr Hebreaid, methiant yw yr hen gyfamod, a daw Crist i mewn i wneyd y gwaith nas gallodd y cyfamod cyntaf ei gyflawni. Ond nid yw y ddau syniad yn anghyson. Gwel yr Arweiniad i Mewn.

Y rhai a alwyd ; hyny yw. y rhai y rhoddwyd yr addewid iddynt. Yr oedd yr addewid ymhob ffurf arno yn cynwys galwad oddiwrth Dduw at ddynion. Galwyd Abraham ; galwyd pìant* Israel i adael yr Aipht ;

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. 117

addewid yr etifeddiaeth dragywyddol. Oblegid lie byddo 16 testament, rhaid yw digwyddo marwolaeth y testarnentwr.

galwad drachefn yw yr ef engyl. Ac, yn yr holl frurfiau hyn, galwad ydyw i feddianu etifeddiaeth, yr lion, yn ei ffurf uwchaf, sydd yn etifeddiaeth ysbrydol a thragwyddol.

ADN. 16, 17. Y mae yr awdwr yn yr adn. flaenorol wedi dwyn ei ymresymiad yn nghylch y ddau dabernacl a'u hoftrymau i derfyniad, ac wedi dychwelyd trwy yr ymresymiad hwnw at y syniad o gyfamod, y syniad sydd yn llywodraethu holl rediad yr adran yma o'r Epistol. Gall fforddio, gan hyny, bellach, dangos natur y cyfamod gwell trwy gyffelyb- iaeth neu alegori, yn debyg fel y dangosodd natur yr offeiriadaeth well trwy yr alegori a gafodd yn hanes Melchisedec. Ni raid iddo ofalu cymaint am ymresymu yn fanwl a thynu casgliad sydd yn codi yn angenrheidiol oddiwrth yr hyn a ddywedwyd. Bydd cyffelybiaeth, yr hon na fwriedir iddi fod yn ddim amgen na chyffelybiaeth, yn help i'r darllenwyr i ddeall yr angenrheidrwydd am farwolaeth Crist er prynedigaeth cyn y daw etifeddion yr addewid i feddiant o'r etifeddiaeth. Y mae dau beth yn yr adn. flaenorol yn awgrymu i feddwl yr awdwr y gyffelybiacth o ddyn cyn marw yn gwneyd ei ewyllys olaf, neu ei " destament," ac yn gadael ei eiddo i hwn a'r Hall, fel y dewisa. Y peth cyntaf sydd yn awgrymu y gyffelybiaeth hon ydyw y gair "etifeddiaeth," yr hwn oedd yn yr addewid a roddasai Duw i Abraham. Gwel Gen. xv. 7. Yr ail beth yw fod y gair Groeg am " gyfamod " yri golygu hefyd lythyr cymun, neu raniad eiddo mewn ewyllys. Yn wir yr ystyr olaf hwn sydd i'r gair yn y Groeg clasurol. Yn y Groeg aleferid gan Iuddewon (yr hwn a elwir "y Groeg Helleni.staidd ") y golyga y gair diatheke " gyfamod." Y gyffelybiaeth, gan hyny, ydyw hon : Yr oedd y cyfamod newydd yn ymddibynu ar farwolaeth Crist cyn y deuai yr etifeddion i'w h etifeddiaeth, yn gyfi'elyb fel y mae etifeddion yn gyffredinol yn dyfod i'r eiddo, sydd eisoes iddynt mewn ewyllys, ar ol, nid cyn, marwolaeth y gwr a wnaeth yr ewyllys ac a adawodd iddynt yr eiddo, neu y " testamentwr." Y mae y gyffelybiaeth yn dra chymhwys, os gofelir peidio ei gyru yn rhy drwrn. Gwneler yr un tegweh â hi ag a wneir â'r damhegion, ac ni bydd dim gwrthuni ynddi. Cofier, wrth ei darllen, y tri pheth hyn : (1) Nad yw yr awdwr yn bwriadu dyweyd fod Duw yn gadael eiddo i'w bobl i'w feddu ar ol ei farwolaeth. Y gyffelybiaeth yn unigydyw fod marwolat th yn angenrheidiol cyn y bydd y cyfamod newydd mewn grym, fel y mae marwolaeth yn angenrheidiol cyn y bydd llythyr cymun mewn grym ; ond ni ddywedir mai am yr un rheswm y mae marwolaeth yn angenrheidiol yn y ddau achos. (2) Fod prynedigaeth yn elfen hanfodol yn marwolaeth Crist, ac nadyw y syniad hwn yn dyfod i'r gyffelybiaeth o gwbl. (3) Nad yw yr awdwr yn bwriadu i'r gyffelybiaeth feddu mwy o rym ymresymiad nag a berthyn i ddameg. Os na chaniateir y tri pheth hyn, ymddengys i mi ein bod yn rhwym o dderbyn golygiad Diaw:- o'r esbonwyr gorcu, sef nad oes yn yr adnodau unrhyw gyfeiriad o gwbl at gymunrodd n u destament, a bod yr awdwr yn arfer y gair diatheke fel o'r blaen ac fel yn adn. 18, yn yr ystyr o gyfamod. Dyna olygiad Charles (yn y Geiriadur) ac, yn yr Almaen, Tholuck, Ebrard, a Hofmann, yn Lloegr, Moulton, Kay, Rendall, a Westcott. Ond gwahaniaethant yn eu plith en hunain. Gellirdosbarthueugolygiadaufelycanlyn: 1. Ynlle "testamentwr" darllena rhai " yr aberth gosodedig," fel hyn : " Canys lie y mae cyfamod, rhaid y w digwyddo marwolaeth yr aberth gosodedig ; canys wedi marw yr aberthau y mae cyfamod mewn grym ; oblegid nid oes eto nerth ynddo tra fyddo yr aberth gosodedig yn fyw." Y mae yn eglur fod yr esbonwyr

118 YR EPISTOL AT YR HEBREAID.

17 Canys wedi marw dynion ij mae testament mewii grym: oblegid nid oes etto nerth ynddo tra fyddo y testamentwr

hyn yn golygu mat at un math o gyfamodau yn unig y cyfeiria yr awdwr, ac nid at gyfamodau yn gyffredinol ; oblegid nid oes eisiau aberth o gwbl tuag at roi grym mewn rhai cyfamodau. I i'y meddwl i nid yw hyn yn ben- derfynol yn erbyn y golygiad. Gallaf yn hawdd gydnabod y dichon fod llygad yr awdwr ar y cyfamod newydd, yr hwn sydd mewn grym trwy farwolaeth Crist. Yr wrthddadl sydd yn hollol benderfynu nas gellir derbyn y golygiad hwn ydyw nad yw y gair Groeg a gyfieithant hwy "yr aberth gosodedig " byth yn cael ei arfer yn yr ystyr hwn. 2. Cyfieitha eraill yr un gair " yr aberth sydd yn cyfryngu." Digon yw dywedyd nas gall y gair olygu hyn ychwaith. 3. Y mae golygiad Ebrard yn fwy teilwng o sylw : Pan y mae pechadur yn myned i gyfamod â'r Duw sanctaidd, rhaid iddo yn gyntaf roddi iawn i Dduw am ei bechod trwy boeth-offrwm, yr hwn a gynygia efe i Dduw yn ei le ; f el hyn: "Canys He y mae cyfamod o brynedigaeth rhwng Duw a phechadur, rhaid y w digwyddo marwolaeth y dyn sydd yn gwneyd y cyfamod ; canys ar sail ei farwolaeth ef y mae y cyfamod mewn grym, oblegid nid oes eto nerth ynddo tra fyddo dyn pechadurus, yr hwn sydd yn myned i gyfamod â Duw, by w ac heb gynyg marwolaeth iawnol." Golyga Ebrard fod y syniad o iawn yn lie y cyfamodwr yn dyfod i mewn yn yr adn. nesaf. Gwelaf fod Westcott yn mabwysiadu yr eglurhad hwn. Yr wrthddadl benderfynol yn erbyn yr esboniad cywrain hwn ydyw na cheir un awgrymiad o gwbl yn y Testament Newydd mai y pechadur sydd wedi cynyg iawn i Dduw. I'r gwrthwyneb, Duw feddyliodd gyntaf, ac a anfonodd ei Fab heb fod neb yn gofyn iddo. 4. Yn lie "cyfamod" rhwng dwy blaid annibynol, golyga Hofmann mai ystyr y gair diatheke ydyw " trefniad," " gosodiad." Ond y mae yr wrthddadl o hyd yn aros, nad ydyw " trefniad " ynddo ei hun o aDgenrheidrwydd yn tybied marwolaeth y neb a'i gwnaeth. 5. Cyfieitha Kendall fel hyn: "Oblegid lie byddo cyfamod, rhaid yw digwyddo marwolaeth y neb a wnaeth y cyfamod os bydd iddo ei dori. Canys ar sail aberthau meirwon y cadarnhei/y cyfamod: oblegid a oes nerth ynddo pan y mae y neb a'i gwnaeth yn fyw ar"ol ei dori? " Yr wrthddadl ydyw, fod marwolaeth y neb a wnaeth y cyfamod yn ofynol, yn ol yr esboniad hwn, nid am droseddau eraill, ond am y trosedd neillduol hwn yn unig o dori y cyfamod. Ond nid felly y mae marwolaeth Crist. Nid iawn ydyw am droseddu y cyfamod newydd ei hunan, ond iawn am droseddau eraill yn unig; a dywed yr awdwr mewn adn. arall nad oes aberth wedi ei adael mwyach am wrthod y cyfamod. Fel hyn y mae pob golygiad a gyny gu- ar y dybiaeth mai "cyfamod"' yw yr ŷstyr yn agored i wrthddadleuon cryfion ac anorfod. Nid wyf yn gweled un wrthddadl i'r golygiad mai cyffelybiaeth sydd yn yr adnodau oddiwrth ddyn yn gwneyd ei ewyllys olaf, oscedwir mewn côf y tri pheth a grybwyllir uchod. Y mae Philo yn gystal â'r awdwr hwn yn chwareu ar ddau ystyr y gair diatheke; a gwelsom eisoes fod awdwr yr Epistol yn benthyca ymadroddion o Philo yn lied fynych. Ond os barna y darllenydd fod yn rhaid deall y gair diatheke yn yr ystyr o gyfamod, yna golygiad Ebrard yw y goreu. Ond y mae fod Philo yn chwareu ar ddau ystyr y gair yn myned ymhell, fel yr ymddengys : mi, i brofi fod awdwr yr Epistol hefyd yn gwneyd hyny.

ADN 16.— Digwyddo; yn hytrach, "profi." Gair cyfreithiol (yn

y gyfraith Eufemig) ydyw yr un a ddefnyddir yma, am "brofi yr ewyllys."

ADN. 17.— Wedi marw dynion; yn llythyrenol, " ar feirwon."

•Ond y mae y cyfieithiad Cymraeg yn rhoddi yr ystyr. Tra y mae y

YR, EPISTOL AT YE HEBREAID. 119

yn fyw. 0 ba achos ni chyssegrwyd y cyntaf heb waed. 18 Canys wedi i Moses adrodd yr holl orchyxnyn yn ol y gyf- 19

testamentwr yn fyw, ni phrofir yr ewyllys. Gall ei newid, os dewisa. Nid ydym i ieddwl fod unrhyw gyfeiriad at y posibilrwydd i Grist newid ei feddwl; canys, fel y dywedwyd o'r blaen, nid oes vma un cyfeiriad o gwbl at Grist fel testamentwr, ond at y cyffelybrwydd rhwng marwolaeth Crist a marwolaeth testamentwr.

ADN. 18 24. Yn y rhan flaenorol o'r benod prof odd yr awdwr yr angenrheidrwydd am farwolaeth Crist er prynedigaeth, a dangosodd fod hyny yn cynwys gwneuthuriad cyfamod newydd (adn. 15). Defnyddiodd alegori i osodallan ei feddwl yn adn. 16, 17. Y pwnc nesaf ydyw fod, nid yn unig y prynedigaeth sydd trwy y cyfamod newydd, ond sefydliad y cyfamod ei hun yn cael ei ddwyn oddiamgylch trwy waed. Nid yn unig y mae yr archoffeiriad yn taenellu gwaed yr aberthau ar y drugareddfa ar ddydd y cymod, ond y mae Moses hefyd, wrth gysegru y cyfamod ar y cyntaf, yn taenellu gwaed ar y llyfr, y bobl, y tabernacl a llestri y gwasanaeth. Ac, ymhellach, trwy waed y purir bron bob peth wrth y pyfraith, ar ol cysegru y cyfamod. Felly hefyd yn y cyfamod newydd. Yn wir, arwyddluniau o'r pethau nefol oedd y cwbl a gysegrid ac a burid trwy waed dan y cyfamod cyntaf ; ac fe gysegrir y pethau nefol â gwaed, yr un modd, ond â gwaed aberthau gwell. Fe welir oddiwrth hyn fod cysegriad y cyfamod, yr hwn sydd yn syniad newydd, yn cael ei ddwyn i mewn yma fel prawf ychwanegol o natur y cyfamod. Y mae a fyno â phrynedigaeth hyd yn nod yn ei sefydliad. Nid troi i amcan neillduol y prynedigaeth sefydliad oedd eisoes yn bod i amcanion eraill a gwahanol ddarfu Duw, ond sefydlodd gyfamod newydd i'r amcan hwn ac, am hyny, cysegrwyd ef o'r cychwyn â gwaed. Y mae yr esbonwyr yn gyffredin yn cyssylltu y ddeunawfed adn. â'r ddwy adnod flaenorol, ac felly yn cyfieithu y gair diatheke yn "destament" yn yr adn. hon, ac nid yn "gyfamod." Yr wyf yn cydnabod fod y gyffelybiaeth yn nghylch marwolaeth y testamentwr yn arwain yn naturiol i'r syniad fod y cyfamod newydd wedi dyfod i rym trwy farwolaeth Crist. Ond nis gallaf weled o gwbl fod Crist yn cael ei ddesgrifio fel testamentwr, ac yr wyf yn argy- hoeddedig hefyd fod y pwnc o gysegriad y cyfamod trwy waed yn dilyn yn naturiol yr hyn a ddywed yr awdwr yn y rhan flaenorol o'r benod am daenelliad y drugareddfa â gwaed.

ADN. 18.— Y cyntaf ; yn hytrach, "hyd yn nod y cyntaf," *ef y cyfamod cyntaf, yr hwn nad oedd ond cysgod ar y goreu, sef ynyr ochr hono iddo sydd agosaf at y cyfamod gwell. Pa faint mwy angenrheidiol ydyw cysegru y cyfamod gwell ei hun â gwaed, y cyfamod sydd yn dwyn oddiamgylch brynedigaeth dragwyddol !

Ni chysegrwyd. Nid yr un gair sydd yma âg yn ii. 10, "perffeithio trwy ddyoddefiadau;" ac nid yr un gair âg yn ii. 11, " yr hwn sydd yn sancteiddio." Ceir y gair yn x. 20, "yr hon a gysegrodd efe i ni trwy y Hen." Ei ystyr ydyw cyflwyno lie neu bethau i wasanaeth crefydd. Yn amser Judas Maccabseus y daeth y gair i hynodrwydd (yr oedd mewn arferiad o'r blaen), pan sefydlwyd y gysegr-wyl (gwel 2 Mace. x. 1—8; loan x. 22) i gofio amlanhad y demf oddiwrth y llygriad a achoswyd gan Antiochus Epiphanes. Felly yma. Cyflwynodd Moses y tabernacl, y genedl, y llyfr, yn gyhoeddus i wasanaeth Duw. Ond yr hyn sydd yn arbenig: yn tynu sylw yr awdwr ydyw i Moses wneyd hyn oil â gwaed.

ADN. 19.— Yr holl orchymyn ; yn hytrach, " pob gorchymyn." Yr oedd yr holl orchymynion gyda'u gilydd yn gwneyd i fyny un corph o gyfraith ; ac yr oedd y cyflawnder a'r cyf uniad hwn yn gynwy sedig yn y

120 YR EPISTOL AT YR HEBREAID.

raith wrth yr holl bobl, efe a gymmerodd waed Hoi a geifiy gyd â dwfr, a gwlan porphor, ac isop, ac a'i taenellodd

20 ar y llyfr a'r bobl oil, Gan ddywedyd, Hwn yw gwaed y

21 testament a orchymynodd Duw i chwi. Y tabernacl hefyd a holl lestri y gwasanaeth a daenellodd efe â gwaed yr un modd.

22 A chan mwyaf trwy waed y purir pob petb wrth y gyf raith;

23 ac heb ollwng gwaed nid oes maddeuant. Rhaid oedd gan

cyfamod. Nid cyfamod ydoedd am bethau unigoi, iel cytundebau masnachol, ond cyfamod am yr oil o'r dyn yn ei holl berthynas â Duw.

Yn ol y gyfraith. Nid yr ystyr yw fod Moses wedi llefaru pob gorchymyn fel y gosodasai Duw arno i wneyd, nac ychwaith ei fod wedi llefaru pob gorchymyn a osodasid ar y bobl yu y gyfraith, ond yn hytrach fod Moses wedi llefaru pob gorchymyn yn hollol fel yr oedd pob gorchymyn yn y gyfraith. "Moses a fynegodd i'r bobl holl eiriau yr Arglwydd" (Exod. xxiv. 3). Yr oedd pob gorchymyn yn cyfateb i amcan cyffredinol y cyfamod.

Gwaed lloi a geifr , yn hytrach, " gwaed Hoi a bychod geifr.'* Ond ni chrybwyllir " gwaed bychod geifr " yn hanes y cysegriad yn Exod. xxiv. Y tebygolrwydd yw fod yr awdwr yn dilyn y traddodiad Iuddewig, fel y sylwa Dr. Thomas. Geilw Philo sylw at absenoldeb gwaed bychod yn hanes y cysegriad. Y mae y gwahaniaeth hwn. rhwng Philo ac awdwr yr Epistol yn deilwng o nodiad, ac yn dangos fod yr awdwr, trwy grybwyll fod gwaed bychod geifr wedi ei daenellu, yn bwriadu gwahaniaethu rhwng cysegriad y cyfamod a'r aberthau iawnol a offrymid dan y cyfamod.

Gyda dwfr. Nid yw hyn ychwaith yn yr hanes yn Exodus.

Gwlan porphor ac isop- Y mae y ddau beth hyn eto yn absenol o}r hanes. Llysieuyn a dyfai o'r mur oedd isop (neu "hyssop "). Gwnelid ysgub fechan, neu dusw, o'i frigau wedi eu rhwymo âg edau wíân gôch, ac â'r ysgub hon y taenellid y gwaed. Gwel Exod. xii. 22.

Y llyfr. Ni sonir yn yr hanes am daenellu y llyfr. Y llyfr yn yr hwn yr ysgrifenasai Moses y gyfraith o cnau Duw yn ddiau a feddylir. Gwel Exod. xxiv. 6, 7.

ADN. 20.— Y testament, yn hytrach, "y cyfamod." Felly ymhob adnod yn yr Epistol, oddieithr yn adn 16 a 17 o'r benod hon. Os na olygir fod ystyr ygair diatheke yn newid o " destament" i "gyfamod" ar ol adn. 17. yr ydym ar unwaith mewn dyryswch. Oblegid pa synwyr sydd mewn son am gysegru testament ?

ADN. 21. Yn Exod. xl 9—16 y cawn hanes cysegriad y tabernacl a'i lestri ; ymhell ar ol cysegriad y cyfamod ei hun, o angenrheidrwydd. Ond âg olew, nid â gwaed, y cysegrid hwynt. Eto dywedir yn Lef. viii. 30 fod Moses wedi taenellu gwaed yn gy&tal âg olew ar Aaron ; a dywed Josephus yn ei Hynajiaeihau yr luddewon fod Moses wedi taenellu gwaed ac olew ar y tabernacl. Dilyna yr awdwr y traddodiad hwn : a hawdd ydyw deall pwysigrwydd y gwaed i gyssylltu cysegriad a phryned- igaeth.

ADN. 22.— Nid yn unig â gwaed y sefydlwyd y cyfamod ar y cychwyn, ond gallem bron ddyweyd mai â'r un gwaed (dyna'r ystyr) hefyd y purir pob peth, o amser y sefydliad ymlaen. Y mae math o gysegriad adnewyddol yn cymmeryd lie ar bob petb a gysegrwyd i wasanaeth Duw, ar ol pob defnyddiad ohonynt.

Ac heb ollwng gwaed nid oes maddeuant. Nid yn unig trwy waed y cysegrir ac y purir y pethau a'r lie, ond trwy waed hefyd y

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. 121

hynny i bortreiadau y pethau sydd yn y nefoedd gael ex: puro â'r pethau hyn ; a'r pethau nefol eu hunain âg aberthai;

derbynia y personau faddeuant. Yn yr adn. hon, gan hyny, y mae yr awdwr yn cyf uno y ddau bwnc sydd wedi bod dan sylw ganddo yn y benod hon o'i dechreuad, sef taenelliad y gwaed gan Aaron er maddeuant a thaenelliad y gwaed gan Moses er cysegriad. Gair cryf anghyffredin yw y gair a gyfieithir " gollwng gwaed." Hwn yvr y man y ceir ef gyntaf yn yr iaith Roeg. Golyga dywalltiad allan waed. Arwydda fod nid taeneìlu â bŷs yn unig i fod, ond tywallt allan ffrwd lawn. Gofyna yr esbonwyr pa un ai tywalltiad y gwaed o gorph yr anifail wrth ei ladd ai taenelliad y gwaed gan yr archotfeiriad yn y sancteiddiolaf a feddylir. Ymddengys i mi fod gofyn y cwestiwn yn ysgar dwy ran o'r un weithred. Rhaid fod yr awdwr yn cymmeryd yr holl weithred i mewn. Y mae yr ymadrodd *' gollwng gwaed " (yr hwn sydd yn gyfieithiad cywir, ond rhy wan) yn cyieirio yn imiongyrchol at laddiad yr anifail. Ond nid oedd un y-tyr yn y gollyngiad o'i waed, os nad i'w daenellu gerbron Duw. Geilw Delitzsch ein sylw yn hollol briodol at eiriau Crist ei him : " Hwn yw fy ngwaed o'r cyfamod newydd, yr hwn a dywelltir allan drosoch," Luc xxii. 20. At y trefniad dan y gyfraith yn unig y cyfeiria yr awdwr, ac ni ddylid dyfynu yr adnod ar ei phen ei hun fel yn profi yr angenrheidrwydd am iawn Crist. Ond y mae yr adn. yn rhan o'r ymresymiad sydd wedi ei fwriadu i ddangos yr angenrheidrwydd am waed Crist i gysegru y lie, i buro y gwasanaeth, ac i ddwyn maddeuant i'r pechadur. ÎS'id ywy geiriau " gan mwyaf," sydd yn y rhan gyntaf o r adn., i'w cysylltu o gwbl à'r gosodiad sydd yn y rhan olaf ohoni Nid yw aberth y dyn tlawd, sef peilliaid (Lef. v. 11,) yn eithriad i'r hyn a ddywedir yma, fod gwaed i'w dywallt cyn y ceir maddeuant; oblegid at faddeuant i'r genedl, fel y cyfryw, ar ddydd y cymod y cyf eiria yr awdwr yn y rhan flaenaf o'r benod, ac nid oes yn yr adn. hon ddim ond yr un peth

ADN. 23. Y mae yr awdwr yn troibellach oddiwrth y cysgod at y sylwedd, a hyny yn y ddau beth a grybwyllodd. sef tywalltiad gwaed i gysegru y tabernael a thywalltiad gwaed er prynedigaeth y troseddwr. Cymmerwn y blaenaf o'r ddau hyn yn gyntaf. Fel y purid yr arwyddluniau o'r pethau sydd yn y nefoedd â gwaed bychod a lloi, felly y mae yn rhaid puro y pethau nefol eu hunain àgaberthau gwoll. Bef âg aberth Crist. Ar yr olwg gyntaf ymddengys yn anhawdd deal] beth a feddylir wrth ddyweyd fod y nef ei hun mewn angen am gael ci phuro. Cyfarfydda rhai yr anhawsder trwy roddi rhyw ystyr is i'r gair " nefoedd," niegis yr eglwys ar y ddaear, yn ol syniad y tadau ; tra y ceisia eraill esbonio yr ymadrodd trwy wanhau ystyr y gair " puro,'* ac y mre Delitzsch ei hun, yr hwn a wrthoda y naill a'r Hall, dan orfodaeth i newid cryn lawer ar ystyr y gair " puro," trwy esbonio mai yr ystyr ywfod gwaed Crist yn symud digofaint Duw. Ond yn sicr, y mae y golygiad diweddaf yn anghywir, oblegid gwahaniaetha yr awdwr rhwng taenellu y gwaed i gysegru a thaenellu y gwaed er prynedigaeth. Vr hyn a olygir wrth buro y tabernael a'i lestri ydyw eu hail gysegru ar ol eu defnyddio. Xi olygir o gwbl fod y tabernael ei hun yn aflan mewn unrhyw ystyr. Pa synwyr fyddai galw y babell nesaf i mewn y " sancteiddiolaf," os ydyw yn aflan ? Am hyny, nis gallaf ddeall beth a olyga Delitzsch pan yn son am " iawn dros y cysegr." Y mae yn wir mai trwy aberthau y purid y tabernael, ond aberthau dros ddynion oeddyut, nid dros y tabernael. Yn hyn y gorwedd y cyssylltiad agos a hanfodol sydd rhwng cysegriad y lie a phrynedigaeth y pechadur. Trwy aberth dros y pechadur y cysegrir y lie, a thrwy gysegriad y lie y parotoir

122 YR EPISTOL AT YR HEBREAID.

24 gwell na'r rhai hyn. Canys nid i'r cyssegr o waith llaw, portreiad y gwir gyssegr, yr aeth Crist i niewn ; ond i'r nef ei

25 hun, i ymddangos yn awr ger bron Duw trosom ni : Nac fel

ef i fod yn fan cyfarfod rhwng Duw a'r pechadur. Felly, yr hyn a olygir wrth " buro" y nefoedd ydyw gwneyd nefoedd y gogoniant yn fan cyf- arfod rhwng Duw a phechadur, a'i neillduo i'r amcan hwn ; gwneyd gor- sedd Duw yn gymodfa. Y mae yr eglurhad hwn yn cadw ymlaen yr un ystyr i*r gair " puro " pan ddefnyddir ef am y nefoedd ac am y tabernacl, a hwnw yr unig ystyr sydd yn bosibl o berthynas i'r tabernacl ei hun.

Aberthau ; sef aberth Crist. Defnyddir y rhif lliosog i ddwyn allan y cyferbyniad rhwng aberth Crist a'r holl aberthau Iuddewig ar ddydd y cymod.

ADN. 24.— Wedi dangos mai gwaed sydd yn puro y gwir dabernacl, dywed yr awdwr mai i'r tabernacl hwn, y gwir gysegr, yr aeth Crist i mewn. Dywedodd eisoes, yn adn. 12. fod Crist wedi myned i mewn i'r cysegr. Ei amcan yn yr adn. hono oedd dangos ei fod wedi myned yno fel Aaron i daenellu y gwaed er prynedigaeth. Ei amcan pi bresenol ydyw dangos ei fod wedi myned i mewn i gysegru y nefoedd, a'i gwneyd yn gymodfa i bechadur i gyfarfocl â Duw. Yn y nodiad ar adn. 11 derbyniais y golyg- iad mai Person Crist yn ei farwolaeth ydyw y "tabernacl mwy a pher- ffeithiach " yr aeth efe trwyddo i'r cysegr sancteiddiolaf . Ond presenoldeb Duw yn nef y nefoedd ydyw y cysegr sancteiddiolaf yr aeth Crist i mewn iddo. Gwel nodiad ar adn. 12.

Y cyssegr o waith llaw; sef y cysegr sancteiddiolaf yn y tabernacl daearol. Gwel adn. 11.

Portreiad; sef yr arwyddlun, neu, yn Uythyrenol, "y gwrth-lun," y cysegr sancteiddiolaf a wnaeth Moses yn ol y cynllun a ddangoswyd iddo yn y mynydd. Gwel viii. 5. Am nad aeth Crist i mewn i'r sancteiddiolaf cysgodol, y mae yn canlyn mai nid cysegriad cy sgodol a wnawd trwy ei waed. I'r nef ei hun ; mewn cyferbyniad, yn gyntaf», i'r cysegr sancteidd- iolaf, ac, yn ail, i'r nefoedd (yn y rhif lliosog) yr aeth Crist trwyddynt. Gwel iv. Ì4. Y nef ei hun ydyw y nef yn ystyr uwchaf yr enw nef.

Yn awr. Nid yr ystyr ydyw', mi a dybiaf, fod Crist yn ymddangos yn y nef o hyn allan. Yn hytrach, gair gorfoleddus ydyw. Y mae Crist yno yn awr, eisoes, wedi gorphen ei waith, ac wedi cael derbyniad yn y sanct- eiddiolaf. Y mae y peth hwnw y bu yr hen gyfamod am oesoedd lawer yn ei ddesgrifio mewn cysgod wedi ei gyrhaedd bellach, unwaith am byth.

I ymddangos. Y mae yr holl esbonwyr yn golygu fod hyn yn cyfeirio at waith Crist yn ymddangos gerbron Duw fel yr ymddangosai yr archoffeiriad ger ei iron yn y cysegr sancteiddiolaf ar ddydd y cymod. Ond y mae dau anhawsder ar ein ffordd i dderbyn y golygiad yna. Yn gyntaf, yn yr adn. nesaf y dygir offrymiad Crist i mewn ; ac, yn ail, fel y gwelsom eisoes, pwnc yr adnodau blaenorol ydyw cysegriad y nef i fod yn gymodfa trwy waed Crist, fel y cysegrodd Moses y tabernacl â gwaed. Tueddir fi, am y rhesymau hyn, i feddwl mai nid at ymddangosiad Aaron y cyfeirir yn unig. ond at weddi ac eiriolaeth Moses, Exod. xxxii. 31, 32, ac yn xxxiii. "Wedi i'r bobl bechu drwy addoli y llo tawdd, eiriolodd Moses drostynt, " Ac yn awr, os maddeui eu pechod; ac os amgen, dilèa fi, at- olwg, allan o'th lyfr." Yna lledodd y babell a galwodd hi, "Pabell y cyfarfod;" a phan yr Ki Moses i'r babell, disgynai cwmwl, fel na chai y bobl ymddangos gerbron yr Arglwydd. Ond llefarai yr Arglwydd wrth Moses wyneb yn wyneb, fel y llefara gŵr wrth ei gyfaill. Er hyny, nid oedd Moses yn foddlawn, ac atolygodd ar i'r Arglwydd ddangos iddo ei

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. 123

yr ofTrymmai efe ei him yn fynych, megis y mae yr arch- offeiriad yn myned i mewn i'r cyssegr bob blwyddyn, â gwaed

ogoniant. Gofynai hyn er mwyn cael prawf yr arbedai Duw y bobl. Yr oedd yn eiriol drostynt wrth ofyn am weled gogoniant Duw. Ni chafodd weled wyneb Duw ; ond gwnaeth Duw i'w holl ddaioni fyned heibio o flaen ei wyneb, a chyhoeddodd enw yr Arglwydd o'i flaen, gan addaw trugarhau wrth yr hwn y cymmerai drugaredd arno. Bu ei eiriolaeth i fesur yn llwyddianus. Dyna y cysgod; ac yn y cysgod y mae cysegru y tabernacl â gwaed gan Moses ac eiriolaeth Moses gerbron Duw yn mhabell y cyfarfod yn ddau amgylchiad gwahanol. Ond yn y sylwedd, y mae yn angenrheidiol i'r ddau beth gyd-gyfarfod— cysegriad y nef trwy waed Crist ac eiriolaeth Crist dros ei bobl. Wedi myned i mewn trwy gysegriad y lie sancteiddiolaf â'i waed, eiriola Crist yn mhabell y cyfarfod. Yn y man hwn y daw y gwahaniaeth i mewn rhwng Moses a Christ. Y mae Crist yn ymddangos gerbron wyneb Duw. Y mae efe wedi cael iddo ei hun yr hyn a wrthodwyd i Moses, sef gweled wyneb a gogoniant Duw. Yr un gair a ddefnyddia Moses yn ei weddi ag a geir yn yr adn. hon : " Dangos i mi dy hun" (fel y mae y Deg a Thriugain yn cyfieithu, yn Ex. xxxiii. 13). Rhydd Delitzsch ran o weddi Moses fel yr eglurir hi yn Philo, ac y mae yr aralleiriad yn gymhorth i ddeall meddwl awdwr yr Epistol : " Datguddia dy hun i mi, nid trwy nefoedd, neu ddaear, neu awyr, neu ddwfr, na thrwy ddim arall crëedig Dyro weled dy ffurf hanfodol, nid mewn sylwedd arall, megis mewn drych, ond ynot dy hun, 0 Dduw." Yr hyn & ddywed yr adn. hon ydyw fod Crist yn awr wedi cael hyn ; ac, am hyny, ei fod yn eiriol yn fwy llwyddianus drosom ni yn y nef nag yr eiriolai Moses dros y bobl yn mhabell y cyfarfod. Gwell yw peidio dwyn i'r gair "ymddangos " yn yr adn. o gwbl y syniad o ddadleuwr mewn llŷs barn. Sylwa Westcott ei bod ar yr olwg gyntaf yn sỳn fod yr awdwr yn I arfer y gair "ymddangos," ac nid y gair " gweled." Eglura ef mai trwy I gael ei weled gan Dduw y mae pawb yn gweled Duw. Y mae hwn yn 1 sylw rhagorol. Ond y mae yn amheus genyf ai hyn oedd yn meddwl yr awdwr. Yn hytrach mi a dybiwn mai yr ystyr ydyw fod Crist yn cael gweled Duw, fel Moses, am ei fod yn ymddangos gerbron Duw, fel Aaron, drosom ni bechaduriaid. Arwydd o gymmeradwyaeth Duw iddo yn ei ymddangosiad ger ei fron fel Archoffeiriad ydyw y datguddiad cyflawn a gafodd o ogoniant wyneb Duw

ADN. 25, 26. Wedi dangos fod gwaed Crist wedi cysegru y nef i'r amcan o fod yn lie i Dduw gyfarfod â phechadur, try yr awdwr bellach at y gwaith arall a gyflawnir trwy y gwaed, «ef ei daenelliad yn y nefoedd er prynedigaeth. Fe welir fod yr adnodau hyn yn gam ymlaen yn yr ymresymiad. Y mae yr awdwr wedi gorphen gyda'r cyffelybrwydd rhwng cysegriad y tabernacl ar y ddaear gan Moses a chysegriad y nef gan Grist. Ond yr oedd wedi son am fynediad yr archoffeiriad i'r sancteiddiolaf ar ddydd y cymod, ac yn awr dengys fod gwaed Crist yn fwy effeithiol er prynedigaeth hefyd na gwaed y bychod a'r 11 oi. Gan hyny. ni ddylid gosod y rhan gyntaf o'r burned adn. ar hugain mewn cromfachau, fel y gwneir yn y Bibl Cymraeg. Y mu yr awdwr eisoes, yn adn. 12, wedi dyweyd fod Crist wedi myned unwaith i mewn trwy ei waed. Yn yr adn. hon, ar y Haw arall, y pwnc ydyw nas gallai fyned yno ond unwaith am byth. Can belled â hynyna y mae y geiriau, yr wyf yn tybied, yn eglur. Ond gyda golwg ar amcan yr adnodau a natur yr ymresymiad oddiwrth fynediad Crist unwaith i'r nef, y mae esbonwyr yn gwahaniaethu. Cynyg- iant ddau olygiad. (1) Barna y rhan fwyaf, o'r hyn lleiaf hyd yn ddi-

124 YE EPISTOL AT TB HEBEEAID*

25 arall : (Oblegid yna rhaid fuasai idào yn f ynydi ddioddef er

weddar, mai yr ystyr ydyw nad aeth Crist i mewn i'r nef er mwyn dychwelyd oddiyno ac offrymu ei hun drachefn ar y ddaear a myned drachefn i'r nef a dychwelyd i offrymu ei hun, mewn cyfres o offrymiadau ar y ddaear ac o ymddangosiadau gerbron Duw yn y nef, a hyny o adeg ei groeehoeliad hyd ddiwedd ameer ; oblegid yna, buasai yr un mor angen- rheidiol iddo offrymu ei hun ac ymddangos gerbron Duw yn fynych eisoes er dechreuad y byd, er mwyn y dynion a achubwyd eisoes ; ond nid oifrymodd eihun yn fynych eisoes ; unwaith y daeth i'r byd ; ac, am hyny, nid offryma ei hun yn fynych nac o gwbl ar ol hyn. (2) Golygiad Grotius, yr hwn a ddilynir gydag ychwanegiadau pwysig, gan Bleek, Dehtz8ch, Alford, Hofmann, ac eraáll, ydyw mai nid dyfod i'r ddaear i ddyoddef a feddylir with yr ymadrodd "offrymu ei hun," ond cyflwyno ei hun gerbron Duw yn y nef, ac felly fod yr awdwr yn ymresymu, nad aeth Crist fr nef i gyflwyno ei offrwm yn fynych, fel yr ä yr archoffeiriad i'r sanct- eiddiolaf bob blwyddyn ; oblegid, pe buasai Crist wedi myned i'r nef i gyflwyno ei hun yn fynych, buasai raid iddo enill sail i'r cyflwyniad mynych hwnw trwy ddyfod allan o'r nef a disgyn i:r ddaear i ddyoddef marwolaeth yn fynych ; yr hyn ni wnaeth. Y mae rhesymau cryfion yn erbyn y blaenaf o'r ddau olygiad : (1) Pa fodd y gallai yr awdwr ddyweyd nad aeth Crist i mewn i'r nef er mwyn offrwm ei hun yn fynych ar y ddaear? (2) Y mae yr awdwr yn cyfeirio at waith yr archoffeiriad yn myned i'r sancteiddiolaf ; pe am offrymiad Crist ar y ddaear yn unig y soniai, cyfeiriasai at laddiad yr aberth, ac nid at daenelhad ei waed. (3) Y mae amseriad y ferf, " offrymu ei hun," yn y presenol, ac yn golygn parhttu i offrymu ei hun, nid offrymu ei hun unwaith am byth ; ond y mae amseriad y ferf arall, " dyoddef," yn golygu gwefthred a wneir unwaith am byth. A ydyw yn bosibl, gan hyny, fod y ddau air yn cyfeirio at yr un peth, sef marwolaeth Crist P (4) Yn ol y golygiad dan sylw ystyr y geiriau, "fel yr ofErymai efe ei hun yn fynych," ydyw "fel yr offrymai ei hun ar y ddaear drachefn a thrachefn yn yr oesoedd dyfodol hyd ddiwedd amser." Ond y mae yn anmhosibl meddwlfod yr awdwr yn gwneyd y f ath dybiaeth â hon ; oblegid y mae digon o brofkm ei fod yntau, fel ysgrifenwyr eraill y Testament Newydd, yn óüsgwyl afl. ddyfbdiad Crist i farn yn fuan, hyd yn nod yn yr oes bono. Ond y mae gwrthddadl gref yn erbyn y golygiad arall a grybwylrwyd uchod. Os yr ystyr ydyw fod mynych gyflwyno ei hun yn y nef yn tybied mynych ddyoddef ar j; ddaear, paham y sonia yr awdwr am yr amser a fa o gwbl ? Paham y buasai raid i Grist ddyoddef er dechreuad y byd ? Onid yr ymresymiad teg fyddai, os aeth Crist i'r nef i gyflwyno ei offrwm yn fynych, yna bydd yn ofynol iddo o hyn allan ddyoddef yn fynych ar y ddaear? Ond nis gallwri dynu y casghad y buasai yn ofynol er dechreuad y byd. Fel hyn, y mae y dybiaeth y byddai i Grist f arw drachefn a thrachefn yn y dyfodol yn dybiaeth nas gallwn ddychymygu awdwr yr Epistol yn ei gwneyd ; ac y mae y casgliad y buasai Crist yn dyoddef yn fynych er dechreuad y byd yn gasgliad heb sail iddo yn ymresymiad yr awdwr, os ystyr y geiriau, " f el yr óffrymai ei hun," ydyw " offrymu ei hun yn fynych o hyn allan yn y nefoedd."' Rhaid golygu fod y^geiriau " fel yr offrymai ei hun," yn 'Cymmeryd i mewn f arwolaeth Crist'ar y ddaear a'i gyflwyniad ohono ei hun yn y nefoedd hefyd. Gwelsom eisoes nad yw yr awdwr hwn yn gwahanu j ddau beth hyn. Gwel nodiad ar adn. 11. Fel y mae Crist yn Arch- offeiriad, dwy ran o'r un weithred ydynt, ac nid oes ystyr i'r naill heb y Hall. Ni a ystyriwn, gan hyny, mai rhoddi ei hun yn iawn i Dduw yn y

TR EPISTOL AT TB HEBREAID. 12&

dechreuad y byd ;) eithr yr awrhon unwaith yn niwedd y byd

cwbl a gynwysir yn hyny a olygir wrth "ofrrymu ei hun." Yn awr, dywed yr awdwr nad aeth Crist i mewn i'r net ei hun i gwblhau iawn drachefn. a thrachefn. Nid oedd dim i rwystro archoffeiriad cysgodol â gwaed cysgodol i fyned i mewn drachefn a thrachefn i gysegr cysgodol ; ond nis gall un archoffeiriad fyned i'r gwir gysegr o gwbl, os nad ydyw ei waed yn voir brynedigaeth. Fe welir fod cyssylltiad agos, i ddechreu, rhwng yr adn. hon a'r adn. flaenorol. I ddangos y cyssylltiad yn amlycacb, gwell fydd darllen fel y canlyn: "ond i'r nef ei hun, i ym- ddangos gerbron Duw drosom ni, ac nid i offrymu ei hun yn fynych." Y mae y cyfieithiad hwn yr un mor gywir â'r llall, ac yn dwyn allan yr ystyr yn llawnach. Ond yn yr adn. nesaf dygir ymlaen reswm ychwanegol dros y gosodiad nad yw Crist yn rhoddi iawn drachefn a thrachefn. Y prawf ydyw y eynwysai hyny ei fod yn dyfod i'r byd i ddyoddef a marw drachefn a thrachefn, a hyny er dechreuad y byd. Os myned i'w gysegr nefol âg iawn terfynol yn mharhâd ei rinwedd y mae Crist, yna nid oes dim ond gwahaniaeth graddau rhwng rhinwedd iawn Crist a rhinwedd aberth yr archoffeiriad ar ddydd y cymod. Oblegid dygai hwnw arbediad i'r genedl am flwyddyn, trwy ddyoddefgarwch Duw, fel y dywed yr Apostol Paul hefyd (Rhuf. iii. 25). Am mai maddeuant (neu, yn hytrach, myned heibio i drosedd, nid ei faddeu, paresis, nid aphesis, Rhuf. iii. 25), am y flwyddyn oedd yn dybenu, ac arbediad am y flwyddyn oedd yn dilyn, a enillai yr aberth i'r genedl, yr oedd yn angen- rheidiol gosod i fyny y trefniad hwn o ddydd cymod blynyddol ar sefydliad cyntaf y cyfamod. Oddiwrth hyn ymresyma yr awdwr, os rhaid i Grist fyned i'w gysegr yntau â gwaed y mae ei rinwedd yn derfynol o ran amser, yna dylasai ddyfod i'r byd i ddyoddef a marw drachefn a thrachefn ar ddiwedd pob cyfnod am ystod yr hwn yr oedd rhinwedd ei iawn yn parhau. A chan fod ei aberth ef yn iawn i Dduw dros bob dyn (gwel ii. 9), ac nid dros blant Israel yn unig, dylasai ddyfod i'r byd i ddyoddef y waith gyntaf yn nechreuad hanes dynolryw ar y ddaear, a dyoddef lawer gwaith, pa bryd bynag y byddai rhinwedd ei hunan-offrymiad yn darfod, o ddechreuad y byd hyd ei ddiwedd. Ond, fel ffaith hanesyddol, ni wnaeth hyn. Unwaith yr ymddangosodd, ac nid yn nechreuad y byd y bu yr unwaith hwnw. I'r gwrthwyneb, yn y diwedd y daeth, pan yr oedd pechod wedi cael ei rwysg a gwneyd ei waethaf a threulio ei nerth ; pan yr oedd, nid yn unig dynoliaeth bechadurus, ond hefyd y cyfamod a osodasai Duw i'w bobl Israel wedi oedranu a lksgau a dyfod yn agos at ddiflaniad ; yn niwedd hanesyddiaeth yr holl oesoedd, pan yr oedd y byd yn ymyl trengu, yr ymddangosodd Crist. Efe a ddaeth, felly, "mewnpryd." Pe daethai yn gynt, ni fuasai pechod wedi dyhysbyddu ei nerth na dynoliaeth wedi anobeithio gwaredu ei hun. Pe daethai yn ddiweddarach, buasai yn rhy hwyr, am y buasai dynoliaeth wedi trengu cyn dyfod o'r meddyg i ymweled â hi. Fe gafodd pechod ei gyfnod. Ar ddiwedd ei gyfnod ef, daeth Crist. Ond nid am gyfnod y daeth, ond i gwbl iachau ac i fyw bob amser i eiriol dros ei bobl yn nerth ei fywyd annatodol.

Gwaed arall; yn hytrach "gwaed dieithr," hyny ydyw, gwaed anifeiliaid.

Ddyoddef; hyny yw, rmrw, fel yn Luc xxii. 15.

Er dechreuad y byd. Dymunwn i'r darllenydd graffu ar yr yniaJrodd hwn, ei fod yn tybied fod Crist wedi marw, nid dros blant Israel yn unig, ond dros ddynolryw. Os felly, y mae yr adn. hon yn

126

YR EPISTOL AT YR HEBREAID.

yr ymddangosodd efe, i ddilëu pechod trwy ei aberthu ei hun. 27 Ac megis y gosodwyd i ddynion farw unwaith, ac wedi hynny

tybied, er nad yn datgan, fod y cenhedloedd yn gyfranogion o fendithion yr efengyl.

Yn niwedd y byd. Gwel 1 Cor. x. 11 ; Phil. iv. 5 ; Iago v. 9. Yn 2 Pedr iii. 3—15 rhoddir cyfrif am oediad ail ddyfodiad Crist: " Hir- ymarhous yw efe tuag atom ni." Nid wyf yn ineddwl y gallwn yn onest wadu fod ysgrifenwyr y Testament Newydd, ar brydiau, yn disgwyl diwedd y byd yn eu hamser hwy. Y mae hyn yn bwysig, oblegid, er nas gallaf weled ei fod wedi effeithio i'r graddau lleiaf ar yr athrawiaeth.au a ddysgant, y mae yn eglur ei fod yn dylanwadu arnynt yn ffnrf yr ymresymiad sydd yn arwain at athrawiaeth. Y mae yr adu. lion yn angraifft o hyn.

Yr ymddangosodd efe; yn hytrach, "'yr amlygwyd ef." Yn ei hunan-amlygiad yr oedd effeithiolrwydd ei aberth.

I ddileu ; cyfieithiad llythyrenol. " Dileu " ydyw symud o le, pen na byddo lie mwyaeh i'r peth.

Trwy ei aberthu ei hun ; yn fwy cywir, ''trwy ei aberth." Er mai at ei ddyfodiad i'r byd a'i fywyd a'i farwolaeth y cyfeiria y geiriau " a ymddangosodd," eto nid oedd iddo aberthu ei hun ar y groes yn ddigon i ddileu pechod. Rhaid oedd iddo hefyd gyflwyno ei aberth gerbron Duw. Ond wedi gwneyd y naill a'r llall efe a ddileodd bechod trwy ei aberth, yr hwn a gynwysai y ddau, y weithred *> aberthu ei hun ar y groes ac offrymiad ei aberth yn y cysegr.

ADN. 27, 28. Prawf ychwanegol a tharawiadol iawn fod Crist wedi cyflawni gwaith y prynedigaeth. Yr hyn a esyd hynodrwydd arbenig ar yr adnodau ydyw fod yr awdwr yn profi fod Criet wedi gorphen ei waith oddiwrth y tebygolrwydd sydd rhyngddo a dynion. Ond nid y tebygolrwydd ydyw fod Crist, am ei fod yn ddyn, i farw, fel y gosodwyd i ddynion farw. Oblegid ni osodwyd i Grist farw fel y gosodwyd i ddynion. Y mae dyn#on yn marw am eu bod yn bechaduriaid. " Cyflog pechod yw marwolaeth." Ond yr oedd gan Grist feddiant ar ei einioes, i'w dodi i lawr ohono ei hun ; ac, wedi iddo ei dodi i lawr, yr oedd ganddo feddiant i'w chymmeryd hi drachefn. Tra y mae marwoìaeth dynion eraill yn gosb am anufudd-dod, mewn ufudd-dod i orchymyn ei Dad y bu Crist farw. Drachefn, nid y tebygolrwydd ydyw fod Crist i gael ei farnu, fel y gosodwyd i ddynion gaol eu barnu Y mae yn wir mai nid am eu bod yn bechaduriaid, ond am eu bod yn ddynion, y mae dynion yn rhwym i farn ; ac yr oedd Crist yn ddyn. Ond gwnaeth Duw eithriad yn achos y dyn Crist Iesu, a'r unig eithriad ydyw. Y rhesw m dros yr eithriad ydyw i Dduw ei wneyd ef yn f arn^-r ar bawb eraill Rhoddwyd pob barn i Fab Duw am ei fod yn Fab •dyn, ac fe fernir pawb trwy y dyn (canys felly y dylid darllen yn Act. xvii. 31) a ordeiniodd Duw l hyny. Yn hytrach, ar y gair "unwaith" y irorwedd holl bwys y gy mhariaeth Unwaith y gosodwyd i ddynion fy w a marw. Wedi hyny, a'r peth nesaf wedi hyny, fydd barn derfynol ar yr ~un bywyd a'r un marw. Xi chaniateir i ddynion ddyfod yn ol i'r fuchedd hon i ail gynyg, i w 11a diffygion, i ddefnyddio y wybodaeth a gawsant yn y byd arallermwyn cywiro camgymmeriadau eu bywyd. Felly Crist hefyd. Am ei fod yn ddyn, unwaith yr offrymwyd ef . Ond wedi un offrymiad aeth efe i'r gwir gysegr, ac yno y mae. Nid oes angen arno am gael ail gvnyg ar waith y prynedigaeth. Llwyddodd i gyflawni gwaith ei fywyd a'i angau ; a'r prawf iddo lwyddo ydyw ei fod wedi myned i mewn i'r gwir éys-cr. Y mae yr achos o'i lwyddiant i gyflawni y gwaith mewn un bywyd

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. 127

bod barn ; Felly Crist hefyd, wedi ei offrymmu unwaith i 28

ac un angau yn gorwedd yn yr adnodau blaenorol, lie y gwneir cymhariaeth rhwng Crist a'r archoffeiriad dan yr hen gyfamod. Gallent hwy fyned i'w -cysegr sancteiddiolaf hwy yn fynych, ond nis gallai Crist fyned i'w gysegr ef fwy nag unwaith. Nid yr ystyr ydyw na raid i "Grist farw fwy nag unwaith. Y meddwl yw nas gall. Crybwyllir dau achos o'r gwahaniaeth rhwng Crist a'r archoffeiriaid. Yn gyntaf, cysgod oedd y cwbl a wnaent hwy, nid gwirionedd. Cysgod o archoffeiriad a äi i bortreiad o gysegr â ffûg o aberth i ymddangos gerbron arwydd o Dduw. Gellir ail-adrodd ffûg. Gall chwareuwyr fynychu llofruddiaeth Duncan, ac yn y chwareu gall gwraig Macbeth olchi ei dwylaw rhuddgoch drachefn a thrachefn. Ond nis gellir ail adrodd bywyd gwirioneddol. Mewn un ystyr, ni wneir un weithred mewn bywyd ond unwaith am byth. Yn awr, yr oedd bywyd Iesu yn hollol wirioneddol. Yr heresi gyntaf a mwyaf peryglus yn y Brif Eglwys oedd gwadu gwirioneddolrwydd dynoliaeth a bywyd a marwolaeth Crist. Ac am fod ei offrymiad, nid yn ffûg, ond yn weithred wirioneddol, nis gallai gymmeryd lie ond unwaith. Yn ail, â gwaed arall yr äi yr arch- offeiriaid i mewn i'r cysegr, a hawdd oedd cael defnydd eu hoffrwm o flwyddyn i flwyddyn. Ond offrymu ei hun wnaeth Crist, a rhoddodd ei hun oil yn llwyr, hyd nes myned o Fab Duw yn dlawd ac ymwaghnu (2 Cor. vii. 9; Phil. ii. 7, ymyl y ddalen). Ond "nis gellir ail-adrodd hunan- offrymiad. Oblegid y ddau beth hyn, gwirioneddolrwydd ei aberth a'i hunan-offrymiad, nis gallai Crist farw ond unwaith ; ac eto aeth i mewn, trwy ei un angau, i'r nef ei hun. Ond ymhellach. y mae y gymhariaeth rhwng Crist a dynion yn dal hefyd gyda golwg ar farn dynion ac ail ymddangosiad Crist. Yn yr adnodau blaenorol dywed yr awdwr nad yw Crist yn myned i mewn i'w gysegr ond unwaith ac nad yw yndyfod allan o'r cysegr ond unwaith. Ychwanega yn awr y daw efe allan. Ond pa bryd P Yr ateb y w pan y bydd y farn yn eistedd. Terfyna holl amgylchiadau amser yr un pryd ag ygorphenir gwaith y cysegr nefol, i'r hwn yr aeth Crist fel Archoffeiriad i offrymu ei hun i Dduw dros ein pechodau. Daw allan o'r cysegr i fod yn Farnwr. Bod dynion i gael eu Darnu sydd yn gosod angenrhaid arno i ddyfod o'r cysegr. Ond daw allan heb bechod, hyny yw, heb eu pechod arno. Ymddengys yr ail waith i'r rhai sydd yn ei ddisgwyl pan y cânt hwy eu gwysio i'r farn, ac, am hyny, gan ei fod yn ymddangos yn y farn ac heb eu pechod arno, bydd ei ymddangosiad er iachawdwriaeth iddynt. Fel y gwna Duw y dyn Crist Iesu yn Farnwr, felly drachefn y gwna ei ail ymddangosiad y Barnwr ei hun yn Iachawdwr tragwyddol i'r rhai a ufuddhant iddo. Cyn gadael yr adnodau hyn y mae o bwys i'r darllenydd sylwi fod yr holl ymresymiad yn gorphwys ar y dybiaeth mai unwaith y mae dynion yn byw ac unwaith yn marw, ac mai yr amgylchiad cyntaf wedi hyny (er y gall oesoedd fyned heibio cyn i'r peth ddyfod) fydd barn derfynol ar eu bywyd a'u marwol- aeth. Ymddengys i mi yn hollol sicr fod hyn yn cynwys nad oes ail gynyg i ddynion arol marw. Y mae yr athrawiaeth swynol fod gobaith i'r rhai a wrthodasant yr iachawdwriaeth yn y fuchedd hon am achubiaeth yn y byd arall, nid yn unig yn anghyson â geiriau yr adnodau, ond yn myned dun wraidd yr holl ymresymiad. Dichon y dyìid ychwanegu y gall Duw wneyd eithriad i'w osodiadau ei hun yn y pethau a grybwylìir yn yr adnodau hyn ; oblegid " gosodiad " ydynt. Gall symud Enoch heb weled marwolaeth a dwyn Lazarus yn ol wedi iddo farw.

Awn eto unwaith dros yr adnodau.

ADN. 27. Megis ; yn hytrach, " yn gymaint âg." Y mae y geiriau

128 YE EPISTOL AT YR HEBREAID.

ddwyn ymaith bechodau llawer, a ymddengys yr ail waith,

gwreiddiol yn golygu fod y cyffelybrwydd rhwng dynion a Christ yn rheswm hefyd, yr hwn y gellir tynu casghad oddiwrtho. Dynia yr hyn a eilw y Saeson yn analogy, sef cyffelybiaeth perthynas yn cael ei defnyddio yn ymresymiad. Er angraifft, os dywedir fod A yn debyg i B, nid oes ond cyffelybiaeth. Ond os dywedir fod y berthynas rhwng A a B yn debyg i'r berthynas rhwng C a B, y mae yma gyffelybiaeth perthynas, neu analogy . Esampl o hyn sydd yn yr adnodau dan sylw : y mae y berthynas rhwng dynion a marw unwaith yn gyffelyb i'r berthynas rhwng Crist a marw unwaith, &c.

Gosodwyd. Ystyr briodol y gair ydyw rhoddi i gadw yn ystor. Yr unig wahaniaeth rhyngddo a'r gair "trysori" (megis yn 1 Tim. vi. 19; 2 Tim. iv. 8) ydyw fod marw unwaith wedi ei roddi yn nghadw i ddynion eisoes gan Dduw. Gwel yr un gair yn yr un ystyr yn Col. i. 5 ; 2 Tim. iv. 8. Gall dynion newid cyfeiriad ac amgylchiadau eu bywyd ; ond yn yr holl gyfhewidiadau, y mae marw unwaith a dim ond unwaith yn aros heb ei gyfnewid, ac y mae yn ofynol iddynt gymmeryd hyny i ystyriaeth wrth drefnu y cyfnewidiadau sydd wedi eu gadael i'w dewisiad. Gwnaeth Crist hyny. Bu fyw a marw dan lywodraeth y gwirionedd na chai ail gynyg : " Y mae y nos yn dyfod pryd na ddichon neb weithio."

ADN. 28. "Wedi ei offrymmu. Dewisa yr awdwr ddyweyd fod Crist wedi cael ei offrymu yn hytrach na dyweyd iddo offrymu ei hun, fel y dywed yn adn. 25, oblegid ei fod yn cyfeirio at y rhan hono o offrymiad Crist a wnaethpwyd ar y groes, ac nid at y rhan hono o'r un weithred a wna Crist yn y nef , nac at yr holl weithred, yn cynwys y naill a'r llall. Y mae yn wir mai offrymu ei hun a wnaeth ar y groes, fel y mae yn wir mai gweithred y dyn ei hun ydyw marw. Ond y mae elfen oddefol hefyd yn marwolaeth pob dyn. Nid oes caniatad iddo ddewis yr amser na'r dull, ac y mae natur yr amgylchiad ei hun o angenrheidrwydd yn ei wneyd yn oddefol yn gystal â gweithredol. Felly Crist. Yr oedd ei f arwolaeth yntau yn oddefol. Pe na byddai felly, dichon y gallem ddyweyd na byddai yn farwolaeth wirioneddol. Y mae o bwys tuag at sicrhau grymusder i'r ymresymiad fod yr awdwr yn dwyn i sylw wirioneddolrwydd marwolaeth Crist pan y mae y ddadl yn troi ar y cyffelybrwydd sydd rhyngddo a dynion, ac ar y cyf erbyniad rhwng ei offrymiad ac offrymiad yr archoffeiriad cysgodol.

Crist ; yn hytrach, "y Crist;" oblegid am ei fod y Crist y mae ei farwolaeth yn offrymiad dros bechod, ac y bydd ei ymddangosiad yn y f am yn iachawdwriaeth.

I. Golyga y gair, nid amcan yn unig, ond effaith hefyd: " hyd at;" " hyd nes."

I ddwyn ymaith ; yn hytrach, "i ddwyn arno." Diau fod cyfeiriad at Es. liii. 12. Y gair hwn (anapherein) a ddefnyddir yn y Deg a Thriugain am waith yr offeiriad yn cymmeryd ac yn cyflwyno yr aberth ar yr allor. Ond gan fod Crist yn aberth ac yn Archoffeiriad, y mae y gair yn cynwys, gyda golwg arno ef, nid yn unig "dwyn yr aberth," ond " dwyn arno ei hun y pechodau a osodid ar ben yr aberth." Y mae y bwch diangol a'r bwch a leddid yn cael eu sylweddoli yn Xghrist. Gwel 1 Petr ii. 24. Nid yr un gair sydd yn loan i. 29. Y syniad yno ydyw "tynu ymaith," " symud," fel yn y cyfieithiad Cymraeg. Felly x. 4.

Heb bechod. Prin y mae eisiau dyweyd mai nid yr ystyr ydyw "heb bechod ynddo." Nid yn unig byddai hyny yn tybied fod Crist yn bechadur, yr hyn a fyddai yn anghyson â'r hyn a ddywed yr un awdwr mewn manau eraiU, ond byddai yn hollol anmherthynasol yn ymresymiad yr adnodau.

YR EPI8T0L AT YR HEBREAID. 129

heb bechod, i'r ritai sydd yn ei ddisgwyl, er iachawdwriaeth.

PENOD X. /\BLEGID y gyfraith, yr hon sydd ganddi gysgod daionus 1

Yn wir nis gallai y gair gwreiddiol Cohorts J olygu hyn. Yr ystyr eglur yw fod Crist yn myned i mewn i'r cysegr nefol yn ei farwolaeth, gan gymmeryd gydag ef ac arno bechodau dynion, fel yr äi yr archoffeiriad i mewn i'r sancteiddiolaf fel cynrychiolydd y bobl euog ac i gaffael maddeuant iddynt. Yno y mae Crist yn awr, gyda Duw yn y cysegr. Ond daw allan o'r cysegr i farnu y byd. Pan y gwelir ef gan y bobl wedi dyfod allan o'r cysegr, ni bydd eu pechodau arno ; bydd eu holl bechodau wedi eu dif odl yn y cysegr. Y mae yr ystyr hwn mor naturiol ac mor llawn o feddwl fel na raid i ni betruso ei dderbyn. Nid yr ystyr, gan hyny, ydyw yr ym- ddengys yr ail waith heb fod yn bech-aberth, fel yr oedd y waith gyntaf. Am y golygiadau eraill a gynygir, nid ydynt yn werth eu crybwyll.

A ymddengys ; yn hytrach, " a welir." Nid yr un gair sydd yn adn.

24, a gair arall drachefn sydd yn adn. 26. Y mae y gwahaniaeth rhyngddynt

yn bwysig. Ystyr y gairyn adn. 24 ( emphanisthnêai) ydyw "caeleieghiro"

J " ymddatguddio." Ystyr y gair yn adn. 26 (pephanerötai) ydyw "wedi cael

I ei amlygu " mewn hanes a ffaith. Ystyr y gair yn yr adn. hon ( ophthësetai)

; ydyw, " caifF ei weled" fel person neu wrthrych yr edrychir arno.

I'r rhai sydd yn ei ddisgwyl; neu, yn fwy llythyrenol, "ynei ddisgwyl yn hiraethlawn," fel y disgwyliai y bobl yr archoffeiriad allan o'r cysegr, ar ol bod yn y sancteiddiolaf yn ei wisgoedd gwynion. Yr oedd clych aur o amgylch godreu mantell yr archoffeiriad, fel y gallai y bobl oddiallan glywed ei swn ef yn y cysegr cyn myned i'r sancteiddiolaf ac wedi dyfod oddiyno. Gwel Exod. xxviii. 33 35. Y mae y syniadfod yr eglwys i ddisgwyl yn amyneddgar am ail-ymddangosiad Crist i'w gael yn fynych yn y Testament Newydd. Ymddengys oddiwrth 1 Cor. i. 7 fod disgwyl am ddyf odiad yr Arglwydd yn cael ei ystyried yn arwydd o grefydd uchel. Nid pob credadyn oedd wedi cyrhaedd hyn. Gwel Tit. ii. 13 ; Phil. iii. 20.

Er iachawdwriaeth. Y mae y geiriau hyn i'w cyssylltu, nid â'r gair " disgwyl," ond â'r gair " ymddengys." Y mae rhediad yr ymres- ymiad yn profi hyn. Nid yw yr awdwr yn son yn yr adn. hon am y farn a ddisgyn ar y gelynion yn ymddangosiad Crist. Byddai hyny yn anmherth- ynasol, er ei fod yn wirionedd. Gwel x. 13. 0 angenrheidrwyda, yr un amgylehiad a olygir yn nyfodiad dynion i farn (adn. 27) âg yn ymddangosiad y Crist.er iachawdwriaeth. Ond cofier yn barhaus fod yr awdwr yn disgwyl yr amgylehiad dyblyg hwn yn yr oes hono.

4. Effeithiolrwydd Aberth Crist i ddwyn i mewn y Cyfamod Newydd.

x. 1—18.

Yn y nawf ed benod eglurodd yr awdwr fod y tabernacl a'i wasanaeth yn ddangoseg o'r pethau nefol. Dywed yn awr nad yw y ddangoseg ddim ond cysgod disylwedd. Gwel nodiad arweiniol i pen. ix. Yn gyntaf, nid oedd yr aberthau ddim ond cysgod ; x. 1 10. Yn ail, nid oedd yr offeiriad ddim ond cysgod ; x. 11 14. Yna terfyna yr awdwr ei ymres- ymiad, yr hwn a ddechreuodd yn viii. 1, trwy ddwyn ymlaen drachefn dystiolaeth yr Ysbryd Glân am natur y cyfamod newydd ; x, 15 18. Fel hyn, cyssylltir yr hyn oil a ddywedwyd am y tabernacl cysgodol a'i wasan- aeth ac am y gwir gysegr a'i wasanaeth â phwnc cyffredinol yr adran hon o'r Epistol, sef y cyfamod newydd.

PEN. X.— ADN. 1.— Cysgod. Y mae lleoliad y gair yn y gweiddiol yn íjolygu mai cysgod, a dim ond cysgod, oedd gan y gyfraith. Gwel,

130 YR EPISTOL AT YR HEBREAID.

bethau i ddyfod, ac nid gwir ddelw y pethau, nis gall trwy yr aberthau hyniry, y rhai y maent bob blwyddyn yn eu honrynimu yn wastadol, byth berffeithio y rhai a ddêl atti. 2 Oblegid yna hwy a beidiasent â'u hoffryrnmu, am na buasai gydwybod pechod mwy gan y rhai a addolasent, wedi eu

ar y gair "cysgod," viii. 5. Yn Col. ii. 17, cyferbynir "cysgod" a. * chorph."

Daionus bethau a fyddent. Dyna yr ystyr, nid " daionus bethau a fyddant." Gwelsom eisoes nad yw yr awdwr yn gwahanu bendithion yr efengyl ar y ddaear oddiwrth ogoniant y nefoedd. Gwel xii. 22 24.

Gwir ddelw y pethau. Y mae " gwir " yn rhoi yr ystyr yn gywir, er nad yw yn gyfieithiad llythyrenol. Ac y mae y gair hwn, pe na byddai dim ychwaneg, yn ddigon i brofi mai nid yr ystyr ydyw na f eddai y gyfraith ddelw y pethau nefol, llawer llai y pethau nei'ol eu hunain, fel pe byddai delw yn cynwys llai na'r gwrthrych, a'r cysgod lai na'r ddelw. Y golygiad a fabwysiedir gan Delitzsch, Dr. Thomas, ac eraill, yw y golygiad cywir, o'i iawn ddeall. Nid drychfeddwl, yn ystyr Plato o'r gair idea, o'r hwn y mae y gwrthrych ei hun yn ddarlun, ydyw "delw," a gwell yw peidio arfer y gair " archetype,'''' &c, wrth egluro yr ystyr. V gwrthrych ydyw j ddelw. Y mae yn ddelw o ryw syniad yn y meddwl. Felly y mae gan y gyfraith gysgod* ond nid oes ganddi ddelw, ffurf gyflawn, arddangosiad diwall, o'r pethau nefol sydd yn y byd ysbrydol yn gynlluniau y gweledig. Yn hollol yn yr un ystyr y defnyddir y gair gan Paul am Grist yn Col. i. 15.

Nis gall, &c. ; yn hytrach, "nis gall bob blwyddyn âr un aberthau, y rhai y maent yn eu haberthu yn wastadol, byth berffeithio y rhai sydd yn agoshau." Y mae perffeithio bob blwyddyn yn syniad hollol ddiystyr ; y mae perffeithio â'r un aberthau, y rhai sydd eisoes wedi methu perffeithio, yn beth anmhosibl ; ac y mae perffeithio âg aberthau sydd yn cael eu haberthu yn wastadol yn ddisgwyliad ofer. Eto nid oes gan y gyfraith ddim gwell. Ac yn y tri diffyg yma y mae y gwahaniaeth rhwng cysgod a gwir ddelw. Y mae aberth Crist wedi perffeithio ; am byth ; âg un aberth fad. 14).

Y rhai a ddel atti; yn hytrach, "y rhai a agoshant," sef at Dduw. Nid oes synwyr mewn dyweyd "agoshau at y gyfraith." Golyga rhai esbonwyr mai at agoshad yr archoffeiriad at Dduw yn y sancteidd- iolaf y cyfeirir, ac felly mai "cysegru" a olygir wrth "berffeithio." Ond digon o wrthddadl yn erbyn y golygiad yna ydyw y ffaith mai nid yr aberth a gynwynai yr archoffeiriad oedd yn ei gysegru i'w swydd. Heb- law hyny, yr archoffeiriaid yn olynol yw y rhai sydd yn offrymu, ac ni ddywedai yr awdwr " y rhai sydd yn agoshau," pe golygai yr un dynion yn y naill air ac yn y Hall. Diau mai y bobl a feddylir with y rhai sydd yn ago>hau, er mai yn a thrwy yr archoffeiriad y gwnant hyny.

ÂDN. 2. Hwy a beidiasent â'u hoffrymu. Y mae yn sicr mai y darlleniad cywir ydyw " oni pheidiasent â'u hoffrymu?" Ond yr un yw yr ystyr. Dywed Rendall na oddef y gwreiddiol i ni ddarllen y frawddeg fel gofyniad. Digon yw ateb fod y tadau Groegaidd eu hunain yn ei deall felly ; ac ar gystrawen yr iaith y mae eu barn yn fwy pwysig nag ar ystyr geiriau. Yr ystyr ydyw, pe buasai yr addolwyr yn cael eu glanhau unwaith am byth dan y gyfraith, ac nid yn cael eu glanhau yn fynych, peidient âg offrynm. Ond gan mai eu glanhau yn fynych a gaent, rhaid oedd offrymu yn fynych.

Cydwybod pechod ; hyny yw, ymdeimlad o euogrwydd. Gwel nodiad ar ix. 9.

YR EPISTOL AT YE HEBREAED. 131

glanháu imwa^h. Eitbr yn yr aberthau hynny y mae adgoffa 3 pechodau bob Lrwyddyn. Canys ammbosibl yw i waed teirw a 4 geifr dynnu ymai n bechodau. O herwydd pabam y mae efe, 5

ADN. 3. I'r gwrthwyneb, mor bell ydyw yr aberthau hyny oddiwrth symud yr euogrwydd nes peri i'r addolwyr eu hunain beidio eu hoffrymu, f el y mae yr aberthau a ofírymid i geisio tynu ymaith bechodau yn gwneyd yr hyn sydd yn hollol groes i hyny, sef cadw yn fyw yn y gydwybod yr ymdeimlad o euogrwydd. Pe buasent wedi symud yr euogrwydd, rhoddasai y bobl eu hunain derfyn ar ddefodau yr hen oruchwyliaeth ; buasent yn creu chwyldroad mewn Iuddewiaeth cyffelyb i'r chwyldroad Protestanaidd yn Eglwys Rhufain ; buasent yn ymysgwyd odditan iau yr offeiriadaeth. Ond yn lie ymryddhau o gaethiwed defodau cnawdol, parhaodd y genedl, f el y cyfryw, i offrymu yr aberthau a pharhaent eto yn nyddiau awdwr yr Epistol. Er fod y cyfamod wedi oedranu ac agoshau at ddiflaniad, y mae euogrwydd cydwybod yn ei gadw rhag diflanu. Yr oedd rhai wedi ymryddhau, fel Samuel, Dafydd, a Jeremiah. Ond ychydig oeddynt. Am gorph y bobl, po lesgaf yr oedd y cyfamod yn myned o oes i oes, tynaf o hyd oedd eu gafael ynddo. Esbouiad yr awdwr ar barhad hynod yr hen aberthau ydyw euogrwydd cydwybod. Yn wir, yr oedd adgoffa pechodau, nid yn unig yn ffaith yn hanes yr hen gyfamod, ond hefyd yn amcan i rai o'r aberthau, os nad iddynt oil. Crybwyllir am "offrwm eiddigedd, offrwm cûf yn coffâu anwiredd." Num. v. 15. Ûnd yn yr Epistol at ddydd y cymod y mae y cyfeiriad >n fwyaf arbenig. Cyin- harer viii. 12.

ADN. 4.— Yr achos fod yr aberthau yn adgoffa pechodau oedd yr anmhosibilrwydd gwreiddiol ac angenrheidiol i'r fath beth â gwaed anifeiliaid direswm dynu ymaith bechodau. Am nas gallent wneyd hyn, nis gallent ychwaith symud yr euogrwydd o'r gydwybod. Paham nad allent dynu ymaith bechod ni ddywedir yma. Gellid meddwl oddiwrth ffurf yr adnod fod yr awdwr yn apelio at ryw deimlad greddfol yn ei ddar- llenwyr o'r gwahaniaeth natur rhwng gwaed creadur nas gŵyr ei fod yn aberth a phechod creadur moesol yr hwn a \vyr fod Duw heb ei gymodi a'i fod yntau heb faddeuant. Y mae yr adnod yn ein cyfiawnhau pan yr apeliwn at awdurdod y gydwybod yn ei mynegiadau greddfol am ddrwg pechod.

Tynu ymaith. Gwel nodiad ar ix. 28.

ADN. 5— ADN. 9.— Mewn gwrthgyferbyniad i'r aberthau an- effeithiol hyny y mae yr hyn a wnaeth Crist ; ac fe gydnabyddir y gwahaniaeth gan y Salmydd, geiriau yr hwn a rydd yr awdwr yn ngenau y Messiah. Nid wyf yn teimlo cymaint o anhawsder ag a welir gan Haws o'r esbonwyr yn y defnydd a wna yr awdwr o'r ddeugeinfed Salm. Y mae yn wir fod rhanau ohoni nas geîlir eu cymhwyso at Grist, megis " fy mhechodau a'm daliasant, fel nad aliwn edrych i fyny:" ond yr oedd ysgrifenwyr y Testament Newydd yn deall beth i'w gymmeryd, a pha beth i'w wrthod, oddiwrth eu hadnabyddiaeth hwy o Grist. Nid ydynt byth yn priodoli i Grist eiriau unrhyw Salm os nad allant ddychymygu yr Iesu (i hun pan ar y ddaear yn eu defnyddio. Ac am y geiriau a ddyfyna yr awdwr yn yr adnodau hyn, os gallai y Salmydd duwiol eu llefaru, pa faint mwy y Crist ? Ië, y mae un ymadrodd yn y Salm nad yw yn gymhwys yn •ci ystyr cyflawn i neb ond efe. Beth bynag oedd meddwl y Salmydd wrth ddyweyd, " VTele fi yn dyfod," y mae y geiriau yn ddatganiad o'r mwyaf addas o ewyllysgarwch Mab Duw i wneuthur yr ewyllys ddwyfol.

132 YB EPISTOL AT YR HXBREAID.

wrth ddyfod i'r byd, yn dywedyd, Aberth ac offrwm nis myn- 6 naist, eithr corph a gymhwysaist i mi: Ofírymmau poeth, a

Nis gallaf weled unrhyw anmhriodoldeb mewn dyweyd fod y rhan gyntaf o'r Salm yn Fessianaidd (o'r adn. gyntaf hyd y ddeuddegfed), ac nad yw j rhan olaf . Yr egwyddor sydd yn gosod unoliaeth ar y Salm, er yr holl wahaniaeth rhwng y ddwy ran ohoni, ydyw fod y Salmydd yn gosod allan deimladau dyn trwyddi oil : dyn yn ei fan uw chaf yn y rhan gyntaf ohoni, a dyn yn ei iselder dyfnaf yn y rhan olaf. Hyn hefyd sydd yn gwneyd y Salm yn y rhan gyntaf yn gymhwysiadol at y Crist. Fel dyn y mae cfe yn gwneuthur ewyllys Duw, ac felly yn rhyngu bodd Duw yn fwy nag aberth.

ADN. 5.— Wrth ddyfod i'r byd. Esboniad yr awdwr eihun ydyw y geiriau hyn ar y dyfyniad o'r Salm. Y mae efe yn cael mai ar yr adeg pan y mae y Crist yn dyfod i'r byd y gellir yn fwyaf priodol gymhwyso y geiriau, " Wele fi yn dyfod." Ond, heblaw hyn, dywed yr awdwr fod y Crist yn defnyddio geiriau y Salmydd pan y mae yn dyfod i'r byd, er mwyn dangos ei barodrwydd a'i awydd i wneyd ewyllys Duw. Ac am hyny gwell genyf ddeall y geiriau fel cyfeiriad at ddyfodiad y Mab tra- gwyddol i drigo yn ein plith ni yn y cnawd, na thybied eu bod yn cyfeirio at ffurfiad graddol y penderfyniad i wasanaethu Duw yn meddwl Iesu pan yn addfedu i waith ei weinidogaeth. Y mae yr ymadrodd M dyfod i'r byd" yn golygu mwy nag ymgymmeryd â gwaith cyhoeddus. Hwn yw yr enw priodol am yr ymgnawdoliad fel gweithred bersonol y tragwyddol Fab. Gwel loan i. 9 ; xii. 46 ; 1 Tim. i. 15.

Aberth ac offrwm. Gall y naill air olygu yr holl syniad sydd yn y Hall. Ond pan wahaniaethir rhyngddynt. fel yn y lie hwn, golyga y gair aberth offrymau gwaedlyd a'r gair offrwm offrymau diwaedlyd. Gwel nodiad ar v. 1.

Corph a gymhwysaist i mi. Y mae yr awdwr yn dyfynu yr adn. yn ol cyfieithiad y Deg a Thriugain ; ac y mae yn eglur fod y geiriau yn gymhwys neillduol i'w amcan ef. Y maent yn ymddangos, ar yr olwg gyntaf, fel datganiad pendant o fwriad Duw i'w Fab ymgnawdoli. Ond yr anhawsder ydyw nad ydyw y Deg a Thriugain wedi cyfieithu yr Hebraeg yn gywir. Canys ystyr y geiriau Hebraeg ydyw " cloddiaist fy nghlustiau," ac nid oes neb o'r esbonwyr eto wedi rhoddi cyfrif hollol foddhaol am gyfìeithiad y Deg a Thriugain. Pe awdwr yr Epistol a wnaethai y cyfnewidiad, gellid deall hyny ; oblegid ystyr yr ymadrodd "cloddiaist" (neu, fel yn y Bibl Cymraeg, "agoraist") " fy nghlustiau " ydyw " peraist i mi ufuddhau," " gwnaethost fi yn ewyllysgar i wrando," a gallasem yn hawdd ddeall fod awdwr yr Epistol yn egluro hyny, wrth ei gymhwyso at Fab Duw, fel dadganiad o fwriad Duw iddo wneyd y weith- red fawr o ufudd-dod, sef cymmeryd corph. Ond gan mai y Deg a Thri- ugain wnaeth y cyfnewidiad, y mae yr esboniad yma yn syrthio i'r llawr ; nis gallwn dybied eu bod hwy yn egluro geiriau y Salmydd fel cyfeiriad at yr ymgnawdoliad. Y mae rhai esbonwyr galluog wedi ceisio dangos y gall fod y Deg a Thriugain wedi cyfieithu yn gywir, ac i'r darlleniad gael ei newid gan rywun, nis gwyddir pwy, cyn amser ysgrifeniad yr Epistol. Nid oes dim sail i'r dybiaeth, a hyd yn nod pe byddai, ni fyddai hyny ond yn gwneyd dyfyniad yr awdwr o'r adnodau yn hollol ddiwerth a chyfeil- iornus. Ar y cyfan y golygiad a ymddengys i mi y lleiaf anfoddhaol ydyw yr un a dderbynir gan Calfin a lliaws o'r esbonwyr diweddar, sef fod y Deg a Thriugain yn ystyried y byddai cyfieithiad llythyrenol o'r Hebraeg, sef "cloddiaist fy nghlustiau," yn annealladwy i'r darllenydd yu

YB EPISTOL AT YR HEBREAID. 133

thros bechod, ni buost foddlawn iddynt. Yna y dywedais, 7 Wele fi yn dyfod, (y mae yn ysgrifenedig yn nechreu y llyfr

yr iaith Roeg, fel, yn wir, y mae y fath ymadrodd yn ddisynwyr i'r dar- llenydd yn Gymraeg, ac iddynt, oblegid hyny, geisio rhoi yr ystyr can agosed ag oedd bosibl, a dyweyd " ti a gymhwysaist fy nghorph," hyny yw, i dy wasanaeth. Ond os hwn yw y golygiad cywir, nid yw yr ymad- rodd ynddo ei nun yn gosod allan y syniad o ymgnawdoliad o gwbl. Y mae yn digwydd mai trwy ymgnawdoli y bu Crist yn ufudd i orchymyn ei Dad. Ond yr ufudd-dod, nid yr ymgnawdoliad, a olygir wrth " gym- hwyso corph." Teimla pawb gymhwysder arbenig y geiriau i osod allan y syniad o ymgnawdoliad Mab Duw, fel y mae yn gofyn ymdrech i gyd- jaabod nad hwn yw eu hystyr. Ond fe fydd yn gymhorth i ni gydnabod hyny os sylwn, yn gyntaf, mai amcan yr holl adnodau hyn ydyw dangos fod ufudd-dod yn well nag aberth, nid dangos fod ymgnawdoliad yn angenrheidiol er mwyn cael aberth digonol. Nid y gwahaniaeth rhwng aberth Crist a'r aberthau Iuddewig mewn gwerth yw y pwnc, ond yn unig fel y mae gwerth aberth Crist yn codi o ewylly.^garwch ei ufudd-dod. Yn ail, y mae yn rhy anhawdd tybied fod awdwr yr Epistol yn defnyddio geiriau y Deg a Thriugain mewn ystyr nad oedd yn meddwl y cyfieithwyr nac ychwaith yn meddwl y Salmydd ; ac eto rhaid i ni dybied hyn os yx ymgnawdoliad fel ffaith, ac nid ewyllysgarwch Crist i ufuddhau, a olyga yr awdwr wrth y geiriau " cymhwyso corph "

ADN. 6.— Offrymau poeth ; yn llythyrenol, "cyfan offrymau poeth." Aberthau a losgid oil, oddieithr y croen, oedd y rhai hyn. Lef. ix. 12 14. Arwyddent hunan-gyflwyniad hollol y dyn neu y gynulleidfa i Dduw. Offrymid hwynt bob boreu a phob prydnawn eu hunain, ac ax adegau eraill ar ol yr aberth dros bechod ac o flaen yr aberth hedd.

A thros bechod Y pech-aberth oedd y pwysicaf oil. Golygid ef fel iawn dros berson y troseddwr, tra nad oedd yr aberth dros gamwedd yn iawn ond dros gamwedd neillduol, nid dros y person. Offrymid y pech-aberth dros yr holl genedl ar rai amgylchiadau, ond nid offrymid yr aberth dros gamwedd dros yr holl bobl. Lef. iv. 1 35 ; vi. 24—30 ; am yr aberth dros gamwedd, Lef. v. 1 19 ; vi. 1 7 ; vii. 1—10. Ar yr aberthau gwel Edersheim. The Temple, tud. 79. Ond nid yw y Salmydd yn gwahaniaethu rhyngddynt yn y lie hwn. Ei feddwl ydyw nad oes un math o aberth oddiallan, heb ewyllys i ufuddhau, yn rhyngu bodd Duw.

ADN. 7.— Yna y dywedais, Wele fi yn dyfod ; yn hytrach, " y pryd hwnw y dywedais, "Wele fi wedi dyfod." Y mae yn debygol mai yr ystyr yn ngenau Dafydd ydyw ei fod trwy lawer o drallodau wedi dyfod o'r diwedd i'r orsedd a'i fod yn bwriadu bod yn wasanaethwr ewyllysgar i Dduw yn ei f renhiniaeth . Yn ngenau y Crist diau mai yr ystyr ydyw mai i ufuddhau y daeth i'r byd.

Y mae yn ysgrifenedig yn nechreu y llyfr am danaf ; yn hytrach, fel yn y h>alm yn y cyfieithiad Cymraeg, "yn rhol y llyfr yr ysgrifenwyd am danaf." Nid plygu a rhwymo llyfrau yn eu cefnau y byddid yn yr hen oesoedd, ond rholio y memrwn am rolbren, fel y gwneir heddyw gyda lleni mawrion yn yr ysgolion dyddiol. Ar ddeupen y rhol- bren yma yr oedd cnapiau i'r Haw, ac oddiwrth y cnapiau hyn tybir (oblegid nid oes sicrwydd am y peth) i'r holl femrwn gael ei alw, yn gnap neu rol y llyfr. Meddwl Dafydd, y mae yn ddiau, oedd ei fod yn bwriadu esgyn i'w orsedd á'r rhol yn ei law, yr hon a gynwysai gyfraith Duw gyda golwg ar ei ddyledswydd fel brenhin tuag at y bobl. Wrth ddyweyd hyn

134 YR EPISTOL AT YR HEBREAID.

8 am danaf,) i wneuthur dy ewyllys di, 0 Dduw. Wedi iddo ddywedyd uchod, Aberth ac offrwm, ac offryrnau poeth, a thros bechod, nis mynnaist, ac nid ymf oddlonaist ynddynt ; y

9 rhai yn ol y gyfraith a offrymmir ; Yna y dywedodd, Wele fi yn dyfod i wneuthur dy ewyllys di, 0 Dduw. Y mae yn

wrth yr Arglwydd, cyfeiriai Dafydd at orchymyn yr Arglwydd: "Gosod. arnat [rnedd Duw wrth Israel] yn frenhin yr hwn a ddewiso yr Arglwydd. .... A phan eisteddo ar deyrn-gadair ei frenhiniaeth, ysgrifened iddo gopi o'r gyfraith hon mewn llyfr, allan o'r hwn sydd ger bron yr offeiriaid y Lefiaid. A bydded gydag ef, a darllened arno holl ddyddiau ei fywyd." (Deut. xvii. 14—20.) Felly, pan rydd awdwr yr Epistol y geiriau hyn yn ngenau y Crist, nid yr ystyr ydyw fod prophwydoliaethau yr Hen Destameiit yn rhagfynegu am ei'ddyfodiad i'r byd, ond yn hytrach fod holl nodweddion ei gymmeriad a'i waith, a holl egwyddorion ei fywyd, wedi en gosod o'i flaen gan Dduw cyn iddo ymgymmeryd âg ufuddhau i'r gorchymyn neillduol hwnw a osodid arno gan ei Dad. Byddai oyfeiriad at ragfynegiadau y prophwydi am ei ddyfodiad yn dwyn i mewn syniad anmherthynasol. Ond y mae dyweyd fod Duw wedi dangos iddo yn mlaen Haw beth ageisid ganddo os ymgymmerai â gwaith y prynedigaeth yn cryfhau y desgrifiad o ewyllysgarwch ei ufudd-dod.

I wneuthur dy ewyllys di, 0 Dduw. Ar y gair ' ' gwneuthur " y mae y pwyslais i fod, nid ar y gair "ewyllys." Oblegid nid y syniad ydyw fod Duw yn ewyllysio aberth rhagoraeh na'r aberthau Iuddewig a bod Crist yn rhoi yr aberth hwnw. Y syniad ydyw fod Duw yn ewyllysio ufudd-dod, ac nid aberth heb ufudd-dod, a bod Crist yn yivneuthur yr ewyllys hono.

ADN. 8, 9. Tyn yr awdwr y casgliad yn yr adnodau hyn oddiwrth y dyfyniad o'r Salm. Y mae yn ail adrodd sylwedd y dyfyniad er mwyn dwyn at eu gilydd y ddau beth gwrthgyferbyniol, sef anfoddlonrwydd Duw i'r aberthau allanol heb ufudd-dod, a'i foddìonrwydd yn yr ufudd-dod sydd yn cynwys ewyllysgarwch a darostyngiad mor fawr â dyfodiad ei Fab i'r byd. Rhodder y pwyslais ar y gair " yna," nen yn well, " y pryd hwnw." Dyna yr amser y dywedodd y Crist ei fod ef wedi dyfod i wneuthur ewyllys Duw, pan yr oedd efe wedi dyweyd nad oedd aberthau heb ufudd-dod yn rhyngu bodd Duw. Y mae yn gyfreithlawn i ni, fel pe dywedai yr awdwr, esbonio hyn fel yn golygu fod dyfodiad y Crist i'r byd yn ddiddymiad ar yr aberthau Iuddewig ac yn osodiad o ufudd-dod y Crist yn "eu lie. Ond yma cwyd anhawsder. Nid oedd yr aberthau Iuddewig erioed wedi eu bwriadu gan Dduw i fod yn iawn dros bechod, ac, am hyny, paham yr oedd yn rhaid eu tynu ymaith, os oeddynt yn. cynawni y gwasanaeth y bwriadwyd iddynt ei gyflawni ? Y mae yn wir y gellid ateb nad oedd mwyach angen am y gwasanaeth neillduol hwnw, gan fod sylwedd y cysgodau wedi dyfod. Önd nid hwn yw yr ymresymiad yn yr adnodau hyn. Dadleua yr awdwr fod y Crist yn tynu ymaith yr aberthau Iuddewig trwy osod i fyny ufudd-dod fel yr unig ffordd i wneuthur ewyllys Duw. Yr ateb ydyw fod dynion wedi myned i edrych ar yr aberthau mewn goleuni gwahanol i amcan gwreiddiol eu gosodiad. Oblegid y dirywiad hwn, sef aberthu er mwyn rhoi iawn i Dduw am bechod trwy waed teirw a geifr, y mae yn rhaid ysgubo y cwbl ymaith yn ddiarbed, a gosod i fyny ryw ffurf neillduol o ufudd-dod na fydd mewn perygl o ddirywio yn gyffelyb. Yr unig ufudd-dod sydd yn hollol uwèhlaw pob perygl o ddirywio i ddefodaeth ydyw ufudd-dod ewyllys-

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. 135

tynnu ymaith y cyntaf, fel y gosodai yr ail. Trwy yr hwn 10 ewyllys yr ydym ni wedi ein sancteiddio, trwy ofFrymmiad corph

garwch a chariad y Mab tragwyddol. Y mae ei ufudd-dod ef uwchlaw y perygl hwn, am ddau reswm : Yn gyntaf , y mae ynddo ddigon o gariad at Dduw i gadw ei ufudd-dod am byth yn ufudd-dod calon; ac, yn ail, y mae Duw yn gofyn ymostyngiad a dyoddefaint mor fawr ar ei law, fel nas gallai ei ufudd-dod byth ddyfod yn beth hawdd a chynefin hyd yn nod i Fab Duw. Ond y mae yr adnodau hyn yn dysgu i ni un gwirionedd pwysig am natur iawn Crist. Nid ei waed fel gwaed, nid ei ddyoddefiadau fel dyoddefiadau, oedd yn cyfansoddi yr iawn, ond yr ufudd-dod yr hwn a gymmerai y ffurf o ddyoddef ac ymostyngiad hyd at farw. Ffurf, neu amgylchiad angenrheidiol, ei ufudd-dod oedd tywallt ei waed, nid hanfod ei haeddiant iawnol. Ond yr oedd yn rhaid dyoddef i'r eithaf ac ymhob modd, oblegid ni fuasai yr ufudd-dod mor fawr pe byddai y dyoddef yn llai. Gwel Phil. ii. 8.

ADN. 10. Yn yr adnod hon dywed yr awdwr beth ydyw cynwys neu amcan ewyllys Duw a beth ydyw effaith ufudd-dod Crist iddi. Amod angenrheidiol cyn y gwnelid ewyllys Duw ydyw ufudd-dod ; cynwys yr ewyllys hono ydyw sancteiddiad dynion. Yn awr, yr oedd yr hen aberthau yn ddiffygiol mewn cyflawni yr amod, ac am hyny nis gallent gyrhaedd yr amcan. Ond am Grist, cyrhaeddodd ef yr amcan oherwydd iddo gyflawni yr amod.

Trwy yr hwn ewyllys; neu, yn llythyrenol, "yn." Hyny ydyw, y mae ein sancteiddiad ni yn gynwysedig yn ewyllys Duw. Y geiriau dilynol sydd yn dyweyd pa fodd, trwy ba gyfrwng, y cyrhaeddwyd hyn. Nid yr ystyr ydyw, "trwy gyflawniad ewyllys Duw gan Grist."

Wedi ein sancteiddio ; hyny ydyw. y mae yr euogrwydd wedi ei symud; gallwn agoshau at Dduw yn hyderus, a'n cydwybod wedi ei phuro.

Trwy ofFrymiad corph Crist. Y mae un Uawysgrif henafol (D) yn darllen "trwy offrymiad gwaed Crist." Nid oes digon o awdurdod dros y darlleniad hwn, a rhaid ei wrthod. Ond y mae yn ofyniad dyddorol, a fyddai y darlleniad yna yn cyfleu syniad cyfeiliornus, fel y dywed Delitzsch ac Alford? Dywed Delitzsch: "Tywalltiad ei waed oedd yr iawn drosom, ond offrymiad ei gorph oedd ein sancteiddhad ; megis hefyd yn yr aberthau cysgodol, tywalltiad y gwaed oedd yn cymodi yr aberthwr â Duw, ac offrymiad cnawd yr aberth oedd yn adnewyddu ei gymundeb â Duw." Yr wyf yn cyfaddef nad yw y dyfyniad hwn o Delitzsch yn cyfleu unrhyw syniad i fy meddwl. Yn hytrach, dylem ddyweyd mai Crist yn ei farwolaeth sydd yn cymodi, a Christ yn ei fywyd nefol sydd yn ein dwyn i gymundeb â Duw. Gwel Rhuf. v. 10. Heblaw hyny, y mae yr esbonwyr hyn yn deall y gair sancteiddio am ffurfiad anian sanctaidd yn yr enaid; ac felly, pan ddywedir, fel yn yr adn. hon, fod dynion wedi eu sancteiddio, rhaid egluro y gair fel datganiad o fwriad Duw i'w sancteiddio, yr hyn sydd yn hollol annaturiol. Drachefn, dywedir yn ix. 13 fod gwaed geifr a theirw yn sancteiddio, ac yn y gwrth- gysgod yr hyn sydd yn cyfateb i hyny ydyw "puro y gydwybod," nid puro y natur; ix. 14. Felly hefyd yn x. 2 4 y mae "tynu ymaith bechodau," yr hyn y dywedir nas gall gwaed teirw à geifr ei wneyd, yr un peth à "phuro" yr addolwyr. Can belled âg y gallaf fi weled unrhyw ystyr yn ngeiriau Delitzsch ac Alford, nid ymddengys i mi fod sail iddynt yn y Testament Newydd. Y mae o bwys peidio " rhauu Crist."

136 YE EPISTOL AT YE HHBREAID.

11 Iesu Grist unwaith. Ac y mae pob offeiriad yn sefyll beunydd yn gwasanaethu, ac yn offrymmu yn fynych yr un aberthau, y

12 rhai ni allant fyth ddilëu pechodau : Eithr hwn, wedi offrymmu un aberth dros bechodau, yn dragywydd a eisteddodd ar dde-

Corph. A ydyw y gair yn golygu yr un peth yn yr adn. hon âg a olyga yn adn. 5? Gwelsom ar yr adn. hono mai ystyr yr ymadrodd M cymhwyso corph " ydyw cynyrchu ewyllysgarwch i ufuddhau. Ond y mae yn eglur mai at farwolaeth Crist yn ei ddynoliaeth y cyfeiria yr awdwr yn yr adn. hon Rhaid i ni clygu mai esboniad yr awdwr ar ffurf ufudd-d«d Crist ydyw y geiriau M offrymiad ei gorph."

Unwaith. Cyssyllta yr esbonwyr diweddar y gair hwn â'r geiriau "wedi ein sancteiddio." Ond mwy naturiol ydyw ei gysBylltu â'r geiriau " offrymiad corph Crist," fel yn ix 28. Y mae cyflead y geiriau hefyd yn dan^os yr un peth.

ADN. 11— ADN 14.— Wedi dangos nad oedd yr aberthau ddim on i cysgod, dengys yr awdwr, yn mhellach, nad oedd yr offeiriaid ychwaith ddim ond cysgod

ADN. 11.— Offeiriad. Y mae llawer o amheuaeth pa un ai " offeir- iad " ai "archoffeiriad " ydyw y darlleniad cywir. Gan fod awdurdod y Uawysgrif au yn gyf artal, rhaid penderfynu y darlleniad, os gellir, oddiwrth rediad yr ymresymiad. 0 blaid y darlleniad " archoffeiriad" y mae vii. 21, lie y dywedir fod yr archoffeiriad yn offrymu beunydd. O blaid y dar- lleniad "offeiriad" y mae y gair "pob." Ni fyddai nemawr o ystyr mewn dyweyd fod pob archoffeiriad yn sefyll ; y mae un yn cynwys ei olynwyr. Ond y mae ystyr perthynasol iawn mewn dyweyd fod pob offeiriad yn gorfod sefyll, o'r archoffeiriad i lawr. Drachefn, er ei bod yn sicr mai sefyll wnai yr archoffeiriad yn y sancteiddiolaf, dywedir yn bendant am bob Lefiad ei fod "yn sefyll gerbron yr Arglwydd." Yn olaf , y mae y cyfeiriad a wneir yn yr adnodau blaenorol at y gwahanol aberthau, y poeth-offrwm, y pech- aberth, &c, yn awgrymu mai son y mae yr awdwr bellach am y rhai a offryment yr holl amrywiol aberthau hyn, ac nid yn unig at yr archoffeiriad. Am y rhesymau hyn gwell genyf olygiad Delitzsch, Hofmann, a Westcott, mai " offeiriad" yw y darlleniad cywir.

Yn sefyll ; mewn cyferbyniad i'r hwn a •isteddodd ar ddeheulaw Duw . adn. 12

Ddileu. Xid yr un gair a gyfieithir "dileu" yn ix. 26, a " dileu " ydyw y gair goreu yno. Ond yma yr ystyr ydyw "dihatru," "tynu ymaith yn llwyr," fel dyn yn dadwisgo, yn tynu ymaith bob dilledyn sydd am dano. Gwel Salm cix. 18.

ADN. 12.— Ar ymyl y ddalen yn y Bibl Cymraeg cyssylltir y geiriau "yn dragywydd" â'r gair "offrymu." Cafodd y cyfieithwyr hyn yn Beza ; ac felly y darllenir gan liaws o'r esbonwyr, yn eu plith Dr. Thomas a Westcott. Gwell genyf y golygiad arall, am y rhesymau canlynol : (1) Y mae dyweyd "wedi offrymu un aberth yn dragywydd" yn ym- ddangos yn ddull annaturiol o eirio. (2) Y mae eisiau cyferbyniad rhwng gweini parhaus yr offeiriaid ac eisteddiad tragwyddol Crist. (3) Y mae mydredd y frawddeg yn gofyn i ni gyssylltu y geiriau " yn dragywydd " 4'r gair "eisteddodd," ac nid yw yr ystyriaeth hon i'w hesgeuluso yn yr Epistol hwn.

A eisteddodd ar ddeheulaw Duw ; hyny ydyw, fel brenhin ac etifedd yr orsedd. Trodd y gymodfa yn orsedd gras. Gwel i. 3 ; viii. 1 ;

YR EPISTOL AT YB HIBB1AID. 1ST

heulaw Daw; 0 hyn allan yn disgwyl hyd oni osoder ei elynion IS ef yn droed-faingc i'w draed ef. Canys âg un offrwm y per- 14 ffeithiodd efe yn dragywyddol y rhai sydd wedi eu sancteiddio. Ac y mae yr Ysbryd Glân hefyd yn tystiolaethu i ni: canys 15

xii. 2. Sylwa Chrysostom fod y gair yn golygu y cyferbyniad rhwng y rhai a safant i weini a'r neb sydd ar yr orsedd yn cael gweini iddo.

ADN. 13.— Gwel i. 13. Dyfyniad ydyw o Salm ex. 1. Fel yn i. 13, felly yma desgrifir eisteddiad Crist ar ddeheulaw Duw fel canlyniad ei offrymiad effeithiol o'i aberth gerbron Duw.

0 hyn allan; yn hytrach, "amy gweddill o'r amser." Awgryma yr ymadrodd gwreiddiol nad ydyw yr amser i fod yn faith. Dywed rhai esbonwyr fod syniad yr awdwr yn yr adn. hon yn groes i syniad Paul yn 1 Cor. xv. 22—28. Gadawaf y'cwestiwn i ystyriaeth ambell ddosbarth yn yr Ysgol Sul sydd yn hoffi dadleu yn nghylch y mil blynyddoedd. Y mat Delitzsch yn gofyn cwestiwn arall. Pa fodd y mae eisteddiad Crist fel Brenhin yn gyson â gweinyddiad parhaus ei swydd fel Archoffeiriad ? Gadawaf hwn hefyd i ystyriaeth dosbarthiadau heb fod mör flaenllaw.

ADN. 14.— Rheswm ydyw yr adn. hon, mi a dybiaf, i ddangos pa fodd y gall Crist eistedd yn Frenhin ar ddeheulaw Duw wedi offrymu un aberth dros bechodau. Y rheswm ydyw fod yr un aberth hwnw wedi proll ei hun yn effeithiol i wneyd y gwaith neilldwol hwnw ar ddynion yr hwn oedd amcan penaf Duw yn noil drefn y prynedigaeth. Yr amcan oedd eu perffeithio ymhob ystyr sydd i'r gair. Y mae Crist wedi gwneyd hyn âg un aberth. Y ddolen sydd yn cydio y ddau beth, aberth Crist a pher- ffeithiad dynion, wrth eu giìydd, ydyw sancteiddiad dynion. Dywedir mewn manau eraill mai Crist a gwaed Crist sydd yn sancteiddio; a gwelsom eisoes fod y gair " sancteiddio " yn golygu symud yr euogrwydd a phuro y gydwybod. Y mae y gwaith hwn yn myned ymlaeu ar y ddaearyn amgylchiadol ac mewn hanes. Ond y mae perffeithio yn waith a wna Crist yn ybyd arall, rhyngddo a Duw, yn y cysegr. Oblegid hyn defnyddir yn agos yr un amseriad gan yr awdwr hwn amberffeithio dynion ag a arferir gan yr Apostol Paul am eu gogoneddiad. Y mae y ddau yn y gorphenol, mewn iaith. Ond mewn gwirionedd gweithredoedd y cysegr nefol ydynt, ac ni ellir yn briodol eu gosod mewn amser. Yr esboniad cyffredin ydyw fod y "sancteiddio" yn y lie hwn yn dilyn y " per- ffeithiad." Y mae hyn yn gwneyd yr adn. yn hollol anghyson âg adnodau eraill yn yr Epistol. Yn hytrach, y mae y perffeithio yn weithred dragwyddol yn yr un ystyr ag y mae eisteddiad Crist yn dragwyddol.

ADN. 15— ADN. 18. Prawf ydyw yr adnodau hyn o'r hyn a ddywedir yn yr adn. flaenorol, fod Crist âg un offrwm wedi perffeithio y rhai a sancteiddir. Oblegid felly y tystiolaetha yr Ysbryd Glân, fod Ddw yn ysgrifenu ei ddeddf ar galonau ei bobl ac yn maddeu yn llwyr eu pechodau. Dyma y perffeithiad yn y cymhwysiad ohono at ddynion. Yr un pryd y mae yr adnodau hyn yn ddiweddglo i'r holl adran hon o'r Epistol, yr hon sydd yn ymdrin â phwnc y cyfamod newydd, o ddechreu yr wythfed benod hyd yr adn. hon. Y mae yr esbonwyr yn colli golwg ar unoliaeth y rhan yma o'r Epistol trwy esgeuluso cydnabod mai y cyfamod newydd ydyw y syniad llywodraethol trwyddi oil.

ADN. 15.— Yr Ysbryd Glan; yr hwn oedd yn y prophwydi. Gwel 2 Tim. iii. 16; 1 Pedr i. 10—12; 2 Pedri. 21.

1 ni ; hyny yw, fel y gallom ni gymmeryd calon oddiwrth ei dystiol- aeth ddwyfol.

138 YR EPISTOL AT YR HEBREAID.

lt> wedi iddo ddywedyd o'r blaen, Dyrna y cyfammod yr hwn a ammodaf fi â hwynt ar ol y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd ; Myfi a osodaf fy nghyfreithiau yn eu calorinau, ac a'u hysgrif-

17 enaf yn eu raeddyliau; A'u pechodau a'u hanwireddau ni

18 chofiaf mwyach. A lie y mae maddeuant am y rhai hyn, nid

ADN. 16, 17. Talfyriad a rydd yr awdwr o eiriau Jeremiah, y rhai a gawn yn fwy llawn yn viii. 8 12. Ond cynwysa y talfyriad y syniadau sydd bwysicaf yn y brophwydoliaeth i amcan yr awdwr, sef (1) fod y cyfamod nc-wydd yn cynyrchu ewyllysgarwch i ufuddhau i gyfraith Duw, yr hwn ewyllysgarwch a welwyd yn ei berffeithrwydd yn Nghrist pan y daeth i'r byd i farw ; (2) fod y cyfamod newydd yn dwyn maddeuant pechodau, yr hyn nas gallai yr aberthau dan y gyfraith ; a thrwy farwol- aeth Crist drachefn y dygir hyn hefyd oddiamgylch.

Medd yr Arglwydd. Fe wel y darllenydd fod yr adnodau yn gwneyd brawddeg anorphenol. Barna lliaws o esbonwyr fod yn rhaid i ni ychwanegu rhyw eiriau, megis, "y mae efe yn dywedyd," yn nechreu adn. IT. Felly "Westcott. Y golygiad arall sydd gywir, sef ystyried fod yr awdwr yn defnyddio y geiriau "medd yr Arglwydd" fel ei eiriau eihun i gydio dwy fraich y frawddeg ; oblegid nis gall y geiriau " medd yr Arglwydd" fod yn rhan o'r hyn a ddywed yr Arglwydd. Camgymmeriad ydyw tybied mai adn. 17 sydd yn cyneu y prif syniad. Y maediwedd adn. 16 yr un mor bwysig; ac felly y mae y geiriau sydd i gyssylltu y ddwy fraich o'r frawddeg yn dyfod i mewn yn naturiol yn nghanol yr adn. bono.

ADN. 18.— Maddeuant, neu ollyngdod, ydyw y fendith sydd yn cynwys mewn un gair y cwbl a ddygir i ni trwy y cyfamod newydd. Gan fod y fendith hon wedi ei chael trwy offrymiad Crist, nid oes offrymiad eto i fod dros bechod. Y mae yr aberthau a offrymid dan y gyfraith wedi eu bwrw o'r neilldu am byth. Y mae yr hen gyfamodwedi ei ddiddymu. Wrth brofi hyn y mae yr awdwr yn cyrhaedd amcan penaf ac uwchaf holl ymresymiad yr Epistol. Yn yr adn hon y terfyna y rhan ymresymiadol o'r Epistol, ac o hyn allan anogaetbau, llym a thyner, a gawn hyd ei ddiwedd.

VIII.— Anogaethau Ymarferol.

x. 19-xiii. 24.

1 Anogaeth i agoshau at Dduiv ac arcidel Crist.

x. 19—35.

Y mae yr ymresymiad wedi sicrhau i ni y gwirionedd am Grist fel Archoffeiriad a Brenhin. Gwir fod hyn genym eisoes yn niwedd y bed- waredd benod. Yr oedd y darluniad o Iesu fel Mab Duw yn y benod gyntaf a chynrychiolydd dyn yn yr ail yn brawf fod genym Archoffeir- iad mawr ac yn anogaeth i ddyfod yn hyderus at orseddfainc y gras. Ac yn y penodau sydd yn dilyn, o'r bedwaredd hyd y ddeunawfed adnod o'r ddegfed (wedi tynu* allan yr ymliwiad â'r darllenwyr yn y chweched), agor y syniad gogoneddus hwn y mae yr awdwr. Y mae hanes Melchisedec yn gosod allan yr Archoffeiriad mawr fel Brenhin, yr hwn y mae gallu ei frenhiniaeth yn dyogelu parhad tragwyddol ei archoffeiriadaeth. Y mae tragwyddol barhad ei archoffeiriadaeth yn cynwys dileu pob offeiriadaeth a brenhiniaeth arall ; ac y mae sefydliad y cyfamod newydd yn cynwyi symud ymaith yr hen. Yn ystod y rhan gyntaf o'r ymresymiad cadarn a medrus* hwn ríiydd yr awdwr yn awr ac eilwaith amryw anogaethau ymarferol. Ond y mae yr adran o ddechreu yr wythfed benod hyd y

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. 139

oes mwyach offrwm dros bechod. Am hynny, frodyr, gan fodi 19 ni ryddid i fyned i mewn i'r cyssegr trwy waed Iesu, Ar hyd 20 ffordd newydd a bywiol, yr hon a gyssegrodd efe i ni, trwy y

ddeunawfed adnod o'r ddegfed yn ymresymiadol trwyddi. Bellach pentyra yr awdwr anogaethau ar anogaethau, o'r adnod hon ymlaen hyd ddiwedd yr Epistol. Bydd yn adeiladol i ni gymharu yr anogaethau yn y rhanau cyntaf o'r Epistol â'r anogaethau diweddaraf hyn, a sylwi ar y cynydd mewn nerth ac ysbrydolrwydd.

ÁDN. 19.— Yn iv. 1G anoga ei ddarllenwyr i agoshau mewn hyder. Ond yn awr cymer yn ganiataol fod ganddynt hyder. Oblegid "hyder" yw ystyr y gair parrhksia yn y ddau le, nid " rhyddid." Yr ystyr, mae yn debygol, ydyw fod yr awdwr yn disgwyl fodei ymresymiad yn nghylch y gwir Archoffeiriad yn y gwir gysegr trwy ei waed ei hun wedi cyrhaedd yr amcan o argyhoeddi a chalonogi yr Hebreaid, fel y gall efe eu hanerch bellach fel rhai yn meddu hyder. Oblegid hyn rhydd y gair " genym " yn nechreu y frawddeg (yn y gwreiddiol) er mwyn pwyslais.

I fyned i mewn; yn llythyrenol, " gyda gohvg ar y fynedfa i mewn," neu " y mynediad i mewn : " y peth hwn oedd o'r blaen yn peri arswyd hyd yn nod i'r archoffeiriad wrth feddwl am dano, gyda golwg ar y peth hwnw y mae genym ni hyder.

I'r cysegr ; hyny ydyw, y cysegr sancteiddiolaf, yr hwn sydd wedi ei agor, fel y dangoswyd yn ix. 8 yn awgrymiadol ac a ddangosir yn yr adn. nesaf yn fwy eglur. Gwel Eph. iii. 12, "yn yr hwn," set" Crist Iesu ein Harglwydd, "y mae i ni hyder a dyfodfa."

Yn ngwaed Iesu. Y mae y geiriau i'w cyssylltu, nid â'r gair "hyder," fel y dywed Delitzech, Alford, a Dr. Thomas, ond â' r geiriau " i fyned i mewn ," ond nid fel pe byddem ni yn c^nwyno gwaed Iesu, megis y cyflwynai yr archoffeiriad waed yr aberth (ix. 25). Y mae Iesu wedi gwneyd hyn. Er hyny ar nail neu yn rhinwedd gwaed Iesu yr ydym ninau yn myned i mewn.

ADN. 20.— Ar hyd ffordd newydd a bywiol, yr hon a gysegrodd efe i ni. Dilyn Beza y mae y cyiieithwyr Cymraeg, ac y mae eu cyfieithiad yn hollol gywir, can belled ag y mae y geiriau yn y gwreidd- iol yn myned. Ond y mae cyfieithiad arall yr un mor gywir, a hwnw, mi a dybiaf, sydd yn rhoddi gwir feddwl yr awdwr : " yr hon fynedfa i mewn a agorodd efe yn ffordd newydd a byw i ni." Aeth Iesu i mewn gyntaf . Ond trwy fyned rhwygodd y lien, a gwnaeth y fynedfa oedd yn agor iddo ei yn rhywbeth mwy na mynedfa bellach, sef yn ffordd rydd ac agored i ninau. Y mae y gair "mynedfa" yn cynwys porth neu ddrws, yr hwn sydd yn cau yn gystal ag yn agor ; ond y mae'y gair "ffordd " yn golygu agorfa nad yw yn cau.

Newydd. Golyga y gair gwreiddiol a ddefnyddir yma, yn ol y tarddiad a gynygir gan yr ieithwyr goreu, " newydd ei ladd." a cheir ef yn yr ystyr hwn yn Homer. Ond yn lynych yn yr awdwyr clasurol, fel ynyllehwn, ei ystyr ydyw " newydd." "Gwel Preg. i. 9,' "nid oes dim newydd dan yr haul." mae y syniad fod y gair yn cynwys cyfeiriad at farwolaeth Crist fel wedi digwydd yn ddiweddar yn syniad hollol annatur- iol. Y meddwl, yn ddiau, ydyw na fu neb yn myned trwy y fynedfa i'r gwir gysegr cyn íesu, yr hwn yw y rhagredegydd (vi. 20). Beth, ynte, am saint yr Hen Destament ? Khaid ateb, yn gyntaf, nas gallent fyned tra ar y ddaear i gymdeithas â Duw mor hyderus ág y gall credinwyr yn awr ; ac, yn ail, nad aethant wrth farw i'r ugosrxcydd at IMuw y caws ant hwythau fyned pan yr aeth Crist i mewn. Y mae golygiad yr hen

140 YR EPISTOL AT YR HEBREAID.

21 lien, sef ei gnawd ef ; A bod i ni Offeiriad mawr ar Dduw ;

dduwinyddion yn gyffredinol fod saint yr Hen Destament wedi myned i'r gogoniant uwchaf yn anghyson â'r gair hwn. Dywed Turretin mai nid at amser y cyfeirir, ond at fyiiediad Crist fel achos o fynediad y saint. Ond ni oddef y gair y fath ystyr o gwbl.

Bywiol ; yn hytrach, " byw." Person byw yr Arglwydd Iesu ei hun ydyw y ffordd. " Myfi yw y ffordd," loan xiv. 6. Aeth ef i mewn trwy ei waed: hyny ydyw, trwyddo ef ei hun yn ei farwolaeth. Ar sail y farwolaeth hono, neu " yn ei waed ef," cawn ninan fyned i mewn trwy ei fywyd. Y mae y golygiadau eraill ar ystyr y gair yn tybied fod cyfer- byniad wedi ei fwriadu rhwng y ffordd trwy waed Crist a'r ffordd yr äi yr archoffeiriad i'r sancteiddiolaf. Ond y mae y cyferbyniad hwn yn gwanychu yr anogaeth fel y cyfryw. Am y ffordd i'r gwir gysegr y sonia yr awdwr : ac nid oedd mynedf a i mewn yno cyn i Grist agor y ffordd. Felly, nid wyf yn derbyn y golygiadau hyn : "ffordd yn arwain i fywyd ; " "ffordd barhaus;" "ffordd sydd ei him yn cynorthwyo y teithwyr i'w rhodio ;" er fod yr holl bethau hyn yn wir fel casgliad.

Trwy y lien. Rhaid cyssylltu y geiriau hyn àr gair " agorodd ; " nid " yr hon a agorodd efe yn ffordd trwy y lien ;" ond " yr hon a agorodd efe trwy y lien yn ffordd." Y mae y golygiad arall yn tybied fod y lien eto yn art». Synais wrth weled fod Westcott yn golygu ei bod yn aros. Ond y mae yn eglur fod yr awdwr yn cyfeirio at rwygiad lien y deml ar y foment yr ymadawodd yr Iesu â'r ysbryd. Adroddir y ffaith hynod hon gan dri o'r efengylwyr (Matt, xxvii. 51 : Marc xv. 38 ; Luc xxiii. 45), a chan Matthew a Marc gydag awgrym eu bod yn rhyfeddu at y peth ac yn methu ei ddeall. Awdwr yr Epistol hwn yn unig sydd yn rhoi esboniad arno. Golyga ef fod rhwygiad y lien yn arwyddocaol o rwygiad cnawd yr Iesu ar y groes, hyny yw, o'i farwolaeth, trwy yr hon yr aeth efe i mewn i'r gwir gysegr ac y gwnaeth y fynedfa yn ffordd i'w bobl i fyned i mewn ar ei ol. Fel y sylwa Hofmann, yr oedd cnawd yr Iesu yn lien rhyngddo a'r byd ysbrydol a Duw ; yn hollol fel y mae ein cyrph ninau yn eu sefyllfa bresenol. Yr oedd corph Crist yn " gnawd," yn " gorph anianol," cyn ei farwolaeth. "Corph ei gnawd" ydoedd ; Col. i. 22. Ond pan rwygwyd ei gnawd yn ei angau, aeth yr Iesu i mewn i'r byd ysbrydol at Dduw. Xid ydyw efe mwyach "yn nyddiau ei gnawd" (v. 7), ond yn " nghorph ei ogonedd " (Phil. in. 21).

Cynygia Westcott esboniad gwahanol ar y geiriau. Golyga ei bod yn annaturiol ystyried cnawd Crist yn lien, am mai nid mynedfa i'r sancteiddiolaf oedd y lien yn y tabernacl, ond gwaharddiad a rhwystr i'r bobl gael mynediad i mewn. Gan hyny, cyssyllta ef y geiriau "sef ei gnawd ef," nid â'r gair " lien," ond û'r gair " ffordd ;" fel hyn : " Yr hon (fynedfa) a gysegrodd efe i ni yn ffordd newydd a byw trwy y lien, sef ffordd ei gnawd ef." Ar y golygiad hwn gellir sylwi : (1) Tra y caniatawn y goddef yr iaith i ni gyssylltu y gair " cnawd " â'r gair " ffordd," y mae cyssylltu dau enw fel hyn (in apposition) heb eu bod yn yr un achos gramadegol (case) yn digwydd yn rhy anfynych i'n cyfiawnhau i'w dderbyn lie y gellir cael cyssylltiad arall, yn enwedig pan y mae y cyssylltiad arall, fel yn y lie hwn, yn sicr o ymgynyg gyntaf .* (2) Tra j gallem ddyweyd, " ef e a gysegrodd y fynedfa yn ffordd," prin y byddai oddef ol i ni ddyweyd, " ef e a gysegrodd y fynedfa yn ffordd ei gnawd." (3) Y mae y golygiad hwn yn gadael y geiriau "trwy y lien" heb eu hegluro ; ac y mae yn annhebygol iawn y buasai yr awdwr yn dyweyd

* Gwel Winer, Grammar, Moulton, tud. 667.

YE EPISTOL AT YE HEBBEAID. 141

Nesâwn â chalon gywir, mown llawn hyder ffydd, wedi glan- 22

fod Oist wedi myned i mewn trwy y lien neb esbonio y fath ymadrodd. (4) Dadl grjfaf Westcott ydyw fod rhywbeth dyeitnrol mewn galw dvnol- iaeth Crist yn lien i gadw dynion oddiwrth Dduw. Y mae yn wir mai ei natur ddynol oedd y cyfrwng ar y ddaear trwy ba un y datguddiai Duw ei hun i ddynion. Ond y mae yr un mor wir fod ei gnawd yn lien rhvngddo ef ei hun pan ar y ddaear a gwyneb Duw. Yr oedd yn ofynol "hrd yn nod i Iesu weddio yn ddyfalach ddyfalach, ac yr oedd yn bosibl iddo'golli wyncb ei Dad. Gan hyny, yr oedd ei fvwyd dynol megis y tuallan i'r lien. Pan fu farw, aeth trwy y lien i'r ochr sydd nesaf at Dduw. (5) Y mae golygiad Westcott yn düeu pob cyfeiriad yn yr adn. at rwygiad Ucn y deml ; yr hyn a ymddengys i mi yn wrthddadl derfynol yn ei erbyn.

A gysegrodd. Gwell genyf y gair "agorodd." Nid y syniad o gysegredigaeth y ffordd sydd yn meddwl yr awdwr, ond y syniad ei bod wedi ei gwneyd, " ei thori " (fel y dywed Chrysostom), feì mae mewn canlyniad yn agored i ninau. Heblaw hyny, y mae y gair ' ' cysegrodd " yn tueddu i beri i ni gamddeall y gair "trwy," yr hwn a "olyga, nid cyfrwng neu foddion, ond Ue neu borth.

ADN. 21. Wedi dyweyd fod genym hyder i fyned i mewn i"r cysegr, ychwanega yr awdwr fod genym hefyd offeiriad, hyny yw, archoffeiriad, mawr ar Dduw. Y mae yr archoffeiriad yr hwn" sydd yn y cysegr yn llywodraethwr hefyd ar holl dy a theulu Duw. Gwel "iii. 6. Nid ystyr y geiriau "offeiriad mawr" yn yr Epi^tol ydyw "archoffeiriad," er "mai dyna'r ystyr yn Philo a'r Deg a Thriugain ; oblegid defnyddir yr ymadrodd " archoffeiriad mawr " yn iv. 14. Nid yr un peth, ychwaith, a olygir wrth y cysegr a'r tŷ. Y cysegr yw y man yn yr hwn y mae yr archoffeiriad Drenhinol, ac i'r hwn y mae y ffordd yn agored i ninau ; ond y ydyw lie y teulu neu, o ran hyny, y teulu ei hun, pan y maent a phannad ŷdynt yn y cysegr. Y mae yr un berthynas rhyngddynt ag sydd rhwng y tabernàcl a'r gwersyll yn yr anialwch. Yn awr, y mae yr hwn sydd yn archoffeiriad yn y cysegr yn llywodraethwr ar y teulu. Defnyddia" yr "awdwr y gwir- ionedd hwn am Grist fel Archoffeiriad sydd yn llywodraethwr ei egìwy? yn gystal a'r hyder sydd genym i fyned i mewn fr cysegr ato fel Archoffeiriad yn offrymu ei hun drosom, yn sail ei anogaeth iddynt i ddal cyfiefl eu gobaith yn ddisigl. Oblegid perygl yr Hebreaid oedd gwrthgilìo o Dduw : " yr hwn ydym ni, os nyni a geidw ein hyder a gorfoledd ein gobaith yn sicr hyd y diwedd," iii. 6. Yn yr adn. dan sylw cymer yr awdwr yn ganiataol fod ei ddarllenwyr yn cadw eu hyder yn ddisigl. Gan hyny, gan fod genym hyder, nesawn â chalon gywir ; a chan fod genym Archoffeiriad yn llywodraethu y tt, daliwn gyffes ein gobaith yn ddisiçrí.

ADN. 22.— Nesawn ; hyny ydyw, at Dduw. Nesàd at Dduw mewn cymod a chymundeb oedd holl ystyr ac amcan trefniadau yr hen gyfamod yn gysgodol ; nesâd at Dduw yn sylweddol ydyw y peth a gyrhaeddir trwy y cyfamod newydd. Felly, yn ei anogaeth gyntaf hon, ar ol dangos rhagoriaeth y cyfamod newydd, gesyd yr awdwr yr holl bwy? ar fod ei ddarllenwyr yn cymmeryd meddiant o'r fendith y mae holl drt-fn y cyfamod newydd yn ei Archoffeiriad a'i offrwm wedi ei bwriadu gan Dduw i'w sicrhau iddynt.

A chalon gywir ; sef mewn diragrithrwydd hollol. Yr oedd ganddynt, erbyn hyn, hyder fel nad oes angen eu hanog megia y gwna tua dechreii yr Epistol. Ond, wedi dadlenu effeithiolrwydd gwaed Crist i buro y gydwybod, anoga hwyiit i nesau at Dduw gyda'r galon agored ddirwystr,

142 YR EPISTOL AT YE BEBREAID.

hâu ein calonnau oddi wrth gydwybod ddrwg, a golchi ein

sydd yn canlyn maddeuant. Gwel Eph. vi. 5 ; Col. iii. 22. " No reserve of feeling :: ydyw esboniad prydferth "Westcott.

Mewn llaẃn hyder fíydd. Anogodd yr awdwr hwynt yn y chweched benod i ddangos diwydrwydd i gyrhaedd ("tuag at") llawn sicrwyddffydd. Y maent bellach wedi ei gyrhaedd ; a'r hyn y cymhellir hwynt ato yn awr ydyw defnyddio y llawn sicrwydd ffydd hwn yn help i nesau at Dduw. Gyda golwg arnynt eu hunain, perffaith gywirdeb calon; gyda golwg ar Dduw. llawn sicrwydd ffydd ; y rhai hyn, f el agwedd eu hysbryd, ydyw amodau eu nesâd.

Wedi glanhau ein calonau oddiwrth gydwybod ddrwg a golchi ein corph a dwfr glan. Fel y mae cywirdeb calon a llawn sicrwydd ffydd yn amodau agoshad at Dduw, felly y mae glanhau y galon oddiwrth gydwybod ddrwg a golchi y corph â dwfr glân yn amodau cywirdeb a llawn sicrwydd ffydd. Ni bydd cywirdeb ond ar sail rhyddhad oddiwrth euogrwydd cydwybod, ac ni bydd llawn sicrwydd ffydd y derbyn Duw eu haddoliad ac y dyry i ni ei gymdeithas ond ar sail yr insel hwnw a roddodd Duw i'r eglwys mewn bedydd. Cyfeiria y geiriau ''wedi glanhau ein calonau oddiwrth gydwybod ddrwg," fe ddichon, at bob math o " daenellu " dan y gyfraith, megis at gysegriad yr offeiriaid i'w swydd trwy daenellu gwaed arnynt (Exod. xxix. 21; Lef. viii. 30), at daenelliad gwaed yr aberth ar y gymodfa ar ddydd y cymod, ac at daenelliad dwfr ar y gwahanglwyfus. Y mae y "galon" yn y Test. N. yn golygu yr hyn a alwn ni yn gydwybod (gwel 1 loan iii. 19, 20), tra y golyga y gair " cydwybod " ymwybyddiaeth y dyn o'i euogrwydd neu ei ddiniweidrwydd. Yn awr, y mae y galon yn farnwr oddifewn, ac yn cynrychioli Duw ; ac wrth " gydwybod ddrwg" y golygir, nid fod y gydwybod ei hun yn rhoddi barn anonest, ond fod y dyn yn ymwybodol o euogrwydd ac am hyny yn gorfod condemnio ei hun yn llýs ei galon, hyny yw, ei gydwybod. Gan hyny, y mae yn rhaid taenellu gwaed Crist ar y galon neu y gydwybod, fel y taenellwyd ef yn y gwir gysegr nefol. Gwel ix. 14; 1 Pedr i. 2. Y mae yr ymadrodd arall, "wedi golchi ein corph â dwfr glân," yn fwy anhawdd. Golyga Calvin, Ebrard, Dr. Thomas, ac eraill, mai iaith ffigyrol oddiwrth olchiadau y gyfraith ydyw y geiriau, ac mai yr ystyr ydyw y dylem agoshau at Dduw wedi ein sancteiddio gan yr Ysbryd Glân. Yr hyn sydd yn peri nas gallaf dderbyn y golygiad hwn ydyw y gair " corph," yr hwn sydd yn ymddangos, rhaid i mi gydnabod, yn gyfeiriad rhy amlwg i'w wadu at y bedydd Cristionogol. A'r cyfeiriad hwn, ymhellach, sydd yn rhoi yr ystyr fwyaf perthynasol i'r geiriau yn y lie hwn. Fel yr oedd yr enwaediad yn ìnsel ì Abraham, felly y mae bedydd yn insel o ffyddlondeb a thrugaredd Duw i ninau. Am ein bod wedi cael yr insel hon wrth olchi ein corph â dwfr glàn mewn bedydd, y mae genym lawn sicrwydd ffydd wrth nesau at Dduw. Yr ydym yn nesau ar awdurdodiad ei sêl ef ei hun. Gelwir ef yn ddwfi glân mewn cyfeiriad at yr hyn oedd arferiad yr eglwys apostolaidd, sef bedyddio, os gellid, mewn dwfr rhedegog neu, o'r hyn lleiaf , dwfr glân, fel arwydd o'rpureiddiad trwy ffydd yn ngwaed Crist oddiwrth euogrwydd pechod. Felly y dywed " Dysgeidiaeth y Deuddeg Apostol," pen. vii. : 4 ' Bedyddiwch mewn dwfr rhedegog. Ond os nad oes genyt ddwfr rhedegog, mewn dwfr arall : ac os nad elli mewn dwfr oer, mewn dwfr cynhes ; ac os nad oes genyt y naill na'r Hall, tywallt ar y pen dair gwaith ddwfr yn enw y Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân." Y mae y cyfeiriad at fedydd yn yr adn. yn penderfynu cwestiwn arall, sef fod y geiriau "wedi golchi ein corph â dwfr glân" i'w cyssylltu â'r gair "nesawn," ac nid, fel y cyssylltir hwy

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. 14$

corph â dwfr glân. Daliwn gyffes ein gobaith yn ddisigl; 23 (canys ffyddlawn yw yr hwn a addawodd;) A chyd-ystyriwn 24 bawb ein gilydd, i ymannog i gariad a gweithredoedd da:

gan liaws o esbonwyr, â'r geiriau sydd yn dilyn, "daliwn gyffes ein gobaith;" heblaw fod rhediad areithyddol y brawddegau yn profi yr un peth.

ADN. 23.— Tueddir fi i gyssylltu yr anogaeth i ddal cyffes y gobaith yn ddisigl âg adn. 21, megis y mae yr anogaeth i nesau at Dduw yn seil- iedig ar adn. 20. Dyna y cyssylltiad hefyd yn iv. 14, "gan fod i ni Arch- offeiriad mawr wedi myned trwy y nefoedd, Iesu Mab Duw, daliwn afael yn ein proffes." Yn iii. 6 dywed yr aẅdwr mai Dduw ydym, os gafaelwn yn ein hyder. Yn x. 20 dywed wrth ei ddarllenwyr ei fod bellach yn cymmeryd yn ganiataol fod ganddynt hyder. Gan hyny, y maent yn Dduw; ac, os Dduw ydynt, y mae yr Archoffeiriad, trwy waed yr hwn y maent yn nesau at Dduw, yn Lywodraethwr hefyd arnynt fel ei deulu. Proffesant ef, gan hyny. yn ddiysgog.

Gyffes ein gobaith; neu, efallai yn well, "daliwn broffes ein gobaith." Yn iii. 6 hyder a gorfoledd ein gobaith a enwir. Ond ar ol yr ymresymiad yn nghylch y cyfamod newydd, y mae y syniad o dỳ Dduw, pobl Dduw, neu eglwys, wedi dyfod i mewn gyda gTym i'w meddwl a'u hysbryd. Bellach nid hyder disraw ac nid gorfoledd personol a'u bodd- lona, ond y gorfoledd a'r hyder yn asio y naill gredadyn wrth y Hall mewn proffes gyhoeddus & diysgog, ac mewn arddeliad o'r tÿ a'r teulu mewn cyferbyniad i'r byd, yn hollol fel yr oedd y genedl gynt yn wrthgyferbyn- iol i bawb y tuallan i'w therfynau. Wrth " broffes y gobaith " y golygir proffesu ein gobaith o allu myned i mewn ein hunain i'r gwir gysegr i gymdeithas â Duw. Felly hefyd yn vi. 18—20, sonia yr awdwr am y gobaith sydd yn myned hyd at yr hyn sydd tu fewn i'r lien, i'r man yr aeth Iesu yn rhagredegydd i ni. Digwydda camgyfieithiad yma yn y C. A. S., lie y ceir "profession of our faith," yn lie "profession of our hope."

Yr hwn a addawodd; sef Duw, fel yn vi. 13. Y mae y gobaith o fyned i mewn i'r cysegr yn ymddangos i feddwl yr awdwr yn y ffurf o obaith am fyned i mewn i'r etifeddiaeth ysbrydol a thragwyddol a addawodd Duw i Abraham. Gwel xi. 16. Yn yr Epistol hwn, fel y dangoswyd o'r blaen fwy nag unwaith, nid yw y gwahaniaeth rliwng mynediad Crist i'r cysegr yn ei angau a'i fynediad i'r nefoedd yn ei esgyniad yn cael ei gydnabod. Felly hefyd ni chydnabyddir ychwaith yn yr adnod hon fod dim gwahaniaeth rhwng mynediad credadyn i'r cysegr mewn cymdeithas â Duw trwy ffydd a'i fynediad i'r nefoedd ar ol marw. Yr un peth ydynt.

ADN. 24.— A chyd-ystyriwn bawb ein gilydd; yn fwy llythyr- enol, "ac ystyriwn ein gilydd." Dyma anogaeth eto yn gorphwys ar fod genym Archoffeiriad mawr yn llywodraethu ar y tŷ. Bydded y teimlad teuluaidd yn fyw ynom.

I ymanog. Y mae y cyfieithiad hwn yn rhy wan o lawer. Yr wyf yn meddwl fod y gair gwreiddiol paroxusmos yn golygu ymhob man arall "cyffroad i eiddigedd," er fod y ferf, yr wyf yn cydnabod, weithiau ond nid yn y Testament Newydd) yn golygu "cyffroi i zel" at beth da. Gellid meddwl fod yr awdwr yn cyfeirio at iii. 8, "yn nydd y cyffroad," pan yr oedd yr Israeliaid yn cyffroi eu gilydd i gynddaredd yn erbyn yr Arglwydd ac yn ei gyffroi yntau i ddigofaint. Ond anoga yr awdwr ei ddarllenwyr yn awr i gyffroi eu gilydd hyd at eiddigedd i gariad a gweithredoedd da. Y mae y gair ei hun yn pigo ac yn blaenllymu. Sylwa un hen esboniwr

141 YR EPISTOL AT YR HEBREAID.

25 Heb esgeuluso ein cyd-gynhulliad ein hunain, megis y mae arfer

f od yr awdwr yn defnyddio gair sydd ynddo ei hun yn golygu teimlad drygionus mewn ystyr da, fel y defnyddia yr Apostol Paul y gair da " cadarnhau" neu " adeiladu " brawd gwan i osod allan ei ddyfetha gan frawdcryf: "adeiladu i ddinystrio," 1 Cor. viii. 10. Felly yma, "digio eu gilydd i garu eu gilydd;" " gyru eiddigedd ar eu gilydd i gariad."

Gweithredoedd da; yn llythyrenol " gweithredoedd hardd." Nid " da" yn yr ystyr o foesol, ond "da" fel y mae Iesu Grist yn "fugail da." Gwel nodiad ar xiii. 18.

Y mae yr adnodau hyn (o'r ugeinfed hyd y bedwaredd ar hugain) yn rmgordeddu yn eu gilydd yn brydferth dros ben. Dinystrio eu pryd- ferthwch fyddai newid dim ar gyd-osodiad y gwahanol ranau. Yr un pryd. efallai y byddai hyny yn fantais i weled ymddibyniad y naill aelod ar y llall, fel hyn :

1. Gan fod genym hyder i fyned i'r cysegr, &c,

(1) Nesawn â chalon gywir, wedi.glanhau ein calonau oddiwrth

gydwybod ddrwg ;

(2) Nesawn mewn llawn sicrwydd ffydd, wedi golcbi ein corpb

â dwfr glán.

2. Gan fod genym Offeiriad mawr ar Dduw,

(1) DaHwn gyffes ein gobaith yn ddisigl ;

(2) Ystyriwn ein gilydd i gyffroi i gariad a gweithredoedd da. ADN. 25. Os ydynt i ystyried a chyffroi eu gilydd, rhaid iddynt

ddyfod i gyfarfodydd yr eglwys, lie y cânt gyfle arbenig i hyny. Yr wyf yn hollol argyhoeddedig, mai nid anog ei ddarllenwyr i beidio gwrthgilio oddiwrth Gristionogaeth ydyw meddwl yr awdwr, fel y dywed rhai esbonwyr. Priodolir y golygiad hwn i Calvin gan Alford ac eraill, ond camgymmeriad yw hyny. Golyga ef mai anog ei ddarllenwyr y mae yr awdwr i beidio tori eu cyssylltiad â'r gynulleidf a eglwysig ; a hwn, fel yr ymddengys i mi, yw yr ystyr. Nid y meddwl ydyw na ddylent 4 'esgeuluso" myned yn gyson i'r cyfarfodydd, yn yr ystyr a roddir i'r gair " esgeuluso " yn Nghymru. Cyfeiriad sydd yma at Gristionogion yn amcanu byw yn grefyddol ar eu penau eu hunain, heb ymuno âg unrhyw gynulleidfa eglwysig. Yn mhen rhai blynyddoedd ar ol ysgrifenu yr Epistol, lledodd y drwg hwn yn fwy fyth, a mynych a difrifol ydyw rhybuddion yr arweinwyr. Er angraifft, "y rhai hyn yw y rhai sydd yn eu didoli eu hunain," medd yr Apostol Judas, 19; a chymhellir yn " Nysgeidiaeth y Deuddeg Apostol," " Cais bob dydd wynebau y saint, fel y gorphwysi ar eu geiriau," pen. iv. ; " deuwch yn nghyd yn fynych, gan geisio y pethau a berthyn i'ch eneidiau," pen. xvi. Dywed Clement o Euiain, " Glynwch wrth y saiut, canys y rhai sydd yn glynu wrthynt a sancteiddir," pen. xlvi. ; ac yn y llyfr hynod a boreuol a elwir Y Bugaü mynych y digwydd y geiriau "y rhai sydd yn glynu wrth y saint." Dywed Irenaeus (III. iv. 1; mai un o nodweddion yr hereticiaid oedd nad oeddynt yn cynhal cyfarfodydd eglwysig.* Yn lie "esgeuluso" gwell, gan hyny, fydd darìlen " gadael." Golyga y gair " gadael y frawdol- iaeth yn y peryglon i ymdaro ac i drengu."

Gydgynuiliad. Gall y gair olygu " cynulliad ychwanegol," fel y mae y gair sydd yn vii. 19 yn golygu " dygiad i mewn yn ychwanegol." Os nad hwn yw yr ystyr, yr wyf yn methu gweled paham y defnyddiai yr

* Gofynodd cyf aill i mi unwaith, Pwy yw hereticiaid ein dyddiau ni ? Gofyned i Irenseus.

YR EPI8T0L AT YR HEBREAID. 145

rhai ; ond annog bawb ein gilydd: a hynny yh fwy, o gymmaint a'ch bod yn gweled y dydd yn nesâu. Cauys os o'n gwirfodd 26

awdwr y gair yn hytrach na'r gair cyffredin (paham episunagögê yn lie sunagögt). Dywedir fod y Cristionogion Iuddewig yn galw eu cyfarfodydd yn synagog, ac nid, fel y Cristionogion Cenhedlig, yn eglivys, a bod yr arferiad yma wedi parhau am rai oesoedd ymhlith Cristionogion Palestina, ac mai dyna arferiad yr Ebioniaid. Paham, gan hyny, na ddywedasai yr awdwr yn yr adn. hon " synagog?" Yr wyf yn cydnabod y gall y gair a ddefnyddir yma olygu " cyc/-gynulliad." Ond ymddengys i mi fod_ yr awdwr yn bwriadu gwahaniaethu (trwy ddefnyddio y ffurf " ej^'sunagoge ") rhwng cyfarfodydd crefyddol yr Iuddewon oeddynt heb fodyn Gristionogion a chyfarfodydd crefyddol yr Iuddevon oeddynt yn Gristionogion. Ond yr hyn sydd yn hynod ydyw ei fod yn galw cyfarfodydd y Cristionogion yn " synagog ychwanegol" wrth eu gwahaniaethu. Nid oes un eglurhad boddhaol ar hyn ond yn unig fod y Cristionogion Iuddewig ys oedd efe yn ysgrifenu atynt wedi arfer mynychu cyfarfodydd y synagog Iuddewig ac mewn perygl o beidio dyfod hefyd i'r cyfarfodydd ychwanegol a gynhaliai y Cristionogion ar wahan. Yn nghychwyniad Methodistiaeth nid oedd y cyfarfod yn y capel ond ychwanegiad at y gwasanaeth yn eglwys y plwyf . Felly yn nghychwyniad Cristionogaeth ymhlith yr Iuddewon cyfarfod ychwanegol at y gwasanaeth yn y synagog oedd cynulliad y Cristionogion. Nid yw yr awdwr yn gwahardd i'w ddarllenwyr fynychu cyfarfodydd y synagog, ac nid yw ychwaith yn eu hanog i hyny ; ond cymhella hwynt, yn anad dim, i beidio gadael y cyfarfodydd ychwanegol. Nid yw efe yn myned mor bell ag yr ä Ignatius, yr hwn (oddeutu haner can mlynedd ar ol hyn) a rybuddia yr eglwysi i " arfer ymborth Cristionogol yn unig ac ymgadw oddiwrth borfa ddyeithr, rhag halogi eu cydwybod."

Megis y mae arfer rhai. Prin y mac y cyikithiad hwn yn rhoi yr holl ystyr. Nid arfer yn unig a olygir ; ond arfer wedi ei seilio ar ryw athrawiaeth yn nghylch yr arferiad! Dysgant hyn fel rhan o'u moeseg (ethics) grefyddol, nad oes eisiau cynulliadau eglwysig, a rhoddant eu credo ar hyn mewn ymarferiad. Pe arferiad yn unig a olygid, nid yn hollol yr un ffurf ar y gair a ddefnyddiai yr awdwr.

Ond anog bawb ein gilydd; yn llythyrenol, "ond anog," neu "galonogi," fel y ffordd i gyífroi i gariad a gweithredoedd da.

Y dydd. Yn y Testament Newydd golyga y gair hwn ddydd dyf cdiad Crist, a hyny mewn dau ystyr ; yn gyntaf , dydd mewn cyfer- byniad i nos, Khuf. xiii. 12 ; yn ail, diwrnod penodedig y farn (1 loan iv. 17). Y mae y gair "gweled" yn yr adn. hon yn awgrymu mai at; ddinystr Jerusalem y cyfeiria yr awdwr yma ; ac nis gallaf feddwl am ddini i gyfreithloni yr awdwr i ddyweyd fod y dydd hwnw yn nesau, os nad oedd Titus Vespasian eisoes yn parotoi i warchae ar y ddinas. Y tebygolrwydd yw fod Josuah, mab Hanan, eisoes wedi codi ei lef yn yr heolydd, fel y dywedir gan Josephus, i gyhoeddi gwae uwchben Jerusalem. Ond yr oedd yn ddigon amlwg er's ugain mlynedd a rhagor cyn dinystr y ddinas i sylwedydd craff mai gwrthryfel fyddai diwedd y terfysg parhaus, ac fe fu y genedl mewn gwrthryfel am wyth mlynedd cyn y dyinchweliad terfynol. Gallwn fod yn sicr mai rhywbryd yn ystod y blynyddoedd hyn yr ysgrifenwyd yr Epistol. Desgrina yr awdwr ddinystr y ddinas fel dyfodiad Crist i farn ; ac y mae agosrwydd y farn yn rheswm dros arddel- iad o Grist a pharotoad trwy y cyfarfodydd eglwysig erbyn ei ddyfodiad.

ADN. 26— ADN. 31.— Rhybudd difrifol, cyffelyb i'r rhybudd yn y rhan gyntaf o'r chweched benod ; ond gyda'r gwahaniaeth fod y rhybudd hwnw yn seiliedig ar yr anmhosibilrwydd i adnewyddu i edifeirwch y rhai

L

146 YR EPISTOL AT YR HEBREAID.

y pechwn, ar ol derbyn gwybodaeth y gwirionedd, nid oes 27 aberth dros bechodau wedi ei adael mwyach; Eithr rhyw

a groeshoeHant Fab Duw, a'r rhybudd presenol yn seiliedig ar y ffaith nad oes aberth arall wedi ei adael, os gwrthodir aberth Crist. Y mae yr anmhosibilrwydd yn y chweched benod yn sefyllfa fewnol y dyn, a'r anmhosibilrwydd yn y benod hon yn natur aberth Crist.

ADN. 26.— Canys os o'n gwirfodd y pechwn; neu, "tra yr ydym o'ä gwirfodd yn pechu." Ond y cyfieithiad cyntaf yw y goreu; oblegid un pechod neillduol a feddylir, sef " y pechod," fel y gehvir ef yn iii. 13, o ymadawiad oddiwrth Dduw fel y datguddia ei hun yn ei Fab Iesu Grist. Defnyddia yr awdwr yr amseriad presenol, nid yn y lie hwn iddangos parhad y weithred, ond i bwysleisio ei natur hi fel pechod. lmhellach, y mae y geiriau " o'n gwirfodd " yn dwyn i mewn elîen yn y pechod na sonir am dani yn y chweched benod. Yno y dybiaeth ydyw fod y dyn yn syrthio ymaith yn llwyr rywbryd ar ol cael ei oleuo unwaith, ond y mae y goleuni wedi diffodd a gadael y dyn yn nhywyllwch dudew anghrediniaeth. Ond yma cymer yr awdwr yn ganiataol ei fod wedi profi ai bwnc i foddlonrwydd pob meddwl ystyriol ; ac, os gwrthoda neb o'i ddarilenwyr Grist mwyach, bydd yn gwneyd hyny yn wirfoddol, a'i lygaid yn agored, ar ol derbyn gwybodaeth gyflawn o'r hyn sydd wedi ei brofi yn wirionedd cadarn. Gwel Salm xix. 13 : Num. xv. 30.

Gwybodaeth. Ystyr y gair ydyw "gwybodaeth gyflawn." Yn rhai or ysgrifeniadau Cristionogol boreuaf gwahaniaethir rhwng "gwybod- aeth.'' " gwybodaeth gyflawn," a "llawn sicrwydd." Gwel adn. 22.

Nid oes aberth dros bechodau wedi ei adael mwyach. Os gwrthyd dyn aberth Crist, nid oes aberth arall icedi ei adael ar ol (dyna'r ystyr, fel yn iv. 9) iddo, gan ei fod yn gwrthod yr aberth hwnw sydd ei hun wedi diddymu pob aberth arall. Felly hefyd y dywed Clement o Kufaiti (ii. 3) fod yr eglwys yn gweddio yn unig dros y rhai a bechant heb fod yn wirfoddol.

ADN. 27.— Ond rhyw ddisgwyl. Darllena Alford, "ond rhyw dderbyniad." Camgymmeriad ydyw hyn. Ni cheir y gair yn y Testament is ewydd ond yn y lie hwn. Ond ceir y feri, ac, er fod y gair yn golygu yn yr awduron clasurol "derbyn," yr unig ystyr sydd iddo bob amseryny Testament Xewydd ydyw " disgwyl." Teimlaf ei bod yn anhawdd iawn peido meddwl fod yma gyfeiriad at ofnadwyaeth disgwyliad trigolion Jeru- salem ychydig cyn dinystr y ddinas, fel y darlunia Josephus waedd Josua, mab Hanan, crediniaeth y bobl eu bod yn gweled arwyddion a rhyfeddodau yn yr awyr, a'r lief annacarol a glywyd yn y Demi, " Ymadawn."

Angerdd tân. Sylwa Delitzsch yn rhagorol fod y tân yn cael ei bersonoli ; oblegid ystyr y gair a gyfieithir "angerdd " ydyw "ciddigedd " neu " zel." Golyga yr esboniwr galluog hwn, ymhellach, fod yma gyfeir- iad at Es. xxvi. 11, lie y darllena efe fel hyn : " Arglwydd, dyrchafwyd dy law, ond ni welant ; cânt weled, a chywilyddiant ; canys eiddigedd dros bobl (Israel), ie, tán a ysa dy elynion." Trwy dân y dinystriwyd y deml, er ymdrechion egniol Titus i'w harbed, fel pe byddai y tân ei hun yn greadur byw. Effeithiol iawn yw y cyferbyniad rhwng disgwyliad brawychus y pechaduriaid, yn oim cymaint nes methu symud o'r fan ond aros yn ddôf am y gosbedigaeth, ac, ar y Haw arall, prysurdeb eiddigus y tan i'w goddiweddyd.*

Yn y Traethodydd I»nawr, 1890, cyvsygir esboniad hollol newydd o'r adran non gan y Parch. W. M. Lewis, mai nid gwrthgilwjT ydyw "y gwrthwynebwyr," ond yr eilidw\-r, y rhai ni dderbyniasant yr efengyl o gwbl. Dadleua dros y gol- ygaa gyda chymaint o allu nes peri i mi chwenychu yn fawr ei weled yn ymroddi

TR EPI8T0L AT TR HEBREAID. 147

idisgwyl ofnadwy am farnedigaeth, ac angerdd tân, yr hwn a ddifa y gwrthwynebwyr. Yr un a ddirmygai gyfraith Mose?, 28 a fyddai f arw heb drugaredd, dan ddam neu dri o dystion : Pa faint mwy cospedigaeth, dybygwch chwi, y bernir haeddu 29 o'r hwn a fathrodd Fab Duw, ao a farnodd yn aflan waed y

ADN. 28.— Yr ystyr ydyw, nid fod deddf Moses yn collfarnu i farw- wolaeth am rai troseddau, ond fod y trosedd neillduol hwn o ddirmygu y gyfraith neu wrthod y cyfamod yn cael ei gosbi â marwolaeth. At Deut. xvii. 2— 7 y mae yr awdwr yn cyfeirio, lie y dywedir fod y neb a drosedda y cyfamod ac a wasanaetha dduwiau dyeithr i gael ei labyddio â meini fel y byddo marw, wrth dystiolaeth dau neu dri o dystion.

Heb drugaredd. Ychwanegiad ac esboniad awdwr yr Epistol ydyw hyn. Y cyfieithiad llythyrenol ydyw, "ar wahan oddiwrth dosturiaethau." Ond nid yr ystyr ydyw y cai y trojseddwr ei arbed os cyfryngai tosturi ar ei ran. Byddai byny yn gwanhau ymresymiad yr awdwr. Dywed ef nad oedd caniatad i dosturi gyfryngu o gwbl.

Dan ddau neu dri o dystion. Dywedir hyn i ddangos y gallai nad oedd trosedd y dyn yn gyhoeddus iawn, a rhaid cael tystion i'w brofi. Eto, pa mor ddinod bynag y troseddwr, rhaid ei roi i fnrwolaeth.

ADN. 29.— A fathrodd. Oddiwrth 2 Mace. vii. 2 geUir casglu mai nid ystyr y gair yw dirmygu yn unig, ond dangos mai peth anghysegredig ydyw yr hyn y mathrir arno. Gŵyr y dyn mai Mab Duw ydyw Iesu o Nazareth. Er byny geilw ef yn wrthrych cyffredin neu aflan. Ceir esampl o'r teimlad gwrthgyferbyniol i hwn yn Phil. ii. 8. Yn ri. 6 y syniad ydyw dirmygu Crist, hyd at ei ail groeshoelio a'i osod yn watwar ; yma y syniad ydyw mathru dan draed fel peth anghysegredig a chyifredia Archoffeiriad sanctaidd Duw, yr hwn sydd hefyd yn Fab Duw.

A farnodd yn aflan waed y cyfammod, &c. Yn y chweched benod nid oes un cyfeiriad at waed y cyfamod. Dirmygu Mab Duw yw y syniad yno ; ond erbyn hyn y mae yr awdwr wedi profi fod y cyfamod newydd wedi dyfod i mewn ac wedi ei seilio ar waed Crist. Gan hyny, eglurhad manylach sydd yu y geiriau hyn ar y geiriau o'r blaen. Y ffordd y mae dynion yn mathru ar Fab Duw ydyw trwy farnu ei waed, yr hwn sydd, yn gyntaf , yn sail y cyfamod newydd ac, yn ail, yn foddion eu rhydd- had hwynt oddiwrth euogrwydd, yn beth cyffredin, yr hyn sydd yr un petk, mewn effaith, âg ymwrthodiad à'r cyfamod ac â'r maddeuant a ddaeth trwyddo. Y mae y dyn yn ystyried y gwaed sydd wedi ei sancteiddio ef yn ansanctaidd eihun, ac yn lie gwaed y Crist, yr hwn âg ysbryd tragwyddol a'i hoffrymodd ei hun yn ddifai i Dduw, dewisa ef yn hytrach waedy teirw a'r lloi neu ludw aner wedi ei llosgi ! Arferir y gair " sancteiddio " ya yr ystyr gyffredin o ryddhau oddiwrth euogrwydd. Os gofynir ai nid yw yr adnod yn anghyson â Chalfiniaeth, nid oes genyf ond ateb mai fy nyled- swydd ydyw ceisio cael allan feddwl yr awdwr heb unrhyw olwg ar gyfun- drefnau athrawiaethol, a fy mod yn argyhoeddedig nad Calfiniaeth nac Arminiaeth a ddysgir yn y Testament Newydd, ond syniadau dyfnach na'r

i esboniadaeth. Ond hyd yma nis ^allaf fabwysiadu yr egiurhad. (1) Y mae yn anhawdd credu mai nid yr un dynion a f eddylir wrth y rhai sydd yn pechu yn wir- loddol a'r rhai nad oes aberth dros eu pechodau wedi ei adael mwyaeh. (2) Y mae yr un mor anhawdd meddwl mai nid yr un dynion sydd yn mathru Mab Duw a'r rhai y dywedir yn y chweched benod eu bod yn ei ail-groeshoeho. (3) Y mae y cyffelybrwydd rhwng y neb a ddirmygai gyfraith Moses a'r neb a fathro Fab Duw yn cael ei golli yn llwyr os nad gwrthgilwyr a olygir wrth y rhai sydd yn mathru y Mab ; oblegidy mae yn eglur mai at Deut. xvii. 2—7 y cyfeirir yma, ac am y rhai a wrthgilient oddiwrth gyf amod Duw y sonir yno.

YB EPISTOL AT YR HEBRKAID. 148

cyf ammod, trwy yr hwn y sancteiddiwyd ef, ac a ddifenwodd

30 Yspryd y gras ? Canys nyni a adwaenom y neb a ddywedodd,

Myfi biau dial, myfi a dalaf, medd yr Arglwydd. A thrachefn,

naül ac na'r Hall, yn y rhai y mae y ddwy athrawiaeth yn cydgyfarfod, yn wir yn yr hyn a haerant ac yn gyfeiliornus yn yr hyn a wadant.

Ac a ddifenwodd Ysbryd y gras. Y mae y gair "difenwi" yn rhy wan. Yrystyrydyw "gwatwar," "sarhau," "gwaradwyddo." Ond ai yr Ysbryd Glân a feddylir? Y mae y gair " gwaradwyddo " yn awgrymu mai Person a olygir, ac nid teimlad. Ond nid yw hyny yn pend'erfynu y cwestiwn, gan y gall fod yr awdwr yn golygu mai ysbryd Grist a waradwyddir. Ar y cyf an mwy dyogel ydyw ystyried mai nid at yr Ysbryd Glân y cyfeirir. Byddai hyny braidd yn syniad annisgwyliadwy. Ymddengys i mi fodllygad yr awdwr ar ix. 14. Yno ac yma y mae yr un ffnrf ar y cwestiwn : "pa faint mwy ?" Yno sonir am waed Crist, ac yma am waed y «yfamod. Yno dywedir fod Crist yn ei offrymu ei hun yn ddifai i Dduw, ac yma ei fod yn cael ei fathru a'i waed yn cael ei farnu yn gyffredin gan ddynion. Yno crybwyllir ei fod yn puro y gydwybod, ac vma fod y dyn wedi ei sancteiddio ynddo. Yno dywedir i Grist offrymu •i hwn âg ysbryd tragwyddol, ac yma fod y pechadur yn gwaradwyddo yr ysbryd gras hwnw yn Nghrist. Ond newidir y gair "tragwyddol" i'r gair "gras," i ddangos y cyferbyniad rhwng tosturi ysbryd Crist a'r ysbryd sarhaus a ddangosir tuag ato gan y neb sydd yn gwrthod y cyf amod.

ADN. 30. Apelia yr awdwr at syniad ei ddarllenwyr, fel Hebreaid, am gymmeriad Duw, a chydnabydda ei fod yntau yn eredu yn nghywirdeb y syniad hwnw : "ni a adwaenom yr hwn a ddywedodd." Y mae hyn o'r pwys mwyaf, mai yr un yw Duw yr Hen Destament a'r N/ewydd. Dyma genedl Semitaidd yr hon y mae ei syniad am Dduw wedi ei dderbyn gan genhedloedd y Gorllewin trwy Grist a'i Apostolion. Yn nghanol eu holl anf©es ac er eu gwrthodiad o Grist, coleddai y bobl hyn hyd y diwedd y symiad mwyaf aruchel ac ofnadwy am Dduw. Hyn oedd yn gwneyd y Zelotiaid yn eu plith mor gyndyn ac anhyblyg yn amser dinystr Jerusalem. Credent o hyd y deuai i dalu y pwyth i'w elynion. Y geiriauhyn oedd beunydd trwy holl flynyddoedd eu gwrthryfel yn eu genau, "Myfi a dalaf !" A hyn, drachefn, oedd yn gwneyd eu cyflwr mor anobeithiol. Gwneyd gwasanaeth i Dduw yr oeddynt wrth fathru yr hwn y mae yr awdwr wedi profi ei fod yn Fab Duw ! Yn yr adnod hon try yr awdwr ar eu penau eu hunain eu syniad am Dduw fel Duw eiddigus, yr hwn ma oddef i neb wneyd yn hýf arno a'i esgeuluso, ac na phetrusa ddial ei gam hyd yr eithaf ar y rhai a feiddiant ei sarhau. Y Duw eiddigus hwn yw Tad Iesu ! Er yr holl ras sydd yn y cyfamod newydd, yr un Duw yw yr hwn y mae a wnelo ei bobl gyfamodol âg ef â'r Duw a ddywedodd, * Tffyfi bia dial . ' ' Gwyddomninau picy yw yr hwn a ddywedodd, ' 'Mi a dalaf."

Nid yw yr awdwr yn dyfynu y geiriau o Deut. xxsii. 35 yn hollol yn ol yr Htebraeg nac yn ol y Deg a Thriugain. Xid oes dim pwys yn hyny. Gallem yn hawdd dybied ei fod yn adrodd yr adnod fel y digwyddai iddo ei chofìo. Ond yr hyn sydd braidd yn hynod ydyw ei fod yn ei dyfynu yn hollol yn yr un geiriau â'r Apostol Paul yn Rhuf . xii. 19. Dyma un o'r profion fod yr awdwr wedi darllen yr Epistol at y Rhufemiaid.

Yr Arglwydd a farna ei bobl. Yn Deut. xxxii. 36 ystyr y geiriau hyn ydyw y barna Duw dros ei bobl, i'w hamddiffyn ; ac felly yn Rhuf. xii. 19. Golyga rhai esbonwyr fod awdwr yr Epistol yn newid yr ystyr, a'i fod yn dyweyd y daw Duw i farn yn erbyn ei bobl. Os felly, ystyria yr awdwr fod y dynion sydd ya mathru Mab Duw yn parhau i fod

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. 149

Yr Arglwydd a iarna ei bobl. Peth ofnadwy yw syrthio yn 31 nwylaw y Duw byw. Ond gelwch i'ch côf y dyddiau o'r 32 blaea, yn y rhai, wedi eich goleuo, y di'oddefasoch ymdrech

yn bobl i Dduw. Ond nis gall hyny fod ; oblegid eu pechod ydyw eu bod yn ymwrthod â'r cyfamod ac yn tori eu hunain ymaith o fod yn bobl i Dduw. Khaid i ni, gan hyny, ddeall y geiriau yn yr un ystyr yn yr adnod hon ac yn y ddau le arall, y barna Duw ar ran ei bobl. Yr anhaweder ydyw gweled cyssylltiad hyn â'r mater sydd gan yr awdwr mewn llaw. Y mae dau olygiad yn bosibl. Un ydyw fod Duw yn dial cam y rhai sydd yn ffyddlawn i'r cyfamod trwy gosbi y rhai sydd wedi ymwrthod âg ef . Felly Delitzsch. Ond nis gallaf weled pa fodd y mae ymwrthod â'i cyfamod yn ganrwri uniongyrchol â'r rhai sydd yn ffyddlawn iddo ; ac, heblaw hyny, nid cam y ffyddloniaid ydyw pwnc yr adnodau. Gwell genyf y golygiad mai «amwri ei Fab a feddylir, ac mai yr ymresymiad ydyw, Os dial Duw ei bobl, otii ddial efe ei Fab pan y mathrir ef dan draed ?

ADN. 31. Yn y chweched benod terfyna yr awdwr ei ddesgrifiad o gyflwr alaethus yr anedifeiriol gyda'r geiriau, " agos i felldith." Yma, ar y Haw arall, desgrifia ddiwedd ofnadwy y rhai sydd yn gwrthod y cyfamod trwy eu darlunio yn syrthio yn ddisymwth i ddwylaw Duw. Yno mae rhyw gymaint rhwng y pechadur a'r felldith ; ond yma y mae llaw y diaiydd wedi cau arno. Fel cyferbyniad i'r adnod hon gwel 2 Sam. xxiv. 14.

ADN. 32— ADN. 34.— Coffhâd am ffyddlondeb yr Hebreaid hyn yn yr amser a fu.

ADN. 32. Gelweh i'ch cof. Y mae y ferf yn yr amseriad presenol, i ddangos parhad y weithred. Nid yr ystyr ydyw eu bod i alw y pethau hyn i gôf wrth ddarllen yr Epistol, ond drachefn a thrachein yn ystod eu bywyd, fel cynorthwy arbenig iddynt i fod eto yn ffyddlawn.

Wedi eich goleuo. Cyfeiria at ddechreuad eu gyrfa Gristionogol. Gwel nodiad ar vi. 4.

Ymdrech. Defnyddir y gair, nid yn ystyr y gair Saesneg " effort," ond yn ystyr y gair " cyd-ymdrech," "contest." Un math o'r cyd- ymdrech hwn ydyw rhedeg gywfa (ku. 1) a'r chwareuon eraill y cyfeiria yr Apostol Paul atynt (1 Cor. ix. 25). O'r gair sydd yn yr adn. hon y daw y gair Saesneg "athlete." Sonia M. Antoninus, yn .ei Fyfyriodau, am ddyn da fel " cydymdrechwr yn y cydymdrech pwvsicaf." Yr oedd hwn yn enw myu^ych ar Gristion yn y brif eglwys.

O helbulon; yn hytrach, "o ddyoddefiadau." Trwy ddyoddef yr oedd y Cristionogion hyn wedi bod yn ymgais yn yrymdrechfa. Nid dyoddef yn unig a wnaethent, ond troi y dyoddef yn ymgais a chyd- ymdrech am goron y bywyd o law y Gwr yr oedd rhai ohonynt erbyn hyn mewn perygl o'i fathru dan draed.

Y dyoddefasoch. Golyga y gair, nid bod mewn poen, ond dal yn gryf, ymgynhal dan bwysau. Nid " suffer" ond " endure" ydyw y gair Saesneg am y peth. Wrth geisio ateb y cwestiwn at ba amgylchiadau yn fwyaf neillduol y cyfeiria yr awdwr, dylid cofio na raid i ni gyfyngu ein hunain at yr amgylchiadau yr oedd yr Hebreaid hyn yn bersonol wedi cymmeryd rhan ynddynt. Yx oedd y bywyd eglwysig yn gryf yn yr amser hwnw, fel y mae ymhob adeg o erlidigaefch, a theimlai y Cristionogion en hundeb â'u tadau yn yr un eglwys mor fywiog fel y deuai unrhyw apel at ffyddlondeb y rhai a fuasai o'u blaen yn rymus i'w meddyliau. Os, gan hyny, at yr eglwys yn Jerusalem yr ysgrifenwyd yr Epistol, diau fod yr awdwr yn cyfeirio at labyddiad Stephan ; at " yr erlid mawr fu ar yr eglwys yn Jerusalem" yn uniongyrchol ar ol hyny, pan " yr oedd Saul yn anrheithio yr eglwys," ac y gwasgarwyd rhai hyd yn Phenice, Cyprus, ac

150 YE EPISTOL AT YE HBiREAXD.

33 mawr o helbulon : Wedi eich gwneuthur weithiau yn wawd, trwy waradwyddiadau a chystuddiau ; ac weithiau yn bod yn

34 gyfrannogion a'r rhai a drinid felly. Canys chwi a gyd- ddîoddefasoch â'm rhwymau i hefyd, ac a gymmerasoch eich

Ajitiochia; at laddiad Iago brawd loan â'r cleddyf gan Herod; ac at garchariad Pedr. Gwel Act. vii. ; viii. : xii.

ADN. 33. "Wedi eich gwneuthur yn wawd; yn hytraeh, "gan gael eich dangos ar gy hoedd." Y mae y eyfeiriad, nid, fel y dywed Alford, at y fath gyniúìiad terfysglyd â'r hwn a gymmerodd. le yn theatr Ephesua Act. xix. 29 , ozid at y ehwarcuon creulawn yn yr amphithc-atr fawi yn Rhufain. Nifl gellir casglu oddiwrth hyn mai at yr Hebreaid Cristienogpl yn Rhufain yr ysgrifenwyd yr Epistol; oblegid ceir yr un eyfeiriad yn Epistol cyntaf Paul at y Corinthiaid : ac yn y ddau le nid awgrymir fod y darllenwyr en hunain wedi eu gollwng i'r bwystûlod. Yn gyinliariaethol y lleferir. Gwel 1 Cor. iv. 9 ; xv. 32. Y mae hanes Ignatius yn werth ei ddarllen in cynorthwyo i ddeall y gymhariaeth.

Trwy waradwyddiadau. Cyfeiriad at y .merthyr yn sefyll yn nghnnol llawr yr aniphitheatr yn ddrych i waradwydd y miloedd edrych- wyr ar yr esgynloriau o gwmpas, cyn gollwng y llewod allan.

Cystuddiau. Gair tyner am yr erlidigaeth ei hun, fel pe byddai cyfeiriad mwy uniongyrchol at y bwyütfilod yn rhy arw. Y mae y gair prydfertfa a theimladwy hwn, " cystudd," yn awgrymu iddynt gystuddiau Crist [Col. i. 24 a cherydd Tad.

A drinid felly. Y mae y cyfieithiad yn rhy wan. Ystyr y gair ydyw " ymdaith ;" a'r syniad yn y lie hwn. mi a debygwn, ydyw eu bod wedi bod yn gymdeithion â'r rhai yr oedd rhan fawr o'u bywyd yn gyi'res e ddyoddefiadàu. I'r un perwyl y dywed Clement o Rufain (Iv. 2) : •' Gwyddom am liaws yn ein plith a draddodasant eu hunain i rwymau, er mwyn rhyddhau eraill. Gwerthodd llawer cu hunain i gaethiwed, a chymmerasant y gwerth i borthi eraill." Sylwa Ignatius, yn ei Lythyr at Eglwys Smyrna, mai un o nodau yr hereticiaid oedd nad ymwelent a'r carcharorion. Yr «edd gweddi yn ngwasanaeth yr eglwys yn lied foreu dios y carcharorion. Nid yn fynych y ceir cymaint o ddiofalwch yn y i ffieitfanryi Uymreig ag sydd yn yr adn. hon. Y mae y gair yn nechreu yr adu. yn yr amseriad presenol: " gan gael eich gwneuthur." Y maent hwy wedi ei droi i'r gorphenol : "wedi eich gwneuthur." Y mae y gair yn niwedd yr adn. yn y gorphenol : "wedi eich gwneuthur " Y maent hwy wedi ei droi rr presenol : "yn bod." Ond nis gallasai yr awdwr ddyweyd eu bod yn barhaus yn gymdeithion á'r dyodd«fwyr; gosodai hyny hwynt yn yr un dosbarth.

ÀDN. 34. Angraifft o'r hyn a grybwyllwyd yn niwedd yr adnod flaenorol oedd eu cydymdeimlad ar un achlysur neillduol (canys hyn yw yttyr amseriad y ferf) â'r brodyr oedd mewn rhwymau, hyny ydyw, mewn earcharau. Prin y mae angen dyweyd mai nid " yn rhwym gan afiechyd " a feddylir. Nid oes nemawr o amheuaeth i fod mai y darlleniad cywir ydyw, nid "á'm rhwymau i," ond "â'r rhai oedd mewn rhwymau." î)i«hon i'r darlltniad " ü'm rhwymau i" wthio ei hun i mewn i gopi'au a nwyd yn yr eglwy<i oedd yn tybied mai Paul oedd awdwr yr Epistol, ac y mae yn debyg iawn i'r darlleniad hwn drachefn ddylanwadu wedi hyny yn ffafr y dybiaeth hono.

Àe a gyrnmerasoch eich ysbeilio, &c. Cyfeiriad at yr hyn a ddywedwyd yn nechreu yr adn. o'r bla^n. eu cystuddiau eu hunain. Y mae yn amlwg oddiwrth y geiriau hyn fod y cais a wnelsid ar y cy»taf yn

YB EPISTOL AT YE HEBREAID. 151

jspeilio am y pethau oedd gennych yn liawen ; gan wybod fod gennych i chwi eich hunain olnd gwell yn y nefoedd, ac un parhaus. Am hynny, na fwriwch ymaith eich hyder, yr hwn 35 sydd iddo fawr wobr. Canys rhaid i chwi wrth amynedd: 36

Jerusalem i sefydlu yr egiwys G-ristionogol ar gyd-berohenogaeth mewn meddianau ("a phob peth oedd ganddynt yn gyfEredin," Act. ii. 44 . iv. 32) wedi troi yn fethiant. Xid oes tin lie idybied fod y cais hwn wedi ei wneyd o gwbl yn yr eglwysi Cenhedlig.

Yn liawen ; oblegid fod eich colled yn enill mawr, fel y dangosir yn y geiriau nesaf .

Gan wybod, &c. Y mae aruheuaeth ynghylch y darlleniad yn y rhan hon o'r adn. Y mae yn sicr fod yn rhaid gadael allan y geiriau " yn y nefoedd." Dichon iddynt lithroi mewno 1 Pedr i. 4. Yn lie " i chwi eich hunain," darllena yr Esgob Davie* "ynoch ychun." Dilynai drydydd argraphiad Stephanus (1550) a Beza. Felly hefyd y C.A.S. Ond y mae yn sicr fod yn rhaid gwrthod y darlleniad hwn. Darlleniad yr Esgob Morgan ydyw " fod genych olud gwell." Gedy ef Beza a mabwysiada ddarlleniad Jerom, yr hwn ydyw darlleniad Stephanns hefyd yn yr argraphiad cyntaf a'r ail (1546, 1549). Y mae llawer i'w ddyweyd dros y darlleniad hwn, a derbynir ef gan Dehtzsch ac Alford Ond y mae agos yn sicr, i fy meddwl i, mai darlleniad arall ydyw yr un cywir, yr hwn a geir yn y llawysgrifa» henaf oil ; ond goddefay darlleniad hwnw un o ddau ystyr, scf [1] " fod genych feddiant gwell eich hunain," yr hwn sydd yn gwneyd y geiriau "eich hunain " bron yn hollol ddiystyr; neu [2] "fod eich hunain genych yn feddiant gwell." Nis gallat deimlo nemawr o betrusder mai hwn yw y dar- lleniad a'r eyfkithiad cywir. Wedi colli en da yr oeddeu hunain ganddynt trwy yr efengyl : cadwedigaeth oedd bendith yr efemgyl; ac yn adn. 39 •cyfeiria yr awdwr at hyny pan y dywed ei fod ef a'i ddarllenwyr yn ym- gyrhaeddat gaffaeliad enafd. Gwelaf fod Westcottynderbyn yrun golygiad.

Parhaus ; neu, yn wel], " arhosol ;" un nas gellir euhysbeilio ohono.

ADN. 35.— Na fwriwch ymaith. Cynwysa hyn fwy na " gofalwch beidio colli." Eu gwt ithred hwy eu hunain fyddai iddynt ei golli trwy ei fwrw ymaith. Y mac eu " hyder " ganddynt fel rhan ohonynt eu hunain, a dywedodd yn yr adn. Üaenorol fod eu hunain ganddynt. Nid hyder fod ganddynt feddiant gwell a olygir, ond hyder i agosliau at Dduw ac arddftl Crist. Gwel x. 22, 23.

Yr hwn sydd iddo fawr wobr. Ystyr y gair gwobr yn y Testament Xewydd ydyw " tál," " eyflog." Gwel yr un gair yn ii. 2. Y mae fod tâl mawr yn dilyn hyder Cristionogol yn syniad newydd yn yr Epistol, ac yn agor y ftbrdd i'r desgrifiadau godidog o saint yr Hen Deetament yn y benod nesaf. Yn wir yn y frawddeg hon y mae yr ymdrin*iaeth am werthfawrogrwydd ffydd ryehwyn.

2 . A nogaeth i ymaros ffyddiog. x. 36-xn. 13. ADN. 36. Ymddengys i mi fod eglnrhad Dr. Thomas ar gyssylltiad yr adn. hon â'r adn. flaenorol yn gywir, mai nid rheswm ychwanegel dros beidio bwrw ymaith eu hyder sydd yma, ond cyf arwyddyd iddynt pa fodd i sicrhan y wobr. Nis gallant ac ni chant dderbyn cynwysiad yr addewid hyd nes y byddont wedi gwneuthur ewyllys Duw gyda golwg arnynt, ac ewyllys Duw ydyw eu perffeithio trwy ddyoddefiadau, fel y perffeitkiwyd Crist trwy ddyoddefiadau ; ond y mae hyny yn gofyn amynedd.

152 YR EPISTOL AT YR HEBREAID.

fel, wedi i chwi wneuthur ewyllys Duw, y derbynioch yr

37 addewid. Oblegid ychydig bachigyn etto, a'r hwn sydd yn

38 dyfod a ddaw, ac nid oeda. A'r cyfiawn a fydd byw trwy

Amynedd ; yn hytrach, efallai, "ymaros." Ond nis gallaf gael gair Cymraeg sydd yn hollol yn eyfleu y syntad i fy meddwl. Yr ystyr ydyw u yrngynhal dan y pwysau yn gryf a diysgog," nid bod yn amyneddgar a dirwgnach i ddisgwyl am ddyfodol gwell. Y mae yr awdwr yn y gair hwn yn taro y tant sydd yn y benod nesaf. Gwel xii. 1, 2.

Wedi i chwi wneuthur ewyllys Duw. Cyfieithiad Delitzsch ac Atford ydyw, " gan wneuthur ewyllys Duw." Goddef y gwreiddiol y ddau gyfieithiad. Ond gwell yw y cyntaf ; oblegid ogflurhad ar yr ymaros yw gwneuthur ewyllys Duw, ac ar ol yr ymaros yr hwn sydd yn gynwysedig mewn gwneuthur ewyllys Duw y daw y wobr.

Y derbynioch yr addewid ; hyny yw, gyflawniad yr addewid, megis yn si. 39.

ADN. 37. Y mae ymaros yn sicr o dalu, oblegid y mae cyflawniad yr addewid yn ymyl.

Yr hwn sydd yn dyfod. Cymmerir y geiriau o Hab. ii. 3. Ond yno y weiedigaeth sydd yn dyfod heb oedi, yn ol yr Hebraeg (fel yn y cyfieithiad Cymraeg) . Yn y Deg a Thriugain eglurir mai yr Arglwydd a olygir wrth y weiedigaeth, yr hwn a ddaw i ddymchweìyd y Caldeaid. Eglura awdwr yr Epistol, dracfaefn, mai Crist yw syfweddoliad y brophwydoliaeth. Yr oedd yr enw "yr hwn sydd yn dyfod" yn cael ei gymhwyso yn fynych at y Messia Felly Matt. xi. 3. Ymae ynanhawdd gwrthod y syniad fod yr awdwr yn cyf eirio at ddinystr Jerusalem, fel rhan; o'r hyn lleiaf, o'r meddwl.

ADN. 38.— A'r cyfiawn a fydd byw trwy ffydd. 0 Hab. ii. 4, a dyfyna Paul yr un geiriau yn Rhuf . i. 17, a Gal. iii. 11. Nid yr ystyr ydyw y bydd y neb sydd yn gyfiawn trwy ffydd byw. Y meddwl, yn ddiau, ydyw y bydd y cyfiawn byw, yn ddiangol o gyrhaedd pob perygl ; a thrwy ffydd y dyogelir ei fywyd. "Byw" ydyw gair y prophwyd Habaccuc am " dderbyn cyflawniad yr addewid," fel y dywed yr awdwr yn adn. 36; a "ffydd" ydyw gair y prophwyd am yr hyn a eilw yr awdwr hwn yn ' ' amynedd " neu ' ymaros. " Trwy ddal ac yrngynhal am ychydig bachigyn dan bwysau profedigaethau o hyn hyd nes daw yr hwn sydd yn dyfod, y cyfiawn fydd byw ; bydd yn ddiangol pan ddaw y Crist. Ond y mae un cyfnewidiad i'w wneyd yn y darlleniad. Yn lie ' ' y cyfiawn " rhaid darllen " fy ng^vr cyfia^vn i ; " ac felly y darllena un llawysgrif o'r Deg a Thriugain yn Hab. Ü. 4. Awgryma hyn i ni pa lawysgrif o gyfieithiad Groeg yr Hen Destament a ddàrllenasid gan awdwr yr Epistol. Llaw- ysgrif oedd cyffelyb i A, y llawysgrif o'r Hen Destament Groeg a'r Newydd sydd yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain. Ond da oedd cael y gair " fy " i mewn. Eglura ystyr y gair " cyfiawn." Nid y syniad ydyw fod y neb a rodio yn gyfiawn neu yn f oesol yn sicr o gael ei ddyogelu yn y perygl sydd ar ddyfod. " Y cyfiawn " ydyw y g\vr y mae Duw wedi ei dderbyn a'i gymmeradwyo a'i wneyd yn eiddo iddo ei hun. Ffydd ydyw sylweddol- iad o feddiant Duw ynom a ehymmeradwyaeth Duw ohonom. Trwy y sylweddoliad hwn o ffyddlondeb Duw i'w addewid y diangwn yn ddyogel allan o holl brofedigaethau ein gyrfa ac y byddwn byw yn nydd Crist. Rhaid i ni, yr un pryd, ©chelyd dwyn i mewn y syniad sydd i'r geiriau " eyfiawnhau trwy ffydd " yn Epistolau Paul.

YR EPISTOL AT YR HEÍREAID. 153

ffydd : eithr o thyn neb yn ol, nid yw fy enaid yn ymf oddloni ynddo. Eithr nid ydym ni o'r rhai sydd yn tynu yn ol i 39 golledigaeth ; namyn o ffydd, i gadwedigaeth yr enaid.

PENOD XL "F1FYDD yn wir yw sail y pethau yr ydys yn eu gobeithio. a 1

Eithr o thyn neb yn ol. Rhoddwyd y gair ' ' neb ' ' i mewn gan y cyf- ieithwyr. Yn hyn dilynant Beaa ; ac y mae un ddadl, o'r hyn lleiaf , o blaid hyny, *sef fod y geiriau hyn yn y Deg a Thriugain yn rhagflaenu y geiriau "fy ngŵr cyfìawn i a fydd byw trwy ffydd," ac, am hyny, nid "fy ngŵr cyfiawn i" yw yr un y tybir, yn y Deg a Thriugain, ei fod yn tynu yn ol. Ond nis gellir amheu fod ystyriaethau duwinyddol yn dylanwadu ar Beza. Hawdd fyddai cyf eirio at f anau eraill yn y Testament Newydd lie y mae hyn yn rhy amlwg i'w wadu. Onid dyben yr awdwr wrth newid trefn y ddwy frawddeg ydyw dangos fod yn rhaid hyd yn nod i ŵr cyfiawn Duw beidio tynu yn ol?

Tynu yn ol. Ystyr gyntaf y gair a arferir yma ydyw "tynu i lawr yr hwyliau." Ond nid oes dim cyfeiriad at y gymhariae-th h»n yn y gair yn Habaccuc yn yr Hebraeg ("ymchwydda"), ac felly nid yw o gwl»l yn debygol fod y gymhariaeth yn meddwl y Deg a Thriugain nac awdwr yr Epiütol. Yr ystyr ydyw camu yn ol yn llechwraidd gan ofn. Gwel Gal. ii. 12.

Nid yw fy enaid yn ymfoddloni ynddo. Yn Hab. ii. 4 fel y canlyn y darllenwn : " Wele yr hwn a ymchwydda, nid yw uniawn ei enaid ynddo." Ond dilyna awdwr yr Epistol gyfieithiad anghywir y Deg a Thriugain. Nis gall fod dim yn erbyn hyny; gan na ddyfyna yr adnod i brofi ei bwnc ar sail awdurdod y prophwyd. Defnyddia eiriau Habaccuc ì:av bwrpas ei turn.

ADN. 39.— Ni ; sef awdwr yr Epistol a'i ddarllenwyr. Gwel, ar yr ochr arall, xii. 2». Cymer yn ganiataol eisoes fod ganddynt hydar yn x. 19.

I golledigaeth ; sef eolledigaeth yr enaid. yn nyfodiad y barnwr. Gwel x. 30, 31.

I gadwedigaeth yr enaid; yn llythyrenol, "i gaffaeriad enaid," fel y gallom ddyweyd fod " ein hunain genym;" adn. 34. Yr un peth a olygir wrth y gair " caffaelia denaid " yn yr adn. hon a'r gair "byw " yn yr adn. flaenorol. Gwel 1 Thess. v. 9.

PEN. XI.— ADN. 1.— Rhaid cyssylltu yr adnod hon â'r adnodau sydd yn diweddu y benod flaenorol. Anogodd yr awdwr ei ddarllenwyr i hyder ac amynedd, neu ymaros, a dyfynodd eiriau Habaccuc i brofi fod yn rhaid wrth ymaros. Ond geiriau y prophwyd ydyw y bydd i ŵr cyfiawn Duw ddyogelu ©i fywyd trwy ffydd. Y mae y cwestiwn yn naturiol yn ymgynyg, Beth yw y cyssylltiad rhwng ymaros a ffydd ? Ateb y cwestiwn ydyw amcan y benod, trwy ddwyn i ystyriaeth yr Hebreaid esampl saint yr Hen Destament, y rhai a fuont yn ymaros dan bwysau profedigaethau chwer- won o bob math. Ond cyn myned at yr esamplau hyn, rhydd yr awdwr ddes- grifiad eryno o ffydd, er mwyn parotoi y ffordd a dangos pa fodd y mae ei eyniad ei am ffydd yn cynwys ymaros. Yr oedd angen am hyn, am fod ei syniad ef am ffydd yn gwahaniaethu oddiwrth yr hyn a ddywedir am dani gan Paul, ar y naill law, a chan Iago, ar y Hall. Yn nuwinyddiaeth Paul ymddiried mewn Gwaredwr byw ar sail ei angau iawnol ydyw ffydd. Ym- ddiried ydyw amod iachawdwriaeth, ac ymddiried ydyw cyfrwng iachawd- wriaeth. Y gwrthgyferbyniad i'r ffydd hon ydyw gweithredoedd ; ac y mae

154 YR EPISTOL AT YR HEBREAID.

2 sicrwydd y pethau nid ydys yn eu gweled. Oblegid trwyddi

hyny yn peri fod athrawiaeth yr apostol yn agored iawn i gael ei cham- ddeall a'i chamddefnyddio yn nghyfeiriad Antinomiaeth. Ond ysgrifen- wyd dau Epistol rrT'wn rhan i gyf arfod y perygl hwn, sef Epistol Iago a'r Epistol at yr Hebreaid. Desgrifia Iago ffydd fel bywyd. tufewnol yr ysbryd 'a ffynhoneìl pob daioni a gweithrediad. Gwel Iago ii. 17, 18. Dengys fod y moesoldeb puraf yn tarddu o ffydd. Ar y llaw arall gwrthwyneba awdwr yr Epistol at yr Hebrtaid y peth a elwir weithiau yn ddeddfoldeb. T mae y f atk beth yn bod a hunangyfiawnder ar sail ffydd ; a hwn oedd perygl yr Hebreaid. (Jfer fyddai mwyach eu hanerch fel y cynghorai Paul y cenedl-ddynion i gredu unwaith am byth yn yr Arglwydd Iesu Grist ac addaw y byddent trwy hyny yn gadwedig. Yn bytrach, gesyd yr awdwr hwn o flaen ei ddarllenwyr y drychfeddwl arddunol o ffydd, nid fel ym- ddiried, ond fel gwelediadysbrydol, nid fel cyfrwng iachawdwriaeth bresenol yn unig, ond fel sylweddoliad o'r goruwchnaturiol a'r tragwyddol. Egluro y drychfeddwl hwn yw amcan yr adnod gyntaf : dangos pa fodd yr oedd saint yr Hen Destamtnt yn gallu ymaros ac yingynhal trwy feddu y gwel- ediad"ysbrydoi hwn ydyw amcan yr holl benod.

Sail y pethau yr ydys yn eu gobeithio. Yr un gair a gyfieithir yn "saü" yma ac yn "berson" yn i. 3. Yno y gwir ystyr ydyw " sylwedd." Ond yma defnyddir amrywiol eiriau gan wahanol esbonwyr i osodallan yr ystyr, megis "sylwedd" (Jerom, oddiwrth yr hwn y cafodd yr Esgob Davies ei gyfieithiad, " ffurfder ; " Chrysostom a'i efelychwyr ; a rhai eraill , " sail " (Calvin, a Beza, gan yr hwn y cafodd yr Esgob Morgan ei gyikithiad, "sail"), "sicrwydd" (Luther a'r esbonwyr diweddaraf). Ond y mae yn eglur mai yr un peth a olygant oil. Nid oes un ohonynt yn dal fod ffydd yn sylwedd neu yn sail neu yn sicrwydd gicrthrychol i'r

Í pethau yr ydys yn eu gobeithio. Eu syniad ydyw mai ffydd sydd yn rhoi sylwedd yn y pethau i ni, ffydd sydd yn sail i'n gobeithion ni, ffydd ydyw ein sicrwydd neu ein hyder ni. Yr unig ragoriaeth yn y gair " sicrwydd" ydyw ei fod yn llai amwys. Ffydd sydd yn ein cadw rhag codi cestyll yn yr awyr a byw yn "mharadwys y ffyliaid," a thwyllo ein hunain â dychymygion. Y mae awdwr yr Epistol yn defnyddio tri gair i osod allan y syniad hwn o sicrwydd cadarn yn y meddwl. Cyfeiria un ohonynt (parrhisia) at yr hyder sydd yn dangos ei hun mewn gair a gwekhred. Golyga yr ail ( plërophoria ) ddigonolrwydd yr hyder sydd yn llanw yr ysbryd. v Ystyr y trydydd (hupostasis), yr hwn yw y gair yn yr adn. hon,

I ydyw fod yr hyder yn sylweddol, nid yn ddychymyg ; wedi ei seilio ar waelod ansigledig, nid yn ddrychiolaeth a ymrithia o flaen ein llygaid ac a ddiflana. Yn y benod flaenorol anogodd yr awdwr ei ddarllenwyr i hyder : ond anogodd hwynt i ymgynhal hefyd yn gryf dan anhawsderau a phrofedigaethau. Pa fodd y galí hyder y Cristion fod yn gryfder i ym- gynhal danynt ? Yr ateb ydyw fod ffydd yn sylweddohad, yn sicrwydd, "o't gwrtbrychau yr ydys yn eu gobeithio. Pa mor sylweddol bynag yw y cystuddiau, y mae ffydd yn gallu sylweddoli pethau rhagorach, pethau mor rhagorol eu natur fel nas gall neb eu mwynhau yn gyf- lawn ar y ddaear ond trwy y gyneddf hon sydd yn sylweddoli yr anweledig.

Sicrwydd y pethau nad ydys yn eu gweled. Os cywir yr eglur- had uchod ar y rhan gyntaf o'r adnod, rhaid newid y gair " sicrwydd " yn y rhan olaf ohoni ; oblegid os na wneir hyny bydd yr awdwr yn ail adrodd yr un syniad, gyda'r unig wahaniaeth fod y pethau ni welir yn cynwys mwy

TB EPWOL AT TO HEBEEAID. 155

hi y «rfodd yr hermriaád air da. Wrth ffydd yr ydym yn deaU 3

na'r pethau yr ydys yn eu gobeithio. Ystyr mwyaf cyffredin y gair a fryfieithir yma "sicrwydd" ydyw, nid y " sicrwydd yn y meddwl," nid " yr argyhoeddiad," onil y prawf sydd yn cynyrchu yr argyhoeddiad. Yr achos fod ffydd yn sicrwydd cadam yn y meddwl am y pethau yr ydys yn eu gobeithio, ydyw fod ffydd yn brawf o fodolaeth pethau anweledig, ymhltth y rhai y mae y peŴau yr ydys yn eu gobeithio. Fe wel y darllenydd y8tyriol ar unwaith y gwrthddywediad ynxddangosiadol. Yn gyffredin cyferbynir ffydd a phrawf , gan ein bod yn «redu ar dystiolaeth eraill yr hyn nae gallwn ei brofi trwy ymresymiad. Am«an yr awdwr yw dangos y gwirionedd dwfn a orwtdd o dan y gwrthddywediad. Ffydd ydyw y

/prawf ; mewn dwy ffordd. Yn gyntaf , yr ydym o angenrheidrwydd yn derbyn fel gwirionedd holl weithrediadau ein natur fo«sol. Gofynir weithiau pa fodd y gwyddom ein bod yn gwybod P Yr ateb ydyw niai yr un weithrtd ydyw gwybod a gwybod ein bod yn gwybod. Felly hefyd, yr un peth yw sylweddoli pethau ysbrydol ac ymddiried i wirionedd y sylwedd- oliad hwmw. Nis gallwn gredu Däw heb gredu ynom «n hunain, ac y mae amheu ein natur ein hunain yn amheuaeth o'i mynegiadau am Dduw. Am ffydd yn ystyr y gair yn yr Epistol hwn yr wyf yn son. Yn yr ystyr a rydd Paul i'r gair ffydd y mae credu Duw yn tybied anymddiried ynom ein kunain. Yn ail, wedi credu yn Nuw am ein bod yn credu ynom ein hunain, yr ydym yn credu yn y pethau anweledig am ein bod yn credu yn Nuw. Pan y mae pob prawf ac ymresymiad arall yn dringo at Dduw, y mae prawf ffydd yn cychwyn oddiwrtho.

Y pethau nad ydys yn eu gweled ; yn hytrach, "y pethau anweledig." Nid yr un negydd sydd yn yr adnod hon ag sydd yn adnoá 7. Yno yr ystyr ydyw "pethau na welir eto ;" ond yma yr ystyr ydyw "pethau anweledig yn eu natur,"— pethau ysbrydol a thragwyddol, fel y rhai a enwir yn Rhuf . i. 20.

Fe welir erbyn hyn fod yn rhaid i ni newid y gair "yw" i "y mae.' Nid damodiad sydd yma o natur ffydd, mwy nag sydd mewn un lie arall yn y Testament Newydd. Amcan yr awdwr ydyw dangos fod y fath bethau â hyder ac ymaros yn bosibl. Yr hyn sydd yn profi hyny ydyw fod ffydd yn sylweddoliad o'r pethau yr ydys yn eu gobeithio ac yn brawf o'r petkau anweledig. "Y mae ffydd yn," &c, gyda phwyslais ar y gair "mae."

ADN. 2.— I ddangos fod ffydd, mewn ffaith a gwirionedd, yi. sylweddoliad o'r pethau yr ydys yn eu gobeithio ac yn brawf o'r petfaau anweledig, dechreua yr awdwr bellach ar y rhestr ardderehog o wroniaid ffydd dan yr Hen Destament. Y rhai hyn oil a olygir wrth y gair " henuriaid." Nid yw y gair yn cynwys unrhyw gyfeiriad at na swydd nac o»dra». Golyga " yr hen-bobl," fel y bydd yn arferol gan rai alw pobl y dyddiau gynt, gyda rhyw fesur o anwyldeb, neu " y tadau," fel y gelwir hwynt yn i. 1. Bn yr awdwr eisoes ar drothwy y benod hon yn y «hweched benod ; ond y pryd hwnw ymataliodd, oblegid yr oedd ganddo fwy i'w ddyw^yd am y cyfamod newydd a'r gwir gysegr a'r Archoffeiriad mawr, ac y mae yr hyn a ddywed am danynt yn yckwanegu llawer at werth esampl gwroniaid yr hen oesoedd.

Trwyddi hi; neu yn well, "yn hon." Nid yr ystyr yw "gyda golwg ami hi," er y gall y gair oddef hyny. Rhaid eymmeryd y geiriau yn yr un ystyr â'r geiria» "wrth" neu "trwy ffydd" yn yjweddill o'r benod.

Y «afodd yr h«n*riaid air da; yn llythyrenol, "y tystiolaeth- Wyd i'r henuriaid." Golyga y gair " tystiolaeth " mai Duw oedd yn

156 YE EPISTOL AT YE HEBBEAID.

wneuthur y bydoedd trwy air Duw, yn gymmaint nad o

tystiolaethu. Diau mai yn yr Hen Destament y tystiolaetha Duw, trwy y prophwydi, &c, gan amlaf. Ond ni ddylid cyfyngu y dystiolaeth. Rhaid. cymmeryd i mewn y dystiolaeth yn y dynion eu hunain. "Yr oedd ganddynt y dystiolaeth." Nid yn unig tystiolaethodd Duw €w ffydd, ond hefyd ac yn fwy mynych trwy ac yn eu ffydd. Ar achlysuron rnoddwyd cymmeradwyaeth weledig iddynt. Ond gwell ydyw peidio ychwanegu unrhyw ddesgrifiad o'r dystiolaeth yn yr adnod hon, ei bod yn "air da."

Y pwnc yn awr ydyw iddynt gael tystiolaeth.

ADN. 3. At yr olwg gyntaf disgwyliasem i'r awdwr ddechreu gydag Adda ac Efa. Er angraifft, paham na ddywedasai, " Trwy ffydd y credodd Efa y byddai i Md y wraig ysigo pen y sarph?" Ond nid addewid i Efa oedd y geiriau hyn, ond bygythiad ar y sarph. Nid oes un cyfeiriad yn bosibl at ffydd ein rhieni cyntaf , os dilynwn yr hanes ysgrythyrol yn Genesis yn unig. Ond yr oedd un syniad yn Uanw yr hanes am danynt, sef mai Duw a greodd bob peth. Y mae y cwestiwn yn nghylch dechreuad y byd yn meddwl dynion ystyriol ymhob oes. Gan hyny, mwy grymus a pherthynasol fydd priodoli y weithred hon o eiddo ffydd, trwy yr hon y deallir mai Duw yw y Creawdwr, i'r awdwr a'i ddarìlenwyr nag i Adda,

Y mae cyfeiriad at y syniad hwn hefyd yn rhoddi cyfle i'r awdwr grybwyll un angraifft o ffydd f el prawf i ni o'r pethau an weledig ; a'r unig angraifft o hyny nad ydyw yn angraifft hefyd o ffydd fel sicrwydd am y pethau yr ydys yn eu gobeithio ydyw yr un a enwir yn yr adnod hon.

Wneuthur. Ystyr y gair ydyw "saerni'o;" " gosod defnyddiau mewn trefn i ateb pwrpas." Nid yw y gair yn golygu gwneyd peth o ddim ; a dyna y rheswm paham yr ychwanega yr awdwr yr hyn a ddywed yn niwedd yr adnod. Defnyddia yr awdwr y gair hwn am fod y gair sydd yma am "fydoedd" yn golygu nid yn unig fydoedd mewn lie, ond hefyd oruchwyliaethau neu gyfnodau mewn amser. Gwel nodiad ar i. 2.

Yn gymaint nad o bethau gweledig y gwnaed y pethau a welir. Y mae y cyfieithiad Cymraeg yn amwys, er ei bod yn sicr mai y syniad cywir oedd yn meddwl y cyfieithwyr. Nid ystyr y geiriau "yn gymaint nad " ydyw "oblegid nad." Yr ystyr ydyw "mor belled â hyn, nad," &e. Yr oedd y geiriau yn angenrheidiol oherwydd i'r awdwr ddefnyddio y gair "saerni'o" neu " lunio." Lluniodd Duw y bydoedd, nid yn unig wrth eu cyfaddasu i ateb dybenion neillduol, ond hefyd ymhellach na'u trefnu, hyd yn nod wrth eu dwyn i fod yn y dechreuad ; ac y mae ffydd yn myned yn ol tuhwnt i bob trefniad ar y bydoedd hyd at eu creadigaeth. Golyga rhai mai amcan Duw wrth drefnu y bydoedd a olygir, sef ein hargyhoeddi mai efe a'u creodd, neu ynte fod yr argyhoedd- iad hwn yn sicr o ddilyn ystyriaeth ffyddiog o'u trefniad. Felly y dywed Westcott, fod y gair (eis) a gyfieithir yma "hyd at" yn golygu bob amser "i'r dyben," a chyfieitha efe fel y canlyn : " Trwy ffydd y can- f yddwn lunio y byd trwy air Duw, i'r dyben o roddi gwybod i ni mai nid o bethau a welir y daeth yr hyn a welir i fod." Ond y mae bron yn sicr y dodid " gwybod " i mewn, pe hyny fyddai yr ystyr. Ac y mae eis yn golygu gradd yn Rhuf. xii. 3, " hyd at fod yn sobr." Gwahaniaetha yr •esbonwyr yn nghylch ystyr y frawddeg ei hun, pa un ai " nad o bethau gweledig y gwnaed yr hyn a welir," ai ynte " mai o bethau nad ydynt yn ■weledig y gwnaed yr hyn a welir." I amcanion y Llawlyfr hwn nid oes dim pwys yn y cwestiwn. Digon fydd dyweyd mai y blaenaf ydyw y

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. 157

bethau gweledig y gwnaed y pethau a welir. Trwy ffydd yr 4

cyfieithiad cywir, ond mai yr olaf yw ffurf gyffredin y datganiad. Y mae hyn yn awgrymu mai yn fwriadol y dewisodd yr awdwr y geiriad blaenaf . Ond y mae yn ymofyniad pwysig pa un ai syniad yr awdwr ydyw mai o ddim y crewyd y bydoedd ai ynte mai o bethau anweledig y crewyd hwynt. Nis gallaf beidio teimlo swyn y golygiad olaf hwn, a rhaid i mi fod o hyny yn fwy gwyliadwrus wrth geisio ei ystyried. Dywed yr awdwr " nad o bethau gweledig [neu, yn hytrach, nad o bethau gweladwy, neu bethau sydd yn ymddangos] y daeth yr hyn sydd weledig i fod." Wrth ddarllen, yr ydym f el pe yn disgwyl iddo orphen y frawddeg a dyweyd, •'eithr o bethau nad ydynt yn weladwy, sef o ddrychfeddyliau Duw ei huai." Y mae Hofmann a Keil yn ateb fod yr ochr gadarnhaol o'r frawddeg yn gorwedd yn y geiriau " trwy air Duw," y rhai a gynwysant y syniad mai o ddim y crewyd y cwbl. Os felly, rhaid i ni olygu fod yr awdwr yn amcanu gwrthddyweyd athrawiaeth Philo, yr hwn, dan ddylan- wad Platoniaeth, a ddysgai fod yrhyn a welir wedi ei greu allan o'r cynlluniau dwyfol. Ond y mae yr ystyriaethau canlynol yn ffafriol i'r golygiad. (1) Os ydyw y geiriau " trwy air Duw " yn golygu mai o ddim y crewyd pob peth, paham yr ychwanegir y geiriau, "hyd at mai nid o bethau gweledig y gwnaed y pethau a weiir?" (2) Onid ydyw yn wir- ionedd gwerth ei ddyweyd mai o'i ddrychfeddyliau tragwyddol ei hun y gwnaeth Duw bob peth, neu, yr hyn sydd yr un peth yn iaith ein dyddiau ni, fod Duw wedi creu pob peth gweledig yn ol cynllun? (3) Onid awgrymir y syniad hwn yn y gair "deall?" Yr ydym yn credu nad o ddim sylwedd y tuallan i Dduw y gwnaeth efe y bydoedd ; ond nid ydym yn deall hyny mewn unrhyw ystyr sydd i'r gair "deall." Nid ydyw creu o ddim yn weithred y gall dyn ffurfio un syniad am dani fel irweithred, am nas gallwn ei chyffelybu i ddim sydd o fewn po.sibilrwydd dynol. Ond gweithreda dynion yn ol cynllun ; ac, os ydyw ffydd yn < redu fod Duw yn gweithredu yn ol cynllun, y mae y meddwl, ar sail y grediniaeth hono, neu "trwy ffydd," yn deall y peth, can belled ag y gall gy ifelybu gweithred Duw i'w weithredoedd dynol ei hun. Eto nid wyf yn argyhoeddedig fod y rhesymau hyn yn penderfynu y cwestiwn. V mae un rheswm ar yr ochr arall sydd, fel yr ymddengys i mi, yn rneddu llawer o rym. Gellid tybied yn sicr mai y dystiolaeth y mae ri'ydd yn ei chredu gyda golwg ar greadigaeth y bydoedd trwy air Duw ydyw tystiolaeth yr Ysgrythyr. Ond ymha le y dywed yr Ysgrythyr t'wý na bod Duw wedi creu y cwbl o ddim ? Yr atebiad i hyn ydyw mai nid credu tystiolaeth yn unig a ddywedir yma, ond "deall." Felly yr ystyr ydyw mai trwy ffydd yr ydym yn canfod, yn synied, mai trwy air Duw y saerniwyd y bydoedd hyd at synied iddo greu y cwbl yn ol ei ddrychfeddwl ei hun. Y mae y golygiad hwn yn gwneyd cyssylltiad y tidwy ran o'r adnod yn hollol naturiol. Saerniaeth ryfedd natur sydd yn dangos i ni mai nid o ddefnyddiau di-ddechreu, ond o'i feddyliau ei hun, y creodd Duw hi. Yr un pryd, nid dyweyd y mae yr awdwr mai nid o bethau oedd yn bod y gwnaeth Duw y greadigaeth weledig, ond mai nid o bethau sydd yn ymddangos. Dichon ei fod yn bwriadu gwahaniaethu rhwng y ddau syniad hyn. Yn 2 Mace. vii. 28 dywedir i Dduw wneuthur pob peth "nid o bethau sydd." Os hyn yw meddwl awdwr yr Epistol, paham y dewisa y gair " ymddangos " yn hytrach *a'r gair "sydd?" Pan gymmerir pob peth i ystyriaeth, ymddengys yn dra thebygol mai yr ystyr ydyw fod Duw wedi gwneyd yr hyn a welir, nid o'r hyn sydd yn ymddangos, ond o'r hyn nad yw yn ymddangos, sef o'i ddrychfeddyliau, hyny ydyw, yn ol cynllun.

158 YE EPISTOL AT YR HEBREAID.

oflrymmodd Abel i Dduw aberth rhagorach na Chain ; trwy yr hon y cafodd efe dystiolaeth ei fod yn gyfiawn, gan i

Y pethau a welir. Y darlleniad cywir ydyw "yr hyn a welir." Golyga y greadigaeth f el un peth cyfansawdd. Y mae unoliaeth y gread- igaeth yn ddealledig trwy ffydd.

ADN. 4.— Yn yr adn. hon dechreua yr awdwr ar olyniaeth ogoneddus ffydd, yr hon oedd o flaen ac sydd ar ol olyniaeth dlawd yr offeiriadaeth. Desgrifia y cyntaf o'i gwroniaid fel yu dyheu am fod yn gyfiawn. Hwn oedd sefyllfa meddwl y gŵr a offrymodd aberth rhagorach na Chain. Yr oedd ganddo gydwybod pechod a cheisiai gymod â Duw. Yn wir, y mae rhai o'r llawysgrifau hynaf yn darllen " gan iddo ddwyn tystiolaeth i Dduw," yn lie " gan i Dduw ddwyn tystiolaeth." Derbynia Tregeiles y darlleniad. Ei ystyr ydyw fod Abel trwy ei offrwm yn dwyn tystiolaeth i sancteiddrwydd a thrugaredd Duw. Dithon nad oes digon o awdurdod dros y darlleniad hwn. Er hyny y mae pethau eraill yn yr adnod yn dangos mai y teimlad a barodd i Abel aberthu oedd dyhead am gymmerad- wyaeth Duw, neu dystiolaeth Duw ei fod yn gyfiawn ger ei fron. Yr un syniad o gyfiawnder, yr hwn a'i gyrodd i aberthu, oedd hefyd yn peri fod ei waed yn gwaeddi o'r ddaear am ddial ar y llofrudd. Felly nid yw yn gasgliad disail mai yn y syniad hwn fod Duw yn ddig wrth bechod ac y gellir ei gymodi trwy aberth yr oedd Abel yn rhagori ar Cain. Ond ymha le y cafodd yr awdwr hyn, fod Abel yn dyheu am fod yn gyfiawn, hyny yw, yn gyfiawn gerbron Duw? Yr unig ateb ydyw fod yr enw hwn, "y cyfiawn," yn arferol o gael ei gyssylltu âg Abel (Matt, xxiii. 35) a bod yr awdwr yn esbonio hanes Abel a'i offrwm yn ngoleuni trefniadau yr hen oruchwyliaeth. Felly yr oedd gwaith Abel yn offrymu aberth gwaedlyd yn golygu ei fod yn ceisio cymodi Duw a chael maddeuant ganddo. Y mae yn canlyn mai yn y gwahaniaeth hwn rhwng offrwm Abel ac offrwm Cain y mae yr awdwr yn canfod rhagoriaeth Abel. Yr oedd aberth y gŵr a geisiai faddeuant Duw yn aberth " mwy," " cyflawnach," "rhagorach " yn ei amcan nag aberth y gŵr nad oedd yn ymdeimlo â'i bechod nac yn ceisio maddeuant. Nid rhyfedd i Cain, yr hwn, pan yn offrymu, ni theimlai fod arno eisiau maddeuant, fyned i'r eithaf arall wedi hyny a dywedyd fod ei bechod yn ormod i'w faddeu.

Trwy yr hon ; sef trwy ei ffydd. Neu, gellir darllen, "trwy yr hwn," sef ei aberth. Y mae fod yr awdwr yn ychwanegu y geiriau " a thrwyddi hi," sef ei ffydd, braidd yn ffafrio y golygiad mai " trwy yr hwn " ydyw y darlleniad mwyaf naturiol. Y mae yr adnod yn cyssyìltu y dystiolaeth i ffydd, ac felly yn myned braidd o blaid y darlleniad "trwy yr hon." Yr un pryd " yn eu ffydd" a ddywedir yn yr ail adnod. Ffydd oedd yr elfen a'u cylchynai ac yn yr hon y symudent. Ond yn y bedwaredd adnod "trwy's yw y gair, nid "yn." Tra yr oeddynt yn cael y dystiolaeth. yn eu ffydd, defnyddid arwydd allanol fel cyfrwng trwy yr hwn y rhoddid y dystiolaeth iddynt. Amy rheswm hwn ymddengys i mi mai yr ail yw y golygiad mwyaf naturiol. Derbynia yr awdwr y traddodiad fod cymmerad- wyaeth Duw* i Abel yn cael ei ddangos trwy ei aberth, megis, fe ddichon, yn esgyniad y mŵg, fel y gwyddai Cain yn gystal âg Abel pa un ohonynt eu dau oedd yn derbyn cymmeradwyaeth Duw.

Y cafodd efe dystiolaeth, &c. Nid yr ystyr ydyw fod tystiolaeth am ffydd Abel hyd heddyw yn yr Ysgrythyr. Cyfeiria yr awdwr at Gen. iv. 4, " Edrychodd yr Arglwydd ar Abel ac ar ei offrwm." Pa fodd y rhoddodd Duw y dystiolaeth iddo, nis gwyddom. Dichon fod traddodiad i dan Duw ddisgyn ac yeu yr aberth. Ond ofer dyfalu.

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. 159

Dduw ddwyn tystiolaeth i*w roddion ef : a thrwyddi hi y mae efe, wedi marw, yn llefaru etto. Trwy ffydd y symmudwyd 5 Enoch, fel na welai farwolaeth ; ac ni chaed ef, am ddarfod i Dduw ei symmud ef : canys cyxi ei symmud, efe a gawsai dystiolaeth, ddarfod iddo ryngu bodd Duw. Eithr heb ffydd Ô

Yn llefaru eto. Y cyfieithiad cywir o'r gair sydd yma, yn y Testament Groeg oedd gan y cyfieithwyr Cymraeg, ydyw " yn cael llefaru am dano," gan olygu, yn ddiau, ei enwogrwydd oesol. Ond cam- gyfieithiasant y gair, trwy ddilyn Beza, u yn llefaru." Y gwir ddarlleniad, er hyny, ydyw lalei, ac ystyr y gair ydyw "yn llefaru." Felly y mae y Bibl t^ymraeg wedi rhoi y gwir ystyr trwy gamgymmeriad. Cyfyd dau ofyniad o berthynas i'r geiriau. (1) Pa beth oedd gwaed Abel yn lefaru ? Y mae yr ateb yn xii. 14. Llefarai wrth Dduw a galwai am ddial ar y llofrudd. Yr wyf yn tybied mai Chrysostom yw y cyntaf i gynyg yr esboniad arall, yr hwn a dderbynid yn gyffredin hyd yn ddiweddar, mai llefaru trwy ei esampl ydyw yr ystyr. Ond byddai hyny yr un mor wir am yr holl saint y sonir am danynt yn y benod. Y mae braidd yn syn fod Westcott yn glynu wrth yr hen esboniad. (2) Pa fodd y gallai Abel trwy ffydd lefaru wedi iddo farw? Y mae dau ateb yn bosibl. Y naill yw fod Abel wrth farw yn apelio at Dduw a bod yr apel yma yn cael ei phriodoli yn yr hanes i'r gwaed a ddisgynai i'r ddaear. Y Hall yw fod Abel ar ol marw, yn y byd ysbrydol, yn apelio at Dduw a bod hyny drachefn yn cael ei briodoli i'r gwaed. Defnyddir yr amseriad presenol ("y mae efe yn llefaru "), am mai yn yr Ysgrythyr y dywedir yma ei fod yn llefaru.

ADN. 5. Gwel Gen. v. 21—24. Ni ddywedir yn yr hanes na fu marw Enoch. Ond felly yr esbonia awdwr yrEpistol y geiriau " ac nid ydoedd; canys Duw a'i cymmerodd." Gwel Doethineb Solomon iv. 10, "wedi rhyngu bodd Duw efe a garwyd a phan yn byw yn mhlith pechaduriaidefe a symudwyd." Ond y mae yr esboniad yn dêg; oblegid y mae yr arbenigrwydd a osodir ar "symudiad" Enoch yn dangos iddo gael ei symud mewn ffordd neillduol, sef heb farw.

Efe a gawsai dystiolaeth. Yn hytrach, "y mae efe wedi cael tystiolaeth. " Y mae y cyfnewidiad hwn yn angenrheidiol ; oblegid dengys mai nid at unrhyw dystiolaeth a gawsai Enoch cyn ei symud y cyfeiria yr awdwr, ond at y dystiolaeth am dano sydd genym hyd heddyw yn yr Ysgrythyr.

Cyn ei symud. Y mae pwyslais ar y geiriau hyn. Iddo ryngu bodd Duw yn nghanol oes fydol ac annuwiol sydd yn dangos mai trwy ffydd y gwnaeth hyny.

Iddo ryngu bodd Duw. Dilyna yr awdwr, fel arfer, gyfieithiad y Deg a Thriugain, yr hwn sydd yn fynych yn esboniad yn hytrach na chyfieithiad llythyrenol. Yr hyn a ddywedir yn Genesis ydyw i Enoch "rodio gyda Duw;" a diau fod esboniad y Deg a Thriugain yn hollol gywir, mai ystyr hyny ydyw iddo ryngu bodd Duw. Yr un pryd, gresyn colli yr ymadrodd tlwis, "rhodio gyda Duw."

ADN. 6.— Y mae y cyfieithiad Cymraeg yn gwneyd yn dda ychwanegu y gair " ef." Nid yr ystyr ydyw nas gall dau byth ryngu bodd eu gilydd heb fod perffaith ymddiried gan y naill yn y llall. Rhaid i ni ddeall y gair "ffydd" o hyd yn yr ystyr a roddir iddo gan yr awdwr hwn, sef sylweddoliad o'r anweledig. Gan hyny, y meddwl ydyw nas gall dyn ryngu bodd Duw, neu rodio gyda Duw, heb sylweddoli Duw. Dywed y rhan nesaf o'r adnod paham nas gall. Y mae rhyngu bodd Duw yn

160 YR EPISTOL AT YR HEBREAID.

.ìiiimhosibl yw rhyngu ei fodd ef: oblegid rhaid yw i'r neb sydd yn dyfod at Dduw, gredu ei f od ef , a'i fod yn obrwywr i'r 7 rhai sydd yn ei geisio ef. Trwy ffydd, Nöe, wedi ei rybuddio gan Dduw am y pethau nis gwelsid etto, gyd â pharchedig ofn a ddarparodd arch i achub ei àf : trwy yr hon y condemniodd efe byd, ac a wnaethpwyd yn etifedd y cyfiawnder sydd o

cynwys cymundeb neu " ddyfod at" Dduw. Ond nis gellir dyfod at Dduw heb sylweddoli y ddau beth hyn am dano. ei fod, a'i fod yn rhoddi ei him i'r neb sydd yn ei geisio. Ffydd sydd yn sylweddoli bod Duw, nid y synwyrau corphorol ac nid y deall trwy ymresymiadau, ond gweithred- iad holì natur foesol ac ysbrydol dyn. Ffydd sydd hefyd yn sylweddoli ei fod yn gwrando gweddi ac yn rhoddi ei hun i'r rhai sydd yn ei geiii». Tuag at i ffydd allu rhodio gyda Duw neu ryngu ei fodd, rhaid iddo sylweddoli yr anweledig, nid yn unig fel gwrthrych gwirioneddol. ond hefyd fel Duw personol, holialluog a daionus i waredu. Ymhellaoh, thaid fod ffydd yn sylweddoli dymuniadau ysbrydol yr enaid ei hun, a'r rhai hyny yn eu man uwchaf, fel dymuniadau am enill ac am feddu Duw. Khaid iddi sylweddoli fod y dymuaiadau hyn yn troi yn gai« neu weddi at y Duw hwn. a bod Duw yn gwrando y weddi ac ya eyflenwi y dymun- iadau dwfn hyn trwy roddi meddiant ehono ei hun i'r enaid. Ym «1 yr adnod hon cynwysir y pethau hyn yn ngweithrediad y ffydd hoao sydd yn rhyngu bodd ac yn rhodio gyda Duw.

Yr hwn sydd yn dyfod at Dduw. Gwel iv. 16 ; vii. 25 ; x. 22.

Gwobrwywr. Yr hyn y mae y rhai a ddeuant at Dduw yn ei geisio ydyw Duw ei hun. Kid oes dyfodiad at Dduw ond pan y mae yr enaid yn ymdrechu meddu Duw.

Ceisio ; yn gryfach yn y gwreiddiel : ' ceisio allan," "ceisio yn drwyadl."

ÀDN. 7.— Cyssyllter y geiriau "trwy ffydd" â phob gweithred a briodolir i Koah yn yr adnod. Y mae hyn yn dügon cyffredin yn y Groeg. Trwy ffydd y rhybuddiwyd ef . trwy ffydd y teimlodd barchtdig ofn. a thrwy ffydd y darparodd yr arch.

Wedi ei rỳbuddio gan Dduw. Er nad yw y geiriau " gan Dduw v yn y gwreiddiol, y mae y cyneithiad hwn yn hollol gywir. Gwel ntdiad ar viii. 5. Gwel Gen. vi. 13 21.

Gyda pharchedig ofn. Dyma gyfieithiad rhagorol a hollol gywir. Gwel nodiad ar v. 7. Y mae y gair gwreiddiol yn cynwys dau syniad, sef ofn prydents wrth feddwl am y diluw ac wrth barotoi at yr amgylchiad, a pharch i Dduw yn cynyrchu ufudd-dod, er yr holl bryder.

Arch ; neu, efallai, yn well, "yr arch." Gair yr Esgob Davies a'r Esgob Morgan ydyw " llong." "Arch-long" fuasai yn gosod allan yr ystyr.

Trwy yr hon. Golyga y rhan fwyaf o esbonwyr yr oes hon mai " ffydd" a feddylir, oblegid am ffydd y mae yr ymdriniaeth trwy yr holl benod. Ond gwell genyf olygiad y tadau yn gyffredinol (oddigerth Primasius) mai yr arch a feddyìir. Gwelaf mai hwn yw golygiad Westcott. Cynyrch ei ffydd oedd yn condemnio y byd, nid ei ffydd heb ei gwaith. Gwelai yr anwir ddynion yr arch a gwawdient. Hyn oedd eu pechod a'u condemniad.

Ac a wnaethpwyd yn etifedd, &c Is id oes eisiau cyssylltu y geiriau hyn á*r geiriau f< trwy yr hon." Nid trwy yr arch y gwnaethpwyd Koah yn etifedd (fel y golyga Westcott). a dywed yr awdwr yn niwedd yr

YE EPISTOL AT YE HEBEEAID. 161

ffydd. Trwy ffydd, Abraham, pan ei galwyd, a ufuddhaodd, 8 gan fyned i'r man yr oedd efe i'w dderbyn yn etifeddiaeth ; ac a aeth allan, heb wybod i ba le yr oedd yn myned. Trwy ffydd 9

adnod mai yn ol ffydd yr oedd ei gyfiawnder. Gwell, gan hyny, ydyw gadael i'r geiriau hyn sefyll ar wahan, fel yn gosod allan ddiweddiad gogoneddus yr hanes am dano : " agwnaethpwyd ef yn etifedd," &c.

O ffydd. Gwel Gen. vi. 9. Ehaid cydnabod fod y geiriau yn debygiawn i ymadroddion Paul. Gwel Rhuf . i. IT; iii. 22. Eto y mae gwahaniaeth. Yn lie M o ffydd" y darlleniad cywir ydyw "yn olffydd/' ac yma yn unig y ceir yr ymadrodd hwn. Y mae cyfiawnder o ffydd, fel y golygir y gair " cyfiawnder" a'r gair "ffydd" gan Paul. Amod cyfiawn - had ydyw ymddiried. Ond yn yr ystyr sydd i'r gair ' ' ffydd " yn yr Epistol hwn, yn ol ffydd y mae cyfiawnder. Nid y meddwl o gwbl ydyw fod Noah wedi ei gyfiawnhau trwy ffydd. Yn hytrach, dywed yr awdwr mai y casgliad cyffredinol oddiwrth hanes Noah ydyw fod y cymmeriad cyfiawn a enillodd yn ngolwg Duw a dynion yn ol, yn unol â, yn gyf addas i, yn cael ei reoleiddio gan, sylweddoliad o allu a rhybudd ac addewid Duw. Cynwysa yr adnod ymresymiad, fel y gwna yr adnod flaenorol. Yr ymres- ymiad ydyw fod Noah yn cael yr enw yn yr hanes o fod yn ŵr cyfiawn a da. Dywedir hefyd yn yr hanes iddo gael rhybudd ac addewid oddiwrth Dduw gyda golwg ar amgylchiad hynod a gymmerai le ar y ddaear. Y casgliad ydyw fod ei gymmeriad fel gŵr cyfiawn yn cydfyned â sylweddoliad o Dduw; yr hyn yw ffydd. Gwel Gen. vi. 9; Ezec. xiv. 14, 20; 2 Pedr ii. 5.

Etifedd. Nid yr ystyr ydyw i Noah enill hawl i etifeddiaeth ddyfodol. Golyga y gair " etifedd " yn y lie hwn ei fod yn cael meddiant personol o'r etifeddiaeth. Ond nid yw yn hawdd deall paham y d\vg yr awdwr y syniad o etifeddiaeth i mewn o gwbl mewn cyssylltiad â Noah yn hytrach na chyda golwg ar Abel neu Enoch. Efallai mai y rheswm ydyw fod y diluw wedi dinystrio pob creadur byw, oddieithr y rhai a gadwyd yn yr arch i fod yn ddechreuad byd newydd. Perchenog y byd newydd trwy hawlfraint patriarch y teulu oedd Noah. Felly, trwy ci ffydd, achubodd ei dý, condemniodd yr hen fyd, perchenogodd y newydd, ac enillodd yr enw o \vr cyfiawn gerbron Duw.

ADN. 8— ADN. 19.— Ffydd Abraham, y mwyaf o saint yr Hen Destament cyn Moses. Ymddengysi mi fod yr adran hon o'r benod yn ymranu yn naturiol fel y canlyn : 1. Ffydd Abraham, o'i chymharu â flvdd Noah, fel ufudd-dod i orchymyn Duw (adn. 8— adn. 12). 2. Ffydd Abraham, o'i chymharu â ffydd Enoch, fel cymundeb â Duw (adn. 13 adn. 16). 3. Ffydd Abraham o'i chymharu â ffydd Abel, fel parodrwydd i offrymu i Dduw (adn. 17— adn. 19).

ADN. 8.— Pan ei galwyd. Y mae pwyslais i fod ar y geiriau hyn. Galwad ydoedd, ac ufuddhaodd Abraham iddi fel y cyfryw, gan ymostwng i'w hawdurdod heb geisio rheswm drosti. Ufuddhaodd ar unwaithhefyd ; nid "wedi ei alw," ond ar y pryd, pan yr oedd Duw yn ei alw. Y mae y gair yn yr amseriad presenol ; ac fe all olygu i Abraham gael ei alw o dro i dro, y waith gyntaf yn Ur y Caldeaid, wedi hyny yn Haran. Er na ddywedir yn bendant yn Genesis (xi. 31) fod Abraham wedi ei alw yn Ur y Caldeaid, ceir hyny yn y traddodiad a dderbyniwyd gan Stephan (Act, vii. 2—4). Hyd nes y daeth y teulu i Haran, Terah, nid Abraham, oedd y pen-teulu. Er galw Abraham, ni fynai yr Arglwydd gyflawni ei fwriadau ar draws awdurdod llywodraethwr y teulu. Wedi marw Terah yn Haran adnewyddodd Duw ei alwad i Abraham.

Heb wybod i ba le yr oedd yn myned. Pa fodd y gall hyn

162 YR EPISTOL AT YE HEBEEAID.

yr ymdeithiodd ef e yn nhir yr addewid, megis mewn tir dieithr, gan drigo mewn lluestai gyd âg Isaac a Jacob, cyd-etifeddion

fod, gan i Terah adael LTr y Caldeaid "i fyned i dir Canaan," ac i Abraham adael Haran " i fyned i wlad Canaan," medd yr hanes (Gen. xi. 31; xii. 5) ? Ehaid i ni ystyried mai eglurhad yr hanesydd sanctaidd, ac nid amcan Abraham ei hun sydd yn y geiriau hyny yn Genesis. Yn hyn y dangosai ei ffydd. Ymadawodd, dro ar ol tro, mewn ufudd-dod i alwad Duw, heb gael datguddiad i ba le yr oedd yn myned, hyd nes y daeth i'r wlad y bwriadai Duw ei rhoddi iddo yn etifeddiaeth. Gwel Gen. xii. 7.

ADN. 9. Yr ymdeithiodd yn; yn hytrach "i mewn i." Cyfeiriad at eiriau Abraham ei hun, Gen. xxiii. 4. Ystyr y gair gwTeiddiol ydyw aros am enyd mewn gwlad ddyeithr, mewn cyferbyniad i drigo gartref ; a defnyddir y gair felly gan Philo. O'r gair hwn y daw y gair Saesneg parish. Pan ffurfiwyd eglwysi Cristionogol ar y cyntaf yn nghanol poblog- aeth eilunaddolgar, hoffai y Cristionogion son am danynt eu hunain fel " ymdeithwyr," gyda chyfeiriad, yn ddiau, at y benod hon yn arbenig. Cawn hyny yn llythyr Clement o Euf ain at y Corinthiaid, yr hwn a ysgrif - enwyd yn agos i ddiwedd y ganrif gyntaf , ac mewn amryw o'r tadau boreuol. Yn raddol aeth yr enw hwn, "ymdaith" (paroikia, mewn gwrthgyfer- byniad i katoikia, sef " preswylf od arhosol") ar y He yr oedd eglwys yn digwydd bod ynddo. Felly ystyr y gair "parish" ydyw "ymdaith" Cnstion, megis dros nos, ar ei flfordd i'r nef oedd.

Tir dieithr ; yn llythyrenol, ' ' tir pobl eraill." Yr oedd yn ymdeithydd i mewn i'r wlad oedd yn feddiant iddo mewn addewid, fel pe byddai yn feddiant i bobl eraill. Sylwa Westcott mai yma yn unig yn y Testament Newydd y ceir yr enw "gwlad yr addewid," ac nad. oes ymadrodd cyfatebol yn yr Hen.

Mewn lluestai; yn hytrach, "mewn pebyll." Y mae lluest yn fath o dŷ, ac ni symudir y lluest pan edy bugeiliaid y mynyddoedd. Nid yw y gair yn gosod gerbron y darlun dwyreiniol sydd ar miwaith yn codi o flaen y dychymyg yn y gair " pebyll." Yr oedd dinasoedd cyn amser Abraham (Gen. xi. 4); ond ni wyddis pauna oedd teulu Terah yn preswylio mewn dinas ai ynte mewn pebyll, fel llwythau crwydrol Arabia a chanolbarth Asia hyd y dydd hwn. Y tebygolrwydd ydyw fod teulu Terah yn symud o le i le fel yr oedd y borf a yn yr hen le yn darfod, er fod y «ymudiadau neillduol hyn, ar yr un pryd, yn cael eu gorchymyn gan Dduw. Desgrifia Philo hwynt felly, yn gystal âg awdwr yr Epistol. Ond y mae Abraham yn dyrchafu y teulu, yn ei ffydd, i sefyllfa lawer uwch. Muda ef o'r bywyd crwydrol i'r bywyd sefydlog. Cynrychiola Abraham y symudiad mawr hwn yn hanes dynolryw, ac ni fu ei bwysicach. Ond ä efe trwy yr amgylchiad yn grefyddol, mewn ifydd, gan gydnabod býs Duw yn hyn ac ufuddhau i'w orchymyn.

Gan drigo mewn lluestai. Nid "gan ymdaith" a ddywedir yma. Yr oedd efe wedi dyfod i edrych ar y bywyd crwydrol mewn pebyll fel pe byddai hwnw ei ddull arosol o fyw. Iddo ef yr oedd "ymdaith" wedi myned yn "breswylio."

Gydag Isaac a Jacob. Dywedir hyn (1) i ddangos dyfalbarhad ffydd Abraham, o'r amser pan y daeth ef a Sara, y ddeuddyn hyn, gyntaf i wlad yr addewid hyd y pryd y caf odd efe ei feddiant cyntaf o f ewn terfynau y wlad, sef ogof maes Machpelah, ac wedi hyny hyd yr amser pan anwyd Jacob i Isaac; (2) i ddangos cyssylltiad teuluaidd yr addewid; oblegid nid oedd yr addewid y cai Abraham wlad Canaan wedi ei gyflawni hyd yn nod yn ny ddiau Jacob, nac yn wir cyn dy ddiau Moses. Yn ol yr hanes yn

YR EPISTOL AT YR HEBREATD. 163

o'r un addewid: Canys disgwyl yr ydoedd am ddinas ag iddi 10 sylfeini, saer ac adeiladydd yr hon yw Duw. Trwy ffydd, 11 Sara, hithau yn ammhlantadwy, a dderbynioddnerth i ymddŵyn

Genesis bu Abraham yn cydfyw âg Isaac bymtheng mlynedd a thriugain, ac â Jacob bymtheng mlynedd ; oblegid yr oedd Abraham yn gant oed pan aned Isaac (Gen. xxi. 5), ac yn gant a phymtheg a thriagain yn marw (Gen. xxv, 7), ac Isaac yn driugain oed pan aned Jacob (Gen. xxv. 26). Gwel Act. vii. 16.

ADN. 10.— Dinas ag iddi sylfeini; yn fwy llythyrenol ac yn well, "y ddinas y mae iddi y sylfeini." Nid oes dim crybwylliad am ddinas yn yr addewid, nac yn hanes ffydd Abraham, yn Genesis. Ond yn yr adnod hon ni a gawn angraifft o ysgrif enwr Cristionogol yn mabwysiadu ac yn rhoi sêl ei gymmeradwyaeth i esboniad ar hanes Abraham oedd wedi tyfu yn mysg yr Iuddewon er ys oesau ac wedi ymgorphori yn ysgrifen- iadau Philo. Wrth gymmeradwyo yr esboniad cenhedlaethol, f el y gellir yn gjo awn ei alw, y mae yr awdwr yn gofalu gadael allanbob elf en sydd heb fòd yn unol âg athrawiaethau efengyl Crist. Yn ol Philo y nefoecld ydyw y ddinas yn yr hon y bydd enaid y doeth gartref. Y mae y cyfeiriad eglur sydd yn yr adnod at eiriau Philo yn ddigon i brofi mai y nefoedd a olygai awdwr yr Epistol hefyd. Yr oedd ffydd Abraham, y dyeithrddyn unig, pan y crwydrai o fan i fan, yn ymffurfio yn ei enaid yn obaith am ddinas. Nefoedd yr unig digartref ydyw cymdeithas, yn yr hon yr ym- gyfarfydda holl ddynion da y cenhedlaethau yn gydoeswyr tragwyddol. Disgwyliai am y ddinas ; oblegid nid oes ond un y mae y sylfeini diysgog ynperthyn iddi, sef " y ddinas fawr, Jerusalem sanctaidd," fel y desgnfir hi gan weledydd y Testament Newydd (Dat. xxi. 10), " a'i mur a deuddeg sylf aen iddo, ac ynddynt enwau deuddeg apostol yr Oen." Ond i Abraham nid oedd enw ami na darluniad ohoni. Y mae yr adnod hon yn un o'r rhai a ddyfynir gan y duwinyddion Protest anaidd i wrthbrofi athrawiaeth yr Eglwys Babaidd fod holl saint yr Hen Destament wedi myned, nid i'r nefoedd, ond i le arall yn Hades, yr hwn a elwir limbus patrum. Diau fod yr adnod yn anghyson â'r athrawiaeth hono. Yr un pryd y mae gwahan- iaeth rhwng y ddinas a'r deml, ac yn y deml drachefn y mae cysegr sanct- eiddiolaf yn bod. Ymddengys i mi fod y Testament Newydd yn dysgu na dderbyniodd saint yr Hen Destament y perffeithrwydd uwchaf ac nad aethant i'r agosrwydd penaf at Dduw cyn mynediad Crist i mewn i'r gwir gysegr. Nid y gogoneddiad uwchaf ydyw "mynwes Abraham." Gwel nodiad ar adn. 16.

Saer ac adeiladydd. Ystyr yr enw cyntaf yn y lie hwn, mi a dybiaf, ydyw cynllunydd y ddinas, yr hwn sydd wedi cynyrchu y drychfeddwl, ystyr yr ail enw ydyw y gŵr sydd yn cario allan y drychfeddwl ac yn adeiladu y ddinas yn ol y cynllun. Y mae y ddinas hon mor fawr ac ardderchog fel nad oes neb llai na Duw wedi rhoddi bod i'r drychfeddwl am dani, ac y mae y cynllun mor arddunol fel nad oes neb ond y cynllunydd Dwyfol ei hun yn alluog i'w hadeiladu.

ADN. 11.— Sara hithau yn anmhlantadwy. Rhaid gadael allan y gair " anmhlantadwy," yr hwn ni cheir ond mewn un o'r llawysgrifau hynaf (D), er fod Theophylact yn ei grybwyll. Yr hyn sydd yn hynod ydyw na cheir y gair ychwaith yn yr argraphiadau o'r Testament Groeg y mae lie i feddwl fod y cyfieithwyr Cymraeg wedi eu defnyddio. Can belled ag yr wyf wedi gweled, yr unig argraphiad sydd yn rhoi y gair i mewn ydyw yr hwn a gyhoeddwyd yn yr Hispaen yn 1514 ; ond y mae pob tebygolrwydd na ddefnyddiwyd hwn gan ein cyfieithwyr ni. Nid yw y

164 YR EPISTOL AT YR HEBREAID.

had ; ac wedi amser oedran, a esgorodd ; oblegid fîyddlawn y

12 barnodd hi yr hwn a addawsai. O herwydd paham hefyd y cenhedlwyd oun, a hwnnw yn gystal a marw, cynnifer a sêr y nef mewn lliaws, ac megis y tywod ar làn y môr, y sydd yn

13 aneirif. Mewn Sydd y bu farw y rhai hyn oil, heb dderbyn yr addewidion, eithr o bell eu gweled hwynt, a chredu, a

gair yn Nhestament W. Salesbury, sef cyfieithiad yr Esgob Davies. Yr Esgob Morgan a'i dododd i mewn. Ymha le y cafodd ef ? Gwelodd ef ar ymyl y ddalen yn argraphiadan Stephanus. Ond y mae yn yr adnod yn nghyfieithiad Jerom. Ymddengys yn lied sicr iddo ei gymmeryd o'r cyfieithiad Lladin. Bhoddodd ef i mewn i esbonio y gair " hithau." Y mae lliaws o esbonwyr ya darllen yr adnod fel y canlyn : " Trwy ffydd y derbyniodd efe (sef Abraham) nerth i Sara hefyd," &c. Ond pe ffydd Abraham a olygid, buasai yr awdwr yn dwyn yr amgylchiad hwn i mewn cyn crybwyll aberthu Isaac. Y mae fod yr amgylchiad a ddygwyddodd cyn hyny yn dyfod i mewn ar ol y cwbl a ddywedir am ffydd Abraham yn dangos mai ffydd Sara a olygir yn yr adnod hon. Prin y gallaf dybied fod yr awdwr yn cyfeirio, yn y gair " hithau," at ei gwaith yn chwerthin yn anghrediniol : oblegid chwarddodd Abraham hefyd (Gen. xvii. 17).

I ymddwyn had. Darllena rhai esbonwyr diweddar fel hyn: "i syliaenu teulu." Yr anhawsder yw fod y gair a ddefnyddir, os na eglurir ef yn yr ystyr hwn, yn naturiol yn golygu " cenhedlu," yn hytrach nag " ymddwyn." Y mae yr ymadrodd " a dderbyniodd nerth," a chyssyllt- iadau yr adn. yn tueddu fy meddwl i dderbyn y darlleniad sydd yn y Bibl Cymraeg, ac nid yw yn anmhosibl troi yr anhawsder a grybwyllwyd o'r neilldu.

A esgorodd. Ehaid gadael y geiriau hyn allan er eu bod mewn rhai o'r cyfieithiadau hynaf . Ac felly, yn lie " ac " darllener " a hyny."

ÁDN. 12.— Oherwydd paham ; sef oherwydd fod Sara yn gystal âg Abraham wedi credu.

0 un. Sylwa Delitzsch y gelwir Abraham yn yr Ysgrythyr " yr Un," neu " yr Enig : " Mai. ii. 15, " Onid un a wnaeth efe ? a'r ysbryd yn ngweddill ganddo ; a phaham un ? I geisio had duwiol ; " Ezec. xxxiii. 24, " Abraham oeddun."

A hwnw yn gystal a marw ; yn hytrach, " a hyny pan y mae efe wedi marweiddio." Gwel Ehuf . iv. 19.

ADN. 13.— Mewn ffydd; yn hytrach, " yn ol ffydd." Yr oedd eu marwolaeth yn hollol gyson â'r ffydd sydd yn sylweddoli yr anweledig. Gwel nodiad' ar adn. 7. Nid yr ystyr ydyw fod eu marwolaeth yn gyson à'u ffydd wrth fyw.

Y rhai hyn oil. Y mae yr adnodau dilynol yn cyfeirio at Abraham a'i deulu. Felly hwynt-hwy (Abraham, Sara, Isaac, a Jacob,) a olygir yn yr adn. hon hefyd ; nid yr holl saint a enwyd o ddechreu y benod, gan eithrio Enoch.

Derbyn. Gwel nodiad ar x. 36.

0 bell eu gweled hwynt. Ymddengys i mi fod y darlun wedi ei gymmeryd oddiwrth ymdaith y patriarchiaid eu hunain, y rhai a drigent mewn pebyll ac a symudent o le i le. Byddai eu teithiau yn fynych o'r naill borf a fras i un arall ar draws tywod crasboeth heb ddwfr. Canfyddent yr addewidion yn y pellder, yn debyg fel y gwel teithwyr y llyn ymddang- osiadol yn yr anialwch, neu y coedydd o amgylch y ffynon wirioneddol, ao y rhoddant floedd o lawenydd, megis i foesgyfarch yr olygfa. Felly

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. 165

^hyfaroh, a chyf addef mai dieithriaid a phererinion oeddynt ar t adaear. Canys y mae y rhai sydd yn dywedyd y cyfryw 14 bethau, yn dangos yn eglur en bod yn ceisio gwlad. Ac yn 15 wir, pe buasent yn meddwl am y vdad honno, o'r hon y daeth- ent allan, hwy a allasent gael amser i ddychwelyd: Eithr yn 16 «wr gwfad well y niaent hwy yn ei chwennych, hynny ydyw,

Chrysostom, ond ei fod yn meddwl mai at fordaith y cyfeiria yr awdwr. yr hyn eydd yn llai tebygol.

A chredu. Rhaid gadael allan y geiriau hyn.

Dieithriaid a phererinion. Y mae y geiriau yn ddyfyniad, ond nid hollol gywir, o eiriau Abraham wrth feibion Heth, Gen. xxiii. 4. Ymresyma "yr awdwr fod ffydd Abraham a'i gymdeithion yn sylweddoli byd arall. Dyeithriaid a phererinion fyddent ymhob man ar wyneb y ddaear. Y gwahaniaeth rhwng y ddau air ydyw fod ' ' dyeithriaid " yn golygu nad ydynt yn ddinasyddion ar y ddaear, a "phererinion" ym golygu eu bod yn teithio trwy y byd hwn i'r wlad lie y maent yn ddinas- yddion.

AÜN. 14.— Y cyfry w bethau ; sef y cyfry w bethau ag a gydnabydd- odd Abraham wrth feibion Heth. Gallai dyn drigianu fel " dyeithrddyn " mewn drnas, fel y gwnai lliaws, er angraifft, yn Athen, y rhai a arosent yno yn wastadol dan amddiffyniad cyfraith y lie. Ond nis gallai y dyn hwnw fod yn berorin neu ymdeithydd. Galwai Abraham ei hun yn *' alltud," sef dyn yn perthyn i " dud " neu wlad " arall." Gan hyny, y mae ganddo ei wlad ei hun, gwlad ei dadau, yn ei olwg. Nid crwydro yn ddiddiwedd yw ei fwriad. Y mae ei air am dano ei hun yn dangos ei fod yn ceisio ei dadogaeth, hen wlad y teulu. A hwn yw ystyr priodol y gair ** gwlad" yn yr adnod hon. Nid ymfudo y maent o'r hen wlad i wlad newydd, ond ymdaith mewn gwlad sydd yn eiddo i eraill ar eu ffordd. i fyned i'w gwlad eu hunain.

Ceisio. Nid "ceisio yn yehwanegol," fel y cyfieitha Farrar ; ond 4t ceisio cyrhaedd," " ymgais at."

ADN. 15, 16. Y mae ymresrmiad yr adnodau hyn yn hollol yn null yr awdwr. Gesyd holl bwys ei ddadl i orphwys ar ystyr mi gair, fel y gwnayni. 4 ; iv. 7 ; ix. 1(3, 17 ; ix. 27, 28. Yn yr adnod flaenorol dywed fod yr ymdeithwyr hyn yn eglur yn ceisio cyrhaedd i ry w gartref neu dadogaeth. Os felly, paham nas gellir tybied cu bod yn hiraethu am ddychwelyd i'r hen wlad y daethent allan ohoni. sef Ur y Caldeaid neu Haran? Ateb yr awdwr ydy wy gallasentddychwelyd,pe dymunasent hyny . Gof alent geisio gwragedd i'w hetifeddion yn yr hen wlad ; ond ni chymmerent gyrph eu meirw i'w claddu yno. Y mae yn ddigon eglur nad oeddynt yn meddwl am ddychwelyd i Mesopotamia. Ond y mae ymresymiad yr awdwr yn adn. 10 yn fwy dyrus. Pa fodd y mae y ffaith nad oedd y patriarchiaid yn riymuno myned yn ol i Mesopotamia yn proü eu bod yn chwenych gwlad ncfol ? Onid profi y mae eu bod yn chwenych gwlad Canaan ddaearol ? Yr ateb (1) ydyw yr hyn a ddywed yr awdwr yn adn. 13, eu bod yn marvo mewn ffydd, heb dderbyn yr addewidion, eto yn credu. Y mae yr addewid iddynt yn bersonol, ac y mae pob un ohonynt yn dangos eu bod yn credu mewn byd arall a hanfodiad personol dyn ar ol marw. Y tebyg- olrwydd yw mai cymundeb y nefoedd a olygent wrth yr ymadrodd "eu casglu at eu pobl." Gwel Gen. xxv. 8 ; xlrn. 9 ; xlix. 18. (2) Fel y sylwa Hofmann, ni byddai gwlad Canaan yn " dadogaeth " (patris) iddynt hyd yn nod pe prynasai Abraham y cwbl ohoni. Mewn cyssylltiad â hyn

166 TE EPI8T0L AT YE HEBEEATD.

m nefol : o achos paham nid cywilydd gan Dduw ei alw yn

Dduw iddynt hwy : oblegid efe a barottôdd ddinas iddynt.

17 Trwy ffydd yr ofErymmodd Alsraham Isaac, pan ei profwyd:

a'i unig-anedig fab a offrymmodd efe, yr hwn a dderbyniasai

sylwer ar yrnresymiad yr awdwr yn y bedwaredd benod, lie y profe nad aeth plant Israel i mewn i'r orphwysfa a addawsai Duw iddynt, hyd yn nod dan Moses a Josua.

Nid uywilydd, &c. Y mae y teimlad oedd ynddynt o hiraeth am gartref a thadogaeth, ynglýn â'u penderfyniad diysgog i beidio dychwelyd i'w ben dadogaetb ddaearol, yn rbyngu bodd Duw gymaint, fel y mae efe yn ymhyfrydu mewn bod yn Dduw iddynt, yr hyn sydd yn cynwys, ymhlith benditliion eraill, mai efe yw eu patriarch, o'r hwn yr enwir yr holl dadogaeth. Ond oblegid cyssylltiadau daearol yr enw hwn dewisa yr awdwr ddyweyd fod Duw yn Dduw iddync. Ceir yn bur agos yr un syniad gan yr Apostol Paul (Eph. ii. 19) : " gan hyny, nid ydych mwyach yn ddyeithriaid ac ymdeithwyr, ond yr ydych yn gyd-ddinasyddion â'r saint ac yn deulu Duw." Gwel hefyd Eph. iii. 15, " y Tad, o'r hwn yr enwir yr holl dadogaeth." Y prawf fod eu hiraeth am dadogaeth yn rhyngu bodd Duw ydyw ei fod wedi parotoi dinas iddynt, sef y nefoedd, lie y cânt drigianu gyda phawb sydd yn dda o bob oes a chenedl.

A barotodd ; neu, " a sylfaenodd."

ADN. 17. Yr ofrYymodd. Y mae y ferf yn yr amseriad a arferir pan y mae cyfeiriad at dystiolaeth yr Hen Destament. Gwel nodiad ar i. 4. Yr ystyr ydyw ein bod yn cael yn yr Hen Destament i Abraham offryrnu Isaac. Yr oedd y weithred mor anhygoel fel y dymuna yr awdwr seilio yr hyn a ddywed ar dysfciolaeth uniongyrchol yr Ysgrythyr. Pan 8onia am offrwni Àbel, nid oes eisiau prawf o'r ffaith ; yr oedd crefyddol- rwydd ysbryd y dyn yn ei arwain yn naturiol i offryrnu. Yr hyn oedd eisiau ei brofi oedd mai trwy ffydd yr offrymodd. Ond gyda golwg ar waith Abraham yn ofiryniu ei fab, yr hyn sydd i'w brofi ydyw iddo wneyd y fath beth. Os gwnaeth, y mae yn sicr mai trwy ffydd y gwnaeth. Oblegid, yn gyntaf , yr oedd y weithred yn groes i deimlad naturiol tad ; yn ail, gwyddai Abraham hanes Abel, a deallai oddiwrth gosbedigaeth Cain y cysegredigrwydd a berthyn i fywyd dynol. Dywed rhai nas gallant gredu i Dduw osod ar Abraham y fath orchymyn. Ond y mae gekiau yr hanes yn Genesis a geiriau yr Epistol yn rhy eglur i ni allu gwadu y pèth, ac y mae yn haws credu fod Duw yn gorchymyn yr hyn na chaniata i Abraham ei wneyd na'i fod yn caniatau yr hyn na orchymyn. Ond caniata i bechod ddyfod i fod, er nas gall orchymyn iddo fod. Credaf hefyd fod y prawf a roddwyd ar ffydd Abraham yn hollol gymhwys iddo ef , pan yr oedd ei welediad ysbrydol yn fwy craff i wybod fod Duw yn gorchymyn nag yr oedd ei welediad moesol i benderfynu pa fath orchymyn sydd yn deilwng o Dduw. Mewn oesoedd diweddarach y mae cydwybod dynion wedi ei dysgyblu yn fwy na'u ffydd, ac y mae yn haws penderfynu beth sydd yn deilwng neu yn annheilwng o Dduw i'w orchymyn na sylweddoli fod Duw yn gorchymyn o gwbl. Am ei bod felly, galiwn deimlo yn sicr na rydd Duw y gorchymyn hwn byth niwy. Ond nid yw hyny yn profi na roddodd D»w y gorchymyn i Abraham.

Pan ei profwyd. Yr ystyr ydyw mai hon oedd y ffordd a ddewisodd Duw i'w brofi : " by way of'proẁig Äẃi."

A ofrrymodd ; yn hytrach, " a ymgymmerodd a'i offryrnu," neu, " yr oedd ar fedr ei offryrnu."

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. 167

yr addewidion: Wrth yr hwn y dywedasid, Yn Isaac y 18 gelwir i ti had. Gan gyfrif bod Duw yn abl ffw gyfodi ef o 19

Ei unig-anedig, hyny yw, yn yr addewid. Gwel Gen. xvii. 19. "Dy anwyl fab" ydyw cyfieithiad y Deg a Thriugain. Dyma un o'r ychydig fanau lie y mae awdwr yr Epistol yn cywiro y cyfieithiad hwn.

A dderbyniasai. Nid yr ystyr ydyw " a gafodd yr addewid," ond " a groesawodd," " a roddasai dderbyniad i'r addewid."

ADN. 18.— Y gelwir i ti had. Gall y geiriau olygu "y gelwir had i fod i ti." Ond gwell yw golygiad Delitzsch a Westcott, " y bydd dy had yn cael yr enw had Abraham;" hyny ydyw, yn Isaac y byddai olyniaeth yr addewid yn rhedeg.

ADN. 19.— I'w gyfodi ef; yn fwy llythyrenol a gwell, "i gyfodi.'^ Felly y cyfieitha yr Esgob Morgan : "gan ystyried y galle Duw gyfodi

Írhai] o feirw." Ond aeth yr Esgob Parry yn ol at gyfieithiad yr Ssgob Davies. Credai Abraham yn ngallu Duw i adgyfodi dyn o farw, os rhaid hyny i gyflawni ei addewid. Ni ddywedir yn hollol eglur yn Genesis fod Abraham yn disgwyl i Dduw godi Isaac o farw. Y mae yn anhawsder gwirioneddol gwybod ymha le y cafodd yr awdwr y syniad fod Abraham yn cyfrif ar allu Duw i gyfodi o feirw. Tebygol ydyw mai esboniad yr awdwr ar eiriau Abraham wrth Isaac a gawn yma: " Fy mab, Duw a edrych iddo ei hun am oen y poeth-offrwm." Ar yr olwg gyntaf , ymddengya geiriau Abraham fel yn cynwys y byddai i Dduw arbed Isaac, cyn i'r gyllell ddisgyn, a dangos yr hwrdd wedi ei ddal erbyn ei gyrn mewn dyrysni. Ond esboniad arall a rydd awdwr yr Epistol, sef fod Abraham yn bender- fynol o ladd ei fab ac heb feddu y gobaith lleiaf yr arbedid ef , ond ei fod, er hyny, yn credu yn gryf o hyd y cai efe had o Isaac ; ac, i gysoni y ddau beth, meddyliodd yr adgyfodai Duw Isaac, fel na byddai, er marw, yn boeth-offrwm, ond yr edrychai Duw ei hun am oen yr hwn, ar ol i Dduw adgyfodi Isaac o farw, y caniateid i Abraham ei ladd a'i losgi yn lludw, fel yr oedd yn rhaid gwneyd â phob poeth-offrwm. Yr oedd priodoldeb neill- duol mewn poeth-offrwm ar yr achlysur. Nid pech-aberth ydoedd y poeth-offrwm. Nid ei amcan ydoedd adfer dyn euog i gymmeradwyaeth a chymdeithas Duw ; yn hytrach cydnabyddiaeth oedd o ddiolchgarwch am waredigaeth, ac o hunan-gyflwyniad i Dduw. 0 dan y gyfraith, dilynai hwn v pech-aberth ac offrymid ef o flaen yr aberth hedd. "Golygai," meddEdersheimfTAe Temple, tud. 99), "gymmeradwyaeth gyffredinol ar sail cymmeradwyaeth neillduol cyn hyny, a gelwir ef yn gywiryn aberth defosiwn a mawl." Meddwl Abraham, gan hyny, oedd y gofalai Duw am adgyfodi Isaac ar ol ei ladd a chyn ei losgi yn lludw, ac y darparai hefyd oen i fod yn boeth-offrwm yn lie Isaac, pan y byddai adgyfodiad Isaac ei hun yn ychwanegu at destynau moliant Abraham. O ba le y cawsai efe ef hefyd mewn cyffelybiaeth. Y mae tri anhawsder yn y geiriau hyn : yn gyntaf, ystyr y geiriau " o ba le ; " yn ail, ystyr y gair a gyfieithir "cawsai:" yn drydydd, ystyr y geiriau " mewn cyffelybiaeth." 1. Gellir cyfieithu y gair hothen un ai "o ba le " ai " oherwydd paham." Os dewisir y cyfieithiad cyntaf, yr ystyr ydyw i Abraham dderbyn Isaac o feirw, hyny yw, fod ei dderbyniad cystal âg adgyfodiad. Os dewisir yr ail gyfieithiad, yr ystyr ydyw mai oherwydd ei ffydd y derbyniodd Abraham Isaac yn ol. Nis gellir penderfynu pa un o'r ddau olygiad ydyw y goreu hyd nes yT ystyriwn y geiriau eraill. 2. Gellir cyfieithu y gair ekomisato un ai " cawsai" (y mae yn syndod fod Alford yn gwadu hyn ; mewn gwirionedd, y mae elaîêthê yn yr adnod fiaenorol yn angraifft o'r un peth,) ai ynte "cafodd." Os dewisir y cyntaf,

168 YR EPISTOL AT YE HEBREAID.

feirw; o ba le y cawsai efe ef hefyd mewn cyffelybiaeth.

u cawsai," at enedigaeth Isaac yn henaint ei rieni y cyfeiria yr awdwr. Y mae mwy i'w ddyweyd dros y golygiad hwn nag a ymddengys ar yr olwg gyntaf , yn enwedig yn y ffurf yn yr hwn y cyflwynir ef gan Westcott, sef fod geni Isaac pan yr oedd ei dad wedi marweiddio yn cynwys gwers ddwyf ol ac ystyr ysbrydol, a bod cofio hyny yn cynorthwyo Abraham i offrymu ei fab mewn ufudd-dod i Dduw. Ond bydd ein barn ar y golyg- iad hwn yn troi ar ystyr yr ymadrodd " mewn cyffelybiaeth. " 3. Gellir cyfieithu en paraboìë un ai "mewn cyffelybiaeth" ai "mewn perygl." Gorfodir fi i wrthod yr ail ystyr, nid am na cheir y gair yn golygu "perygl," ond am ei bod yn anmhosibl cymhwyso yr ystyr hwn at enedig- aeth Isaac, ac yn annhebygol iawn y buasai yr awdwr yn galw offrymiad Isaac yn " berygl." Eglura Liinemann y gair bron i'r un perwyl : "ami Abraham beryglu bywyd neu roddi i fyny Isaac, efe a'i cafodd yn ol." Ond, pan y mae y gair gwreiddiol (yn y ffurf o ferf) yn golygu "peryglu," awgryma bob amser y syniad o ddamwain neu anystyriaeth, yr hyn sydd yn cau allan yr ystyr yn hollol yn yr adn. hon. Eithr, er derbyn y cyfieithiad arall, sef " mewn cyffelybiaeth," y mae yr ystyr eto yn amheus. Cyffelybiaeth i ba beth ? Ai yr ystyr yw i Abraham dderbyn Isaac cystal ág o feirw ? Derbynir y golygiad hwn gan rai o'r esbonwyr goreu, megis Calvin, Beza, Bleek, De Wette, Delitzsch, Hofmann. Ond yr wyf yn methu cael un esampl o'r geiriau gwreiddiol yn cael eu defnyddio yn yr ystyr hwn. Heblaw hyny, fel y sylwa Westcott, nid oes pwynt mewn dyweyd i Abraham dderbyn Isaac cystal âg o farw, newydd ddyweyd fod Abraham^ ei hun yn cyfrif fod Duw yn abl i'w gyfodi o feirw yn wirion- eddol. Yn wir, y mae rhai esbonwyr yn newid ychydig ar ffurf y golyg- iad, trwy ddyweyd mai yr ystyr ydyw fod Abraham wedi derbyn Isaac, nid o feirw, ond fel cyffelybiaeth o'i adgyfodiad o feirw. Onid yw hyn braidd yn annaturiol ? Pa fodd y gallai ysgrifenwr mor gywir a phryd- ferth eirio fel hyn: "o feirw efe a'i derbyniod ef mewn cyffelybiaeth o'i adgyfodiad o feirw ?" Yn y fan hon y daw golygiad Westcott, a grybwyll- wyd uchod, dan ystyriaeth, sef fod ystyr ysbrydol yn gorwedd o dan amgylchiadau genedigaeth Isaac, ac mai ar Moriah y daeth yr ystyr ysbrydol i olwg Abraham. Os felly, rhaid mai yr ystyr ysbrydol oedd fod cofio geni Isaac yn marweidd-dra ei rieni yn galluogi Abraham ar Moriah i gredu y gallai Duw ei adgyfodi hefyd o feirw. Y mae hwn yn esboniad prydferth. Yr wrthddadl yn ei erbyn ydyw mai nid ystyr ysbrydol fuasai hyn. Xi fuasai ond fod un amgylchiad yn help i gredu fod amgylchiad arall yn bosibl. Am y rheswm hwn ofnwyf mai gwrthod y golygiad sydd raid i ni. Md heb betrusder, ond ar ol ystyriaeth, tueddir fi i dderbyn y golygiad a grybwyllir, gydag esboniadau eraill, gan Chrysostom ac a fabwysiedir gan Primasius, Luther, a rhai eraill, mai yr ystyr ydyw i Abraham dderbyn Isaac yn ol fel cyffelybiaeth o Grist. O'r blaen cyflawniad addewid yn unig ydoedd Isaac ; o hyn allan daeth i fod yn gysgod o gyflawniad perffeithiach o'r addewid yn marwolaeth ac adgyfod- iad Crist. Fel gwobr am ei ffydd yn offrymiad Isaac, derbyniodd Abraham ddatguddiad o'r Messia. Rhydd y golygiad hwn reswm digonol dros y prawf rhyfedd ar ffydd Abraham. Yr oedd y prawf ynddo ei hun yn barotoad ar ysbryd Abraham i dderbyn datguddiad o Grist. Golyga Ebrard mai cyffelybiaeth adgyfodiad y meirw yn gyffredinol oedd yr amgylchiad i Abraham. Ond, os cyffelybiaeth o gwbl, cyffelybiaeth ydoedd o'r Crist hwnw na byddai adgyfodiad y meirw hebddo ddim ond adgyfodiad i f am. Golyga Uiaws o esbonwyr mai yr ystyr ydyw fod Isaac

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. 169

Trwy ffydd y bendithiodd Isaac Jacob ac Esau am bethau a 20 fyddent. Trwy ffydd Jacob, wrth farw, a fendithiodd bob un 21 o feibion Joseph ; ac a addolodd a'i bwys ar ben ei ffon.

wedi marw yn gyffelybiaethol trwy fod yr hwrdd yn marw yn ei le. Ond nid marw mewn cyffelybiaeth a ddywedir, ond i Abraham ei gael yn ol mewn cyffelybiaeth. Yr ydym erbyn hyn yn barod i ateb y gofyniad cyntaf a derbyn y cyfieithiad "o ba le," sef o feirw, yn hytrach na'r cyfieithiad " oherwydd paham."

ADN. 20.— 0 flaeny geiriau "am bethau a fyddent," rhaid rhoddi imewn y gair "ie," neu " hyd yn nod." Yr ystyr ydyw fod bendith Isaac yn sicrhau y cyflawniad. Y fendith hono fyddai yn cael, ie, ei chyflawni.. Yr hyn sydd yn hynod yn yr amgylchiad ydyw fod y can- fyddiad prophwydoliaethol a briodola yr awdwr i ffydd Isaac yn cyd- fodoli âg anallu i ganf od yr hyn oedd bresenol ger ei fron, f el y twyllwyd ef i dybied mai Esau oedd Jacob. Y mae hyn yn rhoddi mwy o ystyr i'r geiriau "ie am bethau a fyddent," hyny ydyw, pethau yr oedd yn rhaid iddynt ddyf od oddiamgylch, ie, trwy gamgymmeriad Isaac ; ac yn profi mai trwy ffydd, yn cynyrchu ysbrydoliaeth mewn un cyfeiriad yn unig, ac nid trwy eangiad goruwchnaturiol ar ddealltwriaeth ei feddwl ymhob cyfeiriad, yr oedd Isaac yn rhoddi y fendith. Gwel Gen. xxvii. 33 ; Rhuf . ix. 7 -13.

ADN. 21.— Yr oedd Isaac, er ei ffydd, wedi camgymmeryd wrth roddi y fendith i'w ddau fab. Eto, trwy ei ffydd, gwnaeth fel yr oedd Duw wedi bwriadu. Yn nesaf crybwylla yr awdwr Jacob, yr hwn, trwy ffydd, yn fwriadol a osododd yr ieuangaf yn He yr henaf o ddau fab Joseph, pan yn eu bendithio, a daeth ei fendith yntau i ben ; oblegid Ephraim oedd y mwyaf o'r llwythau a gyfansoddent frenhiniaeth Israel yn nyddiau Rehoboam. Yn Ephraim yr oedd Sichem, prif ddinas Jeroboam, a Bethel, lie y gosododd efe ei offeiriaid. Gwel 1 Bren. xii. 25, 28.

Wrth farw. Gen. xlviii. 21. Yr oedd ei ffydd yn fyw, er ei fod yn marw.

Bob un. Rhoddodd Jacob i bob un o'r ddau lane ei fendith neillduol ei hun. Gwel Gen. xlviii. 1 6.

A addolodd. Amgylchiad arall, yr hwn a ddygwyddodd ychydig cyn bendithio meibion Joseph. Gwel Gen. xlvii. 31. Gofynasai Jacob i'w fab Joseph ei gladdu ef , nid yn yr Aipht, ond gyda'i dadau, mewn ffydd j byddai i'w hiliogaeth ddychwelyd i dir yr addewid. Pan dyngodd Joseph iddo y gwnai fel y gorchymynasai, dywedir i u Israel ymgrymu ar ben y gwely ;" hyny ydyw, mewn addoliad. Esbonia Hofmann a Delitzsch mai yr ystyr ydyw i Jacob droi ei wyneb tua phen y gwely ar agwedd dyn yn gweddio. Yr wyf ya cyfeirio at hyn er mwyn dangos fod yr hanes, hyd yn nod yn y gwreiddiol, yn cyfleu y syniad fod Jacob wedi addoli. Os felly, nid oes ncmawr o bwys yn y ffaith— canys y mae yn ffaith fod yr awdwr yn dyfynu cyfieithiad anghywir y Deg a Thriugain yn y geiriau " â'i bwys ar ben ei ffon." Ystyr yr Hebraeg, fel y gwelir yn y cyfieithiad Cymraeg, ydyw i Jacob addoli a'i bwys ar ben y "gwely. Ond dygwydd mai yr un cydseiniaid sydd yn y geiriau Hebraeg am " wely" (mittah) ac am "ffon" (mutteh). Camgymmerodd y Deg a Thriugain y naill amy Hall, os yw darlleniad y Masora yn gywir. Ni chywirodd awdwr yr Epistol y camgymmeriad. Ond, yn ol y ddau ddarlleniad, addolodd Jacob, wedi i Joseph addaw ei gladdu yn Nghanaan, ac yn hyn yr oedd ei ffydd yn dyfod i'r golwg. Gwel Lhjfr Genesis gyda fcodiadau, gan R. Humphreys, nodiad ar xlrii. 31. Yn nghyfieithiàd Jerom o'r Epistol ac

170 YE EPISTOL AT YE HEBEEAID.

22 Trwy fiydd, Joseph, wrth farw, a goffaodd am ymadawiad

23 plant Israel ; ac a roddodd orchyrnyn am ei esgyrn. Trwy ffydd, Moses, pan anwyd, a guddiwyd dri mis gan ei ri'eni, o achos eu bod yn ei weled yn f achgen tlws : ac nid ofnasant

yn yr hen gyfieithiad Lladin oedd o flaen hwnw, y darlleniad ydyw " efe a addolodd ben ei ffon," ac ymresyma rhai esbonwyr perthynol Vi Eglwys Babaidd oddiwrth hyn fod addoli delwau yn gyfreithlawn .' Y darlleniad hwn oedd hefyd gan Chrysostom, a golyga efe a'i efelychwyr fod Jacob yn talu gwarogaeth i Joseph a'i deyrnwialen ac felly yn cyflawni breuddwyd Joseph. Gofyna amryw esbonwyr paham nad enwasai yr awdwr amgylch- iadau eraill yn hanes Jacob sydd, fe ell id meddwl, yn dangos nrwy o ffydd na'r ddau anigylchiad a grybwylla. Yr ateb yw fod yr awdwr yn cyfyngu ei hun, wrth son am Isaac. Jacob, a Joseph, at en ffydd yn nghyflawniad yr nn addewid arbenig a roddasai Duw i Abraham am yr etifeddiaeth yn ngwlad Canaan.

ADN. 22. Ymadawiad; hyny yw, o'r Aipht. "Exodus " ydyw y gair.

A goffaodd. Ymhob man arall yn y Testament Newydd, oddieithr efallai adn. 15, golyga y gair gwreiddiol nid " coffau i eraill," ond " cofio," ac felly y cyfieithia rhai ef yn y lie hwn. Ond gall y gair olygu " coffau ;" a chan fod yr hanes yn adrodd i Joseph goffau i'w frodyram yr exodus, mwy naturiol ydrw ei ddarllen felly yn yr adnod hon. Gwel Gen. 1. 21—26: Exod. xm. Ì9; Jos. xxiv. 32.

ADN. 23— ADN. 28.— Ffydd Moses. Yr hyn a esyd ddyddordeb neillduol ar yr adnodau hyn ydyw mai yma yn unig y cawn. yn y Testament Xewydd, gipdrem ar Moses fel dyn. Ymhob man arall Moses fel swyddog aruchel, fel cynrychiolydd cyfundrefn, sydd yn y golwg; ac, oblegid hyny, saif Moses a Christ, gan mwyaf, yn wrt'hgyferbyniol i'w gilydd. " Y gyfraith a roddwyd trwy Moses ; eithr y gras a'r gwirionedd a ddaeth trwy ìesu Grist." Ond yn yr adnodau hyn desgrinr sylfaenydd yr hen gyfamod fel yn byw trwy ffydd yn y .yfamod newydd. Hyd yn nod yn y rhan gyntaf o'r Epistol, nid cyferbyniad a grybwyllir rhwng Moses a Christ, ond tebygolrwydd. Yn unig dangosir f od y teWgobrwydd yn eu ffyddlondeb yn troi yn gyferbyniad, oherwydd fod Crist yn Fab, a Moses yn was. Ymhellach, y mae yn nodedig na sonia yr awdwr am yr angreifftiau mwyaf enwog o ffydd yn ei hanes, megis ei fynediad i mewn gerbron Pharaoh, ei weddi ar ael y bryn â dwylaw dyrchaf edig dros luoedd Israel oedd yn brwydro yn y dyffryn, a'i farwolaeth ar ben Pisgah. Y mae dau beth yn rhoi cyfrif am hyn. Y naill ydyw fod yr awdwr yn dilyn ymlaen gyda'r addewid am wlad Canaan., ac felly yn gadael allan bob amgylchiad nad yw yn cyfeirio at gyflawniad o'r addewid yma, fel y gwnaeth hefyd wrth ddarlunio ffydd Isaac, Jacob, a Joseph. Y llallydyw ei fod yn desgrifio ffurfiad a thyfiant crefydd bersonol Moses, yn nghynydd ei ffydd yn addewid Duw am waredigaeth plant Israel. Yn ol hyn, gallwn ranu yr adnodau fel y canlyn : 1. Ffydd rhieni Moses yn canfod awgrymiad dwyfol yn nhlysni y bachgen (adn. 23). 2. Ffydd Moses ei him yn gwrthod ac yn dewis (adn. 24 26). 3. Ffydd Moses yn ymwroli mewnprawf (adn. 27). 4. Ffydd Moses yn gwaredu Israel (adn. 28).

ADN. 23.— Ei rieni. Ỳn ol Exod. ii. 2 mam Moses a'i cuddiodd ef. Y Deg a Thriugain sydd yn dyweyd " hwy." Dilyna awdwr yr Epistol y cyfieithiad hwnw, fel arfer.

Yn fachgen tlws; yn ol Stephan "tlws i Dduw" (Act. vii. 20). Nid oes un amnaid pellach na hyn yn yr Ysgrythyr fod tlysni y plentyn

YR EPI9T0L AT HEBRBAID. l7l

orchymyn y brenhin. Trwy ffydd, Moses, wedi myned yn 24 f awr, a wrthododd ei alw yn fab merch Pharaoh ; Gan ddewis 25 yn hytrach oddef adfyd gyd â phobl Dduw, na chael mwyniant

yn wyrthiol, nee yehwaith fod ei dlysni wedi ei roddi gan Dduw fel arwydd ìeu insel y cyfamod. Phäo a Josephus sydd yn dyweyd y naill a'r Hall. Eto dy wed yr awdwr fod ihiwii Moses yn ei guddio mewn ffydd ; yr hyn, fn ol ei eglurhad ef, sydd yn cynwys mai nid ofn y brenhin a barodd iddynt ei guddio. Äh aid, gan hyny, eti bod rywfodd yn deall fod rwaredigaeth Israel ger llaw ac mai y plentyn hwn fyddai y gwaredydd. Sid oes un esboniad arall yn bosibl ond fod tlysni rhyfedd y bachgen yn «ael ei gymmeryd ganddynt fel arwydd oddiwrth Dduw. Angraifft ydoedd < allu flydd i lunio sacrament iddi ei hun, megis â nerth greddf . Yn wir 3 mae gweithredoedd penaf ffydd yn fynych yn dechreu mewn ymbalfalu fcl hyn yn y tywyllwch. Ond nis gwn am well esampl o'r peth, oddieithr eallai cychwyniad a pharhad y sacrament o fedydd babanod yn yr íglwys Gristionogol.

ADN. 24.— Yn fawr ; hyny ydyw, w«di tyfu i fynu. Yr hyn a dlywedir yn Exod. ii. 11 ydyw i Moses fyned allan at ei frodyr. Felly y djwed Stephan hefyd, Act. vii. 25. Esboniad y traddodiad Iuddewig ar «i fynediad allan i ymweled â'i frodyr ydyw yr hyn a ddywed yr awdwr. eifod yn gwrthod ei alw yn fab merch Pharaoh. Ond y mae yn eglur ei foi yn esboniad cywir. Nis gallai ymddygiad o'r fath ar ran mab merch Pharaoh olygu dim yn amgen. Daethai Moses erbyn hyn i'r groesffordd, lie y mae yn rhaid dewis a gwrthod ac, mewn ychydig funudau, benderfynu cyfiiriad yr holl fywyd. Eu hadeg i ddewis ac i wrthod oedd wedi dyfod belhch i'r Hebreaid Cristionogol hyn yr ysgrifenai yr awdwr atynt. Dyódorol ydyw olrhain y syniad hwn am y ddwy ffordd a'r ddau borth yn llyfnu boreuaf yr Eglwys, megis yn " Nysgeidiaeth y Deuddeg Apostol," yn jr Epistol a elwir ar enw Barnabas, ac yn "Y Bugail." Ond yn nanet Moses yr oedd pwysigrwydd arbenig yn y dewisiad a wnai y dyn. Safairhwng crefydd deuluaidd yr oes Batriarchaidd a chrefydd genhedl- aethol yr oesau oedd i ddilyn. Rhwng y ddwy ffurf yma ar grefydd daw crefydd bersonol am funud megis i'r adwy ; y mae y cyfnewidiad o'r teulu i'r genedl yn troi ax bouderfyniad personol un dyn.

AEN". 25. Yn yr adn. hon dywedir beth oedd un o'r rhesymau a gymhelai Moses i wrthod ei alw yn fab merch Pharaoh. Gwrthod bod yn Aiphtntt, a dewis bod yn Hebrewr, yr oedd. Gallai Joseph fod y ddau. Ond yr oedd pethau wedi newid erbyn amser Moses. Yn awr, gwaith a chenadvri ddwyfol Moses oedd ffurfio cenedl sanctaidd. Pan yr oedd efe yn ddysjedig yn holl ddoethineb yr Aiphtiaid ac yn nerthol mewn geiriau a gweithredoedd, meddianwyd ef gan y drychfeddwl hwn o wneuthur cenedl ytbrydol o drueiniaid y caethiwed. Gwel awdwr yr Epistol fwy yn ymddygiad Moses nag a wel Stephan. Nid tosturi at ei frodyr yn unig a'i medditnai, ond y drychfeddwl mai hwynt-hwy oedd " pobl Dduw," Duw Abnham, Isaac, a Jacob ; ac felly nid eu gwaredigaeth yn unig oedd yn ei fryd ond eu cysegriad i Dduw. Oblegid hyn, cysegrodd ei hun, i ddechreu ; ymgadwodd oddiwrth fwyniant pechod ; ymdeimlai â'r ffolineb sydd mewi pleser munud awr a gogoniant " dros amser: " a dewisodd adfyd pratnol er mwyn y gobaith o sefydlu cenedl i etifeddu addewidion diddarfod Dxw i Abraham. Dilynodd esampl Joseph, yr hwn '"a wrthod- odd " bechu vn erbyn Duw. Gen. xxxix. 8.

Pechod. Gwell ydyw peidio cyfyngu y cyfeiriad at y pechod neillduol o wadu pobl Dduw. Y mae y geiriau "mwyniant dros amser " yn dangoa

172 YB EPISTOL AT YE, HEBEEAID.

26 pechod dros amser ; Gan farnu yn fwy golud ddirmyg Crist, na thrysorau yr Aipht : canys edrych yr oedd efe ar daledig-

27 aeth y gobrwy. Trwy ffydd y gadawodd efe yr Aipht, heb

mai yr ystyr ydyw fod y gobaith oedd wedi ei gynyrchu yn enaid Moses y byddai iddo waredu Israel yn ymddibynu ar grefydd bersonol, ymgysegriad ysbrydol, cymmeriad sanctaidd, Moses ei him, yn nghanol annuwioldeb j llýs.

ADN. 26. Yma dywed yr awdwr beth oedd yr ail reswm paham j gwrthododd Moses ei alw yn fab merch Pharaoh ; ond y mae hwn yi rheswm hefyd dros y rheswm cyntaf : " gan farnu ; " neu, yn hytrach "ganei fod yn barnu." Y syniad o " bobl Dduw " barodd iddo wrthoi bod yn Aiphtiwr ; a'r syniad am Grist osododd werth annhraethol ar r gobaith oedd ynddo am waredu ac arwain pobl Dduw i wlad yr addewid.

Ddirrnyg Crist ; neu, yn well, " waradwydd Crist." Ÿ mae amryv olygiadau ar ystyr y geiriau. (1) Barna lliaws o esbonwyr mai yr yst;r ydyw "gwaradwydd er mwyn Crist." (2) Darllena rhai, " gwaradwytd a fydd yn gyffelyb i, ac yn gysgod o, waradwydd Crist." (3). Y golygnd gor«u o lawer ydyw fod yr awdwr yn priodoli holl waradwydd yr eglwy? i Grist ei hun yn bersonol. Cyfeiria yr esbonwyr yn hollol gywir at xiii. 13; 2 Cor. i. 5 ; Col. i. 24 ; Esaiah lxiii. 9 ; Act. ix. 4; a Rhuf . xv. 3. Y maeni hynod morllwyr y diflanodd ymhlith duwinyddion Lloegr yr athrawia-th am bresenoldeb personol Crist yn ei eglwys cyn yr ymgnawdoliad. lor arwynebol ydyw esboniad Macknight, TThitby, a Scott, er angraifft, a- yr adn. hon ! Golygant mai yr ystyr ydyw fod Moses yn barnu yn fwy g«lud y dirmyg a deflid arblant Israel am ddisgwyl i'r Messiah gyfodi o'u jlith nwy na thrysorau yr Aipht.

Drysorau. Gair desgrifiadol iawn o gyfoeth yr Aipht, o'r hyn leiaf yn ac ar ol dyddiau Joseph. Gwel Gen. xli. 48 ; xlvii. 13—26. Braidd nad allem y styried y gair ' ' trysori ' ' f el arwyddair yr Aiphtiaid fa. eu bywyd a thuag at eu meirw.

Daledigaeth y gobrwy ; mewn cyferbyniad i'r mwynian: dros amser, ac mewn cyfeiriad at y gair "trysorau." Gosododd yntau «i fryd ar drysori. Y wobr, mi a dybiaf, oedd y dedwyddwch a'r anrhydedd o ffurfio y genedl sanctaidd a'i harwain i wlad yr addewid yn rghyd â chyflawniad yr addewid yn ysbrydol a thragwyddol yn Nghrist. T mae y geiriau " gwaradwydd Crist" yn ei gwneyd yn angenrheidiol cTnwys y cyflawniad ysbrydol yn gystal â'r cyfiawniad tymhorol.

ADN. 27. Pa un ai at ymadawiad Moses o'r Aipht pan 3 ffôdd i Midian ai ynte at ei ymadawiad olaf pan yr arweiniodd blant Is ael trwy y Môt Coch y cyfeiria yr awdwr ? Y mae y rhesymau canlytol yn fy nhueddu i gredu mai y cyntaf a olygir. 1. Sonir am yr ymadariad trwy y Mòr Coch yn adn. 29, ac nid ydyw yn debygol yr ail adroddai yrawdwr yr un amgylchiad, yn enwedig pan y dygir i mewn rhwng y ddau idroddiad gyfeiriad at amgylchiad arall a ddygwyddodd cyn yr ymadaviad trwy y mor. 2. Y mae y gair kateh'pe?i, yr hwn a gyfieithir yn rlagorol yn y Bibl Cymraeg, " gadael," ac yn y Bibl Saesneg (yr hen gyfeithiad a'r diwygiedig), "forsook," yn golygu (1) ymadawiad un dyn, acnid arwain cenedl allan, ac (2) ymadawiad dyn sydd yn rhoi i fyny bob jobaith am gynawni ei fwriad. Wrth ffoi i Midian, yr oedd Moses yn gadsel ei genedl, yn gadael ei waith, ac yn cilio i unigedd Midian. Dyma yn tollol ystyr y gair. 3. Y mae ei ymadawiad i Midian mor bwysig yn lanes crefydd bersonol Moses fel nas gallaf yn hawdd ddychymygu yr awdwr yn ei droi heibio yn ddisylw ; ac, fel y eylwyd uchod/hanes "crefydd rersonol y dyn a

YR EPISTOL AT YE HEBEEAID. 173

ofni Hid y brenhin: canys efe a ymwrolodd fel un yn gweled yr anweledig. Trwy fFydd y gwnaeth efe y pasc, a gollyngiad 28

iydd yr awdwr yn yr adnodau hyn. Can belled ag y mae a fyno ffydd Moses â'r ymadawiad trwy y Môr Coch, cynwysir hyny yn yr hyn a ddywedir am y pasg a gollyngiad y gwaed yn yr adn. nesaf . Wedi i Moses ddewis ei yrfa, rhaid ei gymhwyso trwy brawf i'w waith. Anfonwyd ef i Xidian, fel yr arweiniwyd yr Iesu i'r anialwch a Phaul i Arabia, ac, yn wir, fel yr anfonwyd plant Israel i gaethiwed yr Aipht ei hun. Yr oedd ei gydwybod wedi defFro, a drychfeddyliau mawrion yn llanw ei ysbryd. ( Ond yr oedd yn ddiffygiol mewn gwroldeb, fel y mae dynion o syniadau eingfawr yn fynych. I'r olwg allanol, nid. ffydd a welir yn ei ffoedigaeth, okd ofn. Gwel Exod. ii. 14, 15. Eto y mae yn hollol sicr nad oedd yr holl oin ac anobaith ac anghrediniaeth ond gwedd ranol y teimlad sydd, yn ei gjfanrwydd, yn ffydd fawr. Efe a ofnodd ; eto ni ofnodd. Ofnodd nes ff«i ; ond nid ofnodd nes ymostwng a rhoi i fyny y drychf eddwl gogoneddus a'i meddianasai. Ymddygodd fel dyn yn tybied na ddaeth yr amser eto. Yi oedd eisoe6 wedi gwneyd prawf ar yr IJebreaid trwy ladd yr Aiphtiwr un diwrnod ac ymgymmeryd â bod yn f arnwr ar ei frodyr y diwrnod nesaf. Ei amcan yn hyn, mi a dybygwn, oedd edrych a oedd y bobl yn addfed i'w dderbyn fel eu harweinydd. Dyna esboniad Stephan ar yr amgylchiad : "Efe a dybiodd fod ei frodyr yn deall, fod Duw yn rhoddi iachawdwriaeth iddynt trwy ei law ef ; eithr hwynt-hwy ni ddeallasant" (Act. vii. 25). Nid oedd y bobl yn gymhwys i'w gwaredu eto, ac nid oedd yntau ychwaith yn gymhwys i fod yn arweinydd iddynt. Yr oedd yn credu gormod ynddo ei ilhun. Rhaid oedd ei anfon i neillduaeth, ifyfyrio agweddio. Yn yr Aipht yr oedd wedi dysgu ffydd Jacob a ffydd Joseph ; yn yr anialwch efe a ddysg hefyd ffydd Abraham a ffydd Isaac. Ac yno, " efe a ymwrolodd fel un yn gweled yr anweledig." Gofalwn rhag ychwanegu y'gair "brenhin," fel pe amcanai yr awdwr gyfcrbynu Pharaoh a'r Brenhin Anweledig. Yr ystyr, yn hytrach, ydyw i Moses weled Duwyn y berth oedd yn llosgi yn dân ac heb ei difa. Y datguddiad rhyfedd a gafodd Moses o Dduw fel Duw ei Dad, Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob, fel " Ydwyf Yr Hwn Ydwyf,1' a'i gwnaeth, ar ol deugain mlynedd o barotoad ar ei ỳsbryd ac ar ei syniadau, yn arweinydd a gwaredwr i'w bobl.* ' ' Gweledydd ac edrych wr ar Dduw " ydyw yr enw arbenig a rydd Philo ar Moses.

Fel un yn gweled; yn hytrach, "fel yn gweled," hyny ydyw, gan ei fod yn gweled.

ADN. 28.— Gwel Exod. xn. 1—28.

Gwnaeth; ynllythyrenol, "y mae efe wedi gwneyd," neu yn hytrach, " wedi cadw." Golyga amseriad y ferf fod y pasg a thaenelliad y gwaed yn ddefod lefydlog yn Israel hyd ddyddiau yr awdwr.

Gollyngiad; yn hytrach, "taenelliad." At roddiad y gwaed ar y ddau ystlysbost ac ar gappan drws y tai y cyfeirir yma. Y mae ffydd Moses wedi ei pherffeithio. Yr oedd y pasg cyntaf hwn a thaenelliad y gwaed yn atoerth ac yn sacrament, trwy y rtiai y cysegrwyd y genedl i Dduw ar sail cymod a maddeuant. Rhaid cymmeryd i mewn y syniad hwn yn ystyr y gelriau. Nid digon ydyw dywedyd fod Moses wedi gweithredu ffydd yn ffyddlondeb Duw i beri i'r angel dinystriol fyned heibio i dai yr Israeliaid ; oblegid gallai hyny fod yn wir am haws heblaw yr arweinydd,

* Wedi ysgrifenn yr uchod, pwelais fod Philo yn rhoddi yr un esboniad ar ffnedifmeth Mosej i Midian. Y mae hyny yn cadarnhau fy meddwl fod y golygiad yn gywir.

174 YR EPISTOL AT YR HEBREATD.

y gwaed, rhag i'r hwn ydoedd yn dinystrio y rhai cyntaf-

29 anedig gyffwrdd â hwynt. Trwy ffydd yr aethant trwy y môr eoch, megis ar hyd tir sych : yr hyn pan brof odd yr Aiphtiaid,

30 boddi a wnaethant, Trwy ffydd y syrthiodd caerau Jericho,

31 wedi eu hamgylchu dros saith niwmod. Trwy ffydd nl ddifethwyd Rahab y buttain gyd a'r rhai ni chredent, paa

32 dderbyniodd hi yr ysbiwyr yn heddychol. A pheth mwy i

ac nid oedd eisiau y pasg fel aberth i sicrhau y dyogelwch hwnw. Ord cysegrwyd y genedl trwy aberth. Y mae yn sicr fod y pasg yn aberth yn Israel hyd nes y daeth "em pasg ni" i gael "ei aberthu drosom n." ar y groes. Yr ydoedd yn sacrament seiliedig ar aberth. Ac yn ei sjl- weddoliad o hyn gy da golwg ar y genedl y gweithredai ffydd Moses, par y gwnaethpwyd ef o hyn allan yn arweinydd diofn a llwyddianus i bobl Dduw.

ADN. 29. Gwel Exod. xiv. 31, "Aca gredasant i'r Arglwydd ac i'w was ef, Moses," Salm cvi. 12. Y mae yr adnod hon yn cyfiawnhau sjlw "Westcott : "The great leader, like Abraham, communicated to others the Faith by which he was inspired."

Yr hyn; yn well, fel y cyfieitha yr Esgob Davies, "yr hwn," sef y môr; yn llythyrenol, " ar yr hwn pan wuaeth yr Aiphtiaid bra wf." Y mae y gair a arferir yn yr adn. gyda golwg ar blant Israel yn golygu iddynt iyned trwodd ar unwaith, heb betrusder ; tray golyga yr ymadrodd a ddefnyddir am yr Aiphtiaid eu bod yn petruso am amser, yna yn gwneyd prawf yn ochelgar.

Boddi; yn hytrach, " fe'u llyncwyd i fyny." Yr im gair sydd am angau yn 1 Cor. xv. 54.

ADN. 30. Y mae yr awdwr yn gadael o'r neilldu yn hollol ddisylw holl ymdaith plant Israel am ddeugain mlynedd yn yr anialwch. Khydd yr hanes hwn yn y drydedd a'r bedwaredd benod. Hanes anghrediniaeth ydoedd, nid hanes ffydd. Gorchwyl dyddorol fyddai chwiho am angreifftiau o ffydd yn ystod y daith o'r Môr Coch i'r Iorddonen. Ceir hanes ffydd y bobl mor gynted ag yr aethant i Ganaan, yn ynill dinas Jsricho. GwelJos. vi. 20, "a phan glybu y bobl lais yr udgyrn, yna y bobl a waeddasant â bloedd uchel: a'r mur a syrthiodd i lawr odditanodd."

ADN. 31.— Gwel Jos. ii. 1—21; vi. 22—25. Yr hyn a ddywed Rahab with yr yspiwyr a dderbyniasai i'w thŷ, mai Duw Israel sydd Dduw yn y nefoedd uchod ac ar y ddaear isod, yn nghyd â'i gwaith yn rhwymo y llinyn coch yn y ffenestr (Jos. ii. 11, 21) sydd yn dangos ei ffydd. Derbyniwyd Eahab hithau i dylwyth Israel ; a dywedir yn Matt. i. 5 mai hi oedd mam Boaz, yr hwn a gafodd Obed o Ruth, ac Obed oedi tad Jesse, tad Dafydd. Gwel Ruth iv. 17. Yr oedd ffydd Rahab yn fwy na ffydd ei merch yn nghyfraith. Credodd Ruth ddiwair yn Nuw Naomi am ei bod yn credu yn Naomi yn gyntaf ; a chymmerodd Rahab y butain ei lie yn Israel am ei bod yn credu yn gyntaf yn Nuw Israel. Nid o had Jacob yr oedd y naill na'r Hall.

Ni chredasant, er gweled gweithredoedd nerthol Duw, fel Rahab.

ADN. 32. 0 blith y barnwyr dethola yr awdwr bedwar, Gedeon, Barac, Samson, Jepthae. Trwy ffydd yr ymladdodd Gedeon yn erbyn y Midianiaid : canys efe a addolodd, gan ddywedyd, Rhoddodd yr Arglwydd fyddin y Midianiaid yn eich llaw chwi (Barn. vii. 15) . Gwell ydyw ystyried fod y crybwylliad am Barac yn cymmeryd i mewn Deborah y brophwydes, yr hon a farnai Israel, ac a anfonodd am Barac, ac heb yr hon nid

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. 175

ddywedaf ? canys yr amser a ballai 1 mi i fynegi am Gedeon, am Barac, ac am Samson, ac am Jephthae, am Dafydd hefyd, a Samuel, a'r prophwydi : Y rhai trwy ffydd a oresgynasant 33 deyrnasoedd, a wnaethant gyfiawnder, a gawsant addewidion, a gauasant safnau llewod, A ddifíoddasant angerdd y tan, a 34 ddi'angasant rhag min y cleddyf, a nerthwyd o wendid, a wnaethpwyd yn gryfion mewn rhyfel, a yrrasant fyddinoedd

äi efe (Barn. iv. 4 v. 31). Trwy ffydd y gwnaeth Samson wrhydri; canys ysbryd yr Arglwydd a'i cynhyrfai , trwy arwydd ei neillduad o'r groth fel Nazaread, yn yr Arglwydd yr ymddniedai ; ac yn ei ddiwedd gweddiodd, "0 Arglwydd lor, cofia fi, attolwg, a nertha fi, attolwg, yn uuig y waithhon, 0 Dduw" (Barn. xiii. xvi.). Trwy ffydd yr addunedodd Jephthae adduned i'r Arglwydd, gan gredu y cyflawnai Duw âg ef (Barn, xi. 30— 40). Ni chrybwylla yr awdwr enwau Othniel, Ehwd, Samgar, a'r gweddill o'r barnwyr, er y dywedir fod ysbryd yr Arglwydd arnynt. Ond ni ddywed yr hanes eu bod yn gweddio, na bod eu henaid yn sylweddoli gweithrediad Duw trwyddynt. Y mae gan Dduw lawer fflangell nad adwaen y llaw sydd yn ei hysgwyd ; fel Alaric, yr hwn a ddinystriodd ddinas Rhufain ac a ddywedai wrth fynach duwiol nad o'i fodd y gwnai yr hyn a wnaeth, ond bod rhywun anweledig yn ei yru ymlaen.

Oddiwrth y barnwyr symuda yr awdwr at y brenhin a'r barnwr oeddynt yn brophwydi, Dafydd a Samuel ; ac ar eu hoi hwy crybwylla y prophwydi nad oeddynt ddim arall.

ADN. 33. Y rhai ; nid yn unig y rhai a enwyd eisoes, ond fel pe dywedasai, " yr amser a ballai i mi fynegu am y rhai a oresgynasant," &c.

A oresgynasant deyrnasoedd ; megis Gedeon (Barn, vii.) yn gwasgar y Midianiaid, Barac (Barn, iv.) yn gorchfygu Sisera, Jephthae (Barn. xi. 33) yn taro yr Ammoniaid â'r cleddyf, Dafydd (2 Sam. v. 25 ; viii. 2, 6) yn taro y Philistiaid megis y gorchymynasai yr Arglwydd iddo ac yn mesur Moab â llinyn.

A wnaethant gyfiawnder ; megis Samuel, yr hwn a ddysgodd i'r bobl y ffordd dda ac uniawn (1 Sam. xii. 3, 4).

A gawsant addewidion ; hyny ydyw, gyfìawniad o addewidion, megis y gweddia Dafydd (2 Sam. vii.). Nid oes dim anghyson rhwng hyn âg adn. 39, yr hon sydd yn cyfeirio at berffaith gyflawniad o'r addewidion mewn ystyr ysbrydol.

A gauasant safnau llewod ; megis Daniel (Dan. vi. 22).

ADN. 34.— A ddiffoddasant angerdd y tan; megis y tri llanc yn Babilon (Dan. iii. 27, 28). Ond nid yr un gair a gyfieithir " angerdd n yma ac yn x. 27. Gwell fyddai " nerth " yn yr adn. hon, ac " angerdd " yn yr adn. hono, lie y personolir y tân.

A ddiangasant rhag min y cleddyf; megis Elias yn dianc rhag Jezebel (1 Bren. xix. 1 3), a'r holl Iuddewon oedd yn Susan, trwy ffydd Mordecai ac Esther (Esth. iii. 13 viii. 17).

A nerthwyd o wendid. Yr esboniad cyffredin ydyw fod y geiriau yn cyfeirio at Hezeciah ac eraill a adferwyd o wendid corphorol. Ond prin yr wyf yn meddwl fod y gair sydd yma (endunamoò) yn golygu "nerthu " mewn ystyr corphorol. Ar y llaw arall y mae golygiad Dr. Thomas, mai yr ystyr ydyw "nerth mawr mewn rhyfel," yn gwneyd yr ystyr yn rhy debyg i ystyr y geiriau nesaf. Dichon mai y gwahaniaeth ydyw fod jt ymadrodd "nerthu o wendid" yn cyfeirio at adnewyddiad hyder a jwroldeb y genedl, a'r geiriau " cryfion mewn rhyfel " at ei buddugol-

176 YB EPISTOL AT YE HEBREAID.

35 yr estroniaid i gilio. Gwragedd a dderbyniodd eu meirw trwy adgyfodiad : ae eraill a ddirdynwyd, heb dderbyn ymwared ;

36 fel y gallent kwy gael adgyfodiad gwell. Ac eraill a gawsant brof edigaeth trwy watwar a fflangellau, le, trwy rwymau hefyd

iaethau ar ei gelynioii, megis yn nyddiau y tywysogion Maccabeaidd (1 Mace. v.).

A yrasant fyddinoedd yr estroniaiá i gilio ; yn hytrach, "fyddinoedd o estroniaid." Felly y gwnaeth y Maccabeaid, Judas a Jonathan a Simon, o'r flwyddyn cyn Crist lêG ynilaen.

ADK". 35. A dderbyniodd eu meirw, &c; megis y wraig weddw yn Sarephtah, trwy ffydd Elias (1 Br«n. xvii. 3 24), a'r Suna- mees, trwy ffydd EKseus (2Bren. iv. 32—37). Cynwysa y gair " derbyn " y syniad o "gymmeryd," hyny yd.ru-, o law y prophwyd ; ac felly, fel y sylwa Weetcott, awgryma gydweitkrediad ffydd y gwragedd â'r ffydd a aflaogodd y prophwyd i wneyd y weithred.

A ddirdynwyd. Ystyr y gair gwreiddiol ydyw " tabyrddu," " gwneyd tabwrdd ohonyÄt," trwy eu hestyn ar olwyn fsl yr estynir y croe». ar y tabwrdd. Cyfeiriad sydd yma, yn ddiau, at hanes Eleazer ar yr arteithglwyd, a'r saith brodyr a'u mam, yn 2 Mace. vi. avii.

Heb dderbyn ; yn hytrach, " gan wrthod." (Un o'r llyfrau a wnai les dirfawr i ieuenctid yr ysgolion i'w darlleu ydyw ail Lyfr y Mac- cabeaid, yn yr Apocrypha.)

Ymwarid; yn hytrach, "yr ymwared," yr hwn a gynygid iddynt pan yn cael eu dirdynu.

Adgyfodiad gwell. Y mae yn hollol eglur oddiwrth yr hanes yn 2 Mace. vii. fod y gwŷr hyn yn credu yn yr athrawiaeth o adgyfodiad y corph, a'u bod yn ymgysuro, wrth ddyoddef yr arteithiau angeu»l, yn y gobaith am adgyfodiad y meirw. " Brenhin y byd a'n cyfyd i fywyd tragwyddol," medd un ohonynt. Ond nid ydyw mer hawdd penderfynu beth oedd yn meddwl yr awdwr pan y defnyddia y gair "gwell." Prin yr ymddengys yn naturiol tybied mai gwell na'r ymwared oddiwrth eu har'teithiau, yr hwn a gaent trwy wadu eu erefydd, a feddylir, yr hwn ni fyddai yn adgyfodiad o gwbl. Golygiad yr esbonwyr Groegaidd (oddi- eithr QEcumenius) ydyw mai gwell nag adgyfodiad mab y weddw o Sarephta a mab y Bunamees. Yr wrthddadl yn ertyn y golygiad hwn ydyw yr hyn a grybwylla Dr. Thomas, "nas gallent hwy fod yn medáwl dim am fab y weddw o Sarephta ac am fab y Sunamees." Ac eto paham nas gallent fod yn meddwl am danynt ? Ond, pa un bynag a oedd yr hanes am y ddau hyny yn gymhelliad iddynt ai peidio, yr oeddynt yn gwrthod ymwared er mwyn cael rhan mewn adgyfodiad sydd, yn ngolwg yr awdwr, yn well, am ei fod yn adgyfodiad i fuchedd ysbrydoi ae i fynediad tragwydé*l i mewn i'r cysegr. Hwn, fel y tybiaf, yw yr ystyr. Y mae fod cyfeiriad at adgyfodiad yn nechreu yr un adnod yn ein gorfodi o'r braidd i olygu mai gweíl na hwnw ydyw yr adgyfodiad a grybwyllir yn niwedd yr adnod.

ADN. 36.— A gawsant brofedigaeth ; yn hytrach, " a gawsant eu profl." Rhoddwyd prawf ar eu ffydd.

Watwar; yn llythyrenol, "gwatwarau." Gwel 2 Mace. vii. 7.

Fflangellau. Gwel 2 Mace. vii. 1. Gair arall sydd am wialenodiau.

Trwy rwymau hefyd a charchar ; megis Jonathan. Gwel 1 Mace, xiii. 12. Carcharwyd Jeremiah hefyd, Jer. xxxii. 2.

TE EPISTOL AT TR HEBREAID. 177

a charchar: Hwynt-hwy a labyddiwyd, a dorrwyd â llif, a 37 demtiwyd, a laddwyd yn feirw â'r cleddyf; a grwydrasant mewn crwyn defaid, a chrwyn geifr; yn ddiddym, yn gys- tuddiol, yn ddrwg eu cyflwr; (Y rhai nid oedd y byd yn 38 deilwng o honynt,) yn crwydro mewn anialwch, a mynydd- oedd, a thyllau ac ogofeydd y ddaear. A'r rhai hyn oil, wedi 39 cael tystiolaeth trwy ffydd, ni dderbyniasant yr addewid:

ADN. 37.— A labyddiwyd; megis Zechariah, 2 Cron. xxiv. 21; Matt, xxiii. 35.

A dorwyd a llif; megis Esaiah, yn ol y traddodiad Iuddewig, at yr hyn y eyfeirir yn fynych gan dadau y brif eglwys.

A demtiwyd. Y mae yr esbonwyr yn gyffredin yn teimlo anhawsder i ddeall pa fodd y dygodd yr awdwr y syniad o "deintio " i mewn rhwng lladd â llif. a lladd â chleddyf . Gad rhai y gair allan : ond y mae awdurdod rhy gryf yn y llawysgrifau o'i blaid. Newidia eraill ef i air tebyg o ran sillebiaeth ond yn arwyddo llosgi i farwolaeth. Nid ydynt, y mae yn ymddangos, wedi sylwi fod y gair gwreiddiol (peirazein) yn fynych yn y Deg a Thriugain a'r Testament Newydd yn golygu, nid " temtio " yn unig, ond hefyd " cystuddio," "gofwyo," fel y sylwa Hatch (Biblical Greek, tud. 71).

A'r cleddyf; fel y dywedir yn 1 Bren. xix. 13. Gwel hefyd 2 Mace, vii. 4. Cymharer adn. 34.

A grwydrasant, &c; megis Elias. Gwel 1 Bren. xix, 13. Yn ol cyfieithiad y Deg a Thriugain, croen dafad oedd y fantell a syrthiodd oddiwrth Elias pan y cymmerwyd ef ymaith, 2 Bren. ii. 13.

Yn ddiddym ; yn hytrach, " mewn eisiau," " yn anghenog."

Yn eystuddiol ; yn "hytrach, " yn cael eu trallodi."

Yn ddrwg eu cyflwr; yn hytrach, "dan orthrwm."

ADN. 38. Gwell cyssylltii y geiriau "yrhai nid oedd y byd yn deilwng ohonynt" â'r geiriau sydd yn dilyn, yn hytrach na'u gosod mewn cromf achau : "Dynion nad oedd y byd yn deilwug ohonynt nid yn unig yn byw mewn anial leoedd, ond hyd yn nod yno yn gorfod crwydro. " Ysbryd y geiriau hyn sydd yn dyfod i'r golwg yn nesgrifiad Bunyan o fynediad Cristion a'i gyiaill'trwy ffair gwagedd. At y Maccabeaid y cyfeiria yr awdwr. Gwel 2 Mace. v. 27, lie y dywedir i Judas " gilio i'r anialwch a byw, efe a'i gymdeithion, yn y mynyddoedd fel anifeiliaid;" a vi. 11, lie y sonir am rai yn rhedeg i ogofeydd.

ADN. 39, 40.— Wedi cael tystiolaeth trwy ffydd. Mewn gwrthgyferbyniad i watwar y byd, y mae Duw, trwy gofnodi eu hanes, yn rhoi sêl ei gymmeradwyaeth arnynt. Er hyny, er tystiolaeth Duw iddynt, ni chawsant gyflawniad o'r addewid, sef yr addewid a roddasai Duw i Abraham. Ni chyflawnwyd hi yn ei chynwys ysbrydol. "Nid oedd y ffordd i'r cysegr yn agored eto" (ix. 8). Oblegid hyny mewn dyoddef neu ymgynhal yn ddewr o dan faich eu profedigaethau yr oedd eu ffydd yn dangos ei hun, yn hytrach nag mewn agosrwydd at Dduw. Yr adnod hon sydd yn ein dwyn yn ol at y syniad o ymgynhal neu ymaros yn niwedd y benod o'r blaen. Ni a welwn, bellach, paham y mae yr awdwr yn dwyn i mewn yr hyn a ddywed am ffydd fel sylweddoliad o'r anweledig; oblegid y sylweddoliad hwn sydd yn gaìluogi dynion i ymgynhal. Ond erbyn hyn y mae y ffordd i'r sancteiddiolaf wedi ei hagor, a ffydd sydd yn ein dwyn i mewn iddo. Hwn yw y " peth gwell" yr oedd Duw yn ei "ragddarpar i ni," yr hwn ni phriodolir unwaith

178 YE EPISTOL AT YE HEBEEAID.

40 Gan fod Duw yn rhag-weled rhyw beth gwell am danom ni, fel na pherffeithid hwynt hebom ninnau.

PENOD XII. 1 /""VBLEGID hynny ninnau hefyd, gan fod cymmaiiit cwmmwl

i saint yr Hen Destament ar y ddaeatr. I'r gwrthwyneb, yr oeddynt M dros eu holl fywyd dan gaethiwed" gan ofn marw, er e* bod, yx un pryd, trwy ffydd, yn dewis marw yn hytrach na gwadu eu crefydd.

Fel na pherffeithid hwynt hèbom ninnau. Dyma amcan Duw yn rhagweled neu yn rhagdremu y peth gwell hwnw am danom ni, sef i gadw undeb llwyr rhwng saint pob goruchwyliaeth. Golyga y geiriau na chyrhaeddodd saint yr Hen Destament eu gogoneddiad a'» dedwyddwch perffaith a chyflawn, hyd yn nod yn y nefoedd, cyn i Grist agor ffordd y 6ancteiddiolaf yn ei farwolaeth. Ond golygant, yn ychwanegol at hyn, fod gwrhydri ifydd yn yr Eglwys Gristionogol yn ychwanegu at gyflawn ogoneddiad y saint yn y nefoedd. Yr oedd Duw yn rhagweled, nid yn unig y peth gwell a wnaethai Crist drosom, ond hefyd y peth gwell a gyflawnai ein ffydd ni erddo yntau. Hyn sydd yn cyssylltu yr adnod hon â'r adnod gyntaf o'r benod nesaf, lie y desgrifir saint yr Hen Destament fel cwmwl o dystion yn syllu arnom yn rhedeg yT yrf a : canys gwyddant fod gwaith ein ffydd ni yn ychwanegu at eu perffeithrwydd hwy. Y mae y syniad o unoliaeth yr Eglwys, fel corph, mor eglur i feddwl yr awdwr hwn ag ydyw yn Epistolau Paul. Gwel iii. 2 ; xiii. 14.

PEN. "XII. ADN. 1. Oherwydd paham; sef oherwydd bod cymaint cwmwl o dystion ag a grybwyllwyd yn y benod flaenoroi wedi ei osod o'n hamgylch. Oddiwrth esamplau gwroniaid ffydd dan yr Hen Destament tyn yr awdwr yr anogaeth ymarferol i redeg yr yrfa.

Cwmwl. Golyga y gair (1) liosogrwydd, fel yn Es. lx. 8. Yr oedd y teimlad eglwysig yn gryf yn yr awdwr hwn. Mor wahanol i'r rhai a adawent y cydgynulliad ! Teimlai ef ddylanwad y syniad fod llawer o saint erbyn hyn wedi cael tystiolaeth trwy ffydd. Ond tra y golyga y gair "cwmwl" liosogrwydd, yn ei berthynas â'r benod flaenoroi, golyga (2) aneglurder, mewn gwrthgyferbyniad i Iesu, yr hwn a enwir yn yr ail adn. Nis gellir pigo allan neb o saint y nefoedd a dal cymundeb â hwnw ar ei ben ei hun. Y mae cymundeb rhyngom â hwynt oil gyda'u gilydd, ^ fel cwmwl, ond nid â »eb ohonynt yn bersonol. Xid yw y Testament Newydd yn rhoi sail i gredu mewn Ysbrydeg ( Spiritiurfism).

Ö dystion. Disgwyliasem, ar yr olwg gyntaf, "orai y tystiolaeth- wyd am danynt," fel yn x. 39. Ond newidiodd yr awdwr y gair yn fwriadol, oblegid, os tystiolaethwyd am danynt, ar sail eu ffydd y bu hyny, a gwaith ffydd ydyw tystiolaethu. Os edrycha y darllenydd trwy y benod flaenoroi, efe a wêl fod yr holl saint a enwir ynddi yn tystiolaethu dros Dduw a'r byd ysbrydol. Y mae tystiolaeth Duw iddynt hwy, yn yr Ysgrythyr, ac, fe ddichon, yn y nefoedd, yn wobr am eu tystiolaeth hwy i Dduw ar y ddaear. Gwel xi. 14. Ymddengys i mi ei bod yn hollol anmhosibl gwadu y cyfeiriad hwn yn y gair. Ond y mae yn llawn mor anhawdd gwadu fod y gair yn cyfeirio, ar yr un pryd, at yr edrychwyr ar y campau cyhoeddus, y rhai a lanwent yr orielau mawrion, ac, megis cwmwl, a amgylchent y llawr lie yr ymdrechai y campwyr. Barna Dr. Thomas y byddai cyfuno y ddau olygiad yn groes i un o egwyddorion cyntaf deonglyddiaeth. Yr wyf yn cydnabod hyny, os edrychwyr yn unig air y campau a feddylir yn y golygiad olaf . Ond os deallir y gair yn yr un

YB EPISTOL AT YR HEBEEAID. 179

o dystion wedi et osod o'n hamgylch, gan roi heibio bob pwys,

ystyr yn hollol yn y ddati olygiad, symudir yr wrthddadl. Nid edrychwyr yn unig arnom ni ydyw saint y nefoedd, ond tystion. Y mae yr ystyr yëbìŷdol yn rhwygo ÿ gyfEelybiaeth. Edrychwyr yn ymblesera a lanwai orielau yr amphitheatr ; ond edrychwyr yn tystio ydyw y cwmwl sydd yn ein hamgylchynu ni. Ystyr y gair martus (o'r hwn y tardd y gair Cymraeg "merthyr") ydyw, nid "edrychydd," ond un yn tystio am yr hyn yr edrychodd arno. Y mae pob adnod a ddyfynir gan Grimm i bron fod* y gair yn golygu " edrychydd," yn cynwys y syniad o roddi tystiolaeth hefyd. Y mae Westcott yn cydnabod hyn. Bellach, gan hyny, yr unig ofyniad sydd genym i'w ateb ydyw, pa un ai tystio dros Dduw wrthym ni , ai_J;yslio drosom ni wrth Dduw a olygir yn yr adnod hon ? Ymddengys i mi fod y gair "tystio" ei hun yn atebiad i'r gofyniad. Nid cefiiogi a chymell i redeg yw yr ymadrodd a ddefnyddia yr awdwr, ac nid hyn o gwblydyw ystyr y gair martus, ond yn hytrach yr ystyr ydyw " dyn sydd yn rhoddi tystiolaeth am yr hyn a welodd ; " ac yn yr ystyr hwn y defnyddir ef gan Longinue, mewn geiriau a ddyfynir gan Westcott, gyda golwg ar ymdrechwyr yn y campau. Y tystion ydyw y rhai sydd yn tystio wrth y barnwyr pa fodd y mae pob un wedi ymdrechu, a ydyw wedi ymdrechu yn gyfreithlawn, hyny yw, yn ol rheolau yr ymdrechfa, a phwy sydd yn haeddu y goron. Gan fod Westcott yn cydnabod mai hyn yw ystyr priodol y gair " tystion," yr wyf yn methu deall pa fodd y gallodd efe, wedi hyny, esbonio y gair yn yr adnod hon fel yn golygu fod saint yr/ Hen Destament trwy esampl eu ffydd ar y ddaear yn ein cefnogi ni i redeg. Os at eu hesampl ar y ddaear y cyfeirir, nid oea yma un cyfeiriad o gwbl atynt fel edrychwyr ar yr ymdrechfa. Ond os cymherir hwynt I yma i edrychwyr ac os ystyr y gair martus yw, nid edrychwr yn unig, ondj tyst, y mae yn canlyn mai atynt yn y nefoedd y cyfeirir ac mai tystio yf maent, nid dros Dduw wrthym ni, ond drosom ni wrth Dduw. Fel yr* oeddynt, pan ar y ddaear, yn tystio dros y nefoedd, felly y maent yn y nefoedd yn tystio dros y ddaear. Oblegid, ar y ddaear ac yn y nefoedd hefyd. gwaith ffydd ydyw tystio. Y mae yn wir nad eiriolwyr drosom gerbron Duw ydynt, ond y maent yn gynrychiolwyr ac yn naenffrwyth. Y mae y desgrifiad yn farddonol, ond nid yw hyny yn cynwys nad ydyw yn wir. Y mae yr holl benod yn farddonol. Nid oes eisiau petruso yn nghylch y posibürwydd i breswylwyr y nefoedd sylwi ar yr eglwys ar y ddaear ; gan fod yr awdwr hwn ei hun yn dysgm yn bendant tin bod wedi dyfod at ysbrydoedd y cyfiawn y rhai a berffeithiwyd. Gwel adn 22.

Gan fod ; yn fwy llythyrenol ac yn well, "gan fod genym." Y mae undeb yr eglwys yn gwneyd saint y nefoedd yn feddiant i ni ar y ddaear, yn yr ystyr o'u bod yn tystio drosom neu ar ein rhan.

Wedi ei osod o'n hamgylch ; neu " yn ein hamgylchynu." Cyfeir- iad sydd yn y geiriau hyn at yr amphitheatr neu y chwareudy mawr, ac at yr edrychwyr a eisteddent ar yr orielau eang oedd yn amgylchu y lie.

Bob pwys. Gair yr Esgob Davies ydyw " trymfaich." Ystyr llythyrenol y gair gwreiddiol ydyw pwysau, ac y mae y gair ei hun yn awgrymu mai at dewdra blonegog yr ymgeisydd y cyfeiria yr awdwr. Rhaid i'r ymgeisydd ymbarotoi am fisoedd cyn yr ymdrechfa trwy ddaros- twng pob gormodedd cnawd. Yr anhawsder ydyw fod y ferf sydd yma yn y gwreiddiol (apothesthai) yn golygu yn fwy naturiol " ymddihatru," " taflu ymaith," ac felly y mae yn lied debygol mai at daflu ymaith y gwisgoead cyn dechreu rhedeg y mae y cyfeiriad. Ond pa un bynag o'r ddau syniad sydd yn y gyfEelybiaeth, yr un ydyw yr ystyr yn

180 YE EPISTOL AT YR HEBREAID.

a'r pechod sydd barod Vn hamgylohu, trwy amynedd rhedwn yr

y cymhwysiad. Rhaid i'r Cristion adael o'r neilldu bob peth ynddo ei hun lieu mewn cyssylltiad âg ef ei hun sydd yn ei rwystro i ymdrechu enill coron y bywyd. Golyga yn yr Hebreaid hyn bob ysbryd swrth a musgrellni (vi. 12) y gwrthwyneb i ddyfalwch ac yni (vi. 11).

A'r peehod parod i'n hamgylchu. Is i cheir yr holl air a gyfieithir " parod i'n hamgylchu " ond yn y Ue hwn, a chynygir lliaws o ystyron gan wahanol esbonwyr o ddyddiau Chrysostomhydheddyw. Golyga Chrysostom ei hun mai yr ystyr ydyw "hawddeiroddi heibio." Ond, heblaw f od yr ystyr hwn yn anghymhwys yn y cyssylltiad, nis gall y gair oddef y fath ystyr.

j ' Dyma esampl eto lie nas gellir ymddiried i ysgrifenwyr diweddarach yn yr

1 1 iaith Roeg am ystyr gair a ddefnyddir yn y Testament Newydd. Ystyr a dderbynir gan amryw ydyw " y pechod a edmygir yn fawr." Ond y mae cyssyUtu " edmygu " â'r gair " pechod " yn annaturiol. Nid oes nemawr o amheuaeth fod y cyfieithiad sydd yn y Bibl Cymraeg yn gywir. Y mae yn eglur, ymhellach, mai nid pechod yn gyfrredinol na phob pechod a olygir, ond y pechod neillduol hwnwsydd yn amgylchu. Dichon mai nid yr un pechod sydd ymhob oes yn meddu y gallu hwn, ac mai nid yr un pechod sydd yn amgylchu pob dyn. Tebygol ydyw mai anghrediniaeth ac anobaith oedd yn amgylchynu yr Hebreaid. Ond nid yr ystyr ydyw fod gwahanol ddynion yn fwy tueddol i syrthio i wahanol bechodau, fel yr

esbonir y gair yn gyffredin. Y mae yn hawdd gweled fod cyferbyniad yn yr adn. rhwng y geiriau "parod i amgylchu" a " rhoi heibio," neu "fwrw ymaith." Nid gan bob pechod y mae y gallu nodweddiadòl hwn, set amgylchu. Rhuthra rhai temta-iynau yn ddisymwth, ac, os gall dyn wrthsefyll yr ymgyrch cyntaf, y mae y demtasiwn yn gwanhau i ruthro arno yr ail waith. Ond y mae pechodau eraill na ddeuant ar ruthr yn €rbyn yr enaid, ond meddant y gallu i bwyso a gwasgu yn araf a chyson lies ei lethu, fel byddin yn gwarchae ar ddinas acyn tynhau y cylch o ddûr a than o amgylch ogylch iddi, hyd nes ei choüeidio i'w marwolaeth. Ffydd ydyw y gallu gwrthgyferbyniol sydd yn taflu i ffordd y pwysau gorlethol, yn tori, yn chwalu, ac yn ciirio ymaith y cylch, nes agor llwybr yr yrfa yn úêg ac eang o flaen y rhedegydd.

Trwy amynedd. Cyssyllta y gair hwn y cwbl a ddywedwyd yn y benod fìaenorol â x. 36. Awgrynia amcan yr holl gyfeiriadau at saint yr Hen Destament. Dengys y benod flaen orol ddynion yn goddef, yn dal, yn ymgynhal, dan bwysau trymion proledigaethau, trwy eu sylweddoliad o bethau ysbrydol. Pwnc y benod bono ydyw, ffydd yn ymgynhal. Gan hyny, i hyn yr anoga yr awdwr ei ddarllenwyr yma. Ŷ ffordd iredeg yr yrfa ysbrydol ydyw trwy ymgynhal dan anhawsderau a'u gwthio draw trwy ffydd yn yr anweledig. Mewn gair, esboniad yr awdwr ei hun ar "amynedd" ydyw y geiriau "gan roi heibio," neu wthio draw, "y pechod parod i'n hamgylchu." Cofier mai nid holl ystyr y gair "amynedd" yn y lie hwn ydyw disgwyliad tawel am ddyfodol gwell. Yr un gair (Ji* ferf) sydd yn y ddwy adnod nesaf ac a gyfieithir " dyoddef ." Diau mai i ' ymgynhal " fyddai oreu yn y tair adnod. Yr wyf yn methu deall paham y mae y C.D.S. yn rhoi " patience " yn yr adnod gyntaf ac " endure " yn yr ail a'r drydedd. Y gair goreu fyddai " endurance " yn y gyntaÊ, fel y cynygia y Pwyllgor Americanaidd gyfleithu. Tybiaf fod cyferbyniad arall

yn y gair, rhwng y dull cyffredin o redeg gyrfa i enill camp a dull yr yrfa Gristionogol, ac mai y cyferbyniad hwn awgrymodd i'r awdwr y gyffelyb- iaeth am redeg yr yrfa. Yn y campau daearol hanfod yr yrfa ydyw cydymgais. Trwy gystadleuaeth y mae bywyd a grym yn holl waith y

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. 181

yrfa a osodwyd ©'n blatn ni ; Gan edrych ar Iesn, Pen-tywysog a 2

byd hwn. Ond yn yr yrfa ysbrydol, aid cystadleuaath a chydymgais sydd yn sicrhau y gamp, ond y peth hwnw sydd yn wrthgyferbyníol i gydymgaÌÄ, sef dyoddef ac ymaros. Y neb a all ymgynhal oreu sydd yn enill y goron.

Yr yrfa. Gwel nodiad ar x. 32. Yr oedd yr Apostol Paul hefyd yn hoff o'r gyffelybiaeth. Gwel 1 Cor. ix. 24—26; Phü. in. 12—14; 1 Tim. vi. 12; 2 Tim. iv. 7.

A osodwyd o'n blaen. Dywedir hyn i'n calonogi, gyda chyfeiriad amlwgat x. 36, " wedi i chwi wneuthur ewyllys Duw." Y mae ein gyrfa wedi ei gosod o'n blaen gan Dduw. Gwneuthur ei ewyllys ef yr ydym wrth oi rhedeg; ac yr oedd gwneuthur yr ewyllys gan Iesu Grist eihun yn well yn ngolwg Duw nag aberth. Gwel x. 7. Hyn sydd yn egluro paham y mae yn rhaid i ni wrth amynedd neu ymaros ; oblegld bod elfen ddwyfol ac amcan grasol yn ein temtasiynau.

ADN. 2. Gan edrych; neu, yn well, "ganddal i syllu," "gan barhau i edrych yn graff." Cwmwl ydyw y saint ; gellìr gweled y cwmwl, oncl nid y dyfcrynau sydd yn ei gyfansoddi. Nid un o'r dyferynau hyny ydyw Iesu, ond yr haul yr hwn sydd yn gwneyd hyd yn nod y cwmwl yn weledig. T mae cymdeithas bersonol â Iesu yn bosibl. Fod yr awdwr yn golygù edrych ar Iesu fel y mae yn y nefoedd, yn gystal âg ystyried ei esampl, fel yr oedd ar y ddaear, sydd eglur ; oherwydd fod y gyffelybiaeth o redegfa yn dilyn ymlaen, fel y cawn weled yn y geiriau nesaf. Tuag at) radeg yn llwyddianus, rhaid peidio edrych ar nab na dim all fod oddiam-i gylch, er fod presenoldeb yr edrych wyr yn gymhelliad, ond ar Iesu yn unig.l

Pen-tywysog' a pherffeithydd ein ffydd. Cynygia yr esbonwyr dri golygiad ar y geiriau byn : (1) Golygiad y tadau Groegaidd ydyw fod Crist yn cael ei osod allan yma fel dechreuydd y gras o ffydd yn yr enaid ac fel yr un sydd yn sicr o'i berffeithio yn y diwedd. Felly y C. A. S.: " the . author and finisher of our faith," cyfieithiad a gymmerwyd o gyfieithiad Geneva ac o Erasmus. Y mae dwy wrthcldadl yn erbyn y golygiad hwn : Yn gyntaf, y mae y gair archêgos yn golygu mwy nag " awdwr " yn yr holl fanau y rhoddir yr ystyr hwn iddo gan Grimm ; yn ail, y mae yr eglurhad hwn yn esgeuluso pob cyfeiriad at y campau. (2) Golygiad Bengel ydyw fod yr awdwr yn son am Grist fel yr esampl benaf o ffydd ; "un yn blaenori uwchlaw pawb mewn ffydd ac un a weithredodd frydd hyd berffeithrwydd " (Dr. Thomas). Y gwrthddadleuon yn erbyn y golygiad hwn ydynt : Yn gyntaf, nad ydyw yn rhoi ei gyflawn ystyr i'r gair archëgoê; ac, yn ail, nad oes gwahaniaeth gwirioneddol rhwng " un yn blaenori uwchlaw pawb mewn ffydd " ac "un yn gweithredu ffydd hyd berffeithrwydd." (3) Ymddengys i mi mai esboniad Calvin, yr hwn a dderbyniwyd gan Beza ac a ddaeth o Beza i'r cyfieithiad Cymraeg, ydyw y rhagoraf . Darlunir Crist yma fel cydymdrechwr à ninau, ond estyna I ei law i gynorthwyo ; efe yw cadben neu ben-tywysog yr holl ymdrech- ' wyr, ac, fel y cyfryw, y mae yn sicr yn y diwadd o'n dwyn ninau oil gydag { ef i ben yr yrfa yn fuddugoliaethus. Rhydd y golygiad hwn yr un ystyr^ i'r gair archëgos yma ac yn ii. 10, a chyfuna y ddau olygiad arall ; oblsgid' nid " awdwr " yn unig, ac nid " esampl " yn unig yw ystyr y gair : ond " un syddyn esampl ei hun, ac, yn rhinwedd hyny, yn dywysog i eraill." Eglura hyn y geiriau "edrych ar Iesu." Nid yr ystyr ydyw cyfeirio ein) llygaid at bendraw yr yrfa, He y tybir fod Crist yn eistedd â'r goron yn ei I law ; ond, yn hytrach, edrych yn graff ar y pencampwr a'r arweinydd, yr j hwn sydd yn rhedeg yr yrfa ei hun ac yn estyn Haw i ninau, ac yn sicr o I enill y gamp iddo ei hun a ninau.

182 YR EPISTOL AT YR HEBREAID.

Pherffeithydd ein ffydd ni; yr hwn,yn lleyllawenydd a osodwyd

iddo, a ddioddefodd y groes, gan ddiystyru gwaradwydd, ac a

3 eisteddodd ar ddeheulaw gorsedd-faingc Duw. Ystyriwch am

Iesu ; mewn cyfeiriad at ei fywyd ar y ddaear ; oblegid trwy yr hyn ydoedd ar y ddaear y gallwn sylweddoli yr hyn ydyw yn y nefoedd.

Yn lie y llawenydd a osodwyd iddo. Gall y geiriau hyn olygu : (1) Fod Crist wedi gadael o'r ntilldu y llawenydd oedd iddo fel Mab Dnw erioed ; yn debyg fel y dywedir ynPhil. ii. 6, nad ystyrioddefe eigydradd- oldeb â Duw yn beth i ddal gafael ynddo. Ond prin y byddai y geiriau, " a osodwyd iddo," yn naturiol yn yr ystyr yna. (2) Fod Iesu ar y ddaear wedi ymwadu â holl lawenydd y byd ac ymostwng i farwolaetn chwerw a llawa. o waradwydd. Felly Calvin. Ond nid oes yn hanes bywyd daearol Iesu ddim oyffelyb i'r hyn a ddywedir am Moses, iddo wrthod anrhydedd y byd, ond yn unig yn nhemtiad yr anialwch ; ac yno ora o demtasiynau lleiaf y diafol i Iesu oedd cynyg holl deyrnasoedd y byd a'u gogoniant. Yr oedd y weithred fawr o hunanymwadiad wedi ei •chyflawni cyn hyn, pan y gwaghaodd y Mab tragwyddol ei hun i ddyfod yn was. (3) Fod Iesu wedi dyoddef y groes er mwyn llawenydd y nef, yr hwn a osodwyd o'i flaen fel cymhelliad. Hyn ydyw y golygiad cywir. Y fmae y gyffelybiaeth yn parhau. Llawenydd y nefoedd oedd y goron, y wobr, a gadwai Iesu o flaen ei feddwl wrth redeg yr yrfa; a'r ymadrodd " gosod o flaen " oedd yr unarferol am gynyg gwobr i enillydd y gamp. Golyga y gair a gyfieithir "ynlle" y syniado bris neu werth: "amy pris hwn, sef y llawenydd, dyoddefodd y groes." Felly y dywed Aristotle : " «anmolir hwynt pan y dyoddefant gywilydd neu dristyd am y pris (anti) o ganlyniadau mawrion ac anrhydeddus."

A ddyoddefodd. Yr un gair a gyfieithir "amynedd" yn adn. 1. Yr ystyr o hyd ydyw nid " disgwyl," ac nid "dyoddef poen," ond "ymgynhal." At wroldeb ysbryd Iesu y cyfeirir, nid at ei ddyoddefaint, fel poen corphorol.

Gan ddiystyru gwaradwydd. Y mae "diystyru" yn rhy wan.

I G well fyddai " dirmygu." Sylwer ar y cydosodiad : "dirmygu dirmyg !" Hwn oedd y prawf o'i wroldeb. Fel hyn yr oedd Iesu 'yn ymgynhal, yn rhedeg ei yrfa, yn gweithredu ffydd. At y cywilydd a berthynai i farwol- aeth trwy groeshoeliad y cyfeirir. Gwel 1 Cor. i. 23.

A eisteddodd, «fee. Gwel i. 3; viii. 1; x. 12. Hwn yw y llawen- ydd a osodwyd o'i flaen ; ac am fod y wobr i'w henill yn orsedd frenhinol a thragwyddol, ie, yn orsedd Duw, gallai Iesu ddirmygu gwaradwydd, yn .gystal âg ymgynhal dano. Dyna y rheswm dros arfer yr ymadrodd ' "gorsedd Duw," yr hwn ni cheir yn yr Epistol ond yn unig yma.

ADN. 3.— Am hyny. Camgyfieithiad. {<Canys" yw y oyfieithiad cywir. Prawf ydyw yr adn. hon o'r hyn a ddywedwyd am Iesu yn yr ail adn., ei fod wedi ymgynhal dan waradwydd y groes, a'i ddirmygu. Defnyddir y prawf fel anogaeth fanylach i edrych ar Iesu, yn arbenigol yn ei wroldeb ffyddiog pan yn marw.

Ystyriwch.. I brofl y peth apelia yr awdwr at ystyriaeth ei ddarllen- wyr. Golyga y gair gwreiddiol " ystyried trwy gymharu," sef trwy gymharu eu Imnain, y rhai ni wrthwynebasant hyd at waed, âg Iesu, yr hwn a ymgynhaliodd dan y fath wrthddywedyd.

A ddyoddefodd; yn hytrach, a "ymgynhaliodd." Yr un gair eto, fel yn adn. 1 a 2.

Ddywedyd yn ei erbyn. Gwell yw peidio eangu ystyr yr ymad- rodd, gyda'r rhan fwyaf o'r esbonwyr, i gynwys pob math o wrthwyneb-

YR BPISTOL AT YR HEBREAID. 183

hynny yr hwn a ddioddef odd gyfryẅ ddywedyd yn ei erbyn gan bechaduriaid ; fel na flinoch, ac nad ymollyngoch yn eich •eneidiau. Ni wrthwynebasoch etto hyd at waed, gan ymdrech 4

iad, gan fod y gyffelybiaeth yn rhedeg ymlaen o hyd. Yr ydym ni, wrth redeg yr yrfa, wedi ein hamgylchu gan gwmwl o dystioni'n calonogi, ac y mae Iesu ei nun yn ben-tywysog y rhedegwyr. Ond nid oedd ganddo ef, pan yn rhedeg ei yrfa, neb i'w galonogi ; i'r gwrthwyneb, amgylchynid ef gan hi o ddirmygwyr a gwatwarwyr, yn crochlefain, " Ymaith kg ef ! "

Gan bechaduriaid; yn llythyrenol, "gany pechaduriaid;" byny yw, y rhai oedd yn anad pawb yn bechaduriaid , tra yr oedd yntau yn anad pawb yn sanctaidd, difalais, dihalog, a didoledig oddiwrth y pechaduriaid.

Yn ei erbyn. Darllena Westcott a Hort, yn eu hargraphiad o'r Testament Groeg, a'r C.D.S., a Kendall, a Tischendorf yn ei argraphiad diweddaf, "yn eu herbyn eu hunain." Sylwa Dr. Thomas fod y nifer amlaf o'r beirniaid yn gwrthod y darlleniad hwn. Ond nid yw golyg- iad unrhyw feirniad oedd yn ysgrifenu cyn i Tischendorf ddarganfod y llawysgrif Sinaitaidd i'w gymmeryd i ystyriaeth. Ymddengys i mi na« gallwn benderfynu, er fod yn rhaid cydnabod fod awdurdod uchel iawn dros y darlleniad " yn eu herbyn eu hunain ;" oblegid felly y darllena yr hen gyfieithiad Syriaeg a wnawd yn yr ail ganrif , yr Itala (y cyfieithiad Lladin a wnawd oddeutu yr un amser, cyn dyddiau Jerom), y llawysgrif Sinaitaidd a'r un a elwir D. O'r llawysgrifau henaf nid oes ond A yn darllen " yn ei erbyn." Os mabwysiedir y darlleniad, " yn eu herbyn eu hunain," yr ystyr ydyw fod Iesu yn ymgynhal dan wawd ei elynion er fod eu gwrthddywedyd yn troi ar eu penau hwynt eu hunain, yn eu <lamnedigaeth. Yr oedd y syniad yn ychwanegiad at ing calon dyner y Gwaredwr. Ond ymgynhaliai dan y drychfeddwl ofnadwy ei fod ef yn achlysur o'u dinystr, ac ni oddefodd i dynerwch ei dosturi ei feddalhau nes peri iddo droi yn ol. Gwel Num. xri. 38. Ond y mae y darlleniad arall, " yn ei erbyn," yn ymddangos yn llawer mwy naturiol gyda'r gair "gwrthddywedyd." Yn wir, hyd yn nod os derbynir y darlleniad "yn eu herbyn eu hunain," rhaid rhoi i mewn y geiriau " yn ei erbyn " i wneyd ystyr "gwrthddywedyd" yn gyflawn. Ar y cyfan, mwy tebygol yw y darlleniad " yn ei erbyn."

Fel na flinoch ac nad ymollyngochyn eich eneidiau: yn llythyr- enol, "fel na ddiffygioch trwy ymollwng yn eich eneidiau." Hyny ydyw, yr achos paham y mae dynion yn diffygio yn y rhedegfa, yn yr hon y cyfranogant gyda'r holl saint fel eglwys, ydyw ymollyngiad personol a graddol yn yr enaid.

ADN. 4.— Hyd at waed. Deallir y geiriau hyn yn gyffredin fel cyfeiriad at ferthyrdod, fel pe dywedasai yr awdwr nad oedd neb yn eu pbth eto wedi eu merthyru dros Grist ; ac oddiwrth yr esboniad yna y mae lliaws wedi ceisio profi nad at yr eglwys yn Jerusalem yr ysgrifenwyd y llythyr, gan fod rhai yn yr eglwys hono wedi dyoddef merthyrdod. Ond rhaid i ni gofio fod y gyffelybiaeth oddiwrth y campau yn parhau hyd yr adn. hon, gydag ychydig symudiad oddiwrth y rhedegfa at yr ymladdfa. Yn wir, y mae y cyfnewidiad hwn yn y gyffelybiaeth wedi ei wneyd, mewn rhan, eisoes yn y cyfeiriad at Iesu yn ymgynhal o dan y fath ddyweyd yn ei erbyn gan y pechaduriaid. Ond, os oes cyfeiriad yma at y campau, nid wyf yn meddwl y buasai un darllenydd Groegaidd yn gweled unrhyw gyfeiriad at ferthyrdod yn y geiriau o gwbl, mwy nag y meddyliai neb am farwolaeth ymladdwr wedi clywed yr ymadrodd Saesneg " to draw blood."

184 YE EPIBTOL AT YE HEBEEATD.

6 yn erbyn pechod. A chwi a ollyngasoch dros gôf y cynghor,. yr hwn sydd yn dywedyd wrthych megis wrth blant, Fy mab, na ddirmyga gerydd yr Arglwydd, ac nac ymollwng pan y'th

6 argyhoedder ganddo : Canys y neb y mae yr Arglwydd yn ei garu, y mae yn ei geryddu : ac yn fflangellu pob mab a dder-

7 bynio. Os goddefwch gerydd, y mae Duw yn ymddwyn tu ag

Heblaw hyny, pe at ferthyrdod y cyf eiriai yr awdwr, ni buasai yn dyweyd " eto " neu " hyd yn hyn," fel pe disgwyliai y gelwid arnynt ar ol hyn i ddyoddef merthyrdod. Ystyr naturiol y geiriau " hyd at waed" ydyw hyd at fan boethaf yr ymdrech. Yr oedd Iesu wedi dyoddef y groes ; ond nid oeddynt hwy wedi dechreu ar yr ymdrech megis o ddifrif ac i bwrpas. Dyfyna Alford eiriau Seneca, " nis gall campwr ddwyn llawer o ysbryd i'r ymdrechfa, yr hwn ni waedodd eto." Nid oes dim yn yr adn. hon i benderfynu at ba eglwys yr anfonwyd yr Epistol.

Pechod; neu, "y pechod." Parheir y gyffelybiaeth o ymladdfa. Pecbod ydyw y gwrthwynebwr. Hyn ydyw gwaith Cristionogion yn y byd, brwydro yn erbyn ei bechod, fel y gwnaeth Crist. Y mae yn debygol, gan byny, mai nid eu pecbodau eu bunain a olygir, o'r hyn lleiaf yn benaf , ond " y pechod " yr ymladdodd Crist yn ei erbyn, fel cyfundrefn unedig o ddrygioni.

ADN. 5. Derbynia lliaws o esbonwyr awgrym Calvin, mai gofyniad ydyw yr adn. hon : "Aca anghofiasoch," &c. P _ Tynera hyny y geiriau. Ond y mae yn anmhosibl bod yn sicr pa un ai mynegiad ai gofyniad a amcanai yr awdwr ; ac nid yw o bwys.

Yn dywedyd; yn hytrach, "yn ymddiddan;" gair teuluaidd. Per- sonolir y cynghor, fel y personohr Doethineb yn Llyfr y Diarhebion, yr hwn addyfynir yma (Diar. iii. 11, 12). Y darlun ydyw mam yn tori i ymddiddan a'i meibion, a hwythau, wedi colli adnabod ami, yn gwrando megis ar ddyeithrddyn yn llefaru. Nid yr ystyr ydyw eu bod wedi gollwng dros gof gynwys y cynghor yn unig, ond hefyd eu bod yn colli adnabydd- iaeth o'r cynghorydd. Gwel x. 30.

Ymollwng. Hwn yw y rhan fwyaf cymhwys o'r cynghor i'r Hebreaid hyn. Eu perygl uniongyrchol oedd digalondid, nid rhyfyg. Ond rhydd yr awdwr yr holl gynghor i mewn, am fod digalondid o'r diwedd yn arwain i rvfrg. ac ymollwng yn peri dirmygu. Dilyna yr awdwr gyfieithiad y Deg a Thriu gain . Ystyr yr Hebraegydyw, nid " ymollwng," ond "blino ar," fel yn y Bibl Cymraeg.

ADN. 6.— Ceryddu. Golyga y gair yn y llyfrau clasurol " addysgu plentyn." Yn y Deg a Thriugain a'r Testament Newydd golyga hefyd "geryddu plentyn ;" nid ei gosbi, fel y cosbir troseddwyr, ond ei geryddu gydar amcan o'i leshau. Efallai mai y gair " dysgyblu " sydd yn cynwys y ddau syniad oreu. ' ' Cospedigaeth " ydyw gair yr Esgob Morgan, a chyfieithiad gvrael ydyw.

Ac yn fflangellu, &c. O'r Deg a Thriugain. Yn ol yr Hebraeg, gyda phwyntiau y Masora, " megis tad ei fab anwyl ganddo." Y mae cyf- ieithiad y'Deg a Thriugain yn gywir yn ol pwyntiad arall.

A dderbynio. Dysgybla yr Arglwydd bob un o'i feibion, a char hwynt oil fel eu gilydd ; ond derbynia rai, nid yr oil, ohonynt, mewn modd arbenig i waith ac anrhydedd. Dysgybhr y rhai hyny nid trwy geryddon esmwvrh, ond à fflangell.

ADN. 7.— Os goddefwcb. gerydd. Y mae yn hollol sicr fod yn rhaid newid y darlleniad i "er dysgyblaeth yi* ydych yn ymgynhal."

ÍB EPISTOL AT YE HEBREAID. 1 85

attoch megis tu ag at feibion ; canys pa f ab sydd yr hwn ixx^ yw ei dadyn ei geiyddu? Eithr os heb gerydd yr ydych, o'r 8 hwn y mae pawb yn gyfrannog; yna bastardiaid ydych, ac nid meibion. Heb law hynny, ni a gawsom dadau ein cnawd i'n 9 ceryddu, ac a'w parchasom hwy ; onid mwy o lawer y byddwn ~ddar»styngedig i Dad yr ysprydoedd, a byw? Canys hwynt- 10 hwy yn wir dros ychydig ddyddiau a'» ceryddent fel y gwelent hwy yn dda; eithr hwn er llesâd i ni, fel y byddem

Felly y darllena yr holl lawysgrifau henaf . Cymhelliad i ymgynhal yn ddewr a roddk yma. Y cymhelliad ydyw mai er mwyn ein dysgyblu y mae Duw yn ein ceryddu, ac, am hyny, ni a ddylem ymgynhal. Y mae y geiriau nesaf yn frawddeg annibynol, u megis tuag at feibion yr ymddyga Duw tuag atoch."

ADN. 8.— Bastardiaid ; hyny ydyw, heb hawl i ran o'r etifeddiaeth. Dichon f od yma gyf eiriad at Hagar ac Ismael ; yn hollol i'r un perwyl â chyfeiriad yr Apostol Paul atynt yn yr Epistol at y Galatiaid. Y mae yr «tif edd dan ymgeleddwyr a llywodraethwyr, tra y mae yn fachgen ; ond bwrir allan mab y wasanaethferch, ac ni cheryddir, ni ddysgyblir ef.

ADN. 9.— I'n ceryddu; " i'n dysgyblu ; " yn llythyrenol, " yn ddysgyblwyr," gyda chyfeiriad haner-cudd at eu toster.

I Dad yr ysbrydoedd. Gwel Num. xvi. 22; xxvii. 16; Preg. xii. 7. Y onawd ydyw y rhan farwol a daearol o ddyn, yr hon a drosglwyddir o dad i f ab ; yr ysbryd ydyw y rhan anf arwol ac anfaterol, yr hon a grea Duw ymhob dyn ac na pherthyn iddi ymraniad a throsglwyddiad. Nid ydym i dybied fod y cwestiwn, pa un ai creadigaeth uniongyrchol Duw ai ynte creadigaeth anuniongyrchol trwy darddiad o'u rhieni ydyw ysbryd- oedd dynion, o flaen meddwl yr awdwr. Nid oedd y cwestiwn wedi dyfod i'r golwg y pryd hwn. Ond, can belled ag y mae ei eiriau yn rhoi awgrym ar y pwnc, ymddengys i mi eu bod yn fi'afrio y syniad o greadig- aeth uniongyrchol. Golyga rhai esbonwyr mai yr ystyr ydyw mai Duw ydyw Tad y doniau ysbrydol sydd yn yr eglwys. * Ceir y gair " ysbryd- oedd," gellid meddwl, yn yr ystyr yna yn 1 Cor. xiv. 12. Ond yma byddai yr ystyr hwn yn hollol anmherthynasol. Nis gallaf beidio meddwl fod cyssylltiad agos rhwng yr Epistol hwn a Clement o Kufain, a dyfyna ef yr adn. hon, gyda chyinewidiad sydd yn ei gwanhau. Deallai ef wrth yr ymadrodd "Tadyr ysbrydoedd " mai Duw ydyw creawdwr ac arolygwr pob ysbryd. Defnyddir y gair " Tad" yma i gyssylltu hyn â'r hyn a ddywedwyd o'r blaen am ddysgyblaeth tad.

A byw. Canly niad ymddarostyngiad i Dad yr ysbrydoedd fydd byw byth. Cyf eiriad sydd yma at eiriau Habbaccuc yn x. 38, "fy ng\Vr cyfiawn i a fydd byw." " Ft/ ngŵr cyhawn;" oblegid Duw yv? ei Dad. Ond trwy ffydd y bydd y mab hwn byw, ac eglurir i ni bellach ystyr "ffydd," fel gallu i ymostwng ac ymgynhal, nid yn unig dan anhawsderau, ond hefyd dan ddysgyblaeth Tad. Y syniad ychwanegol yn yr adnodau hyn (5 11) ydyw esbeniad yr awdwr ar y gair " fy " yn Habaccuc.

ADN. 10. I ddangos y dylem ymostwng i ddysgyblaeth Tad yr ysbrydoedd yn fwy hyd yn nod nag i dadau ein cnawd, crybwylla yr awdwr ddau wahaniaeth rhyngddo ef a hwynt. Yn gyntaf, "am ychydig ddyddiau " y dysgyblant hwy. Eglura rhai mai ystyr yr ymadrodd ydyw 11 tuag at, gyda golwg ar, ychydig ddyddiau," sef bywyd byr dynion ar y ddaear. Ond y golygiad arall yw y goreu, am nad yw y syniad gwrth- £yferbyniol i fyrder bywyd, sef fod Duw yn dysgyblu erbyn y bywyd

186

YR EPISTOL AT YR HEBREAID.

11 gyfrannogion o:i sancteiddrwydd ef. Etto ni welir un «erydd dros yr amser presennol yn hyfryd, eithr yn anhyfryd: ond gwedi hynny y mae yn rhoi heddychol ffrwyth cyfiawnder i'r

diddiwedd ar ol angau, yn cael ei grybwyll gan yr awdwr. Yr jstyr ydyw mai sefyllfa barotoawl, fèr ei pharhad, o'r hon y cawsoia ein rhyddhau mor fuan ag y gallem wneyd heb ddysgyblaeth allanol, oedd ein hym- oetyngiad i dadau ein cnawd. Ar gyl'er hyn y mae y geiriau, " eithr hwn fel y byddem gyfranogion o'i sancteiddrwydd ef." Nid dysgyblaeth i'n parotoi ai i weithredu drosom ein hunain, yn annibynol arno ef, ydyw dysgyblaeth Tad ein hysbrydoedd, ond dysgyblaeth i'n dwyn i berthynas agosach a mwy ymddibynol nag erioed, yn gymaint felly fel na orphenir y ddysgyblaeth hyd nes y byddo ein hoLL ysbryd yn byw trwy gyf ranogi o'i sancteiddrwydd ef. Hon fydd etifeddiaeth y meibion, nid cynysgaeth wedi ei throsglwyddo oddiwrth y Tad, ond cydgyfranogiad gyda'r Tad, a hyny yn sancteiddrwydd gogoneddus y Tad ei hun. Pa faint mwy, ynte, y dylem ymostwng i'r ddysgyblaeth sydd, nid yn ein rhyddhau oddiwrtho, oad yn ein dwyn i undeb agosach âg ef ! Yn ail, "fel y gwelent hwy yn dda" yr oedd tadau ein cnawd yn ein dysgyblu; hyny ydyw, gallent gamgymmeryd mewn barn, a ffaelu mewn tymher, a dichon fod y meibion yn gwybod hyny ar y pryd ; eto ymostyngent i ddyoddef cam ar law tad. Ar gyf er hyn y mae y geiriau, " eithr hwn er lleshad i ni." Nid yw Duw yn camgymmeryd nac yn camymddwyn tuag at ei feibion. Pa faint mwy, ynte, y dylem ymostwng i ddysgyblaeth sydd yn sicr o fod er lleshad i ni ! Fe welir fod yr ymadroddion cyf erbyniol wedi eu gosod megis yn groes, fel hyn : *X^ Digwydda hyn yn fynych. Cawsom esampl yn pen. v., lie y mae adn. 2 yn gyferbyniol i adn. 6, ac adn. 4 i adn. 5. Ond, yn ychwanegol at hyn, y mae " cyfranogiad o'i sancteiddrwydd ef " yn egluro y gair "lleshad." Gellir darllen: "er lleshad hyd at gyfranogiad," &«. Yr amcan a gyrhaeddir ydyw ein lleshad, a mesur neu raddau y lleshad ydyw cyfranogiad o'i sancteiddrwydd ef .

ADN. 11. Rheswm eto dros ymostwng i'r ddysgyblaeth: er rod y ddysgyblaeth ar y pryd yn boenus, y mae y budd yn gorbwyso y boen. Y mae dysgyblaeth ynddi ei hun yn ymddangos i'r teimlad presenol yn anhyfryd, pa un ai tadau y cnawd ai Tad yr ysbrydoedd sydd yn «i gweinyddu. Ar ol hyny, nid ar y pryd, y gwelir pa mor lesol y bu.

Heddychol flrwylh cyfiawnder. Golyga rhai mai yr ystyr ydyw fod heddwch neu dangnefedd oddifewn yn ffrwyth a gynyrchir gan ddysgyblaeth eyfiawnder tadau y cnawd a Thad yr ysbrydoedd. Ond mwy naturiol (yn enwedig yn y gwreiddiol) ydyw y golygiad cyffredin, mai "cyfiawnder," neu adferiad y berthynas ddylai fod rhwng tad a mab, rhwng y llywodraethwr a'r deiliad, ydyw y ffrwyth a gynyrchir gan ddysgyblaeth. Y mae y ffrwyth hwn yn "heddychol; ' hyny yw, cyn- yreha dangnefedd yn yr ysbryd, ar ol yr anesmwythyd poenus a achosir gan euogrwydd.

Oynnefino. Un o'r cyfieithiadau mwyaf anhapus, a'r Esgob Morgan eydd yn gyfrifol am dano yn y lie hwn. Gwell fyddai, " i'r rhai sydd wedi eu dysgyblu trwyddo ;" ef nad yw hyn ychwaith yn foddhaol. Cyfeiria y gair at y campau eto. I'r rhai sydd wedi cael eu harfer i'r gwahanol ymdrechion; i'r rhai sydd yn hollol gymhwys trwy hir ymarferiad gofalus i sefyll y prawf , nid yw unrhyw ddysgwyliad am ymdrech yn y dyfodol yn peri braw. Yr ymarferiadau parotoawl a olygir. Desgrifia yr awdwr ein dysgyblaeth ar y ddaear dan law Tad yr ysDrydoedd fel ymarferiad

"iü EPISTOL AT YR HEBEEAID. 187

rhai sydd wedi eu cynnefino âg ef. Oherwydd paham cyfodwch 12 i fynu y dwylaw a laesasant, a'r gliniau a ymollyngasant. A 13 gwnewch lwybrau uniawn i'ch traed; fel na thròer y cloff

parotoawl, "training" erbyn unrhyw brawf a ddiehonddyfodamomrhag- llaw, megis ymgynhal dan dragwyddol bwys gogoniant.

ADN. 12.— Oherwydd paham. Anogaeth ymarferol oddiwrth yr hyn a ddywedwyd am ddysgyblaeth Tad yr ysbrydoedd. Yr un anogaeth ydyw, o ran sylwedd, â'r anogaeth yn adn. 1 ac adn. 3 ; ond yn unig fod yr awdwr yn ymhyfhau fwyfwy. Yn adn. 1, anoga hwynt i redegyr yrfa, yn adn. 2 i beidio ymollwng ar ol dechreu rhedeg, yn adn. 12 i gyfodi i fynu y dwylaw sydd wedi Uaesu a'r gliniau sydd wedi ymollwng. Y mae y cwmwl tystien yn gymhelliad i gychwyn ; wedi gosod ein traed ar y rhedegfa y mae gweled Iesu o'n blaen yn gymhelliad i beidio ymollwng ; wedi ymollwng y mae meddwl fod ein profedigaethau yn ddysgyblaeth Tad yn gymhelliad i gyfodi i fynu ac ail ymegnio.

A laesasant ... a ymollyngasant. Ceir y geiriau hyn gyda'u gilydd yn fynych, ac nid ydym i ymofyn yn rhy fanwl am unrhyw wahaniaeth rhyngddynt. Dichon fod yr ail yn gryfach, ac yn golygu, nid ymollwng yn unig, ond ein bod wedi ein parly su. Nis gallaf lai na meddwl fod yr awdwr yn cyfeirio, nid yn unig at ei ddarllenwyr, ond at eu hymddygiad tuag at eraill hefyd, ac yn anog yr Hebreaid i uniawni dwylaw Uesg y brodyr gweiniaid yn yr eglwys.

ADN. 13.— Anogaeth eto i otaíu am y brodyr gweiniaid.

Llwybrau ; yn hytrach, " ôl ar y llwybr ;" hyny ydyw, wrth redeg, conwch fod eraill yn dilyn, ac y gall y rhigolau igam ogam a wnaethoch ckwi beriniwed iddynt. Dyfyniad o Diar. iv. 26, yn oi y JJeg a Thriugain, yn lied agos.

Fel na throer y cloff allan o'r ffordd, &c. Cvfieithiad arall a dderbynid gan y tadau Groegaidd : " fel na thafler yr aelod cloff allan o'i le." 0 blaid y golygiad kwn y mae y rhesymau canlynol : (1) M Y peth cloff " a ddywedir, nid " y dyn cloff." Y mae yn wir y gellid esbonio hyn trwy ddyweyd mai dull mynych yn mhlith y Groegiaid oedd galw dy» yn " beth " i awgrymu yn gynil ryw gymaint o ddirmyg. Gwel 1 Cor. i. 27, 28. Ond nid yw yn debygol fod yr awdwr yn amcanu dangos unrkyw ddirmyg yn y lie hwn. (2) Y mae yn sicr fod y gair gwreiddiol (ektrepo) yn golygu weithiau, mewn llyfrau meddygol, " taflu aelod o'i le." (3) Y mae y syniad o iachau yn fwy cydweddol â'r syniad o droi aelod nag â'r syniad o droi allan o'r ffordd. Gallem feddwl fod y rhesymau hyn yn penderfynu y cwestiwn. Ond nid yr ystyr ydyw fod dyn yn peri cloff ni iddo ef ei hun. Oblegid y mae yn ankawdd gweled pa fodd y mae ein bod yn uniawnu yr ôl ar y llwybr yn eki hiachau ni ein hunain, pan y mae rhyw ran ohonom yn afiach ; ond hawdd ydyw deall pa fodd y mae hyny yn gymhorth i arall i beidio tripio a thaflu aelod o'i le. Y mae yr awdwr yn ysfcyried fod yr eglwys yn un corph, a'n bod, fel y dywed Paul, "yn aelodau o ran" (1 Cor. xii. 27;.

3. Anogaeth i wyliadicriaeth arnynt eu hunain a'r eglwys. xii. 14—17. Gwell peidio cyssylltu yr adnodau hyn â'r adnodau blaenorol, ond fel y gall fod yr hyn a ddywedwyd am ofaly naill aelod am y Hall wedi awgrymu i'r awdwr ymha gyfeiriadau yn fwyaf neillduol yr oedd perygl i rai o'r aeltdau gloffi, ac yr oedd y ddyledswydd i ofalu am danynt yn gorphwys ar y lleill.

18$ YR EPISTOL AT YR BEBHSAIB,

14 allin o'r fíbrdd, ond yr iachâer efe yn hytrach. Dilynwch heddwch á pîiawb, a sancteiddrwydd, heb yr hvn m chaiff neb

15 weled yr Argrwydd : Gan edrytn yn ddyfal na bo neb yn paflu oddi wrth ras Duw ; rhagbodun gwreiddyn chwerwedd yn tyfu

16 i fynu, ac yn peri blinder, a thrwy hwnnw llygru llawer ; Na b$ un putteiniwr, neu halogedig, megis Esau, yr hwn arn nn

ADN. 14.— Diìynwch; yn llythyrenol, "erlynwch," "ymegnfcrok," " ymdrechwch sicrhau." Gwel 1 Cor. xü. 31, lie y mae " dẁisyiwch" yn rhy wan : 1 Pedr iii. 11, " düyned ef ."

Heddwch. Yr oedd yr Iuddewon yn hynod o gwerylgar, ac yn arbenig felly yn y blynyddoedd cyn dinystr Jerusalem. Os at yr eglwys yn Jerusalem yr ysgrifenwyd yr Epistol, dichon i anogaeth yr awdwr yn yr adn. hon yn anad dim dueddu y Cristionogion i fyned allan o'r ddénas, yr hon oeddyn 11a wn o bieidiau ymladdgar ac annuwiol, i Pella yn De«apolis, fel y dywed Eusebius. Yr oedd yn anmhosibl oadw tangnefedd heb golli eancteiddrwydd yn Jerusalem.

A phawb ; hyny ydyw, nid â'u gilydd yn unig. Gwel Rhuf xii. 18.

A sancteiddrwydd ; hyny ydyw, nid oeddent i ab«rth» saueteidd- rwydd er mwyn heddwch.

'Yr Arglwydd. Ymddêngys i mi mai Crist a olygir, gyda diyfeiriad at ix. 28. Fe'i gwelir ef er iachawdwriaetk gan ei bobl yn ei ail ymddang- osiad, ond nid ar wahan oddiwrth sancteiddrwydd. Rhaid fod gwaed Crist wedi gwneyd ei waith arnom. Y mae Crist wedi myned i'r cysegr nefol i gael i ni dragwyddol ryddhad, ac esboniad ar natnr y rhyddhad hwnw ydyw "sancteiddrwydd;" obkgid rhyddhad ydyw o gaethiwed pechod ac oddiwrth euogrwydd. " Gweled yr Arglwydd" fydd cael ei ffan- bvth ; ac y mae ei ffafr ef yn fwy peth na heddwoii pawb hebddo.

ADN. 15.— Dywed yr adn. hon pa fodd y maent i ddilyn heddwoh a sancteiddrwydd, yn enwedig yn eu plith eu hunain fel eglwys.

Pallu. Yn Deut. xxix. 18, o'r lie y mae yr awdwr yn dyfynu, y gair ydyw " troi oddiwrth yr Arglwydd." Newidia yr awdwr y gair er mwyn defnyddio gair tyneraoh, ac er mwyn dwyn i mewn gymhelhad i'r Hebreaid i wylio dros eu gilydd: ac ystyr y gair a arfera yina ydyw li .syrthio yu fyr o gyrhaedd gras Duw," hyny ydyw, y fendith sydd wedi ei kaddaw, yr orphwỳsfa sydd yn ol. Nid yw yr adn. yn oyifwrdd dim â'r cwesttwn o'r posibilrwydd i ddyn gwympo o srfyllfa o iachawdwriaeth. Defnyddia yr amseriad preeenol yn y gwreiddidl i awgrymu mai gwaith graddol ydyw syrthio yn fyr.

Gwreiddyn chwerwedd ; nid " gwreiddyn chwerw," oblegid nid melus yw gwreiddyn y coed afalau ; ond " gwreiddyn y mae ei ffrwyth yn ôvwer w." Ac felly y dywedir yn Dwit. xxix. 18. " rhag bod yn eich mysg wreiddyn yn dwyn gwenwyn neu wermod." Sylwa Westcott mai dyn peryglus, ac nid athrawiaeth beryghts, a olygir.

Llawer ; yn hytrach, "y Uiaws ;" hyny ydyw, yr holl eglwys. Cyfeiriad at Deut. xxix. 18, " rhag bod yn eich mysg ŵr neu wraig, neu deulu. neu lwyth." Y rn*e y drwg yu ymledu i'r teulu ac i'r llwyth.

ADN. 16.- Puteiniwr ; nid yn yr ystyr o enatlio oddiwrth Dduw, yr ystyr sydd i'r gair yn yr Hen Destajnent ; ond yn llythyrenol, eto yn cymmeryd i mewTi bob math o aflendid, fel yn Lef. xviii. ; Matt. v. 32. Gwel xiii. 4 ; 1 Cor. vi. 9.

Halogedig. Prin y mae y gair hwn yn gosod allan yr ystyr. Golyga y gair gwreiddiol, yn llythyrenol, " y neb a aaturia fyned i unrhyw fan ;"

YE, EPISTOL AT YR HEBKEAID. 189

saig o fwyd a werthodd ei enedigaeth-fraint. Canys chwi a 17 svyddoch ddarfod wedi hynny hefyd ei wrthod ef , pan oedd efe yn ewyllysio etifeddu y f endith : oblegid ni chafodd efe le i

ac felly ei ystyr yw, dyn nad oes un lie na neb yn gysegredig yn ei olwg. Hwn oedd ysbryd Esau; oblegid gwerthodd ei hawl i f endith y cyfamod am un saig o fwyd. "Wele fi yn myned i farw, a pha les a wna yr enedigaeth-fraint hon i mi ?" Fel pe byddai ei farwolaeth yn rhoi pen ar ei obeithion ! Nid eegynai ei fryd i'r byd ysbrydol. Yr oedd heb barch i bethau cysegredig ; "profane" " the secular spirit."

Megis. Y mae yn amheus a ydyw yr awdwr yn bwriadu dyweyd fod Esau yn buteiniwr yn gystal â bydol-ddyn. Nid oes dim yn Llyfr Genesis yn awgrymu ei fod yn ddyn aflan ; ond y mae hyny yn nhraddodiadau diweddarach yr Iuddewon. Cawsom angreifftiau eisoes o'r awdwr yn derbyn rhai o'r traddodiadau Iuddewig. Ond gan mai at fydolrwydd Esau y cyfeiria yr adnodau nesaf , gwell ydyw y dybiaeth nad oedd yr awdwr yn amcanu i'r gair " megis " olygu mwy na bod Esau yn esampl o'r ysbryd daearol nad yw yn cyfrif dim yn sanctaidd.

Ei enedigaeth-fraint ; yr hon a berthynai iddo fel y mab hynaf . Cymer yr awdwr y syniad mai y mab hynaf oedd i etifeddu y cyfamod a'i fendithion neillduol allan o rediad cyffredinol yr hanes. Gwel Gen. xxr. 31 ; Deut. xxi. 17.

ADN. 17.— Er fod Esau yn diystyru yr enedigaeth-fraint, dymunai etifeddu y f endith. Rhaid gwahaniaethu, gan hyny, rhwng yr enedigaeth- fraint a'r fendith. Cynwysa yr enedigaeth-fraint yr addewid a roddasai Duw i Abraham trwy lw ar Moriah, "Yn dy had di y bendithir holl genhedloedd y ddaear." Cynwysai y byddai Duw Abraham a Duw Isaac yn Dduw i'r neb a'i hetifeddai. Nid oedd yr enedigaeth-fraint yn ymddy- bynu ar fendith Isaac. Nis gallai Esau ei cholli ond yn unig trwy ei weithred fwriadol ef ei hun. Nid gwir a ddywedodd efe am Jacob, " dug fy ngenedigaeth-fraint." Ond y mae Esau ei hun yn gwahaniaethu rhwng yr enedigaeth-fraint a'r fendith, Gen. xxvii. 36; ac y mae yn eglur oddiwrth eiriau Isaac wrth fendithio y ddau fab mai cyfoeth daearol a gynwysai y fendith, ac mai rhagoriaeth bendith y mab hynaf, yr hon a ddygodd Jacob oddiar Esau, oedd arglwyddiaeth ar ei frodyr. Ystyr yr hyn a ddywed yr awdwr yn yr adn. hon ydyw fod Esau, trwy ddiystyrn a gwerthu y peth mwyaf , wedi colli hefyd y peth lleiaf , yr hwn a ddymunai, fel cosbedigaeth am hyny.

Ei wrthod ef ; hyny ydyw, yn ei gais am y fendith. Teimlai Isaac nad oedd bosibl dadwneyd y weithred o fendithio Jacob. "Bendigedig hefyd fydd efe." Gen. xxrii. 33. Golygai y tad nad oedd efe ond cyfrwng yn llaw Duw i fynegu a throsglwyddo yr ewyllys ddwyfol. Ynìiyn yr oedd ei fFydd. Gwel xi. 20. Oblegid hyny gwrthodwyd cais Esau gan Isaac, fel cynrychiolwr y Duw hwnw yr hwn oedd eisoes wedi ei wrthod ganddo, pan werthodd efe yr enedigaeth-fraint.

Canys ni chafodd efe le i edifeirwch. Ymddengys i mi mai nid yr ystyr ydyw nas gallodd Esau berswadio Isaac i edifarhau neu ddad- wneyd y weithred, nac ychwaith na chafodd Esau, er iddo edifarhau, le i'r edifeirwch hwnw weithredu mewn adfer iddo y fendith. Pe y blaenaf fuasai yr ystyr, nid " cael " a ddywedasai yr awdwr; a phe yr ail fuasai yr ystyr, nid "lie" a ddywedasai. Yr ystyr, fel yr ymddengys i mi, ydyw na chafodd Esau gan Dduw gyfle neu gynyg i edifarhau. Y mae y syniad hwn yn hollol yr un peth â'r hyn a ddywed yr awdwr yn vi. 6. Yr oedd Esau wedi syrthio yn hollol ymaith pan y gwerthodd ei enedigaeth-fraint,

190 YR EPISTOL AT YR HEBREAID.

18 edifeirwch, er iddo trwy ddagrau ei thaer-geisio hi. Canys ni

Yn iaith dyddiau yr efengyl, yr oedd wedi ail groeshoelio iddo ©i hua Fab Duw a'i osod yn watwar. Cynyg ar edifeirwch ydyw ystyr yr ymadrodd "lie i . edifeirwch " yn Epistol Clement o Rufain (pen. vii. 5); canys crybwylla fel esampl o Dduw yn rhoddi " lie i edifeirwch " ei fod yn anfon Noah i bregethu edifeirwch. Dadleua Westcott na olyga yr awdwr ddim mwy na bod cais Esau am adfer iddo y fendith wedi ei wrthod, nid fod Esau ei hun wedi ei wrthod. Ond y mae y gair gwreiddiol am " wrthod " yn y lie hwn yn llawer rhy gryf i osod allan y syniad mai methu dadwneyd gweithred Isaac yn rhoddi y fendith i Jacob a olygir. Ystyr y gair (apedokimasthe) ydyw " efe a anghymmeradwywyd." Gwel fFiirf arall ar yr un gair yn vi. 8 ; 1. Cor. is. 27 ; a'r un ffurf yn 1 Pedr ii. 4. Heblaw hyny, nid oes un awgrym yn yr hanes nac yn yr Epistol fod Esau wedi peidio bod yn ŵr dibris o bcthau ysbrydol, ac am ei ysbryd dtbarch i bethau cysegredig gwrthododd Duw y dyn yn gystal a'i gaie.

Er iddo twy ddagrau ei thaer-geisio hi. Yr oedd y cyfieithwyr Cymraeg, y mae yn eglur, yn golygu mai ceisio y fendith a feddylir. Gellir darllen, " ei daer-geisio ef," sef yr edifeirwch. Felly Eferard ae Aiford. Ond wrth "edifeirwch" y golygant hwy ail gynyg i enill y fendith. Y mae yr esboniad hwn ar yr edifeirwch yn annigonol„ ac nid yw ychwaith yn unol â'r hanes, er ei fod yn dwyn eu golygiad ar yr adn. hon yn bur agos at y gwir ystyr. Rhaid mai y fendith a olygai yr awdwr. Gwahan- iaetha rhwng edifeirwch yn ceisio yr enedigaeth-fraint a dagrau yn ceisio y fendith ddaearol. Cafodd Esau daer-geisio hon á dagrau; ond, er hyny, ni roddwyd iddo gynyg ar edifarhau am werthu yr enedigaeth-fraint.

4. Ilhesicm arbenig dros ivyliadwriaeth, oddiwrth y cyferbyniad rhwng y ddau Gyfamod.

xii. 18—29.

Diau fod cyssylltiad agos rhwng yr adnodau hyn a'r adnodau blaenorol. Wedi anog ei ddarllenwyr i wyUo arnynt eu hunain a'r eglwys, ac wedi crybwyll Esau fel esampl o ddyn gwrthodedig, ychwanega yr awdwr reswm dros wylio sydd yn arbenig yn codi o ymresymiad ac athrawiaeth neillduol yr Epistol trwyddo. Gan hyny, tra y mae yr anogaeth yn cyssylltu yr adnodau hyn â?r adnodau blaenorol, y mae y rheewm dros yr anogaeth yn gwneyd yr adran fèr hon yn gymhwysiad naturiol oddiwrth ymresymiad yr holl Epistol. Cnewyllyn yr Epistol ydyw fod y datguddiad yn y Mab fel Archoffeiriad brenhinol wedi agor y ffordd i ni at Dduw. Yn yr adnodau hyn dangosir ofnadwyaeth yn gystal â gogoniant y fath wirionedd, fel rheswm dros wylio rhag gwrthod y datguddiad a'r hwn sydd yn llefaru ynddo. "Wrth dynu tua theriyn ei Epistol dychwel yr awdwr at y syniad a osododd i lawr yn y cychwyn, sef fod Duw yn datguddio ei hun yn Nghrist. Bu agos i ni anghofio y drychfeddwl hwn yn nghanol yr ymdra- fodaeth yn nghylch yr Archoffeiriad, y Cyfamod, y Gwaed, y Tabernacl. Ond meistrolaeth yr awdwr ar ein meddyliau oedd yr achos o hyny ; fel, erbyn iddo ddwyn y syniad i'r golwg drachefn, gwisgir ef mewn geiriau a chyffelybiaethau new^'ddion, y rhai a enillodd yr awdwr yn ystod ei ym- driniaeth, a meddienir ni â syndod gorfoleddus wrth ganfod unoliaeth a llwyddiant yr ymresymiad yn nghylch y Cyfamod Gwell.

ADN. 18.— Ehaid gadael allan y gair "mynydd" yr hwn ni cheir ond mewn un (D) o'r llawysgrifau henaf . Diau i ryw gop'iwr ei roddi i mevn o adn. 22. Sinai a feddylir. Ond gad yr awdwr yr enw allan yn

YR EPISTOL AT YE HEBBEAID. 191

ddaethoch chwi at y mynydd teimladwy sydd yn llosgi gan dan, a chwmmwl, a thywyllwch, a thynmiestl, A sain udgorn, a 19

fwriadol i alw sylw at y nodweddion a grybwyllir yn y geixiau dilynol- Nid y mynydd oedd y* bwysig, ond yr am gylchiadau.

Teimladwy; yn hytrach, "atbeth a deimlid." Yr eeboniad cyfrredin ar y gair ydyw mai mynydd daearol, gweledig oedd Sinai, mewn cyferbyniad i Sion ysbrydol. Ond ytfyr y gair psêlaphô ydyw " ymbalfaln " (dichon ei fod o'r un tarddiad, megis hefyd y Saesneg " paw"), fel yn Act. xvii. 27. Ymddengys i mi fod y gair yn cyfeirio at y dychryn a ddaliasai y bobl, fel yr oeddynt megis deillion yn ymbalfalu, ynghanol y cwmwl a'r tywyllwch, weithiau yn ymguddio yn y gwersyll, weithiau yn rhuthro at y mynydd i hylldremu. Par awdwr yr v pistol i mi feddwl yn awr ac eilwaith am Homer, yn ei allu i roddi d rlu cyflawn mewn un gair.

Sydd yn llosgi; yn liytnyrenol, " sydd wedi bod yn llosgi ;" hyny ydyw, fel y tybiwyf , o'r pryd hwnw hyd heddyw. I'r gwrthwyneb, y mae tân Sinai wedi hen ddiffoddi.

Gan dân. Golyga amryw, Chrysostom, Primasius, a TVestcott yn en plith, mai y darlleniad cywir ydyw "at dân teimladwy a llosgedig." Ond y golygiad arall sydd gywir ; oblegid felly y mae yn Deut. iv. 11, y man a ddyfynir yma : " y mynydd oedd yn llosgi gan dân." Heblaw hyny, y mae y gair a gyfieithir "teimladwy," sef "ymbalfalu," yn anghymwys i'-w ddefnyddio gyda golwg ar dân. Y mae yn gwbl annaturiol tybied. fel y gwna Chrysostom, fod yr awdwr, wrth son am "dân y gellir ei deimlo " yn meddwl am dano mewn gwrthgyferbyniad i Dduw, " y tan ysol," fel y dywedir yn adn. 29.

Cwmwl ; neu, " niwl." Y mae cynydd yn natur arswydlawn y pethan: niwl— tywyllwch nos— tymhestl— udgorn— lief. Gwel Exod. xix. 16.

Sain udgorn. Arwydd o bresenoldeb Duw oedd yr udgorn, a defnyddir ef vn yr Ysgrythyr yn gyffelybiaethol am weithrediad dwyfol. Gwel Exod. xix. 16 ; Zech. ix. 14 ; 1 Cor. xv. 52.

Lief geiriau ; sef lief Duw yn cyhoeddi y deg gorehymyn. Gwel Deut. iv. 12, 13. Parotoi ar gyfer y lief hon wnai yr holl olygfeydd arswydlawn a grybwyllwyd ; ac yn y lief y cawn yr esboniad paham y dwg yr awdwr i mewn y cyferbyniad irhwng Sinai a Sion. Gallasem ddisgwyl iddo gyferbynu yn hytrach fynediad yr archoffeiriad i'r sancteiddiolaf ar ddydd y cymod a dyfodiad pechadur at Dduw yn Nghrist. Ond dewisa efe yn hytrach gyfeirio at ddisgyniad Duw ar Sinai ; am ddau reswm : (1) Gwnaeth ddefnydd eisoes o fynediad yr archoffeiriad i'r sancteiddiolaf yn y tebygolrwydd sydd rhwng hyny a dyfodfa pechadur at Dduw ; ond yn awr y mae arno eisiau dangos, nid tebygolrwydd, ond cyferbyniad. (2) G an 'fod yr adnodau hyn yn ddiweddgío i'r holl Epistol, y mae yn angen- rheidiol dwyn i mewn y syniad o ddatguddiad oddiwrth Dduw i ddynion, a'r peth pwyricaf ar Sinai oedd y lief. Yr oedd yr hyn a gymmerodd le ar Sinai yn ddatguddiad o Dduw. Yn wir y datguddiad hwn a barotodd feddyliau y bobli ymgymmeryd â'r gorehymyn yn nghylch aberthu. Yr oedd* y fath ofnadwyaeth yn perthyn i Dduw fel y teimlai y bobl fod yn rhaid ei gymodi. Yn hyn y mae y gwahaniaeth sylfaenol rhwng Sinai a Sion. Ar Sinai y datguddiad oedd yn galw am y cymod ; ar Sion y cymod a roddodd Crist ydyw sylfaen pob dyfodiad at Dduw a phob datguddiad ohono. Ond nid oedd unrhyw ddatguddiad o Dduw ar ddydd y cymod. Khoddwyd aberth, ond ni dderbyniwyd datguddiad. Ni ddywedir dim yn llyfrau Moses am sefyllfa meddwl y bobl oddiallan tra

192 YE EPISTOL AT YR HEBEEAID.

lief geiriau ; yr hon pwy bynnag a'i clywsant, a ddeisyfasant

20 na chwanegid yr ymadrodd wrthynt: (Oblegid ni allent hwy oddef yr hyn a orchymynasid ; Ac os bwystfil a gyffyrddai â'r

21 mynydd, efe a labyddir neu a wenir â phiccell. Ac mor ofnadwy oedd y golwg, ag y dywedodd Moses, Yr ydwyf yn

yr oedd yr arehoffeiriad yn y sancteiddiolaf . Ni sonir fod yr archoffeiriad yn gweddio yn y sancteiddiolaf, na bod Duw yn llefaru wrtho mewn atebiad. Ond ar Sinai yr oedd Moses yn llefaru wrth Dduw a Duw with Moses.

ADN. 19. Yr hon. sef y lief yn yr hon y llefarasai Duw y ddeddf foesol yn nghljw yr holl wersyll. Euogrwydd cydwybod a barai iddynt ofni. Yr oeddynt wedi cael datguddiad o Dduw yn ei ddeddf eanctaidd a hyd yma heb wybod â pha aberthau i'w gymodi. Boddlenent i Moses, ond nid i Dduw, lefaru. Gwel Exod. xx. 19; Deut. v. 22 28.

ADN. 20.— Ac os bwystfil a gyfiyrddai; yn hytrach, "hydyn nod os bwystfil a gyffwrdd." Nid ychwanegiad at yr hyn a orchymynasid ydyw y geiriau yma, ond cynwys y gorchymyn. Y gorchymyn i labyddio hyd yn nod y bwystfil a ddygwyddai gyffwrdd â'r mynydd oedd y peth nas gallai y bobl ei oddef . A phaham nas gallent ei oddef? Am fod euog- rwydd dynion, yn ol dysgeidiaeth yr Hen Destament, yn cael ei gosbi yn yr anifeiliaid direswm. Pan edifarhaodd ar yr Arglwydd wneuthur o hono ef ddyn, dywedodd, Dileaf o ddyn hyd anifail, Gen. vi. 7 ; a phan gadarn- haodd efe ei gyfamod â dyn ar ol y diluw, cynwysodd yn y cyfamod bob peth byw, Gen. ix. 10. Felly, dan Sinai, deallodd y"bobl oddiwrth y gorchymyn i labyddio y bwystfilod, fod Duw yn ymddwyn tuag at y bobl eu hunain fel trcseddwyr.

Neu a wenir a phicell. Rhaid gadael allan y geiriau hyn. Nid ydynt mewn un o'r llawysgrifau na'r cyfieithiadau henaf. Rhoddwyd hwynt i mewn gan ryw gopiwr o'r Deg a Thriugain.

ADN. 21.— Ac* mor ofnadwy oedd y golwg, ag y dywedodd Moses: yn hytrach, "A chan mor ofnadwy oedd yr ymddangosiad, dywedodd Moses ;" hyd yn nod Moses, y cyfryngwr ei hun. Ond yr hyn sydd yn hynod ydyw nad oes un crybwylliad yn yr hanes fod Moses yn ofni tra yr oedd efe gyda Duw ar Sinai. Golyga lliaws o'r esbonwyr fod yr awdwr wedi cael hyn yn y traddodiad Iuddewig. Felly Dr. Thomas a "Westcott. Ond nid oes un traddodiad o'r fath ar gael. Ar achlysur arall (Deut. ix. 19) dywedir fod Moses yn ofni " rhag y soriant a'r dig," sef pan y disgynai o'r mynydd ac y gwelai y bobl yn addoli y llo aur. Y mae yn bur naturiol i ni dybied mai at yr amgylchiad hwn y cyfeiria yr awdwr. Yr un peth sydd yn dyfod i'r golwg yn yr adnod hon eto, mai pechod y genedl oedd yn achosi ofn, Tra yr oedd Moses gerbron Duw yn y mynydd, yr oedd ei ysbryd yn dangnefeddus. Ond dychrynwyd ef, oblegid y dat- guddiad o Dduw yno, gan yr olwg ar bechod y bobl.

ADN. 22— ADN. 24. Desgrifìad gogoneddus o Fynydd Si'on, mewn cyferbyniad i Sinai. Ceisia Bengel ddangos fod y naill beth ar ol y llall a grybwyllwyd yn y desgrifiad o olygf eydd Sinai yn cyfateb i'r naill beth ar ol y llall yn y desgrifiad o Si'on. Ond y mae y tebygolrwydd yn rhy ddychymygol, ac ni enillai yr awdwr ddim wrth ymgais at hyny. Yr un pryd y mae y cyferbyniad yn fanylach na'r gwahaniaeth cyffredinol rhwng y ddau gyfamod* fel y cyiryw. Dyfyna rhai esbonwyr eiriau Theodoret, yr hen esboniwr Groegaidd, yr hwn a fu farw yn y flwyddyn 456 o.c, ac y maent yn sicr yn gosod y cyferbyniad rhwng y ddau ddar-

YE EPISTOL AT YR HEBEEAID. 193

ofni ac ym erynu.) Eithr chwi a ddaetlioch ifynydd S'ion, ac i 22

lun yn gywir a tharawiadel iawn: "Yno yr oedd ofn, yma y mae gwyl a chymanfa ; yr oedd y pethau hyny ar y ddaear, y mae y pethau hyn yn y nefoedd ; yno yr oedd miloedd o ddynion, yma y mae myrddiynau o atigelion ; yno yr oedd anghredinwyr a throseddwyr, yma y mae eglwys cyntafanedigion y rfeai a gofrestrwyd yn y nefoedd, ac ysbrydoedd cyf- iawnion wedi eu perffeithio ; yno yr oedd yr hen gyf amod, yma y mae y newydd; yno yr oedd gwas yn gyiryngwr, yma Mab; yno yr oedd gwaed anifeiliaid, yma y mae gwaed yr Oenpersonol." Ymae dosraniad Westcott o'r holl ddesgrifiad o Sion yn rhagwol, er ei tod yn agored i rai gwrth- ddadleuon :

I. Y Datguddiad Cristionogol yn ei gyflawniad : o ochr Duw (22, 23;.

(1) Ýr olygfa.

(a) Y sylfaen.

(6) Yr oruwchadeiladaeth.

(2) Y personau. (a) Angelion. (ô) Dynion.

II. Y Datguddiad Cristionogol yn ei eff eithiolrwydd : o ochr dvn

(23, 24).

(1) Y tarn: pan y mae y bywyd daearol drosodd.

(a) Y Barnwr.

(b) Y rhai a berifeithiwyd.

(2) Ähodd gras : yn ystod y bywyd daearol.

(a) Y Cvfamod.

(b) Yr lawn.

Tel yr awn ymlaen cawn gyfle i ystyried y dosraniad hwn yn fanylach. •Owkionedd penaf yr holl Epistol ydyw fod y datguddiad o Dduw a roddir yn y Xab yn sail dyfodfa at Dduw. Drachefm a thrachefn anoga yr awdwr ei ddarilenwyr i ddyfod. Gwel nodiad ar x. 22. Ond yn ei ddiweddglo arddun»l yn y ddeuddegfed benod ni phetrusa fynegu iddynt eu bod wedi dyfod eisoes. Cawsom gyfle amryw weithiau i weled nad ydyw yr awdwr hwn yn tynu llinell. fel y byddwn ni yn rhy gyffredin, rhwng rkagorfreantiau y saint ar y ddaear ac yn y nefoedd. Khwygwyd ,llen y eancteiddiolaf, ac erbyn hyn y mae pob man mor agos at Dduw A jphob man arall. Yn awr, nis gallaf lai na meddwl mai y syniad hwn sydd I yn rhoddi eu ffurf neillduol i'r adnodau hyn. Y r»ae y naill beth ar ol y llall o'r cwbl a enwir yn gylch o fewn cylch. Gesyd yr awdwr ei hun megis mewn dychymyg yn y sancteiddiolaf, yr hwn ydyw canolbwynt yr holl gyfundrein ysbrydol, a desgrifia yr holl gylchoedd, gan ddechreu gyda'r lleiaf a gorphen gyda'r mwyaf. O'r sancteáddiolaf gwel yr edrych- ydd fynydd ÍSion, i ddechreu; yna y ddinas, Jerusalem; yna yr angelion a'r cyntaf-amedigion, yn cyniwair drwy yr holl eglwys ar y ddaear; yna, pan ddyrchafa ei lygaid uwchlaw y ddaear. y Barawr; yna y rhai sydd wedi pasio y farn, ysbrydoedd y cyfiawnion; yna, yn uweh na'r holl olygfeydd hyn, tuhwnt iddynt oil a rhyngddynt á phresentódeb gogoneddus y Duw Mawr, y mae y Dyn Iesu, fel Cyiryngwr y eyfamod, a'i waed wedi ei daenellu ar y gymodfa nefol ; ac, fel hyn, y mae yr olygfe. yn diweddu yn y man y cychwynodd, sef yny sancteiddiolaf : ond gyda h,vn o wahaniaeth, mai y sancteiddiolaf ar y ddaear yw y man lie y cychwynodd yr edryehydd ac mai yn y sancteiddiolaf ysbrydol yn y nef ei hun, cartrefle Duw, y diwedda yr olygfa. Felly, gellir y.-tyried yr adnodau hyn fel desgrifiad ò •daith pererin ysbrydoledig o'r sancteiddiolaf ar y ddaear i*r sancteiddiolaf

194 YB KPISTOL AT YR HEBREAID.

ddinas y Duw feyw, y Jerusalem nefol, ac at fyrddiwri o 23 angelion, I gym map fa a chynnulleidfa y rhai eyntaf-anedig,

yn y nef ei hun. Y mae tefeygolrwydd rawng y bardd ysbrydoledig mewn cryfder dychymyg a ffurf ei ddarlua ac awdwr Taith y Pererin.

ADN. 22. Sion. Meriah »edd enw y mynydd a gysegrwyd trwy offrymiad Isaac gan Abraham, ac ar yr hwn yr ad«üadwyd y deml ; ac enw ar y mynydd cyfagos, ar yr hwa. yr adeiladodd Dafydd ei balas brenhinol, oedd Sion. Ond bu arch Duw ya aros ar Sion cyn i'r deml gael ei gorphen, a phan wastadhawyd y lie rhwag y ddau fynydd, aeth Sion yn enw ar y ddau, a dinanodd yr eaw Moriaa. Desgrifia yr awdwr gysegredigrwydd y saacteiddiolaf megis yn yml«du dros y mynydd oil. Gwel Salm xlviii. 2 ; ex. 2: Es. xviii. 7.

Dinas y Duw byw, y Jerusalem nefol. Nid yn unig eangwyd y sancteiddiolaf i gymmeryd i mewn y mynydd, ond aeth yr holl ddinas yn sancteiddiolaf, fel nad oes eisiau teml ynddi (Dat. xxi. 22). Dinas y Duw byw ydyw; "canys yr Arglwydd Dduw Hollalluog a'r Oen yw ei theml hi." Os oedd yr awdwr yn ysgrifeau at Eglwys Jerusalem ychydig cyn dinystr y ddinas gan Titus Vespasian, y mae yn anhawdd peidio meddwl fod ei ysbryd megis mewn gweledigaeth yn llygad-dyst o'r gyflafan, ac yn yr olwg ar ddiwedd y Jerusalem ddaearol yn canfod Jerusalem nefol ac ysbrydol yn cyfodi o ganol y tan, neu, fel y desgrifir hi yn Llyrr y Dat- guddiad (xxi. 2, 10), yn disgyn oddiwrth Dduw.

Nefol. Gwel xi. 16. Y mae y gair yn dyfod yn agos iawn at ystyr y gair "ysbrydol." Gwel Gal. iv. 26.

ADN. 23. Os eangwn gyleh eim gwelediad y tuallan i'r ddinas dros yr holl ddaear, ni a ganfyddw», â llygad yr ysbryd, ddau fath o greadur- iaid byw yn gwneyd i fyny y byd ysbryd«l ar y ddaear trwy yr oesam. Y naill yw yr angehon, a'r flail ydyw eglwys y rhai eyntaf-anedig. Y mae peth amheuaeth pa un yw y darlleniad goreu, ai (1) "at fyrddiynau o angelien, i gymanfa a chynulleidf a y rhai eyntaf-anedig " (f el yn y Bibl Cymraeg) ; ai ynte (2) "at fyrddiynau, cymanfa o angelion a chynulleidf a o gyntaf-anedigion;" ai (3) "at fyrddiynau o angelion yn gymanfa, ac at gymulleidfa o gyntaf-anedigion." Y mae trefniad arall ar y geiriau boailsl. Ond y rhai hyn ya unig sydd yn teilyng* sylw. Yr wrthddadl yn erby» y trefniad esntaf ydyw fod y cyssylltair "a" rhwng pob dau ddosbarth arall a enwk, ac y mae yn aunat«riol tybied fod yr awdwr yn dwyn i mewa "gymanfa a chynulleidfa y rhai cyntaf-amedig" keb y cyssylltair. Yr wrthddadl a ddygir ymlaen yn erbyn yr ail drefniad ydyw fod y gair "myrddiyaau" yn gofyn caài ei gyssylltu â rhyw air fycU ya gesod allan myrddiynau ba beth a «lygir. Ond camgymmeriad ydywhy». Enw yr Hen Destament ar yr amgelion ydyw " myrddiynau, " megis ya Dan. rii. 10; ac yn Epiitol Judas, 14, áylid darllen "ymysg ei san«iaidd fyrddiynau." Ae y mae hyn yn wrthddadl yn erbyn yr ail drefniad, gan mai mwy priedol fyddai cyssylltu y gair " myrddiynau " â'r angfelien nag â ehynulleidfa y cyataf-anedigi«n. Ar y eyfan, gan hyny, mwy aatariol ydyw y trydydd trefniad: "at fyrddiynau o angelion yn cadw gẃyl ae at gynulleidfa (neu eglwys) y cyntaf-anedigien." Dyna'r tr«mi*d a dderbynir gan Chrysostom, CEcumenius, Thecphylact, Erasmus, Luther, Calvin, Grotius, Westcott, ac eraill. Ystyr y gair a gyfieithir "cymanfa" ydyw "tyrfa yn cadw gŵyl;" megis Ezec. xlvi. 11, " ar y gwyliau a'r uchel-wyhau." Gwel hefyd Amos v. 21. Y mae hwn yn dd«sgrifiad prydferth, mewn un gair (gwel nediad ar adn. 18,) © orfoledd yr aagelioa wrth chwenychu edrych (1 Pedr i. 12) ar eglwys y cyntaf- anedigien. Ysbrydion gwasanaethgar ydynt hwy, yn cael eu aanfon ar

YE BPISTOL AT YR HEBREAID. 195

j rhai a ysgrifenwyd yn y nefoedd, ac at Dduw, Barnwr pawu,

hyd wyneb y ddasar, ac yn tramwy o'r nefoedd i'r ddaear ac o'r ddaear i'r nefoedd i wasaaaethu Duw yn achos y rhai a gânt etifeddu iaehawdwriaeth. Dengys hyn hefyd ystyr y gair " cyntaf-anedigion." Ni roddir yr enw hwn i'r angelion (yr hwn yw golygiad Davidson ac eraill), nac i saint yr Hen Destament i'w gwahaniaethu «ddiwrth saint y Testament Newydd (fel y golyga Calvin, Bengel, a Lünemann), nac i'r saint ymadawedig, nac i'r dychweledigion cyntaf. Yr etifeddion yw y cyntaf-anedigion; ac mewn cyferbyniad iddynt y mae yr ysbrydion gwasanaethgar, y rhai a gadwant uchel-ŵyl gorfoledd pan y mae yr etifedd yn dyfod i'w oed. Yn awr, yr hyn a ddywed yr awdwr yn y lie hwn ydyw fod y ddaear yn 11a wn i olwg y prophwyd ysbrydoledig hwn— o angelion yn cadw gŵyl blith draphlith âg eglwys yr etifeddion.

Y rhai a ysgrifenwyd yn y nefoedd. Gwel Luc x. 20, lie y

gwelir na raid i ni ystyried mai y saint y rhai a ymadawsant â'r byd hwn a

. olygir. Cyf eiria y gair at yr aríeriad o gofrestru enwau dinasyddion pob

, dinas mewn llyfr, pa un bynag a fyddont yn preswylio yn y ddinas ar y

pryd ai yn ymdaith. Felly yr aeth Joseph a Mair i'w cofrestru i'w dinas eu

hunain, Luc ii. 3, 4. Yn y gair hwn awgryma yr awdwr y gwahaniaeth

«ydd, wedi'r cwbl, yn bod rhwng y saint ar y ddaear ac yn y nefoedd. Y

mae y naill a'r llall yn y sancteiddiolaf ; oblegid y mae y sancteiddiolaf

ledled â'r greadigaeth bellach. Ond nid yw y saint ar y ddaear ond ym-

deithwyr tua'r ddinas dragwyddol, yn llyfr yr hon y cofrestrwyd eu

' henwau. Gwelxi. 13—16; Jer. xxii. 30; Ezec. xiii. 9; Exod. xxxii. 32;

Salm lxix. 28; Es. iv. 3: Dan. xii. 1 ; Mai. ii 1 . 16 ; Phil. iv. 3 ; Dat. iii. 5, a

manau eraill. Llyfr arall ydyw yr hwn y cofnodir gweithredoedd dynion

yndde.

Ae at Dduw, Barnwr pawb ; yn fwy llythyrenol a gwell, "acaty Barnwr, Duw pawb." Dyrchafa y gweledydd ei olygon oddiar y ddaear i fyny i'r byd arall. Y mae y cylch yn eangu. Ond y cyntaf a wêl yn y byd ysbrydol, yn Hades, ydyw y Barnwr. Y peth cyntaf ar ol myned o'r byd hwn ydyw barn ; ix. 27. Ac felly, galle«d disgwyl i'r awdwr ddywedyd, " chwi a ddaethoch at Dduw sydd yn Farnwr pawb." Ond ymddengys i mi ei fod wedi newid tarefn y geiriau yn fwriadol, dan ddylanwad yr ymadrodd blaenorol, "y cyntaf-anedigion." Oblegid ir rhai cyntaf-anèdig yn llinach y cyfamod cynwysai yr enedigaeth-fraint, nid yn unig etifeddu gwlad yr addewidion, ond hefyd cael Duw Abraham yn Dduw iddynt. Hwn oedd y peth a werthodd Esau am saig e fwyd. Wrth ddyrchafu ei lygaid i'r byd ysbrydol, cefnydd awdwr yr Episkri, nid yn unig fod Duw yn Farnwr, ond fod y Barnwr yn Dduw i'r rhai sydd heb werthu yr tnedigaeth-fraint. Yn gyffelyb yr ymresyma Crist fod yn rhaid fod Abraham, Isaac, a Jacob yn fyw pan yr oedd efe yn llefaru, am fod Moses, wrth y berth, yn galw yr Arglwydd y pryd hwn yn Dduw Abraham, yn Dduw Isaac, acyn Dduw Jacob, ae nidyw efe Dduwy meirw ond y rhai byw ; Luc xx. 37, 38. Dywed yr awdwr yma fod yr Hebreaid Cristionogol wedi dyfod i wyddfod eu Barnwr wrth ddyfod i'r sancteidd- iolaf trwy Grist, ond ychwanega, gyda brŷs, fel pe rhedai y ddau air i'w gilydd, fod y Barnwr yn Dduw iddynt yn nghyfamod Abraham. Gwel viii. 10. Gwelaf fod Westcott hefyd yn gwrthod y darlleniad cyffredin, "Duw Barnwr pawb." Ond golyga efe mai pethau, nid personau, a olygir, a chyfieitha fel hyn, " at Dduw pob peth fel Barnwr."

Pawb ; sef pawb ohonynt hwy. Sylwer ar absenoldeb y fanod trwy yr holl adnodau. Ychwanega hyny lawer at rymusder yr ymadroddion . Hhed y ffrwd yn chwyrn a nerthol.

-T96 YE EPISTOL AT YE HEBEEAID.

24 ac at ysbiydoedd y cyfiawn y rhai a berffeithiwyd. Ac at Iesur Cyfryngwr y testament newydd, a gwaed y taenelliad, yr hwn

Ac at yebrydoedd y cyÄawn y rhai a berfFeithiwyd. Treiddia góhrgon y gweledydd tuhwiit fr fam, Yno canfydda ysbrydoedd noeth, hyny yw, heb eu cyrph. Gwel 2 Cor. v. 4. Hysbysa dda* beth am danynt. Y naill ydyw mai ysbrydoedd y cyGawnion ydynt. Y raaent yn gyfiawn bellack yn holl ystyr y gair yn x. 38, " fy nírẃr cyfiawn i a fydd byw." CyranierAd w y \vy d hwynt gaa y Bamwr, a derbyniwyd hwynt gan eu Duw. Am nyr.y, crybwyllir am danynt yma yn uniongyrchoì ar el y cyfeixiad at " y Barnwr ei» I)vw ni oil." Ypeth arall a ddywed yr awdwr am danynt ydyw eu bod wedi eu perffeithio. Kid oeddynt wedi eu perffeithio cyn i Grist fyned i mewn i'r cysegr, a chyn i nimau fyneá i mewn gydag ef : xi. 40. Y mae yn canlyn n*ai fcrwy edn bod ni wedi dyi'od i fynydd ^ion y miae y?l§rydoedd y cyfiawnion aymadawsant à'rfucheddhon wedi eu perffeithio. Diamk»u i'od y gair " ysbrydoedd " yn awgrymu y bydd perffeithiad pellach arnynt yn yr •* adgyfocHad gwell ;" xi. 35. Ond y mae yn hynod can lleied o le a ddyry yr awdwr hwn i athrawiaeth yr adgyfodiad. Awgrymir hi, a dyna'r ewbl. Yn y pwnc hwn ni chyrhaedd- odd i uehder safle yr Apostol Paul.

ADN. 24.— A<" at Ies», Cyfryngwr y testament newydd; yn hytraeh. " ac at Gyfryngwr y cyiamod ntwydd. rei Iesu." Esgyna yr awdwr i gylch uwch drachef». Ar ol myned heibio i orsedd y farn, y mae l»uw eto o'n blaen ar ei orsedd uwchaf yn derbyn ein Harchoiffeiriad ar ein rnan, fel Cytryngwr y cyfamod, yr hwn nad yw «to ond megis newydd ei seiydhx ; a chwi a ddaethoch i gymundeb â'r CyfryBgwr dyrehafedighwnu-, yn yr hwn y mae cylch uwchaf y gieacügaeth y* «yffwrdd y Duw digreedig, Tad ein hyslrydoedd.

Newydd. Xid yr un gair sydd yma âg yn ix. 1i. Yno sonia yr awdwr am Grist fel Cyfryngwr y cyfamod sydd wedi di/fud i mewn yn lie yr hen gyfamod : ond yma yr ystyr ydyw nad ees ond ychyâig amser wedi myned heibio or pan y mae y cyfamod wedi ei ddwyn i weithrediad yn marwoîaeth Crist a'i fynediad i'r cysegr. Er ieuanged ydyw y cyiamod, y mae efe eisoes wedi profi ei hun yn effeithiol i:n dwyn i'r sancteiddiolaf. Gwna ychwancg eto. Gwel xiii. 21.

A gwaed y taenelliad. Nis gallaf weled fod y geiriau hyn yn y He hwn yn cyieirio at daenelliad y gwaed gan Moses wrth sefydlu yr hen gyfamod. Yn hytraeh at daenelliad y gwaed gan yr archoffeiriad yn y sancteiddiolaf y mae y cyfeiriad. Fel y taenellai Aaron y gwaed ar ddydd y cymod yn y sancteiddiolaf, felly, mown ffurf ysbrydol, y mae Iesu yn taenellu ei waed yn y nefoedd. mae Bengel a rhai esbcnwyr eraill yn dwyni mewn i'r adn. hon syniad dyeithrol, sef fod gwaed materol corph Crist, yr hwn a gcllwyd ar y groes, wedi ei gadw yn ddilwgr trwy allu Duw a'i daenellu yn y gwir gysegr. Ond nis gellir derbyn y syniad, am ei fod yn gwneyd mynydd Sion mor ddaearol â mynydd Sinai. Y mae " gwaed a chnawd " yn y corpk yn nodweddiadol o'r corph anianol mewn cyferbyn- iad i'r corph ysbrydol : ac felly Bis gall ychwaith fod gwaed materol yn cael ei daenellu yn y nefoedd, nac o gorph nac ar wahan oddiwrth gorph yr Iesu. Yr aehawsder ydyw gwybod paham y sonia yr awdwr am waed y taenelliad yn yr adn. hon yn ychwanegol at y Cyfryngwr ei hun. Yr ateb ydyw fod y Cyfryngwr a'i waed ya syniadau gwahaniaethol, a bod eisiau dwya y gwahaniaeth i sylw yma er mwyn gwneyd ffordd i'r kyn a ddywedir am y gwaed yn llefaru.

Yít EPISTOL AT YE, HEBREAID. 197

<ydd ym dywedyd pethau gwell na'r eiddo Abel. Edrychwch 25 na wrthodoch yr hwn sydd yn llefaru. OWegid oni ddiaagodd y rhai a wrthodasant yr hwn oedd yn llef aru ar y ddaear, mwy

Yr hwi sydd yn dywedyd pethau gwell na'r eiddo Abel ; yn hytrach, " yr hwn sydd yn llefaru yn gryfach nag Abel." Y mae yn wir fad gwaed Iesu yn llefaru petkau gwell na gwaed Abel. Ond eymer yr awdwr hyny yn ganiataol. Y mae y peth yn rhy amlwg iV roddi i lawr ganddo. Gwyddai ei darllenwyr mai gwaeddi am ddial ar y llofrudd yr I oedd gwaed Abel, ac mai eiriol am faddeuant y mae gwaed Iesu. Yr hyn oedd eiàau ei ddyweyd ydyw fod llef gwaed Iesu am faddeuant yn ìnyfach, yn fwy effeithiol, na'r llef sydd yn galw am ddial. Y mae _:waed Abel yn cael ei ddefnyddio yma fel yn cynryehioli pob llef sydd yn tralw am goèbi yr euog. Y mae hyd yn nod gwaed Iesu ei hun o'r dtluear yn gwaeddi am ddial, ond yn y nefoedd yn gwaeddi am faddeuant. Terfyna yr awdwr ai ddesgrifiad o Si»n trwy ddwyn i mewn, mewn dull hollol naturioi ond tra deheuig, gyfeiriad at y cyntaf o wroniaid ffydd a enwyd ganddo yn y benod flaenoroL Cymherir yma y cyntaf a'r olaf ohonynt. IS" is gall dim fod yn fwy grymus i ddangoe y pellder anfesurol rhwng pawb ohonynt a'r Iesu. Yn Abel yr oedd nid yn unig ffydd ond h«fyd hawliau cytiawn ae anocheladwy gwaed. Y mae y ddau beth hefyd yn Iesu. Ond y mae cymaint o wahaniaeth rhyngddynt âg sydd rhwng dial a maddeu, ie cymamt o wahaniaeth kg sydd rhwng dialedd yn gwrthod maddeu a maddemant yn cymmeryd lie dialedd.

ADN. 25— ÂLN. 29.— Oddiwrth y desgrifiad o Sinai a Sion y mae yr awdwr bellach yn tynu «i rybudd. ymarferol i beidio gwrthod y datguddiad a rydd Duw yn Nghriet.

ADN. 25.— Edrychwch. Nid oes un cyssylltair i gydio yr adnod hon â'r adnod o'r blaen, fel sydd bron bob amser rhwng dwy frawddeg yn yr iaith Roeg. Y mae y gair yn disgyn ar y darllenwyr yn liawer mwy nerthol am ei fod mor ddisymwth.

Yr hwn sydd yn llefaru. Yn yr adnod flaenorol sonir am waed y taanelliad yn llefaru. Yn yr adnod hon cyfeirir, nid at waed, ond at börson yn llefaru. Eto y mae yn egiur oddiwrth y cyssylltiad mai Crist yn ei waed a olygir, ac y mae y geiriau nesaf yn dangos fod yr awdwr yn jstyried mai yr un ydyw y Person hwn â Duw, yr hwn a lefarodd ar Sinai ac sydd yn llefaru o'r nef. Nid Moses a olygir, fel y dywed Chrysostom ac eraill. Yr un pryd, y mae cyfeiriad yn y gair "gwrthod " at yr hyn a ddywedir am y bobl yn deisyf ar i Moses leistru ac na lef arai Duw wrthynt. Y cyfieithiad llythyrenol fyddai, " Edrychwch na ddeisyf- c;ch ar i'r hwn sydd yn lVfam. beidio llefaru." Ond y mae anhawsder yn y geixiau nad yw yr esb^nwyr yn sylwi arno. Oddiwrth Deut. v. 27, 23, gwelwn mai nid gwrthod gorchymyn Duw yr oedd y bobl pan y dtiayfent ar i Moses, ac nid Duw, lefaru wrthynt. I'r gwrthwyneb addawent ufuddhau. Arswyd, nid anufudd-dod, barai idáynt ddeisyf ac Meses lefaru. Ac nid yw y gair a ddefnyddir yma yn golygu "gwrthod mewn dirmyg." Yr eglurhad ydyw fod yr arswyd hwn ei hun, er ei fod yn gyson âg yëbryd yr hen gyfamod, eto yn codi o euogrwydd ac anghred- iniaeth. Hyn a barodd nas gallant oddei i Dduw lefaru, a hyn a barodd hefyd iddynt syrthio yn yr anialwGh a methu myned i mewn i'r orphwysf a.

Yr hwn oedd yn llefaru ar y ddaear. Ehaid newid ychydig ar y darlleniad gwreiddiol a chyssylltu y geiriau " ar y ddaear " â'r gair " gwrthodasaat." Efallai hefyd mai gwell ydyw deall y gair a gyfìeithir *' llefaru " mewn ystyr mwy cyfrredinol : " Canys os hwynt-hwy ni ddiang-

198 TR EPISTOL AT YR HEBREAID.

o lawer nis diangwn ni, y rhai ydym yn troi ymaith oddiwrth yr

26 hwn sydd yn Uefaru o'r nef : Lief yr hwn y pryd hwnnw a

ysgydwodd y ddaear : ac yn awr a addawodd, gan ddywedyd?

asant, pan ar y ddaear y gwrthodasant yr hwn oedd yn ymwneyd â hwynt. Ond yr u* yw yr ystyr. Yn unig profa y ddau gyfnewidia hyn mai nid Moses, ond Duw, a olygir wrth yr hwn oedd yn llefaru ar y ddaear yn gystal â'r hwn sydd yn llefaru o'r nef.

Y rhai ydym yn troi ymaith oddiwrth yr hwn sydd yr llefaru o'r nef; neu, " yn ymwneyd â ni o'r nef." Y cyferbyniad i Dduw yn ymwneyd â dynion ar Sinai ar y ddaear ydyw Duw yn ymwneyd â ni o* Sion, yr hwn yw y nef. Dywedir yn Exod. xx. 22 mai o'r nef y llefarai Duw hyd yn nod y pryd hwnw ar Sinai. Ond y mae y nef hono, i olwg awdwr yr Epistol, yn ddaearol o'i chymharu â'r " nef ei hun " yr aeth Iesu i m*wn iddi. Wrth lefaru (neu ymwneyd) o'r nef y golygir datguddiad wedi ei seilio ar offeiriadaeth ac aberth. Cyhoeddiad yr efengyl o faddeuant a phrynedigaeth trwy waed Crist a feddylir. Y mac yr Archoffeiriad yn y sancteiddiolaf, ac y mae Duw yn cyhoeddi gwarcd- igaeth i*r bobl er ei fwyn, yr hynna chyhoeddwyd erioed o'r sancteiddiolaf ar y ddaear.

Yn troi ymaith ; hyny yw, gwrthod gyda dirmyg ; mewn gwrth- gyferbyniad i " lyrru " (Actau xvii. 34). Nid yr un gair sydd yn adn. 25.

Ni. Y mae ynsyn fod yr awdwr yn gosod ei hun gyda'i ddarllenwyr. Nis gallai wneyd oni bai ei fod yn rhoddi y gair yn yr amseriad presenol : "y rhai ydym yn dechreu troi ymaith, yn gogwyddo i droi ymaith." Y mae yn wir mai fel dadleuydd medrus y llefara, ac nid am ei fod ei hun yn tueddu i droi ymaith. Ond, er hyny, nis gall neb, mi a dybiaf, ddychyruygu Apostoi, yn arbenig yr Apostol Paul, yn son am dano ei hun, hyd yn nod mewn areithyddiaeth, yn troi ymaith oddiwrth Dduw. Byddai y fath ddull o siarad yn annaturiol i Apostol awdurdodedig Crist, er na bye; Lai \ peth ei hun et'allai yn llai annhebyg o gymmeryd lie gyda golwg ar Apollos neu Barnabas.

ADN. 26.— Y pryd hwnw a ysgydwodd y ddaear. Gwei Exod. xix. 18, lie y mae y cyfieithiad Cymraeg yn rhoi ystyr yr Hebraeg. Yn ol cyfieithiad y Deg a Thriugain, darllenir, " a'r bobl a ddychrynodd yn ddirfawr." Yma, gan hyny, gedy yr awdwr y cyfieithiad hwnw, yn groes i'w arfer, eto ni ehyfieitha o'r Hebraeg gwreiddiol, ond mynega y ffaith fel y ceir hi yno.

Ac yn awr a addawcdd. " Yn awr," mewn gwrthgyferbyniad i'r ysgydwad ar Sinai. Er mai yn yr Hen Destanwnt y ceir yr addewid, y mae efe yno, fel addewid, yn perthyn i'r cyfamod newydd. Hyn yw ystyr yr ymadrodd, " yn awr." Yr addewid, nid y cyflawniad ohono yn unig, sydd yn yr amser presenol. Dyfynir o Haggai ii. 6. Ehagfynega y prophwyd ogoniant yr ail mewn geiria» sydd yn adgoffa i awdwr yr Epistol olygfeydd arswydlawn Sinai. Ymddengys fel pe tybiai fod Haggai yn ysgrifenu gyda chyfeiriad atynt. Y mae dau ymadrodd yn cyssylltu y brophwydohaeth â Sinai. Yn gyntaf, pan lefarodd Duw ar Sinai, ysgydwodd y ddaear. Rhagfynega Haggai y bydd i Dduw ysgwyd y nef oedd. Yn ail, de£nyddia Haggai y geiriau, " Eto unwaith ;" ac ystyria yr awdwr fod hyn yn golygu y bydd yr ail ysgydwad yn gyffelyb i ysgydwad Sinai, ac hefyd, gan mai unwaith eto y bydd ysgydwad, y bydd yr ail yn symud ymaith y pethau a ysgydwir.

A àddawodd ; neu mewn arall-eiriad " J mae yr addewid wedi ei roddi ac ar gael yn yr Ysgrythyr. " Hyn yw ystyr yr amseriad a roddir yma . Y rmae symudiad y pethau a ysgydwir yn addewid am fod y symud hwn

YR EPISTOL AT YR HEBREAIJj. 199

Etto unwaith yr wyf yn eynhyrfu nid yn unig y ddaear, ond y nef hefyd. A'r Etto unwaith hynny, sydd yn hysbysu sym- 27 mudiad y pethau a ysgydwir, mcgis pethau wedi eu gwneuthur, fel yr arhoso y petha» nid ysgydwir. O herwydd paham, gan 28

yn sicrhau y pethau nid ysgydwir. Golyga amry w esbonwyr rhagorol fod yr awdwr yn cyfairio, nid at chwyldroadau anianyddol yn y greadigaeth, ond at sefydliad yr oruchwyliaeth newydd, ac, felly, ei fod yn llefaru yn gy lnhariaethol. Ond ymddengys i mi fod yr ystyriacthau canlynol yn ben&erfynol yn profi fod cyfnewidiadau mawrion inewn natur yn meddwl yr awdwr. Yn gyntaf , ni eilw yr awdwr hwn sefydliad y eyfamod newydd chwyldroad eynhyrfus, ond desgrifia yr hen gy'famod yn heneiddio ae yn darfod, a'r newydd yn dyfod i mewn yn naturiol i lanw ei le. Yn ail, desgrisr ail-ddyfodiad yr Arglwydd fel adeg o chwyldroadau mawrion mewn natur, megis yn 2 Pedr iii. 10. Yn drydydd, obìegid hyny, ni byddai yr ymadrodd ' ' eto unwaith " yn gywir pe at sefydliad yr oruchwyliaeth newydd y eyfeiriai yr awdwr. Y mae yn wir, mai mewn cyssylltiad â chwyldroad mawr yn y byd ysbrydol, pan ddaw yr Arglwydd, y cymer y cyfnewidiadau anianyddol le. Ond y pwnc ydyw bydd cyfnewidiadau yn y greadigaeth yn eydfyned à dyfodiad y Barnwr. Amcaa yr awdwr wrth gyfeirio at symudiad y pethau a ysgydwir ydyw anog yr Hebreaid i feddiannu y deyrnas ddisigl.

ADN. 27. Ymre.-yma yr awdwr, gan mai unicaitii eto yr ysgydwa Duw y greadigaetk, fod hyny yn cynwys y bydd yr ysgydwad hwnw y n symud y pethau a ysgydwir i wneyd lie i bethau gefydlog.

A ysgydwir; yn llythyrenol : "y pethau sydd (eisoes) yn eael eu iiy»gwyd," gyda chyfeiriad, fe ddichon, at y terfysgoedd a ragfiaenai ddinystr Jerusalem, yr hwn oedd yn ymyl.

Megis pethau wedi eu gwneuthur. Y mae yn anhawdd pender- fyim pa un a ddylid cyá>ylltu y güiriau hyn â'r geiriau dilynol ai peidio. Ai yr ystyr yw y symudir y pethau a yegydwir, fel ptthau creedig, ac y symudir hwynt fel yr arhoso y pethau nid ysgydwir ; ai ynte y symudir y pethau a ysgydwir fel pethau sydd wedi eu gwneuthur o bwrpas i sicrhau arosiad y pethau nid ysgydwir ? Gellir goiyn. ar y naill law, pa fodd y mae symudiad y pethau a ysgydwir yn sicrhau arosiad y pethau nid ysgydwir f A thrachefn gellir gofyn pa fodd y mae fod y pethau a ysgydwir yn bethau wedi eu gwneuthur yn rheswm dros eu symud? Hawdd ydyw ateb yr ail ofyniad, trwy ddyweyd fod yr awdwr yn edrych ar yr holl greadigaeth, yn debyg fel y golyga yr hen oruchwyliaeth, megis byd o arwyddluniau o bethau ysbrydol, y rhai ydynt dragwyddol. Ac yn y syniad hwn y daw i'r golwg eto ddylanwad Platoniaeth Iuddewig ur yr awdwr. Am y gofyniad blaenaf, rhaid i nj olygu mai yr ystyr ydyw fod symudiad y pethau a ysgydwir yn dwyn allan i olwg pawb arosiad y pethau Mid ysgydwir. Ehaid eydnabod naturioldeb y golygiad. Ond tuag at ei wneyd yn fwy sicr y mae yn ofynol i ni ystyried mai at bethau gwekdig a materol y cyfeiria y geiriau "wedi eu gwneuthur;" canys y mae y pethau ysbrydol eu hunain wedi eu gwneuthur yn yr ystyr o fod wedi eu teefnu neu eu gosod. Ar y cyfan, dichon mai gwell derbyn y golygiad hwn na chyssyUtu y geiriau "wedi eu gwneuthur" â'r geiriau dilynol, i ddatgan amcan y pethau a wnaethpwyd.

ADN. 28— Oherwydd paham; sef oherwydd ein bod yn derbyn te\ mae ddisigl. Crynhoad o'r ymresymiadyn yr adnod Üaenorol ydyw y ■r iiinu L'-au ein bod yn derbyn teyrnas ddisigl."

200 YRíEPISTOL AT YR HEBREAID.

ein bod ni yn derbyn teyraas ddisigì, feydded gennym ras, trwy yr hwn y gwasanaetbom Dduw with «i f odd, gyd â gwylder 29 a pharchedig ofn : ObWgid ein Duw ni sydd dan ysol.

Teyrnas. Sylwa Westcott yn rhagorol fod y sy*iad o deyrnas w«di ei awgrymu gan yr ail ran o brophwydoliaeth Haggai. Gwel Haggaiii. 22. N id yn unig rhagfyne^a y prophwyd newydd i Dduw, ond hefyd deyrnas arosol wedi ei sefyálu sat adfeilion teyrnasoedd y byd hwn.

Yn derbyn. Golyga y gair " derbyn o law Duw," fel yn Dan. vii. 18. OwŵI Luc. xii. 32. Kid o'r "petkau sydd wedi eu gwneuthur" ydyw y deyrnas hon ; ac, am hyny, ©s cawn feddiamt ohoni o gwbi, ei derbyn raid i ni gam Dduw.

Disig-l ; yn llythyrenol, " diysgog," "nas gellir ei kysgwyd." Llawer llai y gefiir ei symud ymaith.

Bydàed g-enym ras. Darllena yr esb»nwyr Groegaidd "bydded genym ddiolchgarwch." Goddefa y gwreiddiol y naill a'r llall o'r ystyron hyn. Ar y cyfan y darlleniad sydd yn y Bibl Cymraeg ydyw y mwyaf tebygoi, am fod yr awdwr yn esbonio y gair yn y geiriau sydd yn dilyn, sef "gyda gwylder a pharchedig ofn." Cynwysa hyn lawer mwy na diolehgarweh. Y mae y ffaith fod yr awdwr eisoes wedi anog ei ddarllen- wyr i ddyfod at orseddfaáic y gras, fel y derbyniont ras (iv. 16) yn myned ymhell i brofi mai am yr un peth y mae efe yn meddwl yma hefyd. Wrth y geiriau "bydded genym" y golygir, yn ddiau, dyfodfa at Dduw er mwyn derbyn gras, fel yn iv. 16.

Y gwasanaethom Dduw. Gan fod Duw yn rhoddi teyrnas ddisigi i ni, gwasanaethwn Dduw. Tybiaf mai yr ystyr ydyw fod y deyrnas yn yr hon yr ydym yn rrenhinoedd yn berffaith ddisigl. Nid oes barygl iddi ysgog byth. Ni raid i ni barotoi arfa* i'w hamddiffy» rhag ymosodiadau y gelynion. Gallwn droi ein meddyliau at waith arall, y gwaith hwnw er mwyn cyflawni yr hwn y sefydlwyd y deyrnas, sef gwasanaethu Duw, fel y mae yr angelion, gweinidogion y deyrnas, eisoes yn gwneyd (i. 14).

Gyda gwylder a pharchedig: of». Y darlleniad cywir ydyw, "gyda duwiolfrydedd ac ofn." Y gair "duwiolfrydedd" sydd yn v. 7. Y gwahaniaeth rhyngddo a'r gair a gyfierthir "ofn" ydyw fod "duwiol- frydedd" yn cynwys parch i gymmeriad Duw, ac " of»" yn golygu disgwyliad am y gosb sydd yn disgya ar yr anflfyddlawn. Y gair hwn, gan hyny, sydd yn cyssylitu yr adnod hon a'r nesaf.

ADN. 29 Oblegid ein Duw ni sydd dan ysol. Hwn yw y cyfieithiad cywiraf, ac nid " canys hefyd" hyny yw, heblaw ei fod yn drugarog ; nac ychwaith " canys ein Dftw «maw," hyny yw, yn gystal â'r Duw oedd ar Sinai. Nid oes unrhyw gyfeiriad yn yr adnod hon at y tân ar Sicai. Moses a ddywedodd yn ei gynghor olaf i'r bobl «yn ei farwolaeth fod Duw yn dan ysol (Deut. iv. 24). Hawlia awdwr yr Epietol mai y Duw hwmw, yr hwn oedd Dduw i Israel ("Yr Arglwydd dy Dduw" yw geir- iau Moses), ydyw Duw yr Hebreaid Cristionogol hefyd. Ymddengys i mi mai nid yr ystyr ydyw fod Duw yn puro ei bobl oddiwrth bob sothath (Westcott), ond yn hytra«h ei fod yn ysu ei elynion, pa un bynag a fyddont ai ei bobl gwrthryfelgar yn y deyrnas ai y gwrthwynebwyr oddi- allan iddi (x. 27). Y mae y syniad ei fod yn ysu y gwrthwynebwyr yn rheswm dros i ni beidio ofni am ddyogelwch ansigledig y deyrnas, ac hefyd d*os i ni sydd yn derbyn y deyrnas wasanaethu Duw yn dduwiolfrydig ac ofnus, rhag iddo ddigio.

p

YH EPISTOL AT YR HEBREAID. 201

PENOD XIII.

ARHAED brawdgarwch. Xac anghofiwek lettygarwck : 1

eanys wrth hynny y llettŷodd rhai angalion yn ddiarwybod. 2

Cofiwch y rhai sydd yn rhwym fel pettech yn rkwym gyd i 3

h.—Amrymol Gynghoriov. xm. 1-25.

»ellir ystyried y benod hon fel attodiad i'r Epietol. Y maa gwahan- iacth hyd at" gyf erbyniad rhwng ieithwedd urddasoi y b§*od o'v blaen a chynghorion byrion, ond miniog, yr attodiad. Gwell yw peidi* cekio cyssylhiad rhy agos rhwng y naill a'r llall or anogaethau. Er hyny ciynkoant at eu gilydd mewn trem hollol naturiol. Pwnc y tair admod cyntaf ydyw caredigrwydd egiwysig : yna symuda yr awdwr ymlaen i anog i burdcb, i aaelfrydedd, i ymostyngiad \ arweinyddion yr eglwys, i wyliadwriaetk rhag atíirawiaetha» dyeithr, i weddi dros on cynghorwyr. Torfyna yr awdwr gyda gweddi dros ei ddarllenwyr, a rhai anerehinda*.

PEN. XIII— ADN. 1.— Parhaed. Caniata yr awdwr ateoei (yi. 10) m bod yn gweini i:r saint. Hwaywbron yrunigr&snadoaddynt wadiei colli. Yr oedd hwn hefyd mewn perygl ; ya x. 34 anoga hwynt i gofi© yr amser gytkt pan y tostiwient wrth eu brodyr oeddyat wedi e* carcharu arn eu crefydd. Am hyny parhaed brawdjarwch. Enw ar y Cristionogion yn y Testament Newydd drwyddo ydyw "brodyr." Rhoddwyd yr enw hwn arnynt ga*i Grist ei him. Erbyn amser ysgrifeniad Epistol Cyntaf Pedr. y mae y gair " brawdoliaeth " wedi ei fabwysiadu ganddynt oddiwrth y Macoabeaid a'i drosglwyddo i wasaaaeth yr eglwy*. ae yn llyfrau y tadau cdr ef yn fynych.

ADN. 2 Ymddengys eu bod mewn mwy o berygl anghofio dango? lletygarwch i'r brodyr dyeithr a fyddai ya ymdaith. Dlau y byddai rhai yn ffoi rhag erlidigaeth ; oblegid dygwyddai yn fynych fad rhai eglwysi dan erlidigaeth pan nad oedd y llefll. Ymdeàthìai rhai brodyr hefyd fel efengylwyr a "phrophwydi." Atyat hwy a'r rhai a erlidid y cyfeirir yn 1 Tim. v. 10. Y mae yn debygol fad ga* aelodau y gwahanol eglwysi ryw fath e docya ne» arwydd arall trwy yr hwn y gallai eu brodyr ymhob man wybod mai Crétionogion oeddynt Yn ' ' Nysgẁüaath y Deuddeg Apostol " ceir cynghor fel hyn : "A aaob apostol a ddaw sAoch, derbyniwch ef megis yr Arglwydd ; ond nac arhosed ar hyd un diwrnod ; eto, os bydd angen, arhosed am ddrwmod arall ; ond os erys am dri diwrnod, gau-brophwyd ydyw." Dyfyna Weetcott eiriaa y pagan Lueian, pan y gwawdia y " Pererin " (a' golyga llawer mai yr Apostol Pa»l oedd dan ei fäangell) ae y de^pifia ef yn ymdaith i dwyile y byd ac ya pwyso ar y Crietionogion ar ei íîurdd.

Angylion. Ehyfyg fyddai anturio gwadu fad yr awdwr yn credu mewn ymweÜadau angylioa. Ond nid y meàfwl y<3yw mai da bod ya lietygar, okerwydd y dichon y daw angelioa heifcio, fel y daethant heibio i babell Abraham ac i Lot (Gen. xviii. 2; xix. 1). Caays yn y fiaith eu bod wedi derbyn angelion yn ddiarwybod j mae perarogledd y weifchjed. Yr ystyr ydyw fod bendith neillduol ar deuluoedd lietygar. Y mae hanes crefydd yn Nghymru ei han wedi profi hyn drosodd a throsadd.

ADN. 3.— Y rhai sydr1 ;-. rhwym; hyny ydyw, y rhai oedd ar y pryd, pan ysgrifenai yr ; dwr, yn sarcharorion am em c?efydd. Gwel nodiad fir x. 34.

20° Fit EPISTOL AT YE HEBREAID.

nwynt ; y rhai cystud<£ol, megis yn bod eich hunain hefyd yn

4 y corph. Anrhydeddus yw priodas ym rnhawb, a'r gwely di- halogedig: eithr putttinwyr a godinebwyr a farna Duw.

5 Bydded eich yniarweddiad yn ddiariangar ; gan fod yn f odd- lawn i'r hyn sydd gennych; canys efe a ddywedodd, Ni'th

Pettech. Gwell gadael allan y gair hwn. Yr ystyr ydyw eu bod «u hunaiii yn rhwym pan y mae eu brodyr felly.

Cofiwch. Defnyddir y gair awgrymiadol hwn oblegid mai tir anghof yw y carchar.

Cystudáiol. Nid y rhai sydd mewn afiechyd a olygir, ond y rhai a gystuddir gan erlidwyr neu ydynt inewn cyflwr trallodus.

Megis ym bod eich hunain yn y corph. Ni roddodd y cyfieith- wyr y gair " pettech " i inewn yma, a gwnaethant yn dda ei adael allan. Yr ystyr ydyw eu bod hwythau yn y corph sydd yn agored i'r un gorthrym- der ag a ddyoddefa eu brodyr eisoes. Golyga Calvin mai yr ystyr ydyw eu bod yn nghorph dtrgeledig Crist. Ond (1) byddai hyny yn gystal rheswm dros yr anogaetfc flaenorol ag ydyw dros y cynghor hwn ; ac (2) dywedasai yr awdwr "yn y corph," ac nid. fel y mae yn y gwreiddiol, " mewn corph."

ADN. 4. I burdeb yr anogir hwynt yn nesaf. Ac anogaeth yn sicr ydyw yr adnod, nid datganiad. Ehaid darllen: "bydded priodas yn anrhydeddus." Ond ystyr y gair a gyfieithir " anrhydeddus" ydy w "mewn parch." Nid yr anogaeth ydyw fod i'r Hebreaid oeddynt wedi myned i'r «tad briodasol ymddwyn yn weddaidd ynddi. Yr ystyr ydyw eu bod i barchu priodas ; i ystyried nad oes dim annheilwng o Gristion mewn priodi. Y mae yn anhawdd peidio cydnabod fod y teimlad yn yr adnod hon ychydig yn wahanol i duedd yr Apostcl Paul i íeddwl ar y pwnc hwn, er nad oes dim yn anghyson rìiwng y ddau ysgrifenwr mewn golygiad. Gwel 1 Cor. vii. 8. Ond erbyn yr amser pan ysgrifenai yr awdwr hwn ei Epistol yr oedd syniadau yr Esseniaid, y rhai a waharddent briodas, yn ymkdu. Ccsyd yntau ei hunyn gryf yn eu herl yn.

Yn mhawb. cywir y golygiad a gynygiwyd ar y gair "anrhyd- eddus" (ac ymddengys i mi nas gall y gair oddef ystyr arall), y mae yn rhaid i ni ddeall y geiriau hyn fel y cymmerir hwynt yn y Bibl Cymraeg, ac nid darllen :'ymhob peth," neu "ymhob modd," fel yr eglurir hwynt gan y rhan fwyaf o esbor.wyr y dyddiau hyn.

A'r gwely dihalogedig; yn hytrack, "a'r gwely yn ddihalog." Wedi anog yr Hebreaid yn erbyn diystyru a gwahardd priodas, rhybuddia hwynt, ar y Haw arall, i gadw purdeb yn y stâd briodasol.

Eithr puteinwyr a godinebwyr a farna Duw. Yn He " eithr," rhaid darllen " canys." Rheswm ydyw barn Duw dros y rhybudd i wyli» dros burdeb yn y stâd briodasol. Ÿ r*a« pwyslais ar gair "Duw" yn y gwreiddiol. Ỳr vstyr ydyw nas gellir cuddio dim oddiwrth Dduw, ac nas gelhr pylu mîn dìgofaint Duw yn erbyn y troseddwyr hyn.

ADN. 5. Awgrymir yn yr anogaethau i letygarwch ac i garedig- rwydd tuag at y rhai adfydus fod yr Hebreaid yn dueddol i garu arian. Ond gallwn gasglu oddiwrth yr adnod hon eu bod wedi dyoddsf colledion Dichon fod yma gyfeiriad at yr angenoctid dirfawr y buont ynddo yn amser Claudius Cesar. Gwel Actau xi. 28.

Efe a ddywedodd ; gyda phwyslais ar y gair " efe." Ond ymha le y dywed yr Arglwydd hyn ? Ymddengys i mi mai dyfynu geiriau Moses am yr Arglwydd y mae yr awdwr, y rhai hefyd a ddywed yr A?glwydd ei

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. 203

roddaf di i fynu, ac ni'th lwyr-adawaf cLwaith : Fel y gallom 6 ddywedyd yn hýf, Yr Arglwydd sydd gymmorth i mi, ac nid ofnaf beth a wnel dyn i mi. Meddyliwch am eieh blaenoriaid, 7 y rhai a draethasant i chwi air Duw : fíydd y rhai dilynwch,

hun wrth Josua. Gwel Deut. xxxi. 6 8 ; Jos. i. 5. Y mae fod Moses yn dyweyd hyn am yr Arglwydd ynddo ei hun i feddwl yr awdwr yr un peth â bod yr Arglwydd ei hun yn ei ddyweyd. Ond y mae Duw yn mafewysiadu y geiriau fel ei eiddo ei hun pan lefara wrth Josua. Nid oes dim pwys yn y dygwyddiad fod y geiriau i'w cael yn Philo. Nid oddiwrtho ef y benthyca yr awdwr hwynt; oblegid nid yw o gwbl yn jstyried Philo yn brophwyd ysbrydoledi j, ar awdurdod ysgrythyr y gorphwysa ei ymresymiad.

Ni'th roddaf di i fyny. Efallai y byddai " ni'th ollyngaf " yn well «yfieithiad.

Ni'th lwyr adawaf. Gocheler rhag rhoddi pwyslais ar "lwyr." Yr un gair sydd yn x. 25.

ADN. 6.— Dyfyniad o Salm cxviii. 6. Sylwa Westcott fod y Salm hon ya llanw lie mawr yn y gwasanaeth ar y gwyliau Iuddewig. Gwell aadael allan y gair " ac," a darllen fel y gwnay BiblCymraeg yn y Sahn : " Yr Arglwydd sydd gymhorth i mi. Nid ofnaf. Beth a w»a dyn i mi ?" ADN. 7.— Nis gallaf lai na meddwl fod cyssylltiad rhwng y geiriau hyn â'r adn. flaenorol. " I'ch cadw rhag diffyg ymddiried yn Nuw yn «ich pryder am eich amgylchiadau, meddyliwch am eieh arweinwyr gynt. y rhai ni roddasant eu bryd ar gasglu cvioeth ond a ymroisant i lefaru i chwi air Duw ; crafhvxh ar ddiwedd ru Lryrfa, cofiwch eu merthyrdod, ac yna «felychwch hwynt mewn ffydd i ymddiried yn Nuw."

CoA'weh. Ni chynwysir yn y gair unrhyw awgrymiad fod yr arweinwyr hyn wedi meirw. Ceir yr un anogaeth yn " Nysgeidiaeth y Deuddeg Apostol"gyda golwg ar y byw : "Cofiá ddydd a nos yr hwn sydd yn traethu i ti air Duw, ac anrhydedda ef megis yr Arglwydd."

Eich blaenoriaid. Cyfieithiad yr Esgob Davies ydyw, "eieh preladiaid." Cafodd ef o gyfieithiad Jerom. Dichon ei fod yn tueddu i ystyried mai y byw a olygir yma gan ofn rhoddi unrhyw achlysur i athraw- iaeth y Pabyddion am fath o addoliad i'r meirw. Ond yn adn. 22 y ceir cyfeiriad at y rhai oedd eto yn fyw o'u harweinwyr. Golyga y gair arwein- iad swyddogol, er na ddaeth yn enw swyddogol yn yr eglwys. fel y daeth yr enw cyferbyniol " diaconiaid," ystyr yr hwn ydyw y rhai sydd yn dilyn yr arweinwyr.

Y rhai a draethasant i chwi air Duw. Hwn yw y rheswm pah am yr haeddant gael eu cofio ganddynt. Yr oedd "traethu gair Duw" yn enw cyffredm am bregethu yr efengyl. Gwel Actau iv. 31; viii. 25 ; xiii. 46. Gellid meddwl fod yr ymadrodd yn fwy tyner a pharchus gyda golwg ar yr Hebreaid, y rhai oedd ganddynt eisoea air Duw yn yr Men Destament, na'r gair '• i^regethu," yr hwn a olyga " gyhoeddi cenadwri," neu y gair " efengylu," yr hwn a arwydda " dwyn newydd da." Gan ystyried diwedd èu hỳmarweddiàd hwynt. Ystyr y gair a gyfieithir "ystyried" ydyw " craffu yn fan art," ac ystyr y gair a gyfieithir "diwedd" ydyw "mynediad allan," fel diangfa byddin allan trwy fwlch yn y mynyddoedd (1 Cor. x. 13). Diau mai at ddiwedd eu 1'vwyd y cyfeirir, ond geilwyr awdwr eumarwolaeth yn " fynediad alia»" yn fwriadoì, i ddangos eu dyogelwch a'u gorfoledd ar ol peryglon bywyd, a*u merthyrdod. Gair arall o gyffelyb ystyr arferir am fynediad allan yr Israeliaid o'r Aipht, sef exodus, ac am angau Crist (Luc ix. 31). Drachefn

204 YR EPISTOL AT YR HEBREAID.

8 gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt. Iesu Grist7

9 ddoe a heddyw yr un, ac yn dragywydd. Na'ch arweinier oddi arngylch kg athrawiaethau aniryw a dieithr : canys da yw bod

ynfwriadoly defnyddiry gair " ymarweddiad" yn lie " bywyd," i ddangos pa beth yn eu bywyd oedd yn peri fod eu mynediad allan ohono mor ogoneddus. Er nad yw y jeiriau ynddynt <m kunain yn golygu fed yr arweinwyr hyn wedi eu merthyru. eio. at eglwys Jerusalem yr ysgrifen- wyd yr Epi«tcl. gwyddoni fod hyny yn tfaith. Gwel nodiad ar x. 33.

Ffydd y rhai dilynwch ; yn hytrach, " efelychwch." Eu ffydd yn y gair a draethetit a'u galluogodd i ddyoddef merihyrdod.

ADN. 8. Y mae cyssylltiad ago* rhwng yr adn. hon a'r adn. flaen- orol. Iesu Grist oedd gwrthrych ffydd y merthyron a gwreiddyn eu nerth. Ond y mae Iesu Ghritt yr un heddyw i ni ag ydoedd ddoe iddynt hwy ; y mae yr un yn urddas ei Berson ac efeithiolrwydd ei aberth a'i eiriolaeth. ac am hyny yr un ydyw fel gwrthrych ffydd. Yekwanega yr awdwr. roewn ton orfoleddus, mai yr un ydyw Iesu Grist yn oes oesoedd, gyda chyfeiriad haaaer cudd at yr hen oruchwyliaetk yr hon oedd ar drengu yn ninystr y ddinas sanctaidd. Xid yr ystyr ydyw fod Iesu Grist yn aros pan y mae yr arweinwyr yn marw ; ac nid ymddengys i mi mai a'r adn nesaf y dylid cyseyUtn hon, yn lie â'r seithfed, fel pe amcaa yr awdwi fuasai eyierbynu anghyfnewidioldeb Iesu Grist a'r athrawiaethau amryw a dyeithr. Ỳr un pryd. tybiaf mai y cyfeiriad at angkyfnewidioldeb Iesti Grist awgrymodd i'w feddwl y crybwylliad am yr athrawiaethau hyny I rwelaf mai hwn yw golygiad "Westcott.

ADN. 9. Na'ch àrweinier oddiaiagylch. Y darlleniad eywir ydyw. " na'ch eluder heibio ;" hyny yw. h«ibio i'r angorfa, sef Iesu Grist yr hwn sydd yr un ddoe a heddyw. Cyrnharer nodiad ar ii. 1.

Athrawiaethau. Y mae pwyslais ar y gair. Cyferbynia yr awdwr athrawiaethau neu olygiadau hwn a'r llall â pherson arosol Iesu Grist.

Amryw ; mewn cyferbyniad i unobaeth y cwkl a ddysgir gan Iesu Oriet. Am ei fod ef yr un, y mae ei ddysgeidiaetk yn un. Ond cyrhewidia golygiadau dynion drachefn a thracbefn .

.Dyeithr ; mewn cyferbyniad i'r ffynonell awdurdodedig o bob gwir- ionedd athrawiaethol. sef Iesu Grist. Y mae pob atbrawiaeth nad yw yn «ìeilliaw ohono ef megis nwyddau tranter, wedi eu cludo i'r eglwys o ryw wlad arall.

Dywedir wrthym yn y geiriau dilynolbeth oedd natur yr athrawiaethau amryw a dyeithr.

Canys' da yw bod y galon wedi ei chryfhau a gras, niá a bwydydd. Y mae yn eglur fod a fyno yr athrawiaethau amryw a dyeitkr â bwydydd ; a dengys hyn mai rhyw ffurf neu arall ar olygiadan Iuddewig ar gyesylltiad bwydydd âg aberth sydd yn meddwl yr awdwr. Ond nis gall ei fod yn cyfeirio at y defodau cnawdol o berthynas i fwydydd a diodydd a osodasid gan Dduw ei him trwy Moses. Pa fodd y gallasai yr airdwr alw y rhai hyn yn athrawiaethau dyeithr ? Am yr un rheswm nis gallwn dderkyn y golygiad fod yr awdwr yn cyfeirio at y gwahaniaethau rhwng bwydydd a bwydydd, y pwnc a adewir gan yr Apostol Pa*l, gyda rhyw gymaint o ddiystyrwch yn ei lais, i gydwybod pob dyn (Rhmf. xiv. 2). A pkrin y soniasai yr awdwr am gryfhau y galon â bwydydd, pe ymatal odâhcrth fwydydd a olygai. Y mae Kendall wedi dangos ymka gyfeiriad yr ydym i ehwilio am esboniad ar y geiriau. Amcaa yr awdwr ydyw rhybuddio y Cristionogion rhag athrawiaethau dyeithrol yr Essen - iaid, y rhai, er nad oeddyat yn Gristionogion, a wrthodasant abertkau

YR EPISTOL AT YE HEBREAID. 205

y galon wedi ei ehryfhâu á gras, nid â bwydydd, yn y rhai ni •chafodd y sawl a inodiasant ynddynt fudd. Y mae gennym ni 10

cyfraitri Moses ac a osoáaeant yn eu lie ddefodau newyddion. Ystyrient eu bod yn eyflwyno yr aberth a ryngai fodd Duw with fwyta eu hym- borth beunyddiol, ac mai llywydd eu cymdeithas oedd y gwir offeir- iad. Rhybuddia awdwr yr Epistol ei ddarllenwyr rhag yr athrawiaethau dyeithrol hyn ; «anys yr oeddynt mor hollol anghyson â'r athrawiaeth a ddysgir yn yr Epistol am aberth ac offeiriadaeth Cribt ag oedd defodau yr ben oruchwyliaeth ei hun ; ie, yn fwy anghyson na hwy.

With y galon y golygir y gydwybod, fel yn x. 22. Yn lie " cryfhau " dichon mai gwell fyddai darllen "sefydlu ;" oblegid nid yr un gair sydd yma aeynl Thess. iii. 13. " Cryfhau y gydwybod " ydyw ei gwneyd yn alluog i iawn farnu pa both sydd mewn gwirionedd yn dda neu yn ddrwg mewn ystyr moesol. Ond "sefydlu y gydwybod " ydyw ei thawelu, symud yr euogrwydd. Gwei 1 loan iii. 19 21, lie y sonir am " berswadio " y gydwybod, fel na byddo id ii gondemnio ac y eaffom ninau, trwy ei bod hi yn peidio condemnio, hyder tuag at Dduw. Pr un perwyl y dywed awdwr yr Epistol yn y He hwn, mai nid trwy fwydydd y gallwn sefydlu ein cydwybod a symud yr euogrwydd, ond trwy ras Duw, yr hwn sydd wedi gosod Crist i farw dros bob dyn (ii. 9). Gwel Eph. ii. 8. Geilw yr awdwr y drein ddwyt'ol a grasol hon i sefydlu y gydwybod yn " dda." Ystyr y gair " da " yn yr adnod hon ydyw " prydferth," " anrhydeddus," "ardderohog." Y mae yn beth hardd tawelu euogrwydd y gydwybod trwy ras ; ac y mae yn beth isel-wael a dirmygus oeisio ei thawehi trwy fwydydd. Y mae hyn yn waelach na cheisio ei chymodi â gwaed lloi a bychod gtifr.

A rodiasant ynddynt ; yn hytrach, "a rodiant ynddynt." Ystyr yr ymadrodd " rhodio ynddynt" ydyw "ymroddi iddynt." Gwel Eph. ii. 10, adnod sydd yn profi nad oes dim tebyg i ddirmyg yn ymgudcöo yn y gair. Ond y mae yn werth sylwi, tra y cymmerir y gair a çyfìefthir " ymarweddiad " yn adn. 7 oddiwrth fyned a dyfod prysur dinaeaedd y Groegiaid, cymmerir y gyffelybiaeth sydd yn y gair " rhodio,,' pan y defnyddir ef am fywyd dynion, oddiwrth detthiau maith y dwyraki ar dra^d dros fryniau a dhreigiau; ao ymguddia yn yr ymadrodd y syniad o ymẁeoh i gyrhaedd amcan trwy anhawsdcrau.

5Ti ehawsant fudd ; hyny y w, ni chawsant unrkyw fudd ; llawer llai y cawsant sefydlogrwydd i'w cydwybod.

ADN. 10. With geisio egluro ystyr yr adn. anhawddhon, ymddengys i mi fod y pethau caalyncá yn lied sicr : 1. Mai y Cristionogion yw y rhai y dywedir yma fod gand^n* allor. Tuedda Dr. Thomas i dybied fod yr awdwr yn eymmeryd saibslwidewig, i ddangos fod athrawiaeth yr Esseniaid, fod yr ymliorth beunyddiol yn aberthau dros bediodau, yn groes, nid yn unig i Gristi»»ogaeth, ond hyd yn nod i Iuddewiaeth. Ond y mae yn anmhosilil tybled iod yr awdwr yn gosod ei hun yn sane Iuddew anghred- ini«l i bron ei bwnc ; yn enwedig pan y mae efe ei hun, fel y mae yn eglur oddiwrth yr holl Epistol, wedi tori pob cyssylltiad âg Iuddewiaeth ac yn anog ei ddarllenwyr i hyny yn adn. 13. 2. Mai «roes Crist a oiygir wrth yr " allor." Profir hyn gan y cyfeiriad yn adn. 12 at Iesu yn dyoddef y tai allan i'r porth. Ond nid yw yr allor yn ddim ar wahan oddiwrth yr aberth a gyflwynir ami. Gan hyny, cynwysa y gair yn y lie hwn, aid Caifaria neu y groes fel man yn »nig, ond, mewn ystyr ysbrydol, holl haeddiant yr iawn a roddodd Crist dros bechaduriaid ar y groes. Pa un a

206 YR EPISTOL AT YR HEBREAXD.

allor, o'r kon nid" oes awdurdod i'r rhai sydd yn gwasanaethu y

oes cyfeiriad he/yd at Fwrdd yr Arglwydd tydd yn gwestiwn i'w bendeav fynu eto. Ond »id Swper yr Arglwydd ar wahan oddiwrta groes ac iawn Crist a olygir. 3. Mai nid ystyr j geiriau " nid oes awdurdod " ydyw nad yw y peth yn hosibl. Golyga Kendall mai ystyr yr adnod ydyw nas gellir bwyta yn llythyrenol aberth Crist, fel y gellid o'r aberthau Iuddewig, am mai abertk ysbrydol ydyw. Ond, pe hyn fuasai yr ystyr, dylasai yr awdwr ddyweyd, "nis gall.*' Y mae yn wir fod rhyw gymaint o amheuaeth pa un yw y darlleniad cywir, pa mn ai " nid oes awdurdod" ai " nis gallant." Ond y cyntaf yw y darlleniad a dderbynia Kendall ei hun. Heblaw hyny, y mae y syniad o fwyta aberth Crist yn llythyrenol yn sicr o fod yn syniad hollol anadnabyddus i'r eglwys apostolaidd. Tra yr ymddengys y pethau hyn yn lied sicr, y mae yn fwy anhawdd penderfynu dau gwestiwn arall. 1. Y naill ydyw, pa un ai yr offeiriaid Iuddewig ai credkiwyr OristionogoJ a olygir wrth "y rhai sydd yn gwasanaethu y tabernaclr" Ar y naill law, ymddengys feiaidd yn annat«aiol galw Cristionogion yn wasanaethwyr y tabernacl. Yr un pryd y mae yn bosibl mai cyaihariaeth ydyw y geiriau, fel pe gelwid credkiwyr yn wasanaethwyr wrth allor Crist, sef y groes, fel y mae yr offeiriaid yn gweini i'r tabernacl, a cheir rhvw gymaint o ddadl yn mhlaid y golygiad hwn y desgrifiad o'r tabernacl yn y nawfed benod, fel cysgod y gwir gysegr, ac o'r offeiriaid, yn yr wythfed benod, yn gwasanaethu i siampl a chysgod y pethau nefol. Ar y llaw arall, os yr offeiriaid Iuddewig a olygir, paham y defnyddia yr awdwr y dull neillduol hwn o eirio ? Yr unig atebiad boddhacl i'r gofyn- iad hwn ydyw fod yr awdwr yn cyfehrio at y ffaith fod yr offeiriaid weithia» yn " gyfranogion á'r allor;" hyny yw, fod rhai o'r ab«rthau na losgid ond rhan ohonynt, tra y rhoddid rhan i'r offeiriaid ; ond fod aberth, sef y poeth-offrwm, yr hwn a losgid oil ar yr allor ac o'r hwn nad oedd awdurdod i'r offeiriaid oedd yn gwasanaethu i fwyta dim. Os at hy» y cyfeiria yr awáwr, yr ystyr ydyw nad oes gan yr offeiriaid Iuddewig awdurdod i fwyta o'r aberth ysbrydol sydd wedi ei offrymu ar allor Calf awa mwy nag sydd ganddynt awdurdod i fwyta o'r poeth-offrwm ar allor y tabernacl. Hwn yw golygiad Westcott. Ond, pe hyn fuasai yr ystyr. buasai yr awdwr yn sicr o ddyweyd, "y mae genym nmoH," gyda phwys- lais ar " ninau," er mwyn cyferbynu y ddwy allor. Ni chrybwyllir ac ni chyfeirir at ond un allor yn yr acinod. 2. Yr ail ymholiad ydyw pa un ai cydnabod ai gwadu y mae yr awdwr fod gan Gristionogion awdurdod i fwyta o"r allor ? Os yr offeiriaid Iuddewig y w y rhai y dywed yr awTdwr nad •es awdurdod ganddynt i fwyta o'n hallor ni, rhaid ateb y gofyniad hwn trwy ddyweyd mai yn hyn y gwel yr awdwr y gwahaniaeth rhyngddynt a Christionogion. Tra na *hánt hwy, yr offeiriaid Iuddewig, fwyta o'r aberth ysbrydol a offrymwyd ar y groes, caiff oiedinwyr wledd o'r aberth hwnw.. Ond yr anhawsder ydyw fod yr awdwr yn dyweyd yn yr adnod nesaf mai cyffeìyb i'r pech-aberth ydoedd aberth Crist. Fel y llosgid y pech-aberth yn llwyr ar ddydd y cymod, felly y dyoddefodd Iesu. Gan hyny, nid oes neb i fwyta ohono. Mid yw unrhyw ran ehono yn ddefnydd gwledd. Kid yw neb yn " gyfranog â'r allor " yn yr aberth hwn. I Dduw yr offrymir yr oil ohono. I fy meddwl i y mae hyn yn penderfynu y cwestiwn. Y mae yn wir fod ochr arall i'r gwiaionedd, a dygir yr ochr hono allan gan yr Apostol Pa»l yn 1 Cor. v. 7, lie yr auogir y credinwyr i gadw gŵyl, neu i wneyd gwledd, o'r pasg, sef Crist, yr hwn aaberthwyd drosom ni. Ond nid yw hyn yn peri nad oes gwir, ar y llaw arall, yn y syniad fod y pech-aberth yn gy»ged o Grist. Tra y mae rhy wbeth yn marwolaeth y groes o'r hwn y gaK

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. WJ

tabernacl i fwytta. Canys cyrph yr anif eiliaid hynny, y rhai y 1 1

credinwyr gyfraaojri, y mae rhywbeth arall ynddi o'rhwn nas ^all ueb, hyd yn nod yr egiwys Grristionogol, bytk gyfranogi gyda Chriit ei hun. Os n& ohaniateir hya, aid yw y pech-aberth yn gysgod a Grist ; ac eto at y peck-abertky cyfeiria yr awdwr yma. Y gofrniadnesaf, ganhyny, ydyw. pa beth a olygir wrth " fwyta o'r allor ? " Yr eglurhad a rodxlir gan yr ©sbonwyr ydyw mai derbyn y beadithion a sicrheir trwy yr aberth a olyL.r. Ond y mae hwn yn gam-gymmeriad ; oblegid, pe felly, ni byddai unrhy w fenditn yn dyfod trwy y pech-aberth dan y gyfraith, o'r hwn ni ddti - byniai yr offeiriad na'r aberthwr ran. Nia gellir amheu fod yr offeiriad a r aberthwr, wrth fwyta yr aberth eysegredig, yn cael en hystyried fel j :i cyfranogi o gysegredigrwydd yr aberth. Yr oedd yr aberth yn myned yn rhan o'r dyn ei hun, nes gwneyd ei boll natnrmegis yn gysegredigiDduw. Ac y mae y gwirionedd hwn yn cael ei dderbyn mewn ifurl ysbrydol yn y TestamenfNewydd am gyfranogiad y credinwyr yn aberth Crist. Hwn yw ystyr Sacrameat Swper yr Arglwydd ; ae at hyn y cyfeiria yr awdwr yn adn. 15. Ar yr ochr arall, yr o«dd aberth a losgid oil, ac o'r hwn ni fwytâi neb; ac yr oedd hwn hefyd yn gysgod o Grist. Y mae, gan ayny, ryw ffurf ar gysegredigauth aberth y groes sydd yn pert hyn i Grist yn unig. Ond pa beth all fod felly os nad ei gymmeriad iawnel i Yaaddemgys i mi, ar ol llawer o ystyriaeth, y gellir crynhoi ystyr ymresymiad yr adnod fel y canlyn : Yr oedd yr Esseniaid yn gwrthod defodau eyfraith Moses am eu bod yn ystyried fod y cyfiawn- iad a'r sylwedd i'w cael yn yr athrawiaeth mai y gwir aberth a foddloma Dduw ydyw kywjd beunyddiol ymataliadau a chyflawn- iadau. Flurf arall ar yr hunamgytawnder y dadleua yr Apostol Paul mor gryfed yn ei erbyn ydoedd Isseniaeth. Ymresymiad awdwr yr Epistol yn erbya yr athrawiaeth hon ydyw fod aenym ni, y Crist - ionogion allor. Kid ydym wedi ymwrthod â phol» allor wrth adael Iuddewiaeth. (Rhoddar pwyslais ar y gciriau " y mae gemym.") A'r allor sydd genym ydyw y groes. Ar y groes rhoddodd Crist aberth drosom i Dduw. Oad nid oes neb i fod jm gyfranogion o'r cysegredig- rwydd neillduol hwnw sydd yn gwneyd aberth Crist yn iawn drosom. Fel y llosgid y peeh-aberth yn llwyr. a hyny y tu allan i'r gwersyll, felly dyoddefodd Crist y tu allan i borth Jerusalem; ac fel nad oedd ran yn weddülor pech-aberth i'r rhai a wa&anaethent y tabernacl, felly nid oes ran yn nghysegredigrwydd iawnol aberth Crist yn weddill i'r rhai a wasanaethant wrth ei allor yntau. Dadleua Rendallnas gall fod yr awdwr yn bwriadu cymkaru y groes i allor y tabernacl, oblegid fod yr allor yn y tabernacl a'r groes y tu allan i'r gwersyll. Ond rhaid cofio nad yw dameg neu gysgod yn cyfatek i'r gwrthgysgod ymhob peth. Digon i'r awdwr ydyw fod y cysgod yn dysgu un gwirionedd. Ond y mae yn deilwag o sylw fod gwaed y peoh-abertk yn cael ei gymmerydi'r cysegr sancteidd- iolaf, ac hefyd mai yn y cyntedd, nid yn y cysegr, ac felly, mewn gwirionedd, nid yn y tabernacl o gwbl, yr oedd yr allor.

ADN. 11.— Prawf ydyw yr adn. hon fod cysgod dan y gyfraith o allor ae aberth angayfranegoì Crist; nid prawf, fel y myn Ẃestcott, f#d Crisliomogion yn meddu awdurdod i fwyta yn ysbrydol o aberth Crist. Pa fodd y gall y ffaith na fwytâi neb o'r pech-abertk fod yn brawf fod Cristionogion yn bwyta o aberth Crist ? At y pech- aberth ar ddydd y cymod y cyfeiria yr awdwr. Yr oedd peck-aberth o'r hwn y caniatcid i'r •ffeiriaid fwyta (Lef . x. 17) ac yr oedd pech-aberth heblaw yr un a offrymid ar ddydd y eymod o'r hwn na chaniateid iddynt fwyta, sef y pech-aberth

208 YR EPISTOL AT YR HE1REAID.

dygir eu gwaed gan yr archoffeiriad i'r cyssegr dros bechod, à

12 losgir r tu allan i'r gwersyll. O herwydd panam Iesu hefyd,

fel y sancteiddiai y bokl trvy ei waed ei hun, a ddi'oddefodd y

dros yr archoffeiriad a'r offeiriaid a'r pech-aberth dros yr boll bobl. Gwel Lef. iv. 3, 12; 13, 21.

Anifeiliaid. Sylwa Westcott mai yma yn unig yn yr boll Fibl y defnyddir y gair hwn am yr aberth a», a a awgryma mai amcan yr awdwr ydyw eu cyferbynu â'r dyn Iesu. Dicbexi fod gradd o ddiystyrwch yn y gair.

Gan; yn bytrach, " trwy." Gweithredai yr archoffeiriad fel cyn- rycliiolydd y bobl ar ádydd y cymod. Felly y gweithredai yr Iesu ar y groes, dros ddyaion. Efallai mai i ddangos hyn y dernyddia yr awdwr yr enw dynol " Iesu " yn yr ada. nesaf.

A losgir. Gwèl Lef. xvi. 27, lie y cyfeirir, fel ya yr adn. bon, at ddydd y cymod.

ADN. 12.— Oherwydd paham. Nid ydym i dybied fod Iesu yn dyoddef y tu allau i'r porth er mwyn cyflawni y cysgod oedd yn y peek-aberth. Fel y dywed Iesu ei kun wrth loan Fedyddiwr, yr oedd rhyw " gyfiawnder " yn cael ei gyflawni yn yr amgylchiadau ; a'r "cyfiawnder " hwn oedd sail y cysgod a'r gwrthgysgod hefyd. Gwel Matt. iii. 15.

Fel y sanctaiddiai. Yn y gair hwn y mae yr awdwr yn dwyn i mewn yr ochr arall i'r gwirionedd, fel y sylwyd ar adn. 10, sef cyfranogiad y bobl ya aberth Crist. Tra, ar y naiÙ law, yr oedd ei aberth yn gyffelyb i'r pech-aberth ar ddydd y oymod, trwy fod yn anghyfranogol, ar y llaw arall yr oedd yn gyffelyk i'r aberthau eraill dros bechod, o'rrhai y caniateid i*r offeiriaid fwyta a thrwy hyny gyfranogi o gysegredigrwydd yr aberth ei hun. Fel iawn, i Grist ei hun yn unig y perthynai yr aberth ; ond y mae yr iawn hwnw yn ffynouell sancteiddrwydd neu gysegredigaeth ei bobl. Oblegid hyn y defnyddir y gair " pobl " yn y lie hwn, yn yr ystyr o bobl cysegredig, y gwir Israel. Ar sail y cysegriad hwn, y maent i gadw gẃyl ac i offiymu aberth moliant, adn. 15.

Ei waed ei bun ; mewn gwrthgyíerbyniad i "waed arall." Gwel nodiad ar ix. 25. Fel hyn yr oedd Iesu yn ei aberth yn cyflawni cysgod y pech-aberth yn y ddau betk a berthynai iddo, sef taeÄelllad y gwaed gan yr archoffeiriad yn y sancteiddiolaf a llwyr-losgiad corph yr anifail y tu allan i'r gwersyll. Cofler o hyd mai at bech- aberth dydd y cymod y cyfeirir, pan daenelhd y gwaed yn y sancteiddiolaf. Ar achlysuron eraill taenellid gwaed y pech-aberth, weithiau ar allor y poeth-offrwm yn y cymtedd, weithiau yn y cysegr tua lien y sancteiddiolaf. Ond nid at yr achlysuron hyny y mae y cyfeiriad yr adn. hon.

A ddyoddefodd. Ymddangys i mi yn eglur mai marwolaeth Crist ar y groes yn unig a feddylir yma. Ond esbonia "Westcott mai w«di claddu yr Iesu yn y bedd y cyûawnwyd y cysgod o lwyr-losgiad y pech-aberth y tw allan i'r gwersyll. Gwell genyf o lawer ystyried fod y cysgod yn cael ei hollol gyflawni yn ngwirioneddolrwydd marwolaeth Crist, Fel y sylwyd fwy nag unwaith, nid yw yr amgylchiadam a ddygwyddodd rhwng ei angaw a'i esgyniad yn dyfod o fewn cylch ymresymiad yr awdwr kwn, ond yn. unig yn niweddglo yr Epistol, adn. 20. Kid wyf yn gallu credu fod eu cyfeiriad yn y lie hwn at y cyfnewidiad a gymmerodd le yn ei gorph o fod yn gorph ani mol i fod yn gorph ysbrydol.

Y tu allan i'r porth. Y gair " porth " ydyw yr allwedd i ystyr yr a^egori. Dinas Jerusalea.i ydyw y gwersyll. Croeshoehwyd yr I«su y tu allan i borth y ddinas fel gwaradwydd ano, Dyna ystyr y lief, " Ymaith

YR EPÍSTOL AT YR HEBREAID. 20Sä

tu allan i'r porth. Am hynny awn atto ef o'r tu allan i'r gwer- IS syll, gan ddwyn ei waradwydd ef . Canys nid oes i ni yma ddinas 14

âg ef ;" hyny yw, allan e'r ddinas sanctaidd, fel esgymufibetk. Y mae yn ffaith nodedig nad esgynuuiwyd yr Iesu gan y Pharéaaid^ er iddynt esgymuno araU o'i achos, hyd nes y daeth awr ei f*rwolaeth. Ni feiddiodd neb ei esgymuno cyn hyny rhag ofn y bobl. Fel hyn trefnodd Duw i gysgpdau y gyfraith gael eu cyflawai yn esgymundod yr Iesu.

ADN. 13. Diau mai ystyr yr anogaeth ydyw ar iddynt adael Iuddew- iaeth yu hollol ac am byth. Seilia yr awdwr yr anogaeth aruno deimladau dyfnaf a goreu y natur dáymol, sef «dmygedd o achubwr yn dyoddef ei waradwyddo. Ac nis gall fod amheuaeth fod gwaradwydd y groes wedi bod ac yn bod ymhlitii y dylanwadau cryf af o blaid Cristionogaeth.

Awn ato ef ; yn llythysenol ac yn well, " awn allan ato ef." Efallai fod y cynghor hwn yn eynwys ymadael yn Uythyrenol o Jerusalem, fel y gwyddom oddiwrth yr hanesydd Eusebius i'r Cristionogion ymadael ychydig wythnosau cyn i'r waedd ofnadwy gael ei chlywed yn y Demi ar y Pentecost olaf o flaen dinystr y ddinas, "Ymadawn." Crybwyllir y lief hon gan Josephus, yr hanesydd Iuddewig, a chan y Rhufeiniwr Tacitus. Gwel Matt. xxiv. 15—28. Ond golyga y geiriau yn yckwanegol at hyn eu bod i adael Iuddewiaeth ac i ochel Esseniaeth. Y mae yn hynod mai yr un gair a ddefnyddia yr Apostol Pa*l wrth anog y Corinthiaid i gadw yn hollol glir oddiwrth Baganiaeth, 2 Cor. vi. 17. Ond y mae un gwahaniaeth nid annheilwng o sylw. Ystyr yr amseriad a ddefnyddia Paul (scf yr aorist) ydyw " deuwch allan ar unwaith ;" ond yr amseriad presenol sydd yn yr ada. hon, "parhawn i ddyfod allan." Tybiaf mai yr ystyr ydyw, " Dilynwn yn nghanarau yr Iesu ; aeth ef allan ; parhawn ninau y weithred hono."

Ato ef ; fel pe byddai Iesu eto ar y groes. Ac ar y groes y mae, o ran ei gwaradwydd. Felly, yr ydym, hyd yn nod ar y ddaear, yn myned at Grist mown dau ystyr, yn ei warackvydd ac yn ei ogoniant. Gwel xii. 24.

Y gwersyll. Ni ddyweá "y tu allan i'r porth." Nid digon hyny. Y mae Iuddewiaeth wedi troi gwcrsyll yn ddinas. Fel y sylwa Westcott yn rhagorol, amcanwyd Imddewiaeth i fodyn gyfundrefn dros amser yn unig. Am hyny gelwir hi yma yn wersyll. Yr oedd yr Iuddewon wedi gwneyd dimas ohoni, a gosod ffurf arhosol ac amddiffynol ar yr hyn nad oedd i fod yn nghynllun Duw ond megis gwersyll symudol. Y mae y syniad hwn yn hollol yn cyfateb i'r hyn a ddywedyr àwdwr yn y bedwaredd benod, nad oedd myuediad yr Israeliaid i Ganaan yn cyflawni holl gynwys addewid Duw a«n orphwysfa i'w bobl. Anoga yr awdwr ei ddarllenwyr yn awr, nid yn unig i adael dinas er mwyn gwersyll, ond hefyd i adael y gwersyll a myned allan i'r diffaethweh; i fod, nid yn unig yn bererinion, ond hefyd yn grwydriaid esgymunedig, yn ysgubion y byd.

Gan ddwyn ei waradwydd. Yr un gair a gyfieithir <4dwyn" yma ag a gyfieithir " cynhal " yn i. 3, lie y sylwyd fod y gair yn golygu, nid ymgynhal yn unig dan bwysau, ond eario y pwysau, gyda chyfeiriad at symudiad ymlacn. Yn y lie hwn, gan hyny, y mae yn debygol fod gwaith yr Iesu yn dwyn ei groes o'r ddinas trwy y porth i Galfaria yn meddwl yr awdwr. Cariwn waradwydd. Crist fel yr oedd Simon o Cyrene yn dwyn ei groes, Matt, xxvii. 32, lie y mae yr un gair, " a hwy yn myned allan," ag sydd yn yr adn. h»n.

ADN. 14. Nid rheswm ydyw yr adn. hon dros newid y gair yn yr adn. flaenorol o "dinas" i "gwersyll," fel pe dywedai, " canys gwersyll sydd genym, nid dinas arhosol." Gblegid anoga yr awdwr oi ddarllonwyr

210 YR 1.PISTOL AT YR HEBREAID,

15 barhaus, eithr un i ddyfod yr ŷm ni yn ei disgwyl. Trwydtlo ef gan hynny offryrnmwn aberth moliant yn wastadol i Dduw,

1 6 yr hyn yw ffrwyth ein gwefusau yn cyffesu iV enw ef . Ond

i fyned alia» hyd yn nod o'r gwersyll. Tn hytrach, yr ystyr yw fod yn ofynol gadaei y gwersyll oherwydd fod gwersyll arosol yn myned yn ddinas, ac felly bydd Oristionogion mewn perygl o hyd o ymgartrefu ar y ddaear, es na symudant tu pabell yn barhaus. Er mwyn bod yn bererin- ion, rkaid ydyw iddynt fod yn grwydriaid. Yr hyn sydd yn gwneyd yn angenrheidiol iddynt fod yn berertníon, ac nid yn ddinasyddion, ar y ddaear, ydyw y ffaith mai yn y byd ysbrydol y mae eu dinasyddiatth a'U cartref . Un i ddyfod; yn hytraoh, "yr un sydd i ddyfod," mewn gwrthgyfer- ' vniad i'r Jerusalem ddaearol, yr hon yn fuan bellach a ddinystrir. Gwel ìiudiad ar xi. 10.

Yn ei disgwyl ; yn hytrach, " yn ceisio yn ddyfal am dani," fel yn si. 11 ; tra yr ydyni yn myned allan yn wirfoddol ac yn gadaei am byth y udinas ddaearol.

ADN. 15. Trwyddo «f ; gyda phwyslais, fel y gwelir oddiwrth leoliad y geiriau yn y gwreiddiol. Gan ei fod ef yn Archoffeiriad sydd yn gallu eyflwyao ei waed ya y sancteiddiolaf pan y dyoddefa yr un pryd y tu allan i:r gwersyll, trwyddo ef , fel ein cynrychiolydd archofFeiriadol y bydd poh math o aberth a gyflwynir genym yn gymmeradwy. lawn Crist sydd yn peri fod nid yn unig ein pechodau yn cael eu maddeu ond hefyd tin crefydd yn dderbyniol gan Dduw. Gwel 1 Pedr ii. 5, lie y desgriflr y credinwyr fel offfeiriadaeth sanctaidd yn offrymu [yr un gair ag sydd yn yr adn. hon] aberthau ysbrydol, y rhai sydd yn gymmeradwy gan Dduw trwy Iesu Gri.-t.

Offryniwn ; yn llythyrenol, " ofrrymwn i fyny ; " hyny ydyw, codi yr aberth ar yr allor, fel y dywedir yn Iago ii. 21.

Aberth nioliant. Am fod Crist yn offrymu ei hun fel pech-aberth ẁosom. anoga yr awdwr ei ddarllenwyr i offrymu aberth diolch. Mewn cyfwrbvniad i'r aberth dros bechod yr oedd yr aberth hedd. Dosberthid hwn i'dri math, sef aberth diolch (Lef. vii. 12), adduned, ac aberth gwir- foddol (Lef. vii. 16). Wedi anog yr Hebreaid Cristionogol i adael y •<dfoas ar gwer?yll ac ystyried eu hunain fel esgymun bethau yn cyfranogi i waradwydd Crist, cvnghora yr awdwr hwyst i fod yn ddiolcligar am y l-hagorfraint o gael eu gwaradwyddo gyda Christ, ac i offrymu aberth diolch am y drugaredd hon ; ac i wneyd hyny " yn wastadol," gan y bydda»t yn dwyn ei waradwydd ef tra y byddant ar y ddaear. Dyfyna yr esbonwyr eiriau y Rabbiniaid : " Daw amser pan y paid pob aberth oddigerth aberth diolch." Gwel Salm liv. 6 ; lvi. 12 ; csvi. 17 19 ; Jer. xsxfii. 11.

Yr hyn yw. Eglura yr awdwr mai "ffrwyth gwefusau" a olyga wrth •'aberth moliant." Yn lie anifail a bwyd-offrwm (bara lefeinllyd a diltieinllydj a diod-offrwm (Lef. vii. 11, &c), yr aberth diolch a ofynir genym ni ydyw ein gwefusau. 0 gyfìsithiad y Deg a Thriugain o Hos. xiv. 2. y cymer yr awdwr yr ymadrodd "ffrwyth gwefusau," lie y ceir yn yr Hebraeg, fel yn y eyfieithiad Cymraeg, "lloi gwefusau." Yr un aberth diolch a olygir, ond yn unig fod yr Hebraeg yn son am un ran o"r aberth, sef yr anifail, a'r Deg a Thriugain am y rhan arall, sef ffrwyth y ddaear. "Wrth "loi ein gwefusau " neu " ffrwyth ein gwefusau" yr ydym i ddeall, y lloi a'r ffrwyth sydd yn gynwysedig mewn gwefusau. Ein gwefusau ydyw yr aberth. Gwel Es. lvii. 19.

Yn eyffesu ; neu, " yn proffesu." Gwol nodiad ar x. 23. Fel yn y -ddegfed benod, felly yma, ni a gawn ddau brif syniad yn anogaeth yr

YR EPISTOL AT YE HEBREAID. 211

gwneuthur daioni, a chyfrannu, nac anghofiwch: canys â chyf- ryw ebyrth y rhynçir bodd Duw. Ufuddhewch i'ch blaenoriaid, 17

awdwr, sef dyfodfa at Grist ac ardàeliad o'i enw. Y ddau beth hyn sydd yu. nodweddu Cristionogion pan y deuant allan ohonynt eu hunain, fel yi anoga yr awdwr yr Hebreaid i wneyd ; ac ymddibyna y naill o'r pethau hyn ar y llall. Os gall Cristion ddyfod allan ohono ei nun nes dyfod i agosrwydd eymundeb at Dduw yn Nghrist, nid anhawdd fydd iddo broffesu Crist ger bron dymion. Yn yr adnodau hyn anogir hwynt i ddyfod ato y tu allan i'r gwersyll, a chan ddwyn ei waradwydd ddal proffes eu gobaith yn ddisigl hyd at aberthu moliant i'w enw. \Vrth ei " enw " y golygir yr hyn y mae efe wedi datguddio ei fod ef ei hun, yn nghanol yr holl waradwydd a deflir arno gan ddynion.

ADN. 16. Ond nae anghofiant, yn nghanol eu diolchgarwch i Dduw, wneuthur daioni i ddynion, yn enwedig i'w brodyr tlodion. Na f eddy lied neb fod ffrwyth gwefusau yn gwneyd ffrwyth gweithredoedd yn ddiangen- rhaid. Er eu bod eu hunain yn grwydriaid allan hyd yn nod o'r gwersyll, rhaid iddynt gyfranu tuag at anghenion y tlawd.

Nac ang-hofiwch ; oblegid y mae y fath beth âg addoliad sydd mor lawn o hunan-foddhad nes peri anghofio cyfranu i'r tlodion. Gwel adn. 2, 3. Gwneuthur daioni. Ceir yr un ymadrodd, mewn ffurf arall, yn Marc xiv. 7, am wneuthur daioni i'r tlodion. Ond ni ddylid cyfyngu ei ystyr. Y gwahaniaeth rhyngddo a "chyfranu" ydyw fod yr olaf yn eyfeirio yn fwy arbenig at roddion i frodyr tlodion. Cyssylltir y ddau beth yn fynych. Felly yn " Nysgeidiaeth y Deuddeg Apostol," dywedir, " Xa thro ymaith oddiwrth yr hwn sydd mews eisiau, ond cyfrana bob peth i'th frawd, ac na ddywed mai dy eiddo dy hun ydyw " (Pen. iv.).

A'r cyfryw ebyrth ; hyny ydyw, nid âg ebyrth y gyfraith, ac nid ychwaith ág aberth moliant pan nad yw yn aberth mewn gwirionedd ; ond â chyfryw aberth ag sydd yn gynwysedig o gyfuniad têg a gweddus o foliant i Dduw a thrugaredd i ddynion, yn enwedig i'r brodyr. Gwel 2 Cor. ix. 13.

Ebyrth. Nid ydynt yn ebyrth dros bechod. Dangosodd yr awdwr eieoes mai i'r Iesu yn unig y perthyn y rhai hyny. Y mae awdwr " Dysg- eidiaeth y Deuddeg Apostol," gan hyny, yn «yfeiliorni pan y dywed, "Os ©es genyt, trwy dy ddwylaw ti a roddi bridwerth tros dy bechodau" (Pen. iv.). Myned yn ol ydyw dywedyd fel hyn i athrawiaeth yr hen oruchwyl- iaeth. GwelDan. iv. 27, lie y mae y gair a gyfieithir "tor ymaith" yn golygu yn y Deg a Thriugain " prynu." Er hyny y maent yn ebyrth sydd yn rhyngu bodd Duw, ac ym sicrhau ei fendith. Y mae pwyslais i fod ar y gair "Duw," fel y dengys ei leoliad yn y gwreiddiol. Y mae y Duw sydd yn ffieiddio axogl-darth, ac nad ymhyfryda mewn gwaed bustych ac ŵyn a hyrddod, yn ymhyfrydu yn ei bobl pan y gwnant ddaioni, y ceisiant farn, y gwnant uniondeb i'r gorthrymedig a barn i'r amddifad. Gwei T.-. i. 10-20.

ADN. 17.— Y mae gwahaniaeth rhwng "ufuddhau" ac " ymddar- ostwng." Ystyr y cyntaf yn y lie hwn ydyw, "Cymmerwch eich perswadic ganddynt ; " hyny ydyw, dangoswch bob parodirwydd i dderbyn eu barn hwy iel eich barn chwi ar faterion yr eglwys. Y mae y gair yn cynwys fod oydymgynghoriad rhwng yr arweinwyr yn yr eglwys hon a'r aelodau. Ond golyga y gair a gyfìeithir " ymddarostyngweh " eu bod i roi ffordd j awdurdod yr arweinwyr paa nas gall yr arweinwyr eu hargyhoeddi. Ystyi lythyrenol y gair ydyw " to yield,'" ac ni ddefnyddir ef yn yr Ysgrythyrau ond yn y lie hwn. Y mae y ddau air yn wahanol i'r geiriau a ddefnyddii

212 i'Ä EPISTOL AT YR HEBREAID.

ac yrnddarostjngwch : oblegid y niaent hwy yn gwylio dros eich eneidiau chwi, megis rhai a fydd rhaid iddynt roddi eyfrif : fel y gallont wneuthur hynny yn llawen ac nid yn drist;

äm ufadd-dod ac ymddarostyngiad plant i rieni, megis yn Luc ii. 51 ; Eph. vi. i.

Eich blaenoriaid; neu '-eich arweinwyr." Peryglus fyddai tynn unrhyw gasgliad oddiwrth y gair am aatur llywodraeth yr eglwys hon. ymhellach na bod rhywrai yn cymmeryd yr arweiniad'ac yn hawlio, tra yn y swydd, ymostyngiad yr aelodau. Ond nid oes dim yn yr adn. hon i hysbysu pa fath* lywodraeth eglwysig oedd gan yr Hebreaid. Y mae, pn fodd bynag, yn deilwng o sylw fod llawn cymaint o angen, fel yr ymddengys, cynghori yr eglwysi Cenhedlig â'r eglwys Hebreaidd i ymddar- ostwng i'w harweinwyr. Nid oedd eu llywodraeth mor sicr â llywodraeth yr apostolion. Er angraifft, cawn yr un cynghor yn "Nysgeidiaeth y Beuddeg Apostol," traethawd a ysgrifenwyd at Qristionogion ymhlith y Cenhedloedd : " Nac esgeuluswch hwynt," sef yr esgobion a'r diaconiaid.

Oblegid y maent hwy yn gwylio; yn hytrach, " cany s hwynt - hwy sydd ar ddihûn yn gwylio." Golyga y gair, nid gwaith y gwyliwr. oad y deffroad ^ydd ynddo wrth wylio yn y no* ; yn hollol y peth a elwii yn Saesoneg, " to he on th* mlerty Felly ynia, y mae yr arweinwyr oedd gan yr Hebreaid yn teilyngu iddynt yinddarostwng i'w hawdurdod, oblegid yr oeddynt yn efrro yn eu gwaith yn gwylio dros eu h eneidiau hwynt. Dyma ystyr y pwyslais sydd i fod ar y gair "hwynt-hwy." Apeha yi awdwr nid at awdurdod y swydd, ond at yni pereonol y gwylwyr yn cyflawni gwaith y swydd. Yr oedd yr aweinwyr hyn yn yr ysbryd yi anogai Crist ei ddisgy blion i yrngyrhaedd ato, yn ei gynghorion diwedd'ai iddynt. Gwel Matt. xxiv. 42 ; xxv. 13.

Dros eich eneidiau chwi. Paham na ddy wed yr awdwr "drosoch chwi Ÿ " I ddangos, mi a dybiaf , fod y gwylwyr yn teimlo pwysigrwydd eu gwaith. Caifaeliad enaid neu golli enaid oedd yn ymddibynu ar eu hymroddiad i'w gwaith. Gwel nodiad ar x. 39. Felly y gelwir Crist ei hun yn 1 Pedr ii. 25 yn " fugail ac esgob eich eneidiau."

Megis rhai a fydd rhaid iddynt roddi eyfrif. Amean eglur y geiriau hyn ydy w dangos yr achos paham y mae yr arweinwyr mor effrc yn gwylio dros eneidiau. Gwybod y maent eu bod ar fedr rhoddi eyfrif. Dichon fod yr awdwr yn ystyried dinystr buan y ddinas fel arwydd fod Crist yn dyf od ar fyrder i farn.

Fel y gallont wneuthur hyny yn llawen, ac nid yn drist. Dilyna Ìíiaws o esbonwyr Dr. Owen yn ei olygiad, mai rhoddi eyfrif a feddylir yn y geiriau "gwneuthur hyny." Ond rhaid ei wrthod, oblegid fod amseriad y gair " gwneuthur" yn cynwys gwaith, ac nid un weithred. Gellir arall-eii'io fel hyn : " fel y gallont ddal ati i wneyd hyny." Rhaid, gan hyny, mai at y gwaith o wylio y cyfeiria yr awdwr, ac nid at v weithred o roddi eyfrif. Ehaid eyssylltu y geiriau â'r anogaeth i ymddarostwng, nid á gwyliadwriaeth effro yr arweinwyr. Os ymddaros- tyngweh chwi iddynt, gallant wylio dros eich eneidiau gyda llawenydd : os nad ymddarostyngwch, gwyliant gyda thristweh, ac fe'u rhwystrir i raddàu yn eu gwaith, fel na chewch chwi y budd oddiwrtho a gaech, pe yr ymostyngech iddynt.

Yn drist ; neu, yn well, " gan ruddfan," " gan ocheneidio." Nid yw Iago v. 9 yn egluro y gair ; canys ei ystyr yno ydyw " murmur."

Difudd. Nid yr ystyr ydyw y bydd eu gwaith yn gwrthod ymostwng i'w harweinwyr yn troi yn eu herbyn yn y farn, pan rydd jv arweinwyr

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. 213

canys difudd i chwi yw hynny. Gweddi'wch drosom ni : canys 18 yr ydym yn credn fod gennym gydwybod dda, gan ewyllysio byw yn onest yta mhob peth. Ond yr ydwyf yn hölaethach yn 19

eucyfrif ; ond, yn hytrach, ei fod yn golled ysbrydol iddynt. Y mae ysbryd anniddig a gwrthryfelgar yr aelodau yn rhwystro yr arweinwyr i wylio dros eu heneidiau yn effeithiol. Ond yr wyf yn cydnabod mai y golygiad arall a gynygir gan yr esbonwyr Groegaidd.

ADN. 18. Bmasai "gweddiwch dros eich arweinwyr " yn ymddangos yn gynghor hynod o gymhwys ar ol yr anogaeth i ymddarostwng iddynt yn yr adn. flaenorol. Y mae hyn yn fy nhueddu i dderbyn y syniad. a gynygir gan Kendall a Dr. Thomas fod yr awdwr yn gosod ei hun ymhlith eu harweinwyr eglwysig, ae mai hwn yw y rheswm paham y def- nyddia y rhif lliosog yn nechreu yr adn. yn gystal â'r rheswm hefyd paham y crybwylla yn yr adn. nesaf ei obaitk y caiff ddychwelyd atynt ar fyrder. Llythyr gweinidog oddicartref, gan hyny, at ei eglwys ydyw yr Epistol hwn.

Canys yr ydym yn credu; yn llythyrenol, "canys yr ydym yn perswadio ein hunain." Y mae y ferf ym yr amseriad presenol, yr hwn sydd yn ddull mwy gostyngedig o lefaru na phe dywedasai, " yr ydym yn argyhoeddedig," fel y dywed yn vi. 9, wrth son am ei gredmiaeth yn eu cylch hwy. Ond yma cyfeiria at ei gredkiiaeth am dano ei hun. Rhydd y cyfieithiad Cymraeg yr ystyr, er nad yw yn llythyrenol.

Fod genym gydwybod dda. Ond nid yr un gair a gyfieithir "da" yma ac yn 1 Tim. i. 5 a manau eraill ; a'r ystyr ydyw, nid cydwybod wedi ei rhyddhau oddiwrth euogrwydd meesol, ond cydwybod "hardd," "anrhydeddus," un nad ymostynga i gyflawni budrwaith. Yr un gair mewn ffurf arall sydd yn niwedd yr adti. ac a gyfieithir "yn onest." Apelia eu gweinidog oddicartref at eu cydwybodau hwy i farnu ei gyd - wybodolrwydd ef a'i gyd-arweinwyr. Os ydynt yn argyhoeddedig eu bod yn meddu nodweddion gwir arweinwyr eplwys Crist, y mae hyny ynddo ei hun yn gymhelliad cryf iddynt i weddio drostynt.

Yn onest; yn hen ystyr y gair, " gonest," y Lladin "honestium." Y gair goreu yn* awr ydyw " yn hardd." (Ar ol ysgrifenu hyn gwelais nodiad cyflFelyb yn Wesfrcott) .

Yn mhob peth; neu "yn mhlith pawb." Tueddir fi i dderbyn y cyfieithiad hwn, am ei fod yn cynwys rheswm da dros iddynt weddio drosto ef, yr hwn oedd efallai ar ei daith yn y«iweled â Christionogion eraill, yn gystal a thros ei gyd-weinidogion oeddynt gartref .

Byw; yn hytrach "ymarweddu."

Awgryniir i ni oddiwrth yr adn. hon a'r adn. flaenorol beth oedd natur gwaith yr arweinwyr eglwysig. Gwnant waith efengylwyr a dysgawd- wyr a chynghorwyT. Ar y ìlaw arall, awgrymir i ni oddiwrth yr adnodau hyn nexi fanau eraill yn yr Epistol mai gwaith yr eglwys fel corph neu aelodau yr eglwys ar eu penau eu hunain oedd bedyddio (x. 22), gweddio (adn. 18), cyfrann (adn. 16), rhoi barn ar athrawiaethau (adn. 9), ac an- ogaethau (adn. 22). Y mae yn hynod mor debyg ydyw sefyllfa pethau yn yr eglwys Hebreaidd hon i'r hyn ydyw ymhlith y Cristionogion Groeg- aidd yr ysgrifenwyd " Dysgeidiaeth y Deuddeg Apostol" atynt, rywhaner can' mlynedd ar ol hyn.

ADN. 19.— Ynhelaethach. Gellir cyssylltu y gair hwn â "dymuno" neu â "gwneuthur." Y cyntaf yw y mwyaf tebygol o fod y gwir ystyr. Goiyga y gair, o'i gyssylltu felly, fod yr awdwr yn fwy pryderus am

-14 YE EPISTOT. AT YE HEBREAID.

dymuno gwueuthur o houocii hyn, i gael fy rhoddi i thwi

20 drachtfn yn grnt. A Duw yr heddwch, yr hwn a ddug

drachefn odcli wrth y meirw ein Harglwydd Iesu, Bugail mawr

lwyddiant eu gweddi drosto pan yr effeithia hyny arnynt hwy ne phan nad effeithia ond ya. imig arno ef ei him a'i gyd-arweinwyr.

I gael fy rhoddi i chwi drachefn yn gynt; neu yn fwy llyth- yrenol, "fy adfer i chwi." Ymddengys y geiriau hyn ar yr olwg gyntaf iel yn awgrymu ei fod mewn carchar ar y pryd. Ond ni byddai y dybiaeth hon yn gyson âg adn. 23. Y ma« yr un adn. yn erbyn y dybiaeth niai afiechyd oedd yn lluddias iddo ddychwelyd. Nid oes dim yn rhwystro i ni ddyfalu mai gyda gwaith yr Arglwydd yr ydoedd yn absenol oddi- wrthynt, a'i fod yn hyderu y byddai eu gweddia* drosto yn hyrwyddo y swaith yn agor y ffordd trwy hyny iddo ddychwelyd. Otid nis gellir gwaeyd mwy na dyfalu. Hyn sydd eglur oddiwrth y geiriau, ei fod wedi bod gyda hwymt o'r blaen : a hyny, y mae yn debygol, fel un o'r arweinwyr. Yn gynt ; hyny ydyw, yn gynt nag y gallai efe ddisgwyl i'r rhwystrau ar ei ffordd i ddychwelyd gael eu syinud ymaith yn ol trefn naturiol yr amgylchiaclau, ar wahan oddiwrth weddiau yr eglwys.

ÀDN. 20. Diwedda ei lythyr gyda gweddi drostynt. Ond y mae cyt«ylltiad agos rhwngy weddi a'r adn. flaenorol. Hyderai gael ei adfer iddynt i oscd pethau yn eu lie yn yr eglwys. Ond ieimla nad iddo ef y pen hyn gwneyd hyny. Rhaid gofyn i Dduw eu perffeithio ymhob gweithred dda. Gan hyny, yn lie "AD«w," rhaid i ni ddarllen "Ond Duw;" a hwn ydyw y cyfieitiiiad cywiraf.

Duw yr heddwch. Dyoddefasai yr egiwys hon yn y dyddiau o'r blaen ymdieoh mawr o helbulon ; ond yr oedd hyny wedi myned heibio. Gwel x. 32. Xid oes dim ychwaith yn yr Epistol yn awgrymu fod ymraniadau yn yr eglwys. hytrach. syrthni a musgrellni henaint oedd wedi eu goddiweddyd. Dymunai yr awdwr fod eu brawdgarwch i barhau, adn. 1. Oblegid hỳn gweìl yw deall y geiriau yn yr ystyr mwy eyffredinol a dwfn. '-Arglwydd y lluoèdd'" ydyw Duw yn yr Hen Destament ; "Duw yr heddwch " ydyw yn y Newydd. Fel y mae yr enw sydd arno yn yr Hen Dfptament yn dwyn'i'r golwg ei nerthi amddift'yn ei bobl gysegredig, feUy y mae yr ymadrodd sydd yn y Testament Newydd yn awgryniu yr holl syniadau sydd yn ymgasglu o amgykh y syniad o gymod a chysegriad i Dduw ar sail aberth. Dichon i'r awdwr gymmeryd yr emw "Duw yr heddwch" o Epistol Paul at y Rhufeiniaid (xv. 33; xvi. *20).

Yr hwn a ddug drachefn oddiwrth y meirw ; yn hytrach, " yr hwn a ddug i fyny o blith y meirw." Y mae y cyferbyniad ya Rkuf. x. 6, 7, rhwng "dwyn i waered" a "dwyn i fyny" yn profl na ddylai y gair •• dradaoiii " fod i mewn o gwbl. Golyga y gair a g^rfi«ithir " oddiwrth " ( ei:) fed yr hwn a ddaeth i fyny wedi gadael y meirw eraill ar ol. Y mae pwys yn hyn pan yr eglurir yr ymadrodd " yr adgyfodiad oddiwrth y meirw," yr kwu yw adgyfodiad y cyfiawnion, a'r hwn sydd yn amgylch- iad gwahanol i "adgyfodiad y meirw." Yn yr adn. hon yn unig y erybwyirh- adgyfodiad Crist yn yr Epistol hwn : a da oedd cael y cyfekiad. hwn at y Jfcwth, onide buasai lliaws yn barod i ddyweyd fod yr awdwr yn ei gwadii n?u yn anhysbys ohoni. oherwydd ei fod, fel y sylwyd o'r blaen, yn esgeulixso yn ei ymresymiad yr hyn ell a ddygwyddodd rhwng marwol- aeth Crist a'i es&rúad ac yn desgrifio ei farwolaeth fel ei fynediad i'r cysegr nef ol. Gelur ychwanegu fod yr unig gyfeiriad hwn at adgyfodiad Crist yn cael ei ddwyn i mewn mor hollol naturiol fel y mae yn ffurfio un o"r profiou sicraf o wiiionedd yr amgyleiiiad. Ond paham y crybwyllir

ÍS EPISTOL AT YE HEBREAID. 215

7 defaid, trwy waed y cyfammod tragywyddol, A'ch per- 21

adgyfodiad yr Iesu yma? I ddangos eifod yn Fugail mawr y defaid. Fel Archoffeiriad aeth i mewn i'r tfeegt nelol ao yno y inae ac yr erys hyd ddydd y farn (ix. 28). Ond os nad adgyfododd hefyd oddiwrth y meirw. Archoffeiriad yn unig ydyw. Os adgyfododd, y niae yn Fugaù a llyw- odraethwr ar ti eglwys. Diam fod yr esbonwyr yn gywix wrth ddyweyd fod yr awdwr yn benthyca geiriau Esaiah fel y cawn hwynt yn y Deg a Thriugain, lxiii. 11, " Pa le y mae yr hwn a ddug i fyny allan o'r mór fugail y defaid ?" Sylwa yr esbonwyr fod dygiad Moses fel arweinydd plant Israel o'r Môr Coch yn gysgod o ddygiad íesu i fyny o'r bedd. Ond Iesu oedd Bugail maicr y deiaid. Rhagorai ar Moses, nid yn unig fel Mab, ond heíyd yn ngrym ei adgyfodiad. At ragoriaeth Iesu ar Moses y cyfeiria y gair "mawr," ac nid, mi a dybiaf, at «i ragoriaeth ar yr arweinwyr yn yr Eglwys Hebreaidd. Gwell ydywpeidio cyssylltu yr adn. â'r adaodau blaenorol. Gweddi yn cloi i fyny yr holl Epirtol sydd yma.

Yr hwn a ddug i fyny. Weithiau priodola Crist ei adgyfodiad iddo ef ei hun. Gwel loan ü. 19, 21 ; x. 18. Ond priodolir ei hefvd i Dduw. Gwel Act. Ä. 24 ; Ä. 15 ; Phuf. iv. 24 ; viii. 11 ; 1 Cor. vi. 14: xv. 15 ; Gal. i. 1 ; Eph. i. 20 ; Col. ii. 12 ; 1 Pedr i. 21. Fcl ag y ìnae ei farwolaeth yn weithred o'i eiddo ef «é hun, ac eto, o angenrh» i ái wydd, yn cynwys elfen oddefol, f«lly y mae ei adgyfodiad hefyd, oblegid natur yr amgylchiad. Crist ei hun sy dd yn son am ei adgyfodiad fel ei weithred bersonol ef ei hun. Ond yr oedd yn bwysigi'r apostolion ddwyn i s.ylw yr ochr arall, sef fod Duw wedi adgyfodi Iesu fel prawf o gy.nnieradwyueU: Duw i'w waith a'i angau.

Trwywaed y cyfamod tragwyddol ; ne«, ynhytrach, "ynngwaed y cyfamod tragwyddol." Nid wyf yn teimlo nemawr o amheuaeth mai á'r geiriam " a ddug i fyny " y dylid cyssylltu y geiriau hyn, ac nid á'r geiriau " Bugail mawr." Profir hyn trwy eiriau y prophwyd. y rhai a fenthye.t yr awdwr ac a gymhwysa, gyda rhai cyfnewidiadau. i'w amcan ei kun : " Trwy waed dy amod [hyny yw, dy gyfamod] y gollyngais dy garcharor- ion o'rpydew heb ddwfr ynddo," Zech. ix. 11. Yr oedd hyn yu gysgod addas o adgyfodiad Crist gan Ddmw o'r bedd. Dywed Kendall iod cyssylltu y geiriau " yn ngwaed y cyfamod tragwyddol " â'r geiriau " dug i fyny " yn eu gwneyd yn ddiamcan. Ymddengys i mi yn hollol i'r gwrthwyneb. Un obrif syniadau yr Epistol ydyw y cyfamod newydd neu dragwyddol. Yma dywed yr awdwr mai trwywaed y cyfamod hwn yr adgyfodwyd Iesu, fel y dywedodd cyn hyn mai trwy ei waed yr aeth Iesu i mewn i'r cysegr. Yr oedd ei adgyfodiad megis yn rhagfynegu ei ail ymddangosiad. Ni fuasai ym adgyfodi o gwbl oni bnaiai fod «i waed yn gymmeradwy gan Dduw yn y sancteiddiolaf. Y mae ei adgyfodiad, gan hyny, yn sicrhad i'w eglwys yr ymddengys yr ail waith ; ac oblegid hyny y gelwir ef yma yn gyfamod tragwyddol. Ni ddaw iia ar ei ol.

Ein Harglwydd Iesu; hyny yw, " ein Harglwydd ni. sef Iesu." Felly yn Rhuf. x. 9 hefyd, cyssylftir y gyffes o Iesu fel Arglwydd ar gredmiaeth yn ei adgyfodiad gan Dduw.

ADN. 21.— 'A'ch. perffeithio. Nid yr un gair sydd yma agyn x. 1 .«. manau eraill. Ystyr llythyrenol y gair sydd yn yr adn. hon ydyw " dodrefnu," " adgyweirio " (felynMatt. iv 21), "cyfanu," -'cymhwyso." Awgryma hyn y gwahaniaeth rhwng y ddau air a gyfieithir " perffeithio " yn yr Epistol. Yidyr y naill (teltiowx) ydyw perffeithio i'r cysegr ac i Dduw; ystyr y Hall (katartisai, y gair sydd yn yr adn. hon), ydyw perffeithio i'r eglwys ar y ddaear, cymhwyso i waith. Perthyna y naill,

216 YE EPISTOL AT YE HEBREAID.

ffeithio ym mhob gweithred dda, i wneuthur ei ewyllys ef ; gan weithio ynoch yr hyn sydd gymmeradwy yn ei olwg ef,. trwy Iesu Grist : i'r hwn y byddo y gogoniant yn oes oesoedd. 22 Amen. Ac yr ydwyf yn attolwg i chwi, frodyr, goddefwch air y cynghor : oblegid ar fyr eiriau yr ysgrifenais attoch.

gan hyny. i Grist yn gystal ag i ddynion (gwel v. 9), ond ni pherthyn j llall i Grist. Yn wir, y mae y naill, gyda golwg ar ddynion, yn ymddibynu ar waith Crist yn y cysegr nefol, a chyrhaedda y perffeith- rwydd hwn ei radd uwchaf yn ail ymddangosiad Crist. Ymddibyna y llall ar adgyfodiad Crist oddiwrth y meirw i fugeilio a llywodraethu èi eglwys yn y byd. Ni a welwn paham y crybwyllir adgyfodiad ehi Harglwydd yn yr adn. hon. Am ei fod wedi adgyfodi y mae cymhwysiad ei bobl i waith yr eglwys yn bosibl. Ac, fel y mae ei adgyfodiad yn rhag- fynegu ei ail ymddangosiad, felly y mae perffeithiad ei bobl i waith yr eglwye ar y ddaear yn sicrwydd am eu perffeithiad i waith y cysegr nefol.

Yn mhob gweithred dda. Khaid gadael allan y gair " gweithied." Yr unig wahaniaeth ydyw fod y gair yn golygu mwy na gweithredoedd. Darllener, " yn mhob daioni."

Gan weithio ; neu, " trwy wneuthur." Ac yn lie " ynoch " efallai y dylid darllen " ynom." Angraifft ydyw hyn o arferiad yr awdwr i osod ei hun megis un ohonynt. Trwy fod Duw yn cynyrchu oddifewn y teimlad, yr amcan, y sancteiddrwydd sydd yn gymmeradwy yn ei olwg, trwy hyny yn unig y cymhwysir dynion i gyflawni mewn gweithred yr hyn sydd yn rhyngu ei fodd. Ŷr un syniad sydd yn y geiriau " ewyllys Duw " a "yr hyn sydd gymmeradwy yn ei olwg ef," ond fod y gair "ewyllys " yn cynwys heiyd fod y peth sydd yn rhyngu bodd Duw yn orchymyn i'r hwn y mae dynion yn uiuddhau.

Trwy Iesu Grist. Gellir cymmeryd y geiriau hyn gyda'r holl weddi. a thybied fod yr awdwr yn diweddu ei weddi fel y mae yr eglwys wedi arfer gwneyd, trwy enwi yr Hwn yr ydym yn disgwyl pob bendith er ei fwyn. Neu ynte gellir cyssylltu y geiriau â'r ymadrodd olaf, "gan weithredu ynom trwy Iesu Grist." Neu gellir eu cyssylltu â'r gair "cymmeradwy." Gwell genyf y golygiad cyntaf . Y mae yr awdwr felly yn cario allan ei gynghor ei hun yn adn. 15, "Trwyddo ef offrymwn." Gwel loan xvi. 23, 24; Eph. v. 20. Ond y mae 1 Pedr ii. 5 yn fwy ffafriol i'r golygiad olaf, " cymmeradwy gan Dduw trwy Iesu Grist."

I'r hwn, &c. Y mae yn anmhosibl penderfynu pa un ai "Duwyr heddwch " ai "Iesu Grist" a feddylir. Duw a feddylir yn Gal. i. 5; Crist yn 2 Pedr iii. 18. Yn Rhuf . xvi. 27 ac 2 Tim. iv. 18 y mae yn amheus. felyn rile hwn.

ADN. 22. Ol-ysgrif. Wedi gorphen ei lythyr atolyga arnynt dderbyn y llythyr yn oddefus. Gwel 2 Tim. iv. 3. Y rheswm dros ddisgwyl iddynt oddef ydyw mai ei amcan oedd eu calonogi. "Gairyr anogaeth" ydyw y cyfieithiad goreu, nid "gair y cynghor." Y mae yr enw yn gynihwys iawn. Tra nad oes nemawr ran o'r Testament Newydd yn fwy llym. prin y ceir mnrhyw ran fwy tueddol i galonogi a gwroli Cristionogion Uwfr. Y mae yr Epistol yn angraifft o'r peth yr anoga yr awdwr yr Hebreaid iddo yn x. 24, " gyru «iddigedd arnynt i gariad a gweithredoedd da."

Oblegid ar fyr eiriau yr ysgrifenais atoch. Gellir esbonio y geiriau hyn fel math o ymddiheurad neu esgusawd dros anmherff eithrwydd neu aneglurder, neu ormod llymder yn yr Epistol, neu ynte gellir eu dealL

YE EPISTOL AT YK HEBREAID. 217

<-Awbyddwcli ollwng ein brawd Tiniuthëus yn rhydd ; gyd â'r 23 hw i, os daw ef« ar fyrder, yr ymwelaf â ehwi. Anherchweh z4 fc-Lch holl flaenoriaid, a'r koll saiat. T mae y rhai o'r Ital yn

fel rheswm dros i'r darllenydd oddef gair yr anogaeth, yn gymainfc ag y gallai yr awdwr, pe mynai ymhelaefchu, geryddu yn fwy llym ac argyhoeddi yn fwy manwl. Yr aiì yw y golygiad rawyaf narvtriol, aia y rheswm hwn, nad oes arwyddion o frjs ya yr Epistol nac unrhyw le i gredu fod yr awdwr yn teimlo fod unrhyw aiifvcrlurdar ynddo. Y mae y cyfansoddiad yn ofalus, ya brydferth, ae yn liawer mwy clasurol na'r hyn a gek gan mwyaf yn llythyraa brysiog yr Apostol Paul, Meddyliai rhai mai at yr Epistol kwn y eyfeiria Pedr (2 Pcdr iii. 15, 16; pan y sonia am "rai pethau anhawdd eu deall " yn epistolau Paul. Ar y ddadl hon dros briedoli yr Epistol i Paul, gwel yr Arweiniad i Mtwn. Yr ystyr, mae yn debygol, ydyw fod yr awdwr wedi ysgrifonu yn fyr er mwyn peidio eu ceryddu yn llym. Y mae ei arbediad ohonynt yn rheswm dros iddynt hwythau dderbyn ei anogaethau calonogol yn garedig.

ADN. 23. Hysbysa iddynt fod Timothëus wedi ei ollwng o garchar, neu, o'r hyn lleiaf, wedi ei ryddhaa mewn llvs barn. Hwn yw yr unig gyieiriad a wneir o gwbl at garchariad Timotheu». Ond y mat ya eglur fod yr awdwr ei hun yn rhydd ar y pryd, ac y mae yn debygol, oddiwrtk y ffaitli ei fod ef yn anfon yr hysbysiad am ryddhad Timothëus iddynt, fod Timothe'us ac yatau yn yr un man. Os felly, y mae yn anhawdd iawn credu y buasai Paul heb fod yn gyd-garcharor à Thimothëus, ac y mae rhyw gymaint o rym yn hyn i ddangos mai nid Paul oedd awdwr yr Epistol. Ond ymddengys i mi fod anhawsder yn niwedd yr adn. na chyfeiria yr esbonwyr ato. Os at eglwya Jerusalem yr ysgrifenwyd yr Epistol, pafodd y gallwn ddychyaiygu na'r awdwr na Thùnothèus ya bwriadu taJa ymweliad â'r ddinas ychydig amser cyn ei dkiystriad gan yiihufeiniaid ? Ya wir, y mae fod Ttmathims, yr hwn o ochr ei dad oedd yn Eoegwr (Act. xvi. 1) yn bwriadu ymweled âg «gtwys Hebceaidd ynddo «i hun yn anhawsder. Pa fodd bynag yr eglurir hyny, y mae fod awdwr yr Epistol yn gyfeillgar â Thimothëas yn myned ymhell i brofi ei fod yn coleddu yr un syniadau â'r Apostol Paal am atkrawiaethau zaawriOM yr efengyl.

Os daw ar fyrder; hyay ydyw, mi a dybiaf "os daw ar fyrder i ymweled â chwi ; " nid, daw i'r man lie y mae yr awdwr ar y pryd. Pe hwn fuasai yr ystyr, rhoddasai yr awdwr y ferf mewn amseriad arall (aorist) i osod ail an fod ei dciyi'sdiad yn un weithred. Y mae yr amseriad presenol yn gosod allan y syniad o ddyfod gyda'r awdwr i'r daitk a theitaio hyd atynt. Awgryma yr awdwr fod rhyw rwystraa ar ffcrdd Tknothe'us, ond nid yw yn hysbysu pa rai ydynt. Dichon raai cystudd fel canlyaiad y driniaeth a dderbyniasai yn y carckar. Gwyddom oddiwrth 1 Tim. v. 2* nad oedd Timothwus yn dclya erjf.

ADN. 24. Gwelsom eisoes fed yr awdwr yn ystyried yr arweinwyr fel yn sefyll ar ei ockr ef ya erbyn y ikai hyay o'r aelodau oedd yn tueddu i wýro yn ol at Iuddewiaeth. Gwel nodiad ar ada. 18. Y mae hyn yn egluro yn hollol foddhaol paham y mae efe yn neillduo yr arweinwyr yn yr adn. hon oddiwrth y rhai yr oedd ya ysgrifenu atynt. Ond dengys y geimau nesaf, " anerchweh yr holl saint," fod nid ya uaig yr arweinwyr, ond rhan fawr o'r eglwys yn iachus a ffyddlawa, ac felly nad ysgrifenwyd yr Epistol at yr holl saint perthynol i'r eglwys, ond at rai ohonynt. bymuna ar i'r rhai hyn anerch yn ei enw yr eglwys oil pan y mae yr ho1! arweinwyr a'r holl aelodau wedi ymgynull ynghyd.

218 YE EPISTOL AT YR HEBREAID.

25 each amierch. Grais/yddo gyd â chwi oil. Amen.

Y mae y rhai o'r Ital yn eich anerch. Caai belled ag y mae a fyno gramadeg yr iaith â'r cwestiwn, gall y geiriau hyn olygu y naill neu y llall o'r pethau canlynol, naill ai fod yr awdwr yn yr Ital pan yn ysgriftnu ac yn hysbysu i'w ddarllenwyr fod y Cristionogion yn y wlad hono yn eu hanerch. ai ynte fod ei ddarllenwyr yn yr Ital a bod yr Italiaid oedd yn dygwydd aros yn yr un man ag yntau ar y pryd pan yr ysgrifenai yn anerch eu brodyr yn yr Ital. Ymresyma rhai esbonwyr (Bleek, er angraifft) nas gall y geiriau " y rhai o'r Ital " olygu " y rhai sydd yn yr Ital ; " ac, am hyny, «u bod yn dangos fod yr awdwr yn rhyw le arall, ac nid yn yr Ital. Ond camgymniŵriad ydyw hyn, fel y dengys Winer, yn ei Eamadeg. Gwel, esampl, Luc xi. 13, " pa faint mwy y rhydd eich Tad o'r net' ; " hyny yw, "pa feint mwy y bydd i'eh Tad yr hwn sydd yn y nef, roddi o'r nef," &c. Felly yma, gall y geiriau olygu " y mae y rhai sydd yn yrltal yn anion eu hanerch o'r Ital." Ond gellir yn hollol gywir roddi ystyr arall drachefn iddyut. sef " y rhai sydd yn enedigol o'r Ital ac yn byw yno." Er esampl, gwel Marc xv. 43, " daeth Joseph o Arimathea." Kid yr ystyr ydyw fod Joseph wedi dyf od o Arimathea ; ond fod Joseph , brodor o Arimathea, wedi dyfod. I'elly hefyd, gall y geiriau " y rhai o'r Ital" olygu yn bevffaith naturiol "brodorion o'r Ital," " pobl yr Ital." Ond os ystyriwn y cwestiwn ar wahan oddiwrth ramadeg, rhaid cydnabod mai y cyntaf o'r ddau olygiad yw y mwyaf tebygol o fod yn wir. Tybier fod yr Hebe eaid hyn yntrigianu yn yr Ital, a bod gwyr o'r Ital yn trigianu gyda'r awdwr, y mae yn debygol mai eenedl-ddynion oedd yr Italiaid hyn. Os felly, a ydyw yn debygol yr anfonai y eenedl-ddynion hyny eu hanerch at yr Hebreaid yn fwy nag y gwnai eraill oedd gyda'r awdwr ar y pryd ? Ond tybier fod yr Hebreaid yr ytfgrif enir atynt yn Jerusalem a bod Hebreaid eraill gyda'r awdwr yn yr Ital, pa beth allai fod yn fwy natuaiol na bod yr Hebreaid eraill hyn yn anion eu hanerch o'r Ital at e* brodyr Cristtonogol yn Jerusalem P Ac hyd yn nod os eenedl-ddynion oedd "y rhai o'r Ital," y mae yn hollol naturiol i ni dybied eu bod yn ymuno gyda'r awdwr i galonogi yr Hebreaid Cristionogol yn eu profedigaethau. Os felly, yn Rhufain y bu Timothëu» yn y carchar, ac y mae y dybtaeth hon drachefn yn fwy naturiol nag un arall.

ADN. 25. Yr Apostol Paul ac awdwr yr Epistol hwn yw yr unig rai o ysgriienwyr y Testament Newydd sydd yn diweddu eu llythyrau gyda'r weddi hon am ras i'r darilenwyr. Ond ceir yr un w«ddi (yn fwy cyflawn) ar ddiwedd Epistol Clement o Ruf ain at y Corinthiaid, a hwn yw y dernyn henaf ar ol ysgrifeniadau y Testament Newydd. Gan hyny, gallwn gasglu fod awdwr yr Epibtol a Clement yn efelyetou yr Apostol Paul yn hyn.

«P1

CYFIEITHIAD O'R EPISTOL.

WEDI i Dduw lefaru mewn llawer rhan a Uawer modd I. er cynt wrth y tadau yn y prophwydi, yn niwedd y 1. dyddiau hyn llefarodd wrthym ni mewn Mab, | yr hwri a 2. osododd yn etifedd pob peth, trwy yr hwn hefyd y gwnaeth y bydoedd;* | yr hwn, gan ei fod yn ddisgleiriad ei ogoniant 3. ac yn argraff ei sylwedd, ac yn cynhal yn mlaen yr oil â gair ei nerth, wedi gwneuthur erddo ei hnn buredigaeth y pechodau, a eisteddodd ar ddeheulaw Mawredd yn y goruwchleoedd ; | wedi ei wneuthur yn well na'r angelion 4. o gymaint ag y cafodd i'w ran enw mwy rhagorol na hwynt-hwy. | Canys wrth bwy o'r angelion y dywedodd 5. erioed, Fy Mab ydwyt ti ; myfi heddyw a?th genhedlais di ? A thrachefn, Myfi a fyddaf iddo ef yn Dad, ac yntan a fydd i mi yn Fab ? | Ond pan, drachefn,f y dyg y cyntaf- 6. anedig i breswylfa [dynion], dywed, Ac addoled holl angelion Duw ef . | Ac am yr angelion dywed, Yr hwn sydd 7. yn gwneuthur ei angelion yn wyntoedd, a'i weinidogion yn fflam dân ; | ond am y Mab, Dy orseddfainc di, O Dduw, 8. sydd yn oes oesoedd,:]; a theyrnwialen dy frenhiniaeth di yw teyrnwialen uniondeb. | Ceraist gyfiawnder a chaseaist 9. anwiredd. Am hyn yr eneiniodd dy Dduw dydi, O Dduw,§ âg olew gorfoledd tuhwnt i'r rhai sydd gyfranog â thi [ynddo]. | Ac,Tydiyn ydechreuad, Arglwydd,asylfaenaist 10. y ddaear, a gweithi-edoedd dy ddwylaw di yw y nefoedd. | Hwynt-hwy a ddinystrir, ond tydi wyt yn parhau; a 11. hwynt-hwy oil fel gwisg a heneiddiant, | ac megis mantell 12. y plygi hw)Tit, fel gwisg, a hwy a newidir ; ond tydi yr un ydwyt, a'th flynyddoedd ni phallant. | Ond am ba un 13.

*Keu : "yr oesoedd."

t Xeu: "ond, drachefn, pan," &c.

X Neu : " Dy orseddfainc di yw Duw yn oes oesoedd."

§ Neu : " Duw, sef dy Dduw, dydi," &c.

220 YR EPISTOL AT YR HEBREAID. L 13

o'r angelion y dywedodd erioed, Eistedd ar fy neheulaw hyd oni osodaf dy elynion yn droedfainc i'th draed? | Onid 14. ysbrydion gwasanaethgar ydynt hwy oil, yn cael eu danfon allan i weini, oherwydd y rhai sydd i etifeddu iachawdwriaeth ?

Am hyny, dyiem ddal yn helaethach ar y pethau a II. glybuwyd, rhag mewn un modd i ni lithro heibio i'r 1. angorfa. | Canys os bu sicr y gair a lefarwyd trwy angel- 2. ion, ac os derbyniodd pob camwedd ac anufudd-dod gyfiawn daledigaeth, | pa fodd y diangwn ni, wedi esgeu- 3. luso y fath iachawdwriaeth fawr, nn sydd wedi cael dechreuad ei llefaru trwy yr Arglwydd ac a sicrhawyd gan y rhai a glywsant hyd atom ni,* | gan fod Duw yn 4. cyd-dystiolaethutrwy arwyddion arhyfeddodau ac amrywiol nerthoedd a rhaniadau o'r Ysbryd Glan, yn ol ei ewyllys ?

Canys nid i angelion y darostyngodd efe y byd oedd 5. i ddyfod, am yr hwn yr ydym yn llefaru. | Eithr tystiol- 6. aethodd un mewn rhyw fan, gan ddywedyd, Pa beth yw dyn i ti feddwl am dano, neu fab dyn i ti ymweled âg ef ?

| Gostyngaist ef am ychydig amser f yn is nag angelion ; 7. â gogoniant ac anrhydedd y coronaist ef ;{ | pob peth a 8. ddarostyngaist dan ei draed ef. Canys wrth ddarostwng yr oil iddo, ni adawodd ddim heb ei ddarostwng iddo. Ond yn awr nid ydym cto yn gweled yr oil wedi ei ddar- ostwng iddo; | ondyr hwn a ostyngwyd am ychydig amserf 9. yn is nag angelion a ganfyddwn, [sef] Iesu, oblegid dyoddefaint ei farwolaeth wedi ei goroni â gogoniant ac am-hydedd, fel trwy ras Duw y profai flas marwolaeth dros bob dyn. | Canys gweddus oedd iddo ef, oherwydd yr 10. hwn y mae yr oil, a thrwy yr hwn y mae yr oil, pan yn dwyn§ meibion lawer i ogoniant, berffeithio tywysog eu hiachawdwriaeth trwy ddyoddefiadau.

| Canys yr hwn sydd yn sancteiddio a'r rhai a sanct- 11.

* Xeu : "a sicrhawyd i ni gan y rhai a glywsant." t Xeu : " ychydig."

X Chwanega rhai llawysgrif au : "A gosodaist ef ar weithredoedd d/ ddwylaw."

\ Xeu : " wedi iddo ddwyu."

III. 8. YR EPISTOL AT YR HEBREAID. Til

eiddir, o Un y maent oil. Am ba achos nid yw gywilyddus ganddo eu galw hwy yn frodyr; J gan 12. ddywedyd, Mynegaf dy enw i'n? brodyr ; yn nghanol y gynulleidfa y canaf dy fawl. | A thrachefn, Myfi [yw y 13. gŵr] a roddaf fy ymddiried arno. A thrachefn, Wele fi a'r plant a roddes Duw i mi. | Oblegid hyny, gan fod y 14. plant wedi cyfranogi o waed a chnawd, yntau hefyd yr un modd a gymerodd ran yn yr un pethau, fel, trwy ei farwolaeth, y dirymai efe yr hwn a feddai nerth ei farwolaeth,* hyny yw, y diafol, | ac y gwaredai y rhai 15. hyny oil, cynifer ag oeddynt, gan ofn marwolaeth, trwy eu holl fywyd yn ddarostyngedig i gaethiwed. | Canys, 16. bid sicr, nid mewn angelion y cymer afael ; ond yn had Abraham y cymer afael. | Oherwydd paham yr 17, oedd yn ddyledus arno yn mhob peth ymgyffelybu i'w frodyr, fel y delai i fod yn drugarog ac Arch-offeiriad ffyddlawn yn y pethau sydd tuag at Dduw, i wneuthur cymoddrosbechodauybobl. | Canys yn y peth y dyoddef odd 18. efe ei hun ynddo trwy gael ei demtio, [yn y peth hwnw] y gall efe gynorthwyo y rhai sydd yn cael eu temtio.

Oherwydd paham, frodyr sanctaidd, cyfranogion o III. alwad nefol, craffwch ar Apostol ac Archoffeiriad ein proffes 1. ni, [sef] Iesu, | ei fod yn ffyddlawn i'r hwn a'i gosododd 2. ef, megys y bu Moses hefyd yn ei holl ef. | Canys 3. barnwyd hwn yn haeddu gogoniant helaethach na Moses, o gymaint ag y mae yr hwn a adeiladodd y yn cael anrhydedd helaethach na'r tý. | Canys pob a adeiledir 4. gan ryw un ; ond yr hwn a adeiladodd bob peth yw Duw. | A bu Moses, yn wir, yn ffyddlawn yn ei holl ef, fel 5, gwas, er tystiolaeth i'r pethau oedd i'w Uefaru ; | ond 6. Crist fel Mab ar ei dŷ, yr hwn ydym ni, os gafaelwn yn hyfder ac ymffrost ein gobaith, [nes ei wneyd] yn ddi- ysgog hyd y diwedd.

Am hyny, megis y dywed yr Ysbryd Glân, Heddyw, 7. os clywch ei lais, | na chaledwch eich calonau, megis [y 8. gwnaethoch] yn awr fy nigter ar ddydd y prawf yn yr

*Neu: " nerth marwolaeth."

222 YE EPISTOL AT YR HEBREAID. III. 9

anialwch, | lie y profodd eich tadau fi yn y prawf ac y 9. gwelsant fy ngweithredoedd am ddeugain mlynedd. | Am 10» hyny digiais wrth y genhedlaeth hono, a dywedais, Bob amser cyfeiliornant yn eu calon, ac nid adnabuant hwy fy ffyrdd i; | megis y tyngais yn fy llid na ddeuent i 11. mewn i'm gorphwysfa. | Edrychwch, frodyr, na byddo yn 12. neb o honoch galon ddrygionus o anghrediniaeth yn yr ymadawiad oddiwrth Dduw byw; | eithr anogwch eich 13. gilydd o ddydd i ddydd tra y gelwir y gair Heddyw [arnoch,] fel na chaleder neb o honoch trwy dwyll y pechod. | Canys cyfranogion o Grist y gwnaethpwyd ni, 14. os gafaelwn yn nechreuad ein sicrwydd [nes ei wneyd] yn ddiysgog hyd y diwedd, | gan y dywedir, Heddyw, os 15. clywch ei» lais, na chaledwch eich calonau, megis [y gwnaethoch] yn awr fy nigter. | Canys pwy, wedi clywed, 16. a gyffroisant ei ddigter ? Onid pawb or rhai a ddaethant allan o'r Aipht trwy Moses ? | Ac wrth bwy y digiodd efe 17. am ddeugain mlynedd ? Onid with y rhai a bechasent, y rhai y syrthiodd eu cyrph yn yr anialwch ? | Ac wrth 18. hwy y tyngodd na chaent ddyfod i mewn i'w orphwysfa, ond wrth y rhai a anufuddhasent ? | A chanfyddwn nad 19. allent fyned i mewn oherwydd anghrediniaeth.

Ofnwn, gan hyny, rhag mewn un modd, pan y mae IV. addewid wedi ei adael ar ol i ni i fyned i mewn i'w 1. orphwysfa, i neb o honoch dybied ei f od wedi syrthio yn fyr [o honi]. | Canys efengylwvd i ninau, megis i'r rhai hyny. 2. Ond y gair a draddodwyd ni bu fuddiol iddynt hwy, am nad oedd wedi ei gyd-dyniheru* trwy ffydd â'r rhai a glywsant. | Canys rnyned i mewn i'r orphwysfa yr ydym 3. ni y rhai a gredasom, fel y dywed, Megis y tyngais yn fy llid na ddeuent i mewn i'm gorphwysf a, er f od y gweithred- oedd wedi eu gwneuthur er seiliad y byd. j Canys dywed, 4. mewn un man, am y seithfed dydd fel hjm, A gorphwys- oddDuwary seithfed dydd oddiwrth ei holl weithredoedd. | Ac yma drachefn, Ni chant ddyfod i mewn i'm gorphwys- 5. fa. | Am hyny, gan y gadewir hyn yn ol, yr â rhai i mewn 6. iddi, a [chan] nad aeth y rhai yr efengylwyd iddynt gyntaf

* Neu, yn ol darlleniad arall : "am nad oeddynt wedi eu cyd- dyinheru."

V. 5. YR EPISTOL AT YE HEBREAID. 223

i niewn oherwydd anufudd-dod, | y mae efe drachefn yn 7. penu rhyw ddiwrnod, [sef] Heddyw, gan ddywedyd yn Dafydd, ar ol cymaint o amser, megis y cyhoeddwyd o'r blaen, Heddyw, os clywch ei lais, na chaledwch eich calonau. | Canys pe rhoddasai Josua iddynt hwy orphwys- 8. dra, ni soniai [Duw] ar ol hyny am ddiwrnod arall. | Am 9. hyny, y mae cadw Sabbath yn cael ei adael yn ystôr i bobl Dduw. | Canys yr hwn a aeth i mewn i'w orphwysfa a 10. orphwysodd yntau oddiwrth ei weithredoedd, megis y gorphwysodd Duw oddiwrth ei weithredoedd priod ei hun.

Byddwn o ddifrif, gan hyny, i fyned i mewn i'r 11. orphwysfa hono, fel na syrthio neb, yn ol yr un esampl o anufudd-dod. | Canys byw yw gair Duw a llawn o yni, a 12. llymach nag unrhyw gleddyf dau-finiog, ac yn trywanu hyd at wahaniad enaid ac ysbryd, cymalau a mêr, ac yn gyflym i farnu dymuniadau a meddyliau y galon. | Ac nid 13. oes greadur aneglur yn ei ŵydd ef ; ond y mae pob peth yn noeth ac yn gwàr-grymu* dan ei olygon ef â'r hwn y mae a wnelom.

Gan hyny, gan fod genym Arch-offeiriad mawr wedi 14. myned trwy y nef oedd, Iesu Mab Duw, daliwn af ael yn ein proffes. | Canys nid oes genym Arch- off eiriad heb allu cyd- 15. ymdeimlo â'n gwendidau, ond un sydd wedi ei demtio yn mhob peth yn ol cyffelybrwydd [ein temtasiynau ninau,] heb bechod. | Nesawn, gan hyny, gydahyder at orseddfainc 16. y gras, fel y derbyniom drugaredd ac y caffom ras yn gymhorth mewn pryd.

Canys pob archoffeiriad, gan mai o blith dynion y V. cymerir ef, a osodir dros ddynion yn y pethau syddtuag at 1. Dduw, fel yr offrynio roddion ac aberthau dros bechodau ; | gan ei fod yn gallu cyd-ddwyn â'r rhai sydd mewn 2. anwybodaeth ac yn cyfeiliorni, yn gymaint â'i fod yntau yn cael ei amgylchu â gwendid, | ac y dylai, o'i herwydd, 3. megis dros y bobl, felly hefyd drosto ei hun offrymu am bechod.au. | Ac ni chymer neb yr anrhydeud iddo ei hun, 4. ond trwy gael ei alw gan Dduw, megis hefyd [y cymerodd] Aaron [ef]. | Felly hefyd nis gogoneddodd y Crist ei hun 5. i ddyfod yn Archoffeiriad, ond yr hwn a lefarodd wrtho, *Neu: "ynagored."

'224 YE EPISTOL AT YR HEBREAID. V. 5

Fy Mab ydwyt ti, myfi heddyw a'th genhedlais, [hwnw a'i gogoneddodd;] | megis y dywed hefyd mewn man arall, 6. Offeiriad wyt ti yn dragywydd yn ol urdd Melchisedec. | Yr hwn, yn nyddiau ei gnawd, wedi iddo, â llefain cryf a 7. dagrau, offrymu gweddi'au ac erfyniau i'r hwn oedd abl i'w achub o farwolaeth, a chael ei wrando oherwydd ei dduw- ioldeb, | er ei fod yn Fab a ddysgodd ei ufudd-dod oddi- 8. wrth y pethau a ddyoddefodd, | ac, wedi ei berffeithio, a 9. ddaeth i fod yn awdwr iachawdwriaeth dragwyddol i'r rhai oil a nfuddhant iddo, | wedi ei gyfarch gan Dduw yn 10. Arch -offeiriad yn ol urdd Melchisedec.

Am hwn* y mae yr ymadrodd yn llawer ac yn galed 11. i'w ddehongli, am eich bod wedi myned yn hwyr-drwm eich clustiau. | Canys, pan y dylech fod yn athrawon o ran 12. yr amser, y mae arnoch drachefn angen rhywun i ddysgu i chwi wyddor dechreuad oraclau Duw, ac aethoch yn rhai y mae arnoch angen llaeth ac nid bwyd cryf. | Canys, 13. pob un a'r sydd yn cymeryd ei ddogn o laeth, dibrofiad yw yn ngair cyfiawnder; canys maban yw; | ac i rai perffaith 14. y mae y bwyd cryf, y rhai, trwy ymarfer,f sydd ganddynt eu synwyrau wedi eu dysgyblu i wahaniaethu da a drwg.

Am hyny, gan adael heibio ymadrodd y dechreuad gan VL Grist. | cyrchwn hyd at berffeithrwydd, nid gan osod i 1. lawr drachefn i ni ein hunain sylfaen edifeirwch oddi wrth weithredoedd meirwon, a [sylfaen] ffydd tuag at Dduw,

| [sef] athrawiaeth bedyddiadau ac arddodiad dwylaw ac 2. adgyf odiad y meirw a barn dragwyddol. | A hyn a wnawn, 3. os caniata Duw. | Canys anmhosibl [yw,] am y rhai a 4. oleuwyd unwaith trwy brofi bias y rhodd nefol a'u gwneyd yn gyfranogion o'r Ysbryd Glân | a phrofi mor ddaionus 5. yw gair Duw a nerthoedd y byd oedd i ddyfod, | ac a 6. syrthiant ymaith, eu hadnewyddu drachefn i edifeirwch, tra y maent§ yn ail-groeshoelio iddynt eu hunain Fab Duw ac yn ei osod yn watwar. | Canys daear, yr hon a 7.

*Neu: "am hyn."

t Neu: " oherwydd eu sefyllfa."

% Neu : " yr ymadrodd am ddechreuad Crist." Neu : " y Crist."

§Neu: " gan eu bod."

VII. 2. TR EPISTOL AT YE HEBREAID. 225

yfodd y gwlaw sydd yn mynych ddyfod ami, ac a ddeil i ddwyn llysiau cymwys i'r rhai y llafurir hi hefyd erddynt, a dderbyn ei rhan o fendith oddiwrth Dduw. | Ond os 8. bwrw allan ddrain a mieri y mae, gwrthodedig ydyw, ac agos i felldith, diwedd yr hon [fydd ei] llosgi.

Ond yr ydyra yn lhvyr-gredu am danoch chwi, anwyl- 9. iaid, y pethau gwell sydd hefyd yn nglŷn wrth iachawdwr- iaeth, er ein bod yn llefaru fel hyn. | Canys nid yw Duw 10. yn anghyfiawn, fel yr anghofio eich gwaith a'r cariad a ddangosasoch tuag at ei enw ef, pan weiniasoch i'r saint ac y parhewch i weini. | Ond chwenych yr ydym ar i bob 1 1 un o honoch ddal i ddangos yr un zel i gyrhaedd llawn sicrwydd eich gobaith hyd y diwedd; | fel nad eloch yn 12. hwyr-drwm, ond [y byddoch] yn efelychwyr i'r rhai sydd trwy ffydd a hirymaros yn etifeddn yr addewidion.

Canys wrth addaw i Abraham, am nad allai dyngu yn 13. enw neb oedd fwy, tyngodd Duw yn ei enw ei hun, | gan 14. ddywedyd, Yn wir gan fendithio mi a'th fendithiaf, a chan liosogi mi a'th liosogaf ; | ac felly, wedi hir ymaros, 15. efe a gafodd [gyflawniad] yr addewid. | Canys yn enw un 16. mwy y mae dynion yn tyngu, ac y mae y llw yn derfyn iddynt ar bob gwrth- ddywedyd hyd at sicrhad. | Oher- 17. wydd paham, gan ei fod yn ewyllysio yn helaethach ddangos i etifeddion yr addewid ddianwadalwch ei gynghor, cj'fiyngodd Duw â Uw, | fel, trwy ddau beth 18. dianwadal, yn y rhai y mae yn anmhosibl i Dduw ddy- wedyd celwydd, y cafíom galondid cryf, y rhai a ffoisom i gymeryd gafael yn y gobaith a osodwyd o'n blaen, | yr 19. hwn sydd genym fel angor yr enaid, yn ddiogel ac yn sicr ac yn myned i'r tu fewn i'r lien, | i'r man yr aeth Iesu yn 20. ragredegydd di-osom ni, wedi ei wneuthur jti Arch-ofifeir- iad yn dragy wydd yn ol urdd jMelchisedec.

Canys am y Melchisedec hwn, brenhin Salem, offeiriad VII. y Duw Goruchaf, yr hwn a aeth i gyfarfod Abraham, pan 1. yr oedd yn dychwelyd o laddfa y brenhinoedd, ac a'i ben- dithiodd, | i'r hwn hefyd y rhanodd Abraham y degwm 2. o'r cwbl, gan gael ei ddehongli, yn gyntaf, yn frenhin cyfiawnder, ac, wedi hyny, yn frenhin Salem, yr hyn yw

226 FR EPISTOL AT YR EDBBRBAID. VII. 3

brenhin heddwch, ^ftŵ dad, heb fam, heb gyfrifiad achau, 3. heb fod iddo na dechreu dyddiau na diwedd einioes, ond wedi ei gyffelybu i Fab Duw, efe a erys yn offeiriad i barhau. | Ònd edrychwch pa mor fawr yw hwn, f r hwn y 4. rhoddodd Abraham, y patriarch, ddegwm allan o'r blaen- ion. | Ac y mae gan y rhai hyny sydd yn derbyn yr 5. offeiriadaeth am eu bod o blith meibion Lefi, orchymyn i ddegymu y bobl yn ol y gyfraith, hyny yw eu brodyr, er en bod wedi dyfod o lwynau Abraham. | Ond y mae yr 6. hwn na chyfrifir ei achau o'u plith hwynt wedi degymu Abraham ac wedi bendithio yr hwn yr oedd yr addewidion ganddo. | Ond, heb unrhyw wrthddadl, y llai a fendithir 7. gan ei well. | Ac yma dynion yn meirw sydd yn cymeryd 8. degymau, ond yno un y tystiolaethir am dano ei fod yn fyw. | Ac, fel y dywedwyf felly, trwy Abraham y mae 9. Lefi, yr hwn sydd yn derbyn degymau, wedi ei ddegymu. | Canys yr oedd efe yn lwynau ei dad pan aeth 10. Melchisedec i'w gyfarfod ef.

Os oedd perffeithiad, gan hyny, trwy yr offeiriad- H. aeth Lefiticaidd, (canys ar ei sail hi y mae y bobl wedi cael y gyfraith,) pa angen sydd mwyach i offeiriad gwa- hanol gyfodi, yn ol urdd Melchisedec, ac nid i'w alw yn ol urdd Aaron ? | Canys pan y mae yr offeiriadaeth yn newid, 12. y mae cyfnewidiad cyfraith yn digwydd hefyd. | Canys y 13. mae yr hwn y dywedir hyn am dano wedi cymeryd rhan inewn llwyth gwahanol, o*r hwn nid yw neb wedi gweini i'r allor. | Canys amlwg yw mai o Juda y mae ein Har- 14. glwydd ni wedi codi, am yr hwn lwyth ni lefarodd Moses ddim gy da golwg ar offeiriaid. | Ac y mae yn llawer 15. «glurach eto, os yn ol cyffelybiaeth Melchisedec y cyfyd offeiriad gwahanol, | yr hwn a wnaethpwyd [yn offeiriad,] 16. nid yn ol cyfraith gorchymyn cnawdol, ond yn ol nerth "bywyd annatodol. | Canys tystiolaethir am dano, Offeiriad 17. wyt ti yn dragywydd yn ol urdd Melchisedec.

Canys y mae diddymiad gorchymyn oedd yn myned o'r 18.. blaen yn cymeryd lie oblegid ei lesgedd a'i afles, | (canys ni 19. pherfíeithiodd y gyfraith ddim ;) ond y mae hefyd ddyg- iad i mewn yn ychwanegol obaith gwell, trwy yr hwn yr ydyni yn nesau at Dduw. | Ac yn gymaint nad heb lw [y 20.

VIII. 6. HI EPISTOL AT YR HEBREAID. 227

daeth y gobaith gwell i mewn,] | (oblegid cawn fod y rhai 21. hyny wedi dyfod yn offeiriaid heb lw, ond hwn gyda llw, trwy yr hwn sydd yn dywedyd wrtho, Cymerodd yr Arglwydd ei lw, ac nid edifarha, [gan ddywedyd,] Tydi wyt Offeiriad yn dragywydd,) | o gymaint â hyny y daeth 22. Iesu yn fachniydd cyfamod gwell. | A daethant hwy yn 23. offeiriaid amlach eu rhif, oherwydd lluddias iddynt gan farwolaeth barhau; | ond am hwn, oherwydd ei fod yn 24. aros yn dragywydd, y mae ganddo ei offeiriadaeth yn anghyfnewidiol. | Am hyny y mae efe yn alluog iachub 25. i berffeithrwydd y rhai sydd trwyddo ef yn agoshau at Dduw, gan ei fod yn byw bob amser i eiriol drostynt.

Canys y fath Arch-offeiriad oedd hefyd yn weddus i 26. ninau, sanctaidd, diddrwg, dihalog, wedi ei ddidoli oddi- wrth y pechaduriaid, ac wedi ei wneuthur yn uwch na'r nefoedd; | yr hwn ni raid iddo o ddydd i ddydd, fel yr 27. arch -offeiriaid, offrymu aberthau, yn gyntaf dros ei bechodan ei hun, wedi hyny dros bechodau y bobl. Canys hyn a wnaeth efe unwaith am byth pan yr offrymodd ei hun. | Canys y mae y gyfraith yn gosod dynion yn arch- 28. offeiriaid, rhai y mae gwendid ynddynt; ond y mae gair y llw, yr hwn [a ddaeth] ar ol y gyfraith, [yn gosod] y Mab, wedi ei berffeithio yn dragywydd.

A choron ar y pethau a ddywedir [ydyw,] mai y fath VIII. Arch-offeiriad sydd genym, yr hwn a eisteddodd ar dde- 1. heulaw gorseddfainc Mawredd yn y nefoedd; | yn wemidog 2. y cysegr a'r gwir babell, yr hon a osododd yr Arglwydd, nid dŷn. Canys pob arch-offeiriad a osodir i offrymu rhoddion ac aberthau. | Oherwydd paham y mae yn 3. angenrheidiol bod gan hwn hefyd yr hyn a offryma. | Am 4. hyny, pe byddai efe ar y ddaear, ni fyddai yn offeiriad o gwbl ; gan fod y rhai sydd yn offrymu rhoddion yn ol y gyfraith; | y rhai a wasanaethant ddarlun a chysgod y 5. pethau nefol, megis y cawn fod Moses wedi ei rybuddio gan Dduw, pan yr oedd yn myned i osod i fyny y babell. Canys gwel, medd efe, ar wneuthur o honot bob peth yn ol y cynllun a ddangoswyd i ti yn y mynydd. j Ond, yn awr, 6.

228 YR EPISTOL AT TR HEBREAID. VIII. 6-

rhagorach gweinidogaeth a gafodd, o gyinaint ag y mae hefyd yn gyfryngwr cyfarnod gwell, yr hwn sydd wedi ei osod yn gyfraith ar addewidion gwell.

Canys pe byddai y cyf ainod cyntaf hwnw yn ddif eius, 7. ni cheisid lie i ail. | Canys gan feio arnynt y dywed, Wele 8. ddyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, a nii a gwblhaf gyda golwg ar Israel a thy Juda gyf amod newydd, | nid yn ol y cyfarnod yr hwn a wnaethum a'u tadau hwynt 9. yn y dydd yr ymaflais yn eu llaw i'w dwyn hwynt allan o dir yr Aipht. Canys hwynt -hwy nid arhosasant yn fy nghyfamod, a minau a'u hesgeulusais hwythau, medd yr , Arglwydd. | Oblegid hwn yw y cyfarnod a amodaf â thý 10» Israel ar ol y dyddiau hyny, medd yr Arglwydd; gan roddi fy nghyfreithiau yn eu meddwl, ysgrifenaf hwynt hefyd ar eu calon, a byddaf iddynt yn Dduw a hwythau a fyddant i mi yn bobl. | Ac ni ddysgant bob un ei gyd- 11. ddinesydd a phob un ei frawd, gan ddywedyd, Adnebydd yr Arglwydd. Oblegid pawb o honynt a'm hadnabyddant o fychan i fawr. | Oblegid trugarog fyddaf wrth eu 12. hanghyfiawnderau, a'u pechodau ni chofiaf ddim o honynt mwyach. | Wrth ddywedyd "newydd," y mae efe wedi 13. gwneyd y cyntaf yn hên. Ond y mae y peth sydd yn heneiddio ac yn oedranu yn agos i ddiilaniad.

Yr oedd, gan hyny, gan y [cyfarnod] cyntaf hefyd IX. ordeiniadau gwasanaeth, a'i gysegr yn un bydol. | Canys 2. dodrefnwyd pabell : y gyntaf, yn yr hon yr oedd y can- hwyllbren a'r bwrdd a gosodiad y torthau, yr hon a elwir y cysegr; | a thuhwnt i'r ail len pabell, yr hon a 3. elwir y sancteiddiolaf, | a chanddi allor aur yr arogl-darth, 4. ac arch y cyfarnod wedi ei goreuro oddi amgylch, yn yr hon [yr oedd] crochan aur yn dal y manna, a gwialen Aaron yr hon a flagurasai, a llechau y cyfarnod; | ond 5. oddi ami Cherubiaid gogoniant yn cysgodi dros y gymodfa; am yr hyn bethau ni ellir yn awr ddywedyd bob yn rhan. | A'r pethau hyn wedi eu trefnu felly, i'r babell gyntaf 6. bob amser yr â yr offeiriaid, pan yn cyflawni eu [hamryw- *iol] wasanaeth, | ond i'r ail unwaith yn y flwyddyn [yr a] 7. yr arch- off eiriad ar ei ben ei hun, nid heb waed, yr hwn

IX. 20. YE EPISTOL AT YE HEBEEATD. 229

a offrymau drosto ei hun a [phechodau] anwybodaeth y bobl; | yr Ysbryd Glân yn dangos hyn, nad yw ffordd y 8. cysegr [sancteiddiolaf] wedi ei hamlygu eto, tra y mae i'r babell gyntaf ei sane, | yr hwn* [oedd] yn ddameg 9. am yr amser presenol [hwnw;] yn ol yr hon yr offrymir rhoddion ac aberthau nas gallant o ran cydwybod ber- ffeithio yr addolydd, | yn nnig ar sail bwydydd a diodydd 10. ac amryw olchiadau, ordeiniadau cnawd, wedi eu gosod hyd amser adferiad.

Eithr Crist, wedi dyfod i'n plith yn Arch - off eiriad y 11. daionus bethau a fyddent,f trwy y babell fwy a pherffeith- iach nid o waith Haw, hyny yw, nid o'r greadigaeth yma, |ac nid trwy waed bychod a lloi, ond trwy ei waed priod 12. ei hnn, a aeth nnwaith am byth i mewn i'r eysegr, gan gaffael i'w law dragywyddol brynedigaeth. | Canys os 13. ydyw gwaed bychod a theirw, a lludw aner, pan y taen- ellir ef ar y rhai a halogwyd, yn sancteiddio i burdeb y cnawd, | pa faint mwy y bydd i waed y Crist, yr hwn 14. trwy ysbryd tragywyddol a'i hoffrymodd ei hun yn ddifeius i Dduw, buro eich cydwybod oddiwrth weithred- oedd meirwon i gyflwyno gwasanaeth i Dduw byw?

Ac oblegid hyn y mae efe yn gyfryngwr cyfamod 15. newydd, fel, gan fod niarwolaeth wedi cymeryd lie hyd at brynedigaeth [oddiwrth] y troseddau [oedd] dan y cyfamod cyntaf , y cai y rhai sydd wedi eu galw gymeryd addewid yr etifeddiaeth dragywyddol. | Canys lie y mae cymunrodd, 16. rhaid profi marwolaeth y cymunroddwr. | Canys gyda 17. golwg ar feirwon y mae cymunrodd yn sicr; oblegid nid oes grym ynddo pan y mae y cymunroddwr eto yn fyw. |Oherwydd paham nid yw y [cyfamod] cyntaf ychwaith 18. wedi ei sefydlu heb waed. | Canys wedi llefaru pob 19. gorchymyn yn ol y gyfraith gan Moses i'r holl bobl, cymerodd waed y lloi a'r bychod gyda dwfr a gwlan porphor a hyssop, a thaenellodd y llyfr a'r bobl oil, | gan 20. ddywedyd, Hwn yw gwaed y cyfamod a orchymynodd

* Neu : " yr hon." Gall y gair gyfeirio un ai at y babell gyntaf ai at ci safle.

t Neu, yn ol darlleniad arall : " a ddaethant."

230 YE EPISTOL AT YR HEBREAID. IX. 20-

Duw gyda golwg arnoch chwi. | A'r babell a holl lestri y 2. gwasanaeth a daenellodd efe â'r gwaed yr un modd; | a 22. braidd [na ddywedem mai] â gwaed y purir pob peth yn ol y gyf raith, ac heb dywallt allan waed nid oes niaddeuant. |Kbaid oedd, gan hyny, i ddarluniau y pethau sydd yn y nefoedd gael eu puro â'r pethau hyn, ond y pethau nefol eu hunain âg aberthau gwell na'r rhai hyn.

Canys nid i'r cysegr o waith llaw, gwrth-gysgod o'r 24. gwir gysegr, yr aeth Crist i niewn, ond i'r nef ei hun, yn awr i amlygu ei hun yn ngwyddfod Duw drosoni ni; | ac 25 nid ych waith fel yr offrymo ei hun yn fynych, megis yr â yr arch-offeiriad i mewn i'r cysegr bob blwyddyn trwy waed dieithr; | oblegid yna rhaid fuasai iddo yn fynych 20. ddyoddef er seiliad y byd; ond yn awr un waith am byth, yn nghyflawnder yr oesoedd, y mae efe wedi ei amlygu i ddileu pechod trwy ei aberth.* | Ac yn gymaint ag y 27. gosodwyd f od hyn yn aros dynion, unwaith i f arw ond wedi hyny bam, | felly y Crist, wedi ei oifrymu unwaith nes 28. dwyn pechodau llaweroedd i fyny [ar yr allor,] a welir yr ail waith heb bechod gan y rhai sydd yn pryderus ddisgwyl am dano, er iachawdwriaeth.

Canys gan mai cysgod sydd gan y gyfraith o'r daionus X. bethau a fyddent, ac nid delw y gwrthrychau, nis gallant f 1. bob blwyddyn â'r un aberthau y rhai a offrymant yn bar- haus, byth berffeithio y rhai a agoshant. | Oblegid yna oni 2. pheidiasent eu hoffrymu, am nad oes mwyach gydwybod pechodau gan y rhai a addolant, os unwaith am byth y glanhawyd hwynt? | Ond ynddynt hwy adgoffhad pech- 3. odau sydd bob blwyddyn. | Canys anmhosibl yw i waed 4. teirw a bychod dynu ymaith bechodau. | Am hyny, wrth 5. ddyfod i'r byd, dywed, Aberth ac ofírwm nis mynaist, ond corph a gymhwysaist i mi. | Mewn cyfan boeth-offrymau 6. ac [aberthau] dros bechod nid ymhyfrydaist. | Yna y 7 dywedais, Wele fi wedi dyf od (yn rhol y liyfr y mae yn ysgrifenedig am danaf,) i wneuthur dy ewyllys, 0 Dduw. | Pan y dywed uchod, Aberthau ac offrymau a chyfan S.

* Neu: " trwy ei aberthu ei htm."

t Xeu, yn ol darlleniad arall : "nis gall.'

X. 25. YB EPISTOL AT YR HEBREAID. 231

boeth-offrymau ac [aberth] dros bechod ni fynaist ac nid ymhyfrydaist ynddynt, y rhai 711 ol y gyfraith a offrymir, I yna y cawn iddo ddywedyd, Wele fi wedi dyfod i 9. wneuthur dy ewyllys. Y mae yn tynu ymaith y cyntaf, fel y gosodo yr ail. | Yn yr hon ewyllys yr ydym wedi 10. ein sancteiddio trwy offrymiad corph Iesu Grist unwaith am byth.

Ac y mae pob arch- off eiriad* yn sefyll, gan weinyddu 11.

0 ddydd i ddydd a mynych offrymu yr un aberthau, y rhai

nis gallant byth dynu ymaith bechodau. | Ond hwn, wedi 12. offrymu un aberth dros bechodau, am bythf a eisteddodd ar ddeheulaw Duw, | am y gweddill o?r amser yn disgwyl yn 13. aiddgar hyd oni osoder ei elynion yn droedfainc ei draed.

1 Canys âg un offrwm y mae wedi perffeithio am byth y 14. rhai sydd yn cael eu sancteiddio. | Ond tystiolaetha yr 15. Ysbryd Glân hefyd i ni. Canys, wedi dywedyd, | Hwn 16. yw y cyfamod yr hwn a amodaf â hwynt ar ol y dyddiau hyny, dywed yr Arglwydd, Gan roddi fy nghyfreithiau yn

eu calon, ysgrifeuaf hwynt hefyd ar eu meddwl, | a'u 17. pechodau a'u hanghyfiawnderau ni chofiaf ddim o honynt mwyach. | Ond lie y mae maddeuant o'r pethau hyn, nid 18. oes mwyach offrwm am bechod.

Am hyny, frodyr, gan fod genym hyfder i wynebu y 19. fynedf a i mewn i'r cysegr yn ngwaed Iesu, | yr hon a agorodd 20. efe i ni yn fforddj newydd a byw trwy y lien, hyny yw, ei gnawd; | ac Arch-offeiriad mawr ar Dduw, | nesawn 21. gyda chalon gywir mewn llawn sicrwydd ffydd, ein calonau 22. wedi eu taenellu oddiwrth gydwybod ddrygionus a'n corph wedi ei olchi â dwfr glân. | Daliwn afael yn mhroffes ein 23. gobaith [nes ei wneyd] yn ddiysgog ; canys ffyddlawn yw yr hwn a addawodd ; | a chraffwn ar ein gilydd i gyffroi i 24. eiddigedd cariad a gweithredoedd hardd-deg, | heb adael 25. ein synagog ychwanegol,§ fel y mae arfer rhai, ond anog, a hyny yn fwy o gymaint ag y gwelwch y dydd yn nesau.

* Neu, yn ol darlleniad arall : " offeiriad." t Neu: " bechodau am byth, a eisteddodd." X Neu : " i ni, ffordd," &c. § Neu: " ein cydgynhulliad."

232 YE EPI6T0L AT YR HEBREAID. X. '26

Canys os o'n gwirfodd y daliwn i bechu, wedi derbyn 26. llawn wybodaeth y gwirionedd, nid oes yn aros mwyach aberth am bechodau, | ond rhyw ddisgwyl ofnadwy am 27. farn, ac eiddigedd y tân sydd ar fedr ysu y gwrthwyneb- wyr. | TJnrhyw un a ddirmygo gyfraith Moses a roddir i 28. farwolaeth heb dosturiaethau ar [air] dau neu dri o dystion. | Pa faint gwaeth cospedigaeth, dybygwch, y 29. bernir haeddu o'r hwn a f athrodd Fab Duw ac a f arnodd yn beth cyffredin waed y cyfamod, yn yr hwn y sancteidd- iwyd ef, ac a wawdiodd ysbryd y gras ? | Canys adwaenom 30. yr hwn a ddywedodd, I mi [y perthyn] dial ; myfi a dalaf y pwyth. A thrachefn, Barna yr Arglwydd [di-os] ei bobl.* | Peth ofnadwy yw syrthio i ddwylaw Duw byw. 31.

Ond gelwch i'ch côf y dyddiau o'r blaen, yn y rhai, 32. wedi eich goleuo, y safasoch dan ymdrechfa fawr o ddyoddefiadau, | weithiau trwy gael eich dangos ar gyhoedd 33. mewn gwaradwyddiadau a chystuddiau, weithiau trwy i chwi fyned yn gyfranogion â'r rhai yr oedd eu holl ymdaith felly. | Canys cyd-ddyoddefasoch â'r carcharorion, achym- 34. erasoch ysbeiliad eich meddianau gyda llawenydd, gan wybod fod eich hunain genych yn feddiant gwell ac arhosol.f | Na fwriwch ymaith, gan hyny, eich hyfder, yr 35. hwn sydd iddo daledigaeth mawr. | Canys ymaros yw y 36. peth y mae amoch angen am dano, fel, wedi gwneuthur ewyllys Duw, y derbynioch yr addewid. | Canys ychydig 37. bachigyn eto a'r hwn sydd yn dyfod a ddaw ac nid oeda. | Ond fy ngŵr cyfiawn ij trwy ffydd fydd byw; ac os tŷn 38. yn ol, nid ymhyfryda fy enaid ynddo. j Eithr nyni, nid oes 39. a fynom â thynu yn ôl i golledigaeth ; ond eiddo ffydd ydym, i gaffaeliad enaid.

Yn awr, y mae ffydd yn sicrwydd§ y pethau yr ydys XI. 1. yn eu gobeithio, ac yn brawf o bethau anweledig. j Canys 2. ynddi hi y tystiolaethwyd i'r henuriaid. | Wrth ffydd y 3.

* Neu : " yr Arglwydd ei bobl."

t Xeu: "fod genych feddiant gwell ac arhosol eich hunain." Neu, yn ol darlleniad arall: "fod genych feddiant gwell ac arhosol i chwi eich hunain."

} Neu : " y gŵr cyfìawn."

§ Neu: "sylwedd." Neu: "sail."

XI. 14. TR EPI8T0L AT YR HEBREAID. 233

deallwn lunio y bydoedd trwy air Duw, hyd at mai nid o bethau sydd yn ymddangos y mae yr hyn a welir wedi dyfod i fod. | Wrth ffydd yr offrymodd Abel i Dduw 4. helaethach aberth na Chain, trwy yr hwn* y tystiolaeth- wyd ei fod yn gyfiawn, gan fod Duw yn tystiolaethu [iddo] ar sail ei roddion ; f a thrwyddi hi J y mae, wrth farw, yn llefaru eto. | Wrth ffydd y symndwyd Enoch 5. fel na welai farwolaeth; ac ni chaed ef, oblegid i Dduw ei symud; canys tystiolaethir ddarfod iddo, cyn ei symudiad, ryngu bodd Duw. | Eithr heb ffydd anmhosibl 6. rhyngu [ei] fodd [ef;] canys rhaid i'r hwn syddyn nesau at Dduw gredu ei fod a'i ddyfod yn ad-dalwr i'r rhai a'i llwyr geisiant. | Wrth ffydd, pan rybuddiwyd Noah am y 7. pethau na welsid eto, gyda pharchedig ofn ef e a adeiladodd yr arch er iachawdwriaeth ei dŷ, trwy yr hon y condemn - iodd y byd ; a daeth i fod yn etif edd y cyfiawnder sydd yn ol ffydd. | Wrth ffydd Abraham, pan y galwyd ef, a 8. ufuddhaodd i fyned allan i le yr oedd i'w dderbyn yn etifeddiaeth, ac a aeth allan heb wybod i ba le yr oedd yn myned. | Wrth ffydd yr ymdeithiodd i wlad yr addewid 9. megis gwlad estronol, gan drigo mewn pebyll gydag Isaac a Jacob, cyd-etifeddion yr un addewid. | Canys edrych yr 10. ydoedd am y ddinas y mae y sylfaeni iddi, cynllunydd ac adeiladydd yr hon yw Duw. | Wrth ffydd y derbyniodd 11. Sara, hithau hefyd, nerth i ymddwyn ar hiliogaeth,§ hyd yn nod ar ol amser oedran ; oblegid iddi || ystyried fod yr hwn a addawsai yn ffyddlawn. | Oherwydd paham, hyd 12. yn nod o un, a hyny pan yr oedd wedi marweiddio, y cen- hedlwyd megis ser y nef mewn nifer ac megis y tywod, hwnw sydd ar fîn y môr, y [tywod] aneirif. | Yn ol ffydd 13. y bu farw y rhai hyn oil, heb dderbyn yr addewidion, eithr wedi eu gweled o bell a'u cyfarch a chan broffesu mai estroniaid ac yindeithwyr ydynt ar y ddaear. | Canys y 14.

* Neu: "yr hon."

t Neu : " a thrwyddo ef ." t Neu, yn ol darlleniad arall : "gan ei fod ar sail ei roddion yn tystiolaethu i Dduw."

§ Neu : "Wrth ffydd y derbyniodd efe nerth i Sara, hithau hefyd, i genhedlu hiliogaeth [o honi]."

II Neu: "Iddo."

234 YE EPISTOL AT YR HEBREAED. XI. 14

mae y rhai a ddywedant y cyfryw bethau yn dangos yn eglur eu bod yn argeisio gwlad eu tadau. | A plie am hono 15. y meddylient o'r hon y daethant allan, caent gyfle i droi yn ol. | Ond, yn awr, am un well y maent hwy yn dyheu, 16. hyny yw, nn nefol. Oherwydd paham nid cywilyddus gan Dduw gymeryd ei gyfenwi eu Duw hwynt; canys parotöodd iddynt ddinas.

Wrth ffydd y cawn i Abraham, pan yn cael ei brofi, 17. offrymu Isaac; a'r uniganedig a offrymai efe yr hwn a groesawodd yr addewidion, | wrth yr hwn y llefarwyd, Yn 18. Isaac y gelwir i ti had; | gan iddo gyfrif fod Duw yn abl 19. i gyfodi o feirw; o'r lie y derbyniodd ef hefyd mewn cyffelybiaeth. | Wrth ffydd y bendithiodd Isaac Jacob ac 20. Esau, hyd yn nod am bethau i ddyfod. | Wrth ffydd y 21. bendithiodd Jacob, pan yr oedd yn myned i farw, bob un o feibion Joseph, ac yr addolodd â'i bwys ar ben ei ffon. | Wrth ffydd y coffhaodd Joseph, yn ei ddiwedd, am 22. fynediad allan feibion Israel, ac y rhoddodd orchymyn am ei esgyrn. | Wrth ffydd, pan aned Moses, y cuddiwyd ef am 23. dri mis gan ei rieni, oblegid iddynt weled fod y plentyn yn dlws, ac nid ofnasant orchymyn y brenhin. | Wrth ffydd 24. y gwrthododd Moses, wedi myned yn fawr, ei alw yn fab merch Pharaoh, | gan ddewis yn hytrach ei drin yn 25. greulawn gyda phobl Dduw na chael mwyniant pechod dros amser, | gan iddo gyfrif gwaradwydd y Crist yn fwy 26. golud na thiysorau yr Aipht; canys edrych yr ydoedd at y taledigaeth. | Wrth ffydd y gadawodd yr Aipht, oblegid 27. nad ofnai lid y brenhin; canys ymgynhaliodd fel yn gweled yr Anweledig. | Wrth ffydd y cawn iddo gadw y 28. pasg a thaenelliad y gwaed [ar y drysau], rhag i ddinystr- ydd y rhai cyntafanedig gyffwrdd â hwynt. | Wrth ffydd 29. yr aethant trwy y Môr Coch megis ar hyd tir sych, ar yr hyn pan wnaeth yr Aiphtiaid brawf, hwy a lyncwyd i fyny. | Wrth ffydd y syrthiodd caerau Jericho, wedi eu 30. hamgylchu am saith niwrnod. | Wrth ffydd ni ddyfethwyd 31. Eahab y butain gyda'r rhai a anufuddhasant, oblegid iddi dderbyn yr ysbiwyr yn heddychol.

A pha beth mwy a ddywedaf ? * Canys palla yr amser 32. * Neu : " A phaham y dywedaf [ddim] yn ychwaneg?"

XII. 5. 5TE EPISTOL AT YE HEBREAID. 235

i mi os adroddaf am Gedeon, Barac, Samson, Jephthae, Dafydd a Samuel, a'r prophwydi, | y rhai trwy ffydd a 33. oresgynasant deyrnasoedd, a weithredasant gyfiawnder, a gawsant addewidion, a gauasant safnau llewod, j a ddi- 34. ffoddasant angerdd tân, a ddiangasant rhag min cleddyf, a nerthwyd o wendid, a wnaethpwyd yn giyfion mewn rhyfel, a yrasant fyddinoedd o estroniaid ar ffô. | Der- 35. byniodd gwragedd eu meirw trwy adgyfodiad. Dir- dynwyd rhai ar yr arteithglwyd, gan iddynt wrthod eu prynedigaeth fel y caent adgyfodiad gwell. | Rhoddwyd 36. prawf ar eraill trwy watwarau a fflangellau, i'e trwy gadwynau a charchar, | llabyddiwyd, poenydiwyd, darn- 37. Lwyd hwynt â llif; lladdwyd hwynt â lladdedigaeth cleddyf ; aent oddiamgylch mewn crwyn defaid, mewn crwyn geifr, yn anghenog, yn gystuddiol, yn wasgedig, | dynion nad oedd y byd yn deilwng o honynt yn 38. grwydriaid mewn diffeithleoedd a mynyddoedd ac ogofeydd a thyllau yn y ddaear.

A'r rhai hyn oil, er tystiolaethu iddynt trwy ffydd, ni 39. dderbyniasant [gyflawniad] yr addewid, | am fod Duw 40. wedi rhagddarpar rhywbeth gwell gyda golwg arnom ni, fel na pherffeithid hwynt hebom ninau.

0 achos paham, ninau hefyd, gan fod genym gymaint XII. cwmwl o dystion yn ein hamgylchynu, wedi bwrw yniaith 1. bob syrthni a'r pechod parod i'n hanigylchu, trwy ym- gynhal rhedwn yr yrfa a osodwyd o'n blaen, | gan ddal i 2. sdrych yn graff ar Iesu, pentywysog a pherffeithydd ffydd, yr hwn am bris y llawenydd a osodwyd o'i flaen a ymgynhal- lodd dan y groes, gan ddirmygu cywilydd ; ac y mae wedi sistedd ar ddeheulaw gorsedd Duw. | Canys cymharwch yn 3. ystyriol yr hwn sydd wedi ymgynhal dan y fath wrth- Idywedyd gan y pechaduriaid yn ei erbyn ei hun,* fel na Idiffygioch trwy ymollwng yn eich heneidiau. | Xi wrth- 4. tvynebasoch eto hyd at waed mewn cydymdrech yn erbyn Dechod. | A chwi a ollyngasoch dros gôf yr anogaeth, yr 5. ion sydd yn ymddiddan â chwi fel meibion, Fy mab, na Idiystyra ddysgyblaeth yr Arglwydd, ac nac ymollwng pan

* Neu, yn ol darlleniad arall: "yn eu herbyn eu hunain."

236 m EPISTOL AT YR HEBREAID. XII. 6-

y'th argyhoedder ganddo. | Canys dysgybla yr Arglwydd 6. y neb y mae yn ei garu, i'e fflangella bob mab yr hwn a dderbynia ato. | Er mwyn dysgyblaeth yr ydych yn 7. ymgynhal. Fel meibion yr ymddyga Dnw atoch. Canys pwy sydd yn fab, yr hwn nid yw tad yn ei ddysgyblu? | Ond os beb ddysgyblaeth yr ydych, o'r hon y mae pawb 8. wedi dyfod yn gyfranog, yna bastardiaid ydych, ac nid meibion. | Drachefn, cawsom dadau ein cnawd yn ddysgybl- 9. wyr, ac yiaostyngem yn wylaidd. Onid llawer mwy yr ymddarostyngwn i Dad yr ysbrydoedd a [thrwy hyny] byw? | Canys am ychydig ddyddiau y dysgyblent hwy, yn ol fel 10. y gwelent yn dda; ond er ein lleshad [y dysgybla] efe, hyd nes y deuwn yn gyfranogion o'i sancteiddrwydd. | Ar y 11. pryd, yn wir, nid ymddengys unrhyw ddysgyblaeth [yn achos] o lawenydd, ond [yn achos] o dristwch. Eithr ar ol hyny y mae yn talu ffrwyth tangnefeddus cyfiawnder i'r rhai sydd wedi ymarfer trwyddi [i'r rhedegfa]. | Oherwydd paham, uniawnwch y dwylaw a laesasant a'r 12. gliniau a ymollyngasant, | a gwnewch rigolau uniawn i'ch 13. traed,* fel na throer yr aelod cloff o'i le, ond yr iachaer ei yn hytrach.

Ymegniwch am heddwch â phawb, a'r sancteiddrwydd 14. heb yr hwn ni wel neb yr Arglwydd; | gan edrych yn 15. ddyfal na bo neb yn syrthio yn fyr o ras Duw; na bo unrhyw wreiddyn chwerwedd yn tyfu i fyny ac yn peri blinder a thrwy hyny halogi y lliaws; | na bo neb yn 16. buteiniwr, neu yn ddibris o bethau cysegredig fel Esau, yr hwn am bris un saig o fwyd a werthodd ei enedigaeth- fraint ef ei hun. | Canys gwyddoch ei wrthod ef, hyd yn 17. nod wedi hyny, pan yr ewyllysiai etifeddu y fendith. Canys ni chaf odd gyfle edif eirwch, er iddo â dagrau ei thaer geisio hi.

Canys ni ddaethoch at beth yr oeddys yn ymbalfalu am 18. dano ac sydd wedi bod yn llosgi gan dân, ac [at] dduwch a thywyllwch a thymestl | a sain udgorn a llais geiriau, yr 19. hon y deisyf odd y rhai a'i clywent na chwanegid ymadrodd

* Xeu: " a'ch traed."

Xm. 5. YE EPISTOL AT YE HEBEEATD. 237

wrthynt. | Canys nis goddefent yr hyn a orchymynid, Ac 20. os bwystfil a gyffwrdd â'r mynydd, llabyddir ef. | A chan 21. mor ofnadwy oedd yr olygfa, dywedodd Moses, Yr wyf yn llawn o ofn a chryndod.

Ond daethoch i fynydd Sion, a dinas Duw byw, Jeru- 22. salem nefol, ac at fyrddiynau o angelion yn cadw gŵyl, | a chynulleidfa cyntaf-anedigion wedi eu rhestru yn y 23. nef oedd, a Barnwr, Duw pawb, ac ysbrydoedd y cyfiawn- ion wedi en perffeithio, | ac Iesu, cyfryngwr cyfamod 24. newydd, a gwaed taenelliad yn llefaru yn rhagorach na'r Abel [hwnw].

Edrychwch na ddeisyfoch ar yr hwn sydd yn llefaru 25. beidio. Canys os hwynt-hwy ni ddiangasant ar y ddaear, pan ddeisyfasant ar yr hwn oedd yn llefaru beidio, mwy o lawer [nis diangwn] ni, y rhai ydym yn troi ymaith oddi- wrth yr hwn [sydd yn llefaru] o'r nef ; | llais yr hwn a 26. siglodd y ddaear y pryd hwnw, ond yn awr y niae wedi addaw, gan ddywedyd, Eto unwaith, niyfi a wnaf nid yn unig i'r ddaear grynu, ond hefyd y nef. | Ond y mae y 27, [geiriau] " Eto unwaith" yn golygu symudiad y pethau a siglir, megis pethau wedi eu gwneuthur, f el * yr arhoso y pethau ansigledig. | Oherwydd paham, gan ein bod yn 28. derbyn teyrnas ddisigl, bydded genym ras,f trwy yr hwn { y cyflwynom wasanaeth wrth f odd Duw gyda duwioldeb ac ofn. | Canys y mae ein Duw yn dan difaol. 29.

Parhaed eich brawdgarweh. | Eich lletygarwch i ddi-XIII. 1. eithriaid nac anghofiweh; canys trwy hwn y lletyodd 2. rhai angelion yn ddiarwybod. | Parhewch i gofio y car- 3. charorion fel yn y rhwymau gyd hwynt; y rhai a drinir yn greulawn, fel yn bod eich hunain yn y corph. | Bydded 4. priodas mewn anrhydedd yn mhawb,§ a'r gwely yn ddi- halog. Canys puteinwyr a godinebwyr a farna Duw. | Bydded eich cymeriad yn ddiariangar, gan fod yn 5. foddlawn i'r pethau sydd genych. Canys efe ei hun a

* Neu : " wedi eu gwneuthur fel," &c. t Neu : " byddwn ddiolchgar." t Neu : " trwy yr hyn." § Neu : " yn mhob peth."

238 YK EPISTOL AT YE HEBEEAID. XIII. 5

ddywedodd, Xi'th roddaf i fyny ddim ac ni'th adawaf o gwbl ; | f el y gallom ddywedyd yn galonog, Yr Arglwydd 6. sydd gynorthwywr i mi; nid ofnaf ; pa beth a wnel dŷn i mi?

Daliwch i gofio eich arweinwyr, y rhai a lefarasant i 7. chwi air Duw; a chan ystyried eilwaith a thrachefn ddiwedd eu hymarweddiad, efelychwch eu ffydd. | Iesu 8. Grist ddoe a heddyw yr un, ac yn dragywydd. | Xa ddyger 9. chwi ar ẁyr âg athrawiaethau amryw a dieithr. Canys hardd yw bod y galon wedi ei sicrhau â gras, nid â bwydydd, yn y rhai ni leshawyd y rhai a rodient ynddynt. | Y mae geriym allor o'r hon nid oes awdurdod gan y 10» rhai a wasanaethant y babell i fwyta. | Canys am yr 11. anifeiliaid y dygir eu gwaed am bechod i'r cysegr [sanct- eiddiolaf] trwy [law] yr Arch-offeiriaid, llwyr losgir cyrph y rhai hyny y tu allan i'r gwersyll. | Oherwydd paham 12. dyoddefodd Iesu hefyd, fel y sancteiddio ei bobl trwy ei waed priod ei hun, y tu allan i'r porth. | Am hyny awn 13» allan ato ef y tu allan i'r gwersyll, gan ddwyn ei warad- wj'dd. | Canys nid oes genym yma ddinas arhosol; ond 14. yr ydym yn ddyfal yn ceisio yr un sydd i ddyfod. | Trwyddo ef, gan hyny, codwn [ar yr allor] aberth moliant 15. yn wastadol i Dduw, hyny ydyw ffrwyth gwefusau yn proffesu i'w enw ef. | Ond nac anghofiwch y gwneuthur 16* daioni a'r cyfranu, canys â'r cyfryw ebyrth y rhyngir bodd Duw.

Parhewch i ufuddhau i'ch harweinwyr, ac ymostwng. 17- Canys y maent hwy yn efifro i wylio dros eich heneidiau, fel rhai sydd i roddi cyfrif; fel y gwnelont hyn gyda llawenydd, ac nid gan ochain; canys difudd i chwi yw hyny.

Parhewch i weddio drosom. Canys yr ydym yn 18. perswadio ein hunain fod genym gydwybod hardd -deg, gan ewyllysio yn mhob peth fucheddu yn hardd. | Ac yn 19. helaethach yr \s*}-f yn [eich] hanog i wneuthur hyn fel y caffwyf fy adfer i chwi ar fyrder.

Ond Duw y tangnefedd, yr hwn a ddug i fyny o blith 20. y meirw fugail y defaid, y [bugail] mawr, yn ngwaed y

XIII. 24. TR EPISTOL AT YE HEBREA.ID. 239

cyfamod tragywyddol, ein Harglwydd ni, Iesu, | a'ch 21. perffeithio yn mhob daioni hyd nes gwneuthur [ohonoch] ei ewyllys ef, gan weithredu ynom yr hyn sydd yn rhyngu bodd ger ei fron ef trwy I*su Grist. I'r hwn y byddo y gogoniant yn oes oesoedd. Amen.

Eich hanog yr wyf, frodyr; goddefwch air yr anogaeth. 22. Canys ar fyr eiriau yr anfonais atocb.

Bydded hysbys i chwi* ollwng yn rbydd ein brawd 23. Timotheus, gyda'r hwn, os daw ar fyrder, y gwelaf cbwi. | Anercbwch eich boll arweinwyr a'r boll saint. Y mae 24. y rbai o'r Ital yn eich hanercb.

Gras fyddo gyda chwi oil. Amen. 25.

Neu: " chwi a wyddoch.'

aRGKAFFWYD GAN D. W. DAYIES & CO., SWTDDFA'r "gENEDL," CAEUNARFO*.

Yn awr yn y wasg, ac i foci yn barod erbyn diwedd Gorphenaf.

fîlL-fll^GI^APHIAD

o

ESBONIAD AR LYFR GENESIS,

CAN Y

PAROH. RICHARD HUMPHREYS,

BONTNE'WTDD, CAEBNAEFON.

PRIS MEWN LIIAÎI, 3s. BASER RIWYM CRTF, 4s.

Telerau arferol i Lyfrwerthwyr a Dosbarth^yr. Telerau neillduol i Ysgolion Sid.

Ymofyner â D. W. Davies $ Co., Cyhoeddwyr, Vaemarfo

ESBONIAD

AR

#$$4®I cstttaf Egatt*

PARCH. D. CHARLES DAVIES. M.A .,

TREVECCA.

MEWN LLIAN HARDD, PRIS 3s

Ilyfrau Cyhoeddedig ac ar Werth gan D. W. DAVIES, Swyddfa'r '&enedl/ Caernarfon.

TY FY NHAD. Gan y Parch. D. Jones, Treborth. Mew* llian hardd. Pris 2s. 6c.

PREGETH CRIST AR Y MYNYDD. Gan y Parch. Evan Roberts, Dyffryn (gynt Caernarfon). Mewn llian hardd. Pris 2s. 6c.

ESBONIAD AR EFENGYL IOAN. Gan E. Roberts. Mewn llian. Pris 2s. 6c. Ychydig gopiau ar law.

COFIANT Y PARCH. GRIFFITH JONES, TRE'RGARTH.

Gan R. O., Bethesda. Pris Swllt.

DYDDIADUR SABBOTHOL hyd 1899. Y^i ei argraphu ai bapyr neillduol o gryf ( hand-made) , a'i rwymo yn hardd mewn lledr da. Pris Is.

Y GORON, Y SENEDD, A'R WERIN : Hanes ffurf-lywodraeth Prydain Fawr, yn cynwys esboniad oryno ar Hawliau a Breiniau y Tri Ŵallu sydd yn cyfansoddi y Llywedraeth. 6-an Ap Hywel Dda. Pris 9c, pris blaenorol, Is.

LLAWLYFR HANESIAETH BRYDEINIG, seüiedig ar waith Heisnig A. H. Dyke Ac-land, M.A., gydag ychwanegiadau gan y cyfieithydd, y Parch. John Evans, B.A., Clynmog. Cynwysiad: Rhan I.— AmlineUiad o hanes y gwahanol gyfnodau o'r amsec boreuaf hydy fiwyddyn 1830. Rhan II. Cronicl o'r prif fesurau a ehvinewidiadau gwleidyddol er 1830, gyda nod- iadau eglurhaol. Attodiad.— Y'r Ethohadau Cymreig er 1868. Pris is. ; mewn llian. is. 6C.

FFERYLLIAETH PETHAU CYFFREDIN. Gan Gwyddonpab. Cynwysa y llyfr hwn naw o bennodau helaeth a dyddorol dros ben ar a gan- lyn :— Sylẁadau Arweiniol.— Fferylliaeth. yr A wyrgylch.— Fferylliaeth Dwfr. FieryUiaeth y Pridd.— Ffeiylhaeth Llysiau.— Fferylliaeth Ymborth.— Fier- ylhaeth y Corph.— Ffeiylhaetb Llosgiad.— Fferylliaeth y Meteloedd Cyffredin. Ynghydag attodiad gwasanaethgar. 113 tudalen. Pris Is.

HANES ANGHYDFFURFIAETH. (Cyfieithiad o'r chweched ar- graphiad ar hugain), dnvv iraniatad arbenig, gan y Parck. R. D. Rowlands (Anthropos). Y mae hwií yn llawlyfr pwrpa&ol i'r adeg bresenol, a dylai pot

CORPH Y GAINC : Gwaith Barddonol Dafydd Ddu Eryri. Llian, 2s 6c. BARDDONIAETH FUDDUGOL EISTEDDFOD GENEDL-

AETHOL CAERNARFON. 1877 ; ynghyda Hanes Cyflawn o'r Eisteddfod,

yn cynwys yr Areithiau, Awdl y Gadair ar "Ieuenctid," gan Gwilym Eryri;

Galarebau, Cywyddau, Englynion, Bugeügerdd, &c. Pris is. Mewn'llian. BARDDONIAETH "Y GENEDD GYMREIG," am 1881.

Cyfrol drw«hus o 176 tudalen. Pris 9c. ; pris blaenorol, Is. CANIG : " Y Gwlithyn." Gan E. Roberts, Ysw., diweddar Organydd

Eglwys Gadeiriol Bangor. Pris, Hen Nodiant, 3c. ; Sol-ffa, 2g. '•PA LE MAE'R AMEN?"— Can boblogaidd Ap Glaslyn, gyda

Chyfeihant hawdd a swynol i'r Berdoneg. Y ddau Nodiant arjTun copi.

Pris 6ch. CRYNHODEB O HANES YR APOSTOL PAUL. Gan y Parch.

D. C. Evans, Rhyl. Ail-argraphiad, gyáag ychwanegiadau. Pris lc.

Y Sabboth. Traethawd i'r Am- Llyfrau Elfenol yr Ysgol Sul. serau. Gan Dr. Wardlaw. Pris 3c. Pris |c, lc, a 2c.

Y Chwaer Dora. Llvfryn Gwobr- ; ^3Ŵau Cyfrifon Eglwysig. wyol, gyda 5 o ddarluinau. Pris 3c. j Tocynau AelodaethEg-lwysig

Rhodd Mam. Gan John Parry, \ Llyfrau Cyfrifon Eisteddle-

Caer. Pris lc. oedd.

Yr Egwyddor yn Gymraeg mtwn Llyfrau Cyfrifon yr Ysgol

lhwiau ar board gyda. Cloc. Pris lc. Sabbothol.

Vchwanegiadau Diweddaf at Restr

Mewn Aralen, II-

' Mewn Llian, Cyhoeddedig i ac ar gais arbenig 1/6.

Cymdeithasfa Chwarterol Methodisticticl Calfinaidcl

*Y Pwlpud Cymreig,'

(Yn cynwys oddeutu 180 o dudalenau), allan o

6 Cofiant y Parch. John Jones, Talsarn,'

Gany Parch. OWEN THOMAS, D.D.

Cyxwysiad:— Pregethwyr hynod cyn Cyfodiad Methodistiaeth Rees Prichard Walter Cradoc Vavasour Powell Morgan Llwyd— Griffith Jones Y diwygiad Method- istaidd yn cyfodi Pregethu i safle nwch a dylanwad mwy Howell Harris Daniel Rowland —David Jones, Llangan Dafydd Morris— Robert Roberts, Clynnog— John Jones, Edeyrn— Evan Richardson, Caernarfon Ebenezer Morris John Elias— John Evans, >Tew Inn-Michael Roberts David Charles, Caerfyrddin— Ebenezer Richard Thomas Richard William Morris, Ddewi— "William Roberts, Amlwch— John Hughes, Liverpool Henry Kees Pregethwyr annghyffredin mewn cyssylltiad àg enwadau ereill— Christmas Evans— William Williams o'r Wern— Thomas Rees Davies Elfenau arbenigy Weinidog- aeth Gymreig— Y rhai a fuont yn benaf yn offerynol i osod ami ei harbenigrwydd— Y wed 1 neillduol oedd ami ar ymddangosiad Mr. John Jones, Talsarn.

Mewn llian hardd, Pris 5/-

ESBONIAD AR YR HEBREAID :

Gan y Parch. OWEN THOMAS, D.D., Lerpwl.

Mewn llian hardd, Pris 2/6 yr nn.

JDJ^TJ O "W IE I T EC I .A. XT SAFONOL

Gan y diweddar Barch. LEWIS EDWARDS, D.D., Bala.

ATHRAWIAETH YR I AWN:

Gydag amlinelliad o Hanes Bywyd yr Awdwr,

Gan y Parch. T- C- EDWARDS, D.D., Aberystwyth.

HANES DÜWÎNYDDIAETH.

'■ Haedda a deil v gwaith hwn ei gvfieithu i bob iaith. Ni ddylai un llyfrgell dduwinyddol fodhebddt» "— Y Cenad Redd. " Mae yn y gyfrol gyfoeth o wybodaeth sydd yn anmhrisiadwy." Y Tyst ar Dydd.

Yn awr yn barod.

m ^ •***■ "^r" "^r~ ^ -^^ » '

Ail-Attodiad

i

Lyfr Tonau Cynulleidfaol Xeuan Gwyllt

m "*^" ^^ ^P"" "^ ^^ "^ v

Cynwysa yr Attodiad hwn 247 o Donau, o ba rai y cyhoeddir droa 100 am y waith gyntaf.

Tra nad yw y Golygwyr wedi esgeuluso yr Hen DonauacAlawon ydynt a gal wad parhaus am dan- ynt amryw nad ydynt i'w cael mewn unryw Gasgliad arall y maent ar yr un pryd wedi amcanu symud gyda'r amseroedd drwy ofalu am Donau o waith y Cyfansoddwyr isod,yr hyn sydd yn brawf y gellir bod yn sicr y bydd y Casgliad hwn yn cynwys ffrwyth meddyliau diweddaraf ac addfettaf y mwyafrif o Gyf- ansoddwyr Cymreig, ynghydag eraill sydd yn enwog yn Lloegr.

Y diwedda-r Ieuan Gwyllt; J. Ambrose Lloyd; R.Mills; Parch. E. Stephen (Tanyrnarian).— G. Anthony, A.C. ; H. Baker, Mas. Bac. ; H. Davies (Pencerdd Maelor); Parch. J. Lane Davies; Parch. O. Davies (Eo< Llechyd); T. J. Davies (America); T. Davies, A.C, Ebbw Vale ; Wm. Davies, Rhydychen; R. Drury, Lerpwl; Parch. Ellis' Edwards. M.A., Bala; Peter Edwards (Pedr Alaw); D. EmlynEvans; W. H. Grater, Mas. Doc, Dublin; R. Haliwell; Parch. Canon Havergal; John Henry, R.A.M.; E. J. Hopkins, Mus. Doc; R. S. Hughes, R.A.M*; W. Hughes (Alaw Manod); E. LI. Jones; J. Jones (Glas Alaw); M. O. Jones, Treherbert; F. J. Kara, Mus. Doc; D. Lewis, Llanrhystid; D. W. Lewis (F) Brynanian; Dyfed Lewys; C. F. Lloyd, Mus. Bac ; J. Ambrose Llovd. ieu. : A. P. Morgan; E. Morgan (Llew Madog); M Morgan, Ystalyfera; R. Mills i Wrexham): SyrH. S.Oakeley, Mus. Doc; DafyddOwain; D. Wylor Owen; Owen Owen, M.A.; W. Owen, Abertawe; David Parry, Llanrwst; Joseph Parry. Mus. Doc; John Price (G.) Beulah; J. W. Parson Price; T. Price, Merthyr; T. Maldwyn Price; E. Prout, B.A.;C. H. Purday; A. ILReinagle; Gwilym T. Rees, Abertawe; J. T. Rees, Mus. Bac-; W. T. Rees (Alaw Ddu); J. Richards (Isalaw); D. Roberts (Alawydd) ; E. Dry- hurst Roberts; L. J. Roberts, B. A ; J. H. Roberts Mus. Bac; W. M. Roberts; W. H. Roberts ; W. T. Samuel (G.); J. Thomas (Pencerdd Gwalia); J. Thomas, Llanwrtyd; B.' it. Williams; E. Ylltyr Williams; J. Cledan Williams, &c.

Pris (Sol-ffa), Amlen, 1/-; Llian, 1.6. Am fanylion pellach, gweler " Y Cerddor " (pris 2g. yn fisol), neu anfoner at y Cyhoeddwyr-

HUGHES & SON, Wrexham.

RHESTR O BRISIAU

GWAHANOL RWYMIADAU Y

LlyfrTonaii' a'r fAiI-Alfodiad'

Hen Nodiant : s. c.

Llian Hardd, Ymylau Cock ... ... ... £> O

Haner Rhwyni, Cryf ... ... •••6 6

Rhwymiad Llawn.Cryf, Extra ac Yraylon A v.r 8 6

Tonic Sol-ffa:

Llian Hardd, Ymylau Cock ... ... ... 3 £

Haner Rhwym, Cryf ... ... ... 5 O

Rhwj^miad Llawn, Cryf Extra ac Ymylon A uv 7 O

Yr 'Ail-Attodiad' yn unig. Hen Nodiant :

Amlen ... ... 2 O

Llian Hardd ... ... 2 6

Tonic Sol-ffa :

Amlen ... ... ... ... ... ... J Q

Llian Hardd ... ... 1 6

Hughes and Son, Wrexham.

PRIS-AMLEN, 1/3; LUAN, 1/6.

Cydymaith i'r ' Ail Attodiad '

(Toxau Ietjax Gwyllt.) SEF

ana™ 7 mmi.

Casg/iad o 39 o Anthemau Sym/, a 41 o Gorganau

AT WASANAETB CYNULLEIDFAOEDD,

0 WAITH

Attwood, Avison, J. S. Bach, Joseph Barnby, Cecil, Clarke-Whitfeld, Crotch, Dvkes, Gluck, Handel, Harwood, Herold, Himmel, Isalaw, E. LI. Jones, Kent. Kocher, Mason, Mozart, Neukomm, Newton, Pedr Alaw, IReading, J. T. Eees, W. T. Eees {Alaw Ddu), Schubert, Schultze, Spohr, "Tallis, Vogler, Voigt, &c, &c, &c, &c.

Wedi eu dethol a'u trefnu gan

PETER EDWARDS (Pedr Alaw.)

BARN Y WASG.

" Casgliad rhagorol ; y mae y cyfan yn gyfryw ag y gall y gynulleidfa yn gyff- redinol gymeryd rhan ynddynt ; ac raae'r oil yn chwaethus a phur." Yr Athraw.

" Y mae yr oil mor syml a chwaethus, fel y gall y Uyfr hwn ddechreu cyfnod newydd yn banes eerddoriaeth gynulleidfaol* y wlad. Rhagoriaeth mawry llyfr yw y chwaeth a'r gallu a amlygir yn nhrefniad y geiriau Cymreig i ateb y gerdd- oriaeth ; mor belled ag yr ydyni wedi sylwi, nid oes ynom un petrusder i ddweyd fod Pedr Alaw yn uno'r trefnwyr goreu ar ol Ieuan Gwyllt." Alaw Ddu yn Xgherddor y Cymry.

" Mr. Peter Edwards has done good service in publishing his little book, which contains many admirable and easy arrangements, and the old favourites have not been left out in the cold. It "ought to be in the hand of every in- telligent Welsh Conductor, as well as every singer who desires the attainment of the {rreat ideal, the whole Congregation with one accord praising and bless- ing God." South Wales Press.

11 Mae yn dda genym ddwyn tystiolaeth i burdeb y detholiad mewn geiriau a cherddôriaeth ; "mae y corganau yn bobpeth ag a ddymunem."— Mr. D. Jenkins. Mus. Bac, vn Y Cerddor.

Am ychydiç amser: cynygia y Cyhoedd-wyr SPECIMEN copi o'r llyfr uchod i Ar- ■weinwyr Corau CYNTJLLEEDFAOL a dechreuwyr canu,— ond iddynt enwi eu c^rau a'r capeli lie y gwasanaethant,— yn uniongyrchol o'r Swyddfa hon (y cludiad wedi ei dalu) fel y canlyn : Mewn Amlen, 9c. ; Llian, Is.

WREXHAM: HUGHES AND SON

At Gàntorion, Arweinwyr, Athrawon,

A HOX.X.

GERDDORION CYMRU.

Dymuna y Mri. HUGHES &, SOBT, Wrexham,

aiw sylw Cerddorion at eu

CYLGHGRAWN CERDDOROL MISOL,

"Y Cerddor,"

YR HWN A GYHOEDDIR AR Y laf 0 BOB MIS,

Puis Dwy Geinioo.

Dygir y Cylchgrawn yn mlaen ar lineilau addas a cbymbwys i gyfarfod ag angenion Cerddorion Cymru, ac y mae yn dda gan y Cyhoeddwyr hysbysu eu bod wodi sicrbau cydweitbrediad

Mr. DAVID JENKINS, Mus. Bac, a Mr. D. EMLYN EVANS

fel prif Olygwyr.

Ymddengy8 ynddo Erthyglau wedi eu bysgrifenu gan bersonau byddysg yn y Gelfyddyd Gerddorol ; a tbelir sylw neillduol i * Gerddoriaetb y Cyssegr;' * Astudiaetb ac Ymarfer- iad ag Offerynau ;' ' Cystadleuaetbau Eisteddfodol ;' Adolyg- iadau Gweitbiau Newydd ;' ' Nodion ar Gyngberddau uwcb- raddol;' ' Sylwadau acblysurol' ar ddygwyddiadau dyddorol; a rboddir arbenigrwydd i weitbrediadau y GYMDEITHAS GERDDOROL GYMREIG.

Gyda pbob Rbifyn cyboeddir dernyn cerddorol yn y Sol-ffa neu yr Hen Nodiant (neu yn y ddau pan yn angenrbeidiol); ac y mae gan y Cyboeddwyr bob ymddiried y bydd y detboliadau a wneir gan y Golygwyr yn deilwng o sylw pawb sydd yn dymuno llwyddiant a cbynydd Gerddoriaetb yn ein plitb fel Cenedl

DOSBARTHWYR YN EISIEU. Ymofyner a Messrs. HUGHES & SON, WREXHAM.

Cyhoeddiadau diweddaf Hughes and Son, Wrexham. Amlen, Pris 1/-

Y LLOFFYN DADLEUON :

SEP

Cyfres o ddad/euon cyfaddas i Gyfarfodydd Llenyddol, Gan y Parch. D. LEWIS, Llanelli.

Argraffiad Newydd! Ilian hardd, 3/6.

CYSONDEB Y PEDAIR EFENGYL

Gan y Parch. E. ROBINSON, D-D., LI- D-,

YNGHYDÀ

Thraethawd arweiniol ar wrthrych, hanes a haneswyr y pedair efengyl,

Gan y diweddar Barch. LEWIS EDWARDS, D.D.,

A NODIADAU EGLURHAOL

<3- ATsT ~2T DI"7^EDDAE IR,. OLIVEB EBES, A Mapiau o Palestine Jeiusalem a'r Demi.

Mewn llian, Pris 1/6.

YR HYNOD IOAN JONES:

Gan RHUDDENFAB, awdwr "Dick Nancy." u Mae yn llawn dywediadau digrifol a ffraeth."

Mewn llian hardd, Pris 1/6.

Y SACRAMENTAU CRISTIONOGOL

a-^isr dr. c^.istidlish:,

Proffeswr Duwinyddiaeth yn Ngholeg yr Egiwys Eydd Glasgow. WSDI EI GYFIEITHU TRWÎ GANIATAD YR AWÜWE

Gan y Parch WILLIAM WILLIAMS, Birmingham.

Mewn llian hardd, Pris 1/6 yr un. 4 Llyfr gan y Parch. JOHN MILLS, Llundain.

1. Hyffordwr yr Efrydydd. 3. Y Perl Ysgrythyrol.

2. Duwinyddaeth Ysgrythrol. 4. Geirlyfr Ysgrythyrol.

l^g56 Ddarllenasoch chwi

HUIS[ÄIS[mOOFIÄIS[T

'RHYS LEWIS,'

GWEINIDOG BETHEL,

Gan DANIEL OWEN,Wyddgrug?

Ysgrifena Mr. GLADSTONE-

"Yrwyf wedi darllen yr oil o ' Hunan- gofiant Rhys Lewis,' yr hwn yn garedig a anfonasoch i mi. Mae ei bortreadau o'r Cymeriad Cymreig y rhai goreu ddigwydd- ais weled, ac nis gall dim fod yn hapusach na'r modd y mae y gwirioneddau pwysicaf yn cael eu harddangos ynglyn a mater Mai aruchel. Yr wyf yn cymhwyso y sylwadau hyn yn fwyaf arbenig at haner cyntaf y gwaith.

Yr eiddoch yn ffyddlawn a gostyngedig,

W. E. GLADSTONE."

Yr Anrheg oreu allai Cymro neu Gymraes roddi i'w cyfeillion Seisonig, fyddai copi o'r llyfr hwn. Gallodd ein Gwladweinydd galluocaf gael amser i ddarllen VII OX*£i O HONO.

Argrafiiad Saesoneg, 4s« 6c. Eto Cymraeg, 3s. 6c.

Rhai o GYHOEDDIADAU DIWEDDAF gan

Hughes & Son, Wrexham.

HANES BYWYD HENRY REES :

Gas y Pa:.:-:. OWEN THOMAS. D.D. Cyhoeddedig mewn 12 o ra^au - rllt y rhan. Cyhoeddwyd Khan I. yn Gorpbenaf, 1889. (Cy- boeddir yi .'. ynghyd rnewn dwy gyfrol.) Llian hardd, 15s.

ESBONIAD AR YR HEBREAID :

Gan v PARCH. OWEN THOMAS. D.D. Mewn Llian hardd, pris 5s.— Cvhc'edcei:^' yn rieillduol ar gyfer Arholiadau Undeb yr Ysgol Sabbotbol yn Ngbyinru.

Y Parch. T. C. Edwards. D.D.. Aberystwyth, a ddywed : •• Mae Uyfr Dr. Thomas yn rhagorol o gyfaddas i'r pwrpas." t; Y rnae i chwi berffaith ryddid i wueyd yn hysbys fy ngbymeradwyaeth gref a diffuact o lyfr Dr. Thomas."'"

Y PULPUD CYMREIG :

Gan v Pak-.h. OWEN THOMAS, D.D. [Allan o " Gofiant y Parch.

John*Jon-<. Talaara. La.; Llian. Is. 6c— Cyboeddedig i ac

ar gais arbenig Cyindeith^- - -tiaid Caliinaidd Gog- ledd Cvmru.

Tri or Llyjrau mii'yaf Angeìirhääiol a G'cí'crthfaiur i Athrawon, Ysgolheigion. ac Lfryauyr y Bcibl :

1 Y GEIRIADUR YSGRYTHYROL A DUWINYDDOL .-

Gan v diweddar Barch. THOMAS THOMAS. (Yn cynwys dros 200 o aniau e-durhaoi.) Y 1 . gi affiad. Piisiau— Llian hardd, 7/6 ;

-rhwym, 8 6 : Cn p ... - '; Lyfr <vdd yn cynwys cyfoeth Llyfrgell ynddo ei hun." T Winllan. 11 Crynodeb byr a diduedd o olygiadau duwinyddul ar byngciau crefydd."— T i ydd.

2, LAMP YR YSGOL SUL—aef Cydymaith i'r Geiriadur

Ysqrythyro/ :

G :. liwed ir Barch. THOMAS THOMAS. Casgliad helaeth o

-"zlau Cvnorthwyol ar fateiion pwysig nas gellir ymdrin à hwy mewn Geiriadur Ysgrythyrol. Mewn Llian hardd, pris 5s.

3 MY N EG AIR YSGRYTHYROL :

Ban v diweddar Barch. PETER WILLIAMS (Awdwr y Beibl Tenlu- aidd.) Argraffiad Newydd a diwygiedig. Mewn Llian hardd, pria 3/6.

Mae y galwad main sydd am y llyirau uchod, yn brawf erlur o'u gwerth anmhrisiadwy.

NODIAD.— Anfona y Cyboeddwyr nn copi o bob un o'r tri llyfr uchod yn ddidraul i unrhyw gyfeiri'ad ar dderbyniad Fostal Order am

BTMTHEG- SWLLT.

UNIV

BS 2774

ms

1890 C.l

ROBA

L2

D

n

EH

D

9

O