1
sU\> of Chicago
libraries
ADNODAU DYRYS
I
GAN T
PARCH. O. WALDO JAMES,
KINGSTON, PA.
UTICA, N. Y.
T. J. GEIPFITHS, ARGEAFFYDD, . 131 GENESEE ST.
1887.
<?
Y CYFLWYNIAD.
I SWYKDOGION AC AELCXDAU EGIAVYS Y BEDYDDWYB YN EDWABDS-
DALE, PA.,
ANWYL FEODYR A CHWIORYDD :
YE YDVVili' YN CYFIAVTNO YB EGLTTBIADATT CANLYNOL AE
"ADNODAU DYRYS Y TESTAMENT,"
I CHWI, YN GYMAINT AG MAT AB EICH CATS CABEDIG CHWI Y CY-
HOBDDIE HWY YN Y FSTJBF BBESENOL; A'M
DYMUNIAD
TDYW, l'B GYPBOL PECHAN HON POD YK GOF-ABWYDD o'CH HY-
NAWSEDD TUAG ATA3P, AC O'B BEBTHYNAS DDEDWYDD A
PODOLA BHYNGOM. YB YDW iJb 1 HEPYC
YN DEISYF
AB DDTJW DBOSOCH, AE I CHV7I GAEL EICH CYFOETHOGI PWY, PWY,
" A GWYBODAETH El EWYLI.YS EP, YN MHOB DOETHINEB
A T>-BAT,T. YSBBYDOL."
iIi)Wy!J!', EICH GWASANAETHWB,
YE AWDWK,
Y CYFARGHIAD.
ANWTL DDABLLENTDD:
Yr byn a'n tueddodd i ymgymeryd a'r gorclrwyl o ysgrif erna
cyfres o ertbyglau ar " ADNODATJ DYEIS Y TESTAMENT," ydoedd,
aneghirder ein gwybodaetb bersonol am eu. dysgeidiaetli. Er yn
facbgen, a tbrwy flyiiyddau ein bymgydnabyddiad a llenyddiaetb
JTeiblaidd, sylwasom mai ycbydig iawn o lyfrau sydd wedi eu
dyweddio yn bollol i'r gangen hon o ddeongliadaetb; yn wir, nis
gwyddom am gymaint ag un yn yr iaitb Gymraeg, ac ain ond
nifer fecban yn yr iaitb Seisoneg. Hyd yn byn, ni cbeir goleuni
beirniadol ar yr adnodau byn ond yn unig mewn esboniadau
drudfawr, a tbraetbodau gwasgaredig, llawer o ba rai sydd yn
anadnabyddus i gyfangorpb ein cenedl ; ac byd yn nod pe y
buasid yn gwybod am danynt, ac yn awyddus am en meddiamz,
y mae ncbelder eu prisiau yn eu gwneyd yn angbyrbaeddadwy .
O berwydd byn, yr ydym wedi bod yn cario yr argyboeddiad,
droa flynyddau, y cyfarfyddai ymgais gyffelyb i bon g, ffafr, gyda
miloedd o edmygwyr Llyfr Duw.
Tra wrtb y gwaitb o f yfyrio y gwabanol destynau, ac ysgrifenu
arnynt, daetbom o byd i oludoedd o ddeongliadau, a gwnaetbom
ein meddwl i fyny, yn bytracb na rbithio gwreiddioldeb, i'w
trosglwyddo i lygaid a deall y darllenydd. Tn credn fod defn-
yddioldeb yn bwysicacb na gwreiddioldeb, ni ataliasom ddim o'r
"petbau sydd dda a bnddiol i ddynion " oddiwrtbynt. Oyfrifa
byn am amlder y dyfyniadau a geir yn ngborpb y gyf rol.
Y mae yn ddiau y sylwir ein bod, mewn llawer o amgylcbiad-
au, wedi beiddio datgan ein bangbydwelediad a rbai o'r beirniaid
Tl Y CYFAECHIAD.
uwchaf a duwiolaf. Yr ydym yn gcbeitMo na cliamddeallir yr
ymarferiad hwn o hawlfraint bersonol, yn enwedig gan ein bod,
yn mhob aches o'r fath, \vedi gosod i lawr ein rhesymau dros yr
anghydwelediad.
Drwy gar edigrwy dd y Parch. T. 0. Edwards (Oynonfardd), yr
ydym yn alluog i osod ger bron, syniadau gwahanol i'r eiddom
ein hunain ar yr adnodau a ddaliant gysylltiad a'r ordinhad o
fedydd, yr hyn, ni a gredwn, a sicrha nid yn unig dderbyniad
eangach i'r llyfr, ond hefyd wasanaeth mwy pan ddygwyddo
yr adnodau hyny fod yn destyn ymddyddan. Addawodd ein
hanwyl gyfaili yr ysgrif au hyn tra yn nghanol ei lafur amryfal,
a chyflawnodd ei addewid tra yn ddyoddefydd oddiwrth nychdod
wedi gor-laf ur.
Y mae llawer o adnodau, heblaw y rhai yr ysgrif enir arnynt yn
y tu dalenau canlynol, " yn y rhai y mae rhyw bethau anhawdd
eu deall, y rhai y mae yr annysgedig a'r anwastad yn eu gwyr-
droi, megys yr ysgrythyrau eraill, i'w dinystr eu hunain;" y rhai
hefyd, pe jr ysgrifenem arnynt " bob yn un ac un," fuasai yn
chwyddo maintioli a phris y llyfr i raddau annymunol. Y teb-
ygolrwydd ydyw, os yr arbedir ni gan yr Arglwydd, y cyfarfydd-
wn ein gilydd drachefn ar yr un maes.
Yn hyderu y cenfydd dosbarthiadau Beiblaidd, athrawon yr
ysgol Sul, ac yn wir holl gyfeillion yr Ysgrythyr Lan, gynorth-
yn y lljfr i ddeall meddwl yr Ysbryd, y gorphwysaf.
Yr eiddoch yn ddiffuant,
0. WALDO JAMES.
Kingston, Pa., Eydref 24, 1887.
Y CYNWYSIAD.
T Meirw i G-laddu y Meirw. Mat. viii. 22 9>
T Llai na'r Lleiaf yn Hheyrnas Nefoedd. Mat. xi. 11 20-
T Llai na'r Lleiaf yn Nheyrnas Nefoedd. Mat. xi. 11. (Y
Parch. T. C. Edwards.) 29-
Treisio Teyrnas Nefoedd. Mat. xi. 12. . . 32.
Y Cabledd yn Erbyn yr Ysbryd Glan. Mat. xii. 31, 32 40
Yr Eglwys ar y G-raig. Mat xvi. 18 52.
En Hangelion Hwy. Mat. xviii. 10 63
Y Ehwymo a'r Ehyddhau ar y Ddaear. Mat. xviii. 18 70
Y Ehai Olaf yn Flaenaf . Mat. xx. 1-16 7&
Duw y Bhai Byw. Marc xii. 26, 27 92
Yr Ysbryd Aflan a'r Saitb. Ysbrydion Gwaetb. Luc xi. 21-26, 102.
Y Denddeg ar Orsedddfeydd yn Barnu y Deuddeg Llwyth.,
Lnc xxii. 30 Ill
Y Nef yn Agored, a'r Angelion yn Disgyn. loan i. 51 120
Ei Frodyr Ef. loan Yii. 5 126
Amseroedd Adferiad Fob Peth. Actau iii. 19-21 135
Y Oreadur. Ehuf. viii. 19-23 147
Y Crochenydd a'r Priddgist. Ehuf. ix. 20-23 163
Cadwedig Megys Trwy Dan. 1 Cor. iii. 9-15 175.
Traddodi i Satan. 1 Cor. v. 5 185
Awdurdod ar ei Phen o herwydd yr Angelion. 1 Cor. xi. 10. . 192
Bedyddio Dros y Meirw. 1 Cor. xv. 29. 203
Bedyddio Dros y Meirw. 1 Cor. xv. 29. (Y Parch. T. C.
Edwards 215
Y Swmbwl yn y Cnawd. 2 Cor. xii. 7 217
Ymadnewyddu Drachefn i Edifeirwch. Heb. vi. 4-6. ...... 228
V1U Y CYNWYSIAD.
Amyaedd Job a Diwedd yr Arglwydd. lago v. 11 236"'
Gweddi y Ff ydd yn lachau y Claf . lago v. 15 246
Yr Ysbrydion yn Ngharchar. 1 Petr iii. 18-20 256-
Y Gyffelybiaeth Gyfatebol. 1 Petr iii. 21 267
Y Gyffelybiaeth Gyfatebol. 1 Petr iii. 21. (Y Parch. T. C.
Edwards 278
Yr Ysgrythyr o Ddeongliad Priod. 2 Pedr i. 20 283
Nefoedd Newydd a Daear Newydd. 2 Pedr iii. 13 287
Y Ddadl rhwng Michael a'r Diafol yn nghylch Corph Moses.
Judas 9 , 298,
ADNODAU DYRYS Y TESTAMENT.
Y MEIRW I GLADDU Y MEIRW,
" Gad i'r meirw gladdu eu meinv." MAT. viii. 22f,
Tr ydym yn awyddus i ddeall y frawddeg hon, nid
yn unig er gwybod pa betli a ddywedodd Crist wrth y
dyn a fynasai fod yn ddysgybl iddo, ond hefyd oblegid
y credwn fod yn y frawddeg egwyddor yn cael ei dat-
gan mewn ffordd ddyeithr, mae yn wir, ond y mae ei
deall, er nyny, yn ddichonadwy, a'i deall he'yd yn
hanf odol i ddysgyblion Crist holl oesau y ddaear. Tn
yr ymgais i'w deall, yr ydym yn teimlo fod yr
YMHOLIADAU
canlynol, a'r atebion iddynt, yn ymwthio i'w han-
hawsderau, ac yn cyfodi i fyny yr hyn a orwedd dan ei
harwyneb; sef, Pwy sydd i'w ddeall wrth y meirw
cyntaf yn y frawddeg ? Pa un ai rhai yn f eirw mewn
ystyr ffigyrol, neu rai yn feirw mewn ystyr lythyrenol
ydynt"? Ai yr un synwyr a fedd y gair meirw yn
nechreu a diwedd y frawddeg? A ellir, trwy ddeongl-
iad teg, ganfod gradd o angharedigrwydd yn atebiad
yr lesu i'r ymof ynydd hwn ? Pa beth all fod y rheswm
i Grist wahardd iddo fyned i gyflawni dyledswydd
mor gysegredig a myned i gladdu ei dad? A fuasai
10 Y MEIBW I GLADDU T MEIRW.
claddu ei dad yn ei anghymwyso i bregethu yr efeng-
yl ? Ai rhai annychweledig sydd i gladdu y meirw o
dan yr efengyl ? A ydyw y prawfiedydd a roddwyd o
ddidwylledd y dyn hwn yn engraifft o brawfiedyddion
anhawdd eraill yr arferai Crist i'w rhoddi i'w ganlyn-
wyr ? Fel y gellid dysgwyl, y mae gwahanol f arnau
yn mysg esbonwyr yn nghylch ystyr y geiriau a ddefn-
yddir ; ac lief yd yn nghylch amcan y G-waredwr yn eu
llefaru o gwbl o dan y fath amgylchiadau. Fel eng-
reifftiau o'r gwahanol f arnau hyn, sylwn ar a ganlyn :
1, " Bydded i'r rhai ydynt yn ysbrydol f arw, y rhai
ydynt heb gael un alwad i ddylyn Crist, gladdu
y rhai sydd yn naturiol farw. Oddiwrth Luc ix. 59,
ymddengys fod y dyn hwn wedi derbyn gorchymyn
arbenig i ddylyn Crist, ac yr oedd yr ateb hwn yn gol-
ygu prawf i'w ffydd a'i ufudd-dod. Fel yr Archoffeir-
iaid a'r Nazareaid, nid oedd hwn i gyffwrdd a chorph
marw. Lef. xxi. 10, 11 ; Num. vi. 6, 7." (Deon Man-
sel yn y Speak. Com., ar y cysylltiad hwn.) Gwelwn
fod yr awdurdod hon yn cyffwrdd, a thri golygiad, sef
mai meirw ysbrydol ydynt y meirw cyntaf ; mai prawf-
iedydd i ffydd y dyn ydoedd y gorchymyn, ac y dichon
fod y Gwaredwr yn gwahardd iddo fyned i gladdu ei
dad, oblegid fod hyny yn golygu halogedigaeth sere-
moniol. Y mae yr eglurhad hwn mor wasgarog ac an-
mhenderfynol, fel nas gallwn lai na chyduno ag un
adolygydd dysgedig (Expositor, vol. viii., p. 155), i'w
gyhoeddi yn siomedigaethus, gan y gallem ddysgwyl
amgenach oddiwrth berchenog meddwl mor wreiddiol
a dysgybledig.
2. "T mae y cais a wneir gan fab am fyned i gladdu
Y MEIRW I GLADDTJ Y MEIEW. 11
ei dad, yn liynod deimladwy. Ymddengys nid yn unig
yn naturiol, ond hefyd yn ganmoladwy. Y mae y
gorchymyn awdurdodol, o ganlyniad, yn dangos y
perygl a all ymgodi oddiwrth gynawniad hyd yn nod
y dyledswyddau mwyaf rhwymedig. Ni ddylid can-
iatau i aehosion daearol, pa fodd bynag, rwystro gwar-
ogaeth uniongyrchol yr enaid i Grist." (Dr. J. Camp-
bell's Expos. Fam. JBible ar y lie.)
3. " T mae y neJcrous (meirw) cyntaf (ac nid yr ail
hefyd, fel y mae Wiesse yn anmhriodol yn dal), yn dy-
nodi y meirw ysbrydol, (cym. ar iv. 16, ar loan v. 21
25, ac ar Luc xv. 24), *y rhai ydynt heb y bywyd ys-
brydol sydd yn dyfod drwy Grist. T mae yr ail yn
llythyrenol y meirw perthynol i'w cylchoedd eu hun-
ain. Y mae Fritzche yn deongli yn llythyrenol yn y
ddau achos " Bydded i'r meirw yn eu mysg eu hun-
ain gladdu eu gilydd," yr hyn sydd fath o anghyfdyb
(paradox) mewn ffordd o wrthodiad i'r deisyfiad. Y
fath olwg ddiystyr ydyw hon ar ffordd feddylgar Crist
o siarad ! Bhaid barnu llymder ymddangosiadol ateb-
iad Crist (yn wahanol i Wiesse, Bruno, Bauer), drwy
ystyried yr angenrheidrwydd a welai o ysgariaeth ben-
derfynol ac uniongyrchol, mewn cymhariaeth i'r perygl
gwrth-gyf erbyniol. ( Chrysostom. ) Cym. x. 37. "
(Meyer's Crit. and Exeg. Com. ar y testyn.)
Wedi dylyn Meyer i'r rhanau y'n cyf eirid, am yr ys-
tyr a rydd i'r gair meirw, nid ydym yn cael ond ar-
ddangosion o'r gwirionedd fod y Beibl oil yn ystyried
" absenoldeb o weithrediad bywydol, yr hwn sydd yn
cydnabod y gwirionedd," yn arwydd sicr o farwolaeth
ysbrydol. Nis gall neb anghytuno a'r esboniad dysg-
12 Y MEIBW I GLADDTJ T MEIBW.
edig ar y pen hwn, ond, fod i'r gair meirw ystyr arall
hefyd, a gydnabyddir ganddo ef ei hun yn ei nodiadau
ar y frawddeg dan sylw.
4. " T mae y dosran hwn, a'r un cydredol yn Luc ix.
60, wedi rhoddi trafferth i esbonwyr, ac y mae amryw
ddyfaliadau wedi eu ffurfio, ac egluriadau wedi eu
rhoddi o hono. Un amcandyb ydyw, mai y testyn
Groegaidd yn wreiddiol ydoedd, ' Gad y meirw i'r
rhai y mae eu swydd i gladdu y meirw.' Ond nid yd-
yw yn debyg y buasai yr un amryfusedd yn dygwydd
yn y ddau le (Luc hefyd), ac heblaw hyny, y mae y
f ath ddiwygiadau amcandybiol yn cael eu hanghymer-
adwyo yn gyfiawn gan y beirniaid goreu. Yr arwydd-
ocad ydyw, Gad i'r rhai sydd yn ysbrydol farw, y rhai
sydd yn farw mewn camweddau a phechodau, neu y
rhai ydynt yn annheimladwy i achosion enaid, ddefn-
yddio eu hunain i gladdu y rhai, yn ystyr gyffredin y
gair, ydynt yn f eirw; ; neu, mewn geiriau eraill, ' Na
thro ymaith at achosion tymorol, ond gad hwy i'r rhai
ydynt yn hollol ymlynol wrthynt.' " (Yalpy's N. T.
with Eng. Notes, on Matthew.)
5. " Nid yw ein Harglwydd i gael ei ddeall fel yn
llefaru yn erbyn, neu yn anmharchus am gladdu y
marw y mae ei eiriau yn cynwys y dylai gael ei
wneuthur; ond yn unig nad oedd yn iawn i'r person
hwn fod yn ei gylch yr amser yma,-yr hwn oedd wedi
cael ei alw i uwch swydd, a chan hyny dylai adael y
gwaith o gladdu i gael ei wneuthur gan bersonau i'r
rhai yr oedd yn gweddu yn well. A pha mor ddyeithr
ac anghynefin bynag y gall y fath ymadrodd swnio yn
nghlustiau rhai, i un marw gladdu un arall, yr oedd
Y MEIEW I GIADDtF Y MEIEW.
13
yn cael ei ddeall yn hawdd gan luddew, gyda pha un
peth cyffredin jw dywedyd, 'fod pechadur yn cael ei
gyfrif megys marw,' a bod ' dynion annuwiol, tra y
maent yn fyw, yn cael eu galw yn feirw.' Ac yn yr
ystyr hyny y mae y gair yn cael ei arf eryd yn y rhan
flaenaf o'r geiriau, a meddwl Crist yw, ' Bydded i'r
fath ag sydd yn feirw mewn camweddau a phechodau,
ac i bob peth sydd yn ysbrydol dda, gladdu y rhai
hyny ag sydd yn f eirw mewn ystyr naturiol a chorph-
orol.' "Dr. J. Gill, yn ei Esbon. ar Mat.)
6. " Y mae ein Harglwydd yn eglur yn bwriadu dau
fath o farwolaeth, y rhai cyntaf ysbrydol, yr ail corph-
orol, neti naturiol. O'r braidd y|mae yn gywir i ddy-
vredyd fod y cyntaf yn ffigyrol. Marwolaeth ydyw
ymataliad bywyd, a'r sefyllfa sydd yn dylyn hyny.
Megys y mae llawer o fathau o fywyd, (peirianol,
teimladol, deallol, ysbrydol, &c.); ymae cynifer a hyny
o fathau o farwolaeth. Y mae y rhai nad ydynt^wedi
eu bywhau gan Ysbryd Duw, a'u gwneuthur yn ' f yw i
Dduw,' er eu bod mewn cyflawn feddiant o'r mathau
iselaf o fywyd, yn wirioneddol ac yn llythyrenol farw
gyda golwg ar y math uwchaf o fywyd. Eph. ii. 1, 5-
14." (Conder's Com. on Mat. ar y lie hwn.)
7. "Y mae dywediad caled ein Harglwydd yn deill-
iaw oddiwrth sel losgedig ei gariad er iachawdwriaeth
y byd. Y mae yn ymafael yn nghenadwr ei fywyd, f el
na f uasai i'r gwaith bywyd-gyfranol gael ei rwystro
trwy ei ofal am y 'claddu.' Megys mewn ysbyty mawr,
lie y mae Uawer yn marw bob awr, mai unig ofal y
meddyg ydyw iachau a gwaredu, gall eraill argymeryd
10 Y MEIRW I GLADDU Y MEIKW.
claddu ei dad yn ei anghymwyso i bregethu yr ef eng-
yl ? Ai rhai annychweledig sydd i gladdu y meirw o
dan yr efengyl ? A ydyw y prawfiedydd a roddwyd o
ddidwylledd y dyn hwn yn engraifft o brawfiedyddion
anhawdd eraill yr arf erai Crist i'w rhoddi iV ganlyn-
wyr ? Fel y gellid dysgwyl, y mae gwahanol f arnau
yn mysg esbonwyr yn nghylch ystyr y geiriau a ddefn-
yddir ; ac hef yd yn nghylch amcan y Gwaredwr yn eu
llefaru o gwbl o dan y fath amgylchiadau. Pel eng-
reifftiau o'r gwahanol f arnau hyn, sylwn ar a ganlyn :
1, " Bydded i'r rhai ydynt yn ysbrydol farw, y rhai
ydynt heb gael un alwad i ddylyn Crist, gladdu
y rhai sydd yn naturiol farw. Oddiwrth Luc ix. 59,
ymddengys fod y dyn hwn wedi derbyn gorchymyn
arbenig i ddylyn Crist, ac yr oedd yr ateb hwn yn gol-
ygu prawf i'w ffydd a'i ufudd-dod. Fel yr Archoffeir-
iaid a'r Nazareaid, nid oedd hwn i gyffwrdd a chorph
marw. Lef. xxi. 10, 11 ; Num. vi. 6, 7." (Deon Man-
sel yn y Speak. Com., ar y cysylltiad hwn.) Gwelwn
fod yr awdurdod hon yn cyffwrdd a thri golygiad, sef
mai meirw ysbrydol ydynt y meirw cyntaf ; mai prawf-
iedydd i ffydd y dyn ydoedd y gorchymyn, ac y dichon
fod y Gwaredwr yn gwahardd iddo fyned i gladdu ei
dad, oblegid fod hyny yn golygu halogedigaeth sere-
moniol. Y mae yr eglurhad hwn mor wasgarog ac an-
mhenderfynol, fel nas gallwn lai na chyduno ag un
adolygydd dysgedig (Expositor, vol. yiii., p. 155), i'w
gyhoeddi yn siomedigaethus, gan y gallem ddysgwyl
amgenach oddiwrth berchenog meddwl mor wreiddiol
a dysgybledig.
2. " Y mae y cais a wneir gan fab am fyned i gladdu
y MEIEW I GLADDU Y MEESW. 11
ei dad, yn hynod deimladwy. Ymddengys nid yn unig
yn naturiol, ond hefyd yn ganmoladwy. Y mae y
gorchymyn awdurdodol, o ganlyniad, yn dangos y
perygl a all ymgodi oddiwrth gyflawniad hyd yn nod
y dyledswyddau mwyaf rhwymedig. Ni ddylid can-
iatau i achosion daearol, pa f odd bynag, rwystro gwar-
* ogaeth laniongyrchol yr enaid i Grist." (Dr. J. Camp-
bell's Expos. Fam. Bible ar y lie.)
3. " Y mae y nekrous (meirw) cyntaf (ac nid yr ail
hefyd, fel y mae "Wiesse yn anmhriodol yn dal), yn dy-
nodi y meirw ysbrydol, (cym. ar iv. 16, ar loan v. 21
25, ac ar Luc xv. 24), y rhai ydynt heb y bywyd ys-
brydol sydd yn dyfod drwy Grist. Y mae yr ail yn
llythyrenol y rneirw perthynol iV cylchoedd eu hun-
ain. Y mae JFritzehe yn deongli yn llythyrenol yn y
> ddau achos " Bydded i'r meirw yn eu mysg eu hun-
ain gladdu eu gilydd," yr hyn sydd fath o anghyfdyb
(paradox) mewn ffordd o wrthodiad i'r deisyfiad. Y
; fath olwg ddiystyr ydyw hon ar ffordd feddylgar Crist
| o siarad ! Rhaid barnu llymder ymddangosiadol ateb-
1 iad Crist (yn wahanol i Wiesse, Bruno, Bauer), drwy
ystyried yr angenrheidrwydd a welai o ysgariaeth ben-
derfynol ac uniongyrchol, mewn cymhariaeth i'r perygl
gwrth-gyferbyniol. (Ghrysostom.} Cym. x. 37."
(Meyer's Grit, and Exeg. Com. ar y testyn.)
Wedi dylyn Meyer i'r rhanau y'n cyf eirid, am yr ys-
tyr a rydd i'r gair meirw, nid ydym yn cael ond ar-
ddangosion o'r gwirionedd fod y Beibl oil yn ystyried
" absenoldeb o weithrediad bywydol, yr hwn sydd yn
cydnabod y gwirionedd," yn arwydd sicr o farwolaeth
ysbrydol. Nis gall neb anghytuno a'r esboniad dysg-
12 T MEIRW I GLADDU Y MEIRW.
edig ar y pen hwn, ond, f od i'r gair meirw ystyr arall
liefyd, a gydnabyddir ganddo ef ei hun yn ei nodiadau
ar y frawddeg dan sylw.
4. " T mae y dosran hwn, a'r tin cydredol yn Luc ix.
60, wedi rhoddi trafferth i esbqnwyr, ac y mae aroryw
ddyfaliadau wedi eu ffurfio, ac egluriadau wedi eu
rhoddi o hono. Tin amcandyb ydyw, mai y testyn
Groegaidd yn wreiddiol ydoedd, 'Gad y meirw i'r
rhai y mae eu swydd i gladdu y meirw.' Ond nid yd-
yw yn debyg y buasai yr un amryfusedd yn dygwydd.
yn y ddau le (Luc liefyd), ac heblaw hyny, y mae y
fath ddiwygiadau amcandybiol yn cael eu hanghymer-
adwyo yn gyfiawn gan y beirniaid goreu. Yr arwydd-
ocad ydyw, Gad i'r rhai sydd yn ysbrydol farw, y rhai
sydd yn farw mewn camweddau a phechodau, neu y
rhai ydynt yn annheimladwy i achosion enaid, ddefn-
yddio eu hunain i gladdu y rhai, yn ystyr gyffredin y
gair, ydynt yn f eirw ; neu, mewn geiriau eraill, ' Na
thro ymaith at achosion tymorol, ond gad hwy i'r rhai
ydynt yn hollol ymlynol wrthynt.' " (Valpy's N. T.
with Eng. Notes, on Matthew.)
5. " Nid yw ein Harglwydd i gael ei ddeall fel yn
llefaru yn erbyn, neu yn anmharchus am gladdu y
marw y mae ei eiriau yn cynwys y dylai gael ei
wneuthur; ond yn unig nad oedd yn iawn i'r person
hwn f od yn ei gylch yr amser yma, yr hwn oedd wedi
cael ei alw i uwch swydd, a chan hyny dylai adael y
gwaith o gladdu i gael ei wneuthur gan bersonau i'r
rhai yr oedd yn gweddu yn well. A pha mor ddyeithr
ac anghynefin bynag y gall y fath ymadrodd swnio yn
nghlustiau rhai, i un marw gladdu un arall, yr oedd
Y MEIBW I GLADDU Y MEIBW.
13
yn cael ei ddeall yn hawdd gan luddew, gyda plia un
petit cynredin yw dywedyd, 'fod pechadur yn cael ei
gyfrif megys marw,' a bod 'dynion annuwiol, tra y
maent yn fyw, yn cael eu galw yn feirw.' Ac yn yr
ystyr hyny y mae y gair yn cael ei arf eryd yn y rhan
flaenaf o'r geiriau, a meddwl Crist yw, 'Bydded i'r
fatli ag sydd yn feirw mewn camweddau a phechodau,
ac i bob peth sydd yn ysbrydol dda, gladdu y rhai
hyny ag sydd yn feirw mewn ystyr naturiol a chorph-
orol' "Dr. J. Gill, yn ei Esbon. ar Mat.)
6. " T mae ein Harglwydd yn eglur yn bwriadu dau
fatb o farwolaetb, y rbai cyntaf ysbrydol, yr ail corph-
orol, neu naturiol. O'r braidd yfmae yn gywir i ddy-
wedyd fod y cyntaf yn ffigyrol. Marwolaetb. ydyw
ymataliad bywyd, a'r sefyllfa sydd yn dylyn hyny.
^f e gy s y mae Uawer o fathau o fywyd, (peirianol,
teimladol, deallol, ysbrydol, &c.); yniae cynifer a hyny
o fathau o farwolaeth. T mae y rhai nad ydynt^wedi
eu bywhau gan Tsbryd Duw, a'u gwneuthur yn ' fyw i
Dduw,' er eu bod mewn cyflawn feddiant o'r mathau
iselaf o fywyd, yn wirioneddol ac yn llythyrenol f arw
gyda golwg ar y math uwchaf o fywyd. Eph. ii. 1, 5
14." (Conder's Com. on Mat. ar y lie hwn.)
7. "Y mae dywediad caled ein Harglwydd yn deill-
iaw oddiwrth sel losgedig ei gariad er iachawdwriaeth
y byd. T mae yn ymaf ael yn nghenadwr ei fywyd, f el
na f uasai i'r gwaith bywyd-gyfranol gael ei rwystro
trwy ei ofal am y 'claddu.' Megys mewn ysbyty mawr,
lie y mae llawer yn marw bob awr, mai unig ofal y
meddyg ydyw iachau a gwaredu, gall eraill argymeryd
14 Y MEIEW I GLADDU Y MEIBW.
a'r gwaith o gladdu, nid oes ganddynt hwy ddim am-
ser at hyny." (Stier ar yr adnod.)
8. "A oedd ei dad wedi marw, neu ynte yn agos i
farw ? Os y cyntaf, gallwn roddi cyfrif am atebiad yr
lesu ar yr ystyriaefch ei fod ef 'yn gwybod pa effaith a
gai yr angladd, a rhaniad yr etifeddiaeth, ar fwriad
presenol y dysgybl. Os yr olaf, yr hon yw y dyb fwy-
af tebygol (Gen. xxvii. 41), y mae yr lesu yn dangos
fod mwy o -rym mewn gorchymyn dwyfol nag sydd
mewn dyledswydd naturiol. Y mae hawliau yr lesu
iV parchu o fiaen pob hawl arall. Y meirw sydd i'w
claddu ydyw y meirw naturiol ; y meirw ag y gadewir
hyn i'w gof al ydyw y meirw ysbrydol, (loan v. 25 ;
Ephes. ii. 1, &c,), y rhai sydd yn fwy cymwys i gladdu
y meirw nag i bregethu teyrnas Dduw. ' Mewn amser
o bla,' ebe JBengel, ' cleddir y meirw gan y rhai sydd
yn debyg o farw eu hunain yn fuan.' Efallai fod y
drychf eddwl yn debyg i hyn : ' Paid a phryderu am y
marw ; gad y gwaith o'i gladdu i rywun ; dylyn di
fi._(Test. yr Ysg. Sab. ar y lie hwn.)
9. "Ehaid peidio celu. modd bynag, fod ysgrifenwyr
ysbrydoledig ac anysbrydoledig yn fynych yn meddwl
wrth y meirw nid yn unig y rhai ydynt mewn ystyr
naturiol yn feirw, ond y rhai hefyd ydynt felly mewn
ystyr ysbrydol, o herwydd eu bod yn ymddyeithrio
oddiwrth fywyd Duw, ac yn feirwon mewn camwedd-
au a phechodau. Fel hyn y mae Clemens, Alexandria,
yn ein hysbysu fod athroniaeth y barbariaid yn galw y
rhai oeddynt wedi gadael eu hathrawiaethau, a daros-
twng eu meddyliau i bleserau cnawdol, yn feirw, yr
hon farwolaeth a eilw Philo yn farwolaeth enaid, wedi
Y MEIBW I GLADDU Y MEIBW. 15
ei feddrodi mewn nwydau a phob math o ddrygioni.
O ganlyniad, llawn f eddwl geiriau ein Gwaredwr raid
fod, 'Bydded i'r rhai sydd yn ddiofal am bethau Duw,
ac yn anaddas i'r gwaith o'u hyrwyddo, gyflawni y f ath
swyddedigaethau, y rhai a allant wneyd yn gystal ag
eraill ; ond tydi yr hwn a ddechreuaist f y nylyu, ac
ymroddi i deyrnas Dduw, dos yn mlaen yn dy bender-
fyniad, heb ganiatau i ti dy hun un alwad ymaith oddi-
wrth y gwaitk hwnw." (Hammond & Wnitby's Anno-
tations ar y frawddeg.)
Wrth ail edrycli dros y gwahanol farnau uchod, a
barnau esbonwyr cyffelyb a gynrychiolant, gwelir fod
y byd esboniadol yn ymranu i bedwar dosbarth ar y
geiriau hyn. T dosbarth
(1.) Tdyw y rnai a haerant fod y meirw cyntaf yn y
frawddeg yn cyfeirio at gladdwyr cyflogedig.
Megys pe dywedasai yr Arglwydd, " Paid ag ymgil-
io o'm gwasanaeth. er myned i gladdu dy dad, oblegid
yn sicr ni fydd corpb. dy dad neb ei gladdu, gan y
bydd y rhai a enillant eu bywoliaetb. wrtb. gladdu y
meirw yn gwylio y cyfleusdra, ac yn gwbl barod at y
gwaith. Dosbarth yr
(2.) Tdyw y rhai a ddywedant fod y gwaharddiad
i'w ddeall oddiar sane luddewig, ac fod y Gwaredwr
am i'r dyn ymgadw rhag llygredigaeth seremoniol.
Tn ol y syniad hwn, fel hyn, mewn arall-eiriad, y
dywedai Crist, " Paid ti, yr hwn wyt i bregethu ef engyl
fy nheyrnas, ag aflaneiddio dy hunan gyda meirwon,
oblegid ni oddefid i swyddogion cysegredig y deml
gynt aflaneiddio eu hunain a'r fath wasanaeth, a bydd
claddu dy dad yn dy anghymwyso dithau at y gwaith
16 Y MEIRW I GLADDU Y MEIRW.
y gelwais di iddo." Y mae dystawrwydd unedig yr
lianes am y fath awgrym, yn ogystal a'r ffaith f od y
syniad yn milwrio yn hollol yn erbyn dysgeidiaeth
Crist ac ysbryd Cristionogaeth, yn peri ein bod yn
credu nad hwnyna yw meddwl priodol y frawddeg.
Dosbarth
(3.) Ydyw y rhai a haerant fod y gair meirw cyntaf
yn golygu meirw ffigyrol neu ysbrydol, ac fod y gair
meirw olaf yn golygu meirw llythyrenol neu naturiol.
Mai yr hyn a ddywedai Grist felly ydoedd a ganlyn :
" Y mae cyflawnder o ddynion cnawdol ac annychwel-
edig, y rhai nad ydynt wedi eu galw i'm gwasanaeth, a
allant dalu y gymwynas olaf i gyrph meirw eu cyfeill-
ion, ond am danat ti, sydd wedi dy alw, nis gelli
fforddio yr amser at hyny." Y gwrthwynebiad a deim-
Iwn i'r feddyliaeth hon ydyw, ei bod yn rhoddi dwy
ystyr wahanol i'r un gair, yn yr un frawddeg, a hyny
pan y mae y gair, yn y ddwy engraifft, yn hollol yr un
f ath o ran ffurf a tharddiad, a phan hef yd yr ymddeng-
ys nad oes rheswm digonol yn galw am hyny. Yn
ychwanegol at hyn, nid ydyw Cristionogaeth yn gosod
y ddyledswydd o gladdu y meirw ar ysgwyddau y rhai
annychweledig, y mae gan 'wyr bucheddol,' megys y
rhai a f u yn cario y merthyr cyntaf i'w fedd, berffaith
ryddid i fyned i angladdau eto. Y pedwerydd dos-
barth
(4) Ydyw y rhai a haerant mai yr un synwyr ddylid
roddi i'r fo air meirw yn nechreu a diwedd y frawddeg.
Nid ydyw yr esbonwyr a ddadleuant felly, mae yn
wir, yn lluosog mewn nifer, ond y maent yn meddu
cymeriad uchel yn mysg ysgolheigion Beiblaidd.
T MErBW I GLADDU Y MEIBW. 17
Gwnant hwy i'r frawddeg olygu hyn : " Gladded y
meirw eu gilydd, ond dos di a phregetha efengyl fy
nheyrnas." Gwrthddadleuir yn erbyn y deongliad
hwn, oblegid ei fod yn priodoli gwrthuni i'r Arglwydd
lesu fod yna annichonolrwydd i f eirw gladdu meirw ;
ond yn yr annichonolrwydd hwnw y gorwedd hyfder,
grymusder, a chyfaddasrwydd y gwaharddiad. Fel
hyn:
Gad i'r meirw gladdu eu meirw.
Nis gall y meirw gladdu eu meirw.
Bydded y meirw heb eu claddu.
Dos di a phregetha efengyl y deyrnas.
Tueddir ni i fabwysiadu y deongliad hwn, a hyny
yn llawer oblegid nad yw yn priodoli i Grist unrhyw
nodwedd ddyeithr fel dysgawdwr. Arferai yn fynych
ddefnyddio ymadroddion annysgwyliadwy a synfawr,
megys camel a chrai nodwydd ddur, ond yn benaf
oblegid fod deall y geiriau yn yr ystyr hwn yn dat-
guddio caledi y prawfiedydd o ufudd-dod a roddodd
yr athraw i'r dysgybl hwn. Nid oes neb yn amheu
nad er profi didwylledd a ffyddlondeb y dyn hwn y dy-
wedodd Crist y f ath eiriau wrtho ; ac y mae yr eglur-
had uchod yn ymddangos i ni fel yn taflu goleu nerth-
olach ar y dewisiad y gwnaethpwyd i'r dyn ei wneyd
rhwng hawliau perthynasaeth a hawliau Crist nag un
arall. Edrycher ar galedi y prawf y gosodwyd y dyn
ynddo yn ol y deongliad hwn. Ystyrier y person oedd
yn galw am ei gladdu tad. A meddylier am y canlyn-
iadau i'r corph, ac i anrhydedd y mab o adael y tad yn
anghladdedig ; a meddylier drachefn am unigolrwydd
y cyfleusdra i'r mab ddangos ei ymsyniaeth o ddyled-
18 Y MEIEW I GLADDU Y MEIBW.
swydd dyma y cyfle olaf ei gladdu. Yn gyf erbyniol
i hyn oil, wele yr Arglwydd lesu yn hawlio aberthiad
llwyr o bob ystyriaeth o'r fath. Pa un a gaiff fwyaf o
ddylanwad arno, corph ei dad yn galw am ddaear, neu
lais Crist yn galw am efengylu 1 A. sylwer yn mhell-
ach ; nis gallasai gyflawni y ddwy ddyledswydd. Os
myned i bregethu yr efengyl, nis gallasai fyned i
gladdu ei dad. Os myned i gladdu ei dad, nis gallasai
fyned i bregethu yr efengyl. Pa un a wna, gadael ei
dad heb ei gladdu, neu adael yr efengyl heb ei phreg-
ethu? Yn yr engraifft hon, megys mewn llawer o
engreifftiau eraill, gwelir fod yr athraw, er sicrhau
serch anghyfranogol y dysgybl, yn ei brofi drwy hawl-
io yr aberth mwyaf oddiwrtho. Yr un modd y gwnaetb.
a'r " dyn ieuanc " yn yr efengyl. Nid gosod ger ei
fron reolau symlaf brawdgarwch, megys caru, gwasan-
aethu, ond dechreuodd drwy osod i lawr reol eithafol
ac eithriadol brawdgarwch. " Dos, gwerth yr hyn oil
sydd genyt, a dyro i'r tlodion," &c. Yn y prawf hwn
datguddiwyd gwendid y dyn ieuanc ar unwaith. Yn
ol yr un egwyddor, y mae yn .aawlio gan eraill, pan
mae darf oddiant cnawdol yn eu rhwystro i'w wasan-
aeth'u yn gyflawn, ar iddynt dori ymaith yr aelodau
hyny sydd yn offerynau pechod, pa un bynag ai y llyg-
ad, y troed, &c. Y petnau anwylaf gan ddynion ydynt
tadau, mamau, brodyr, chwiorydd, tai, tiroedd, &c.,
ond y mae amgylchiadau wedi bod, ac yn parhau .i f od,
pan yr hawlia Crist ymadawiad a'r cwblj myn fod yn
ddim neu yn bobpeth yn serchiadau ei bobl. Nid
oedd y pryder a deimlai y dyn dan sylw, i ymyraeth a
hawliau Crist arno. Pe buasai ei dad heb ei gladdu
MEIBW I GLADDTJ Y MEIEW.
byth, nid oedd ef i ymgilio o wasanaeth Crist. T mae
yr amgylchiad hwn, yn nghyda'r modd yr ymdrinia-
Crist ag achos y ddau eraill y sonia yr ef engylydd Luc
am danynt (Luc ix.), yn dysgu i ni pa fath ddynion y
dylid eu cymell yn awr i bregethu yr ef engyl ; a hefyd
yn cynwys cyfarwyddyd i eglwys Dduw pa fodd i ym-
ddwyn at y gwahanol gymeriadau a geisiant aelodaeth
ynddi. mae y dyn i'w anf on i bregethu, nid oblegid
ei f od ef ei hunan yn credu y dylai fyned ; nid am f od
ei berthynasau am wneyd pregethwr o hono ; nid am
fod y gwaith o bregethu yn ymddangos yr hawddaf
a'r anrhydeddusaf iddo ; nid am fod ei daid wedi bod
yn pregethu am haner can' mlynedd, ac nid am fod neb-
yn meddwl fod ganddo ormod o athrylith i'w afradu ar
ddim arall ; ond y mae i fyned i bregethu f el y cymer-
iad dan syhv ; pan yr arwydda fod cariad at lesu Grist
yn elf en ddigon cref yn ei enaid, f el y mae yn alluog,
gyda y llawenydd uwchaf, i aberthu pawb a phobpeth
er cyflwyno iddo wasanaeth didor a gwirfoddol. Pan
y cyfarfydda eglwys^.duw a dyn felly, gall anturio
dweyd wrtho, " Dos ^a phregetha."
Ac y mae hanes y moddau gwahanol yr ymddygodd
Crist at y tri wyr a fynasent fod yn ddysgyblion iddo,.
yn dysgu hefyd mai dyledswydd yr eglwys ydyw dal
rhai ymgeiswyr yn ol. "Felly y gwnaeth Crist a'r ys-
grif enydd. Mai ei dyledswydd ydyw cymell eraill yn
mlaen. Felly y gwnaeth Crist a'r un y buasai ei dad
farw. Ac yn olaf, mai dyledswydd eglwys Dduw at.
rai ydyw, nid eu cadw yn ol, na'u cymell yn mlaen,.
eithr ymdrechu eu cadw yn sefydlog yn yr un fan.
Felly gwnaeth Crist a'r nwn a fynasai ei adael i fyned
20
Y LLAI NA B LLEIAF
adref i ganu yn iach iV deulu. Cymellai arno was-
tadrwydd amcan yr aradwr, a thrwy hyny cymellai ef i
dynu ei gwys o broffes yn unionsyth, ar draws maes
amser, hyd at dalar marwolaeth.
T LLAI NA'K LLEIAF TN NHETRNAS NEF-
OEDD.
"Yn. wir meddaf i chwi, Yn mhlith plant gwragedd, ni chod-
-odd neb mwy nag loan Fedyddiwr: er hyny, yr h.wn sydd leiaf
yn nheyrnas nefoedd, sydd fwy nag ef." MAT. xi. 11.
y mae a fyno pwysleisiad a iawn ddealliad yr ad-
nod Hon. Os y darllenir hi gan bwysleisio yn arbenig
ar y geiriau a italeiddir, gwneir iddi gefnogi ysgariad
Joan Fedyddiwr oddiwrth deyrnas lesu Grist. " Tn
wir meddaf i chwi, , er li^y yr hwn sydd leiaf
TO nheyrnas nefoedd, sydd rwy nag ef." Tn ol y
pwysleisiad yna, y mae loan yn yswileiddio mewn
bychander am ei fod y tu allan i'r deyrnas, tra y mae
xhywun arall, yn gyferbyniol iddo, er ei holl ddinod-
edd, y " lleiaf " am ei fod yn y deyrnas, yn ymchwyddo
i fawredd sydd yn cysgodi y Bedyddiwr am byth. T
mae yn deilwng o sylw fod rhyw awydd anghyffredin
"wedi bod, ac yn bod, yn mysg dynion, i fychanu loan
Fedyddiwr, ac y mae y tueddfryd hwnw wedi 'ei feith-
irin i'r fath raddau fel y gwneir ymdrech iawr i'w ddi-
^rddel o deyrnas Dduw. T mae llawer, gyda Herod,
YN NHETENAS NEFOEDD. 21
am dori pen loan Fedyddiwr ; ac er Tboddio merch i
ryw Herodias na'i gilydd, yn ei ddodi ar y ddysgl. Y
mae arswyd ar y rhai hyny rhag ofn iddo gyfodi o
feirw. Er nad oes un gair o son am fedydd yn yr
Hen Destament, yr Apocrypha, Josephus, Philo, na'r
Rabbiniaid; er fod loan wedi ei ddwyn i fyny yn holl-
ol wahanol i'r offeiriaid gynt, nid yn Jerusalem, ond yn
y diffaethwch ; er fod ei ymborth a'i wisg, gweinydd.
iad ei swydd a'i fedydd, yn gwbl wahanol i ddim y
gwyddai luddewiaeth am danynt, eto myn rhywrai ej
fod yn gwasanaethu, nid dan yr efengyl, ond dan y
gyfraith. Traydywedy Testament "yr holl brophwydi
a'r gyfraith a brophwydasant hyd loan " (adn. 13eg)
tra y cydnabyddir mai loan fedyddiodd Frenin y
deyrnas, a bod ei weinidogaeth yn hawlio nrwythau
efengylaidd, a ffurf ei fedydd yn hollol yr un fath ag
eiddo yr apostolion, eto, gwneir ymgais fawr i'w daflu
allan o deyrnas Dduw. Tmgyfyd hyn o'r annyoddef-
garwch a deimlwn tuag at y rhai sydd yn barnu ac yn
gweithredu yn wahanol i ni ! Gan mai credinwyr, ac
nid babanod, oedd deiliaid bedydd loan; gan mai
mewn dwfr, ac yr ydoedd efe yn bedyddio, a
chan na weinyddai yr ordinhad i neb ond y rhai a
broffesent edifeirwch, nid ydyw yn gymaint syndod
fod dynion am gael gwared o'i gymdeithas. Y mae
yn syndod, modd bynag, fod dynion crefyddol nid yn
unig yn ei ddiarddel, ond hefyd yn ei ddianrhydeddu.
Lief arodd y Gwaredwr eiriau mwy dyrchaf ol am dano ef
nag am un dyn arall a f u ar y ddaear erioed. Ond yn
awyddus i'w ddianrhydeddu, edliwir iddo yn ei gefn,
gan ddynion yn awr, ei fod mor fychan fel ag y mae y
22 Y LLAI NA'B LLEIAF
lleiaf o holl ddeiliaid teyrnas lesu Grist, yn fwy
nag ef.
Y mae a fyno beirniadaeth eiriol a iawn-ddeongliad
yr adnod. Y mae yn hawdd gweled fod yma gyfer-
byniadau yn y geiriau. Y mae yma ddwy gyf erbyn-
iaeth, un yn y rhan flaenaf, a'r Hall yn y rhan olaf, o'r
adnod. T rhai a gyferbynir yn y rhan gyntaf ydynt
" loan Fedyddiwr " a " phlant gwragedd ;" a'r rhai a
gyferbynir yn y rhan olaf ydynt "loan Fedyddiwr" a'r
" hwn sydd leiaf yn nheyrnas nefoedd." Tn y gyfer-
byniaeth gyntaf, dysgir mawredd y Bedyddiwr drwy
ddweyd nad oedd neb mwy nag ef wedi bod yn y byd
erioed. Tn yr ail gyf erbyniaeth, dysgir mawredd rhyw
un arall drwy ddweyd fod hwnw yn fwy na loan.
Cydnabydda pawb ag y mae unrhyw bwys yn en barn,
fod cyfieithiad yr ail gyf erbyniaeth yn wallus. Y mae
cyflead yr ansoddair "leiaf" yn anghywir. Tri gradd
cymharol sydd yn perthyn i ansoddeiriau, yr uchel-
radd, y canolradd, a'r iselradd. Y gradd cyferbyniol
i mawr ydyw bychan, y gradd cyferbyniol i mwy ydyw
llai, a'r gradd cyferbyniol i mwy of ydyw lleiaf. Fel
hyn:
Mawr bychan.
Mwy llai.
Mwyaf lleiaf.
Gwelir yn eglur felly fod defnyddio mwy a lleiaf
mewn cyferbyniaeth yn drosedd ar iaith, ac felly fod
yr ymadrodd " yr hwn sydd leiaf yn nheyrnas nef-
oedd," pan yn gyf erbyniol i'r ansoddair mwy, yn wall-
us mewn cystrawen. Nid ydyw mwy a lleiaf yn cyt-
uno a'u gilydd. Ond nid Matthew, eithr ei gyfieith-
3TN NHESBNAS NEFOEDD. 23
wyr, sydd ya gyfrifol am yr amryfusedd hwn. Yr hyn
a ddywedodd lesu G-rist ydoedd ac felly y cyflewyd
ei eiriau gan yr ef engylwr " er liyny yr hwn sydd
lai yn nheyrnas nefoedd sydd f wy nag ef ." Heb nodi
enwau y lluaws mawr ysgolheigion a ddadleuant dros
y darlleniad hwn, megys y Parch. F. C. Cook, a Dr.
Basil Jones, Esgob Tyddewi, yn y ' " Speaker's Com-
mentary ;" Parch. John Williams, Rhos, mewn erthygl
yn yr " Athraw ;" y Parch. John Evans, Abercanaid,
yn ei " Athrawiaeth Bedydd," &e., digon fydd crybwyll
ddarfod f.r fiaith-ar-hugain o brif ysgolheigion Lloegr
a faiont am ddeng mlynedd a haner yn ymroddi i ddi-
wygi-o cyfieithiad y Testament, hysbysu y byd mai y
canolradd llai ydyw y gair a ddefnyddir yma yn yr
iaith wreiddiol. Byddai yn ofynol meddianu cryn
hunan-hyder ac ystyfnigrwydd i wrthod tystiolaeth
.awdurdodau mor aruchel.
Y mae a fyno syniadau cywir am ddysgeidiaeth
Crist fwy drachefn a iawn ddeongliad yr adnod. Dug
hyn ni wyneb yn wyneb a phrif anhawsderau y geir-
iau. Pa beth a ddysgant ? Pwy ydyw y llai oedd yn
fwy na loan ? Pa f odd y gallasai f od yn fwy, ac eto
yn llai ? Tn mha ystyr yr ydoedd yn llai, ac yn mha
ystyr yr ydoedd jnfwy ? Wrth geisio ateb yr
7MHOLIADAU
hyn y ganwyd y cyfeiliornadau ag y mae mor an-
hawdd eu diwreiddio. Tn yr ymchwiliad am y llai,
tybia dynion eu bod wedi cael gafael arno mewn per-
sonau nad ydynt yn cyfateb o gwbl iddo yn y darlun-
iadau eraill a geir o hono. Dywed un dosbarth
24 Y LLAI NA r B LLEIAF
Mai y lleiaf yn mysg yr apostolio'n a olygir. Haer-
ir fod unrhyw tm o'r deuddeg apostol yn fwy na loan
Fedyddiwr, yn fwy nag ef, nid yn unig oblegid fod yn
ei feddiant ef allu gwyrthiol, ond yn benaf am mai
Crist i ddyfod a bregethai loan, tra yr oedd yr apos-
tolion yn . pregethu Crist wedi dyf od, wedi marw, ac
wedi esgyn i ogoniant. Y peth sydd yn syndod ydyw
fod neb erioed wedi dychymygu fod yma tmrhyw gyf-
eiriad at yr apostolion, gan nad oes yma y gair lleiaf o.
son am danynt yn y cysylltiadau, nac un gymhariaeth
yn cael ei sefydlu rhyngddynt a loan mewn nnrhyw
fan arall. A sylwer ar amseriad y berf an yn y frawdd-
eg. Y mae hyny ar unwaith ac am byth yn dinystria
y dyb fod yma unrhyw gyfeiriad at yr apostolion..
Cyn galwad na neillduad un o honynt, dywed Crist.
" er hyny, yr hwn sydd lai (nid a fydd lai) yn nheryn-
as nefoedd, sydd (nid a, fydd} fwy nag ef." Pwy byn-
ag ydyw y person a gyferbynir, yr ydoedd hwnw, y
mae yn eglur, mewn bod ar y pryd, ac y mae rhywbetli
yn seiniadaeth y geiriau yn profi nad ydoedd yn nep-
pell pan y llefarwyd hwy. Dywed dosbarth arall
Mai y deiliad distadlaf yn nheyrnas Crist, o dan
yr efengyl, a olygir. Cydnabydda y dosbarth hwn y
gall un fod yn israddol mewn doniau a gallu, eto, gan
ei fod yn y deyrnas, fod hyny yn rhoddi iddo safle
uwch. Ac y mae yr un dosbarth yn dadleu, fod baban-
od, drwy daenelliad, yn dyf od " yn aelodau o Grist, ac;
yn etifeddion teyrnas nefoedd;" o ganlyniad, fod y
mebyn lleiaf, eiddilaf, a mwyaf dienaid, mewn eanlyn-
iad i dafliad ychydig ddyferynau o ddwfr arno, drwy
rhyw drawsffurfiad dyeithr, yn dyf od yn fwy ac yn ar-
YN NHEYENAS NEFOEDD. 25'
dderchocach na loan Fedyddiwr, am yr hwn y tystiol-
aethai Crist, nad oedd neb mwy nag ef, er dyddiau
Adda, wedi ymddangos ar y ddaear ! ! Y mae ymlyn-
iad wrth gyfeiliornad yn arwain i gaddug ac ynfyd-
rwydd. Yn ein barn ni, rhyw fath o gyfaddawd ydyw
meddylddrych Dr. W. K. Williams. Efrog Newydd,
pan yn sylwi ar y geiriau hyn yn ei " Ddarlithiau ar
Hanes y Bedyddwyr." Creda ef fod yr Athraw yn
dysgu fod loan yn y deyrnas, ond yn y deyrnas fel
gwasanaethwr a chyf arwyddwr rhai eraill, ac yn y gol-
ygiad hwnw fod derbynydd ei wasanaeth. mewn dull-
wedd cyffredin o siarad, yn fwy nag ef. Eglura ei
dybiaeth drwy gyffelybiaeth, a dywed mewn effaith,
megys ag y mae yr hwn a ddeil y Human ar ocnr y
rheilffordd yn ddyn o bwysigrwydd mawr, a rhagor,
yn dal pertliynas agos a chwmni y rheilffordd, eto, fod
y teithiwr distadlaf sydd yn y cerbydau, yn fwy nag
ef, o gymaint ag mai gwasanaethn" hwnw ydyw ei
swydd; felly, fod loan y Bedyddiwr yn dra phwysig
yn nheyrnas Dduw, ac yn dal perthynas agos a lesu
Grist, er hyny, gan mai ei waith ydoedd cyfarwyddo
dyaion at Oen Duw, fod y rhai a gyfarwyddai, fe
derbynwyr ei wasanaeth, yn fwy nag ef . Y mae y
meddylddrych hwn yn gyfaddawd cywrain a tharaw-
iadol, ond y mae gwirionedd erioed wedi gwrthod un-
rhyw gyfaddawd a chyfeiliornad. Yr ydym yn blino
ar fyntumiau ag ydynt ynddynt eu hunain, ac yn eu can-
lyniadau ymresymegol, yn gam-gyfeiriol ac annaturiol.
Pwy bynag ydyw yr un llai, j mae yn rhaid ei fod
yn rhywun annarluniadwy fawr cyn y gallasai fod yn
fwy na loan Fedyddiwr. Yn sicr, nis gallasai un
3
26
T LLAI NA'B LLEIAF
byehan fod yn fwy na loan. Os ydoedd loan yn fwy
na Moses, yn fwy nag Esaias, yn f wy na Jeremias, ie
yn fwy na'r holl brophwydi, a'r prophwydi oedd y
dynion mwyaf fu yn y byd erioed y mae yn rhaid, o
angenrheidrwydd, fod yr un Uai y sonir am dano, oedd
yn/wy nag ef, yn annrhaethol fwy na'r apostolion, ac
yn tra rhagori ar gymeriadau dysgleiriaf yr oesau.
Cyn gweled pwy a all fod yn fwy na'r Bedyddiwr,
dylid ceisio amgyffred pa mor fawr ydoedd ef ei hun-
an. Y mae ieithwedd y testyn yn oaniatau i ni geisio
tafoli ei berson, ei gymeriad, a'i waith. Heb wneyd
iyny, nis gellir gweled yn glir pwy ydyw yr un Uai
sydd yn/wy nag ef. Beth am loanl Tn sicr, y mae
pobpeth a ddywedir am dano yn profi ei fod y dyn
mwyaf annaearol, gyda yr eitnriad o lesu Grist, a fu
ar y ddaear erioed.
Bu y byd yn dysgwijl am, dano am saith cant o
flynyddoedd. Yr oedd croniclau yr Hen Destament
yn cynwys darluniad o'i berson a'i waith, saith can'
mlynedd cyn ei eni. Cyn fod Nebuchodonosor wedi
breuddwydio, cyn fod Cyrus wedi troi yn ei gawell,
cyn fod Nehemiah wedi dechreu adeiladu, cyn fod Al-
exander wedi meddwl am arwain ei fyddinoedd, achyn
fod y Macabeaid wedi dechreu cweryla, yr oedd cy-
hoeddiad Diwygiwr mawr yr anialwch wedi ei anfon i'r
byd.
Llys-genadydd urddasolaf yr orsedd anfonwyd i
hysbysu ei enedigaeth. Dywedwyd wrth Zecharias ac
Elizabeth am barotoi ei gryd, nid gan un o genadau
cyffredin y Llys, ond gan Gabriel, y Gabriel urddasol
YN NHEYBNAS NEFOEDD. 27
anfonwyd at Mair i ragddweyd am enedigaeth Ceid-
wad y byd.
Y mae yr ymadroddion a ddefnyddir i'w ddarlunio
yn rhai nodedig o anghyffredin. Ystyrier hwy. "Wele
yr wyf yn anfon fy nghenad o flaen dy wyneb." Es-
aiah. " Wele mi a anfonaf i chwi Elias y prophwyd,
cyn dyfod dydd mawr ac ofnadwy yr Arglwydd. Ac
efe a dry galon y tadau at y plant, a chalon y plant at
eii tadau, rhag i mi ddyfod a tharo y ddaear a mell-
dith." Malachi. "Mawrfydd efe yn ngolwg yr Ar-
glwydd." Gabriel. "le, meddaf i chwi, a mwy na
phrophwyd." Crist, &c., &c.
Yr oedd ei lafur ci'i hoyddiant yn anarferol fawr.
Safai rhwng Sinai danllyd yn y de, a Seion dawel yn y
gogledd, yn y diffaethwch mawr, gan gyfarch y perer-
inion oedd yn pasio, y masnachwyr a elent heibio, yn
nghyd a'r tyrfaoedd a ddeuent ato, o'r penfcrefi a'r
dinasoedd, a chreodd gyfnod newydd yn hanes Israel.
Torodd ar ddystawrwydd y nefoedd a'i lef yn yr anial-
wch. Yr hyn yr oedd Esaiah wedi fethu ei wneyd a'i
ysgrif bin, Jeremiah a'i ddagrau, Ezeciel a'i ddarluniau,
Haggai a'i f arnau, gwnaeth loan ef a'i lef. Gydag an-
mhleidgarwcli a gonestrwydd diefelydd, ni chyfnewid-
iodd ei gyweirnod wrth gyf arch publicanod a mibwyr,
Phariseaid a Saduceaid, Herod a'i ddeiliaid. Y mae
.yn iechyd i galon ei weled yn sefyll yn ei ddillad croen,
a'i flew camel, yn meddu esgyrniaeth a chnawd braf,
yn nghanol coedwig dynoliaeth, gan gyfodi hen fwyell
.gwirionedd, a'i gosod ar wreiddyn y prenau ! Ac yr
-oedd ei Iwyddiant yn fawr. Yr ydoedd mor Hwydian-
us fel yr aeth yn destyn dadl yn mhlith y bobl ai nid
28 Y LLAI NA'K LLKIAF
efe oedd y Messiah. Bedyddiai yn fynych yn Ainon r
ac yr oedd yr holl wlad o amgylch yr lorddonen yn
dyfod ato, i'w bedyddio ganddo.
Pwy ynte a geir yn fwy na loan Fedyddiwr? Nis-
gall neb ond Un fod yn fwy na loan, yr hwn oedd yn
fwy na phawb, a hwnw ydyw lesu Grist, y Duw bendig-
edig, yn oes oesoedd. " T mae un (meddai y Bedydd-
iwr), yn sefyll yn eich plith chwi, yr hwn nid adwaen-
och chwi, efe yr hwn sydd yn dyfod ar fy ol i (dyna y
llai yn y deyrnas), yr hwn a aeth o'm blaen i (dyna y
mwy yn y deyrnas) yr hwn nid wyf n deilwng i ddat-
od carai ei esgidiau." " Wele Oen Duw, yr hwn sydd
yn tynu ymaith bechodau y byd." "Ac mi a welais,
ac a dystiolaethais mai hwn yw Mab Duw." Hwn yd-
yw yr un llai, mwy yn llai f el un ddaeth i'r byd chwe'
mis ar ei ol, ond yn anfeidrol fwy f el awdwr trefn
iachawdwriaeth. Gan fod loan yn fwy na phawb fu
o'i flaen, a chan fod Crist yn fwy na loan, lesu Grist'
felly yw y mwyaf o bawb. T mae yn dda genym am
y gwas, ond yn well genym am ymeistr. Tr ydym yn
caru y lleuad, ond y mae yn well genym yr haul. Tr
ydym am roddi parch i'r cenad, ond parch mwy i'r
Brenin anfarwol. Yr oedd yr hwn a ddaeth o Iwynau
Elizabeth yn fawr, ond yr hwn a ddaeth o Iwynau yr
Ysbryd Glan yn fwy.
NHEYENAS NEFOEDD. 29
Y LLAI NA'K LLEIAF YN OTEYBNAS
OEDD.
" Yn wir meddaf i ch;wi, Yn mhlith plant gwragedd, ni cliod-
odd neb nrwy nag loan Fedyddiwr: er hyny, yr hwn sydd leiaf
yn nheyrnas nefoedd, sydd fwy nag ef." MAT. xi 11. ; '
* ' ' ' . . i >''.'- - .. ' V^
GAN Y PARCH. T. C. EDWAEDS (OTNONFMlDD). ;;;!
Ymddengys i mi -fpd-tri pheth yn angenrheidiol add
eu deall cyn gallu esbonio yr adnod hon yn eglur : ; sef>
1. Pa beth olygid wrtli "plant gwragedd?" 2, Pa
jbetli olygid wrth "yn nheyrnas nefoedd "?:' 3., Pa fodd
y deallid y maintioli cydmarol yn y deyrnas, sef, "!
lleiaf yn fwy nag ef !" ...
1. "Plant gwragedd" ynddiau a olygaj/ddynoliaeth.
naturiol. Cyf eiriai yr atnraw weitMau at- "r blant Duw,"
a "phlant y deyrnas," a "phlant Abrahain." Tnycyf-
eiriadau hyny, amcanai alw sylw at nodweddau neill-
duol a ddysgwylid fod yn nghymeriadau a taeithi
meddyliol y rhai a anerchai. Dylai " plant Duw " fod
yn Dduwiol, "plant y deyrnas" fod yn deyrngaroL, a
" phlant Abraham" f eddu " ffydd eu tad," &c. Ond y
mae holl gyfeiriadau y Beibl at "aned o wraig," a
" phlant gwragedd " yn cynwys yn syml, gyf eiriad at
enedigaeth naturiol, heb ddal unrhyw berthynas a
chymeriad, na theithi, na swyddogaeth na gwasanaeth.
Pelly, yn y fan hon, geilw lesu Grist sylw at f awredd
loan Fedyddiwr wrth ei gydmaru mewn ystyr naturiol,
a phawb aethant trwy y byd o'i flaen ef.
2. " Yn nheyrnas nefoedd. " Matthew yn unig sydd
30 Y LLAI NA'K LLEIAP
yn defnyddio yr ymadrodd "teyrnas nefoedd." Yn
Mat. viii. 12, a ix. 35, defnyddir y gair " teyrnas " yn
Tinig. Defnyddiai yr hen ysgrifenwyr Eabbinaidd yr
ymadroddion "teyrnas nefoedd," a " teyrnas Dduw"
yn ami, wrth y rhai y meddylient " Dwynywiaeth ar y
ddaear." Tmddengys gwahanol ystyron i'r geiriau
weithiau, ond nid oes gwahaniaetb. rhyngddynt, er eu
bod yn cael eu datgan mewn gwahanol amgylchiadau
a chysylltiadau maent bob amser yn cynwys " llwyr
ymostyngiad ac ufudd-dod i ewyllys Duw, fel y Brenin
Goruchaf," pa un ai fel person unigol, neu fel cyfan-
gorph o bobl yn gymdeithasol a gwladol yr edrych-
er arnynt. Defnyddir hwynt gan esbonwyr a duwin-
yddion i olygu yr oruchwyliaeth ef engylaidd, a chredir
mai hyny olygai loan pan ddywedai "nesaodd teyrnas
nefoedd," (Mat. iii. 2.) Bod yn ddeiliad o oruchwyl-
iaeth yr efengyl olygai lesu Grist yn yr adnod hon
wrth fod "yn nheyrnas nefoedd."
Nid oedd loan Fedyddiwr yn ddeiliad goruchwyl-
iaeth yr efengyl yn yr adeg y llefarodd lesu Grist y
geiriau hyn ; ond efe ddaeth nesaf at y deyrnas o holl
"blant gwragedd." Nesau oedd y deyrnas, meddai
loan, a nesau oedd y deyrnas, meddai lesu hefyd (Mat.
iv. 17), yn yr adeg hono.
3. " y lleiaf yn fwy nag ef." Oredai Chrysostom
fod lesu Grist yn cyfeirio ato ei hun yn "y lleiaf," a
dylynwyd ef gan lu o esbonwyr eraill; ond nid oes
nemawr bellach yn credu felly, oblegid nid yw y Tes-
tament Newydd byth. yn cyfeirio at lesu Grist "yn y
deyrnas," ond yn Frenin ac yn Arglwydd y deyrnas.
Barnai Meyer mai gwendid i ddeall ystyr pethau ydyw
YN NHEYKNAS NEFOEDD. 31
tybio f od lesu Grist am gydmaru ei hun a loan. Wrth
y " lleiaf " gallai yr Arglwydd lesu olygu yr analluocaf
ei feddwl a'i gyrhaeddiadau, yr anghymwysaf yn yr
eglwys Gristionogol i fod yn swyddog ac yn wasan-
aethgar ynddi. Eto, o herwydd ei fod yn ddeiliad
teyrnas ysbrydol, ac wedi ei eni oddiuchod, ei fod yn
fwy na'r mwyaf anrhydeddus a galluog o blant yr en-
edigaeth naturiol. Amcan ymresymiad lesu Grist yn
y benod hon ydoedd arwain meddwl ei wrandawyr i
fyny.o ris i ris i gyflawn werthfawrogiad o fawredd ei
deyrnas, ac o urddas ei deiliaid hi. Yr oedd loan yn
f awr wrth ei gydmaru a'r rhai o'r tu allan ; ond y mae
y lleiaf tu fewn yn fwy na'r mwyaf tu allan. Nid mwy
mewn gallu, na chymeriad personol, nac ychwaith
mewn sicrwydd bywyd tragywyddol ; ond yn fwy
mewn rhagorfreintiau presenol, mewn sane, mewn
manteision, mewn posiblderau, mewn ysbrydolrwydd
cyflwr, yn fwy, f el y mae y plentyn lleiaf yn fwy na'r
gwas mwyaf. "The least of the greatest is greater
than the greatest of the least." Wordswortn, ac Al-
ford.
GWEBSI,
1. Nad oedd lesu Grist yn bwriadu gosod loan, na'i
fedydd, &c., yn gynllun ac esiampl i Gristionogion, mwy
nag y bwriadai osod Petr yn sylfaen yr eglwys. "Gen-
ad yn parotoi y ffordd oedd efe."
2. Fod cyfrif oldeb mawr iawn ar holl ddeiliaid teyrn-
as yr ef engyl, o herwydd eu breintiau helaeth, a'r an-
rhydedd mawr a osodir arnynt " Mi a'ch gelwais chwi
yn gyfeillion." " Pob peth ar a glywais gan fy Nhad,
32 TREISIO TEYBNAS NEFOEED.
a hysbysais i chwi." " Y lleiaf yn nheyrnas nefoedd
sydd fwy nag ef."
TEEISIO TEYBNAS NEFOEDD.
" Ac o ddyddiau loan Fedyddiwr hyd yn awr, yr ydys. yn treisr
io teyrnas nefoedd, a threiswyr sydd yn ei chipio M." MAT.
xi. 12.
Yr ydym yn teimlo fod rhyw erwinder dyeithr yn
swn y geiriau " treisio teyrnas nefoedd," a " threiswyr
sydd yn ei chipio hi." Y mae y syniadau a goleddwn
am bob math o drais, yn enwedig y trais a arferir tuag
at y tyner, y gwerthfawr, a'r dwyfol, yn creu ynoin
syndod fod yr Athraw wedi defnyddio y geiriau treisio
a chipio, er gosod allan y modd y mae dynion yn dyf od
yn feddianol o fendithion yr efengyl. Ac heblaw hyny,
y mae teyrnas nefoedd yn anfaterol, yn anweledig, ac
yn ysbrydol ; ond y mae y dull a gymeradwyir yma iV
meddianu, yn tybio ei bod yn gyrhaeddadwy, yn gy-
ffyrddadwy, ac yn orchfygadwy. Bhagor, drachefn, y
mae y geiriau treisio, a chipio, yn cario ar eu gwyneb
y syniad annillyn fod dyn yn alluog i atafaelu y dwyfol,
ac mai drwy orthrech o'r fath fwyaf beiddgar, yn unig,
y gall ddwyn oddiar Dduw yr hyn sydd yn hanf odol
iV ddedwyddwch. Y rnae y ffaith fod darlleniad o'r
adnod yn creu argraffiadau o'r nodwedd hon, yn peri
ein bod yn ei rhestru yn mysg adnodau dyrys y Testa-
ment, ac yn brawf o'r dymunoldeb, os yn ddichonad-
wy, yn ffafr y gwirionedd, o'i diosg o bob gwrthani a
gerwinder.
TBEISIO TEYBNAS NEFOEDD. 33
YMHOLIADAU.
Pa beth a olygir wrth deyrnas nefoedd 1 ? Paham y
darnodir dyddiau loan Fedyddiwr f el y cyfnod yn mha
un y dechreuodd dynion dreisio teyrnas nefoedd? Pa
beth. ydyw natur y trais y mae yn rhaid ei arf er mewn
trefn i gipio y deyrnas ? . '
Y mae yr ymadrodd " teyrnas nefoedd," mewn gwa-
hanol f anau, yn golygu arweddion gwahanol ar y drefn
achubol. Nid yr un syniad a gynea yn mhob lie y dy-
gwydda. Golyga bresenoldeb person Crist ar y ddae-
ar (Mat. iii. 2). Golyga ddylanwad ysbrydol crefydd
ar y galon (Rhuf. xiv. 17). Golyga lywodraeth freinr
iol Grist ar enaid, yn wrthgyferbyniol i lywodraeth
breninoedd y byd ar gyrph (loan xviii. 36) ; a golyga
hefyd ddedwyddwch tragywyddol y saint yn y byd .a
ddaw (Mat. viiL 2; Marc x. 14). Ghvelir felly iod .yr
ymadrodd yn un hydwythog, ac yn meddu ar wahanol
ystyron. Ond y cwestiwn ydyw, pa agweddiad ar ym-
wneyd Duw a dyn, dan yr efengyl, a gynrychiolir gan-
ddo yn y cysylltiad hwn ? Y rnae y gair teyrnas yn
golygu cyfundrefn lywodraefchol, yn cynwys ynddi
frenin, deiliaid, deddfau, cosbau, gwobrau, terfynau
daearyddol, &c, Cyfundrefn ly wodraethol ydyw yr ef-
engyl, ac y mae yn perthyn iddi Frenin, deiliaid,
deddfau, &c., mor wirioneddol ag unrhyw deyrnas ar-
all, gyda hyn o wahaniaeth, f od holl hanfodion hon yn
ysbrydol, ac oblegid hyny gelwir ki yn deyrnas nef-
oedd. Y mae ei deddfau, nid yn wladol, oiid yn ddwyf-
ol. Ymwna ag eneidiau, ac nid a chyrff. Cynygia yn
wobrwyon am deyrngarwch a gwasanaeth, nid cyfoeth,
34 TEEISIO TEYRNAS NEFOEDD.
urddas, nac urdd-enwau, ond graddau helaethach o
sancteiddrwydd, tangnef edd, a chyfiawnder. T mae yn
ddichonadwy cysylltu a hi hefyd y syniad o leoldeb ; y
mae miliwnau fro. fewn i'w chyffiniau ysbrydol, a mil-
iwnau y tu allan iddynt.
Yn nyddiaa loan Fedyddiwr y dechreuodd yr Ar-
glwydd fabwysiadu y modd trwyadl ysbrydol o lywod-
raethu egwyddorion a nwydau dynion. Yn flaenorol i
hyriy, o dan y " gyfraith a'r prophwydi," dygid y llyw-
odraeth yn mlaen drwy gyfryngau gweledig a chnawd-
ol. Ffurfiau a deddfau, gwyrthiau a phrophwydol-
iaethau, barnau a salmau, oeddynt y cymellion i wrtli-
sefyll y drwg, ac i lynu wrth y da ; ond er dyddiau
loan, y mae y cyfryngau hyny wedi diflanu, ac yn lie
genedigaeth naturiol, cydymffurfiad allanol a defodau
cnawdol, yn nghyd a derbyniad goddefol o gredoau a
ffurfiau, y mae yn rhaid profi edif eirwch tuag at Dduw
ffydd yn Oen Duw, ac ail-enedigaeth o ddwfr ac o'r Ys-
bryd. Yn nyddiau loan, trosglwyddodd yr Hen Ddi-
henydd i Fab y dyn, "lywodraeth a goganiant, a bren-
iniaeth, f el y byddai i'r holl bobloedd, cenedloedd, a
ieithoedd, ei wasanaethu ef : ei lywodraeth sydd lyw-
odraeth dragywyddol, yr hon nid a ymaith, a'i brenin-
iaeth ni ddyfethir." (Daniel vii. 13, 14.) Ar adeg bed-
yddiad Brenin teyrnas nefoedd yn yr lorddonen, gan
loan, y mae Duw Dad yn byth-nodi y cyf newidiad oedd
yn cymeryd lie yn ei ymwneyd a dynion, drwy gy-
hoeddi mai ar yr Eneiniog yr oedd pawb o hyny allan
i wrando.
Ehagdybia y testyn fod rhyw dyrfaoedd yn amser
loan, ac yn amser lesu Grist, yn sefyll yn edmygol ar
TEEISIO TEYRNAS NEFOEDD. 35
derfynau y deyrnas newydd. Ac y mae hanes y cyfnod
yn gwireddu y dybiaeth. Fu erioed o'r blaen y fath
gyffro yn hanes eneidiau. Heidiau y miloedd, gan adael
eu cartrefleoedd a'u gorchwylion, at y Bedyddiwr i'r an-
ialwch. Nid oedd un gallu ar y ddaear yn ddigonol i'w
rhwystro i ymdyru ato, ac yr oedd y tyrf aoedd yn der-
byn ei athrawiaeth gyda'r fath frwdfrydedd angerddol
ag ydoedd o'r blaen yn anadnabyddus yn hanes cref-
ydd. Ymddengys ei wrandawyr megys mewn ymrys-
ronfa. a'r fath fwyaf beiddgar am fyned i fewn i.ddi-
ogelwch y gyfundrefn newydd a bregethai. Ac ni fii
erioed Rabbi mor boblogaidd yn Israel a Rabbi Naza-
reth. Cymaint ydoedd awydd y bobl am fyned yn
agos ato, fel y sathrent draed eu gilydd. Yr oedd y
fath swyn yn ei ddull o egluro egwyddorion y deyrn-
as, a chymwysderaa ei deiliaid, yr hyn ydoedd baich ei
bregethau, ei ddamegion, &c., fel y tystiai y rhai henaf
yn Israel mai efe oedd y llefarwr goreu a glywsant er-
ioed. Drwy, ac yn y miloedd a safent i edrych yn.'
f awrygol ar y deyrnas yn nyddiau loan, ac yn ei ddydd-
iau yntau, rhagwelai y Gwaredwr y miliwnau aneirif ,.
mewn gwahanol oesau, wedi eu calon-dynu gan bryd-
ferthwch, ffrwythlondeb, a diogelwch y deyrnas new-
ydd, oddiar frwdfrydedd llosgedig, yn gorawyddu,.
nid yn unig am sefyll yn ymyl y deyrnas, ond myn-
ed i mewn iddi, ac aros ynddi. Mewn rhagwelediad
dwyfol, gwelai yn ei gydoeswyr ddarlun o dreiswyr
oesau dylynol. Ac y mae yma ragdybiaeth arall yn y
geiriau, y bydd yn fanteisiol ei chrybwyll fel esgynfa.
at y gwirionedd a ddysgir, sef nas gellir myned i mewn
i'r deyrnas, gan nad faint fyddo anger ddoldeb yr aw-
36 TKEISIO TEYRNAS NEFOEDD.
ydd am hyny, ond ar waethaf y gwrthwynebiadau
jffymicaf . Yr ymsyniad ydyw, fod yma ryw alluoedd
mawrion, rhyw atalfeydd cedyrn, rhyw elynion corph-
oledig, yn sefyll yn barhaus ar derf ynau, neu wrth
ddrysau y deyrnas, yn milwrio yn erbyn yr eneidiau
sydd wedi eu dal gan chwenychiad i'w meddianu. Y
mae y rheidrw^dd am y trais ar unwaith, ac ynddo ei
hun, yn golygu anhawsderau.
Yn ngoleuni y rhagdybiau uchod, y mae y gwiriqn-
-edd sydd yn y geiriau yn fwy gweladwy. Yr hyn a
ddysgir ynddynt ydyw : Nad oes un dosbarth o
bobl a el i fewn i deyrnas nefoedd, sef yr hwn a fedd
ar ddigon o argyhoeddiad, gwroldeb a nerth, i fynu ei
chael hi, ar waethaf pob anhawsder.
Nid rhyw bobl oddefgar, ddiegni, glaiar, a cnysglyd,
sydd yn myned i mewu i deyrnas Dduw, ond pobl
ddifrifol, egniol, orchesfcol, a gorchfygol. Pobl ydynt
na saif dim o'u blaen. Yr ydym yn credu mai hwnyna
ydyw ystyr y gwirionedd sydd yn gorwedd yn y geir-
iau ; ond tra yn credu nyny, yr ydym yn gwybod f od
cryn dywyllwch yn gorwedd ar yr ymadrodd allegol
sydd yn ei gyneu. Y mae yn eglur f od yn yr ymadrodd
gyffelybiaeth. Y mae hyny yn ddealladwy. Y mae
pobl yn ysbrydol i ddyfod yn feddianwyr o deyrnas
nefoedd mewn modd cyffelyb i'r hyn y daw pobl, mewn
ystyr naturiol, yn feddianwyr o wrthddrychau bydol,
sef drwy orchfygu pob anhawsder a saif rhyngddynt a
llwyr feddianiad. Ond y cwestiwn ydyw, a oedd
meddwl yr Athraw yn gorphwys ar y pryd ar ryw ffurf
arbenig o orthrech naturiol '? Byddai amgyffred y plyg
TKEISIO -TE7BNAS NEFOEDD. 37
naturiol a berthyn i'r alleg, yn gynorthwy pwysig i
ddihysbyddu ei dysgeidiaeth ysbrydol.
Mewn ymchwiliad cyffelyb i hwn, mynyeh y
derbynir goleuni oddiwrth gyfieithwyr y Gair, ac
yn yr aclios hwn, naturiol ydyw i ni droi atynt. Fel
canlyniad, canfyddwn fod eu cyfleadau o'r gwreiddiol
yn wahanol iawn, mor wahanol y naill i'r Hall, nes creu
anymddiriedaeth yn nghywirdeb pob un o honynt.
Cyfleir hi yn y Cyfieithiad Diwygiedig fel hyn : " And
from the days of John the Baptist, until now, the
kingdom of heaven suffereth violence, and men of vio-
lence take it by force." T mae yr holl wahaniaeth
rhwng y cyfieithiad hwn ag eiddo y testyn awdurdod-
edig yn gyfyngedig i adran olaf yr adnod, ac nid ydyw
y gwahaniaeth yn tafhi goleuni ar natur yr alleg a
ddefnyddir. Cyfleir hi yn y " Speaker's Commentary"
fel hyn : " is eagerly seized by persons pressing into
it," ac ychwanegir drachefn ar ymyl y ddalen, " is got-
ten by force, and they that thrust men." Cyfleir hi
gan y Parch. S.'Cox, 'Nottingham, mewn ysgrif feirn-
iadol yn yr " Expositor," (Vol. HE.) mewn dwy ffordd
wahanol, gan adael i'r darllenydd ddewis y naill neu y
Hall: " ddyddiau loan Fedyddiwr hyd yn awr, ymae
teyrnas nef oedd wedi ei grymusoli, ac y mae y rhai
grymus yn ei chipio drwy rym." Neu, " O ddyddiau
loan Fedyddiwr hyd yn awr, y mae teyrnas nefoedd
wedi rhoddi allan nerth, a dynion o nerth sydd yn gaf
aelyd yn gadarn ynddi." Cydnabydda y gwr dysged-
ig hwn -f od anhawsder mawr, os nad yn wir, anmhos-
dblrwydd i roddi cyflead cywir o Roeg y testyn, ond
gyda yr un hyf der ysgolheigaidd ag a ddengys yn ei
38 TEEISIO TEYRNAS NEFOEDD.
lioll feirniadaethau eraill, beiddia sylfaenu sylwadau
cryfion ar nodwedd gyferbyniol teyrnas Dduw o dan
yr Hen Destament, a theyrnas Dduw o dan y Testa-
ment Newydd, ar y cyfieithiadau uchod. Grwel yn-
ddynt ategiad i'r athrawiaeth, mai o dan y Testament
Newydd, yn dechreu gyda loan, y dechreuodd yr An-
feidrol rqddi allan ei nerth ymosodol ac ysbrydol yn
achubiaeth dynion; ac hefyd fod pob peth oedd yn
buraf, yn uwchaf, ac yn ddwyfolaf yn nghyfraith
Moses, ac yn ngwasanaeth y deml, wedi cydgyfarfod
yn Nghrist, ac ynddo Ef, a thrwyddo Ef, wedi eu
nertholi, a'u hysbrydoli, fel y daeth teyrnas nefoedd y
gallu gorthrechol mwyaf yn yr holl fyd. Ar sail yr un
cyfieithiadau hefyd, hawlia fod y geiriau yn dysgu mai
yn gydamserol a throsglwyddiad grymusder i'r deyrnas
ei hunan, sef yn nyddiau loan, y daeth deiliaid y
deyrnas i deimlo y grym a'r angerddoldeb sydd mor
nodweddiadol o honynt. Nid ydym am ymddadleu a'r
ysgolor hwn. Cyfleir hi yn yr " Oraclau Bywiol," gan
John Williams, fel hyn : " Oddiar ymddangosiad cyntaf
loan y Trochiedydd hyd yn awr, yr ydys yn goresgyn
teyrnas y nefoedd ; a goresgynwyr sydd yn cymeryd
meddiant trwy drais." Tn ol y cyflead yna, y mae yn
y testyn alleg, ac y mae yr hyn sydd naturiol ynddi yn
dra adnabyddus. Dyga ger ein bron waith un wlad
yn goresgyn, gorchfygu, a meddianu gwlad arall.
Megys ag y darostyngodd Germani Ffrainc, y daros-
tyngodd Lloegr yr Aipht, sef trwy ddryllio y diffyn-
furiau, tynu lawr yr amddiffynf eydd, a gwneydd carn-
edd o bob diogelfa, felly drwy ruthr ymosodol y mae
eneidiau i feddianu teyrnas nefoedd. Ac nid oes dim
TBEISIO TEYBNAS NEFOEDD. 39
yn banes y byd yn iiawlio gwrhydri a dyoddefaint yn
gyffelyb i oresgyniad gwlad estronol. Golyga ymor-
wedd am nosweithiau mewn cadbyllau, caledi dirf awr
yn mlawdd y frwydr, rhuthro drwy rengau gelynol ar
ryfelfeirch, ymosod ar yr amgaerau cadarnaf, tywallt
gwaedynafonydd, a bod yn nod i belenau tanllyd oddiar
f agwyr y dinasoedd. Goresgynwyd Canaan gan Joshua
.a'i wyr, fel y daeth o dan ei awdurdod o'r anialwch i'r
Euphrates, ac o wlad yr Hethiaid i'r Mor Mawr. Ca-
naan y ddaear mewn ystyr ysbrydol ydyw teyrnas nef-
oedd, ac nid oes ond un ffordd i'w meddianu, ei gores-
gyn hi ; ac o ddyddiau loan Fedyddiwr, goresgynwyr
yn unig sydd wedi ei chael hi. Mewn gair arall, y mae
bywyd tragywyddol i'w gael yn unig drwy wroniaeth
ysbrydol. mae cael gafael ynddo yn hawlio ym-
drech eithaf holl adgyfnerthoedd enaid. Y mae yn
rhaid myned at Lyn Bethesda crefydd, yn penderfynu
aros yno am iachad. neu farw. Rhaid gweithio y
ffordd at Grist, drwy y dyrfa, fel y wraig a'r diferlif,
gan ddiystyru pob anfantais. Os am y fendith, y mae
yn rhaid fel y wraig o Ganaan, fyned i ddadl a'r lesu
ei hunan. laith y goresgynwr ydyw :
" I can but perish if I go 3
I am resolved to try;
For if I stay away, I know
I must for ever die."
Pel Samson gynt, myn fuddugoliaeth rywfodd, hyd
yn nod pe byddai raid iddo gyf odi colofnau cyntedd
teml trugaredd oddiar eu seiliau tragywyddol. Cy-
maint ydyw ei ddifrifwch a nerth ei benderfyniad fel
y dywed Spurgeon, yr holltai y barau aur sydd ar
40 Y CABLEDD YN ERBYN
ddrws trugaredd wrth guro, yn hytrach na myned ym-
aith heb y fendith. Neu, a benthyca alegori Bunyan r
gweithia ei ffordd drwy y rliengau gwaedlyd a safant
yn nghyntedd palas ardderchog crefydd, a myn fyned
i fewn i gydrodio a'r rhai a wisgasid ag aur.
Y CABLEDD YN EKBYN YE YSBEYD GLAK
" Am hyny y dywedaf wrthych chwi, Pob pechod a chabledd a
faddeuir i ddynion: ond cabledd yn erbyn yr Ysbryd Glan ni
faddeuir i ddynion. A phwy bynag a ddywedo air yn erbyn Mab
y dyn, fe a faddeuir iddo: ond pwy bynag a ddywedo yn erbyn
yr Ysbryd Glan, niB inaddeuir iddo. nac yn y byd hwn, nac yn y
byd a ddaw." MAT. xii. 31, 32.
O, eiriau rhyfedd ! 0, eiriau difrifol ! Y mae eu
darllen yn deffro holl gywreinrwydd ein henaid, a delir
ni gan gythrybledd ysbryd wrth sefyll uwch eu penau.
Ac nid yn unig y maent yn eiriau gorlethedig a phwys-
fawredd, ond rhagor, y maent yn eiriau mor annys-
gwyliadwy oddiwrth Grist, y Maddeuwr mawr. Ni
fuasem yn rhyfeddu ei glywed Ef yn cyhoeddi nad oes
un pechod nad ellir ei faddeu buasai hyny yr un
f ath yn union ag Ef ei hunan ; ond y mae ei glywed
Ef, cyflwynydd yr lawn anfeidrol, yn cyhoeddi fod un
dosbarth o bechaduriaid nas maddeuir yn dragywyddol
iddynt, yn ein cynhyrfu drwom. Pwy na ddymunai
wybod pa beth ydyw ystyr y fath gyhoeddiad? Ac yn
wir, y mae yn annhraethadwy bwysig i feddu dirnad-
aeth am ddysgeidiaeth y geiriau, oblegid os camddeall-
YR TSBBYD G-LAN. 4
ir hwy, megys ag y mae lluaws wedi gwneyd, arweinia-
hyny i un o ddau ddinystr, anobaith neu ryfyg, ac y
mae y naill mor alaethus a'r Hall. Clywsom am lawer,
gwyddom am rai, a gariasant uffern yn eu mynwesau
am flynyddau o herwydd eu bod nid yn unig yn credu
eu bod yn gwybod pa beth ydyw y pechod yn erbyn yr
Ysbryd Glan, ond rhagor, eu bod hwy yn bersonol
wedi bod yn euog o'i gyflawni, ac fel canlyniad, gor-
fyddwyd eu cymeryd i ystafelloedd diaddurn y gwall-
gof dy, yno i f alu ewyn yn nghymdeithas ellyllon an-
obaith'? A phwy na chollai ei synwyrau pe y credai
am eiliad fod ei synwyrau i'w boddi byth gan ddialedd
yr Anf eidrol. Y ffaith fod gan Dduw f addeuant, a'r
gobaith y ceir ei fwynhau, sydd yn gwneyd bywyd yn
oddef adwy. O'r tu arall, y mae dosbarth i'w gael a
gyfyngant ddysgeidiaeth y geiriau i'r Phariseaid, ac a
gredant nad oes a fynont yn uniongyrcliol nac anun-
iongyrcliol a neb arall, ac fel canlyniad, ant i deimlo
yn ddifraw a diogel ; a'r perygl ydyw, iddynt, yn an-
ymwybodol, gyrhaedd y tir ofnadwy hwnw ar ba un ni
ddisgyna dyf eryn byth o gwmwl trugaredd. Er gochel
y ddau eithafion damniol hyn, y mae yn dyf od yn ddy-
ledswydd i chwilio pa beth ydyw dysgeidiaeth y geir-
iau tywyllion hyn. Yr
YMHOLIADAU
cyntaf a awgrymir i'r meddwl gan ddarlleniad y geir-
iau, ydynt a ganlyn : Pa beth ydyw natur y pechod a
elwir yn gabledd yn erbyn yr Ysbryd Glan ? Yn mha
fodd y mae yn wahanol, yn ei echryslonrwydd, i bech-
od yn erbyn Mab y dyn ? A oes cyf eiriad at yr un
4
42 Y CABLEDD YN ERBYN
pechod yn rhanau eraill y Testament? A ydyw yn
ddichonadwy i ddynion yn yr oes lion fod yn euog o'i
gynawni? Pa beth a wna hwn, yn anigen i bob pech-
od arall, yn anfaddeuadwy? A ydyw y geiriau yn
dysgu fod dosbarth o becliodau y gellir dysgwyl niadd-
euant o honynt yn y byd a ddaw ?
Ar ein ffordd at y credoau amrywiol a goleddir gan
eraill, a chyn dodi lawr seiliau ein credoau ein liunain
am ddysgeidiaeth y geiriau, bydd yn fanteisiol i nodi
y tri cliyfeiliorniad dybryd y niae daiileniad arwynebol
o'r ^geiriau wedi eu cynyrchu. Un cyfeiliornad ydyw
Fod y geiriau ^'w> dealt yn gymharol, ac felly yn
dysgu fod yn hawddach cael maddeuant, am bob pech-
od na^r pechod yn erbyn yr Ysbryd Glan. Dyna f el
y myntumia Grotius, ac y niae Hammond yn dadleu ar
sail y geiriau, fod edifeirwch cyffredin yn ddigonol i
:sicrhau maddeuant o bob pechod arall, ond nas gellir
maddeu hwn ond ar edifeirwch neillduol. Mor wahan-
ol y dysga y G-waredwr ! Dywed Ef yn hollol eglur
fod pob pechod yn faddeuadwy, ond nas gellir derbyn
maddeuant o hwn, ar unrhyw amod, yn y byd hwn nac
yn y byd a ddaw. Cyfeiliornad arall :
Fod cyfnod yn hanes pob dyn, yn y byd a ddatu, y
maddeuir pob pechod iddo, oddigerth ei fod wedi bod
yn euog o bechu yn erbyn yr Ysbryd Glan. Cyhoedda
Augustine, Olshausen, Julius Muller, c, fod y geiriau
yn rhoddi sail i ddysgwyl maddeuant am bob pechod
arall, rywbryd rhwng angeu a'r adgyfodiad. I ddech-
reia, y mae y fath dybiaeth yn milwrio yn hollol yn
erbyn holl ranau eraill y datguddiad. Ac heblaw
hyny, amcan penaf ac eglur y Gwaredwr yma, ydyw,
YR YSBRYD GLAN. 43
nid dangos fod pob pechod arall yn faddeuadwy yn y
byd a ddaw j yn hytrach, datgan yn y geiriau nrwyaf
angerddol, natur anfaddeuadwy y pechod hwn. A
thrachefn, sylwer mai y pethau a gyferbynir yma yd-
ynt, nid maddeuant yn y byd hwn a maddeuant yn y
byd a ddaw, ond pechod yn erbyn Mab y dyn a chabl-
edd yn erbyn yr Ysbryd Glan ; ac felly gwelir yn eg-
lur nad ydyw yr hyn a gyflea y gosodiad uchod yn
gorwedd yn y geiriau. Cyfeiliornad arall :
Fod y rheswm 0V gwahaniaeth rhwng y pechod hwn
aphob pechod arall, yn ei ganlyniadau, yn achosedig
gan y gwahaniaeth rhwng yr Ysbryd a?r Mob o ran
eu safle a'u hurddas. Kh'agdybia hyn fod lesu Grist,
wrth ddyfod yn ddyn, wedi peidio bod yn Dduw, ac
nad ydyw yn ogyfuwch a'r Tad a'r Tsbryd yn ngradd-
oliaeth y Duwdod. Bhagdybia hefyd fod y dynodiad
" Mab y dyn" yn golygu yn unig ddynoliaeth gyffredin,
ac nad ydyw yn cynwys yr uchafiaeth a berthynai iddi
f el dynoliaeth Mab Duw. Nis gallwn dderbyn y naill
na'r Hall o'r tybiau hyn. Yn groes iddynt, credwn
fod y gwahaniaeth rhwng pechod yn erbyn yr Ysbryd
Glan, a phechod yn erbyn y Mab, yn gynwysedig, nid
yn y gwahaniaeth yn safle nac urddas y naill rhagor y
Hall, ond yn mherthynas wahanol y Mab a'r Ysbryd ag
iachawdwriaeth y byd. Gwaith mawr y Mab ydoedd
darparu trefn i achub dynion, ond gwaith mawr yr
Ysbryd ydyw argyhoeddi dynion fod y drefn hono yn
un gwbl gyfaddas. Ni ddaeth yr Ysbryd Glan i fewn
i'w weinidogaeth uniongyrchol hyd esgyniad y Ceid-
wad (loan xvi. 8-10), ac oblegid hyny cafodd y rhai a
wrthodasant y Mab, gynyg eilwaith ar oruchwyliaeth
44 Y CABLEDD YN EKBYN
yr Ysbryd. Yn ngoleuni prawfion cadarnach. yr Ys-
bryd, y mae genym le i gredu f od llawer o gablwyr y
Mab wedi credu ; a chart mai a'r Ysbryd y mae a fyno
dynion byth er esgyniad Crist, ac nad oes un goruch-
wylydd arall i'w ddylyn ; os y gwrthodir ei argyhoedd-
iadau ef , bydd unig oruchwyliaeth apwyntiedig Duw
wedi colli ei hamcan, yn ei pherthynas a hwy.
Ond i ddychwelyd. Y mae eglwys lesu Grist, er y
cyfnodau boreuaf, wedi ymranu partb dysgeidiaeth y
geiriau hyn. O adeg cyfansoddiad Cyffes Ffydd
bruddaidd y Gnosticiaid, heibio i gredoau cyfeiliornus
y Novataniaid a'r Montaniaid, dros yr boll ganrif oedd
byd y dyddiau diweddaraf, y mae ymcbwilwyr wedi
gwneyd darganfyddiadau gwahanol yn amgueddfeydd
y geiriau. Y mae yr amrywiaetb barnau a geir mewn
esboniadau, pregethau, a dosbarthiadau, yn ddyeithr a
digrif ol. Haera un mai y pechod ydyw gwasgar her-
esiau dinystriol ; y Hall mai gwrtbgiliad bollol a olyg-
ir ; y trydydd mai syrthiad ymaith. oddiwrtb. grefydd
mewn amser o erledigaetb. ; y pedwerydd mai gwrthod
derbyn yr atbrawiaetb o Bersonoliaeth yr Ysbryd
Glan ; y pumed mai defnyddiad iaith watwarus wrtb.
siarad am Dduw ; y chweched mai anobaitb. y pecbad-
ur , er tystiolaetb Duw drwy ei Ysbryd, am ei Fab ; y
seitbfed mai parhad ydyw o wrtbodiad y gwirionedd,
ar ol derbyn yr argyboeddiad o hono ; yr wytbi ed mai
eiddigedd maleisddrwg o berwydd dysgleirdeb grasus-
au yr Ysbryd yn nghymeriadau eraill, &c., &c. Ond
pa ddyben ymhelaethuj digonol yn bresenol fydd cry-
bwyll yn unig, un farn arall, a cbydnabod fod nifer
ei chefnogwyr yn lluosog a dylanwadol, sef, mai pech-
YB YSBEYD GLAN. 45
od neillduol i'r Phariseaid sydd yn cael ei ddarlunio,
ac mai y pechod hwnw ydoedd priodoli gallii gwyrth-
iol Crist i Beelzebub. Bydd a fynoni a'r f arn lion, yn
nes yn mlaen.
Y mae yn deilwng o sylw nad oes yn yr efengylau,
ac nad oes yn yr epistolau, eglurhad ar y pechod an-
faddeuol, er f od y naill a'r llall yn cynwys cyfeiriadau
ato. Am ryw reswm, y mae yr Arglwydd wedi gweled
yn ddoethaf i beidio dweyd mewn geiriau, pa beth
ydyw y pechod hwn ; yn unig cyhoeddi f od y f ath
bechod mewn bpd. Grwneir cyfeiriadau ato yn y lle-
oedd canlynol : Marc iii. 28-30 ; Luc xii. 10 ; Heb. x.
26-29; 1 loan v. 16. T mae ychydig o wahaniaeth
rhwng cofnodiad Marc o'r geiriau, ond nid ydyw y
gwahaniaeth yn gollwng goleuni drwyddo ar natur y
pechod anfaddeuadwy, ac nid ydyw y cyfeiriadau yn yr
epistolau drachefn yn cynwys rnwy na desgrifiad o'r
canlyniadau ofnadwy a ddylyna euogrwydd o hono.
Yr unig beth teilwng o sylw yn y cronicliad gan Luc
ydyw, f od y crybwylliad o hono gan Grist yn cael ei
wneyd pan yn ymddyddan a'i ddysgyblion, tra yn ol
Matthew a Marc, y mae y rhybuddiad o hono yn cael
ei roddi i'r Phariseaid. Tn ol Matthew a Marc, lief ar-
wyd y geiriau tra yr oedd cabledd y Phariseaid dan
sylw ; ond yn ol Luc, llefarwyd hwy tra yr oedd proff-
es ac arddeliad y dysgyblion dan sylw, a'r gofyniad a
awgrymir ydyw, paham y llefarwyd hwy ar achlysuron
mor wahanol, ac wrth ddau ddosbarth mor wahanol 1
Nid ydym yn gwybod am ddim a rydd gymaint o fodd-
lonrwydd ar y cwestiwn hwn a'r syniad a geir yn y
. " Speaker's Commentary," sef fod y Gwaredwr megys
44 Y CABLEDD YN EKBYN
yr Ysbryd. Yn ngoleuni prawfion cadarnach yr Ys-
bryd, y mae genym le i gredu fod llawer o gablwyr y
Mab wedi credu ; a chan mai a'r Ysbryd y mae a fyno
dynion byth er esgyniad Crist, ac nad oes un goruch-
wylydd arall i'w ddylyn ; os y gwrthodir ei argyhoedd-
iadau ef, bydd unig oruchwyliaeth apwyntiedig Duw
wedi colli ei hamcan, yn ei pherthynas a hwy.
Ond i ddyekwelyd. Y mae eglwys lesu Grist, er y
cyfnodau boreuaf, wedi ymranu parth dysgeidiaetb. y
geiriau liyn. O adeg cyfansoddiad Oyffes Ffydd
bruddaidd y Gnosticiaid, heibio i gredoau cyfeiliornus
y Novataniaid a'r Montaniaid, dros yr holl ganrif oedd
hyd y dyddiau diweddaraf, y mae ymchwilwyr wedi
gwneyd darganfyddiadau gwahanol yn amgueddfeydd
y geiriau. Y mae yr amrywiaetb. barnau a geir mewn
esboniadau, pregethau, a dosbartMadau, yn ddyeithr a
digrifol. Haera un mai y pechod ydyw gwasgar her-
esiau dinystriol j y Hall mai gwrthgiliad hollol a olyg-
ir ; y trydydd mai syrthiad ymaith oddiwrth grefydd
mewn amser o erledigaetb. ; y pedwerydd mai gwrthod
derbyn yr athrawiaeth o Bersonoliaeth yr Ysbryd
Glan ; y pumed mai defnyddiad iaith watwarus wrth
siarad am Dduw ; y chweched mai anobaith y pechad-
ur, er tystiolaeth Duw drwy ei Ysbryd, am ei Fab ; y
seithfed mai parhad ydyw o wrthodiad y gwirionedd,
ar ol derbyn yr argyhoeddiad o hono ; yr wytnfed mai
eiddigedd maleisddrwg o herwydd dysgleirdeb grasus-
au yr Ysbryd yn nghymeriadau eraill, &c., &c. Ond
pa ddyben ymhelaethu; digonol yn bresenol fydd cry-
bwyll yn unig, un farn arall, a chydnabod fod nifer
ei chefnogwyr yn lluosog a dylanwadol, sef, mai pech-
YR YSBRYD GLAN. 45
od neillduol i'r Phariseaid sydd yn cael ei ddarlunio,
ac mai y pechod hwnw ydoedd priodoli gallu gwyrth-
iol Crist i Beelzebub. Bydd a fynoin a'r farn hon, yn
nes yn mlaen.
Y mae yn deilwng o sylw nad oes yn yr efengylan,
ac nad oes yn yr epistolau, eglurhad ar y pechod an-
faddeuol, er fod y naill a'r Hall yn cynwys cyfeiriadau
ato. Am ryw reswm, y mae yr Arglwydd wedi gweled
yn ddoethaf i beidio dweyd mewn geiriau, pa beth
ydyw y pechod hwn ; yn unig cyhoeddi fod y f ath
bechod mewn bpd. Gwneir cyfeiriadau ato yn y lle-
oedd canlynol : Marc iii. 28-30 ; Luc xii. 10 ; Heb. x.
26-29; 1 loan v. 16. Y mae ychydig o wahaniaeth
rhwng cofnodiad Marc o'r geiriau, ond nid ydyw y
gwahaniaeth yn gollwng goleuni drwyddo ar natur y
pechod anf addeuadwy, ac nid ydyw y cyfeiriadau yn yr
epistolau drachefn yn cynwys rnwy na desgrifiad o'r
canlyniadau ofnadwy a ddylyna euogrwydd o hono.
Yr unig beth teilwng o sylw yn y cronicliad gan Luc
ydyw, fod y crybwylliad o hono gan Grist yn cael ei
wneyd pan yn ymddyddan a'i ddysgyblion, tra yn ol
Matthew a Marc, y mae y rhybuddiad o hono yn cael
ei roddi i'r Phariseaid. Yn ol Matthew a Marc, llefar-
wyd y geiriau tra yr oedd cabledd y Phariseaid dan
sylw ; ond yn ol Luc, llefarwyd hwy tra yr oedd proff-
es ac arddeliad y dysgyblion dan sylw, a'r gofyniad a
awgrymir ydyw, paham y llefarwyd hwy ar achlysuron
mor wahanol, ac wrth ddau ddosbarth mor wahanol ?
Nid ydym yn gwybod am ddim a rydd gymaint o fodd-
lonrwydd ar y cwestiwn hwn a'r syniad a geir yn y
. " Speaker's Commentary," sef fod y Gwaredwr megys
46
Y CABLEDD YN EBBYN
drwy ddeddf cymdeithasiad meddyliol, wrth rybuddio
ei ganlynwyr o'r dynged a oddiweddai y rhai a'i gwad-
ent, wedi ei arwain at y dynged fwy ofnadwy a ddis-
gynai ar gablwyr yr Ysbryd Glan ; fod y naill wedi
awgrymu y Hall, ac fod rhybuddio am yr olaf yn grym-
ysu y rhybudd am y oyntaf .
Gan nad ydyw y Testament yn rhoddi darnodiad
geiriol o natur y pechod yn erbyn yr Ysbryd Glan,
rhaid ehwilio am eglurhad arno yn awgrymau yr am-
gylchiadau o dan ba rai y llefarwyd y geiriau. Yni-
ddengys i ni fod y ffordd ganlynol yn un na,turiol a
manteisiol i ddyfod o hyd i feddwl yr Athraw. - Fel y
gwelir, y mae seiliau y ddau osodiad cyntaf yn yr am-
gylcliiadau lleol, a sail y gosodiad olaf yn nheithi Crist
f el dysgawdwr, sef manteisio ar ddygwyddiadau lleol a
mynedol, i osod i lawr wirioneddau sefydlog, parhaus, "
a chyffredinol. Y gosodiad
1. Fod y Phariseaid yn parhau i yablu y Gwared-
wr yn ngwyneb pob prawf o'i ddwyfoldeb. ' Y mae
yn y cysylltiad engraifft darawiadol o'ti cabledd yn
ngwyneb y prawf egluraf o'i Fessiaiiyddiaeth. Yr yd-
oedd wedi cyflawni gwyrth, drwy yr lion y taflodd
allan gytrn-aul o ddyn dall a mud. Cynhyrf wyd chwil-
frydedd a syndod y lluaws, f el y gofynasant, " M nwn
yw Mab Dafydd?" Gwelodd y Phariseaid y perygl
i'w ddylanwad Ef gynyddu, ac felly i'r eiddynt hwy
leihau. Gwadu y wyrth nis gallasent, ac yr oedd ei
hesbonio ymaith. yn anmhosibl. Yn angerddoldeb eu
dyryswch a'u digllonedd, penderfynasant daflu allan y
wyddor fod y wyrth wedi ei chyflawni drwy gymorth
Beelzebub, penaeth y cythreuliaid (adn 24). Son am
YR YSBRYD GLAN. 47
gabldraeth ! dyma gabldraeth, dweyd fod Arglwydd
angylion mewn cyngrair ag arglwydd cytlireuliaid !
Ar adegau eraill dywedasant ei fod yn ddyn glwth, yn
yfwr gwin, yn dorwr y Sabboth, yn gyfaill publicanod
a phechaduriaid, &c., ond y waith hon, megys yn eith-
afnod ea cynddaredd, cyhuddent Ef o fod mewn cyf-
athracb. a phrif elyn Duw. O gable dd ofnadwy ! !
2. Fod y JPhariseaid yn parhau i gablu y G-wared-
wr oblegid fod eu calonau wedi cyrhaedd cyflwr eith-
afol ddrygionus. Yr oedd eraill yn clawed geiriau y
Phariseaid, ond yr oedd Crist yn deall eu calonau, am
hyny dywed yn y cyd-destynau nad ydoedd eu bym-
ddygiadau al'lanol yn ddim ond datguddiad o'u teim-
ladau mewnol. Meddai : " O epil gwiberod. pa wedd
y gellwcb lefaru petbau da, a chwi yn ddrwg ? canys
o helraetnrwydd y galon y llefara y genau. Y dyn da,
o drysor da y galon, a ddwg allan bethau da ; a'r dyn
drwg, o'r trysor drwg, a ddwg allan betbau drwg."
(Gweler o'r 33ain hyd yr 37ain.) Ytrydydd gosodiad:
3. Ybuasai i bwy bynag a gablai yr Ysbryd 6rlan,
wedi ei ddisgyniad, megys ag y cablai y JPhariseaid
Grist, tra yn bresenol, alltudio o'u calonau bob cym-
wysder i dderbyn iachawdwriaeth, ac felly fod yn am-
ddifad o faddeuant yn oes oesoedd. Yn yr olwg"^ ar
galonaii y Phariseaid yn myned yn anfeddyginiaethol,
rhybuddiodd Grist holl bechaduriaid yr oesau, fod yn
ddiclionadwy iddynt nwytb.au fyned mor bell yn eu
casineb at y dwyfol. fel ag i gyfarfod ymdrecbion
ffyddlonaf Ysbryd Duw gyda llwon a rhegfeydd.
Defnyddia y lleol a'r mynedol yn acnlysur rhybudd i'r
cyffredinol a'r sefydlog. Gwelai galonau ac ymddyg-
48 Y CABLEDD YN EKBYN
iadau miliwnau at yr Ysbryd Glan, yn nghalonau ac
yinddygiadau y Phariseaid tuag ato Ef ei hunan, a
defnyddiodd y cyfleustra i lefaru gwirionedd anf eidrol
bwysig i holl oesau y ddaear.
Gwelir felly ein bod yn credu, yn
1. No, ddarfu Pr Phariseaid y llefarwyd y geiriau
wrthynt, o angenrheidrwydd, gyflawni y pechod yn er-
byn yr Ysbryd G-lan. Gwyddom fod awdurdodau
uchel, megys Tillotson, Waterland, Samuel Clark, H.
J. Y. Dyke, &c., yn eu pregethau ar " T pechod yn er-
byn yr Tsbryd Glan," yn dadleu, gan fod y Gwaredwr
yn cyflawni ei wyrthiau drwy Ysbryd Duw (adn. 28),
fod eu priodoli i Satan yn gabledd yn erbyn yr Ysbryd
Glan, ac o ganlyniad, fod y rhai a wnelent hyny yn
euog o'r pechod anfaddeuadwy. Ond nis gallwn gan-
iatau y ddadl hon, a hyny am y rhesymau canlynol : y
mae yn amheus iawn a wyddai y Phariseaid ddigon am
athrawiaeth perthynas yr Ysbryd a Christ, i ddeall mai
yn nghymorth yr Ysbryd y cyflawnai Crist ei wyrthiau.
Drachefn, yr oedd holl gaBldraeth y Phariseaid yn gyf-
eiriedig, nid at yr Ysbryd Glan, ond at Grist. Yr oedd
eu geiriau yn cael eu hanelu at " Fab y dyn," ac felly
yn ol tystiolaeth Crist, yn faddeuadwy. Ac heblaw
hyny, nid ydoedd yr Ysbryd Glan eto wedi ei roddi.
Ni ddisgynodd yr Ysbryd hyd oni ogoneddwyd yr
lesu, ac felly yr oedd yn anmhosibl iddynt bechu yn
erbyn dylanwad nad oedd yn ynrwneyd a neb eto, ond
y Messiah ei hunan. Yn hytrach na chredu fod y geir-
iau yn cau y Phariseaid dan fam anobeithiol a thragy-
wyddol, gwell genym gredu fod Crist ynddynt, ar y
naill law, yn dysgu, er mor eithaf ol ydoedd eu gogan,
YE YSBRYD GLAST. 49
eu cabledd, a'u pechod yn ei erbyn Ef, eto, ar eu hed-
ifeirwch, fod yn bosibl iddynfc gael maddeuant ; ond,
ar y llaw arall, yn dysgu, os y buasent yn parhau yn ei
gwrthwynebiad iddo Ef, pan gymhellid ei hawliau ar-
nynt gan yr Tsbryd G-lan, y buasent drwy hyny yn
cyrhaedd tir ar ba un nis maddeuid iddynt yn y byd
hwn, nac yn y byd a ddaw. Yr ydym yn credu, yn
2. Fod defnyddiad iaith gableddus, o angenrheid-
rwydd,yngydganlyniadmynediad dyn i'rcuftwr ofnad-
wy a ddarlunir. Y mae yn dra theilwng o sylw nad
oes y fath ymadrodd a " pechod yn erbyn yr Ysbryd
Glan." Ei ffiirf yn ddieithriad ydyw, " cabledd yn er-
byn yr Ysbryd Glan." A pha beth ydyw cabledd ?
Onid geiriau dirmygus a digofus yn cael eu llefaru yn
agored a chyhoeddus ? Dyn yn ei ddigofaint yn ym-
fyrstio allan mewn bytheiriau. Megys yr ysgrifena
Meyer, " Gellir darnodi y cabledd yn erbyn yr Ysbryd
Glan, f el y pechod y mae dyn yn ei gyflawni pan y mae
yn gwrthod datguddiad diamheuol yr Ysbryd Glan, a
hyny nid gyda difaterwch dirmygus a moesol, ond
gyda ei ewyllys ddrygionus yn ymladd am gau allan
oleuni y datguddiad hwnw, ac yn myned mor bell a
datgan mewn iaith elyniaethus ei wrthwynebiad pwyll-
og ac ymwybodol," &c. Ac y mae Muller yn datgan
ei olygiad ar yr un mater fel y canlyn : " Natur y pech-
od hwn ydyw ffieiddiad o'r hyn a gydnabyddir yn
ddwyf ol ; a'r cabledd ydyw y datganiad o'r dygasedd
hwnw. Y mae yr hwn sydd wedi edrych gyda gradd
o ddyfalwch ar uchelderau llygredd dynol, yn ei ffurf-
iau ysbrydolaf , wedi sylwi ar yr olygf a hynod hon, fod y
rhai a gyrhaeddasant y fath uchelderau, yn niethu gor-
50 Y CABLEDD YN EEBYN
phwys yn eu gwrthwynebrwydd i'r hyn sydd yn sanct-
aidd ac yn ddwyf ol, a'u bod yn cael eu dirgymell megys
gan allu anwrthwynebadwy, i roddi gollyngiad i'r un-
rhyw mewn difriaeth, a'u bod yn cael eu dylenwi a
boddlonrwydd iselwael wrth fytheirio allan eu cabledd-
au mwyaf dychrynfawr."
Yn ngoleu y dyfyniadau hyn, yr ydym yn agor ein
llygaid gyda braw ar y ffaith fod dynion yn ein hoes
ni, nid yn unig yn tristau ac yn diffodd, ond yn " di-
fenwi Ysbryd y gras." Y mae athronwyr, gwyddon-
wyr ac anffyddwyr gwag-ymhongar, drwy y wasg,
oddiai* yr esgynlawr, ac yn mhob cylch cymdeithasol,
yn ein dyddiau ni, yn anfon diluw o gabledd cyhoedd-
us i orchuddio y cenedloedd. Gwatwarir y Beibl,
mellditliir y Ceidwad, cellweirir am ben gorsedd gras,
a dirmygir gweinidogion y gair. Yr ydym yn credu^yn
3. Fod y pechod hwn yn anfaddeuadwy, md oblegid
nad all Duw ei faddeu, ond oNegid nad all yr hwn a'i
cyflawna^ edifarhau. Nid y cwestiwn ydyw a all Duw
ei faddeu y mae Calfaria wedi ateb y cwestiwn hwnw ;
ond a all cablwr yr Ysbryd Grlan ddyfod i dir maddeu-
ant? Nid oes cadwedigaeth heb grediniaeth yn
Nghrist, ac nid oes maddeuant heb edifeirwch, a chan-
lyniad naturiol gwallgofrwydd herfeiddiol pechod,
ydyw analluogi dyn i gredu, a'i ddallu i'r rheidrwydd
am edifeirwch. Y mae y fath beth yn bosibl ag i ddyn
gyrhaedd cyflwr ysbrydol hollol anfeddyginiaethol, a
dyna y cyflwr a dybir yma. Fod hyny yn bosibl a
ddysgir gan gyfatebiaeth. Nid peth anghyffredin
ydyw i aelodau ac organau cyfansoddiad dynol gyr-
haedd y fath sefyllfa o lygredd, fel, er cymaint o allu-
YE YSBEYD GLAN. 51
oedd adferiadol sydd yn meddygdy anian (ac y mae
mwy yno nag y gwyddom ni, oblegid nas gallwn ddar-
llen y labels sydd ar botelau Duw), nad oes un gobaith
am eu hadferiad. Tn mliob ysbyty ceir un dosbarth
lie y gorwedd y rhai a gyhoeddwyd gan bob athrylith
feddygol yn anadferiadol. Yn myd y meddwl, dra-
chefn, y mae rhyw ddosbarth o wallgofrwydd hollol an-
obeithiol. Ac oni wyddom beth ydyw deall fod safon
moesoldeb wedi llwyr farw yn mynwesau rhai o'n cyd-
nabod, f el nas gwyddant y gwahaniaeth rhwng gonest-
rwydd ac anonestrwydd, rhwng gwirionedd a chel-
wydd ? Y mae y Beibl, drachefn, yn cynwys lluaws o
gyfeiriadau at y cyflwr annarluniadwy wylofus hwn.
Gweler a ganlyn : Jeremiah xiii. 33 ; Bhuf . 1. 24 ;.
Ephes. iv. 19 ; Heb. x. 26-29, &c., &o.
Y mae eglwys Dduw yn sylwedydd difrifol ar y
dadblygiad ofnadwy hwn mewn rhai cymeriadau,
Gwyddom am rai a ddaethant yn ieuainc i wybodaeth
o'r gwirionedd; a addawsant, wedi cyrhaedd llechwedd
ieuenctyd, arwyddo cyfainod a Duw, ond wedi hyny a
daflasant bob atalfa oddiar war eu nwydau, ac a rodd-
asant naid i ddyfnderau pechod a chywilydd. Cladd-
asant y ddagr lofruddiol yn mhob tueddfryd at sanct-
eiddrwydd, ac ymddigrifant wrth wneyd cofadeiliau
cyfnodau gwell yn gydwastad a'r llawr. Gwelsom hwy
yn porphori mor cymdeithas a gwaed eu trychinebau,
ac yn duo parwydydd ystafelloedd a huddygl eu rheg-
feydd ! ! Yn y diwedd safasant ar drothwy tragywydd-
oldeb, ond heb ofirwrn gweddi am drugaredd ar yr
eiliad olaf. Aethant i dragywyddoldeb yn engreifftiau
poenus o rai nad oes maddeuant iddynt yn y byd hwn.
52 YR EGLWYS AE, Y GBAIG.
na'r byd a ddaw. T mae boneddwr yn Chicago wedi
dyfeisio offeryn tra rhyfedd yr audiphone drwy
ddefnyddio yr hwn y inae y rhai oedd yn clywed
ychydig, yn dyfod i glywed yn well, a chlyw rhai
drwyddo seiniau am y tro cyntaf erioed. Cluda yr
offeryn y seiniau drwy ewynau y danedd i fyny i'r
clyw. Grwelsom ddarlun o foneddigesau yn llesmeirio
wrth glywed nodau y berdoneg am y tro cyntaf erioed.
Ond er cymaint a honir gan y dyfeisydd i'w sain-glud-
ydd, y mae un dosbarth nad ydyw ef ei htm yn gallu
proffesu dyfod a hwy byth i glywed, sef y rhai y mae
yr auditory nerves yn eu penau wedi llygru a marw.
T inae miliwnau wedi clywed llais trugaredd am y tro
cyntaf erioed drwy udgorn ef engyl ; a rhai, f el Saul o
Tarsus, wedi llewygu dan ei swynion, ond y mae un
dosbarth nas gall hyd yn nod yr efengyl eu cyrhaedd,
.a dyna ydyw y dosbarth hwnw, y rhai y inae cydwybod
wedi llwyr farw o'u mewn.
YE EGLWYS AE Y GEAIG.
" Ac yr ydwyf finau yn dywedyd i ti, mai ti yw Petr, ac ar y
.graig lion, yr adeiladaf fy eghvys; a ph.yrth uffern nis gorchiyg-
ant hi "Mil. svi. 18.
Pwy bynag a all roddi atebiad i'r ddau
YMHOLIAD
.canlynol, a hyny yn gyson a geiriadaeth y testyn, ac a
holl ddysgeidiaeth Crist a'i apostolion, gall hawlio ei
f od yn deal! un o adnodau dyrys y Testament Newydd.
YB EGLWYS AE Y GBAIG. 53
Yr ymholiadau ydynt : Pwy ydyw y graig ar ba un yr
adeiladir yr eglwys ; ac hefyd, Pa allu, neu alluoedd,
sydd yn cael eu cynrychioli yn yr ymadrodd "pyrth
uffern " ? Nis gall unrhyw ymdrech i ddyf od o iiyd i'r
cyfrinion dwyfol sydd yn y geiriau lai na bod yn
ddyddorol ac addysgiadol. Yn wir, gellir ychwanegu
fod eu deall yn hanfodol er ffurfio syniad cywir am un
o ranau pwysicaf yr adeiladwaith Gristionogol ei syl-
faen.
Gyda golwg ar yr ail ymholiad, sef, Pa allu, neu allu-
oedd, sydd yn cael eu cynrycliioli yn yr ymadrodd
" pyrth uffern," gallwn ddywedyd nad ydyw erioed
wedi ei deimlo yn anhawsder difrifol. Cytunir
gan bawb fod y cyfieithiad o'r gair uffern yn y
frawddeg, yn anghywir, ac mai y cyfieithiad ddylasai
fod (megys y ceir ef yn y Cyfieithiad Diwygiedig), " A
phyrth Hades nis gorchfygant hi." Y gair Groegaidd
am gartref y damnedigion ydyw Gehenna. Y gair
Groegaidd am gartref y cadwedig ydyw Paradwys;
ond y gair Groegaidd am yr holl fyd anweledig ydyw
Hades, a hwnw ydyw y gair a ddefnyddir gan Grist yn
y testyn. Y canlyniad ydyw, fod dau fyd, y byd gwel-
edig a'r byd anweledig, o flaen ei welediad ar y pryd.
Yn gwbl gydweddol a'i gyffelybiaeth, yr hon yn ddiau
a gymerwyd oddiwrth ddinasoedd dwyreiniol, i'r rhai
yr elid i mewn drwy byrth, y mae gwahanol fyned-
feydd, megys cystuddiau, damweiniau, erlidiau, mer-
thyrdod, &c., drwy ba rai yr a dynion o'r byd gweledig
i'r byd anweledig. * Felly, wedi diosg y ffigyrau sydd
am y frawddeg, gwelir mai datganiad ydyw o'r ffaith
na fydd i angeu, yn mhob ffurf, nac yn unrhyw ffurf
.54 YR EGLWYS AE Y GBAIG.
ddinystrio eglwys Dduw, ond y bydd nifer y rhai a
nir iddi yn y byd hwn yn lluosocach, hyd ddiwedd
amser, na'r nifer a gymerir, drwy farwolaeth, allan o
honi.
Gyda golwg ar yr ymholiad cyntaf, sef, Pwy ydyw
y graig ar ba un un yr adeiladir yr eglwys, hyd y
gwyddom ni, y mae y tair barn ganlynol yn cynwys
sylwedd ymdriniad yr oesau o hono. Y farn gyntaf,
mai yr apostol Pedr yn bersonol ydoedd y graig. Yr
ail farn, mai y graig ydoedd y gyffes a wnaeth-
ai Pedr o Grist, fel Mab Duw. Y drydedd farn, mai
Crist ei hunan, yn ei Berson dwyfol a gogoneddus fel
Mab Duw, yn unol a darnodiad Pedr o hono, ydyw y
graig y dywedir ei bod yn -sylfaen yr eglwys. Yr
ydym yn argyhoeddedig yn
I. Mai nid Pedr yn bersonol a olygir yma.
Yr ydym yn dyiarnn felly, nid oblegid yr arswydwn
gael ein hunain yn nghymdeithas dysgawdwyr y gref-
ydd Babaidd, nac ychwaith oblegid ein bod yn synied
yn amgen nag y dylid synied am safle ddysgeidiol dyn-
ion fel Bengel, Doddridge, Meyer, Alford, Farrar,
Mansell, Gloag, &c., yn y byd beirniadol; yn hytrach,
am yr ymddengys i ni fod tri rheswm annymchwelad-
wy yn ein gorfodi i hyny. Y mae un o honynt yn eir-
yddol, y Hall yn gysylltiadol, a'r trydydd, yn athraw-
iaethol.
(a.) 7 rhesivm geiryddol. Dadl fawr y rhai a hon-
ant yr uchafiaeth dybiedig hon i Pedr, ydyw, fod ein
Harglwydd yn llefaru y geiriau, yn wreiddiol, nid -yn
yr iaith Eoeg, ond yn y gangen-iaith Aramaeg, a
chan"mai y dafodiaeth hono a ddefnyddiai, ac nad oes
YE EGLWYS ~AR Y GKAIG. 55
gwahaniaeth o gwbl yn hono rhwng Pedr a chraiy, mai
yr hyn a ddywedodd ydoedd, " Ac yr wyf yn dywedyd
i ti, mai ti wyt graig, ac ar y graig hon yr adeiladaf
fy eglwys-" Gtan nad pa un ai yn Groeg, Hebraeg,
neu Aramaeg y llefarai y G-waredwr, y mae tri pheth
yn deilwng o sylw.
1. Ymae gwaJianiaetli rhwng Pedr a chraig yn gan-
fyddadwy yn y copiau mwyaf gwreiddiol. Yn mhob
achos o'r fath, ni feiddia y cyfieithydd diweddar gyf-
newid y llawysgrifau mwyaf henafol ac awdurdodedig,
a chan fod gwahaniaeth yn ffurf ac ystyr y ddau air
petros a petra, yn y llawysgrifau hyny, y mae ceisio
egluro y gwahaniaeth hwnw ymaith, er sefydlu tybiaeth
anmhrofedig, yn ymddangos yn debyg i ymgais at
drin gair Duw yn dwyllodrus.
2. Nid ydyw awdurdodau y gymdeifhas grefyddol
Babaidd, Jieb son am awdurdodau y cymdeithasau
Protestanaidd, yn unfarn o ~barthed unrhywiaetfi ys-
tyr y ddau air. Tra y gwyddom fod cysondeb holl
ranau y grefydd Babaidd a'u gilydd yn hawlio prawf-
ion o uchafiaeth Pedr, ac felly fod y mwyafrif mawr o'i
hathrawon yn gweled un prawf yn y geiriau hyn; eto,
hysbys ydyw fod rhai o'i dysgawdwyr mwyaf haedd-
gredol yn gweled yn " y graig hon " gyfeiriad at ber-
son yr Arglwydd lesu. A chaniatau fod dynion o
sane a dysgeidiaeth uchel yn cyfyngu y dynodiad i
berson Pedr, y mae y ffaith fod eraill cyfuwch a hwy
yn caniatau mai Person yr Arglwydd lesu a olygir, yn
pron mai ty rhanedig ydyw yr eglwys Babaidd ar y
pwnc hwn.
3. Y mae deddfau cystrawen yn gwahardd y dyb-
56 YB EG-L-WTS AH Y GEAIG.
iaetli mai Pedr ydyw y graig. Cydnebydd pawb fod
y gair Pedi', fel y dylasai fod, yn y rhyw wrrywaidd ?
a chydnebyddd pawb hefyd fod y gair craig, o'r tu ar-
all, yn y rhyw fenywaidd, a buasai yn drais ar iaith i
ddefnyddio rhywiau gwahanol wrth siarad am yr un
gwrthddrych. Ar wahan i'r manylweh hwn, rhaid ei
fod yn eglur i'r darllenydd arwynebol, fod geiriau yr
Athraw yn gosod Pedr a'r graig mewn sefyllfaoedd
gwrthgyf erbyniol. Y mae y trosiad sydd yn y frawdd-
eg oddiwrth enw priodol, " mai ti yw Petr" at y rhag-
enw dangosol "y graig Tion," yn anesboniadwy ond ar
y dybiaeth fod meddwl y llefarwr wedi symud oddi-
wrth un gwrthddrycli at y Hall, ac y mae y ffaith fod
y rhagenw a ddefnyddia yn y person cyntaf, ac nid yn
yr ail neu y trydydd person, megys honywa neu hona,
yn myned yn mhell i brofi fod Crist yn honi mai Efe
ei hun, ac nid Pedr, ydoedd y graig ar ba un y mae yn
adeiladu ei eglwys.
(b.) Y rheswm a ymgyfyd o'r cysylltiadau. Bydd
yn f antais i adgofio yr amgylchiadau fu yn achlysur
lief ariad y geiriau. Pan yn nhueddau Cesarea Phil-
ippi, gofynodd Crist i'w ddisgyblion, "Pwy y mae
dynion yn dywedyd fy mod i, Mab y dyn ? " Mewn
atebiad, dywedodd y dysgyblion fod gwahanol farnau
yn mysg y bobl ; rhai, wrth ganfod ei onestrwydd di-
orchudd, yn barrni mai loan Fedyddiwr ; eraill, wrth
sylwi ar ei ysbryd diwygiadol, yn barnu mai Elias ; ac
eraill, wrth ei weled yn wylo cymaint, mai Jeremias
ydoedd wedi dychwelyd i'r ddaear. Yn gwybod pa
mor bwysig ydoedd fod ei apostolion, y rhai oeddynt i
egluro ei waith a'i gymeriad fel Messiah i'r byd, yn
YE EGLWYS AB Y GRAIG. 57
synied yn briodol am dano, y mae yn gofyn drachefn,
nid i un o'r apostolion, ond i'r lioll apostolion : " Ond
pwy meddwch cliwi ydwyf fi ?" Yna y mae Pedr yn
ateb, ac yn ateb, nid drosto ei hunan yn unig, ond hef-
yd dros yr holl frawdoliaeth, " Mai ti yw Crist, Mab y
Duw byw." Y mae yr amgylchiadau yna yn eglur yn
eyfiawnhau y ddau osodiad canlynol, sef fod tystiol-
aeth Pedr yn cynwys datganiad o farn yr holl apostol-
ion. Gwir mai efe oedd y llefarydd, ond llefarydd
ydoedd dros ei frodyr. Yn ail, gan fod tystiolaeth
Pedr yn un gynrychiolaidd, yr hyn nis gellir ei wadu,
y mae yn rhaid fod yr anrhydedd wahoddwyd allan
gan y dystiolaeth yn perthyn yn anocheladwy i'r rhai
a gynrychiolid, yn ogystal ag i Pedr ei hunan. Os
gwnaethpwyd Pedr yn sylfaen yr eglwys oblegid ei
dystiolaeth gywir a dyrchafedig am Grist, y mae yn
rhaid fod pob apostol a goleddai yr un farn uchel a
chywir, yn gyf artal deilwng o'r unrhyw anrhydedd. Ym-
ddiriedwyd agoriadau teyrnas nefoedd i bob un o'r
apostolion, a pha beth bynag a rwymai neu a ryddhai
y naill, yn ogystal a'r llall, ar y ddaear, rhwymid neu
ryddheid ef yn y nefoedd (Mat. xviii. 18). Felly, yn
eu perthynas a dysgyblaeth eglwysig, yr oeddynt oil
yn gyf artal ; ac yn absenoldeb unrhyw brawf o ragor-
iaeth ar y gweddill, yn y cysylltiadau hyn, nis gallwn
gredu fod Crist wedi ei ddethol ef, o fysg yr oil, i'r
anrhydedd eithriadol o fod yn sylfaen yr eglwys.
(c.) Yrheswm athrawiaethol. Yn bresenol, ni fydd
i ni ond garw sylw at wrthuni dychrynfawr y ddysg
ryfedd fod Duw wedi gosod adeiladwaith mor bwys-
fawr a'i eglwys, i orphwys ar unrhyw ddyn ffaeledig a
5
58 YB EGLWTS AE Y GRAIG.
marwol ! ! Pwy bynag a wyr hanes y gwadu, helyntion
Gethsemane, byrbwylldra y pysgota, y siglo yn An-
tiocha, &c., y mae yn wrthddrych tosturi os y gwel
wedi liyny yn Pedr sylfaen briodol i eglwys y Duw
byw.
Tr ydym yn argyhoeddedig, yn
jjgll. Mai nid unrhyw athrawiaeth o eiddo Pedr yd-
yw sylfaen yr adeilad Cristionogol. Yn ol y daliad
hwn, yr hwn a fabwysiadwyd gan y tadau, ac a goledd-
wyd mewn amseroedd diweddarach gan Calvin, Ewald,
Wieseler, Horsely, &c., y gyffes a wnaeth Pedr o Grist,
fel Mab Duw, yr hon ydoedd rag-gysgodiad o'i holl
weinidogaeth ydoedd y graig. Megys pe y dywedai
Crist: "Pan gyfarfyddasom a'n gilydd, ac y gelwais
di i'm gwasanaeth, myfi a'th elwais yn Pedr, neu gar-
eg. Y mae dy gyfaddefiad o honof yn bresenol, yn
gylweddoliad o briodoldeb yr enw, oblegid y mae cad-
ernid y graig yn dy dystiolaeth ; ac ar y dystiolaeth
gadarn yna, yr hon a ddygu i mi yn mysg luddewon a
Chenedloedd, yr adeiladaf fy eglwys, a phyrth uffern
nis gorchfygant hi." Y mae y gwirioneddau canlynol
yn diorsedda y fympwy hon.
(a.} Rhodda i Pedr benajiaeth ddysgeidiol, os nad
bersonol, ar yr apostolion eraill. Nid ydym am am-
ddifadu Pedr o unrhyw gymwysder a f eddai, nac o un-
rhyw sane a gyrhaeddodd, yn y gwaith o bregethu yr
efengyl, ond yn sicr, y mae apostolion eraill, a dweyd
y lleiaf , ydynt yn gyfartal enwog yn eu pregethau a'u
hysgrifeniadau. Yn nghyfres anrhydeddau y nefoedd
iddynt, ni wneir un dewisiad. Y mae y deuddeg i eis-
tedd ar ddeuddeg gorsedd, yn barnu deuddeg llwyth
YR EGLWYS AE Y GRAIG. 59
Israel ; ac f e gerfir enw y deuddeg ar ddeuddeg sylf aen
dinas Duw a'r Oen. Ac ni ddarfu i Pedr erioed lioni
un bendodaeth dros yr apostolion eraill. Rhagor, nid
ydoedd yr apostolion eraill yn deall na chydnabod ei
fod yn meddu un math o uwchafiaeth arnynt fel dysg-
awdwr. Dengys ei ymddyryswch ar fater y bwydydd
yn Antiocha, pan y ceryddwyd eigan Paul, nad ydoedd
yn anffaeledig fel athrawiaethwr.
(.) Wid ydyw Gair Duw, yn un man, yn dysgu
f&d yr eglwys yn sylfaenedig ar athrawiaethau. Nis
gall miliwnau o feddyliau gael eu rhwymo am byth
wrth. eu gilydd gan unrhyw nif er o gyfaddefiadau. Ac
yn wir, nodwedd eglur a gwahanedig crefydd lesu
Grist ydyw ei gorphwysiad ar berson byw. Bheolau,
penderfyniadau, a chyffesiadau ydynt gydgysylltwyr
crefyddau eraill, ond craig, yn dal meini bywiol, yn
ngrym ei deddfau sefydlog ac atdynol, ddodwyd gan
Dduw i gadw deiliaid ei grefydd Ef, mewn undeb tra-
gywyddol a'u gilydd. Y mae y meddylddrych o osod
enaid i ymbwyso ar gredo oer ac anfywydol, yn estron
i'r tu dalenau sanctaidd; a chan fod athrylith Crist-
ionogaeth yn ei herbyn, ni ddylai gael derbyniad gan
Oristionogion.
Yr ydym yn argyhoeddedig, yn
III. Mai per son gogoneddus Mob Duw ydyw craig
sylfaenol adeiladwaith yr eglwys. Yn ychwanegol at
y myfyrdodau blaenorol, y mae yr ystyriaethau can-
lynol yn grymuso ein crediniaeth.
(a.) Y mae lesu Grist yn defnyddio allegau am
dano ei hunan, nad ydyw yr ysgrifen sydd yn eu cyn-
wys, yn dangos eu cymhwysiad ato Ef yn bersonol.
60 iE EGIAVYS AE T GRAIG.
Meddylier am eiigraifft, ac y mae jn dwyn tebygol-
rwydd mawr i engraifft y testyn. Wedi iddo yru yr
ychain, y defaid, a'r colomenod allan o'r deml, gofyn-
odd yr luddewon iddo, " Pa arwydd yr wyt ti yn ei
ddangos i ni, gan dy fod yn gwneuthur y pethau hyn ?
Yr lesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Dinystr-
iwch y deml hon, ac inewn tridiau y cyfodaf hi." (loan
ii. 18, 19.) Ni ddywedodd ar y pryd, mewn cynifer o
eiriau, mai y deml y siaradai ef am dani ydoedd teml
ei gorph, ac oni buasai i loan, wedi ei weled yn cyfeir-
io ei fys, fe ddichon, at ei berson ei hunan, tra yn
dweyd "y deml Aon," ychwanegu, " ond Efe a ddywed-
asai am deml ei gorph," fe fuasai rhai dynion wrth
ddaiilen yr efengyl heddyw yn dadleu fod Crist wedi
honi y gallasai ef, mewn tri diwrnod, adeiladu teml a
gymerodd chwe' mlynedd a deugain i'r luddewon i'w
chwblb.au! Yn yr achos dan sylw, gallwn yn hawdd
gredu fod y*Gwaredwr, wrth ddweyd " Ti yw Pedr,"
yn estyn allan ei fraich tuag ato, ond iddo ei thynu yn
ol, a newid ei chyfeiriad, pan ychwanegodd, " ac ar y
graig hon yr adeiladaf fy eglwys."
(.) Defnyddir arwyddlun y testyn yn wastad yn
yr Hen Destament i osod allan gadernid a pharhad
bodolaeth J)uio, ac nid dyn. "Efe yw y graig,"
meddai Moses, " perffaith yw ei weithred." (Deut.
xxxii. 4.) Dywed yn mhellach am yr uniawn, wedi
iddo fyned yn fras, gwingo, brashau, tewychu a
phwyntio, " efe a wrthododd Dduw, yr hwn a'i
gwnaeth, efe a ddiystyrodd graig ei iachawdwriaeth."
(Deut. xxxii. 15.) Mewn ymffrost sanctaidd yn ei
Dduw, ychwanega, " Canys nid f el ein craig ni y mae
YB EGLWYS AB Y GBAIG.
61
eu craig hwynt." (adn. Slain.) Cyfarchai Hannah yr
Arglwydd yn ei chan, gan ddweyd, " Nid sanctaidd
neb fel yr Arglwydd; canys nid dim hebot ti: ac nid
oes graig megys ein Duw ni." (1 Sam. ii. 2.) " Duw
fy nghraig," meddai Dafydd, " ynddo ef yr ymddiried-
af." (2 Sam. xxii. 2.) Ond pa ddyben ymhelaethu, gan
fod yr Hen Destament yn dryfrith a'r fath ymadrodd-
ion.
(c.) JSob amser pan fenthycir y gair craig i osod
allan nodweddau person yn y Testament JVewydd,
lesu Grist yw hwnw, Y mae Pedr yn cael ei alw yn
gareg, ond nid oes neb ond Crist yn cael ei alw yn
graig. Yn gytunol a hyn, y mae Paul yn cymwyso
dyfyniadau yr Hen Destament at yr Arglwydd lesu,
" Megys y mae yn ysgrif enedig, Wele fi yn gosod yn
Sion faen tramgwydd, a chraig rhwystr, a phob un a
gredo ynddo, ni chywilyddir." (Ehuf. ix. 33.) Gwelai
yr apostol yn nghraig Eephidim, gysgod o Graig yr
Oesoedd, ac oblegid hyny dywed, "A'r graig oedd
Crist." (1 Cor. x. 4) "At yr hwn yr ydych yn dyfod,"
meddai Pedr, "megys at faen bywiol, a wrtliodwyd gan
ddynion, eitnr etholedig gan Ddu-w, a gwerthfawr;" ac
wrth fyned yn mlaen i ddarlunio ei berthynas ag an-
ufuddion, dywed fod lesu Grist iddynt hwy " yn faen
tramgwydd, ac yn graig rhwystr." (1 Petr ii. 4-8.) Os
ydyw y gair craig yn yr Hen Destament, yn ddieithr-
iad, pan yn cael ei ddefnyddio i arwyddlunio person,
yn arwyddluniol o Dduw, a phob amser yn y Testa-
ment Newydd yn gyfyngedig i berson yr Arglwydd
lesu, y mae yn anghredadwy genym y buasai Crist yn
gwneyd y fath ddefnydd eithriadol o hono yma ag a
62 YB EGLWYS AE Y GBAIG.
fuasai yn camarwain y byd holl oesau y ddaear. Na,
" sylfaen arall nis gall neb ei gosod, heblaw yr un a os-
odwyd, yr hwn yw lesu Grist." (1 Cor. iii. 11.) Efe,
ac nid neb arall, ydyw y person gogoneddus y dywed-
odd Duw am dano, " Wele fi yn sylfaenu maen yn Sion,
maen profedig, conglfaen gwerthfawr, sylfaen safad-
wy." (Esiah xxviii, 16). Y mae yn briodol, gan hyny }
i bob enaid nesu ato, gan ei gyfarch yn ffyddiog yn
ngeiriau yr emynwr:
" Graig yr Oesoedd, ynot ti,
Hollfrwyd droswyf, cuddier fi;
Boed i'r dVr, yn nghyd a'r gwaed,
dy ystlys friw a gaed,
Olchi f'enaid oil yn ln,
F'aclmb rhag trag'wyddol dan."
Mewn gorfoledd ynddo, gall credadyn hefyd, yn
iaith yr emyn arall, ddatgan ei deimlad :
" Am Graig yr iachawdwriaeth
Fy enaid egwan, can,
Y sylfaen fawr drag'wyddol,
A'r hyfryd gongl-faen;
Fy noddfa rhag ystormydd,
A'm cysgod rhag y gwres,
Mae'n ganmil mwy rhagorol
Na chedyrn furiau pres."
EU HANGELION HWY. 63
EU HANGELION HWY.
" Edryclrwch na ddivmygoch yr nn o'r rhai bychain hyn: canys
yr wyf yn dywedyd i chwi, fod eu hangelion hwy yn y nefoedd
bob amser yn gweled wyneb fy Nhad yr hwn sydd yn y nef-
oedd." MAT. xviii. 10.
YMHOLIADATL
Pwy ydyw y "rhai bychain hyn " y llefara Crist am
danynt ? A ydyw yr ymadrodd " eu hangelion hwy "
yn golygu gwarcheidiaeth angelaidd dros y rhai bych-
ain 1 A ddysga y geiriau fod angelion neillduol wedi
derbyn gweinidogaeth neillduol, er gwasanaeth per-
sonau neillduol ?
Pwy ydyw y " rhai bychain hyn " y llefara Grist
am danynt ? Golygwn wrthynt, nid babanod, f el y
creda y rhai a ddadleuant dros fedydd ac aelodaeth
babanod (Gwel Testament yr Tsgol Sabbothol ar Mat.
sviii. 5) ; ac nid ychwaith y rhai sydd heb ymadael a
thymor plentyndod, ac felly eu heneidiau heb ymagor
i ddymuno am ofal gwell Angel y Cyfamod, fel y dy-
wed y rhai a dderbyniant eiriau Crist yn llythyrenol,
gan anymwybyddu eu meddylddrychau ysbrydol (gwel
yr Expositor, Cyf. VIII. tu dalen 419). Tn hytrach,
golygwn wrthynt gredinwyr yn yr Arglwydd lesu
Grist. Y mae yr ansoddair bychain yn darnodi, nid
oedran anaddfed, nid maintioli cyfansoddiadol, ac nid
graddau dadblygiad deallol, eithr yn hytrach eu bod
yn eu troedigaeth, mewn ystyr ysbrydol, wedi dyfod i
af ael yr ymostyngiad, yr ymddiriedaeth, a'r cariad sydd
mor nodweddiadol o blant naturiol. Nid plant ydynt,
64 EU HANGELION HWY.
ac eto, yn yr ail-enedigaeth, gosodwyd ynddynt nod-
weddion plant-debyg. Felly yn unig y gellir deall
geiriau Crist, " a'ch gwneuthur FEL plant by chain,"
(adn. 3ydd); a'r dybiaeth hono yn unig a all gyfrif am
eu gallu i arfer ffydd yn mherson Crist, oblegid dyna
ddywedir, "uno'r rhai bychain hyn agredant ynoffi"
(adn. 6ed). Golyga y darnodiad, felly, holl saint yr
Arglwydd yn y byd hwn.
A ydyw yr ymadrodd " eu hangelion hwy " yn gol-
ygu gwarcheidiaeth angelaidd dros y rhai bychain
hyn f Yn y geiriau, cydnabyddir bodolaeth urdd ar-
benig o f odau ysbrydol " angelion ; " a rhagor, dy-
wedir am ragoriaeth eu'safle a'u hurddas, "bob amser
yn gweled wyneb fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd."
Y mae yr angelion neillduol a grybwyllir yma, yn cyn-
wys y graddau uchelaf o angelion ; y maent yn mysg
prif weinidogion gorsedd Duw. Y rhai a safent o
flaen wynebau breninol yn y llysoedd dwyreiniol (ao
yn ngoleu y rhagorfraint hono y mae yn rhaid deall yr
ymadrodd hwn), oeddynt bob amser ddetholedigion y
breninoedd hyny. Yr ydoedd brenines Seba yn mawr-
ygu gwynfydedigrwydd y rhai a safent yn wastadol o
flaen Solomon (1 Bren. x. 8) ; ac fel arwydd o ffafr
neillduol, caniatawyd i " Carsena, Sethar, Admatha,
Tarsis, Meres, Marsena, a Menuchan, saith dywysog
Persia a Media," fyned yn agos at Ahasferus. (Esther
i. 14.) Yn gyffelyb y mae gweled wyneb Duw yn
brawf o wynfydedigrwydd mawr, yn arwydd o ffafr ar-
uchel, ac yn ddangoseg o gyf eillgarwch a chymeradwy-
aeth. Bod yn meddu y safle hon, anfonwyd at Zech-
arias i ragfynegi genedigaeth loan. " Myfi yw Gabriel,
EU HANGELION HWY. 65
yr hwn wyf yn sefyll ger bron Duw, ac a anfonwyd i
lefaru wrthyt.y newyddion da hyn." (Luc i. 19). Ac o
ba le yr ymgyfyd yr anrhydedd, a phaham y rhoddir y
sane arbenig lion i ddosbarth neillduol o angelion, os
nad oblegid eu cysylltiad ag anwyliaid Duw ar y ddae-
ar ? T mae maethf amau plant tywysogion a brenin-
oedd y byd hwn yn cael aros mwy yn yr ystafelloedd
breninol, ac yn teimlo mwy o ryddid a hawl yno na
gweinidogion uchelaf y goron; felly hefyd, gellir
casglu, fod yr angelion sydd yn gwylio, meithrin, a
dysgu plant Duw ar y ddaear, yn cael myned yn agos-
ach at yr orsedd na'r angelion cedyrn eraill sydd yn
llywodraethu talaethaia yr eangfyd, ac o herwydd hyn
dywedir fod " eu hangelion hwy" yn wastad yn gweled
wyneb Duw. Y mae sane yr angelion hyn, ac yn neill-
duol y rheswm dros eu sane, yn eglur yn cadarnhau yr
athrawiaeth fod saint Duw yn y byd hwn o dan warch-
eidiaeth angelaidd. Gwir nad ydyw hyn yn egluro yr
athrawiaeth, eithr yn unig yn ei chrybwyll fel un ad-
nabyddus a gwirioneddol. Nid arwyddluniol ydyw yr
ymadroddion, fel y dywed Bleek ; ac nid eu hamcan
ydyw dangos gweithrediad dyn, fel y dywed DeWitte;
ond dysgant yn ddiamwys fod ysbrydion, nid rhai
dynol, fel y dywed llawer, ond angelaidd, wedi eu gos-
od yn swyddogol i ddarofalu am blant Duw yn y byd
hwn. Er syndod mawr, tra y mae yr athrawiaeth hon
i'w chael yn Nghyffes Ffydd pob plaid grefyddol, ych-
ydig iawn y mae yn effeithio yn ymarf erol ar ffydd a
buchedd Cristionogion. Nid oes neb a broffesa gredu
y Beibl, nad ydyw yn proffesu hefyd ei fod yn credu
yn modolaeth angelion ; a rhagor, yn credu yn ngwas-
66 ETJ HANGELION HWY.
anaeth angelion i gyfeillion Crist; ond, rywfodd, y
mae lion yn un o'r credoau mwyaf arwynebol. Nid
ydyw wedi treiddio i ddyfnderau ymwybodolrwydd
dynion, nes cyrhaedd at y mewnol a'r anweledig.
Gyda'r mwyafrif mawr, credir hi yn unig gan y dych-
ymyg a'r deall. A ydwyt ti, ddarllenydd, yn credu f od.
angelion Duw yn gogwyddo dy galon at y da, yn dy
atal rhag y drwg, ac yn dy waredu o beryglon ? Yr
ydwyt yn credu fod yr athrawiaeth yn y Beibl, ond a
ydyw yn dylanwadu ar dy f ywyd ymarf erol di ? Na ;
mewn ymarferiad, diflana fel cysgod, er dirfawr golled
ar daith bywyd. Bu adeg wahanol yn yr eglwys, pan,
gredai y saint mewn angelion gwasanaethgar, "wedi eu.
danfon i wasanaethu er mwyn y rhai a ga'nt etif eddu.
iachawdwriaeth," (Heb. i. 14) ; ond, rywfodd erbyn
hyn, megys ag y creda dynion fod y ddaear wedi ei
chlirio o ellyllon, tylwyth teg, demoniaid, a bodau.
dychymygol eraill, felly credant nad ydyw yr angelion
sanctaidd mwyach yn gwylio a chynorthwyo pobl yr
Arglwydd. Ond wedi'r cwbl, y cwestiwn mwyaf dyrys,
a'r cwestiwn mwyaf dyddorol a awgrymir gan y cy-
hoeddiad hwn o eiddo Crist, ydyw, nid a oes y fatb,
beth a gwarcheidiaeth angelaidd, ond
A. ddysga y geiriau fod angelion neillctuol, wedi
derbyn gweinidogaeth neillduol, er gwasanaethu per-
sonau neillduol ? Yn groes i ddysgeidiaeth mwyafrif
esbonwyr, tueddir ni i roddi atebiad cadarnhaol i'r ym-
holiad hwn. Ymddengys i ni fod yr ymadrodd " eu
hangelion hwy," yn ogystal a lluaws o gyfeiriadau
Beiblaidd eraill, yn dysgu fod gan bob plentyn i Dduw
ei angel gwarcheidiol, ac fod yr angel hwnw yn dal
ETJ EANGKELION HWY. . 67
perthynas ag ef, nad ydyw yn ei dal ag un plentyn ar-
all i Dduw. Y mae y syniad hwn wedi ei gyfleu yn
rymus gan ysgrifell Dr. Landels, Edinburgh. Dy-
wed : " Y mae rhagor yn ei eiriau Ef, dybygwn, na
chydnabyddiad syml o'r athrawiaeth sydd yn cael ei
dysgu mor eglur trwy yr ysgrythyrau f od angelion
yn gweinidogaethu i ddynion crediniol. T mae hyny
yn cael ei gydnabod yn ddiamheuol. Ond y mae geir-
iau y Gwaredwr yn golygu mwy na chydnabyddiaeth
o'r weinidogaeth gyffredinol hono. T maent yn gol-
ygu neillduad angelion neillduol, i weini i unigolion
neillduol. Tmddengys f od ' eu hangelion hwy ' yn
dangos fod angelion arbenig, ag sydd ganddynt ddy-
ddordeb arbenig ynddynt, ac i of al y rhai y maent mewn
modd arbenig wedi eu hymddiried, y rhai, o ganlyn-
iad, sydd yn perthyn iddynt mewn ffordd nad ydynt
yn perthyn i neb arall." Ac yr ydym yn hoffi ei ym-
resymiad pellach, pan ddywed : " Os ydyw angelion yn
gweini i ni o gwbl, ac am hyny ni edy yr ysgrythyr le
i amheuaeth, nid ydyw yn debyg fod eu gwasanaeth
yn cael ei gyflwyno yn ddidrefn. Llawer mwy tebyg-
ol ydyw fod pob un wedi cael ei genadaeth wedi ei
dosranu iddo, fel na byddo i'w gweinidogaeth heidio
oddiamgylch i un crediniwr, tra y mae un arall yn cael
ei anghofio, neu ei esgeuluso, ond y byddo i holl deulu
Duw gael eu gwasanaethu gan y bodau uchel hyny ag
sydd yn ymhyfrydu i gyflawni ewyllys eu Tad." (Gwel
The Baptist, Mawrth 4, 1881.) T mae crybwyllion ac
adroddiadau yr Hen Destament, a'r Testament New-
ydd, am angelion neillduol yn cynorthwyo personau
neillduol, yn rhoddi cefnogaeth i'r gyfryw grediniaeth.
68
EU HANGELION HWY.
Cyfarwyddwyd a chysurwyd Jacob, pan dan erledig-
aetli Esau, gan angelion. Amgylchynwyd Eliseus yn
Dothan gan fyddinoedd Syria, ond ymddangosodd iddo
weledigaeth o angelion yn gorchuddio y mynydd. Pan
ffbai Elias oddiwrth Jezebel, a phan yn mron marw o
dan y ferywen, daeth angel caredig ato, yn galw ei
sylw at y dwfr a'r deisen oedd gerllaw. Bu angelion
yn cysuro Daniel, yn cefnogi Zecharias, ac yn rhoddi
cyfarwyddyd dystaw ac effeithiol i blant Duw ynmoreu
oes y byd. Angelion ddygodd Lazarus i fynwes Abra-
ham ; drwy garedigrwydd a nerth angelion y daeth yr
apostolion allan o garcharau, a daeth Pedr yn rhydd o
afael y ddau filwr a'i ddwy gadwen o dan dywysiad ei
angel nerthol a charedig. Safodd angel gerllaw i Paul
i gysuro ei feddwl, ac i fynegu ei ddyfodol, ar y daith
fyth-gofiadwy dros for Adria o Cesarea i Eufain; a
mynych yr ymwelid a loan, yn unigrwydd Patmos, gan
ryw angel, er cadw cymdeithas, ac egluro golygfeydd.
Y mae y fath athrawiaeth, tra yn gwbl rydd oddi-
wrth bob ofergoeliaeth a dylanwad gwenwynig, yn
nodedig o swynol i enaid dyn Duw. T mae yn llawn
farddoniaeth. "Yn ei goleu hi, cynorthwyir ni
1 gael golwg ramantus ar yr Hen Ddihenydd, a'r
miloedd o filoedd angelion, gwasanaethwyr ei blant, a
phrwyaduron swyddogol ei ymerodraeth, yn sefyll yn
adeinog ger ei fron. Tn ei goleu hi, y gwelwn y Cad-
fridog Immanuel yn nghanol ei fil-myrdd catrodau, yn
eu trefnu a'u danfon i gynorthwyo llueddwyr y groes,
yn ngwahanol ranau y ddaear. Yn ei goleu hi y can-
fyddwn, er dirfawr ddifyrwch, angel mawr, gogonedd-
TIS, caredig, yn para i sefyll wrth ochr y credadyn gwan
EU HANGELION HWY. 69
a thlawd, drwy bob tywydd a themtasiwn, gan aros
gydag ef nes y gwel ei gefn yn myned i mewn i'r ddin-
as berlog. Yn ei goleu hi y deallwn wybodaeth, cyf-
lymder, a nerth yr angelion gwybodaeth, oblegid nid
oes dim angen rhoddi enw preswylfod iddo, dyweder
iddo enw y sant, a bydd hyny yn ddigon : cyflymder,
mewn eiliad bydd wedi dyf od o'r nef oedd i'r ddaear ;
a nerth, oblegid aiff drwy drwch murian y carchar os
bydd yno Bedr i fewn yn gofyn ymgeledd.
Ac mor orlawn o gysuron ydyw yr athrawiaeth hon !
Y mae yn rhaid f od yr Anf eidrol wedi ymgolli mewn
rhyw hyfrydwch tra mawr yn y dyn a dderbynia ei
Fab, cyn y buasai yn rhoddi ei ofal i'r rhai urddasolaf
yn ei wasanaeth "y rhai sydd bob amser yn gweled
ei wyneb."
Y mae yn rhaid y bydd pob sant yn adnabod, ac yn
cael ei adnabod, gan ryw angel, yr angel a fu yn ym-
drafferthu ag ef ar ei daith yn yr anial, ar ol glanio yn
nhir Canaan.
Y mae yn rhaid fod cyfangorph eglwys Dduw yn
ddiogel, oblegid y mae pob unigolyn a'i cyfansodda o
dan warcheidiaeth angelaidd.
Y mae yn rhaid fod adgyfnerthoedd y deyrnas ys-
brydol yn afrifed. Os na ellir rhif o y saint, ni ellir
rhifo yr angelion. Pe delai taro, gallai yr Arglwydd
grynhoi ei holl adgyfnerthoedd angelaidd i fan y per-
ygl. Pan oddiweddwyd adran o fyddin Lloegr, a ym-
laddai yn y Transvaal, ychydig flynyddau yn ol, a
galanastra erchyll, yn mrwydr Majuba, ar unwaith an-
fonwyd degau o filoedd o filwyr eraill, o wahanol or^
safau, i'r rhanbarth hwnw i ddial gwaed y llueddwyr
TO Y BHWYHO A'R KHYDDHAU AE Y DDAEAE.
trengedig, a chadw i fyny anrhydedd Prydain. Ys-
gydwai y " Grantilly Castle " ar y don, ond i Natal, yn
llawn arfau a dynion, yr oedd ei chyfeiriad. Agerai y
rhyfel-long " Egypt " dros y dyfnder, ond i Natal yr
oedd wedi ei breinlenu. Aradai y "Thames" a'r "Eo-
man " faesydd y mor, ond yn Natal yr oedd pen y dal-
ar. Cyrchent yno o Lundain, o Southampton, o Malta,
ac o Gibraltar. Paham? Yr oedd bywyd Prydein-
wyr, ac anrhydedd Prydain, mewn perygl.
Adeilader carcharau, cyneuer ffagodau, a choder ys-
tanciau, y mae gan y llywodraeth ddwyfol ddigon-
edd o adgyfnerthion. Gall Duw anf on ei ryf el-longau
dros f oroedd yr eangder, i ba le bynag y byddo diogel-
wch ei blant, ac anrhydedd ei orsedd, yn galw am
hyny. Heb son am y miliwnau engyl a gyflawnant eu
dyledswyddau ar y ddaear, beth am y myrddiynau an-
weledig a arosant byth yn ngwersyllfa y nef ?
Y EHWYMO A'E EHYDDHAU AE Y DDAEAE.
"Yn wir meddaf i chwi, Pa bethau bynag a rwymocli ar y
ddaear, a fyddant -wedi eu rhwymo yn y nef: a pha bethau byn-
ag a ryddhaooh ar y ddaear, a fyddant wedi eu rhyddhau yn y
uef." MAT. xyiii. 18.
Nid yw yr adnod hon yn un fawr, ond y mae yn un
ddofn, mor ddofn fel y mae yn ofynol meddu craffder
nodedig er gweled ei gwaelod. Wedi edrych yn fan-
wl, yr hyn a -welwn yndddi ydyw
:r RHWYMO A'E BHYDDHAU AB Y DDAEAE. 71
-AWDTJKDOD DDYSGYBLAETHOL EGLWYS DDTTW.
Yn y geiriau, mewniaith ffigyrol, ceir golwg ar eang-
der rheithyddol yr eglwys apostolaidd. T mae y cy-
hoeddiad a wna Crist ynddynt, wedi cynyrchu amryw
YMHOLIADAU
ag ydynt yn hawlio ystyriaeth. Yn eu mysg y mae a
ganlyn : Pa beth ydyw nodwedd y gallu a olygir yn y
rhwymo a'r rhyddhau? Pa beth ydyw nodwedd y
pethau y gellir eu rhwymo a'u rhyddhau ? A ydyw yr
awdurdod a ymddiriedwyd gan Grist i'r eglwys gynt-
efig, gan nad beth ydoedd, yn parhau ynddi hyd y
dyddiau presenol ?
Y mae y camddef nydd alaethas sydd wedi ei wneyd
o'r geiriau hyn, yn ychwanegu at y pwysigrwydd o'u
hiawn-ddeall. Sylfaena Eglwys Bhufain y twyll-hon-
iad mwyaf marwol arnynt, nid amgen maddeuant off-
eiriadol (priestly absolution). Dolenir y tri gosodiad
canlynol wrth eu gilydd, a thynir y casgliad oddiwrtli-
ynt fod y gallu i benderfynu tynged dragywyddol en-
eidiau yn ymddiriededig i'r offeiriaid. Cynseiliau yr
ymhoniad ydynt a ganlyn : Fod y gallu eangf awr y
dywed y testyn am dano, yn benaf wedi ei ymddiried
i Pedr (Math. xvi. 19) ; fod Pedr wedi bod dros dym-
or yn esgob Bhuf ain ; ac fod Pedr yn y cymeriad o es-
gob Ehufain, wedi trosglwyddo pob awdurdod, a hon
yn eu mysg, i'w olynwyr, y Pabau Ehufeinig. Yn
bresenol, ni fydd i ni aros ar y cam-ddeongliad sydd
yn y gynsail gyntaf, na'r amheuaeth gyfreithlon sydd
am wirionedd yr ail ; ac y mae y casgliad a dynir oddi-
wrthynt, mor wrthun ac anghysylltiol, fel nad oes ang-
72 T KHWYMO A 5 B KHYDDHAU AE Y DDAEAK.
en dadorcliuddio y dwyll-resymeg sydd ynddo. Ac y
mae y ffaith fod offeiriaid defodol Eglwys Loegr yn
troi at yr adnod hon, a'i chyffelyb, am gefnogaeth i'w
liawliau, yn gwneyd cyfeillion crefydd ysgrythyrol, yn
awyddus i ddeall natur a therfynau yr awdurdod a
gyflewyd gan Grist i'w ganlynwyr. Drwy gam-esbon-
iad o'r adnod, llwydda yr offeiriaid Protestanaidd (?) i
hudo dynion i gyffesgelloedd, ac wedi hyny, pan y mae
y truan twylledig ar ei wely marw, gall yr offeiriad ei
gyf arch, yn iaith Gwasanaetk y Claf yn y Llyfr Gweddi,
" a thrwy ei awdurdod Ef, a ganiatawyd i mi, y'th oll-
yngaf o'th hott bechodau, yn enw y Tad, y Mab, a'r Ts-
bryd Glan." Y fath gabledd ofnadwy ! !
Mewn trefn i ddyfod o hyd i nodwedd yr awdurdod
a ymddiriedwyd gan Grist, ni a edrychwn arni yn gynt-
af yn ngoleu y terrnau a ddefnyddir yma i'w darlunio ;
yn ail, yn ngoleu y rhanau eraill o'r Testament sydd
yn cynwys cyf eiriadau eglur ati ; ac yn drydydd, yn
ngoleu ymddygiadau yr apostolion yn y gweinyddiad
o honi.
Y niae y geiriau rhwynio a rhyddhau yn cael eu cy-
hoeddi gan rai yn eiriau amwysog, ond i'r mwyafrif
mawr, y mae y meddwl sydd ynddynt yn hollol ddeall-
adwy. Nid ydyw, beth bynag, yn anhawdd cael geir-
iau Cymraeg eraill cyfystyr a hwy. Yn ol " Geiriadur
y Bardd," gan Cynddelw, geiriau cydarwyddol i rwymo
ydynt sicrhau, cylymu, hualu; a geiriau cyfystyr i
ryddhau ydynt, gollwng yn rhydd, maddeu, a datod.
Yn cofio perthynas yr apostolion a'r eglwysi; a sylwi
ar safle wrthgyferbyniol y ddau air dan sylw, rhaid
fod a ganlyn yn ddadansoddiad arallol o'r awdurdod a
Y KHWYMO A'B BHYDDHATJ AE Y DDAEAK. 73
ddesgrifir, sef, fod gan yr apostolion ar y naill law,
hawl i benderfynu pob achos a chwestiwn yn dal per-
thynas a dyledswyddau yr eglwysi, ac ar y llaw arall,
hawl i nodi allan nifer a nodwedd y pethau nad oedd-
ynt rwymedig o gwbl ar ganlynwyr Crist. O dan
ddylanwad a chyfarwyddyd yr Ysbryd Glan yr oedd
eu holl ddyfarniadau yn gywir a therfynol. O fewn
cylch neillduol, yr oedd pob gallu gwaharddol, a phob
gallu caniataol, yn cael ei ymddiried iddynt gan Grist..
T mae y Gwaredwr ar ddwy adeg arall, ond mewn
geiriau gwahanol, yn gwaddoli ei ganlynwyr a'r aw-
durdod ryfedd hon. Un adeg dywed wrth Pedr, fel
cynrychiolydd ei frodyr, "A rhoddaf i ti agoriadau
teyrnas nefoedd." (Mat. xvi. 19.) Gan mai ymadrodd
cyffelybiaethol ydyw hwn, nis gellir ei ddeall heb ad-
gofio y defnydd gwreiddiol o hono. Adgona ni am y
geiriau a lefarodd yr Arglwydd am Eliacim (Esaiah
xxii. 20), sef y buasai yn galw arno. yn ei wisgo yn
ngwisgoedd Sebna, &c., ac ychwanegodd, "Rhoddaf
hefyd agoriad ty Dafydd ar ei ysgwydd ef : yna yr
egyr ef e, ac ni bydd a gauo ; ac ef e a gau. ac ni bydd
a agoro." Dyna ydoedd agoriad y pryd nwnw, a dyna
ydyw agoriad yn awr, yr arwydd gweledig a'r awdur-
dod drwy ba un y gallasai gwarcheidwad y palas bren-
inol ganiatau neu omedd mynediad i breswylfa y bren-
in. Rhywbeth yn debyg i geidwad allwedd y palas
ydoedd swyddogaeth y deuddeg apostol yn eglwys
lesu Grist. Y mae y naill yn dwyn tebygolrwydd i'r
Hall, ac yn y tebygolrwydd hwnw y gorwedd yr urdd-
as, yr awdurdod, a'r gallu a gyfranodd Crist i'r deu-
ddeg wrth roddi iddynt agoriadau teyrnas nefoedd.
6
74 Y KHWYMO A'E BHYDDHAU AE Y DDAEAB.
Ar ol yr adgyfodiad oddiwrth y meirw, yr ydym yn
cael y Gwaredwr yn cyflawni yr addewidion a roddasai
efe drwy yr ymadroddion uchod, ond y mae y ddawn
aruchel yn cael ei chyfleu drwy eiriau gwahanol dra-
chefn. CynrycMolir yr awdurdod y tro hwn, nid gan
y geiriau rhwymo, fhyddhau, neu agoriadau, ond gan
y geiriau maddeu ac atal. "Ac wedi iddo ddywedyd
hyn, efe a anadlodd arnynt, ac a ddywedodd wrthynt,
Derbyniwch yr Tsbryd Glan. Pwy bynag y maddeu-
och eu pechodau, maddeuir iddynt; a'r eiddo pwy
bynag a atalioch, hwy a ataliwyd." (loan. xx. 22, 23.)
Hhagdybia yr ymadroddion hyn droseddwyr naill ai
jn erbyn rheolau y gymdeithas newydd, neu ynte yn
erbyn awdurdod ei swyddogion ; j troseddwyr hyny o
flaen mainc ynadol yr eglwys yn sefyll eu prawf, a'r
apostolion, dan gyfarwyddyd yr Ysbryd Glan, yn
meddu y gallu i gyhoeddi pa rai o honynt oedd i gael
eu derbyn yn ol, a pha rai oeddynt i'w cadw allan. Tr
oedd ganddynt awdurdod i adfer rhai drwy faddeu idd-
ynt, ac yr oedd ganddynt awdurdod i nacau adferiad i
eraill, pan yn ddiarwydd o edif eirwch. Ms gall y ddau
air maddeu ac atal gymeryd i fewn y dosbarth hwnw
o bechodau sydd yn ymdaro yn erbyn bodolaeth noeth
Duw, neu ynte ei ewyllys ddatguddiedig, oblegid
hawlfraint benarglwyddiaethol y Jehofah yw hono, ac
felly y mae yn rhaid eu cyfyngu yn y cysylltiad hwn
at droseddau yn erbyn anrhydedd, llwyddiant, neu
ddysgyblaeth y gymdeithas newydd. Yn gytunol a'r
gwahaniaethiad hwn, y mae Pedr yn cyngori Simon
Magus, pan y gwelodd ef yn mustl chwerwder ac yn
rhwymedigaeth anwiredd, i droi, nid ato ef nac at ei
Y BHWYMO A'B BHYDDHAU AR Y DDAEAB. 75
gyd-swyddogion, ond at Dduw, i ofyn am faddeuant o
feddylfryd ei galon. (Act. viii. 22.)
O angenrheidrwydd, bydd edrych drachefn ar y
modd y gweinyddai yr apostolion yr awdurdod hon,
yn gymorth pwysig i ddeall ei nodwedd. Honai yr
apostolion awdurdod dros yr eglwysi (2 Cor. s. 8), ac
yn yr Actau, yn ogystal ag yn yr Epistolau, ceir ar-
ddangosion o honi mewn gweithrediad. Tr oedd yn
pertliyn i swyddogaeth yr apostolion dair agwedd y
bregethiadol, yr athrawiaethol, a'r ddysgyblaethol ; ac
yn y tair agwedd yna ar eu swyddogaeth. gallwn yn
rhesymol ddysgwyl canfod defnyddiad o'r awdurdod a
roddwyd iddynt ; ac yn hyn nid ydym yn cael ein
siomi. Yn eu gweinidogaeth, yr oeddynt yn agor teyrn-
as nefoedd o flaen dynoliaeth. Tn y cymeriad hwn y
defnyddient yr agoriadau. Wedi i'r lesu gyhoeddi
gwae uwchben y Phariseaid am gau teyrnas nefoedd,
cymerodd yr agoriadau oddiarnynt, a throsglwyddodd
nwy i'r deuddeg. Tr oedd yr apostolion yn derbyn
i'r eglwys y rhai a daflai yr awdurdodau luddewig all-
an o'r synagog. Ar ddydd y Pentecost gollyngodd
Pedr dair mil i mewn i deyrnae nefoedd ; ac wedi
iyny, yn nhy Cornelius, am y tro cyntaf erioed, agor-
odd y drws yn llydan o flaen y Cenedloedd. Megys y
gwnaeth Pedr, felly y gwnaeth yr apostolion eraill.
Tr oeddynt drwy eu pregethau yn taflu drysau teyrn-
as weledig yr efengyl yn agored, ond nid oeddynt wrth
hyny yn honi y gallu i benderfynu tynged dragywydd-
ol eneidiau.
Tn yr ail ddosbarth o'u swyddogaeth, nodent allan
j dyledswyddau a berthynent yn briodol i ddeiliaid y
76 Y EHTVYMO A'B BHYDDHAU AB Y DDAEAB.
cyfamod newydd. Yn yr ystyr hwn yr oeddent yn
rhwymo ac yn rhyddhau. Tr oedd aelodau yr eglwysi
cyntaf yn neillduol anghydfodus parth y gwahaniaeth
rhwng gofynion y ddeddf a gofynion yr efengyl.
Mynycti yr ymgodai anghydwelediad yn nghylch
rhwymedigaeth yr aelodau luddewig a Chenedlig gyda
golwg ar seremoniau y gyfraith rhai o honynt yn
dadleu fod dosbarth o ofynion y ddeddf seremoniol
yn aros, tra eraill yn dadleu eu bod oil wedi eu llwyr
ddileu, a hyny yn oes-oesoedd. Yn yr achos yna yr
ydym yn gweled yr apostolion yn dyfod yn mlaen gan
gylioeddi pa ddyledswyddau oedd yn rhwymedig, a
pha ddyledswyddau yr oeddynt yn rhydd oddiwrthynt.
" Canys gwelwyd yn dda gan yr Ysbryd Glan," medd-
ai Paul, "a chenym ninau, na ddodid arnoch faich
ychwaneg na'r pethau angenrheidiol hyn : Bod i chwi
ymgadw oddiwrth yr hyn a aberthwyd i eilunod, a
gwaed, ac oddiwrth y peth a dagwyd, ac oddiwrth od-
ineb, oddiwrth yr hyn bethau os ymgedwch, da y
gwnewch." (Act. xv. 28, 29.) Md ychwanegwn eng-
reifftiau j gall y darllenydd gael digonedd o honynt yn
rhanau diweddol yr holl Epistolau, a gweled yn y rhai
hyny y model yr oedd yr apostolion yn rhwymo ac yn
rhyddhau.
Yn y mynegiad o weithrediadau yr eglwys apostol-
aidd, ymddengys arddangosion o'r drydedd adran, sef
yr un ddysgyblaethol. Yn hono nodir achosion yn y
rhai y mae rhai pechodau yn cael eu maddeu, ac ach-
osion eraill yn y rhai y mae pechodau yn cael eu hatal.
Fel siamplau o rai y maddeuwyd, neu y gellir maddeu
iddynt, sylwer ar 2 Cor. ii. 7 ; Gal. vi. 1 ; Judas 22 ;
Y EHWYMO A'B BHYDDHAU AE T DDABAE. 77
ac fel siamplau o rai na faddeuwyd iddynt, neu nad
ellir madden iddynt, myf yrier yr engreifftiau canlynol :
1 Cor. v. 11; 1 Tim. i 20; Titus, in. 10, 11. T mae
dylarniadau yr apostolion yn yr achosion hyn yn aros
megys rhagreolau safonol, a doethineb uwchaf eg-
Iwysi yr oesau, yn mhob achos o ddysgyblaeth ar y
rhai afreolus, ydyw gweithredu yn ol y cyfarwyddyd
a geir ynddynt.
Gwelir fod rhediad y nodiadau uchod yn cyf-
ogwyddo i gadarnhau y grediniaeth, yn gyntaf, nad
ydoedd yr awdurdod apostolaidd yn cyrhaedd yn
mhellach na materion eglwysig yn y byd nwn. Nid
ydoedd o gwbl yn penderfynutynged dragywyddol dyn-
ion yn y byd a ddaw. Gwelir, yn ail, gan fod yr Tsbryd
Glan yn preswylio yn nghalonau cyf eillion Crist yn
mhob oes, fod yn rhaid fod grym dwyfol yn mhender-
fyniadau pob eglwys, yn yr oes hon, pan ymgynullo
yn nghyd'yn enw yr Arglwydd lesu. A gwelir, yn ol-
af, gan fod eglwysi y Duw byw, yn eu cynulliadau, ar
wahanol adegau, yn deddfyddu gyda golwg ar ddyled-
swyddau, athrawiaethau, a phersonau, mor angerddol
y dylai en gweddiau fod am gyfarwyddyd yr Ysbryd
Glan.
78 Y KHAI OLAF YN TLAENAF.
Y EHAI OLAF YN FLAENAF.
"Canys teyrnas nefoedd sydd debyg i -wr o berchenty, yr
hwn a aeth allan a hi yn dyddhau, i gyflogi gweithwyr i'w
winllan. Ac wedi cytuno a'r gweithwyr er ceiniog y dydd, efe
a'u hanfonodd hwy i'w winllan. Ac efe a aeth allan yn nghylch
y drydedd awr, ac a welodd eraiil yn sefyll yn segur yn y farch-
nadfa; Ac a ddywedodd wrthynt, Ewch chwithau i'r winllan; a
pha beth bynag a fyddo cyfiawn, mi a'i rhoddaf i chwi. A hwy
a aethant ymaith. Ac efe a aeth allan drachefn yn nghylch y
chweched a'r nawfed awr, ac a wnaeth yr un modd. Ac efe a
aeth allan yn nghylch yr unfed awr ar ddeg, ac a gafodd eraiil
yn sefyll yn segur, ac a ddywedodd wrthynt, Paham y sefwch
chwi yma ar hyd y dydd yn segur ? Dywedasant wrtho, Am na
chyflogodd neb nyni. Dywedodd yntau wrthynt, Ewch chwi-
thau i'r winllan; a pha beth bynag fyddo cyfiawn, chwi a'icewch.
A phan aeth hi yn hwyr, arglwydd y winllan a ddywedodd wrth
ei oruchwyliwr, Galw y gweithwyr, a dyro iddynt eu cyflog, gan
ddechreu o'r rhai diweddaf hyd y rhai cyntaf. A phan ddaeth y
rhai a gyflogasid yn nghylch yr unfed awr ar ddeg, hwy a gaws-
ant bob un geiniog. A phan ddaeth y rhai cyntaf, *hwy a dyb-
iasant y caent fwy; a hwythau a gawsant bob un geiniog. Ac
wedi iddynt gael, grwgnach a wnaethant yn erbyn gwr y ty. Gan
ddywedyd, Un awr y gweithiodd y rhai olaf hyn, a thi a'i
gwnaethost hwyntyn gystal a ninau, y rhai a ddygasom bwys y
dydd a'r gwres. Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrth un o
honynt, Y cyfaill, nid ydwyf yn gwnaethur cam a tin; onid er
ceiniog y cytunaist a mi? Cymer yr hyn sydd eiddot, a dos ym-
aith: yr ydwyf yn ewyllysio rhoddi i'r olaf hwn megys i tithau.
Ai nid cyfreithlawn i mi wneuthur a fynwyf a'r eiddof fy hun ?
neu a ydyw dy lygad di yn ddrwg, am fy mod i yn dda? Felly y
rhai olaf a fyddant yn flaenaf, a'r rhai blaenaf yn olaf : canys
llawer sydd wedi eu galw, ac ychydicc wedi eu dewis." MAT.
xx. 116.
T mae unrhy w ddosbarth yn yr ysgol Sul a gyf er-
fydd a'u gilydd er darllen a cheisio deall y ddameg
Y BHAI OLAP YN FLAENAF. 79
uchod, yn rhwym o deimlo ei bod yn un o'r rhai mwy-
af dyrys o holl ddamegion y Testament Newydd. Tn
wir, cydnabyddir hi felly gan y rhai sydd wedi treulio
mwyaf o amser iV myfyrio, ac a f eddant y manteision
goreu i'w hiawn-ddeongli. Nid ydym ni, wrth argy-
meryd a'r gwaith o ysgrif enu ami, yn golygu. awgrymu
f od yr eglurhad a ganlyn yn rhagori ar eiddo unrhyw
esboniwr blaenorol; ein hunig obaith ydyw, y gall em
hymgais f od o gymorth i'r athrawon hyny sydd yn yra-
bleseru yn y gwaith o geisio deall a dysgu meddyliau
yr Athraw. Tybygem mai
YMHOLIABAU
cyffelyb i'r rhai canlynol fuasai darlleniad ystyriol o'r
ddameg yn eu cynroi ; ac y mae rhai o'r gof yniadau,
os nad yr oil, yn ymwneyd a'r prif anhawsderau a gyf-
arfyddant f eddwl y darllenydd.
1. Pa beth ydyw y gwirionedd, y ddysgeidiaeth, neu
yr athrawiaeth y mae y ddameg wedi ei bwriadu i'w
hegluro ?
2. Ai eglurhad ydyw y ddameg ar adnod olaf y ben-
od o'r blaen, yr hon a ymddengys eilwaith yn adnod ol-
af y ddameg, ond gydag ychydig o ychwanegiad, sef,
" Ond llawer o'r rhai blaenaf a fyddant yn olaf, a'r rhai
olaf yn flaenaf ;" ac os felly, pa f odd y mae y ddameg
yn eglorhad ar wiredd y dywediad hwnw?
3. Pwy sydd yn cael eu cynrychioli gan y grwgnach-
wyr'? ai deiliaid teyrnas ysbrydol lesu G-rist ydynt?
ac os felly, pa f odd y gellir cysoni y grwgnachrwydd
a'r ffaith f od cadwedigaeth yn hollol o ras ? O'r tu ar-
all, os nad y cadwedigion ydynt, pa f odd y gellir cy-
80 Y KHAI OLAF YN FLAENAF.
soni hyny dracliefn a'r ffaith eu bod wedi bod yn
llafurio yn y winllan drwy y dydd, ac am y llafur
hwnw wedi derbyn cyflog?
4. A ydyw yr ymadrodd a leferir wrth y grwgnach-
wyr yn golygu eu hamddifadu yn hollol o wynfyd y
nefoedd, "Cymer yr hyn sydd eiddot, a dos ymaith 1 ?"
(adn. 14,) ac hefyd, yn mha gyfnod yn hanes goruch-
wyliaethau Duw yr a y Perchenog i gyfrif, drwy ei or-
uchwyliwr, a'r gwinllanwyr ?
5. Ar ba dir y mae ymddygiad y " Gwr o berchen
ty " Y- ymddangos yn gyfiawnhaol, pan yn rhoddi yr
un faint o wobr i weithwyr yr un awr, a gweithwyr y
deuddeng awr ?
6. A oes cyf eiriad yn y ddameg at eiddigedd y gen-
edl luddewig, o herwydd f od y Cenedloedd yn gyfar-
tal a hwy yn y deyrnas gyfryngol, neu ynte a olygai
Crist wrth ei llefaru i'r ddameg wasanaethu fel cerydd
i'r apostolion, ac i Pedr yn neillduol, am y gorawydd
a ddangosasant am flaenoriaetn yn anrhydeddau ei
deyrnas ?
Cyn amcanu rhoddi yr hyn a ymddengys i eraill, neu
ynte a ymddengys i ni, yn cynwys prif ddysgeidiaeth
y gyffelybiaeth, credwn y bydd yn fanteisioJ i'r dar-
llenydd, fel y bu i ninau, i sylwi ar arwyddluniau natur-
iol y ddameg. Llefarwyd hi wrth yr luddewon ; ac fel
y mae yn naturiol dysgwyl, y mae yr arwyddluniau a
ddefnyddir, yn nghyda'r cyf eiriad a geir ynddi at hir-
frydedd (adn. 12), i'w deall oddiar sane luddewig.
Ehaid iawn-ddeall y naturiol cyn y deallir yr ysbrydol,
anigyffred y llun cyn y mae yn ddichonadwy amgyif-
red yr ad-lun, yr hwn yr amcanai yr allegwr ei ar-
Y BHAI OLAF YN FLAENAF.
81
ddangos. T mae pob rhan o'r olygf a naturiol yn lliw-
iedig a defion luddewig. Nodwn y rhai pwysicaf.
Adegau y cyflogi. Pan yn dyddhau, y drydedd
awr, y chweched awr, a'r unfed awr ar ddeg amserau
a gyfatebant i chwech, naw, a deuddeg y boreu, tri a
phump o'r gloch yr hwyr o'n hamser ni. Yr oedd diwr-
nod yr luddewOn, fel y Groegiaid, yn cael ei wneyd i
fyny o ddeuddeg awr, yr hwn a ddosberthid yn chwar-
teri o dair awr yr un; ac nid peth anfynych ydoedd
gweled perchenogion y gwinllanoedd, fel yn y ddam-
eg, yn myned allan oyn dechreu pob un o'r chwarteri
hyn, i ymofyn am weithwyr. T mae yr amser o'r dydd
y dechreuodd ty-ddaliwr y ddameg gyflogi, yn cytuno
yn hollol a'r hanesion luddewig. " Medd E. Juda,
ben Bethira, pryd y mae holl wyneb y Dwyrain yn ol-
eu hyd Hebron, y niae yr noil bobl yn myned allan,
pob un at ei waith ; a phryd y mae mor oleu, dy wed-
wn ei bod yn dda i gyflogi gweithwyr." Ar yr hyn y
dywed yr esboniad, "T mae pob dyn yn myned
allan at ei waith, nid i ymofyn gweithwyr ; ond y per-
chen ty, yr hwn sydd yn cyfodi yn foreuach i geisio
gweithwyr."
Swm y gyflog. Oeiniog, sef y geiniog Bufeinaidd
a elwid denarius. Bathodyn ydoedd hwn o arian, ac
yn gyfwerth, yn ol mwyafrif esbonwyr, i saith geiniog
a dimai o arian Lloegr. Hwn ydoedd y cyflog rheol-
aidd yn Mhalestina am y fath waith, ac yr oedd yn
cael ei ystyried yn dal hollol rhesymol.
Segurwyr y farchnad. ^Dywed Trench, f od Morier,
yn ei Second JTourney through Persia, p. 265, yn cry-
bwyll ei fod wedi sylwi ar arferiad cyffelyb i'r un a
82
T EHAI OLAF YN FLAENAF.
nodir yn y ddameg, yn marchnadle Hamadan. " Yma
sylwasom bob boreu cyn i'r haul godi, f od torf o wlad-
*, gyda rhawiau yn eu dwylaw, yn ymgasglu, yn
yl cael eu cyflogi am y diwrnod i weithio yn y
maesydd cylchynol. Tarawodd yr arferiad hwn fi fel
arddangosiad dedwydd o ddameg y G-waredwr, yn en-
wedig pan yn pasio heibio yn ddiweddarach ar y dydd,
y gwelem eraill yn sefyll yn segur, ac y cofiasom y
geiriau, ' Paham y sefwch chwi yma ar hyd y dydd yn
segur ?' oblegid wrth roddi yr un gofyniad iddynt, at-
ebasant, 'Am na chyflogodd neb nyni.' "
Tain y gwinllanwyr. Yn ol y gyfraith, yr oedd cyf-
log y diwrnod i'w dalu tua machlud haul. "Yn ei
ddydd y rhoddi iddo ei gyflog; ac na fachluded yr
haul arno : canys tlawd yw, ac a hyn y mae yn cyn-
al ei einioes." (Deut. xxiv. 15.) Nis gallasai y cyflog-
edig hawlio ei gyflog yn gynt na hyn, ac nis gallasai y
cyflogwr ei atal yn hwy oddiwrtho. (Gwel hefyd, Lef.
six. 3; Job vii. 2; Mai. iii. 5 ; lago v. 4.)
Yr hinsawdd ddwyreiniol. Dywed y grwgnachwyr
eu bod hwy wedi dwyn < pwys a gwres y dydd." Y
mae y gair gwres yma yn cyfateb i air Hebraeg a gyf-
ieithir yn wynt dwyreiniol, yr hwn a elwid felly am ei
fod yn fwy rhostiol na gwyntoedd eraill. Tramwyai
drwy y Dwyrain yn mhoethder y dydd, gan ddeifio pob
peth y ffordd y teithiai. Ceir cyfeiriadau ato, ac at ei
effeithiau, yn Esa. xlis. 10; Ezec. xix. 12; Luc xii. 25;
lago i. 11. Nis gallasai dim fod yn fwy difaol na
gweithio yn y winllan yn ystod trawsfynediad hwnw ;
ond yr oedd y rhai a weithient yn ddiweddar yn y
Y EHAI OLAF YN FLAENAF. 83
prydnawn, tua macKludiad yr haul, yn cael gweithio
yn nghysgodion oerion yr hwyr.
Tn a\vr, y mae i'r holl arweddau hyn o fywyd lu-
ddewig, f el y benthycir hwy gan Grist, y Damegwr, eu
hystyr ddysgeidiol, fel y maent yn arddangos i ni ryw
nodwedd arbenig berthynol i deyrnas Dduw " Canys
teyrnas nefoedd sydd debyg" &c. Gall fod yn gyn-
orthwyol, drachefn, wedi cael rlrjrw syniad am yr ar~
wyddluniau, i chwilio am eu harwyddocad.
Beth yn nheyrnas Dduw sydd yn debyg iddynt?
Wrth arfer gorfanylder, y mae perygl ymgolli mewn
gwrthuni yn y cyf eiriad hwn ; ond yn sicr, gellir sylwi
ar rai o'r pethau a ddywedir am ddyn yn y ddameg fel
cyfryngau i roddi gwybodaeth nacaol neu gadarnhaol r
am yr hyn a ddysgir drwyddi am Dduw yn ei Fab. Er
mwyn eglurdeb, dodwn yr arwyddluniau un ochr, a'r
hyn a ystyriwn a arwyddoceir ganddynt yn yr ochr
gyferbyniol.
ABWYDDLTJNIATI. ABWTDDOCAD.
Adn. 1. "Teyrnas nefoedd." Llywodraetlt ysbrydol Dirvr
dros eneidiaxi dan yr efengyl.
" Gwr o berchen ty," Y mae yr egwyddor sydd yn
llywodraetbu ymddygiad DTIW
at ei bobl. yn tebygu mewn rhai
pethau i'r egwyddor sydd yn
llywodraethu ymddygiad ty-
ddaliwr at y rhai a weithiant
yn ei winllan. "
" A hi yn dyddhau." Gwawriad y cyfnod Cristion-
ogol.
" I'w winllan." Egl-wys lesu Grist. Y rhan-
barth y cododd Drrw furiau o'i
amgylch er iddo ffrwytho. (Mat.
sxi. 33-44.)
Adn. 2. "Er ceiniogydydd." Y bywyd tragywyddol a add-
awa Duw iV holl wasanaethwyr
gwirioneddol.
Y BHAT OLAF YN FLAENAF.
Adn. 3. " Y drydedd awr."
" Yn y farchnadfa."
Adn. 5. " Y chweched a'r
iiawfed awr."
Adn. 6. "Yr unfed awr ar
ddeg "
Adn. 8. "A phan aeth hi yn
hwyr."
" Wrth ei oruchwyliwr. '
Adnod 11. " Grwgnach a
wnaethant."
Adn. 12. " Ddygasom bwys y
dydd a'r gwres."
Adn. 13. " Y cyfaill, nid yd-
-wyf yn gwneuthur cam a tlii."
Cyfnod dylynol i'r \\n a nodir
yn adn. 1, yn dynodi treigliad
y blynyddau.
Y farchnad ydoedd cyrchfan
ac arosfan segurwyr, Segurwyr
ydyw pawb nad ydynt yn gwas-
anaethu Duw ; a'r byd, y tu all-
an i'r eglwys, ydyw eu harosfan.
Dosbarth diweddarach dra-
chefn yn nhymor teyrnasiad
Duw drwy yr efengyl.
Y rhan olaf o amser y byd,
cyn i Dduw ddyfod i wneutnur
cyfrif a thrigolion y ddaear.
Diweddiad yr oruchwyliaeth
efeiigylaidd.
GoruchAvyliwr Duw dan yr
efengyl ydyw yr Arglwydd lesu,
ac iddo ef y mae y Tad wedi
ymddiried gweini y cosbau a'r
gwobrau. (Dat. ii. 7, 10, 17, 28,
&c.) .
Nis gall neb, am y rhesymau
a roddir gan y Perchenog, lai
na chondeninio yinddygiad y
grwgnachwyr ; ac os ydoedd ym-
ddygiad y grwgnachwyr yn y
ddameg yn gondeuaniedig, yr
oedd ymddygiad Pedr a'i frod-
yr, y rhai ydynt wrthluniau
llafurwyr y ddameg, yn gan-
demniedig hefyd, gan eu bod
hwy yn dysgwyl fl'afrau neill-
duol mewn blaenoriaeth, ar gyf-
rif yr aberth y tybient oeddynt
wedi wneyd wrth ddylyn Grist
pan y gwnaethant. Dangosir
yma afresymoldeb eiddigedd
neb at y rhai a dderbyniant
ffafrau gan Dduw.
Crefydda yn nhymor cyntaf
Oristioaogaeth.
Yr arddull amddiffynol y gall-
as .i Dnw ei mabwysiadu pe y
byddai y fath beth yn ddichon-
adwy byth ng i un o'r llafurwyr,
fel y gwnelai Pedr yn ei anwy-
Y BHAI OLAF YN FLAENAF.
85
Adn. 14. " Cymer yr hyn sydd
eiddot, a dos ymaith."
Adn. 15. "A ydyw dy lygad
di yn ddrwg, am fy mod i yn
dda ?"
Adn. 16. "Y rhai olaf fydd-
ant vn flaenaf."
bodaeth, achwyn oblegid ei safle
gymharol yn.ei deyrnas.
Megys y gwna gweitniwrwedi
derbyn ei dal myned ymaith,
nid o wasanatrth ei feistr, ond i
fwynhau ffrwyth ei lafur; felly,
ni olyga hyn ysgariaeth oddi-
wrth Dduw, ond ymneillduad o
swyddfay farn i fwynhau gwobr
y nefoedd. Cofier o hyd mai
amddiffyniad posibl Duw ydyw
hwn, wedi ei achlysuro gan ym-
hongarwch Pedr.
Pe y grwgnachai neb byth fod
eraill 3'n cael mwy nag ef, prof-
ai hyny, nid anghyfiawnder
Duw, ond anmherUeithrwydd
dyn.
Caiff pawb a wasanaethant
Dduw fywyd tragywyddol; ond
yn mysg y miliynau a'i gwasan-
aethant, bydd rhai yn cyflwyno
gwasanaeth rhagorach nag er-
aill ; feily ca y rhai hyny, nid y
gyflog yn unig, ond anrhydedd
lawer yn ychwanegol; ac y mae
yr anrhydedd ychwanegol hwnw
i'w roddi yn gwbl annibynol ar
y cyfnod yn hanes y byd y dar-
fu iddynt gyftwyno eu gwasan-
aefch.
Er fod y nodiadau cyferbyniol uchod yn rhag-gys-
godi ein tyb ni am yr hyn ydyw prif ddysgeidiaeth y
ddameg, nis gall fod yn annyddorol, nac ychwaith yn
ddifudd i'r ymofyngar i sylwi yn fanwl ar farnau ys-
grif enwyr eraill. Gwelir oddiwrth y dyf yniadau can-
lynol o Esboniadau ar Ef engyl Matthew, ac ar y ddam-
eg hon, fod awdurdodau uchelaf y byd deongliadol yn
amrywio yn ddirf awr wrth geisio ateb y gofyniad, " Pa
wirionedd ydyw y gwirionedd mawr a gyfansodda ys-
gyrniaeth y ddameg hon ?" ond rhaid cydnabod fod
86 Y EHAI OLAF YN FLAENAF.
Thai o lionynt wedi ysgrifemi cyn fod beirniadaeth
Feiblaidd wedi ymwisgo yn ei ffurf gelfyddydol. Syl-
wer ar yr liyn a ddywed ychydig o'r llawer y buom yn
jmgyngori a hwy.
Calvin a ddywed, *'Fod gan Dduw hawl annher-
fynol i ddosbarthu ei roddion fel y gwelo efe yn oreu,
ac yn rhwym, mor belled ag y mae yn rhwym o gwbl,
yn unig gan ei addewid ei hun ; nid gan un hawl o'n
tu ni, a'n bod yn sefyll, nid trwy deilyngdod, ond trwy
ei ras rhad ef , fel nad ydyw yn gwneyd un camwri pan
y mae yn cyfleu ei roddion tymorol ac ysbrydol lawer
jn helaethacL. i rai nag eraill, megys pan y mae yn ar-
wain rhai drwy Iwybr dyrys a blinderog i afael a ben-
ditHon a gyrhaeddir gan eraill gyda rhwyddineb a
cnynymdra." Creda Calvin felly, mai i ddysgu y gwir-
ionedd pwysfawr hwn y llefarwyd y ddameg.
SurMtt a ddywed, " Fod ystyr a deongliad daublyg
yn cael ei roddi i'r ddameg hon, ond y ddau yn gyffel-
ybiaethol. T mae un o honynt yn cyfeirio at alwad y
Oenedloedd. Tr luddewon oedd y bobl gyntaf oedd
gan Dduw yn y byd. Cawsant en cyflogi yn brydlon
i'r winllan yn y boreu; ni chafodd y Cenedloedd nes
oedd y dydd wedi rhedeg yn mhell ; ond f e gaiff y Cen-
edloedd, yn ol ewyllys da a haelioni Duw, dderbyn yr
un wobr o fywyd tragywyddol ag oedd mewn addewid
i'r luddewon, y rhai a ddyoddef odd wres y dydd tra yr
oedd y Cenedloedd yn sefyll yn segur. Yn yr ystyr
gyffelybiaethol arall, gallwn ddeall pawb, mewn ystyr
annherfynol, a'elwir gan yr efengyl i'r eglwys weledig,
y rhai a elwir ddiweddaf a gant eu gwobrwyo yn
nghyda'r rhai cyntaf ; ac o ganlyniad, dyben a bwriad
Y BHAI OLAF fS FLAENAF. 87
y ddameg ydyw dangos rhadlonrwydd dwyfol ras yn y
cyfraniad o'r gwobrau hyn, y rhai y mae llaw trugar-
edd yn gyfranu i weision ffyddlon Duw."
Trapp a ddywed, " Yr oedd Pedr a'r gweddill mewn
perygl o gael eu chwythu i fyny gan y ragdybiaeth o
helaethrwydd eu gwobr, a addawyd yn pen. xix. 28, 29.
I atal hyn, ac fel nas gallasent sefyll ar eu telerau a'u
dysgwyliad eu hunain, rhoddir iddynt i wybod, dra-
chefn a thrachefn, y bydd llawer o'r rhai ydynt yn
mlaenaf yn olaf, a'r olaf yn mlaenaf ."
Matthew Henry a ddywed, "Tn awr ymddengys
mai hyn ydyw prif dueddnod y ddameg hon, i ddang-
os mai yr luddewon fuasai y rhai cyntaf i gael eu galw
i'r winllan, ac y buasai llawer o honynt hwy yn dyfod
ar yr alwad, ond yn mhen amser y buasai yr ef engyl
yn cael ei phregethu i'r Genedloedd, y buasent hwy yn
cael eu derbyn, ac yn cael derbyniad i ragorfreintiau a
manteision cyfartal a'r luddewon yn gyd-ddinasydd-
ion a'r saint, yr hyn y buasai yr luddewon, hyd ynnod
y rhai oeddynt yn credu, yn ei wrthflasu yn fawr, ond
heb un rheswm."
Olshausen a ddywed, "Amcan uniongyrchol y ddam-
eg ganlynol, o ganlyniad, fel y dengys y cysylltiad, yd-
yw hyn, dysgu yr apostolion pa fodd nad ydoedd eu
.galwad hwy, o hono ei hun, yn cyfroddi iddynt hwy
unrhyw ragorfraint neillduol, a pha fodd y gallasai y
llafurwyr ffyddlon yn nheyrnas Dduw, y rhai a alwyd
mewn cyfnod diweddarach, gael eu gosod ar droediant
cyfartal iddynt yn ol dyfarniad rhydd a diamodol gras
dwyfol."
Dr. Campbell a ddywed, " Amcan y ddameg ydyw
88 Y EHAI OLAF YN FLA.ENAF.
diwygio yr luddewon, y rhai oeddynt eiddigeddus o'r
Cenedloedd. Cliwenyclient liwy gael gorfaeliant par-
haol o'r ffafr ddwyfol, a'i bendithion efengylaidd."
Alford a ddywed, "Fod cyfeiriad gwreiddiol y
ddameg at yr apostolion." Cytuna ef a Stier a Trench
i osod pwys mawr ar y cerydd a roddir i'r gwinllanwyr
anfoddog (adn. 14), yn gymaint felly fel y gwna iddo
arwyddo y posiblrwydd o'a gwrthodiad diweddol. Y
mae Trench, yn gwneyd rhywbeth rnagor nag awgrymu
y posiblrwydd dychrynllyd hwn. Eglura Alford mai
y wobr, neu y geiniog, ydyw bywyd tragywyddol, neu
mewn geiriau eraill, "Duw ei hun;" ond darlunia y
rhai eiddigeddus a grwgnachlyd yn gyffelyb i'r rhai y
troes ffrwyth yn lludw yn eu geneuau. Dywed E. B.
Conder, M. A., yn ei esboniad ar Matthew, ac mewn
cyfeiriad at olygddysg Alford, " Fod hyn yn ymddang-
os yr anghyfdyb {paradox} fwyaf dyeithr y gall dyn
ddei'byn bywyd tragywyddol a bod yn golledig yn
y diwedd. Y mae hyn," ychwanega, " yn engraifft o or-
ddeongli.' 1 ' 1
Barnes a ddywed, " Y mae (y ddameg) wedi ei bwr-
iadu yn unig i ddysgu fod Crist yn gwneuthur gwa-
haniaeth YN yr eglwys, yn mysg y tyrfaoedd a fyddant
cadwedig ; gwna rai yn fwy defnyddiol nag eraill, ar
wahan i'r amser y gwasanaethant, ac y byddo iddo eu
gwobrwyo yn gyfatebol. Y mae y ddameg yn dysgu
UK gwirionedd, a dim ond UN."
F. G. Cooke, caplan y Frenines, a ddywed yn y
Speaker's Commentary, " Gall fod graddau a gwahan-
iaethau, yn ddiddadl, yn nghyflwr dyfodol gwaredig-
ion Crist, ond nid ydyw y gwahaniaethau hyny yn
Y BHA1 6LAP YN FLAENAF. 8
ffurfio un ran o gyfamod gras, yn yr hwn y mae yr un
rodd o fywyd tragywyddol yn cael ei chynyg i bawb
drwy haeddiant y Grwaredwr, llawer llai o dan y cyf am-
od hwnw y gall unrhyw ddyn anturio meddwl y caiff
ragor."
Testament yr Ysgol Sabbotho'' a ddywed, "Y mae
llawer o ddadlu wedi bod o barth i brif ddrychfeddwl
y ddameg. Barna rhai mai y drychf eddwl hwnw yw,.
fod gwobr teyrnas nefoedd yr un faint i bawb o'r deil--
iaid, f el y caf odd pob un o'r gweithwyr ei geiniog ; er-
aill, mai nid ar hyd yr amser, ond ar ffyddlondeb yn ei
wasanaeth, y mae yr Arglwydd yn sylwi ; eraill, mai y
prif ddrychfeddwl ydyw y gwahanol oriau y cyflogid y
gweithwyr; ond y golygiad mwyaf cywir ydyw, mai
penarglwyddiaeth ydyw cyfraith fawr teyrnas Dduw,
mai o ras, nid o ddyled, y mae y wobr ; nad oes gan y
rhai a weithiasant hwyaf f wy o hawl ar Dduw na'r rhai
a alwyd olaf, ond y saif efe at ei air a'i gyfamod a
phawb o ddeiliaid ei deyrnas."
f 1 , T. Hill a ddywed, "Cynygiaf ddangos fod yr
amser a dreulir mewn llafur yn cynrychioli swm y
llafur, ac fod maint y llafur yn cynrychioli rnaint yr
aberth. Hyn yr ydwyf fi yn ei gymeryd yn allwedd
i'r ddameg." (Expositor, vol. iii. 427.)
S. Cox a ddywed, "Am danaf fy hun, nid ydwyf yn
gwybod am un (allwedd) sydd yn ein gollwng mor
bell iddi a hwn, ' Yn ngwasanaeth Duw, gwobr oreu
llafur ydyw llafur, fel y gall y rhai y mae ganddynt
fwyaf o waith fod yn hollol foddlon ar y wobr leiaf.' "
(Expositor, vol. iii. 427-8.)
ydym ni am geisio amddiffyn na chondemnio un
7
90 Y EHAI OLAP YN FLAENAF.
o'r golygiadau uchod, yn unig amlygu ein crediniaeth
mai yr hyn a ddysgir yn benaf drwy y ddameg ydyw,
UNKHYWIAETH GWOBB, AC AMRYWIAETH ANRHYDEDD
CANLYNWYB CKIST.
Tn ffodus, y mae yr hyn a arweiniodd i lefariad y
ddameg, (ac nis gellir ei deall ond mewn cysylltiad a
hyn, oblegid y cyd-destynau sydd yn egluro y ddameg,
ac nid y ddameg y cyd-destynau,) yn weddol eglur.
Tr Arglwydd lesu sydd yn niwedd y benod flaenorol,
mewn atebiad i ofyniad Pedr, " Beth gan nyny a fydd
i ni?" yn hysbysu yn gyntaf beth fuasai gwobr yr ap-
ostolion (darllener adn. 28), ac yn- cyhoeddi, yn ail,
beth fuasai gwobr pawb, yn ystod holl oesau y ddaear,
.a wnelent aberth o bob rhwystr i ymlynu yn hollol
wrtho. (Adn. 29.) Gwelir felly mai egluro modd,
:maint, a'r anrhydeddau cysylltiedig a'r gydnabyddiaeth
a rydd Crist i'w ddylynwyr, raid fod amcan y ddameg.
Dichon y gwelir dysgeidiaeth y ddameg ar y nodwedd
ucliod bertnynol i weinyddiadau Duw at ei bobl, gyda
nlwy o fantais yn ngoleu y gosodiadau canlynol :
1. Mae yr holl winllanwyr yn ngwasanaeth yr un
Meistr. Yn y winllan, ac yn yr un winllan, y maent
oil, sef yn eglwys Dduw ar y ddaear. Nid ydyw y
ddameg yn rhagdybio proffeswyr rhagrithriol i'w colli,
a pkroffeswyr gwirioneddol i'w cadw. Gwir y bydd
rnai o honynt yn olaf, a rhai yn flaenaf, ond gan nad
pa un ai blaenaf ai olaf fyddant, nid ydyw eu sane yn
yr orymdaith gadwedig yn eu dadgysylltu oddiwrthi.
T maent oil yn rhengau byddin yr Oen, ac yn cyfan-
soddi gwahanol gatrodau o honi. Digon-o brawf, pe
Y BHAI OLAF YN FLAENAF. 91
na byddai un arall, o wirioneddolrwydd crefydd y
gwinllanwyr yn gyffredinol, ydyw fod y Pefchenog an-
feidrol wedi gwobr wyo pob un o honynt : nid oedd cy-
maint ag un yn eu mysg nad estynwyd y geiniog iddo.
Dengys yr ystyriaeth hon y debygoliaeth a fodolai
rhyngddynt.
2. JHfae yr holl winllanwyr yn cael yr unrhyw wobr
gan y Meistr. Dickon y bydd eu safleoedd yn cael eu
gwrthdroi, ond yr un ydyw eu gwobr oil ceiniog.
Caiff pob credadyn, gan nad pa mor wan ei allu, na
pha mor gyfyng ei gylch, f wynhau yr un bywyd tragy-
wyddol a'r uwchaf ei gyrhaeddiadau. Ehoddir y byw-
yd hwnw iddo, ni'd am ei waith, ond yn rhinwedd y
cyfamod a wneir ag ef. Efe yn addaw gwasanaeth, a
Duw yn addaw gwobr. Ond y mae y wobr yn an-
nhraethadwy fwy ei gwerth na'r llafur sydd yn ei
sicrhau.
3. JUae rhai o'r gwinllanwyr, gyda y wobr, yn der-
by n anrhydedd arbenig. Galwyd llawer i'r winllan ar
y drydedd, ar y ch.wech.ed, ar y nawfed, ac ar yr unfed
awr ar ddeg, ond o'r llawer a atebasant alwad y nef-
oedd, ac a aethant i'r winllan, ychydig o'r rhai hyny a
ddewiswyd i fod yn dderbynwyr urddas uwchlaw eu
cydweithwyr; ond yr oedd cymaint o enaid yn llafur
ac ymroddiad anhunanol y rhai hyny, fel er iddynt
ddyfod i'r deyrnas ar yr unfed awr ar ddeg, hoffwyd
hwy i gymaint graddau gan Chwiliwr y galon, fel y
gosodwyd hwy o flaen y rhai a ddaethant i fewn ar y
chweched awr, ac felly mewn anrhydedd, aeth y rhai
blaenaf yn olaf, a'r olaf yn flaenaf . Yn y dydd y bydd
Duw yn gwastadhau ei gyfrifon a'r ddaear, caiff pob
92 DUW Y KHAI BYW.
gwir addolwr fywyd tragywyddolj ond gan fod yn
bosibl enill rhywbeth. ychwanegol yn nghystadleuaeth
crefydd, dyledswydd holl ddysgyblion Crist ydyw ym-
gyrhaedd at deilyngu y gymeradwyaeth. ddwyfol a'i
sicrka, ac felly ymddangos yn nghylchoedd uchelaf
gogoniant Duw. Yr ydym yn cael ein gogleisio a'r
syniad bendigaid nad x ydyw y byd eto wedi gweled
cymeriadau ardderchocaf crefydd. T mae llawer yn
ystod yr oriau sydd wedi myned heibio o ddydd gras
Duw, wedi dyfod i mewn i'r eglwys. Gwyr nerthol
oedd yr apostolion, y diwygwyr, a'r merthyron. T
mae sefyllfa y winllan heddyw yn tystiolaethu i'w llaf-
ur a'u llwyddiant; ond pwy a wyr nad yn esgoreddfa
y dyfodol y mae rhai blaenaf teyrnas nefoedd. Ms
gwyddom na fydd yn mysg gweithwyr y nawfed awr,
a'r unfed awr ar ddeg, ymresymwyr mwy gorchfygol
na Phaul, diwygwyr mwy brwdfrydig na Phedr, a
phregethwyr mwy hyawdl nag Apolos.
DUW T KHAI BYW.
"Ond am y ineirw, yr adgyfodir hwynt; oni ddarllenasoch
i yn llyfr Moses, y modd y llefarodd Da-.v wrtho yn y berth,
gan ddywedyd, Mvfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw
Jacob? Nid yw efe Dduw y meirw, ond Duw y rhai byw."
MAEC xii. 26, 27.
"Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw
Jacob." Dyfynir y geiriau hyn o Exodus iii. 6,
oblegid, yn marn y Duw a'u llefarodd ar y cyntaf, ac a
DUW Y EHAI BYW. 93
wyddai ddyfnder eu cynwysiad yn annrhaethol well na
neb arallj fod ynddynt gadarnhad i athrawiaeth yr ad-
gyfodiad. Tr oeddynt wedi eu darllen filwaith gan y
genedl, wedi eu hadysgrifenu luaws o weithiau gan yr
ysgrifenyddion, ac wedi eu beirniadu lawer canwaith
gan ddysgedigion Israel ; ond hyd yn hyn, nid oedd
un ysgrifenydd, beirniad, na chyfreithiwr, wedi dar-
ganfod ynddynt yr athrawiaeth o fywyd wedi angeu,
fel, pan ddatguddiwyd hyny gan yr Athraw, gostegodd
y Saduceaid (Mat. xxii. 34), synodd y torfeydd at
ddoetMneb a medr y Dysgawdwr (Mat. xxii. 33), a
chanmolodd yr ysgrifenyddion ei ddefnyddiad new-
ydd, ond argyhoeddiadol, o un o ranau annhebyg llyfr-
au Moses. (Luc xx. 39.) Ms gall unrhyw amheuaeth
fodoli. felly, nad ydyw y geiriau a lefarwyd gan Dduw
o'r berth, ac a ddyfynwyd gan Grist yn yr efengylau,
yn cynwys. yr athrawiaeth o adgyf odiad; ond nid ydyw
y modd y gorwedd yr athrawiaeth yn y geiriau yr un
mor eglur. Tn wir, ar yr olwg gyntaf, ymddengys y
casgliad a dynir oddiwrth y dyfyniad yn fwysaidd ac
anghysylltiol, ac yn herwydd yr ymddangosiad hwn
nid ydyw yn hawdd gweled pa f odd y mae holl ranau
y testyn yn gwasanaethu fel prawf o anfarwoldeb en-
aid, ac adgyfodiad corph. Pwy, wrth fyfyrio y darn
hwn o'i ddysgeidiaeth ef, all beidio teimlo hawl yr
YMHOLIADATT
canlynol ar ei ystyriaeth : Pa beth yn ngeiriau Diaw
wrth Moses sydd yn dysgu anfarwoldeb ? A chaniatau
fod anfarwoldeb y tri phatriarch yn cael ei ddysgu yn
nghyhoeddiad Duw, pa fodd yr awgrymant adgyfodiad
94 DUW Y BHAI BYW.
eu cyrph'? Paliam y dewisodd Crist brawl mor anun-
iongyrchol o adgyfodiad, tra y gallasai gael cynifer o
brawfion mwy union gyrchol ? A oes rhywbeth yn yr
amgylchiadau cydfynedol a llefariad gwreiddiol y geir-
iau, ar wahan i'r geiriau eu hunain, sydd yn awgrymu
parhad bodolaeth? A ydyw y geiriau hyn i'w hystyr-
ied yn brawf o anfarwoldeb ac adgyfodiad pawb *?
Ymddengys i ni mai yr unig ffordd foddhaol i eg-
luro y geiriau hyn, gan mai tra yn ymresymu a'r Sad-
uceaid y Ilefarwyd hwy, ydyw, dadansoddi y gwahanol
ranau sydd ynddynt, a thrwy hyny ganf od y rhesymeg
gyfresymol a red drwyddynt. Gwii 1 nad ydoedd Crist
wrth eu llefaru yn bwriadu ffurfio ei frawddegau yn ol
rheolau ymresymeg ddiweddar, ond y mae mor wir a
hyny f od synwyr a pherthynas y brawddegau yn dyf od
ynfwygweladwy, os deonglir hwy ynngoleuni y rheolau
hyny. Tn mhob cyfresymiaeth (syllogism), dysgwylir
gweled dwy gynsail ac un casgliad. T mae dwy gyn-
sail yn y testyn, sef,
" Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Ja-
cob," ac
"Nid yw Duw Dduw y rhai meirw, ond y rhai byw ;"
ac y mae yn y testyn hefyd gasgliad yn ddealledig, er
nad ydyw yn ddatganedig, sef,
" O ganlyniad, nid ydyw Abraham, Isaac, a Jacob yn
feirw."
Mewn cyfresymiaeth, ceir y frawddeg sydd yn cyn-
wys y brif osodaeth (major proposition) bob amser yn
mlaenaf, a'r frawddeg sydd yn cynwys yr osodaeth ail-
raddol (minor proposition) yn dylyn ; ac felly y mae
yma. T brif osodaeth ydyw,
DUW Y EHAI BYW. 95
"Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Ja-
cob ;" a'r osodaeth ail-raddol ydyw,
" Nid yw Duw Dduw y rhai meirw, ond y rhai byw/'
Hawlia rlieol arall fod y frawddeg gyntaf yn raeddu
ystyr derfynol, ond yr ail frawddeg yn meddu ystyr
gyffredinol. Ceir yn y testyn ufudd-dod i'r angen-
rhaid hwn drachef n :
" Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Ja-
cob." Dyna y terfynol ; yna yn dylyn y mae y cyffred-
inol, sef,
" Nid yw Duw Dduw y rhai meirw, ond y rhai
byw."
Grwelir fod y gosodiad negyddol yn cyffredinoli yr
adroddawd (predicate), ac felly yr ymresymiad yn
profi anfarwoldeb eraill heblaw Abraham, Isaac, a Ja-
.cob. Tn olaf, cydymffurfir a rheolau cyfresymiaeth yn
y testyn, yn y ffaith fod yr ail osodaeth yn negyddol :
" N~id ydyw Duw Dduw y rhai meirw," &c. ; ac felly
fod y casgliad (dealledig) yn negyddol hefyd.
Gellir gosod ymresymiad y testyn yn y ffurf arallol
a ganlyn :
Y mae Duw yn Dduw i Abraham, Isaac, a Jacob.
Nid ydyw Duw yn Dduw i'r rhai ydynt feirwon. O
ganlyniad, nid ydyw Abraham, Isaac, a Jacob, yn feir-
won. Sylwer yn f anylach drachefn, yn
I. AE Y BEIF OSODAETH. " Myfi yw Duw Abraham,
a Duw Isaac, a Duw Jacob."
1. Y 'mae yr amgylchiadau cydfynedol a llefariad
y geiriau yn awgrymol. "Y modd y llefarodd Duw
wrtho yn y berth." Ar y pryd, yr oedd y genedl yn
gruddfan dan galedi gorthrwm. a Moses, eu gwaredwr
96 DTJW T KHAI BYW.
dyfodol, yn bugeilio defaid Jethro, ar y gadwen fyn-
yddig Sineaidd. Esgynodd y bugail i fynydd Duw,
Horeb, ac ar ei ffordd tarawyd ei sylw gan olygfa ddy-
eithr a rhyfedd. Gwelai. berth (yr acacia ddreiniog,
cyffelyb i Iwyni mwyar ein gwlad ni, gyda y gwahan-
iaeth pwysig hwn, f od hono yn fythwyrdd) yn llosgi,
ac eto heb ei difa; yn yr hon hefyd y safai angel yr
Arglwydd, niewn fflam dan. O ganol y berth hono, yn
mysg pethau eraill, dywedodd Duw wrth Moses, " Myfi
yw Duw dy dad, Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw
Jacob." Tn awr, y mae yn rhaid fod rhyw nodwedd-
ion yn perthyn i'r berth hono ag ydoedd yn gynorth-
wyol i argraffu y cyhoeddiad ar feddwl Moses ; ac an-
'nichon o dan yr amgylchiadau, ydyw peidio oysylltu a
hi ddwy nodwedd arwyddocaol. Yr oedd y berth, yn
gyntaf , yn cael ei llosgi ; ac yn ail, er cael ei llosgi,
parhai yn ei bythwyrddedd. Awgryma y nodwedd
gyntaf sefyllfa y genedl ar y pryd, yn flVrneisiau
trallodion - } ac r awgryma yr ail nodwedd dynged ddy-
f odol y genedl, y buasai yn parhau," er angeu, yn an-
f arwol. Yr oedd y berth yn ddarlun cyfaddas o gyf-
Iwr presenol a sefyllfa ddyfodol pobl Dduw, a rhaid
edrych ar ei llosgiad annif aol (gan nad i ba raddau y
deallwyd hyny gan Moses) fel cyhoeddiad gwirionedd-
ol o athrawiaeth bywyd tragywyddol. Y mae natur
garedig yn cyflwyno lluaws o arwyddion o'r modd y
gall y bywyd dynol ymddal, ac yn wir, ychwanegu
grym a phrydferthwch, er cael ei ddarostwng i angeu.
Y mae adgyf odiad gwanwynol natur o f edd y gauaf, yn
cyfarch dychymyg prudd holl alarwyr yr oesau, ac yn
arwyddocad o adgyf odiad bythwyrdd plentyn Duw.
DtTW Y KHAI BYW. 97
2. Ymae avnseriad llefariad y geiriau yn bwysig.
Yr oedd Abraham, Isaac, a Jacob, ar yr adeg y llefar-
odd Duw y geiriau hyn, o ran eu cyrph, wedi llwyr
falurio yn llwch y ddaear. Yr oedd rhwng pedwar a
phum' cant o flynyddau wedi myned heibio er eu mar-
wblaeth ; ond yn mhen y canrif oedd yna, wele y Je-
hofah yn dywedyd, "Myfi yw Duw Abraham," &c.
Nid, "Myfi a fum yn Dduw Abraham," &c., ac nid,
" Myfi oeddwn Dduw Abraham," ond yn y modd mwy-
af eglur dywed, " Myfi yw Duw Abraham. Duw Isaac,
a Duw Jacob." Pa fodd y gallasent hwy barhau i'w
wneyd ef yn wrthddrych eu haddoliad, nac yntau bar-
hau i fod yn Noddwr iddynt, os ydoedd angeu wedi eu
llwyr ddiddymu 1 ? T mae amseryddiad y berthynas
yn profi eu bod yn fyw yn rhywle, ac y mae yn eithaf
eglur nad oeddynt yn fyw mewn un rhan o'r byd hwn ;
o ganlyniad rhaid eu bod yn fyw yn y byd arall. Os
wedi meirw i ddynion, yr oeddynt yn fyw i Dduw,
" Canys pawb sydd fyw iddo ef." (Luc xx. 38.) T mae
Duw yn gymaint o Dduw i Abraham heddyw ag y bu
erioed, ac er cysur annhraethadwy i bob crediniwr,
bydd hyn yn wirionedd am dano yntau yn oes oes-
oedd. Sylwer yn
n. AB YB OSODAETH AiL-EADDOL. " Nid yw Duw Dduw
y rhai meirw, ond y rhai byw." T mae hyn yn cyn-
wys yn
1. N~ad oes un cydrywiaeth natur rhwng y Duw bi^w
a chyrph meirwon. Tybia rhai esbonwyr fod yr en-
wau a roddir i'r patriarchiaid ynia, sef Abraham, Isaac,
a Jacob, yn eu golygu, nid fel ysbrydion anghorpholed-
ig yn unig, ond yn cymeryd i f ewn eu cyrph yn ogystal
98 . DUW T KHAI BTW.
a'u heneidiau, ac fod eu dwy ran yn perchenogi Duw.
Tmddengys i ni, modd bynag, nid yn unig fod hyny yn
anghyson a'r dywediad dan sylw, sef nad ydyw Duw
yn Dduw y meirw, ond hefyd fod y fath dyb yn dwya
i sylw annichonolrwydd anianyddol a moesol. Pa.
fodd y gall y corph marw berchenogi y Duw
byw ? Y mae yn ynfydrwydd o'r mwyaf , ac yn wir r
yn ddiraddiol i'r Duw mawr, i gredu fod yn bosibl
iddo ef hawlio y fath berthynas a llwch pydredig. Nid
ydyw efe yn Dduw i fater difywyd, i adfeilion angeu.
Nis gall fod un gyfatebiaeth, un cydnawsedd, nac un
berthynas rhwng ffynonell bywyd a phentwr annheim-
ladwy o Iwch. T mae efe yn Arqlwydd ar y naeirw r
ond nis gall ddal y berthynas agos ac anwahanedig o
Dduw a neb ond a'r rhai hyn ; ac nid ydyw hyn ych-
waith yn dinystrio grym yr ymresymiad, eithr yn hyt-
rach yn ei gadarnhau, oblegid os ydyw yr eneidiau ya
fyw, a Duw yn Dduw iddynt, goblyga hyny yr ych"-
wanegir cyrph byw at yr eneidiau byw; mewn gair
arall, y bydd adgyfodiad. Tn wir,*y mae y fath berth-
ynas rhwng anf arwoldeb ysbryd ac adgyfodiad y corph f
f el y mae profi y naill yn gyfystyr phrofi y llalL
Megys ag y mae tragywyddolrwydd Duw yn golygu
tragywyddolrwydd enaid; felly y mae tragywyddol-
rwyddd enaid yn golygu adgyfodiad y corph. Mewn
trefn i'r Duwdod arllwys ei ogoniant i gyrph, megys ag
y gwna efe i eneidiau, y mae yn rhaid i'r cyrph ydynt
yn f eirwon ddyfod yn fyw, a chan ei fod wedi ymgyf-
amodi i wneyd hyny, y mae yr adgyfodiad yn dyf od ar
unwaith yn un o ddygwyddiadau sicraf y dyfodol. Y
mae yn cynwys, yn
DITW Y EHAI BYW. 99
2. Nas gall unrhyw berthynas gyfamodol fodoli
rhwng JDuw V meirwon. Fel Duw mewn cyfamod,
" Nid y w Duw Dduw y rhai meirw." T mae yn ngeiriau
y Jehofah yn Horeb ragor nag adgoff had f od Abra-
ham, Isaac, a Jacob yn addolwyr o hono, y maent yn
adgoff had o'r ffaith bwysig arall, fod yr Arglwydd,
drwy gyfamod, wedi ymrwymo bod yn Dduw iddynt.
Cyfeiriant at y geiriau hyny a lefarodd yr Arglwydd
wrth Abraham : " Cadarnhaf hefyd fy nghyfamod
rhyngof a thi, ac a'th had ar dy ol di, trwy eu hoesoedd,
yn gyfamod tragywyddol, i fod yn Dduw i ti, ac i'th
had ar dy ol di." (Gen. xvii. 7.) Arweinid ni y tu
draw i'n terfynau pe yr ymchwiliem i nif er ac ansawdd
yr holl addewidion a gynwysai cyfamod Duw ag Ab-
raham. Y mae un peth yn eglur, sef fod yr addewid.
hon yn unig (bod yn Dduw iddo) mor eang ac mor an-
hysbyddadwy f el nas gallasai berchenogi y filf ed o honi
yn ystod y bywyd daearol meithaf. Addawir iddo,
nid cyfoeth, nid hirhoedledd, nid diogelwch, ond an-
f eidrol fwy, JDuw yn eiddo iddo, a Duw yn eiddo iddo
nid am amser penodol, ond yn etif eddiaeth dragywydd-
ol. Ond pa faint bynag addawodd yr Arglwydd yn e*
gyfamod, hunodd y patriarchiaid cyn derbyn cynwys-
iad yr addewidion. Bu Abraham, er engraifft, nid yn
mwynhau, ond yn dysgwyl am ryw "ddinas ag iddi
sylfaeni, saer ac adeiladydd yr hon yw Duw." (Heb. xi.
10.) Nid oedd Caer Arba, Hebron, nac un ddinas ar-
all yn cyfateb i'r ddinas addawedig iddo, am hyny ym-
godai mewn dysgwyliad uwchlaw eu tyrau hwy am
rywbeth amgenach. A theimlodd Duw fod ei anrhyd-
edd fel plaid i'r cyfamod yn ei rwymo i ddarparu
100 DUW Y BHAI BYW.
dinas. Buasai ar yr Anf eidrol gywilydd byth arddel ei
berthynas gyfamodol a'r patriarchiaid pe na buasai
wedi trefnu i roddi iddynt y wlad well, yr hon oeddynt
yn ei chwenych; ond yn awr, gan fod Duw wedi cyf-
lawni ei ran ef o'r cyfamod, ac wedi parotoi dinas, "nid
cywilydd ganddo ei alw yn Dduw iddynt hwy." Gwel-
ir, felly, fod cyfansoddiad y cyfamod yn golygu bywyd
byth-barhaol, ac oblegid hyny, "Nid ydyw Duw Dduw
j rhai meirw, ond y rhai byw."
III. Y CASGLIAD. Os nad ydyw Duw yn Dduw y
meirwon, nis gall y patriarchiaid fod yn feirwon.
Awgrymwyd ar y dechreu ei fod yn ymddangos yn
ddyeithr i Grist ddewis prawf mor anuniongyrchol o
anfarwoldeb, ac felly o adgyfodiad, a'r uchod, a hyny
o herwydd fod eraill mwy uniongyrchol yn gyrhaedd-
adwy ; ond wedi ystyriaeth, yr ydym yn teimlo fod yr
awgrym yn cynwys y gamsyniaeth fwyaf , a hyny am y
.rheswm hwn, y buasai yn annichon hyd yn nod i Grist,
drwy holl gorph yr Tsgrythyrau, gael prawf cadarnach
na'r hwn a gynwysir yn y dyfyniad. Yn hytrach nag
fod y prawf yn eiddilaidd ac anuniongyrchol, y
mae y mwyaf cryf ac uniongyrchol dichonadwy,
.a hyny yn gymaint ag fod ei holl seiliau yn
nghyfamod Duw. Y farn gyffredin ydyw, mai y rhes-
wm i Grist ddyfynu o un o lyfrau Moses, wrth ym-
ddadleu gyda'r Saduceaid, ydoedd, nid oblegid mai
yno yr oedd yr athrawiaeth yn cael ei dysgu egluraf,
ond oblegid fod y Saduceaid yn gwadu na lefarodd
Moses air eriod o barthed i'r athrawiaeth, onide y
buasent hwy yn ei chredu ar unwaith. Nid ydym yn
.gallu boddloni ein hunain am y swm o wirionedd sydd
DUW Y EHAI BYW. 101
yn y f ath dybiaeth, ond yr ydym yn dra sicr o hyn, y
buasai yn annichonadwy dyfynu o un ran o'r Hen Des-
tament lie y gorphwys yr athrawiaeth o fywyd dyf odol
ar seiliau cadarnach nag y gwna yn nghyhoeddiad
Horeb, oblegid y peth cadarnaf yn ymerodraeth Duw
ydyw y cyfamod, ac y mae athrawiaeth anf arwoldeb yn
adranau hwnw. Gwir y gallasai Crist gyfeirio at aw-
grymau o adgyfodiad yn llyfr Genesis. Gallasai ofyn
i'r Saduceaid : " Ai nid ydoedd addewid o Waredwr i
Adda, wedi y condeniniad i farw, yn awgrymu ^anfar-
woldeb 1 ?" Gallasai ofyn : " Ai tebyg ydoedd y buasai
Duw yn caniatau marwolaeth Abel ar ol derbyn ei
aberth, oni buasai fod y farwolaeth hono yn ei dros-
glwyddo i well a dedwyddach sefyllfa?" A gallasai
ofyn: " Os nad oes sefyllfa ddyfodol, pa f odd y mae
deall ymadawiad Enoch fel ffafr ddwyfol?" Ond y
mae rhanau eraill o'r gair yn dryfrith, nid o aw grymau,
ond o gyhoeddiadau pendant. Dyma y wytMen eur-
aidd sydd yn llyfr Job, y cordeddiad melus yn anthem-
au caniedydd Israel, a'r lliw prydferth. yn naiiun ym-
adawiad Elias, fod byd i fyw ynddo ar ol hwn. Ond
er mor egiur y dysgir yr athrawiaeth. bwysig a chysur-
. lawn hon yn y lleoedd yna a'u cyffelyb, disgynodd
meddwl y Duw-ddyn, nid arnynt hwy, ond ar y fan
hono, yn mhellderau yr Hen Destament, lie y gwelai
ei seiliau yn nghyfamod disigl Duw. Bydded i anian
suddo i ddif ancoll, ac i'r cread ymollwng i ddiddym-
dra tragywyddol, beth bynag a ddygwydd i holl gylch-
oedd eraill bodolaeth, rhaid i blant Duw feddianu
bywyd corphorol ac eneidiol, oblegid y mae hyny yn
un o'r rhagorfreintiau addawedig iddynt yn nghyfam-
102 YR YSBRYD AIXAN
od Duw. Y cwestiwn holl-bwysig erbyn heddyw ydyw,
nid, " A gyfodir y meirw *?" ond, "A ydyw cyf amod Duw
yn ddiogel ? "
YR YSBRYD AFLAN A'B SAITH YSBRYDION
G-WAETH.
" Pan fyddo un cryf arfog yn cadw ei neuadd, y mae yr hyn
sydd g&nddo mewn heddwch; ond pan ddel un cryf ach nag ef
arno, a'i orchfygu, ef e a ddwg ymaith ei holl arfogaeth ef yn yr
hon yr oedd yn ymddiried, ac a ran ei anrhaith ef. Y neb nid
yw gyda mi, sydd yn fy erbyn: a'r neb nid yw yn casglu gyda
mi, sydd yn gwasgaru. Pan el yr ysbryd aflan allan o ddyn, ef e
a rodia mewn lleoedd sychion, gan geisio gorphwysdra: a phryd
na chaffo, efe a ddywed, Mi a ddychwelaf i'm ty o'r lie y daeth-
um allan. A phan ddel, y mae yn ei gael wedi ei ysgubo a'i
drefnu. Yna yr a efe, ac y cymer ato saith ysbryd eraill gwaeth
nag ef ei him; a hwy a ant i mewn, ac a arosant yno: a diwedd
y d>n Irwnw fydd gwaeth na'i ddechreuad." Luc xi. 21-26.
Y gwirionedd mawr, parhaol a chanolog, yn y geir-
iau hyn ydyw, mai Cristionogaeth, a Christionogaeth
yn unig, sydd yn meddu ar y gallu gofynol i fuddugol-
iaethu ar ddiafol yn nghalon dyn. Dyna y gwirionedd
canolog, ond oddiamgylch i'r gwirionedd yna y mae
amryw o wirioneddau eraill, yn arddyrchu arno, oddiar
orielau y ddwy ddameg hyn. Nyni a gymerwn ein
harwain yn raddol at y gwirionedd mawr a ddysgir
gan y gwirioneddau. sydd yn gylchoedd o amgylch
iddo.
Yn y cylch cyntaf, ar raddfa allanol y testyn, ceir
cydnabyddiaeth o fodolaetfi bersonol y diafol. Yn
A'E SAITH YSBEYD GWAETH. 103
marn rhyw bobl, nid person ydyw y cydgorffoliad rhyf-
.edd hwnw o ddrygioni a gwae a elwir yn ddiafol, ond
egwyrldor ddrwg. Haerant hwy fod gwreiddiau y
-ddeuawdaeth Feiblaidd Duw a diafol, i lawr yn
-chwedloniaeth cenedloedd ofergoelus y dyddiau gynt,
ac fod y fath athrawiaeth yn anmhosiblrwydd ymres-
ymegol, heblaw bod yn anfri ar gymeriad Duw. Ond
pa beth bynag a ddywed Undodaeth, cyhoedda y geir-
iau hyn fod ei uchelder Satanaidd yn bodoli. Ac y
mae gwaith ein Harglwydd yn dysgu ei ddisgyblion i
weddio "a gwared ni," nid "rhag y drwg" ond " rhag
yr un drwg." (Gwel Cyf. Diwyg.) yn gydnabyddiaeth
ddwyfol o fodolaeth bersonol yr archangel syrthiedig.
Trawf digonol o'r ffaith fod y diafol mewn bod ydyw,
<ei fod wedi llwyddo i gael gan ddynion i geisio gwadu
hyny.
Fel person, y mae iddo ddau enw yn y ddwy ddam-
eg dan sylw, sef "cryf arfog," ac "ysbryd aflan." T
mae iddo luaws o enwau eraill. Ef e ydyw " sarph "
Oenesis ; "Belial " Deuteronomium ; " ysbryd celwydd-
og" y Breninoedd cyntaf; "Beelzebub" Breninoedd
yr ail ; "Satan" llyfr Job; "ysbryd drwg" y Bafn-
wyr ; " Lucifer " Esaiah ; " gelyn ddyn " y damegion ;
"tad y celwydd " a u lleiddiad dyn " loan ; " tywysog
llywodraeth yrawyr" Paul; "Hew rhuadwy" Pedr ;
" duw y byd hwn" yn y Corinthiaid ; " yr ysbryd sydd
yr awrhon yn gweithio yn mhlant yr anufudd-dod " yn
yr Ephesiaid; "Appolyon," "y ddraig goch fawr," ac
" ysgorpion," yn y Datguddiad ; " Abaddon " yr Heb-
Teaid ; " Ahriman " y Persiaid ; " Pelo " y Polynesiaid ;
" Loki " yr Allmaenwyr ; " El Harith " yr Arabiaid ;
104 YE TSBETD AFLAN
"Iblis " y Mahometaniaid ; " Asmodeus" y Talmudiau,.
&c. &c. T mae amlder ei enwau yn ere a amheuaeth.
am nodwedd ei gymeriad.
Yn yr ail gulch, cyflwynir y person fiwn fn st/lw
fel ty-ddaliwr. Mewn lleoedd eraill, dangosir ef yn y
cymeriad o . yhuddwr Duw wrth ddynion, a chyhudd-
wr dynion wrth Dduw. Cablai Dduw yn ei gefn wrth
Efa, a chablai Job yn ei gefn wrth Dduw. Ca ddifyr-
wch wrth gario ystraeon rhwng nefoedd a daear.
Mewn cysylltiad arall, sieryd Crist am dano fel nithiwr^
Drwy gudd-gasgliad, gosodir Duw allan fel amaethwr
mawr, wedi troi malldir y ddaear yn dir gwenith, a.
chodi grawn o hono o'r un natur a'r gronyn a hauwyd
yn naear Calfaria. Bhyw ddiwrnod y mae y cnwd
cyntaf wedi ei giudo i'r ysgubor, y mae wedi ei
ddyrnu. one] heb ei nithio. Cafodd Satan ganiatad i
fyned i'r ysgubor, a gosododd Pedr yn y gogr. Tr
oedd plyg o us o arngylch i'r gwenithyn apostolaidd,
ac yr oedd angen ei ddatrys 'a'i lanhau. Fel canlyn-
iad, collwyd y gwadwr, y rhegwr, y Simon, drwy wifr-
au.y rhidyll, a chariwyd ef ymaith gan wynt y brofed-
igaeth, ond arosodd y dewrddyn, y molianwr, y Pedr,
ar ol, ac y mae wedi ei gasglu er's canoedd o flynydd-
au i'r heiniardai (granaries) tragywyddol. Oddiar sane
arall yr edrych Pedr ar yr un drwg megys crwydryn
anonydd a drygionus, "yn rhodio oddiamgylch, gan
geisio y neb a allo ei lyncu." Cynhyrfir ei holl fod-
olaeth gan wane anniwall a greddfol i ysbeilio a llof-
ruddio.
Yn y gekiau hyn, modd bynag, dewisa y Damegwr
dwyfol osod Beelzebub allan fel ty-ddaliwr. Darlunir
A'B SAITH YSBRYDION GWAETH. 105
ef yma yn myned f>t y ty, yn myned i fewn iddo, yn
aros ynddo, ac yn cael ei fwrw allan o hono. Fel ty-
ddaliwr, y mae y diafol yn draws-feddianwr. Gwir ei
fod ef yn edrych arno ei hun, nid fel deiliad at ewyllys
y sawl a ddymuna roddi rhybudd iddo ymadael, obleg-
id dywed, " Af a dychwelaf Vm ty," ond nid ydyw yn
berchenog enaid yn unol ag unrhyw ddeddf na threfn.
Nid ydyw wedi ei roddi iddo gan Dduw, nid ydyW
wedi ei enill ganddo drwy lafur, nid ydyw erioed wedi
talu gwerth cyf artal am dano ; mewn gair, nid oes yr
un weithred drosglwyddol yn nghoffrau uffern, daear,
na nef oedd.
Yn y trydydd cylch, yr hwn sydd agosach at ganol-
fan y testyn, dangosir nas gall dwy j~arn fodoli o
barthed i'r dymunoldeb, os yn ddichonadwy, o gael
rhywun digon galluog i an/on y trawsfeddianwr all-
an. Nid yn unig nid ydyw yn talu ardreth i'r perch-
enog, ond rhagor, y mae yn lleihau gwerth marchnadol
enaid ; a gwaeth na hyny, y mae yn is-rentu (sub-let)
ystaf elloedd enaid i ddemoniaid eraill gwaeth nag ef ei
hun. Lleihau gwerth y tai yr oedd y diafol yn Mhal-
estina. Gwneyd un yn ddall, yr ail yn fud, y trydydd
yn fyddar, y pedwerydd yn lloerig, y pumed yn lles-
meiriol, &c. Nid oes neb yn ddiogel o dan ei awdur-
dod. T mae yn dal ar Job, yn cyhuddo Joshua, yn
nithio Pedr, yn cernodio Paul, yn dinystrio en-awd y
Corinthiad, yn bwrw rhai i garchar yn ol y Datgudd-
iad, ie, yn tetntio Arglwydd y bywyd. Nid ydyw yn
ddiogel hyd yn nod i fochyn fod yn llety i gythreul-
iaid. Arweinia hwy, nid i'r f archnad, ond dros y dibyn
i'r mor. Y drugaredd fwyaf y gall y ddaear gael gaf-
8
106 XR YSBBYD AFLAN
ael arni byth ydyw cael gafael ar rywun o rywle a all
glirio ymaith yr ysbrydion aflan, a'u hegwyddorion,
allan o derfynau y byd.
Yn y pedwerydd cylch, dysgir fod dynion wedi, ac
yn bod, a broffesant attu i an/on drygioni allan or
byd. Yr oedd y Phariseaid yn lioni y galltt hwnw, a
chydnabyddent fod yr un gallu yn meddiant y Gwar-
edwr, yn unig fod ei allu Ef yn ddeiliedig oddiwrth
Beelzebub, hen dduw gwibed Anaziah. Son am gabl-
edd, nis gall dim fod yn fwy cableddus na'r ensyniad
fod Arglwydd angelion mewn cyngrair ag arglwydd
cythreuliaid ! Darllener atebiad yr lesu iddynt, a
a cheir gweled ei fod mor wawdlym a cholynog, fel nad
ydyw yn un syndod i gyro ei ymresymeg anfeidrol beri
i'r codenau gwynt Phariseaidd fyrstio allan, ac_i ryw
wraig yD y dyrf a waeddi yn uchel, " Gwyn fyd y groth
a' tli ddug di, a'r bronau a sugnaist." T mae athron-
wyr a rhydd-feddylwyr yr oesau yn cydnabod bodol-
aeth. drygioni yn y byd ; a rhagor, yn proffesu gallu i'w
ymlid ymaith. Y maent wedi nodi amryw gynlluniau.
Kordd Comte ydyw gwneyd cyd-gasgliad o holl ath-
i'vlithwyr a dyngarwyr yr oesau, arwain y rhai a boen-
ydir gan ddrygioni i'w presenoldeb i'w hedmygu a'u
haddoli, a sicrha y bydd nyny yn ddigon i beri i'r ys-
bryd aflan ffoi allan o galon yr addolwr. Ffordd y
rhesymolwr ydyw dodi yr efengyl o'r naill du, tynu
haul datguddiad o ffurfaf en y byd, gan olygu y ffoa yr
ysbrydion gan danbeidrwydd goleuni canwyllau brwyn
eu synwyrau hwy ! " Os ydych am anfon drygioni
allan o'r byd," ebai Stuart Mill, "gwnewch dda i'ch
cyd-ddynion, bendithiwch eich hiliogaeth," &c. Dyna
A'B SAITH YSBEZDION GWAETH. 107
i grefydd ef ; crefydd heb addoliad, heb ffydd, heb
Dduw, lieb ddim. Dywed Anffyddiaeth wrth y riiai a
berchenogir gan egwyddorion uffern, "Ydych, yr yd-
ycli yn ddrwg, ond peidiwch wylo, y mae difodiant yn
ymyl, ac yn fuan bydd clogarenau (bubbles) eich bod-
olaeth wedi ymchwalu ar draethellau damwain ddall.
T ffordd sydd gan Babyddiaeth ydyw, nid cydnabod
jr unig Dduw a wnawd yn ddyn yn Bethlehem, ond
gwneyd dyn arall yn dduw yn Bhufain ! Ond er mor
lluosoced y cyfundrefnau dynol, ac er mor fostfawr
honiadau eu sefydlwyr, fel galluoedd i orchfygu dryg-
ioni, y maent wedi eu profi yn fethiant. Bu gwareidd.
iad, celfyddyd, masnach a gwleidyddiaeth yn ceisio
rhaffu a dofi pechaduriaid, ond fel y truan yn mysg y
beddau, yr oeddynt yn tori y cordeddau, ac yn dryllio
y cadwynau fel edafedd gwlan. Felly y bydd cyflwr
pechadur am byth .. oddigerth i rywun " cryf ach na'r
cryf arfog," yn ei drugaredd, ddyfod heibio.
Yh y pumed cyl'ch, ceir golwg ar y gwiri@n'edd, mai
yr A.rglwydd lesu yn unig sydd yn meddu ar y gallu
gofynol i orchfygu cadernid y gelyn. Y mae yn rhy
gryf i unrhyw, a phob gallu dynol. Y mae yn un eryf,
yn un cryf arfog, yn un cryf arfog yn ei neuadd, yn
un cryf arfog yn ei neuadd, a'r hyn sydd ganddo mewn
heddwch. Aeth saith o feibion Scefa, un diwrnod, i
geisio gyru allan un ty-ddaliwr dieilig. Ourasant wrth
y drws, gwaeddasant wrth y ffenestr, darllenasant wys
ei ddygyweiniad, ond afcebwyd hwy gan y preswylydd
yn dra digynhwrf , " Yr lesu yr wyf yn ei adnabod, a
Phaul a adwaen, eithr pwy ydych chwi ?" (Act. xix. 15.)
Yn lie i'r saith orchfygu yr un, gorchfygodd yr un y
108 YR TSBKYD AFLAN
saith, " hyd oni ffoisant hwy allan o'r ty hwnw yn
noethion ac yn archolledig." (Adn. 16.) Mor wahanol
yr oedd yn y synagog. Mor gynted ag y dywedodd
yr lesu wrth un o'r tenantiaid, " Dos allan," atebodd
yn y fan, "Mi a'th adwaen, pwy ydwyt, Sanct Duw."
(Marc i. 24.) T mae yn syndod fod y diafol yn gallu
goddef ymhonwyr defodol ein dyddiau ni, y rhai a
broffesant allu i ddadreibio eneidiau anach. Nid oes
dim yn debyg o fod yn fwy o fwrn ar gylla uffern na
cnlywed dyn marwol yn honi gallu i faddeu a thrugar-
hau ! Nid oes ond lesu Grist yn iinig yn gallu dym-
chwel gorthrwm uffern. Fe all rhieni, yn eu pryder,
wneyd llawer i wrteitMo moesoldeb y plant, ond rhaid
cael crefydd lesu Grist i newid eu calonau. Bhaid
cael cleddyf yr Arglwydd gyda phob Gedeon. Dichon
eglwys Dduw, drwy yr ysgol Sul, y Feibl Gymdeithas,
y Cymdeithasau Cenadol a Dirwestol, &c., wareiddio a
sobreiddio dynion, ond nis gall unrhyw gyfundrefn
allofyddol, nac un peirianwaith cymdeithasol, gynyrchu
cymaint ag un dyn duwiol. Na, rhaid myned i gyfar-
fod a Christ yn bersonol, cymeryd gafael ynddo Ef,
cyffwrdd ag ymyl ei wisg Ef, ei gofleidio Ef, glynu
wrtho Ef, ei gusanu Ef, hyd nes y teimlir fod llanw
anfeidrol ei fywyd a'i farw yn gorchuddio holl draeth
bodolaeth.
Drwy y cylchoedd uchod, yr ydym wedi ein harwain
at ganolfan y damegion, sef,
Fod y waredigaeth a eff&ithia Crist yn un barhaot.
Gorwedd gogoniant ei waith Ef, a'i ragoriaeth ar eiddo
y consurwyr crefyddol, yn y fan hon, fod y diwygiad a
effeithia yn un llwyr, trwyadl, ac anniry wiedig. Pan yr
A'E SAITH YSBRYDION GWAETH. 109
enfyn Ef yr ysbryd aflan allan, ar yr un pryd gwna ei
ddychweliad yn annicnonadwy. Sylwer ar ddarluniad
damegol yr Athraw o ddullwedd a methiant pob ym-
gais ddynol i alltudio drygioni o'r galon. Hysbysa
yn gyntaf mai rhywbeth a wneir yn nghefn y diafol
ydyw pob diwygiadol dynol. Bhaid i'r diafol fyned all-
an o'r ty cyn y gall y diwygiwr dynol fyned i f ewn iddo,
ond gall yr lesu fyned i fewn i'r neuadd at y cryf arf-
og, ei orchf ygu, dwyn ei arf ogaeth, a rhanu ei anrhaith.
Darlunir y diafol yn gadael y dyn am dymor, ac yn
myned ain dro, a chan nad oes ganddo gynyg i ardd-
wriaefch nefol, i lysieuaeth rasol, i flodau a liliau, i
Iwyni gwyrddion a doldiroedd meillion, cymer ei daith
i anial-leoedd di-ddwfr, i grasdiroedd caregog, ac i swn
dylluanod ysgrecnlyd. Paradwys sydd yn taro angel,
ond anialwch sydd yn taro cythraul. Wedi iddo ef
gefnu, daeth y glanhawyr Phariseaidd i fewn. Yr oedd
yno le ofnadwy. Tr holl furiau a'r lloriau yn llawn
bttdreddi, a thawch brwmstanaidd yn ymgodi o bob
cyfeiriad. Er hyn, dechreuwyd ei lanhau. Taflwyd
caneuon masweddol o'r cof, rhegfeydd oddiar y tafod,
a hongianwyd darluniau ardderchog o Ffydd, Gobaith,
a Chariad, ar y muriau. Cyfnewidiwyd holl ymddang-
osiad y ty. Bhyw ddiwrnod, oddiar derfynau yr anial-
wch, gwel yr hen breswylydd ef, a phenderfyna ddy-
chwelyd yn ol. Wedi myned i mewn, synir ef gan y
gwelliantau sydd wedi eu. heffeithio. T mae yr awyr-
iad yn well, y dodrefn yn well, y darluniau yn well,
mewn gair, y mae y preswyl wedi myned o dan y fath
gyfnewidiad, fel y mae y diafol yn penderfynu ei droi
o f od yn drigfan ddirgelaidd yn neuadd gyhoeddus, yn
110 YE TSBBYD AFLAN, &C.
meddu ar ystafelloedd gwahanol at garni, dawnsio, a
gloddesta. Grwahoddodd saitli o gythreuliaid mwy
eythreulig nag ef ei hunan yno i loddestwyl yr agoriad,
ac yn fuan iawn, yr oedd golwg saith waeth ar yr ad-
eilad nag a fu erioed o'r blaen. Beth y mae hyn yn ei
ddangos ? Darlun ydyw o ddyn, dan driniaethau dyn-
ol, wedi newid eifiichedd, ond heb newid 'ei galon o
ddyn wedi ei addurno a moesoldeb oddiallan, heb fod
ganddo dduwioldeb oddifewn. Darlun ydyw o'r dyn
anffodus hwnw y credwyd fod troedigaeth wedi ei
heffeithio ynddo. Cydnabyddai yr Arglwydd f el Pha-
raoh, proffesai edifeirwch fel Ahab, awyddai am ddi-
wygio fel Herod. Nid ydyw mwyach yn rhegwr, yn
feddwyn, nac yn odinebwr. Tr oedd y diafol allan,
ond nid oedd Crist i fewn, fel pan ddaeth y diafol yn
ol, aeth y dyn yn saith mwy cableddus, meddw, ac an-
llad nag y bu erioed o'r blaen. T mae yn berffaith
mewn cythreuligrwydd, a'i enaid yn uffern symudol.
Gwyddom am engreifftiau galarus ydynt yn arddang-
osion byw o anallu cyfundrefnau dynol i ddwyn oddi-
amgylch ddiwygiad parhaol. Ond mor wahanol ydyw
crefydd wirioneddol; lie y cafodd hi saith o gythreul-
iaid, cliriodd hwy allan. Unwaith y tafla hi ddiafol
allan, nis gall ddyfod byth yn ol. Erys y gallu mwy
a'i taflodd allan, yn ddiogelwch tragywyddol rhag ei
ddychweliad. Dywed Crist, drwy ei efengyl, wrth
egwyddor uffern yn nghalon y pechadur, nid yn unig,
"Tyred allan o hono," ond ychwanega, "ac na ddos
mwy iddo ef."
T DETTDDEG AB OKSEDDFEYDD, &G. Ill
Y DEUDDEG AE OBSEDDEEYDD YN BABOT Y
DEUDDEG LLWYTH.
" Ac yr eisteddwch ar orseddfeydd, yn barnu deuddeg llwyth.
Israel. " Luc xxii. 30.
Y mae adroddiad Matthew o'r hyn a lefarodd Crist
ar y pryd hwn, yehydig yn helaethach, ond nid yn wa-
hanol, i'r cronicliad gan Luc. Hysbysa Matthew mai
yr hyn a ddywedodd y Gwaredwr ydoedd (yn ol fel y
cyfieithir ef gan John Williams), " Yn wir, meddaf i
chwi, yn yr adnewyddiad, pan seddir Mab y dyn ar ei
orsedd ogoneddfawr, y cewch chwi, fy nghanlynwyr,
eistedd ar ddeg a dwy orsedd, yn barnu dau a deg
llwyth Israel." Wrth efrydu mynegiadau y ddau ef-
engylwr yn nghyd, awgrymir i ni yr
YMHOLIADATT
canlynol: . Pa beth a olygai Crist wrth yr adenedig-
aeth? Ai dylanwad ei fywyd daearol, neu effeithiau ei
efengyl wedi ei esgyniad, neu ynte adnewyddiad y
greadigaeth ar adeg ei ail-ymddangosiad ? Pa beth yw
natur yr awdurdod a'r urddas eithriadol a addawa Crist
i'r deuddeg apostol ar adeg ei ogoneddiad 1 ? A oes
rhyw berthynas reithyddol yn bodoli yn bresenol
rhwng y deuddeg apostol ag eglwys Crist drwy holl
ysbaid yr oruchwyliaeth efengylaidd ?
Ff aith i sylwi arni, yn yr ymdrech i ddeongli y tes-
tyn, ydyw, y gellir gwneyd iddo gyfleu syniadau tra
gwahanol, yn unig drwy gyfnewid lleoliad yr atalnod-
aeth. Ymddibyna ei ddeongliad, yn wir, nid yn gy
112 Y DEUDDEG AB OKSEDDFEYDD
maint ar gyfieithiad geiriau, na phwysleisiad brawddeg-
au, ag ar safie un atalnod. Drwy osod y rhagwahan-
nod ( , ) ar ol y gair adenedigaeth, " a'm canlynasocli i
yn yr adenedigaeth , " yr addewid ydyw: " Yn gymaint
ag i ehwi barhau yn ffyddlawn o'm plaid yn ystod
tymor terfysglyd a phrofedigaethus sefydliad fy
nheyrnas, pan ogoneddir fi, f el cydnabyddiaeth, gwneir
chwithau yn gyfranogion o'm gogoniant/' Yn ol yr
atalnodiad hwn, y mae yr adenedigaeth yn cael ei chyf-
yngu i adeg sefydliad cyntaf teyrnas Dduw, ac felly?
nis gall olygu. effeithiau yr efengyl ar ddynion o'r es-
gyniad i ddydd y farn, nac ychwaith dylanwad pure'd-
igaethol yr ail-ddyfodiad ar y greadigaeth faterol. Y
mae tair ystyriaeth yn ein harwain i gredu mai nid ar
ol y gair adenedigaeth y dylai y rhagwahanod fod.
(a.) Y mae yr awdurdodau tichelaf yn cyd-farnu mai ar
ol y rhagenw personol "i," "a'm canlynasock i," y
dylid ei ddodi. (5.) Y mae galw sefydliad Cristionog-
aeth, a'i heffeithiau, yn ystod bywyd darostyngol Crist,
yn ndenedigaeth, yn swnio yn eithafol. Crea yr ym-
holiad, Pa beth a ad-anwyd ar raddeg eang (oblegid y
mae y gair yn tybio chwyldroad eang a phwysig) yn y
blynyddau hyny ? Nis gall olygu adenedigaeth Crist,
bydddai y fath ymadrodd yn wrthun, ac nis gall olygu
adenedigaeth y deuddeg apostol, oblegid ad-anwyd pob
gwir ddysgybl i Grist, f el hwythau ; ond nid pawb a
ad-anwyd ddaethant yn berchenogion gorseddau, ac yn
farnwyr ar Israel, (c.) Y mae yr adenedigaeth hon,
gan nad beth ydyw, yn gydamserol ag eisteddiad Crist
ar orsedd ei ogoniant. " Pan eisteddo Crist ar orsedd
ei ogoniant," &c. Y mae y sylweddoliad o honi yn cael
YN BAKNTJ Y DEUDDEG LLWYTH. 113
ei daflu yn mlaen i'r dyfodol uniongyrcliol neu anun-
iongyrchol. Drwy osod y rhagwahannod ar ol y
frawddeg "a'm canlynasoch i," gall y testyn feddu y
.naill neu y Hall o'r ddau synwyr canlynol :
" Tr ydwyf fi yn myned i adael y ddaear, ac esgyn i
iy ngorsedd yn y nefoedd. Pan gymer hyny le, bydd
iy efengyl yn ei grym a'i hawdurdod yn aileni j cen-
.edloedd, a byddwch chwithau, drwy eich swyddau a'ch
athrawiaethau, yn ddyrchaf edig f el saf onau parhaus i'r
iioll Israel ysbrydol."
Neu,
"' Yr ydwyf wedi dyfod i'r byd y waith hon yn ddir-
mygedig, er nyny, canlynasoch fi. Pan ddeuaf yr ail
waith, yn adeg adnewyddiad y cread, byddaf yn eis-
tedd ar fy ngorsedd ogoneddfawr ; y pryd hwnw, yn
wobr am eich ymlyniad wrthyf yn f y ngwarth, rhoddir
i chwithau anrhydedd arbenig yn nghanol llwythau
.cadwedig Israel."
mae yn hollol eglur, felly, mai gorchwyl niawr yr
esboniwro'r addewid hon, ydyw, penderfynu nid yn
unig pa beth ydyw y wobr sydd yn cael ei haddaw,
ond hefyd ceisio cael allan pa bryd yr ydoedd i'w mwyn-
liau ; pa un ai yn y cyfwng rhwng yr esgyniad a'r farn,
neu ynte o'r farn yn mlaen, dros yr oesau dirifedi. Ac
y mae "hwn yn orchwyl tra anhawdd. T mae ymgynyg
ato yn creu pryder, Y mae i'r ddau eglurhad uchod
bleidwyr galluog ac anrhydeddus, y rhai ydynt wedi
llafurio i drefnu eu hymresymiadau yn y dulliau mwy-
af argyhoeddiadol, Nyni a osod\vn ger bron y dar-
llenydd eglurhad y ddau ddosbarth, yn eu hanfodion
a'u prif ategion, ac yna dichon yr ymddengys y naill
114 Y DEUDDEG AE OBSEDDFEYDD
iddo ef, fel y gwna i ninau, yn fwy dewisol na'r Hall.
Dadleua y dosbartli blaenaf
1. Maipriodol galw y cyfnewidiadau yr el y gread-
igaeth drwyddynt yn y dydd olaf yn adenedigaeth.
Gofyuir pa beth yw adenedigaeth 1 Golyga adenedig-
aeth, yn ei pherthynas a pherson unigol, fod yr hyn.
sydd ysbrydol ynddo, trwy ddylanwad yr Tsbryd
Glan, yn dyf od yn allu llywodraethol dros yr hyn sydd
yn gnawdol a llygredig. Felly yr ymsynia y Parch. S.
Cox, Nottingham, pan yn ysgrif enu ar adenedigaeth ber-
sonol fel cynddelwad o adnewyddiad y greadigaefch.
Darlunia y modd y mae yr ysbryd santaidd yn llywod-
raethu y cnawd llygredig, ac nid y cnawd llygredig yn
llywodraethu yr ysbryd santaidd. Y dyn arferai fod
yn awyddus am hunan-foddhad, am bleser, am elw f
wedi llwyr gyfnewid yn nghyfeiriad ei awyddfryd, ac
fel canlyniad, yn wastadol yn hiraethu am Dduw, am
gymundeb gwastadol a Christ, ac am ymdebygoliad i'r
Achubydd mawr. T mae ei berthynas a phawb, ac a
phob peth, wedi myned o dan gyfnewidiad. Bellach,
y mae y greadigaeth iddo ef, nid yn beiriant anneall-
gar, ond yn ddatguddydd ewyllys Duw fel ei Dad
mawr a tnrugarog. Myfyria gwymp a chyfodiad
teyrnasoedd, buddugoliaethau gwyddoniaeth a chelf-
yddyd, a phob cyfnewidiad cymdeithasol a gwleidydd-
ol, nid er eu mwyn eu hunain, ond am y gwel ynddynt
y Duw mawr, mewn modd araf ac anweledig, yn dwyn
oddiamgylch ddysgyblaeth y teulu dynol, a gogoniant
ei enw tragywyddol. T mae y geni drachefn, yn ei
gyflwyno i fyd newydd, lie y fflamia pob peth gan
ddrychfe'ddyliau newyddion, ac y mae yntau yn gread-
YN BAENU Y DEUDDEG LLWYTH. 115
ur newydd yn eu mysg. T mae wedi ei drawsffurfio i
gyfangorph o ysbrydolrwyd. Yn ol y darlun yna,
dyna fydd adenedigaeth y cread, goruchafiaeth yr ys-
brydol ar y materol. Fob peth yn y cread mawr wedi
ei orlif o gan ysbrydolrwydd yr Hollalluog, ac er gwas-
anaethu cyrph adgyfodadwy y saint, wedi cwbl gyf-
newid yn eu hanianawd. Y llewyrch anweledig yn
ymdreiddio drwy y gweledig; y tragywyddol wedi
llyncu i fyny yr amserol, a'r sylweddol a'r parhaol wedi
cymeryd lie yr ymddangosiadol a'r amserol. T pryd
hwnw, fel yn awr, goleua heuliau, rhed afonydd, ym-
ddengys mynyddoedd, ac ymleda gwastadeddau dol-
diroedd, ond bydd y cwbl wedi eu cwbl feddianu gan
nwyfiant ysbrydolrwydd, ac yn dwyn delw anfarwol-
deb. Credir fod gweledigaeth loan yn cynwys del-
weddiad o'r adenedigaeth hono. " Ac mi a glywais lef
uchel allan o'r nef, yn dywedyd, Wele, y mae pabell
Duw gyda dynion, ac ef e a drig gyda hwynt, a hwy a
fyddant bobl iddo ef, a Duw ei hun a fydd gyda.
hwynt, ac a fydd yn Dduw iddynt. Ac f e sych Duw
ymaith bob deigr oddiwrth eu llygaid hwynt; a
marwolaeth ni bydd mwyach, na thristwch, na llef-
ain, na phoen ni bydd mwyach : oblegid y pethau cynt-
af a aeth heibio. A dywedodd yr hwn oedd yn eistedd
ar yr orseddfainc, Wele, yr wyf yn gwneuthur pob
peth yn newydd." (Dat. xxi. 3-5.) Dadleua y dosbarth
blaenaf, yn
2. Fod y geiriau yn briodol fel desgrifiad ofywyd
y nef oedd wedi adenedigaeth y greadigaeth.
(a.) Bywyd fydd o dan lywodraeth uniongyrchol yr-
Arglwydd lesu.
116 Y DETJDDEG AB OBSEDDFEYDD
Y pryd hwnw bydd ar ei orsedd ogoneddfawr, ac yn
Uywodraethu yn y cymeriad anwylaf gan y miliynau
gogoneddedig, Mab y dyn.
(b.) Bywyd fydd yn llawn o arorywiaeth.
Gwneir y dyrfa fawr i fyny o ddeuddeg llwyth, a'r
deuddeg apostol, yn meddu urddas haeddianol a thy-
wysogaidd, yn eu mysg. Megys ag y mae barnwr neu
-lywodraethwr yn uwch ac anrhydeddusach yn y byd
hwn, na'r rhai a fernir ac a lywodraethir ganddynt,
felly bydd y deuddeg, wedi ad-drefniad y cyfanfyd, yn
y byd a ddaw, yn uwch na phawb yn mysg y mil-myrdd
cadwedigion. Merchyg coleddwyr y dyb hon mewn
dychymyg drwy ororau bythwyrdd, a thalaethau eang-
fawr paradwys, gan aros yn achlysurol dan dywysiad
Pedr, lago, loan, &c., i syllu ar ryfeddodau dwyfol
xhanbarthau llwythau seliedig Juda, Keuben, Grad,
Aser, ISTaplitali, Manasseh, &c.
Tn wahanol i'r dosbartn yna, dadleua yr ail ddos-
barth fod y geiriau wedi eu bwriadu i ddysgu yn
1. Pa bet/i ylyw natur y diwygiad ysbrydol, y aaeth
Grist i'r byd i'w effeithio yn tnysg dynion. Mai dyna
ydyw, adenediyaeth y ddynoliaeth. " Aeth y byd nioes-
ol i annhrefn a thrallod ar y dirywiad yn Eden, a'r ad-
f eriad oedd, ac ydyw, y nod mewn golwg yn ngoruch-
wyliaethau crefydd ddatguddiedig y nef. Creu o'r
newydd, ail-eni, adnewyddu, &c., yw rhai o'r enwau
sydd gan ysbrydoliaeth ar waithachubol a sancteiddiol
yr efengyl ar y ddaear. Ail-newyddu, adffurfio, ail-
newid dyn yn fewnol ac yn allanol yw ei chomisiwn."
<Areithfa Mathetes, tu dal. 239.)
Fod y geiriau yn dysgu yn
YN BABNTJ Y DEUDDEG LLWYTH. 117
2. Yn mlm gyfnod y derlyniodd y gyfundrejn fawr
adferiadol lion ei Jiawdurdodiad a'i chadarnhad cy-
hoeddus. "Pan eisteddo Mab y dyn ar orsedd ei
ogoniant." "T mae y cyfnod y cyfeirir ato, yn yr
ymadrodd, ' Pan eisteddo,' &c., yn ymddangos i ni yn
cyf eirio yn ddiamheuol at ei esgyniad Ef i'r nef oedd pan
y gwisgwyd Ef ag awdurdod, a phan, mewn canlyniad i
oruchwyliaeth ei Ysbryd ar ddydd y Pentecost, y der-
bynioddyr adenedigaeth symbyliad ag oedd i enill grym
a dylanwad newydd o'r foment hono hyd yr awr olaf. n
(" The Genias of the Gospel," Dr. Thomas, tu dal. 506.)
" Y mae yr adenedigaeth, neu yr adnewyddiad sydd yn
yr adnod hon, yn gydamserol ag eisteddiad Mab y
dyn ar orsedd ei ogoniant, ac yn cyfeirio at ei esgyn-
iad i'r nef oedd, a'r cyfnewidiad goruchwyliaethol a gy-
merodd le pan wnaethpwyd pob peth o'r newydd." (Es-
boniad B. Ellis (Gynddelw) ar yr adnod.) "Gorphen-
wyd y gyfundrefn ar Galfaria, cadarnhawyd ei dwyfol-
iaeth yn yr adgyf odiad a'r esgyniad, ac ar ddydd y Pen-
ecost esboniwyd charier y deyrnas gan Pedr. Ary dydd
dywededig, y claddwyd syniadau luddewig yr apostol-
ion, ac y deallasant yn hollol, ysbrydolrwydd teyrnas
y Messiah. Buasai Crist am hir amser yn adeiladu y
deml Gristionogol. Dydd y Pentecost oedd diwrnod
mawr 'yr agoriad'; a Phedr oedd prif, ac efallai unig
bregethwr y cyfarfod. * * * Er gwneyd cyfraith,
ei chymeradwyo gan Dy y Cyffredin, a Thy yr Ar-
glwyddi, nid ydyw yn ddeddf gydnabyddedig cyn cael
ei harwyddnodi gan y Frenines. Ax ddiwrnod byth-
gofiadwy y Pentecost, arwyddwyd Breinlen yr Adnew-
yddiad gan Frenin Mawr y Deyrnas. * * * Y mae
118 Y DETJDDEG AB OBSEDDFEYDD
y llwyddiant mawr sydd yn cael ei gofnodi yn Actau
yr Apostolion, yn profi fod cyfnod newydd wedi dech-
reu yn ngweinyddiad y gyfundrefn, a bod rhyw werth
uwch nag arf erol yn gweithredu. Dyma y rheswm fod
mwy o Iwyddiant ar weinidogaeth yr apostolion nag ar
weinidogaeth bersonol lesu Grist." (Areithfa Math-
etes, tu dal. 240, &c.)
Fod y geiriau yn dysgu, yn
3. Pwy ydynt ddeddf-roddwyr a deddf-weinwyr
teyrnas yr efengyl. " Eisteddwch chwithau hefyd ar
ddeuddeg gorsedd," &c.
" T mae yr addewid a wneir yma i'r disgyblion i ' eis-
tedd ar ddeuddeg gorsedd,' yn cynwys drychfeddwl
Cristionogol ac ysbrydol, wedi ei ddilladu a gwisg
faterol ac luddewig. Megys ag yr oedd y deuddeg
Ilwyth yn cymeryd i fewn yr holl luddewon, felly y
mae yr ymadrodd a ddefnyddir yma yn cymeryd i fewn
yr holl Gristionogion. Y mae lago yn ei epistol yn ei
ddefnyddio yn y synwyr yma, ac y mae y 'deuddeg
gorsedd,' yn eglur yn golygu, y rhoddid i bob un o'r
apostolion awdurdod lywodraethol yn yr eglwys. "
("The Genius of the Gospel.") Wrth ysgrifenu ar yr
un mater, dywed Cynddelw, " T mae deuddeg Ilwyth
Israel yn golygu pobl Dduw Israel yn ol yr ysbryd.
(loan i. 47 ; Ehuf. ii. 28, 29 ; ix. 68 ; Phil. iii. 3 ; lago
i. 1; Dat. ii. 9.) Sonir am yr apostolion fel rhai yn
derbyn teyrnas. (Lucxii. 32; xxii. 28-30. Oaf odd cen-
edl Israel eu cyfiawnhau neu eu collf arnu yn ol eu hym-
ddygiad at weinidogaeth y deuddeg apostol." (Bhuf.
xi.) " Yr apostolion eu hunain," ychwanega Mathetes,
"yn cael eu cynorthwyo gan eraill, a arweinient y saint
YN BAENU Y DEUDDEG LLWYTH. 119
mlynyddoedd cyntaf Cristionogaeth, ond ysgrifau y
blaenoriaid hyny, sef y Testament Newydd, sydd i'n
dysgu ni pa beth i gredu, a pha f odd i ymddwyn, f el y
dengys Paul yn Ephes. iv. 11-14."
Bellach, wele y ddwy olygddysg ger bron. Y mae
yn y naill, fel y Hall, wirioneddau cysurlawn, ond nis
gall y ddwy gael eu hystyried yn cynrychioli meddwl
Crist. Tmddengys i ni mai yr olaf ydyw yr helaethiad
cywiraf o f eddwl Crist. Gogwyddir ni at hyny gan yr
ystyriaethau canlynol :
(a.) Dengys y cysylltiadau fod y gwalianiaeth mawr
rJiwng ei sefyllfa ar y pryd } a'i sefyllfa ddyfodol, yn
meddianu meddwl y Duw-ddyn pan yn llefaru.
Gwerthfawrogai y ffyddlondeb hwnw a ymlynasai
wrtho tra yn ei brofedigaethau (adn. 28), a naturiol
iddo, mewn gwrthgyferbyniaeth, ydoedd edrycli ar ei
esgyniad a'i ogoneddiad. fel y cyfnewidiadau. mawrion
oeddynt i'w trosglwyddo i amgylcMadau gwahanol.
(b.) Y mae yn wirionedd eylur a chydnabyddedig fod
mwy o lertliynas rhwng y deuddeg apostol a goruch-
wyliaeth yr efengyl, nag sydd rTiyngddynt ag adnew-
yddiad olaf anian. Mor bell ag y rhoddir ar ddeall i
ni, ni f ydd i chwyldroadau y f arn ychwanegu dim at eu
.hawdurdod a'u hurddas. Yn wir, pan fyddo Duw oil
-..- ' yn oil, a goruchwyliaeth tragywyddoldeb wedi dechreu,
y mae yn amheus genyf na fyddant hwythau, fel y Mab,
\ yn rhoddi eu swyddedigaethau i fyny. Hyd hyny,
; - beth bynag, hwy ydynt, ac a fyddant, yn brif oleuadau
'jf~J> ysawd gogoneddus y grefydd Gristionogol.
^ (o.) . 1' -ina& yr apostdlion yn bresenol, mewn modd
"f gwinoneddol, yn eistedd ar orseddau eglwys Dduiv.
120 Y NEF YN AGOKED,
Medda eu hareithiau, eu hysgrif eniadau, a'u dyfarniad-
au, awdurdod anamheuadwy a therfynol. Y mae eu
geiriau yn ddeddf'au gan holl ganlynwyr Crist. Hwynt-
nwy ydyw y deddf-roddwyr uchelaf anwyd erioed, a&
y mae deiliaid eu hymerodraeth fawr yn lluosogi bob
dydd.
Y NEF YN AGORED, A'E ANGELION YN DIS-
GYN.
" Ac ef e a ddywedodd wrtho, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi,
Ar ol hyn y gwelwch y nef yn agored, ac angelion Dirw yn esgyn
ac yn disgyn ar Fab y dyn." IOAN i. 51.
"And he saith unto Mm, Verily, verily, I say unto you, Ye
shall see the heaven opened, and the angels of God ascending,
and descending upon the Son of man. 1 ' Oyfieithiad Diwygiedig.
Y mae y geiriau dyeithr hyn yn cynyrchu dau
YMHOLIAD,
sef, A oedd lesu Grist drwyddynt, yn rnagddweyd am
ryw gyfnod, neu gyfnodau neillduol, ar ba rai y bu-
asai y nef yn agored, ac angelion Duw yn esgyn ac yn
disgyn ? A fwriadai lesu Grist gyfleu y syniad y bu-
asai llygaid naturiol Nathanael yn canfod y cyfryw'
weledigaethau, neu ynte a oedd yr addewid i'w chyf-
lawni mewn modd ysbrydol ?
Nid ydyw y geiiiau eu hunain yn nodi allan y pryd,
neu y prydiau y buasai y nef yn agored, a'r angelion
yn esgyn ac yn disgyn ; yr unig gyf arwyddyd a geir
ynddynt gyda golwg ar nyny, ydyw y tri gair anmhen-
A'B ANGELION YN DISGYN. 121
odol, " ar ol liyn." Ond f el y gwelir uchod, y mae y
Cyfieitliiad Diwygiedig yn gadael y darn yna o'r ym-
adrodd allan, a hyny oblegid nad ymddengys yn y llaw-
ysgrif au mwyaf henaf ol ac awdurdodedig. Pa un byn-
ag a ddylai yr "ar ol hyn" fod i fewn yn y testyn neu
beidio, nid ydyw hyny yn neillduoli dim ar amserydd-
iaeth yr olygf a ; yn y naill achos, f el y Hall, yr oedd i
gymeryd lie yn y dyfodol uniongyrchol, neu anunion-
gyrchol.
Oblegid fod yr amlygf a i'w harddangos yn y dyfodol,
y mae dynion, yn naturiol iawn, wedi bod yn chwilio
am y cyfnod, neu y cyfnodau, ar ba rai y gwelwyd y
cydgyfarfyddiad rhyfedd hwn o bersonau ac amgylch-
iadau, sef y nefoedd yn agored, a Nathanael a'i frodyr
yn edrychwyr, Mab y dyn yn gyfagos, ac angelion Duw
yn esgyn ac yn disgyn arno. Gan fod y cwbl aaddew-
ir yn gyfamserol, ac yn gyfunedig, nid digon fyddai,
er cyflawniad yr addewid, fod y nefoedd yn agored,
oddigerth fod y dysgyblion ar y pryd yn ei gweled ; ac
nid digon fyddai fod angelion yn esgyn ac yn disgyn
ar Fab y dyn, oddieithr fod yr esgyniad a'r disgyniad
yn weladwy i'w ganlynwyr. Tn gweled yr angenrheid-
rwydd hwn, y mae dosbarth o esbonwyr yn chwilio,
ond yn of er, am amgylchiadau yn ystod bywyd daearol
y Gwaredwr, ag ydynt yn cynwys cyflawniad llythyr-
enol o holl adranau yr addewid. Cyfeirir yn neillduol
at Gethsemane (Luc xxii. 43), at ardd Joseph (loanxx.
12), ac at fynydd yr Olewydd (Actau i. 10). Nid ydym
yn amheu ymddangosiad na gweinidogaeth angelion i
Grist yn nghysgodion coedydd Gethsemane, Arima-
thea, a'r Olewydd, ond yn sicr nid ydyw yr addewid
9
122
Y NEF YN AGOEED,
yn derbyn cyflawniad llythyrenol yn yr amgylchiadau
hyny. Tn ngardd y dagrau, y mae gwasanaeth yr ang-
el yn wasanaeth anweledig. Tn ngardd y fuddugol-
iaeth, ymddengys y ddau angel, nid i'r dysgyblion, ond
i'r gwragedd, ac iddynt hwythau, nid yn esgyn ac yn
disgyn ar Fab y dyn, ond yn eistedd ar y maen. Ar
fynydd yr esgyniad, daeth y ddau wr mewn dillad
gwynion i hysbysu yr ail-ddyf odiad, nid pan oedd Crist
a'r dysgyblion yn nghyd, ond pan oedd yr Athraw
rhywle yn ngodreuon y eymylau, beth bynag ar ei
daith drwy y nwyfre tua'r drysau tragywyddol. Nid
ydyw y cyflawniad i'w gael yn yr adegau yna.
Drachefn, y mae yr anghyfatebiaeth eglur sydd
rhwng yr hyn a ddywedir am berthynas yr angelion a
Christ yn y testyn, a'r hyn a ddywedir am berthynas
angelaidd a Christ yn nydd y farn, yn peri nas gall y
naill f od, fel yr haera rhai, yn gyflawniad o'r Hall. Y
mae yn sicr y bydd y nef oedd yn agored y pryd hwnw ;
symudir adeiladau y bydoedd o'r neilldu, er gollwng
yr orsedd wen fawr i lawr i olwg y cread dychrynedig ;
a sicr hefyd y bydd y gwarchluoedd angelaidd yn dorf
ddirif o.amgylch y Barnwr ; ac ni edy y Beibl le i am-
heuaeth na fydd perthynas yr osgorddlu angelaidd a
Christ, yn eglur i'r miliwnau ymgynulledig, ond wed'ynj
bydd yr olygfa hono yn cael ei chanfod gan annuwiol-
ion yn ogystal a duwiolion, tra y mae golygf a y testyn,
gan nad beth ydyw, yn cael ei haddaw yn unig i'r rhai,
fel Nathanael, a welent yn y Crist ymgnawdoledig,
Fab Duw, a Brenin Israel. Syniadau datganedig Na-
thanael dynodd allan o Grist yr addewid am yr ar-
ddangosfa ardderchog hon, ac y mae yn eglur oddi-
A'B ANGELION YN DISGYN. 123
wrth eiriadaeth y testyn, sef, "y gwelwch y nef ynagor-
ed," fod mynediad iddi, a mwynhad o honi, yn cael ei
addaw, nid yn unig i Nathanael, ond hefyd i bawb er-
aill o gymeriad cyffelyb.
Gan na olygai Crist, a chan na chaf odd y dysgyblion,
gyda llygaid o gnawd, weled un ymraniad yn llawr-
leni y wybrenau, na gweled angelion yn esgyn ac yn
disgyn ar Fab y dyn, nis gall dim fod yn f wy eglur nag
fod Crist yma, wrth addaw bendith ysbrydol, yn cy-
f eirio at gyfryngau a fuont yn cael eu defnyddio un-
waith i drosglwyddo bendith ragluniaethol. . Peth
holl gyffredin yn ngweinidogaeth yr Arglwydd lesu
Grist ydoedd gwneyd defnydd o'r rhagorfreintiau
gwladol a chrefyddol a fwynhawyd gan genedl Israel,
a chan bersonau enwog perthynol iddi o dan yr hen
gyfamod, er egluro i'r meddwl luddewig y rhagor-
freintiau uwch ac ysbrydol sydd i'w mwynhau gan
ddeiliaid y cyfamod newydd. Yn fynych rhoddir di-
wyg naturiol am fendifch ysbrydol. T mae enwau
luddewig ar fendithion goreu Cristionogaeth, megys
aberth, gwaed, cyfamod, &c., a'u hesboniad ar addew-
idion y Testament Newydd yn fynych i'w gael yn han-
esiaeth yr Hen Destament. Darllener unrhyw ran o'r
ef engylau, neu yr epistolau, a daw hyn yn eithaf am-
Iwg. Bhywbeth felly sydd yn y testyn hwn. Genesis
yn esbonio loan, Bethel yn taflu goleu ar filiwnau o
addoliadau, Jacob yn mherlewig y weledigaeth yn rhag-
ddangos dedwyddwch mwy ac uwch pob Nathanael
holl oesau y ddaear.
Gan fod Nathanael yn fyfyriwr mor aiddgar o ysgrif-
eniadau Moses, pan soniodd Crist wrtho am " angelion
124 Y NEF TN AGOKED,
Duw yn esgyn ac yn disgyn," rhaid fod y geiriau wedi
fflachio meddyliau eysurlawn iV enaid. Arweiniodd
ei f eddwl yn unionsyth at amgylcMad mawr nad a byth
yn anghof . Cludodd ef dros y canrif oedd, gan ei osod
i lawr yn. nghyfeiriad Haran, y tu allan i Beerseba, lie
y mae yn sylweddoli un o brif olygfeydd yr oesau.
Etifedd teulu galluog wedi ffarwelio a'i riaint oedran-
us, ac o herwydd ofn brawd digofus, yn ymadael a thy
ei dad. G-welai ef yn dechreu taith o bedwar cant a
haner o filldiroedd, yn unig, ac ar ei draed. Yn y dydd
pwysai meini o feddyliau oerion ar ei galon ; yn y nos
gosodai ei ben lluddedig i gysgu ar f eini o geryg caled-
ion. Ond yn yr unigrwydd a'r cyfyngder yna, gwelodd
Duw gyfleustra, yn ngweledigaeth yr ysgol, i'w ddysgu,
nid yn unig fod yr hen gyfamod a wnaethpwyd ag Ab-
raham yn parhau (Gen. xxviii, 13), ond rhagor, na
chawsai fod angen amddiffyn arno mewn anialwch j na
chawsai fod yn ddigymdeithas er yn unig, ac nad oedd
raid iddo anobeithio er lluosoced yr anhawsderau,
oblegid y gallasai ei Dduw, unrhyw amser, drwy gyf-
ryngau angelaidd, ddisgyn ato a'i waredu. Yn ngrym
y weledigaeth a'r geiriau cysurlawn a lefarodd yr Ar-
glwydd oddiar ffon uchaf yr ysgol, cyfododd Jacob i'w
daith gyda chalon ysgafn a meddwl gobeithiol.
" Nathanael," megys pe dywedasai yr lesu, "un
tebyg iawn i Jacob ydwyt ti. Tr ydwyt yn fy adgofio
mewn modd nodedig am dano. Ar ol ei fuddugoliaeth
yn Peniel, galwyd ef yn Jsrael, ac ar ol dy fuddugol-
iaeth dithau heddyw yn Bethsaida, gan dy fod mor
debyg iddo, myfi a'th alwaf dithau hefyd yn Jsrael.
Ac yn dy achos di, yn wahanol, ac yn amgenach, gallaf
A'B ANGELION YN DISGYN. 125
ychwanegu, 'Israeliad yn wir, yn. yr hwn nid oes
dwylV Jacob wedi ei adgynyrchu ydwyt ti, yn unig
f od yr ail-argraffiad yn rhydd oddiwrth y gwallau oedd
yn anurddo yr argraffiad cyntaf . A chan niai Jacob
ydwyt, fel Jacob gynt, ti gei dith.au, a Loll Jacobiaid
yr oesau ar dy ol, weled yn fy ngweinidogaeth, yn fy
ngwyrthiau, yn fy marw, yn fy adgyfodiad, ac yn fy es-
gyniad, fod y nefoedd a gauwyd gan bechod yr Adda
cyntaf, wedi ei hagor drachefn gan yr ail Adda ; fod y
cyfamod tragywyddol o dan yr ef engyl i barhau yn an-
sigledig; fod modd, drwy ysgol fy nghyfryngdod, i
deulu trallodedig y ddaear glywed fy Nhad yn siarad
wrthynt o'r uchelder, ac fod angelion yn gwasanaethu
derbynwyr fy iachawdwriaeth yn holl gyfyngderau
bywyd ac angeu."
T meddwl ydyw, y buasai i lygad ffydd, wedi ei
oleuo a'r Tsbryd Glan, weled fod tramwyfa reolaidd
wedi ei hagor a'i sefydlu rhwng nefoedd a daear.
Gweled y warchaeaeth yn cael ei chyfodi oddiar
longbyrth y nef j g weled y bolltau a osodasid gan
gyfiawnder ar y breswylfa lonydd yn cael eu tynu yn
ol; ie, gweled trafnidiaeth ysbrydol yn cael ei dwyn
yn mlaen rhwng y ddwy wlad. O'r blaen, yr oedd
uffern wedi ei hagor, a'r nefoedd wedi ei chau ; ond yn
awr, y mae uffern wedi ei chau, a'r nefoedd wedi ei
hagor. T mae mor agored erbyn hyn, fel y gellir,
gyda Stephan, ei gweled drwy gawod o geryg. Mewn
gwirionedd, y mae nefoedd a daear, yn nghyfryngdod
Crist, wedi dyfod yn un byd, yn lie dau. Adroddir
gan Liddell, yn Hanes Ehufain, am uniad Athen fawr
a Piraeus f echan, drwy furiau mawrion ac uchel Per-
126 EI FBODYK EF.
icles. Adeiladwyd y muriau yr holl ffordd o'r brif-
ddinas i'r llongbortli, ar y dde ac ar yr as wy, yn bedwar
ugain troedfedd o uchder, 'el yr aeth Atben a Piraeus
yn un. Y mae nef oedd f awr Duw, hefyd, a daear f ech-
an dyn, bellach wedi eu tragywyddol gysylltu a'u gil-
ydd, a " ffordd newydd a bywiol " wedi ei hagor gan
Grist i'r naill a'r llall. Pwy bynag a ymostynga ar ei
liniau, gan edrych i fyny, gall weled pen uchaf yr ys-
gol yn gorphwys ar orseddfainc Duw a'r Oen.
EI FRODYK EF.
" Canys nid oedd ei frodyr yn credu ynddo." IOAN vii. 5.
Y'mae yr adnod hon yn gwthio
TMHOL1ADATJ
i sylw ag sydd wedi dyhysbyddu gallu ac amynedd
llawer o ymcnwilwyr galluog. Yr ymholiadau hyny,
yn mysg eraill, ydynt a ganlyn : Yn mha ystyr yr
oedd yr anghredinwyr nyn yn frodyr i'r Arglwydd
lesu 1 ? A ydyw y gair brodyr yn y cysylltiad hwn yn
golygu rhyw berthynas amgen y frodoriaeth hono a
olyga y gair mewn cysylltiadau eraill ? A oes seiliau
i'r grediniaeth mai meibion oeddynt i Mairac Alpheus,
ac a ydyw y berthynas dybiedig iiono a Mair ac Al-
pneus yn eu gwneyd yn gefnderwyr yr Arglwydd lesu ?
Neu ynte, a ydyw yn debygol, gan mai y gair a arferir
i'w dynodi ydyw brodyr, fod gan Joseph blant drwy
briodas flaenorol, ac mai y rhai hyny ydynt y brodyr a
El FBODYR EF. 127
grybwyllir yma ? Ai yr un rhai ydyw yr lago, Joses,
Simon a Judas (Mat. xiii. 55), a adnabyddir fel brodyr
yr Arglwydd lesu, a'r lago, Judas a Simon (Mat. x. 3,
4, a ymddangosant yn rhestr yr apostolion etholedig ?
Y mae tri o frodyr yr Arglwydd lesu, a thri o'r apos-
tolion yn dwyn yr un enwau, fel y gwelir isod :
Y BRODYR. YR APOSTOLION.
lago, lago, mab Alpheus.
Joses,
Simon, . Simon, y Canaanead.
Judas, Judas, brawd lago. (Grwel
Luc vi. 16.)
A'r cwestiwn ydyw, Ai yr un personau ydynt ? Os
mai brodyr naturiol yr Arglwydd lesu oeddynt yr
anghredinwyr hyn, a ydyw hyny yn milwrio mewn un-
rhyw fodd yn erbyn y syniad o anrhydedd eithriadol
Mair?
Yn yr ymchwiliad am atebion boddhaol i'r ymholiad-
au uchod, yr ydym yn dyfod i ddeall f od awdurdodau
uchelaf y canrif oedd, y rhai a berthynent i'r eglwysi
Groegaidd a Lladinaidd gynt, ac a berthynant i'r eg-
lwysi Protestanaidd yn awr, yn coleddu a chyhoeddi
syniadau gwahanol. Nid yn unig y maent yn gwahan-
iaethu ar y prif gwestiwn, sef yn mha ystyr yr oedd y
rhai hyn yn frodyr yr Arglwydd lesu, ond y mae
y prawfion a ddygant yn mlaen dros eu syniadau yn
cynwys dyfyniadau mor wasgaredig, traddodiadau eg-
Iwysig mor ansicr, a beirniadaethau mor dywyllion, fel
mai gorchwyl cyntaf yr ymchwilydd ydyw ceisio
gwneyd trefn ar dryblith eu damcanion hwy, syml-
128 EI FBODYE EP'.
eiddio i'w feddwl yr hyn a ddysgant, ac ymholi pa un
a allasai cysylltiadau. eglwysig y naill neu y Hall beri
en bod, yn anymwybyddol iddynt eu hunain, yn
syrthio i wasanaethu Cyffes Ffydd, yn hytrach na
gwasanaethu achos mawr iawn-ddeongliad Gair Duw-
Y mae yn wirionedd diamheuol, beth bynag, fod holl
ysgolheigion yr Eglwys Ladinaidd, o Jerome i lawr
hyd y dydd hwn, yn dadleu mae meibion Mair ac Al-
pheus oedd y brodyr hyn ; ac yn gysylltiedig a'r ddad-
leuaeth hono, yn ymresymu morwyndod parhaol Mair
y Forwyn. Nid ydyw yn anhawdd gweled pa fodd y
mae yr ofergoeledd o forwyndod annhoredig yn gwas-
anaethu f el rhan o'r cynllun i dduweiddio Mair, ac felly
yn arwain i'w haddoliad, oblegid os na anwyd o honi
ond y Gwaredwr yn unig, yr hwn hef yd a anwyd mewn
modd goruwchnaturiol, ynay maey dystawrwydd Beibl-
aidd am blant eraill yn cefnogi yr athrawiaeth. Babaidd
o forwyndod parhaol. Anhawdd, felly, ydyw i esbon-
wyr yr Eglwys JBabaidd ddyfod g, meddwl diragfarn i'r
ymchwiliad hwn; ac anhawdd hef yd i esbonwyr eraill
ydyw cymeryd cwrs ddeongliadol gwahanol i'r un a
linellwyd gan eu dysgeidiaeth hwy, yr hyn sydd yn
cyfrif, fe ddichon, am yr ymgais i brofi mai haner
brodyr ein Harglwydd oeddyntj sef eu bod yn feibion
Joseph drwy briodas flaenorol, yr hyn hefyd sydd yn
osgoi y frodoriaeth naturiol.
Amcanwn wneyd tri gosodiad, dau nacaol, ac un
cadarnhaol, o barthed i berthynasaeth ypersonauhyn ;
y ddau gyntaf yn dangos afresymoldeb dysgeidiaeth yr
eglwysi Dwyreiniol a Gorllewinol, a'r olaf yn dangos
rhesymbldeb y farn mai brodyr naturiol y Gwaredwr
El FBODYB EF. 129
sydd yn cael eu crybwyll yma. Yr ydym yn dadleu yn
I. MAI NIB MEIBION JOSEPH DEWY BRIODAS FLAENOROL
OEDDYNT.
Grelwir y golygiad a ddysga hyny yr un Epiphanaidd,
oblegid i Epiphannis ei amddiffyn gyda dyfalbarhad a
gallunodedig;, ae yn ddiweddar y mae yr un olygddysg
wedi cael amddiffynydd dysgedig a selog yn y wlad
Ihon yn mherson y Proffeswr Lightfoot. (Epis. Gal.
Diss. ii.) Ond sylwer ar a ganlyn:
(a.) Nid oes yr un gair t/n cael ei ddweyd yn y Tes-
tament Newydd am briodas flaenorol Joseph. T mae
yn gwbl amddifad o gadarnhad ysgrythyrol, ac y mae
.hyn ynddo ei hun yn ystyriaeth bwysig. Ac heblaw
iiyny, y mae Epiphannis ei hun yn cydnabod f od y f ath
dybiaeth yn cynwys fod Joseph " dros bedwar ugain
oed " pan briododd a Hair, tra y mae y Beibl yn rhoddi
.ar ddeall, nid ei fod yn hen wr diffirwyth, ond yn ddyn
o gyfryw oedran ag yr oedd yn weddus iddo fyned
drwy holl ddefion priodasol y genedl, sef dyweddiad,
&c., (Mat. i. 18-20, 24, 25 ; Luc ii. 7), ac yr oedd yn
gwbl alluog hefyd i gyflawni holl ofynion yr ystad
briodasol. T mae sylfaen yr olyg-ddysg hon, nid yn y
JBeibl, ond megys y dangosir gan un o'i chefnogwyr
boreuaf (Orig. in Mat. xiii. 55) yn llyfrau anghanonaidd
yr Apocrypha.
Nis gallasai yr Arglwydd lesu .fod yn etifedd
os nad efe ydoedd ei fab henaf. Tn Israel,
y cyntaf-anedig ydoedd yr etifedd, ac os oedd gan
Joseph Iblant henach na'r Arglwydd lesu, yna, nid ein
Sarglwydd ydoedd etifedd Joseph, ac os nad ydoedd
yn etifedd iddo, nid oedd ganddo ychwaith hawl i or-
130 EI FEODYB EF.
sedd Israel. G-welir felly fod tybygiad Epiphannis
yn anwireddu y prophwydoliaetb.au, ac yn dymcliweL
hawliau Crist fel Messiah.
Yr ydym yn dadleu, yn
II. MAI NID MEIBION MAIK A CLEOPAS OEDD YB AN-
NGHEEDINWYB HYN. Oblegid ddarf od i Hieronymus ym-
orchestu i sefydlu y grediniaeth mai meibion Cleopas.
a Mair, y Mair, fel y dywedant, ydoedd yn chwaer i.
fam ein Harglwydd, ydoedd y rhai anodir yma, gelwir
y myntumiad hwn yr un Hieronymaidd, er f e ddichon
mai Jerome, yn y bedwaredd ganrif, ysgrifenodd yr
amddiffyniad mwyaf llafurfawr iddo. Ond yr ydym ni.
yn credu nad ydoedd Mair, gwraig Cleopas, yn chwaer
i Fair y Forwyn, ac felly, mai nid ceraint ein Harglwydd.
a elwir yn frodyr yma. Ein rhesymau dros y gredin-
iaeth ydynt a ganlyn :
(a.) Y mae yn hynod o annhebyg y buasai yr un-
enw, Mair, yn cael ei roddi i ddwy chwaer,
(b.) Nid ydyw gwraig Cleopas yn un man yn cael
ei galw yn chwaer i fam ein Harglwydd. Y mae Wi-
eseler, Ewald, Godet, Meyer, Scaff, Alford, Farrar,.
Smith, Conder, Fairbairn, &c., yn unfarn mai nid cer-
aint ein Harglwydd ydoedd y rhai a elwir yn frodyr
yma, ac felly nid ydoedd gwraig Cleopas yn chwaer i
Mair, eithr ei fod yn fwy tebygol lawer mai Salome
oedd yn dal y berthynas hono a hi ; ac os cymherir yr
adnodau canlynol a'u gilydd, sef, loan xix. 25, a Mat.
xxvii. 56, gwelir fod tebygolrwydd cryf f od eubarikyn
gywir. Wrth roddi hanes y gwragedd a saf asant wrth
groes ein 5 Harglwydd, enwa loan hwy fel y canlyn : " ei
fam ef , a chwaer ei fam ef , Mair gwraig Cleopas, a Mair
El FRODTB EF. 131
Magdalen." Wrth roddi hanes yr un gwragedd, yn yr
un amgylchiadau, enwa Matthew hwy f el y canlyn : " Yn
mhlith j rhai oedd Mair Magdalen, a Mair miam lago
a Joses, a mam meibion Zebedeus." Tmddengys yn
debyg ia\vn oddiwrth y dull yr enwir hwy gan loan,
fod " chwaer ei fam ef," a " Mair gwraig Cleopas " yn
ddau berson gwahanol, ac fod Matthew wrth roddi ei
adroddiad ef, yn dweyd pwy ydoedd " chwaer ei fam
ef," sef, "mam meibion Zebedeus," yr hon ydoedd
Salome. Os ydyw yr xichod yn gywir, gwelir mai meib-
ion Salome ydoedd cefnderwyr ein Harglwydd, ac fod
y prawf tybiedig o gyfryw berthynas rhyngddo a meib-
ion Zebedeus yn diflanu, a chyda y diflaniad hwnw r
ymsudd sylfaen unrhyw ymresymiad safadwy.
(e.) Os ydyw Mair gwraig Cleopas yn chwaer Mair
mamyrlesu,a l i geraintyncaeleugalwynfrodyr iddor
rhaid felly fod ei frodyr, tra yn anghrediniol, wedi
eu dewis yn apostolion, yr hyn sydd yn gwbl groes i
dystiolaeth yr Efengylwyr. Tr oedd lago mab Cleo-
pas, Judas, a Simon, (Mat. x. 3, 4), yn apostolion ethol-
edig. Tn mhen amser wedi etholiad y deuddeg, dy-
wedir, " Canys nid oedd ei frodyr yn credu ynddo," yr
hyn sydd ar unwaith yn gwaha^niaethu ei frodyr ef
oddiwrth f eibion Alpheus, neu Cleopas, (dwy ffurf ar
. enw yr un person), oddigerth fod yn bosibl credu y
gwrthuni nad oedd yr apostolion wedi credu ynddo
hyd yn nod ar adeg eu neillduad. Ac mai nid anghred-
iniaeth hanerog, neu dros amser, ydoedd anghredin-
iaeth y brodyr hyn, ond ei fod yn un arferol a pharhaol,.
a brofir gan y ferf a ddefnyddir yma, ac yn neillduol
gan ei hamseriad (episteuon, imperfect tense). Ceisir,.
132 EI PKODYB EF.
er yr ystyriaeth anwrthwynebiadwy lion, gan rai ddad-
leu fod rhai o frodyr ein Harglwydd yn apostolion, a
thrwy liyny eu hunaniaethu a maibion Cleopas, a syl-
faenant y ddadl ar uclider y sane a roddwyd i lago yn
nghyngor Jerusalem, a'r awdurdod yr ymddengys yn
ei harfer yn yr eglwysi apostalaidd (Actau xii. 17, xv.
13, xxi. 18), ond yn benaf ar eiriau yr apostol Paul,
sef, " Eithr neb arall o'r apostolion nis gwelais, ond
Jago brawd yr Arglwydd." (Gal. i. 19). Haerir fod y
geiriau hyn yn cynwys lago yn mysg yr apostolion, ac
mai ef e allan o honynt oil, a welwyd gan yr apostol
Paul. Gyda golwg ar ddwy ran yr wrthddadl dan
sjlw, y mae yn rhaid cofio dau beth :
(a.) Ddarfod i lago, Joses, Judas, a Simon, wedi
marwolaeth ac adgyfodiad Crist, ddyfod yn gredinwyr
yn y Messiah.
Y mae hyn yn eglur oddiwrth Actau i. 14 j 1 Cor. xv.
7; 1 Cor. ix. 9. herwydd eu gwasanaeth i grefydd,
ac fe ddichon, i raddau, oblegid eu perthynas a Christ
yn ol y cnawd, rhoddwyd iddynt safleoedd anrhydedd-
us yn yr eglwysi apostolaidd.
(Z>.) Nad ydyw yr ieithwedd a ddefnyddia Paul, o
angenrheidrwydd, yn cynwys lago yn mysg y deuddeg
apostol.
T mae y dull we dd ieithyddol hwn yn gyffelyb i'r un
& ddefnyddia Crist yn efengyl Luc, pan ddywed,
"Eithr yn wir meddaf i chwi, llawer o wragedd
gweddwon oedd yn Israel yn nyddiau Elias. * * *
Eithr nid at yr un o honynt yr anfonwyd Elias, ond i
Sarepta yn Sidon." Yn yr engraifft hon nid ydyw
"ond i Sarepta," yn dysgu fod Sarepta yn Israel.
El FRODYB EF. 133
Engraifft arall : "A llawer o wahan-gleifion oedd yn
Israel yn amser Eliseus y prophwyd, ac ni lanhawyd
yr un o honynt ond Naaman y Syriad." Pwy fyddai
yn ddigon ffol i gredu fod yr ymadrodd " ond Na-
aman" yn dysgu fod Naaman yn preswylio yn Israeli
(Gwel hefyd Mat. xvi. 4; Actau xxvii. 2; "Winer Gr. N.
T., p. 789.) Felly, yn ol yr un priod-ddull, yr hyn a
ymddengys yn cael ei ddweyd gan Paul ydyw hyn:
" Ni welais neb o'r apostolion, ond gwelais lago brawd
yr Arglwydd."
Gan nad pwy sydd am restru lago a Judas yn mysg
y deuddeg apoStol, y mae yn deilwng o sylw nad yd-
ynt hwy eu hunain yn ymhoni urddas nac awdurdod y
swydd. (lago i. 1; Judas i. 1.) Yn ngrym y myfyr-
dodau blaenorol, ac yn rhagweled adgyfnertMon
ychwanegol, yr ydym yn meiddio gwneyd y trydydd
gosodiad, sef,
III. MAI MEIBION MAIR A JOSEPH YDOEDD YK ANGHBED-
INWYB HYN, AC FELLY YN FEODYE NATUKIOL I'B ARGLWYDD
IESU. Tn ngoleuni y gosodiad hwn,
(a.) Y gwelwn gywirdeb yr enw a roddir arnynt.
Gelwir hwy, nid yn "haner brodyr," nac yn "geraint,"
ond yn "frodyr." Fel y sylwa Farrar: "Gelwir hwy
yn wastad yn adelphoi, ac nid un amser yn anethioi,
neu suggeneis. " Ac f el y sylwa Neander, drachefn, wedi
dyfynu Luc viii. 21; Marc iii. 31; loan ii. 12, vii. 3), "y
byddai yn drais a'r rhanau hyn i dybied fod adelphoi
ynddynt oil yn cael ei osod yn lie anethioi" Buasai
galw ceraint yn frodyr yn gamgyfeiriol hollol y fath
gamgyf eiriad nad allwn gredu f od yr ef engylwyr yn euog
o hono. Pe na buasai un gair arall i ddynodi perthyn-
134 EI FKODYK EF.
;asau gwahanol, ond yr un a ddefnyddir yma, a phe bu-
,asai yr ysgrifenwyr bob amser yn galw pob perthynas
gnawdol yn frodyr neu chwiorydd, buasem yn. deall
yr wrthddadl a ddefnyddir, ond pan yr ydym yn gwel-
ed Elizabeth yn cael ei galw yn t/ares Mair (Luc i. 36);
yn clywed un yn cael ei wahaniaethu f el mob chwaer
Paul (Actau xxiii. 16), ac yn deall f od Marc yn cael
siarad am dano f el " nai Barnabas, fab ei chwaer "
(Col. iv. 10), yr ydym yn gwbl anmharod i gredu fod
gair yn cael ei ddefnyddio i ddarlunio perthynasaeth y
-Gwaredwr ag sydd yn gwbl gyfeiliornus.
Wrth eu hystyried yn frodyr naturiol hefyd, yr ydym
yn cael eglurhad,
(b.) Ar y ffaiih eu bod yn ymddangos yn wastadol
yn nyhyitide'thas Mair. (Gwel Mat. xii. 46; Marc iii.
.31; Actau i. 14.)
T mae y gosodiad uchod hefyd,
(c.) Yn taflu goleu ar eu hi/fder, a'r ymhonqarwch o
ddyd<lordeb a amlygir yn eu, Jiy myriad a'r Q-waredwr.
(Gwel y cysylltiadau.)
T mae anghrediniaeth y brodyr hyn yn dysgu i ni y
gwahaniaeth a all fodoli rhwng brodyr a orweddasant
yn yr un groth; yr anghydwelediad a all ymgodi yn
nheulu y rhai duwiolaf, yn enwedig os bydd mwyafrif
y plant yn anghredinwyr ; y gall ymyriad eto ddy-
gwydd a chrefydd yr hwn nad ydyw ei amcanion ys-
brydol yn cael ei ddeall gan ei gyfeillion anianol; fod
ymyriad y digrefydd a'r crefyddol yn gyffredin yn cyn-
wys sarugrwydd, awgrymiadau o ddybenion iselwael,
yn nghyd ag amheuaeth o ddidwylledd; mai dyled-
swydd y cref yddwr yn nghanol anghrefyddwyr, ydyw
.AMSEBOEDD ADFERIAD POB PETH. 135
peidio myned gyda hwy hyd yn nod i'r gwleddoedd
Hawenaf , os ydyw ewyllys ddatguddiedig Duw yn gom-
<edd hyny; ac yn olaf,gan i'r Arglwydd lesu wrth farw,
<er iddo fethu gwneyd hyny trwy diriondeb, dagrau a
gwyrthiau ei fywyd, symud anghrediniaeth ei frodyr,
fod yn bosibl i grefyddwyr eto, y rhai sydd wedi gwel-
ed fod eu gweddiau, eu cyngorion a'u hesiamplau yn
aneffeithiol i ddychweliad eu perthynasau, enill y cyf-
ryw drwy farw yn fuddugoliaethus. Y mae un cynyg
yn aros eto i'r rhai ag ydynt hyd yn hyn yn gorfod
byw yn nghanol perthynasau anghrediniol, ac y mae
i ddyfod pan gyrhaeddant Galfaria eu hanes.
AMSEEOEDD ADFEEIAD POB PETH.
" Edifarhewch gan hyny, a dychwelwcli, fel y dileer eich pech-
odau, pan ddelo yr amseroedd i orpliwys o olwg yr Arglwydd ;
Ac yr anfono efe lesu Grist, yr hwn a bregethwyd o'r blaen i
clrwi: Yr hwn sydd raid i'r nef ei dderbyn, hyd. amseroedd adfer-
'iad pob peth, y rhai a ddywedodd Duw trwy enau ei holl sanct-
.aidd brophwydi, erioed." AcTAuiii. 19-21.
YMHOLIADATT.
A oes perthynas rhwng y geiriau hyn a rhywun heb-
law gwrandawyr Pedr? Pa beth ydyw natur y cyf-
newidiad yr a dyn drwy d do pan yn edifarhau ac yn
dychwelyd ? Pa un ai gan bersonau unigol, neu ynte
; gan yr e^lwys jn gyffredinol, y mae yr orphwysfa a
^ddewir i'w mwynhau'? Pa unAi y ddynoliaeth syrth-
dedig, neu ynte y greadigaeth felldithiedig, yr addewir
136 , AMSEKOEDD ADFEBIAD FOB PETHT.
iddi adferiad yn ail ymddangosiad y Mab ? Ai yr un~
rhyw gyfnodau ydynt amseroedd gorplrwys o olwg yr
Arglwydd, ac amseroedd adferiad pob peth, neu ynte-
a ydynt yn wahanol *?
Pan yr anfonodd ysgolor at y rhai a gyfieithiasant y
Beibl yn amser lago I., fod ganddo ef bump o resym-
au dros iddynt fabwysiadu cyflead arbenig y dadleuai.
ef drosto, anfonasant iddo atebiad yn dweyd, os oedd.
ganddo ef bump o resymau dros y darlleniad, fod gan-
ddynt hwyth.au bymtheg o resymau yn ei erbyn. Nis-
gwyddom pa nifer o resymau ellid fyddino dros gad-
wraeth cyfieithiad y testyn awdurdodedig; o'r adnodau.
uchod, nac ychwaith pa mor lluosog yr ystyriaethau a.
alwant am gyfnewidiad ynddo ; ond un peth a wyddom,.
sef fod ein prif gyfieithwyr, hen a diweddar, nid yn
unig wedi effeithio cyfnewidiadau' ynddo, ond rhagor r
fod y cyfnewidiadau hyny yn dwyn tebygoliaeth neill-
duol y naill i'r llall. Drwy gyfrediad lied gyffredin, o^
ddyddiau Jerome, pan roddwyd i'r byd y cyfieithiad
Lladinaidd a henafol a elwir y Yulgate, hyd y flwydd-
yn 1885, pan gyhoeddwyd ffrwyth ymchwiliad ysgol-
heigion Beiblaidd Lloegr ac America, gan brifysgolion
Oxford a Cambridge, y mae y gwreiddiol wedi ei gyf-
leu yn wahanol i'r hyn a geir yn y testyn awdurdoded-
ig. Gydag ychydig o wahaniaeth dibwys, y mae
Tichendorf, Alf ord, Duveil, Hacket, Dr. Cowles, Dr.
Jacobson, John "Williams, &c., yn cytuno i rag-gysgodi
cywirdeb y darlleniad canlynol o eiddo y Cyfieithiad
Diwygiedig. Y cyfieithiad ydyw : " Repent ye there-
fore, and turn again, that your sins may be blotted
out, so thht there may come seasons of refreshing from.
AMSEROEBB ABFERIAB POB PETH.
137
the presence of the Lord; and that he may send the
Christ, who hath been appointed for you, even Jesus :
whom the heaven must receive until the times of re-
storation of all things, whereof God spake by the
mouth of his holy prophets, which have been since the
world began."
Gan f od y darlleniad hwn yn cael ei dderbyn gyda
graddau mor helaeth o gymeradwyaeth ac undeb, nyni a.
f enthycwn ei oleuni tra yn anturio i f ewn i dywyll-le-
oedd y geiriau. Galluoga ni i sylwi,
I. AE Y CYFNEWIBIAB YSBRYBOL Y BYMUNAI PEBB AB iV
WBANDAWYE EI' OHWENYCHU, A MYNEB BRWYBBO. " Edlf ar-
hewch gan hyny, a dychwelwch."
Y rhai hyn ydynt y ddwy weithred fawr gychwynol
yn mhob mudiad achubol. T mae y naill yr un mor'
hanf odol a'r Hall. Nid digon i ddyn edif arhau ; rhaidi
iddo hefyd ddychwelyd, sef dewis drachefn y Crist ft
wrthododd, a gwrthod drachefn y Barabbas a ddeisyf-
odd. Y mae perthynas a thebygoliaeth rhwng y weith-
red gyntaf a'r ail ; ar yr un pryd y maent yn wahanol
i'w gilydd. Edifeirwch ydyw teimlad galarus y dyn
ar ol gweled ei hunan yn gyf eiliornus ; dychweliad
ydyw ymdroad y dyn at Dduw, gyda llawn fwriad a,
llwyr ymroddiad i'w garu a'i wasanaethu. laith yr
edifeiriol ydyw, "A minau yn marw o newynj" ond
iaith y dychwelwr ydyw, " Mi a godaf, ac a af at fy
nhad." Gellid cyffelybu y ddwy sefyllfa feddyliol i
ddwy geulan afon argyhoeddiad, un ar ochr colledig-
aeth, a'r llall yn nghyfeiriad diogelwch tragywyddoL
Neu ynte, dichon yn wir y gellid edrych ar y ddau air
fel darluniad o agweddau mewnol ac allanol troedig-
10
138 AMSEEOEDD ADFEBIAD POB PETH.
aeth. Pan y mae dyn yn edifarhau, y mae ycyfnewid-
iad grasol yn myned yn nilaen yn fewnol, ond pan y
mae dyn yn dychwelyd, y mae y cyfnewidiad yn myned
yn mlaen yn allanol, ac f el canlyniad, y mae y dyn
gweledig yn dyf od i gydgordiad a'r dyn anweledig ; y
mae y galon a'r fuchedd, yr egwyddor a'r weithred,
wedi eu cyfnewid, ac yn gogoneddu Duw. Galluogir
nii sylwi,
II. An Y TKI CHANLYNIAD SYDD I DDEILLIAW O EDIFEIB-
WCH A DYCHWELIAD DYNION.
1. Dilead pechodau. "Fel y dileer eich pechodau."
Defnyddir y gair dileu gan Xenophon, i osod allan y
weithred o dynu ymaith enw oddiar lechres neu gyf-
res rhathu y llythyrenau allan fel na fuasent yn gan-
fyddadwy o hyny allan. Ond y tebygolrwydd ydyw,
mai cyfeiriad sydd yn yr ymadrodd hwn, megys y
sylwa Dr. Jacobson yn y " Speaker's Commentary," at
yr hen ddull o ysgrif enu ar gwyr. Ffurfid y llythyr-
enau gydag ysgrifell a elwid y stylus, a gallai yr ys-
grif enydd, nid yn unig dori lluniau y llythyrenau ar y
cwyr, ond hefyd, gyda yr un ysgrif -bin blaenllym, eu
llwyr ddilea oddiarno. Os ydyw cyfeiriad y geiriau, a
chredwn ei f od, at y dull hwnw, gwelir felly f od yr ym-
adrodd ffigyrol hwn o eiddo yr apostol yn cynwys y
desgrifiad grymusaf dichonadwy o faddeuant pechod-
au. T mae y pechodau, nid yn cael eu hanghofio, nid
eu .pellhau, nid eu taflu y tu ol i gef n i Dduw, neu ynte
i ddyfnder y mor, ond yn cael eu dileu am byth allan
o'r golwg. Nis gellir yn dragywyddol weled olion o
honynt ar lyfrau Duw. Gwyddom am amgylchiad a
ddygwyddodd yn "Nghymru, a brof a y gall dyn ddweyd
AMSEBOEDD ADFEBIAD FOB PETH. 139
ei fod yn maddeu, tra nad ydy w yn awyddus i'r trosedd
gael ei ddileu. O herwydd parhad dyn i wrthod madd-
eu i frawd ydoedd wedi pechu yn ei erbyn, serch fod
hwnw yn ymbil am dano, a serch hefyd ei fod ef ei hun-
an ar yr hyn a ymddangosai yn wely marwolaeth, aeth
dirprwyaeth o'r eglwys yn mha un yr oedd yn aelod,
gyda y troseddwr, a mab yr un y pechodd yn ei erbyn,
at erchwyn ei glaf wely, ac wedi egluro iddo nad yd-
oedd efe ei hun byth i gael maddeuant gan Dduw,
oddigerth iddo faddeu i'w frawd, o'r diwedd dywed-
odd, "Yr wyf fi yn maddeu iddo; ond," meddai, gan
droi at ei fab, " John, cofia di am dano !" Mor wahanol
ydyw ein Duw ni ! (Gwel Psalm li. 9 ; Esaiah xliii.
25.)
2. G-orphwysfa o olwg yr Arglwydd. Nid "pan
ddelo yr amseroedd i orphwys, 1 ' eithr fel y delo, neu
fel y gall ddyfod amseroedd i orphwys, &c. Pe mai
pan, ddelo, &c., ddylid ddarllen, creai hyny yr-argraff
fod Pedr yn dysgu fod y maddeuant i'w ohirio i'r ed-
if eiriol hyd adeg y gorphwys ac anfoniad y Mab, yr
hyn fuasai ar unwaith yn gyfeiliornad dybryd a niw-
eidiol.
Nid ydyw y gair a gyfieithir yma yn orphwys yn dy-
gwydd yn un man arall yn y Testament Newydd yn y
ffurf o enw, ac ni cheir ef ychwaith ond unwaith yn y
ffurf o ferf, sef yn 2 Timotheus i. 16. Yno dywedir,
" Ehodded yr Arglwydd drugaredd i dy Onesimus,
canys efe a'm llonodd i yn fynych," &c. Wrth geisio
dyfod o hyd i'r drychfeddwl gwreiddiol a naturiol a
gynwysa, sylwa Dr. Henry Cowles, yn ei esboniad ar
yr Actau, fel y canlyn : " Y mae y gair Groeg a gyf-
140 AMSEBOEDD AKFEKIAD FOB PETH.
ieitMr yma yn orphwys, yn awgrymu naill a'i cymeryd
anadl ar ol lluddedigrwydd (exhaustion}, neu ynte y
teimlad o led-oeredd ac adfywiad wedi gwresogrwydd
mawr. Y mae Duveil, yn ei esboniad yntau yn can-
fod ynddo yr un syniad, oblegid cyfieitha hi, " fel y
gallo amserau yr addoeriad (refrigeration} ddyfod
oddiwrth bresenoldeb yr Arglwydd." Er fod y gair
yn ei ystyr glasurol yn lied anarferedig a thywyll, eto
y mae yn eithaf eglur mai y meddylddrych efengylaidd
a drosglwyddir drwyddo yma, ydyw, y daethai y sawl
fuasai yn edifarhau ac yn dychwelyd, nid yn unig i
af ael y f endith o f addeuant, ond hefyd yn ychwanegol,
yn teimlo bywiocad, ysgafnder a llonder ysbryd. Ond
er meddu syniad am natur y rhagorfraint, y gorphwys,
nid ydyw mor eglur eto yn niha gyfnod, neu gyfnodau
neillduol, y mae y rhagorfraint hon i'w mwynhau. Y
mae y gair i ddynodi hyny yn anmhenderfynol, sef,
" amserau." Y mae esbonwyr yn ymranu yn dri dos-
barth pan yn cyfarfod ar y maes hwn. Syniad un dos-
barth ydyw
Mai y tangnefedd melus a fwynheir yn uniongyrch-
ol wedi derbyn maddeuant, a olygir. Yr adeg hyfryd
hono, pan y mae yr enaid yn myned i mewn i hafan
maddeuant, ar ol bod allan yn y mor mawr yn nher-
fysgoedd edifeirwch. Y dyn yn sylweddoli a mwyn-
hau yr ymsyniad, am y tro cyntaf, nad ydyw mwyach
yn gaethwas, ac fod ei Jubili dragywyddol wedi
gwawrio. Yn sicr, yn briodol y gellir galw y fath
fwynhad yn or^)hwysfa, ac y mae mili'wnau wedi llamu
mewn gorfoledd ynddi. Syniad y dosbarth arall ydyw,
Mai yr orphwysfa ydyw y llawenydd a dderbynia
AMSEKOEDD ADFEBIAD FOB PETH. 141
pobl Dduw yn mhresenoldeb Crist, ddydd y farn. Ed-
rychir ar y frawddeg gan Alford, Schaff, Gloag, ac er-
aill, fel un o ganlyniadaa yr ail-ddyfodiad i'r rhai sydd
yn edifarhau ac yn dychwelyd dan weinidogaeth yr ef-
engyl. Dywed Gloag, "Y mae Pedr yma yn rhag-
weled y buasai dychweliad yr luddewon fel cenedl yn
cael ei ddylyn gan ryw olygfa anarferol o Iwyddiant
ysbrydol, yr hwn a fuasai yn parotoi y ffordd ar gyfer
ail-ddyfodiad Crist." Ac y mae Alford, drachefn, yn
credu fod y geiriau yn cyfeirio "at y tymor mawr o
lawenydd a gorphwysfa, yr hwn yr oedd yn ddeallad-
wy y buasai dyf odiad y Messiah, yn ei ogoniant, yn ei
ddwyn gydag ef." T trydydd dosbarth a syniant
Mai tymorau o adfywiadau crefyddol yn hanes per-
sonau unigol, yn ogystal ag yn hanes eglwysi a gwled-
ydd, oedd o flaen llygaid y llefarwr. Hon ydyw barn
Abbot, Lightfoot, Meyer, Plumptre, Taylor, &c., &c.
"Trydwyf yn cymeryd," meddai Abbot, "mai meddwl
yr addewid ydyw, yn gyntaf, y tymorau o adf ywiad ys-
brydol i unigolion ; hyny ydyw, rhoddiad bywyd new-
ydd, o ba un y mae Duw yn awdwr; yr hwn hefyd
sydd bob amser yn cael ei gysylltu ag ymwybodol-
rwydd arbenig o'i bresenoldeb ; ac yn ail, tymorau cyff-
elyb o adfywiad i'r eglwys, y cyfundeb crefyddol, ond
bob amser a roddir ar yr un telerau, sef edifeirwch a
newidiad buchedd, a phob amser wedi ei flaenori a
maddeuant rhad drwy Grist. Yr wyf yn deall yr ad-
nod hon, felly, fel addewid o faddeuant rhad, a bywyd
ysbrydol newydd ; hyny ydyw, maddeuant ac adgenedl-
iad ar yr amodau syml o gyfnewidiad yn amcan a chyf-
eiriad y pechadur." " Nis gallaf lai na meddwl,"
142 AMSEROEDD ADFERIAD FOB PETH.
meddai William M. Taylor, " nad ydoedd Pedr yn cael
ei arwain i ddefnyddio geiriau, y rhai, tra y maent yn
wirionedd 'yn mhronad y dychweledig unigol, eto a
dderbyniant eu cyflawniad uchelaf yn y dydd hwnw
pan fydd holl Israel yn gadwedig." Dywed Meyer,
" Yn ol pregeth flaenorol Pedr, yr oedd tin o'r amserau
hyn wedi dyfod eisoes yn nisgyniad yr Ysbryd Grlan, a
daw yr un orphwysfa eto i bawb a edifarhant." Ys-
grifena Plumptre yn gyffelyb. Dywed, "Y mae yr
amserau i ophwys yn cael eu gwahaniaethu oddiwrth
adferiad pob peth yn adnod 21ain, ac yn ymddangos
megys rhagarweiniadau (preludes] grasol i'r diweddiad
mawr hwnw."
Ar y cyfan, yr ydym yn teimlo tawelwch wi'fch gredu
fod y gair gorphwys yma yn golygu llawenydd y dy-
chweledig unigol, yn gystal a llawenydd pobl Dduw
yn gyffredinol, ar adegau o ymweliadau dwyfol, yn
dwyn gyda hwy orfoledd a chan. Dysgir gan Pedr fod
dychweliad pob person unigol, pob teulu, pob cenedl,
a phob gwlad, yn parotoi y ffordd, ac yn cael eu dylyn
gan adfywiadau ysbrydol, ac fod yr adfywiadau ys-
brydol hyny yn prysuro oddiamgylch ail-ddyfodiad
Anwylyd Seion. Ac nid oes neb a all fwynhau ymwel-
iadau neillduol yr Ysbryd Glan ond y rhai sydd yn ed-
ifarhau ac yn dychwelyd. Iddynt hwy y maent yn am-
serau o orphwysfa oddiwrth bresenoldeb Grist yn yr
eglwys. Yr unig rai sydd yn cael eu lloni a'u llenwi a
gorf oledd pan y mae awelon diwygiad yn y wlad, ydyw
y rhai a deimlant alar am becliod, ac a droant at Dduw
yn ei Fab am faddeuant.
AMSEKOEDD ADFEKIAD FOB PETH. 143
III. ANFONIAD IESU GBIST IB AIL WAITH O'K KEFOEDD.
"Ac fel y gallo anfon y Crist," &c.
Gan na ddywedir yn unman arall y bydd Duw Dad
yn anfon ei Fab i f arnu y ddaear, a chan hefyd yr ym-
ddengys yn ddyeitkr ac anhygoel f od eisteddiad brawd-
lys y farn, o ran yr amser y cynelir hi, yn ddibynol ar
edifeirwch a dychweliad dynion, y mae rhai esbonwyr
yn dewis credu mai yr anfoniad yma ydyw anfoniad
lesu Grist, mewn modd ysbrydoj, i'r enaid edifeiriol,
ac felly fod y geiriau yn derbyn cyflawniad gwastadol
dros yr oesaia. Gwell genym ni gredu, modd bynag,
fod yr addewid i dderbyn ei chyflawniad, nid yn ystod
goruchwyliaeth yr efengyl, ond yn adeg rwysgfawr yr
ail-ddyfodiad.
Yn yr ail-ddyfodiad y cymer adferiad pob peth le.
"Hyd amseroedd adferiad pob peth." "Y mae y
f rawddeg hon yn cael ei def nyddio mewn dau synwyr
yn y Testament Newydd. Tn gyntaf dywedir, ' Elias yn
ddiau gan ddyfod yn gyntaf a edfryd bob peth.' (Marc
ix.12.) Yn y fan yna golyga ddechreuad teyrnasiad Crist.
Gan fod Crist wedi marw er dwyn iachawdwriaeth i
bob dyn, gellir dweyd fod adferiad pob peth wedi de-
chreu y pryd hwnw. Yn yr adnod hon, y mae y geir-
iau yn cyf eirio at yr amser pan fydd yr adferiad hwnw
wedi ei gwblhau." ("Cambridge Bible.") "Llawnys-
tyr y gair (adferiad) ydyw adnewyddiad neu ddychwel-
iad y purdeb, y drefn, a'r dedwyddwch cyntefig, ter-
f ynu yr annhref n a'r gymysgf a wyllt bresenol." (Schaff.)
Adferir llawer o bethau yn ystod yr oesan, ond ni
chymer adferiad pob peth le hyd nes y bydd Crist eto
yn bresenol yn y byd hwn. Y pryd hwnw adferir y
144 AMSEROEDD ADFERIAD POB PETH.
greadigaeth o gaethiwed llygredigaeth, yn ogystal a
chyrph y saint o garcharau y bedd. Diwrnod adfer
pob peth fydd y diwrnod hwnw, ac ni fydd dim wedi
hyny yn arcs yn anadferedig ac anadferadwy ond y
rhai a wrthodasant edifarhau a dychwelyd, yn nghyd
a'r angelion y rhai ni chadwasant eu dechreuad.
Ni fydd holl ragfunegiadau y prophwydi wedi eu
cyflawni mewn unrhyw gi/fnod blaenorol i'r farn.
Rhaid i'r nef gynwys Grist hyd oni chyflawnir y pro-
phwydoliaethau oil. Nid ymedy oddiar ei orsedd gyf-
ryngol hyd nes y byddo y rhagfynegiad olaf wedi ei
gyflawni yn myd y ddaear.
Dysga Grist., d'i apostolion, yr eglwys i ddysgwifl
gyda llawenydd am yr ail-ymddangosiad, ar gyfrif
yr ychwanegiad a gymer le yn ei dedwyddwch a'i go-
goniant. Yn ei ymddyddanion a'i bregethau, pan yn
llefaru ar ddamegion, a phan yn llefaru hebddynt, wrth
ei wrthodwyr ac wrth ei gyf eillion, cyhoeddai Crist f od
y syniad luddfewig am arosiad tragywyddol y Messiah
(loan xii. 24) yn gyf eiliornus ; fod yn rhaid iddo adael
y ddaear am dymor, ond yn yr amser priodol y buasai
yn dyfod drachefn i gymeryd ei eiddo ato ei hun, a
dirwyn i fyny holl achosion ei deyrnas. Gwelodd yr
apostolion ef yn gadael y ddaear. Clywsant dystiol-
aeth y ddau wr pan ddywedasant, " Tr lesu hwn, yr
hwn a gymerwyd i fyny oddiwrthych i'r nef, a ddaw
felly yn yr un modd ag y gwelsoch ef yn myned i'r
nef." (Actau i. 11.) Gan i Pedr gredu eu tystiolaeth,
defnyddia yr ail-ddyf odiad yn gymhelliad i'r etholedig-
ion i weithgarwch a duwioldeb. " Eithr dydd yr Ar-
glwydd a ddaw megys lleidr yn y nos, yn yr hwn y
AMSEKOEDD ADFERIAD POB PETH. 145
nefoedd a ant lieibio gyda thwrf, a'r defnyddiau gan
wir wres a doddant, a'r ddaear a'r gwaith a fyddo yn-
ddi a losgir. A clian fod yn rhaid i liyn i gyd ymoll-
wng, pa ryw fath ddynion a ddylech chwi fod mewn
sanctaidd yiuarweddiad a duwioldeb, yn dysgwyl ac
yn brysio at ddyfodiad dydd Duw, yn yr hwn y nef-
oedd gan losgi a ymollyngant, a'r defnyddiau gan wir
wres a doddant? Eithr nefoedd newydd, a daear new-
ydd, yr ydym ni, yn ol ei addewid ef, yn eu dysgwyl,
yn y rhai y mae cyfiawnder yn cartrefu. O herwydd
paham, anwylyd, gan eich bod yn dysgwyl y pethau
hyn, gwnewch eich goreu ar eieh cael ganddo ef mewn
tangnefedd, yn ddifrycheulyd, ac yn ddiargynoedd."
(2 Petr iii. 11-14)
Gan mai y rhai hyn ydyw y gwirioneddau a ddysg-
ir drwy Pedr yn yr adnodau hyn, y mae yn eglur mai
ymgais fawr eglwys Dduw ddylai fod, ceisio dwyn dyn-
ion i edif arhau a dychwelyd. Gan, yn noethineb lor,
fod chwyldroadau mwyaf gogoneddus y cyf anfyd wedi
eu cysylltu yn annatodol ag edifeirwch a dychweliad
meibion dynion, pwy na weddiai ac a weithiai am eu
dychweliad ? Pan y mae dynion yn edifarhau ac yn
dychwelyd, y mae Duw yn dileu anwiredd ; pan y mae
Duw yn dileu anwiredd, y mae gorphwysfa yn dyfod
fel canlyniad o bresenoldeb yr Arglwydd; a phan
ddaw cyfnodau o ddiwygiadau mawrion felly, dylynir
hwy yn dra buan gan gwblhad adferiad yr holl gread-
igaeth. Pe deuai yr holl fyd crefyddol i ganfod y
berthynas sydd rhwng dychweliad dynion a dygiad
oddiamgylch fwriadau Duw, ac i deimlo fod ei ddifat-
erwch, ei anffyddlondeb, a'i anghrediniaeth ef, yn
146
AMSEKOEDD ADFEKIAD POB PETH.
weithredol yn gohirio yr amgylchiadau dedwyddaf ad-
nabyddus, gwelid miliwnau ar eu gliniau yn gofyn am
nerth dwyfol at y gwaith o argyhoeddi yr anystyriol.
T fath anrhydedd bythol i Grist fydd y greadigaeth
adferedig ! Adrodda Macatilay am egwyddorwas tlawd
a wnaeth ffenestr eglwys gadeiriol gyda darnau o wydr
ag oeddynt wedi eu condemnio gan ei feistr, ac y
gorchymynasai eu taflu ymaith. Pan y gorphenwyd
lii, ar unwaith enillodd edmygedd mwyaf pawb.
Gwrthododd yr awdurdodau y ffenestr a fwriadai y
meistr osod yn yr eglwys, ac yn ei lie dodwyd yr an-
rhydedd i ffenestr yr egwyddorwas, a wnaethai allan
fan-ddarnau. Cread wedi ei ddarnio gan bechod
sydd gan Grist i weithio arno, ond o honynt hwy gwna
1 fyny ranau mwyaf addurniedig y deml fawr. T fata
resymau lluosog a chedyrn sydd dros i bechadur edif-
arhau a dychwelyd ! "Edifarhewch gan hyny" &c.
Y mae y rhesymau o flaen y testyn, yn y testyn, ac ar
ol y testyn. Daw y rhesymau o'r nefoedd, o'r ddaear,
o uffern ; o'r gorphenol, o'r presenol, ac o'r dyf odol.
T inae yma gynifer o honynt, fel y mae yn gywilydd
wyneb i ddyn aros yn ei bechod !
Y CEEADUB. 147
Y CBEADUE.
" Oanys awyddfryd y creadur sydd yn dysgwyl am ddatgudd-
iad meibion Duw. Ganvs y creadur sydd wedi ei ddarostwng i
oferedd: nid o'i fodd, eithr oblegid yr hwn a'i darostyngodd.
Dan obaith y rhyddheir y creadur yntau hefyd, o gaethiwed llyg-
redigaeth, i ryddid gogoniant plant Duw. Canys ni a wyddom
fod pob creadur yn cyd-ocheneidio ac yn cyd-ofidio hyd y pryd
hwn. Ac nid yn unig y creadur, ond ninau hefyd y rhai sydd
genym flaenffrwyth yr Ysbryd; yr ydym ninau ein hunain hef-
yd yn ocheneidiq ynom ein hunain, gan ddysgwyl y mabwysiad,
sef prynedigaeth ein <-orph." RHXTF. viii. 19-23.
Y mae y geiriau hyn yn ein harwain i'r fath ddirgel-
oedd, fel y mae yn ymylu ar ryfyg ynom i geisio eu.
deall. Ond y mae y ffaith eu bod yn ymddangos yn y
Llythyrau a ysgrif enwyd er ein budd, a'r ystyriaeth
arall, eu bod yn cynwys (fel y deallwn ni hwynt) un
o'r gwirioneddau mwyaf cefnogol i ffydd eglwys Dduw,
yn dymunoli yr ymdrech i'w deall, ac yn cyfreithloni
yr ymgais, gan nad pa mor wanaidd y byddo. Yn
ychwanegol at y ddwy ystyriaeth galonogol a enwyd,
gellir nodi hefyd ystyriaeth arall, sef, fod awdurdodau
uchelaf y byd deongliadol yn y dyddiau diweddaraf,
gan nad beth am wahaniaethau eu blaenafiaid, yn cyf-
ogwyddo at un deongliad y deongliad, o ran ei ar-
benigrwydd hanfodol, y gorfyddir ninau i'w fabwys-
iadu. Yr
YMHOLIADAU
mwyaf awgrymedig ganddarlleniad y geiriau hyn, yd-
ynt y rhai canlynol : Pa beth sydd yn cael ei gynrych-
ioli gan y gair " creadur ?" Gan bwy, a pha bryd, y
148
Y CBEADTJE.
darostyngwyd y creadur i oferedd, a pha beth a oblyg-
ir yn y darnodiad hwnw"? Pa fodd y gwasanaetha
*/ / v O
awyddfryd y creadur am ryddhad o gaethiwed, yr ym-
resymiad a ddengys sicrwydd a mawredd gogoniant
dyfodol y Cristionogion 1 ? Treiddia y gofyniadau hyn
drwy ddirgelion y geiriau. Y mae y daflen ganlynol
yn rlioddi mantais i'r efrydydd i ganfod, nid yn unig
luosogrwydd y rhai sydd wedi bod yn myfyrio y geir-
iau, ond hefyd yr amrywiaetli rhyf edd sydd yn nod-
weddu eu dyf aliadau ; ac y mae yn ddyledswydd ar-
nom grybwyll nad ydyw y daflen yn cynwys ond yn
unig engreifftiau a'r personau sydd wedi ysgrifenu ar
y paragraph hwn, a'r barnau a ffurfiwyd wrth ei fyf-
yrio.
T BAENATJ.
T BEIENIAID.
NODIADAU.
I.
Y greadigaeth
anfywydol.
Ohrj-sostom,
Th. eopty lact,
Calvin, Beza,
Fritzshe, &c.
II.
T byd naturiol
ac ysbrydol.
1. Dyn fel y
mae yn wrth-
ddrych llygredig-
aetli. Origen.
2. Nid dyn yn
unig, ond yr ang-
elion hefyd.
Theodorel.
3. Yr oil o'r
cyfanfyd. Theo-
dore, Olshausen,
Rosenmuller, &c.
III.
T greadigaeth
ddynol. '
\ Dynoliaeth.
Augustine, Tur-
retine, Siuart, Eob-
inson. &c
2. Paganiaid
Gwna T. S. Green, M. A.,
yn ei " Critical Notes," y sylw
canlynol fel cyfiawnhad i'r
dyb hon: " Os, mewn modd
cyffelyb i'r modd'y defnyddir
Y CBEADTJB.
149
Y BAENAU.
annychweledig.
Locke, Lightfoot,
&c
3. Y genedl
[uddewig. Oran-
mer, &c
4. Cristionog-
ion Cenedlig.
C lericus, Noseli,
Macknight, <&c.
5. Cristionog-
ion luddewig.
Gockel, &c.
6. Cristionog-
ion yn gyfliredin-
ol. Y Sosiniaid
a'r Arminiaid.
Y BEIRNIATD.
NODIADATJ.
y gair mataia i olygu gwrth-
ddrycb.au addoliad eilunol
(Lev. xxvii. 7; 1 Bren. xvi. 2;
2 Chron. xi. 14; Hosea v. 11)
y deallir y gair mataiotys (of er-
edd) yma yn golygn cyfeil-
iornad oddiwrth wirionedd
cref yddol - gau grefydd, drwy
yr hwn olygiad yn unig y mae
yr holl adran yn dyfod yn gys-
on ag ef ei hun, ac a ffeithiau,
yna nis gall y creadur arwyddo
ond yn unig y greadigaeth
ddynol hiliogaeth dyn. ' Nid
o'i fodd,' hyny ydyw, nid
drwy ddewisiad twyllog o gyf-
eiliornad a chelwydd yn
ngwyneb y datguddiad o wir-
ionedd, gan na roddwyd y f ath
ddatguddiad, ac o ganlyniad
y fath gyfleusdra i ddewis i
jyfangorph dynoliaeth yn
flaenorol i'r genadwri efeng-
ylaidd.' Gwelir fod y f eirn-
iadaeth hon yn sylfaenedig ar
ystyr bellafol ac amheus y
gair oferedd, ac nad ydyw yr
athraw dysgedig yn sicr ei
hunan fod ei sylfaeni yn gy-
wir dywed, " Os mewn modd
cyffelyb," &c.
IV.
Nafrur fywydo
& c anfy wydol
Irenssus, Gro-
tius, Neander,
Meyer, DeWette,
Y rhesymau dros gau dyn
allan, ydynt a ganlyn: (a.) Y
mae yr apostol yn eglur yn
gwahaniaethu y credinwyr
oddiwrth y creadur (adnod
23). (6.) Nid ydyw dynol-
iaeth fel cyfangorph yn col-
eddu y fath. ddysgwyliadau ag
a briodolir i'r creadur. (c.) Y
mae yr 20f ed ad. yn gosod all-
an y darostyngiad i oferedd fel
peth yn achlysuro anfoddog-
rwydd, yr hyn sydd yn groes
150
Y CEEADUB.
Y BABNATT.
mewn gwrthgyf-
rbyniad i'r nat-
ur ddynol.
BEtENIATD.
Hodge, Alford,
Dr. Sauday, &c.
NODIADAU.
i'r dystiolaeth Feiblaidd am
ddyn. (d.) Y mae adnod 21
yn cyhoeddi y boddlonir aw-
yddfryd y creadur; rhaid
credu felly mai nid dynoliaeth
ydyw y creadur, neu ynte
gredu mewn Adferiad Cyffred-
inol. Tybiwn mai annichon
dymchwel grym y rhesymau
hyn, oblegid hyny yr ydym.yn
cydolygu a'r rhai a'u dygant
yn mlaen.
V.
Tr holl gread-
igaeth resymol
ac afresymol
sydd eto heb ei
gwaredu, o n d
sydd yn hydder-
bynol (suscept-
ible) o waredig-
aeth, ac yn aw-
yddus am dano,
mewn gwrthgyf-
erbyniad i'r gre-
adigaeth newydd
yn Nghrist.
Lange, Schaff,
Forbes, Trench,
&c.
" Y mae y creadur yn yr ad-
ran hon yn cael ei osod gyf er-
byn ag Eglwys y rhai gwar.ed-
ol; nid yn unig y mae ef, y
creadur, yn ocheneidio ac yn
gofidio, ' eithr ninau hefyd, y
rhai sydd genym flaenffrwytn
yr Ysbryd, yr ydym ninau ein
nunain,' &c. Y creadur felly
ydyw pob peth y gellir ei war-
edu,ond nad ydyw hyd yn hyn
wedieiwaredu; ycyfanagsydd
tu allan i Eglwys Crist ag sydd
yn rneddu, i raddau mwy neu
lai, ymwybodolrwydd, neu
ynte reddf dywyll, ei fod y tu
allan ei fod wedi ei ddaros-
twng i gaethiwed llygredigaeth
ei fod wedi ei wneyd yn
wrthddrych oferedd, ei fod
wedi ei fwriadu at rywbeth
gwell na'i gyflwr presenol, a'r
hwn hefyd y mae ei lefiadau,
ei leisiau o drueni, ei ruddfan-
au a'i ofidiau, yn deimladau
gwirioneddol am Grist anad-
nabyddus, ac am waredigaeth
y cyf ry w y gall Ef yn unig ei
ddwyn i f e w n . " Sermons
preached in Westminster Abbey,
by Arch. Trench, pp. 273, 274.
T CKEADUB.
151
Y BAENAU.
Y BEIKNIATD.
NODIADAU.
VI.
Pob cyfran o'r
greadigaeth fvw-
ydol ac anfyw-
ydol yr effeith-
iwyd ami gan
b e c h o d dyn
mewn gwrthgyfc
-erbyniaeth i ' r
rliai sydd yn
rhodio ya ol yr
Ysbryd.
Gyfranau o
ddaliadau amryw
o'r uchod wedi
jeu "cyf uno.
Gwelir fod y dyb hon yn
gwahaniaethu oddiwrth y
dyb 1., oblegid ei bod yn
eangach na Ei; yn gwahan-
.aethu oddiwrth yr H. oblegid
ei bod yn gyfyngach; yn gwa-
haniaethu oddiwrth y in.
oblegid nad ydyw yn cynwys
ynddi y ddynoliaeth mewn
unrhyw gyflwr; yn gwahan-
iaethu oddiwrth y IV. oblegid
ei bob yn gosod y creadur yn
wrthgyf erbyniol i blant Duw,
ac nid y natur ddynol, ac yn
gwahaniaethu oddiwrth y V.
oblegid nad ydyw yn cymeryd
i fewn y greadigaeth resymol
yn unig y greadigaeth afres-
ymol. Oynelir hon gan brif
ymresymiadau coleddwyr rhif
I., IV. a V. Crynhoa iddi ei
hunan Ijoll wirioneddau saf-
adwy y tybiau eraill ; felly ym-
ddengys yn meddu ein holl
ragoriaethau, tra y mae yn
amddifad o'n gwendidau.
Tmdrechwn yn y tu dalenau canlynol olrliaiii geir-
yddiaeth y testyn, sylwi ar ymresymiad yr Apostol, yn
ughyd a dysgeidiaetli rhanau eraill o Air Duw, er
gweled a oes rhywbeth yn y naill, neu y Hall, yn gwa-
hardd y grediniaeth mai pob cyfran o'r greadigaeth
isod, yn fywydol ac anfywydol, ag sydd yn dyoddef o
herwydd pechod, ond yn nnrefn Du\v sydd i fyned
drwy gyfnewidiad ac adferiad, ydyw y creadur y dy-
wedir y pethau hyn am dano. Tr ydym yn credu fod
y fath osodiad yn gwbl gydunol a geiryddiaeth yr ad-,
nodau. Gymerer yr ymadroddion arweiniol yn syn-
152 T CBEADUB.
wyrdeb y paragraph, gan y bydd ymgyngori a'r rhai
liyn yn gwneyd ymgyngoriad a'r rhai ail-raddol yn
afreidiol.
1. G-elwir y ddosran dan sylw o anian yn greadur.
" Canys awyddfryd y creadur" &c. T mae y gair hwn
yn dygwydd bump o weithiau yn yr adnodau, ac yn sicr,.
deall ystyr y gair hwn sydd yn cyfansoddi y prif an-
hawsder. Nid ydyw penderfynu ei ystyr eiriadurol yn
orchwyl ruor anhawdd, gan ei fod yn golygu bob am-
ser naill ai y weithred o greu, neu ynte yr hyn a greir
y greadigaeth, ac yma nis gall olygu y blaenaf, felly
rhaid ei fod yn golygu yr olaf . [" For the earnest ex-
pectation of the creation uniteth," &c. Revised Ver-
sion, 1881.] Yr anhawsder mawr, gan hyny, ydyw pen-
derfynu pa un a gynwysir yr holl waith creadigol yn y
gair, neu ynte a oes rhyw resymau dros gyfyngu ei
ystyr, yn y cysylltiad hwn, at ran neillduol o'r greadig-
aeth gyffredinol. Hon ydyw y brif ddadl yn mysg es-
bonwyr, pa un ai y greadigaeth yn yr ystyr gyfyngaf,.
neu y greadigaeth yn yr ystyr helaethaf , sydd yn cael
ei chynrychioli gan y creadur hwn. Y mae un peth yn
eglur, sef fod y gair weithiau yn meddu ystyr gyffred-
inol (Heb. iv. 13) ; brydiau eraill yn meddu synwyr
cyfyngedig (Ehuf . i. 25) ; a phrydiau eraill mewn modd
trawsgyfeiriol. Golyga y ddynoliaeth (Marc xv. 16;
Col. i. 23); ac y mae y ffaith fod y gair yn meddu yr
hydwythedd yna, yn cyfreithloni y gosodiad fod eang-
der neu gyfyngder ei ystyr yn ddieithriad ar y cyd-
destynau. Gwelir oddiwrth y daflen fod rhai yn
rhoddi i'r gair yn y cysylltiad hwn ystyr eithafol o
eang, megys Olshausen, pan ddywed ei fod yn golygu
CREABUB. . 153
yr hoi! fyd materol ac ysbrydol; tra y mae eraill,
megys Fritzshe, yn myned i'r eithafoedd cyferbyniol,
drwy ddweyd mai y greadigaeth ddifywyd yn unig a
olygir ; ond credwn ni fod y gwirionedd yn gorwedd
rhwng y ddau eithaf oedd yna, a'i fod yma yn golygu
pob rhan fywydol ac ani'ywydol o greadigaeth. ddaear-
ol Duw yr effeithiwyd arni gan drychineb Eden, neu
ynte a ddarostyngwyd i of eredd, ac felly, fod y gair yn
cymeryd i f ewn y llysieuol a'r anif eilaidd, y materol a'r
anfaterol, y mwnol a'r deddfol; &c. Dickon y daw y
golygiad hwn i ymddangos yn gadarnach yn ngoleu yr
ategion dylynol.
2. y mae y ddosran hon o anian wedi cyfarfod a
thrychineb yn ei hanes. " Oanys y creadur sydd wedi
ei ddarostwng i oferedd." Y mae y gair darostwng
yma mewn ffurf hanesyddol (historical aorist), ac yn
eglur yn cyf eirio at y f elldith. a gyhoeddwyd ar adeg y
cwymp. Golyga ymyriad ataliol a barnol a'r hyn yd-
oedd yn ymddadblygu i sefyllfa berffeitniach. Y mae
y gair sydd yn darlunio y sefyllfa ddarostyngol, ofer-
edd, yn golygu yn gyntaf oil, ymddangosiad arwyneb-
ol, ansylweddol, ac felly twyllodrus ; ond yn ei ystyr
ail-raddol y mae yn cyfleu y syniad o rywbeth mwy
truenus byth, sef, anallu i sylweddoli tueddiadau a
metniant yn nghyrhaeddiad amcan bodolaeth. Y mae
y creadur yma, nid yn unig wedi dyfod yn wrthddrych
i lygredigaeth a marwolaeth, ond rhagor, y mae ei holl
ddymuniadau yn siomedig, ei holl ddysgwyliadau yn
watwaredig, neu yn ol cyfatebiaeth.au yr iaith a ddefn-
yddir yn wreiddiol, y mae mewn ymchwil barhaus am
rywbeth, ond byth yn gladdedig mewn siomedigaeth,
11
i
154: Y OEEADUE.
heb gael gafael arno. Dyma rywbeth inwy ofnadwy
na dihanf odiad, bodolaeth wedi colli ei hamcan, ac wedi
ei hanghymwyso byth i gael gafael arno. T mae hyn
oil yn wirionedd am y greadigaeth wedi pechod Adda,
a phan yn gorwedd o dan felldith. T mae yr ymad-
rodd nesaf yn gosod allan berthynas y creadur a'i
ddarostyngiad. "Nid o'i fodd." Gwelir fod yr ym-
adrodd hwn yn priodoli i'r creadur wahanfodaeth, a'r
fodaeth hono yn meddu gallu i gydsynio ac anghyd-
synio yr hyn sydd yn gwbl gydweddol a nodwedd
farddonol yr adnodau. Y mae y creadur yn cael ei
bersonoli; a phan y mae y ddeddf ddwyfol a barnol
yn effeithio ei ddarostyngiad, gosodir ef allan mewn
modd drychfeddyliol, yn anghytuno, os nad yn an-
ioddloni i'r dynged oedd wedi ei oddiweddyd. Nid
mewn canlyniad i unrhyw weithred o'i eiddo ei hunan,
na thrwy ei gydsyniad ef , y daeth y trychineb, " eithr
oblegid yr Hwn a'i darostyngodd." Nid, sylwer, " gan
yr Hwn a'i darostyngodd," ond " oblegid yr Hwn," &c.,
mewn geiiiau eraill, darostyngwyd anian oblegid fod
Duw wedi penderfynu yn ei Gyngor ei hun y buasai i
hyny gymeryd lie o herwydd pechod y troseddwr.
Darostyngwyd y byd, felly, nid gan Adda, nid gan
ddyn, ac nid gan ddiafol, ond gan Dduw. T mae hyn
oil yn cyd-orwedd yn naturiol a'r dybiaeth mai y gre-
adigaeth f ywydol ac anfywydol ydyw y creadur.
3. Y mae ymsyniaeth ac hiraeth yn y greadigaeth
am adferiad. "Dan obaith y rhyddheir y creadur yn-
tau hefyd," &c. Y mae yr ymadrodd hwn yn golygu
rhagor nag fod anian yn gobeithio, a rhagor hefyd nag
fod gan anian sail i obeithio ; y mae yn golygu fod
Y CBEADUE. 155
ynddi hi ei imnan gymellion raewnol sydd yn ei har-
wain i obeithio. T mae yn amheus genym ai nid yn
gyferbyniol i gymellion mewnol anian y dodir y fath
bwyslais ar deimladau mewnol y credinwyr yn y 23ain
adnod ("yr ydym ninau ein hunain * * * ynom ein
hunain "). Beth bynag am hyny, y mae y darlleniad
Seisnig awdurdodedig, yr hwn hef yd sydd yn cael ei
f abwysiadu gan Alf ord, ac yn cael ei adael yn gwestiwn
agored yn y Cyfieithiad Diwygiedig, yn gosod y geir-
iau dan obaith ar ddiwedd yr 20fed adnod, ac nid ar
ddechreu yr 2lain, ac felly yn dysgu, nid fod gan y
ddaear obaith, ond rhagor, fod Duw yn y darostyng-
iad, ac yn gydamserol ag ef, wedi defnynu cymellion
gobaith i fewn i gyfansoddiad y greadigaeth. Gwelir
y darlleniad hwn yn eglurach os y dodir yr adnodau
mewn llinellau cydredol f el y canlyn :
(19) [1] " Canys awyddfryd y creadur
[2] Sydd yn dysgwyl am ddatguddiad meibion
(20) [3] Canys y creadur sydd wedi ei ddarostwng
i oferedd
[4] Nid o'i fodd, ond oblegid yr hwn a'i daros-
tyngodd, dan obaith
(21) [5] Oblegid rhyddheir y creadur yntau hefyd
o gaethiwed llygredigaeth
[6] I ryddid gogoniant plant Duw."
O dan arweiniad yr awdurdodau uchelaf, yi 1 ydym
yn derbyn y darlleniad yna, ac yn credu, o ganlyniad,
mai dysgeidiaeth y geiriau ydyw, fod y Duw mawr yn
y weithred o ddarostwng y greadigaeth (mewn modd
drychfeddyliol a barddonol, mae yn wir) wedi gosod
156 Y CBEADUB.
gobaith yn reddf ddwyfol a thragywyddol yn ei chyf-
ansoddiad. Hauwyd hadau gobaith yn nghanol yr an-
rhaith ; oblegid yr ymsyniaeth reddf ol yma yn y cread,
y mae " awyddfryd. y creadur yn dysgwyl am ddat-
guddiad meibion Duw," ac y mae y dysgwyliad yn un
angerddol a pharhaus, oblegid ystyr y gair awyddfryd
ydyw, dysgwyl gyda phen cyfodedig, megys y dysgwyl
yr edrychwyr ar sane gymharol rhedegwyr yn y rhed-
egfa. Nid yn unig y mae y creadur yn dysgwyl, ond
y mae awyddfryd y creadur yn dysgwyl. Nid yn unig
personolir y creadur, ond personolir hefyd gyneddf
berthynol iddo, yr hyn sydd brawf arall mai barddon-
iaeth sydd yma, yn ngwasanaeth apostol ysbrydoledig,
yn rhoddi grym i ymresymiadaeth. Nis gallasai ond
Paul farddoni wrth ymresymu.
Oblegid y reddf ddwyfol y soniwn am dani, y mae
pob creadur, gwar ac anwar, yn cyd-ofidio oblegid eu
cyflwr presenol, ac yn cyd-ocheneidio am y cyfnewiad
agosaol, ac y maent felly "hyd yr awr hon," a phar-
hant felly hyd yr adeg, yn y dydd a ddaw, y troir y
greadigaeth i wasanaeth Crist a'i briodasferch. Tr
ydym, fel hyn, yn canfod fod holl eiryddiaeth yr ad-
nodau yn gyf addas i osod allan hanes a chynwr y rhan
ddaearol o'r cread, ac y mae hyny yn ein cadarnhau yn
y dyb mai y rhan hono, mewn drychfeddyliaeth fardd-
onol, ydyw y creadur yn y Rhufeiniad. Drachefn, y
mae adolygu ymresymiad yr Apostol yn y Llythyr, yn
ein harwain yn anocheladwy i'r un casgliad. Cydnab-
yddir yn rhwydd gan bawb mai pwnc y penodau blaen-
orol ydyw BSWYD Y CREDADYN DAN DDEDDF YB YSBBYD, ac
Y CEEADUB. 157
yn y benod hon y mae yma ddwy arwedd arno yn cael
eu gosod ger ein bron :
(a.) Bywyd dan ddeddf yr Tsbryd mewn gwrthgyf-
erbyniad i fywyd dan reolaeth y cnawd yn sicrhau
tystiolaeth fewnol yr Tsbryd o fabwysiad (1-17).
(&.) Bywyd o dan ddeddf yr Tsbryd yn cael ei ar-
ddangos gan natur fel bywyd yr adgyfodiad, a'r Ts-
bryd yn rhoddi sicrwydd presenol o'r gogoniant dy-
fodol (18-39).
T mae y geiriau dan sylw yn perthyn i'r ail arwedd
ar y bywyd dan ddeddf yr Tsbryd, ac yn un o dri
phlyg, a'r cyntaf o honynt yn yr ymresymiad a ddeng-
ys sicrwydd a mawredd gogoniant y bywyd yn yr ad-
gyfodiad. T mae yma dri phrawf o ddechreu y 18f ed
adnod hyd ddiwedd y 39 adnod. Tn
(1.) T mae yma brawf presenol a gwahanfodol
(18-27).
(2.) T mae yma brawf dyfodol a gwrthddrychol
(28-37).
(3.) T mae yma uniad o'r prawf presenol a dyfodol
yn cael ei rymusoli gan brofiad o orfoledd (38-39).
T cyntaf o'r tri hyn sydd yn mharagraph tywyll y
testyn, y prawf presenol a gwahanfodol. A oes sicr-
wydd o ymddangosiad meibion Duw yn ngogoniant yr
adgyfodiad ^ Oes, oblegid y mae y Duw mawr, na
ddarfu iddo erioed greu chwenychiad i'n siomi, wedi
gosod greddf ddwyfol yn y greadigaeth, yn ei chymell
i ddysgwyl am ddatguddiad meibion Duw. Gan fod
yr Arglwydd wedi dysgu y cread i ddysgwyl am rydd-
had, ac wedi dysgu y credadyn i ddysgwyl am fabwys-
iad, sef prynedigaeth y corph, nid oes un casgliad ar-
158 Y CBEADUB.
all yn ddichonadwy, ond y bydd hawl y rhai ydynt wedi
eu cyfiawnhau drwy ras, hawl sydd yn rliodio yn ol yr
Ysbryd, yn annhraethadwy ogoneddus yn y dydd y
digonir holl ddysgwyliadau y greadigaeth. Mor wir
ag fod y creadur yn gobeithio, a'r Cristion yn ochen-
eidio, bydd i oleuni y f arn ddatguddio gogoniant meib-
ion Duw. Drachefn, nid oes dim yn y dystiolaeth mai
y greadigaeth isod, yn fywydol ac anfywydol, a olygir
yn milwrio yn erbyn, eithr yn hytrach yn cadarnhau
ffeithiau eraill y datguddiad dwyfol. Dysga yr Ys-
grythyrau
1. Fod cysylltiod rhwng cwymp dyn a sefyllfa
bresenol y greadigaeth ddaearoL Gwir fod cosb-
edigaeth natur ar gyfrif trosedd dyn, yn un o'r dirgel-
ion mwyaf anolrheinadwy. Nid ydyw mor anhawdd
amgyffred paham y mae dyn, yr hiliogaeth ddynol, yn
dyoddef ; y mae llawer o resymau sydd yn cyfrif am
hyny, ond erys yn destyn rhyfeddod parhaus, fod y
creadur diniwed ag ydoedd newydd ddyfod allan o
law Duw, yn cael ei ddarostwng i oddefaint. Ac yn
ofer yr ymofynir am y rheswm, oblegid y mae hwnw
yn eigionau ewyllys y .Brenin Mawr, " oblegid yr Hwn
a'i darostyngodd." Ond er nad ydyw y pahaw yn es-
boniadwy, y mae ystyriaeth fywydol o gyfansoddiad y
creadur dynol yn taflu rhyw oleuni ar berthynas y
greadigaeth ag ef. T mae dyn mor rhyfedd ac mor
ofnadwy yn ei gyfansoddiad, fel nad oes un rhan o'r
cyfanfyd, o'r Duwdod anfarwol at y llwchyn lleiaf , nad
ydyw dyn yn meddu rhyw berthynas ag ef. Tn ei
gorph, y mae yn perthyn i'r greadigaeth f aterol ; yn ei
enaid y mae yn perthyn i'r greadigaeth f eddyliol ; ac
Y CBEADUB. 159
yn ei ysbryd y mae yn pertliyn i'r Ysbryd Anf eidrol.
T mae ynddo. nid dwy, ond tair rlian ; y raae yn drin-
dod mewn undod, fel, pan syrthiodd dyn, rhedodd y
dylanwad i holl gylchoedd bodolaeth. Teimlodd Duw
ar ei orsedd, yr angelion ar eu horielau, a'r cread isod
ar Iwybr ei gylchdroad. Taflwyd cwmwl dros y gread-
igaeth faterol. Pa ganlyniad arall allesid ddysgwyl
yn ymerodraeth anian wedi dymchweliad yr ymerawd-
wr ? Ond, tra y mae myfyrdod o gyfansoddiad dyn
yn egluro y model y cyfranogwyd o'r drychineb gan
anian, y mae y paliain, megys y dywedwyd eisoes, yn
parh.au yn un o ddirgelion y llywodraeth ddwyf ol. T
mae ein dychymyg, yn yr ymchwil am reswm, ao yn
barodol i folianu tynerwch Duw at ddyn, yn gweled y
rheswm o ddarostyngiad y creadur, yn awydd Duw i
ddyn gael cymdeithas gyfaddas yn ngharchar llygred-
igaeth, megys pe byddai yr Anf eidrol yn anfoddlon i
ddyn fod yn bmdd yn nghanol cread llawen.. Dywed
ein dychymyg ddarfod i'r creadur gael ei ddarostwng
er iddo allu cydio yn nghordeddau galarnad y cwymp,
ond rhaid gorchymyn dychymyg i ddystawrwydd,
oblegid fod y fath berygl iddo gam-arwain. Un o dyst-
iolaethau mwyaf pendant y gair ydyw fod difwyniad
anian wedi dylyn troseddiad dyn, yn uniongyrchol.
Dechreuodd annhrefn y cread wedi syrthiad Adda.
Cyn hyny, yr oedd tyfiant yn rheolaidd, dadblygiad yn
ddeddf, a phob peth yn dirwyn at berffeithrwydd a
dedwyddwch. Myn athronwyr damcanol ac anghyf eill-
gar yr oes, gyda yr amcan o geisio llusgo Daeareg i
dystiolaethu yn erbyn Datguddiad, ein harwain at gyf -
nodau pell cyn Adda, i sylwi ar yr arwyddion o ddin-
160
T CKEADTJK.
ystr ac angeu sydd yn haenau gorweddog y ddaear, ac
i ddangos felly, f od y dystiolaeth ysgrythyrol am ofer-
edd anian f el canlyniad pecliod yn ansaf adwy ; ond yr
ydym yn gwrthod yr arweinyddiaeth, gan nad oes a
fyno y Beibl o gwbl a chrystiau, a chreigiau, nac a
haenau y ddaear; edrydd yn unig am helyntion ei
harwyneb wedi gwaith y chwe' diwrnod ac ymddang-
osiad dyn, ac yn y cyfnod hwnw dywed fod goruch-
wyliaeth f arnol wedi gwywo ei blodau, rhychu delwedd-
ion ei gwyneb, atal curiad ei gwaed, a pheri adweith-
iad yn neddfau ei dadblygiad. "Hefyd wrth Adda y
dywedodd, Am wrandaw o honot ar lais dy wraig, a
bwyta o'r pren am yr hwn y gorchymynaswn i ti, gan
ddywedyd,- Na f wyta o hono, melldigedig fydd y ddae-
ar o'th achos di: trwy lafur y bwytei o honi holl
ddyddiau dy einioes, Drain hefyd ac ysgall a ddwg i
ti," &c. (Gen. iii. 17, 18).
2. Meddylier am y cydymdeimlad barddonul afodola
rhwny y cread a dyn. Drwy y Beibl personolir y cre-
ad, a phriodolir iddo deimladau o dristwch neu lawen-
ydd, yn ol fel y dygwyddo fod sefyllfa ddedwydd neu
annedwydd y dyn sydd yn oruchwyliwr Duw arno.
(Gwel Deut. xxxii. 1 ; Job xii. 7-9 ; Psalm xix. 2, Ixviii.
17, xcviii. 8; Esaiah i. 2, xiv. 8, Iv. 12, Ixv. 17; Ezec.
xxi. 15; Hab. ii. 11; Actauiii. 21; 2Pedriii. 13; Dat.
xxi. 1, &c., &c.) T fath gyngerdd rhyfedd sydd i'w
gynal ar adeg llwyddiant pregethiad yr efengyl, ac
achubiaeth dyn; yn cynwys cerddoriaeth lleisiol ac
offerynol, ond pob aelod o'r cor hwnw yn perthyn i'r
cread bywydol neu anfywydol. T dyfroedd yn dyf od
i fynegi enw yr Arglwydd, y mynyddoedd yn bloeddio
Y CBEADUE. 161
canu, a choed y maes yn euro dwylaw. Bydd yr
holl gread deallol yn cael ei swyno gan felodion sein-
dyrf gorfoleddus iachawdwriaeth.
3. Dysga y B&ibl fed dysgwyliad y yreadigaeth i
gael ei sylweddoli yn yr ail-ymddanyosiad. (2 Pedr iii.
10-14; Dat. xxi. 5.) Tn bresenol, nid oes dim i'w
weled na'i glywed ond oferedd ac ocheneidiau. Y mae
llywodraeth natur yn annhrefnus, y mynyddau yn
berwi<tan, y gwyntoedd yn ymwylltu mewn cynddar-
edd, y morfeydd yn nythleoedd heintiau, y llysiau yn
gartref gwenwyn, y gwastadeddau yn goelcerthu en-
ynol, a'r coedwigoedd yn llawn o seirph a gwiberod.
T mae y deyrnas anifeilaidd yn llawn o greulondeb, o
elyniaeth annaturiol, a gwrthwynebrwydd greddfol.
Y mae y planhigion harddaf yn cael eu rhwystro i
dyfu, a'r blodau mwyaf persawrus yn cael eu hatal i
ymagor. G-welir gwywdra, darf odedigaeth, a marwol-
aeth yn holl goed y maes. Y mae llefiadau poen yn
dyfod o bob cyfeiriad, o'r coed lanerchau lie y mae y
curyll yn darnio ei ysglyfaeth, o'r pentref lie y mae y
gwladwr yn cymeryd yr oenig newydd-anedig oddiwrth
ei fam i'r lladdfa, a'r dinasoedd lie y mae yr ychain
lladdedig yn gruddfan, dagrau dyoddefaint yn rhedeg
yn ddystaw, a haerllugrwydd a drygioni yn gweryru.
Y mae canolbarthau cyfandiroedd wedi .eu mwydo a
gwaed, a'r ynysoedd yn gruddfan dan bwysau rhyfel-
oedd, llofruddiaeth, a chambaliaeth. Y mae dolefau
anifeiliaid mudion oblegid bwystfileiddiwch yr anifail
dynol, yn dyrwygo pob awyrgylch. Ond, nid fel hyn
yr erys byth y mae nif er yr etholedigion yn cael eu
gwneyd i fyny ; y mae llawer o'r cant a phedair a deu-
162
Y CBEADUK.
gain o filoedd (Dat. vii. 4) eisoes wedi derbyn sel Duw
ar eu talcenau, y mae cwpan cystuddiau Crist yn ei
bobl yn prysur lenwi, y mae y deigryn olaf ar gael ei
golli, ac adeg gollyngiad yr ochenaid olaf i'r awyr yn
agosau. Pa bryd bynag y cymer y pethau hyn le, y
foment hono datodir rhwymau y creadur, dysgleiria,
goleuwawl presenoldeb Duw eto yn ddigwmwl ar waith
ei ddwylaw, ac yrnddengys meibion Duw yn dyrf a f awr
ar gymylau y nef . Y mae llawer heblaw y creadur yn
dysgwyl am yr argyfwng hwnw. T mae cyrph y saint
yn eu beddau, ysbrydion y cyfiawnion yn y nefoedd,
eneidiau y rhai sydd dan yr allor, y priodfab a'r briod-
asf erch, oil yn dysgwyl dydd mawr yr adnewyddiad*
T mae miloedd lawer ar y ddaear heddyw " yn dysgwyl
ac yn brysio at ddyfodiad dydd Duw." " O herwydd
paham, anwylyd, gan eich bod yn dysgwyl y pethau
hyn, gwnewch eich goreu ar eich cael ganddo ef mewn
tangnefedd, yn ddifrycheulyd ac yn ddiargyhoedd.' r
(2 Petr iii. 14.)
Buom yn dychymygu gweled dirprwyaeth o gread
Duw yn ymddangos yn mhresenoldeb yr Anfeidrol, yn
gofyn am ganiatad i ddinystrio dyn, a thrwy hyny gy-
chwyn cyfnod y Jubili. " A gaf fi," meddai yr haul,
" losgi ei breswylfod f " A gawn ni," meddai y ser r
" gorelwi ar gylchrodau y nen wrth wrando ei ddolef
farwol"?" "A gawn ni," meddai y cymylau, "arllwys
ein cynwysiad arno, a'i ysgubo i dragywyddol ddinystr T'
" Na," meddai yr Arglwydd, " fy ngweision a fy mor-
wynion ffyddlon, byddwch yn bwyllus ; y mae diwrnod
wedi ei benodi, ac efe a ddaw, yn mha un y cosbir dyn
ac y rhyddheir y cread. Aroswch am hwnw." A chan
Y CEOCHENYDD A'B PEIDDGIST. 163
nad pwy sydd yn anffyddol am ail-ddyfodiad Crist, ae
yn anghrediniol o'r canlyniadau, y mae cread materol
Duw ar ddysgwyliad parhaus.
Y CKOCHENYDD A'E PRIDDGIST.
" Yn hytr ich, ddyn, pwy wyt ti yr hwn a ddadleui yn erbyn.
Duw ? a ddywed y peth ffurfiedig wrth yr hwn a'i ffurfiodd, Pa-
ham y'm gwnaethost fel hyn ? Omd oes avrdurdod i'r crochen-
ydd ar y priddgist, i wneuthur o'r nn telpyn pridd un llestr i
barch ac arall i anmharch? Beth os Duw, yn ewyllysio dangos
ei ddigofaint, a pheri adnabod ei allu, a oddefodd trwy hir-yni-
aros lestri digofaint, wedi eu cymhwyso i golledigaeth: Ac i beri
gwybod golud ei ogoniunt ar lestri trugaredd, y rhai a rag bar-
barotodd efe i ogoniant?" RHUF. ix. 20-23.
Nid oes angen dweyd fod y geiriau hyn wedi bod,
ac yn parhau i fod, yn faes dadleuon anorphen. T
mae meddwl beiddgar dyn wedi ymornestu arnynt, er
ceisio meistroli rhai o brif gwestiynau llywodraetn.
Duw. Ac y mae yr esboniadau sydd wedi eu rhoddi
arnynt, amryw o honynt, yn gamgyfeiriol i ddyn, ac
yn ddiraddiol i Dduw. Y maent wedi eu defnyddia
gan rai i gefnogi y syniad mai gormesdeyrn ymerodrol
ydyw Duw; yn cario ei weithrediadau mawrion yn
mlaen yn unig er boddloni ei nwydau hunanol a gor-
threchol, heb gyfrif nac ystyried y canlyniadau o hyny,
i syniadau, i deimlad, ac i gyflwr amserol a thragy-
wyddol dyn. Gesyd y deongliad hwn Dduw i eistedd
ar orseddfainc ei awdurdod, yn nghwr uchaf y cyfan-
fyd; mantella ef a hollalluawgrwydd ; lleinw ei lygaid.
164 Y CBOCEteNYDD A'K PEIDDGIST.
a fflamiau digofaint; gwna ef yn anghyrhaeddadwy
i'w greaduriaid, ac yn anghyfnewidiol yn ei holl dded-
frydau. Dyna un o eithaf oedd y byd duwinyddol, ond
y mae iddo hefyd eithafion arall cyferbyniol, ag sydd
lawn mor beryglus. Mewn rhai pwlpudau, gwneir
ymgais f awr i anymwybyddu hawliau Duw f el lly wydd
moesol, a cheisir cysoni holl ffeithiau y llywodraeth
ddwyfol a thadogaeth dyner yr Arglwydd. T canlyn-
iadau naturiol o hyny ydynt, myned i siarad yn ysgat'n
ac esgusodol am bechod, fel drwg moesol ; gwadu
athrawiaeth yr lawn, cyhoeddi fod holl gosbedigaeth-
au Duw yn y byd hwn yn adf erol yn eu hamcan, ac mai
ifiloreg greulawn ydyw cosbedigaeth dragywyddol.
Ar hyd y culfor peryglus yna yr hwyliodd Undodiaid,
Cyffredinolwyr, ac Adferwyr yr oesau eu llestri, ac ar
y graig yna y gwelwyd y llong-ddrylliadau truenusaf
yn hanes y pwlpud. T mae addoli un agwedd ar gy-
meriad Duw, gan anymwybyddu y Hall, yn lie eu hys-
tyried mewn cymhlethiad cydweithredol a thragy wydd-
ol, yn rhwym o arwain i gyfeiliornad ac angeu.
Y mae y geiriau hyn wedi eu defnyddio gan eraill
drachefn, fel cyfiawnhad i'r athrawiaethau brawychus
a adnabyddir wrth yr enwau Gwrthodedigaeth ac An-
iinomiaeth. Sylfaenir arnynt yr ymresymiad a gan-
lyn: T mae Duw yn ben-arglwydd; yn ei ben-ar-
glwyddieeth etholodd rai i fywyd trgywyddol ; trefn-
odd i eraill, yn ei ewyllys, i fod yn golledigj a chan
fod ei holl fwriadau yn ddianwadal ac anghyfnewidiol,
"bydd yn rhaid i dynged dynion, o angenrheidrwydd,
gyfateb iddynt. Dywed un dosbarth, nid ydyw yn
.gwneyd y gwahaniaeth lleiaf yn achos rhai personau,
Y OBOCHENYDD A'B PEIDDGIST. 165
pa mor angerddol yr awyddant am ddaioni a dedwydd-
wch, na pha mor barodol y byddont i wneuthur
aberthau er eu cyrhaedd, colledig fyddant yn y diwedd,
oblegid llestri i anmharch y bwriadwyd iddynt fod
gan Dduw. Yn ofer y ceisiant yr Arglwydd, yn ofer
y collant ddagrau edif eirwch, ac yn ofer yr ymwadant
a hwy eu hunain ; y mae rhagdrefn eu dinystr wedi ei
dynu allan mewn arfaeth, ac wedi ei argraffu yn
ngwasg hollwybodaeth. O ! athrawiaeth feicniog o
drallod ac anobaith ! Dywed y dosbarth arall, y mae
Duw, yn ei anfeidrol ras, wedi penderfynu cadw rhyw
nifer o bersonau i fywyd tragywyddol, o.ganlyniad, nid
ydyw o un gwahaniaeth pa f odd yr ymddygant, nac yn
mha nifer o ffosydd budron yr ymdreiglant, byddant
yn gadwedig yn y diwedd, oblegid llestri i barch yd-
ynt hwy i fod. Gallant gymeryd enw Duw yn ofer,
ymroddi i drythyllwch, a meddwdod, oblegid
" Etholedig cyn fy ngeni,
Etlioledig wedi meddwi."
! athrawiaeth orlawn o lygredd a phenrhyddid !
T mae y ffaith fod dynion yn honi mai yn ystorgell-
au y testyn y deuant o hyd i'r athrawiaethau gwen-
wynig uchod, yn peri einbod.ynannhraetliol awyddus
am atebion i'r
YMHOLIADAU
canlynol, a'u cyffelyb : A ydyw Paul yma yn ymdrin
ag etholedigaeth a chymwysiad personau unigol i
fywyd tragywyddol, neu ynte a'i cyfiawnhau goruch-
wyliaeth yr Arglwydd at y genedl luddewaidd ydyw
ei amcan? A ydyw y geiriau yn dysgu fod tynged an-
166 Y CEOCHENYDD A'B PKIDDGIST.
orfod ac anghyfnewidiol yn hongian uwchben pawb
dynion, gan wlawio melldith ar y naill, a bendith ar y
Hall? Pa wirionedd sydd amlycaf yn y geiriau, ai
penarglwyddiaeth orthreclaol Duw, neu ynte ei ddoeth-
ineb, ei ainynedd, a'i drugaredd"?
Yr ydym ar unwaith am amlygu ein crediniaeth mai
geiriau wedi eu hysgrifenu mewn amddiffyniad i gy-
meriad yr Arglwydd ydyw y rhai hyn. Meg-ys yn yr
holl Lythyr yn gyffredinol, felly yn y rhan hon yn
neillduol, y mae yr Apostol yn dangos cyfiawnder a
thrugaredd yr Arglwydd, yn eu perthynas, yn gyntaf ,
a chanlyniad anghrediniaeth y rhan fwyaf o Israel yn
ol y cnawd ; ac yn ail, yn eu perthynas a gal wad, ac a
chadwedigaeth cenedloedd eraill. Tybia yr Apostol
wrth-ddadleuydd. Personola deimladau achwyngar y
genedl yn ei gwrthodiad, a rhydd ddatganiad geiriol
iddynt. Gwna hyn yn adnod y 14eg, hefyd yn adnod
y 19eg, a gwna hyny hefyd yn y testyn. Gwel a chlyw
yr luddew difreiniedig yn ymddadleu a Duw, gan
ofyn, "Paham y'm gwnaethost fel hynf Felly, yn
mlaenaf ac yn benaf, cyfiawnhad ydyw yr ymadrodd-
ion hyn o ffordd Duw o ymwneyd a'i genedl wedi
iddynt wrthod ei Fab. Hyn ydyw amcan blaenaf yr
adnodau, ond bid sicr, y mae yr un egwyddorion yn
llywodraethu ymddygiadau yr Arglwydd tuag at unig-
olion, megys Pharaoh, Esau, &c, ag sydd yn ei lywod-
raethu yn ei ymddygiadau at genedloedd, megys yr
eglurir yn rhanau blaenorol y benod.
Ac yn mhellach na chlirio cymeriad y Goruchaf, yn
ngwyneb ymsyniaeth gyhuddol y genedl wrthodedig,
y mae yr Apostol yn honi, nid yn unig nad oes dim yn
Y OKOOHENTDB A 5 R PKIDDGIST. 167
ranghyfiawn yn ngweinyddiadau Duw, ond rhagor, fod
<ei lioll weinyddiadau yn profi mai Duw yr amynedd
ydyw Efe, mai y gorchwyl olaf a wna ydyw dinystrio,
.ar ol i bob goruchwyliaeth arall fethu. Ac y mae yr
ymresymiad yn dangos fod dyn, nid yn greadur egwan,
caeth, ac felly anghyfrifol, bob eiliad yn agored i'w
wobrwyo neu ei gosbi, yn ol mympwy unbenaethol
.gormesdeyrn, ond yn greadur mawr, rhydd, ao felly
yn gyfrif ol, ar wahan i bawb a phob peth, am nodwedd
ei sefyllfa amserol a thragywyddol. Gwir fod yr
Apostol, yn y geiaiau, megys dros foment, yn cydnab-
od penarglwyddiaeth y Brenin Mawr. Er nad oes
ganddo hawl i greu drygioni, eto, fod ganddo hawl f el
Creawdwr a Llywydd, i waddoli y creaduriaid a ddew-
iso Efe, a gogoniant mwy na chreaduriaid eraill. Ond
er ei fod yn cyffwrdd a'r gangen ddirgelaidd yna, nid
ydyw yn aros arni, eithr yn hytrach llithra oddiwrthi
at y gwirionedd arall, sef, ei fod bob amser yn hir-ym-
arhoes a chyndynrwydd dynion, yn ymdrecligar am
newid cyfeiriad eu calonau, a thrwy hyny wneyd
myrdd mwy yn llestri fcrugaredd. Ei ddyben mawr,
gwastadol, a thrngarog ydyw, achiib ac ymgeleddu.
Ymddengys mai felly yr ymsynia Meyer hefyd am
yr adnodau hyn. Mewn arall-eiriad o honynt (yr hwn
a dalfyrwn), dywed: "Fod ewyllys sanctaidd Duw, yn
ddiau, yn ei dueddu i wneyd ei ddigofaint yn ymarfer-
ol ddatguddiedig, eto ei fod yn goddef ac arbed, nid
yn unig er profi ei amynedd anf eidrol tuag at lestri
digofaint, ond hefyd fel y delai yn hysbys yn ystod
tymor yr hir-ymaros hwnw, berffeithrwydd llawn a
^ogoneddus ei ras i'r rhai ag ydynt yn ddyf od yn wrth-
168 Y CROCHENYDD A ? B PRIDDGIST.
ddrychau ei drugaredd, ac fel y llestr yn llaw y croch-
enydd, ydynt yn cael eu darparu yn inlaen llaw i og-
oniant tragywyddol."
Gran fod ein hathrawon boreuol, yn ogystal a'n har-
weinwyr dylynol, wedi rhoddi i ni oleuni gwahanol ar
y geiriau, ac y gall yr eglurhad a gynygiwn ymddang-
os yn newydd a dyeithr, nis gallwn wneyd yn well nag
arcs uwchben y ddameg sydd ynddynt, dameg y
crochenydd a'r priddgist, gan, yn ddiau, mai yn hono
y mae yr allwedd i ymresymiad a dysgeidiaeth yr Ap-
ostol. Deall meddwl y ddameg fydd deall meddwl yr
apostol Paul, a deall meddwl yr apostol Paul fydd
deall meddwl Duw. Tn yr adran hon o'n gwaith, yr
ydym yn teimlo ein bod yn wan a chrynedig, ac obleg-
id hyny, nid anturiwn i lawer o unigrwydd, eithr ar-
oswn o hyd golwg i feddyliau mwyaf diwylliedig a
sanctaidd yr oes.
Er deall dameg y crochenydd a'r priddgist, rhaid
myned yn ol i amseroedd Jeremiah. Gwyddom fod.
rhai esbonwyr yn barnu fod meddwl Paul wrth ysgrif-
enu, yn ymdroi gyda yr allegau a geir yn Job x. 8 j.
Esaiah xlv. 9, &c., ond gwell genym ni gredu, gydag
Olshausen, Plumptre, &c., mai defnyddiad hapus sydd
yma o weledigaeth Jeremiah yn maes Hinom, pan y
mae yr Arglwydd yn dysgu gwersi iddo ar drugarawg-
rwydd ei fwriadau gyda golwg ar yr hen genedl, a'u
hystyfnigrwydd hwythau. (Jerem. xviii. 1-6.) Gallem
cyn dyfod i sylwi ar linellau cydredol dysgeidiaeth y
ddameg yn wreiddiol, a dysgeidiaeth y ddameg fel y
benthycir hi gan Paul, ymdroi llawer gyda y tebygol-
rwydd mawr a f odolai rhwng Jeremiah y prophwyd, a.
Y CEOCHENYDD A'R PBIDDGIST. 169
Phaul yr apostol. Neillduwyd y naill fel y Hall i'w
SAvyddau o'r groth; yr oedd maes gweinidogaeth y
ddau yn cynwys llawer o genedloedd ; rhedodd dagrau
breision o lygaid y ddau yn yr olwg ar gyflwr en
gwrandawyr; bu y ddau mewn carcharau, &c. Ond
wedi y cwbl, nid yn y tebygolrwydd personol yna y
gorwedd y goleuni yr ydym yn chwilio am dano ; y
mae hwnw i'w gael drwy ddodi y ffeithiau canlynol yn.
gyfochrog :
Tr .oedd y genedl luddewig yn amser Jeremiah
yn gwrthod Duw.
Yr oedd y genedl luddewig yn amser Paul yn
[ gwrthod Mab Duw.
herwydd gwrthodiad y genedl o Dduw, am-
ddifadwyd yr luddewon o'r anrhydedd arbenig o
fod y genedl uchelaf ei breintiaa ar y ddaear.
O herwydd gwrthod y Messiah, amddifadodd yr
Hebreaid anghrediniol eu hunain o sane ddigymar
mewn rhagorfreintiau ysbrydol.
Gyda y bwriad o ddwyn yr hen genedl i edifeir-
wch, cymwyswyd atynt oruchwyliaethau trymion
gwaradwydd ac alltudiaeth.
Gyda y bwriad o adfer yr un genedl dan yr ef-
engyl, y maent wedi eu darostwng i wasgariad a
chyfyngderau.
Oafodd y goruchwyliaethau adferol y dylanwad
dymunedig ar rai o'r hen genedl gynt.
Oafodd goruehwyliaethau adferol ddylanwad ach-
ubol er dyddiau Paul ar y rhai y darostyngwyd hwy
danynt.
11
170 Y CROCHENYDD A'R PRIDDGIST.
Y rhai hyn ydynt y gwirioneddau a ddysgir gan y
ddameg yn y defnydd dwbl o honi.
Y mae amgylchiadau gwreiddiol llefariad yr alegori
dlos yn hynod ddyddorol. O herwydd sefyllfa lygred-
ig ac eilun-addolgar y genedl, y mae y prophwyd ar
dori ei galon. Ac yr oedd ei chyflwr yn. dra echrydus.
Darlunir hi yn ddu a phruddaidd. Y tir sanctaidd
wedi ei halogi ; yr etifeddiaeth deg wedi ei throi yn
ffieidd-dra ; yr offeiriaid wedi peidio ymholi a Duw, y
rhai oeddynt yn trin y gyfraith yn ddyeithr iddo ; a'r
prophwydi wedi myned i brophwydo yn enw Baal.
Puteiniodd oddiwrth yr Arglwydd ar bob bryn uchel,
ac 6 dan bob pren deiliog. Yn yr olwg ar hyn, ty-
walltodd y prophwyd ei enaid.mewn cwynfan a dagrau
ger bron yr Arglwydd. Mewn ufudd-dod i "air yr
Arglwydd," y mae yn gadael y deml, ac yn gadael y
ddinas, gan f yned allan wrtho ei hunan i ddyffryn Hin-
om. Yn y dyfiryn yr oedd yno grocheny dd yn gweith-
io ; aeth i f ewn i'r f elin ato, a sylwodd ar y troellau
oedd ganddo, gyda pha rai y trafodai y pridd wedi
ei fwydo yn glai. Yr oedd y crochenydd ar y pryd
wrth y gwaith o wneyd un o'i lestri mwyaf ardderchog,
ond rywfodd, pallbdd y clai gymeryd y ffurf oedd y
crochenydd am iddo gymeryd. Yr oedd rhyw anmher-
ffeithrwydd ynddo, ac yr oedd yn gwrthod plygu. fel y
bwriedid iddo. Md oblegid fod y crochenydd yn
grefftwr gwael y bu hyn, ond oblegid anmhlygrwydd y
defnydd. Wedi methu gwneyd llestr o hono i ddal
blodau yn mhalas y brenin, gwelodd Jeremiah ef yn ei
ddodi ar y troellau drachefn, ac allan o hono yn gwneyd
llestr arall, llai anrhydeddus. "Felly efe a'i gwnaeth
Y OROCHENYDD A'E PBIDDGIST. 171
ef draehefn yn llestr arall, fel y gwelodd y crochenydd
yn dda ei wneuthur." (Adn. 4.) Safai y prophwyd i
edrych ar yr olygfa y clai, y droell, y llestr a'r croch-
enydd, heb ystyried ei harwyddocad. Tna y mae gair
yr Arglwydd yn dyfod ato drachefn, gan ddywedyd,
" Oni allaf fi, fel y crochenydd hwn, wneuthur i chwi,
ty Israel ? medd yr Arglwydd. Wele, megys ag y mae
y clai yn Haw y crochenydd, felly yr ydych chwithau
yn fy Haw i, ty Israel." I feddwl y prophwyd, rhaid
fod y ddameg yn dysgu, nid tynged anorf bd, o afael
pa un nis gallasai y genedl ddiane ; yn hytrach, parod-
rwydd yr Arglwydd i wneuthur o honynt, ar eu hedif-
eirwch, lestr arall, at ddybenion Uai parchus. Mai
hyn ydoedd arwyddocad yr olygfa, a brofir gan yr hyn
a ychwanegodd yr Arglwydd : " Pa bryd bynag y dy-
wedwyf am ddiwreiddio, a thynu i lawr, a dyf etha cen-
edl neu freniniaeth, os y genedl hono y dywedais yn ei
herbyn a dry oddiwrth ei drygioni, myfi a edifarhaf
am y drwg a amcenais iddi." (Adn. 8.) Llestr yn nwy-
law y crochenydd anf eidrol ydoedd y genedl ; gwrth-
odasant gymeryd eu ffurfio yn ol bwriadau gwreiddiol
y Brenin Mawr, ond er hyny ni fwriwyd hwy ymaith.
Gosodwyd hwy eilwaith ar droellau goruchwyliaethau
Duw, wrth afonydd Babel; ac yno nis gallasent, gydag
un gradd o resymoldeb, of yn " Paham y'm gwnaethost
fel hyn ?" Tr oedd y sef yllf a yn effaith uniongyrchol
gwrthodiad o gymwysder i sane anrhydeddusach.
Yn gyffelyb yn amser Paul, yr oedd had Abraham
wedi cyrhaedd cyflwr ofnadwy o galedwch ac anghred-
i niaeth. Galarai enaid Paul o'u plegid. (Gwel Bhuf .
ix. 1-3.) Tr oedd yr Arglwydd wedi bwriadu iddynt
172 Y CEOCHENYDD A ? B PEIDDGIST.
f od yn llestr ardderchog, i ddal blodau sancteiddrwydd
yn nheml Cristionogaetli. Trefn bwriad y nefoedd
ydoedd, yn ogystal a tlirefn teitliiau yr apostolion,
"I'r luddew yn gyntaf, ac hefyd i'r Groegwr."
Gwrthodasant y Messiah a gynygiwyd iddynt; ond
yn hytrach na'u teilchioni, yn ei ddigofaint, yn erbyn
creigiau damnedigaeth, y mae Daw drachefn yn eu
gosod ar droellau ei ragluniaeth, gan eu gwasgara
drwy bob gwlad, a'u gwneyd yn waradwydd yn mysg
yr holl genedloedd. Os nad all y crochenydd anfeid-
rol gyrhaedd ei amcanion gwreiddiol, gwna iddynt, ac
erddynt, y peth goreu agosaf at hyny. (2 Tim. ii. 20,21.)
Ac y mae yma reswni arall, drachefn, dros ddystaw-
rwydd tragywyddol: "Beth os Duw yn ewyllysio
dangos ei ddigofaint, a pheri adnabod ei allu, a oddef-
odd trwy hir-ymaros lestri digofaint, wedi eu cymwyso
(neu yn gywirach, a gymwysasant eu hunain y mae
y ferf yn y "middle voice) i golledigaeth."
Y mae yr eglurhad uchod yn cymell yr ystyriaeth
ddifrif olaf o'r gwirioneddau canlynol :
1. Fod y Duw mawr wedi ymddiried i ddyn allu-
oedcl, os y defnyddia hioy, a brofant yn dragywyddol
angeuol iddo. Gall, os dewisa, ddianrhydeddu Duw r
a gwrthod ei Fab, os y myn ; gall dori ar draws, o
dan, a thros holl oruchwyliaethau Duw, a myned i
uffern. Os yr ewyllysia, gall aneffeithioli holl fwriad-
au trugarog yr Arglwydd gyda golwg arno. Y mae yr
ymsyniaeth hon yn bruddaidd a llethol !
2. Fod yn ddichonadwy i Dduw ddyfod i gymod a
gwrthryfelwr ar unrhyw amser. Nid oes dim mewn
arfaeth, mewn etholedigaeth, mewn penarglwyddiaeth,
Y CROCHENYDD A'B RRIDD&IST. 173
yn atal yr Arglwydd i drugarhau. Nid Allah y Moslem
ydyw ein Duw ni, wedi cadwyno ei hunan fel nad all
drugarliau pan amlygir edif eirwch. T mae yn dragy-
wyddol rydd i weithredu yn ol dadblygiad cymeriadau
plant dynion. A siarad yn ddynol, gall edifeirwch
dyn ar unrhyw eiliad gyfnewid anghyfnewidioldeb
Duw. Tr ydym yn credu duwinyddiaeth ein hen dad-
au Cymreig, pan ddywedent, " Nid ydyw arfaeth Duw
wedi damnio neb erioed, ond y mae wedi cadw myrdd-
iynau."
3. Y mae colledigaeth felly yn deilliaw o ddyn ei
hunan, ond ei gadwedigaeth yn dyfod o oludoedd gras
Duw. Tr ydym yn credu y gwirioneddau sylfaenol
canlynol, ac yn edmygu y modd y gosodir hwy allan
gan Dr. Forbes :
Y mae pob daioni yn deilliaw oddiwrth Dduw,
Y mae pob drygioni yn deilliaw oddiwrth ddyn.
T mae etholedigaeth yn dechreu yn ngras rhydd
Duw.
Y mae gwrthodedigaeth yn dechreu yn ewyllys rydd
dyn.
I Dduw y perthyn yrholl ogoniant am gadwedigaeth
yr etholedigion.
I ddyn y perthyn yr holl gyfrifoldeb am ddinystr y
gwrthodedigion.
Adroddwyd wrthym am yr Hybarch Powell, Caer-
dydd, yn Lloegr yn casglu at ei gapel. Gwnaeth un
boneddwr amod ag ef y buasai yn cyfranu os y buasai
yn esbonio adnod iddo, ac y mae ei esboniad yn eglur-
had ar y gwirionedd dan sylw. "Pa un ai yn y Tes-
174 Y CBOCHENYDD A'B HRIDDGIST.
tament Newydd neu yn yr Hen Destament y mae yr
adnod?" gofynai y casglwr. "Tn y Testament New-
ydd." "Tn mha ran o'r Testament Newydd?"
"Tn y llythyr at y Rhufeiniaid." "O, wel,"
meddai Powell, " yn y Testament Newydd, ac yn y
llythyr at y Rhufeiniaid, y llythyr anhawddaf i'w dde-
all o'r llythyrau oil. Tn mha benod yn y llythyr at y
Rhufeiniaid f "Tn y nawfed benod." "Wel, wel,
atebai y patriarch, yn y llythyr at y Rhufeiniaid, ac yn
y nawfed benod, y benod anhawddaf i'w deall o'r holl
benodau i gyd. Atolwg, syr, ond pa adnod ydyw yn
y nawfed benod o'r llythyr at y Rhufeiniaid "?" "T
drydedd ar ddeg, ' Jacob a gerais, eithr Esau a gas-
eais.' " " O, beth sydd yn ddyrys i chwi yn yr adnod
yna ?" " Paham y casaodd Esau ?" " O," atebodd, dan
wenu yn chwerthinaidd, " 'does un dyryswch yn y byd
yn hyny i mi, oblegid yr oedd Esau wedi rhyglyddu
hyny, ond y syndod tragywyddol i mi ydyw, iddo er-
ioed garu Jacob."
CADWEDIG MEGYS TBWY DAN. 175
CADWEDia MEGYS TBWY DAN.
" Canys cyd-weithwyr Duw ydym ni: llafurwaitb. Duw, adeil-
adwaith Duw, ydych. cli-wi. Yn ol y gras Dviw a roddwyd i mi,
megys pen-saer celfydd, rayfi a osodais y sylfaen, ac y mae arall
yn goruwch-adeiladu. Ond edryched pob un pawedd y mae yn
goruwch-adeiladu. Oanys sylfaen arall nis gall neb ei osod, heb-
law yr un a OBodwyd, yr hon yw lesa Grist. Eitlir os goruweh-
adeilada neb or y sylfaen hon, anr, arian, meini gwerthfawr,
coed, gwair, sofl: G-waith pob dyn a -wneir yn amlwg: canys y
dydd a'i dengys, oblegid trwy dan y datguddir ef : a'r tan abrawfi
waith pawb, pafath ydyw. Os gwaith neb a erys yr hwn a or-,
irwch-adeiladodd ef, ef e a dderbyn wobr. Os gwaith neb a losg-
ir, efe a gaiff golled: eithr efe ei hun a fydd cadwedig; eto felly,,
megys trwy dan." 1 COB. iii. 9-15.
T mae Llythyrau yr Apostolion yn dryfrith o alleg-
au uchel ac ardderchog. Gwisga rnai o'r allegau liyii
wedd filwrol; rhaid ymgydnabyddu a defion milwrol y
cyfnodau liyny cyn y gellir eu deall a'u gwerthfawrogi,
T mae grym a phrydferthwch allegaa eraill yn ddeall-
adwy yn ngoleu drel-gampau poblogaidd yr oes apos-
tolaidd ; oddieitnr i'r darllenydd o honynt wybod am
yr ymorchestau mewn rhedeg, ymgodymu, &c., y mae
yn amddifad o syniad cywir am feddwl lluaws o ad-
ranau. Tn fynych hefyd, y mae rhyw nodweddion
perthynol i deulu, a'i aelodau, yn cael eu gosod o dan
dreth i weitMo i'r golwg berthynasaeth ysbrydol a
nodweddion teulu Duw. Buasai yn dra dyddorol, ond
yn estronol i'n hamcan, i nodi allan, a dylyn engreifft-
iau o allegau ardderchog sydd wedi eu sylfaeni ar ar-
weddion milwrol, gorchest-gampol, teuluol, arch-adeil-
176 CADWEDIG MEGYS TEWT DAN.
adol, &c. Cyfyngwn ein liunain at esiampl neu ddwy
ar ein ffordd at alleg y testyn. Meddylier am y defn-
ydd a wna Pedr o-blentyn newydd-anedig yn chwen-
ych llaeth y fron, er arddangos pa mor angerddol y
dylai plant yr Arglwydd ymawyddu am y gwirionedd.
Tn y teulu y mae yna dad, y mae yna fam, y mae yna
f aban. Ac y mae yn bwysig i sylwi mai baban new-
ydd-anedig ydyw. Nid plentyn dwy flwydd oed, yn
gallu carlo ei gadair f ach at y bwrdd, cyd-fwyta a'r
teulu, ac yn difyru o gylch y buarth, ydyw ; ond baban,
a baban sydd yn byw ar laeth, ac y mae yn rhaid iddo
ei gael. Tf wyr anghyffredin ydyw babanod bychain.
Er fod y fam yn rhodresu dwrdio llawer, fe fyn yr un
bychan yfed. Ymbalfala am ddiod yn y nos ; chwilia
am y gwlybwr yn ei gwsg. Y mae yn rhaid fod yna
ryw wres anghyffredin yn nghylla yr un bach. Diota
y peth olaf yn y nos, a'r peth cyntaf yn y boreu. Yfa
yn y capel, er fod ei fam yn dangos y pregethwr iddo,
y diacon yn dangos ei ddwrn, y tad yn dangos ei ben-
twr allweddau, a'r pregethwr yntau yn dangos ei an-
foddlonrwydd drwy aros, pesychu, a thaflu edrychiad
awgrymiadol i gyfeiriad yr aflonyddwr bychan; eto,
dengys ef yn ol i bawb nad oes dim heddwch i fod yn
yr oedfa ond ar un amod, a hono ydyw, ei fod ef i gael
llymaid i'w yfed. Ac wedi iddo gael y llaeth, cysga o
dan ddylanwad ei falm bywydol, gan daflu ei law f ach
wen i fyny, megys Human heddwch i'r gynulleidfa. Y
mae ei dangnefedd yn y llaeth, y mae ei baradwys yn
y llaeth, y mae ei gynydd yn y llaeth , y mae ei bob
peth yn y llaeth. " FEL," meddai Pedr, "rhai bychain
newydd-eni, chwenychwch ddidwi/U laeth y gair." (Pedr
"CADWEDIG MEGYS TKWY DAN. 177
ii. 2.) Y mae yr ysbrydol yn eglurach yn ngoleuni y
Jiaturiol.
Meddylier, drachefn, am engraifft o alleg filwrol. T
mae Paul, un diwrnod, yn ngolwg gwarchodlu Pre-
toria, ceidwaid ymerodrol Bhufain, ac y mae yn rhwyni
& chadwen wrth un o honynt pan yn ysgrif enu ei lyth-
yr at yr Ephesiaid. Cyfyd ei olwg i fyny, a gwel fod
eu gwisg filwrol yn cael ei gwneyd i fyny o chwech o
ddarnau gwahanol, sef gwregys, dwyfroneg, esgidiau,
tarian, helm, a chleddyf. Gwrandawer arno yn cyf-
arch yr Ephesiaid, a'i lygaid ar yr olygfa yna:
"Grwisgwch holl arfogaeth Duw (arfogaeth Bhufain
sydd am y rhai yr edrychai arnynt), fel y galloch sef-
yll yn erbyn cynllwynion y diafol. Oblegid nid yw ein
hymdrech ni (y Cristionogion) yn erbyn gwaed a
<chnawd (gwaed a chnawd y rhaid i warchodlu Bhufain
isefyll yn eu herbyn), ond yn erbyn tywysogaethau, yn
erbyn awdurdodau (enwau ar yr angelion syrthiedig),
yn erbyn bydol-lywiawdwyr tywyllwch y byd hwn
{galluoedd gwladol paganaidd), yn erbyn drygau ys-
brydol yn y nefolion leoedd (personau ac egwyddorion
drwg yn yr eglwysi). Am hyny cymerwch atoch holl
arfogaeth Duw" &c. Wei, pa beth ydyw holl arfog-
aeth Duw 1 ? Yr un pethau yn union, mewn alleg, ag a
wisgir gan warchodlu Pretoria. "Wedi amgylch-
"wregysu eich Iwynau a gwirionedd, a gwisgo dwyfroneg
cyfiawnder - } a gwisgo am eich traed esgidiau parotoad
efengyl y tangnefedd: uwchlaw pob dim wedi cymeryd
tarian y ffydd, a'r hon y gellwch ddiffoddi holl bicell-
.au tanllyd y fall. Cymerwch hefyd helm yr iachaiod-
aoriaeth, a chleddyf yr Ysbryd, yr hwn yw gair Duw."
178 CADWEDIG MEGTS TKWY DAN.
(Ephesiaid vi. 11-17.) Dyma, ynte, y Iwyr-arfogaeth
ag sydd gan filwr Crist i sefyll ynddi gwirionedd yn
wregys, cyfiawnder yn ddwyfroneg, ufudd-dod yn es-
gidiau, ffydd yn darian. iachawdwriaeth yn helm, a
gair Duw yn gleddyf. T mae yr alleg yn brydferth
yn ngoleuni . yr amgylchiadau y llefarwyd hi. (Gellir
gweled lluaws o engreifftiau cyffelyb yn " The Allego-
ries of St. Paul," gan y Deon Houson.)
T mae yn dra eglur mai alleg sydd yn yr adnodau y
sylwir arnynt yn yr ysgrif hon ; ac y mae yn eglur,
hefyd, fod yn annichon deall y gwirionedd fwriedir
gyflwyno drwyddi heb ymgydnabyddu ag arddull arch-
adeiladol y cyfnod yr ysgrif enwyd hi, yr hwn hefyd yd-
oedd yn gwbl ddealledig gan aelodau eglwys Corinth.
Tr ydym yn credu y bydd cymeryd ein sane yn nghan-
ol adeiladau dinas Corinth, sylwi ar neillduolion eu
harch-adeiladaeth, ac yn enwedig edrych ar ganlyniad-
au y tan a dyr allan, a'i ddylanwad gwahanol ar fag-
wyradau a thai, gan gysylltu a hyny s'efyllfa ymraned-
ig eglwys Crist yn Corinth ar y pryd, yn taflu goleu
newydd a naturiol ar y paragraph dyddorol hwn. Y
mae y deongliad a gyrhaeddir drwy y cynllun hwn yn,
cynwys atebiad llawn, clir, a boddhaol i'r
yMHOLIADAU
canlynol ; yn fwy felly, ymddengys i mi, nag unrhyw
ddeongliad arall. Yr ymofyniadau y mae darllenydd
yr adnodau debycaf o'u gwneyd ydynt : Pa beth ydyw
yr adeilad y dywed yr Apostol ei fod ef a'i frodyr yn.
gydweithwyr dan Dduw yn ei gyfodiad? Pwy ydyw
y sylf aen ar ba un y mae y saerniaeth ardderchog yn.
CADWEDIG MEGYS TBWY DAN. 179*
sef yll ? Pa bethau neu bersonau sydd yn cael eu cyn-
rychioli gan yr aur, yr arian, y meini gwerthfawr, y
coed, y gwair a'r sofl ? Pa adeg ydyw y dydd yn mha
un y mae gwaitli pob adeiladydd i'w osod yn y prawf t
Pa beth a olygir wrth "cadwedig, eto felly megys
trwydan?" . .
Cymerai lawer o ofod i osod i lawr holl fyntumiau.
awduron parth dysgeidiaeth Paul yn y geiriau, heb-
son am ddylyn a chofnodi yr ystyriaethau a honani
fel ategion. Yn hytrach na gwneyd hyny, dodwn yn
unig y prif ddamcaniaethau ger bron mewn ffurf osod-
iadol, gan adael yn ddisylw y rhai mwyaf eithafol
mewn cyfeiliornad.
(a.) Barn un dosbarfch ydyw, mai yr adeilad a ddar-
lunir ydyw crefydd yn y galon, ac mai y coed, y gwair
a'r son ydyw cyfeiliornadau mewn barn ac mewn.
buchedd, ac y bydd i bob dyn y mae egwyddor dda yn
ei galon fod yn gadwedig, ond y dinystrir ei anmher-
ffeithrwydd. T mae rhai o'r dosbarth hwn yn ych-
wanegu, fod y meddylddrych arall o raddau mewn di-
ogelwch a gogoniant, yn ol y cyfartaledd o sancteidd-
rwydd y byddo dyn wedi ei gyrhaedd, yn cael ei.
ddysgu; mewn gair arall, y bydd pawb afeddant ffydd
yn gadwedig, ond rhai o'r cyfryw yn gadwedig "megys-
trwy dan," neu gyda graddau helaeth o berygl.
(b.) Barn dosbarth arall ydyw, mai darlunio y ma&
Paul waith athrawon crefyddol, yn cyhoeddi a dysgu
egwyddorion croes i Gristionogaeth, yn nghyd a'r
golled dri-phlyg a gant yn nydd yr ymweliad, o her-
wydd hyny, sef colli ffrwyth eu gwaith, colli llawer o.
180 CADWEDIG MEGYS TBWT DAN.
anrhydedd, a cliolli helaetlirwydd y profiad o iachawd-
wriaeth bersonol.
(c.) Barn j trydydd dosbarth, yr un Rhufeinig, yw,
fod y geiriau yn dysgu y bydd i'r purdan losgi ymaith
bob anmhuredd, sef " y coed, y gwair a'r soft" perth-
.ynol i'r credinwyr hyny fyddant heb eu cwbl sanct-
eiddio yn y byd hwn, ac y deuant hwy eu hunain yn
.gadwedig trwy ddylanwad pureiidiol y tan hwnw.
Wrth sylwi ar y dyb olaf hon, dywed Olshausen :
'" Nid ydyw yr adran yn cyfeirio at bureiddiad person-
au oddiwrth bechod, ond at brawf ar eu gweithrediad-
au a'u hadeiladwaitk," ac oblegid hyny dywed Bengel :
" T mae y testyn mor bell o wyntyllio niamau y pur-
dan, fel y mae, yn hytrach, yn gweithredu fel eu di-
ffoddydd."
T mae dau betb. i'w cadw mewn cof wrth ymestyn at
; geisio cael dirnadaeth am feddwl y geiriau, sef, yr am-
gylchiadau yr oedd eglwys Corinth ynddynt ar y pryd,
ac liefyd arddull adeiladol dinasoedd y cyfnod hwnw.
Tr oedd yr eglwys at ba un yr anfonwyd y Llythyr,
yn ymranedig o ethryb i'w hathrawon crefyddol.
'" Canys tra y dywedo un, Myfi ydwyf eiddo Paul ; ac
arall, Myfi wyf eiddo Apolos; onid ydych chwi yn
gnawdol ? Pwy gan hyny yw Paul, a phwy Apolos,
ond gweinidogion trwy y rhai y credasoch chwi, ac fel
,y rhoddes yr Arglwydd i bob un ? Myfi a blenais,
.Apolos a ddyfrhaodd ; ond Duw a roddes y cynydd.
-Eithr yr hwn sydd yn planu, a'r hwn sydd yn dyfrhau,
un ydynt ; a phob un a dderbyn ei briod wobr ei hun,
yn ol ei laf ur ei hun. Canys cyd-weithwyr Duw ydym
3ii : llafur-waith Duw, adeiladwaith Duw, ydych chwi,"
CA.DWEDIG MEGYS TB"WY DAN. 181
&c. (Adn. 4-9. T mae yn eglur oddiwrth y geiriau
hyn, fod syniad y frawdoliaeth am berthynas y dysg-
awdwyr a'u gilydd, a phertliynas y dysgawdwyr a gor-
uwch-adeiladwaith yr eglwys, yn anghywir, ac f el can-
lyniad, fod rhai, mewn teimladau cnawdol, yn mawr-
hau Paul ; ac eraill, yn yr un teimladau, yn tra dyrch-
afu Apolos, heb gofio mai gweision i'r un Arglwydd.
oedd y ddau, a'u bod yn cyd-laf urio ar yr un argymer-
iaeth fawr ac ysbrydol. Nid oes un ddadl yn meddwl
neb nad llonyddu y teimladau chwerwon ac anghref--
yddol hyn ydoedd amcan Paul wrth ysgrif enu. Bhaid
cofio peth arall, drachefn ; yn Nghorinth, yn Ephesus,.
yn Bhufain, &c., yr oedd y temlau, y prif-fasnachdai, a'r
cawr-adeiliau, wedi euhadeiladu hefyd o fynor, o lech-
faen, ac o wenitbiaen, ac yr oedd eu colofnau a'u nen-
au wedi eu haddurno yn gyfoethog ag aur, ac ag ar-
ian. Ond mewn dosbarth arall o'r ddinas, lie preswyl-
iai y tlawd a'r iself oes, adeiladid muriau y tai o goed ;-,
gosodid gwellt ynddynt, a sofl a chlai yn do arnynt.
Ar un Haw, wele y mynor a'r wenithfaen, yn nghyd ag
aur ac arian ; ar y Haw arall, wele y coed, y gwair, a'r
sofl. Ar ryw ddiwrnod y mae tan yn tori allan yn y
ddinas, a dywed Gloag a Deon Stanley, y gall yr aleg-
ori hon fod wedi cael ei hawgrymu gan losgiad Corinth,
gan y Bhufeiniaid, o dan Mummius. Yn yr oddaeth,.
y mae y mynor a'r llechfaen, er yn duo, eto yn dal yn
y fflam ; ond am y tai oedd wedi eu gwneyd o goed,
gwair, a sofl, yr oeddynt yn dyfod ar unwaith yn goel-
certhu difaedig, ac o'r braidd y gallodd eu preswyl-
wyr ddianc. Darfu iddynt ddianc, mae yn wir ; nt
182 CADWEDIG MEGYS TRWT DAN.
chollwyd bywydau; ond er mwyn dianc yr oedd yn
.rhaid iddynt dori eu llwybrau trwy leni o fflamau.
Os cofir y ddau beth uchod, gwelir fod yr arall-eir-
iad canlynol, nid yn unig yn cymeryd i fewn amgyleh-
iadau eglwys Corinth, ond hefyd yn dylenwi yr holl
jngyrau ag ystyr. Megys pe dywedai Paul, "Y mae
yna adeilad ysbrydol yn cael ei godi gan Dduw yn
Nghorinth eglwys lesu Grist. Myfi gafodd yr an-
rhydedd o osod ei sylfaen i lawr, a phan y gwnaethum
hyny, gosodais yr unig sylfaen bosibl, ' yr hon yw lesu
<3rist.' Wedi i mi osod y sylfaen, daeth fy mrawd Ap-
olos heibio, a gosododd yntau feini bywiol ar y syl-
faen. "Wedi hyny bu Cephas yn gweithio ar yr un
adeilad, ac ychwanegodd yntau eneidiau at yr oruwch-
adeiladaeth. Peidiwch ag ymrafaelio yn ein cylch ni,
* cyd-weithwyr Duw ydym ni.' Tn hytrach nag ym-
bleidio yn nghylch y gweithwyr, cyfeiriwch eich holl
sylw at y'rheidrwydd o gario y gwaith yn mlaen yn deil-
wng o hono ei hun, ac o'i ddechreuad. Adeiladwch ar
gynllun yr adeiladau cyhoeddus yna sydd yn Nghor-
inth. Dodwch yn unig yn yr adeilad y cymeriadau
goreu, y rhai tebycaf i aur, i arian, a meini gwerth-
fawr, ond gofalwch gadw allan o'r muriau y rhai
cnawdol, def odol, ac anwadal ydynt yn dwyn nodwedd-
ion y coed, y gwair, a'r son, a pha rai y mae yr anedd-
dai israddol wedi eu cyfodi. Gofalwch fod yr adeilad-
waith yn gyfryw ag a fyddo yn deilwng o'r cyhoedd-
tusrwydd a ga yn oes oesoedd. Ac heblaw hyny, cofiwch
y mae Duw wedi penodi dydd mawr, dydd y golosgiad
diweddaf ; dydd profi personau ac eglwysi. Os, yn y
dydd hwnw, y ceir fod y personau a dderbyniasoch i
CADWEDIG MEGYS TKWY DAN. 183
eglwys Dduw yn ddidwyll a gwerthfawr, ac yn cyf an-
soddi rhan o deml fawr Duw a'r Oen, gwyn eich byd,
oblegid chwi a dderbyniwcli y wobr gyfatebol i'ch
parch at burdeb a sancteiddrwydd. Os, o'r tu arall, y
bydd i'r dydd hwnw ddatguddio eich bod wedi goddef
y drwg, ac wedi gosod yn yr adeilad ddynion amddif ad
o addurnau crefydd, bydd eich cyflwr yn un colledus a
siomedigaethus, oblegid nid yn unig ni fydd i chwi
dderbyn y wobr a estynir i eraill, ond rhagor, bydd
eich diangfa bersonol yn gyfyng a pheryglus. Bydd
eich gwaredigaeth mor gyfyng a gwaredigaeth y dyn
a ddiangodd o'r ty adeiladasid o goed, gwair, a soft,
sef drwy ruthro yn orwyllt trwy y fflam felly chwithau,
' megys trwy dan.' "
Y mae esiampl y Oorinthiaid, a geiriau Paul, yn ein
dysgu
1. Y gall dynion eto fod - yn fwy awyddus i dra
dyrchafu rhai o genadon Crist, nag i sicrhau y
daioni ysbrydol; y mae pob un o honynt, yn ei
ffordd ei hun, yn alluog i'w gyfranu. T mae gan
lawer o bobl, yn y dyddiau cnawdol hyn, ryw un
pregethwr. Nid ydyw crybwyll doniau a gwasanaeth
eraill wrthynt ond cyfleusdra iddynt addoli yr eilun-
bregethwr yn fwy angerddol. Paul yr ymresymwr,
ydyw cwbl un; Apolos yr areithiwr, ydyw pob peth y
Hall; tra mae Cephas, a thanbeidrwydd ei sel, wedi
llwyr enill calon y trydydd. Bwriadodd y nefoedd i'r
holl ddoniau fod yn gynysgaeth gyffredin i'r.eglwys,
" i adeilad corph Crist."
2. T gall dynion eto fod yn fwy awyddus i sicrJiau
lluosogrwydd rliif yn yr eglwysi nag i sicrhau purdeb
184 CADWEDIG- MEGYS TBWY DAN.
a sancteiddrwydd yu yraelodau. Hyd heddyw, bodd-
lonir os y ceir eglwys fawr, lieb gofio fod egiwys fech-
an sanctaidd yn tra rhagori i bob dyben, ar eglwys
fawr lygredig. Y gofal cyntaf ddylai fod am ansawdd r
ac wedi hyny am faintioli yr eglwys. Gwell llafurio-
yn liir am un a fyddo yn gyffelyb i aur, arian, a meini.
gwerthfawr, na chael, yn y modd mwyaf didrafferth,.
gant a fyddo yn gyffelyb i goed, gwaii 1 , a soft. Bydd
y gweinidog yn gyfrifol yn y farn os nad ymdrecha, ar
y naill law, ddyfod o hyd i'r meini goreu yn chwarel-
f eydd dynoliaeth ; ac yn gyfrifol hefyd, ar y llaw ar-
all, os y gesyd i f ewn yn adeilad yr eglwys, ysbwrial
cymeriadol a fetha ddal tan y golosgiad.
3. Y gall dynion eto fod yn fwy awyddus am
sicrliau cadwedigaeth rywfodd, nag i sicrhau cad-
wedi'jaeth yn y modd anrht/deddusaf. T maa
crefydd yn cymell dynion, nid yn unig i ymgystadlu
am fywyd tragywyddol, ond hefyd am wobrau y bywyd.
hwnw. " Os gwaith neb a erys, efe a dderbyn wobr."
Nid yn unig cedwir ef ei hunan, a'i holl amgylchoedd,
eithr esgyna hefyd i raddani uchaf dedwyddwch y nef-
oedd. O'r tti arall, os heb yr uchelgais hon, llosgir y
Hong y mae ami, ac o'r braidd y cyrhaedda lanau y
bywyd tragywyddol ei hunan. Tn nydd yr arholiad
diweddaf, cyhoeddir ei enw ar baradwydd neuadd y
farn yn mysg y rhai fydd wedi pasio, ond nid ar y
rhestr fydd yn cynwys enwau y rhai a enillasant an-
rhydeddau a gwobrau.
TBADDODI I SATAN. 185
TKADDODI I SATAN.
" Draddodi y cyfryw un i Satan, i ddinystr y cna-wd, fel y
byddo yr ysbryd yn gadwedig yn nydd Crist." 1 COE, v. 5.
Tr oedd pechod y Corinthiad hwn yn un mawr a
chyhoeddus. Tn groes i ddeddf Moses (Lef . xviii. 8),
ac yn mhresenoldeb syniad cyhoeddus digofus ac an-
ffafriol, priododd a gwraig ei dad, tra yr oedd ei dad
eto yn fyw. (2 Cor. vii. 12.) Drwy hyny, nid yn unig
cyflawnodd weithred anghyfreithlawn a gwaradwydd-
us yn ol dyfarniad deddf Moses, ac ymsyniad cydwyb-
odau llygredig ei gydnabod, ond rhagor, yr oedd yn
troseddu deddf bendant yn nheyrnas yr Arglwydd
lesu. (Marc x. 1-12.) Wedi amodi priodas a gwraig a
roddasai ymaitli ei gwr, a chyn hyny, yn fwy na theb-
yg, wedi cyflawni godineb a hi, y mae yn dyfod ger ein
bron fel un yn byw mewn godineb, ond er hyny yn
parhau ei aelodaeth yn eglwys Crist yr eglwys yr
oedd ei dad, a pha un y gwnaethai y cam, yn aelod
hefyd o honi. Pan gofiom hyn oil, nid ydyw yn un
syndod fod yr Apostol, yn ei awydd angerddol am
sicrhau purdeb egiwysig, yn cynhyrfu mewn dygasedd
at y troseddwr, ac yn arf er ei awdurdod apostolaidd er
hawlio ei ddiaelodiad ar unwaith. Nid oes genym
gydymdeimlad a'r ysgrifenwyr hyny a geisiant esgus-
odi y Corinthiad hwn, a hyny drwy ddweyd ei fod yn
ieuanc, yn nwydog, yn amddifad o gyfarwyddyd a
chydymdeimlad mam; ac nid ymddengys i ni fod y
dybiaeth y gallasai y pechod hwn fod yn un cyffredin
12
186 TBADDODI I SATAN.
yn mysg paganiaid Corinth, nac ychwaith f od cymaint
ag un o broffeswyr Cristionogaeth, mewn oesau dy-
lynol, wedi syrthio i unrhyw fudreddi, yn ysgafnhau
dim ar faich euogrwydd hwn. Erys y ffaith, er pob
ystyriaeth, ei fod wedi oyflawni peeked erchyll yn er-
byn Duw a dyn, ac iddo, yn ynrwybodol hollol, dros-
eddu deddf perthynasaeth deuluaidd, a deddf aelod-
aetli eglwysig.
T mae y ddeddf a gyhoeddwyd ar y troseddwr, yr
hon hefyd sydd yn ddarlun o nodwedd y gosbedig-
aetli yr oedd eglwys Corinth i'w gweinyddu arno, yn
cynwys ymadroddion dyeithriol, o fewn i ba rai y gor-
wedd syniadau anhawdd eu deall, ond y gall eu deall,
er hyny, fod yn fantais ymarferol i bawb a addefant y
Testament Newydd yn safon dysgyblaeth eglwysig.
Wrth sefyll uwchben yr adnod hon, awgrymir i ni yr
YMHOLIADAU
canlynol : Pa beth a olygir wrth draddodi i Satan *? A
ydyw traddodi i Satan yn golygu llai, neu fwy, na di-
aelodiad o'r gymdeithas grefyddol 1 ?
A ydyw corph yr hwn a draddodir i Satan yn dyfod
yn agored i ryw anffodion nad ydoedd yn agored
iddynt o'r blaen?
Ai y cyfansoddiad corphorol, neu y nwydau cnawd-
ol, yn yr achos dan sylw, oedd i'w difrodi ?
A ydyw ffurf y ddedfryd hon i'w mabwysiadu yn
barhaus yn mhob achos o ddiarddeliad ?
Nis gall unrhyw ddeongliad a gynygir o'r testyn
hwn, gynwys atebion boddhaol i'r ymholiadau uchod,
oddigerth iddo, yn gyntaf, fod yn gyson a syniadau yr
TRADDODI I SATAN. 187
Apostol mewn lleoedd eraill; ac oddigerth iddo, yn
ail, gyfateb i briod-ddull ymadroddol yr Apostol yn y
lie hwn; ac ymddengys i ni fod y tri gosodiad canlynol
yn gyson a'r naill, ac yn ddyhysbyddol o'r Hall :
1. Fod dynion, pan beidiant a bod yn ddeiliaid o
deyrnas Crist, yn dyfod yn ddeiliaid o deyrnas Satan.
2. Fod gan Satan allu ac ewyllys, drwy oddefiad
dwyf ol, i ddrygu cyrph ac amgylchiadau dynion.
3. Fod y drygedd a achosir i gyrph ac amgylchiad-
au dynion gan Satan, yn cael ei fwriadu gan Dduw er
eu hiachawdwriaeth.
Bydd ymhelaethiad ar y naill a'r Hall o'r gosodiadau
hyn, yn foddion i ddwyn allan feddyliau anweledig y
ddedfryd.
I. FOD DYNION PAN BEIDIANT A BOD YN DDEILIAID O
DEYENAS CRIST, YN DYFOD YN DDEILIAID O DEYENAS
SATAN. T weithred a oblygir yn y gair traddodi yma
ydyw, gwaitii yr eglwys, drwy ddiarddeliad cyhoeddus,
yn trosglwyddo y troseddwr o deyrnas weledig y naill
i deyrnas weledig y Hall. Cyhyd ag yr oedd y tros-
eddwr heb ei gyhoeddi yn ddiaelodedig, yr oedd yn
cael ei ystyried gan ddynion yn un o ddeiliaid yr Ar-
glwydd lesu ; ond wedi y diaelodiad, yr oedd yn cael
ei ystyried gan ddynion yn un o ddeiliaid Satan; a
gweinyddiad y ddysgyblaeth oedd yn effeithio y cyf-
newidiad arswydlawn hwnw yn ei sefyllfa. Bellach,
adnabyddir ef gan y nefoedd, y ddaear, ac uffern, fel
un wedi newid ei frenin yn y byd ysbrydol. Ond y
mae a fyno y frawddeg dan sylw, " Traddodi i Satan,"
yn benaf a'r canlyniadau alaethus sydd yn dylyn y
traddodiad, sef fod y dyn yn cyrhaedd sefyUfa nas gall
188 TKADDODI I SATAN.
ddysgwyl ynddi ddiogelwch nac amddiffyniad. Cyfleir
ef "i Satan." Pan y mae dyn yn dyfod i deyrnas Crist
drwy f edydd, y mae yn dyfod i afael a holl ragorfreint-
iau yr ef engyl ; ond pan y mae, drwy bechod, yn myn-
ed yn ol i deyrnas Satan, y mae yn colli pob rhagor-
fraint, ac yn dyfod yn agored i bob temtasiwn a pher-
ygl. Tra yn yr eglwys, y mae o fewn cylch deddfau a
dylanwadau. iachawdwriaeth, oblegid Crist sydd yn
breniniaethu yno; ond wedi ei ddychweliad i'r byd, y
mae yn ddarostyngedig i bob pechbd a dylanwad
dieflig ; yno Satan sydd yn llywodraetnu. Mewn gaix
byr, golyga y traddodi hwn osod y dyn y tu allan i
gylcn yr amddiffyniad dwyfol. Mor annhraethadwy
alarus ydy w cyflwr y dyn hwnw a fwrir allan o gynmn-
deb eglwys Dduw !
II. FOD GAN SATAN ALLU AC EWYLLYS, DEWY ODDEFIAD
DWYFOL, I DDRYGU CYKPH AC AMGYLCHIADAU DYNION. Yn
ngoleu y gosodiad hwn y gwelwn synwyr yr ymadrodd
"dinystr y cnawd." Canlyniad y traddodiad ydoedd
dinystr j cnawd. Y mae rhai esbonwyr wrth y f rawdd-
eg dan sylw yn golyga dinystr balchder, ymbleidiaeth y
a nwydau cnawdol eraill ; ond annichon derbyn y cyf-
ryw esboniad, a hyny am y rnesymau canlynol :
1. Nid ydyw yn debygol y buasai Satan yn ymgeisio
at ddiddymu unrhyw elfen bechadurus yn nghalonau
y rhai a draddodid iddo.
2. Y mae y ceryddon a fygytnia yr Apostol ar gy-
meriadau drygionus yr eglwysi, yn rhagdybied rhyw-
beth gwahanol i symnd ymaith eu gwendidau pechad-
urus. (1 Cor. iv. 21 ; 2 Cor. xiii. 1, 2. 15.) '
8. Y mae y gair cnawd yn y frawddeg hon, yn gyf-
TRADDODI I SATAN. 189
erbyniol i'r gair ysbryd yn y frawddeg nesaf. T mae
sane gyf erbyniol y geiriau hyn yn ddigonol ynddi ei
hun i brofi mai corph materol, ac nid llygredigaeth
foesol, a olygir.
Nid oes dim yn eglurach nag fod poenau, doluriau,
heintiau, a phob adfydau sydd yn cyfarfod a dynion
yn y byd, yn deilliaw oddiwrth ddiafol. Drwy drall-
odion felly y mae Satan yn bwriadu dyrysu cynlluniau
Duw, a sychu holl ffynonellau cysur dyn. Nid syniad
paganaidd yn unig ydyw hwn, ac nid yn nhraddodiad-
au cenedloedd y mae ei unig sail, eithr y mae yn cael
ei ddysgu yn nghyfangorph yr Ysgrythyrau. Pan yr
ataliwyd Paul i ymweled a'r Thessaloniaid, gwelai ef
ymyriad dieflig yn yr atalfa hono. "Am hyny yr
ewyllysiaswn ddyfod atoch (myfi Paul yn ddiau) un-
waith a dwywaith hefyd, eithr Satan a'n lluddiodd
ni." (1 Thes. ii. 18.) Pan yn cael ei boenydio gan
wendid parhaus, poenus, ac anfeddyginiaethol, ol-
rheiniai hwnw i ystryw Satan. " Rhoddwyd i mi swm-
bwl yn y cnawd, cenad Satan i'm cernodio." (2 Cor.
xii. 7.) Tr oedd ei Arglwydd, o'i flaen ef,wedi darllen
yn nyoddef aint dynion yr un gwirionedd. Pan yn sylwi
ar achos y wraig hono a fuasai gystuddiol dros ddeu-
naw mlynedd, dywedodd, " Ac oni ddylai hon, a hi yn
f erch i Abraham, yr hon a rwymodd Satan, wele ddeu-
naw mlynedd, gael ei rhyddhau o'r rhwym hwn ar y
Sabbath?" Bu yr un Satan ag a aeth a chyfoeth,
plant, ac iechyd Job, hefyd yn nithio holl ddysgyblion
ein Harglwydd. Pan y mae dyn yn hollol yn llaw
Satan, nid ydyw ei gorph, ei iechyd, ei amgylchiadau,
na dim a f edd, yn ddiogel. Yn gytunol a'r gwirionedd
190' TBADDODI I SATAN,
diamheuol hwn, gallwn yn rhwydd amgyffred f od tros-
glwyddiad y Corinthiad liwn i ddwylaw yr un penaeth
maleisddrwg, i gael ei ddylyn gan ddyrysweh yn ei
f wriadau, gan golledion yn ei amgylchiadau ; neu ynte
yr hyn sydd fwy tebygol, gan ryw boenau ac arteithiau
corpliorol, ag a fuasai yn ei wneyd yn ddychryn iddo
ei hunan ac i eraill. Megys ag y tarawyd Elymas a
dallineb yn gysylltiedig a cherydd Paul, felly tebygol
f od y Corintliiad llygredig hwn, dan gerydd yr eglwys,
yn teimlo rhyw ddirdyniadau chwerwon a llethol yn ei
gyfansoddiad, y cyfryw a^ a'i cadwai i barhau i f eddwl
arn fawredd ei bechod, ac a'i liarweiniai i ymlid am
faddeuant ac adferiad. Buasai y fatli gosbedigaeth
weladwy yn rhybuddiol i eraill hefyd. Rhaid fod y
ddedfryd a olygai diaelodiad cyhoeddus, diarddeliad
hollol o'r cynulliadau crefyddol, yn nghyd a gosodiad
arno nychdod a barai i'w gnawd gilio, yn creu arswyd
yn meddwl pob Cristion difrifol, rhag syrthio o hono
yntau hefyd i'r unrhyw amryfusedd.
Megys ag mai nid dynwarediad o ffiirfiau esgymunol
luddewiaeth ydyw yr esgymundod a weinyddir ar y
troseddwr hwn yn Nghorinth, felly nis gall unrhyw
eglwys eto fabwysiadu y ffurf lion, oddigerth fod ap-
ostol ysbrydoledig, un fel Paul, yn meddu " gallu ein
Harglwydd lesu Grist," sef gallu goruwch-naturiol, yn
weinyddwr y ddysgyblaeth o'i mewn. Ni f edd y fath
ffurf un synwyr nac efi'aith, ond yn ngenau rhai gallu-
og i gyflawni gwyrthiau ; ar yr un pryd, dylid sylwi
fod pob dysgyblaeth a weinyddir gan swyddogion
awdurdodedig eglwys Dduw yn awr, pan yn cael ei
gweinyddu yn ysbryd, ac yn ol esiamplau yr eglwys
TEADDODI I SATAN. 191
apostolaidd, yn gosod y dysgybledig yn agored i gan-
lyniadau ysbrydol y dylai pob calon arswydo rhag-
ddynt. Y mae y cyfnewidiad a deimlodd miloedd wedi
eu trosglwyddiad i diriogaeth Satan, gan gyfeillion
Crist, wedi bod yn chwerwach nag angeu.
III. FOB Y DKYGEDD A ACHOSIB GAN SATAN I GYRPH AC
AMGYLCHIADATJ DYNION YN CAEL El FWEIADTT GAN DDTJW EE
EU HIACHAWDWKIAETH. Dyma yr amcan, " Fel y byddo
yr ysbryd yn gadwedig yn nydd Crist." Mor wahanol
ydyw amcan diarddeliad yr eglwys apostolaidd i es-
gymundod yr eglwys Babaidd ! T mae Paul yn rhoddi
Hymeneus ac Alexander i Satan oblegid iddynt wneyd
llongddrylliad o'r ffydd ; nid er iddynt gael eu had-
nabod gan yr holl fyd crefyddol fel dynion wedi eu
damnio, eithr "fel y dysgent na chablent." (1 Tim. i.
20.) Yr oedd llawer o aelodau yr eglwys yn Corinth
yn weiniaid ac yn llesg, a rhai yn clafychu cymaint nes
huno, a hyny oblegid eu camddefnydd o'r swper sanct-
aidd; ond dygid yr holl drallodion ceryddol hyn ar-
nynt, nid er difodi ei henwau o lyfr y bywyd, yn hyt-
rach rhag iddynt gael eu damnio gyddr bycl. (1 Cor.
xi. 32.) Yr oedd trugaredd yncysgodi y tuol i'r farn.
Traddodwyd y dyn ieuanc yn Corinth i Satan, nid er,
fel y dywed " olynwyr yr apostolion " am y rhai a es-
gymunir ganddynt hwy, " er eu gwerthu yn gaethion i
ddiaf ol i wneuthur ei ewyllys," ond "fel y byddo ei
ysbryd yr gadwedig yn nydd Crist." Yn achos y
Corinthiad, dylynwyd y traddodiad ag adf eriad. Ni
fu y cerydd yn of er ; tristaodd ei enaid dan bwysau y
wialen ; ymostyngodd ei galon mewn edif eirwch ;
gwelodd fawredd ei ddrwg, ac edifarhaodd ; aeth mor
192 AWDTJEDOD AR El PHEN,
drist, fel y gwelodd yr Apostol berygl iddo gael ei
lyncu i fyny gan ormod tristwch. Ehag i hyny ddy-
gwydd, y mae yn anf on at yr eglwys i gyhoeddi ei fod
ef yn maddeu i'r troseddwr; yn dymuno ar i'r holl
f rawdoliaeth f addeu iddo, ac mai eu dyledswydd ydoedd
prysuro i'w adfer i deyrnas Mab Duw. "Fel na'n
siomer gan Satan : canys nid ydym heb wybod ei ddi-
chellion ef." (2 Cor. ii. 1-11. Goruwch-reolwyd poen-
ydiau Satan er rhwystro y dyn i ddamnio ei hunan ; ac y
mae ei adferiad llwyr ef yn dangos y posiblrwydd o
adferiad pob person diarddeledig arall.
AWDUEDOD AE EI PHEN, HEEWYDD YE
ANGELION.
" Am hyny y dylai y wraig fod ganddi awdurdod ar ei phen, o
herwydd yr angelion. 1 COB. xi. 10.
" For this cause ought the woman to have a sign of authority
on her head, because of the angels. Cufieithiad Diunjgiedig.
Wedi darllen yr adnod hon, a dechreu myfyrio ami,
nid ydym yn rhyfeddu fod rhai, megys John Locke,
wedi ei chyhoeddi yn anesboniadwy. Nid ydyw yn
syndod, ychwaith, fod cynifer o oreugwyr y byd
beirniadol wedi eu tueddu i ysgrifenu arni, oblegid yn
maes ei anhawsderau cynygir cyfleustra parhaus i
gyflawnigorchest. A pheth dysgwyliadwy hefyd ydyw
fod ymadrodd mor dywyll wedi cynyrchu lluaws o
groes-olygiadau, yn mysg y rhai, modd bynag, y mae
cryn wahaniaeth mewn eglurder a rhesymoldeb.
O HERWYDD YE ANGELION. 193
Dickon fod yr
YMHOLIADATJ
canlynol yn cynwys y trychwiliad priodolaf i ddirgel-
ion y geiriau : Pa beth ydyw ystyr y gair a gyfieithir
yma yn " awdurdod" "? Pwy ydyw y "pen" y mae yr
awdurdod i gael ei harf er drosto 1 Pa beth yn arben-
ig a wnelai ddefnyddiad y gyfryw awdurdod ar y pen
yn ddyledus yn yr addoliadau cyhoeddus"? Pwy ydyw
yr " angelion " y tybir eu bod yn sylwedyddion ar ben"
wisgiad y gwragedd 1 Pa un ai bodau dynol, neu f od-
au nef ol ydyw yr angelion hyn ?
Mewn trefn i daflu goleu ar y cwestiynau hyn, nis
gall lai na bod yn anhebgorol i daflu golwg f er ar y
cyd-destynau, a cheisio deail perthynas syniad y testyn
a'r ymresymiad sydd ynddynt. Amcan y benod hon,
raegys y mwyafrif mawr o benodau y llythyr hwn, yw
galw sylw yr eglwys yn Corinth at yr arferion afreol-
aidd oedd yn mysg ei haelodau, a hyny er dwyn oddi-
amgylch ddiwygiad. Crybwyllir yn y benod hon.ddau
afreoleidd-dra. y naill yn dal perthynas a'r gwragedd,
y Hall yn dal perthynas a'r gwyr. Cyfeiliornad y gwyr
ydoedd defnyddio bwrdd yr Arglwydd yn gyfleustra i
lythineb, ac nid yn ddrych i weled ynddo Grisb croes-
hoeliedig. (Gwel o'r 20fed adn.hyd ddiwedd y benod.)
Cyfeiliornad y gwragedd ydoedd camddefnyddio eu
cydraddoldeb ysbrydol, a thrwy hyny aberthu gwedd-
eidd-dra eu rhyw, a dylanwad eu crefydd. (Gwel o'r
adn. laf hyd yr 20fed.) Yr ydoedd yr apostol wedi eu
dysgu yn flaenorol, a hyny yn y modd mwyaf hyf a
dealladwy, fod Cristionogaeth yn diddymu pob gwa-
194 A^WDUKDOD AB El PHEN,
haniaeth cenedlaethol, cymdeithasol, a rhywogaethol y
ac nad oedd " yn Nghrist nag luddew na Groegwr,.
caeth na rhydd, gwryw na bewyw." Tr oedd y fath
ddysgeidiaeth, nid yn unig yn hollol newydd ar y
ddaear, ond yn eithriadol dderbyniol gan wragedd ag
yr oedd syniadaeth a defion oesau wedi eu cau dan
orthrwm is-raddoliaeth. Dechreuodd y gwragedd,
pan ond megys newydd ymddadebru, ymresymu fel
hyn: Os ydym yn gydradd a dynion yn ein natur-
iaethau ysbrydol, yn ein rhagorfreintiau crefyddol, a&
yn neillduol yn ein cyfrif oldeb diweddol, yna rhaid ein.
bod yn gydradd a hwy hefyd yn ein aawliau dinesig,.
yn y cylchoedd tenluaidd, yn ogystal ag yn yr addol-
iadau cyhoeddus. Wrth ymresymu yn eithaf ol, daeth-
ant i gredu f od cydraddoldeb yn Nghrist yn gyfystyr a
chydraddoldeb yn y teuhi. Tn yr iachawdwriaeth,.
atebai Paul, y mae y wraig yn hollol ogyf uwch a'r gwr r
ond yn y gyf undrefn deuluaidd, y mae y wrgig yn par-
hau yn ymddibynol ac is-wasanaethgar ; ac nid ydyw
crefydd yn gofyn ganddi, yn hytrach yn gwahardd r
taflu yrnaith arwyddion cyffredin ei hymddibyniaeth.
Tr arwyddlun arferedig o wyleidd-dra ac ymostyngiad
gwragedd i lywodraeth eu gwyr, ydoedd gorchudd ar
eu penau. Tn gytunol a hyn y dywedir am Bebeccah r
pan ddyrchafodd ei llygaid ac y gwelodd Isaac, ei gwr
dyf odol, yn dyf od o gyfeiriad pydew Lahairoi, " a hi a,
gymerth orchudd, ac a ymwisgodd." Tn wir, y mae
gorchudd hyd y dydd hwn yn y Dwyrain. yn arwydd-
nod ymddarostyngiad priodasol ; ac hyd yn nod yn
mysg y Ehufeiniaid, yr oedd y briodasferch, ar ddydd
ei phriodas, yn dodi gorchudd ar ei phen, ac yn y
HEBWYDD YK ANGBLION. 195
weithred hono datganai ei bod yn aberthu ei hawliau
dinesig ar yr allor briodasol. Tn credu eu bod o hyny
allan yn gydradd a'r gwyr yn mhob golygiad, darfu i
rai o wragedd Corinth ymafael yn y dyledswyddau ag
oedd yn disgyn yn naturiol i ran y gwyr. Dechreuas-
ant bregethu yr efengyl, a thrwy hyny esgeuluso eu
dyledswyddau teuluaidd. Tn cael eu carlo yn mlaen
dan ddylanwad gorfoledd yr un rhydd-freiniad, tanas-
ant yrnaith y gorchudd oddiar eu penau f el nod diang-
enrhaid o is-raddoliaeth. Tn dylyn yr un linell o ym-
hongarwch, dechreuasant drachefn dori eu gwalltau
yn fyrion, a thrwy hyny daethant yn debyg i ferched
anllad y wlad. Awyddent am f od yn debyg i'w gwyr
mewn ymddangosiad a gwisg. Canlyniad naturiol hyn
oil ydoedd, fod y byd y tu allan yn cablu, a'r eglwys y
tu fewn yn ymranedig. Daeth eglwys lesu Grist i'w
hadnabod fel cymdeithas o bobl amddifad o syniad am
hunan-barch a gweddeidd-dra; ac i'r graddau yr oedd
cymeriad yr eglwys wedi ei beryglu, i'r graddau hyny
yr oedd perygl i grefydd Crist ddyoddef yn syniadau y
Corinthiaid. Tu y paragraph hwn, dug yr Apostol yn
mlaen dri o resymau paham y dylai y gwragedd bar-
hau i wisgo y gorchudd fel arwydd-nod o awdurdod y
gwyr drostynt.
(a.) Y mae cyfansoddiad yr- hanfod Ddwyfol yn
cynwys rhag-gynllun o uwchafiaeth ac is-raddoliaeth..
" Eithr mi a fynwn i chwi wybod, mai pen j>ob gwr y w
Crist ; a phen y wraig yw y gwr ; a phen Crist yw
Duw." (Adn. 3.) Gwelir felly
Mai Duw ydyw pen lesu Grist.
Mai lesu Grist ydyw pen pob gwr.
Mai y gwr ydyw pen y wraig.
196 AWDUEDOD AE El PHEN,
Y mae penogaeth Duw Dad yn cynwys is-raddoliaeth
lesu Grist. Y mae penogaeth lesu Grist yn cynwys
is-raddoliaeth pob gwr. Felly hefyd, am yr un rhes-
ymau, y mae penogaeth pob gwr yn cynwys is-raddol-
iaeth pob gwraig. Yn y drefn gyfryngol, holl amcan
lesu Grist ydyw gwasanaethu ei Dad; yn y deyrnas
ysbrydol, holl amcan credadyn ydyw gwasanaethu lesu
Grist ; ac yn y gy fun drefn deuluaidd, holl amcan y
wraig ydyw gwasanaethu ei gwr. Y fath ymresymiad
gorchestol ! Y fath welediad eangfawr o weithrediad-
au deddf awdurdod ac ymostyngiad drwy holl gylch-
oedd creadigaeth, i fyny at y Duwdod ! !
(b.) Y mae dullweddau creadigaeth y gwr a'r wraig,
ar y dechreu, yn rhagdybio gwahaniaeth yn eu safte-
oedd yn y cyfangorph dynol. (Gwel adnodau 7, 8, a
9.) Gellir dodi y ffeithiau mewn deuawdau cydredol,
f el hyn :
Allan o Dduw y cymerwyd dyn.
Allan o ddyn y cymerwyd y wraig.
Ar ddelw Duw y gwnaethpwyd dyn.
Ar ddelw dyn y gwnaethpwyd y wraig.
Y mae dyn yn adlewyrchiad o ogoniant Duw.
Y mae y wraig yn adlewyrchiad o ogoniant dyn.
Er mwyn Duw y crewyd dyn.
Er inwyn dyn y crewyd y wraig.
Y mae yn nghreadigaeth y rhywiau ar y dechreu,
ielly, awgrymau dwyfol am safleoedd cymharol gwr a
.gwraig.
(e.) IT mae angeliony nefoedd yn derbyn hyfryd-
O HERWYDD YB ANGELION. 197
wch wrth ganfod gwragedd Cristionogol yn syrthio i
drefn y cread, ac yn gweithredu yn ol deddf eu cread-
igaeth. " Am hyny y dylai y wraig f od ganddi awdur-
dod ar ei phen, o herwydd yr angelion" G-welir felly
mai ein syniad ydyw, fod Paul, yn yr adnod ddyrys
lion, yn cymell y gwragedd i wisgo y gorchudd am
ddau reswm, sef, oblegid ei fod yn arwyddnod o'r
perthynas is-raddol a dyn, ac hefyd oblegid fod ei
gadwraeth yn ychwanegu at drefn ac urddas yr addol-
iadau crefyddol, ac felly yn rhoddi boddlonrwydd i'r
angelion yn eu hynrweliadau a chynulliadau y saint.
I. DYLID GWISGO Y GOBCHTJDD OBLEGID EI FOD YB AEWYDD-
NOD O BEBTHYNAS IS-BADDOL Y WBAIG iV GWE. T mae ein
deongliad yn gwneyd ymaith, felly, a'r dyb
(a.} Mai ystyr y gair awdurdod t/dyw gorchudd
(veil}. Rhyw dair ffordd y mae esbonwyr wedi arfer
fabwysiadu i fyned dros anhawsderau pan yn methu
myned drwyddynt yn ol rheolau teg deongliadaeth.
Un ffordd ydyw cyfnewid y gwreiddiol o'r geiriau cyf-
ieitMeig. Ffordd arall ydyw haeru fod yn rhaid fod
rhyw ad-ysgrif enwr o'r copiau gwreiddiol wedi gwneyd
cyf newidiad anghyfreithlon ; a'r ffordd arall ydyw, pan
yn methu cael engraifft gyffelyb o'r hyn y dadleuir
drosto yn y lenyddiaeth Eoegaidd, dadleu fod yreithr-
iad y sylwir arno yn cynwys- tafodiaith dalaethol
(provincialism). Y mae y frawddeg hon wedi bod
dan ddwylaw y tri dosbarth hyn. Dywed y cyntaf
fod y gair a gyfieithir yma yn awdurdod, yn gyfystyr
a gair arall a gyfieithir yn orchudd. Dywed yr ail
ddosbarth ddarfod i ryw ad-ysgrifenwr, wrth deimlo
fod y gair gorchudd yn lie goleuo yr ymadrodd, yn ei
198 AWDUKDOD AE El PHEN,
dywyllu, osod y gair awdurdod yn ei le; a dywed y
trydydd dosbarth mai gair arferedig yn nhalaeth Cil-
icia am orchudd ydyw y gair a gyfieithir yma yn awd-
urdod, er y cydnabyddir mai awdurdod ydyw ei ystyr
yn mhob lie a chysylltiad arall. Y mae yr holl dybiau
hyn yn amddifad o brawfion, a dylent gael eu taflu yn
nghyd i lanastr-ystaf ell y byd deongliadol. Awdurdod
ydyw y gair yn y llawysgrif au mwyaf henaf ol ; awdur-
dod ydyw y gair a geir yn y copiau mwyaf cydnabydd-
edig, ac awdurdod ydyw ystyr arferedig a dealledig y
gair yn mhob man arall. Mae ein heglurhad yn mil-
wrio yn erbyn y dyb
(&.) Mai drwy wisyo gorohudd a gwallt llaes y mae
y wraig yn enill fwyaf o ddylanwad dros ei ffwr, fel ei
plien. Dadleua rhai, ac yn eu mysg y Parch. S.
Cox, Nottingham, Lloegr, fod deddf dyrchafiad yn
meddwl yr Apostol yma. Fod is-raddoliaeth y wraig
yn cael ei gydnabod, mai gweinidoges dyn ydyw, ond
fod yn ddichonadwy iddi enill cymaint o ddylanwad
arno, nes dyfod yn awdurdod anymwybyddol drosto ;
ac ymdrechir dangos rhesymoldeb y dyb hon gan y
ffaith mai y gwragedd goreu ydynt y rhai ag y mae eu
gwyr yn hollol dan eu dylanwad. Ac ymresymir yn
mhellach, fod gorchudd, ac yn enwedig gwallt llaes,
gan wraig erioed, ac yn parhau, i gael eu teimlo yn
ffynonellau nerth, a phrydferthwch anianyddol. Pe
mai ysgrifenu, fuasai yr Apostol, ar awdurdod y wraig
ar y gwr, yn y cyd-destyaau, buasai rhyw reswm yn y
fath amcaniaeth, ond gan y cydnebydd pawb mai y
pwnc ydyw awdurdod y gwr ar y wraig, nid oes genym
ond rhyfeddu fod neb wedi synied felly am ddysgeid-
O HERWYDD YK ANGELION. 199
iaeth y geiriau. Tmddengys i ni fod yr hen. gyfieith-
wyr wedi taro ar synwyr y frawddeg, a'u bod am i er-
.aill ei ganf od pan yn dodi y geiriau eglurliaol canlynol
.ar fin y ddalen, gyf erbyn a'r gair awdurdod : " nyny
ydyw, gorchudd, yn arwydd ei bod dan awdurdod ei
gwr." Ac y mae yr hyn a osodwyd ar ymyl y ddalen
gan yr hen gyfieithwyr, mewn ffordd ferach, fel y
gwelir uchod, i fewn yn y testyn gan y cyfieithwyr
diweddaraf. Tn ychwanegol at y cyfieithwyr, y mae
jtnwyafrif esbonwyr hen a diweddar, yn hawlio i'r
jfrawddeg yr ystyr a fabwysiadwn. Gellir nodi Ter-
.tullian, Chrysostom, Theodoret, a Theophylact, yn
mysg y tadau ; Calvin, Luther, a Beza, yn mysg y di-
wygwyr ; Bengel, Neander, Ewald, Cremer, Olshausen }
^DeWette, a Meyer, yn mysg y Germaniaid; a Dod-
dridge, Whitby, Macknight, Conybeare, Alford, Stan-
.ley, Lias, Farrar, Wordsworth, a Gloag yn mysg y
.Saeson.
II. DYLID GWISGO Y GOBCHTJDD OBLEGID Y MAE HYNY YN
GYMEEADWY GAN ANGELION Y NEFOEDD. Teimlwn f od mwy
o anhawsder i ddangos rhesymoldeb y gosodiad hwn
jna'r cyntaf, ond ymddengys yn dwyn mwy o debygol-
.rwydd i wirionedd nag un o'r esboniadau lluosog sydd
wedi eu cynyg mewn gwahanol gyfnodau. Y mae
awdurdodau uchel, modd bynag, yn gweled yn y
.frawddeg feddylddrychau eraill. Nodwn rai o honynt.
1. Mai wrth yr angelion yma dylid deall angelion
gwarcheidiol y saint. Dyma farn Theophylact, Je-
.rome, Theodoret, &c.
2. Mai wrth yr angelion y golygai Paul esgobion
ja,c henuriaid yr eglwysi. T mae dau wrthwynebiad
200 AWDT3RDOD AB . El PHEN,
tra phwysig i'r farn hon : (a.) Os caniateir fod loan
yn galw esgobion yr eglwysi yn angelion, ac y mae
hyny yn dra amheus, nid ydyw yr apostol Paul yn
gosod y fath enw arnynt gymaint ag unwaith yn ei
holl epistolau ; a chan nad ydyw yn gwneyd hyny o
gwbl yn un man arall, y mae yn hynod annhebyg, a
a dweyd y lleiaf, ei fod yn gwneyd hyny yn y fan hon,
(b.) Y mae y fath feddylddrych yn wrthun a diraddiol.
Awgryma y buasai gwragedd heb orchudd yn y gyn-
ulleidfa, naill ai yn tynu sylw, neu. yn wir, yr hyn sydd
lawer gwaeth, yn deffroi serchiadau cnawdol yn y rhai
difrifolaf, henaf, a sancteiddiaf yn yr eglwysi, sef eu
prophwydi ! !
3, Mai cyfeiriad sydd yma at y cenadon a anfonid
yn ysbi%oyr gan y paganiaid i gyfarfod yr eglwys yn
Corinth. Seiliau y dybiaeth hon ydyntaganlyn : (a.)
Fod y gair angel yn dynodi cenad. (b.) Fod yr un
gair yn cael ei ddefnyddio pan yr adroddir am yr ys-
biwyi- a anfonwyd gynt gan Josua i Jerico. ^Josua vi.
23.) (c.) Fod Tertullian, yn ei ysgrifeniadau, yn dar-
lunio y modd yr ymwelid a chyfarfodydd y saint gan
genadqn oddiwrth y paganiaid, er beirniadu eu gweith-
rediadau. Honir felly mai meddwl yr Apostol, mewn
arall-eiriad, ydyw a ganlyn : " Gwisged y gwragedd
bob aniser orchudd ar eu penau, oblegid bydd y gwyr-
iad lleiaf oddiwrth reolau gweddeidd-dra, yn cael ei
wneyd yn achlysur cabldraeth gan y rhai ydynt genad-
on cyngorau gelynol i'ch mysg." Adeiladwaith lied
gadarn ydyw hon, ac y mae yn cael ei chymeradwyo
gan ysgolheigion Beiblaidd o gryn bwys, megys Kosen-
muller, Shrader, Valpy, Dr. Gloag, &c.; ond y mae un
O HEBWYDD YB ANGELION. 201
ffaith yn ei dymchwel, a hono ydyw, fod y gair angel-
ion, yn aneithriadol, pan yn ei ffurf annibynol (abso-
lute), yn golygu angelion sanctaidd y nef oedd, ac nid
oes dim yn y cyd-destynau yn hawlio unrhyw ystyr
eithriadol.
4 Mai y syniad ydyw, ganfod yr angelion euhun-
ain yn cuddio eu hwynebau (Esaiah vi. 2) yn mhresenol-
deb Duw, er cydnabod ei uwchraddoliaeth ef, felly eu
bod yn teimlo yn foddhaus wrth weled y wraig yn
gwisgo gorchudd yn gydnabyddiaeth o uwchraddol-
iaeth dyn ami hithau. Y mae y farn hon yn adlew-
yrchiad o athrylith gywrain y dysgedig Bengel, ond
yn sicr y mae yn nodedig o bellaf ol ac anmherthynasol.
5. Mai cyfeiriad sydd yma at y dybiaeth luddewig
fod yn ddichonadwy i'r angelion gael eu temtio i dry-
thyllwoh gan ymddangosiad diorchudd gwragedd. Yr
oedd yn grediniaeth yn mysg yr luddewon, ac yn
mysg y tadau boreuol ar eu hoi hwy, mai y rheswm o
gwymp un ran o'r angelion ydoedd eu chwenychiad
am gyfathrach bechadurus a merched dynion. Syl-
f aenwyd y grediniaeth annaturiol hono ar Gen. vi. 2.
"Weled o feibion Duw ferched dynion mai teg oedd-
ynt hwy, a hwy a gytnerasant wragedd o'r rhai oil a
ddewisasant." Dadleuir yn mhellach mai " angelion
Duw " ydyw y cynead o " feibion Duw " yn yr argraff-
iad Alexandraidd o'r Deg-a-thri-ugain, ac fod defnydd
helaeth yn cael ei wneyd o'r dybiaeth yn llyfr Apoc-
ryphaidd Enoch, llyfr, gyda Haw, yr haerir fod apostol-
ion eraill yn ei gydnabod drwy ddyfynu o hono. Yn
ol Tertullian, Deon Stanley, Farrar, &c., y mae yr
Apostol yn y geiriau hyn yn cymell y gwragedd
13
202 AWDTJEDOD AE El PHEN, &0.
yn Nghorinth, rhag i drychineb gyffelyb ddygwydd eto,
i wisgo gorchudd ! Cyn y gallwn dderbyn y fath es-
boniad, rliaid i ni gredu y pethau canlynol : Y gall
gwraig roddi temtasiwn i angelion, neu y gall angelion
demtio gwraig; fod Apostol y Cenedloedd yn rhoddi
sel ei gydsyiiiad wrth un o chwedlau mwyaf anhygoel
y Rabbiniaid, ac fod yr hanesiaeth Feiblaidd am sane
gyntefig, ac achlysur cwymp yr angelion, yn gamar-
weiniol. Na, credwn fod hyn oil yn drais ar synwyr
cyffredin, ao yn gwbl annheilwng o dderbyniad. Yr
ydyin yn cael ein cadarnhau yn y grediniaeth mai cym-
^elliad ydyw y frawddeg i wisgiad y gorchudd, o her-
wydd y boddlonrwydd a dderbynia angelion sanctaidd
wrth weled caclynwyr eu Brenin yn ymddwyn yn
weddaidd ac urddasol, gan yr ystyriaethau canlynol :
(1.) T mae yr angelion yn cael eu cynrychioli fel yn
teimlo dyddordeb angerddol yn symudiadau y ddaear,
ac yn neillduol yn eu cynulliadau addolgar. Gwel
Salm cxxxviii. 1 ; Preg. v. 6 ; Luc xv. 10 ; 1 Tim. v. 21.
(2.) T mae yr angelion, o angenrheidrwydd, yn der-
byn hyfrydwch oddiwrth agweddiad teilwng cyd-add-
olwyr.
(3.) Y mae y ffaith fod angelion y nefoedd yn bres-
enol, ac yn wyliedyddion manwl, yn rheswm nodedig
o gryf dros arfer pob gochelgarwch yn nhy Dduw.
Pwy, tra yn ymwybodol fod llygaid un o weision yr
orsedd arno, nad ymddygai yn llednais, yn ostynged-
ig, ac yn weddaidd ?
Mor ddiolchgar y dylem fod am grefydd lesu Grist t
Ehodda hi ei sane berthynasol briodol i'r gwr ac i'r
BEDYDDIO DROS Y MEIEW. 203
wraig, a chyfarwydda y ddau pa fodd i sugno y swm
mwyaf o ddedwyddweh oddiwrth eu gilydd.
Mor ddiolchgar y dylem fod am gref ydd lesu Grist !
Y mae ei dysgeidiaeth hi yn ein dylyn ar hyd llwybrau
bywyd cyffredin, ac yn garedig dysga ni yn nghylch
bwydydd, diodydd a gwisgoedd.
Mor ddiolchgar y dylem fod am grefydd lesu Grist !
Y mae yn yrnostwng drwy ymresymiad tyner, ac nid
drwy orchymyn bygythiol. Gelwir sylw y byd at bwys-
igrwydd hyd yn nod ymddangosiadau. Yn ei goleu
hi y gwelwn fod hyd yn nod penwisgiad yn carlo dy-
lanwad ar y greadigaeth angelaidd !
BEDYDDIO DEOS Y MEIEW.
"Os amgen, beth a wna y rhai a fedyddir dros y meirw, os y
meirw ni ehyfodir ddim ? paham, ynte, y bedyddir hwy dros y
meirw ? 1 COE. xv. 29.
Hyderwn y cenf ydd y darllenydd, yn ein hysgrif , at-
ebion uniongyrchol, neu anuniongyrchol, i'r
YMHOLIADAU
canlynol : Pa un ai ystyr lythyrenol, neu ynte ystyr all-
egol, ddylid roddi i eiriau yr adnod ? Yn mha fodd y
gwasanaetha y cyfeiriad at f edydd yn gadarnhad i'r
prawf o adgyfodiad 1 ? Pwy ydynt y meirw y dywedir
lod eraill yn cael eu bedyddio drostynt ?
Dau hanfod mawr deall yr adnod hon ydyw deall
jstyr y geiriau a geir ynddi, a deall ei pherthynas a'r
204 BEDYDDIO DKOS Y MEIKW.
cyd-destynau. Y mae yn rhaid i unrhyw eglurhad a
gynygir ami, gyfagweddu a'r eiriadaetli a ddefnyddir,
ac ar yr un pryd, dwyn gydag ef yr argyhoeddiad ei
fod yn berffaith gyson ag ymresymiad yr Apostol, yr
ymresymiad a brofa wirioneddolrwydd yr adgyfodiad.
Y mae lluaws mawr o esboniadau gwahanol wedi eu
cynyg ar yr adnod, ond y mae y mwyafrif mawr yn
gwrthdaro naill ai yn erbyn ystyr y geiriau a geir yn-
ddi, neu ynte yn estronol i linell yr ymresymiad. Fel
engreifftiau o ddiffyg sylw bwriadol, neu anfwriadol, i
ystyr y geiriau, a'r diffyg hwnw yn arwain i gamdde-
ongliad, y Jjmae y rhai canlynol yn dra theilwng o
sylw :
Y mae dynion drwy roddi i'r gair dros sydd yn dy-
gwydd ddwywaith yn y testyn, ystyr leol ac eithriad-
ol, yn priodoli i'r Apostol gyf eiriad at ddulliau o f ed-
yddio, naill ai nas gwyddai am danynt, neu ynte pe yn
gwybod, na fuasai yn eu hanrhydeddu drwy wneyd
crybwylliad o lionynt. Yn rhoddi synwyr lleol i'r gair
dros, sef gosod un peth uwchlaw, neu i orchuddio y
Hall, y mae duwinyddion fel Luther, Ewald. &c., yn
haeru naai cyfeiiio y mae yr Apostol yma at yr arferiad
o f edyddio dychweledigion at grefydd uwchben bedd-
au y rhai a ferthyrwyd dros y gwirionedd. Y mae yn
ddiau mai cysylltu a'r gair y meddylddrych cyfyng a
dyeithr yna barodd ddechreuad taenellu cyrph y rhai
byw ar gyrph y rhai meirw. Yn anaml, mae yn wir, y
gwneir hyny yn yr oes hon. Ymddengys fod gwar-
eiddiad a [synwyr da yn gwthio yr arferiad oddiar y
ffordd i feddrod ofergoeliaeth y cynoesau, ond tra y
bu mewn bri, nid oedd ganddo i'w gynal ond syniad
BEDYDDIO DEOS Y MEEBW. 205
cyfeiliornus am ystyr y gair dros. Y mae hwn yn air
sydd yn dygwydd yn dra mynycli yn y Testament
Newydd, a phob amser golyga, idfcdros yn yr ystyr o
un gwrthddrych yn uwch na gwrthddrycli arall, yn
hytrach, " er mwyn," "ar ran," neu rywbeth cyffelyb.
Nodwn rai engreifftiau : "Ac er eu mwyn hwy yr wyf
yn fy sancteiddio fy hun, f el y byddont hwythau wedi
eu sancteiddio yn y gwirionedd." (loan xvii. 19.)
" Trwy yr hwn y derbyniasom ras ac apostoliaeth, i
ufudd-dod ffydd yn mlilitli yr holl genedloedd, er
mwyn ei enw ef." (Bhuf. i. 5.) "Canys i chwi y.
rhoddwyd, bod i chwi er Crist, nid yn unig gredu yn-
ddo ef, ond hefyd ddyoddef erddo ef." (Phil. i. 29.)
" Tr hyn sydd argoel goleu o gyfiawn f arn Duw f el
y'ch cyfrifer yn deilwng i deyrnas Dduw, er mwyn yr
hwn yr ydych hefyd yn goddef." (2 Thess. i. 5.) " Yr
ydym yn erfyn dros Grist, Cymoder chwi a Duw."
(2 Cor. v. 20.) " Yr hwn yr oeddwn i yn ewyllysio ei ddal
gyda mi, fel drosot ti y gwasanaethai efe fi yn rhwym-
au yr efengyl." (Philemon 13.) Afreidiol ychwan-
egu rhagor o engreifftiau, yn enwedig pan yr ydym
yn gallu gwneyd y gosodiad fod y gair yn ddieithriad
yn golygu gweithred yn cael ei chyflawni er mwyn
person arall, ac yn terfynu yn hwnw. Y mae hyn ar
unwaithyn gwneyd ymaith a synwyr lleol y gair, ac
hefyd yn rhyddhau Apostol y Cenedloedd oddiwrth yr
amheuaeth anffafriol iddo ei fod yn nawddogi, drwy
grybwylliad, ddefod ofergoelus a disynwyr. Bhagor
na hyny, y mae yn dra sicr nad ydoedd yr arf eriad o
daenellu y byw dros. fedd y marw wedi dechreu mor
foreu ag oes yr apostol Paul. Mewn cyfeiriad at y
206
BEDYDDIO BROS Y MEIRW.
traddodiad hwn, dywed Dr. Eadie yn ei " Bible Cyclo-
pedia," " Ond arferiad diweddarach na'r oes apostol-
aidd oedd hwn, anadnabyddus yn y ganrif gyntaf." Ac
y mae esgob dysgedig New Jersey, a gogledd New
Jersey, Dr. Odenheimar, yn ei gyfrol pregethau, yn
tystiolaethu yn gyffelyb, "Fod y fath arferiad, medd-
ai, ar ol dyddiau yr apostolion, a bedyddio person byw
dros gorph marw, a ganiateir yn rhwydd, oblegid y
mae hanesiaeth yn ei brofi, ond f od unrhyw arferiad
o'r fath yn bodoli yn nyddiau yr apostolion, sydd heb
ei brofi, ac nis gellir byth ychwaith. Gellir yn hawdd
cyfrif am yr arferiad mewn dyddiau diweddar, oblegid
gall geiriau. yr Apostol yn y testyn f od wedi eu gwyr-
droi fel awdurdod dros 'y fath arferiad." Gallwn ddy-
fynu llu ag ydynt yr un farn a'r ddau wyr hyn. Ach-
lysurodd camddeongliad ychwanegol o'r gair dr<>s fod-
olaeth cyfeiliornad arall a fu yn blino eglwys Dduw,
ac ar 1 lawer golygiad y mae yn gyffelyb, ond er hyny
yn wahanol, i'r un a enwyd eisoes, a gelwir ef bedydd
diTprwyoL Y mae yn fwy na thebyg fod hereticiad,
megys y Marconiaid, ac eraill, yn bur foreu, yn arfer y
gyfryw ddefod, ond ni bu erioed mewn arferiad yn
mysg dysgyblion uniawngred lesu Grist. Trefn ei
weinyddiad ydoedd fel y canlyn : Pan fuasai dyn cred-
iniol, ond anfedyddiedig, farw, gweinyddid y peth a
elwid yn f edydd ar un arall crediniol, yn ei le, a tl^rwy
hyny meddylid y buasai y marw yn osgoi y gosb ddy-
ledus am anufudd-dod, yn yr adgyfodiad. Ac yr oedd
' dull y gweinyddiad yn ddigrifol. Gosodid y marw ar
y gwely, a gorweddai y byw o dan y gwely. Gofynid
i'r mar iv a ewyllysiai efe gael ei fedyddio; a chan,
BEDYDDIO DEOS Y MEIKW. 207
wrth gwrs, nad allai ateb, atebid drosto yn gadarnhaol
gan j byw, o dan y gwely, ac fel canlyniad, bedyddid
ef yn lie y marw. Y mae ysgolheigion fel Winer,
Billroth, Meyer, DeWette, Conybeare, a Stanley, yn
tybio mai cyfeirio y mae Paid at yr ofergoeliaeth dru-
enus yna, er fod rhai o honynt, mae yn wir, yn gofalu
dweyd nad ydyw y crybwylliad yn golygu cymeradwy-
aeth apostolaidd, yn unig ei gydnabod fel cyfeiliornad
adnabyddus. Fob parch i'r fath ysgolheigion, ond
nis gallwn gredu fod Paul yn defnyddio y fath gyfeil-
iornad of'nadwy yn rhesymeg dros adgyf odiad y meirw.
Ac heblaw hyny, y mae y fath ffiloreg mor groes i holl
ysbryd crefydd Crist, fel nas gallwn gredu y buasai yr
Apostol yn ei chyfodi i sylw, neu ynte, os y buasai yn
gwneyd, nas gallasai fyned yn mlaen heb aros i ar-
llwys geiriau condemniol arno. Na, y niae yn hawdd-
ach gan synwyr cyffredin diduedd gredu geiriau pwys-
leisiol y Parch. Frederick Robertson, pan ddywed, " T
mae annhebygolrwydd annherfynol y baasai Paul yn
cynal i fyny of ergoeledd mor ddirmygedig, hyd yn
nod drwy gyfeirio ato. Nis gallasai efe gymaint a
chyfeirio ato ond gyda digllonedd."
Khag ymhelaethiad, gwasanaethed yr uchod fel ar-
ddangosiad o gyfeiliornadau eraill sydd wedi ymgodi
o egluriadau anmhriodol o eiryddiaeth yr adnod; a
gall y meddylgar, fel y byddo galw am hyny, gym-
wyso cywiriad cyffelyb at y rhai hyny.
T mae eraill, drachefn, wrth geisio egluro meddwl
dau ofyniad y testyn, tra yn rhoddi i'r geiriau ystyron
priodol, eto yn myned ar gyfeiliorn drwy roddi i'r holl
adnod ystyr yr hwn nis gall wasanaethu y pwnc mawr
208 BEDYDDIO DEOS Y MEIEW.
oedd gan Paul, sef profi adgyfodiad j ineirw. Y mae
eu deongliad yn hollol estronol i rediad yr ymresym-
iad. Bhoddwn, drachefn, esiamplau yn unig o'r es-
boniadau liyn. T cyntaf,
Fod Paul yn cyfeirio at y paganiaid hyny a ddeuent
yn mlaen yn ymgeiswyr am f edydd, oblegid f od y gref-
ydd Gristionogol yn dysgu ad-uniad wedi y gwasgar-
iad yn angeu.
Bhagoriaeth fawr crefydd lesu Grist ydoedd, ac
ydy w, f od ei llewyrch yn ymdaflu i'r dyf odol ; a diffyg
mawr y crefyddau paganaidd ydoedd, ac ydyw, fod eu
canwyllau yn diffodd yn nghorwyntoedd y glyn. Y
dybiaeth, o ganlyniad, ydyw, fod y paganiaid wedi
hoffi athrawiaeth yr ail-gyfarfyddiad, yn dyfod yn
mlaen, gan ddymuno cael eu bedyddio i'r ffydd new-
ydd. Pe mai amcan yr Apostol yn y benod orchestol
fuasai profi y bydd dynion yn ail-gyfarf od, yn adnabod
ac yn mwynhau eu gilydd yn yr ail-gyfarfyddiad, buas-
ai rhyw gysgod o sail i'r f ath haeriad ; ond gan mai
profi mae yr Apostol, nid y bydd ail-gyfarfyddiad,
ond y bydd adgyfodiad, yr ydym yn gweled yr es-
bonwyr a Phaul yn ymwahanu oddiwrth eu gilydd.
Yr ail dybiaeth,
Fod Paul yn cyfeirio at y bobl hyny a ohirient dder-
byn bedydd hyd awr angeu. Mai ystyr y gofyniadau
apostolaidd ydyw : "Pa fantais a ga y rhai a fedyddir
yn ymyl angeu, os na fydd i'r meirw gyfodi ?"
Diau ddarfod i lawer heblaw Cystenyn, naill ai o
herwydd y grediniaeth yn ngallu ail-enedigol bedydd,
neu ynte, dan ddylanwad yr ofn o fethu ymddwyn yn
BEDYDDIO DBOS Y MEIEW. 209
deilwng o hono, a'i ymrwymiadau, ohirio eu bedyddiad
Jiyd yr awr olaf.
Yn cyf eiliorni am natur bedydd, y mae rhai yn ei wein-
yddu wrthborth angeu, tra eraill yn brysio i'w weinyddu
wrtli borth y geni ; ac y mae yr eglwys Babaidd yn myn-
ed yn mhellach dywed f od hawl gan ei hoffeiriaid hi
i drosglwyddo i feddyg yr awdurdod i daenellu y
plentyn yn y groth, os bydd perygl am ei einioes, cyn
ei eni ! ! Y mae un frawddeg yn ddigonol f el atebiad
i'r rhai a goleddant y cyfeiliornad rhag-soniedig, sef
mai nid cyf eirio y mae yr Apostol at y rhai sydd ar Jin
marw, ond at y dyrfa sydd wedi myned trwy byrth
marwolaeth, ac at weithed a gyflawnir f el arwyddocad
o'u hadgyfodiad yn y dydd a ddaw.
Ymddengys i ni f od y ddwy osodaeth ganlynol yn
gorwedd yn mynwes yr adnod, ac yn ddyhysbyddol o
noni:
I. FOB PEBTHY1W.S GEEDINIOL EHWNG Y RHAI BEDYDDIED-
IG AG ADGYFODIAD Y MEiRw. Y berthynas hon oedd yn
meddwl yr Apostol pan y gofynai, " Os amgen, belli a
wna y rhai a fedyddir dros y meirw ?" Yr oedd y
rhai bedyddiedig, yn yr oes apostolaidd, yn gwneyd
tri pheth.
(1.) Tn arddangos eu ffydd yn Nghnst, a chredin-
iaeth yn ei holl addewidion. Nid yn unig credent yn
mherson Crist, ond hefyd derbynient ei holl addewid-
ion i'w ganlynwyr fel gwirionedd. Un o addewidion
melusaf y Gwaredwr i'r rhai a ddeuent yn ddysgyblion
iddo, ydyw, adgyfodiad yn y dydd diweddaf. (loan
Ti. 54)
(2.) Yn arddangos eu crediniaeth yn marwolaeth,
210 BEDYDDIO DBOS Y MEIEW.
claddedigaeth, ac adgyfodiad lesu Grist. Er nad oes
neb yn amheu hyn, eto gwneir ef yn weladwy yn y syl-
wadau sydd yn dylyn.
(3.) Yn arddangcs eu crediniaeth yn yr adgyfodiad
cyffredinol. Bedyddid hwy i'r ffydd hono, ac ni chan-
iateid bedydd i neb yn yr oes apostolaidd ond a fuasai
yn alluog i ddatgan yn ffurfiol ei grediniaeth mewn
adgyfodiad. Credu yn athrawiaeth fawr yr adfywhad
ydoedd nod gwahaniaethol y Cristionogion cyntefig ;
a hyn hefyd sydd yn cyfrif am yr erledigaetb.au mwy-
af dychrynllyd y bu yn rhaid iddynt eu gwynebu. Yr
ail osodaeth,
II. FOD PEBTHYNAS ABWYDDLUNIOL BHWNG BEDYDD Y
TESTAMENT NEWYDD AG ADGYFODIAD Y MEIEW. T berthyn-
as arwyddluniol hon oedd yn meddwl yr Apostol pan
,ysgrif enodd yr ail ofyniad, " A phaham y bedyddir hiuy
dros y tneirw f " Y mae tansuddiad credadyn mewn
dwfr yn cyfleu tri dry chf eddwl : marwolaeth, cladded-
igaetli, ac adgyfodiad gyda Christ ; ae y mae marwol-
aeth, claddedigaeth, ac adgyfodiad gyda Christ yn
rhag-ddangos marwolaeth, claddedigaeth, ac adgyfod-
iad ei bobl yn y dydd a ddaw.
(1.) Y mae bedydd yn arwyddocaol o farwolaeth. Yr
oedd pob bedyddiedig, yn yr oes apostolaidd, yn pro-
ffesu ei fod yn marw i bechod. Megys ag y bu Crist
farw unwaith dros bechod r felly yr oeddynt hwythau
yn y bedydd, yn marw gydag ef i bechod, fel na bua.s-
ai iddynt fyw ynddo mwyach, eithr yn hytrach byw i
Grist, yr hwn a fu farw drostynt, ac a gyfododd i'w
cyfiawnhau. Ac nis gallasai y Pen mawr sefydlu or-
dinhad yn mha un y mae y naturiol yn arwyddocad
BEDYDDIO KROS Y MEIEW. 211
mwy clir o'r ysbrydol nag a geir yn y bedydd ysgryth-
yrol. Megys y sylwa Dr. Cathcart yn y " Baptist En-
cyclopedia," f od yna eiliad neu ddwy yn hanes pob bed-
yddiedig, y foment y mae yn gladdedig yn y dwfr, nas-
gall anadlu ynddi. Bygir ei anadl ymaith, ac y mae
yn gyffelyb i'r llwyr farw nad oes anadl yn ei ffroenau.
Y mae yr hyn a gymer le am eiliad yn gorphorol, yn
cymeryd lie yn ysbrydol yn barhaus. T mae y dyn yn
farw i bechod. " Ac os buom feirw gyda Christ, yr
ydym ni yn credu y byddwn byw hef yd gydag ef ," &c.
Bhuf. vi. 8.)
(2.) Ymae bedydd yn arwyddocaol o gladdedig aeth.
Y peth a wneir ar ddiwrnod claddu y corph ydyw ei
gludo i'r fynwent, ei osod yn y ddaear, a'i orchuddio
a phridd allan o'r golwg. T peth a wneir ar ddiwrnod
bedyddio ydyw, myned a chredadyn wedi marw i'r
fedd-jdd a ; gosodir ef i lawr yn y dwfr, f el y bydd yn.
hollol orchuddiedig a'r elfen ddyfrllyd. "Claddwyd ni
gan hyny gydag ef trwy fedydd i farwolaeth," &c.
(Ehuf . vi. 4.) " Wedi eich cyd-gladdu ag ef yn y bed-
ydd, yn yr hwn hefyd y'ch cyd-gyfodwyd trwy ffydd.
gweithrediad Duw," &c. (Col. ii. 12.) Oblegid hyn y
canodd Eben Fardd :
" O! gyd-gladdiad gogoneddus,
Adyn edif eiriol, trist,
Yn arddangos yn ei fedydd
Ei gyd-gliddiad gyda Christ,
Ai gyfodiad,
Codiad er adferiad fydd."
(3.) Ymae bedydd yn arwyddocaol o adgyfodiad^
Y mae ymddadsuddiad y bedyddiedig o'r dwfr yn.
212 BEDYDDIO DKOS Y MEIRW.
rhag-gysgod tarawiadol, nid yn unig o adgyfodiad i
newydd-deb buchedd, ond hefyd o adgyfodiad corph o
f edd. Mewn gwirionedd, yn mhob bedydd ysgrythyr-
ol, ceir yr adgyfodiad mawr yn cael ei ddangos ar
raddeg feclian. "Canys os gwnaed ni yn gyd-blan-
higion i'w f arwolaeth ef , felly y byddwn i gyffelybiaeth
ei adgyfodiad ef * * * Felly chwithau hefyd, cyf-
rifwch eich hunain yn feirw i bechod, eithr yn fyw i
Dduw, yn Nghrist lesu ein Harglwydd." (Ehuf. v.
5-11.)
Yn awr, gan mai at bobl a wyddent f od bedydd yn
hawlio crediniaeth mewn adgyfodiad, ac fod bedydd
yn rhag-gynllun o'r adgyfodiad, yr ysgrifenai Paul,
pa beth ydyw y canlyniad ? Onid hyn, fod yn rhaid
iddynt hwy, os am fod yn gyson a kwy eu hunain,
wneyd un o ddau beth; naill ai rhoddi y goreu am
byth i'r gwaith o fedyddio, neu ynte gredu athraw-
iaeth yr adgyfodiad. Os arfer yr ordinhad sydd yn
gynddelwad mor eglur o adgyfodiad y meirw, yn sicr
yr oedd yn wrthuni haeru drachefn nad oes adgyfod-
iad. O'r tu arall, os nad ydyw bywhad tyrfa marwol-
aeth yn fFaith, y goeg-chwareuaeth fwyaf ynfyd ac an-
sylweddol y cymerodd dynion ran ynddi erioed ydyw
claddu personau mewn dwfr.
Ac yr ydym yn hawlio mai y deongliad hwn ydyw
yr unig un sydd yn cydnabod, ac yn cydymffurfio ag
.arddull ymresymiadol Paul yn y benod. Cyf erfydd a'r
:rhai oeddynt yn dweyd nad oes adgyfodiad, drwy
brofi fod yr hyn oeddynt yn anghredu yn dinystrio
pob erthygl arall o bwys yn eu Cyffes Ffydd. Pwy
oeddynt y gwrthddywedwyr hyn y mae yn anhawdd
BEDYDDIO DBOS Y MEIRW. 213
gwybod. Ac y mae yn anhawdd gwybod, hefyd, pwy
oedd wedi siglo eu ffydd; pa un ai yr Epicuriaid, y
Saduceaid, y Gnosticiaid, neu ynte a oedd cyfeiliornad
Hymeneus a Philetus (2 Tim. ii. 18) wedi cyrhaedd
Corinth. Beth bynag, dywed yr Apostol wrthynt
1. Os nad oes adgyfodiad, fod Crist Daw yn ei
fedd. (Adn. 13eg.)
2. Os nad oes adgyfodiad, fod gweinidogaeth y deu-
ddeg apostol yn au-dystiolaeth. (Adn. 14.)
3. Os nad oes adgyfodiad, yna nid oes maddeuant
pechodau wedi ei fwynhau gan neb. (Adn. 17.)
4. Os nad oes adgyfodiad, yna y mae y rhai a fuont
feirw yn Nghrist yn golledig. (Adn. 18.)
5. Os nad oes adgyfodiad, yna y mae y rhai a aberth-
asant bob peth yn y grediniaeth o sefyllfa ddyfodol, y
dynion mwyaf truenus a thwylledig ar wyneb y ddae-
ar. (Adn. 19.)
6. Os nad oes adgyfodiad yrneirw, ymae gweinyddu
a derbyn yr ordinhad o fedydd y lledrith mwyaf gwag
a disynwyr y clywyd erioed am dano. Edrycher ar
gyfres y trychinebau ! T mae y Gwaredwr yn y bedd
pi pydru, ac nid ar y ddeheulaw yn eiriol. Y mae y
prophwydoliaethau am ei ogoneddiad, nid wedi eu
boddloni mewn cyflawniad, ond fel haulebau anym-
wybyddedig yn nwylaw cythreuliaid ; yn profi fod
Duw yn fethdalwr, a Christ, ei Fab, yn arch-dwyllwr.
Y mae y deuddeg apostol yn teilyngu merthyrdod mil
mwy poenus, pe yn ddichonadwy, nag a fesurwyd
iddynt, am daenu y fath chwedl gelwyddog yn mysg
y cenedloedd. Gwaeth eto ; y mae yna ryw dyrfa an-
eirif, a dderbyniwyd i balasau y nef, i rwysgfawredd
.214 BEDYDDIO DBOS Y MEIEW.
broydd Caersalem, ac i gymdeithas angelion a seraph-
iaid; y mae yn rhaid eu taflu allan o'r etifeddiaetli,
.gwerthu eu telynau, a thref nu i ryw geisbwl yn y llyw-
odraetli fawr wneyd arwerthiant ar eu gorseddau. Ac
heblaw hyny, gan nad oes adgyfodiad, y mae pawb
trwy yr lioll f yd yn gallach ac yn well allan na'r Bed-
yddwyr. T mae yn drueni eu gweled yn adeiladu
bedydd-f anau, yn myned i fynwes y tonau rhewedig yn
nyfnder gauaf oer, ac yn marw wrth y miloedd ar y
stanciau, yn y carcharau, a thrwy y cleddyfau, yn hyt-
rach na gwadu yr hyn a alwant hwy " y ffydd."
Ond, OND, y mae adgyfodiad. "Eithr yn awr Crist
a gyfodwyd oddiwrth y meirw, ac a wnaed yn flaen-
ffrwyth y rhai a hunasant." (Adn. 20.) A chan ei fod
ef wedi codi, ac wedi codi fel blaen-ffrwyth cynauaf
mawr maesydd marwolaeth, y mae colofnau yr adeilad-
waith Cristionogol yn dragywyddol ddiogel; y mae
cymeriad y deuddeg apostol fel yr haul ar ganolddydd ;
y mae canlynwyr Crist yn y nefoedd ac ar y ddaear y
bob ddoethaf a dedwyddaf o bawb ; ac y mae yr ordin-
had o f edydd fel y sefydlwyd hi gan Grist, ac y gwein-
yddwyd hi gan yr apostolion, ar unwaith yn dyfod yn
sefydliad gorlawn o brophwydoliaethau am ddyfodol
^ogoneddus plant Duw.
BEDTDDIO DROS Y MEIRW. 215
BEDYDDIO DKOS Y MEIRW.
"Beth a wna y rhai a fedyddir dros y meirw, os y meirw ni
chyf odir ?"- 1 COB. xv. 29.
GAN Y PARCH. T. C. EDWARDS (CYNONFARDD).
Dywed yr hen esboniwr, Dr. Adam Clarke, mai hon
ydyw yr adnod fwyaf dyrys yn yr holl Feibl. Yr hyn
a wna hon yn adnod ddyrys yw y ffaith f od yma gyf-
eiriad at arferiad na allai teithi yr oruchwyliaeth Grist-
ionogol ganiatau i fod yn rhan o honi, sef " bedyddio
dros y meirw," ac hefyd o herwydd nad oes sicrwydd
.lanesyddol wedi ein cyrhaedd fod y fath arferiad
mewn bodolaeth. Prawfion amgylchiadol yn unig
llir ddwyn i ategu y dybiaeth o fodolaeth arferiad
nad oes genym awdurdod yr hen haneswyr ar ei chyf-
lawniad. Dywedai y diweddar Dr. Hodge fel hyn:
*'The darkness which rests upon this passage can
never be cleared away, because the reference is to a
custom of which no account is extant."
Mynai rhai hen esbonwyr dysgedig gredu fod yr ar-
ddodiad " dros " yn golygu uwchben, ac mai y meddwl
yw bedyddio y byw ar fedd y marw; h. y., uwchben
(dros) y marw. Ond nid hyny yw ystyr y gwreiddiol
yn y fan hon, eithr yn hytrach golyga er mwyn, er
mantais, for. Oferedd olrhain yr amrywiol dybiau.
Ymddengys yr adnod i mi yn ddigon hawdd idd ei
deall os caniateir, fel y tybia Dr. Hodge, fod yr Apos-
tol yn cyfeirio at arferiad oedd yn mhlith y Corinth-
iaid paganaidd o gysylltu cyf eiriad afc y marw a gwein-
216 BEDYDDIO DBOS Y MEIKW.
yddiad bedydd i'r byw. Nid yw dull na deiliaid yr
or diii had yn perthyn o gwbl i yniresymiad yr Apostol
yn yr adnod lion. Ymresyma ef bwnc mawr yr adgyf-
odiad. a geilw sylw y Corinthiaid liyny a wadent yr
athrawiaeth, at eu hanghysondeb hwy eu hunain yn
bedyddio dros y meirw, ac eto yn honi na ddelai y
meirw byth yn fyw mwyach. Os na fydd adgyfodiad,.
ni fydd unrhyw berthynas mwy rhwng y rhai sydd
yn fyw yn awr, a'r rhai sydd wedi meirw, felly oferedd.
hollol ydyw cyflawni unrhyw ordinhad gyda golwg ar
iddi fod yn fantais i'r meirw. Diau fod y paganiaid.
yn credu y gallai y byw gynorthwyo y marw trwy
ddyoddef drosto, neu trwy ymostwng i drefniadau.
defodol a esgeuliasodd, neu a ddiystyrodd y marw, tra.
yr oedd yn fyw. Mae olion credoau felly yn aros hyd
heddyw.
Barna rhai fod haint echryslawn wedi bod yn Cor-
inth., a lluaws o'r trigolion wedi meirw yn sydyn ac yn
anfedyddiedig, a bod eu cyfeillion a'u perthynasau yn
cymeryd eu bedyddio yn eu lie, neu drostynt, fel y
gallent hwythau gael rhan o freintiau y bedyddiedig.
Grwyddai yr Apostol am hyny, a chymerai fantais i
ymresymu a hwynt ar eu tir eu hunain. "Pa fodd y
dywed rhai yn eich plith chwi nad oes adgyfodiad y
meirw?" a'r personau hyny eu hunain yn ymostwng i
gymeryd eu bedyddio er mwyn y meirw ? Tn awr, os
y meirw ni chyfodir, paham y bedyddir hwy dros y
meirw? Nis gallasai y twyll-ymhonwyr hyn ddal yn
wyneb y fath ymresymiad llym ad hominem. Ar ol
cyrhaedd yn effeithiol at y gelynion, dylyna Paul yr
ymresymiad, gan droi at y credinwyr yn yr un oslef,.
Y SWMBWL YN Y CNAWD. 217
" A phaham yr ydym ninau mewn perygl bob awr ?"
Mae yr ysgrifenydd ysbrydoledig yn ymwybodol fod
gwirionedd tragywyddol yr adgyf odiad, a eglurwyd ac
a seliwyd trwy adgyfodiad ein Hiachawdwr, yn taflu
ei gysgod ar bob enaid byw, crediniol ac anghrediniol,
ac nas gellir osgoi ei ddylanwad ; ac felly, fod pagan-
laid, heb y datguddiad Beiblaidd, yn ymwybodol o'r
angenrheidrwydd am i'r meirwgael eu codi i fywyd.
Y SWMBWL YN Y CNAWD.
"Ac fel na'm tra-dyrchafer gan odidowgrwydd y datguddied.
igaethau, rh.odd"wyd i mi swmbwl yn y cnawd, cenad Satan, i'm
ceruodio, fel na'm tra-dyrchefid." 2 COB. sii. 7.
Y mae tri dosbarth o esbonwyr yn dynesu at y geir-
iau hyn dan ddylanwad tair argraff wahanol. Medd-
ienir y cyntaf gan y syniad fod pob llafur i'w deall yn
waeth na bod yn of er, a hyny am y rheswm nad ydyw
eu deall, neu beidio eu deall, o unrhyw bwysigrwydd
ymarf erol i neb, yn awr nac am byth. Nid ydym yn
cytuno a'r syniad hwn am amryw resymau, ac yn bwys-
icaf yn eu mysg y mae a ganlyn : Y mae yr Ysbryd
Glan wedi gweled yn dda eu gosod yn y Testament;
y mae dynion drygionus wedi eu camddefnyddio
(megys y gwelir yn ol Haw) er creu amheuaeth am bur-
deb cymeriad yr apostol Paul; ac heblaw b-yny, nis
gellir dyfod o hyd i'r addysg barhaol sydd ynddynt
oddieithr fod natur y brofedigaeth yn ddealladwy.
14
218 Y SWMBWL YN Y CNAWD.
Meddienir yr ail ddosbarth gan y syniad fod y geir-
iau yn drwyadl yn anesboniadwy. Felly y cylioeddir
hwy gan rai o brif feirniaid y blynyddau diweddaraf,
megys Olshausen, Eiickert, Bilroth, DeWette, Meyer,
Wordsworth, Gloag, &c. T mae genym lawer o gyd-
ymdeimlad ag egwyddor y farn hon, sef fod yr Ar-
glwydd, yn ei ddoethineb a'i ddaioni, wedi cuddio ffurf
neillduol profedigaeth Paul, modd y gallasai ei holl
saint, gan nad beth f uasai ffurf eu prof edigaethau hwy-
thau, dderbyn cysur oddiwrth yr addewid fu yn gyn-
aliol iddo ef , sef, " Digon i ti fy ngras i, canys f y nerth
i a berffeitMr mewn gwendid.'" (Adn. 9.) Ond yr hyn
sydd yn syndod ydyw, fod y rhai a ddywedant fod y
geiriau yn anesboniadwy, wedi gwneyd pob ymdrech i
chwalu y gwyll a orwedd arnynt. Os yn annatrusad-
wy, paham y llafur i ddiosg y dirgelion oddiam dan-
jnt?
Nid ydym yn dymuno, ychwaith. cael ein rhestru
gyda'r trydydd dosbarth, yr hwn,,gan oiiawnder ys-
bryd haeredigol, a hona y gall ef e roddi eglurhad cywir,
goleu, ac anamheuadwy, o'r adnod ddyrys hon. Y
cwbl ydym ni yn obeithio allu wneyd, ydyw, casglu yn
nghyd, a gosod mewn trefn, yr awgrymau a'r meddyl-
iau hyny, y rhai, os na fydd iddynt roddi goleuni ter-
fynol, eto a fyddant yn deilwng o ystyriaeth ddifrif ol
y myfyriwr Beiblaidd.
YMHOLIADAU.
Pa beth ydyw ystyr y gair swmbwl ? Pa beth oedd
' y swmbwl oedd yn nghnawd Paul ? Ai yr un peth a ol-
ygai yr Apostol wrth swmbwl, gan nad beth ydoedd,
Y SWMBWL YN Y CNAWD. 219
ag a olygai wrth genad Satan ? A ydyw yr adnod yn
cyfeirio mewn modd allegol at ddyoddefairt meddyl-
iol, neu ynte a ydyw yn llythyrenol ddarluniadol o
ddyoddefaint corphorol? A oes yn ysgrifeniadau
Paul yrnadroddion eraill yn mha rai y gellir tybio ei
f od yn cyfeirio at yr unrhyw flinder ag a grybwyllir
yma?
Pa beth ydyw STrmbwl? Tr ystyr a roddir gan yr
ysgolor Gymreig, Cynddelw, ydyw, cethren amaeth-
yddol er gyru ychain. Yr ystyr a roddir iddo gan yr
ysgolor Groegaidd, Stanley, ydyw pawl, yn gyffelyb i'r
polyn llawn o bicellau blaenllym, ar ba un, mewn gwa-
hanol oesau, y gosodwyd miloedd o ganlynwyr Crist i
farwolaeth. Tr ystyr a roddir iddo gan yr ysgolheig-
ion Seisnig a gyfieithiasant y Beibl ydyw draen (thorn).
Ac ystyried pob peth, diau mai y gair olaf ydyw yr
hapusaf i gyneu y gwreiddiol. Byddai cysylltu a'r
gair y syniad o bawl merthyrdod, neu gethren amaeth-
yddol, yn ormodedd; a mwy naturiol meddwl fod yr
Apostol yn cyffelybu ei boenau ef i boenau un yn dy-
oddef oddiwrth ganlyniadau parhaol draen mewn
cnawd. Peth arswydus i ddyn fuasai cael draen mor
flaenllym a nodwyd, ac mor galed ag asgwrn, yn gladd-
edig yn ei gnawd. Achosai y fatli boen fel nad ellid
ei anghofLo am foment ; a buasai cysgod gwrthddrych
yn creu arswyd ar y person a ddyoddefai, rhag of n iddo
gyffwrdd ag ef. Beth bynag ydoedd profedigaeth yr
Apostol, rhaid ei bod yn angerddol boenus cyn y bu-
asai yn dewis y boen oddiwrth ddraen yn y cnawd i'w
hengreifftioli. Ac y mae y frawddeg ddylynol yn eg-
lur wedi ei bwriadu i osod allan ddirfawredd ychwan-
220 Y SWMBWL YN Y CNAWD.
egol y trailed, sef, "cenad Satan i'm cernodio." Yr
Arglwydd drefnodd y swmbwl, ond Satan fu yn ei
awchlymu a'i wthio i'w gnawd. Bob tro y cafodd
Satan ganiatad i weinyddu cosbau neu brawfiedyddion>
cymerodd fantais i ddangos ei gynddaredd dieflig,
megys 7 gwnaeth efe yn achos Job, ac eraill.
Ond er meddu dirnadaeth am swmbwl, y mae yr an-
hawsder yn aros hyd nes y gwyddys pa beth ydoedd
y swmbwl oedd yn nghnawd yr apostol Paul. Hwn
ydyw y cwestiwn dyrys. T mae pob ysgrifenydd yn
gweled yn y gair gynrychioliad o ryw ddolur, ond y
mae yn ddigrifol i sylwi mor nodedig o wahanol ydyw
y doluriau a awgryma y gair i wahanol bersonau. Nid
oes nemawr anfantais, gorphorol na*meddyliol, nad oes
rhywrai wedi dadleu mai hono oedd yr anfantais y
sonir am dani yma. Yn wir, efallai fod gradd o wir-
ionedd yn sylwad hoenus y Deon Houson, pan ddywed
fod pob esboniwr, os yn cael ei flino gan ryw anhaws-
der ei hunan, yn dueddol iawn i ddweyd mai hwnw
oedd yr annwylder a ninai yr apostol Paul !
Y mae dosbarth helaeth o esbonwyr, sef yr noil rai
a dybiant mai allegol nollol ydyw yr ymadrodd " swm-
bwl yn y cnawd," yn dadleu mai trailed meddyliol|a
olygir, ac nid^trallod corphorol; fod poenedigaetk
gorphorol dybiedig yn cael ei defnyddio yn gyffelyb-
iaethol, i osod allan boenedigaeth eneidiol wirioneddol.
Ond pan y gofynir i'r dosbarth allegol o esbonwyr, pa
beth oedd yn cystuddio enaid yr Apostol, y mae eu
hatebion ar unwaith yn dra amrywiol. Nodwn eng-
f eifftiau :
1. Mai y swmbwl ydoedd ymdrech orchestol a
Y SWMBWL YN Y CNA.WD. 221
llwyddianus gau-athrawon i ddymchwel ei lafur yn
Nghorinth. Tybir fod yr Apostol yn teimlo mor
boenus wrth weled rhai o'r Corinthiaid yn ymadael
oddiwrth symledd yr ef engyl, a phe buasai swmbwl yn
ei gnawd. Er rhoddi gwedd gredadwy i'r deongliad,
cyfeirir at y manau lie y mae pobl boenydiol yn cael
eu cyffelybu i ddrain, &c. Cyfeirir yn arbenig at y lle-
oedd canlynol : "Ac oni yrwch ymaith breswylwyr y
tir o'ch blaen (y Canaaneaid), yna y bydd y rhai a
weddillwch o honynt yn gethri yn eich llygaid, ac yn
ddrain yn eich ystlysau, a blinant chwi yn y tir y
trig-web, ynddo." (Numeri xxxiii. 55.) Drachefn, " Ac
ni bydd mwy i dy Israel, o'r boll rai o'u bamgylch a'r
a'u. dirmygasant. ysbyddaden bigog, na draenen ofid-
us; a chant wybod mai myfi yw yr Arglwydd Dduw."
(Ezeciel xxviii. 24.) Haerir fod y drain a'r ysbyddad-
en yn y cysylltiadau yna, yn golygu dynion ymosodol
a chreulon, y cyfryw ag yr oedd gan Paul i'w gwrth-
sefyll yn Nghorinth.
2. Mai y swmbwl ydoedd tymeredd nwydwyllt ac
aflywodraethus, yn ffynonell gwendid yn ei gymeriad
moesol. Dyma, meddir, ydoedd y rheswm o'r ymos-
odiad ar Ananias yn y Sanhedrim, a gyfrif hefyd. am
gryf der yr iaith gyda pha un y cyfarchodd Elymas, yn
ogystal a'r cweryl a fu rhyngddo a Barnabas. Y mae
awdurdod mor anrhydeddus a'r Proffeswr Lias, yn ei
esboniad ar yr epistolau at y Corinthiaid, wedi ei
gwystlo dros y farn hon.
3. Mai y swmbwl ydoedd presenoldeb chwantau
trythyll a phechad'urus yn ymderfysgu yn ei enaid.
Deilliodd y farn gableddus hon allan o ymenyddiau y
222 Y SWMBWL YN Y CNAWD.
dysgawdwyr Bhufeinig, Bede, Aquinas, Bellarmine,
Lapide, ac eraill, ac y mae yn syndod mor lleied o'r
gwenwyn dynwyd allan o lioni gan y diwygwyr Calvin,
a Luther, oblegid y maent hwythau, hefyd, drwy
ddweyd mai profedigaethau ysbrydol a olygir, yn aw-
grymu fod yr Apostol yn cael ei flino gan lu o duedd-
iadau llygredig.
Heb roddi ychwaneg o'r cyfryw farnau, prefer gwir-
ionedd yr uchod drwy osod ar eu cyfer neillduolion
eglur a chydnabyddedig y swmbwl yn y cnawd, ac os
na fydd iddynt gyfateb i'r rhai hyny, rhaid ystyried y
deongliad a gynygiant yn gyfeiliornus. Neillduolion
y brofedigaeth ydynt a ganlyn:
(a.) Yr oedd yr Apostol yn ymffrostio yn y brofed-
igaeth oblegid ei bod yn sicrhau iddo nerth Crist. (2
Cor. xii. 9.)
(b.) Yr ydoedd y gwendid, gan nad beth ydoedd, yn
weladwy i unrhyw edrychydd arno. (Gal. 4. 14.)
(c.) Yr ydoedd y swmbwl wedi ei osod yn ei gnawd
gan yr Arglwydd, a hyny er ei gadw rhag tra-dyrchafu.
(d.) Yr oedd y swmbwl, o ran ei leoliacl, nid yn ei
ysbryd, ond yn ei gnawd, Fel y sylwa Winer, yn ei
Ramadeg, fod yma yn y gwreiddiol ddau achos rhodd-
iadol (dative cases), yn cael eu rhoddi ; y naill i ddes-
grifio y person, a'r llall y rhan neillduol o'r person ar
ba un yr effeithiai, sef ei gnawd.
Yn awr, gan na ddarfu i'r Apostol erioed ymffrostio
yn ngwrthsafiad gau-athrawon ; gan y buasai yn gabl-
edd ar Dduw i ddweyd ei fod ef wedi rhoddi tymerau
a nwydau drygionus yn enaid Paul ; a chan fod Paul
ei hunan yn dweyd mai yn ei gnawd, ac nid yn ei ys-
Y SWMBWL YN Y CNAWD. 223
bryd, yr oedd ei wendid, y mae yn rliaid cefnu ar y
dyfaliadau ucbod er cbwilio am eglurhad arall mwy
cyson a bawliai deongliadaetli.
Y cwestiwn erbyn byn ydyw, nid betb ydyw swm-
bwl, na pbetb ydoedd y swmbwl, ond pa betb ydoedd
y swmbwl oedd yn nghnawd yr apostol Paul ? Mewn
gair arall, pa betb ydoedd nodwedd y dolur a flinai
gyfansoddiad corpborol yr Apostol? Yn yr ymcbwil-
iad bwn, dracbefn, rbaid i ni daflu rbai damcaniaetbau
anbygoel ymaitb, beb ond yn unig eu crybwyll. Yn
eu mysg, yn nodedig, y mae y rbai dylynol : (a.) Mai
cael ei flino yr ydoedd gan boen yn ei glustiau. (b.)
Mai ei afiecbyd ydoedd cur mawr a gwastadol yn ei
ben. (c. ) Mai darostyngedig ydoedd i'r llesmeir-glwyf .
(c?.) Mai poen yn ymgodi o anbwyldeb gieuol (neur-
algia) oedd ffynonell fawr ei ddyoddefaint.
Dosbartb o esbonwyr sydd wedi llwyddo i sef ydlu eu
bunain yn ngbymeradwyaetb tyrfa fawr ydyw y rbai
a ddygant resymau dros gredu mai parlysiad cybyrol
oedd y nycbdod a'i blinai. Y mae yr ystyriaetbau a
ddygir yn mlaen er cyfiawnbau y f atb syniad yn bwys-
ig, a rbai o bonynt yn naturiol a cbredadwy. Nodwn
yrbai pwysicaf.
1. Fod yn dra thebyg y buasai i weledigaethau nef-
ol, y cyfryw ag a gafodd yr Apostol, effeithio yn
barhaol ar ei gyhyrau. Ymresymir, megys yr effeitb-
lodd ymddangosiad yr Arglwydd i Jacob yn Mbeniel
ar eu giin, ac megys yr oedd Daniel yn glaf dros
ddyddiau lawer mewn canlyniad i un o'i weledigaetb-
au, felly yr acboswyd gwendid parbaus yn ngbybyrau
Paul gan odidawgrwydd y gweledigaetbau.
224:
Y SWMBWL YN Y CNAWD,
2. Fod pob peth a ddywedir gan yr Apostol, mewn
eyfeiriad at yr un gwendid, yn gyfryw y gallasai dyn
yn dyoddef oddiwrth gyhyrau parlysedig, eu dweyd.
Y mae Paul yn siarad am dano ei Imn fel un " anghyf-
arwydd ar ymadrodd." (2 Cor. xi. 6.) Aphanyn dadl-
eu dros ei awdurdod, dyfyna eiriau y rhai a'i gwadent,
sef "fod presenoldeb y corph yn wan, a'r ymadrodd
yn ddirmygus." (2 Cor. x. 10.) Gyda golwg ar hyn y
dywed Dr. Doddridge, " Effeithiodd yr olwg a gaf odd
yr Apostol ar y gogonianau nefol, ar ei gyfundrefn
gyhyrol yn y fath fodd fel ag i achlysuro arwyddion o
barlys, yn enwedig atal dweyd yn ei araeth, ac efallai
ryw anffurfedd yn ei wynebpryd," &c.
8. Nis gallesid dychymygu am unrtiyw brofedig-
aeth lemach i genadwr fel Paul, na methiant mewn
lleferydd, neu dramgwydd mewn ymddangosiad. Yr
ydoedd \vrth ei swydd yn wastadol yn'anercli dyeithr-
iaid, a buasai diffyg mewn siarad neu ddiffyg mewn
ymddangosiad, yn llesteirio ei Iwyddiant. Ac heblaw
hyny, dywedir, fod y ffaitn ei fod unwaith wedi bod
mor nodedig am ei alluoedd araetnyddol, yn gymaint
felly fel y mynai pobl Lystra ei addoli fel Mercurius,
duw hyawdledd (Actau xiv. 12), ond wedi eu colli drwy
y swmbwl, yn flinder dirfawr iddo, ac mai dyma y
rheswm. iddo atolygu deirgwaith ar iddo ymadael ag
ef. Y mae grym yr ategiant diweddaf hwn, modd
bynag, yn eael ei leihau yn fawr gan y ffaith. fod y
swmbwl wedi bod yn nghnawd yr Apostol er ys pedair
blynedd ar ddeg pan yn ysgrifenu am dano at y Cor-
ihthiaid, ac felly fod yn rhaid fod y swmbwl ^n ei
gnawd pan gynygiodd pobl Lystra ei addoli. Ac heb-
Y SWMBWL YN Y CNAWD.
225
law hyny, y mae ei hyawdledd yn Athen, a nerth ei
araeth o flaen Agrippa yn ddylynol, yn creu amheu-
aeth, a dweyd y lleiaf, ai ar ei leferydd yr oedd y
diffyg. Tr olygddysg a gymeradwya ei hunan i ni
ydyw,
Mai diffyg poenus yn ngwelediad yr Apostol yd-
oedd y swmbwl yn ei gnawd. Felly y creda Alford,
Lewin, Plumptre, Farrar, Hiraethog, &c., ac ymddeng-
ys y fath dyb yn cyfarfod holl amgylchiadau yr achos
yn gyflawnach nag un o'r rhai a enwyd. Ystyrier yr
holl bethau canlynol, a gweler y modd y cyd-wasan-
aethant er gwneyd y fath fe<'ldyliad yn gredadwy.
Gallem amheu, er nas gallem brofi, na fu llygaid yr
Apostol byth gystal ar ol y goleuni mawr ar ffordd
Damascus ; ond nid ar yr amheuaeth hwnw y dybyn-
wn am gywirdeb ein deongliad, eithr yn hytrach ar
ffeithiau cydnabyddedig.
(a.) Y pethau a welodd yr Apostol beryglodd ei ys-
bryd. Godidawgrwydd y ^we^e^igaethau fu yn dem-
tasiwn i dra-dyrchafiad, a rhesymol credu fod yr atalfa
wedi ei gymwyso at y rhan lie yr ydoedd y perygl.
(5.) Par odd golygon anmherffaith iddo fethu a<l-
nabod person adndbyddus iddo, tra yn ei ymyl. Dy-
gwyddodd hyny yn llys Ananias yr arch-offeiriad.
Tr oedd yr Apostol wedi amddiffyn ei hun gyda nerth
flaen y fainc, pan y gorchymynodd Ananias i'r rhai
oedd yn sefyll gerllaw iddo ei daro ar ei enau. Naill
m cyn, neu wedi ufuddhau iddo, gofynodd y sefyllwyr
1 Paul, "A ddifenwi di arch-offeiriad Duw?" I'r gof-
yniad yna etyb yr Apostol, " Ni wyddwn i, frodyi-, mai
yr arch-offeiriad oedd efe: canys ysgrifenedig yw,
226 Y SWMBWL YN Y CNAWD.
Na ddywed yn ddrwg am benaeth dy bobl." (Actau
xxiii. 1-5.) Paham na wyddai Paul mai yr arch-off eir-
iad ydoedd ? T mae pob lie i gredu ei fod yn ei ad-
nabod yn bersonol, ac hyd yn nod pe na buasai, pe ei
olygon yn glir, hawdd fuasai iddo ddeall oddiwrth ei
wisg, yn nghyd a'i safe a'i awdurdod yn y Senedd, mai
efe ydoedd y prif weinidog, ac eto dywed, "Ni wydd-
wn i, frodyr, mai yr arch-offeiriad oedd efe." Nid oes
ond un ffordd i gyfrif am ei anwybodaeth, sef ar y
dybiaeth fod rhyw anaf ar ei lygaid.
(c.) Y mae yn ffaitli ddyeithr, ond ddiamheuol, fod
yr Apostol yn gofyn gwasanaeth person avail i ysgrif-
enu ei epistolau at yr eylwysi. Anfynych yr ysgrif enai
a'i law ei hun. Un Tertius ysgrifenodd y llythyr at y
Khufeiniaid. (Khuf. xvi. 22.) Yr unig betli a wnelai
ef fyddai ychwanegu rhyw gyfarchiad byr ar ddiwedd
pob epistol, er sicrwydd i'r eglwysi fod yr epistol yn
dyf od yn awdurdodedig. Felly y dywed wrth y Thes-
saloniaid, "Yr anerch a'm llaw i Paul fy hun; yr hyn
sydd arwydd yn mhob-epistol: fel hyn yr ydwyf yn
ysgrifenu." (2 Thess. iii- 17.) G-weler engreifftiau o'r
un peth yn 1 Cor. xvi. 21-24; Col. iv. 18. Os y cofiwn
bwysigrwydd y pethau oedd ganddo i'w hysgrifenu, ei
barodrwydd i argymeryd ag unrhyw lafur, yn nghyd
a'i ysgolheigdod diamheuol, rhaid ei fod yn cael ei
luddias i ysgrifenu gan ryw anallu ; a pha beth yn
bwysicach i ysgrif en wr na llygaid?
Yr ydym wedi dweyd nad ydoedd Paul yn ysgrifenu
ei lythyrau y mae hyny yn wirionedd ; ond i'r rheol
yna y mae dwy eithriad, sef yr epistol at y Galatiaid,
a'r epistol at Philemon. (Gal. vi. 11; Phil. 19.) Ond
T SWMBWL TN .Y ONAWD. 227
a ydyw yr eithriadau hyn yn cyfnewid y casgliad a.
dynwn ? Gadawer gweled. Un nodedig o fyr ydyw
y llythyr at Philemon, ac y mae ei fyrder, megys y
dywed Prunier (Horn. Quar. 1879), yn awgrymu un o
ddau beth, ddarfod i'r Apostol ei ysgrifenu o herwydd
mai un byr ydoedd i fod, neu ynte fod yr epistol yn
1 fyr o herwydd mai Paul a'i hysgrifenodd, ei bod yn
boenus iddo ymhelaethu. Ond tra y mae byrder y
llythyr at Philemon yn dystiolaeth allanol fod ysgrif-
enu yn golygu ymorchest i'r Apostol, y mae adnod a
ysgrifenodd yn y llythyr at y Galatiaid, yn dystiolaeth
f ewnol i'r un gwirionedd. Dywed wrth y Galatiaid,.
"Gwelwch mewn llythyrenau mor fawrion yr ysgrif-
enais atoch a'm Haw fy hun." (Gwel Cyfieithiad Diwyg-
iedig, Gal. vi. 11.) Yr oedd serch Paul at eglwys Gal-
atia yn eithriadol gryf ; yn ngrym y serch hwnw ymddyg-
odd yntau yn eithriadol drwy ysgrifenu atynt a'i law ei
hun,- } ond wrth ysgrifenu, o herwydd y diffyg poenus
yn ei lygaid, yr oedd y memrwn yn cynwys llythyrenau
breision ac afrosgo.
(d.) Yr oedd y boen fflameyol yn llygaid yr Apostol
mor arteitJiiol, fel na fiiasai unrJiyw dberth yn ormod
i'w wneyd gan ei gyfeillion i'w waredu oddiwrtho, pe.
y gallasent, Hon yw ei dystiolaeth : "A'm prof edig-
aeth, yr Jiwn oedd yn fy nghnawd, ni ddiystyrasoch ;.
eithr chwi a'm derbyniasoch megys angel Duw, megys
Crist lesu. Beth wrth hyny oedd eich dedwyddwch
chwi? canys tystio yr wyf i chwi, pe buasai bosibl, y
tynasech eicli llygaid, ac a'i rJwisech i mi" (Gal. iv.
14-15.) Gwna yr awdwr dysgedig Bungener nodiad
ar y geiriau hyn i'r perwyl fod yn hawdd dychymygu
228 YMAKNEWYDDTJ DKACHEFN I EDIFEIKWCH.
am un dyn yn dymuno tynu ei lygaid er mwyn cyfaill,
ond nas gellir dychymygu am neb yn eu rhoddi iddo,
oddigerth fod y cyfaill hwnw yn amddifad o lygaid,
neu fod y llygaid oedd ganddo yn wrthyrol neu boen-
us. Beth bynag oedd y swmbwl yn nghnawd Paul, y
mae tri pheth yn eglur : fod y rhai goreu o blant Duw
yn agored i ryw wendid ysbrydol ; fod gan y nef oedd
ryw ddylanwad gwrthweithiol i'r gwendid hwnw; ac
fod gras Duw yn ddigonol i ddal y Cristion o dan y
.gwrth-ddylanwadau, gan nad pa mor boenus y bydd-
ant. Yr oedd yn rhaid rhoddi swmbwl yn nghnawd y
"llestr etholedig," oblegid ei duedd i dra-dyrchaf u ;
ond gofalodd y gwr roddodd y swmbwl rhag ei dra-
ddyrchafu, roddi iddo hefyd ei nerth rhag ei dra-ddar-
ostwng.
YMADNEWYDDTJ DEACHEFN I EDIFEIRWCH.
"Canys anmliosibl yw i'r rhai a oleuwyd unwaith, ac a brof-
asant y rhodd nef ol, ac a wnaetlipwyd yn gyfranogion o'l Ysbryd
Glac, ac a brofasant ddaionus air Duw, a nerthoedd y byd a
ddaw, ac a syrthiasant ymaifcb., ymadnewyddu drachefn i edifeir-
wch ; gan eu bod yn ail groeshoelio iddynt eu hunain Fab Duw,
&c yn ei osod yn watwar." HBBEBAID vi. 4-6.
YMHOLIABAU.
A ydyw y geiriau hyn yn ddarluniadol o ddynion
wedi eu hachub drwy yr ef engyl ? A ydyw y geiriau
yn dysgu fod yn bosibl i'r rhai a achubwyd drwy yr
>ef engyl syrthio eilwaith i golledigaeth? A ydyw y
YMADNEWYDDU DRACHEFN I EDIFEIBWCH. 229
geiriau yn rhoddi ar ddeall fod edifeirwch y rhai a
syrthiasant ymaitli yn anmliosibl ynddo ei hun, neu
ynte yn aneffeithiol er adf eriad ?
Dywed un dosbarth o esbonwyr, yr un Arminaidd^
fod y geiriau hyn yn cyfiawnhau y grediniaeth o'r pos-
iblrwydd i ddyn a adgenedlwyd gan ras, wrthgilio yn
hollol ac am byth oddiwrth Grist, ac oddiwrth gref-
ydd. Haerant fod y ffaith fod Paul yn ysgrifenu o
gwbl am y fath syrthiad ymaith, yn profi y posibl-
rwydd o hono. Dywed y dosbarth arall, yr un Calfin-
aidd, fod y geiriau hyn yn cyfiawnhau y grediniaeth
fod yn bosibl i ddyn ddyfod yn wrthddrych y dylan-
wadau nertholaf, ac eto heb fod yn gadwedig. Haer-
ant fod Paul yma yn ysgrifenu am rai oedd wedi der-
byn y manteision uchelaf , wedi eu goleuo, wedi derbyn
y rhodd nefol, &c., ac eto heb gyfranogi o fywyd ys-
brydol a thragywydol yr efengyl. Y mae ysgrifeniad-
au Calvin, Dr. Owen, Dr. Gill, &c., yn hawlio mai
Cristionogion mewn proffes allanol a ddarlunir yma,
ac mai ynfydrwydd fuasai yr ymadroddion fel darlun-
iad o Gristionogion gwirioneddol.
Dywed y trydydd dosbarth, fod y geiriau wedi eu
llefaru mewn arddull dybiaethol, ac mai eu dysgeid-
iaeth ydyw, pe buasai y fath beth a gwrthgiliad hollol
oddiwrth grefydd yn cymeryd lie, yr hyn na wna, y
buasai y gwrthgiliedig hwnw, o angenrheidrwydd, yn
dragywyddol golledig. Fod Paul yma er mwyn ymres-
ymuar fater cynyddiad y bywyd crefyddol,mewn gwrth-
gyferbyniad i wrthgiliad oddiwrtho, yn gwneyd tyb-
osodiad, ond nad ydyw y dyb yn sylfaenedig ar ffaith,
eithr yn hollol fel arall. Dysga Dr. A Horey, yn ei
230 YMADNEWYDDTT DKACHEFN I EDIFEIRWCH.
" Alleged Discrepancies of the Bible," fod y dull hwn o
ysgrif enu mewn arf eriad cyffredin gan Paul. Cyf eiria
at Gal. i. 8 : "Eitlir pe byddai i ni, neu i angel o'rnef,
ef engylu i clrwi amgen na'r hyn a ef engylasom i chwi,
bydded anethema." Nid ydoedd Paul, yn sicr, amaw-
grymu fod perygl i " angel o'r nef " draddodi ef engyl
dwyllodrus i ddynion, ond pe y buasai iddo wneyd
hyny, er iddo fod yn angel, bydded yn anathema.
Ceir engreifftiau, drachefn, o'r modd tyb-osodiadol
hwn yn 1 Cor. xiii. 1-3. Meddai yr Apostol : " Pe
llefarwn a thafodau dynion ac angelion," &c. ; "A phe
byddai genyf brophwydoliaeth, a gwybod o honof y
dirgelion oil, a phob gwybodaeth," &c.; " A phe porth-
wn y tlodion a'm holl dda; a phe rhoddwn fy nghorph
i'm llosgi," &c. Tn y tair engraifft yna, y mae Paul
yn tybio yr anmhosibl, a hyny er grymusoli ei ymres-
yniiad. Tr un modd y testyn, tybiaeth ydy w, y gwydd-
ai y sawl a'i hysgrifenodd nad ydoedd iddi seiliau mewn
ffaith. Neu, fel y dywed y Parch. A. Barnes mewn
geiriau detholedig, wrth ysgrifenu ar y testyn : " Nid
ydyw (y testyn) yn sicrhad fod neb yn weithredol wedi
syrthio ymaith, nac ychwaith, mewn gwirionedd, y
byddai iddynt wneuthur hyny, ond y gosodiad ydyw,
pe y buaseiit ivedi syrthio ymaith, y buasai yn anmhos-
ibl eu hadnewyddu drachefn."
Tr athrawiaeth a welwn ni yn y geiriau ydyw yr un
ganlynol :
G-an mai un drefn achubol sydd gan Dduw, fod
syrtliio allan o freickiau hono, yn gyfystyr a cholledig-
aeth anadferadwy. Y mae yr athrawiaeth hon yn
gorphwys AT dair tybiaeth. Tn gyntaf, fod yn bosibl
YMADNEWTDDU DBACEEFN I EDIPEIBWCH. 231
i'r trychineb mwyaf gyfarfod a phobl yr Arglwydd,
" syrthio ymaith." Yn ail, fod yn annhebyg iawn y
Taydd i'r lath drychineb gyfarfod y fath bobl, oblegid
y maent wedi eu goleuo, wedi profi y rhodd nefol, &c.
Yn drydydd, pe y dygwyddai y fath drychineb, byddai
y cahlyniadau, o angenrheidrwydd, yn damnio. Y dyb-
iaeth gyntaf ,
Y gall y trychineb mwyaf gyfarfod a phobl yr Ar-
glwydd. Y mae yn cael ei gynwys, nid yn unig y
gallant syrthio, ond yr hyn sydd yn annirnadwy fwy
difrifol, y 'gallant syrthio ymaith.
(a.) Y mae gwahaniaeth o'r fath bwysicaf rhwng
syrthio, a syrthio ymaith, Y mae syrthio yn ddrwg,
ond y mae syrthio ymaith yn filiwn gwaeth. Mewn
cyffelybiaeth, nid ydyw y syrthio yn ddim ond afiechyd
fyr-barhad, ond y mae syrthio ymaitli yn farwolaeth
i'r holl gyfansoddiad. Y mae y syrthio yn gyffelyb i'r
ddamwain a esyd y teithiwr yn glwyfedig air fwrdd y
Hong, ond y syrthio ymaith yn gyffelyb i'r ddamwain
a deifl y dyn oddiar y Hong, gan ei adael ar ol, i'w
feddrodi dan haenau y dyfnder.
(b.) Y mae genym engreifftiau o luaws yn mysg pobl
Dduw wedi syrthio, ond nid oes genym gymaint ag un
engraifft o blentyn i Dduw wedi syrthio ymaith.
" Ganys seithwaith y syrth y cyfiawn, ac efe a gyfyd
drachefn ; ond yr annuwiolion a syrthiant mewn dryg-
ioni." (Diar. xxiv. 16.) . Syrthiodd Abraham yn yr
Aipht, syrthiodd Noah yn ei babell, syrthiodd Dafydd
ar ei orsedd, a syrthiodd Pedr yn y llys, ond ni ddarfu
1 un o honynt syrthio ymaith, oblegid adf erwyd hwy
drachefn.
232 YMADNEWYDDTJ DEACHEFN I EDIFEIBWCH.
(e.) Y mae darpariaeth yn yr efengyl ar gyfer adfer-
iad yr hwn fyddo wedi syrthio, ond nid oes mewn ef-
engyl ddarpariaeth ar gyfer yr hwn fyddo wedi syrthio
ymaith. Tmresyma yr Arglwydd a'r syrthiedig ; ed-
ryclia y Ceidwad a'i lygaid ar bob Pedr ; ymrysona yr
Tsbryd a phob gwrthgiliedig ; a gelwir ar eglwy&
Dduw i adgyweirio yr hwn a oddiweddwyd ar f ai, mewn
ysbryd addf wynder. Ond am y dyn ag y mae Ysbryd
yr Arglwydd wedi llwyr ymadael ag ef, holl gyfoeth y
trefniant achubol wedi ei ddyhysbyddu arno yn ofer y
ac yntau, er pob peth, mewn ymwybodolrwydd beidd-
gar, yn parhau yn ei bechod, nid oes aberth wedi ei
adael dros bechodau hwnw. " Eithr rhyw ddysgwyl
ofnadwy am farnedigaeth, ac angerdd tan yr hwn a
ddifa y gwrthwyneb wrr. Yr un a ddirmygai gyfraith
Moses, a fyddai farw heb drugaredd, dan ddau neu dri
dystion: Pa faint mwy cosbedigaeth (dybygwch
chwi) y bernir haeddu o'r hwn a fathrodd Fab Duw r
ac a farnodd yn aflan waed y cyfamod, trwy yr hwn y
sancteiddiwyd ef, ac a ddifenwodd Tsbryd y gras ?"
(Heb. x. 27-29.) Na, pwy bynag sydd "yn ail-groes-
hoelio iddynt eu hunain Fab Duw, gan ei osod yn wat-
war," y maent eisoes mewn dyfnder anghyrhaeddadwy
1 reffynau trugaredd. Ond gan nad beth ydyw di-
weddiad echryslon ac anf eddyginiaethol " syrthio ym-
aith," tybia yr Apostol, i ddybenion ymresymol, fod y
fath drychineb yn bosibl.
Tr ail dybiaeth,
Fod yn annhebyg iawn y ~bydd i'r fatTi drychineb
ddygwydd yn banes poll Dduw. Y mae hyny yn an-
nhebyg, a dweyd y lleiaf , a hyny am y rheswm hwn, eu
YMADNEWYDDU DRAOHEFN I EDIFEIBWCE. 233
bod wedi eu dyrchafu o radd i radd, o brofiad i brof-
iad, o esgynlawr i esgynlawr, i binacl ucliaf crefydd yn
y byd hwn. Y maent wedi eu trosglwyddo, drwy
nifer o oruchwyliaetb.au fcrugarog, i'r cynwr diogelaf
y gall crefydd osod dyn ynddo yn y byd Irwn. Ed-
ryclier ar weithrediadau olynol a dyrchafol gras ar eu.
cyflyrau, fel y dangosir liwy yn mrawddegau desgrif-
iadol yr adnodau.
(a.) Aiilwyswyd goleuni dwyfol i'w heneidiau ar
adeg argyhoeddiad, "a ohuiuyd unwaith." Gwelsant<
eu bod yn fythol anobeithiol am ddedwyddwch yn-
ddynt eu hunain, ac yn llewyrch. ef engyl gogoniant y
bendigedig Dduw, cawsant olwg ar lesu Grist yn
bob peth ar eu cyfer.
(b.) Agorasant eu calonau i dderbyn yr iachawdwr-
iaeth. " A brofasant y rhodd nefol." Daethant felly
i fwynhad o faddeuant, cyfiawnhad, mabwysiad, &c.
(c.) Gwnaethpwyd hwy yn gyfranogion o ddylan-
wad sancteiddiol, ac o ddoniau cyfarwyddol yr Ysbryd
Glan. "Ac a wnaethpwyd yn gyfranogion o'r Ysbryd
Glan."
(d.) Gosodwyd yn eu heneidiau dystiolaeth brof-
iadol o wirionedd a gwerth yr Ysgrythyrau. " A
brofasant ddaionus air Duw."
(e.) Y maent wedi eu gosod i fyw o dan ddylanwad
cymellion y byd a ddaw. "A nerthoedd y byd a
ddaw." Bellach y mae eu serch ar y pethau sydd
uchod, eu dinasyddiaeth yn y nefoedd, a thrwy rym y
cynorthwyadau a ddaw iddynt o'r byd arall y maent
yn gwneyd gwrhydri yn y byd hwn.
Adystyrier drachefn y pethau mawrion a ddywedir
15
234 YMA.DNEWYDDU DKACHEFN I EDItfEIKWCH.
am danynt. Beth'? Eu bod yn eu hargyhoeddiad
wedi derbyn iachawdwriaeth ; eu bod ar ol derbyn yr
iachawdwriaeth wedi dyf od yn demlau i'r Ysbryd Glan ;
eu bod, er pan feddianwyd hwy gan yr Ysbryd Glan
wedi dyf od i wledda yn wastadol ar air Duw ; ac yn
olaf, eu bod ar ol ymgolli mewn myfyrdodau crediniol
yn y Gair, wedi dyf od i fyw o dan swynion y byd tra-
gywyddol. Yn sicr y mae y bobl y gellir dweyd y cyf-
ryw bethau am danynt yn y cyflwr diogelaf y gall gras
eu dodi yn y sefyllfa bresenol.
Y drydedd dybiaeth,
Y byddai dysgyblion Orist, er y cwbl, yn anad-
feradwy golledig, pe y syrthient o afael eu rhagor-
freintiau achubol. "Canys anmhosibl yw i'r rhai a
oleuwyd unwaith, ac a brofasant y rhodd nefol, * * *
ac a syrthiant ymaith, ymadnewyddu drachefn i edif-
eirwch." Arferir yr iaith fwyaf bendant, a dywedir
nid fod ymadnewyddiad drachefn i edifeirwch yn an-
liawdd, ond ei fod yn hollol anmliosibl Ac nid ydyw
yn anhawdd deall yn mha weddau y mae yn an-
mhosibl.
Meddylier am y cwestiwn. Y dyn sydd yn troi ei
wyneb at Grist, ac nid y dyn sydd yn troi ei wyneb
oddiwrth Grist, sydd yn edifarhau. Nid yn Sinai, ac
nid mewn hunan-aberth y mae sail edifeirwch, ond yn
yr lesu croeshoeliedig ; ac nid ydyw edifeirwch, ar
wahan i Grist, bydded mor ddyfned ag uffern, yn
cysylltu neb a maddeuant pechodau. Nid barn ar
watwarwr y Mab ydyw calon-galedwch, ond canlyniad
naturiol ei weithredoedd ef ei hunan. Ac heblaw
hyny, os ydyw y cyfryngau a apwyntiodd Duw i
TMADNEWYDDU DBAOHEFN I EDIFEIRWOH. 235
gynyrchu edifeirwch i fywyd wedi profi yn aneffeith-
iol ar y rhai a syrthiasant ymaith, rhaid fod eu had-
feriad yn gwbl anobeithiol. Os ydyw doethineb a
cliariad anfeidrol, yn yr ymddyweddigarwcli llwyraf,
wedi methu, pwy a Iwydda? Y mae pethau cryfaf
Duw wedi eu harfer. Nid oes ganddo Ef well goleu-
wawl nag efengyl. Y nerthoedd mwyaf y gall Duw
eu dwyn i weithredu ar ddyn yn y byd hwn ydynt
" nerthoedd y byd a ddaw." Adgenedlwyd y dyn y
tro cyntaf gan yr Ysbryd GHan ; pa ysbryd arall a geir
i'w adgenedlu drachefn'? A geir Bethlehem arall ? A
oes rhagor nag un Calf aria ? Wedi i un Beibl f ethu,
a oes gan yr Arglwydd Feibl arall? Na, nid oes
angen i'r rhai sydd wedi eu goleuo, wedi derbyn y
rhodd nefol, ac wedi eu gwneyd yn gyfranogion o'r
Ysbryd G-lan, " osod i lawr drachefn sail i edifeirwch
oddiwrth weithredoedd meirwon " (adn. laf), oblegid
y mae y cyfnewidiad a effeithiwyd arnynt yn wystl
dwyf ol a digonol, y bydd iddynt barhau yn ansigledig
hyd ddydd Crist. Cyn y gall gwir Gristion syrthio
ymaith, y niae yn rhaid i anianawd gras Daw gyf-
newid ; y mae yn rhaid i ffydd yn yr enaid Iwyr
ddiffodd, ac y mae yn rhaid i arfaethau y Duw an-
nghyfnewidiol droi allan yn freuddwydion siomedig.
Yn naturiol felly, oblegid y sicrwydd hwn o barhad a
chynyddiad, y dywed yr Apostol wrth yr Hebreaid,
"Eithr yr ydym ni yn coelio am danoch chwi, an-
wylyd, bethau gwell, a phethau yn nglyn wrth iach-
awdwriaeth, er ein lad yn dywedydfel hyn (adn. 9fed).
I ba "beth ynte y cythruddir Cristionogion drwy
gyfeirio at ddinystr tybiedig? Y mae llawer o
236 AMYNEDD JOB A DIWEDD YB AKGLWYDD.
resymau, ac yn_ eu mysg a ganlyn : T ffordd effeith-
iolaf i berswadio dyn i ddal ei af ael yn Nghrist, ydyw
galw ei sylw at y ffaith, pe y gollyngai ef, yr ym-
ddrylliai yn dragywyddol ar greigiau y damnio.
Heblaw hyny, os ydyw syrthio ymaith yn golygu y
fath ddinystr, y mae cadwraeth rhagddo yn rhwym o
gynyrchu moliant i'r Ceidwad yn oes oesoedd. Ac
heblaw hyny, os ydyw cadwedigaeth yn sicr, er y
perygl dynia reswm newydd dros fyned yn mlaen at
berffeithrwydd. Chwythed y gwyntoedd, uded y
tymestloedd, a chynhyrfed eigionau y dyfnder, ni
chymer llongddrylliad le, oblegid yr Hollalluog ydyw
cadben y llong.
AMTNEDD JOB A DIWEDD YE AEGLWTDD.
" "Wele, dedwydd yr ydym yn gadael y rhai sydd ddyoddefus.
Chwi a glywsoch am amynedd Job, ac a welsoch ddiwedd yr
Arglwydd : oblegid tosturiol iawn yw yr Arglwydd, a thru-
garog " IAGO v. 11.
YMHOLIADATJ.
Pa beth ydyw amcan lago yn cyfeirio at amynedd
Job wrth ysgrifenu. at y deuddeg llwyth? Pa beth a
f eddylia wrth ddiwedd yr Arglwydd, ai y diweddiad a
osododd yr Arglwydd ar gystuddiau Job, neu ynte
ddiweddiad bywyd daearol yr Arglwydd lesu Grist ?
Tn mha ystyron y mae amynedd Job a diwedd yr
Arglwydd yn arddangosion o drugarawgrwydd Duw ?
T mae eglurhad y geiriau hyn yn gorwedd yn
AMYNEDD JOB A DIWEDD YR AKGLWYDD. 237
ffordd tri o osodiadau syml. Y gosodiad cyntaf, Fod
y rhai yr ysgnfenai lago atynt yn, ddyoddefwyr.
Gan mai "apostol yr enwaediad" ydoedd lago, yr
enw a rydd efe ar y saint a gyfarcha ydyw "y deu-
ddeg llwyth sydd ar wasgar." Golyga y dynodiad
"deuddeg llwyth," o'i ysgrifell ef, Israeliaid yn ol yr-
ysbryd, ac nid yn ol y cnawd, ac y maent yn cynwys
canlynwyr Crist yn nhalaethau Judea. Mewn trefn i
ddeall nodwedd eu dyoddefaint hwy, rhaid mordwyo
dros forced d, teithio dros gyfandiroedd, llamu dros
genedlaethau, a glanio yn Asia, yn Asia Leiaf. Os
ana weled eu sefyllfa gymdeithasol, wleidyddol a
chrefyddol, y mae yn angenrheidiol goleuo llusern
hanesiaeth, a throi ei llewyrcli i gyfeiriad cyfnod
cyntaf yr oes apostolaidd. "Wedi gwneyd hyny, ceir
gweled yno frodyr yn gwahaniaethu oddiwrth frodyr,
teuluoedd yn ymranu oddiwrth deuluoedd, cenedl yn
cyfodi yn erbyn cenedl, a theyrnas ar wneyd ymosod-
iad ar deyrnas arall. Y canlyniad ydyw fod newyn,
nodau, heintiau a gofidiau, yn ymdori dros yr holl
boblogaeth. Mewn gwahanol gyfeiriadau, cyfyd ar-
weinwyr gwahanol bleidiau, a gwneir i fyny y pleidiau
o ddynion ysbeilgar a llofruddiog. Dengys Jonathan
ei ben yn Cyrene ; ymddengys lesu, fab Saphat, yn
Tiberias ; cyfyd loan, fab Lefi, ei lef yn G-alilea; ac
yn Jerusalem y mae Eliazer yn llawn cynddaredd.
Amcan proffesedig y gwrthryfelwyr hyn ydoedd taflu
ymaith yr awdurdod a osodwyd arnynt gan Alexan-
der, ac a barhawyd gan Nero, ac fel canlyniad, cael eu
gwlad a'u hunain yn rhydd. Yr oedd arogl marwol-
aeth yn mhob cyfeiriad, a dolef y lladdedig yn
238 AMTNEDD JOB A DIWEDD TB ABGLWTDD,
mhob cymydogaeth. Canlyniad hyn oil ydoedd, nid
yn unig gosod ceidwaid y trysorfeydd cyhoeddus,
megys Antipas, Lefias, &c., mewn rhwymau ac angau,
ond hefyd trosglwyddo y gwasanaeth crefyddol i
ddwylaw anghysegredig. Gwaeth na hyny, yr oedd
byddinoedd Rhufain wedi dyfod i'r wlad. Clywodd
Nero yn Khufain fod ei awdurdod yn Judea yn cael ei
herfeiddio, ac anfonodd Vespasian, y Vespasian nad
oedd, hyd yn nod yn mysg y cadfridogion Rhufeinig,
neb yn gyffelyb iddo mewn dewrder a doethineb, i
ddarostwng y gwrthryfel. Daeth ei fab Titus i'w gyf-
arfod gyda ei lengau o Syria, fel y safai can' mil o
filwyr Ehufain ar y tir sanctaidd. T mae yr ymgyrch
yn cael ei dechreu yn Ascelon, yn cael ei dilyn yn
mlaen i Gadara a Jotapata, i Gamala a Gischala, ar
draws Tiberias at furiau y ddinas sanctaidd. Beth am
ganlynwyr yr lesu yn y f ath gythrwfl ? Eel y gellid
dysgwyl, gwrthodasant hwy ymuno a'r penboethiaid
terfysglyd, ac fel canlyniad bodolai y teimladau mwyaf
ellyllig tuag atynt. Yr oedd eu perthynas hwy a
Christ yn eu gwneyd yn gyfeillion trefn, gonestrwydd
a heddwch, ac oblegid hyny, cyhoeddwyd hwy yn frad-
wyr eu gwlad, ac yn elynion eu cenedl. Gwir iddynt
hwy, fel y gellid dysgwyl, ac fel yr addawsai Crist cyn
i'r gyflafan ddyfod, ddianc gyda eu bywydau; er
hyny, yr ydoedd tymor y dialedd mor gynddeiriog, a
pharhad y rhyf erthwy mor faith, fel nad ydyw yn un
syndod i ddysgyblion Crist " syrthio mewn amryw
brofedigaeth.au." (Pen. i. 2.)
Tr ail osodiad,
Fod rhai eraill o blant Duw, heblaw y rhai yr ys-
AMYNEDD JOB A DIWEDD YR ABGLWYDD. 239
grifenai lago atynt, wedi bod yn ddyoddefwyr.
" Cymerwcli fy mrodyr, y prophwydi, y rhai a lefaras-
ant yn enw yr Arglwydd, yn siampl o ddyoddef blin-
der, ac o hir-ymaros " (adn. lOfed). Ond yr engraifft
ryfeddaf welodd y byd erioed, ac fe ddichon a wel
byth, o berson yn dyoddef oblegid ymlyniad wrth un-
iondeb, ydoedd y patriarch o wlad Us. Ni fuasai un-
rhyw restr o ddyoddefwyr yn gyflawn heb ei fod ef
ynddi, ac oblegid hyny y dywed lago, " Chwi a glyw-
soch am amynedd Job," &c. Tr oedd i gystudd y
y patriarch dair ffynonell un yn ddieflig, y Hall yn
deuluaidd, a'r Hall yn gymdeithasol. Cydrhwng
dylanwadau y tair ffynonell, dinystriwyd ei iechyd, ei
amgylchiadau, ei deulu, ei gwbl.
Yr oedd a fyno Satan a'i oddefaint.
Yn y chwareugerdd nefol sydd yn ei ddarluniOj
gosodir y diafol allan yn ymddangos yn nghyngor
Duw, ac yno, yn nghlyw gweinidogion yr orsedd, yn
gwneyd gosodiad mai hunan-les ydoedd dirgelwch
crefydd Job. Gwna yr haeriad nad oedd eisiau i'r
Arglwydd ond yn unig fyned a'r cwbl oddiwrth Job,
yr elai Job a'r cwbl oddiwrth yr Arglwydd, ac y troai
fel sarph ar ei chynffon i saethu glafoerion melldith
i'w wyneb. Derbyniwyd yr herfeiddiad; caf odd Satan
lywodraeth ystafelloedd y gwynt, a thywysogaeth el-
f enau tanllyd y cread, fel yn fuan iawn trowyd pibell-
au dinystriol y peiriant creadigol at nyth Job, a chwys-
trellwyd cymaint o dan ac o ddw'fr arno fel yr aeth yn
esgyrnion man oddiwrth ei gilydd. Pwy all synied am
fawredd y dyoddef aint hwn i wr cyfoethog iawn?
Wedi methu yn y prawf cyntaf, desgrifir Satan eil-
240 AMYNEDD JOB A DIWEDD YR AKGLWYDD.
waith yn disgyn fel bran ddu yn nghanol gweinidog-
ion gwynion DUW, pan safent yn rhengau o flaen yr
orsedd i dderbyn eu cenadwriaethau i wahanol ranau
yr ymerodraeth. T waith hon haera mai fiunan-
ddiogelwch ydoedd y rheswm fod Job yn parhau. yn
ei berffeithrwydd. Dywed, " Croen am groen, a'r hyn
oil sydd gan wr a ddyry efe am ei einioes." (Job ii. 4.)
Yna y mae Satan yn cael caniatad i wneyd ymbrawfion
ar groen Job (er gweled ai yn ei groen yr oedd ei
grefydd), ac felly yn ei daro a chornwydydd blin, o
wadn ei droed hyd goryn ei ben. Pwy all amgyffred
angerddoldeb ei boenau yn ymgrafu a chragenau ar
ludw y domen ?
Yr oedd afyno ei wraig a'i ddyoddefiadau.
Tra y bu muriau Bhagluniaeth. yn gyfain ac uchel o
amgylch Job a'i deulu, yr oedd ei wraig yn penlinio
mor ddefosiynol a neb yn y wlad ; ond pan dynwyd y
muriau yn gydwastad a'r llawr, aeth. yn atheistaidd
hollol yn ei holl deimladan. Bhyw belen eira oedd hi ;
pan daflwyd hi i'r ffrwd, ynawasgarodd, toddodd, ac
ymgollodd ynddi. Ond am Job ei hun, callestr, cwr-
el, aur, diemwnd, ydoedd ef, ac felly daliodd yn an-
nghyfnewidiol yn yr holl gyfnewidiadau. Aeth ei wraig
ei hun yn ei erbyn. Peth difrifol i ddyn ydyw cae^
diafol drwg yn ei erbyn, ond y mae yn waeth fyth pan
y mae gwraig ddrwg gyda diafol drwg yn uno i ym-
osod arno. T fath drallod raid fod yn enaid y patri-
arch pan glywai ei wraig ei hunan yn ei gymell i
ymdaflu i lynclyn diwaelod anobaith !
Yr oedd a fyno adnabyddiaeth gymdeithasol a
dyfnder ei drallod.
AMYNEDD JOB A DIWEDD YB ABGLWYDD. 241
Darlunir ei gyf eillion, wedi ei ddarostyngiad, megys
oddiar esgynlawr, yn traddodi areitMau er profi na fu
ef erioed yn ymddiried yn wirioneddol yn Nuw, ac f od
ei holl gystuddiau yn brawfion o'i ragrith. Yr oedd
cyfeillion y palas wedi troi yn elynion y domen, ac ad-
floeddiadau ffawd wedi dystewi yn ngruddfanau y
cornwydydd. G-welai y rhai a arferent ei gyfareh, gan
ddiddosi eu penau pan farchogai heibio fel prif ynad
ei wlad, wedi cyfnewid cyinaint fel y ffieiddient ei ym-
ddangosiad. Ac y mae cyfeillgarwch wedi ei draws-
newid i gasineb, y nwyd greulonaf niewn bod. 'Does
dim ffydd ganddo, meddai Eliphaz ; un celwyddog
ydyw, meddai Sophar ; un rhyfygus ydyw, meddai
Bildad; un hynod o chwyddfawr ydyw, meddai Elihu.
Nid rhyfedd i'r prif-fardd Hiraethog ganu iddynt, a
dyweyd :
" Eliphaz yn ddygasog a Sophar
Fel ben sarph wydorchog ;
Elihu yn canu fel cog,
A Bildad yn cnoi fel "bulldog."
Pan oedd y patriarch, yn yr amgylchiadau hyn, ac
yn nyfnder pruddglwyfedd o'u herwydd, y cyfansodd-
odd y duchangerdd oreu a fedd y byd. Mor fawr-
eddog y dymuna am i noswaith ei eni gael ei chadw
allan o orymdaith y nosweithiau, ac am i ddydd ei
ddyfodiad gael ei nodi allan yn eithriad ddianrhyd-
eddus yn mysg dyddiau y ddaear. (Gwel Job iii.
1-26.)
"X trydydd gosodiad,
Fod dyoddefiadau plant Duw yn y gorphenol wedi
bod yn aclilysuron datguddiad tosturi a thrugaredd yr
242 AMYNEDD JOB A DIWEDD TB AEGLWYDD.
Arglwydd tuag atynt. " Wele, dedwydd yr ydym yn
gadael, (nid y rhai sydd ddyoddefus, ond fel y cyfleir y
frawddeg yn y cyfieithiad diwygiedig,) "y rhai a ddy-
oddef ascent" Y mae hi yn ddeddf yn llywodraeth Duw,
pan y mae dyn yn cael ei daflu i ffwrnes dyoddefaint,
oblegid ei bechod ei hunan, ei fod yn sicr o gael ei
rostio wrthi, neu ei losgi ynddi ; o'r tu arall, os bydd
yr Arglwydd, yn ei gyngor nefol, yn caniatau i Satan
daflu ei anwyliaid i'r fflam, a hyny er atal cylchdaeniad
celwydd yn ei ymerodraeth, y mae Dull y Pedwerydd
yn ddieithriad yn ymddangos. Ni cha y rhai a ddy-
oddef ant, tra yn dangos gwerth crefydd yn y byd hwn,
neu ynte tra yn clirio cymeriad Duw yn ngolwg y gre-
adigaeth ysbrydol ac anweledig, fod heb y wobrwy
wrthbwysol. Y mae gwirionedd parhaol yn ngeiriau
Crist ar y mynydd : " Gwyn eu byd y rhai a erlidir o
achos cyfiawnder: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd.
Gwyn eich byd pan y'ch gwaradwyddant, ac y'ch erlid-
iant, ac y dywedant bob drygair yn eich erbyn er fy
mwyn i, a hwy yn gelwyddog. Byddwch lawen a
hyfryd : canys mawr yw eich gwobr yn y nef oedd r
oblegid felly yr erlidiasant hwy y prophwydi a fu o'ch
blaen chwi." (Math. v. 10-12.)
A chafodd Job, mewn modd eglur, yr adsefydliad
mwyaf gogoneddus ar drumanau uchelaf ei Iwyddiant,
drwy ymyriad yr Hollalluog. Adgofia lago i ddy-
oddefwyr y deuddeg llwyth, i'r rhai yr oedd golyg-
feydd bywyd y patriarch mor gyfarwydd, eu bod nid
yn unig yn adnabyddus o'i drallodion, ond hefyd "yn
adnabyddus o'r modd y diweddwyd ei ofwyau yn llaw-
enydd ei adferiad. " Chwi a glywsoch am amynedd
AMYNEDD JOB A DIWEDD YB AKGLWYDD. 2:43
Job, ac a welsoch ddiwedd yr Arglwydd." Yr ydym
yn gwybod f od Augustin, ac ar ei ol ef Bede, Lyra,
Estius, "Westein, &c., wrth ddiwedd yr Arglwydd
yn golygu eithaf-bwynt darostyngiad Mab Duw, ac
felly yn ei ddwyn yntau yn mlaen, megys y prophwydi
a Job, yn engraifft o ddyoddefydd a goronwyd dra-
chefn a gogoniant. Dyma fel y dywed Augustin:
" Pa ddiwedd yr Arglwydd "? ' Fy Nuw, f y Nuw, pa-
ham y'm gadewaist 1 ' T rhai hyn ydynt eiriau ein
Harglwydd pan yn hongian ar y pren, megys pe
byddai Ef e (Duw) wedi ei adael mor belled ag yr oedd
gwynfydrwydd presenol yn myned, ond nid wedi ei
] adael o ran anfarwoldeb tragywyddol. Dyna ddiw-
\ edd yr Arglwydd; yrluddewon yn ei ddal, yr luddew-
on yn ei rwymo ; coronant ef a drain, halogant ef a
phoereddj y maent yn ei fflangellu, yn ei orchuddio a
chabledd; hongiant ef ar ypren, trywanant ef a gwae-
wffon ; ac yn olaf, claddant ef . Y mae megys wedi ei
adael. Ond gan bwy? Gan y dynion cablaidd yna_
Bydd dithau hefyd o ganlyniad yn amyneddgar, fel y
gelli gyf odi eto heb farw ; hyny yw, fel nad elli farw
mwy, ond bod fel Crist, am yr hwn y darllenwn^
"Gan wybod nad yw Crist, yr hwn a gyfodwyd oddi-
wrth y meirw, yn marw mwyach." (Rhuf. vi. 9.) Ond
gan nad pa un ai cyfeirio y mae lago at ollyngiad
Crist i law ei fwrddwyr, neu ynte at ddychweliad
caethiwed Job (er mai gwell genym ni gredu yr olaf) r
y mae yr addysg yr un, sef fod dyben i holl brawf-
iedyddion pobl Dduw; fod trugaredd ddwyfol yn ym-
gysgodi y tu cefn i'r holl ddybenion, ac yfdaw diwedd-
iad gogoneddus holl brofedigaethau y duwiolion yn.
244 AMYNEDD JOB A DIWEDD YB ABGLWYDD.
adnabyddus. Mor ardderchog yr ymddengys prif
arwr gwlad Us ar ol i ystormydd ei fywyd fyned
heibio. Yr ydym yn cael golwg arno yn sefyll, gan
estyn allan ei law i dderbyn mawrhad ac anrhegion ei
gydwladwyr ; yn sefyll, gan edrych ar ddwy fil ar
hugain o anifeiliaid oedd Rhagluniaeth wedi anfon yn
anrhegion neillduol iddo, a'r cwbl yn loew-ddu gan
frasder ei feusydd ; yn sefyll, a chanddo ddeg o blant
eto, fel cerubiaid gogonianfc yn lledu eu hedyn amddi-
ffynol drosto, a chyn tynu y lien i lawr dros olygfa
olaf ei fywyd, ceir golwg arno yn marw, yn marw yn
hen, yn marw yn llawn o ddyddiau, yn marw yn ar-
dderchog, yn engraifft fythol o dynged diweddol cyf-
aill Duw, a gorchfygwr Satan.
Y mae y geiriau yn dysgu
(a.) Fod y rhai goreu o blant Duw yn agored fr
trallodion chwerwqf. Hyn f u rhan y prophwydi, Job,
yr apostolion, a Christ ei hunan. Ac yn fynych iawn
y dyn duwiolaf ydyw y dyoddefydd mwyaf. Gwnaeth-
pwyd Job yn faes brwydr rhwng Duw a Satan, nid am
ei fod y gwaelaf -yn y wlad, ond am nad oedd gyffelyb
iddo ar y ddaear. . Ni fuasai yr Axglwydd yn caniatau
yr ystorm, oni buasai fod gwreiddyn y mater wedi ei
gael ynddo. Fe fyddai ynormod o antuiiaeth, hyd yn
nod i Dduw, i osod ambell un mewn prawf mawr !
(b.) Fod gwir grefydd yn sicr o ddal pob prawf a,
osodir ami. Yn y tywydd mawr y profir crefydd.
Darganfyddodd yr hen athronydd Archimedes, fod
arian yn gymysgedig a'r aur yn nghoron Hiero, bren-
in y Syrcansiaid, wrth wneyd ymbrawfion mewn badd-
on. Un diwrnod, tra yn y baddoil yn ymlanhau, neid-
AMYNEDD JOB A DIWEDD IB ABGLWYED. 245
iodd allan, a gwaeddodd "Eureka! Eureka!" Aeth
adref ; cafodd afael ar ddarn o aur ag oedd yn hollol
bur, ac wrth osod hwnw yn y baddon, gwelai ei fod yn
pwyso gymaint bedair gwaith ar bymtheg a'r dwfr.
Yn ganlynol,' dododd goron Hiero yn yr un dwfr, a
gwelai nad ydoedd hono yn pwyso ond deunaw gwaith
gymaint a'r dwfr, ac felly fod yn rhaid fod un ran o
bedair ar bymtheg o honi yn rhywbeth heblaw aur.
Ystyrid yr ymresymiad yn gywir, a'r darganfyddiad
yn glodadwy. Y mae profiad ffydd yn werthfawrus-
ach na'r aur colladwy, ac y mae yn ddiehonadwy ei
brofi yntau yn maddonau trallodion y ddaear. Y mae
miliwnau wedi eu galluogi i ddweyd yn y peiriau
poethaf, " Wedi iddo fy mhrofi, myfi a ddeuaf allan f el
aur." (Job xxiii. 10.)
(c.) Fod yn ddyledswydd arnom arfer amynedd yn
mhrofedigaethaubywyd. Bu Job yn amyneddgar, ac yr
oedd ei ddiwedd yn ogoneddus. Y mae cofianau mil-
oedd eraill yn profi fod goruchwyliaethau chwerwon y
ddaear wedi troi allan, nid yn ddinystriol, ond yn ad-
f eriadol j ac wedi myned allan o honynt, cawsant olwg
newydd ac ardderchog ar gymeriad trugarog yr Ar-
glwydd.
" O fryniau Oaersalem ceir gweled,
Holl daith. yr anialwch. i gyd;
Pryd liyny bydd troion yr yrfa
Yn felus i lanw fy mryd;
Caf edrych ar stormydd ac ofnau,
Ac angeu dychrynllyd a'r bedd,
A minau 'n ddiangol o'u cyrhaedd,
Yn nofio mewn cariad a hedd."
24:6 GWEDDI Y FFYDD YN IAOHATJ Y CLAF.
GWEDDI Y FFYDD YN IACHAU Y CLAF.
"A gweddi y ffydd a iacha y claf, a'r Arglwydd a'i cyfyd ef i
fyny." IAGO v. 15.
Nid deall geiryddiaeth y testyn liwn ydyw yr an-
hawsder. Mor belled ag y mae ystyr ei eiriau yn
myned, nid ydyw wedi achlysuro unrhyw ddadl o
bwys. Cytunir yn weddol gyffredin mai afiechyd
corph, ac nid afiechyd meddwl neu ysbryd, ydyw yr
afiechyd y dywed lago y gall gweddi y fiydd ei symud.
Gwir fod rhai fel Lyra, Schneckenburger, &c., yn
credu y gall gynwys anhwylderau corphorol ac ys-
brydol, ond y rheol ydyw cyfyngu yr anhwylder tyb-
iedig i'r cyfansoddiad allanol. Ac y mae hyny yn cael
ei wneyd yn orfodol gan y cysylltiadau. Ni fuasai
yr Apostol yn cyngori eneinio y corph ag olew er
dwyn oddiamgylch wellhad enaid ; a thrachefn, yn
y frawddeg sydd yn dylyn yr uchod, y mae perthynas
eiriolaeth yr henuriaid ag enaid y claf yn cael ei wa-
haniaethu, "ac os bydd wedi gwneuthur pechodau,
hwy a faddeuir iddo." Ac nid ydyw graddau y claf-
ychdod, ychwaith, yn destyn dadl. Nid y meddyl-
ddrych arweiniol ydyw perygledd y clef yd ; yn hytrach
gallu gweddi y ffydd i'w iachau. Y mae i'r gair a gyf-
ieithir yma yn claf, yn ddiau, ddau ystyr mor belled ag
y mae graddau yn myned, megys afiechyd cyffredin, ac
afiechyd marwol. G-ellir cael engraifft o hono yn gol-
ygu y naill a'r Hall yn Luc ir. 40, a Luc vii. 10. Yn y
geiriau hyn, yn ddiau, golygir un dan ddylanwad af-
GWEDDI T FFYDD YN IACHA.U T CLAJF. 247
iechyd dygn a phoenus, yn wan ac isel, ond nid mewn
perygl uniongyrclaol.
Ac nid ydyw yr ymadrodd " gweddi y ffydd," yn an-
nealladwy. Fel y dywed Meyer, gosodir allan y ffydd
oedd yn eneidiau yr henuriaid yn offrymu gweddi, ond
gofalir dweyd, f el y dywed BurHt, fod effeithioldeb y
ffydd, nid ynddi hi ei hunan, ond yn ei gwrthddrych,
" a'r Arglwydd a'i cyfyd ef i fyny." Y mae yn eglur yn
mhellach, fod gan nid yn unig yr henuriaid, ffydd, ond
hefyd fod y claf tybiedig yn proffesu ac yn ymarfer
ffydd yn Nuw, ei hunan. Nid yn unig yr oedd yn rhaid
iddo fod yn un o'r dysgyblion " yn eich plith," ond
rhagor, f el prawf o'i ffydd yr oedd yn rhaid iddo " alw
ato henuriaid yr eglwys." Felly yr oedd yma ffydd yn
y claf, a ffydd yn yr henuriaid, ac mewn awyrgylch
felly, yr ydoedd yn hawdd i'r gallu dwyfol weithredu.
Y mae anhawsderau yr adnod yn gorwedd, nid yn y
geiriau a geir ynddi, ond yn y defnydd athrawiaethol
a wneir o honi. Dadleuir ei bod yn dysgu fod gan
Gristionogion yn yr oes hon, a phob oes arall, allu i
iachau pob clefyd ac afiechyd yn mhJith y bobl. Nid
Pabyddion sydd yn deongli felly yn unig, ond Protes-
taniaid hefyd. Flynyddau yn ol, ymddangosodd plaid
o bobl (" The Peculiar People "), y rhai a wrthodent
Ibob math o feddyglynau, o herwydd y deongliad hwn
o eiriau lago. Yr oedd y canlyniad, wrth gwrs, yn
drychinebus; a chan na oddef cymdeithas i fywyd
dynol gael ei aberthu ar allor opiniynau crefyddol,
daeth cyfraith y tir yn mlaen gan fygwth erlyniad a
chosb. Yn y blynyddau diweddaraf , y mae honiadau
o alluoedd meddygol drwy ffydd, wedi dyfod yn lluos-
248 GWEDDI T FFYDD YN IACHAU Y CLAP.
og a tliabyrddus, a'r cwestiwn felly wedi cael cyhoedd-
usrwydd mawr. Cyhoeddir yn wythnosol, yn y new-
yddiaduron, enwau a phreswylfeydd personau a Jluont
yn orweddog ac afiach dros nynyddau, ond a iachawyd
yn fywydol drwy y gweddiau a offrymid ar eu rhan.
Ymresymir, gan nad oes gwahaniaeth rhwng afiech-
yd, ffydd, a gweddi, yn awr rhagor yn nyddiau lago, y
gellir cael y golygfeydd perthynasol iddynt yn yr oes
hon, fel yn yr oes hono, ac nad ydyw iacliad cleifion
ond adferiad crefydd i'w gogoniant cynteng, wedi can-
rifoedd o ddirywiad galarus. Cymwysir at y pwnc
hwn yr hyn sydd yn wireb mewn cysylitiadau eraill^
fod yr un galluoedd, tra yn gweithredu o dan yr un
amgylehiadau (?) yn rhwym o gynyrchu yr un eifeith-
iau. Felly, yr
YMHOIiIAD
mawr y mae ymdriniad a'r geiriau hyn yn ein gorf odi
i'w gyfarf od, ydyw : Pa un ai gallu cyfyngedig i'r oes
apostolaidd, neu ynte gallu meddianedig gan eglwys
Crist yn mhob oes, ydyw y gallu i iachau cleinon ?
Mewn gair arall, pan ddygwyddo aelod eglwysig fyned
yn glaf, pa beth ydyw ei ddyledswydd, ani'on am y
meddyg, neu ynte anf on am henuriaid yr eglwys ? Os
ydyw y gallu i iachau yn yr eglwys yn awr, paham na
b'ai ei haelodau yn mwynhau ant'arwoldeb daearol"?
Mewn atebiad, syiwer yn
1. Fod benditliion tymorol wedi eu gosod o fewn
cylch gweddiau pobl Dduw. Yn ol y Beibl, gall y
creadur s ofyn i'r Creawdwr am f ara, am ddillad, am
iechyd, am ddiogelwch, &c. Cydnebydd y rhai a
GWEDDI Y FFYDD YN lACHAtJ Y CLAF.
wawdiant y drychfeddwl o ofyn i Dduw am gyfnewid
cwrs deddfau anian, y gellir gofyn i'r Arglwydd roddi
i ddyn y gyfran helaethaf o ffrwyth eu gweithrediadau
arf erol. Dysgodd lesu Grist ei ddysgyblion i ofyn am
eu bara naturiol, a thrwy hyny, lleolodd fendithion
rhagluniaethol ar restr eirchion ei bob! T mae iech-
yd, yn ogystal a'i gadwraeth oreu, ei adferiad, yn fen-
dith. dymorol anmkrisiadwy.
2. Fod gwir weddi yn cynwys, nid yn unig apeliad
at Dduw am fendithion, ond he/yd yr ymddiriedaeth
Iwyraf yn ei garedigrwydd a'i ddoethineb, serch ei fod
yn eu hatal oddiwrthym. Tin o elfenau hanfodol
gweddi y ffydd ydyw ymostyngiad. Y mae gwir ffydd
yn arwain y gweddiwr, nid i hawlio gan Dduw i'w ateb
yn y modd, ac ar yr amser y myn efe, eithr yn hytrach
i ddatgan ei deimlad o angen, gan adael y cyflawniad
at ewyllys Duw. Tsbryd hunan-falch ac anghrediniol
sydd yn cymell dynion i hawlio gan Dduw weithredu
fel y byddont hwy yn dewis. T mae gwir ffydd yn
gallu gorfoleddu yn Nuw pan yr ym.ddengys yn gom-
edd caniatau y f endith a geisir, yn y ffurf y ceisir hi,
gan gredu y ceir bendith mewn ffurf well, ac ar amser
rhagoraoh, yn unol a hollwybodaeth a charedigrwydd
y cyfranwr mawr. Tmddengys i ni fod gosod yr Ar-
glwydd mewn prawf fel gwrandawr gweddi, o flaen
cynulleidfa o bobl, gan ei gyfyngu i iachad person
claf, yn arogli yn gryf o ryfyg ansanctaidd. Y mae y
fath ymdrech i gornelu Duw ar faterfelly yn drwyadl
anghyson a ffydd fabaidd ynddo.
3. Fod yr Arglwydd wedi arfer gwrando gweddiau
ei bobl, mewn undeb a chydweithrediad tin tu hwy.
16
250 GWEDDI Y FFYDD YN IACHATJ Y CLAF.
Yn yr achos a dybir yn y geiriau dan sylw, cyfarwydd-
ir henuriaid yr eglwys, nid yn unig i weddio am adf er-
iad y claf, ond hefyd cyn gweddio, i ddefnyddio inodd-
ion adferiad, sef olew. Pan yr oedd gwyddoniaeth
f eddygol yn ei mabandod yn y Dwyrain, yr oedd olew
yn gyffir poblogaidd. Ac y mae Niebuhr yn cyfrif am
ei effeithiau iechydol drwy ddweyd, " f od olew, drwy
gau i fyny chwysdyllau y croen, yn atal y trydartniad
(transpiration} gormodol hwnw sydd mor wanychol i'r
cyfansoddiad. Y mae genym dystiolaeth bendant fod
y deuddeg apostol, er eu holl alluoedd gwyrthiol, yn
arfer olew. "Ac a fwriasant allan lawer o gythreul-
iaidj ac a eliasant ag olew lawer o gleifion. ac a'u hiach-
asant." (Marc vi. 13.) Nid y cyrnwysiad o'r olew oedd
yn iachau, mae yn wir; ar yr un pryd ymddengys fod
yr eneiniad ag ef yn gynorthwy i ifydd y claf. Yr
oedd hyd yn nod yr Arglwydd lesu ei hunan, ar am-
serau, yn defnyddio cyfryngau. (Marc vii. 33 ; viii. 23 ;
loan ix. 6.) Nid pa un a allasai Crist a'i apostolion
effeithio iachad heb gyf ryngau ydyw y pwnc ; gwydd-
om y gallent, a'u bod yn fynych yn gwueyd; eithr os
.y darfu iddynt hwy wneyd hyny, pan yn meddu gallu
gwyrthiol, yn sicr dylai y rkai a broffesant ddylyn eu
hesiampl wneuthur yr un peth. Y watwariaeth fwyaf
dirmygus i Gristion deallgar. ydyw clywed dynion yn
gofyn i Dduw gyfranu bendithion ei ragluniaeth yn
gwbl ddigyfrwng, ac heb un ymdrech o'u tu hwy.' Y
cwbl a wna Duw mewn rhagluniaeth, fel mewn gras,
ydyw darparu y feddyginiaeth, galw sylw y claf ati,
ac mewn atebiad i'w weddi, a'r defnyddiad o honi, ei
bendithio er ei adferiad. Byddai yr un peth yn union
GWEDDI Y FFYDD YN IACHAU Y CLAF. 251
ddysgwyl ymddigoniad heb fwyta bara, ag a fyddai
dysgwyl gwellhad yn annibynol ar f oddion. Oblegid
yn
4. Fod iachad dyn yn hollol ddigyfrwng, yn cyn-
wys y ffurf egluraf o allu goruwch-naturiol. Er f od
defnyddiad cyfryngau, ar rai achlysuron, yn gyd-fyn-
edol a chyflawniad gwyrthiau, eto nid oedd cyfryngau
yn hanfodol i wyrthiau. Yn mwyafrif gwyrthiau y
Beibl. y cwbl welir. ydyw, y gallu dwyf ol yn ei effeith-
iau gweledig ; a phob tro y defnyddiwyd cyfryngau,
gwnaethpwyd hyny, nid am nad allasid cyflawni y
gwyrthiau hebddynt, eithr yn hytrach er cadarnhau
ffydd yn y posiblrwydd o honynt. Yr oedd y gallu
gwyrthiol yn meddiant henuriaid yr eglwysi apostol-
aidd, at ba rai y cyfarwyddai lago y claf i anfon. Yr
oedd yr henuriaid yn urdd o swyddogion perthynol i
bob eglwys. (Act. xiv. 23 ; Titus i. 5.) Perthynai
iddynt hwy y gwaith o lywodraethu, yn ogystal a llaf-
urio yn y gair ac yn yr athrawiaeth. (1 Tim. v. 17.)
Yn mhob golygiad, megys yr esgobion a'r diaconiaid,
yr oeddynt yn ddynion cyfrifol a sanctaidd. Ar adeg
eu neillduaeth i'r swydd, y mae yn eglur f od yr apostol-
ion yn ymwybodol o bwysigrwydd ac urddas y swydd-
ogaeth. (Act. xir. 23.) Ar restr doniau yr Ysbryd
Olan i eglwys y cyfnod hwnw, enwir " y dawn i iach-
au." (1 Cor. xii. 9.) Oddiwrth eiriau Paul, y mae yn
hawdd canfod f od gwahanol bersonau wedi eu gwadd-
oli mewn modd arbenig, a'r gwahanol ddoniau. Dy-
wed, "A rhai yn wir a osododd Duw yn yr eglwys ; yn
gyntaf apostolion, yn ail prophwydi, yn drydydd ath-
rawon, yna gwyrthiau; wedi hyny doniau i iaehau,
252 ffWEDDI Y FFYDD YN IACHATJ Y CLAF.
cynorthwyau, llywodraethau," &c. Yn nes yn mlaen
gofyna, "Ai apostolion pawb? ai prophwydi pawb?
ai athrawon pawb ? ai gwneuthurwyr gwyrthiau pawb ?
a oes gan bawb ddoniau i iachau ?" (1 Cor. xii. 28-30.)
Gan i lago ddywedyd wrth y claf am fyned, nid at yr
apostolion, nid at yr athrawon, &c., ond at yr henur-
iaid, nis gall dim fod yn debycach nad i'r henuriaid yr
ymddiriedwyd y gallu goruwch naturiol oedd yn ang-
enrJieidiol i iachau. Sylwer drachefn,
5. Fod pob gallu goruwch-naturiol wedi ei gymeryd
ymaitli o eglwys Crist, naitt ai ar derfyniad yr oes ap-
ostolaidd, neu yn fuan wedi Tiyny. Gwyddom fod
rhai, wrth deimlo anhawsder i anghredu tystiolaethau
Justyn Ferthyr, Tertullian, ac Origen, y rhai a ddy-
wedant eu bod hwy wedi bod yn llygaid-dystion o ryf-
eddodau goruwch naturiol yn niwedd yr ail ganrif, a
dechreu y drydedd, yn gogwyddo i gredu mai ymgilio
yn raddol, ac nid ar unwaith ddarfu i'r "gallu gwyrth-
iol ; ond a chaniatau hyny, nid oes ddadl yn bod yn
mysg Cristionogion uniongred, nad ydyw, er ys canrif-
oedd lawer, wedi ymgilio yn llwyr ac am byth. Y mae
Eusebius, yn y bedwaredd ganrif, yn ysgrifenu am
ddoniau gwyrthiol fel pethau yn perthyn i'r gorphen-
olj a'r rhai mwyaf hwyrfrydig yn nodi esgyniad yr
Ymerawdwr Cystenyn i'r orsedd, fel dyddiad olaf ym-
ddangosiad dim tebyg iddynt. Er nas gwyddom i
sicrwydd pa bryd y darfyddasant, yr ydym yn sicr o
un peth (a gosod y mater ar y tir iselaf), eu bod wedi
llwyr gilio ymaith er ys canrifoedd lawer. Amcan
gwyrthiau ydoedd cadarnhau y datguddiad newydd o
wirionedd, a buasai eu mynychiad anorphen, yn lie
GWEDDI Y FFYDD YN IACHATJ Y CLAP. 253
grymusoli, yn dinystrio eu gallu tystiolaetliol. Ac
heblaw hyny, y mae bodolaeth gwyrthiau yn barhaol,
yn groes i anianawd Cristionogaeth. Megys ag y dy-
wed Trautman, yr hwn a ddyfynir gan Dr. Schaff, yn
ei "Hanes yr Eglwys Apostolaidd," "Fel yn achos
priodas, nas gall y gwleddoedd priodasol yn wastad
barhau, yn fwy nag ysbrydoliaeth y cariad cyntaf wedi
i ddifrifwch a gwaith rheolaidd y bererindodaeth ddy-
f od i f e wn ; f el ag y mae yn rhaid i flodeuaeth, yn ol
trefn gyflredinol natur, syrthio ymaith os ydyw y
ffrwyth i dyfu, felly nis gall, ac ni wna, y gorlifiad o
alluoedd nef ol barhau yn yr eglwys. Nis gall, oblegid
nid ydyw y natur ddynol yn alluog i ddal gwynfyd
llesmeiriol y fath aberoedd o allu oddiuchod, megys y
dangosir gan ymddygiad y tri dysgybl ar fynydd y
gwedd-newidiad. Ni wna, oblegid y byddai parhad y
flodeuaeth yn rhwystro dadblygiad y ffrwyth. Buasai
ardderchawgrwydd y galluoedd uchaf hyn yn anocnel-
adwy yn sefydlu y llygaid a'r galon i ormod graddau
ar allanolion, ac felly dyben a gwaith ffydd, sef gorch-
fygiad mewnol y byd, yn cael ei esgeuluso." A pha-
ham y dadleua dynion fod y gallu goruwch naturiol
a all iachau claf yn aros yn yr eglwys, yn fwy na rhyw
allu goruwch naturiol arall? Os ydyw hwn yn aros,
paham y dygwyd ei gymdeithion ymaith? Os ydyw
ymadrodd doethineb, gwahaniaeth ysbrydoedd, anxryw
dafodau, cyfieithiad tafodau, &c., wedi eu diddymu,
paham y gadawyd y dawn i iachau? Ai tybed nad yw
llygaid y dadleuwyr hyn yn fwy ar ofidiau presenol ac
ofn marwolaeth agosaol y claf, nag ar gysondeb a
gwirionedd"? Teimlodd Edward Irving y rheidrwydd,
254 GWEDDI Y ETYDD YN IACHATJ Y CLAP.
er mwyn cysondeb, os honi presenoldeb im gallu
gwyrthiol yn yr eglwys, fod yn rliaid honi presenol-
deb yr oil o honynt; fel, pan sefydlodd eglwys yn
Llundain yn y nwyddyn 1834, neillduodd ef apostol-
ion, prophwydi, efengylwyr, athrawon, henuriaid, &c.,
y rhai, yn ol y rhag-gynllun apostolaidd, ac yn ol eu
gwahanol swyddau, oeddynt yn prophwydo, yn cyf-
lawni gwyrthiau, yn iachau, &c.; ond erbyn hyn, y
maeut oil wedi tewi mewn dystawrwydd. T mae
"iaohawyr drwy ffydd" yr oes hon, naill ai yn honi
gormod, neu ynte yn honi rhy fach, ac oblegid nyny,
yr ydym yn sylwi
6. Fod yn rhaid gwrthod eu honiadau fel rhai
anghredadwy. T mae y byd Cristionogol oil yn an-
nghredu gwirioneddolrwydd gwyrthiau y Canol-oes-
au. Os ydyw y rhai hyny yn cael eu cyhoeddi yn
ffugiau ofergoelus, paham y derbynir y rhai hyn fel
gwirionedd ? T mae y naill fel y Hall yn gymysgedig
ag ofergoeliaeth ddofn, a phenboethni crefyddol anys-
grythyrol. Megys y rhai hyny, y maent yn cael eu
cyflawni gan ddynion amddifad o urddas a symlr\vydd ;
gan ddynion, mewn gwirionedd, ag y mae eu dychym-
ygion wedi eu fflamychu gan frwdfrydedd, fel nas
gallant iawn farnu eu gweithredoedd eu hunain.
Gallant fwriadu yn dda, ond nid ydynt i ymddibynu
arnynt. Y mae yn ddichonadwy cyfrif ain lawer o'r
gweledigaethau iachaol a hysbysir y dyddiau hyn yn
hollol ar wahan i allu goruwchnaturiol. Mewn erthygl
yn y " Century Magazine" am Mehefin, 1886, y mae y
Parch. J. M. Buckley yn ymroddi yn llwyddianus i'r
gwaith o wneyd hyny. Dywed ef fod llawer o bobl yn
&WEDDI Y FFYDD YN IAOHAU Y CLAP. I 255
dychwelyd o gyflwr o anhwyldeb corphorol heb gym-
eryd cyffeiriau meddygol ; ac fod y dychweliad hwnw,
yn gyfeiliornus, yn cael ei briodoli i ffydd y rhai cys-
ylltiedig. Gellir cyfrif am achosion eraill o-"iachad
drwy ffydd," drwy weithrediad deddfau corph a medd-
wl. Y mae i ddyn ganoli ei holl sylw ar un rhan o'i
gorph mewn dysgwyliad hollol am adferiad y rhan
hono, yn gyffredin yn effeithio cyfnewidiad yn y rhan
hono, a hyny yn gwbl ar wahan i ffydd a gweddi, gan
gymaint dylanwad mecldwl ar y corph. Yn hanes
Martin Luther, ceir amgylchiad a brawf i rai f awredd
ei ddylanwad ar Dduw, fel gweddiwr, ond a brawf i
eraill, fawredd ei ddylanwad ar ddynion, fel dyn Dnw.
Pan oedd Myconius, ei gyfaill, yn glaf, ysgrifenodd
lythyr ato. Syrthiodd Luther ar ei liniau, gweddiodd
gan ddweyd, " Arglwydd fy Nuw, nid elli eto ddwyn
ein brawd Myconius atat ti dy hun. Ni fydd i'th achos
Iwyddo hebddo. Amen." Ar ol gweddio felly, ysgrif-
enodd lythyr at ei frawd claf. " Nid oes achos ofni,"
meddai, " anwyl Myconius ; ni chaniata yr Arglwydd
i mi glywed dy fod wedi marw. Nid elli, ac ni chei
farw." Ar dderbyniad y llythyr cyffrowyd ei gyfaill
claf i'r fath raddau, fel yr ymddrylliodd y gasglfa
oedd ar ei ysgyfaint, y rhedodd ei gynwysiad, ac y
gwellhaodd. Pa un ai llythyr, neu weddi Luther furst-
iodd frothell Myconius "? Yr ydym ni yn credu mai y
llythyr, oblegid pan dderbyniwyd hwnw y dechreuodd
y gwellhad.
Ac y mae yn briodol sylwi nad ydyw yr " iachawyr
drwy ffydd " byth yn cyhoeddi eu methiantau, ond yn
unig yn cyhoeddi y rhai a ddygant fwyaf o ddelw
256 YE YSBRYDION YN NGHAECHAE.
gwirioneddolrwydd. Yn y gradi-feddygaeth hon, fel
y grach-feddygaeth arall, cuddir y methiant, a liyny o
herwydd yr ymwybyddiaeth na clired y byd y gall
Duw fetliu mewn unrhyw beth a addawodd.
Na, yr ydym yn credu fod yr yrahoniad o allu i
" iachau drwy ffydd " yn gosod crefydd Crist mewn
sane anfanteisiol o flaen y byd, ac yn tueddu yn fawr
i'w darostwng. G-ellir gyda phob diogelwch hawlio
nodi y gallu uwchaf yn nhiriogaeth yr Ysbryd. Yn y
cyfeiriad hwnw, daw i fyny am byth a'r dysgwyliadau
uchelaf ; a dyledswydd a braint eglwys Dduw ydyw,
ei gosod i weithredu, nid ar y gweledig, ond ar yr an-
weledig.
YE YSBKYDION YN NaHAECHAR.
" Oblegid Crist hefyd unwaith a ddyoddefodd dros bechodau,
y Cyfiawn dros yr anghyfiawn (fel y dygai ni at Dduw) -wedi ei
f arwolaethu yn y cnawd, eithr ei fywhau yn yr Ysbryd ; trwy yr
hwn yr aeth efe hefyd ac a bregethodd i'r ysbrydion yn ngharch-
ar ; y rhai a fu gynt anufudd, pan unwaith yr oedd hir-amyn-
edd Duw yn arcs yn nyddiau Noe, tra y darperid yr arch, yn yr
hon ychydig, sef wyth enaid, a achubwyd trwy ddwfr." I PETE
iii. 18-20.
Y mae yn hawdd i unrhyw gyfarchwiliwr o arwyn-
ebedd y benod hon ddeall, mai math o ymdafliad yn
rhediad gwythien yr yinresymiad ydynt y geiriau
uchod. Y mae yn wir fod y geiriau yn dal perthynas
a'r hyn sydd yn blaenori, ac hefyd, a'r hyn sydd yn
YE YSBEYDION YN NGHABCHAB. 257
dylyn j ond nid ydynt yn gorwedd yn yr un cwrs, nac
ychwaith yn hollol o'r un ansawdd. Amcan amgylch-
oedd y geiriau ydyw calonogi y Gristionogion i ddy-
oddef, yn hytrach na chyfranogi o ddrygioni eu cyd-
oeswyr ; ac er dirgymell hyny, dygir yn mlaen esiampl
lesu Grist, y Dyoddefwr mawr, yr hwn, er ei ladd, a
fywiocawyd yn yr Ysbryd, a'r hwn, er ei osod yn y
bedd, a dra-ddyrchafwyd ar ddeheulaw Duw (adn.
22ain). Yr ymresymiad ydyw, os y gwobrwywyd y
Blaenor a'r fath ogoniant am ddyoddef, yn ol ewyllys
Duw, fod hyny yn cyfansoddi sicrwydd y caiff pawb,
a ddyoddefant wrth wneuthur daioni, gydnabyddiaeth
gyfatebol yn y llywodraeth fawr. Dyna y brif linell,
ac y mae y cwbl a ddywedir rhwng y gair -ysbryd yn
niwedd y 18fed adnod, hyd y frawddeg, " trwy adgyf-
odiad lesu Grrist," yn niwedd yr 21ain, yn wyriad (di-
gression) oddiwrthi. Ac nid ydyw nyn yn beth an-
nghyffiredin yn yr epistolau. Yn fynych y mae yr
ysgrifenydd yn cael ei gludo ymaith, yn ngrym deddf
cymdeithasiad meddyliol, naill ai gan air, neu ynte gan
f eddylddrych, ond yn dychwelyd yn ol drachefn, gan ail
ymafael yn y pwnc a drafodai yn flaenorol. Yn yr en-
ngraifft dan sylw, yn gwbl ddirybudd, y mae crybwyll
enw ysbryd lesu Grist yn gogleisio ysbryd Pedr, ac
megys wedi ei swyno ganddo, gan fethu gollwng ei
afael o hono, a i grwydro yn ei gymdeithas, a gwel ef,
yn ei amynedd anf eidrol, yn cyf odi i fyny ei bwlpud ar
wastadedd y byd cyn y diluw, gan ymbil a phechadur-
iaid i dderbyn y diogelwch dwyfol.
YMHOLIADATJ.
Pwy ydynt yr ysbrydion yn ngharchar ? Pa fatli le
258 YB YSBEYDION YN NGHAECHAB.
ydyw y carchar maent ynddo? Yn mha gyfnod y
darfu i Ysbryd yr lesu bregethu iddynt ? Drwy ba
Ysbryd yr ydoedd yn pregethu ? A f u Ef e yn y carch-
ar yn bersonol ? Pa beth ydoedd natur y genadwri a
draddododd i'r ysbrydion ?
Yn nghanol llawer o bethau dyryslyd sydd yn y
geiriau, y mae ynddynt dri pheth a ymddengys yn
weddol eglur. Y pethau hyny ydynt a ganlyn : Yn
gyntaf, eu bod yn adrodd hanes poblogaeth y ddaear
mewn cyfnod ac arngylchiadau neillduol yn ei hanes.
Yn ail, fod poblogaeth y ddaear, yn y cyfnod arbenig
hwnw, wedi bod yn ddeiliaid gweinidogaeth Ysbryd yr
Arglwydd lesu. Yn drydydd, fod gweinidogaeth Ys-
bryd Crist, yn ei pherthynas union gyrchol a'r genedl-
aeth hono, wedi ei haneffeithioli gan eu hanufudd-
dod.
I. Y MAE Y GEIBIAU YN ADBODD HANES DYNION OEDDYNT
YN BYW MEWN CYFNOD NEILLDUOL. Megys yn rhagweled
gogwydd oesau dylynol at gyf eiliornad, y mae Pedr yn
ynaroddi i neillduoli neillduolion y cyn-ddiluwiaid.
Sylwer fel y manyla, er gwneyd digon o wahaniaeth
rhyngddynt a phawb eraill yn mhob oes, ac yn mhob
gwlad :
1. " Y rhai a fu gynt anufudd."
2. " Pan unwaith yr oedd hir-amynedd Duw yn
aros."
3. "Yn nyddiau Noe."
4. "Tra y darperid yr arch."
Enillodd y cyn-ddiluwiaid enwogrwydd am anufudd-
dod. Oblegid hyny dywedir. "y rhai a fu gynt #?/-
.ufudd" Ond gan fod anufuddion wedi bod yn mhob
YR YSBBYDION YN NGHABCHAE. 259
oes, ychwanegir fod yr anufuddion y meddylia Pedr
am danynt yn dwyn y cymeriad hwnw ar adeg neill-
duol, sef yn amser ymgais fawr enwog eithriadol am-
ynedd Duw, " pan unwaith yr oedd amynedd Duw yn
aros." Ond gan fod amynedd Duw mor anfeidrol
ymarhcms bob amser, ychwanegir drachefn mai nid yn
nyddiau Abraham, nac yn nyddiau Moses, yr ymarfer-
wyd yr hir-ymaros rhyfedd hwn, ond "yn nyddiau
Noe." A. rhag ofn y posiblrwydd o gamgymeriad, cyf-
yngir drachefn ar y cyfyngiadau blaenorol ; dewisir
dyddiau allan o ddyddiau, a nodir y blynyddoedd ar
ba rai y cymerodd amgylchiad unigol ac enwog le, a
dyna oeddynt, " tra y darperid yr arch," y chwech
ugain mlynedd rhyfedd hyny yn hanes y cenedloedd.
Gallai y dyn disylw feddwl fod y fath fanylwch yn af-
reidiol, ond nid felly y mae, oblegid y manylwch hwn
ydyw cychwynfan deongliad y geiriau. Gwybodaeth
sicr, oleu, ddigamsynied, pwy ydoedd y bobl y preg-
ethodd Ysbryd Crist iddynt, ydyw yr allwedd sydd yn
datgloi dirgelion yr adnodau. Oddigerth ein bod yn
hollol sicr ar y cwestiwn hwn, nid oes un sicrwydd y
deallwn un ran o'r ymadroddion. Er mwyn argraffu
y pwysigrwydd o gysylltu pob peth a ddywedir yma
a'r cyn-ddiluwiaid, nyni a nodwn rai o'r cyfeiliornadau
y mae anghofio neu anymwybyddu hyny wedi ei ach-
lysuro.
(a.) Y mae rliai yn dadleu fod y geiriau yn cyfeirio-
at IregetJiu yr apostolion i'r lyd anghrediniol. Mynir,
fel y sylwa Dr. Gloag yn ei " JEJxegetical Studies,'*
ystyried yr " ysbrydion yn ngharchar " fel ymadrodd
cyffelybiaethol, yn cael ei ddefnyddio i ddynodi lu-
260 YE TSBEYDION YN NaHARCHAE.
ddewon a Chenedloedd, dichon y ddau, y rhai oeddynt
raewn cyfrwr o gaetliiwed ysbrydol ; ac wrth " breg-
ethu Ysbryd Crist iddynt " y golygir pregethu Ysbryd
Crist drwy yr apostolion, Hawlir yn mhellach fod yr
efengyl yn fynych yn cael ei chynrychioli fel cyhoedd-
iad o ryddhad i gaethion (Esaiah xlii. 6-7 ; xli. 1), ac
er rhoddi rhyw fatli o debygolrwydd gwirionedd i'r
esboniad, dywedir fod y rhai oedd yn anuf udd yn nydd-
iau Noah yn cael eu crybwyll yn unig fel esiamplau o
anufuddion pob oes ; a phregethu Noah yn rhag-gyn-
llun o bregethu y .deuddeg apostol. Gwyddom nad
ydyw y fath ddeongliad yn deilwng o ystyriaeth am
eiliad, ac ni fuasai ynddo ei hun yn deilwng o unrhyw
sylw, oni buasai fod ei grybwyll yn profi mor agored
ydyin i gyfeiliorni, os am eiliad y caniateir fod yma
gyfeiriad at neb ond gwrandawyr Noah.
Wrth anghofio neu anymwybyddu y ffaith mai
gwrandawyr Noah yn unig sydd yn cael son am dan-
ynt, rhoddwyd genedigaeth i gyfeiliornad arall, sef,
(Z.) Darfod i Grist, ar ol marw, ddisgyn i Hades,
myned at saint yr Hen Destament, cyhoeddi iddynt ei
fuddugoliaefh ar fiechod ac angau, gan eu sicrJiau o
adgyfodiad ac iachawdwriaetli lerffaitli. Nid ydym
yn synu cyniaint fod eglwys Ehufain wedi syrthio i'r
amryfusedd hwn, ond y mae ef yn dipyn o eyndod fod
cynifer o'r tadau, megys Irenseus, Justyn Ferthyr a
Tertullian, ac yn enwedig fod cynifer o'r Drwygwyr,
megys Calvin, Zwingle, &c., ac yn wir, rhai Protestan-
iaid diweddarach, yn eredu ac amddiffyn y fath gyf-
eiliornad. Yn ol y dyb hon, yr oedd yr holl gyfiawn-
ion, o Abel gyfiawn hyd at y sant olaf a aeth i ogon-
YE YSBBYDION YN NGHAECHAR. 261
iant cyn marw Crist, yn gynulleidfa fawr, mewn ystaf ell
eang (Lumbus Putrum Holwyddoreg Cyngor Trent),
yno yn gorphwys mewn diogelwch, eto heb fod yn
gwbl ddedwydd ; er hyny, mewn gobaith am fwynhad
ychwanegol, drwy glywed am fuddugoliaeth y Messiah.
Canf yddir y meddylrych hwn yn " Dffern " Dante
(Cantawd iv.), pan ddywed :
" I was new to that estate,
When I beheld a puissant one arrive
Amongst us, with victorious trophy crowned.
He, first, the shape of our first parent drew ;
Abel, his child, and Noah, righteous man ;
Of Moses, law-giver ; for faith approved,
Of patriarchal Abraham ; and David, king ;
Israel with his sire, and his sons,
Not without Bachel, whom so hard he won ;
And others, many more, whom He to bliss
Exalted."
Tma y drychfeddwl ydyw y purdan. Haerir fod y
rhai drwg iawn yn uffern, y rhai da iawn yn y nef oedd ;
ond y rhai canolig yn y purdan, er fod Gair Duw yn
hysbysu nad oes ond un man i buro ynddo, sef y ddaear.
T mae pob ymddangosiad o wirionedd yn cael ei dynu
ymaith o'r dyb hon gan hysbysiad pendant y testyn,
sef mai nid pobl dda, mai nid pobl ufudd, mai nid pobl
grediniol, fel saint yr Hen Destament yr aeth Crist i
bregethu iddynt ; ond pobl ddrwg, pobl anufudd,
pobl anghrediniol, y cyfryw nad oedd ond carchar yr
ymerodraeth yn gweddu iddynt. Megys y dywed y
diweddar Dr. Jones, Llangollen, mewn pregeth a gy-
hoeddodd ar y geiriau hyn : " Nid ysbrydion yn
ngharchar oedd eneidiau Abraham, Isaac, Jacob,
262 YB YSBRYDION YN NftHA.BOHAE.
Moses, a'r prophwydi, cyn ymddangosiad a marwol-
aeth Crist."
Y mae gwrthod cydnabod y ffaith mai cyd-oeswyr
Noah ydyw y dosbarth y sonia Pedr am danynt wedi
arwain i gyfeiliornad arall, sef,
(c.) Foci lesu Grist, yn y cyfwng rhwng ei farwol-
aeth a'i adgyfodiad, wedi disyyn i uffern^ ac wedi cy-
hoeddi yr iachawdwriaeth a orphenasai yn nghlyw y
miliwnau damniedig. Y mae awdurdodau uchel, lien
a diweddar, yn hawlio nad ydyw yn ddichonadwy
esbonio yr adnodau ond yn ngoleuni y fath osodaeth.
Y mae yr awdurdodau hyn yn gwahaniaethu gyda gol-
wg ar y nif er a gaf odd gynyg ar drugaredd f addeuol.
Tra y mae rhai, fel Alford, Cook, &c., yn credu mai y
cyn-ddiluwiaid anufudd yn unig o lioll drigolion Ge-
henna gawsant glywed geiriau ef engyl yn y golledig-
aeth ; y mae eraill, megys Farrar, Plumptre, &c., yn
tybio fod anufuddiaid dyddiau Noah yn cael eu cryb-
wyll yn unig fel esiamplau o'r un drugaredd ag a
estynwyd i'r holl golledigion, ond fod y ffaith hono, i
ryw ddybenion, wedi ei chuddio oddiwrthym. Mewn
gair arall, fod buddugoliaeth Crist ar y groes wedi
ei ddylyn gan fath o Jubili fawr yn uffern, ac i'r lesu
agor drysau y carchar i bawb oedd yn dewis myned
allan o hono. " Os oes i iaith unrhyw feddwl," medd-
ai Farrar yn ei " Early Days of Christianity" "ymae
yr iaith hon yn meddwl fod Crist, pan y disgynodd ei
Ysbryd i'r byd isod, wedi cyhoeddi cenadwri iachawd-
wriaeth i'r meirw a fuont unwaith yn anedifeiriol."
Gwel coleddwyr y dyb hon gadarnhad pellach iddi
niewn dau fan arall yn y Testament Newydd. Nodir
YE YSBRYDION YN NGHAKCHAE. 263
yr adnodau canlynol : " Ac ef e yn rhag-weled, a lef ar-
odd am adgyfodiad Crist, na adawyd ei enaid ef yn
uffern, ac nas gwelodd ei gnawd ef lygredigaeth "
(Actau ii. 31). Drachefn : " Canys er mwyn hyny yr
ef engylwyd i'r meirw liefyd ; f el y bernid hwy yn ol
dynion yn y cnawd, ac y byddent fyw yn ol Duw yn yr
ysbryd " (1 Pedr iv. 6). Ni fydd i ni aros yn awr i
geisio egluro y geiriau yna. Bhifa y farn hon y gwyr
urddasolaf yn mysg ei chefnogwyr, a rhaid cydnabod
liefyd fod ynddi gyd gordiad ymddangosiadol a geir-
yddiad y testyn. mae un ystyriaeth, er hyny, sydd
yn gwbl ddymchwelol iddi; sef ei bod yn gwbl an-
nghyson a ffydd yr efengyl. Nid oes y crybwylliad
lleiaf yn unman arall am ddisgyniad Crist i uffern, ond
dywedir yn bendant ei fod, ar ol marw, wedi myned,
nid i uffern, ond i Baradwys. "Heddyw y byddi gyda
mi yn mharadwys " (Luc xxiii. 43). Heblaw hyny, a
ydoedd y pechaduriaid cyn- ddiluwaidd, neu ynte y
pechaduriaid a fuont feirw cyn marwolaeth Crist, yn
fwy teilwng o gynnyg o drugaredd na phechaduriaid
oesau a chenedlaethau eraill ? Os y rhoddwyd cynnyg
ymwared i rywrai, rywbryd, yn y trueni, paham y
dywed y Beibl fod cyflwr pawb yn dragywyddol an-
nghyfnewidiol, unwaith yr ant yno? Y mae dameg
Divas a Lazurus yn dysgu fod pawb yn y byd a ddaw
yn ei le ei hunan, a hyny yn oes-oesodd. Os y
gwnawd cynyg o drugaredd i'r cyn-ddihrwiaid yn y
trueni, paham nad ellir credu y caiff y miliwnau sydd
yno hefyd a wrthodasant Grist, yr un ragorfraint an-
feidrol? mae credu yr esboniad hwn yn ein harwain
i gredu mewn Adferiad, ie, yn arwain at gredo y Cyff-
264 YE YSBRYDION YN NGHAR.CHAR.
redinolwyr, y rhai a gyhoeddant y bydd pawb yn gad-
wedig, a liyny ar wahan i'w oymeriadau moesol. Os.
credu y naill neu y Hall, y mae yn rliaid anghredu y
Beibl. Na, yn y byd hwn yn unig y cafodd gwran-
dawyr Noah gyneusterau aehubol, ac yn y byd hwn yn
unig y mae trugaredd ddwyfol yn ymgeleddu eto.
Dywedir yn eglur drachefn yn y tesfcyn yn
II. FOB Y CYN-DDILTTWIAID WEDI BOD YN DDEILIAED
GWEINIDOGAETH TSBEYD YR ARGLWYDD lESU. Y mae
yma ddau betli yn cael ei ddweyd am y weinidogaeth
nono. Yn
(a.) Ei ffurf hi. " Trwy yr hwn yr aeth Efe ac y
pregethodd" Y mae y gair a gyfieithir yma pregethu
yn golygu y swyddogaeth o gyhoeddi, un yn cyhoeddi
cenadwri dros arall. Nid ydyw y gair, o angenrheid-
rwydd, yn golygu cyhoeddi itewyddion da, er mae yn
eglui* oddiwrth ei gysylltiad yma, mae cenadwri at y
trallodedig ydyw, yn cynyg iddo noddfa a-diogelwch.
Y mae ystyr y gaii- hwn yn gwneyd ymaith a chredo yr
Eglwys Lutheraidd ar y pwnc hwn. Dywed Cyffes
Ffydd yr eglwys hono : " Yr ydym ni, gan hyny, yn
syml yn credu fod Crist yn ei holl berson, Duw a dyn,
ar ol ei gladdedigaeth, wedi disgyn i uffern, gorchfygu
Satan, dymchwelyd gallu uffern, a chymeryd oddiwrth
ddiafol bob nerth a gallu." Yr ydym ninau yn credu,
gyda gorfoledd enaid, fod Crist wedi buddugoliaethu
ar ddiafol, ei fod wedi dinystrio sylfaeni ei deyrnas, ac
na f ydd i'w ben briw wella yn oes oesoedd ; ond f e
wnaethpwyd hyny, nid ar belmynt y f allgyrch, ond ar
Galfaria. Drwy, ac yn y groes yr yspeiliwyd y tywys-
ogaethau, ac y taflwyd hwy oddiar thronau y greadig-
YB YSBRYDION YN NGHARCHAR. 265
aeth faterol. Golyga y gair pregethu, nid dymchwel-
iad gallu, ond cyflwyniad cenadwri.
(b.) Cyfrumg y weinidogaetTi. "Trwy yr hwn (yr
Ysbryd) yr aeth Efe, ac y pregethodd," &c. Ni fu yn
pregethu yn bersonol, eithr pregethodd drvvy ei
Tsbryd, yr Ysbryd a fywhawyd drwy yr adgyfodiad
oddiwrth y meirw. Pregethodd, nid tra yn y cnawd,
ond cyn gwisgo cnawd ; felly os pregethu o gwbl, yr
oedd yn rhaid iddo bregethu yn yr Ysbryd ; ac os
pregethu yn yr Ysbryd, rhaid mai pregethu yr yd"
oedd drwy Noah, "pregethwr cyfiawnder." Y mae
yr ysgolhaig enwog, Dr. Eobinson, Efrog Newydd,
yn cyfieithu yr adran fel hyn : " Yn yr hon (natur
ysbrydol) y pregethodd efe unwaith (trwy Noah) i'r
ysbrydion hyny sydd yn awr yn ngharchar." (Rob-
inson's Lexicon, o dan y gair pneuma.) *Yr un
ysbryd dwyfol ag oedd yn y prophwydi "pan oedd efe
yn rhag-hysbysu dyoddefiadau Crist, a'r gogoniant ar
ol hyny," oedd hefyd yn Noah, yn galw sylw ei gyd-
oeswyr at y farn oedd ar ddyfod, a'r ymwared oedd
wedi ei drefnu gan Dduw. Yn moreu oes y byd aeth
Crist drwy Noah at y cyn-ddiluwiaid; ond yn y dydd-
iau diweddaf hyn, "Efe a ddaeth ac a bregethodd
dangnefedd i chwi y rhai pell, aci'r rhai agos" (Ephes.
ii. 17).
Ond y mae yn eglur fod, yn
III. GWEINIDOGAETH YSBRYD CRIST I'R CYN-DDILUWIAID
WEDI PROFI YN ANEFFEiTHioL. Y mae dwy frawddeg
sydd yn cynwys hane%eu sefyllfa yn y prawf ac yn y
gosb yn dangos hyny.
(a.) Ar y ddaear yr oeddynt yn anufudd. " Y rhai
17
266 YB YSBRYDION YN NGHAKCHAR.
a fu gynt yn anufudd." Buont yn anufudd, er fod un
gymeriadau goreu yr oesau yn pregethu iddynt.
Buont yn anufudd, er fod Ysbryd Crist yn y cymeriad
mawr hwnw. Buont yn anufudd, er y rhybuddion eg-
luraf a lluosocaf. Buont yn anufudd, er yr arddang-
osiad llawnaf o amynedd dwyfol. A buont yn an-
ufudd, er cael eu hysbysu fod unig gyfleustra ynrwared
yn cael ei ddarparu ar eu cyf er ! Och ! f y enaid, gyn-
nifer o filiwnau sydd yn awr, megys a fu gynt, yn ym-
ryson ag Ysbryd yr Arglwydd, ac yn mynu damnio eu
hunain !
(b.) Yn uffern y maent mewn car char. Dywed y
beirniad, Dr. Jones, yn y bregeth y cyfeiriasom ati
eisioes, fod "y rhag-ferf amserol, l yn awr' yn ddeall-
adwy yn yr adnod, ac liefyd, fod nyny yn gwneyd y
daiileniad yn ddealladwy." " Trwy yr hwn yr aeth efe
liefyd, ac a bregethodd i'r ysbrydion (yn awr) yn
ngharchar : (liyny ydyw,) y rhai a fu gynt anufudd,
pan unwaith," &c. Uffern ydyw carchar mawr yr ym-
erodraetli. T mae gwrandawyr Noan wedi bod yno
erbyn hyn am tua phedair mil a haner o nynyddau,
ond heb fod yn agosach i gael gollyngiad na'r foment
gyntaf. Y mae yna, ys dywed Burkit, ddrws i ollwng
1 fewn i uffern, ond nid oes yno ddrws i ollwng allan.
Y GYFFELYBIAETH GYFATEBOL. 267
Y GYFFELYBIAETH GYFATEBOL.
" Gyflrelybiaeth. cyfatebol i'r hwn sydd yr awrhon yn ein hacb.-
nb ninau, sef bedydd (nid bwrw ymaith. fudreddi y cnawd,
eithr ymateb cydwybod dda tuag at Dduw) trwy adgyfodiad lean
Grist."! PETE iii. 21.
Edrychir ar yr adnod hon, mewn undeb a'r adnod
sydd yn ei blaenori, f el ystorgell athrawiaethau gwa-
hauol. Gwel un dosbarth ynddynt gadarnhad i'r
athrawiaeth ganlynol: naegys y pregethodd Grist i'r
cyn-ddiluwiaid yn ngharchar uffern, felly caiff y rhai a
ymadawant a'r byd hwn, heb fod yn gwbl dda, gynyg
eto ar drugaredd yn y byd a ddaw. Dyna y purdan,
dyna y sefyllfa ganol, dyna y gymodfa y dywed yr off-
eiriad Pabaidd, ond i ddynion roddi arian iddo ef , a
chlod i Dduw, y gall ollwng eu perthynasau allan o
honi, gan eu trwyddedu i'r Baradwys well. Grwel dos-
bartb. arall yn y geiriau gefnogaetb. i'r athrawiaeth
hon: megys yr achubwyd Noah, a'i deulu drwy yr
arch, felly achubir dynion eto drwy fedydd. Dyna
adenedigaeth fedyddiadol, dyna rinwedd sacramentol,
dyna honiadaeth offeiriadol. Dywed yr offeiriad defod-
ol y gall ef, f el olynydd yr apostolion, ond nad all neb
ond ei hunan, wrth weinyddu yr hyn a eilw yn
fedydd, wneuthur unrhyw un "yn aelod o Grist, ac yn
etifedd teyrnas nefoedd." Gwel y trydydd dosbarth
yn y geiriau ategiad i athrawiaeth arall, sef, megys ag
y cadwyd plant Noah ar gyfrif ffydd eu tad, felly
cedwir plant credinwyr yn rhinwedd cyfamod Abra-
ham. Dyna had y ffyddloniaid, dyna y genedl ethol-
268 Y GYFFELYBIAETE GYFATEBOL.
edig, dyna blant y cyfamod, y rhai a allant fforddio
edrycli i lawr oddiar uehelderau eu rhagorfreintiau,.
gyda dirmyg, ar bechaduriaid cyffredin. Gwel dos-
barth arall ategiad yn y brawddegau i athrawiaeth wa-
hanol ; sef, megy s ag mai ar Iwybr uf udd-dod ffyddiog
yn Nuw yr achubwyd Noah a'i deulu; felly, ar dir ym-
ostyngiad i orcliymynion y nef oedd y cedwir eredinwyr
trochedig yn awr. T mae y Bedyddwyr erioed wedi
ymlochesu yn amddiffynf eydd y testyn, ac wedi derbyn
llawer o adloniant o'r dyfroedd a redant drwyddo;
ond wrth gadw meddiant o hono, y maent wedi bod o
dan warchaeaeth ac eiiedigaeth.
YMHOLIA.DAU.
I ba beth y mae bedydd yn_ gyffelyb, i arch Noah r
neti ddyfroedd y diluw ? Yn mha ystyr y mae bedydd
yn achub ; a ydy ^ yn achos haeddianol, neu ynte yn
gyfrwng trosglwyddiadol achubiaeth ? Pa beth ydyw
effaith bwriadedig bedydd ; glanhad y corph, neu
daweliad y gydwybod 1
Fod cyfeiriad yn y testyn at fedydd y Testament.
Newydd sydd anamheuadwy, ac annadleuadwy. Ac y
mae yn eglur hef yd f od tair o weddau gwahanol perth-
ynol i'r ordinhad yn cael eu crybwyll ynddo. Bhydd
ygeiriau fantais i sylwi ar fedydd oddiar jMr sane; yr
un gyffelybiaethol, yr un negyddolj a'r un gadarnhaol.
Bedydd yn gyffely'biaeihol. " Cyffelybiaeth cyf-
atebol i'r hwn sydd yr awrhon yn ein hachub ninau,.
sef bedydd."
Y mae genym anxryw gyfieithiadau o'r adnod heblaw
yr un Cymreig, ond y mae yn dra amheus a oes un o-
Y GYFFELYBIAETH GYFATEBOL. 269
honynt yn rhagori arno. Nid ydyw y cyfieithiadau
Ethiopaidd, Lladinaidd a Syriaidd, o ran sylwedd, yn
gwahaniaethu ond ychydig oddiwrtho. Ac nid ydyw
y cyfieithwyr Seisnig, megys Alford, &c. 3 wedi gweled
angen am gyfnewid ond ychydig ar y cyflead. Y
maent yn cyfleu yr un meddylddrychau, gydag ych-
ydig o wahaniaeth geiriol. Tmgais fawr pob un o hon-
ynt ydyw gwneyd syniad yr Apostol yn ddealladwy ;
sef, fod yna ffeithiau yn hanes achubiaeth Noah sydd
yn meddu ar eu gwrth-barthau yn hanes y crediniwr
bedyddiedig. Gwir fod Testament Alford, yn lie dar-
llen " cyffelybiaeth cyfatebol," yn darllen " gwrth-
gysgod (antitype) i'r hwn sydd yr awrhon yn ein
hachub," &c., a gwir hefyd fod y Cyfieithiad Diwygied-
ig yn darllen, " Tr hwn hefyd, megys adlun cywir (a
true likeness} sydd yr awrhon yn eich achub chwi-
thau," &c. Gwelir fod y. cyfieithiad Cymreig yn rhoddi
datganiad i'r meddylddrychau hyn, oblegid dywed am
fedydd mai rhywbeth cyffelyb ydyw i'r hyn y bu yn
sylwi yn flaenorol arno ; a rhagor, fod rhanau y gy-
ffelybiaeth, yn y llun a'r gwrth-lun, yn cyfateb yn y
modd mwyaf tarawiadol. Ystyr eiriadurol a phriodol
y gair dan sylw, fel y sylwa Kobinson, ydyw, gwrth-
ddrych yn gwrthwynebu tarawiad, ac yn y gwrth-
safiad yn derbyn argraff oddiwrth y tarawiad. Yn y
Testament Newydd, golyga y peth a ffurfir yn ol rhag-
gynllun, ac a gyfateba yn mhob golygiad i'r rhag-
gynllun hwnw. Oblegid hyn, yn ddiau, y mae y
Parch. James Bowe, Abergwaen, yn ei gyfrol pregethau,
yn defnyddio yn eglurebau o'r ymadrodd, waith dynion
yn gosod argraff y Frenines ar y bathodyn, yn ogystal
270
Y GYFFELYBIAETH GYFATEBOL.
a gwaith Moses yn carlo allan y portread o'r tabernael
a dderbyniasau oddiwrth Dduw ; f od y naill, f el y Hall,
yn rhoddi engreifftiau o lun a gwrth-hm. Tn gymaint
ag fod y petliau sydd yn arwyddocau yn aehubiaeth
Noah, a'r petliau a arwyddocant yn achubiaeth y bed-
yddiedigion, dipyn yn amblygiedig, yr ydym yn cyd-
ymdeimlo ag Alford pan y sylwa nad ydyw yn hawdd
iawn canfod y llinellau cyfelydd ynddynt. Ond os
ydyw hyny yn anhawdd, nid ydyw yn annichonadwy.
T mae rhai o honynt yn gorwedd ar wyneb y geiriau.
Y mae yn eglur f od yr wyth enaid yn ardebol o'r
Gristionogion ; fod achubiaeth yr wyth enaid yn rhag-
gynlluniol o achubiaeth y rhai bedyddiedig; fod yr
arch yn rhag-gysgodi yr lesu adgyf odedig ; fod dyfr-
oedd y diluw yn arwyddocaol o ddyfroedd y bedydd ;
ac fod y waredigaeth dymorol, yn y cyfanswm o honi,
yn ddarlun o'r waredigaeth ysbrydol y mae bedydd yn
trosglwyddo dyn i'w gafael. Dichon mai yr unig
gwestiwn o bwys yn yr ymchwiliad am y llinellau a
berthyn i'x cysgod yn nyddiau Noah, ac a berthynant
hefyd i'r sylwedd yn nyddiau Pedr, ydyw a ganlyn :
Pa beth yn neillduol sydd yn cael ei gynrychioli yn y
rhag-enw perthynasol hwn ? " Cyffelybiaeth cyfatebol
i'r Aton," &c. Cyffelybiaeth gyfatebol i beth ; i'r arch,
y dwfr, neu rywbeth arall? Ms gall y rhag-enw
" hwn " fod yn dal cysylltiad a'r arch, oblegid y mae
gwahaniaeth yn rhywiau y ddau air. T mae yr arch
yn y rhyw fenywaidd, " yn yr hon ychydig, sef wyth
enaid " ; ond y mae y rhag-enw yn y rhyw wrywaidd,
a chan fod enw a rhag-enw, bob amser, yn unrhywiol,
pan ddefnyddir hwy i osod allan yr un gwrthddrych-
Y GYFFELYBIAETH GTFATEBOL. 271
au, nis gall y rhag-enw yn y cysylltiad hwn fod yn
sefyll am yr arch. Yr ydym yn hytrach yn credu mai
y rhag-naenedydd yn yr achos hwn ydyw y gair dwfr
yn niwedd yr 20f ed adnod, ac mai yr hyn a ddysgir yn
benaf felly ydyw, megys ag y cludwyd Noah a'i deulu
yn ddiogel i fyd newydd, felly y symudir y Cristion-
ogion, drwy ddyfroedd y bedydd, o deyrnas Satan i
deyrnas anwyl Fab Duw. Gwyddom fod yn y gyffel-
ybiaeth amryw debygoliaethau eraill heblaw yr un ar-
benig hon. Ceir y rhai hyny wedi en gosod allan yn
gywrain gan Dr. Jones. Llangollen, yn ei " Weithred
Fedyddio." Gosodwn ger bron y daiilenydd dal-
fyriad o honynt.
1. " Effaith ffydd oedd gwaith Noah yn adeiladu yr
arch. Un o ffrwythau ffydd y Cristion yw ei ymost-
yngiad i f edydd.
2. Ymwrthodai Noah a phob cynllun dynol i'w
achub, a derbyniai gynllun Duw. Felly y credadyn yn
y bedydd ; y mae yn ymwrthod a phob peth dynol.
3. Parch i Dduw oedd yn cymell Noah i ymostwng.
Gwaith ' cydwybod dda ' yn ymofyn a Duw yw bed-
ydd j parch i osOdiad Duw sydd yn peri iddo gymeryd
ei fedyddio.
4. Dangosodd Noah- ymddiried yn Nuw wrth f yned
1 mewn i'r arch. Felly y credadyn ; dengys ei fod yn
ymddiried yn marwolaeth, claddedigaeth, ac adgyf od-
iad Crist, fel sail ei gymeradwyaeth ger bron Duw.
5. Yr oedd Noah yn gladdedig yn nyfroedd y diluw.
Felly y mae y credadyn i gael ei gladdu gyda Christ
yn y bedydd.
6. Yr oedd Noah yn cael ei achub trwy ddwfr y di-
272
GYFFELYBIAETH GYFATEBOL.
luw. Cludai y dwfr yr arch fel na ddryllid lii. Gofal-
odd Capten ein hiachawdwriaeth am y Hong. Tr oedd
ufudd-dod Noah, yn ei achub rhag dinystr ac euog-
rwydd y rhai a*ddyfethwyd. Y mae bedydd yn achub
yr ufudd rhag ofnau yr anufudd, a chyhuddiadau cyd-
wybod euog y rhai sydd yn diystyru cyngor Duw yn
hyn.
7. Daeth Noah allan o'r arch yn ddiogel, fel dines-
ydd y byd newydd. Trosglwyddwyd ef yn yr arch
gan y diluw o'r hen fyd i'r byd newydd. Felly bed-
ydd ; y terfyngylch rhwng y byd a'r eglwys ydyw-
Pan y bedyddir y credadyn, y mae mewn modd gwel-
edig yn symud o'r byd i'r eglwys. Crist yw y drws
ysbrydol i'r eglwys, ond bedydd yw y drws allanol.
Trwy fedydd y mae efe yn dyf od i mewn i'r eglwys,
fel Noah i'r byd newydd. Nis gellir egluro cyffelyb-
iaeth Pedr oddieithr i ni gydnabod mai bedydd y
crediniol trwy drochiad yw ordinhad Crist."
JSedydd yn nacaol. " Nid golchi ymaith fudreddi
y cnawd." Amcan y golchiadau luddewig ydoedd
" pureiddiad y cnawd." Tr oeddynt wedi eu bwriadu
i symud ymaith halogrwydd corphorol a seremoniol.
Y tebygolrwydd ydyw fod yr Apostol yn gweled y
rheidrwydd o wneyd y gosodiad negyddol hwn er
gwneyd gwahaniaeth i'r meddwl luddewig rhwng gos-
odiadau y gyfraith a'r ordinhad Gristionogol. Ni
fuasai angen y fath ragocheliad ar feddwl Cenedlig.
Ni fu neb erioed yn credu mai amcan bedydd Crist
ydyw glanhau y dyn oddi allan. Grwir fod gwawdwyr
oesau o'r blaen, yn eu cynddaredd, yn cyhuddo y Bed-
ydd wyr o " olchi eu gilydd yn y pwllyn fel y golchir
Y GYFFELYBIAETH GYFATEBOL. 273
def aid ; " ond cydnebydd pob dyn o synwyr cyffredin,
nad ydyw dull gweinyddiad yr ordinhad, yn ol y dull
apostolaidd, yn rhoddi unrliyw debygolrwydd o wir-
ionedd i'r cyhuddiad. T mae yn yr epistolau gyfeir-
iadau at f edydd f el golchiud ; ond bob amser, cysylltir
a hyny ymadroddion a ddangosant fod y golchiad
allanol yn rhag-dybied ac yn arwyddocau effeithiau
mewnol drwy yr Tsbryd Glan. Sylwer ar yr engreifft-
iau canlynol : " Fel y sancteiddiai ef e hi, a'i glanhau a'r
olclifa ddwfr, trwy y gair " (Ephes. v. 26). "Yn ol ei
drugaredd yr achubodd efe ni, trwy olchiad yr adened-
igaeth, ac adnewyddiad yr Ysbryd Glan" (Titus iii.
5). "Nesawn a chalon gywir, mewn llawn hyder
ffydd, wedi glanhau ein calonau oddiwrth gydwybod
ddrwg, a golchi ein corph a dwfr glan" (Heb. x. 22).
Cydnabydda y prif ramadegwyr, a'r prif esbonwyr, fod
yr adnodau hyn yn cyfeirio at fedydd ; y naill oblegid
fod y gair a ddefnyddir yn golygu ymdrochi mewn
baddon, a'r Hall oblegid nad oes un golchiad yn cael
son am dano yn yr efengyl ond golchiad y bedydd.
Ond yn mhob engraifft, priodolir i'r ordinhad effeith-
iau eneidiol, ac nid corphorol.
Bedydd yn gadarnhaol. " Eithr ymateb cydwybod
dda tuag at Dduw." Bernir gan lawer fod y frawddeg
hon yn cynwys desgrifiad o ddylamuad y weitlirecl o
ufudd~dod ar feddml yr ufuddhawr. Felly yr es-
bonia Dr. Erskine, Dr. Dwight, Dr. Brown, Bliss,
Leighton, &c. Y mae ef yn wirionedd nad ydyw cyd-
wybod byth yn ddedwydd, nac yn dda, tra y parhao ei
pherchenog ar dir anufudd-dod. Gallem, o'r tu arall,
gael tystiolaeth oddiwrth dyrfaoedd, unrhyw ddiwr-
274 Y GYFFELYBIAETH GYFATEBOL.
nod, fod cyfnewidiad annhraethol ddymunol wedi
cymeryd lie yn eu cydwybodau pan yn Haw cenad
Crist, y claddwyd hwy gyda Christ yn nyfroedd y
bedydd. Bernir gan lawer eraill fod cyfeiriad yn y
frawddeg at yr arferiad o qivestiyno y dycMveledigion
cyn eu ledyddio. Rosenmuller a ddywed: "Wrth fed-
yddio, arferai y gweinidog wneyd ymholiad, i ba un yr
atebai yr ymgeisydd." Trapp a ddywed : "Tmddeng-
ys fod yr Apostol yn cyfeirio yma at yr arferiad o holi
yr un fyddai am fedydd, a chymeryd ei atebion."
Trollope a ddywed : ' ; Gall fod y gair eperotema yn
cyfeirio at yr arferiad o holi yn amser bedydd."
Lange a ddywed : " Fod gofyniadau yn cael eu rhoddi
i fedyddiedigion yn yr eglwys apostolaidd, ac y mae
Pedr yn cyfeirio atynt yma." Dyfyna ef hefyd o
weithiau Eusebius, yr hwn a adrodda am Dionysius,
Esgob Alexandria, pan yn llygaid-dyst o fedyddiad yn
y drydedd ganrif, a'r modd y clywodd yr Esgob y cyf-
ryw ofyniadau yn cael eu rhoddi a'u hateb. Nid ydyw
o un dyben ychwanegu dyfyniadau ; digon fydd dweyd
fod Neander, Bloomfield, Barnes, &c., yn cwbl gyd-
olygu a'r uchod. Holwyd yr eunuch gan Philip, hol-
wyd ceidwad y carchar gan Paul : a dylai eglwys Dduw
eto holi pob ymgeisydd, er deall ei ddirnadaeth yn yr
efengyl, ac yn enwedig, ansawdd ei fwriadau gyda
golwg ar lesu Grist.. (Gwel Act. viii. 37; Heb. vi.
1-2; Ehuf. x. 10.)
Yn wahanol i'r rhai blaenorol, y mae lluaws eraill yn
barnu mai dyma sydd yn y frawddeg : Fod cydwybod, yn
y bedydd, yn ymofyn a Duw am gpflawniad ei ewyllys.
Hwn ydyw y golygiad a fabwysiadir gan Dr. Jones,
Y GYFFELYBIAETH GTFATEBOL. 275
Dr. Owen, &c., a hwn hefyd ydyw y syniad a weithir
allan gan brif gyfieithwyr y Testament. T daiileniad
yn y Cyfieithiad Diwygiedig ydyw : " But the inter-
rogation (ymyl y ddalen, 'inquiry') of a good con-
science." laith agweddiad y bedyddiedig ydyw : "Ar-
glwydd, beth a fyni di i mi i'w wneuthur ? " Cyn y
bedyddiad, y mae cydwybod yn dyst Duw yn condem-
nio, yn oracl Duw yn rhagfynegi dinystr, ac yn ymer-
odres y nef oedd yn bygwth cosbedigaeth ; ac wedi i'r
dyn gael ei ddwyn ganddi i fraw ac wylof ain, y mae yn
awyddus am gyf arf od a'i Arglwydd yn nyfroedd y bed-
ydd, fel ymofynydd pryderus am Iwybrau ei ddeddfau.
Y mae cyfleustra yn y fedyddfan i gydwybod ymddy-
ddan a Duw.
Tn ol ein deongliad ni o'r adnod, y mae yn eglur
mai moddion, ac nid effeithydd achubiaeth ydyw bed-
ydd. Tn wir, ystyr y gair achub yma, yn ol Parkhurst,
Liddell & Scott, &c., ydyw, " arwain drwodd yn ddi-
ogel." Nid ydyw i'w ofni na'i arswydo, y mae yn ar-
weinydd diogel o diriogaethau y damnio i derfynau
euraidd Immanuel, ac ymae miliwnau erbyn hyn o dan
ei dywysiad, wedi dianc o dalaethau caethiwed i der-
fynau rhyddion llywodraeth Crist lesu. Y mae tri.
pheth i'w ddweyd am fedydd fel moddion trefnedig y
nefoedd.
1. Y gallasai Duw waredu .eneidiau hebddo. Yn
achos Noah, nid rhywbeth i gynorthwyo y gallu an-
feidrol ydoedd yr |arch. Gallasai y gwr ofalodd am
Noah ar y tonau, ei gadw yn fyw, pe angen, odditan-
ynt. Yr un peth fuasai i Dduw roddi gwisg yr ym-
suddwr am bregethwr cyfiawnder, ag ydoedd rhoddi.
276 Y GYFFELYBIAETH GYFATEBOL.
.gwisg y morwr am dano. Os oedd yr Arglwydd wedi
penderfynu gosod gwadnau Noah ar fyd wedi ei lan-
hau o'i fudreddi, gallasai ef wneyd hyny heb gyfryng-
au. Gall ef beri i graig Horeb ddistyllio allan y dyfr-
oedd grisialaidd heb Moses na'i wialen. Gall alltud-
io y gwahanglwyf o gnawd Naaman heb ddyfroedd yr
lorddonen. Gall dynu y maen olaf o gaerau pob Jer-
icho i lawr heb gyrri hyrddod y,ddaear. Dewisiad
doethineb, ac nid gorfodaeth gwendid, ydyw pob cyf-
rwng ordeiniedig. Ond y mae yn annhraethadwy
bwysig cofio nad oes glanio i fod ar Ararat dragy-
wyddol yr ochr draw, os nad eir i fewn i arch Duw yr
ochr yma.
2. Fod moddion penodedig y nefoedd yn sicr o ateb
dyben eu hordeiniad. Fe gadwyd Noah yn fyw yn yr
arch, ond boddodd yr holl fyd y tu allan iddi. Y mae
yn well bod yn gadwedig gydag wyth, na boddi gyda
miliwnau. Ac yn wir, y mae prydferthwch, heblaw
diogelwch, yn ngwaredigaeth ddyfrol Noah. Y mae
yn bleserus edrych ar ei long yn myned o flaen yr
awelon, gan wasgaru y tonau fel eira toddedig.
Rhycha y dyfnder du, a merchyg y bryniau dyfrol
mewn buddugoliaeth. Gellir ei gweled yn fynych yn
ymgrymu o dan gofleidiadau a chusanau awelon y
nefoedd. Dyddenir hi gan haul y dydd, a deil y ser
eu ffaglau cyneuol uwch ei llwybrau llaith yn y nos.
A yn mlaen wrth gwmpawd hollwybodaeth, fel llong
ymfudol yn cario pregethwr a'i deulu o'r hen fyd i'r
byd newydd ; a chan mai yr Arglwydd ydyw y cadben,
nid oes perygl am longddrylliad. Ac y mae yn hyfryd
y tu fewn ! Y teulu yn iach, cydwybod yn dawel, a
Y OTFFELYBIAETH GYFA.TEBOL. 277
Duw yn gwenu. Creda un fod y teulu dedwydd wedi
cordeddu mawl i Arglwydd yr elf enau drwy ryw eiriau
cyifelyb i'r rhai hyn :
" Er boddi'r byd yn grwn,
Diogel ydym ni;
Dyrchafwn fawl i'r hwn
A'n ceidw ar y Hi';
Ac wedi glanio draw yn mhell,
Ni godwn hwyl i wlad sydd well."
Golygfa ardderchog yn y dydd diweddaf fydd gwel-
ed y miliwnau cadwedig yn arch trugaredd, yn nofio
ar donau ymchwyddol y diluw tan. Nid rhyf edd i un
dori allan mewn gorfoledd i ddweyd, " Pe byddai gen-
yf filiwn o eneidiau i'w cadw, lesu Grist gawsai y
gwaith i gyd."
3. Mai doethineb uchaf dyn ydyw syrthio i mewn i
drefn Duw. Os ydyw yr Arglwydd yn dweyd fod
diluw i ddod, ceisier sylweddoli mewn pryd, gyfodiad
y dyfroedd i drumanau y mynyddoedd. Os ydyw yr
Arglwydd wedi gorchymyn adeiladu arch ar gynllun
neillduol, na fydded i un enaid ofni na fydd yn ddwfr-
ddaliadol, neu ynte fod perygl iddi ymchwelyd. Os
oes dynion i'w cael a geisiant ein perswadio fod perygl
i goed Gopher ein harch ymagor, ac fod gwneyd ffen-
estri ynddi yn ynfydrwydd adeiladol, bydded genym
fwy o ffydd yn Nuw nag mewn dynion. Os ydyw yr
Arglwydd wedi trefnu i'r ordinhad o fedydd fod yn
gyfrwng ein trosglwyddiad i fyd newydd, lie nad oes
ond creaduriad newyddion, yn milodfa trugaredd, na
fydded i neb feiddio ei daflu o'r naill du, na siarad
yn ysgafn am ei urddas a'i bwysigrwydd.
278 Y GYFFELYBIAETH GYFATEBOL.
T GYFFELYBIAETH GYFATEBOL.
" Gyffelybiaeth. cyfatebol i'r h.wn sydd yr a-wrlion- yn em hacli-
ub ninan, sef bedydd (nid bwrw ymaitb. fudreddi y cnawd, eithr
ymateb cydwybod dda tuag at Dduw) trwy adgyfodiad lesu
Grist. 1 PETE iii. 21.
QAN Y PABCH. T. C. EDWARDS (CYNONFABDC).
Dwfr j diluw yw y " cyffelybiaetli " sydd yn "gyfat-
ebol " i ddwfr eia bedydd ni. Gwaredigaetb. preswyl-
wyr yr arch, trwy eu hufudd-dod i orcliymyn Duw, yrv
y " cyf atebiaeth " sydd yn " cyf ateb " ein cadwedigaeth
ni, trwy gredu o honom yn Nghrist, a bwrw ymaitli
fudreddi y cnawd, ar ymateb cydwybod dda tuag at
Dduw.
Mor belled, cyduna y taenellwyr a'r trochwyr yn eu
hesboniad o'r adnod lion ; ond gwahaniaethant ychydig
wrth egluro cysylltiad y bedydd ag adgyfodiad lesu
Grist. Er mwyn cadarnnau ysgrythyroldeb bedydd
trwy drochiad, cynygir esboniad llytnyrenol ar
u gladdu " a "chyfodi;" ond mae galw i gof y desgrif-
iad sydd genym o fedd lesu Grist, ac o'r dull y cladd-
wyd ef, ac yr adgyfododd, yn troi y ddadl bob tro yn
erbyn "troclii gydag ef trwy fedydd i farwolaeth."
Felly hefyd yn nglyn a'r adnod uchod yn 1 Petr iii. 21.
Os arosir gyda'r llythyrenol, fel y myn rhai esbonwyr,
canfyddir na throchwyd yr oil o'r arch yn nwfr y
diluw, ac mai tywallt arni wnaeth y cymylau.
Er mwyn cyrhaedd amcan fy mrawd, Mr. James,
wrth geisio genyf ysgrif enu rhai nodiadau ar yr ad-
y GYFFELYBIAETH GYFATEBOL. 279
nod, goddefer i mi draethu yn fanylach fy marn ar
fedydd, &c.
Fel y sylwa Dr. Whedon, mae yr ysgrythyr yn ddi-
eithriad yn darlunio gweinidogaeth yr Ysbryd Glan
(adfywiol a sancteiddiol), yr hyn a elwir bedydd, trwy
dywalltiad ar y gwrthddrych, ac nad yw y gweithred-
iadau eraill o eiddo yr Tsbryd yn cael eu galw yn f ed-
jdd. Esaiah xliv. 3 ; Ezec. xxxvi. 25-27 ; Titus iii. 5, 6.
Mae digon o brofion fod bedydd dwfr yn arwydd-
lun (type) gweledig o fedydd yr Ysbryd Glan. Marc
i. 8 ; Luc iii. 16 ; Mat. iii. 11.
Mor belled ag wyf wedi canfod yn ysgrifeniadau y
trochwyr eu hunain, nid oes un o honynt yn dynodi
bedydd yr Ysbryd Glan f el trochiad y gwrthddrych|yn
yr elfen, ond yn hytrach yn dywalltiad o'r elf en ar y
gwrthddrych. Actau x. 4.1 47. Yma, mae derbyn y
tywalltiad, a bod yn fedyddiedig a dwfr, yn cynwys yr
un peth. Sylwch fel y dywed Petr am hyn (Actau xi.
15, 16) ; fel y mae yn galw tywalltiad, a disgyniad yr
Ysbryd Glan, yn fedydd.
Felly dyfyna o Joel. Actau ii. 16, 17, &c. Bedydd-
ier chwi, a chwi a dderbyniwch ddawn, neu rodd yr
Ysbryd Glan. Nis gall dyn.dderbyn yr hyn y trochir
ef iddo. Gwnaeth Duw y bedydd ysbrydol yn weledig
ddwy waith, ar ddau dro, trwy ddisgyniad : . (1.) Y taf-
odau o dan, a " eisteddodd ar bob un o honynt." (2.)
Y disgyniad megys colomen arno Ef.
Pan mae Duw yn dangos sut -mae ef yn bedyddio,
mae yr elfen yn disgyn. Mae Alexander Carson wedi
bytheirio atebion cnawdol i rai o'r profion blaenorol, y
rhai a ail-adroddir gan holl bleidwyr tansuddiad yn
280 Y GYFFELYBIAETH GYFATEBOL.
unig, er mwyn cynal yn weddol o foneddigaidd arfer-
iad a dyfodd arnynt.
Mae yr arferiad o dansuddo, neu drochi, a galw hyny
yn fedydd, wedi ei gymeryd oddiwrth ystyr glasurol y
gair Baptizo, a honi nas gall y gair olygu dim arall,,
tra mae Duw yn galw tywallt yn baptize.
Gyda golwg ar " amryw fedyddiadau " yr Hen Des-
tament, nid yw y gair Hebraeg yn golygu tansuddo,
ond yn yr ystyr o olchi llestri y Saesoneg yw sprinkle,
wash, bathe, taenellu, golchi, baddo. Dywed Bush^
yn y " Scripture Illustrations," tu dal. 473, nad yw
baddo yn y Dwyrain yn golygu tansuddo, ond tywallt-
iad. Sylwer ar rai o'r amryw fedyddiadau :
(a.) Exodus xxix. 4-21 Bedydd yr offeiriaid. Yr
oedd Moses, wrth ddrws y tabernacl, i daenellu EU
gwaed, ac i olchi a dwfr, Aaron a'i feibion.
(b.) Bedydd y Lefiaid Taenellu dwfr arnynt, er
puredigaeth.
(e.) Bedydd y gwahangleinon Taenellu gwaed ad-
eryn ar y glanedig.
(d.} Bedydd yr holl bobl Wedi i Moses orphen ad-
rodd yr holl orchymynion, &c., cymerodd waed, &c.
Tn ystod y pedwar can' mlynedd a basiodd rhwng;
yr Hen Destament a'r Testament Newydd, dyfeisiodd
y Eabbis luddewig fedydd i'r dychweledigion i'r
ffydd, a galwyd y bedydd hwnw yn Hebraeg tansuddo,
ac yn Groeg baptizo. Yr oedd y pwnc o fedyddio
proselytiaid yn destyn dadl yn yr ysgolion Hebraeg
ddeugain mlynedd cyn genedigaeth Crist. Felly cawn
yn y cyfnod hwn y ffurf o ddwyfol osodiad, taenellu a
thywallt, yn dyfod at ochr y ffurf ddynol o fedyddio-
Y GYFFELTBIAETH GTTATEBOL. 281
trwy drochiad a thansuddiad. Mabwysiadwyd y gair
Baptizo yn fuan i ddynodi pob math o olchiadau
cysegredig. Defnyddir y gair yn yr Apocrypha i
ddynodi taenelliad yr hwn a halogid trwy gyffwrdd a
chorph. Gwel Sirach xxxiv. 25. Felly pan ddaeth
loan Fedyddiwr, hwn oedd y gair mwyaf addas a
phriodol iddo ef ddefnyddio yn ei gyfeiriadau at fed-
ydd dwfr a bedydd yr Ysbryd Glan. Bhaid i ni oil
gredu fod loan wedi bedyddio llawer, ond nid oes un
prawf ei fod wedi trochi neb. Oni fedyddiodd ef "yn
yr afon " ? Do. Mae miloedd wedi bod yn yr lor-
ddonen heb wlychu eu gwadnau. Gellir sefyll yn yr
afon hono, yn ei chanol hi ar dir sych. Er fod hyny
yn wir, credwn fod loan wedi myned a'r lesu, ac er-
aill, i'r dwfr, ac yno godi dwfr a'i law, a'i dywallt ar y
bedyddiedig (neu ei daenellu) ; a dywedai ei fod yn
rhagflaenu un a daenellai genedloedd lawer.
Mae Dr. Hibbard, yn ei "Christian Baptism," yn
cyfrif y byddai rhaid i loan f edyddio deugain person y
fynyd er gallu trochi y tyrfaoedd a aethant allan o
Jerusalem a Judea, &c.
Mae yr hen ddarluniau (paintings') a wnaed yn y
chweched ganrif, gan yr hen feistri, yn darlunio loan
yn sefyll yn yr afon, a'r bedyddiedig ar ei liniau, tra
fyddai loan yn codi dwfr i'w dywallt ar ei ben.
Mae genym hanes anffaeledig am un ceidwad car-
char a fedyddiwyd yn ei dy ganol nos. Chwerthinus
iawn yw y dull y ceisir egluro trochiad yn nglyn a'r
hanes, trwy honi fod y ceidwad wedi myned gyda Paul
a Silas i'r afon Strymon ganol nos; neu "yn sicr fod
18
282 Y GYITELYBIAETH GTFATEBOL.
'bath tubs yn y carchar," ac i'r Apostol roddi cladded-
igaeth i'r teulu yn y twba.
Anhawdd iawn cysoni trochiad a bedydd Saul, pan
ddywedir iddo godi, a chael ei fedyddio, heb unrhyw
awgrym am symud o'r fan i afon na bath room. Felly
hefyd hanes Petr yn nhy Cornelius. " A all neb ludd-
ias dwfr?" &c.
Tn eglwys Groeg mae y cof-golofnau cerfiedig yn ar-
ddangos Crist a loan yn sefyll yn y dwfr, a loan yn
tywallt dwfr ar ben yr lesu.
Ond gofynir yn anil, " Onid trochi oedd arf eriad y
ddwy ganrif gyntaf o'r oes Gristionogol ?" Fel y nod-
wyd eisoes, yr oedd trocliiad yn bodoli yn mysg yr
luddewon cyn geni Crist ; ond ffrwyth dirywiad moes-
ol oedd hyny.
Trwy gynydd arferion defodol, ac o herwydd hin-
sawdd boeth y De, ac ystyr glasurol y gair Baptizo. yn
nghyd a llawer o ddirwyiadau eraill a fabwysiadwyd
gydag eglwys Ehufain, daeth trochi yn arferedig trwy
fyned yn noetJi i'r dwfr dair gwaith yn olynol. Eto,
mae profion boddnaus o arferiad bedydd trwy daenell-
iad a thywalltiad yn y cyfnod boreuaf o'r oes Gristion-
ogol. Yn ysgrifeniadau Barnabas a Hermas, y tadau
apostolaidd, niae ami gyf eiriadau at f edydd trwy daen-
elliad. Tn "Apology" Justin Martyr i'r Tmerawdwr,
yn y flwyddyn A. D. 150, mae ef yn gochelyd defnyddio
y gair Baptizo, rhag i'r Tmerawdwr dybio ei fod yn
golygu trochi, a defnyddia y gair Louo, to wash, i olchi ;
ond yn ei ysgrifeniadau eraill, gwna ddefnydd rhydd
o'r Baptizo, yr hyn a ddengys fod Justin Martyr yn
cydnabod gwahaniaeth rhwng ystyr gysegredig ac ys-
YE YSGRYTHYR O DDEONGUAD PKIOD. 283
tyr glasurol y gair. Er mor ddyddorol ydyw olrhain
hanes y pwnc o fedydd trwy wahanol gyfnodau yr eg-
Iwys, rliaid yinatal. Er nad wyf yn dysgwyl y bydd i
mi argyhoeddi unrhyw Fedyddiwr trochedig trwy y syl-
wadau hyn, dichon y gallaf gadarnhau ryw fedyddiwr
taenelledig trwyddynt, ac anrhydeddu y gwirionedd.
Ac hyderaf, yn ofn yr Arglwydd, y bydd i holl ddar-
llenwyr y gyfrol hon gael eu bedyddio nid a dwfr yn
unig, ond hefyd a'r Ysbryd Glan ac a than.
TE YSGKYTHYR O DDEONGLIAD PEIOD.
" Gan -wybod hyn yn gyntaf, nad oes un brophwydoliaeth o'r
ysgrythyr o ddeongliad priod." 2 PEDE i. 20.
Gallwn yn hawdd gredu mai yr
YMHOLIAD
canlynol fuasai unrliyw atnraw yn ei wneyd, pe y dy-
gwyddai i'r adnod anhawdd hon ddyfod o dan sylw ei
ddosbarth : Pa beth ydyw ystyr y gair priod yn y
frawddeg hon *? Nid ydyw yn anhawdd deall y gair
deongliad, ac y mae amgylchranau y benod, yn ogys-
tal a'r adnod ei hun, yn neilldaoli ysgrifeniadau pro-
phwydol yr Hen Destament, fel y pethau nad ydynt o
ddeongliad priod. (Edrycher ar adnodau 19 a 21.) Y
mae y prif anhawsder yn gorori yn y gair bychan
priod. Mewn ymddyddan cynredin, defnyddir y gair
hwn i ddynodi un wedi priodi, neu ynte, yr hyn sydd
briodol a chyfleus ; ond eglur ydyw. nad y naill na'r
284 YB YSGEYTHZB O DDEONGLIAD PRIOD.
Hall o'r ystyron yna sydd i'r gair yn y berthynas hon.
T mae llawer lladraerydd dysgedig wedi bod yn ceisio
deongli y gair a ddengys ansawdd deongliad j testyn,.
ac yn yr achos hwn, tybiwn nas gallwn wasanaethu y
gwirionedd yn well na rhoddi firwyth eu hymchwil-
iadau ysgolheigaidd hwy. Yn nghyfrol werthfawr y
Parch. J. W. Haley, M. A., ar " 1 he Alleged Discrep-
ancies of the Bible" ceir crynodeb o'r darlleniadau a'r
aralleiriadau a ystyrir yn fwyaf cywir ac eglurhaol.
"Wedi rhoddi y cyfieithiad Syriaidd o'r geiriau, gesyd
Mr. Haley ger bron y dyfyniadau canlynol :
Esgob Horsley : " Nid oes un brophwydoliaeth o'r
ysgrythyr o hunan-ddeongliad, neu yn ddeonglydd o
honi ei hun ; oblegid nid ydyw prophwydoliaethau yr
ysgrythyrau yn rhagfynegiadau didoledig am ddyg-
wyddiadau annibynol a gwahanedig, eithr y maent yn
unedig mewn cyfundrefn reolaidd a chyflawn, oil yn
terfynu mewn un gwrthddrych gogoneddus lledaen-
iad yr efengyl, a sefydliad perffaith teyrnas y Mes-
siah."
Dr. John Owen : " Nid cynyrch brwdfrydedd dych-
ymygol dynion, nid firwyth dirnadaeth eu meddyliau
hwy eu hunain, nid deongliad o ewyllys Duw gan
ddeall dyn ; hyny ydyw, o eiddo y prophwydi eu
hunain."
Dr. Adam Clarke : " ' O ddeongliad priod,' yn deill-
iaw o wybodaeth neu ddyfais y prophwyd ei hun ; neu.
ynte yn genedliad cyfrifiad neu amcaniaeth. Yn
mhell o ddyfeisio testyn eu rhag-fynegiadau, nid yd-
oedd y prophwydi henafol yn gwybod hyd yn nod
ystyr yr hyn a ysgrifenent eu hunain."
YB TSGBYTHYB O DDEONGLIAD PKIOD. 285
Archesgob Whately : "Nid ydyw prophwydoliaeth i
f od yn ddeonglydd iddi ei hunan ; hyny ydyw, ni
ydyw ei synwyr llawn iV wneuthur allan (f el cyf an-
soddiadau o fathau eraill) drwy fyfyrdod o eiriau y
brophwydoliaeth ei hun, ond i gael ei deongli gan y
dygwyddiadau sydd yn gyflawniad o honi."
Dr. Samuel Davidson : " Nid oes un brophwydol-
iaeth yn caniatau eglurhad priodol i'w ttefarwr."
Dr. Charles Hodge : " Tr oedd yr hyn a ddywedai
prophwyd, nid yn ddynol, ond yn ddwyfol, Nid de-
ongliad ydoedd o eiddo y prophwyd ei hun o feddwl
ac ewyllys Duw. Tr oedd yn llefaru megys cyfrwng
yr Ysbryd Glan."
Alford, Tholuck, De Wette a Huther. "Y mae
prophwydoliaeth yn tarddu, nid o ddeongliad dynol;
hyny ydyw, nid ydyw yn rhag-ddywediad o eiddo dyn
yn gwybod pa beth a feddyliai pan yn ei lefaru."
At yr uchod gallwn ninau ychwanegu y Cyfieithiad
Diwygiedig, yr hwn a ddarllena : " Gan wybod hyn yn
gyntaf, nad oes un brophwydoliaeth o ddeongliad dir-
gelaidd" (private [ymyl y ddalen, special] interpret-
ation).
Gwelir fod ychydig wahaniaeth rhwng y darlleniad-
au uchod, ond gyda eu gilydd, y maent yn ein harwain
i gredu mai dysgeidiaeth y frawddeg ydyw : fod y
gallu a feddai y propTiwydi i ragfynegi dygwyddiadau
y dyfodol nid yn feddianedig ganddynt Jiwy eu hun-
ain, ond yn gyfranedig iddynt gan Ysbryd yr Ar-
glwydd. Y mae y deongliad hwn yn cytuno, yn
(1.) A hanfod pob gwyddadaeth resymol am ysbryd-
oliaeth y JBeibl. Y mae amryw frydegau gwahanol
286 YE YSGKYTHYB O DDEONGLIAD PEIOD.
parth modd a graddau yr ysbrydoliaeth ddwyfol a
gyfarwyddai feddyliau y prophwydi. Deil rhai fod
pob prophwyd yn derbyn hyfforddiant pa fodd i gyf-
ansoddi a lleoli pob brawddeg, pob gair, pob sill, ac
hyd yn nod arwyddnodau lleiaf y llafariaid Hebreig,.
ac felly nad oeddynt hwy ond ysgrifen-weision yn Haw
Tsbryd Duw. Barna ereill fod sylwedd y genadwri
yn cael ei drosglwyddo i feddwl y prophwyd gan yr
Ysbryd, ond fod ffurf a threfn y geiriau a'r brawddeg-
au yn gynyrch chwaeth a gallu y prophwyd ei hunan.
Barna eraill drachefn fod cysylltiad Ysbryd Duw ag
ysbrydoedd y prophwydi yn gynwysedig yn unig
mewn rhyw fath o oruwch-lywodraeth ddyrchaf ol, gyf-
eiriol, a chywirol. Myntumia dosbarth arall fod pob
prophwydoliaeth yn ddwyfol, ond nad ydyw dull ei
rhoddiad i'r lief arwr bob amser yn wyrthiol ; eithr yn
hytrach. yn effaith ymwneyd a'r meddwl mewn ffordd
gyffredin. Gan nad pa un o'r gwyddorau uchod sydd
gywir, nid oes un gwrtndarawiad rhwng y deongliad
uchod a'r cyfryw. Y mae yr eglurhad yn cytuno, yn
(2.) A tliystiolaeth yr ysgrifenwyr sanctaidd am
darddell y cenadwriaetliau a ymddiriedwyd iddynt*
Hawliai y prophwydi eu bod yn traddodi i'r byd yr
hyn a dderbyniasent gan Dduw. G-ellir gweled yr
honiadau hyny yn y lleoedd canlynol, a'u cyffelyb :
2 Sam. sxiii. 2; Jerem. i. 9; Bhuf. iii. 2; Act. i. 16;
2 Pedr i. 11; 1 Cor. ii. 13 ; 2 Tim. iii. 15, 16 ; &c.
Y mae yr eglurhad yn cytuno, yn
(3.) A. syniadau tra-dyrchafol yr oesau am Lyfr
ardderchog yr Arglwydd. Yn hyn y gorwedd ei rag-
oriaeth anf eidrol ar holl lyfrau y byd. G-allem fabwys-
NEFOEDD NEWYDD A DAEAB NEWYDD. 287
iadu syniadau yr enwog Farrar pan yn ysgrifenu ar
"Ysbrydoliaeth y Beibl" yn y "Bible tfdueator," a
dweyd, "Y mae dalenau pob llyfr arall yn dwyn
prawfion ar eu gwyneb o wendid, a phechod dynol,
ond nid oes cymaint ag un staen ar hwn o'i ddechreu
i'w ddiwedd. Tn llyfrau y ddaear, gwelir yn fynych
nwydau dynol yn ysgubo drostynt, ond nid oes yn
hwn byth frawddeg aflywodraethus. Y mae pob llen-
yddiaeth arall yn ymddibynu am ei gallu ar athrylith
ddynol, a gogoniant hyawdledd dyn ; ond nid ydyw
llenyddiaeth y Beibl yn ymddibynu ar y f ath addurn-
iadau, ac y mae yn tra-rhagori ar bob peth hebddynt.
Y mae llyfrau eraill yn ynrwneyd ag amserau a chen-
edloedd neillduol, ond hwn yn dal perthynas a phob
oes, ac a phob cenedl. Ymddibyna pob cyfrol arall, i
raddau helaeth, am ei llwyddiant ar yr iaith yn mha
un yr ysgrifenir hi, ond ymddibyna y gyfrol hon am
ei llwyddiant ar yr ysbrydoliaeth sydd yn llifeirio
drwyddi."
NEFOBDD NEWYDD A DAEAE NEWYDD.
" Eithr nefoedd newydd, a daear newydd, yr ydym ni, yn ol ei
addewid ef, yn eu dysgwyl, yn y rhai y mae cyfiawnder yn car-
tref u. " - 2 PEDE' iii. 13.
Un .
YMHOLIAD
mawr sydd yn cael ei gymell gan y geiriau hyn, sef,
Pa beth a olygai Pedr wrth y nefoedd neivydd, a'r
288 NEFOEDD NEWYDD A DAEAB NEWTDD.
ddaear newydd y dywed f od Crist wedi eu haddaw, a'r
Crisfcionogion yn eu dysgwyl ?
Y mae y testyn yn un o gyfres o gyfatebiaethau
rliwng sefyllfa y byd cyn, ac wedi y diluw, a sefyllfa y
byd cyn, a<3 wedi y farn dragywyddol. Amcan y cyf-
atebiaethau yn nghyd ydyw profi sicrwydd dinystr olaf
anian. Yr ymresymiad sydd gan Pedr ydyw hwn :
boddwyd y byd unwaith a diluw; yr oedd cyflwr y
byd yn flaenorol i'r trychineb hwnw yn gyffelyb i'r
hyn fydd cyflwr y byd yn flaenorol i'w olosgiad diwedd-
af ; os y boddwyd y byd yn yr amgylcMadau hyny, y
mae yn dyfod yn gredadwy y llosgir y byd yn yr un-
rhyw amgylchiadau. Yn yr adnodau blaenorol, y mae
yr Apostol yn rhag-hysbysu ymddangosiad dosbarth o
ddynion yn y byd, dynion ag y mae hyd yn nod eu
henwau, bytn er pan gyfansoddwyd y Salm gyntaf,
yn gollwng allan arogl fliaidd cabledd, sef qwaiwar-
wyr. Pe byddai yn ngallu y rhai hyn, taflent Dduw
oddiar orsedd y cyfanfyd, ac alltudient ef yn dragy-
wyddol o derfynau ymwybodolrwydd dynion. Dywedir
y bydd i'r gwatwarwyr hyn ymddangos "yn y dyddiau
diweddaf ," ac y gofynant yn wawdiol a gwatwar-wenog,
"Pa le y mae addewid ei ddyfodiad ef ? Canys er pan
hunodd y tadau, y mae pob peth yn parhau fel yr
oeddynt o ddechreuad y greadigaeth" (adn. 4edd).
Bydd iddynt ymresymu bodolaeth dragywyddol mater,
a hyny yn ei ffurf bresenol; y bydd cylch-deithiad y
tymorau yn ddiderfyn, ac na chymer byth un ataliad
le yn nirwyniad annherfynol ser a phlanedau. Claddu
ymresymiad anflyddol y gwatwarwyr hyn mewn tywyll-
wch a gwarth ydyw amcan Pedr yn y benod, ac y mae
NEFOEDD NEWYDD A DAEAK NEWYDD. 289
yr adnod uchod yn gyfran o'r ymresymiad hwnw.
Megys y dywedasom, y llwybr a gymera ydyw ymres-
ymu y posiblrwydd o ddinystr y cread yn y dyfodol
oddiwrth y dinystr a f u arno yn y gorphenol, yn nydd-
iau Noah. Gallasai Pedr, a gall dynion eto, sylfaenu
y grediniaeth o gyfnewidiad olaf anian ar brofiad y
byd o bob peth materol a gweledig. Dysga lioll ysgol-
ion athroniaeth naturiol, fod pob gwrthddrych anian-
yddol, dan ddylanwad deddfau digyfeiliorn y greadig-
aeth, yn cyrhaedd rhyw argyfwng yn ei hanes. Y mae
pob peth o'n deutu yn cyrhaedd at ryw eithaf bwynt,
ac wedi cyrhaedd hwnw, yn edwino, ac yn gwywo ym-
aith. T mae hyn yn wirionedd eghir am bob peth
creadigol; yn wirionedd am flodau, am dymorau, am
anifeiliaid, am ddynion, am bawb. Dyna y blodeuyn a
gafwyd yn anrheg gan gyfaill ; wedi bod yn y ffenestr
am ysbaid, dengys ei rudd fod afiechyd wedi gafaej
ynddo. Symudir ef yn gyfagos at y tan rhag ofn ei
fod wedi cael anwyd, ond gwywo wna yn y gwres.
Gosodir ef drachefn mewn sane fanteisiol i ddal go-
hebiaeth a'r haul, ond nid oes arwydd o ddychweliad
ei yni. Gofynir ganddo ddrachtio y dyfroedd a osodir
ar ei wefus gyda yr un gofal ag a arferir gan y fam
wrth wlychu g wefus ei phlentyn a gwin, tra yn marw ;
ond yn lie adfywio, gwanychu y mae. Er pob peth, y
mae deddf ei fodolaeth yn dirwyn i fyny. T mae hyn
yn wirionedd, nid yn unig am y blodeuyn, ond hefyd
am yr haul. T mae diwrnod mawr yr haul yn mlaen.
Diwrnodau pwysig iddo ef ydoedd diwrnodau arliwio
blodau amryliw Paradwys ; pelydru ar Iwybrau Abra-
ham yn Mesopotamia ; edrych ar losgiad dinasoedd y
290 NEFOEDD NEWYDD A DAEAB NEWYDD.
gwastadedd ; ac yn enwedig, gwisgo ei orcliudd ddu
pan welodd ei Grewr yn trengu yn Nghalf aria. Ond
y mae ei ddiwrnod mawr ef yn nes yn mlaen, y diwr-
nod pan y caua ei lygad ei htman yn angeu. T mae holl
gerbydresi y cread yn esgyn i ben goswyneb (incline)
bodolaeth, ac unwaith y cyrhaeddant yno, o angen-
rheidrwydd, bydd yn rhaid iddynt gyflymu i'r ochr
draw. Ond nid ar athroniaeth y sylweddau creadigol
y sylfaena Pedr ei ymresymiad o ymollyngiad olaf an-
ian, eithr yn hytrach ar amgylchiad hanesyddol ag y
mae traddodiad, daeareg. a Beibl, yn cyd-dystiolaethu
i'w ddygwyddiad. Gallasai Pedr, a gall dynion|eto,
nid yn tmig apelio at ddeddfau adnabyddus, bywhad
a marwolaeth niater, am sail i'r grediniaetn o doddiant
y cread yn ngwres y f arn ; ond gallasai hefyd ddyfynu
tystiolaethau digamsynied yr ysgrythyrau. Y mae
yma ganoedd o adnodau yn y Llyfr ag ydynt megys
tan-glychau y dinasoedd, yn galw sylw dynoliaeth at y
tan mawr agoshaol. T mae anian, a defnyddio iaith
Paid, megys caroharor prudd yn edrych rhwng barau
ei gell am ddydd ei ryddhad, a datguddiad meibion
Duw. Yn y benod hon, nid y tebygolrwydd, ac nid y
sicrwydd o olosgiad cyffredinol sydd gan Pedr, ond y
posibilrwydd o hono ; ac wrth ddysgu nyny, noda
allan amryw ffeitMau yn hanes boddiad y byd ydynt
yn meddu ar eu gwrthbarthau yn athrawiaeth llosgiad
y byd. Y mae y gyf atebiaeth yn darawiadol ac add-
ysgiadol. Sylwer ami,
1. Megys ag nad ydoedd meithder y cyfnod a gyf-
ryngai rhiong creadigaeth y byd aV diluw yn un
rhwystr i'r diluw ddyfod, felly ni fydd i ohiriad yr
NEFOEDD NEWYDD A. DAEAB NEWYDD. 291
argyf\ong olaf luddio ei ddyfodiad yntau. Pan yn
ysgrifenu am y ddaear cyn y diluw, dywed yr Apostol
ei bod yn sefyll o'r dwfr, a thrwy ddwfr, " er ys talm."
Defnyddia ymadrodd anmhenodol, " er ys talm." Nid
rhywbeth. newydd gymeryd lie ydoedd creadigaeth y
byd, yn amser y cynddiluwiaid. Ac y mae yn dra
theilwng o sylw, mai daiiunio y gwaith creadigol tra
yn ei sefyllfa dryblithol, y mae Pedr, ac nid ar ol ad-
drefniad y chwech diwrnod. Yr oedd y ddaear, fel y
darlunia hi, yn sefyll " o'r dwfr, a thrwy ddwfr." A
a'r rneddwl yn ol cyn creadigaeth Adda, pan oedd an-
nhrefn yn rhedeg yn wyllt, cyn f od crystyn y ddaear
wedi caledu, pan ydoedd tywyllwch yn ymddeor ar wyn-
eb y dyfnder. Gall Pedr, felly, wrth ddesgrifio oedran
y byd cyn y diluw, fod yn myned a ni yn ol, nid dros
chwe' mil o flynyddoedd, ond dros chwe' mil'o oesau;
beth bynag at gyffiniau y dechreuad mawr yn mha un
y creodd Duw y nefoedd a'r ddaear. Y mae llawer o
ymgeisiadau wedi eu gwneyd er penderfymi pa bryd
yr ymnwyfodd natur yn ei babandod. Y mae Hugh
Miller, a daearegwyr eraill, wedi bod yn ymdrechu.
cyfieithu geirluuiau Duw, cerfluniedig yn y graig, ac
wedi disgyn i lawr, gan wneyd grisiau o haen ar ol
haen, a phob haen yn dynodi cyfnod yn ffurfiad y cre-
ad, i lawr at y gronynfaen sylfaenol, y man lie y mae-
echelydd y byd yn troi, ac y maent hwy wedi cyhoeddi.
yn ddibetrus fod y byd wedi ei gawellu gan anfeidrol
allu filoedd o flynyddau cyn fod Adda wedi teimlo-
gwaed-guriad bywyd. Y mae yn wir fod anian yn y
gwanwyn yn ymddangos yn llonwych a gwisgi. Y ma&
ei dillad yn fwy eirian na gwaith yr efelychydd celf-
292 NEFOEDD NEWYDD A DA.EAE NEWJDB.
yddydol, eto rhaid peidio anghofio, ac nis gellir gwadu,
mai addurniadau cywrain, ond gwywedig, ydynt oil.
Na feddylied neb fod gwaith natur yn gwisgo yn
ieuanc yn profi ei bod felly; na, yr hen fam anwyl, pan
y mae yn ymneillduo i orphwys yn yr hydref , y mae ei
phen gwyn yn dyfod i'r golwg, y mae ei henaint ar-
dderchog yn ymddangos, a rhychau dyfnion ei gwyneb
yn hawdd eu gweled. Tn ei henaint, er hyny, y mae
yn dra charedig i'w holl blant; ac wedi i bawb ei
.gwrthod, egyr hi ei mynwes i roddi gorphwysfa idd-
ynt, hyd yr adeg y cyflwyna hwy yn anf arwol i Freiiin
nefoedd a daear. Yn nghyfrifiad dyn, meddai Pedi',
.gall y cyfnod oddiyma i'r f arn olaf ymddangos yn faith
ac estynedig, ond yn nghyfrifiad dyn yn unig y mae
felly. Nid felly yr ymddengys i'r Arglwydd. "Eithr
yr tin peth hwn na fydded yn ddiarwybod i chwi, an-
wylyd, fod un dydd gyda'r Arglwydd megys mil o flyn-
yddoedd, a mil o flynyddoedd megys un dydd." (Ada.
8.) Gan nad oes dim yn mynwes Duw ond llanw tra-
^ywyddol o addfwynder a dedwyddwch, a hwnw yn
bur, yn ddigymysg, ac yn annherfynol, nid ydyw hir-
der na byrder amser yn ddim i'r Jehofah. Y peth
.sydd yn cymell dyn i sylwi ar dreigliad amser ydyw, ei
fod yn annedwydd. Prawf sicr fod y dyn yn credu y
buasai yn ddedwyddach yn rhywfan arall amgen yn yr
.addoldy, ydyw ei waith o hyd yn edrych i gyf eiriad yr
awrlais. Nid ydyw dyn wedi ymgolli mewn dyddordeb,
yn gwybod dim faint ydyw o'r gloch. Ac yn wir, dyn
ddyfeisiodd offerynau drwy ba rai y mae amser wedi
ei ranu i oriau, chwarteri, a xnomentau. Pan wnaeth
Duw awrlais niawr y cread, g wnaeth ef yn y fath fodd
NEFOEDD NEWYDD A DAEAE NEWYDD. 293
fel na wyr dynion ddim faint ydyw o'r gloch ar eu
tyngedf en ; ac ni fydd i gloc mawr Duw daro hyd nes
y tery haner nos yn uffern, ac un o'r gloch y boreu yn
neuadd gwleddoedd yr Oen. Ond y mae yn bur deb-
ygol f od yr Apostol, wrth ddweyd " f od tin dydd gyda'r
Arglwydd megys mil o flynyddoedd, a mil o flynydd-
oedd megys un dydd," yn cyf eirio yn benaf at ddrych-
feddwl arall, sef na fydd i amser, gyda ei holl gyfnew-
idiadau, rwystro dygiad oddiamgylch gynlluniau bwr-
iadedig y nefoedd. Nid felly y mae gyda dyn. Tn
nghwrs amser, gall myrdd a mwy o bethau ddygwydd
iddo ef. Y mae yn rhaid iddo wneyd brys i osod ei
gynlluniau mewn gweithrediad, onide disgyna ei ben
i'r gweryd yn llawn o ddyluniadau anghyflawnedig.
Ond nid oes eisiau i'r Anfeidrol fod mewn unrhyw
frys ; y mae tragywyddoldeb ar ei hyd at ei wasanaeth
ef. Os ydyw yn ei gyngor wedi gosod dyddiad y f arn
yn mhell yn mlaen ar groniclau y dyfodol, ni fydd i
ddim a ddygwydd yn y cyfamser, rwystro ei ddyfod-
iad, Ac y mae yna ryw reswm trugarog dros yr oed-
iad. Dyma ef : "Hid ydyw yr Arglwydd yn oedi ei
addewid (fel y mae rhai yn cyfrif oed) (oediad) ond
hir-ymarhous yw efe tuag atom ni, heb ewyllysio fod
neb yn golledig, ond dyfod o bawb i edifeirwch."
(Adn. 9.) Buasai dydd y cyfrif manwl wedi myned
heibioj buasai damnedigaeth myrdd o eneidiau yn
ffaith hanesyddol, pe na buasai am drugaredd lor. T
mae ef wedi trefnu i oes ar ol oes fyned heibio, i gen-
edlaeth ar ol cenedlaeth i basic, a hyny er iV galon
f awr dderbyn rhyddhad wrth wneyd miliwnau ychwan-
294 NEFOEDD NEWYDD A DAEAR NEWYDD.
gol yn llestri trugaredd. Hon ydyw y gangen gynt-
af yn y gyfatebiaeth.
2. Megys ag y crewyd ac y boddwyd y byd trwy
air Duw, felly trwy offerynoliaeth yr un gair, gall
gael ei ddinystrio eto. Dywedir am y ddaear cyn y
diluw, ei bod trwy AIR Dmv yn sefyll o'r dwfr, a dy-
wedir am y byd cyn y farn, "Eithr y nefoedd a'r ddae-
ar sydd yr awrhon, ydynt trwy yr un GAIR wedi eu
rhoddi i gadw i dan, erbyn dydd y farn, a distryw yr
anwir ddynion." (Adn. 7.) Y cwestiwn pwysig i'r
ymresymiad ydyw, a oes yn holl hanes gair Duw yn y
gorpnenol un engraifft o f ethiant ? Tn holl gylchoedd
y cread, a ellir cyf eirio at un anffodrwydd a ddygwydd-
odd iddo ? Os y gellir, nyni a wnawn y cyfaddenad,
er y bydd gwneyd y cyfaddenad yn gwneyd y bydys-
awd i ni yn un cruglwyth o ansicrwydd ; eto, deued a
ddelo, nyni a wnawn y cyfaddenad, y gall ef fetnu
dracnefn yn y dyfodol. Beth bynag a fethodd un-
waith, efe a all f ethu eilwaith. O'r tu arall, os nad ell-
ir nodi allan un cynyg anffynianol o eiddo y gair yn
ol, gwasanaetha hyny yn gadarnhad i'r grediniaetb. y
bydd yn ddigonol yn mb.ob prawf dyfodol. Gair Duw
wedi methu ! ! Na, pan lefarodd Duw y gair ar y de-
cnreu, troai bydoedd yn eu cylchoedd o amgylch i'r
orsedd, ac ymddangosai cyfundrefnau glanwedd, yn
cael eu dirysgwyd gan cnwerthin, yn ei bresenoldeb.
Llefarodd y gair "Bydded," ac yn union yr oedd gor-
ymdeithiau o fydoedd dysglaer a llawen yn weladwy o
dan y bwaau tragywyddol. Gan eu hamlder, oraclwyd
y ffurfafenau ; ymguddiai planedau y tu ol i blanedau.
Tmgnawdolodd y gair creadigol mewn crynswthau o
NEFOEDD NEWYDD A DAEAB NEWYDD. 295
fater newydd ac ardderchog. Trwy " air ei nerth " y
mae j cread mawr eto yn cydsefyll. Pe y gwanychai
fel cynalbost yr adeiladwaith annherfynol, byddai y
cwbl yn annhref n, ac yn f arwolaeth mewn eiliad. Gair
Duw wrth ddisgyn ar wythienau y cread, yn amser y
diluw, ddarfu eu hagor, fel y boddodd y byd yn ei
waed ei him. Cyn y gellir yn llwyddianus wrthbrofi.
dinystr olaf anian, y mae yn rhaid bod yn alluog i
wadu bodolaeth myrdd o gysawdau ; profi boddiad y
byd a diluw yn gelwydd ; ie, gwadu bodolaeth y Duw
mawr ei hunan, ac nid oes ond yr ynfyd yn ei ymerod-
raeth a ymdrecha wneyd hyny.
3. Megys ag y gadawodd y diluw ei argraff anni-
leadwy ar y ddaear, felly gall tan y farn drachefn
effeithio cyfnewidiadau cyffelyb, neu fwy. T mae
wedi aros yn gwestiwn o ddadl yn mysg duwinyddion
a gwyddonwyr, pa un a fu y diluw yn gyffredinol, neu
beidio. A orchuddiodd ef yr oil, neu ran o'r ddaear "?
Tr ydym wedi bod yn rhoddi y gofyniad i wahanol
awdurdodau, A f u y diluw yn gynredinol? T mae yr
atebiadau a gawn yn gadarnhaol. Dywed esgyrniaeth
yr afanc bach ar ben yr Himalaya, un fil ar bymtheg o
droedfeddi uwchlaw gwastadrwydd y mor, f od y diluw
wedi bod yn gyffredinol, onide nas gallasai ef gyrhaedd
yno ; mai cael ei gludo ddarfu iddo yn ngherbyd barn-
ol y Brenin. Y mae anallu yr holl genedloedd i ddyl-
yn eu hachyddiaeth yn mhellach ynol na phreswylwyr
yr arch, yn profi na ddarfu i un genedl orfyw y galan-
astra. Tr un peth ydyw tystiolaeth elephantiaid Aff-
rica, a gafwyd yn gladdedig yn nhiroedd Tartari a Si-
beria. Dywed Josephus, yr hanesydd luddewig, Ber-
296 NEFOEDD NEWYDD A DAEAE NEWYDD.
osus, yr hanesydd Chaldeaidd, Hieronymus, yr hanes-
ydd Aiphtaidd, Abyderus, yr lianesydd Assyriaidd, fod
y diluw wedi gorcliuddio lioll wyneb y ddaear ; ac a.
hwy y mae Cyril, Diodorus, Strabo, Plato, ac Ovid yn
cytuno. A phe na ddywedasai un o honynt hwy hyny,
y mae tystiolaeth yr oraclau dwyi'ol yn ddigonol. Ac
yn mhellach, difrodwyd a difwynwyd y ddaear gan y
diluw mawr. Drylliwyd ei gewynau, symudwyd ei
gwythienau o'u lleoedd, a chollodd ei gwyneb lawer
o'i harddwch blagurog. Fu y ddaear byth yn iach
wedi yr ysigfa ofnadwy a gaf odd y pryd hwnw ! Os
yr effeithiwyd y fath gyfnewidiadau drwy ddwfr, ai
anghredadwy yr effeithir cyfnewidiadau mwy gan dan
y golosgiad ?
4. Megys yr ymddangosodd byd neivydd ar ol y di-
luw, felly ymddengys nefoedd a daear newydd wedi
lielyntion y farn. "Eithr nefoedd newydd, a daear
newydd, yr ydym ni (yn wrthgyferbyniol i Noah) yn
ol ei addewid ef, yn eu dysgwyl," &c.
Wrth y " nefoedd newydd a daear newydd " y gol-
yga rhai y diwygiadau crefyddol mawrion sydd i flaen-
ori y mil-flwyddiant. Yr ydym yn credu y daw y rhai
hyny, ac y bydd eu dylanwad yn chwyldroadol, yn gy-
maint felly fel y gosodir gwedd o newydd-deb ar wa-
hanol gylchoedd. Cyfnewidiad mawr fydd syrthiad
Babylon, carthiad Mahometaniaeth o Jerusalem, ad-
gyf odiad eglwysi Asia, a sychiant af on yr Euphrates, i
wneyd ffordd i freninoedd y Dwyrain i ddyfod o dan
luman y Groes. Bydd gwedd newydd ar y byd wedi i
gyfandir anffyddol Ewrop ddyfod yn fagwrfa diwyg-
wyr, a chaniadau iachawdwriaeth yn amgylchu yr yn-
NEFOEDD NEWYDD A DAEAB NEWSDD. 297
ysoedd. Ond, gan mai rhywbeth i gymeryd lie cyn
dyfodiad Crist ydyw hwna, rhaid i ni gredu mai nid
adnewyddiad dynoliaeth ydyw yr hyn a addawir ac a
ddysgwylir yu y geiriau hyn. T mae yr olygf a lion
i'w gweled y tu draw i fflamau y golosgiad, ac wedi i
ddynion gael eu pwyso yn nghlorianau y farn. Drwy
ddylanwad fferyllol tanau y dydd hwnw, bydd i'r ddae-
;ar gael ei glanhau, ei hysgafnhau, a'i gwneyd yn dry-
loew, f el y gall Duw ei chadw yn oes oesoedd yn un o
gronf eydd ei gywreinion, modd y gallo y rhai a achub-
wyd ami, yn achlysurol ymweled a'i Bethlehem a'i
Chalfaria hi. Cymer y fath ad-drefniad le yn y nef-
oedd ac ar y ddaear, fel, a siarad yn gymarol, bydd y
ddwy adran yn gwbl newydd.
Diwrnod mawr fydd y diwrnod hwnw ! Tstrom
f awr fydd ystorm y farn ! Olywir bualgorn yr arch-
angel yn chwyrnogli yn yr entrychion. Gwelir y
cread yn agor ei safn yn rhwth, megys mewn ymdrech
yn tynu ei anadliad olaf. Bydd chwareufa yr ystorm-
ydd yn fflamiau, ac ystordai anweledig y cread yn dan.
Clywir trwst ofnadwy myrdd o blanedau yn gwrthdaro
yn erbyn myrdd o blanedau ar reilffyrdd yr eangder.
Aiff tyrfaoedd o ser, hen ac ieuanc, allan o'r golwg y
tu draw i leni bydoedd disgynedig. Gwelir bydoedd
o ddwfr yn myned yn byramidiau o dan. Tynir i lawr
scaffaldiau y cread, ac ymollynga a thodda pob peth
.gan wir wres. Berwa moroedd, hedf ana inynyddoedd,
llewyga ynysoedd, pob peth yn myned ac yn cyfnewid,
ond Craig dragywyddol yr iachawdwriaeth. Os ys-
.gydwa cyfandiroedd, deil y cyfamod yn ddigryn. Os
y ty wylla yr haul, gwena Haul y cyfiawnder. Os syrth
19
298 Y DDADL KHWNG MICHAEL A ? B DIAFOL
y ser, bydd seren Bethlehem yn Uewyrchu. Os aiff yr
adeilad ar dan, bydd ei breswylwyr yn ddiogel yn nhy
Tad yr lesu.
Y DDADL EHWNG MICHAEL A'E DIAFOL
NGHYLCH COEPH MOSES.
" Eithr Michael yr arch-angel pan oedd efe, wrth ymddadleu a
diafol, yn ymresymu yn nghylch corph Moses, ni feiddiodd
ddwyn barn gablaidd arno, eithr efe a ddywedodd, Cerydded yr
Arglwydd dydi." JTTDAS 9.
Y mae gan esbonwyr bedair ffordd i ateb yr
YMEOLIADAU
*
a awgrymir yn naturiol gan ddarlleniad y geiriau hyn.
Yr yroholiadau ydynt : Pa berthynas a allasai f odoli
rhwng Micnael yr arch-angel, a chorph Moses ? Pa
beth a achlysurodd yr anghydfod rhwng yr archangel
a'r diafol ? Pa bryd, ac yn mha le, y cymerodd y
ddadl a grybwyllir le ?
Atebir hwy gan un dosbarth o esbonwyr drwy ddweyd
na chymerodd y fath ymrafael le erioed yn wirionedd-
ol, ond mai cyfeirio y mae Judas at chwedl luddewig,
yn yr hon nis credai ei hunan, a hyny yn unig am ei
bod yn gwasanaethu i egluro yr athrawiaeth a gym-
ellai, sef , na ddylem " gablu y rhai sydd mewn awdur-
dod." Yn ol Origen, Newcome, a lluaws ar en hoi
hwy, cyfeiriad sydd yma at draddodiad disail, a anwyd
yn nychymyg y genedl, ac a groniclwyd megys gwk-
YN NGHYLOH COKPH MOSES. 299
ionedd ganddynt yn un o'u llyf rau anghanonaidd ; ond
nad ydoedd Judas wrth grybwyll y traddodiad yn can-
iatau ei wirionedd, eithr yn unig yn tynu moeswers
oddiwrtho. Gall y fath syniad, megys y mae, fod
yn f oddhaol i rai meddyliau ; ond i grediniwr syml
yn ysbrydoliaeth y Beibl, y mae y fatli syniad yn
creu anhawsder difrifolach na'r un y proffesa ei
symud ymaith. Yn gymaint ag fod apostol ysbrydol-
edig yn hysbysu fod corph Moses wedi bod yn destyn
dadl rhwng Michael a'r diafol, ac fod y ddau wedi
gwrthsefyll eu gilydd a rhesymau, yr ydym yn cael
ein gorfodi i gredu fod yr hanes yn wirionedd, gan
nad pa un a fyddwn alluog neu beidio i daflu goleuni
ar ei f anylion.
Ffordd arall, lawn mor anfoddhaol, o geisio myned i
guddgellau yr adnod, ydyw drwy dybio fod yma gyf-
eiriad arallol at amgylchiad hanesiol a nodir gan y
prophwyd Zechariah (Zech. iii. 2). Darlunia y pro-
phwyd Josua yr archoffeiriad "yn sefyll ger bron
angel yr Arglwydd, a Satan yn sefyll ar ei ddeheulaw
ef i'w wrthwynebu ef," wrth yr hwn y dywedodd yr
Angel, " Oerydded yr Arglwydd dydi, Satan." Hoair
fod Josua yr archoffeiriad yn cynrychioli y genedl lu-
ddewig, ac fod y genedl luddewig yn gorph Moses yn
yr un ystyr ag y mae Paul yn galw Cristionogion yn
gorpJi Urist, ac felly mai cyfeiriad sydd gan Judas yma
at waith Satan yn gwrthwynebu Josua fel cynrychiol-
ydd y genedl luddewig. Y mae y deongliad hwn mor
ddirdyniedig, fel nas gall fod yn gredadwy.
Yn yr ymdrech i gyrhaedd at wir achos yr anghyd-
f od rhwng Michael a Satan, cymer trydydd dosbarth
300 Y DDABL EHWNG MICHAEL A'E DIAFOL
Iwybr gwahanol, sef drwy geisio ei gwneyd yn debyg
fod y diafol yn dadleu. y dylasai Moses gael claddedig-
aeth gyhoeddus, ac nid claddedigaeth ddirgelaidd, ond
mai ei amcan yn hyny ydoedd, nid anrhydeddu Moses
fel y gwag honai, eithr yn hytrach rhoddi cyfleustra
i'r Israeliaid gyfodi ei gorph o'r bedd, er ei addoli. T
mae llawer o ystyriaethau sydd yn gwneyd y gredin-
iaeth hon yn un gymeradwy a phoblogaidd. T mae yn
cydredeg ag amryw ffeithiau adnabyddus ; megys mai
yr Arglwydd ei hunan ddarfu gladdu Moses; fod y
gladdedigaetb yn ddirgelaidd ; ac fod tuedd gref yn y
genedl at eilun-addoliaeth. O dan yr amgylehiadau r
ac ar wahan i ystyriaethau eraill, nid ydyw y dybiaeth
fod yr Arglwydd wedi gosod Michael yn warcheidwad
corph Moses, fod Satan wedi rnyned ato yn nawlio
rhoddiad i fyny iddo ef gorph. yr Arweinydd, ac mai ei
amcan ydoedd dyrysu bwriadau Duw, a dwyn y genedl
i addoli y creadur yn fwy na'r Creawdwr yn gyfryw
ag y gellir ei thaflu ymaith, oddigerth naill ai ei bod
yn anghyson a thonyddiaeth rhanau eraill o'r ysgryth-
yrau, neu ynte fod tybiaeth arall ddirprwyol yn cymer-
adwyo ei hunan yn well. Tmddengys i ni fod cywir-
deb y farn hon yn ymddibynu ar nodwedd yr atebion
a ellir roddi i'r cwestiynau canlynol : A ydyw yr Hen
Destament yn ein harwain i gredu fod tuedd yn y
genedl luddewig, yn y cyfnodau hyny i addoli cyrph
meirwon ? A oedd syniadati y genedl am Moses, fel ar-
weinydd, yn gyfryw ag ai gwnelai yn debyg y buasent
yn ei addoli, ond iddynt gael golwg ar ei gorph "? A
ydyw yr ysgrythyr yn dysgu mai er atal eilun-addol-
iaeth yn Israel y claddwyd Moses gan yr Arglwydd ei
YN NGHYLCH CORPH MOSES. 301
hunan, a hyny mewn llecyn anadnabyddiis ? Yr ydym
yn rhwym o roddi atebiad nacaol i'r tri gofyniad hyn.
Yr ydym yn credu, gyda y Parch. S. Cox, Nottingham,.
(Expositor, Vol. iii.,) mai y casgliad naturiolaf i'w
dynu oddiwrth ddullwedd claddedigaeth Moses ydyw
fod yr Arglwydd am osod arno, yn ei ei angeu, an-
rhydedd eithriadol ac arbenig, a hyny drwy drefn nad
ydoedd y rhai ddarfu ei brofi a'i anymwybyddu am
gynifer o flynyddoedd i gael unrhyw ran na chyfran
y n ei gladdedigaeth. Khagor n a hyny, nid perygl y gen-
edl ar y pryd ydoedd anwylo gormod ar goffadwriaeth
Moses ; yn hytrach ei anghofio ef , a gweithredoedd
nerthol Duw drwyddo, wedi iddynt gael arweinydd
newydd, llawer mwy cydweddol a'u chwaeth, yn mher-
son Josua. Ac yn mhellach drachefn, nid oes genym
gymaint ag un engraifft o duedd yn y genedl, yn y
cyfnod hwnw, at ^or^A-addoliad. Gwir en bod yn
eilun-addolwyr, ond nid yn ^orp^-addolwyr. Aw-
grymai corph i luddew alar ac aflendid seremon-
iol. Tr oedd y Gyfraith yn gosod nod o aflendid
arno. Yr oedd beddrod Eliseus yn eu mysg, a
daeth dyn marw i f ywyd wrth gyffwrdd a'i esgyrniaeth
yn ei fedd ond nid addolasant ei esgyrn oblegid
hyny. Os nad addolasant gorph fu yn gyfrwng
gwyrth yn ei fedd, a hwnw yn gorph un ydoedd yn
hynod boblogaidd yn ei fywyd, y mae yn rhaid credu
nad oes sail i'r haeriad fod y genedl yn beryglus du-
eddol i addoli meirwon. Na, ynfydrwydd diweddar-
ach yn hanes y byd ydyw dyn-addoliad, a gweddio_ar
seintiau ymadawedig.
Yr ydym yn troi bellach, gyda phryder, at y bed-
302 Y DDADL KHWNG MICHAEL A'E DIAFOL
waredd olygddysg ar y geiriau tywyllion liyn. Y mae
seiliau liono mewn dwy ffaith gydnabyddedig, sef yn
1. Mai rhan o gosbedigaetJi pecJiod ydyiu llygredig-
aeth a dadfeiliad y corpli yn y bedd. Oyflog pechod r
hyd yn nod yn y saint, ydyw marwolaeth ; a rhan o
farwolaeth ydyw llygredigaeth y corpli. Rywfodd, y
mae y Duw mawr wedi caniatau a threfnu fod diafol a.
phechod i barhau mewn awdordod dros weddillion
marwol pawb, heb eithrio ei bobl ei hunan, o ddechreu
y byd hyd yr adgyf odiad ; ac f el canlyniad, y mae gan
ddiafol hawl yn nhiriogaeth angeu i falurio a llygru,
Y rnae ganddo gymaint o hawl ar gorph marw i'w
lygru ag sydd ganddo ar enaid byw i'w boeni, ac nid
ydyw yn debyg ei fod yn foddlon, dan unrhyw am-
gylchiad, i beidio ymarfer yr arwydd hwn o fuddugol-
iaeth Eden. Un o fwriadau mawrion Duw yn y drefn
gyfryngol ydyw dileu yr awdurdod hwn, a chyfodi
tyrfa nas dichon neb ei rhifo yn anllygredig ar ddelw
ei anwyl Fab. Ond hyd yr adgyfodiad diweddaf, y
mae cyrph y saint i fod yn weiniaid, yn llygredig, ac
yn.anmharchus. Ffaith arall a gydnabyddir ydyw
(2.) Fod corph Moses wedi ymddangos yn ddilwgr
ar fynydd y giveddnewidiad. Yr ydym yn ei gyfar-
fod, yn mhen canoedd o flynyddoedd, ar fynydd gwyn
Hermon, wedi dyfod yno yn gorphorol o dir Moab, yn
agos i Beth Peor. Nid ei ysbryd oedd ar y mynydd,
mwy nag ysbryd Elias, ond yr oedd cyrph y ddau yno-
Oblegid hyny yr adnabyddwyd ef gan yr apostolion ; y
clywsant ef yn ymddyddan a'rlesu am "yr ymadawiad
a gyflawnai Efe yn Jerusalem ; " ac oblegid hyny
hefyd y cynygiodd Pedr wneuthur pabell iddo gwel-
YN NGHYLCH COBPH MOSES. 303
ai yn ei gorph y posiblrwydd iddo arcs yn ei gym-
deithas. Nid ydyw y ffaith ei fod yn ymddangos mewn
gogoniant ar y mynydd yn wadiad o'i bresenoldeb
<5orphorol, oblegid yr oedd corph y Ceidwad yn am-
wisgedig yn yr un gogoniant ; ac eto, nid ydoedd
wedi ymddiosg o'i ddynoliaeth ar y pryd. Ac y mae
yn deilwng o sylw, tra yr oedd corph Elias yn dyfod i
gyfarfod y mynydd a'r nefoedd, ac felly heb fod o dan
ddylanwad deddf llygredigaeth, fod corph Moses yn
dyfod yno o'r bedd, ond er hyny yn ymddangos yn
hardd ac anllygredig. Paham hyny ? Dyfod o diriog-
aeth llygredd yn anllygredig pa beth a all gyfrif am
beth mor ddyeithr ? Tybed nad oes yn y fan yma all-
wedd a egyr ddorau cauedig y testyn ? Ai nid ydyw
y syniad ddarfod i'r Duw sanctaidd, nad all oddef
drygibni yn ddigosb yn ei blant, drefnu angeu Moses
i was, ond i'r un Duw trugarog sydd yn gwobrwyo
ffyddlondeb yn ei eiddo, drefnu nad ydoedd ei was, er
marw, i weled llygredigaeth yn taflu goleuni ar y
cwestiwn dyrys hwn? Beth yn fwy naturiol na'r
grediniaeth fod Duw wedi atal gweithrediadau deddf
llygredigaeth yn achos arwr Israel oblegid ymddeng-
ys yn ddilwgr ar fynydd Hermon ; ac os caniateir cad-
wraeth eithriadol felly iddo, pa beth yn fwy rhesymol
na'r syniad iddo osod archangel i wylio ei gorph ? Ac
y mae yr un mor naturiol i gredu fod y diafol yn
gwrthryfela yn erbyn yr ymyriad eithriadol yma a'i
hawliau, ac iddo, yn ei ddigllonedd, fyned at y bedd-
rod i ymddadleu a'r gwarcheidwad ? Felly dadl y
diafol ydoedd fod cadwraeth anllygredig Moses yn af-
reolaeth anghyfiawn ; ond dadl Michael ydoedd fod
304 T DDABL EHWNG MOSES A : E DIAFOL, &C.
ei Arglwydd yn meddu hawl uwchlaw ei hawliau Sa-
tanaidd, ac felly, os ydoedd wedi bwaiadu i Moses
gael ei wobrwyo a chyfarfyddiad a'r Prophwyd Mawr,
mai ei ddyledswydd ef ydoedd cadw gwyliadwriaeth
ar ei fedd, ac nad ydoedd na dyn na diafol i gael
cyffwrdd bys ag ef.
Y fath esiampl a rydd Michael i ni ! "Y mae yn
sefyll yn mhlaid yr Arglwydd a'i blant hyd yn nod yn
wyneb y diafol ei hunan. Ond er mor wrol a gonest
ydyw, y mae yn amddiffyn ei achos a geiriau cysegr-
edig. T mae ei ieithwedd yn profi nad oes angen
llwon er amddiffyn y gwirionedd. A dengys ei es-
iampl, yn ddiweddaf, y dylem feitnrin teimladau
mawrygol ac ymddiriedol yn yr Arglwydd ; credu yn
ei barodrwydd a'i allu i'n hamddiffyn yn mhob cyf-
yngder yr arweinir ni iddo ef gan ddiafol. Ms gallwn
ni ond yn unig ymddadleu ag ef, ond y mae Un a all
ei geryddu yn effeitMol.
DIWEDD.