•»;-» *,*'» V'^ "^
PlülS SWIX?
This book belongs to
THE CAMPBELL COLLECTION
purchased with the aid of
rhe MacDonald-Stewart Foundation
and
The Canada Council
; ÌA/*^1
7
y
UBRAHì
D D A DV ^"^ '1
CAMPBELL
COLLECTION
MABINOöION.
{0 Ly£r Coch Eergest.)
GOLYGWYD GAN
J, M. EDWARDS, Ysgol Sm y Ehyl.
o o
Peredur ab Efrog.
Breuddwyd Rhonabwy
Lludd a Llefelys.
H'anes Taliesín.
GWRECSAM :
HUÖHES A'I FAB, HEOL ESUY:^.
1901.
RHAÖ-YMADRODD,
T A /ELE aü gyfrol, yn cymiwys tair
^^ mabinogi a hanes Taliesin. Cafodd
y gyfrol gyntaf dderbyniad mor groesawgar^
f el yr hudwyd fì i baratoi cyfrol arall ; ac yr
wyf yn gobeithio y ceir hi mor wasanaeth-
gar ac mor ddyddorol a'r gyntaf.
Cyhoeddwyd y mabinogion, y tair, yn
union fel y maent yn Llyfr Coch Hergest,
gan Dr. J. Gwenogfryn Evans. Cyhoedd-
wyd y mabinogion a hanes Taliesin, gyda
chyfìeithiad Saesneg, gan Lady Guest.
Cyhoeddwyd hwy mewn Cymraeg hen a
diweddar gan Llyfrbryf .
Yn yr argraffiad hwn cyfaddaswyd hwy ar
gyfer plant ysgoL
J. M. EDWARDS.
Ys^ol Sir y Rhyl,
Aw8t, 1901.
Digitized by the Internet Archive
in 2011 with funding from
University of Toronto
http://www.archive.org/details/mabinogionolyfrcOOedwa
PEREDUR AB EFROG.
EFEOG lARLL oedd biau iarllaeth j
Gogledd. A saith mab oedd iddo.
Ac nid ar ei gyfoeth yn fwyaf y byddai
Efrog byẅ, ond ar wrol-gampau, a rhyfel-
oedd ac ymladdau. Ac fel y mae yn fynych
i'r neb a ganlyno ymladdau a rhyfeloedd,
Haddwyd ef a'i chwe mab. Seithfed fab a
oedd iddo. Peredur oedd ei enw, a'r
ieuengaf oedd hwnnw. Ac nid oedd mewn
oed i fynd i ymladd nac i ryfel, petai mewn
oed efe a laddasid fel y lladdwyd
Fe/ y ei dad a'i f rodyr. Gwraig ddoeth,
gofaíodd ofalus, oedd yn fam iddo. A
mam. phryderu a wnaeth yn fawr am
ei hun mab a'i chyfoeth, a hynny
a gafpdd yn ei chyngor — ífoi i anialwch a
diff^e'thwch didramwy ac ymadael â'r cyf-
aneddau. Ni adawodd yn ei chymdeithas
ond gwragedd, a meibion. a dynion didraha,
na allent ac na weddai iddynt nac ymladd
na rhyfela. Ni adawai i neb, yn y lle y
clywai ei mab, gy nnull na meirch nac arfau,
rhag dodi o'r mab ei fryd arnynt. Ac i'r
fforest yr äi y mab beunydd i chwareu, ac i
daílu darnau o goed ac ysgyrion. Ac un
diwrnod efe a welai ddeadell eifr ei fam, a
dwy ewig yn gyfagos i'r geifr. A rhyfeddu
yn f awr a wnaeth y mab f od y ddwy hynny
heb gyrn, a chyrn ar y rhai eraill. A
Z PEREDUK AB EFUOG.
thybiodd iddynt fod yn hir ar goU, ac ani
hynny golli eu cyrn o honynt. A thŷ a oedd
ymhen y íîorest i'r geifr, a thrwy fedr a
rhedeg efe a gymhellodd yr ewigod, ynghyd
â'r geifr, i fewn. A daeth Peredur drachefn
at ei fam.
''Fy mam," ebe ef, " peth rhyfedd a
welais yn y coed,— dwy o'th eifr di wedi
mjná yn wyllt, ac wedi colli ctj cyrn gan
faint yr amser y buont ar goll dan y eoed.
Ac ni chafodd dyn drafíerth mwy nag a
gefais i yn eu gyrru i fewn."
Ac ar hynny cyfodi a wnaeth pawb a
dyfod i edrych, a phan welsant yr ewigod
rhyfeddu'n fawr a wnaethant.
Ac un diwrnod hwy a welent dri marchog
yn dyfod ar hyd marchog-ffordd wrth ystlys
y fforest. A'r tri marchog oedd, — Gwalch-
mai fab Gwyar, a Geneir Gwystyl, ac Owain
fab Uryen. Ac Owain oedd yn ymlid ar ol
y marchog a ranasai'r afalau yn llys Arthur.
" Fy mam," ebe Peredur, "beth yw y
rhai acw?"
** Angylion ydynt, fy mab," ebe hithau.
''Dyma fy fíydd," ebe Peredur, "yr af
' yn angel gyda hwy."
Ac i'r ffordd i'w cyfarfod y
Fef y daeth Peredur.
gwelodd *'Dywed, enaid, a welaist ti
Peredur farchog yn mynd heibio heddyw
farchog. neu ddoe ? "
*'Ni wn," ebe yntau, *'beth
yw marchog " .
*' Y cyfryw beth wyf fì," ebe Owain.
** Pe dywedit ti i mi y peth a ofynnaf i ti,"
ebe Peredur, * ' minnau a ddy wedwn i tithau
yr hyn a ofynni dithau."
PEREDUR AB EFROG. ó
*' Dywedaf yn llawen," ebe Owain.
**Beth yw hwn?'* ebe Peredur am j
cyfrwy.
** Cyfrwy yw," ebe Owain.
Ac ymofyn yn llwyr a wnaeth beth oedd
y pethau a welai ef ar y gwỳr, a'r meirch,
a'r arfau, a pha beth fynnent â hwy, ac a
allent wneyd â hwy. Owain a fynegodd
íddo yn llwyr bob peth a ellid wneyd â hwy.
^*Dos rhagot,'' ebe Peredur, **mi welais
y cyfryw a ofynni dithau; a mimiau a
ddeuaf ar dy ol di."
Yna dychwelyd a wnaeth Peredur at eî
fam a'r nifer.
**Fymam," ebe ef, '*nid angylion oedd
y rhai gynneu, ond marchogion urddasoL''
Yna syrthiodd y fam yn farw lewyg.
A daeth Peredur hyd y Ue yr oedd y
ceffylau a gludent danwydd iddynt, ac a
ddygai fwyd a dwfr o gyfannedd i'r anial-
wch, a chymerodd geffyl brych-welw ys-
gyrniog a'r cryfaf debygai ef. A ífynoreg
a wasgodd yn gyfrwy iddo, ac â gwyddyn
dynwared y pethau a welsai ar y meirch, ac
ar bopeth, a wnaeth Peredur.
A thrachefn y daeth Peredur at ei fam, ac
ar hynny dadlewygu a wnaeth yr iarlles.
** le, fy mab, cychwyn a fynni/'
*' le,*' ebe Peredur, gan dy gennad."
*' Aros i mi dy gynghori cyn dy gychwyn.'^
** Yn Uawen," ebe ef, " dy wed ar frys."
**Dos rhagot," ebe hi, *M lys
Fel y Arthur, " Ue y mae y gwỳr goreu,
cynghor- a haelaf , a dewraf. Lle y gweli
odd mam. eglwys, cân dy bader wrthi. 0$
gweli fwyd a diod, a'u heisiau
arnat, ac na bo neb o foesgarwch a daioni
4 PEREDUR AR EFROG.
eu rhoddi i ti, cymer hwy dy hmi. Os
clywi wylofain, dos yiio,— a gwjlofain
gwraig yn anad gwylofain yn y byd. Os
gweli dlws teg, cynier ef , a dyro i arall ; ac
o hynny clod a gef&. Os gweli ferch deg,
câr hi, er na fyn di ; gwell gẃr a chywirach
fyddi o hynny na chynt."
Ac wedi yr ymadrodd hwnnw esgyn ar ei
f arch a wnaeth Peredur, a dyrnaid o bicellau
blaenllym yn ei law, a chychwyn ymaith
rhagddo a wnaeth. A bu ddeuddydd a
dwynos yn cçrdded anialwch coediog, ac
amryw le diffa>3th, heb fwyd ac heb ddiod.
Ac yna y daeth i goed mawr anial, ac ymhell
yn y coed ef a welai lannerch deg wastad, ac
yn y llannerch y gwelai babell. Yr oedd yn
rhith eglwys, ac ef a ganodd ei bader wrth y
babell. A thua^ babell y daeth. A drws
y babell a oedd yn agored, a chadair euraidd
yn ymyl y drws, a morwyn oleu wallt,
brydferth, yn y gadair yn eistedd. Ac am
ei thalcen yr oedd cadwen aur, a meini
disglaër ynddi, a modrwy aur fawr am ei
Uaw. A disgyn a wnaeth Peredur, a dyfod
rhagddo i mewn ; a llawen fu y forwyn
wrtho, a chyfarch gwell iddo a wnaeth.
Wrth dalcen y babell ef a welai fwyd, a
dwy gostrel yn llawn o win, a dwy dorth o
fara càn, a golwythion o gig mel-foch.
'Ty mam," ebe Peredur, '*a archodd i
mi pa le bynnag y gwelwn fwyd a diod ei
gymeryd."
** Dos dithau, unben, yn llawen i'r bwyd,
a chroesaw i ti."
Yna y cymerth Peredur hanner y bwyd
a'r ddiod iddo ei hun, gan adael y llall i'r
forwyn. A phan ddarfu i Beredur fwyta,
PEREDUR AB EFROG. • O
dyfod a wnaeth a gostwiig ar beii ei lin ger
bron j forwyn.
i' Fy mam," ebe ef, " a archodd i mi Ue
gwelwn dlws teg ei gymeryd."
*' Cymer dithau, enaid," ebe hi.
Cymerodd Peredur y fodrwy; cymerodd
ei farch, a chychwynnodd ymaith.
Ar ol hynny dyma y marchog biau y babell
yn dyfod, — sef oedd hwnnw perchennog y ^
llannerch, ac ol y march a welai, — ,f
*• Dywed," ebe ef wrth y forwyn, ** pwy a '^^
fu yma ar f y ol i?"
*'Dyn rhyfedd iawn ei ansawdd, ar-
glwydd," ebe hi, a mynegodd ansawdd
Peredur, a'r modd y teithiai, yn llwyr.
*'Dywed," ebe ef, "a wnaeth efe ddrwg
iti?"
**Naddo, myn fy nghred," ebe hi, **na
cham nis gwnaeth i mi."
** Myn fy nghred nis credaf ; ac oni ddal-
iaf ef 1 ddial fy nghywilydd a'm llid, ni chei
dithau drigo dwy nos yn f y nhỳ. " A chyf odi
a wnaeth y marchog i geisio Peredur.
Ac yntau, Peredur, a gych
Fe/ y cych- wynnodd tua llys Arthur. A
wynnodd chyn ei ddyfod i lys Arthur,
Peredur i daeth marchog arall i ly s Arthur,
lys Arfhur. ac a roddodd fodrwy aur fawr yn
nrws y porth er dal ei farch. Ac
yntau a ddaeth i'r neuadd yn Ue yr oedd
Arthur a'i deulu, a Gwenhwyf ar a'i rhianedd.
A gwas ystafell oedd yn gwasanaethu ar
Gwenhwyf ar o flwch aur. Yna y marchog
a dywalltodd y dwfr a oedd ynddo am ei
gwyneb a'i bron, gan roddi bonclust mawr i
Wenhwyfar, a dywedyd, —
*' Os oes neb cyn eofned a gwarafun y
PEREDUR AB EFKüG.
blwch hwn i mi, a äial sarhad Gwenhwyfar,
deued ar íj ol i'r weirglodd, a mi a'i har-
hosaf yno."
A'i farch a gymerth j marchog a'r weir-
glodd a gyrchodd. Sef a wnaethant, — pawb
o'r teulu, gostwng eu pennau rhag gofyn i
nn fjnd i ddial sarhad Gwenhwyfar. A
thebyg oedd ganddynt na wnai neb waith
cyn eofned a hynny, oni bai fod arno fìlwr-
iaeth ac angerdd, neu ledrith fel na allai
neb ymddial âg ef .
Ar hynny dyma Peredur yn dyfod i'r
neuadd ar geífyl brych-welw ysgjTniog, a
thaclau musgrell arno, ac yn anweddaidd
mewn llys cyf-urdd a hwnnw. Ac yr oedd
Cai yn sefyll yng nghanol y neuadd.
" Dywed, y gẃr hir," ebe Peredur, '^ acw
mae Arthur ? ' '
' ' Beth a fynni di," ebe Cai, * ' âg Arthur ? "
*'Fy mam a archodd i mi ddyfod i'm
hurddo yn farchog urddol at Arthur."
'*Myn fy nghred," ebe Cai, " rhy ang-
hywir wyt o farch ac arfau."
Ac ar hynny canfu y teulu ef a bwriasant
ysglodion ato.
Ar hynny, dyma ŵr yn dyfod i mewn, a
ddaeth flwyddyn cyn hynny i lys Arthur, ef
a chorres, i erchi nawdd Arthur, a hynny a
gawsant. Ac yn ystod y flwyddyn ni ddy-
wedasai un o honynt un gair wrth neb. A
phan ganfu y corach Peredur, —
'* Haha," ebe ef, ^' croesaw
Fel y calon i ti, Beredur deg, fab
croesaw- Efrog, — arbennig ymysg milwyr
odd cor. a blodau marchogion ! "
** Yn wir," ebe Cai, ''dyma
fedr yn ddrwg, — bod flwyddyn yn llys
PEREDUR AJ3 EFROG. i
Arthur yn fud, yn cael dewis dy ymddidd-
anwr, a galw y cyfryw ddyn a hwn, yng
iigwydd Arthur a'i deulu, a'i dystio yn
arbennig ymysg milwyr a blodau marchog-
ion!" a rhoddodd fonclust iddo hyd nes
oedd ar lawr yn farw lewyg.
Ar hynny dyma y gorres, —
''Haha," ebe hi, ^'croesaw calon i ti,
Beredur deg, fab Efrog, blodau y milwyr, a
chanwyll y marchogion ! "
*'Ie, forwyn," ebe Cai, "dyma fedr yn
ddrwg, bod flwyddyn yn fud yn Uys Arthur,
a galw y cyfryw ddyn hwn yn y modd y
gelwaist ! " a rhoddodd Cai gic iddi nes oedd
ar lawr yn farw lewyg.
'' Y gẁr hir," ebe Peredur, *' mynega i'm
pa le mae Arthur."
**Taw a'th son," ebe Cai, ''dos ar ol y
marchog a aeth oddi yma i r weirglodd, a
dwyn y blwch oddi arno, a thafl ef , a chym-
er ei farch a'i arfau, ac wedi hynny ti a
gefíì dy urddo yn farchog urddol."
<< Y gẁr hir, minnau a wnaf hynny."
A throdd ben ei farch, ac aeth allan ac i'r
weirglodd. A phan ddaeth yr oedd y
marchog yn marchogaeth yn
fefyrym- rhyfygus fel gẁr dewr urddasol.
laddodd *'Dywed," ebe'r marchog, "a
Peredur. welaist di neb o'r Uys yn dyf od
arfy oli?"
" Y gẁr hir oedd yno," ebe ef, ** a archodd
1 mi dy daflu di, a chymeryd y blwch a'r
march, a'r arfau i mi fy hun."
*' Taw," ebe y marchog, " a dos drachefn
i'r Uys, ac arch oddi wrthyf i Arthur
ddyfod, ai ef ai arall, i ymladd â mi. Ac
oni ddaw yn gyflym ni arhosaf i erfyn."
8 PEREDUR AB EFROG.
''Myii fy iighred," ebe Peredur, ^'dewis
di ai o'th fodd ai o'th aiifodd, mvfì a fyii-
naf j march, a'r arfau, a'r blwch."
Ac yna j cyrchodd j marchog ef yn llid-
iog, a gwanodd ef â blaen ei waew rhwng jr
ysgwydd a'r gwddf , - dyrnod mawr dolurus.
** Aha, was," ebe Peredur, " ni chwareuai
gweision f j niam â myfì felly. Minnau a
chwareuaf â thi fel hyn."
Bwriodd bicell flaenllym ato, ac a'i taraw-
odd yn ei lygad hyd onid oedd trwy ei wegil
allan, ac yntau yn farw ar amrantiad.
'*Yn wir," ebe Owain fab Uryen wrth
Cai, " drwg a wnaethost yrru y dyn íîol ,ar
ol y marchog. Un o ddau beth a ddigwydd
iddo, — ei ladd neu ei daflu ; os ei daflu a
ddigwydd i'r marchog, rhif y marchog ef
yn ẁr mwyn o'r Uys, ac anghlod dragwydd-
ol fydd i Arthur a'i fìlwyr ; ac os ei ladd a
ddigwydd, yr anghlod a gerdda fel cynt, a'i
bechod arno yntau yn ychwaneg. A dyma
fy íîydd, af i wybod pa hanes yw ei eiddo
ef."
A daeth Owain i'r weirglodd. A'r hyn
welai Owain oedd Peredur yn llusgo y gẁr
ar hyd y weirglodd.
" Beth a wnei di felly ? " ebe Owain.
** Ni ddaw," ebe Peredur, " y bais haiarn
byth oddi am dano, nis gallaf fì ei thynnu."
Yna diosgodd Owain yr arfau a'r diUad.
** Dyma, enaid," ebe ef, *'farch ac arfau
gwell na'r rhai eraiU, a chymer hwy yn
Uawen. A thyred gyda mi hyd at Arthur
i'th urddo yn farchog urddol, canys ti a'i
haeddi."
* ' Ni chodaf f y ngwyneb os af , ' ' ebe
Peredur. '' Ond dwg di y blwch oddi
PEREDUR AB EFROG. 9
wrthyf i Wenhwyfar. A dyTved wrth Arthur
Pa le bjnnag y byddwyf fì, gẁr iddo fyddaf
ac a allaf o les a gwasanaeth iddo mi a'i
gwnaf. A dywed na ddeuaf i'r llys byth
oni ymladdwyf y gŵr hir sydd yno, i ddial
sarhad y cor a'r gorres."
Yna y daeth Owain drachefn i'r Uys, a
mynegodd yr hanes i Arthur a Gwenhwyfar,
ac i bawb o'r teulu, a'r bygwth ar Gai.
Ac yntau, Peredur, a gychwynnodd ym-
aith. Ac fel yr oedd yn cerdded, dyma
farchog yn ei gyfarfod.
'* 0 ba le y deui di ? " ebe'r marchog.
' ' Deuaf o ly s Arthur, ' ' ebe Peredur.
'* Ai gẁr i Arthur wyt ti ? " ebe ef .
*' le, myn fy nghred," ebe Peredur.
' ' Yr wy t yn glynu wrth Arthur mewn lle
iawn."
'* Paham ? " ebe Peredur.
''Mi a ddywedaf i ti," ebe ef. '' Gelyn
fum i Arthur erioed. Ac mi a leddais bob
gẁr iddo a ddaeth i'm cyfarfod."
Ni fu dim yn fwy na hynny rhyngddynt,
— ymladd wnaethant. Ac ni fu hir amser
cyii i Beredur ei fwrw dros grwper ei farch i
lawr. Nawdd a archodd y marchog ganddo.
**Nawdd a gefû," ebe Peredur, **ond
rhoddi dy Iw yr ai i lys Arthur, a mynegi i
Arthur mai fì a'th fwriodd er anrhydedd a
gwasanaeth iddo ef. A dywed na ddeuaf
byth i'r llys oni chaffwyf ddial sarhad y cor
a'r gorres.'*
A'r marchog a roddodd ei air ar hynny,
ac a gychwynnodd rhagddo 1 lys Arthur.
Ac a wnaeth hynny, a'r bygwth ar Gai.
Ac yntau, Peredur, a gychwynnodd rhag-
ddo. Ac yn yr un wythnos cyfarfu âg ef
10 PEE.EDUR AB EFROG.
un marchog ar bymtheg ; ac ef, Peredur,
a'u bwriodd yn gywüyddus. Ac aethant i
lys Arthur, a'r unrhyw ymadrodd ganddynt
ac a ddaeth gyda'r marchog cyntaf , a'r un
bygwth gan Beredur ar Gai. A cherydd a
gafodd Cai gan Arthur, a phrudd fu yntau,
Cai, am hynny. Yntau, Peredur, a gerdd-
odd rhagddo, ac a ddaeth i goed mawr
anial, ac yn ystlys y coed yr oedd Uyn, ac
ar y tu arall yr oedd caer deg. Ar lan y
Uyn gwelai ŵr llwyd bonheddig yn eistedd
ar obennydd o sidan, a gwisg o sidan am
dano ; a gweision yn pysgota ar y llyn
hwnnw. Pan welodd y gẁr llwyd Peredur
yn dyfod, cyfodi a wnaeth, a cherdded tua'r
gaer. A chloff oedd yr hen ŵr. Yntau,
Peredur, a gyrchodd y llys. A'r porth oedd
yn agored, ac aeth i'r neuadd. Ac yr oedd
y gẁr gwallt wyn yn eistedd ar obennydd,
a thân mawr yn llosgi o'i íìaen. A chyfodi
a wnaeth y teulu a'r nif er i dderbyn Peredur,
a diosg ei esgidiau. Ac archi a
Fel y wnaeth y gŵr i'r dyn ieuanc
gwnaeth y eistedd ar ben y gobennydd. A
gwr llwyd. chydeistedd ac ymddiddan a
wnaethant. A phan fu amser
gosod byrddau, a mynd i fwyta, yr oedd
Peredur yn eistedd ar y naiU law i'r gẁr
biai y llys. Wedi darfod bwyta, gofyn a
wnaeth y gẁr i Beredur, a allai daro â
chleddyf yn dda.
*'Na allaf," ebe Peredur, *'pe cafîwn
ddysg tebyg y gallwn.'*
''A all chware â ffon a tharian yn dda,
gallasai hwimw ymladd â chleddyf."
Dau fab oedd i'r gŵr, — gwas melyn a
gwas gwineu.
PEREDUR AB EFROG. 11
*' Cyfodwch, weision," ebe ef, '' i chwareu
â ífyn, ac a thariannau."
Ac yna i chwareu â fíyn yr aethant.
"Dywed, enaid," ebe y gẁr, *'pwy oreu
o'r gweision debygi di ani chware?"
" Tebyg gennyf fì," ebe Peredur, *'y
gallai y gwas melyn wneuthur gwaed ar y
llall pe y mynnai."
"Cyfod dithau, enaid, a chymer y íFon
a'r darian o law y gwas gwineu, a gwna
waed ar y gwas melyn os gelli."
Peredur a gyfododd, a mynd a wnaeth i
chware â'r gwas melyn. A dyrchafodd ei
law, ac a'i tarawodd â dyrnod mawr hyd
nes y syrthiodd yr ael ar ei lygad,— a'r
gwaed yntau yn llifo.
'* Wel, enaid," ebe y gŵr, ** dos i eistedd
bellach. Y gẁr goreu am daro â chleddyf
yn yr ynys hon fyddi di. A'th ewythr
dithau, frawd dy fam, wyf fìnnau. A chyda
mi y byddi y tymor hwn yn dysgu moes ac
arfer y gwledydd a'u defodau, ac ymddyg-
iad, ac addfwynder, a boneddigeiddrwydd.
Gad weithian iaith dy fam, a mi a fyddaf
athraw i ti, ac a'th urddaf yn farchog urdd-
ol o hyn allan. A dyma a wnei, — os gweli
beth a fo ryfedd gennyt, nac ymofyn beth
yw, 08 na bydd digon o foesgarwch i'w
fynegi i ti. Nid arnat ti y bydd y cerydd,
ond arnaf fì, canys mi sydd athraw i ti."
Ac anrhydedd a gwasanaeth ddigon a
gawsant. A phan fu amser, i gysgu yr
aethant.
Pan ddaeth y dydd gyntaf, cyfodi a
wnaeth Peredur, a chymeryd ei farch, a
chychwyn ymaith trwy ganiatad ei ewythr.
A daeth i goed mawr anial, ac ymhen draw
12 PEREDUil AB EFROG.
j coed daeth i ddol, a'r tu arall i'r ddol
wastad gwelai gaer f awr, a thua'r Ue hwiinw
j cyfeiriodd Peredur. A'r porth a gafodd
yii agored, ac aeth i'r neuadd. A'r hyn
welai oedd gẁr llwyd bonheddig yn eistedd
jii ochr j neuadd, a gwŷr ieuainc jn aml
o'i gylch. A chyfodi a wnaethant yn foes-
gar, a'i dderbyn, a'i ddodi i eistedd ar y
naiU law i'r gŵr biai y neuadd. Ac ym-
ddiddan a wnaethant. A phan fu amser
myned i fwyta, dodi Peredur a wnaethant i
eistedd ar y naill law i'r gẁr mwyn i fwyta.
Ac wedi darfod bwyta ac yfed eu hamcan,
gofyn a wnaeth y gẁr da i Peredur a allai ef
daro â chleddyf .
' ' Pe caffwn ddysg, tebyg y w gennyf y
gallwn," ebe Peredur.
Ac yr oedd haiarn mawr yn
Fe/ y llawr y neuadd.
iorrodd ** Cymer," ebe y gẁr wrth
Peredur Peredur, ' ' y cleddyf acw a tharo
yr haiarn. yr haiarn."
A Pheredur a gyfododd ac a
darawodd yr haiarn onid oedd yn ddeu-
ddryll, a'r cleddyf yn ddeu-ddryll.
" Dod y darnau ynghyd a chyfuna hwy."
Peredur a'u dododd ynghyd, a chyfunas-
ant fel cynt. A'r ailwaith tarawodd yr
haiarn yn ddeu-ddryll, a'r cleddyf yn ddeu-
ddryll, ac fel cynt cyfuno a wnaethant. A'r
drydedd waith cyíîelyb ddyrnod a daraw-
odd, a'u bwrw ynghyd, — ond ni chyfunai yr
haiarn na'r cleddyf .
''le, was," ebe y gẁr, '^dos i eistedd
bellach, a'm bendith i ti. Y dyn goreu yn
y deyrnas am daro â chleddyf wyt. Deu-
parth dy ddewredd a gefaist, a'r trydydd
PEREDUR AB EFROG. 13
ran sydd heb ei gael. Ac wedi i ti gael dy
ddewredd yn gwbl, ni thycia i neb ymiyson
â thi. A'th ewyrth wyf fìnnau, frawd dy
fain. Brodyr ym ni a'r gẁr y buost neith-
iwr yn ei dỳ."
Ac yna ymddiddan á'i ewyrth a wnaeth
Peredur. Ar hynny gwelai ddau was yn
dyfod i'r neuadd, ac yn mynd i'r ystafell,
a gwaew ganddynt anfeidrol ei faint, a thair
ffrwd o waed yn rhedeg o'i phen hyd y
llawr. A phan welodd y nifer hwnnw wylo
a llefain a wnaethant. Ond, er hynny, ni
thorrodd y gẁr yr ymddiddan â Pheredur.
Er hynny ni ddywedodd wrth Peredur yr
ystyr, ac ni ofynnodd yntau. Ar hynny,
wedi distewi ysbaid fechan, dyma ddwy
forwyn yn dyfod â dysgl fawr rhyngddynt,
a phen dyn yn y ddysgl, a gwaed yn dew o'i
amgylch. Ac yna Uefain yn fawr a wnaeth
nifer y Uys, onid oedd yn flin trigo yn yr un
llys â hwynt. Ac o'r diwedd tewi a wnaeth-
ant. A phan fu amser i gysgu, yr aeth
Peredur i ystafell deg. A thrannoeth
Peredur a gy chwynnodd ymaith trwy gan-
iatad ei ewyrth.
Oddi yno ef a ddaeth i goed, ac ymhell
yn y coed clywai wylo. A'r hyn welai oedd
gwraig oleuwallt fonheddig, a march a
chyfrwy arno yn sefyll ger ei llaw, a chorff
yn ei hymyl. A phan y ceisiai
Fel y wylai roddi y corff ar y cyfrwy oedd ar
gwraig. y march, syrthiai y corff i lawr,
ac wylai hithau.
*' Dywed, fy chwaer," ebe Peredur, " pam
yr wyt yn wylo? "
'* O esgymunedig Beredur ! gwared bych-
an a gefais o fy ngofìd gennyt ti erioed."
14 PEREDUR AB EFROG.
^'Paham yr wyf fì esgymunedig ? " ebe
Perediir.
*'Am dy fod yn achos i ladd dy fam.
Canys pan gychwynnaist o'i hanfodd, neid-
iodd gwaew i'w cUalon, ac o hynny bu farw.
Ac am hynny yr wyt yn esgymunedig. A'r
cor a'r gorres a welaist yn llys Arthur,
corachod dy dad di a'th fam oeddynt, a
chwaer-faeth i ti wyf fìnnau. A'm gẁr
priod oedd hwn a laddwyd gan y marchog
sydd yn y llannerch yn y coed,— ac na ddos
dithau ar ei gyfyl ef rhag iddo dy ladd."
*' Fy chwaer, cam wnai i'm fy ngheryddu.
Am fy mod cyhyd ag y bum gy da chwi,
prin y gorchfygaf ef , a phe buaswn yn hwy
anhawdd fyddai i'm ei orchfygu. Taw
dithau, bellach, a'th wylo, canys ni thycia
ddim. A mi a gladdaf y corff; ac wedi
hynny mi a af hyd Ue mae y marchog, i
edrych a allaf ei ddial arno."
Ac wedi iddo gladdu y gŵr, dyfod a
wnaethant i'r Ue yr oedd y marchog yn
marchogaeth yn rhyfygus yn y llannerch.
Ar hyn gof yn a wnaeth y marchog ì Peredur
o ba le y deuai.
*' Deuaf o lys Arthur."
*' Ai gẁr Arthur wyt ti ? "
'' le, myn fy nghred."
*' Un iawn i ymlynu wrtho yw Arthur."
Ac ni f uont yn hwy na hynny cyn ymladd.
Ac yn y lle Peredur a daflodd y marchog.
A nawdd a archodd yntau gan Peredur.
" Nawdd a geffi," ebe Peredur, *' os cym-
eri y wraig hon yn briod, a gwneuthur y
parch a'r anrhydedd goreu a elli iddi ; am
hidd o honot tithau ei gẁr priod hi yn wir-
ion. A mynd o honot i lys Arthur, a
PEREDUR AB EFROG. 15
myiiegi iddo mai íì a'th daílodd er anrhyd-
edd a gwasanaeth i Arthur. A mynegi iddo
na ddeaaf i byth i'w lys ef oni ymladdwyf
â'r gẁr hir sydd yno i ddial sarhad y cor a'r
gorres arno."
A 11 w am hyn a gy merodd gan y marchog.
A threfnwyd y wraig yn gy wir o farch a
dillad gydag ef i lys Arthur, a mynegwyd
yr hanes i Arthur, a'r bygwth ar Gai. A
cherydd a gafodd Cai gan Arthur a'r teulu
am gadw o hono was cystal a Pheredur o lys
Arthur. Ebe Owain fab TJryen, —
*' M ddaw y gẃr ieuanc hwn byth i'r Uys,
onid a Cai allan o'r llys."
*'Myn fy nghred ! " ebe Arthur, ^'mi
chwiliaf anialwch Ynys Prydain am dano
oni chaífwyf ef . Ac yna gwnaed pob un o
honynt a allo o waethaf i'w gilydd."
Yntau Peredur a gy chwynnodd rhagddo,
ac a ddaeth i goed anial. Sathyr dynion ac
anifeiliaid ni welai, ond gwyddweli a llysiau.
Ac ymhen draw y coed gwelai gaer fawr. a
thyrrau cedyrn aml arni. Ac yn agos i'r
porth hwy oedd y Uysiau nag yn un Ue
arall. Ac â phen ei bicell curodd y porth.
Ar hynny dyna was melyn-goch cul ar fwlch
yn y gaer.
*' Dewis, unben," ebe ef, " ynte i mi agor
y porth i ti, neu fynegi i'r neb pennaf dy
f od wrth ddrws y porth ? "
,' **Mynega fy Ìod yma," ebe Peredur,
*'ac os mynnir i'm ddyfod i mewn, mi a
ddeuaf."
Y gwas a ddaeth drachefn, ac a agorodd
y porth i Peredur. A phan ddaeth i'r
neuadd ef a welai ddeunaw o weision culion,
cochion, o'r un dwf a'r un bryd, a'r un wisg
16 PEREDUR AR EFROG.
a'r un oed, a'r gwas a agorasai y porth iddo.
A da oedd eu moes a'u gwasanaeth. A diosg
ei esgidiau a wiiaethant.
Eistedd ac ymddiddan a wnaethant. Ar
hynny dyma bum morwyn yn dyfod o'r
ystafell i'r neuadd. A diau oedd gan
Peredur na welodd forwyn erioed cyn deced
a'r forwyn bennaf o honynt.
Hen wisg o sidan — fuasai dda gynt—
tyllog fel y gwelid ei chnawd trwyddo.
Gwynnach oedd na blawd y crisant. Ei
gwallt hi a'i dwy ael oedd dduach na'r
muchudd. Dau fan coch bychan oedd yn
ei gruddiau, — cochach oeddynt na dim
cochaf.
. Cyfarch gwell a wnaeth y for-
Fel y wyn i Peredur, ac eistedd ar y
dialodd naiU law. Cyn hir wedi hynny
Peredur gwelai ddwy fynaches yn dyfod,
gam a chostrel yn llawn o win gan y
merch. naill, a chwe torth o fara càn
gan y llall.
" Arglwyddes," ebe hwy, **Duw a ẃyr
nad oes cymaint arall a hyn o fwyd a diod
yn y confent acw heno."
Yna aethant i fwyta. A Pheredur a
sylwodd fod y forwyn yn mynnu rhoddi
mwy o fwyd a diod iddo ef nag i neb arall.
*'Tydi, fy chwaer," ebe Peredur, <*myfì
a rannaf y bwyd a'r ddiod."
** Nac ef , enaid," ebe hi.
** Yn wir, mi a'i rhannaf."
Peredur a gymerth ato y bara, ac a'u
rhoddes i bawb gystal a'u gilydd, a mesur
fûol o'r gwin a roddodd i bawb cystal a'u
gilydd. Pan oedd amser myned i gysgu,
ystafell a gyweiriwyd i Beredur. Ac i gysgu
yr aeth.
PEREDUR AB EIROG. 17
*' Dyma, fy chwaer," ebe j gweision wrtli
forwyn decaf a phennaf o honynt, ^' a gyn-
hygiwn i ti."
* ' Beth yw hynny ? ' ' ebe hi.
*'iVÌyned at y gẃr ieuanc i'r ystafell
uchod, ac ymgynnyg iddo yn wraig neu yn
gaeth-ferch. — yr hyn oreu ganddo ef."
**Dyna," ebe hi, **beth ni wedda. Myfì
heb achos erioed â gẁr. Ac ni allaf gynnyg
iddo cyn iddo fy hoffi. Ni allaf fì hynny er
dim."
** I Dduw y dygwn ein cyíîes, oni wnai di
hynny, ni a'th adawn i'th elynion yma i
wneuthur a fynnont â thi."
A rhag ofn hynny cychwyn a wnaeth y
forwyn. a than oUwng dagrau aeth rhagddi
i'r ystafell. A chan dwrf y ddor yn agor
deffro a wnaeth Peredur. Ac yr oedd y
forwyn yn wylo ac yn llefain.
'* Dywed, fy chwaer," ebe Peredur, *' pam
yr wyt yn wylo ? "
** Mi a ddywedaf i ti, arglwydd," ebe hi.
Fy nhad i oedd biai y cyfoeth hwn yn eiddo
iddo ei hun ; a'r llys hwn a'r iarlläeth o'i
chylch oedd y goreu yn ei gyfoeth. Ac yr
oedd mab iarll arall yn fy ngofyn innau i fy
nhad. Nid awn innau o'm bodd ato ef , ac
ni roddai fy nhad fì o'm hanfodd iddo ef
nac i iarll yn y byd. Ac nid oedd o blant
i'm tad i ond myfì. Ac wedi marw fy
nhad daeth y cyfoeth i'm llaw innau, ac yn
sicr ni fynnwn i ef wedi hynny mwy na
chynt. A'r hyn a wnaeth yntau, wedyn,
oedd rhyfela yn fy erbyn i, a goresgyn fy
nghyfoeth ond yr un tỳ hwn. A chan mor
dda y gwỳr a welaist ti, — brodyr-maeth i
mi, a chadarned y tŷ, ni chymer ef byth tra
B
18 PEREDUR AR EFROG.
y parhao bwyd a diod. A liynny a ddarfydd-
odd, ond f el y mae y mynachesau a welaist di
yn ein porthi, o herwydd fod y cyfoeth a'r
wlad yn rhydd iddynt hwy. Ac yn awr nid
oes iddynt hwythau ddim bwyd na diod ;
ac nid oes amser pellach nag y fory oni ddel
yr iarll a'i hoU allu gydag ef yn erbyn y Ue
hwn. Ac os myfì a gaiff ef, ni fydd gwell
fy sefyllfa na'm rhoddi i weision y meirch.
A dyfod i ymgynnyg i thithau, arglwydd,
yr wyf , yn y wedd y bo oreu gennyt ti, er
bod yn nerth i mi, — fy nwyn oddi yma, neu
fy amddiíîyn yma."
'* Dos, fy chwaer," ebe ef, " i gysgu. Ac
nid af i oddi wrthyt cyn y gwnelwyf ddim a
ddywedi, oni welwyf a allwyf fod yn nerth
i chwi."
Drachefn aeth y forwyn i gysgu. Tran-
noeth y bore y cyfododd y forwyn, ac y
daeth hyd lle yr oedd Peredur, a chyfarch
gwell iddo.
* ' Duw a roddo dda i ti, enaid, a pha ry w
chwedlau sydd gennyt?"
*' Nid oes ond fod yr iarll a'i hoU allu wedi
gwersyllu wrth y porth. Ac ni welodd neb
amlach pebyll, a marchogion, yn galw ar
arall i ymladd."
* * Yn wir, ' ' ebe Peredur, * * paratoer i
minnau fy march."
Yna y march a baratowyd i Beredur. Ac
yntau a gyfododd ac a gyrchodd y weir-
glodd. Ac yr oedd yn y weirglodd farchog
yn marchogaeth yn rhyfygus, wedi codi
arwydd i ymladd âg ef. Ac i ymladd yr
aethant. A Pheredur a daílodd y marchog
dros grwper ei farch i lawr. Ac yn niwedd
y dydd daeth marchog arbennig i ymladd
êÌynr^
PEREDUR AB EFROG. 19
âg ef ; a thafiu hwmiw a wnaeth Peredur.
Nawdd a archodd hwnnw.
^* Pwy wyt ti ? " ebe Peredur.
" Yn wir," ebe ef, '* penteulu i'r iarll."
*^Beth sydd o gyfoeth yr iarlles yn áj
feddiantdi?"
** Yn wir," ebe ef, '* tair rhan."
*' le," ebe ef, " dychwel iddi dair rhan eî
chyfoeth yn llwyr, ac a gefaist o dda o hono.
A bwyd can ẁr, a'u diod, a'u nieirch, a'u
harfau heno iddi yn y Uys. A bydd dithau
yn garcharor iddi."
/ A hynny a ganiataodd yn ddiddannod.
Ac yr oedd y f orwyn yn hyfryd lawen y nos
honno, wedi cael y pethau hyn olL A
thrannoeth Peredur a aeth i'r weirglodd, a
llawer o honynt a daflodd ef y dydd hwnnw.
Yn niwedd y dydd daeth marchog rhyfygus
arbennig ato, a tliaíiu hwnnw a wnaeth
Peredur. A nawdd a archodd hwnnw gan
Beredur.
" Pa un wyt tithau ? " ebe Peredur.
*' Distain y Uys," ebe ef.
" Beth," ebe Peredur, " sydd o gyfoeth y
f orwyn yn dy f eddiant di ? "
** Tair rhan ei chyfoeth," ebe ef.
'* le," ebe Peredur, " dychwel ei chyfoeth
i'r forwyn. ac a gefaist o dda o hono yn
llwyr. A bwyd dau gan ẁr, a'u diod, a'u
meirch, a'u harfau. A bydd dithau yn
garcharor iddi."
A hyiniy a gafodd yn ddiddannod. A'r
trydydd dydd y daeth Peredur i'r weirglodd,
a mwy a daflodd ef y dydd hwnnw na'r un
dydd. Ac yn niwedd y dydd daetli yr iarll
i ymladd âg ef. Ac ef a'i taflodd, a nawdd
a archodd yntau.
20 PEREDUR AK EFROG.
** Pwy wyt tithau ? " ebe Peredur.
'' Myfì yw yr iarll," ebe ef, '' nid ymgel-
af."
'*le," ebe Peredur, "dychwel ei hiarll-
aeth yn gyfan i'r forwyn, a'th iarllaeth
dithau yn ychwaneg. A bwyd tri channwr
a'u diod, a'u meirch a'u harfau, a thithau
i'w mheddiant."
Ac felly y bu popeth. A thrigodd Peredur
dair wythnos, yn peri rhoddi teyrnged ac
ufudd-dod i'r forwyn, ac i'r cyfoeth fod
wrth ei chyngor.
**Gan dy gennad," ebe Peredur, *' mi a
gy chwynnaf ymaith. ' '
*^ Ai hynny a fynni, fy mrawd ? "
**Te, myn fy nghred, ac oni bai fy mod
yn dy garu di, ni fuaswn yma cyhyd ag y
bum."
" Enaid," ebe hi, ** pwy wyt tithau ? "
** Peredur, fab Efrog o'r Gogledd. Ac os
daw gofìd neu enbydrwydd arnat, mynega i
mi, a mi a'th amddiffyimaf, os gallaf."
Cychwyn a wnaeth Peredur oddi yno. Ac
ymhell oddi yno cyf arfyddodd marchoges âg
ef, ar farch cul, chwysedig. A chyfarch
gwell a wnaeth hi i'r gẁr ieuanc.
** O ba le y deui, fy chwaer ? "
Mynegi a wnaeth iddo pam y cerddai felly.
A phwy oedd hi ond gwraig Syberw y
Llannerch.
** Yn wir," ebe ef, *' myfì yw y marchog
o achos yr hwn y cefaist y gofìd yma. Ac
edifar fydd y neb a'i gwnaeth."
Ar hynny dyma y marchog yn dyfod, a
gofynnodd i Beredur a welsai ef y cyfryw
farchog a oedd ef yn ei geisio.
**Taw a'th son," ebe Peredur, **myfì yr
PEREDUR AB EFROG. 21
wyt yn ei geisio. A myn îy nghred, drwg
wyt a'r teulu wrth j forwyn, o achos gwir-
lon yw yn ei pherthynas â mi."
Ac ymladd a wnaethant. Ac
Fe/ y cyf' ni bu hir yr ymladd, — Peredur a
arfyddodd daílodd y marchog. A nawdd a
Peredur archodd yntau gan Beredur.
Widdonod " Nawdd a geffi," ebe Peredury
CaerLoew. " os ai drachefn y íîordd j
daethost i fynegi i ti gael y for-
wyn yn wirion, ac fel iawn iddi hithau y
taflais i di."
A'r marchog a addawodd hynny iddo.
Ac yntau, Peredur, a gerddodd rhagddo,
Ac ar fynydd uwch law iddo gwelai gastell,
a thuag ato yr aeth. A churo y borth a
wnaeth â'i bicell. Ar hynny dyma was
goleubryd bonheddig yn agor y porth, — a
maint milwr ac oedran mab arno. A phan
ddaeth Peredur i'r neuadd yr oedd gwraig
fawr fonheddig yn eistedd mewn cadair, a
llaw-forwynion yn aml o'i chylch. A llawen
fu y wraig dda wrtho. A phan fu amser
iddynt, myned i fwyta a wnaethant. Wedi
darfod bwyta,—
*'Gwell i ti, unben," ebe hi, **fyned i
gysgu i le arall."
" Oni chaf gysgu yma ? " ebe Peredur.
" Naw gwiddon, enaid, sydd yma, a
widdonod Caer Loew, a'u tad a'u mam gy da
hwy. Ac os na ddihangwn ni cyn dydd,
hwy a'n Uaddant. Ac fe ddarfu iddynt
oresgyn ein cyfoeth a'i ddifetha, ond yr uii
tỳ hwn."
** le," ebe Peredur, " yma y byddaf heno.
Ac os goíìd a ddaw arnoch, os gallaf wneyd
Ues mi a'i gwnaf , — ac afles nis gwnaf fìnDau."^
22 rEHEDUR AB EFROG.
Ac i gysgu yr aethant. A chyda'r dydd
Peredur a glywai wylo angherddol. A chyf-
odi yn gyflym a wnaeth Peredur, gan roddi
ei lodrau a'i fantell am dano, a'i gleddyf
wrth ei wregys. Ac aeth allan, a'r hyn
welai oedd gwiddon yn trechu gwyliwr, ac
yntau yn gwaeddi. Aeth Peredur yn erbyn
y widdon, ac a'i tarawodd â chleddyf ar ei
phen hyd oni ledodd yr hehn a'i phen-
orchudd fel discl am ei phen.
" Dy nawdd, Peredur deg, fab Efrog, a
nawdd Duw ! "
" Pa fodd, wrach, y gwyddost di niai
Peredur wyf fì ? "
''Tynged a gweledigaeth eglurodd y
byddai i ni oddef goíìd oddiar dy law ;
ac y byddai i tithau gymeryd march ac
arfau gennyf fìimau. A chyda mi y byddi
yn dysgu marchogaeth a thrin arfau."
'* Fel hyn," ebe Peredur, '' y cefifi nawdd,
— addaw na wnei gam bj^th yng nghyfoeth
yr iarlles."
A'i llẁ ar hynny a gymerodd Peredur. A
chan ganiatad yr iarlles, cychwynnodd
gyda'r widdon i lys y gwiddonod. Ac yno
y bu dair wythnos gyfan. Yna, wedi dewis
€i farch a'i arfau, cychwynnodd rhagddo.
' A diwedd y dydd ef a ddaeth i ddyffryn, ac
ymhen draw y dyíîryn daeth i gell meudwy.
A llawen fu y meudwy wrtho. Ac yno y bu
ef y nos honno. Trannoeth y bore ef a
gyfododd oddi yno. A phan
Fel yr hir- ddaeth allan yr oedd cawod o
aeihodd eira wedi disgyn y nos gynt. A
Peredur. gwalch gwyllt wedi lladd hwyad
wrth dalcen y gell. A chan dwrf
j march ciho wnaeth y gwalch. A disgyn-
PEREDUR AB EFROG. 23
nodd braii ar gig yr aderyn. A'r hyn
wnaeth Peredur oedd sefyll, a chyíîelybu
dued y fran, a gwynder yr eira, a chochter
y gwaed, i wallt y wraig fwyaf a garai a
oedd cyn ddued a'r muchudd, a'i chnawd
oedd cyn wynned a'r eira, a chochter y
gwaed yn yr eira i'r ddau fan coch oedd yn
ei gruddiau.--" ■-
Ar hynny yr oedd Arthur a'i deulu yn
ceisio Peredur.
**A wyddoch chwi," ebe Arthur, "pwy
y w y marchog â'r bicell hir, a saif yn y nant
uchod?"
*' ^rglwydd," ebe un, " mi a af i wybod
pa un y w. ' '
Yna y daeth y gwas hyd y lle yr oedd
Peredur, a gofyn a wnaeth beth y wnai yn
synfyfyrio felly, a phwy oedd. A chan faint
meddwl Peredur ar y wraig f wyaf a garai,
ni roddodd ateb iddo. A'r hyn wnaeth
yntau oedd ymosod ar Peredur â phicell.
Yntau Peredur a drodd at y gwas, ac a'i
tarawodd dros grwper ei farch i'r llawr. Ac
ar ei ol ef y daeth pedwar gwas ar hugain
ato, y naill ar ol y Uall. Ac nid atebodd yr
un mwy na'u gilydd, ond gwneyd yr un
chware â phob un, — ei daro â'r un bwriad
i'r llawr. Yntau Cai a ddaeth
Feì y ato ef , ac a ddywedodd yn sarrug
taflwycf ac anhygar wrth Peredur. A
Cai. Pheredur a'i tarawodd â'i bicell
dan ei ddwy ên, ac a'i taflodd
ergyd oddi wrtho, nes y torrodd ei fraich a
gwaell ei ysgwydd. A marchogaeth a
wnaeth drosto un waith ar hugain. Ac fel
yr oedd yn farw lewyg gan faint y dolur a
gawsai, trodd ei farch ymaith gan deithio'n
24 PEREDUR AB EFROG.
gyflym. A phan welodd y teulu y march
yn dyfod heb y gẁr arno, cychwynasant ar
frys tua'r Ue y buasai yr ymladdfa. A phan
ddaethant yno, tebj^gu a wnaethant fod Cai
wedi ei ladd, — ond hwy welsant, os cawsai
feddyg da, y byddai byw.
Ni symudodd Peredur ei feddwl, mwy na
chynt, er gweled y pryder oedd uwch ben
Cai.
Daethpwyd â Chai hyd ym mhabell
Arthur. A gorchmynnodd Arthur ddwyn
meddygon cywrain ato. Drwg fu gan
Arthur gyfarfod o Gai y gofìd hwnnw,
canys mawr y carai ef . Ac yna y dywedodd
Gwalchmai, —
**Ni ddylai neb gyíîroi marchog urddol
oddi ar y meddwl y bydd ynddo yn annoeth ;
canys meddylio yr oedd naiU ai am y golled
a ddaeth iddo, neu ynte am y wraig fwyaf
a garai. Ac os bydd da gennyt ti, arglwydd,
myfì a af i edrych a symudodd y marchog
oddi ar y meddwl hwnnw. Ac os felly y
bydd, mi a archaf iddo yn hygar ddyfod i
ymweled â thi."
Ac yna y sorrodd Cai, ac y dywedodd
eiriau dig, cenfìgennus.
'' Gwalchmai," ebe ef, " hysbys ywgennyf
fì y deui di âg ef , o herwydd blinedig yw.
Clod ac anrhydedd bychan, wir, yw i ti
orchfygu y marchog lluddedig wedi blino
yn ymladd. Felly, wir, y gorchfygaist di
lawer o honynt hwy. A hyd tra parhao
gennyt ti dy dafod a'th eiriau teg, gwisg o
lian tenau am danat fydd ddigon o arfau i
ti ; ac ni fydd raid i ti dorri, na phicell, na
chleddyf wrth ymladd â'r marchog a geffì
yn yr ansawdd hon."
PRREDUR AB EFROG. 25
Ac yna y dywedodd Gwalchmai wrth
Cai, —
** Ti a allet ddweyd a fai addfwynach pe
mynnet. Ac nid arnaf fì yr wyt i ddial dy
lid a'th ddigofaint. Teb^yg yw gennyf
hefyd y dygaf y marchog gyda nii heb dorri
fy mraich na'm hysgwydd."
Yna y dywedodd Arthur wrth Walch-
mai, —
**Fel un doeth a phwyllog y siaredi di.
A dos dithau rhagot, a chymer ddigon o
arfau am danat, a dewis dy farch."
Gwisgo am dano a wnaeth Gwalchmai, a
myned rhagddo yn gyflym ar ei farch tua
Ue yr oedd Peredur. Ac yr oedd yntau â'i
bwys ar baladr ei bicell, ac yn meddylio yr
un meddwl. Daeth Gwalchmai ato, heb
arwydd gelyn arno, a dywedodd wrtho, —
** Pe gwypwn fod yn dda gennyt tì, fel y
mae da gennyf fì, mi a ymddiddanwn â thi.
Hefyd negesydd wyf fì oddi wrth Arthur
atat, i atolwg arnat ddyfod i ymweled âg ef .
A dau ŵr a ddaeth o'm blaen i ar y neges
yma."
**Gwir yw hynny," ebe Peredur, '* ac
anhygar y daethant. Ymladd a wnaethant
â mi. Ac nid oedd dda gennyf innau hynny ;
am nad oedd dda gennyf gael fy nwyn oddi
ar y meddwl yr oeddwn ynddo.
Fel y dis- A meddylio yr oeddwn am y
grifiai ^yraig fwyaf a garwn. A'r achos
Peredur y y daeth hynny i'm cof oedd, — yn
wraig edrych yr oeddwn ar yr eira, ac
fwyaf a ar y fran, ac ar y dafnau o waed
garai. yr hwyad a laddasai y gwalch yn
yr eira. Ac yn meddylio yr
oeddAvn fod mor debyg gwynder yr eira, a
26 PEREDüll AB EFROG.
dued ei gwallt a'i haelau a'r fran, a'r ddau
fan coch oedd yn ei gruddiau i'r ddau ddefn-
yn o waed."
** Nid anfoneddigaidd j meddwl hwnnw,"
ebe Gwalchmai, '* ac nid rhyfedd mai nid da
oedd gennyt gael dy ddwyn oddi arno."
' * A ddy wedi di i mi a ydyw Cai yn lly s
Arthur ? " ebe Peredur.
*'Yd3^w," ebe yntau. " Efe oedd y
marchog olaf a ymladdodd â thi. Ac nid
da fu iddo yr ymladd hwnnw. Torrodd ei
fraich ddehau a gwaell ei ysgwydd yn y
cwymp a gafodd oddi wrth dy waewffon di.'*
** le," ebe Peredur, " nid rhyfedd dechreu
dial y cor a'r gorres felly."
A rhyfeddu a wnaeth Gwalchmai yn ei
glywed yn dywedyd am y cor a'r gorres, a
dynesodd ato, ac wedi rhoddi ei ddwylaw
am ei wddf , gofynnodd beth oedd ei enw.
'* Peredur fab Efrog ym gelwir i," ebe ef,
** a phwy wyt tithau ? "
" Gwalchmai ym gelwir i," ebe yntau.
'* Da yw gennyf dy weled," ebe Peredur.
* * Dy glod a gly wais ym mhob gwlad a f um
ynddi, fel milwr a chyfaill. A'th gym-
deithas sydd dda gennyf ei gael."
'*Ti a'i ceffi, myn fy nghred, a dyro i
minnau dy un dithau."
'' Ti a'i ceffi, yn llawen," ebe Peredur.
Cychwyn a wnaethant, ill dau, yn hyfryd
a chytun, tua'r lle yr oedd Arthur A phan
glywodd Cai eu bod yn dyfod, dywedodd, —
*' Mi a wyddwn na fyddai raid i Walchmai
ymladd â'r marchog. Ac nid rhyfedd iddo
gael clod. Mwy a wna ef o'i eiriau teg na
myfì o'm nerth a'm harfau."
A myned a wnaeth Peredur i babell
PEREDTJR AB EFROG. 27
Gwalchmai i ddiosg eu harfau. Cjmeryd a
wuaeth Peredur wisg fel a wisgai G-walch-
mai, a myned a wnaethant law yn Uaw hyd
y lle yr oedd Arthur, a chyfarch gwell iddo.
*'Dyma, arglwydd," ebe Gwalchmai, ''y
gẁr y buost er ystalm o amser yn ei geisio."
" Croesaw i ti, unben," ebe
Fel y Arthur, " a chyda mi y trigi. A
croesa w- phe gwypwn f od dy ddewredd f el
odd Aríhur y bu, nid aet oddi wrthyf i pan
Peredur. aethost. Fe rag-ddywedodd y
cor a'r gorres hyn i ti, — y rhai y
bu Cai yn frwnt wrthynt, a thithau a'i
dielaist."
Ar hynny, wele y frenhines a'i llaw-
forwynion yn dyfod. A chyfarch gwell a
wnaeth Peredur iddynt. A Uawen buont
hwythau wrtho, a'i groesawu a wnaethant.
Parch ac anrhydedd mawr a wnaeth Arthur
i Peredur. A dychwelyd a wnaethant tua
Chaer Lleon.
A'r nos gyntaf y daeth Peredur i Gaer
Lleon i lys Arthur, f el yr oedd yn cerdded
yn y gaer wedi bwyd, wele Angharad Law
Eurog yn ei gy farfod.
' ' Myn fy nghred, fy chwaer," ebe Peredur,
"morwyn hygar garuaidd wyt. A mi a
allaf dy garu yn f wyaf gwraig, pe da
gennyt. ' '
'' Myfì a roddaf fy Uẁ," ebe hi, " f el hyn,
— na charaf fì dydi, ac na'th fynnaf yn
dragwyddol."
"Minnau a roddaf fy llẁ," ebe Peredur,
*' na ddywedaf innau air byth wrth ^ristion
hyd oiii ddeui i fy ngharu i yn fwyaf gẁr."
Trannoeth cerddodd Peredur ymaith, a
dilynodd y brif-ffordd ar hyd cefn mynydd
28 PEREDUa AB EFROG.
mawr. Ac ar derfyn j mynydd gwelai
ddjíîryn crwn, a gororau y dyffryn yn
goediog a charegog, a gwastad y dyíîryn
oedd yn weirgloddiau.
Ac ym mynwes y coed gweìai dai duon
mawr, ac an-fanwl eu gwaith. Disgynnodd,
ac arweiniodd ei farch tua'r coed. Ac ar
odreu'r coed gwelai ochr carreg
Fe/ y lem, ar ffordd yn mynd heibio
lladdwyd ochr y garreg, — a llew yn rhwym
llew. wrth gadwyn, ac yn cysgu ar
ochr y garreg. A thwll dwfn,
erchyll ei faint, a welai dan y Uew, a'i lond
o esgyrn dynion ac anifeiliaid. Tynnodd
Peredur ei gleddyf , a tharawodd y llew nes
y syrthiodd i'r dibin wrth y gadwyn uwch
ben y pwU. Ac â'r ail ddyrnod tarawodd y
gadwyn nes ei thorri, a syrthiodd y llew i'r
pwll. Ac arwain ei farch ar hyd ochr y
garreg a wnaeth Peredur oni ddaeth i'r
dyffryn. Ac efe a welai ar ganol y dyffryn
gastell teg. A daeth at y castell. Ac ar y
weirglodd wrth y castell gwelai ẃr mawr
llwyd yn eistedd. Mwy oedd nag un gẁr
a welsai erioed. A dau was ieuainc yn taflu
carnau eu cylleiU o asgwrn morfìl. Y naiU
o honynt yn was gwinau a'r llall yn was
melyn. A dyfod rhagddo a wnaeth hyd y
lle yr oedd y gẁr llwyd, a chyfarch gwell
iddo a wnaeth Peredur. A'r gŵr llwyd a
ddywedodd, —
Fel y * ' Gwae f y mhorthor ! ' '
gorchfyg- Ac yna y deallodd Peredur mai
^y(^ y J l^Gw oedd y porthor.
gwr llwyd. Ac yna yr aeth y gẁr gwallt-
wyn, a'r gweision gydag ef, i'r
castell, ac aeth Peredur gyda hwy. A lle
PEREDUR AB EFROG. 29
teg anrhydeddus a welai ef yno, a daethant
i'r neuadd. A'r byrddau oedd wedi eu
gosod, a bwyd a diod jn ddi-dlawd arnynt.
Ac ar hynny gwelai wraig go hen a gwraig
ieuanc yn dyfod o'r ystafell. A'r gwragedd
mwyaf a welsai erioed oeddynt. Ac ymolchi
a wnaethant. a myned i fwyta. A'r gẁr
llwyd a eisteddodd wrth ben y bwrdd, a'r
wraig go hen yn nesaf iddo. A rhoddwyd
Peredur a'r forwyn i eistedd gyda'u gilydd,
a gwasanaethai y ddau was arnynt. Ac
edrych a wnaeth y forwyn ar Beredur, a
thristau. A gofyn a wnaeth Peredur i'r
forwyn paham yr oedd yn drist.
**Tydi, enaid, er pan y'th welais gyntaf
a gerais yn fwyaf gẁr. A garw yw gennyf
weled ar was cyn foneddigeidded a thi y
diwedd a fydd arnat yfory. A welaist ti y
tai duon aml ym mron y coed ? Deiliaid i
fy nhad i, — y gẁr gwalltwyn acw, sydd yn
y rhai hynny yn byw, a chewri ydynt oU.
Ac yfory hwy a ymgasglant yn dy erbyn,
ac a'th laddant. A'r Dyffryn Crwn y gelwir
y dyffryn hwn."
" le, forwyn deg, a beri di fod fy march i
a'm harfau yn yr un Uety a mi heno ? "
** Peraf, yn wir, os gallaf, yn llawen."
Pan f u amserach ganddynt gymeryd hûn
na chyfeddach, aeth i gysgu. A'r forwyn a
barodd f od march ac arf au Peredur yn yr un
llety ag ef. A thrannoeth, clywai Peredur
dwrf gwýr meirch gylch y castell. A
Pheredur a gyfododd, ac a wisgodd ei arfau
am dano ac am ei farch, ac aeth i'r weir-
glodd. A daeth y wraig hen a'r forwyn at
y gẁr llwyd.
'^Arglwydd," ebe hwy, '^cymer Iẁ y
30 PEREDUR AB EFROG.
gwas ieuanc na ddywedo ddim a welodd
yma. A ni a fyddwn drosto j ceidw ei au\"
**Na chjmeraf, mjn fy nghred," ebe j
gẁr llwjd.
Ac ymladd ii wnaeth Peredur â'r Ihi. Ac
erbjn j gwyll f e ddarfu iddo ladd un rhan
o dair o'r Uu, heb neb ei anafu ef . Ac yna
j dywedodd y wraig go hen, —
*' Fe ddarfu i'r gẁr ieuanc ladd Uawer
o'th lu. Dyro nawdd iddo ? "
^' Na roddaf, yn wir," ebe ef.
A'r wraig go hen a'r forwyn deg oedd ar
fwlch y gaer yn edrych. Ac ar hynny cyf-
arfyddodd Peredur â'r gwas melyn, a lladd-
odd ef .
'^ Arglwydd," ebe y forwyn, ** dyro nawdd
i'r gwas ieuanc ?"
" Na roddaf, yn wir," ebe y gŵr llwyd.
Ac ar hynny cyfarfyddodd Peredur â'r
gwas gwineu, a lladdodd ef .
*' Buasai'n well i ti pe rhoddasit nawdd i'r
gẁr ieuanc cyn iddo ladd dy ddau fab. A
phrin y dihengi dithau dy hun."
*'Dos dithau, forwyn, ac ymbil â'r gẃr
ieuanc roddi nawdd i ni."
A'r forwyn a ddaeth o'r lle yr oedd Per-
edur, ac erchi nawdd ei thad a wnaeth, ac
i'r sawl a ddihangasai o'i wỳr yn fyw.
** Cei dan amod, — myned o'th dad a phawb
sydd dano i wrhau i'r ymherawdwr Arthur,
ac i ddywedyd wrtho mai Peredur, gẁr iddo,
a wnaeth y gwasanaeth hwn."
" Gwnawn, yn wir, yn llawen."
'* A chymeryd eich bedyddio. A minnau
a anfonaf at Arthur, i erchi iddo roddi y
dyffryn hwn i ti, ac i'th etifedd byth ar dy
ol."
PEREDUR AK EFROG. 31
Ac yna y daethant i fewn, a chyfarch
gwell a wnaeth j gẁr Uwyd a'r wraig fawr
i Beredur. Ac yna y dywedodd y gẁr
llwyd, —
* ' Er pan ydwy f yn nieddu y dyff ryn hwn
ni welais gristion a elai a'i enaid ganddo
oddi yma, ond dydi. A ninnau a awn i
wrhau i Arthur, ac i gymeryd cred a bed-
ydd."
Ac yna y dywedodd Peredur, —
'^Diolchaf fìnnau i Dduw, na thorrais-
ínnau fy llẁ wrth y wraig fwyaf a garaf , na
ddywedwn un gair wrth gristion."
Trigo yno a wnaeth y nos honno.
Trannoeth y bore aeth y gẁr Uwyd a'i
nifer gydag ef i lys Arthur. Daethant yn
ddeiliaid iddo, a pharodd Arthur eu bed-
yddio. Ac yna dywedodd y gẃr llwyd wrth
Arthur mai Peredur a'u gorchfygodd. A
rhoddodd Arthur i'r gẁr llwyd a'i nifer y
dyffryn i'w ddal dano ef, fel yr archodd
Peredur. A chan gennad Arthur aeth y
gẁr llwyd ymaith tua'r Dyffryn Crwn.
Peredur yntau a gerddodd rhagddo y bore
drannoeth trwy ddiffaethwch hir heb gael
cyfannedd. Ac yn y diwedd ef a ddaeth i
gy fannedd fechan foel. Ac yno y clywai
fod saríî yn gorwedd ar fodrwy aur, ac ni
adawai neb fyw saith milltir o bob tu iddi.
Ac aeth Peredur i'r lle y clywai
Fel y f od y saríî, ac ymladd a wnaeth
lladdwyd â'r saríf yn llidiog iawn. Ac yn
sarff. y diwedd Uaddodd hi, a chymer-
odd y fodrwy iddo ei hun. Ac
felly y bu ef yn cerdded yn hir, heb ddweyd
yr un gair wrth yr un cristion. Ac am
hynny yr oedd yn colli ei liw a'i wedd o
32 PEREDUR AB EFROG.
hiraeth gwir am lys Arthur, a'r wraig fwyaf
a garai, a'i gjfeillion. Oddi yno y cerddodd
tua Uys Arthur. Ac ar y ffordd cjfarfu
teulu Arthur âg ef 711 myned i neges, a
Chai yn eu harwain. Adwaenai Peredur
bawb o honynt, ond ni adwaenai neb o^
teulu ef .
" O ba le y deui, unben? " ebe Cai, ddwy
waith a thair. Ond ni atebodd ef un gair.
Ei wanu a wnaeth Cai â gwaew dan ei
forddwyd. A rhag iddo gael ei orfodi i
siarad, a thorri ei Iẁ, myned heibìo a ddarfu
heb ymryson âg ef. Ac yna y dywedodd
Gwalchmai, —
** Yn wir, Cai, drwg wneist yn archolli y
gẃr ieuanc yma er na allai siarad."
A dychwelodd Gwalchmai drachefn i lys
Arthur.
** Arglwyddes," ebe ef wrth Wenhwyfar,
* ' a weli di archoU mor ddrwg a wnaeth Cai
ar y gẁr ieuanc yma er na allai ddywedyd.
Ac er Duw ac erof fìnnau, par di ei feddyg-
iniaethu ef . A phan ddychwelwyf eto mi a
dalaf y pwyth i ti."
Cyn i'r gwỳr ddyfod yn ol o'u neges,
•daeth marchog i'r weirglodd, yn ymyl llys
Arthur, i erchi gẁr i ymladd. A hynny a
^afodd, a Pheredur a'i taflodd ef . Ac wyth-
iios y bu yn tafiu marchog bob dydd. Ac
un dydd yr oedd Arthur a'i deulu yn dyfod
i'r eglwys, a'r hyn welent oedd marchog
wedi codi arwydd ymladd.
** Ha wỳr," ebe Arthur, *' myn grym gŵr,
nid af oddi yma hyd oni chaffwyf f y march
a'm harfau i daflu yr hunan acw."
Yna yr aeth gweision yn ol march ac
arfau i Arthur. A Pheredur a gyfarfu y
PERBDUR AB EFROG. 33
gweision 301 niyned heibio, a chymerodd y
march a'r arfau, ac aeth i'r weirglodd. A
phan welsant ef yn cyfodi ac yn myned i'r
weirglodd i ymladd, aeth pawb i ben y tai
a'r bryniau, neu i le uchel, i weled yr ym-
ladd. A'r hyn wnaeth Peredur
Fel y bu oedd amneidio â'i law ar y
ymladdfa. marchog i erchi iddo ddechreu
arno. A'r marchog a ymosododd
arno, ond nid ysgogodd ef o'i le er hynny. A c
yntau, Peredur, a ymbaratodd, ac a'i cyrch-
odd yn llidiog iawn ac angerddol, yn chwerw
a phenderfynol, ac a wanodd ddyrnod wen-
wyn-Uym, dost, deheuig ei ffurf , dan ei ddwy
ên, nes ei godi oddi ar ei gyfrwy, a'i fwrw
ymhell oddi wrtho. Ac yna dychwelodd, a
gadawodd y march a'r arfau i'r gweision fel
cynt. Ac aeth yntau ar ei draed i'r llys.
A'r gŵr ieuanc mud y gelwid Peredur yno.
Ar hyimy dacw Angharad Law Eurog yn
ei gyfarfod.
** Yn wir, unben," ebe hi, ** gresyn yw na
alli siarad; a phe gallet siarad mi a'th
garwn yn fwyaf gẁr. Ac myn fy llw, er
nas gelli, mi a'th garaf yn fwyaf gẁr."
** Duw a dalo i ti, fy chwaer," ebe Per-
fcdur, " a myn fy llw, minnau a'th garaf di."
Ac yna y gwybyddwyd mai Peredur oedd
Ac yna y bu ef mewn cymdeithas â Gwalch-
mai, ac Owain fab Uryen, ac â phawb o'r
teulu, a thrigodd yn llys Arthur.
Arthur a oedd yng Nghaer
Fel yr aeth Lleon ar Wysg. A myned a
Arthur ì wnaeth i hela, a Pheredur gydag
hela. ef. A Pheredur a oUyngodd ei
gi ar ol hydd. A'r ci a laddodd
yr hydd mewn diffaethwch. Ac ychydig
34 PEREDTR AB EFROG.
bellter oddi wrtho gwelai gyfannedd. A
thua'r gyfannedd y daeth. Ac ef a welai
neuadd. Ac wrth ddrws y neuadd gwelai
dri gwas penfoel yn chware gwydd-bwyll.
A phan ddaeth i fewn, gwelai dair morwyn
yn eistedd ar fainc, a gwisgoedd yr un fath
am danynt, fel y gweddai i foneddigesau.
Ac aeth Peredur i eistedd atynt ar y fainc.
Ac un o^r morwynion a edrychodd ja graff
ar Beredur, a wylo a wnaeth. A Pheredur
a ofynnodd iddi am beth y wylai.
** Gan mor drist gennyf weled lladd gŵr
cyn deced a thi.*'
'* Pwy a'm Uadd i ? " ebe Peredur.
** Pe yr ateliai hyn i ti aroa yn y Ue hwn,
mi a'i dywedwn i ti."
"Er maint fo y llafur arnaf yn aros, mi
a'i gwrandawaf."
*'Y gẁr sydd dad i mi," ebe y forwyn,
^' biau y Uys hwn, a hwnnw a ladd bawb a
ddel i'r llys heb ei ganiatad."
' ' Pa ry w ẁr y w eich tad chwi pan allo
laddpawbfelly?"
'* Gẃr yw a wna drais a cham i'w gym-
dogion, ac ni wna iawn i neb am hynny."
Ac yna y gwelai ef y gweision yn cyfodi,
ac yn cadw y werin oddi ar y bwrdd. Ac
efe a glywai dwrf mawr. Ac wedi y twrf
gwelai ẁr du mawr un Uygad yn dyfod i
fewn. A'r morwynion a gyfodasant i'w
gyfarf od, a thynnu ei f anteU oddi
Fe/ yr am dano a wnaethant. Ac wedi
ymbiliodd iddo sylwi ac arafu, edrych a
morwynion wnaeth ar Beredur, a gofyn pwy
dros oedd y marchog.
Peredur. "Ygwas ieuanc tecaf a bon-
heddigeiddiaf a welaist erioed.
PEREDUR AB EFROG. 35
Ac er Duw, ac er dy hynawsedd dy hun,
cymer bwyll gydag ef.*'
**Erot ti mi a bwyllaf, ac a roddaf ei
fywyd iddo heno.'*
Ac yna y daeth Peredur atynt wrth y tân.
Ac a gymerth fwyd a diod, ac ymddiddan
â'r rhianod a wnaeth. Ac yna y dywedodd
Peredur wrth y gẁr du, —
** Rhyfedd yw gennyf dy fod gadarned ag
y dywedl dy fod. Pwy a dynnodd dy lygad
di?'*
**Un o'm rheolau yw,'' ebe y gẁr du,
* * pwy bynnag a of yn i mi yr hyn y r wy t ti
wedi ei ofyn, na chaiff ei fywyd gennyf yn
rhad nac ar werth."
**Arglwydd," ebe y forwyn, *'er a ddy-
wedo yn ysgafn am danat, cadw y gair a
ddywedaist gynneu, ac a addewaist wrthyf .''
* * A minnau a wnaf hynny yn Uawen erot, ' '
ebe y gẁr du. *' Mi a adawaf ei fywyd iddo
yn Uawen heno."
Ac felly y trigasant y nos honno. A
thrannoeth cyfodi a wnaeth y gẃr du, a
gwisgo arfau am dano. Ac archodd i
Peredur, —
" Cyfod, ddyn, i fyny i ddiodd-
Fel y ceis' ef angeu," ebe y gẁr du.
iodd y gwr Peredur a ddywedodd wrtho, —
du íadd ** Gwna y naill beth, y gẁr du,
Peredur. os ymhidd a fynni â mi, — ai
tynnu dy arfau oddi am danat,
ai rhoddi arfau eraiU i minnau i ymladd â
thi."
" Ha, ddyn, a'i ymladd a allet ti pe caffet
arf au ? Cymmer yr arf au a fynnot. ' '
Ar hynny daeth y forwyn â'r arfau a oedd
yn hoff ganddo i Beredur. Ac ymladd a
36 PERBDUR AB EFROG.
"wnaeth â'r gŵr du, nes y bu raid i'r gẁr du
•erchi nawdd Peredur.
*< Y gẁr du, ti a geffi nawdd tra j bjddi
jn dweyd wrthyf pwy wyt, a phwy dynnodd
dy Ijgad."
<< Arglwydd, minnau a ddywedaf. Ym-
ladd y bum â'r pryf du o'r Garn. Crug
sydd a elwir Crug Alar, ac yn y grug y mae
-carn. Ac yn y garn y mae y pryf . Ac yng
iighynffon y pryf y mae maen. A rhin-
weddau y maen ydynt,— pwy bynnag a'i
.caíîai yn ei naiU law, ar ei law arall caffai a
fynnai o aur. Ac wrth ymladd â'r pryf
h.wimw y collais i fy llygad. A'm henw
innau yw y Du Trahaus. A'r achos fy
ngalw y Du Trahaus yw am na adawn ddyn
yn agos i'm heb ei dreisio, ac iawn nis
gwnawn i neb."
'* le," ebe Peredur, " pa cyn belled yw y
grug a ddywedi ? "
" Y dydd y cychwynni oddi yma, ti a ddoi
i lys meibion Brenin y Dioddefaint."
** Paham y gelwir hwy felly ? "
** Bwystfìl y llyn a'u tarawai unwaith bob
dydd. Pan ddeui oddi yno ti a ddeui i lys
larlles y Campau."
*' Pa gampau," ebe Peredur, *' sydd
yno?"
**Tri chan ẁr sydd iddi yn deulu. A
dy wedir campau y teulu i bob dyn dieithr a
cldel i'r Uys. A'r achos am hynny yw hyn,
— y tri chan ẁr y teulu a eistedd yn nesaf at
yr arglwyddes. Ac nid er amharch i'r
dieithriaid, ond er dywedyd campau y Uys.
Y dydd yr ai oddi yno y deui i'r Grug
Galarus. Ac yno y mae perchen tri chan
pabeU o gylch y grug yn cadw y pryf."
PERBDUR AB EFROG. 3T
** Gan dy fod wedi gorthrymu cyhyd a
hyn, mi a wiiaf na wnai byth
Fel y beUach."
Iladdodd A Pheredur a'i lladdodd. Ac
Pereduf* yna y dywedodd y forwyn a
/ gwr du. ddechiieuasai ymddiddan âg ef, —
** Os mai tlawd y daethost yma,
cyfoethog fyddi bellach o drysor y gẁr du a
leddaist. A thi a weli y fath forwynion
hygar y sydd yn y Uys hwn. Ti a gefS yr
un a fynni o honynt yn wraig."
'*Ni ddaethum i yma o'm gwlad, ar-
glwyddes, i wreica; ond gweision hygar a
welaf yma. Prioded pawb o honoch â'u
gilydd fel y mynno. A dim o'ch da chwi
nis mynnaf, ac nid rhaid i'm wrtho."
Oddi yno cychwynnodd Peredur
Fel y daeth rhagddo, a daeth i lys meibion
Peredur i Brenin y Dioddefaint. A phan
lys meibíon ddaeth i'r llys ni welai ond
Brenin y gwragedd. A'r gwragedd a gyf-
Dioddef' odasant i'w gyfarfod, ac a fuont
aint lawen wrtho. Ac ar ddechreu eu
hymddiddan ef a welai farch yn
dyfod a chyfrwy arno, a chorff ar y cyfrwy.
Ac im o*r gwragedd a gyfododd i fyny, ac a
gymerth y corff o'r cyfrwy, ac a'i golchodd
mewn cawg oedd is law y drws a dwfr twym
yiiddi, ac a ddodes eli gwerthfawr arno.
A'r gẁr a gyfododd yn fyw, ac a ddaeth i'r
lle yr oedd Peredur, gan ei groesawu. A bu
yn llawen wrtho. A dau ẃr arall a ddaeth
yn eu cyfrwyau. A'r un peth a wnaeth y
forwyn i'r ddau hynny ac a wnaethai i'r
cyntaf. Ac yna y gofynnodd Peredur i'r
unben paham yr oeddynt felly. Hwythau
a ddywedasant fod bwystfìl mewn ogof , ac
38 PEREDUR AB EFROG.
mai hwimw a'u tarawai unwaith bob dydd.
Ac felly y trigasant j nos honno. A thran-
noeth j cjfododd y gweision i fyned rhag-
ddyjit. A Pheredur a archodd, er mwyn y
f erch a garent fwyaf , iddjnit ei adael fyned
gyda hwj. A hwythau a omeddasant iddo
gan ddywedyd, —
**Pe y'th leddid yno, nid oes i ti ath
wnelai yn fyw drachefn."
Ac yna y cerddasant rhagddynt. A
cherddodd Peredur yn eu hol. Ac wedi
iddynt ddiflannu íel na welai hwy, cyfarfu
â'r wraig decaf a welsai neb yn eistedd ar
ben crug.
** Mi a wn dy hynt,'' ebe hi ; ** myned yr
wyt i ymladd â'r bwystfìl. Ac efe a'th ladd,
— nid am ei fod yn ddewr, ond am ei fod yn
gyfrwys. Ogof sydd iddo, a philer maen
sydd ar ddrws yr ogof. Ac y mae ef yn
gweled pawb yn dyfod i fewn, ond ni wel
neb ef. Ac â llech-waew wenwynig o
gysgod y piler y lladd efe bawb.
fef y caf- A phe rhoddet ti dy Iw y caret fì
wyd maen yn fwyaf gwraig, mi a roddwn 1
rhyfedd. ti faen fel y gwelot ef pan elot i
fewn, ond ni welai ef dydi.*'
**Khoddaf, yn wir," ebe Peredur, **er
pan y'th wehiis gyntaf mi a'th gerais. A
pha le y ceisiwn i dydi ? ''
** Pan geisiech di myfì cais tua'r India."
Ac yna y diflannodd y forwyn ymaith,
"wedi rhoddi y maen yn llaw Peredur. Ac
yntau a ddaeth i ddyffryn afon. A gororau
y dyíîryn oedd yn goed, ac o bob tu i'r afon
yn weirgloddiau gwastad. Ac ar un ochr
i'r afon gwelai ýr o ddefaid gwynion, ac ar
yr ochr arall gwelai ỳr o ddefaid duon. Ac
PEREDUR AB EFROG. 39
fel y brefai un o'r defaid gwynion, deuai un
o'r.defaid duon drwodd a byddai
Fel yr ai yn wen. Ac fel y brefai un o'r
defaíd du defaid duon, deuai un o'r defaid
yn wyn, a gwynion drwodd a byddai yn
defaid ddu. A phren hir a welai ar lan
gwyn yn yr afon ; a'r naill hanner o hono
ddu. yn llosgi o'r gwraidd hyd y blaen,
a'r hanner arall a dail îr arno.
Ac uwch law yr afon gwelai was ieuanc yn
eistedd ar ben crug, a dau fìlgi bronwynion
brychion mewn cadwyni yn gorwedd yn ei
ymyl. A diau oedd ganddo na welodd
erioed was ieuanc mor urddasol ag ef. Ac
yii y coed ar ei gyfer clywai helgwn yn codi
hydd. A chyfarch gwell a wnaeth i'r gwas
ieuanc, a'r gwas îeuanc a gyfarchodd well i
Beredur. A thair ffordd a welai Peredur
yn myned oddiwrth y grug. Dwy ffordd
yn fawr, a'r drydedd yn Uai. A gofyn a
wnaeth Peredur i ba le yr äi y tair ffordd.
*' ITn o'r ffyrdd a ä i'm llys i. A chyng-
horaf di wneyd un o ddau beth,— myned i'r
Uys o'm mlaen at fy ngwraig sydd yno, ynte
aros yma, a thi a weli yr helgwn yn codi yr
hyddod blin o'r coed i'r maes. A thi a
weli y milgwn goreu a glewaf a welaist
erioed yn Uadd yr hyddod wrth y dwfr is
law. A phan fo yn amser i ni fyned i fwyta,
daw fy ngwas â'm march i'm cyfarfod. A
thi a gefíì groesaw yn fy llys heno."
'*Duw a ddiolcho i ti. Nid arhosaf fì,
ond ymlaen yr af."
*'Y naill ffordd a ä i'r ddinas sydd yn
agos yma, ac yn honno cefiSr bwyd a diod ar
wertli ; a'r ffordd y sydd lai na'r Ueill a ä
tuag Ogof y Bwystfìl."
40 PBREDUR AB BFROG.
** Gan dy gennad, ẃr ieuanc, tuag yno yr
affì."
A dyfod a wnaetli Peredur
Fel y daeih tua'r ogof. A chynieryd y maen
Peredur i yn ei law aswy, a'i waew yn ei
Ogof y law ddeheu. Ac fel y deuai i
BwystfîL fe^vn, darganfod y bwystfìl a
wnaeth, a'i wanu â gwaew trwy-
ddo, a thorri ei ben. A phan ddaeth i maes
o'r ogof , wele, yn nrws yr ogof , ei dri chyd-
ymaith. A chyfarch gwell a wnaethant i
Beredur, a dywedyd fod darogan mai efe a
laddai y bwystfìl hwimw. A rhoddi y pen
a wnaeth Peredur i'r gwỳr ieuainc. A
chynnyg a wnaethant hwythau iddo yr un
a fynnai o'u tair chwaer yn briod, a hanner
eu hetifeddiaeth gyda hi.
*' Ni ddaethum i yma i wreica," ebe Per-
edur. ^* A phe mynnwn un wraig, mae yn
debyg mai eich chwaer chwi a fynnwn yn
gyntaf."
A cherdded rhagodd a wnaeth Peredur.
Ac efe a glywai dwrf yn ei ol. Ac edrych a
wnaeth yntau yn ei ol. Ac ef a welai ŵr ar
gefn march coch, ac arfau cochion am dano.
A'r gŵr a ddaeth yn gyfochr âg ef. A
chyf arch gwell o Dduw ac o ddyn a wnaeth
i Beredur. Ac yntau, Peredur, a gyfarch-
odd well i'r gẁr ieuanc yn garedig.
'*Arglwydd, dyfod i ddeisyf
Fel y deis- peth gennyt yr wyf fì."
yfodd Eilym **Beth a ddeisyfì di?" ebe
Gleddyf Peredur.
Goch. ** Fy nghymeryd yn was i ti."
** Pwy a gymerwn innau yn
was, pe cymerwn i di ? "
**Ni chelaf fy llinach rhagot. Etlym
PEREDUR AB EFROG. 41
Gleddyf Coch ym gelwir, iarll o ystlys j
dwyrain."
**Rhyfedd gennyf dy f od yn cynnyg dy
hun yn was i ẃr nad yw ei gyfoeth yn
fwy na'th gyfoeth di. Nid oes i minnau
ond iarllaeth arall. Ac am mai gwiw gennyt
ti ddyfod yn was i mi, mi a'th gymeraf yn
Uawen."
A dyfod a wnaethant tua llys yr iarlles.
A Uawen fuwyd wrthynt yn y Uys. A dy-
wedwyd wrthynt mai nid er amharch iddynt
y dodid hwy is law y teulu wrth y bwrdd,
ond mai arferiad y Uys oedd hynny. Ond
y neb a daflai dri channwr ei theulu hi,
bwyta a gaffai yn nesaf iddi, a hi a'i carai
yn f wyaf gẃr. ' '
Ac wedi i Peredur daÜu tri channwr y
teulu i'r Uawr, ac eistedd ar y naiU law iddi,
7 dywedodd yr iarlles, —
**Diolchaf i Dduw am gael gwas cyn
deced a chyn hardded a thi, gan na chefais
y gẁr mwyaf a garwn."
«< Pwy oedd y gẁr mwyaf a
Fel y bu garet tithau ? ' '
príodas. ** Yn wir, Etlym Gleddyf Coch
oedd y gẃr mwyaf a garwn 1, ac
nis gwelais ef erioed."
Yn wir, cydymaith i mi yw Etlym, — a
dyma ef. Ac er ei fwyn ef y daethum i
chware â'th deuhi di. Ac ef a allai wneyd
hynny yn well na myn pe mynnai. A min-
nau a th roddaf di iddo ef."
** Duw a dalo i tithau, ẁr ieuanc, teg. A
minnau a gymeraf y gẁr mwyaf a garaf ."
A'r nos honno priodwyd Etlym a'r iarlles.
A thrannoeth cychwyn a wnaeth Peredur
tua'r Crug Galarus.
42 PEREDUR AB EFROG.
** Myii dy law di, arglwydd, mi a ddeuaf
gyda tlii," ebe Etlym.
A hwy a ddaethant hyd i'r lle y gwelent
y crug a'r pebyll.
'*Dos," ebe Peredur wrth Etlym, '*at y
gwỳr acw, ac arch iddynt ddyfod i wrhau i
mi."
Ac aeth Etlym atynt, ac a ddywedodd
wrthynt fel hyn, —
*' Deuwch i wrhau i'm harglwydd i."
' * Pwy y w dy arglwydd di ?' ' ebe hwythau.
** Peredur Paladyr Hir yw fy arglwydd i,"
ebe Etlym.
** Pe gweddus difetha cennad, ni aet dra-
chefn yn fyw at dy arglwydd, am erchi arch
mor drahaus i frenhinoedd, a ieirll, a barwn-
iaid, a dyfod i wrhau i'th arglwydd di."
Peredur a archodd iddo fyned drachefn
atynt, a rhoddi dewis iddynt, ai dyfod i
wrhau iddynt ai i ymladd âg ef . Hwythau
a ddewisasant ymladd âg ef . A Pheredur
a daüodd berchen can pabell y dydd hwnnw
i'r Uawr.
A'r trydydd dydd penderfynodd cant wr-
hau i Beredur.
A Pheredur a ofynnodd iddynt, beth a
wnaent yno. A hwythau a ddywedasant
mai gwylio y pryf hyd nes y byddai farw yr
oeddynt. * ' Ac yna ymladd a wnaem ninnau
am y maen, a'r un fyddai drechaf o honom
a gai y maen."
Fe/ y *'Arhoswch fì yma," ebe Per-
lladdodd edur, **mi a af i ymweled â'r
Peredur y pryf."
pryf. * * Nage ef , arglwydd, ' ' ebe h wy ,
** awn i gyd i ymladd â'r pryf."
** Te," ebe Peredur, *' ni fynnaf fì hynny.
PEREDUR AB EFROG. 43
Pe lladdwii i j pryf, ni chawswn i fwy o
glod nag un o honoch chwithau.''
A myned a wnaeth i'r lle yr oedd y pryf ,
a'í ladd. A dyfod atynt hwythau, a dywed-
yd wrthynt, —
'*Cyfrifwch eich traul er pan ddaethoch
yma, a mi a'i talaf i chwi/' ebe Peredur.
Ac efe a dalodd gymaint ag a ddy wedodd
pawb oedd ddyledus iddo ; ac ni archodd
iddynt ddim ond addef eu bod yn wỳr iddo
ef. Ac efe a ddywedodd wrth Etlym,—
*'Aty wraig fwyaf a geri yr äi dithau.
A minnau a af rhagof . Ac mi a dalaf i ti am
fod yn was i mi."
Ac yna y rhoddodd efe y maen i Etlym
**Duw a dalo i ti, a rhwydded Duw dy
daith."
Ac ymaith yr aeth Peredur. Ac efe a
ddaeth i ddyffryn ag afon yno, y tecaf a
welsai erioed. A llawer o bebyll amryliw a
welai ef yno. A rhyfeddach na hynny oedd
ganddo weled cynifer a welai o f elinau dwfr
a melinau gwynt. A chyfarfyddodd gẁr
gwineu mawr ag ef , a gwaith saer ganddo.
A gofyn pwy oedd a wnaeth Peredur.
"Pen melinydd wyf fi," ebe ef, **ar y
melinau acwoU."
** A gaf fì lety gennyt ? '" ebe Peredur.
*' Cefíì yn llawen," ebe yntau.
A daeth Peredur i dŷ y melinydd. Ac efe
a welodd mai llety hoíî, teg, oedd i'r melin-
ydd. A gofynnodd Peredur i'r melinydd
arian yn fenthyg i brynnu bwyd a diod iddo,
ac i dylwyth y tỳ, ac y talai iddo cyn yr äi
oddi yno. A gofyn a wnaeth i'r melinydd
pa achos y deuai cynifer o bobl yno. Yna
y dywedodd y melinydd wrth Peredur, —
44 PEREDUR AB EFKOG.
*^ Mae j naill beth, — am dy fod yn ẃr o
bell, ynte am dy fod yn ynfyd. Yma y mae
brenhines Cristinobyl Fawr. Ac ni fyn
honno ond y gẁr dewraf, canys nid rhaid
iddi wrth eiddo. Ac ni ellid dwyn bwyd i'r
fath fìloedd ag sydd yma. Ac o achos
hynny y mae yr holl felinau hyn."
A'r nos honno cymeryd eu hesmwythder
a wnaethant. A thrannoeth cyfodi i fyny a
wnaeth Peredur, a gwisgo am dano ac am ei
farch i fyned i'r twrneiment. A gwelai
babell ymhlith y pebyll eraill y rhai tecaf a
welsai erioed. A morwyn deg a welai yn
estyn ei phen trwy ffenestr ar y babell. Ac
ni welsai erioed forwyn decach. Ac eur
wisg o bali am dani. Ac edrych a wnaeth
ar y forwyn yn graff, — a'i charu yn fawr
wnai. Ac felly y bu yn edrych ar y forwyn
o'r bore hyd hanner dydd; ac o hanner
dydd hyd nes oedd brydnawn. Ac yna fe
ddarfyddodd y twrneiment. A dyfod a
wnaeth i'r Uety, a thynnu ei arfau oddi am
dano, a gofyn arian yn fenthyg i'r melinydd.
A dig f u gwraig y melinydd wrth Peredur ;
ond er hynny, rhoddodd y melinydd arian
yn fenthyg iddo. A thrannoeth y gwnaeth
yr un wedd ac y gwnaeth y dydd cynt. A'r
nos honno y daeth i'r llety, a chymerodd
arian yn fenthyg gan y mehnydd. A'r
trydydd dydd, pan ydoedd yn yr un Ue yn
edrych ar y forwyn, clywai ddyrnod mawr
rhwng ei ysgwydd a'i wddf â throed bwyall.
A phan edrychodd drachefu y melinydd
oedd yno. Y melinydd a ddywedodd
wrtho, —
*'Gwna y naill beth, — dos ymaith, ynte
el i'r twrneiment."
PEREDUR AB EFROG. 45
A gwenu a wnaeth Peredur ar j melinydd,
a myned i'r twrneiment. Ac a gyf arf u âg
ef y dydd hwnnw efe a'u taflodd hwy oU i'r
Uawr ; ac anf onodd yr hoU wỳr a daflodd
yn anrheg i'r ymherodres, a'r meirch a'r
arf au yn anrheg i wraig y melinydd am aros
am yr arian benthyg. Dilyn y twrneiment
a wnaeth Peredur oni thaflodd bawb i lawr ;
ac anfon y gwỳr a wnaeth i garchar yr
ymherodres, a'r meirch a'r arfau i wraig y
melinydd am aros am yr arian benthyg.
Yr ymherodres a anfonodd at farchog y
felin i erchi iddo ddyfod i ymweled â hi. A
gwrthod a wnaeth Peredur y gennad gyntaf .
A'r ail a aeth ato. A hithau y drydedd
waith anfonodd gan marchog i erchi iddo
ddyfod i ymweled â hi. Ac oni ddeuai o'i
fodd, erchi iddynt ei ddwyn o'i anfodd. A
hwy a aethant ato, ac a ddywedasant eu
cenadwri oddi wrth yr ymherodres. A
Pheredur a ymladdodd yn dda â hwy, ac a
barodd eu rhwymo hwy fel rhwymo iwrch,
a'u bwrw i ffos y felin. A'r ymherodres a
ofynnodd gyngor y gẁr doeth a oedd yn ei
chyngor. A hwnnw a ddywedodd wrthi, —
*' Mi a af ato, os caniatei."
A dyf od a wnaeth at Peredur a chyfarch
gwell iddo, ac erchi arno, er mwyn y ferch
fwyaf a garai, i ddyfod i ymweled â'r ym-
herodres. Ac yntau a aeth, — ef a'r melin-
ydd. Ac yn yr ystafell gy ntaf y daeth iddi
o'r babell eisteddodd. A hithau a ddaeth
ar y naiU law; a byr ymddiddan a fu
rhyngddynt. Ac wedi cael cennad, myned
a wnaeth Peredur i'w lety. Trannoeth ef a
aeth i ymweled â hi. A phan ddaeth i'r
babell, nid oedd un o ystaf elloedd y babell
46 PEREDUR AB EFROG.
yn waeth eu diwyg na'u gilydd, am na
wyddent hwy pa le yr eisteddai ef . Eistedd
a wnaeth Peredur ar y naill law i'r ymher-
odres, ac ymddiddan a wnaeth jìi garedig.
Pan yr oeddynt felly hwy a welent ẃr du
yn dyfod i mewn, a chwpan aur yn ei law
yn llawn o win. A phlygu a wnaeth ar ben
ei lin gerbron yr ymherodres, ac erchi arni
na roddai hi ond i'r neb a ddelai i ymladd
âg ef am dani. A hithau a edrychodd ar
Peredur.
*' Arglwyddes," ebe ef, *' moes i mi y
gwpan."
Ac yfed y gwin a wnaeth Peredur, a
rhoddi y gwpan i wraig y melinydd. A
phan yr ydoeddfelly, wele ẃr mwy na'r llall,
ag ewin pryf yn ei law ar ffurf cwpan, a'i
lonaid o win. Rhoddodd ef i'r ymherodres,
gan erchi arni na roddai ef ond i'r neb a
ymladdai âg ef .
<< Arglwyddes," ebe Peredur, " moes ef i
mi."
A'i roddi i Beredur a wnaeth hithau ; ac
yfed y gwin a wnaeth Peredur, a rhoddi y
gwpan i wraig y melinydd. A phan oedd-
ynt felly, wele ẁr pengrych coch, oedd fwy
nag un o'r gwỳr eraill, a chawg yn ei law
a'i lonaid o win ynddo. A phlygodd ar ben
ei lin o íiaen yr ymherodres, ac a'i rhoddodd
iddi, gan erchi iddi na roddai y cawg ond
i'r un a ymladdai âg ef am dano. A'i roddi
a wnaeth hithau i Beredur, ac yntau a'i
hanfonodd i wraig y melinydd. A'r nos
honno myned i'w lety a wnaeth Peredur.
A thrannoeth gwisgo am dano, ac am ei
farch, a dyfod i'r weirglodd a lladd y tri
wŷr a wnaeth Peredur. Ac yna y daeth
PEREDUR AB EFROG. 47
i'r babell; a hitliau a ddywedodd wrth
Peredur, —
** Peredur deg, coíîa dy Iẁ a roddaist ti i
mi pan roddais i ti y maen pan leddaist y
bwystfìl.'^
^' Arglwyddes/' ebe ef, " gwir a ddywedi,
a minnau a'i cofìaf."
Ac arhosodd Peredur gyda'r ymherodres
bedair blynedd ar ddeg, fel y dywed yr
ystori.
Arthur a oedd yng Nghaer Lleon ar Wysg,
prif lys iddo. Ac yng nghanol llawr y
neuadd yr oedd pedwar gŵr yn
Fel y daeih eistedd ar len o bali, — Owain fab
morwyn Uryen, a Gwalchmai fab Gwyar,
ddu ar a Howel fab Emyr Llydaw, a
gefn mul Pheredur Paladr Hir. Ac ar
mèlyn. hjiiny hwy a welent yn dyfod i
fewn forwyn ben-grech ddu ar
gefn mul melyn. A charieu anhrefnus yn.
ei Uaw yn gyrru y mul ; a phryd garw ac
angharuaidd arni. Duach oedd ei gwyneb
a'i dwylaw na'r haiarn duaf wedi ei bygu.
Ac nid ei Uiw oedd yr hagraf, ond ei Uun.
Gruddiau aruchel oedd iddi, a gwyneb hir-
gul, a thrwyn byr, ffroen-foel. A'i naill
lygad yn frith-las chwerw, a'r Uall yn ddu
fel y muchudd yng ngheunant ei phen.
Dannedd hirion melynion, — melynach na,
blodau y banadl. A chodai ei choríî oddi
wrth ei dwyfron yn uwch na'i g^w; ac
asgwrn ei chefn a oedd fel bagl. Cyfarch
gwell wnaeth i Arthur a'i deulu oU, ond i
Beredur. Ac wrth Peredur dywedodd eiriau
dig, anhygar.
** Peredur, ni chyfarchaf fì well i ti, ni
4ö PEREDUR AR EFROG.
haeddi hynny. Dall fu ffawd pan roddodd
i ti ddawn a chlod. Pan j daethost i lys y
"brenin cloff, a phan welaist yno y gwas yn
dwyn y gwaew blaenllym, ac o flaen y waew
ddafan o waed, a hwnnw yn rhedeg yn
rhaiadr hyd i ddwrn y gwas. A rhyfeddod-
au ereill hefyd a welaist yno. Ac ni ofyn-
iiaist eu hystyr, na'r achos o honynt. A phe
gofynnet, iechyd a gaffai y brenin, a'i
gy foeth heddwch. A bellach, brwydrau ac
ymladdau, a cholli marchogion, a gadael
gwragedd yn weddw, a rhianod yn ddiam-
ddiffyn fydd yno, — a hynny oll o'th achos
di."
Ac yna y dywedodd hi wrth Arthur, —
'*Gan dy gennad, arglwydd, pell yw fy
Uety i oddi yma. Nid amgen nag yng
nghastell Syberw — ni wn a glywaist am
dano. Ac yn hwnnw y mae chwe marchog
a thri ugain, a jíhum cant o farchogion
urddol, a'r wraig fwyaf a gar pob un gydag
ef . A phwy bynnag a fynno ennill clod am
drin arfau ac am daro, ac ymladd, efe a'i
caiff yno os yn ei haeddu. A phwy bynnag
hefyd a fynnai glod ac edmygedd arbennig,
gwn yn Ue y caiff ef . Castell sydd ar fynydd
amlwg ; ac yn hwnnw y mae morwyn, a'i
chystuddio a wneir yno. A phwy bynnag a
allai ei rhyddhau, pen clod y byd a gai."
Ac ar hynny cychwyn ymaith a wnaeth.
Ebe Gwalchmai, —
' ' Myn f y nghred, ni chysgaf hun lonydd
nes gwybod a allaf ollwng y forwyn."
A Uawer o deulu Arthur a gytunodd âg ef .
Ond peth arall a ddywedodd Peredur, —
*' Myn fy nghred, ni chysgaf hun lonydd
nes gwybod chwedl ac ystyr y waew y
dywedodd y forwyn ddu am dani."
PEREDUB, AB EFBOG. 49
A phan yr ydoedd pawb yn paratoi i
gycliwyn, wele farchog yn dyfod i'r porth,
yn meddu maint a nerth milwr ynddo, ac
yn gyflawn o arfau a dillad. A daeth
ymlaen gan gyfarch gwell i Arthur a'i deulu
oll, eithr i Walchmai. Ac ar ysgwydd y
marchog yr oedd tarian aur gerfìedig, a
thrawst o las cryf ynddi ; a'r un lliw a
hynny yr oedd yr arfau eraiU oll. Ac efe a
ddywedodd wrth Walchmai, —
** Ti a leddaist fy arglwydd o'th dwyll a'th
frad. A mi a brofaf hynny yn dy erbyn."
Cyfododd Gwalchmai i fyny.
"Dyma," ebe ef, " f y ngwystl yn dy
erbyn, nad wyf û na thwyllwr na bradwr,
yma nac yn y Ue arall."
" Ger bron y brenin sydd arnaf fì, y myn-
naf fod yr ymdrechfa rhyngof â thi," ebe y
marchog.
" Yn Uawen," ebe Gwalchmai, *' dos rhag-
ot. Mi a ddeuaf ar dy ol."
Rhagddo yr aeth y marchog ; a pharatoi
a wnaeth Gwalchmai. A llawer o arfau a
gynhygiwyd iddo, ond ni fynnai ef ond ei
rai ei hun. Gwisgo a wnaeth Gwalchmai a
Pheredur am danynt, a cherddasant ar ei ol,
o achos eu cyfeillgarwch a'r maint y carai y
naill y llall Ac nid aethant gy da'u gilydd,
ond pawb ei íîordd ei hun.
Gwalchmai yn ieuenctid y dydd a ddaeth
i ddyít'ryn. Ac yn y dyfPryn gwelai gaer, a
llys mawr yn y gaer, a thyrau uchel-falch
o'i gylch. Ac efe a welai farchog yn dyfod
i'r porth allan i hela ar farch gloyw ddu,
nwyfus, cyflym, gerddai'n wastad, a hoyw,
a di-dramgwydd. A phwy oedd ond y gẁr
biai y Uys
50 PEREDUll AB EFROG.
Cyfarcli gwell a wiiaeth Gwalchmai iddo.
" Duw a roddo dda i ti, unben. 0 ba le y
deui?"
'* Deuaf o Ijs Arthur," ebe ef.
" Ai g\vr i Arthur wyt ti ? "
" le, myn fy nghred," ebe Gwalchmai.
*' Mi a wn gyngor da i ti," ebe j marchog.
*' Blin a lluddedig y'th welaf. Dos i'r llys,
ac yno j trigi heno, os da gennyt."
'* Da, arglwydd, a Duw a dalo i ti."
''Hwde fodrwy 711 arwydd i'r porthor.
A dos rhagot i'r tẁr acw, mae chwaer i mi
ynddo."
Ac i'r porth y daeth Gwalchmai, a dangos
y fodrwy a wnaeth, a chyrchu y tẁr. A
phan ddaeth i fewn yr oedd yno dân mawr
yn Uosgi, a fflam oleu, uchel, ddifwg, yn
codi o hono, a morwyn fonheddig, lân, yn
eistedd mewn cadair wrth y tân. A'r
forw^yn a fu lawen wrtho, a'i groesawu a
wnaeth. Ac yntaa a aeth i eistedd ar y
naill hìw i'r f orwyn ; a'u cinio a gymerasant.
Ac wedi eu cinio, dal i ymddiddan yn hygar
a wnaethant. A phan oeddynt felly, dyma
ŵr gwalltwyn bonheddig yn dyfod i fewn
atynt.
*' ü ferch ddrwg," ebe ef, "pe meddyliet
ti ai iawn yw i ti ddiddanu ac eistedd gyda'r
gẁr yna, nid eisteddet ac ni ddiddanet ef."
Yna tynnodd ei ben o'r drws ac aeth
ymaith.
" Ha, unben," ebe y forwyn, ** pe gwnelet
f y nghyngor i, ti a gauet y drws, rhag ofn fod
gan y gvvr gynllwyn yn dy erbyn."
Oyfododd Gwalchmai i fyny, a phan
ddaeth tua'r drws yr oedd y gŵr ar ei farch
yn llawn arfau, yn cyrchu tua'r tẁr. A'r
oî
rvi9.
î/3e;
'c7/
%
£ ^^'
■V
F e.
'^
PEREDUR AB EFROG. 51
hjii wnaeth Gwalchmai oedd ei atal rhag-
dyfod i fyny â bwrdd gwydd-bwyll, hyd
nes y deuai'r gŵr oedd biai'r castell o hela.
A'r hynny dyma'r iarll yn dyfod.
"Bethywhyn?" ebe ef .
** Peth hagr," ebe'r gvvr gwalltwyn, ** fod
y ferch ddrwg acw yn eistedd ac yn bwyta
gyda'r gẁr a laddodd eich tad, — a Gwalch-
mai fab Gwyar yw."
*'Peidiwch, bellach," ebe yr iarll, ''myfì
a af i mewn."
Yr iarll a fu lawen wrth Gwalchmai.
" Ha, unben," ebe ef, '*cam oedd i tì
ddyfod i'n Uys ni os gwyddet i ti ladd ein
tad. Ac er na allwn ni ei ddial, Duw a'i
dial arnat."
"Enaid," ebe Gwalchmai, *'dyma fel y
mae pethau. Ki ddaethum yma i addef nac
i wadu i'm ladd eich tad. Negeseuwr wyf
yn myned dros Arthur a throswyf ty hiiu
Fe ddymunaf flwyddyn o amser hyd oni
ddelwyf o'm neges. Ac yna, ar fy nghred,
deuaf i'r llys hwn i wneuthur un o ddau
beth, — ai addef ai gwadu."
A'r amser a gafodd yn Hawen. Ac yno y
bu y nos honno. Trannoeth cychwyn ym»
aith a wnaeth. Ac ni ddywed yr ystori fwy
na hynny am Walchmai yn y rhan honno
o'r wlad.
A Pheredur a gerddodd rhagddo. Crwy-
dro i'r ynys a wnaeth Peredur, i geisio
chwedlau am y f orwyn ddu ; ac ni chafodd.
Ac efe a ddaeth i dir nas adwaenai, — dyffryn
ac afon yn myned trwyddo. Ac fel yr oedd
yn cerdded y dyffryn, ef a welai farchog yn
dyfod i'w gyfarfod, mewn gwisg offeiriad.
Ac erchi ei fendith aAvnaeth.
CAMPBELL
COLI "-^ ■
52 TEREDUR AB EFROG.
^^ Och, druan," ebe ef, " ni haeddi feii-
dith, ac ni wnai les i ti, am dy fod yn gwisgo
arfau ar ddydd mor bwysig a'r ddydd
heddyw."
" A pha ddydd yw heddyw ? "
fel y cyf- ebe Peredur.
arfyddwyd ' ' Dydd Gwener y Groglith yw
Peredur. heddyw."
''Na cherydda fì,— ni wyddwn
i hynny. Blwyddyn i heddyw y cychwyn-
nais o'm gwlad."
Ac yna disgyn i lawr a wnaeth, ac arwain
ei farch yn ei law. A thalym o'r ffordd a
gerddodd oni ddaeth at groesffordd, ac ai'r
groesíîordd i'r coed. Ar ochr arall i'r coed
ef a welai gaer foel, ac arwydd fod pobl yn
byw ynddi. A thua'r gaer yr aeth. Ac ar
borth y gaer cyfarfu âg ef yr offeiriad a'i
cyfarfyddasai ef cyn hynny ; ac erchi ei
fendith a wnaeth.
" Bendith Daw i ti," ebe ef, ** ac iawnach
yw cerdded fel y gwnai na marchogaeth.
A chyda mi y byddi heno."
A thrigo a wnaeth Peredur y nos honno
yno. Trannoeth gofyn a wnaeth Peredur
gai fyned ymaith.
'* Nid dydd heddyw i neb i gerdded. Ti
a fyddi gyda mi heddyw, ac yfory a thren-
nydd. A mi a ddywedaf i ti yr hanes goreu
a allwyf, am yr hyn yr wyt yn ei geisio."
A'r pedwerydd ddydd gofyn a wnaeth
Pededur a gai fyned ymaith, ac erfyn ar yr
offeiriad ddywedyd hanes am Gaer y Rhy-
feddodau.
*' Cymaint ag a wypwyf fì, mi a'i dywedaf
i ti. Dos dros y mynydd acw, a thu hwnt
i'r mynydd y mae afon. Ac yn nyffryn yr
PEREDUR AB EFROG. 53
afon y mae llys breniii. Ac yno y bu y
brenin y Pasc. Ac os ceffì yn un lle hanes
am Gaer y Rhyfeddodau, ti a'i cefia yno."
Ac yna y cerddodd Peredur rhagddo, ac a
ddaeth i ddyíîryn yr afon. A chyfarfu âg
ef nifer o wŷr yn myned i hela. Ac ef a
welai ymhlith y niÊer ẃr urddasol, a chyf arch
gwell iddo a wnaeth Peredur.
** Dewis di, unben, pa un wnai ai myned
i'r llys, ynte dyfod gyda ni i hela. A min-
nau a yrraf un o'r teulu i'th orchymyn i
ferch sydd yno i gymeryd bwyd a diod hyd
oni ddelwyf o hela. Ac am dy negesau, yr
hyn a aüaf ei wneuthur, mi a'i gwnaf yn
Uawen.
A gyrru a wnaeth y brenin was byr-felyn
gydag ef. A phan ddaethant i'r llys yr
oedd yr unbennes wedi cyfodi, ac yn myned
i ymolchi. Aeth Peredur rhagddo. A hi a
groeshawodd Peredur yn llawen, ac a
archodd iddo eistedd wrth ei hochr. A
chymeryd eu cmio a wnaethant. A pha
beth bynnag a ddywedai Peredur wrthi;
chwerthin a wnai hithau yn uchel, fel y
clywai pawb yn y llys. Ac yna y dywedodd
y gwas byr-felyn wrth yr unbennes, —
" Myn fy nghred, os bu gẁr
Fel y gwen- i ti erioed, y gẃr ieuanc hwa
odd merch, yw. Ac oni bu gŵr it y mae
ac y carch' dy fryd a'th feddwl arno.^'
arwyd Per- A'r gwas byr-felyn a ddaeth
edur, at y brenin, ac a ddywedodd
mai tebycaf oedd ganddo fod y
gẃr ieuanc a'i cyfarfu ef yn ŵr i'w ferch.
* * Ac onid gẁr mi a debygaf y bydd yn
ŵr iddi yn fuan oni ateli ef."
*'Beth yw dy gyngor di,
brenin.
54 PEREDUR AB EFROG.
<< Fy nghyngor yw i ti anfon dewr-wýr
yn ei erbyn a'i ddal, oni wypycli yn sicr am
hynny."
Ac yntau a ddanfonodd wŷr yn erbyn
Peredur i'w ddal a'i ddodi yng ngharchar.
A'r forwyn a aeth i gyfarfod ei thad, ac a
ofynnodd iddo, am ba achos y parasai gar-
charu y gŵr ieuanc o lys Arthur.
*' Yn wir," ebe jaitau, " ni bydd yn rhydd
heno, nac yfory, na thrennydd. Ac ni ddaw
o'r Ue y mae."
Ni wynebodd hi yr hyn a ddywedodd y
brenin. Ac aeth at y gŵr ieuanc.
*' A'i annigrif gennyt ti dy fod yma ? "
** Ni fuasai waeth gennyf heb fod."
' ' Ni f ydd waeth dy wely na'th ansawdd
nac un y brenin. A'r cerddau goreu yn y
llys ti a'u ceffi wrth dy gyngor. A phe
diddanach gennyt tithau na chynt, mi a
ddeuwn i'th gysuro yma, ac i ymddiddan â
thi. Ti a geffi hynny yn llawen."
"Ni wrthwynebaf fì hymiy," ebe Per-
€dur.
Ef a fu yng ngharchar y nos honno, a'r
forwyn a gywirodd yr hyn a addawsai iddo.
A thrannoeth y clywai Peredur gynnwrf yn
y ddinas.
"0 forwyn deg, jDa gynnwrf y w hwn ? "
ebe Peredur.
" Llu y brenin a'i allu y sydd yn dyfod i'r
ddinas hon heddyw."
" Beth a fynnant hwy felly ? "
" larll y sydd yn agos yma a dwy iarll-
aeth iddo. Ac ymryson fydd rhyngddynt
heddyw."
" Dymuniad yw gennyf fì," ebe Peredur,
* ' i ti beri i mi f arch ac arf au i f yned i
PEREDUR AB EFROG
ddisgwyl am yr ymryson. Ac ar ij Uw
deuaf i'r carcliar drachefn."
*'Yn llaweri," ebe hi, '*mi a
Fel yr baraf i ti farch ac arfau."
ymladdodd A hi a roddodd iddo farch ac
Peredur. arfau, a mantell burgoch ar uchaf
yr arfau, a tharian felen ar ei
ysgwydd. A myned i'r ymryson a wnaeth.
Ac a gyfarfu âg ef o wýr yr iarll y dydd
hwnnw efe a'u taíìodd oll i'r llawr. Ac ef a
ddaeth drachefn i'r carchar. Gofyn chwedl-
au a wnaeth y forwyn i Peredur, ac ni
ddywedodd ef un gair wrthi. A hithau a
aeth i ofyn chwedlau i'w thad, a gofyn a
wnaeth pwy a fuasai oreu o'i deuhi, Yntau
a ddywedai nas adwaenai ef .
'' Gẁr oedd â mantell goch ar uchaf ei
arfau, a tharian felen ar ei ysgwydd."
A gwenu a wnaeth hithau, a dyfod i'r lle
yr oedd Peredur. A da f u ei barch y nos
honno.
A thridiau yn olynol y lladdodd Peredur
wỳr yr iarll. A deuai i'r carchar drachefn
cyn y caffai neb wybod pwy oedd. A'r
pedwerydd ddydd y Uaddodd Peredur yr
iarll ei hunan. A dyfod a wnaeth y forTvyn
i gy farfod ei thad, a gofyn chwedlau iddo.
'' Chwedlau da," ebe y brenin, '* Uadd yr
iarll ; a minnau biau y ddwy iarllaeth."
" A wyddost ti, arglwydd, pwy a'i Uadd-
oddef?"
" Gwn," ebe y brenin, ** marchog y fantell
goch a'r darian felen a'i lladdodd."
'' Arglwydd," ebe hi, '' myfì a wn pwy yw
hwnnw."
" Yn wir," ebe yntau, ** pwy yw ef ? "
" Arglwydd," ebe hi, " y marchog y sydd
yng ngharchar gennyt yw hwnnw."
5G PEREDUR AB EFROa.
Yutau a ddaetli hjd lle yr oedd Peredur,
a chyfarch gwell iddo a wuaeth. A dywed-
jd wrtho y gwasauaeth a wuaeth, ac y
talai iddo uiegys y uiyuuai ef ei huu. A
phau aethpwyd i fwyta, dodwyd Peredur i
eistedd ar y uaill law i'r breuiu, a'r forwyu
yr ochr arall i Beredur.
**Mi a roddaf it," ebe y breuiu, "fy
merch yn briod, a hauuer fy mreuhmiaeth
gyda hi. A dwy iarllaeth a roddaf i ti yn
rhodd,"
*' Arglwydd Dduw a dalo it," ebe Peredur,
^' ni ddaethum i yma i wreica."
" Beth a geisi dithau, uubeu ? "
*'Ceisio chwedlau yr wyf fì am Gaer y
Rhyfeddodau."
' ' Mwy y w meddwl yr uuben nag ydym
yu ei geisio?" ebe y forwyu. " Chwedlau
am y Gaer a gefifì. A hebryugydd i ti trwy
gyfoeth fy nhad, a digonir di â
Fe/ydaeth phopeth. A thydi, uubeu, y w y
Peredur i gẁr mwyaf a garaf fì." Ac yua
Gaery dywedodd, —
Rhyfeddod- " Dos dros y mynydd acw, a
au. thi a weli 11 yu a chaer o fewu y
Uyu. A hwnuw a elwir Caer y
Rhyfeddodau. Ac ni wyddom ni ddim o'i
ryfeddodau ef, eithr y gelwir ef felly."
A dyfod a wuaeth Pereduj' tua'r Gaer. A
phorth y gaer oedd yu agored. Ac fel y
deuai i mewu gwydd-bwyll a welai yn y
neuadd. A phob uu o'r werin yn chwareu
yn erbyu eu gilydd. A chollai yr ochr garaí
ef y chwareu, a'r llall a ddodai waedd yr un
wedd a phe byddeut wŷr. A'r hyn a wnaeth
yntau oedd digio, a chymeryd y weriu yn ei
arlîed, a thafìu y bwrdd i'r llyn. A phau
PEREDUE, AB EFROG^ 57
yd.oecLd felly, wele j forwyn ddu yii dyfod i
mewii, ac yn dywedyd wrth Peredur, —
*' Ni fydd croeeaw Duw i ti. Mynychach
y gwnai ddrwg na da."
* ' Beth a of ynni di i mi, y f orwyn ddu ? ' '
ebe Peredur.
" Di-goUedu o honot yr ymherodres o'i
bwrdd, ac ni fynnai hi hynny er ei hymher-
odraeth. A'r wedd y ceffi y bwrdd yn ol yw
myned i Gaer Ysbidinongyl. Y mae yno
ŵr du yn difetha llawer o gyfoeth yr ym-
herodres. A lladd hwimw, a thi a geffi y
bwrdd. Ac os ai di yno ni ddeui yn fysv
drachefn."
* * A f yddi di arweinydd i mi
Fe/ y yno ? ' ' ebe Peredur.
Iladdwycl " Mi a fynegaf y ífordd i ti
y gwr du. yno," ebe hi.
Ac ef a ddaeth hyd yng Nghaer
Ysbidinongyl. Ac a ymladdodd â'r gŵr du ;
a'r gvvr du a archodd nawdd Peredur.
" Mi a roddaf nawdd i ti, — par fod y
bwrdd yn y Ue yr oedd pan ddaethum i i'r
neuadd."
Ac yna y daeth y forwyn ddu i mewn, ac
a ddywedodd wrtho,— -
' * Melldith Duw i ti j\\ lle dy laf ur, am
adael y gormeswr yn fyw sydd yn diíîeithio
cyfoeth yr ymherodres."
** Mi a addewais," ebe Peredur, ** ei fywyd
iddo, os perai ddychwelyd y bwrdd."
*'Xid ydyw y bwrdd yn y lle cyntaf y
cefaist ef. Dos drachefn a Uadd ef."
A myned a wnaeth Peredur a Uadd y gẃr
du.
A phan ddaeth i'r Uys yr oedd y forwyn
ddu yn y Uys.
58 PEHEDUR AB EFROG.
'^ Ha, forwyn," ebe Peredur, *' pa le mae
yr ymlierodres ? ' '
'* Yn wir, nis gweli di hi yn awr, oni fydd
i tí ladd yr ormes sydd yn y íîorest acw."
*' Pa ryw ormes yw honno ? "
** Carw sydd yno, a chyn ebrwydd yw a'r
aderyn cyntaf , ac un corn sydd yn ei dalcen,
cyhyd a choes gwaew, a chyn flaen-llymed
yw a'r dim blaen-Uymaf. A thorri a wna
frig y coed goreu yn y fíorest ; a
Fel y lladd pob anifail ynddi a gyíf-
lladdwyd yrddo âg ef; ac er na laddo
y carw. hwy, marw fyddant o newyn. A
gwaeth na hynny, dyfod a wna
beunydd ac yfed y pysgod-lyn yn ddiod,
gan adael y pysgod yn noeth ; a meirw a
wna y rhan fwyaf o honynt cyn y del dwfr
iddo drachefn."
'* Ha, forwyn," ebe Peredur, *' a ddeui di
i ddangos yr anif ail hwnnw i mi ? "
"ìí'a ddeuaf, — ni feiddiodd dyn fyned i'r
fforest er ys blwyddyn. Mae yna gi bach
i'r ymherodres, a hwnnw a gyfyd y carw,
ac a ddaw ag ef atat ti ; a'r carw a'th gyrch
di."
Y ci bach a aeth yn arweinydd i Eeredar,
ac a gyfododd y carw, a daeth tua'r Ue yr
oedd Peredur ac ef . A'r carw a gyrchodd
Peredur, ac yntau a adawodd iddo fyned
heibio, gan daraw ei ben oddi arno â cleddyf .
A phan ydoedd yn edrych ar ben y carw, ef
a welai farchoges yn dyfod tuag ato, ac yn
cymeryd y ci bach yn Uawes ei chot, a'i ben
rhyngddo a'r corff, a thorch o rudd-aur a
oedd am ei wddf .
**Ha, unben," ebe hi, **anfoesgar y
gwnaethost, — Uadd y tlws tecaf a oedd yn
fy nghyfoeth."
PEREDUR AB EFROG. 59
** Gofynnwyd i mi wneyd h.jii. A oes yna
wedd j gallwn i gael áj f addeuant di ? "
** Oes ; dos i fron j mynydd acw, ac yno
ti a weli Iwyn, ac ym mon y Uwyn y mae
llech ; ac yno galw ar ẃr i ymladd deir-
gwaith. Ti a geffi fy maddeuant."
Peredur a gerddodd rhagddo, ac a ddaeth
i ymyl y llwyn, ac a archodd ẁr i ymladd.
A chyfododd gẁr du o dan y llech, a march
ysgyrniog dano, ac arfau rhydlyd mawr am
dano ac am ei farch. Ac yDilcidd a wnaeth-
ant. Ac fel y taflai Peredur y gẁr du i
lawr, y neidiai yntau ar ei gyfrwy drachefn.
A disgyn a wnaeth Peredur, a
Fe/ y thynnu cleddyf. Ac ar hynny
diflannocíd diíìannu a wnaeth y gŵr du â
/ gwr du. march Peredur ganddo a'i f arch
ei hun, fel na welodd ef ail olwg
arnynt. A cherdded a wnaeth Peredur ar
hyd y mynydd. Ac yn y rhan arall o'r
mynydd ef a welai gaer mewn dyffryn yr ai
afon drwyddo. A thua'r gaer y daeth. Ac
fel y deuai i'r gaer neuadd a welai, a drws y
neuadd j\\ agored. Ac i mewn y daeth. Ac
ef a welai ẁr llwyd cloíî yn eistedd wrth
dalcen y neuadd, a Gwalchmai yn eistedd
ar y naül law. A'i farch a ddygsai y gẁr
du a welai wrth yr un preseb a march
Gwalchmai. A llawen a fuant wrth Peredur.
A myned i eistedd a wnaeth yr ochr arall i'r
gẁr llwyd. Ac ar hynny wele was melyn
yn plygu ar ben ei liii ger bron Peredur.
'* Arglwydd," ebe y gwas, ** mi a ddaeth-
um yn rhith y forwyn ddu i lys Arthur. A
phan fwriaist y bwrdd, a phan leddaist j
gẁr du o Ysbidinongyl, a phan leddaist y
carw, a phan fuost yn ymladd â'r gẁr o'r
60 PEREDUR AB EFHOG.
UeGh. A mi a ddaethum a'r pen yn waedljd
ar y ddjscl, a'r waew yr oeddffrwd waed yn
rhedeg o'r pen hyd y dwrn, — ar hyd y coes.
A'th gefnder oedd biau y pen. A Gwiddon-
od Caer Loyw a'i lladdasai. A hwy a gloff-
asant dy ewyrth. A'th gefnder wyf fìnnau.
A'r syniad yw y bydd i ti ddial arnynt."
A chyngor f u gan Peredur a Gwalchmai i
anfon at Arthur a'i deulu i erchi
Fel y arnynt ddyf od yn erbyn y Gwidd-
dinisirwyd onod. A dechreu ymladd â'r
/ Gwidd- Gwiddonod a wnaethant. A Uadd
onod. un o wỳr Arthur ger bron Per-
edur a wnaeth un o'r Gwiddonod.
A'u gwahardd a wnaeth Peredur. A'r eil-
waith lladd gŵr a wnaeth y Widdon ger
bron Peredur. A Pheredur a'i gwahardd
eilwaith. A'r drydedd waith lladd gẁr a
wnaeth y Widdon ger bron Peredur. A
thynnu cleddyf a wnaeth Peredur, a tharo y
Widdon ar uchaf ei helm, oni hyllt yr helm,
a'r arfau oll, a'r pen yn ddau hanner. A
dodi llef a wnaeth, ac erchi i'r swynwragedd
eraill íîoi, a dywedyd mai Peredur oedd.
Y gẁr a fuasai yn dysgu marchogaeth gyda
hwynt. Ac yr oedd tynged mai ef a'u
lladdai. Ac yna y lladdwyd Gwiddonod
Caer Loyw oll. Ac felly y traethir am Gaer
y Rhyfeddodau.
BREUDDWYD RHONABWY.
AADOG fab Meredydd a feddai Bowys
yn ei derfynau, sef yw hynny, o
Borfoed hyd yng Ngwanan yn eithaf Ar-
wystli. Ac yn yr amser hwnnw brawd a
oedd iddo, — sef oedd hwnnw lorwerth fab
Meredydd, ac nid oedd cystal gẁr a Madog.
A lorwerth a gymerth ofìd mawr a thristwch
wrth weled yr anrhydedd a'r meddiant oedd
i'w frawd, ac yntau heb ddim.
Fel y A galwodd ato ei gyfeillion a'i
gwrthododd frodyr maeth, ac ymgynghorodd
lorwerth â hwy beth a wnai. Sef a gaw-
gynrìyg eì sant yn eu cyngor, — anfon rhai
frawd. o honynt i ofyn bywoliaeth iddo.
Cynhygiodd Madog iddo y
swydd o benteulu, a meirch, ac arfau, ac
anrhydedd cystal a'r eiddo ei hun.
A gwrthod hynny wnaeth lorwerth. A
myned ar grwydr hyd yn Lloegr, a lladd
celanedd, a llosgi tai, a dal carcharorion
wnaeth lorwerth. A chynghor
Fel y a gymerodd Madog a gwŷr
rhoddwyd Powys gydag ef . Sef a gawsant
gwyr i ddal yn eu cyngor, — gosod can ẁr
lorwerth. ymhob un o dri chwmwd Powys
i'w geisio. Hyn a wnaethant
yn rhychdir Powys, yn Aber Ceiriog, ac yn
Alligdwn Fer, ac yn Rhyd Wilure ar y
61
62 BREUDDAYYD RHONABWY.
Fyrnwy, y tri chwmwd goreu ym Mliowys.
Fel nad da oedd iddo ef na'i deulu ym
Mhowys, nac yn y rhandir hwnnw. Ac an-
fonas.ant y gwýr hynny hyd yn rhychdir
Nillystwn Trefan.
A gẁr oedd yn y llu hwnnw a'i enw
Rhonabwy. A daeth Hhonabwy a Chynwrig
Frychgoch, gvvr o Fawddwy. a Chadwgan
Fras, gẃr o Foelfre jng Nghynlleith, i dỳ
Heilyn Goch fab Cadwgan fab Iddon. A
phan ddaethant at y tỳ, gwelent hen neuadd
burddu, dal, uniawn, a mwg lawer yn dod
o honi. A phan ddaethant i fewn
. Fe/ y gwelent lawr pyllog anwastad
ddaethanf bryniog, a braidd y safai dyn
/ dy Heilyn arn^yfned y llawr gan fìswael
Goch. gwartheg. Lle byddai bwll, elai
dyn dros ei íîer i ddwfr a llaid y
gwartheg. A gwrysg celyn oedd y\\ aml ar
y llawr wedi bwyta o'r gwartheg eu brig.
A phan ddaethant i gyntedd y ty, gwelent
barthau llychlyd llwm. A gwrach yn ym-
dwymno ar y naill barth, a phan ddelai
anwyd arni, bwriai o'i haríîedog us am ben
y tân, fel nad hawdd oedd i un dyn yn y
byd ddioddef y mwg hwnnw yn myned i
mewn i'w ddwy ífroen. Ar y parth arall
gwelent groen dyniawed melyn ar lawr, ac
anrhydedd oedd i neb gael mynd ar y croen
hwnnw. Ac wedi iddynt eistedd, gofyn a
wnaethant i'r wrach pa le yr oedd dynion y
tŷ, ac ni ddywedai y wrach wrthynt ond
tafodi. Ac ar hynny wele y dynion yn
dyfod. Gẁr coch, gwarfoel, afrosgo, a baich
o wrysg ar ei gefn, a gwraig feinlas fechan.
a cheseliaid o frwyn ganddi hithau. Sych
groesawu y dynion a wnaethant, a chyinieu
BREUDDWYD RHONABWY. 63
tâii gwrysg iddynt. ' A myned i bobi a
wnaeth y ẃraig, a dwyn j bwyd
Feì y iddynt, — bara haidd a chaws, a
pobodcl y glasdwr llefrith. Ac ar hyimy
wraìg wele ruthr o wynt a gwlaw fel
feìnlüs. nad hawdd i neb f jnd allan. A
chan mor anesmwyth oedd eu
taith, blino a wnaethant, a myned i gysgu.
A phan edrychwyd y gwely, m'd oedd arno
ond byrwellt dystlyd, chweinllyd, a bonau
gwrysg yn aml trwyddo, a'r gwartheg wedi
bwyta y gwellt oedd uwch eu pennau ac îs
eu traed. Taenwyd hulyn Iwydgoch, galed,
lom, dyllog ar y fainc, a llenllian fras,
dyllog, rwygedig ar yr hulyn, a gobennydd
lledwag a gorchudd go f udr iddo ar ben y
llenllian. Ac i gysgu yr aethant, a chwsg a
ddisgynnodd ar ddau gydymaith Rhonabwy
yn drwm. A Rhonabwy, gan nas gallai na
chysgu na gorffwys, a f eddyliodd
Fel y fod yn Uai poen iddo fynd ar
breuddwyd- groen y dyniawed melyn ar y
iodd llawr i gysgu/ Ac yno y cysg-
Rhonabwy odd. Ac mor fuan ac y d eth
ar groen y hûn i'w lygaid, breuddwydiodd
dyniawed ei fod ef a'i gy dymdeithion yn
melyn. cerdded ar draws maeè^Argyn-
groeg, ac oddi yno, debygai, tua
Rhyd y Groes ar Hafren. Ac fel yr oedd
yn cerdded, clywai dwrf, a thebyg y twrf
hwnnw ni chlywsai erioed. Ac edrych a
wnaeth drach ei gefn, a gwelai ŵr ieuanc
pengrych melyn, a'i farf newydd eillio, ar
farch melyn, ond fod ei ddwy goes dan ei
ddeulin yn las. A gwisg o bali melyn am y
marchog wedi ei gwnio âg edafedd glas, a
chleddyf eurdrwm ar ei glun, a gwain o ledr
64 BREUDDWYD RHONABWY.
newydd iddo, a cliarrai o ledr ewig a chlasp
arni o aur. Ac ar h}ainy yr oedd llen o bali
melyn wedi ei wnio â sidan glas, a'i odreu
hefyd yn las. A'r hyn oedd las o wisg y
marchog a'i farch oedd cjii lased a dail y
fpynidwydd, a'r hyn oedd felyn o honi oedd
cyn f elyned a blodau y banadl.
Fe/ y A chan mor ofnadwy oedd golwg
goddìwedd- y marchog, ofni a wnaethant, a
odd y gwr dechreu ffoi. A'u hymlid a
melyn hwy. wnaeth y marchog. A phan
yrrai ei farch ei anadl oddi
wrtho y pellhai y gwýr oddi wrtho, a phan
y cymerai ei anadl neshai y gwỳr ato,— hyd
ym mron y march. A phan y goddiwedd-
odd hwy, gofyn ei nawdd a wnaethant.
"' Chwi a'i cewch yn llawen, ac nac ofn-
wch."
*'Ha, unben, gan it roddi nawdd i ni, a
ddywedi i mi pwy wyt," ebe Rhonabwy.
'* Ni chelaf oddi wrthyt fy hanes. Iddog
fab Mynyo wyf , ac nid ar fy enw ym gelwir
fwyaf, ond ar fy Uysenw."
" A ddywedi di 1 mi beth y w dy lysenw."
* ' Dy wedaf . Iddog Cordd Prydain ym
gelwir."
*'Ha, unben," ebe Rhonabwy, **paham
y gelwir di felly?"
* * Mi a ddy wedaf it. Un oedd-
Fel y wn o'r cenhadau yng nghad
llysen wyd Camlan rhwng Arthur a Medrawd
Iddog. ei nai. A gẁr ieuanc drwg oedd-
wn i yno, ac mor hoff oeddwn o
frwydr fel y perais derfysg rhyngddynt.
Pan yrrid fì oddi wrth yr ymherawdwr
Arthur i fynegi i Fedrawd ei fod yn dad-
maeth ac yn ewyrth iddo, ac i ofyn tang-
BREUDDWYD RHONABWY. 65
nefedd rhag lladd meibion brenhinoedd
Ynys Prydain, a phan ddywedai Arthur yr
ymadrodd tecaf allai wrthyf , dywedwn in-
nau yr ymadrodd hwnnw hagraf allwn wrth
Fedrawd, ac am hynny y gelwid fì Iddog
Cordd Prydain, ac am hyn yr ymladdwyd
cad Camlan. A theirnos cyn gorffen cad
Camlan y gadewais hwy, ac y daethum hyd
yn Llech Las ym Mhrydain i ddwyn fy
mhennyd. Ac yno y bum yn penydio
saith mlynedd, a thrugaredd a gefais."
Ar hynny, wele, clywent dwrf oedd fwy o
lawer na'r twrf gynt. A phan edrychasant
tua'r twrf , wele was melyngoch heb farf ac
heb gernflew, o arddull bonheddig, ar farch
mawr, ac o ben y ddwy ysgwydd ac o'i
ddeuîin i waered melyn oedd y march. A
gwisg oedd am y gẁr o bali coch wedi ei
gwnio â sidan melyn, a godreu y llen yn
felyn. A'r hyn oedd felyn o'i wisg ef ac o'i
f arch cyn felyned oedd a blodau y banadl ;
a'r hyn oedd goch o honynt oedd
Fel y gO' cyn goched a'r gwaed cochaf yn
ddîwedd' y byd. Ac yna, wele, y marchog
oddygwasyn eu goddiweddu, ac yn gofyn
melyngoch i Iddog a gafai ran o'r dynion
hwy. bychain hynny ganddo.
** Y rhan a weddai i mi ei roddi,
mi a'i rhoddaf ; bydd yn gydymaith iddynt
fel y bum innau."
A hynny a wnaeth y marchog, a myned
ymaith.
**Iddog," ebe Rhonabwy, **pwy oedd y
marchog hwn ? ' '
*' Rhuawn Bebyr, fab Deorthach Wledig."
Ac yna y cerddasant ar draws maes mawr
A rgyngroeg hyd yn Rhyd y Groes ar Haf ren.
E
66 BRECDDWYD RHONABWY.
A niiUtir oddi wrth j Rhyd, o bob tu i'r
ffordd, j gweleiit luestai a pheb-
Fe/ y yll, ac yr oedd yiio dwrf llu mawr.
daefhant i Ac i laii y Rhyd y daethant. Sef
RydyGroes.SL welent,— Arthur yn eistedd
mewn ynys wastad is y Rhyd, ac
ar y naill du iddo Bedwin Esgob, ac ar y tu
arall Gwarthegydd fab Caw, a gwas gwineu
mawr yn sefyll ger eu bron, a'i gleddau trwy
ei wain yn ei law, a gwisg a chapan o bali
purddu am dano. A'i wyneb cyn wynned
ag asgwrn eliffant, a clian ddued ei aelau
a'r muchudd, a'r hyn welai dyn o'i arddwrn
rhwng ei fenyg a'i lewis gwynnach oedd
na'r lili, a mwy oedd na ffer milwr. Ac
yna y daeth Iddog, a hwythau gydag ef, ger
bron Arthur, a chyfarch gwell iddo.
' ' Duw a roddo dda it, ' ' ebe Arthur. * ' Pa
le, Iddog, y cefaist di y dynion bychain
hyn?"
*'Mi a'u cefais, arglwydd,
Fe/ y uchod ar y ffordd. ' '
glaswenodd Sef a wnaeth yr ymherawdwr
Arthur. oedd lledwenu.
" Arglwydd," ebe Iddog, *' am
beth y chwerddi di ? "
"Iddog," ebe Arthur, *'nid chwerthin a
wnaf, ond gofìdio fod dynion mor wael a
hyn yn gwylio yr ynys hon yn Ue y gwỳr da
a'i gwyliai gy nt."
Ac yna y dywedodd Iddog, —
" Rhonabwy, a weli di y fodrwy a'r maen
arni ar law yr Ymherawdwr."
"Gwelaf," ebeef.
* ' Un o rinweddau y maen y w y cofì a
welaist beno, a phan na welet y maen ni
chofìet ddim o hono."
BREUDDWyD RHONABWY. 67
Ac wedi hynny y gwelai fyddin yn dyfod
tua'r Ehyd.
"Iddog," ebe Ehonabwy, **pwy biau y
fyddin acw?"
" Cydymdeithion Ehuawn Pebyr, fab
Deorthach Wledig, ydynt. A'r
Fe/ y gwỳr acw a gant fwyd a diod yn
gwnaeth y anrhydeddus, a ch'ânt gyfeiU-
fyddìn goch. achu â merched brenhinoedd
ynys Prydain yn ddiwarafun.
A haeddant hyn, canys ymhob perygl
byddant yn ei flaen ac yn ei ol."
Ac ni welai liw amgen ar f arch nac ar ẁr
o'r fyddin honno, ond eu bod cyn goched
a'r gwaed. Ac os gwahanai un o'r march-
ogion oddi wrth y fyddin honno, tebyg
fyddai i golofn dân yn cychwyn i'r awyr.
Pabellodd y fyddin honno uwch y Rhyd.
Ac ar hynny gwelent fyddin arall yn
dyfod tua'r Rhyd. Ac o fronnau y meirch
i fyny oedd cyn wynned a'r lili, ac o hynny
1 waered cyn ddued a'r muchudd. A gwel-
ent farchog yn eu rhagflaenu, ac yn spar-
dynu ei farch i'r Rhyd nes y lluchiodd y
dwfr am ben Arthur a'r esgob, a'r rhai oedd
yn y cyngor gyda hwy, nes oeddynt cyn
wlyped a phe tynnid hwy o'r afon. Ac fel
yr oedd yn trosi pen ei farch, tarawodd y
gwas oedd yn sef yll gerbron Arthur y march
ar ei ddwyfron â'r cleddyf yn ei wain ; a
phe y tarawai â'r dur noeth, ni fai ryfedd
pe torasid yr asgwrn yn ogystal a'r cig. A
thyimu ei gleddyf hyd haimer y wain a
wnaeth y marchog, a gofyn iddo, —
** Paham y tarewaist di fy march i? ai er
amarch i mi, ynte er cyngor ? "
**Rhaid oedd i ti wrth gyngor. Pa yn-
68 BREUDDWYD KHÜNABWY.
f ydrwydd wnai i ti farchogaeth mor gyüym,
a lluchio dwfr o'r Rhyd am ben Arthiir a'r
•esgob cysegredig a'u cynghorwyr, nes oedd-
ynt cyn wlypet a phe tynnid hwy o'r afon ? "
''Minnau a'u cymeraf yn lle cyngor,"
•ebai, a throdd ben ei farch tua ei fyddin.
*'Iddog," ebe Ehonabwy, '*pwy oedd y
marchog gynneu?"
' ' Y gẁr ieuanc ffraethaf a doethaf yn y
•deyrnas hon, — Adaon fab Taliesin."
*' Pwy oedd y gẁr a darawodd ei farch ? "
''Llanc traws-fonheddig, — Elphin fab
Owyddno."
Ac yna y dywedodd y gẃr balch bonhedd-
ig, ac ymadrodd llithrig eon ganddo, fod yn
rhyfedd i lu gymaint a hwnnw gynnull
mewn Ue mor gyfyng a hwn, a'i fod yn
rhyfeddach ganddo ei fod yno yr awr honno,
ac wedi addaw bod hanner dydd ym mrwydr
Baddon yn ymladd âg Osa Gyllellfawr, —
'* A dewis di a gerddi ai ni cherddi, myfi
a gerddaf."
*'Gwir a ddywedi," ebe Arthur, "a
cherddwn ninnau i gyd."
''lddog," ebe Ehonabwy, ^^pwy yw y
gẁr a ddywedai mor hyf wrth Arthur ag y
dywedai'r gẁr gwineu ? "
*'Gŵr a all ddywedyd cyn eofned ag y
mynna wrtho, — Caradog Feichfras fab Llyr,
ei gynghorwr a'i gefnder."
Yna cymerodd Iddog Rhonabwy wrth ei
ysgü, a chychwynnodd y llu mawr hwnnw,
pob byddin yn ei threfn, tua Chefn Digoll.
Ac wedi eu dyfod hyd yng nghanol y Rhyd
ar yr Hafren, troi a wnaeth Iddog ben ei
farch drach ei gefn, ac edrych a wnaeth
Ehonabwy ar Ddyffryn Hafren, a gwelai
BREUDDWYD RHONABWY. 69»
ddwy f jddin hardd yn dyfod tua'r Bhyd ar
yr Hafren. A byddin eglurwen
Fel y yn dyfod, a llen o bali gwyn am
teifhiai bob un o honynt, a godreu bob
byddin un yn bur ddu. A phen deulin,
bur-wen. a phennau dwy goes y meirch yn
burddu, a'r meirch yn wynion
oU ond hynny. A'u banerau yn burwyn, a
blaen pob un o honynt yn burddu.
^'lddog," ebe Rhonabwy, *'pwy yw y
f yddin burwen aow ? ' '
' * Gwŷr Llychlyn ydynt, a March f ab
Meirchion yn dywysog arnynt. Cefnder i
Arthur yw hwnnw."
Ac yna y gwelai fyddin a gwisg burddu
am bob un o honynt, a godreu pob llen jn
burwyn. Ac o ben eu dwygoes a phen eu
deulin i'r meirch yn burwyn, a'u banerau
yn burddu, a blaen pob un o honynt yn.
burwyn.
**Iddog," ebe Rhonabwy, '*pwy yw y
fyddin burddu acw ? "
** Gwỳr Denmarc, ac Edeyrn
Fe/ y fab Nudd yn dywysog arnynt."
teitiiiai A phan oddiweddasant y llu,
byddin wele, disgynasai Arthur a'i lu y
burddu. cedyrn islaw Caer Fadon ; ac
wedi disgyn, clywai dwrf mawr a
therfysg yn y llu, — a'r gẃr a fai ar ymyl y
Uu yn awr a elai i'r canol, a'r gẃr fai yn y
canol a ddeuai i'r ymyl. Ac ar hynny, wele
f archog yn dyfod a gwisg o ddur am dano
ef ac am ei farch. Cyn wynned oedd y
modrwyau a'r lili wennaf, a chyn goched
oedd yr hoelion a r gwaed cochaf . A hwnnw
yn marchogaeth ymhlith y Uu.
*' Iddog," ebe Rhonabwy, ** ai ffoi wiia y
Uurhagddo?"
70 EREUDDWYD RHONABWY.
** Ni ffodd yr Ymlierawdwr Arthur erioed,
a plie clywid di yn siarad feUy, gẁr trist
fyddet. Ond y marcliog a weli acw, Cai yw
hwnnw. Tecaf dyn a farclioga yn Uys
Arthur yw Cai. A'r gẁr ar ymyl
Fel y y Hn sydd yn brysio yn ol i
marchogai edrych ar Cai yn marcliogaeth,
Cai. a'r gẁr yn y canol sydd yn ffoi
i'r ymyl rhag ei frifo gan y
march. A hynny yw ystyr y cynnwrf yn y
Uu."
Ar hynny clywent alw ar Gadwr, larll
Cernyw. Wele yntau yn dyfod a chleddyf
Arthur yn ei law. A llun dwy sarff ar y
cleddyf o aur, a phan dynnid y cleddyf o'i
wain, f el dwy fflam o dân a welid o eneuau
y seirfe, ac mor ddychrynllyd oedd fel nid
hawdd fai i neb edrych arnc. Ar hynny
wele y llu jn arafu, a'r cynnwrf yn peidio.
Ac aeth yr iarll i'w babell.
*'Iddog," ebe Ehonabwy, *'pwyoedd y
gŵr ddygai gleddyf Arthur ? "
*' Cadwr, larll Cemyw, y gẃr raid wkgo
ei arfau am y brenin yn nydd cad ac ym-
ladd."
Ac ar hynny clywent alw ar Eirynwych
Amheibyn, gwas Arthur. Gẁr garwgoch
anhygar, a barf goch o flew sythion iddo.
Wele yntau yn dyfod ar farch coch mawr,
a'i fwng wedi ei rannu o bob tu i'w wddf, a
swmer mawr tlws ganddo. A disgyn a
wnaeth y gwas coch mäwr ger
Fel y bron Arthur, a thynnu cadair aur
iaenw^d o'r swmer a llen o bali caerog.
llenAríhur.A thaenu y Hen a wnaeth ger
bron Arthur, ac afal rhuddaur
oedd wrth bob congl iddi, a gosododd y
BREUDDWYD RHONABWY. 71
• gadair ar y Uen , A chjTiiaiiit oedd y gadair
ag j gallai tri milwr arfog eistedd yiiddi.
Gwen oedd enw y llen. Ac un o rinweddau
j Uen oedd, — na welai neb j dyn eisteddai
arni, ond efe a welai bawb, ac ni arhosai
arni bytli liw ond ei lliw ei hun. Ac eistedd
a wnaeth Arthur ar y llen, ac Owen fab
Urien yn sefyll ger ei fron.
" Owen," ebe Arthur, ''a chwareui di
wyddbwyll?"
**Chwareuaf, arglwydd," ebe Owen.
/ Daeth y gwas coch â'r wyddbwyll i Arthur
ac Owen, — gwerin aur a chlawr arian. A
dechreu chware a wnaethant. A phan yr
oedd^Tit felly yn ddifyrraf ganddynt eu
chwareu uwch y gwyddbwyll, wele, gwelent
babell wen, bengoch, a delw sarff burddu ar
ben y babell, a llygaid rhuddgoch gwenwynig
ymhen y sarff, a'i thafod yn f9.am goch. A
gwelent lanc ieuanc pengrych melyn, llygad-
las, a'i farf yn dechreu tyfu, yn dyfod at Ue
yr oedd Arthur ac Owen yn ehwareu gwydd-
bwyU. A gwisg a swrcot o baU melyn am
dano, a dwy hosan o frethyn gwyrddfelyii
teneu am ei draed, ac ar yr hosanau ddwy
esgid o ledr brith, a byclau o aur yn eu cau.
A chleddyf eurdrwm, trwm, tri miniog, a
gwain o ledr du iddo, a swch o ruddaur
coeth ar ben y wain. A chyfarch gweU a
wnaeth y Uanc i Owen. A rhyfeddu a
wnaeth Owen am i'r Uanc gy farch gweU
'iddo ef , ac na chyfarchodd yr Ymherawdwr
Arthur. A gwybod wnaeth Arthur am beth
y meddyUai Owen. -
'* Na fydd ryfedd gennyt i'r Uanc gyfarch
gweU i ti yr awr hon. Efe a gyfarchodd
weU i minnau gynneu. Ac atat ti y mae ei
neges "
72 BREÜDDWYD RHONABWT.
Ac yna j dywedodd j llanc wrth Owen, —
<< Arglwjdd, ai wrth dy gennad di y mae
gweision bychain yr ymherawdwr
Fe/ y a'i lanciau yn aüonyddu, a dych-
blìnodd y rynnu, a blino dy frain?" Os
/lanciau nad wrth dy gennad, par i'r
/ brain. ymherawdwr eu gwahardd."
" Arglwydd," ebe Owen, "ti a
glywi a ddywed y Uanc. Os da gennyt,
gwahardd hwynt oddiwrth íj mrain."
** Chware dy chware," ebe ef.
Ac yna y dychwelodd y Uanc tua'i babell.
Terfynu y chware hwnnw a wnaethant, a
dechreu un arall ; a phan oeddynt yn han-
ner y chware, dyna was ieuanc coch, pen-
grych, gwineu, llygadog, Uuniaidd, wedi
eillio ei farf , yn dyfod o babell burfelen a
delw Uew purgoch ar ben y babell. A gwisg
o bali melyn am dano gyrhaeddai at ei
esgeiriau, wedi ei gwnio âg edafedd o sidan
coch, a dwy hosan am ei draed o fwcran
gwyn teneu, ac ar yr hosanau yr oedd dwy
esgid o ledr du am ei draed, a byclau aur
arnynt ; a chleddyf mawr, du, trwm, tri-
miniog yn ei law, a gwain o groen carw coch
iddo, a swch aur ar y wain. A daeth tua'r
Ue yr oedd Arthur ac Owen yn chware
gwyddbwyll. Cyfarchodd well i Owen. A
drwg oedd gan Owen iddo gyfarch gwell
iddo, ond nid oedd Arthur yn malio dim
mwy na chynt. Y Uanc a ddywedodd wrth
Owen, —
*'Ai o'th anfodd di y mae Uanciau yr
ymherawdwr yn niweidio dy frain, ac yn
Uadd eraiU, ac yn bUno eraiU? Os o'th
anfodd y gwnant, atolwg arno eu gwa-
hardd."
BREUDDWYD IIHONABWY. 73
* * Arglwydd, gwahardd dy wỳr, os da
gennyt."
** Chware dy chware," ebe'r ymherawdwr.
Ac yna y dychwelodd y llanc tua'i babell.
Y chware hwnnw a derfynwyd, a dechreu-
wyd un arall. Ac fel yr oeddynt yn dechreu
y symud cyntaf ar _y chware, gwelent
ychydíg oddi wrthynt babell frech-felen, y
fwyaf a welodd neb erioed. A delw o eryr
aur arni, a maen gwerthfawr ymhen yr.eryr.
Ac yn dyfod o'r babell gwelent lanc a gwallt
pybyr-felyn ar ei ben. Teg a Uuniaidd
oedd o goríî. A llen o bali glas oedd am
dano, a gwaell aur cymaint a bys mwyaf
milwr yn y llen ar ei ysgwydd ddeheu, a
dwy hosan am ei draed o ddefnydd teneu, a
dwy esgid o ledr brith a byclau aur arnynt.
Yr oedd y gwas yn fonheddigaidd ei bryd,
gwyneb gwyn gruddgoch iddo, a Uygaid
mawr fel llygaid hebog. Ac yn Uaw y llanc
yr oedd gwaewíîon braff fraith-felen, a'i
blaen newydd ei hogi, ac ar y waewífon yr
oedd baner amlwg. Daeth y Uanc yn llidiog
angerddol, gan gerdded yn gyflym at y lle
yr oedd Arthur ac Owen yn chware gwydd-
bwyll. A deallasant ei fod yn llidiog. A
chyfarch gwell wnaeth i Owen, a dywedyd
wrtho fod ei frain, y rhai mwyaf
Fel y arbennig o honynt, wedi eu lladd,
lladdodd y ac fod y rhai na laddwyd o hon-
gwyry ynt wedi eu niweidio a'u brifo
brain. gymaint fel na ddichon yr un o
honynt ehedeg ddwylath oddi
wrth y ddaear.
*'Arglwydd," ebe Owen, **gwahardd dy
ẁyr."
*' Chware, os mynni," ebe Arthur.
74 EREUDDWYD E-HONAIìWY.
Yna j dywedodd Owen wrth j Uanc, —
**Dos rhagot i'r lle y gwelych y f rwydr
galetaf . Cyfod y faner i fyny ; ac a fynno
Duw, bydded."
Ac yna y cerddodd y llanc rhagddo hyd y
lle yr oedd y frwydr galetaf ar y brain, a
dyrchafodd y faner. Ac fel y dyrchafìd y
faner cyfodai y brain i'r awyr yn Uidiog
angerddol, ac yn falch o gael gwynt dan en
hadenydd, ac o fwrw eu lludded oddi
arnynt. Ac wedi adenniU eu nerth a chael
buddugoliaeth, disgynasant gyda'u gilydd
yn Uidiog a Uawn yni i'r llawr ar ben y
gwỳr wnaethai lid a gond a choUed iddynt
cyn hynny. Pennau rhai a ddygent, Uygaid
eraill, a chlustiau eraill, a breich-
Fe/ y iau eraill, gan eu cario i'r awyr.
blinodd y A chynnwrf mawr f u yn yr awyr
brain gan drwst esgyll a chlegar y brain
/ gwyr. llawen ; a chynnwrf niawr arall
gan ruddf annau y gwýr yn cael
eu brathu a'u hanafu, ac eraill yn cael eu
Uadd.
A rhyfedd fu gan Arthur a chan Owen
uwch ben y gwyddbwyll glyẅed y cynnwrf .
A phan edrychasant, gwelent farchog ar
farch erchlas yn dyfod atynt. Lliw rhyfedd
oedd ar y march,— ei gorff yn erchlas, ei
ysgwydd ddeheu yn burgoch, ac o bennau
ei goesau i ewinedd ei garn yn burfelyn.
Yr oedd y niarchog a'i farch yn gywair o
arfau trymion, estronol. Hulyn y march
o'r agorfa flaen i fyny yn sidan purgoch, ac
o'r agorfa i waered yn sidan purfelyn.
Cleddyf eurddurn mawr, un min, oedd ar
glun y gwas, a gwain newydd bur-las iddo,
a swch ar y wain o bres yr Hispaen.
BREUDDWYD RHONABWY. 75
Gwregys j cleddyf oedd o ledr glas-ddu, ac
ochrau goreuraidd iddo, a gwaell o asgwrn
eliíîant arno, a chlasp purddu ar y waell.
Helm euraidd oedd ar ben y marchog, a
meini mawr, gwerthfawr a gwyrthiol, ynddi.
Ac ar ben yr helm yr oedd delw Uewpard
melynrudd, a dwy faen ruddgochion yn y
pen, fel mai dychrynllyd oedd i fìlwr, er
caderned fai ei galon, edrych yng ngwyneb
j Uewpard, chwaithach yng ngwyneb y
marchog. PiceU goeslas, hirdrwm, oedd yn
ei law, ac o'i dwrn i fyny yn rhuddgoch gan
waed j brain a'u plyf .
Dyfod a wnaeth y marchog tuag at Ue yr
oedd Arthur ac Owen uwch ben y gwydd-
bwyU, a deaU wnaethant ei fod yn Uuddedig,
Uidiog, a bUn yn dyfod atynt. Cyfarch
gweU a wnaeth y gwas i Arthur, a dywedyd
fod brain Owen yn Uadd ei weision bychain
a'i lanciau. Ac edrych a wnaeth Arthur ar
Owen, a dywedyd, —
** Gwahardd dy frain."
**Arglwydd," ebe Owen, ^*chware dy
chware."
A chware a wnaethant, a dychwelyd a
wnaeth y gwas drachefn tua'r frwydr. Ac
ni waharddwyd y brain mwy na chynt.
A phan yr oeddynt wedi chware dalm o
amser, clywent gynnwrf mawr, wylofain
gwỳr, a chlegar brain yn dwyn y gwỳr yn
eu nerth i'r awyr, ac yn eu hysglyfaethu
rhyngddynt, ac yn eu goUwng yn ddryUiau
i'r Uawr. Ac oddi wrth y cynnwrf gwelent
farchog yn dyfod ar farch canwelw, a choes
flaen aswy y march yn burddu hyd ganol y
carn. Yr oedd y marchog a'i farch yn
gy wair o arfau trymion a gleision. Hulyn
76 liREUDDWYD HHONABWY.
o bali caerog melyn oedd ain dano, a god-
reuon yr hulyn yn las. Hulyn ei farcli yn
burddu, a'i odreuon yn burfelyn. Ar glun
y gwas yr oedd cleddyf hirdrwm, tri miniog,
a'i waen o ledr coch disglaer, a gwregys
newydd o groen carw coch ag ymylon aur
aml iddo, a gwaell o asgwrn morfìl iddo, a
chlasp purddu arno. Helm euraidd oedd
am ben y marchog, a meini saífir rhinweddol
ynddi. Ac ar ben yr helm yr oedd delw
llew melyngoch, a'i dafod droedfeddi allan
o'i ben, a Uygaid rhuddgochion gwenwynig
yn ei ben. Daeth y gwas a gwaew onnen
fawr yn ei law, a gwaed newydd ei roddi ar
ei phen, orchuddid âg arian, a chyfarch
gwell a wnaeth i'r ymherawdwr.
'' Arglwydd," ebe ef, **a'i di-
Fel y daro gennyt ladd dy weision a
lladdodd llanciau bychain, a meibion gwỳr
y braìn y da Ynys Prydain, fel na bydd
gwyr. hawdd cynnal yr ynys hon byth
o heddyw allan?"
^'Owen,'' ebe Arthur, *'gwahardd dy
frain."
*' Chware, arglwydd," ebe Owen, ** y
chware hwn."
Darfod wnaeth y chware hwnnw, a dech-
reu un arall a wnaethant. A j^han oeddynt
ar ddiwedd y chware hwnnw, wele, clywsent
gynnwrf mawr, — dolefain gwỳr arfog a
chlegar brain a swn eu hadenydd yn yr
awyr. A goUyngai'r brain yr arfau yn
gyfain i'r llawr, yna y gwỳr a'r meirch yn
ddrylliau. Ac yna gwelent farchog ar farch
0 liw du a gwyn. Yr oedd pen y goes aswy
i'r march yn burgoch, a'i goes ddeheu o'i
fynwes hyd y cam yn burwyn. Yr oedd y
BUEUDDWYD RHONABWY. 77
marchog a'i farcli yii arfog o arfaii brith-
felynion wedi eu britho â phres yr Hispaen.
A hulyn ani dano ef ac am ei farch dau
hanner gwyn a phurddu, a godreuon yr
hulyn oedd o borífor euraidd. Ac ar yr
hulyn yr oedd cleddyf eurddwrn gloew, tri
miniog. Gwregys y cleddyf oedd o eurlliw
melyn, a gwaell arno o amrant mor-farch
purddu, a chlasp o aur melyn ar y waell.
Hehn loew oedd am ben y marchog o bres
melyn, a meini grisial gloew ynddi, ac ar
ben yr helm yr oedd Uun aderyn y griíît, a
maen rhinweddol yn ei ben. Picell onnen
goesgron oedd yn ei law, wedi ei lliwio âg
asur glas, a gwaed newydd ei roddi ar ei
ehoes orchuddid a gwaith arian cywrain.
Dyfod a wnaeth y marchog yn
Fel y bu llidiog hyd y Ue yr oedd Arthur,
tangnef. a dywedyd darfod i'r brain ladd
ei deulu a meibion gwỳr da yr
ynys hon, gan erchi iddo beri i Owen
wahardd ei frain. Yna yr archodd Arthur i
Owen wahardd ei frain.
Ac yna y gwasgodd Arthur y werin aur
oédd ar y clawr nes oeddynt oll yn llwch.
Ac archodd Owen Wres fab Rheged ostwng
ei faner. Ac yna y gostyngwyd hi, a thang-
nefeddwyd pob peth.
Yna y gofynnodd Rhonabwy i Iddog pwy
oedd y tri gŵr cyntaf ddaeth at Owen 1
ddywedyd wrtho eu bod yn Uadd ei frain.
Ac yna y dywedodd Iddog, —
"Gwŷr oedd ddrwg ganddynt ddyfod
coUed i Owen, ei gydbenaethiaid a'i gyfeill-
ion, — Selyf fab Cynan Garwyn o Bowys, a
Gwgawn Gleddyf rudd, a Gwres fab Rheged,
y gẁr garia'r faner yn nydd cad ac ymladd.'*
78 BUEUDDWYD RHONABWY.
*' Pwy/' ebe Rhonabwy, ** oedd y tri gŵr
diweddaf ddaeth at Arthur i ddweyd iddo
fod y brain yn lladd ei wỳr ? '*
" Y gwỳr goreu," ebe Iddog, *'a dewraf,
a garwaf ganddynt golledu Arthur o ddim,
Blathaon fab Mwrheth, a Rhuawn Pebyr
fab Deorthach Wledig, a Hyfeidd ITnllen."
Ac ar hynny, wele bedwar marchog ar
hugain yn dyfod oddi wrth Ossa Gyllell-
fawr, i ofyn heddwch i Arthur am bythefnos
a mis. A'r hyn a wnaeth Arthur oedd
cyfodi a myned i gymeryd cyng-
Fe/ y or, a ädaeth tua'r Ue yr oedd gẁr
galwodd pengrych gwineu mawr ychydig
Arthurei oddi wrtho. Ac yno dygwyd ei
gyngor. gynghorwyr ato, — Bedwin Es-
gob, a Gwarthegyd fab Caw,
March fab Meirchawn, a Charadog Freich-
fras, a Gwalchmai fab Gwyar, ac Edyrn fab
Nudd, a Rhuawn Pebyr fab Deorthach
Wledig, a Rhiogan fab brenin Iwerddon, a
Gwen Wynwyn fab Naf , Howel fab Emyr
Llydaw, Gwilym fab Ehwyf Ffrainc, a
Daned fab Oth, a Goreu Custennin, a Mabon
fab Modron, a Pheredur Baladyr Hir, a
Hyfeidd Unllen, a Thwrch fab Perif, a
Nerth fab Cadarn, a Gobrwy fab Ethel
Forddwyd TwU, a Gweir fab Gwestel, ac
Adwy fab Gwereint, a Thrystan fab Tall-
wch, Morien Manawg, Granwen fab Llyr,
a Llachen f ab Arthur, a Llawf rodedd Farf og,
a Chadwr larll Cernyw, Morfran fab Tegid,
a Rhyawd fab Morgant, a Dyfyr fab Alun
Dyfed, Gwrhyr Gwalstawd leithoedd, Adaon
fab Tahesin, Llary fab Casnar Wledig, a
Fflewddur Fíìam, a Greiddawl Galldofydd,
Gübert fab Cadgyíîro, Menw fab Teir-
BREUDDWYD RHONABWY. 79
gwaedd, Gwrthmwl Wledig, Cawrdaf fab
Caradawg Feichfras, Gildas fab Caw, Cadyr-
iaith fab Saidi, a llawer o wỳr Norway a
Deiimarc, a llawer o wŷr Groeg gyda liwy,
a digou o lu a ddaeth i'r cyngor hwunw.
**Iddog," ebe Rhonabwj, " pwy oedd j
gwas gwineu a ddaeth ato gynneu ? ' '
*'Rhun fab Maelgwn Gwynedd, gẁr ag
y mae yii fraint i bawb ymgynghori âg ef."
'* Am ba achos y daeth gẁr cyn ieuenged
a Chadyrieith fab Saidi i gyngor gwỳr cyf-
urdd a'r rhai acw ? "
*' Wrth nad oedd ym Mhrydain ẁr doeth-
ach ei gyngor nag ef."
Ac ar hynny, wele feirdd yn dod i ddat-
gan cerdd i Arthur, ac nid oedd dyn a ad-
nabai y gerdd honno ond Cadyrieith ei hun,
ond ei bod yn gerdd o foliant i Arthur.
Ac ar hynny, wele bedair asen
Fel y ar hugain ddygai bynnau o aur ac
talwyd arian yn dyfod, a gŵr lluddedig
teymged ì a blin gyda phob un o honynt yn
Arthur. dwyn teyrnged i Arthur o Ynys-
oedd Groeg. Yna yr archodd
Cadyrieith fab Saidi wneyd heddwch âg
Ossa Gyllellfawr hyd ymhen pythefnos a
mis, a rhoddi yr asynod a'r hyn oedd arnynt
yn deyrnged i'r beirdd yn lle gwobr ymaros,
ac ar derfyn yr heddwch talu iddynt am eu
canu. Ac ar hynny y cytunwyd.
" Rhonabwy," ebe Iddog, " onid cam fai
gwarafun gwas ieuanc a roddai gyngor c}-!!
ddoethed a hwn, fynd i gyngor ei ar-
glwydd?"
Ac yna y cyfododd Cai, ac y dywedodd, —
" Pwy bymiag a fynno ganlyn Arthur,
bydded heno yng Nghernyw gydag ef . A'r
80 BREUDDWYD RHONABWY.
hyii ni fynno, bydded yn erbyn Arthur hyd
ddiwedd yr heddwch."
A chan f aint y cynnwrf hwnnw
Fel y deffro a wnaeth Rhonabwy. A
deffrodd phan ddeffrodd yr oedd ar groen
Rhonabwy. y dyniawed melyn, wedi cysgu o
hono dair nos a thri dydd.
A'r ystori hon a elwir ** Breuddwyd
Rhonabwy." A llyma y rheswm na wỳr
neb ei freuddwyd, na bardd na dewin, heb
lyfr, — o achos cynifer lliw a oedd ar y
meirch, a hynny o amryw liw odidog ar yr
arfau, ac ar y gwisgoedd, ac ar y llenni
gwerthfawr a'r meini rhinweddol.
LLUDD A LLEFELYS.
1'R Beli Mawr lab Manogan y bu tri mab,
— Lludd a Chaswallon, a Nynyaw; ac
yn ol traddodiad, pedwerydd mab oedd
iddo, — un Llefelys. Ac wedi marw Beli, a
syrtüio teyrnas Ynys Prydain i law Lludd,
ei fab, yr hynaf , a Uywio ei golud
Fel yr lii yn Uwyddiannus, adnewydd-
adnewydd- odd Lludd furiau Llundain, ac
odd Lludd a'i hamgylchodd â thyrau dirif-
furiau edi. Ac wedi hyimy, gorchym-
Llundain. ynnodd i'r dinaswyr adeiladu tai
ynddi, fel na bai yn y teyrnas-
oedd dai cyfurdd ag a fai ynddi hi. Ac
ynghyd â hynny, ymladdwr da oedd, a hael
a helaeth y rhoddai fwyd a diod i'r neb a'u
ceisiai. Ac er fod llawer o gaerau a dinas-
oedd iddo, hon a garai yn fwy na'r un ; ac
yn honno y preswyliai y rhan fwyaf o'r
flwyddyn. Ac wrth hynny y gelwid hi
Caerludd, ac o'r diwedd Caer Llundain. Ac
wedi dyfod estron genedl iddi y gelwid hi
Llundain,^iieu ynte Lwndrys.
Mwyaf ^ frodyr y carai Lludd Lefelys,
canys gŵr call a doeth oedd. Ac wedi
clywed marw brenin Ffrainc heb adael
etifedd iddo ond un ferch, a gadael ei
gyfoeth yn llaw honno, daeth at Ludd ei
frawd i ofyn cyngor a chymorth ganddo, —
F 81
82 LLUDD A LLEFELYS.
ac nid yii fwyaf er lles iddo ef ei hun, ond
er ceisio ychwanegu anrhydedd, ac urddas,
a theilyngdod i'w genedl, — a allai fyned i
deyrnas Ffrainc i ofyn y ferch honno yn
wraig iddo. Ac yn y lle, ei frawd a gyd-
syniodd âg ef , a bu da ganddo ei gyngor ar
hynny.
Ac yn y lle paratoi Uongau a'u llanw o
farchogion arf og, a chychwyn parth â Ffrainc
a wnaethant. Ac wedi disgyn o'r llongau,
anfon cenhadau a wnaethant i fynegi i wŷr
da Ffi'ainc ystyr y neges y daeth i'w cheisio.
Ac o gyd-gyngor, rhoddodd gwŷr da Ffraínc
a'i thywysogion y ferch i Lefelys, a choron
y deyrnas gyda hi, Ac wedi hynny Uyw-
iodd Llefelys ei gyfoeth yn gaU a doeth, ac
yn ddedwydd hyd tra parhaodd ei oes.
Ac wedi Uithro talm o amser, tair gormes
a ddigwyddodd yn Ynys Prydain
Fel y bu na welodd neb o'r ynysoedd gynt
tair eu cyfryw. Cyntaf o honynt
gormes. oedd rhyw genedl a ddaeth a
elwid y Coraniaid, a chymaint
oedd eu gwybod fel nad oedd ymadrodd
droö wyneb yr ynys — er ised y dywedid ef —
os cyffyrddai'r gwynt âg ef, nas gwyddent.
Ac wrth hynny ni eUid gwneyd drwg iddynt.
Yr ail ormes oedd,— gwaedd a ddodid bob
nos Calan Mai uwch pob aelwyd yn Ynys
Prydain. A honno a äi trwy galonnau y
dynion, ac a'u dychrynnai yn gymaint fel y
coUai y gwŷr eu Uiw a'u nerth. A'r meibion
a'r merched a goUent eu synhwyrau. A'r
hoU anifeüiaid, a'r coed, a'r ddaear, a'r
dyfroedd a wneid yn ddiffrwyth.
Trydydd ormes oedd, — pa faint bynnag o
/^
LLUDD A LLEFELYS. 83
wledd ac arlwy a baratoid yn Uysoedd j
brenin, er fod yno arlwj blwyddyn o fwjd
a diod, ni cheid byth ddini o hono ond a
dreulid yr un nos gyntaf .
öwyddid ystyr yr ormes gjrntaf , ond nid
oedd neb a wyddai pa ystyr oedd i'r ddwy
ormes eraill. Ac wrth hynny, mwy gobaith
oedd caei gwared o'r gyntaf nag oedd o'r ail
neu o'r drydedd.
O herwydd hynny, Lludd frenin a ^j^
merth bryder mawr a gof al am na
Fe\ y wyddai pa íTordd y caíîai ym-
gofynnodd wared rhag y gormesoedd hynny.
Lludd A galw ato a wnaeth hoU wỳr da
gyngor ei gyfoeth, a gofyn cyngor iddynt
Lìefe/ys. pa beth a wnelent yn erbyn y
gormesoedd hynny. Ac yn ol
cyngor ei wỳr da aeth Lludd fab Beli at
Lefelys ei frawd, frenin Ffrainc, i geisio
cyngor ganddo. Canys gẁr mawr ei gyngor
a doeth oedd hwnnw.
Ac yna paratoi Uynges a wnaethant, a
hynny yn ddirgel ac yn ddistaw, rhag
gwybod o'r genedl honno ystyr y neges, na
neb arall oddi eithr y brenin a'i gynghor-
wyr. Ac wedi i'r Uongau fod yn barod hwy
a aethant ynddynt, — Lludd a'i gyfeillion
gydag ef. A dechreu rhwygo y moroedd
parth â Ffrainc a wnaethant.
A phan ddaeth y chwedlau hynny at
Lefelys, — canys ni wyddai achos llynges ei
frawd, daeth yntau o'r parth arall jsi ei
erbyn ef â llynges ganddo, ddirfawr ei maint.
Ac wedi gweled o Ludd hynny, efe a adaw-
odd ei hoU longau allan ar y weilgi, oddi
eithr un long ; ac yn yr un honno yr aeth i
gyfarfod ei frawd. Ac wedi eu dyfod at eu
84 LLUDD A LLEFELYS.
giljdd, rhoddasant eu dwylaw am yddfau y
naill y naill, ac o frawdol gariad pob un o
honynt a groesawodd eu gilydd.
Ac wedi mynegi o Ludd i'w frawd ystyr
ei neges, Llefelys a ddywedodd y
Fel y gwyddai ef ei liun ystyr dyf odiad
cynghor- y gormesau i'r gwledydd hynny.
wyd drwy Yna cymerasant gyd-gyngor i
/ corn ymddiddan am eu negeseu yn
efydd. wahanol i hynny,— megys nad
elai y gwynt a'u hymadroddion
rhag gwybod o'r Coraniaid a ddywedent.
Ac yna y parodd Llefelys wneathur corn
hir o efydd, a siarad trwy y corn hwiinw.
A pha ymadrodd bynnag a ddywedai yr un
o honynt wrth eu gilydd trwy y corn, ui
chlywai yr un o honynt ond ymadrodd go
atcas croes. A.c wedi gweled o Lefelys
hynny, a bod y cythrael yn eu llesteirio, ac
yn terfysgu drwy y corn, perodd yntau
ddodi gwin yn y corn a'i olchi, a thrwy
rinwedd y gwdn gyrru'r cythrael o'r corn. ■"
Ac wedi bod eu hymadrodd yn ddilestair
y dywedodd Llef elys wrth ei f rawd y rhoddai
iddo ryw bryfád, a'i fod i gadw rhai o
honynt yn fyw i hilio, — rhag ofn
fe/yroedd i'r ormes honno ddod o ddam-
difa y wain eilwaith — a chymeryd eraill
Coraniaid. a'u briwio mewn dwfr. A chad-
arnhai Llefelys fod hynny'n dda
i ddistrywio cenedl y Coraniaid. Nid amgen,
pan elai adref i'w deyrnas, iddo gasglu yr
holl bobl i gyd, — ei genedl ef a chenedl y
Coraniaid,— i'r un cyfarfod, dan yr esgus o
wneyd heddwch rhyngddynt. A phan fai
pawb o honynt ynghyd, iddo gymeryd y
dwfr rhinweddol hwnnw a'i fwrw ar bawb
LLUDD A LLEFELYS. 85
yii gyffredin, A chadarnhai Llefelys j
gwenwynai y dwfr hwnnw genedl y Coran-
iaid, ac na laddai ac na niweidiai neb o'i
genedl ei hnn,
*'Yr ail ormes," ebe Llefelys, '^sydd yn
dy gyfoeth di — draig yw honno. A draig o
estron genedl arall sydd yn ymladd â hi, ac
yn ceisio ei gorchfygu. Ac wrth hynny y
dyd eich draig chwi waedd angerddol. Ac
fel hyn y galli gael gwybod hynny, — pan eli
adref, par fesur yr ynys o'i hyd a'i Ued, ac
yn y lle y cei di y pwynt perfedd, par dorri
twll yn y Ue hwnnw. Ac yn y twll hwnnw
par ddodi cerwynied o'r medd
Feí yr goreu a aller ei wneuthur, a llen
oedddifay o bali ar wyneb y cerwyn. Ac
waedd a 'r yno bydd dy hun yn gwylio, a
ddraig. thi a weli y dreigiau yn ymladd
yn rhith anifeiliaid aruthr. Ac
o'r diwedd byddant yn rhith dreigiau yn yr
awyr, Ac yn ddiweddaf oU, wedi iddynt
flino'n ymladd yn angerddol ac enbyd, hwy
a syrthiant yn rhith dau barchell ar y Uen,
ac a suddant yn y llen gan ei thynnu hyd i
waelod y cerwyn. Ac yfant y medd i gyd,
ac wedi hynny cysgant. Ac yna, ar unwaith,
plyga dithàu y llen am danynt ; ac yn y Ue
cadarnaf a gefû yn dy gyfoeth cladd hwy
mewn cist faen, a chudd yn y ddaear. A
hyd tra bont hwy yn y Ue cadarn hwnnw,
ni ddaw gormes i Ynys Prydain o le araU."
** Achos y trydydd ormes yw,"
Fe/ y delid ébe Llefelys, '*gẁr Uedrithiog
y lieidr. cadarn sydd yn dwyn dy fwyd,
a'th ddiod, a'th wledd. Trwm
yw ei hud, a'i ledrith a bâr i bawb gysgu.
Ac am hynny y mae yn rhaid i tithau dy hun
86 LLUDD A LLEFELY8.
wjlio dy wleddoecld a'th aiiwyau. A rhag
gorfod o'i gysgii ef arnat, boed cerwyníed o
ddwfr oer ger dy law ; a phan f o cysgu yn
treisio arnat, dos i fewn i'r cerwyn."
Ac yna dychwelodd Lhidd drachefn i'w
wlad. Ac yn ebrwydd y cynuU-
Fel y odd ato bawb yn llwyr o'i genedl
lladdwyd y ef ac o'r Coraniaid. Ac megys y
Coranìaid. dysgodd Llefelys iddo, briwio y
pryfed a wnaeth yn y dwfr, a
bwrw hwnnw yn gyfîredin ar bawb. Ac yn
ebrwydd y difethwyd felly hoU wỳr y Coran-
iaid heb niweidio neb o'r Brytaniaid.
Ac ymhen ysbaid wedi hynny Lludd a
barodd fesur yr Ynys ar ci hyd ac ar ei Ued.
Ac yn Ehydychen y cafwyd y pwynt perf edd.
Ac yn y lle hwnnw y parodd dorri
Fel y twll yn y ddaear, a gosod yn y
cariodd twll hwnnw gerwyn yn llawn o'r
L ludd y medd goreu a allwyd ei wneuthur,
ddraig o a Uen o bali ar ei wyneb. A
fíydychen i Lludd ei hun a'i gwyliodd y nos
Eryri. honno, Ac fel yr oedd felly, efe
a welai y dreigiau yn ymladd.
Ac wedi blino o honynt, a diffygio, hwy a
syrthiasant ar warthaf y llen nes ei thynnu
ganddynt i waelod y cerwyn. Ac wedi
iddynt yfed y medd, cysga a wnaethant.
Ac yn eu cwsg, Lludd a blygodd y llen am
danynt, ac a'u dygodd i'r lle diogelaf a
gafodd yn Eryrì mewn cist faen. A galwyd
y Ue hwnnw wedi hynny, — Dinas Emrys.
Cyn hynny Dinas Ffaraon Dande oedd ei
enw.
Ac f elly y peidiodd y waedd ofnadwy oedd
yn ei gyfoeth.
LLUDD A LLEFELY8. 87
A.C wedi darfod hymij, Lludd Frenin a
barodd arlwy gwledd ddirf awr ei maint. Ac
wedi ei bod jn barod, gosododd gerwyn yn
llawn o ddwfr oer ger ei law. Ac efe ei hun
a'i gwyliodd. Ac fel yr oedd
Fel y felly yn wisgedig o arfau, oddeu-
gwylìaì tu'r drydedd wylfa o'r nos, wele,
Lludd y clywai lawer o ddiddanau godid-
lleidr. og, ac amryw gerddau, a hûn yn
ei gy mell yntau i gysgu. Ac ar
hynny, beth wnaeth Lludd rhag ei rwystro
ar ei amcan, a rhag i hûn ei orthrymu, ond
mynd yn fynych i'r dwfr. Ac yn y diwedd,
wele ẁr dirfawr ei faint, yn wisgiedig o
arfau trymion cadarn, yn dyfod i fewn, a
chawell ganddo, ac megis yr arferai, rhodd-
odd yr hoU ddanteithion a'r arlwy o fwyd a
diod yn ei gawelL Ac yna cychwynnodd âg
ef ymaith, Ac nid oedd dim rhyfeddach
gan Ludd nac f od ei gawell yn cario cymaint
a hynny. Ac ar hynny Lludd Frenin a
gychwynnodd ar ei ol, ac a ddywedodd
wrtho fel hyn, —
"Aros, aros," ebe ef, " er i ti wneyd
llawer o goUedion a sarhad cyn hyn, ni wnei
ychwaneg oni f arn dy fìlwriaeth
Fel yr dy f od yn drech ac yn ddewrach
ymladdodd na mi."
Lludd. Ac yn ebrwydd yntau a ddodes
y cawell ar y llawr, ac arhosodd i
Ludd ddod ato. Ac angerddol ymladd a fu
rhyngddynt onid oedd tân Uachar yn ehedeg
o'u harfau. Ac o'r diwedd, ymafael a
wnaeth Lludd ynddo, a'r dynged-faen a
roddodd y fuddugoliaeth i Ludd, gan fwrw
yr ormes rhyngddo a'r ddaear. Ac wedi
gorfod arno o rym ac angerdd, gofyn nawdd
Lludd a wnaeth.
88 LLUDD A LLEFELYS.
'*Pa wedd," ebe y brenin, **y gallaf fì
roddi nawdd i ti wedi yr holl golledion a'r
sarhad a wnaethost di i mi ? "
" Dy holl golledion erioed," ebe yntau,
í* a wnaethum i ti, mi a'u henillaf it gystal
ag y dygais hwy. Ac ni wnaf y cyffelyb o
hyn allan, a gŵr ffyddlawn fyddaf i ti
bellach."
A'r brenin a gymerth hynny ganddo.
Ac f ell}^ y gwaredodd Lludd y tair gormes
oddi ar Ynys Prydain. Ac o hynny hyd
ddiwedd ei oes mewn heddwch llwyddiannus
y llywiodd Lludd fab Beli Ynys Prydain.
A'r chwedl hon a elwir Cyfranc Lludd a
Llefelys. Ac felly y terfyna.
HANES TALIESIN.
QWR boiiheddig oedd gynt ym Mhenllyn
elwid Tegid Foel, a'i drefdadaeth oedd
yng nghanol Llyn Tegid. A'i briod wraig
a elwid Ceridwen. Ac o'r wraig honno j
ganed mab a elwid Morfran ab Tegid, a
merch a elwid Greirfjw,— a thecaf merch yn
y byd oedd honno. A brawd
Fe/ y iddynt hwy oedd y dyn hagraf
ceisiodd yn y byd, — Afagddu. Am hynny
Ceridwen Ceridwen ei f am a f eddyliodd nad
wneyd oedd ef debyg i gael ei gynnwys
A fagddu ymhlith bonheddigion am ei f od
yn ddoeth. mor hagr, oni feddai ryw gampau
neu wybodau urddasol. Canys
yn nechreuad Arthur a'r ford gron yr oedd
hynny.
Ac yna yr ordeiniodd hi trwy gelfyddyd
Uyfrau íîeryllydd i ferwi pair o Awen a
Gwybodau i'w mhab, fel y byddai urddasach
ei gymeriad am ei wybodau am y byd na
neb.
Ac yna j dechreuodd hi ferwi y pair, yr
hwn wedi y dechreuid ei ferwi ni eUid torri
y berw hyd dan ben un dydd a blwyddyn,
ac oni cheffid tri def nyn bendigedig o rad yr
ysbryd. A Gwion Bach, mab Gwreang o
Lanfair yng Nghaer Einion ym Mhowys, a
roes hi i amodi y pair, a dall a elwid Morda
i gynneu y tân dan y pair. A gorchymyn
89
90 HANES TALIESIN.
roddodd na adawai i'r berw dorri hyd pan
ddelai imdydd a blwyddyn.
Fel y ber- A hithau, Ceridwen, drwy lyfr-
wyd y paìr. au astronomyddion ac wrth oriau
y planedau, oedd yn llysieua
beunydd o bob amryfael lysiau rhinweddol.
Ac f el yr oedd Ceridwen un dydd yn llysieua
yn agos i ben blwj^ddyn, y damweiniodd
neidio a syrthio o dri defnyn o'r dẁr rhin-
weddol o'r pair ar fys Gwion Bach. (ian
fod ei fys mor boeth, tarawodd ef ynei ben,
a chan gynted ac y tarawodd y defnynnau
gwerthfawr hynny yn ei ben, gwyddai bob
peth a ddigwyddai. Ac efe a adnabu yn
union mai mwyaf gofal iddo ef oedd dial
Ceridwen, — canys mawr oedd ei gwybodau.
A rhag dirfawr ofn, efe a íîodd
Fel y tua'i wlad. A'r pair a dorrodd
torrodd y yn ddau hanner, fel y gwenwyn-
pair. wyd meirch Gwyddno Garanhir
am iddynt yfed y dŵr o'r aber y
rhedodd y dẁr o'r pair iddi,— oherwydd y
dẁr i gyd oedd wenwynig oddi eithr y tri
defnyn rhinweddol. Ac am hynny y gelwir
yr aber o hynny allan Gwenwyn feirch
Gwyddno.
Ac ar hynny daeth Ceridwen i fewn, ac
wrth weled ei llafur er ys blwyddyn yn
goUedig, tarawodd y dall Morda ar ei ben
oni aeth un o'i lygaid ar ei rudd. Sef y
dywed ynte, —
**Drwg i'm hanfíurfìaist, a minnau'n
ddiniwaid ; ni buost golledig o'm hachos i."
**Gwir a ddywedaÌLt," ebe Ceridwen,
** Gwion Bach a'm hysbeiliodd i."
A chyrchu ar ei ol dan redeg a wnaeth.
A'i chanfod hithau a wnaeth Gwion Bach,
o
•4-3
HANES TALIESIN. 91
ac a ymrithiodd yn rhith ysgyfarnog a
rhedodd. Ehithiodd Ceridwen yn
Fel y fìlast, ac ymlidiodd ef tuag afon.
cèìsiodd Yna Gwion Bach a ymrithiodd
Gwion Bach yn bysgodyn, a hithau a ym-
ddianc rhag rithiodd yn ddyfrast, ac a'i ceis-
Geridwen. iodd ef dan y dwfr, oni fu raid
iddo ymrithio'n aderyn i'r wybr.
Hithau a rithìodd yn walch i'w ymlid, ac ni
adawodd iddo lonydd yn y wybr ; a phan
oedd yn ei ddal — ac yntau âg ofn angau
arno, efe a ganf u dwr o wenith nithiedig ar
lawr ysgubor, a disgynnodd i'r gwenith, ac
a ymrithiodd yn rhith un o'r grawn. Ac
yna ymrithiodd Ceridwen yn iar ddu gopog,
ac i'r gwenith yr aeth, ac â'i thraed ei grafu
a'i adnabod ef, a'i lyncu.
Ac fel y dywed yr ystori, ymhen y naw
mis ganwyd mab iddi, ac ni allai
Llesfr 0 ei ladd gan mor deg oedd. Ond
groen. rhoddodd ef mewn llestr croen,
ac a'i bwriodd i'r môr y nawfed
ar hugain o Ebrill.
Ac yn yr amser hwnnw yr oedd cored
Gwyddno yn y traeth rhwng Dyfì ac Aber-
ystwyth, gerllaw ei gastell ei hun. Ac yn y
rhwyd honno y ceid cywerth can punt bob
nos Galanmai.
Ac yn yr amser hwnnw yr oedd un mab i
Wyddno a elwid Elphin, un o'r rhai mwyaf
diwaith o'r ieuenctid, a mwyaf o eisiau arno.
Ac fel yr oedd felly, tybiai ei dad ei eni ar
awr ddrwg. Ac am iddo ofyn yn daer,
rhoddodd ei dad iddo dyniad y rhwyd y
flwyddyn honno, i edrych a ddamweiniai
iddo ras byth, ac i ddechreu gwaith iddo.
A thrannoeth edrychodd Elphin, ond nid
92 HANES TALIESIN.
oedd dim ynddi; ond wrth fynd i ffordd
canfu j llestr croen ar bolyn y
Fe/ y rhwyd. Yna y dywedodd un o'r
cafwyd mab rhwydwyr wrth Elphin, —
yn y rhwyd. **Ni buost ti anhapus erioed
hyd heno. canys ti a dorraist
arferiad y rhwyd yn yr hon y ceid ynddi
werth can punt bob nos Galanmai, ac nid
oedd heno namyn y croenyn hwn."
*' Beth yn awr," ebe Elphin, *' feallai fod
yma gyf werth can punt o dda ? ' '
Datod y croen a wnaethpwyd, a chanfod
o'r agorwr dalcen mab, ac a ddywedodd
wrth Elphin, —
' ' Llyma dal iesin ! ' '
**Taliesin boed ef," eb yr Elphin, a
dyrchafodd y mab rhwng ei ddwylo, gan
gwyno anhap iddo, ac a'i cymerodd yn
brudd, a gwnaeth i'w farch, oedd o'r blaen
yn tuthio, gerdded yn araf, ac arweiniai ef
mor esmwyth a phetai yn eistedd mewn
cadair esmwythaf yn y byd.
Ac yn f uan ar ol hynny y gwnaeth y mab
Taliesin gdiW o foliant i Elphin, a phroffwyd-
odd uiddas iddo.
Daeth Elphin â Thaliesin ganddo i lys
Gwyddno ei dad. A gofyimodd Gwyddno
iddo, —
" Ai da y cafíaeliad yn y rhwy d ? ' '
Yntau a ddywedodd wrtho gaffael peth
oedd well na physgod.
" Beth oedd? " ebe Gwyddno.
"Bardd," ebe yntau, Elphin.
Yna y dywedodd Gwyddno, —
*' Och druan ! Beth a dâl hwnnw i ti ? "
Yna yr atebodd Taliesin ei hunan, ac
ddywedodd, —
HANES TALIESIN. 93
*' Ef a dâl hwn iddo ef fwy nag a dalodd
y rhwyd erioed i ti."
Yna y gofynnodd Gwyddno iddo, —
'* A fedri di ddywedyd, a chyn
Fel y fychaned ag wyt ? ''
magwyd Yna yr atebodd yntau, Taliesin,
Taliesin. ac a ddywedodd, —
' ' Medraf fì ddy wedyd mwy nag
a fedri di ofyn i mi."
Yn y man rhoddodd Elphin ei gaíîaeliad
i'w wraig briod, yr hon a'i magodd ef yn gu
ac yn anwyl. Ac o hynny allan yr anil-
haodd golud Elphin well well bob dydd ar
ol eu gilydd, ac o gariad a chymeriad gyda'r
brenin.
Ac yno y bu Taliesin onid oedd jn dair
ar ddeg oed. Yna yr aeth Elphin ab
Gwyddno ar wadd Nadolig at Faelgwn
Gwynedd ei ewytth^Tyr hwn, ymhen ychydig
amser wedi hyn, oedd yn cynnal llys agored
o fewn Castell Deganwy ar amser Nadolig.
A'i hoU amlder arglwyddi o bob
Fel y bu un o'r ddwy radd — ysbrydol a
gwledd yn bydol, — oedd yno, gyda Uiaws
Neganwy. mawr o farchogion ac ysweiniaid,
ymhlith y rhai y cyfodai ym-
ddiddan trwy ymofyn a dywedyd fel hyn, —
''A oes yn yr holl fyd frenin mor gyf-
oethog a Maelgwn— wedi i'r Tad o'r nef
roddi cymaint o eiddo iddo ag a roddodd
Duw iddo o roddion ysbrydol ? Yn gyntaf ,
— pryd a gwedd, ac addfwynder a nerth,
heblaw cwbl o alluoedd yr enaid." A chyda
y rhoddion hyn, hwy a ddywedent fod y
Tad wedi rhoddi iddo ef un rhodd ragorol, —
yr hon, yn wir, a basiai y rhoddion eraill i
gyd, yr hyn sydd iV draethu ym mryd a
gwedd ac ymddygiad a doethineb a di-
94 HANES TALIESIN.
weirdeb ei frenhines. Yn j rhinweddau yr
oedd hi yn rhagori ar holl arglwyddesau a
merched bonheddigion yr hoU ynys. Pwy
ddewrach ei wỳr? Pwy decach a buanach
ei feirch a'i fìlgwn ? Pwy gyfarwyddach a
doethach ei feirdd na Maelgwn? Y rhain
yn yr amser yna a gymerid mewn cymeriad
mawr ymhlith ardderchogion y deyrnas. Ac
yn yr amser yna ni wneid neb o swydd y
rhai heddyw elwir herald onid
Fe/ yr gwỳr dysgedig, — nid yn unig
urcìcHd mewn gwasanaeth brenhinoedd a
beirdd. thywysogion, ond yn hyddysg
am arfau a gweithredoedd bren-
hinoedd a thywysogion o hynafìaid y deyrnas
hon yn ogystal a theyrnasoeedd dieithr, —
yn enwedig hanes y tywysogion pennaf.
Hefyd yr oedd yn rhaid i bawb o honynt
fod yn barod eu hatebiad mewn amryw
ieithoedd,— Lladin, Ffrancaeg, Cymraeg,
Saesneg. A chyda hyn yn ystoriawr mawr,
ac yn gofìadur da, ac yn gelfydd mewn
prydyddiaeth i fod yn barod i wneuthur
englynion mydr ymhob un o'r ieithoedd
hynny. Ac o'r rhai hyn yr oedd yn yr wyl
hon yn Llys Maelgwn gymaint a phedwar
ar hugain, ac yn bennaf ar y rhain yr hwn a
enwid Heinin Fardd. Felly, wedi darfod o
bawb foliannu'r brenin a'i ddoniau, fe a
ddigwyddodd i Elphin ddywedyd fel hyn, —
* ' Yn wir, nid oes neb yn abl i gystadlu â
brenin ond brenin. Eithr yn wir oni bai ei
fod ef yn frenin, myfì a ddywedwn fod i mi
un bardd sydd gyfarwyddach na hoU feirdd
y brenin."
Dig iawn oedd y beirdd eraiU wrth Elphin.
A gorchymynnodd y brenin roddi Elphin
mewn carchar cadarn, oni ddaríîai iddo
lÎANES TALIESIN. 95
gaíîael gwir wjbodaeth am ei fardd ef.
Yna liioddwyd Elphin mewn
Fel y tẁr o'r castell a gefyn mawr am
carcharwyd ei draed, a dywedir mai gefyn
E/phin. arian oedd, am ei fod o waed
brenhinol.
Dywedodd Taliesin wrth ei feistres ei fod
yii myned i ryddhau Elphin. Ac aeth tua
Llys Maelgwn. A phan ddaeth i'r neuadd
canfu le disathr gerllaw y man y deuai y
beirdd a'r gler 1 fewn i wneuthur eu gwas-
anaeth a'u dyled i'r brenin. Ac felly yr
amser a ddaeth i'r beirdd ddyfod i ganu
clod a gallu y brenin a'i nerth, a daethant
heibio y man yr oedd Taliesin yn crwcian
mewn cornel, yr hwn a estynnodd ei weíì ar
eu hol hwynt, gan chwareu blerwm blerwm
â'i fys ar ei wefl. Ond ni ddaliasant hwy
fawr sylw arno, ond cerdded yn eu blaen
hyd nes y daethant gerbron y brenin, i'r
hwn y gwnaethant hwy eu moes â'u cyrff,
megis yr oedd yn ddyledus iddynt hwy i
wneuthur, heb ddweyd yr un gair o'u pennau
onid estyn eu gweflau a mingamu
Fel y ar y brenin drwy chwareu blerwm
mingamai blerwm â'u bysedd, ar eu gweflau^
y beirdd. megis ag y gwelsent hwy y bach-
gen yn ei wneuthur o'r blaen.
Yt olwg a wnaeth i'r brenin gymeryd rhyf-
eddod a syndod ynddo ei hun eu bod hwy
wedi meddwi. Felly gorchymynnodd i un
o'r arglwyddi oedd yn gwasanaethu ar ei
ford ef i fynd atynt, ac erchi iddynt alw i'w
cof a'u myfyrdod a meddwl y man yr oedd-
ynt yn sefyll, a beth a ddylent hwy ei
wneuthur. Hyn a wnaeth yr arglwydd yn
llawen; ond ni bu iddynt beidio â'u gor-
wagedd. Felly anfonodd ef eilwaith a'r
^^ . HANE8 TALIESIN.
clrydedcl waith i erchi iddjnt hwy fynd all<m
o'r neuadd. O'r diwedd "Schodd y Wi^í^
un o r ysweimaid roddi dyrnod i'r pennaf o
honynt -y neb a elwid Heinin Fardd A'r
yswam a'i tarawodd ef yn ei ben oni syrth-
ipdd yn ei eistedd. Yna cyfododd ar ei
limau, a gof^pmodd ras y brenin a'i gennad
1 ddangos iddo ef nad oedd y diffyg hwnnw
arnynt o nag eisiau gwybodaeth nag o feddw-
dod, ond o rmwedd rhyw ysbryd oedd yn y
neuadd ; ac yna dywedodd Heiniu,—
0 frenin anrhydeddus, bid hysbys i'ch gras
chwinadoangerdd gormod gwirodauyr ydym
yn fudion heb allu ymddiddan, fel dynion
meddwon, ond o rinwedd ysbryd sydd yn eis-
tedd yn y gornel acw ar swm bach o ddyn ''
Yna gorchymynnodd y brenin i yswain *ei
gyrchu ef ; yr hwn a aeth i'r gilfach yr oedd
Taliesm yn eistedd, ac a'i dygodd ef ^er-
bron y brenim Gofynnodd y brenin iddo
pa beth ydoedd, ac o ba le y daethai
Atebodd Taliesin ar gân. A phan glybu
y brenin a'i urddasolion, synnu
re/ y yn f awr a wnaethant,ac ni chlyw-
gorchfygodd sent o ben bachgen ei fychaned a
Taliesin ellid ei debygu i'r gâii hon. A
feirdd phan wybu y brenin mai bardd
Maelgwn. Elphin oedd ef, erchi a wnaeth
-, X-, . , , ^^ ^ Heinin, ei fardd pennaf a
doethaf, ddyfod ac ateb i Daliesin, ac ym-
orchestu âg ef. Ond pan ddaeth yno, nis
gallai amgen na chware blerwm ar ei wefl.
A phan ddanfonwyd y rhai eraill o'r pedwar
ar hugain beirdd, yr un peth a wnaethant,
am na allent yn amgen.
Yna y gofynnodd Maelgwn i'r bachgen
Taliesin pa beth oedd ei neges
Fel y yno. Atebodd Taliesin ar gân
rhyddhawyd mai dod i ryddhau Elphin a
Elphin. wnaeth. Daeth yn ystorm o
wynt aruthr, a gorchymynnodd
Maelgwn ddwyn Elphin o'r carchar. Canodd
Taliesin gân arall, nes agori o'r gefyn oddi
am ch-aed ei feistr, Elphin.
DIWEDD.
\
ŵ
G^ft^oí . /y
i
/?^y ,
Matinogion PB
22T:
Matinogion .RU
E3
JORONTO
D, C
ì