%
/n/
YBr-—--:- BAHGHc Ebwaf:-"^ """'■''v:^AM,
DYFFR.YN.
PREGETHAU
DIWEDDAR
Barch. Edward Mohgan,
DYFFRYN.
YR AIL G YFRO L.
DOLGELLAU :
D. H. JONES, ARGRAFFYDD A CHYHOEDDYDD.
MDOCOLXXXII.
E N T E RE D AT S T A T I 0 N E R S' HALL.
(The right of Translation reserved.]
I^HAGYMADRODD.
Y mae yn llawenydd muwrgenyf fy mod yn gallu
cyflwyno cyfrol arall o Bregethau fy anwyl g ^faill.
j diweddar Barchedig Edward Morgax, i sylw fy
nghyd-wladwyr. yn hoUol obeithiol y bydd iddi gael,
gan nifer mawr o honynt, y derb^miad mwyaf croes-
awgar. Y mae yr ymofyniadau a wnaed â mi ynghylch
y gyfrol hon. gan liaws o weinidogion yr efengyl.
mewn cysylltiad â phob rhan o'r eglwys Gristi Dnogol.
o wahanol siroedd Cymru, amryw barthau o Loegr. a
rhai manau }ti yr America, yn proíì fod y gyfrol
flaenorol wedi rhoddi boddhâd mawr iddynt : ac yr
ydwyf yn dra hyderus y bydd hon eto yn enill cym-
eradwyaeth gyfí'elyb. Y mae yn ymddangos i mi. yn
sicr, yn haeddu hyny. Fe geir fod y pregethau a gyn-
wysir ynddi }ti arddangos yr un disglaerni meddwl.
yr un bywiogrwydd dychymyg, )'r un coethder
chwaeth, yr un tynerwch teimlad. yr un ysbryd hael-
frydig, yr un efengyleidd-dra athrawiaeth, yr un nerth
hyawdledd, a'r un amcan amlwg i gydio yn y galon
a'r gydwybod. ag sydd yn nodweddu y rhai a gawn
yn y g^'frol flaenoroí ; ac y inae rhai o honynt. os nad
wyt yn camgymeryd. yn hytrach yn rhagori ar odid
un o'r rhai a geir }T1 hono. Ond y mae y gyfrol yn
awr yn nwylaw y darllenydd. ac efe a gaiff farnu
drosto ei hunan.
V mae y pregethau yn hon eto. fel yn y gyfrol
flaenorol. wedi eii hargrafí'u braidd yn holíol fel y
gadawyd hwynt gan yr awdwr, yn unig gyda'r cywir-
iadau angenrheidiol er eu parotoi i'r wasg. Mi a
gymerais fy rhyddid yn achlysiirol i gyflenwi. oddiar
fy adgof o'r bregeth fel y clywswn i hi, ambell hanes-
yn a ddefnyddid gan y pregethwr er eglurhaii yr hyn
a fyddai ganddo dan sylw, ond nad ydoedd wedi ei
ysgrifenu ganddo ef, ac nad oedd ganddo. feallai, oddi-
eithr rhyw un gair yn cyfeirio ato. Eithr ni bu angen-
rheidrwydd am hyny ond yn anfynych, gan ei fod, yn y
cyffredin. yn ysgrifenu mor gyflawn a manwl. Ac
erbyn ystyried y llafur mawr a gymerid ganddo mewn
cylchoedd eraill, a bod ei iechyd am gynifer o flyn-
yddoedd wedi bod mor anmharus, ac na chaniatawyd
iddo oes faith, y mae yn syn genyf ei fod wedi gaîlu
ysgrifenu cymaint. Y mae yn hawdd gweled na bu
efe na segur na diffrwyth yn y gwaith mawr yr ym-
gymerasai âg ef. ac yr oedd ei holl enaid arno. Yr
oeddyn gydwybodol i'w Argiwydd ; yn ymdeimlo yn
wastadol â'i gyfrifoldeb iddo ; ac nid oedd unrhyw
lafur yn ormod ganddo, er ymdrechu sicrhau amcan
mawr ei weinidogaeth, fel y gallai roddi ei gyfrif i íyny
yn llawen ac nid yn drist.
Y mae eto yn ngweddill ddefnyddiau c}^rol arall, mi
a dybiwn, o Bregethau o'r un nodwedd a'r rhai sydd
eisoes wedi eu cyhoeddi ; ond y mae yn dibynu ar y
derbyniad a roddir i'r rhai hyn, pa un a gyhoeddir
3^chwaneg o honynt ai peidio. Byddai yn resyn mawr
i'n cenedl fod hebddynt ; ond pa nifer a deimla felly
sydd beth aralL Pa fodd bynag y mae y pregethwr,
yn y cyfrolau hyn, er '" wedi marw yn llefaru eto ;" ac
yr ydwyf yn gobeithio y bydd ei leferydd ynddynt er
ben<Iith i filoedd o'm cydwladwyr, a hyny am genhedl-
aethau ac oesoedd lawer. Ac yn yr h^^ler hwnw, yr
ydwyf yn dymimo eu cyflwyno ì'av sylw a'u derbyniad.
OWEN THOMAS.
46, Catharine Stbeet, Livkkpool,
Mehejin 20, 1882,
CYNWYSIAD
PREGETH XXXVI.
YR UN BYW A'I LYWODEAETH.
Datguddiad i. 17, 18;— "Nac ofna; myfi yw y cyntaf a'r diweddaf ;
a'r hwn vryî fyw, ac a h\m farw ; ac wele, byw ydwyf yn oes oes-
oesoedd, Amen ; ac y raae genyf agpriadau uffern a marwolaeth."... .556
PREGETH XXXVII.
SICRWYDD LLWYDDIANT GEIRIAÜ DCW.
EsAlAH lv. 10, 11 : — " Canys fel y disgyn y gwlaw a'r eira o'r nefoedd, ac
ni ddychwel yno, eithr dyfrha'r ddaear, ac a wna iddi darddu a thyfu,
fel y rhoddo had i'r hauwr, a bai-a i'r bwytawr : felly y bydd fy ngair,
yr hwn a ddaw o'm genau : ni ddychwel ataf yn wâg ; eithr efe a wna
yr hyn a fyn^vyf, ac a Iwydda yn y peth yr anfonais ef o'i blegid." ... 592
PREGETH XXXVIII.
Y FFIGYSBREN DDIFFRWYTH.
Luc xiii. 6—9 : — " Ac efe a ddywedodd y ddammeg hon : Yr oedd gan un
ffigysbren wedi ei blannu yn ei winllan ; ac efe a ddaeth i geisio ffr\vyth
arno, ac nis cafodd. Yua efe a ddy wedodd wrth y gwinllanydd, Wele,
tair blynedd yr ydwyf yn dyfod, gan geisio fîrwyth ar y ffîgysbren hwn ;
ac nid ydwyf yn cael dim : tór ef i lawr ; paham y mae efe yn di-
fîrwytho y tir. Ond efe gan atteb a ddywedodd wrtho, Ai'glwydd,
gâd ef y flwyddyn hon hefyd, liyd oni ddartfo i mi gloddio o'i amgylch,
a bwrw tail : ac os dwg efe íîrwyth, da : oniil ê, gwedi hynny tòr ef i
lawT." ... ... ... ... ... ... 608
PREGETH XXXIX.
DUW YN CRAFFÜ AR ANWIREDDA U.
Salm cxxx. 3 — " Os crefh ar anwreddau, Arghvydd, O Aiglwydd, pwy a
saif?" ... ... ... ... ... ... 62]
PREGETH XL.
PARODRWYDD ERBYN DYFODIAD MAB Y DYN.
Matthew xxiv. 44 : — " Am hyny byddwch cliwithau barod : canys yn yr
awr ni thybioch y daw Mab y dyn. " ... ... ... 646
PREGETH XLI.
goruchwyliaethau duw, ac ymddygiadau dyn.
Matthew xi. 18, 19 : — " Canys daeth loan heb na bwyta nac yfed ; ac
medûant, Y mae cythraul ganddo. Daeth Mab y dyn yn bwytta ac yn
yfed ; ac meddant, Wele ddynglwth, acyfwi- gwin ; cyfaill publicanod
a phechaduriaid. A doethineb a gyfiawnhawyd gan ei phlant ei hun.'' 665
Vf. CYNWYSIAD.
PREGETH XLII.
PWYSFAWRAWGRWTDD CADWEDIGAETH.
ÀCTAü xvi. 30 :— " O feistriaid, beth sydd raid i mi ei wneuthur, fel y
byddwyf cadwedig ?" ... • • • • • ■ • • • • • 675
PREGETH XLIII,
PECHOD YM GAM A'R ENAID.
DiABHEBlON viii. 36: — "Ond y neb a becho yn fy erbyn. a wna gam â'i
enaid ei hun ; fy hoU gasëion a garant augau " ... ... 695
PREGETH XLIV.
DATGUDDIAD Y GTFRAITH A DATGUDDIAD LLYGAID.
Salm cjix. 18 :— "Datûuddia fy llygaid, fel y gwelwyf bethau rhyfedd
allan o'th gyfraith .i " ... ... •■• ••• ••• 713
PREGETH XLV.
OFNWN, GAN FOD ADDEWID.
Hebreaid iv. 1 : — " Ofnwn gan hyny, gan fod addewiJ wedi ei gadael i ni
fyned i mewn i'w orphwysfa ef, rliag bod neb o honoch yn debyg i fod
ynoL" ,. ... .. ••. ... •• 733
PREGETH XLVI.
CYNAL GAIK Y BYWYD.
Philipiaid ii. 16:— " Yn cynnal gair y bywyd^" ••• ••. ... 753
PREGETH XLVII.
GWRTHOD CARIAD Y GWIRIONEDD YN DWYN AiIRYFUSEDD CADARN.
Thessaloniaid ii- 10, 11 : — " Am na dderbyniasant gariad y gwirionedd,
fel y byddenc gadwedig. Ac am hyny y denfyn Duw iddynt hwy am-
ryfusedd cadarn, fel y credont gelwydd." ... ... ... 769
PREGETH XLVni.
ATDYNIAD Y GROES.
loAN xii. 32: — " A minau, os dyrchefìr fi oddiar y ddaear, a dynaf bawb
ataf fy hun." ... ... ... ... ... ... 790
PREGETH XLIX.
RHAGLUNIAETH DDWYPOL YN UNIAWN ER YN DYWYLL.
Salm xcvii. 1, 2: — "Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu ; gorfoledded y
ddaear : Uawenyched ynysoedd lawer Cymylau a thywyllwch sydd
o'i amgylch ef : cyfiawnder a barn y w trigfa ei orseddfainc ef." 810
PREGETH L.
GWERTH AMSEIt A'll inW.S O'l BRYNU.
EpHEalAiD V. 16 :— "Gan brynu yr .imser. oblegid y dyddiau sy ddrwg."... 83:^
CYNWYSIAD. int.
PREGETH LI.
CYFERBYNU TREPN DYN A THREPN DUW 1 POD YN GADWEDIG.
2 Brenhinoedd V. 9—12 :— " Yna Naaman a ddaeth â'i feirch ac â'i ger-
bydau, ac a safodd wrth ddrws tŷ Elisëus. Ac Elisëus a anfonodd atto
ef gennad, ganddywedj'-d, Dos ac ymolchsaith waith yn yr lorddoneu ;
a'th guawd a ddychwel i ti, a thitliau a lanhêir. Ond Naaman a ddig-
iodd, ac a aeth ymaith ; ac a ddywedodd, Wele, mi a feddyliais ynof fy
hun, gan ddyfod y deuai efe allan, ac y safai efe, ac y galwai ar enw yr
Arglwydd ei Dduw, ac y gosodai ei law ar y fan, ac yr iachài y gwahan-
glwyfus. Onid gwell Abana a Pharpar, afonydd Damascus, na holl
ddyfroedd Israel? oni allaf ymolchi ynddynt hwy, ac ymlanhau?
Felly efe a drodd, ac a aeth ymaith mewn digter." ... ... 847
PREGETH LII.
SIORWYDD CADWEDIGAETH ER EI HANHAWSDERAU.
EaAiAH xlix. 24, 25 . '" A ddygir y cafîaeliad oddiar y cadarn ? neu a war-
edir y rhai a garcheiir yn gyfìawn ? Ond fel hyn y dywed yr Arglwydd,
ie, carcharorion y caiíarn a ddygir, ac anrhaith y creulawn a ddianc :
canys myfi a ymrysonaf â'th yrarysonydd, a myfi a achubaf dy feibion." 865
PREGETH LIII.
DIDOLEDIG ODDIWRTH BECHADUBIAID.
Hebreaid vii. 26 :— " Didoledig oddiwrth bechaduriaid." ... ... 887
PREGETH LIV.
AGOSRWYDD AT DEYRNAS DDUW.
MAro xii. 34 :— "Nid wyt ti bell oddiwrth deyrnas Dduw." ... ... 900
PREGETH LV.
TEYRNAS DDUW YN AGOS.
LüCx. 9: — "Daeth teyrnas Dduw yn agos atoch." ... ... 919
PREGETH LVI.
YMAFLYD MEWN BYWYD TBAGYWYDDOL.
1 TiMOTHEUS V. 12 :— " Cymer afael ar y bywyd trag^rwyddol." ... 938
PREGETH LVII.
YR ABGLWYDD YN PUGAIL.
Salm xxiii. 1 : — " Yr Arglwydd yw fy Mugail, ni bydd eisiau arnaf." ... 950
PREGETH LVm.
LLWYDDIANT TBWY YR YSBRYD.
"^ Zechariah iv. 16 :— " Nid trwy lu, ac nid trwy nerth, ond trwy fy Ysbryd
medd Arglwydd y Uuoedd " ... ... ... ... 971
PREGETH LIX.
GALLU A GBAS YN SICRHAU CADWEDIGAETH.
Sephaniah iii. 17 :— " Yr Arglwydd dy Dduw yn dyganol di sydd gadarn :
efe a achub, efe a lawenycha o'th blegid gan lawenydd ; efe a lonydda
yn ei gariad, efe R ymddigrifa ynot dan gan-u." " ... ... 983
W«. CYNWYSIAD.
PREGETH LX.
TR ISRAELIAD TN WIR.
lOAN i. 47 :— "Wele I»raeliad yn wir, yn yr hwn nid oes dwyll." ... 995
PREGETH LXI.
lESU ÖRIST YR UN.
Hebreaid xüi. 8 :— " lesu Grist, ddoe a heddyw yr mi, ac yn dragywydd." 1013
PREGETH LXn.
PEBSON CRIST TN DDIOGELWCH RHAG PYRTH UFFERN.
Matthew xvi. 18 : — " Ac yr ydwyf finau yn dywedyd i ti, mai ti yw Pedr,
ac ar y graig hon yi- adeiladaf fy eglwys : a phyrth ufîern nis gorchfyg-
anthi." ... ... ... ,. ... ... 1034
PREGETH LXin.
EFEN3YL l'R TLODION.
Matthew xi. 5 :— " A'r tlodion yn cael pregethu yr efengyl iddynt." ... 1046
PREGETH LXIV.
T MWYNDER YN YMADO.
HOSEA vi. 4 : — " Beth a wnaf i ti, Ephraim ? beth a wnaf i ti, Judah ? eich
mwynder sydd yn ymado fel cwmwl y boreu, ac fel gwlith boreuol."... 1059
PREGETH LXV.
AMYNEDD YN lACHAWDWRIAETH,
2 Pedr iii. 15:— "A chyfrifwch hir-amynedd ein Harglwydd yn iach-
awdwriaeth." ... ... ... ... ... 1071
PREGETH LXVI.
CRIST YN ESAMPL I NI.
1 Pedr ii. 21 :— " Crist yntau a ddioddefodd drosom ni, gan adael i ni
esampl, fel y canlynem ei ol ef." ... ... ... ... ]085
PREGETH LXVII.
CTFRAITH T LLOPRUDD.
DedteronomiüM xix. 4 : — "Dyma gyfraith y Uofrudd, yr hwn a fíỲ yno i
fyw." ... ... ... ... ... ' ... UOS
PREGETH LXVin.
TR lAWN A PHECHOD.
1 loAN ii. 1, 2 : — "Fy mhlant bychain, y pethau hyn yr wyf yn eu hysgrif-
enu atoch. fel na phechoch- Ac o phecha neb, y mae i ni Eiriolwr
gyda'r Tad, lesu Gri'^t y Cyfìawn : ac efe yw"r iawn dros ein pechodau
ni : ac nid dros yr eiddom ni yn unig eithr dros bechodau yr hoU fyd." 1114
PREGETH LXIX.
Y LLWYNOGOD BYCHAIN.
OaniaD Soi,OMON- ii. 15 :— "Deliwchi ni y llwynogod, y Uwynogod bychain,
y rhai a ddifwynant y gwinUonoedd : canys y mae i 'a gwinllanooild
^ :_■>. ^_^ ___ ___ ^^^ ^^^ ^^
PREGETH XXXVI.
YR UN BYW A I LYWODRAETH.
Datguddiad i. 17, 18.— "Nac ofna ; 'myfi jyr j cyntaf a'r iiweddaf ; »'î
hwn wyf fjw, ac a fum farw ; ac wele, byw ydw^f yn oes oesoedd,
Amcn ; a« y mae genyf agoriadau níîern a marwolaeth."
R un un ydyw loan y Duwinydd ag Ican yr Eîengylwr ;
acymaemesur o'runddelwi'wgweled yn y ddau lyfr
a ysgrifenwyd ganddo. Y mae perthynas gyfFelyb
rhyngddynt i'r berthynas sy rhwngefengyl LucacActauyrApos-
tolion : yn yr efengyl yr oedd Luc yn rhoddi hanes Sylfaenydd
Cristionogaeth, ac yn yr Actau hanes sylfaeniad Cristionogaeth.
Felly y mae loan yn eiefengyl yn rhoddi hanes Pen yr eglwys, ac
yn y ll^'fr hwn yn rhoddigolwg brophwydoliaethol aryr eglwys
ei hunan hyd ddiwedd araser. Y mae yn y ddau lyfr lawer o
ddarluniadau o'r Arglwydd lesu; ond y mae y gwahaniaeth
hwn rhyngddynt : — Yn yr efengyl y mae y wedd ddynol, er naá
heb y ddwyfol, yn cael ei dwyn i amlygrwydd mawr. loan
sydd yn crybwyll am ei bresenoldeb yn y briodas, — am y serch
a amlyoodd at y ddwy chwaer a'u braAvd, — ac am y gofal a am-
lygodd at ei fam. Ond yn y llyfr hwn, mawredd y Duw an~
feidrol sydd yn dyfod i'r golwg amlaf, os nad ymron yn gwbl.
Wrth ddarllen yr efengyl gellir dywedyd, bron bobcam, " Wele
y dyn ;" ond wrth ddarllen y llyfr hwn, ymae ynrhy anhawdd
peidio a dywedyd yn barhaus, Wele, y Duw anfeidrol! Yr
amcanion oeddent mewn golwg yn ysgrifeniad y ddau lyfr sydd
yn rhoddi y rheswm am y gwahaniaeth hwn. Un o amcanion
mawr ysgrifeniad yr efengyl oedd gwrthwynebu'heresi y Gnos-
ticiaid. Un rhan o hono oedd, gwadu nad oedd lesu Grist
yn Dduw gogyfuwch â'r Tad ; a'r rhan arall ydoedd;
ü'/ían I. Ai/ Gyfrol. B3
577 Ýr U7i byw d'i lywodraeth.
gwadu nad ydoedd yn ddyn ond mewn'ymddangosiad yn uníg.
Y mae yr efengylwr, gan hyny, yn profi y naill a'r llall, ac yn
profi y cyntaf trwy ddangos ei fod wedi cyflawni gweithredoedd
dwyfol ; ei fod yn y dechreuad gydà Duw ; a'i fod mewn gwir-
ionedd yn wir a thragywyddol Dduw, Y mae hefyd yn profi
yr ail, sef ei fod yn ddyn gwirioneddol, — trwy ddangos ei fod
yn gydnabyddus â holl deimladau y ddynoliaeth; ei fod yn
llawenhau gyda'r rhai osddent yn llawen, ac yn wylo gyda'r
rhai oeddent yn wylo ; yn rhoddi ei bresenoldeb yn y briodas^
ac yn y claddedigaeth; eifod yngyfaill cywir, ac yn fab gofalus ;
yn ymweled â'i gyfeillion yn Bethania yn eu profedigaeth, ac
yn gofalu am ei fam yn ei oriau olaf. Rhaid ei fod yn Dduw,
oherwydd trwyddo Ef y gwnaîthpwyd pob peth ; a rhaid ei fod
yn Dduw wedi ymddangos yn y cnawd, oherwydd yr oedd
ymhob peth 3^ gyfifelyb i ninau
Un o ddibenion y Ilyfr hwnoedd dangos sicrwydd llwyddiant
teyraas lesu Grist yn y byd, ynghyd â'r gwrthwynebiadau a
fyddent ar fiFordd hyny. Am hyny, i roddi sail i'r eglwys gredu
y llwyddiant, er gweled y rhwystrau, darlunir lesu Grist yma
nid yn ddyn, ond yn Arglwydd Dduw Hollalluog, — yn ofnadwy
yn ei holl amgj'Ichoedd. Yn yr efengyl, y mae tynerwch y dyn
Crist lesu yn tynu ein sylw yn barhaus, hyd yn nod pan y mae
ei ogoniant fel Duw yn y golwg. Ond yma nid oes nemawr o
hyny, eithr y mae yr amlygiadau o'i Dduwdod sydd yn y Ilyfr
hwn yn efFeithio yn dra gwahanol arnom i'r hyn y mae yr
am.lygiadau sydd yn yr efengyl yn efifeithio arnom. Wrth
edrych arnynt yno, rhyfeddu ac addoli yr ydym ; ond wrth
edrych arnynt yma, ofni ac ymguddio yr ydym. Y mae yn
rhy anhawdd edrych ar y mòr, ar ddiwrnod tawel, heb i'r
meddwl synu wrth yr olygfa fawreddus; ond pan y bydd wedi
ei gynhyrfu gan yr ystorm, y mae yr olwg arno, y pryd hyny,
yn ofnadwy, ac yn tueddu i lanw y mediwl â braw. Yr oedd
loan yn gallu addoli wrth edrych ar ogoniant Duw mewn
cnawd yn yr efengyl ; ond y mae yn syrthio i lawr fel un marw
wrth ei draed pan ddaeth i'r golwg yma. Yr oedd y naill olwg
yn peri iddo ryfeddu, ond yr oedd y Ilall yn peri iddo lewygu
gan ofn.
Yn yr adnodau blacnorol, y mac loan yn darlunio yr olwg a
Ÿr un byw a'i lywodraeth. 5^8
gafodd ar yr Arglwydd lesu, yr hon olwg a eífeithioddgymaint
arno ; ac yn y testyn, y mae lesu Grist yn rhoddi disgrihad o
hono ei Hunan i'w was. Os oedd yr olwg a gafodd loan wedi
ei lenwi â braw, y mae y darluniad y mae yr Arglwydd lesu yn
ei roddi o hono ei hun wedi ei fwriadu i dawelu ei feddwl :
*'Nac ofna ; myfi yw y cyntaf a'r diweddaf ; a'r hwn v/yf fyw,
ac a fum farw; ac wele byw ydwyf yn oes oesoedd." Yr oedd
bod loan yn ofni yn brawf nad ydoedd wedi ei berflfeithio ;
Dblegid fel y mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn, felly y
mae delw Duw yn gyflawn ar yr enaid yn peri na bydd ei weled
yncynyrchu ofn. Y mae y rhai pur o galon yn medru dal yr
olwg arno. Gall y saint yn y dydd diweddaf, ddywedyd,
*'Dacw ein Duw ni," pan y bydd yr un olygfa yn peri i gedyrn
annuwioldeb lewygu gan ofi. Yr oedd loan wedi gweled ei
Arglwydd yn ei weddnewidiad, ac yn ei esgyniad hefyd; ond
yr oedd yr ymddangosiad hwn yn dra gwahanol i bob un o'i
flaen ; eithr os oedd y Person mawr wedi cyfnewid yn ei ym-
ddangosiad, y mae ei eiriau yn dangos nad ydoedd wedi newid
dim yn ei deimlad ragor pan ydoedd yma yn nyddiau ei gnawd.
Os oedd ei ymddangosiad yn dangos ei fod wedi cael y gogon-
iant oedd iddo gydâ'r Tad, cyn bod y byd ; y mae ei eiriau yn
dangos fod yr un tynerwch yn ei galon a phan yn wylo ar ol
Lazarus.
Ond i alw eich sylw at y testyn : — "Nac ofna ; myíî yw y
cyntaf a'r diweddaf ; a'r hwn wyf fy w, ac a fum farw : ac wele
byw ydwyf yn oes oesoedd." Enwau neu ddarluniadau y mae
yr Arglwydd lesu yn eu rhoddi o hono ei hun ydyw y pethau
hyn. Y mae holl enwau y Beibl yn ddarluniad i ryw fesur o'r
neb neu y peth fydd yn cael ei enwi ; ac heb sôn ond am
un dosbarth o'r enwau hyn, sef y rhai y mae yr Arglwydd yn
eu defnyddio arno ei Hun i'w bobl. I ddeall ychydig o
ystyr yr enwau hyn, nid oes dim yn angenrheidiol ond
gwybod am amgylchiadau y bobl ar y pryd, oherwydd yr am-
gylchiadau sydd yn achlysuro cyhoeddiad yr enw ; ac y maent
felly yn esboniad arno. Pan oedd Abraham yn ofnirhag i fân
frenhinoedd Canaan ymosod arno, " Myfì," meddai yr Ar-
glwydd wrtho, "yw Duw Hollalluog." Yr oedd amgylchiadau
y patriarch ar y pryd yn egluro yr enw. Pan anfonodd yr
579 Yi' iin hyw à'i lywodraeíh.
ArglW'ydd Moses i waredu cenedl o gaethion, oedd mewn angen
o bob peth, "Ydwyf" oedd yr enw a roddodd arno ei Hun,
enw a esbonir yn well gan yr amgylchiadau na dim arall.
Maint ac amrywiaeth yr angen oedd yn egluro cyfoeth yr enw.
Felly y mae yr enwau a roddir yn y testyn gan Fab Duw arno
ei Hun, yn cyfateb i amgylchiadau ei was loan, a'r eglwys, ar y
pryd hwn ; ac yn y cyfarchiadau sydd yn nechreu y gwahanol
lythyrau at saith eglwys Asia, ni a gawn naiU ai y darluniad
sydd o'r ymddangosiad yn yr adnodau blaenorol, neu ynte y
desgrifiad a roddir yn y testyn o'r Person mawr, yn cael ei
ddefnyddio. Y mae yn cyfarch eglwys Ephesus fel *' yr Hwn
oedd yn dal y saith seren yn ei law ddeheu." Y mae ' yn
cyfarch eglwys Pergamus fel "yr Hwn yr oedd ganddo y
cleddyf llym daufiniog." Y mae yn cyfarch eglwys Thyatira
fel " yr Hwn oedd a'i lygaid fel y fBam dân." Y mae yr hoU
bethau hyn yn cyfeirio at ei ymddangosiad i loan ; ond y mae
yn cyfarch eglwys Smyrna fel " y cyntaf a'r dìweddaf," ac
eglwys Philadelphia, fel " yr Hwn yr oedd ganddo agoriad
Dafydd." Y mae yn y cyfarchiadau yna gyfeiriad at y darlun-
iad a rydd o hono ei Hun yn y testyn. Oddiwrth y pethau
hyn ni a welwn, fod amgylchiadau yr eglwys ar y pryd yna yn
agoriad i ni ddeall yr enwau yma ar Fab Duw.
Yr oedd yr amser hwn yn amser o erledìgaeth ar yr eglwys,
aC hefyd yn amser o gryn ddirywiad ; am hyny, yr oedd dau
ddiben mawr i gael eu hateb drwy y llythyrau hyn, scf eu had-
feryd o'u dirywiad, a chynal meddyhau y saint i oddef erledig-
aeth. Ac y mae hyny yn beth i ni sylwi arno, mai rhyw
gymaint o'r ymddangosiad ofnadwy, a welodd loan, sydd yn y
cyfarchiad at bob un o'r eglwysi sydd wedi dirywio, a myned
yn llygredig, megis Ephesus, Pergamus, a Thyatira. Yr oedd
galwad ar bob un o'r rhai yna i edifarhau oherwydd eu pech-
odau ; tra yr ydoedd y ddwy eglwys y mae desgrifiad y testyn
yn cael ei ddefnyddio yn y cyfarchiad atynt, yn rhai nad oes
dim yn cael ei roddi yn eu herbyn, sef Smyrna a Philadelphia :
felly, cynal eu meddyliau hwy i ddioddef oedd diben ys-
grifenu yr epistol atynt. Yr oedd eisiau argyhoeddi Thyatira ;
am hyny yr ocdd yr Hwn oedd yn anfon gair ati yn cael ei
ddarhmio yn " Fab Duw," " â'i lygaid fcl fîlanì dân, a'i draed
Yr un byw a'i lyu'odraeth. 580
yn debyg ì brès coeth." Yr oedd eisiau cynyrchu braw yn
mynwes Pergamus ; am hyny "yr Hwn sydd ganddo y cleddyf
llym daufìniog " oedd yn anfon ati hi. Ond nid oedd dim i'w
roddi yn erbyn Smyrna; yr oedd ei chystudd, a'i thlodi, a'i
charchar, yn tueddu i'w digaloni; am hyny, "ycyntaf a'r
diweddaf, yr hwnafu farw, ac sydd fyw," oedd yn anfon ati hi.
Yr oedd Philadelphia wedi dal profedigaethau mawrion eisoes)
ac wedi cadw gair yr amynedd ynddynt oll. Yr oedd drws
agored o'i blaen yn awr, a llawer o waith iddihithau wneuthur.
Nid oedd ganddi, oherwydd ei hymdrechiadau blaenorol,
nemawr nerth ; am hyny, "yr hwn sydd ganddo agoriad
Dafydd," "yr Hwn y mae ganddo agoriadau uffern a marwol-
aeth," sef â llywodraeth pob peth, a phob byd, yn ei law, oedd
yn anfon gair ati hi, i'w sicrhau y cadwai Efe hi oddiwrth awr
y brofedigaeth. Y mae yn eglur, chwi a welwch, oddiwrth
amgylchiadau y ddwy eglwys yna fod yr enwau hyn wedi eu
bwriadu i'w cysuro hwy. Yr oedd loan yn awr ei hunan yn
dra chyffelyb o ran ei amgylchiadau iddynt hwy. Y mae yn
debyg i'r testyn gael ei lefaru wrtho i'w gysuro ef, ac wrth yr
eglwysi yna drwyddo i'r un diben, acedrych arno yn y goleuni
yna a rydd agoriad i ni i'w ystyr.
I. Edrychwn arno yn ei berthynas à'r eglwys, fel diddanwch
iddi yn ei hoU brofedigaethau.
II. Edrychwn arno fel amlygiad o fawredd yr Arglwydd
lesu.
I. Yn ei berthynas â'r eglwys. Y mae yr enw cyntaf, sef
" Cyntaf a Diweddaf," yn rhoddi sicrwydd cyffredinol iddi o
oruchafiaeth ar ei holl elynion. Y mae yr ail, sef " Yr Hwn
wyf fyw, ac a fum farw," yn rhoddi prawf pellach o'r un peth,
ynghyd âg amlygiad o gydymdeimlad ei Phen â hi yn ei holl
drallodion. Y mae y trydydd, seí "y mae genyf agoriadau
uffern a marwolaeth," yn gasghad oddiwrthy ddau enw blaen-
orol, i gadw ei meddwl mewn tangnefedd heddychol, pa fodd
bynag y byddai.
I. "Y cyntaf a'r diweddaf." Y mae yn hwn sicrwydd
cyffredinol o oruchafiaeth. Enw ydyw ar ryw olwg â phob
peth ynddo. Yr oedd yr enw y gorchymynwyd i Moses ei
ddefnyddio yn ei fynediad cyntaf at Israel, yn cynwyspob peth»
58 1 Yr tin hyw à'i îywodraeth
sef " Ydwyf," a pha enw ond hwnw a fuasai yn cyfateb i am-
gylchiadau cenedl oedd ar y pryd yn ddim, ac yn llai na dim ;
— heb allu, heb ddoethineb, heb noddwyr, heb gyfoeth, heb
ddim. Ond yn wyneb hyny yr oedd Moses i ddywedyd,
♦'Ydwyf a'm hanfonodd atoch." Dyna lonaid y gwagle yn
ddigoU, oblegid dyna allu, dyna ddoethineb, dyna gyfoeth, dyna
bob peth. Fe wnaeth yr Arglwydd lawer enw o'r " Ydwyf"
ar ol hyn, oblegid y mae ynddo ddefnydd pob enw y mae am-
gylchiadau dyn yn galw am dano. Yn wyneb trueni yr oedd
yn ysgrifenu " trugarog " ar ei ol : — " Ydwyf drugarog." Yn
wyneb bai, yr oedd yn ysgrifenu " maddeugar :" — " Ydwyf
faddeugar," Yr oedd y genedl yn cychwyn i daith, ac i wlad
ddieithr ; ond yr oedd " Ydwyf " yn ddigon iddynt, o'r Aipht
i Ganaan, ac yn Nghanaan hefyd. Y mae rhywbeth yn yr enw
"Cyntaf a Diweddaf" yn gyífelyb. Yr oedd yn yr enw sicr-
wydd gwaredigaeth i'r eglwys o'i holl brofedigaethau. Esbon-
iad ar yr enw, i gyfateb i'n dull ni o feddwl ydyw yr ymadrodd
hwnw 5ydd yn y benod : — " Yr Hwn sydd, a'r Hwn oedd, a'r
Hwn sydd i ddyfod." Felly y byddwn ni yn arfer meddwl am
fod, sef fel wedi bod, yn bod, neu i fod ; ond i'r Hwn yn unig
sy ganddo anfarwoldeb, nid oes yn briodol, nac oedd, nac i
ddyfod, yn perthyn ; eithr " Ydwyf" sydd yn briodol iddo Ef,
o dragywyddoldeb i dragywyddoldeb. Nid " Efe ydoedd y
cyntaf, ac ¥.ít2ifyddy diweddaf ;" ond "Myfi yw y cyntaf, a
myfi y w y di weddat ;" — yr ydwyf felly yn awr, A Ilefaru yn iaith
y ddaear : — " Bu amser pryd nad oedd ond myfi ; — yr oeddwn
yn bod yn gyntaf, cyn pob peth : fy ewyllys a'm gair a roddodd
fôd i bob peth. Y mae y myrddiynau creaduriaid sy mewn bod
yn waith fy Ilaw i. Y mae llawer o honynt wedi codi eu Ilaw
yn fy erbyn ; ac yr ydych chwi, fy mhlant, yn ofni rhag i'm
gelynion hyn fy ngorchfygu yn fy achos ; ond myfi ydyw y di-
weddaf ; — yr ydwyf yn Oruchaf mor wirioneddol yn awr a phan
oeddwn yn gyntaf, heb neb na dim mewn bod ond Myfi. Yr
oeddwn i fel haul yn goleuo yr holl ffurfafen, cyn i'r niwl a'r
tarth sydd yn eich dyrysu chwi gael bod : Myfi yw y cyntaf.
Y mae y niwl a'r tarth sydd wedi gorchuddio y ífurfafen yn
awr, yn peri i chwi ameu aydwyf fi yn y ífurfafen o gwbl ; ond
nid yw yn efTeithio dim arnaf fi. Fe'u difodir gan fy ngwres i
Yr tin hyw ai Iywodraefh. 582
bob yn ychydig, a bydd y ffurfafen mor glir, heb fod yn hir, ag
yr oedd hi yn y dechreu : ATyfí yw y diweddaf. Nid yn unig yr
wyf fi yn cofio adeg pryd nad oedd dim o'r pethau hyn mewn.
bod ; ac nid, yr wyf yn disgwyl y gwelaf adeg pan y bydd y
cwbl wedi eu darostwng ; ond yr wyf fi yn y ddau le yn awr/
" Myfi yw y cyntaf a'r diweddaf."'
2. Y mae yr ail enw yn rhoddi prawf pellach o'r un gwir-
ionedd : — '' yr Hwn wyf fy w, ac a fum farw ; ac wele byw ydwyf
yn oes oesoedd." " Yr Hwn wyf fyw," neu, yr "Un byw." Y
mae yr "Un byw," yn y fan hon, yn cynwys, nid bod yn unig,
— yr oedd hyny yn yr enw cyntaf ; — ac nid un yn meddu bywyd
yn unig, — y mae hyny yn gynwysedig yn " Y cyntaf a'r di-
weddaf ;" ond y mae hwn yn cynwys Rhoddydd bywyd, Cyf-
ranydd bywyd, Ffynhonell bywyd ; yr Hwn sydd yn bTwhau ;
yr " Un byw." Ac fel prawf o nerth tarddiad y ffynon, fe
ddywed, "Mi a fum farw;" ond yr oedd nerth bywyd annher-
fynol mor gryf 'ynof, mi godais o waelod y bedd ; gan hyny,
-nid oes berygl i ddim gymeryd fy mywyd oddiarnaf, — " Wele,
ty w ydwyf yn oes oesoedd." Bellach, pa sicrwydd mwy a ellíd
ei roddi o fywyd iddynt hwy na thystiolaeth yr Hwn yr oedd
" ganddo fywyd ynddo ei Hun." Nid oedd cysgod o sail i
ameu hyny, oblegid yr oedd yn gallu dy wedyd hyn wedi bod yH
y prawf, — *'Mi a fum farw." Ac nid profi fy mod yn proffeSn
fy Hun yn rhywbeth aragen nag oeddwn, wrth ddywedyd maì
yr Un byw oeddwn, a wnaeth angau, ond dangos gwirionedd y
broffes, oblegiû, " Wele, byw ydwyf yn oes oesoedd." Mi a
fum byw er gwaethaf angau ; a chan i mi fy ng\varedu fy Hua,
mi a allaf eich gwaredu chwithau.
Neu, i egluro pa fodd yr oedd ei fod Ef yr Un byw yn gysuf
iddynt hwy, fe ddywed, " Mi afutn farw ;" ac fe ddengys hyny
pa fodd y gellwch chwi ymgysuro wrth glywed fy mod i yn Un
byw ; oblegid mi a agorais, drwy farw, ffordd i'r bywyd oedd
ynof fi i redeg i chwithau hefyd. Bellach, y mae i.mi ddywed-
yti, " Byw w^yf fi," yr un peth a phe dywedwn, " Byw fyddwch
chwithau hefyd." Y mae y naill fywyd mor ddiogel a'r llall :
mewn gwirionedd, un ydynt. Chwi a welwch mai nidsiarad ar
antur yr wyf wrth sicrhau eich diogelwch ; gellwch fentro ym-
-ddiried yn fy nhynerwch, — mi fedraf gydymdeimlo â chwî :
|83 yf" un byw ai lywodraetìî.
gellwch fentro ymddiried yn fy ngallu, — mi a fedraf eich
gwaredu. " Mi a fum. farw."
3. " Y mae genyf agoriadau uffern a marwolaeth." Gellir
edrych ar hyn fel casgliad oddiwrth yr hyn a ddywedwyd eisoes.
Nid yn unig ni orchfygir mo honof ganddynt, ond y maent oll
dan fy llywodraeth i. Y'mae y farwolaeth gyntaf a'r ail o dan fy
awdurdod ; am hyny, os cynydda yr erledigaeth i'r fath raddau,
fel y cewch eich bwrw i angau, nac ofnwch ; — ni fydd hyny
ddim hebof íì : yn fy llaw i y mae agoriadau marwolaeth ; a
byddwch mor llwyr o dan fy llywodraeth i yr ochr draw,
oblegid " y mae genyf agoriadau uffern ;' neu, fel y mae Howe
ac eraill yn deall y gair hades, a gyfieithir yma " uffern," am y
byd anweledig, y byd dieithr sydd yr ochr draw i angau, Y
mae yr ymadrodd, " Y mae genyf agoriadau uffern," yn gyf-
ystyr a phe dywedasai, " Y mae genyf lywodraeth ar y byd an-
weledig, ac hefyd ar y porth sydd yn arwain iddi." Y mae
eraill yn ceisio dangos nad ydyw hades yn cael ei ddefnyddio
yn y Testament Newydd, ac yn enwedig yn y Ilyfr hwn, ond
am uffern, sef cartref y coUedigion. Os felly, onid ydyw yn
gysur nid bychan i'r saint Trybod fod hòno o dan lywodraeth
eu Gwaredwr, fel nad all neb fyned yno heb iddo iddo Ef agoryd
y drws. Y mae y meddwl hwn i'r eglwys, fel y golofn hono
gynt, oedd yn oleuni i Israel, ond yn dywyllwch i'r Aiphtiaid.
Paham yr ofna cyfeillion hwn ì onid yn ei lav/ y mae agoriadau
angau ac uffern ? a phaham nad ofna ei elynion ? oblegid y
mae agoriadau y carchar yn ei law bob moment ; — gall roddi
tro yn yr agoriad y pryd y myno, nes y bydd y gelynion, trwy
y farwolaeth gyntaf, yn ngafael yr ail. Ar y trap-doory maent
yn ymfawrygu yn ei erbyn ; — y mae uffern yn ymgynhyrfu
odditanynt; — a dim ond rhoddi un tro yn yr agoriad, byddant
ynddi ar unwaith. Erbyn hyn, chwi a welwch mai nid heb
sail y dywedodd wrth ei was, ac wrth ei eglwys drwyddc
ymhob oes, "Nac ofna ; myfi yw y cyntaf a'r diweddaf."
II. Ni a drown, gydâg loan i edrych ar y weledigaeth ; a
gallwn ofyn yn yr olwg arni, " Pa faint oedd hwn ?"
I. ** Y cyntaf a'r diweddaf." Y mae yr enw hwn yn ein
gwahodd i edrych arno fel B6d perffaith ; y cylch yn grwn heb
ÍSvIch, — a Bôd ar wahàn oddiwrth bob bòd arall. Y cyntaf.
Yr iin byw à'i lywodi'aefh. 5S4
Nis gallwn sylwi ar greadur ond mewn cysyllliad â lle, ac â
rhy wbeth y tuallan iddo ef ei hun. Os priodoHr mawredd ac
"nrddas iddo, rhywbeth a fydd hŵnw yn tarddu c'r berthynas
sy rhyngddo â'r pethau sydd o'i amgylch. Os gelwir ef yn
irenin, y mae hyny yn cynwys fod teyrnas yn bod, onide ni
buasai yn frenin. Os priodoHr parch meistr, ac anrhydedd tad
iddo, y mae hyny yn cynwys fod gweision a phlant niewn bod..
Neu os priodolir gwybodaeth a medrusrwydd iddo, y mae hyny
yn cynwys fod rhyw bethau mewn bod, iddo i'w gwybod, ac
amlygu ei fedr arnynt. Mewn gair, nis geHir meddwl am
fawredd mewn creadur, ond fel peth yn tarddu o'i gysyUtiad â
phethau y tuaHan iddo ef ei hun. Y mae y Bibl yn priodoH
mawredd cyffelyb i'r Arglwydd lesu : darlunir yntau fel Brenin
mawr. Y mae hyny yn cynwys bod teyrnas ganddo. Fel
Creawdwr a Gwneuthurwr pobpetli, y mae hyny yn cynwys
bod rhyw bethau wedi eu creu, a rhyw bethaa wedi eu
gwneuthur. Fel Duw gwybodaeth, y mae hyny yn cynwys
bod rhyw bethau iddo i'w gwybod. Mawredd ydyw hwnyna
yn tarddu o'r berthynas sy rhyngddo â rhywbeth y tuallan
iddo ei Hun. Ond yma yr ydym yn cael ein galw i edrych
arno, nid yn ei berthynas â dim y tuaHan iddo ei hun, ond
cyn bod dim o'r pethau yna mewn bod. Cyn iddo fod yn
Frenin, — cyn iddo fod yn Greawdwr, — cyn iddo ddechreu
gweithio, — cyn i'w fraich amlygu ei HoHaHuogrwydd, — cyn
i'w eiriau droi yn fydoedd ; pan ydoedd yn gyntaf heb ail ; — ■
yn Ydwyf, heb neb i ymryson âg Ef am yr enw. A pha beth
a aH ddangos anfeidroldeb ei fawredd yn fwy na hyn ì Y mae
mor fawr fel y gaH fentro galw sylw ato ei Hun, ar wahân
oddiwrth bob peth sydd y tuaHan iddo, neu o'i amgylch. Pwy
ond Hwn a aH wneyd hyny ? Pe cy r.eridoddiar hoH fawrion y
greadigaeth y pethau sydd y tuaHan iddynt eu hunain, mor
ddiddim, mor dlawd, fyddent yn y fan \ Cymerwch y deyrnas
oddiar y brenin, y mae y brenin yn diflanu gydâ 'hi, fel na
byddai yn fynych ond dyn digon cyffredin wedi ei adael. Yr
oedd Dafydd yn frenin enwog ; ond cymerer y deyrnas i ffordd,
bugaü anenwog fydd wedi ei adael. Yr oedd gogoniant So-
lomon yn fwy nag eiddo neb ar y ddaear ; ond pe y cymerasid
y Hys ardderchog, — y deml wych, — a'r hoH waith yr oedd yn
585 Yr mi byw a'i lywodraeíh.
ei wneuthur yn Jerusalem, i ffordd, ofer fuasai edrych am
ogoniant wedyn. Yr oedd Job yn fwyaf o holl feibion y
dwyrain, ond pan gollodd ef y camelod, — y defaid, — y cyfoeth, —
fe gollodd y mawredd. ]\Iewn pethau y tuallan iddo ef ei hun
yr oedd yn gynwysedig. Ond dyma un a all fforddio cymeryd
«i ysbeiHo o'r cwbl sydd o'i amgylch. CiHed y deyrnas, —
difoder y Ilys, — cymered y cyfoeth ei adenydd, — sudded y
greadigaeth i ddiddymdra, — nibyddyn ddim tlotach. Ycyntaý.
''Ai mwy wyt ti," meddai yr luddewon, " nag Abraham ?"
■" Cyn bod Abraham," meddai yntau, "yr wyf fì." Yr ydych
chwi wedi derbyn eich holl fawredd oddiwrth Abraham : tòri y
cysylltiad sy rhyngoch âg Abraham, a gymerai y cwbl oddi-
arnoch ; ond nid wyf fi yn ddyledus iddo, oherwydd " cyn
bod Abraham yr wyf fi." Y mae anymddibyniaeth yn disgleirio
trwy ei enw; a chan nad yw yn pwyso ar ddim, y mae yn un
heb ei ail i bwyso arno, Yr oedd mawredd Joseph yn gysgod
da i blant Jacob am flynyddoedd, ond am mai rhywbeth y tu-
allan iddo ef ei hun oedd hwnw, fe'u hysbeiliwyd o hono oll
ryw ddydd gan angau, nes yr oedd y bobl heb yr un cysgod,
Ond byth ni welir y rhai sydd yn pwyso ar Hwn felly, oblegid
nid y tuallan iddo ef y mae ei fawredd, ond yn hanfodol ynddo
ef ei hunan. " Myfi yw y cyntaf,"
Os ydyw yn gyntaf, y mae yn dilyn yn naturiol oddiwrth
hyn y bydd yn ddiweddaf. Er bod Ilawer o bethau yn codi
yn ei erbyn, y mae yn anmhosibl i ddim gael goruchafiaeth
arno. Gan mai Efe oedd y cyntaf, Efe a roddodd fôd i bob
peth; ac ni roddes fôd i ddim a fydd yn drech nag Ef ei Hun.
Heb son fod y peth yn afresymol, y mae yn anmhosibl. Ni all
y ffrwd ddim bod yn fwy na'r fíynon: ni all yr haul wneuthur
dim yn fwy goleu nag ef ei hun. Gan ei fod Ef yn gyntaf, y
mae yn eglur y bydd yn ddiweddaf. Y mae yn anmhosibl iddo
beidio a bod felly. " Rhaid iddo deyrnasu hyd oni osodo ei
holl elynion dan ei draed," " fel y byddo Duw oll yn oll."
Ac yna bydd mor eglur nad oes neb yn bod, yn llawn ystyr y
gair, ond Efe, ag ydoedd hi cyn iddo roddi bôd i neb arall.
Nid ydym i feddwl y llyncir y greadigaeth i fyny yn Nuw, fel
y mae yr haul yn yfed y tarth ; eto, fe'i darostyngir mor llwyr
iddo a phe buasai hi wedi ei difodi. Fel yr oedd yn gyntaf cyn
Yr un byw a'i lywodraeth. 586
rhoddi bôd i ddim, felly y bydd yn ddiweddaf, " wedi dilëu pob
pendefigaeth ac awdurdod ;" a gall ddywedyd, "YD\VYF,"eto
yn y diwedd, fel yn y dechreu ; gyda hyn o wahaniaeth, — yn
y dechreu nid oedd dim i adsain y gair yn ol ; ond yn y diwedd
bydd mil o filoedd, a myrdd o fyrddiynau, yn ei adsain, gan
ddywedyd, " Yr Hwn sydd, yr Hwn oedd, a'r Hwn sydd i
ddyfod." Y mae yn hyn hefyd ogoniant digyífelyb. Yr ydym
wedi gweled na chyll y Person mawr ddim wrth golli creadig-
aeth, ond y gall ddal i syllu arno fel y cyntaf. Drachefn yr
ydym yn gweled y bydd ei ogoniant Ef mor danbeidiol, fel y
bydd, er ei fod yn nghanol myrddiynau creadigaeth, a'r rhai
hyny yn " thronau, yn arglwyddiaethau, a thywysogaethau,"
yn ddnveddaf\ — bydd yn eu echpsio oll, fel na bydd neb
yn y golwg ond Efe ei Hun. Y mae Ilawer un wedi bod
yn tỳnu cryn sylw cyn hyn ; ond dyma yr un a dỳn sylw ddi-
weddaf, ac fe sugna sylw pawb mor llwyr, fel na cheir hamdden
am dragwyddoldeb i sylwi ar neb arall. Beth debygwch chwi
am ymddiried ynddo. Hudodd Absalom gryn lawer ar ei ol,
ond dangosodd yr amgylchiadau yn fuan, mai dilynwyr Dafydd>
er eu bod yn ddirmygus am ychydig, oeddent wedi gwneuthur
yn ddoeth. Efe oedd i fyny yn ddiweddaf. Felly, pa mor
ddirmygus bynag y gall dilynwyr Hwn ymddangos yn awr, fe
wèl pawb ymhen ychydig mai Efe fydd ar y làn, y diweddaf;
a bydd pawb sydd yn pwyso arno i fyny gydag Ef.
2. " Yr Hwn wyf fyw, ac a fum farw ;" neu, yn ol y gwreidd-
iol yn y fan hon, "yr Un byw.'- Mae yr enw hwn yn debyg i'r
un a fu o dan ein sylw, — y cyntaf. Dyma fe yn bod heb ddim
yn ei erbyn, — heb ddim i ddywedyd, " Wele fi ;" ond Efe hefyd.
Y diweddaf. Wele y Person mawr wedi darostwng pob péth
oedd felly. Felly yma, "yr Un byw :" dyna Efe yn ffynhonell
bywyd y greadigaeth fawr, — oll yn deilliaw o hono fel y mae y
goleuni a'r gwrês yn deilliaw o'r haul. '' Yr Hwn a fu farw ;"
— dyna yr Un byw yn ymryson â rhywbeth sydd ÿn codi yn ei
erbyn yn y caracter yna, sef angau ; — yr haul yn myned o dan
ddiffyg. " Ac wele, byw ydwyf yn oes oesoedd ;" — dyna'r
frwydr wedi ei henill, oblegid y mae yn dywedyd yr un peth
wedi dyfod o'r frwydr a chyn myned iddi ; yn cyhoeddi ei Hun
yr Un byw yr ochr draw i angau. Y mae hyny yn beth tra
587 Yr tin byw aH Iywodraeih.
gwahanol i ddywedyd yr ochr yma. Y mae yr ymadrodd hwn
yu gyfystyr â'r geiriau hyny, *' Myfi yw yr adgyfodiad a'r
bywyd," Adgyfociad ydyw bywyd yn ymryson âg angau :
bywyd ydyw concwest yr ochr draw iddo.
Ac onid oes yn y darluniad hwn eto ogoniant mawr? Yr
ydym wediedr^^ch ar y gwagle mawr heb ddim ynddo; ac yr.a
ni a welsom " Y Cyntaf " hwn yn ei lenwi â bydoedd : yn awr
ni a'i gwelwn Ef yn ffynhonell bywyd a phrydferthwch y rhai
hyn oll, fcl y mae yr haul naturiol yn bywhau ac yn ffrwythlonì
y ddaear. Ac cr i dywyllwch angau ddyfod i'w greadigaeth,
eto y mae ei belj'dr wedi treiddio trwy y tywyllwch hwnw. Yr
oedd yr efengylwr yn dy wedyd, fod " y goleuni yn llewyrchu
yn y tywyllwch, a'r tywyllwch heb ei amgyffred ef," hyny yw,
yr oedd y tywyllwch yn \\\y\v gaddug yn atal i'r goleuni
wneuthur ei ffordd trwyddo. Y mae rhyw ystad ar yr awyr-
gylch naturiol, megis y tawch {fog) yn y trefydd mawrion, nad
all goleuni yr haul ddim ymddangos trwyddo ; ond y mae
pelydr Haul Cyfiawnder wedi treiddio trwy fog cadduglyd
angau, — wedi gorfodi y tywyllwch hwnw i'w amgyffred. " Mi a
fum farw; ac wele, byAv ydwyf yn oes oesoedd."
y mae i ni glywed "Byw ydwyf yn oes oesocdd," mor ddieithr
ag ydyw i ni glywed y bydd yn ddiweddaf ; oblegid y mae hyn
yn cynwys goruchafiaeth ar angau. Wrth edrych ar yr holl
bcthau sydd yn codi yn ci erbyn, gellid ameu ai Efe a fyddai y
diwcddaf ; felly wrth edrych ar ddifrod angau, yr hwn sydd yn
codi yn ei erbyn Ef fel yr Un byw, gelhd ameu gwirionedd y
darluniad hwn hef^^d, oblegid, onid ydyw holl blant dynion yn
sathrfa iddo ? — onid yw yn ymryson â bywyd o'i j^mddangosiad
cyntaf, ac yn ddieithriad yn llwyddo i'w orchfygu ? Y mae ei
awel yn fynych yn diffoddi y ganwyll cyn iddi bron gael ei
goleuo. Nid oes yr un cyfaneddle i'r byw ar y ddaear, nad oes
yn yr un gymydogaeth gladdfa i'r meirw ; ac y mae nifer y
rhai sydd yn mynwes y ddaear yn anghymharol amlach na'r
rhai sydd ar ei hwyneb hi; a gellir dywedyd ryw ddiwrnodam
bob un sydd arni heddyw, " ni chaedef," ami angau eigymeryd
ef, fel y mae ei ffordd ef yn ffordd yr holl ddaear, a'i anedd oer
yn "dŷ rhagderfynedig i bob dyn byw." ' Pwy a ymgaledodd
yn ei cibyn ef, ac a Iwyddoddî' Pwy a feiddiodd ddywedyd
Yí' un hyio ai lywodraeth. 588
" Mi fydilaf by\v," nad ocdd angaa yn fuan yn gwneuthur y fost
yn un ofer iawn ? Oad dyma un yn dywedyd yn nghanol ei
diriogaethau, — ■" Yr hwn wyf fyw." Ac os nad digon hynyna
i greu hyder ynof, wele ychwaneg, " Mi a fum farw:" yn awr,
pwy ni all gredu "y byddaf byw yn oes oesocdd ?" — y b^^ddaf
yn "ddiwedJaf" yn hyn hefyd, fel yr oeddwn yn "gyntaf?"
Mi a ddinystriaf angau ; îe, gallaf gymeryd fy llw y gwnaf
hyny, os nad digon fy ngair, " Byw ydwyf yn oes oesoedd,
Anien." Dyna Iw ar y mater.
Y mae yr enw hwn, er ei fod yn dangos mawredd anfeidrol
yn ngha:"acter Mab Duw, yn dangos, fel yr awgrymwyd eisoes,
ryw agosrwydd at ddyn. Yn yr enw cyntaf, y Duw anfeidrol
oedd yn y golwg. Yr oedd cymaint o oleuni o amgylch hwnw
fel na eUid dyfod ato. Oad y mae yr enw, " Mi a fum farw,"
yn lleddfu tanbeidrwydd y goleuni, ac yn peri i ni deimlo mai
un o honom ni ydyw, obleg.d y mae nòd ein teulu ni arno, — y
mae ei leferydd yn eigyhuddo; acfeddylai clywed hyn efìfoithio
arnora, fel yr eíFeithiodd clywed Paul yn siarad Hebraeg ar yr
luddewon gynt, — teimlasant yn y fan ryw agosrwydd ato oedd
yn dditíithr iddynt o'r blaen, am ei fod yn siarad iaitheu tadau;
felly iaith briodol ein tadau ni ydyw hon. Ni allai ond un dos-
tarth ddysgu y gàn newydd y sonir am dani yn y llyfr hwn, — •
felly ni all neb ond teuhi dyn siarad y rhan yma o iaith y testyn ;
ac yn wir, ni raid fod awydd ar neb i'w dysgu ychwaith. Ond
wcle Un yn ei siarad yn groyw, " Mi a fum farw." Y mae yn
sicr mai un o'n tculu ni ydyw: y mae ei leferyddyn ei gyhuddo;
ac eto er bod yr ymadrodd yn bradychu y dyn, y mae mwy na
dyn yn ymlithro i'r golwg, oherwydd, onid oes rhyw newydd-
deb yn yr iaith, " Ac a fum farw." Ni a glywsom lawer yn
dywedyd, ac fe all pawb ddywedyd, " Mi fyddaf farw," oherwydd
diwedd hanes trigoHon y ddaear ydyw, "Efe a fu farw," Ond.
y mae hyn yn newydd : — " Ac a fum farw." Y maey neb sydd
yn llefaru fel hyn yn siarad yr ochr draw i'rafon. Niawelsom
lawer yn myned iddi, ond ni chlywsom air oddiwrthynt wed'yn
i'n hysbysu pa fodd yr ymdarawsant ; — a gawsant hwy rŷddaa
chaled, ai ynte lled ddwfn oedd y dwfr. Ond y mae Hwn yn
siarad yr ochr draw iddi. Y mae yn werth i ni wrandaw. Pwy
a ŵyr na chawn ni hanes rhyd i fyncd drwyddi? Edrychwch
^Sg Ÿr îin byw aH lywoaraêi/î.
ar y dyn yna yn croesi y traeth, ac yn myned rhagddo ÿn
gysurus a diofn nes dyfod at yr afon, île y gall y dwfr fod yrt
ddwfn, a'r rhydàu yn hollol ddieithr iddo, ac y mae yn dechreu
pryderu rhag iddo fyned i le rhy ddwfn, a cholli ei fywyd. Mof
werthfay/r i'r cyfryw fyddai clywed llais un o'r ochr draw, wedi
myned drosodd o'i fîaen, yn ei gýfarwyddo at y lle y gall groesi
trwodd yn ddiberygl. Ah ! yr ydym ninau yn nesu at hen afon
beryglus ofnadwy, y collodd mihynau eu bywydau ynddi. Nid
oes modd ei hosgoi. Ond dyma un wedi bod trwy y dwfr ei
hunan, ac wedi cyraedd yr ochr draw, — glàn bywyd tragywyddol
— oddiyno yn gwaeddi allan i'ch cyfarwyddo pa fodd i fyned
drosodd yn ddiogel. Gwrandewch ; dyna y mae yn ei ddywedyd,
" Yr hwn sydd yn credu ynof fi, ni bydd marw yn dragywydd."
Dyna rŷd â gwaelod caled iddo, i ninau fyned drWodd.
Y mae defnydd cysur i ni yn yr anghysondeb sydd yn y ddaü
enw. Yr Un byw yn marw, pa reswm sydd yn hyny ì Marw-
olion sydd yn marw ar y ddaear ; — y rhai sydd âg elfenau
marwolaeth ynddynt. Beth gan hyny yw hyn, — yr Un byw
yn marw ? A ! medd ffydd, rni warantaf fi fod rhywbeth mewn
marwolaeth fel yna i farwoHon, oherwydd nid oedd raid i'rUn
byw farw o'i ran ei hunan. Oes ; ac wele ei ffrwyth hi :—
"Byw ydwyf yn oes oesoedd," a " byw fyddwch chwithau
hefyd." Ymaflwn yn fìfrwythau yr angau trwy gredu ynddo.
3. "Y mae genyf agoriadau uffern a marwolaeth." Y mae
hyn, fel yr awgrymwyd eisoes, yn myned gam yn mhellach.
Nid fe'u gorchfygir ganddo ryw bryd, eithr y maent yn ei Iav/
yn awr. Felly y dywedir am Gad, " Gad, llu a'i gorfydd ; ac
yntau a orfydd o'r diwedd ;" — fe gaiff goncwest ryw dro ; ond
nid felly Hwn, y mae wedi ei chael hi yn awr. "Cofia fi,"
meddai y lleidr, " pan ddelych i'th deyrnas," ond y mae amser
iaith fel yna wedi myned heibio, oblegid y mae ynddi yn awr :— •
" y mae genyf agoriadau uffern a marwolaeth."
Ni a welwn yn yr ymadrodd nerth, ac eangder y Uywodraeth.
(i.) Nerth y llywodraeth : llywodraeth ar uffern a marwolaeth.
Pwy a glybu y fath beth ? Yr hen gwestiwn anatebadwy oedd,
" Pwy a fydd byw, ac ni wêl farwolaeth .?" " Pwy a lywodr-
aetha ar yr ysbryd i atal yr ysbryd ?" Fel yr oedd meibion
Serfiah yn rhy galed i Dafydd allu eu lly wodraethu : felly yr oedd
Tr un hyw n'i lyw dracth. ^yçỳ
niTern a marwolaeth i bawb; oiid medd hwn, "y mae genyf
agoriadau uffern a marwolaeth." Fy ngwas i ydyw angau : fy
ngharchar i ydyw uffern, Er ei fod yn lle yn yi" hwn y mae
tywysogaethau ac awdurdodau, cedyrn o nerth, eto y mae yn
hbllol yn fy llaw i. Ac os ydyw y pethau mawrion yna yn ei
law, y mae yn rhaid fod pob peth llai.
(2.) Y mae eangder y llywodraeth hefydyn y golwg. Y mae
rhyw fynydd neu afon yn derfyn i lywodraeth pawb ond Hwn.
Yr oedd Nebuchodonosor yn dywedyd fod Babilon yn fawr ;
ond yr oedd terfyn iddi. Yr oedd y mynydd i'r hwn y cymer-
wyd lesu Grist gan Satan yn ddigon uchel i weled teyrnas fwy
nag y bu neb erioed yn ei meddu ond Satan ; eto yr oedd terfyn
i hono : nid oedd yn cyraedd ond at yr afon. Yr ochr yma i
hòno y mae e'n dy wysog : carcharor ydy w yr ochr arall. Ond
y mae Hwn yn sefyll ar fynydd digon uchel, nid i weled at yr
afon yn unig, ond yr ochr draw iddi hefyd ; ac y mae y wlad
fawr sydd yr ochr draw i'r afon yn perthyn iddo fel y wlad
sydd yr ochr hon ; — "y mae genyf agoriadau uffern a marwol-
aeth." Gellir cymeryd uffern naiU ai am gartref y colledigion,
neu am y byd anweledig i gyd : y mae hyn yr un mor wir am
böb un o honynt ; — y byd dieithr, y byd mawr. Ei air Ef sydd
yn ddeddf yno : ei wên a'i ŵg Ef sydd yn oleuni ac yn dy wyllwch
yn y wlad.
Pwy na ddymunai fod fel loan, ynddisgybl anwyl i Hwn ì — *
o nifer cyfeilhon Hwn ? Hyny a ddisgwyliwn ni mewn cyfaill^
onide ? ydyw ei gael yn un ffyddlawn, — yn un heb gyfnewid-
fadau, — yn un a rydd gyngor i ni mewn dyryswch, — a gyd-
ymdeimla â ni mewn profedigaeth, ac a estyn ymwared os
gall ; ac yr ydym yn disgwyl hefyd iddo ddyfod i wylo deigryn
ar ein bedd. Fe wna Hwn bob peth a wna Cyfaill,' ac an-
nhraethol fwy. Y mae yn gysur i ni gael cyfeilhon yn ein
hymyl yn ein profedigaethau ; ond mor aml y teimlwn ni fel
Job, " cysurwyr gofidus " ydynt hwy oll ; ond gall Hwn
ddywedyd yn y brofedigaeth, " Myfi y w y cyntaf a'r diweddaf,"
nes y bydd nerth ei eiriau yn gwneuthur y mynyddoedd yn
wastadedd o'n blaen. Y mae yn rhyw gysur i ni gael '^eirs
cyfeilHon i edrych arnom yn myned i'r glyu tywyll; ond ni
bydd ganddynt ddim i'w wneuthur ond edrych. Ond fe sibrwd
59 1 î'^ ^''^ byw íPi Iywodraeth.
Hwn yn dy glust y pryd hyny, " Mi fum inau farw; am hyny,
Tiac ofna ; cred yn unig." Y mae ihai o honoch yn claddu
eich pertliynasau ydyddiau hyn, ac y mae yn ddagenych weled
eich cyfeiHion yn y cynhcbrwng ; ond ni fedrant wneuthur
nemawr yno. Ond os ydy w Hwn yn Gyfeill i chwi, fe ddaw
yntau ÌT claddedigaeth, ac fe ddywed ar làn y bedd, " Myfi
ydyw yr adgyfodiad a'r bywyd," nes tawelu y meddwl yng
îighanol yr ystorm ; ìe, fe gerfir hyn ar dy gareg fedd di dy hun.
Y mae cryn fantais o berthyn i goron Lloegr. Y mae y
îlywodraeth yn eang ac yn gref ; ond gall y deiliaid er hyny
gael eu dirmygu a'u lladd : cnd os caf berthyn i deyrnas Hwn,
3)i fciddia neb fy nirmygu na'm niweidio, oherwydd
" Brenin y brenhinoedd ydyw,
Yma a thu draw i'r bedd."
Os b^'dd Hwn yn eich erbyn, at bwy y fTowch am gynorthwy ?
[YRgfrifcnwyd jn gyntaf, lon. 27, 1854 ;
Adysgrifenwyd, Mai 26, 1854.]
JPREGETH XXxVn.
SICRWYDD LLWYDDIANT GEIRIAU DUW.
ESAIAH lv. 10, 11 : — " Canys fel y disgyii y gwlaw a'r eira o"r nefoedd, ac
ni ddychwel yno, eithr dyfrha'r ddaear, ac a wna iddi darddu a thyfu,
fel y rhoddo had i'r hauwr, a bara i'r bwytawr : felly y bydd fy ngair,
yr hwn a ddaw o'm genau : ni ddychwel ataf yn wag ; eithr efea wna
yi- hyn a fynwyf, ac a Iwydda yn y peth yr anfonais ef o'i blegid."
MAE pawb sydd yn credu fod Duw yn addef hefyd
ei fod yn Dduw gwirionedd, ac heb anwiredd, — yn
Dduw y mae doethineb a chadernid yn eiddo iddo ;
eto y mae llawer yn ymarferol yn gwadu y pethau yna. Pan
y mae Duw yn gweithio yn ddigyfrwng ac yn uniongyrchol,
nid oes neb yn ameu nad ydyw y priodohaethau hyn yn eiddo
iddo, ond pan y bydd yn gweithio drwy ail achosion, yn enwedig
os bydd yn cymeryd araser maith i gyflawni ei amcanion, y mae
llawer yn ameu ai Duw gwirionedd ydyw, neu a oes gallu yn
perthyn iddo. Oblegid hyn, y mae yr Arglwydd drachefn a
thrachefn yn ei air, yn sicrhau i ni y cyflawnir yr amcanion
sydd yn cael eu dwyn o amgylch trwy gyfryngau, neu ail
achosion, mor sicr a'r rhai a gyflawnwyd ganddo yn ddigyfrwng. *
Yn y greadigaeth gweithio yr ^doedd, am a wyddom ni, yn
ddigyfrwng ; — gwneuthur byr waith : "Efe a ddywedodd, ac
felly y bu ; Efe a orchymynodd, a hyny a safodd." Gydag
iddo ddywedyd, " Bydded goleuni," yr oedd goleuni yn bod ; —
" Bydded ffurfafen," ac yr oedd hi yn ei lle. Ond yn nhrefn
iachawdwriaeth, y mae yn gweithio Uawer trwy ail achosion :
felly, nid byr waith yw ei waith yraa. 1 bob ymddangosiad^
* Efe a ddywedodd, ac nidýelly y bu,' ydyw hi yma ; oblegid
hyn, y mae aml un o'r offerynau trwy ba rai y mae yn gweithio
C3
5^3 Sicrwydd llwyddiant geiriaii Uuw.
yn barod i ddy wedyd, — " Yn ofer y llafuriais ; yn ofer ac ara
ddim y treuliais fy nerth." Ac y mae llawer un anystyriol ac
anghrediniol yn dywedyd, " Pa le y mae gair yr Arglwydd ?
deued bellach." Y mae yr hj^der ynddo yn cael ei golli. I
symud y teimladamheusacanghredinicl ynaorfynwes, cyfèirir
ni yn fynych yn y Bibl at yr hyn y mae yr Arglwydd wedi ei
wneuthur yn y greadigaeth, fel prawf fod y gair mor sicr o fod
yn llwyddianus yn ei gysyíltiad â threfn iachawdwriaeth,
" Yn dragywydd, O Arglwydd, y mae dy air wedi ei sicrhauyn
y nefoedd : seiliaist y ddaear, a hi a saif ;" hyny yw, y mae dy
air yn seíyllyn y nefoedd; ac y maeyn sefyll yn y ddaear hefyd;
ac y mae hefyd yn sicrhau y saif yn nhrefn iachawdwriaeth.
" Adeiledir trugaredd yn dragywydd :" y prawf o hyny ydy w,
" Yn y nefoedd y sicrheir dy wirionedd." Y mae y nefoedd,.
trwy fod y gair yn sefyll ynddi hi, yn dyst sicr a pharhaus yr
adeiledir trugaredd ; íe, yn mhellach, " y mae y gair wedi ei
fawrhau uwchlaw ei enw oll/' sef, uwchlaw pob datguddiad
arall o hono ei Hun. Y mae yn haws i'r gair sydd yn sefyll yn
y nefoedd fyned yn ddirym, nag i'r gair sydd yn y Ilyfr hwn
fyned felly. Fe â y nef a'rddaear heibio, cyn yr â yr un iod nac
un tipyn o'r rhai hyn heibio heb eu cwblhau. A'r gwirionedd
sydd yn cael ei gyflwyno i'n sylw yn y testyn ydyw, dcrwydd
llwyddiant geiriau Duw : nid rhyw air penodol, ond ei holl
eiriau, neu holl ewyllys yr Arglwydd. Fe ddangosir i ni yma,
fod y Uwyddiant sydd wedi bod ar eiriau Duw yn y greadig-
aeth, yn esiampl a phrawf o'r Ilwyddiant a fydd arnynt eto yn
nhreín iachawdwriaeth. Nid yw gair Duw ddîm wedi ei adáel
yn ddi-dyst ; ond y mae holl beirianwaith y greadigaeth wedi
ei fwriadu i gryfhau ein hyder ynddo. Gall y gair ddywedyd
arn y greadigaeth, fel y dywedodd Mab Duw am Moses, * Pe
credasech chwi i'r greadigaeth, chwi a gredasech i minau,
oblegid am danaf fi y tystiolaethodd hi.' Y mae fod y gair
wedi Ilwyddo, — ac yn Ilwyddo, — yn brawf y Ilwydda fe eto.
Y mae wedi ei sicrhau yn y greadigaeth ; y mae yn cael ei sicr-
hau mewn rhagluniaeth ; ac y mae hyny yn profi y sicrheir ef
hefyd mewn iachawdwriaeth.
I. Edrychwn ar y gair wedi gwneuthur yr hyn a fỳnodd Duw
yn y greadigaeth. Nid yw y nefoedd uchod, na'r ddaear isod,.
Sicrwydd Uicyddiant geiriau Diíto. 594
yn ddim ond Duw yn dywedyd, "Fy nghyngor a saif, a'm holl
ewyllys a wnaf." Nid yw y bydoedd mawrion yna oll, yn
ddim ond meddyliau calon Duw yn sefyll o genhedlaeth i gen-
hedlaeth. Yr oedd Job yn dymuno am i'w eiriau gael eu
hysgrifenu yn y graig, i gael iddynt barhau. Geiriau Duw
wedi eu hysgrifenu gan ei allu ydyw yr holl bethau a welir ; ac
y maent yn adsain trwy'r oesoedd, — " Efe a ddywedodd, ac
felly bu," ac wrth ei farnedigaethau y safant heddyw. Os
amheuwn ni, neu os gwadwn ni sicrwydd geiriau Duw, y mae
yn rhaid i ni wadu mai nid goleuni ydyw yr haul ; — nad oes yr
un ífurfafen uwchben ; — mai nid moroeddydyw casgliad y dyfr-
oedd ; — mai nid llysiau a phrenau ydyw y pethau sydd yn
harddu wyneb y ddaear ; — nad oes anifeiliaid ar ei hwyneb hi ;
nac adar yn ei hawyr hi ; a sut y rhoddwn ni gyfrif am danom
ein hunain. Wrth íîydd yr ydym yn deall iddynt gael eu
gwneuthur oll trwy ei air Ef ; ac y mae eu bod yn sefyll hyd
heddy w yn dystiolaeth barhaus o nerth a sicrwydd y gair hwnw.
Eu hiaith oll ydyw, " Gwir yw y gair." '' A ddy wedodd Efe ac
nis cyflawna ì a lefarodd Efe, ac oni chywira ?"
Y mae rhwystrau ac annhebygolrwydd yn ein dyrysu ni yn
barhaus. Mor fynych yr ydym yn dywedyd yn ein calon am
ryw bethau y mae Duw wedi eu haddaw, Pe gwnelid ffenestri
yn y nefoedd, a fyddai hyn ì Ond byddai edrych ar y greadig-
aeth yn ddigon i'n cywilyddio ni am ein hanghrediniaeth. Y
mae y greadigaeth yn hen erbyn hyn ; ond bu yn ieuanc ryw
bryd. Fe fu dechreu iddi hi ; a phe byJdai modd i ni fyned yn
ol yn ein meddwl cyn y dechreu, i'r amser, pe buasai yn amser
hefyd, pryd nad oedd dim na neb yn bod ond Duw, yr hwn
oedd, y pryd hyny, yn Ysbryd anweledig, holl-bresenol, yn
preswylio tragy wyddoldeb ; — yn "Ydwyf" ymhob ' Ile, yn
ddigon iddo ei hun : yn yr amgylchiadau yna, oni buasai yn
anhygoel i neb dybied y gwelsid creadigaeth ddiderfynau yn yr
eangderau ì Pe mynegasid fod y peth mewn bwriad, oni buasai
digon o gwestiynau yn cael eu gofyn yn y fan ; a phob un o
honynt yn cynwys digon i ddangos fod y peth yn amhosibl ?
O ba le y daw hi ? Os gall Duw eu gwneuthur hi, pa fodd na
buasai yn ei gwneuthur cyn hyn, agyntau yn bod o dragywydd-
oldeb ? Gan ei fod yn gallu yr hyn a fỳn, beth sydd i'w gy mell
595 Sicrwyad Ilwyddianí geinaii DiíW.
i'w gwneuthur yn awr nad oedd yn ei gymell ef erioed ? a pha
fodd y gwneir hi ? Ond, erbyn heddy w, y raae y íFaith wedi
ateb y gwrthddadleuon ; oblegid, dyrchefwch eich llygaid i
fyny, ac edrychwch ar y nefoedd uchod, ac edrychwch drachefn
ar y ddaear isod, a chwi a welwch air Duw wedi trechu y
rhwystrau. I Dduw, mewn gwirionedd, nid oes dim rhwystrau:
iddo Ef, yr un peth yw ewyllysio a gwneuthur. Ond iaith
creadur ydyw, " Yr ewyllysio «ydd barod ; ond cwblhau, nid
wyf yn medru arno :" am hyny prawf o eiuyllys creadur ydyw
ei eiriau, ac nid o'i allu ; ac am nad ydyw ei allu a'i ewyllys
ddim yn gyfartal, y mae ei eiriau yn fynych yn syrthio i'r
llawr. Ac y mae tuedd gref ynom ni i dybied Duw yn hyn
hefyd yn gyfryw â ni ein hunain : am hyny, er i ni glywed ei
eiriau, ac felly deall ei ewyllys, yr ydym yn ameu eu cyflawn-
iad, am ein bod yn anghofio mai yr un peth i Dduw ydyw
gwneuthur a raeddwl, neu gyflawni ac ewyllysio. Oblegid hyn,
cyfeirir at y greadigaeth yn yr Hen Destaraent yn amlach fel
prawf o allu Duw na dim arall, i brofi nad oes eisiau dim ond
iddo ewyllysio i sicrhau y cymer y peth le. " Dyrchefwch eich
llygaid i fyny, ac edrychwch." I ba beth ? I gael gweled
" amlder ei ryra Ef, a'i gadarn allu." " Myfi yw yr Arglwydd
sydd yn gwneuthur pob peth ; yn estyn y nefoedd fy hunan, yn
lledu y ddaear o honof fy hun." Beth wedyn ? " Yr hwn a
gyflawna air ei was," " Fy Ilaw i a seiliodd y ddaear, a'm
deheulaw i a rychwantodd y nefoedd: pan alwyf fi arnynt, hwy
a gydsafant." Felly y bydd fy ngair i eto : os dywedais, nid
oes dim i'm hatal i gywiro.
2. Ond cyfeiriad sydd yn y testyn at y modd y mae goruch-
wyliaethau cyson rhagluniaeth yn gwirio geiriau Duw, ac yn
cyflawni ei ewyllys, — i brofi y gwirir y geiriau, ac y cyflawnir
yr ewyllys, sydd yn ddadguddiedig yn 3^ Ilyfr hwn hefyd. " Fel
y disgyn y gwlaw a'r eira o'r nefoedd, ac ni ddychwel yno,
eithr dyfrh a'rddaear, ac a wna iddidarddu a thyfu,fel y rhoddo
had i'r hauwr, a bara i'r bwytâwr.'" Ac y mae rhagluniaeth
yn dwyn ar gof i ni ffyddlondeb Duw i\v air yn well ua chre-
adigaeth, am ein bod yn gweled y ffyddlondeb hwnw yn awr.
Ein teimlad ni am y greadigaeth ydyw, iddi hi gael ei dwyn i
fod ar unwaith, a hyny er ys oesoedd aneirif yn ol, a'i bod hi
Sicr'wydd llinycldiant geiriaii Dim. • 596
yn sefyll fel cofadail o allu a doethineb dwyfol ; ond yr ydym
mewn perygl o deimlo mai gallu a fu, a doethineba fu yn eiddo
Duw, sydd yn cael eu dangos ynddi, ac nid yr hyn sy ganddo
yn awr. Y mae cymaint o gyfnewidioldeb ynora ni ein hunain,
ac ymhob peth o'n hamgylch, fel y mae yn anhawdd i ni
sylweddoli i'n meddwl y gall un fod yr un yn awr ymhob ystyr,
ag ydoedd filoedd o flynyddoedd yn ol ; ond y mae rhaglun-
iaeth yn dangos beth ydyw Duw heddyw. Y mae y bydoedd
yn dangos beth a fu ei air; ond y mae y tân a'r cenllysg, a'r
gwynt ystormus, yn dangos beth j'dyw yn avv'r. I ni, Duw
wedi gweithio ydyw Duw yn y greadigaeth, ac wedi gorphwys
oddiwrth ei weithredoedd ; ond mewn rhagluniaeth, nid Duw
wedi gweithio ydyw, ond yn gweithio ; — "' y mae fy Nhad yn
gweithio hyd yn hyn." Ẅrth edrych ar y nefoedd uwchben,
a'r bydoedd aneirif sydd yn ei chyfansoddi, ac ar y mynydd-
oedd, y creigiau, a'r moroedd, ar y ddaear, — ni a welwn fod
Duw wedi bod yna unwaith, oblegid ôl ei fysedd ef, ac argraíf
ei law ef, ydyw y pethau yna ; ond wrth edrych ar brenau y
maes, — ar y gwlithyn sydd yn harddu y llysieuyn, neu ar y
gawod yn disgyn o'r cymylau, ni a welwn ei fod Ef yma yn
awr. Nid fe fu nerth yn ei eiriau rywbryd, ond y mae nerth
ynddynt yn bresenol. Y mae y gwlaw a'r eira yn profi y
safant yn awr, mor wirioneddol ag y profodd y bydoedd hyny
yn moreu amser; a mynych y mae yr Arglwydd yn y Bibl yn
cyfeirio at y pethau sydd yn cyraeryd lle yn barhaus, fel
profion o sicrwydd cyflawniad ei eiriau. Yr ydym wedi dy-
wedyd eisoes ei fod yn ein cyfeirio at y greadigaeth fel prawf
o'i nerth, — i ddangos fod ganddo ddigon o allu i gyflawni ei
eiriau ; ond y mae yn ein cyfeirio hefyd yn fynych at gyson-
deb rhagluniaeth fel prawf o'i fí"yddlondeb iddynt. ." Fel hyn
y dywed yr Arglwydd, Os fy nghyfamod à'r dydd ac â'r nos ni
saif, ac oni osodais i ddefodau'r nefoedd a'r ddaear, yna had
Jacob a Dafydd fy ngwas a wrthodaf fi, fel na chymerwyf o'i
hdd ef lywodraethwyr ar had Abraham, Isaac, a Jacob : canys
mi a ddychwelaf eu caethiwed hwynt, ac a drugarhaf wrthynt.'
Jer. xxxiii. 25, 20. Y mae bod y cyntafyn cymeryd lle, yn
sicrwydd y cymer yr ail le ; am hyny, bob tro y gwelwch chwi
yr haul yn machlud, — y nos yn dilyn y dydd, — gellwch fentro
5g7 Sîcrwydd Uwyddiant gci'nan Diiia.
pwyso OT newydd ar fy ngair i ; ond pan y gweloch chwi ryw
debyg nad ydyw yrhaul ddim i godi, neu ynteddim i fachludo,
y mae yn bryd i chwi yr amser hwnw ddechreu ofni am gyf-
lawniad yr addewid. Mewn lle arall, y mae ganddo eiriau fel
hyn : — " Fel hyn y dywed yr Arglwydd, yr hwn sydd yn rhoddi
yr haul yn oleuni dydd, defodau'r lloer a'r sêr yn oleuni nos»
yr hwn sydd yn rhwygo'r mòr, pan ruo ei donau; Arglwydd
y lluoedd yw ei enw: os ciha'r defodau hyny o'm gwydd i,
medd yr Arglwydd, yna had Israel a baid â bod yn genedl ger
fy mron i yn dragywydd." Jer. xxxi. 35, 36. Pan y gweloch
chwi y defodau yna yn ciHo, y mae yn bryd i chwi ofni am
eich diogelwch ; ond nid cyn hyny. " Canys fel dyfroedd Noah
y mae hyn i mi : canys megis y tyngais nad elai dyfroedd Noah
mwy dros y ddaear ; felly y tyngais na ddigiwn wrthyt, ac na'th
geryddwn." Esa. Hv. 9. Yr wyf wedi tyngu y naiH beth fel y
llaH ; am hyny bryd bynag y gwelwch chwi y bwa yn y cwmwl,
bydd yn brawf, nid na ddaw diluw, ond na ddigiaf wrthyt ti,
ac na'th geryddwn. Ac yn Esa. xHv. 27, 28, y mae yr Argl-
wydd yn cysyHtu yr hyn y mae yn ei ddywedyd wrth y gread-
igaeth a'r hyn y mae yn ei ddywedyd wrth ei bobl â'u gilydd,
i ddangos fod yr un sicrwydd yn y geiriau yn y ddaü le. Y
mae Jerusalem mor sicr o gael ei chyfaneddu, — y mae y deml
mor sicr o gael ei sylfaenu, ag yw y dyfnder o gael ei sychu.
Y mae rhagluniaeth wedi gwasanaethu y llyfr hwn mewn
dwy ffordd, sef trwy dòri ei deddfau, a thrwy eu cadw hwynt.
Y mae wedi tòri ei deddfau i brofi mai Duw sydd wedi Hefaru
y Hyfr : y mae yn eu cadw i brofi y cyflawnir y geiriau oH.
Dyna'r haul yn sefyH yn Gibeon, a'r Heuad yn nyffryn
Ajalon ; — dyna'r môr yn agor ar ei draws ; — dyna gyfamod y
dydd a'r nos yn cael ei dòri yn yr Aipht a Gosen, i brofi mai
Duw a lefarodd yr hoH eiriau hyn. I brofi na syrth yr un o
honynt i'r llawr, dyna'r haul yn codi ac yn machlud yn ei
amser; y Heuad yn dyfod yn ei thymor; y môr yn Henwi ac
yn treio ; y tymhorau yn dilyn eu gilydd yn rheolaidd. " Pe
buaswn i wedi gweled yr haul yn sefyH," medd y dyn, " mi
fuaswn yn credu y geiriau." Wel, fe safodd unwaith i brofi
mai yr un ag a ddy wedodd, " Bydded " wrtho ef, a ddywedodd
hefyd, " Trowch eich wynebau ataf fi, hoH gyrau y ddaear, fel
Sicrwydd Ilwyddiûiit geiriau Dttv.\ 5.98
5'Vh achuber." Ac y mae iddo godi a machlud bob dydd, yn
ddifwlch, yn bregeth feunyddiol ar wirionedd yr addewid.
Ewch i làn y môr i'w weled yn llenwi ac yn treio ; chwi agewch
gymorth trwy hyny i osod eich gobaith o'r newydd &x Dduw'
Ewch allan ar ol cawod o wlaw, yn nechreu haf, i weled y
meusydd yn adfy wio, — y gwellt yn tarddu ac yn tyfu ; — chwi
ellwch ddywedyd wedi dychwelyd, Fe dderfydd paganiaeth o'r
ddaear, — fe wywa coel-grefydd o'r byd, — fe dderfydd annuw-
ioldeb o'n gwlad, — fe adnewyddir wyneb ein heglwysi eto. Y
mae rhywun yn barod i ofyn, '.* Pa brawf a gawsoch chwi o
hyny ì " Yr ateb fyddai, " A welwch chwi fel y mae y ddaear
yn tarddu ac yn tyfu arol ygawod yna? " ''Beth sydd a fyno
hynyna â phaganiaeth y byd, neu âg annuwioldeb ein gwlad? "
Felly y bydd y gair eto : y mae gweled yr ewyllys yn Ilwyddo
yn y ddaear, yn sicrwydd y Ilwydda hi gyda'r trigolion. " Felly
y bydd fy ngair i."
Ond i alw eich sylw yn fwy neillduol at y gymhariaeth yn y
testyn, y mae yn debyg mai dylanwad cyffredinol y gair ar
wlad sydd yn cael ei ddangos yma, sef y bydd mor sicr o fod ya
fendith i'r trigolion ag ydyw y gwlaw a'r eira o fod felly i'r
ddaear ; a gallwn yn y gymhariaeth gael atebiad i holl wrth-
ddadleuon ac ofnau y rhai hyny sy naill ai yn dywedyd, neu yn
ameu, mai nid felly y bydd.
I. Y mae mor sicr o Iwyddo i gyraedd ei amcan ag ydyw y
gwlaw a'r eira o gyraedd eu hamcan hwynt, oherwydd y mae
mor gymwys i'w ddiben ag ydynthwy i'w hamcan. iNi wyddom
ni nemawr am gymhwysder y gwlaw a'r eira i beri i'r ddaear
darddu a thyfu; ond y mae y íîaith nad oes dim yn tyfu Ile nad
ydynt, a bod y cwbl yn tarddu acyn tyfu lley maent, yn ddigon
i brofi eu bod yn gymwys i ateb y diben, Ac y maè bod gwrês
yr haul, a dylanwad yr awyrgylch yn myned yn gwbl ofer \
wlad, os na bydd yno wlaw, yn profi ei fod yn un peth anheb-
gorol i'r ddaear. Yr ydym ni, mewn gwlad fel hon, o dan gryn
anfantais ì deimlo prydferthwch agrym Ilawer ogymhariaethau
y Bibl, ac yn enwedig y rhai hyny ynghylch y dwfr, neu y
gwlaw. Ni wyddom ni nemawr beth ydyw ei eisiau; am hyny
nid ydym yn gweled nemawr o'i werth ; a phan atelir ef ara
beth amser yma, y mae y gwres mor gymedrol fel na theimlir
599
SicriL^ydd líwyddiant geiriati Dtiw.
yn fuan lawer oddiwrth h^my : ond yn y Dwyrain, y mae hoîî
natur fel ar dranc os bydd hir eisiau gwlaw. Nid oes dim dis]
grifiadau mwy grymus yn y Bibl, na disgrifiad o wlad heb
wlaw. Joel i. lo — 12, 17 — 20; Jer. xiv. 3 — 6. " Difrodwyd
y maes, y ddaear a alara ; canys gwnaethpwyd difrod ar yr ŷd :
sychodd y gwin newydd, llesgäodd yr olew. Cywilyddiwch, y
llafurwyr ; udwch, y gwinwyddwyr, am y gwenith, ac am yr
haidd : canys darfu am gynhauaf y maes. Gwywodd y win-
wydden, llesgäodd y ffigysbren ; y pren pomgranad, y balm-
wydden hefyd, a'r afallen, a holl brenau y maes a wywasant ;
ara wywo llawenydd oddiwrth feibion dynion, "Pydrodd yr
hadau dan eu priddellau ; yr ysguboriau a anrheithiwyd, yr
ydlanau a fwriwyd i lawr, canys yr ŷd a wywodd. Oh o'r
griddfan y mae yr anifeiliaid ! y mae'n gyfyng ar yminteioedd
gwartheg, am nad oes borfa iddynt ; y diadellau defaid hefyd a-
anrheithiwyd. Arnat ti, Arglwydd, y llefaf; canys y tân a^
ddifaodd borfeydd yr anialwch, y fflam a oddeithiodd holl
brenau'r maes. AnifeiHaid y maes hefyd sydd yn brefu arnat ;
eanys sychodd y ffrydiau dwfr, a'r tàn a ysodd borfeydd yr
anialwch." — " A'u boneddigion a hebryngasant eu rhai bychain
i'r dwfr : daethant i'r ffosydd, ni chawsant ddwfr; dychwelas-
ant â'u llestri yn weigion : cy wilyddio a gwladeiddio a wnaeth-
ant, a chuddio eu penau. Oblegid agenu o'r ddaear, am nad
oedd gwlaw ar y ddaear, cywilyddiodd y llafurwyr, cuddiasant
eu penau. lë, yr ewig hefyd a lydnodd yn y maes, ac a'i
gadawodd, am nad oedd gwellt. A'r asynod gwylltion a safas-
aut yn y lleoedd uchel ; yfasant wynt fel dreigiau : eu llygaid-
hwy a ballasant, am nad oedd gwellt." Y mae, ni a welwn, yn
beth nad all y ddaear ddim gwneyd hebddo. Felly y gair, a
gallwn gasglu ei gyfaddasrwydd ef oddiwrth ffeithiau, fel y
gwlaw. Beth ydy w y byd lle nad ydyw ? Beth ydyw ei wedd
lle y mae ì Y mae dau air yn ddisgrifiad o'r byd lle nad ydyw
y gair : y mae yn ddiffaethwch, ac y mae yn fyd sydd yn difa
ei breswylwyr, hyny y w, y mae yn ofer ac y mae yn druenu s.
(i.) Fel diffaethwch y mae yn ofer. Diffaethwch ydyw y
ddaear mewn ystyr ysbrydol heb y gair. Priodol ydy w gofyn,
wrth edrych ar bob gwlad sydd hebddo, Paham y bu y goUed
hon ? oblegid y mae hi nior ofer ag ydyw y diffaethwch : nid
Sicrwydd Uioyddiant geiriau Duiu. 6ocJ
yn unìg nid y\v yn cynyrchu din erbyn byd ar ol hwn, ond
nid oes yno nemawr o bethau hwn i'w cael. Nid yw y
rhinweddau angenrheidiol tuag at wneuthur y ddaear yn dded-
wyddddimi'wcael yno, hebson amyrhaihyny syddi dyfu yma ,
felmewn planigfa, i gael euhadblanu ryw ddydd yn y nefoedd,
Ac y mae pob dylanwad ar wlad yn ofer heb y gair. Nid y w
y nefoedd ddim yn datgan gogoniant Duw i wlad felly, na'r
íFurfafen yn mynegu gwaith ei ddwylaw Ef. Os na bydd y
gair yno, y mae eu hiaith a'u hymadrodd hwynt mor ofer i'r
trigoHon, ag ydyw gwres yr hauî i'r diflfaethwch heb y gwlawf
ac y mae pob ymdrech gydà dyn heb y gair mor ofer ag a
fyddai gwaith amaethwr yn trin ei dir yn ofalus, — ^yn hau
ynddo yr hadau goreu, — heb i'r gwlaw ddisgyn yn ei amser.
A byddai yn dda i lawer gredu y gwirionedd hwn yn y dydd-
iau yma, oblegid y mae llawer o gynlluniau yn cael eu
cynyg i wellàu y byd sydd yn cau allan air Duw ; ond bydd
y llafurwyr yn sicr o gywilyddio : ni wnant ond ei arwain o
un drwg i un arall ; os gwaredir ef o ofergoeledd, fe'i har-
weinir ef i anflf^'ddiaeth.
(2.) Oad y mae y byd, nid yn unig yn ofer, ond yn druenus.
Nid y^y y disgrifìadau a ddarllenwyd o drueni y gwledydi
dwyreiniol pan heb wlaw, ddim yn ddigon grymus i ddangos
trueni ysbrydol y byd heb y gair. Nid oedd ystàd Canaan am
saith mlynedd y newyn yn nyddiau y patriarchiaid, — ystàd
Israel am y tair blynedd na bu dim gwlaw yn nyddiau Elias, —
ac ystâd Samaria yn amser y gwarchae, — ond cysgod gwanaidd
o drueni ysbrydol y byd heb y gair. Ond wrth edrych ar ei
wedd Ue y mae y gair, ni a Welwn ei fod mor gymwys iddo ag,
ydyw y gwlaw i'r ddaear ; oblegid y mae ei anialwch a'i ddi-
íFaethwch moesol yn blodeuo fel rhosyn o dan ei ddylanwad.
'Y mae trigfa dreigiau, a'u gorweddfa, yn dwyn corsenau a
brwyn.' Paham y mae cymaint o wahaniaeth rhwng Lloegr a
China ? Paham y mae Cymru yn rhagori cymaint ar Afifrica ?
Onid y gwlaw sydd yn gwneuthur y gwahaniaeth ? îe, y mae y
raan oedd yn ddiflfaethwch o'r blaen, wedi cael y gwlaw, yn
dyfod fel Libanus mewn gogoniant, fel Carmel mewn godidog-
rwydd, ac fel Saron mewn fifrwythlondeb. Yr oedd y tri Ile
yna yn cynwys prydferthwch y Dwyrain : Libanus am ogon-
6oi
Sîciiv}'dd îlwyddianf geìrinu DîiijC,
iant neu arddunedd fstiblimityj, Carmel am brydferthwch, a
Saron am ffrwythlondeb ; ac y mae y tri yn cael eu huno i
ddangos gwedd y diffaethwch wedi cael y gwlaw, neu agwedd
y byd wedi cael y gair : Y mae yn dyfod yn Libanus mewn
gogoniant, yn Garmel mewn prydferthwch, yn Saron mewn
ffrwythlonder. Ac onid yw y gair yn cyfateb i holl eisiau dyn,
f^l perchen deall, — fel perchen serch, — fel perchen cydwybod ?
Y mae yn oleuni, yn brydferthwch, ac yn falm. Y mae ganddo
Dduw iddo fel creadur ; y mae ganddo Gyfryngwr ac iawn i'w
gyfarfod fel pechadur. Y mae yn gwneuthur âg ef fel y
gwnaeth Joseph â'i frodyr, — rhoddi digon o fwyd iddynt ar y
ffordd, a gofalu am gynhaliaeth iddynt wedi cyraedd adref,
Felly, y mae yma ddigon ar y ffordd yn y byd hwn, a chynhal-
iaeth wedi cyraedd adref yn yr hwn a ddaw. Y mae y gair yn
cyfateb yn berffaith i galon dyn ; ac y mae rhyw amgylchiadau
yn dwyn pawb i deimlo hyny. Daeth lladratäwyr dynion un-
waith heibio i fwthyn yn Affrica ; cymerasant y tad a'r plant
ymaith i'w gwerthu yn gaethion ; ond cafodd y fam gyfle i
ffoi i'r goedwig, a dianc felly. Ond pan ddychwelodd hi i'w
chaban gwâg,^yr oedd ei chalon hi ar ymdòri : yr oedd hi yn wylo
fel Rahel, ac ni fynai ei chysuro ; ond daeth rhywbeth i'w
meddwl yn ei chymell i fyned allan i dywallt ei chalon wrth
ryw Fôd na wyddai hi ddim am dano ; a'r tro cyntaf y gwnaeth
hi hyny, teimlodd ei mynwes yn ysgafnhau yn y fan ; ac am
dalm o amser arferai fyned bob dydd i'r un fan i adrodd y cwbl
wrth y Cyfaill anweledig ac anadnabyddus hwn. Ond ymhen
rhyw gymaint daeth y lladratäwyr dynion o hyd iddi hithau
hef^'d : fe'i dygwyd hi drosodd i America, ac fe'i gwerthwyd hi
yno i gaethiwed ; ond wedi bod yn America am ysbaid, adrodd-
odd rhyw un yn ei chlyw 3^ hanes rhyfedd am lesu Grist a'i
gariad : atebodd hithau yn y fan, — " Dyna yr Un, — dyna'r
peth oedd arnaf fi ei eisiau." Yr oedd hi yn gwybod mewn
moment mai yr lesu oedd y Cyfaill anadnabyddus oedd wedi
tywallt cysur i'w hysbryd trallodus hi yng nghoedwigoedd
pellenig Affrica. Felly y mae rhyw ymbalfalu ynmynwes dyn,
ac nid ydyw yn teimlo ei fod wedi cael yr hyn yr oedd ei galon
yn crefu am dano nes y daw y gair yno ; ond y mae hi yn ateb,
fel y Negröes, wrth ei gael, Dyma'r hyn oedd arnaf ei eisiau.
Sicrwydd Ihoyddiant geiriau Duw. 602
A byddai mor resymol i ni ofni na thardda, ac na thyfa, y
ddaear ddira am flynyddoedd wedi cael y gwlaw, ag ydyw ofni
na íîrwytha y gair ddim. Y mae mor gymwys i ateb i'w ddiben
ag ydyw y gwla\y i ateb i'w ddiben ef.
2. Yrydym weithiau ynofni am ei Iwyddiant, oherwydd nad
ydym ni yn gweled pa fodd y gall Iwyddo. Yn hyn y mae yn
debyg eto i'r gwlaw a'r eira. Y mae dull llwyddiant y rhai
hyny yn ddirgelaidd ; ond y mae y tarddu a'r tyfu sydd yn ei
ddilyn yn profi eu bod yn ateb eu diben. Felly ni wyddom ni
ddim o fifordd Duw yn hyn ychwaith. Y mae teyrnas Dduw
yn cael ei chymharu, yn nirgelwch ei llwyddiant, i'r hàd yn
tyfu mewn flFordd nas gwyr y neb a'i bwriodd ef i'r ddaear. Nid
ydym yn deall ei ddylanwad, mwy nag yr oedd y dall a gafodd
ei olwg yn gwybod pa fodd y bu hyny ; ond gall miloedd ddy-
wedyd fel yntau, " Un peth a wn i, lle yr oeddwn i gynt yn
ddall, yr wyf yn awr yn gweled ;" — " lle yr oeddwn i gynt
ymhell, heb obaith genyf, ac heb Dduw yn y byd, yr wyf yn
awr yn agos." Pa fodd y bu hyny? Ryw fodd trwy y gair.
Gochelwn rhag disgwyl i'r gair effeithio fel swyn : ar y Ilaw
arall, na ddigalonwn am nad ydym yn gwybod ei fod yn
gwneuthur dim ; oblegid y mae yn fynych yn dwyn o amgylch
gyfnewidiadau mawrion mewn modd nas gwyddom ni. Yr
ydym weithiau yn cael ei weled yn ateb ei ddiben yn gyflym
iawn ; bryd arall yn araf : fel y gwelir y maes weithiau yn ym-
adnewyddu ymhen ychydig oriau ar ol cawod o wlaw, tra bydd
yr eira amser arall yn gorphwys ar y ddaear am fisoedd ; ac oni
buasai fod profiad blaenorol yn ein dysgu yn amgen, buasai
pob gobaith iddi dyfu yn darfod ; ond fe welir ryw ddydd nad
ofer fu disgyniad yr eira. Felly y mae dylanwad y gair. Darfu
i un o ddinasoedd Samaria newid ei gwedd mewn diwrnod.
" Yr ydych chwi yn dywedyd," meddai yr Arglwydd lesu,
" fod pedwar mis hyd y cynhauaf: edrychwch, y mae y maes-
ydd yn wynion eisoes." Yr oedd yr holl bobl yn gytun yn
ninas Samaria yn dal ar eiriau Phylip. Fe ffrwythlonodd mor
gyflym ac mor rymus yn Ephesus, fel y dygwyd y llyfrau drwg
i'w Ilosgi yn gyhoeddus. Yn fuan fuan felly y mae wedi bod
mewn Ilawer o Ynysoedd Môr y De : y maent wedi tarddu a
thyfu fel mewn un dydd. Bryd arall y mae y gair yn debycach
6o3 Sicrwydd llwyddiant geiriaii Dim.
i'r eira nag i'r gwlaw, — yn ateb ei ddiben yn araf iawn ; ond y
mae yn sicr o Iwyddo, yn gyfl^'m neu yn araf ; fel y gwlaw, neu
fel yr eira.
3. Ond os nad ydym ni yn ei weled yn llwyddo fel y gwlaw,
neu fel yr eira, eto nid oes dim o hono yn myned yn ofer. "Ni
ddychwel ataf yn wâg ; eithr efe a wna yr hyn a fỳnwyf, ac a
Iwydda yn y peth yr anfonais efo'i blegid." Nid ydyw yn
achub pawb, mwy nag y mae y gwlaw a'r eira yn ffrwythloni
pob man : eto nid oes dim o hono yn myned yn ofer. Y mae
gweithredoedd yr Arglwydd yn aml yn ymddangos i ni fel pe
byddai colled ynddynt. Buasai Ilawer un yn meddwl y
buasai y môr yna yn gwneuthur y tro yn Ilai nag ydyw ; ac y
mae dynion yn ceisio ei gau hyd y gallant â throsolion ac â
dorau. Buasent yn meddwl y gwnaethai Ilawer Ilai o oleuni y
tro, oherwydd onid oes cymaint o hono i'n golwg ni yn myned
yn ofer yn y fifurfafen ; ac y mae Ilawer yn tybied fod Ilawef
o'r mynyddoedd yna yn ofer, ac mai gwell fuasai bod eu lle yn
ddyflfrynoedd breision ; ond camsynied yr ydym yn y pethau
hyn. Nid ydyw Duw yn gwneyd dim byd yn brin : ond nid
ydyw ychwaith yn gwneuthur dim yn ofer. Felly, gellid
meddwl fod Ilawer iawn o'r gwlaw yn myned yn ofer, oblegid
onid oes cymaint o hono yn disgyn ar y mynyddoedd, Ile nad
oes na dyn nac anifail ; ac ar y creigiau Ile nad all dim dyfu ?
ond nid ofer ydyw er hyn. Beth ydyw y íFynon fechan a
welwch chwi yn tarddu yn y dyffryn, yr hon sydd yn diodi
anifeiliaid y maes, a thrigolion y pentref ? Y gwlaw a welsoch
chwi yn disgyn bymtheg milldir o'r fan yna, ar y creigiau, ac
ar y mynyddoedd, yr oeddych chwi yn meddwl yno ei fod yn
ofer, ond yma, chwi a welwch nad ofer a fu. Beth ŷ mae y
cenlliff sydd yn disgyn i lawr i lethr y mynydd yna da? Nid
ydyw dda i ddim ond i wneuthur Ilyn ofer : na, nid mor ofer
ag y dybiech chwi ugain milltir oddiyma: y mae y llyn yn
gwneuthur i'r ddaear darddu a thyfu. Felly y mae ygair;
dyna rywun yn ei wrandaw drwy'r blynyddoedd yn ofer,
debygid ; nid oes yna ddim daioni yn tarddu ac yn tyfu : gall
nad oes. Ond feallai fod yna Iyn yn cael ei ffurfio a fydd yn
ireiddio rhyw ddyffryn ychydig oddiyna. Bu llawer tad fel y
llyn i gadw y dwfr i ireiddio ei blentyn : er na chafodd y tad
Sicrivydd lhvyddiant geiriau Diiw. 604
ddim ei achub, fe achubwyd y plentyn ; ac y mae ein gwlad ni
yn dra thebyg i'r myayddoedd : gellid meddwl fod Uawer iawn
o'r gair yn myned yn ofer yma, fel y gwlaw ar y rhai hyny ;
ond y mae y gwlaw a ddisgynodd ar y mynydd yna, yn ta^rddu
yn ffynonau dwfr yng wastad-diroedd AíFrica, — yn anialwch
Asia, — yn niífaethwch Mòr y De. Pe gofynid i ni, Beth ydyw
y íFynonau dwfr sydd yn dechreu ymddangos yng nghrasdir
China, — beth ydyw y dyfroedd sydd yn tori allan yn India, —
beth ydyw y ffrydiau sydd yn disgyn ar lethrau bryniau
Cassia, — beth ydyw yr afonydd sydd yn dechreu newid gwedd
Arabia ? Y gwlaw a ddisgynodd ar y myryddoedd ym Mryd-
ain : " Ni ddychwel ataf yn wâg." Ac fel y mae yn rhaid cael
llawer o ddyfroedd mewn ystyr naluriol, mewn gwlad i gael
digon o darth neu o leithder yn yrawyr igadw bywyd llysieuol
rhag gwywo, — felly mae yr hoU ymwneyd sydd gydâgair Duw
yn y dyddiau hyn. Os nad ydyw yn ateb yr un diben arall, y
mae yn cadw ychydig o leithder yn awyr y wlad ; ac felly yn
atal hyny o rinwedd ac o grefydd sydd ynddi rhag cwbl wywo:
am hyny nid ydyw yn ofer.
4. Fe Iwydda; oblegid y mae, fel y gwlaw a'r eira, yn dyfod
0 le, sef o'r nefoedd, nad oes dim modd rhwystro ei Iwyddiant.
Y mae pob peth yr uchelder yn sicr o Iwyddo : os o'r nefoedd y
bydd yn dyfod, nid gwiw ymladd yn erbyn hwnw. Os daw
goleuni o'r nef, ofer ^^-dyw chwilio am un llestr i'w guddio.
Buasai llestr yn gwneuthur rhywbeth i ganwyll, ond dim i
oleuni y nef. Y mae hono yn uwch na ni. Felly y mae y Bibl
yn son am bob peth y nefoedd, fel pethau nad oes dim modd
eu gwrthwynebu. Y mae yr Arglwydd, trwy Moses, yn bygwth
rhoddi llwch a lludw o'r nefoedd ar y bobl; hyny yw, fe'u
rhoddid o le nad oedd modd eu hysgoi. Y mae Jehosophat yn
dywedyd wrth yr Arglwydd, " Onid wyt ti yn Dduw yn y nef-
oedd ?" a diwedd yr adnod ydy w, " nid oes neb a ddichon dy
wrthwynebu di." Ac yn yr ail Salm yr ydym yn darllen, fod
yr Arglwydd yn chwerthin wrth weled *' brenhinoedd y ddaear
yn ymosod, a'r penaethiaid yn ymgynghori ynghyd " yn ei
erbyn, ac yn erbyn ei Grist ef, — a'r paham y mae yn gaHu
gwneuthur hyny ydyw, am ei fod " yn preswyho yn y nefoedd."
1 beidio mynychu esiamplau ; — y mae pob peth y nefoedd yn
6o5 Sîcrwydd llwyddiant geiriati Dìlw.
sicr o Iwyddo. Y mae mynyddoedd uchel ar y ddaear, — rhy
uchel i neb dynicn allu eu dyfrhau hwynt ; ond gan mai o'r
nefoedd y mae y gwlaw a'r eira yn disgyn, fe'u dyfrheir hwynt,
oblegid y mae hono yn ddigon uwch na'r uchaf o honynt. Pan
agorwyd ffenestri y nefoedd yn amser y diluw, ofer oedd ceisio atal
i'r cenlHf ddisgyn ; ac Avedi i EUas gloi y nefoedd, nis gallasai
Ahab na'i dywysogion gael dim gwellt mewn un man, gan fod
ffrwythlondeb y ddaear yn dibynu ar bethau y nef. Nid all
neb ar y ddaear atal i'r hauwr gael had, ac i'r bwytawr gael
ymborth. Mor sicr a hyny, fe Iwydda y gair, oherwydd y mae
wedi dyfod o le digon uchel, fel y mae yn anmhosibl i neb ar y
ddaear ei rwystro i hyny. Pan yr ydym ni yn anobeithio ara ei
Iwyddiant, yr ydym yn gollwng dros gof o ba le y daeth. Nid
aflwyddodd dim erioed a ddaeth o'r nefoedd. Fel y dywedodd
gwraig Haman wrtho, mewn perthynas i Mordecai, — " Os o
had Abraham y mae Mordecai, yr hwn y dechreuaist syrthio
o'i flaen, ni orchfygi mo hono ; ond gan syrthio y syrthi o'i
flaen ef ;" felly y gelhr dywedyd wrth y ddaear am bob peth y
nefoedd, — "Os o'r nefoedd y mae, ni orchfygi mo hono ; oblegid
y mae pob peth hono yn ddigon uwch na thi." Ni wyddom ni
ddim beth fydd tynged miloedd o lyfrau sydd ar y ddaear
heddyw : y mae yn ddigon tebyg mai eu colli a gânt mewn
ebargofiant ; ond dyma un Llyfr, beth bynag a fydd treigliadau
yr oesoedd, a chwyldroadau y byd, a ddeil ei ffordd. Fe gyf-
lawnir ei eiriau, oblegid o'r nefoedd y daeth ; ac y mae ofni y
bydd i anhawsderau iaith, — neu i afiachusrwydd hinsawdd, —
neu i wrthwynebrwydd calon lygredig, ei ]uddias,mor afresymol
ag a fyddai i ni ofni fod rhyw fynydd yn rhy uchel i'r gwlaw
ddisgyn arno. " Gair Duw nis rhwymir." Os gellir rhwymo
godreu y cwmwl, — os gellir rhoddi llyffethair ar y fellten, — os
gelHr rhoddi gorchudd dros wyneb yr haul, — yna fe elHr
gobeithio rhwymoy gair ; ond os ydyw y naillyn anmhosibl, y
mae y HaH feHy hefyd. Os bydd rhwystrau mawrion yn y
golwg, ar ffordd Hwyddiant y gair, ni a gawn yr Arglwydd yn
traethu ei amcan gyda golwg ar hyny, yn benderfynol iawn.
Pan yn bygwth, trwy Esaiah, ddinystrio Babilon, yr oedd
pob peth oedd yn y golwg, y pryd hyny, yn peri bod hyny yn
annhebyg iawn o gyraeryd He byth : am hyny y mae Efe yn
Sîcrwydd llwyadiant gciriau Diiw. 6ó6
ýchwanegu, "Fy nghynghor a saif, a'm hoU ewyllys a wnaf.'^
Pan yn traethu pethau rhyfedd Lrwy y prophwyd Daniel,
pethau anhygoel, gan mor ddieithr oeddent, fe ychwanegir feî
ag i beri bawb gredu, — "yr hyn a ordeinwyd, a fydd." A
byddai yn dda i ni gofio y gwirionedd hwn yn ei berthynas
bersonol á phob un o honom : — " Efe a Iwydda yn y peth yr
anfonwyd ef o'i blegid.'' Os oes yma ryw fygythiad yn dy
erbyn, er y gelH di heddyw fod mor annhebyg y gweH ef byth
wedi ei gyflawni, ag oedd Babilon i gael ei dinystrio, pan
brophwydodd Esaiah yn ei herbýn; eto, bydd yn haws i'r nef
a'r ddaear fyned heibio, nag i'radnod ynabeidio ymarllwysi dy
fynwes di. Os wyt ti wedi ymaflyd mewn rhyw addewid sydd
yna, byddai yn haws atal i'r gwlaw ddyfod o'r nefoedd, nag
atal i gynwys hono ry wbryd ddylifo i dy enaid. " Efe a
gyflawna," meddai Job, " yr hyn aosodwyd i mi," ac oddiwrth
y profiad yr oedd wedi gael, yr oedd yn tybied mai pethiu
chwerwon fyddent ; " am hyny," medd efe, " dychrynais rhag
ei ofn ef." Y mae yn ofnus fod yma lawer un y byddai yr un
peth yn briodol iddynt. Os na allant brofi nad gair Duw ydyw y
Llyfr hwn, y mae ganddynt wir achos dychryn, oherwydd y mae
yn eu herbyn hwynt. Yr hyn a osodwyd iddynt a gyflawnir.
Oddiwrth yrhyn a ddywedwyd, mi addymunwn ychwanegu
rhai sylwadau yn gymhwysiadol : —
I. Ymarferwch â geiriau Duw, gan ddisgwyl iddynt Iwyddo.
Y mae y Bibl yn cael ei gyflawni yn ystyr oreu y gair yna i
bawb sydd yn gwir ddisgwyl hyny. Nid y w y llafur ddim yn ofer
yn yr Arglwydd ; gan hyny, ewch at y Bibl dan ddisgwyl bod
yn well bob tro o hyny. Ewch i'r odfa, dan ddisgwyl dyfod'
oddiyno yn amgen pobl nag yr aethoch chwi yno. Nid lottery^
— nid chwareu damwain, — ydyw moddion gras ; na, dowch
iddynt i gael y prize^ i enill y tlws. Gellwch ddarllen llawer
llyfr am awr, heb fod yn ddim gwell yn y diwedd nag yn y
dechreu; ond y mae yn anmhosibl darllen y Bibl felly, os
disgwyliwn am Iwyddiant. Y mae yr addewidion fel cheqiLes,
fel llaw-nodau, ar y Banc : nid oes eisiau ond eu cymeryd at
yr Arianydd {Banher), na chewch chwi aur yn eu Ile : " ni
ddychwel ataf yn wâg." Ond os na chymeri di yr addewid i
gael ei chyflawni, fe ddaw diwrnod cyflawniad y bygythiad. Y
6o7 Sicrwydd Uwyddiant geiriau Duw.
niae hwnw yn dj^fod ; er yn araf, eto yn sicr. Ond os cewch
chwi gyflawniad o'r addewid, fe rydd hyny ataliad ar gerbyd y
bygythiad am byth : nid yn unig fe arafa yr olwynion, ond fe'u
íỳn, nes y bydd fel cerbydau Pharaoh i Israel. Ni oddiweddant
hwy byth mo honoch.
2. Bydded genym hyder yng ngeiriau Duw fel y maent. Na
cheisiwn ychwanegu dim atynt. Fe ddylai fod y cysegr a phob
peth o'i amgylch yn weddus. Ni bydd ein haddoHad yn sicr
yn fwy cymeradwy am ein bod yn addoH niewn lle tebycach i
ysgubor nag i dabernacl neu deml. Na, arwydd ddrwg ydyw
fod pobl yn ddiofal am wedd allanol cysegr Duw. Eto na
íeddyHwn byth am gael dim i'r cysegr i helpio geiriau Duw
Os na bydd y gair yn creu defosiwn yn dy ysbryd, ni wna dira
addurniadau ar nen, neu ar furiau, yr addoldy wneuthur hyny.
Os na bydd y darHeniad syml o hono yn gwneuthur argraíF
arnom, ni wna rhyw lusgo arno, nad ydyw nachanu na darHen,
wneuthur hyny. Os nabyddsancteiddrwydd gwrthddrych add-
oHad yn creu difrifwch yn y meddwl, ni wna cau aHan oleuni y
dydd o'r addoldy ddim gwneuthur hyny. Na cheisiwn ddim i
wneuthur croes Crist yn ofer. Bydded genym hyder yn y gair
ei hun, ac nid mewn dim a aH dynion ei roddi o'i amgylch.
3. Ymdrechwn i gael pawb i'w glywed. Na adawn lonydd
i'r bobl lonydd a diofal sydd yn ein hardaloedd, y rhai y mae
yn ddifater ganddynt goHi cyflawniad o addewidion y gair, ac
nad ydynt yn ystyried fod ybygythion yn dyfod mor sicr ag
addewidion y nefoedd, i arHwys eu cynwys ofnadwy i'w myn-
wesau. Os ceir hwynt yma, bydd genym obaith y cyflanwir yr
addewidion iddynt ; ond yn y fan He y maent, y bygythion yn
unig yw eu rhan. Anfonwn y gair hefyd i'r rhai sydd hebddo.
Cofiwn oH, ni ddychwel yn wâg. Os ceHwair a wnei di ar y
maes yna, gan ddiystyru rhybudd pawb, ni effeithia dy anys-
tyriaeth di ddim ar y cwmwl y mae y gawod ynddo ; a chan
sicred a'i bod hi yno, hi a ddisgyn yn y man. Ond y maeyna
noddfa glyd gerHaw, ac y mae yr un Un ag sydd wedi sicrhau
y daw y gawod o'r cwmwl, wedi sicrhau na ddaw yr un diferyn
o honi drwy nen y noddfa. Y mae y ddau air y naiH mor sicr
a'r HaH ; ac y mae un o honynt yn sicr o gael ei gyflawni i mi
ac i chwithau. Ni ddychwel yn wâg. Ffown i'r noddfa, fel y
byddo gwirionedd Duw o blaid ein bywyd, a sicrwydd Hwydd-
iant ei eiriau yn sicrhau ein hiachawdwriaeth.
[Yegrifenwyd, Melieün 20, 1853 ; AdyEgriüwyd, Mai 27, 1854.]
PREGETH XXXVni.
Y FFIGYSBREN DIFFRWYTH.'
Luc XIII. 6 — 9 : — " Ac efe a ddywedodd y ddammeg hon : Yr oedd gan un
flBgysbren wedi ei blannu jn ei winllan ; ac efe a ddaeth i geisio ffrwyth
amo. ac nis caf odd. Yna efe a ddywedodd wrth y gwinllanydd. Wele,
tair blynedd yr ydwyf yn dyfod. gan geisio íîrwyth ar y íîigysbren hwn ;
ac nid ydwj-f jn cael dlm : tòr ef i lawr ; paham y mae efe yn
diffrwytho y tir .' Ond efe gan atteb a ddywedodd wrtho, Arglwydd.
gâd ef y fl^'s-yddyn hon hefyd, hyd oni ddarffo i mi gloddio o'i amgylch,
a bwrw tail ; ac os dwg efe ffrwyth, da : onid ê, gwedi hynny tòr ef i
lawr."
R hyn a achlysurodd lefariad y ddameg hon oedd
gwaith y bobl hyn yn mynegu i'r Arglwydd lesuam
y GaHleaid, y cymysgasai Pilat eu gwaed ynghyd â'u
haberthau. Yr oedd lesu Grist newydd fod yn traethu ar y pwys
o fod yn weision ffyddlawn, ac ar ran y gwas anffyddlawn pan y
deuai ei arglwydd i wneuthur cyfrif âg ef. Awgrymodd i'w wran-
dawyr, y rhai a ddarlunid yn y gwas anffyd Jlawn, y dylent ddeall
oddiwrth arwyddion yr amseroedd fod eu Harglwydd wrth
y drws ; am hyny mai synwyr ynddynt fyddai gwneuthur yn
fawr o'r adeg fèr oedd ganddynt, a cheisio maddeuant cyn y
teflid hwynt i'r carchar, o'r hwn nid oedd diangfa ond trwy dalu
y ffyrling eithaf. Wrth glywed y pethau hyn, y mae rhai o'r
gwrandawyr yn coffàu am y GaHleaid, feallai, fel eglurhad
pellach ar yr hyn oedd wedi ei draethu, fod pechaduriaid mawr-
ion fel y Galileaid yn cael eu goddiweddyd gan farnau mawrion.
Neu, gall mai eu diben yn crybwyll hyn oedd, i gael cyfeirio at
Pilat. Osgwir yr athrawiaeth y goddiweddid pechaduriaid mawr-
ion â barnau mawrion, beth fydd rhan y Pilat drygionus hwn,
yr hwn a fu yn achos o'r ysgelerder o dy wallt gwaed aberthwyr
6o9 Yýigysbren dîfiwyth.
yn gymysg â'u haberthau. Ond tebycach ydyw, raai diben y
bobl yn mynegu hyn oedd, i geisio troi sylw y pregethwr oddi-
wrth eu mater personol hwy eu hunain at beth na pherthynai
iddynt, yn gyffelyb fel y gwnaeth y wraig o Samaria, pan
ddechreuodd geiriau y pregethwr chwiHo dirgelion ei chalon.
Ond cymerodd lesu Grist fantais ar hyn hefyd i ddwyn eu hachos
personol hwy eu hunain adref at eu meddwl Nid ydyw yn dy-
wedyd gair am Pilat, ond yn edrych ar yr amgylchiad a goffâwyd
yneiberthynasâ'r bobl oedd yn gwrandaw; ac y mae yn coffâu
amgylchiad arall nad oedd a fynai llaw dyn âg ef o gwbl, sef
syrthiad y twr yn Siloam ; ac oddiwrth y ddau yn dangos i'r
bobl,—
(i.) Er nad oes dioddef heb bechod, eto nad ydym i gymeryd
dioddefiadau personolneb, yn brawfo bechadurusrwydd personol
mwy ynddynt hwy nag eraill. Nid oedd y Galileaid a laddwyd
gan Pilat ddim yn bechaduriaid mwy na'r holl Galileaid;
na'r deunaw a laddwyd gan syrthiad y twr ddim yn fwy
pechaduriaid na'r holl rai oeddent yn cyfaneddu yn Jerusalem.
(2.) Dengys hefyd mai yr olwg iawn ar farnau ydyw edrych
ar y neb sydd odditanynt fel ein cynrychiolwyr ni, a gweled
ynddynt hwy ein haeddiant a'n tynged ein hunain onid edifar-
hawn. " Chwi a ddifethir oll yn yr un modd." Maeyn deilwng
o'n sylw fod y geiriau hyn wedi eu cyflawni yn llythyrenol ar
y genedl hon ; íel y lladdwyd y GaHleaid gan y llywydd Rhuf-
einig Pilat ar wyl y Pasg, felly ar wyl y Pasg, ymhen rhai
blynyddoedd ar ol hyn, y dinystriwyd Jerusalem, ac y Iladdwyd
canoedd o filoedd o luddewon gan yr un Rhufeinwyr ; ac fel y
lladdwyd y deunaw hyny gan syrthiad twr Siloam, fclly Iladd-
wyd canoedd lawer o drigolion Jerusalem, gan syrthiad rhai o
dyrau y deml a muriau y ddinas yn y dinystr. " Chwi a
ddiffethir oll yn yr un modd."
(3.) Drachefn, dengys fod arbediad rhai rhag y barnau y mae
eraill odditanynt i gael edrych arno fel amlygiad o ben-
arglwyddiaethol ras, yn rhoddi amser iddynt hwy i edifarhau,
ac felly dianc rhag y farn ; ond onid edifarhant mai dinystr sicr,
a dinystr Ilwyr, a'u goddiweddai hwythau hefyd. Hwn ydyw
y gwirionedd a gyílwynir i sylw yn nameg y testyn.
Wrth y winllan hon yr ydym i ddeall cenedl Israel yn y
Yffigyshren mffr'wyth. 'iii^
cyfanswm ; ac y mae nodi un ffigysbren allan yn rhoddi mantais
i bob un gymhwyso y gwirionedd pwysig sydd ynddi ato ef ei
hun. Felly^ y mae y ddameg yn cynwys y genedl yn y cyfan-
swm^ ac yn cynwys hefyd gyfeiriad personol at bob aelod o honi.
Perchen y winllan ydyw Duw. Wrth y gwinllanydd yr ydym
i ddeall Pen yr eglwys, a phawb sydd yn cymeryd trafferth
gyda'r ffigysbren, oblegid dros Grist, ac yn lle Crist, y mae yr
holl weision yn llafurio.
Dameg ydyw y testyn, sef gwirionedd wedi ei wisgogan lesu
Grist â chorff ; gan hyny, ni ddylem geisio ei ddiosg, ond yn
hytrach amcanu dal cymundeb âg ef drwy'r corff. Y mae y
corff yn fantais i ni, ond gofalu rhag colli yr ysbryd yn y wisg.
Y mae perygl ar bob Ilaw: weithiau y mae gwirionedd noeth
i'n meddwl pwl ni fel yr ysbryd a welodd Eliphaz; nid ydym
yn adwaen ei agwedd ; drychiolaeth ydyw, y mae y meddwl yn
methu cael gafael arno. Bryd arall, y maey corff fydd am wir-
ionedd yn ei guddio mor llwyr, nes y mae y meddwl yn methu
€Ì ganfod o gwbl, fel y gwnaeth dameg Nathan i Dafydd. Ond
wrth alw eich sylw at y testyn, ni a geisiwn ochel y ddau eithaf
yna, ac edrych ar y gwirionedd sydd ynddo yn y wisg sydd am
dano. Y ddau beth a ddaw dan ein sylw ydynt; —
I. Y ddadl yn erbyn y ffigysbren.
II. Y ddadl o'i blaid. Neu y rhesymau dros ei dori i lawr,
a'r rhesymau dros oedi gwneyd hyny.
Y rheswm mawr dros ei dori i lawr ydyw, nad ydoedd yn
ffrwytho; ond y mae hwn yn cynwys amryw bethau sydd yn
dangos grym y ddadl yn erbyn y ffigysbren.
I. Os nad ydoedd yn ffrwytho, nid ydoedd yn ateb diben
ffigysbren, oblegid nid ydoedd yn werth dim ond i ffrwytho,
GeUir cymhwyso y darluniad a rydd y prophwyd o'r winwydden
at yr hoil goed sydd yn dwyn ffrwyth : nid ydynt yn gymwys
i ddim gwaith ; eu hunig ddiben ydy w ffrwytho : gan hyny y
mae fiìgysbren diffrwyth yn fRgysbren diwerth, ac felly y mae
yn anurddo creadigaeth Duw, oblegid nid oes dim ofer i fod
ynddi hi. Os nad ydyw dyn yn dwyn ffrwyth i Dduw, y mae
yn ddiwerth, oblegid ei unig ddiben ydyw hyny. Ffrwyth
ydyw cynyrch a fyddo yn gyfatebol i natur y pren, ac i am-
gylchiadau y pren. Rhaid cymeryd y ddau beth i'r ystyriaeth,
érlí Y ffìgìjsbren diffrivyth.
sef, natur y pren, a'i amgylchiadau, cyn y gellir rhoddi barn ar
y ffrwyth sydd i'w ddisgwyl. Ffrwyth ar ddyn, mewn un
gair, yw cariad at Dduw. Hyn ydyw ffrwyth pob creadur
rhesymol ; ond fe amlyga y ffrwyth hwn ei hun yn gyson âg
amgylchiadau dyn. Felly bydd ffrwyth dyn, er ei fod o ran
ei egwyddor yr un âg eiddo'r angel, ychydig yn wahanol o ran
ei ffurf allanol. Hyn ydyw ffrwyth dyn : — edifeirwch tuag at
Dduw ; credu yn Nuw ; ac ufuddhau i Dduw. Dyma holl
ddyled dyn,
Os bydd dyn yn syrthio yn fyr o ateb y diben hwn, gellir
gofyn am dano, Pa ddiben y mae yn ei ateb ? Onid oferedd
ydyw ei oes, os nad ydywhi yn ffrwyth i Dduw ? Edrychwch
arni hi ymhob goleuni arall, " gwagedd o wagedd " ydyw. I
beidio son ara bethau y mae bron bawb yn edrych arnynt fel
yn annheilwng o ddyn, edrychwn arno yn cysegru ei alluoedd
a'i amser at y pethau hyny a ystyrir yn deilwng o greadur
rhesymol : os na bydd hyny yn amlygiad o enaid yn teimlo yn
iawn at Dduw, oferedd fydd yr oll. Tybiwch ei fod yn treuHo
ei amser i astudio gweithredoedd Duw, — i fesur y bydoedd
uwchben, — i wybod eu maint; neu i gloddio i grombiloedd y
ddaear, i gael allan ei defnyddiau a'i hoedran hi : os nad ydy w
hynyna yn ffrwyth i Dduw, beth ydyw .? Nid oedd ar yr An-
feidrol ddim eisiau surveyor i fesur ei fydoedd : fe ŵyr ef eu
maint hwy at y fodfedd : nid oedd arno ddim eisiau hynaf-
iaethydd i fynegu iddo oedran y ddaear ; fe wyr hwnw at y
foment. Ond yr oedd yn disgwyl gweled ei greadur yn ceisia
ei adnabod Ef, er mwyn cael ymhyfrydu ynddo ; ac os ydyw
y dyn yn gwneuthur y pethau hyn i sylwi ar dragywyddol allu
y Duwdod ynddynt, y mae hyny yn ffrwyth i Dduw. Ond y
mae gwneyd hyn i bob diben arall yn wagedd ac oferedd.
Neu, edrychwch ar y IHaws ymhobgwlad sydd yn treulio eu
dyddiau i ymguro mewn llafur caled i geisio drwy hyny ateb
y cwestiynau, — " Beth a fwytäwn ?" " Beth a yfwn ?" "Á
pha beth yr ymddilladwn ?" Os nad ydy w hyny yn ffrwyth i
Dduw, yn amlygiad ofeddwl yn plygu i ewyllys yr Arglwydd,
y mae yn myned yn beth rhy isel byw er ei fwyn. Y mae dyn
yn y goleuni yna yn myned yn îs na'r anifail a ddifethir. Y
mae yr auifail yn cael y pethau hyn heb bryderu nac ymguro
Yffìgyshren diffrwyth. 612
mewn llafur caled i hyny. Ond os byddant yn amlygiad o
feddwl yn plygu i ewyllys Duw, dyna hwy yn íîrwyth i Dduw,
ac y mae hyny yn urddasoli y pethau iselaf. Edrychwch ar
weithred tri chedyrn Dafydd, yn tori trwy wersyll y Philist-
iaid i dynu dwfr o bydew Bethlehem, arni ei hun, acymddengys
yn flíoHneb, cwbl annheilwng o ddynion yn eu pwyll, anturio eu
bywyd er mwyn cyn lleied peth : ond os edrychir ar y weithred
yn ei pherthynas â Dafydd, fel amlj'giad o deyrngarwch y
cedyrn i'w brenin, y mae yn ymddangos yn weithred deilwng
ac anrhydeddus yn y goleuni yna. Felly y mae urddas ar
bethau iselaf dyn, os byddant yn amlygiad o galon yn teimlo yn
deyrngarol at Dduw, hyny yw, os ydynt yn ffrwyth, y maent
yn werthfawr, neu nid ydynt yn ddim. Unig ddiben dyn ydyw
ffrwytho: os nad ydyw yn ateb hwnw, nid oes yr un rheswm
dros beidio ei dori i lawr.
2. Yr ail beth yn y ddadl dros dori yffigysbren i lawr oedd
ei fod wedi cael pob manlais i ffrwytho, a'r oll wedi bod yn
ofer iddo. Ffigysbren wedi ei blanu mewn gwinllan ydoedd.
Pe buasai ar ymyl y ffordd, heb ddim gofal am dano, dylasai
ffrwytho. Melldithiwyd ffigysbren diffrwyth ar ymyl y
ffordd. Pa faint mwy oedd dyled ffigysbren y winllan i
ffrwytho ? ac yr oedd mawredd y fantais a gafodd i hyny yn
troi yn rym yn y ddadl dros ei dori i lawr.
Ffigysbren ymyl y ffordd ydyw Paganiaid y byd. Y mae hi
yn ddyled arnynt h\vy i ffrwytho ; fe'u melldithir am na
ffrwythant: ond ffigysbrenau gwinllan ydym ni; rhai y gelHr
gofyn am danynt, " Beth yn ychwaneg oedd Ji'w wneyd
iddynt ?" Pe meddyliech am y ffrwyth a nodwyd, — " Edifeirwch
tuag at Dduw," " credu yn Nuw," ac " ufuddhau i Dduw," onid
ydyw pob peth a all ddeffro y teimladau yna yn mynwes dyn
wedi eu dwyn i ddylanwadu ar drigolion gwlad efengyl. Pe
cymharech chwi ddatguddiad y Pagan a'n datguddiad ni â'u
gilydd, chwi a welech y fantais y mae ffigysbren y winllan wedi
ei chael i ffrwytho, ragor ffigysbren ochr y ffordd. Un haul
sydd yn dylanwadu ar ffigysbren ochr y ffordd, ond y mae dau
ar ffigysbren y winllan, sef haul y nefoedd wybrenol, a haul
nefy gogoniant hefyd. Un math o wlith a gwlaw sydd yn
dis^yn ar ffigysbren ochr y ffordd ; ond y mae ffigysbren y
ÓI3 Yffigyshren díŷrwyth.
■winllan yn cael dau fath, y naturiol, a gwlith bryniau tragy-
wyddoldeb, a gwlaw cymylau trugaredd achubol hefyd. Rhag-
luniaeth wedi ei chordeddu âg iachawdwriaeth; gwlaw oer
rhagluniaeth yn cael ei droi yn faethlawn gan wrês haul
iachawdwriaeth ; a gwrês rhagluniaeth yn cael ei atal rhag
ei niweidio gan whth iachawdwriaeth. Fe ddylai ffigysbren y
winllan flírwytho. Nid ydyw mor ryfedd fod y Pagan heb
edifarhau, oblegid nid ydyw yr 'Hwn a wânwyd ' ddim yn ei
olwg ef. Nid yw mor ryfedd ei fod heb gredu : nid oes ganddo
uac addewidion, na llwon, nagwaed yn sail i'w ffydd. Nid yw
mor ryfedd ei fod heb ufuddhau, oblegid y mae ganddo ryw
fath o achlysur i ddywedyd mai gŵr caled yw y meistr. Ond
y mae yn sỳn fod neb o honom ni heb %vylo edifeirwch pur, ac
lesu Grist wedi ei groeshoelio wedi ei bortreadu o flaen ein
llygaid. Y mae yn sỳn ein bod ni heb gredu, a " llwon,'^
" addewidion," a "gwaed," yn sail i'n íFydd. Y mae yn sỳn
ein bod ni heb ufuddhau, a'r Duw mawr wedi amlygu ei Hun
yn Dduw y cariad i ni. Nid oedd brenhines Seba, er clywed
am fawredd Solomon, ddim yn credu pan yn y wlad bell oddi-
wrtho ; ond pan y daeth hi i Jerusalera i weled y gogoniant â'i
llygaid, ac i glywed y doethineb â'i chlustiau ei hun, hi gredodd
yr oll. Pe Dyddai y Paganiaid heb gredu, nid dieithr iawn a
fyddai hyny, oblegid mewn gwlad bell y maent ; ond y mae yn
sỳn fod neb o honom ni, drigohon Jerusalem, sydd yn gweled
y pethau mawr, ac yn clywed y pethau rhyfedd, felly. Yr
ydym wedi cael pob mantais i ífrwytho, ac y mae mawredd y
fantais yn ryra y ddadl dros dori y ffigysbren i \a.vn.
3. Rhan arall yn y ddadl dros dori y ffigysbren i lawr oedd
ei fod wedi cael am^er digonol i ffrwytho. " Wele, tair blynedd
yrydwyfyn dyfod, gan geisio ffrwyth." Dylasai ffrwytho y
flwyddyn gyntaf; yr oedd y ddyled hono yn fwy yr ail ; ond
yr oedd y gyntaf a'r ail wedi myned heibio, a'r drydedd yn
darfod, a pherchen y winllan yn dywedyd, " Nid wyf yn cael
dim." Y mae yn sylw cyffredin am y ffigysbren, os na ffrwytha
yn y drydedd flwyddyn, nad oes ond gobaith gwanaidd iawn,
os dim, iddo ffrwytho byth.
Tybir fod yma yn llythyrenol gyfeiriad at dair blynedd
gweinidogaeth yr Arglwydd lesu. Yr oedd ei eiriau grasusoî
Y ffigysbreîi diffrwyth. 614
a'i weithredoedd hynod y flwyddyn gyntaf yn profi pwy ydoedd,
ond aeth hono heibio heb i'r genedl ei dderbyn ; ond erbyn yr
ail flwyddyn ychwanegwyd y profion : fe gododd feirw yn yr
ail flwyddyn, — dyma brawf cryfach na dim a gafwyd yn y
gyntaf ; ond aeth y prawf yn gryfach eto y drydedd flwyddyn.
Yn y ddwy flynedd gyntaf o'i oes gyhoeddus, cadw yn nghỳrau
eithaf y wlad y byddai, ond ar y gwyliau : nid oedd y penaeth-
iaid, y mawrion, calon y wlad, ddim yn cael oherwydd hyn
gystled mantais i'w adwaen ; yn unig byddent yn cly wed o bell
sôn am dano, ac yn ei weled am ysbaid byr ar y gwyliau : ond
fe dreuliodd y chwe' mis olaf o'r drydedd flwyddyn yn Judea,
a llawer o honynt yn Jerusalem a'r gymydogaeth, ac amlygodd
ei allu dwyfol mewn gwyrthiau mwy hynod na dim a gyflawn-
esid ganddo cyn hyny. Yr oedd wedi codi meirw yn yr ail
flwyddyn, ond fe gododd un o'r bedd yn y drydedd, a daeth ei
ddoethineb dwyfol i'r golwg yn fwy amlwg nag o gwbl yn ei
bregethau a'i ymddiddanion digyffelyb ; fe hònodd ar air ei
fod yn Fab Duw, a phrofodd hyny ar weithred. Ac os oedd y
drydedd flwyddyn wedi methu cynyrchu fírwyth, beth a'i
cynyrchai ì " Wele, tair blynedd yr wyf yn dyfod."
"Wele, tair blynedd." Yn ei berthynas à ni, — gallfodgan yr
_^madrodd hwn gyfeiriad at gyfnodau yn oes dyn, ymha rai y
mae yr Arglwydd fel yn dyfod ato i geisio firwyth. Cyfnod
ieuenctyd, — dyna flwyddyn y gallesid disgwyl ff"rwyth ynddi.
Cyfnod canol oes dyn, — dyna flwyddyn yr oedd hi yn rhyfeddach
eto na buasai ff"rwyth ynddi. Cyfnod henaint, — dyna flwyddyn,
os nad oes ff'rwythyn ymddangos ynddi, y mae hi yn ymyl bod
yn anobeithiol ei weled byth ; oblegid, fel y mae y cyfnodau
hyn yn dirwyn ymlaen, y mae y cymhelliadau i ffrwytho yn
cryfhau. Y mae gan grefydd gymhelliadau digon cryfion i'r
gwr ieuanc ymaflyd ynddi. Ni raid iddi ofni sefyll yn ymyl y
byd pan y mae hwnw yn ei wedd oreu. Yn nhymor ieuenctyd y
mae y byd yn fwyaf swynol i ddyn ; ond y mae crefydd yn hardd-
ach nag ef pan y mae yn ei wisgoedd goreu. Y mae y flwyddyn
yna wedi myned heibio ar lawer sydd yma, a hyny ddywedwyd
gan berchen y winllan ar ei diwedd hi, " Nid wyfyn cael dim."
Ond y mae cymhelliadau crefydd yn cryf hau yn yr ail gyfnod.
Pan y mae trafíerthion a phrofedigaethau canol oes yn ei
6i5 Yffigysbrcn dijjrwyth.
gyfarfod, ei gwpan yn chwerw, a'i groes yn drom, y m'^B
creíydd yn d'od ato i gynyg cario un pen i'r groes gydag ef, ac
i gynyg pereiddio y cwpaneidiau chwerwon ; ond yn ofer y
cynygiodd hi hyny i lawer sydd yma. Aeth y flwyddyn heibio,
ac iaith perchen y winllan yn ei diwedd hi oedd, "Nid wyf yn
cael dim." Ond am y trydydd cyfnod, sef henaint, y mae yn
rhyfeddach eto na byddai ífrwyth ynddo ; oblegid y mae y byd
yn cilio y pryd hyny, pydewau cysur dyn, nid yn myned yn
doredig, yr oeddynt felly yn aml yn y cyfnodau blaenorol ; nid
yn myned yn gyfryw ag y mae yn rhaid eu galw yn Esec a
Sitnah, sef cynen a dygasedd, yr oedd yn rhaid eu galw felly yn
fynych yn nghanol-ddydd oes, ond yn myned o'r golwg yn
hollol, a'r dyn yn cael ei hun mewn anialwch, fel Hagar, heb
ganfod yr un pydew i'w ddisychedu o'i fewn ; ond y mae
crefydd yn d'od ato yno, ac fel angel Duw, yn cynyg dangos
iddo ffynon y bywyd. Ond y mae y flwyddyn yna hefyd ar
fyned heibio ar rai sydd yma, a'r Arglwydd yn dywedyd, "Nid
wyf yn cael dim."
Yr ydych oll wedi cael tair blynedd, er nad oll yn yr ystyr a
enwyd. Yr ydych wedi gweled blwyddyn y denu ; yr ydych
wedi gweled blwyddyn y trafferthion ; yr ydych wedi gweled
blwyddyn y siomedigaethau. Dyna oedd Uais yr Arglwydd
wrthych yn y gyntaf, " Fy mab, moes i mi dy galon ;" yn yr ail,
ei iaith ydoedd, " Deuwch ataf fi bawb a'r y sydd yn flinderog
ac yn llwythog, a mi a esmwythâf arnoch ;" ac yn y drydedd,
wedi i chwi gael eich siomi gan y byd, y cnawd, a'r diafol, dyna
oedd ei leferydd, "Er iti buteinio gydâ chariadau lawer, eto
dychwel ataf fi." " Wele, tair blynedd yr ydwyf yn dyfod, gan
geisio ffrwyth ar y ffigysbren hwn, ac nid ydwyf yn cael dim,"
Y mae wedi cael amser digonol i ffrwytho : y mae hyny yn
rym yn y ddadl yn ei erbyn.
4. Y peth olaf yn y ddadl dros ei dori i lawr ydoedd, ei fod
yn diffrwytho y tir. Mae y ddadl yn casglu nerth o hyd. Yr
oedd ei fod ef ei hun yn ofer, er ei fod wedi cael lle ac amser i
ffrwytho, yn ddadl gref dros ei dori i lawr; ond y mae yn
gwneyd rhywbeth gwaeth na bod yn ofer ei hun, y mae yn
troi pob peth o'i gwmpas i oferedd, — " diffrwytho y tir." Y
fllgysbren oedd i droi gwrcs yr haul, gwiaw y nefoedd, dylan-
.é
Yŷ'igysbren diffrwyth. 6i6
wadau yr awyrgylch, a nòdd y ddaear, i ffrwyth ; a chan nad
oedd yn gwneyd hyny, yr oeddent yn myned yn ofer yn eu
perthynas âg ef. Trwy ddyn y mae yr holl greadigaeth i ateb
ei diben i Dduw. Y mae cyfansoddiad ei goríî a'i feddwl yn
dangos hyny, yx\ annibynol ar fod 3'r un peth yn cael ei ddangos
yn y Bibl, oblegid y mae y greadigaeth oll yn cyd-gyfarfod
mewn dyn. Y mae hyny yn wirionedd wedi ei brofi, fod pob
bywyd sydd ar y ddaear yn mywyd dyn ; er esiampl, y mae yr
ymenydd dynol yn myned trwy ffurf ymenydd pob creadur cyn
cyraedd ei berffeithrwydd : y pysgodyn yn gyntaf, yna yr ym-
lusgiad, yna yr aderyn, yna yr anifail, yna y dyn ; felly yr
oedd creadigaeth dyn, nid yn unig yn orpheniad ar waith y
chwe' diwrnod, ond yn grynhoad ar yr oll i un man. Adda
oedd ei enw, sef daear, — yr oedd hi oll ynddo ; a thrwyddo yr
oedd hi i gael ei chysylltu â'r nefoedd, oblegid anadlwyd yn
ei ffroenau anadl einoes, anadl Duw, a thrwy yr elfen ysbrydol
yna, yr oedd yr oll i fyned yn ogoniant i Dduw. Mae dyn, gan
hyny, yn gynrychiolydd y greadigaeth mewn ystyr eangach a
dyfnach nag yr ydym wedi arfer meddwl. Nid ydy w fod y ffigys-
brendiffrwyth yn cymeryd lle un a fuasai yn ffrwytho, ddimond
rhan fechan o'r drwg : yn ychwanegol at hyn, y mae yn di-
ffrwytho, yn troi i oferedd, holl greadigaeth Duw. Nid gwneyd
gwaitli prydnhawn y chwe' diwrnod yn ofer y mae dyn, ond
troi gwaith yr wythnos ryfedd oll yn ofer ; oblegid drwy yr
hyn a wnaed brydnhawn y chweched dydd, yroedd yr wythnos
i ateb ei diben.
Dyn yw goruchwyliwr y darn yma o ystâd y brenin tragyw-
yddol, ac y mae yr ardreth yn d'od i mewn yn ei phryd. Nid
oes un tenant anonest na gwan ar yr ystâd. " Y mae y nefoedd
yn datgan gogoniant Duw, a'r ffurfafen yn mynegu gwaith ei
ddwylaw ef." Ond nid ydyw y perchen yn caeldim o'r ardreth,
am fod y goruchwyHwr yn anghyfiawn. Yr oedd y telegraph
a osodwyd o'r Iwerddon i America, ond a fethodd yn ddiwedd-
ar, yn trosglwyddo yr oll yn berffaith i un man ar y rhaff, ond
yr oedd yr un gwall hwnw yn gwneyd y rhaff oll yn ofer. Y
mae y rhaff sydd i drosglwyddo mawl y ddaear i'r nefoedd heb
ond un gwall ynddi, — dyn ydyw hwnw: ond y mae y lle
gwallus yna yn gwneyd y rhaff oll yn ofer : " diffrwytho y
6i7 Y ffigysbren diffrwyth.
tir." O ! gymaînt o bethau sydd yn myned yn ofer yn eu
perthynas â'r dyn difFrwyth ! Gall yr haul ddywedyd wrth
fyned i'w ystafell yn niwedd pob dydd, ' Yn ofer y rhedais fy
ngyrfa heddyw fel cawr, i ddangos fy ufudd-dod i'm Creawdwr ;
nid oes yma neb i fyned â'm teyrnged i mewn i'r llys.' Gall y
nefoedd hithau ddy wedyd bob nos, ' Yn ofer y dadgenais inau
ogoniant Duw, ac y mynegodd fy ffurfafen i waith ei ddwylaw
Ef ; nid oes yma neb i gyflwyno fy mawl i iddo.' Gall rhag-
luniaeth ddywedyd, ' Yn ofer yr ^vyf finau yn d'od â'm tym-
horau ífrwythlon, â'm lluniaeth, a'm llawenydd, fel arogl-
darth i'w losgi ar thuser y deml ; nid oes yma yr un oífeiriad
i fyned i'r cysegr, — "Diffrwytho y tir." lë, i lawer sydd yma
yn awr, geUir dywedyd, Yn ofer y bu y patriarchiaid byw ; yn
ofer y llefarodd y prophwydi ; yn ofer yr efengylodd yr apos-
tolion; yn ofer yr ymddangosodd Duw yn y cnawd ; yn ofer y
bu marw mawr Calfaria fryn ; yn ofer y cynhyrfwyd dynion
sanctaidd i ysgrifenu y Llyfr hwn ; yn ofer y seliodd y tystion
ef â'u gwaed ; oblegid nid oes yr un o'r pethau yna wedi ateb
eu diben i chwi. " Diffrwytho y tir." Y mae y ddadl yn gref,
onid ydyw ? dros dori y ffigysbren i lawr. Y mae yma leisiau
fyrdd, fel swn dyfroedd lawer, yn dywedyd, " Tòr ef i lawr ;"
bydd rhyw obaith am ei gymydogaeth wed'yn : " Tòr ef i lawr;"
bydd rhyw obaith i fyrr a chasia Pen Calfaria buro yr awyr
y mae wedi ei heintio â'i bechodau wed'yn ; " Tör ef i lawr,"
"tòr ef i lawr." Dyna dynged y ffigysbren wedi ei phender-
fynu : y mae yn rhywyr ei chario i weithrediad ; — na, y
mae yma air pellach i'w ddywedyd : —
II. Y ddadl drosto : " Gad ef y flwyddyn hon hefyd." Ond
nid yw y ddadl drosto ddim yn agos cyn gryfed a'r ddadl yn ei
erbyn; ond y mae yn ddigon cref iddo ddianc, er cryfed yr
achos yn ei erbyn.
1 . Y peth cyntaf yn y ddadl oedd, nad oedd yn gofyn ond am
amser byr iddo, — blwyddyn. Yr ydoedd wcdi cael tair,ond nid
oedd y gwinllanydd yn meiddio gofyn am dair eto, am fod yr
achos mor gryf yn ei erbyn : dim ond blwyddyn. Y mae y tair
blynedd trosodd ar rai sydd yma, ac y maent yn awr yn y
flwyddyn ddifrifol sydd i benderfynu eu tynged am byth. Fe
fu y dyn yn wr rhydd am flynyddoedd ; ond fe flinodd amynedd
Y ŷigysbren diffi'ivyth. 6i8
Duw yn ei oddef : aeth y cyhoeddiad allan, — " Tòr ef i lawr ;"
oad fe Iwyddodd eiriolaeth trugaredd i gael estya y cylch atn
flwyddyn, ond y foment yr ä dros farciau y flwyddyn, bydd yn
ngafael y dinystr. Fe fu Simei yn wr rhydd yn Jerusalem, yn
gallu myned a dyfod lle a phryd y mynai; ond fe dynodd
Solomon gylch o'i gwmpas; yr oedd ei fywyd yn ddiogel tra o
fewn y cylch ; ond pan aeth trosto, aeth i afael angau. Y mae
cylch y flwyddyn ddifrifol, j»^ flwyddyn hon, hlwyddyn yr eiriol-
aeth, wedi ei dynu o gwmpas rhài sydd yma: os eir tros hwnw
heb ífrwytho, " tòr ef i lawr," sydd yn dilyn hyny.
2. Peth arall yn y ddadl trosto oedd, fod y gwinllanydd yn
myned i ddefnyddio moddion ychwanegol ata i geisio cael
fîrwyth, sef cloddio a bwrw tail. Y mae hyn yn ei gysylltiad
â'r genedl luddewig, yn cyfeirio at farwolaeth y groes, a
thywalltiad yr Ysbryd, a'r pethau rhyfedd a gymerasant le yn
sefydliad Cristionogaeth. Yr oedd y gwinllanydd yn gobeithio,
os oedd bywyd y Person mawr wedi methu llwyddo i'w pl^'^gu,
y llwyddai ei farwolaeth i hyny ; ac 03 oedd pregethau Mab
Duw wedi methu eu perswadio, y llwyddai Ysbryd Duw i
wneyd hyny. A blwyddyn ryfedd yn eu hanes hwynt oedd
blwyddyn y cloddio a'r bwrw tail ; ond i goríf y genedí
blwyddyn ofer a fu hono hefyd. Hyny ydyw y cloddio a'r
bwrw tail yn ei berthynas â ni : — ymweliadau anghyíFredinol
yr Arglwydd ; pan y mae pethau dieithr yn cymeryd lle mewn
rhagluniaeth, cloddio a bwrw tail ydyw hyny; ac yn enwedig,
pan y mae Ysbryd Duw yn cael ei dywallt mewn modd
anghyíTredinol. Ac y mae yn briodol galw y dyddiau hyn yh
adeg cloddio a bwrw tail yn yr ystyr hwn ; ac y mae yr
oruchwyliaeth wedi ateb ei diben i filoedd o fEgysbrenau
dififrwyth. Y maent wedi eu hireiddio, ac wedi eu anghymwyso
i dân ; ac os nad ydyw y íTrwythau yn fawrion, ac yn addfed,
y maent yn tyfu bob dydd, ac yn addfedu hefyd. Ond mi
ddymunwn i'r rhai y mae y cloddio a'r bwrw tail heb ateb y
diben, gofio dau beth : (i.) Peth dros amser byr ydyw y cloddio
a'r bwrw tail. (2.) Y peth olaf ydyw. Gall fod rhai o honoch
yn disgwyl rhywbeth eto. Y mae y peth olaf wedi ei wneyd :
yr oruchwyliaeth olaf ydyw goruchwyliaeth y flwyddyn hon.
3. Dadl arall drosto oedd fod tori i lawr yn beth mor bwysig
6 19 Y ffigysbren diffrwyih.
fel yr oedd y gobaith gwanaf am iddo ffrwytho yn werth ei
adael am tìwyddyn er ei fwyn. " Os dwg efe ffrwyth :" y mae
hyn yn dangos fod y peth yn dra arnheus, ac eto nid yn gwbl
ddiobaith. " Os dwg efe ffrwyth.'' Y mae yn cynwys hefyd
fod íîrwytho yn beth mor annhraethadwy bwysig, fel y mae yn
werth ei adael ara fîwyddyn, er mwyn y gobaith gwanaf am
hyny, Y mae ein cyíieithwyr ni wedi rhoddi y gair " a'a," i
mewn, " Os dwg efe ffrwyth, da ;" ond nid ydyw yn y ddameg,
fel y daeth hi o enau Mab Duw; ac y mae yr iaith yn gryfach
o lawer hebddo. " Os dwg efe ffrwyth ;" — iaith doredig ydyw
hon, i ddangos fod y posibilrwydd noeth iddo ddwyn ffrwyth,
er fod yno annhebygolrwydd mawr, eto fod y posibilrwydd yn
werth gwneyd un ymdrech mawr er ei fwyn, am fod canlyniadau
peidio ffrwytho mor ofnadwy, sef " tori i lawr." Y mae coUi
enaid yn beth mor arswydlawn, fel y mae yn werth gan bawb
a wyr ddim am ofnadwyaeth y trychineb wneuthur unrhyw
ymdrech er mwyn y gobaith gwanaf am ei gadw. Nid peth
bychan yw tori i lawr. Y mae hyny yn d'od i'r golwg mewn
nad oes neb mewn brys i wneyd hyn : Perchen y winllan yn
cyílwyno y gwaith i'r gwinllanydd ; y gwinllanydd yn ei gyf-
Iwyno yn ol i'r Perchen. Y mae gweinyddu yr ail farwolaeth
ar enaid mawr dyn yn waith mor ofnadwy nad oes neb yn ei
hcfîì. Nid oes neb mewn brys i fyned ato, ond y diafol, fel y
Doeg hwnw i ruthro ar yr offeiriaid yn Nob gynt.
4. Y peth olaf yn y ddadl drosto ydy w, nad ydyw y gwin-
llanydd am sefyll ar ffordd cyfiawnder, er ei fod yn dadleu
trugaredd. Yr oll y mae yn ei ofyn ydyw ei cliysgod hi am
flwyddyn ; ac os na etyb hyny y diben amcanedig, wedi hyny
caiff cyfiawnder ei hawhau. " Tòr ef i lawr," medd y gwin-
llanydd ; ac y mae yr ail ddedfryd yn llawer mwy ofnadwy na'r
gyntaf, oblegid y mae hi yn cynwysfod pawb yn cytuno i hyny.
Nid felly yr ydoedd gyda'r ddedfryd gyntaf : yr oedd cydym-
deimlad à'r íîîgysbren yn peri i'r gwinllanydd eiriol trosto; ond
wedi i fîwyddyn yr eiriolaeth dd'od i ben, y mae pob cydym-
deimlad wedi ei golli, pawb yn dywedyd, Amen, wrth glywed
y ddedfryd. Y mae rhywbeth arswydus yn y meddwl o fod
mewn cyílwr na bydd neb yn cydymdeimlo â thi trwy holl
greadigaeth Duw : trugaredd wcdi ymadacl o bob calon, tyner-
Y ffigysbren diffrwyth. (^20
wch wcdi ciliü o bob llygad, pawb yn adsain y gair, " Tòr ef i
lawr."
'* Tòr ef i lawr ;" — y mae hyn yn cynwys yn olaf, nad oe&
dim arall i'w wneyd iddo, dim alternative yn bod. Pan
gyhoeddwyd y ddedfryd gyntaf, yr oedd rhywbeth arall i'w
gynyg yn ei lle hi, sef " cloddio," a "bwrw tail ;" ond pan
gyhoeddir yr ail, ni fedr neb gael dim i'w gynyg yn ei lle hi.
Ni wyr Duw am ddim arall i'w wneyd i'r dyn sydd yn mj^nu ei
ffordd, ond ei ddanmio. Nid oedd ganddo ond un Mab ; — fe
roddodd hwnw : nid oes ganddo ond un drefn i gadw ; ac y
mae ei holl ddoethineb, ei holl ras, a'i holl nerth, wedi eu cyd-
grynhoi yn hono. Ac os na fynwch chwi y Mab hwnw, ac os
na chymerwch eich cadw yn y drefn hono, nid oes dim wedi ei
adael ond rhyw ddisgwyl ofnadwy am farnedigaeth ; dim ond
tori i lawr. Gwnewch yn fawr o flwyddyn yr eiriolaeth, oblegid
y mae yr hyn sydd yr ochr draw iddi braidd yn rhy ofnadwy i
sùn am dano. Beth fydd ei ddioddef.? Diolch i Dduw ! nid
yw ddim wedi myned heibio. Atebed ei diben i holl flRgys-
brenau diflFrwyth y fan hon, a'n gwlad yn gyífredinol y dyddiau
hyn. Amen.
[Rhag. 17, 1859— Mawrth 31, 1860.]
PREGETH XXXIX.
DUW YN CRAFFU AR ANWIREDDAU.
Salm cxxx. 3.— "Oscreffi ar anwireddau, Arglwydd, 0 Ärglwydd, pwy
a saif."
N o'r pethau cyntaf sydd yn ein taro wrth sylwi a^
y byd hwn ydyw, mai byd sydd wedi dyrysu ydyw,
Y mae pob peth o'i fewn yn ymddangos megis dan
lywodraeth damwain. Nid ydyw pechod yn cynyrchu cosb, na
rhinwedd yn cael ei ddilyn gan wobr. Y mae annuwioldeb yn
y lle y gellid disgwyl barn, ac anwiredd yn y lle priodol i
gyfiawnder. Y mae yr annhrefn hwn yn peri i rai wadu sylw
Duw o gwbl ar y byd : dywedant, — " Gadawodd yr Arglwydd
y ddaear, a pha le y mae Duw y farn ?" Ond y mae y teimlad
sydd yn y fynwes, fod agwedd bresenol y byd yn annhrefnus,
yn ddigon o brawf fod trefn, ac Awdwr trefn, yn rhywle, ac y
trefna eto rywbryd elfenau cymysglyd y byd hwn, — y bydd
iddo graffu ar anwireddau.
Y mae y Bibl yn cymeryd y gwirionedd hwn yn ganiataol,
s:f, bod gan Dduw hawl i graffu. Ycwblsydd yn angenrheidiol
ei brofi ydyw, pwy ydyw y gwir Dduw. Unwaith y gwneir
hyny yn sicr, y mae y fynwes yn teimlo yn y fan hawl y Duw
hwnw i graffu ar ci holl ymdd^^giadau.
Y mae perthynas ymhlith dynion yn cael ei hystyried yn
sylfacn dyledswydd, ac yn rhoddi hawl i alw i gyfrif. Y mae
y deiliad yn rhwym i'w frenin, — y gwas i'w feistr, — y plentyn
i'w dad, — y derbyniwr i'r cymwynasM-r ; ond nid ydyw yr hoU
berthynasau yma ynghyd ond adlewyrchiad egwan o berthynas
dyn â Duw. Y mae gan Dduw hawl i graíTu ar bcchod, fel ag
Duw yn craýu ar amweddau. 622
y mae yn wrthryfel yn erbyn Brenin, — yn anmharcli ar Feistr, —
yn anniolchgarwch i gymwynaswr, — ac yn anufudd-dod i Dad.
Hefyd, y mae y tyst s}.dd yn y fynwes dros Dduw, sef y gyd-
wybüd, yn sicrhau hawl y Brenin tragywyddol i graffu. Bcth
ydyw y braw sydd arnom mewn perygl ; — yr ofn angau sydd
yn ein dal dros ein holl fywyd mewn caethiwed ? Pahani y mae
adfyd yn peri i ni ollwng ein gafael i raddau ar ein beiau ; — yr
addunedwn ni mewn cyfyngder na wnawn anwiredd mwy?
Onid am ein bod yn teimlo fod gan Dduw hawl i'n galw i
gyfrif, ac am ein bod yn ofni ei íbd yn myned iwneuthur felfy
y pryd hwnw ì
Er bod gan y Duw sanctaidd hawl i grafifu, eto nid ei hawl
a'i allu sy bob amser yn rheol ei ymddygiadau. Ni wna Efe
bob peth a alL Y mae ei allu yn cael ei lywodraethu gan ei
ddoethineb a'i ddaioni. Ond yn y materhwn, mae profi fod
ganddo hawl i graflfu, yr un peth a phrofi y gwna Efe graffu ;
oblegid fe fuasai yn ymddygiad annheilwng iddo ei hun, adael
i bechod fyned hebio heb alw y pechadur i.gyfrif. " Oni wna
Barnydd yr hoU ddaear farn .?" Os ei ogoniant ei hun yw ei
ddiben penaf ; — os ydy w lles a hapusrwydd ei greadigaetli yn
anwahanol gysylltiedigâ hyny, y mae Efedan angenrheidrwydd
natur i graffu ar yr hyn sydd yn ei ysbeilio Ef o'i ogoniant, ac
o ganlyniad yn ysbeilio y greadigaeth o'i dedwyddwch. Gyda'r
cynildeb mwyaf y mae yn gweddu i ni siarad am angenrheid-
ray'í//^yn Nuw; ond yr ydym yn ddiberygl tra ar dir y dad-
guddiad Dwyfol. Y mae y Bibl yn dywedyd fod yn anmhosibl
iddo fod yn gelwyddog : byddai mor hawdd iddo beidio â bod
ag y byddai iddo fod yn gelwyddog. Ac y mae yr un an-
mhosibilrwydd iddo oddef, yn dragywydd, annhrefn foesol yn
ei greadigaeth, ag a fyddai iddo oddef hyny ynddo ei Hun.
Yr 37dym wedi cael amneidiau eisoes, ac yw cael ihai bob
dydd, o'i fod yn craffu yn awr. Y mae yn wir mai bychain
iawn ydyw yr amlygiadau yr ydym yn eu cael yn awr o hyny;
ond y maeyr ychydigddefnynau sydd yn disgyn o'r cwmwl du
yn brawf digonol o'i fod yn llwythog o wlaw. Y mae yr
ychydig wreichion sydd yn cael eu taflu i fyny o grombil y
mynydd tanllyd, yn ddigon i brofi fod yno tirias oddifewn;
felly y mae yr ychydig amneidiau yr ydym ni yn eu cael yn
623 Duw yn craffii ar anwireddau.
ddigon i brofi fod Duw a farn ar y ddaear. Nid ydyw yn galw
i gyfrif yn awr, ac yn mesur yr anwiredd i'n mynwes ; ond y
mae yn rhoddi ar ddeall yn fynych ei fod yn gweled ac yn
ysgrifenu. Yn debyg fel y bydd tad, weithiau, yn canfod,
plentyn drygionus yn troseddu ei orchymyn ; nid ydyw yn ei
gosbi ar y pryd, ond yn dywedyd wrtho, — Yr ydwyf fi yn
gweled. Y mae yr euog, yn y fan, yn cysylltu cosb â'r gair yna.
Felly y cyfan y mae yr Arglwydd yn ei wneuthur yn awr
ydyw dywedyd, — Yr ydwyf fi yn gweled. Beth ydyw y pla
dinystriol ? Llais y Barnwr yn dywedyd, — yr wyf fi yn
gweled. Nid oedd y diluw ddim ond prawf i feibion dynion
fod llygaid y Duw anfeidrol yn gweled dan yr holl nefoedd.
Dyna ydyw yr holl gystuddiau, y bhnderau, a'r adfyd, sydd ary
ddaear, profion bod un sydd uwch na'r uchaf yn gwylied, —
fod Duw sydd yn craíîu ar ymddygiadau meibion dynion.
Y mae ganddo hawl i grafFu ; — y mae yn sicr o grafiFu ; — ac yn
awr ni a geisiwn ddangos ei fod yn myned i graflfu ; — ac nad
oes neb aallsefyll pan ygwnahyny: — "Os crefifi ar anwireddau»
Arglwydd, O Arglwydd pwy a saif ?"
Nid rhaid i ni ond ystyried tri pheth i weled na safwn ni
K\! ddim : — i. Y Craffwr ; 2. Y neb y mae yn crafEu arno; 3. Yr
hyn y mae yn craffu arno : Duw, dyn, a phechod. Y neb sydd
yn craíîu ydyw Duw. Y neb y mae yn craffu arno ydyw dyn.
Yr hyn y mae yn craffu arno ydyw anwiredd. " Pwy a saif."
I. Ni a edrychwn ar yr hwn sydd yn craffu, — Duw. Y mae
tri pheth yn Nuw yn profi na ddianc neb pan ä Efe i graffu ar
anwiredd; sef i. Sancteiddrwydd\ [2. Gwijbodaeth ', 3. Gallu.
Sancteiddrwydd i gasâu pechod, osgwèl; — gwybodaeth i'w
weled, lle y mae; — a gallu i gosbi yn ol purdeb ei sancteidd-
rwydd, a hyd eithaf manylrwydd ei wybodaeth.
I. Sancteiddrwydd. Hyn sydd yn gwneuthur pob priodol-
edd yn Nuw yn ofnadwy i bechadur. Ni buasai raid i'w wyb-
odaeth beri i ni ofni, nac i'w allu ein llenwi à dychryn, oni bai
ei fod yn sanctaidd. Feallai nad ydyw mor briodol galw
sancteiddrwydd ei hun yn briodoledd ynNuw; yn hytrach
prydferthwch a gogoniant pob priodoledd ydyw. Y mae yr
Arglwydd yn ogoneddus mewn sanctciddrwydd, fel y mae y
goleuni sydd o'n hamgylch wedi ei wneuthur i fyny o saith hw
yr enfys. Y mae gan bob lliw fùd ar wahàn ; ond y dis-
Dîiw yn craŷu ar anwireddau. 624
gleìrdeb sydd yn cael ei gynyrchu gan gyd-gyfarfyddiad yr oll
ydyw y gwyn, neu y goleu sydd yn ein hamgylchu ; felly
<disgleirdeb y priodoliaethau dwyfol ydyw sancteiddrwydd,
■" Goleuni yw Duw, ac nid oes ynddo ddim tywyllwch." Ac
fel y mae goleuni yn beth hollol groes i dy wyllwch, felly sanct-
eiddrwydd Duw ydyw y gwrthdarawiad hwnw sydd yn yr
Hanfod Ddwyfol i bob drwg; ac y mae yn cynwys holl briod-
oliaethau eraill y Jehovah ynddo ei hun. Fe fuasai Duw yn
Dduw cyfiawn pe na buasai pechod yn bod ; fe fuasai yn Dduw
y gwirionedd pe na buasai pechod yn bod ; ond ni buasai son
am dano fel Duw sanctaidd oni bai am bechod. Ni buasai
son am iechyd, oni bai fod afiechyd mewn bod ; ni buasai
son am oleuni oni bai fod tywyllwch mewn bod ; felly,
ni buasai son am sancteiddrwydd oni bai am bechod. Pan y
mae holl ranau y corflf yn cyflawni eu gwahanol swyddau yn
rheolaidd, y mae yr ystâd hono ar y corflF yn cael ei galw yn
iechyd ; a pha berffeithiaf fydd yr ystâd hono, pellaf oU ydyw
y meddwl am dani oddiwrthym. Nid ydym yn meddwl am
iechyd pan yn berffaith iach ; a phe na buasai afiechyd yn
bod, buasai y meddwl am iechyd yn gwbl ddieithr i ni. lechyd
moesol ydy w sancteiddrwydd, a phe na buasai afiechyd yn bod,
buasai y syniad am sancteiddrwydd yn berffaith ddieithr i'r
greadigaeth. Fel y mae yn briodol, ar ryw olygiad, dywedyd
mai pechod a roddes achlysur i'r Duw anfeidrol ymddangos yn
sanctaidd ; ac y mae un yn disgrifio sancteiddrwydd yn Nuw
nid fel rhinwedd ynddo ei hun, ond rhinwedd yn ei berthynas
â'r hyn sydd wrthwyneb iddo ; neu, sancteiddrwydd ydyw y
teimlad hwnw gydâ pha un y mae y bòd perffaith yn edrych
ar bechod. Sancteiddrwydd ydyw gwaith y natur ddwyfol yn
cilio oddiwrth bechod, yr un fath ag y gwna dyn oddiwrth
fwystfil gwenwynig. Y mae sancteiddrwydd yn yr olwg hon
arno, yn dyfod i'r amlwg yn holl ymwneyd y Brenin tragyw-
yddol â dynion. Pan bechodd dyn ar y cyntaf, fe ddaeth sanct-
eiddrwydd i'r aml wg, ac fe'i tröwydef allan o'r llanerch ybyddai
ef yn arfer cyfarfod â Duw ynddi. Ni chai ei draed halogedig
byth mwy sangu y ddaear ar ba un y buasai yn cymdeithasu â
Duw, fel y gwna gwr â'i gyfaiU. Yr oedd cerubiaid â chleddyf
tanllyd ysgwydedig yn ei gadw draw. Yr oedd hyn yn dyfod
E3
6á5 Dmu yn craffii ar amüireddau.
i'r amlwg yn holl seremonîau yr hen oruchwyliaeth. Yr oeíîá
yn rhaid i'r addolydd gyfarfod â Duw trwy aberth, mewn
gwaed, ac mewn Ile apwyntiedig i hyny. Yr oedd llwyth wedi
ei neillduo i wasanaeth y cysegr \ — teulu priodol o'r llwyth i
agosâu at Dduw; a pherson priodol o'r teulu. Yr oedd yn
rhäid i hwnw ymolchi ac ymlanhau cyn ymddangos gerbron y
presenoldeb dwyfol. Beth oedd hyn oll ond rhywbeth i
ddangos y gwrthdarawiad hwnw sydd yn Nuw i bechod ì Nid
oedd ond purdeb i ddyfod ger ei fron ymhob ystyr. Nid oedd
dim yn gymeradw)'' os na byddai yn berffaith. Ni chai neb
weinyddu yn y swydd ofìPeiriadol hyd yn nod âg anaf corfforöl
arno. Ni dderbynid yr un aberth os na byddai yn berffaith
gwbl. Yr oedd y dwfr a ddefnyddid yn y gwasanaeth
i fod yn ddwfr sanctaidd, hyny yw, wedi ei neillduo oddiwrth
bob gwasanaeth cyffredin. Yr oedd y tan â pha un yr oedd yr
aberthau a'r arogl-darth yn cael eu llosgi yn dân sanctaidd. A
phan ryfygodd Nadab ac Abihu losgi arogl-darth â thân
cyffredin, fe'u lladdwyd hwynt yn y fan. Yr oedd olew yr
eneiniad a'r arogl-darth yn gyfryw nad oedd neb o feibion
Israel i wneuthur eu cyffelyb, o dan y perygl o gael eu tori
ymaith o bhth y bobl. Yr oeddent yn sanctaidd i'r Arglwydd,
i argraffu ar feddyhau y bobl fod gwahaniaeth dirfawr rhwng
eu pethau hwy a phethau Duw ; ac ni byddai hyfrydlais tra-
garedd byth yn cyhoeddi gollyngdod i bechadur, na byddai
sancteiddrwydd wedi bod yn mygu yn ofnadwy cyn hyny yn
erbyn pechod. Yr oedd yn anrahosibl i ddyn agosau at Dduw
heb gael aberth i ddioddef y tân yn ei le.
Ac yn holl dystiolaethau y Duw mawr am' dano ei hun yn ei
air, y mae yn cysylltu sancteiddrwydd â'r cyían ; hyny yw,
beth bynag yw Duw, J mae Efe felly yn anfeidrol wrthwyneb
i bechod. Os oes ganddo fraich, — y mae hiyn fraich sanctaidd.
Y mae cymaint o nerth ag sydd ynddi i gael ei ddefnyddio yn
erbyn pechod. Os oes enw iddo, — y mae hwnw yn sanctaidd ;
— ei "enw sanctaidd." Y mae am ddefnyddio ei holl ddylan-
wad yn erbyn pechod. Os ymostynga i wneuthur cyfamod â
dyn, fe fydd hwnw yn "sanctaidd gyfamod," — yn gyfryw un ag a
ddengys wrthdarawiad y natur ddwyfol i bechod. Y mae Efe
ei hun yn tyngu i'w "sanctciddrwydd," i sicrhau gwirionedd ei
Duw yii craffii ar anunrcddaii. 62Ó
addewidion a'i fygythion. Y raae efe cyn sicred o'u cyflawni
a'i fod yn casau pechod â chasineb anfeidrol. Y mae pob peth
a ordeiniodd, — pob peth a wnaeth, — ei holi weithredoedd, — yn
adseinio geiriau y seraphiaid, — "Sanct, Sanct, Sanct, yw Ar-
glwydd y lluoedd."
Dyma y Duw sydd yn myned i graffu, — ' Yr hv/n sy lanach
ei lygaid nag y gall edrych ar ddrwg, ac ni all edrych ar anwir-
edd.' Nid yn unig nid yw yn cyílawni dim drwg ei hun, ond
ni all dira drwg drigo yn ei bresenoldeb Ef. Y mae yn
casau holl weithredwyr anwiredd ; — y mae yn ddigllawn
beun^^dd wrth yr annuwiol ; — y mae ei sancteiddrwydd yn
wastad yn mygu yn ei erbyn ; — y mae yn barod ar bob adeg i
gyneu yn fflam i'w ddifa. ' Nid sanctaidd neb fel Efe.' Mewn
cymhariaeth iddo ei hun, nid yw y nefoedd ei hunan yn lân.
Y mae yn gosod ynfydrwydd yn erbyn ei angylion. Y mae
pawb yn cr^-nu pan ddêl ei sancteiddrwydd i'r amlwg. " Pan
ddaeth Duw o Teman, a'r Sanctaidd o fynydd Paran," fe
lewygodd Israel gan ofn, — fe grynodd Moses lariaidd, — o flaen
sancteiddrwydd Duw. Pan ddaeth Efe allan yn yr anialwch
i derfynu dadl yr offeiriadaeth, dacw y bobl yn gwaeddi mewn
braw ; — Wele ni yn trengu, — darfu am danom, — darfu am
danom ni oll. " Bydd farw pob un gan nesau a nesao i Daber-
nacl yr Arglwydd." Yr oedd y Philistiaid dienwaededig wedi
ofni ger bron ei sancteiddrwydd ; — gwŷr Bethsemes yn gwaeddi
mewn dychryn, — " Pwy a ddichon sefyll gerbron yr Arglwydd
Dduw sanctaidd hwn ?" Yr oedd y gŵr wrth fodd calon Duw
yn ofni fel hwythau, ac yn gofyn mewn braw, — " Pa fodd y
daw arch yr Arglwydd ataf fi .?" Onid priodol geiriau y Salm-
ydd, — "Tydi, tydi, wyt ofnadwy, a phwy a saif o'th flaen pan
enyno dy ddigder ?"
2. Y mae gwybodaeth Duw yn profi na saif neb. Yr ydym
wedi gweled ei fod yn anfeidrol wrthwyneb i bechod, os gwêl.
Yn awr ni a geisiwn ddangos ei fod yn ei weled lle bynag y
mae; oblegid " Duw gwybodaeth yw yr Arglwydd." Y mae
ei wybodaeth yn gydwastad â'i allu. Ni buom ni mewn un
man erioed nad oedd profion o'i allu yn ein hamgylchu, gan
hyny ni buom mewn un man tuallan i derfynau ei wybodaeth.
Y mae llygaid Duw ymhob man y mae ei fraiçh. Nid ydyw o
627 Duw yn craffii ar amüireddatc.
bwys i ni pa un a ydyw ei wybodaeth yn ^o//wybodaeth yn
ystyr eangaf y gair, er fod y Bibl yn dy wedyd ei bod hi felly.
Ond pe na buasai hi felly, y mae yn hollwybodaeth yn ei pher-
thynas â ni ; oblegid ni fedrwn ni fyned allan o diriogaeth
Duw y gallu, am hyny yr ydym yn sicr o fod yn ngwydd Duw
y gwybodaeth. Lle bynag y bu ei fraich yn creu, y mae ei
lygaid yno yn craíFu. Os oedd ei allu yn berflfaith, y mae ei
sylw felly hefyd. Y mae holl wybodaeth Duw yn rhagdybied
ei holl-bresenoldeb ; a lle bynag y mae yn bresenol, y mae yn
Dduw presenol. Y mae pob peth posibl yn wybyddus iddo Ef.
Yr oedd y greadigaeth a'i holl ranau amrywiog yn bod yn ei
feddwl Ef er tragywyddoldeb. Y mae ei lygaid Ef, syfel flBam
dân, yn gallu treiddio i dywyllwch y dyfodol. Un ffunud iddo
ef y w ty wyllwch y dyfodol a goleuni yr amser preseno.l. A
pheth sydd yn fwy pwysig i ni o lawer yw, bod ei lygaid yn
gallu treiddio trwy gelloedd dirgel y meddwl. Y mae yn cyf-
enwi ei hun yn " ChwiHwr y galon." Gellir gofyn uwchben
hono, " Pwy a'i hedwyn ?" Nis gallwn ofyn y cwestiwn yna
braidd uwchben dim arall yn awr. Pe gofynem ni, pwy a
edwyn faintioli yr haul ? Daw yr astronomydd û'i ysb'ien-
ddrych ymlaen i ateb y cwestiwn. Pe gofynem ni, pwy a
edwyn uchder y sêr ? Daw y rhifyddwr â'i íBgyrau ymlaen i
wneuthur i fyny y swm. Pe gofynem ni pwy a edwyn ddyfn-
der y môr ? Daw y morwr â'i blymen ymlaen i ateb y
cwestiwn. Pe gofynem ni, pwy a edwyn Dad y gwlaw? — a'r
fíordd lle y trig goleuni? Daw yr athronydd ymlaen dan
ddywedyd — Myfi. Ond gallwn ofyn yn nghanol ymerodraeth
Duw, Pwy a edwyn galon dyn ? Y mae pawb yn ddistaw. Y
mae deall angel yn rhy bŵl i'w hamgyífred. Y mae gwybod-
aeth cerub yn rhy fechan i'w dirnad. Y mae llygaid tanllyd
seraph yn rhy wan i dreiddio i'w thywyllwch hi. Ond wedi i
bawb fethu, y mae y Duw mawr yn dyfod ymlaen, ac yn
dywedyd, — "Myfi yr Arglwydd sydd yn chwiHo y galon, yn
profi yr arenau, i roddi i bob un yn ol ei ífyrdd, ac yn ol íTrwyth
ei weithredoedd." Y mae yn ein cyfeirio at y greadigaeth
weledig, i gael profion o'i allu ; ond at galon dyn, igael profion
o'i wybodaeth. Pwy ydyw Arglwydd y Huoedd ? Wel,
"Lluniwr y mynyddoedd, a Chreawdydd y gwynt ;"— dyna
Diíw yn crajfu ar anwireddau. 628
allu : "yr Hwn a fynega i ddyn beth y\v ei fediwl ; " — dyna
wybodaeth. Gan ei fod yn gwybod ein meddwl, rhaid fod ein
geiriau a'n gweithredoedd yn hysbys iddo. Gall fabwysiadu
iaith doethineb, yn llyfr y Diarhebion, am y rhai hyn oll. Pan
y mae doethineb yn adrodd gweithredoedd y Duw mawr, y
mae yn dywedyd ar ol y cyfan, — " Yr oeddwn iyno;" felly gall
Duw y gwybodieth ddywedyd wrthym ninau, — " Pan gyíiawn-
aist ti y weithred ysgeler hono, — pan estynaist ti dy law at
eiddo dy gymydog, yr oedd wn i yno." Pan ddyferodd y 11 w
hwnw dros d/ wefusau, — pan ddywedaist ti y celwydd hwnw
wrth dy gyd ddyn. — pan ddaeth y gair segur hwnw o dy enau,
— "yr oeddwn i yno." Pan y gwibiodd y meddwl aflan hwnw
drwy dy galon, — pan y melldithiaist ti dy gymydog yn dy
feddwl, — pan ddywedaist ti yn ystafelloedd dirgel dy enaid —
"Nid oes yr un Duw," — " yr oeddwn i yno." Pan ymguddiaist
ti o dan leni o dywyllwch i gyflawni dy bechod, — yr edr^-chaist
o'th amgylch a oedd neb yn gweled, y dywedaist mewn ym-
ífrost,— " Cuddiwyd fy ífordd o olwg pawb;" ond " yr oeddwn
i yno." Y mae dy feiau cuddiedig oll yn ngoleuni fy w^meb.
Y mae fy ngolwg ar dy fiTyrdd ; nid ydynt guddiedig o'm
gwydd ; ac nid ydyw dy anwiredd guddiedig oddiar gyfer fy
llygaid. Yr oeddwn i yno yn fy ngwybodaeth, yn dy weled ;
— yn fy sancteiddrwydd yn perff"aith gasau dy aflendid; ac oni
buasai fod fy amynedd yn atal, fe fuasai fy ngallu i yno hefyd
yn dy ddamnio di â dymchweliad. Y mae dyfais yn y trefydd
mawrion i ddangos mewn ystafell bethau sydd yn cymeryd lle
mewn pellder mawr oddiwrthi. Trwy ryw ddarpariaeth yn
nen yr ystafell, y mae pelydrau y goleuni yn cael eu hadlew-"
yrchu iddi, nes y gwelwch chwi ar y ífordd o'ch blaen, gysgod
tai, yr heolydd, a'r dynion ar hyd-ddynt, ynghyd â'u hoU sym-
udiadau a'u gweithredoedd mor amlwg a phe byddai y gwrth-
ddrychau eu hunain yn wirioneddol o flaen eichllygaid. Felly
nid oes dim yn cymeryd lle yn mhellderau creadigaeth nad
ydyw goleuni gwybodaeth Duw yn adlewyrchu delw y cwbl ger
ei fron Ef. — " I ba le yr af oddiwrth dy ysbryd ? ac i ba le y fíbaf
o'th wydd ?" Y mae y greadigaeth eang yn y msymud yn ei wydd
Ef, — holl ysgogiadau meddyliau holl ddeiliaid eiymerod-aeth o
flaen ei lygaid. Y mae yn gweled y cwbl, ac ymhobm-i'--. Darfu
629 Diiiv yn craff'ît ar anwìreddau.
i adeiladydd cywrain Eglwys St. Paul yn Llundain wneuthtrr
un rhan o honì yn oriel y sisial ; dim ond i rywbeth gael ei
yngan yn y llais mwyaf egwan, fe'i clywir yn y fan ymhob
rhan o'r oriel : felly y mae creadigaeth Duw wedi ei chyfan-
soddi yn y fath fodd, fel ag y mae hoU sisial mwyaf dirgel y
meddwl o bob cwr o honi yn dyfod i mewn i glustiau " yr Hwn
sydd yn eistedd ar yr orseddfainc." " Oni chlyw yr hwn a
blanodd y glust ? Oni wèl yr Hwn a luniodd y llygad ? On*
wyr yr Hwn sydd yn dysgu gwybodaeth i ddyn ? Gwyr yr
Arglwydd feddyhau dyn mai gwagedd ydynt."
3. Fe ymddengys hyn eto^ os ystyriwn ei allu. Fe allai un
weled drwg, a chasau drwg, ac er hyny fod yn fyr o allu i wein-
yddu cosb ar y drygionus. Ond nid un felly ydyw Duw. " Wele
Ef yn gadarn ;" "eiddo Duw yw cadernid." Y mae rhai
creaduriaid yn gadarn ; ond nid yw cadernid yn eiddo neb ond
Duw. Y mae cadernid yno gartref, fel y mae y goleuni yn yr haul.
Y mae pelydrau o hono mewn Ileoedd eraill, ond yn yr haul y
mae ei gartref. Felly y mae cadernid yn Nuw yn ei anedd, —
yno y mae yn wreiddiol. Nid yw y greadigaeth, a'i myrddiyn-
au bydoedd, a'i chreaduriaid aneirif, ond ychydig o allu wedi
rhedeg dros yr ymylau. Nid ydyw yr oll ond gwaith ei law,
— òl ei fysedd, — rhanau o'i fìyrdd ; " Pwy a ddeall daranau ei
gadernid Ef ?" Dyrchefwch eich llygaid i fyny, a chlywch y
Duw cadarn yn llefaru, yn mawredd ei nerth, ymysg y sêr : —
" Pwy a greodd y rhai hyn, a ddwg eu IIu hwynt allan mewn
rhifedi : Efe a'u geihv hwynt oll wrth eu henwau; gan amlder
ei rym Ef, a'i gadarn allu, ni phalla yr un." Er eu bod o an-
ferth faintioli, ac yn aneirif o ran lliosowgrwydd, y maent yn
rowlio trwy yr eangderau yna; — ni phalla un am foment. Y
mae yr haul yn rhedeg ei yrfa fel cawr, y dydd ; — y lleuad,
mewn mawredd, yn amgylchu rhodfeydd y nefoedd, y nos ;
y sêr yn chwyldroi yn eu cylchoedd yn gyson : beth ydyw
hyn ? " Eiddo Duw yw cadernid ;" dim ond iddo ef lefaru, y
mae y greadigaeth yn distewi ger ei fron (Job ix. 5 — 10).
Arglwydd y Iluoedd yw ei enw; gan hyny ei weision Ef yw pob
peth. Y maent ar ei alwad yn barod i weinyddu y ddedfryd
ar bechadur. Dim ond iddo ef orchymyn, fe fodda y dwfr yr
hen fyd ; fe Iysg y tàn Sodoma a Gomorrah ; fe ddymchwel y
JDuw yn craffu ar anwireddau. 630
môr ar Pharao a'i luoedd; fe Iwnc y ddaear Corah, Dathan, ac
Abiram ; ac fe fynega y nefoedd ei gyfiawnder, trwy ollwng i
lawr geryg mawrion i ladd y Canaaneaid. Pwy all ymgaledu yn.
ei erbyn Ef, a ilwyddo? oblegid y mae ei luoedd yn aneirif; —
dim ond iddo gyffwrdd à'i fys â'r sprìng^ gall droi trugareddau
yn farnau yn y fan ; gail beri i'r un cymylau ag oeddent yn
(iyfrhau y ddaear mewn trugaredd, ei boddi mewn barn ; gal
beri i'r haul oedd yn ffrwythloni gwlad Ganaan, ei llosgi i fyn}^
fel nathyfai llysieu^'-n o'i mewn; gall wneuthur i'r un gwynt ag
eedd i buro yr awyr fel ag i'w hatali fod yn farwol, ladd plant
Job. Lle bynag y mae yn Dduw hollwybodol, yn gweled, y
mae yno yn Dduw hollalluog hefyd. Y mae llygaid yr Ar-
glwydd ymhob man ; y mae ei fraich ymheb manhefyd, Pwy
a saif pan graffo y Duw hwn ar bechod ?
Y mae rhai yn edrych ar y Duw raawr bob amser fel pe
byddai wedi ei wisgo yn unig â chariad, gan feddwl ei fod yn
€drych ar eu pechodau yn debyg fel y mae tad tyner yn edrych
ar wendidau ei blentyn, — yn barotach i wenu arnynt nag i'w
cosbi am danynt. Ac i brofi mai un felly ydyw Duw, fe'n c}^-
eirir at yr amlygiadau o ras a chariad sydd yn ei holl weithred-
oedd. Fe dd^'^wedir wrthym, — Onid ydyw yn peri i'w haul
godi ar y drwg a'r da ; — yn gwlawio ei fendithion ar y cyfiawn
a'r anghyfiawn ? onid ydyw yn Ilwytho pob dydd â thrugar-
edd, yn coroni pob blwyddyn â daioni ? onid ydyw yn diferu
ei diriondeb ar borfeydd yr anialwch, — yn agoryd ei law, acyn
diwalîu pob peth byw â'i ewyllys da? Y mae ein llygaid, ein
clustiau, a'n teimladau yn tystio mai un daydyw. Osedrychwn
ni ar y môr, ni a welwn bysg hwnw yn chwareu yn nghanol ei
ddaioni ; — os safwn yn ymyl y goedwig, ni a glywn adar hono
yn pyncio ei ddaioni. Y raae yr awyrgylch yn llafar gan ei
fawl. Y mae ei ^ariad yn cael ei adlewyrchu gan bob peth
i^n Ilygaid, — ei ras yn cael ei adsain gan y cyfan i'n clustiau ; —
ac nis gallwn ymsyraud heb deiralo ei drugaredd. Y mae hyn
oll yn ddigon gwir : yn nghanol daioni Duw yr ydym yn by w.
Y mae profion fyrdd mai un da ydyw ; ac na ato Duw i nì
ddywedyd dim a dueddai neb i feddwl yn galed am Dduw y
Bibl ; ond y mae o bwys tragwyddol i chwi a minau feddwl yn
gywir am dano. Y mae y doniau sydd yn ein hamgylchu yn
profi ei fod yn un da; — yn un anfeidrol mewn amynedd ; ond
631 Diiw yn craÿu ar anwireddaic.
nid ei fod yn anghyfiawn. Nid prawf ei fod yn ddisylw o
ymddygiadau dynion ydy w ei ddaioni. Nid prawf fod ei eiriau
a'i ymddygiadau yn groes i'w gilydd ydyw ei ddoniau ; nage ;
ond prawf fod mil o ílynyddoedd gyda Duw fel un dydd ; — fod
ei amynedd, fel ei drugaredd, yn anfeidrol. Y mae mynydd
tanllyd Vesuvius ar hyd y rhanau iselaf o hono a'i odrau, yn
tin o'r lleoedd hyfrytaf ar y ddaear. Y mae y ddaear bron yn
dwyn ffrwyth o honi ei hun. Y mae yno winllanoedd a gerddi
breision dros ben. Y mae pob pren hardd, a phob iîrwyth
peraidd yn tyfu yno. Wrth edrych arnynt gallai y teithiwr
feddwl ei fod wedi cyraedd paradwys o'r diwedd. Ond argopa
yr un mynydd, y mae agen fawr, o ba un y mae mwg yn esgyn
i fyny yn golofnau yn oes oesoedd ; ac weithiau y mae y mwg
yn cael ei enyn yn íBam, a'r hylif tanllyd yn dyhfo yn afon i
lawr o lethrau y mynydd, gan ysgubo pob peth byw o'i flaen, a
deifìo pob prydferthwch, a throi y baradwys mewn ychydig.
fynydau yn fryn cràs a diffrwyth. Wrth edrych ar brydferth-
wch ystlysau y mynydd, gallai y teithiwr ddywedyd, Pwy na
ddymunai fy w yma ! Hwn ydy w un o leoedd hyfrydaf y ddaear ;
— îe, ond a welwch chwi gopa y mynydd yn mygu ? Rhaid
nad oes nemawr o ofid yn bhno neb yma. Peidiwch camgym-
eryd, — y mae copa y mynydd yn mygu. Mi feddyliwn y gellir
dywedyd wrth yr enaid yma, gorphwys, bwyta, ŷf, bydd lawen,
Ah ! edrychwch ar y mwg sydd ar gopa y mynydd. Y mae
yn anmhosibl i chwi ffurfio barn gywir am dano wrth edrych
ar y prydferthwch sydd ar hyd ei ystlysau, heb gymeryd i
mewn hefyd y mwg sydd yn tywyllu ei gopa ef, — yr eirias dan-
llyd sydd yn ei grombil ef, — yr hylif ofnadwy sydd, weithiau,
yn berwi allan o hono, ac yn golosgi pob peth o'i flaen. Na
fernwch Lywydd y byd fel y barna y teithiwr fynydd Vesuvius.
Onid ydyw wedi ei amgylchu â daioni ? Ydyw ; ond a welwch
chwi y mwg sydd yn esgyn o gopa y mynydd ? Onid ydyw
trugaredd wedi gwneuthur paradwys fechan i ni ar ystlys y
mynydd ? Feallai ei bod hi : ond a weli di sancteiddrwydd yn
mygu ar ei gopa ? Y mae y Duw mawr wedi trefnu lle fy
mhreswylfod i mor gyfleus, fel nabu arnaf erioed eisiau am ddim
daioni ; y mae wedi murioo'mhamgylch â thrugaredd. Felly
fy nghyfaill, diolch iddo am hyny ; ond paid ag anghofio y
Diiw yn craffii ar anwireddaic. 632
colofnau mwg sydd yn esgyn uwch dy ben di. Ni welais i
ddim ond daioni erioed ; — mawr ydyw dy rwy aau i ddiolch;
ond yn s^icr y mae rhai a fuont yn byw ar yr un llanerch ag yr
wyt ti arni yn awr, wedi eu hysgubo ymaith gan yr afon dan-
llyd a ddaeth allan oddi ger ei fron Ef. Ac eto ni dJychwel-
odd ei Hd ; — y mae y mynydd yn mygu y foment hon. Y mae
eruption^ y mae ymdoriad arall yn ymyl ; — fe enyn mwg y dig-
llonedd yn ífiam o sancteiddrwydd eto; — fe ddilyair hono gaa
yr afon danllyd sydd yn dyfod oddi ger ei fron Ef, Fe ysguba
hon dy baradwys di i fifordd, os na symudir di ody hen drigfan.
Y mae Duw y cariad yn Dduw cyfiawn. Y mae ei sancteldd-
rwydd yn addurn hyd yn nod ar ei drugaredd, Y mae ei
wybodaeth yn canfod pechod lle bynag y mae. Y mae sanct-
eiddrwydd yn ei gasau â chasineb peiffaith; ac y mae cymaint
o nerth ag sydd yn ei fraich i gael ei ddefnyddio yn ei erbyn.
Onid Tad daionus ydyw Duw ? lë, ond cofia, un o elfenau
daioni ydyw cyfiawnder. Onid Tad trugarog ydyw ? lë, ond
sylfaen trugaredd ydyw cyfiawnder. Onid ydyw gras yn llenwi
ei fynwes ? Ydyw ; ond y chaiincl, y gwely ar hyd pa un y
mae gras yn rhedegydyw cyfiawnder. Os ydyw yn myned i
adeiladu trugaredd goruwch y nefoedd, fe esyd ei sylfaen hi ar
fynyddcedd o gyfiawnder. Os ydyw yn myned i wneuthur
channel i'w ras ffrydio at bechadur, fe balmanta hwnw i gyd â
meini gwirionedd. Os gwna Ef gymwynas byth i bechadur, fe
fydd yn ogoneddus mewn sancteiddrwydd wrth ei gwneuthur.
Gan mai dyma y fath un ydyw y Craffwr, onid priodol cwestiwn
y testyn, — "O Arglwydd, pwy a saif ?"
II. Ni a welwn yr un gwirionedd yn dyfod i'r amlwg wrth
edrych ar y neb y mae yn craffu arno, sef dyn. Os saif dyn i
Dduw graffu, — os dianc efe yn ddigosb, — fe fydd hyny naill ai
trwy ei wybodaeth ; 2. neu trwy ei allu ; 3. neu trwy i ry wrai
eraill ymladd yn ei le. Ond yn i. Y mae yr hyn a wyr dyn ;
2. Yr hyn a all dyn. 3. Ei sefyllfa yn y greadigaeth, yn
gwneuthur y ffyrdd yna yn gauedig am byih iddo.
I. Yr hyn a wyr dyn. Fe achubwyd un ddinas, yn erbyn
pa un y daeth brenin mawr a'i luoedd, trwy ddoethineb dyn
tlawd ; ac yn hyn gwell oedd doethineb na nerth. Ond pa
fodd bynag y dianc dyn, nid drwy ei wybodaeth y bydd hyny.
633 Dîiw yn craffîí ar aimirccldan.
Beth a wyr efe ? Nid rhaid dyfod â chwestiynau celyd ymlaen
i'w brofi, a gofyn iddo pa fodd y gall y Duw cyfiawn adael
pechod heb ei gosbi ? Pa fodd y gall yr anfeidrol sanctaidd
beidio dial ar anwiredd ? Pa fodd y gellir atal i fraich holl-
alluog falurio y llestr pridd sydd wedi ei beiddio hi ? Byddaì
y cwestiynau celyd yna yn anatebadwy i feddwl angel. Ond
ni a ddisgynwn o'r cymylau uchel yna i brofi gwybodaeth dyn.
Dygwch laswelltyn ymlaen, a gofynwch pa fodd y tyfodd hwn ?
Pa fodd yr oedd ei wreiddiau bychain yn fugno nôdd y ddaear ?
Trwy ba ddarpariaeth yr oedd yn gallu yfed gwlith y nefoedd ?
Pa sut y paentiwyd ef â IHw mor hardd? Neu trochwch ben
eich bys mewn dwfr, a gofynwch, Pa fodd y maey diferyn hwn
yn glynu wrth y bys ? Paham y mae ei ífurf yn grwn ?
Paham nad ydyw yn fwy, neu paham nad ydyw yn llai ? Neu
cymerwch Iwchyn odditan eich traed, a cheisiwchganddoroddi
ei holl wybodaeth ar waith i ranu hwnw mor fân fel nad ellid
ei ranu mwy ; — neu tynwch un o ddail y coed, a gofynwch,
Paham y mae hon yn unig yn y greadigaeth, nad oes yr un o
gwbl yr un fath a hi ar wyneb y ddaear ? Beth fydd ei ateb
i'r oll? Dyma wybodaeth ry ryfedd i mi. Er edrych o'm
hamgylch i bob man, nid oes ond un gair yn briodol i'w arfer
ani y cyfan ; — Dirgelwch. O'r Uwchyn distadl sydd o dan fy
nhraed, hyd fydoedd anferth y íFurfafen, gallaf ysgrifenu hwn
ar y cyfan. Gofynweh y cwestiwn mwyaf syml i mi, dyma
fydd yr ateb, — Dirgehcch. Yr wyf yn nghanol y niwl ; nis
gwn o ba le y daethum. Nis gwn beth ydwyf. Nis gwn i ba
le yr wyf yn myned. Ai dysgeidiaeth ydy w i un fel yma ym-
ryson â Duw ?
Yr ydych yn gwneuthur cam â dyn, medd rhywun ; — onid
ydyw yn hynod am ei wybodaeth ? Ni all ef fawr, ond fe wyr
lawer. Gall trwy ei wybodaeth dynu y fellten o'r cwmwl ; —
gall fesur y ddaear, a mynegu uchder y sèr ;— gall roddi iau ar
wddf pob creadur, ac estyn ei deyrnwialen mewn awdurdod
uwchben pawb a phob peth. Y mae yn wir y gall, — ond pa
gymorth ydyw hyn iddo tuag at ddianc o olwg yr Arglwydd?
O'i gymharu â gwybodaeth gwybedyn, y mae ei wybodaech yn
rhywbeth; ond o'i gymharu â gwybodaeth Duw, nid yw hi yn
ddim. Cyn y gallai ddianc, byddai raid iddo gael allan ryw
Diitv yn CJ'ûffu ar amvìreddait. 634
ffordd i ogoneddu priodoliaethau Duw, a gadael ei bechod ef
heb ei gosbi. Fe fethodd Darius à chadw ei gyfraith yii
ogoneddus, a chadw Daniel o'r ífau hefyd. Fe fethodd Duw y
gwybodaeth a chadw ei briodoHaethau yn ddisglaer, a gadael
pechod yn ddigosb. Ac 03 saif dyn gerbron y golygon dwyfol,
y mae yn rhaid iddo ddyfeisio rhyw Iwybr i gymodi sancteidd-
rwydd â phechod, — i oleuni gymdeithasu â thywyllwch, — i
gyfiawnder anfeidrol edrych gyda boddlonrwydd ar anwiredd,
— i burdeb dwyfol gyd-ddwyn â llwgr dyn. Neu, os nad ydyw
yn ddigon doeth i hynyna, fe ddiangai pe cai efe ryw Iwybr i
guddio ei íîordd o olwg yr Arglwydd. Ond pa fodd ì Ni
watworir Duw. Pa le y mae llen sy ddigon tew i'w thaflu dros
bechod, fel nad all llygad Duw dreiddio trwyddi ? Er mor
ymdaenolydywygoleuni, gallwn gydagychydig draíferth ei atal
yngwbli le. Er maiyr awyrydyw un o'r pethaumwyaf treidd-
iol yn y greadigaeth, gallwn drwy gelfyddyd ei phwmpio allan
bron yn yn hollol o le. Ond pa le y mae y gelfyddyd aall atal
i oleuni Haul y Duwdod lanw holl ystafelloedd meddwl dyn ?
Pwy a all yru allan awyr hollwybodaeth allan o'r gell leiaf yn
y fynwes ddynol ? Nid oes diangfa yna ychwaith. Ond a all
ei wybodaeth ddim cael allan ífordd i fyned y tuhwnt i derfynau
llywodraeth Duw? Y mae y mynyddoedd uchel yn noddfa i'r
geifr ; y mae y creigiau ysgythrog yn amddifîynfa i'r cwningod;
y mae Americayn lloches i aml ddyledog ; ond a oes un fro y
gall gweithredwyr anwiredd ddianc iddi oddi gerbron yr Ar-
glwydd ? Fel hyn y dywed y Duw mawr am rai oeddent yn
ceisio gwneuthur : — " Tòr hwynt oll yn y pen ; minau a laddaf
y rhai olaf o honynt ; ni fiFỳ ymaith o honynt a ffô, ac ni
ddianc o honynt a ddiango. Pe cloddient hyd ufEern, fy Ilaw
a'u tynai hwynt oddiyno ; a phe dringent i'r nefoedd, mi a'u
disgynwn hwynt oddiyno ; a phe Ilechent ar ben Carmel,
chwiliwn achymerwn hwynt oddiyno ; a phe ymguddient o'm
golwg yn ngwaelod y môr, oddiyno y gorchymynaf i'r sarph
eu brathu hwynt:" Amos ix. 1 — 3. Nyni, drueiniaid, ddianc ì
Ni buom ni erioed y tuallan i furiau ein carchar. O drugaredd,
nid ydym wedi ein rhoddi yn y carchar nesaf i mewn, — uíîern
ydyw hwnw, — a'n traed yn rhwym yn nghyffion cyfiawnder.
Yr ydym yn cael rhyddid i rodio o amgylch ychydig, ond nid
635 Diiw yn croŷii ar anwireddan.
i fyned yr un cam y tuallan i'r muriau. Nid oes yr un flFenestr
yn y rhai hyn i ni gael y cipolwg lleiaf ar ddim sydd y tuallan.
Y mae nen ein carchar yn rhwydwaith ardderchog : ni a dybiem
weithiau y gallem weled drwyddo beth sydd y tuallan i'r
carchar ; ond eibyn i ni gymeryd ein hysbienddrych, a sefydlu
hono ar y canopy gogoneddus, nid ydym ddim doethach ; ond
yn hytrach y mae dirgelwch yn myned yn fwy. Yr ydym yn
fwy anobeithiol: y mae nen ein carchar yn uwch nag a
ddychymygasom erioed. Y mae un drws y medrwn ni ei agor :
ond nid ydyw hwnw yn arwain o'r carchar i ryddid ; ond o'r
cyntedd nesaf allan i'r carchar nesaf i mewn. Yr unig borth a
all dyn ei agor ydyw y porth sy rhwng y ddaear a Gehenna.
Y mae pob man arall wedi ei ddiogelu gan sêl hollalluogrwydd.
Y mae llawer un wedi ymbalfalu ar hyd m'ariau y carchar, ond
yn methu cael bwlch yn un man. Nis medrwn ni ddim myned
allan hyd nes y daw y Duw sydd wedi ein cloi i mewn i ddad-
gloi ; ac yna, fel gweision Pharaoh, fe'n gollyngir, naill ai i'n
hadfer i ryddid gogoneddus meibion Duw, neu ynte i'n troi i'r
carchar nesaf i mewn. Ni ddiangwn trwy ein gw^^bodaeth.
"Pwy a saif .'"
2. Neu ynte tybiwch, a ddichon dyn sefyll trwy ei allu.
Y mae hwn, pa fodd bynag, yn annhraethol lai na'i wy-
bodaeth. Nid yw ei lygaid ddim yn graíf, y mae yn wir,
ond y mae ei fraich yn wendid ei hun. Ychydig yw ei wybod-
aeth ; ond pe byddai ei allu yr un faint a'i wybodaeth, byddai
yn werth gwneuthnr cyfrif o hono. Ond nid oes braidd gyra-
hariaeth rhyngddynt. Fe all fesur uchder y sêr, ond ni all ef
deithio hyd atynt. Gall ddy wedyd pa mor hir y bydd y goleuni
yn dyfod o'r haul i'r ddaear ; ond a all ef deithio o'r ddaear i'r
haul ? Fe all ddisgrifio gwaelodion y môr, ond ni all ef rodio
cilfachau y dyfnder ei hun. Gall ddywedyd pa faint ydyw
tryfesur y ddaear ; ond a all ef dreiddio drwy ei chrombiloedd
hi ei hun ? Y mae yr anghyfartalwch mwyaf yn ymddangos
rhwng ei wybodaeth a'i allu. Fe fedr ei wybodaeth ddywedyd
pa faint o alwyni sydd yn y môr ; ond ni fedr ei allu rwystro
i'r môr hwnw ei lyncu i fyny. Fe fedr ei wybodaeth ddeall
achosion y gwynt a'r dymhestl ; ond ni fedr ei allu rwystro
iddynt fod yn angau iddo ef. Y mae trwy ei wybodaeth yn
Diiw yn craffu ar anwìrcddau. 636
teitl.io hyd a lled y ddaear, yn rhestru ei hamrywiol greadur-
iaid. gan ddisgrifio eu harferion, a dangos eu gwasanaeth yn y
greadigaeth ; wed'yn y mae yn codi ei olygon tua'r nef, ac yn
disgrifio dirgelion yr awyrgylch, — rhyfeddodau y cymylau, —
achosion y mellt a'r taranau; neu, fe saifar làn yr eigion mawr,
— fe restra bysg hwnw, — fe ddarlunia y perlau sydd yn britho
ei wely; ond yn nghanol ei holl wybodaeth, y mae ei alhi yn
rhy fychan i wneuthur cicaion i'w amddiífyn am ddiwrnod ; —
er cymaint a wyr, nis gall wneuthur tô cymaint a chledr llaw
gwr i'w gadw rhag yr ystorm. Y mae wedi ei ddynoethi yn
nghanol creadigaeth. Y mae efe yn wir megis ar drugaredd
pob peth. Gall fabwysiadu iaith Cain,o ran dim a all ef i ochel
hyny, — " Pwy bynag a'm caffo a'm lladd." Nid ydyw ei
wybodaeth ond yn ei wneuthur yn fwy digymorth. Buasai yn
hapusach pe buasai yn gwybod llai, neu ynte yn gallu mwy.
Fe wyr ddigon i deimlo nad all efe ddim ; — digon i ddeall ei fod
efy gwrthddrych mwyaf digyroorth yn y greadigaeth. Y mae
gan y geifr eu mynyddoedd ; gan y cwningod eu creigiau ; gan
y bwystfilod gwylltion anghyfanedd-dra y diíîaethwch ; gan yr
adar eu hadenydd ; gan y pysg gilfachau y dyfnder, i'w ham-
ddiffyn rhag eu gelynion, ac i fifoi iddynt mewn perygl ; ond
gan ddyn nid oes noddfa : os saif ef yn nydd dial, nid ei fraich
ei hun a'i hachub, — nid oes dira cymorth iddo ynddi hi. Yr
oedd brenin talch Assyria yn cyfeirio yr luddewon am brofion
o'i nerth at y dinasoedd a'r gwledydd yr oedd efe wedi eu
gorchfygu ; ond at ba beth y gall dyn apelio i brofi nerth ei
fraich ? Nid at y gwyfyn, — fe'i malurir ef yn gynt na hwnw ;
nid at y lindys, — y mae y rhai hyny wedi ei orchfygu ; nid at
y llyffaint, — y maent hwy wedi buddugoliaethu arno ; nid at y
ceiliogod rhedyn, — y maent hwy wedi ei drechu ; nid at bryf y
rhwd a'r locustiaid, — y maent hwy wedi cael concwest arno. Ni
ddaeth o un rhyfel erioed yn fuddugoliaethwr. Byddai yr Israel-
iaid pan o dan y gorthrymderau tostaf, yn enill weithiau, ac yn
gallu ysgwyd ymaith yr iau; ond colli bob tro ymaedyn. Ni
waeth pa ün o'r lluoedd a ddaw allan yn ei erbyn, — ai y llwch
sydd o dan ei draed, yr ymlusgiaid sydd o'i amgylch, neu
dymestl y ffurfafen, mellt a tharanau y nefoedd, — yr un peth
y mae pob brwydr yn ei brofi, sef nad oes nerthyn mraichdyn.
637 Dnw yn craŷu ar anwireddau.
I ba beth y rhoddwyd y wybodaeth hon i ni ? Paham na
chuddiwyd ein gwendid o'n golwg ? Gan i ni gael llygad craff,
paham na chawsem ni fraich gref ? Paham na buasai ein nerth
yn gydwastad â'n gwybodaeth ? Dyna y paham, er mwyn i
ni gael gweled na safwn ni ddim, pan êl Duw i grafifu ar ein
beiau ni. " Os creffi ar anwireddau, Arglwydd, O Arglwydd,
pwy a saif ?"
3. Os na all dyn ddianc trwy ei nerth, neu ei ddoethineb, ei
hun, a oes ganddo neb mewn cyngrair âg ef a all ei waredu ? Yr
oedd brenhinoedd Israel, yn wyneb peryglon, yn yinddibynu ar
yr Aipht. Er nad oedd eu nerth eu hun yn ddigon, hyderent am
oruchafìaeth trwy gymorth yr Aiphtiaid. Ond pwy sy mewn
cyngrair â dyn ? Pwy a ymladd ei ryfeloedd ef? Y mae yn
unig ac yn amddifad yn nghaaol creadigaeth. Y mae pob
creadur yn barod i'w fradychu, ac i weinyddu dedfryd
cyíìawnder arno. Pan gyhoeddwyd y geiriau sobr, — " Gan
farw y byddi farw," fe glybu creadigaeth y ddedfryd, ac nid
ydyw ond yn disgwyl am amser cyfaddas, — yn disgwyl am yr
amnaid Ileiaf, — a hi a wna ei air Ef yn y fan. Nid oes gan y
greadigaeth ddim cydymdeimlad â dim ond â sancteiddrwydd;
y mae hi yn anghymodlawn elyniaethol i bechod. Y mae hi yn
edrych ar bechod gydag annhraethol fwy o gasineb nagyr oedd
lago ac loan ar y Samariaid hyny ; ac yn ei hiaith y mae hi yn
gofyn yn feunyddiol i'r Duw mawr am y rhai sydd yn byw ynddo,
A fyni di i mi eu dinystrio hwynt ? Pe cymerem ni y greadigaeth
ymhob ystyr, — yn rhesymol ac yn afresymol, — yn ysbrydol ac yn
ddefnyddiol, — y mae hi oll yn erbyn dyn. Y mae holl nerthoedd
y byd ysbrydol yn ei erbyn ; yr angylion cedyrno nerth, y maent
o angenrheidrwydd yn elynion i ddyn. Onid ydyw yr oraclau
dwyfol yn cael eu britho â phrofìon o hyn ? Onid angylion a
ddymchwelodd Soiioma a Gomorrah ? Onid angel a laddodd
gyntaf-anedigion yr Aipht ? Onid angel yr Arglwydd a ladd-
odd holl fyddin yr Assyriaid ? Onid drwy gleddyf angel y
syrthiodd deng mil a thriugain o Israeliaid yn amser Dafydd ?
Onid angel yr Arglwydd a darawodd Herod falch fel y bu efe
íarw ? Ac y mae y Salmydd yn deisyf am i angel yr Arglwydd
erlid ei elynion. Yr ydym yn arfcr meddwl fod y byd ysbrydol
ymhell iawn oddiwrthym, ond tebycach o lawer ydyw ein bod
Dww yn craffu nr anwircddan. 63^8
ni yn ei ganol ef; — nad oes dimond y bilionengnawd ymasydd
ar lygaid ein hysbryd yn ein rhwystro i weled swyddogion
ysbrydol cyfiawnder yn ein hamgylchu. Nid ar íîordd Balaam
yn unig y safodd angel, â cbleddyf noeth yn ei law, — na y mae
ef yn sefyll ar ífordd llawer Cymro. Ac, ysywaeth, nid yw ei
lygaid yn cael eu hagor fel yr eiddo Balaam, nea yr agorir
•hwynt gan awch y cleddyf, yn y byd arall. Er mai Herod ydyw
yr olaf y crybwylla y Bibl am dano fel wedi ei daraw gan angel
yr Arglwydd, pe buasai ysbryd Duw yn parhau i gofrestru
marwolaethau (fel y dywedodd un*), fe fuasai hyny ar gyfer
enw aml un o'n cydnabod ninau, — " Angel yr Arglwydd a'i
tarawodd fel y bu efe farw." Ac am yr angylion drwg, nid oes
ganddynt hwy ddim mwy o gydymdeiralad â ni na'r rhai da,
Y mae Satan yn rhodio o'n hamgylch fel " llew rhuadwy."
Temtiwr ydyw ei enw. Ei waith ydyw ein hudo drwy gyn-
llwynion a dichellion. Y mae nerth marwolaeth ganddo ; a
dim ond iddo gael haner amnaid gan y Lly wydd, fe weinydda
y farwolaeth yn y fan. Y mae y byd hwn, i raddau pellach nag
yr ydym ni yn ei feddwl, feallai, yn Ilaw y diafol. Yn amser
yr Arglwydd lesu, yr oedd cyrfTac eneidiau dynion yn ei law.
Byddai yn dyrysu synwyrau un, — yn cau clustiau yr ail, — yn
cloi tafod y trydydd, — yn rhwymo un arall âg ysbryd gwendid
am ddeunaw mlynedd ; ond fe'i barnwyd ef gan yr Arglwydd
lesu, — fe syrthiodd i lawr fel mellten o'r nefoedd ; hyny yw, o'i
awdurdod fawr. Fe gollodd lawer o'i Iywodraeth, ond nid yr
oll o honi. Y mae efe fel gwrthwynebwr i ni yn rhodio o'n
hamgylch eto. Y mae wedi myned allan i dwylloy cenhedloedd,
i'w casglu i ryfel yn erbyn y Duw mawr, ac y mae yn gwneuthur
hyny i'w dinystrio am byth bythoedd. Mor druenus a di-
gymorth ydyw dyn ! Y mae pob creadur perífaith sanctaidd o
angenrheidrwydd yn elyn iddo. Y mae pob creadur sydd wedi
ei berffeithio mewn pechod o angenrheidrwydd yn elyn iddo
hefyd. Y mae yr eithafion yn cydgyfarfod. Y mae purdeb
natur un, a Ilygredigaeth y llall ;— sancteiddrwydd yr angel a
halogrwydd y diafol, — yn peri fod y ddau yn gosod eu hwyneb
yn erbyn dyn. Ac y mae holl elfenau y greadigaeth weledig
*Sylw y diweddar Barch. Heary Rees ydyw hwn. — GoL,
639 DiiiD yn craffii ar anwireddaii.
wedi dangos eu hunain lawer gwaith yn elynion i ddyn. Pan
aeth ysbryd anufudd-dod 1 ddyn, fe aeth ysbryd dial i bob peth
arall, fel ag y mae pob creadur yn awr yn weinidog digofaint.
Fe edrychir ar ymadroddion fel hyn gan lawer yn ehediadau
barddonol, — yn ddychymygion disylwedd ; ond ai peth felly
ydynt ? Oni allaf apeHo at eich cydwybodau chwi eich hunain
am wirionedd y syniad ? Oaid ydych wedi bod mewn amgylch-
iadau ag yr oeddech yn teimlo mai gweinidogion cyfiawnder
oedd hoU elfenau creadigaeth ? Yr oedd pob peth yn adsain
iV meddwl, — " Y mae digofaint yn bod." Os nad oes digofaint
yn bod, y raae ein natur ni yn gelwydd, — ein cydwybod yn
dwyll, — dirgel ddyn y galon yn íFuantus. Paham y mae Duw
da yn gadael cymaint o drueni ar y ddaear? Paham y mae y
cleddyf yn cael diblanta gwragedd ? Paham y mae trefydd
mawrion yn cael eu diboblogi gan y pla ? Paham y mae yr
haint 3'n rhodio y ddaear, gan argrafifu galar, griddfan, a gwae
ar hyd ei hoU Iwybrau, — os nad am fod digofaint yn bod?
Paham y mae yr elfenau wedi eu gollwng allan fel bwystfilod
gwylltion yr anialwch, ar greadur mor ddiamddifFyn a dyn ?
Y mae y tûn yn ei losgi, — y dwfr yn ei foddi, — y gwynt yn ei
îadd, — y sèr 3'n ei erbyn, yn ymladd yn eu graddau, — a'r
ddaear yn ei lyncu? Onid i ddangos fod digofaint yn bod ?
Y mae dyn yma yn awr yn debyg fel yr oedd Paul yn Rhufain, — •
yr oedd yn cael byw yn ei dŷ ardrethol ei hun, ond yr oedd
milwr yn ei gadw, ac yr oedd cadwyn yn ei rwymo yntau wrth
hwnw. Yr oedd ganddo ryw ychydig ymddangosiad o ryddid ;
ond yr oedd y milwr gydâg ef ymhob man. Yr oedd yn
anmhosibl iddo ddianc, pe mynasai. Ac o'r diwedd fe 'i har-
\^ weiniwyd efgan y mihvr hwnw gerbron y fainc i glywed ei -
ddedfryd. Felly y mae creaduriaid Duw o'n hamgylch ninau
fel milwyr, yr ydym wedi ein cadwyno wrtliynt. Er yn.-
ddangos fel ihai rhydd, cto yn ofer y ceiswn ddianc; ac yn Ue
bod yn help i ni ddianc, fe fydd rhai o'r milwyr yma yn fuan
yn ein harwain ninau gerbron y fainc i glywed ein dedfryd.
Mor amddifad ydyw dyn ! pob creadur yn ei erbyn ! ac nid oes
bron lanerch o'r ddaear nad ydyw hi yn llefaru pethau
chwerwon wrth enaid rhywun. Paham y mae Cain yn ífoi o'r
llanerch y lladdodd efe ei frawd arni ? Onid am fod gwaed
Diiw yn craŷii ar anwircddaii. 640
Abel wedì rhoddi tafod i'r Uanerch hono. Yr oedd y llais mor
arswydus, fel nad allai Cain ddim ei wrandaw : yn hytrach na
gwneuthur hyn, fe ddymunai fod yn grwydriad ac yn wibiad
ar y ddaear. Pwy sydd yma nad yw wedi clywed natur yn
îlefain fel Cain yn ei erbyn? Y mae y gareg o'r mur, a'r
trawst o'r gwaith coed, wedi gordoi enaid aml un â phrudd-der.
Y mae rhyw lanerch ar y maes, — rhyw ysmotyn ar y ffordd, —
rhyw gilfach yn y inynydd, — a all lefaru geiriau mwy ofnadwy
na'r taranau wrth enaid aml un. Ymddangosed rhyw oruchion
anghyflfredin yn yr wybren, — seinied rhyw sain dieithr yn ein
clustiau, — deued rhyw glefyd marwol i'r afdal, — neu pydred
rhan o'n hymborth ni yn y ddaear, — neu, bygythied yr Ar-
glwydd dori ffon ein bara, — pa effaith a gaiff hyn ? Onid
cyffroi disgwyhadau ofnadwy am ddigofaintyn y fynwes ? Fel
brodyr Joseph, yr ydym yn y fan yn cofio ein hen driciau, ac
yn barod i ddywedyd, — " Am hyny y daeth y cyfyngder hwn
arnom ni." Beth sydd yn ein gwneuthur mor ofnus ? Cyd-
wybod euog sydd yn y fynwes. Yr ydym yn ffoi cyn bod neb yn
erlid. Pa sut y safwn ni, pan aiff y Duw mawr i graffu ar
anwiredd ? " Os creffi ar anwireddau pwy a saif?"
III. Y mae yr hyn y mae Efe yn craffu arno, sef anwiredd
yn profi na safwn ni ddini. Y mae rhai a addefant fawredd
Duw, a diddymdra dyn, ac oddiwrth y ddau wirionedd yna
tynant gasghad hollol groes i'r hwn yr ydym ni wedi ceisio ei
dynu, — sef gan fod Duw mor fawr, a dyn mor ddiddym, y mae
yn rhaid fod gweithredoedd un fel yna yn rhy fychain i Dduw
sylwi arnynt. Y mae yn wir, pe craffai Efe ar ddyn, na safai
ê ddim ; ond y mae mor wir a hyny, meddant, y mae dyn mor
ddiddym, fel ag y byddai yn ffolineb i ni feddwl y gwna un
mor fawr a Duw sylwi am foment arno. Onid mesur yr
Anfeidrol wrthynt eu hunain y mae y rhai hyn ? I Dduw nid
oes dim yn fawr nac yn fychan. Yr un peth ydyw llwchyn a
byd iddo Ef. Y mae y pryfyn, y dyn, a'r archangel, yn gyd-
wastad ger ei fron Ef. Ond pe buasai rhyw gymaint o wir-
ioneddyn yr haeriad, fod ein bychandra yn ei gwneuthur yn
Ued annhebyg y gwnai Duw graffu arnom ; eto fe fuasai yr hyn
a wnaethom ni, sef anwiredd, yn ddigon i sicrhau y bydd i
lygaid Duw graffu ar y cyfan. Pe byddai i gardotyn oedd heb
Ó41 Díiw yn craj'a ar anwiì'eeídatc.
le i roddi ei ben i lawr, amcanu at fywyd Brenhines Lloegr, m
feddyliai neb y gwnai ei dlodi ei guddio rha^ cyfiawnder. Er
ei fod yr iselaf o fewn terfynau yr ymerodraeth, ac nad oedd
neb bron yn ei adwaen, na neb yn arfer sylwi arno, eto o'r
foment y cyflawnodd efe y weithred, y mae llygaid y deyrnas-
wedi eu troi ato. Pa beth sydd wedi ei wisgo â'r fath fawredd ?
Eibechod— y weithred a gyflawnodd. Felly^ pe baasai dyn
heb bechu erioed, feallai mai rhyw ddiddymdra a fuasai efe yn
ymerodraeth Duw, — rhyw abwydyn na buasaî neb yn sylwî
arno; ond y foment y cododd efe ei law yn erbyn Duw, fe dynodd
sylw creadigaeth arno ei hun. Y m.ae ei anwiredd wedi ei
wisgo â mawredd ofnadwy. Nid rhaid i ni cbwilio am reswm
arall am ddim a ddywedir ynghylch dyn. Y mae efe yn an-
farwol — pa brawf sydd o hyny ? Y mae yn bechadur. Y mae
ei gorff i gael ei adgyfodi o'r ddaear — pa brawf sydd o hyny 1
Y mae yn bechadur. Y mae y ffurfafen i gael ei throi yn llys
barn. Y cymylau i gael eu ffurfio yn orsedd o ogoniant i'r
Barnwr eistedd arni. Y mae y nefoedd i gael ei harllwys o'i
holl breswylwyr. Y mae prif weinidog y llys i seinio udgorn
Duw, nes y deíîry yr holl feirwon. Ac yna y mae myrddiynaii
o angylion i'w cyd-gasglu hwynt gerbron y fainc. Pa reswm
cymeryd cymaint o drafferth gydâ phryfyn fel dyn ? Dyma y
rheswm : — Y mae dyn yn bechadur. O ' y fath fawredd
arswydus y mae pechod wedi ei roddi arnom. Ni all llygred-
igaeth ddim ein difodi. Y mae ein llwch dan gyfrif. Ni
feiddia y bedd ddim llywodraethiì arnom byth. Bydd yn an-
mhosibl i angau ein hatal byth. Fe fydd yr un cyfiawnder ag
a ddatododd rwymau angau, i Fab Duw ddyfod o'i afaelion am
fod y ddyled wedi ei íhalu, yn datod rhv/ymau angau i bechadur
ddyfod o'i afaeHon i ddioddef am ei ddyled; ond pan ddygir ef
gerbron y llys, — A saif efe? Na wna. Ni a welwn hyn wrth
edrych —
I. Ar natur anwiredd. Ni fedrwn ni ddywedyd bran ddim
am hyn, am ein bod yn ngafael y pla ein hunain. Y mae yn
gofyn galluoedd angel, a sancteiddrwydd y nefoedd, i ddisgrifto
ychydig ar natur anwiredd. Yr ydym ni mewn dyffryn cau-
edig. Nis gallwn welcd fawr gan mor isel ydym ; ond pe caem
ni sefyll ar fynyddoedd uchel sancteiddrwydd, oddiyno y
Duto yn croŷu ar anwireddau. 642
caem olygfa ar echryslonrwydd anwiredd, na ddaeth i'n calon
erioed feddwl am ei bath, Meddyliwch yn awr am ogoniant
perffaith, — trefn berffaith, — hapusrwydd perffaith ; Ue y mae
hwnw yn cartrefu ? Yn Nuw. Meddyliwch am berffeithrwydd
gwarth,— perffeithrwydd annhrefn, — perffeithrwydd trueni,—
bydd genych rhy w syniad gwanaidd am anwiredd ; — ond
gwanaidd iawn, oblegid nid ydyw y tywyllwch ddim mor
wrthwyneb i'r goleuni, — nid yw yr iâ ddim mor groes i'r tân, —
nid yw uffern mor wrthwyneb ür nefoedd, ag ydyw natur an-
wiredd i natur Duw. Edrychwch arno fel dinystrydd trefn a
hapusrwydd y greadigaeth. Hùfen trefn yw hapusrwydd.
Dedwyddwch ydyw y tawelwch hwnw fuasai yn effaith bod
pob olwyn yn y greadigaeth resymol yn troi yn ei lle : a dyna
ydyw trueni, yr olwynion yn rhygnu yn eu gilydd. Dyma
waith anwiredd. Ond nid ydyw yn cael cyraedd ei holl amcan
yn y byd hwn. Y mae ê wedi tori y greadigaeth oddiwrth
Dduw yma ; ond nid ydyw wedi ei berffeithio, nes y bydd pob
rhwymau wedi eu tori, — pob gronyn o gariad wedi darfod, —
pob teimlad o ewyllys dawedi trengu, — pob pincyn o drugaredd
v/edi marw ; — yr holl rwymau perthynasol wedi eu dryllio, — y
fam yn edrych ar ei phlant gydâ chasineb perffaith ; — y tad
yn llawn o falais y diafol ; — y plant yn rhoddi holl nerth eu
galluoedd i gasâu eu rhieni ; — y cymydog yn casâu cymydog à
chasineb cythreuHg. ISis medrwn ni ddywedyd pa fath fyd a
fyddai hwn, pe byddai pechod ynei lawn faiüt ; ond beth bynag
fyddai yn ofnadwy i'r teimîad, — yn arsywdus i'r glust, — yn
ddychrynllyd i'r gol wg, fe fyddai yma, Y mae rhai o honoch ^
yn gydnabyddus â hanes y byd. Teithiwch yn eich meddwl
yn awr drwy chwe' mil o íiynyddoedd ; — edrychwch ar feibion
Adda yn lhvythog o drueni, — yn wawd i ofidiau, — yn rhedeg
eu cleddyfau i galonau y naill y llall, — yn trochi eu dwylaw yn
ngwaed eu gilydd, — yn dyfeisio creulonderau, — ac yn byw ar
drueni eu gilydd. Neu ynte edrychwch ar y byd yn awr. Y
mae ei archoll yn anaele. Pe y gellid pwyso ei drueni yn
awr, byddai yn drymach na mynyddoedd o blwm. Er ei fod
yn nghanol trugareddau, nid yw yn cael un foment o hapus-
rwydd, ond mewn anghof. Beth ydyw hyn ? Esboniadar natur
pechod. lë, y mae yn beth mor ddrwg, — fe ddifodai gread-
643 Dînv yn craŷu r.r anuireddau.
jgaeth pe cai ei ffordd, — îe, fe ddiddymai y Creawdwr ! Dyma
ydyw amcan pob pechod o'^ch eiddo chwi a minau ; ac a all y
Duw sydd yn Awdwr trefn edrych dros beth fel yna? Na, y
mae yn rhaid symud pechod fel fiuisance, fel cas-beth o
ymerodraeth Duw. Y mae yr anwiredd yma sydd ynddi y?)
gyffelyb i'r ysmotiau sydd yn yr haul. Y mae yn rhaid ei
symud i ffordd, feî na bydd dim i lychwino ei gogoniant hi
Ac os na ollyngi di dy afael arno, bechadur, fe dy deflir dithao
fel rhyw nuisance o ymerodraeth Duw gydag ef. " Os creffi
ar anwireddau, Arglwydd, O Arglwydd, pwy a saif ?"
2. MeddyHwch am rif eich pechodau. Fe fuasai un yn
ddigon i ddamnio. O un pechod y tarddodd yr holl drueni
sydd yn nghreadigaeth Duw yn awr. Ffrwyth yr un meddwì
drwg hwnw, a genhedlwyd yn mynwes Satan, ydyw yr oll o
ofidiau y ddaear a gwaeau uffern. Ac fe fuasai pob pechod yn
cynyrchu yr un effeithiau, pe buasai yn cael cyfleusdra Pe
buasai y twyllwr yn cael yr un rhyddid i fyned i bob byd a
greodd Duw ag a gafodd i ddyfod i hwn,. nibuasai erbyn heddyw
yr un deiHad ffyddlawn i'r Brenin tragywyddol i'w gael. Os
nad ydyw yr holl drueni y gwyddom ni am dano, ac annhraeth-
ol fwy nag a wyddom ni, ond un pechod wedi cael lle i ymledu,
i expandio ; — os oes cymaint o ddrwg yn perthyn i un, — pa
fodd y safwn ni sydd â'n beiau yn aneirif? Cynt y rhifem ni
dywod y mòr, — ser y nef, — gwellt y ddaear, — a dail y coed,
na'n beiau. Ceisiwch rifo beiau un diwrnod : pa sawl meddwi
pechadurus aeth drwy y fynwes ? — pa sawl bwriad uffernol a
dramwyodd drwy y galon ? Yroedd doe yn ddiwrnod didduyir
i chwi. Nid oedd doe ddim ond cysgod o'r wythnos oll ; — yr
wythnos, o'r flwyddyn, — y flwyddyn ; o holl flynyddau eich
bywyd : y mae eich bywyd yn oes o wrthryfel. Pwy a ddeall
ei gamweddau ; a phwy a saif pan êl Duw i gyfrif ?
Pa beth, medd rhywun, ai i'n poeni ni cyn yr amser, yr ydych
yn ceisio dangos fod yn anmhosibl i ni ddianc? Paham y mae
yn rhaid i ni fyned i gyfarfod ein trueni ? digon buan, a rhy
fuan, fuasai i ni ei deimlo pan ddel ? Na, nid dyfod yma yn
boenydiwr a ddarfu i mi. Pe na buasai genyf ddim i'w ddy-
wedyd ond am gadernid muriau y carchar, ni buaswn yn dyfoJ
i gymeryd gwaitíi y diaful o'i law, sef poenydio ; ond fy nibeii
Dîiw yn craŷu ar awwircddaii, 644
yn dìsgriíìo cadernid y muriau oedd eich parotoi i wrandaw am
y porth rhyfedd a gloddiwyd drwyddynt gan drugaredd, i
bechadur ddianc : — " Y mae gydâ thi faddeuant fel y'th ofner."
Y mae yn wir fy mod wedi ceisio dangos fEynhonau y dyfnder
yn ymrwygo, a ffenestri y nefoedd yn ymagor, a'r diluw yn
ymyl ; ond yr oeddwn yn gwneuthur hyny, am fod genyf fodd
i ddywedyd am arch sydd yn nes i ffoi iddi : — " Y mae gydà
thi faddeuant." Os dangosais i ddialydd y gwaed yn ymyl, mi
dJingosaf yn awr ddinas noddfa yn nes : — " Maddeuant fel
y'th ofner." Wrth edrych ar sancteiddrwydd Duw, y mae
fy nghalon yn marw mewn anobaith ; — wrtli edrych ar allu
Duw, y mae fy enaid tlawd yn llefain, — " Darfu am danaf;" —
wrth edrych ar wybodaeth Duw, y mae aethau marwol yn.
myned drwy fy mynwes ; ond v/rth edrych ar drugaredd Duw,
yr ydwyf yn cael fy anadl : — " Y mae gydà thi faddeuant fel
y'th ofner." Os safaf yn erbyn picellau gallu,byddaf yn ngafael
yr ail farwolaeth yn y fan ; — os mentraf i wyneb tân sancteidd-
Twydd, fe gyneua y fílam anniffoddadwy yn fy enaid ; — üs
rhyfygaf i wyneb cyfiawnder, fe sudda y cleddyf yn ddwfn i fy
ysbryd ; ond os syrthiaf i freichiau trugaredd, mi a ddiangaf
byth gan fy Marnwr : — " Maddeuant fel y'th ofner." Fe ellid
disgwyl nawnaem ni ond rhyfeddu, addoli, a chanu uwchben y
fath drefn. Y Duw sydd â'i lygaid yn ddigon craff i weled yr
oll^ a'i natur yn ddigon pur i gasau yr oll, a'i fraich yn ddigon
cadarn i gosbi am yr oU, eto ei drugaredd yn ddigon mawr
î faddeu yr oU Dyma y cwbl sy genym am ein bywyd, — hen
drefn yr efengyl drwy lesu Grist ; ac O ! nad allem eich _
perswadio chwithau i fentro eich bywyd yn yr un man. Yr
ydwyf wedi bod i fyny ar ben y mynydd, fel gwas Elias; mi
welais y cymylau yn liwythog o wlaw yn codi o'r môr, ac yr
wyf yn penderfynu gwregysu Iwynau fy meddwl i redeg i'r di-
ddos, cyn iddi ddechreu gwlawio. A ddeuwch chwithau hefyd ?
'^Maddeuant fel y'th ofner." Yr wyf newydd glywed trwst y
dialydd yn ymyl, — yr ydwyf am ffoi yr awr hon i'r ddinas
noddfa ; deuwch gydà mi. " Maddeuant." Mi welaf yn hen
lyfr mawr creadigaeth, raaiBrenin galluog yw Brenin y nef; —
mi welaf yn ysgrifenedig ar fyrdd o bethau, mai Brenin cyfiawn
a sanctaidd ydy w ; ond mi welaf yn yr hen lyfr hwn, mai
645 Duw yn craŷti ar anwireddaii.
Brenin trugarog ydyw. Treia ei drugareddEf, bechadur, — cei
weled ei fod yn Dduw yno hefyd. Y mae ei allu Ef yn allu
Duw; — y mae ei sancteiddrwydd Efyn sancteiddrwydd Duw;—
y mae ei wybodaeth ef yn wybodaeth Duw ; — ac y mae ei
drugaredd Ef hefyd yn drugaredd Duw. Pa le y mae un a
feiddiodd ei alluEfweJidianc? Pale y mae un a ddirmygodd
ei sancteiddrwydd Ef wedi dianc? Pa le y mae un a geisiodd
ddyr^^su ei ddoethineb Ef wedi dianc ? Ond pa le y mae un a
ymddiriedodd yn ei drugaredd Ef wedi ei golH ? Y mae yn
rhaid cyfarfod â Duw mewn rhyw garacter. Bydd barod, fy
nghyd-ddyn. Os fel Duw y gallu yr wy t ti am ei gyfarfod, chwilia
am dy arfau. Os fel Duw y gwybodaeth yr wyt ti am wynebu
ato, cloddia yn ddwfn am resymau. Ond os at drugaredd yr
wyt ti am apelio, yr wyt yn barod i hono y foment hon.
Syrthia wrth ei thraed. Dosymlaendan waeddi^ — "Pechaisl"'
ti a ddiengi byth gan dy Farnwr.
[Bore lau, Gorplienaf 22, 1847.}
PREGETH XL.
T-ARODRWyDD ERBYN DYFODIAD MAB Y DYN.
Matthew xsiv. 44. — "Am hyny byddwcli chwitliau barod : oanys yn yî
awr ni thybiocli y daw Mab y dyn."
VE ddywedir fod pethau mawrion yn tafìu eu cysgod
'■ o'u blaen ; ac y mae mawredd a phellder hwnw yn.
;] cyfateb i'w maint hwy. A dyna paham y mae dau
ddyíddiad Mab y dyn yn dal cysylltiad â phob peth y Bibl ;
oblegid hwynthwy ydyw ei ddau beth mawr ef. Yr oedd y
cyntaf mor fawr, fel yroedd eigysgod yn cyraedd o gyflawnder
yr amser i'w ddechreu ; ac y mae yr ail mor fawr, fel y mae ei
gysgod yntau yn toi y ddaear er's mil o flynyddoedd. Nid
oedd hyny o hanes creadigaeth y byd, ag a gawn ni gan Moses,
ond rhagymadrodd i'r addewid am y dyfodiad cyntaf ; ac wedi
i hono gael ei rhoddi, '* yr hwn sydd ar ddyfod," fu enw y
Mesiah ar y ddaear ; ac at yr Hti'ji yma yr awn ni, fel yr aeth
Belsasar at Daniel, i gael deongli pob deongliadau, a datod pob
cylymau, ac egluro pob gweledigaeth. Nid oedd y diluw yn
ddim ond Duw yn ysgubo ymaith y drain a'r dyrysni, i'r cŷflf, o
ba un yr oedd y wialen hon i ddyfod allan,gael mantais i dyfu.
Ac nid oedd pob chwyldroad a fu yn y byd cenhedlig wedi
hyny yn ddira ond cyflawniad o eiriau y prophwyd Ezeciel
•(xxi. 27) : — " Dymchwelaf, dymchwelaf hi ; ac ni bydd mwyach
hyd oni ddelo yr hwn y mae yn gyfiawn iddo ; ac iddo ef y
Thoddaf hi." A phe buasid yn gofyn gerllaw pob allor yn
Jerusalem, — " Beth yw y gwasanaeth hwn ?" buasai raid myncd
at " yr Hwn oedd ar ddyfod " i ymofyn deongliad. Nid oedd
y seremonîau ddim ondpictiwr tywyll o hono ; ac yr oedd pob
648 Parodr-wydd erbyn dyýodiad Mab y dyn.
dyn enwog a fu yn eu plith yn rhag-gynllun o hono : Moses
yn g5^sgod o hono fel sefydlydd teyrnas ; Dafydd yn gysgod o'i
fuddugohaethau ; a Solomon, o heddwch ei deyrnasiad. Efe
oedd yn seho y weledigaeth a'r brophwydohaeth, yn eu diben-
ion, ac yn eu hegluro hefyd o ran eu hystyr.
Yr hyn oedd y dyfodiad cyntaf i'r Hen Destament, hyny
ydyw yr ail ddyfodiad i'r Newydd. Yr un peth mawr sydd fel
enaid ei hoh gynwysiad. Pe cymerid ef ymaith, byddai yn
anmhosibl ei ddeongh. Ac fel y dyfodiad cyntaf, y mae yn
cael ei addaw, ei ragddarhinio, a'i bortreadu. Y mae yn cael ei
gynwys mewn addewidion, yn yr epistolau; y mae yn ddarlun
wedi ei baentio ar y Uian, yn hyfr y Dadguddiad ; Ac yn y
benod hon, y mae yn cael ei ragbortreadu mewn gweithred.
Mynych y byddai pethau yn cael eu dangos i'r prophwydi gynt
yn y duh hwn ; a byddent hwythau, nid yn dywedydy peth yn
unig, ond yn ei adangos mewn gweithred; hyny yw, yn ei
actio o flaen eu hygaid. YmaeEzeciel yn fynych yn gwneuthur
hyny: un dydd ni a'í gwehvn ef yn ocheneidio ar hyd yr
heol^'dd; — bryd arah, a'i wraig wedi marw mewn moment, ac
yntau yn myned o atngylch fel pe na buasai dim wedi cy-
meryd he. Drachefn, ni a'i gwehvn ef yn gwneyd hyny o
feddianau oedd ganddo yn faich, ac yn eu cymeryd hwynt fel
un yn cychwyn i gaethiwed. Trwy y pethau hyn yr oedd yn
portreadu i'w hygaid beth oedd i'w cyfarfod, ac yn peri iddynt
ofyn iddo, — " Beth y w hyn i ni ?" Peth cyffelyb i hyny yw y
benod hon. Y mae hi yn brophwydohaeth am ddinystr
Jerusalem ; ond yr oedd hwnw yn bortread o ddiwedd y byd.
Yr ail ddyfodiad yn cael ei actio ydoedd. Mab y dyn yn dyfod
ar raddfa fscalej fechan, i ddangos beth fydd y dyfodiad
mawr. Nid oes amheuaeth nad golwg eithaf y benod yw y
dyfodiad i'r farn ; ac ni bydd ei geiriau hi ddim wedi cael
eu llonaid hyd hyny. Eto, fe ddywedir ' nad elai y genhedl-
aeth hono heibio, hyd oni wnehd hyn oh ;' hyny yw, byddai y
dyfodiad mawr wedi ei actio yn eu dyddiau hwynt. Priodol
iddynt, gan hyny, oeddy cyngor : — " Byddwch chwithau barod;
canys yn yr awr ni thybioch y daw Mab y dyn." Y mae y
farn ymheh oddiwrthym ninau, ond * nid ä y genhedlaeth hon
heibio, hyd oni wneler hyn oh.' Y mae y portread i gymeryd
Parodrwydd erbyn dyfoiiad Mah y dyn. 649
lle ar bob un o honom ni yn bersonol. Y farn yn cael ei dangos
mewn gweithred, mewn cylch bychan, fydd angau. Felly y
mae yr hyn a gyflawnwyd mewn rhan yn ninystr Jerusalem, i
gael ei gyflawni eto mewn rhan yn angau. Gan hyny, y mae
cyngor y testyn mor briodol i ni ag yr oedd iddynt hwy. Gan
nad èl yr un o'r genhedlaeth hon heibio, hyd oni chyflawner
hyn oll, — " Am hyny byddwch chwithau barod."'
A phe byddai rhy w amheuaeth am y priodoldeb o gymhwyso
y testyn at angau, y mae moment o sylw ar y benod yn ddigon
i'w symud; oblegid y mae yr liynyr ydym ni yn ei weled ydyw
angau, yn cyfateb mor hollol i'r hyn y dywedir yma fydd yr ail
ddyfodiad, fel nad allwn ni lai na chanfod bod y nail) yn bor-
tread o'r llall. Bydd y dyfodiad i'r farn yn ddyfodiad mewn
amser cynhyrfus iawn ar y byd ; — yn ddyfodiad sicr, ac eto an-
nisgwyhadwy ; — yn ddyfodiad o ysgar rhwng pob elfenau gwa-
hanol, " dwy yn malu," neu "ddau yn yr un gwely," y "naill a
gymerir, a'r Uall a adewir ;" — ac yn ddyfodiad fydd a chanlyn-
iadau tragywyddol iddo. Fel hyn y mae hi yn angau hefyd :
pwy sydd yn marw mewn adeg o dawelwch ì nid yw ond un o
fìl, — ambell Simeon. Yn y cyffredin, y mae y saint yn marw
fel Dafydd, a'r deml heb ei had^iladu ; — yi\ marw fel Paul, a'r
eglwys ar haner ei phlanu ; — fel Luther, cyn gorphen y diwyg-
iad ; — fel Mathew Henry, a'r esboniad ar ei ganol. Ac er nad
oes dim mor sicr a'r amgylchiad, nid oes dim mor ansicr a'i
amser : am hyny, dyfod y mae fel y fellten, yn annisgwyliadwy;
pan y mae un ar ganol planu ei winllan, a'r llall heb orphen
adeiladu ei dŷ. Ond pan ddêl, fe ysgar yn dragywydd bob
elfenau gwahanol oddiwrtheugilydd ; ac fe fyddei ganlyniadau
mor barhaus a chanlyniadau y dyfodiad mawr. Y mae angau,
gan hyny, yr un peth i ni yn bersonol, ag a fydd y dyfodiad
mawr i'r greadigaeth i gyd : '"'am hyny byddwch chwithau
barod; canys yn yr awr ni thybioch y daw Mab y dyn."
Nid yw cysylltiad y pethau mawrion hyn â Mab y dyn, ond
cyflawniad o weledigaeth Ezeciel. Ar ol i'r prophwyd ganfod
yr olwynion hynod hyny, a'u cantau mor uchel, fel yr oeddent
yn ofnadwy, fe welodd megis gwelediad dyn yn uwch nahwynt
oll, er uched oeddent; i ddangos eu bod yn beríFaith o dan ei
lywodraeth ef, ac yn troi yn ol ei orchymyn. Y mae pethau
^
650 Parodrtüyâd erhyn dyfodiad Mah y dyil.
mawrion fel pethau b^^chain rhaghmiaeth yn cael eu dwyn o
amgylch gan Fab y dyn. Pan y mae chwyldroadau mawrion,
neu ddinystr ofnadwy, yn cymeryd lle, — a phan y mae angau
yn cymeryd un person ymaith i'r byd anweledig, — Mab y dyn
sydd yn eistedd ar y llifeiriant yn y chwyldroad, a Mab yjdyn
sydd yn agor pyrth marwolaeth yn angau. Y mae Mab y dyn,
fel Arolwydd pawb oll, yn llywodraethu yn fanwl, yn gyson,
ac yn barhaus, ar bawb, ac ar bob peth; — bob amser, ac ymhob
man : ond pan y mae rhywbeth mawr yn cymeryd lle, fel
dinystr Jerusalem, neu angau, fe elwir hyny mewn ystyr ar-
benig yn " ddyfodiad Mab y dyn;" nid am fod ei lywodraeth
yn fwy gwirioneddol y pryd hyny nag ar y pethau bychain,
ond am ei bod hi yn fwy amhvg, — yn hawdd i bawb ei chan-
fod hi.
Nid oedd ond un o holl ddyfodiadau yr Hen Destament yn
ddyfodiad personol i Fab Duw ; ac felly nid oes ond un o rai y
Testament Newydd, yn bersonol, yn ystyr lythyrenol y gaif,
sef ei ddyfodiad i'r farn. Ond ei ddyfodiad Ef oedd dinyslr
Jerusalem, er mai lluoedd y Rhufeiniaid fu yn ei dinystrio ; a'i
ddyfodiad Ef ydyw angau, er mai rhyw glefyd, neu haint, fydd
yn ein cymeryd ni ymaith i'r byd arall. Y mae y Bibl yn hyn,
yn ol ei arfer, yn myned drwy yr ail achosion at yr achos cyntaf ;
— yn myned heibio i'r olwynion bychain, sydd yn peri i fysedd
yr oriawr droi, at y main-spring sydd yn rhoddi ysgogiad yn
yr olwynion. Y mae geiriau y canwriad yn cynwys disgriíìad
hollol gywir o'r berthynas y mae y Bibl yn ei dangos sy rhwng
Mab y dyn a holl amgylchiadau y bywyd hwn. Y mae yn
dywedyd wrth un, ' Dos, ac efe a ä ; ac wrth un arall Tyred, ac
efe a ddaw ; ac wrth y tryd^^dd, Gwna hyn, ac efe a'i gwna.'
Y mae yr hyn sydd yn ngair Duw, wedi ei amcanu yn arbenig
i fyned yn erbyn didduwiaeth calon dyn. Tuedd naturiol y
galon ydyw ceisio cario y byd ymlaen heb Dduw ; — aros gydà'r
bysedd ar wyneb yr oriawr, heb chwiho am achos eu symudiad.
Ac er chwiho nid â hi nemawr pellach na'r olwynion agosaf
atynt, heb ystyried fod yn rhaid cael rhyw ysbryd y peth by w i
roi ysgogiad yn yr olwynion eu hunain. Dynion sydd wedi
dyfeisio rhyw gyfundrefn o ragluniaeth, fel peiriant hunan-
ysgogawl. Y mac hi yn hollol ddieithr i'r Bibl. Y mac Duw
Paro.Irioyda crbyn dyfodiad Mah y dyn. 651
yn y golwg yn rhagluniaeth y llyfr hwn bob moment, fel yn ei
greadigaeth. Yn nghreadigaeth y Bibl, yr ydym yn cael ein
gosod yn y gwagle distaw, diderfyn, nid i weled y bydoedd
yn eu ífurfio eu hunain, — byd is yn cynyrchu un uwch ; creadur
anmherffaith yn achosydd un períîeithiach ; ond yn hytrach, i
glywed Duw yn Uefaru un gair, nes y raae y gwagle yn dyfod
yn gyfaneddle bydoedd. Yr ydym wedi hyny yn cael ein cyfleu
mewn un o'r bydoedd hyn, i wrandaw ar yr un Duw yn llefaru)
nes â'i eiriau gynyrchu yn hwnw fywyd o bob math, a phryd-
ferthwch ymhob ffürf. Y mae yno ail achosion yn gweithredu.
Y moroedd sydd yn heigio y pysg, a'r ddaear syddyn cynyrchu
y llysiau a'r prenau ffrwythlawn. Ond y mae Duw mor eglur
yn yr ad achosion hyn, fel ag y mae yr un mor anmhosibl
peidio ei weled a phan y mae yn gweithio yn ddigyfrwng.
Peth fel yna ydyw cyfundrefn y Biblo ragluniaeth ; y mae Duw
ynddi hi fel mewn creadigaeth, Gwir fod ail achosion yn
amlach yn y golwg mewn rhagluniaeth nag oeddent mewn
creadigaeth; ond ni ddylai hyny ddim peri i Dduw fod yn fwy
o'r gol wg : yn hytrach amlygiad eglurach ydynt o hono Ef. Y
mae un esiampl yn ddigon o eglurhad ar hyn ; sef marwolaeth yr
Arglwydd lesu : ail achosion hollol naturiol addygodd ei angau
o amgylch ; ond "yr Arglwydd a fynai ei ddryllio Ef;" — "Efe
a'i traddododd drosom ni oll ;" ac yr oedd ei ddoethineb yn dyfod
yn fwy i'r golwg er, a thrwy amcanion pawb eraill. Ac am
fod y fath duedd ynom ni i sefyll gydâ'r ail achosion, y mae y
Bibl yn aml yn myned dros y rhai hyny (fel yn y testyn), acyn
dangos Duw yn gweithio fel pe na byddent yn bod. Yn ei
iaith ef y mae y llewod yn derbyn eu hymborth o law Duw ; —
y brain yn cael eu porthi gan y Tad nefol ; adar y tô, nid yn
syrthio trwy ddamwain i'r ddaear, ond yn cael eu rhoi yno gan
law Duw; — y Hli yn cael ei phaentio, nid gan yr haul, ond gan
Dduw ; — yr ystorra yn cael ei chodi a'i gostegu ganddo Ef ; y
corwynt yn Uwybr y mae Efe yn ei dramwy ; y mellt yn un o'r
ffyrdd y mae Efe yn eu rhodio. Pharao yn dyrysu yn y môr,
Duw yn edrych ydyw hyny. Chwyldroadau a rhyfeloedd y
ddaear, Duw yn trefnu y byd â'i gleddyf, sefyrannuwiol, ydyw
hyny. Dinystr Jerusalera, ''dyfodiad Mab y dyn " ydyw
hyny. Angau, pa faint bynag o ail achosion fydd iddo, " dy-
fodiad " Mab y dyn " ydyw hyny hefyd, yn iaith y Bibl.
65 2 Parodrwydd erhyn dyfodìad Mah y dyii.
Y mae edrych ar angau, heibio i'r ail achosion, sef fel " dyfod-
iad Alab y dyn," yn rhoddi gwedd newydd arno, ac yn symud
ymaith lawer o'r dirgelwch sydd o'i amgylch, yr hwn ddir-
gelwch sydd yn ei wneuthur mor ofnadwy. Y teimlad cyntaf
wrth feddwl am angau ydyw, mai dirgelwch ydyw, nas
gwyddom beth a fu yno, na pha fodd y gweithiodd. Y mae yr
eflfeithiau yn eglur, ond y mae yr achos wedi ei amgylchu
â chymylau a th^-wyllwch. Yr oedd yna lygaid yn gweled,
ychydig yn ol : y maent yna eto, ond ni welant. Yr oedd yna
glustiau yn clywed y sibrwd Ìleiaf, ychydig fynydau yn ol ; ond
pe rhuai y môr â'i gyflawnder, ni chlywant. Yr oedd pobrhan
o'r coríf yna yn fyw o deimlad ddoe ; ond heddyw, pe torid ef
â Uifiau, neu pe rhwygid ef gan fwystfilod gwylltion, ni theimlai
ddim. Y roae achos y pethau yna yn ddirgelwch : ^^^r enw a
roddwn ni arno ydyw angau ; ond beth ydyw hwnw ? Ond y
mae y testyn yn rhoddi gwedd newydd ar y peth, ac yn rhoddi
gradd o oleuni arno, trwy ddywedyd mai " Mab y dyn " a fu
yna. Ac nid mantais fechan, pan nad allwn ni ddeally gwaith,
ydyw, ein bod ni yn adwaen y Gweithiwr. Gall y bydd y
gwaith yn cynhyrfu ac yn dyrysu y meddwl ; ond y mae cyd-
nabyddiaeth â'r Gweithiwr yn tueddu i'w dawelu : oblegid pan
fydd y tywyllwch mor fawr fel nas gall y dyn weled i ba le y
mae yn myned, nid peth bychan ydyw gwybod gydâ phwy y
mae yn myned.
Y mae hyn yn cyfnewid gwedd angau yn gwbl i'r Cristion.
Cyn i oleuni yr efengyl lewyrchu, yr oedd dyfodiad angau at y
saint yn gyffelyb i ddyfodiad yr ysbryd hwnw at Eliphaz:
drychiolaeth anelwig ydoedd, nad ellid adwaen ei agwedd gan
faint y tywyllwch. Yr oedd ofn yn dyfod ar bob sant yn ei
bresenoldeb, nes bod blew ei gnawd yn sefyll, a'i hoU esgyrn
yn crynu. Ty wyllwch sydd o amgylch angau eto ; ond nid
ysbryd anelwig sydd yn y tywyllwch : er bod y sant eto yn
fynych yn ofni hyn, fel y disgybhon ar y môr gynt ; ond Mab
y dyn sydd yno, a chydàg iddo roddi ei draed ar y llestr, fe
dawela y gwynt, a bydd y llong yn ebrwydd wrth y tir yr wyt
yn myned iddo. Glỳn dieithr yw glỳn cysgod angau ; ond y
mae Arglwydd y glỳn yn adnabyddus i ni, — Mab y dyn. Yr
oedd gwlad y Philistiaid yn ddieithri Abraham ; ond lcimlai ei
Parodrwydd crbyn dyfodiad Mab y dyn. 653
hun yn bur ddiogel yno wedi gwneuthur cyngrair âg Abi-
melech, brenin y lle : felly y dylai y Cristion deimlo ei hun yn
nglỳn cysgod angau: oblegid, er dieithred ydyw, y mae cyngrair
rhyngddo er's talm â Brenin y fro. Yr oedd y cerbydau a
ddaethant i geisio Jacob yn ddigon dieithrol iddo, yn ddiau.
Hen ŵr dysyml, heb ond odid fod mewn cerbyd erioed ; nid
anhawdd ydyw credu ei fod yn teimlo cryn wrchwynebiad i
fyned iddynt ; ond yr oedd gwybod mai cerbydau Joseph
oeddent, a'u bod i'w ddwyn i'r fan )/ cai ei weled drachefn, yn
cymodi ei feddwl â myned ynddynt. Cerbyd dieithr ywangau
na buost ti yn ei fath erioed ; a diau ydyw fod y meddwl yn
lled anfoddlawn i fyned iddo: ond un o gerbydau Mab y dyn
ydyw, ac y mae am dy ddwyn i'r fan y mae Efe i'w weled fei
ag y mae. Y mae y wedd hon ar angau yn ei wneyd yn " huno
yn yr lesu,'* — yn "farw yn yr Arglwydd."
Ac fe ddyîai y wedd hon ar angau, sef, "dyfodiad Mab y
dyn," ddeffroi ystyriaeth yn meddwl yr annuwiol. Pe buasai
modd ysgoi Mab y dyn am byth, buasai rhyw gysgod o res-
ymoldeb yn ngwaith yr annuwiol yn peri i'r Sanct yr Israel hwn
beidio âg ef. Y mae yn awr yn ymddwyn yn gyffelyb i lafur-
wyr y winllan at bob cenad sydd yn dyfod oddiwrth Fab y
dyn, ond y mae Mab y dyn, sef Arglwydd y winllan, yn
meddwl dyfod ei hun at y llafurwyr ; — Mab y dyn, yr
hwn yr ydych chwi wedi taflu y dirmyg mwyaf arno am
flynyddoedd, ydyw yr Hwn yr ydych i'w gyfarfod ; ac i'w
gyfarfod hefyd mewn man cyfyng, lle na bydd neb ond
chwi ac yntau. Gwnaeth brodyr Joseph dro digon anghar-
edig âg ef yn Dothan. Nid oeddent yn breuddwydio wrth
wneuthur y cyfarfyddent àg ef byth mwy ; ond ymhen
ugain mlynedd. fe'u cauwyd hwynt i fyny gydag ef mewn
ystafell ; a phan y mynegodd efe iddynt pwy oedd, braw-
ychent fel na fedrent ateb iddo. Y mae miloedd o Gymry
wedi gwneuthur troion cyffelyb â Mab y dyn ; ac ymhen
blynyddoedd lawer wedi gorfod ei gyfarfod mewn ystafell, lle
nad oedd ond hwy ac yntau ; a chydag iddo fynegu pwy ydoedd»
aeth braw gydà'r geiriau trwy eu henaid : y maent yn
ngafael y dychryn y foment hon, a byddant yn ei afacl byth,
Gwyliwch wneuthur yn angharedig â Mab y dyn : yr ydych
654 Parodrwydd erbyn dyfodiad Mab y dyn.
i'w gyfarfod eto ; am hyny cymwys i chwi fyddai ymgydnabod
âg Ef yn awr, fel pan ddeloch i anialwch angau, y gellwch ei
gâel Ef, fel yr Hobab hwnw, yn lle llygaid i chwi. Y mae Efe
yn adwaen gwersyllfaoedd yr anialwch dieithr; — fe wyr lle y
mae ffynhonau dyfroedd yn y tir sychedig hwnw ; ac fe fydd
cael rhywun i'w dangos yn werth bywyd eich enaid erbyn yr
ewch chwi yno. " Dyfodiad Mab y dyn," ydyw angau ; ond
mor wahanol fydd i'r duwiol rhagor i'r annuwiol ! Fe welodd
Josua a Balaam weledigaeth gyffelyb : ymddangosodd angel â
chleddyf noeth yn ei law iddynt i'll dau ; ond yr oedd angel
Josua wedi dyfod allan yn Dywysog llu yr Arglwydd, ac felly
yn wrthwynebydd i bawb oeddent yn erbyn Josua a'i frodyr ;
ond yr oedd angel Balaam wecH dyfod allan yn wrthwynebydd
i Balaam ei hun. Ni gyfarfyddwn ninau oll à Mab y dyn, sef
Angel y cyfamod, a bydd ganddo gleddyf noeth yn ei law ; ond
pa un ai cleddyf i'w ddefnyddio trosom, ai ynte yn ein herbyn
a fydd ? Pa un ai ei gyfarfod fel Josua, ynte fel Baalam, a
wnawn ni ? Nid yw yn dwyn y cleddyf yn ofer. Y mae naill
ai yn sicr o ladd dy holl elynion âg ef, i roddi llawn feddiant
i ti ar wlad yr addewid, neu ynte y mae mor sicr o dy ladd di
dy hunan, wedi dy gael fel Balaam i le cyfyng, am na wran-
dewaist ar ei lais Ef, ac ra pheidiaist a rhodio ffordd gyíeil-
iornus yn ei olwg Ef.
Ond y mae ansicrwydd amser y dyfodiad yn cael ei ddal
allan yn y testyn mor eglur ag ydyw sicrwydd 'y dyfodiad ei
hun. Pe buasai yr un sicrwydd genym a:n amser y dyfodiad
ag sydd genym am y dyfodiad ei hun, y niae rhai yn meddwl y
buasai hyny yn atalfa ar holl orchwylion a thrafnidiaeth y
ddaear ; — y buasai darparu ar gyfer yr amgylchiad yn myned
â'r holl feddwl, fel nad allasai y byd hwn ddim myned rhagddo,
am fod y byd a ddaw yn ei Iyncu iddo ei hun. Ni vvn i ddim
a oes Ilawer o wirionedd yn y dybiaeth yna ai peidio. Gellid
meddwl fod hynyna i raddau genym eisoes, wrth edrych ar
ddyiiolryw yn y cyfanswm. Ni a wyddom yn awr fod amse-
lerfyntdig i ddyn ar y ddaear. Y mae hwnw wedi ei roddi yn
bendant yn y Bibl ; ac y mae golwg ein Ilygaid yn proti, am
un sydd yn myned dros y rhif hwnw, fod miloedd yn syrthio
yn íyr o hono Nid yw sicrwydd yr amgylchiad i gorff y
Parodrxvydd erbyn dyfùdmd Mab y dyn. 655
ddynoliaeth yn eífeithio nemawr iawn, os dim, ar y byd ;
a'r tebyg ydy w na buasai sicrwydd ei amser i bob dyn yn ben-
odol yn effeithio nemawr mwy. Ond beth bynag am hyny,
rheswm hollol wahanol i hwnyna sydd yn cael ei roddi yn y
testyn hwn dros ansicrwydd amser yr amgylchiad, sef fod llyg-
redigaeth, ac felly anystyriaeth pechadur mor ddwfn, er bod
peth mor ddifrifol ag angau yn sicr o'i gyfarfod, y mae yn
rhaid cuddio yr amser oddiwrtho, i'w gadw bob moment dros
ei holl fywyd dan ofn marwolaeth, i'w gymell i barotoi erbyn
yr amgylchiad. Gallesid disgwyl y buasai sicrwydd yr am-
gylchiad, heb wybod yr amser at y foment, yn peri i ni ddef-
nyddio pob eiliad i barotoi ar ei gyfer ; y buasai cysgod angau
gan ei sicrwydd yn ymestyn dros ein holl fywyd, ac yn atal i'n
llygaid gael eu dallu gan bethau y ddaear. Ond nid fel hyn y
mae pethau : yn hytrach, pe buasai amser angau wedi ei nodi
at y dydd, buasai calon plant dynion yn llawn ynddynt i
wneutLur drwg hyd at yr adeg hono, oblegid felly mae hiwrth
dybied na wneir barn yn erbyn gv/eithred ddrwg yn fuan. Pa
faint mwy felly a fuasai hi, pe buasai sicrwydd ganddi na
wneid hyny ? Oblegid hyn, yr ydym yn marw beunydd, er
mwyn cadw rhyw ychydig o feddwl ynom am y byd arall.
" Yn yr awr ni thybioch y daw Mab y dyn." Nid rhaid i"ni
wrth brawf arall o fod trueni dyn yn fawr arno; — fod p>echod
wedi cynyrchu rhyw ddinystr ofnadwy ar ein natur, gan nad
y\N peth o gyinaint ei bwys a dyfodiad Mab y dyn, yn cael dim
effaith arnom, heb ein cadw mewn ansicrwydd bob moment
ynghylch ei amser. Ac ergwneuthur hyny, un o fìl, 'ie, un o
ddeng mil, sydd yn parotoi ar ei gyfer. Onid oes rhyw wall-
güfrwydd yn gysylltiedig âg ef? 'ie, hyny ydyw ef ei hun.
Ond beth ydyw bod yn barod ? At hyny y galwn eich sylw
am ychydig o hyn i'r diwedd. Cyn y gwyddom ni beth ydyw
bod yn barod erbyn unrhyw beth, neu unrhyw amgychiad, y
mae yn rhaid i ni wybod ychydig am y peth hwnw, oblegid
peth perthynasol ydyw parodi wydd ; peth i gyfateb i beth araK
fel y mae y llygaid i'r goleuni, a'r pysgodyn i'r dwfr. Felly,
cyn y geUir gwybod beth ydyw bod yn barod ar gyfer angau,
y mae yn rhaid i ni wybod beth a fydd yr amgylchiad i ni. I
wybod hyn, gallwn edrych ar angau mewn tri chysylltiad: —
656 Parodricydd erbyn dyfodiad Mab y dyn-
I. Yn ei berthynas â Duw.
II. Yn ei berthynas â'r byd hwn.
III. Yn ei berthynas â'r byd a ddaw.
Byddai gwybod beth ydyw yn y gwahanol berthynasau yna
yn fantais i ni wybod beth ydyw bod yn barod ar ei gyfer.
I. Beth ydyw yn ei berthynas â Duw ? Y mae tri gair yn y
Bibl yn taflu goleuni ar hynyna. i. Adeg y byddwn ni yn
cyfarfod â Duw ydyw. 2. Arwydd ydyw o anfoddlonrwydd
Duw. 3. Dydd ydyw y bydd pawb yn derbyn eu cyflog
ganddo.
I. Amser cyfarfod â Duw ydyw angau. Duw ydyw awdwr
ein bywyd. Efe a anadlodd yn ein ffroenau ni ffun anadl
einioes. Duw ydyw cynhalydd ein bywyd : o'i law Ef yr yd^'m
yn cael ein diwallu. " Hiliogaeth Duvv " ydym o ran ein natur;
" plant Duw," o ran manylwch y gofal sy drosom. Yn ei fyd
Ef yr ydym yn byw; a'i drugareddau Ef ydyw 'na ddarfu am
danom.' Ac y mae pob peth yn tystio nad ydyw nebpell oddi-
wrthym. Y daran sydd yn rhuo yn y ffurfafen, ei lais Ef ydyw
hi. Y gwynt sydd yn myned ac yn dychwelyd o'n hamgylch,
o'i ddwrn Ef y mae yn dyfod allan. Y môr mawr, Ilydan,
cledr ei law ef ydyw ei wely, Ond er i ni glywed ei lais, ni
welsom ni mo'i wyneb. Ni a glywsom y gwynt yna yn swnio,
ond ni welsom ni y dwrn sydd yn ei gadw eto. Y mae y môr
yna gerbron ein Ilygaid ni, ond y mae y llaw sydd odditano yn
guddiedig. Yrydym yn gyffelyb i Israel wrth Horeb, yn ymyl
Duw, eto y mae y t^^wyllwch mor dew o'i amgylch, fel nad
ydym wedi gweled llun dim, ond clywed llais, Ond y raae
angau yn adeg i ni ddringo dan grynu, fel Moses, i'r tywyllwch
lle y mae Duw, a dyfod ger ei fron Ef. Yr ydym yn awr fel
yr oedd Absalom yn Jerusalem, heb fod yn nebpell oddiwrth y
Brenin, eto heb ei weled ; ond fe wna angau â ni yr hyn a
wnaeth Joab agyntau, sef ein dwyn ni i bresenoldeb y Brenin,
Mae y Bibl yn dangos y cysylltiad sy rhyngom ni â Duw trwy
amryw enwau perthynasol. Mewn un man, y mae Efe yn
Frenin a ninau yn ddeiliaid ; ond wedi mynegu y ddeddf, fe'n
gadawodd ni gan fyned i wlad bell ; ond adeg ydyw angau
iddo ddychwelyd i'r dalacth, i weled pwy sydd yn dywedyd, —
" Byw fyddo y Brcnin !" — a pliwy ocdd y rhai h^'ny oeddent yn
Parodr^oydd crbyìi dyff)diad Mah y dyn. 657
dywedyd, — " Ni fynwn ni Hwn i deyrnasu arnom." ** Gadaw-
odd yr Arglwydd y ddaear," ydyw iaith y galon yn fynych ;
oiid os aeth Efe ymhell, nid aeth yn rhy bell i ddychwelyd.
Pan aeth Moses i dywyllwch Sinai, yr oedd yr ísraeliaid yn
dywedyd, — " Y Moses hwn, ni wyddom beth a ddaeth o hono ;"
ac am hyny yn gwneuthur duwiau i fyned o'u blaen : ond
dychwelodd Mcses pan oeddent ar ganol yr ynfydrwydd o was-
anaethu y duwiau hyny, a gwyddoch i'r peth fod yn bur chwerw
iddynt. Y mae miloedd yn dilya eu llwybrau eto, gan ddy-
wedyd, — ^' Pa le y mae addewid ei ddyfodiad Ef .'*" A chan eu
■bod wedi nieddwl na ddaw, y maent yn gwneuthur iddynt eu
hunain dduwiau eraiU ; ond, gan ddyfod-, Efe a ddaw ; ac os
■caiíF chwi yn dawnsio o íìaen y rhai hyny, bydd y tro yn bur
•ddrud i chwi. !Bryd arall, y m:ie Efe yn cael ei ddangos yn y
berthynas o Arglwydd, a ninau yn weision ; ac fel y cyfryw y
înae Efe wedi rhoddi talentau i ni farchnata à hwynt, a gwin-
31an i'w chadw ; ac yna fe aeth oddicartref dros dalm o amser,
ac wrth fyned fe ddywedodd, — " Marchnatewch hyd oni
ddelwyf:" a diwedd y tahn yma fydd angau, i bawb o honom.
Ni a gyfarfyddwn à Duw, fel gweision y talentau â'u harglwydd,
neu fel y gwinllanwyr à'i pherchen hi. Bryd arall, y mae Efe
yn Dad, a ninau yn blant ; ac fel y cyfryw yr ydym oddicartref
mewn ysgol, dan ymgeleddwyr a llywodraethwyr, hyd yr
amser a osodwyd gan y Tad. A'r amser hwnw ydyw angau ;
un o'n hathrawon ni ydyw y ddeddf ; ein llyfr darllen cyntaf ni
ydyw rhagluniaeth, i ddysgu i ni ddaioni a thoster Duw, ac i
liyny ein tywys ni i edifeirwch. Yr ail ydyw, iachawdwriaeth,
i'n dysgu ni i reddi ein hymddiried ynddo, ac i cbeithio yn
■dragywydd yn ei drugaredd Ef. A ydych chwi yn barod i'w
gyfarfod Ef, yn y gwahanol berthynasau hyn ì Yr ydych yn
myned i'w gyfarfod fel Brenin : beth yw y parodrwydd i hyny ?
Wel, bod arian y deyrnged wrth law, a'r tafod wedi dysgu
yngan yn groew, — "Byw fyddo y Brenin." Parodrwyddydyw
■eich bod chwi wedi gwneuthur cymwynas iddo ryw bryd; oblegid
amser ydyw hwnw, y bydd Efe yn darllen llyfrcofiFadwriaethau
hanesion yr amseroedd mewn perthynas i ti : a oes yno ryw-
beth ar gyfer dy enw, fel yr oedd gyferbyn âg enw Mordecai yn
nghroniclau Ahasferus, a fydd yn peri i'r Brenin fỳnu dy
G3
658 ParodrwydJ erbyii äyfodia:l Maò y dy:i.
anrhydeddu o'r dydJ hwnw allan ? A ellir darllen yno dy fod
di wedi dangos dy hun yn gywir iddo yn erbyn y gelyniorr
oeddent am estyn eu llaw at eí einioes ; neu dy fod di yn un o-
gyfeillion ei Fab Ef ? Yr ydych yn myned i'w gyfarfod feì
Arglwydd : beth yw bod yn barod ? Bod y pum' talent wedr
myned yn ddeg^ a'r ddwy wedi myned yn bedair ;— bod ffrwyth
y winllan wedi ei gasglu yn ddyrneidiau, fel y gellir dy wedyd, —
" Deued fy An\vy!yd, a b-wytäed ei ffrwyth peraidd ei Hun."
Yr ydych yn myned i'w gyfarfod fel Tad : beth yw bod yn
barod ? Gallu dy^yedyd yn groew, — "Abha, Dad,'^ a medru?
cyfarch y Mab hynaf wrth yr enw Brawd. Yr ydych yn myned
i'w gyfarfod fel Duw : beth yw bod yn barod ? We), bod genyt
ti aberth a gwaed. Lle ofnadwy ydyw presenoldeb Duw heb
aberth. Rhybuddiwyd Aaron gyda difrifoldeb i beidio myned
yno heb hyn, fel na byddai farw. Y mae miloedd o'n cenedl ni
yn ymddangos yn y presenoldeb dwyfol heb aberth, ac am hyny
yn marw yr ail farwolaeth. Cyfarfod â Duw yw angau, — " am'
hyny byddwch chwithau barod."
2. Y mae angau hefyd yn amlygiad o anfoddlonrwydd Duw.
Er bod myrdd o leisiau yn cyhoeddi mai " Duw cariad yw," y
mae yr angau du, hagr, sydd yn teyrnasu ymhob man, ac ar
bob peth, yn dywedyd ar eu hol hwynt oll, mai Duw wedi ei
anfoddloni ydyw. Ac er bod aberth Caîfaria wedi cael allan
ffbrdd i beri i'r bwytäwr hwn roddi ymborth, ac i'r cryf hwn
roddi melusder, ni newidiodd efe ddim o hono o fod yn amlyg-
iad o \vg Duw at greadur syrthiedig. Y mae y corff o hyd yn
farw oherwydd pechod, er bod yr ysbryd yn fywyd oherwydá
cyfiawndcr. A hyn, feallai, yn fwy na dim arall, sydd yn peri
i baganiaid y byd feddwl mai rhai creulawn ydyw eu duwiau.
Y mae yno fyrdd o drugareddau ganddynt, ond y mae yr angaii
cyffredinol sydd yno yn peri iddynt deim'Io wedi yr oU mai
rhai creulawn ydyw y duwiau. Ac er nad yw angau ddìm yn
profi fod Duw y nefoedd yn un creulawn, y mae yn profi ei fod
wedi digio wrth ein byd ni ; a maint y dinystr sydd yn cymeryd
lle yma, ydyw mesur raaint yr anfoddlonrwydd hwnw. Yr
oedJ maint anfoddlonrwydd y brenin at y lleiddiaid hyny, ya
y ddameg, i'wganfod yn ei waith yn cu dinystrio hwynt, ac yn
llosgi eu dinas à thàn. Yr o^JJ miint Jijfofaiat NebuchoJo-
Parodrjoydd erbyn dyfodiad Mab y dyn. 659
nosor yn erbyn Israel, i'w ganfod yn eì waith yn llosgi eu teml
hwynt, y peth harddaf a gwerthfawrocafyn eu gwlad, yr hyn y
buasai y genedl yn aberthu pob peth arall er ei fwyn ; ond yr
oeddent wedi ei ddigio gymaint nes y penderfynodd efe ddi-
nystrio hono. Y inae dioddefiadau y daith yn profi nad yw
pob peth yn dda rhwng dyn a Duw ; ond y mae yr angau sydd
yn ei phen draw hi yn dangos fod digter mawr yn bod. Ac os
oedd dinystr teml Jerusalem yn brawf fod digofaint Nebuchodo-
nosor yn fawr, onid yw dinystr adeilad ardderchog y corff
dynol yn profi fod yr Anfeidrol vv€di ei anfoddloni yn fawr ?
Nid oedd y deml yn ddim mewn ardderchowgrwydd wrtho ; —
y mae wedi ei lunio yn ofnadwy a rhyfedd : Duw oedd y ihmiwr,
ac nid gwaith cyffredin iddo yntau oedd; na, manylwaith
Jehofah, ei gampus waith. Nid aeih i chwilio am un model, yr
un ddelw îs nag Efei Huri i'w lunio wrtho. Nid rhyfedd i
Milton ddychymygu fod Satan yn cenfigenu wrth ein rhieni
cyntaf pan welodd efe eu harddwch, ac yn haner edifarhau am
ei fwriad i'w temtio. Onidyw dinystr y peirianau ardderchog,
yr adeiladau prydferth hyn, yn brawf fod digter mawr yn bod ì
Pan oedd Israel yn ameu a oedd Duw yn anfoddlawn iddynt yn
eu drygioni, — "Ewch," medd Efe, "i Siloh, ac edrychwch beth
a wnaethum i hwnw." Er mai fy He i oedd, mi a adewais fy
nhabernacl fy Hun, y babell aosodais i ymysg dynion. A phe
byddai rhyw rai yn ameu anfoddlonrwydd Duw at y ddaear,
gallai yr Arglwydd ddywedyd withynt, — Ewch, ac edrychwch
beth a wnaethum i yno ; — y modd y rhoddais i nerth y trigol-
ion i'r gelyn, ac y ' bwytäodd cyntafanedig angau eu cryfder
hwynt;' y modd y gwnaethum i à'r tabernacl a luniais à'm
dwylaw fy Hun. Y mae hi fel vv'edi ei hau â brwmstan ac â
halen : oferedd ydyw disg"wyl i nemawr ddim íîaendarddu o
honi mwy. Onid priodol gofyn gydâ Moses, — " Pa ddigter yw
y digofaint mawr hwn .?" Paham y gwnaeth yr Arglwydd fel
hyn 1 Onid ydyw yn anfoddlawn iawn ì Nid peth bychan
ydyw cyfarfod à Duw hyd yn nod pan y byddo yn dyfod ar
neges o drugaredd, obîegid yr oedd ofnadwyaeth o'i amgylch,
pan yn ymddangos felly gynt, oedd yn peri i gnawd grynu.
Mewn tàn yrymddangosodd i Moses. Yr oedd rhyw dywyllwch
arswydus o'i amgylch yn y cysegr. Yr oedd pyst y rhiniogau
66o Parodyivydd crhyn dyfodiad Mdb y dyn.
yn symud, a'r tỳ yn llawn o f\vg, pan welodd Esaiah Ef. Bob
tro y gwelai Ezeciel weledigaethau Duw, yr oedd yn syrthioar
ei wyneb mewn llewyg. Pan welodd Daniel y gŵr wedi ei
wisgo à llian, ni thrigodd nerth yuddo, ani fod yr olwg mor
ofnadwy ; a throdd ei wedd yn llygredigaeth. Beth fydd ei
gyfarfod wedi ei anfoddloni ? — pan y mae yn dyfod allan i
wneuthur Darn, ac â thymestl ddirfawr o'i amgylch Ef ? Dyna
fydd angau — cyfarfod â Duw wedi ei anfoddloni. Pa faint o
honom sydd yn barod .'' Yr oedd Duw digllawn yn cyfarfod
âg Israel wrth Sinai ; ond yr oeddent yn barod, — yr oedd
Moses yno i gyfryngu rhyngddynt âg Ef ; onide buasent feirw
bob enaid. Y mae tywyllwch mynyddcedd marwolaeth, sydd
yn amgylchu Duw digllawn, yn llawer mwy ofnadwy nag un
Sinai ; ac os nad oes genych ryw un i gyfryngu rhyngoch â
Duw, bydd farw pob enaid o honoch. Beth yw angau fel
amlygiad o aníoddlonrwydd Duw ? Dinystr y deml wych yma,
y tabernacl a adeiladodd Efe ei Hun. Bod yn barod yw bod
genyt sail dda i ddywedyd, — Wel, wel, os rhaid dinystrio yr
hen deml yma, bydd mwy gogoniant yr ail dŷ na'r tŷ hwn.
Beth yw angau fel anfoddlonrwydd Duw ? Peth a gaifiFyr un
effaith arnat ag a gafodd y weledigaeth ar Daniel, — " ni thrig
nerth ynot, a thry dy wedd yn llygredigaeth." Bod yn barod
yw bod genyt hanes rhy w un a ddywed wrthyt yr ochr draw i'r
llen, — " Wr anwyl, nac ofna," nes rhoddi nerth ynot drachefn.
Yn niflfyg hyny, bydd y dychryn ynot byth, a'r Ilygredigaetìi
yn dy wedd yn oes oesoedd. Cyfarfod à Duw ajifoddlaicn,
ydyw angau. " Byddwch barod."
3. Y gair arall a gawn ni am angau, yn ei berthynas â Duw,
ydyw, "Cyflog pechod ;" ac y mae y gair hwn yn gynwysfawr
dros ben. Angau y corfiFsydd yn gyflfredin yn ein meddwl ni
wrth feddwl am angau ; ond dylem gofio nad yw yr angau
cyntaf ddim ond plisgyn, a bod rhyw gnewyllyn annhraethol
chwerw o'i fewn. Nid ydyw ond yr ernes i brofi bod y cyflog
i dd'od. Y drws sydd yn arwain aty ffieidd-dra cyntaf ydyw :
y mae yma fyrdd i agor ar ei ol, a phob un i arwain at fiìeidd-
dramwy. Y waegyntafyn unigydyw angau y corfif: y mae rhes
yn ei dilyn, fel yn Ilyfr y Datguddiad ; ac y mae pob un sydd yn
dilyn yn chwerwach na'r ua sydd yn myneJ o'i blaea hi. Am
Parodriaydd Cìhyn dyfodiad Mab y dyìi. 66 1
hyny MTth anog ein gilydd i fod yn barod erbyn angau, dylem
gy.Tieryd y gair yn hoU eangder ei gynwys. Ni wyddom ni
ddim beth ydyw y "cyflog." Nid oes genym ond ychydig
eiriau cymhariaeihol am dano yn y Bibl ; ond y mae y cym-
hariaethau hyny yn ddigon i beri i flew cnawd dyn sefyll ; a
chofiwn hyn, nad oes yr un gymhariaeth yn y Bibl nad yw y
pc-th ei hun yn annhraethol fwy ofnadwy na hi. Rhyw beth fel
hyn ydyw y *'cyflog," yn iaith y Bibl : — * Yfed byth o phiol sydd
yn llawn cymysg ;' — ' suddo yn oes oesoedd mewn pydew di-
waelod ;' — ' trigo mewn nos na ddaw hi yn dòriad gwawr arni
byth ;' — 'byw y tuallan i'r ddinas gydâ'r swyn-gyfareddwyr, y
puteiniaid, a'r llofruddion ;' — bod yn destyn gwawd i Satan a'i
angylion yn ddiddiwedd ; — trigo mewn bro y niae Duw wedi
ei gadael, ac " Ichabod " wedi ei gerfio ar bob peth yno. Beth
ydyw bod yn barod erbyn hyny ? Un o ddau beth : un ffordd
i fod yn barod ydyw, gallu dywedyd yn hyf, oddiar seiliau
cedyrn am y cwpan chwerw, — " Onid yfaf ef?" Bod yn barod
ydyw, bod à'r galon wedi ymfoddloni i fyw yn y fagddu ddi-
ddiwedd. Bod yn barod yw, bod dy wyneb di fel callestr, a bod
edifeirwch wedi ei guddio o'th olwg, Bod yn barod yw, bod âg
ysgwydd ddigon cref i gario y baich heb gael ei lethu ganddo.
Bod yn barod ydyw, bod yn ddigon hunan-ddibynol i fyw me^vn
gwlad y mae Duw wedi ei gadael. Ond pwy sydd yn barod yn
yr ystyr hwn ì Pa le y mae'r dyn sydd â'r galon a bery, a'r
dwylaw a 3'mgryf hant, i fyned drwy y caledwaith .? " Pwy a
saifo flaen ei lid Ef? a phwy a gyfyd yn nghynddaredd ei
ddigofaint Ef ?" Nid ydyw i'w gael. laith y prophwyd ÿdyw
iaith pob dyn yn ei bwyll : — " Pwy o honom a drig gydâ'r tân
ysol ? pwy o honom a breswylia gydâ'r llosgfeydd tragywydd-
ol ?" Oud wrth edrych ar ymroddiad dynion yn ngwasanaeth
pechod, gellid tybied fod pob cnawd yn barod, ac mai diangen-
rhaid iddynt gyngor loan i'r milwyr, — " Byddwch foddlawn
i'ch cyflogau."
Ond y ff"ordd arall i fod yn barod ydyw yr unig un bosibl i
ni. Nis gallwn wadu y gwaitli, ac nis gallwn ochel myned i
dderbyn y cyflog. Y mae cupan y Llywydd wed. ei gael yn
ein sach ni, fel yn un Benjamin, a marwolaeth ydyw cyflog
y weithred. Bod yn barod ydyw, bod genyt hanes rhyw Judah
662 Parodrwydd eibyn dyfodiad Mah y dyn.
i ddywedyj, — " Mi agorais i fy ngenau dros hwnyna ; atolwg i
ti, gan hyny, aed i fyny gydà'i frodyr, a chymer íì yn ei le."
Y mae ein drygioni ni wedi bjd mor aml, fel y mae Duw y
nefoedd wedi tyngu y daw diluw o'i blegid ; ac fe fydd hwnw y
fath ag y bydd yn anmhosibl ei ochel ar un mynydd neu graig
ar y ddaear, oblegid fe ymgryfha bymtheg cufydd dros ben yr
uchaf o honynt. Bod yn barod ydy w, bod genyt hanes arch i
nofio ar ei wyneb. Y mae deddf yr ymerodraeth wedi ei
throseddu, am hyny y mae yn rhaid myned i'r ffwrn. Nid oes
modd ei hosgoi hi, oblegid y mae gorchymyn y brenin yn gaeth.
Bod yn barod yw, bod genyt " un tebyg i Faby dyn" i ddyfod
yno gydà thi ; yna ni wna y lân ond difa y rhwymau, a'th
wneuthur yn dragywyddol rydd. Y mae yn rhaid i'r wae
gyntaf ddyfod : bod yn barod ydyw, bod genyt un i dòri y
cysylltiad sy rhwng hon â'r rhai sydd yn ei dilyn, fel y galler
dywedyd wedi iddi fyned heibio, — "Ni bydd marwolaeth
mwyach." Gan mai peth fel hyn ydyw angau, a chan mai yn
y modd hyn y gwna, "bydd barod i gyfarfod â'th Dduw."
II. Wrlh edrych ar y dull y mae anga-j yn effeithio ar y byd
l.wn, daw y parodrwydd angenrheidiol ar ei gyfer i'r golwg. Y
mae y berlhynas sy rhyngddo à'r ddaear yn cael ei chynwy.- yn
gryno mewn un gair, — "ysgar." Gellir dywedyd am dano, fel
am frenin Babilon, — "Daeth y chwalwr i fyny." Y mae y
brophwydoliaeth am Nebuchodonosor yn wirionedd llythyrenol
am dano ef; Jer. H. 20—23 '• " Ti wyt forthwyl i mi, ac arfau
rhyfel : canys â thi y drylhaf y cenhedloedd, ac â thi y dinystr-
iaf deyrnasoedd ; à thi hefyd y gwasgaraf y march a'r marchwr ;
ac â thi y drylhaf y cerbyd a'i farchog ; â thi y drylHaf fi wr a
gwraig ; ac â thi y drylHaf hen ac ieuanc ; ac â thi y drylHaf y
gwr ieuanc a'r forwyn ; â thi hefyd y dryHiaf fi y bugail a'i
braidd ; ac â thi y dryHiaf yr arddwr a'i iau ychain ; ac â thi y
dryHiaf y tywysogion a'r penaethiaid." Y maegwedd y ddaear
heddyw yn gyffelyb i wersyH y PhiHstiaid wedi i Jonathan a'i
lanc fyned yno. Y mae ei thrigoHon hi yn ymwa&garu oddi-
wrth eugilydd, dan ymguro. Ac os gofynir, Paham ? yrateb
fydd, " Daeth y chwalwr i fyny." Y mae rhai yn tybied fod
ganddynt " dda lawer, wedi ei roi i gadw am lawcr o flynydd-
oedd ;" ond y mae yiia aJran i mcwn yn y wcilhrcd sydd
Piirodrwyàd crbyn dyfodiad Mab y áyn. 663
genych arnynt, y mae yn ofnus nad ydyw wedi tỳnu eich sylw
'eto, sef hyd angau. Yn fuan hi ä yn ddadl yn eu cylch, ac nì
waeth i chwi heb ddadleu ; na, ' fe^ch gorchfyga chwi yn dra-
gy wydd.' Wel, gan mai hynyna ydyw angau, y mae yn ol, fod
o'r rhai sydd â gwragedd iddynt, megis pe byddent hebddynt
a'r rhai a wylant, megis heb wylo ; a^ rhai a lawenhânt, megis
heb lawenhau ; a'r rhai a brynant, megis heb feddu ; a'r rhai a
arferant y byd, megis heb ei gam-arfer. Canys y mae dull y byd
hwn yn myned heibio;" 1 Cor. vii. 29 — 31. Yr ydym ni yn y
byd, lieb fod o'r byd. A ydy w ein gwreiddiau ni yn peidio bod
nior ddwfn yn y ddaear, fel y bydd yn rhaid ein rhwygo ni
allan o honi ?
III. Wrth edrych ar angau fel y mae yn dal perthynas â
byd ar ol hwn, y mae rhyw barodrwydd yn angenrheidiol ar ei
gyfer yn y cysylltiad yna hefyd. Yr unig s^dw a wnawn ni ar
hyn ydyw, bod ei berthynas â'r byd a ddaw yn hollol groes i'r
hon sy rhyngddo â'r byd hwn. Chwalwr oedd ê yma ; cys-
ylhydd.fydd ê yno. Tòri pob undeb yr oedd yma; ffurfiorhai
nas gelHr eu tòri a wna fe yno. Rhoddi llythyr ysgar i ti oedd
ei waith yma o hyd ; ond dy briodi â phethau na bydd ysgaf
oddiwrthynt mw}^ a wna yno. Ond ni wna yn galed â neb o
honom : nid ydyw yn hòni liawl i ddewis. Y cwbl y mae yn
ei wneuthur ydyw ffurfio undeb rhyngom ni â gwrthddrychau
ein dewisiad. Os yr lesu a dJewisaist yma, ni wna angau ond
dy ddatod oddiwrth bob perthynas arall, i ti gael bod gydà
Christ. Os pechod a ddewisaist, ni wna angau ond dy
gysylltu âg ef yn gwbl. Chwalwr ac unwr ydyw angau :
datodwr cylymau, a ffurfiwr undebau hefyd ; — môr i dòri y'
cysylltiad rhyngot ti â brenin yr Aipht, ac i íîurfio cysylltiad
agusach rhyn£ot ti â Brenin y nef; — lorddonen i ddatod y
berthynas sy rhyngot ti â'r anialwch, ac i wneyd un rhyngot ti
â Chanaan ; — diluw i fyncd â'r hen fyd o dan dy draed,
ac i'th gario i fyd newyJd ya ei h. A ydych yn
barod ? Y mae cyfamodau a phethau cyffelyb yn cael eu
hysgrifenu weithiau ar bapyr cyffredin, ac yn cael eu hanfon
wedi hyny i'w stampio. Gal.lesid eu cyfnewid cyn cael y
stamp ; ond wedi hyny, y mae nerth cyfraith y deyrnas o blaid
iddynt sefyll. Yr ydym ninau yn ysgrifcnu bob moment ; ond
664 Paroclì'wydd crbyn dyfodiad Alab y dyn.
ar bapyr cyfFredin megis : am hyny fe all y peth gael ei newid
yn awr; ond daw angau ymlaen ymhen ychydig, ac fe rydd
stamp ar y papyr. Bydd hoîl nerih cyfraith y deyrnas wedi
hyny o blaid i'r peth sefyll. A ydyw yr hyn yr wyt yn ei
ysgrifenu yn gyfryw y caret ti gael starap tragywyddol arno ?
Y mae yr angel dinj'^triol yn brysur o'ch amgylch ; a oes yna
waed ar gapan y drws i atal Vr ail farwolaeth ddyfod i mewn
gydâg ef. Y mae y lluoedd er ystalm yn amgylchu y Jericho
yna, — y mae y muriau bron dyfod i lawr ; a oes yna ryw edeu
goch o dan dy ffenestr di i atal iddynt osod dwylaw arnat ti dy
hun? Yr ydych am ein hanghj^mwyso ni i fyw, meddwch :
nac ydwyf ; oblegid nid oes neb cymwys i fy w ond y dyn parod
i farw. Gan fod yr amgylchiad yn sicr, parotowch ar ei gyfer;
gan fod ei amser yn ansicr, byddwch barod bob amser. Bod
yn Nghrist yw parodrwydd cyflwr : marw beunydd y\v parod-
rwydd agwedd. Y mae Jlawer ysgolaigdaar ycyfan yn myned
drwy ei arholiad yn ddigon trwsgl ; ond yr achoso hyny
oedd, nad oedd wedi ymgydnabod yn ddigon mynych â'r hyn.
oedd yn ei wybod. Felly y mae llawer Cristion mewn cyflwr
parod ; ond am nadydyw yn marw beunydd, bydd marw yn
orchwyl caled iawn iddo. A pha un bynag ai parod ai peidio,
gan ddyfod, Efe a ddaw, ac nid oeda ; ac " yn yr awr ni th^'bioch
y daw Mab y dyn."
[louawr 'J, 1851.1
PREGETH XLI.
GORUCHWYLIAETHAU DUW, AC YMDDYGIADAU DYÎ7.
Matthew xi. 18. 19:— '•Canys daetíi I^an beb na bwybta nac yfei ; ac?
meddant, Y mae cjthraul gaíidio. Daeth Jlab y dyn yn bwytta ac ya
yfed ; ac meddaut, We'.e ddyn glwth. ac yfwr g>vin. cyfaiU publicanoí
a phechaduriaid:. A àoethineb a gyüa^ynhswyd gan ei pb'ant ei hun."
ÍD oedd dim yn hynodi y genhedlaeth y hu lesu
jîePÄ^5i| Grist byw gydâ hwynt yn fwy na diffyg ditrifwch,
[gM^s-sll — diffyg gwirionedd. Cenhedlaeth ragrithiol, an-
wadal, ac felly anwastad yn eu hoU ffyrdd, oeddent. Nid
oeddent yn credu o ddifrif niewn dim, er eu bod yn proffesu
credu holl gyngor Duw. Yr oedJ y rhagrith hwn Wddi llygru
eu holl garacter. Y mae credu mewn twylî yn bt-th tra
niweidiol ; ond y raae rhagrithio gydà'r gwirionedd yn fwy
felly Y mae eilun-addolwr cywir, yn well na Christion
rhagrithiol; Pabydd mewn gwirionedd, yn well na Piiroteslant
mewn ymddangosiad.
Hyny o wirioaedd oedd yn y wlad, ar y pryd, ymysg y.
tlodion yr ydoedd bron yn gwbl ; ac yr Oiddent hwy yti derbyn
yr efengyl, — y tir da yn derbyn yr haJ da ; ond am y
Phariseaid, yr Ysgrifenyddion, a'r cyfreithwyr, rhagrithwyr
oeddent,— rhai heb wirionedd ; am hyny diystyrent gyngor
Duw. Yr oedd Pilat yn esiampl o'r ystâd meddwl ynia,
ac o'i dylanwad niweidiol hi arddyn. Gofynodd mewn gwawd
i'r Gwirionedd ei Hun, ''Beth yw gwirionedd ?'' Paham y
sonir am beth sydd wedi ei goJli o'r byd, os bu yma erioed ?
pob dyn sydd gelwyddog erbyn hyn. Byd o ymddangosiadau,
o rith, o dwyll, ydyw. "Beth yw gwirionedd ? " Fe an-
nghymwyswyd Pilat, gan yr ystâd meddwl yna, i fanteisio ar
C66 Ccrj:clii_)h'r.cíJ.f.7i L'ì.ic, ac )v.c'cygicc!<ìîi cyn.
gymdeithasu â'r Gwirionedd ei Hun. Ac nid oes yr un ystàd
ar y meddwl y dylcch chwi wylio mwy rhag m^'ned iddi na
hon, oblegid y mae y gwirionedd yn cael ei guddio oddiwrth y
doethion a'r deallus sydd ynddi, tra y mae yn cael ei ddatgucdio
i'r rhai bychain. Y mae yn rhaid i had da gael tir da : bydd y
gwirionedd oddiaHan yn aneífeithiol, heb wirionedd neu gywir-
deb oddifewn. Os na bydd cymhwysder yn y tir naturiol,
bydd haul a chawodau y nefoedd yn ofer iddo, a gwaeth na hyny.
Darlunio yr ystâd wamal yna ar feddwl y genedl y mae lesu
Grist yn y paragraph hwn. Yr oeddent wedi myned fel plant
yn y farchnadfa, i droi pob peth yn gellwair;- — yn awr yn
dynwared claddedigaeth ; — drachefn, briodas ; ond cellwair
oedd yr oll. Daeth loan gan ganu galarnad, aethant hwythau
yn lluoedd ar ei ol ; ond er iddynt fod dros amser yn ewyllys-
gar i rodio yn ei oleuni ef, a chymeryd eu bedyddio â bedydd
edifeirwch ganddo, eto nid edifarhasant, — ni chwynfanasant
wrth yr aîarnad : plant anwadal oeddent. Daeth Mab y dya
yn canu pibell, ac fe dybiwyd am ychydig y buasai yr holl bobl
yn dawnsio ; ond blinasant arno yntau hefyd ; plant anwadal
oeddent. Yr oedd loan ya rhy fanwl, a Mab Duw yn rhy rydd;
nid oedd dim boddhau arnynt. Nid oeddent ya cwynfan i
alarnad loan, nac yn dawnsio i bibell Maby dyn ; ond yn beio
ar y ddau. "Canyä daeth loan heb na bwytta nac yfed, ac
meddant, Y mae cythraul ganddo. Daeth Mab y dyn yn
bwytta ac yn yfed, ac meddant, Wele ddyn glwth, ac yfwr
gwin."
Oddiwrth y testyn ni allwn nodi : —
I. Fod loan Fedyddiwr a Mab y dyn yn arddangosiadau o'r
gwahanol ddulliau y mae yr Arglwydd yn yaiddwyn tuag at y
ddaear. Y mae Duw yn llefaru wrth y byd lawer modd fel lawer
gwaith ; ond gellir casglu y gwahanol ddulliau i ddau, sef yr
anghyfîiedin, a'r cyffredin : Duw yn Uefaru yn loan, a Duw yn
llefaru yn Mab y dya. Duw yn gweithio yn annibynol ar ein
byd ni a'i bethau, — dyna loan ; Duw yn gweithio drwy bethau
ein byd ni, — dyna Fab y dyn. Duw yn aailygu ei Hun yn yr
ofnadwy, — dyna loan ; Duw^ yn dyfod i'r golwg yn y graslawn,
— dyna Fab y dyn. Y naiU yn arddangos urddasolrwydd deddf
dòredig, a'r llall gyfoeth yr efengyl.
Goruchwyliaethaîi Dttw^ ac ymddygiadaîi dyn. 667
Edrychwch ar loan fel amlygiad o Dduw yn dyfod at y byd
yn yr a:ighyffredin. Baich cenadwri loan oedd y llid a fydd,
Yr oedd ei fys yn barhaus yn cyfeirio at y cwmwl o-'dd yn
llwythog oddigofaint fry, neu atTophetoedd wedi cael ei henyn
ganddo obry ; fel pe buasai wedi disgyn o'r byd anweledig iV
unig ddiben o gyhoeddi gwaeau hwnw uwcbben hwn, Ac yr
oedd dieithrwch y byd hwnw o'i amgylch : gallesid ameu a
oedd dim a fynai ef â'r ddaear, am fod rliyw beth annaearol yn
yr oll a berthynai iddo. Nid ydym yn cael fod neb yn gofyn
unwaitli, " Onid hwn yw y saer ?" neu, Onid hwn yw y llafur-
wr? Onid Zacharias y gelwir ei dad ef.' Onid Elizabeth yw
ei fam ef? Na, dyn ydyw nad oes neb yn meddwl am ei
gysylltu â thrigoiion nac â phethau y byd. Y mae ei wisg yn
piofi ei fod yn liòni cymdeithas â'r byd anweledig, — gwisg
prophwyd ydyw. Y mae ei gartref yn y diífaethwch, lle y
tybid y byddai ysbr^'dion ybyd anweledig yn arfer ei fynychu;
ac am ddim a welodd neb, nid ydyw yn bwyta nac yn yfed o
bethau y ddaear. Dyn anghyíîredin ydyw, a chenadwri felly
sy ganddo. Ar y dechreu, credai pawb ei fod wedi dyfod oddi-
wrth Dduw, oblegid mewn dull anghyffredin y mae dynion yn
disgwyl i Dduw yroddangos.
Edrychwch eto ar Fab y dyn, fel amlygiad o Dduw yn dyfoá
at y byd mewn gwedd gyfîredin. Os oedd pob peth o gwmpas
loan yn ei ddangos fel yn perthyn i'r byd arall, yr oedd pob
peth o gwmpas Mab y dyn yn ei ddangos fel yn perthyn i hwn :
Mab y dyn ydoedd. Yr oedd y cwestiynau a ofynai dynion
wrth weled ei weithredoedd yn proh ei fod mor debyg i ddyn.
cyffredin, fel na feddyliodd y bobl ei fod yn ddim amgen na
hyny. " O ba le y daeth y pethau hyn i hwn ?" meddent ;
•' onid Mair y gelwir ei fam ef ?" '' Onid hwn yw y saer?" sydd
wedi bod yn ein tref ni er pan yn blentyn, ac heb ddim yn ei
hynodi, os nad oedd yn fwy distaw nag eraill yn gwneuthur
hyny ; ac yn fwy tyner wrth ei fam na'i gyfoedion, ac yn fwy
dichlynaidd a chyson yn ngwasanaeth y synagog yma, ac mewn
myned i Jerusalem ar y gwyliau arbenig na'i gyd-drefwyr. Ni
buasem ni yn gwybod ei fod yn perthyn i'n tref ni, oni buasai
ein bod yn damweinio ei weled ambell dro yn brysur gydâ'i
orchwyl fel saer, a phob tro yr awn ni i'r synagog, ni bydd ei le
668 Goriic]nvyliaethaii Dtní^ ac ymddy^iaâan dyn.
ef byth yn wâg yno. Ac yn awr, wedi iddo ryfygu inyned yn
ddysgawdwr cyhoeddus, y mae yn bradychu ei hun yn hyn
hefyd fel dyn cyíîredin, oblegid y mae yn bwyta gydâ phubli-
canod a phechaduriaid. Y dydd o'r blaen, gadawodd i
bechaduresolchi ei draedef; a rhyw ddydd arall, gwelsom efyn
cymeryd babanod b^^chain yn ei freichiau,i foddhau eu mamau
gweiniaid, fel pe buasai yn ferch dyner. Pe buasai wedi dyfod
oddiwrth Dduw, buasai mawredd arno amgen i hyn, oblegid
''pan ddelo Crist, nis gwyr neb o ba le y mae." Bydd
dieithrwch a mawredd o'i gwmpasefyn sicrhau i bawb mai
oddiwrth Dduw y daeth ; ond am hwn, oni wyddom ni oll mai
dyn cyffredin ydyw? — Duw yn yx angbyffredin, a Duw yn y
cyffredin ; Duw yn y daran, a Duw yn yr awel ; Duw yn y
ddaeargryn, a Duw yn ysgydwad y ddeilen ; Duu' yn ngwlaw
mawr ei nerth, a Duwyn ygwlith ; — dynaydoedd loan, a Mab
y dyn.
Y mae Duw weithiau yn j^mweled â'r byd yn y dieithr a'r
anghyff'-edin. Y mae pob peth fydd o amgylch ymweliadau
felly yn dwyn cymaint o ddelw y byd arall, fel na chysylltir
hwynt â dim yma. Y mae gwynt nerthol y byd arall yn
rlmthro ynddynt, a thân y byd hwnw yn fflamio ynddynt.
Y mae y dieithrwch hwn yn tỳnu sylw; ac y mae dychryn
Duw yn dal lliaws sydd yn d^'fod ynghyd, ncs y gofynant
mewn braw, " Beth a wnawn ni ?" lë, y mae yr Argiwydd
lor yn llefaru mor nerthol mewn ymweliadau felly, nes y mae
dynion yn dywedyd, "Pwy ni phrophwyda?" Y mae hyd yn
nod Saul ymysg y prophwydi. YmweHadau anghyffredin
Duw á'r ddaear ydyw y rhai yna.
Ond y mae Duw yn ymweled â'r byd, nid drwy Toan, ond
drwy Fab y dyn ; hyny yw mewn dull cyffredin. Nid oes na
daeargryn^ na chorwynt, na tbân, yn pertliyn i'r ymweliadau,
— dim ond llef ddistaw fain. Nid goleuni o'r net ar haner
dydd, fel gerllaw Damascus ; — nid daeargryn ar haner nos, fel
yn Philippi, — ydynt; ond Mab y dyn yn myned heibio, mewn
dull cyffredin, ac yn dywedyd, "Dilyn fi," nes y mae y dollfa
yn cael ei gadael mor llwyr gan Matthew, ag y gadawyd yr
erlid gan Saul. Nid oes dim yn y golwg i beri i'rlliawsddyfod
ynghyd, fel yn Jerusalem ar ddydd y Pentecost. Nid oes yr
Gorilchioyîuiethau Dino, ac ytnddygiadan dyn. 669
un arddangosiad cyhoeddus gydà hwynt, fel yn Ephesus, pau
losgwyd y Uyfrau ; ac eto y mae yr uu effcithiau yn eu dilyu
ag oedd yn Jerusaleni ac Ephcsus.
Gwneuthur pethau anghyffredui mewn dnîl cyjfredin y
byddai Mab y dyti. Mab y dyn oeud Efe yn nnll y weithred,
ond Mab Duw ydoedd yn y weitì.red ei hun. Yr oedd y
weithred yn ddwyfol, ond yr oedd ei gwisg hi yn ddynol. Yr
oedd y weithred yn ddieillir a mawr, ond yr oedd y wisg ya
gyffredin a diaddurn. Yr oeud. y weithred yn dcilwng o'r byd
arall, ond yr oedd ei gwisg hi yn dwyn delw salw y byd hwn.
Porthi miloedd âg ychydig djrthau, — pwy ond Duw a allasai
wneyd hyny ì Ond gwnaeth raor debyg i dtlyn, fel mai prln y
meddyliodd y dyrfa fod dim byd dieithr yn cynieryd lle. Troi
y dwfr yn win,— gwaith Duw ; îe, ond y mae gwisg Mab y dyn
am dani, — prin y mae neb wedi meddwl fod dim hyncd yn y
peth. Dywedyd, " Bydd lân," wrth y gwahanglwyfus, nes y
mae y gwahanglwyf yn cilio fel y tywyllwch o iLien y goleuni ;
ond y mae dwyfoldeb y weithred yn cael ei guddio i fesur gaa
y wisg ; oblegid, onid ydyw wedi dywedyd mor dcbyg i'r naill
ddyn yn cyfarch un arall ar y ffordd ? Wele efe yn wylo wrth
fedd ei gyfaiU fel dyn tyner, a chyn i'r deigryn orphen disgyn
oddiar ei rudd, yn dywedyd gydà'r llais addfwyn ag oedd
newydd fod yn cysuro Mair, ond yn unig ei fod dipyn yn uwch,
*'Lazarus, tyred allan," fel pe buasai y naill gyfaiU yn galw y
llall o'r tŷ, i hys'oysu rliyw beth iddo. Mor ddynol oedd gwisg
y weithred! mor Ddwyfol oedd hi ei hun ! y Duw tragywyddol
oedd yno yn gwneyd peth anghyffredin raewn dull c^'ffredia.
A dyna fel y mae yn gweithio yn awr. Duw ydyw yn ei
weithred, ond dyu yn y wisg. Nid ydyw ffenestri y nefoedd
yn cael eu hagor i dywallt gwlaw mawr ei nerth, ac eto y mae
ein daear sech ni yn cael ei hadnewyddu mewn modd nas
gwyddom ni. Nid oes yma ddim twrfyny gynulleidfa; ac
eto y mae rhinwedd yn dyfod o rywle y!\ y distawrwydd yma
sydd yn peri i ysbryd gwendid gilio o ganoedd. Nid cedd dim
defodau dieithr wedi eu harfer gydà'r cleifìon gwahanol yna, — ■
y tyngwyr, y meddwon, y pechaduriaid cyhoeddus ; ac eto y
mae aml un o honynt yn myned yn iach, nas gwyddant yn
iawn pa fodd. Ni wnaethant ddim, oud ceisio plygu i gyngor
670 Goruchwyîiaethan Diiu\ ac ymddygiadau dyn.
syml a gawsant gan îesu o Nazareth ; ac ar y íFordd, wrth
wneyd hyny, er eu syndod, dechreuasant fyned yn làn. Duw
yn gwneyd pethau anghyffredhi mewn dull cyffredin. Ni a
allwn nodi, —
II. Nid oes yr un o oruchwyiiaethau Duw nad ellir cael
rhywbeth i'w ddywedyd yn ei herbyn. Yr oedd loan a Mab
ydyn wedi dyfod oddiwrth Dduw, ac eto dywedai y bobl fod
cythraul gan y naill, a bod y Ilall yn ddyn glwth ac yn yfwr
gwin. Ar y cyntaf, cydnabyddid y ddau wedi dyfod oddiwrth
Dduw; aeth y wlad yn Iluoedd ar ol y ddau ; ond pan ddech-
reuodd eu hathrawiaeth eu condemnio hwynt, newidiasant eu
barn. Y mae pob peth dwyfol yn cyraedd nôd y mae yn rhaid
naill ai plygu iddo, neu ynte, i gael mynwes dav\'el, geisio tòri
€Ì garacter. Ac nìd peth anhawdd yw cael rhywbeth i'w
ddywedyd yn erbyn pob peth dwyfol. Y mae Duw yn gadael
île i hyny, i brofi dynion. Mor hawdd oedd gwneyd allan fod
cythraul gan loan ; oblegid onid oedd dynion yn byw mewn
lleoedd anial felly y pryd hwnw, gan feddwl twyllo y bobl yn
fwy effeithiol trwy hyny ? A thybid hefyd fod cythreuliaid yn
rhodio mewn Ileoedd sychion felly; ac yr oedd cythreuliaid yn
meddianullaweriawnoddynion arypryd hwnw; acmornaturiol
oedd meddwl mai un felly oedd loan, — dyn anhyblyg, amddifado
deimladau y ddynoliaeth ; — rhaid, meddent, fod cythraul ganddo,
oblegid pwy oV hen brophwydi a fu yn debyg i hyn ? Onid
oedd Ezeciel, a ddatguddiodd bethau mor ddie thr, yn offeiriad,
ac yn byw gydà'r gaethglud ar làn afon Chebar? Onid oedd
Jeremiah y mwyafo'r prophwydi, yn byw gydà'r bobl ? Ac
am Elias, y mwyaf anghymdeithasgar o'r holl hrophwydi, yr
oedd efe yn debycach i ddynion eraill na hwn. " Y mae
cythraul ganddo."
Nid peth anhawdd oedd cael Ilawcr i'w ddywedyd yn erbyn
Mab y dyn. Nid oes ynddo ddim hynod : y mae yn bwyta ac
yn yfed fel dyn arall : îe, meddent, onid ydyw yn gyfaill i
bublicanod a phechaduriaid ; gan hyny, dyn anllythyrenog, heb
gael dygiad da i fyny ydyw; ac y mae yn eglur mai dyn isel,
heb barch iddo'i hun ydyw, oblegid fe oddefodd i bechadures
olchi ei draed yn nhŷ Simon ; ac fe aeth i mewn i dŷ Zacheus
y publican, i fwyta bara ; ac y mae'r gair wedi cerdded, er na
Gonichtuyh'aeíhau Dnio, ac ymddygiadaîi dyn. Gjî
wyddom ni pa fodd, oblegid nid ydym eto wedi cyfarfod â neb
a'i gwelodd felly, ond y mae y gair yn dew acyn aml, ei fod yn
"ddyn glwth ac yn yfwr gwin."
Pan y mae dynion o dan ddylanwaci ymweliadau anghyffredin
Duw, fe ddywedir, " Llawn o win melus ydynt ;" cael eu cyn-
hyrfu y mae y bobl ieuainc, a'r bobl dymerog, gan zel y
pregethwr i fyned at grefydd ; ond rhaid mai nid oddiwrtli
Dduw y mae peth fcl yna, oblegid awdwr trefn yw Duw, a pha
beth bynag a wnel Duw, fe fydd hyny byth ; ond am y Iluoedd
yna, byddant yn sicr o adael crefydd. Dyna ddynion yn myned
yn Iluoedd at grefydd heb gynhyrfiad mawr ar y meddwl ; oh,
am y rhai yna, nid oes dim arnynt ; wedi blino ar y dollfa yr
oedd Mathew, onide nid aethai i ddilyn yr lesu ar haner gair :
pe buasai ysbrydion aflan wedi eu bwrw allan o hono, fel hwnw
ymysg y beddau, ni buasem yn rhyfeddu ei fod yn myned ar ei
ol ef ; ond myned ar ol yr lesu heb ddim ond gair cyffredin,
" Dllyn fi," yn ei gymell, nid oes bosibl fod dim oddiwrth
Dduw ar ddyn fel yna. Dyna ymweliad dieithr, ac un cyffredin ;
ond y mae dynion yn dywedyd, — cythreulig yw y naill, a
daearol ydyw y llall. Nid ydyw pethau Duw i'w barnu
wrth eu gwisg. Yr oedd y Tabernacl a'r Deml yn dra
gwahanol oldiallia ; y naill yn Uwydaidl, a'r llall yn olldog
ogoaeddus ; ond yr oedd y Shechinah, er hyny, yn nghysegr
sancteiddiolaf y ddau. O.id mor hawdd fuasai i'r wisg arwain
u-i i ddywedyd, Gai ei fod yn y babell, mai rhyfyg oedd
meddwl am dano i adeilad hardd fel y deml; neu, Gan ei fod
*yn y deml, mai anfri arno oedd meddwl iddo breswylio erioed.
mewn lle Ilwydaidd fe! y babell. Nid yw Duw yn talu cymaint
o sylw ag yr ydym ni yn ei feddwl j[ wisg pethau : disgyn
weithiau ar Sinai, bryd arall ar Sion. Bernwch Ef wrth olion
ei draed, nid wrth y wisg. Os gwnewch chwi hyny, chwi a
welwch mai brysg traed Duwdod sydd ar Sion fel ar Sinai. Ni
a welwn drachefn, —
III. Mai hanfod gwrthryfel yn erbyn Duw ydyw peidio
ymostwng i'r peth sydd ar y pryd, ond ceisio rhywbeth arall ya
ei le. Y mae dyfnderoedd Satan yn hya. Y mae yn cuddio y
gwrthryfel à gwisgoedd ymweliadau Duw; — yn rhoddi gwedd
o barchedigaeth i Dduw ar elyniaeth y galon. Buasai y
6/2 Goníchu-yh'aeîliaii Diin'^ ac ymddygiadau dyn.
fcobl hyn yn tramgwyddo pe yr awgrymasid iddynt mai
gelynion i Bduw oeddent, ac niai hyny oedd y rheswni pahani
yr oeddent heb ymostwng. Tybieat am danynt eu hunain,
niai rhai yn aros i gael amlygiad sicr o'i ewyllys oeddent ; ond
am loan a Mab y dyn, yr oedd y nai-ll yn rhy gyflFredin, a'r
ilall yn rhy anghyfFrediu, i fod wedi dyfod oddiwrth Dduw'.
Hanfcd gwrthryfel ydyw ceisio rhywbeth heblaw y peth sydd.
Y mae yma bawb am ymostwng i Dduw, ond bod eisiau rhyw-
beth heblaw y peth sydd yn awr i hyny ; — amser arall, am-
gylchiadau eraill, a chymeliiadau eraill. Y mae ar lawer eisiau
aìiiser arall. Am wasanaethu Duw, y mae liyny yn beth di-
•ddadl : ond y mae tipyn o ddadl rhyngwyf âg Ef, medd y dyn,
ynghylch yr amser i ddechreu. Yr wyf Avedi cydsynio am y
cyHog a phobpeth, ond yn unig fy mod i a'm meistr ddim yn
cydsynio am yr amser i mi fyned i'm lle. " Na thwyller chwi:
ni watwarir Duw." Hanfod gwrthryfel yw ceisio rhywbeth
heblaw y peth sydd.
Y mae ar eraill eisiau amgylchiadau gwahanol. Nid oedd
yr un o'r rhai a wahoddwyd yn y ddanieg i swper y brenin yn
meiddio dywedyd nad oeddent yn teimlo parch iddo. Buasai
ar lawer cytrif yn dda ganddynt fyned i'r wledd : mor foesgar
yr oeddent yn ymesgusodi : yr anffawd oedd, i'r brenin wneyd
y wledd ar adeg anghyfleu? iawn ; pe buasai hi wedi ei gwneyd
ychydig yn gynt, cyn iddynt fyned i'r drafîerth, neu wedi
■ei hoedi nes y buasai y cyntaf wedi profi yr ychain, yr ail wedi
gweled ei dyddyn, a'r trydydd wedi trefnu ei dŷ, daethent
yno yn llawen ; ond yr oedd yr amgylchiadau ar hyn o bryd A
y ífordd. " Na thwyller chwi: ni watwarir Duw." Hanfod
gwrthryfel yn erbyn Duw ydyw peidio ymostwng i'r peth
sydd ar y pryd,ondceisio rhywbetharall yn ei le.
Neu dyna sydd eisiau : cymelhadau eraiU ar y iDcddwl, —
eisiau i'r Brenia anfon gweision dipyn anrhydeddusach ataf. Y
mae myned i'r nefoedd yn beth mor fawr ; — tiì ddylaswn gael
mwy na hyn i'm cychwyn yno. Wel, pe buasittiwedi dy roddi
yn y carchar ar gam, fel Paul yn Phillipi, ac heb nemawr
bery'gl arnat, ni buaswn yn synu dy weled yn gomedd myned
allan fel yntau, nes cael rhyw un anrhydeddus iawn i dy
arwain oddiyno, — rhyw angel mawr, ncu scraph tanllyd ; ond
Goriich'wyliaethaií Diiw, ac ymddygiadait dyn. 673
gan dy fod di yna yn gyfiawn, ac mewn perygl o golli dy enaid,
y mae yn syn pa fodd na wrandewit ar y gwas lleiaf, y cy-
mhelliad gwanaf, a allai ddangos y ífordd i ddianc. Fe wran-
dawodd Paul ar lais Ilanc, yn ngharchar Jerusalem, am ei fod
yn gweled y gallai ei arwain o afael angau sicr. " Na thwyller
chwi : ni watworir Duw." Hanfod gwrthryfel ydyw ceisio
rhywbeth heblaw y peth sydd. A phe caech chwi y pethau yr
ydych yn eu ceisio, y mae yr ysbryd yna, sydd yn beio ar yr
amser a'r amgylchiadau presenol, yn un a wnai hyny ar bob un
arall ; oblegid dyma eiriau y Gwirionedd ei Hun ar y peth: — "Oni
wrandawant ar Moses a'r Prophwydi, ni chredent chwaith pe
codai un oddiwrthy meirw." Ni a welwn yma unwaith eto, —
IV. Fod pob goruchwyliaeth tuag atom wedi ei threfnu gan
ddoethineb ddwyfol ; ac y mae y ffaith fod rhai yn plygu
iddynt yn profi hyny, neu yn cyfiawnhau doethineb, ac yn
condemnio y rhai sydd heb wneyd. Nid damwain yw dim
sydd yn eich cyfarfod, ond trefniad y Duw doeth : nid y Pen-
Arglwydd, ond y Duw doeth. Doethineb ydyw trefnu pethau
yn y duU tebycaf i gyraedd yr amcan mewn golwg; ac nis
gallasai doethineb Duw ddim trefnu pethau yn well nag y
maent, i'ch cael chwi i blygu iddo. Y mae wedi trefnu lleoedd
eich preswylfod fel y ceisiech yr Arglwydd, ac wedi cyfaddasu ei
oruchwyliaethau at eich amgylchiadau, ac at ffurf eich meddyl-
iau chwi. Ond y mae doethineb y drefn yn dyfod i'rgolwg, —
I. Yn mod y drefn wedi ei chyfaddasu fel ag i roddi lle i ni
wrthod neu ddewis. Peth o ddewisiad yw myned i'r nefoedd ;
a pheth o ddewisiad i bawb yma fydd myned i uffern, os yno
yr ewch chwi. Pe buasai y cymhelliadau yn wanach a'r am-
gylchiadau yn wahanol, ni buasai yn briodol dywedyd fod y
peth ar dy ddewis di. Pe buasent yn llawer cryfach, buasent
yn dy orfodi ; ac ni fỳn Duw neb i'w wasanaethu, ond ewyllys-
garyddion. Fe farnodd Moses ddirmyg Crist yn fwy golud na
thrysorau yr Aipht. Ni welodd ond ychydig o daledigaeth y
gwobrwy; ond fe welodd ddigon i eistedd mewn barn ar y
ddau wasanaeth ; ac wedi gwneyd hyny, fe ddewisodd yr adfyd.
Yr ydych chwithau wedi cael digon i eistedd raewn barn ar y
ddau wasanaeth ; — digon i roddi lle i ddewis, neu i wrthod.
Er mai o ras y mae cadw, nid yw hyny yn dinystrio eich cyf.
rifoldeb chwi : chwi a gewch eich dewis.
Rhan 2. Ail GyfroL H3
674 Gorîichwyliaethau Duw, ac ymddygiadaii dyn.
2. Y mae y drefn yn profi beth sydd yn ein calonau ni. Yr
oedd y segurwyr oeddent wedi sefyll ar hyd y dydd yn y farch-
nad, yn ceisio rhoddi y bai o hyny ar eraill. " Ni chyflogodd
neb ni," meddent ; ond y gwir oedd, nid oedd arnynt fawr
awydd am waith, oblegid yr oedd Arglwydd y winllan wedi
bod yno bedair gwaith o'r blaen, ac wedi dywedyd, " Ewch i'r
winllan," wrth bawb oeddent yno. Ond yr oeddent hwy yn
disgwyl iddo ddyfod atynt i setlo y cyflog. Ni wnaeth hyny
â neb wedi y tro cyntaf; ond bu raid iddynt fyned heb glywed
dim ychwaneg nag a glywsant ar y drydedd a'r chweched awr
Pe buasai yn dda ganddynt gael gwaith, ni buasent yn aros
cyhyd. Ai nid ydyw yr holl segura, sydd yn y fan yma, yn
profì nad ydyw yn dda genych waith y winllan ? O na ; y mae
yn dda genyf am y gwaith, medd y dyn, ond bod arnaf eisiau
dyfod i ddealltwriaeth clir am y cyflog. Wel, y mae eraiU wedi
myned heb glywed dim ychwaneg nag a glywaist ti: bydd y
rhai hyny oll yn c^^fiawnhau doethineb y drefn, ac yn condemnio
pawb fyddant heb ymostwngiddi ; — yngwneyd yn amlwg blant
Duw a phlant diafol.
Pobl wedi cael pob goruchwyhaeth oedd y rhai y llefarwyd y
testyn wrthynt ; ond pobl yr oedd tân Sinai wedi methu eu
dychrynu, a gwlith Sion wedi methu eu hystwytho ; pobl yr
oedd loan, y mwyaf o'r prophwydi, wedi llafurio yn ofer yn eu
pUth, a phobl yr oedd dagrau ac erfyniau Mab Duw ei Hun wedi
bodyn ddieffaith arnynt. Wel, beth am danynt ? Tri gair a'u
darlunia bellach : — daear anghymeradwy ; agos i felldith;
diwedd yr hon fydd ei Uosgi. Anghymeradwy ^ — cânt lonydd
gan loan a Mab y dyn, a chan bawb. Addfedant wed'yn yn
gyflym i felldith^ a chymerant dân ryw ddiwrnod. Ai dyma
fydd y diwcddì hen wrandawyr efengyl yn y fan yma ì Duw
y nefoedd yn ysgrifenu arnynt, " Anghymeradwy." Cei lonydd
gan loan a Mab y dyn wed'yn, — gan bob adnod o'r Bibl, — gan
bob pregeth, — gan Lob tro yn rhagluniaeth y Nefoedd. Fe
dawela dy awyrgylch di yr un fath ag y mae yn tawelu cyn yr
ystorm daranau, ond bydd y tawelwch yna yn brawf fod y
felldith wrth y drws; y mellt tanllyd fydd yn rhoddi diwedd
ar yr oll gerllaw. Plygwch i Fab y dyn !
[Dydd lau, Mai 24, 1859 ]
PREGETH XLIL
P\VYSFAWRAWGR\VVDD CADWEDIGAETH.
AcTAU XVI. 30: — "0 feistriaid, beth sjdd raid i mi ei ■wneuthur, fel y
bj'ddwyf gadwedig-."
RIODOL y dywedodd y Salmydd, fod " ffyrdd Duw
yn y mòr, a'i Iwybrau yn y dyfroedd mawrion," a
bod "cymylau a thywyllwch o'i amgylch Ef." Ond
y mae yn cyraedd ei amcanion drwy bob tywyllwch, ac er holl
fwriadau calon dyn, ei gyngor Ef sydd yn sefyll ; — mỳn ei fol-
ianu hyd yn nod gan gynddaredd dyn. Gwelir hyn yn cael ei
wirio yn egluj yn hanes ryfedd y benod hon. Yr oedd y
cymylau a'r tywyllwch yn dew iawn o amgylch yr orsedd, y
prydnhawn cyn llefariad y testyn ; ond ar haner nos fe chwal-
odd y cymylau, ac fe oleuwyd y tywyllwch, i ni gael gweled
mai cyfiawnder a barn ydyw ei sylfaen hi. Y mae rhagluniaeth
er y dechreuad wedi bod yn wasanaethgar i iachawdwriaeth, er
fod yr olwynion yn ymddangos fel pe byddent yn troi weithiau
yn erbyn hyny. Nid ydynt felly mewn gwirionedd ; ond y
mae ei phob peth hi yn cydweithio ymhlaid yr un daioni
cyffredinol ag iachawdwriaeth. Y mae, yn gyffredin, amser
maith yn Gfynol i ni weled hyny. Bu caethiwed yr Aipht yn
hir yn ei esbonio ei hun ; ond yma y mae rhagluniaeth yn ei
hesbonio ei hun yn gyflym. Rhwymau corfforol Paul a Silas
fuant, yn llaw Ysbryd Duw, yn foddion i ddatod rhwymau ys-
brydol ceidwad y carchar a'i deulu.
Y mae yr hanes yma yn rhoddi golygfa drom i ni ar sefyllfa
foesol y byd. Onid ydyw yn beth tra dieithr fod pob peth ond
gwirionedd yn cael rhwydd hynt ynddo ? Ond er cwymp
Eden, amcenir ymhob dull alltudio pob gwirionedd o hono. Pe
676 P^nysfawrawgrwydd Cadwedigaeth.
buasai Paul yn cyhoeddi rhyw gyfundraeth newydd o dwyll,
tra thebyg ydy w y buasai yn cael llonydd ; ond am mai y gwir-
ionedd aV unig wirionedd hefyd oedd ganddo, cafodd ei drin
yn arw. Y mae hyn yn dangos i ni nerth y llygredigaeth sydd
yn y galon ddynol. Y mae hi yn caru y tywyllwch yn fwy
na'r goleuni.
Y mae yr hanes yma yn dangos i ni hefyd, fod y Duw mawr
yn myned allan o'i drefn gyffredin, weithiau, i ddyfod o hyd i
wrthddrychau ei gariad. Argyhoeddwyd Paul a cheidwad y
carchar trwy wyrthiau. Y mae gwyrthiau yn cael eu gwneyd
i ddibenion penodol : ac er nad ydyw yn amlwg beth oedd diben
uniongyrchol y wyrth hon yn Phihppi, y mae yn sicr iddi ateb
diben mawr a chyíTredinol. Ond y mae yn hynod am y
gwyrthiau hyn, paham na buasent yn foddion i argyhoeddî
mwy. Nid oes lle i gasglu i neb ond Paul ei hun gael ei argy-
hoeddi gan y wyrth ar y ffordd i Damascus ; ac yma ceidwad y
carchar a'i deulu yn unig a ddychwelwyd. Moddion mawr ar-
gyhoeddiad ydyw gair y gwirionedd ; os na etyb hwn y diben
hyny, tebyg ydyw na etybdim arall. Gwelodd yrhai oeddent
gyda Paul y goleuni ; ond efe yn unig a argyhoeddwyd.
Gwelodd y carcharorion yr un peth a cheidwad y carchar ; ond
iddynt hwy yr oedd y gweled yn ofer. Ond os ychydig a
argyhoeddwyd drwy y gwyrthiau, argyhoeddwyd pum' mil
trwy'r gair ar ddydd y Pentecost. Felly am bob un y mae
goruchwyhaethau dieithr rhagluniaeth yn ei ddeffroi, y mae
yr efengyl yn troi canoedd. A rhyfyg mawr ydyw myned
ymlaen mewn pechod gan ddisgwyl i wyrthiau ein hatal, fel
yr atahwyd Paul a cheidwad y carchar ; oblegid, er fod llawer
yn yr un pechod a Phaul, efe yn unig a achubwyd. Yr oedd
swyddogion Phihppi wedi bod yn euog o fwy pechod na
cheidwad y carchar ; ond yr olaf a gymerwyd ; — gadawyd y
rhai cyntaf. Os ydyw trugaredd, weithiau, yn rhagor amlhau^
lle yr amlhäodd pechod, y mae barn yn amlach yn dilyn am y
pechod. Nid ydyw gras a phechodau rhyfygus ddim yn an-
wahanol gysylltiedig ; ond y mae barn, a phechodau rhyfygus,
wedi eu cysylltu mor agos, fel mai yn anaml iawn yr ysgarir
hwynt. Y mae geuymfeal/ai am y cyntaf ; ond y maegenym
bron sicrwydd dsa yt olaf. Er i'r pechadur hwn gael ei argy-
Pwysfawrawgricydd Cadwedigaeth. 077
hoeddi allan o'r drefn gyffredin, eto yrunpeth ydy w argyhoedd-
iad drwy bob moddion. Beth bynag fo y moddion, yr un yd^^w
y teimladau a gynyrchir yn mynwes y pechadur. Argyhoedd-
wyd yr luddewon ar ddydd y Pentecost trwy'r gair : argy-
hoeddwyd ceidwad y carchar trwy wyrth. Ond i'r un man y
dygwyd hwynt gan y naill a'r lldil. '' Ha w}'r frodyr, beth a
wnawn ni ?" meddai cynulleidfa dydd y Pentecost: "O feistr-
iaid, beth sydd raid i mi ei wneuthur, fel y byddwyf gadwedig ?"
meddai ceidwad y carchar. Y mae y ddau gwestiwn yn ar-
ddangos yr un teimlad. Yn awr ni a gawn chwilio pa beth sy
gynwysedig yn y cwestiwn hwn. Y mae y tri pheth hyn i'w
gweled yn amlwg ynddo.
I. Y mae yn rhag-dybied fod perygl yn bod. IT. Y mae yn
cynwys fod bod yn gadwedig yn beth mawr. III. Y mae yn
golygu fod bod yn gadwedig yn beth posibl.
I. Y mae y cwestiwn yn eglur ddangos fod y neb a'i gofynodd
yn canfod perygl yn bod. Y mae y perygl yr un mor fawr i
bawb, er nad oes ond ychydig yn ei ganfod ; ond y mae perygl
y rhai sydd heb ei ganfod, o gymaint a hyny yn fwy. Y mae
sefyllfa y pechadur argyhoeddedig yn gyffelyb i'r morwr effro,
ar ben yr hwylbren, yn nghanol yr ystorm ; — y mae ei berygl
ef yn fawr ; — ond y mae y llall yn gyffelybi'r morwr yn cysgu,
yn yr un lle ; — y mae perygl hwn yn fwy o lawer. Y mae yr
argyhoeddedig yn gyffelyb i'r claf yn teimlo gloesion y clefyd ;
ond y mae y llall yn gyffelyb i un yn ngafael yr un clefyd, yn
ddideimlad. Y mae gloesion y cyntaf, yn arwydd er daioni ;
ond y mae dideimladrwydd yr olaf, yn brawf nad ydy w angau
nebpell oddiwrtho.
Y mae perygl sefyllfa pechadur yn gynwysedig. i. Yn ei fod
yn ddeiliad deddf ; 2. Y modd y mae rhyngddo â'r ddeddf
hono ; — ac yn 3. Yn y berthynas sy rhwng y ddcddf à Duw.
I. Y mae dyn yn ddeiliad deddf. Y mae natur y ddeddf
hono yn effeithio ar y troseddau ; oblegid y maedrwg anufudd-
dod yn cyfateb i gyfiawnder a daioni y ddeddf y mae yn drosedd
o honi. Y mae yr apostol wedi rhoddi disgrifiad perffaith o
natur y ddeddf y mae dyn wedi ei throseddu, yn y tri gair, —
sanctaidd, cyfiawn, a da : — yn sanctaidd, sef yn hollol wrth-
wynebol i bechod ; yn gyfiawn, sef wedi ei sylfaenu ar yr hyn
678 Pwysfaurnwgrwydd Cadwedigneíh.
sydd uniawn, ac a ddylai fod ; — yn dda, sef wedi ei bwriadu i
ddwyn o amgylch ddedwyddwch penaf y greadigaeth, ac y mae
yn sicr o hyny. Pe buasai ei sancteiddrwydd, ei chyfiawnder,
a'i daioni yn llai, buasai y troseddau o honi yn llai pechadurus;
ond gan ei bod hi mor sanctaidd, mor gyfiawn, mor dda, ag
ydyw Duw, y mae anufudd-dod iddi i'w fesur wrth sancteidd-
rwydd, cyfiawnder, a daioni y Duwdod ei hun. Nid ydyw y
ddeddf hon ond amlygiad, mewn geiriau, o'r hyn ydyw natur
Duw. Y mae y gwahaniaeth hwn rhyngddi â deddfau y ddaear :
y mae y rhai hyny yn bethau ar wahan cddiwrth y rhai sydd
wedieu gwneuthur, — amlygiado'uhewyllysydynt,nido'u natur;
am hyny gellir eu cyfnewid a'u troseddu, heb y perygl mwyaf,
am y gellir cyfnewid ewyllysy neb a'u gwnaeth. Ond nid oes
gan y ddeddf hon fôdolaeth ar wahan oddiwrth yr Hwn a'i
gwnaeth. Nid ar ei ewyllys y maeyn ymddibynu : deddf ei natur
ydyw. Am hyny y mae troseddau o honi, nid yn unig yn dros-
eddau yn erbyn ewyllys Duw, o-nd yn erbyn ei natur, — yn
erbyn yr hyn ydyw Duw ; am hyny, heb iddo wadu ei Hun,
ac y mae hyny yn anmhosibl, nis gaîl beidio a'u cosbi.
Ond pe gallem ni feddwl am y ddeddf ar wahàn oddiwrth y
Deddfroddwr, ni a welem drachefn ein sefyllfa yn dra pher-
yglus ; oblegid y mae hi, nid yn unig yn ddeddf natur Duw,
ond yn ddeddf natur dyn ; ac fel y cyfryw, y mae pob trosedd
o honi yn drosedd yn erbyn ein natur ni ein hunain. Y mae
ftll/, o angenrheidrwydd, yn ddinystr iddi hi. Y mae pob
pechod yn ei natur yn difa dedwyddwch. Nid ydyw ei fod yn
gyd-íîurf âg ewyllys pechadur ddim yn ei atal rhag bod yn
ddinystr iddo. Er fod y meddwyn yn ymddwyn yn ol ei
ewyllys, y mae meddwdod yn ddinysír i'w natur. Y mae pob
pechod yn ddinystr i'r enaid, mor sicr a bod meddwdod yn
ddinystr i'r corfF. Dinystr araf ydyw; ond y mae yn ddinystr
sicr. Felly, pe na buasai Duw i amddiffyn y ddeddf a roddodd,
ac i weinyddu ei dedfryd, am ei bod hi yn ddeddf ein naîur, y
mae hi yn ei hamddiffyn ei hun. Y mae y gosb yn y trosedd.
Nid rhaid with ddim i ddinystrio y peiriant, ond gadael iddo
droi fel y mae yn awr ; y inae yr olwynion yn dinystrio eu
gilydd ; a'r achos pahain y maent yn parhau i fyned cyhyd
yma ydyw, am fod Duw yn dyferu olew ei drugaredd arnynt.
Pwysfaurawgì'tcydd Caducdigaeih. 679
Y mae pechodyn yr ystyr hwn â'i ddiwedd yn farwolaeth : hwn
ydyw y nôd y mae yn cyrchu ato. Y fath olwg sobr ydyw hon
ar ein sefyllfa fel cynulleidfa — ein bod yn ngafael peth nad all
lai, oherwydd ei natur ef, a'n natur ninau, na'n llwyr ddinystrio-
Y mae ê wedi dwyn ein serch, — nis gallwn ymryddhau oddi-
wrtho ; ac eto wrth ei garu, yr ydym yn caru angau. " Fy hoU
gaseion agarant angau." Er mai cam à'r enaid ydyw pechod,
y mae wedi myned yn ail natur i ni ; ac y mae yr ail natur yn
dinystrio y gyntaf.
2. Y mae yn angenrheidiol tuag at i ni weled perygl ein
sefyllfa, i ni ystyried pa fodd y mae hi yn sefyll rhyngom ni â'r
ddeddf. Y gwir am hyn ydyw, ein bod ni yn ei golwg hi oll
megis peth aflan ; ein natur ni yn bechod ; ein meddyliau yn
bechod ; ein geiriau a'n gweithredoedd yn bechod. Y mae hi
yn ysgrifenu, " aflan, aflan," ar y cyfan. Cosbir drwgweith-
redwr am un trosedd ar y ddaear; ond nid yw ein holl oes ni,
ond un pechod mawr. Barn y ddeddf am danom ydyw, nad
oes dim da yn trigo ynom. Y mae pob gweithred yn bechod,
a phob pechod yn un raawr. Nid ydwyf yn dywedyd nad oes
teimladau tyner yn y fynwes, ac nad oes gweithredoedd da, yn
ystyr y ddaear o'r gair, yn cael eu cyflawni gan lawer sydd
yma. Nid wyf yn meddwl eich cyhuddo o fcddwdod, — o
aflendid, — neu o ladrad : diau ydyw fod llawer o honoch yn
cyflawni holl ddyledswyddau y ddaear, yn ffyddlawn a manwl,
a'ch bod yn barchus ymhob cylch yr ydych yn troi ynddo.
Ond dengys y Bibl nad oes yr un weithred yn gymeradwy
gerbron Duw, os na bydd hi yn tarddu oddiar egwyddor o
gariad at Dduw. Os felly, pa beth yn ngolwg y ddeddf ydyw
cymeriad eich holl weithredoedd da? onid beddau wedi eu
gwyngalchu ydynt? Onid cyrff meirw wedi eu gwisgo yn
nillad y byw ? grudd welw-lâs angau, wedi ei phaentio àg
ychydig o liwiau bywyd ? O'u mesur wrth safon y byd hwn,
y mae rhai o'n gweithredoedd yn uwch, a rhai yn is ;— o'n
cymharu à'n gilydd, y mae ychydig wahaniaeth rhyngom ;
ond yn ngolwg deddf, nid oes dim ; o dan standrd y byd
arall, nid oes neb na mwy na llai yn y gynulleidfa. Y mae
mynyddoedd y ddaear, yn eu perthynas â'u gilydd, a chryn
wahaniaeth rhyngddynt. Y mae y Gader Idris yn uchel o'i
68o Pwysfawrawgì'uydd Cadwedigaeth.
chymharu â rhai o'r bryniau amgylchynol ; ond nid ydyw y
gwahaniaeth sydd rhwng y mynyddoedd uchaf a'r rhai iselaf
yn werth sôn am dano yn eu perthynas oll â'r haul. Os ydyw
y Gader ychydig ganoedd o droedfeddi yn uwch na rhyw fryn
sydd yn ei chymydogaeth hi, y mae pymtheg a phedwar ugain
o filiynau o filldiroedd rhyngddi hithau â'r haul. Beth yw
ychydig latheni yn werth sôn am danynt 'mewn pellder mor
fawr.? Ond y mae pellder anfesurol mwy rhwng yr uchaf
mewn rhinwedd, yn ei gyflwr natur, â Duw. Y mae y
gwahaniaeth sy rhyngddo â'i gyd-ddynion yn myned yn ddira
yn ymyl y fath bellder. " Fel deilen y syrthiasom ni.oll :" y
mae yr un faint rhwng pawbâ'r nefoedd. Er bod mynyddoedd
o gylch pum' milldir o uchder ar y ddaear, eto y mae hi yn
goríF mor fawr, fel nad ydynt yn ei hatal hi i fod yn gron. Pe
byddai un o drigolion y bydoedd wybrenol yna yn edrych arni,
ni ataliai y mynyddoedd uchel sydd ar ei hwyneb ddim iddi
ymddangos yn globe iddo ef. Felly, os oes yma ychydig o
weithredoedd da yn dyrchafu eu penau fel mynyddoedd ar y
ddaear, eto nid ydynt yn cyfnewid dim ar ffurf ein byd ni yn
ngolwg y ddeddf ; — globe o annuwioldeb ydyw. Nid oes yr un
rhinwedd o'i fewn yn ddigon uchel i'w atal i fod felly. Gan
mai fel hyn y mae pethau 3^ bod, y mae ein perthynas ni â'r
ddeddf yn un ddifrifol i feddwl am daii. Gan fod yr hyn a
ystyriwn ni yn gyfiawnderau, yn ei golwg hi yn fratiau
budron, pa mor ffiaidd raid fod ein pechodau yn ei golwg hi ?
Os oes cymaint rhwng y mynyddoedd a hi ; y mae y dyffryn-
oedd yn bellach fyth. Feallai íod yma rai wedi bod yn ceisio
cadw math o gyfartalwch yn eu meddyliau rhwng eu gweith-
redoedd da a'u rhai drwg, trwy osod y naill ar gyfer y Ilall,
gan ddirgel gredu y byddai daioni y naill yn iawn dros ddrwg
y Ilall. Ond y mae deddf yn eu rhoddi oll yn yr un dosbarth.
Adolygwch eich hanes yn y goleuni hwn. Beth ydyw, onid
un pechod difwlch o'r dechreu hyd heddyw?
3. Y peth nesaf yn ein perygl ydyw, mai deddf Duw ydyw y
ddeddf y mae y berthynas hon rhyngom â hi. A'r un, cofiwch^
ydyw awdurdod deddf, ag awdurdod y Deddfroddwr. Y mae
gan y ddeddf, fel y crybwyllwyd yn barod, fath o awdurdod
ynddi ei hun, am ei bod hi yn ddcddf natur dyn, ond yn
Pujysfuwrawgrwydd Cadwedigaeth. 68 1
ychwanegol at hyn, y mae ganddi awdardod Daw, am ei bod
hi yn ddeddf ei natar yntau : ani hyny, y mae bygythion a
melldithion y ddeddf i'w hystyried yn fygythion a melldithion
Duw. Felly y mae ein perthynas ni â'r ddeddf yn berthynas â
Duw. Yma hefyd y mae pechod yn dwyn ei gosb ei han. Y
mae y sefyllfa y mae yn ein gosod ynddi yn ein ptrthyna> â'n
Creawdwr yn sefyllfa sydd âg angau yn ei hanfod hi. Y mae
pawb sydd ynddi, yn awr yn marwolaeth. Pe na buasai dim
ond pethau nacaol yn perthyn i bechod, y mae yn angau ;
oblegid Daw ydyw pob peth y greadi:^aeth. Beth bynag ydyw
pethau y ddaear a'r wybren i'r greadigaeth ddefnyddiol, y mae
Duw felly i'r ysbrydol. Nid ydyw yr hyn yd^w Duw, trwy
gyfryngau, i'r coríf, ond drych i ddangos yr hyn ydvw, yn
ddigyfrwng, i'r enaid. Rhoddodd haul gweledig i'r corff ; ond
yr oedd Efe wedi meddwl bod yn Haul ei Hunan i'r enaid.
Yr oedd Efe wedi bwriadu i'r corff gael ei gynal gan y ddaear,
ond yr oedd wedi bwriadu yr enaid i fyw arno Ef ei Han.
Rhoddodd y gwlaw a'r gwlith i'r corff; ond yr oedd wedi
meddwl ireiddio yr enaid â'i ewyllys da. Y mae amddifad-
rwydd o'r pethau defnyddiol hyn yn angau i'r corff ; y mae
amddifadrwydd o'r gwrth-gysgod yn angau i'r enaid. Peidied
yr haul â'i oleuo, — na rodded y ddaear fara iddo, — cadwed
costrelau y nefoedd eu gwlith a'u gwlaw, — y mae y corff yn
marw o angenrheidrwydd. Na lewyrched wyneb Duw ar yr
enaid, — dyger ef i'r fath ystâd fel nad all ymgynal ar ei briod-
oliaethau, — nac ireiddier ef â'i ewyllys da, — y mae yntau mor
rhwym o farw. Yn marw y corff, y mae angau fel yn ei ladd
ei hun; — y mae y boen yn difodi y gallu i deimlo ; ond yn
angau yr enaid, wrth farw yr ydym yn myned yn fwy cyfaddas
i farw o hyd ; — bydd y boen yn mwyhau y gallu i deimlo poen.
Hon ydyw ein sefyllfa bresenol yn ein perthynas â'r Deddf-
roddwr ; ac nid rhaid i ni esgyn i'r nefoedd, na disgyn i'r
dyfnder, i chwilio am brofion o hyn. Na, y mae y teimlad oer
annedwydd sydd yn y fynwes, yn brawf digonol nad ydym yn
ymheulo yn mhelydrau y Duwdod; — -y " moes, moes" newyn-
llyd sydd yn yr enaid, yn brawf digonol nad ar Dduw yr ydym
yn byw. A'r achos paham nad ydym yn teimlo y trueni hwn
yn fwy ydyw, am fod genym ychydig o drugareddau Duw fel
682 Pwysfawi'awgru-ydd Cadwedigaeth.
snpplies i ymgynal arnynt. Yn hyn yr ydym yn gyífelyb i'r
rhai sydd yn myned allan i chwilio am y Pegwn Gogleddol : y
mae yn rhaid iddynt hwy fyned â phob peth cynhaliaeth dyn
gyriâ hwynt, — y tân, yr ymborth, a'r dwfr. Y mae yr hin-
sawdd y maent ynddo yn ddigon oer i'w rhewi, ond y mae
ganddynt dân yn y llong. Nid oes yno ddim ar y mynydd-
oedd o iâ tuag at gynal dyn nac anifail ; ond 3^ mae ganddynt
ymborth yn y llong. Ond er hyn nid oes dim yn angenrheid-
iol i'w dwyn hwynt oU i angau, ond iddynt aros yn y wlad
hono am ychydig amser, hyd nes yr ä yr haf byr heibio. Y
mae yr haul yn machlud am íìsoedd wedi hyn, a'r môr yn
rhewi, fel y mae yn anmhosibl myned ymaith oddiyno ; ac yna
y mae y tân, y dwfr, a'r ymborth yn rhwym o ddarfod. A pha
fodd y mae yn bosibl iddynt ochel angau ? oblegid nid yw y
wlad y maent ynddi ddim yn lle a all gynal bywyd ei hunan
am ddiwrnod. Felly yn ngororau oer y gogledd, yr
ydym ninau mewn ystyr ysbrydol : yr ydym yn ym-
ddibynu am ein hoU gysuron ar supphes sydd yn dyfod o
wlad gynhesach na hon. Pe na buasem ni yn cael ymdwymno
wrth wrês trugareddau Duw, buasai yr hinsawdd oer wedi ein
rhewi er ys talm. Pe na buasai yr Arglwydd yn anfon llong
rhagluniaeth i'n gwlad, yn llwythog o'i ewyllys da bob
blwyddyn, darfuasai am danom er ys dyddiau ; oblegid nid all
y wlad yr ydym ni yn byw ynddi gynal ei hun. A'r oll sydd
yn angenrheidiol tuag at wneuthur y farwolaeth ysbrydol yn
un dragywyddol ydyw, i ni aros am ychydig eto yn y wlad yr
ydym ni ynddi wrth natur, hyd nes yr elo ein haf byr ni heibio :
yna fe fachlud ein haul ni, — fe rewa y môr o'n hamgylch, fel
nad all Hong rhagluniaeth ddim dyfod yn agos ini am dragyw-
yddoldeb. Yno, yn nghanol y tywyllwch a'r diffrwythdra, y
mae yn rhaid i ni farw y farwolaeth. Mor druenus ydyw ein
sefyllfa, fel nad oes dim yn angenrheidiol i'n perffeithio mewn
tri eni, cnd i ni beidio symud o'r wlad yr ydym ynddi wrth
natur.
Eilwaith, y mae trueni a pherygl sefyllfa dyn i'w canfod yn
hyn hefyd ; y mae bod ystàd ein meddwl ni at Dduw yr hyn
ydyw, yn rhwym, ond i bethau gael amser i ddyfod o amgylch,
ogynyrchu annedwyddwch i ni o bob man. Niweidied rhyw-
Pwysfawrawgrwydd Cadwedigaetli. 683
beth y galon, neu rai o ranau bywydol y coríF, y mae pob rhan
o hono yn rhwym o deimlo yn fuan. Nid ydyw holl berthyn-
asau y byd hwn, ond pethau bychain sydd yn tarddu o'r
berthynas fawr sy rhyngom ni à Duw, fel y mae bywyd yr
aelodau yn tarddu o'r galon. Yn awr y mae y berthynas hapus
oedd rhyngom ni â Duw wedi ei thori, a dim ond ibethaugael
amser i ddyfod oamgylch, fe dỳr hyny bob perthynas arall ;
cyn sicred a bod cariad Duw wedi ei golH o'rgalon, fegoHir bob
cariad arall yn fuan. Y mae llawer yma na chredant fi, pan
ddywedaf, os parhânt yn y cyflwr y maent ynddo yn awr, y
byddant yn casâu â chasineb perffaith y rhai y maent yn awr
yn eu caru fel eu henaid eu hun ; oblegid y mae bod dyn yn
elyn i Dduw yn sicrhau y bydd ymhen ychydigyn elyn i hoU
greadigaeth Duw. Y mae y naill beth yn gysylltiedig â'r llall,
fel achos ac effaith. Mor wir ydyw hyn, fel y gelHr cymhwyso
pob gair a ddefnyddir i ddangos teimlad dyn at Dduw yn awr,
i ddangos hefyd beth fydd ei deimlad at bob creadur, ymhen
gronyn. Y inae dyn yn awr yn elyn i Dduw ; yn gâs ganddo
Dduw ; — pob meddwl am dano yn ei gythryblu ; — y mae yn ffoi
o'i \vydd, ac yn ceisio ymguddio rhagddo. Nid all ein meddwl
ni ddim amgyffred beth ydyw cynwys y geiriau yn eu perthynas à
Duw; ondgallwnamgyffredrhywbeth o'ucynwysyneu perthyn-
as â chreadur. Felly gall y peth Ileiaf fod yn rhy w help i ni am-
gyffred y peth mwyaf. Beth fyddai cynwys geiriau fel yna yn
eu perthynas â dyn ? Wel, onid ei fod yn gwbl ac yn beríîaith
annedwydd a thruenus ? oblegid y mae holl gysuron y bydhwn
yn tardduo'n perthynas ni â'n gilydd ; cysuron cariad o ryw fath'
ydynt oll. Yr unig bren teg- yr olwg arno, a dymunol ei
ffrwyth, ar y ddaear ydyw cariad. Ond beth pe byddai yr
enwau sydd yn dangos ein perthynas ni â Duw yn briodol i
ddangos ein perthynas ni â'r ddaear, — ein bod yn elynion i
bawb, — yn gâs genym bawb, — pob meddwl am ein cyd-ddynion
yn ein cythryblu, ein bod yn ffoi o'u gŵydd, ac yn ymguddio
rhagddynt ? Pe buasai y ddaear yn baradwys o ran pethau
rhagluniaethol, buasai yr un peth hwn yn ei gwneuthur yn
uffern i'w thrigolion. Ni byddai raid i"r ddaear grynu o dan
eu traed, nag i'r wybrenau adsain twrf y daran, na chael eu
goleuo gan fellt. Ni byddai eisiau yr un haint i rodio yn y
684 Pwysfaivraivgrwydd Cadwedigaeth.
tywyllwch, na dinystr i ddinystrio ganol dydd ; ni byddai raid
i'r cymylau ollwng i lawr genllysg, neu dân a brwmstan, ar y
trigolion ; ni byddai raid cloi y nefoedd am dair blynedd a
haner, neu ei dadgloi hi am ddeugain niwrnod ; — ni byddai raid
troi yr afonydd yn waed, na gorchuddio y meusydd â locust-
iaid, neu â lindys, — i lenwi pob mynwes âg anhapusrwydd.
Na ; llewyrchcd yr haul yn ddigymylau, — tymerer ei wrês gan
awelon pèraroglus, — dyged y ddaear ffrwyth o honi ei hun, —
bydded ei chnwd hi yn deg yr olwgarno, a'i ffrwyth yn beraidd
ei flas : na fydded i'r haul ei charaw y dydd, na'r lleuady nos ;
— rhodder y gwlith iddi wrth fesur, a'r gwlaw yn ei amser ; —
na syched ei hafonydd, ac na lifent dros ei cheulanau ychwaith;
mewn gair, bydded yn baradwys, — bydded yn bob peth y gall
dychymyg y bardd eu dyfeisio, a thafod areithiwr eu darlunio ;
os diwreiddir cariad o fynwes y trigolion, nid rhaid fyddai i neb
drafferthu i ffurfio yr un Tophet iddynt; o dan nefoedd ddi-
gymylau, ac ar ddaear yn Ilwythog o drugareddau, byddent
mewn loesion o drueni. Dyma ydyw ein sefyllfa bresenol ni
yn ein perthynas â Duw ; a dim ond i'r clefyd gael amser i
weithio drwy yr aelodau, dyma fydd ein sefyllfa ni yn ein
perthynas â holl greadigaeth Duw. Y mae pethau heb gwbl
ymwahanu eto ; y mae yr elfenau yn tynu at eu gilydd yn awr,
y mae yn wir, ac ymhen ychydig bydd y gwaith oddidoli wedi
ei orphen. Duw a'r greadigaeth fydd un ochr; a'r pechadur
ei hun y\ ochr arall, yn teimlo yr un fath at bawb. Y
fath sefyllfa yr ydym ynddi, ar wahan oddiwrth yr ystyriaeth
o'r hyn a ddywed y Bibl am dani !
Ond, fel y prophwyd Ezeciel, nid ydym ond yn yr ystafell
gyntafeto. Y mae fíìeidd-dra mwy yn ol, — trueni mwy na
dim a ddywedwyd yn perthyn i gyflwr drwg ; nid ydym wedi
prin edrych arno yn ngoleuni Llyfr Duw: yma ni a welwn
ein bod ni o dan felldith y ddeddf, hyny yw, o dan felldith Duw
ei hunan. Nid oes genym yr un eglurhad i'w roddi ar hyn,
ond dywedyd fod melldith Duw yn cynwys digofaint Duw.
Ond y mae y naill air mor anamgyffredadwy i ni a'r Ilall. Y
mae y digofaint yr ydym yn agored iddo, yn (i.) Yn un mawr;
— (2.) Y maeperthynas rhyngom ni âg ef y foment hon; — (3.)
c y mae yn ddigofaint tragywyddol.
Pwysfawrawgrwyad Cadwedigaeth. 685
(i.) Y mae y digcfaint yr ydym ni yn agored iddo yn un
mawr iawn. Y mae y geiriau a ddefnyddir i'w osod allan yn
y Bibl y rhai cryfaf mewn iaith; ac y maent yn cael eu pen-
tyru i geisio ei ddarlunio. Y" mae yn " IHd mawr," —
"yn ddigofaint llidiog," — "yn ddigter llidiog," — " yn
nerth soriant," — " yn angerdd digofaint," — " yn llid
digofaint," — " yn gynddaredd digofaint," ac yn " greu-
londeb digofaint." Dyma eithafion iaith. Y mae y pethau
y cymharir ef idJynt yn dangos yr un peth : — tân ydyw ;
un o'r elfenau mwyaf dinystriol sydd yn perthyn i'r ddaear
hon, yn gyífredin a ddefnyddir yn y Bibl i ddangos digofaint;
a'r elfen hon hefyd yn ei duU mwyaf arswydus. Dywedir- fod
ei gerydd fel fflamau tân ; ac yn mhellach, y mae yn fflam dàn
ysol ; — ac yn mhellacli eto, y mae y gymhariaeth yn fwy
arswydus fyth : — "ymaeei hd i gael ei dywallt fel tân," — •
"afon danllyd yn dyfod allan oddiger ei fron Ef." I ddangos ei
eífeithiau ar y gwrthddrychau, dy wedir " eu bod yn ei yfed ef
fel gwin ;" ac i ddangos mor ddiamddifiFyn fyddant, dywedir
" y sethrirhwynt yn ngherwyn fawr digofaint Duw." Geiriau
cymhariaethol ydyw y rhai hyn, meddir; — gwir ; ond os ydyw
y gymhariaeth mor ofnadwy, beth raid fod y peth ei hun ?
(2.) Y mae perthynas rhyngom ni âg ef yr awr hon, os yn
ein cyflwr natur. Yr ydym " dan ddigofaint," — "yn blant
digofaint " yn awr ; — " y digofaint sydd ar ddyfod " ydy w y dar-
lun yn y cwmwl ; ond nid yno y bydd byth. " Daeth dydd
mawr ei ddigter Ef," fydd y gwirionedd rywbryd. \ ddedíryd
ydyw hi yn awr, heb ei gweinyddu; ond y mae y troseddwr
dani bob moment ; am hyny, dywedir " ein bod dan felldith."
Fel y disgrifia Moses Israel, felly y gelHr disgrifio pechadur : —
y mae dan felldith ymhob man, — yn y ddinas ac yn y maes ; —
y mae ei bob peth ef dan felldith ; ei ymborth, ei blanl, ei gyf-
oeth ; y mae melldith, a thrallod, a cherydd, ar yr oll. Nid
ydyw y felldith ddim yn deimladwy yn awr, ond gall ddyfod
felly mewn moment; oblegid, beth ydyw ein heinioes ? Onid
cyflfelyb i darth ? Un awel a'i chwâl : gwna hyny y digofaint
sydd ar ddyfod, yn ddigofaint wedi dyfod.
(3.) Yr elfen nesaf yn y digofaint hwn sydd yn dangos trueni
ein cyflwr ydyw ei barhad. Buasai y digofaint a ddisgrifiwyd
686 Pwysfawrawgrwydd Cadwedigaeth.
yn y geiriau blaenorol yn dra ofnadwy i feddwl am' dano am
foment; ond pa faintmwy felly ydyw pan'y cysylltir parhad âg
ef. Y mae yma ofid mawr ar y ddaear ; ond y mae un meddwl
cysurus yn gydiol âg ef, — y mae y gofid a'r byd yr un hyd : os
3'dyw yr oes yn fèr, nid all trallod ddim bod yn hir, Ond yn
y byd ar ol hwn, y mae y trueni a'r byd yn ddiddiwedd. Y
mae cysylltu Iragywyddoldeb âg unrhyw beth yn ddigon i'w
wneuthur yn beth mawr. Pe unid y lleiaf o drallodau y ddaear
â thragywyddoldeb, gwnai hyny ef yn y fan yn ofnadwy ; ond
beth fydd cysylltu trueni anmhosibl ei ddisgrifio o ran maint,
a byd anmhosibl ei ddisgrifio o ran parhad, — mesicr digofaint
Duw âg oes Diiw ? Nid ydym wrth siarad am dragywyddol-
deb, ond yn chwareu â geiriau : ni fedrwn gysylltu meddyliau
â hwynt. Pa fodd ygallwn ni sydd wedi arfer mesurpobpeth
ffurfio yr un dychymyg am beth anfesuradwy? Beth a allwn
ni sydd wedi arfer rhoddi at, a thynu oddiwrth, ei wybod am
fyd nad ellir rhoddi dim ato, a phe tynid miliynau o oesoedd
oddiwrtho, a fyddai yr un faint wed'yn? Nid oes a fyno rhif a
mesur ddim âg ef. Ni bydd yr hyn fydd wedi myned heibio
i'r trigolion am byth, ond megis dim, a llai na dim, o'i gymharu
â'r hyn fydd yn ol. Wedi i'r ddaear yma ddiflanu yny pellder,
a'r cofam dani feallai wedi darfod, pe edrychai trigolion tra-
gywyddoldeb yn ol o'r fan bell hono i weled pa íaint o'r daith
fydd wedi ei theithio, ni byddai hyny ond megis dim o'i gym-
haru â'r hyn sydd yn ol : mewn gwirionedd, ni byddai dim
cymhariaeth rhyngddynt. Dechreuad fydd tragywyddoldeb
byth : — cyfres o gychwyniadau. Wrth deithio ar hyd y ddaear
y mae genym fyneg-byst i ddangos pa faint a deithiwyd, a pha
faint sydd yn ol ; ond yn y byd hwnw, pe medrid dywedyd pa
faint a deithiwyd, ni fedr neb ddywedyd pa faint sydd yn ol,
oblegid fe fydd y cyfan yn ol am byth. Ac â'r byd mawr yna
y mae digofaint wedi ei gysylhu. Yr oedd y digofaint mor
fawr, fel nad oedd gwiw ei uno â byd bychan fel hwn. Y mae
yn rhaid i ddigofaint anfeidrol, yn ei berthynas â chreadur,
gael byd tragywyddol. Y mae liwn yn feddwl difrifjl, fod yn
rhaid rhoddi sêl y byd tragywyddol ar greadur cyn y bydd yn
gymwys i ddioddef cosb pechod. Nid all llestri digofaint, na
llestri cariad, ddim dal i'w llcnwi â phethau mor bwysig yn
Pwysfawraicgrtoydd Cadwcdi^aeth. 687
awyr deneu y ddaear: na, y mae yn rhaid qz.&\ pressiire y byd
tragywyddol o'u hamgylch ; — awyr dew y byd hwnw i'w ham-
gylchu, cyn y daliant yr hyn sydd i'w arllwys iddynt. Nid all
cig a gwaed ddim mwynhau cariad, na dioddef digofaint y byd
a ddaw. Y raae yn rhaid cael corff ysbrydol mawn undeb âg
enaid anfarwol i'r naill a'r llall. Nid oes dim digon o deimlad
yn y coríf presenol i'r byd tragywyddol. Y mae yn rhaid i'w
holl synwyrau a'i deimladau gaeleugwneuthur yn annhraethol
fwy bywiog, cyn y bydd yn ddeiliad cymwys i'r byd hwnw.
Unwch y meddwl hwn â'r diben, — bod yn rhaid bywiogi
teimladau y corff, ac eangu galluoedd yr enaid, — ond i ba beth?
Graddau o olwg ar y diben a barodd i geidwad y carchar ofyn,
— "Beth sydd raid i mi ei wneuthur, fel y byddwyf gadwedig?"
Nid allwn ni ddim rayned yn mhellach na dywedyd am ei
faint a'i barhad. Beth ydyw, nis gwyddom. Y mae pob ua
o'r rhai hyn yn ddigon i'w wneuthur yn arswydus : y maint,
pe na buasai parhad ; a'r parhaJ, pe na buasai y maint. Ond
y mae y. ddau yn anfeidrol ; a'r oU a fedrwn ni ei wneuthur âg
anfeidroldeb ydyw ei enwi. Ond gallai cadw y ddau air, —
digofaint ac anfeidroldeb, — yn y meddwl, arafuychydig argain-
rau y pechadur anystyriol a rhyfygus. Wel, gan mai hon ydyw
ein sefyllfa, oni ddylai teimlad ceidwad y carchar fod yn
deimlad ein calonau ninau, a'i gwestiwn ef hefyd ar ein tafod-
au : — " Beth s^^dd raid i mi ei wneuthur, fel y byddwyf
gadwedig ?"
II. Y mae y cwestiwn hwn yn cynwys fod bod yn gadwedig
yn beth mawr iawn ; neu, mewa geiriau eraill, yn beth
anhawdd iawn. Y mae hyn i raddau yn gynwysedig yn y peth
cyntaf ; oblegid ni buasai y perygl mor fawr, oni bai ei bod yn
bur anhawdd ei ochel. Y mae yr hyn y mae bod yn gadwedig
yn ei gynwys yn ei berthynas â Duw, ac yn ei berthynas â dyn,
yn ei ddangos yn beth mawr.
I. Yn ei berthynas â Duw, y raae yn cynwys fod i'r Deddf-
roddwr beidio gweinyddu ei dedfryd hi ar y troseddwr; — fod
i'r Hwn sydd wedi cysylltu pechod â chosb, ddatod y cysyllt-
iad ; — fod i'r Anghyfnewidiol yn ei natur a'i eiriau, g-yfnewid
yn ngweinyddiad y rhai hyn. Y mae pechadur yn teimlo mai
nid peth hawdd ydyw hyn, Onid ydyw trefn yr efengyl.
688 Pwysfawra'wgrwydd Cadzvedigaeth.
meddir, yn egluro y dirgelwch? a thrwy ddanços pa fodd y
gall y Duw hwn fod yn Dduw cyfìawn, ac yn cyfiawnhau yr
annuwiol, onid yw hi yn atal i neb deimlo tel yna? Nag
ydyw ; oblegid y mae y gydwybcd yn dyst yn y fynwes dros y
gwirionedd cyntaf, sef mawredd y pelh ; ond nid oes dim a
fyno hi, fel cydwybod naturiol, â'r gwirionedd sydd yn
datguddio trefn Duw i wneyd y peth mawr hwn ; yn ddim
pellach na bod gwybodaeth gyffredinol am dano yn atal
anobaith ; ac nid bob amser y mae yn gwneyd hyny. Y mae
y gydwybod yn sicrhau raai fel y dywed y Bibl y mae yrachos
yn bod rhwng dyn a Duw ; ond nid all hi ddim sicihau mai fel
y dywed y Bibl y mae pethau yn bod am drefn cadw. Hi a all
roddi ei thystiolaeth o blaiddeddf, ondnid o blaid efengyl. Mae
yn rhaid cael goleuni y nefoedd i'r fynwes i gadarnhau gwirion-
edd hono. Gerbron Duw y Barnwr, ac nid gerbron Duw yr
Achubwr, y mae pob pechadur argyhoeddedig yn ei deimlo ei
hun. Y mae y gydwybod yn dywedyd wrtho, y gwna y Duw
Hwn gosbi ; ond ni ddywed hi ddim y gwna Efe achub. Y
mae yn credu y peth cyntaf â'i holl galon ; ac er bod tystiol-
aeth y Bibl ganddo am yr ail, eto am nad ydyw y dystiolaeth
hono yn cael ei sicrhau gan ddim yn ei fynwes ei hun, fel ag y
mae y Ilall, y mae yn gofyn, pa fodd y gall y pethau hyn fod.
Ni fỳn enaid wedi ei ddeffroi ddim ei achub rywfodd. Y mae
pechadur heb ei oleuo yn meddwl nad gwaeth ganddoef/íZ
fodd, ond iddo gael gochel y lîe poenus hwnw ; ond yn ei
dywyllwch y mae yn siarad, ac yn meddwl, fel yna. Unwaith
y goleuir ef, y mae yn rhaid iddo gael gwybod pa fodd y gellir
ei gadw ; ac y mae yn rhaid i'r drefn a gynygir iddo at hyny
gael cymeradwyaeth ei holl enaid ef ei hun. Fel nad ä'i Paul
a Silas allan o garchar Philippi heb i'r swyddogion oedd wedi
eu rhoddi i mewn eu harwain allan, felly nidäenaid euog allan
o'i garchar yntau, heb i Dduw, sydd wedi ei gloi i mewn,
ddyfod i'w ollwng ; ac nid ä ar air y Duw hwnw, heb wybod
paham. Y mae yn rhaid i'r Ysbryd tragywyddol " lewyrchu
goleuni gwybodaeth gogoniant Duw yn wyneb lesu Grist" i'r
enaid cyn yr ymedy â'r carchar. Y mae goleuni cydwybod ar
y ddeddf, yn peri iddo deimlo a gofyn cwestiwn ydisgyblion, — •
" Pwy gan hyny a all fcd yn gadwtdig ?" Ac nid oes ond
Pwysfawrawgrwydd cadweatgaeth. 689
goleuni yr Ysbryd ar yr efengyl, a ddaw âg ef i deimlo gwirion-
edd atebiad yr Arglwydd lesu, — " Gydâ Duw, pob peth sydd
bosibl."
Y mae disgrifiadau y Bibl o'r cyfnewidiad yn ei berthynas â
Duw, ar'enwau a roddir arno fel gwaith Duw, yn brofion
digonol mai nid teimlad disail ydyw y teimlad sydd yn y
fynwes, mai peth mawr ydyw bod yn gadwedig. Y mae yn
cael ei briodoli i Dduw, ac yn cael ei ddisgrifio wrth enwau ag
sydd yn dangos mai gwaith Duw ydyw. Beth ydyw ? Y mae
yn greu goleuni, fel yn moreu amser ; ac y mae yn rhaid cael
yr un " bydded" nerthol i seinio uwchben y galon, ag a seiniodd
uwchben y chaos — y tryblith annhrefnus yn more y greadig-
aeth. Y mae yn rhoddi cynydd, fel yn y greadigaeth naturiol.
Nid allai hoU íFermwyr y ddaear ddim peri i'r un gronyn dyfu :
Duw sydd yn rhoddi y cynydd. Y mae yn greu o'r newydd ; yn
ail eni; yn fywhau. Gweithredoedd Duw ydyw y rhai hyn oll.
Y mae y pechadur yn teimlo fod ei gyflwr y fath nad all ond
Duw ei gyfnewid. Ac os bydd ganddo ífydd gref yn ngallu
Duw, y mae natur yr amgylchiad yn peri nad all fod ganddo
ffydd gref yn ei ewyllys. laith Manoah, ac nid iaith gwraig
Manoah, sydd ar dafod y pechadur : — " Gan farw y byddaf
farw ; canys gwelais Dduw." Gweled Duw yn ei gyfiawnder
a'i sancteiddrwydd, yr oedd Manoah ; gweled Duw yn ei ras a'i
drugaredd, yr oedd y wraig. Fel Manoah, y mae y pechadur
yn gweled gallu Duw, yn esgyniad yr angel yn y fflam dàn ;
ond y mae yn methu gweled ewyllys Duw, mewn perthynas
iddo ef, yn nerbyniad yr aberth. Ac nid ydyw y wybodaeth
sy ganddo am yr hyn a wnaeth Duw i eraill ddim yn ei atal i
deimlo fod ei achubiaeth ef yn beth mawr, os nad anmhosibl.
Gwyddai y disgyblion am wyrthiau eu Meistr mawr ; ond yr
oeddent fel pe buasent yn anghofio y cyfan, pan yr elent i
gyfyngder eu hunain, fel nad oedd eu gwybodaeth flaenorol yn
gweinyddu dim cysur iddynt. Gwelsent bum mil yn cael eu
porthi âg ychydig dorthau ; ond pan oedd arnynt eisiau bara
eu hunain, methent wybod o ba le y deuai. Gwelsent ef yn
achub eraiU o'u peryglon mwyaf ; ond pan yr aethant i berygl
eu hunain, ofnasant am eu bywyd. Yr oedd yn rhaid cael
amlygiad newydd o ewyllys a gallu bob tro i'w tawelu. Felly,
13
6go Pwysfawrawgrwydd Cadwedigaef/i.
feallai" y gŵyr dyn fod y Duw mawr wedi gwneuthur gweith'-
redoedd rhyfedd yn y nefoedd uchod, ac ar y ddaear isod ; — fod
ei drugaredd wedi ei hamlygu goruwch y nefoedd i lawer un ;
ond yn yr amgylchiad hwn, y mae, fel y disgyblîon, y rhai
oeddent newydd ganfod pum mil yn cael eu porthi á phum
torth, ychydig ddyddiau yn ol, — ac eto y maent yn awr yn
methu gwybod yn y byd pa sut y caiff pedair mil eu porthi, er
bod ganddynt saith dorth at hyny. " O ba le y caem ni
gymaint o fara yn y diffaethwch, fel y digonid tyrfa gymaint ?"
Felly y mae y pechadur yn barod i ofyn, — " Pe gwnelai Duw
íFenestri yn y nefoedd, a fyddai y peth hyn ?" Os na ofynaefe
y cwestiwn, — "A all Duw fy achub?" y mae yn sicr o ofyn, "A
wjiíi Efe hyny ?" Y mae bod yn gadwedig yn beth mawr iawn
yn ngolwg pawb sydd yn y goleu.
2. Y mae yr hyn ydyw bod yn gadwedig yn ei berthynas â
dyn hefyd yn ei ddangos yn beth mawr. Pa beth sydd yn
gynwysedig yn hyny ? Newid perthynas dyn â phob peth ; —
â Duw ; — âg ef ei hun ; — ac â chreadigaeth Duw. Nid peth
hawdd ydyw newid perthynasau fel yna. Y mae Duw wedí
gosod trefn pethau yn y fath fodd yn y greadigaeth, fel y mae
yn anmhocibl i neb na dim newid ei ddosbarth. Nid all y
llysieuyn ddim dyfod yn anifail, na'r anifail yn ddyn, na'r dyn
yn angel. Y mae deddf dragywyddol wedi ei gosod gan Dduw,
fel nad all y naiU ddyfod drosodd at y llall ; ond ni byddai
eisiau cymaint cyfnewidiad i wneuthur planhigyn yn anifail, 3'r
anifail yn ddyn, a'r dyn yn angel, ag a fyddai i wneuthur
pechadur colledig yn un cadwedig gan yr Arglwydd. Y mae
y ddeddf sy rhwng gelyniaeth at Dduw a chafiad ato, yn
gadarnach o lawer na'r hon sy rhwng y planhigyn a'r anifail.
Y mae bod yn gadwedig yn gyfnewidiad mor fawr yn y fynwes,
fel ag y mae yn greadigaeth orlawn o ryfeddodau. Pe buasai
y Duw mawr yn dywedyd c^m creti wrth rai o ser y bore, o
feibion hynaf y nefoedd, y llanwai Efe yr eangderau hyny â
bydoedd, — y gosodai Efc ffurfafen uwchben ífurfafen, — y naill
haul a'i system o fydoedd i droi o amgylch haul arall, — nid
rhyfedd fuasai clywed hwnw yn gofyn : — " Pa fudd y gall y
pethau hyn fod ?" O ba lc y daw y dcfuyddiau ; oblegid y
mae creadur ya anghoíìü o hyd nad ues ar Greawdwr ddim
Pwysfawrawgrwydd Caâwedigaeth. 6gi
eisiau defnyddiau. Ond nid mwy cyfnewidiad yn y gwagle
oedd hwnyna i feibion Duw, na'r hyn sy raid gymeryd lle yn
y fynwes i wneuthur y colledig yn gadwedig. Nid allasai yr
angel ddim teimlo mwy o anhawsdra i Dduw lenwi yr eangder
â bydoedd, nag y mae y pechadur yn ei deimlo i gael ei galon i
ystâd iawn tuag at Dduw. Pe byddai i'r Duw mawr ddywedyd
uwchben y fynwes anhapus, mi lanwaf y gwagle hwn â chread-
igaeth newydd ; — mi daenaf len berlog o rasusau fy Ysbryd yn
ffurfafen iddi ; — mi a'i harddaf â phrenau cyfiawnder, ac â
phlanhigion sancteiddrwydd ; — caiff gras ei thoi hi fel gwyrdd-
lesni, a chariad ataf fod yn awyrgylch iddi hi. A ! medd y
pechadur, o ba le y daw y defnyddiau ? Wel, y mae yn wir ei
fod yn beth mawr, ond nid anmhosibl ; oblegid nid oes ar
Greawdwr ddim eisiau defnyddiau. Y mae yn rhaid i greadur
gael sylfaen, a defnyddiau ; ond y mae Duw yn gwneyd ei
waith o ddim, ac yn ei grogi ar ddiddym ; ac er nad oes yna
ddefnyddiau i wneuthur y greadigaeth newydd, a phe buasai
defnyddiau, nid oes yna yr un sylfaen i'w chynal hi ; ond gall
y Duw sydd yn medru ei gwneuthur hi o ddim, ei chrogi hi ar
ddiddym. Ond nid yw yr ystyriaeth hon ddim ond dyfnhau y
teimlad fod bod yn gadwedig yn beth mawr. Neu, — a dywedyd
yr un peth mewn geiriau eraill, — meddyliwch am rywun yn y
gynulleidfahon, sydd ynawrâhoU feddylfrydei galon yn unig yn
ddrygionus, a hyny bob amser ; — y mae o'r ddaear yn ddaearol ;
— nid ydy w Duw yn ei holl feddyliau,— ac ni all fod yn y
meddwl am foment heb ei gythryblu ; — y mae yn teimlo mai ei
neíoedd fyddai bod mewn lle na ddeuai Duw ddim iddo. Pe
byddai i Dduw ddywedyd uwchben hwnyna, — Mi gyfnewidiaf
fi bob peth yma : — mi adblanaf (transplant) y serch yma o'r
ddaear i'r nefoedd ; — caiíî yr ewyllys yna ymhyfrydu yn fy
mhethau i, fel y mae y pysgodyn yn y môr; — mi breswyliaf yn
hoU feddyhau yr enaid yna, a bydd yn felus ei fyfyrdod am
danaf ; — fe hiraetha ac a sycheda am fy mhresenoldeb, a'i nef-
oedd fydd y man lle y caifF o'm cwmni i ; — oni fyddai cyf-
newidiad fel hwn yn un mawr iawn ? Hyn ydyw bod yn gadw-
edig. Ni phrofodd neb erioed y cyfnewidiad, heb ei deimlo yn
beth mawr; ac un o'r arwyddion mwyaf anobeithiol ar bech-
adur ydyw ei fod ya meddwl mai trifie o beth ydyw bod yn
692 Pioysfawrawgrwydä Cadwedigaeth.
gadwedigf, ac y gwna ychydig oriau ar derfynau deuf^'^d y tro
ato. Ond, er ei fod yn beth mawr, —
III. Y mae y cwestiwn yn cynwys ei fod yn beth posibl. Pe
na buasai yn bosibl, ni buasai y cwestiwn ddim yn cael ei ofyn.
y mae uffern yn Ilawn o bechaduriaid argyhoeddedig ; ond nid
ydyw y cwestiwn hwn byth yn cael ei ofÿn yno. " Nid ydym
nigadwedig" ydyw iaith y wlad annedwydd hono. Y mae
anmhosibilrwydd y peth wedi difodi gobaith am dano ; am
hyny nid oes neb yn gofyn, — " Beth sydd i mi ei wneuthur, fei
y byddwyf gadwedig ?" Ond ar y ddaear, y mae pechadur ar-
gyhoeddedig yn teimlo i raddau fod y peth yn bosibl ; ond nis
gŵyr pa fodd. Y mae ganddo deimlad gwanaidd fod drws i
ddianc o'r carchar ; ond yn y tywyllwch nis gẃyr pa le y mae.
Dau beth sydd yn gwneuthur iachawdwriaeth yn bosibl. Y
c^mtaf ydy w, Fod trefn i hyny, — ffordd iachawdwriaeth ; ac yn
ail, fod y ffordd hono wedi ei chyhoeddi i ni, — wedi ei mynegu
gan weision y Duw byw. Ni buasai iachawdwriaeth un enaid
yn bosibl, oni buasai cael ffordd. Nid ydyw yn bosibl ond i'r
rhai sydd wedi gwybod y ffordd. Mae gan weision Crist hawl
i ddywedyd wrth eu cynulleidfaoedd, — " Y mae eich iachawdwr-
iaeth chwi oll yn bosibl." Gallant fod yn ddifraw a diofal ;
gan hyny, y mae ychwaneg nahynyna i'w gyhoeddi, — " Nid oes
iachawdwriaeth neb yn sicr, ond yr hwn a gredo." Y mae eich
bod yn clywed y gair yn gwneuthur eich iachawdwriaeth yn
bosibl; credu y gair a'i gwna yn sicr. Fe golHr miliynau a
glywodd; ond ni choUir pwy bynag a gredo. Peidiwch cam-
gymeryd y posibilrwydd hwn. Nid dywedyd yr ydym fod yn
bosibl i glywed eich achub ; ond bod yn sicr y gwna credu
hyny. Na, hyn yr ydym yn ei ddywedyd : — Y mae eich bod
chwi yn clywed y gwirionedd, yn brawf digonol fod yn bosibl i
chwi fod yn gadwedig, trwy gredu y gwirionedd. Y mae cyf-
iawnder yr efengyl yn cael ei bregethu i bawb ; ond fe fydd ar
bawb a gredant, yn cuddio gwarth eu noethni. Y maeCrist yn
yr efengyl i chwi oU ; ond y mae credu yn ei ddwyn yn Grist
ynoch chwi eich hunan yn obaith y gogoniant. Ond y maegwa-
haniaeth dirfawr rhwng gwàg siarad y pechadur iach am y
posibilrwydd o fod yn gadwedig, ac ymofyniad pryderus yr hwn
sydd yn teiralo ei bechodau fel mynyddoedd o blwm. Pe byddai
''-<,:,
Pwysfawrawgrwydd Cadwcdigaeth. 693
mwy o deimlad o berygl y sefyllfa, ac o fawredd bod yn gadw-
edig, byddai llawer llai o wàg-siarad am y posibilrwydd. Dyna
ydyw y posibilrwydd i'r argyhoeddedig ; — careg iddo gamu o
ganol yr afon wyllt i dir sych sicrwydd yr ochr draw ; — myneg-
bost ydyw i'w gyfeirio o'r perygl i'r ddinas noddfa. Ond, gyda
degau a fynent, debygid, ymofyn â ni i wybod a ydyw y peth
yn bosibl, nid ydyw yr amheuaeth hwn sydd yn eu meddwl
ynghylch y posibilrwydd yn ddim ond meddyglyn i syfrdanu y
gydwybod iddynt gael llonydd i gysgu yn eu pechodau. A
ydyw y perygl y buom ni yn son am dano ddim yn ddigon
mawr i'ch cyfiawnhau chwi i fynu gwybod trwy brofiad, ai i
chwi y bwriadwyd y drefn sydd i'w ochel ? A ydyw eich
eneidiau ddim yn ddigon eugwerth ichwi benderfynu, fel y deiU-
ion hyny, os eich gomedd fydd raid, y mynwch chwi gael eich
gomedd gan y Gŵr ei Hun, — nid gan y dyrfa. Pe byddai tyrfa
y disgyblion yn y lle hwn yn tystio maiofer fyddai eichgwaith
chwi yn llefain arno ; — pe byddai y Gŵr ei Hun, fel gyda'r
wraig o Ganaan, yn gwbl ddisylw o honoch ; — y mae enaid mor
werthfawr, — digofaint mor cfnadwy, — tragywyddoldeb mor hir^
— fel mai doethineb fyddai i chwi barhau hyd nes y dywedo Efe
â'i enau ei Hun, nad ysgrifenwyd mo'ch enw chwi yn llyfr ei
arfaeth, — nad oes dim darpariaeth yn ei angau ar eich cyfer, —
na lle yn ei nefoedd wedi ei barotoi i chwi. Ond nid hyn
fyddai ei ateb i'ch cwestiwn : nage, nage ; ond " Cred yn yr
Arglwydd lesu, a chadwedig fyddi, ti a'th deulu." Feallai fod
yma rywun yn barod i ddywedyd, — Paham na buasech chwi yn
pregethu ar yr adnod yna ? Y mae honyna yn llawn efengyl,
— yn lle cyhoeddi bygythion a tharanau i geisio ein dychrynu
ni ? Paham ? Gofynwch i'ch cydwybod eich hun. Dylasai
eich agwedd chwi fod yn bregeth ar y testyn hwn : yna ni
buasai raid i ni ddywedyd gair arno. Cawswn wneuthur peth
fuasai yn fwy dymunol i'm teimlad o lawer ; — son am Geidwad
a'i gariad. Ond yr ydym yn gwneuthur hyny yn aml, ac yn
llafurio yn gwbl ofer : y mae llawer yn sathru ar y díl mêl. —
Dyma ni yn ymadael unwaith eto. Ni wn iddimaoesyma neb
yn teimlo ychydig oddiwrth gwestiwn y testyn. Duw a ŵyr.
Feallai fod yma lawer natheimlant byth mo hono; ond nid oes
yma neb na theimla, yn hwyr neu yn hwyrach, y mater cyntaf
694 Pwysfawrawgrwydd Cadwedigaeth.
fu dan sylw, — y perygl. Ond pe byddai yma un pechadur âg
un radd o deimlad, melus gan hwnw fyddai clywed am ffordd
gwaredigaet'i : — " Cred yn yr Arglwydd lesu Grist, a chadwedig
fyddi."
[Tachweäd 25aiii, 1847.]
PREGETH XLIIL
PECHOD YN GAM A R ENAID.
DlAEHEBiON VIII. 36 :— " Ond y neb a becho yn fy erbyn, a wna gam â'ì
enaid ei hun ; fy holl g-asëion a garant angau."
MAE synied yn gywir ara bechod o gymaint pwys
ag ydyw gwneuthur hyny am drefa i gael gwaredig-
aeth oddiwrtho; ac y mae yn anmhosibl barnu yn
gywir am drefn y waredigaeth, heb wneuthur hyny yn gyntaf
am bechod. Fe brisir y feddyginiaeth yn gyfatebol i'r meddwl
sy genym am natur y pla ; ac y mae y Bibl, er mwyn dangos
gwerth y feddyginiaeth, yn rhoddi goleuni i ni hefyd ar natur
farwol yr afiechyd. Y mae yn rhoddi y ddeddf yn gyntaf i adna-
bod pechod, i'n parotoi ni tuag at ganfod gwerth yr efengyl,
S3'dd yn gwaredu oddiwrtho. Yr oedd pechod yn y byd cyn i'r
drefn i'w symud gael ei hamlygu ; ond er bod dynion yn ym-
wybodol o'i fodolaeth, ni buasai neb yn ei adwaen yn iawn, oni
bai i'r un goleuni ag a ddangosodd y fifynon, ddangos yr aflen-
did hefyd. Yr oedd trachwant yn mynwes yr apostol cyn i-
cleuni y ddeddf ddyfod yno ; ond ni buasai yn ei adwaen heb
hwnw. Bu y ddeddf a ddangosodd bechod iddo ef, fel ag y
mae hi i bawb o'i frodyr, yn athraw at Grist, y Gwaredwr oddi
wrtho.
Nid ydym yn cael fawr o oleuni yn y Bibl ary modd y daeth
pechod i'r byd. Y mae yr oracl bron yn ddistaw ar hyn ; ac
nid ydyw doethion y ddaear, er penderfynu mynu gwybod,
ddim yn Uwyddo. Y mae ei ddyfodiad i'r byd yn un o'r dir-
geledigaethau sydd yn perthyn i'r Arghwdd : y cwbl bron a
wyddom ni am hyn ydyw, ein bod ni yn becliaduriaid ; a phan
apehr at ein cydwybodau, yr ydym yn teimlo nad oes neb i'w
696 Pechod yn gain à'r enaìd.
feio am hyny ond ni ein hunain. Os gelhr dwyn y deall trwy
ymresymu i edrych ar bechod feì aníFawd, y mae yn anmhosibl
dwyn y gydwybod i ediych arno yn ddim amgen na bai. Pa
fodd bynag y daeth pechod i mewn, y mae ein mynwes ni yn
tystio mai ein bai ni ydyw ei fod ef yma ; ac y mae y testyn yn
tystio fod y neb sydd yn ei goledd yn gwneuthur cam â'i eraid
ei hun. Yr Arglwydd lesu, fel y tybir yn gyfîredin, sydd wedi
llefaru fel hyn o dan yr enw "Doethineb." Y mae ei wrthod
Ef, — y gwir Ddoethineb, — yn gam â'r enaid ; ac y mae yn gam
mor fawr, fel y gelHr dywedyd fod y neb sydd yn ei gyflawni
yn caru angau. Ond y mae yr ymadrodd hwn yn eithaf priodol
i'w gymhwyso at bob pechod. Felly ni a ddefnyddiwn y testyn
fel disgrifiad cyífredinol o bechod, Y mae yn erbyn Duw, ac
yn gam âg enaid y dyn ei hun.
Y mae pechod bob amser yn rhagdybied deddf ; oblegid lle
nid oes deddf, nid oes gamwedd. Fel peth croes i ddeddf,
annhrefn ydyw pechod ; ond nis gall trefn fod, heb Ddeddf-
roddwr ; ac fel y mae pechod yn erbyn Deddfroddwr, y mae yn
anufudd-dod, ac yn euogrwydd. Fel y mae pechod yn beth
croes i ddeddf, y mae yn gwneuthur y neb fyddo yn euog o hono
i ryw fesur yn druenus ; ac fel anufudd-dod i Ddeddfroddwr, y
mae yn ei roddi yn agored i gosb. Y mae yr annhrefn sydd yn
gysylltiedig âg ef yn annedwyddwch ynddo ei hun. Ac y mae
y sefyllfa y mae yn rhoddi ei gyíiawnwr ynddi, yn un sydd â
chosb ynglŷn â hi.
Y mae y Bibl yn dangos pechod yn ei holl gysylîtiadau, — Pa
beth ydyAV, neu pa fodd y mae yn efîeithio ar ein perthynas ni
â phawb, ac â phob peth ? Yr ydym yn ei weled yn ei gychwyn
cyntaf, yn chwythu fel awel heintus dros greadigaeth oedd yn
deg odiaeth o'r blaen, nes gwywo ei harddwch, a'i throi o fod
yn baradwys, i fod i ryw fesur yn anialwch; ei chreaduriaid
aneirif hi yn dioddef oddiwrth ei wenwyn ; — ei phen gweledig
hi, sef dyn, yn lle bod yr hapusaf o'i mewn, y mwyaf truenus
ynddi. Y mae wedi ein dieithrio ni oddiwrth ranau eraiU yr
ymerodraeth y perthynwn iddi. Yr ydym wedi ein cau fel
gwahangleifion y tuallan i'r ddinas, ei haflendid yn peri na
chawn gymdeithasu â chreaduriaid gTin yr ymerodraeth, sydd
yn gwneuthur i fyny gymanfa a chynulleidfa y rhai cyntaf-
Pechod yn gam CCr cnaid. 697
anedig. Y mae yr Apostol Paul, yn yr wythfed benod o'r
Rhufeiniaid, yn disgrifio mewn modd bywiog yr effaith y mae
pechod wedi ei gael ar y greadigaeth, fel y mae hi oU wedi ei
darostwng ganddo i oferedd; — wedi peri fod pob creadur
ynddi yn cydocheneidio ac yn cydofidio, am eu bod, yn groes
i'w hewyllys, wedi eu dwyn i ystad na fwriadwyd mo honynt
iddi; ac y maent yn cael eu gosod allan morannedwyddynddi,
fel y maent yn sychedu am ddydd datguddiad meibion Duw,
sef y pryd y cânt eu rhyddhau o'r ystad gaeth y maent ynddi
yn awr, A byddai yn dra phriodol i ddyn, wrtli edrych ar
wedd y greadigaeth afresymol, — yr annedwyddwch a'r dioddef
sydd ynddi oblegid pechod, fabwysiadu iaith Dafydd, pan oedd
Israel yn cael eu lladd am ei waith ef yn rhifo y bobl : — " Wele,
myfi a bechais, ac a wnaethum yn ddrygionus ; ond y defaid
hyn, beth a wnaethant hwy ?" Ond nid yw ffieidd-dra mwyaf
pechod ddim yn y golwg eto: y mae yn erbyn y greadigaeth
ddireswm, — y mae yn erbyn dyu; ond pech sy fwy na hyn, y
mae yn erbyn Duw ; — y mae yn ymladd â'r Brenin, ac â'i hoU
ddeiHaid hefyd. Pe gallai, fe wnai yr un peth i Dduw ag y
mae yn ei wneuthur i'r greadigaeth : y mae pechod yn gam à
phawb, — yn gam â'r greadigaeth, — yn gam â dyn, — yn gam â
Duw. I'r fan hon y mae Ysbryd Duw yn dwyn pawb sydd yn
cael eu hargyhoeddi o hono : — " Yn dy erbyn di, dj'di dy hunan
y pechais, ac y gwnaethum y drwg hwn yn dy olwg." Ond
beth ydyw mawredd ei ddrwg yn yr ystyr olaf hon nis gwydd-
om ; ac y mae yn anmhosibl i ni allu ei fesur, oni bai i ni allu
mesur maint y daioni a'r hapusrwydd anfeidrol y mae ê yn
amcanu ei ddinystrio. Os ydyw meddwl felly yn oddefol, —
beth pe llwyddai pechod yn ei amcan gydâ Duw, fel y llwydd-
odd gyda chreadur? Fe wnaeth angel yn ddiafol, sef gwneu-
thur un nad oedd yn ymhyfrydu mewn dim ond cynyrchu
hapusrwydd, i ymhyfrydu mewn drwg adinystr ; — i ddefnyddio
pob gallu oedd ganddo yn fantais i gynyrchu anhapusrwydd.
Beth pe buasai pechod yn llwyddo i wneuthur yr un peth i
Dduw, — i wneyd Bôd anfeidrol yn un drwg ; — na buasai yn
defnyddio ei hollwybodaeth i ddim ond i chwilio am gyfle i
gynyrchu trueni; — na buasai yn defnyddio ei hollbresenoldeb i
ddim ond fel cyfleusdra i wneuthur drwg ; na buasai ei fraich
698 Pechod yn gam ar cnaid.
byth yn cael ei hestyn allan ond i boeni ; y buasai ei holl ym-
wneyd â phawb yn cynyrchu galar, gruddfan, a gwae? Buasai
gwneuthur un mor fawr yn un drwg yn ysgelerder tuhwnt i
allu neb ei amgyffred. Pa faint o drueni a ddaeth oddiwrth
wneuthur un angel yn un drwg ? buasai pechod yn gwneuthur
Duw felly pe gallasai. Neu, os edrychwn ar bechod yn erbyn
Duw, fel y mae yn wrthryfel yn erbyn Brenin. Amcan gwrth-
ryfelwyr ydyw diorseddu ybrenin. Beth pellwyddai pechod yn
ei amcan i wneuthur gorsedd y greadigaeth yn wâg, — i'w
gwneuthur hi, fel gwlad Israel pan nad oedd brenin ynddi, y
gallai pob un wneuthur yr hyn oedd uniawn yn ei ol wg ei hun ?
Pwy allai fyw yma wedi hyny ? oblegid o'r orsedd y mae hyny
o drefn ac hapusrwydd sydd yma yn dyfod. Grym yr orsedd
sydd yn troi y felldith yn fendith, ac yn dywedyd wrth yr
annhrefn, hyd yma y deui, ac nid yn mhellach. Beth fyddai
rhoddi eu llawn ryddid i ddiafol ac i'w angylion ì Beth fyddai
tynu pob atalfa oddiar ddrygioni y galon ddynol ? Onid
cyffelyb fyddai i agoriad y pydew heb waelod yn llyfr y Dat-
guddiad? Yr oedd y pcenau a ddilynodd ei agoriad yn peri i
ddynion chwenychu marw, a chwilio am angau fel am drysorau
cuddiedig : hynyna fyddai diorseddu y Brenin. Edrychwch ar
bechod yn erbyn Duw, sef yn erbyn ei natur, yn erbyn ei fôd Ef ;
a meddyliwch, er mwyn gweled ei ddrwg, ei fod yn cyraedd ei
amcan, ac yn eiddifodi ; i gael golwg ar beth a fyddai drwg hyny,
meddyliwch beth ydyw Duw, — pa íaint ydyw y daioni annher-
fynol sydd ynddo, — beth yw y diluw o ddaioni sydd yn cael ei
gyfranu ganddobob moment ! Neu, yr hyn arydd olwg gywirach
i ni ar y mawredd sydd ynddo, fydd ystyried ei fod wedi bod
yn ddigon iddo ei Hun er tragywyddoldeb. Yr oedd Dafydd
yn dywedyd na cheisiai efe neb gydag Ef i'w wneuthur yn
ddedwydd : " ar y ddaear ni ewyllysiais neb gyda thi." Ond
gallasai efe fod byth heb geisio neb ond Ef ei Hun, a byw arno
ei Hun heb ball. Y mae enaid dyn, er mor ddiddym creadur
ydyw, yn gyfryw, nid yn unig nad ydyw ei hun ddim
yn ddigon iddo ei hun, ond nad ydyw y greadigaeth oll ddim
yn ddigon iddo ef. Nid ydyw ei ddeall ond pŵl ; eto nid oes
digon iddo yn un man y tuallan i Dduw. Er nad yw ei serch
ond cyfyng; eto nid oes digon iddo i'w garu mewn un man tu
Pcchod yn gain cr cnaid. 699
allan i Dduw. Os ydyw galluoedd mor derfynol a rhai enaid
dyn, yn gofyn cymaint i'w digoni, beth raid fod angen y deall
anfeidrol? Pa faint o hawddgarwch sy raid ei gael cyn y dywed
y galon ddwyfol, Digon yw ? Ond y mae Duw mor fawr, fel
ag y mae Efe yn ddigon iddo ei Hun — wedi bod felly erioed, fe
fydd felly byth. Ond pe llwyddai pechod yn ei amcan, fe
roddai derfyn ar yr holl hapusrwydd hwn. Yr oedd gweision
Dafydd yn dywedyd ei fod ef fel deng mil o honynt hwy, hyny
yw, y byddai yn well i ddeng mil o honynt hwy gael eu lladd
nag iddo ef : felly ni buasai dinystrio y greadigaeth oll ond llai
na dim wrth yr hyn yr oedd pechod yn ei amcanu. Ni byddai
diffodd holl dân y ddaear fawr o beth, mewn cymhariaeth i
ddiffodd yr haul. Ni byddai sychu pob afon fawr o beth, at
leibio i fyny y moroedd. Ni buasai dinystrio creadigaeth ond
ysgafnach na gwegi, wrth ddifodi y Creawdwr. Eto y mae
pechod, fel y mae yn erbyn Duw, yn amcanu at hyny. Pe
ynganai tafod y gwrthryfelwr iaith ei galon, dyna fyddai : — " O !
na byddai yr un Duw!" Nid yw dyn ddim yn meddwl mor
ysgeler yw y gwaith y mae yn ei gyflawni, mwy nag yr oedd
Saul yn t^^bied fod ei waith yntau yn erlid, yr hyn ydoedd; ond
meddaiei Arglwydd wrtho, — " Paham yr wyt yn fy erhd i .?"
Felly y gofyn Duw i bob pechadur yn rhywle, — " Paham yr
wyt yn rhedeg yn y gwddf i mi ?" Y mae pechod yn erbyn
Duw.
Ond y mae golwg îs na hwnyna ar bechod yn y testyn, sef
fel y mae yn erbyn dyn ei hun. Ni a ddylem deimlo am ei fod
yn gam â'r greadigaeth, — yn gam â Duw ; ond os difater genym
hynyna, ai difater genym ein dinystrio ein hunain ? Y mae
yn gam â ni ein hunain. Yr hyn a ddylai gymell dyn at y
cwbl ydyw gogoniant Duw. Diben eithaf crefydd ydyw cael
dyn i wrthod neu i ddewis pobpeth yn ol fel y byddant yn
ogoniant, neu yn ddianrhydedd, i Dduw ; — cael dyn i golli ei
hun yn Nuw ; — i ddywedyd, Nid yr ydwyf íì yn ewyllysio ; ond
gwneler dy ewyllys di. Ond nis gall ddywedyd hynyna yn
groew, nes y bydd crefydd wedi ei pherffeithio. Y mae hi yn
ei chymell ei hun oddiar egwyddor îs na honyna, sef, cariad
atom ein hunain. Y mae hi yn datguddio cosb y byd a ddaw,
er mwyn i'r ofn cosb sydd yn ein natur, beri i ni gilio oddiwrth
7oo Pechod yn gam ar cnaid.
y pethau hyny sydd â'r gosb ofnadwy hono ynglŷnâ hwynL Y
mae hi yn dangos mwyniant y nef, i edrych a bair i'n cariad ni
at ddedwyddwch ddim i ni ymwrthod â'r pethau hyny sydd ya
cau dynion allan o'r lle dedwydd hwnw. Ac os ceir ni i gilio
oddiwrth bechod oddiar fesur o gariad atom ein hunain, y mae
hyny yn ben y llwybr i'n cael i'w gasâu oddiar gariad at Dduw.
Os ceir ni i'w wrthod am ei fod yn ein herbyn ni ein hunain,
ond odid na arweinir ni gan hyny i gilio oddiwrtho hefyd am
ei fod yn erbyn Duw. Ygwirionedd a geisiwn ei wasgu at eich
ystyriaeth yn mhellach yáyvf, fod pechod yn gam âW enaid^ neu
yn erbyn dyn ei hun. Fe ymddengys hyn os ystyriwn : —
I. Eflfeithiau pechod ar enaid dyn. II. Fe ymddengys yr
un peth, os ystyriwn yr ystâd y mae pechod yn rhoddi yr
enaid ynddi.
I. Y mae y dull y mae pechod yn effeithio ar yr enaid yn
eglur brofi ei fod yn gam âg ef. Gallasem sylwi fod pechod yn
gam â'r enaid, am ei fod yn gam â Duw. Y mae pechod yn
drosedd o ddeddf sydd yn ddeddf natur Duw. Nis gallasai, heb ei
wadu ei hun, beidio ei rhoddi yn ddeddf i'w greaduriaid. Felly
y mae yr un peth ag sydd yn drosedd yn erbyn Duw, yn dros-
edd yn erbyn y dyn ei hun. Nid yw Duw yn gofyn dim oddi-
wrthym, nad ydyw peidio ei roddi yn bechod yn ein herbyn
ein hun. Wrth ysbeilio Duwyr ydym ynein tlodiein hunain.
Meddyliwch am bechod fel anufudd-dod i Dduw, ac fel an-
niolchgarwch iddo, y mae yn gam â Duw yn y ddau olygiad :
y mae hefyd yn gam â ni ein hunain. Edrychwch arno fel
anufudd-dod : y mae yr enaid yn cael cam, os nad yw yn cael
plygu i Dduw. Nid yd^^w dyn wedi ei eni yn frenin. Y mae,
yn ol cyfansoddiad ei natur, yn un i gael ei lywodraethu ac nid
i lywodraethu. Os na rydd efe ufudd-dod i Dduw, nis gall lai
na'i roddi i rywun arall. Y mae efe fel y prenau yn nameg
Jotham ; y mae yn rhaid iddo gael rhy wun i ly wodraethu arno*
Ond yr oedd y rhai hyny yn ymddwyn yn ddoethach nag ef :
wedi gwrthod y swydd o lywodraethu, yr oedd y prenau rhag-
orol ; dyna paham y cafodd y fieren hi. Ond gwrthod y prenau
rhagorol a wnaeth dyn, i gymeryd y fieren. Yn iaith y
prophwyd, " gwrthod ffynon y dyfroedd by w i gael y pydewau
toredig." Ond y mae dwy egwyddor groes i'w gilydd yn cyd-
Peclìod yii gam ò^r enaid. 701
gyfarfod yn mynwes dyn ; y mae yn caru cydnabod rh^'wun
yn ben ; y mae hefyd yn caru bod yn rhydd. Y mae natur
caethwas ynddo: y mae natur tywysog ynddo hefyd. I'w
wneuthur yn ddedwydd, y maeyn rhaid iddo gaelgwasanaethu,
ac y mae yn rhaid iddo gael bod yn rhydd hefyd. Ond pa sut
y gelHr uno y ddau ? Y mae dyn yn gwasanaethu ymhob man ;
cnd y mae ei wedd yn profi yn eglur fod y gwasanaeth yn
gaethiwed. Nid yw o bwys pwy fydd yr arglwydd, os nad
Duw y nefoedd ydyw ; caethiwed mewn gwirionedd ydyw y
gwasanaeth. Nid oes dim ffyniant i M-lad heb lywodraethwr :
nid oes yno ddim llwyddiant, os gormes-deyrn fydd ar
yr orsedd. Felly yr enaid ; ni ífyna yntau ddim heb
lywydd ; ac y mae yn rhaid bod hwnw yn gyfryw un a
Duw. Ni ífynodd enaid erioed o dan lywodraeth neb ond ei
lywodraeth Ef ; ond y mae hon yn uno i berffeithrwydd y
ddau beth sydd yn eisiau ar enaid dyn. Fe gaiif fod yn was ac
yn dywysog. Fe fydd dan ddeddf fel caethwas; bydd cyn
rhydded, er hyny, a'r angel ; oblegid y mae hi yn " beríîaith
gyfraith rhyddid." Yr oedd íTyniant Israel gynt yn yraddibynu
ar eu gwaith yn cydnabod yr Arglwydd yn Frenin : tra y
gwnaent hyny, byddai eu gwlad yn llifeirio gan laeth a mêl, a
hwythau yn ymlawenychu gan Haws tangnefedd ; a pha beth
bynag a wnelent yn llwyddo. Ond yr oeddent yn pechu yn eu
herbyn eu hun, pan y byddent yn aníîyddlawn i'w Brenin cyf-
reithlawn ; ' ni byddai yno gyflog i ddyn, na llôg am anifail :'
raewn gair, yr oedd y wlad yn gwywo ymhob ystyr, o Dan i
Beersheba. Y mae anufudd-dod i Dduw yn ddinystr mor sicr
i enaid, ag ydoedd i Israel gynt. Y mae eich trueni chwi a
minau yn dyfod oddiwrth hyn, nad oes genym Frenin iawn. Y
mae trigohon Hungari y d^^ddiau hyn yn ymfudo i'r deyrnas
hon, ac i America : paham 1 ai am nad y w eu gwlad yn un
ífrwythlawn ? ai am nad yw ei hinsawdd hi yn iach .? Nage,
nid dyna y paham y maent yn annedwydd ; ond llywodraeth
ddrwg sydd arnynt : y mae eu holl anhapusrwydd i'w briodoli i
hyny. Felly, bod o dan lywodraeth ddrwg ydyw yr achos o'n
■anhapusrwydd ninau. Yr ydym yn gwneyd cam â ni ein hun-
ain, o eisiau plygu i Dduw. Y mae gwasanaethu neb ís na
Duw yn ddarostyngiad ar urddas enaid. Y mae gwasanaeth yn
702 Pechod yn gam ar enaia.
y deyrnas hon, y mae ei phendefigion mwyaf yn ei ystyried yn
urddas ei gael, sef cael rhyw swyddogaeth yn mhalas y fren-
hines. Buasai cael eu gosod yn yr un lle yn nhŷ dyn cyífredin
yn ddirm^^g mawr arnynt. Y mae enaid yn cael ei ddarostwng,
pa swydd bynag fyddo ganddo, os na bydd ganddo ryw swydd-
ogaeth o dan y Brenin tragywyddol. Yr oedd y prophwyd
Jeremiah â'i ben yn ddyfroedd, wrth weled y rhai a feithrinasid
mewn ysgarlad yn cofleidio y tomenydd, sef rhai oeddent wedi
eu geni i bethau uchel, wedi eu darostwng i'r iselder mwyaf.
Pe gwelem ninau bethau yn iawn, byddai ein pen yn ddyfroedd
wrth weled un mor urddasol ag enaid, yn gwneuthur peth îs o
lawer na chofleidio y tomenydd, sef cyflawni holl negeseuau y
diafol. Y mae pechod yn gam âg ef.
2. Neu edrychwch ar bechod fel anniolchgarwch i Dduw. Y
mae pechod y Paganiaid yn cael ei grynhoi gan yr apostol i'r
un peth hwn : " Ni buont ddiolchgar iddo." Y mae yn gam â
Duw, peidio rhoddi y diolch iddo : y mae yn gam â'r enaid,
peidio ei roddi. Fe drefnodd yr Arglwydd bron bobpeth y byd
i dderbyn a rhoddi ; a'r ychydig bethau hyny sydd yn derbyn
heb roddi, y mae gwedd wywedig, anhapus (os goddefwch y
gair) arnynt. Mor hagr yw gwedd y diffaethwch sydd yn
derbyn bob araser, heb roddi dim yn ol. Mor brydferth yvv
gwedd I\Iòr GaHIea ragor y Môr Marw ! Y mae y cyntaf yn
derbyn ac yn rhoddi, tra y mae yr ail yn derbyn heb roddi.
Y mae yr enaid sydd yn derbyn bob amser heb roddi, fel
y Môr Marw, â golwg annedwydd arno. Pa bryd y gwelwyd
dyn anniolchgar i gymwynaswr, yn ddyn dedwydd ? Pa bryd
y gwelwyd plentyn anniolchgar i rieni, yn un hapus ? Onid
mewn diolch y mae dedwyddwch y nefoedd yn gynwysedig? Y
mae yn iechyd i enaid gael dywedyd: "Nid i ni, O Arglwydd, nid
i ni, ond i'th enw dy hun dod ogoniant." A dyna ydyw rhoddi
y gogoniant, sef diolch iddo. Y mae yr enaid sydd yn cadw y
gogoniant, yn cadw yr hyn a'i lletha. Yr oedd mab Hilciah
yn hoel ar yr hon yr oedd holl ogoniant tŷ ei dad wedi ei
grogi : ond y mae enaid y.n rhy wan i ddal y gogoniant ; os na
bydd yn ei gyflwyno i fyny mewn diolchgarwch, fe fydd yn
angau iddo. Fe laddodd Herod; fe ladd dy enaid dithau, os
na chyflwyni di cf i fyny i Dduw.
Pechod yn gam CCr enaid. 703
Os edrychwch ychydig yn fwy manAvl ar effeithiau pechod,
chwi a welwch ei fod yn gam â'r enaid, — (i). Am ei fod wedi
ei ddieithro ef oddiwrth Dduw. (2). Am ei fod wedi ei
wneuthur yn gyfryw nad all ymhyfrydu yn Nuw. Y peth
cyntaf yn dal perthynas â'r byd hwn ; a'r ail, â'r byd arall ; —
peri iddo gilio oddiwrth Dduw yma, a'i wneuthur nad all ef
ddim bod yn hapus, pan y dygir ef i le nad all ef ddim cilio
oddiwrtho, wedi myned oddiyma.
(i). Y mae yn gam â'r enaid am ei fod yn ei ddieithro ef oddi-
wrth Dduw. Ni welwn ni ddim o faint y cam, heb i ni ystyr-
ied beth ydyw Duw i enaid ; neu, yn hytrach, dylem ofyn, beth
nad ydyw .'* Y mae yr haul yn llawer i'r ddaear ; y mae yr
enaid yn llawer i'r corff ; ond y mae Duw yn fwy na hyny i'r
enaid. Y mae cymhwysder yn ngweithredoedd Duw ymhob
man : y naiU ran o honynt ar gyfer y llall ; — y dwfr a'r pysgod,
•— yr awyr a'r adar,— y goleu a'r llygad, yn cyfateb i'w gilydd ;
ond ni chreodd Efe ddim ar gyfer enaid ; Efe ei Hun oedd i
gyfateb iddo ef Duw oedd i fod yn oll yn oll iddo ;— yn destyn
ei ddeall, — yn wrthddrych ei serch, — yn Arglwydd ei gyd.
wybod, — yn Llywydd ei ewyllys. Nid oedd yr holl bethau
gweledig yn ddim ond esboniad iddo ar Dduw, a mantais
iddo i ddal cymundeb âg ef. Ni buasai y pethau a ystyr-
iwn ni yn ddisgrifiadau barddonol, ddim felly i enaid yn ei
le. I enaid yn ei le, fe fuasai y môr yn dangos maint llaw
yr Anfeidrol ; — fe fuasai y nefoedd yn dangos rhychwant
y Tragywyddol ; y mynyddoedd a'r bryniau yn dangos
nerth y fraich hollalluog ; — cyv/reinrwydd y greadigaeth yn
dangos doethineb Duw, a gwedd hapus y cwbl yn dangos ei
galon. Mewn gair, mantais fuasai pob peth gweledig iddo i
weled yr Anweledig, mewn rhai o'i briodoliaethau. Ac os ceisia
efe fwynhau rhoddion Duw, ar wahân oddiwrth Dduw, ofer fydd
ei waith : fe dry y mwyniant yn chwerwder iddo. Yr oedd
gan Absalom lawer o bethau gwerthfawr o'i amgylch pan yn
Jerusalem, ar ol dychwelyd o wlad y Philistiaid ; ond yr oedd
efe yn methu eu gwir fwynhau hwynt, am fod gŵg y brenin
arno: felly nid all enaid wir fwynhau dim, ar wahân oddiwrth
Dduw: os bydd yn cael melusder yndJynt, y maent yn gadael
colyn ar eu hol. Y mae yr hwii a ychwanega wybodaeth, os
704 Pcchod yii gam ar enaid.
bydd hi ar wahân oddiwrth Dduw, yn ychwanegu gofid. Y
mae yr hwn a gasglo drysor, os bydd yn cymeryd hyny yn
ddiben, yn lle yn foddion i gyraedd y diben uchel o ogoneddu
Duw, yn casglu cancr i ysu ei enaid. Y mae hoU roddion Duw
i enaid wedi ei ddieithro oddiwrtho gan bechod, yn felldith
iddo; yn debyg i'r fel y mae holl ddylanwadau y byd naturiol
yn niweidiol i ddyn afiach. Pe yr elai dyn sâl iawn allan o'i
dŷ ar hirddydd haf, byddai pob peth yn niwed iddo. Yr oedd
yr awel, oedd mor adfywiol i'r iach, yn wenwyn iddo ef. Yr
oedd pelydrau yr haul, oeddent yn bywiocau yr iach, yn ei
ddyddfu ef. Yr oedd miwsig y goedwig, a sî yr elfenau, yn lle
llonyddu a thangnefeddu ei deimlad, yr hyn a wnaent i ddyn
iach, yn hytrach yn ei wneuthur ef yn annedwydd. Fellyymae
holl roddion Duw yn eífeithio ar enaid wedi ymddieithro oddi-
wrtho. Y mae efe yn cael niwed yn y man y buasai angel yn
cael ychwanegu ei nerth. Y mae y pethau afuasent yn fendith
i seraph, yn felldith iddo ef. Yn iaith yr apostol, wedi i enaid
ymddieithrio oddiwrth fuchedd Duw, hyny yw, wedi iddogeisio
byw ar wahân oddiwrth Dduw, y mae yr holl ddylanAvadau
sydd o'i amgylch yn ei wneuthur yn fwy afiach, nes o'r diwedd
y mae yr hwn oedd wedi ei fwriadu, ac wedi ei gymhwyso fel
creadur, i ddal cymundeb â'r Anfeidrol, yn plygu i bren a maen ;
ac yn dywedyd wrth ymlusgiaid, aphedwar-carnoHon y ddaear,
— Chwi yw fy nuwiau. Y mae pechod yn gam â'r enaid. Nid
rhaid i ni wrth dystion fod pechod yn ein dieithrio oddiwrth
Dduw. Gwelwch ef, gydâg iddo ddyfod i mewn i'r byd, yn
gwneuthur i'r cyfaill, a f^Mdai yn arfer croesawu ei Arglwydd,
ymguddio ymysg prenau y coed rhagddo. Paham y mae mor
anhawdd cadw gwybodaeth am Dduw ar y ddaear ì Paham y
mae dyn wedi myned nad ydyw Duw yn ei holl feddyhau ef .?
A phaham yr awn ni oddicartref ? Trown ein llygaid i mewn,
i weled beth yw ei effeithiau arnom ein hunain. Beth yw y
gwrthdarawiad sydd yn y fynwes i weddio ? Paham yr ydym
yn cael ein cythryblu wrtb gofio Duw ? Paham y miie y rhai
sydd yn ymhyíhau mewn pechod yn gyfryw na allant oddef
cysegr Duw? A phaham y cebhr cymaint ar yr ychydig bobl
druain, dlodion, sydd yn gobeithio yn enw 3'r Arglwydd? Yr
ydych yn gwneuthur rnwy o gam â chwi eich hunain nag yr
Pechod yn gam CCr cnaid. 705
ydych yn ei feddwl. Nid ydych yn teimlo hyny; ond nid y\v
hyny ddim yn brawf nadydyw y cam yn cael ei wneuthur.Y mae
ambell ddyn yn gweithio yn moreu ei oes mewn awyr afiach.
Nid ydyw yn teimlo dim oddiwrth hyny am flynyddoedd ; ond
y mae yr awyr ddrwg yn myned yn raddol o dan sylfaeni ei
iechyd, ac yn ei ddwyn i'w fedd yn anamserol. Peth fel yna
ydyw pechod yn erbyn Duw. Fe effeithia ar dy gyfansoddiad
fel yr awyr afiach ; fe ä o dan sylfaeni dy iechyd am dra-
gywyddoldeb.
2. Y mae nid yn unig yn dieithro yr enaid oddiwrth Dduw,
ondyn ei wneuthur yn gyfryw nad all efddim mwynhau Duw ;
nid yn unig yn ei wneuthur yn un nad ä efe ddim ichwilioam
Dduw, ond yn un, pan y daw Duw i chwilio am dano ef, y
bydd ei bresenoldeb yn drueni iddo. " Syniad y cnawd sydd
elyniaeth yn erbyn Duw :" nis gall oddef dim o'i bethau ; ac
erbyn myned i fyd arall bydd hyn o bwys annhraethol.
Y mae y Bibl yn ein dysgu fod y byd hwnw yn gyfryw ag y
mae yn anmhosibl sugno dedwyddwch o hono, os na ddaw yn
ddigyfrwng oddiwrth Dduw. Ac y mae pechod yn gwneuthur
yr enaid yn gyfryw ag y gwna presenoldeb Duw ef yn druenus
yn y fan. Pe byddai Duw yn y golwg, yn y byd hwn, ni byddai
raid myned oddiyma i chwiHo am uffern ; oblegid bryd
bynag y tybia enaid fod Duw yn agosâu, y mae ing angau yn
ei feddianu yn y fan. Yr oedd meddwl fod Duw gerllaw, yn
troi llawenydd Belsassar yn chwerwach na'r bustl iddo. Yr
oedd Pharaoh, pan y teimlodd fod yr Arglwydd yn ymyl, yn
gwaeddi, ''Ffown !" A dedwyddwch ydyw dedwyddwch y
ddaear, sydd yn codi oddiar feddwl fod yr Arglwydd wedi ei
gadael hi ; — fod Duw yn ddigon pell oddiwrthi. Ac y mae
Duw mewn trugaredd yn cadw draw yn awr ; yn taflu ei rodd-
ion megis dros y mur, ac yn aros ei Hun o'r golwg. Y maent
yn dyfod fel yr oedd y manna yn dyfod i'r Israeüaid. Yr oedd
hwnw yn dyfod pan yr oeddent hwy yn cysgu: erbyn iddynt
godi y bore, byddai yno, ond byddai y Rhoddwr wedi cilio.
Felly y mae rhoddion Duw yn dyfod i ninau bob bore o'r
newydd : ond y mae y Rhoddwr yn cadw o'r golwg. Pe
gweht ti y llaw sydd yn cyfranu, ti a dd^^chrynit ormod i fwyn.
hau yr un o'i rhoddion hi. Y mae yr Arglwydd yn ymddwyn
K3
7o6 Pechod yn gnm är ennìd.
at fyd gwnhryfelgar yn awr, fel y gwnaeth Jacob at Esau .• fe
anfonodd Jacob yr anrhegion gydâ'i weision, yn lle dyfod â
hwynt eu hun, gan ddisgwyl i'r rhoddion feddalhau calon ei
frawd at y rhoddwr. Felly y tnae yr Arglwydd yn anfon eí
roddion i ni gydâ'i weision ; — yn anfon ei haul i'n goleuo ni, ac
yn ymguddio ei hun tuhwnt i'r cwmwl tywyll; — yn dwyn bara
allan o'r ddaear i gynal ein calonau, yn lle ei estyn yn ddigyf"
rwng i ni bob dydd o'r nef ; — yn peri i'r afonydd redeg rhwngy
mynyddoedd i'n disychedu, yn lle estyn celyrnaid i ni o hyd yn
ol ein hangen ; — yn anfon y pryfaid a'r anifeiliaid â gwisgoedd
ini, yn lle dyfod â hwynt ei Hun. Yr oedd Efe yn disgwyl i'r
ffafrau hyn beri i ni feddwl yn dyner am dano, a'n dwyn i ym-
holi am y Rhoddwr, gan ddywedyd, — " O na wyddwn pa le y
cawn Ef." Ond nid felly y maent yn effeithio. Gan ei fod Ef
yn ymguddio, y mae dyn yn ddigon boddlawn, ac yn perswadio
ei hun ei fod Ef wedi gadael y ddaear : íe, y mae yn myned
mor bell ag i feddwl nad ydyw yn bod. Ond y mae y byd a
ddaw yn wahanol iawn i hwn. Yno y mae Duw yn estyn y
rhoddion ei Hun, ac nid yn eu hanfon gyda'r gweision. Nid
oes yno yr un haul i roddi goìeuni ; Duw ydyw goleuni y lle j
ac os na ellwch chwi fwynhau y goleuni yna, nid oes dim i'w
ddisgwyl ond tywyllwch eithaf. Nid taflu rhoddion megis dros
y mur y mae Efe yno, ond eu cyfranu yn ddigyfrwng â'i law
ei Hun. Os na elH di eu derbyn o'r llaw, y mae yn rhaid i ti
fod yn amddifad o honynt am byth. Yma yn unig y gelhr
mwynhau rhyw ychydig ar roddion Duw, ar wahân oddiwrth
y Rhoddwr ; ond >'« Nuw y mae y cwbl i'w fwynhau yno. Nid
oes yno ddim y gall enaid ymguddio yn ei gysgod rhag Duw-
Fe ymguddiodd Adda ac Efa ymysg prenau yr ardd rhag yr
Arglwydd ; ac y mae eu holl blant yn hyn yn debyg iddynt.
Y maent yn ymguddio yn nghysgod rhywbeth rhag yr Ar-
glwydd ; ond yn y byd tragywyddol, nid oes dim i gysgodi-
Dyna sydd yn gwneuthur diffaethfaoedd y Dw^^rain yn Ueoedd
mor dost, — nid oes yno na llwyn na chraig i gysgodi rhag pel-
ydrau tanllyd yr haul. Lle fel yna ydyw y byd a ddaw : nid
oes yno ddim i gysgodi rhag y Duwdod. \ mae ei bresenoldeb
wedi toi y lle, fel y töa y dyfroedd y môr. Y mae ei bresenoldeb
yn ei amgylchu, ac yn treiddio i'w holl gonglau, fel y gwna yr
Pechod yn gam är enaid. 707
awyr à'rbyd hwn. Y mae pob disgrifiad a gawn ni o'r lle, yn
dangos fod y presenoldeb dwyfol heb yr un llen yno. " Ger ei
fron" y mae "llawenydd;" ar ei " ddeheulaw " y mae " digrif
wch;" "o olwg yr Arglwydd " y mae yr orphwysfa yn dyfod; —
bod " yn wastadol gydâ'r Arglwydd;" "edrych ar ei wyneb
mewn cyfiawnder." " Gweled Duw" ydyw dedwyddwch y lle,
Aros mewn anghofio Duw ydyw eich pleser chwi : ni bydd
dim hyfrydwch i chwi yn y byd a ddaw, oblegid y mae yn an-
mhosibl ei anghofio Efyno. Onid yw anghymwyso enaid,
sydd yn myned i fyd llawn o Dduw, i fwynhau y Duw hwnw
yn gam âg ef .? Y mae y neb sydd yn gwneuthur hyn, mewn
gwirionedd, yn " caru angau." Y mae miloedd o'n cydwlad-
wyr yn brysur yn pa-otoi eu hunain i farw yr ail farwolaeth ;
oblegid hyny fydd presenoldeb Duw i enaid pechadur diail-
anedig.
II. Y mae ei fod yn gam â'r enaid yn dyfod ì'r gi-olwg, wrth
i ni ystyried y sefyllfa y mae pechod yn gosod yr enaid
ynddi. Y mae yn gymaint cam yn yr ystyr hwn hefyd, fel y
gellir dywedyd fod pawb sydd yn ei gyflawni yn "caru angau ;"
oblegid y maent yn rhoddi eu hunain mewn sefyllfa nad oes
dim ond angau i'w ddisgwyl ynddi. Y mae pechod ya
gwneuthur dyn yn fath o IsmaeHad, à'i law yn erbyn pawb, a
llaw pawb, o angenrheidrwydd, yn ei erbyn yntau ; a buasai yn
synwyr i greadur mor ddibynol a dyn, gadw mewn heddwch â
phawb, am mai ar ei undeb â rhywun arall y mae ei ddioo-el-
wch ef yn ymddibynu. Y mae rhai ynysoedd bychain yn Môr
y Werydd a Môr y Canoldir, cwbl analluog i'w hamddiífyn eu
hunain; ond y maent mewn undebâ Lloegr, ac am hyny y maent
mor ddiogel â Llundain. Y mae holl nerth y deyrnas hon yn
sicrhau amddiffyniad iddynt. Pe torent yr undeb, byddent ar
drugaredd rhyw elynion yn y fan. Felly, tra y bu dyn mewn
undeb à Duw, yr oedd yn ddiogel ; ond wedi iddo wahanu ei
hun, wedi iddo dori yr undeb, y mae yn agored i bob peth
ymosod arno. Isolatio ei hun a fu yn ddinystr i Napoleon
Bonaparte; fe dynodd Ewrop oll yn ei ben. Fe dorodd bob
undeb rhyngddo ei hun à phawb, gan ddisgwyl medru daros-
twng pawb; ond trwy dori pob cysylltiad âgeraill, fe ddinystr-
iodd ei hun. Y mae pechod wedi rhoddi dyn mewn sefyllfa
7o8 Pcchod yn gaîii á'r enaid.
gyffelyb ; y mae yntau wedi tynu ymerodraeth Duw i gyd yn
ei ben. Nid disgrifiad barddonol, neu ffigwrol, sydd yn disgrifio
y greadigaeth fel yn teimlo ei hun mewn caethiwed wrth was-
anaethu dyn. Beth ond hyn yw gwrthryfel yr holl greadig-
aeth ddireswm yn erbyn dyn ? Beth ond hyn sydd yn achos
y draíferth flin i gael gan y ddaear roddi ychydig gynhaliaeth
iddo ? Beth ond hyn sydd yn peri i'r elfenau ryfela mor amî
yví ei erbyn ef ? Y mae ein hoes ni yn un ddiffydd mewn
pethau fel hyn. Ni fynant fod y greadigaeth yn teimlo mewn
un ystyr oddiwrthyr hyn sydd yn cymeryd lle ynddi. Mynant
mai fel y mae yn awr y buas:iì hi, pe na buasai pechod wedi
dyfod i mewn ; ac y mae pwy bynag a broffeso grediniaeth
wahanol yn caeî ei alw yn ofergoelus. Ond fe ddywed y Bibî
fod y ddaear wedi ei melldithio oblegid dyn ; a bod y felldith
hono wedi peri iddi roddi y cwbl iddo megis o'i hanfodd. Trwy
chwys ei wyneb y câi ef fwyta bara o honi; ac y mae genym
seiliau cryfion i gredu fod yr un felldith wedi efiFeithio ar bob
peth sydd a fyno dyn â hwynt. Y mae pechod wedi ein gosod
ni mewn sefyllfa y mae pob peth yn dywedyd wrth Dduw, fel
y dywedodd Abisai wrth Dafydd, pan oedd Saul yn cysgu yn y
gwersyll : — " Wele dy elyn, gad i mi ei daraw." A pha beth
nad ydyw wedi bod weithiau yn was yn llaw Duw i daraw ?
Yr oedd rhedegv/yr Saul yn gomedd rhuthro ar ofîeiriaid yr
Arglwydd yn Nob ; nid oedd neb ond y Döeg hwnw yn ddigon
caled i'r gorchwyl. Ond nid gomedd rhuthro ar elynion Duw
y mae ei holl weision ; na, gorfod gwneyd cymwynas iddynt
yn groes i'w hewyllys y maent, fel yr oedd Haman i Mordecai.
Nid o'u bodd y maent yn gwasanaethu oferedd, ond oblegid yr
hwn a'u darostyngodd. A gallai yr Arglwydd gydâ phriodol-
deb ofyn i ddyn, fel y gofynodd y Senacherib balch hwnw i
Hezeciah, — "Arbwy y mae dy hyder di, pan y gwrthryfelai&t
i'm herbyn i ?" Yr oedd hi wedi myned yn galed ar y wraig
hono yn llyfr y Datguddiad, pan yn jmryson â'r ddraig ; ond
fe ddaeth y ddaear i'w chynorthwyo hi. Yr oedd digio Ahab
wedi dwyn Elias i gyfyngder mawr, ond daeth yr angel i*v,
helpio ef ; ond pwy a ddaw i helpio dyn ? Fe wrthryfelodc'
Napolcon yn erbyn Ilywyddion Ffrainc ; ond nid cyn iddo
wneuthur y fyddin yn ddigon zelog o'i blaid fel y gallasai efe
Pechod yn gam ar enaid. 709
fentro rhoddi ei hyder ynddi. Ond o hoU luoedd y Brenin,
nid oes gan ddyn ddim cymaint ag un y gall efe roddi ei hyder
ynddo. Datguddio y gwaed a dywalltwyd a wna y ddaear;
— ' llefain yn ei erb^m a wna y gareg o'r mur, a'r trawst o'r
gwaith coed ;' — ei fradychu a wna y tywyllwch, gan droi yn
oleuni o'i amgylch. Y mae yr holl greaduriaid, o'r rhai iselaf
yn nosbarth y creaduriaid direswm, hyd y rhai uchaf yn y
greadigaeth resymol, yn barod ar darawiad amrant i ymddwyn
tuag ato fel gelyn Duw. Y mae arnaf ofn magu teimlad caled
yn eich rnynwes at Dduw wrth ddy wedyd fel hyn ; ond dylai
yr ystyriaeth mai ein cydgau i fyny i fíydd yr efengyl ydyw
amcan y Bibl wrth ddatguddio i ni ein sefyllfa, — ein cadw ni
rhag hyny. Wrth sylwi ar y Bibl, y mae yma eiriau yn cael
eu llefaru, yn awr ac eilwaith, sydd yn rhoddi cipolwg i ni ar
ein sefyllfa yn ein perthynas â chreadigaeth Duw, a ddylai greu
braw ymhob mynwes. Y mae yr angylion drwg yn gedyrn o
nerth, ac yn ddoeth odiaeth, ond yn ein herbyn ni yn yr oU
aallant. Y mae yr angylion da hefyd, er eu bod yn gwneuthur
cymwynasau lawer i ni, ac er eu bod yn llawenychu pan y mae un
pechadur yn edifarhau, eto, o angenrheidrwydd, yn ein herbyn.
Pa sawl gwaith y mae genym eu hanes yn y Bibl yn dinystrio
miloedd o elynion Duw ì Ac yn llyfr y Datguddiad, wedi
gweinyddu y barnau ar y gelynion, yr ydym yn cael eu bod yn
canu Aleliwia, wrth weled mŵg poenedigaeth y gelynion yn
esgyn i fyny Pryf ydwyf, ac nid gŵr ; abwydyn y
ddaear ; ac, os yn el^^n i Dduw, nid oes genyf gyfaill mewn
un man ; — nid oes neb a dywallta ddeigryn ar fy medd. Fe
gân angylion Aleliwia uwchben y fynwent y byddaf yn gorwedd
ynddi. Fe deimla yr haul fel un wedi cael rhyddid o garchar,
pan na bydd raid iddo roddi goleuni i mi mwy. Fe lawenycha
y ddaear pan y ca hi ryddid oddiwrt'i roddi ei íFrwythau i'm
cynal. Fe gân pob creadur, fel pe byddai yn flwyddyn jiwbili
arnynt, pan y cànt eu gollwng yn rliydd oddiwrth yr o eredd o
weini i mi. Y mae yn hawdd credu fod y nebsyddyn pechu yn
erbyn Duw yn gwneyd cam â'i enaid ei hun, gan ei fod yn ei
osod mewn sefyllfa fel hon.
Ond y mae y peth mwyaf eto yn ol: y mae pechod wedi
gwneyd Duw yn elyn i ni. Fe ddy wed y gŵr doeth, Diar. xx
710 Pechod yn gam ar enaid.
2, fod y neb a gyífröa frenin i ddigofaint, " yn pechu yn erbyrr
ei enaid ei hun." Y mae pechod wedi cyfiFroi Duw i ddigofaint,
— -wedi ei wneuthur ef yn elyn ; a chofiwch —
(i.) Mai gelya trwyadl ydyw Daw. Y mae ambell ddyn nad
yw ei gariad na'i gâs o fawr bwys, oblegid pethau hanerog ydynt;
ond nid ces dim hanerogynperthyn i Dduw. Edrychwch arno
íel Cyfaill, y mae yn Gyfaill yn yr oll a all, ac yn yr oll a fedd.
Y mae ei holl gyfoeth i gael ei ddefnyddio, os bydd raid, dros er
gyfeillion ; — ei holl nerth,— fe hvyr noetha ei fwa drostynt ; —
ei holl ddoethineb, fe dry bob melldith yn fendith, ac a bair i
bob peth gydweithio er daioni iddynt. Y mae ei lygad bob
amser yn eu gwylied, fel na raid dywedyd, — "Pe buasit ti yma,
ni buasai farw fy mrawd." Y mae ei fraich yn barod i'w ham-
ddiíTyn ; ac nid ffon gorsen ddrylliedig ydyw hi. Y mae ei;
ddoethineb yn dyrysu cyngor pob Ahitophel sydd yn eu her-
lyn ; ac y mae hono yn gyfryw na bydd perygl y caifF neb
achos i ddywedyd, fod y doeth wedi ei ddal yn ei gyfrwysdra.
lë, ' gan fod Duw drostynt, pwy a all fod i'w herbyn .?' Cyfailt
trwyadl ydyw. Y mae yn elyn felly hefyd. Y mae yr un priod-
oliaethau yn perthyn i'w ddigofaint ag sydd i'w gariad. Y mae
ei hollwybodaeth yn Ilygad iV ddigofaint fel iV gariad. Y
mae ei hollalluogrwydd yn fraich i'w ddigofaint fel i'w gariad.
Y mae ei holl-bresenoldeb yn fantais i ddangos mawredd ei lidy
fel mawredd ei ras. Os gall ei gyfeillion ddy wedyd : — " Os yw
Duw trosom, pwy a all fod i'n herbyn .?" gall ei elynion ddy-
v/edyd, — ' Os yw Duw yn ein herbyn, pwy a ymladd drosom ?'
Gelyn trwyadl ydyw.
2. Y mae hefyd yn elyn parhaus. Nid i bechadur, ond r
bcchod. A thra y bydd cysylltiad rb.yngot ti â phechod, bydd
Duw yn sicr o fod yn elyn i ti. Y niae rhai, â'u llid yn greu-
lawn am ychydig ; ond nid ydyw yr hyn ydynt heddy w, yn ur>
prawf o'r hyn a fyddant yfory. Fe fygodd Ilid Esau am ychydig
yn erbyn Jacob ; ond fe giliodd Jacob i Mesopotamia, ac feoer-
odd llid ei frawd cyn iddo ddychwelyd. Fe ddigiodd Dafydd
yn ddirfawr wrth Absalom ; ■ ond nid hir y bu Absalom yn
ngwlad y Philistiaid cyn i lid y brenin gilio. Ond " nid dyn
yw Duw i ddywedyd celwydd ; na mab dyn i edifarhau ;" íe
fyga ei ddigllunedd Ef yn dragywydd.
Pechod yn ga>n d'r enai'J. 711
3. Y mae yn elyn cyfiawn. Y mae pechod wedi gosod dyn
mewn sefyllfa y byddai Duw yn anghyfiawn wrLh beidio ym-
ddwyn tuag ato fel gelyn. Ewyllys da yw ei waith yn trugar-
hau : gallasai beidio. Ond y mae angenrheidrwydd natur arno
i gosbi. Byddai raid iddo wadu eihun, cyn ygallai beidio talu
y pwyth i'w holl elynion. Geiriau sobr yw y rhai hyny o eiddo
y Salmydd : — '* Oni ddychwel yr annuwiol, efe a hoga ei
gleddyf; efe a anelodd ei fwa, ac a'i parotòdd ;" Salm vii. 2.
Nid nwyd ydyw ; ond llid seiliedig ar gyfiawnder. Yr oedd yr
afon danllyd a welodd Daniel yn dyfod oddi ger ei fron Ef, sef
o'i orsedd ; a chyfiawnder a barn ydy w seiliau yr orsedd hono.
Pe na weinyddid cosb ar elynion, ni allai y neb a fyddai yn
eistedd arni farnu y byd ; — b^'ddai ei ymherodraeth yn crynu
pe gadawai yr un meddwl gwrthryfelgar heb ei gosbi ; oblegid
trwy gyfiawnder yn unig y sicrheir gorsedd Jehofah, fel pob
gorsedd arall. Onid yw yr hwn sydd yn cyfifroi Duwi ddigof-
aint yn gwneyd cam â'i enaid ei hun ?
Yr ydych yn gwneyd cam â phawb wrth bechu. Y mae y
tad diweddi, yn gwneyd cam â'i deulu : y maeefyn greulonach
wrthynt na'r estrys wrth ei chywion. Y mae y cymydog
annuwiol, yn gwneyd cam â'r gymydogaeth. Y mae ei bresen-
oldeb mewn ardal fel pla yn yr awyr. Y' mae pawb fydd yn
ei hanadlu hi mewn perygl o'i gael ef. Y mae dyn meddw, yn
gwneyd cam â'r dref y mae efe yn byw ynddi. Y mae ei esiampl
ddrwg ef yn amlhau pechaduriaid yn y lle. Ond nid yw y
cam y mae yn ei wneyd â phawb ond megis dim, o'i gymharu
â'r cam y mae yn ei wneyd à'i enaid ei hun. Beth yr ydych
yn ei wneuthur wrth bechu ? Gosod maglau ; ond chwi eich
hunain fydd yn cael eich dal ynddynt. Nyddu cainc y rhaíf
yr ydych, fydd yn eich rhwymo chwi eich hunain. "Ei an-
wiredd ei hun a ddeil yr annuwiol ; efe a ddelir â rhafifau ei
bechod ei hun." Chwi a feddyliech ambell fore wrth weîed y
tait'i yn esgyn i fyny, y byddai yn sicr o ddiflfodd yr haul ; ond
cyn y nos y mae yn eglur nad effeithia efe ddim ar yr haul :
i'r gwrthwyneb, y mae yn disgyn yn wlaw ar yr un man ag yr
esgynodd o hono. Y mae eich pechodau chwithau yn codi fel
tarth i flFurfio cymylau i ddiflfodd yr haul ; O ! na, ni wnant
ddim i'r Haul ;— disgyn yn gawod arnoch chwi cich hunain a
7î2 Pechod yn gam tfr enaîd.
wnant. " Os pechi, pa niwed a wnei di iddo Ef ? os aml fydd
dy gamweddau, pa beth yr wyt yn ei wneyd iddo Ef?" "Ei
anwiredd a ymchwel ar ei ben ei hun."
Ond ni ddylwn dewi heb ofyn, A oes yma neb yn teimlo
awydd i gael unioni y cam ? Os oes, y mae yn dda genyf gael
coffau yr adnod a lefarodd yr angel wrth Joseph : — "Ti a elwi
ei enw Ef lesu : oblegid Efe a wared ei bobl oddiwrth eu
pechodau ;" Mat. i. 21. Y mae yn rhaid i bechod suddo; ond
nid oes rhaid i bechadur fyned i lawr. Y raae yn rhaid i
bechod gael ei gosbi ; ond fe all pechadur ddianc. Y mae yn
rhaid i bechod gael ei alltudio o ŵydd Duw ; ond fe all pech-
adur gael sefyll ger ei fron. Y mae yn rhaid i'r cymylau
yna ddisgyn yn wlaw ar y ddaear ; ond nid oes rhaid i ti fod o
dan y gawod. Y mae "g\vr fydd megis yn ymguddfa rhag
y gwynt, ac yn lloches rhag y dymhestl." Y mae yn
rhaid gofyn y ddyled ; ond nid oes rhaid i ti fyned i'r
carchar ; oblegid y mae yna un yn barod i ddywedyd wrth y
gofynwr, — "Os ydyw yn dy ddyled di o ddim, cyfrif hyny
arnaf h." A chofiwch mai pechod y pechodau ydyw gwrthod
gadael i'r lesu unioni y cam. Gall Efe ei wneyd i fyny, fel y
mae yn erbyn Duw, a gwellâu ei eflfeithiau arnat ti dy hun. Y
mae ganddo aberth yn iawn i Dduw, a bahn i lithau; cyfiawn-
der i dy wneyd yn ddifai gerbron yr orsedd, a sancteiddrwydd
hefyd i'th wneyd yn hapus yn y llys. Ond os pechwch chwi
yn erbyn yr lesu, hon fydd eich damnedigaeth chwi am dra-
gywyddoldeb. Fe fydd y cam a gaiíf yr enaid O wrthod
Ceidwad, yn peri i bob cam arall a wneir âg ef, fyned yn llai
na dim yn ei ymyl am byth. Na wnewch i chwi eich hunain
y niwed mawr hwn.
[Boreu Mercher, lonawr 15, 1852],
PREGETH XLIV.
DATGUDDIAD Y GYFRAITH A DATGUDDIAD LLYGAID.
Salm cxix. 18. — " Datguddia fy Uygaid, fel y g-welwyf bethau rhyfedd
allan o'th gyfraith di."
E ddywedir i ni yn y Bibl fod dyn wrth natur yn
" rhodioyny tywyllwch," — "yn meddiant y tywyll-
wch," — ac "yn dywyllwch." Pan ddaeth pecliod
i'r byd, fe ddaeth dau fath o dywyllwch gydâgef, sef tywyllwch
euogrwydd ar lygad meddwl dyn, fel, pe buasai sylfaen i obaith
by wyd tragywyddol i'wchanfod mewn rhy w gẁr, ni allasai dyn
syrthiedig ei gweled, am fod euogrwydd fel cèn yn gorchuddio
llygaid ei feddwl. Ond yr oedd tywyllwch arall, nid yn unig
ar ei lygaid ef, ond ar wrthddrychau by wyd tragy wyddol hefyd:
am hyny, pe buasai llygaid meddwl dyn syrthiedig mor graíf a
phan oedd yn uniawn, buasai yn anmhoàbl canfod sylfaen i
obaith bywyd tragywyddol mewn un man, oblegid yr oedd
tywyllwch perfFaith wedi gorchuddio achos pechadur. Yr oedd
dyn *' yn y tywyllwch," — dyna y gwrthddrychau wedi diflaau
•o'i olwg. Yr oedd ef '* yn dywyllwch " ei hunan, — dyna y
gallu i weled wedi ei golli. I wneuthur i fyny y ddau ddiffyg
yma, yr oedd dau ddatguddiad yn angenrheidiol, sef datgudd-
iad gwrthddrychau, a datguddiad llygaid. Heb y cyntaf, sef
datguddiad y giLrthddrychaii^ buasai yr ail yn ofer ; ac heb yr
ail, sef y datguddiad Hygaid, fe fydd y cyntaf yn fyr o ateb ei
■ddiben.
Y mae un datguddiad wedi ei roddi eisoes, sef o'r gwrth-
ddrychau, — ' pethau rhyfedd y gyfraith ;' ac yn y testyn, y
îiiae y Salmydd yn gweddio am yr ail^ sef y datguddiad llygaid
7 1 4 Datgiiddiad y Gyfraith a datgtiddiad lìygaid.
i weled y pethau rhyfedd : — " Datguddia fy Hygaid, fel y gwel-
wyf bethau rhyfedd allan o'th gyfraith di."
Datguddiad o Dduw ydyw pob peth natur : amlygiad o
Greawdwr ydyw creadigaeth ; ac i greadur rhesymol perfiTaith,
yr oedd datguddiad y greadigaeth yn ddatguddiad períTaith.
Gwendid a gwagder ydyw creadur ; ond gallasai ddarllen yn
llyfr creadigaeth, fod yr Hwn a'i gwnaeth hi yn gadarn, yn
ddoeth, ac yn dda ; oblegid cadernid a doethineb dwyfol, wedi
eu bwrw i fold y daioni dwyfol, ydyw creadigaeth. Ond wedi
i ddyn bechu, nid oedd creadigaeth yn llefaru yr un iaith wrtho
ag a wnai cyn hyny. Er mai yr un nefoedd oedd uwch ben,
a'r un ddaear dan draed, eto nid yr un peth oeddent yn ei
drosglwyddo i feddwl Adda wedi pechu, a chyn hyny. Wermod
oedd ê yn ei gael wedi syrthio, o'r man y byddai yn arfer cael
mêl pan yn uniawn. Pan yn uniawn, yr oedd yr oll iddo fel
gwlith y bore, yn fendith ddistiw, adfywiol ; ond wedi syrthio,
yr oedd pob peth yn dangos fod trigianydd y ddaear wedi an-
foddloni ei pherchenog. Er bod daioni yn argrafFedig ar holl
weithredoedd yr Arglwydd, eto ni fedrai dyn syrthiedig ei
ganíod ; oblegid y mae euogrwydd yn cael effaith felly ar y
meddwl, fel na wêl y dyn euog ddim rhagoriaeth yn y gwrth-
ddrych y mae ef wedi troseddu yn ei erbyn. Y mae yn esbonio
yr oU fel arwyddion o anfoddlonrwydd a digofaint, am ei fod ef
yn teimlo mai hyny ydyw ei haeddiant. Yn lledarllen gogon-
iant Duw yn y nefoedd, a gwaith ei ddwylaw yn y íTurfafen, yr
oedd dyn yn darllen ei dynged dragywydtol ar yr oU. Er bod
dydd i ddydd yn traethu ymadrodd, a nos i nos yn dangos
gwybodaeth, eto yr oedd pob ymadrodd yr oedd y dydd yn ei
draethu, a phob gwybodaeth yr oedd y nos yn ei ddangos, yn
Ue troi dynyn ol at Dduw, yn ei alltudio yn mhellach oddi-
wrth Dduw. Un cadarn ydywDuw, meddai y nefoedd : gelyn
ì mi ydyw, meddai y galon euog. Un gogoneddusydyw Duw,
meddai y íîurfafen: selio fy namnedigaeth i y mae hyny, meddai
y gydwybod euog.
Y mae pob datguddiad o Dduwyn llawn daioni : ni wyddom
ni ddim am un rheswm ond daioni i'w roddi dros y naill a'r
llall. O ran dim sydd yn wybyddus i ni, gallasai y Duw ocdd
wcdi bod o dragywyddoldeb heb fod yn Grcawdwr, barliau
Datguddiad y Gyfraith a datguddìad llygaid. 7115
felly i dragywyddoldeb, oni buasai i'w ddaioni ei gymell i greu.
A'r un peth ag a'i cymhellodd i íod yn Greawdwr, a'i cym-
hellodd Ef hefyd i fod yn lachawdwr ; ond ei fod yn myned
o dan enw arall, am fod mwy o hwnw yn dyfod i'r amlwg, sef
gras a thrugaredd.
Y mae pob datguddiad o Dduw hefyd yn rhyfedd ; oblegid
ynddynt oll y mae yr anweledig yn dyfod i ryw raddau yn
weledig. Yr oedd pob peth Duw yn anweledig cyn creadigaeth;
ond byth er hyny, "y mae ei anweledig bethau Ef" i'wgweled
yn y pethau a wnaed. Y mae priodoliaethau y Duw mawr yn
anweledig o angenrheidrwydd i greadur : nis gellir eu hadwaen
ond wrth eu heffeithiau ; a'r gwaith hwnw sydd yn amlygu
mwyaf o'r priodoliaethau dwyfol ydyw y datguddiad rhyfeddaf
o DduAV. Priodol ynte y gelwir datguddiad y gyfraith yn
rhyfeddodau ; oblegid yn hwn y gwelir mwyaf o garacter y
Duw mawr. " Datguddia fy llygaid, fel y gwelwyf bethau
rhyfedd allan o'th gyfraith di."
Yn awr ni a sylwn ychydig ar y ddau ddatguddiad : dat-
guddiad y gyfraith, a datguddiad llygaid. Y mae y ddau yn
ddwyfol, — yn rhyfedd, — ac yn angenrheidiol. — I. Ni a alwn
eich sylw at ryfeddodau y cyntaf. II. At yr angenrheidrwydd
sydd am yr ail. Ac wrth son a gwrando am y cyntaf, lleí ein
henaid fyddo am i'r Arglwydd roddi yr ail, nes y byddom yn
gweled rhyfeddodau
I. Y mae datguddiad y gyfraith yn rhyfedd, am ei fod tuhwnt
i allu dyn ei ganfod. Y mae rheswm dynol wedi cael allan
lawer dirgelwch, ond ni chafodd ê ddim allan ond oedd eisoes
yn bod. Gwaith Creawdwr ydyw dwyn pethau i fòd. Eithat
creadur ydyw sefyli ac edrych ar y pethau hyny. Duw sydd
yn ysgrifenu : darllen yr ysgrifen, a myncgu ei deongliad,
ydyw gwaith dyn. Yr oedd holl gynwys y gyfraith yn ddoeth-
ineb guddiedig oddiwrth y rheswm dynol, fel na welodd llygaid
yr un philosophydd ddim o honi. Ni chly wodd clust yr un o'r
doethion son am dani ; ac ni ddaeth i galon y dychmygwr
cywreiniaf ar y ddaear feddwl am y fath beth, a darpariaeth
Duw i'r rhai a'i carant Ef.
Fe adawodd yr Arglwydd, i ryw ddibenion doeth, y byd oll,
ond rh; n.lir íechan Israel, am bedair niil o flynyddoedd, yn
7 1 6 Datguddiad y Gyjraith a datgtiddiad llygaid.
amddifad o bethau rhyfedd y gyfraith ; ond yn ystod yr amser
maith hwnw, nid adnabu y byd drwy ddoethineb mo Dduw.
A phe buasai yn bosibl i reswm dynol adwaen Duw fel Duw
iachawdwriaeth, heb ddatguddiad, buasai yn sicr o wneuthur
hyny rywbryd yn yr ysbaid maith hwnw, oblegid ni bu y
meddwl dynol erioed yn gryfach neu yn íwy bywiog nag yr
oedd y pryd hyny. Y mae cynyrchion y meddyliau mawiion
oeddent ar y ddaear yn y dyddiau hyny, wedi bod yn destynau
myfyrdod a syndod i bob oes o hyny hyd yn awr. Nidoeddent
ychwaith yn ddifFygiol mewn gwybodaeth o Dduw o eisiau troi
eu sylw at hyny ; oblegid hyn oedd gwaith mawr eu bywyd.
Yr oedd gweithred y ddeddf 3^ ysgrifenedig yn eu calonau : y
gydwybod yn eu cyhuddo, neu yn eu hesgusodi yn barhaus ; —
eu meddyliau yn fynych yn rhodio cilfachau rhyw ddyfnder
tuhwnt i derfynau amser. Yr oedd y pethau hyn yn eu cadw
yn fywiog drwy eu hoes i geiso cael rhyw ffbrdd i ddianc gydà
Duw.
Ac feallai na bu y meddwl dynol erioed yn gryfach, os mor
gryf, ag ydoedd y pryd hwnw ; — i'r Arglwydd yn ei ddoethineb
drefnu fod cewri mewn deall ar y ddaear yn y dyddiau hyny,
er mwyn rhoddi prawf i holl oesoedd y ddaear, fod yn anmhosibl
i'r byd drwy ddoethineb adnabod Duw. Yr oeddent yn
ddoethion ymhob peth arall ; ond íFyliaid oeddent yn hyn.
Nid ydym ni, yn yr oes oleu hon, ond yn eu dilyn hwy, a
hyny o hirbell, mewn llawer o gelfyddydau a gwybodaethau.
Ni allwn ni ddim ysgrifenubarddoaiaeth, yn werth ei ddarllen
yr un dydd â'u barddoniaeth hwy. Nid yw ein haneswyr ni,
ond plant mewn cymhariaeth iddynt hwy ; — ein hareithwyr
ífraethaf ni, ond fel Moses safndrwm yn eu hymyl hwy. Ond
nid oedd yr areithiwr fyth, yn ei fynydau hapusaf, yn gallu
taflu yr un pelydr o oleuni ar y byd a ddaw. Nid oedd ysbryd-
oHaeth y bardd byth, yn datguddio iddo yr un tremwedd ar
sylfaen gobaith bywyd tragywyddol. Ac ymhhth holl ddis-
grifiadau cywrain yr hanesydd, nid oedd yno ddisgrifiad, mewn
un man, o lachawdwr i blant angau. Gosodwyd natur ar yr
arteithglwyd i gael iddi fynegu ei hoU ddirgelion. Yr oedd
hithau yn amlygu iddynt y naill sccret ar ol y llall ; ond pan y
gofynid y cwestiwn mawr iddi, — " Pa fodd y cyfiawnheir dyn
Datgîiddiad y Gyfrmth a datguddìad llygaid. 7 î 7
gydâ Duw ?" — pa beth a dawela gydwybod euog ? Yr oedd hi
mor fud a'r bedd uwchben hwnyna. Pan y gofynid iddi, Pa
fath un yw Duw ? Yr oedd hi yn ateb yn y fan, — " Wele,
mawr ydyw Duw." Pan y gofynid iddi, Beth oedd ei feddwl
am drigoHon y ddaear ? yr oedd ei hateb yn gymysglyd i'r
cwestiwn yna. Yr oedd y gwlaw o'r nefoedd, a'r tynihorau
íTrwythlawn, yn dywedyd mai meddyliau o hedd oedd yn ei
fynwes ; ond yr oedd y daran ofnadwy, — y fellten angeuol, —
a'r pla marwol, yn dangos fod digofaint yn bod. Ond sibrwd
am y perygl oedd eithaf creadigaeth : nid ydoedd gras a thrugar-
edd ddim yn ei llyfr hi : yr oedd Cyfryngwr, iawn, maddeuant,
a chymod, yn eiriau anadnabyddus i'w hiaith hi. Pe buasai hi
yn cael ei chadw ar yr arteithglwyd am byth, ni buasai yn
yngan yr un o honynt. Dirgelwch cuddiedig oddiwrth bawb
oedd rhyfeddodau y gyfraith, ac a fuasent byth, heb i Dduw ei
hunan eu datguddio.
2. Y mae cynwys y gyfraith yn rhyfedd ynddo ei hun. Y
mae rhai pethau na buasem ni yn gallu eu cael allan, eto wedi
i un arall eu dangos, nid ydynt mor rhyfedd wed'yn. Nid felly
y gyfraith : y mae ei holl gynwys hi yn rhyfeddodau. Ac nid
y lleiaf o'r rhai hyny ydyw, agosrwydd y gyfraith atom. Pan
gofiwn ni pwy sydd yn llefaru, y mae iaith Moses yn dyfod yn
bur briodol, — " A fu megis y mawrbeth hwn, neu a glybuwyd
ei gyffelyb ef : a glybu pobl lais Duw yn llefaru o ganol y tân,
fel y clywaist ti, a byw ?" Y mae gagendor mawr rhwng Duw
a dyn yn y greadigaeth, fel na all dyn wrth chwiHo ga,el
gafael ar Dduw. Er ehedeg i fyny i'r nefoedd, y mae Duw yn
uwch : er disgyn i lawr i uíîern, y mae Duw yn ddyfnach : er
teithio hyd y ddaear, y mae Duw yn hwy : er myned ymlaen
at yr amser pan fydd creadigaeth yn ymollwng, nid yw Duw
yno i ddyn : er myned yn ol at yr amser yr oedd creadigaeth
yn dechreu, ni fedr dyn ei ganfod Eí yno chwaith. Y mae
gagendor anfeidrol rhyngddo à Duw ymhob man. Ond yn y
gyfraith, y mae y gair yn agos atom, — yn ein genau, hynyyw,
yn ein hiaith ; — yn ein calon, hyny yw, y mae yn ddatguddiad
y gallwn ni feddwl am dano a'i ddeall. Cyn y gelHd astudio y
datguddiad cyntaf, yr oedd yn rhaid esgyn i'r nefoedd i wybod
ei huchder,— disgyn i uffern i blymio ei dyfnder,— teithio y
7i8 DatgtLddiad y Gyfyaiîh a datgìiddìad llygaìd.
ddaear i wybod ei hyd, — croesi y niòr i wybod ei led, — ac wedi
hyn oll, rnor fychan ydyw yr hyn ydym ni yn ei glywed am
dano Ef. Yn y greadigaeth, y mae Duw yn guddiedig ac
ymhell ; — yn y nefoedd, y mae llawer oM ogoniant ; y mae yn
rhaid i rywun ddringo drosom ni yno, cyn y gallwn ni wybcd
remawr am dano. Tuhwnt i'r môr, y mae eraill o'ì briodol-
îaethau wedi eu hamlygu ; v mae yn rhaid i rywun dramwy
drosom ni yno, cyn y clywom ni am y rhai hyny. Ond cs
ydy w Ef ymhell yn y greadigaeth, y mae yn agos iawn atom
yn y gyfraith. Os rhaid myned yn uchel i ddarllen cadernid,
ac yn isel i ddarllen doethineb, y mae gras a thrugaredd yn
agos atom. " Duw, cariad yw," yn ein genau ac yn ein calon,
a hwnw *' yw gair y ffydd," sydd yn natguddiad y gyfraith.
Yr oedd Duw mor bell oddiwrth ei greadur yn y greadigaeth
fel yr oedd y philosophyddion doethaf yn methu, ar ol oes o
ymchwiliad, cael gafael arno ; ond y mae Efe mor agos yn y
gyfraith, fel y mae plentyn, deng mlwydd oed, yn gwybod mwy
am Dduw oddiwrthi hi, nag a wyddai yr athronydd, deng
mlwydd a thriugain, oddiwrth y greadigaeth. Y mae yr
Arglwydd yn llefaru yn y greadigaeth fel Duw, megis y llefar-
odd wrth Israel ar Sinai ; ond yn y gyfraith y mae yn llefaru
megis dyn, fel y llefarodd wrth Moses, " wyneb yn wyneb."
Ond er mor agos atom ydyw y datguddiad, — y llyfr hwn, —
y mae ê wedi costio mwy i'r Awdwr o lawer na'r cyntaf. Nid
peth bychan oedd troi daioni yn ras. Ni chostiodd hi ddim i
Dduw ysgrifenu " Ydwyf," ond y gair bydded. Fe gerfiodd
hwnw Hollalluogrwydd ar bob peth ; ond cyn yr oedd yn bosibl
ysgrifenu " trugarog a graslawn," ar ol enw y Duw mawr, yr
oedd rhywbeth yn angenrheidiol heblaw dywedyd gair.
Cyfiawnder yn cusanu daioni sydd yn y greadigaeth ; ond
cyfiawnder yn cusanu gras sydd yn y gyfraith. Yr oedd i gyf-
iawnder a daioni gyfarfod yn rhyfedd ; oblegid nid oedd yno
ddim rhwymau ; ond os nad oedd yno rwymau, nid oedd yno
ddim rhwystrau ; ond y mae rhwystrau mawrion ar ffordd
cyfarfyddiad cyfiawnder a gras ; eto y mae y ddau wedi cyd-
gyfarfod yn y gyfraith : cyfiawnder wedi seilio gorsedd gras ;
*■' fel y teyrnasai gras, trwy gyfiawnder, i fy wyd tragywyddol."
Pe na buasai cynwys y gyfraith yn rhyfeddodau, buasai hyny
Datgiiddiad y Gyfraìth a datgiLddiad llyg aid. 719
yn ddigon o brawf, mai nid oddiwrth Dduw y daethai hi: pe
na buasai yn cynwys dim ond oedd yn adnabyddus o'r blaen,
ni buasai yn angenrheidiol ; a buasai hyny yn ddigon o brawf
mai nid oddiwrth Dduw y daethai hi. Y mae dirgelwch
ynddi o angenrheidrwydd ; oblegid y mae hi yn gorfod disgrifio
pethau tragywyddoldeb yn iaith y ddaear; am hyny nid ydym
yn anghredinwyr wrth ddarllen am wlad lawn o oleuni, heb
haul;— gwlad lawn o dân tragywyddol, ac eto yn dywyllwch
eithaf ; — gwlad lle mae y trigólion oll yn ofifeiriaid ac yn
frenhinoedd, ac eto oll yn wasanaethwyr ;— gwlad yn Uawn
bywiogrwydd, lle nad oes gorphwysdra am fomenl, ac eto gor-
phwysdra ydyw enw y wlad. Yn yr olwg ar hyn, ni allwn lai
na gweled ynfydrwydd y dynion hyny sydd yn gwrthod y
gyfraith am ei bod hi yn rhyfedd : ni chredant hi, am na all
eu meddwl bach hwy ei chynwys hi; fel pe buasai eu gallu-
oedd hwy i amgyfifred, i fod yn fesur gwirionedd pob peth.
Pan y mae dirgelion fyrdd o'n hamgylch ni yn y greadigaeth,
y mae ein gwybodaeth fach ni yn annhraethol ry fer i ddeall
hyn: nid oes ond cam rhyngom ni â'r niwl yma. Y mae y
Duw mawr wedi ysgrifenu ar bobpeth " hyd yma y deui;" a
dyma derfynau dy ddeall bach di. Ac a awn ni, sydd yn methu
amgyffred dim bron am y byd hwn, i wrthod llyfr sydd yn
disgrifio byd araD, am na fedrwn ni ei ddeall oll ? Pa sut y
gallasai y gyfraith beidio a bod yn rhyfedd ? Duw ydyw ei
hawdwr hi ; — ysbryd a thragywyddoldeb yw ei threfn hi ; — y
byd a ddaw y mae hi yn ei disgrifio ; ac â thynged dragywydd--
ol dynion y mae a fyno hi.
Y mae y gyfraith wedi gwneuthur â rhyfeddodau y byd
ysbrydol, yr un peth ag y mae celfyddyd wedi ei wneuthur à
rhyfeddodau y byd naturiol. Y mae doethion y ddaear wedi
dyfeisio gwydrau nerthol, trwy gyfrwng pa rai y mae ysbryd
dyn yn gallu cymeryd ei daith trwy ranau helaeth o ymher-
odraeth Duw. Y mae enaid dyn wedi ei rwymo â dwy gadwyn,
ssf amser a phellder. Y mae y rhai hyn yn ei gadw yn
garcharor mewn cell. Dymunasai wytod beth oedd mewn oes-
oedd pell yn ol ; ond yr oedd cadwyn amser am dano, fel na
allai fyned yn ol. Fe dorwyd hon gan gelfyddyd, trwy gyf-
rwng hanesyddiaeth. Y mae yn gallu byw yn yr oesoedd
720 Datgiiddiad y Gyfraith a datguddìad llygaid.
2l aethant heibio. Dymunasai wybod beth oedd i fyny ymysg
ser Duw ; ond yr oedd cadwyn pellder yn ei gadw rhag hyny.
Y mae hon hefyd wedi cael ei dryllio gan gelfyddyd. Y mae
drws carchar yr enaid wedi ei agor, nes y mae yn awr yn gallu
cymeryd ei daith yn ol, i'r oesoedd a aethant heibio, neu ynte i
fyny i blith ser Duw. Y mae un o'r offerynau hyn, a ddefnyddir
gan gelfyddyd, yn nerthol iawn i weled ymhell ; y mae un arall
lawn mor nerthol i weled yn agos : un yn dangos rhyfeddodau
yn y nefoedd, na buasem ni ddim yn gallu eu gweled â'r llygad
noeth ; y Uall yn dangos rhyfeddodau ar y ddaear, oeddent yr
un mor anweledig i ni a'r lleill. Y mae y naill yn dangos fod
y Duw anfeidrol yn gallu gwneuthur pethau mawrion iawn, a'r
llall yn dangos ei fod yn gallu gwneuthur pethau bychain
iawii. Ar ol edrych drwy y cyntaf, yr ydym yn dy wedyd^mewn
syndod, Beth sydd yn anmhosibl i allu Duw.? ar ol edrych
drwy yr ail, yr ydym yn dywedyd mewn syndod, Beth sydd yn
anmhosibl i ddoethineb Duw ? Cyffelyb i'r rhai hyn ydyw y
gyfraith. Yr oed.i eisiau yr yspienddrych i ddangos rhyfedd-
odau bydoedd eraill, a'r chwydd-wydr i ddangos rhyfeddodau
y byd hwn. Dyma'r gyfraith — yspienddrych i edrych ar dra-
gywyddoldeb, a chwydd-wydr i edrych ar am.ser. Wrth
edrych drwyddi i'r byd a ddaw, ni a welwn dragywyddoldeb
yn ei liw ei hun ; wrth edrych drwyddi i'r byd hwn, ni a welwn
amser yn ei faintioli ei hun. Wrth edrych yn ol drwyddi, y
mae hi yn diddymu amser a phellder, — yn tynu tragywyddol-
deb i amser ; neu, yn hytrach, yn ein dwyn ni o amser iddo ef.
Er gadael i'n Uygaid grwydro, ni welwn ni ddim o Dduw y
Creawdwr mewn un man. Nid oes yr un byd yn hongian
yn y gwaçle ; — nid oes yr un o ser y bore yn canu; ond nid hir
y byddwn yn ngwlad y tywyllwch a'r diddymdra yma, cyn
cly wed y distawrwydd yn cael ei dori ; — â'r gair bydded ?
nage ; ond â gair anwylach o lawer i bechadur : y Duw mawr
yn cyhoeddi ei enw, am y waith gyntaf erioed ; — " Alyfi yw
Duw Hollalluog?'' nage ; — " Myfi yw Duw y cariad ;" "à
chariad tragywyddol y'th gerais;" achyngor hedd fydd rhyng-
ddynt ill dau ;" '' Pwy a anfonaf " i gyfodi meibion Adda, — i
adfcru colledigion ycodwm? A'r Mab tragywyddol yn ateb,
— " Wele fi, anfon fi."
Dntgiiddiad y Gyfraith a datgiiddiad lîygaid. 721
Wrth edrych ymlaen drwyddi, ni a welwn yr angel yn sefyll ar
y inôr a'r tir, i dynoju na bydd amsermwyach ; — y greadigaeth
yn ymollwng ; — y farn yn eistedd ; udgorn Duw yn seinio; —
y llyfrau yn cael eu hagoryd ; — y ddau air pwysig yn cael eu
seinio, sydd â thynged dragywyddol meibion Adda ynddynt—
^' Ewch," a " Deuwch ;" — llywodraeth trugaredd wedi terfynu ;
— awenau creadigaeth yn cael eu rhoddì yn nwylaw cyfiawnder
pur ; — pob elfen yn cael ei lle ei hun ; — y gymysgfa wedi dar-
fod ; — gagendor anfeidrol rhwng sancteiddrwydd a Uygredig-
aeth ; — a Duw oll yn oll yn ei greadigaeth, — ei lid, neu ei
gariad yn llenwi pob cwr o honi.
Wrth edrych drwyddi ar y byd hwn, ni a welwn amser yn
ei faintioli a'i bw^'sigrwydd ei hun. Pabeth ydyw amser ? Y
mae ymddygiadau y bydol-ddyn yn dywed^^d mai enw arall
ar dragywyddoldeb ydyw amser, a bod y byd hwn yr un peth
a'r byd a ddaw. Y mae ymddygiadau yr oferddyn yn ateb,
fod amser yn beth rhy ddibwys i sylwi arno am foment, — rhy
ddiwerth i wneuthur dim defnydd o hono. Ond y mae y gyf-
raith yn dangos fod y ddau wedi camgymeryd : un yn ei
wneuthur yn rhy bwysig, a'r llall yn rhy ysgafn. Lled llaw
ydyw o'i gymharu â thragywyddoldeb ; ond pwysig ryfeddol
yn ei gysylltiad â thragywyddoldeb. Os mynech chwi ffurfio
barn gywir am bethau, edrychwch arnynt drwy'r gyfraith. Tydi,
ddyn ieuanc, edrych drwyddi, gydâ Joseph, ar y pechod bychan
yna sy bron yn rhy fychan i'r Ilygad noeth ei ganfod ; — beth
ydyw yn awr ? "Y mawr ddrwg hwn.'" Tydi, yr hunan-
gyfiawn, edrych drwyddi, gydâ Paul, ar y wisg brydferth sy
genyt i fyned ynddi i'r byd a ddaw ; — beth ydyw hi yn awr ?
" Bratiau budron." Tydi, sydd â'r galon dda, edrych arni gydâ
Jeremiah drwy'r gyfraith ; — beth ydyw hi yn awr ? " Mwy ei
thwyll na dim, a drwg diobaith ydyw ; pwy a'i hedwyn ?"
Tydi, sydd yn ameu llwgr gwreiddiol, edrych gydâ Dafydd ar
y natur ddynol yn ei mabandod ; — beth ydy w hi yn awr ?
" Mewn anwiredd y'm lluniwyd, ac mewn pechod y beichiog-
odd fy mam arnaf." Wrth edrych drwyddi i'r nefoedd, mi a
welaf y Duw anfeidrol yn cerfio fy ymddygiadau i, bryfyn y
îlwch, ar lyfrau adamantaidd y byd a ddaw. Wrth edrych
drwyddi i fy rnynwes, mi a welaf fy nghydwybod fy hun yn
722 Datgîiddiad y Gyfraith a datguddiad llygaid.
ysgrifenu copi oV un peth ag sydd yn y nef. Wrth edrych i
fyny drwyddi, mi a welaf wedi ei ysgrifenu à phin haiarn cyf-
iawnder, — "Gwybydd y geilw Duw di i'r farn am hyn oll."
Wrth edrych i lawr i waelodion fy nghalon, mi a welaf, er fy
syndod, yr un geiriau wedi ei hysgrifenu à rhyw bin nad oes
modd dileu ei argraff, yn hono hefyd.
Ond nid oes dim mwy, os cymaint, rhyfeddod yn y gyfraith^
a chyfaddasrwydd y pethau y mae hi yn eu dangos yn y byd
arall, i'r pethau y mae hi yn eu dangos yn y byd hwn. Wrth
edrych drwyddi ar y byd hwn, y mae myrdd o gwestiynau yn
ymgynyg i'n meddwl ; ond wrth edrych drwyddi ar y byd a
ddaw, y mae ateb i'w gael i bob cwestiwn. Wrth edrych ar fy
nghalon, yr wyf yn barod i ddywedyd, — " Pwy a ddeall ei gam-
weddau?" "Amlach ydynt na gwallt fy mhen ; am hyny y
pallodd fy nghalon ynof." Ond wrth edrych i'r nefoedd, mi a
welaf " Oen Duw, yr Hwn sydd yn tynu ymaith bechodau y
byd." Ar ol edrych i'r ddaear, yr wyf yn barod i ofyn, " à pha
beth y deuaf gerbron yr Arglwydd, ac yr ymgrymaf gerbron
yr uchel Dduw ?" Ond wrth edrych i'r nefoedd, mi a welaf
" Oen, megis wedi ei ladd," " ac Efe yw'r iawn." Ar ol edrych
ar fy mywyd, yr wyf yn barod i ysgrifenu mewn anobaith, —
"Mwy yw fy anwiredd nagy gelHr ei faddeu ;" ond wrth edrych
i fyny, mi a welaf wedi ei gerfio gan ras, — " Ffyddlawn yw Efe
a chyfiawn, fel y maddeuo." Os dengys hi enaid duach na'r
Ethiop, hi a ddengys hefyd ffynon a all gànu yn wynach na'r
eira. Os gwelaf wagder creadur mewn un man, mi a welaf
gyílawnder y Duwdod yn y Uall. Os gwelaf warth noethni
Eden yma, mi a welaf y wisg oreu, cyfiawnder y Duw-ddyn,
drwy yr ail. Wrth edrych ar fy nghalon, y mae y ddeddf yu
dyfod, ac yn fy lladd i ; wrth edrych i'r nefoedd, y mae yr
efengyl yn dyfod, ac yn fy my whau i. " Pethau rhyfedd " y
gyfraith — rhyfeddodau yw hi oU. Y mae yn agoriad i agor
dorau tragywyddoldeb; yn ganwyll i ddangos beth agymerodd
le cyn i oleuni amser gael ei greu ; yn deiescope i dynu y byd
a ddaw i'r ymyl ; yn gerbyd i dy drosglwyddo di at orsedd
barn. Rhyfeddodau Duw sydd yma ; — disgrifiad o \ierth braich
y Duw cyfiawn, — o burdeb natur y Duw sanctaidd, — o dyner-
wch calon Duw'r cariad. Yr wyf yn gweled yn y Ilyfr ryw air
Dafgîiddiad y Gyfraiih a dalguddiad llygaid. 723
bychan, digon i wneyd uffern i bechadur : — " Cyfiawn yw
Duw." Yr wyf yn gweled ynddo ryw air bychan sydd â thra"
gywyddoldeb o drueni i'r halogedig ynddo : — '^ Sanctaidd yw
Duw." Ond y mae yma hefyd ryw air bychan arall, sydd â
íiefoedd ddiddarfod o hapusrwydd ynddo i'r duaf o feibion
Adda : — " Duw, cariad yw." Y mae y Duw sanctaidd, yn
Dduw 'r cariad ; — y Duw cyfiawn, yn Dduw 'r gras ; yr Hwn
«ydd lanach ei lygad nag y gall edrych ar ddrwg, yn sylwi
mewn trugaredd ar yr halogedig ; — yr Hwn y mae ei gyfiawn-
■der fel y mynyddoedd cedyrn, yn myned heibio i anwiredd,
camwedd, a phechod ; — yr Hwn ni ddieuoga yr anwir, yn cyf-
iawnhau yr annuwiol. Dyma ryfeddodau ; ond pwy sydd yn
^eu gweled hwynt ? Pawb ? Nage ; feallai mai prin haner y
gynulleidfa hon sydd yn deall dim a ddywedwyd. Gallwn droi
at yr Arglwydd y foment hon, a dywedyd fel Ezeciel gynt, —
■" O Arglwydd Dduw, y maent hwy yn dywedyd am danaf,
Onid damhegion y mae hwn yn eu traethu?" Ni welsom ni
ddim tebyg i'r hyn y mae efe yn sôn am dano erioed. Nid yn
y wlad hon y mae y dynion â'r galon ddrwg yna yn byw. Yr
ydym ninau yn darllen y Bibl, ond ni weisom ni ddim o'r byd
a ddaw ynddo erioed ; — ni welsom ni ddim tebyg i ddydd y
farn ynddo erioed : gan hyny, ihaid mai damhegion y mae
hwn yn eu traethu. Beth y mae hyny yn ei brofi ? — profi mai
damhegion yr ydwyf yn eu traethu ì Nage ; ond profi yr
angen sydd am atebiad i weddi y testyn. Am hyny,cyn myned
dim yn nîhellach, ni a gydunwn i erfyn, — " Datguddia fy
llygad, fel y gwelwyf bethau rhyfedd allan o'th gyfraith di." Ac
y mae hyn yn €Ìn harwain at y peth arall a nodwyd genym : —
11. Yr ail ddatguddiad, a'r angen am dano : " Datguddia
fy llygaid, fel y gwelwyf bethau rhyfedd allan o'th gyfraith di."
Y mae yr ail, fel y cyntaf, yn Ddwyfol. Yr oedd yn rhaid
cael yr Ysbryd tragywyddol i roddi y cyntaf, a gwaith yr im
Ysbryd yw yr ail. Gwaith Duw i ddyn oedd y datguddiad
cyntaf ; gwaith Duw írr ddyn ydyw yr ail. Ond nid ydym
wrth sôn am yr ail, yn dywedyd yr un gair yn erbyn perffeith-
rwydd a chyfaddasrwydd y datguddiad cyntaf. Y mae cyfraith
yr Arglwydd yn berffaith, yn troi yr enaid ; ond y mae yn
trhaid agoryd Hygaid y pechadur i'w gweled cyn y bydd hi ya
724 Datgitddiad y Gyfraith a datguddiad ìlygaid.
effeithiol i'w droi. Y mae hyn yn gydffurf â holl weithredoedd
yr Arglwydd raewn creadigaeth a rhagluniaeth. Cydgyfarfydd-
iad dau achos sydd yn cynyrchu yr effaith, Y mae goleuni
wedi ei roddi yn y greadigaeth, a llygaid wedi eu rhoddi i
ddyn ; gweled ydyw, — canlyniad cyd-gyfarfyddiad y ddau. Y
mae bywyd yn yr hedyn bach yna ; ond y mae yn rhaid cael y
ddaear a'r hedyn i gyd-gyfaríod, cyn yr amlygir y bywyd
hwnw. Y niae gallu yn y ddaear i ffrwytho, a dwyn llysiau
yn hadu liàd ; ond y maeyn rhaid cael gwrêi yr haul a'r ddaear
i gyffwrdd â'u gilydd, cyn y datguddir y gaUa hwnw. Y mae
y ddau yn berffaith gyfaddas : yn ei hochr hi y mae y gallu i
ffrwytho yn berffaith gyfaddas ; — y mae yr haul yn berffaith
gyfaddas, 3-n ei ochr yntau : ond ni buasai y naill na'r llall, er
eu bod yn berffaith ar wahan, yn cynyrchu yr effaith, heb gyd-
gyfarfyddiad y ddau. C^'d-gyfarfyddiad dau beth, yn rhaglun-
iaeth yr Arglwydd, sydd 3'n cynyrchu yr effaith. Y mae y
morwr yn lledu ei hwyliau ; y mae yr Arglwydd yn rhoddi yr
awel i fyned â'r llestr yn ei blaen. Y mae yr amaethwr yn trin
ei faes ; y mae y nefoedd yn dyhidlo ei bendithion i beri iddo
ffrwytho. Y mae y diwyd yn ymofyn am gyfoeth ; y mae
bendith yr Arglwydd ar ei ddiwydrwydd yn ei gyfoethogi.
Nid ydyw yr athrawiaeth hon yn milwrio dim ychwaith yn
erbyn dyledswydd dyn. Y mae calon ddrwg dyn yn casglu
at ei hanwiredd o bob man : hi sugna wermod o'r mêl, — an^au
o fywyd; — y geiriau a fwriadwyd yn arogl bywyd i fywyd, hi a
dry y rhai hyny yn arogl marwolaeth i farwolaeth.
" Ond," medd rhywun, " os o'r nefoedd y mae yr
oll, y datguddiad cyntaf a'r ail ; — os llyfr seHedig a
fydd y Bibl, er pob peth a allaf ei wneuthur, nes y
symudir y seHau gan Ysbryd Duw ; — os na bydd y
bygythion yn effeithiol i'm dychrynu, na'r addewidion yn
effeithiol i'm diddanu, nes y caf oleuni byd araH; — mi a
arosaf yn Honydd yn fy mhechodau, nes y daw y datguddiad
Hygad." Na, nid dyna y casgHad naturiol oddiwrlh y gwir-
ionedd yma. Yn hytrach, O ddyn ! hyn ddylai fod dy iaith
di : — " Gan inai Hyfr seliedig a fydd y Bibl, nes yr agorir fy
Hygaid ; — gan y bydd y pethau sydd yn perthyn i'm heddwch
tragy wyddol yn guddiedig oddiwrthyf, hyd nes y caf ddatgudd-
Dafgîíddiad y Gyfraith a dacgiiddiad Uygaid. 725
îad ; — ni adawaf lonydd i'r nefoedd na dydd na no^-, ond mi
a fyddaf yn trydar yn wastad gerbron yr orsedd, — ' Datguddia
fy llygaid fel y gwelwyf ; ' ' lesu, Fab Dafydd, trugarha wrthyf,
a dyro i mi fy ngolwg.' " Y mae gras yn dyfod i gyfarfod
dyledswydd. Pan yr ydym mewn ysbryd gweddi yn darllen y
gair, y mae genym sail i ddisgwyl i'r Arglwydd agor ein
llygaid, i weled rhyfeddodau y gair ; oblegid trwy y gair y mae
yr Arglwydd yn datguddio y Ilygaid i weled y gair.
Y mae datguddiad Ilygaid yn angenrheidiol i ddau beth : i.
I ganfod gwirionedd, neu i sylweddoli, y datguddiad cyntaf.
2. I wneuthur y datguddiad cyntaf yn ein teimlad yn beth
personol. Y mae yn angenrheidiol, —
I. I'n galluogi i ganfod gwirionedd y datguddiad cyntaf. Y
mae gwahaniaeth dirfawr rhwng addef a chredu. Y mae y
íFydd sydd yn credu y Bibl, bob amser yn cael ei dilyn gan
weithredoedd cydíFurf â'r Bibl ; ac y mae pawb sydd heb
ddatguddiad Ilygaid i bob diben ymarferol yn anghredu y
Bibl. Nid ydyw peth mor bwysig a datguddiad o ewyllys
Duw ddim wedi ei anfon i'r ddaear, heb ddigon o brofion mai
oddiwrth Dduw y daeth. Y mae cwmwl o dystion o'i amgylch,
ac argrafF Ddwyfol o'i fewn, yn profi mai nid un o gynyrchion
y ddaear ydyw ; oblegid, " pwy a ddyry beth glân all o beth
aílan ? " A fuasai halogedigaeth yn cynyrchu sancteiddrwydd ?
— celwydd yn esgor ar wirionedd ? — chaos yn cynyrchu trefn ?
Neu ddynion Ilygredig yn gallu fFurfio crefydd, heb ynddi na
gẃyrni na thrawsedd ? — mor uniawn a Duw, — mor oleu a'r
haul, — mor bur a'r nefoedd ? Eto, er bod cymaint cwmwl o
dystion, y mae rhai yn ei wadu ar eiriau, a miloedd yn ei wadu
ar weithredoedd. Yn gyífelyb i'r luddewon hyny, er gweled
gwyrthiau yr Arglwydd lesu, eto, yr oeddent yn gallu haeru
wedi hyny mai twyllwr oedd. Ond yr oedd yno rai wedi cael
datguddiad Ilygaid i weled ei ogoniant. Gwaith ofer oedd
ceisio cael gan y rhai hyny gredu nad yr uniganedig oddiwrth
y Tad oedd lesu o Nazareth. Felly y mae pawb sydd wedi
cael datguddiad llygaid i weled rhyfeddodau y gyfraith, yn
teimlo ei bod hi yn wirionedd. Unwaith y daw y gwirionedd
i'r teimlad, yn ofer y ceisir tywyllu y deall : os gwneir hyny, ni
bydd y gelyn ddim nes i gario ei bwnc : fe fydd y gwir yno
wed'yn.
726 Datgicddiad y Gyjraith a datgiiddiad llygaid.
Datguddiad llygad sydd yn ein cynysgaeddu ni â'r prawf
mwyaf anwrthwynebol o wirionedd y Bibl ; oblegid y galon,
nid y pen, — y serch, nid y deall, — sydd yn gwneuthur un yn
gryf. Y mae canoedd o Gristionogion anllythyrenog yn ein
gwlad na wyddant am yr un prawf arall o wirionedd y BibL
Ynfydrwydd fyddai eu rhoddi i ymresyrau âg anffyddiwr am ei
■wyrthiau a'i brofion hanesiol ; fe a'u dyrysa hwynt yn union ;
ond y mae y Bibl wedi myned i'w calon, — wedi ymweithio
drwy eu serch hwynt: am hyny, er bod eu deall yn rhy wan i
ddadrys twyll anífyddwyr, y mae eu serch yn eu gwneuthur
yn ddigon cryf i farw dros eu Bibl, os bydd raid. Nid oedd y
wraig o Samaria ddim wedi bod yn cyferbynu y prophwydol-
iaetliau am y Messiah a hanes bywyd lesu o Nazarath â'u
gilydd, i gael allan mai Efe oedd yr un oedd ar ddyfod. Ni
wyddai hi ddim fod yr Hwn oeddyn ymddiddan â hi wedi ei eni
yn Bethlehem yn ol prophwydoliaeth Michah ; — ei fod wedi
trigo yn Nazareth fel y cyílawnid yr hyn a ddywedwyd trwy y
prophwydi ; — ei fod wedi dechreu ei v/einidogaeth yn nghyffin-
iau Zabulon a Nephthali, yn ol prophwydohaeth Esay ; ei fod
yn iachau pob clefyd ac afiechyd, ymhhth y bobl, fel y cyflawn-
id yr Ysgrythyr, yr hon a ddy wed, — " Diau Efe a gymerth ein
gwendid ni, ac a ddug ein doluriaa." Na, yr oedd y pethau
hyn oll yn anadnabyddus iddi hi. Sut y gwyddai hi, ynte, mai
Efe oedd y Messiah ? Onid oedd Efe wedi darllen ei chalon,
— wedi dywedyd yr hyn oll a wnaeth ? — gan hyny, rhaid mai
Efe ydyw y Crist. Felly pan ddatguddir llygaid pechadur, y
mae y Bibl yn darllen ei galon, a phan wna Efe ddir-
geloedd ei galon yn amlwg, y mae yn gorfod teimlo fod Duw
yn wir ynddo.
Datguddiad llygad sydd yn sylweddoli y Gair, — yn ei
wneuthur yn fywiol ac yn nerthol, ac yn llymach nag un
cleddyf dau finiog. Goleuni ydyw y Gair ar sefyllfa dyn, — ar
garacter Duw, — ar fyd tragywj'ddol ; ond nid yw y goleuni
ddim yn bod i'r hwn sydd heb lygaid. Nid yw y greadigaeth
yma ddim yn bod i'r meirw sydd yn y fynwent. Nid y w golyg-
feydd prydferth y ddaear ddim yn bod i bysgod y môr : nid yw
rhyfeddodau y dyfnder mawr ddim yn bod i drigolion y tir, am
nad oes gan y naiU ddim modd i gymdeithasu â'r llall. Y mae
Datgiiddiad y Gyfraith a datguddiad llygaid. 727
gan bob peth ei awyr briodol ei hun : nis gellir ei weled yn
iawn ond yn hono. Os na byddwn ni yn gynefìn â byw yn ei
awyr, fe fydd gogoniant y peth yn guddiedig o'n golwg ni.
Cymerwch ddyn anllythyrenog i weled ŷainting gwych, — y
mae yn gweled y lliwiau, a dyna'r oU ; ond cymerwch lunied-
ydd {artist) i'w weled, sydd yn arfer byw yn awyr pethau felly,
— sydd wedi cael llygad i weled eu gogoniant, — y mae efe yn
canfod IHaws o ryfeddodau na welodd y llall yr un golwg
arnynt ; felly y mae gan bethau Duw ryw awyr briodol iddynt
hwy eu hunain nad all y dyn anianol ddim eu gwybod, oblegid
yn ysbrydol y bern ir hwynt.
I ffurfìo meddwl cywir am beth, y mae yn rhaid gweled y
peth hwnw. Pe cymerid dyn wedi ei eni yn ddall trwy'r
deyrnas, a phe disgrifid iddo y naiU ryfeddod ar ol y llall,
byddai yn anmhosibî trosglwyddo syniad cywir i'w feddwl ef
am y pethau : nis gall eu gwybod, oblegid trwy y golwg y mae
cael meddwl cywir am danynt. Disgrifiwch Bont Menai iddo,
am oriau ; ond ni byddwch ond yn yr unman yn y diwedd ag
yn y dechreu. Ei gweled hi am fynyd, fyddai yn well na chlywed
ei disgrifio hi am flwyddyn. Cymerwch ef i'r Museum yn
Llundain ; — enwch liaws o'r rhyfeddodau iddo; disgrifiwch eu
lliw a'u Ilun ; ond gwaith ofer yw y cyfan ; nid oes ond enwau
yn myned i'w feddwl ef ; — y mae yn anmhosibl iddo gael syn-
iadau am lun a IIiw y gwrthddrych, oblegid drwy'r Ilygaid yn
unig y gall delw y pethau ddyfod i'r meddwl. Wel, y mae
rhyw fyd ysbrydol yn bod : y mae ei Haul yn Haul cyfiawnder ;
ei nefoedd wedi ei britho â gogoniant Duw ; ei ryfeddodau yn
gyfryw na ddaeth i galon dyn ddychymygu am eu cyffelyb. Y
mae ei foroedd yn gariad ; ei fwngloddiau yn ras ; ei feusydd
yn llawn o drysorau gwerthfawr y Duwdod ; ei fynyddoedd yn
drugaredd, a'u penau yn cyraedd goruwch sêr Duw ; ei ffynon-
au yn fywiol, ei afonydd yn llawn bywyd ; — ei awyr yn
dangnefedd a heddwch dros byth. Gwaith cenhadon Crist ydy w
disgrifio y byd ysbrydol hwn, wrth rai wedi eu geni yn ddall.
Yn ofer yr arweinir hwynt i fuseimi Calfaria, i glywed
disgrifio rhyfeddodau cariad Duw : nid oes ond yr enwau yn
myned i'w meddwl hwy. Yn ofer y ceisir eu perswadio i
brynu y maes sydd â'r trysor ynddo: nis gallant ddirnad am ei
728 Datgîiddiad y Gyfraith a dafguddiad îlygaid.
brydferthwch o eisiau ei weled. Beth a drosglwydda bictiwr y
nefoedd i galon pechadur, nes ei lenwi âg awydd am fyned yno
ifyw? Ei gweled hi. Beth a drosglwydda ddelw ufFern i'r
enaid, nes arswydo yn dragy wydd rhagddi ? Golwg arni. Beth a
ddaw â'r lesu mawr i eisíedd yn Frenin yn mynwes pechadur ?
Datguddiad llygaid i \^^\^à ei ogoniant. Y mae y byd ysbryd-
ol sydd yn y gyfraith i filoedd fel pe na byddai, o ddiffyg ei
weled. Yr oedd y dyn un diwrnod ar drengu gan syched, feì
Hagar yn yr anialwch ; yr oedd flynon yn ei ymyl, na buasai
yn sychedu yn dragywydd ar ol yfed ei dyfroedd hi. Ond
ffynon o'r golwg oedd hi. Y mae, ddiwrnod arall, yn cael ei
glwyfo gan " bicellau tanìlyd y fail ;" y mae en gwenwyn yn
yfed ei ysbryd heddy w ; yr oedd tarian yn ei ymyl a íuasai yn
y fan yn eu diffoddi hwynt oU ; ond tarian o'r golwg oedd hi,
Yr oedd yn ddiweddar ymron trengu,— yn methu cael dim
ymborth i'w enaid yn yr anialwch ; yr oedd manna yn ei
ymyl íuasai yn ei ddigoni yn dragywydd : ond manna cudd-
jedig oddiwrtho ef ydoedd. Yn wyneb y pethau hyn, onid
priodol gweddi y testyn, — " Datguddia fy llygaid, íel y gwel-
wyf bethau rhyfedd allan o'th gyfraith di T''
(2.) Y mae datguddiad llygaid yn angenrheidiol i wneuthur
y cyntaf yn bersonol. Y mae datguddiad y gyfraith yn gy-
ffredinol i bawb : y mae ef hefyd mor bersonol i bob un a phe
na byddai a fynai â neb, ond â hwnw. Ond datguddiad llygaid
sydd yn ei wneuthur felly. Fel y goleuni yn y greadigaeth
naturiol, y mae yn oleuni cyffredinol i bawb : y mae mor briodoì
i bob un, a phe na byddai yn ddini i neb arall ; ond ll^'gaid sydd
yn ei wneuthur felly. Y mae pawb sydd yma yn addef gwir-
ionedd y gyfraith, ond y mae yma lawer yn ddiau yn colli eu
hunain yn y dyrfa : am hyny, y mae y gwirioneddau mwyaf
cyffrous yn myned drwy eu meddwl, fel aderyn drwy yr awyr,
heb adael unrhyw effaith parhaus. Os oes yna gynwrf am
foment, y mae yr oll yn llonyddu yn union. Ond datguddiad
}lygaid a wnai i'r dyn feddianu y Bibl ei hun. Nid mynydd
yn anialwch Arabia a fyddai Sinai wed'yn ; ond mynydd
teimladwy, yn llosgi gan dân a chwmwl, a thywyllwch a
thymestl, o flaen ei lygaid ef ei hun. Nid gordd yn dryllio
gwrandawyr Jeremiah, a fyddai y gwirionedd ; ond gordd yn
dryllio y graig sydd yn ei fynwes ef ei hun. Nid tàn i drigol-
DatgtLddiad y Gyfraith a datguddiad llygaid. 729
ion Judea, a fyddai y gyfraith ; ond tân yn ysu llygredigaeth ei
enaid ef ei hun. Y niae yr luddewon hyd y dydd heddyw, pan
yn darllen Moses, â gorchudd ar eu calon ; ac y maey gorchudd
sydd ar yr luddewon, wrth ddarllen yr Hen Destament, yn
arcs heb ei ddatguddio ar filoedd yn Nghymru, wrth ddarllen
yr Hen a'r Newydd. Am hyny, y mae y llyfr iddynt fel pe
byddai yn llyfr mewn iaith anadnabyddus. Y maent yn ei
ddarllen yn debyg fel pe buasai Belsassar yn darllen yrysgrifcn
ar galchiad y pared, hebfeddwl unwaith mai ei dynged ef oedd
yr oll. Nid geiriau gwirionedd a sobrw^^dd ydyw y Bibl iddynt
hwv : damegion ydy w ei ddisgrifiadau mwyaf cyfiFrous ; — ffurf
dychymyg y dwyrain ydyw ei fygythion ; — rhyw bethau alleg-
awl ydyw ei wyrthiau ; — dychymygion barddonolydyw geiriau
cynwysfawr y Sahnau ; — pictiwr un wedi arwain bywyd aHan
ydyw yr unfed Salm ar ddeg a deugain. Ond datguddiad
llygaid, a dröai yr oll yn eiriau gwirionedd a sobrwydd : ti a
weUt dàn Duw yn y byijythion ; sancteiddrwydd Duw yn y
barnau ; dy bictiwr dy hun yn y Salm y cyfeiriwyd ati; tydi
dy hun a gyfarfyddit ymhob congl o'r gwirionedd wed'yn. Dy
gwymp dy hun a weht yn y drydedd o Genesis. Dy dynged
dy hun, y sofl sych, yn syrthio i ddwylaw y tàn ysol,
a weht ti yn ninystr dinasoedd y gwastadedd. Dy berygl di,
yr halogedig, i agoshau at y Duw sanctaidd, a weht tiynmarw-
olaeth Nadab ac Abihu. Beth a welit ti yn Cain, onid cenfigen
dy galon dy hun ì — yn Haman, onid balchder dy galon dy
hun ? — yn Judas, onid cybydd-dod dy galon dy hun .? Ac ar
ol darllen, — " Duw sy ddigllawn beunydd wrth yr annuwiol,"
ni byddai eisiau yr un Nathan i ddywedyd, — " Ti yw y gŵr."
Hyn sydd yn gwneuthur y gwahaniaeth mawr rhwng dyn-
ion ;— y mae yr un gwrthddrychau yn cael eu cynyg i'w sylw,
— yr un geiriau yn cael eu seinio yn eu clyw ; ond y maeenaid
un yn ymwneyd à'r pethau, tra y mae enaid y llall yn farw
iddynt. Y mae un yn gwrando ac yn ffoi fel Lot o Sodom; y
llall yn gwrandaw ac yn cellwair fel ei ddawon, nes cael ei ddal
gan y gawod frwmstanaidd. Fe fynegwyd yr un geiriau i Lot
ac i'w ddawon ; ond yr oedd yr effaith yn wahanol iawn ; ond y
gwahaniaeth oedd yn y gwrandawyr oedd yn cynyrchu hyny.
Felly y mae hi eto ; mae un yn darlien, — " Oni ddychwel yr an-
7;?o Datgìíddiad y Gyfraith a datgnddiad Ilygaid.
nuwiol, Efe a hocra ei gleddyf," ac yn anghofio yn y fan: y mae
y llall yn ei ddarllen ac yn dychwelyd gydâ'r gair. Y mae un
yn darllen. " Deuwch ataf fì bawb sydd yn flinderog ac yn
llwythog," ac yn ddiystyr yn troi ymaith : y mae y llall yn ei
ddarllen, a'i galon yn ateb yn y fan, — '' "Wele fi yn dyfod." Y
geiriau sydd wedi bod yn risiau i un esîyn ar hyd-ddynt i'r
nefoedd. a fyddant i'r llall yn bwysau o blwni i'w suddo byth
dan h"d Duw. Pan oedd Balaam yn myned i felldithio Israel,
fe safodd angel yr Arglwydd ar ei íTbrdd, â chleddyf noeth yn
eî law, am mai cvfeih"ornus oedd y ffordd hono yn ngolwg yr
Arglwydd ; ond yr oedd Balaam yn rhuthro ymlaen, am ei fod
heb weled y- angel, nes o'r diwedd iddo ddyfod i le mor gyfyng
nad oedd modd c'lio ; a phan welodd Balaam yr angel, fefraw-
ychodd drwyddo. Beth ydyw bygythion y Bibl ? Onid
angylion Duw â chleddyfau noeth vn eu du-ylaw, wedi eu gosod
i sefyll ar d^' Iwybrau ? oblegid cyfeiliornus ydyw y ffordd yna
yn ngolwg yr Arglwydd. Ond yr wvt ti, fel Balaam, yn
rhuthro ymUen heb weled yr angel, ac feallai yn digio felyntau
wrth ei asen, wrth bwybynagsydd yn ceisio dy rwystro. Ond,
os na agorir dy lygaid yn fuan, y mae y lle cyfyng yn dy ymyl,
lle nad oes ffordd i gilio, ac yno fe agorir dy lygaid. Ond peth
ofnadwy fydd cael datguddiad llygaid heb un lle i droi, na dim
i'w wneulhur, ond syrthio ar gleddyf yr angel — syrthio i afael
cynwys y bygythion. Y mae lle cyfleus iawn heddyw, i droi
oddiar ffordd y bygythion, — i osgoi cleddyf yr angel; ond y
mae hi rnor gyfyng ychydig ymlaen, nad oes lle i gilio ary dde
na'r aswy. O ! Arglwydd, datguddia ein llygaid, cyn iddi
fyned yn rhy ddiweddar, — dangos y perygl tra y mae noddfa
i'w chael.
O ! y rhyfeddodau sydd yn ein hymyl ni : Rhosyn Saron,
yr harddaf o holl rosynau paradwys, — y mae yn tyfu yn ein
hymyl ; — Seren Bethlehem, y ddisgleiriafo holl scry ffurfafen, —
y mae hi yn gymwys uwch ein penau ni. Rhyfeddodau sydd
yn cadw y nefoedd yn Uawn syndod, — y maent yn yr un
mynydd â ni. Ond y mae Rhosyn Saron yn agor ei flodau yn
ofer, — y mae Seren Bethleheni yn llewyrchu yn ofer, — y mae
hoU ryfeddodau mynydd Duw yn ofer i ni : yn ofer y mae yr
lesu mawr yn wyn a gwridog, — yn ofer y mae trefn gras
Datguddiud y Gyýraith a datguddiad lìygaid. 731
yn berífeithrwydd tegwch creadigaeth Duw, — yn ofer y bu
y Patriarchiaid fyw, — y prophwydodd y prophwydi, — yr
efengylodd yr apostolion, — yn ofer y dilenir dirgelwch duwiol-
deb, — rhyfeddodau Bethlehem, a hynodion y groes, — yn ofcr
y llewyrcha Haul y Cyfiawnder y dydd, ac y disgleiria Sercn
Bethlehem y nos, — paham ? Cen sydd ar ein llygaid ni. O
Arglwydd, datguddia ein llygaid, fcl y gwelom bethau
rhyfedd allan o'th gyfraith di.
Pe caem ni atebiad i weddi y testyn, ni byddai raid cliwilio
am ryfeddodau byth wed'yn. Er cymaint yw syched ein
meddwl am rywbeth newydd, y mae yma ddigon i'w dori.
Nid oes dim ar y ddaear y gellir dweyd am dano, — "Dyma
beth newydd ;" oblegid yr hyn "a fu a fydd, a'r hyn a wnaed
a wneir ;" — y mae yr un pethau yn cael eu hail actio drosodd
o hyd ; ond nid felly y gyfraith ; — nid yr hyn a fu a fydd, ydyw
ei phethau hi ; ond pethau heb eu hail na'u tebyg. Peth fydd
yn newydd yn oes oesoedd fydd, bod gan y Duw cyfiawn ffordd
i faddeu : peth fydd yn newydd yn dragywydd fydd, bod y
Duw sanctaidd yn gallu cyfarfod â'r halogedig yn Dduw mewn
hedd. Peth newydd yn y greadigaeth oedd, cael Tad tra-
gywyddoldeb yn blentyn amser: peth newydd yn llywodraeth
y Brenin tragywyddol oedd, cosbi y difai, a gollwng yr euog
yn rhydd. Peth newydd i angyhon oedd, gweled Arglwydd y
Bywyd yn marw, a meibion angau yn byw. Pe caem ni
ddatguddiad llygaid i weled, byddai pob enaid sydd yma yn
addoh yn y fan. Atebiad i weddi y testyn aachubai ein gwlad
yn y dyddiau hyn, pan y mae Pabyddiaeth ac anffyddiaeth yn
ymosod arni. Ymha le y mae ein diogelwch ni ? — bod y Bibî
yn nwylaw y wlad ? Nage ; cael y Bibl i'r galon : yna, ac nid
cynt, y byddwnddiogel. Pe caem ni ein gwrandawyr unwaith
i weled gwerth yr un ' Cyfryngwr rhwng Duw y dynion, sef y
dyn Crist lesu, ' yn ofer 3^ cynygid Mair a Phedr iddynt
wed'yn. Pe caem ni hwynt unwaith i brofi blas maddeuant
rhad, byddai yn lled anhawdd cael ganddynt dalu am faddeuant
gau wed'yn. Y mae yn hawdd arwain y dall i bob pydew ;
ond ofer y ceisir hyny â'r hwn sydd a'i lygaid yn agored. Er
pob peth, fe ffyna cyfeiHorniadau a phechodau yn Nghymru,
hyd oni thywallter arnom yr Ysbryd, i agoryd ein llygaid i
weled rhyfeddodau y gyfraith.
732 Datgiiddiad y Gyfraith a datgudaiad llygaid.
Ewch at y gyfraith bob tro, â'r testyn yn eich calon, ac yn
eich genau. Ymolchwch bob dydd yn nyfroedd y Hyn, oblegid
y mae y deillion yn dyfod i weled trwy hyn\\ Ewch i
rodfeydd y gwirionedd bob dydd, oblegid y raae yr lesu yn
arfer dyfod y fifordd hono. Llefwch ar ei ol, — " Fab Dafydd,
trugarha wrthyf : " ni lefwch chwi ddim yn ofer. Fe egyr
eich llygaid i weled ei ryfeddol oleuni Ef. Yna ni bydd
tragywyddoldeb ddim yn rhy hir, i syllu ar ryfeddodau y
gyfraith.
[Bjre Gwener, lonawr 7fed, 1847.]
PREGETH XLV.
OFNWN, GAN FOD ADDEWID.
HebreAID IV. 1 : — " Ofnwn gan liyny. gan fod addewid wedi ei gadael i ni
fyned i mewn i'w orphwysfa ef, rhag bod neb o honocli yn debyg i fod
yn ol.''
OBAITH am orphwysfa o ryw fath ydyw bywyd pob
ymdrech yn y byd. Tynu y gobaith h wn o'r meddwl
a fyddai tynu ymaith bob cymhelliad i lafurio, a
gwneyd pob ymdrech yn iau drom. Ond y mae dynion, gydag
3^chydig eithriadau yn llafurio yn ofer ; oblegid nid gorphwysfa
ydyw yr hyn y mae eu llygaid arno. Pe cyrhaeddent • y lle,
teimlent er eu siomedigaeth, eu bod mor bell oddiwrth or-
phwysfa ag erioed. Ond wedi i ddyn gyraedd y nôd oedd yn
ei olwg fel gorphwysfa, y mae naill ai yn cael ei hudo i
ymofyn gorphwysfa mewn rhywbtth arall, neu ynte yn ym-
ollwg o ran ei feddwl, ac yn marw yn ei siomedigaeth. Dilyn
greddf gref ei natur fel creadur rhesymol y mae, wrth chwilio
am orphwysfa; a dilyn tuedd natur lygredig y mae, wrth
chwiHo am dani mewn man nad yw i'w chael. Ar ol cyraedd
y fan, y mae rhyw lais yn dywedyd yn effeithiol, — Nid dyn;a
eich gorphwysfa. Clywed hwnyna a barodd i Alexander wylo,
wedi gorchfygu y byd ; ac a barodd i lawer un ddywedyd yn
siomedig, wedi cyraedd y nôd oedd yn ei olwg : — "Ai dyma y
cwbl ?" Nid chwiHo am orphwysfa ydyw bai dyn ; ond chwilio
am dani yn y byd hwn yn lle yr hwn addaw ; ei cheisio hi mewn
creadur ac nid yn Nuw. Fe ddengys y testyn hwn, a'r holl
benod, tod gorphwysfa yn bod ; gan hyny, nid rhedeg ar ol yr
hyn nid yw y mae y raeddwl dynol, pan yn chwiho am dani.
Yr oedd y Ganaan ddaearol yn orphwysfa ; ond y mae yr apostol
734 Ofnwn, gan fod addeitnd.
yn cymeryd trafferth i argyhoeddi yr Hebreaid, â geiriau yr
Hen Destament. fod gorphwysfa arall yn bod, o'r hon nad oedd
Canaan ond cysgod anmherffaith. Nid Canaan oedd y wir
orphwysfa ; oblegid y mae gorphwysfa yn cael ei haddaw yn y
Salmau, ar ol i Josua ddwyn y bobl i'r orphwysfa hono ; gan
hyny, y mae yr apostol yn penderfynu fod gorphwysfa eto yn
ol i bobl Dduw, sef yr orphwysfa hono, o olwg yr Arglwydd,
sydd yn eu haros yn y byd tragywyddol. Y mae pawb sydd
yn myned i mewn i hono, yn cael gorphwysfa ysbrydol yn
Nghrist yma, yn ernes o'r orphwysfa sydd eto yn ol.
Y mae y testyn hwn yn cynwys dau wirionedd mewn per-
thynas i'r orphwysfa, sef bod ' addewid wedi ei gadael i ni
fyned i mewn ' iddi ; ac hefyd fod yr addewid hono yn un sydd
yn galw arnom ofni rhag methu myned i mewn. " Gan fod
addewid wedi ei gadael," — dyna y gwirionedd cyntaf ; ac y mae
yr ail yn seiHedigarno, neu yn gasgliad oddiwrtho, — ''Ofnwn."
Y mae y testyn yn cau allan ddau beth sydd yn ddinystriol
iawn i ddynion, sef anobaith a rhyfyg. Y mae "addewid wedi
ei gadael," gan hyny nid oes lle ì anobaith. Ond uid yw yr
addewid hono yn gyfryw na ddylid ofni rhag syrthio yn fyr o
honi, — a dyna gau allan ryfyg. Nid oes neb o wrandawyr cyson
yr efengyl yn ameu nad oesgorphwysfa yn bod. Y mae nefcedd
ac uffern yn sylweddau yn ein cred, pa un bynag a ydynt felly
yn ein teimlad ai peidio. Y mae y byd tragywyddol wedi ei
ddwyn i gymaint o oleuni trwy yr efengyl, fel na all neb ameu
ei fod, a pharhau i'w gwrandaw hi. Y mae yr amheuwyr sydd
yn caru y tywyllwch yn gorfod ymgadw rhag ei goleuni hi fel
nad argyhoedder eu gweithredoedd hwynt. Yn un o'r ddau le
yma y mae ein perygl ni oll, naill aiameu a ydyw yr addewid
am orphwysfa yn addewid i ni ; neu ynte credu, neu cymeryd
yn ganiataol ei bod hi felly, ac ymorphwys ar hyny, heb ym-
drechu am fyned i mewn iddi. Ameu ein hawl yn yraddewid
nes anobeithio ; neu gamsynio am natur yr addewid, a rhyfygu.
Ac amcan yr ychydig sylwadau a wnawn ni yn awr a fydd, ceisio
eich cadw chwi rhag y ddau berygl yna.
I. Ceisiwn ddangos fod addewid uedi ei gadael i ni i fyned
i mewn i'w orphwysfa Ef. II. Ceisiwn ddangos fod yr
addewid hono yn sail i ofn, rhag i ni syrthio yn fyr o honi.
Ofnwn^ gan fod addeiüid. 735
I. Y mae addewid wedi ei gadael i ni fyned i mewn i'w
orphwysfa Ef. Y mae yr apostol yn profi hyn mewn dull tra
gwahanol i'r hwn y gwna llawer yn ein dyddiau ni. Yr ydym
ni yn myned i chwilio am yr addewid am fywyd i fwriad Duw,
neu i iawn y Cyfryngwr ; ac os na allwn ni ddarllen ein
henwau yn llyfr y bwriadau, neu ynte gael sicrwydd ein bod o
fewn i derfynau yr haeddiant, yr ydym yn methu gweled fod
genym ni addewid am fyned i mewn i'w orphwysfa Ef. Ond
nid yn yfan yna y mae chwilio am yr addewid, medd yr apos-
tol, ond yn hytrach yn y cyhoeddiad o feddwl Duw i ni : " Canys
i ninau y pregethwyd yr efengyl megis ag iddynt hwythau."
Yr addewid iddynt hwy oedd cyhoeddi iddynt fod Canaan
ar eu medr. Yr oedd y cyhoeddiad yna yn cael ei alw
yn efengyl, neu yn newyddion da iddynt ; ac fel yr
oedd y cyhoeddiad o eiriau Duw gan Moses yn addew-
id iddynt hwy am y Ganaan ddaearol, felly y mae y cy-
hoeddiad o eiriau Duw gan ei weision, yn addewid i ninau
am y Ganaan nefol : " Canys i ninau y pregethwyd yr efengyl,
megis ag iddynt hwythau." Y mae y pregethiad yn addewid i
ni, fel yr oedd iddynt hwy. Yr oedd gwlad Canaan wtdi ei
haddaw i Abraham, a'r addewid hono wedi ei sicrhau mewn
cyfamod ; ac oni buasai am hyny, ni buasai yn cael ei naddaw
i'r un o'i blant. Ond er niai yr addewid mewn cyfamod i
Abraham oedd sylfaen pob addewid arall o honi ; eto nid
anghredu yr addewid hono oedd yn eu cau hwynt allan o
Ganaan. Yr oedd pedwar can mlynedd er pan roddasid hono,
a miloedd o blant Abraham wedi marw yn y caethiwcd, ac ni
buasai y ffydd gryfaf yn yr addewid hono ddim yn eu cymeryd
i mewn i'r etifeddiaeth. Yr addewid a efengylwyd iddynt gan
Moses oedd eu haddewid hwynt. Credu hono fuasai yn eu
dwyn i mewn i Ganaan; ac anghredu hono a gauodd gymaint
o honynt allan o honi. Felly y mae y nef wedi ei rho:idi
mewn addewid, a hono wedi ei sicrhau mewn cyfamod,
gan y Tad i'r Mab ; ac oni buasai am vr addewid yna,
ni buasai yr un addewid byth yn cael ei chyhoeddi i ddyn ; ond
nid honyna ydyw ein haddewid ni, ond y cyhoeddiad oewyllys
Duw i fyd colledig sydd yn yr efengyl. Fel yr oedd y cyhoedd-
iad o fwriad Duw at Lrael, o enau Moses, yn addewid iddynt
73^ Ofmon, gan fod adde-wid.
hwy, felly y mae y cyhoeddiad o fwriad Duw at ddyn coUedig,
sÿdd yn yr efengyl, yn addewid iddo yntau am orphwysfa. Y
mae tri pheth yn yr efengyl sydd yn dangos ei bod hi yn
addewid i bawb sydd yn ei chlywed.
I. Y mae hi wedi ei chyfeirio at bob un yn bersonol. Fe fu
trugaredd achubol Duw am bedair mil o flynyddoedd yn rhedeg
rr,ewn ffrydle cyfyng iawn. Nid oedd yr afon yn flfrwythloni
ond un dyff"ryn bychan ; a'r ychydig oedd yn byw yn hwnw yn
unigoedd yn cael o'i chyfoeth. Yr oedd y byd mawr llydan ya
ddifFaethwch diffrwyth ; ei drigoHon yn gwywo ac yn newynu
amnad oedd y dyfroedd hyn yno. Er bod addewid ar y ddaear ;
eto, nid oedd yr addewid, y cysegr, yr aberth, a'r offeiriad, yn
eiddo ond i ychydig. Yr oedd i'r ychydig hyn, drwy'r ofiFeiriad,
yn rhinwedd yr aberth, ryddid i fyned i mewn i'r cysegr.
Iddynt hwy yr oedd yr Arglwydd yn rhoddi pob owystl o'i
ewyllys da i ddyn. Os gwnai efe gyfamod i drosglwyddo ei
gyfoeth ynddo i'w greadur, â hwynt y gwneid ef Os rhoddai
Efe danllyd gyfraiíh o'i ddeheulaw, i fod yn llusern i draed
rhai o drigoHon y ddaear, Israel a fyddai y rhai hyny. Os
anfonai brophwyd i fynegu beth oedd ei ewyllys, a pha wedd y
gelhd rhyngu ei fodd, at Israel yr anfonid ef. Nid oedd yn
arddel perthynas â neb arall. Duw Abraham, Isaac, a Jacob
oedd ei enw; ac nid oedd yr orphwysfa oedd ger ei fron yn cael
ei chysylltu â neb ond â hwynt. Mynwes Abraham oedd y
nef, ac nid oedd mynwes y Tad i neb ond i'r plant. Yr oedd
pob addewid a phrophwyd, wrth gychwyn i'rddaear, yn cael y
gwaharddiad hwn: — "Na ddos i flfordd y cenhedloedd, ac i
ddinas y Samariaid na thro i mewn." lë, pan anfonwyd y
Ceidwad i'r byd, — "Ni'm danfonwyd inau," meddai, " ond at
ddefaid cyfrgolledig tŷ Isracl." Yr oedd gwlad Israel yn Gosen
oleu, a'r holl fyd yn Aipht dywyll. Yr oedd Paltstina yn bar-
adwys, a phob man arall yn ddiffaethwch. Yr oedd Israel yn
blant, a phawb eraill yn gẃn. Yr oedd y rhagorfreintiau hyn
oedd ganddynt, yn peri bod yn dra anhawdd eu hargyhoeddi,
bod yr hyn yr oeddent yn arfer ei ystyried yn eiddo personol
iddynt hwy, i berthyn o hyny allan i'r byd oU; — bod ysgrifen-
iadau eu prophwydi, caniadau eu beirdd, eu cyfraith, eu
haddewidion, a'u cyfamodau, i fod yn eiddo i bawb; bod y dir-
Ofnwìì, ganfod addcioîd. 737
gelwcb, y secret, oedd ganddynt hwy am y ffordd i'r orphwysf?,
i gael ei gyhoeddi ar benau tai y byd ; a'r hoU bethau dymunol
cedd yn eu meddiant i gael eu ihanu i bawb. Symudwyd y
cysegr a'r Offeiriad o'r ddaear i'r nefoedd, iddo fod yr un mor
gyíieus i drigolion y pegynau ag i drigolion y cyhydedd. Nid
oes yn awr yr un cyntedd y cenhedloedd yn perthyn iddo ; ond
gall y pubîican, sydd yn genedl-ddyn, fyned mor agos at yr
allor a'r luddew Phariseaidd ; oblegid y mae rhyddid i'r ddau
i fyned i mewn i'r un man, trwy yr un aberth, fel nad oes
mwyach nag luddew na Groegwr, na chaeth na rhydd : " Yr
un Arglwydd ar bawb, sydd oludog i bawb a'r sydd yn galw
arno." Ond ni buasai yn ddieithr gweled y cenedl-ddyn mor
hwyrfrydig i gredu ei hawl yn yr addewid, ag oedd yr luddew i
gredu nad eiddo personol ef oedd hi mwyach. Ac y mae rhy w
fesur o amheuaeth o'r fath yn aros yn y fynwes o hyd. Onid
ydym yn teimlo yn aml mai rhyw Israel sydd a hawl yn yr
addewid, ac mai Cenhedloedd, y tuallan i'w chylch hi, ydym
ni ì Ond y mae yr Ysbryd Glân wedi darparu ar gyfer yr
amheuaeth, trwy roddi hanes rhai o bob math yn cael cynwys
yr addewid, yr hyn oedd y prawf sicraf o'i bod hi yn addewid
iddynt. Y raae hyny v,'edi ei gofnodi i'r un diben ag y cofnod-
wyd achubiaeth Paul, sef i broíì bod nerth a graslonrwydd y
Ceidwad yn ddigon i achub y penaf o bechaduriaid. Felly y
mae gwaith yr Ysbryd Glàn yn rhoddi hanes buddugoliaethau
aml ac amrywiol yr efengyl yn y cychwyn, wedi ei fwriadu i
íod yn esiampl i ni, nad ydyw yr addewid yn adwaen neb yn
ol y cnawd, ond ei bod hi yn arllwys ei chynwys i bwy bynag
a'i derbynio, Yr oedd y byd y pryd hwnw yn gyffelyb i'r hyn
ydyw yn awr yn ei lygredigaeth a'i rinwedd, ei dywyllwch a'i
oleuni. Rhai lleoedd ynddo yn ymroddi i wybodaeth, eraill i
íasnach ; — rhai yn ymdroi roewn pleserau barbaraidd, eraill yn
ymarfer â phechodau mwy coethedig; ond yr oedd yr efengyl
yn profi ei hun yn addewid i'r philosophyddion yn Athen, i'r
masnachwyr yn Alexandria, i'r Corinthiaid moethus, i'r Scyth-
iaid celyd, i'r Rhufeinwyr breiniol, ac i'r barbariaid gwylltior:.
Yr oedd hi fel y dwfr, yn rhedeg i bob man y byddai pantle.
Os credai caethwas hi, cai wybod ynddo eihun fod ei rhinwedd
hi yn perthyn iddo ef, oblegid y gwnai ef yn r'nydd yn yr
W3
738 Ofnwn, ganfod addewid.
Arglwydd. Os credai gẃr rhydd hi, cai wybod mai ei adc ewid
ef oedd hi, trwy iddi ei wneyd yn gaethwas i Grist. Nid oedd
hi yn gofyn i neb, — *' Pwy wyt ti ?" ond, " A ydwyt ti yn
credu .?" " Pwy bynag sydd yn credu, ni chy wilyddir ef," sef,
ni siomir ef, am fy nghynwys i. Nid oedd gan yr holl rai yna,
a dderbyniasant gynwys yr addewid. ddim mwy, na chymaint,
sail i gredu ei bod hi yn addewid iddynt hwy ag sydd genym
ni. Nid oedd ganddynt hwy ond y cyhoeddiad o'r addewi d
heb ddim esiamplauo'ichyHawniad ; ond y mae yddau genym
ni, — y cyhoeddiad fod lesu Grist wedi dyfod i'r byd i gadw
pechaduriaid, a hanes ara y penaf wedi ei gadw, i brofi mai
gwir yw y gair. laith yr efengyl atom ni ydy w, — " Oni ysgrif-
enais iti eiriau ardderchog o gyngor a gwybodaeth .''" " Fel y
byddo dy obaith yn yr Arglwydd yr hysbysir i ti heddyw, îe, i
ti." Pan ddy wedodd llanc y prophwyd, yn nghanol y tywysog-
ion yn Ramoth Gilead, — " Y mae i mi air â thi, O dywysog,"
atebodd un o honynt, " A pha un o honom ni oll ?" Dywed-
odd yntau, " A thydi." Felly y niae yr efengyl yn dywedyd
yma heno yn nghanol cynulleidfa o bechaduriaid, — " Y mae i
mi air â thi, O bechadur !" A phe gofynai pob un sydd yma,
'• A pha un o honom ni oll," hi atebai yn ol, — " A thydi," — y
mae genyf addewid i ti.
2. Y mae amrywiaeth a chyflawnder yr efengyl yn profi ei
bod hi yn addewid i ni. Gallasai fod ynddi gyflawnder, ond
heb ei fod yn cyfateb ond i angen un dosbarth neillduol ;
gallasai fod ynddi ddigon o amrywiaeth, ond heb fod ynddi
ddigon o gyriawnder ; ond y mae y ddau yn yr addewid. Ond
nid ydym yn meddwl dywedyd nemawr ar hyn ; ac nid o
ddoethineb y mae neb yn ymofyn llawer ynghylch hyn ; ac ni
Iwyddai neb o'r ymofynwyr manylaf nemawr, am nad yw yr
efengyl yn disgrifio yn fanwl beth sy ganddi. Buasai islaw i
fawredd Duw wneyd hyny, ac ni buasai y peth yn ateb diben
da i ninau. Y raae hi yn dal allan wahoddiad diffuant oddi-
wrtho at ddyn ; ond nid yw yn yraostwng i wneyd inventory
o'i drysorau i'w anfon gyda'r gwahoddiad. Darostyngiad ar
ŵr mawr, wrth anfon gwahoddiad i rywle, afyddaianfon gydag
ef gyfrif manwl o'i gyfoeth, i gymell y gwahoddedigion i
wrandaw arno. Yn hytrach, y mae yn disgwyl fod digon o'i
Ofnw7i, ganfod addewid. 739
nodweddiad yn adnabyddus, fel y bydd ei air yn ddigon gan
bawb heb gael cyfrif o'i gyfoeth. Felly nid yw yr efengyl ddirn
yn ymostwng i ddisgrifio gydâ manylrwydd beth ydyw maint
ei darpariaeth ; ond y mae hi yn cyhoeddi y gwahoddiad yn
eglur, ac yn dywedyd pwy yw y Gwahcddwr, gan ddisgwyl fod
caracter hwnw mor adnabyddus, fel na bydd eisiau ond ei air ;
— y cymer pawb yn ganiataol fod un o'r fath nodweddiad, yn
gofalu bod ei gyfoeth yn ddigon i gyflawni ei holl addewidion.
Y mae chwilio i faint cyfoeth yn codi bob amser oddiar ryw
fesur o aniheuaeth ynghylch y Gwahoddwr. Credu heb weled
raid i gredu yr efengyl fod. " Ffydd yn Nuw " ydyw ei ffydd
hi, sef coelio ei air, a dywedyd fel Mair, — " Bydded i mi yn ol
dy air di." Ond i goelio y gair, y mae yn rhaid gwybod
rhywbeth am y neb sydd yn llefaru. Byddai credu y gair heb
hyny yn rhyfyg. Nid gwybod beth sy ganddo yn sail i lefaru
y gair penodol hwnw ; ond gwybod beth ydyw ei nodweddiad
cyífredinol : ac y mae pawb sydd yn gwybod am hwnw yn
credu yr oll o'i eiriau. " Y rhai a adwaenant dy enw," medd
y Salmydd," " a ymddiriedant ynot." Er, feallai, nad allant
ddeall pa fodd y cyflawnir y geiriau ; ond os byddant yn adwaen
dy enw, 'credant hwy er hyny. Ffydd yn ngair Duw oedd
un Abraham: credu heb weled. Aeth allan heb wybod i ba
le yr oedd yn myned ; ond nid oedd heb wybod gydâ phwy : a
phob tro y byddai yn credu Duw megis o'r newydd, yr oedd yn
cael rhyw amlygiad newydd o garacter Duw. Nid dywedyd
wrtho y gwaredid ef mewn rhyw ddull neillduol y byddai yr
Arglwydd, ond ymddangos iddo, er mwyn i hyny greu hyder
yn ei fynwes yn ei air ; a dywedyd wrtho, — " Myfi yw dy
darian, a'th wobr mawr iawn." Cred di hynyna, ni phryderi
di ddim ynghylch pa fodd y gwaredaf di. Edrychwch ar y
partriarch, o ddechreu ei oes hyd ei diwedd, chwi a welwch
mai ffydd yn Nuw oedd ei ffydd ef bob amser. Nid oedd yn
gwybod am wlad Canaan, pan yn cychwyn allan i fyned iddi ;
felly nid oedd dim i'w gymell i hyny ond credu Duw. Wedi
ei gweled hi, yr oedd y Canaaneaid yn y wlad, sef wedi ei
meddianu y pryd hwnw ; felly nid oedd iddo ef yr un sail
weledig i ddisgwyl meddiant o honi, ond credu Duw. Pan
addawyd^hâd iddo, fe oedwyd yr addewid mor hir, fel nad oedd
740 Ofnwn^ gan fod addewid.
diiíi sail i ddisgwyl ei chyflawni ond credu Duw, — 'barnu yr
Hwn a addawodd yn fFyddlawn." Wedi cael y mab, gorch-
ymynwyd iddo ei aberthu ; felly fe'i cauwyd ef i fyny yna
hefyd i flfydd yn ngair Duw, oblegid yr oedd pob sail arall i
ddisgwyl am hyny wedi ei chymeryd oddiarno. Ffydd yn
ngair Duw, i fesur mwy neu lai, a raid i ífydd pawb fod. Pan
y mae yr Arglwydd yn addaw, nid dangos beth sy ganddo
tuagat gyflawni yr addewid hono y mae, ond cyhoeddi ei enw,
neu ddatguddio ychydig o'i garacter, — fel pe dywedasai, Dyna
y íath un ydwyf fi yr Addawwr. Ni pherthyn i chwi wybod
pa fodd y cyflawnaf fy ngair. Ond ni etyl hyny ddim i chwi
ei gredu, os edrychwch chwi ar fy addewid yn ngoleu fy
ngharacter, — "Israel a achubir yn yr Arglwydd âg iachawdwr-
iaeth dragywyddol." Nid oes yr un gair yn cael ei ddywedyd
ynghylch pa fodd y bydd hyn, yn sail i gredu yr addewid ; ond
y mae hyn yn cael ei ddywedyd, mai " Creawdydd y nefoedd,
y Duw ei hun a luniodd y ddaear," ydyw yr Addawwr, Y
mae yn dywedyd 'y rhydd Efe nerth i'r diffygiol, ac yr amlha
gryfder i'r dirym : ' ni ddywedodd Efe ddim pa fodd y gwnai ;
ond dywedodd niai yr ' Arglwydd, Creawdwr cyrau y ddaear,'
oedd yn dywedyd. Wedi amlygu ei garacter, y mae yn
disgwyl ffydd yn ei air. Addewid na ẁyr dyn ddim beth a dâl hi
ydyw yr efenygl ; ie, y mae hi i gael ei derbyn, nid am ein
bod ni yn deall pa faint sydd ynddi, ond am fod genym ffydd
yn yr Addawwr, Ac y mae hyny o ddatguddio ac esbonio ar
y drefn, sydd yn y Bibl, wedi ei fwriadu, nid i ni ei deall, a
gweled ei maint hi, ac am hyny ei derbyn, ond yn hytrach i
fod yn eglurhâd ar garacter Duw, i'n cymell ni i gredu ei air.
Pan yn addaw trwy Esay, yr ydym wedi gweled ei fod yn
cyhoeddi ei Enw; felly y mae yr efengyl yn âpelio at yr Enw,
ac y mae pawb sydd yn adwaen hwnw yn sicr o'i derbyn hi.
Y mae cyngor Duw wedi ei ddatguddio yma ; ond nid er mwyn
i ni gael gwybod aoedd ein henwau ni ynddo, eithr yn hytrach
i fod yn gymelHad i ni roddi ein hyder yn ngair Duw ; trwy
ddangos mai nid oddiar feddwl byrbwyll y mae wedi addaw,
ond mai ffrwyth hen feddwl o hedd, cyngor, a chyfamod yw yr
addewid. Y mae yr iawn wedi ei ddatguddio, nid i ni wybod
ei derfynau a'i faint, ond i ddatguddio i ni garacter Duw, er
Ofnwny gan fod addewid. 74Î
mwyn creu hyder ynom yn ei eiriau. *' Nid oes lidiowgrwydd
ynof," medd Efe ; ac y mae pawb sydd yn adwaen yr Enw,
fel y mae yn cael ei ddatguddio yn nrylliad y Mab, yn credu
hyny, nes peidio ymladd yn ei erbyn yn hwy. Y mae yn
dywedyd yn yr addewid y cynawnhà Efe yr anuwiol ; ond ni
pherthyn i ni wybod y modd. Y mae digon yn yr iawn wedi
ei ddangos, i ni allu credu y gair. Y mae wedi ymddwyn at y
Cyfiawn odiaeth, fel pe buasai yn annuwiol ; a chan iddo
M'neuthur un heb adnabod pechod, " yn bechod trosom ni,"
y mae hyny yn ddigon o sail i ni gredu y gall Efe ein
gwneuthur ninau '* yn gyfiawnder Duw ynddo Ef."
Yr hyn a ddymunwn ei wa gu at eich ystyriaeth ydyw, mai
cyíîawnder yr Addawwr ydyw cyflawnder yr efengyl, sef cyf-
lawnder Duw. Nid holi a oes yma ddigon ynddi i bob dyn a
ddylem ni, ond a ydyw hi yn ymddiddan â phob dyn ? Os
ydyw, ni pherthyn i ni holi am ei hamrywiaeth a'i chyflawnder.
Ni a adawn hyny i'r Addawwr, gan ddymuno cymorth i farnu
yn ffyddlawn yr Hwn a addawodd. Y mae yr olwg y mae y
Bibl yn ei rhoddi ar y drefn y fwyaf manteisiol oedd bosibl i'w
gwneuthur yn addewid i ni. Pe buasai hyd a lled y drefn wedi
eu rhoddi, ei chyfoeth hi wedi ei enwi yn fanwl, buasai yma le
i fyrdd o amheuon ynghylch ei maint. Ond gan nad oes mes-
urau wedi eu rhoddi arni ; na hyd, na lled, nac uchder, na
dyfnder, na dim wedi ei ddatguddio, ond cymaint ag oedd yn
angenrheidiol i ddangos cymeriad yr Addawwr, nid oes yma le
i un amheuaeth. Nid â maint y drefn y mae a fynom ni, ond
â'r Addawwr. Ffydd yn Nuw sydd yn trosglwyddo cyfoeth yr
addewid i bechadur.
3. Y mae y telerau ar ba rai y mae cynwys yr efengyl i gael
ei derbyn yn dangos ei bod hi yn addewid i ni. Ni buasai y
cyhoeddiad noeth o Ganaan ddim yn addewid i Israel yn yr
Aipht. Onid oedd iau haiarnaidd Pharaoh ar eu gwar, a
rhwystrau anorfod iddynt rhyngddynt â'r wlad ? Yr oedd ym-
adael à'r Aipht, a theithio yr anialwch, y naill mor anmhosibl
a'r llall iddynt. Pe buasai yr Arglwydd yn dywedyd wrthynt
— Y mae gwlad yn Uifeirio o laeth a mêl i chwi ; ond y mae
yn rhaid i chwi gyfîogi rhyw frenin i orchfygu Pharaoh cyn
catl eich rhyddid. Y mae yn rhaid i chwi adeiladu digon o
742 Ofnwn^ gan fod addetoid.
ongau cyn y gellwch chwi groesi y Môr Coch ; — y mae yn
rhaid i chwi chwilio am gynhaliaeth am ddeugain mlynedd yn
yr anialwch ; y mae yn rhaid i chwi enill ffafr yr Ismaeliaid
i'ch arwain chwi drwyddo ; — oni buasai amodau o'r fath yn
peri nad addewid iddynt a fuasai y cyhoeddiad ? I wneyd y
cyhoeddiad o Ganaan yn addewid, yr oedd yn rhaid i'r
Arglwydd dori iau haiarn Pharaoh ei Hunan, a darparu pob
peth angenrheidiol at daith yr anialwch, — yr arweiniad, — yr
amddiffyn, — a'r cynhaHaeth, — a'u gosod hwynt ar dir, nad
oedd dim tuallan iddynt hwy eu hunain, i'w rhwystro i'r wlad.
Felly, wrth anfon yr addewid gydâ Moses, fe ofalodd ei gwneyd
yn gymwys i fyned at y bobl i'r fan lle yr oeddent ; ac fe gy-
hoeddodd ei Enw yn ei dechreu a'i diwedd hi : — " Myíi yw
Jehofah." Nid oes dim yn eisiau i'ch dwyn chwi i Ganaan
ond credu mai Jehofah ydwyf. Y mae yr efengyl yn dyfod
atom ninau i'r fan lle yr ydym, ac felly yn addewid i ni. Pe
tuasid yn cyhoeddi, — y mae gorphwysfa i chwi; ond y mae
yn rhaid i chwi anfon rhywun i'r nefoedd i edrych a oes neb
ymhhth ei chyfoethogion hi a dâl y mortgage arni drosoch. Y
mae yn rhaid i chwi gael rhywun i ddisgyn i'r dyfnder, i dori
iau Satan, onide ni chewch fyned allan o'i lywodraeth ef. Y
mae yn rhaid i chwi gael rhywun cydnabyddus â'r fìordd oddi-
yma yno, i'ch arwain chwi. Ni buasai cyhoeddiad íel ynaddim
yn addewid i ni; am nad oedd yma neb aallasai esgyn i'r nefoedd,
neu ddisgyn i'r dyfnder, i ymofyn ymwared ; ond y mae cyn-
wys yr addewid yn gwneuthur na raid i ni feddwl peth fel yna
yn ein calon. Y mae un wedi dyfod o'r nef, ac wedi talu y
mortgage i fyny. Fe ddisgynodd yr un un i'r dyfnder, ac a
ddrylHodd iau y gorthrymydd. Fe wnaeth gyfamod âg arwein-
ydd anffaeledig, i gymeryd ein gofal nes cyraedd yno. Fel y
Samaritan da, fe roddodd ddwy geiniog i bawb a ddeuai ar eu
gofyn, o'r caethiwed i'r etifeddiaeth, gan ddywedyd, — Cymer
ofal drosto, ac os treuli di ychwaneg, mi a'i talaf i ti. Y mae
hi yn addewid i ni, oblegid y mae ei phob peth hi o Dduw.
Nid yr orphwysfa yn unig, ond pob peth at ein dwyn iddi ; —
manna a dwfr, colofn a chwmwl yr anialwch, fel llaeth a mél
Canaan ; — gwisg briodas, fel y wledd. Nid yw hi yn ceisio dim
o dy eiddo di, — dim ond ti dy hun. A phan y mae yr Arglwydd
Ofnwn, gan ýod addeioicL 743
yn cysylltu ei addewidion â gorchymynion, edrychwch chwi yn
fanwi ar y gorchymyn, chwi a welwch fod pob peth hwnw, fel
yr addewid, o Dduw. Os gorchymynir i'r bobl, wedi dyfod o'r
Aipht wneuthur tabernacl i addoli Duw ynddo, a'i wneuthur
yn deilwng o fawredd Duw ; o ba le, meddir, y caifFy caethion
fodd i'w godi ? " Pob peth sydd o Dduw :" bydd yr Arglwydd
wedi rhoddi yn nghalon yr Aiphtiaid i'wllwyLhoàg anrhegion
at y tabernacl wrth ymadael. Bydd eisiau teml fawr a chostus
arnynt yn Nghauaan ; a pha le y caiffffermwyr bychain ddigon
o gyfoeth i'w hadeiladu ? Y mae pob peth o Dduw : fe Iwydda
yr Arglwydd y wlad am ddeugain mlynedd o dan deyrnasiad
Dafydd; — fe ddarostwng y bobl amgylchynol dano, fel y deuant
â theyrnged, a'r brenhinoedd âg anrhegion i adeiladu y deml
ynjerusalem. " O'th law dy hun," medd Dafydd, "yrhoisomi
ti." Wedi dyfod o gaethiwed y deng mlynedd a thriugain,
gorchymynir iddynt adeiladu teml eto ; ond pa fodd y gall
tlodion wneyd? " Pob peth sydd o Duw " eto. Fe gyffyrdda
â chalon pagan, nes peri iddo roddi gorchymyn fod holl draul
y gwaith i fod o dŷ y brenin ; — y defnyddiau i'w prynuâ'i arian
ef ; y gweithwyr i'w talu o'i drysorau ef; — ac hyd yn nod
yr ebyrth beunyddiol i fod ar ei draul ef. Felly y mae pob
peth o Dduw yn addewid yr efengyl. Os rhaid dy gael di yn
deml i Dduw, nid rhaid i ti ofni, fel brenin Israel gynt, pan
anfonodd brenin Syria Naaman ato i'w lanhau, mai ceisio achos
yn dy erbyn y mae yr Arglwydd wrth orchymyn hyn ; oblegid
y mae gydâ'r gorchymyn gynyg ar Weithiwr mwy cywrain na
Bezaleeì, â phob peth at ei law i gyflawni y gorchwyl. Os oes
eisiau dy gael di yn gymwys i sefyll gerbron y Brenin yn y llys,
ni raid i dy ddieithrwch di i iaith ac arferion y lle, beri i ti an-
obeithio; oblegid y mae yma Ddysgawdwr anffaeledig wedi ei
ddarparu gan y Brenin ei Hun i'w dysgu i ti. Os oes eisiau i
ti weithio allan dy iachawdwriaeth dy hun, y mae y draul at y
gwaith yn niwedd y gorchymyn: — "Canys Duw yw yr Hwn
sydd yn gweithio ynoch yr ewyllysio a'r gweithredu, o'i ewyllys
da Ef." " Y mae pob peth o Dduw."
Y mae cysylltu yr addewid â chredu yn ei dwyn hi yn ddigon
isel i bawb. Os edrychwch chwi ar gredu fel gweithred natur-
iol y meddwl, neu ynte ar ei gymhwysder i ddwyn dyn ideimlo
744 Ofnwn^ gan jod addeiLÌd.
trueni ei sefyllfa, chwi a welwch hyny. Fel gweithred y
meddwl, y mae hi yn un y mae pob math yn medru ei chyf-
lawni ; y plentyn bychan, fel y patriarch. Ni all pawb ddeali
llawer ; ni all pawb garu llawer ; ni all pawb obeithio llawer ;
ond gall pawb, ac y mae pawb yn credu llawer. "Tystiolaeth
dynion yr ydym yn ei derbyn." Gwneyd yr un peth â Duw
ag y mae pawb yn ei wneyd â dynion, sydd yn cadw, sef, credu
ei dystiolaeth Ef. Ac "y mae tystiolaeth Duw yn fwy," medd
yr apostol, hyny yw^ yn haws ei chredu na thystiolaeth neb
arall : tystiolaeth un sydd â'i enw yn Dduw y gwirionedd ydyw,
— un na wybuwyd iddo dwyllo neb erioed ; — tystiolaeth un
sydd â pherffeithrwydd g-nybodaeth ganddo, fel nad ydy w^ wedi
ei dwyllo ei Hun. Y mae dyn geirwir yn aml mor ddiífygioî
mewn gwybodaeth, neu mewn barn, fel na elHr bod yn sicr mai
gwirionedd ydyw ei eiriau. Tystiolaeth un sydd a pherffeith-
rwydd gallu, a digonolrwydd cyfoeth ganddo, fel na all dim ei
gyfarfod i'w orfodi i gilio oddiwrth ei air, ydyw yr efengyl.
Onid ydy w yr amodau yn ein Hymyl ? Ond nid ydym heb
gofio fod pechod dyn mor fawr, fel na chred Dduw heb weith-
redíad nerth ei gadernid Ef i hyny. Ond y mae cysylltu yr
addewid â chredu, yn ei rhoddi yn y fan agosaf oedd bosibl iddi
ddyfod atom ni; oblegid nid oes dim achymaint o dueddynddo
i ddwyn dyn i deimlo mai ei bechod, nid ei anffawd, ydyw ei
drueni, a theimlo ei hun yn methu gwneyd â Duw, yr hyn y
mae yn ei wneyd â phawb arall. Pe buasid yn galw arno i
weithio llawer, gallasai ddywedyd ei fod yn rhy wan i hyny.
Pe buasid yn galw arno i ddeall llawer, gallasai ddywedyd fod
bcd ei feddwl yn rhy bŵl i hyny. Ond gan mai credu sydd
yn cael ei ofyn, y mae yn rhwym, ond ystyried, o deimlo mai
pechod, nad oes ganddo yr un esgus drosto, ydyw ei waith yn
peidio. Pe buasem ni heb allu i ymddiried yn neb, gallasem
ddywedyd nad oedd yr addewid am orphwysfa ddim yn gym-
wys i ni, gan mai ymddiried yn Nuw oedd ei hamod hi ; ond
gan mai rhai sydd yn credu ac yn ymddiried bob cam ydym,
nid oes genym esgus am ein pechod o beidio credu Duw. Amod
cyílawniad yr addewid, cofiwch, ydyw credu Duw. Nid yn yr
un dull y mae yr Arglwydd yn gofyn i bechadur ddangos hyn
bob amser, fel y gwelwn ni yn hanes Naaman yn yr Hen Des-
Ofnwn^ cjan fod addewid. 745
tament, a'r claf wrth lyn Bethesda yn y Newydd. Yr oedd ar
y ddau eisiau eu hiachau ; ond yr oedd un yn cael ei anfon i'r
lorddonen i hyny, a'r llall yn cael ei iachau yn y fan lle yr
ydoedd. Yr oedd y duU y meddyginiaethwyd hwynt yn groes
i feddwl y ddau. Yn y fan hon y dymunwn i gael fy iachau,
nieddai Naaman. Dos di i'r lorddonen, meddai yr Arglwydd.
Pe byddai genyf ddyn i fyned â mi i'r llyn yn y fan draw,
byddwn yn iach, meddai claf Bethesda; ac yn y fan lle yr wyt
ti y mae i'w gael, meddai yr lesu. Yr oedd yn rhaid cael y
ddau i ymostwng i drefn Duw, ac i beidio ymddiried i'w íieall
eu hun. Y mae rhai eto, fel claf Beîhesda yn ymddiried yn y
llyn, — yn y moddion, — yn lle yn Nuw. Y mae eraiU, fel
Naaman, yn disgwyl trwy'r blynyddoedd i Dduw ymddangos
yn annibynol ar foddion. Ond ni fỳn Duw ddim o'n hamodau
ní. Y mae yn rhaid ein cael ni i ymostwng i rai Duw ; a,
diolch iddo, y maent mor isel fel ag y mae yr efengyl yn
addewid am orphwysfa i ni oll.
Y mae addewid wedi ei gadael i ni. Y mae yn debygol nad
ydyw yr addewid am orphwysfa y mil blynyddoedd ddim yn
addewid i ni ; ond y mae yr addewid am orphwysfa y nef i ni.
Pe dihgwyht di am y nefoedd newydd a'r ddaear newydd, sydd
mewn addewid, y mae yn ofnu;- y cait ti ddisgwyl yn ofer, am
mai nid addewid i ti ydyw hi ; ond pe disgwyht di am nefoedd
y gogoniant sy mewn addewid, nid oes berygl i ti gael dy
siomi ; oblegid y rnae hono yn addewid i bawb a ymeifl ynddi.
Fe fu y byd am ychydig heb addewid am orphwysfa ynddo, a
mawr oedd ei dywyllwch, — annhraethol oedd ei drueni, — am
y pryd ; ond rhoddwyd yr addewid fel seren yn y fFurfafen ;
ond yr oedd hi mor wanaidd a phell, nad allai dim ond drychau
cryfion íîydd ei gweled hi ; ond aeth yn ddisgleiriach, ddis-
gleiriach, am oesoedd, fel y mae erbyn heddyw wedi dyfod, yn
iaith y seryddwyr, yn stai' of the first magnitude, yn seren o'r
maintioH mwyaf. GeUir ei gweledhiyn eithaf eglur â'r llygad
noeth. Ni raid i ni ddim bod yn flin arnom, fel morwyr Paul
yn Alôr Adria, am nad oedd na haul na sêr yn ymddangos
iddynt, i wybod pa fodd i gyraedd yr hafan ddymunol ,• na, y
mae yr addewid i ni fel seren y Gogledd, bob amser yn yr un
man ; ac yn well na hono, y mae hi bob amser yn weledig:
746 OfnwH^ ganfod addewid.
am hyny ni anobeithiwn ddim am fod yn gadwedig ; ond ni a
wnawn ein goreu, fel hwynt, am gyraedd y porthladd cyn y
gauaf. Y mae y channei yn ddigon peryglus ; ond y mae
iighthouse yr orphwysfa yn dangos pa fodd i lywio, fel ag i ochel
y sugndraeth a'r graig. Y mae ein teulu ni yn ddigon tlodion ;
ond y mae ewyllys gyfoethog iawn wedi ei gwneyd yn ein
ffafr. Os ydym ni yn y daeardy fel Jeremiah, ni raid i ni farw
yno. Y mae rhaíf yr addewid wedi ei gollwng i lawr atom ;
pe cydit ti ynddi, y mae yna rywun ar enau y daeardy, a
ddechreua dy windio di i fyny yn y fan. Ni raid iti ddim marw
yn nghaethiwed y priddfeini, os credi di eiriau Duw, trwy
Moses ac Aaron : fe dy welir di yn Nghanaan, yn eistedd o]dan
dy winwydden a'th fíìgysbren dy hun, heb neb i aflonyddu
arnat.
Ond yr ydym yn ymdroi yn lled faith gydà'r addewid, er
mai nid hyny ydyw pelh penaf y testyn ; ac ar hwnw, sef ar
ofni rhag bod yn ol o'r orphwysfa, yr oeddem yn bwriadu
sylwi pan ddaeth yr adnod gyntaf i'n meddwl. Ond gydâ'n
bod yn dechreu meddwl am hyn, saethodd hyn yn dra bywiog
i'n meddwl, — Bydd aml un o'r gwrandawyr yn ameu a oes
addewid am orphwysfa wedi ei gadael iddynt hwy ; a bydd yr
amheuaeth yn peri i'r anogaeth i ofni rhag bod yn oi yn ddi-
effaith iddynt. Ond os daríu i ni Iwyddo i beri i chwi goelio
fcd addewid i chwi, y mae genym fantais yn awr i wasgu at
eich ystyriaeth anogaeth y testyn, "Ofnwch." "Ofnwngan
hyny, gan fod addewid wedi ei gadael i ni i fyned i mewn i'w
orphwysfa ef, rhag bod neb o honoch yn debyg i fod yn ol."
Y mae yr un addewid ag sydd yn sail gobaith, yn sail ofii
hefyd. Wedi credu bod addewid, y mae rhai yn rhyfygu ; ond
Thai camsyniol hollol ydynt am natur yr addewid ; obleo-jd nid
oes ymaddim ynddi nad ydyw yn briodol dywedyd, — " Ofnwn "
ynglŷn âg ef.
II. Y mae yr addewid yn sail i ni ofni rhag syrthio yn fyr
o honi.
I. Ofnwch, obîegid nid yw yr addewid ddim yn cadw o
angenrheidrwydd. Fe efengylwyd yr addewid am orphwysfa i
fyrddiwn milocdd Israel yn yr Aipht; ond nid aeth ond dau
o'r holl íìloedd oeddent mewn oedran, i Ganaan er hyny. Ac
Ofnwn, gan fod addewid, 747
yr ydym yn orweled fod miloedd o'r rhai sydd yn dywed yr
addewid yn ein gwlad ni, a'r gaîr heb fod yn fuddiol iddynt.
Y mae yn ofnus tnai dirgel gred calon llawer o wrandawyr yr
efengyl (er na ddywedant hyny mewn geiriau,) ydyw, y
byddant yn gadwedig rywsut drwyddi, fel pe byddai yn swyn
i'w cadw mewn modd nas gwyddant. Y mae y meddygon trwy
roddi chíoroform i'r claf, yn gallu tori ymaith ei aelodau yn
ddiarwybod iddo: felly y tybia Uawer y rhydd yr efengyl hawl
a chymhwysder i'r nef mewn modd nas gwyddant. Y mae yn
anmhosibl rhoddi cyfrif am eu tawelwch mewn un ffordd arall.
Felly yr oedd Israel yn nyddiau Jeremiah, pan y cyhoeddai y
prophwyd y barnau : dywedent, " Teml yr Arglwd I, teinl yr
Arglwydd yd^ait." Byw yn eu pechodau, a disgwyl diaiic
rhag y barnau rywfodd, am fod ordinhadau Duw yn eu pHth.
Ond y mae yr Arglwydd yn eu hanfon i Silo'i, y man y bu
coffadwriaeth ei enw ynddo ar y cyntaf, i weled yn anghytan-
edddra hwnw pa faint o sail oedd ganddynt i ddisgwyl dianc
rywsut. Yr oedd y rhai hyny, yn y ddameg, yn disgwyl cael
eu harddel yn y farn, am fod y Barnwr wedi bod yn dysgu yn
eu heolydd. Nid ymostyngasant unwaith i gymeryd eu dysgu
ganddo : eto, breuddwydient am ddianc ry wfodd. Ond a
ddiangasant hwy .? Gallwn ninau fyned i Siloh, i weled beth
a wnaeth Duw yno. A ydyw y Ceidwad yn dywedyd, — " Wele
fì," wrth rai o'i hen wrthodwyr yn hwyr marwolaeth } Nid
ydyw gwybod am y nef ddim yn cymeryd neb yno. Nid
yw clywed am gyfìawnder Crist ddim yn cuddio y noethder.
Nid yw deall fod ŷd gan Joseph yn yr Aipht, ddim yn cadw
rhag y newyn. Nid yw yr addewid ddim yn cadw o angen-
rheidrwydd ; am hyny, "Ofnwn."
2. Ofnwn, oblegid nid oes yma ddim o bethau melusaf yr
addewid nad ydyw yn galw am ofn ; ac y mae yma lawer o
bethau ynddi, a allant gael eu troi yn faglau i ni. Er bod ei
phob peth hi yn sail hyder, ond edrych arno yn ei le ei hun,
eto hyder ydyw ag y mae yn briodol dywedyd wrthei feddian-
ydd, — "Na fydd uchelfryd, eithr ofna." Pell oddiwrthyf
fyddo ceisio arwain neb i ameu sicrwydd trefn Duw ; ond mi
ddymunwn i chwi gofio hyn, — Nad oes dim sicrwydd o'n hawl
ni ynddi yn gyrhaeddadwy yma, nad oes mesur o ofn i fod yn
74^ Ofn'wn, gnn fod addewid.
y fynwes gydag ef ; a'r foment y collir yr ofn, y mae yr hyder
hcfyd yii catl ei golli. Y mae ofn a hyder yn debygi'r argraíF
fydd ar yr arian bathol, Gwedd bryderus ofn sydd ar un
wyneb i'r dernyn, a wyneb siiiol hyder sydd ar yr ochr arall
iddo. Ond os collwch chwi yr ofn, yr ydych yn rhwym o golli
yr hyder ; am mai ar yr un dernyn y mae y ddwy ddelw.
** Mewn ofn a dychryn," yr ydym i weithio allan ein hiachawd-
wriaeth. " Gyda gwylder a pharchedig ofn," yr ydym i was-
anaethu Duw. Yr ydym i "ymddwyn mewn ofn," dros amser
ein hymdeithiad. Nid yr ofn yma 3^dyw sylfaen ein hyder ;
ond pan gollwn ni hwn, y mae y sylfaen yn myned o'r golwg.
"Mi a wn i bwy y credais," medd yr apostol : dyna hydercryf.
" Yr wyf fì yn cosbi fy nghoríF, ac yn ei ddwyn yn gaeth ; rhag,
mewn un modd, wedi i mi bregethu i eraill, fod fy hun yn
anghymeradwy " (i Cor. ix. 27): dyna ofn yn ei fynwes ar
unwaith. Pan gollodd Moses yr ofn, fe gollodd sylfaen ei hyder
am Ganaan. Yr oedd wedi bod yn ffyddlawn yn yr holl dŷ,
yncadwat lythyren y ddeddf ; ond wrth y graig, fe gollo'd yr
ofn oedd yr ei gadw o fewn terfynau geiriau Duw : fe gollodd
sylfaen ei hyder am Ganaan yr un foment. Felly hefyd y bu
hi gydà y bobl oeddent o dan ei arweiniad : aeth sylfaen eu
hyder hwythau am Ganaan ar goll, yr un pryd ag y collasant
yr ofn o'u mynwes. Edrychwch ar holl addewidion a gosod-
iadiu Duw, y mae ofn i fod ynglŷn â hwynt. Yr oedd gan
Moses destyn llawenychu pan orchymynwyd iddo wneuthur
tabernacl, am fod pabell Duw i fod gydà dynion ; ond yr oedd
otn i fod yn y fynwes yn barhaus, wrth ei wneuthur. " Gwêl,"
medd yr Arglwydd, hyny yw, cymer ofal, " ar wneuthur o
honot bob peth yn ol y portreiad." Yr oedd yr addewid o gael
ei gadw yn yr arch yn creu hyder a llawenydd yn mynwes
Noah ; ond fe ddywedir mai gydà pharchedig ofn y darparodd
efe hi. Nid gosod ei fraine hi yn ofalus, a bod yn esgeulus pa
fodd yr adeiledid hi ; na, yr oedd yr un mor ofalus am osod y
drws a'r íFenestr, yn y fodfedd yr oedd Duw wedi dywedyd, ag
ydoedd efe am ei gwneyd hi o goed gopher, sef coed na
phydrent. Y mae ein haddewid ninau yn galw am ofn parhaus
gydâ'r hyder. Y mae rhai yn myned i mewn i'r orphwysfa, —
dyna sail i ni hyderu ; ond y mae y porth mor gyfyng, a'r
Ofmcn^ gan fod addewid. 749
ffordd mor gul, fel y metha llawer sydd yn ceisio, — dyna achos
ofni rhag bod o r nifer. Y m'ae y swper sydd wedi ei ddarpai u
yn un mawr, a'r gwahoddiad yn un cyffredinol, — dyna sail
hyder i ni; ond y mae rhai yn mentro yno heb y wisgbriodas,
ac yn cael eu troi allan, — dyna sail ofni. Wele y Ceidwad yn
achub erHdiwr oedd wedi ymgynddeiriogi yn ei erbyn, — dyna
sail gadarn i hyderu yn ei diriondeb ; ond dyma yr un Ceidwad
yn damnio disgybl, oedd wedi ei ddilyn am flynyddoedd, am ei
werthu, — dyna sail i ti ofni rhag gwneyd yn rhy hyf arno.
Eilwaith, ofnwch, — y mae llawer o bethau yn yr addewid
sydd yn sail hyder, eto a allant ya hawdd gael eu troi yn
faglau i ni. Y mae y Maen sydd yn Sion yn sylfaen safadwy i
bwyso arno, yn troi yn faen tramgwydd i lawer. Y mae y
Graig sydd yn gysgod rhag yr ystorm, yn troi yn graig rhwystr
i lawer. Y mae yr apostol yn sôn am rai yn tramgwyddo wrth
y gair. Ni buasai neb yn meddwl y buasai yr addewid yn achos
iddynt syrthio ; ond ar draws hono y maenl yn cwympo i
ddinystr. Y mae bwriadau Duw yn dod i'r golwg yn yr
addewid fel creigiau cedyrn i ddangos nerth y drefn ; ond ofna
rhag rhedeg yn erbyn y graig, neu ymdroi i geisio darllen yr
ysgrifen sydd arni hi : try felly yn graig rhwystr i dy atal di i'r
orphwysfa, yn lle bod fel myneg-bost i ddangos y ffordd yno.
Y mae y Cyfryngwr mawr yn ei iawn yn faen profedig, yn
sylfaen safadwy i bwyso arno: " ni frysia yr hwn a gredo."
Yn yr ystorm bydd ei dŷ ef yn sefyll, am fod y sylfaen yn
safadwy ; ond ofna rhag ei wneuthur yn faen tra-ng-wydd trwy
omedd adeiladu arno nes gweled ei faint, a deall ei nerth : fe ä
adeg adeiladu heibio cyn y gweli di hyny. Un o'r pethau
melusaf yn yr addewid ydyw, bod iachawdwriaeth o ras i gyd ;
ond ofna rhag tramgwyddo wrth y gair yna. Y mae miloedd
yn gwneyd. Os na chânt hwy fod à llaw yn y gorchwyl, fel y
Samariaid hyny yn adeiladaeth teml Jerusalem, y maent yn
tramgwyddo, ac yn myned yn elynion i Dduw a'i bobl. Llawen-
ychwn yn ein haddewid ; ond ofnwn rhag Dod yn ol o'i
chynv/ys hi.
3. Ofnwn, — oblegid y mae yr hyn sydd yn gwneuthur i rai
syrthio yn fyr o honi o natur mor ddirgelaidd, fel, os na sylwi
di yn fanwl, fe all dy ladd di bron yn ddiarwybod i ti dy hun,
7SO Ofnwn, ganfod addewid.
sef anghrediniaeth. Nid am annuwiolion cyhoeddus y mae y
testyn yn son, ond am wrandawyr efengyl, — rhai yn ei pharchu
hi ac yn ei phroífesu. Y mae nôd y bwystfil fel yn nhalcen an-
nuwiohon cyhoeddus, yn dangos i bawb mai yn ol y byddant;
cnd y mae eraill nas gwyddoch pa enw i roddi arnynt ond
saint ; îe, y maent yn cael eu cyfrif gydâ'r saint ; eto y mae
yna rywbeth yn llechu yn ddirgel, fydd mor sicr o'u cau allan
o'r orphwysfa, â'r annuwioldeb mwyaf cj^hoeddus. Yr oedd
rhai creaduriaid yr oedd yn amlwg arj'r olwggyntaf na wnaent
y tro yn ebyrth. Yr oeddent yn afiach, neu yn anafus ; ond yr
oedd rhai a phob peth allanol yn ei le, eto pan y dernid hwynt,
fe welid fod rhywbeth yn mêr yr esgyrn yn eu hanghymwyso
i'r allor. Cyfeiriad at hyny sydd yn niwedd y benod hon.
Gall anghrediniaeth lechu mor ddirgelaidd a phe buasai yn
mér yr esgyrn; ond fe gaua allan o'r orphwysfa ; oblegid
" bywiol yw Gair Duw, a nerthol, a llymach nag un cleddyf
dau finiog, ac yn cyrhaeddyd trwyodd hyd wahaniad yr enaid
a'r ysbryd, a'r cymalau a'r mêr ; ac yn barnu meddyHau a
bwriadau y galon." Ofnwn, gan hyny, a gweddiwn weddi y
Salmydd : — "Chwilia fi, O Dduw, a gwybydd fy nghalon :
prawf fi, a gwybydd fy meddyliau ; a gwêl a oes fiFordd annuw-
iol genyf, a thywys fi yii y íTordd dragy wyddol " (Sa'm
cxxxix. 2-î, 24).
4. " Ofnwn," oblegid agosrwydd amodau yr addewid atom.
Pe buasai y prophwyd yn gorchymyn i Naaman fyned i'r
Ganges i ymolchi, ni buasai lle i feio arno am omedd myned,
am fod y daith mor beryglus ; ond gan mai i'r lorddonen yr
anfonwyd ef, afon oedd ar ei ífordd adref o Samaria i Damascus,
buasai peidio myned yno yn peri na buasai yn deilwng o
dosturi neb, pe buasai yn dioddef gan y gwahanglwyf hyd
ddydd ei farwolaeth. Felly, os byddwn ninau yn ngafael y
gwahanglwyf yn y byd a ddaw, naddisgwyHwn gydymdeimlad
neb, a ninau wedi gomedd ymolchi pan oedd yr afon yn fwy
cyfîeus o lawer i ni nag oedd hi i Naaman. Pe buasid yn
gorchymyn i ni ddringo i gopa Senir a Hermon, i chwiho am
fywyd, buasai uchder y mynyddoedd yn ein cyfiawnhau ni, yn
ngolwg llawer, am beidio myned ; ond gan mai i fryn bychan
Calfaria y gorchymynir i ni fyucd, os nad awn ni, fe bàr hyny
Ofnwn, gan fod addewîd. 751
i bawb ddywedyd, pa mor ofnadwy bynag fydd y gosbedÌE;aeth
yn y byd arall, — " Nid yw hwn ddim yn cael mwy na'i haedd-
iant." Y mae amodau yr orphwysfa, fel y mae y greadigaeth
yn eu cyhoeddi, yn rhai ceîyd i bechadur ; ond y mae " bod yn
ol," i'r rhai sydd heb ddim ond y rhai hyny, yn niwl tywyllwch
yn dragywydd: ond os yn ol y byddwn ni, sydd wedi cael
amodau esmwyth yr efengyl, fe fydd eu niwl a'u tywyllwch
hwynt yn oleuni o'u cymharu à'n rhai ni. Er mai gwlad
cysgod angau a fydd hi oll, bydd y rhan y bydd y pagan ynddi
yn Gosen o'i gymharu â'r Aipht, wrth y rhan a fydd i'r rhai a
gawsant amodau esmwyth yr efengyl. " Hon yw y ddamned-
igaeth, ddyfod gv->leuni i'r byd, a charu o ddynion y tywyllwch
yn fwy na'r goleuni ; canys yr oedd eu gweithredoedd hwy yn
ddrwg." Ofnwn gan hyny, oblegid os na bydd yr addewid ya
godiad i ni, bydd yn gwymp na chafodd neb ei debyg erioed.
5. " Ofnwn " yn olaf: y mae yr orphwysfa yn un mor
ragoroj, byddai yn golled na all tafod ddisgrifio ei maint, " bod
yn ol " o noni. Y mae dau air yn cael eu cyfieithu " gor-
phwysfa" yn y benod hon: un yn arwyddo Canaan neu y
deml, a'r llall Sabbath. Dyna ydyw yr orphwysfa, Sabbath ;
a Sabbath yn Nghanaan, neu y cysegr.
Sabbath ydyw. Ni chawsom ni yr un Sabbath teilwng o'r en w
eto. Plant y forwyn gaeth ydym ni oll : ni chawsom ni erioed
gymeryd ein hanadl atom yn iawn. Maeein meistri gwaith yn
ein gyru ni yn dost. " E wch at eich beichiau " sydd yn eu genau
o hyd. Rhyw wythnos drafferthus ydyw ein hoes ni. Ni wn
i ddim ymha un o'i dyddiau hi yr wyt ti yn awr ; pa un ai yn
y trydydd, y pedwerydd, neu y pumed ; ond y mae ei seithfed
dydd hi yn Sabbath, — diwrnod hapus, tawel, na ddaw dim "o
swn y boen sydd yn y byd" i'w aflonyddu ; — diwrnod y bydd
"cymanfa a chynnlleidfa y cyntaf-anedigion " yn amgylchu yr
orseddfainc gyda'u gilydd i addoH. Yr oedd Paul yn brysio,
am fod arno ofn rhag na byddai yn Jerusalm erbyn y Sulgwyn :
yr oedd wedi gosod ei fryd ar gael bod yn yr ŵyl. Ond nid
Sulgwyn a fu iddo ef ; ond y mae Sulgwyn yn ol pan y cei di
addoH heb neb i aflonyddu arnat.
Sabbath yn yr orphwysfa ydy\v. Yr oedd gan Tsrael Sab-
bothau yn yr anialwch, ond prin yr oeddent yn teilyngu yr
753 Ofuii'u. gan fod addewid.
amser o'u cymharu â Sabbath Canaan. Ond y mae yma air
pellachnahynyna: "ei orphwysfaEf." Yroedd ydeml yn cael
ei galw felly o'i chymaru à'r tabernacl : rhodio yr oedd mewn
tabernacl; ond wedi cael y deml yn barod, y mae yn cael eigyf-
arch, — "Cyfod i'th orphwysfa." Dyna yw yr orphwysfa, — cadw
Sabbath ynydeml — cadwSabbath yn yfan y mae Duw wedi ei
chwenychu yn drigfa iddo ei Hun. Ni wyddom ddim am
brydferthwch y Ue ; ond yr oedd " mynydd Síon yn ystlysau
y gogledd," y fan a ddewisodd Efe yn drigfan iddo ei Hun,
mor brydfeith, ftl yr oedd " yn degwch bro, ac yn Uawenydd
yr holl ddaear." Ac cs oedd y daearol felly, beth ydyw y
nefol ? ''Ei orphwysfa Ef " hefyd ; — nid cadw Sabbath yn yr
un fan a Duw yn unig ydyw ; ond gorphwysfa o'r un natur, à
gorphwysfa y Jehofah anfeidrol ei Hun. Dyna hi yn awr wedi
myned yn gyfryw na wyddom ni ddim am dani. Ni a
allasem ddychymygu rhywbeth am gadw Sabbath yn yr
un fan a Duw; — gallasem gasglu y meini gwerthfawr a'r
perlau i wneuthur teml brydferthach nag a welodd ein
haul ni erioed ; — gallasem gasglu pob ofFer cerdd yno
i wneuthur miwsig mwy peraidd nag a glybuwyd ar y
ddaear erioed ; a buasai ein dychymyg eithaf ni yn rhy
fyr o lawer: ond pwy a all ddychymygu am gadw Sabbath
fel Duw. Ni all meddwl dyn ddim ffurfio yr un math o ddy-
chymyg am hynyna. Beth ydyw y tangnefedd ì Beth ydyw
y tawelwch ? Beth ydyw y digrifwch anfeidrol ì Beth ydyw
y nofio mewn hedd, a'r ymlonyddu ynddo ei Hun, y mae y
Duwdod yn ei wybod am dano bob moment? Ni wn i ddim.
Ond y mae genym ni addewid am orphwysfa fel yna ! Ei
rhagoriaeth a fyddo yn ein cadw bob dydd i ofni cymaint rhag
ei cholli, nes yr ymdrechwn ni am fyned i mewn iddi.
[Adysgrifenwjd ddydd Ma-n-rth, Mawrth 12, 1852.]
PREGETH XLVL
GYNNAL GÀIR T BYWYD.
Philipiaid ii. 16 : — '■ Yn cynnal gair y bjwyd."
YHOEDDTAD ydywy testyn o ddyledswydd Eglwys
Dduw at air Duw. Y mae perthynas agos rhwng
yr eglwys a'r gair ; ac y mae deall natur y berthynas
yn help i ddeall y ddyledswydd, ac yn gymhelliad i'w chyf-
lawni. Y mae y berthynas hon yn un agos iawn, oblegid y
gair sydd wedi rhoddi bôd i'r eglwys : byddai mor ofer edrych
am eglwys i Dduw mewn lle nad ydyw gair Duw, ag a fyddai
disgwyl dydd mewn Ile nad oes haul. A phe cymerid ymaith
y gair o'r byd, ciliai yr eglwys gydag ef, fel y mae y goleuni yn
cilio gydà'r haul. Os gwelir yr eglwys yn Iliosogi, prawf a
fydd hyny fod gair yr Arglwydd yn cynyddu ac yn cryfhau.
A phan nad yw hyny yn cymeryd lle, y mae y rhai sydd yn
ymboeni yn y gair a'r athrawiaeth yn gorfod dywedyd, eu bod
yn Ilafurio yn ofer, ac yn treulio eu nerth am ddim ; oherwydd
nid oes dim yn wir ffrwyth i'r llafur, ond naill ai casglu eglwys,
neu ei hadeiladu. Ond pan na bydd y cyntaf yn cael eiwneyd,
y mae yn ofnus na bydd yr ail ddim ychwaith. Y mae yn
perthyn i eglwys Dduw swyddogaethau a llywodraethau ; ond
dylem gofio yn barhaus nad swyddogion a llywodraethwyr a
allant wneuthur eglwys, ond mai ffrwyth gair Duw ydyw hi ;
ac nid rhaid olrhain ei Ilinach hi yn ol, o ran moddion ei
bodolaeth, yn mhellach na'r gair. "At y gyfraith, ac at y
dystiolaeth :" os oes delw y gair arni, digon ydyw hyny i brofi
ei bod hi yn eglwys i Dduw. Trwy y gair hefyd y mae hi yn
cael ei sancteiddio. Nid eu galw i fod yn saint yn unig ymae,
ond eu gwneuthur felly. Pa beth bynag sydd yn glanhau ac
754 Cynnal gair y bywyd.
yn puro, y gair ydyw y cyfrwng, trwy ba un y mae y meddwl
yn cael ei ddwyn i gysylltiad â'r peth hwnw. Ysbryd Duw
sydd yn sancteiddio, fel yn ail eni ; ond y mae yn gwneuthur
hyny trwy y gair. Y mae y meddwl yn cael ei ddwyn i gar-
trefu gydâ'r pethau hyny, ag y mae yn eu natur ei farweiddio i
bechod. Y mae * gwaed lesu Grist ei Fab Ef yn glanhau oddi-
wrth bob pechod ;' ond glanhau y mae, trwy i'r meddwl ddal
cymdeiíhas â'i ddioddefiadau Ef, yn nhystiolaethau y gair. Y
mae edrych ar ogoniant yr Arglwydd, yn newid i'r unrhyw
ddelw. Y mae disgwyl am ddaioni i ádyfod, yn peri i'r saint
wneuthur eu goreu er eu cael yn y diwedd yn deilwng o hono.
Ond y gair ydy w y cawg, sydd yn dal y gwaed sydd yn glan-
hau ; y gair ydy w y drych, ymha un y mae y gogoniant trwy
yr hwn y'n newidir, i'w weled; ac yn y gair y mae yr holî
addewidion, sydd yn gymhelhad i ymlanhau i'w cael. Nicî
ydyw goruchwyîiaethau rhagltîniaeth ddim yn sancteiddio, ond
i'r graddau y maent yn arwain y meddwl at y gair. Y mae yr
un terthynas rhyngddynt â sancteiddhâd, ag oedd rhwng y
ddeddf â Christ. Nid oedd y ddeddf ddim yn cadw ; ond yr
oedd hi yn arwain at Geidwad. Felly, nidyw goriachwyliaeth-
au rhagluniaeth ddim yn sancteiddio ; ond y maent yn fynycb
yn arwain y meddwl at y gair, yr hwn sydd yn gwneuthur
hyny. " Cyn fy nghystuddio yr oeddwn yn cyfeiliorni ; ond
yn awr y cedwais dy air di." " Dy ddeddfau oedd fy nghân yn
nhŷ fy mhererindod."
Y gair hefyd sydd yn cyfarwyddo yr eglwys. Nid yn unig y
mae yn ei bywhau, ac yn ei sancíeiddio, ond y mae hefyd yrs
llusern i'w thraed, ac yn llewyrch iV llwybrau. Y mae eglwy»
■wedi myned yn ddiystyr o'^r gair, neu wedi myned i roddi
rhywbeth yn ei le, yn sicr o fod yn un heb iawn droedio at
wirionedd yr efengyl. Os bydd y gwirionedd yn parhau yno^
ni bydd yn aros yn ei gyfartaledd priodol ; — ni bydd fel y mae
yn yr îesu ; ond rhoddir lle mawr i'r peth bychan, íJv blaenaí
fydd yr olaf. Nid oedd y golofn dân yn fwy angenrheidiol i
Israel yn yr anialwch, na'r seren ddim yn fwy angenrheidiol i'r
doethion er eu cyfeirio i Bethlehem, nag ydyw y gair yn yr
ystyr hwn i'r eglwys.
y gair eilwaith, ydyw y safon wrth ba un y mae hi i brofi eü
Cynnal gair y hywyd. 755
swyddogion. Y mae pob ysbryd nad ydyw yn dywedyd yn ol
y rheol hon yn profì nad oes oleuni ynddo ; ac o ganlyniad, na
ddylai gael ei ddilyn : a thra y bydd y gair mewn bri, ni all yr
un cyfeiliornad mawr ddyfod i mewn i eglwys Dduw. Y mae
ynrhaidi bob gwyro oddiar uniawn ffordd cyfiawnder ddechreu
mewn esgeuluso y gair. Ni all yr oíFeiriad Pabaidd ddim llithio
y werin i ofergoeledd, hyd nes yn gyntaf gymeryd y gair oddi
arnynt ; neu wneuthur yr hyn fydd yn ateb yr un diben, sef
rhoddi rhywbeth arall yn uwch nag ef. Ni all yr aníFyddiwr
ddim eu cael i ddywedyd, " Bwytàwn ac yfwn; canys yfory
marw yr ydym ;" nes yn gyntaf dori caracter y gair. Nis gall
^' Saint y dyddiau diweddaf" ddim hudo eu canlynwyr
hwythau, nes cael ganddynt yn gyntaf gredu annigonolrwydd
y gair fel datguddiad Dwyfoi. Gan fod yr eglwys wedi derbyn
cymaint gan y gair, y mae ganddi hithau hefyd ddyiedswyddau
i'w cyflawni tuag at y gair ; ac at y rhai hyny y cyfeiria y
testyn : — " Yn cynnal gair y bywyd." Gallwn gael golwg ar
gynwys y ddyledswydd hon mewn tri sylw : —
I. Ei gynnal, sef ei gadw yn y byd fel ilyfr.
ÎI. Ei gynnal gerbron y byd, trwy fuchedd sanctaidd.
III. Ei gynnal i'r byd, trwy ymdrechu i'w anfon i bob man.
Y mae yr egiwys nid yn unig yn syifaen i'w gadw yn y byd,
ond yn golofn i'w ddal i'r byd.
I. Ein dyledswydd yw cynnal gair y bywyd yn y byd. Un
o ddibenion mawr codiad yr eglwys luddewig oedd, "ymddir-
jed iddynt am ymadroddion Duw," sef, i'w cadw i'r byd. Fe^
yr oedd yr arch gynt yn cadw llechau y dystiolaeth, felly y
mae yr eglwys wedi bod, o dan bob goruchwyliaeth, yn arch i
gadw ymadroddion Duw. Pan gollwyd llyfr y gyfraith yn
Israel gynt, yn nhŷ yr Arglwydd y cafwyd ef ; a phan oedd y
ìlyfr wcdi ei golli ar ol hyny, yn yr eglwys y cafwyd ef. Yr
oedd yr eglwys luddewig wedi myned yn llygredig iawn, ond
yr oedd hi yn cadw llyfr y gyfraith er hyny. Yr oedd yr
eglwys Eabaidd felly yn yr oesoedd tywyll, ond yr oedd Uyfr y
gyfraith yn cael ei gadw ganddi hithau, — a chan yr eglwys
Syriaidd yn yr India, — a chan eglwys yr Aipht ac Ethiopia, —
a chan eglwys Groeg. Y mae ei gadw eto yn ddyled ar yr
«jlwys ; ac y mae hi yn ddyled anhaws ei chyfiawni yn yr oes
'756 Cynnal gaìr y bywyd.
hon nag mewn un a fu o'j blaen. Yn yr oesoedd tywyll sydd
wedi myned heibio, nid oedd nemawr ymosodiad uniongyrchol
yn erbyn y llyfr: os byddai ymosodiad, yn erbyn y rhai oedd-
ent yn proffesu bod yn gyfeillion iddo y byddai hyny. Aeth y
ddwy ganrif gyntaf heibio heb ond un cais i ddinystrio Ilyfr y
Cristionogion, a hwnw yn gais hanerog iawn ; ond bu llawer
cais yn yr ysbaid yna am ddinystrio y Cristionogion. Ond
erbyn hyn y mae y diafoi wedi dyfod yn ddoethach, ac wedi
deall mai y Uyfr ydyw gelyn ei deyrnas ef, — nad yw Cristion-
o^aith ddim ond effaith yn tarddu o achos : am hyny nid ydyw
ond anfynych yn ymladd â bychan na mawr, ond â'r Llyfr yn
unig ; a'r ymosodiad hwn ydyw y peryglaf o lawer ; oblegid
pe gelHd llwyddo i symud oddiar y ddaear bob cyfaill i'r Llyfr
yr un diwrnod, os gadewid y Llyfr yma, byddai yn sicr fod
ganddo gyfeillion wedi hyny, cyn pen wythnos ; ond os gellir
tori caracter y Llyfr, dyna y fwyell wedi disgyn ar wreiddyn y
pren ; oblegid hyn, y mae ymosodiad ar y Llyfr yn ymosodiad
i'w ofni, yn fwy nag ymosodiad y Pabyddion ar ei gyfeillion,
Nid yw y naill ddim ond am atal y ffrwyth, tra y mae y Ilall
am dori y pren ei hun i lawr. Felly, nid arch yn unig i gadw
y dystiolaeth ydyw yr eglwys yn awr, ond y mae hi fel byddin
i amddiffyn yr oraclau dwyfol. Y modd y mae hi yn ei gadw
yn y byd ydyw cynnal ei garacter, — gofalu yn barhaus i amddi-
ffyn ei gam ef. Y mae y duU i wneuthur hyn i amrywio, yn ol
fel y bydd yr ymosodiad ar y Llyfr yn amrywio. Ymosodwyd
ar y Llyfr mewn tair ffordd benodol, sef trwy geisio dangos,
(i.) Ei fod yn anghyson âg ef ei hun ; (2.) yn anghyson â hen
lyfrau eraill ; (3.) yn anghyson â chreadigaeth Duw. Buasai
y prawf sydd wedi bod arno yn y dull hwn wedi bod yn ddin-
ystriol i bob Ilyfr arall ; ond y mae ei gyfeillion wedi ei gynnal
ef, ac wedi dangos na chafwyd yn ei erbyn, mwy nag yn erbyn
Daniel, ddim achlysur, ac nad ocs ynddo nac amryfusedd na
bai.
(i.) Pe byddai yn y Llyfr bethau rhy anhawdd i neb ar y
ddaear eu cysoni yn gwbl â'u gilydd, nid ydyw yr anghyson-
derau ymddangosiadol hyn yn effeithio dim ar garacier dwyfol
y Llyfr, mwy nag y mae anghysonderau ymddangosiadol y
greadigaeth yn profi nad gwaith Duw ydyw hi. Bydd gaa
Cynnal gair y bywyd. 757
Lyfr Duw, fel ei greadigaeth, rywbeth i'w ddatguddio i bob
oes, hyd nes y daw Mab y dyn ar gymylau y nef ; a gall fod
rhyw gynifer o'r angh^^sonderau ymddangosiadol hyn ynddo,
yn angenrheidiol i'w wneuthur yn gyfaddas i'n hamgylchiadau
ni, fel ag i'n profi ac i'n dysgu ni i rodio wrth ffydd. Y^r oedd
anghysoaderau ymddangosiadol yn ngharacter Mab Duw. Yr
oedd yn dyfod o Nazareth, debygid, yn lle o Bethlehem. Yr
oedd yn fab i Joseph, yn lle yn fab Dafydd ; — yn saer, yn lle
yn frenin ; — yn dioddef, yn lle yn teyrnasu ; — ond yr oedd y
pethau hyn oU mor angeiirheidiol i'r bobl, ag oeddent i gym-
hwyso Mab Duw i fod yn Waredwr. A phe buasai ynddynt
hwy wir awydd am ei adnabod, nid oedd yno ddim gormod o
dywyllwch iddyntddeall, mai Efe oeddygwir Dduw a'r bywyd
tragywyddol. Er mai nid gweled cysondeb y Llyfr sydd yn
arwain nemawr neb i'w dderbyn; eto, er mwyn cau genau yr
hwn syddyn gwrthddywedyd, dylem allu cynnal y Llyfr yn yr
ystyr hwn ; — dylem, fel Apolos, brofi fod ífeithiau y Testament
Newydd yn cyfateb i brophwydoliaethau yr Hen ; neu, fel
Paul, ddangos nad oes dim yn cael ei ddatguddio yn yr efengyl,
nad ydyw y ddeddf a'r prophwydi yn dwyn tystiolaeth iV un
ptth. Hyn a fyddai bod yn gadarn yn yr Ysgrythyrau ; ac fe
a'n parotoai ni i roddi rheswm i bawb, am y gobaith sj'dd
ynom,
(2.) Ymosodwyd ar y Llyfr eilwaith, trwy geisio dangos ei
fod yn anghyson à hen lyfrau eraill. Os oedd y gair yn dy wedyd
rhywbeth yn wahanol i un o'r rhai hyn, fe dynid casgliad yn y
fan mai y Bibl oedd yn methu ; neu, os nad oeddrhai o'r hen ys-
grifenwyr hyn, oeddentyn y cyfle i hyny, yncrybwyll am ífeith-
iau y gair, cymerid eu distawrwydd yn sail amheuaeth, a oedd
y peth wedi digw^'dd. Ond cynorthwywyd ef gan ei gyfeillion
yn hyn hefyd. Fe brofwyd fod ei ysgrifenwyr mor deilwng,
beth bynag, o gael eu credu, ar eu sylfaen eu hun, a dim hen
ysgrifenwyr ; fod arnynt, yn bersonol, gymaint o nodau gwir-
ionedd ag oedd ar neb arall, îe, mwy ohonynt; ac os oedd
rhyu'beth ynddynt yn anghyson â rhyw hen ysgrifeniadau,
mai y tebygolrwydd oedd, mai hwynt-hwy oeddent yn profi
fod yr hen ysgrifeniadau hyny yn gyfeiliornus, ac nid y rhai
hyny yn profi eu bod hwy felly. Ond i fyned heibio i hyn, —
*j^S Cynnaî gaîr y hywyd.
(3.) Y mae yr ymosodwyr presenol arno yn ceisio torí d
garacter, trwy ddangos ei fod yn anghyson â chreadigaeth
Duw ; — fod darganfyddiadau y dyddiau hyn yn profi fod yn
anmhosibl fad y Llyfr wedi ei lefaru gan yr un un, ag a ddy-
wedodd " Bydded " yn y boreu. Yr oedd y sêr, y mynyddoedd^
a'r creigiau, meddant, wrth dystio mai Duw a'u gwnaeth
hwynt, yn tystio nad Duw a lefarodd hoîl eiriau y Llyfr hwn.
Ond fe gyfododd yr Arglwydd waredwyr i'w Lyfr, fel y byddai
yn codi barnwyr yn îsrael gynt, fel ag i yru byddinoedd yr
estroniaid hyn i gilio. Fe ddangoswyd, nid yn unig, nad
oeddent yn dywedyd yn erbyn y Llyfr, ond bod y wybodaeth a
ystyrid yn ddarganfyddiad newydd, oberthynas i'rgreadigaeth^
wedi bod yn llechu yn y Llyfr, er's miloedd o flynyddoedd.
Ac, fel y dangosodd yr Apostol yn yr epistol at yr Hebreaid^
fod hoU ddaionus bethau yr oruchwyliaeth hon, wedi e cysgodi
yw yr hen ; felly, mae yn ddigon tebyg, y daw rhyw Gristion
goleu tua'r mil blynyddoedd, i ddangos fod yr hoU ddargan-
fyddiadau a wnaed Irwy yr oesoedd wedi eu rhag-gy&godi yn y
Llyfr. Y mae yr oes hon yn myned o flaen Uawer o lyfrau,.
ond y mae yr hen Lyfr hwn yn ddigon o'u blaen hi eto ; a'n
dyled ni oll ydyw^ gwneuthur ein goreu i'w gynal yn yr ystyr
hon. Ac nac ofnwn am dano, pe digwyddai iddo fyned fel yr
arch i wlad y Philistiaid : ni bydd yno yn hir. Pe ceid goruch-
afiaeth arno (nid yw hyn yn debyg), ni byddai ond goruch-
afiaeth am fynyd awr ; a phe tawai dynion, fe lefarai y ceryg
drosto.
Ond y mae eisiau nidyn unig cynnal ei wirioneddyn y byd ;
y mae eisiau hefyd ei gynnal yn ei le ei hun. Y mae rhai a
ymdrechant dros ei wirionedd, ond a'i hysbeiliant ar yr un
pryd o'i le priodol ei hun. Buasai yr luddewon yn marw dros
wirionedd yr Hen Destament ; ond yr oeddent yn ei ysbeilio
o'i le, trwy roddi traddodiadau y tadau yn gystal, 'ie, yn uwch
nag ef. Ni fỳn y Llyfr neb uwchben iddo, — ni fỳn ê neb yn
rhanog âg ef ychwaiLh. Ein dyled ni oll ydyw ei gynnal yn
hyn, trwy ofalu na roddwn \ii ddim o'i ogoniant i arall, a thrwy
wneuthur beth bynag a ddywedo efe, a dim ond hyny.
IL Yr ydym i gynnal y gair gerbron y byd, trwy ymarwedd-
iad sanctaidd. Goreu po mwyaf a all ei gynnal yn y duU y
Cynnal gatr y hywyd. 75g
sylwyd arno eisoes ; ond ni all y nifer ddim bod ond ychydig
mewn cymhariaeth, sef yn benaf, y dysgedigion a'r doethion.
Ond y mae hwn yn gynnal sydd yn dyfod o fewn cyraedd pawb ;
a phe byddai mwy o'r cynnal hwn, byddai llai o angen y cynnal
arall. Y mae yr eglwys i gynnal y gair mewn tri ystyr : — (i.)
Y mae y saint i gynnal ei wirionedd gerbron y byd. (2.) I
gynnal ei bwysigrwydd gerbron y byd. (3.) I gynnal ei
brydferthwch gerbron y byd.
(i.) Y mae yr eglwys i gynnal gwirionedd y gair gerbron y
byd. Nì bu yr un oes yn fwy íFrwylhlawn micwn proíîon o
wirionedd y Llyfr na'r oes hon. Y mae pob peth, o uchder y
nefoedd hyd ddyfnderoedd y ddaear, yn dwyn tystiolaeth iddo ;
ac y mae yn ddiameu, fel y cynydda gwybodaeth, y ceir allan
eto brofion newydd o'i wirionedd ; ond ai nid yw y prawf
goreu heb ei ddwyn ymlaen eto, sef, y Llyfr yn cael ei gynnal
yn mywyd ei gyfeillion ? Y mae yn dda cael adfeilion Ninifeh
a Babiîon, i brofi gwirionedd ei hanesion a'i brophwydoliaethau :
byddai yn dda cael rhyw un a fedrai ddeongli yr ysgrifeniadau
sydd ar greigiau Sinai, oblegid y mae yn debygol mai tystion
ydynt o wirionedd llyfrau Moses. Ond annhraethol well na
hynyna, a fyddai cael tystion byw i wirionedd y Llyfr. Yr
oedd gwyrthiau yr Arglwydd lesu wedi methu argyhoeddi y
byd, mai oddiwrth Dduw y daeth. Bu raid iddo adael y
ddaear, a'r ddadl heb ei phenderfynu ; ond gadawodd yma
rywbeth ar ei ol, a fyddai yn sicr o'i henill hi, — rhyw-
beth a fyddai yn fwy effeithiol na'r holl wyrthiau ; a dyna
oedd hyny, — cynifer o ddisgyblion i fyw ei athrawiaeth. " Os
aroswch yn íy ngair i (sef ei fyw,) disgyblion i mi ydych."
*' Wrth hyn y gwybydd pawb, mai disgyblion i mi ydych, os
bydd genych gariad i'ch g'lydd." Ac yn ei weddi ar ei Dad,
yr ydym yn cael beth a fyddai eflfeithiau hyny ar y byd, " fel
y credo y byd mai tydi a'm hanfonaist i." Yr oedd Efe yn
ymddiried ei garacter i hyn, gan fod yn gwbl sicr, os byddent
hwy yn íFyddlawn, yr argyhoeddid y byd trwyddynt hwy, o'i
gyfiawnder Ef Yr oedd yr Apostol Paul yn foddlawn i'w hawl
ef i gael ei ystyried yn apostol, ac o ganlyniad i wirionedd ei
eiriau, sefyll neu syrthio, wrth effeithiau ei weinidogaeth ar y
Corinthiaid a'r GalaLiaid. Yr oedd bod y Corinthiaid yr bya
760 Cynnal gair y hywyd.
Oêddent, yn llythyr Crist, i brofi ei apostoliaeth ef. Ac yr oedd
canlyniad ei lafur yn Galatia yn ddigon o brawf pa un a oedd
ê yn apostol ai peidio; ac y mae yn gweddio dros y Corînth-
iaid rhag iddynt wneuthur dim drwg, nid fel yr ymddangosai
efe yn gymeradwy ; ond y mae yn eglur fod eu perffeithrwydd
hwynt yn gymeradwyaeth iddo yntau, — yn brawf fod Crist yn
llefaru ynddo, Yn yr un dull, y mae gwirionedd y Bibl i gael
ei gynnal ; sef, trwy iV gyfeillion beidio gwneuthur dim drwg,
Pe byddai pob ytnddygiad o'u heiddo yn adsain " Gwir yw y
gair," fe orfodid y byd i dystio fod Duw yn wir ynddo. Yr
oedd Daniel wedi ymddwyn mor berff'aith yn Babilon, nes oedd
y Babiloniaid yn gorfod meddwl yn barchus am ei Dduw ef ; a
rhyw wall yn nghyfeillion y Llyfr sydd yn achlysur o bob ym-
osodiad ar ei wirionedd, Pe byddem ni yn gyfryw na fedrai
neb feio arnom, elai hyny ymhell tuag at wneuthur ein Llyfr
yn gyfryw na feiddiai neb feio arno. Bywyd perffaith gyson er
gyfeillion addilëai holl anghysonderau ymddangosiadol y Llyfr,
Pe na byddai dim ynom ni yn dywedyd yn ei erbyn, ni roddai
neb ddim pwys ar eiriau nac ar ddistawrwydd paganiaid yn ei
gylch. Ni byddai fod y greadigaeth yn ei erbyn yn ddim, pe
byddem ni o'i blaid, Fe fyddai ei fod wedi codi ein natur ni,
a thrwy hyny brofi ei fod yn cyfateb iddi, yn ddigon ar gyfer
ei fod yn groes, pebyddai felly, i'r natur o'n hamgylch ni. Ac
y mae'r Llyfr yn gyfryw nad oes dim ond ei fyw a'i gwiria yn
iawn. Bydd ei athrawiaethau yn anhygoel, a'i orchymynion
yn anmhosibl, os na bydc eu gwirionedd yn cael ei brofi yn
barhaus yn mywyd ei gyfeillion. Mewn amser o ddirywiad, y
mae heresi yn gyff'redin yn do'd i mewn. Pan na byddai
llawer yn ddiofal am gydnabod lesu Grist yn Dduw, trwy
blygu i'w awdurdod ymhob peth, y deuai rhywun ymlaen i
wadu ei Dduwdod. Pan na byddai gras Duw yn dysgu y rhai
oeddent yn ei broff"esu, i wadu pob annuwioldeb, deuai rhywun
ymlaen i ddywedyd, mai nid trwy ras yr oedd dyn yn gadwedig.
Y mae athrawiaethau y Llyfr yn myned yn anhygoel, os na
byddant yn cael eu byw ; ac feallai y gellid olrhain pob un o
ymosodiadau y dyddiau hyn ar y Llyfr, i esgeulusdra ei gyf-
eillion i fyw rhyw athrawiaeth sydd ynddo. Ac os oes yma ry w
un yn ofni i ryw gyfeiüornad ddyfod i mewn, y peth goreu a
Cynnal gaìr y hywyâ 762
fedrwch chwi ei wneuthur tuag at sicrhau i'r gwirionedd barhau
fel y mae, yn yr lesu, ydyw, gofalu am ei fyw. Middyliwch
eto am ei orchymynion; fe ddywedir fod y rhai hyn yn an-
mhosibl, am nad ydym ni yn dangos, trwy eu cadw, nad ydynt
felly. Y mae Uawer o ysgrifenu a darlilhio yn y dyddiau hyn,
ar ddiwygiadau mewn amaethyddiaeth ; ond y mae rliagfarnau
amaethwyr mor gryfìon dros eu hen dduU, fel na chredant fod
gwir yn y llyfr a'r ddarhth ; ond os daw yno ryw un i'r ardal
i roddi y llyfr mewn ymarferiad, çeir gweled y rhagfarn yn
fuan yn cilio, a'rhyn aystyrid yn anmhosibl, yn cael ei deimlo
gan bawb yn ymarferol. Felly, gweled gorchymynion y Bibl
yn cael eu byw, a ddaw à'r byd 1 gredu eu bod yn ymarferol.
Yr oedd adeiladydd y bont haiarn dros y Menai, wedi proíì i
sicrwydd ar bapyr^ yr atebai y tube y diben. cyn dechreu arno.
Yr oedd efe wedi cael allan nerth y defnyddiau, — pa faint o
bwysau a allent eu dal, — beth a fyddii dylanwad y gwynt a'r
hîn arnynt ; ond nid oadd y oeth ddim yn wirionedi i'r byd
nes oedd y ùiòe yn ei le, a'r cerbydau wedi myned drwyddo
hefyd. Y mie yn ofnus mii gwirionedi ar bapyr ydyw y Bibl
mewn Ilawer lle eto. Nid yw y probiem eto wedi ei so!vio,
y pwnc dyrus wedi ei lawn egluro. Pa bryd y dywed y byd,
" Gwir yw y gair?" Pan y gwelant yr hyn sydd yn y Llyfr
mewn gweithred ynom ni. Nid oedd Phylip yn aros i ymres-
ymu â Nathanael, ynghylch pa un a allai dim da ddyf)d o
Nazireth ai peidio; ond cymerodl ífjrdd ferach o lawer i
benderfynu y pwnc, — " Tyred, a gwêl." O na byd iai ein hym-
ddygiadau ni yn gyfryw ag y gellid dweyd wrth bob amheuwr
ac aníf/Jiiwr, Oi wyt ti yn ameu y gwirionedi, — " Tyred a
gwêl." Ni bu mewn un oes fwy o fanteision i ddeall gair Duw
nag sydd ynawr. Y mae yr ieithoedi ymharai yr ysgrifenwyd
ef wedi eu hastudio, — y defoiau y cyfeirir atynt wedi eu deall,
fel ag y mae genym diisgrifìaiau yr ysgilai^, a dirluiiau 'r
celfydd, i'n cynorthwyo i ddeall y llyfr ; ac yn enwedi<5, y mae
y darluniau yn help mawr i'w ddeal'.. Ond ai nid ot-s arnom
eisiau eto "Fibl DarluniaJol" amgen nag yr un a gyhoeddwyd
yn Gymraeg neu yn Saesneg, sef y Llyfr wedi ei eglurhau a'i
addurno {illustrated) gan ei gyfeillion. Fe fyddai pob Cristion,
pe yn ei le, yn " Fibl Darluniadol." Yr oedd yr efengyl, yn y
7^2 Cynnal gaìr y hywyd.
dull yna, yn tynu sylw y pagan yn Corinth. Yr oedd efe yn
cael ei enill gan y wraig, heb y gair. Os rad ydym ni
sydd yn eibroífesu yn ei gynnal, cofiwnyr ydym yn gwneuthur
peth mwy na thori ein caracter ein hun, — yr ydym, mewn
gwirionedd, yn gwneuthur y Llyfr yn geîwyddog.
2. Yr ydym i gynnal ei bwysigrwydd gerbron y byd. Y mae
hyn yn perthyn yn agos i'w wirionedd, obîegid y mae yn wir-
ionedd o'r fath natur, fel, debygid, nad allai y neb sydd yn ei
gredu lai na dangos ei fod yn bwysig. Ond y mae dosbarth
iliosog yn addef yn oeraidd wirionedd y Llyfr, pan y mae yn
eglur i bawb nad ydynt yn teimlo nemawr oddiwrth ei bwys ;
ac y mae y dosbarth yna yn Ilawer lliosocach na'r rnai sydd
yn gwadu ei wirionedd. Y mae yn dra anhawdd gwadu ei
wirionedd, am fod pob peth yn dwyn tystiolaeth i hyny ; ond
y mae yn dra hawdd bod heb deimio oddiwrth y gwirionedd,
am nad oes dim yn y goîwg i'w ddwyn ef adref i'r teimlad.
Buasai yn anhawdd gwadu gwirionedd geiriau Noah, oblegid
yr oedd yn ddyn o'r fath, na buasai neb yn meddwl am foment
y buasai yn eu twyllo; ond nid oedd yno ddim yn y golwg i
foeri î'r gwirionedd ddyfod yn bwysig i'r teimlad. Nid oedd y
nefoedd ddim yn duo ar ddiwedd y bregeth, — nid oedd un o
ffynhonau y dyfnder yn rhwygo i ddwyn ei gwirionedd hi i'r
teimlad : yn hytrach. yr oedd pob peth yn parhau fel yr oedd-
ent o ddechreuad y greadigaeth ; — yr haul yn codi ac yn
machlud ; — y tymhorau yn dilyn eu gilydd yn rheolaidd ; —
holl olwynion y peiriant yn eu Ile, ac i bob ymddangosiad yn
sicr o barhau felly ; eto yr oedd ynoun peth yn tueddu iddwyn
pwys y geiriau i'w teimlad, sef gwaith Noah, gyda pharchedig
ofn, yn darparu yr arch. Bob tro yr elai y dorf heibio i'r arch,
byddai y gydwybod yn sibrwd wrthynt, rnai geiriau gwirionedd
a sobrwydd oedd rhai y pregethwr cyfiawnder. Buasent yn
fuan iawn yn cynefino â'r bregeth ; ond yr oedd yn rhy
anhawdd cynefino â'r arch. Yr oedd pob ergyd ar hono yn eu
condemnio hwynt : felly nid oes iim yn y golwg i ddwyn
pwysigrwydd y Llyfr i deimlad y bobl. Ac oblegid hyn yr ydym
weithiau yn barod i ddywedyd, O na rwygai y nefoedd, — na
chymerai pethau dieithr le, — i ddwyn y gwirionedd adref i'r
teimlad ; ond y mae yr arwyddion gweledig wedi cilio, — y
i
Cynnal gaîr yhywyá. 763
prophwydi wedi ymadael, — y gwyrthiau wedi darfod. Fe fu y
pethau hyn gynt yn sylweddoli i'r bobl y pethaunid oeddid yn
eu gweled ; — Sinai yn dwyn pwysigrwydd y ddeddti'r teimlad;
— y cwrnwl oedd yn gorchuddio y babell yn peri iddyntdeimlo
mai lle ofnadwy oedd y cysegr. Y prophwyd, oedd vn rhoiio
yn eu plith mewn crys o rawn, yn dyst gweledig fod Duw yn
bod, a bod perthynas bwysig rhyngddynt hwy âçf ef. Ond ni
ddaw Sinai ddim i gynnal pwysigrwydd y ddeddf yn awr ; nid
oes yr un cwmwl i beri i'r bobl deimlo ofnadwyaeth y cysegr ;
na'r un prophwyd i sylweddoli y byd ysbrydol ini ; ond y mae
pwysigrwydd y pethau i gael eu dwyn i'r teimlad yn awr gan
yr eglwys. Y mae hi i ateb yr un diben i'r byd, ag y mae
ffydd yn ei ateb iddi hi ei hun. " Ffydd yn wir,"' medd yr
apostol, "yw sail y pethau yr ydys yn eu gobeithio," neu
hanfodiad "y pethau nid ydys yn eu gweled." Felly y mae
hithau i fod i'r byd yn sicrwydd, — yn argyhoeddiad, — yn
hanfodiad y pethau nid ydys yn eu gweled. Ffydd ydyw
yspîenddrych (telescopé) yr eglwys, i ddwyn pethau pell yn
agos ; a'r eglwys ydyw yspíenddrych y byd i hyny. Y mae y
telescope yn peri i bethau, sydd yn ymddangos i'r llygad yn
oleuni gwanaidd yn y ffarfafen, ymddangos yn sêr disglaer ;
a'r pethau sydd yn ymddangos yn sêr bychain, y mae y drych
yn eu dan^os yn heuliau mawrion, a'u goleu yn rhy danbaid i'r
llygaid syllu arno; ac mewn llawer lle na wêl y llygad ddim,
y mae y drych yn dwyn bydoedd mawrion i'rgolwg. Y dull y
mae y rhai mwyaf nerthol o honynt yn gwneuthur hyn ydyw
hwn. Y mae yna rywbeth o fewn y drych wedi ei gaboli
{polished) i'r perffeithrwydd mwyaf, fel ag i'w gymhwyso i
dderbyn delw y pethau pell, ac oddiar hwnw y mae y ddelw yn
cael ei hadlewyrchu ar rywbeth drachefn, sydd yn ei thros-
glwyddo i bwynt llygaid yr edrychydd : draw, draw, yn y pell-
der anfesurol y mae y gwrthdd'-ych ; ond y mae yr edrychydd
yn ei weled yn ei ymyl. Ac y mae rhai o honynt yn cael eu
llunio yn y fath fodd, ag y gall yr edrychydd weled gwrth-
ddrych sydd y tu cefn iddo, o flaen ei wyneb. Drychau o r
fath yma ddylem ninau fod. A oes yma rywbeth o'n mewn
ni cymwys i dderbyn delw y pethau pell y mae eu henwau yn
y Bibl, — y pethau anweledig i lygad o gnawd, — fel ag i
7^4 Cynnal gair y hywyd.
adlewyrchu y ddelw yn ymyl pob edrychydd ? Ffydd ydyw y
reflector, — yr hon sydd yn derbyn delw y pethau. Y mae hi i
fod i ni ein hunain yn hanfodiad y pethau nid ydys yn eu
gweled ; a thrwyddom ni y mae hi i fod felly i'r byd. Y mae
Sinai ymhell : — ydyw ; ond os ydym ni yn oíTerynau perflFaith,
— yn cyflawni ein gwaith yn iawn, y mae ein cymydogion yn
ei weled, weitliiau, yn ymyl ; nes y mae ofnadwyaeth yr olwg
yn peri iddynt ofni a chrynu. Y mae y farn draw, draw, allan
o olwg llygad o gnawd ; ond os wyt ti yn cyfateb i dy enw, y
mae dy gymydog annuwiol yn ei gweled hi yn eistedd weith-
iau ; — y llyfrau yn agor, — nes y mae ei dychryn hi yn syrthio
arno. Y mae dy holl gymydogion di â'u cefnau ar nefoedd
Duw ; ond os wyt ti yn dy le, y maent yn gweled adlewyrchiad
gwanaidd o honi, oddiwrthyt a thrwot ti, ger eu bron hwynt.
A ydyw y gair yn cael ei gynnal genym ? A ydym ni yn
rhoddi hanfodiad iddo yn y byd ? A ydym ni yn ei atal ifyned
yn bell ac yn henaidd ? Lle y mae felly, y mae bron yn gwbl
ddiddylanwad. Yr oedd brenhines Seba wedi clywed am
Solomon, ond heb gredu ; ond pan y daeth hi i Jerusalem, a
gweled, nid arosodd ysbryd o'i mewn hi. " Gwir," medd hi,
"yw y gair a glywaisJ" Y mae railoedd yn ein gwlad ni yn
clywed y gair bob Sabbath, ac heb ei gredu ; ond pe byddai yr
un peth iddynt i'w weled ar hyd yr wythnos, nid arosai ysbryd
o fewn llawer o honynt, ond teimlent ei bwysigrwydd. Cyn-
nheliwch ef yn ei bwys.
3. Dylem gynnal y gair yn ei brydferthwch gerbron y byd.
Y mae tlysni — y mae prydferthwch yn y Llyfr ; ond y mae yn
brydferthwch na all y byd ddim ei ganfod, na theimlo oddi-
wrtho, nes ei weled mewn gweithred. Y mae y doethion yn
dywedyd nad oes dim barddoniaeth a ddeil eì chystadlu â
barddoniaeth Esaiaha Dafydd ; — nad oes yr un gadwen o ym-
resymu mwy campus, ar y ddaear, na'r eiddo yr Apostol Paul ;
— nad oes neb wedi ysgrifenu bywgraffiad a ddeil ei gymharu
am foment âg un pysgodwyr Mòr Galilea; ond y mae y piyd-
ferthion hyn yn bethau, nad oes gan ond ychydig iawn lygad
i'w gweled. Ond y mae modd dwyn allan brydferthwch y
Llyfr fel ag i beri iddo fod yn weledig i bawb. Y mae y Bibl,
fel y dòn yn y nodau, yn y llyfr: ni ẁyr llawer ddim am dani
Cyniial gair y hywyd. 765
wrth edrych arni felly ; ond y mae bron bawb yn gwybod
rhywbtth, pan y clywant hi yn cael ei chanu yn dda. Pa mor
anghymwys bynag a fyddant i wybod am dani trwy'r llygad,
ond odid na fydd peroriaeth y llais yn eflfeithioarnynt. Dyma'r
dôn : a ydym ni yn dwyn ei phrydferthwch gerbron y byd 7
Ai ynte a ydyw ein hanfedrusrwydd ni yn peri fod y dôn yn
cael anair .? Y mae prydferthwch y Bibl, tra y bydd yn y llyfr
yn unig, yn gyffelyb i'r blodau a'r fFrwythau gwerthfawr tra y
byddont yn yr hadau : y mae yn rhaid eu pîanu fel ag i berí
i'r prydferthwch sydd yn yr hedyn ddyfod i'r golwg. Y mae
llawer adnod, tra yn y Llyfr, mor fechan a disylw a'r gronyn o
hâd mwstard ; ond wedi ei phlanu mewn rhyw galon, y mae hí
yn myned yn bren mawr, ac adar y nef yn lleisio oddirhwng ei
changau. Y mae hi yn ddigoii mawr a phrydferth i dynu sylw
cyffredinol. " GweJdiwch dros y rhai a wnêl niwed i chwi :"
dyna un o'r hadau. Nid yw yn tynu nemawr o sylw yn y fan
yna ; ond ewch i edrych ar Stephan yn cael ei labyddio, chwi a
welwch yr hedyn wedi ífrwytho. " Na ddod y pechod hwn yn eu
herbyn ; " — mor brydíerth ydyw y ffrwyth, onideî Y mae
prydferthwch mewn bywyd. Y mae rhai o honoch wedi bod
yn gweled rhyfeddodau y Museiim yn Llundain; ac yn eu
plith. chwi a welsoch adar yr awyr, anifeiliaid y maes, a
bwystfilod y goedwig ; ac er eu bod yn brydferth, nid oedd
prydferthwch by wyd arnynt : am hyny yr oedd y llygad yn
blino yn edrych arnynt yn fuan. Chwi a aethoch oddiyno i'r
Zoological Gardens, a chwi a welsoch yr un pethau ; ond yr
oeddy dylanwadarnoch yn dra gwahanol : y rheswmoedd, am
eu bod yn y Ile olaf, yn fyw. Mor wahanol oedd eich teimlad
wrth edrych ar y llew, yn rhodio yn fawreddus yn ei gell, i'r
hyn oedd,wrth edrych arno yn farw yn y Musemn. Museum
prydferth ydyw Llyfr Duw, llawn o bethau tlws ac arddunol ;
ond mewn un ystyr, pethau marw ydynt. Y mae y pethau
i'w gweled wedi eu gwisgo â phrydferthwch bywyd yn yr
eglwys, Y maent i fod yn hysbys trwyddi hi. Y mae hi i
harddu yr athrawiaeth, sef i'w dangos hi yn ei chymesurau
{proportioiis) priodol. Yr oedd yr apostol yn teimlo pwys hyn.
"Na chabler eich daioni chwi," hyny yw, na fydded ffrwyth
eich crefydd yn rhoddi achlysur i neb ei chablu hi. Y mae y
766 Cynnal gair y hywyd.
Cristion i fod fel pren y bywyd, a phob rhyw ffrwyth arno, a'r
ffrwythau oll yn addfed yn eu mis. Ysgrifenodd Matthew,
Marc, Luc, ac loan, hanes bywyd lesu Grist : ysgrifenodd pob
un o honynt yn ei ddull ei hun ; ond er eu bod yn amrywio,
yr oedd hanes pob un o honynt yn efengyl, yn newyddion da,
oedd yn rhoddi bywyd i'r darllenwyr. Yr oedd Marc yn dy-
wedyd wrth ddechreu mai dechreu ei efengyl yr ydoedd ; ac
loan yn dywedyd wrth ddiweddu, mai ysgrifenu awnaeth fel y
caffai y darllenwyr fywyd tragywyddol, yn yr Hwn yr oedd efe
wedi ysgrifenu ei hanes. Nid oedd yn ameu nad oedd efe
wedi ei ddangos yn deilwng o gredu ynddo. Dyna yr ydym
ninau yn ei wneuthur, — ysgrifenu â'n bywyd, hanes bywyd
lesu Grist; ond y cwestiwn pwysig ydyw, — A ydyw ein hys-
grifen ni yn efengyl? A allai rhywun gael ei gadw trwyddo ?
Yr oedd Pedr yn sôn am i wŷr gael eu cadw heb y gair, trwy
fod bywyd y gwragedd yn efengyl iddynt hwy. Fe ysgrifen-
wyd llawer iawno spurious G spels gynt, sef ohanesion ffugiol
am lesu Grist ; ac yr oedd pob un o honynt yn gẃyrdroi rhy w
gymaint ar ei garacter perffaith Ef Y mae yn bur ofnus fod
llawer iawn o honynt yn cael eu hysgrifenu yn y dyddiau hyn ;
spurious gospelsy na chedwid neb byth trwyddync. Y mae o
gryn bwys i ni ysgrifenu hanes cywir o Fab Duw ; oblegid, os
nad ydym yn cynnal y gair yn ei wirionedd, — yn ei bwysig-
rwydd,— yn ei brydferthwch, — yr ydym yn peri fod gair Duw
yn cael ei gablu. Ac os nad ydym yn ei gynnal yn y dull hwn,
y mae yr holl lafur gydd ni wedi bod yn oter. Beth bynag a
gewch chwi drwy y Llyfr (a chwi a ellwch gael llawer,) tu yma
i gael bywyd tragywyddol, fe ddengys dydd Crist, fud y Llyfr
wedi bod yn ofer i chwi. Chwi ellwch ddifyru eich hunain â'r
blodau sydd yn y maes ; ond os naddangoswch chwi, trwy fod
yn gyfoethüg tuag at Dduw; eich bod wedi cael gafael ar y
trysür s dd ynddo, y mae y maes wedi bod yn ofer i chwi. Fe
fu dyfodiad Mab Duw ei hun yn ofer i'r luddewon. Llafuriodd
y prophwydi i'w ddarlunio am ganoedd o flynyddoedd, yn ofer.
Tywalltwyd gwaed yr ebyith i'w gysgodi trwy yr oesoedd, yn
ofer. Cyfìawnodd yntau wyrthiau heb eu hail, yn ofer. Llef-
arodd, na lefarodd dyn erioed fel Efe, yn ofer. Bu farw ar
bren, ya ofer. Fel y dy wedodd yr apostol, fe boenodd wrthynt,
Cy « na l ga ir y by wyd. 767
yn ofer. Pan edrychom ninau ar ugeiniau o wrandawyr
yr efengyl, nis gallwn lai na dywedyd, — Y mae blynyddoedd
o bregetnu wedi myned yn ofer ; — y mae blynyddoedd o ddar-
llen y Bibl wedi niyned yn ofer ; — y mae yr holl boen wedi bod
yn gwbl ofer. Na fyddwn yn foddlawn ar ddim llai trwy'r
Llyfr na bywyd Ond pe gwelid ynom awydd calon am ei
gynnal yn y dull y sylwyd arno eisoes, ni byddai raid llawer o
gymell arnom i'w gynnal ef, —
III. I'r byd, trwy ei anfon i dywyll-leoedd y ddaear. Y mae
y rhai sydd yn ddiofal am wneuthur hyn, yn eglur broíì nad
ydynt yn ei gynnal yn y dull arall. Ni enwn ni ddim ond un
cymhelliad i wneuthur hyn, sef, mai gair y by wyd ydy w. Y
mae hyn yn ddigon i ddangos pwysigrwydd yr ymddiried sy
genym. Yr oedd gan Noah gryn ymddiried gynt yn yr arch :
yr oedd bywyd y byd ymhob >styr dan ei ofal. Yr oedd Joseph
mewn lle pwysig yn yr Aipht, — ífon bara y bobî yn ei law. Pe
buasai efe yn aníTyddlawpi i'r ymddiried, buasai miloedd yr
Aipht a'r gwledydd amgylchynol yn trengu. Nid dibechod
fyddai ceidwad y lighthouse, a esgeulusai roddi goleu ar noson
ystormus. Nid difai fyddai y rhedegwr, a ymdröai gydâ phethau
dibwys ar y ffordd, ac yntau â r^/!>r/ií/'ganddo i adyn condemn-
iedig, yn ymyl y dienyddiad. Nid dibechod fyddai y meddyg,
a omeddai i'r claf yr unig feddyginiaeth a'i cadwai rhag angau.
Dyma unig oleuni y byd ; — dyma reprieý \ deulu condemniedig
y ddaear ; — dyma yr unig falm at glwyfau marwol y ddynol-
iaeth ; — nid dibwys ydyw'r ymddiried a roddwyd i ni. Pe
buasai hyny o wybodaeth ddaearyddol neu seryddòl, a hyny o
wybodaeth am physigwriaeth a feddai y byd, yn unig yn y wlad
hon, buasai yn fecdwl digon difrif, fod miloedd yn colli
eu bywydau bob blwyddyn, ar fòr a thir, o ddifîyg y wybod-
aeth ; ac mai parhau i wneuthur hyny a wnaent hyd nes yr
anfonid hi iddynt ; ond buasai yr ystyriaeth y gallasent
ddamweinio croesi y môr yn ddiogel, er na wyddent ddim am
forwriaeth; — y gallai y claf ddamweinio gwellâu, er nad oedd
neb yn ei wlad yn gwybod dim am physigwriaeth,— yn lliniaru
annedwyddwch y teimlad,ond am wybodaeth iachawdwriaeth, —
gairybywyd, — syddynein meddiant ni, ni ddamweiniodd i neb
erioed groesi yn ddiogel i'r hafan ddymunol, heb y chart hwn.
768 Cynnal gair y hywyd.
Ni ddamweinicdd î neb wellâu erioed os na byddai y balm o
Gilead yno. Gan mai gair y bywyd ydyw, nid bychan ydyw
cyfrifoldeb y rhai y mae ê wedi ei ymddiried iddynt. Y mae
yn wir ein bcd wedi cael braint trwy gael ein rhcddi mewn
sefyllfa fanteisiol i wneuthur hyn i'r byd. Yr oedd Joseph
wrth gael ei roddi mewn sefyllfa fanteisiol i wneuthur cymwyn-
asau i'r Aipht, yn cael dyrchafìad ei hun : felly ninau. Ond
ctfiwn o hyd mai peth i gyraedd amcan arall yw hwn; ac os
methwn ni a chyraedd y llall, ni a gollwn y dyrchafiad. Y mae
parhâd y breintiau yn anwahanol gysylltiedig â chyfìawniad
ein dyledswydd tuag at y byd. Tystion ohyn, pawb a fu mewn
sefyllfa gyfîtlyb. Paham y symudwyd ymerodraethau mawr-
ion y cyn-oesoedd? Paham y torwyd yr luddewon ymaith ?
Pjiham y coUcdd gwahanol dreíydd y Cyfandir eu nerth, y naill
ar ol y llall ? Ymddiriedolwyr (trustees) i'r byd ydym ninau;
ac os ceir ni yn aníTyddlawn i'r ymddiried, bydd rhywun arall
yr cael ei roddi ynddo yn ein lle ni. Ond y mae yn destyn
diolch i'r Arglwydd fod ein gwlad ni wedi cyflawni ei dyled i'r
graddau y mae hi ; ond cofiwn, nid ydym wedi talu ond rhan
[mstaìnìeni) fechan iawn. Dyledwyr ydym heddyw i China; —
i India ; — i AfTrica ; — i ynysoedd y môr ; — tra y bydd gwlad ar
y ddaear heb y goleuni, ein dyltd ydyw ei gynnal iddynt ; a
thra y cynnhaliwn ni ef, bydd ef yn sicr o'n cynnal ni. Cyn-
nhaüwn ef yn y byd, trwy amddififynei garacter; — cynnhaliwn
ef gerbron y byd trwy ei fyw; — a chynnhaliwn ef i'r byd, trwy
gyfranu i'w anfon i'r lle nad yw.
[Boreu Gwener, Awst 26, 18ò3.]
PREGETH XLVII.
GWRTHOD CARIAD Y GWIRIONEDD YN DWYN AMRYFUSEDD
CADARN.
Thessaloniaid ii. 10. 11.— •'•Am na dderbyniasant gariad y gwirionedd,
fel y byddent gadwedig. Ac am hyny y denfyn Duw iddynt hwy am«
ryfusedd cadarn, fel y credont gelwydd."
AIAE ÇPwirionedd a chyfeiliornad wedi cydfyw ar y
ddaear ymhob oes. Er nad yw y gwirionedd yn
achos o'r cyfeiliornad, eto y mae y cyfeiliornad yn
ei ddilyn, fel y mae y cysgod yn dilyn y sylwedd. Y mae
hefyd yn dwyn cymaint o ddelw y gwirionedd, fel ag i demtio
miloedd i'w dderbyn yn ei le. Un o'r gwirioneddau cyntaf
mewn crefydd ydyw, Bod Duw. Hwn ydyw ei sylfaen hi. Y
mae crefydd yn ddyledus am ei ífurfa'idelwi'r gwirionedd yna.
Hwn oedd i ddwyn y byd i ddelw Duw ; oblegid y mae tuedd
naturiol mewn dal cymundeb â Duw, drwy addoli, i wneyd
hyny. Gan hyny, y mae o'r pwys mwyaf beth a fydd caracter
gwrthddrych yr addoliad ; oblegid cyífelyb i hwnw fydd caracter
yr addolwyr. Yn gysylltiedig â'r gwirionedd yna y daeth
cyfeiHornad eilun-addoliaeth i'r byd. Y mae y cyfeiliornad yn
addef bod Duw; ond trwy briodoli i'r neb a addolid deimladau
yranifail, a nwydau y diafol, yr oedd crefydd yn cael ei def-
nyddio yn fantais i sefydlu y llygredigaethau hyn ar y ddaear.
Y mae cyfeiliornad bob amser yn addef rhy w gymaint o'r hyn
a ddatguddia y gwirionedd ; ond yn ychwanegu digon o'i eiddo
ei hun at y gwir i'w droi yn gelwydd ; — i wneuthur i'r iachus
eiriau ysu fel cancr, adwyn o amgylch farwolaeth dragywyddol
yr enaid. Dywed gwirionedd mai un Duw sydd ; addefa cyf-
eiliornad fod un, ond ä yn mhellach i ddywedyd fod llawer o
03
770 Gwrthod cariad y gwirionedd. .
îs-dduwiau. Os cyhoedda gwirionedd mai trwy aberth y raae
gwasanaethu y Duw hwnw, a bod gwerth yr aberth a Avneir i
fod yn arddangosiad o faint parch yr addolwyr i Dduw, addefa
cyfeiliornad hynyna ; ond o'r gwirionedd yna, y tarddodd
aberthau dynol. Y mae pob gwirionedd newydd yn cael ei
ddilyn gan gyfeiHornad newydd. Os oes un Crist gwirioneddol
i ddyfod, daw degau o au-gristiau i ddy wedyd, — " Myfi yw."
Os amlygir ffordd newydd i wasanaethu Duw, sef drwy lesu
Grist, — yn gysylltiedig â hynyna, daw cyfeiliornad newydd, a
fydd yn dwyn cymaint o ddelw y gwir, ag yr oedd eilun-add-
ohaeth yn ei ddwyn o ddelw gwir addoH. Y mae eglwysi
Rhufain a Groeg yr un peth i Gristionogaeth, ag ydoedd eilun-
addoHaeth i'r wir grefydd, o dan yr Hen Destament : cyfeil-
iornad ydynt, yn ceisio ymrithio yn ngwedd gwirionedd.
Nid oedd Cristionogaeth yn nyddiau yr apostol ond newydd
gael ei sefydlu ; ond yr oedd cyfeiliornad wedi dyfod i mewn
y pryd hyny, — " dirgelwch yr anwiredd yn gweithio eisoes."
Nis gellir ameu nad wrth yr hyn a elwir " dirgelwch yranwir-
edd," yn y benod hon, yr ydym i ddeall yr hyn a elwir yn bres-
enol yn Babyddiaeth. Er mai gwaith canoedd o ílynyddoedd
a fu dwyn y gyfundraeth Babaidd i'w pherífeithrwydd presenol,
eto yr oedd yr egwyddorion o ba rai y deilliodd hi yn
y byd y pryd hyny. " Dirgelwch yr anwiredd," neu anwiredd
yn gweithio yn ddirgel oeddent y pryd hwnw : yr oeddent yn
guddiedig, fel y lefain yn y blawd ; ond ymhen ychydig gan •
rifoedd, gwelwyd eu bod wedi lefeinio holl glamp toes yr eg-
Iwys. Y mae amryw wedi ceisio cymhwyso y brophwydol-
iaeth hon at rywbeth arall; ond, fel y tybir gan yr Esgob
Newton, a chan esbonwyr cyfrifol eraill, yn aHwyddianus. Ac
fe ddangoswyd mor eglur fel na allai yr un dyn diragfarn ameu,
fod pob nôd ag sydd yma ar y dyn pechod, i'w gael yn yr Eg-
Iwys Babaidd. Y mae y bedwaredd adnod wedi ei chyflawni
yn llythyrenol. Yn mhen yr eglwys hono: yr enwau a roddir
iddo gan Bábyddion ydynt, — " Ein Harglwydd Dduw y Pab ;'
" Duw arall ar y ddaear ;" "Brenin brenhinoedd, Arglwydd
arglwyddi;" " Yr hwn sydd yn íwy na Duw." Nid rhaid wrth
brofion amgenach mai efe sydd yn cael ei nodi yn yr adnod.
Ac onid yw ei ddyfodiad ef yu ol gweithrediad Satan ? (adn. q).
r Gwrthod cariad y givirionedd. ^]"]!
Ÿ mae hi yn llywodraeth gref, fel un brenin y fagddu ei hun ;
ac nid oes odid un flwyddyn yn myned heibio, nad ydym yn
clywed am ryw " arwyddion " a gwyrthiau newyddion, ond
" rhyfeddodau gau " yn cael eu cyflawni ; a pha ddichell sydd
yn bosibl i'r meddwl dynol drwy gymorth y diafol eu dyfeisio,
nad yw hi yn Eglwys Rhufain? îe, fel y mae trefn iachaw-
dAvriaeth yn amlygiad o " fawr amryw ddoethineb Duw," ac o
"ragorol fawredd ei nerth Ef," felly y mae Pabyddiaeth o
fawr amryw ddichellion y diafol, ac o ragorol fawredd nerth ei
lywodraeth yntau ar ei ddeiliaid.
Y mae yr hyn a elwir yn " dJirgelwch anwiredd " yma, yn
cael ei nodi yn eglur ac yn fanylach, ond mewn geiriau gwa-
hanol mewn rhanau eraiU o epistolau Paul ; megis, addoli
eilunod, a dal cymundeb âg eilun-addolwyr ; ' addoli angylion;
"trin gair Duw yn dwyllodrus ;" " tybied mai elw yw duwiol-
deb ;" "dysgu traddodiadau, gorchymynion, ac athrawiaethau
dynion ;" " cadw diwrnodiau a misoedd, araseroedd a blyn-
yddoedd;" "gwahaniaethu rhwng bwydydd," "a bod hebarbed
y corfi;" " yn gwahardd pri( di ," &c. Y pethau yna, a'u
cyff"elyb, oeddent yr elfenau o ba rai y cyfansoddwyd Pabvüd-
iaeth : gwahanol aelodau " y dyn pechod " oeddent. Nid oeJd
yr hoU bethau hyn yn cydgyfarfod yn yr un gangen eglwys ;
ond un peth yn y gangen hon, a pheth arall mewn cangen
arall. Yr oedd eglwys Corinth, yn tueddu ac eilun-addoliaeth;
eglwysi Galatia, yn rhoddi pwys mawr ar fwydydd, a diwrnod-
iau, a gwyUau ; yr oedd tuedd yn eglwysi Jerusalem a Judea,
i ddysgu traddodiadau dynion yn lle gorchyraynion Duw.
Ond yr otdd yr apostol, mewn ysbryd prophwydoliaeth, yn
canfoc yr ymadawiad mawr yn cymcryd lle, pan fyddai yr holl
elfenau hyn wedi cyd grynhoi i wneuthur y "dyn pechod." Y
mae y rhan o'r brophwydoliaeth a ddarllenwyd yn destyn, yn
gosod ger ein bron y rheswm paham yr oedd cvfsiliornad mor
ofnadwy yn dyfod i'r byd. Y mae yma ddau ó ;hos o hyny yn
cael eu nodi, — dau baham y daeth cyfciliornad Pabyddiaeth i'r
byd ; sef y paham o du dynion, a'r paham o du Duw. Yr achos
o du dynion oedd, — " Am na dderbyniasant gariad y gwirion-
edd ;" a'r achos o du Duw, — " Am hyny y denfyn Duw iddynt
..mryfusedd cadarn, fel y credont gelwydd." Y mae y ptthau
772 Gwrthod cariad y gwirìoncdd.
a fuant gynt, yn esiamplau i ni yn yr oes hon ; oblegid y mae
yr un achosion yn cynyrchu yr un eíFeithiau eto. Am hyny,
ni a geisiwn ddefn3''ddio yr hyn a fu, yn rhybudd i ni, rhag i
ninau hefyd gyfarfod â'r un farnedigaeth.
I. Ni a wnawn rai sylwadau eglurhaol ar yr ymadroddion,—
" cariad y gwirionedd," a rhoddi i fyny i " amryfusedd cadarn ,
fel y credont gelwydd," sef y ddau baham y mae cyfeiHornad
yn dyfod i'r byd.
Ond yn gyntaf, y paham., o du dynion, yr oeddent yn
myned yn ysglyfaeth i gyfeiliornad ; sef, "am na dderbyniasant
gariad y gwirionedd," neu, mewn geiriau eraill, am nad oedd-
ent yn caru y gwiricredd. Sonir yn fynych yn y Bibl am
dderbyn y gwirionedd, — ei dderbyn gydâ phob parodrwydd
meddwl, — yn llawen, &c. Yr un peth a olygir wrth yr ym-
adrodd hwn, ond bod hwnyn myned ychydig yn mhellach, fel
ag i ddangos y paham y mae yn cael ei dderbyn, neu yn cael ei
wrthod, sef, ollegid bod cariad yn y fynwes ato, neu y diffyg o
hono. Y mae gwirioneddau yn bod nad oes a fynont ond â
deall dyn : y mae y serch megis yn ddistaw mewn perthynas
iddynt. Os bydd eu profion yn ddigon cedyrn, y mae y deall
yn eu derbyn yn rhwydd ; ond y mae dosbarth arall o wir-
ioneddau, na bydd y deall mewn ystâd briodol i ddylanwad y
profion sy ganddynt, heb fod y galon yn teimlo gradd o
hoífder ynddynt; a chyn y derbynir y rhai yna, y mae yn
rhaid derbyn cariad y gwirionedd. Yr oedd y profion o
Fessiaeth lesu o Nazareth mor eglur a phendant, fel ag y
gallesid meddwl y buasai yn anmhosibl i neb beidio â chanfod
mai Efe oedd " yr Hwn oedd ar ddyfod ;" eto yr oedd miloedd
c'r luddewon yn methu ei adwaen ; ond ystâd eu serch oedd
yn effeithio ar eu deall. Yr oedd purdeb caracter yr lesu, a
sancteiddrwydd ei grefydd, yn peri iddynt ei gasâu. Yr oedd
diffyg y cariad yna ato yn eu hatal i weled ynddo Fessiah y
prophwydi. Mor wir ydyw, mai " â'r galon y credir i gyfiawn-
der." Yr oedd pawb a dderbyniasant yr lesu fel Messiah, yn
ibai oeddent â'u calon mewn ystâd fanteisiol, i'w wyrthiau a'i
eiiiau, gael argraíf briodol arnynt. Yr oeddent oll yn disgwyl
am ddiddanwch yr Israel, Y mae yr un profion dros ddwyfol-
deb yr efengyl ag sy dros Fessiacth yr lesu ; a gelhd tybied fod
Gwrthod cariad y gwÌTÌuncad. 7-/ 3
j rhai hyn mor gedyrn, fel y byddai yn anmhosibl eu gwrth-
sefyll : eto y mae anfiFyddwyr ac luddewon yn ei gwadu hi ; —
Pabyddion yn dwyn efengyl arall yn ei lle hi ; — a miloedd o'i
gwrandawyr cyson, er nad ydynt anífyddwyr, ac nad ydynt yn
Babyddion, eto heb ei derbyn. Ond yr un paham sydd i'w
roddi drostynt oll, sef, " am na dderbyniasant gariad y gwir-
ionedd." Er nad yw yn perthyn i'r un graddau iddynt oll : y
mae yr anifyddiwr yn bellach na'r Pabydd; a'r Pabydd yn
bellach na gwrthodwyr yr efengyl yn Nghymru; ond diffyg
cariad ydyw yr achos eu bod oll heb ei derbyn. ' Y" maent yn
caru y tywyllwch yn íwy na'r goleuni ;' am hyny nid yw y
tywyllwch ddim yn medru amgyffred y goleuni. Ac nid yn
unig y mae diffyg cariad at y gwirionedd, yn ein anghymwys»
i ganfod mai gwir ydyw ; ond y mae hyn hefyd, bob amser, yn
achos o ddygiad cyfeiHornad i mewn. Yn y galon, neu yn y
serch, y mae cyfeiliornad bob amser yn dechreu : hi sydd yn
tywyllu y deall, fel ag i'w barotoi i gredu celwydd. Nis gelHr
gwasanaethu Duw, a mammon. Y mae y deall yn tystio, mai
Duw a ddylai gael ei wasanaethu ; ond y mae y galon yn caru
mammon, yn hytrach; am hyny, i gadw tangnefedd yn y fynwes
y mae y serch yn hudo y deall i gredu fod mammon yn dduw.
O'r serch y tarddodd cyfeihornad aml-dduwiaeth y byd. Yr
oedd y gwirionedd am Dduw wedi ei ddatguddio ; ond yr oedd
yn cael ei atal " mewn anghyfiawnder " (Rhuf. i. 18.) Wrth
*' anghyfiawnder " yma yr ydym i ddeall, yr ystâd hono ar y
meddwl, ag sydd yn cael ei chynyrchu gan hir sathru deddfau
Duw. Yr oedd yr ystâd yma yn gyfryw, ag oedd yn atal i'r
gwirionedd, ag oedd wedi ei ddatguddio, gael dim dylanwad ar
y dyn. Ond wrth fyned yn ol i edrych beth a achosodd hyny
hefyd, cewch weled y cyfeiHornad yn cychwyn o'r serch, sef ara
nad oedd " gymeradwy ganddynt gadw Duw yn eu gwybod-
aeth" (Rhuf. i. 28) ; ac os olrheiniwch bob un o gyfeiHornadaH
Eglwys Rhufain i'w wreiddyn, cewch weled mai diffyg cariad
at wirionedd a fu yn achos o hono. Y mae crefydd, os y w hi yu
ddim, yn bob peth. Y mae y dyn oddimewn, fel y dyn oddi-
aHan, i fod dan ei Hywodraeth. Nid oes air ar y tafod, —
bwriad yn y galon, — na gweithred oeiddo y dwylaw, nadydyw
hi yn hòni hawl i'w Hywio. Ond nid cymeradwy gan galon
774 Gwrthod cariad y gwirionedd.
lygredig wirionedd fel yna ; am hyny daw â chyfeiliornad yn ei
le ; neilldua un dosbarth o ddynion i gynr^'-chioli pawb ; a
thrwy ymddiried yr a-chos i'r rhai hyny, rhyddheir y dyn i
raddau mawr oddiwrth ei rwymau personol i grefydd, a gall
ddilyn ei chwantau heb anobeithio am y nefoedd. Y mae y
Bibl yn dywedyd mai gan Fab y Dyn y mae awdurdod i
faddeu, a'i fod wrth faddeu yn dywedyd, — " Dos, ac na phecha
mwyach." Yr oedd cael maddeuant yn gymeradwy iawn gan y
galon ; ond yr oedd y cyngor oedd yn cael ei roddi gydag ef
yn berffaith anghymeradwy. Ac o ddiflFyg cariad at y gwir-
ionedd yna, daeth cyfeiliornad i mewn i roddi awdurdod i
ddynion i faddeu pechod, a'r rhai hyny yn gyfry w a ddywedent
wrth yr euog, — " Dos, a phecha fwy." Felly, fe gollwyd
ysbrydolrwydd o'r sacramentau. Yn lle bod yn arwyddion
bendithion ysbrydol, ac yn gyfryngau i flfydd weithredu drwy-
ddyiit, fe ddaeth yr ymarferiad noeth â hwynt yn eflFeithiol i
sicrhau y diben, — y bedyddio yn ail eni, a'r cymuno yn
sancteiddio, ac arno ei hunan, ya ail ofifrymiad y Gwaredwr. Y
mae y Bibl yn dangos mai lle y syrth y pren yn y byd a ddaw
mai yno yr erys efe. Pan y mae angel marwolaeth wrth gyf-
Jwyno yr enaid i'r byd hwnw yn dywedyd '' cyfiawn " am dano,
y mae pob peth y byd dieithr yn adsain yn ol, — " Bydded
gyfiawn eto." Neu os dywed yr angel, — " Brwnt," y mae yr
adsain drwy y lle, — " Bydded frwnt eto." Y mae tuedd mewn
gwirionedd fel yna i beri i ddynion ddarparu ar gyfer y byd
arall cyn angau ; ond o ddififyg cariad ato, daeth cyfeiHornad i
mewn, i ddywedyd fod lle canol yn y byd arall : felly nad oedd
marw yn annuwiol o bwys tragywyddol i ddyn, am y gellid
drwy gyfoeth ei deulu, a gweddîau yr ofifeiriad, ei ryddhau
oddiwrth gosb pechod, er myned unwaith i'w'gafael hi. Yr
oedd hynyna yn gefnogaeth uniongyrchol i un fyw niewn
pechod hyd angau. Felly am bob cyfeiliornad ; — y mae yn
dwyn rhyw gymaint o ddelw gwirionedd, ac y mae yn cael ei
achosi gan ddiflfyg cariad at wirionedd. A dylem gymeryd
addysg oddiwrth hyn,fod meddu y gwirionedd yn beth pwysig \
— y gall fod o fendith fawr, neu ynte yn felldith fawr. Nid oes
dim yn bywhau, ond gwirionedd ; ac nid oes dim mewn cym-
hariaeth yn lladd, ond gwirionedd. " Hon yw y ddamnedig-
Gwrihod cariad y gwirinnedd. 775
aeth ; ddyfod goleuni i'r byd, a charu o ddynion y tywyllwch
yn fwy na'r goleuni ; canys yr oedd eu gweithredoedd hwy yn
ddrwg." Nid yw deall goleu ddim o angenrheidrwydd yn
fendith : ystâd y galon a benderfyna pa un ai bendith ai
melldith a fydd ; oblegid gall hono droi ei holl oleuni yn
fantais i gredu celwydd. Nid yw meddu y gwirionedd ddira
yn diogelu rhag cyfeiliorrad : cariad ato yn unig sydd yn
gwneuthur hyny.
2. Y paham o du Duw yn ol y geiriau hyn, y mae cyfeil-
iornad yn dyfod i'r byd ydyw fod " Duw yn danfon amryfusedd
cadarn," neu dwyll cadarît, " fel y credont gelwydd." Nid
wyf yn meddwl ceisio esbonio hyn : y cwbl fydd a fynom ni âg
ef fydd, fel gwirionedd y mae y Bibl yn ei ddatguddio ; a'n
dyledswydd ni ydyw ei gredu, er na allwn ei amgyfFred, a'i gredu
hefyd, heb wadu yr un gwirionedd arall y mae y Bibl yn e^
ddatguddio. Y mae bod ' Duw yn danfon amryfusedd cadarn '
yn wirionedd ; ac y mae ' nad ydy w Duw yn temtio neb' yn wir-
ioneddhefyd. Pell oddiwrthym fyddai gwneuthur Duw yn aw-
dwr pechod ; ond yn iaith y Bibl, nid oes dim yn cymeryd lle ar y
ddaear nad oes a fyno Duw âg ef mewn rhy w ystyr — y drwg
fel y da. Os ydyw Joseph yn cael trugaredd yn nhŷ Putipher,
yr Arglwydd sydd yn rhoddi ffafr iddo yn ei olwg ef : neu os
ydyw Pharaoh yn myned yn hynod mewn annuwioldeb, yr
Arglwydd sydd yn caledu ei galon ef : ond yr oedd Putipher a
Pharaoh yn berífaith rydd yn hyn. A mynych y dywed y
Bibl fodDuw yn gwneuthur yr hyn nad yw ond yn ei oddef; ac
weithiau hefyd, fe briodolir yr un weithred i wahanoi bersonau.
Yn Uyfr Esaiah fe ddywedir fod y prophwyd 'yn brasâu calon
y bobl :' yn Mat. xiii. 15, fe briodolir y ' brasrm ' i'r bobl eu
hunain ; ac yn loan xii. 40, y mae y brasâu yn cael ei briodoli
i'r Arglwydd. Yr oedd y bobl wedi hir frasâu eu calonau eu
hunain cyn i'r prophwyd gael ei anfon atynt. Nid oedd gwaith
y prophwyd yn Ilefaru y genadwri wrthynt ddim ond yn eu
caledu yn fwy : yn yr ystyr yna yr oedd y prophwyd yn eu
'brasâu ;' a chan mai yr Arglwydd oedd yn ei anfon ef atynt,
yr oedd, mewn ystyr, yn briodol dywedyd, fod Duw yn eu
brasàu. Ond nid rhaid iddo ef ddim ond cymeryd ei Ysbryd
oddiwrth ddyn, neu oddiwrth wlad, na bydd hi yn y fan vn
77^ Gwrthod cariad y gwirio7îedd.
ngafael yr " amryfusedd cadarn ;" oblegid ni all y meddwl
dynol ddim 'cerdded yn gywir haner cam, os na bydd Efe o'i
flaen.' Ac y mae yr Arglwydd yn gwneuthur hyn mewn barn,
os hir wrthodir y gwirionedd. Y mae Ysbryd Duw yn ymad-
ael â'r dyn, neu â'r wlad ; ac yna nid gwaeth pa faint o brofion
newydd a ddygir o blaid y gwir. Ni wna pob prawf ddim ond
cryfhau yr amryfusedd, i beri iddynt gredu mwy o gelwydd ;
ond y mae y drefn yn yr hon y mae hyn yn cymeryd lle, yn
deilwng iawn o'n sylw ni. Fe galedodd Duw galon Pharaoh ;
ond yr oedd Pharaoh wedi hen galedu ei galon ei hun cyn
hyny. Yr oedd ei ymddygiadau blaenorol at y bobl yn dangos
mai dyn caled, creulawn, ydoedd. Yr oedd ganddo ddigon
o oleuni i brofi mai nid felly y dylasai efe ymddwyn at yr Israel-
iaid, yn anad neb ; ond yr oedd wedi ymgaledu yn wyneb hwn-
yna ; am hyny, pan gyflawnwyd y gwyrthiau rhyfedd hyny
ger ei fron, fe oddefodd Duw mewn barn iddo ymgaledu yn
fwy. Fel yr oedd y gwyrthiau yn amlhau, yr oedd ei galedwch
yntau yn mwyhau. Bob amser y mae Duw yn dallu, y mae
dyn cyn hyny wedi bod ei hunan yn cau ei lygaid. Pan y
mae Duw yn trymhau y clyw, y mae dyn cyn hyny wedi bod
yn cau ei glustiau. Pan y mae Duw yn dwyn tywyllwch, y
mae dyn wedi dangos cyn hyny ei fod yn casâu y goleuni. Os
dywed Duw am Ephraim, "Allorau fydd ganddo i bechu,"
bydd Ephraim cyn hyny wedi " amlhau allorau " iddo ei hun.
Nid yw Duw yn rhoddi neb i fyny i " amryfusedd cadarn i
gredu celwydd," ond y rhai hyny sydd wedi hir-ddangos nad
cymeradwy ganddynt ydyw gwirionedd.
II. Ni a enwn rai esiamplau i brofi fod Duw yn " danfon
amryfusedd cadarn " ar y rhai sydd heb dderbyn cariad y
gwirionedd. Rhai yu meddu y gwirionedd, ac heb ei gredu,
ydyw y dynion tebycaf o bawb i gredu celwydd ; ac nid oes
neb yn credu llawer o gelwydd, ond rhai wedi cael llawer o
wirionedd. Y mae Duw yn anfon goleuni i wlad: ac os profa
y trigolion eu bod yn caru y tywyllwch yn fwy, y mae y goleu
yn raddol yn diflanu o'u mysg ; ac y maent hwythau yn an-
nhraethol waeth na phe buasent heb ei gael erioed ; oblegid y
mae hyny o wirionedd a fu ganddynt wedi eu darparu i gredu
celwydd. Os edrychwn ar hanes y byd, neu ynte ar hanes per-
Gwrthod cariad y giDÌrionedd. 777
sonau, cawn weled mai fel hyn y mae. Yr amser mwyaf goleu
ar y byd paganaidd oedd yr adeg fwyaf eilun-addolgar. Os
mynech chwi gael allan y Ue yr oedd mwyaf o dduwiau, nid
oes dim yn eisiau ond chwilio pa le yr oedd mwyaf o oleuni-
Pan oedd yr Aiphtiaid yn fwyaf coethedig, yr oedd eu duwiau
amlaf Pan oedd y Groegiaid a'r Rhufeiniad yn fwyaf disglaer,
yr oedd eilun-addoliaeth yn fwyaf enwog. Yr oedd y dallineb
yn dal rhyw g)fartaledd i'r goleuni, Ac os olrheiniwch hanes
y rhai hynod mewn cyfeiliornadau cewch weled mai dynion
wedi cael goleuni mawr oeddent. Gallesid tybied mai Pharaoh
a fuasai yr olaf o bawb i feddwl myned i ryfel â Duw Israel,
wedi canfod mor eglur nad oedd yr un o dduwiau yr Aipht, yn
ddim ger ei fron. Ond gan na ddygodd y pethau hyny mo
hono i ymostwng ger ei fron, yr oeddent wedi ei gynhyrfu i
fyned i ryfel âg Ef. Rhai wedi gweled rhyfeddodau Duw yn
yr Aipht, wrth y Mòr Coch, ac wrth Sinai, oedd y genhedlaeth
hono oedd yn ddigon caled i ameu ei wirionedd, ac i anghredu
nerth ei fraich. Os gwna rhyw un yn hyf iawn ar gysegr Duw,
rhai wedi cynefìno â'i ofnadwyaeth, — meibion offeiriad, fel
Nadab ac Abihu, neu Hophni a Phinees, — a fyddant. Os bydd
eisiau un yn ddigon caled i werthu Mab Duw, ni bydd i'w gael
ond ymhlith ei ddisgybîion. Rhaid cael angel i wneyd diafol.
Solomon, y doethaf o ddynion, a aeth yn ynfytaf o honynt oll.
Yr oedd awdwyr holl heresiau yr eglwys Gristionogol wedi
gwybod y gwirionedd ei hun. Yr oedd Simon Aíagus, un o'r
cyfeiliornwyr cyntaf, wedi ei fedyddio i'r ífydd Gristionogol.
Ni bu neb o holl ymerawdwyr Rhufain yn fwy ffyrnig yn
erbyn Cristionogaeth na Julian, yr hwn a fuasai unwaith yn
Gristion ei hun mewn enw. Dynion wedi clywed y gwir
brophwydi fyddent yn rhoddi mwyaf o hyder yn y rhai gau ; —
rhai wedi gwrthod y gwir Grist ydynty rhai parotaf i fyned ar
ol gau gristiau. Yr oedd prophwydoliaethau Micheah yn dyfod
i ben bob un ; ond nid oedd Ahab ddim yn caru y gwirionedd
a fyddai yn cael ei draethu ganddo ; an hyny fe gredodd y
gau brophwydi i'w ddinystr ei hun, er gwybod nad oedd yr un
o'u geiriau yn arfer dyfod i ben. Yr oedd cenedl Israel yu
gwrthod y gwir Grist, er bod pob peth yn cyd-dystio mai Efe
oedd y tiwn oedd ar ddyfod; a cnan fod yr holl broíion yn
778 Gwrthoa ccriad y gwirionedd.
melhu eu hargyhoeddi, gallesid disgwyl y buasai yn anmhosibl
eu hudo ifyned ar ol neb ; ond y mae yr un bobl, wrth y mil-
oedd, yn myned ar ol gau gristiau, er nad oedd ganddynt
ddim ond celwydd yn sail i'whoniadau. "Myfi a ddaethum
yn enw fy Nhad, ac nid ydych yn fy nerbyn i : os arall a ddaw
yn ei enw ei hun, hwnw a dderbyniwch." loan v. 43. Y mae
Anfíyddiaeth wedi gwreiddio yn ddyfnach, feallai, yn Germani
nag raewn un wlad arall ar y ddaear : nid Anffyddiaeth fel
anífyddiaeth y deyrnas hon a Ffrainc, yn niwedd y ganrif
ddiweddaf a dechreu hon ydyw. Rhai heb ddarllen y Bibl
erioed oedd y rhai oeddent y pryd hyny yn meddio gwadu ei
awdurdod, a gwawdio ei gynwys ; ond y mae cawri anífyddol y
Cyfandir, yn rhai y mae eu swydd yn eu galw i astudio y Bibl
bob dydd. Y maent yn fwy hysbys ynddo nag odid neb yn
Nghymru ; oblegid y mae llawer o honynt wedi esbonio pob llyfr
sydd o'i fewn. Y mae pob gair ymhob llyfr wedi bod o dan eu
sylw ; ond wedi yr oll, gwadant nad llyfr Duw ydyw : addef-
ant fod ei farddoniaeth yn hen ac yn ardderchog, ond nid trwy
ysbrydoliaeth Duw yr ysgrifenwyd ef; — ei hanes yn syml a
naturiol, ond ífug-chwedlau neu allegion ydyw y rhan fwyaf o
hono. Yr oeddent yn amddifad o gariad at y Bibl noeth, yn
iaith eu mam ; am hyny, pan aethant i chwilio i mewn iddo yn
yr ieithoedd gwreiddiol, fe'u rhoddwyd i fyny i " amryfusedd
cadarn," i gredu celwydd yn fwy diysgog, fel y mae y gair
hwnw wedi ei gyflawni yn Uythyrenol ynddynt : — " Pwy sydd
ddall fel fy ng was i .? a dall fel gwas yr Arglwydd V Gweision
yr Arglwydd mewn enw oeddent. Yr oedd y fantais a gawsant
i chwilio i mewn i'r llyfr, yn peri nad oedd neb yn ddall fel
hwynt. Y mae meddu y gwir, meddaf eto, yn beryglus,
oblegid y mae yn sicr o fod yn gwymp neu yn gyfodiad. Os na
ddyrchafa efe hyd y nefoedd, fe dýn i lawr hyd yn uífern. Ni
chafodd neb gymaint o faintais i fod yn fendigedig a chenedl
Israel, am hyny nid yw melldith neb heddyw, fel melldith
plant Abraham. Wedi ceisio dangos fod meddu y gair, a byw
yn groes iddo yn barotoad uniongyrchol ar y meddwl i dderbyn
cyfeiliornad, a'i fod hefyd yn peri i Dduw ddywedyd, — " Gad
iddo," uwchben y cyfryw, nes y byddant yn y fan yn credu
Celwydd â'u holl galon : yn awr, yn y Ue nesaf,
Gwrthod cariad y gwirioncdd. 779
III. Ni a geisiwn gymhwyso yr hyn a f u o dan ein sylw, at
ein hamgylchiadau presenol ni. Ai angenrheidiol i ni, wrth
ddechreu, ydyw dywedyd ein bod ni wedi cael gwirionedd, ac
wedi cael y gwìrionedd hefyd ? Y mae yn anfantais fawr i'r
pagan gael ei eni mewn gwlad lle y mae gau dduwiau yn cael
eu haddoli er's oesoedd : dysgir ef felly o'i febyd i osod ei obaith
ar gelwydd. Ond nid yw y tywyllwch mor fawr mewn un
wlad ar y ddaear, nad oes yno ddigon o oleu am y gwir Dduw,
i bob un yn bersonol brofì nad cymeradwy ganddo ef ei hun
gadw Duw yn ei wybodaeth ; am hyny y mae Duw mor gyf-
iawn wrth ei roddi ef yn bersonol i fyny i feddwl anghymer-
adwy, ag )^dyw wrth roddi yr holl genedl. Y mae ffordd y
paganiaid yn ynfydrwydd ; eto y mae eu hiliogaeth yn profi,
drwy eu hymddygiadau, eu bod yn foddlawn iddi. Ac felly y
mae y farn sydd ar y genedl, yn cael ei henill gan bob aelod
newydd o honi, i fod yn farn bersonol arno ef ei hun. Os oes
gan y paganiaid ddigon o oleuni i beri iDduw eu rhoddi i fyny
am beidio ei ddefnyddio, beth meddir am danom ni, sydd â
chymaint o wirionedd ag a fu yn y byd erioed ynein meddiant?
Y mae pob ilyfr a fu gan y pagan genym ni. Y mae ' y nefoedd,
oedd yn datgan gogoniant Duw ' iddo ef, ac am beidio gwrandaw
ar yr hon y rhoddwyd ef i fyny i feddwl anghymeradwy, genym
ninau. ' Llef ddistaw fain ' cydwybod, oedd yn sibrwd o hyd
am Dduw wrtho ef, y mae yn gwneuthur hyny yn ddiball
wrthym ninau. Gweithred y ddeddf, oedd wedi ei cherfio ar un
o barwydydd ei dŷ ef gan fys Duw, fel yr ysgrifen ar bared
Belsassar, y mae hi ar bared ein tŷ ninau hefyd. Ni chafodd ê
ddim mantais i weled yr un o'i anweledig bethau Ef, sef y tra-
gywyddol allu a'r Duwdod, na chawsom ninau hi ; ac ni chaf-
odd y byd ddim gwirionedd drwy ddatguddiad uniongyrchol,
nad ydyw hyny genym ni. Y geiriau a lefarodd Job a'i gyf-
eillion, yn nghanol creigiau Arabia, y maent yn cael euhadsain
megis gan y creigiau, bob un i'n clustiau ni. Y mae Moses
wedi llefaru wrthym ni ; — Esay wedi prophwydo i ni ; — lesu
Grist wedi agor ei enau i'ndysgu ni. Niweloddyr Aipht yrun
wyrth i sicrhau cywirdeb y geiriau, na welsom ninau hi. Y
mae Sinai yn llosgi eto yn llyfr Exodus. Ni ymddangosodd
dim i Soloraon a'r bobl i brofi mai ' sancteiddrwydd a weddai
7 8o Gwríhcd cariad y gwirionedd.
i'r tŷ byth/ nad allwn ninau ei weled yr awr hon yn llyfr
Cronicl. Y inae dwy hemisphere yn perthyn i'r ddaear : nid yr
un sêr sydd i'w canfod o honynt. Ped aem ni i'r deheu, ni a
welem, nid yn unig ddaear newydd, ond nefoedd newydd
hefyd,— na byddai yno bron ddim yr un fath ag yn y ffurfafen
hon, ond yr haul a'r lleuad. Ond nid oes gan yr eglwys ddim
dwy hemisphere. Nid oedd gan eglwys yr Hen Destament
ddim o bob peth sy genym ni ; ond y mae genym ni bob peth
oedd ganddynt hwy. Nid oedd yr un addewid yn sirioli eu
ffurfafen hwynt, nad ydyw hi genym ni ; ac y mae genym ni
beth na fu erioed ganddynt hwy, sef Haul Cyfiawnder. Yn y
llyfr hwn, y mae patriarchiaid ac apostolion yn eiddom ni ; —
dodiad y ddeddf, a chyhoeddiad yr efengyl ; — y cyfamodau yn
eu cyfoeth, a'r addewidion yn eu cyflawnder. Y mae gobaith
yr Hen Destament, yn Gyfryngwr y Testament Newydd i ni ;
mewn gair, y mae y gwirionedd genym, " megis ag y mae yn
yr lesu." Yr oedd hyny o wirionedd oedd gan y paganiaid yn
y greadigaeth, yn lladd creadur euog ; oblegid nid yw hi yn
datguddio dim, nad ydyw ê yn wenwyn i bechadur ; ond " yn
yr lesu," y mae yn wirionedd sydd yn bywhau. YgAvirionedd
oedd yn cael ei ddangos yn dywyll i'r luddewon, trwy
seremoniau, — pelydr megis yn y fan yma, a phelydr yn y fan
arall, fel y wawr yn wasgaredig ar y mynyddoedd, — " yn yr
lesu," y mae yr holl belydraií hyn wedi eu cydgasglu yn un
haul ; ac nid hyny yn unig, y maent wedi eu gwneuthur oll o
un- Uiw. Fe ddywedir fod y goleuni naturiol, pan wedi ei
ddadgyfansoddi yn saith o Avahanol liwiau ; ond pan y mae y
saith wedi eu huno, a'u cyd-gymysgu, eu bod yn gwneuthur
un lliw, sef gwyn ; felly " yn yrlesu,"ymae pob gwirionedd
yn cyd-gyfarfod, ■ ac yn troi yn drugaredd a gras. Y gwirion-
edd yn cael ei ddangos trwy luniau oedd ymhob man arall.
Mewn lluniau amryliw, hieroglyphics, y byddaiyrhengenhedl-
oedd yn caiw eu hanesion. Yr oedd yn dra anhawdd deall y
lluniau, ac wedi eu deall, nid oeddent ond awgrymiad tywyll
am y peth ; ond pan gafwyd allan iaith ysgrifenedig, yr oedd
hono yn trosglwyddo yr hanes me\vn gair, ac felly yn ei roddi
yn gyflawn ac yn eglur. Gwiiionedd mewn hieroglyphics a fu
gan y byd am oesoedd : nid oedd ond ychydig yn deall y rhai
Gwrthoi cariad y qtvirioncdd. 781
hyriy ; ac wedi eu deall, nid oeddent ond awgrymiad yn unig
am y peth. Ond y " Gair " yw lesu Grist ; — y mae y gwirion-
edd ynddo Ef yn eglur, yn gyflawn ac yn brydferth. Gofyn
cwestiwn Pilat fu gwaith y byd, am bedair mil o ílynyddoedd,
" Beth y w gwirionedd .?" Ceisid ei ateb ef: ond yr oedd yr
atebion, yn gyfifelyb i rai yr oraclau paganaidd, yn ddigon an-
hawdd eu deall. Beth ydyw y gwirionedd am Dduw ? Peth
tebyg i hyn ydyw, meddai y greadigaeth : — Bôd anfeidrol fawr
ydyw Duw ; — y mae yn ofnus ei fod Ef yn un cyíìawn ; — fcallai
ei fod Ef yn un trugarog. Beth yw gwirionedd ynghylch ei
feddwl am ddyn ? Ni wn i ddira yn sicr, meddai rhag-
luniaeth, — y raae fel pe b^'ddai ganddo ddau feddwl ; weith-
iau mi dybiwn ei fod yn ei garu ; bryd arall v rnae fel pe
byddai yn penderfynu ei ddinystrio. Beth yw gwirionedd
am bosibilrwydd dyfod yn gymeradwy ger ei fron ? Yr
ydym ni yn gobeithio, raeddai yr ebyrth, y gall hyny fod ; ond
ni fedrwn ni ddim bod yn sicr, pa un ai atal ei lid Ef ara
ychydig yr ydym, ai ynte ei ddifodi. Fel wedi yr holl atebion,
yr oedd yn gwbl briodol i Pilat, fel genau cyhoeddus dros
bedair mil o flynyddoedd, ofyn y cwestiwn drachefn ; ond y
mae yr atebiad wedi ei gael yn yr lesu. "Y gwirionedd, megis
y mae yn yr lesu " am Dduw, ydyw, ei fod yn ddigon cyfiawn
i ddryllio ei Fab, ac yn ddigon trugarog i arbed ei elyn. Y
gwirionedd am ei feddwl am ddyn, " megis y mae yn yr lesu "
ydyw, ei fod yn casâu pechod â'i hoU enaid, ac yn caru pech-
adur â'i holl galon. " Y gwirionedd megis y mae yn yr lesu,"
am bosibilrwydd a ffordd cymeradwyaeth ger ei fron ydyw, —
" Cred yn yr Arglwydd lesu Grist, a chadwedig a fyddi;" "Hyn
yw gwaith Duw, gredu o honoch yn yr Hwn a anfonodd Efe."
Y mae y gwirionedd genym: hyn yw ein rhagoriaeth ni ; —
hyn yw y budd sydd yn perthyn i ni, fod " y gwirionedd megis
y mae yn yr lesu," yn ein meddiant. Ond rhaid i ni adael
mater difyr fel hwn i ddangos yn —
2. Nad ydym, er hyn, wedi derbyn cariad y gwirionedd. Y
prawf o hyn ydy w ein hymddygiadau. Y mae y rhai sydd
heb dderbyn ei gariad yn ddau ddosbarth, sef (i.) Y rhai sydd
yn gwneuthur cymaint ar a allant yn erbyn y gwirionedd ; (2.)
Y rhai nad ydynt yn gwneuthur dim dros y gwirionedd : y rhai
782 Gwrtliod cariad y gwirionedd.
sydd yn milwrio yn ei erbyn, fel y Canaaneaid hynyyn erbyri
Israel, a'r rhai nad ydynt yn milwrio o'i blaid, fel y AIeroziaid.
Y mae pob un o honynt yn amddifad o gariad y gwirionedd.
(i.) Y mae un dosbarth lliosog yn profi, trwy filwrio yn
erbyn y gwirionedd, nad ydynt wedi derbyn ei gariad. Y
maent yn amgylchu môr a thir i geisio cael rhywbeth yn ei
erbyn ; — fel Balaam, y maent yn aberthu ar bob clogwyn, i
geisio cael ffordd i'w felldithio. Nid oes yr un ddichell yn eu
calonau hwynt eu hunain, nac ystryw yn mhyrth uífern, nad
ydynt wedi eu defnyddio yn ei erbyn. Weithiau ceisiant
ddangos ei fod yn groes i'r datguddiad o Dduw sydd yn y
greadigaeth, a bod hyny yn ddigon i brofi nad oes ganddo
ddim hawl i gael ei ystyried yn llyfr Duw, oblegid na buasai yr
un Duw ddim yn rhoddi dau ddatguddiad croes i'w gilydd. Ÿ
mae trefn y rhod, meddant hwy, yn profi mai nid y neb a osod-
odd hono a lefarodd y Bibl, onide y buasai y Bibl yn ei ddis-
grifio yn gywirach. Y mae oedran y ddaear meddant, fel y
mae yn cael ei amlygu gan y creigiau, yn ddigon i ddangos
mai nid Duw a lefarodd wrth Moses, onide ni buasai yri cam-
gyraeryd cymaint ynghylch hyny. Y mae y ser yn eu graddau
yn ymladd yn erbyn yr hyn a ystyriwn ni yn wirionedd ; —
lleisiau, meddant, yn codi o'r creigiau i brofi mai nid llais Duw
y w y Bibl ; ac y mae holl ffeithiau anwadadwy creadigaeth yn
profi yn sicr, meddant, mai chwedlau cyfrwys ydyw hanes-
ion y Bibl. Neu, ceisiant ddangos fod ein .gwirionedd yn
anghyson âg ef ei hun, — fod ei wahanol ysgrifenwyr yn dy-
wedyd pethau croes i'w gilydd, ac felly na all eu bod oll yn
llefaru geiriau yr un Duw. Y mae caracter Duw, meddir,
mewn un rhan o'r llyfr yn cael ei ddatguddio yn hollol
wahanol i'r hyn ydyw mewn rhan arall. Y mae Duw yr Hen
Destament yn un ofnadwy, a bron na ddywedant, yn un creu-
lawn ; tra y mae Duw y Testament Newydd yn meddu ar
dynerwch gormodol i fod yn un parchus. Ac weithiau dy-
wedant, fod yr hyn a alwn ni yn wirionedd wedi profi ei hun,
mai nid hyny ydyw, oblegid ei fod wedi methu gwneuthur yr
hyn a broffesai, sef dwyn y byd i drefn : gofjmant mewn gwawd
i ni, Pa le y mae cífaith eich gwirionedd .'' Cyfeirianc ni at
butain Rhufain a'i holl íìîeidd-dra, yn esiampl o ddylanwad y
Gwrihod cariad y gn'irionedd. 785
_,\virionedd ar y byd. lë, dywedant, nad oes ar y byd ddim,
cisiau y gwirionedd ; — mai deddfau y seneddwyr, ac nid yr hy n
a alwn ni yn ddeddf yr Arglwydd, a allant ei drefnu ; mae
y gwladwr, ac nid y Crittion, a ddaw âg ef i'w le. A llawer o
honynt a ânt yn mhellach eto, gan ddywedyd fod trueni y byd
i'w briodoli i raddau mawr, i'r gwirionedd. Y mae y dosbarth
hwn yn ei holl ranau, yn profi i bawb na dderbyniasant ei
gariad ; ond ni a'u gadawn hwynt, gýdâ dy wedyd, — ' Na ddeued
enaid yr un o honom i'w cyfrinach,' ac na chasgler niyn y byd
a ddaw gydâ'r pechaduriaid hyn. Hwy ydynt dywysogion Uu
y diafol ar y ddaear. Yn angau, y mae ufiFern odditanodd yn
cynhyrfu i'wderbyn : hwy sydd yn cael yr anrhydedd ofnadwy
o farwyr ail farwolaeth, ar ddeheulaw brenin y fagddu ; oblegid
yr oedd eu pechod yn dwyn mwy o ddelwpechod tad y celwydd
nag eiddo neb arall. Beth y\y hynyna i ni, meddwn ? Hyn :
o blaid y Meroziaid, y mae y blaid ofnadwy yna yn cael ei
gwneuthur. Bu y rhai yna unwaith heb wneyd dim o biaid y
gwirionedd, cyn iddynt fyned i ymladd yn ei erbyn. Yr ail
(2) Ddosbarth ydyw y rhai nad ydyntyn milwrio oblaidgwir-
ionedd ; hyny y w y dosbarth nad ydynt wedi rhoddi ufudd-dod
iddo, sef y Meroziaid. Y maent mor amddifad o gariad y
gwirionedd a'r lleill ; ac y mae melldith y rhai hyn yn un a
lysg hyd yn uífern isod. Y mae yma lawer iawn yn perthyn
i'r dosbarth hwn yn y gynulleidfa hon ; ond y mae ymron
yn anmhosibl eich dal chwi. Ni a gawn draethu y faint a
fynom am y dosbarth mawr sydd heb dderbyn y gwirionedd ;
ac fe'u condemniwch chwithau hwynt, fel y condemniodd
Dafydd y cyfoethog yn nameg Nathan, heb unwaith feddwl am
y geiriau : — "Tydi yw y gŵr." Y mae lleferydd, a holl ym-
ddygiadau, ugeiniau o wrandawyr yr efengyl yn profi eu bod
yn amddifad o gariad y gwirionedd. Nid pethau cyífelyb i
wirioneddau seryddiaeth ydyw gwirioneddau y Bibl. Nid yw
ein cred am y rhai hyny ddim i effeithio ar ein buchedd.
Gellwch fyw gyda mi am íiwyddyn heb wybod ar un ymddyg-
iad o'm heiddo, pa un ai credu yr wyf fod y ddaear yn troi o
amgylch yr haul, neu ynte credu fod yr haul yn troi o amgylch
y ddaear ; ond nisgallech fyw gydâ mi un diwrnod hebgasglu,
pa un a ydwyf fi yn credu gwirioneddau y Bibl ai peidio. Y
7<?4 Gwrthod carìad y gwirìonedd.
mae y cariad at hwnw, neu y diffyg o hono, i'w ddarllen yn fy
holl ymddygiadau. Y mae yn perthyn i'r Bibl bethau ma\vr-
ion a phethau bychain ; gorchymynion yr ail lech, a rhai y
llech gyntaf, megis. Gall eich bod yn cyflawni y pethau
bychain sydd ynddo, sef y dyledswyddau rhwng gŵr a gŵr ;
ond y mae ei orchymyn mawr, sef credu o honoch yn enw ei
Fab Ef, dan eich traed chwi. Ac nid anhawdd a fyddai profi
fod miloedd o wrandawyr yr efengyl ya amddifad o gariad y
gwirionedd, oddiwrth eu bod heb gadw ei bethau lleiaf ef.
Onid yw meddwdod yn ffynu eto yn ein pHth ? Onid yw aflendid
yn gwarthruddo caracter ein cenedl, hyd yn nod yn fwy nag yn
oesoedd tj'wyll Cymru? Onid oes rhyw anonestrwydd bychan
yn ein pHth .'' Ai nid yw dibrisdod o eiriau ac addewidion yn
rhy gyffredin yn ein gwlad ? Ai egwyddorion y llyfr hwn sydd
yn llywodraethu ei masnach hi a'i hoU helyntion ? Ai rhag
ofn dynion, ai ynte rhag ofn Duw y peidir ag ymddwyn yn
anonest ? A ydyw y dyn a dwng i'w niwed ei hun ac ni new-
idia, i'w gael yn bur gyffredin yn ein hardaloedd ? Pa le y mae
y dyn na chymer ryw fath o wobr yn erbyn y gwirion ? — y dyn
y mae ei îe yn ie, ai nage yn nage ? Ond y mae yma lawer yn
gallu tystio yn wyneb hyn, — " Dieuog ydwyf fi." Wel, ni a
awn oddiwrth y pethau bychain at orchymyn mawr yLlyfr: —
Beth y mae eich bod yn gwastraffu eich serch ar deganau y
ddaear yn ei brofi ? Onid eich bod heb dderbyn y gwirionedd,
fod lesu Grist yn decach na meibion dynion ? Paham yr ym-
werthwch i gasghi y mammon anghyfiawn ? Nid wyf yn eich
cyhuddo chwi o anghyfiawnder wrth wneuthur : ai nid yw
hyny yn brawf eich bod heb dderbyn y gwirionedd, am yr
aur wedi ei buro trwy dân ? A ydyw edrychiad yr lesu
wedi eich toddi chwi i edifeirwch ? A ydyw ei groeshoeliad,
wrth gael ei fynych bortreadu yn y weinidogaeth, ac yn y
swper sanctaidd, wedi eich croeshoeHo chwithau i'r byd ?
A ydych chwi wedi agor drws y galon iddo, gan ddywedyd, —
"Tyred i mewn, fendigedig yr Arglwydd." Ai iachawdwr-
iaeth eich eneidiau sydd wedi eich dwyn chwi yma, ai rhyw
ddiben îs ? A ydyw yr efengyl ddim yn cael ei chymeryd
yn fwy fel difyrwch, nac fel cenadwri bywyd? Ai nid ysbryd
yr Atheniaid yw cich ysbryd yn fynych, yn hytrach nag
Gwrthod cariad y gwirionedd. 785
ysbryd cynulleidta tỳ Cornelius ?— chwilio ani ry wbeth newydd,
yn hytrach na dyfod i wrandaw geiriau Duw? Os fel hyn y
mae hi, yr ydych heb dderbyn cariad y gwirionedd. Y mae
yr efengyl yn y wlad er's canoedd o flynyddoedd ; ond O! cyn
lleied o'i delw hi sydd ar y trigolion ! Yr ydym ni yn cymeryd
caracter un o grefyddau paganaidd y byd, oddiwrth garacter
cyífredinol y genedl fydd yn ei phroffesu hi. Beth pe cymerai
y paganiaid yr un rheel i farnu ein crefydd ni ? Oni ddywedent
ei bod hi yn uno, ynddi ei hun, bob peth sydd yn ofnadwy ac
yn ffiaidd yn eu crefyddau hwy ì Wrth edrych ar un dosbarth
lliosog o'r trigoHon, gelHd tybio mai Mars, Duw rhyfel, sydd
yn cael ei addoH yma. Wrth edrych ar ddosbarth araH, tybid
mai Venus, duwies aflendid, sydd yn cael ei haddoH". Oddiwrth
eraill, geUid barnu mai Bachus feddw, ydyw duw y Prydein-
iaid. Wrth sylwi ar eraiH, meddyHd mai Mammon y w Hywydd
yr ynys. Wrth edrych ar greulonderau eraill, geUid tybied eu
bod yn frodyr i Thugs yr India. Ond er hyn, y maent i gyd
yn cymeryd arnynt enw glân yr Eneiniog. Nid ydym wedi
derbyn cariad y gwirionedd. Y mae genym ; ond gwerth yn
nwylaw ffyHaid ydyw i raddau mawr. Y mae hyn yn ein har-
wain yn olaf —
(3.) Al ganlyniad meddu y gwirionedd, a pheiJ" _!a,
yr hyn ydyw, " rhoddi i fyny i amryfusedd ca.' 'u
celwydd." Un o'n peryglon ni ydyw tybied, naa ccs üim
perygl : ein hesmwythder sy mor debyg a dim o'n Hadd. Y
mae genym hanes rhai wedi eu coroni âbreintiau, adisgwyHent
i'r rhai hyny eu cadw rhag barn. " Teml yr Arglwydd, teml
yrArglwydd" ydym, raeddant ; am hyny ni aU dim dinystr
ddyfod arnom. Ac y mae yr un prophwyd yn dywedyd, " Na
choeHasai brenhinocdd y ddaear, na hoH drigoHon y byd, y
deuai y gwrthwynebwr a'r gelyn i mewn i byrth Jerusalem;"
ond fe ddaeth, er annhebyced y peth, ac fe'i " dynoethodd hi
hyd ei sylfaen." GwyHwn ninau geisio Hechu yn nghysgod y
geiriau, "teml yr Arglwydd, teml yr Arglwydd," oblegidgaHwn
ninau, er na choeHasai neb, fel am Jerusalem, gael ein rhoddi i
ddinystr. A pha beth ydyw y pethau sydd yn cymeryd He yn
y dyddiau hyn, os nid arwyddion fod yr " amryfusedd cadarn"
) n cael ei anfon ? Ac onid ydyw yn wirionedd fod ugeiniau,
786 Giwthod cariad y gwirionedd.
os nad canoedd, o bregethwyr Eglwys Brotestanaidd wedi
credu celwydd y Pab ? Nis gellir priodoli hyny i ddiffyg
gwybodaeth, oblegid dynion dysgedig oeddent oll ; ac nid oes
lle i ameu eu cywirdeb, oblegidy mae yr aberth y maent yn ei
wneuthur yn ddigon i'w brofi. Onid yw yn wirionedd fod mil-
oedd o bulpudau Protestanaidd yn pregethu efengyl arall, yr
hon nid yw arall, ond yn " datroi efengyl Crist ?" Onid yw y
sacramentau yn cael eu pregethu, yn lle gwaith Yábryd Duw,
ac yn lle aberth Calfaàa? Ai nid yw yn wirionedd fod ugein-
iau o allorau wedi eu hadeiladu mewn eglwysi Protestanaidd
yn y deyrnas hon ? a bod gweddio ac offrymu dros y meirw ar
yr allorau hyny ? Onid yw yn wirionedd fod dynion na fynant
eu galw yn Babyddion, yn derbyn cyffesiad pechod, ac yn
maddeu ; ac wedi gwneyd hyny dros ddeuddeng mlynedd ? Ai
nid yw yn wirionedd fod dros gant o'n haelodau seneddol wedi
ysgrifenu â'u llaw i sicrhau y gwnant yr oll a allant i ddal i
fyny y ffoleddau hyn ? Nid yw hynyna yn profi dim, meddir,
ond y niwed sy mewn cysylltu eglwys a llywodraeth. Yr wyf
mor barod a neb i ddywedyd fod hyny yn niwed, ac y byddai
yn fantais annhraethol fawr i grefydd gael tori y cysylltiad ;
byddai yn llawenydd gan fy nghalon, pe na byddai y pethau
hyn yn profi dim yn ychwaneg. Ond pa fodd y mae pethau
o'r fath yn digwydd yn America, lle nad oes c^sylltiad rhwng
eglwys a gwlad ; ac yn Eglwys Esgobol Scotland, yr hon sydd
yn gwbl rydd oddiwrth y cysylltiad hwn ? Pe yr offeiriaid yn
unig a fuasent wedi eu Ihthio i'r pethau hyn, buasai rhyw
reswm mewn dywedyd, mai y cysylltiad â'r llywodraeth oedd
yr achos ; ond nid felly y mae ; y mae y bobl yn foddlawn i'w
hymadrodd hwynt. Lle bynag y mae graddau o fywyd yn ei
amlygu ei hun yn yr eglwys, y ffurf yma y maeyn ei gymeryd;
a'r eglwysi sydd wedi ymroddi fwyaf i'r ffoleddau hyn ydyw y
rhai amlaf eu cynulleidfaoedd. A chamsyniad mawr yw tybied
pe torid y cysylltiad sydd rhwng yr eglwys a'r llywodraeth, y
byddai hi yn ddiogel rhag Pabyddiaeth. Nid yn ei chysylltiad
âg unrhyw lywodraeth y mae cuddiad cryfder Pabydiiaeth. Y
mae hi yn sicr o gysylltu ei hun, pan y dêl yn ddigon cryf i
hyny ; ond canlyniad ihyw nerth ofnadwy sydd ynddi hi ei
hun a fydd hyny, ac nid peth i roddi nerth iddi. GwyHwn ni
Gwrthod cariad y guirionedd. 787
briodoli ystad bresenol y wlad i bob peth heblaw y gwir achos.
Ai nid arwydd ydyw fod yr " amryfusedd cadarn " yn cael ei
ddanfon ? A phaham yr aroswn ni gydâ'n cymydogion ? Beth
sydd wedi ein diffrwytho ni ein hunain ? I ba le yr aeth ein
bywyd ni? Y cwbl y mae yrhai mwyaf llwyddianus o honorn
ni, yr Ymneillduwyr, yn ei wneuthur, ydyw yn unig cadw ein
tir, neu yn hytrach gadw ein nifer. Nid ydym yn cadw ein
tir. Y mae y boblogaeth yn amlhau o'n hamgylch : nid ydym
ni yn amlhau yn gyfartal. A ydyẃ y marweidd-dra hwn yn
peidio a bod yn ysbryd trwmgwsg oddiwrth yr Arglwydd ? Nid
ydym yn breuddwydio, meddwch, am ffoleddau Pabyddiaeth :
nac ydym ; ond os ydyw yr ysbryd trwmgwsg hwn arnom,
breuddwydio a fydd y peth nesaf. Ofnwn rhag mai yr " am-
ryfusedd cadarn " ydyw, yn cael ei anfon ar bobl sydd wedi hir
wrthod yr efengyl. " Ofn y Pab sydd arnoch chwi," medd
rhywun, — " pe gwyddech chwi ei hanes, byddai arnoch gywilydd
sôn am y fath beth. Y mae efe yn methu amddiffyn ei hun>
heb gymorth milwyr Ffrainc." Ond cofiwch, nid yn nifer ei
filwyr, nac amlder ei longau rhyfel, y mae ei nerth ef yn gyn-
wysedig. Fy ofn fy hun, a'm cyd-genedl, sydd arnaf fi yn fwy
nag ofn y Pab, — rhag i ni dynu yr " amryfusedd cadarn "
arnom. Fe all un ymlid mil, a dau yru deng mil i fEoi, wedi i
Dduw eu rhoi i fyny. Beth sydd wedi peryglu y deyrnas? —
Puseyaeth Eglwys Loegr ? — anffyddlondeb gweinidogion y
llywodraeth yn rhoddi pob nodded i gyfeiliornadau Pabydd-
iaeth ? Nage, gy maint; ond gwrandaw yr efengyl, a'i gwrthod; —
darllen y Bibl, a sathru ei eiriau dan draed, bob yn ail ; —
cymeryd llusern y gwirionedd i dy oleuo i wlad y tywyllwch
eithaf. Yr ydym yn rhy debyg i gyd-oeswyr Hosea : y bobl
yn ymryson â'r offeiriaid ; — pawb yn rhoddi y bai ar eu gilydd,
yn lle gofyn, — " Beth a wnaethum i." Yr wyf yn gobeithio nad
yw hyn ddim ond rhywbcth i'n deffroi ni, — i atal i bethgwaeth
ddigwydd i ni. Ond mi a ddymunwn wasgu hyny at eich medd-
yliau, na fydd ^r efengyl ddini yn hir yn ein plith heb ei
derbyn, heb i ryw amryfusedd ddyfod, naiU ai anffyddiaeth
neu ofer-goeledd. Ac o ddau ddrwg, byddai yn well genyf yr
olaf.
Ni aderfynwn gyda dweyd dau air : —
78S Gwrthod cariad y gwirionedd.
1. Wrthych chwi sydd wedi adnabod yr efengyl, — wedi
teimlo ei hawdurdod hi. Y mae ar eich llaw chwi, i raddau
mawr, atal y pla. Na adêwch lonydd i'r Arglwydd, ac na ddis-
tewch, nes y daw eto i roddi bywyd ynddi ; oblegid os cawn ni
ein cadw rhag y rhai presenol, fe gyfyd rhyw ddrain a mieri ar
dir yr eglwys, " hyd oni thy wallter yr Ysbryd o'r uchelder."
Ewch at yr orsedd bob dydd mewn ffydd, gan ddywedyd, —
" Cyfoded Duw, gwasgarer ei elynion, a ffoed ei gaseion o'i
flaen Ef." " Duw a drugarhao wrthym, ac a'n bendithio ; a
thywyned ei wyneb arnom." Fe ä yr hen efengyl yn rhy wan
i gadw ei thir ; — daw efengyl arall i fyned â'i lle ; os na chyfyd
Duw yn amddiffyn iddi. Disgleirdeb ei ddyfodiad Ef a ddifa
" ddyn pechod." Pell oddiwrthyf a fyddo codi yr un teimlad
dialgar mewn un fynwes at Babyddion. Ni wyddant hwy,
druain, ddím o ba ysbryd y maent, pan yn dial ar Brotestan-
iaid : tybiant eu bod yn gwneuthur gwasanaeth i Dduw wrth
eu rhoddi i farwolaeth, a hyny yn ddiameu a wnaent eto, pe
caent yr awdurdod i'w llaw. Ond mi a ddymunwn i ni ddangos
rhagoroldeb ein crefydd ni, trwy broíì fod ysbryd arall ynom ;
ond dymunwn gynyrchu teimlad eiddigus ymhob mynwes yn
erbyn Pabyddiaeth. Gweddiwch hi i farwolaeth. Cyferchwch
yr addewidion ar ei chwymp hi bob dydd, dan ddywedyd, —
" Gwawria, gwawria hyfryd fore," pan fydd yr angel yn
cyhoeddi, — " Syrthiodd, syrthiodd Babilon fawr ;" ac fe rydd
ei chwymp hi dòn o lawenydd dros holl ymerodraeth Duw.
2. Chwithau, sydd eisiau gwybod beth a gewch i'w wneuthur
yn erbyn Pabyddiaeth. Ni welwn i ddim bai ar y rhai hyny
sydd yn galw ar y seneddwyr i ddefnyddio cyfraith, os oes un,
neu i wneyd un, yn ei herbyn ; — nid i gaethiwo ac i orthrymu
Pabyddion mewn un modd, ond i atal iddynt hwy ein gorth-
rymu ni. Ond y peth mwyaf llwyddianus dan y nefoedd yn
eu herbyn fyddai i chwi dderbyn Mab Duw. Byddai rhoddi
ufudd-dod calon i'r efengyl yn íìl mwy o atalfa arnynt, na phe
ysgrifenech chwi v traethawd mwyaf gorchestol sydd wedi ei
ysgrifenu eto. Ysgwyd ymaith iau y meistr, a wnai fwy yn
erbyn y gwas, na holl seneddwyr Prydain. Y mae yn olwg
ddigon trom, weled cynifer yn siarad yn erbyn y Pab, ac eto yn
filwyr ffyddlawn dan goron ei frenin, sef Satan. Y maent am
Gwrthod cariad y gwirîonedd. 78g
ddyfod â'r Pab i'w labyddio, fel y daeth yr luddewon â'r wraig
at yr Arglwydd lesu ; ond pe dywedasai Efe, — Y neb sy ddieuog
o wneuthur rhywbeth tuag at ei ddwyn yma, tafled y gareg
gyntaf ato, y mae yn ddigon tebygol y gadewid ef bron ei hun-
Plygwch i'r efengyl. Cydnabyddwch y Pen a osododd Duw
ar yr eglwys, 03 mynwch chwi atal rhyw un arall. Eich di-
ystyrwch chwi o'r hen efengyl a fu yn achos i'r un arall hon
ddyfod i'r wlad. Dangoswch eich bod yn gosod pris mawr ar
yr hen Gyfryngwr, — yr hen Offeiriad, — yr hen Aberth, — yr
hen ffordd i faddeu, — mewn un gair, yr hen efengyl, ac yna
buan y diflana yr efengyl arall hoao'r tir.
[Dydd lau, Chwefror 13, 1851].
(Traddodwyd y bregeth uchod, yn yr adeg yr ymosododd Paliyddiaeth ar
y deyrnas hon, trwy sefydlu esgobaethau yn ngwahanol ranau y wlad
yr hyn a barodd y f ath gyffro ar y pryd yn meddwl yr holl genedl. —
GOLYGYDD).
PREGETH XLVIII.
ATDYNIAD Y GROES.
lOAN XII. 32. — " A mmau, os dyrchefir fi oddiar y ddaear, a dynaf bawb
ataf fy hun."
^ä^R oedd yr Arglwydd lesu, pan yn llefaru y geiriau
«I ^Mi ^y^i ^^ fyned i'r tywyllwcb, lle yr ydoedd Duw.
ìjff, ^^1 Yr oedd cwr y cwmwl â'r hwn yr oedd y Duw dig-
llawn yn ei amgylchu ei Hun, yn dechreu ei gysgodi ; — pasg
y croeshoeliad wrth y drws. Yr oedd pymtheg cant o flyn-
yddoedd er pan sefydlasid y pasg ; ac er bod yr ẃj n oeddent
wedi eu lladd yn aneirif, a'r gwaed oedd wedi ei dywallt yn
ddigon i wneuthur moroedd bychain, yr oedd y pasg oedd wrth
y drws yn awr yn rhagori cymaint, ymhob ystyr, ar bob un a
fuasai o'i flaen, ag y mae y sylwedd yn rhagori ar y cysgod.
Yr oedd pasg Moses yn un hynod ; — pasg Josiah yn un heb ei
fath ; — pasg Ezra yn un rhyfedd : — ond yr oedd pasg y croes-
hoeHad yn llyncu i fyny eu holl ryfeddodau hwy, fel ag y mae
goleuni yr haul yn boddi goleuni y sêr. Yr oedd cyflawnder
amser ymerodraeth Duw wedi dyfod. Yr oedd y pasg hwn i
fod naill ai yn Jubili, fel un Moses, i ryddhau y byd am byth o
gaethiwed llygredigaeth ; neu, ynte, i fod yn basg cyffelyb i
eiddo y Galileaid hyny, yn adeg, mewn ystyr foesol, i ladd
am byth feibion Adda. Ond ni wyddai y byd ddim am y
pethau rhyfedd oeddent ar gymeryd lle ; ond gwyddai yr Ar-
glwydd lesu am hyny. Yr oedd y tristwch hwnw yn dechreu
ymaflyd yn ei feddwl, yr hwn a gynyddodd yti raddol, res peri
iddo yn ei chwerwder lefain allan, — " Fy Nuw, fy Nuw, paham
y'm gadewaist?" Er iddo Iwyr roddi ei galon i nesàu at
Dduw, ac i edifeirwch gael ei guddio o'i olwg, eto fcl yr ocdd
Atdyniad y grocs. 7gi
yr amser i hyny yn agosàu, yr oedd meddwl am yr amgylchiad
yn peri i ddychrynfeydd Duw doddi ei galon, nes y dywedodd
yn nghyfyngder ei ysbryd, — " Os yw bosibl aed y cwpan hwn
heibio." Edrychai ymlaen ar yr amgylchiad yr oedd ynddo
yn awr er dyddiau tragywyddoldeb ; ond, a llefaru yn iaith y
ddaear, yr cedd yr amgylchiad ymhell oddiwrtho y pryd hyny;
a thrwy y pedair mil blynyddoedd yr arddangoswyd ei angau
yn gysgodol i'r b^'d, yr oedd dioddef mor bell oddiwrtho a'i fod
yn anmhosibl iddo. Trwy ymddangös yn y cnawd, rhoddodd
ei hun o fewn cyraedd dioddef, a chafodd brofi beth oedd y
chwerwder oedd yn hyny ymhob gwedd arno. At y íFerau yr
oedd yr afon yn y dechreu ; wedi hyny at y Iwynau ; yna yn
ddyfroedd nofiadwy, na buasai neb ond Duw yn gallu myned
drwyddynt. Witb suddo iddynt, llefodd gan deimlad o
drueni, — "Eloi, Eloi, lama sabachthani 7 Fy Nuw, fy Nuw,
paham y'm gadewaist?" Yr oedd Bethlehem yn isel ; Naza-
reth yn îs ; a Golgotha yn fwy dirmygedig na'r ddau. Yr oedd
cael ei gasâu yn ddiachos, gan ei gydwladwyr, yn groes drom ;
yr oedd cael ei ddisgyblion yn aníîyddlawn iddo yn drymach o
lawer ; ond annhraethadwy drymach na hyny oedd cael ei adael
gan ei Dad. Yr oedd chwerwder y gadawiad hwn yn cyfateb i
agosrwydd y berthynas, ac i anwyldeb y gyfeillach oedd rhyng-
ddynt o'r blaen. O ran perthynas, yr oedd Efe a'r Tad yr un ;
o ran cyfeillgarwch, yr oedd y Mab yn hyfrydwch i'r Tad er
tragywyddoldeb ; gan hyny yr oedd iddo gael ei adael am
foment ganddo, — yr oedd i Dad fel hyn gyfarfod â'i Fab mewn
gŵg am un awr, yn rhyw uffern o drueni, nad oes ond Duw a
ẃyr beth yw hi, ac na allasai ond Duw ei dioddef hi.
Fel person dwyfol, gwelai fod yr awr fawr wedi dyfod, ara
hyny yr oedd ei enaid wedi ei gynhyrfu fel nas gwyddai beth
i'w ddywedyd. Dywedai natur, — " Gwared fi allan o'r awr hon,"
ond yr oedd ei ymrwymiadau i'w Dad, a'i gariad at ei bobl,
yn rhoddi diangfa i'w feddwl o'r demtasiwn, " Oherwydd hyn
(medd Efe) y daethum i'r awr hon ;" ac wedi cael glàn i'w
feddwl, y mae yn ei anghofio ei Hun, mewn gofal dros anrhyd-
edd ei Dad ;— " O Dad, gogonedda dy enw ;" neu, cynorthwya
fi i ymddwyn fel ag i sicrhau dy ogoniant Di. Yna y mae ei
Dad yn ei ateb mewn llais dynol, — "Mi a'i gogoneddais, ac a'i
92 Atdyniad y groes.
gogoneddaf drachefn." A gallwn gasglu oddiwrth y cyfnewid-
iad sydd yn ei ysbryd Ef, fod ei Dad wedi nerthu ei wendid
ar y pryd, hyny yw, wedi ei ogoneddu ei Hun ynddo drachefn,
oblegid y mae ei feddwl, yn y testyn a'r adnod ílaenorol, yn
cael glàn wrth edrych ar íîrwyth ei ddioddefiadau. Yn yr olwg
ar y dioddefiadau, ei iaith ydyw, — " Fy enaid a gynhyrfwyd ;"
ond y maeei Dad, mewn atebiad i'w weddi, yn rhwygo y cwmwl
du, iddo gael cip-olwg ar fFrwyth y rhai hyny. Y mae hyn/
yn tawelu ei feddv\l. Eu ffrwyth oedd, bwrw allan dywysog
y byd hwn, a thynu pawb ato ei Hun ; — dinystrio llywodraeth
y diafol, a meddianu y deiliaid.
Y duU i ddwyn hyn o amgylch oedd, cael ei ddyrchafuoddi-
ar y ddaear. Y mae yr Arglwydd lesu ^m crybwyll drachefn a
thrachefn ara ddull ei farwolaeth, sef dyrchafu oddiar y ddaear;
a diau ydyw fod y crybwylliad mynych hwn wedi ei fwriadu i
dynu ein sylw, nid yn unig at ei angau, ond ato fel angau y
groes. Y raae yn wir iddo, trwy ymostwng i farw o angau y
groes, ddyfod i barthau isaf y ddaear ; ond y mae ynwir hefyd,
pe buasai yn marw o ryw angau arall, na fuasai ei ufudd-dod i
Dduw mor amlwg, na'i waith yn gorchfygu Satan mor ogon-
eddus ; am na fuasai galluoedd y tywyllwch yn cael cymaint
mantais i ymosod arno ag a gawsant ar y groes. Yr oedd y
farwolaeth luddewig, sef Uabyddio, nid yn unig yn tori yr
esgyrn, ond hefyd yn farwolaeth lled ddisymwth, a gallasai y
gareg g>'ntaf wneuthur y dioddefydd yn ddideimlad, ac felly
hyd y gwyddom ni, anghymwysoei enaid i ddioddef ; adioddef-
aint enaid Mab Duw oedd enaid ei ddioddefiadau. Yn ei waith
yn gwrthod y gwin myrllyd ar y groes, yr hwn a roddid i'r
croeshoeliedig i farweiddio ei deimladau, gwelwn nad oedd am
yragysgodi rhag un diferyn o'r gawod. Yr oedd croeshoelio yn
angau mor araf, fel nad oedd synwyrau y corff, na galluoedd yr
enaid ddim yn dyrysu, er bod chwerwder marwolaeth yn y naill
a'r llall. Yr oedd felly yn angau oedd jm rhoddi mantais i'r hyn
oedd yn nghalon y dioddefydd ddyíod i'r amlwg. Os gailai
ragrithio hyd yno, byddai y rhagrith yn dra sicr o ddarfod
ar y groes. Dangosodd y lladron beth oeddent mewn gwir-
ionedd pan yn ngafael arteithiau yr angau hwn ; a phe buasai
un teimlad o edifeirwch. yn nghalon Mab Duw ara fyned i
Atdyniad y groes. 703
le ei bobl, nid oedd dim ar ffordd ei draethu. Pe buasai
wedi ei labyddio, nis gallasem wybod nad oedd yn edifarganddo
roddi ei einioes i lawr : ond nis gallasai roddi amlygi id i'r
teimlad ; ond trwy mai ei groeshoelio a gafodd, cawsom brawf
ei fod " yn caru yr eiddo y rhai oedd yn y byd," ac iddo " eu
caru hwynt hyd y diwedd;" ac nid prawf nacäol yn unig
ydoedd, ond trwy achub y lleidr, fe ddangosodd hyny mewa
gweithred a gwirionedd.
Yr oedd perthynas hefyd rhwng düll ei farwolaeth a llwydd-
iant ei achos. Fel yr oedd angau y groes y mwyaf manteisiol
i ddangos mawredd nerth y Dioddefydd, a chryfder ei gariad,
felly hefyd yr oedd y mwyaf manteisiol i sicrhau dibenion ei
farwolaeth. Rhyfyg a fyddai i ni ddywedyd na fuasai ang-au
Mab Duw mewn unrhyw dduU yn ddigon i ddwyn oddiara-
gylch iachawdwriaeth pechadur ; ond nid gormod ydyw
dweyd, na fuasai yn dwyn cymaint o ogoniant i Dduw ag
iachawdwriaeth trwy angau y groes ; oblegid y mae cynddaredd
dyn yma yn ei folianu ; — gwendid Duw yn cael ei weled yn
gryfach na dynion ; — a ffoHneb Duw yn ddoethach na dynion.
Felly yr oedd dull marwolaeth Alab Duw yn gogoneddu doeth-
ineb ei Dad, fel agyr oeddlluniaethiad Irefn y cadwyngwneyd.
Gelhr ysgrifenu doethineb Duw ar y drefn yn y cyfanswm, ac
hefyd yn ei holl wahanol ranau. Hi gychwynodd o le na
ddaeth i galon dyn feddwl am dano. Dygwyd hi oddiamgylch
mewn ffordd na ddychymygodd calon dyn yn ei chylch.
Edrych y buasai dyn i'r dwyrain, i'r gorllewin, neu i'r deheu,
am yr oruchafiaeth ; ond oddiwrth Dduw y daeth ; a hyny yn
y fath fodd ag y gellir dywedyd, '' Wele beth newydd !" Wedi
clywed o ba le yr oedd hi yn dyfod, yr oedd dyn yn tybied, fel
Naaman gyda'r prophwyd, mai fel hyn ac fel hyn y buasai ;
ond y mae hi mor groes i'w dyb ef, ag ydoedd cyngor y proph-
wyd i dyb y Syriad gwahanglwyfus. Y mae amrywiaeth ac
unffurfiaeth yn holl weithredoedd Duw ; — cymaint o amryw-
iaeth, fel nad oes dim dau beth yr un fath ; eto cymaint o un-
ffurfiaeth, fel y maent oll yn debyg : ond y raae y weithred hon
mor wahanol i bob gweithred arall, hyd yn nod o eiddo Duw,
fel y mae ymhob ystyr yn beth newydd yn eu plith. Duw yn
gweithio yn annhebyg iddo ei Hun,ac eto yn anfeidrol deilwng
794 Atdyniad y grocs.
o hono ei Hun. Y mae gwedd allanol y drefn yn peri iddi ym-
ddangos yn annhebyg i wath Duw ; ond erbyn chwilio i mewn
iddi, gwelir yma ddoethineb mewn dirgelwch, sydd yn e^
gwneuthur hi yn anfeidrol deilwng o Dduw. Gwir fod tywyll-
wch o'i bamgylch hi ; ond os eir i mewn iddo, gwelir fod Duw
ynddo fel ar Sinai gynt. Yn y greadigaeth y mae Duw yn
trigo yn y goleuni, — y mae ei fawredd yn weledig i'r llygaid ;
ondyn y tabernacl a'r deml, yr oedd yn rhaid myned i ddir-
gelfa y babell oddimewn cyn gweled Duw yno, am fod llen
rhwng pawb a'r Shecinah ; ond y tuhwnt i'r llen hono yr oedd
arwyddion disgleiriach o bresenoldeb Duw nag oedd yn hüU
ogoniant creadigaeth. Yr oedd mwy o DJuw yn nhywyllwch
y cysegr, nag oedd yn ngoleuni y greadigaeth. Felly Duw yn
trigo yn y tywyllwch yw Duw iachawdwriaeth : llen yw preseb
Bethlehem, tlodi Nazareth, a chroes Calfaria; ond y tuhwnt
iddi y mae y Shecinah dwyfol yn tanbeidio, gyda digyffelyb
ogoniant. Y mae pawb yn gweled y llen ; ond nid oes oud
ychydig mewn cymhariaeth yn gweled yr hyn sydd tuhwnt
iddi. Ond y mae cip-olwg ar y ddau i'w chael yn y testyn, — •
Dyrchafu y Mab i'r groes. — dyna y llen. Ni feddyliodd neb
fod Duw y tuhwnt iddi. Tynu pawb ato ei Hun, — dyna gwr
y llen yn cael ei chodi i'r Shecinah ddyfod i'r golwg : — " Minau,
os dyrchefir fi oddiar y ddaear, a dynaf bawb ataf fy hun."
I. Y mae hyn yn cynwys mai liyn oedd diben y croeshoeliad.
Diben eithaf angau y groes oedd gogoneddu Duw ; ond drwy
y tynu yr oedd hwnw i gael ei ateb. Dylai canlyniadau a
dibenion pethau eífeithio bob amser ar ein barn am danynt,
oblegid y mae llawer peth bychan yn myned yn fawr, yn ei
gysylltiad â'i ddiben ,• a llawer peth ysgafn yn bwysig, yn ei
bertliynas à'i ganlyniadau. Yr oedd bwyta o íFrwyth y pren
gwaharddedig yn beth bychan ynddo ei hun ; ond yr oedd ei
ganlyniadau yn ei wneuthur yn annhraethol bwysig. Yr oedd
cyfodi saríî bres ar drostan, yn nghanol gwersyll Israel, ynddi
ei hun yn ymddangos yn seremoni blentynaidd ; ond y mae y
diben oedd i'w ateb drwy hyny yn cyfnewid gwedd y weithred.
Yr oedd gwaith y tri chanwr hyny yn ngwlad Groeg, yn myned
i hafn Thermopylae igyfarfod â byddin Darius, pan yn gwybod
wrth fyncd yno fod angau yn sicr yn eu haros, yn ymddangus
Atdyniacl y groes, 795
yn wallgofrwydd ; ond y mae y diben oedd ganddynfc mcwa
golwg, sef tanio mynwcsau eu cydwladwyr âg ysbryd i ryfcla
à'u gelynion, yngwneuthur eu gwaith yn deilwng obobparch-
edigaeth, Felly y mae marwolaeth y groes arwahan oddiwrth
ei diben yn ymddangos yn ddirmygus ; ond yn ei chysylltiad
â'i diben, y mae hi y weithred fwyaf gogoneddus agyflawnwyd
erioed, neu a gyflawuir byth. Wrth edrych arni ynddi ei hun,
fel yr oedd hi yn ymddangos i luddew zelog, yr ydym yn troi
oddiwrthi gydà braw, fel y tröem oddiwrth rywbelh gwrthun a
fyddai yn gwmwl ar ein caracter, ac yn warth enbyd i ni.
Oblegid pa beth a welwn ni ynddi ? Onid fod pechod yn
teyrnasu i farwolaeth ? — fod trueni dyn yn fawr arno, fel nad
rhaid myned i fyd arall i chwilio am uffern, — ei bod hi yu
dechreu yn y byd hwn ? Os ydyw y dioddefydd yn euog o'r
hyn y rhoddir ef i farwolaeth o'i blegid, yr ydym yn teimlo fod
ei euogrwydd ef yn warth i ni, ac mai iin o honoin ni ydyw.
Os nad ydy w yn euog, y mae y rhai a'i condemniasant wedi eu
gorchuddio à gwarth, ac y mae gwarth y rhai hyny yn warth i
ninau, oblegid rhai o hononi ni ydynt hwythau hefyd ; fel ar
bob golwg y mae y groes yn warth i'n natur ni, — yn ysmotyn
du ar ein byd ni. Ond pan yr edrychwn ni arni yneichysyllt-
iad à'i diben, y mae yr hyn oedd yn achos cywilydd yn cael ei
gyfnewid i fod yn destyn ymfifrost. Nid marwolaeth ydyw hi
mwyach, ond fl"ynon by wyd ; nid uff'ern wedi ei dwyn i'r
ddaear, ond porth y nefoedd. Yn lle bod yn esiampl o'r ysgar
a'r gwasgar sydd yn natur pechod, y mae hi yn troi allan i fod
yn ganolbwynt i ail uno creadigaeth Duw. Y mae y bryn ar ba
un y codwyd hi yn cyfnewid o fod yn Ebal i fod yn Gerizim.
Nid Moriah, lle y mae Duw yn ofiiadwy, ydyu^ mwy ; ond
Sîon, lle y gorchymynir y fendith. Y mae mawredd a gogon-
iant y diben oedd mewn golwg yn angau y groes, yn gwneuthur
y tnoddy cyhoeddwyd ef yn ogoneddus ; fel yr oedd disgleirdeb
wyneb Moses yn peri i'r llen oedd yn ei orchuddio ddisgleirio
felly y mae diben angau y groesyn gwneuthur y groes ei hun yn
ogoneddus. Ac erbyn sylwi, y mae hi yn dwyn delw gweith-
redoedd Duw. Daeth y greadigaeth gyntaf o'r gair, " Bydded, "
y mae yr ail yn dyfod o'r grocs. Ni fuasai neb ond Duw yn
meddwl am sicrhau y fath ddiben drwy y fath foddion ; ac ni
•/96 Atdymad y groes.
fuasai neb ond Duw yn cael allan foddion mor gymwys i
gyraedd y fath ddiben. Buasai dyn yn meddwl mai doethineb
fuasai yn dyfod o fwyta ffrwyth pren gwybodaeth, ac mai bywyd
fuasai y canlyniad o fwyta ffrwyth pren y by wyd ; ond ffolineb
ac angau oeddent y canlyniadau. Buasai dyn yn meddwl na
cheid dim o ddirmyg, ond dirmyg ; — dim o ffolineb, ond ffol-
ineb ;— dim o angau, ond angau ; ond yn lle hyny, gogoniant
ddaeth o'r dirmyg ; — doethinéb o'r fiolineb ; a bywyd o'r angau.
" O'r bwytawr y daeth bywyd ;" o angau y daeth bywyd !
Y diben oedd i'w sicrhau trwy ei angau oedd y gynhaliaeth
oedd gan feddwl yr Arglwydd lesu ei Hun ; — hyn ydoedd y
llawenydd yn lle yr hwn y dioddefodd Efe y groes, gan ddi-
ystyru ei gwaradwydd hi ; a rhaid ;bod tynu pawb ato ei Hun
yn rhywbeth gogoneddus iawn, gan ei fod yn ddigon i gynal
y fath feddwl, yn wyneb y fath ddicddefiadau. Y raae yn
anmhosibl i'r un creadur wybod beth oedd y ihai hyny ; — beth
oedd trueni teimladau natur bur, wedi ei gwneuthur yn nghy-
ffelybiaeth un bechadurus. Pa faint o ddioddef oedd yn
angenrheidiol bob dydd i fyw ymysg cymaint o halogrwydd
moesol. Tybiwch am ein brenhines ni, yn cael ei gosod dan
angenrheidrwydd i adael ei phalas, a'i gorsedd, a'i hanrhydedd,
a'i llawnder, ac i fyw ond am ychydig wythnosau yn un o
heolydd isel, ac yn un o ystafelloedd aflanaf y tŷ fíîeiddiaf yn yr
heol hono, yn nghanol creaduriaid wedi eu darostwng i ddyfn-
derau isaf anfoes a Ilygredigaeth, o ran eu hiaith a'u hymddyg-
iadau, — chwi a gydnabyddwch ar unwaith y byddai hyny yn
cynwys rhyw ddioddefaint dirfawr i'w theimladau hi. Ond ni
byddai hyny ond dim mewn cymhariaeth i'r hyn yr oedd ein
Harglwydd dan yr angenrheidrwydd o'i ddioddef wrth fyw yn
y fath fyd halogedigadi-dduwa'reiddom ni. Yr oedd enaidPaul
yn cael ei gynhyrfu wrth edrych ar eilun-addoliaeth Athen ;
Jeremias yn gwneuthur ei ben yn ddyfroedd wrth edrych ar
halogedigaeth ei bobl ; Dafydd yn gresynu wrth weled y tros-
eddwyr. Os oedd dynion anmherffaith, llygredig, yn teimlo
fel hyn, beth raid fod teimladau enaid pur Mab Duw, ymysg
cymaint o aíîendid ysbrydol ? Ac nid oedd y pethau yn ddim
ond y mân wlaw oedd yn disgyn arno; yr oedd y diluw
yn ol, ac mewn cymhariaeth i hwnw, nid oedd y rhai
Atdyniad y groes, ']<^']
yna dditn yii deilwng o'u galw yn ddioddcfiadau. Pan
agorwyd íTcncstri y nefoedd, fe ddywedir iddo ddechreu
tristau; fel pe buasai ei oes oU wedi bod yn ilawenydd difwlch
hyd y foment hono, pan mewn gwirionedd trist oedd hi o'r
blaen ; ond yr oedd y tristwch hwnw yn Ilawenydd mewn cyra-
hariaeth i hwn, oblegid yr oedd hwn yn dristwch hyd angau
enaid. Pan yn myned i'wafael, " Fy ^;/a/í/ (medd Efe) a gyn-
hyrfwyd." Yr oedd ei enaid yn arfer bod yn dawel, fel y llyn
llonydd syddyn adlewyrchu holl ogoniant y ffurfafen uwchben,
er maint y cynwrf a all fod gan ddynion ar hyd ei lanau ; ond
yn awr y mae yr ystorm yn ei gythryblu, fel nad oes delw dim
yn gyfan ynddo. Yr oedd ei enaid yn dechreu myned i'r cwmwl
du, sef gŵg ei Dad, yr hyn oedd ei dristwch angeuol. Pan
gododd bradwyr i ladd Cesar yn y senedd-dy, decbreuodd am-
ddiffyn ei hun yn wrol rhagddynt, hyd nes iddo weled ei gyfaill
mwyaf mynwesol yn eu phth, yn amcanu brathu ei ddagr i'w
gorff ; fe dorodd hyny ei galon mewn moment; ac fe dynodd
ei fantell o'i amgylch, ac a orweddodd i lawr i farw, gan ddy-
wedyd, — "A thithau hefyd, O Brutus!" Yr oedd y byd ac
uffern wedi codi yn erbyn Mab Duw ; ond nid oedd y naill
na'r llall yn cynhyrfu nemawr arno ; ond pan dynodd ei Dad
y cleddyf o'i wain, yn ei agwedd fe ddywedodd, — "A thithau
hefyd, O fy Nhad !" Dyma dristwch angau ! Ond yr oec'd y
diben oedd i'w farwolaeth yn beth roor ogoneddus, fel yr oedd
yn troi cysgod angau fel hyn yn foreu-ddydd iddo. Pan oedd
ei Iygaid yn edrych ymlaen i ddydd y Pentecost, ac oddiyno
hyd at yr adeg y safai yr angel ar y môr a'r tir, i dyngu na
bydd amser mwyach, ac yn gweled cynulhad y bobloedd ato ei
Hun, — holldrueiniaid y ddaear, ynghyd â rhai breision y cen-
hedloedd yn gobeithio ynddo, — mil o filoedd o dafodau yn ei
gyffesu, — myrdd o fyrddiynau yn plygu iddo, — meibion Ismael,
asynod gwylltion yr anialwch, oeddent heb eu darostwng gan
neb erioed, yn Ilyfu y llwch o'i ílaen, — trigolion eithafion y
gorllewin, ac eithafion y de, yn penderfynu na roddent hùn i'w
llygaid na chwsg i'w hamrantau, nes cael preswylfod iddo, — yr
oedd adsiin mawl y cenhedloedd yn taraw ei glustiau megis
llef dyfroedd lawer, ac megis Ilef taranau cryfion. Yr oedd Efe
yn edrych ar ei groes fel maen tynu, yn casglu ynghyd o was-
798 Atdyìiìad y groes.
garfa pechod holl blant Duw, — y gelyniaeth oedd wedi chwalu
y greadigaeth oddiwrth ei gilydd, yn cael ei ladd drwyddi hi,
nes gwneuthur y cwbl unwaith eto yn frodyr i'w gilydd, ac yn
blant i Dduw. Yr oedd Efe yn edrych ar ei groes wedi tyfu,
fel pren Nebuchodonosor, hyd y nef, a holl drigohon y ddaear
yn eistedd dan ei gysgod, ac yn byw ar ei ffrwyth. Yr oedd
Efe yn gweled ei Hun yn cael ei anfon i ddioddef, fel y gwerth-
wyd Joseph i'r Aipht ; ond cadw yn fyw bobl lawer oedd y diben^
a dwyn y wlad yn fwy llwyr o dan lywodraeth ei Dad nag y
bu hi erioed. Yr oedd Pharoah yn frenin yr Aipht o'r blaen ;
ond fe'u gwnaeth Joseph hwynt yn gaethweision iddo, oblegid
fe'u prynodd hwynt a'u tir yn eiddo i'r brenin, wrth eu cadw
yn fyw. P'elly gwnaeth yntau â'r ddaear: Duw oedd eu breniu
hwynt o'r blaen ; ond drwy eu cadw yn fyw, fe'u prynodd
hwynt iddo. Felly mae Paul yn ysgrifenu ei enw yn rhai o'i
epistolau, — " Paul gwas Duw ;" ac y mae y gair yn arwyddo
"caethwas Duw." Yr oedd Efe yn gweled, os byddai raid iddo
deimlo yn unig ar y groes, nes llefain allan fod pawb yn ei
adael, na fyddai raid iddo deimlo felly yn dragywydd wedyn ;
ond y cai efe weled ei had, ac yr estynai y rliai hyny ei ddydd-
iau, ac y byddent fel sêr y nef mewn rhifedi, ac fel tywod y môr
yn aneirif. Yr oedd yma fwriad mewn bwriad ; dyn yn
bwriadu, a Duw yn bwriadu. Yr oedd pawb yn cael eu
hamcan : yr oedd dyn yn cyraedd ei fwriad drwg; ond o hwnw^
a thrwy hwnw, yr oedd Duw yn tynu allan fwriadauei ddaioni.
Ni wyddai dyn am ddim mwy dirmygus na'r groes : ond y
mae Duw yn peri i hono adlewyrchu gogoniant mwy tanbaid
na dim o fewn y greadigaeth. Ni wyddai dyn am ddim yn
fwy effeithiol i ddifodi enw lesu Grist oddiar y ddaear, ac i
chwalu ei ganlynwyr, na'i ladd ; ond y mae Duw, drwy hyny
yn dywedyd, " Ei enw fydd yn dragywydd," ac yn sicrhau mai
ato Ef y byddai cynulhad pobloedd. "A dynaf bawb." Y
diben oedd i'w ateb drwy angau y groessydd ynei gwneuthur
hi yn destyn ymffrost i'r Cristion. Y mae llawer peth yn ym-
ddangos, ar yr olwg gyntaf, yn fwy gogoneddus na'r groes, £C
y mae miloedd yn ymffrostio yn y pethau hyny ; ond y mae y
sant yn penderfynu, na fyn ê wybod dim ond lesu Grist, a
hwnw wedi ei groeshoelio. Yraffrostia y doethion fod pren
I
Atdyniad y groes. 799
gwybodaeth ganddynt ; ond y mae ei fFrwyth yn angau iddynt.
Ond dyrna bren, — nid olewydden, — nid ffigysbren, — nid gwin-
M'ydden, ydyw yn ngolwg y ddaear, ond mîeren. Ond er mor
ddiolwg, y mae y ífrwyth sydd arno wedi peri i'r Cristion ben-
derfynu nad ymffrostia mewn dim ond hwn. Yn ei ymyl y
mae efe yn meddwl byw, am mai yno y mae yr unig lanerch
iach ar y ddaear : ynddo y mae ei holl obaith yn canolbwyntio;
y mae yn dywedyd am dano, fel Lamech am Noah, " Hwn a'n
cysura." Diben angau y groes sydd yn llawenychu Duw a
dyn. Os oedd y diben yn beth digon mawr i gynal meddwl y
Meichiau yn y rhagolwg ar ei ddioddefìadau, rhaid y byddsyrthio
yn fyr o'r iachawdwriaeth sydd ynddo, yn beth rhy ofnadwy i
iaith allu ei ddisgrifio. Yr oedd hi yn beth mor fawr, fel yr
oeddyr olwg arni yn cynal ei feddwl Ef i ddioddef; — beth fydd
ei cholU hi ? Y mae yr uffern o ba un y mae hi yn achub mor
ddofn, ag ydyw y nefoedd i ba un y mae yn dwyn o uchel,
" Minau, oâ dyrchefir fi oddiar y ddaear, a dynaf bawb ataf fy
hun."
II. Y mae hyn yn cynwys mai trwy y croeshoehad y mae y
diben mawr hwn i gael ei gyraedd, sef y byddai i'r hyn a wnai
wrth íarw dynu pawb aco ei Hun. Tra yr arosodd Absalom yn
Gesur, nid ydoedd mewn cyfie i enill serch y bobl ; ond pan gaf-
odd ê ddyfod i'r llys, fe ladrataodd galon hoU wŷr Israel. Felly
pan oedd Mab Duw yn y nefoedd, nid oedd mewn cyfle i ladrata
calon neb ; ond trwy gael ei godi i'r groes, fe'i gosodwyd mewn
lle manteisioli hudoy bobl oUar ei ol. "A dynaf bawb." ' Trwy
gael fy nghroeshoelio, caf fy ngosod yn ganolbwynt creadigaeth,
íy ngwneuthur yn Haul, nid i'w goleuo yn unig, ond hefyd i'w
chadw byth raewn trefn.' Yr oedd ystad ysbrydol y byd hwn
yn gyffelyb fel pe buasai yr Arglwydd yn creu y planedau a'r
bydoedd wybrenol cyn creu yr haul, ac yn eu taflu i'r eangder
i wibio yno mewn annhrefn ; ond y foment y gosododd Efe yr
haul yn y canol, yr oedd sugn-dyniad hwnw yn eu dwyn oll i'w
lle. Cyffelyb oedd y byd hwn, nid yn unig yr oedd yn cliaos,
mewn tywyllwch, ond hefyd mewn annhrefn ; ond y mae Crist
croeshoeliedig yn Haul i'w oleuo, ac yn Haul i beri i bob
meddwl ynddo droi o'i amgylch ei Hun. "A dynaf bawb
ataf fy Hun."
8oo Atdyniad y groes.
Y mae dau beth mawr yn angau Crist sydd yn peri iddo
dynu :
1. Y mae yn tynu, am fod Duw, fel y maeyn ymddangos yn
marwolaeth Crist, yn eyfateb i dybiaeth ac i eisiau dyn, sef i'w
gydwybod, ac i'w galon. Nid rhaid cymeryd araser i brofi
mai eisiau mawr enaid dyn ydyw eisiau Duw. Er ei fod yn
cilio oddiwrtho, eto ei iaith wrth wneuthur ydyw, — "O na
wyddwn pa le cawn i Ef !" Un achos mawr o'r dieithrwch sy
rhyngddo â Duw ydyw, am ei fod yn methu ei adwaen. Y
mae Duw, fel y mae yn cael ei ddangos yn ei weithredoedd, yn
gyíîelyb i ddelw gwrthddrych mewn drych wedi ei dori : yn
ddarnau y mae y ddelw yn cael ei dangos. Nid yw yr hyn y
mae y gydwybod yn ei dybied am Dduw, a'r hyn y mae y galon
eisiau iddo fod, ddira i'w gweled ar unwaith. Pan y mae
daioni yn amlygedig, nid ydyw yn tywys i edifeirwch, am fod
y gydwybod yn ofni fod digofaint yn bod. Pan y mae digof-
aint yn y golwg, y mase ei ddaioni yn guddiedig ; am hyny,
anobeithio y mae y pechadur. Felly nid yw yr amlygiadau
hyn ddira yn cyfarfod ond âg un ran o'r dyn, — naiU ai â'i
gydwybod, neu â'i galon. Y raae digofaint Duw yn cyfateb i
dyb cydwybod am dano ; a'i drugaredd yn cyfateb i'r hyn y
mae y galon yn ei deimlo sydd yn eisiau arni hi. Ond y mae
pechadur yn methu tynu cysur oddiwrth y gras, am fod cyd-
wybod yn dywedyd fod digofaint yn bod ; ac y mae yn
anobeithio yn yr olwg ar y digofaint am ei fod yn methu
gweled y gras ar unwailh. Nid ydyw cydwybod a chalon
dyn ddim yn cytuno : wrth weled amlygiad o'i ddigof-
aint, — ''dyna y Duw yr wyf wedi ei ddigio," medd cydwybod :
" Nid dyna y Duw sydd yn cyfateb i'm heisiau i," medd y galon.
Wrth edrych ar ei ddaioni, " Dyna y Duw i mi," medd y galon.
'* Nid hwnyna yr wyf fi wedi ei ddigio," medd cydwybod : felly
nid allai y galon ddim myned ar ol Duw y gydwybod, na'r
gydwybod ddim myned ar ol Duw y galon ; am hyny, ífoi yr
oeddent o'i wydd yn wyneb pob amlygiad o hono ei Hun. Ond
yn raarwolaeth lesu Grist, y mae Duw y gydwybod a Duw y
galon yn cael ei weled fel yr un un : yr hyn yr oedd y naill yn
ei dybied am dano yn gywir, a'r hyn yr oedd y llall eisiau iddo
fod yn gywir hefyd. Y gydwybod yn edrych ac yn dywjdyd,
Atdyniad y groes. 80 1
— Dyna fy Nuw i ; — y galon yn edrych ac yn dywedyd, — Dyna,
fy Nuw inau hefyd. Ni ddywedaf fi ddim yn dy erbyn di,
galon, medd cydwybod ; camgymeryd yr oeddwn, gan feddwl
mai un cyfiawn heb drugaredd oedd, — dyna y paham yr
oeddwn yn anghytuno â thi. Ni ddywedaf inau ddim yn dy
erbyn di, gydwybod, medd y galon ; camgymeryd yr oeddwn
inau, gan feddwl mai trugaredd, heb gyfiawnder oedd ynddo :
dyna y paham yr oeddwn yn cweryla ; ond ni anghytunwn ni
ddim yn hwy, oblegid dy Dduw di yw fy Nuw inau, a'm Duw
i yw dy Dduw dithau. Cei di ei gyfiawnder, mi gymeraf inau
eidrugaredd. Ond y mae ei drugaredd Ef yn dragywydd gyf-
iawn i mi, a'i gyfiawnder yn gyfiawnder trugarog i tithau ; dyma
gyfiawnder i ti, a heddwch i minau ; gwirionedd i ti, a heddwch
i minau ; gwirionedd i ti, a thrugaredd i minau. Y man lle yr
wyt ti yn ei weled yn Dduw cyfiawn, yr wyf fi yn ei weled yn
Dduw yr heddwch ; yn y fan yr ydwyt ti yn ei weled yn
" Arglwydd Dduw y gwirionedd," yr wyf fi yn ei weled yn
" Jehofah, Jehofah, y Duw trugarog a graslawn." Yr oedd
gweithredoedd Duw yn tystio o'r nef am dano, a'r enaid dynol
yn tystio ar y ddaear : ond nid oeddent yn cytuno â hwynt eu
hunain ragor nag â'u.gilydd : ond yn nghroes Crist, y mae y
rhai sydd yn tystio yn y nef ac ar y ddaear yn un yn cytuno.
Hi a symudodd y digofaint, heb gymylu y cyfiawnder ; hi a
ogoneddodd y gra?, heb wneyd hyny ar draul sancteiddrwydd.
Beth y w y cysondeb yna i mi ? medd y pechadur ; pe cawn i
rywun i agor drws y carchar, ni ofalwn i ddim pwy a fyddai,
na pha fodd y gwnai hyny. Camgymeriad mawr yw hwnyna.
Yr wyt, mewn gwirionedd, heb deimlo dy hun yn y carchar
eto, onide ni leferit ti ddim fel yna. Nid âi Paul a Silas ddim
allan o garchar Philippi er cael y drysau yn agored, a chael
gorchymyn i hyny, heb i'r swyddogion oeddent wedi eu rhoddi
i mewn, eu hunain eu harwain hwynt allan : felly pan êl goleu
i mewn i dy enaid di, nid âi allan o'r carchar, hyd yn nod yn
Ilaw trugaredd, heb i'r cyfiawnder sydd wedi dy roddi di i
mewn, fod yno hefyd. Nid peth bychan, y pryd hwnw, fydd
gweled Un wedi ei osod yn iawn, i ddangos cyfiawnder trwy
faddeuant pechodau, &c.
2. Y mae y groes yn tynu, am fód ei dieithrwch hi yn ddigon
03
8o2 Atdyniad y groes.
i dynu sylw y byd, a'i rhoddion hi yn ddigon i en^^n cariad y
byd. Anghof o Dduw ydyw pla dyn. Nid gweithrediad union-
gyrchol gelyniaeth ato ydyw ei fai mawr, ond peidio meddwl
am dano. " Nid ydyw Duw yn ei holl feddyliau ef ;" a phan
y tynir ei sylw am foment, ni fydd digon o rym yn yr hyn %
wna hyny i gadw y meddwl gydag ef ; ond y mae yn nghroes Crist
beth yn ddigon hynod i rwymo y meddwl i syllu arno, a'r peth
hynod hwnw yn ddigon hawddgar, i beri i galon y gelyn garu.
Yr oedd peth fel hyn yn ngwyrthiau yr Arglwydd lesu, — gallu
mawr, a chariad mawr. Peth hynod, a pheth hawddgar ;
cariad wedi ei amgylch-osod mewn gallu oeddent. Ond yn ei
groes y mae hyn mewn períîeithrwydd. Yn y prawf cyhoeddus
cyntaf a roddwyd arni, sef ar ddydd y Pentecost, daeth y ddau
i'r golwg. Fe sugnwyd meddyliau y bobl at y dirgelwch a'r
cariad, pan ddaeth Pedr â'r ddaubethgerbron, trwy dystio fod
Duw wedi gwneulhur yn Arglwydd ac yn Grist, yr lesu a
groeshoeliwyd. Wedi clywed hyn, fe'u dwysbigwyd yn eu
calon. Pe buasai yr Arglwydd heb gael ei groeshoelio, neu
wedi ei groeshoelio heb fod yn Arglwydd, ni fuasai dim sugn
yn ei groes ; ond pan glywsant y ddau, fe'u tynwyd ganddi yn
y fan. Erbyn sylwi yn fanwl ar eiriau y Bibl, y maent fel yn
gwrthddywedyd eu hunain; — Arglwydd pawb oll wedi ei
groeshoelio, — Tywysog y bywyd wedi ei ladd, — Arglwydd y
gogoniant wedi ei farwolacthu ! NaiII, medd rheswm, ai
gwadwch ei fod yn Arglwydd, — yn Arglwydd pawb, — yn
Arglwydd y gogoniant, neu, ynte, peidiwch sôn am ei groes-
hoeliad, oblegid y mae y ddau beth yn anghyson. Yr oedd yr
luddewon yn teimlo anghysondeb yr ysgrifen oedd uwchben ei
groes Ef. Ceisiasant gan Pilat roddi ychydig ragymadrodd
iddi ; — " ddywedyd o hono Ef, Brenin yr luddewon ydwyf."
Na, medd y rhaglaw, "yr hyn a ysgrifenais a ysgrifenais."
Er mor anghyson i'ch golwg chwi ydyw, ni newidir mo hono.
Felly, medd doethineb y byd, ysgrifenwch, ' Ddywedyd o hono
Ef, Arglwydd > gogoniant, a Thywysog y bywyd, ydwyf,'
oblegid y mae peth íel yna yn anghyson â chroeshoeliad.
Bydded felly : yr hyn a ysgrifenwyd a ysgrifenwyd. Yn yr
anghysondeb, — yn y dirgelwch yna y mae cuddiad cryfder ei
groes Ef i dynu. Gwadodd y Pabyddion yn China fod
Atdyniad y grocs. 803
Arglwydd y gogoniant wedi ei groeshoelio, gan haeru mai
enllib a gododd ei elynion i'werbyn oedd hynyna ; ond collodd
eu hefengyl ei nerth yn y fan. Y mae Sosiniaid y wlad hon
yn addef iddo gael ei groeshoelio, ond yn gwadu ei fod yn
Arglwydd y gogoniant; ac y mae eu hefengyl hwythau mor
ddinerth ag efengyl y lleill. I gael grym ynddi, y mae yn
rhaid i ni gael y ddau ynghyd : — Arglwydd y gogoniant wedi
ei farwolaethu. Hen ddeddf ymerodraeth Duw oedd, ''Yr enaid
a becho hwnw a fydd marw," a phlant angau a lusgir i angau ;
ond wele beth newydd, — diniweidrwydd yn dioddef, Tywysog
y bywyd yn cael ei ladd. Ynddo Ef yr oedd bywyd ; nid
ydoedd ond peth damweiniol yn mhawb arall ; ni buasai ei
weled yn diffodd yn mhawb ddim ond cyffelyb i weled ffrydiau
yn sychu ; ond yr oedd ei weled Ef yn marw yr un peth a phe
gwelsid y môr, bywyd y ffrydiau, yn darfod. A pheth sy
ryfeddach eto, yr oedd. Efe yn Dywysog y bywyd wrth gael ei
ladd, — yn Arglwydd pawb oll ar y groes, — yn Frenin y gogon-
iant wrth farw. " Duwiau ydych, a meibion y Goruchaf,"
medd y Salmydd wrth rywrai, " ond byddwch feirwfel dynion,"
hyny yw, ni fyddwch chwi ddim marw fel duwiau, nac fel
meibion y Goruchaf. Rhoddwyd un o frenhinoedd Ll©egr i
farwolaeth gan y deihaid ; ond yr oedd holl urddas brenin wedi
ei gymeryd oddiarno cyn hyny, — y goron, — yr orsedd, — a'r
deyrnwialen ; ond bu lesu farw â'r goron ar ei ben ; — aeth i
byrth y bedd â'r deyrnwialen yn ei law. Yr oedd Efe yn
Dywysog y bywyd pan yn ngwlad angau. Pa fodd, medd y
byd, y gall hyn fod ? " jMi a droaf ya awr, ac a edrychaf ar y
weledigaeth fawr hon." O na wnaech chwi hyn, oblegid un o
ddibenion ei rhyfeddodau hi ydyw tynu eich sylw, er mwyn i
chwi sefyll i wrandaw ar y llais sydd yn dyfod o honi. Fel
gydâ Moses gynt, fe dynodd y berth oedd yn llosgi heb ei difa
ei sylw, nes peri iddo agosâu i edrych beth oedd yno ; ond.
gydâg iddo ddyfod yn ddigon agos, dyma eiriau yn dyfod o
ganol y berth : — ' Diosg dy esgidiau, oblegid yr wyt yn sefyll
ar ddaear sanctaidd ;' ond paid â dychrynu, er mor ofnadwy
yr olwg, ar neges o drugaredd, yr wyf wedi disgyn : ' Myfi yw
Duw dy dad di, — Duw Abraham, Isaac, a Jacob : fy niben yn
dyfod yma ydyw i amlygu hen íwriad sydd yn fy mynwes i
8o4 Atdyniad y groes.
waredu fy mhobl o'r Aipht.' Felly, unwaith y tynir y byd yn
ddigon agos gan ryfeddodau Croes Crist i glywed y llais sydd
yn dyfod oddiarni, hyny a fydd : " Diosg dy esgidiau oddiam
dy draed," — y mae y ddaear hon yn ddaear sanctaidd ; er hyny
paid ag ofni, oblegid ar neges o drugaredd y c isgynais : gweled
a wnaethum eich cystudd ar y ddaear, a bod eich meistradoedd
gwaith yn eich gyru yn dost, ac mi a ddisgynais yma i amlygu
hen fwriad oedd yn fy mynwes i'ch gwaredu, ac i'ch dwyn i
wlad dda odiaeth, yn llifeirio o laeth a mêl. Yr oedd gweled y
berth yn llosgi heb ei difa yn rhyfeddod fawr ; ond yr oedd y
geiriau a ddaethant o'i chanol hi yn fwy rhyfedd felly. Beth
bynag sydd yn hynod o amgylch croes Crist, y peth rhyfeddaf
ymaydyw y cariad. Ac nid yw pob peth arall a welir ynddi
yn ddim ond shadcs yn y pictiwr, i ddangos prydferthwch y
cariad. Y mae y cyfìawnder sydd ynddi, yn dangos nerth y
cariad ; y sancteiddrwydd, burdeb y cariad ; y mae hyd yn nod
tân y digofaint yn gwasanaethu megis fîlam angerddol i'r cariad
hefyd. Y mae llawer o leisiau yn cyhoeddi enw yr Arglwydd
yno, a phob un yn cyhoeddi rhyw enw gwahanol : Duw cyf-
iawn ydyw, medd un ; — Duw sanctaidd ydyv/, medd un arall ;
— Duw hollalluog ydyw, medd y trydydd ; ond y maentoU yn
cytuno i ddywedyd mewn un llef, fel sŵn dyfroedd lawer : —
" Duw, Cíiriad yw." Yr oedd y natur ddynol yn gwrandaw pob
gair arall a ddaeth oddiar y groes, ac yn ymgaledu oddidano ;
ond pan glywodd hi hyn, y mae ei chalon hi yn adsain, — " Yr
ydwyf yn ei garu Ef, am iddo Ef yn gyntaf fy ngharu i." Y
llefolaf a ddaeth oddiar y groes gynt a orchfygodd y canwriad,
nes peri iddo ddywedyd, — ''Yn wir Mab Duw oedd y dyn
hwn :" felly, y geiriau olaf sydd yn dyfod oddiar y groes eto,
sydd yn gorchfygu calon pechadur ; a dyna ydynt: — " Duw,
cariad yw." Yr oedd calon meibion Jacob gynt yn parhau yn
ddigon caled, er cymwynasau a gAvg Ilywydd yr Aipht. Y mae
yn wir fod y gŵg wedi dwyn yr hen dro drwg i'w raeddwl, ond
nid oedd yno fawr o wir edifeirwch o'i blegid ; ond ryw ddydd,
wele bawb wedi eu gyru allan, a'r llywydd yn dechreu wylo ger
eu bron, gan ddywedyd : — " Myfi yw Joseph;" ond nis gwydd-
ent eto bcth oedd yn bod, am eu bod wedi brawychu.
" Dyneswch, atoiwg, ataf," medd yntau ; — " Myíi yw Josepfi
I
^tdyniad y groes. 805
eich brawd chwi," — hwnw a werthasoch gynt yn Dothan ; eto
eich brawd chwi ydwyf. Gydâ'r gair, wele eu calonau celyd yn
toddi fel cẃyr ! Wele fyd o bechaduriaid,— y mae gŵg a
chymwynasau y nefoedd yn methu mènu arnynt ; ond pe caem
hwynt i ymyl Croes Crist, i glywed y Dioddefydd yn dywedyd:
— " Myfi yw Joseph eich brawd chwi," fe'u toddid gan y geir-
iau, nes ffieiddio yr hen ymddygiad annuwiol tuag at eu Tad.
Yr ydych yn cadw mewn rhyw bellder drwgdybus oddiwrth y
groes ; yn ymfoddloni ar weled, heb gìywed. Fe welodd pawb
ar y ffordd i Damascus y rhyfeddodau, ond Saul yn unig a
glybu y llais. Ni eífeithiodd y rhyfed'dodau neir.awr arnynt
hwy ; ond fe wnaed Saul yn greadur newydd o"r dydd hwnw
allan, gan y llais. Nid oes yma neb nad ydyw y rhyfeddodau
sydd yn nghroes ein Harglwydd lesu Grist wedi tynu ei sylw ;
ond y mae llawer o honoch yn rhy bell oddiwrtho i glywed y
Uais. Chwi ellwch weled y rhyfeddodau, heb iddynt eíîeithio
nemawr arnoch ; ond pe cly wech chwi y llais, ni wingech chwi
ddim yn erbyn y symbylau byth wedy'n, ond eich iaith a
fyddai : — '* Arglwydd, beth a fyni Di i ni ei wneuthur." Yr
oedd penaethiaid yr luddewon yn edrych o bell ar y groes, ac
yn gwawdio ; ond yr oedd y canwriad oedd gerllaw, yn clywed
y geiriau oedd yn dyferu o enau y croeshoeledig, yn addoli. Y
mae arnaf ofn fod yma lawer, fel y penaethiaid, yn rhy bell i
glywed y geiriau ; gallwn i eu hadrodd hwynt ; ond ni lesâ
hyny ddim, heb i chwi eu clywed eich hunain. " Felly y carodd
Duw y byd, fel y rhoddodd Efe ei unig-anedig Fab, fel na
choUer pwy bynag a gredo ynddo Ef, ond caíFael o hono fywyd
tragywyddol." " Yr hwn nid arbedodd ei briod Fab, ond a'i
traddododd Ef trosom ni oU." "Efe a archollwyd am ein
camweddau ni." " Yr Arglwydd a fynai ei ddryllio Ef."
" Yn hyn y mae cariad ; nid am i ni garu Duw, ond am iddo
Ef ein caru ni, ac anfon ei Fab i fod yn iawn dros ein pechedau
ni." " Sef bod Duw yn Nghrist yn cymodi y byd âg ef ei Hun,
heb gyfrif iddynt eu pechodau." " Oblegid ni ddanfonodd
Duw ei Fab i'r byd, i ddamnio y byd, ond fel yr achubid y byd
trwyddo Ef." Pe clywech chwi y geiriau hyn yn pêr-seinio
oddiar ei groes Ef, gwnaent eich eneidiau, heb yn wybod i
chwi, " fel cerbydau Amminadib," yn barod i ddychwelyd at
8ü6 Atdyniad y groes.
Dduw. Wedi i Rebeccah glywed yr hyn a ddywedodd gwas
Abraham, nid oedd hawl neb ynddi, ond un Isaac, yn werth
nemawr wedy'n; felly, pe clywech chwithau y geiriau, ni
fyddai hawl y diafol ynoch ddim yn werth ffyrHng wedy'n.
" Alinau, os dyrchefir fi oddiar y ddaear, a dynaf bawb ataf fy
Hun." A ydyw Croes Crist ddim yn tynu ychydig arnoch ?
A fydd ei rhyfeddodau ddim yn peri i chwi ofyn weithiau, " Ai
gwir yw?" A fydd ei rhoddion hithau ddim yn peri i chwi ddy-
wedyd, — " Pwy ydwyf fi, a thŷ fy nhad, fel y gwnehd hyn i
mi?" A fydd hi ddim yn ymUd y meddyliau celyd cuHon yna
o dy fynwes di ì Os oedd un dalent Rhagluniaeth yn peri i
chwi ddywedyd mai gẃrcaledoedd Duw, ai ni wna pum' talent
y groes gyfnewid eich barn ? Os na ddychrynir yr ellyllon yna
o dy feddwl gan groes Crist, nythant yn dy fynwes di byth.
Erhdiwyd y Cristionogion unwaith gan y paganiaid, am fodeu
croes hwynt, m.eddent, wedi dychrynu y duwiau, fel nad oedd-
ent yn eu hateb mewn un ffbrdd ; a thybient, ond cael y grces
o'u plith, y deuai y duwiau â'u hatebion yn ol. O bechadur !
os nad ydy w y groes wedi dychrynu yr hen ellyllon o dy feddwl
dithau, y raae yn dra ofnus mai yna y cartrefant mwy ; oblegid
nid oes yn ymerodraeth Duw ddim arall a all wneyd. Yr oedd
Jacob wedi clywed llawer am Joseph a'i fawredd ; ond nid
ydoedd yn credu, nes gweled y cerbydau a anfonwyd gan
Joseph i'w geisio. Y mae Rhagluniaeth wedi dywedyd llawer
am ddaioni Duw, ond yr ydych heb gredu ; ond dyma gerbyd
wedi ei anfon o bwrpas ganddo i'th ddwyn ato ei Hun. Os na
etyb hwn y diben i beri i chwi gredu yr oll a glywsoch, yr
ydych yn anobeithiol. Byddai yn dda genyf gael gweled llyfr
arfaeth Duw, meddwch, i gael gwybod pa un ai yn uffern ai yn
y nefoedd y bydd fy nghartref byth. Nid oes eisiau i chwi
fyned cyn belled a hynyna : chwiliwch pa sut y mae hi yn
sefyll rhyngoch â'r groes. Os nad ydyw cariad Hwn yn eich
tynu, ni fedd Duw ei hunan yr un ffordd arall i'ch codi, o
ddyfnder y codwm i uchder gogoniant.
III. Y mae y testyn yn cynwys, fod ei waith yn cael eí
ddyrchafu oddiar y ddaear yn sicrhau atebiad y diben hwn :
" Minau, os dyrchefir fi, dynaf." Nid marw ar antur awnaeth
i agor fíbrdd, heb sicrwydd a rodiai neb ynddi : nage : os bydd
Atdyiiiad y groes. , 807
y gronyn gwenith farw, ni fydd yr un os wedy'n ; — fe ddwg
ffrwyth lawer. " Er na ddychwelodd Jacob, er nad ymgasglodd
Israel, eto," medd Efe, " gogoneddus fyddaf fi yn ngolwg yr
Arglwydd." Os na ddaw y rhai a wahoddwyd yn gyntaf, nid
ä y swper mawr ddim yn ofer. Os ydyw y Cymry, mawrion
cu breintiau, yn gomedd dyfod, mi a anfonaf fy ngweision i
Affrica, China, ac India, i osod gorfodaeth ar gloffìon, deillion,
a gwywedigion y gwledydd hyny i ddyfod i raewn : '* mi a
lanwaf fy nhŷ," — " A dynaf bawb ataf fy Hun." Pa fodd,
meddir, yr oedd Efe mor hyderus ? Yr oedd felly —
I. Am fod ei farwolaeth yn gyílawniad o amod y cyfamod
oedd rhyngddo Ef â'i Dad : ac felly yn trosglw^'ddo holl rym
y cyfamod hwnw o blaid cyrhaeddiad ei dibenion hi. Wedi i
Dduw wneyd cyfamod mewn perthynas i unrhyw beth, ac i'r
amodau gael eu cyflawni, fe saif byth ato. Fe roddodd Wlad
Canaan mewn cyfamod i Abraham ; ac er bod pob peth allanol
am ganoedd o flynyddoedd yn gwneuthur ei gyflawniad yn dra
annhebyg ; ac er bod plant Abraham wedi ac yn proíi eu
hunain'yn bur annheilwng o hyny, eto fe Iwyr noethodd ei fwa
i wneyd ; oblegid gair y llẃ. Y mae cyfamod bob amser yn
rhwymo gwirionedd Duw i gyíiawni bwriadau ei drugaredd.
Nid oes dim yn eisiau ond i Fab Duw gael cyfiawnder, i'r
pechadur gael trugaredd ; oblegid y mae y bywyd tragywyddol
sydd yn drugaredd i'r naill, gymaint yn gyíìawnder i'r llall.
Nid ydym ni ddim yn ei deilyngu ; ond y mae Efe yn teilyngu
gwobr ; ac y mae gwobr iddo Ef yn fywyd i ni. Yr oedd Efe
yn gwybod na chai Efe ei dwyllo gan ei Dad am ei wobr ; am
hyny yr oedd yn gallu dywedyd yn ddibetrus, — " A dynaf
bawb ;" oblegid y mae llawer wedi eu rhoddi yn rhan iddo. Y
mae rhai yn meddwl fod Duw hyd heddyw heb gyflawni ei gyf-
amod i Abraham ; — na bu ei had erioed eto yn meddianu yr
hoU wlad a addawyd iddynt ; ac ar hyn y maent yn seiHo y
farn fod yn rhaid iddynt ddychwelyd eto i Wlad Canaan. Beth
bynag am hyny, y mae hyn yn wir, — nid yw y cyfamod â Mab
Duw ddim wedi ei gyflawni eto : ni chafodd Efe m.o'i wobr o
lawer. Ond nid oes dim yn eisiau iddo ond gofyn : " Gofyn i
mi, a rhoddaf y cenhedloedd yn etifeddiaeth i ti, a therfynau y
ddaear i'th feddiant."
8o8 , Atdyniad y groes.
2. Y mae yn gallu llefaru gydâ sicrwydd, am ei fod wedi eniU
holl adnoddau Jehofah o'i blaid wrth farw i ddwyn hyn o
amgylch. Pan oedd Israel yn myned i Ganaan, yr oeddent yn
gorfod amgylchu tir un, ac ymladd eu íFordd drwy deyrnas y
llall ; ond nid rhaid iddo Ef amgylchu un man, na gofyn cenad
gan neb, oblegid y mae wedi cael " pob awdurdod yn y nef, ac
ar y ddaear ;" ac felly y mae " yn Ben uwchlaw pob peth i'r
eglwys." Os bydd Aíoab o ryw wasanaeth iddo, y mae ganddo
ryddid i'w wneyd yn grochan golchi : os teimla Efe flys Edom,
ni raid iddo, fel Ahab gydâ gwinllan Naboth, ymboeni llawer
oblegid hyny ; na, dim ond taflu ei esgid drosti, dyna hi yn
feddiant iddo yn y fan. Gall ddywedyd wrth yr Aipht, heb
ofyn cenad Pharaoh, — " Bendigedig ydyw yr Aipbt, fy mhobl
i ;" ac wrth '' PhiHstia, ymorfoledda di o'm plegid i." Cyn
marw, yr oedd fel yn teimlo nad oedd ganddo eto hawl yn y
byd. Pan yn anfon ei ddisgyblion allan, yr oedd yn rhoddi
gorchymyn pendantiddynt i beidio myned tuallan i'w hawl Ef;
Mat. X. 5. Ac mor hwyrfrydig a fu Ef ei hunan i wneyd cym-
wynas i'r wraig o Ganaan ; ond wedi hyny, " Ewch i'r h(511 fyd ;"
Myfi a'i piau oll yn awr. A thrwy farw, y mae wedi cael un
medrus dros ben, ar y gorchwyl o dynu, yn garedig iddo, sef
Ysbryd y Duw byw. Yr oedd gan Abraham hyder mawr yn
Eleazar, am ei fod wedi ei gael yn deilwng o ymddiried lawer
gwaith ; ond pan yn ei anfon i geisio gwraig i Isaac, nid oedd
yn sicr y llwyddai ; ond y mae Mab Duw wedi cael un i ym-
ddiried y tynu iddo, ag y mae ganddo sicrwydd o'i Iwyddiant.
Gall ddywedyd am y trysorau yn fwy medrus nagEleazar: y
mae ganddo fwy gydâg Ef i'w ddangos nag oedd gan hwnw.
" Efe a'm gogonedda i : canys efe a gymer o'r eiddof, ac a'i
mynega i chwi." Yr oedd Dafydd wedi ei eneinio yn rheolaidd
yn frenin, er hyny bu am flynyddoedd heb gael ond un llwyth
yn ufudd iddo; ond wele Abnero'r diwedd yndyfod yn garedig
iddo, gan anfon ato ; 2 Sam. iii. 12. Ac wedi i'r cyngrair gael
ei wneyd, y mae yn dy wedyd : — " Mi a gyfodaf, ac a âf, ac a
gasglaf holl Israel at fy Arglwydd frenin, fel y gwnelont gyf-
amod â thi, ac y teyrnasech ar yr hyn oll a chwenych dy
galon ;" adn. 21. Gwelwyd holl Israel mewn canlyniad yn
cyd-lefain, "Byw fyddo y brenin !" Bu Mab Duw, er ei fod
Atdytiiad y groes. 809
wedi ei eneinio yn Frenin rheolaidd, am flynyddoedd heb
nemawr o ddeiliaid. Paham ? *'Ni roddasid yr Ysbryd eto."
Nid oedd llaw Abner ddim gydàg Ef ; ond wrth farw gwnaeth
gyngrair âg Ef, nes y dywedodd yntau, — Mi a gasglaf holl
Israel — îe, yr holl genhedloedd, atat ti. Ac ar ddydd y Pente-
cost, wele hwynt yn dechreu dyfod wrth y miloedd. Paham ?
Abner oedd âg Israel yn ei law, wedi llefaru wrthynt. "Efe
a'm gogonedda i." '' A dynaf."
3. Wrth farw enillodd hawl yn mhawb. Y mae dau ystyri'r
gair " tynu:" — i. Tynu trwy'r ewyllys ; — " Tyn ni, a ni a redwn
ar dy ol." 2. Tynu trwy nerth. Y mae y ddau yn nameg y
talentau. Yno chwi a gewch y naill was yn dyfod, trwy fodd
ei galon, i dderbyn gwobr, a'r llall yn gorfod dyfod i dderbyn ei
ddedfryd. Bydd yr lesu hwn, anwyl bobl, yn gwymp neu yn
gyfodiad i bawb o honoch.
[Prydnhawn Gwener, Gor. 12, 1850.]
PREGETH XLIX.
RHAGLUNIAETH DDWYFOL YN UNL^WN ER Y'N DYWYLL,
Salm xcvii. 1, 2. — " Yr Arglwydd sydd yn teymasu ; gorfoledded y ddaear:
Uawenyched ynysoedd lawer. Cymylau a tbywyllwcli sydd o'i am-
gyluh ef : cyfîawnder a barn yw trigfa ei orseddfainc ef ."
MAE y Salm^'dd yn ymhyfrydu mewn galw sylw
mynych at lywodraeth Duw ar y byd. Y mae yn
gwneuthur hyny i amryw ddibenion : weithiau i
ddangos gogoniant yr Arglwydd, fel yn Salm xciii. ; bryd arall
i fod yn destyn dychryn a braw i'r annuwiol, fel yn y xcix. J ;
ond yn fwyaf cyfFredin y mae yn tynu sylw at ei lywodraetb fel
testyn cysur iddo ef a'i frodyr, y saint, megis yn y testyn. Ac
y mae y grediniaeth ddiysgog o lywodraeth Duw ar y byd, yn
anhebgorol angenrheidiol tuag at gadw tangnefedd yn mynwes
pob dyn ystyriol. Byddai yn drueni byw ar y ddaear, oni bai
ein bod yn credu fod Un uwch naV uchaf yn gwyhed, ac yn
goruwch-reoli y cyfan, i ddwyn o amgylch yn y diwedd ddi-
benion doeth a da.
Y mae pawb yn gorfod addef mai Duw a wnaeth y byd, am
na allasai neb arall ei wneuthur ; a dylent oherwydd yr un
rheswm addef mai Duw sydd yn ei lywodraethu. Nid yw y
wybodaeth, y doethineb, a'r gallu angenrheidiol i hyny, i'w
cael yn neb arall. Y mae yn rhaid ei fod naill ai o dan lywodr-
aeth damwain, ai o dan lywodraeth Duw. Os oes rhyw fôd
yn ei lywodraethu, ni all hwnw ddim bod yn neb llai na Duw.
Gellid meddwl fod y gwirionedd mai yr Arglwydd sydd yn
teyrnasu mor eglur, fel mai gwaith ofer a fyddai cymeryd dim
amser i'w brofi ; ond y mae perygl i'w eglurder fod yn fagl i ni ;
wrth deimlo ei fod yn rhy wir i'w wadu, gallwn fyned i deimlo
Rhaglunìaeth ddiüyfolyn líniawn er yn dywyll. 8ii
ei fod yn rhy eglur i feddwl am dano. Ac y mae llawer oher-
wydd eglurder y gwirionedd hwn yn ddiystyr o hono ; fel mai
nid diangenrhaid ydyw cyhoeddi yn fynych yn nghlyw dynion
nad ydynt yn gwadu hyny, mai yr Arglwydd sydd yn teyrnasu.
Nid ydyw Duw ddim yn ymwthio i'w sylw fel Creawdwr, nac
fel llywodraethwr ychw^aith, ond anaml. Y mae i'w weled
bob amser, ond tra anfyrych y dywed ef ei Hun, "AYelefi."
Ac arfer dyn yw peidio meddwl am dano, na sylwi arno, ond
pan wna Efe hyn. Y mae i'w weled yn y greadigaeth bob
amser ond sylwi ; ond y mae weithiau trwy arwyddion yn y
nefoedd uchod, a'r ddaear isod, yn dywedyd, " Wele fi," nes
gorfodi sylw. Y mae i'w weled yn llywodraeth y byd bob
amser, ond raor aml yr anghofiwn ni Ef, nes y dywed, "Wele
n." Tra y bydd y dwfr, a'r llwch, a'r ŷd, yn eu hystâd natur-
iol, nid yw Llywodraethwr y byd yn cael nemawr o'n sylw ;
ond os troir y naill yn waed, a'r llall yn llau, ac os dinystrir y
trydydd, ni a deimlwn mai " yr Arglwydd sydd yn teyrnasu."
Y mae ein hanystyriaeth o lywodraeth yr Arglwydd yn ei
demtio i ddyfod allan trwy bethau ofnadwy, i ddywedyd mai
Efe sydd Dduw. Fe wnaeth bethau dieithr yn Babilon gynt,
fel y gwybyddai y rhai by w " mai y Goruchaf sydd yn lly wodr-
aethu yn mrenhiniaeth dynion." Yr ydym yn ei anghofio fel
Duw da, os na bydd iddo yn fynych; fynych, amlygu ei Hun
yn ofnadwy fel Duw cyfiawn.
Y mae y diflFyg o bethau hynod mewn rhagluniaeth yn peri
i un dosbarth lliosog o ddynion fod yn hollol annystyriol o
lywodraeth Duw ar y byd. Ar y llaw arall, os bydd llawer o
bethau dieithr yn cymeryd lle yn ei ragluniaeth ddoeth, y mae
hyny yn peri i ddosbarth lliosog ameu mai " yr Arglwydd sydd
yn teyrnasu.'' Gofynant yn wyneb y pethau sydd iddynt
hwy yn annealladwy, " Pale y mae Duw y farn ?" Y mae yn
angenrheidiol dywedyd adnod gyntaf y testyn yn fynych wrth
y dosbarth sydd yn anystyriol, oherwydd nad oes dira pethau
anghyífredin yn digwydd : — '' Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu."
Ac y raae mor angenrheidiol llefaru yr ail adnod wrth y dos-
barth hwnw fyddant yn cael eu dyrysu gan ddieithrwch pethau
fyddant weithiauyn cymeryd lle : "Cymylau athywyllwch sydd
o'i amgylch ef : cyfiawnder a barn yw trigfa ei orseddfainc ef."
8l2 Rhaghiniaeth ddwyfol yn uniawn er yn dywyll.
I. Ni a wnawn rai sylwadau cyflFredinol ar lywodraeth Duw,
Y peth cyntaf sydd yn tynu ein sylw wrth edrych arni ydyw
bod ei lywodraeth yn un gyífredinol, ac yn fanwl; yn cyraedd
i bob man, ac yn cymeryd i mewnbob peth ; — yn llywodraethu
ar ddynion y byd, ac ar hoU bethau y byd hefyd. Y mae a
fyno y pethau gymaint â'r trigolion, fel na all y Uywodraeth
ddim bod ar y naill heb fod ar y llall. Y mae yn llywodraeth
ar ddynion yn y cyfanswm, fel cenhedloedd : y mae hi yn
llywodraeth hefyd arnynt fel personau unigol. Mewn
gwirionedd ni allasai hi ddim bod ar genedl, heb fod hefyd ar
bob person ynddi. Y mae o bwys nid bychan i ni feddwl yn
gywir am fanylrwydd llywodraeth yr A.rglwydd. Byddai ameu
neu gamsynied am ei manylrwydd hi yn lladd ysbryd gweddi.
Nis gallwn ei gydnabod Ef yn ei holl ffyrdd, heb yn gyntaf
gredu yn ddiysgog fod ganddo ly wodraeth ar ein holl flfyrdd ; —
ei fod yn sylwi, nid yn unig ar y byd yn gyffredinol, ond arnaf
fi yn bersonol,— fod hoU amgylchiadau fy mywyd mor union-
gyrchol o dan ei sylw a phe buaswn i yr unig greadur ar ei
ddaear. Ac felly y dengys y Bibl y mae hi : — fod " calon dyn
yn dychymygu ei ífordd, ond mai yr Arglwydd sydd yn cyf-
arwyddo ei gerddediad ef."
Y mae llywodraeth yr Arglwydd hefyd yn llywodraeth ben-
arglwyddiaethol, ac uniongyrchol. Y mac yndwyn ei bwriadau
ymlaen, trwy yr hyn a alwn ni yn ail achosion, neu yn ddeddf-
au natur ; ond nid ydyw Efe ei Hun ddim o dan yr un ddeddf. A
pha beth ydy w y deddfau hyn ? Nid pethau à nerth ynddynt
hwy eu hunain i effeithio dim ; yn hytrach enwau ydynt ar y
dull y mae yr Arglwydd yn llywodraethu ar y pethau a greodd.
Ac y mae priodoh grym i'r ddeddf ynddi ei hun i gadw pethau
mewn trefn, yr un peth a phe priodoHd nerth i'r gair " Bydded"
i ddwyn pob peth i fod. Yr oedd grym yn y gair, am mai
" Bydded " Duw oedd ; ac y mae grym yn y ddeddf, am mai
deddf Duw ydyw. Nid ydyw bod unrhyw beth yn cymeryd
lle yn ol deddfau natur, ddim yn llai o dan lywodraeth Duw
am hyny ; ac ni ddylai hyny ychwaith ddim ein hatal i ofyn
i'r Arglwydd am ei symud, oblegid gall wneuthur hyny
heb newid dim ar ei ddeddf. Efe, cofiwn, sydd yn llyw-
odraethu drwy y deddíau, ac nid y deddfau yn ei lyw-
Rhaghiniaeth ddwyfolyn uniawn eryn dyuyll. 813
odraethu Ef; ac feallai mai un o ddibenion yr holl
wyrthiau a gyflawnwyd o bryd i bryd, oedd argyhoddi y byd,
fod poj peth natur yn uniongyrchol o dan lywodraeth Duw ;
oherwydd bod tuedd mewn dynion i fcddwl fod natur yn rhyw-
beth annibynol arno ef. Y mae yr haul wedi sefyll unwaith,
rhag i ddynion anghofio mai Duw sydd yn ei gadw i droi. Y
mae y dwfr wedi troi yn waed, ac wedi sefyll fel muriau o ad-
amant, rhag i ddyn-on feddwl fod yr Arglwydd wedi rhoddi
rhyw ddeddf i'r môr heblaw ei ewyllys ei Hun. Esboniad
Moses i Pharaoh ar y gwyrthiau a gyflawnwyd yn yr Aipht
oedd, " fel y gwypech mai yr Arglwydd biau y ddaear ;" ac y
maent oll yn dangos yr un peth i ni. Os gall wneuthur ypeth
mw3'af, pa anhawsder sydd mewn credu y gall wneuthur y
peth lleiaf ? Os gallodd Efe atal i'r cymylau wlawio am dair
blynedd a lianer, niewn atebiad i weddi Elias, er holl ddeddfau
natur, paham na all wneuthur hyny eto am ychydigwythnosau,
mewn atebiad i weddi, i gael casglu fFrwythau y ddaear i ddi-
ddosrwydd ; neu am un diwrnod, j gael cynal cyfarfod i addoli.
Gwyliwn osod y deddfau yn lle Duw y deddfau : nid deddfau,
cofìwch, ond yr Arglwydd sydd yn teyrnasu.
Eilwaith; y mae ei lywodraeth, nid yn unig ar ddynion
yn eu perthynas âgef, fel personau, ond hefyd y mae ei Iywodr-
aeth arnynt yn eu perthynas â'u gilydd, fel cenhedloedd a
gwledydd. Dylem gofìo bob amser fod ei I^'wodraeth arnom
fel personau; a gwyliwn ollwng o'n meddwl fod ei Iywodraeth
arnom hefyd fel gwlad. Am droseddau personol, y mae yn
ymweled â ni yn bersonol, os na faddeuir hwynt ; ac am
bechodau gwladol, y mae yn ymweled â dynion â barnau
gwladoi. Pe buasai angenrheidrwydd profì fod yr Arglwydd
yn Ilywodraethu gwledydd fel y cyfryw, ac felly, weithiau, yn
dwyn barnau gwladol arnynt, gallasem eich adgoíìo fod y
Bibl wedi ei fritho âg esiamplau o hyn. Ac onid oedd ym-
ddygiadau yr Arglwydd at genedl Israel yn esiampl o'r dull
y mae yn ymddwyn at genhedloedd y byd ymhob oes ? Er
nad oes yr un genedl ar y ddaear yn awr yn sefyll yn vr
un berthynas â Duw ag yr oedd cenedl Israel, eto diau ydyw
fod ei ymddygiadau ef at y genedl hono, wedi eu bwriadu
yn arddangosiad i holl genhedloedd y byd o'r modd yr ym-
8 14 Rhaglimiaetli ddwyfol yn unîawn ei' yn dywyll.
ddygid atynt hwythau. Pan beidiai Israel â dwyn íFrwyth
cyfatebol i'w breintiau, yr oedd-yr Arglwydd yn ymweled â'r
genedl â barn ; a phan beidio un genedl eto â gwneuthur hyny,
y raae yr Arglwydd yn ymweled â hi yn yr un modd. A rhag i
ryw un feddwl nad oedd dim oedd yn cymerydlle yn Israel yn
esiampl i ni, am eu bod hwy yn bobl briodol i Dduw, y mae yr
Ysbryd Glân wedi cofnodi amryw esiamplau o genhedloedd
cryfion eraill yn dioddef dan farnau gwladol. Pa le y mae
dinasoedd y gwastadedd ? Pa le y mae Ninifeh a Babilon ?
Onid wedi eu dymchwelyd gan farnau yr Arglwydd ? Nid yw
gogoniant Tyrus a Sidon, Italia a Groeg, ddim i'w gael mwy.
Fel hyn yr oedd yr Arglwydd yn ymddwyn at wledydd gynt ;
ac nid oes yr un crybwyUiad yn y Bibl, nad fel hyn y mae yn
ymddwyn eto. Ond yn hytrach,y mae edrych ar hanes y byd
yn peri i ni deimlo " mai Duw sydd yn llywodraethu yn mren-
hiniaeth dynion " eto, a'i fod yn Uywodraethu yn ol yr un eg-
wyddorion mawrion ag yn y dyddiau gynt. Y mae ei raglun-
iaeth yn " olwyn mewn olwyn," — yn ddirgelwch i ni ; ond y
mae hyn yn sicr, nad ydyw yn gwneuthur cam â phersonau,
wrth ymddwyn at y byd yn ei gymeriad cymdeithasol, neu fel
cenhedloedd a theyrnasoedd. Yr oedd y fendith a'r felldith i
ddisgyn ar hiliogaeth Noah fel cenhedloedd; felly hefyd ar yr
eiddo Abraham a Jacob. Yr oedd y farn wedi ei chyhoeddi yn
erbyn yr Amaleciaid fel cenedl : nid oes le i feddwl fod pob
person o'r genedl wedi bod yn euog o'r bai, am yr hwn y dy-
fethwyd yr holl genedl. Felly hefyd y bu hi am genedl Israel:
nid oeddent hwythau oll yn euog o wrthod y Meseiah ; eto yn
eu cymeriad cenedlaethol, gwrthodasant Ef; am hyny disgyn-
odd barn arnynt fel cenedl.
Gan fod yr Arglwydd yn ymwneyd â gwlad yn y cyfanswm,
nid ydyw fod Uawer o ddynion da ynddi ddim yn brawf nad all
barn ei goddiweddyd ; a phan y cymer hyny le, y maent
hwythau yn gorfod cyd-ddioddef â'r rhai dry;ionus. Nid oedd
cyfiawnder y cyfiawn yn Israel gynt ddim yn ei achub ef rhag
y dinystr cyflfredinol. Yr oedd Jeremiah yn dioddef oddiwith
y farn wladol fel Sedeciah y brenin. Yr oedd Ezeciel, gẃr
Duw, ymhhth y gaethglud ar lan afon Chebar, fel yr eilunadd-
olwr. Yr oedd Daniel a'r tri Uanc, er nad oeddcnt wedi tyngu
Rhaglimìaeth ddwyfol yn uniawn er yn dyiüyll. 815
i neb ond i'r Arglwydd, yn gorfod cydddioddef â'r rhai oedd-
ent wedi tyngu i Baal. Ac er bod genym ychydig esiamplau
o bethau tebyg i eithriadau yn hyn, y maent yn fwy felly mewn
ymddangosiad nag ydynt mewn gwirionedd. Gwaredwyd Lot
pan ddisgynodd y farn ar Sodom, a gwaredwyd y Cristionogion
yn ninystr Jerusalem ; ond disgynodd cwr y gawod yn drwm
ar y naiU a'r llall ; — diangasant megis "â chroen eu danedd.''
Gan fod llywodraeth yr Arglwydd ar genhedloedd, y mae o
bwys i ni yn bersonol beth fydd caracter y wlad neu y genedl y
perthynwn ni iddi. Os cenedl drom-lwythog o anwiredd ydy w,
cenedl a ofwyir â barn ydyw ; ac ni ddiangwn ninau ddim heb
deimlo oddiwrth hono pan y disgyn, beth bynag fydd ein car-
acter personol. Chwi a ellwch wadu nad ydych yn geidwaid
eich brodyr ; ond yr ydych yn gorfod teimlo yn aml, fod eich
tynged chwi a'r eiddynt hwythau yn anwahanol gysylltiedig
yn y byd hwn. Onid oes yma gymhelliad cryf i ni i wneuthur
ein goreu i gael ein cymydogion i rodio yn Ilwybrau crefydd ;
oblegid os tynant hwy y diluw i'w boddi eu hunain, cawn
ninau deimlo yn ddwys oddiwrth hyny.
Drachefn, nid ydyw fod peth yn cymeryd Ile yn ol deddfau
natur, mewn un modd yn brawf nad ydyw yn farn oddiwrth
Dduw ar wlad neu berson ; oblegid, fel y dywedwyd genym
eisoes, llwybrau Duwyn gweithredu ydyw yr hyn aelwir genym
ni yn ddeddf. Yr ydym yn ei alw yn ddeddf, am mai dyma'r
ífordd y mae yr Arglwydd yn arfer gwneuthur y peth ; ond
pan y bydd yn gwneuthur peth yn wahanol i'w fFordd gyffredin,
yr ydym yn galw hyny yn wyrth ; eithr gall yr hyn a gymer
le yn y dull cyffredin fod yn amlygiad o anfoddlonrwydd Duw,
morwirioneddol â'r hyn a fyddo yn cymeryd Ile yn anghyífredin
neu yn wyrthiol. Ac y mae y Bibl yn disgrifio y greadigaeth
fel peiriant yn Ilaw Duw i gyfiawni ei ewyllys ar ddynion : y
mae yr haul a'r lleuad, yr eira a'r cenllysg, oll yn gwneuthur
ei air Ef. Ac y mae dynion y byd, fel yr elfenau, yn cael eu
defnyddioyn fynych yn oíîerynau ganddo i weinyddu ei farnau.
Y mae y Salmydd yn galw yr annuwiol yn gleddyf iddo : — "Yr
annuwiol, yr hwn yw dy gleddyf di." Ac y mae yr Arglwydd
yn galw Assur yn wialen ei lid Ef ; a geilw y rhai a ddinystr-
iasant Babilon yn arfau ei lidiogrwydd. Yn wir, y mae y rhan
8i6 Rhaghiniaeth ddwyfol yn unîaivn er yn dywyîJ.
fwyaf o'r barnau ag y mae genym hanes am danynt, wedi cym-
eryd lle trwy yr hyn y gellir eu galw yn foddion naturiol. Yr
oedd yn eithaf naturiol i Cyrus orchfygu y Babiloniaid ; oblegid
yr oeddynt yn foethus ac yn feddw, tra yr oedd efe a'i fyddin yn
sobr a gwrol ; eto yr oedd ei waith ef yn eu gorchfygu yn farn
oddiwrth Dduw arnynt. Yr oedd yn eithaf naturiol i'r Rhuf-
einiad orchfygu yr luddewon, dinystrio y deml, a'u gwasgaru
hwynt trwy'r gwledydd : gallesid, oddiwrth arwyddion yr am-
serodd, rag-ddywedyd er's blynyddoedd mai hyny a gymerai le;
eto yr oedd y peth yn farn mor wirioneddol oddiwrth Dduw, a
phe buasai yn gwlawio tân a brwmstan i'w dinystrio. Pan
oedd Assur yn ymfawrygu yn erbyn yr Arglwydd, y mae yr
Arglwydd yn gofyn iddo, — " A ymffrostia'r fwyell yn erbyn yr
hwn a gymyno â hi .?" (Esa. x. 15 ) A w^yt ti w^edi anghofio
nad oeddit ti yn ddim oni oíferyn yn fy llaw i ì Y mae coed
nerthol yn syrthio yn ein dyddiau ni ; ond, medd rhywun, nid
oes yna ddim yn annaturiol, — onid y fwyell sydd yn eu cym-
mynu ? Gwir, ond cofiwch yn llaw pwy y mae hi. Duw sydd
yn tori y pren mor wirioneddol a phe buasai yn gwneuthur
hyny â mellten, er ei fod yn defnyddio yr arf cyífredin i hyny,
A phe gallech chwi roddi achos cwbl naturiol i'r holl heintiau
sydd yn rhodio y ddaear, ni phrofai hyny ddim nad ydynt yn
farnau mor wirioneddol oddiwrth Dduw ag oedd yr angel din-
ystriol yn yr Aipht gynt. Ni ddylem ni ddim bod yn brysur
i osod pob peth i lawr fel barnau chwaith : hyny.oedd bai
cyfeillion Job, a bai y genedl luddewig. " Pwy a bechodd?"
oedd eu gofyniad yn wastad, yn wyneb pob rhyw adfyd. Ond
os oeddent hwy yn methu ar un llaw, yr ydym ni mewn
perygl o fethu ar y Ilaw arall, sef o gau Duw allan o'i greadig-
aeth, — o roddi rhyw ordeiniadau a deddfau ar yr orsedd yn lle
Duw. Ac yn wir annhraethol well ydyw yr hwn sydd yn
gweled Duw yn y man na ddylai, na'r hwn sydd heb ei weled
yn y man y mae. Gwell ydyw yr hen wraig sydd yn
ofni fod Duw yn dangos ei anfoddlonrwydd yn y diffyg ar yr
haul a'r lleuad, na'r athronydd digrefydd sydd yn gwadu ei fod
yn ymyraethdim âg amgylchiadau y ddaear. O I gymainc o
drafferth a gymerir i geisio cael allan achosion naturiol i'r
heintiau, &c., i gael gwadu fcd Ilaw Duw ynddynt. Ein hiaith
Rhagliiniaeth ddwyfol yn iiniawn er yn dywyll. • 817
ni ddylai fod, pa un bynag ai tân ai dwfr, — pa un bynag ai
angel ai dyn — a fyddo yr oíFeryn : — '* Gwn Arglwydd, mai Ti
a wnaethost hyn." " Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu :" y mae
yn llywodraethu drwy bob peth, ac er pob peth.
Ond y mae llywodraeth Duw, fel ei bob peth Ef, yn ddigon
i ddyrysu meddwl creadur ; ac y mae llawer un wrth edrych
ar gyfiawnder, doethineb, a sancteiddrwydd Duw, ac wrth
edrych ar y pethau sydd yn cymeryd lle ar y ddaear, yn barod
i ddywedyd, — '' Gadawodd yr Arglwydd y ddaear :" rhaid nad
ydyw Bod mor beríFaith ddim yn llywodraethu byd y mae cy-
maint o annhrefn ynddo. Ond yr hyn a roddai waredigaeth o
brofedigaeth fel yna, fyddai sylwi ar holl garacter Duw, fel y
mae yn caelei ddatguddio yn y gwirionedd. Y mae yngyfiawn,
a sanctaidd, a doeth ; ond y mae amynedd a thragywyddoldeb
yn perthyn iddo hefyd ; ac y mae yr holl berffeithiau yr ydym
ni yn eu priodoli iddo yn anfeidrol ynddo. Pe buasai yn
gweinyddu barn ar y drygionus yn y fan, buasai ei gyfiawnder
yn y golwg yn hyny ; ond buasai yn anmhosibl gweled ei am-
ynedd ; ac y mae amynedd mor berífaith yn Nuw ag ydyw
cyfiawnder. Y mae yr annhrefn ymddangosiadol y mae yn ei
oddef yn awr, yn amlygu ei amynedd. Fe fydd y drefn dda
a dỳn Efe o'r cwbl, yn y diwedd, yn amlygu ei ddoethineb; a
cheir gweled y pryd hyny na bydd ei drugaredd a'i ddoethineb
cdim wedi eu hamlygu ar draul ei gyfiawnder. Ond y mae yr
amser i hyn heb ddyfod eto, fel y dengys ail adnod y testyn ; ac
y mae hyn yn ein harwain —
II. At y disgrifiad a roddir yma o'i lywodraeth, neu o hono
Ef y Llywodraethwr : — "Cymylau a thywyllwch sydd o'i am-
gylch ef: cyfiawnder a barn y w trigfa ei orseddfainc ef." Y
mae hyn yn cynwys dau beth : — i. Yr hyn ydyw y llywodraeth
i'n golwg ni: — " Cymylau a thywyllwch." 2. Yr hyn ydyw
hi mewn gwirionedd : — " Cyfiawnder a barn."
I I. Yr hyn ydyw y llywodraeth i'n golwg ni : " Cymylau a
thywyllwch sydd o'i amgylch ef." DuU barddonol ydyw hyn
o ddywedyd fod y lly wodraeth yn gyfryw na fec' rwn ni ei deall.
Ond mynych y ceir ni yn gofyn, Paham ?
(i.) Y mae cymylau a thywyllwch o'i hamgylch hi o angen-
rheidrwydd : ni allai hi ddim yn sefyllfa bresenol pethau fod
K3
SiS Rhagluniaeth ddwyfoî yn tiníawn ef yn dywylî.
yn amgen na hyn. \ mae cofio pwy ydyw y Llywodraethwr'j,
a phwy ydyw y deiliaid, yn brawf digonol o hyn. Meddyliwch
am nifer y pethau sydd yn perthyn i'r llywodraeth, a bod yr
holl bethau hyn yn dal perthynas agos â'u gilydd, a'u bod oll'
yn cael eu llywodraethu fel ag i gyraedd un diben mawr yn y
diwedd. Ystyriwch heíyd wendid ein meddyliau ni ; can lleied a
fedrwn ni ei weled ar unwaith ; ac mor anmherffaith y gwelwn
ni yr ychydig hyny. Gallwn yn hawdd, ond cofio y pethau
hyn, weled paham y mae cymylau a thywyllwch o amgylch yr
orseddfainc. Ac yn wir, feallai fod yr agoriad i ddeall llywodr-
aeth Duw heb ei gael eto : pwy a ẃyr nad ydy w hi yn y byd
ysbrydol yn gyífelyb i'r modd y bu hi yn hir yn y byd naturiol?'
Yr oedd y ddaear yn rhyw chaos annealladwy hyd nes y cafwyd
allan ei sefyllfa wirioneddol yn ei pherthynas â bydoedd eraill.
Tra yr oeddid yn ei- hystyried hi yn ganolbwynt, a'r holl fyd-
oedd wybrenol yn troi o'i hamgylch, yr oedd yn anmhosibl
deall ei thymhorau, — ei dydd a'i nos, — yr achos o lanw a thrai
ei moroedd ; ond pan gafwyd allan mai yr haul oedd yn y
canol, ac nad oedd y ddaear ond un o nifer mawr o fydoedd yn
troi o'i amgylcb ef, fe wasgarodd yr un gwirionedd yna lawer
iawn o'r cymylau a'r ty wyllwch oedd o'i hamgylch hi ; fel y
gwelwyd wedi hyny yr achos o'i thymhorau, — o'i dydd' a'i
nos, — ac o lanw a thrai ei moroedd. Gall fod camgymeriad
tebyg yn cael ei wneuthur genym yn ysbrydol. Yr ydym ní
yn meddwl fod ein byd bach ni yn ganolbwynt i bob peth, ac
am hyny yn methu deall y pethau sydd ynddo : ond y mae yn
drathebygnad ydyw ond rhan o gyfundrefn fawr ; abyddai cael
allan ei wir le yn y gyfundrefn hono,.yn ddigon i chwalu llawer
iawn o'r cymylau a'r tywyllwch sydd ar y llywodraeth yn awr.
Yr ydym wedi cael esboniad i ryw íesur ar bedâir mil o
flynyddoedd o lywodraeth Duw, sef hyd gyflawnder yr amser;
ond gweled yr holl oruchwyliaethau yn cyraedd un diben, a
chwalodd y niwl, ac nid oes ond yr un peth a wna hyny eto.
Y mae y diben sydd i'w gyraedd o'n golwg ni yn awr; a thra y
bydd, ni fydd dim yn y golwg ond cymylau a thywyllwch.
Meddyliwch am bob peth o weithredoedd Duw, y mae tywyll-
wch yn eu hamgylchu nes eu gorphen. Pan yn creu ar ddiwedd
pob dydd, byddai yn cyhoeddi "da" uwchben y gwaith. Y
i
Rliaghniiaeth dd-wyfol yn uniaiün er yn dyuyìl. 819
rnae dyddiau mcfris yn rhagluniaeth Duw ; ac y mae yn rhy
dywyll o niwl i ddywedyd " da iawn " am ei waith yn hon, hyd
ddiwedd y dydd. Ni wyddom ni pa amser ar un o'r dyddiau
yr ydym ni yn byw ; ac ni chwâl y cymylau a'r tywyllwch
ddim hyd ddiwedd y dydd, — hyd nes y daw y diben i'r golwg.
Yr oedd cymylau a thywyllwch o amgylch breuddwydion
Joseph, — ei werthu i'r Ismaehaid, — ei garcharu yn yr Aipht, —
ei godi yn llywydd y wlad, hyd nes y daeth ei dad a'i frodyr
yno ; ond fe chwalodd y cymylau y pryd hwnw, i bawb weled
mai cadw yn fyw bobl lawer oedd y diben.
Drachefa : y maey llywodraeth mewn cymylau a thywyllwch,
am fod goruchwyh'aethau Duw yn c^'meryd amser mor hir i
ddyfod o an gylch, ac y mae ein hoes ninau mor fèr, fel nad
allwn ni ddini gweled nemawr iawn o'i ffyrdd. Yr ydym ni yn
gwneyd y cwbl ar raddfa fscaicj gyfatebol i hyd ein hoes ;
ond wrth un dra gwahanol y mae yr Arglwydd yn gweithio.
Rhaid bod raeddyliau a bwriadau yr Hwn y mae mil o flyn-
yddoedd iddo megis un dydd, yn dra gwahanol i eiddo y rhai
nad oes ganddynt oll ond deng mlynedd a thriugain neu bedwar
ugain mlynedd mewn addewid. Y maeambell un yn cael byw
i weled y cynllun wedi ei orphen, fel Jacob i weled yr oU o dde ;
oud yn gyffredin y mae mor fawr, fel y mae y saint yn gorfod
marw mewn ffydd, a myned i'r byd tragywyddol i weled.
Buasai raid i Adda fyw am bedair mil o flynyddoedd i weled
rhagluniaeth yn dwyn o amgylch gyflawnder yr àraser i'r
addewid gael ei chyflawni. Buasai raid i Abrahara fyw bedwar
can' mlynedd i weled goruchwyliaethau Duw at ei blantefo
dde : a gall y bydd Ilawer o'r pethau sydd yn digwydd i ni yn
bersonol yn dwyn eu heffeithiau yrahen can' mlynedd. Nid
rhyfedd ydyw ein bod ni yn methu eu deall yn awr: y mae y
cynllun mor fawr, a'n hoes ninau mor íèr, fel nad ydym yn
gweled ond rhan o'i ffyrdd ; ac y mae yn gofyn meddwl cryf
iawn i amgyffred y cyfan oddiwrth ran. Fe all dyn celfydd-
gar, medrus, ddeall peiriant mawr wrth weled dim ond rhan o
hono ; ond y mae yn rhaid i'r cyffredin ei weled oll ar unwaith
cyn y deallant ef. Nid ydym ni yn gweled ond un darn bychan
o beiriant mawr rhagluniaeth, ac yr ydym yn rhy bŵl ein deall
i amgyffred y cwbl wrth y darn, am hyny y mae cymylau a
820 Rhaghiniaeth ddwyfol yn uniawn cr yn dywyll.
thywyllwch o'i amgylch. Yr oedd yr addewid am y Messiah
yn ymestyn dros bedair mil o flynyddoedd : onid oedd yn an-
hawdd i un oes fèr ddeall, pa fodd yr oedd y pethau oeddent
yn cymeryd lle yn eu dyddiau hwynt, yn tueddu i ddwyn o am-
gylch ei chyflawniad hi ? Nid y w yr hyn sydd yn digwydd i
ni yn bersonol ddim ond rhan o fFyrdd Duw, ac yr ydym ni
yn ormod o blant i ddeall y cyfan mawr oddiwrth y rhan ; ond
pan y gwelwn ni y rhanau oll gydâ'u gilydd, fe chwâl hyny y
cymylau a'r tywyllwch i ífordd. Y mae y ddaear yn gron ;
ond ni welodd yr un o'r trigolion erioed mo honi felly; a'r
achos o hyny ydyw, ein bod yn gweled rhy fach o honi ar un-
waith i'w gweled hi yn gron. Pe symudid ni cyn belled a'r
lleuad oddiwrthi, i sefyllfa fanteisiol i'w gweled oU ar unwaith,
gwelem hi oddiyno yn berffaith gron. Y mae rhagluniaeth
Duw yn gyfanwaith ardderchog, fel y fodrwy yn ddifwlch ;
ond nid ydym ni yn ei gweled felly, am ein bod yn gweled rhy
ychydig o honi ar unwaith : pan y symudir ninau i sefyllfa
fanteisiol i'w gweled hi oll, ni a'i gwelwn hi yn gyfanwaith
perífaith-gwbl.
'• 0 fryniau Caersalem ceir gweled," &:c.
(2.) Y mae cymylau a thywyllwch o amgylch y Ilywodraeth,
er mwyn ei dwyn hi ymlaen. Trwy foddion naturiol y mae yr
Arglwydd yn dwyn o amgylch ei Iywodraeth ; ac er bod yr
oíîerynau yn gwneuthur yr hyn sjdd uniawn yn eu golwg eu
hun, wrth wneuthur hyny cyflawni y maent pa beth bynag a
ragluniodd ei law a'i gyngor Ef. Y mae cymylau a thywyllwch
ar y diben sydd i'r weithred, felly y mae calon dyn yn dychy-
mygu ei ífordd ; ond wrth gyflawni y dychymyg, y mae yn
dwyn o amgylch gyngor yr Arglwydd. Yr oedd Nebuchodo-
nosor yn meddwl eangu terfynau ei deyrnas ; ond wrth
wneuthur hyny, yr oedd yn ddiarwybod iddo ei hun yn was i
Dduw, i gosbi Israel am eu hanflFyddlondeb i'w cyfamod. Yr
oedd Cyrus yn dyheu am wneuthur iddo ei hun enw, ac felly
yn ymorchestu i enill Babilon ; ond wrth wneuthur hyny,
gwas i'r Arglwydd ydoedd, i ysgubo ymaith genedl oedd wedi
cyflawni mesur ei hanwiredd, ac i gyflawni y Ilẁ a dyngwyd
wrth Abraham, Isaac, a Jacob, na Iwyr ddinystrid eu hiliog-
aeth. Ni buasai Satan yn ymdrechu i ddwyn pechod i mewn i'r
Rhaghtniaetìi ddwyfolyn iiniawn er yn dywyìl. 821
ddaear, pe yn gwybod y buasai Irwy hyny yn parotoi y fFordd i
Dduw gael gogoniant mor íawr. Ni buasai yn cynhyrfu Judas
i fradychu, a'r luddewon i groeshoelio, Arglwydd y bywyd,
pe buasai yn deall mai cadw yn fyw bobl lawer oedd i gymeryd
lle trwy hyny. Ni buasai yr luddewon yn erlid y Cristion-
ogion yn Jerusalem, pe buasent yn deall eu bod drwy hyny
yn y modd mwyaf eíîeithiol yn lledaenu y wybodaeth am lesu o
Nazareth. Ni buasai Naomi ddimyn myned i wlad Moab, pe
buasai hi yn gwybod beth oedd i'w chyfarfod hi yno ; a phe na
buasai hi yn myned, buasai un ddolen yn llinach y Messiah yn
eisiau. Ni buasai brodyr Joseph ddim yn ei werthu, pe buasent
unwaith yn meddwl fod hono yn íTordd igyflawnieifreuddwyd-
ion. Ni buasai Saul ddim yn barod i adael i Dafydd ymladd â'r
cawr, pe buasai yn gwybod mai hono oedd y ris gyntaf i'w godi
i'r orsedd, yn ei le ef ei hun. Cymylau a thywyllwch sydd o'i
amgylch ef. Yr oedd yr Arglwydd wedi meddwl cael bydol-
rwydd o galon y dyn yna ; i hyny fe'i llwyddodd yn y byd, —
gadawodd iddo ddringo, a gosod ei nyth fel Lusiffer ymysg y
sèr; ond disgynodd ef mewn moment oddiyno i roddi diíiasdod
tragywyddol iddo ar y byd. Pe buasai yn gwybod am y
cwymp, buasai yn ymochel rhag dringo. Y mae wedi meddwl
cael serch y sant yna yn gwbl arno ei hun ; am hyny y mae yn
rhoddi iddo deulu a chyfeiHion, ac yn peri eu bod yn ddymun-
iant ei lygaid ; yna daw angau i'w tori i lawr bron ar unwaith,
nes gwneyd y byd yn anialwch i'w deimlad ; ac y mae y serch,
wedi colli ei gwblyma, yn rhedeg yn gwbl i'r nef. Y mae wedi
bwriadu darostwng y dyn yna sydd yn rhodio mewn balchder;
am hyny y maeyn gadael iddo gael holl ddymuniant ei galon.
Y mae yn esgyn o'r naill ris Vr llall, heb ddim i'w luddias ;
ond wedi iddo gyraedd yr uchaf, wele ef yn disgyn fel Nebu-
chodonosor oddiar ben y pinacl at ei droed mewn moment ; ac
yn y fan hono, y mae ei synwyr yn dychwelyd iddo. "Cymyl-
au a thywyllwch sydd o'i amgylch ef." Doethineb fyddai i ni
gerdded yn araf yu nghanol y tywyllwch : ni wyddom ni ddim
na bydd y cam nesaf yn ein cymeryd dros ryw graig. Os
ydyw eich cyfoeth yn amlhau, na roddwch eich serch arno ;
rhag i chwi gael eich hun yn fuan, fel Job, wedi ei goUi oll.
Os oes genych gyfeillion a pherthynasau hoff, y mae yn rhaid
822 Rhagluniaeth ddwyfol yn itìiiawn er yn dywylL
i chwi lawenychu ynddynt mewn dj'chryn : gall fod y dydd
gerllAw y byddwch chwi yn cael eich gadael eich hunain.
"Cymylau athywyllwch sydd o'i amgylch Ef."
(3.) Y mae cymylau a thywyllwch o amgylch y llywodraeth,
i hyny fod yn fantais i ffydd. Yr ydym wedi colH ein hym-
ddiried yn Nuw yn foreu iawn, ac y mae ein nefoedd ni yn
gynwysedig mewn ymddiried. Trwy ymddiried y mae ein
hiachawdwriaeth ni yn dyfod. Nid oes sicrwydd mwy yn
perthyn iddi yma na sicrwydd ffydd. Y mae rhagluniaeth
hefyd oll wedi ei threfnu yn fanteisiol i fagu ymddiried. Wrth
ffydd yr ydym i rodio yma, ac nid wrth olwg. Mewn gobaith,
neu mewn ffydd, y mae yr arddwr yn aredig. " Y bore haua
dy hâd, a phrydnhawn nac atal dy law : canys ni wyddost pa
un a ffyna, ai hyn yma ai hyn acw, ai ynte da fyddant ill dau
yr un ffunud." Ni wyddost a ffyna yr un o honynt ; ond yr
wyt yn ymddiried, naill ai i natur, ai i Dduw natur, na fydd y
llafur ddim yn ofer. Yr ydym yn sôn llawer am wybodaeth
dyn, ond nid oes yr un wybodaeth yn gyraeddadwy i ni a wna
ymddiried yn ddiangenrhaid ; fel y dywedodd un, " Nid yw
gwybodaeth a gallu dyn ddim yn rhedeg ochr yn ochr : lle y
gŵyr ê lawer, ni all eíe ddim; a lle y gall ê rywbeth, ni ẃyr
efe nemawr." Fe ẃyr lawer am y sêr, ond ni all è ddim yna ;
fe all wneuthur rhyw ychydig ar y ddaear, ond ni ŵyr ê nem-
awr yma. Gall ragfynegu diffygion yr haul a'r lleuad am gan-
oedd o flynyddoedd ; ond nid yw ei allu ef ddim yn cyraedd
yna. Ni ŵyr ê ddim pa hîn a fydd hi yfory. Gallasai wneuthur
rhywbeth ar gyfer hyny pe buasai yn gwybod : mewn gair,
lle y gall ê rywbeth, ni ŵyr ê nemawr ; a lle y gŵyr ê lawer,
ni all è ddim. — " Cymylau a thywyllwch sydd o'i amgylch Ef:"
yr ydym wedi ein cau i fyny i ymddiried. Yr ydym ni i fod
yn dawel ein meddwl, nid am ein bod yn gweled y ffordd,
ond am ein bod yn credu fod y neb sydd yn ein harwain yn ei
gweled. Yn y tywyllwch y mae ffydd yn byw. Y mae yn
rhaid iddi gael goleuni yn y dechreu i adnabod yr Arweinydd :
wedi hyny, goreu po dywyllaf fydd y ffordd, oblegid y mae y
tywyllwch yn cryfhau yr ymddiried yn yr Arweinydd hwnw.
Nid yw meddianydd ffydd yn gwybod dim ond un peth : — "Mi
a wn i bwy y credais." Pethau nis gwelodd eto ydyw pob peth
I
Rhaghmìaeth ddwyfol yn imiaioji er yn dywylL 823
a.rall iddo ; ond y mae eu bod felly yn dwyn y dyn yn fwy
•cydnabyddus â'r Hwn y mae wedi credu ynddo. Y mae y
tywyllwch felly yn talu ei ffordd yn dda. Y mae y cymylau
a'r tywyllwch yn fanteisiol i ymddiried.
2. Yr hyn ydyw y llywodraeth mewn. gwirioTiedd : " cyfiawn-
der a barn." Y mae hyn wedi ei fwriadu i fod yn gynhaHaeth
i'r meddwl yn nghanol y tywyllwch. Y mae rheswm yn gweled
y tywyilwch : y mae ffydd yn gweled cyfiawnder a barn
drwyddo. Yr hyn sydd yn annhrefn i reswm, y mae yn drefn
i ffydd. Yr hyn sydd yn ŵyrgam i reswm, y mae yn ffordd
uniawn i ffydd.
(i.) Y mae hyn yn cynwys nad ydyw y Llywodraethwr wedi
.gwneuthur cam â neb yn y tywyllwch : — " Cyfiawnder yw
trigfa ei orseddfainc Ef," Er nad all yr hwn a ddioddefodd
bwys y dydd a'r gwrès, ddim deall paham y mae yr hwn na
weithiodd ond un awr yn derbyn cymaint gwobr ag ef ; eto
gall Perchen y winllan ddywedyd wrtho. yn y tywyllwch : —
■•' Y cyfaill, nid wyf yn gwneuthur cam à thi." Nid oes gan
neb hawl i ofyn i Dduw, " Pa beth yr \\y\. yn ei wneuthur? ac
nid ydyw yn rhoddi cyfrif o''i weithredoedd -P eto y mae geiriau
EUhu yn wirronedd: — "Ni esyd Duw ar ddynychwaneg nag a
haeddo, fel y gallo efe fyned i gyfraith â Duw." Fírwyth ei ffordd
ei hun, y mae pob un yn ei fedi : eto dylem gofío fod llywodraeth
Duw wedi ei threfnu fel ag i ddwyn ei holl garacter i amlyg-
rwydd; ei ben-arglwyddiaeth a'i amynedd, fel ei gyfiawnder a'i
sancteiddrwydd. Pe buasai yn talu i bawb yn ol eu gweith-
redoedd, ni buasai ei ben-arglwyddiaeth yn y golwg : pe na
iDuasai yn talu i nebyn ol ei weithredoedd, ni buasai ei gyfiawn-
der ddira yn y golwg. Y mae y cyfiawn yn digwyddo iddo
yma, weithiau, yn ol gwaith y drygionus, a'r drygionus yn ol
gwaith y cyfiawn. Os ydyw yr Arglwydd yn ei ben-arglwydd-
iaeth yn cadw rhag y drygionus yr hyn a haeddai, y mae yn
ei gyfiawnder yn gofalu na rydd Efe ddim ar y cyfiawnfwy nag
a haedda. Os na chafedd Cain, y lleiddiad, gymaint ag a
haeddasai, ni chafodd Àbel a laddwyd ddim mwy na hyny. Os
pen-arglwyddiaeth yn unig oedd yn y golwg yn arbediad
meibion Jacob am ugain mlynedd, nid oedd dim anghyfiawnder
o du y Llywodraethwr yn ngwerthu Joseph. Os nad ydyw y
824 Rhagliinîneth ddwyfol yn tiniawn er yn aywyll.
deyrnas hon yn dioddef cymaint ag a haeddai, nid y\v Duw
ddim wedi rhoddi ar deyrnasoedd y Cyfandir fwy nag a haedd-
ent. Amlygu gweithredoedd Duw y mae Rhagluniaeth ; ond
cofiwn, mewn cyfiawnder y maent oU wedi eu gwneuthur. Y
mae yr Arglwydd yn ymddwyn tuag atom fel aelodau o deulu
gwrthryfelgar : y mae rhai o'r teulu wedi dangos mwy o'r
gwrthryfel mewn gweithred allanol na'u gilydd ; ond y mae
adnabyddwr y galon yn gweled fod syniad hono, yn y naill fel
y llall, "yn elyniaeth yn erbyn Duw :" am hyny, cyfiawnderyw
trigfa yr orseddfainc wrlh gystuddio pawb. Y mae bod dy gy-
mydog sydd yn hynod mewn annuwioldeb, heb fod mewn bhn-
der fel tydi, yn peri fod " cymylau a thywyllwch o amgylch yr
orseddfainc;" er hyny, dim ond i ti sylwiyn graíf, ti a weh fod
" cyfiawnder " yn gerfiedig ar dy holl flinderau di. Nid yw yn
gwneuthur cam â thi.
(2.) Y mae hyn yn cynwys fod y cyfan sydd yn dyfod oddiar
yr orsedd, nid yn unig yn gyfiawn, ond fod y cyfiawnder hwnw
yn cael ei weinyddu yn y dull doethaf, tuag at sicrhau amcan-
ion y Llywodraethwr a dedwyddwch y deiliaid : " Cyfiawnder
a barn yw trigfa ei orseddfainc ef." Fe oddef y gair barn yr
ystyr yma : — cyfiawnder yn cael ei weinyddu yn ddoeth ydyw.
Nid yn unig y mae yn gyfiawn i'r Arglwydd adael y cyraylau o
amgylch yr orseddfainc, ond y mae yn ddoeth wrth wneuthur
hyny. "Wrth edrych ar íîyrdd Duw yn awr, ni welwn ni ddim
ond y tywyllwch ; ond os edrychwn ni ychydig yn ol i'r dydd-
iau gynt, ni a welwn y cyfiawnder a'r farn hefyd. Goddef i
bechod ddyfod i mewn i'r byd i lychwino ei ogoniant ; — dyna
gymylau o amgylch yr orseddfainc : anfon ei Fab i fod yn idwn
dros bechod, a thrwy hyny dwyn mwy o ogoniant iddo na phe
buasai dyn heb bechu erioed ; — dyna gyfiawnder abarn y drefn.
Cadw Israel, ei bobl briodol ei Hun, yn Babilon am ddeng mlyn-
edd a thriugain ; — dyna gymylau a thywyllwch o amgylch yr
orsedd : dadwreiddio eu heilunaddoliaeth o'u plith drwy hyny,
— dyna gyfiawnder a barn y drefn. Gwerthu Joseph y mwyaf
hawddgar o holl blant Jacob i gaethiwed ; — dyna gymylau a
thywyllwch ! ei godi drwy hyny yn Ilywydd ar yr holl wlad, 1
gadw yn fyw bobl lawer ; — dyna gyfiawnder a barn y drefn.
Gwneyd yr uniganeJig Fab, yr hwn ni wnaetb bechod, yn
Rharjhmi acth ddwyfol yn iiniawn er yn dywyll. 825
bechod ; — dyna gymylau a thywyllwch : dadwreiddio pechod
o'r greadigaeth drwy hyny, — dvna gyfiawnder a barn y drefn.
" Cymylau a tiiywyllwch sydd o'i amgylch Ef," wrth ei weled
yn goddef y byd am bedair mil o flynyddau, cyn anfon y Mab
iddo i egluro y Tad ; ond ni a welwn mai cyfiawnder a barn
yw trigfa yr orseddfainc, pan ystyriwn ni nad oedd y byd cyn
hyny wedi cwbl roddi i fyny nad allasai trwy ddoethineb ad.
nabod Duw. Y mae ei waith yn ei oddef eto ara y holl oes-
oedd i fod yn meddiant yr un drwg yn dywyll iawn i ni ; ond
pwy a ŵyr nad ydyw yr Hwn a roddodd bedair mil o flynydd-
oedd i'r byd i brofi iddo nad allai wrth chwilio gael gafael ar
Dduw, yn rhoddi miloedd iddo eto i brofi iddo na all gau-
grefydd ddim ei achub. " Y mae cyfiawnder a barn" y drefn
gyntaf wedi dyfod i'r golwg ; ac fe ddaw yr ail ryw ddydd.
O! y falh help i ymdawelu yn y tywyllwch, ydyw credu bod
yr Arglwydd yn gwneuthur y cwbl, nid yn unig yn gyfiawn,
ond hefyd yn dda : nid yn unig nid yw yn gwneuthur dim
cam â ni, ond nid yw yn gwneuthur dim nad oedd yn ddoeth
ei wneuthur. Pe raesurem ni bethau wrth raddeg ( scale)
dragywyddol, ni a welem fod cymaint o ddaioni yn y newyri
ag sydd yn y Ilawnder ; — fod cymaint o drugaredd ya yr haint
ag sydd yn yr iechyd; — fod cymaint o fendith yn nyfroedd
IMarah ag sydd yn rhai Elim. Yn wyneb pob peth sydd yn
eich cyfarfod, cofiwch pwy sydd yn teyrnasu ; a pha rai ydyw
egwyddorion ei Iywodraeth. Ac os aragylcha Efe ei hun eto â
thywyllwch mwy nag erioed ; — os Ilefara Efe yn ei ddigofaint
wrth y cenhedloedd o ganol y tywyllwch, — '' Peidiwch, a gwy-
byddwch mai myfi sy Dduw;" — ni ddychrynwch chwi ddim
liawer, ond i chwi gofio pa fath Dduw ydyw ; — raai un sydd
wedi seilio ei orsedd ar gyfiawnder a barn. Y mae gwled^'dd
y ddaear fel crochan berwedig ; — ymaeeingwlad ni ein hunain
yn dyrchafu ei thwrf fel Ilifeiriant ; ond "y mae yr Arglwydd
yn yr uchelder yn gadarnach na thwrf dyfroedd lawer." Efe
sydd yn teyrnasu. Y mae anífyddiaeth yn Ilefaru geiriau
mawrhydri yn ei erbyn, a Phabyddiaeth yn íFyrnigo ; ond yr
Arglwydd sydd yn teyrnasu. Os goddef Efe i'r ddau fwystfil
ddinystrio eu gilydd, y raae yn gyfiawn wrth wneuthur hyny ;
neu os goddef iddynt boeni ei blant, barn yw trigfa ei orsedd-
826 Rhagluniaeth ddwyfol yn imiawn er yn dywyU.
fainc wrth wneuthur hyny hefyd. Gall ostegu twrf y moroedd
a therfysg y bobloedd. Yn nghanol rhuad y tonau, nac ang.
hofiwn pwy sydd yn y llong ; — dim ond iddo ef roddi ei ben i
fyny, a dywedyd, " Gosteg," bydd tawelwch yn y fan. " Yr
Arglwydd sydd yn teyrnasu."
Ond gadewch i ni fyned rhagom i sylwi ychydig, —
III. Yr eífaith a ddylai yr ystyriaeth o'r gwirionedd hwn ei
gael ar bawb : — " Gorfoledded y ddaear." Y mae y ddaear yn
cael ei chynhyrfu pan y mae gwas yn teyrnasu arni, ac fe gy-
hoeddir gwae uwchben gwlad sydd a'i brenin yn fachgen ; ond
dyma un y mae yn briodol galw arni i orfoleddu wrth feddwl
m.ai Efe sydd ar yr orsedd. Gellir cymeryd hyn (i.) Am y
greadigaeth afresymol. (2.) Am drigoHoa y byd yn gyfifredinol.
(3.) Yn enwedig am Sion. Y mae Ifywodraeth Duw yn destyn
gorfoledd iddynt oll.
(i.) Y mae hyn yn destyn gorfoledd i'r byd aM greaduriaid.
Fe ddywed yr apostol fod awyddfryd y creadur yn disgwyl am
ddatguddiad meibion Duw ; ac nid disgrifiad barddonol ydyw
hyn, oblegid nid oes dim anghysondeb mewn meddwl fod cyd-
ymdeimlad rhwng y gweithredoedd a'r Gweithiwr; alle y mae
y Creawdwr yn cael ei ddirmygu, ai dieithr ydyw fod ei gread-
uriaid yn ocheneidio ? Y mae y greadigaeth wedi eidarostwng
i oferedd yn awr; y mae hi yn anfuddiol, hyny yw, nid yw hi
yn ateb i ddim a ellir ei alw yn ddiben teilwng ; am hyny y
mae y cwbl yn ofer. Nid oes dim anmhriodoldeb mewn dy-
wedyd fod yr haul yn dywedyd, ei fod wedi treulio ei oleuni yn
ofer, os na bydd yn goleuo addolwyr. Y mae y môr yn teimlo
ei fod yn gwneuthur ei gymwynasau i ddim diben, os na bydd
yn eu gwneuthur i'w saint Ef. Y mae y ddaear ya teimlo mai
treulo ei nerth am ddim, ydyw rhoddi cynhaliaeth v elynion
Duw. Ond " gorfoledded y ddaear " yn yr ystyr hyn ; y mae
llywodraeth Duw yn sicr o'i rhyddhau hi ymhen ychydig o
gaethiwed Ilygredigaeth, a'i hadferu i'w dibenion cyntefig;
pryd na bydd i'r haul oleuo neb ond addolwyr ; nac i'r gwlaw
ífrwytho meusydd neb ond rhai y saint; — pryd y bydd y môr
yn brif-ífordd i deyrnas Dduw ; a'i hoU longau yn sancteidd-
rwydd i'r Arglwydd.
(2.) Y ddaear eto, sef y trigolion ; "llawenyched ynysoedd
Rhaglnniaeth ddwyfoî yn uniawn er yn dyioyll. 827
lawer." Pa reswm, meddir, sy mewn galw arnynt hwy i orfoî-
eddu, oblegid y mae y llywodraeth i gael ei chario yinlaen yn
fanteisioli Síon? Gwir ; ond gellir dywedyd wrth yr ynys-
oedd, fel y dywed y prophwyd wrth yr Israeliaid yn Babilon»
Jer. xxix. 7 ; " Ceisiwch hefyd heddwch y ddinas a gwedd-
iwch ar yr Arglwydd drosti hi ; canys yn ei heddwch hi y bydd
heddwch i chwithau." Felly, yn Uwyddiant teyrnas Dduw y mae
llwyddiant y byd ; lle y mae hi yn llwyddo, y mae yntau yn
llwyddo. Nid yw yr holl gelfyddydau a'r gwybodaethau sydd
yn gwneuthur y byd yn fyd dedwydd í fyw ynddo, ond pethau
sydd wedi dyfod iddo yn gysylltiedig â'r deyrnas hon ; ac nid
oes yr un rheswm i'w roddi am Iwyddiant Lloegr ac America
mewn ystyr dynìhorol, ond fod teyrnas Dduw wedi llwyddo
mwy yn y gwledy Id hyn nag mewn un man arall. A phe na
byddai dim a fynech chwi ù byd ar ol hwn, gallech lawenychu
yn llwyddiant y deyrnas, oblegid y mae cysur hon yn anwa-
hanol gysylltiedig â hyny. Ond y mae pawb sydd yma yn
meddwl am fyd felly, ac yn meddwl bod yn ddedwydd yno ;
am hyny dylech bryderu mwy na neb ynghylch ei llwyddiant
hi, a thrydar yn ddidaw gerbron gorsedd gras,— " Deled dy
deyrnas;'' oblegid yn ei Uwyddiant hi y mae eich iachawdwr-
iaeth chwi.
(3.) Gorfoledded y ddaear, sefSion, oblegid ymaey neb sydd
yn teyrnasu, fel y Mordechai hwnw, yn ceisio daioni i'w bobh
ac yn dywedyd am heddwch i'w holl hihogaeth. Y mae yn
rhaid i dri pheth gyd-gyfarfod mewn gwrthddrych, cyn y gallwn
ni ymffrostio llawer ynddo : — cariad atom ; cyfle i wneuthur
cymwynas i ni ; a modd i'w gwneuthur. " Gorfoledded y
ddaear," oblegid " caru y mae Efe y bobl :" ni bydd dim eisiau
arnynt o ddiffyg teimlad caredig tuag atynt. Ni bydd diffyg
cyfle neu amser cyfaddas ddim yn atalfa iddo ef i wneuthur
cymwynas iddynt, oblegid " yr Ar j,lwydd sydd yn teyrnasu."
Yr oedd ar galon Mordechai wneuthur cymwynas i'rluddewon;
ond nid oedd yn ddigon uchel i hyny nes dyfod yn nesaf i'r
Brenin. Ond nid y nesaf i'r Brenin sydd yn teimlo arno
wneuthur cymwynas i Síon, ond y Brenin ei Hun. Ni bydd
eisiau moddion ddim yn atalfa ar ffordd ei dedwyddwch hi ;na,
y mae pob peth at ei law; Esa. xxxiii. 21. " Gwyn fyd y bobl
828 Rhaqluniaeth ddwyfol yn uniawn er yn dynyll.
y mae yr Arçlwydd yn Dduu' i'Jdynt." Fe enilla y rhai hyn
ryw gyraaint ar bob peth : deuant o'r Aipht, wedi eu cyfoeth-
ogi âg ysbail y gelynion ; — o Babilon, fel aur o'r ffwrnes, wedi
gadael alcán eu heilunaddoliaeth ynol. Bydd raid i ysgerbwd
anffyddiaeth roddi mêl iddynt, a b\A'ystfil Pabyddiaeth barotoi
eu ffordd hwynt. " Gorfoledded S'ion :" caiff y cleddyf fraen-
aru braenar iddi ar y Cyfandir, a chynddaredd pob gelyn droi
yn wasanaethgar iddo. Caiff y gwledydd ddyheu am ryddid
gwladol ; ond ni bydd hyny ond yn agor y ffordd iddi hi ddyfod
yno i'w gwneuthur yn rhyddion yn yr Arglwydd. Cànt hwy
droi y gormeswyr oddiar eu gorseddau, i agor y ffordd iddi hi
ddyfod yno i droi y cryf arfog o'i neuadd. " Gorfoledded Sîon."
Wrth derfynu, mi a ddymunwn ofyn un cwestiwn : — "A
ydych chwi mewn heddwch â'r Brenin?" Os nad ydych, bydd-
wch yn y ddalfa yn fuan. Nid hir eto y bydd llywodraeth
Duw yn lle diogel i wrthryfelwyr. Yr oedd llawer drwg-
weithredwT yn y wlad hon tua dau can' mlynedd yn ol yn
medru dianc am flynyddoedd o ddwylaw cyfraith, trwy ym-
guddio yn ei choedwigoedd hi, neu lechu yn rhai o'i glynoedd;
ond erbyn heddyw y mae y ffyrdd haiarn wedi dwyn lleoedd
pellenig i gymydogaeth eu gilydd, ac yn enwedig y telegraph
wedi gwneuthur bron yn anmhosibl iddynt ddianc. Bydd
ymerodraeth Duw fel yna yn fuan ; ni bydd na choedwig na
glyn, fel yn bresenol, " lle y gall gweithredwyr anwiredd ym-
guddio." Gwnewch heddwch âg Ef, gan hyny.
"Yr Arglwydd a deyrnasa byth ;" — y mae ganddo hawl
wreiddiol yn y goron, — y mae gTinàào 'EjÍ Dìrine right. Ni
effeithia dy foddlonrwydd, neu dy anfoddlonrwydd di ddim ar
y goron, ond effeithiant yn fawr arnat ti. Y mae dy dded-
wyddwch di yn gynwysedig mewn dyfod ymlaen megis i'w
goroni Ef dy hun. Yr oedd yr Arglwydd wedi eneinio Dafydd
yn frenin ar Israel ; ond yr oedd yn rhaid cael yr holl bobl
drachefn i'w eneinio ef eu hunain. Y mae yn rhaid i ti
wneuthur peth cyffelyb i'r Brenin. Pan y mae ein Brenhines ni
yn ymweled â gwahanol ranau ei theyrnas, y mae trigolion y
gwahanol drefydd y mae hi yn myhed drwyddynt yn cyílwyno
anerchiad iddi, i gyfaddef ei hawdurdod, — i ddiolch am ei
llywodraeth dyner. Rhywbeth fel yna sydd yma heddyw : y
Rhagluni cth ddwyfol yn îiniawn er yn äywyll. 829
Brenin tragywyddol yn myned heibio. A oes yma neb am
gyflwyno anerchiad iddo, — i gydnabod ei awdurdod, — i ddy-
wedyd, " Byw fyddo'r Brenin ?" Ai ynte hyn fydd ei iaith am
danom : — " Pa fodd, pan ddaethum, nad oedd nebi'm derbyn?''
ie, gwaeth na hyny ; iaith llawer, y mae yn ofnus ydyw : —
" Ni fynwn ni hwn i deyrnasu arnom." Plygwch at ei draed>
fel na byddo raid iddo eich mathru chwi dan ei draed.
[Ad-ysgrifenwyd, Awst 1, 1852.]
PREGETH L.
GWERTH AMSER a'r PWYS O I BR\TS-Ü.
JiPHËSiAiD y. 16. — '' Gan brjnu jr amser, oblegid y dyddiau sj ddrwg.'
NFYNYCH y mae y Bibl yn son am amser ond
mewn cysylltiad â rhywbeth arall. Dywedir llawer
ynddo am ei bwys, ei gyflymdra, a'i fyrdra ; ond
gwna hyny, naill ai fel anogaeth at ryw ddyledswydd, neu fel
rheswm dros ymgadw oddiwrth ryw fai. Byddwn ni weithiau
yn arfer llefaru am amser megis yn annibynol ar bawb a phob
peth, fel pe byddai iddo fod arno ei hun ; ond nidyw y Bibl yn
llefaru felly am amser, nac am drag wyddoldeb ychwaith. Wrth
lefaru am dragywyddoldeb, nid ei ddangos yn beth annibynol
y mae ; na, oes Jehofah ydyw. Nid dywedyd y mae y byddwn
ni yn y byd tragywyddol, ond y byddwn ni mewn mwynhad o
fywyd tragywyddol, neu yn dioddef marwolaeth dragywyddol.
Felly hefyd y lleferir am amser. Nid dywedyd ei fod yn fyr
mewn gwirionedd ar ei ben ei hun, ond dwyn hyny ymlaen fel
rheswm dros arfer y byd hwn heb ei gam-arfer. Fe ddywedir
wrthym nad oes na gwaith na dychymyg yn y bedd, nid i
foddloni ein cywreinrwydd, ond fel anogaeth i weithio c^'n
myned yno. Y mae Job yn dwyn ynilaen fyrdra ein dyddiau
fel rheswm dros i'r Arglwydd ei adael yn llonydd. Paid à mi
. — y mae fy nyddiau mor fyr, — nid yw yn werth i ti fy aflonyddu.
Fehy peth perthynasol ydyw amscr : nid oes bod iddo, ar ryw
ystyr, ond mewn cysylltiad à dyn. Ei eiddo priodol ef ydyw.
Cyn creu dyn, tragywyddoldeb oedd : pan ymedy dyn â'r
ddaear, saif yr angel ar y mòr a'r tir, i dyngu na bydd amser
mwyach. Tragywyddoldcb a fydd wedy'n. Nid oes ond
Gweríh amser a'r pwys üi brynu. 83!
ychydig filoedd o flynyddoedd er pan ddechreuodd amser ein
teulu ni ; ac nid oes llawer iawn hyd y terfyna. Ac er y gall
y bydd hi wedi hyn yn amser i ryw rai eraill, tragywyddoldeb
fydd hi i ni. Am hyny, wrlh son a gwrandaw am amser,
dylem ei gysylltu bob amser â ni ein hunain. Byddwn yn son
am dano yn fynych yn ei gysylltiad â phethau gweledig, ac â'r
greadigaeth ddireswm ; eithr mewn gwirionedd, eiddo dyn yn
unig ydyw, ond ein bod yn ei briodoU i greaduiiaid ís na ni, fel
y byddwn, o'r tu arall, yn priodoli ein pethau ni i'r Duw an-
feidroL
Dwyn byrdra amser ymlaen, yn rheswn dros rodio yn
deilwng i'^r efengyl, y mae yr Apostol yn y testyn hwn. Y mae
amryw anogaethau i hyn wedi eu rhoddi ganddo o'r blaen yn
y benod, a gellir gydâ phriodoldeb gysylltu y testyn â hwynt
oll. " Byddwch gan hyny yn ddilynwyr Duw, fel plant anwyl,"
" gan brynu yr amser, oblegid y dyddiau sy ddrwg." " Rhod-
íwch mewn cariad," " gan brynu yr amser." Y mae efe, o'r
drydedd hyd y bymthegfed adnod yn enwi y pechodau y dylai
y saint eu gochelyd, ac yn y bymthegfed yn rhoddi cyngor
caredig iddynt yn nghanol y peryglon : — "Gwyliwch pa
fodd y rhodioch yn ddiesgeulus, nid fel annoethion, ond fel
doethion." Ac y mae y testyn yn anogaeth i roddi y cyngor
mewn ymarferiad yn y fan : — " Gan brynu yr amser, oblegid' y
dyddiau sy ddrwg." Y mae cyngor cyffelyb yn cael ei roddi
yn yr epistol at y Colosiaid iv. 5 ; " Rhodiwch niewn doethineb
tuag at y rhai sydd allan, gan brynu yr amser." Y meddwl
ydyw, gan ddefnyddio pob adeg i arddangos eich rhinweddau
Cristionogol. Gosodwch gymaint o werth ar bob cyfle i hyn,
a phe byddech chwi yn ei brynu am fawr bris ; oblegid cyn
belled ag y mae a fynoch chwi â hyny, feallai fod tragwyddol-
deb y rhai sydd oddiallan yn dibynu ar y modd yr ymddygwch
chwi yn eich cysylltiad â hwynt ; gan hyny, rhodiwch mewn
doethineb tuag atynt, trwy ymddwyn yn y dull tebycaf i'w
henill i'r un ífydd a chwithau. Ac nac esgeuluswch yr un
adeg i hyny ; oblegid y mae y dyddiau yn ddrwg ; — feallai yr
araddifedir chwi yn fuan o'r cyfle. Neu, edrychwch pa fodd y
rhodioch, — " gan brynu yr amser, oblegid y dyddiau sy ddrwg;"
y mae y grefydd yr ydych chwi yn ei phroffesu hcb sefydlu ei
832 Gwerth f.msej' ar pwys oi bi-ynu.
character eto yn y byd. Y mae ei gelynion hi yn gwylied eich
ymddygiadau gydà'r manylwch mwyaf; yr ydych yn byw
mewn dyddiau drwg : "gwelwch gan hyny pa fodd y rhodioch,"
a " phr^aiwch yr amser." Y mae yn rhaid i'r hyn ydych am
ei wneuthur drosti gael ei wneuthur ar frys.
Pe buasai proíTeswyr crefydd, o ddyddiau yr Apostolion hyd
yn awr, yn byw y cyngor hwn, nid y wedd bresenol fuasai ar
grefydd ar y ddaear. Y mae yn rhaid cyfaddef eu bod wedi
rhodio yn esgeulus, ac fel annoethion, gan wastraffu y cyfleus-
derau oeddent yn eu meddiant i lesâu y byd. Y mae miloedd
o honynt wedi bod yn rhwystr i gyrhaeddiad diben yr efengyl.
Fel 'y Phariseaid, nid ydynt eu hunain yn myned i mewn i
deyrnas nefoedd ; ac y maent, drwy eu rhodiad esgeulus, yn
troi y cloíf allan o'r ffordd. Nid all neb sydd yn dwyn yr enw
Cristion ddim bod yn Feros : y mae, naiU ai yn gynorthwy i'r
Arglwydd yn erbyn y cedyrn, neu yn fraich i'r cedyrn yn erbyn
yr Arglwydd. Melldith ar wlad ydyw bod llawer ynddi yn
cymeryd i fyny enw Crist heb gyfranogi o'i Ysbryd ef. Y mae
yr apostol yn dangos y pryder mwyaf dros i Gristionogaeth
gael ei harddangos yn ei lliw ei hunan i'r byd. Mor fynych y
maeyn crybwyll am yr eífaith a gai y pethau ar y rhai oddi-
allan, (Adn. 15; Col. iv. 5.) " gan ddarparu pethau onest yn
ngolwg pob dyn ;" " a rhodiwch megis wrth liw dydd," gan
ochelyd y drwg, rhag i neb feio arnom. Ac nid oedd yn cenadu
i neb gael swydd eglwysig, os na fyddai " iddo air da gan y
rhai oddiallan;" hyny yw, os na fyddai ei ymarweddiad wedi
argyhoeddi annuwiolion mai dyn Duw ydoedd.
Y mae Cristionogion yn gyffredinol yn addef fod pwys yn eu
rhodiad; eto, ar weithredoedd, gwadant hyn ; — nid nad ydynt
rywbryd yn bwriadu byw eu crefydd ; ond gadawant i'r cyfie
presenol fyned heibio, dan ddywedyd, " Ni ddaeth yr amser
eto." Na, medd yr apostol, " Prynwch yr amser:" nis gellwch
fforddio gadael i'r un cyíle fyned heibio ; — feallai y bydd am-
gylchiadau wedi eich taílu o'r fantais yn fuan i wneuthur dim;
"gan hyny, prynwch." Ystyr y testyn, fel y gwelwch, yn ei
gysylltiad â'r cyd destyn, ydyw, y pwyssydd mewn bod y saint
yn defnyddio eu hamser i ateb dibenion uchel eu galwedigaeth.
Ond mwy priodol i ni, mewn cynulleidfa fel hon, ydyw ei
GiL'erth amser à'r pzvys oihrynii. 833
gymeryd mewn ystyr eangach, fel anogaeth gyífredinol i ddef-
nyddio amser : " Gan brynu yr amser."
I. Gwnawn ychydig sylwadau cyffredinol ar bwysigrwydd
amser. Y mae cysylltiad y testyn, yr ydym wedi son am dano
eisoes, yn proíì ei bwysigrwydd ; felly hefyd y mae y gair
" prynu " wedi ei fwriadu i ddangos yr un peth. Nis defnyddir
ef yn y Bibl ond am bethau gwerthfawr. Anogir ni i brynu y
gwir, — i brynu gwin a llaeth, — i brynu aur wedi ei buro drwy
dân, hyny yw bendithion iachawdwriaeth. Y mae Crist wedi
prynu ei eglwys : felly y mae yr anogaeth i brynu amser wedi
ei bwriadu i ddangos ei werth. Y mae yn haws cael gan y
meddwl amgyíîred gwerth pob peth na gwerth amser, yn ei
berthynas â byd ar ol hwn. Yn ei berth^mas â hwn yr ydym
yn gallu ei brisio, am fod y canlyniadau o beidio ei ddefnyddio
yn bethau a ddeuant yn deimladwy yn dra büan. Fe ẃyr y
crefftwr beth fydd canlyniadau peidio gweithio am wythnos^
Y mae y wybodaeth o hyny yn ei ddysgu i roddi pris cyfatebol
ar yr wythnos ; ond nid oes genym mo'r fantais yna i brisio
amser, yn ei gysylltiad â byd arall ; oblegid y mae y can-
lyniadau o'i gamddefnyddio, yn bethau anweledig i ni tra yn y
fuchedd hon. Felly ni a glywn rai yn cwyno am bob math o
golled ond hon, er nad ydyw pob colled arall ond gwagedd
mewn cymhariaeth i hon. Ond yr ydym yn cael esboniad ar y
colledion eraili yn y byd hwn, tra nad all ond y byd tragyw-
yddol esbonio hon yn llawn.
I. I gael cip-olwg ar werth amser yn ei gysylltiad â'r byd
tragywyddol, cymerwn yr un ffordd ag yr ydym yn ei gym-
eryd i gael ei bris yn ei gysylltiad â'r byd hwn. Ein rheol
gyffredin yma ydyw ei brisio yn ol yr hyn a gynyrcha, yr hyn
a ellir ei wneyd ynddo. Yn ei berthynaas â'r byd hwn, y mae
gwahanol amgylchiadau y trigolion, yn peri iddo amrywio yn
fawr o ran ei bris. Y mae amser Arglwydd John Russell yn
íìl mwy gwerthfawr na'r eiddo gweithiwr tlawd, wrth y dydd.
Pe collai y gweithiwr ei ddiwrnod, ni fyddai ond colled o
ychydig sylltau, a darfyddai canlyniadau y golledyn fuan ; ond
gallai gwaith y prif weinidog yn colli diwrnod, daflu y deyrnas
i ddyryswch, a gallai canlyniadau hyny ymestyn i flynyddoedd
ccnhedlaeth a chenhedlaeth. Ond, yn ei berthynas â byd arall
S3
834 Gwcrth aniser a\ pivys o'i brynu.
y mae amser yn gydwerth i bawb. Y mae y man y byddwn
ni byw, yma hefyd, yn amrywio pris amser : byddai blwyddyn
yn CalifFornía, gwlad yr aur, yn llawer mwy gwerthfawr na
blwyddyn yn Siberia, gwlad y rhew a'r eira ; ond yn ei ber-
thynas â byd arall, y mae yn hyn hefyd yn gydwerth i bawb o
honom. Beth bynag a gafodd neb ynddo, y mae hyny yn es-
iampl o'r hyn a allwn ni ei gael ; ac felly yn bris ar ei werth.
Yr oedd hwnw, yn yr efengyl, yn prisio y maes, wrth y trysor
oedd ynddo : feallai nad oedd yr un fodfedd arall o hono yn
werth dim : ond yr oedd y trysor yn gosod gwerth arno oll.
Felly nid yw amser, yn annibynol ar y trysor sydd i'w gael
ynddo, ddim yn werth ei feddu. Yn hyn y mae fel gwled-
ydd yr aur a'r perlau. Nid ydynt hwy odid un amser yn
Ileoedd hyfryd i fywynddynt: — y mae yr hinsawdd yn annym-
unol ; y tir yn ddiffrwyrh ; y gymdeithas yn Ilygredig ; — yn
hytrach, Ileoedd i gael modd i fyw ydynt. Wedi cael hyny, y
mae y trigolion yn symud eu trigfan, i wlad lley gallant fwyn-
hau eu cyfoeth. Felly am amser, — nid Ile i fy w, nid lle i fwyn-
hau ydyw : y mae blinder mor naturiol i'r wlad ag ydyw i'r
wreichionen ehedeg i fyny. Y mae ymagystuddiau aml a blin ;
eto y mae yn werthfawr, am ei fod yn gyfle i gael modd i fyw
mewn Ile manteisiol i hyny. Er y byddai gorfod aros yma byth
yn alltudiaeth, eto y mae cael bod yma am ychydig yn fraint
anmhrisiadwy. Nid ydym yn rhyfeddu wrth edrych ar aml
un yn Lloegr, sydd yn ddiweddar wedi cyfnewid ei sefyllfa yn
fawr mewn ychydig fisoedd, pan y deallwn ei fod wedi treulio y
misoedd hyny yn CaliíFornia, gwlad yr aur. Felly y mae
miloedd heddyw y tu draw i'r llen, a'u cyfoeth yn tynu sylw
eu holl gymydo :ion ; ond nid ydym yn rhyfeddu cymaint
wrtho, pan y deallwn ni mai rhai wedi treulio rhai blynydd-
oedd mewn byd o amser ydynt ; a'r hyn ydynt hwy heddyw
ydyw yr esboniad goreu a fedrwn ni ei gael ar werth y cyfle.
Nid oes dim gwerth |hanfodol yn perthyn i aur : gallech
farw er bod genych lonaid eich tŷ o hono. Nid ydyw nac ym-
borth na dillad. Pe teflid dernyn o hono i'r môr, ni fyddai y
neb a wnai hyny yn taflu dim o angenrheidiau bywyc ; ond
mewn ystyr arall, fe daflai gymaint ag a fuasai y dernyn aur
hwnw yn ei gynyrchu. Felly nid oes dim gwerth hanfodol
Gwerth amser a'r pwys oV brynu. 835
mewn amser : gwastraffwch faint a fynoch, — nid ydywnagwisg,
na chysur, nac ymborth i enaid ; eto am ei fod yn foddion i gael
gafael ar bob un o honynt, wrth ei golli yr ydych yn eu colli
hwythau. Er bod y nefoedd yn etifeddiaeth mor fawr, nad
ä y Cristion ddim trwyddi byth, eto y mae llawer pech-
adur yn ei gwario mewn deng mlynedd ar hugain, hyny yw, y
mae yn gwario yr hyn fuasai yn ei ddwyn i feddiant o honi.
Talent ydyw amser, y mae ein Harglwydd wedi ei hymddiried
i ni i'n profî, i weled a ydym ni yn rhai teilwng o ymddiried.
Os ydym yn anffyddlawn ar ychydig, ni ymddirieda Efe i ni
ara lawer ; ond os defnyddiwn ni yr oes fer yma yn iawn, fe
ddywed Arglwydd y talentau wrthym yn fuan, — " Da was, da
a ffyddlawn," — ni chefaist ond deugain mlynedd o oes ; ond
buost ffyddlawn ar yr ychydig hyny, yn awr mi roddaf feddiant
i ti ar lawer, sef hir oes byth ac yn dragywydd. Ond, cuddiwn
ni yr ychydig hyn megis yn y ddaear, — peidiwn a defnyddio
yr oes fer hono, fe ddywed Arglwydd y talentau wrthym, —
" O was drwg a diog ! yr wyt ti wedi methu defnyddio ugain
mlynedd o fywyd er gogoniant i mi, nid wyt yn deilwng i ym-
ddiried i ti am fywyd diddiwedd ; am hyny ni chei wybod beth
ydyw bywyd yn dragywydd mwy. ' Os na fuost ti yn ffyddlawa
yn y mamon anghyfiawn,'pa sut y gellir ymddiried i ti ara y
gwir olud ?' ' Os na fuost ti yn ffyddlawn yn yr eiddo arall,
pwy a rydd i ti dy eiddo dy hun ?' Nid oedd y bywyd oedd
genyt ddim ond cysgod ; — y mae yma fywyd gwirioneddol ;
ond ti a brofaist dy hun yn annheilwng o'r cysgod, — pwy a
ymddiriedai i ti am y gwir olud ynte ? Nid oedd y bywyd oedd
genyt ddim ond eiddo un arall, yr oedd ê wedi ei ymddiried i
ti fel goruchwyhwr ; y mae yraa fywyd a fuasai yn eiddo i ti
dy hun, — ond gan i ti fod yn anffyddlawn yn yr eiddo arall,
pwy a rydd i ti dy eiddo dy hun ? Prisiwn amser wrth yr hyn
a allwn ei gael am dano.
2. DuU arall sydd genym i farnu gwerth a phwysigrwydd
peth, ydyw ei ystyried yn ei gysylltiad â'i ganlyniadau. Y
mae llawer peth bychan ynddo ei hun, yn myned yn an-
nhraethol bwysig, yn y berthynas hon. Y mae un awr yn
fynych, yn nechreu oes, yn effeithio ar yr oes i gyd. Nid yw
yr oll a ddigwyddo ar ol yr awr hono ond pethau a ellir eu
836 Gwerth amser cìr pwys oi brynu.
holrain iddi hi. Fel gydâ Tacob ac Esau : effeithiodd diwrnod
yr helwriaeth ar eu tynged hwy a'u hiliogaeth, dros flynyddoedd
cenhedlaeth a chenhedlaeth. Nid yw adeg ein harosiad ni
mewn amser ddim ond megis un awr yn nechreu ein hoes; ond
beth bynag a ddigwydda i ni byth, canlyniadau yr awr hono a
fyddant. Fel yr oedd brodyr Joseph, yn ohhain yr anffodioa
yr oeddent yn eu cyfarfod ymhen ugain mlynydd, i'r awr hono
yn Dothan; felly ni wyddom ninau ddim pa beth a all chwyl-
droadau y byd tragywyddol ei ddwyn i'n cyfarfod ; ond hyn a
wyddom, y gwelwn ni yn eglur yno y cysylltiad a fydd rhyng-
ddynt oll âg awr amser. Ac i atal i ni feio ar y drefn, y mae
Duw M^edi datguddio i ni mai fel hyny y mae ; ac wedi dangos
i ni yn fynych, yn ei oruchwyHaethau, fod canlyniadau mawr-
ion yn gysylltiedig â phethau bychain. Nid oedd bwyta o
ffrwyth y pren yn Eden, ond peth bychan ynddo ei hun, ond
yr oedd eiganlyniadau yn gosod pwys arno. Nid oedd gwaith
Israel yn grwgnach yn yr anialwch, ond peth bychan ; er hyny
dyna y canlyniadau yn peri eu cadw am ddeugain mlynedd yn
y liiffaethwch, a marw heb gyraedd gwlad yr addewid. Nid
oedd i Moses daraw y graig ond peth bychan ynddo ei hun ;
ond y canlyniad o hyny a fu iddo orfod marw cyn cyraedd
Canaan, a hyny dan anfoddlonrwydd Duw, oblegid nid o wendid
y bu efe farw. Nid oedd gwaith Saul yn cadw anifeihaid yr
Amaleciaid yn fyw, ond peth bychan ynddo ei hun ; eithr yr
oedd colli y frenhiniaeth yn gysylltiedig âg ef. Arfer Duw,
yn y modd hyn, ydyw cysylltu pethau mawrion wrth bethau
bychain ; ac felly y mae wedi penderfynu cysylltu peth mor
fawr â'n tynged dragywyddol ni wrth amser. Ac nid peth pen-
arglwydc^iaethol ydyw hyn ; er feallai nad allwn ni ddim bob
amser weled y rheswm am dano ; eto diau y bydd i'w weled yn
y byd arall, fel na bydd raid i'r Barnwr ddywedyd wrth neb, —
" Nid wyf yn gwneyd cam â thì." Gwir, mai "cyíiog pechod
yw marwolaeth ;" ond y mae mor wir a hyny, fod pechod yn
teyrnasu i farwolaeth, — mai ei ffrwyth naturiol ydyw marwol-
aeth. Y mae yn wir mai " dawn Duw yw bywyd trag-
ywyddol ;" ond gwir yw hefyd mai ffrwyth naturiol gair
Duw yn y galon yw sancteiddrwydd ynora ; a sanct-
eiddrwydd wedi addfedu, yw bywyd tragywyddol y byd.
Gwerth amser ar pwys dì brynu. 837
a ddaw. Er mai nid y corff a fydd, gydà dim yr ydym
yn ei hau, eto bydd hwnw mor debyg i hwn, nes y bydd pob
hedyn yn teimlo ei fod yn cael ei gorff ei hun ; ac er y bydd yn
wahanol, eto nid mor wahanol na fyddi di yn teimlo raai cyn-
yrch yr hedyn hwn ydyw. Clust-dlysau a fwriodd Aaron i'r
tân, — llo a ddaeth allan ; ond nid felly y bydd hi gydâ ni. Nid
y Sabbath tragywyddol yr ydym ni yn ei hau, ond Sabbothau
byrion y byd hwn ; eto pan geir hwnw, fe deimlir roai ffrwyth
y rhai hyn a fydd. Bydd uffern yn rhywbeth gwahanol iawn
i bleser pechod ar y ddaear, ond nid mor wahanol na bydd
pawb yno yn teimlo,- — yr hedyn a blenais i ar y ddaear, wedi
addfedu, ydyw hwn. Nid yw amser oll ond adeg hau, ac y
mae yr holl hadau yn marw ; ond bydd gwanwyn y byd arall
yn dadebru yr oll. Y mae rhai yn meddwl fod pob peth y
ddaear i fywhau. Y mae Adam Clarke ac eraiU yn meddwl
fod yr anifeiliaid sydd wedi eu darostwng i oferedd i gael eu
codi i fwynhau y waith nesaf. Ac onid ydyw y Bibl yn aw-
grymu fod rhyw adgyfodiad i fod i'r ddaear ei hun? Y mae hi
yn awr yn heneiddio, ac yn marw ; ond y mae rhyw gorff a
fydd yn ei haros nithau, a hwnw yn un Ilawer mwy gogoneddus
na hwn. Ond beth bynag am sicrwydd y pethau yna, y mae
hyn yn sicr, — y mae amser yn ei berthynas â ni i ail fy w ; — fe
gyfyd ein hoes ni eto "fal ŷd o fol âr," er nad ydym yn gweled
dim yn debyg yn awr. Ni a welsom yr amaethwr, tua mis-
oedd Hydref a Thachwedd yn hau y gwenith, ac wrth fyned
heibio i'r maes ynîonawr a Ciiwefror, ni welwn ni ddim tebyg
i fywyd yno ; — y mae caenen o eira yn ei orchuddio, — y mae
" rhwymau Orion " wedi ei gloi. Y mae yr holl hâd wedi
marw; ac oni buasai fod profìad blynyddoeddblaenorolgenym,
buasem yn penderfynu ei fod wedi ei golli. Ond pan ddêl
cawody^d Ebrill, a gwres Mai, y mae y marw yn bywhau o
flaen ein Uygaid. Felly y bydd am ein hoes ninau, — yr ydym
yn hau, — yn hau, — yn hau ; ond wrch edrych ar y maes, ni
welwn ni ddim o ôl hyny. Y mae y gweddiau wedi eu coili; —
y llwon wedi darfod : — nes yr ydym yn dywedyd, " Pa fudd
a fydd i ni osgweddiwn?" nidoes yma ddim fiErwyth. Pa niwed
fydd i ni os pechwn? y mae y rhai a demtiant Dduw yn cael
eu gwaredu ; — yr un peth yw gwrthod gwrando a'i dderbyn.
838 Gweríh amser aW pwys di hrynu.
O I nage ; barnu yn rhy fuan yr ydym ; gauaf yw hi eto ; — y
mae rhwyraau Orion heb eu datod : aroswch chwi i wrês tra-
gywyddoldeb doddi yr eira, a dadmer y rhew, — fe orchuddir y
maes difírwyth yna â chnwd. Adeg y medi a esbonia bwysig-
rwydd amser hau.
3. Y mae ei bwysigrwydd i'w ganfod yn ymddygiadau pawb
0>:d dyn tuag ato. Y mae ysbrydion da a drwg yn deall ei
werth yn rhy dda i'w wario. Y mae ê mor werthfawr yn
ngolwg Satan fel na chymerodd ê ddim seibiant er pan die-
chreuodd ; a bydd raid i Fab Duw ei rwymo, i'w gadw yn
llonydd am ysbaid ; ac wedi hyny fe ymgynddeirioga mewn
llid, am nad oes iddo ond ychydig amser. A diau nad yw yr
angylion da ddim yn ol i'r rhai drwg mewn gweithgarwch, ac
y mae yr holl waith hyny yn dal perthynas â ni, yn ein per-
thynas âg amser. Wedi i hwn fyned heibio, nid wyf yn
meddwl y trafferthant eu hunain ryw lawer yn ein cylch ; a
phwysigrwydd amser i ni sydd yn achosi y drafferth yn awr.
Y mae y minteioeddMahometaniaid syddyn croesi diffaethwch
Arabia i Mecca, yn cyd-gyfarfod yn yr Aipht : y maent yno am
ddyddiau yn brysur yn parotoi ; a chydag y bydd yr adeg
benodedig wedi dyfod i ben,y mae y miloedd yn cyd-gychwyn ;
ac 08 bydd rhyw wall yn y parotoad, nid oes modd ei wneyd i
fyny wedi cychwyn. Hynyna ydyw amser, — adeg i barotoi y
Carai'an i gychwyn. Y mae y diafol a'i angylion yn gwneyd
eu goreu i ddifyru y teithwyr gydà theganau i'w hatal i ym-
barotoi. Y mae Ysbryd Duw, ac ysbrydion da eraill, yn
ymdrechu i'w cynhyrfu i ddarparu ; a hyn sydd yn egluro
cynwrf ac annhrefn y ddaear, — cynwrf y gwersyll [camp) cyn
cychwyn ydy w. Ymhen ychydig fe gyhoeddir, " Darfu ;"
" Ni bydd amser mwyach." Y mae adeg cychwyn wedi dyfod;
ac wele y fintai fawr yn dechreu teithio y daith ddiddiwedd. Y
mae Jehofah ei Hun yn gosod pris mawr ar amser. Y mae,
mewn ystyr, wedi rhoddi ei hunan o danyr unddeddfa niriau:
oblegid y mae yntau yn meddwl ffurfio ei garacter mewn
amser, — ac yn penderfynu cael ei adwaen byth wrth yr hyn a
wnaed yn ychydig flynyddoedd y ddaear. Y mae yn bod er
tragywyddoldeb ; ac ni wyddom ni ddim pa faint o oesoedd a
asthant heibio er pan y creodd E fe dy wysogaethau ac awdurdodau
Gwerth amser à'r ýwys d'i brynii. 839
y nefoedd ; ond drwy yr eglwys, — drwy yr hyn y mae yn ei
wneyd mewn amser, — y mae wedi meddwl hysbysu iddynt ei
"f^wr amryw ddoethineb." Rhwng y ddau air, "Bydded" â
" Darfu," y mae yn bwriadu enill ei garacter. Pan y seiniodd
Efe y cyntaf, gallasai ddywedyd wrth sèr y boreu, sef y meibion
oedd o'i amgylch, — Nid ydych yn fy adwaen ; ond yr ydwyf
yn myned i roddi cyfleustra i chwi yn awr i hyny. A phan
seinia Efe yr olaf, fe ddywed, hyn a fydd fy enw byth ac yrt
dragywydd. Y caracter a enillais mewn amser, nid wyf yn
bwriadu ei newid byth. Felly, rhwng y ddau air, y mae yn
rhaid i ninau sefydlu ein caracter. Nid yw ond megis doe er
pan seiniodd ein " Bydded " ni ; ac y mae yr adeg yn ymyl
pan y seinia ein 'Darfu " ni ; ond wedi hyny, bydd dy garacter
di a minau mor anghyfnewidiol a character Duw ei Hun.
" Yr hyn a ysgrifenwyd a ysgrifenwyd." Y maent wedi cloddio
dinas i'r golwg yn ddiweddar a ddinystriwyd gan afon danllyd
Vesuvius, er's canoedd o flynyddoedd yn ol ; a phan y clodd-
iwyd hi i'r golwg, yr oedd pob peth a phawb yno, yn yr un
ífurf ag yr oeddent y foment y daeth y dinystr arnynt ; — rhai
yn eistedd o amgylch bwrdd y wledd ; eraill yn gorwedd ac yn
huno ; y lleill wrth ryw gampau drygionus ; un arall yn ei
fyfyrgell yn astudio ; — ond mewn moment, fe'u sefydlwyd
hwynt fel creigiau gan yr hylif tanllyd yn y wedd hono.
Bychan yr oeddent yn meddwl mai y wedd yr oeddent yn ei
osod arnynt eu hunain y noson hono fyddai arnynt am flyn-
yddoedd cenhedlaeth a cheuhedlaeth ; ond felly y bu hi. Wel,
os priodol i ni gymharu pethau ysbrydol i bethau gweledig, yr
ydym ninau yn bur debyg iddynt. Fe rydd angau sefydlog-
rwydd i'n caracter ninau, fel y rhoddodd yr hylif iddynt hwy.
A dyna fydd dydd y farn, dydd i gloddio y ddinas i'r golwg i
amlygu i bawb beth ydym. Edrych yn fanwl pa ffurf yr wyt
yn ei osod arnat dy hunan, rhag y seinir y gair, " Darfu,"
uwch dy ben yn y ffurf yna. Byddai yn haws symud y myn-
yddoedd tragywyddol na newid dim arnat ti wed'yn. O ! y
mae yr adeg yn bwysig. Rhoddwyd Daniel, Hananiah,
Misäel, ac Azarîah, at y pen-ystafellydd yn Babilon, i'w dysgu
ar lyfr, ac yn iaith y Caldeaid ; a'r defnydd a wnaent o'r adeg
hono oedd i fod yn sefydliad ar eu sefyllfahwynt yn yr ymer-
840 Gwerth amser aW pwys öi brynic.
odraeth. Yr ydym ninau wedi ein gadael yma i ddysgu llyfr
ac iaith y byd a ddaw ; ac ymhen ychydig bachigyn eto, y mae
y Brenin yn myned i chwedleua â ni, ac fe benderfyna hyny pa
un ai sefyll ger ei fron, ai ynte ein bwrw o'i olwg yn dragyw-
ydd, fydd ein tynged ni. Gan ei bod hi mor bwysig, onid ydyw
cyngor y testyn yn dra phriodol, — "Prynwch yr amser."
II. Y cyngor. Y mae yr oll a ddywedwyd eisoes yn dangos
pwys y cyngor ; ond fel y cymhelliad ychwanegol i brynu
amser, ni a allwn alw eich meddwl at rai ystyriaethau : —
I. Ystyriwch nad oes genych ond ychydig o hono. Wrth
feddwl a-n ganlyniadau byw ar y ddaear, gellid tybied na
fyddai mil o íìynyddoedd ond adeg fer i barotoi ar eu cyfer ; îe,
pe buasai yr Arglwydd wedi creu llonaid byd o ddynion yn y
dechreu, a'u gadael yma am holl oesoedd amser i ymbaroto^
gogyfer â'r byd diddiwedd, buasai canlyniadau y byw yn peri i
holl filoedd blynyddoedd amser ymddangos yn fyr. Mewn
gwirionedd, nid oes dim cyfartalwch rhyngddynt. Y mae
cyfartalwch rhwng y diferyn dwfr a godwch chwi o'r celwrn a'r
môr : lliosogi y diferynau yna a wnai fôr. Y mae rhyw
gyfartalwch rhwng y llwchyn bychan a'r ddaear : pe tynid ef
oddiwrthi, byddai yn llai ; pe rhoddid ef ati, byddai yn fwy.
Oad pe tynid miliwn o flynyddoedd oddiwrth dragywyddoldeb,
ni fyddai yn ddim llai : pe rhoddid miliwn ato, ni fyddai yn
ddim mwy. Twyllo ein hunain yr ydym wrth son am eu
cymharu. Rhodder deg a thriugain o flynyddoedd gyferbyn â
chanoedd o flynyddoedd y maerhyw gyfartaledd yn hyny, oblegid
amser ydyw yr olaf fel y blaenaf. Ond byd ysbrydol ydyw y
bydaddaw, ac nid oes a fyno rhif a mesur ddim ag ef. Y mae
y corff sygeay.îi yn aelodau, ac yn rhanau ; ond y mae yr ysbryd
ya sylwedd nad ellir ei ranu, er ein bod ni yn son am dano yn
fynych fel pe byddai yn rhanadwy. Y mae y byd hwn yn gyffelyb
i'r corff; ond y mae yr hwn a ddaw fel yr ysbryd. Y maeyn an-
mhosibl eu cymharu. Ac yn wir, pe buasai y ddau fyd yr un
hyd, buasai gwahaniaeth annhraethadwy rhyngddynt wed'yn,
oblegid y mae amser mor gul ag ydy w o fyr: nid oes nemawr o'n
blaen ni, ac nid oes fawr ar bob Ilaw i ni chwaith. Pe Ilenwid
ef â Uawenydd, nid oes yma fawr le iddo ; — neu â thristwch,
nis gallai fod yn un dwfn iawn ; — ond am y byd a ddaw, y mae ei
Gwerth amser a'r pwys o'ibryntt. 84I
led fel ei hyd yn un anfesurol : am hyny y mae pum' mynyd o'i
lawenydd yn fwy nag oes o lawenydd amser. Y mae moment o'i
dristwch, yn rhy wbeth a weithia drwy yr enaid yn annhraethol
fwy ofnadwy nag oes o dristwch amser. Gan hyny, buasai deg
a thriugain o flynyddoedd amser yn fyr i barotoi gogyfer agoes
o ddeng mlynedd a thriugain o flynyddoedd y byd a ddaw ;
ond pa faint byrach wrth feddwl íod yr oes nesaf yn un ddi-
ddiwedd. Prynwch gan hyny. GwyHwch ddifwyno y sypyn,
— y mae tragywyddoldeb wedi ei lapio ynddo. Pwy a feddyliai,
wrth ddal y fesen rhwng ei fys a'i fawd, fod y dderwen dewfrig,
nerthol, yn guddiedig o'i mewn hi; — y cynydda hi am flynydd-
oedd cenhedlaeth a chenhedlaeth, nes myned yn bren cadarn,
ond felly y raae. Felly y mae tragywyddoldeb wedi ei gau yn
y dyrnfedd amser yma.
Yr ydym yn arfer meddwl, pe buasem wedi cael oes y cyn-
ddiluwiaid, y buasai genym rywbeth o werth ei alw yn oes; ond
twyllo ein hunain yr ydym yn hyn hefyd. Nid oes dimdigoni
mewn amser : gwagedd ydyw. Am hyny y mae deg a thriugain,
a naw cant, yn ddigon cyff"elyb. Yr oeddent hwy yn ystyried
yr oes hir yn ddim. Y mae traddodiad gan yr luddewon i
Methuselah gael gorchymyn i adeiladu tŷ pan yn bum' can'
mlwydd oed, ynghyd àg addewid y cai fyw am yn agos i bum'
cant wed'yn; ond i'r patriarch ateb, gan nad oedd ond hyny o
oes ar ei gyfer, nad oedd yn werth y drafferth. Y mae ateb
Jacob i Pharaoh ynghylch ei oedran, yn dangos yr un teimlad^
Y deg ar ugain a chant o flynyddoedd ydynt yn llawer yn ein
golwg ni ; ond ychydig a drwg oeddent yn ngolwg y patriarch.
Ac onid oes rhywbeth yn hynod yn null y tadau o rifo amser,
sef wrth y dydd. " Yn nyddiau ein blynyddoedd y mae deng
mlynedd a thriugain ;" " Dysg i ni gyfrif ein dyddiau fel y
dygom ein calon i ddoethineb." Y mae hyn hefyd yn dangos
yr un teimlad : wrth yr un y byddwn ni yn rhifo y pethau nad
oes genym ond ychydig o honynt. Ond gellir casglu fod mwy
o sicrwydd yn perthyn i oes y pryd hyny nag yn awr ; — fod
angau yn myned ymlaen yn fwy yn ol rheol nag yn awr ;—
oblegid fe grybwyllir fel peth hynod fod Haran wedi marw o
flaen Terah ei dad. Yr oedd hyn mor anghyffredin fel y
rhoddwyd ei enw ar y ddinas. Wel, os nad oedd ganddynt
842 Gwerth amser aW pwys oi brynu.
hwy ddim yn ormod, y mae yn eglur nad oes genym ni ddim
i'w wastraffu, oblegid y mae yn rhaid i'r gwaith, yr oeddent
hwy yn cael saith neu wyth cant o flynyddoedd ato, gael ei
gyflawni genym ni mewn cymaint neu lai o ddegau ; ac
anffawd arall ydyw, nid oes genym mo'r sicrwydd oedd
ganddynt hwy. Rheol angau yn awr yw, bod heb reol yn y
byd. Nid all y mab ddim teimlo yn ddiofal, er bod ei dad yn
fyw; oblegid os gwelwn ni feibion Jacob mewn un man yn
galaru ar ol eu tad, ni a welwn Dafydd a Jairus mewn man
arall yn galaru ar ol eu plant. Yr hyn yr ydym yn ei
wneüthur, gan hyny, gwnawn ar frys.
2. Prynwch ef, oblegid y mae llawer o'r ychydig hyn wedi
myned heibio. Yr ydym yn cael yr apostol yn dwyn hyn ymlaen
yn rheswm er cymell y saint i ymroddi i ddiwydrwydd
crefyddol ; Rhuf. xiii. 11: " A hyn, gan wybod yr amser, ei
bod hi weithian yn bryd i ni ddeífroi o gysgu: canys yr awr
hon y mae ein hiachawdwriaeth ni yn nês na phan gredasom."
Yr ydym yn ymyl Jerusaîem ; — yr ydym ar fyned i mewn i'r
hafan; — y mae y priodfab gerllaw; — gan hyny, y mae "yn bryd
i ni ddeffroi o gysgu." Os na charech chwi i'r prophwydi, y
patriarchiaid, a'r apostolion, weled eich llestr yn ei gwedd
bresenol, deffrowch i'w threfnu, oblegid y maent ar y pier head
yn disgwyl am danoch, a cbwi a fyddwch yno yn union. Os
na charech chwi ymddangos yn y deml fel yr ydych, deffrowch,
oblegid y mae ei phinaclau hi bron yn y golwg. Os nad ydych
yn y wedd y dymunech fod ar ddyfodiad y Priodfab, deffrowch,
oblegid y mae ei ragredegydd wrth y drws. Yr ydych yn
llawer nes i Ganaan nag i'r Aipht ; y mae y deugain mlynedd
bron ar ben ; chwi a fyddwch yn union yr ochr anfarwol i'r
lorddonen ; cewch ei chofio hi wedi myned drwyddi, fel yr
ydych heddyw yn cofio y Môr Coch ; — deffrowch, "ý mae eich
iachawdwriaeth yn nês na phan gredasoch."
Os ydy w meddwl pa faint o'r oes sydd wedi myned heiLio yn
gymhelhad i'r Cristion i fod yn ddiwyd am y gweddill, pataint
cryfach cymhelHad ydyw i'r dyn sydd hyd heddyw heb iawn
ddefnyddio moment o honi ? deg ar ugain, deugain, triugain
mlynedd wedi myned heibio, a Duw yn myned i ofyn pob
monient eto. Y maent wedi marw i ni, ond y maent oll yn
Gwerth amser aW pwys 6'i brynu. 843
fyw i Dduw ; ac y maent ganddo ymysg ei drysorau erbyn
dydd y treial, fel na bydd dim yn angenrheidiol ond eu dangos,
fel y breichledau a'r ffon hyny, i gau dy enau am byth. Y mae
pethau fel yna yn bwysig, meddwch, i'r rhai sydd yn bwriadu
marw yn annuwiol ; ond nid wyf fi ddimfelly ; yr ydwyf fi am
ofyn i drugaredd ddileu fy hanes i o groniclau y byd a ddaw, cyn
i mi fyned yno. Yr wyf yn meddwl gofyn iddi daflu y gòd yna,
yn yr hon y mae fy anwiredd wedi ei wnîo i fyny, i ddyfnder y
môr, cyn i mi ddyfod yno. Os ydych yn meddwl am beth o'r
fath, y mae yn bryd i chwi brynu yr amser, oblegid nid oes
genych chwi ddim ond blwyddyn nes y byddwch chwi yno, a
pha beth ydyw hyny at waith mor fawr ? Rhodiodd Enoch
dri chan' mlynedd gydâ Duw, cyn cael myned ato. Bu Paul
mewn ymdrech galed, am oes led hir, i'w gael yn y diwedd
mewn tangnefedd. Y mae yn rhaid bod y rhai hyn yn rhy
bryderus, neu ynte eich bod chwi yn llawer rhy ryfygus ; ac
wrth oedi y mae y gwaith yn myned yn anhaws, a'r amser i'w
gyflawni yn fyrach. Prynwch y gweddill.
3. Prynwch ef hefyd, oblegid y mae y dyddiau yn ddr wg,
hyny yw, y maent yn ddyddiau anfanteisiol i fyw yn dduwiol.
Y maent felly i bawb, ac yr oeddent felly ymhob oes. Y mae
dyddiau erUd yn rhai drwg ; ond y mae dyddiau tawelwch
mawr yn Uawn mor ddrwg. Y mae adeg diwygiadau mawr
yn rhai drwg, oblegid y mae gwres yn cynyrchu cymaint o
chwyn. Y mae amser oerfelgarwch mor ddrwg, oblegid os yw
yr oerni yn atal y chwyn, y mae yn atal yr hâd da hefyd. Y
mae y cyfoethog yn tybied fod llwybr y tlawd i'r ddinas gyf^
aneddol yn un rhwydd, a'r tlawd yn tybied felly am y cyf-
oethog ; pan, mewn gwirionedd, dyddiau drwg ydynt i bawb.
Ac nid yn unig y mae eu byrdra a'u hansicrwydd yn eu
gwneuthur felly, ond y mae rhyw garacter o ddrwg personol yn
perthyn iddynt ; fel na bu, ac na bydd, y nef i neb yn rhad,
Bydd yr adnod hono mor wir yn y mil blynyddoedd ag ydyw
hi heddyw :■ — " Cyfyng yw y porth, a chul yw y ffordd sydd yn
arwain i'r by wyd." " Rhedwch fel y caffoch afael ;" " treiswyr
sydd yn ei chipio hi." Y mae crefydd ar y ddaear, wedi i ddyn
bechu, fel blodeuyn o wlad arall ; nid yw yn gydrywiol â'r tir
yn awr.- Y mae planhigion a blodau, y mae y ddaear y-n eu
844 Gwerth atnser a'r pwys o'i brynu.
dwyn yn íFrwyth o honi ei hun, yn y Dwyrain ; ond yn y
Gogledd yma, y maent yn gofyn hoU fedr a gofal y garddwr
i'w cadw yn fyw. Peth fel yna ydyw crefydd. Y mae hi yn
tyfu o honi ei hun yn y nefoedd : nid rhaid iddynt yno edrych
ar ei hol hi ; ond yma, rhaid ei gwyho hi ar bob moment. Y
mae rhyw awel boeth neu oer yn peryglu ei niweidio hi yn
ddibaid. Dyddiau drwg ydyw dyddiau y ddaear yn awr. Os
cyrhaeddwn ni y nefoedd, ni a wnawn hyny wedi ymladd bob
cam o'r ífordd. Os cawn ni ein disychedu â dyfroedd pydew
Bethlehem, y mae yn rhaid i ni dori drwy fyddinoedd y Phil-
istiaid atynt. Os gwehr ni yno, dianc am ein bywyd fydd raid
i ni, fel gweision Job.
Feallai na bu dyddiau gwaeth erioed na'r rhaihyn. Yrydym
yn byw ar y fath ífrwst ; nis gelhr cael gafael ar y byd hwn heb
redeg â'n holl egni ar ei ol. Treiswyr sydd yn ei gipio. Y
mae dynion wedi myned i ymryson am dano ; ac y maent mor
ddifrif yn yr ymrysonfa, fel y maent yn anghofio pob peth
arall, nes i angau sibrwd yn eu clustiau, — " Y mae genyf air
oddiwrth Dduw atat ;" — y mae yn rhaid i ti ymddangos ger ei
fron yn ddioedi. Y mae ein dyddiau ni hefyd, fel yr awn
rhagom, yn myned yn waeth : yn y fan yna, wele y dyddiau
heb ddiddanwch ynddynt. Y mae niwl oer afon angau, yn
ymdaenu dros lawer o'r gwastadedd, cyn dyfod at ei glàn hi. Y
mae galluoedd yr enaid, fel aelodau y coríî, yn crebychu ynddo,
nes y bydd hi mor anhawdd i'r meddwl weithredu ag y byddhi
i'r coríF. Ni a gawsom oll well dyddiau na'r rhai hyn ; ond y
raae y rhai hyn yn well na dim rhai a gawn ar eu hol hwynt.
Y mae yn ddigon anhawdd cychwyn tua'r nefoedd heddyw ;
ond bydd yn anhaws yfory ; ac felly bob dydd o hyny i'r olaf.
Prynwch yr awr hon.
Yr ydym wedi dywedyd llawer am wagder asiomiantamser,
ond ni wnawn gyfiawnder âg ef heb ddywedyd hyn hefyd : —
Nid oes dim gwerthfawr yn y byd a ddaw nad yw i'w gael yn
gyfnewid am dano. Y mae teyrnas yno i'w chael am ei gofyn
yma ; coron am ei cheisio. Y mae prydnhawn wylofain
amser yn arwain i dragywyddoldeb o lawenydd ; ond ni fydd
mantais fel hyn i'w chael byth. Y mae masnachwyr anonest
yn anfon Uongau yn llawn o deganau a phethau diwerth i
Gwerth aniser à'r pv)ys òi hrynu. 845
farchnata â gwledydd anwaraidd. Y mae yr Indiad anwar yn
rhoddi ifori ac aur ei wlad, yn lle rhyw deganau y mae y dyn
gwyr yn eu dwyn iddo ; ond wedi i'r anwar gael ei ddysgu am
werth cynyrchion ei wlad, ni rydd ê ddim o'r aur a'r ifori heb
gael peth cydwerth am danynt. Y mae Arglwydd y byd a
ddaw yn ymddwyn yn bur debyg i hynyna tuag atom ni yn
awr ; — yn rhoddi pethau anmhrisiadwy am wagedd ; — yn rhoi
peth mor werthfawr a choron y bywyd am ymdrechu ychydig
ddyddiau ar y ddaear ; — yn rhoi tragywyddol orphwyJa am
weithio un dydd yn y winllan ; — yn rhoddi ei hunan, yn yr
hyn oll ag ydyw, yn eiddo i bechadur, am ddim yn y byd ond
ei goelio. Ond pan unwaith y cauwn ni ein llygaid ar y byd
hwn, fe gyfyd pris y pethau, fel na cha neb mo honynt ond ara
eu llawn werth. Y mae yn rhoddi y nef yn awr ; ond yn y
byd a ddaw, ni bydd i'w chael heb ei gwerth yn ei lle. "Dawn
Duw yw bywyd tragywyddol " yn awr ; ond yn y byd a ddaw^
bydd yn rhaid ei en.ll. Ac os aroswch chwi i'r farchnad godi,
gellwch flFarwelio am y pethau byth. Y mae genym hanes rhyw
rai yn cynyg pris y ddaear am danynt, yn y byd aralL ; ond yn
gwbl ofer : " Yn foreu y'm ceisiant, ond ni'm cânt." Ni feiwn ni
ddim llawerary byd hwn, erbod ei ddyddiau ynddrwg, h blinder
yn eu llenwi, am fod yma bethau i'w cael, y mae yn werth dioddef
mil mwy er eu mwyn. Y mae miloedd yn myned i India y
Dwyrain ; yno yn cael eu treuHo gan y gwres ; ac y mae òl y
dyddiau drwg a welsant yno arnynt wedi iddynt ddychwelyd
yma; — ond nid ydynt yn cwyno nemawr, oblegid y mae y
cyfoeth a gawsant yn ad-daliad am y cwbl. Felly, nid rhaid
cwyno ar yr hen ddaear, oblegid y mae yma bethau i'w cael
ynddi sydd yn fwy nag ad-daliad am y cwbl sydd raid ddioddef.
Yr oedd Paul yn synio felly : — " Canys ein byr ysgafn gystudd
ni, sydd yn odidog ragorol yn gweithredu tragywyddol bwys
gogoniant i ni." " Nid yw dioddefiadau yr amser presenol
hwn, yn haeddu eu cyffelybu i'r gogoniant a ddatguddir i ni."
Beth, os oes yma fynyddoedd i'w dringo .? Onid yw Calfaria
yn un o honynt? ac y mae digon i'w gael ar hwnw i dalu
am y boen o ddringo y lleill i gyd. Beth, os oes yma ystorm-
ydd mawrion? Onid y rhai hyny a ddaethant â ni yn
gydnabyddus â'r " Gẃr o luddew ?" Chwilio ani dano yn
846 Gwerth amser arpwys oî brynu.
lloches rhagddynt a wnaethom i ddechreu : ac wrth lechu yn ei
gysgod, fe fagodd cyfeillgarwch rhyngom ; ac íe wnaeth gyf-
amod â ni, a digon ynddo i ni fyw arno byth. Os ydyw
caethiwed yr Aipht yn flin i ni; ac os ydym yn teimlo ein
meistriaid gwaith yn ein gyru yn dost ; oni buasai am hyny, ni
fuasem ni ddim yn meddwl am Ganaan. Fe boenwyd Pharaoh
yn fawr gan y breuddwyd hwnw ; ond fe dalodd yr hen
freuddwyd yn bur dda iddo wed'yn, oblegid hwnw fu yn
achlysur iddo wybod am Joseph ; a bu dda iddo ef a'i wlad
wrth Joseph, am flynyddoedd wedi hyny. Os ydyw breu-
ddwydion y ddaear yn poeni tipyn arnom, nid rhaid cwyno o'u
plegid, os byddant yn achlysur i íîurfio cyfeillgarwch rhyngom
ni â Joseph: ni a fanteisiwn ar hyny i dragywyddoldeb. Treul-
iwn ein hamser yn y fath fodd, fel y cawn ni ein hadwaen yn y
byd tragywyddol, " nid fel annoethion, ond fel doethion."
[Dydd Sadwm, GoriDlienaf 6, 1850.]
PREGETH LL
CYFERBYNU TREFN DYN A THREFN DUW I FOD YN GADWEDIG.
2 Beenhixoedd V. 9—12. — " Yna Xaaman a ddaeth â'i feirch ac â'i ger-
bydau ^ac a safodd wrth ddrwstŷ Elií^ëTis. Ac Elisëus a acfonodd atto ef
gennad, gan ddywedyd, Dos ac ymolch saith waith yn yr lorddonen ;
a'th gnawd a ddychwel i ti, a thithau a lanhêir. Oud Naaman a ddig-
iodd, ac a aeth ymaith ; ac a ddywedodd, Wele, mi a feddyliais ynof fy
hun, gan ddyfod y deuai efe allan, ac y safai efe, ac y galwai ar enw
yr Arglwydd ei Dduw, ac y gosodai ei law ar y fan, ac yr iachâi
y gwahan-glwyfus. Onid gwell Abana a Pharpar, afonydd Damascus'
na holl ddyfroedd Israel ? oni allaf ymolchi ynddynt hwy, ac ymlan-
hau ? Felly efe a drodd, ac a aeth ymaith mewn digter."
NFYNYCH yr ydym yn darllen yn y Bibl am neb
wedi derbyn cymwynas, nad ydoedd hi yn dyfod
iddynt mewn ffordd groes i'w disgwyliadau. Ac y
mae cael yr hyn a ofyna, yn ol ei gynllun ei hun, o gymaint
pwys yn ngolwg dyn, fel y mae yn fynych yn gwrthod y gym-
wynas, os na ddaw hi yn ol y portread a dynodd efe yn ei
feddwl. Yr oedd y dyn ieuanc hwnw yn yr efengyl, yn ewyll-
ysio myned i mewn i'r bywyd ; ond yr oedd efe wedi tynu y
cynllun i hyny yn ei feddwl ; ac am nad oedd bywyd tragyw-
yddol i'w gael, yn ol ei gynllun ef, efe a aeth ymaith yn athrist
oddiwrth y Rhoddwr hebddo. Yr oedd y claf wrth lyn Beth-
esda yn disgwyl am iechyd; ond yr ydoedd yn ei ddisgwyl mewn
rhyw ífordd benodol, a bu raid iddo foddloni i'w dderbyn yn
ol cynllun y Rhoddwr. Fe gredodd Lot yr angyhon y dinys-
trid Sodom. Yr oedd yn dda ganddo gael ei gadw rhag y
dinystr ; ond gelHr casglu oddiwrth yr hanes, fod ganddo ryw
gynllun yn ei feddwl ei hun i hyny, ychydig yn wahanol i
gynllun Duw, oblegid hw} rfrydig iawn ydoedd i gydsynio â
hwnw. Yr oedd Naaraan yn meddwl am iechyd, — i'w gael y
848 Cyferbynii trefn dyn a threfi Duw^ ^c.
cychwynoddoddicartref ; ond yr oedd yntau wedi tynu cynllun
yn ei feddwl, ac am nad oedd ífordd yr Arglwydd i'w roddi yn
cyfateb i'w gynllun ef, bu yn ymyl ei wrthod. Y mae tuedd
barhaus mewn dyn i gyfarwyddo yr unig ddoeth Dduw ; a^
achos paham y mae m.iloedd yn troi oddiwrth ei borth heb
dderbyn ei roddion ydyw, arn na fyn Efe ddim o'u cyfarwyddyd
a'u cyngor hwy. Yr oedd golwg obeithiol iawn ar Naaman
gerbron tŷ y prophwyd : gallesid meddwl, os oedd iechyd yn
gyraeddadwy, y buasai yn sicr o'i gael ; oblegid yr oedd wedi
cymeryd cymaint o drafferth eisoes, fel ag i roddi sail i feddwl
nad arbedai na thraul na llafur rhagllaw i hyny. Y mae yn
rhaid bod ynddo awydd cryf am gael ymadael â'r gwahan-
glwyf, onid ê ni buasai yn cymeryd y draíTerth a gymerodd ar
seiHau mor weiniaid. Nid oedd ganddo ddim i'w gychwyn
oddicartref ond tystiolaeth llances fechan, a hono yn gaethes ;
a phebuasai yn ei hoH hi, fel y mae yn debyg iddo wneuthur,
cawsai nad oedd y dystiolaeth hono yn ddim ond opiniwn y
llances ; — ei barn hi; — nad oedd ganddi yr un ífaith i'w had-
rodd am lanhâd yr un gwahan-glwyfus. GaH y gwyddai y
llances fod EHsëus wedi gwneuthur pethau Hed ryfedd, ac yr
oedd hi yn meddwl y medrai efe wneuthur hyn hefyd ; ond
eglur yw nad oedd meddwl Hances feüy yn fawr o beth i bwyso
arno ; ac oni buasai fod awydd cryf iawn yn mynwes Naaman
am iechyd, ni buasai gŵr mawr fel efe yn cymeryd cymaint O'
boen, ar seiHau mor weiniaid ; a hyny yn neiHduol mewn lle
nad oedd ganddo yr un rheswm dros gymeryd trafferth o gwbl
gyda'r gwahan-glwyf, ag a fuasai ganddo pe buasai yn byw yn
ngwlad Israel ; oblegid nid yw yn ymddangos ei fod yn Syria
yn ei gau allan o gymdeithas ei gyd-ddynion, nac o'r swyddau
mwyaf parchus : yn Israel, buasai yn gwneuthur y naiH a'r
llaH ; ond yn Syria, er ei fod yn wahan-glwyfus, yr'^oedd yn
dywysog y Hu ; yn ẃr mawr yn ngolwg ei arglwydd ; ac yn
anrhydeddus. Eto, er nad oedd yn ddim rhwystr iddo mewn
ystyr wladol, nid oedd yn foddlawn heb gael ymadael âg ef.
Yr dyoedd hefyd wedi dyfod i'r unig fan yr oedd gobaith am
iechyd, os oedd gobaith hefyd. Y tebyg ydyw mai pia un
iongyrchol oddiwrth Dduw oedd pla y gwahanglwyf : relly
am ei fod yn oruwch-naturiol, nid oedd dim mewn natur aí
J
Cyferbynu trefn dyn a threfìi Duw. 849
gyfer ei wellâu. Duw, mewn modd digyfrwng, yn unig a
. allai wneuthur hyny, Yr oedd hyn yn wybyddus yn ngwlad
Israel ; ond y mae yn debyg mai anaml iawn yr oedd hyny 'yn
cymeryd lle. Yr oedd llawer o wahangleifìon yn Israel yn
nyddiau Elisëus ; eto, medd y Testament Newydd, ni lanha-
w^d yr un o honynt ; acy mae yn hynod pa fodd y meddyliodd
y llances ara anfon ei meistr at y prophwyd i ymofyn glanhad,
ac nid at yr oífeiriad ; os nad am ei bod hi yn tybied mai gan
EHsëus yr oedd mwyaf o ddylanwad o neb yn y wlad yn y
nefoedd, ac mai oddiyno yr oedd y waredigaeth i ddyfod. Ond
y mae yn dra thebygol fod ei hyder hi i raddau mawr yn
tarddu oddiar anwybodaeth. Gall nad oedd hi erioed wedi
gweled un gwahan-glwyfus : j)e buasai hi yn gydnabyddus
â'r lliaws oeddent yn Israel yn parhau felly, er bod y prophwyd
yno, y mae yn debyg na buasai hi yn siarad mor hyderus â'i
meistres ; oblegid yr oedd y llances yn anturio ei chysur, os
nad ei bywyd ei hun, wrth wneuthur hyny. Pe buasai Naaman
yn dyfod yn ol heb iechyd, y mae ^yn ddiau y cawsai y llances
oedd wedi ei dwyllo ef deimlo obleigid hyny ; ond yr oedd gan
y llances feddwl mor fawr am Dduw Israel, ac am ei brophwyd
ef, fel nad oedd hi yn ameu am foment na iacheid ei meistr, os
äi efe i Samaria ; ac y mae mor hoíf gan yr Arglwydd y rhai
sydd yn meddwl yn fawr am dano, fel nad oedd am gywilyddio
gobaith llances o gaethes. Gan iddi hi roddi caracter mawr
iddo Ef, yr oedd Efe yn penderfynu na chai ei character hithau
ddim bod yr un gronyn yn ís yn nheulu Naaman ; am
hyny fe brofodd ei Hun yn llonaid y disgrifiad, — "Fy anrhyd-
eddwyr a anrhydeddaf." Ond er bod yn Naaman lawer o
bethau yn profi fod cael glanhad yn betn pwysig ar ei feddwl,
eto bu bron i un peth ei gadw rhag hyny, sef, nad oedd y fendith
yn dyfod yn ol ei feddwl ef.
Y mae hanes Naaman, fel yr holl bethau a ysgrifenwyd o'r
blaen, yn addysg i ni. Yr oedd efe, yn ei bla ac yn ei ddis-
gwyliadau, yn ddrych i ni ganfod ein hunain, yn nhrueni ein
codwm, ac yn ein cynllun i gael gwaredigaeth oddiwrtho ; ac
yr oedd trefn Duw i'w wellâu, yn gysgod o'i drefn ddwyfol ef i
wneuthur hyny i hinau : ac nid ychydig ydyw y perygl rhag
i'r un peth fod yn fagl i ni ag a fu felly iddo ef. Nid diystyr-
T3
850 Cyferhynii frcfn dyn a tJirefn Dnw.
wch o'r pla a fydd yn ddinystr i ni; na, yr ydym ni, fel Naara^rr^
yn teimlo i ryw raddau oddiwrtho, er nad yw yn nemawr o
rwystr ar ein ffordd ni i bob dyrchafiad ar y ddaear, mwy nag"
yr oedd y gwahan-glwyf yn Syria. Yr ydym hefyd wedr
dyfod i'r unig fan y mae gobaith am iechyd. Nid antur ydyw
ein gwaith ni yn dyfod, fel yr eiddo Naaman ; ni a wyddom,.
os myn y Prophwyd, y gall Eíe; ac ni a wyddom fwy, sef mar
ei arfer ydyw mynu. Un peth sydd yn ol i ni, — mewn un lle
yn unig y mae ein perygl ni, — sef gwrthod y fendith, am nad
ydyw yn dyfod yn ol ein meddwl ni. Ac oddiwrth y testyn
ni a geisiwn ddal y ddwy drefn i gael gîanhad, neu, yn ol iaith
y Testament Newydd, i fod yn gadwedig, ar gyfer eu gilydd ;;
gan obeithio y bydd i ragoroldeb trefn Düw, beri i ni oil roddi
i fyny ein mympwy ein hun ac ymostwng iddi, fel y gwnaeth
Naaman i'r drefn am ei ìanhad yntau.
I. Yr oedd trefn Naaman i gael ei lanhau, yn drefn oedd, yrt
porthi ei falchder, — yn gosod urddas a mawredd arno ef : felly
y mae trefn dyn eto : " Wele, mi a feddyiiais ynof fy hun, gan
ddyfod y deuai efe allan, ac y galwai ar enw yr Arglwydd e»
Dduw, ac y gosodái ei law ar y fan, ac yr ìachai y gwahân-
glwyfus." Ond yr oedd trefn Duw yn cuddio balchd'er yn gwbi
oddiwrtho. Ni wnaeth y prophwyd ddira sylw o hono fel gŵr
raawr ; — rri ddaeth gyraaint ag i'r drws i'w weled, ond anfori'
ei was ato, i hysbysu iddo y cyfarwyddyd. Felly y mae trefor
Duweto. Y raae pawb sydd yraa yn meddwl bod yn gad-
wedig ; ac y mae gan bob un ei ffordd i hyny. Y mae y ffyrdd
hyn mor amrywiol ag ydy w y personau ; ond yn hyn y maent
yn cytuno : — y maent oll yn porthi balchder dyn. Ac un dulí
y raae balchder ysbryd dyn yn ei amlyguei hun ydyw, mewn-
disgwyl cael ei achub mewn dull rhwysgfawr, fel yr oedd-
Naaman yn disgwyl cael ei lanhau. Pa sawl un sydd yn
disgwyl i Dduw lefaru wrtho yn y daran, — iddo rwygo y
nefoedd, a disgyn i ymgydnabod âg ef ? Pa gynifer sydd yn
ddiystyr o'r ''llef ddistaw fain," am ei bodheb rwysggydâ hi ?
Pe buasai hi yn dyfod atynt yn y corwynt, — yn y ddaeargryn;,
— neu yn y tun, y maent yn meddwl y buasent yn gwrando..
Fel Paul a Silas yn Philippi, nid ânt o'r carchar yn ddirgel ;
y mae yn rhaid iddynt gael eu dwyn allan yn gyhoeddus, fel
Cyferhymi trefn dyn a threfn Diiw. 851
ag i dynu sylw pawb. Y mae llawer un yn penderfynu na
chymer ê ddim ei achub, os na cha ei achub fel Saul o Tarsus ;
am mai gŵr balch yw efe, heb ystyried y gwahaniaeth sydd yn
yr amgylchiadau. Yr oedd y ffordd yr achubwyd Paul yn
wenwyn i'w faìchder ef, ond buasai yn ymborth i'n balchder
ni. Yr oedd efe wedi ynfydu yn erbyn yr lesu yn fwy na neb
yn ei oes : ni fedrai oddef cly wed ei enw heb gablu. Yr oedd
yn adnabyddus, trwy y wlad, fel prif elyn Alab Duw; am hyny
bu raid iddo ei gyfaddef mor gyhoeddus ag y bu yn ei gablu, —
gerbron nefoedd, daear, ac uíFern, a hyny ar haner dydd hefyd.
Yr oedd gorfodi Haman i wisgo am AEordechai, a'i arwain trwy
y ddinas, yn ddarostyngiad mawr iddo ; er bod miloedd yn
Susan a fuasent yn ystyried eu hunain wedi cael testyn i
ymíFrostio ynddo, pe buasent yn cael eu galw i wneuthur yr
un peth ag a wnaeth Haman : felly y buasai galw nefoedd,
daear, ac uffern, i dy weled di yn cyfaddef Mab Duw yn ym-
borth i dy falchder di, er ei fod yn wenwyn i un Saul o Tarsus,
Drachefn, y mae balchder ein calonau yn ei ddangos ei hun,
fel yn Naaman, yn ein gwaith yn disgwyl i'r Arglwydd
dderbyn rhywbeth o'n heiddo ni yn dâl am y gymwynas. Yr
oedd Naaman wedi dyfod at y prophwyd yn llwythog o
roddion : yr oedd ganddo ddeg talent o arian, a chwe' mil o
aur, a deg pâr o ddillad ; ac yr oeddent oll o fîaen porth y
prophwyd. Yr oedd yn meddwl cael iechyd ; ond yr oedd yn
bwriadu gwneuthur y prophwyd yn llawn cymaint o ddyledwr
iddo ef, ag a fyddai efe i'r prophwyd ; oblegid nid oedd am
gael yr iechyd heb roddi ei lawn werth am dano, ac feliy rydd-
hau ei h-un o fod dan rwymau i neb. Ac yn enwedig, yr oedd
bod yn ddyledus i neb o Israel yn hollol wrthwynebol i'w
deimlad ; oblegid yr oedd wedi bod mewn rhyfel â hwynt
amryw weithiau, ac wedi eu gorchfygu ; ac nid oedd heddwch
hollol rhwng y ddwy wlad yn awr ; am hyny, fe benderfynodd
y tywysog, wrth gychwyn oddicartref, y deuai yn ol heb fod o
dan ddyled iddynt. Y fath ergyd i'w falchder ydoedd, na
ddaeth y prophwyd gymaint ag i edr^^ch ar ei wychder ; ac er
bod ganddo dros bedair mil ar ddeg o bunoedd wedi dyfod
gydag ef, eto eu bod mor ddiystyr yn ngolwg y prophwyd, a
llaid yr heolydd. O gynifer o honom ninau sydd yu debyg
852 Cyferbynu trefti dyti a tìirefti Diiw.
iddo ! Yr ydym yn dyfod at y porth i ymofyn iechyd ; ond
nid ydym yn dyfod yno heb ein meirch a'n cerbydau, yn
llwythog o rywbeth i'w rhoddi yn gyfnewid am dano. Y mae
beichiau o gyfiawnderau gan un ; — y mae bwrneU o fwriadau
da gan un arall ; — y mae llonaid costrelau o ddagrau gan y
trydydd ; ac y mae aml un a fuasai yn caru dyfod at y
Prophwyd, ond y maent fel Saul fab Cis, pan oedd ei lanc yn
ceisio ganddo ymgynghori â Samuel, gẃr Duw, yn herwydd
yr asynod : " Wele, od awn ni heddyw, pa beth a ddygwn i'r
gŵr ? canys y bara a ddarfu yn ein llestri ni, a gwobr nid oes
i'w ddwyn i ẃr Duw : beth sy genym ?" Gynifer sydd yn
teimlo yr un fath yma ! Y maent yn rhy dlocion yn awr i
ddyfod, ond y maent yn meddwl elwa rhyw gymaint trwy fyw
yn foesol a defosiynol ; ac wedi cael gwobr, y maent yn
bwriadu dyfod ' â'u cerbydau, ac â'u meirch,' i geisio gwneyd
masnach âg ef ; ond ni ddaw y Prophwyd ddim cymaint ag i
edrych ar eich trysorau. Nid ydyw yn arfer masnachu :
rhoddi y mae bob amser. Ac y mae miloedd o'r rhai sydd yn
dyfod at ei bonh, oblegid hyn, yn myned ymaith yn waglaw :
am na fyn Efe ddim o'u cyfiawnder hwy, ni fynant hwythau
ddim o'i gyfiawnder Ef. * Y maent yn ceisio gosod eu cyfiawn-
der eu hun ; felly heb ymostwng i gyfiawnder Duw.' Nid oes
yr un adnod yn y Bibl yn fwy croes i galon lygredig na hono :
"Trwy ras yr ydych yn gadwedig, trwy ffydd ; a hyny nid o
honoch eich hunain : rhodd Duw ydy w." Ai ni chaf roddi
dim am y nefoedd ? Na chei ddim : y mae hi yn rhy werth-
fawr i'w gwerthu, ond nid yn rhy werthfawr i ras ei rhoddi.
Mae yma brawf arall o falchder Naaman, sydd yn arddang-
osiad o'n hysbryd uchelfrydig ninau, sef ei waith yn myned at
frenin Israel â llythyr oddiwrth frenin Syria, gan ddisgwyl i'r
brenin orchymyn i EHsëus ddyfod yno a'i iachau ef. Nid oedd y
llances wedi yngan yr un gair am y brenin ; ond yr oedd ê yn
ŵr mor fawr, fel nad oedd yn myned ei hun i chwiHo am y
prophwyd, ond disgwyliai i'r brenin anfon am dano, a'i orch-
ymyn i gyflawni y gwaith. Digon gweddus a fuasai iddo fyned
yn ostyngedig i chwilio pob tŷ yn Samaria am Ehsëus ; ond
yr oedd hyny yn ormod o ddarostyngiad ar y g\vr mawr. Ys-
bryd Duw sydd yn achub; ac os ydwyf fi i gael fy nglanhau
Cyferbynu tref?í dyn a threfn Dnw. 853
y mae yn rhaid i'r Arglwydd orchymyn iddo wneuthur hyn i
mi : nid wyf fi yn meddwl myned i chwilio llawer am dano.
Digon gweddus i ti a fyddai gwneuthur hyny. Yr enw sydd
yn y nefoedd, ar y duU y mae miloedd yn profFesu eu bod
yn disgwyl wrth Ysbryd Duw ydyw, — " uchder ífroen." Nid
ydyw trefn Duw o gadw ddim yn dirmygu dyn, ond y mae hi
yn ei ddarostwng; — yn cuddio balchder oddiwrtho, trwy ei
wneuthur yn ddim, a llai na dim. Y mae hi nid yn unig yn
gwrthod yr eiddo ef; ond y mae hi yn ei wneuthur yn ynfyd
yn ei wybodaeth. Y mae yn debyg fod balchder Naaman wedi
ei glwyfo yn hyny. Yr oedd y cyngor yn yraddangos fel pe
buasai y prophwyd ara wneuthur ftwl o hono. Fe ddywedir
fod dwfr yn niweidiol i'r gwahân-glwyf ; ac yr oedd clywed y
prophwyd yn cynghori i ymarfer à pheth ag oedd yn ei natur
o effaith wahanoli'w iachâd, yn ddigon i berii'r tywysog dybied
ei fod yn ei wawdio, — yn rhoddi sèn iddo. Gymaint sydd yn
tramgwyddo wrth yr efengyl, am ei bod yn gwneuthur yn
ynfyd eu gwybodaeth. Y mae y pethau y mae hi yn eu cynyg
yn feddyginiaeth, yn ol tyb dyn, mor anghymwys i hyny ag
ydoedd y dwfr i wellâu ygwahanglwyf ; ie, y maentyn bethau
ag sydd yn naturiol yn cynyrchu effeithiau gwrthwyneb : beth
a ddisgwylir o dlodi, ond ; — o groes, ond dirmyg ; — o
angau, ond angau? Ond y mae gogoniant, medd hi, i ddyfod
o groes; — bywyd o angau ; — cyfoeth o dlodi ; — pethau mor an-
nhebyg, ag ydyw iechyd i'r gwahan-glwyfus o ddwfr. Ond nid
yn unig yr oedd iechyd i ddyfod o beth annhebyg, yr oedd
cysylltu canfyniadau mor fawrion â pheth mor fychan, yn ym-
ddangos yn gwbl afresymol : ymolchi, yn wir, yn glanhau y
gwahan-glwyf ! na, na, mi wn i yn well am wahan-glwyf na
disgwjl peth fel yna. Nid ydyw yn beth raor fychan ag y
gwna rhywbeth dysyml fel yna ei svmud i ffordd. " Credu yn
cadw !" medd ymddygiadau miloedd ; "na, na, nid wyf mor
ffol a meddwl peth fel yna. Y peth bychan yma sydd ar fy
meddwl yn arwain i fywyd tragy wyddol ; na, na, yr ydwyf yn
deall yn well beth ydyw bywyd tragywyddol, na meddwl peth
fel yna." Gwyliwch chwi ddiystyru dydd y pethau bychain,
ac i falchder eich deall fod yn ddinystr i chwi. Y mae uchel-
drem dyn yn cael ei ddarostwng gan yr efengyl, am fod yn
854 Cyíerbymi trefn dyn a ihref?i Diiw.
rhaid iddo ymostwng i gael ei achub yn hollol, ymhob ystyr,
gan un arall ; — gan ddoethineb un arall ; — gan gyfoeth un
arall ; — gan nerth un arall. Pe cawsai efe gerdded ar bigau
o heiyrn am flynyddoedd, i waedu rhyw ychydig i helpio gwaed
ygroes ; — pe cawsai efe ymprydio ddwywaith yn yr wythnos, i
wneuthur rhyw ddarn bychan at ei gyfiawnder Ef ; — pecawsaì
efe roddi ei gorff i'w losgi, i helpio haeddiant Calfaria i
agor porth y nefoedd, buasai y drefn yn fwy cymeradwy
ganddo, am y buasai yn ymborth i'wfalchder ; ond y mae yn
rhaid iddo newynu yn nhrefn yr efengyl; ni chaiff gyraaint a
llechu o dan y bwrdd i gael y briwsion : y mae deddf ffydd
yn ei gau allan yn gwbl. A ydych chwi yn foddlawn i fod yn
ddim, i Dduw fod yn bob peth ? A fedrwch chwi ganu y Salm
hono: — " Nid i ni, O Arglwydd, nid i ni, ond i'th enw dy hun
dod ogoniant?" Nid i'n deall ni ; — nid i'n cyfoeth ni ; — nid
i'n teilyngdod ni ; — nid i'n gallu ni, &c. Os ydych am gael
eich cadw, y mae yn rhaid i chwi ymostwngi rodio gydâ Duw.
II. Yr oedd trefn Naaman i gael iechyd yn un weledig, — yn
drefn i'w synwyrau corfforol ; ond yr oedd trefn Duw yn un i
ffydd. " Mi a feddyHais ynof fy hun y deuai efe allan ;" hyny
yw, yr oeddwn i yn disgwyl y cawswn ei weled yn dodi ei law
ar y fan ; a gweled y gwahan-glwyf yn cilio drwy hyny, fel y
tywyllwch o flaen y göleuni. Ond, medd yr Arglwydd, " Dos
i'r lorddonen," — nid oes yno ddim i ti i'w weled : os na chredi
di hynyna, heb weled, yn ngafael dy wahan-glwyf y byddi di
byth. Felly, y mae dyn eto yn gofyn arwydd : a Duw yn dy-
wedyd, "Cred." Arwydd nis rhoddir i ti : nid oes yma ddim
i'w weled.
Y mae ar ddyn eisiau prawf amgen nag a roddodd Duw o
wirionedd trefn y cadw ; ac hefyd brawf amgen nag a roddodd
o'i pherthynas hi âg ef.
I. Y mae arno eisiau prawf gweledig o'i gwirionedd hi. Yr
oedd ar y goludog eisiau i'w bum' brawd gael un oddiwrlh y
meirw i hysbysu iddynt. Yr oedd Moses a'r prophwydi wedi
bod yn ofer iddo ef ; ac yr oedd yn ofni mai ofer a fyddent
iddynt hwy thau hefyd. Ond medd y patriarch Abraham, " Nid
oes yr un prawf fel yna i gael ei roddi i neb ; os na chredant,
yn ofer y disgwyliant am weled." Fe fu crefydd gynt yn
i
i
Cyfcrhynu trefn dyn a thrcfn Duw. 855
Trhjmbeth i'r synwyrau corfforol : yr oeddei chysegr, eihebyrth,
:a'i hoffeiriaid, yn weîedig. Gallasai yr luddew ddywedyd am
yr oll o grefydd mai yr hjm a welodd ac a deimlodd oedd hi.
Yr oedd tân Sinai wedi rhoddi argraff ar ei feddwl, mai un
bwysig oedd y ddeddf : yr oed-d y cwmwloedd yn gorphwys ar
y Tabernacl wedi rhoddi argraff ar ei feddwl, mai sancteidd-
rwydd a weddai i'r tŷ byth. Ond nid gweledig mo honi yn
•awr. Os aroswch chwi heb barchu y ddeddf sydd yn yr ugein-
fed o Exodus, hyd nes y -cewch chwi weled rhyw fynydd yn
llosgi, i brofi fod m^awredd ynddi, chwi aroswch hyd ddydd
■eich marwolaeth. Os arosAvch chwi heb geisio y Mab bychan,
hyd nes y gweloch ryw seren yn yr %vybren, i brofi ei fod wedi ei
eni, ni cheisiwch chwi byth mo hono. Os na chyfaddefwch
chwi ef yn Fab Duw, hyd nes y cewch chwi, fel y canwriad,
weled y beddau yn agor, a'r creigiau yn hollti, ni chyfaddefwch
■chwi mo hono felly yn nydd gras. Y mae yr haul, y lîeuad, y
sêr, a'r hoU elfenau, wedi gwneuthur cymaint ag a wnant. Fe
âd Sinai rhyngot ti a'r ddeddf ; — fe âd y sêr rhyngoch chwi a'r
Mab bychan ; — y mae y creigiau yn myned i adael bellach
rhyngoch chwi a chyfaddef Mab Duw. Ni wna natur ddim
mwy nag y mae hi wedi ei wneuthur i dori y ddadl. Caiff y
meirw orphwys yn eu beddau, hyd ganiad yr udgorn : caiff yr
haul redeg ei yrfa bellach, hyd oni orpheno fel gwas cyflog ei
ddiwrnod, heb sefyll am foment i wneuthur arwydd i neb o wir-
ionedd y Llyfr. Chwi ellwch ameu yr addewid, os disgwyl yr
ydych i'r greadigaeth ddwyn tystiolaeth iddi. Y mae pob peth
hon i aros bellach fel yr oeddent o'r dechreuad. Ni rwygir y
■nefoedd eto ; — ni ddaw yr un llais oddiyno i dystio, " Hwn yw
fy anwyl Fab." Y mae y Bibl yn dywedyd hyny ; ac ofer y
disgwyhem ei glywed yn un man arall. Ni ddaw y Prophwyd
ddim i'r golwg i ni mwy nag i Naaman. Fe gafodd Naaman
•sicrwydd gweledig, teimladwy, o wirionedd y cyngor cyn
myned adref ; or.d bu raid iddo weithredu ffydd i gyraedd
hwnw ; ac y mae pawb, fel yntau, a weithreda ar y cyntaf yn
sicr o gyraedd yr ail. Fe gaiff y dystiolaeth ynddo ei hun, i
gadarnhau tystiolaeth y Bibl.
2. Ond y mae ar ddyn eisiau prawf amgen nag a roddodd
Duw, o berthynas y drefn âg ef. Nid yn y fan yma yr oedd
856 Cyfcrbymí trefn dyn a threfn Duw.
Naaman yn tramgwyddo. Yr oedd efe yn credu mai iddo ef
yr oedd y cyngor : ameu ei wirionedd yr oedd efe ; ond nid
eisiau prawf arall o'i wirionedd sydd arnom ni, ond eisiau prawf
amgen nag a roddodd Duw o'i berthynas â ni. Pe buasai llawer
o wahan-gleifion o fiaen porth Elisëus, a'r genad yn dyfod i'w
plith, ac yn dywedyd, Ewch i'r lorddonen, ac ymolchwch ; neu,
Pwybynag a ymolcho yn nyfroedd yr lorddonen, iach a fydd,
onid afresymol iawn a fuasai gweled aml un o honynt yn myned
i ameu, ac i ddywedyd, "Ai myfi ydyw ?" neu, " Y mae arnaf
•fn mai nid i mi y mae y cyngor ; ac nid âf fi ddim nes cael
sicrwydd ychwanegol ar hyn yma. Y mae y prophwyd yn
gwybod enwau y rhai sydd i gael eu glanhau : pe cawn i glywed
y rhai hyny, i wybod a ydyw fy enw i yn eu plith : os ydyw,
mi aawn ac a ymolchwn." Cyffelyb i hynyna ydyw ymddyg-
iadau llawer o honom ninau ; ond nid ydyw yr Arglwydd yn
ymostwng i roddi prawf fel yna i neb. Y raae yn y Bibl ddigon
i ífydd, ond nid i ddim arall. Y mae "yr hwn addèl, nis bwriaf
ef allan ddim :" " Poh un a alwo ar enw yr Arglwydd, a fydd
cadwedig :" " Yr liwn sydd yn ewyllysio, Deued :" " Trowch
eich wynebau ataf fi, holl gyrau y ddaear, fel y'ch achuber :" y
mae geiriau o'r fath yna yn ddigon i ffydd. Nid oes ar flfydd
eisiau dira ond y Bibl ; nag eisiau y Bibl yn ddim ond yr hyn
ydyw. A lle nad ydyw y Bibl yn ddigon, ni fyddai dim arall
yn ddigon. Os ydyw Moses a'r prophwydi yn aneffeithiol, ni
fyddai un oddiwrth y meirw o ddim llesàd. Nid yw yn eglur
iawn fod neb yn cael eu hargyhoeddi gan wyrthiau yr Arglwydd
lesu, ond y rhai hyny oeddent wedi eu hargyhoeddi eisoes gan
eu heisiau ; i'r rhai hyny yr oedd y gwyrthiau yn eglurhâd ar
ei ogoniant Ef, ond nid i neb arall. " Yneb y mae ganddo, y
rhoddir iddo." Yr oedd yr luddewon yn dywedyd, os disgynai
lesu Grist oddiar y groes, y credent iddo ; ond pan y cododd
o'r bedd, yr hyn oedd yn fwy peth na disgyn oddiar y groes, ei
wrthod yr oeddent fel o'r blaen. Os nad ydyw " pwy bynag a
ddêl " yn ddigon i beri i chwi gredu fod i chwi groesaw, ni
fyddai cenad o'r byd arall ddim yn ddigon i hyny. Os nad
ydyw "yrhwn sydd yn ewyllysio, cymered o ddwfr y bywyd
yn rhad," yn ddigon i beri i chwi gredu fod i chwi groesaw, ni
fuasai anfon atoch chwi wrth eich enwau ddim yn ddigon. Y
Cyferbynu trefn dyn a thrcfn Duw. 857
mae genym esiampl Ysgrythyrol i brofì hyn. Fe wahoddwyd
rhyw gynifer i'r swper mawr wrth eu henwau ; ond darfu
iddynt oU yn unfryd ymesgusodi : fe anfonwyd gwahoddiad
cyffredinol allan eilwaith i'r prif-íî>rdd a'r caeau, heb enwi nel' ;
ond er nad oeddent wedi eu henwi, ni feddyliodd yr un o
honynt am beidio dyfod. Oddiwrth y fîeithiau hyn, ni a
welwn, pwy bynag sydd yn gofyn mwy o sicrwydd nag y mae
y Bibl yn ei roddi, pe cai Efe hyny, ni byddai yn ddigon iddo.
Nid oes gan Dduw yr un drefn i achub y ^^-íFydd ; ond y mae
y drefn yn sicr o gadw y gwanaf ei fifydd. Ac er mwyn y
gweiniaid, gellir sylwi yma, mai nid maint y ífydd sydd yn
diogelu bywyd ; y mae cysur y bywyd yn ymddibynu ar hyny,
ond nid ei ddiogelwch. Nid oedd gan Naaman ond ychydig
iawn o íFydd yn nghyngor y prophwyd : yr oedd hi yn rhy
wan o lawer i gredu yr iacheid ef : yr oedd yn fwy priodol ei
galw hi yn anghrediniaeth nag yn íîydd ; ond yr oedd yn
peri iddo ymarfer â'r cyfarwyddyd, er mai o dan ameu, ac
felly fe atebodd y diben iddo. Y mae miloedd ar y ddaear heddvw,
nad ydynt yn gallu credu yn gadarn y cedwir hwynt ; ond y
mae yna rywbeth yn eu mynwes yn peri iddynt ymwneyd bob
dydd â threfn y cadw, er mai dan ameu a etyb hi ei diben
iddynt hwy. Nid ydynt yn gallu credu y deuant yn iach ; ond
y maent yn credu digon, i beri iddynt ymolchi bob dydd yn yr
lorddonen, a chyn sicred a'u bod yn gwneuthur hyny, fe'u
gwelir ryw ddydd yn gwbl làn.
III. Yr oedd trefn Naaman i gael iechyd ynun ddyrus iawn:
gymaint o ranau oedd ynddi ; — dyfod allan, — sefyll, — galw ar
enw ei Dduw, — gosod ei law, neu daro ei law, ar y fan, — iachau
y gwahan-glwyfus. Ond yr oedd trefn Duw yn syml dros
ben : — " Dos ac ymolch saith waith yn yr lorddonen ; a'th
gnawd a ddychwel i ti, a thi a lanheir." Mor syml, — mor un-
plyg ydyw, o'i chymharu â'r Uall ! Felly y mae y ddwy drefn
eto. Y mae dyryswch trefn dyn i'w weled yn y crefyddau y
mae efe wedi eu llunio iddo ei hun. Y fath beirianwaith dyrus
sydd yn perthyn iddynt : pererindodau, — ymprydiau, — gwedd-
iau, — ystumiau corfiForol, — penydiau corfforol, — a'r pethau
hyn i'w hymarfer ar amserau penodol, a methu awr yn peryglu
hapusrwydd yr addolwr. Onid oes llawer o ddarnau yn y
8 5S Cyferbynu trefn dyn a threfn Dutü.
peiriant yn gofyn cof cryf i'w coíìo, heb sôn am eu hymarfer
oll. Ac y mae p'ob dirywiad ar grefydd yn ei ddangos ei hun
mewn ychwanegu rhyw seremoniau i'w gwneuthur yn fwy
dyrus. Y mae yn rhaid i'r offeiriad Pabaidd, fe ddywedir
wneuthur 330 o wahanol ystumiau ar ei gorff, wrth fyned trw)^
wasanaeth yr oíFeren bob tro. Ac y mae cynllun dyn ynghylch
y dull y mae trefn Duw i ateb ei diben iddo ef yn un dyrus
iawn. Nid oes yma neb, mwy nag yr oedd Naaman, yn ceisio
ei wellau ei hun ; ond, fel yntau, yr yd^'-ch wedi tynu y cynllun,
pa fodd y mae y prophwyd i'ch gwellâu. Y mae yn rhaid i'r
peth hwn ddigwydd yngyntaf ; ac yna beth arall ; ac ynaryw-
beth drachefn. Y mae eich trefn chwi fel olwynion Ezeciel,
yn olwyn mewn olwyn ; ond y mae trefn Duw yn unplyg a
syml : — " Dos i'r lorddonen, ac ymolch." Y mae symlrwydd
yn nôd ar hoU weithredoedd Duw, a dyryswch ar weithredoedd
dyn. Edrychwch ar drefn dyn i oleuo un o'r trefydd mawrion
yna ; mor ddyrus gymalog ydyw y drefn i hyny: tân mawr
mewn un cwr ; — pibellau i gario y nwy {qas) i bob man ; — dyn»-
ion i reoleiddio a goleuo hwnw ; ac wedi yr holl drafferth, nid
ydyw ond haner goleu, ac y mae yn anmhuro yr awyr wrth ei
goleuo hi. Ond y mae y Duw anfeidrol yn cadw ei lamp fawr
i oleuo heb ddim trafferth, heb eisiau ei thrwsio hi un amser, ac
nid ydyw hyn ond un o'i dibenion hi. Y mae meddyginiaeth
yn yr esgyll, a gwres yn y goleuni. Ac un rheswm paham y
mae dynion heb ganíod llawer o weithredoedd Duw ydyw, am
eu bod yn disgwyl eu cael fel eu gwaith hwy eu hunaiUi Fe
fu y doethion am ganoedd o flynyddoedd yn ceisio deall trefn
y rhod, ond yn ofer. Yr oedd eu gwaith hwy yn disgwyl
canfod rhyw ddyryswch, a chywreinrwydd, yn eu hatal i weled
y ddeddf syml sydd yn cadw yr holl fydoedd i droi, ar yr un
pryd ag y mae hi yn cadw y gwhthyn i grogi wrth y glas-
welltyn. Ani yr un rheswm y mae y drefn i fod yn gadwedig
yn f uddiedig oddiwrth ddoethion y ddaear : y maent hwy yn
chwiHo am gywreinrvvydd, pan nad oes dim yna ond symlrwydd»
lë, yn y drefn i fod yn gadwedig, y mae y Duw sydd â syml-
rwydd yn nôd ar ei holl weithredoedd, wedi rhagoii arno ei
Hun, trwy ei gwneuthur yn fwy syml na'r un o honynt. Y
mae symlrwydd y drefn yn gynwysedig mewn tri pheth : —
Cyfârhynu trcfn dyn a threfn Dww. 8-5 9
1. Y mae ei phob peth hi i'w cael yn yr un fan ; — 2. I'w cael
trwy un peth ; — 3, A'r un peth hwnw o fewn cyraedd pawb,
I. Y mae ei ehwbl hi yn yr un man. Y mae pethau y bywyd
naturiol, er eu bod yn syml, wedi eu gwasgaru i lawer lle ; ac-
y mae yn rhaid cael amryw bethau i gyd-gyfarfod tuag at ei
gynal. Y mae yn rhaid cael yr awyr yn bur, — yr ymborth yn
iach, — y dillad yn glyd, — yr hîn yn dymherus ; ond y mae pob
peth bywyd tragywyddol yn yr un un, sef yn ei Fab Ef. Yn lle
myned i lawer lle, fel gydâ phethau y ddaear, i chwiHo am un
peth, ni a gawn fyned i un man i ymofyn pob peth. Yr oedd
yn fantais fawr i'r Aiphtiaid gael yr holl ŷd o dan lywodraeth
yr un un : gwyddent felly pa le i droi ; ond ŷd yn unig oedd
gan Joseph ; ond " rhyngodd bodd i'r Tad drigo o bob cyf-
lawnder ynddo Ef." Pa le y caf gyfiawnder i guddio fy mherson
euog ? Ynddo Ef. Pa le y caf sancteiddrwydd i buro fy
natur aflan ? Ynddo Ef. Pa le y caf waed i dawelu fy nghyd-
wybod derfysglyd ? Ynddo Ef. Pa le y caf hawddgarwch i fy
nghalcn ymserchu ynddo? Ynddo Ef. Pa le y caf ryfeddodau
i fy neall addoh uwch eu pen ? Ynddo Ef. Pob cyíìawnder î
"Na ddos i faes arall."
2. Y mae yr holl gyfîawnder yn dyfod i feddiant pechadur
trwy un peth, sefcredu. Nid oedd y sarfiF bres yn gwneuthur
dim ond rhoddi aechyd ; — y manna yn gwneuthur dim ond yn
cynnal. Gallasai dyn edrych ar y saTÍf, a chael ei wellâu, a
marw wed'yn cyn pen yr wythnos, os na chai y manna ; ond y
mae credu yn ateb i bob peth. Fe sugna rinwedd o hono i
iachau dy wendid di ;— fe'i try yn fara y bywyd i dy gynaldi ; —
fe'i gwna yn wisg i guddio dy noethni di. Y mae Efe wedi ei
wneuthur gan Dduw yn bob peth ar gyfer pechadur ; ac y mae
credu yn dadgloi yr ystordai oll, i ddwyn y pob peth i feddianj
pechadur. Nid gweddiosydd yn cadw ; — nid elusenau sydd yn
cadw; — nid byw yn foesol sydd fyn cadw; — nid edifarhau
sydd yn cadw ; ond credu yn y Mab. Y mae y pethau hyn
yn angenrheidiol i grefydd, ond nid ydynt yn angenrheidiol
i'ch cymhwyso i ddyfod at Fab Duw ; a dim ond dyfod ato, y
mae yn haws eu cyflawni hwynt na pheidio. Y mae edrych
ar ei glwyfau yn peri i un wylo o'i fodd edifeirwch pur. Y
mae gweled yr lesu yn marw dros bechod yn peri i'r dyn yni
86 o Cyferbyuii trefn dyn a threfnDtiw.
naturiol ddarfod âg ef. Ac y mae digon ynddo ar gyfer y
pechaduriaid gwaethaf fedd y byd. Pa mor ddu bynag y
cymeriad, pa mor ddwfn bynag yr aflendid, pa mor drwm
bynag yr euogrwydd, y mae digon ynddo ar eich cyfer ; ac fe
wna defnydd o hono ef eich gwneyd yn greaduriaid newydd
byth ; ac nid oes dim arall a effeithia hyny. lawn y dywedodd
y bardd : —
"Mae'r ffynon yn agored, dewch edifeiriol rai ;
Dewch chwithau yr un ffunud sy'n methu edifarhan :
Dewch gafodd galon newydd, dewch chwithau na chadd 'r un,
I olchi 'ch aflan feiau yn haeddiant Mab y dyn."
Yr oedd yr luddewon yn dilyn deddf cyfiawnder, ond heb ei
chyraedd hi o hyd, tra yr oedd y cenhedloedd, oedd heb ei
dilyn, wedi ei chyraedd hi trwy ífydd. Cyrhaeddwch chwithau
yr holl rinweddau Cristionogol yn yr un dull, sef trwy ffydd :
y mae yr oU yn dyfod trwy gre^íu.
3. Mae yr un peth sydd yn cadw o fewn cyraedd pawb. Gall-
asai fod yr un peth heb fod yn nghyraedd neb. Fe dybid gynt
fod rhywbeth yn y greadigaeth a dröai bob metel yn aur ; ond
er i filoedd chwilio am dano, ni Iwyddodd neb i'w gael. Y mae
pethau eraill, er nad oes ond un peth yn angenrheidiol i'w cyr-
aedd, nid yw yr un peth hwnw ddim yn gyrhaeddadwy ond
i ryw ddosbarth penodol. Y mae awyr ynys ar dueddau Aíîrica
yn feddyginiaeth i'r darfodedigaeth ; ond y mae y draul i fyned
yno, a byw yno, mor fawr, fel nad oes neb ond cyfoethogion yn
well erddi. Yr oedd gwobrau rhagorol ar Olympus gynt ; ond
yr heinyf — y medrus— yn unig a allasai obeithio eu henill. Y
mae teitlau anrhydeddus i'w cael yn y prif ysgolion ; ond y
doethion a'r deallus yn unig sydd yn eu cael. Ond y mae yr
un peth sydd yn cadw o fewn cyraedd pob dosbarth. Nid
oes neb mor dlawd, fel y byddai raid iddo anobeithio am y
cyfoeth : nid oes neb mor ffol, na all efe gael y teitl : ni ddylai
y gwanaf ddim anobeithio am y wobr, oblegid nid i'r hwn sydd
yn gweithio y mae hi, ond i'r hwn sydd yn credu. Yr oedd
cyngor y prophwyd i Naaman yn unig : gallasai pob gwahan-
glwyfus ei wneuthur. Pe buasai yn dywedyd wrtho beth mawr,
fe allasai Naaman wneuthur hwnw hefyd, oblegid yr oedd efe
yn ŵr mawr, ond cyngor i wahan-glwyfus oedd y cyngor, nid i
Cyfcrbynu trefn dyn a threfn Duw. 86 1
ŵr mawr. Trefn i achub pechadur ydyw trefn Duw : nid i
achub y doeth ; nid i achub y cyfoethog ; ondiachub pechadur.
Yr oedd cymwynasau Mab Duw pan ar y ddaear o fewn cyr-
aedd pawb, oblegid yr oedd yr un peth, oedd yn amod eu rhoddi,
yn gyrhaeddadwy i bawb : y cwestiwn bob amser oedd, "A
wyt ti yn credu?" neu, " Os gelH di gredu." Fe allasai Jairus
wneuthur Uawer o bethau, na allasai Bartimëus mo'u cyílawni ;
yr oedd y naill yn bendefig, a'r llall yn gardotyn ; ond yr oedd
yr hyn oedd yn sugno rhinwedd o Fab Duw yr un mor hawdd i
Bartimëus ei gyflawni ag i Jairus, sef credu ynddo. Y mae
pawb sydd yn ei adwaen yn ymddiried ynddo. Wel, nid wyf fi
ddim yn ei adwaen: y mae fy neall i mor bwl fel na fedraf
wybod dim am dano. Y mae amod bywyd yn dy ymyl dithau :
dyma dystiolaeth un sydd yn ei adwaen ; a thystiolaeth dynion
yr ydych yn ei derbyn, ond y mae tystiolaeth Duw yn fwy, ac y
mae efe yn dywedyd : — " Hwn yw fy anwyl Fab, gwrandewch
Ef ;" a phen y llwybr i'w adwaen, ydy w ymddiried ynddo. Yr
oedd llawer un heb wybod nemawr am y Meddyg, nes iddo
ddechreu cymeryd physigwriaeth ganddo : fe gredodd dystiol-
aeth un arall am dano i ddechreu ; ond wrth ymwneyd âg Ef,
daeth i'w adwaen, fel nad oedd raid iddo i neb dystiolaethu
am dano. Pe cyraerech chwithau dystiolaeth Duw am ei Fab,
nid hir y byddech heb y dystiolaeth ynoch eich hunain.
IV. Yr oedd trefn Naaman yn un i'w gadw ef ei hun yn
ddiwaith ; a threfn Duw yn un oedd yn galw arno weithio : —
"Mi a feddyUais ynof fy hun," meddai Naaman ; ond " Dos,
ac ymolch yn yr lorddonen," medd Duw. Felly mae y ddwy
drefn eto. Y mae y pechadur yn falch ac yn ddiog ; ond fe
ysgydwa ymaith ei ddiogi, os bydd hyny yn rhywbeth i borthi
ei falchder ; ond lle na bydd gwaith yn ymborth i'w hunan
ddrwg, nid oes ganddo ddim blas arno. Fe weithia lawer i
enill nefoedd ; ond ni weithia efe ddim i'w derbyn hi. Os
ydyw i gael ei achub trwy ras, y mae yn rhaid iddo gael ei
achub heb drafferth ; ond os ydyw i drafferthu, y mae yn
disgwyl cael y nef am hyny. Y mae naill ai yn Antinomian
neu yn Pharisead ; ond y mae trefn Duw gymaint yn erbyn
diogi ysbrydol ag ydyw hi yn erbyn balchder ysbrydol. Y mae
hi yn gofyn nid yn unig i ni ymwadu â ni ein hunain, yr hyn
862 Cyferhynii trefn dyn a threfn Duw.
sydd yn myned yn erbyn ein balchder, ond i godi y groes, yr
hyn sydd yn myned yn erbyn ein diogi ni. Pan yr wyt yn
myned i weithioam y nefoedd, " Saf," medd Duw, " ac edrych
ar iachadwriaeth yr Arglwydd." Pan yr wyt yn myned i
ddisgwyl yn ddiog, " Bydd ddiwyd," medd yr Arglwydd, *' i
wneuthur dy alwedigaeth a'th etholedigaeth yn sicr." Pan y
mae dy falchder yn dy demtio i weithio am y wobr, y mae yr
Arglwydd yn dy wedyd, raai i'r hwn nid y w yn gweithio y mae
hi yn cael ei chyfrif, Pan y mae dy ddiogi yn peri i ti ddy wed-
yd, " Pwy a wrthwynebodd ei ewyllys Ef," y mae yr Arglwydd
yn dywedyd, " Ymdrecha am fyned i mewn trwy y porth
cyfyng." Yr oedd Israel gynt yn sefyll o ran ysbryd eu meddwl,
lle yr oedd Duw yn dywedyd, "Ewch." Yr oeddent yn
rhuthro i fyned eilwaith, île yr oedd Duw yn dywedyd,
" Sefwch." Felly dyn eto. Y mae cyd-gyfarfyddiad prydferth
o bethau croes i'w gilydd yn nhrefn Duw. Nid yw ei grasion-
rwydd hi ddim yn cau allan waith, na'i gweithredoedd hi ddira
yn cymylu gras. Bydd y saint yn derbyn y nefoedd o ras, ac
yn cael eu gwobrv/yo ynddi ara eu gweithredoedd. Nid oes yr
un olwg ar y drefn yn y Bibl, yn dango^ ei bod hi wedi ei
bwriadu i ddyn balch : na'r un olwg arni yn dangos, ei bod hi
yn tycio i'r dilafur ychwaith. Y mae hi i'r tlawd : dyfroedd
ydyw hi; ond nid i'r diog : y mae yn rhaid myned iddynt. Y
mae gobaith i'r annheilwng am y deyrnas ; oblegid rhyngodd
bodd i'r Tad ei rhoddi hi i rai bychain ; ond nid oes obaith i'r
diog; oblegid treiswyr sydd yn ei chipio hi. Nid oes dira ond
un o ddau beth a'n rhwystra ni i'r nefoedd ; naill ai balchder
ai diogi ; naill ai bod yn rhy falch i gael ein hachub trwy ras,
neu yn rhy ddiog i gloddio ara y peth. Yr oedd gwas yr un
dalent yn y ddaraeg yn teimlo yn ddiau fod ei feistr wedi ei
sarhau, trwy yraddiried dira ond un iddo ; ond yr oedd nid yn
unig yn falch, ond hefyd yn ddiog. " Tydi, was drwg a diog."
Nid oedd yn hoífi y draíFerth o farchnata. Gymaint sydd yn
debyg iddo ! Ni wnant yr hyn a allant o eisiau bod yn abl i
wneuthur mwy na hyny. Ni bydd raid i ti ddim rhoddi cyfrif
am yr hyn na elH ; ond bydd genyt gyírif sobr i'w roddi ani yr
hyn ni fyni. Nid am nad oedd ganddo bum' talent y cosbwyd
y gwas, ond o eisiau marchata â'r un oedd gauddo. Y mae
I
Cyfcrbynu trcfn dyn a threfn Dim. 863
llwyddiant dyni gael pethau y byd hwn yn ymddibynu ar eí
fedr yn eu ceisio;. ond y mae pethau trefn iachawdwriaeth i'w
cael, nid trwy eu ceisio yn fedrus, ond trwy eu ceisio fel y gelli
di. Y mae llawer un yn ceisio mor ddilun, íel nad yw yn
deilwng o'i alw yn geisio, — ymbalfalu ydyw ; ond y mae ym-
balfalu yn Ilwyddo am y nefoedd, er mai Iled aflwyddianus a
fyddai gydâ golwg ar bethau y ddaear. Nid cloddioyn gelfydd
iawn, a sicrhâ y trysor i chwi ; na, cloddio yn drwstan, fel y
galli di, ond gofalu ei fod yn y maes.
Beth a dybiwch chwi am y ddwy drefn ? Ai nid ydyw y
ddadl wedi ei thori yn eich meddwl, mai trefn Duwa'ipiauhi o
ddigon ? Ond os oes yna yr un amheuaeth yn eu cylch yn eich
meddwl eto, cofìwch y ddau beth yma am danynt.
Y mae trefn Duw yn cadw : ni wna eich trefn chwi mohyny.
Nid oes iachawdwriaeth mewn un arall. Os gall yr lorddonen
fod yn ddiystyr yn eich golwg, y mae hi yn gwellâu y gwahan-
glwyf : ni wna Abana a Pharpar mo hyny. Y mae y drefn yn
myned â phechadur i'r nefoedd : os ydyw hi yn darostwng,
darostwng i godi y mae hi. Os ydyw hi yn peri i ti rodio wrtu
ífydd, a thithau eisiau gweled, nid ydyw ond rhoddi cysgod
dros dy Iygaid am ychydig, iddynt ddyfod yn ddigon cryfion i
ddal goleuni gorseddfainc Duw. Os ydyw hi yn rhy syml
genyt, a thithau yn ymofyn cywreinrwydd ; doethineb mewn
dirgelwch ydywhi, yn aros i ti ddyfod yn berffaith, hi ddengys ei
chywreinrwydd i ti wed'yn. Os ydyw hi yn galw arnat i
weithio, y mae hyny fel y caet ti orphwys ar ol hyn. Y mae hi
yn cymeryd pechadur i'r nefoedd.
2. A pheth arall, y mae hi yn ei wneuthur yn gyfryw ag y
bydd y nefoedd yn fangre hapus iddo. Pe buasai eich trefn
chwi yn eich cymeryd i'r nefoedd, nid nefoedd a fuasai hi i
chwi. Pe cawsit ti fyned yno yn greadur balch, uchelfrydig,
buasai cenfigen yn bwyta dy ysbryd, oblegid y mae yno gymaint
o rai mwy na thi : buasai cenfigen wrth eu mawredd hwynt,
yn gwneuthur uífern yn dy fynwes di yn nghanol y nefoedd.
Pe buasit ti yn cael myned yno yn greadur diog heb weithio,
buasai y wlad yn orthrymder tost i ti, oblegid nid oes yno neb
ond gweithwyr. Teml ydy w hi : y mae yr holl drigolion yn
offeiriaid ; ac nid gwasanaethu ar gylch y maent, — na, y maent
864 Cyferbymi irefn dyn a threýn Duw.
wrthi yn ddiball. Nid yw yr wyl byth yn diweddu yno : nid
yw y tân byth yn diffodd ar yr allor yno. Tôn gron ydyw yr
anthem yno : fe'i clybu loan hi unwaith ; yr oedd y dyrfa fawr
yn dywcdyd, "Aleliwia : iachawdwriaeth, a gogoniant, a^
anrhydedd, a gallu, i'r Arglwydd ein Duw ni ;" ac erbyn iddo
wrandaw, yr oedd hi yn dechreu drachefn ; " ac eilwaith y
dywedasant, Aleliwia." Ond y mae trefn Duw yn dy ddwyn
di i ddysgu y gwaith yn raddol yma, fel y byddi di mor fedrus
arno, ag y gelli di ei gyflawni dan orphwys yno.
O na chawn i Iwyddo i'ch perswadio i roddi prawf ar y
drefn, fel y llwyddodd gweision Naaman gydâg ef. Os metha
hi, cei droi at Abana a Pharpar wed'yn.
[Gorphenaf 29, 1853.]
Pi^EGETH LTí.
SICRWYDD CA:)'.VKDIC.AIí1H KR HI HAXHA\^SD!:RAtT.
Es.\l.\H xlix. 24 2.") :— -'A ddygir y caffaeliad oddiar y cadarn .' neu uwar-
edir y rhai a garcaer'r yn gyfiawn ? üud fel hyn y dywed yr Auglwydu.
î ', carcharorion y cad:ir • a ddygir, ac anrhaith y creulawn a ddianc:
canys myfi a ymr •soìiaf â"th ymrysonydd, a myfi a achubaf dy feib'on,"
MAE prophwydoliaethau E^aiah vn gyíTrediii yii cacl
eu dosbarthu i ddwy ran : o'r dec'ireu hyd y ddcii-
geinfed bcnod yn c\-nwys rhagfynegia.1 am y diny&tr
a oddiweddai y genedl am ei beiau, ynghyd â cbrybwylliad
achlysurol am ddinystr cenhedloedd craiU ; a; oW ddengeinfed
i'r diwedd, cynwysir addewidion mawr a gwerthfawr am
adferiad o'r dinystr hwnw, ac am Iwyddiant anghyfifredin oedd i
ddilyn hyny. Yn niwedd y dosbarth cyntaf y mae caethÌM-ed
Babidon yn cael ei ragfynegi ; ac yn yr ail ddosbarth, y mae y
waredigaeth oddiyno yn cael ei chyhoeddi, ynghyd â'r mawr-
edd a ddeuai i'r genedl ar ol hyny. Y mae yr addewidion hyn
i'w deall yj eu hystyr eangaf, nid fel yn perthyn i genedl Israel
yn urig, ond i'r eglwys yn gyffredinoL Wedi addaw pethau
mawrion i Israel o'r blaen, y mae yn y benod hon yn myned
dros y terfyngylch, ac yn mynegi dychweliad y cenhedloedd.
Y mae hyn yn cael ei addaw yn gyntaf i Grist fel gwobr (adii.
6), ac wedi hyny i'r cglwys lel rhodd (adn. i8). Neu, feallai
mai mwy priodoi fyddai ystyried Crist a'i eglwys ond yn un, fel
y pen a'r corff, ac felly cymhwyso yr holl addewidion at y raiU
a'r llall. Y mae dychweliad y cenhedloedd yn cael ei ddangos
trwy amryw gymhariaethau, megis gollyngdod ogarchar,--dych-
weliad praidd dan arweiniad bugail gofalus — neu fyddin o filwyr
yn dyfod adref (adn. 12). Y mae yr addewidion hyn mor fawrion
U3
866 Sicrwydd cadwedîgaeih er ei hanhawsderau.
nesy mae Sîon yn eu hanghredu (adn. 14). Y niae yr wrthddadl
yn yr adnod yna yn sylfaenedig ar amheuaeth sydd yn ei
meddwlogariad Duwtuagati. Ondwedicael sicrwyddynghylch
hyny, y mae hi yn y testyn yn ameu ei allu : " A ddygir y caffael-
iad oddiar y cadarn ? neu a waredir y rhai a garcherir yn gyf-
iawn ?" Ond y mae yr wrthddadl hon hefyd yn cael ei symud.
Y mae ganddo ddigon o gariad, a digon o allu ; am hyny fe gyf-
lawnir ei eiriau yn eu hamser. Edrych yr oedd yr eglwys arni
ei hun, ac ar rym y gwrthwynebwr : yr oedd hi wedi ei gadael
yn unig; yr oedd y rhai oeddent i ddyfod ati yn gaffaeliaid yn
llaw y cadarn ; am hyny y dy wed, Pa fodd y bydd hyn i mi ?
ond gollwng dros gof yr ydoedd mai Duw oedd yn llefaru,
meddyliau a ffyrdd yr Hwn sydd yn uwch na'n meddyliau a'n
ffyrdd ni.
Y mae cyfeiriad cyntaf y testyn at anhawsderau, ac annheb-
ygolrwydd, gwaredigaeth Israel o Babilon ; ond gellir eu defii-
yddio fel amlygiad o annhebygolrwydd achubiaeth pechadur.
Y mae y Bibl yn hynod yn hyn, ei fod, tra yn dal gobaith iach-
awdwriaeth o flaen y byd, yn datguddio yr holl anhawsderau
sydd ar ffordd hyny. Y mae yn dal allan obaith gwaredigaeth;
ond i hyny, nid yw yn codi pechadur nac yn darostwg Duw ;
nid ydyw yn taflu mantell dros bechod, nac ychwaith yn
esbonio ymaith fanylrwydd y ddeddf. Y mae yn dangos y naill
yn unig yn ddrygionus, a'r llall yn berffaith sanctaidd. Y mae
y ddeddf yn cael ei gosod allan heb ddim trugaredd, adyn heb
ddim i dalu. I ddangos ar y naill law gyflwr dyn, dywedir ei
fod wedi pallu ymhob pwnc o'r ddeddf; — fod mor anhawdd
iddo ymadael à'i ffyrdd drygionus, ag a fyddai i'r Uewpard
newid ei frychni, neu yr Ethiop ei groen : íe, i ddangos per-
ffeithrwydd ei drueni, dywedir ei fod yn farw mewn camweddau
a phechodau. I ddangos, ar y llaw arall, beth sydd iddo fel y
cyfryw i'w ddisgwyl oddiwrth Dduw, dywedir ei fod ef yn lan-
ach ei olygon nag y gall edrych ar ddrwg ; — na ddieuoga Efe
yr anwir ;— mai y peth sydd ffiaidd yn ei olwg ydyw pechod ;
— a bod "yn haws i'r nef a'r ddaear fyned heibio nag i un iod
nac un tipyn o'r gyfraith fyned heibio, hyd oni chwblhaer oU."
Y mae dosbarth arall o wirioneddau yn y Bibl, sef y rhai hyny
sydd yn mynegi ffordd y waredigaeth ; ond y dosbarth cyntaf
Sicricydd cadwedîgaeth er ei' Iiau/iawsderau. 867
y mae Ysbryd Duw yn ei ddefnyddioi barotoi pechaduri wneyd
defnydd o'r ail : annhebygolrwydd achubiaeth sydd yn ei
ddwyn i werthfawrogi ei phosibilrwydd hi ; ac nid oes dim yn
fwy dinystriol i ddyn na meddwl fod iachawdwriaeth ei enaid
yn beth hawdd, — yn beth a ellir ei ddwyn oddiamgylch
unrhyw bryd, a'i sicrhau mewn byr amser. Y mae ymddyg-
iadau y rhai hyny sydd yn ei hoedi hyd ryw amser dyfodol, yn
profi mai hyn ydyw eu barn, os nad addefant hyn mewn geiriau.
Pan y mae goleuni Ysbryd Duw yn llewyrchu ar y meddwl, nid
dangos y mae fod iachawdwriaeth yn beth hawdd, ond yn beth
annhebyg, os nad anmhosibl. laith y rhai sydd o dan ei
ddylanwadau ydyw, ^' Ha wŷr frodyr, beth a wnawn ni ?" " Pa
beth a wnaf?" " Pa íodd y cyfiawnheir dyn ?" " A pha beth
y deuaf gerbron yr Arglwydd ?" Ac y mae meddwl ei bod yn
hawdd yn ein harwain i garasynied am danom ein hunain, ac
am yr holl drefn. Yr amcan mawr mewn golwg wrth ddysgrifio
anhawsder bod yn gadwedig ydyw, nid peri i ni anobeithìo,
ond yn hytrach ein dwyn ni i deimlo mawredd y peth; oblegid
hyny ydyw y cam cyntaf tuag at ddyfod i'w aíael. Nid oes
gwell arwydd y gwelir dyn yn rhodio y ffordd gul, na'i weled
yn teimlo fod y porth sydd yn arwain iddi yngyfyng. Cedwch
yn eich meddwl yr hyn a ddywed y Bibl am anhawsder ac
annhebygolrwydd bod yn gadwedig. Ei eiriau ar hyn ydynt,
" fod llawer wedi eu galw, ac ychydig wedi eu dewis ;" — "y
ceisia llawer fyned i mewn, ac nis gallant ;" — " y bydd plant y
deyrnas yn cael eu bwrw allan i'r tywyllwch eithaf." Y mae
tuedd mewn ystyriaethau fel hyn i'ch dwyn i lefain allan,
"Arglwydd, cadw ni, canys darfu am danom ;" ac ni ddaeth y
Uef yna erioed o galon neb, heb i hwnw fod yn y fan yn gadw-
edig gan yr Arglwydd. Fel hyn y bu gydâ'r waredigaeth o
Babilon : caethgludwyd hwynt yno, am iddynt roddi eu hyder
mewn braich o gnawd, yn lle yn Nuw. Gwaredwyd hwyntoddi-
yno, am iddynt, oddiar weled fod y peth yn inmhosibl gydâ
dynion, ymroddi i ymofyn â'r Arglwydd, ' am wneuthur ohono
hyn iddynt.'
Yr hyn a ddaw o dan ein sylw am ychydig ydyw, annhebyg-
olrwydd a thebygolrwydd achubiaeth; a'n hamcan wrth sôn am
yr annhebygolrwydd fydd, nid peri i chwi anobeithio, ond eich
8ó8 Sicrwydd cddwedîgaeth er ei hanhawsdei'au.
cau chwi i fyny i edrych i'r unig fan y mae hyny yn debyg.
Y mae adnod gyntaf y testyn yn cynwys y mater cyntaf, sef yr
annhebygolrwydd ; a'r ail, yn cynwys y llall, sef y tebygol-
rwydd.
I. Y mae y rhan gyntaf o'r testyn yn dangos fod achubiaeth
pecbadur yn annhebyg iawn : — " A ddygir y caffaehad oddíär y
cadarn ? neu a wareíìir y rhai a garcherir yn gyfìawn?" Pe
cynierid hyn yn ei ystyr eangaf, galleni ddywedyd,—
I. Fod achubiaeth pechaduryn ymddangos yn beth annhebyg
o du Duw. I olwg pob creadu", yr oedd pob peth Duw yn
erbyn hyny ; — nid oedd dim yn ci natur, can belled ag y gallasai
creadur ei deall hi, yn gwneuthur yn debyg y cymerai hyn le.
Nid oedd dim yn ei eiriau yn sùl i ddisgwyl hyny ; nid oedd
dim yn ei ymddygiadau blaenorol yn ÍTafriol i ddyn ddisgwyl
dianc, ac nid oedd dim yn ei amgylchiadau ef yn sail i ddisgwyl
yr ymddygai y Brenin tragywyddo^ yn wahanol tuag ato ef, i'r
modd y gwnaethai at angel syrthieJig. Pe buasai Jchofah yn
gofyn i un o'r angylion cedyrn o nerth, ar ol cv/ymp Adda, a
gedwid ef, diau y buasai yn enwi pethau cyffeîyb i'r rhai a
enwyd yn awr, i ddangos fod hyny yn annhebyg ; ac y buasai
gydâ'r gwylder sydd yn perthyn i greadur perffaith, yn
dywedyd, "Ti, Arglwydd, a wyddost." A chyn sylwi yn
uniongyrchol ar yr annhebygolrwydd y sonia y teÿtyn am dano,
ni a edrychwn ar yr annhebygolrwydd am achubiaeth oedd
unwaith o du Duw ; oblegid, er bod hwnw wedi ei symud yn
awr drwy aberth Crist, y mac pob pechadur sydd mewn pryder
ynghylch ei gyflwr, yn ei deimlo mor wirioneddol ag y teimlodd
Adda ef, cvn i drefn iachawdwriaeth gael ei datguddio. Ond
cyn datguddio y drefn, neu i Adda pan bechodd, —
(i.) Yr oedd achubiaeth yn annhebyg, wrth edrych ar natur
Duw. Nid oedd ond gweithredoedd y greadigaeth yn hysbysu
pa fath ydoedd hono. Anweledig oedd ei phob peth hi, ond i'r
graddau y gellid eu darllen yn y petliau awnaed ; a chan belled
ag yr oedd y rhai hyny yn eu datguddio, niti ydoedd yn debyg
yr achubai : yn hytrach yr oedd y tebyg yn erbyn hyny. Os
achubid ef, yr oedd hyny i ddyfod, can belled ag y gallasai
creadur weled, naill ai o ddiffyg purdeb i gasâu ei fai, — neu o
ddiffyg cyfiawnder i ymddwyn tuag ato yn ol ei haeddiant, —
Sicrwydd cadwedigaeth er ei /lanhuwsderaií, 869
neu o ddiffyg gallu i \\-eiryddu arno y gosb, — neu, ynte, 0
fawredd ei ddaioni yn peri iddo edrych dros yr holl bethauhyn.
Ond nid oedd drws gobakh yn agor iddo yn yr un o'r cyfeiriadau
yna. E>;]ur ydyw nasgallasai ddisgwyl Uawer oddiwrth ddaioni
Duw, oblegid yr oedd efe wedi anghredu y daioni hwnw, pan
oedd y ntfoedd a'r ddaear yn ei gyhoeddi, — y greadigaeth fyw-
ydol a difywyd hefyd yn dwyn tystiolaeth iddo ; pan otdd i'w
weled yn ngoleuni yr haul, — i'w dciinlo yn awel y dydd, — i'w
ddarllen yn nedwyddwch y greadigaeth ddireswm, ac }n
mhrydferthwch y lysieuol a'r ddifywyd. Os ocdd wedi ei ameu
pan yn berfFaith, nid tebyg yw y gallasai ddisgwyl llawer wrtho
wedi syrthio. Ac nid oedd edrych ar allu Duw yn rhoddi
amgen lle iddo obeithio ; oblegid pa faint bynag o le oedd iddo i
ameu mawredd daioni, nid oedd cysgod lle iddo ameu mawredd
gallu. Yr oedd tdiych ond unwaith ar weithredoedd Duw yn
ddigon er peri iddo deimlo fod pob peth yn bcsibl iddo ; — bod
y fraich a wnaeth gymaint yn Hollalluog, a'r galon a g^myrch-
odd belhau mor fawr yn ddidcrfyn. Ac os oedd y byd allanol
yn profì nad oedd achubiacth i'w ddisgwyl tddiwrth ddaioni a
gallu Duw, yr oedd y byd tumewnol yn profi nad oedd hyny
i'w ddisgwyl ychwaith oddiwrth ei gyfìawnder a'i sancteidd-
rwydd. laith y rhai hyn ydoedd, Nid oes obaith Yr oedd
gwaith Adda yn ffoi ac yn ymguddio yn profì ei fod yn teimlc
ei fod yn Dduw pur a chyfìawn, oblegid nid oes ar neb ofn pur-
deb ond yr aHan ; — nid oes ar neb gywilydd gerbron cyfiawnder
ond yr euog. Can belled ag y galîasai pechadur farnu oddiwrth
natur Duw, yr oedd achubiaeth yn annhebyg iawn.
(2.) Yr oedd ei eiriau hefyd yn gwneuthur hyny yn annhebyg.
Pe na buasai wedi dywedyd gair, yr oedd yr hyn a allasai dyn
ei gasglu oddiwrth ei natur bron yn rhoddi sicrwydd i'wfeddwl
na ddiangai : ond i atal pob disg\\yli=ad am hyny, yr oedd y
gair yn myned yn erbyn ei fywyd : — " Gan farw y byddi farw."
A pha gysur bynag a allas^i dyn ei dynu oddiwrth yr amlyg-
iadau o ddaioni a welsai o'i arngylch, yr oedd coíìo y gair yna
yn chwerwi }r oll. Os na newid'odd creadigaeth ei gwedd y
foment y pechodd dyn, yr oedd trwst y gair hwn yn ei glustiau
yn gtrneuthur peroriaeth daioni Duw yn gnul ei faiwolacth ef
Yr ocdd efe yn ediy^h ar y cwbl fcl y condemnicdig : os ccddtnt
8/0 Sicrwydd cadwedigaeth ey ei hanhawsderau.
yn deg, nid oedd tegwch eu gwedd ond yn chwerwi y
meddwl ei fod ef wedi fforffetio ei hawl i'w mwynhau.
(3.) A rhag iddo feddwl ei fod ddim yn wahanol mewn ym-
ddygiad, i'r hyn yr oedd ei natur a'i eiriau yn ei ddangos, yr
oedd ei waith yn rhwymo mewn cadwynau o dywyllwch, yr
angyhon y rhai ni chadwasent eu dechreuad, yn ddigon i roddi
sicrwydd na ddywedodd Efe ddim na chyflawnai, — na lefarodd
Efe ddim na chaiff ei gywiro. Tywysogion, penaduriaid ei
deyrnas, oedd yr angyhon, a phe buasai yn arbed rhyw rai,
rhesymol ydoedd meddwl mai angylion fuasai y rhai hyny. Yr
oedd Benhadad yn disgwyl arbediad, am ei fod wedi clywed fod
y brenin yr oedd efe yn rhyfela yn ei erbyn, yn arfer arbed ;
ond nid oedd sail fel hyn gan ddyn i ddisgwyl arbediad : yn
hytrach, hyd y gwyddai efe am yr orsedd, gorsedd ydoedd ya
arfer dilyn gwrthryfel gydà manylrwydd deddf : — " Yr enaid a
becho, hwnw fydd marw."
(.=1 ) Ac nid oedd dim yn ei amgylchiadau ef yn sail iddo i
ddisgwyl y gwnelid ef yn ethriad i reol gyíîredin y deyrnas :
yn hytrach, yr oedd edrych yn ddifrifol ar ei wrthryfel, yn creu
rhyw ddisgwyl ofnadwy am farnedigaeth yn ei fynwes» Yr
ydoedd wedi dirmygu daioni mawr, ac anghredu Duw ynghylch
un mwy; — wedi beiddio gallu ; — dirmygu cyfiawnder ; a
gwneuthur Duw y gwirionedd yn gelwyddog. Angau oedd yn
syllu yn ei wyneb, pa le bynag y troai; yr oedd " Gan farw y
byddi farw," yn cael ei adsain i'w glustiau gan bob peth. Ac
er bod iawn lesu Grist wedi symud ymaith yr annhebygol-
rwydd hwn, fel nad Ois yn awr ddim yn natur Duw, — dim yn
ei eiriau, — dim yn yr hyn a wnaeth i eraill, — na dim yn ein
haeddiant ninau, yn gwneuthur ein hachubiaeth yn anmhosibl»
eto pan oleuir y meddwl gan Ysbryd Duw, y mae pechadur yn
teimlo y pethau hyn mor wirioneddol ag yr oedd Adda yn eu
teimlo, cyn i'r drefn gael ei datguddio. Y mae y pethau y
byddwn yn edrych arnynt, yn cymeryd eu lliw i ni, oddiwrth
agwedd a thôn ein meddwl ni : os byddwn yn mawr ofni rhyw-
beth, yr ydym yn sicr o ganfod hwnw, os bydd i'w weled ; ac os
na bydd, y mae ein dychymyg yn ei greu. Y mae ein hofnau
ni yn gwneuthur y peth mor fawr, fel y mae yn cuddio peth
arall, oedd gerllaw iddo, a dd\Lisai fcd yn sylfaen gobaith ini ;
Sicrwydd cadwcdiguetJi er ei hanhawsderati. 871
felly, pan y mae pechadur argyhoeddedig yn edrych ar natur
Duw, y mae ei ofn efyn gwneuthur tanbeidrwydd ei sancteidd-
rwydd mor ddisglaer, nes y mae yn ei atal i weled y gras sydd
yno ; — perffeithrwydd y cyfiawnder mor fawr, nes cuddio y
drugaredd sydd yno. Y mae yr olwg ar nerth y fraich i gosbi,
yn ei rwystro i weled ei bod hi yn gadarn i iachau ; fel, pan y
mae gerbron Duw, teimbd gwŷr Bethsemes ydyw ei deimlad,
— " Pwy a ddichon sefyll yn wyneb yr Arglwydd Dduw sanct-
aidd hwn ;" ac iaith Manoah ydyw ei iaith, " Gwelais Dduw, a
byddaf farw !" Y mae yn edrych ar eiriau Duw ; ond y mae y
ddeddf yno yn ei atal i weled yr efengyl ; — m.wg a thân Sinai
yn cuddio Síon oddiwrtho ; — y bygythion yn myned rhyngddo
â'r addewidion : fel y mae y Ileuad, weithiau, yn myned rhwng
y ddaear a'r haul, ac y n peri diíFyg arno. Pan yn edrych ar ffy rdd
Duw, dinystr yr hen fyd y mae efe yn ei ganfod yn y diluw, ac
nid achubiaeth Noah a'i deulu; — dymchweliadyr anwiriaid y mae
efe yn ganfod yn ninasoedd y gwastadedd, ac nid gwaredigaeth
Lot gyfìawn ; — barn Duw ar y Babiloniaid y mae efe yn ei
weled yn ngwaith Cyrus yn gorchfygu y ddinas, ac nid ei
drugaredd at hâd Abraham. Cwblhâd o'r gair, " Yr enaid a
becho, hwnw a fydd marw," y mae efe yn ei weled yn nifrod y
Canaaneaid, ac nid cyflawniad o'r addewid a sicrhawyd trwy Iŵ
i Ábraham, Isaac, a Jacob. Ac os edrych efe ar ei amgylchiadau
ei hun, ni wêl ddim a rydd sail iddo ddisgwyl y bydd efe yn
eithridd. Pe buasai wedi bod mor foesol a Paul, y mae yn awr
yn teimlo ei hun yn benaf o bechaduriaid : am hyny rhoddi ei
hun gydâ'r hen fyd y bydd ef, ac nid gydâ Noah ; — rhestru ei
hun gydâ'r deunaw a laddwyd gan syrthiad y tŵr y mae, ac nid
gydà'r ddinas a arbedwyd. Y mae yn gweled gwell sail gan
bawb i ddisgwyl achubiaeth nag sy ganddo ef. I'r pechadur
sydd wedi ei oleuo, y mae caracter Duw a'i ymddygiadau yn
ymddangos yn gyffelyb i'r modd y mae y tir yn ymddangos i'r
rhai sydd bell oddiwrtho ar y môr, — y mae yn edrych yn ddu
ac yn beryglus ; ond y pellder sydd yn peri hyny, — pan y deuir
hyd ato, gwelir yno ddyffrynoedd heulog, a golygfeydd pryd-
ferth. Yr hyn a dybid draw yn graig ddiffrwyth beryglus,
yma yn cael ei chanfod yn wlad frâs ddeniadol ei gwedd; felly,
pan droir llygad meddwl euog i s^ilu yn gyntafar DJuw, y ina«
8/2 Sicrwyà'ì cadwedigaeth er ei hanhawsderau.
yr olwg arno yn ofnad wy, — mynyddoedd cedyrn o gyfia.vnder.
crei^iau arswydlawn o sanclceiddrwydd! y inae yr euof, with
dei:nlo ei hun yn cacl ei gario gaa ryw ddylanwad anwrthwyn-
ebol yii nes-aes ato, yn ofni y bydd i'w lestr fyntd yn ddrylliau
ar y rhai hyn ; o:id crbya dyfod gerllaw, fe wêl yno gilfach a
glàn iddi; — y mae y llcstr y i myned yn ddiogel i hono, ac y
mae y creigiau a ofnodd a íüaseiit >n angau iddo, yp lle hyny
yn troi yn gysgod iddo. "'Uaior.us yw yr ArglwyJd :" dyna y
gilfach y diangodJ iddi; " amddifTynfa yn nydd blinder :" —
dyna y mynyddoedd o wy awnder, — y creigiau o nerth, — yr
ofnodd efe gymaint antyil, yn Iroi yn ddiogelwch iddo. Y mae
yr hyn oedd yn ddychr^nllyj yn y pclldcr, yn toddi i gariad yn
ymyl ; — yr hyn oedd yj Uanw y tnedJwl à rhyw dJisgwyl ofii-
aJwy am farnedigaeth o./diiíraw, yii ei lanw à llawen-
ydd annliraethadwy ; /Äí7, cibyn ci adwaen yii iawn. Y teimlad-
au hy. a'u cyffclyb a^'dJ yn niynwes pcchadur, wrth edrych ar
gadwedigaeth y.i ei beithynas à Duw. Er nad ydyw pawb a
gedwir yn teimlo y pe hau hyn i'r un graddau, eto y maent oU
yn teimlo rhyw íesur o amheuaeth am allu neu ewyllys Duw.
Y mae yr " cs gelli,'' neu yr " os nuni,^' yn i eri iddynt dcimlo
fod eu cadwtdigacth yn annhebyg.
Ond wedi symud ymaith yr anhawsderau o du Duw, y mae
cadwedigatth yn annhcbyg wrth edrych ar ddyn : —
I. Y mae dyni(.n yn gaffaeliad yn llaw un cadarn, st-f •' yn medd-
iant y diafol.' Y maedcall pa fodd y mae diafoi yn mtddianu
y byd, ac yn d} lanwadu arno tuhwnt i'n gallu ni ; ond y maeyn
rhaid i ni greJu posibilrwydd ei ddylanwad, neu wadu posibil-
rwyddc'y'a wad Ysbiyd Duw. Erfod natury dylanwad yn gudd-
iedig oddiw rthym, y maey Bibl yn prufi i s crwydd ei wiriontdd :
r.c ftalhi íod ei waith yn cael ei adael i feddianu cymaiiitogyrff
dynion, yn nyddiau yr Arglwydd lesu, wedi ei fwriadu yn
arddangosiad gweledig, o'r meddiant gwastadol sydd ganddoar
eneidiau. Ac y mae yr enwau sydd arno yn y Bibl, yn rhoddi
cipolwg i ni ar y dylanwad sy ganJdo. Gelwir ef yn " dywysog
y byd hwn," ac yn " dduw y byd hwn," i ddangos cyffredinol-
rwydd ei ddylanwad. Gelwir ef yn "dywysog llywodraeth
yr awyr," i ddangos y mante'sion sy ganddo i gadw ei lywodr-
aeth ar y byd. Gi.'N\ir cf \;i "drw^-sng y tywyllwch," i
Sicrwydd cadwedigaeth cr ei haiihawsdcraii. 873
ddangos y nerth sydd yn ei lywodraeth ; dywedir ei fod fel
cryf arfog yn cadw yr hyn sy ganddo inewn heddwch, i brofi ei
fod yn llwyddianus yn y gwaith. Nid annhebyg ydyw i frenin
Ba' ilon, yn llaw yr hwn yr oedd y caethion y cyfeiria y testyn
yn llythyrenol atynt. Yr hyn oedd yn gwneuthur hwnw yn
gadarn oedd, yr holl bethau ag oeddent ganddo at ei alwad,
ynghyd àg ystâd y caeihion eu hunain. Felly yma, y mae ystâd
y caethion, a'r hyn sydJ at alwaJ y cadarn, yn peri fod ei lyw-
oJraeth mewn gwirionedd yn gref. Y rnae ei íìlwyr yn aneirif :
''diafol a'i angyli jn." Ac nid anhavvdJ ydyw i ni gredu eu
bod yn amlach na holl drigoHon y byJ, pan y darilenwn fod lleng
0 honynt yn meddiann un dyn. Dywedir ei fod "yn twyllo yr
holl íyd," a'i fod yn " ysbryd sydd yn gweithio yn inhlant
anufudd-dod." Y mae nerth ei lywodraeth hefyd, yn natur
ddirgelaidd y dylanwad sy ganddo ; a'r eglurhad goreu a gawn
ar hwnw ydyw temtiad yr Arglwydd lesu. Gallesid meddwî
nad oedd y diafol, ar y cyntaf, yn gofyn dim oedd yn afresymol
ganddo, Y peth cyntaf a ofynodd oedd, ceisio ganddo dori ei
angen personol, ond gorchfygodd yr Arglwydd lesu y dem-
tasiwn yiia, trwy ddangos ei fod yn ymddiried i drefn Duw.
Cynierodd y temtiwr fantaisar hyny : " Gan dy fodynymddir-
ied i Dduw, bwrw dy hun i lawr oddiyma i brofi dy ymdd ried.'*
Fel angel y goleuni yr ymosododd arno yn y demtasiwn gyntaf
a'r ail ; ond yn y drydedd y mae yn dyfod Tr golwg yn ei
garactcr ei hun, sef angel y tywyllwch; a hyny yn y fath fodd
ag i wirio un o'i enwau, — twyllwr, sef addaw daioni mawr iawn,
am wueuthur drwg bychan iawn. Yn gyffelyb i hyn y mae yn
ymddwyn at y byd eto ; gweithio ei deaitasiynau i leoedd nad
ydytn ni ddim yn meddwl am danyiit. Ymdrechu am ei fara
beunyddiol y mae un : y mae yn methu cael hamdden i feddwl
am beihau Duw, nac i ymarfer â'i ordinbadaa, gan mor ryder-
us ydyw i gyflawni y ddyledswydd o ddarpaiu dros ti deuiu.
B^th yw hynyna? Y fagl y mae y cadarn hwn yn dal y dyn
ynddi, i'w ddinystrio byth òythoedd. Ymddiîied yn Nuw, yn
01 ci dyb ef, y mae y llall, i ddwyn o aingylch achubiaeth ei
enaid : y mae yn bwrw ei hun i lawr o binacl rhyfyg, gan ddis-
gwyl bod yn gadwedig, am fod gan Dduw drefn i hyny, heb
sylwi dim fod gan Dduw ei ffoidd hefyd, ac mai cadw yn y
874 Sicrwydd cadwedigaetJi er ei hanhawsderaii.
llwybrau y mae. Beth yw hyn ? Magl y cadarn, i gadw dyn
yn llonydd hyd ddydd y lladdedigaeth. Y mae y trydydd yn
cyflawni yr hyn y mae efe yn ei deimlo sydd bechod ; ond y
mae yn bechod mor fychan ; ac y mae yr hyn y mae efe yn ei
gyraedd trwy hyny yn ddaioni mor fawr; ac wedi cyraedd
hwnw, y mae yn meddwl gwneuthur iawn am y drwg bychan.
Ond nid yw hwn ond un o'r íîyrdd sydd gan y cadarn, i gadw
yr hyn sy ganddo mewn heddwch : ei ddichellion ef ydynt oll.
Ymae rhywbeth arswydlawn yn y meddwlein bod ni yn medd-
iant un fel hyn, — un a wŷr i fanylrwydd am dueddiadau meddwl
pob un o honom. Y mae ganddo fyrdd o Iwybrau i ddylanwadu
arnom ni. Y mae yn trefnu pethau morgyfrwys, fel, wrthgyf-
lawni ein hewyllys ein hun, mai cyflawni ei ewyllys ef y
byddwn. Y mae un blaid yn perthyn i Eglwys Rhufain, pan
gynygio rhywun eihun yn aelod ynddi, y maentyn trefnurhyw
hen aelod medrus, i fod gydâg ef y dydd, i sylwi ar ei holl ym-
ddiddanion ; ac i'w wylied y nos, i geisio casglu oddiwrth
ystumiau y corff", hyd yn nod pan yn cysgu, beth yw gweith-
rediadau A' meddwl; a thrwy ymddiddanion y dydd, a'i freu-
ddwydion y nos, y maent yn dyfod i'w adwaen yn berffaith; i
ddeall holl dueddiadau ei feddwl ; ac felly i ganfod y lle y mae
yn gymwys iddo ; a thrwy ei roddi yn hwnw, nid yw yn teimlo
ei hun mewn caethiwed, er nad oes neb yn fwy caethwas ar
wyneb y ddaear. Os bydd yn ddyn penboeth, yn caru hynod-
rwydd, y maent yn ei anfon yn genhadwr i'r byd paganaidd: os
uchelgais a mawredd bydol sydd yn ei olwg, y maent yn ei
gyfleu mewn sefyllfa fanteisiol iymwthio i gyngor brenhinoedd:
os dysg a gwybodaeth sydd yn ei swyno, y mae ganddynt le
cymwys iddo i hyn hefyd. Fel hyn y maent yn sicrhau ffyddlon-
deb pob math, íe, y mae y rhai mwyaf croes i'w gilydd yn cytuno
tnewn cyflawni yr un ewyllys ; ac yn hyn y mae cuddiad eu
cryfder hwynt. Ond nid yw hyn ond cysgod gwanaidd o
guddiad cryfder y cadarn hwn. Y mae ganddo yntau ei angyl-
ion, i'n gwylio ymhob man ; — fe wŷr am agweddiad meddwl
pob un o honom. Ei faes yw y byd. Y mae ganddo ei le
priodol i ni ar y maes. Fel y mae Ysbryd Duw yn gweithio
yn y saint trwy'r Gair, felly y mae yntau yn gweithio trwy'r
byd, yn mhlant anufudd-dod. A thrwy osod pob un yn y fan
Sicrwydd cadwedigaeth er ci Iianhawsdcrau. 875
hono sydd yn cydweddu oreu â thueddiadau ei feddwl, y mae
yr hyn sy ganddo mewn heddwch. " Chwant y cnawd, chwant
y llygaid, a balchder y bywyd ;" doîenau yn .y gadwyn, sydd
yn rhwymo y carcharorion, ydyw y rhai hyn. Onid ydyw
dygiad y caffaeHad oddiar y cadarn hwn yn annhebyg iawn ?
Heb son am y rhanau hyny o'r ddaear lle y mae yn cael ei
addoli megis Duw, mewn eilun o ryw enw; naill ai Mammon,
duw yr aur ; ai Bacchus, duw y chwant ; neu Mars, duw y
nwydau drwg: y mae hyn wedi myned heibio yn ein gwlad ni.
Fel y mae addoliad Duw yn fwy ysbrydol yn awr na chynt.
f^lly y mae yr awr wedi dyfod ar addoliad y diafol yntau, pryd
nad ydys yn ei addoli mewn lleoedd penodol. Nid oes teml na
íFurf yn perthyn iddo yn awr ; ond er hyny ni bu dynioii erioed
yn fwy Ilwyr a hollol yn ei law. A rhag i oleuni^yr efengyl
wneuthur tywyllwch ei deyrnas ef yn deiniladwy i'r deiliaid, y
mae yn dallu eu meddyliau, — yn cipio ymaith y gair o'r galon,
— rhag iddynt gredu a bod yn gadwedig. Y mae rhai o Unol
Daleithiau America yn cadw caethion eto ;* y mae eraill yno,
gydag i'r caeth sangu arnynt, y mae yn ẃr^rhydd ; ondl y
mae trigolion y taleithiau caeth yn gwneuthur eu goreu i gadw
gwybodaeth am y taleithiau rhydd oddiwrth y caethion, acyn
enwedig, er pob peth, eu cadw hwynt rhag myned yno. Ac
os cânt fyned yno, gydâ'u meistr y bydd hyny ; ac os dealli
fod rhywun yno yn sibrwd rhywbeth wrthynt am ryddid, a bod
rhyw awydd ynddynt hwythau am dano, y mae y meistr ya
ddioedi yn prysuro i'w cymeryd dros y terfyn, i'r dalaeth gaeth
yn ol. Onid fel hyn y mae hi mewn ystyr ysbrydol ì Taleith-
iau caeth ydyw holl daleithiau y ddaear. Y mae cadwyn
caethwas am bob un o'r trigolion. Ond y mae yma un dalaeth
rydd : y maepawb ynddi wedi eu rhyddhau gan y Mab; ond y
mae meistr y caethion yn gwneuthur ei oreu, i'w hatal i wybod
dim am hono. O l gymaint sydd o'r taîeithiau caeth heb
glywed dim am dani eri^ed ! Ac er bod y dalaeth rydd gerllaw
i ni, y mae yma filoedd o gaethion, y mae y cadarn yn gofalu
• Traddodwyd y bregeth hon jn 1850. Y mae pethau wedi newid yo
ddirfawr, yn jr Ameriea, ar ol hyny. Y mae caethiwed yn awr wedi eî
ddiddvmu yn hoUol ; a'r Unol Daleithiíiu fel Prydain, o'r naiU g^r i'r Uall,
yn Wlarl Ryd.i.— GoL.
876 Sicruydd cadwedigaeth er ei haìihawsderaii.
ra chânt fyned o fewn ei therfynau, onJ gydâ'u meistr ; ac os
c'ealla fod rhywbeth a gl^want yn codi hiraeth ynddynt am
ryddid, y mae efe yn ddioedi yn eu pr^-suro yn ol i'r dalaeth
raeth, — " yn cipio y gair o'r galon, rhag iddynt gredu, a bod
yn gadwedig." Onid ydyw achubiaeth yn annhebyg, pan y
cofiwn eu bod yn llaw y cadarn hwn ?
2. Y mae eu hachubiaeth drachefn yn ytnddangos yn an-
T hebyg, yn gymaint a'u bod yn garcbarorion cyfreithhiwn.
Nid ots gan Satan, ymhob ystyr, hawl ar neb ; ond y mae
^^anddo yr un hawl ar y ddyniliaeth ag oedd gan frenin
L'abilon ar Israel, paii yr oedd yr Arglwydd wedi eu rhoddi yn
ci law, oblegid eu hanffyddlondcb i'w Duw. Felly y mae y
ratur ddynol wedi ei rboddi yn llaw y diafol, fel rhan o gosb
{.echod. Yn yr ystyr hwn y maent yn garcharorion cyfreith-
!awn : hefyd am eu bod wedi rhoddi eu hunain i fyny i'w law,
iel y caethwas yn Israel gynt, a rwymai ei hun, trwy gael lyllu
ci glust wrth y ddôr, ar flwyddyn y gollyngdod. Pa groesau
i ynag a'i cyfarfyddai rhagllaw, nid oedd ganddo neb ond ei hun
i'w feio; oblegid yr oedd wedi gwneuthur ei hun yn gacthwas
cyfreithlawn tra y byddai byw. Felly yr yd^mi nir,au, o du
Duw, yn garcharorion cyfrcithlawn, ac o'n tu ein hunain hefyd
íelly. Y mae Satan yn teimlo cyfreithlondeb y meddiant ;
oblegid os ceisia y carcharorion ysgwyd ymaith yr iau, dywed
wrthyi.t, ftl y dywedodd Senacherib wrth Htzcciah, Nid wyf
yn gwneuthur dim ond cyflawni ewyllys Duw : yr wyf newydd
gaethgludo Israel am bechu ; ac a wyt ti yn tybied mai heb yr
Arglw^-dd y daethum i fyny yn dy erbyn di ? ac ymhwy yr wyt
yn ymddiried, i wrthryfela yn fy erbyn ? Os ydwyt mor ynfyd
a meddwl ymddiried yn yr Arglwydd, edrych ar y sail sy genyt
i hyny : onid Efe yw yr Hwn y pechaist^m ei erbyn ? — y toraist
ei gyfreithiau ? Yindawcla, gan hyny, yn y gwasanaeth ; — yr
ydwyt yn garcharor cyfreithlawn. Neu, os daw rhywun, fel yr
aeth Moscs y waith gyntaf at Israel, i geisio perswadio y
carcharorion eu hunain i ddianc, y mae y derbyniad y maent
yn ei roddi iddo yn profi eu bod yn garcharurion cyfreithlawn,
— yn rbai annheilwng o ryddid. " Pwy a'th osodudd di yn
farnwr?" Y maent fel yr luddewon hyny, trwy eu gwaith yn
gwrthod bywyd Iragywyddol, yn profi cu boJ yn ^nnheilwng o
ISicì 'ii'ydd cadwcdigaetìi er ei hauliawsderau. ^ii
hono. NiJ eich bod, ddynion anwyl, yn meddiant y cadarn,
ydyw y peth mwyaf anobeithiol yn eich cylch ; ond eich bod
chwi yno yn wirfoddol. Ni fynwch chwi ddin> o'ch gwaredu.
Y mae yn wir fod y cadara yn eich arwain wrth ei ewyllys ;
ond peth sydd yn llawer trymach na hynyna ydyw, bod eicli
ymddygiadau ch\\i yn adsain y geiriau, "Gwneler dy ewyllys."
— "A waredir y rhai a garcharwyd yn gyfîawn ?" A ydyw yn
beth tebyg?
3. Y mae yr holl lafur a gymerir, a hwnw yn myned yn ofer.
i waredu y carcharorion, yn profi fod eu hachubiaeth yn an
nhebyg iawn Nid awn i son am y myrdd llwybrau y mae dyn-
ion wedi ceisio bod yn achubwyr iJdynt eu hunain. Yr oedd
pob un yr oedd ychydig mwy o rym yn ei feddwl na'r cyffredin,
fel y Simon hwnw, yn dywedyd ei fod yntau yn rhyw un, ac yn
Iwyllo llawer, fel y mae yr holl gau grtfyddau sydd yn y byd,
yr holl wahanol gyfun Jraethau o *' phüosophi a gwâg dwyll," y
mae dynion yn rhoddi eu coel arnynt yn profi fod cymaini a
hyny, a mwy, o au-ddiwygwyr, gau brophwydi, agau Gristiau
wedi bod. Methu yr oedd pawb : collwydein gobaith o'n ihan
ni. Ond, edrychwn ar yr ymdrechiadau a wneir, gydâ'r drefn
o ddwyfol apwyntiad i waredu ; y mae hyd yn nod edrych ar
Iwyddiant, neu yn hytraclì aflwyddiant, hon, yn profi fod achub-
iaeth neu waredigaeth o law y cadarn yr beth annhebyg iawn.
Pa faint o'r byd y mae hi wedi ei ddarostwng mewn enw, mewn
deunaw can' mlynedd ? Pa le y mae y genedl, îe, pa le y mae
y cwm, neu y pentref, sydd wedi ei feddianu yn llwyr gmddi ?
Trwy oddefiad y mae hi hyd yn hyn yn y byd, fel y Gibeoniaid
yn ngwlad Israel. Y mae hi fel canwyll mewn awyr afiach,
bron cael ei diíFodd er ceisio llewyrchu. Nid yw y tywyllwch
ddim yn ei hamgyffred. Nid yw hyny o Iwyddiant sydd wedi
bod at-ni hyd yn hyn, ond peth dros amser, megis nant yn llifo
ar ol gwlaw, gan sychu bron yn y fan, ac nid afon bob amser yn
llawn dwtr. Y mae hi wedi ei phlanu yn bren bywyd mewn aml
wlad, i'r trigolion ddefnyddio y dail i'w hiachau. Ond hyd yn
hyn y mae y pren yn gwywo yn fuan, fel pe na fyddai yn dy-
gymod â hinsawdd y wlad. Yn y gwledydd lle y mae y ffurf o
honi yn bod, y mae hwnw yn rhy debyg i mutnmy yr Aipht,
wedi ei gadw ar ol i'r enaid ei adael. Y mae yr afon oedd yn
878 Sícrwjdd cadicciligfiefl! cr ei ìianliaiisderaii.
afon bywyd o ran ei henw a'i natur hefyd, er's tri chan'
mlynedd yn ol, wedi ei chymy;gu a'i halogi i'r fath raddau, fel,
er ei bod o dan yr un enw, y mae ei dyfroedd yn wenwyn
enaid yn awr. Y mae hiyn deynas wedi ymranu yn ei herbyn
ei hun : y xae hyd yn nod ei hcnw hi yn foddion i gadw
ymaith ei hysbryd. Ond deuwn yn nes, edrychwn ar gylch ein
cydnabyddiaethcin hun: lle y mae yr éfengyl yn ei phurdeboran
athrawiaeth yn cael ei chyhoeddi, gydâ'r dalenta'r deheurwydd
mwyaf, — holl gyngor Duw yn cael ei amlygu, heb gymaint ag
un o'r pethau buddiol yn cael ei atal ; — cyílwr dyn yn cael ei
ddangos yn ngoleuni y cysegr ; — y (ô yn cael ei godi oddiar
ddistryw, i ddiwedd ffyrdd pechod ddyfod i'r amlwg ; — tân
Sinai yn llewyrchu mor danbaid, nes y gellir darllen yn ei
oleuni felldithion mynydd Ebal. Neu, o'r ochr arall, y mae
Duw wedi ei ddangos fel Duw y cariad ;— ei orsedd yn orsedd
gras ; — sefydlogrwydd y cariad yn cael ei ddangos yn ei fod yn
un tragywyddol, a'i faint yn cael ei esbonio gan iawn y groes.
Nid oes diin yn ofnadwy nac yn ddymunol, nad ydyw wedi ei
ddwyn yi gymhelliad i adael y gwasanaeth. Os oes rhywbeth
i'w ofni mewn cadwyn, — rhywbeth i'w arswydo mewn
tywyllwch eithaf, — os oes rhywbeth ynddymunol mewn coron,
rhywbeth yn swynol mewn gorsedd a thcyrnwialen ;— os yw
"bod yn blant diafol yn beth i ddychrynu rhagddo, — os ydyw
bod yn feibion i Dduw yn beth i ymcstyn ato, — os yw treulio
tragywyddoldeb mewn trueni nad all iaith ei ddisgrifio, — neu
mewn Ilawenydd sydd yn annhraethadwy i dafod o bridd, yn
bethau teilwng o ystyriaeth, — y mae yr holl bethau hyn wedi
eu mynegi i chwi. Gosodwyd ger eich bron fywyd ac angau.
Ac nid oes yr un wrthddadl yn erbyn trefn yr efengyl, wedi
codi yn eich mynwes, nad ydyw wedi ei hateb drachefn a
thrachefn. Atebwyd yr wrthddadl yn erbyn ei chyffredinol-
rwydd hi â'r geiriau hyny : — " Trowch eich wynebau ataf fi
holl gyrau y ddaear, fel eich achuber." Atebwyd yrwrthddadl
£iad oeddech gymwys â'r adnod hono: — "Trwy râs yr ydych
yn gadwedig." A phan oeddech yn gwrthddadleu eilwaith fod
rhyw neillduolrwydd yn eich amgylchiad chwi, atebwyd hynyna
â'r geiriau hynv: — " Pwy bynag a ddùl." Y mae y drefn yn
gariad, wedì cymeryd y ffurf o drugaredd,fel nad rhaid i deimlad
Sicrwydd caíhvcd{gaeth er ei haiihawsderaii. 879
o drueni eich cadw draw. Y mae hi yn drugaredd yn dwyn
delw cyfiawnder, fel nad all cydwybod wedi ei goleuo gael
ynddi ddim diffyg. Y mae hi yn râs, wedi ei ddwyn moragos
atom, fel na raid i neb fod heb ei hymgeledd hi, fel y claf wrth
]yn Bethesda, am nad oedd ganddo un i'w gynorthwyo;
oblegid y mae l.i yn cynyg ei hymgeledd i bawb ar y llanerch
lle y mae efe.
Rhaid y bydd pawb yn ei derbyn hi pan gyhoedda hi jubili
mewn gwlad ; — y mae yr holl gaffaeliaid yn cael eu dwyn oddiar
y cadarn, a'r holl garcharorion yn cael eu gwaredu? O ! nac
ydynt. Cyhoedder hi gan Paul i philosophyddion y byd ; ym-
resymed hi mor fedrus fel na all y cywreiniaf o honynt weled
gwall ; — yr effaith fydd ei ddirmygu, a throi ymaith gan ddy-
wedyd, — " Beth a fynai y siaradwr hwn ei ddywedyd?" Preg-
ether hi gerbron Ffelix, gydà brwdfrydedd enaid mawr, yn
teimlo i'r byw ei gwirioneddau hi ; gwir y dychryna y rhaglaw,
ond effaith y dychryn a fydd, peri iddo ymadael â'r pregethwr,
ac nid ymadael â'i bechod. Cyhoedder hi gan Fab Duw ei
Hun, ei Iwyddiant yntau fydd cael dynion i hofìî gwrandaw ei
eiriau, a hoffi er hyny byw heb eu gwneuthur hwynt ; neu, os
gwna Efe argrafl ddwysach, penderfynu plygu y maent mewn
amser dyfodol, wedi claddu eu tad. Pe bedyddid ei disgyblion
hi â'r Ysbryd Glân ac â thân, y mae eraill, fel ar ddydd y Pen-
tecost, yn gwawdio, gan ddywedyd, " Llawn o win melus
ydynt." Dyged Duw dystiolaeth uniongyrchol iddynt, fel i
Stephan, y mae yno rai, er gweled y wyneb yn disgleirio, yn
ddigon caled i'w labyddio. Neu, os na wneir dim yn erbyn,
îe, er bod à'u cyngor a'u cyfarwyddyd yn barod i wneuthuur
pob cymwynas i'r disgyblion, fel Hobab i'r Israeliaid ; — pe
rhoddech chwi Moses, un o ddoethion y ddaear, i geisio gan-
ddynt adael eu hen wlad, eu hateb fydd, " nid af ddim." Neu,
os deuant am ychydig gydâ'r gwersyll, credu dros amser a
wnant. Y maent yn hiraethu eilwaith am yr Aipht, ac iddi y
maent yn dychwelyd. " A ddygir y caffaeliad oddiar ycadarn?"
Na wneir, oblegid " yr hyn a f u a fydd." Pe buasai yr areith-
yddiaeth mwyaf ardderchog yn gallu eu dwyn oddiyno, ni fuasai
yr un carcharor i'w gael yn y wlad. Pe buasai yr ymresymu
mwyaf cywrain yn llwyddianus i hyn, ni fuasent heddyw yn ei
88o Sicrci'ydii Cíìilzccdi^act/i er ci iianlian'sderan.
feddiant. A phe buasai yr un fainto ymdrech u'e li ei gymeryd
i ddwyn o a-n^ylch unrhyw bcth arall, buasai wedi ei hen gyf-
lawni. Pe buasai y dJegfed ran o'r dalent wedi ei defiy.ldio i
ddywedyd am America, aj syd i wedi ei defnyJJio i ddywedyd
a-ii y nefoedd, buasai canoedd mwy o Gymry yno heddyw nag
sydJ Ni chymerwyd dim o'r filfed ran o'r draffcrth i ddangos
echryslonrwydJ caethiwed India y Gorllewin, ag a gymerwyd i
dJangos echryslonrwydd caethiwed pechod. Fe Iwyddodd y
cyntaf; aflwyddodd yr ail. Ni ddywedwyddim un gair am bob
niil i ddangos gormes ymerawdwyr Rwsia ac Awstria ac a ddy-
wedwyd i ddangos gormes y diafol Y mae y wlad yn fììeiddio
y rhai cyntaf, ond yii ufudd er y cwbl yn ngwasanaeth yr ail.
" A ddygir y cafîa'íHad oJ li.ir y ciJarn ?"'
Pe tröem ni i ofyn y cwestiwn i'r b\'d ysbrydol, dyna lais yn
ein hateb ni gydà Bildad : — " Pa fodd y cyfiawnheir dyn gydà
Duw ? Pa fodd y bydd yr hwn a aned o wraig yn làn ?" Neu,
os gofynwn ef i'r oesau gynt, yr ateb a fydd : — " A newidiodd
un genedl ei duwiau?" Gofynwch ef i'r rhai craffafyn y dydd
iau hyn, eu hateb ydyw : — " A newid yr Ethiop ei groen, neu y
llewpard ei frychni ?" Gofynwch ef eto ar antur, i cdrych a
ddaw ateb o unman, — dyna lais y cadarn ei hun yn dywedyd :
— "Pwy ymhîith yr holl dduwiau a waredodd neb o'm llaw i ?"
A ddarfu i Buddha, neu Confucius, neu Z(5roaster, roddi ym-
>vared i'r rhai a gredasant ynddynt ? Gan nad (ies na llais ria
neb yn ateb, ni a drown ymaith mewn anobaith, gan gyhoeddi
galarnad Jeremiah uwchben y caethion : — ' Ni ddychweìant
mwyach, ac ni welant wlad eu genedigaeth; eithr i'r lle y
caethgludwyd hwynt, yno y byddant feirw.' A gallwn
ychwanegu, y bydd y farwolaeth hono yn ail farwolaeth. Na ;
ni chyhoeddwn rao'r alarnad ychwaith, nes myned dros y testyn
i gyd : — " Fel hyn y dywed yr Ar>;l\vydd, lë, carcharorion y
cadarn a ddygir, ac anrhaith y creulawn a ddianc : canys mi a
ymrysonaf â'th ymrysonydd : a mi a achubaf dy feibion."
Gwrandawed holl ymerodracth Duw yn awr : — " Carcharorion
y cadarn a ddygir, ac anrhaith y creulawn a ddianc." Dyna
ddrws gobaith wedi ei agor. ( s oedd angau yn y rhan gyntaf
o'r testyn, y maj bywyd yn yr ail. Yn y gyntaf nid oedd
gcnym ond gal.irnad y coJwm : —
Sicrwydd cadrwedigaeth er ei hanhawsdtrati. 88 1
" Yn Eden, cofiaf hyny byth.
Bendithion goUais rif y gwlith,
Syrthiodd f j nghoron wiw :"
ond yn yr ail, y mae anthem Calfaria yn tori ar ein clustiau : —
" Ond buddugoliaeth Calfari,
Enillodd hon yn ol i mi, —
Mi ganaf tra fwyf byw."
" Fel hyn y dywed yr Arglw)dd." Ac y mae hyn yn ein
harwain, yn
II. At debygolrwydd achubiaeth, Dau beth oedd yn sicrhau
y dychweliad o Babilon, sef, addewid Duw i'r genedl, a'i
gyfamod â'u tadau. Yr un pethau sydd yn sicrhau achubiaeth
eto, — gair Duw a'i gyfamod. Y mae Duw wedi dywedyd hyny,
'• Fel hyn y dywed yr Arglwydd ;" ac wedi dywedyd hyny, yn
yr oiwg ar yr holl anhawsderau, " Mi a ymrysonaf â'th ym-
rysonydd, a myfì a achubaf dy feibion." Caracter Duw sydd i
benderfynu pa faint o hyder a elHr ei roddi ar ei air. Nid oedd
fawr hyder i'w roddi ar air Laban, am ei fod yn cilio oddiwrtho
yn fynych ; a gall un roddi ei air gydâ phob cywirdeb,
ac eto methu sefyll ato, am iddo addaw mwy nag y mae yn ei
allu i gyílawni. Nid 3'w nerth ei fraich i gyflawni ddiro yn
cyfateb i dynerwch ei galon i addaw. Ond y mae gobaith cryf
am achubiaeth o flaen pechadur, gan fod Duw wedi dywedyd y
bydd hyn ; oblegid y mae gallu ei fraich ef yr un faint a
thynerwch ei galon. I gael gweled beth a all gair Duw, —
(i.) Edrychwn ar lyfr natur : y mae hwnw oll yn adsain yr
hyn a ddywedwyd drwy y prophwyd : — " Y gair a lefarwyf a
wneir." A mynych y mae yr Arglwydd yn yr Hen Destamenl
yn cyfeirio at ei weithredoedd i gryfhau ffydd ei bobl ynddo
Pan oeddent yn ameu ei nerth, y mae yn gofyn iddynt, " Pwy
a grëodd y rhai hyn ? gan amlder ei rym ef, a'i gadarn
allu, ni phalla yr un." I ddangos ei ffyddlondeb, dywedir, —
" Yn dragywydd, O Arglwydd, y mae dy air wedi ei sicrhau yn
y nefoedd," neu fel y nefoedd. Ac nid ydym yn gydnabyddus
â dim nad ydynt yn gynyrchion ei air ef. Ei eiriau wedi ym-
gorfîoli ydyw ei weithredoedd. Y mae yn eglur nad oes dim
yn eisiau ond i'r Duw hwn addaw unrhyw beth : y mae parhad
anghyfnewidiol y greadigaeth yn sicrwydd na newidir yx hyn
a ddaeth allan o'i enau. Y raae y nerth mawr sydd yn amlyg-
V3
882 Sicrwydd cadwedigaeth er ei hanhawsderau.
edig ynddi yn profi nad oes dini yn anhawdd iddo. Fe fu
tragywyddoldeb cyn amser : ynddo nid oedd dim na neb ond
Duw. Yr oedd Efe yn haul mawr yno, heb yr un blaned yn
troi o'i amgylch. Heddyw nis gŵyr neb, feallai, ond Efe ei
Hun, pa le y mae terfynau ei ymerodraeth, neu pa nifer yw
deiliaid ei deyrnas ; ac nid oesreswm i'w roddi am y cyfnewid-
iad, ond felly yr ewyllysiodd. Anfonodd ei Air, a chrewyd
hwynt. "A ddygir y caffaeliad oddiar y cadarn ?" Gwneir ;
ac os mynwch ein sail, — Y Duw yna sydd wedi dywedyd hyn.
(2.) Mae yr ychydig y mae eisoes wedi ei gyflawni ar ei addewid
mewn dychweliad yn cryfhau ein íFydd ni yn ngwirionedd y gair.
Mae ysgub y blaen-fí"rwyth yn wystl o'r cynhauaf oll. Nid yw
y byd, y mae yn wir, ddim wedi ei ddychwelyd o'r caethiwed ;
ond y mae digon wedi ei ddychwelyd i roddi sail i obaith y
dychwelir ef oll; ac i fod yn|sail i ffydd i ofyn am hyn. " Ceisiwch
allan o lyfr yr Arglwydd, a darllenwch." Ni phallodd yr un
o'r geiriau, gan hyny ni phalla yr un eto. Ond peidiwch a
thynu cam-gasgliad oddiwrth hyn : y mae addewid Duw yn
rhag-dybied moddion, er nad ydynt bob amser yn cael eu
crybwyll yn yr addewid. Ni sonir am danynt yma ; eto trwy
foddion naturiol iawn, sef Cyrus a'i fyddin, y gwaredwyd y
caethion hyn. Felly y mae yn ysbrydol : byddai disgwyl
rhyddid, heb y moddion, yn gymaint rhyfyg, ag a fyddai ym-
ddiried i'r moddion heb Dduw. Ac y mae y dyn hwnw sydd
yn teimlo cwestiwn y disgyblion, — " Pwy gan hyny a all fod
yn gadwedig," yn ymyl teimlo mai peth posibl g) dì Duw yn
unig ydyw ; ac unwaith y dygir ef i deimlo hyny, y mae ê
mewn gwirionedd yn "gadwedig gan yr Arglwydd." " Myfi a
ymrysonaf â'th ymrysonydd, a myfi a achubaf dy feibion." Yn
y fan hon y mae sail ein flydd, i chartref ein gobaith. Nid ar
y daw amser, pan y pregethir yr efengyl yn fwy goleu a nerth-
ol, y mae ein gobaith am achubiaeth y byd yn seiliedig: nage ;
nid oddiwrth gynydd gwybodaeth gyffredinol yr ydym yn
disgwyl ei waredigaeth : nage ; ond ein gobaith ni ydyw, — y
■ bydd i'r Duw a ddefnyddiodd " ffolineb pregethu " eisoes i
wneuthur pethau mawr, ei ddefnyddio eto i wneuthur pethau
mwy. Yr oedd Esaiah y mwyaf disglaer o'r holl brophwydi,
dan deimlo ei fod yn llafurio yn ofer, yn gofyn, " Pwy a gred-
Sicrwydd cadwedigaeth er ei hanhawsdcraii. 883
odd ?" ond wele ychydig o ddisgyblion tlodion o Cyprus a Cyrene
y n llefaru yn Antiochia, yn enw yr Argwydd lesu, " a nifer mawr
a gredoJd ;" ond yr hyn oedd yn gwneuthur y gwahaniaeth
rhyngddynt â'r prophwyd oedd, *' llaw yr Arglwydd oedd gydà
hwynt." Os oes yma rai yn balchio mewn meddwl cryf, ac, fe-
allai, yn haner-amheuwyr o'r efengyl, ein gobaith am danoch
ydyw, nid yr ymresymir y drefn yn ^fwy medrus fyth, nag y
gwnaedeisoes i chwi,ondy dawgoleu Ysbryd Duw ary geiriau,
nes eich gwneyd, fel philosophyddion Athen, yn blant wrth draed
yr lesu. Os oes yma rai yn ymdroi mewn bywyd halogedig,
ein gobaith am danoch ydyw, nid y dadunir yn fwy goleu
ogoniant buchedd sanctaidd, ond y bydd i Ysbryd Duw anfon
ei oleuni, i chwi weled yr hyn ydych. Os oes yma rai yn
boddi eu hunain i ddinystr a cholledigaeth gydàj gofalon y byd
hwn, ein gobaith am danoch ydyw, nid y bydd i hawliau byd
arall gael eu dadleu yn fwy medrus nag y gwnaethpwyd, ond
y bydd i Ysbryd DuwgyfFwrdd â'ch calonau, i'w teimlo hwynt.
Yr ydym weithiau yn darllen y prophwydi fel y bydd yr ysgol-
heigion yn darllen rhai o'r problems dyrys, gan feddwl fod yn
anmhosibl eu solíîo hwynt, ond wedi methu gweled eu ífordd
drwyddynt, y maent, yn dyfod o hyd i ryw lyfr lle y maent
wedi eu hegluro. Dyna ydyw Llyfr yr Actau, problems dyrys
y prophwydi wedi eu hegluro. Wrth eu darllen yn Uyfrau y
prophwydi, yr ydyni yn barod i ofyn, ' Pe gwneid fifenestri yn
y nefoedd, a fyddai hyny V ond yn Llyfr yr Actau y mae yr
Arglwydd yn dywedyd mewn gweithred, — " Os anhawdd yw
yn eich golwg chwi, ai anhawdd fyddai hefyd yn fy ngolwg i?
medd Arglwydd y lluoedd." Beth bynag ydyw y byd, — beth
bynag a fydd, — fe fu felly ; ac y mae yr hyn a wnaethpwyd,
yn y dyddiau hyny, yn wystl o'r hyn a wneireto. Beth bynag
sydd i'w ofni mewn " philosophi a gwâg dwyll," yr oedd hyny
yn Athen. Beth bynag sydd yn rhwystr i'r efengyl mewn
aflendid, neu mewn bywyd anifeilaidd, yr oedd hyny yn
Nghorinth. Beth bynag sydd yn wrthwyneb iddi mewn ofer-
goeledd, yr oedd hyny yn Ephesus. Beth bynag sydd }n
atalfa i'w llwyddiant mewn hunan-gyfiawnder, yr oedd hyny
yn Jerusalem. Beth bynag sydd mewn swyn Ilys, yn atalfa i
gadw y meddwl yn ddifrifol uwchben ei gwirioneddau hi, yr
884 Sicrwydd cadtcedigacth cr ci hanhaicsderaii.
oedd hyny yn Rhufain. Ond fe ddygwyd cafFaehaid oddiar y
cadarn yn Athen, er ei philosophi ; — yn Ephesus, er ei hofer-
goeledd ; — yn Corinth, er ei haíîendid ; — yn Jerusalem, er ei
hunan-gyfiawnder; — yn Rhufain, er temtasiynau ei llys hi ; ac
os mynech chwi y rlieswm am hyny, hwn ydy w : — " Myfi a
ymrysonaf â'th ymrysonydd, a myfi a achubaf dy feibion."
Ond y mae arnaf ofn i chwi dynu gwenwyn o'r hyn yr wyf yn
ei ddywedyd, trwy ei gymeryd yn rheswm dros fod yn ddiofal
ynghylch eich achubiaeth, yn lle yn gymhelliad i lefain, ddydd
a nos, " Arglwydd, cadw ni, canys darfu am danom." Dywed
yr Apostol Paul, fod trugaredd Duw yn yr efengyl wedi ei
achub ef, y penaf, i hyny fod yn esiampl i'r rhai a gredent rhag
llaw ; nid esiampl iddynt fyned ymlaen i bechu, am fod y penaf
wedi ei achub ; ond esiampl fod y drefn, a achubodd y penaf, yn
ddigon nerthol i'w hachub hwy : felly yr un yw ein diben
ninau wrth goflfàu yr esiamplau hyn,— cau pob drws o'ch blaen
ond un, er mwyn i chwi geisio ymwared drwy hwnw, — eich
"cyd-gau," yn ngeiriau yr apostol, "i íîydd yr efengyl."
2. Sicrwydd arall y dygir y caffafliaid oddiar y cadarn yw
cyfamod Duw. Ar hwn y byddai yn syrthioyn ol fel ei reswm
mawr am ddangos caredigrwydd i'r genedl wrthr^'felgar hon
gynt, Lef. xxvi. 42, — " Minau a gofiaf fy nghyfamod â Jacob,
a'm cyfamod hefyd âg Isaac, a'm cyfamod hefyd âg Abraham a
gofiaf; ac a gofiafy tir hefyd." " Trwy waed yr amod " yr
ojdd y carcharorion i gael eu rhyddhau, neu mewn canlyniad
i'r cyfamod, a sicrhawyd drwy waed. Hyn fyddai dadl olaf y
prophwydi gerbron yr orsedd. " Cofia, na thòr dy gyfamod â
ni," sef yr hen Iẁ a dyngoJd Efe i'w tadau ; oblegid hwnw yr
oeddent yn disgwyl gwaredigaeth, er eu bod yn garcharorion
cyfreithlawn. A dymaein cysur ninau, wedi anobeithio ymhob
man arall, y gallwn ni syrthio yn ol ar gyfamod Duw, yr hen
Iŵ y mae Efe wedi ei dyngu i\v Fab. Y mae yn rhaid cyfiawni
hwnw. A rhag i chwi feddwl ei fod yn rhywbeth yn eich
erbyn, hyny ydyw, yn ei gysylltiad â chwi, y mae Duw Dad
wedi myned i'w Iŵ y caiff pob un a gredo yn y Mab fywyd
tragywyddol. A rhag i chwi feddwl fod lesu Grist yn un an-
hawdd dyfod ato, ei eiriau Ef ydynt, — " Yr hwn a ddêl ataf fi,
nis bwriaf cf allan ddim." Y mae y cyfamod wedi ei sicrhau
Sîcrwyaa caawedigaeth er ei hanhawsderaii. 885
trwy waed, ac i agor drws gobaith o flaen yr holl garcharorion,
y geiriau cyntaf gan y prophwyd Zechariah, ar ol addaw
diangfa i'r carcharorion " trwy waed yr amod," ydyw, —
" Trowch i'r amddiffynfa, chwi garcharorion gobeithiol ;" neu
ymaflwch yn y cyfamod hwnw. Dyma air Duw a'i Iŵ genych
am eich bywyd ; — ei addewid a'i gyfamod. Os ydyw y cyf-
amod yn sicrhau o du yr Arglwydd y caiff yr Arglwydd lesu
weled ei hàd, y mae yn gwneuthur yr un mor sicr o du y
pechadur, " Na chollir pwy bynag a gredo." Y mae yr un
nerth yn y naill ag sydd yn y Uall.
3. Y sicrwydd olaf y dygir hwynt ydyw, fod un wedi ti
eneinio i hyn : ' Fe ddryllir yr iau, er cryfed ydyw, oherwydd
yr eneiniad.' Y niae gwaith mawr wedi ei gyflawni, sef dryllio
y barau heiyrn, ac agor y pyith pres. Nid oes ganddo ddim
i'w wneuthur yn awr, ond, fel Cyrus gynt, dywedyd " wrth y
carcharorion, Ewch allan, ac wrth y rhai sydd mewn tywyllwch,
Ymddangoswch.'' Cychwynwch tua'ch hen wlad : nid oes gan
neb hawl i'ch hatal. Os cyfyd rhyw Sanbalat neu Tobia i'ch
aflonyddu, anfonwch air ataf, a gorchymynaf iddynt beidio à
chwi. O na ddeuai i roddi y gorchymyn.
Dymunwn gyflwyno dau air i'ch sylw cyn terfynu : —
I. Gwyliwn ni, sydd wedi cael rhyddid, anghofio ein brodyr
sydd eto yn y caethiwed. Yr ydym yn cwyno, y mae yn ofnus,
wrth ddynion mai ychydig y sydd yn cael eu hachub, yn lle
dywedyd hyny wrth Dduw. Ein gwendid ni,yn awr, ydyw ein
nerth ni. Yr oedd Ai yn fechan, ac Israel yn llawer ; ond
bu eu nerth yn wendid iddynt. Y mae yn berygl i'r un peth
ddigwydd i ni. Y mae y wlad wedi ei gwareiddio. yr eglwys
yn gref ; ond er hyn yr ydym ni yn methu cymeryd Ai fechan,
er i'n tadau gymeryd Jericho fawr. Ond yr achos ydocdd, fod
Duw gydâ hwynt: yr ydym ninau, ysywaeth, yn teimlo ein
hunain yn ddigOii cryfion hebddo ; a'n nerth ydyw ein gwendid
ni. Dywed yr luddewon mai y dull a gymerodd penaethiaid y
bobl yn Babilon i gael rhyddid oedd myned at Cyrus, i ddangos
iddo y prophwydoliaethau am ei lawredd ef, ac am yr hyn a
wnai efe iddynt hwy. Cymerwch chwithau yr un dull ; ewch
at yr Hwn sydd wedi ei eneinio i ddryllio yr iau ; dywedwch
wrlho yr hen brophwydoliaethau am dano. Nid ydyw ond ya
886 Sicfwydd cadwedigaeth er ei hatihawsderaii.
disgwyl i chwi eu dywedyd : bydd yn bur sicr o'u cyflawni ; a
bydd y cyflawniad o honynt yn rhyddid i gaethion.
2. Eich dinystr chwithau, gaethion, ydyw gollwng dros gof
pwy ydyw y Gwaredwr. Yr ydych yn addef mai Duw ydyw ;
ond edrychwch i'ch calon, cewch weled nad ydych yn credu
hyny. Nid oedech chwi ddim gydâ pheth o gymaint pwys ag
iachawdwriaeth eich eneidiau, oni bai eich bod yn credu y
gallech ddianc eich hun, y pryd y mynech, o'r carchar. Pe
credech chwi o'r galon na all ond Duw ei hunan eich gwaredu,
ni adawech lonydd iddo, na dydd na nos, nes teimlo eich hun-
ain yn rhydd.
[Mawrth 14, 1850.]
PREGETH LIII.
DIDOLEDIG ODDIWRTH BECHADURIAID.
Hebreaid vü. 26: — '-Didoleaig oddiwrth bechaduriaid.
N o nodweddion yr Arglwydd lesu fel Offciriad ydyw
y testyn. Y mae yn yr adnod amryw eraill yn cael
eu nodi, — " sanctaidd, diddrwg, dihalog." Yr oedd
yr Offeiriaid o dan y gyfraith yn gysgod o'r Arglwydd lesu yn
y pethau hyn, ond cysgod o'r pethau hyn yn unig oedd gan-
ddynt hwy ; — ganddo Ef yr oedd y pethau eu hunain. Yr
oedd " sancteiddrwydd " ar dalcen yr offeiriad luddewig ;
ond yr oedd y gwir Offeiriad yn " sanctaidd." Yr oedd yr
offeiriad luddewig yn ddiddrwg mewn ystyr seremoniol, am ei
fod wedi aberthu yn gyntaf dros ei bechod ei hun, a hyny wedi
ei wneuthur yn ngolwg cyfraith y gwasanaeth yn ddiddrwg, ac
felly yn gymwys i fyned i mewn i'r cysegr, i wneuthur cymod
dros bechodau y bobl ; ond yr oedd y gwir Offeiriad yn
" ddiddrwg " yn llawn ystyr y gair, oblegid nid oedd raid iddo
Ef offrymu aberthau yn gyntaf drosto ei Hun (adn. 27), am na
wnaeth bechod. Yr oedd yr offeiriad luddewig yn ddihalog,
am ei fod wedi puro ei hun yn seremoniol ; ond yr oedd y
gwir Offeiriad yn ystyr eangaf a dyfnaf y gair yn "ddihalog."
Yr oedd yr offeiriad luddewig yn ddidoledig oddiwrth becha-
duriaid, sef yn ymwadu yn ofalus ar yr adeg yr oedd i fyned i
mewn i'r cysegr, rhag cyffwrdd â dim a allasai ei halogi yn
seremoniol. Yr oedd yma gymaint o halogrwydd fel ag yr
oedd bod yn awyrgylch y ddaear yn ddigon i halogi ; yr oedd
yn rhaid puro y Tabernacl ei hun, am ei fod yn sefyll
mewn awyr heintus ; a gofalai yr arch-offeiriad, ar ddydd
gwyl y cymod fod offeiriad arall gerllaw, i gyflawni_ei waith ef,
888 Didohdig oddiwrth bechaauriaid.
os digwyddai i unrhyw beih ei halogi ; ac \ ochel hyny hyd yr
oedd yn bosibl, yr ydoedd yn ddidoledig oddiwrth bechadur-
iaid : ond yr oedd y gwir offeiriad yn " ddidoledig " oddiwrth-
ynt, er yn symud a byw yn eu plith " Didoledig oddiwrth
bechaduriaid."
I'r diben yna y defnyddir y testyn yn y cysylltiad y mae
ynddo gan yr apostol ; ond ei ddefnyddio mewn ystyr eang a
wnawn ni yn bresenol, i edrych trwyddo ar gymeriad yr
Arglwydd lesu, fel un yn sefyll ar wahan oddiwrth bawb, —
" yn ddidoledig oddiwrth bechaduriaid" ymhob peth a berthyn
iddo. Ond cyn sylwi yn uniongyrchol ar y testyn, y mae
genym ddau sylw i'w cyflwyno i'ch ystyriaeth am dano fel un
"didoledig oddiwrth bechaduriaid," hyny yw oddiwrth holl
blant dynion.
I. Y mae yn ddidoledigoddiwrth bawb yn nyfnder yrargrafiF
a roddodd ar feddwl y byd. Ychydig bersonau, o'u cymharu â
nifer trigolion y byd, sydd wedi ffurfio cymeriad ei wahanol
oesoedd. Gwelir graddau o ddelw y dyn mawr yn aros ar ei
genedl weithiau, am oesoedd ar ol ei gladdu ef Ni a gawn yn
nghenedl Israel arddangosiad o bob cenedl arall yn hyn o beth.
Wrth sylwi ar ei hanes, y mae hyny i'w ganfod, fel ar ei wyneb,
fod rhyw ychydig ddynion mawr a fuant ynddi, megis Abraham,
Moses, Dafydd, wedi rhoddi argraff ddofn ac arhosol ar feddwl
y genedh Ymffrohtient, yn eu hiselder mwyaf, yn eu bod yn
blant i Abraham, yn ddisgyblion i Moses ; a pha beth bynag
1 yddai maint y cyfyngder y byddent ynddo, disgwylient i Fab
Dafydd eu gwaredu o hono.
Y rhai hyn, ac ychydig eraill cyffelyb iddyiit, oeddent haul y
genedl. Tros amser penodol, eu goleuni hwynt oedd yn gwas-
garu y tywyllwch, a'u gwres hwynt oedd yn cynyrchu hyny o
rinwedd a ymddangosai yn eu pHth : pan fachludai yr haul,
gorchuddid y wlad â nos o lygredigaeth, hyd nes y cyfodai
haul drachefn, sef rhy w feddwl mawr, i wasgar y tywyllwch â'i
oleuni, ac i gynyrchu rhinwedd â'i wres. Ac y mae yr hyn
ydoedd yn wirionedd am Israel, yn wirionedd am bob cenedl
arall. Y mae cryn wahaniaeth yn nyfnder yr argraff a roddodd
rhai, rhagor eraill, ar feddwl cenedl neu genhedloedd. Ond y
mae lesu Grist yn sefyll yn " ddidoledig " oddiwrth bawb yn
Didoledig oüdîwrth bechamiriaía. 889
nyfnder yr argraíf a roddodd Efe ar y byd. Ymddengys hyn,
yn neillduol, os meddyliwch ani yr anfanteision oedd iddo i
hyny. Pa beth bynag yn gyffredin a all fod nerth y meddwl,
ni wna y mwyaf galluog argraff ddofn ar ei oes heb gael am-
gylchiadau yn ffafriol i hyny. Os bydd yn wreiddyn cenedl,
fel Abraham, y mae ei feddwl yn cael mantais i wneuthur
argraff arnynt trwy y parch a deimlir gan blant i dad. Os bydd
yn ddeddfroddwr i genedl, fel Moses, gall trwy hyny gael
mantais i wneuthur argraff ddofn arnynt. Neu, os bydd yn un
a gyfyd y genedl i enwogrwydd yn ngolwg cenhedloedd y byd,
fel y gwnaeth Dafydd trwy ei ryfeloedd, bydd hyny yn fanteis-
iol iddo argraffu ei ddelw arnynt. Ond nid oedd gan lesu
Grist yr un o'r manteision hyn. Nid oedd na gwreiddyn
cenedl, fel Abraham ; na deddfroddwr iddynt, fel Moses ; na
buddugoliaethwr trostynt, fel Dafydd : yn hytrach, dyn tlawd
ydoedd ; a threuliodd ei ddyddiau ymysg rhai felly. Dyn di-
ddysg ydoedd, yn ystyr gyffredin y gair yna : nid ysgrifenodd,
am a wyddom, yr un gair ar bapyr na memrwn trwy ei oes, fel
y gelHd dywedyd mai ei ysgrifeniadau a'i dygasant i sylw, Yr
oedd holl rai dysgedig y byd yn ei erbyn. Bu farw yn ddyn
ieuanc, fel na chafodd mor fantais a rydd blynyddoedd oedran i
wneuthur argraff ar y byd. Hefyd, yr oedd yn un o genedl
ysgymunedig yn ngolwg y byd ; ac ymddangosodd, heblaw byny,
mewn oes pan oedd pob rhagoriaeth a fuasai unwaith ar y
genedl wedi ei golli. Eto, er yr holl anfanteision hyn, pwy
fedr draethu dyfnder yr argraff a roddodd Efe ar y byd. Oni
elh'r ei ddarllen mewn myrdd a mwy o bethau ? Onid oes
graddau o'i ddelw wedi eu cerfio ar filoedd o'r meddyhau cryfaf
a fu ar y ddaear erioed. Carant eistedd, fel Mair, wrth ei draed,
a derbyn o'i eiriau, fel nas gelUr gofyn erbyn hyn, A gredodd
neb o'r penaethiaid ynddo .'* Do, fyrdd a mwy. Ac am y bobl
gyffredin, y mae tyrfaoedd dirif ymron, ymhob gwlad, yn ei
gydnabod ; fel, bsth bynag fo'r amgylchiadau, neu pa ystâd
bynag a fo ar gymdeithas, y mae ei Lobl druam dlodion yn
gobeithio yn ei enw, a'r pendefigion yn ei theimlo yn anrhyd-
edd cael offrymu eu rhoddion iddo, fel y gwnai doethion y
dwyrain gynt.
Edrychwch dros lenyddiaeth ein byd ani ganoedd, 'íe, am
igo Didoîedig oddiwrth bechadiiriaid.
dros fil o flynyddoedd, nis gellwch agor llyfr o hanesyddiaetb,
athroniaeth, na barddoniaeth, heb deimlo íod meddwl yr awdwr
wedi derbyn ei fywyd oddiwrth gyfíyrddiad â meddwl yr lesu.
. lawn y galwodd y prophwyd Ef yn Haul, oblegid, onid ydyw,
fel haul, wedi dylanwadu ar y da a'r drwg? Deng^'S pob gwlad
eíFeithiau y dylanwadau, naiU ai yn y ffrwythau cymwys, neu
ynte yn y drain a'r mieri ; naill ai yn rhinweddau y rhai da,
neu yn mhechodau y rhai drwg. Byddai colli lesu o Nazareth
o ffurfafen y natur ddynol, yr un peth ag a fyddai colli yr haul
o'r ffurfafen naturiol. Ni a gollem brydferthwch, nerth, a
bywyd pob peth ar unwaith o hyny. Ac er nad ydoedd yn
nyddiau Ffestus ond im lestíy a charcharor mewn cadwen yn
taeru rhywbeth mewn perthynas iddo, erbyn heddyw ei enw
Ef ydyw y cyntaf y mae y fam yn dysgu tafod bloesg ei maban
i'w seinio, a'r anwylaf a'r olaf y mae tafod bloesg y marw yn ei
yngan, cyn Uonyddu yn yr angau. Onid ydyw roewn gwiri^n-
edd yn " ddidoledig oddiwrth bechaduriaid " yn nyfnder yr
argraff a roddodd ar feddwl y byd ?
2. Ffaith arall ydyw ei fod " yn ddidoledig" oddiwrth ddyn-
ion, a gawn, yn nghyffredinolrwydd y berthynas a deimHr gan
bawb sydd rhyngddo â'r byd. Nid oes, hyd yma, ond dau wedi
ymddangos ar y ddaear y teimlir gan bawb eu bod yn perthyn
i'r byd oll, sef Adda a'r lesu. Yn gyffredin, mawredd lleol
3'dyw mawredd enwo^ion y ddaear. Dyn oes ydyw y dyn mawr :
pan giHo hono, y mae yntau yn cilio gydâ hi. A phan gyfyd
ambell un ychydig yn uwch na hynyna, dyn cenedl ydyw,
Gwir yw i raio'r hen athronwyr dynu sylw cenhedloedd heblaw
yr un yr oeddent yn perlhyn iddi, eto fe deimlir am danynt
mai dynion cenedl ydynt oll. luddew oedd lesu o Nazareth ;
ond 'ai i'r luddewon ynunig' y mae yn perthyn ? 'Onid
ydyw i'r cenhedloedd hefyd?' Digon o attb i hyn ydyw teimlad
y byd ; a dyna ydyw hwnw, y byddai hi mor annaturiol i
unrhyw genedl hawlio meddiant yn yr lesu ag a fyddai iddynt
wneuthur hyny â'r Adda cyntaf. Pe cesglid cenhedloedd y
byd at eu gilydd i gymharu eu mawrion, diau yw y byddai
dadlcu brwd rhyngddynt ynghylch eu mawredd cymharol ;
ond pan enwid yr lesu, fe ddistawai y dadleuwyr, am y teimlent
fod ganddynt oll ran ynddo, heb ncb yn ei adwaen yn ol y
Didoledig oddiwrth bechaduriaid. 891
cnawd. Onid ydyw ' yn ddidoledig oddiwrth ' ddynion yn
hyn hefyd ?
Ond ni adawn y ddwy fEaith hyn am ei ddylanwad ar feddwl
ac ar deiailad y byd : ffeithiau ydyw y rhai hyn nad ellir lai
na'u canfod ; nid yn, neu drwy y Bibl yr ydym yn eu gweled,
ond ar wyneb cymdeithas. Yn awr ni a edrychwn ar ei gym-
eriad i weled beth oedd ynddo yn ei wneuthur "yn ddidoledig"
yn y pethau a enwyd ; oblegid ni fuasai "yn ddidoledig " yn
ei ddyianwad, oni bai fod hyny yn gwreiddio mewn rhywbeth
oedd yn ei wneuthur "yn ddidoledig " yn ei gymeriad.
I. Yr oedd *' yn ddidoledig oddiwrth bechaduriaid " yn y cyf-
uniad oedd ynddo o honiadau heb eu bath, aco ostyngeiddrwydd
perffaith. Y mae ei honiadau yn dyfod i'r golwg yn ei waith
yn cymharu ei hun â dynion mwyaf y genedl, ac yn hawHo
blaenoriaeth arnynt oll, — Abraham, Jacob, Moses, Dafydd, a'r
prophwydi. Er cymaint gẃr ydoedd Abraham, yr ydoedd yn
llai nag Ef. Llawenychai Abraham wrth edrych ar ei ddydd
Ef. " Cyn bod Abraham," meddai lesu Grist, "yr wyf Fi."
"Ai mwy wyt ti na'n tad Jacob?" meddai y wraig o Samaria.
" lë, annhraethol fwy," oedd yr atebiad iddi yn ei ymddygiad.
Moses, y deddfroddwr, yr hwn a fu yn ymddiddan â Duw
" wyneb yn wyneb," "am danaf íi yr ysgrifenodd efe." Dafydd,
y mwyaf o frenhinoedd Israei, — yr ydoedd yn fy ngalw î yn
Arglwydd. Y prophwydi — tystiolaeth yr lesu ydyw ysbryd
prophwydoliaeth. O Siloh Jacob hyd Haul Cyfiawnder Malachi,
myfi ydoedd yn llygad pob un o honynt ; pa un bynag ai
Blaguryn Cyfiawnder,ai Pren Bywyd, ai Craig Fawr, ai Cwmwl,
Seren ai Haul ; Oen ai Llew, Lili ai Rhosyn, a fyddai y wisg,
myfi ydoedd " ysbryd y brophwydoHaeth." Ac nid yn unig y
mae yn hawHo bod yn wrthddrych sylw, ac yn ffynonell
mawredd y genedl, y mae hefyd yn hòni perthynas felly â'r
byd yn ddiwahaniaeth. " Goleuni y byd ydwyf fi:" beth bynag
ydyw y goleuni i'r byd naturiol, yr wyf fi yn hyny, a mwy, i'r
byd meddyliol ac ysbrydol. A meiddiai gyhoeddi yn nghanol
byd : — " Deuwch ataf fi bawb';" '' Yr hwn sydd yn credu ynof
fi, ni ddemnir ;" îe, meddai, " Myfi yw'r adgyfodiad a'r bywyd."
Nid dieithr ydoedd fod ei gydoeswyr yn dywedyd, wedi
gwrandaw y pethau hyn, "Clywsom bethau anhygoel heddyw;'^
•892 Didoleäig oadiiorth bechaauriaid.
oblegid 3'r oeddent yn honiadau na clilybuwyd erioed eu bath,
— honiadau yr oedd rhai Nebuchodonosor, Alexander, a holl
rai uchelfrydig y ddaear, yn myned yn ddim o'u cymharu à
hwynt.
Ond hyn oedd yn rhyfedd, bod yr honiadau uchel hyn
mewn undeb â'r gostyngeiddrwydd perffeithiaf, — gostyngeidd-
rwydd ag y mae geiriau y prophwyd yn ddarluniad cywir o
hono: — " Ni waedda, ni ddyrchafa, ac ni phair glywed ei lef yn
yr heol ;" — gostyngeiddruydd a ddaeth i'r golwg mewn myrdd
a mwy o ffyrdd. Daeth i'r golwg mewn gwrthod coron brenin,
ac mewn derbyn babanod bychain ; mewn cymdeithasu gydà
phublicanod a phechaduriaid, ac mewn golchi traed y disgybl-
iop. Y mae gostyngeiddrw^^dd balch weithiau i'w gael ymysg
dynion Iled fawr : fel yr eiddo hwnw oedd yn myned allan i'r
heol mewn mantell dyllog, i ddangos ei ostyngeiddrwydd.
'* Mi a welaf dy falchder di," meddai rhywun wrtho, " trwy y
tyllau yna ;" ac rid ydoedd yn gofyn Ilygad craff iawii i hyny.
Ond nid un felly ydoedd gostyngeiddrwydd yr lesu ; oblegid
yr oedd ei frodyr, oeddent heb gredu ynddo, yn methu cysoni
y gostyngeiddrwydd â'i honiadau : " Os wyt ti yn gwneuthur
y pethau hyn, amlyga dy hun i'r byd," meddent. Arfer y byd
ydyw, " nad oes neb yn gwneuthur dim yn ddirgel, ac yntau
yn ceisio bod yn gyhoedd," sef yn hòni pethau fel yr wyt ti.
Yr oeddent hwy yn teimlo, ac yr ydym ninau yn teimlo, ei
fod " yn ddidoledig oddiwrth bechaduriaid" yn y cyfuniad
oedd ynddo o honiadau heb eu bath, ac o ostyngeiddrwydd heb
ei gyffelyb.
2. Y mae '^ yn ddidoledig oddiwrth bechaduriaid " yn ei
wàith yn myned trwy holl amgylchiadau ei oes, ac er ei demtio
ynddynt yr un ffunud a ninau, eto heb bechu. Y mae llawer o
wahaniaeth rhwng dynion a'u gilydd ; ond yn hyn cyd-ystâd
ydynt, — pechaduriaid ydyw pawb. Ymweithia ystaen pechod
yn gyíîym i'r golwg yn y plentyn, a pha nifer bynag o bethau
a gyll cyn cyraedd henaint, fe fydd yn bechadur yn fab can-
mlwydd fel yn fab teirblwydd. Rhodder ef ymhob math o
sefyllfa, ynddynt oll fe ddaw pechod i'r golwg. Os cedwir ef
mewn unigedd, fe ymweithia pechod i'r unigedd mwyaf : neu
os rhoddir ef yn nghanol cynwrf bywyd cyhoeddus, bydd pechod
Didoledig oddiwrth bcchaduriaid. 893
tyw yn y ddinas fel yn yr anialwch. Newidier yr amgylchiadau
yn ddiddiwedd, o dlodi i gyfoeth, acogyfoeíh i dlodi, fe newidia
yntau ei hun ar eu cyfer hwynt, a phechod a fydd ynddynt oll.
Y mae, nid íel clefydau, a fyddant weithiau yn dyfod yn gawod
dros wlad, ac yn cilio ; ond yn hytrach fel yr endemics, clefydau
cynwynol i genedl neu wlad, sydd yn cael eu bôd gan ryw
achosion sydd ynddi bob amser. Yr oedd pechod fel endemtcy
ddaear, fel y tybid nad oedd yn bosibl i greadur rhesymol ci
osgoi. YmhHth yr hoU fihynau a fuont yma, nidoedd cymaint
ag un heb fod yn bechadur. Ond wele un "didoledig" oddî-
wrthynt oU ! Nid nad ydyw yr amgylchiadau a fuant yn
ddinystr i bawb eraill yn effeithio dim arno Ef : cauer Ef mewn
anialwch, heb grcadur ond bwystfilod gydag Ef; cymered y
diafol fantais ar yr unigedd i'w demtio, — " didoledig oddiwrth
bechaduriaid " fydd efe yno. Rhodder Ef yn lle amlaf y
boblcedd, yn ganolbwynt sylw pawb, nid ä ei galon Ef ddim yn
gref, fel un Esaiah gynt : " didoledig oddiwrth bechaduriaid "
a fydd Efe yno. Gwneler Ef mor dlawd fel na byddo ganddo
le i roddi ei ben i lawr, bydd mor bell oddiwrth syrthio yn
ysglyfaeth i'r brofedigaeth a ofnai Agur, fel y treuliai efe noson
i weddio Duw, yn Ue cymeryd ei enw yn ofer : "didoledig
oddiwrth bechaduriaid " a fydd Ef yno. Dyrchafer Ef i íefyllfa
y bydd coron â'i hanrhydedd yn ei olwg, ni efîeithia y demtas-
iwn ddim arno ef, fel ar Hazael gynt : " didoledig oddiwrth
bechaduriaid " fydd Ef.j yno hefyd. Rhaid bod nerthanghym-
harol yn sancteiddrwydd ei galon, gan ei fod yn medru lladd yr
holl ddylanwadau llygredig oeddent o'i gwmpas. Yr oedd
pechod yn amser ei ymddangosiad Ef wedi cyraedd ei eithaf.
Ceir prawf o hyn trwy gymharu caledwch Capernaum, Beth-
saida, a Chorazin, âg eiddo Tyrus, Sidon, a Sodoma : îe, onid
yn yr oes hono y cyflawnodd pechod y weithred ysgeler, a fydd
i dragywyddoldeb yr arddangosiad mwyaf ysgeler o echryslon-
rwydd ei natur ? Ond goleuni a fu Efe yn ei ganol, heb ddim
tywyllwch. Y mae ysmotiau mawrion o dywyllwch yn yr haul
naturiol, er fod ynddo ddigon o oleuni er hyny i fod yn haul ;
ond goleuni heb ddim tywyllwch yw Haul y Cyfiawnder.
Nid oes dim yn ei ddangos mor "ddidoledig" yn yr ystyr
hwn a'i weddiau Cymherwch hwynt â gweddiau saint y Bibl,
"694 Didoledig oddiwrih hcchadiiriaid.
a bydd yn rhaid penderfynu naill ai ei fod " yn ddidoledig"
oddiwrthynt, neu nad ydyw yn sanct o gwbl. Yr oedd saint y.
Bibl, fel y tybia rhai y byddai yr offeiriad luddewig gerbron y
bobl yn ei wisgoedd gorwych, ond gerbron Duw heb ddim ond
y wisg lîan, felly yr oeddynt hwythau, â'r harddwisgam danynt
gerbron dynion, ond y wisg lîan gerbron Duw. Yr oeddent
yn saint gerbron dynion, ond yn bechaduriaid grerbron Duw.
" Maddeu fy anwiredd, canys mawr yw." " Na ddos i íarn â'th
was;" "yr ydym ni oll megis peth aflan." " Na ffieiddia ni "
" Ys truan o ddyn wyf fi ! pwy a'm gwared oddiwrth gorff y farw-
olaeth hon." Hon a*i chyffelyb ydy w iaith Aloses, Dafydd, Esaiah
Jeremiah, Daniel, loan, a Paul, goreugwyr y byd gerbron Duw,
ond gwrandewch arno ef yn gweddío ;— yn ofer y disgwyliwch
am glywed y gair edifarhau, a maddeii, o fewn y weddi. Y
rhai hyn a'u cyffelyb ydynt ei ddeisyfiadau Ef : — " Gogonedda
dy Fab, fel y gogoneddo dy Fab dithau. O ! Dâd, gogonedda
di íyfi, â'r gogoniant oedd i mi gydâ thi cyn bod y byd." Tros
eraill y mae yn gofyn, " Cadw hwynt rhag y drwg ;" " Sanct-
eiddia hwynt y.i dy wirionedd ;" — " O ! Dad, maddeu iddynt ;"
ond am dano ei hun, nid oedd ganddo yr un pechod i'w faddeu,
— yr un bai i'w guddio. Nid at orseddfainc y grâs yroedd Efe
yn myned, ond at yr orsedd wen fawr. Nid oedd eisiau arogl-
darth gydâ'i weddîau Ef. Y mae ei weddiau Ef, pe na buasai dim
arall, yn ei ddangos " yn ddidoledig oddiwrth bechaduriaid."
3. Y mae "yn ddidoledig " yn ei ymdrechiadau diball i
wneuthur daioni i bawb, heb ddangos ffafraeth i neb. Y mae
amddiffynwr y tlawd yn rhy gyffredin yn gablwr urddas, tra y
mae pleidiwr y cyfoethog yn rhy fynych yn ormeswr ar y tîawd.
Y maeyr hwn sydd yn cael ei gynhyrfu i godi yn crbyn llygred-
igaethau crefydd, yn dra thueddol i gladdu crefydd ei hun ynyr
un bedd a'r llygredigaethau. Wedi cael rhai yn gelwyddog, íe
ddywed gydfi Dafydd yn ei ffrwst, " Pob dyn syddgelwyddog."
Oherwydd hyn y mae braidd yn anmhosibl cael un i ddal y
fantol yn deg, rhwng gwahanol egwyddorion, a gwahanol
ddosbarthiadau cymdeithas ; wrth ofalu am, ac amddiffyn y
naill, fe guddir ac fe esgeulusir y lleill. Ond fe enillodd ef y
teitl o "ddidoledig" yn hyn hefyd ; — daHodd y fantol yn
deg rhwng tlawd a chyfoethog ; ac yn nameg y Goludog a
Didoledig oddiwrth hechaduriaid. 895
Lazarus, dangosodd nad oedd amgylchiadau y byd hwn yn
eífeithio dim ar sefyllfa person yn y byd arall, — mai damweiniau
ydoedd yr amgylchiadau : yr oedd yntau yn myned trwyddynt at
y personau. Bywhâodd fab y wraig weddw dlawd, a merch
Jairus y pendefig. Eisteddai i fwyta bara yn nhŷ y Pharisead
parchus, ac yn nhŷ y pubHcan dirmygedig: yr ydoedd yn gyfaill
i bubhcanod a phechaduriaid, ac vn gyfaiU i Nicodemus, y
cynghorwr, ac i Joseph, y pendefìg. Fel y rhag-arwyddwyd
yn ei enedigaeth, yn ngwaith y bugeiliaid tlodion a'r doethion
cyfoethog, yn ymweled âg Ef, mai oes o gymwynasau i bawb
yn ddiwahaniaeth a fyddai ei oesEf; fe ddygwyd tystiolaeth ar
ei gladdedigaeth mai un felly a fu hi; yn ngwaith gwragedd
tlodion GaHlea, a dau o bendeíîjion cyfoethog Judea, yn dwyn
y pêraroglau a'r enaint i eneinio ei gorff. " Didoledig oddiwrth
bechaduriaid."
4. Yr ydoedd "yn ddidoledig oddiwrth bechaduriaid " yn ei
fod y tuhwnt i neb arall a fu ar y ddaear erioed yn haeddu
byw, ac eto yn cyfarfod âgf angau na bu ei gyífelyb o'i íiaen,
na'i debyg ar ei ol. Os bu neb erioed yn teilyngu cael byw,
Efe ydoedd hwnw. ''Pwy," medJai y prophwyd yn y rhag-
olwg arno, "adraetha ei oes Ef;" a thystiodd y disgybl a
geisiodd wneuthur hyny, ' ped ysgrifenasid ei weithredoedd
bob yn un ac un, na chynwysai y byd y llyfrau a ysgrifenid.'
Edrycher arno fel Athraw, fel Glwadgarwr, fel Cymwynaswr, fel
Cyfaill, "didoledig" a fydd ymhob golwg. Nis gellir gwrandaw
ar ei eiriau heb ddywedyd, " Clywsom bethau anhygoel ;" nac
edrych ar ei weithredoedd heb synu yn anfeidrol. Yr oedd ei
ddoethineb yn ddigon i roddi Solomon ei hunan yn y cysgod ;
— ei wladgarwch y fath, a^ a fuasai yn peri i Moses wrido yn ei
wydd ; — -ei gymwynasau yn gyfryw, fel mai gwaith ofer ydyw
edrych am neb i'w gymharu âg Ef. Bu fyw yn yr oll i'r
amcanion uchaf Gogoniant Duw a lles dynion oeddent yn
argraffedig ar bob gweithred o'i eiddo. Yn ofer y chwiHr am
yr amlygiad üeiaf o hunan-gais mewn dim. Dioddefai newyn
ei hun, ond ni chai neb araU ei ddioddef Ue y byddai Ef Gẃr
gofìdus a chynefin â dolur oedd Ef ei hun ; ond am ddoluriau
pobl eraiU, dygai hwynt ymaith â'i air. Yr oedd ganddo
drugaredd i bawb ond iddo ei Hun ; — dagrau i Jerusalem ; —
896 Didoledig oddiwrth hechadicriaid.
tosturi i'r dyrfa, rhag eu bod wedi blino. Fe lonodd fyrdd o
galonau gofidus ; daeth a goleuni llawenydd i filoedd o lygaid
oeddent wedi tywyllu gan ddagrau ; cysurodd bob galarus";
diddanodd bob un gwan ei feddwl ; ond am dano ei Hun,
" Crist nis boddhaodd ef ei hun." Oaid oedd Hwn yn haeddu
cael byw ?
Eto wele y "didoledig" Hwn yn marw, ac yn marw o angau
yn yr hwn y cydgyfarfyddodd pob chwerwder a all fod mewn
marwolaet 1. Yr oedd pob llysieuyn chwerw, — ffrwythau y
felldith, — a'r felîdith ei hun, yn ei gwpan Ef. Anniolchgarwch,
bradwriaeth, anghyfiawnder, creulondeb, digofaint, — yr oeddent
oll yno. Arweiniwyd Ef i angau gan rai a ddylasent farw eu
hunain i'w gadw Ef rhagddo. Rhoddwyd ef i farwolaeth gan
rai na wnaethai Efe ddira ond daioni iddynt. A rhag nad
digon y chwerwder cyffredin sy mewn angau, ni oddefid iddo
Ef íarw yn dawel : yr oedd yn rhaid edliw iddo, a llaesu gwefl
arno. Nid oedd gofid neb arall fel ei ofid Ef Eto, yn ei
ganol, gofalodd am bereiddio cwpan chwerw y rhai oeddent o'i
gwmpas. Fe welodd ei fam bron yn methu yfed o'i chwpan
chwerw, — pereiddiodd ef iddi hi yn y fan. Fe ganfu leidr yn
ei ymyl, yn dychrynu rhag chwerwder ei gwpan ; fe dynodd ei
uffern o hono, gan ei harllwys i'w gwpan ei Hun. Ond am
hwnw, fe'i hyfodd ê i'r gwaddod. Yr oedd ei farw Ef, fel ei
fyw, yn sefyll arno ei hun ; yn un marw mawr a fydd yn " ddi-
doledig " i dragwyddcldeb oddiwrth bob marw arall. "Di-
doledig oddiwrth bechaduriaid."
Gan ei fod yn " ddidoledig" yn y golygiadau hyn, y mae
tri o wirioneddau pwysig i'w cyfiwyno i'ch sylw yn gasgliadau
oddiwrthynt : —
1. Gan ei fod " yn ddidoledig " oddiwrth ddynion, rhaid ei
fod yn fwy na dyn. Y rnae yn anmhosibl rhoddi cyfrif am y
perffeithrwydd hwn, oni chymerwn ni reswm y canwriad i'w
roddi am dano, " Yn wir, Mab Duw oedd y dyn hwn." Nid
ydwyf yn awr yn cyfeirio at ei enwau, at ei weithredoedd, nac
at yr amlygiadau hynod a gafwyd mewn cysylltiad â'i enedig-
aeth, ei fedydd, ei wedd-newidiad, a'i farwolaeth, i brofi ei
ddwyfoldeb. Ni a allwn fforddio gadael y pethau yna oll o'r
neilldu, ac cdrych ar y dyn Crisl Icsu yn amgylchiadau cyffredin
Didoled'g oddiwrth bechaduriatd. 897
bywyd, a gofyn, *■ Pwy ydyw hwn ?" O ba le y daeth y per-
ffeithrwydd hwn i'rdynhwn? Pe buasid wedi cau o'iamgylch,
gallesid dywedyd am dano, fel Satan arn Job, "Ai yn ddiachos
y mae " yn berffaith ? Yn lle hyny, yr ydoedd yn agored i
bedwar gwynt y nefoedd daraw arno ar unwaith. Temtiwyd
Ef ymhob peth ; eto heb techod. Pa fodd y safodd Hwn
rrewn anialwch? fe syrthiodd Adda mewn paradwys. Pa fodd
y cadwodd Hwn ei ysbryd yn ei le ymhob profedigaeth? Aeth
Job, nad oedd gyffelyb iddo ar y ddaear, fel yr oedd yr ystorm
yn cynyddu, i felldithio ei ddydd. Pa fodd y rhoddir cyfrif
am waith Hwn yn ymddiried yn Nuw, ac yntau wedi ei adael
yn nghanol rhyferthwy angau? Pan yr aeth Moses, oedd â'r
Arglwydd gydag ef bob amser, i'w ameu, beth a ddywedwn ni
wrth y pethau hyn ? Onid allwn ni roddi hèr i'r byd i roddi
cyfrif am danynt, oddieithr i ni roddi cyfrif y canwriad, — " Yn
wir, Mab Duw oedd y dyn hwn ?"
3. Gan ei fod "yn ddidoledig oddiwrth bechaduriaid," y mae
ynddo beth i bechaduriaid. Nid oes reb didoledig oddiwrth
ddynion, heb fod ynddo rywbeth i ddynion. Y maegwirgym-
wynaswyr y byd, er eu bod yn y byd, eto heb fod o'r byd. Y
maent fel mynyddoedd uchel o'r neilldu ; ond er eu bod o'r
neiUdu, hwy sydd yn cysylltu y nefoedd a'r ddaear â'u gilydd ;
— hwy sydd yn atdynu gwHth a gwlaw y nefoedd i'w cadw yn
eu celloedd mawrion i'w oUwng allan yn afonydd i ffrwythloni
y dyffrynoedd. O'u cronibiloedd hwynt y cloddir y trysorau
cuddiedig sydd yn cyfoethogi trigolion y ddaear ; ac ar eu
copäau hwynt y gwehr pelydr cyntaf yr haul, yn arwydd i'r
dyffryndir fod y dydd yn dyfod. Y mae cyfoeth y byd, yn ei
feddyliau, ei gelfyddydau, ei gysuron, wedi dyfod oddiwrth
ychydig o rai didoledig, y mynyddoedd uchel sydd o'r neiUdu.
Y mae llyfr Genesis yn rhoddi hanes amryw o honynt, yn
nt'hychwya oesoedd y byd, — Jabal, Juba', Tubal-Cain, Assur,
&c. Y mynyddoedd uchel oedd y rhai hyn, ymha rai y cododd
yr afonydd sydd yn ffurfio y dyffrynoedd, ac yn cysuro y trigol-
ion trwy yr oesoedd. A pho fwyaf didoledig a fyddo un, mwyaf
oll fydd yn hwnw i eraill. Dyma Un didoledig, y '* Didoledig,"
na bu neb yn Uanw yr enw ond Efe. Efe ydy w y mynydd uchel
o'r neilldu, yr hwn sydd yn ddigon uchel i dynuatohoU ireidd-
W3
898 Didoledig odäiwrih bcchadnriaid.
dranefoedd y gogoniant i'w arllwys yn afon o drugaredd drosy
ddaear sech, fel pa faint bynag o lysiau cyrawys^ — o brenau
cyfiawnder, — o ffrwythau paradwys, sydd yn prydferthu ei
gwyneb heddyw, i'r afon yr ydym yn ddyledus am danynt oU.
Cyfoeth yr Aípht ydyw yr afon Nilus, yr hon, trwy chwyddo
dros ei cheulanau bob blwyddyn sydd yn ffrwythloni y wlad y
ffordd y rhed hi : a hyny sydd yn rhyfedd am dani, ydyw ei bod
yn rhedeg dros fil o filldiroedd mewn unigedd raawreddus, heb
he!p gan na ffrwd na naiit o un cyfciriad.* Rhaid fod y myn-
ydd o ba un y mae hi yn codi yn uchel iawn, gjn ei fod yn
sugno digon o leithder o'r awyr i fcdru fforddio anfon ffrwd mor
gref mor bell. Afcii Duw sydd yn llawn dwfr, ac y mae hi yn
rhedeg trwy ein gwlad mewn unigedd mawreddus, heb i afonig
iia nant o un cyfeiriad ei chynorlhwyo ; ond ni raid i ni bryderu
am barhad y ffrwd, er nad ydyw dyffryn sych y ddaear yn gallu
helpu dim arni, oblegid y mae y mynydd, o ba un y mae hi yn
rhedeg, yn ddidoledig, yn ddigon uchel i dynu ato holl gymylau
trugaredd y Duwdod o'i gwmpas ; am hyny, hi a bery i redeg
tra y pery cyflawnder y Duwdod. Gan ei fod "yn ddidoledig
oddiwrth bechaduriaid," y mae ynddo rywbeth i bechadur.
3. Gan ei fod " yn ddidoledig oddiwrth bechaduriaid," gall
Hwn dderbyn pechaduriaid ; ac Efe yn unig a all. Pa fodd y
dangoswn ni hyn ? Y mae y llestr y cychwynodd y natur
ddynol ei mordaith ynddi wedi myned yn ddrylliau, ac y mae
yr holl Iwyth ar wyneb y tonau yii suddo i beidio codi mwy.
Y mae ambell nofiedydd lled dda yn cadw am ychydig ar y
wyneb, un arall yn ymgynal dros ychydig wrth astell o'r hen
lestr; ond nid oedd neb yn medru cyraedd y lan, — suddo yr
oeddynt oll ; ond y mae y lestyn y 1 rhoddi hanes Un ar y làn,
— daear galed dan ei draed, — gall Hwn estyn ei fraich hir i'r
rhai sydd yn suddo, ac y mae yn gwr.cuthur hyny. Rhoddwch
law iddo, ac fe ddigwydda ddyfod o bawb o huiioch i dir yn
ddiangoL
" Didoledig oddiwrth bechaduriaid ;" ond y mae y cwbl sydd
ynddo yn wahanol i bechadur, yn beth ar gyfer pechadur. Y
• Dealla y darllenydd fod yr awdwr yn ypgrifenu hjn cyn y darganfydd-
iadau diweddar ynghylch tarddiad y Nilus.-GOL.
Didoledig oddiwrth hechadiiriaid. 899
mae cryn wahaniaeth rhyngwyf â Moses, a Dafydd, ac loan, a
Phaiil ; yr ydwyf yn cuddio fy wyneb mewn cywilydd yn
mhresenoldeb eu rhinweddau cryfion, a'u grasusau disglaer ;
ond rhyngwyf a "didoledig" y testyn y mae y gwahaniaeth
mawr ; eithr er cymaint ydyw, yr ydwyf yn ymgysuro yn yr
olwg ar y gwahaniaeth hwn, oblegid y mae yr oU sydd ynddo
yn wahanol i mi, yn rhywbeth i mi. Y mae Efeyn gyfiawnder,
ond cvfiawnder ar gyfer fy anghyfiawnder i ydyw hwnw. Y
mae Efe yn sanctaidd,ond purdeb ar gyfer fy halogrwydd i ydyw
hwnw. Y mae Efe yn ddoeth o galon, ond doethineb ar gyfer fy
íToHneb i ydyw hwnw. Efe ydyw gwrth-gysgod y babell : yr
oedd hono yn ddidoledig oddiwrth babell pob Israeliad ; ond
am ei bod felly, yr oedd rhywbeth ynddi ar gyfer y pebyll oll,
a chroesaw i'r luddew droi ati yn wyneb pob difiTyg oedd yn ei
babell ef. Yr oedd pechodau ddigon yn ei babell ef, ond yr
oedd trugareddfa yn mhabelì Duw : yr oedd halogedigaeth yn
ei babell ef, ond yr oedd gwaed a dwfr i buro yn mhabell Duw.
Yr oedd anwybodaeth yn ei babell ef, ond yr oedd Urim a
Thummim — goleuni a gwirionedd — yn mhabell Duw. Beth
bynag sydd yn lesu Grist nad ydyw genyt ti dy hun, peth i ti
ydyw hwnw. Y inae Duw yn dywedyd fod y "didoledig"
Hwn yn " weddus i ni :" dywedwn ninau ein hunain hyny
mewn gweithred a gwirionedd.
[Gorphened Rhag. Ueg. 186.S].
PREGETH LIV.
AGOSRWYDD AT DEVKNAS DDUW.
Marc XII, 34 :— 'Nid wj-t ti bell odcliwrth deynias Dduw.
E ddywedir yn yr efengylwyr amryw weithiau fod
teyrnas Dduw wedi dyfod yn agos at yr luddewon;
ond yma fe ddywedir fod yr ysgrifenydd hwn yn
agos dt y deyrnas. Y mae ein bod ni yn agos at y deyrnas yn
beth tra gwahanol i fod y deyrnas yn agos atom ni. Y mae yn
wirionedd na buasai neb dynion byth yn agos at y deyrnas, heb
i'r deyrnas yn gyntaf ddyfod yn agos atynt hwy ; ond gall hi
fod yn agos atynt hwy, ac y mae hyny yn bod yn fynych, heb
eu bod hwy yn agos ati hi. Yr oedd y deyrnas mor agos at y
genedl luddewig fel y gelwid hwy yn blant y deyrr.as ; erhyny
yr oeddent hwy mor bell oddiwrthi, fel cenedl, fel ag yr oedd
puteiniaid a phechaduriaid yn myned i mewn iddi o'u blten
hwynt. Y mae y deyrnas wedi dyfod yn agos at ddynion, pan
fydd hi wedi gwisgo gwedd ddynol, a thrwy hyny wedi dyfod
yn gyfryw ag y gall dyn ymwneyd â hi, ac ymaflyd ynddi. Y
mae dyn wedi ei ddwyn yn agos at y deyrnas pan y bydd wedi
ei ddwyn i deimlo ei angen am ei phethau hi, a hyny wedi creu
graddau oddisgwyliad ynddo am danynt, a mesur o barodrwydd
i'w derbyn. Duw yn agoshau atom ni ydy w dyfodiad y deyrnas
yn agos atom; ein meddwl ni yn agoshau at Dduw ydyw ein
bod ni yn agos at y deyrnas. Y goleuni, sydd yn goleuo pob
peth a berthyn i'n heddwch, yw dyfcdiad y deyrnas yn agos
atom ni ; gallu yn y Uygad i ddefnyddio y goleuni hwnw, y\y
ein hagosâd ni at y deyrnas. Y cerfiad ar y sèl, yw dyfodiad y
deyrnas yn agos atom ni ; y cŵyr wedi ei doddi i [dderbyn
Agosrwydd at deyrnas Dduw. 901
argraff y cerfiad, yw ein bod ni yn agos at y deyrnas. Y mae
yn eglur y gctll y naill agosrwydd fod heb y llall ; — y gall fod
digon o oleuni i ddangos pob gwrthddrych a berthyn i'n hedd-
wch tragywyddol yn eglur, hcb fod gallu yn ein llygaid ni i
ddefnyddio y goleuni; — y gall cerfiad y sêl fod yn berífaith, heb
fod y cŵyr wedi ei doddi i dderbyn yr argraíf ; y gall fod Duw
yn ei deyrnas heb fod nebpell oddiwrthym, a'n bod ninau, er
hyny, wedi ymddieithro oddiwrth fuchedd Duw, ac yn bell
oddiwrth gyfiawnder. Yr oedd y deyrnas yr un mor agos yn
ei phethau at yr holl genedl luddewig, yn nyddiau yr Arglwydd
lesu ; eto, yr oedd gwahaniaeth dirfawr yn agosrwydd rhai o
honynt hwy, ragor y lleill, at y deyrnas. Yr oedd y deyrnas
mor agos at y Phariseaid, fel ag yr oeddenl; yn ei chau hi rhag
y rhâi a fynent fyned i mewn iddi ; ond yr oeddent hwy mor bell
oddiwrth y deyrnas, er hyny, fel ag yr äi y publicanod a'r pech-
aduriaid i mewn iddi o'u blaen hwynt. Yr oedd y bechadures
hono, yn nhŷ Simon, yn ddigon agos at y deyrnas i ymwthio i
mewn iddi : yr oedd y deyrnas yn agos at Simon ei hun, eto yr
oedd efe ymhell oddiwithi ; ie, a'r tebyg ydyw iddo aros y tu
allan i'w throthwy hi byth. Yr oedd yr arch-synagogydd
hwnw yn trafod pethau y deyrnas bob dydd, ac er hyny ymhell
oddiwrthi. Yr oedd Zaccheus y tu allan i'w therfynau, ac eto
yn agos ati hi. Yr oedd yr luddewon, y rhai yr oedd y deyrnas
mor agos atynt, fel y gelwid hwynt yn blant y deyrnas, mor
bell oddiwrthi, fel yr oeddent yn cael eu cau allan o honi. Yr
oedd y rhai yr oedd y deyrnas cyn beiled oddiwrthynt ag ydyw
y dwyrain oddiwrth y gorllewin, a'r gogledd oddiwrth y deheu,
yn ddigon agos ati hi i ymwthio i mewn iddi, ac eistedd gydag
Abraham, Isaac, a Jacob yn nheyrnas Dduw. Yr oedd y tlod-
ion mor agos ati, fel y dywedir fod y deyrnas yn eiddo iddynt ;
a'r cyfoethogion mor bell oddiwrthi, fel ag mai " haws i
gamel fyned trwy grai y nodwydd ddur nag i cludog fyned i
mewn iddi." Y mae hyn yn ddigon i ddangos fod bod y
deyrnas yn agos atom ni, a'n bod ni yn agos ati hi, yn ddau
beth tra gwahanol. Y mae y naill yn bod yn fynych heb y
Ilall. Y mae y deyrnas yn agos atom ni oll, ond y mae yn ofnus
nad ydym ni oll yn agos ati hi.
Gwaith Ysbryd Duw yn unig ydywdwyn i mewn i'r deyrnas;
902 Agosrwydd at deyrìias Ddiiw.
oni b'ai am dano Ef ni buasai cadwedig un cnawd; oblegid y
mae y gwaith mor fawr, fel y gelwir ef yn greadigaeth, ac yn
roddi bywyd, a phwy ond Duw a all wneyd hyny ? Ond cam-
gasghad oddiwrth y gwirionedd hwn fyddai meddwl, gan fod
y Gweithiwr yn Greawdwr, mai yr un peth ganddo Ef ydyw
dwyn Manasseh ryfygus i mewn i'r deyrnas, ag ydyw dwyn y
llanc hawddgar Timotheus iddi. Y mae yn wir fod ganddo
ddigon o allu i ddwyn Manasseh i mewn ; y mae yn wiriouedd
hefyd na wna gallu neb llai na'i allu Ef y tro i ddwyn Timoth-
eus iddi. Ond nid yr hyn a all Ele sydd i fod yn rheol i ni,
ond yr hyn y mae yn arfer ei wneuthur ; a'r gwirionedd am
hyny ydyw, am un Manasseh sydd yn cael ei ddwyn i mewn i'r
deyrnas, fod cant Timotheus yn cael eu dwyn. Y mae y
Gweithiwr mawr yn achub ambell un sydd yn bell oddiwrth y
deyrnas, fel Manasseh, i brofi y gall Efe bob peth ; ond nid yw
yn achub ond ambell un, i ddangos na ddylai ei allu ddim cael
ei gymeryd yn sail i neb ryfygu i wneyd drwg fel y dêl daioni ;
oblegid ni wna Efe bob peth a'r a all. Y mae grâs yn rhagor
amlhau, weithiau, lle yr amlhaodd pechod, i ddangoseigyfoeth ;
ood y mae y rhai sydd yn ymhyfhau i bechu oblegid hyny yn
derbyn damnedigaeth fwy. Y mae yr Ysbryd, sydd yn dwyn
y gwaith o amgylch, yn Weithiwr galluog : y mae yn Weith-
iwr rhydd hefyd. Y mae yn gweithio lle y myno : y mae yn
gweithio hefyd i'r graddau y myno. Os dilyna Efe Paul, er
iddo hir wingo yn erbyn y symbylau, nes ei orchfygu, fe
âd i'r hen fyd enill yr ymrysonfa, nes ei diweddu hi mewn
dinystr tragywyddol. Y mae Efe yr un mor rhydd gydâ
graddau ei ymrysoniadau, ag ydyw gydâ'r personau y mae yn
ymryson à hwynt. Y mae rhai yn dosbarthu ei ymrysoniadau
i rai cyflFredinol a neillduol, ac yn dywedyd fod y rhai cyffred-
inol y fath ag y gellir eu gorchfygu ; ond bod y rhai neillduol
yn sicr o derfynu yn iachawdwriaeth pechadur. Ond os oes
sail i wahaniaethiad fel yna, y mae y rhai cyffredinol yn arwain
yn uniongyrchol at y rhai neillduol ; ac y mae yn dra amheus
a gafodd neb y rhai olaf, a fu yn parhau i ymladd yn erbyn y
rh li cyntaf. Tebycach ydy w, * mai y neb sy ganddo y rhoddir
idio;' am hyny, y mae diffodd ymrysoniadau cyffredin yr
Ysbryd yn cau y drws ^jw erbyn y rhai aughyffredin. Yr oedd
Agosrwydä at deynias Ddnw. 903
ceiiedl Israel bob amser yii gwrthwynebu yr Ysbryd Glâd ; — yr
oedd eu gwrthryfel hwyiit yii ei otìdio ; am hyu y trodd Efe yii
elyn iddynt ; — gadawodd iddynt eiìill y fuddugoliaeth arno, fel
na ddiweddodd ei ymrysoniadau yn ei hiachawdwriaeth. Y
niae ei fod y-n ymryson o gwbl yn profì ei fod yn *' Ysbryd y
grâs ;" y mae " nad ymryson Efe yn dragywydd," yn proíì ei
fod hefyd yn Ysbryd pen-arglwyddiaethol.
Gweinidogaeth yr Ysbryd ydyw yr oruchwyliaeth hon ; ond
y niae yr Ysbryd wedi cysylltu ei ddylanwadau wrth ei hordin
hadau hi ; ac y mae disgwyl am danynt yn annibynol ar y rha
hyn, yr un mor afresymol ag a fuasai i'r llofrudd yn Israel gynt
ddisgwyl diogelwch tuallan i furiau y ddinas noddfa. Er mai
Duw sydd yn rhoddi y cynydd, nid yw yn gwneuthur hyny heb
i Paul blanu, ac i Apolos ddyfrhau. '' Os yr Arglwydd nid
adeilada y t)', oter y Hafuria ei adeiladwyr wrtho." Ofer fydd
gwaith yr adeiladwyr heb Dduw. Ni wna Duw ddim heb-
ddynt hwy. Y mae yr Arglwydd trwy hyn yn mawrhau ei air,
— trwy ei ddefnyddio yn unig foddion iarhawdwriaeth. Gall
rhy vv oruchwyliaethau rhagluniaethol gael eu defnyddio i arwaiii
y meddwl at y Gair ; oiid y Gair, ac nid y rhai hyny ydyw y
moddion trwy ba rai y mae yr Ysbryd yn adgenhedlu i obaith
bywiol. Y weledigaeth a arweiniodd feddwl Paul gynt at ei
gyflwr ; ond bu y cên ar iygaid ei feddwl, fel y rhai ar lygaid
ei gorff, nes i Ananias lefaru geiriau Crist wrtho. Ymddangos-
odd angel i Cornelius, nid i'w ddwyn i ryddid gogoneddus
meibion Duw, ond i orchymyn iddo anfon am un i lefaru geir-
iau Crist wrtho ; a plian oedd Pedr yn gwneuthur hyny,
" syrthiodd yr Ysbryd Glân ar bawb a oedd ya ciy wed y Gair,"
ac nid ar neb arall. Er bod y Gweithiwr gogoneddus yn rhydd,
eto y mae yn ei rwymo ei Hun yn y rhodfeydd hyn : adnodau
y Gair ydyw y pibellau trwy ba rai y mae yr olew euraidd yn
disgyn i'r enaid. Y Gair yw y trosglwyddydd ar hyd yr hwn
y mae y gwefr nefoi hwn yn cerdded. Y mae rhai pethau ar y
ddaear, mewn ystyr naturiol, nad ydynt yn trosglwyddo y tàn
gwefrol, neu y fellten -. y mae pethau eraill yn ei sugno atynt;
ond mewn ystyr ysbrydol, nid oes ond un peth ar y ddaear yn
drosglwyddydd i'r electricity nefol i'r ena'd, sef y Gair. Y mae
yn beryglus iawn, inewn ystyr naturiol bod y\\ agosi ddim sydd
go4 Agosrwydd at deyrnas Dduw.
â chryn sugn ynddo, pan y mae yr awyr yn llawn o felU, neu
y tân gwefrol. Pa sawl un a laddwyd oherwydd sefyll yn rhy
agos at y goedcn, neu at dẁr uchel, mewn amaer o'r fath. Yn
gyffelyb i hyn y mae yr hen ddyn pechod mewn perywl am ei
íywyd, os bydd yn hir yn nghymydogaeth y Gair. Y mae
wedi cael ei ladd mewn miloedd o fynwesau cyn hyn yn y lle
yna. Trwy adnodau y Bibl y mae yr Ysbryd bob amser yn
dael ei drosglwyddo, fel ag y mae y neb sydd heb y Gair tuhwnt
i bosibilrwydd bod yn gadwedig. ' Pa fodd y credant yn yr
Hwn ni chlywsant am dano?" Ac y mae pawb sydd yn ddi-
ystyr o'r ordinhadau, nid yn unig " yn debyg i fod yn ol," ond
yn sicr o fod yn ol tra yn yr agwedd yna; oblegid, er mai trwy
yr Ysbryd y mae pawb fyddant yn gadwedig yn ufuddhau, eto
uluddhau i'r gwirionedd y maent oll. Er mai Ysbryd Duw
sydd yn dwyn pawb i mewn i'r deyrnas, eto, gan mai trwy y
Gair y mae yn gwneuthur hyny, y mae y modd y mae rhyng-
om ni â'r moddion yn brawf o'r modd y mae y mater rhyngom
ni â'r deyrnas yn sefyll. Nid oedd yr ysgrifenydd hwn ddim
yn y deyrnas ; ond y mae y Gwirionedd ei Hun yn tystio ei fod
yn agos iddi. Yn awr ni a chwihwn pa bryd y gelHr dywedyd
fod dyn heb fod ymhell oddiwrth deyrnas Dduw.
I. Tuag at fod yn agos at y deyrnas, y mae yn rhaid syniaw
yn gywir am ei hegwyddorion sylfaenol hi : hyny yw, bod yn
uniawn ein barn am bethau mawrion y gyfraith. Hyn yn benaf,
feallai, a barodd i'r Arglwydd lesu ddywedyd fod yr ysgrifen-
ydd hwn yn agos iddi. Y mae yn amlwg, wrth ei ateb, ei fod
yn deall egwyddorion sylfaenol y deyrnas, ac yn cydsynio â
hwynt. Yr oedd holl sect y Phariseaid ymheli oddiwrth y
deyrnas yn yr ystyr hwn. Treulient eu holl nerth gydà'r
pethau bychain, ac anghofient y rhai mawr. Yr oeddent yn
fawr eu gofal am goríî crefydd, ond hollol esgeuluso'i hysbryd;
— 'yn degymu y mintys a'r anis, ond yn myned heibio i farn a
chariad Duw.' Yr oedd eu hymddygiadau yn gwadu ysbrydol-
rwydd natur gwrthddrych eu haddoHad. Ni buasai neb byth
yn casglu oddiwrth eu gwasanaeth fod y Duw a addolent yn
" Dduw gwybodaeth." Camsynient yn gwbl am natur a diben
yr holl seremoniau. Bwriadwyd hwynt i fod yn fantais i enaid
gynal cymundcb â Duw. Bwriadwyd hwynt i fod yn ddangos-
Agosrwydd at deyrnas Dduw. 905
iad, yn y dyn allanol, o ystâd y dyn oddimewn; ond gydà
hwynt, gwisg y dyn byw am y dyn marwoeddeni. Dynwared-
iad crefydd i arbed y drafiFerth o fod yn grefyddol. Gweddient
fwy na mwy ya lle amlaf y bobl, i beidio gweddío dim yn
y dirgel. Gosodent ddeddf Duw i ymranu yn ei herbyn eihun,
i arbed y drafferth o gadw ei gorchymynion hi. Rhoddcnt
ufudd-dod arwynebol i'r rhan hawddaf, er mwyn osgoi y rhai
anhawddaf : torent orchymynion yr ail lech i gadw yn allanol
rai y llech gyntaf. Ceisient fod yn gyfiawn tuag at Dduw, —
cadw ei Sabbath, &c,, i arbed bod yn drugarog tuag at ddynion.
Yr oedd y camgymeriad hwn ynghylch natur y deyrnas yn eu
gwneulhur mor bell oddiwrthi, fel nad oes hanes fod ncm-
awr un o honynt wedi myned i mewn iddi. Ni ddywedwn fod
• camsyniad mewn barn yn waeth nag mewn buchedd; ond y
mae hyn yn wirionedd : am bob un sydd yn cael ei achub ag oedd
yn camsynied yn ei farn ynghylch pethau mawrion crefydd, y
mae degau o'r rhai ag oeddent yn gwyro mewn buchedd. Yr
oedd y pubHcanod a'r pechaduriaid oeddent â'u bucheddau yn
ddrwg iawn, yn myned i mewn iddi, tra yr oedd y Phariseaid
oeddent yn lân allanol, eto â'u barn yn ẃyram bethau mawrion
y deyrnas, y tu allan iddi. Cydwybod gysglyd ocdd gan y
naill ; cydwybod dywyll oedd gan y llall; ac y mae yn haws
deffroi cydwybod gysglyd, nagoleuo cydwybod dywyll. Y mae
llawer o wirioneddau y callwn ni fod yn gadwedig lieb fod yn
gwbl uniawn ein barn yn eu cylch ; ond y mae eraiU y gellir
dywedyd am danynt: — ' Rhaid oedd credu y rhai hyn, ac na
adewid y lleill heibio.' Ni a nodwn rai o'r egwyddorion hyny
ag y mae yn rhaid eu credu cyn bod yn agos i'r deyrnas: — •
I. Ein hangen am waredigaeth, a'n hanallu i waredu ein
hunain. Nid aeth neb i'r deyrnas oedd yn gamsyniol am hyn.
Y mae yr apostol yn sôn am ryw luddewon oeddent yn barnu
eu hunain yn annheilwng o fywyd tragywyddol. Fe ddywcd
yr Athraw nad yw hwnw sydd yn caru tad neu fam yn fwy nag
Ef ddim yn deilwng o hono. Ac wrth anfon y disgyblion
allan i bregethu, gorchymynai iddynt holi pwy oedd deilwng, a
myned i mewn at y rhai hyny. Nid teilyngdod haeddiant a
feddylir yn y lleoedd hyn, ond teimlad o angen am bethau y
deyrnas. Y raae hwnw yn cael ci ystyried yn deilyngdod iddi ;
9o6 Agosrwydä at äeynias Dihiw.
ac nid oes ueb o'r rhai sydd yn ei feddu nebpell oddiwrth y
deyrnas. Y syiiiad hwn ydyw Alpha y deyrnas, — gwyddor ei
hiaith hi, — yr yinadrodd sydd yn dechreu rhai yn Nghrist. Heb
hwn y mae dyn mor beli oddiwrth y deyrnas ag ydyw y dall
oddiwrth ddeail iliwiau. Y mae yn y deyrnas bob peth, ond
pob peth i rai heb ddim ydynt. Y mae yma wisg, ond gwisg
i'r noeth ydyw. Y mae yma Iygaid, ond llygaid i ddeillion
ydynt. Y mae yma ffynon, ond ni bu neb erioed ynddi ond yr
aflan. Y mae yma falm, ond ni bu neb erioed yn ei geisio ond
y clwyfus. Y mae yma fywyd, ond nid oes neb yn deilwng o
hono ond y marw. Y mae llawer o ymborth yn y maes, ond
maes y tlodion ydyw. Ni bu neb erioed ynddo yn chwilio am
dano ond hwynthwy. Iddynt hwy y mae y deyrnas yn cael ei
phregethu: nid ydyw yn newyddion da i neb arall. Yr oedd y
brenin a ddarparodd y swper mawr, yn dywedyd nad oedd y
rhai a wahoddwyd yn deilwng ; a'r annheilyngdod oedd, fod
ganddynt oll ryw gymaint ar eu helw eu hunain, am hyny yr
oeddent yn gallu gwneuthur heb y swper. Yr oedd gan uii
dyddyn, — gan un arall ychain, — gan un arall wraig ; ond nid
oedd gan dlodion, cloffion, a deillion yr heolydd, na thyddyn,
nac ychain, na gwraig ; am liyny yr oedd y gwahoddiad yn
newyddion da iddynt hwy. Nid aethant i ddadleu ynghylch
niaint y swper, oblegid yr oedd chwant bwyd arnynt ; am hyny
yr oedd cly wed am dano yn rhywle yn beroriaeth yn eu clustiau.
Pan gynygiwyd gwaredigaeth gan Moses i blant Israel, y waith
gyntaf, nid oeddent deilwng, — nid oedd yr angen wedi dyfod
i'r teimlad Gallesid disgwyl y buasent yn llefaru, ** Henffych
well " i rywun a fuasai yn cynyg gwneuthur barn iddynt; yn
Ue hyny gofynent i'r neb a fynai fod yn waredwr, — ' Pwy a'th
osododd di yn farnwr arnom ni V Ond pan ddaeth y caethiwed
i'r teimlad, yr oedd gwaredigaeth gerllaw. Gydàg i'r waedd
gyraedd clustiau Duw, y mae yntau yn disgyn i'w gwaredu.
Angen, neu ddamwain, ydyw mam pob dyfais. Ni buasai y
byd ddim wedi ei boblogi eto, oni b'ai am hyny. Nid oes neb,
mwy na meibion Dan, yn chwilio am wlad newydd, tra y bydd
ganddynt etifeddiaeth yn yr hen. Er cystled gwlad y w America^
nid oes neb yn myned iddi ond rhai wedi methu, neu rai yn
ofni y methant fyw yn ngwiad eu gencdigaeth ; felly, ercystled
A^as r wy dd a t dey rn tS Dduw. 907
lle y\v teyrnas nef, nld aeth neb erioed iddi ond rhai wedi metha
byw ya yr hea wlad. Plant atradlawn, wedi methu cael dim
yn y wlad bell, yw ei hoU ddeiliaid hi. Y mae pob camsyniad
o bwys ynghylch y deyrnas yn gwreiddio mewn camsyniad am
yr angen. Rhai heb weled hyn ydyw y rhai sydd yn ceisio
myned iddi yn eu nerth eu hunain. Am eu bod heb wybod cyt-
iawnder Duw, y maent yn ceisio gosod eu cyfiawnder eu hunain.
Y mae eraill yn cyfaddef yn ddigon tawel nad allant waredu eu
hunain; ond y mae y tawelwch yn ddigon o brawf nad ydynt
yn iawn synied am yr angen. Y mae y rhai sydd heb weled
dyfnder y pydew yn meddwl y gall braich o gnawd eu codi
oddiyno ; am hyny nid oes arnynt eisiau dim yn yr Arglwydd
lesu, ond esiampl. Oud y mae yn rhaid i bawb sydd yn barnu
yn gywir am ddyfnder y pydew gael lesu Grist, nid yn unig
ya esiampl, ond hefyd yn lawn; nid yn ddyn yn unig, ond yn
ddyn â'r Duwdod ynddo'u trigo I'r praidd bychain, cofiwch,
y riiyngodd bodd i'r Tad roddi y deyrnas; a pho leiaf y bydd-
ont, mwyaf oll a fyddant ynddi. Pan oedd mab Cis yn fychan,
fe dderbyniodd deyrnas ; — chwilio am asynod yr oedd, ond
cafodd deyrnas cyn dyfod adief. Y mae pawb ^ydd yn ei derbyn
hi yn ysbrydol, yr un fath ag ef. Yr oedd eu hangen yn gyfryw
fel ag y buasent yn ddiolchgar am y briwsion, y diwrnod ag y
derbyniasant y deyrnas. Nid oedd Pen y deyrnas ddim yn
bwyta gydâ brenhinoedd a thy wysogion, ond yr oedd yn swpera
gydà phublicanod a phechaduriaid. Yr oedd yn myned heibio
i'r holl rai iach, i chwilio am rywun fyddai wedi syrthio ymysg
Iladron : briwiau hwnw oedd yn cael yr olew a'r gwin. CaiíF
Herod ddymunoyn ofer weled gwyrth; ond ni chaifî y wraig o
Ganaan ddim gwneyd hyny. Aeth gwraig y dyferlif yn nes
ato, heb neb i'w chyflwyno, na'r Groegiaid hyny oeddent wedi
cael disgybl i wneuthur hyn iddynt. A oes yma ryw gaethwas
yn gwrandaw ì gallaf yn ddibetrus ddywedyd, " Nid wyt ti bell
oddiwrth deyrnas Dduw;" oblegid rhyddid yw hi. Os oes
yma ryw Benhadad, ac angau wedi dringo i'w ffenestri ymhob
man ; na wêl ê ddim goleuni o un man, ond rhyw wawr wanaidd
sy rhyngddo â thir Israel : — " Nid wyt ti bell oddiwrth deyrnas
Dduw ;" ODlegid Brenin trugarog sydd yn llywodraethu y tir
hwnw. Os oes yma rywun mewn dyled hebddim i dalu, mewn
90Î Agarswydd at deynias Dduw.
helbul a diyni heb ymwarcd, — "Nid wyt ti bell." Y mae
diogelwch i bawb oV fath, gydâ Dafydd yn ogof Adulam-
Diffyg gwcled yr anger sydd yn gwneutbur y deyrnas ymhell
oddiwrth ganoedd o Gymry. Y mae y Ceidwad mewn llawer
odfa, heb fod y colledig yno. Y mae y Meddyg rhwng myn-
yddoedd Cymru ; ond mae yr afiach ar wastadedd Asia. Y mae
y ffynon yma; ond yn Aífrica y mae yr Ethiop du. Y mae y
Rhyddhawr yma; ond nid yw y caethion ; y deyrnas yn agos,
a'r rhai y pregethir hi iddynt ymhell.
2. Un arall o egwyddorion sylfaenol y deyrnas, y mae yn
angenrheidiol ei chredu cyn-bod yn agos iddi, ydyw, fod lesu
Grist yn Dduw wedi ymddangos yn y cnawd ; — fod ei farwol-
acth yn iawn, ac mai trwyddo Ef y mae yn rhaid bod yn gadw-
edig. Nid oes neb wedi ei eni o Dduw, os na bydd yn credu
mai yr lesu yw y Crist; ac y mae yr ysbryd hwnw sydd yn
gwadu na ddaeth Efe yn y cnawd bob amser yn ysbryd cyfeil-
iorni. Y mae llawer yn ei barchu fel dyn, heb ei addoli fel Duw;
ond y mae y rhai yna mor bell oddiwrth y deyrnas, fel ag y
maent eto hcb gael y drws iddi. Credu yr angen, a chredu fod
pob peth yn Nghrist ar ei gyíer, ydyw dau beth mawr y deyrnas.
Y mae hi yn cael ei chynwys yn gryno yn y cwestiwn a'r ateb
hwnw : — " Beth sy raid i mi ei wneuthur, fel y byddwyf
gadwedig ?" " Cred yn yr Arglwydd lesu Grist, a chadwedig
fyddi, ti a'th deulu." Y mae y neb sydd wedi teimlo y cwestiwn
ac S}dd hefyd yn hysbys o'r ateb, > n agos at y deyrnas. Newyn
y w un ; gwledd yw y llall. Sodoma yn myned ar dàn yw y
cyntaf; mynydd y diogelwch yw yr ail. Colledigaeth Eden
yw un ; iachawdwriaeth Calfaria yw y llall. Gwnai credu y
cyntaf, heb yr ail, hi yn uffern ar y ddaear. Gwnai credu yr
ail heb y cyntaf i ni sathru gcmau y nef o dan ein traed. Ond
y mae y ncb sydd yn credu y ddau ar drothwy y deyrnas. Os
ydyw crcdu fod lesu Grist yn Dduw — yn lawn — yn Geidwad —
yn arwydd o agosrwydd at y deyrna», yr ydym nioll, meddwch,
fclly ; oblegid nid oes yma neb yn gwadu hyn. Gall hyny fod,
heb fod yma neb yn ci gredu ychwaith. Pe dywedid y gwir
am ugciniau, hyny a fyddai, nad ydynt yn mcddwl am y pethau
hyn. Ni buoch chwi criocd yn chwilio yn ol i'w achau nes ei
gacl yn Fab Adda, Fab Duw. Ni bu yr ymadawiad a wnaeth
AgosrîL'ydd . / deyruas Dduw. 909
Efe yn Jerusalem erioed yn dcstyn eich myfyrdod am bum'
mynyd, er ei fod yn werth gan Elias a Moses adael y nef, i
ymddiddan âç Ef yn ei gylch. Ni thynodd efe na'i waith
ddirn cymaint o'ch sylw, nes peri i chwi ofyn, — " Pwy y\T
Hwn ?" Pe buasech cliwi yn gofyn, buasai y patriarchiaid, y
prophwydi, a'r aposlolion, yn achub y cyflei ddywedyd. Buayai
y patriarch Job yn ateb, — "Hwn yw Ceidwad dyn, y Prynwr
byw.'' Peraidd ganiedydd Israel, — "Hwn yw y Brenin y mae
trueiniaid y bobl yn ymddiried ynddo." Esaiah yn ateb, —
" Hwn yw Tad tragywyddoldeb, — Tywysog tangnefedd, — yr
Ymguddfa rhag y gwynt, — y Lloches rhag y dvmhestl ; ni
frysia pwy bynag a lecho yn ei gysgod." Buasai Daniel yn
ateb, — " Hwn yw y Messiah a laddwyd i ddibenu camwedd, ac
i ddwyn i mewn gyfiawnder tragywyddoî."' Nid ydych yn ei
wadu ; ond nid ydych yn credu digon ynddo i'w garedigion
gael mantais i ddywedyd wrthych pwy ydyw. Y mae pawb
sy felly ymhell oddiwrth y deyrnas; ond y mae y rhai sydd yn
agos iddi yn ymofyn fel loan, — " Ai tydi yw yr Hwn sydd ar
ddyfod, ai un arall yr ydym i'w ddisgwyl?" Os gwelant hwy
arwydd ei fod yn cyflawni gwyrth yn rhywle, y maent yn 5 cr
o fyned yno i yspío a oes yno arw^'^dd fod rhywun mwy na dyn
yn gweithio. Os gwelant fod cwr y llen yn cael ei symud. y
maent yn rhedeg ymlaen i edrych a oes yno ryw debyg fod y
shecinah y tu hwnt iddi. Y maent hwy yn sefyll gerllaw y
groes pan y mae yn marw ; yn clywed y gair " Gorphenwyd ;''
— ac nid ydynt yn ymadacl o'r gymydogaeth nes clywcd y
nefoedd, ar làn y bedd newydd, foreu y trydydd dydd, yn adsain,
" Boddlonwyd." Y maent i'w hadwaen drachefn gydà godre y
dyrfa ar fynydd yr Olewydd, yn cdrych arno yn esgyn i'r
ncfoedd. Nid oes neb sydd yn arfer rhodio y llwybrau yna
ymhell oddiwrth y deyrnas. Nid ydynt yn y dcyrnas fel
Nicodcmus a Joscph ; ond y maent yn rhodio o amgylch y drws
er hyny.
3. Un arall o egwyddorion sylfaenol y dcyrnas, nad ellir bod yn
agos ati, heb fod yn uniawngred yn ei chylch, ydyw synied yn
gyw.r am natur yr iachawdwriaeth sydd yn Nghrist, — nad iach-
awdwriaeth o uffern ydyw, ond oddiwrth bechod; — ei bod hi yn
gwaredu o uffern y byd a ddaw^ trwy dynu uflTern o'n mynwes
;9io Agosrii'ydd at deyrnas Ddinv.
yn y byd hwn ; a'i bod hi yn ein dwyn ni i deyrnas nef wedi
ymadael âg yma, trwy ddwyn y deyrnas i'n mynwes cyn hyny.
Y mae myrddiynau yn ymofyn iachawdwriaeth ; ond nid yr
iachawdwriaeth sydd yn Nghrist ydyw hi : nid ymadael â'u
pechod sydd arnynt eisiau, ond â'i gosb. Nid oes arnynteisiau
neb i'w symud oddiar y ffordd lydan, ond rhywun i'w cipio o'r
distryw sydd yn ei phen draw hi. Y maent yn ymofyn Oflfeir-
iad i \\neyd cymod dros anwiredd, ond nid Brenin i deyrnasu
arnynt Nid ceisio yr lesu y mae y rhai yna; oblegid Mel-
chisedec yw Efe, "OíTeiriad y Duw Goruchaf," a " Brenin
Salem " hefyd. Y mae mwy o garasyniad yn ein plith ni eto,
ynghylch natur yr iachawdwriaeth sydd yn Nghrist nag yr
ydym ni yn ei dybied. Paham yr oedir mater enaid at ryw
amser dyfodol, os nad am eich bod yn dirgel gredu, mai Gwar-
edwr rhag uífern yw Mab Duw? A phan yr ydych yn tybied fod
hono gerllaw, yr ydych yn meddwl llefain o ddifrif, — " Arglwydd,
cadw ni, canys darfu am danom." Pe credech chwi mai iach-
awdwriaeth oddiwrth bechod sydd ynddo, ni allech lai nallefain
allan heddyw, — " Arglwydd, cadw ni," oblegid yr ydych yn
ngafael hwnw yn awr. Y mae yn wirionedd annhraethol
werthfawr ei fod yn rhyddhau oJdiwrth ganlyniadau gweith-
redoedd drwg ; ond y mie mor wir a hyn}', nad yw yn gwneu-
thur hyn heb greu i weithredoedd da. Y mae yn cyfnewid
rhan pechadur yn y byd a ddaw ; ond y mae yn gwneyd hyny,
am ei fod yn cyfnewid ei gymeriad, o fod yn bechadur i fod yn
sant, yn y byd hwn. Achub i fyw, ac nid i farw, y mae yr
Arglwydd lesu. Y mae y dyn hwnw sydd yn disgwyl gwared-
igaeth yn unig oddiwrth uíîern drwyddo, yn bell oddiwrth
deyrnas Dduw; ond y mae ynebsydd yn ymofyn gwaredigaeth
oddiwrth bechod drwyddo, yn ei hymyl hi. Ni wn i ddim pa
faint a omeddodd Efe waredu ihag ufiTern, ond mi wn na omedd-
odd Efe waredu neb oddiwrth bechod. Os un ran o'r iachadwr-
iaeth sydd arnoch eisiau, yr ydych yn bell oddiwrth y deyrnas.
Pa faint sydd yn chwenychu gwrthddrychau y deyrnas, ac nid
ei chymhwysder hi ; — ei dinas ogoneddus, ac nid cymhwysder y
dinasyddion. Y mae arnat chwant i'r ddinas ; ond alUud a
fyddit ti yno; — byddit yn farbariad i bawb, i phawb yn farbar-
iaid i tithau. Ac n!d ocs dim alltudion yn y ncf : dinasyddion
Agosrwydd at deyriiûs Dduic. 91 1
a theulu ydynt oll. Pa le y mae y dyn sydd arno fwy o syched
am gymhwysder i'r nef nag am y nef ei hun ; sydd yn fwy
pryderus ynghylch dilyn yr Oen yma, nag ynghylch eistedd ar
ei ddeheulaw draw ? Nid yw y dyn yna bell oddiwrth deyrnas
Dduw. Fe ddywedir fod y neb sydd yn ceisio y deyrnas yn ei
chael hi ; ond yn yr Efengylwr Luc, yr ydym yn cael fod Uawer
yn ceisio niyned i mewn iddi, ond nis gallant. Ond y mae y
cyd destyn yn dangos mai rhai wedi camgymeryd natur y deyrn-
as oedd y rhai oeddent yn ceisio ac yn methu. Yr oeddent yn
disgwyl cael derbyniad i mewn iddi yn y byd a ddaw, am fod ei
hordinhadau gydà hwynt yma. Pai.am yr oeddent yn methu?
Wel, gorsedd sy draw ; ni wna neb ddim à hono ond Brenin.
Cysegr sydd yno ; ni all neb tod yn ddiberygl yn hwnw ond
Offeiriad. Aneddle lonydd ydyw y wlad hono; nid ä'r Ismael-
iaid ddim yno er ceisio. Y mae y porth yn rhy gyfyng i bawb
ond i feibion tangnefedd. Y mae hwnw sydd yn chwenychu
gwlad y goleuni, yn hytrach na bod yn blentyn y goleuni, — yn
chwenychu cael bod yn y deyrnas draw yn hytrach na chael y
deyrnas ynddo ef yma, — yn bell oddiwrthi.
II. Cyn y gelHr dywedyd fod un heb fod ymhell oddiwrth
deyrnas Dduw, y mae yn rhaid ei fod wedi ymwrthod â phob
annuwioldeb cyhoeddus. Yr oedd y gŵr ieuanc, oedd wedi
cadw yr holl ddeddf, mor agos i'r deyrnas nad oedd ond un peth
yn ol iddo. Yr oedd mor foesol, fel ag yr oedd yr Arglwydd
lesu ei Hun yn ei hofìì ; ac nid oes neb. mewn gwirionedd, yn
agos i'r deyrnas heb fod yn hy.i yn gyffelyb iddo. Y mae dwy
ddichell sydd wedi bod yn hynod o Iwyddianus gan y diafol i
gadw rhai draw oddiwrth y deyrnas : un ydyw, ceisio gan ddyn
wneuthur cyfiawnder o'i weithredoedd da, a gosod hwnw yn
lle cyfiawnder Mab Duw. Y mae y ddichell yna yn dinystrio
myrddiynau yn Eglwys Rhufain. Y llall ydyw temtio dyn i
' wneuthur drwg fel y dêl daioni.' Gan fod iachawdwriaeth o
râs, mai goreu po mwyaf a bechir, fel 'y caiíîgrâs rajor-amlhau
lle yr amlhaodd pechod.' Ond y mae y naill ddichell mor sicr
o dywys i aigau a'r llall ; oblegid, er bod trugaredd yn hoíîì
dangos ei hun, nid oes neb vn cael cymeryd mantais ar hyny.
Hi achubodd fyrddiynau o bechaduriaid mawrion; ond yn gyff-
redin, yr ocdd eu deall cyn dywylled a'u calon. Fc bechodd
912 Agosrwydd at deyrnas Ddiiw.
Saul o Tarsus yn rhyfygus, a chafodd drugaredd, oblegid, medd
efe, iddo yn ddiarwybod wneuthur hyny trwy anghrediniaeth ;
ac y mae yn cael ei godi i fyny fel cofgolofn i ddangos mawredd
trugaredd ; ond nid i gymell neb i fyw mewn pechod, eithr yn
hytrach i bwy bynag sydd yn clywed tystiolaeth yr efengyl
beidio anobeithio, er maint ei btchodau, i Tim. i. i6. Fe
bechodd yr archoffeiriaid a gwerin Jerusalem bcchod arswydus
pan y croeshoehasant Arglwydd y by wyd ; ond cafodd miloedd
o honynt drugaredd, oblegid, medd Pedr, trwy anwybod y
gwnaethant. Ond nid oes hanes fod a fyno trugaredd un amser
bron à'r rhai hyny sydd â chydwybod oleu, ac er hyny yn byw
yn groes iddi : îe, y mae cydwybod y dosbarth yna yn myned
yn gyfryw nad all y gwirionedd ddim mànu arni. Ni a welwn
esiampl o hyn yn Drusila : yr oedd Ffelix yn arwain bywyd
annuwiol; ond yr oedd yn genedl-ddyn, ac felly yn gwneuthur
hyny, mewn cymhariaeth, yn ei anwybodaeth: am hyny, pan
glywodd ê Paul yn ymresymu am gyfiawnder, a dirwest, a'r farn
a fydd, fc ddychrynodd. Yr oedd Drusila yn luddewes, ac fel
y cyfryw, gellid tybied, wedi ei goleuo am y gwahaniaeth oedd
rhwng da a drwg; ond yr oedd hi yn byw mewn anniweirdeb
gydà Ffeh'x, a hi a wrandawodd Paul hebgrynu, am fcd y goleu
niwy yr ocdd hi yn pechu yn ei wyneb wedi gwneuthur ei
chydwybod hi mor galed, fel nad oedd yr hyn oedd yn dychrynu
Fíehx yn eflfeithio dim arni hi. Fe fu Duw yn achub cablwyr,
meddwon, a dynion aflan yn Nghymru er's can' mlynedd yn ol,
ond rhai yn pechu mewn anwybodaeth oeddent. Yn awr, y
mae y Bibl ymhob tŷ, — yr Ysgol Sabbothol ymhob ardal, — a'r
efengyl yn cael ei phregethu i bawb, fel na elhr pechu mewn
anwybod yn awr : am hyny nid yw yr hyn oedd yn cael ei
wneuthur yn aml er's can nilynedd yn ol, ddini yn cael ei
wneuthur ond yn anfynych iawn yn y dyddiau hyn. Yr
oedd aberth dros bechodau anwybod gynt, a thros eraiil na
fyddent yn cael eu hystyried yn rhyfygus ; ond am y rhai
rhyfygus, fel rhai meibicn El':, nid oedd na bwyd-offrwm, na
diod-offrwm a wnai gymod drostynt byth. Y mae iawn lesu
Grist âg anfeidrol haeddiant ynddo ; ond gwyliwn wneuthur
yn hyf arno, rhag i ni gyflawni pechodau na wna aberth y
groes ddim cymod drostynt. Rhai wedi eu goleuo unwaith, a
Agosrwydd at deyrnas Ddiiw. ^îj
phechu yn wyneb goleuni, ydyw y rhai oedd yn anmhosibl
iddynt ymadnewyddu i edifeirwch. Ac y mte y Bibl, yn ei
dystiolaethau a'i siamplau, yn myned yn erbyn y syniad yna ;
ei iaith ef ydyw : — " Gadawed y drygionus ei ffordd, a'r gŵr
anwir ei feddyliau ;" — " Ymolchwch, ymlanhewch, bwriwch
ymaith ddrygioni eich gweithredoedd,...peidiwch â gwneuthur
drwg : dysgTTch wneuthur daioni Deuwch yr awr hon, ac
ymresymwn, medd yr Arglwydd : pe byddai eich pechodau fel
ysgarlad, ânt cyn wỳned a'r eira; pe cochent fel porphor, byddant
fel gwlan." Y mae ei siamplau yn profi, er bod Duw yn esgeu-
luso amseroedd anwybodaeth y byd, nad yw yn gwneuthur hyny
ârhai goleu. Fe olchwyd pechaduriaid Corinth ; fe ddyfethwyd
rhai Jerusalem. Fe achubwyd y lleidr a íu yn cablu y Gwar-
èdwr ar y groes ; fe ddamniwyd y disgybl fu yn ei werthu, Yr
oedd y cyntaf yn gwneuthur yn y tywyllwch, a'r llall yn y
goleu. y mae pob pechod rhyfygus yn cymeryd y dyn ryw
gymaint yn mhellach oddiwrth y deyrnas, ac yn gwneuthur yn
fwy annhebyg y gwelir ef ynddi byth. Yr oedd holl blant
Israel, pan yn cychwyn o'r Aipht, yn debyg iawn o weled
Canaan. Yr oedd rhwystrau lawer ar eu ffordd hwynt ; ond
yr oedd llŵ Duw o blaid iddynt fyned yno. Yr oedd digon yn
hwnw i orchfygu y rhwystrau oll. Ond gydâ'u bod yn yr
anialwch, y maent yn dechreu temtio Duw â'u pechodau rhy-
fygus. Gwnaethant hyny lawer gwaith. Yr oedd pob tro yn
peryglu yr etifeddiaeth, ac yn eu gwneuthur hwythau yn
barotach i wneuthur rhyfyg drachefn ; ond ar ol y deg tro, y
mae yr Arglwydd yn dywedyd, — "Osbywfì, yr hoU dir a l«nwir
o ogoniant yr Arglwydd : canys yr holl ddynion a welsant fy
ngogoniant, a'm harwyddion a wnaethum yn yr Aipht, ac yn
y diffaethwch, ac a'm temtiasant y dengwaith hyn, ac ni
wrandawsant ar fy llais, ni welant y tir y tyngais wrth eu tadau
hwynt; sef y rhai oll a'm digiasant, nis gwelant ef." Dyna y
dynion oeddent yn ymyl Canaan yn myned morbell oddiwrthi,
fel y mae llŵ Duw rhyngddynt â'r wlad. Y mae pawb sydd
yn dilyn eu llwybrau yn sefyll mewn perygl o'r un peth. Y
mae camsynied am egwyddorion sylfaenol y deyrnas yn
gwneuthur dyn ymhell oddiwrthi. Y mae pechu yn wyneb
goleuni y deyrnas yn ei wneuthur felly hefyd. Y mae yn rhaid
^3
jij^ Agosrwydd at deyrnas Dduw.
cael deall goîeu, ac amcan cywir am fyw yn ol ei oleuni, cyn y
gellir dywedyd fod un yn agos i'r deyrnas. Yr oedd yn n^'dd-
iau yr Arglwydd lesu rai oeddent yn byw yn anfoesol yn cael
eu dwyn i mewn iddi ; ond yr oeddent oU yn rhai heb ddeall
clir yn ei chylch. Yr oedd pawb oedd â deall goleu, ac yn
byw yn groes i'r goleuni yn gyfryw nad oes genym hanes eu
bod un amser yn dyfod iddi. Yr oedd holl ddisgybion a chan-
lynwyr Mab Duw yn ddynion crefyddol o'r blaen, can belled
ag yr oedd eu goleuni yn myned; neu, ynte, os oeddent yn byw
yn anfoesol, yr oedd hyny am eu bod hcb wybod y gyfraith.
III. Y ma« dyn yn agos at y deyrnas, pan fydd rhywgymaint
o chwilfrydedd yn ei feddwl yn ei chylch hi, neu o bryder
ynghylch dyfod iddi. Y mae rhyw amserau penodol ar wled-
ydd ac ar ardaloedd, pan y mae pawb ynddynt yn agos at y
deyrnas ; — -y mae hi yn " amser boddlongar" yr Arglwydd, ac
am hyny yn " ddydd iachawdwriaeth " iddynt hwy. Yr oedd
dyddiau loan Fedyddiwr felly : teyrnas Dduw yn cael ei phre-
gethu, a phob dyn yn yînwihio iddi. Yr oedd dyddiau yr
\rglwydd lesu mewn modd neillduol felly ; — " dyddiau Mab y
dyn." Ac y mae adegau mwy hynod yn yr ystyr hwn i fod ar
y byd nag a fu eto, pan y bydd ei holl gcnhedloedd ynymofyn
am y flfordd tua Síon. Y mae rhyw gyfliwnder amser fel hyn
yn perthyn i'r deyrnas, a phan y gwawria hwnw ar wlad, .,y
maent yn ei hymyl hi. Mewn adeg o'r fath, yn gyíTredin, y
mae yr efengyl yn myned i wlad baganaidd. Y mae yno
addfedrwydd i'w derbyn hi ; ac nid ychydig fydd ei dychwel-
edigion hi yn ei chychwyn. Y niae y rheswm am hyn yn
un o'r dirgeledigaethau sydd yn perthyn i Dduw; ond y mae
y ffaith yn eglur i ni nad ydyw hi ddim wedi ei derbyn gan
genedl heb fod yno ryw chwilfrydedd yn ei Cwj^lch hi yn flaen-
orol. Fel yr Indiaid y crybwylla Barnes am danynt. Ond y
mae hyn yn perthyn yn neihduol i bob dyn sydd yn clywed yr
efengyl. Y mae rhyw adeg o chwilfrydedd yn ei feddwl
ynghylch y deyrnas. Gelwir hi yn y Bibl yn " haf," — yn
"gynhauaf," — yn " aniser ymwehad," — yn " ddydd iachawd-
wriaeth." Y mae yr enwau hyn yn dangos mai adeg derfynol
ydyw hi : ni wyddom ni pa bryd y mae yn diweddu ; ond y
mae angau yn ei diweddu hi i bawb, a gall ei bod hi yn terfynu
Agosrruydd at deynias Ddino. 9 1 5
cyn hyny. Oiid unwaith y bydd hi drosodd, y mae y deyrnas
a'r pechadur yn ymbellâu oddiwrth eu gilydd am dragywydd-
oldeb. Ysbryd Duw sydd yn dwyn o amgylch y cyflawnder
amser hwn yn meddwi person fel yn meddyliau cenedl. Ni
buasai yn ddydd gras heb waith yr Ysbryd. Nid oedd gwaith
Crist ddim yn fwy angenrheidiol i hyn nag ydyw gwaith yr
Ysbryd. Yr oedd eisiau rhyw gymaint o nerth fel o oleuni i'w
wneuthur yn ddydd gras i ni ; ac nid oes neb yn clywed gair y
deyrnas heb wybod i ryw fesur am ddydd y nerth hwn, ac y
mae yn ddieithriad yn ddydd iachawdwriaeth. Fe ddywedir
fod rhyw lanw {tidg) yn amgylchiadau pawb allai arwain i
gyfoeth, hyny yw, bod rhyw adeg ar ei oes, ond ei defnyddio, y
gallai dyn wneyd ei nyth yn glyd tra ar y ddaear. Beth bynag
am hyny, y mae y deyrnas yn gwneuthur rhyw adeg ar eich
oes chwi yn ddydd iachawdwriaeth. Y mae dylanwadau y
deynas yn peri i chwi ddychrynu fel Ffelix, neu yn eich dwyn
o fewn ychydig i fod yn Gristionogion, fel Agrippa. Y mae
yn ddydd sydd â'i bob peth ynglŷn wrth iachawdwiiaeth. Y
mae ei lanw yn ei gario i'r hafn ddymunol. Y mae ei wynt
yn deg i dy gymeryd di i mewn i borthladd y bywyd. Feaîlai
mai dydd y pethau bychain ydyw, ond pethau bychain ynglŷn
wrth iachawdwriaeth. Os nad oes yna wynt nerthol yn rhuthro,
lleda dy hwyhau i'r awel wanaidd yna, y mae hona yn sicr o
gyraedd tir y bywyd. Os nad oes yna lef yn peri i anialwch
Cades grynu, gwrandaw di ar y llef ddistaw fain yna ; y mae
hyny ynglŷn wrth iachawdwriaeth. Amser boddlongar Duw
ydyw : na ddifwynwch ddim o bethau y dydd ; — *y mae
bendith ynddynt.' Gwnewch yn fawr o'r adeg y mae ymofyn-
iad yn ei chylch hi yn eich meddwl, oblegid cynhauaf y deyrnas
ydyw. Gellir dywedyd am danoch y pryd hwnw, — " Nid wyt
ti bell oddiwrth deyrnas Dduw."
Gwyliwch wneuthur y deyrnas yn elyn i chwi : gwrthrytela
yn ei herbyn ydyw yr unig fifordd i wneuthur hyny. Ac yn
wir, byddai yn well genym ddigio pawb na digio y deyrnas.
Ni ddymunwn i ddiin digio yr lesu, — y Gŵr fu yn Bcthlehem,
— yn Gethsemane, — ar Galfaria, yn ein Ile ni ; — a fu yn wibiid
ar y ddaear, i arbed i ni fod felly yn y byd a ddaw ; a adawodd
wlad yr addewid, i agor y fíbrdd i ni gael byw ynddi ; a aeth i
ŷl6 Agosrii'ydd at deyrtias Ddtiw.
lawr i ystafelloedd angau, i dynu y niwed o honynt ; a gariodd
fàrau a drysau y ddinas i ben y bryn, fel ag y gall orchymyn y
pryd y myno i bawb sydd ynddi ymadael. Ni ddymunwn i
ddim digio yr lesu, — y Gŵr a waeddodd, pan oedd cyfiawnder
yn chwilio am yr euog : — ' Wele fi : gad i'r rhai hyn fyned
ymaith ;' — a ddywedodd wrth y gyfraith : — ' Tywallt dy felldith
yma : gad i'r rhai hyn fyned ymaith.' Pan oedd Duw, fel
Barnwr cyfiawn, wedi ymaf.yd yn y ddynoHaeth, daeth Efe
ymlaen, fel Judah yn yr Aipht gynt, i gynyg ei Hun dros
Benjamin : — ' Arosed dy Was dros y llanc yn Was i'm
Harglwydd ; ac aed y llanc i fyny gydâ'i frodyr ;' — cymer fi, a
'gad i'r rhai hyn fyned ymaith.' Digio yr lesu ! — na, ni fynwn
er dim wneyd hyny, oblegid yr wyf yn disgwyl llawer oddiar
ei law eto. Nid oes genyf hanes yr un arweinydd trwy lyn
cysgod angau ond Efe. Ni chlywais i am neb a fedrai
arwain yn ddiogel trwy yr lorddonen ond Efe. Oddiar ei law
Ef yr wyf yn disgwyl trugaredd yn y dydd hwnw. Nid oes
genyf obaith cael myned heibio i borth Gehenna, os na thry
Efe yr agoriad yn y clo ; na chael myned i mewn i deyrnas
Dduw,. heb iddo Eforchymyn i'r pyrth dderchafu eu penau,
oblegid ganddo Ef y mae agoriadau y byd anweledig. Ond pe
byddai raid i mi benderfynu pa un o ddau ddrwg a wnawn i,
er y cwbl a ddywedwyd, byddai yn well genyf ddigio yr lesu
na digio y deyrnas ; oblegid, er bod y pechod o ddigio yr lesu
yn un mawr, eto y mae Efe yn maddeu ; ond os digia Ysbryd
Duw, ni faddeuir y pechod hwnw, nac yn y byd hwn, na'r hwn
a ddaw. A chan nad ydyw yn maddeu, peth ofnadwy ydyw
ei ddigio ; oblegid y mae Efe mewn sefyllfa y mae Ilawer iawn
ar ei law. Nid peth bychan oedd digio Joseph, pan oedd efe
yn Ilywydd ar wlad yr Aipht ; nid peth ysgafn i Tyrus a Sidon
oedd digio Herod; nid peth dibwys i Haman oedd digio Esther;
ond annhraethol fwy pwysig i chwi fydd digio Ysbryd Duw.
Efe yw adeiladydd y deml ysbrydol: er bod ei defnyddiau hi
wedi eu casglu yn iawn y groes, fel y casglwyd defnyddiau y
Tabernacl gynt yn yr anialwch, ni fedr neb ei hadeiladu hi ond
Efe. Efe ydyw y Bezalëel, sydd wedi ei lenwi â deall, ac â
gwybodaeth, ymhob rhyw waith. Y mae Efe yn medru
dychymygu cywreinrwydd : gall Efe wneyd peth mor gywrain
Agosrwydd at deyrnas Ddiin'. 917
ag ysgrifenu y gyfraith yn y galon. Efe sydd wedi cael allan
íFordd i droi y gallestr yn Uyu dwfr. Y mae yr hen deml yma
yn wig iawn o ddodrefn ; ond nid oes obaith cael un dodrefnyn
iddi, ond o dan ei law Ef. Ffarwel am weled y canwyllbren
aur, nac allor y poeth-offrwm byth ynddi, os na lunir hwynt
ganddo Ef. Ffarwel am weled y shecinah byth ynddi, heb iddo
Éf barotoi y cysegr iddo. Yr oedd rhyw Aholiab gynt yn
gyffelyb i Bezalëel, yn medru gwneuthur cywreinrwydd fel
yntau ; ond nid oes i Ysbryd Duw ail yn gyffelyb iddo : Efe,
ac Efe yn unig, sydd yn fedrus yn y cywreinrwydd o drin
calon pechadur. Nid peth ysgafn fydd ei ddigio ; — ei ddigio
hefyd fel Ysbryd y gras. Nid peth bychan yr oedd Efe yn ei
gynyg ; na, dim llai na theyrnas. Yr oedd maint y rhodd yn
profi rnai Ysbryd y gras oedd ; am hyny y mae ei gwrthod hi
yn ei ddifenwi. Y mae y gair yna yn arwyddo peth cyffelyb
i'r meddwl a phe buasai y corff yn cael ei drywanu. Y mae
gwrthod y deyrnas yn ddirmyg sydd yn tryẃanu Ysbryd y
gras. Gwyliwch wrthod ei roddion : y mae hyny yn y diwedd
yn sicr o'i wneuthur yn elyn i chwi.
A oes yma rywun pell oddiwrth y deyrnas .'' Gobeithio nad
oes. Ond os oes, yr ydych yn debyg iawn i fod yn ol ; oblegid
nid oes neb felly yma, nad ydynt o'u gwirfodd felly. Y mae
Duw wedi defnyddio moddion i'ch glanhau chwi ; ond yn ofer:
ac fel hyny y bu am rai yr un fath a chwi ; Ezec. xxiv. 13 :—
*' Yn ày aflendid y mae ysgelerder : oherwydd glanhau o honof
di, ac nid wyt lân, o'th aflendid ni'th lanheir mwy, hyd oni
pharwyf i'm llid orphwys arnat." Yr ydych wedi eich planu
mewn bryn tra ffrwythlawn ; ond nid ocs yna ddim ffrwyth i
Dduw. Sut bynag y bu hi am dancch chwi, fel hyn y
digwyddodd i rai yr un fath a chwi ; Esa. v. 4, 5 :— " Beth
oedd i'w wneuthur ychwaneg i'm gwinllan, nag a wnaethüm
ynddi ? paham, a mi yn disgwyl iddi ddwyn grawnwin, y dug
hi rawn gwylltion ? Ac yr awr hon mi a hysbysaf i chwi yr
hyn a wnaf i'm gwinllan : tynaf ymaith ei chae, fel y porer hi ;
toraf ei magwyr, fel y byddo hi yn sathrfa." Yr ydych * yn
tremygu y geiriau :' sut bynag y daw hi i'ch rhan chwi, hyn fu
rhan rhai yr un fath a chwi ; 2 Chron xxxvi. 16: — " Yr oeddynt
hwy yn gwatwar cenadau Duw, ac yn tremygu ei eiriau ef, ac
91 8 Agosrwydd at deyrnas Ddiiw.
yn gwawdio ei brophwydi ef ; nes cyfodi o ddigofaint yr
Arglwydd yn erbyn ei bobl, fel nad oedd iachad."
L'elledigion, dychrynwch ! O nad elai hi yn gymaint o
gyffro yn y wlad bell, ncs eich dwyn chwi yn agos I A
chwithau sydd yn agos, na fyddwch uchelfryd, eithr ofnwch,
rhag i'r mwynder yna ymadaw, cyn i chwi fyned iddi; rhag i'r
tipyn ireidd-drai yna sychu fel gwlith boreuol. Bu Ffelix yr.
ymyl, ac Agrippa ar y trothwy : y mae agendor rhyngddynt a
hi heddyw. Yr oedd y dyn ieuanc hwn gerllaw iddi, ond y
mae yn ofnus mai y tuallan iddi y bu efe farw. " Ymdrechwch
{ago7iizé), byddwch mewn ing, ,am hyny i fyned i mewn."'
Ysbryd Duw biau ddryllio y graig yma, meddwch chwi ; îe, ond
gwneuthur yn debyg gydag ef ag y gwnaeth rhyw ddyn gyda'r
graig naturiol : yr oedd arno eisiau cael mellt y nef i'w dryllio
hi. Nid oedd y mcllt dan ei lywodraeth ef, ond fi wyddai y
byddent yn arfer cael eu sugno gan ryw fath o wialen haiarn :
fe dorodd dwll yn y graig; a phan welodd e 'r awyr yn llawn
o'r gwefr, rhoddödd y wialen i sefyll ynddo, a dyma y fellten i
lawr ar hyd-ddi, nes oedd y graig yn chwiifriw. Gwnewch
chwithau yr un fath : planwch adnodau y Bibl fel cynifer o
wiail gwefrol {electr.ic rods) ar adamant y galon. Y maent yn
arfcr sugno tân Duw ; — y mae yr Yslryd yn arfer disgyn ar
hyd-ddynt, nes drylUo y graig. A hyny a wnelo âchwi oll, fel
y byddoch, nid yn unig o fewn ychydig, ond ynddi yn gwbl oU.
[Boreu Sadwrn, Rhagfyr 13, 1850.]
I
PREGETH LV
TEYRNAS DDUW YN AGOS.
Luc X. 9.—" Daeth teyrnas Dduw yn agos atocli."'
^ECHREUODD loan Fedyddiwr ar Arglwydd leiu
eu gweinidogaeth â'r un ymadroddion : — " Edifar-
hewch, canys nesäodd teyrnas nefoedd." A phan
anfonwyd y deuddeg apostol a'r deg dispybl a thriugiin allan
i bregethu, gorchymynwyd iddynt hwythau hefyd ddefnyddio
ymadroddion cyffelyb ; yr apostolion i ddywedyd, fod teyrnas
nefoedd wedi nesâu ; a'r deg a thriugain, eiriau y testyn. Er
bbd yr ymadroddion *' teyrnas nefoedd " a •' theyrnas Dduw,"
y rhai sy mor fynycli i'w cael yn yr efengylwyr, yn ymddangos
yn ddieithr i ni, y mae yn eglur nad oeddent felly i'r luddewon,
oblegid nid oes esboniad yn cael ei roddi arnynt. Wrth ddy-
wedyd eu bod yn agos, fe gymerir yn ganiatäol fod pawb yn
gwybod eu hystyr ; ac felly yr oeddent ; oblegid yr oedd íFurf
eü llywodraeth hwy, yiighyd â geiriau y prophwydi, wedi
cýnyrchu syniad cenedlaethol ynddynt am y deyrnas. Yr
oeddent yn ystyried eu hunain fel cenedl yn deyrnas Uduw.
Thíocracy, Duw-lywiaeth, oedd eu llywodraeth yn ei íFurf
gyntefig. Yr Arglwydd, mewn modd uniongyrchol, oedd eu
Brenin. Y tabernacl oedd ei balas. Yr achoffeiriad oedd ei
brif weinidog, yr hwn oedd i gario gorchymynion y Brenin i'r
deiliaid, a deisyfiadau y deiliaid at y Brenin. A phan yr
oeddent yn gofyn brenin, fel y cenhedloedd amgylchynol, y
mae yr Arglwydd yn ystyried hyny yn wrthodiad o hono Ef.
Ac wedi iddynt gael brenin, nid oedd ond llywydd o dan yr
Arglwydd, >n gyffelyb i'r hyn oedd tretarchiaid Judea o dan
920 Teyrnas Ddtnc yn agas.
Cesar, heb hawl ganddo i newid dim ar ddeddfau sylfaenol y
deyrnas. Eì unig waith ef oedd gofalu am eu gweinyddu
mewn cyfiawnder. Yr oedd eu bod yn deyrnas Dduw yn goiod
mawrcdd arnynt ragor un genedl arall ar y ddaear ; eto, nid
oedd yr hy.i oedd ganddynt mewn meddiant ond bychan mewn
cymhariaeth i'r hyn yr oeddent yn ei ddisgwyl. Yr oeddeni
yn disgwyl ystâd ar bethau yn eu pHth, oedd i'w galw yn
deyrnas Dduw, mewn ystyr uwch na dim oedd wedi bod yn y
byd cyn hyny. Yr oedd y disgwyliad hwnw yn sylfaenedig ar
eiriau eu prophwydi. Yr oedd yn anmhosibl iddynt gredu y
geiriau hyny, heb ddisgwyl rhyw bethau mawrion. Yr oedd
Esaiah wedi dywedyd fod Arglwydd y lluoedd yn myned i
deyrnasu ''yn mynydd Sion ac yn Jcru»alcm," yn y fath
ogoniant, nes y gwridai y lleuad, ac y cywilyddiai yr haul ; —
fod mynydd ei dŷ i gael " ei barotoi ymhen y mynyddoedd."
Ac yr oedd Danicl wedi desgrifio mawredd y deyrnas gydâ
manylrwydd (pen ii. 44, a vii. 18) : — " Yn nyddiau y brenhin-
oedd hyn, y cyfyd Duw y nefoedd frenhiniaeth yr hon ni
ddistrywir byth : a'r frenhiniaeth ni adewir i bobl ereiU ; ond
hi a fa.uria, ac a dreulia yr holl freniniaethau hyn, a hi a sail
yn dragywydd." "Eithr'saint y Goruchaf a dderbyniant y
frenhiniacth, ac a fcddianant y frenhiniaeth hyd byth, a hyd
byth bythoedd." Yr oedd y prophwydoliaethau hyn, a'u
cyffelyb, yn rhoddi sail ddigonol i'r disgwyhadau mwyaf eang ;
oblegid nid oedd dim mawr na gogoneddus nad oedd ganddynt
sail i'w ddisgwyl : felly yr oeddent fel cenedl yn byw yn yr
amser dyfodol, yn disgwyl am yr oes euraidd. Gwir fod pawb
yn gamsyniol am natur y deyrnas ; eto yr ocdd pob dosbarth
o'r trigoHon yn ci disgwyl. Yr ydym yn darllen fod y dyrfa
unwaith 3'n disgwyl yr ymddangosai teyrnas Dduw yn y fan.
Fe ddywcdir fod Joscph yn disgwyl am y deyrnas ; ac y mae
yr apostolion, hyd yn nod ar ol adgyfodiad eu Harglwydd, yn
gofyn, — " Ai y pryd hwn y rhoddi drachefn y frenhiniaeth i
Israel ?" Yr hyn a ddisgwyhent hwy, yn ddiameu, ocdd teyrnas
ddaearol ; a hono i gael ei sefydlu trwy arwyddion a rhyfedd-
odau, cyfTelyb i'r rhai a wnacd pan y neillduwyd hwynt, wrth
ddyfod o'r Aipht, i fod yn bobl i'r Arglwydd. At hyn y cyfeirir
wrth ddywcdyd, eu bod yn disgwyl yr ymddangosai y deyrnas
Teyrnas Ddinv yn agos, 92 r
yn y fan ; ond y mae yr eglurhad a rydd yr Arglwydd lesu ar
y dcyrnas yn dangos mai nid felly y daw hi : — " Ni ddaw
teyrnas Dduw wrth ddisgwyl ;" — nid un tel yna ydyw ; — " o'ch
mewn chwi y raae." Yr oeddent hwy yn deall geiriau y
prophwydi yn llythyrenol, ac felly y mae llawer eto; a gallai
fod hyny yn iawn ; ond dylid cofio nad yw y wedd allanol ar y
deyrnas ddim i'w disgwyl yn fuan. Fe'i sefydlwyd hi yn
allanol gynt cyn ei sefyd'u yn dumewnol ; ond yn awr y mae
hi i ddechreu i mewn, ac i weithio ei hunan allan. Wedi cael
y deyrnas o fe'wn holl drigoHon y byd, fe gyflawnir yn Uythyr-
erol y geiriau sydd yn ei desgrifio fel teyrnas allanol. Wedi
cael y byd yn saint, bydd saint y Goruchaf wed'yn yn derbyn
y frenhiniaeth oddidan yr hoU nefoedd. Y mae rhai yn meddwl
mai teyrnas ysbrydol yn unig a fydd, ac ereill yn meddwl mai
teyrnas welcdig a ddesgrifir ; ond paham nad all y ddwy blaid
fod yn iawn ? Y mae hi yn sicr o fod yn un ysbrydol, ac y
mae mor sicr a hyny, pan y bydd hi wedi ymweithio, fel
lefain yn y blawd, trwy ysbrydoedd holl blant Adda y bydd hi
yn weledig, pa un bynag a ddaw y Mab i deyrnasu am fil o
flynyddoedd gydâ'i saint, ai peidio. Os na ddaw yn bersonol,
bydd ei lywodraeth mor wirioneddol ar y ddaear a phe buasai
Efymayn bersonol.
Ond nid i'r luddcwon yn unig yr oedd y disgwyüad hwn yn
perthyn. Y mae, ac yr oedd, rhyw freuddwyd am deyrnas
Dduw gan holl drigohon y byd. Y mae pob creadur yn cyd-
ocheneidio am dani. Nid oedd yr oes euraidd, y sonia doethion
y byd paganaidd am dani, yn ddim ond enw arall ar y disgwyl-
iad oedd yn eu niynwes am y deyrnas. Beth bynag sydd yn
achosi y disgwyliad hwn yn y fynwes ddynol, — pa un ai adgol
ydyw o'r hyn a fu ein natur unwaith, ai ynte ymwybodolrwydd
o'r hyn y mae hi wedi ei bwriadu iddo, — y mae y syniad am
deyrnas Dduw yn gwibio trwy y meddwl dynol erioed, — yn ei
gynal ymhob ystorm, — yn ei ddiddanu ymhob trallod. Y mae
gweledigaeth gyffelyb i un Esaiah wedi ymddangos i fyrdd-
iynau heblaw iddo ef ; — tangnefedd yn llenwi y byd cynhyrfus;
— y ddaear oU wedi myned yn fynydd sancteiddrwydd Duw,
heb ddim o'i mewn hi yn drygu ac yn difetha. Y mae yn
wir fod syniadau y rhan fwyaf o lawer o drigolion y byd yn
92 2 Teynias Ddiiw yn agos.
boUol gamsyniol am y deyrnas ; eto, y maent oll, fel Joseph,
y.i disgwyl am deyrnas Dduw. Y mae y byd ' heddyw yri
ymsefydlu ar y tŵr, — yn sefýll ar ei ddisgwylfa, i edrych i bob
cwr am arwyddion ei dyfodiad hi Nid oedd yr luddewon
gynt, yn hyn, yn ddim önd cysgod o'r byd yn gyffredinol. Yr'
oedd yn eu plith hwynt böb dosbarth yn disgwyl am y
deyrnas ; — Joseiih, y pendefig ; — Anna, y brophwydes ; —
Sirtìeon, yr henafgẃr ; — y plant bychain oeddent yn Ilefain
*'Hosanna;" — disgyblion y torthau, a'r gwir ddisgyblion hefyd;
— disgwyl yr oeddent oll am ei hymddangosiad hi. Felly y
mae y byd heddyw ; y mae pob math yn cytuno i ddisgwyl am
yr un peth. Y mae yr'un deisyfiäd yn myned allan yn ochen-
aid annhraethadwy o'r galon ddýnol ymhöb man : — " Deled dy
deyrnas." Yr oedd y neb oedd i ddwyn y deyrnas gynt, 'yn
ddymuniant yr holl genhedloedd ;' ond yr oeddent, fel y Sam-
ariaid, yn dymunö yr hyn ni wyddent. Na, yr oedd yr ludd-
ewon mewn cymhariáeth iddynt hwy, yn disgwyl yr hyn a
wyddent, sef disgwyl am i Dduwddyfod î Iywodraethu y byd.
Y mae yr adeg hono wedi dyfod yn awr : — " Daeth teyrnas
nefoedd," neu " deyrnas Dduw, yn agos atoch " o'r diwedd.
Y mae awenau llywodraeth y cwbl yn myned i'w law. Caiff y
bydyn raddol wybod mai y nefocdd sydd yn Ilywodraethu.
Ond rhag iddynt gamgymeryd natur y deyrnas, y maeyr ürt
sydd yn cacl ei galw yn "dcyrnas Dduw," yn cael ei galw hefyd
yn " deyrnas nefoedd." LÌywodraeth a íydd hi o'r un natüf a
Ilywodraeth y nefoedd. Nid uri i ddàngos ei hun yn gymaint
mewn pethau allanol ; ond un ar ysbrydoedd dynion. Yi- oedd
y llywodraeth oedd gan Dduw arnynt fel cenedl yn Ilywodraeth
weledig ; — corfî teimlad\vy oedd, ac' mewn cymhariaeth i hono
ysbryd yw Ilywodraeth y nef. Yr oedd y gyfraith yno yn
ysgrifenedig ar lechau ceryg ; ond yn y nef ni raid ei hysgrifenu
hi ar ddiiri, oblegid y mae hi wcdi ei chydwau â holl natur y
trigolion. Yno yr oedd rhwysg a mawredd o amgylch tŷ yr
Arglwydd, i gadw ufudd-dod iddo trwy ofn : cuddiai ei wyneb
â thywyllwch tew y cysegr sancteiddiolaf, rhag i'r bobl hyll-
drem.u arno ; ond yn y nef, y mae yn trigo yn y goleuni. Nid
ihaid Iladd neb byth am aberthu tàn dieithr i roddi ofn ar y
llcill. Yi;o yr oedd ynihaidcael llanerch benodol i addoli.
Teyrnas Dduw yn agos. 923
Yr oedd y meddwl yn methu cael gafael ar Dduw, heb gael troi
ei wyiieb at y gafell sanctaidd ; ond am y nef, "teml ni welwyd
yndd) ;" — y mae pawb ymhob man yn gallu dal cymundeb
uniongyrchol à Duw. Yno celfyddyd, i raddau pell, oedd
addoli ; ond yn y nef, natur ydyw ; — nid symudiai peirianwaith,
ond ysgogiad b^^yyd. Felly, teyrnas o'r natur yma sydd wedi
dyfod atoch chwithau yn awr. Nid teyrnas y bwyd a'r diod ydy w,
ond teyrnasysbrydol. Nid oes arni eisiau llechaui'w deddf, ond
llechau cnawdol y galon Nid rhaid iddi gael y mynydd hwn,
na Jerusalem,yn lleoedd i'w deiliaid addoli ; — y maent yn addoli
ymhob man mewn ysbryd a gwirionedd. Nid oes eisiau Teml
i osod coffadwriaeth o'i enw ynddo ; oblegid Ile bynag y byddo
dau neu dri \vedi ymgynull, y mae y Shecinah dwyfol yno-
gydâ hwynt. Nid celfyddyd a fydd addoli mwy, ond bywyd>
yn yr enaid, — " O'ch mewn chwi y mae " teyrnas nef.
Teyrnas nefoedd hefyd, am mai yn y nef y bydd hi
wedi ei pherffeithio. Gwawr ydyw hi yn awr, ond 'gwawr •
dydd y nef. Ni fydd dim gwahaniaeth rhwng y deyrnas'
yr ochr draw rhagor yma, ond y gwahaniaeth sy rhwng gwawr
y boreu a haul haner dydJ. Pan oedd teyrnas Dduw yn wel-
edig gynt ymysg yr luddewon, nid oedd yn ei lle ei hun tra y
buont hwy yn yr anialwch : yr oedd yn Ile anhawdd, os nad yiî"
anmhosibl, cario allan ei holl ddefodau, oblegid teyrnas wedi ei
bwriadu i Ganaan ydoedd hi, — yno yr oedd yn hawdd cyd-
ymffurfio à'r holl ddeddfau. Felly, teyrnas Dduw yn yr
anialwch ydyw y deyrnas yn awr : nid hawdd ydyw, oblegid '■
hyny, cydymffurfio â'r holl reolau ; ond yn y nef, bydd wedi '
cyraedd y wlad y bwriadwyd hi iddi. Bydd caru Duw â'r holl '
galon, mor hiwdd yno ag ydyw o anhawdd yma. Bydd mor
anhawdd peidio diolch yn Nghanaan, ag ydyw peidiogrwgnach
yn yr anialwch. Bydd y deyrna$ yno yn ei gwlad ei hun ; ac
felly y lleferir am dani bob amser fel un yma ac yn y nef ; a'r
hyn sydd yn cael ei lefaru sydd i benderfynu ymha le y mae y
geiriau i'w cymhwyso at y deyrnas: pan gyffelybir hi i'r had
da, — i'r trysor, — ac i'r rhwyd, — y deyrnas yr ochr hon a fedd-
ylir ; ond pan y dywedir — ' Y daw rhai o'rgogledd, ygorllewin,
y dwyrain, a'r deheu, ac yr eisieddant gydâg Abraham, ac
Isaac, a J.iCub, yn iiheyrnas- Dduw,' y deyinas }rochr draw
9^4 Teyrnas Dduw yn ägos.
sydd.i'w deall. Ac weithiau mae yn anhawdd pewderfynu pa
un a feddylir ; oblegid nid oes dim gwahaniaeth rhyngddynt,
ond y gwahaniaeth sy rhwng bachgen a gẃr perfFaith. Y mae
yn ddigon tebygol na bydd y nef ddim mor ddieithr i'r saint
ag y maent hwy yn fynych yn tybied : nid na bydd ei gogon-
iant hi yn annhraethadwy, ond ni bydd yno ddim nad all y
sant wneuthur defnydd o hono. Bydd ganddo lygad i'w
goleuni hi, — clust i'w pheroriaeth hi, — tafod i ymuno â'i chyd-
gân hi : fe deimla ei hun gartref gydâ 'i fod yno. Ni bydd
dim yn newydd iddo ond yn y graddau. Llewyrch yr un
wyneb ag y byddai yn arfer gorphwys ynddo yma, sydd yn
gwneuthur gorphwysfa y nef ; ond ei fod yma yn y drych, neu
ar ddameg, ac yno yn ddilen. Caru heb weled ydy w hi yma ; ond
gweled ydyw yno, a bod yn dragywyddol debyg iddo. Teyrnas
netoedd ydyw, ani mai yno y perffeithir hi.
Yr oedd y deyrnas hon wedi dyfod yn agos y pryd hyny at
y genedl luddewig. Draw, draw y bu hi am ganoedd o flyn-
yddoedd; ond yr oedd ei gweled hi o bell yn peri i batriarchiaid
a phrophwydi lawenychu, a gweddio yn yr ysbryd, — " Deled
dy deyrnas " Ond yn awr yr oedd y Messiah wedi dyfod ; ac
ynddo Ef y mae teyrnas Dduw wedi agosâu. Efe ydyw ci
sylfaen hi mewn gwirionedd. Y mae y deyrnas yn gynwysedig
ynddo Ef ei hunan: gwirionedd yn yr lesu y w ei phob peth hi.
Nid oedd y pethau yr oeddent hwy fel cenedl yn eu disgwyl
ond gau, yn yr ystyr yr oeddent hwy yn disgwyl am danynt;
eithr yr oeddent yn wirionedd yn yr lesu. Yr ydych chwi yn
disgwyl i deyrnas Dduw ddyfod i'ch gwaredu chwi o dan iau
orthrymus y Rhufeiniaid; ni ddaw hi ddim yn yr ystyr yna.
Ond y mae hi wedi dyfod yn agos atoch mewn ystyr arall.
" Deuwch ataf fi," — cewch orphwysdra well na honyna, —
gorphwysdra enaid. Yr ydych chwi yn disgwyl i deyrnas
Dduw ddyfod a'ch codi chwi i rwysg a mawrcdd yn ngolwg
cenhedloedd y ddaear; ond ni ddaw hi ddim fcl yna. Eto, y
mae y deyrnas wedi dyfod yn agos atock : " Deuwch atat fi," a
chwi a fyddwch mewn perthynas a rydd annhracthol fwy o
urddas arnoch na hynyna, scf yn feibion i Dduw, a hyny mewn
ystyr na all yr un creadur arall fod. Yr ydych chwi yn
disgw^l i deyrnas Dduw ddyfod a'ch dial chwi ar eich gelynion ;
Teyrnas Ddiinj yn a^os. 925
■ond ni ddaw hi ddim fel yna eto. Y mae hi wedi dyfod yn
agos atoch : — " Deuwch ataf fi, a dysgwch genyf ; canys add-
fwyn ydwyf, a gostyngcdig o galon,"- fe ladd hyny elyniaeth
eich mynwes, fel na bydd arnoch eisiau dial mwy. Ynof fi
cewch bob peth yr ydych yn ei ddisgwyl yn nheyrnas Dduw, a
hyny mewn ystyr annhraethol ragorach cia'r hon yr ydych
chwi yn ei disgwyl. " Daeth teyrnas Dduw yn agos atoch."
Y raae hi yn agos yn yr ystyrymaeto. Yr ydytn ni yn
disgwyl, fel yr luddewon, oes euraidd draw. Pa beth a roera
ni am gael byw yn y mil blynyddoedd .? ac v mae yn ddiam-
heuol y bydd hwnw yn amser dymunol i fyw ynddo, pan y
bydd teyrnas Dduw yn llenwi y ddaear ; ond ni wna dyfodiad
y deyrnas i'r byd yn gyffredinol y pryd hyny, ddim yn amgen
nag a wnai ei dyfodiad hi yn bersonol, yn ein mynwesau ni yn
awr. Nid rhaid i ni yn bersonol ddisgwyl am fiynyddoedd am
y mil blynyddoedd ; — na, gallant ddechreu heddyw. Pe gellid
dywedyd mewn gwirionedd am rywun o honoch, — " Heddyw
y daeth iachawdwriaeth i'r tŷ hwn," gellid ychwanegu fod
dydd y mil blynyddoedd wedi dechreu yr un pryd i chwi. A
wna dyfodiad y mil blynyddoedd ymlid gelynion yr Arglwydd
lesu o'r byd 1 Fe wna ei dyfodiad hi i'r galon eu hymhd o'ch
mynwes chwi yn awr. Ac y mae genym ni fwy i'w ofni oddi-
wrth dylwyth ein tŷ- ein hun nag sy genym i'w ofni oddiwrth
ddim cymydogion F,aî.ii / carem ni weled 'y blaidd a'r oen
yn trigo ynghyd, — y llewpard a'r mỳn yn cyd-orwedd, — y liô
yn chwareu gydà chenaw y Ilew, a bachgen bychan yn eu
harwain o'r maes at y tỳ;— y plentyn sugno yn chwareu wrth
dwll yr asp, a'r hwn a ddiddyfnwyd yn estyn ei law ar ffau y
wiber.' Bydd pethau fel hyn i'w gweled yn nyfodiad teyrnas
Dduw ; ond gellwch weled pethau rhyfeddaeh na hynyna yn
awr mewn ystyr ysbrydol yn eich mynwes eich hun, sef
gweled galluoedd yr enaid, oeddent mor aflywodraethus a
bwystfilod gwylltion yr anialwch, yn cael eu gwneuthur mor
ddof a gwâr a'r fuwch a'r oen gan Fab Duw. Yr ydych oll yn
awyddus am gael gorphwysfa y nef, ond yr ydym ni, y rhai a
gredasom, wedi myned i fewn i'w orphwysfa Ef yma. Ni
bydd y nefoedd draw ddim yn amgen ond mcwn graddau. A
ydyw llywodraeth Satan i gael ci dinystrio, a'r gelyn ddyn i
926 Teyrnas Ddiiw yn a£os.
gael ei rwymo, yn y mil blynyddoedd ? Credu yn ì\Iab Duw
a barai i'r llywodraeth gael ei dinystrio, a'r gelyn ei rwymo,
yn ei berthynas â chwi yn awr. Y mae y deyrnas yn nes atoch
nag yr ydych chwi yn meddwl ; ond y mae llawer o honoch
fel gwas EUsëus, — yr oedd pethau rhyfedd gerlUw hwnw gynt,
ond yr oedd y llanc heb eu gweled. Digon tcbyg ci fod yn
meddwl yn fynych yr hoffasai fod yn yr un wlad a'r hcn Elias,
i weled y cerbydau tanllyd, a lluoedd Duw ; ond nid oedd
hyny ddim yn angenrheidiol ; pe buasai ef yn gweled, yr ocdd
y cerbydau tanllyd, a lluoedd Duw, yn ei ymyl. Felly, ni raid
i ninau fyned draw i chwiHo am y deyrnas, — y mae hi " yn
agoi atom." Fe wnai credu tystiolaeth y Bibl yr un peth i ni
ag a wnaeth agoriad llygaid i lanc EHsëus; fe'ch arwein ai chwi
i mewn i'r byd dieithr yr ydych chwi yn meddwl sy draw, pan
mewn gwirionedd y mae yn eich ymyl. Tangnefedd Duw, yr
ydych chwi yn disgwyl a fydd ryw bryd yn teyrnasu ar y
ddaear : y mae i'w gael yn awr trwy gredu. Cariad Crist a
fydd wedi rhoddi gwedd newydd ar y byd ryw amser i ddyfod :
chwi ellwch ei wybod yn bersonol yn awr, res rhoddi gwedd
newydd ar eich enaid chwi. Nid draw y mae y deyrnas, ond
yn agos atom.
Yn Nghrist y daeth y deyrnas yn agos atom ; am hyny, lle
bynag y byddo'r efengyl, sef y newyddion da am Waredwr, yn
cael eu cyhoeddi, gellir llefaru y testyn gydà phriodoldeb wrth
ei gwrandawyr : — " Daclh teyrnas Dduw yn agos atoch." Wedi
gwneuthur.yr ychydig sylwadau cyffredinol yna ar y deyrnas,
ni a edrychwn yn mhellach, pa bryd yn benodol y geliir dy-
wedyd ei bod wedi dyfod yn agos at bobl : —
I. Y mae y deyrnas wedi dyfod yn agos, pan y byddo yn cael
ei chyhoeddi yn eglur mewn gwlad. Yr oedd gohaith bywyd
tragywyddol wedi ei addaw oan y digelwyddog Dduw cyn
seiliad y byd ; ond nid oedd yn obaith wedi ei roddi o'n blaen
ni, nes iddo gael ei egluro trwy bregethu. Dirgelwch oedd,
na soniwyd am dano er dechreu y byd, nes y gorchymynwyd
ei bregethu i'r holl genhedloedd, er mwyn ufudd-dod ffydd.
Cyn hyny yr oedd y deyrnas mor bell oddiwrthynt, fel y
dywedir eu bod heb obaith ganddynt, ac heb Dduw yn y byd ;
ond o ddyddian loan Fedyddiwr, pan ddechreuwyd pregethu y
Teyrnas Ddiiw yn agos. 927
'deyrnas, daeth mor agos trwy hyny, fel y dywedir fod pawb yn
ymwthio iddi, a threiswyr yn ei chipio hi. Y mae Duw wedi
cuddio llawer o betbau mewn tywyllwch mor gaddu glyd, fel na
all ond ychydig eu cael allan, ac na all ond ychydig eu dcaU
,w«di eu darganfod. Er bod ei holl weithredoedd wedi eu
gwneuthur mewn doethineb, y mae y doethineb hwnw mor
ddwfn, fel na all ond un o ddeng mil ei ganfod ; — er ei fod yn
gweithio ar y dde ac ar yr aswy, ni ellir cael gafael arno ; ond
nid felly y gwnaeth gyda'i deyrnas, — daeth â hono i'n hymyl.
•Sylfaenwyd hi ar ychydig íFeithiau, a'r rhai hyny mor eglur
na fyddai raid i ynfydion fethu eu deall. Nid oes yr un
ddarpariaeth ragddarbodol yn an ;enrheidiol ar neb i'w deail.
Ynfydrwydd fyddai myned â seryddiaeth Newton, neu athron-
ìaeth y mcddwl i blith dynion anqysgedig ac anwar : byddai
. raid eu parotoi i'w dcall, — eu coethi â gwybodaeth am flyn-
yddoedd, — yn gyntaf ; ,ac ofer fyddai pob ymdrech gydâ llawer
o honynt,— aent i'w bedd hcb ddeall y naiU na'r llall ; ond y
mae ffeithiau y deyrnas y fath, fel y gellir eu cyhoeddi ymhob
, man. Nid rhaid cael neb i ragflaenu wyneb y pregethwr, i
barotoi meddyliau y rhai mwyaf anwar i ddirnad yr hyn a
draddodir ; — na, y maent mor syml fel y gall y mwyaf pwl ei
ddeall eu derbyn, " Mae y gair yn agos atat, yn dy enau, ac
yn dy galon ; hwn yw gair y fFydd, yr hwn yr ydym ni yn ei
bregethu ; mai os cyfFesi â'th enau yr Arglwydd Icsu, ü chredu
yn dy galon i Dduw ei gyfodi ef o feirw, cadwedig fyddi ;"
Rhuf. X. 8, 9.
Y mae dau olygiad i'w cael ar y deyrnas, — un yn ei pheith-
ynas â Duw, a'r llall yn ei pherthynas ^ ni. Wrth edrych arni
yn ei pherthynas â Duw, y mae yn ymddangos ymhell iawn ;
ond wrth edrych arni yn ei pherthynas â ni, y mae hi yn agos
iawn. Yn ei pherthynas â Duw, y mae ymaarfaeth, etholedig-
aeth, cyngora saií, ac ewyllys anghyfnewidiol : y mae hiyn bell
yn y fan yna, mor bell fel y ^ywedir, — " Pwygan hyny a all fod
yn gadwedig .?" gan nad ydyw pawb ond fel telpyn o bridd yn ei
law ef, o'r hwn y mae yn gwneuthur un Ilestr i barch, ac arall i
anmharch. Ond yn ei gwedd ddynol, y mae hi wedi dyfod
hyd atom ni. Y mae rhai yn edrych ar y deyrnas bob amser
yn ci pherthynas â Duw, ac felly yn ei gweled hi yn bell iawn,
928 Teyrnas Ddinc yn agos.
— rhy bell i ymwthio iddi ; ond gollwng dros got y maent mai
eiddo yr Arglwydd yw y dirgeledigaethau, ac mai y pet'iau
amlwg sydd i ni. Paham ynte, meddir, y dadguddiwyd y wedd
yna ar y deyrnas ? Feallai i hyny gael ci wneuthur i brofi
pen-arglwyddiaeth Duw ; ac y mae mor angcnrheidiol i ni gael
ein dwyn i deimlo fod ganddo hawl i wneuthur fel y gwelo yn
dda, ag ydyw i ni deimlo mai Duw cariad yw ; oblegid heb yr
amlygiad o ben-arglwyddiaeth, ni buasai y teimlad o ymddi-
byniad ar Dduw ddim yn ein mynwes ; ac heb yr amlygiad o'i
^ariad, buasai yn anmhosibl cynyrchu y teimlad o ffydd
neu hyder ynddo. Drachefn, fe amlygwyd y wedd yma ar y
deyrnaa i brofi dyn, i weled a wnaem ni obeithio yn erbyn
^obaith, — gobeithio, er bod sail gref i anobeithio. Fe gredodd
Abraham yr addewidion i'w fab ; fe ufuddhaodd hefyd i'r gorch-
ymyn i'w ladd. Yr oedd yn anmhosibl iddo gysoni y ddau
beth â'u gilydd ; ond nid oedd hyny ddim yn ei atal i'w credu
hwynt. Yr oedd yn disgwyl yn ddiysgog am gyfiawniad yr
addewidion y byddai ei had fel sêr y nef mewn nifer, pan yn
aberthu Isaac i'r hwn y gwnaethpwyd yr addewidion. Felly,
gall mai un o ddibenion Duw yn amlygu ei gyngor ydyw, i
weled a obeithwn ni yn erbyn gobaith ; — a gredwn ni bethau
heb fedru eu cysoni. Fe medrem ni eu cysoni, nid wrth ffydd
y byddem yn rhodio, ond wrth olwg. Er gweled a gredwn ni
yr ymadrodd hwnw : — " Ni fymcch chwi ddyfod ataf fi, fel y
caffoch fywyd," gerllaw yr ymadrodd arall, " Ni ddichon neb
ddyfod ataf fi, oddieithr i'r Tad, yr hwn a'm hanfonodd, ei dynu
ef." Er gweled a rown ni ufudd-dod i'r ymadrodd hwnw,
'' Deuwch ataf fi bawb a'r y sydd yn flinderog a llwythog, a mi
a esmwythâf arnoch," cr gwybod yr adnod arall, " Yr hyn oU
oU y mae y Tad yn ei roddi i mi, a ddaw ataf fi" " Trowch
eich wynebau ataf fi, holl gyrau y ddaear, fel y'ch achuber ;"
"A bydd, pwy bynag a alwo ar enw yr Arglwydd a fydd
cadwedig ;" — dyna wedd ddynol y drefn. " Mi a drugarhaf
wrth yr hwn y trugarhawyf. ac a dosturiaf wrth yr hwn v
tosturiwyf ;" " Felly gan hyny nid o'r hwn sydd yn ewyllysio
y mae, nac o'r hwn sydd yn rhedeg chwaith ; ond o Dduw, yr
hwn sydd yn trugarhau " (Rhuf. ix. 16) ; dyna ei pherthynas
hi â Duw. Ond y mae y ddau wedi cu hamlygu, i edrych a
Teyrnas Dduw yn agos. 929
gredwn ni yr addewid, heb ddeall y bwriad ; — a rown ni ufudd-
dod i'r pethau eglur, heb amgyfîred y dirgelion ; — a aberthwn
ni Isaac, ac eto ddisgwyl am y fendith drwyddo. Y mae yn
rhaid cadw y ddwy olygfa yna ar y deyrnas gerbron yn wastad ;
oblegid y mae gwadu un o honynt yn lladd ymdrech am ym-
wthio i mewn iddi. Y mae gwadu ochr Duw, y cyngor, a'r
arfaeth, yn ein gwneyd ni yn rhyfygus. Gan ei bod hi oll yn
ymddibynu ar fy llaw fy hun, onid allaf droi i mewn iddi
ychydig oriau eyn marw, yr un fath ag yn awr ? Y mae gwadu
ein hochr ni, sef nad oes genym ddim i'w wneuthur, yii tueddu
i'n gwneuthur yn anobeithiol. Gan mai 'o'r Hwn sydd yn
trugarhau ' y mae, ' pwy, meddir, a wrthwynebodd ei ewyllys
Ef?' Y mae anobaith a rhyfyg yn Iladd ymdrech. Y raae
credu ' na ddichon neb ddyfod at y Mab, oddieithr i'r Tad ei
dynu ef,' mor angenrheidiol i gadw ymdrech yn y meddwl am
ddyfod ato, ag ydyw credu ' na fwrir allan pwy bynag a ddêl.'
Pe buasai Duw heb amlygu ei fwriadau, buasai y deyrnas mor
agos nes y buasem ni yn mathru ei chynygion hi, fel moch yn
mathru gemau. Pe buasai Duw heb amlygu ein hochr ni,
buasai y deyrnas mor bell, na buasai 'neb yn ceisio myned i
mewn iddi. Y mae ei hagosrwydd hi atom yn ei gwahoddiadau
yn peri i ni lawenychu ; ond y mae ei bod hi wed'yn yn llaw
Duw, yn peri i'r llawenydd hwnw gael ei gymysgu â dychryn.
Y mae hi yn ddigon agos fel y gall pawbobeithio ; y mae hi yn
ddigon pell fel na ddylai neb ryfygu. Y mae hi wedi ei dwyn
yn agos ; ond agos atom ni fel creaduriaid rhesymol ydyw, —
fel rhai yn meddu deall, ewyllys, a serch. Y mae hi wedi
dyfod yn ddigon agos i ni allu ymwneyd âhi â'r galluòedd hyn ;
ond nid mor agos fel ag i wneyd ein galluoedd fel creaduriaid
rhesymol yn ofer. Y raae yr Arglwydd yn dwyn ei bethau raor
agos fel ag y tàl ymdrechu ; ond nid raor agos fel ag i ladd
ymdrech : buasai felly yn diífrwytho y galluoedd a roddodd Efe
ei Hun yn yr enaid. Y raae y ddaear yn dwynllysiau i gynhal-
iaeth dyn : ond y mae yn rhaid ei thrin hi i hyny. Y mae y
ífrwd yn rhedeg o honi ei hun : eto gall syched ein Iladd ni o
fewn Ilathen iddi. Y mae Ilin a gwlân ddigonedd a,r y ddaear ;
ond gallwn rewi gan oerfel er hyny, os nad ymdrechwn i'w
defnyddio er clydwch. Yr oedd cynhaliaeth yn agos i'r Israel-
Y3
930 Teyrnas DdiLw yn agos.
iaid, pan oedd y manna o amgylch y gwersyll gynt ; ond
buasent oll yn marw o newyn heb godi allan i'w geisio. Yr
oedd glanhâd yn agos i Naaman pan orchymynwyd iddo fyned
i'r lorddonen i ymolchi. Yr oedd golwg yn agos i'r dall pan y
cyfeiriwyd ef i lyn Siloam. Yr oedd iechyd yn agos i'r hwn a
frathwyd gan y saríF danllyd, pan gly wodd ef am y sarfí bres. Nid
nior agos ag i ladd ymdrech; ond mor agos fel ag yr oedd gwiw
ymdrechu. Cyn clywed am yr lorddonen, a Siloam, a'r sarfF
brês, nid oedd gwiw ymdrechu; ac wedi clywed, ni buasent
gwell er hyny heb ymdrechu. Felly, er bod teyrnas Dduw
wedi ei dwyn yn agos atom ni yn yr efengyl, eto nid mor agos
fel ag y gall neb fyned iddi heb ymdrech : ni all eto ond treis-
wyr ei chipio hi. Y mae hi wedi ei rhoi yn rhad, fel y rhodd-
wyd Canaan i Jacob ; er hyny bydd raid ei henill hi â'r cleddyf,
ac â'r bwa, o law yr Amoriaid, cyn y meddienir hi. Clywsom
ninau fod Crist yr Arglwydd wedi ei eni yn Geidwad yn
Bethlehem ; ond nis gwelwn ni mo hono heb dreulio aml noson
i fyned gydâ'r bugeiliaid hyd yno. Ni a welsom seren y n
ymddangos uwchben, ambell odfa, oedd yn peri i ni benderfynu
fod Brenin yr luddewon wedi ei eni ; ond ni chawn ni ddim o'r
fraint o'i addoli, heb ddilyn y séren am amser maith gydâ'r
doethion, a myned tua chymydogaethau y prophwydi i
chwilio am dano, a phenderfynu, er pob rhwystrau, peidio
gorphwys nes cael y dyn bach yn y preseb. Ni a glywsom fod
gwlad dda odiaeth y tu hwnt i'r lorddonen ; ond ;ni welir mo
honom ni byth ynddi heb ddangos yn eglur, trwy fod yn
bererinion yma, ein bod yn ei chwenych, ac yn ei cheisio
hefyd. Y mae rhywbeth yn ddieithr yn ein himgylchiad ni.
Pan oedd y deyrnas ymhell, yr oedd y byd yn Ilawn chwilfryd-
edd yn ei chylch hi. Bu ystâd y byd ,'yn hir, yn cyfateb i
eiriau y prophwyd, a newyn yaddo : ond " nid newyn am
fara, na syched am ddwfr, ond am wrandaw geiriau yr
Arglwydd." Yr oedd y trigolion yn crwydro o fòr i fòr, ac o'r
dwyrain hyd y gorllewin, i'w ceisio ; ond yn ofer, fel gydà Saul
gynt, — nid oedd yr Arglwydd yn ateb, — ' trwy freuddw^^dion,
na thrwy Urim, na thrwy brophwydi.' Yr oedd ystâd y byd
yn gyífelyb i ystâd y cleifion yn y gwledydd dwyreiniol : am
nad oes raeddygon yn y wlad, y mae cyfeillion y claf yn ci
Teyrnas Ddim yn agos. 931
gario gerllaw tramwyfa pobioedd, i weled a ddaw neb ar
ddamwain heibio a all roddi cyngor at yr afiechyd. Fel hyn
yr oedd y byd yn gorwedd yn ei afiechyd gerllaw tramwyfa
pobloedd, ac yn holi yr holl íforddolion am feddyginiaeth.
Aml un yn rhoddi cyngor, megis Confucius, Zoroaster,
Mahomet ; yr oedd yntau yn rhoddi prawf ar gyngor pawb, ac
wedi treulio cymaint ar a feddai ar y meddygon, heb fyned
ddim yn well : o'r diwedd daeth rhywun heibio ar ddamwain,
ac a ddywedodd fod balm yn Gilead a welläi y clwyf ; — fod yno
Physygwr anffaeledig at yr afiechyd ; ac i ddangos mai nid
îlefain ar antur, ond oddiar brofiad yr oedd, fe ddywedodd ei
fod wedi ei feddyginiaethu ef, y penaf. Ond ysywaeth ! wedi
iddi ddyfod mor agos, nid oes ond ychydig iawn ynrhoddi pris
arni. Pa le nad yw y deyrnas yn cael ei phregethu ? onid yw y
geiriau hyny yn yr efengyl yn cael eu gwirio yn ein gwlad,
^'Wele, llyma Grist, neu llyna." Gorchymynodd yr Athraw
i'r bobl gynt beidio credu pan glywent hyny ; ond fel arall y
dyHd gorchymyn yn awr. Os ewch chwi i'r anialwch, odid na
bydd yno rywun yn llefain, — "Edifarhewch; canys nesaodd
teyrnas nefoedd." Os dringwch chwi i'r mynyddoedd, mor
brydferth ar y rhai hyny, yn fynych, yw traed y rhai sydd yn
efengylu pethau daionus y deyrnas. Os rhodiwch chwi ar hyd
y ffyrdd, y mae rhywrai yn mynegu i'r holl fforddolion ara
dani, fel y gellir gofyn yn ngeiriau yr apostol am bawb yn ein
gwlad, — " Oni chlywsant hwy î yn ddiau i'r hoU ddaear yr
aeth eu sŵn hwy, a'u geiriau hyd derfynau y byd." Y mae
ugeiniau o flynyddoedd wedi myned heibio er pan y mae rayn-
yddau Cymru wedi adsain bloedd udgorn rhyfel ; ond nid oes
un diwrnod yn myned heibio, nad oes rhai o honynt yn adsain
bloedd udgorn heddwch y deyrnas. A phe gofynid |i ni, " Pa
ragoriaeth sydd i'r" wlad? byddai yn hawdd ateb yn ngeiriau
Moses, * Gwlad ydyw y mae yr Arglwydd yn ei hymgeleddu,^
yn yr ystyr hwn, ' ac y mae ei Iygaid Ef arni bob araser, o
ddechreu y flwyddyn i'w diwedd hi.' Y mae y pethau ynghylch
lesu o Nazareth mor eglur, fel y gellir gofyn, — " A wyt ti yn
unig yn ymdeithydd, ac ni wyddost y pethau hyn ?" Y mae
goleuni y deyrnas raor ddisglaer yn awyr ein gwlad, fel y raae
yn briodol gofyn am y neb sydd heb eì wcled, — " Pwy raor
93^ Teynias Ddutv yn agos.
ddall ag ef ?" A rhaid y bydd hwnw yn cael ei ystyried yn
fwy na choncwerwr yn ngwlad y tywyllwch eithaf, fydd wedi
dyfod yno o ganol goleuni y deyrnas. Diolch i Dduw fod y
deyrnas mor agos ! Y mae coron Lloegr mor bell oddiwrthyf,
pe buaswn ar farw o awydd am dani, ni thyciasai yr oll a
allaswn i ddim i'w chael. Pe ymdrechwn am ei chael, fe'm
cosbid fel bradwr, neu fe'm rhwy^nid fel gwallgofddyn ; ond y
mae coron y bywyd yn ddigon agos i minau gymeryd gafael
ynddi. Y mae etifeddiaethau llygredig y ddaear mor bell, fel
y mae yn rhaid i ni bron oll foddloni marw heb hawl i'r un o
honynt ; ond y mae yr etifeddiaeth anllygredig yn ddigon agos
i ni gael y gweithredoedd i'n meddiint heddyw. Beth bynag
am balasau y ddaear, y mae yr adeilad gan Dduw yn y nefoedd,
y tragywyddol drigfanau, o fewn ein cyraedd ni. Os yw palm-
wydd buddugoliaethau y ddaear yn gyfryw na all neb o honom
ni gael meddiant arnynt, nid yw palmwydd y nef ddim felly.
Y mae y golud parhaus, llawenydd ein Harglwydd, mor agos
atom, fel na all neb ein hatal i'w cael ond ni ein hunain. Ni
wna Duw ddim ; ni chaiff y diafol ddim. Cymerodd Archeläus,
mab Herod, daith o Judea i Rufain, i ofyn teyrnas ei dad ; ond
erbyn iddo ddyfod yno, yr oedd yno rywrai wedi dyfod i'w
wrthwynebu, ac i roddi anair iddo, a bu bron iddo ei cholli hi ;
ond y mae teyrnas nef wedi ei dwyn mor agos atom ni nad rhaid
ond ei gofyn. Pe byddai holl gythreuHaid uílern yn gwrth-
wynebu, yr ateb fyddai, " Rhyngodd bodd i'ch Tad roddi i
chẃi y deyrnas."
II. Y mae yn angemheidiol, cyn y gellir dywedyd fod y
deyrnas wedi dyfod yn agos, fod profion digonol yn gysylltiedig
â'r geiriau, i roddi sicrwydd i bob meddwl diduedd mai teyrnas
Dduw ydyw. Pe mewn gair yn unig y daethai y deyrnas, er
bod hwnw yn eglur, ni buasai yn briodol dywedyd ei bod hi yn
agos,oblegid y mae y pethau y maehi yn eucyhoeddi mor rhyfedd,
fel y mae dynion yn gyíTredin yn gofyn cael rhyw dystion i'w
cywirdeb hwynt ; a'r diben mawr oedd i'r gwyrthiau a fu wrth
ei sefydlu hi oedd, i fod yn brofion mai teyrnas Dduw oedd hi.
Felly, wrth anfon y deg disgybl a thriugain allan i bregethu y
deyrnas, rhoddodd yr Arglwydd lesu awdurdod iddynt igyflawni
gwyrthiau ; ac wrth y deuddeg apostol i fyned allan i bregethu,
Teyrnas Dduw yn agos. 933
gcrchymynodd iddynt hwythau, ar ol dywedyd fod y deyrnas
wedi nesâu : — " lachewch y cleifion, glanhewch y rhai gwahan-
glwyíus, cyfodwch y meirw, bwriwch allan gythreuHaid." Ac
y mae Efe yn hòni hawl i grediniaeth o'i eiriau ei Hun, am ei
fod yn cyflawni gweithredoedd nerthol yn eu plith : — " Os
ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid trwy Ysbryd Duw, yna y
daeth teyrnas Dduw atoch " Os clywsoch chwi am rywun dall
wedi cael ei olwg ; — os gwelsoch chwi ferch rhyw bendefig yn
codi o farw ; — neu fab rhyw wraig weddw wedi ei ddadebru o
gwsg angau ; — neu ry w Lazarus yn clywed fy ngeiriau o waelod
y bedd ; — os cly wsoch chwi am ryw Gadareniad oedd yn cael ei
ddryllio gan ysbrydion aflan yn dychwelyd adref yn ei iawn
bwyll, wedi i mi ymweled à'r ardal; — neu amferchrhyw wraig
o Ganaan, oedd yn ddrwg ei hwyl gan gythraul, wedi ei
meddyginiaethu â'm gair i ; — os mynegwyd i chwi am y
bachgen hwnw oedd yn cael ei fwrw i'r tân yn fynych, ac i'r
dwfr yn fynych, gan ysbryd mud a byddar, hyd nes y dygwyd
ef ataf fi ; — os wyf yn gwneuthur y pethau hyn, nid oes genych
gysgod o sail i ameu fy ngeiriau. ' Oni chredwch fi, credwch y
gweithredoedd.' Os nad ydych yn credu fy ngeiriau, ar ba
egwyddor y gellwch roddi cyfrif am y gweithredoedd, os nad
teyrnas Dduw sydd yn cael ei chyhoeddi genyf? Nid yw
teyrnas Dduw wedi ei gadael yn ddidyst yn yr ystyr hwn eto,
oblegid nid mewn gair yn unig y daeth hi i unrhyw wlad ; ond
yr oedd nerth Duw yn cydfyned â'r cyhoeddiad, ac ynperi iddo
fod mewn sicrwydd mawr. A gall y deyrnas ddywedyd, — * Os
na chredwch chwi y geiriau, credwch y gweithredoedd ;' — y
mae y rhai hyny yn fynych mor amlwg i'r llygaid ag ydoedd
gwyrthiau yr Arglwydd lesu a'i ddisgybHon i'w cyd-oeswyr.
Os gwelwch chwi ryw dyngwr wedi ei wneuthur yn weddiwr ;
— rhyw Zaccheus cybyddlyd wedi ei wneuthur yn hael ; — rhyw
erHdiwr wedi ei wneuthur ynbregethwr ; sut y rhoddwch chwi
gyfrif am hynyna, os nad ydyw y deyrnas wedi dyfod atoch ?
— " credwch y gweithredoedd." Nid rhaid i ni betruso, mwy
nag loan am y Messiah, wedi clywed am y gweithredoedd, pa
un ai hon yw y deyrnas, ai un araH yr ydym i'wdisgwyl. Gan
fod y deiHion ysbrydol yn gweled o beU ac yn eglur ; — gan fod
y cloíFion yn rhedeg yn Hwybrau y gorchymynion ; — gan fod y
934 Teyrnas Dduw yn agos.
cleifion gwahanol wedi eu glanhau trwy y gair a lefarwyd ; —
gan fod y byddariaid yn clywed y llef ddistaw fain ; — gan fod
y meirw ysbrydol wedi cyfodi ;— nid rhaid i ni wrth dystion
mwy ; — " daeth teyrnas Dduw yn agos atoch." Y mae ei
hagosrwydd hi yn gyfatebol i nifer y profion hyn sydd ganddi ;
ac y maey profion mor amryw, fel agy maent yn eidwyn hiyn
agos at bob math o ddyn. Yr oedd geiriau yr Argîwydd lesu
yn gofyn crediniaeth, yn annibynol ar ei weithredoedd. Credu
ynddo oblegid y geiriau a wnaeth y disgyblion. Yr oeddent
hwy yn ei ddilyn cyn i'r un v/yrth gael ei chyfiawni ganddo ;
ond yr oedd y gweithredoedd yn brawf o fath arall, i'r rhai nad
oeddent yn agored i gael eu hargyhoeddi gan y geiriau. Felly
y mae hi gydâ'r deyrnas eto. Y mae argraff o gywirdeb a
dwyfoldeb ar y geiriau yn annibynol ar eu heffeithiau hwynt ar
y byd ; ond y mae yr effeithiau hyny yn brawf ychwanegol mai
teyrnas Dduw yw hi ; a'r cwmwl tystion hyn sydd yn ei
gwneuthur hi yn iachawdwriaeth mor fawr, ac yn gwneuthur
yn anmhosibl i'w hesgeuluswyr hi ddianc ; Heb. ii. 3. Y mae
hi wedi ei chyhoeddi i'ch clywedigaeth chwithau gan ddynion
yr ydym yn gobeithio sydd wedi ei glywed Ef ei hunan; ond nid
yn noethineb neb o'r rhai yna y mae eisiau i chwi roddi eich
ffydd, ond yn nerth Duw; oblegid y mae Duw ei Hun yn cyd-
dystiolaethu yn fynych, nes y mae pawb yn gorfod teimlo mai
nid gair dyn ydy w, ond ei fod ' yn wir, yn air Duw.' Ac os yn ol
ybyddwch chwiyny diwedd, da fuasai i chwi pe na buasai neb
yn yr un ardal a chwi wedi credu gair y deyrnas; felly, gallasech
ddywedyd, Nad oedd Duw ddim yn cyd-dystiolaethu yn eich
bro ; ond bydd pob pechadur, o fewn cylch eich cydnabyddiaeth
fydd wedi ei chredu yn farworyn o euogrwydd ar eich cydwy-
bod chwi byth. " Daeth teyrnas Dduw yn agos atoch."
III. Y mae y deyrnas wedi dyfod yn agos atom, pan y mae ei
gwahoddiadau hi yn gyfryw ag y gallwn fod yn sicr eu bod yn
ein cynwys ni. Bu y deyrnas yn yr ystyr hwn ymhell yn hir
oddiwrthym ni. Yr oedd yr holl genhedloedd mor bell a'u bod
heb obaith ; ond y mae Duw wedi rhanu mesur i gyrhaeddyd
hyd atom ni o'r diwedd. Y mae canol-fur y gwahaniaeth wedi
ci dynu i lawr. Nid oes yr un " ffordd y Cenhedloedd," nac
un " ddinas y Samariaid," ag y gwahcrddir i'w chenhadon fyned
Teyrnas Ddiiw yn agos. 935
iddynt. Nac ewch i'r lle a'r llc oedd hi cyn y croeehoeliad ;
ond wcdi hyny, — "Ewch i'r holl fyd, a phregethwch yrefengyl
i bob creadur." A rhag i rywun fyned i wneyd y " byd^^ yna
yn llawer llai na'r ddaear, fe ofalodd y Pen raawr ara rcddi
esboniad ei hunan arno, — " A phregethwch yr efengyl i bob
creadur." Y mae yn wir i'r Ysbryd wahardd i Paul unwaith
bregethu yn Asia; eithr nid am nad oedd Asia i gael yr efengyl,
a hi a'i caiodd hefyd yn fuan iawn ; sefydlwyd eglwysi yno, ac
fc ysgrifenodd Pedr epistol atynt ; ond gwaharddwyd Paul er
mwyn iddo gael cario y newyddion da yn mhellach i blith
y cenhedloedd i wiedydd Groeg. Ac nid yw yr.efengyl yn cael
ei phregethu yn un man heb fod yn cbaith by wyd tragywyddol
o íîaen pob un sydd yn ei ch]}wed hi, a hyny rr.or eglur, fel
ag y gallesid meddwl y buasai yn anmhosibl i gâlon ddrwg
ameu am foment nad oedd hi felly; oblegid nid oes yr un wedd
ar ein cymeriad ni, nad ydyw hi yn ein cyfarfod yn y wedd
hono, ' fel y mae wyneb yn ateb i wyneb mewn dwfr.' Fel ag
yr ydym yn garcharorion y mae hi yn galw, — " Trowch i'r
amddiffynfa, chwi garcharorion gobeithiol." Fel yr ydym ni yn
halogedig, y mae hi yn addaw, "Mi a daenellaf arnoch ddwfr
glân, fel y byddoch lân." Fel ag yr ydym yn flinderog ac yn
llwythog, y mae hi yn raslawn yn dywedyd, "Deuwch ataf fi."
Fel ag yr ydym " yn dlawd, yn ddall, ac yn noeth," y mae hi
yn ein cynghori yn garedig i brynu " aur," a "dillad gwynion,"
" ac eli llygaid." Ac am ein bod yn dlawd, y mae hi yn addaw
gwerthu y cwbl " heb arian ac heb werth." lë, y mae hi yn
nes eto; a ewyllysiai rhywun gael ei breintiau hi ? "yrhwn
syddyn ewyllysio, cymered o ddwfr y bywyd yn rhad." Dyro
yr enw a fynot arnat dy hun, mi allaf fentro dywedyd, "Cymer
gysur, y mae hi yn dy alw di." Agor dy safn, pwy bynag wyt,
ac fe'i llenwir hi ganddi yn y fan. A phaham y lliosogwn ni
brofìon o beth fel hyn ? Beth bynag ydyw arfaeth ac etholedig-
aeth, y maent yn wirioneddau a safant byth ; ond y mae hyn
hefyd yn wirionedd : — Os af fi i'r byd tragywyddol heb ufudd-
hau i'r efengyl, fe'm cosbif am dragywyddoldeb fel gwrthodwr
o Fab Duw ; a chan mai Barnwr cyfiawn ydywLlywydd y wlad,
ni chaf fy nghosbi am ddim yn y byd tragywyddol na chefais i
gyi^yg gonest arnoar y ddaear. Ac fe fydd yn y dydd diweddaf
936 Teynias Ddiiw yn agos.
fyrddiynau o dystion o ddi-ragrithrwydd y cynygiad, oblegid fe
fydd y dyrfa fawr wedi cael meddiant ar y deyrnas trwy gredu
yr un cynygion ag a gawsom ninau. Ni chafcdd Caleba Josua,
a gyrhaeddasant Ganaan, ddim ond yr undystiolaeth i'wchredu
ag a gafodd y lleiU y syrthiodd eu celaneddau hwynt yn y
diíTaethwch. Ac os bydd y saint yn barnu, neu yn condemnio
y byd, bydd yno rywrai oeddent yr un fath a phob un fydd yn
ol, wedi derbyn y deyrnas ar yr un cynygiad ag a gawsant
hwythau. Bydd yno ryw gybydd o Gymro wedi ei gwrthod hi;
ond bydd yno ryw Zaccheus yn codi i'w gondemnio, gan
ddywedyd, Yr oedd y byd yn fy nghalon inau unwaith ; ond
pan glywais i am y golud gwell, fel y clywaist tithau, mi
adewais i yr un darfodedig er mwyn cael hwnw. Bydd yno
liaws o rai aflarriawn o Gymru wedi ei gwrthod hi ; ond bydd
yno ryw Gorinthiad yn dyfod ymlaen i'w condemnio, gan
ddywedyd, — Hynyna fum inau gynt; ond pan glywais i, fel y
clywaist tithau, am y ífynon a agorwyd yn nghalon Meichiai,
yn nerth Duw, mi ymdreiglais iddi, ac wele fi heddyw yn wyn
o'm pen i'm traed. " Daeth teyrnas Dduw yn agos atoch."
Os oes yma rywun fydd heb gredu hyn hyd ddydd y farn, ni
bydd neb wedi hyny.
IV. Y mae y deyrnas yn agos, yn olaf, pan y mae telerau
derbyniad i mewn iddi yn ddigon isel i bawb, Gallasai y
gwahoddiadau fod yn gyfîredinol, a bod telerau y derbyniad i
mewn yn gyfryw fel y buasai yr ymadrodd yn galed. Y mae
digon o aur yn California, a rhyddid i bawb fyned i chwilio am
dano, ond y mae y telerau o'i gael yn rhy uchel ; rhaid aberthu
cysuron, peryglu iechyd a bywyd cyn y gellir cael gafael arno »
ond y mae y deyrnas yn nes atom ni na hyny. Nid rhaid
"esgyn i'r nef," na " disgyn i'r dyfnder," peryglu iechyd corfF
na chysur meddwl; nid "gwna hyn, a byw fyddi," ond " cred
hyn, a byw fyddi;" "gair y ffydd a bregethwyd i chwi:" a thrwy
roddi fEydd yn ddrws i mewn iddi, fe'i dygwyd hi o fewn
cyraedd pawb, oblegid y mae y gallu naturiol i gredu yn un
sydd yn perthyn i'r natur ddynol, fel y cyfryw, ymhob man.
Y mae llawer un yn bur ddiflfygiol o amynedd ; llawer mynwes
yn ddigon amddilad o gariad ; llawer calon yn bur ddieithr i
obaith ; ond nid oes neb nad oes ganddo allu igredu tystiolaeth
Teyrnas Ddiiw yn agos. 937
dynion. " Y mae tystiolaeth Duw yn fwy," hyny yw, yn fwy
teilwng o'i chredu ; a thrwy hyny y mae y deyrnas yn ei phob
peth yn dyfod i feddiant pechadur, Nid oes genym well
diwedd-glo i'r cyngor na'r testyn. Gwrthddadleuwch afynoch,
ond gwybyddwch hyn, "Daeth teyrnas DJuw yn agos atoch ;''
a chwi a deimlwch oddiwrth yr agosrwydd i dragywyddoldeò.
Rhodded Duw mai testyn diolch, acnid testyn gwae di-ddarfod
a fyddo hyny i ni oll.
[Ad-ysgrifenwyd Rhagfyr 17, 1850.]
PREGETH LVI.
YMAFLYD MEWN BYWYD TRAGYWYDDOU
1 TiiioTHECe vi. 12,— >'• Cytaer afael ar y bywyd tragywyddol.
YNGOR hen weinidog i weinidog ieuanc ydyw y
Uythyr hwn. Y mae rhan o hono yn dwyn per-
thynas â'i swydd yn yr eglwys, a llawer o hono yn
dal perthynas âg ef fel Cristion unigol. Nid oedd y sant byth
i gael ei golli yn y gweinidog ; yn hytrach dangosai yr apostol,
mai gwreiddyn pob rhagoriaeth arno fel gweinidog oedd iddo
yn gyntaf ragori fel Cristion. Y mae rhan o'r cyngor, fel y
gyfran sydd yn yr adnod hon, debygem ni, yn dal perthynas
fwy uniongyrchol âg un yn cychwyn yr yrfa ysbrydol nag âg
un oedd fel Timotheus yn ddoelh i iachawdwriaeth, er yn
blentyn. Ond gan fod Timotheus yn cael ei gynghori fel hyn>
y mae yn eglur ini fod yr un cyngor ag sydd briodol i'r Cristion
yn nghychwyn ei yrfa, yn briodol iddo tra ar y ddaear. Nid
credu i'r Arglwydd i gychwyn o'r Aipht oedd yn sicrhau
Canaan, ond parhau i wneuthur hyny hyd nes cyraedd y wlad;
oblegid rhai, wedi cychwyn, a'i digiasant Ef, ac fe syrthiodd eu
cyrfF yn y diffaethwch. Tra y bydd yr yrfa yn parhau, priodol
yw dywedyd bob dydd, "Ymdrecha hardd-deg ymdrech y
ffydd ; cymer afael ar y bywyd tragywyddol." Tra y bydd y
goron heb ei chyraedd, nid diangenrhaid ydyw y cyngor,
*' Cymer afael ar y bywyd tragywyddol." Fe ddywedir
fod gan yr hwn sydd yn credu yn Mab Duw fywyd
tragywyddol, ac eto fe anoga yr Apostol Timotheus,
er ei fod yn ddiau yn credu, i gymeryd gafael
ynddo. Y mae hyn yn awgrymiad ini fod bywyd tragyw-
Ymaflyd mewn hywyd tragy wyddol. 939
yddol yn beth mor fawr, pa faiut bynag a allasai fod mewn
meddiant gan Timolheus, fod llawer iawn mwy heb ei
feddianu; ac fe fydd y ddau beth hyn yn perthyn iddo byth, sef
boddlonrwydd y mwynhâd presenol o hono, a hyfrydwch y
gobaith am dano yn y dyfodol ; fel ag y bydd y Cristion yn
gorphwys mewn tawelwch wedi cael gafael, ac yn ymestyn
mewn gobaith i gymeryd gafael newydd yn ddiddiwedd.
Os oedd y cyngor hwn yn angenrheid.ol i Timotheus, oedd
wedi cychwyn yr yrfa, wedi proíresu proíîes dda, pa faint mwy
ydyw i lawer a allant fod yma, ag ydynt eto heb gychwyn, —
heb ddechreu ymdrechu, — ac felly heb wneyd un cais i gymeryd
gafael, Y mae y testyn, gan hyny, yn perthyn i ni oll, — i'r
rhai sydd heb gychwyn yr yrfa, fel i'r rhai sydd wedi ei
chychwyn hi. Fe ddywed wrth y naill fel y llall, " Ymdrecha
hardd-deg ymdrech y ffydd ; cymer afael ar y bywyd tragy-
wyddol." Daw tri pheth o dan ein sylw oddiwrtho : —
I. Y peth sydd i gymeryd gafael ynddo, — " bywyd tragy-
wyddol."
II. Pa fodd y mae i ni gymeryd gafael ynddo.
III. Paham yr anogir ni i hyn,
I. Yr hyn y mae i ni gymeryd gafael ynddo, — " Bywyd tra-
gywyddol." Bcth ydyw '' bywyd tragywyddol ?" Y mae yn
rhaid i ni wybod rhyw beih yn eí gylch, onid ê bydd yr anog-
aeth yn ddiystyr ; ac eto, mor lleied ydyw yr hyn a wyddom,
a'r hyn hefyd sydd yn bosibl i ni ei wybod ! Y mae y ddau air
sydd yn cyfansoddi yr enw ar y peth, yn ei daflu ar unwaith i
dir dirgelwch, — " bywyd," a " bywyd tragywyddol." Ni
wyddom ni ddim beth ydyw bywyd o unrhyw fath ; er ei fod'
gerbron ein llygaid mewn degau o wahanol fTurfìau, eto y mae
ei ddeall mewn un o honynt yn wybodaeth ry ryfedd i ni.
Ond fel y mae y bywyd yn codi, y mae yn myned yn fwy-fwy
rhyfedd : y mae y bywyd anifeilaidd yn fwy rhyfedd na'r un
llysieuol ; y by wyd rhesymol yn rhyfeddach eto na'r un anifeil-
aidd ; a'r by wyd ysbrydol, neu y tragywyddol, yn rhagori eto
lawer ar yr un rhesymol. Y mae pob bywyd ynddo ei hun yn
rhyfedd, — yn beth dirgel i ni ; ond pan gysylltir tragywyddol-
deb â'r bywyd, y mae yn myned yn ddirgelwch ar ddirgelwch.
Y mae yma blygion o ddirgeledigaethau ! Os cysylltir tra-
940 Ymaflyd mewn bywyd tragywyddol.
gywyddoldeb â phethau sydd adnabyddus i ni, gwneir hwynt
yn ddirgelion oll. Cymerwch deimladau y fynwes : ni a
wyddom i raddau bychain beth ydyw llawenydd a diddanwch ;
ond os ysgrifenwch chwi dragywyddol ar ol y naill a'r llall, ni
bydd genym un amgyffred am danynt. Cymerwch etifeddiaeth-
au a meddianau : ni a wyddom rywfaint am bethau fel yna ;
ond pan gysylltwch chwi dragy wyddoldeb ac anllygredigaeth â
hwynt, y mae ein gwybodaeth yn myned yn anwybodaeth.
"Tŷ tragywyddol," " etifeddiaeth anllygredig," " teyrnas ddi-
sigl," — ni wyddora ni ddim beth yw ystyr geiriau fel yna.
Ond yn y testyn, y mae dau beth sydd yn ddirgelion ar
wahân, yn cael eu cysylltu â'u gilydd. Bywyd, — dyna ddir-
gelwch. Tragywyddol, — dyna ddirgelwch eto. Ychydig iawn,
chwi a welwch, a allwn ni ei wybod am fywyd tragywyddol :
tir pell ydyw ; ond gallwn wrth syllu yn hir, — wrth chwilio yn
fanwl, — wybod digon i ddangos pwys cyngor y testyn.
Sonir am " fywyd tragywyddol " yn y Bibl fel peth presenol,
ac fel peth dyfodol hefyd. Fel y mae yn bresenol, fe ddywed
lesu Grist : — " Yr hwn sydd yn bwyta fy nghnawd i, ac yn yfcd
fy ngwaed i, sy ganddo fywyd tragywyddol," loan vi. 54. Fel
y mae yn ddyfodol, fe ddywedir y derbyn dilynwyr Mab Duw
"y can cymaint yr awr hon, ac yn y byd a ddaw fywyd
tragywyddol," Marc x. 28 — 30. Y mae genym hedyn y bywyd
yn beth presenol ; ond y mae ei berffeithiad yn beth dyfodol
ond er bod yr un berthynas rhwng bywyd tragywyddol yn
y byd a ddaw, a bywyd tragywyddol yma, ag sy rhwng y
dderwen hardd a'r fesen, — ag sy rhwng tanbeidrwydd yr haul
haner dydd a'r wawr wanaidd yn y boreu, — ag sy rhwng yr
afon fawr a'r ffynon y mae yn tarddu o honi : eto, am y bydd y
bywyd mor ragorol yn y byd a ddaw, lleferir am dano yn
fynych fel peth perthynol yn unig i'r byd nesaf ; fel pe buasai
yn wastraff ar yr enw " bywyd tragywyddol," ei ddefnyddio
cyn i'r bywyd gyraedd y byd a ddaw, — " Yn y byd a ddaw
fywyd tragywyddol." "Y rhai cyfiawn a ânt i fywyd
tragywyddol." " Caiff y rhai a barhant yn gwneuthur
daioni fywyd tragywyddol." Ond ni a geisiwn roddi darluniad
byr o hono a gymer i mewn y ddau ystyr a nodwyd, sef, y
bywyd fel y mae yn bresenol, a'r bywyd fcl y mae yn ddyfodo'ij
Yìnaflyd me-wn bywyd tragyivyddol. 941
I. " Bywyd tragywyddol " ydyw adnabod Duw. 2. " Bywyd
tragywyddol "ydywbodfelMab Duw. 3. "Bywyd tragy wyddol"
ydy w bod mewn amgylchiadau ag y bydd ynddynt bob peth yn
fanteisiol i gyraedd perflfeithrwydd yn y pethau yna. Y mae y
tri pheth hyn yn rhoddi golwg arno fel peth presenol, ac fel
peth dyfodol.
I. By wyd tragy wyddol ydyw adnabod Duw. Gellir darlunio
bywyd trwy ddywedyd, mai cymhwysder ydyw i ymwneyd â,
ac i ddefnyddio pethau y tuallan iddo ef ei hun. Y mae yn
hawdd gwahaniaethu y gwahanol fathau o fywyd, y naill
oddiwrth y llall, drwy sylwi ar y gwrthddrychau y bydd y by wyd
yn ymwneyd â hwynt. Bywyd naturiol ydyw y cymhwysder
hwnw ag sy mewn dyn i ymwneyd â'r byd allanol. Bywyd
rhesymol ydyw y cymhwysder sy ynddo i ymwneydà phethau y
byd meddyhol. Bywyd ysbrydol, neu dragywyddol, ydyw y
cymhwysder sy mewn enaid i ymwneyd â Duw fel ei Wrth-
ddrych. Ysgarer rhwng dyn a natur, — dyna fe yn marw mewn
ystyr naturiol. Doed cwmwl rhyngddo â'r byd meddyhol, —
dyna fe yn marw mewn ystyr resymol. Ysgarer rhyngddo â
Duw, — dyna fe yn marw yn ysbrydol. Meirw y fynwent ydy w
y rhai sydd wedi colli y cymhwysder ag oedd ynddynt i
ymwneyd â'r byd naturiol. Meirw y gwallgofdy ydyw y rhai
sydd wedi colli y cymhwysder ag oedd ynddynt i ymwneyd à
phethau y byd rhesymol. Meirwysbrydol ydy w y rhai sydd wedi
colli y cymhwysder ag oedd ynddynt i fyw ar Dduw. Bywyd
i'r rhai hyn oll fyddai cael y gwahanol gymhwysderau yna yn
ol. Bywyd i breswylwyr y fynwent a fyddai cael cymhwysder
i ddefnyddio y byd naturiol, cael rhywbeth a barai i'r llygad
ddefnyddio'r goleuni, i'r glust ddefnyddio seiniau, i'r holl goríF
ymwneyd â'r natur fawr sydd o'i amgylch ; felly bywyd ysbrydol
fyddai cael rhywbeth i'r enaid a'i cymhwysai i fyw ar Dduw, i
ymwneyd â Duw, fel y mae y bywyd naturiol yn ymwneyd â
phethau y byd naturiol. Yr hyn a eilw y Bibl yn adnabod yr
Arglwydd : "Hyn yw y bywyd tragywyddol, iddynt dy
adnabod di yr unig wir Dduw, a'r hwn a anfonaist ti, lesu Grist;"
hyny yw, bod yn yr enaid rywbeth a fydd yn teimlo oddiwrth
yr amlygiadau a rydd Duw o hono ei hun, yn gyffelyb fel ag y
mae y bywyd naturiol yn teimlo yn gyfatebol i wahanol weddau
942 Ymafiyd mewn bywyd tragywyddoî.
natur allanol. Pa wedd bynag fydd ar natur, bydd rhyw wedd
gyfatebol i hyny ar y bywyd naturiol. ** Bywyd tragywyddol"
ydyw enaid yn teimlo yn gyffelyb oddiwrth bresenoldeb Duw ;
V raae ei wenau yn peri iddo lawenychu, ei ŵg yn peri iddo ofni.
Y mae yn gweled Duw, ac o hyny y mae ei wynfyd yn tarddu ;
gweled Duw ydyw y bywyd tragywyddol y mae yn ei fwynhau.
Adnabod yr Arglwydd ydyw i enaid ddyfod yn ymwybodol o
wirionedd geiriau felly : — " Ynddo Ef yr ydym ni yn byw, yn
symud, ac yn bod." Y mae yn teimlo ei hun yn cael ei
aragylchu gan Dduw, fel yr amgylchir y coríT gan yr awyr, fel
nad all fyned o'i wydd pe mynai, ac ni íynai pe gallai. Y mae
yn adnabod ei law, yn adnabod ei lais, yn adnabod ei galon.
"Ti a wnaethost hyn ;" dyna'r bywyd yn adnabod ei law yn ei
oruchwyliaethau: " Mor lliosog yw dy weithredoedd, O Ar-
glwydd !" dyna'r bywyd yn ei adnabod yn ei weithredoedd. Y
mae pob peth yn llawn o Dduw iddo ef. Y mae wedi myned
tu mewn i len creadigaeth, rhagluniaeth, ac iachawdwriaeth, nes
y mae yn oll iddo ef ; yn gysegr sancteiddiolaf, yn cael ei
wneuthur yn ofnadwy, ac yn ogoneddus gan bresenoldeb y
Shecinah ; ac nid ydyw yr hyn a wel ond yn codi awydd
ynddo am ychwaneg : " sychedig yw fy enaid am Dduw ;"
" Pwy sy genyf yn y nefoedd ond tydi ?" " Digonir fi pan ddi-
hunwyf â'th ddelw di." Dyna iaith y bywyd. ''Bywyd
tragywyddol " yw adnabod yr Arglwydd.
2. "Bywyd tragywyddol " ydyw bod yn debyg i Fab Duw.
" Y bywyd hwn sydd yn ei Fab Ef ;" " Hwn yw y gwir Dduw,
a'r bywyd tragywyddol ;" " Ynddo Ef " y mae bywyd wedi ei
egluro. Gan hyny, nid rhyw ahstraction mo hono mwy : gwir
ei fod ynddo Ef, fel y ýyìihonellohyi un yr ydym ni i'w dderbyn;
y mae ynddo hefyd fel y portread, yn ol yr hwn yr ydym ni i
gael ein llunio. " Bod yr un fFurf a delw ei Fab Ef ' ydyw bod
yn meddu bywyd tragywyddol wedi ei beríTeithio. Y mae
cynllun, neu gynddclw, i bob bywyd ; ac y mae y bywyd yn
tebygu i'w, neu yn dynwared ei gynllun. "Fel y mae y daearol,
felly y mae y rhai dacarol hefyd ; fel y mae y nefol, felly y mae
y rhai nefol hefyd ;" hyny yw, y maent yn debyg i'r cynddelw.
Cynddelw, — cynllun bywyd tragywyddol yw lesu Grist; am
hyny y gelwir Ef yn "Gyntaf-anedig pob creadur." "Bywyd
Ymaflyd mewn hywyd iragymyddol. 943
tragywyddol " yn yr egwyddor ydyw adnabod Duw ; " bywyd
tragywyddol" yn ei ddadblygiad a'i berffeithiad ydyw bod fel
Mab Duw.
Gellir edrych ar fywyd fel egwyddor, ac fel arferiad ; fel y
mae yn beth dirgeledig, ac fel y mae yn beth amlwg. '* Y rhai
sydd yn y cnawd, am bethau y cnawd y maent yn syniaw, a'r
rhai sydd yn yr ysbryd, am bethau yr ysbryd." Yn y fan yna,
fe edrychir ar y bywyd fel egwyddor. " Yn y rhai yr oeddech
yn rhodio neu yn byw gynt :" yn y fan yna, fe edrychir
arno fel arferiad. Y mae yn natur plentyn rywbeth
a bar iddo ymdebygoli i'w dad, pe heb erioed ei weled,
Y mae yr egwyddor 0 fywyd sydd ynddo o dan ddeddf
sydd yn peri iddo gymeryd y ffurf yna ; ac fel y mae ei
natur yn dadblygu, y mae yn dyfod yn fwy fwy tebyg i'w dad,
ond os caiff y plentyn fy w am flynyddoedd yn nghymdeithas
ei dad, i'w weled yn gweithio, ac i'w glywed yn siarad, y mae
yn ei ddynwared fel heb yn wybod iddo ei hun. Y mae efe yn
debyg iddo yn awr, nid yn unig oherwydd bod y bywyd y mae
yn ei feddu yn ymwisgo yn y íîurf yna, ond y mae yn debyg
iddo hefyd oddiar arfer ei ddynwared. Bywyd tragywyddol fel
y mae yn egwyddor ydyw adnabod yr Arglwydd : bywyd tra-
gywyddol fel y raae yn arferiad ydyw ymdebygoli i Fab Duw.
"Ni all efe bechu," "am fod ei hâd Ef yn aros ynddo ;" hyny
yw, y mae pechu yn groes i natur y bywyd sy ganddo : y
bywyd fel egwyddor a olygir yna. " Ystyriwch yr Hwn a
ddioddefodd gyfryw ddywedyd yn ei erbyn, fel na flinoch, ac
nad ymollyngoch yn eich eneidiau." " Efe a roddes i ni
esiampl, fel y canlynech ei ôl Ef." " Rhedwn yr yrfa, gan
edrych ar lesu." Y mae y bywyd tragywyddol yn y lleoedd
yna, yn cael edrych arno fel dynwarediad neu efelychiad. Y
mae rhyw beth yn natur paentiwr da, sydd yn ei orfodi megis i
dỳnu lluniau, pe buasai heb weled painting erioed ; ond lle
bynag y mae hyny yn natur dyn, y mae yn yr un fan awydd
angerddol ara weled gwaith yr hen gampwyr yn y gelfyddyd .
Fe astudia y rhai hyny yn feunyddiol, — fe'u dynwareda hwynt
yn ddibaid, hyd nes y mae yr hyn oedd ynddo yn naturiol ya
cael ei berffeithio gan arfer, fel y mae yn bur debyg iddynt yn
y diwedd. Y mae bywyd tragywyddol yn gyffelyb : rhywbeth
944 Ymaflyd mewn hywyd tragywyddol.
ydyw sydd yn peri i'w berchen astudio y cynllun, nes cael ei
hun yr un íath âg Ef o'r diwedd. Yr oedd paentiwr unwaith,
wedi hir sylwi ar, a dynwared gwaith un o gampwyr y gel-
fyddyd, yn dywedyd un diwrnod, oddiwrth ganfod rhywbeth
ynddo ei hun yn debyg i'r cynddelw : — " Yr ydwyf finau hefyd
yn baentiwr." A fuoch chwi erioed yn teimlo yn gyflelyb wrth
astudio cynddelw y bywyd tragywyddol ? " Y mae bywyd
genyf finau hefyd, oblegid y mae yroa rywbeth yn debyg i'r
cynllun mawr." " Bywyd tragywyddol " yw bod yn debyg i
Fab Duw.
3. "Bywyd tragywyddoF'yn ei berfíeithiad, neu yn llawn ystyr
y gair, a fydá bod mewn amgylchiadau lle y gall yr egwyddor-
ion sydd yn hadau " bywyd tragywyddol " amlygu eu hunain
yn deilwng i'w natur. Mwy priodol ydy w defnyddio am fywyd
tragywyddol iaith y rhai hyny am loan Fedyddiwr, a gofyn,
"Beth fydd hwn .?" nag iaith Paul am Melchisedec : —
"Edrychwch faint oedd hwn ;" oblegid rhywbeth yn addaw
yn hytrach nag yn cyflawni ydy w ef yma. Beth fydd hwn ?
Y mae y naill beth wedi ei wneuthur ar gyfer y llall yn holl
weithredoedd yr Arglwydd ; ac ni ellir gweled dim fel y mae,
heb i'r hyn sydd ar ei gyfer gyd-gyfarfod âg ef Y mae y win-
wydden yn bren ff"rwythlawn ; ond y mae ei hinsawdd yn
perthyn iddi. Bydd fyw yn Nghymru ; ond ni ffrwytha hi
ddim yma, am mai nid ei hinsawdd hi ydyw hwn. Y mae
blodau y Dwyrain i'w gweled yn tyfu trwy gymorth gwrês
celfyddydol yn ein gerddi ni ; ond y mae y wedd anraturiol
sydd arnynt yn ddigon o brawf nad eu hinsawdd ydyw hwn.
I'w gweled yn eu holl ogoniant, y mae yn rhaid eu gweled yn
eu hinsawdd eu hun. Felly y mae hinsawdd priodol i fywyd
tragywyddol ; ac nis gwelir mo hono yn iawn, sef yn ei ogon-
iant, nes ei weled yn ei hinsawdd ei hun. Y mae yn byw yma ;
ond fel y winwydden, nid yw yn ffi wytho nemawr, am fod yr
hinsawdd yn rhy oer. Am hyny, fe ddywedir, Na ddaeth i
galon dyn ddychymyg beth a fydd ef draw.
Bydd y ddau beth hyn yn perthyn i'r amgylchiadau yn y
rhai yr amlyga efe ei hun i berffeithrwydd : — i. Bydd yr holl
natur wedi ei bywhau ganddo. 2. Bydd holl elfenau dedwydd-
wch wedi cyd-gyfarfod er mantais iddo.
Ymafiyd mewji bywyd tragywyddoL 945
î. Bywyd tragywyddol yn y byd a ddaw, afydd cael yr hoU
natur wedi ei deffroi ganddo. Mewn rhan y mae hyny wedi ei
wneuthur yn y sant goreu yn awr ; ac mewn llawer y mae rhai
galluoedd yn yr enaid heb ysgogi at ddeffroi. Y mae y serch
ya fywiog, ond y mae y deall yn ddiffrwyth, neu y mae y
gydwybod yn effro, a'r serch yn gysglyd. Ar y rhan foesol o
ddyn bron yn unig y mae y drefn yn effeithio yn awr : ac mewn
rhan, y mae y galluoedd hyny wedi eu deffroi. Ofnadwy yw
sancteiddrwydd iddo yn awr, am nad ydyw y synwyr i'w
fwynhau, ond ar haner deffroi ; ond pan gwbl ddeffroer ef,
prydferthwch sancteiddrwydd a fydd wedi hyny.
Y mae bywyd tragywyddol yn awr yn ei berthynas â'r enaid
yn dwyn mwy o ddelw meddyginiaeth na dim arall : rhywbeth
ydyw yma er rawyn iechyd, mwy nag er mwyn hyfrydwch.
Fel ygwelir y cleifion yn dringo i benau y bryniaui gael yfed yr
awyr bur, er mwyn cael iechyd, tra y mae y rhai iach yn dringo
yno i fwynhau yr olygfa. Fe ddringir i fryn Calfaria yn benaf er
mwyn iechyd yn awr ; i yfed yr awyr bur sydd o amgylch y
groes i ddyfod yn iach ; ond pan fydd yr iechyd wedi ei sefydlu,
fe ddringir yno yn oes oesoedd, er mwyn yr olygfa ar ryfeddodau
Duw sydd i'w chael oddiar ei gopa: a pharotoi y uatur i fwyn-
hau hono ydy w gwaith y feddyginiaeth. lachawdwriaeth ydyw
hi yn awr ; ond y mae hii orphen ei gwaith fel iachawdwriaeth,
ac wedi hyny i ymledu yn fywyd tragywyddol. Y raae yr
ysbryd sy mewn dyn wedi myned yn awr yn gnawd, — marw-
eidd-dra a llygredigaeth cnawd yn perthyn iddo ; oad y mae
iachawdwriaeth yn myned i wneyd ei gnawd yu ysbryd, ac wedi
hyny ei ollwng, fel y gollyngir yr aderyn wedi i'w adenydd
dyfu i ehedeg yn ei awyr ei hun. Y mae hyn yn ein dwyn
at yr ail beth a gynwysir mewn bywyd tragy wyddol, sef —
2. Aragylchiadau y bydd holl elfenaudedwyddwch wedi cyd-
gyfarfod ynddynt er mantais idẁ. Y mae y naill o'r pethau hyn
yn gofyn y llall. Y raae genym yn yr Apostol Paul siarapl o hyn.
Yr oedd godidogrwydd y datguddiedigaethau a welodd yr apostol
yn ormod i'w allu ef i'w haragyflred, ara hyny ei ddyrysu a
wnaethant lawn cymaint a'i ddysgu, íel y raae tanbeidrwydd
goleuni yn dallu y llygaid, os byddant yn weiniaid, yn Ile bod yn
gyfrwng iddynt weled drwyddo. Ond bywyd tragy wyddol fydd
Z3
946 Ymaflyd mewti bywyd tragywyddol.
cael y ddau beth gyda'u gilydd. Natur gwbl fyw, a gwlad heb
angau ynddi yw bywyd tragy wyddol. Calon wedi ei chwbl buro
i weled Duw, a gwlad y mae tanbeidrwydd y Duwdod yn ei
llenwi yw bywyd tragywyddol. Enaid wedi colli ei syched am
bob peth ond Duw, a gwlad na bydd yno byth ddim i'w rwystro
i dori y syched hwnw yw bywyd tragywyddol.
Yr ydym ni yn son am lawer o bethau a fyddant yn
gwneuthur i fyny y bywyd tragywyddol ; rhai o hoaynt yn
nacäol, megis bod heb bechod, — heb boen, — hebangau; eraiU
yn gadirnhaol, megis prydferthwch lle, dymunoldeb y
cwmpeini, parhad y mwyniant; ond prin yr wyf yn meddwl
bod yr un o'r pethau yna i'w cymeryd i mewn i'r cyfrif. Ni
chymerir mo honynt yn y Bibl : yn iaith yr Hen Destament,
dyna ydyw, — bod gerbron Duw ; bod ar ei ddeheulaw ; bod
wedi ein digoni â'i ddelw; edrych ar ei wyneb mewn cyfiawnder.
Yn iaith y Newydd, dyna ydyw, — bod yn wastadol gydâ'r
Arglwydd ; cartrefu gydà'r Arglwydd ; bod gydâ Christ ;
gweled ei ogoniant, &c. Felly, bod yn ngolwg yr Arglwydd
ydyw bywyd tragywyddol : Duw yn Nghrist ydyw y nefoedd ;
a phe sylwem ni yn fasnwl ar y cymhariaethau a ddefnyddir, y
mae llawer o honynt wedi eu bwriadu i drosglwyddo meddwl
felly i ni. Dyna paham y dywedir bod ei hystrydoedd hi yn
aur, ei môr hi yn wydr, ei chaerau yn feini gwerthfawr, ei
phyrth hi yn berlau ; — i ddangos, mai megis ag y mae y pethau
yna yn adlewyrchu tanbeidrwydd yr haul, felly fod ei phob peth
hithau yn adlewyrchu gogoniant y Duwdod i'r enaid. Ni
wyddom ni ddim beth fydd effaith hyny arno, ac nid allwn ni
ddim gwybod yn y fuchedd hon ; ond hyn a wyddom, os ydyw
rhyfeddod ei natur anfeidrol yn llenwi ei fynwes fawrEfei
Hun â dedwyddwch, byddant yn sicr o roddi rhyw fwyniant i
greadur fydd yn deilwng o'i alw yn " fywyd tragywyddol."
Fel hyn, " Bywyd tragy wyddol " yw adnabod Duw. " Bywyd
tragywyddol" yw bod fel Mab Duw. *' Bywyd tragywyddol "
yw bod mewn amgylchiadau lle y gall weled Duw yn ddilen.
Y mae yn beth annhraethol werthfawr a gogoneddus. Ond
pwy wrth chwilio a fedr gael gafael arno ? Y mae yn uchel, —
pwy a all ei gyraedd ef ? Buasai yn greulondeb dywedyd gair
i godi awydd yn neb am dano, oni bai y gellir dywedyd hefyd,
Ymajly d me'wn bywyd tragywyddol. ^47
oddiar seiliau cedyrn, " Cymer afael." Nid rhywbeth i'w
ddangos, fel paradwys i'r goludog i ychwanegu ei boenau, ydyw
bywyd tragywyddol ; na, y mae o fewn eich cyraedd chwi. Os
ydyw yn cyraedd i fyny yn uchel iawn, — cyn ucheda'r drydedd
nef, — y mae fel ysgol Jacob : y mae un pen iddo ar y ddaear, —
y mae y ffon isaf yn ddigon isel i'r byraf ei gam, — " Cymer
aíael." Ac y mae hyn yn ein harwain at yr ail beth, —
II. Pa fodd i gymeryd gafael ynddo? Nid oes yr undarlun-
iad o fywyd tragywyddol yn y Bibl, nad oes rliywle yn cael ei
ddangos i bechadur i gael gafael arno. Os adnabod Duw yw
bywyd tragywyddol, dilyn ei adnabod, — ymarfer âg Ef, — y
galon a'r cnawd yn gwaeddi am dano, yw cymeryd gafael
ynddo. Os bod fel Mab Duw yw bywyd tragywyddol, meithrin
ei ysbryd, astudio ei feddwl, cofio ei eiriau, dynwared ei
weithredoedd, yw cymeryd gafael ynddo. Os digonolrwydd
llawenydd y nefoedd yw bywyd tragywyddol, galaru am
bechod yma a chilio oddiwrtho, yw cymeryd gafael ynddo. Yn
wir nid oes yr un darluniad o'r nefoedd yn y Bibl, nad oes gydag
effynegiad, pa fodd i gymeryd gafael ynddi. Os gorphwysfa
ydyw, gweithio yn y winllan yw cymeryd gafael ynddi. Os
teml ydyw, gofalu am fod yn Israeliad yn wir yw cymeryd
gafael ynddi. Os gwobr ydyw, — parhau i wneuthur daioni yw
cymeryd gafael ynddi. Os dinas, — ei cheisio hi fel pererinion
yw cymeryd gafael ynddi. Oscoron, — ymdrechu i redeg yr yrfa
yw cymeryd gafael ynddi. Hwn ywy meddwl sydd yny testyn.
Y mae pob peth y nefoedd wedi eu cysylltu drwy ddeddf
dragywyddol â rhyw beth ar y ddaéar ; a phwy bynag sydd yn
cymeryd gafael yn yr hyn sydd ar y ddaear, y mae drwy hyny
yn cymeryd gafael yn yr hyn sydd yn y nef. Gorphwysfa,
gwinllan ; gwobr, gwaith ; coron, gyrfa ; — dyna ddau ben y
gadwen. Y mae yr orphwysfa ymhell, ond y mae y winllan yn
agos ;— y goron draw, ond y mae yr yrfa yma ; — y mae y wobr
ymhell,— y mae y gwaith gerllaw. Ac os mynech chwi sicrhau y
pethau pell, cymeryd gafael yn y pethau agossydd yn gwneuthur
hyny. Teyrnasu mewn by wyd ydy w hi draw, ond os cei di galon
brenin yma, ni raid iti bryderu am y deyrnas : fe ofala Duw am
hono. Ond, cymeryd gafael mewn bywyd tragywyddol yw, —
I. Cymeryd gafael yn moddion bywyd tragywyddol. 2.
948 Ymajiyd mewn bywyd tragywyddol.
Cyraeryd gaíael yn Ngwrthddrych bywyd tragywyddo].
1. Cymeryd gafael yn moddion bywyd tragywyddol. Ysbryd
Duw sydd yn cynyrchu yr egwyddor o fywyd yn enaid
pechadur; ond trwy foddion y mae yn gwneyd hyny. Ac er
nas gwyddom flEordd yr Ysbryd yn hyn, eto gwyddom mai
drwy y moddion y mae yn gwneyd ; a dyna'r paham y gelwir
arnom ninau i dalu cymaint o sylw iddynt; — i ddal yn well
arnynt. Y mae geiriau y Bibl yn eiriau bywyd tragywyddol.
Y mae y by wyd yma fel y mae y trysor yn y maes ; fel y mae
iechyd yn yr awyr ; fel y mae y cyfoeth yn y note neu y chegue
ar y Banc; fel y mae yr etifeddiaeth yn y gweithredoedd,
Cloddiwch yn y maes, — chwihwch yr Ysgrythyrau, — chwi a
darewch ryw ddydd wrth y Trysor. Y mae pob un a barhaodd
i gloddio wedi ei gael. Rhodiwch yn awyr moddion gras, — y
mae hi yn fywyd i enaid. Cymerwch feddiant yn y chegues ar
y Banc, — fe'u telir oll yn y byd a ddaw. Meddienwch weith-
redoedd yr etifeddiaeth ; — beth yw hyny ? Credu addewidion
Duw : fe ddilynir hyny gan ei meddianu hi ei hun. Cymerwch
afael yn moddion bywyd tragywyddol.
2. Cymerwch afael yn Ngwrthddrych, — yn Rhoddydd, — yn
Ffynhonell bywyd tragywyddol, sef yn ei Fab Ef. " Y bywyd
hwn sydd yn ei Fab Ef." " Yr hwn y mae y Mab ganddo, y
mae y Bywyd ganddo." MeddyHwch am fywyd tragywyddol
yrahob ystyr y buom yn ceisio ei ddarlunio, y mae cymeryd
gafael yn y Mab yn gymeryd 'gafael arno. Os adnabod Duw
yw, y mae goleuni gwybodaeth gogoniant Duw i'w ganfod yn
wyneb lesu Grist. Os bod yn debyg i Fab Duw ydyw, y mae
bod yn ei gymdeithas yn cyfnewid i'r unrhyw ddclw. Os
nefoedd ydy w, y mae edrych ar lesu yn rhoddi nerth i redeg yr
yrfa tuag yno. Y mae y drefn yn odidog ragorol, oblegid y
raae yr awydd am fy wyd tragy wyddol, a'r hawl iddo yn ei Fab
Ef. Yr oedd dyn heb y ddau ; ond y mae ymafiyd yn y Mab,
trwy gredu ynddo, yn rhoddi y ddau iddo. Gwelwyd rhai yn
Nghymru heb un awydd arnynt am ymfudo i America ; er eu
bod yn bur dlawd, eto yr oeddent am farw yn ngwlad eu
genedigaeth ; ac yn wir pe buasai ynddynt awydd am ei gadael
hi, nid oedd ganddynt fodd i hyny. Ond, ryw dro, ymfudodd
mab iddynt i'r Gorllewin pell ; aeth eu calon hwythau gydâg
Ymafiyd mewn hywyd tragyuyddol. 949
ef : y mae yr awydd i symud yno wedi ei ddeffroi ynddynt
hwythau ; ac heb fod yn hir, y mae y mab yn anfon modd
iddynt ddyfod ato, ac yna dyna hwythau yn cychwyn, Ond
mewn cysylltiad â'u mab cawsant y ddau. Felly y mae yma.
Nid oedd gan neb ar y ddaear awydd am, na modd i gael
bywyd tragywyddol ; ond daeth y Mab â'r ddau yma. "Y
mae genyf chwant i'm datod, ac i fod gydâ Christ," — dyna yr
awydd. " Yr wyf yn parotoi lle i chwi," — dyna'r modd. Y
mae yr hwn y mae y Mab ganddo yn fwy cyfoethog nag y
dychymygodd ei galon erioed. Y mae yn debyg i ddyn wedi
cael raeddiant ar drysorau gwerthfawr yn y nos ; ni ẃyr yn
iawn beth ydynt nes y daw goleuni y dydd. Os yw y Mab
genych, chwi a welwch yn ngoleuni tragywyddoldeb eich bod
yn annhraethol gyfoethocach nag y daeth i'ch calon y/na
ddychymygu erioed. " Y pethau hyn," meád loan, "a ysgrif-
enais atoch chwi, y rhai ydych yn credu yn enw Mab Duw, fel
y gwypoch fod i chwi fywyd tragywyddol." Yr ydych chwi yn
werth mwy nag yr ydych wedi ei feddwl, os ydych yn credu.
^' Pe cawn i gynyg ar y nefoedd," meddwch chwi, " oni wnawn
ei derbyn hi." Yr wyt yn cael cynyg ar fwy o lawer, sef y
Mab. Y mae y nefoedd ynddo Ef, ac er ei holl werth nid yw
ond rhan fechan o'i gyfoeth. Cymer afael ynddo.
III. Paham yr anogir ni i hyn ? i. Am ei fod yn bwysig i
ni oll. Y mae y byd a ddaw yn fyd a ddeíîry, ac a ddwg i
berfFeithrwydd, beth bynag sydd yn y fynwes yn ddioed. Gall
cryn lawer o hadau trueni, neu hadau dedwyddwch fod ynddi
yma, heb iddynt wreiddio nac egino nemawr ; ond y mae
hinsawdd y byd a ddaw yn dra gwahanol i hwn ; ymledant
yno mewn moment, naiU ai yn ail farwolaeth, neu yn fywyd
tragywyddol. Yr oedd y Samariaid hyny gynt heb adnabod
Duw y wlad pan ddaethant iddi ; am hyny, fe laddwyd llawer
o honynt. Os oedd hi yn beryglus i'r Samariaid fyned i wlad
beb adwaen ei Duw hi, pa faint mwy ydyw i enaid fyned i dra-
gywyddoldeb nad oes yno ddim defnydd dedwyddwch, ond
hyny a ddeillia o olwg Duw y wlad, ac heb ei adwaen.
2. Y mae yn werth gwneyd ymdrech i gymeryd gafael arno ;
bywyd ydyw.
[Gadawyd y bregeth gan yr Awdwr yn anorphenol. Cyfansoddwyd hi megis
ag y mae tua mis Awst neu Medi, 1851.— GoL.]
PREGETH LVIL
YR ARGLWYDD YN FUGAIL.
Salm xxiii. 1. — " Yr Arglwydd jw íj Mugail, ni bydd eisiau amaf.
N o ddibenion trefn iachawdwriaeth ydyw gogoniant
Duw, a chau ymffrost oddiwrth ddyn ; gwneuthur
dyn yn ddim, a Duw yn bob peth. Y mae y Bibl yn
disgrifio yr Arglwydd a'i bobl wrth enwau, ac mewn cymeriadau
sydd yn gwneuthur hyn. Os meini ydyw y saint, y maent oll
yn pwyso ar y sylfaen safadwy sydd wedi ei gosod yn Síon. Os
canghenau ydynt, y mae eu holl nodd a'u gallu i ffrwytho yn
dyfod o'r wir winwydden. Os sêr ydynt, y maent yn ddyledus
am eu goleuni a'u gwres i Haul Cyfiawnder. Os aelodau, aelodau
ydynt o'i gorff Ef. Nid y w creadur ddim yn ei le ei hun, ond
pan V niae yn pwyso ar Dduw fel ei gynhaHwr, — yn gorwedd
wrth ei draed fel ei Frenin, — yn edrych i fyny ato fel ei Dad,
dan ddywedyd, " Nid i ni, O Arglwydd, nid i ni, ond i'th enw
dy Hun dod ogoniant."
Gan mai amcanu tynu Duw o'r orsedd, a myned iddi ei hun
fu yr achos o gwymp dyn, y mae yn rhaid i drefn ei adferiad roddi
Duw ar yr orsedd, a dyn yn y llwch ; felly mae yr oll o drefn
iachawdwriaeth yn gwneuthur. O gariad Duw y tarddodd hi,
ac yr oedd hwnw yn gaiiad rhad ymhob ystyr ; nid oedd
dymunoldeb y gwrthddrychau, na'u trueni chwaith, ddim yn
achos o hono. Y mae hawddgarwch yn enyn cariad ar hyd y
ddaear, a thrueni yn cyffroi ymysgiroedd trugaredd ; ond yr
oedd dyn syrthiedig mor amddifad o'r cyntaf ag angel syrth-
iedig, oblegid unig harddwch creadur ydyw sancteiddrwydd.
Ac er bod yr ail, sef trueni, yn fawr iawn arno, eto trueni ^e/^'ti
ydoedd. Y mae yn wir fod yr Arglwydd wedi sylwi arnomcwn
Yr Arglwydd yn Fugaiì. 95 1
trugaredd ; ond ynddo Ef ei Hun y cafodd Efe y cynhyrfiol
achos i hyny. " Trugarhaf wrthyt er fy mwyn fy Hun." Ac
fel yr oedd trefniad iachawdwriaeth yn cau balchder oddiwrth
ddyn, felly yr oedd ei gweithrediad : " o'r bobl nid oedd neb
gydâg Ef." Bu raid i'r Cyfryngwr agosâu " i'r tywyllwch, lle
yr ydoedd Duw," ei Hunan. Ac y mae modd y dygir pechadur i
feddiant o honi yn ei gadw ef mor isel ag ydoedd y trefniad a'r
gweithrediad ; oblegid y mae ymífrost yn cael ei gau yn gwbl
oddiwrtho trwy ddeddf ffydd. Oes o ymddibyniad ydyw oes y
Cristion ; y mae hi yn dechreu mewn hunanymwadiad ; a'i
pherffeithiad hi fydd iddo golli ei hunan yn Nuw, — na bydd
ganddo yr un ewyllys, ond ewyllys Duw, na'r un diben, ond
gogoniant Duw. Ac nid oes yr un arwydd sicrach fod trefn
iachawdwriaeth heb ei chymhwyso at gyflwr dyn, na'i foderioed
heb ei godi allan o hono ei hun, na chael ei ysgogi gan un uwch
diben at ddim na hunan. Ond am y Cristion, yr Arglwydd
ydyw ei bob peth ef. Yr un dydd ag yr ymwadodd âg ef ei hun,
fe gymerodd Dduw yn ei le ei hun, — gollyngodd ei afael ar bob
creadur i gael Creawdwr yn eu lle. Yr Arglwydd ydyw ei
noddfa, ei dŵr, ei ymffrost, a'i ran, medd ei enaid. Llefcrir am
yr Arglwydd a'i bobl yn yr Hen Destaraent yn gyffredin mewn
modd ag sydd yn dangos pellder anfeidrol rhyngddynt. Am-
lygodd ei Hun i'r patriarchiad yn Arglwydd Dduw Hollalluog,
yn Wrthddrych ymddiried yn wir, ond ar yr un pryd, yn
Wrthddrych i'w ofni, ac i arswydo ger ei fron. Cyn mynediid
plant Israel o'r Aipht, amlygodd ei Hun wrth yr enw Jehofah,
sef y Duw sydd i'w adwaen wrth y farn a wna. Proííon o'i fod
yn Jehofah oedd ei hoU weithredoedd yn ngwlad yr Aipht.
Ar ol rhoddiad y ddeddf, cyhoeddodd enw arall arno ei Hun,
" Jehofah, Jehofah, y Duw trugarog a graslawn :" nid yn unig
y mae Efe yn Jehofah i'w adwaen wrth ei gyfiawnder, yn
gweinyddu barn, ond hefyd yn Dduw sydd i'w adwacn wrth ei
drugaredd, yn myned heibio i anwiredd. Yr oedd pob amlyg-
iad newydd o gymeriad Duw yn ei ddwyn yn nes at ei greadur-
iaid, nes, yn nghyflawnder yr amser, y cafwyd Ef mor agos fel
yr oedd yn Dduw yn ein natur ni, — yn Dduw mewn cnawd.
Wrth yr enw Duw Hollalluog yr oedd Efe yn adnabyddus i'r
patriarchiaid ; wrth yr cnw Jehofah yr oedd Efe yn adnabydd-
952 Yr Arglivydd yn Fugail.
U3 i'r Israeliaid ; ond wrth yr enw Imanuel y mae Efe yn ad-
nabyddus i ni. Er mai llefaru o'r niwl a'r tyvyyllwch y byddai
yr Arglwydd yn gyffredin dan yr hen oruchwyliaeth, eto
byddai weithiau yn amlygu ei Hun mor agos i'w bobl nes y
byddent yn gallu ei gyfarch wrth enwau oeddent yn dangos
anwyldeb ac agosrwydd. Y mae yn wir mai yr Arglwydd lesu
a ddysgodd i'r disgyblion alw Duw yn Dad. Y mae yr enw
hwn yn cael ei ddefnyddio yn yr Hen Destament, ond nid yn
yr un ystyr ag y dysgodd y Cyfryngwr i'r disgyblion ei defn-
yddio. Pan ddaeth Mab Duw yn Fab dyn, dyna y pryd yr
amlygwyd fod meibion dynion yn feibion Duw. Pan ddaeth
yr Arglwydd lesu i'n galw ni yn frodyr, cawsom ninau wed'yn
alw ei Dad Ef yn Dad i ninau. Y mae yr enw a roddir ar yr
Arglwydd yn y testyn yr agosaf yn yr Hen Destament i'r enw
Tad yn y Testament Newydd — Bugail^ — enw llawn o dyner-
wch ac auwyldeb. Y mae y duwiol yma, nid yn crynu gerbron
y Brenin tragywyddol, — nid yn arswydo gerbron Barnydd yr
holl ddaear, ond mewn hyder sanctaidd yn cydnabod yr Ar-
glwydd yn Fugail iddo, ac yntau fel oen yn teimlo yn hapus a
diogel yn mynwes ei Fugail. Yr oedd Dafydd yn gallu tynu
holl gymhariaethau y Salm hon o'i broíiad ei hun, er feallai na
chyfansoddodd efe ddim o honi pan yn bugeilio defaid Jesse ;
oblegid fe dybir na chyfansoddodd efe yr un o'i Salmau nes
iddo gael ei ddal gan ddyddiau blin adfyd. Gorthrymder a
wnaeth Dafydd yn fardd. Ni buasai yr eglwys wedi cael dim o
win melus y Salmau, oni buasai i'r Salmydd gael ei wasgu yn
ngwin-gafn adfyd a chystudd. Ond y mae yn ddiameu mai o'r
argrafîiadau bywiog oeddent wedi eu gwneuthur ar ei feddwl y
pryd hyny yr oedd efe yn tynu yr hoU ddarluniadau. Pan oedd
efe yn myfyrio yn ei balas brenhinol ar ddaioni Duw tuag ato, a
thân sanctaidd barddoniaeth wedi ei enyn yn ei galon trwy
hyny, ac wrth chwilio am ryw fodd i osod allan ei deimladau
bywiog, ehedodd ei feddwl yn ol i ddyddiau ei ieuenctid, pan
yr oedd ef yn fachgen gwridgoch a theg yr olwg yn bugeilio
defaid ei dad yn meusydd Bethlehem ; — yr oedd ê mewn
moraent yn byw drachefn yn yr amser gynt, — yn edrych ar ei
braidd wedi eu digoni yn un o borfeydd gwelltog Bethlehem,
ac yn gorwedd ar làn rhyw ddyfroedd tawel oedd yno. Yn y
IV A rglwy ad y n Fiiga il. 953
ddeadell oedd yn gorwedd yn hapus, heb arnynt eisiau dim, fe
welai gysgod o'r daioni a'r drugaredd oeddent wedi ei ddilyn ef
, holl ddyddiau ei fywyd. Gwyddai Dafydd yn dda mai ar ofal
a gwroldeb y Bugail yr oedd hapusrwydd a diogelwch y defaid
yn dibynu ; gan hyny penderfynai na byddai eisiau arno ef,
oblegid yr Arglwydd oedd ei Fugail. Y mae hyny i'w ganfod
yn amlwg iawn yn y testyn, fel yn yr holl Salmau, y duedd
gref sydd mewn enaid sanctaidd i gym.deithasu â'r Anweledig
trwy y gweledig, — i weled pethau ysbrydol trwy bethau elfenol,
— i gymeryd y byd hwn yn gysgod o'r byd a ddaw. Cysgod
ydyw y greadigaeth sydd yn cyfeirio at yr Haul a'i hachosodd
hi. Shell am ysbryd ydyw y ddaear a'i phethau, — y mae ystyr
ddofn yn y cwbl sydd o'i mewn ; ond ychydig iawn sydd yn
medru darllen ei hiaith. Fe anghofiodd yr Israeliaid iaith
Canaan yn nghaethiwed Babilon ; felly y raae dyn yn nghaeth-
iwed pechod wedi myned yn alltud oddiwrth Dduw, — wedi
anghofio iaith creadigaeth. Y mae hi yn llefaru eto, ond
mewn iaith nad ydyw dyn ddim yn ei deall. Y mae lliaws o
saint yn myned drwy'r ddaear heb ddysgu ei deall hi hefyd ;
ond y mae ambell Gristion yn cael y flFafr hon, — yn cael deall
y ddoethineb y mae y greadigaeth yn ei llefaru mewn dirgel-
wch. Y mae dameg y greadigaeth yn cael ei hegluro i feddwl
ambell un o'r disgyblion. Yr oedd Dafydd wedi cael y fraint
hon. Taran oedd tylwyth y tŷ yn ei glywed ; llais Duw oedd
Dafydd yn ei glywed. Haul oedd y rhai o'i amgylch yn ei weled;
yr oedd Dafydd yn gweled Duw trwy yr haul. Ni buasai y lliaws
yn gweled dim yn y ddeadell oedd yn gorwedd yn meusydd Beth-
lehem ; ond yr oedd Dafydd yn gweled hyny yn llawn o ystyr
ysbrydol. Y mae pob Cristion yn gweled Duw yn bob peth
iachawdwriaeth. Y mae pob un, i raddau mwy neu lai, yn
gweled Duw yn bob peth rhagluniaeth. Ond ychydig iawn
sydd yn gallu gweled Duw yn bob peth creadigaeth, — yn
cymdeithasu à'r Ysbryd anfeidrol trwy gorfiF y greadigaeth.
Ond un o'r ychydig yma oedd y Salmydd : — " Yr Arglwydd
yw fy Mugail ; ni bydd eisiau arnaf."
Y mae yma ddau beth teilwng o'n sylw : — I. Hyder y
Salmydd, — "ni bydd eisiau arnaf." II. Sylfaen yr hyder
hwnw : — " Yr Arglwydd yw fy Mugail."
954 Yr Arglwydd yn Fugail.
I. Hyder y Salmydd : — "ni bydd eisiau arnaf." Swp o
eisiau ydyw creadur. Nis gellir disgrifio creadur ond trwy
bethau nacäol : nid drwy ddywedyd beth ydyw, ond beth nad
ydyw. Gwagedd ydyw creadur : nid oes dim priodolaethau yn
perthyn i beth felly. Pan oedd dyn yn berffaith ddedwydd yn
Eden, nid perffeithrwydd o hunan-ddigonoldeb oedd, ond per-
íFeithrwydd yn byw ar gyflawnder un arall. Yr oedd ei lestr ef
yn llawn am fod íîynon y dyfroedd byw yn rhedeg iddo. Pan
dorwyd yr undeb oodd rhyngddo ef â hono, aeth yn beríTaith
wâg yn y fan. Cymhwysder i dderbyn ydyw pob peth
creadur, — synwyrau ei gorff a chyneddfau ei enaid. Yr oedd y
corfF wedi ei fwriadu i gymdeithasu â'r greadigaeth trwy y
synwyrau ; a'r enaid i gymdeithasu â'r Creawdwr drwy y
greadigaeth. Ni all yr enaid ddim byw arno ei hun, mwy nag
y gall y corfF; â phethau tuallan iddo ei hun y mae a fyno ei
holl gyneddfau. Gallu i sylwi ar a barnu pethau oddiallan
ydyw y deall ; — gallu i gadw defnyddiau i'r deall a'r serch
weithredu arnynt ydyw y cof ; — gallu i garu neu gasâu y pethau
hyny ydyw y serch ; — gallu i farnu ymddygiadau yr enaid tuag
at y pethau hyny ydyw y gydwybod ; — a gallu i gadw yr holl
enaid i ysgogi ydyw yr ewyllys. Ond y mae hono yn ddyledus
am ei hysgogiad ei hun i ryw beth allanol. Gwagder perfFaith
ydyw creadur.
Tri eisiau mawr sydd yn y byd hwn : — eisiau Ilonyddwch,
eisiau amddiíFyn, ac eisiau cynhaliaeth. Dyma gyn\vys hyder
y Salmydd : y mae ganddo lonyddwch, — *' porfeydd gwelltog
gerllaw dyfroedd tawel." Y mae ganddo amddiíFyn, — " pe
rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau. nid ofnaf niwed." Y mae
ganddo gynhaliaetli, — " Ti a arlwyi ford ger fy mron, fy
phiol sydd lawn." Cynwys ei hyder ydyw Ilonyddwch ; am.
ddiíFyn, cynhaliaeth. Grym ei hyder ydyw, — " Ni bydd eisiau
arnaf."
I. Cynwys ei hyder. (i.) Llonyddwch. " Pob peth,"
meddai y Pregethwr, " sydd yn llawn blinder." Yr oedd y
greadigaeth naturiol yn ymddangos felly iddo ef : yr haul yn
codi, ac yn prysuro drachefn i fachlud ; — y gwynt yn myned
o'r deheu, yn amgylchu i'r gogledd, ac ar ei daith yn wastad
mcwn rhai o'i gwmpasoedd ; — yr holl afonydd yn rhedeg i'r
Yr Ai'glwydd y}t Fugail. g55
môr ; — y dwfr drachefn yn esgyn o hwnw i'r cymylau ; ac
eilwaith " o"r lle daeth yr afonydd, yno y dychwelant." " Pob
peth sydd yn Uawn blinder." Nid yw trigolion y ddaear
ychwaith ddim yn fwy llonydd na'r elfenau : y maenthwythau,
fel ffrwd gref, yn treiglo yn brysur i fôr tragywyddoldeb. " Un
genhedlaeth a à ymaith, a chenhedlaeth arall a ddaw." Y mae
dynion yn ddieithriad yn ymsymud fel mewn elfen gynhyrfus,
a phawb yn ceisio dianc allan o honi, i chwilio am lonyddwch ;
weithiau yn dymuno am adenydd fel colomen, i ehedeg ymaith
i'r aniaîwch i chwilio am dano; bryd arall yn dymuno bod
wedi marw o'r bru, er mwyn ei gael. Felly y mae yn amlwg
mai un o ddiífygion mawr y ddau ydyw hwn, diífyg gorphwys-
dra. Hyn hefyd ydyw un o elfenau trueni uffern, — "Nid
ydynt yn cael gorphwysdra, na dydd, na nos." Ond y mae y
duwiol wedi ei gael : pan roddodd ef ei ofal i'r Bugail da, fe
gafodd orphwysdrai'w enaid ; ac ond cael llonyddwch oddifewn,
ni all dim cynwrf mawr fod oddiallan ; oblegid enaid pob dyn
sydd i raddau mawr yn creu byd y dyn hwnw. Os bydd
anobaith oddimewn, y mae anobaith yn argraffedig ar bob peth
o'n hamgylch. Os bydd prudd-der yn gordoi y dyn oddimewn,
y mae prudd-der yn gordoi y cwbl i'r dyn oddiallan. Y pryd
hwnw, y mae pob peth yn ymddangos yn afionydd o'n ham-
gylch, am ein bod ni yn aflonydd oddimewn. Yr ydym ni yn
gweled y cyfan yn ysgwyd ac yn crynu, ond y mae yn dra
thebyg mai nid hwy sydd yn crynu, ond ein llestri ni. Pan
uner ein calon ni i ofni Duw, fe una hyny y greadigaeth i
ninau. Pan y câ y dyn oddimewn dangnefedd trwy gredu, fe
íydd awyr o dangnefedd yn amgylchu y dyn oddiallan wed'yn :
fe gaiff orphwysfa. Yr oedd y byd hwn wedi bod yn anialwch
yn wir i Daf^^dd : pan neillduwyd ef yn frenin, fe'i neillduwyd
ef yr un pryd i fod yn ŵr ymryson, ac yn ẃr cynen. Er mai
' cangen ífrwythlawn oedd efe, a'i geinciau yn cerdded ar hyd y
mur ; eto y saethyddion a fuant chwerw wrtho.' Fe fu raegis
" pelican yr anialwch ;" — " fel aderyn y tô, unig ar ben y tý ;"
ond yn awr yr oedd ê wedi cael dychwelyd i'w orphwysfa, — yn
cael gorwedd mewn diogelwch, ar ol dydd blin. Gwŷr cynen
ac ymryson ydyw y saint eto ; aml un o honynt yn cael ei hela
fel petris y mynyddoedd. Ond y mae ganddynt hwy le
956 Yr Aì'ilwydd yn Fugail.
gorphwys ; a chyn sicred a bod y lle yn bod, fe eu gwelir
hwythau yn gorwedd ynddo mewn llonyddwch heb fod yn
hir.
(2.) Yr ail beth yn hyder y Salmydd oedd amddiffyn : — " Pe
rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf niwed : canys yr
wyt ti gydâ mi ; dy wialen a'th ffon a'm cysurant." Nid oes
yr un creadur yn fwy diallu i amddiffyn ei hun na'r ddafad :
felly y mae y saint ynddynt eu hunain y creaduriaid gwanaf
sydd yn rhodio daear. Nid ydynt yn gryfion i ddim ond i
ddioddef. Os tarewir y Cristion ar un rudd, y mae ê yn rhy
wan i godi ei law i daraw yn ol ; ond y mae ê yn ddigon cryf i
droi y rudd arall i'r cernodiwr. Os ydyw yn cael ei orthrymu,
y mae ê yn rhy wan i ddial, ond y mae ê yn ddigon cryf i
feddianu ei enaid mewn amynedd i ddioddef. Fe gaiff y
bwystfilod ymladd â'u gilydd, a dial eu cam ar eu gilydd ; ond
dioddef sy raid i'r defaid. Ond ni chânt hwythau ddim gwir
niwed, oblegid fe ofala eu Bugail am darynt. Y mae amddiffyn
mor angenrheidiol i'r Cristion yma ag ydyw gorphwysdra ;
oblegid nid oes ganddo yr un borfa welltog ar y ddaear, nad oes
ffordd i'r gelynion ddyfod iddi. Hefyd y mae y llew a'r arth,
yr asp a'r wiber, yn mynydd sancteiddrwydd Duw yma, ond fe
ofala y Bugail na chânt ddrygu y praidd. Buasai yn bur
hawdd i'r Bugail ddinystrio yr holl fwystfilod, fel na buasai yr
un o fewn i gyrau yr etifeddiaeth ; ond drwg i'r praidd fuasai
hyny, oblegid y bwystfilod sydd yn fynych yn eu cadw hwy ar
Iwybrau cyfiawnder. Byddant feirw yn gwbl ymhen gronyn
i'r pethau y mae yn rhaid cael y bwystfilod yn awr i'w
dychrynu rhagddynt. A gwaith eu Bugail yn eu hachub
hwynt oddirhwng cyrn yr unicorniaid, — yn eu gwaredu hwynt
o grafanc y llew, ac o balf yr arth, — sydd yn ei anwylo Ef
gymaint iddynt. Nid na chaiff y saint orthrymderau, ond ni
chânt y niwed sydd ynddynt ; — deuant allan o bob un fel
Israel o'r Aipht, â rhyw berlau ganddynt, yn gyfoethocach nag
yr aethanti mewn. Fe gaiff Satan eu cymeryd i'r ffwrn ; ond
fe ofala eu Hamddiffynwr na chaiff y tân wneuthur dim ond
llosgi rhyw rwymau o Iygredd o amgylch eu henaid. Fe gaiff
eu cymeryd hwynt i Babilon ; ond fe ofala yr Arglwydd am
bcri i hyny fod yn foddion i'w dwyn hwy i ffieiddio cilun-
Yr Arglwydd yn Fugail. 957
addoliaeth. Fe gaiff Satan enyn y tân, ond ni chaiíf eistedd
wrth enau y ffwrn : wrth fesur y mae y gwynt garw yn
cael chwythu arnynt. Ac nid Satan sydd yn mesur chwaith,
ond y Bugail. Fe gaiíf Satan boeni Job ; ond bychan oedd è
yn feddwl mai darparu Job i ddal dau cymaint o fendithion ag
oedd ganddo o'r blaen, yr oedd ê trwy hyny. Fe gaiíf gernodio
Paul ; ond ni bydd hyny ond yn ei wneuthur yn wacach o'i
nerth ei hun, i ras gael lle i lifo i mewn : '' Digon i ti fy ngras
i." Y raae ífyrdd y Bugail i amddiífyn eì braidd yn aneirif. Y
mae yn eu gweled ymhob man. " Rhodia ger fy mron i,"
meddai yr Arglwydd wrth Abraham, neu yn ol yr iaith y llefar-
wyd y geiriau, " Rhodia o flaen fy wynebau i." Lle bynag yr
ä y praidd, fe fydd un o wynebau y Bugail yn edrych arnynt.
Ac fel y mae gan y Bugail wyneb ymhob man i'w gweled, felly
hefyd y mae ganddo fraich ymhob man i'w hamddiífyn. Gan
hyny " ni bydd eisiau " arnynt.
(3.) Y trydydd peth yn hyder y Salmydd oedd cynhaliaeth :
" Ti a arlwyi ford ger fy mron yn ngwydd fy ngwrthwynebwyr:
iraist fy mhen âg olew, fy phiol sydd lawn." Y mae hyn yn
myned gam yn mhellach. Cadw rhag drwg oedd y ddau beth
arall, — gorphwysdra ac amddiffyn ; ond y mae efe yn ymhyfhau
yn awr, ac yn dywedyd, nid yn unig y caiff efe hyny, ond cyn-
haliaeth hefyd ; — nid yn unig fe gedwid drwg rhagddo, ond fe
weinyddid daioni iddo. Y mae pob peth yn mynydd Duw :
cysgod i orphwys ynddo, a mur o dân i amddiffyn, a gwledd o
basgedigion breision a gloyw win puredig i ddigoni. Cynhal-
iaeth yn cynwys holl ddarpariaeth Duw ar gyfer y creadur
newydd, — y manna cuddiedig, — bara y bywyd, — dihau mêl y
gwirionedd, — y dwfr bywiol, — y gwin a'r llaeth sydd yn yr
efengyl, — ac yn enwedig ordinhadau y tŷ, addewidion y gair, a
dylanwadau yr efengyl. Yn y tŷ y raae y Cristion yn cynyddu ;
ar yr addewidion a'r tystiolaethau y raae ê yn byw ; a'r Ysbryd
GlÄn sydd yn eu mynegu hwynt iddo. Gwlad ysbrydol ydyw
gwlad y creadur newydd ; — raewn awyr ysbrydol y raae ê yn
anadlu ; — â phethau ysbrydol ydyw holl bethau tŷ a gair Duw.
Fel y raae y corfiF yn cymdeithasu â phethau natnriol drwy y
synwyrau, felly y mae yr enaid â phethau ysbrydol drwy ei
rasusau. Y mae efe yn bwyta cnawd Mab y dyn yn yr ordin-
958 Yr Arglwydd yn Fiigaiî.
hadau trwy ffydd ; — y mae yn sugno iechyd o'r addewidion
trwy obaith; — y mae yn cael ei gyfnewid yn raddol i ddelw y
Pen mawr gan gariad. Nid yr un peth sydd yn cynal y Crist-
ion bob amser. Y mae ê weithiau yn rhy wan i ymborthi ar
fwyd cryf y dystiolaeth hono : — " Mi a wn i bwy y credais ; ac
y mae yn ddiameu genyl ei fod Ef yn abl i gadw yr hyn a
roddais ato erbyn y dydd hwnw ;" ond fe all y pryd hwn sugno
llaeth o'r dystiolaeth hon : — "Gwir yw y gair, ac yn haeddu
pöb derbyniad, ddyfod Crist lesu i'r byd i gadw pechaduriaid ;
o ba rai penaf ydwyf fi." Y mae llawer iawn o amrywiaeth ar
ford y Cristion : yn wyneb digalondid ac ofnau, caiff gynhaliaeth
o gadernid trefn Duw: " Y mynyddoedd a giliant, a'r bryniau
a symudant : eithr fy nhrugaredd ni chilia oddiwrthyt, a
chyfamod fy hedd ni syfl, medd yr Arglwydd sydd yn trugarhau
wrthyt." Yn wyneb ei annheilyngdod, caiff sugno cynhaliaeth
o radlonrwydd trefn Duw : — " Trwy ras yr ydych yn gadwedig,
trwy ffydd ; a hyny nid o bonoch eich hunain : rhodd Duw
ydyw." Yn wyneb golwg ar gyfyngder ar hyd y daith, caiff
dynu cysur o ffyddlondeb Duw : — " Haiarn a phrês fydd dan
dy esgidiau ; ac megis dy ddyd^iau y bydd dy nerth." Yn
wyneb cael ei lethu gan ei ddiddymdra ei hun, caiff ymgysuro
yn mawredd Duw : — " Myfi yw Duw Holl-ddigonol." Blaen-
brawf o'r nefoedd ydyw yr addewidion ; — ychydig o rawn-sypiau
Canaan wedi eu dwyn i'r anialwch ; — ernes o'r llawenydd a'r
digrifwch tragy wyddol sy gerbron Duw ; — arian traul i gario y
Cristion adref. Y mae llawer Cristion fel yr hen Jacob, yn
methu credu mai ei Joseph ef sydd yn llywodraethu ar yr holl
wlad : y mae ei galon yn llesgâu o'i fewn oblegid hyn ; ond
cerbydau ydyw yr addewidion, wedi eu hanfon gan Joseph i
gyrchu ei frodyr ato ei Hun. Pan egyr y Diddanydd lygaid y
Cristion i'w gweled, y raae ei ysbryd ef yn bywiogi yn y fan,
nes y mae yn barod i ddywedyd : — " Digon yw : âf fel y gwelwyf
Ef." Y mae byd brâs ar y saint : y mae ganddynt Fibl llawn
o addewidion, ac enaid llawn o obaith. Y mae y Bibl fel pren
y bywyd, â deuddeg rhyw ffrwyth arno. Y mae gobaith, fel
colomen Noah, yn cario rhai o'r ffrwythau i'r enaid ymhob
amgylchiad. Pa ddiluw bynag fydd yn ymosod ar yr enaid,
daw gobaith âg un o ddail yr addewidion, i brofi fod y dyfroedd
Yr Arglwydd yn Fngaìl. 959
i dreio. Os bydd y cornwydydd yn peri i Job ymollwng, fe ä
gobaith cyn belled â'r adgyfodiad i ymofyn un o'r dail : — " Eto
caf weled Duw yn fy nghnawd." Os bydd teimlad o lygredd yn
llethu y Salmydd, daw gobaith o hyd i waredigaeth : — "Di-
gonir fi, pan ddihunwyf, â'th ddelw Di." Os bydd y swmbwl
yn poeni Paul, daw gobaith à'r ddeilen hon oddiar Bren y
bywyd i'w gynal : — ** Digon i ti íy ngras i."
2. Grym hyder y Salmydd : — " Ni bydd eisiau arnaf." Yr
oedd Dafydd wedi cyraedd raèr a brasder crefydd yn y fan hon,
Ar foreu-gwaith heb gymylau yr ysgrifenodd efe y drydedd
Salm ar hugain. Fe fu yntau yn ameu lawer gwaith : —
"Syrthio a wnaf ry w ddydd yn llaw Saul ;" ond yroedd ganddo
lawn sicrwydd ffydd yn awr. Fe all ffydd fod heb sicrwydd
ffydd ; ond nid yw crefydd yn gysur mawr nes cael sicrwydd.
Nid ydyw y Cristion yn gallu gwasanaethu yn ddiofn heb hwn.
Y mae ffydd yn gwneuthur pechod yn ddiflas : y mae sicrwydd
ffydd yn gwneuthur crefydd yn felus. Y mae bod yn dduwiol
yn gwneuthur y galon yn dda : y mae gwybod ein bod yn
dduwiol yn gwneuthur y galon yn llawen. " Ffydd/'— y mae
iachawdwriaeth yn gylymedig wrth hyny " Sicrwydd ffydd "
— y mae gorfoledd iachawdwriaeth yn gylyraedig wrth hyny,
Fe all y Cristion ddywedyd bob dydd, — Nid oes eisiau arnaf ;
a chodi ei Ebenezer bob nos, — Hyd yma y cynhaliodd yr
Arglwydd fi. Ond anaml iawn y gall efe ddefnyddio iaith y
testyn. Unwaith y cyfyd Haul Cyfiawnder ar yr enaid, ni
fachluda fe byth wed'yn ; ond y mae yn dra thebyg y daw hi
yn nos er hyny, oblegid y mae hi yn ysbrydoi, fel yn naturiol,
nid yr haul sydd yn machlud, ond y ddaear sydd yn troi : y
mae yr haul yn y ffurfafen o hyd ; ond ara fod y ddaear yn
troi ar ei phegwn, y mae tywyllwch yn gorchuddio rhyw ran o
honi yn gyson. Felly hefyd y Cristion, y mae ei Haul yntau
yn y ffurfafen bob amser ; ond am fod ei ddaear ef yn troi y
mae hi yn nos arno yn aml iawn : ac nis gall weled yr un
fodfedd o'i flaen yn y nos. Ymae yn anmhosibl iddoddywedyd,
"Ni bydd eisiau arnaf," yn y tywyllwch. Marweidd-dra a
difräwch gyda chrefydd ydyw'r unig achos o'n hamheuon. Os
mynem ni i'n crefydd roddi goleu i ni ein hunain, y mae yn
rhaid i ni oleuo o'n hamgylch. Pan fyddwn ni yn ddigon
9^0 Yr Arglwydd yn Fugaìl.
crefyddol i fod yn gysgod i ereill, ni a gawn deimlo y pryd
hyny ein bod yn eistedd dan ei gysgod ef. Y mae gras yn
enaid y Cristion yn wastad ; ond y raae yn haws ei weled
pan y mae ê yn cyneu yn fflamau, na phan y mae ê fel llin yn
mygu. Cydgynyrch hoU rasusau y Cristion ydyw sicrwydd :
y cwbl wedi addfedu i raddau ; — cariad wedi tyfu mor uchel
a'r nefoedd ; gostyngeiddrwydd wedi tyfu mor isel a'r llwch ;—
amynedd wedi cael ei pherffaith waith ; — gobaith wedi angori
yn ddiogel y tumewn i'r llen ; — ffydd wedi dysgu edrych yn
sefydlog ar degwch y Brenin. Yr efengyl wedi cyraedd ei Ile
ydyw sicrwydd. Y mae hi yn dyfod ar y cyntaf i enaid dyn
" mewn nerth, ac yn yr Ysbryd Glân ;" ond pan fydd hi wedi
cyraedd ei lle ei hun, wedi Ilenwi pob congl o'r enaid, y mae hi
yn dyfod ** mewn sicrwydd mawr " hefyd.
" Rhai bach yn Nghrist " ydy w y rhan fwyaf o'r duwiolion
yn awr. Fe fu cewri ar y ddaear yn y dyddiau gynt ; ond
plantos ydym ni ; — bahanod yn Ilefain am drugaredd ; nid
dynion yn medru dywedyd, — " Mi a gefais drugaredd." Nid
oes neb o honom bron yn trin digon o grefydd i gael ganddi
ateb fel yma : nid ydym yn gwrteithio digon ar y tir iddo
ddwyn cnwd y testyn, — " Ni bydd eisiau arnaf." Nid rhyw bum'
mynyd gerbron gorsedd gras, hwyr a boreu, — darllen y Bibl
unwaith yn yr wythnos, — myned i gynulleidfa y saint unwaith
yn y mis, — bod mor ofalus nad ewch chwi ddim tumewn i
gynteddau yr ArgIwydd,ond ar y Sabbath, a phe byddai yn bechod
myned yno ; — nid trin diofal fel yna a gynyrcha gnwd llawn o
sicrwydd ffydd. Os mynech chwi i'r blodeuyn yma dyfu yn y
fynwes ; y mae yn rhaid i chwi gymeryd aradr y gwirionedd
bob dydd i'w braenaru hi. Y mae yn rhaid ymdrechu bob
dydd, fel Elias ar ben Carmel, hyd saith-waith, feallai, am gael
y gwlaw graslawn i lawr i'w dyfrhau hi. Y mae yn rhaid
cysegru rhyw gyfran o bob dydd i fyned i'r Ilanerchau hyny,
ar ba rai y mae Haul y cyfiawnder yn tywynu i'w chynhesu hi ;
ac yna, yn raddol, fe dỳf y blodeuyn gwerthfawr hwn yn y
fynwes, — "Ni bydd eisiau arnaf." Amcanu am ry fychan
gydâ'n crefydd yr ydym, — myned i'r nefoedd, rywsut, ydyw y
nôd eithaf yn ein golwg ; ond nid oes modd cael mynedfa
helaeth i mewn i dragywyddol deyrnas ein Harglwydd a'n
Yr Arglwydd yn Fìi.gail. 961
Hachubwr lesu Grist, heb fod yn ddiwyd i wneuthur ein
galwedigaeth a'n hetholedigaeth yn sicr. Ac ni wn i ddim nad
oes llawer iawn o'r saint yn cyraedd y nef fel yr achubwyd
llwyth y llong a aeth yn ddrylhau ar Paul yn môr Adria, wrth
Ynys Mehta gynt, rhai yn nofìo, y lleill ar ystyllcd, ac eraill ar
ryw ddrylliau o'r llong ; ond fe ddigwyddodd ddyfod o bawb i
dir yn ddiangol : felly y saint : fe fydd hen arfaeth Duw yn
sicrhau y digwyddant hwythau ddyfod i dir yn ddiangol ; ond
fe fydd llawer un yn dyfod adref, nid fel llong dan ei Uawn
hwyhau yn cael yn helaeth fynediad i mewn i'r porthladd, ond
ar ystyllod ac ar ddrylliau o'r llong ; ac ambell un yn cael ei
dafîu gan dònau culfor marwolaeth ar draeth y byd a ddaw, heb
ddim ganddo, — yr ystyllen wedi myned, — pob dryll o'r hen
long wedi ei golli, — yntau, druan, wedi dyrysu yn y rhyferthwy»
yn methu deall beth sydd yn bod, nac i ba le y mae ê yn
myned. Ond wedi iddo ddadebru ychydig o lewygfa angau, a
dechreu edrych o amgylch, y mae yn gwybod mai^ nejocdd y
gelwir y wlad ar ba un y mae wedi ei fwrw ; oblegid y mae pawb
o'r trigolion yn dangos ' mwyneidd-dra nid bychan ' tuag ato.
Ond fe gawsai arbed y Uewygfa yna pe buasai yn ddiwyd i
gadw yn fwy manwl yn ol chart y fordaith, — i lywio yn íwy
gofalus wrth gwmpas y gwirionedd ; felly yn helaeth trefnesid
iddo fynedfa i mewn i'r deyrnas. Amcanv/n am bethau mawr
gydâ chrefydd. Ymestynwn hyd at adgyfodiad y meirw.
Y mae genym yn y fan hon, wrth fyned heibio, fantais i sylwi
ar gyfaddasrwydd duwioldeb i enaid dyn. Y mae hi yn ddigon.
Y mae y meddwl dynol wedi ceisio byw mewn llawer porfa;
ond cul iawn ydyw yr olwg arno, hyd nes y daw ef i borfeydd
iachawdwriaeth. Ymae ê wedi yfed o lawer ffynon ; ond y mae
yn sychedu drachefn, nes y caiíî" yfed o'ffynhonau yr iachawd-
wriaeth. Y mae athroniaeth yn gallu mesur y meddwl i
ddywedyd ei faint ; ond nis gall hi roddi dim ynddo i'w lenwi.
Daw gwybodaeth ymlaen, ic â'i llygaid crafF hi sylla ar ei
amrywiol alluoedd : hi ddisgrifia nerth y deall ; ond nid oes
ganddi yr un gwrthddrych y gall ydeall hwnwlonyddu ynddo;
— hi geis'a ddarlunio tân y serch, ond nid oes ganddi hi ddim
cynud i'w roddi ar y tân, i beri iddo ÍTaglu ; — hi ddengys beth
mor gywrain ydyw yr ewyllys, ond nid oes ganddi hi ddim i'w
M
692 Tr Arghcydd yn Ftigail.
gynyg iddo y gall ê fod yn dawel wrth ymhyfrydu ynddo. Nîd
ydyw y gwahanol gelfyddydau ychwaith ddim wedi gallu
llonyddu y meddwl. Rhoddwch galon glwyfus yn yr awyren,
— gyrwch hi i fyny goruwch y cymylau, — hi ddaw i lawr
jr un mor gystuddiedig ag y cychwynodd hi. Rhoddwch
gydwybod euog yn yr agerlong, — gyrwch hi gryn dair mil o
fiUdiroedd mewn ychydig ddyddiau, nes y bydd hi wedi cyraedd
rhan arall o'r byd, — fe fydd pob gronyn o euogrwydd oedd arni
yn myned i'r llong yn Ewrop, arni yn dyfod allan o honi yn
America, a rawy hefyd. Cymerwch ysbryd cystuddiedig i'r
chwareudy, i weled y digrifwch hwnw sy gan blant dynion, fe
ddaw allan yn salach nag yr aeth ef i mewn. Pictiwr ded-
wyddwch y mae yr enaid yn ei ganfod ymhob man ond mewn
crefydd. Wrth edrych o bell, meddyliai fod yno rywbeth
sylweduol : ond erbyn dyfcd i'w ymyl, nid oes ynddo ddim ond
darlun y peth. Wrth edrych ar y philosophydd yn cau ei hun
i fyny fel mynach yn ei lyfrgell, i gymdeithasu â'r eneidiau
mawrion, y meddyliau cryfien, sydd wedi bod yn y byd er's
canoedd o flynyddoedd yn ol, — prin yn cael gweled yr haul o
ddechreu yr wythnos i'w diwedd, — y dydd hwyaf o'r flwyddyn
yn rhy fyr iddo, — yn treuho ei hun uwchben ei îamp, nes y
mae ei esgyrn yn dyfod i'r amlwg, y rhai ni weHd o'r blaen, —
gelHd tybied y rhaid bod yna rywbeth sylweddol, onide byddai
yn anmhosibl i'r dyn fod mor ddiwyd am flynyddoedd ; ond di-
lynwch chwi ôl ei draed, — fel yntau ' tyngwch a chyflawnwch ' y
mynwch chwi ddeall holl ddirgelion y wybodaeth hon, a dirnad y
cyfan sydd yn perthyn i'r wybodaeth arall, cewch weled, ar ol
blynyddoedd o fyfyrio, nad oesynddo ddim ond y darlun. Os
ydych chwi yn cael ambell ddyferyn o hapusrwydd, yr oedd yr
hapusrwydd yn rhoddi rhyw gyfaddasrwydd yn yr enaid i sugno
chwerw-der o bob peth allanol, fel maiy dyn mwyaf truenus yny
wlad ydyw y dyn mwyaf gwybodus, os na bydd ef yn dduwiol.
Wrth edrych ar y celfyddydwr yn methu cymeryd amser i fwyta,
gan raor llawn ydy w o ddyfeisiau ; — yn treuHo blynyddoedd heb
gyraeryd seibiant nadydd na nos, i geisio cael allan ryw beiriant
newydd, — yn dychyraygu am dano y dydd, — yn breuddwydio
am dano y nos, — ac wedi iddo Iwyddo i roddi iau ar wddf y
goleuni, a ífrwyn yn ngheg y gwynt, — gwneuthur y cwbl oedd
Yr Arglwydd yn Fiigail. 963
yn ei galon, — gallech feddwl fod yn rhaid ei fod yn ddedwydd ;
ond dilynwch ôi ei draed yntau hefyd, gosodwch eich holl allu-
oedd ar waith i ddychymygu rhyw beiriant newydd, dofwch
ryw elfen newydd o natur sydd heb ei darostwng eto gan y
natur ddynol, — wedi i chwi gyraedd ynôd oedd yn eich golwg,
cewch weled na bydd yno chwaith ddimond pictiwr y peth. Fe
fydd y meddwl yn methu gorphwys rhag i rywun wneuthur un
amgenach. Wrth edrych ar y buddugoliaethwr wedi d^'chwelyd
adref yn llwyddianus o bob hrwydr, — y gelynion wedi eu
goTchfygu, — yr orsedd wedi ei chadarnhau, — miloedd o drigolion
y ddaear yn edrych i fyny ato, — yn derbyn y gyfraith o'i enau,
gallech feddwl fod hwnw wedi cyraedd gwlad llonyddwch ; ond
pe byddai modd i chwi ddilyn ôl ei draed, — cael eistedd ar yr
orsedd gadarnaf ar y ddaear, — eich gair chwi yn ddeddf i haner
trigolion y byd, — caech weled mai pictiwr y peth fyddai o'ch
blaen chwi wedy'n. Byddech yn barod i ofyn gydâ Cesar, wedi
cyraedd y nôd uchaf, — Ai hyn ydyw yr oll ì Ai am y darlun,
— am y pictiwr yma y bum i yn ymdrechu dros gymaint o
flynyddoedd ? Yr oedd y cyfan wedi cyd-gyfarfod yn Cesar ; —
ymerawdwT, deall y philosophydd, doethineb y seneddwr, a
chalon y buddugoliaethwr. Yr'oedd efe hefyd yn byw yn serch
ei ddeiliaid ; ond pan oedd haul ei Iwyddiant yn y meridian^ —
yn y canol-ddydd, — dyma oedd ê yn ei v/aeddi, — " Ai dyma y
cyfan ?" ^r oedd efe yn methu gorwedd yn y porfeydd ; ond
y mae aml i hen Gristion, rhwng mynyddoedd Cymru, wed^
cael allan borfa mor frâs fel y mae yn gallu gorwedd ynddi bob
dydd. Ni ẃyr ê yn y byd, wrth edrych ar y nefoedd, pa un yw
Arcturus a Pleiades, — pa rai ydyw y Saith Seren ac Orîon ;
ond fe ẃyr yn burion pa un ydyw Seren Bethlehem. Ni wel-
odd efe yr un awyren, — nid oes ganddo ddim amgyíTred pa
fodd y mae dynion yn gallu esgyn goruwch y cymylau ; ond fe
ẃyr yn eithaf da pa sut i fyned ar ei union i'r drydedd nef. Pe
rhoddech chwi ddarlun o'r deyrnas o'i flaen, a dangos mewn un
cwr y lle y mae efe yn byw, a dangos y brif ddinas yn y cwr
arall, a cheisio ganddo olrhain y ff"ordd o'r naill i'r llall, ni
fedrai efe yn ei fyw wneuthur ; ond rhoddwch chwi y bedwar-
edd ar ddeg o loan o'i flaen, fe fydd yn lled sicr o fedru olrhain
y íforddo'r ddaear i'r nefoedd, tua'r chweched adnod, Y mae
964 Yr Arglwydd yn Fiigail.
llawer hen wraig na chlywodd hi erioed sôn am frwydr Arbela;
— ni ẃyr hi ddim pa flwyddyn y goresgynw^'d Lloegr gan y
Rhufeiniaid ; — paflwyddyn y daeth rhyddid gwladol i'r deyrnas;
ond hi ŵyr yn dda am frwydr Calfaria ; — y mae hi yn gydna-
byddus iawn â'r flwyddyn y gorchfygwyd uffern, — y flwyddyn
ryfedd ddaeth â chyfiawnder tragwyddol i mewn i bechadur.
Y mae yn rhaid cael y tri pheth yma mewn gwrthddrych i
ddigoni dyn : — mawredd, sylwedd, gogoniant. Ni all dyn ddim
teimlo ei hun mewn diogelwch, os na bydd ef yn nghanol
anfeidroldeb. Os gall efe weled y glanau, y mae yn myned yn
anesmwyth yn y fan : am hyny y mae efe yn ceisio gwthio i'r
dwfn ; ond nid oes dim dwfn i wthio iddo gydâ'r creadur. Ar
ol ymboeni am fl/nyddoedd i fyned o olwg y glanau, er ei fawr
siomedigaeth, y mae yn cael ei hun yn eu hymyl wedy'n. Yn
ymyl y làn gydâ'r môr y mae y perygl mawr : yno y mae y
creigiau, — yno y mae y sugndraethau ; er ei bod hi yn berffaith
dawel, ni all y morwr ddim gorphwys yn hir yn ymyl y làn>
oblegid pe byddai i ystorm gyfodi, y mae ê mewn lle drwg iawn
i'w gwynebu, am fod y graig yn ymyl, a sugndraeth heb fod
ymhell. Ond allan yn y dyfnder mawr, digon pell oddiwrth bob
glàn, y mae ê mewn cymhariaeth allan o'r perygl yno : felly yn
gwbl y mae hi gydâ dyn ; — y mae llawer yma heddyw y maeyn
eithaf tawel arnynt yn ymyl glanau y creadur, ac er nad oes yr
un cwmwl gymaint a chledr llaw gwr i'w weled mewn un cwr
o'r ffurfafen, i fygwth ystorm, eto yr ydych chwi yn methu bod
yn dawel, oblegid y mae y gydwybod yn sibrwd, beth pebyddai
i ystorm godi ì dyma greigiau yn ymyl, rhaid mai dryllio
gymerai le. Os mynech chwi golH y pryder, — yr anesmwythyd
yna, — o'ch meddwl, ymollyngwch i'r dwfn, i ganol môr o
anfeidroldeb, lle na welwch chwi h'in am dragwyddoldeb, na
sugndraeth, na chraig, i'ch pryderu chwi byth. Cyraerwch
Greawdwr yn lle creadur, — Duw yn lle dyn, — tragwyddoldeb
yn lle amser, — yna, ac nid cynt, eich digonir. Pan ddarostyng-
wyd Napoleon y waith gyntaf gan awdurdodau Ewrop, anfon-
wyd ef o Ffrainc, a gwnaed ef yn frenin ar ynys fechan yn Môr
y Canoldir ; ond yr oedd è mor aflon^'dd yno ag aderyn, — yn
teithio hyd a lled y deyrnas fechan yn ddiball, — yn methu
gorphwys am ddiwrnod. Pa fodd yr oedd efe yn methu mwyn-
Yr Arglwydd yn Ftígail. 965
hau ei deyrnas fechan ? Rhyw deimlad chwithig iawn oedd hi
iddo, oblegid yr oedd ê wedi bod yn ymerawdwr ar Ewrop oll
ymron. Felly dyn : paham y mae è mor aflonydd ? gellid
meddwl bod ei ran ef yn deg odiaeth, — yn arglwydd y
greadigaeth yma, — yn uchder llwch ybyd. Ond dyna'r paham»
rhyw deimlad chwith iawn yw hi iddo, — ceisio byw ar yr ynys
fach yna, ac yntau wedi bod â chyfandir diderfyn ganddo
unwaith. Ynfydrwydd ydyw disgwyl ei weled ef yn llonydd,
nes cael yr hen feddiant yn ol, — cael yr Arglwydd yn Fugail eto-
II. Sylfaen hyder y Salmydd : — " Yr Arglwydd yw fy
Mugail." Y mae hyn yn cynwys hyder yn codi oddiar berth"
ynas, a hyder yn codi oddiar brofiad. Ni buasai fod Duw yn
bod ddim yn sylfaen hyder i bechadur, oni bai fod y Duwhwnw
wedi gwneuthur cyfamod i'w gadw, — wedi dyfod i berthynas â
dyn. Nid yw hyny eilwaith yn gysur cryf, nes y mae pechadur
yn teimlo ei hun yn yraaflyd yn y cyfamod. Y mae gair Duw
a'i Iŵ yn sicrhau y cedwir pwy bynag a gredo yn ei Fab : dyna
obaith yn cael ei ddal o flaen dynion fel y cyfryw ; ond y mae y
neb a ymaflo yn y gobaith hwn yn gallu tynu cysur cryf o'r
gair a'r llŵ, — yn gwybod, nid yn unig fod yr Arglwydd yn
Fugail, ond yn profi ei fod yn Fugail iddo ef.
Y mae ymddiried yn hanfodol i ddedwyddwch creadur ymhob
ystad. Y foment y collodd angylion ymddiried yn Nuw, coll-
asant ddedwyddwch am byth. Pan gollodd dyn ei ymddiried,
fe gollodd yntau yr un peth. Y mae y greadigaeth i lynu wrth
yr Arglwydd ymhob ystyr, — y mae ei bod a'i dedwyddwch hi
yn dibynu ar hyny. Y mae y greadigaeth naturiol o angen-
rheidrwydd yn gwneuthur hyn. Pe byddai iddi gilio yn y radd
leiaf, hi giliai i ddiddymdra. Ond fe roddodd yr Arglwydd ryw
gymaint oryddid i feddwl, — feall ef yilio hebgael ei ddiddymu,
ond nid heb farw am byth i ddedwyddwch. Nid oes gan y
greadigaeth naturiol ddim gallu i ymaflyd yn Nuw. Duw
sydd yn ymaflyd ynddi hi. Yr oedd Duw yn ymaflyd yn myd
y meddwl hefyd ; ond yr oedd gallu gan feddwl i ymaflyd
drachefn yn Nuw. Pan gollodd y meddwl ei afael drwy an-
ymddiried, fe syrthiodd i beth gwaeth na diddymdra, — i angau
tragwyddol, — yr hyn sydd yn annhraethol îs na diddymdra
tragywyddol.
966 Yr Arglwydd yn Fugail.
Y mae yn y greadigaeth rai coed nerthol yn gallu sefyll ar eu
gwreiddiau eu hunain heb bwyso ar ddiin ; ond y mae eraiU yn
dyner, yn egwan, fel yr eiddew ; hwy dyfant yn bur uchel, ond
nid heb rywbeth i bwyso arno. CyíTelyb i'r rhai yma ydyw
enaid dyn. Yr oedd yr Arglwydd wedi llunio colofn y
greadigaeth iddo gael nyddu o'i hamgylch, cyn ei lunio ef.
Fe gyrhaeddodd ben hono yn union. Fe roddodd golofn arall
iddo trwy wneuthur cyfamod âg ef. Yr oedd hono yn uno y
meidrol a'r anfeidrol â'u gilydd, — yn cysylltu Creawdwr a
chreadigaeth â'u gilydd. Yr oedd yma ddigon o le i'r enaid
ddringo am byth. Ond pan ollyngodd dyn ei afael,— pan
goUodd ef ei ymddiried, — fe gollodd ei fy wyd o ddedwyddwch
yr un foment. Tuag at ei gael yn hapus, y mae yn rhaid ei
gael i'r un lle yn ol. Ond y mae yn anmhosibl i'r planigyn
egwan ddringo i fyny colofn y greadigaeth at golofn yr hen gyf-
amod ; gan hyny dyma ras yn datguddio un arall iddo, wedi ei
sylfaenu, nid ar fryn uchel daioni at greadur, ond yn nyffryn
isel gras at bechadur. Y mae ei sylfaen hi ar y ddaear, yn y
dyn Crist lesu. Yr oedd gagendor mawr rhwng dyn a Duw yn
y boreu : gorchest oedd hi i Adda groesi gagendor o anfeidroldeb
er cael cyfamod i'w gynorthwyo ; ond yn Nghrist y mae yr
enaid yn ei groesi heb yn wybod iddo ei hun ymron. Y mae
Pren y bywyd, o amgylch pa un y mae y planigyn i nyddu,
wedi ei blanu yn yr un ardd a ni. Y mae yr enaid yn dechreu
trwy ymaflyd yn y dyn Crist lesu ; ond yn ddiarwybod bron, y
mae yn cael ei hun yn ymaflyd yn Nuw. Y mae tynerwch
calon yr Arglwydd lesu fel dyn yn sugno yr enaid ato ; ond
gydàg iddo ddyfod, y mae yn cael ei hun wedi croesi y gagendor
oddiwrth y creadur at y Creawdwr, — yn syllu ar dynerwch
calon Duw. Nid oes neb yn dyfod at y Tad ond trwy y Mab;
ac nid oes neb yn dyfod at y Mab, heb ddyfod trwy hyny at y
Tad. Y mae gweled y dyn Crist lesu yn plygu ei ben ar y
groes yn tynu sylw yr enaid ; ond gydâg iddo lonyddu i edrych
ar y weledigaeth, y mae yn gweled y Duw cadarn yno yn rhoddi
iawn. Fel hyn y mac ymddiried yn cael ei fagu drachefn yn
raynwes pechadur.
Meithriniad ymddiried ei grcadur ydyw pob peth a wnaeth
Duw erioed. Fe greodd greadur rhydd yn Eden ; — fe stamp-
Yr Arglwydd yn Fîigail. 967
iodd ddaioni ar ei dŷ ef ; — fe argraíTodd drugaredd o'i amgylch.
Yr oedd gallu tragywyddol i'w ddarllen yn sylfaeniad y tŷ ; —
yr oedd doethineb tragywyddol i'w ddarllen yn ycynllun; —
ond muriau noethion fuasai hynyna ; am hyny fe addurnodd y
tŷ à daioni tragywyddol. Yr oedd ê yn odidog o gadarn, — yn
odidog o gyfleus, — ac yn tra rhagori mewn godidogrwydd a
harddwch. Wedi gosod dyn yn y tŷ, fe ddywedodd wrtho, —
Myfì yw dy Dduw di : Os mynit ti wybod pa fath un ydwyfj
dyma fy nghymeriad wedi ei argraffu ar yr oll o'th amgylch.
Ond er y cyfan, fe gollodd dyn ei ymddiried ynddo ! Os oedd
mor anhawdd cael creadur i ymddiried yn Nuw, pa faint mwy
pechadur? Yr oedd yn rhaid cael rhywbeth annhraethol
gryfach na chreadigaeth i hyn, oblegid fe fethodd hono gadv/'r
creadur i ymddiried ; ond yr oedd yr Arglwydd wedi penderfynu
y mynai Efe ymddiried ei greadur. Os nad ydyw y palas a
gododd daioni yn magu ymddired ynddo, y mae Efe yn
rhwygo y llen i ddangos y palas y mae gras wedi ei ddarparu
ar ei fedr. Os nad oes dira a wnaed mewn aniser yn creu hyder
ynddo, y mae Efe yn agor dorau tragwyddoldeb i ddangos yr
hyn a wnaed yno er ei fwyn. Er ei arv/ain trwy balas creadig-
aeth, y mae efe fel Thomas yn parhau yn anghredadyn ; ond ei
gymeryd i ystafelloedd iachawdwriaeth, a dangos yr hyn a
wnaeth Duw yno, y mae yn methu dal allan yn hwy : —
" Fy Arglwydd a'm Duw,"— '' íy Alugail."
Fel yr oedd ymddiried yn angenrheidiol tuag at gael ded-
wyddwch, felly y mae i'r enaid weithredu ymddiried bob
moment yn angenrheidiol tuag at deimlo y dedwyddwch hwn.
A phryd bynag y mae y Cristion yn colli ei lawenydd, y mae
yn gwneuthur hyny oblegid ei fod yn edrych am dano ynddo
ei hun yn lle yn Nuw. Nid yw hyny ddim yn amgen na
cheisio gwneyd drwy gau y llygaid. Pob tro y byddai Dafydd
yn tynu ei olwg oddiar Dduw, yr oedd yntau yn cael ei syflyd ;
ond ni chlywn ni ddim o hono yn cwyno unwaith pan fydd ê
yn edrych i'r iawn fan am gysur. " Yr Arglwydd a'm gwrth-
ododd, a'm Harglwydd a'm hanghofiodd," meddai Sîon. Beth
oedd yn peri iddi feddwl hyny ì Wel, yr oedd hi ' wedi anghofio
Duw ddyddiau aneirif.' Pan aeth hi i edrych i'w mynwes ei
hun, hi feddyliodd yn union fod raynwes ei Duw yr un fath ;
968 Yr Arglwydd yn Ftigail.
ond gydâg iddi agor ei llygaid ar yr Haul, y mae ei enaid yn
oleu yn y fan. "A anghofia gwraig ei phlentyn sugno, fel na
thosturio wrth fab ei chroth ? íe, hwy a allant anghofio, eto
myfi nid anghofiaf di." Nid yw tynu cysur o'r Arglwydd ddim
yn groes i'r diwydrwydd y buom ni yn sôn am dano. Y mae y
saint yn llafurio i gyraedd llawn sicrwydd, — i wneuthur eu
galwedigaeth a'u hetholedigaeth yn sicr ; — nid i bwyso ar y
diwydrwydd sydd yn ei gwneuthur hi yn sicr, ond ar yr ethol-
edigaeth ei hun, — ar Dduw. Y mae y saint yn anghofio y
pethau o'r tu ol, — yn gadael eu gweithredoedd da, fel eu rhai
drwg, ac yn myned drwy yr oll at yr Arglwydd. Y mae yn
wir fod y rhai da yn eu canlyn hwynt i'r nefoedd ; ond nid
ydynt yn sail eu derbyniad yno, oblegid eu canlyn y maent,
mwy nag y maent yn sail eu cysur ar y ddaear.
2. Y mae gan y Cristion sylfaen hyder hefyd yn tarddu
oddiar brofiad. Y mae è wedi profi fod yr Arglwydd yn rasol.
Ond O ! mor dueddol i ameu flfyddlondeb ei Fugail y mae ! Ar
ol ei gynal am ddeugain mlynedd, y mae yn ofni wed'yn mai
yr unfed flwyddyn a deugain y derfydd am dano. Ar ol
gwneuthur peth mor fawr ag agor y Môr Coch o'i flaen, — ei
gario trwy hoU wersyllfaoedd yr anialwch, — ie, gwneuthur Sinai
danllyd yn Sion dawel iddo. Pan oedd y ddeddf yn melldithio
uwch ei ben, ac yntau bob moment yn disgwyl i gwmwl y
digofaint ymdywallt arno, fe ddaeth ei Fugail ymlaen, ac a
lefodd mor awdurdodol, — " Myfi yw diwedd y ddeddf," fel y
clybu yr ystorm ei lais, nes tawelu yn y fan. Fe wasgarodd y
cymylau oddiar ben yr hen Sinai, ac erbyn i'r Cristion edrych
i fyny, yr oedd Haul y Cyfiawnder yn tywynu yn ei lawn nerth
ar ochr y mynydd : aeth ymlaen oddiwrth ei odre dan redeg â
chalon lawen tua Chanaan, gan feddwl na bydd iddo ef byth
mwy ameu ffyddlondeb ei Fugail. Fe'i brathwyd ef ymhen
ychydig amser gan y seirfí" tanllyd, a meddyliodd eilwaith y
byddai efe farw, ond yn ei bocnau, fe godoJd ei olwg ryw
ddiwrnod tua chanol y gwersyll, a gwelai yno saríf bres ar
drostan uchel, a chydàg iddo gael cipolwg arni, fe deimlodd ei
hun yn iach yn y fan. Y mae ê wedi profi lawer gwaitn fod yr
Arglwydd yn rasol. Ond wedi ei gario fcl hyn i ymyl Canaan,
y mae yn ameu wed'yn fíyddlondeb ci Fugail. O blentyn
Yr Arglwydd yn Fugail. 969
Duw, os ydyw ef wedi dy gynal di am gymaint o amser, tybed
na phery Ef yn íTyddlawn am ryw flwyddyn neu ddwy ? ti
fyddi wedi gadael yr anialwch erbyn hyny. Yr wyt ti yn ofni
y gàd Efe di yn yr lorddonen sydd yn ymyl ; ond yn wir, y
mae hyny yn annhebyg iawn, ac yntau wedi agor y môr o'th
flaen di. Pe byddai yr lorddonen yn Uifo dros ei cheulanau,
nid yw hi ddim wedy'n i'w chymharu â'r môr yr wyt ti we Ji
dyfod trwyddo. Yr wyt ti wedi myned drwodd o farwolaeth i
fywyd : nid yw myned drwodd o amser i dragywyddoldeb yn
ddim mewn cymhariaeth i h^my.
Dyma ni yn gynuUeidfa o deithwyr : ni wyddom ni ddim am
y daith, ond yn unig am ei hyd hi. Y mae genym ryw flaen-
brawf yn ein meddwl ei bod hi yn dragywyddol. Y mae map
o'r byd a ddaw wedi ei gynllunio ar ein hysbryd ni : yr ydym
yn teimlo fod ein ffordd drwy ganol y byd hwnw ; — yr ydym oll
yn ymddiried mewn rhywbeth ar gyfer y daith. Ond beth
ydyw hwnw ? Ar ba beth y mae eich goglud chwi ? Rhyw
Iwybr bychan ydyw y byd hwn i'n harwain ni i brif-ffbrdd y
byd a ddaw. Ond y mae miloedd yn dechreu bod mewn eisiau
cyn darfod y llwybr byr yma : y mae eu holl ddarpariaeth hwynt
yn darfod cyn dechreu ar ff"ordd y byd a ddaw. Os mewn
cyfoeth yr ydwyt ti yn ymddiried, at gyfoeth y cei di fyned ;
ond, cofia, ti fyddi mewn eisiau tragywyddol. Os yn dy weith-
redoedd yr wyt ti yn meddwl ymddiried, atynt hwy y cei di
fyned ; ond, cofia, ti fyddi mewn eisiau. Pan y mae ymfudwyr
yn myned drosodd i America, y mae yno rywun cyn cychwyn
yn edrych dros yr oU sy ganddynt, rhag eu bod yn myned à
rhy fychan o gynhaliaeth i'r daith. Dyma gynulleidfa o
ymfudwyr i'r byd a ddaw : yr ydym ni oll ar y pier head ; — ni
wyddom ni ddim pa ddiwrnod y byddwn yn croesi. Ond O \
pa faint sydd yma y foment hon âg anfeidrol ry fychan i'r
daith. Pe croesit ti fel yr wyt ti yn awr, byddit mewn eisiau
tragywyddol. Nid oes genyt wisg y wlad ; — nid wyt ti yn
medru siarad gair o iaith Canaan ; — nid wyt wedi dysgu
ymborthi erioed ar y manna cuddiedig ; ond y mae oiit-fitting
warehouse, ystoría y byd a ddaw yn ymyl yn awr. Nid oes
ond eisiau i ti droi i mewn, y rr.ae y cwbl i'w gael, " heb arian
ac heb werth." Cael yr Arglwydd — ni bydd eisiau wedy'n : ni
970 Yr Arrjtwydd yn Bugail.
bydd arnat eisiau Tad i ofalu drosot, tra fydd Duw yn fyw ; —
dim eisiau brawd i gydymdeimlo â tbi, tra y bydd Immanuel
yn bod ; — dim eisiau ymborth, tra y bydd yr ỳd dan lywodraeth
Joseph. Y mae y '* ni bydd eisiau " yma yr un hyd a thra-
gwyddoldeb ei hunan.
[DyddMercher, Mai27, 1846.]
PREGETH LVIII.
LLWYDDIANT TRWY YR YSBRYD.
Zechariah iv. 6 :— '• Nid trwy lu, ac nid trwy nerth, ond trwy fy Ysbryd
medd Arglwydd y lluoedd."
^R^^ MAE dyn, wrth feddwl am unrhyw waith pwysig, yn
agored i ddau gamgymeriad ; y naill yn gyffredin
yn arwain i'r llali. Y cyntaf ydyw camgymeryd
ynghylch ei nerth ei hun, trwy dybio ei fod yn abl i wneuthur
mwy nag a all ; ond wedi i'w aflwyddiant ei ddwyn i deiml© ei
wendid, syrthia i'r ail gamsyniad, sef tybio fod y peth, am iddo
ef fethu ei gyflawni, yn gyfryw nas gall neb ei wneuthur.
Oherwydd dechreu mewn rhyfyg, y mae yn diweddu mewn
anobaith. Ni a gawn yn Moses siampl o'r ddau deimlad : y
waith gyntaf yr ymddangosodd i'w frodyr, nid oedd ganddo
amheuaeth am ei allu i'w gwaredu ; ond, wedi cael siomedigaeth
ynddo ei hun, erbyn yr ail dro, yr oedd fel pe buasai yn
anghredu y gallai Duw ei hunan eu gwaredu. Dygai ymlaen
y naill wrthddadl ar ol y llall yn erbyn myned, nes o'r diwedd
i ddigofaint yr Arglwydd enyn yn ei erbyn.
Yr oedd cenedl Israel yn amser y prophwyd hwn wedi syrthio
i'r ail gamgymeriad. Wedi i'w cais cyntaf i adeiladu y deml
gael ei ddyrysu, yr oedd rhywbeth tebyg i anobaith yradeiledid
hi byth wedi eu meddianu. Wedi i'rrhwystrau allanol oeddent
ar y ffordd gael eu symud, cyfodwyd Haggai a Zechariah i
symud y rhai tumewnol. Y mae Haggai, trwy chwilio i'w
gwrthddadleuon, yn dangos afresymoldeb eu gwaith yn oedi ; a
Uwyddodd i gael ganddynt ddechreu drachefn adeiladu y tŷ')
Ymhen dau fis, ar ei ol ef, dechreuodd Zechariah brophwydo.
972 Llwyddiant yr Ysbryd.
Yr hyn oedd yn ngolwg Zechariah oedd cael adfywiad ar
grefydd ysbrydol yn eu plith, — yr unig beth a sicrhäai barhad
eu hymdrech gyda chrefydd allanol. Y mae y prophwyd,
drwy amryw weledigaethau, yn calonogi y bobl gydâ'u gwaith.
Amcan y weledigaeth gyntaf, sef y gŵr a'r march coch yn
rhodio trwy y ddaear, oe Id dangos fod heddwch cyffredinol yn
teyrnasu, — y ddaear yn eistedd ac yn llonydd ; am hyny fod yr
adeg yn fanteisiol i'r Arglwydd gyflawni ei addewidion iddynt
hwy, ac iddynt hwythau fyned ymlaen gydà'i waith yntau.
Amcan yr ail weledigaeth, sef y pedwar corn yn cael eu tori
gan y pedwar saer, oedd dangos fod yr Arglwydd yn dinystrio
gallu ycenhedloedd oeddenfc wedi eugorthrymu hwynt. Amcan
y drydedd weledigaeth, sef mesur Jerusalem, oedd dangos y
byddai y geneci mor Hosog, fel y byddai raid eangu terfynau y
ddinas. Ac amcan y bedwaredd, sef Josua yn cael ei wisgo â
newid ddillad, oedd dangos, er mor isel oedd eu cyflwr fel
ceaedl, pan yn dychwefyd o'r caethiwed, eto y symudid ymaith
eu hanwiredd, ac y prydferthid hwynt fel yn y dyddiau gynt.
Yr oedd gweledigaeth y canwyllbren aur, y mae y testyn mewn
cysylltiad â hi, wedi ei bwriadu i ddangos prydferthwch yr
eglwys wedi ei hadferiad, ynghyd â'r modd y dygid hyn o
^mgylch ; ac y sicrheid ei barhad ef : " Nid trwy lu, ac nid trwy
nerth, ond trwy fy Ysbryd, medd Arglwydd y lluoedd."
Wrth Zorobabel y llefarwyd y testyn, nid i atal iddo falchîo,
— nid hyny oedd y pechod parod i'w amgylchu, — ond i'w atal i
Iwfrhau, a dywedyd, " Pwy ydwyf fi, fel y dygwn hyn o
amgylch ?" Y mae y rhwystrau yn fawrion, — y bobl yn
weiniaid ac yn dlodion ; — gwir, — ond naddigalona: fel yr oedd
y canwyllbren a welaist yn cael ei gadw i olcuo, nid gan law
dyn, ond gan olewydden ar bob tu iddo ; felfy y byddi dithau^
— " nid trwy lu, ac nid trwy nerth ;" mi gwblhaf fi y gwaith
sydd yn dy law, drwy fy Ysbryd, fel y gweli di y canwyllbren
yn cael ei gadw i oleuo gan yr olewydden.
Y gwirionedd, cynwysedig yn y testyn ydyw, fod sefydliad,
parhad, a chynydd crefydd yn y byd, yn ymddibynu ar
ddylanwad Ysbryd Duw.
I. Y mac y testyn yn awgrymu i ni fod tuedd mewn dynion
\ gysylltu llwyddiant crefydd à rhywbeth heblaw dylanwad
Llwyddiant trwy yr Yshryd. 973
Ysbryd Duw, ei fod i'w ddisgwyl trwy y llu a'r nerth. Gellir
cymeryd y llu a'r nerth am bob peth y disgwyhr llwyddìant
trwyddynt yn annibynol ar Ysbryd Duw.
1. Disgwyl trwy y llu a'r nerth, ydyw disgwyl llwyddiant
crefydd trwy ei chysyllfcu â mawredd allanol, ac â llywodraethau
gw'adol. Yr oedd mawredd felly yn perthyn i'r eglwys
luddewig ; perthynai y brenin, a holl fawrion y genedl, iddi :
rhai uchel felly fyddent yn gyífredin yn dwyn ymlaen bob
diwygiad ynddi ; am hyny nid rhyfedd oedd, yr edrychid gan y
bobl ar barchedigreth a llwyddiant crefydd fel yn ymddibynu
ar y dosbarth hwn. Gwneir hyn eto i raddau gormodol. Y
teimlad hwn ydyw y rheswm mawr paham yr ydys mor awyddus
i gysylltu crefydd â llywodraethau gwladol, er mwyn i fri yr
orsedd roddi bri ar grefydd. Y mae hyny yn gyffelyb fel pe
deuid â chanwyll i addurno goleuni yr haul. Nid wyf yn
dywedyd nas gall crefydd Iwyddo, er y cysylltiad hwn ; ond nid
oblegid y cysylltiad y mae hi ya llwyddo. Y mae gan y rhai
sydd mewn sefyllfaoedd parchus fantais i fod yn fendith i'r byd;
ond pe byddai holl broffeswyr crefydd yn dywysogion, byddent
mor analluog i amlhau gwir grefyddwyr, am eu bod felly, a
phe buasent yn cardota eu bara. Nid yw crefydd yn diystyru
sefyllfaoedd anrhydeddus, nac ychwaifch yn cymeradwyo rhai
isel. Nid yw hi yn derbyn dim o'i phrydferthwch gan yr
uchelaf, ac nis gall yr iselaf lychwino dim ar ei thegwch hi.
Fel yr haul, y mae hi yn ddisglaer yn ei goleuni ei hun. Nid
yw mawredd bydol yn ddim tuag atei Uwyddiant. "Nid trwy
lu, ac nid trwy nerth."
2. Disgwyl Irwy y Uu a'r nerth ydyw disgwyl ei llwyddiant
hi drwy'r gwirionedd yn annibynol ar Ysbryd Duw, a thrwy
ddull medrus, cywrain, o draethu y gwirionedd hwnw. Y mae
y gwirionedd yn fuddiol i argyhoeddi, i geryddu,i hyíforddi ; —
y mae yn gleddyf i ysgar, — yn ordd i ddryllio, — yn dân i buro.
Y raae ei amrywiaeth yn cyfateb i amrywiaeth diderfyn angen
mynwes dyn. Y mae ynddo i bawb ei gyfran : i'r caled,
anystyriol, y mae yma daranau Sinai ; — i'r gwan, tarfedig, y
mae yma wHth Hermon a Sîon ; i ddoethion y ddaear, y mae
yma ddyfnion bethau Duw. Y mae yma hefyd air digon agos
at, a hawdd ei ddeall gan ynfydion. Nid rhaid iddo wrth
974 Llwyddiaiit trwy yr Ysbryd.
lythyrau canmoliaeth at neb, oblegid y mae tyst o'i blaid ymhob
mynwes. Llefarwyd ef gan Ysbryd Duw. Ei lyfr Ef ydy w. Y
mae ei ddelw arno oll. Gwirionedd Duw ydyw ei wirienedd ef.
Sancteiddrwydd Duw ydyw ei burdeb ef. A gras Duw ydyw y
daioni sydd yn tanbeidio ar bob dalen o hono. Dim ond cael
cyhoeddi cynwys y llyfr yn fedrus i'r byd, nid dieithr a fuasai
disgwyl am Iwyddiant. Cael rhyw un a fuasai yn deall y
gwirionedd fel y mae yn yr lesu, — a fuasai fel Paul yn deall
beth oedd y gwirionedd, — a wnai y tro i'r amgylchiadau ymhob
lle ; ac fel yntau, a allasai ei gyflwyno gerbron yn y dull
mwyaf manteisiol iddo wneuthur argraff dda, — a allasai orfodi
amheuwyr philosophaidd y byd i wrandaw arno, — a allasai beri
i benau coronog welwi ger ei fron, — a allasai eniU sylw a pharch
paganiaid nes iddynt dybio ei fod yn Dduw : dyn a allasai droi
pob peth yn fanteisiol i'w amcan, — a allasai gael testyn pregeth
oddiwrth hen allor ar yr heol, — a allasai beri i ysgydwad y
gadwen oedd am dano wneuthur i galon barnwr grynu, — a allasai
droi Ihnellau o eiddo hen fardd llygredig yn foddion i argyhoeddi»
— a allasai wneuthur defnydd o ífrae oedd rhwng sectau cref-
yddol i gyraedd amcan da: dyn a allasai draethu holl gyngor
Duw ; taranu fel Boanerges ; — efengylu fel Barnabas, Mab
diddanwch ; — íîlamio mewn zel fel Pedr ; — a thraethu ar foesol-
deb crefydd fel lago : — traethu yr holl bethau buddiol ; — sefyll
yn nhywyllwch Sinai, ac ar ddyfFryn Saron hefyd ; gwasgar y
mellt i frawychu, ac wylo y dagrau i doddi. Gallesid disgwyl
pe cawsid dyn fel hyn, y buasai y llwyddiant yn sicr, ac yn
canlyn yn angenrheidiol oddiar gyfaddasrwydd a rhagoriaeth y
moddion. Ond nid ydyw y cwbl ond y llu a'r nerth. Ac ni
buasai neb parotach i gydnabod hyny na'r Apostol Paul ei
hunan, Er bod y dyn yn ddyn Duw, — yn traethu geiriau Duw,
— os gadewir ef iddo ei hun, ni bydd ond íel un yn curo yr
awyr, — ni bydd y mellt yn Iladd neb, — y dagrau yn toddi neb —
yrymresymu ynargyhoeddi neb — yr areithio yn perswadio neb
— y zel yn difa neb ond efe ei hun ; oblegid nerthol trwy Dduw
ydyw yr oíîerynau i fwrw cestyll i'r llawr. " Pan ollyngych dy
/sbryd y creir hwynt, ac yr adnewyddi wyneb y ddaear."
Nid anmhriodol, mewn cysylltiad â hyn, a tyddai dywedyd
gair am un dull arall sydd o ddisgwyl drwy y llu a'r nerth, er
Llwyddiant trwy yr Yshryd. ■ 975
ei fod, dybygid, ar yr olwg allanol, jn bob peth ond hyny, sef
ymddibynu am y llwyddiant ar waeledd yr oíferyn, fel pe na
buasai dim yn eisiau tuag at fynediad y deyrnas ymlaen, ond
cael yr oíFerynau mwyaf anghymwys ynddynt eu hunain at
ddwyn hyny o amgylch. Nid ydyw Ysbryd Duw o angen-
rheidrwydd yn gysylltiedig â'r dosbarth iselaf, mwy nag y mae
â'r uchaf. Fe all Efe beríTeithio moliant o enau plant, a gwar-
adwyddo doethion y byd drwy ei íTol bethau ef ; ond eithriad
ydyw ei fod yn gwneuthur hyny, a'r diben mewn golwg wrth
ei wneuthur ydyw -dangos na bydd arno ddiífyg offerynau i
gario ei waith ymlaen, — pe tawai y plant, y llefai y ceryg.
Ond nid yr hyn a all Duw ydyw ein rheol ni i ddisgwyl ; ond
yr hyn a addawodd, a'r hyn y mae yn arfer ei wneuthur. Y
mae weithiau yij gwneuthur pethau rhyfedd drwy bethau
gwael, fel yr oedd gwyrthiau weithiau yn caeì eu cyflawni ; ond
nid oes gan neb sail i ddisgwyl gwyrth ond mewn amgylchiad
nad oes modd cael y peth yr un ffordd arall. Mewn anialwch,
lle nid oes âr na medi, gellir disgwyl bara yn wyrthiol ; ond
buasai yn demtio yr Arglwydd wneuthur yr un peth yn
Nghanaan ag oedd yn arwydd o ymddiried ynddo yn yr
anialwch. Fe wna yr Arglwydd ymwared mawr trwy un an-
enwog, megis Gideon, weithiau ; ond yn gyffredin trwy Moses,
yr enwocaf yn ei oes, y bydd yn gweithio ; — trwy Samson, y
cryfaf yn ei ddydd, y bydd yn gwaredu ; — trwy Daniel, gŵr
mawr yn y llys, y caiíf y genedl ddyfod o Babilon. Ar Bezaleel,
y cywreiniaf yn y gwersyll, y disgyn Ysbryd Duw. Trwy
Solomon, y doethaf o ddynion, yr adeiledir y deml gyntaf :
Zorobabel, tywysog yn Israel, a fydd i ofalu am yr ail ; eto
" nid trwy lu, ac nid trwy nerth, ond trwy fy Ysbryd, medd
Arglwydd ^ lluoedd." Gellir ceríio y testyn ar rai adeiladau
gwych, lle y mae rhodres a rhwysgfawredd o amgylch y gwas-
anaeth dwyfol, " Nid trwy lu, ac nid trwy nerth." Gellir ei
ysgrifenu ar rai pulpudau sydd wedi eu haddurno â phob gwy-
bodaeth, " Xid trwy lu ac nid trwy nerth. Gellir ei ysgiifenu
hefyd ar eraiU sydd ymron yn gwbl amddifad o fawredd allanol,
ac o bob gwybodaeth : " Nid trwy lu ac nid trwy nerth."
II. Ni a enwn rai pethau i brofì mai trwy yr Ysbryd y mae y
gwaith mawr i fyned ymlaen.
976 Lhvyddiant trwy yr Ysbryd.
I. Y mae mawredd yr hyn sydd i gael ei wneuthur vn
ddigon o brawf na all neb llai na Duw ei gyflawni. Y mae y
gwaith mor fawr, fel nas gallwn synio yn gywir am dano, ond
trwy gymorth cymhariaethau. Gallwn gael tair neillduol
mewn cysylltiad â chenedl Israel, a fyddant yn fanteisiol i
hyny : ei gwaredigaeth o'r Aipht, ei gwaredigaeth o Babilon,
ac adeiladu yr ail deml. Pan yn yr Aipht, yr oeddent o dan
iau haiarnaidd y brenin mwyaf gaUuog ar wyneb y ddaear : pan
yn Babilon, yr oeddent o dan lywodraeth meistr y byd. Yr
oeddent hwythau yn y ddau amgylchiad yn unig, heb ail i'w
cyfodi, Pan oedd eisiau adeiladu y deml, nid oedd ganddynt
ewyllys na gallu i hyny. Wrth edrych gerllaw iddynt yr oedd
cymaint o bethau eraill eisiau eu gwneyd yn gyntaf: wrth
edrych o'u hamgylch, yr oedd cymaint o rwystrau ar y ffordd.
Buasent yn yr Aipht eto, er doethineb Moses, a hyawdledd
Aaron, oni ba'i i'r Arglwydd ddisgyn i'w gwaredu. Buasent
yn Babilon eto, er cael Daniel yn ddadleuwr drostynt yn y
llys, oni ba'i i'r Arglwydd gyffwrdd â chalon Cyrus. Buasai y
deml heb ei hadeiladu eto, er Haggai a Zechariah, oni ba'i i
Ysbryd yr Arglwydd gyffwrdd â chalonau y bobl. Y mae yr
iau y mae pechaduriaid dani yn fwy haiarnaidd ac anhawdd ei
thori nag un Pharaoh neu Nebuchodonosor. Ni thycia
doethineb Moses na hyawdledd Aaron, ddim i hyny ; oni
ddaw Arglwydd y lluoedd i'n gwaredu, ar ein gwàrau y bydd
hi byth. Yr ydym yn fwy anmharod a diallu i adeiladu y
deml, nag oedd Israel wedi dychwelyd o'r caethiwed : heb ei
chodi y bydd hi yn dragywydd, os na ddaw Ysbryd yr
Arglwydd at y gorchwyl. Y mae dwyn unrhyw beth sydd
wedi dyrysu yn ol i drefn yn gofyn mwy o nerth a medr nag
oedd yn eisiau i'w wneuthur i ddechreu. Yr oedd dwyn Israel
o'r Aipht yn fwy gorchwyl na dwyn Abraham o Ur y Caldeaid
i ddechreu. Yr oedd codi yr ail deml ar adfeilion y gyntaf yn
fwy gorchwyl na gwneyd y gyntaf. Y mae adgyfodi dyn
marw yn fwy peth na chreu dyn o l ridd y ddaear. Y mae
trefnu byd wedi dyrysu yn fwy gorchwyl na gwneyd byd i
ddechreu. Byd wedi dyrysu ydyw dyn. . AdfeiHon hen deml
ydyw mynwes dyn. Y mae yr ysbryd sy mewn dyn yn
gorphwys mewn raarwolaeth. Y mae yn rhaid cael Creawdwr
Llwyddiant triüy yr Ysbryd. 977
i drefnu byd wedi dyrysu. Y mae yn rhaid cael yr Hwn a
anadloid fywyd i enaid, i ddechreu adfywio enaid marw. Pe
cymerech y cymhariaethau sydd yn y Bibl i ddangos cyflwr
dyn, eu hiaith oll ydyw, " Y mae yn rhaid cael Duw yma."
Dyna ddyffryn llawa o esgyrn sychion ; — rhodiwch yn eu
pUth ; — ni ellwch lai na theimlo, Y mae yn rhaid cael Duw at
j rhai hyn. Edrychwch ar y dyrfa yna sydd wedi eu geni yn
ddall ; — onid hyny fydd eich teimlad, Y niae yn rhaid cael
Goleuni y byd yma. Ewch i blith y gwrthryfelwyr yna sydd
yn beiddio y nefoedd, — yn rhedeg yn y gwddf i'r Brenin
tragwyddo), chwi a deimlwch yn y fan fod yn rhaid cael
rhagorol fawredd ei nerth Ef i'w darostwng hwynt. Y mae
rhai gorchwylion mor fawrion mewn gwlad, nad oes neb yn
disgwyl eu gweled yn cael eu cyflawni, os na chymer y
Llywodraeth hwynt mewn llaw. Y mae gwaith mor fawr i'w
wneuthur ar dy fynwes di, nad oes gobaith ei weled byth wedi
ei gyflawni, os na chymer y Uywodraeth ddwyfol — y Brenin
tragywyddol, — ef yn ei law ei hun. " Trwy fy Ysbryd, medd
Arglwydd y lluoedd."
2. Y mae cyferbynu yr hyn sydd yn cael ei wneuthur â'r
moddíon sydd yn dwyn hyny o amgylch, yn ddigon i brofi fod
yno rywbeth o'r golwg — Uais mewn llais, — oblegid y mae yr
eff'eithiau yn fwy na'r achosion sydd yn ein golwg ni ; am hyny
rhaid bod rhyw achos o'r golwg sydd yn eu cynyrchu. Nis
gall yr un eíFaith fod yn fwy na'i achos, rnwy nag y gall y dwfr
esgyn yn uwch na'i darddiad. Fe all dyn à rhyw wirionedd
yn llosgi fel tàn yn ei ysbryd ef ei hun, gael cryn ddylanwad ar
ei gyd-ddynion dros amser. Pe deuai seryddwr yma i draethu
yn fedrus am y sêr, gallai beri i lawer un na sylwodd erioed
arnynt syllu ar y íFurfafen am ychydig nosweithiau ; ond cyn
pen mis, byddai y sêr gymaint o feddwl y gwrandawyr ag
erioed. Gallai un wedi teithio gwlad dramor, drwy ei disgrifio
yn fedrus, beri fod cryn son am dani yn yr ardal am rai
wythnosau ; ond cyn pen blwyddyn, byddai pob cof am dani
wedi ei ddileu oddiar feddyliau y trigolion. Pe darlunid yn
fedrus echryslonrwydd rhyw fai y mae dyn yn byw ynddo,
gallai hyny beri iddo ei adael am rai misoedd ; ond gweh'r et
eilwa'th yn ymdrybaeddu ynddo. Nid ydyw yr eífeithiau yn
B4
978 Llwyddiant trwy yr Ysbryd.
ddim mwy na'r achosion. Ond dyna ryw un yn traethu am
fyd a ddaw wrth bobl na feddyliodd erioedd am y byd hwnw; —
y maent o'r ddaear yn ddaearol, — hi ydyw eu cartref, — cartref
eu cyrfiF, a chartref eu meddyHau ; ond o'r pryd hwnw allan,
y mae'r ddaear yn colH ei dylanwad arnynt, — eu gofal mawr yn
awr ydyw gwneyd eu hunain yn deilwng o'r byd hwnw ; ac
nid am fis, neu am flwyddyn, y mae eu zel at hyny yn parhau,
ond tra y byddant ar y ddaear. Paham y mae canlyniadau y
siarad yna mor wahanol i'r cyntaf? Y mae rhywbeth o'r
golwg gydâ hwiiyna. Dyna ddyn dieithr yn dyfod i Corinth i
draethu am ddrwg eu calonau a'u bucheddau, am yr
eilun-addoliaeth, yr anHadrwydd, a'r meddwdod, oeddent yn y
golwg, ac am yr uffern o drueni oedd o'r golwg : ei gymeryd i
fyny a wnant am eu henlHbio ; nage, ond taflu yr eilunod i'r
wâdd ac i'r ystlumod, — cilio ymheU oddiwrth yr anlladrwydd
a'r meddwdod, a golchi eu calonau yn y ffynon oedd wedi ei
hagoryd i bechod ac aflendid ; ac os gofyn neb pa sut y
cynyrchwyd efîeithiau mor ryfedd, yr ateb fydd, " Trwy fy
Ysbryd, medd Arglwydd y Huoedd."
3. Y mae sylwi ar ganlyniadau pob ymdrech gydâ
gwaith yr Arglwydd yn profì yr un peth, sef mai trwy yr
Ysbryd y mae yn myned ymlaen. Y rheol ydyw fod pethau
yn eíTeithio ar ddynion, naill ai yn ol eu perthynas â hwynt,
neu yn ol medr y neb fydd yn eu cyflwyno i sylw. Pe
gwaeddai plentyn, mewn iaith doredig, fod tŷ un o honoch yn
myned ar dân, byddai y berthynas rhyngoch â'r gwirionedd yn
eich rhwymo i wrandaw, heb roddi moment o sylw i'r oíîeryn.
Pe deuai areithiwr medrus, fel areithiwr mawr Athen, i siarad
ar ryw bwnc lled annerbyniel genych,gallai trwy ei hyawdledd
orfodi sylw ato. Ond a ydyw yr efengyl yn tynu sylw yn yr
un dull ? A ydyw hi yn cael sylw yn gyfartal i bwysigrwydd
a pherthynas ei gwirioneddau hi, neu yn gyfartal i fedr y neb
fydd yn ei thraethu hi ì A ydyw y dyn oedd yn brawychu
wrth glywed fod ei dỳ yn myned ar dân, ddim yn haner
gwallgof wrth glywed fod ei enaid yn agored i dân tragywyddol.?
Na, y mae yn ccllwair wrth glywcd yr ail beth, er ei fod yn
crynu wrth glywed y cyntaf. Yr areithiwr, meddir, oedd heb
fod yn hyawdl, — y siaradwr oedd yn anfedrus, — feallai mai ê ;
Ll-wyddianí trwy yr Ysbryd. 979
ond ai nid oedd perthynas y gwirionedd â'r gwrandawyr yn
ddigon i dynu sylw yn annibynol ar y dull y cyflwynid ef i sylw.
Dyna Noah yn pregethu atn gant ac ugain mlynedd wirionedd
raor bwysig, fel nad oedd dim yn bwysig ond efe : Dyna Lot
yn traethu wrth ei ddawon wirionedd o gymaint gwerth a'u
bywyd : feallai nad oedd yr un o honynt yn ŵr ymadroddus,
ond oni ddylasai y gwirionedd ei hun gael sylw ? Eto ni ddarfu
dim cymaint ag uii mewn byd cyfan goeho Noah. Yr oedd
dawon Lot yn ei wawdio. Rhoddwch y gwirionedd pwysig yn
ngenau yr areithwyr hyawdl, ac ymha le y ceir rhai mwy ym-
adroddus nag Esay a Jeremiah. Anfoner y naili i waeddi fod
pob Cíiawd yn wellt, a hoU odidawgrwydd dyn fel blodeuyn y
glaswelltyn : anfoner y Uall i redeg ar hyd heolydd Jerusalem
i ddywedyd fod yr Arglwydd yn myned i ddinystrio y Ue, oni
wellâent eu ffyrdd : yr holl effaith a gâ pregeth y cyntaf fydd
brasàu calonau y gwrandawyr, a'r effaith a gâ pregcth yr ail
fydd peri iddynt daflu y pregethwr i'r daeardy. Edrychwch
eto ar yr un un mewn gwahanol leoedd : — Paul yn ymresymu
gyda holl fedr ei feddwl galluog, coethedig, yn Athen, ond y
mae y philosophyddion yn myned o Areopagus dan ei enllibio :
dyna yr un gwr yn pregethu yn Corinth, a'r bobl yn myned o'r
odfa dan wylo. Edrychwch eto ; — dyna rywun anllythyrenog,
yn dryllio rheolau iaith bob brawddeg, ond y mae pob brawddeg
yn dryllio calonau. Dyna rywun arall, a'i feddwl yn goeth, a'i
eiriau yn gymeradwy, ond y maent yn disgyn fel iâ ar y bobl,
tra y mae geiriau y cyntaf fel tân ar eu cydwybodau. A phaham
y mynychwn ni esiamplau ì Dyna Fab Duw ei Hun, — ac ni
lefarodd dyn erioed fel Efe : y mae gonestrwydd a thynerwch
wedi cydgyfarfod ynddo ; mewn gair y mae yn bregethwr per-
flaith ; eto fe lefarodd yn ofer, — fe dreuliodd ei nerth am ddim.
Dyna Pedr yn cyhoeddi gwirionedd llawer mwy croes i
chwaeth y bobl, ac yn Ilawer mwy anfedrus gydâ hyny na'r
lesu, eto y mae miloedd yn credu. Ond yr esboniad ar y
petliau hyn oll ydyw : — "Nid trwy lu, ac nid trwy nerth, ond
trwy fy Ysbryd, medd yr Arglwydd."
III. Y dull y mae y dylanwad bwn o eiddo yr Ysbryd yn
gwneyd y gwaith, sef trwy foddion. Yr oedd saith bibell y
canwyllbren yn Ilosgi yn ddisglaer ; ond o'r ddwy olewyddcn
980 Llwyddiant trti))' yr Ysbryd.
oeddent gerllaw iddynt 3'r oedd yr olew euraid i hyny yn
dyfod. Y ddwy olewydden hyn oedd Zorobabel a Josua ; y
naill yn ben tŷ Dafydd, a'r llall yn ben tŷ Aaron : ac esboniad
ar y weledigaeth oedd y testyn : — " Nid trwy lu, ac nid trwy
nerth." Arglwydd yr holl ddaear oedd yn cadw'r canwyll-
brenau i oleuo, trwy y ddwy olewydden, hyny yw, trwy y
moddion naturiol. Y tywysog a'r archoffeiriad oedd y ddau
debycaf yn y wlad i ddwyn o amgylch y gwaith ; felly trwy y
ddau yna yr oedd Ysbryd Duw yn cwblhau y gorchwyl. Felly
eto, er mai trwy yr Ysbryd yr ä y gwaith ymlaen, — trwy fodd-
ion y mae yr Ysbryd yn gweithio, — trwy y gair. Nid oes cys-
ylltiad anwahanol rhwng yr Ysbryd â'r gair mwy nag oedd rhwng
yr Arglwydd â'r deml gynt. Er mai yn y deml y byddai Jehofah
yn arfer amlygu ei ewyllys, eto nid oedd wedi rhwymo ei Hun
i wneuthur hyny i bawb, nac i neb bob amser. Felly eto,
gwynt yn chwythu lle y myno ydyw dylanwad Ysbryd Duw.
Nid yw y moddion yn rhoddi yr Ysbryd dan ddim rhwymau ;
yn hytrach, y deml ydyw y gair, sef y man cyfreithlawn i ni
ddisgwyl i'r gogoniant dwyfol ddyfod i'n toi ni. Mor afresym-
ol fuasai cly wed IsraeUad yn dywedyd ei fod yn disgwyl clywed
gair oddiwrth yr Arglwydd, ag yntau yn byw yn Beerseba, heb
fyned i Jerusalem unwaith yn y fìwyddyn, yr unig fan cyfreith-
lawn i ddisgwyl : mor afresymol a hyny fuasai clywed un arall
oedd yn byw yn Jerusalem yn dywedyd ei fod yntau yn dis-
gwyl gair oddiwrth Dduw, — ei fod yn myned i'r deml bob dydd;
ond yn myned yno heb yr un aberth, — heb fod dim a fynai â'r
ofFeiriad. Tebyg i hynyna ydyw y dull y mae llawer yn pro-
íTcsu disgwyl wrth Ysbryd yr Arglwydd. / maent yn byw yn
Beerseba, yn bell o'r fan y mae'r gogoniant yn arfer ymddang-
os ; neu, os ydynt yn dyfod i'r cysegr, y maent yn dyfod yno
heb yr un aberth, — heb fod dim a fynont â'r oíTeiriad. Nid
dieithr yw nad oes na llais na neb yn ateb. Y mae yn wirion-
edd gwerthfawr ein bod ni yn gwybod pa le i ddisgwyl. Y mae
y morwr yn gwybod pa le y mae y trade ■wind yn chwythu; o
fewn i ryw latitiide penodol yn unig y mae yn wiw disgwyl am
dano. Nid ydyw bob amser yr un mor nerthol yn y fan hono;
ond yno y bydd yn wiw disgwyl am dano. Felly, nid yw y
gwynt nefol hwn ddim yn chwythu ond o fewn i ryw derfynau
Llwyddiant truj yr Ysbryd. 981
penodol ; a phan y byddwch chwi yn ymwneyd â moddion gras
yn y dull a enwyd, yr ydych o fewn i latitude y gwynt, — y
íîordd y mae yn arfer ccrdded.
IV. Y mae yma awgrymiad i ni hefyd ani nerth y gwrtli-
ddrych sydd yn myned â'r gwaith ymlaen : '' Fy Ysbryd, medd
Arglwydd y lluoedd." Cysylltir y gair " iluoedd " weithiau ûg
enw yr Arglwydd i ddangos ei fawredd a'i nerth. "Y mae
Arglwydd y lluoedd gydâ ni ; y mae Duw Jacob yn amddiffyn-
fa i ni." Bryd arall i ddangos na bydd dim gwrthwynebiadau
yn alluog i'w rwystro i gyflawni ei amcan : '' Arglwydd y llu-
oedd " ydyw ; y mae pob liu at ei alwad. Gan mai Ysbryd
ydyw, gall fyned i mewn i fynwes Cyrus heb yn wybod iddo-
Gan mai Ysbryd Arglwydd y lluoedd ydyw, y mae digon o rym
yn perthyn iddo i sicrhau ei Iwyddiant. Pe cawsem ni olwg
ar y greadigaeth y dydd cyntaf, a phe gofynasid i ni, A ellir
gwneyd rhywbeth o fyd fel hwn ? yr ateb fuasai, Na, y mae
hyny yn anmhosibl : nid oes yma ond íryblith terfysglyd, —
tywyllwch caddugawl ; — nid oes yma fywyd na phrydferthwch;
a phe buasai yma fywyd, nid oes yma ddim i'w gynal : diau
mai yn ofer y crewyd y byd hwn. Cyn penderfynu hyny,
dychwelwch i'w weled ymhen chwe' div/rnod, i edrych a fydd
dim gwahaniaeth ynddo. Gwahaniaeth ! oes ; y mae yn
anhygoel mai dyma lle y bum. chwe' diwrnod yn ol. O mor
brydferth ydyw y ffurfafen yna, a'i lampau tanbaid ! Mor ar-
dderchog ydyw y mòr mawr, llydan, yna, a'i ymlusgiaid heb
rifedi ! Mor baradwysaidd ei gwedd ydyw y ddaear ! coed
ffrwythlawn yn ei haddurno ; carped amr>liw yn gorchuddio
ei hwyneb, anifeiliaid heb rifedi yn prancio yn nwyfus ar hyd
ei dolydd hi ; ei hawyr hi yn llawn o beraroglau y blodau, ac
o fiwsig y goedwig, a dyn yn rhodio fel brenin ar hyd-ddi.
Beth a wnaeth gyfnewidiad mor fawr mewn can lleied o amser?
Ysbryd Arglwydd y lluoedd. Pa sawl mynwes sydd yma yn
awr fel y byd y dydd cyntaf ? Nid oes yna na goleu na threfn,
na phrydferthwch na bywyd ; ond fe ddichon Ysbryd Duw.
Ysbryd "Arglwydd y lluoedd ydyw."
I. Gwelwn mor werthfawr i ni ydyw bod yGweithiwr mawr
yn un sydd yn bresenol ymhob man, ac ymhob oes. Nid trwy
Paul, — nid trwy Apolos, — nid trwy ddynion, ond trwy Dduw.
982 L Iwy ddia nt ti'wy yr Ysbrya.
Y mae hiraeth ar eich calonau am lawer a welsoch,— yr ydych
yn galaru am na chwech weled eu hwyneb mwy yn y cnawd, —
yr oeddent yn eich golwg fel angylion Duw. Ireiddiwyd eich
ysbryd drwyddynt lawer tro; ond nid oeddent ond y bibell,.
trwy yr hon yr oedd yr olew euraid yn dyfod. Y mae rhai o'r
pibellau wedi eu symud, ond y mae yr olew heb ymadael â'r
byd eto. Y mae y gwaith heb ei orphen, ond y mae y Gweith
iwr heb ymadael. Y mae Paul wedi ymadael, — lle Apolos yn
wâg, — y rhai a dybid eu bod yn golofnau wedi disgyn i'r tedd ;
ond y mae Trefnwr y byd heb ei adael eto.
2. Gan mai trwy yr Ysbryd y mae y gwaith i fyned ymlaen,
na adawn lonydd iddo, na dydd na nos. Prophwydwn tua'r
gwynt. A ydym ni ddim wedi ymfoddloni ar gael Ezeciel i
ganol y dyfíryn, heb gael y gwynt? — ar gael y pibellau yn eu
Ue, heb gael yr olew euraid trwyddynt .'' — ar gael gwas y pro-
phwyd, heb gael y Prophwyd ei Hun ì Yi ydym ni yn dechreu
yn aml yn y pen chwithig i'r gadwen. Yn llyfr Hosea yr ydym
yn cael fod yr Arglwydd "yn gwrandaw ar y nefoedd ; a'r nef-
oedd yn gwrandaw ar y ddaear ; a"r ddaear yn gwrandaw ar yr
ŷd, a'r gwin, a'r olew ; a hwythau drachefn yn gwrandaw ar
Jezreel," sef pobl yr Arglwydd. Ond yr oedd Jezreel wedi bod
yn gyntaf yn gofyn i Dduw ; wedi hyny yr oedd pob peth yn
gofyn am genad i'w gwasanaethu. Pe ceid ninau i ddechreu
yn y pen iawn i'r gadwen, ceid y naill beth i wrandaw ar y llall
yn dra buan : byddai yr Ysbryd yn gwrandaw ar y gair, y gair
ar y galon ; y gair yn llaw Ysbryd Duw yn trin hono. Yr oedd
ar Franklin eisiau cael y fellten o'r cwmwl : i hyny fe anfonodd
rywbeth i fyny i'r cwmwl : yr oedd llinyn o'i law ef yn gysyllt-
edig â'r hyn a anfonwyd i fyny, a chydag i hwnw gyffwrdd â'r
cwmwl, fc ddisgynodd y fellten, a bu bron iddi ei ladd ef. Mae
yn ofnus mai ein difíyg ni ydyw difíyg rhywbeth i gyflwrdd â'r
cwniwl. Pe yr elai gweddi i fyny i gartref y tân, fe disgyna^
yn amlach i'n plith ni.
3. Gan mai trwy yr Ysbryd y mae y gwailh yn myned ymlaen,
mor afresymol ydyw ei wrthwynebu. Yr oedd ar Israel eisiau
gwaredigaeth gynt, er hyny yr oeddent yn codi yn erbyn y
gwaredwr. Ni fynent mo jMosls. Gwell yw gwrthwynebu
pawb na gwrthwynebu yr Ysbryd.
[Adysgritìwyd. Awst 20. 1857 .]
PENOD LIX.
GALLU A GRAS YN SICRHAU CADWEDIGAETH.
SephaniAH III. 17 :— •■ Yr Arglwydd dy Dduw yu dy ganol di sydd
gadarn : efe a achub, efe a lawenycha o'th blegid gaa lawenydd ; efe a
lotiydda yn ei gariad, efe a ymddigrifa ynot dan ganu."
f^ ^^ RTH sylwi ar hanes prophwydi Israel, ni a welwn fod
iyA^a llawer o honynt yn gydoeswyr. Yr oedd Esaiah,
Bgafflil Hosea, Amos, a Michah, yn prophwydo yn yr un
tymor. Yr oedd Jeremiah a Sephaniah hefyd am dymor yn
gydlafurwyr ; ac felly yr oedd Haggai aZechariah. Yr oedd yn
hyn brawf o ddaioni yr Arglwydd at y genedl hon. Nid ydoedd
y dosbarth hwn o weision yn cael eu hanfon at Israel, ond pan
y byddai wedi dyfod yn gyfiawnder am.ser arnynt, — yn fath o
crísù, — mesur yr anwiredd argael ei gyfìawni ; a rhaid ydoedd
naill ai ymostwng yn ddirfawr o'i blegid, neu ynte dioddef y
farn o'i herwydd. Ond cyn ty wallt hono, yr oedd yr Arglwydd,
yn ei ras, yn gwne^-d un ymdrech mawr i gael gan y bobl ym-
ostwng ; ac i hyny yn anfon atynt amryw o'i weision y pro-
phwydi ar yr un pryd. Felly ni a gawn eu holl ysgrifeniadau
yn cyfeirio at bechodau mawrion, yn bygwth barnau mawrion
o'u herwydd ; ond bron heb eithriad yn diweddu gydag addew-
idion mawrion.
Nis gallwn ddarllen ysgrifeniadau y prophwydi heb deimlo
mai parotoad at Sabbath ydyw holl derfysg y ddaear; oblegid
cyn i'r pin ysgrifenu gael ei roddi o'u llaw, y maent yn darlunio
tawelwch mawr ar ol ystorm. Y mae Esaiah yn dechreu gyda'r
farn a'r dinystr ; ond yn diweddu gydag eangder a gogoniant
teynias y Messiah. Y mae Jeremiah, er dechrcu â'i ben yn
984 Gallu a gras yn sicrhaii cadwedigaet .
ddyfroedd, a'i lygaid yn ffynhonau o ddagrau, am laddeiigion
merch ei bobl, yn diweddu gydâ chwymp y gelynion, a gwared-
igaeth ei frodyr. Y mae Ezeciel, er dechreu gydâ thrychineby
farn, a dinystr y deml, yn diweddu gydâg adferiad pobpeth, —
Jerusalem newydd, — teml newydd. Ac y maent oll yn gyffelyb
hyd at loan, yr olaf o honynt. Y mae yntau wedi seinio udgyrn
y barnau, a thywallt phiolau y digofaint yn nechreu ei lyfr, yn
cau i fyny y weledigaeth gydà nefoedd newydd a daear newydd.
Wrth edrych ar gynwrf, trueni, ac annhrefn y byd moesol,
cysur nid bychan ydyw gwybod mai Sabbath tawel, trefnus,
dedwydd, a fydd y diwedd ; ac y daw y ddaear yn gyfryw
eto fel ag y gall ei gwneuthurwr edrych arni yn hwyr ei chwech-
ed dydd, a dywedyd am dani, megis ag y dywedodd ar y cyntaf,
— " Da iawn ydyw."
Safle y prophwydi i edrych oddiarno ar bob peth ydoedd
eglwys Dduw : fel yr oedd yr angel yn llyfr y Dadguddiad yn
sefyll yn yr haul, felly y maent hwythau yn sefyll yn yr eglwys,
megis canolbwynt, ac yn edrych ar bob peth yn eu perthynas â
hi. Ar yr eglwys y maent yn dechreu gydâ'r farn : i'r eglwys
y maent yn cyhoeddi yr addewidion : ystâd yr eglwys oedd yn
penderfynu ystâd y byd. Nid dibwys i'r byd gynt, ac nid di-.
bwys iddo eto, ydyw ystâd eglwys Dduw. Pan ymlygrai hi
gynt nes cael ei rhoddi yn llaw yr Aipht, Assyria, neu Caldea,
i'w chosbi ganddynt, byddai y gosb arni hi yn sicr o ddiwcddu
yn ddinystr iddynt hwy ; ond yn ei heddwch hi yr oedd hedd-
wch pawb.
Y mae Sephaniah, fel ei holl frodyr, y prophwydi,yn dechreu
ei lyfr gyda chyhoeddi barn ar yr eglwys; ynaynmyned ymlaen
i gyhoeddi barn ary cenhedioedda ddefnyddiwyd ynfBangell i'r
eglwys, ac yn diweddu gydag addewidion gwerthfawr i'r bobl
gyfamodol. Ac un o honynt ydyw y testyn : — " Yr Arglwydd
dy Dduw yn dy ganol di sydd gadarn : efea achub, efe alawen-
ycha o'th blegid gan lawenydd ; efe a lonydda yn ei gariad, efe
aymddigrifa ynot dan ganu." Y mae yn cael gliin dawei ar ol
yr ystorm ; yn cael Sabbath i orphwys ar ol wythnos gyn-
hyrfus.
Yr hyn a gyflwynir yma i sylw ydyw, — sicrwydd gwaredig-
Gallu a gras yn sicrhau cadwedigaeth. 985
aeth yr eglwys, neu sicrwydd achubiaeth pechadur. Y ddau
beth a ddygir ymlaen i bTofi hyn ydynt : —
I. Fod y neb sydd wedi ymgymeryd à'r gwaith, a nerth dig-
onol ganddo ato : " Yr Arglwydd dy Dduw yn dy ganol di
sydd gadarn : efe a achub."
M. Ei fod hefyd yn un sydd yn ymhyfrydu yn y gwaith ;
" Efe a lawenycha, — efe a lonydda y_i ei gariad, — efe a ymddi-
grifa ynot dan ganu."
Nerth ato, ac ymhyfrydiad ynddo ; neu, allu ac ewyllys : a
chan fod y ddau ganddo, " Efe a achub."
I. Efe a achub am fod y nerth digonol ganddo at y gorchwyl.
Rhoddir arbenigrwydd neillduol i'r briodoledd o nerth yn ei
chysylltiad âg achub, yn yr Hen Destament a'r Newydd.
Gwneir hyn yn enwedigol pan y cyhoeddir addewidion, fel y
testyn, ar ol barnau tost. Pe na buasai nerth Duw yn cael ei
gysylltu â'r addewid, nis gallasai ÍTydd yr eglwys gredu bod yn
bosibl i ddaioni mor fawr ddyfod ar ol dinystr mor llwyr. Cys-
ylltir trugaredd gydâ nerth âg achub, yn yr Hen Destament ; a
chysylltir gras neu gariad gydíi nerth âg achub yn y Newydd.
Pan yr edrychir ar achub yn ei berthynas â'r neb neu â'r hyn
yr achubir oddiwrtho, nerth sydd yn cael ei gysylltu âg ef ; ond
pan yr edrychir ar achub yn ei berthynas à'r neb sydd yn cael ei
achub, trugaredd neu gariad a gysylltir âg ef. Wrth edrych ar
achub yn ei berthynas â Pharaoh, Uaw gref, a braich estynedig,
sydd yn y golwg ; ond wrth edrych ar achub yn ei berthynas
àg Israel, trugaredd yn cofio yr iselradd sydd yn y golwg. Nerth
ydyw y mur o amgylch y ddinas i amddififyn rhag gelynion :
trugaredd ydyw y gogoniant sydd yn ei chanol hi i gysuro y
trigoHon. Nerth ydyw ochr dywell y cwmwl at yr Aiphtiaid :
trugaredd ydyw.yr ochr oleu at Israel. Pan farchogodd Duw
ar feirch, ac ar gerbydau ei iachawdwriaeth, yn nyddiau
Habuccuc, yr oedd hyny yn cystuddio gwersyllau Cuwsan, ac
yn peri i leni tir Midian grynu ; ond yn llawenychu calon
Israel; am mai nerth oedd yn y golwg at y naill, a thrugaredd
at y llall.
Nid angenrheidiol i mi ydyw cofìTàu geiriau y Beibl i ddangos
yr arbenigrwydd a roddir yn nerth Duw yn y cysylltiad hwn,
onid e gallaswn fyned trwy y gyfraith, y salmau, a'r prophwydi,
986 Gallu a gras yn sicrhau cadwedigaeth.
a dyfod â'i dystiolaeth Ef ei Hun allan o'r gyntaf:-"Myfi yw Duw
Hollalluog:"acadolygiad eiwas ar ei ymdd^'giadau at ei eglwys
drwy'r canrifoedd allan o'r ail, i'w weled yn gwisgo nerth, ac yn
ymwregysu â chadernid yn ei holl ymwneyd drostynt ; ac yn y
trydydd, i'w weled yn gadarn i iachau, — yn Waredwr cryf, — yn
Arglwydd y lluoedd, — neu yn ol y testyn, yn Un cadarn yn y
canol i achub, Pe deuem ymlaen i'r Testament Newydd, y
mae nerth yn cael yr un arbenigrwydd yno hefyd : — *' Y rhai
trwy allu Duw ydych gadwedig:" *' A pheth yw rhagorol fawr-
edd ei nerth ef tuag atom ni y rhai ŷm yn credu, yn ol gweith-
rediad nerth ei gadernid ef :" " Gallu Duw yw hi :" " Crist
gallu Duw a doethineb Duw:" "Fel na byddai eich ffydd yn
noethineb dynion, ond yn nerth Duw." Buasai yn bawdd
chwanegu tystiolaethau ; ond digon yw hyn i ddangos yr ar-
benigrwydd a roddir i nerth yn ei berthynas àg achub.
Er mwyn gweled paham y mae hyn, nid rhaid i ni ond
edrych, naill ai ar bob peth sydd yn gysgod o achubiaeth pech-
adur ; neu ynte, ar yr hyn ydyw achub ynddo ei hun.
I. Edrychwn ar yr hyn ellir olygu fel cysgod o'n hachubiaeth,
Nis gwn a.n un darluniad cywirach o achub, na hanes cenedl
Israel am ddwy fil o flynyddoedd. Y mae hyn yn gysgod mor
berff^aith o achubiaeth pob pechadur unigol ag ydyw o hanes yr
eglwys gyffredinol. Gellir galw eu taith o'i dechreu i'w diwedd
yn '' daith y Pererin." Yr Aipht, — dyna y lle y mae yn
c^'chwyn o hono : Babilon ac Assyria, — dyna y lleoedd y mae
yn cael ei gaethgludo iddynt oherwydd ei anffyddlondeb i'w
Dduw. Pharaoh, — dyna y cryf arfog y mae yn ei feddiant wrth
natur : y Philistiaid a'r Canaaneaid, — dyna y drwg sydd yn
bresenol gydâg ef, fel drain yn ei ystlysau bob amser. Yr oedd
holl wahanol amgylchiadau y gcnedl hon yn ddrych y gallwn
weled ynddynt wahanol brofiadau y Cristion : yn awr, y mae yn
helbulus arno, fel yn nyddiau y barnwr hwn, neu y brenin
arall ; yna y mae yn llawen ei fyd yn nyddiau y llall. Daw
rhyw Saul i deyrnasu arno, nes chwerwi ei fisoedd ; ond dilynir
hwnw gan Dafydd a Solomon, â llwyddiant, ac â llawenydd,
Caiff ei wlad lonydd weithiau am flynyddoedd, mewn canlyniad
i ryw ymwcliad grasol ; ond pan gilia hwnw, daw ei clynion
i'w flino eilwaith, fel y daeth minteioedd y Moabiaid i Israel y
Galîii a gras yn sichaii cadwedigaeth. 987
flwyJdyn y bu farw Eliiëus. Yn awr, yn yr holl amgylchiadau
y bu y gtnedl hon ynddynt, beth bynag arall a ddeuai i'r golwg,
yr oedd yn rhaid i allu ddyfod yn barhaus. Gallu a'u gwared-
odd hwynt o'r Aipht ; — gallu a agorodd y môr o'u blaen ; —
gallu a'u dygodd drwy'r anialwch ; — gallu a'u sefydlodd hwynt
yn Nghanaan ;— gallu a ddarostyngodd eu gelynion o'u blaen ;
— gallu a'u dychwelodd o Babüon. Yr oedd yn rhaid i'n
Gwaredwr o hyd fod yn gryf. Yr oedd yn rhaid fod ganddo
fraich ymhob man. Y mae yn rhaid cael nerth i achub ; ac os
cawn ni ddywedyd eto, " Efe a achub," rhaid i ni gael rhan
arall o'r adnod ynglỳn â hyny, '• Yr Arglwydd dy Dduw yn dy
ganol di sydd gadarn," onid è iii bydd sail i ddywedyd, '' Ef^
a achub."
2. Neu, er mwyn gweled yr un peth, sef bod yn rhaid cael
nerth dwyfol i'n hachub, edrychwn ar yr hyn ydyw achub
ynddo ei hun, ac ar wahân oddiwrth bob cysgod o hono.
I hyn, edrychwch ar y byd yn y cyfanswm fel y mae yn
gorwedd mewn drygioni ; ac edrychwch ar eich mynwes eich
hun hefyd. I weled beth sydd yn eisiau ei wneyd oddiallan,
edrychwch ar y byd : i weled beth sydd yn eisiau ei wneyd
oddimewn, edrychwch gartref. I weled maint canghenau iipas
gwenwynllyd pechod, edrychwch ar y byd yn gorwedd mewn
drygioni. I weled nerth gwreiddiau y pren, edrychwch i'ch
mynwes eich hun. Ni fernwch chwi mo bechod yn gywir heb
wneuthur y ddau beth hyn. Nid ydym yn barnu crefydd yn
gywir heb edrych arni mewn amgylchiadau lle y bydd hi wedi
ei pherflfeithio : felly i farnu pechod m gywir, dylid edrych
arno mewn amgylctiiadau lle y bydd wedi cyraedd mesur o
berfFeithiad. Nid yn ei raddau gymaint y mae ei ddrwg yn
gynwysedig, ond yn ei natur ; ond y graddau ydyw yr esboniad
hawddaf i ni ei ddeall, ar ei natur. Nid oedd Hazael ddim yn
well dyn pan yn ymddiddan â'r prophwyd, na phan laddodd
efe ei arglwydd frenin ; ond nid oedd yr amgylchiadau pan
ydoedd yn ystafell y prophwyd ddim wedi bod yn fanteisiol i
fírwythau y felldith dyfu i'w lUwn faint yn ei fynwes. Graddau
y drwg a esboniodd i eglurder iiatur y drwg. Esboniad arnom
ni ein hunain ydyw y byd sydd yn gorwedd mewn drygioni.
Wrth edrych arno ymhob man, ni a welwn ddyn, naiU ai wedi
988 Gallu a gras yn sicrhau cadwedigaeth.
ei ddarostwng at yr anifail, neu wedi ei drawsnewil i ddelw y
diafol ; — chwantau anifeilaidd, neu nwydau cythreulig yn ei
lywodraethu. Edrychwch arno yn ngoleuni y Beibl : dyna
chwantau yr anifail yn teyrnasu arno yn Corinth ; — dyna falch-
der y diafol yn ei lywodraethu yn Athen ; — dyna'r ddau wedi
cyd-gyfarfod i'w fathru i'r llwch yn Rhufain. Nid oedd Corinth,
Athen, a Rhufain, y dyddiau gynt, ond arddangosiad cywir o'r
hyn ydyw y byd heddyw ; ac BÌd ydyw y byd mawr yn ddim
ond arddangosiad, ar raddfa eang, o'r hyn ydyw y byd bach
sydd yn mynwes pob dyn sydd yma. Oni fyddai raid cael gallu
mawr i godi Aífrica o laid ei chwantau, sydd yn awr fel anifail
yn ymdrybaeddu ynddynt .'' Oni fyddai raid cael gallu mawr i
buro India a China oddiwrth nwydau dieflig, — i ddymchwelyd
eu temlau gwaedlyd, — i gyfnewid eu harferion creulawn ì Oni
fyddai raid cael nerth anfesurol i ddiorseddu y gau-brophwyd
yn Twrci, — i ddymchwelyd y bwystfil i'r pydew yn Itali ? O
byddai, medd y dyn yna. Wel, y mae yn rhaid cael yr un
gallu yn gwbl atat ti, oblegid tydi yn dy gyflawn faintioli sydd
fan yna. Dyna John Bradford, meddai un sant gynt, wrth
weled un yn cael ei arwain i'r crogbren, oni b'ai am ras Duw.
Ci ydyw hwnyna, nid myfi, meddai Hazael, pan oedd y pro-
phwyd yn tynu y darlun o'i flaen ; ond Hazael wedi dyfod i'w
lawn faint oedd efe wedi yr oll. Anifeiliaid ydyw yr anwariaid
yna yn Affrica, nid myfi, medd y dyn sydd yn byw o dan lyw"
odraeth ei chwantau yma yn awr. Ehai cythreulig ydyw y
rhai yna yn India a China, nid myfi, medd y dyn sydd o dan
lywodraeth cenfigen, balchder, a malais, yma yn awr. Na, —
tydi mewn amgylchiadau eraiU ydynt. Tydi yn dy gyflawn
faintioli ydynt. Hazael, yn ystafell y brenin, yn lladd ei ar-
glwydd ydyw y rhai yna : Hazael, yn ystafell y prophwyd,
wyt ti yn awr. Y mae gwreiddiau y pren gwenwynllyd ynot
ti ; ac os nad ydyw wedi tyfu i faintioli mawr, yr amgylchiadau
a luddiasant hyny : i'r hinsawdd y mae hyny i'w briodoli, ac
nid i natur y pren. Y mae yr Arglwydd, yn ei drugaredd, wedi
gwneyd hinsawdd Cymru yn llawer mwy anfanteisiol i'r pren
dyfu i faintioli mawr ynddo nag ydyw hinsawdd India ; ond y
mae yn rhaid cael rhagorol fawredd nerth Duw i'w ddiwreiddio
yn Nghymru fel yn India.
Gallu a gras yn sicrhaii cadwedigaeth. 989
Yr ydym yn cyfyngu eich sylw at un wedd ar y drefn, sef yr
hyn sydd raid ei wneyd ar y gwrthddrychau. Y mae gwedd
arall arni oedd yn gofyn nerth anfeidrol, sef yr hyn oedd raid ei
wneuthur trostynt : dioddef melldith y ddeddf ; ymgynal o
dan faich pechodau byd ; gorchfygu y cryf arfog. Nerth yn
amlygu ei hun yn ngwneuthuriad y drefn sydd yna. Ond y mae
yn rhaid cael yr un nerth i'w chymhw/sohi, — i drefnu tryblith
y fynwes gymysglyd yna, — i ddiorseddu y gormeswyr yna sydd
yn teyrnasu yn y galon, — i wneyd y syniad cnawdol yna yn
ysbrydol. Oni fyddai raid cael nerth mawr i godi anifail i fyw
yn myd dyn ? Oni fyddai raid cael nerth anfesurol i godi dyn
llygredig i fyw yn myd angel, — i .anadlu awyrgylch sanctaidd
yr angel, — i weled yn mhelydrau Haul Cyfiawnder fel angel. —
i fwyta bara yr angel, — i yfed o afon Duw fel angel, a phob yn
ychydig i ddyfod i sibrwd iaith angel ? Hynyna ydyw achub.
Dyfod at fyrddiwn o angylion, — bod yn gyd-ystàd i'r angel.
Nid dieithr a fyddai clywed y cwestiwn yna heddyw, " Pwy a
all fod yn gadwedig ?" Onid ydyw hyny yn anmhosibl ? Nac
ydyw, o drugaredd : " Yr Arglwydd dy Dduw yn dy ganol di
sydd gadarn : Efe a achub." Na roddwch neb i fyny. Credwch
faint a fynoch yn nhrueni y byd ; ond credwch yn ngallu Duw
ar ei gyfer. Meddyliwch mor ddrwg âg sydd ddichonadwy am
eich cyfìwr eich hun ; y mae ynddo drueni annhraethol fwy na
dim a welsoch chwi, wedi i chwi weled eich eithaf ; ond men-
trwch gredu yn ngallu Duw ar ei gyfer wedi yr oll. " Fe a
gynhelir :" y inae yn wan ; gwir, ac nid yna cawsom ni sail i
ddywedyd y cynhelir ef, ond yma, — " Fe all Duw ei gynal ef."
Dyma y lle y mae cuddiad ein cryfder ni gydâ'r efengyl :
"Gallu Duw yw hi." Paham y digalonwn ni i wynebu ar
fyd yn gorWedd mewn drygioni, a gallu Duw genyra ar ei
gyfer.
II. Y prawf arall sydd yn y testyn o sicrwydd achubiaeth
pechadur ydyw, fod y neb sydd wedi ymgymeryd â'r gwaith yn
ymhyfrydu ynddo. Nid ydy w bod gan un allu digonol at waith
ddim ynddo ei hun yn ddigon o sicrwydd y cyflawnir y gwaith
ganddo ; ond os bydd yno hefyd ymhyfrydiad yn y gwaith, y
mae hyny yn sicrhau ei gyflawniad. Y mae tri gair yn y testyn
yn dangos ymhyfrydiad yr Arglwydd yn y gwaith o achub :
990 Gallii a gras yn sìcrhau cadwedigaeth.
"Efe a lawenycha o'th blegid, — Efe a lonydda yn ei gariad, —
Efe a ymddigrifa ynot dan ganu."
Y mae yr ymhyfrydiad hwn yn dyfod i'r golwg, —
1. Yn ei fod yn dra pharod at y gwaith ; —
2. Yn ei fod yn aberthu llawer er mwyn y gwaith ; —
3. Yn ei fod yn bur ddedwydd wrth ei gyflawni.
"Efe a lawenycha o'th blegid gan lawenydd :" — Rhaid ei fod
yn dra pharod at y gwaith, oblegid y mae yn llawen wrth
feddwl am dano. "Efe a lonydda yn ei gariad ;" am hyny Efe
a wna bob aberth er mwyn y gwaith. " Efe a ymddigrifa ynot
dan ganu :" rhaid gan hyny ei fod yn bur ddedwydd wrth ei
gyflawni.
I. Y mae yn dra pharod at y gwaith, oblegid y mae yn
Uawenychu wrth fjddwl am dano. Y mae y parodrwydd hwn
i'w ganfod yn ei fod yn disgwyl i drugarhau, — yn ymddyrchafu
i dosturio. Wedi cyhoeddi y farn, y mae yn disgwyl am ysbaid
cyn ei thywallt, i weled a ddywed neb, — ** Mi a bechais ac a
ŵyrais uniondeb, ac ni Iwyddodd i mi." Ac os dy wed neb hyny,
yna y mae yn y fan yn ymddyrchafu i dosturio wrth hwnw.
Pan y mae Victoria, drwy ei swyddogion yn condemnio, eistedd
ar orsedd barn y mae hi ; ond pan yn maddeu, y mae hi yn
ymddyrchafu i rywle uwch, sef at hawlfraint y goron. Ond nid
oes ganddi hi yr un orsedd uwch na gorsedd barn. Ond y mae
dwy gan Dduw : — gorsedd barn, a gorsedd gras. Oddiar y
gyntaf y mae yn cyhoeddi y farn, " Gan farw y byddi farw ;''
ond os dywed neb, " Atolwg, gad i mi fyw," y mae yn ymddyr-
chafu i'r ail i dosturio wrth hwnw. Y mae gorsedd barn yn
uchel, ond y mae gorseddfainc y gras yn uwch. Hi ydyw
gorseddfainc harddaf ac uchaf y nefoedd.
Y mae y parodrwydd yn dyfod i'r golwg hefyd yn y darpar-
iadau ar gyfer achub. Xid yn y nefoedd yn unig y mae y rhai
hyn. Yro y mae yr orseddfamc uchel a dyrchafedig a welodd
Esay, wedi ei hamgylchu àg enfys cyfamod, fel y gwelodd loan'
hi. Lleithig traed Duw Israel yr achubwr ydyw y ddaear. Y
mae ei phobpeth hi, naill ai yn ddarpariadau at y gwaith o
achub, neu ynte yn foddion i'w gario ymlaen. Nid ydym w\
yn deall y darpariadau yn aml ; ond y mae adeg yn dyfod fydd
yn eu hesbonio, fel yn haues Joseph a Moses. Y mae llawer o
Gallti a gras yn sicrhaii cadioedigaeth. 991
feio ar ein llywodraeth ni gan ryw ddosbartii, am nad oes
ganddi, meddant hwy, bobpeth yn barod i'n hachub pe deuai
ymosodiad arnom oddiar y Cyfandir. Nid wyf fi yn proffesu
gwybod pa faint o wirionedd sydd yn hyn ; ond wrthedrych ar
yr amddiffynfeydd cryfion, a'r trysordai mawrion,sydd ar ein har-
fordiroedd ; y mae yn eglur fod darpariadau mawrion ar
gyfer ein hamddiffyn ; ac eto, fe all, y mae yn ddichon-
adwy, nad ydyw pob peth yn barod. Ond y mae pob
peth achub, o ran y drefn, yn barod yr awr hon. Y
mae y llong odidog wedi ei hadeiladu er's talm ; ae
y mae wedi ei llwytho â chyfoeth angau'r groes,
Beth, medd rhywun, ydyw y darparu y soniwch chwi am dano?
Beth ? Dyfnhau a chhrio dy borthladd di, i'r llestr gyfoethog
gael lle i ddyfod i mewn.
Ond fe ballai yr amser i mi eich cyfeirio chwi at yr holl
ddarpariadau i achub gan amled ydynt. Y Beibl, — amddiffynfa
ydyw hwn a godwyd o bwrpas i achub. Tŵr Dafydd ydyw.
Pe rhodiech chwi trwy ei holl ystafelloedd, ni welwch chwi
ddim ond pethau achub. Y mae yn beth lled ddyddorol myned
trwy y tŵr yn Llundain, i weled yr hen arfau y gwnaed gor-
chesticn â hwynt yn y dyddiau gynt ; — yrachubwyd y deyrnas
drwyddynt rhag y gelynion. Ond yr ydych yn cofio yn y fan,
wrth edrych arnynt, na thalant ddim heddyw : y mae eu dydd
drosodd. Ond am arfau " tŵr Dafydd," nid yw eu dydd hwynt
ddim drosodd eto. Y mae hen adnodau yBeibl yn achub eleni
mor effeithiol ag erioed. Gweinidogaeth yr efengyl, — light-
house ydyw hcn, a godwyd i'r diben o d Jangos i'r rhai sydd yn
boddi ar y môr tymhestlog, pa lodd i droi i mewn i hafn yr
achub. Eglwys Dduw, — ysbyty ydyw hon, i'r clwyfedigion i
gael olew a gwin yn eu clwyfau. Rhaid ei fod yn ymhyfrydu
yn y gwaith o achub, onid ê ni buasai pob peth mor barod
ganddo ato.
2. Y mae yn ymhyfrydu yn y gwaith ; oblegid y mae yn
aberthu llawer er ei fwyn. Yr aberth ar Moriah a ddangosodd
nerth ymlyniad Abraham wrth ei Dduw. " Gwn weithia-i i tj
ofni Duw, gan nad ateliaist dy íab, dy unig fab, oddiwrthyf fi.''
Yr oedd pob peth yn y gorchymyn yn tueddu i gynhyrfu
mynwes tad yn ei erbyn ; ond fe lonyddodd yn ei gariad at ei
992 Galhi a gras yji sicrhau cadtvedigaêth.
Dduw i'w gyflawni er hyny. Fe wasanaethodd Jacob saith
mlynedd am Rahel ; ac er ei fod yn y gwres yn treulio y dydd,
a'r rhew y nos, eto nid oeddent yn ei olwg ond fel ychydig
ddyddiau, am fod yn hoíf ganddo hi. Yr oedd yr aberth yn
fawr ; ond yr oedd digon o gariad yn ei fynwes i'w lonyddu
rhag codi yn erbyn ei wneuthur, er cymaint oedd. Maint yr
aberth, oedd yr esboniad ar nerth yr ymhyfrydiad yn y gwrth-
ddrych. Os mynwch chwi wybod pa mor barod ydyw Duw i
achub, edrychwch ar yr aberth y mae yn ei wneuthur i hyny.
lë, aberth ydyw y gwaith oll i Dduw. Pan gofiwn ni ei fod yn
Dduw gwybodaeth, yn gweled pob pechod ; — yn Dduw sanct-
aidd, yn perffaith gasâu pob drwg ; — yn Dduw cyfiawn, yn ym-
ddwyn at bawb \xv ol eu haeddiant ; — yn Dduw hollalluog, a
nerth digonol yn ci fraich i drechu pob gelyn ;— Yr ydym yn
gofyn, beth sydd yn ei atal i wneyd hyny ? a'r unig ateb ydyw,
" Efe a lonydda yn ei gariad." Xid am na welodd Efe dy fai
di, y goddefwyd di am ddeugain mlynedd. Na, llonyddu yn
ei gariad a wnaeth. Nid yw ei amynedd yn ddim ond y
rhwymau, â pha rai y mae cariad wedi rhwymo y fraich holl-
alluog. Yr oedd Moses yn deall y dirgelwch : pan bechodd y
bobl wrth Sinai, fe ymaflodd Moses yn nerth Duw yn y fan,
Gydâ pharch y dywedwyf, fe ddechreuodd iwymo y fraich Holl-
alluog â rheffynau cariad. " Gid i mi lonydd," meddai yr An-
feidrol, pan oedd efe wrth y gorchwyl ; ond parhau i rwymo yr
oedd Moses : a phan roddodd ef y rhwymyn hwnw, " Cofia
Abraham, Isaac, ac Israel, dy weision," y peth cyntaf a glywn
ni wedi hyn ydyw, " Ac edifarhaodd ar yr Arglwydd am y
drwg a ddywedasai ef y gwnai i'w bobl. ' Pe Dafydd a fuasai
yn lle Joab yn ymlid ar ol Absalom, buasai ei fraich, er ei bod
hi mor nerthol a medrus ag un Joab, yn cael ei llonyddu gan
rywbeth oedd yn ei fynwes rhag taraw y llanc drygionus oedd
yn crogi yn y goeden gauadfrig : buasai yn Ilonyddu yn ei
gariad.
Ond dyma ddengys gyfoeth y cariad fod yno ddigon i lon-
yddu y fynwes ddwyfol i anfon ei Fab i farw. Yr oedd pawb
mewn cynwrf ar Galfaria ; — y greadigaeth fel wedi gwylltio ; —
ac nid oedd cynwrf y greadigaeth weledig ond indcx i gynwrf
mwy yn yr ysbrydol ; — awr gallu y tywyllwch, ac awr pryder
GalliL a gras yn sicrhau cadwedigatth. 993
y nefoedd oedd hi ; — y ddaear yn crynu gan fraw, — yr haul yn
ymguddio mewn dychryn, — angylion yn sefyll draw mewn
synedigaeth, — holl wŷr o nerth y byd arall yn methu cael eu
dwylaw gan ddychryn. laith y Dioddefydd ei Hun ydyAV : —
" Mor gyfyng yw arnaf hyd oni orphener," " Na hfed y íFrwd
ddwfr drosof, na lynced y dyfnder fi ; na chaued y pydew
chwaith ei safn arnaf." A oes yna neb yn dawel ? Oes un :
yn nghanol y cynwrf, dyna un fraich yn estyn y cwpan ofn-
adwy i'r Dioddefydd yn ddigryn. Pa le y cawn ni esboniad ar
yr olygfa ryfedd, ai yn y Dioddefydd ì Nage ; Ei Fab, Ei Fab
ei hun, ei Briod Fab, Ei uniganedig Fab, ydyw. Yr esboniad
ydyw fod yno ryw gariad mawr tragwyddol yn llonyddu holl
deimladau tyner mynwes Tad, fel yr oedd yn gallu estyn y
cwpan yn ddigryn i'w Fab ei Hun ; ac os mỳnech chwi wybod
beth oedd, — Cariad at achub. " Efe a lonydda yn ei gariad."
Y mae yn rhyfedd na chredern ni bellach ei fod yn ymhyfrydu
yn y gwaith !
3, Y prawf olaf ydyw ei fod yn bur ddedwydd pan wrtho :
" Efe a ymddigrifa ynot dan ganu." Y maeyr ymadrodd yn un
dieithr, — Duwyn canu. Fe orphwysodd wedi creu y greadigaeth
gyntaf ;— fe gydganodd sêr y boreu, ac fe orfoleddodd meibion
Duw, y pryd hyny ; ond nid oedd yno ddim digon interestingW
Anfeidrol ei Hun fyned dim pellach na dywedyd, — " Da iawn
ydoedd." Ond wrth wneyd y newydd, y mae yn myned gryn
lawer pellach na hynyna, — y mae yn canu ei Hun. Nid teulu
y tŷ yn unig oedd yn llawenhau pan ddaeth yr afradlawn adref 1
na, — yr oedd ei dad yn uchaf ei gân o honynt oll.
Y mae rhywbeth dedwydd mewn achub : y mae yn adíer y
cydgordiad, yr harniony, yn ol i'r greadigaeth, ac yn ei gwneu-
thur hi yn beroriaeth drwyddi ; ac yn dyfod âg un newydd i'r
côr, nad oedd yn perthyn iddo o'r dechreu : " Y mae llawenydd
yn ngwydd angyHon Duw," pan y mae achub yn cymeryd lle.
Llawenydd yn ngwydd eglwys Dduw : ai dyna'r oll ? nage .
"Llawenydd yn ngwydd angylion Duw :" y mae Duw ei Hun
yn canu. Ac yn fuan, bydd y gwaredigion wedi goddiweddyd
llawenydd a hyfrydwch eu hunain : yna fe fydd pawb yn canu.
"A chanu y maent gân Moses, a chân yr Oen." "Eithr
llawenychwch a gorfoleddwch yn dragywydd yn y pethau a
C4
994 Gallu a gras yn sicrhau cadwedigatth.
grewyf fi : canys wele fi yn creu Jerusalem yn orfoledd, a'i
phobl yn llawenydd. Gorfoleddaf hefyd yn Jerusalem, a llawen-
ychaf yn fy mhobl : ac ni chlywir ynddi mwyach lais wylofain,
na llef gwaedd." Esa. lxv., i8, 19. Yr eglwys yn gorfoleddu,
a Duw yn goifoleddu !
Dyna roddai dôn o lawenydd drwy holl ymerodraeth Duw y
fynyd hon, o'r orsedd i lawr, drwy y thronau a'r arglwyddiaeth-
au, y tywysogaethau a'r meddianau : — deigryn edifeirwch yn
dy lygad di.
Dau sylw cyn terfynu : —
1. Dyma galondid i weddio dros y byd. Yr oedd y wraig o
Tecoa yn dadleu yn lled galonog dros Absalom, am y gwyddai
hi fod calon y brenin tuag at Absalom. Mentrwch ddadleu yn
hyderus dros y byd sydd yn gorwedd mewn drygioni, — y mae
calon y Brenin tragwyddol tuag ato.
2. Dyma galondid i bechadur i -syrthio wrth ei draed am ei
fywyd. Fe welodd Benhadad obaith bywyd, wedi iddo ei golli,
yn nghymeriad brenhinoedd Israel. Ai nid ydych yn gweled
gobaith bywyd yn nghymeriad Brenin y nefoedd ? Yr oedd
gweision Benhadad yn disgwyl yn ddyfal i edrych a ddeuai dim
oddiwrth frenin Israel a fyddai yn sail gobaith bywyd i'w har-
glwydd ; a phan glywsant Ahab yn dywedyd, " Fy mrawd yw
efe," fe ddywed yr hanes iddynt gipio y gair ar frys, a dywedyd,
" Dy frawd, Benhadad." Ai ni chlywsoch chwi ddim yma
heddyw o enau Duw, y byddai yn'werth i chwi ei gipio am eich
bywyd? Cofiwch y testyn, a throwch ef yn ol yn ddeisyfiad
tua'r nefoedd at Dduw, — Jehofah, yr Achubydd. "Y mae
genyt ti fraich i achub, achub finau. Yr wyt ti yn ymhyfrydu
mewn achub, boddlona dy hunan yn fy iachawdwriaeth inau.
Edrych arnaf, a thrugarha wrthyf, yn dy drefn rasol, ogonedd-
us, dy hunan." Amen.
[Rhagfyr 2, 1859].
PREGETH LX.
YR ISRAELIAD YN WIR.
lOAN i. 47 :— ■ Wele Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oes dwyll.
MAE y byd hwn, mewn canlyniad i ddyfodiad pechod
i mewn iddo, wedi myned yn fyd gau, — yn fyd o
ymddangosiadau, — yn wagedd o wagedd, fel y mae
yn briodol dywedyd am dano, ei fod yn wagedd oll. Trwy
dwyll y daeth pechod i mewn i'r byd, — twyll ydyw, — ac y mae
wedi gwneuthur pawb yn dwyllodrus. Wedi i ddynion gael eu
twyllo gan y diafol, dechreuasant dwyllo eu gifydd ; ac, er y
pryd hyny, y mae y byd i raddau mawr yn fyd o ymddangos-
iadau, a bron bob peth ynddo wedi ei wneuthur yn fanteisiol i
dwyllo. Y mae crefyddau y byd hyd yma wedi bod yn foddion
eífeithiol i dwyllo. Yr oedd Paganiaeth wedi ei llunio o bwrpas
i dwyllo : Mahometaniaeth wedi ei hamcanu i'r un diben : hyn
hefyd yw diben mawr Pabyddiaeth. Nid nad oes peth gvTÌr-
jonedd ymhob gau grefydi : heb hyny nis gallasai hanfodi ;
ond y mae y gwirionedd hwnw yn cael ei ddefnyddio i dwyllo.
Yr abwyd ydyw sydd yn cuddio y bach. A gall y wir grefydd,
sydd o apwyntiad Duw, hefyd fyned yn grefydd gau. Yr oedd
y grefydd luddewig wedi myned felly yn amser yr Arglwydd
lesu ; er bod y ffurfiau yn eu lle, — yr ebyrth yn cael eu lladd
yn gyson, — yr oedd y grefydd yn gau, am nad oedd hi yn was-
anaeth i Dduw.
Y mae dynion hefyd yn twyllo eu hunain, — yn rhodio mew^n
cysgod, hyny yw, nid ydynt yn byw gyda'r sylweddau, — y
realities. Y mae y byd oddiallan yn cael mwy o sylw o lawer
na'r byd oddifewn. Adwaenant ef yn well, — gwyddant fwy am
996 Yr Israeliad yn wir.
dano, — oblegid ofnant ddisgyn i'w mynwesau eu hunain, j
edrych ar y gwir. Y mae hon yn olygfa dra dieithr ; — dyn yn
ei ofni ei hunan, — yn dianc oddiwrtho ei hun, yn fwy prysur
nag oddiwrth fwystfilod yr anialwch. Peiriant i weithredu
arno tíi hunan acarDduwywy meddwldynol. Cwestiynau felly
y dylasai efe chwilio am atebiad iddynt ydynt : Beth ydwyf ?
Pa beth sydd yn fy aros ? Pa berthynas sy rhyngwyf â Duw ?
Pa fodd y gallaf gael y berthynas hono yn un hapus i feddwl
am dani ? Ond defnyddir y gallu hwn i feddwl yn gyffredin i
ddiben hollol wahanol. Y mae y meddwl yn barotach i weith-
redu ar bob peth nag arno ei hunan a Duw : i ochel y ddau
destyn anhyfryd yna, llenwir y fynwes â phob sothach. Y mae
dyledswydd dyn yn gynwysedig yn y ddau air: — " adnebydd dy
hun," ac, " adnebydd yr Arglwydd." Y mae perthynas union-
gyrchol rhwng y ddau, fel ag y mae yn anmhosibl cyfiawni y
cyntaf yn iawn heb wybod rhy wbeth am yr ail ; na chyflawni
yr ail, heb wybod llawer am y cyntaf. Nis gellir adnabod Duw
heb i ni adnabod ein hunain ; nac adnabod ein hunain yn iawn
heb adnabod Duw. Os gwelsoni ni ei oleuni Ef, ni a welsom
ein hunain ; ac os gwelsom ni ein hunain, yn ei oleuni Ef y bu
hyny. Ond y gwirionedd ydyw, y mae dyn eto yn ceisio ym-
guddÌG o olwg yr Arglwydd, ac o'i olwg ei hunan. Mynai ym-
ddangos i eraill, ac iddo ei hun, yr hyn nad ydyw mewn gwir-
ionedd.
Y cam cyntaf yn yr yrfa ysbrydol ydy w gwneuthur dyn yn
ddidwyll, — yn ddiffuant, — yn gywir, — yn ddiragrith. Mynych
y disgrifia y Beibl y Cristion wrth y nodau hyn ; — yn un heb
ddichell yn ci ysbryd, — yn un â gwirionedd oddifewn iddo, —
yn un â dirgel ddyn y galon mewn anllygredigaeth a phurdeb,
— yn un wedi ei droi, a'i wneuthur yn gyffelyb i blentyn
bychan o ran cy wirdeb ; — yn ddyn syml, diragrith ; — yn ei
adwaen ei hunan i raddau, ac yn adnabod yr Arglwydd hefyd ;
— yn caru gwirionedd oddifewn, am fod Duw yn ei garu ; — ac
o'r trysor da sydd oddifewn yn dwyn allan bethau da. Y mae
ei ymddangosiad allanol yn cyfateb i'r agwedd dumewnol ; neu,
yn ol ein testyn, y mae yn ** Israehad yn wir, yn yr hwn nid
oes dwyll."
y mae yn hysbys i chwi oU mai enw ydyw Israel a roddwyd
Yr Israeliad yn wir. 997
i Jacob gan yr angel, i ddisgrifio ei gymeriad crefyddol fel
gweddiwr, neu ymdrechwr gydâ Duw, (Gen. xxxii. 28). Rhodd-
wyd yr enw wedi hyn i holl hâd Jacob : yr oeddent 1 fod yn
genedl o Israeliaid, — yn genedl o weddiwyr, — " fy ngweddiwyr,"
medd Duw ; ond nid Israel oedd pawb ag oedd o Israel. Aeth
yr enw hwn yn enw gwâg ar gorff y genedl ; ac yr oedd yn
neillduol felly yn amser yr Arglwydd lesu. Er bod gweddîo
mynych yn y synagogau, ac yn nghonglau yr heolydd, eto yr
oedd cyfarfod âg " Israeliad yn wir," yn beth pur anhawdd ;
ond yn yr amser iselaf, y mae gan yr Arglwydd weddill yn ol
etholedigaeth gras. Felly yr oedd yno ryw ychydig o wir
Israeliaid " yn disgwyl am ddiddanwch yr Israel." Fe ym-
gasglodd y rhai hyn yn Ued fuan at yr Arglwydd lesu : hwynt-
hwy gan mwyaf oedd ei ddisgybhon. Gellir casglu oddiwrth
yr efengylwyr fod y fintai fechan hon, oedd yn parhau yn
ffyddlawn i Dduw, yn nghanol y genhedlaeth drofäus hono, yn
lled gydnabyddus â'u gilydd ; a pha beth oedd yn fwy naturiol
na hyn .? oblegid, oni allent gydymdeimlo â'u gilydd? ac yr
oedd disgwyliad cyíTredinol yn eu plith hwy yn enwedig am
ddiddanwch yr Israel. Ac fel eflfaith hyn, — ymddiddan mynych
yn ei gylch. Am hyny, pan y deuai rhyw un o'r dosbarth yna
o hyd i'r lesu, chwiliai yn y fan am rai eraill o'f fintai fechan
i'w harwam hwuthau hefyd ato. Wedi i Andreas adwaen yr
lesu, daeth â Simon ei frawd ato ; ac wedi i Phylip o Bethsaida
ei adwaen, chwiliodd yntau yn y fan am Nathanael i ddywedyd
y newydd wrtho, ac i'w wahawdd yntau at yr lesu. Fe'i
gwelodd yr lesu ef yn dyfod, ac fe'i disgrifiodd yn ngeiriau y
testyn : — " Wele Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oes dwyll."
Nid mynych y gwnai yr Arglwydd lesu sylwadau ar y rhai
oeddent o'i amgylch. Mewn trugaredd gadawai y Ilen ar y
fynwes. Dy wedai air weithiau i roddi ar ddeall iddynt ei fod Ef
yn gwybod beth oedd y tufewn i'r Ilen, — beth oedd yn myned
ymlaen yn nhywyllwch y galon ; ond ni rwygai y Ilen oddi-
eithr yn anfynych iawn. Pe buasai Efe yn didôi y calonau, —
yn arnoethi y fynwes, — yn dangos mor gau, — mor hollow, —
oedd hi, pwy allasai fyw yn Judea ? Buasai y trigolion yn
dychrynu rhagddynt eu hunain, a rhag eu gilydd. Yr oedd yr
olwg wrthun hon yn noeth ac yn agored i'w lygaid sanctaidd Ef
99^ í'î^ Israeliad yn wir.
o hyd. Yr oedd Efe yn gweled twyll y galon, — yn gweled ordin-
hadau sanctaidd ei dŷ yn cael eu halogi â rhagrith ; — gwirionedd
wedi gadael y wlad ; — am hyny, onid oedd golwg ar ddyn fel
hwn yn adfywicl dros ben i'w enaid ? "Israeliad yn wir, yn
yr hwn nid oedd dwyll." Y mae yn tynu sylw ato, fel golygfa
ddieithr a rhyfedd : — "Wele Israeliad yn wir." Y mae yr
Israeliaid mewn proffes yn nifeiriol iawn ; ond rhagrithwyr
ydynt. Dyma ddyn cywir o'r diwedd, — " Israehad yn wir."
Y gwirionedd yr oeddwn am sylwi arno oddiwrth y testyn
hwn ydyw, — F'od pob dyn duwiol yn Israeliad yn wir^ — yn
weddîwr, yn yr hwn nid oes dwyll. A'n hamcan wrth geisio
ei ddisgrifio yn awr, fydd rhoddi mantais i chwi i chwilio eich
hunain, a ydyw y cymeriad hwn yn perthyn i chwi. Ein
sylw —
I. Arno fydd, bod yr Israeliad yn wir yn ddyn rhyfedd iawn.
Y mae y gair Wele yn y testyn, yn tynu sylw ato fel y cyfryw.
Yr oedd y gwrthgyfeibyniad oedd rhyngddo â'r lliaws o'i am-
gylch yn ei wneuthur felly. Yr oedd yn gymeriad unigol. Yr
oedd yr Arglwydd lesu yn awr newydd ddychwelyd o un o'r
gwyhau, o Jerusalem ; ac fel y crybwyllwyd eisoes, yr oedd yr
olygfa a gafodd Ef yno, yn un drom iawn iddo Ef. Beth a
allasai fod yn fwy gwrthun i'w lygaid treiddgar na gweled tŷ
gweddi wedi ei droi yn ogof lladron. Miloedd o ddynion yn
ymarfer â ffurf gweddi, heb ddim o'i hysbryd hi ; — yn ymarfer
â gwasanaeth mawreddus y deml, ond yn lle bod yn wasanaeth
i Dduw, yr oedd yn ddirmyg arno, am nad oedd yn wasanaeth
calon. Yr oedd y twyll hwn oedd yn y gwasanaeth yn gwneu-
thur lliosogrwydd yr aberthau yn ofer, — y poeth-offrwm yn
ffiaidd, — yr uchel-wyl gyfarfod yn anwiredd, Yr oedd ei enaid
yn eu casâu, — baich oeddent arno, — blinai yn eu dwyn. A
phan ystyriom ni, mai ar y gwirionedd yr oedd ei lygaid Ef,
rhaid bod Jerusalem y Ue mwyaf pruddaidd a thrymaidd yr
oedd Mab Duw yn myned iddo. Cyfarfyddaiâ thrueni lle bynag
yr elai. Yr oedd ei natur syml mor deimladol, fel ag yr oedd
pob trueni yn rhoddi gloes iddo. Yn yr ystyr hwn, yr oedd yn
ẃr gofidus a chynefin â dolur. Fel ag y mae gwres neu oerfel
yr awyrgylch yn effeithio arnom ni, felly yr oedd trueni arno
yntau. Yr oedd efe yn byw mewn awyrgylch o drueni, ac o
Yr Tsraelîad yn -wiy. 999
angenrheidrwydd yn dwyn doluriau pawb oeddent o'i amgylch ;
ondyr oedd un meddwl cysurus yn gydiol â'r olygfayma, sefmai
pethau amser yn unig oeddent. Yr oedd gallu yn ei fraich yntau
i' w symud ; ond yr oedd yr olygfa yr oedd Efe yn ei chael yn Jeru-
salem yn annhraethol fwy trymaidd na hyn, — dynion yn cellwair
à'r pethau oeddent yn anwahanol gysylltiedig à'u dedwyddwch
hwynt yn y byd a ddaw; — yn twyllo eu hunain, — ac yn gomedd
cymeryd eu didwyllo. Yr oedd llygaid ei holl-wybodaeth Ef
-yn gweled canlyniadau ofnadwy y ffuantrwydd hwnw, — y cell-
wair hwnw àg ordinhadau Duw. Brysai yn gyffredin o bhth y
fath olygfeydd i bentrefì gwledig GaHlea, am ei fod yn cyfarfod
à mwy o onestrwydd a gwirionedd yno. Ac ar ol dychwelyd o
ganol un o'r golygfeydd hyny yn awr, y mae ei enaid sanctaidd
yn cael gorphwysdra yn yr olwg ar y Nathanael hwn : — "Israel-
iad yn wir, yn yr hwn nid oedd dwyll." Ni ddymunwn feddwl
yn galed am fy nghyd-ddynion ; ond y mae arnaf ofn fod an-
amledd yr Israehad yn wir yn ei wneuthur yn ddyn rhyfedd
eto. Y mae yr Israehad yn wir yn fwy Ihosog yn awr nag
oeddent y pryd hyny ; ond o'u cymharu â'r Israehaid ym-
ddangosiadol, y maent eto yn anaml, Pwy a gaiff ŵr ffyddlawn,
yn yr ystyr hwn, a Iwyr roddodd ei galon i agosâu at yr Ar-
glwydd ì Oni elhr, gyda gormod o wirionedd, ddywedyd fod
ein hymarferiadau crefyddol ninau yn ffurfiol .' Y maent yn
fynych iawn yn anianol, am nad ydyw yr ysbryd ynddynt.
Ond gallwn edrych ar yr Israehad ymhob golwg, y mae yn
ddyn rhyfedd. Y mae yn ddyn sydd yn dal cymundebà gwrth.
ddrych, ac â phethau anweledig. Y mae yn fath o ddolen sydd
yn uno amser â thragwyddoldeb. Pan yr ystyriom beth ydyw
dyn, a pha beth ydyw Duw ;— pa beth ydyw y ddaear, a pha
beth ydyw y nefoedd ; — y mae gweddi yn ymddangos yn un o
brif ryfeddodau y byd hwn. Gyda syndod yr edrychwn ni ar
ddynion yn gallu ymddiddan â'u gilydd drwygymorth y gwefr-
hysbysydd, er bod canoedd o fiUdiroedd rhyngddynt ; ond beth
ydyw hyny o'i gymharu â dyn ar y ddaear yn gallu ymddiddan
â Duw yn y nefoedá ? Yr ydym yn synu wrth gywreinrwydd
dyn trwy gymorth celfyddyd yn gahu esgyn i bhth y cymylau ;
ond beth ydyw hyny o'i gymharu âg enaid yn gallu myned
gerbron y presenoldeb dwyfol ? Pe medrai rhywun ar y ddaear
1000 Tr Isradiad yn wir.
ddal cymundeb âg un o drigolion y planedau, edrychid arno yn
un gwirioneddol ryfedd ; ond y mae gweddiwr yn dal cymundeb
â byd llawer pellach na'r un o'r rhai yna.
Y mae yr eithafion sydd yn cyfarfod yn nghymeriad y
gweddiwr yn ei hynodi yn fawr. Cawn un olwg arno mor
ddiddym, nes y gofynwn, — Beth a all efe ? ond cawn olwg arall
mor fawreddig, nes y gofynwn ni, — Beth nad all efe ? Y mae
ei fraich ef yn wendid ei hun ; ond y mae braich hollalluog at
ei alwad. Y mae ei ddoethineb ef yn ynfydrwydd ; ond y mae
hollwybodaeth yn gwylio drosto. Y mae yn gryf am ei fod yn
wan. Y gwanaf yn y teulu yw y cadarnaf. Mewn un ystyr, y
mae ei wendid yn dwyn nerth pawb i'w amddiffyn : dim ond
iddo lefain, y mae cymaint o nerth ag sydd yn y fraich gadarn-
af, os bydd raid, i gael ei ddefnyddio drosto ; — cymaint o
wybodaeth a deall ag sydd yn yr enaid cryfaf yn j ttulu i gael
eu defnyddio i roddi ymwared iddo. Felly yn ngwendid yr
Israeliad yn wir y mae cuddiad ei gryfder. Y mae yn cael y
cyfan am ei fod yn llefain. Ni fedr ei fraich ef ddim atal i
ddeilen syrthio ; ond fe fedr ei lef rwymo yr haul, a gwneuthur
i'r lleuad sefyll. Xi fedr ei fraich ef ddim atal i lysoedd y
ddaear ei roddi yn y carchar nesaf i me\vn ; ond fe fedr ei lef
ddwyn un o weision y llys fry i'w arwain ef allan. Gyda
phriodoldeb yr ystyrir y dyn hwnw sydd wedi cael allan Iwybr
i leihau yr un graddau ar drueni y ddaear yn deilwng o barch ;
y mae llawer o ddyfeisiau buddiol i ddiogelu rhag peryglon y
ddaear wedi eu cael allan, a phe byddai bosibl i ryw un gael
allan Iwybr i'w amddiffyn ei hun rhag pob peryglon, gweddus
fyddai galw ei enw yn rhyfeddol. Ond y cyfryw un ydyw yr
Israeliad yn wir. Os bydd doethineb yn gweled mai hyny fydd
oreu, ni chaiff fod diffyg gallu arno i wneuthur pob peth : gall
fyw yn y ffwrn dân,— bod yn ddiogel yn ffau y llewod, — disgyn
i waelodion y môr, — a dychwelyd o fol uffern. Nid rhaid iddo
ef ofalu am ddim ; ond gwneuthur ei ddeisyfiadau yn hysbys
gerbron Duw. Pe arweinid ef at fôr, — os gwelai doethineb Duw
hyny yn oreu, fe'i hagorid gan allu Duw iddo ef fyned drwyddo-
Y mae ganddo ymhob man ddoethineb ddwyfol i'w gyfarwyddo,
a gallu dwyfol i'w amddiffyn. Y mae rhai yn gwneuthur
pethau rhyfedd drwy nerth eu braich ; y mae eraiU yn dwyn
Tr Israelìad yn wir, looi
pethau rhyfedd i fod drwy rym eu doethineb ; ond y mae y
gweddiwr yn gwneuthur pethau rhyfedd heb na braich na
doethineb. Y mae Agur yn tynu ein sylw at bethau bychain
iawn, hynod am yr hyn yr oeddent yn ei wneuthur ; ond nid
mor rhyfedd ydyw gweled y mörgrug yn darparu eu lluniaeth
yr hàf, — y cwningod yn gwneyd eu tai yn y graig, — y locustiaid
yn myned allan yn dorfeydd, — a'r pryf copyn yn Uys y brenin,
ag ydyw gweled y pryfyn dynol yn llwyddo gyda Duw. Pe
byddai yr IsraeHaid yn anamlach, buasent yn fwy o wrthddrych"
au ein syndod. Meddyliwch fod dim ond un ar unwaith ar y
ddaear, a chanddo interest neu ddylanwad yn y nefoedd, — fod
ganddo law ymhob peth mawr oedd yn cymeryd lle yn ein byd
ni, — y gallasai y dylanwad oedd ganddo ef yn y llys fry, ddwyn
da neu ddrwg ar y ddaear ; — oni fuasai hwnw yn wrthddrych
syndod pob gwlad ? Ond y cyfryw un ydyw pob gwir Israeliad:
gall rwymo godreu y cymylau, a chloi y nefoedd, a myned â'r
agoriad gydag ef, fel nad all Ahab, na neb o'i weision, ei gael ef
na'r agoriad ; — gall eilwaith ei dadgloi hi wrth ei ewyllys. Cy-
meriad rhyfedd dros ben ydyw yr Israeliad yn wir.
II. Ond i adael y dis^rifiad cyíFredinol yna o hono, i ddyfod
yn fwy neillduol. Y mae yr Israeliad yn wir yn un sydd wedi
gweled a theimlo ei ddiddymdra ei hun, — wedi teimlo fod
rhywbeth yn eisiau arno. Nid ydym yn gofyn cyngor, nes y
bydd ein doethineb ein hunain wedi pallu. Pan ballo ein nerth
ein hunain, yr ydym yn llefain ar un arall, — " Cadw ni !" Fe
ddywedir mai " angen ydyw mam dyfais ;" felly yma, angen
ydyw alpha pob Israeliad yn wir. Yn ei gyfyngder yr enillodd
Jacob yr enw Israel. Yr oedd pob peth oedd yn anwyl ganddo
ar y ddaear mewn perygl am eu bywyd, — Esau gerllaw, a
phedwar cant o wŷr gydag ef ; ond yn y cyfyngdra fe ymlynodd
wrth fraich HoUalluog, yn gwbl sicr yn ei feddwl, os na ddeuai
ymwared oddiyno, y darfyddai am dano. Ymdrechu dan y
fììgysbren yr oedd y Nathanael hwn, pan y cafodd Phylip ef.
Y mae enaid dyn wedi ei wneuthur i fyned allan o hono ei
hun ; ond myned allan at y creadur y mae yn lle at y Creawdwr,
— at y gweision yn lle at ei Dad ; ond pan yr ä pawb i beidio
rhoddi dim iddo, yna y mae yn dychwelyd adref. " Nid yw dyn
ddim yn Atheist mewn cyfyngdra." Y mae y meddwl pan na
1002 Yr hraeliad yn wìr.
ẃyr ddim pa le i droi, yn troi at Dduw. Y mae hon yn olygfa
i'r dieithraf ; — enaid nad all fyw ar ddim ond ar Dduw, eto
astudiaeth ei oes ydyw ei ochel, — gwneyd pob dyfais i beidio
dyfod ger ei fron Ef. Ni buasai gweled y pysgodyn yn ceisio
ysgoi y dwr, — yr aderyn yn amcanu ysgoi yr awyrgylch, — ddim
haner mor ryfedd ag ydyw gweled dyn yn amcanu peidio cyf-
arfod â Duw. Yr ydym yn rhyfeddu wrth edrych ar weithred-
iadau ei enaid ar greadigaeth Duw ; ond yr ydym yn rhyfeddu
yn fwy wrth yr enaid hwnw yn gallu edrych ar y greadigaeth,
ac yn gallu cadw o olwg y Creawdwr. GelHd meddwl, oni bai
ein bod yn gwybod yn amgen, bod yn anmhosibl edrych ar y
môr, heb weled y llaw sydd yn ei gynal : — sylwi ar y sêr, heb
weled yr Hwn sydd yn eu dwyn hwynt allan mewn rhifedi ;
ond y mae enaid dyn yn medru. Fe ä i fyny cyn uched a'r
haul weithiau ; ond fe ofala am ddychwelyd cyn myned yn agos
i'r nefoedd. Fe ddaw gyda chwi o amgylch ogylch y deml ;
ond gwyhwch son am fyned i'r cysegr nesaf i mewn. Ni ddaw
yno, nes yr ä hi yn gyfyng iawn arno. Os medra eí fyw ar y
ddaear, y mae y nefoedd yn cael llonydd ganddo. Tra yr oedd
ŷd yn Nghanaan, nid oedd neb yn meddwl am fyned i'r Aipht
i brynu. Angen sydd yn gwneuthur IsraeHaid yn wir. Mewn
adegau o gyfyngder y mae yr Israeliaid yn wir yn disgleirio yn
y Beibl. Fel sêr, yn y nos y gweUr hwynt. Pan oedd Moses
ar làn y môr, oferedd oedd disgwyl ymwared o'r ddaear : eto
cafodd nerth gydâ Duw ; — agorodd y môr. Pan darawyd
Miriam â'r gwahan-glwyf, seliwyd ei law ef, a llaw pawb ; ond
cafodd nerth gydâ Duw ; — iachawyd y gwahan-glwyf. Yr oedd
holl fedr Josua fel rhyfelwr yn rhy íychan i ddinystrio y gelyn-
ion, am fod y tywyllwch yn lloches iddynt ; ond yn ei gyfyng-
der ymdrechodd gydâ Duw ; — safodd yr haul a'r lleuad. Y mae
Samson y n marw cr pob peth y ddaear ; ond y n yr adwy gyfyng y
mae yr Israeliad yn wir yn dyfod i'r golwg. Yr oedd holl ddoeth-
ineb Hezecíah wedi pallu, pan y gwelwyd yntau yn amlwg
iawn fel Israeliad. Y mae pob Israeliad wedi bod, fel ITannah,
yn un caled arno ; — wedi bod, fel Job, â'i enaid yn chwerw o'i
fewn ; — wedi bod, fel Dafydd, yn y dyfnderau, — yn y pwll
isaf ; — wedi bod, fel Jonah, yn mol uffern. A ydyw y nôd hwn
o Israeliad yn wir yn perthyn i ni ? A wasgwyd ni i amgylch-
Yr\IsraeUad yn wir. 1003
iadau mor gyíyng, nes y gorfodwyd ni i droi at Dduw ? A
ŵyr ein henaid am ryw Peniel, lle, yn nghyfyngdra ein hysbryd,
yr ymdrechasom âg Angel y Cyfamod, nes y cyfnewidiwyd ein
henw ni o'r dydd hwnw allan, i gofio am y tro ? Os gwyddom
ni, yr ydym yn Israeliaid yn wir.
III. Y mae yr IsraeHad yn wir yn un argyhoeddedig ei
feddwl fod yr hyn sydd yn niíîyg ynddo ef ei hun i'w gael
méwn un arall ; hyny yw, m.ewn geiriau eraill, — Y mae yn
argyhoeddedig ei feddwl am effeithiolrwydd gweddi. Y mae
pawb sydd yma yn addef hyn ; ond nid oes neb yn ei gredu ond
yr Israehad yn wir. Y mae rheswm balch dyn yn gofyn pa
fodd y gall y pethau hyn fod ? Pa gysondeb sy mewn meddwl
fod dim a ddywed creadur mor ddistadl yn dyfod o dan sylw
Duw ? Ac yn mhellach eto, pan jstyrir pa fath un ydyw y
Duw hwnw, fod ei gyngor yn sefyll, a'i holl ewyllys yn cael ei
gwneuthur ; — nad dyn ydyw i ddywedyd celwydd, na mab dyn
i edifarhau ; — fod ei lywodraeth yn cael ei chario ymlaen wrth
ddeddfau tragywyddol ; — a pha beth bynag ' a ysgrifenwyd a
ysgrifenwyd.' Y mae yr holl,ddeddfau wedi eu cerfio ar greig-
iau cyfiawnder ; ac yno y byddant byth, fel nad ä yr un iod nac
un tipyn o honynt heibio. Y mae y Duw hwn wedi rhagweled
er tragywyddoldeb bob peth a gymer le mewn amser, ac y mae
y cwbl yn digwydd yn ol fel y rhagluniodd ei law a'i gyngor
Ef. Yn awr, gan fod pethau fel yna, pa fudd, medd calon
anffyddol, a fydd i mi os gwedd'iaf arno ? A allaf fi obeithio y
cyfnewid trefn dragywyddol pethau ? oblegid * yr hyn a fydd a
fydd ' er pawb. Fel hyn y mae gweddi yn cael ei thaflu o'r
neilldu, fel peth diwerth a íTol; oblegid, yn ol tystiolaeth y
Beibl, y mae yn anmhosibl i nebddyfod at Dduw mewn gweddi
heb 'gredueifod Ef, a'i fod yn obrwywr i'r rhai sydd yn ei
geisio.' Y mae y grediniaeth hon am Dduw yn hanfodol i
weddi ; oblegid y mae anmhosibilrwydd peth yn creu anobaith
mewn perthynas i'r peth hwnw ; ac y mae diflyg llwyr argy-
hoeddiad o sicrwydd peth yn creu amheuaeth. Ac fel y mae
anobaith yn atal gweddi yn gwbl, felly y mae amheuaeth yn ei
gwneuthur yn ofer. Y mae anobaith yn ein hatal i anfon yr
erfyniad i'r llys : y mae amheuaeth yn peri i ni ei anfon yn y
fath fodd, fel na Iwydda fe ddim. Na feddylied yr amheus,
I004 Yr Israeliad yn wir.
mwy na'r anobeithiol, y derbyn yntau ddim daioni gan Dduw.
Ond pa sail sydd i ífydd yn hyn ? Pa brawf sydd fod gweddi
yn effeithiol yn y nef ? Y" mae hyny yn myned yn bell tuag at
brofi, sef y grediniaeth gyíFredinol sydd o'i heífaith hi. Y mae
addoli yn gyífredinol, a lle bynag y mae addoli, y mae
gweddio. Ac yn annibynol ar ddatguddiad dwyfol, y mae
gweddi yn ei phrofi ei hun ei bod yn rhan o grefydd natur.
Arddangosiad na*-.uriol o ymddibyniaeth ydyw. Y mae natur
dyn yn ei gymell i ddychwelyd i ddiolch i gymwynaswr sydd
wedi gofalu yn gyson am dano. Ac os ar gymwynasau yr
oedd efe yn ymddibynu yn gwbl, gydâ diolch am yr hyn a
dderbyniwyd yn yr amser a aeth heibio, onid priodol yw deisyf
am barhad y cymwynasau yn yr amser dyfodol ? Mor
gyífredinol ydyw y teimlad hwn hyd yn nod yn y byd pagan-
aidd, fel ag y maent oll yn gweddio. Y mae yn wir eu bod oll
yn methu y gwrthddrych ; ond pa fodd y maent yn cydsynio
fod hyn yn angenrheidiol, os nad ydyw hyn yn rhan hanfodol
o'u natur, — yn deimlad perthynol iddynt fel dynion ? Ac o ba
le y daeth y teimlad hwn? Onid oddiwrth y neb a luniodd y
natur ? ac ni phlanodd Efe yr un teimlad yn ofer, — yr un duedd
i'w siomi.
Ac nid yw ein bod ni yn methu deall pa fodd y mae gweddi
yn eíîeithiol, ddim yn un prawf nad ydyw hi felly. Y mae
llawer un arall o ífyrdd Duw, nes atom na honyna, na fedrwn
ni ddim ei deall. Y mae gwahaniaeth dirfawr rhwng gwybod
fod peth yn bod, a gwybod pa fodd y mae yn bod. Byd y peth
cyntafydyw hwn, sef i wybod fod pethau. Y mae y pa fodd
a'r paham yn perthyn i'r byd a ddaw yn benaf Y mae yn
rhaid i ni gymeryd y íîaith noeth ar y prawf o'i bod yn awr :
ni a gawn wybod y pa fodd ■àx ol hyn. Byddai yn haws i ni
ateb ychydig o'r cwestiynau y mae yr Arglwydd yn eu rhoddi
i Job, mewn perthynas i'w weithredoedd, na deall egwyddorion
mawrion a chyífredinol ei lywodraeth. Ond nid ydy.n yn
gofyn cwestiynau fel hyn, — y paham a'r pa fodd, — mewn
perthynas i bethau y ddaear. Er bod pob peth y ddaear wedi
eu gosod dan ddeddfau anghyfnewidiol, y mae rhew ac eira y
gauaf, — gwres a sychder yr haf, — wedi eu hysgrifenu yn llyfr
Duw mor fanwl ag ydyw pethau mawrion y byd ysbrydol ; a'r
Yr Israehad yn wir. 1005
hyn a ysgrifenwyd a ysgrifenwyd : nid all yr un creadur, ac ni
WŶia Duw byth eu cyfnewid. Byddai yn hawdd iawn dyrysu
yr amaethwr gydâ chwestiynau, a dywedyd wrtho, nad gwaeth
beth a fyddo ei lafur, mai cyngor Duw a saif, ac mai ei ewyllys
Ef a gaiff ei gwneuthur. Ond er y gellid ei ddyrysu â gwrth-
ddadleuon, y mae efe ar yr un pryd yn sicr yn ei feddwl, oni
haua efe, na fêd ychwaith. A phaham na weithredwn ni ar yr
un egwyddor mewn perthynas i bethau ysbrydol ? Nid ydym
yn deall gydâ phethau y byd hwn, pa fodd y mae cysylltiad
rhwng y moddion a'u dibenion ; ond yr ydym wedi arfer gweled
íod cysylltiad, am hyny nid ydym yn meddwl cymaint am
y pa fodd. Y mae mor anamgyffredadwy ynddo ei hun
pa fodd y mae y gronyn gwenith yn cynyrchu ei
driugeinfed a'i ganfed, ac yn gwneuthur hyny trwy farw hefyd,
ag ydyw y modd y mae gweddi dyn yn effeithio yn y nefoedd.
Y mae y moddion wedi eu cysylltu gyda'u dibenion mewn
pethau ysbrydol ; a phahara yr amheuwn ynghylch y cysylltiad
yma mwy na chydâ phcthau y ddaear. Os ydyw y cyfan wedi
eu penderfynu fel cynifer o ddolenau mewn cadwyn, y naill
beth yn achos i beth arall, a hwnw eilwaith yn achos i beth
sydd yn ei ddilyn ; onid ydyw gweddi yn ddolen yn y gadwyn
o achosion ? Y mae hi i'w chanfod felly yn eglur yn y wared-
igaeth o Babilon. Yr oedd llawer o bethau wedi cymeryd lle
eisoes i barotoi at hyny. A pheidio myned yn mhellach yn ol
na hyny, — yr oedd Belsassar wedi gwneyd gwledd, a hyny wedi
llenwi y ddinas â rhialtwch, ac â meddwdod : yn y gloddest,
anghofiwyd cau y pyrth. Ar yr un pryd, yr oedd milwyr Cyrus
wedi gorphen y gwaith mawr o droi yr Euphrates allan o'i
gwely : felly yr oedd gwely yr afon yn rhydd i'r milwyr allu
myned i mewn ar hyd-ddi ; — y pyrth yn agored oeddent yn
arwain o'r afon i'r ddinas, a thrigolion y ddinas yn feddw ar yr
un adeg : felly cymerwyd y ddinas. Yr oedd Duw wedi
gwneuthur y cwbl i'r fan hon ; ond y ddolen nesaf yn nghadwyn
yr achosion, ydyw gweddi Daniel. Yn y flwyddyn gyntaf i
Daríus, olynwr Belsassar, y gweddiwyd hono ; ac ymhen tua
dwy fiynedd ar ol hyn, yr oedd Israel yn rhydd. Gomeddodd
Darîus eu gollwng yn rhydd, — fe'i symudwyd ef ymaith gan
angau, — daeth Cyrus yn ei le. Nid oes ond un cam yn awr
ioo6 Tr Israeîiad yn wir.
rhyngddynt â rhyddid, sef cael rhyw Iwybr i dueddu meddwi
Cyrus i hyny. Y mae traddodiad luddewig yn dywedyd, a thra
thebyg ydyw ei fod yn wir, mai y llwybr a gymerodd Daniel ^
hyny oedd dangos iddo brophwydoliaethau Esaiah am dano o
dan ei enw. Wedi cael yr holl achosion fel yna yn barod,
cynyrchwyd yr eíFaith mawr, sef cael Israel o'r caethiwed ; oad
yr oedd gweddi yn ddolen mor hanfodol yn nghadwyn yrachos-
ion a'r un oedd ynddi. Y mae hi felly eto ; a gweddi ydyw y^
unig ddolen yn y gadwyn anweledig sydd o fewn ein cyraedd
ni, ac y mae y dolenau eraill, sydd yn achosi pethau, yn gylym-
edig wrthi hi.
Nid ar feddwl y dyn ei hun ychwaith y mae gweddi yn
eíTeithio. Y mae y i wir fod ganddi effaith fawr yma. Y mae
yn anmhosibl gweddio heb fod yn well o hyny. Y mae fod i
greadur weithredu teimladau priodol at ei Greawdwr, o
angenrheidrwydd yn ei wneuthur yn well. Y mae gweddi
yn yr olwg hon arni ya cydffurfio dyn â Duw, a thrwy
hyny yn ei debygoH i Dduw, — yu ei sancteiddio. Ond y mae
gan weddi effaith hoUol wahanol i hwn ; — y mae ganddi nerth
gwirioneddol yn y nefoedd, onid ê ni buasai ganddi ddim nerth
mewn un man arall. Ac yn lle ymddyrysu ynghylch y modd
y mae gweddi yn llwyddo, digon gan y Cristion ydyw
fod y Beibl yn dywedyd hyn. i loan v. 14, 15 : " Hyn yw yr
hyfder sydd genym tuag ato ef ; ei fod ef yn ein gwrandaw ni,
pa beth bynag a ddeisyfom, ni a wyddom ein bod yn cael y
deisyfiadau a ddeisyfasom ganddo." Mat. vii. 7, 8 ; " Gofyn.
wch, a rhoddir i chwi ; ceisiwch, a chwi a gewch ; curwch, ac
fe agorir i chwi. Canys pob un sydd yn gofyn sydd yn derbyn ;
a'r neb sydd yn ceisio sydd yn cael ; ac i'r hwn sydd yn curo, yr
agorir." Y mae yr Israehad yn wir yn cymeryd y dystiolaeth yn
nerth, heb ofyn gydâ Nicodemus, " Pa fodd y dichon y pethau
hyn fod?" oblegid onidydyw efe wediprofi eigwirionedd hi fel y
Salmydd, — " Efe a glybu lef fy ngweddiau." Y wers fawr y
mae yr esiamplau Ysgrythyrol wedi eu bwriadu i'w dysgu ydyw^
— "Llawcra ddichon taer wcddi y cyfiawn." Ond y mae cam-
gasgliad yn cael ei dy.iu oddiwrth yr esiamplau hyn yn fynych,
fel yn nyddiau lago, sef bod y gweddiwyr a'r gweddiau yn
anghyffredin ; am hyny nad ydynt o fawr gysur i ni. Y mae
Yr Israeliad yn wir. 1007
yr apostol yn ateb yr wrthddadl yna : Na, '' Elias oedd ddyn
yn rhaid iddo ddioddef fel ninau," hyny yw, wedi ei amgylchu
â holl wendidau y ddynoliaeth; eto gwelwch yr hyn a wnaeth
efe mewn gweddi. Y mae genym esiamplau lawer o'i llwydd-
iant. Nid oes cymaint ag un o'i haflwyddiant. Y mae hi wedi
llwyddo o enau dynion annuwiol iawn : Ahab ryfygus ; —
Phíiraoh annuwiol, ni omeddwyd mo hono ef unwaith ; — a'r
Ninifeaid drygionus, fe'u harbedwyd hwythau. Y mae yr Ar-
glwydd yn gwrandaw llef dyn. Y mae hi wedi llwyddo dros
rai annuwiol iawn. Arbedwyd Soar ar gais Lot. Pa sawl
gwaith y gwaredwyd yr Israehaid ar ddymuniad Moses? Hi
Iwyddodd mewn amgylchiadau annhebyg iawn : — Manasseh yn
ngharchar Babilon ; — Jonah yn mol y morfil ; — y lleidr ar y
groes. Hi a Iwyddodd mewn perthynas i bethau bychain iawn,
er mewn gwirionedd ar raddeg fawr creadigaeth Duw, i-id oes
dim bychan yn bod, ond y rnae rhai pethau yn ymddangos
felly i ni. Ond pa beth sydd yn rhy fychan i weddi ì Os bydd
Hagar wedi methu cael y ffynon, le ddaw Duw i'w dangos hi-
Os bydd gwas Abraham yn ofni na Iwydda fe ddim i gael gwraig
i fab ei feistr, fe'i harweinir hi gan Dduw ato ef.
Y fath ragorfraint ydyw hon sydd yn perthyn i'r ddaear :
gweddi dyn yn llwyddo yn ynef! Heb y rhagorfraint hon,
buasai y byd hwn i'w arswydo mewn gwirionedd. Y mae ei
gyfnewidiadau mor aml ; — ei beryglon yn aneirif; — yr ydym
ninau yn agored iddynt oll, — yn rhy anwybodus i'w hosgoi, ac
yn rhy weiniaid i'w gwrthsefyll, Ond yr ydym wedi ein geni
yn freiniol : y mae genym ryddid i ymguddio o dan gysgod
adenydd yr Hollalluog, — i ffbi ymhob perygl i'r breichiau tra-
gwyddol. Nid rhyfedd i Moses, wrth edrych ar y fath ragor-
fraint, ofyn, — " Pa genedl mor fawr, yr hon y mae Duw iddi
yn nesâu ati, fel yr Arglwydd ein Duw ni, ymhob dim a'r y
galwom arno.?" Os abwydyn ydyw dyn, y mae Duw yn
gwrandaw ar ei lef ef. Os pentref anenwog ydyw y ddaear, y
mae y nefoedd wedi ymrwymo i wrandaw pan lefo. Cyfnewid-
ied y ddaear, — ymgasgled peryglon, — dued y cymylau, — rhuthr-
ed y gwyntoedd, — ffyrniged yr ystorm, — nid all y bydd hi yn
galed iawn arnom, tra y bydd genym Dduw yn agosâu atom,
ymhob dim y galwom arno : ac yn enwedig y Duw hwnw, fel
ioo8 Tr IsracUad yn wtr.
yr Arglwydd ein Duw ni ; yr Hwn y mae cyfnewidiadau y
ddaear o dan ei lywodraeth, — y cymylau yn gerbyd iddo, — yn
marchog ar adenydd y gwynt,— ac yn trigo yn nghanol y
dymestl. Tra y lydd y rhagorfraint hon genym, fe fydd pob
peth ; hebddi, ni fydd dim. A ydym wedi ei defnyddio hi ?
Buasai trefydd China wedi eu taflu yn agored yn ofer, oni buasai
ein bod yn cario masnach ymlaen â hwynt. Wel, ai yn ofer
y raae y nefoedd wedi ei gwneuthur yn wlad rydd, i'r ddaear
fasnachu â hi ? Ai yn ofer y talwyd y swm mawr am y fraint
hon ar ben y groes ? lë, i bawb, ond i'r " Israeliad yn wir."
Ond y mae ef yn masnachu yn feunyddiol â'r wlad : hyn ydyw
ei alwedigaeth. Pe y gofynid iddo, fel y goíÿnodd y morwyr ^
Jonah, — Beth yw dy gelfyddyd di ? yr ateb fyddai, — Gwedd'iwr.
"Minau a arferaf weddi."
IV. Y mae yr Israeliad yn wir yn un na fyn ei omedd. Gwelir
hyn yn amlwg yn hanes Jacob. Cafodd cysgodau y nos gilio, —
y wawr dori, — a'r haul godi, — ond yr oedd ef wedi penderfynu
y mynai y fendith. Cawsai yr haul facalud cyn y buasai efe yn
gadael i'r angel fyned ymaith heb ei fendithio ef. Y mae
teyrnas nefoedd wedi cael ei threisio gan bawb a aeth iddi
erioed. Nid aeth neb iddi heb fod o ddifrif. Nid yw y difrif-
wch hwn ddim yn gwneuthur Duw yn fwy parod i roddi, ond
y mae yn anhebgorol angenrheidiol tuag at ein parotoi ni i
dderbyn. Ffrwyth y ddau beth diweddaf y buom yn sylwi
arnynt ydyw y nodwedd hwn ar yr " IsraeHad yn wir;" —
gweled tlodi y ddaear, a gweled cyfoeth y nef, a wnaeth iddo
benderfynu na fynai ei omedd. Fel y wraig o Ganaan, nid oedd
ond trueni gartref, ond yr oedd hi yn gweled ymwared yn yr
Arglwydd jesu ; gan hyny hi a lefodd ar ei ol nes cael yr ym-
wared hwnw. Ond y mae hyny i'w gofio yn gydiol â hyn, fad
ewyliys Duw yn uchaf gyda phob " Israeliad yn wir." Y mae
ei daerineb yn ddarostyngedig i hon. Yr oedd yr Arglwydd
lesu ei Hun yn gweddio yn gweddio yn yr ystyr hwn mewn
ymostyngiad i'r ewyllys ddẅyfol, a chafodd ei wrandaw, — aeth
y cwpan heibio. Felly y mae taerineb yr Israeliad eto yn
ddarostyngcdig i'r ewyllys. Ond y mae yr ymostyngiad hwn
yn dwyn perthynas yn benaf, os nad yn gwbl, â'r pethau nad
ydynt yn addawedig, na datguddiedig yn y Beibl ; eto y mae
Yr Israeliad yn wir. 1009
genym esaraplau ysgrythyrol eu bod yn dyfod o fewn i gylch
gweddi. Oni wrandawodd yr Arglwydd aral un, nad oedd
ganddo yr un addewid o hyny, na'r un sail i weddio am y peth^
ond yr hyn yr oedd yn ei dynu oddiwrth gymeriad cyíîredinol
Duw : megis Lot am arbediad Soar, a'r Ninifeaid am eu har-
bediad eu hunain ; ac am a wn i, nad oedd pob arbediad ar
geíiedl Israel yn arbediad fel hyn. Nid oedd yr Arglwydd wedi
addaw eu harbed, eto hyny a wnaeth bob tro y gweddiasant
arno. Ac er nad oes genyra yr un addewid bendant yn y Beibl
i'w phledio am lawer o bethau sydd yn briodol destynau gweddi,
— megis adferyd iechyd, — rhoddi i ni amser hau a medi, — peri
i'r cymylau wlawio, a'u hatal hefyd ; eto y mae genym yr un
sail i weddio am y pethau hyn ag oedd gan Jduwiolion y Beibl,
sef cymériad Duw; ac yn ychwanegol at hyn, y mae genym eu
hesamplau hwy o Iwyddiant. Ac nid ydyw ein bod yn daer
am bethau fel hyn mewn un modd yn digio Duw, os bydd y
teiralad i ewyllys Duw yn uchaf yn ein meddwl. Ond am bob
peth y mae genym addewid, — pethau bywyd tragywyddol, —
gallwn fyned â'r addewid at y Duw mawr, fel papyr i'r Arian-
dy, ac aros yno hyd nes y cawn ni y cyfnewid. Y mae trugar-
eddau bywyd tragywyddol yn rhai sicr yn yr ystyr hwn. Am
bethau y ddaear,yr ydym yn seilio ein gweddiauar ddoethineb,
gallu, a daioni Duw : Ond wedi yr oll, y mae yn rhaid i ni
gofio na wna Duw ddim o bob peth a all Ef. Eithr am bethau
yr enaid, yr ydym yn seilio ein dyrauniadau ar ei eiriau ; acos
na wna ein Duw ni bob peth a all, fe wna bob peth a ddywed-
odd. Gelli weddio am adferyd iechyd dygorff, am y gall Duw
hyny. Gelli weddio am iechyd dy enaid, am fod Duw wedi
addaw hyny. " Megis y maddeuaist o'r Aipht hyd yma," oedd
gan Moses am arbediad y gwrthryfelwyr : dadl wedi ei thynu
oddiwrth gymeriad Duw. " Cofia y gair wrth dy was, yn yr
hwn y peraist i mi obeithio," oedd gan Dafydd. Y mae ei enw,
sef ei gymeriad, genym am bethauy bywyd hwn; ond am bethau
y byd a ddaw, y mae ei air; ac y mae hwnw wedi ei fawrhau
uwchlaw ei enw oll. Ni wyddom ni ddim beth sydd yn deilwng
o'i enw ; am hyny nid. allwn ddy wedyd pa beth a wna mewn
perthynas i bethau y ddaear. " Pwy a ŵyr," ydy w
yr eithaf yma ; ond ni a wyddom beth sydd yn deilwng o'i
i>4
loio Yr Israelìad yn wir.
air, sef cyflawniad, ac y mae yn sicr o gael ei fawrhau : —
"Pob siU erioed a dd'wedodd Ef
Sydd siwr o ddod i ben.'"
Y raae yr "Israeliad yn wir " yn deall hyn : ni fyn ei omedd ;
os na chaifify dorth, fe fyn y briwsion. A ydyw y nôd yma o'r
''IsraeHad yn wir" arno.n ni ? A wyddom ni am yr ymdrech
sanctaidd hwn gydà Duw ? — y penderfyniad meddwl hwn i
fynu myned i'r nefoedd ?
V. Ein sylw olaf ar yr " Israeliad yn wir " ydyw, mai hyn
ydyw gwaith ei oes. Y mae pawb yn cael rhyw fath o ffitiau
crefyddol ; — mewn cyfyngder yn galw ar Dduw ; ond y gwa-
haniaeth rhwng yr Israeliad ymddangosiadol â'r " IsraeHad yn
wir " ydyw hyn : rheol oes un ydyw gweddi ; eithriadau oes y
llall ydyw. Am yr annuwiol, — "a eilw efe ar Dduw bob
amser ?" Parhad ydyw un o'r proíìon goreu o wirionedd. Y
mae yr *' Israeliad yn wir " yn rhodio gyda Duw fel Enoch. Y
mae llawer un yn ymofyn â Duw yn eu cyfyngder, fel Saul
brenin Israel : ond y mae yr " Israeliad yn wir " yn trigo yn
rahresenoldeb Duw yn wastad, — yn byw yn y cysegr gydâ'r
arch a'r shecinah : yn gweddio yn ddibaid, — yn parhau mewn
gweddi, — yn ymbil ddydd a nos yn wastad. Nid oes yr un am-
gylchiad a'i rhwystra i ddilyn y gorchwyl hwn. Mewn iechyd,
y mae ei weddi yn esgyn i fyny fel arogldarth, a dyrchafiad ei
ddwylaw fel yr offrwm prydnhawnol. Yn ei glefyd, y mae yn
trydar fel y garan a'r wenol. Nid all Ilwyddiant ddim ei hudo ef
ymaith oddiwrth ei íryddlondeb i'w Dduw. Fel y gwahan-
glwyfus hwnw, fe fyn ef ddychwelyd yn ol i ddiolch. Ni all
adfyd ychwaith ddim myned rhyngddo a'r nefoedd. Gydag
Ephraim fe dry yn ol, yn ei ganol, at ei Dad, dan ddywedyd,
" Ti yw yr Arglwydd fy Nuw." Y mae yn ddyn sydd yn gor-
fodi pob peth i fod yn wasanaethgar i'w gelfyddyd. Y maent
naill ai yn ddefnyddiau gweddi, neu yn achlysuron gweddi. Os
bydd marw un o'i gyfeillion, y mae efe, gyda disgybHon loan,
yn rhedeg i fynegi hyny i'r lesu. Os bydd rhywbeth anghysur-
us wedi digwydd i rywun sydd yn anwyl ganddo, fel yr eglwys
yn achos Pedr, fe ddywed hyny mewn gweddi ddyfal wrth ei
Dad nefol. Fe'i dwg pob peth ef at orsedd gras, Fe'i tynir ef
Yr Israeliad yn wit . 1 1 1 1
gan wenau rhagluniaeth, — fe'i gyrir ef gan ei gŵg hi. Fe dry
y naill yn ol yn ddiolchiadau, a'r Ilall yn ddeisyfiadau. Ni cha
dim ddisgyn o'r nefoedd, heb i rywbeth esgyn yn ol o'r ddaear.
Ni bydd ar yr " Israeliad yn wir " byth eisiau lle i weddio. Os
na bydd ganddo ystafell i gymdeithasu â'i Dad, fe rodia allan
i'r meusydd, fel Isaac, i wneyd hyny. Fe ä i fyny i'r mynydd,
fel yr Arglwydd lesu, i'r diben hyny. Fe chwihaam gysgod
pren, fel Nathanael, i hyny. Fe encilia i lan afon, fel
Ezeciel i hyny ; neu, fe ä ar ei Hniau, fel Paul, ar y
traeth. Ni bydd arno byth ddiflfyg amser ychwaith i hyn : os
na bydd y dydd at ei alwad, fe gymer y nos i weddio, fel Jacob,
ac Arglwydd Jacob. Os bydd ê byw yn nghanol tyrfa, fel
Moses, fe garia ymlaen gymundeb prysur â'r nefoedd yn eu
canol hwynt. Pe byddai yn gorfod sefyll yn gyson gerbron
hrenin, gyda Nehemiah, fe fyn ef ymddiddan gair â Brenin y
brenhinoedd, o ganol y Uys. Pe byddai yn brif weinidog y
llywodraeth, a helyntion cant ac ugain o daleithiau i gael eu
trefnu ganddo, fe fyn ef, fel Daniel, amryw adegau bob dydd i
ymddiddan â'i Dduw. Hyn ydyw gwaith ei oes. Teml ydyw
y ddaear yma iddo ef ; tŷ gweddi. Y mae yn wir fod ynddi ei
chysegr, a'i chysegr sancteiddiolaf : gwell fyddai ganddo fyned
i'r sanctaidd sancteiddiolaf ; ond os nad all ef fyned yno, gydâ'r
OfFeiriad ar ei ben ei hun, fe weddia efe yn nghanol y bobl yn
y cyntedd. Pe gallem ni edrych ar ei enaid, y mae ef fel nod-
wydd y cwmpas yn ymysgwyd, yn cwifro tua'r nefoedd. Y mae
rhywbeth yn atal hono weithiau i gyfeirio yn bur llonydd at ei
phegwn ; ond y mae hi yn ysgwyd o'i ddeutu ef ; felly y mae enaid
yr " Israeliad yn wir " yn crynu o amgylch ei bwynt.
Pwy ydyw hwnyna sydd yn cael ei ddesgrifio .'' A adwaenoch
chwi neb tebyg iddo ? Gadawn iii y pictiwr yn hanerog iawn fel
hyn, i edrych a ydyw yr original yn y gynulleidfa. A ydyw y
gwr a ddarluniwyd yma ? Mor ddedwydd fuasai y meddwl y gall-
asem ni droi i bob congl o'r adeilad, a chyfeirio â'n bys, dan ddy-
wedyd, — " Wele Israeliad yn wir," at bob un yn y lle. Ond yr
wyf yn ofni y byddai raid i farn cariad ddywedyd geiriau Eli.
phaz y Temaniad wrth Job, wrth aml un yn y gynulleidfa, —
" Yr yiwyt yn atal gweddi gerbron Duw." Y mae yr ymadrodd
bychan yna yn gyhuddiad arswydus i'w ddwyn ymlaen yn
10 12 Yr hraeliad yn wir.
erbyn dyn fydd yn fuan yn myd yr ysbrydoedd, — yn teimlo ei
hun am dragywyddoldeb gerbron Duw. Ond pa sawl cydwy-
bod sydd yma yn dywedyd ei fod yn wir. Pa sawl un sydd
yma nad oes yr un o fryniau y ddaear yn Peniel iddo ? Ni all
godi colofn ar un llanerch o'r ddaear, a'i heneinio hi yn Bethel,
i gofio fod y lle wedi bod yn dŷ Dduw iddo ef
[Nid oes amseriad wrth y bregeth : ond fe'i cyf ansoddwyd , dybygid, tna
Tachwedd. 1847.- GoL.]
PREGETH LXI.
lESU GRIST YR UN.
Hebeeaid xiii. 8, — ■ lesu Grist, ddoe a heddyw yr un, ac yn dragywydd.
OGONIANT yr efengyl ydyw bod ei phob peth hi yn
ymarferol. Y mae yn perthyn iddi rai pethau i'w
credu, ac nid i'w hamgyfFred ; ond nid oes yn per-
thyn iddi ddim i'w gredu, ac nid i'w yraarfer. Y mae y pethau
mwyaf mawreddus a goruchel o fewn cylch ei hathrawiaethau ;
er hyny nid oes dim yn rhy isel a bychan i ddyfod o fewn cylch
ei dysgeidiaeth. Y mae hi yn hyn yn dwyn delw ei Hawdwr.
Y mae yr eithafìon wedi cyfarfod ynddo Ef ; — y pethau mwyaf
o dan ei lywodraeth, a'r pethau lleiaf hefyd yn wrthddrychau
ei sylw. Felly hithau : y mae hi fel yr haul, â'i llewyrch yn
dangos y pethau mawrion uwchben, a'r pethau bychain o dan
ein traed hefyd. A dylid gwylio rhag ysgar ei hathrawiaethau
oddiwrth ei dyledswyddau ; oblegid y mae y naill yn tarddu
yn naturiol o'r llall ; ac y mae y naill yn anmherffaith
heb y Ilall. Yr athrawiaethau ydyw y pren, a'r dyledswyddau
ydyw íìrwyth y pren. Yr athrawiaeth ydyw y tòriad ar y sêl,
a'r ddyledswydd ydyw y gwrym y mae yr argraff yn ei wneu-
thur ar y cŵyr. Ac nid anhawdd fyddai dangos fod pob dyled-
swydd y mae yr efengyl yn ei chymell arnom, yn seiliedig ar
ryw athrawiaeth. Pan y geilw hi arnom i ddychwelyd at Dduw,
y gwirionedd sydd yn sail i hyny ydyw, fod trugaredd gydag
Ef ; — neu i roddi ein hunain i'r Arglwydd lesu, y gwirionedd
sydd yn sail i hyny ydyw, am ei fod yn abl i gadw. Pan y
ceisia hi genym beidio ag ym,AvylIo â gofalon bydol, sylfaen y
cais fydd, bod un arall yn gofalu trosom ni.
II 14 lesu Grist yr un.
Pwnc o athrawiaeth ydyw y testyn hwn ; ac y mae yn dyfod
i mewn, naill ai mewn cysylltiad â'r ddyledswydd a grybwyllir
yn yr adnod o'i flaen, neu yn sylfaen i'r ddyledswydd a gym.
hellir yn yr adnod ar ei ol. Y ddyledswydd a gymhellir yn yr
adnod o'i flaen ydyw, — " Meddyliwch am eich blaenoriaid, y
rhai a draethasant i chwi air Duw : ífydd y rhai dilynwch, gan
ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt." Ond rhag i hyn-
yna greu teimladau anobeithiol yn eich mynwes, a pheri i chwi
ofni am arch Duw, wrth weled cymaint oedd â'u hysgwyddau
dani yn syrthio, dyma wirionedd i atal i hynyna fod : — "lesu
Grist, ddoe a heddyw yr un, ac yn dragywydd." A ydyw y
milwyr yn gadael y maes ? Y mae Tywysog y llu ar y maes
eto. Neu, gall mai sylfaen ydyw y testyn i'r ddyledswydd a
gymhellir yn yr adnod ar ei ol : — " lesu Grist, ddoe a heddyw
yr un, ac yn dragywydd ;" am hyny, " Na'ch arweinier oddi-
amgylch âg athrawiaethau amryw a dieithr." Gan ei fod Ef yr
un, byddwch chwithau felly. Os oedd Efe yn deilwng o'ch
ffydd chwi ddoe, y mae Efe yr un mor deilwng o honi heddyw
eto, ac fe fydd felly yn dragywydd. Neu, fe all fod y testyn yn
dyfod i mewn yn y cyfwng rhwng y ddwy ddyledswydd, i atal i
gyflawniad y ddyledswydd gyntaf, o feddwl am farwolaeth y
blaenoriaid, fod yn rhwystr i gyflawniad yr ail ddyledswydd, sef
peidio cymeryd 'eu harwain oddiamgylch âg athrawiaethau
amryw a dieithr.' Gallasai meddwl am eu blaenoriaid oedd
wedi marw eu gwneuthur hwy yn fwy parod i gymeryd eu
harwain o amgylch gan athrawiaethau amryw a dieithr, yn
gyffelyb i'r Israeliaid wedi iddynt dybied fod Moses wedi ei
golli, ceisiasant dduwiau i fyned o'u blaen ; ond y mae y testyn
yn edrych yn ol, ac ymlaen, ac yn atal i'r ddyledswydd a gym-
helHr yn yr adnod o'i flaen effeithio er niwed, fel ag i beri i'r
ddyledswydd a gymhelHr yn yr adnod ar ei ol fod yn anhawdd
ei chyflawni. Pan y byddwch yn meddwl am eich blaenoriaid
yn marw, cadarnhewch eich meddwl â'r gwirionedd fod lesu
Grist yn fyw, ac yr un ; ac yna ni bydd cymainto berygl i chwi
gacl eich arwain o amgylch gan ryw athrawon newydd i " ath_
rawiacthau amryw a dieithr."
Yr amcau mewn golwg yn yr oll o'r epistol hwn, ydyw
sefydlu yr Hebreaid crediniol yn nghrefydd Crist. I hyn y
lesu Grist yr un. 1115
mae yr apostol yn defnyddio llawer o resymau ; ond wrth
sylwi arnynt, gwelir fod y rhesymau hyn oll mewn rhywfodd
neu gilydd yn dal cysylltiad àg Tesu Grist ; ie, mewn gwirion-
edd, Efe ydyw ei reswm mawr ef, a'i unig reswm dros ei bwnc,
pan y mae yn dadleu rhagoroldeb yr oruchwyHaeth fel cymhell-
iad i ífyddlondeb. Beth ydyw hwnw ond peth y mae hi yn ei
dderbyn oddiwrth ei chysylltiad âg lesu Grist ? Tori y cysyllt-
iad yna fyddai ei hysbeiUo hi o bob rhagoroldeb yn y fan, fel
nag ydyw yr holl ddadleuon sy ganddo dros ffyddlondeb, erbyn
eu.holrhain i'w gwreiddyn, yn ddim ond lesu Grist yn ei
Berson, yn ei aberth, yn ei eiriolaeth, neu mewn rhai o'i swydd-
au cyfryngol. Ac nid y w y Uythyr hwn yn ddim ond pregeth
ar yr adnod hono: — " Crist sydd bob peth, ac yn mhob peth.'
Y mae llawer o bethau yn y greadigaeth naturiol yn ateb amry w
ddibenion : y mae yr haul yn goleuo ac yn gwresogi, ac yn
prydferthu y ddaear ; ond ni ddyfrha efe mo honi : y mae yn
rhaid edrych am hyny at ryw beth arall. Y mae yr awyr yn
hanfodol i bob math o fywyd; — yn cynyrchu lleithder, heb yr
hwn ni all dim fyw; — yn trosglwyddo seiniau, ac yn gyfrwng
gwelediad ; ond byddai yna dywyllwch oesol erddi hi ;— hi a
wasgara oleuni, ond y mae yn rhaid iddi ei gael o ryw le arall.
Y mae bara yn ffon bywyd, ac yn ateb llawer o ddibenion
gwerthfawr ; ond nid ar fara yn unig y bydd fy w dyn er hyny.
Y mae arian, medd y Pregethwr, '' yn ateb i bob peth ;'' ond y
mae yr un gŵr yn dywedyd fod rhyw beth, na cheir mo hono
pe rhoddai un lonaid ei dŷ o arian am dano. Nid oes yr un o'r
pethau hyn yn bob peth, ac yn ateb i bob diben ; ond y mae
lesu Grist, yn y greadigaeth newydd yn bob peth. Nid ydyw
hon yn llai ei gogoniant, nac yn llai ei chysuron na'r greadig-
aeth gyntaf, ond yn hytrach yn annrhaethol fwy. Y mae yma
Haul yn nghanol ei ffurfafen hi ; ond Efe ydyw hwnw ; a phan
fydd yr haul o'rgolwg, y mae ymaserenyn sirioh y tywyllwch ;
ond Efe ydyw hono. Y mae yma afonydd dyfroedd, a ffynon-
au bywiol ; ond Efe ydyw " Ffynon y dyfroedd byw," ac
" Afon dwfr y bywyd." Nid ydyw fel Tyrus a Sidon, heb
gynhaliaeth ynddi ei hun ; na, y mae yma gyflawnder o fara, —
ond Efe ydyw " Bara y bywyd." Nid Ile heb bob math o bryd-
ferthwch ynddo ydy w : y mae yma rosyn ; ond Efe ydyw y
iii6 lesîi Grist yr nn.
Rhosyn. Y mae yma ''Blanigyn enwog ;" ond Efe ydyw y
" Planigyn enwog." Y mae yma bren íFrwythlawn ; ond Efe
ydyw y " Pren afalau." Y mae yma'" gysgod craig fawr yn y
tir sychedig," i gadw rhaggwres yr haf ; y mae yma " loches rhag
tymestl " y gauaf ; ond y " Gwr " hwn yw'r ymguddfa rhag y
naill a'r llall. Y mae lesu * Grist yn bob peth, ac yn mhob
peth.' Fe geisiodd Moses fod yn llawer o wahanol bethau i'r
Israeliaid : yr oedd yn ddeddfroddwr ac yn brophwyd iddynt, —
yn cyflawni llawer o waith offeiriad ; efe hefyd fyddai yn eistedd
ar orsedd barn fel brenin i benderfynu eu dadleuon. Gellir
dywedyd ar ryw olwg ei fod agos yn bob peth iddynt ; ondbron
gyda'i fod yn dechreu bod felly, y mae Jethro, yr hen ŵr crafiF,
yn canfod ei fod wedi cymer^'d gormod arno ei hun, ac yn ei
gynghori i ymryddhau oddiwrth yr hoil cfalon ; Exod. xviii.
i8. Gwrandawodd yntau ar ei chwegrwn ; gosododd farn-
wyr arnynt i benderfynu yr holl bethau bychain, fel nad oedd
ond y pethau celyd yn dyfod ato ef ; eneiniodd Aarpn i fod yn
oíFeiriad, fel nad oedd raid iddo gyflawni nemawr o waith y
swydd hono. Yn hir cyn marw yr oedd wedi ymryddhau i
fesur mawr oddiwrth y cwbl, fel pan aeth efe i'r inynydd i
hyny, nid oedd dim yn sefyll ymysg y bobl o eisiau bod Moses
yno. Ond y mae lesu Grist wedi bod yn bob peth i'w Israel ef
er's miloedd o flynyddoedd, ac nid yw yn teimlo y gwaith yn
rhy drwm iddo eto. " lesu Grist; ddoe a heddyw yr un, ac yn
dragy wydd.'" Er i bob peth fyned ymlaen gan Israel, wedi' colli
yr hwn a fu yn bob peth iddynt ; pe coUai yr Israel ysbrydol
lesu Grist, safai eu pob peth hwynt am dragwyddoldeb.
Mwy o anfri ar ddyn nac o anrhydedd iddo, ydyw ei fod yn
ceisio ymyraeth â llawer o bethau ; ac yn gyffredin y mae yn
brawf sicr na bydd íawr gamp ar yr un o honynt ; ond y mae
lesu Grist yn jmyraeth â'r cwbl, ac y mae yn gampus yn y
cwbl hefyd. Y mae yn gwneuthur hyny er's amser maith
bellach, ac fe bery i wneuthur hyny yn oes oesoedd. " lesu
Grist, ddoe aheddyw yr un, ac yn dragywydd." Gelliredrych
ar yr epistol hwn fel rhyw golofn hardd, wedi ei gwneuthur o
bob meini gwerthfawr, ac y mae y testyn yn gnap a blodeuyn
arni, sef yn addurn iddi oU. Buasai amddifadiwydd o ragor-
iaeth y testyn yn ysbeilio pob rhagoriaeth arall o'i ogoniaut ;
lesii Grìst yr un. 1117
ond y mae hwn, sef bod anghyfnewidioldeb yn briodoledd yn
lesu Grist, yn peri iddynt oll ddisgleirio gyda gog-niant
digyífelyb. " lesu Grist, ddoe a heddyw yr un, ac yn
dragywydd." Ni a edrychwn ychydig, —
I. Ar y briodcledd hon sydd yn perthyn i lesu Grist.
II. Ni a geisiwn ddefnyddio y gwirionedd hwn am dano,
i'r diben y llefarwyd ef gan yr apostol
I. Yr hyn a briodoUr iddo ydyw anghyfnewidioldeb. Y
mae dywedyd ei fod "yr un," yr un peth yn hoUol a dywedyd
ei fod yn Dduw ; neu yr un peth a phe rhoddasid iddo yr enw
a roddcdd yr Arglwydd arno ei hunan i Moses, sef " Ydwyf ;"
— enw na pherthyn i neb ond i Dduw, ac un o'r enwau ymha un
y mae mwyaf o fawredd y Bod anfeidrol yn dyfod i'r golwg.
"Ydwyf " ydoedd ei enw cyn creu: ni roddodd y greadigaeth fawr
yma ddim at yr enw; a phe difodid hi, ni eíîeithiai hyny ddim
ar yr enw. Rhyw eisiau, — rhyw ddfffyg, — ihyw gymaint o nid
ydwyf, sydd yn peri i bob creadur weithredu; ond nid eisiau,
nid nid ydwyf a barodd i Dduw weithio. Yr oedd Efe yn
" Ydwyf " C3'n dechreu, — yn Fod mawr difwlch, digon iddo ei
Hun. Nid ydyw yn fwy o " Ydwyf " wedi creu. Pwy a
roddes iddo Ef yn gyntaf ì O hono y mae y greadigaeth fawr
yn deiliiaw, ac ynddo y mae hi yn sefyll. Y mae Efe yn
" Ydwyf," yn annibynol arni hi ; — yn " Ydwyf " anghyfnewid-
iol yn nghanol ei holl gyfnewidiadau hi. jSTid ydyw hi ddim y
peth a fu hi : ni bydd hi ddim y peth ydyw. Ond " Ydwyf "
oedd Efe,— "Ydwyf " ydyw,— ac " Ydwyf " a fydd Efe byth. Y
mae bod lesu Grist yr un, yr un peth a dywedyd ei fod Ef yn
'< Ydwyf."
Y mae yr apostol yn sylfaenu amryw o'i resymau dros barhad
yn y ífydd Gristionogol ar seíydlogrwydd goruchwyliaeth yr
efengyl, sef ei bod hi yn deyrnas ddisigl ; ond y mae y sefydlog-
rwydd hwn yn cael ei olrhain yn ol ganddo i anghyfnewidiol-
deb Pen y deyrnas. Y mae bron yn dechreu ei epistol gyda
hyny. Eglurhau hyny, a thynu casgliadau oddiwrtho, ydyw
coríTyr epistol, ar un peth yw y diweddglo, "lesu Grist, ddoe
a heddyw yr un, ac yn dragywydd. Yn y benod gyntaf y mae
yn dangos anghyfnewidioldebei Berson,: yn y penodau dil'/nol,
ei anghyfnewidioldeb yn ei swyddau ; ac y raae y testyn yn
f -e
II i8 lesu Grtst yr un.
cynwys, raewn geiriau byr, swm y cwbl a ddywedwyd: — " lesu
Grist, yr un ddoe a heddyw ac yn dragywydd."
Y mae bod lesu Grist yr un, —
I. Yn cynwys ei fod yn anghyfnewidiol o ran ei Berson. Y
mae yr hyn a ddywedwyd am dano eisoes, sef ei fod yn Dduw,
yn " rŵy/," — yn cynwys hyn. N"id oes neb yn bod o angen-
rheidrwydd ond Duw yn unig. Peth damweiniol, hyny yw,
peth a allasai beidio a bod, ydyw bod i bawb eraill. Bu amser
pryd nad oeddent, ac nid oes dim ynddynt hwy yn atal nad all
amser ddyfod pryd na byddant. Ond y mae ganddo Ef anfarw-
oldeb : " Yr Hwn yn unig sydd ganddo anfarwoldeb," medd yr
apostol ; hyny yw, y mae ganddo o angenrheidrwydd natur ;
am hyny y mae yn anmhosibl iddo Ef beidio à bod. Ac oblegid
hyn, y mae yr un mor anmhosibl iddo gyfnewid. Pe buasai
cyfnewidiad yn bosibl, buasai difodiad yn bosibl, ac yn debyg
hefyd ; oblegid y mae pob cyfnewidiad yn tueddu at hyny. Y
mae y graig yn gadarn ; ond y mae y dyfroedd yn treulio ei
cheryg hi, a thrwy hyny yn ei difodi o fod yn graig. Y mae y
mynydd cribog yn sefydlog ; ond y mae y gwlaw yn golchi
defnyddiau hwnw i lawr i'r dyíFrynoedd, a thrwy hyny yn ei
ddifodi yn araf o fod yn fynydd. Y mae anferth faintioli yn y
môr ; ond y mae ei ddyfroedd yn cael eu hyfed i fyny yn raddol
gan yr haul ; ac oni buasai fod darpariaeth arall i beri iddynt
ddychwelyd iddo dracheín, buasai hyny yn ei ddifodi yn araf o
fod yn fòr. Meddyliwch am yr hyn a fynoch yn y greadigaeth
weledig, — y mae ei bod hi yn agored i gyfnewidioldeb yn
cynwys hefyd bosiblrwydd difodiad, ac am a wyddom ni, nad
ydyw y greadigaeth weledig wedi ei bwriadu i fod yn ddrych i
ni o ymddibyniad y greadigaeth ysbrydol ar Dduw. Y mae
cyfnewidioldeb ynddi hithau hefyd yn tueddu at ddifodiad ; ond
wedi dywedyd, — " Tydi yr un ydwyt," nid ydyw diwedd yr
adnod ond ail adroddiad sydd yn perthyn i farddoniaeth y
Dwyrain o'r un meddwl, " a'th flynyddoedd ni phallant." Y
mae ei fod yr un o angenrheidrwydd yn cynwys na phalla ei
flynyddoedd.
Y mae yr apostol, yn y benod gyntaf, wedi ei ddangos yn
Greawdwr, ac felly yn Dduw, yn tynu gwrthgyferbyniad rhyng-
ddo â'i weithredoedd, er mwyn dangos y briodoledd hon o'i
Tesu Grist yr un. 1119
eiddo : — " Hwynt-hwy a ddarfyddant ; ond Tydi sydd yn
parhau ; a hwynt-hwy oll fel dilledyn a heneiddiant." Mewn
cymhariaeth i bob peth arall, geilir dywedyd am y nefoedd, —
" Erioed y maent hwy ;" ac am y ddaear, "hi a saif byth."
Nid ydym ni, plant Adda, ond er doe, y mae y nefoedd erioed :
yfory ni byddwn ni, ond " y ddaear a saif bytb." Y mae y
ddaear yn ein gwisgo ni fel dilledyn am ychydig ddyddiau, ac
yna yn ein diosg ni i wisgo un newydd ; ond y mae Efe yn ei
gwisgo hi ei Hun fel dilledyn, ac ymhen ychydig amser fe'i
diosg hi, fel y mae hithau yn ein dioíg ninau yn awr. A phan
fydd hi fel dilledyn wedi treulio allan, priodol fydd dywedyd
wrtho Ef y pryd hyny, — *■ Dy flynyddoedd ni phallant." "Efe
yw y Graig :" tipyn o gwmwl o amgylch ei chopa hi ydyw y
nefoedd : ychydig darth o amgylch ei gwaelodion hi ydyw y
ddaear. Nid yw y cerubiaid a'r seraphiaid ddim ond ychydig
dònau sydd yn myned a dychwelyd o gylch ei throed hi. Ym-
hen ychydig eto, bydd y cwmwl sydd o amgylch ei phen hi
wedi diflanu, a'r tarth sydd o amgylch ei gwaelodion hi wedi ei
yfed i fyny gan yr Haul : y tònau sydd yn chwareu o gylch ei
throed hi wedi newid llawer ar eu ff"urf ragor ydynt yn awr ;
ond ni efl'eithia hyn ddim ar y Graig. " Tydi yr un ydwyt."
Y mae pob priodoledd hefyd sydd yn ei natur ef yn adsain y
geiriau, ac felly yn profi fod " cyfnewidiad neu gysgod tröedig-
aeth" yn anmhosibl iddo. Ni all cyfnewidiad gymeryd lle
mewn meddwl, mwy nag mewn defnydd, heb i rywbeth ei
achosi. Pan y mae creadur yn newid ei fwriadau, y mae hyny
yn bod am iddo gael goleuni newydd arno ei hun, neu ar rai o'r
petbau yr oedd wedi bwriadu yn eu cylch ; ond y mae lesu
Grist yn holl-bresenol, ac yn holl-wybodol ; am hyny nis gall
gael yr un meddwl newydd yn dragywydd. Pe buasai meddwl
newydd yn bosibl iddo, gallasai bwriad newydd dd'od yn gy-
sylltiedig âg ef, ac i hwnw, feallai, fyned yn erbyn rhyw fwriad
blaenorol ; ond y mae ei fod Ef o dragwyddoldeb hyd dra-
gwyddoldeb, — yn ei breswylio, — nad oes yr un gongl o hono
nad yw Efe yno, — a bod mil o flynyddoedd iddo Ef fel un dydd,
ac un dydd fel mil o flynyddoedd, — yn peri fod pob peth tra-
gy wyddoldeb yn hollol hysbys iddo ef. Yr ydym ni yn preswylio
mewn ychydig iawn o le : enw yr ychydig hyny, yn iaith y
II20 lesii Grist yr un.
Beibl, yw " yr awr hon." Y mae y ddiweddaf wedi myned
heibio, — y mae hon yn myned, — a'r nesaf yn dyfod ; ond " yr
awr hoa " ydyw tragwyddoldeb oll iddo Ef ; oblegid hyn y
mae yn eglur nad all dim newydd ddyfod i'w feddwl Ef byth.
Yr oedd y cynllun yn ei feddwl cyn dechreu gweithio ; — y cwbl
' wedi eu hysgrifenu yn ei lyfr Ef, pan nad oedd yr un o honynt'
mewn un man arall. Ac y mae yr oll yn dyfod, fel y mae yn
ysgrifenedig ' yn rhol yllyfr' am danynt; fel na chyfarfu Efe
â dim y gallesid dywedyd am dano, — " Dyma beth newydd."
Na, fe wyddai, wrth dynu hyd a lled Gethsemane yn y llyfr,
mai yn yr ardd hono y byddai ei chwys Ef fel dafnau o waed
yn syrthio i'r llawr. Fe wyddai, wrth estyn gwreiddiau y pren
hwnw yn nyffryn Saron, mai ar hwnw y croeshoelid Ef ei Hun.
Fe wyddai, pan osododd Efe y wythîen haiarn hono yn ochr
mynydd Lebanon, wrth sylfaenu y ddaear, mai y defnydd a
wneid à rhan o honi fyddai ei hoelio Ef ei Hun wrth bren. Fe
wyddai, wrth roddi cywreinrwydd i Tubal-Cain i weithio prês
a haiarn, mai y defnydd awnai un o'i blant ef o'r cywreinrwydd
hwnw, fyddai i lunio gwaewíTon i drywanu ei ystlys Ef ei Hun.
Ei iaith cyn cychwyn oedd, " Wele íì yn dyfod, fel y mae yn
ysgrifenedig yn rhol y llyfr am daiaf." Y mae y flyrdd yr
wyf yn myned i'w rhodio o fewn fy nghalon erioed. Yr oedd
Paul yn rhwym yn yr ysbryd i Jerusalem, heb wybod beth a
ddigwyddai iddo yno ; ond yr oedd Efe yn rhwym yn yr ysbryd
i'r ddaear, a'r ffyrdd yr oedd i'w rhodio bob un yn ei galon cyn
dyfod ; am hyny gwyddai beth a ddigwyddai iddo.
Nis gwyddom ni ond ychydig am natur gwybodaeth Jehofah:
a dylai hyny ein gwneuthur yn hwyrfrydig i son nemawr am
dani. Y mae math o wybodaeth genym ni, sef y wybodaeth o
ddioddefiadau nad allwn ei chael ond trwy brofiad. Nis gall y
> Jehofah mawr ddioddef ; eto dywedir ei fod yn gwybod oddi-
wrth ddoluriau ei bobl. Ond rhag i neb feddwl y gallasai ystad
gyfryngol lesu Grist ddwyn rhy wbeth newydd iddo, ag yr oedd
anmhosibilrwydd natur iddo ei wybod o'r blae-i, y mae yn gysur
i ni wybod, mai ar ol i'r holl ddioddef fyned heibio y llefarwyd
y testyn. Y mae amgylchiadau newyddion yn rhoddi bwriadau
newyddion i ddynion yn fynych ; ond er ein bod wedi gweled fod
hyn yn anmhosibl i lesu Grist fel Duw, ni a edrychwn arno am
lesu Grist yr un. I121
foment fel dyn, heb sylwi ar y pryd fod y Duwdod ynddo yn
trigo, am y bydd hyny yn fantais ychwanegol i ni ganfod cad-
ernid y Graig. Ac un o'r pethau sydd yn newid dynion ydyw, —
(i). Amgylchiad o ddarostyngiad ac o ddioddef. " Pe gor-
fyddai i mi farw," meddai Pedr, "ni'th wadaf ddim ;" ond er
cryfed y penderfyniad, pan ddaeth cysgod angau i dremio yn ei
wyneb, fe dyngodd, ac fe regodd, nad adwaenai mo hono. Yr
oedd bryd yr Israeliaid ar fyned i wlad yr addewid ; ond ni ar-
weiniwyd hwynt drwy wlad yPhiHstiaid rhag iddynt pan welent
ryfel, edifarhau, a newid eu bwriad, a mynu dychwelyd i'r
Aipht. A phe buasai yr amgylchiad o ddioddef yn newid lesu
Grist, ar y groes y buasai y cyfry w gyfnewidiad yn cymeryd lle.
Yr oedd Pedr pan yn y llong wedi penderfynu rhodio ar ymôr;
ond gydag iddoddechreu profi beth oedd hyny, bu edifar ganddo
am y bwriad, oblegid yr oedd y gwynt yn gryf iawn, a'r tonau
yn ofnadwy o fawr. Ond ni ddarfu iddo Ef, fel Pedr, edifarhau
am y bwriad : " Efe yn caru yr eiddo y rhai oedd yn y byd, a'u
carodd hwynt hyd y diwedd." Ymdywalltodd y dyfroedd yn
rhaiadrau arno am oriau; ond yr oedd y dwfr mor bell oddiwrth
foddi ei gariad ef, nes yr oedd yn effeithio arno fel olew, i beri
iddo fìlamio yn fwy. Yr oedd y corwynt, yn lle chwalu y
marwor, yn hytrach yn dangos ei fod yn ofnadwy o danllyd,
ac y-i peri fod fflam angerddol iddo. Nid oedd gorchfygu
byddinoedd y Philistiaid ddim yn ddigon ganddo i gael Uwybr
rhydd at hen bydew Bethlehem; ond yn mawredd ei nerth,
daeth â chelyrnaid o'r dwfr oddiyno i dori, amdragywyddoldeb,
syched y lleidr oedd yn ei ymyl. Cyfnewidiodd Pedr yn y
dioddefiadau, ac mi feddyliwn ei fod yn ofni bod yr un peth
wedi digwydd i'w Arglwydd; ond gofalodd yr Arglwy 'd hwnw,
foreu ei adgyfodiad adgoffa ystyr y testyn iddo, — " lesu Grist,
ddoe a heddyw yr un, ac yn dragywydd." "Dywedwch i'w
ddisgyblion Ef ac i Pedr."
2. Un arall o'r amgylchiadau sydd yn newid dynion ydyw
ystâd o ddyrchafiad. Yr oedd Hazael yn meddu ar deimladau
dyn^ nes iddo fyned yn frenin. Yr oedd y pen-trulUad yn
addaw cofio Joseph pan yn gyd stâd àg ef yn y carchâr ; ond
pan ddyrchafwyd ei ben, fe'i hangofiodd. Yr oedd lesu Grist
yn meddu gogoniant gyda'r Tad cyn bod y byd ; ond fe dybir
1122 lesu Gristyr un.
fod y gogoniant cyfryngol yn rhywbeth tra gwahanol i hwnw, —
yn rhyw dra dyrchafu, — yn enwgoruwch pob enw. Y mae e
ben uwch law pen pawb ; ond ni effeithiodd dyrchafiad ei ben
ddim ar deimlad y galon. Y prawf o hyny ydyw, ei iaith wedi
myned i'r orsedd: — " Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid i ?"
Ni ddarfu iddo, fel y pen-trulliad, anghofio Joseph oedd yn y
carchar. Yn awr yr ydym wedi ei weled " ddoe " fel Duw,
" heddyw," yn ei ystâd o ddarostyngiad ; "yn dragywydd," yn
y gogoniant ar ol hyny ; ac y mae yr un geiriau yn briodol
i'w cymhwyso ato ymhob amgylchiad: — " Tydi yr un ydwyt."
Y mae yn anghyfnewidiol yn ystyr eangaf a manylaf y gair.
Ni chä olwg newydd arnat byth ; am hyny ni chä feddwl newydd
bythyn dy gylch di. Yr hwn sydd yn ei fynwes heddyw a fydd
ynoyn dragywydd; a meddwl o heddyw hwnw. Ond diben yr
apostol (a'r un peth yw ein diben ninau) yn dwyn ymlaen
fawredd ac anghyfnewidioldeb ei Berson, oedd i osod sail i brofi
ei fod yn anghyfnewidiol yn ei swydd hefyd. Nid y w anghyf-
newidioldeb ei Berson ddini yn profi y pery ei holl weithred-
oedd ; oblegid y mae efe ei Hun yn tystio na wnant. Ond y
mae anghyfnewidioldeb ei Berson yn profi nad oes atalfa ynddo
Ef ei Hun, i'r cwbl a ewyllysia efe i barhau, wneyd hyny. Gan
hyny y mae yn anhebgorol i anghyfnewidioldeb ei swydd.
Wedi canfod ei allu, nid oes dim yn eisieu ond cael amlygiad
o'i ewyllys. " Byth y byddaf arglwyddes," meddai Babilon :
yr oedd byth yn yr ewyllys, ond nid yn y gallu ; am hyny i
lawr yr aeth hi. Yr ydym wedi gweled fod byth yn y gallu, ac
ni a symudwn ymlaen i geisio dangos ei fod ya yr ewyllys
hefyd ; — fod yr anghyfnewidioldeb sydd yn y person yn perthyn
i'r swyddau, gan ei fod yn aros yn dragywydd. Y mae
offeiriadaeth dragywyddol ganddo. Y mae hyn yn ein
harwain ni —
2. I edrych ar ei anghyfnewidioldeb yn ei swydd fel Cyfryng-
wr. A chan mai yr oíTeiriadol yn benaf, os nad yn unig, a
olygir yn yr epistol hwn, priodol fyddai i ni gyfyngu ein sylw
at hono yn unig. Nid am nad yw yr un mor anghyfncwidiol
fel Prophwyd a Brenin ag ydyw fel Offeiriad ; ond ymae rhyw
neillduolrwydd yn perthyn i'w swydd offeiriadol. I hon yroedd
y caledwaith yn perthyn, trwy gyfiawni yr hwn yr agorodd y
lesu Grist yr un. 1133
íTordd i gael gweinyddu y swyddau eraill. A gall fod gwein-
yddiad y swydd hon yn amlycach yma nag y bydd hi wedi i'r
eglwys gael ei pheríTeithio ; nid y diosga Efe yn dragywydd ei
gwisgoedd hi, fel y gwnaeth Aaron ; ond feallai na bydd yn
angenrheidiol iddo weinyddu y swydd fel yma ; oblegid y mae
rhyw ystyr i eiriau felly, y bydd y deyrnas yn cael ei chyfiwyno
i fyny " i Dduw a'r Tad " (i Cor. xv. 24). Yma bydd farw
pob un a nesäo i dabernacl yr Arglwydd heblaw yr offeiriad ;
am hyny trwyddo Ef yr ydym beunydd yn offrymu aberth
moliant i Dduw. Ond teml ni welwyd yn y nef ; hyny yw,
dim rhy w le neillduedig i'r presenoldeb dwyfol ; a chan nad oes
yno deml, gall na bydd eisiau offeiriad rhwng yr eglwys â Duw fel
yma. Ond beth bynag am hynyna, fel Offeiriad y mae a fynom
ni âg Ef yn benaf ar y ddaear ; am hyny at ei anghyfnewidiol-
deb yn y swydd hon y galwn ni sylw yn awr. Yr oedd tri
pheth a berthynant i'r offeiriad, yr edrychwn arnynt yn lesu
Grist, ac y mae yn parhau " yr un " ynddynt.
1. Yr oedd yn rhaid fod gan yr offeiriad gymhwysderau per-
sonol i'w swydd, ac y mae lesu Grist yn parhau yr un yn ei
holl gymhwysderau.
2. Yr oedd yn rhaid fod ganddo yr hyn a aberthai, ac y mae
lesu Grist yn rhinweddau ei aberth yn parhau yr un.
3. Yr oedd yn perthyn i'r offeiriad, ar sail yr aberth, eiriol ;
acy mae lesu Gristyn Ilwyddiant ei eiriolaeth yn parhauyr un.
I. Y mae yr un yn ei gymhwysderaîi swyddol. Ni chawn
enwi ond yr ychydig sydd yn cael eu nodi yn y llyfr hwn, y
rhai ydynt, ei fod yn ddiddrwg, yn ddihalog, yn ddidoledig
oddiwrth bechaduriaid ; ond gall fod y rhai yna yn dal perth-
ynas mwy uniongyrchol â Duw nag â ni. Y cymhwysderau
swyddol sydd yn dal perthynas arbenig â ni ydynt, ei fod yn
gyffelyb i'w frodyr, — wedi dioddef fel hwynt, — wedi ei demtio
yr un ffunud a hwythau, fel y dichon Efe gynorthwyo y rhai a
demtir ; — wedi ei amgylchu â gwendid, fel y dichon dosturio
wrth y rhai sydd mewn anwybodaeth. Yr oedd yn rhaid cael
yr holl bethau hyn ynddo, fel y byddai drugarog. Ac yr ydym
yn sicr o fod yn ein difuddio ein hunain o lawer o gysur cre-
fydd, o eisiau sylweddoli i'n meddwl fod lesu Clrist yn hyn oll
heddyw. Wrth feddwl am Grist wedi ei ogoneddu, onid ydym
II24 lisu Grist yr un.
yn rhy dueddol i'w roddi mewn pellder anfesurol oddiwrthym
ni sydd yn dioddef ? Y raae yn wir ei fod ef uwchlaw cael ei
demtio byth mwy ; ond y mae Efe mor abl, ac mor barod,
heddyw i gynorthwyo y rhai a demtir ag oedd Efe y foment
y daeth efe allan o demtasiwn yr anialwch ei Hun. Nid
ydym yn deall pa sut y gall hyny fod ; ond gan fod y Beibl
yn ei ddywedyd, ni a'i credwn ef heb ei ddeall. Yr oedd yr
offeiriad ar ryw olwg yn berson i'w ofni ; — yr oedd ei swydd yn
gosod mawredd goruwch dynol arno. Yr oedd efe yn myned
gerbron Duw, ac yn dyfod yn ol yn fyw; pan y buasai farw pawb
eraill a fuasent yn anturio yr un peth. Yr oedd tynged y bobl
megis yn ei law ef. Yr oedd tuedd yn hyn i beri i ryw bellder
mawr fagu rhwng y bobl âg ef ; ond yr oedd y gwendidau a'r
dioddefiadau oeddent yn perthyn i natur yr oífeiriad, yn llanw y
gagendor a wnai y swydd rhyngddo ef â'r bobl, ac yn peri iddynt
hwy deimlo wedi yr oll, mai un o honynt hwy oedd yr offeiriad;
fèlly nid oedd ofnadwyaeth y swydd ddim yn eu hatal i ddyfod
ato i draethu iddo eu holl galon. Un o'r dibenion oedd i wen-
didau lesu Grist oedd, i atal i ofnadwyaeth ei Berson a'i swydd
wneuthur gormod gagendor rhyngcm ni âg ef, ac felly peri fod
yn anhawdd genym fyned ato. Oni fuoch chwi yn meddwl y
buasai yn hawdd genych fyned ato pe buasech chwi ar y ddaear
pan oedd Efe yma, oblegid yr oedd mor addfwyn a gostyngedig
o galon ? Ond wedi iddo newid ei sefyllfa, yr ydych yn teimlo
ei fod >n bellach o lawer oddiwrthych, ac felly yn anhaws
myned ato. Eithr, erbyn sylwi, y mae meddwl fel yna yn gwadu
ei anghyfnewidioldeb. Nid oes dim newydd y raae wedi ei gael,
wedi cymeryd yr un o'r hen bethau oddiarno. Ni ddarfu i goron
gogoniant ddim dileu ôl y goron ddrain. Nid yw teyrnwialen
yr ymerodraeth ddim yn atal gweled y fan y bu yr hoelion. Y
mae yn Oen megis wedi ei ladd yn nghanol yr orsedd, fel ar y
groes ; am hyny beth bynag oedd lesu Grist ddoe, y mae yr un
heddyw. Ddoe yr oedd rhyw Un yn tosturio wrth y dyrfa
» rhag iddynt fyned ymaith ar eu cythlwng: lesu Grist oedd
hwnw ; — yn cymeryd plant bychain yn ei freichiau i foddhau
eu mamau : lesu Grist oedd hwnw ; — yn dywedyd wrth y
bechadures, — ' Nidwyf fi yn dygondemnio di," pan oedd pawb
yn gwneyd hyny : lesu Grist oedd hwnw ; — yn trugarhau wrth
lesii Grìst yr un. 1025
y weddw oedd yn claddu ei mab, heb i neb ofyn hyny iddo :
lesu Grist oedd hwnw ; — yn wylo gydà dwy chwaer uwchben
bedd eu brawd : Tesu Grist oedd hwnw ; — yn gwneuthur esgus
dros y cysgaduriaid oeddent yn methu gwyho un awr gydag
Ef : lesu Grist oedd hwnw ; — yn tosturio wrth ferched Jeru-
salem, pan yn y dioddeíìadau mwyaf arteithiol ei Hun, — yn
gweddio dros ei boenydwyr, — yn gofalu am ei fam, pan yn
safn angau : lesu Grist oedd hwnw. Wel, " lesu Grist ddoe a
heddyw yr un, ac yn dragywydd." Bu llawer offeiriad enwog
o dan y gyfraith, megis Aaron, Jehoiadah, Ezra, Jeremiah, ac
Ezeciel ; ond yr oedd marwolaeth yn lluddias iddynt barhau.
Bu lesu Grist farw ; ac er ei bod hi yn eglur na ddygwn 7ii
ddim gydâ ni wrth farw, a pha degwch bynag fydd arnom, fe
dderfydd yn y bedd ein cartref ; ond er cyfynged oedd porth
angau i lesu Grist, fe ddygodd gymaint ag a feddai drwyddo
gydag Ef i'r ochr draw. Ni ddarfyddodd dim o'i degwch Ef yn
y bedd. Xid rhyw flodeuyn y glaswelltyn ydoedd : y mae
hwnw yn hardd am ddiwrnod ; — nid oes un yn yr ardd yn
gyffelyb iddo, ond y mae y nos gyntafyn dragywyddol iddo.
Ond yr oedd Rhosyn Saron, ar ol tywyllwch ac ystorm y noson
ofnadwy hono, yn agor lawn mor hardd a chyn myned iddi.
Ni ddarfyddodd ei degwch Ef yn y bedd. Yr oedd yr un
tynerwch yn ei lais wedi dyfod i fyny ag oedd ynddo cyn myned
i lawr. Grallai fod ei wedd wedi newid ychydig. Yr oedd y
wraig hono yn methu ei adwaen wrth edrych arno ; ond dim
ond iddo droi, a dywedyd wrthi, — " Alair," yn y duU mwynaidd
y byddai yn arfer seinio yr enw, y mae hi yn ei adwaen Ef
mewn moment. Yr oedd yr offeiriadaeth luddewig wedi
myned yn isel iawn tua diwedd yr oruchwyliaeth ; — yr arch-
offeiriad yn cael ei newid bob blwyddyn, ac os digwyddai i un
lled d^a gael y swydd, ni byddai ynddi ond am flwyddyn ; a
diau y byddai hyny yn boen nid bychan i'r '' IsraeHaid yn wir "
oedd yn y tir.Yr oedd cymeriad yr offeiriad yn peri iddo ef ofni
yn aml rhag y byddai yn aflwyddianus i wneyd cymod dros y
bobl. Edrychai yn ol ar ambell flwyddyn Iwyddianus arnynt
fel cenedl, a rhoddai reswm am hyny trwy ddywedyd, — " Hwn
a hwn oedd yr offeiriad y flwyddyn hono, ond y mae yn bur
amheus pa sut y bydd hi yma eleni, oblegid archoffeiriad
E4
I026 lesii Grist yr tm.
canolig iawn sy genym." Felly y gall ' Israeliaid yn wir ' eto
edrych yn ol ar ambell flwydJyn led enwog ar yr eglwys, megis
blwyddyn y Pentecost, pan ychwanegwyd miloedd ati yn yr un
dydd ; — llawer blwyddyn o ddiwygiadau, pan oedd cenedl
megis yn cael ei geni ar unwaith ; — a rhoddi cyfrif am hyny
trwy ddywedyd, Nid ydyw y pethau hyn, erbyn ystyried, ddim
yn rhyfedd, oblegid lesu Grist "oedd yr offeiriad y flwyddyn
hono." Ond ni ddylai dim sydd yn arwyddion yr amseroedd eleni
eto beri i ti ddigaloni, oblegid yr un ydyw yr Offeiriad y
flwyddyn hon hefyd. " lesu Grist, ddoe a heddyw yr un, ac
yn dragywydd."
2. Y mae yr un yn rhinweddaic ei aberth. Yr ydym yn sicr
i rinwedd fod yn yr aberth unwaith, oblegid pan ddywedodd
Efe, — " Gorphenwyd," adseiniodd y nefoedd, — " Boddlonwyd."
Ac wedi iddo fyned i mewn i'r cysegr, eisteddodd ar ddeheulaw
Duw, yr hyn ni wnaeth yr un offeiriad luddewig erioed. Gydag
y byddai efe wedi taenellu gwaed yr aberth gerbron Duw,
byddai raid iddo frysio allan i chwilio am aberthwed'yn ; ac os
digwyddai iddo aros am ychydig yn y cysegr, fel y gwnaeth
Zacharías, byddai y bobl yn rhyfeddu ei fod yn aros cyhyd, ac
yn dechreu ofni ei fod wedi ei ladd ; ac un o ddibenion y
clychau aur, oeddent wrth odreu ei wisgoedd,oeddiroddiarwydd
iddynt ei fod yn fyw yn y cysegr. Ond am Hwn, weJi iddo
fyned i mewn i'r cysegr, ni ddaeth allan drachefn; ac nid ydym
yn rhyfeddu ei fod yn aros cyhyd yno, oblegid y mae wedi cael
i ni dragywyddol ryddhâd. Ac nid oes genym amheuaeth nad
ydyw yn fyw yno, canys y mae sŵn y clychau i'w clywed. Pa
beth yd^^w anfoniad yr Ysbryd? Onid sain y clychau yn profi
bod yr Offeiriad yn fyw ? Y mae rhinwedd yn yr aberth, — a
pha dafod a all draethu ei faint ì Rhinwedd yr aberth ydy w
bywyd y nef, a goleuni y ddaear. Yr aberth a brynodd Ganaan,
ac a ddarparodd holl angenrheidiau yr anialwch. Y mae pen-
defigion y nefoedd yn gweled Duw, ac yn bwyta ac yn yfed ar
ei fynydd ger ei fron yn eithaf diogel, am eu bod yn nghysgod
yr aberth. Y mae yr eglwys sydd i lawr yn nyffryn y ddaear
mor ddiogel a hwythau yn nghysgod yr aberth. Byddai i'r
aberth golli ei rinwedd yr un peth ag a fyddai i ddeddf sugn-
dyniad, sydd yn cadw y bydoedd yna i droi, gael ei difodi. Beth
lesií Grist yr jm. 1027
a ddeuai o'n daear fach ni ymysg y bydoedd anfeîth yna? Oni
chai hi ei malu yn chwilfriw gan rai o honynt ? Byddai y
chwalfa a gymcrai le niewn moment yn un ofnadwy ; ond ni
byddai hyny yn ddim yn yinyl y chwalfa ysbrydol a gymerai le
pe collai yr aberth ei rinwedd. Nid am lianer awr yn unig y
byddai distawrwydd yn y nef: fe'i gwisgid hi oU â sachlen flew;
— fe wylai yr angylion yn hidl wrth golli hoíT destyn eu cân.
Cych\\ynai yr eglwys sydd yno tua'r caethiwed, heb gymeryd
un delyn gydâ hi. Cymerodd delyn gydâ hi wrth gychwyn i
Babilon, oblegid yr oedd hi yn gweled tranoeth teg i wawrio ar
ol y deng mlynedd a thriugain ; a byddai hithau ar ganol wylo
yn taraw ati i ganu weithiau wrth gofio am y boreu ; ond pe
collai yr aberth ei rinwedd, ofer disgwyl boreu gwaredigaeth
mwy, a byddai.profiad 3'r hen Williams yn brofiad pob Cristion
ar y ddaear : —
" Pe unwaith y darfyddai awdurdod Calfari,
Darfyddai pob cysuron ar unwaíth genyf fi ;
O bawb yn s'cr byddwn y truenusaf ddyn.
Fe lyncai "r bedd dychryDllyd fi 'n fuan iddo 'i hun."
Ond ni raid i ni ofni y fath beth ; a phe byddai raid i ni wrth
sicrwydd ychwanego), y mae e genynì: oblegid fe'i gwelodd
loan Ef yn nghanol yr orseddfainc. Yr oedd llawer iawn o
bethau ganddo, ac o'i amgylch, nad oeddynt ganddo ar y
ddaear. Yr oedd ' ganddo saith gorn, a saith lygad, y rhai
ydynt saith j/sbryd Duw.' Yr oedd yno gerubiaid, angylion, a
henuriaid, yn rhoi eu coronau yn gylchoedd o'i aragylch ; ac y
mae yn amheus a fuasai loan yn ei adwaen, oni buasai fod un
peth ynddo yr un fath ag ar y ddaear : " Oen megis wedi ei
ladd " oedd yno. Y mae rhinweddau yr aberth yma. Nid
ydyw nen y nefoedd ddim wedi peidio ag adsain, — " Boddlon-
wyd." Y mae y cysegr fry y foment hon yn llawn o fwg yr
arogldarth peraidd. Nid ydyw y gwaed ddim wedi dechreu
heneiddio ar y drugareddfa. Byddai yr oflfeiriad ar ddydd gwyl
y cyrnod yn Uanw y cysegr âg arogldarth, ac yn taeiiellu gwaed
ar y drugareddfa ; ond byddai yr arogldarth yn darfod yn hir
cyn pen y flwyddyn, a'r gwaed yn heneiddio ; ond y mae y
cysegr fry mor llawn o'r arogldarth a'r foment y cymerodd yr
I028 lesic Grist yr un.
OfFeiriad y thuser i mewn yno. Nid yw y gwaed sydd yn
gwneuthur cymod dros yr enaid wedi heneiddio dim ar y
drugareddfa : " lesu Grist, ddoe a heddyw yr un, ac yn
dragywydd."
Y mae yr haul nafcuriol yn fywyd y byd ; ond y mae rhai o'r
philosophyddiou yna yn ofni y treuHa efe ei hun allan, oblegid
mai mân ronynau o hono ef ei hun yw y goleuni sydd yn dyfod
o hono ; achan ei fod yn lluchio cymainto honynt mor ddiball,
y maent hwy yn meddwl fod perygl iddo luchio y cwbl. Ond
y mae genym ni '' Haul Cyfiawnder," — lesu Grist yn rhinwedd-
au ei aberth, — er ei fod yn lluchio diluw o oleuni o hono ei Hun
bob moment, ac wedi gwneuthur hyny am filoedd o flynydd-
oedd, y mae yr un heddyw eto. A pheth mwy a ddywedwn ?
Bydd felly yn dragywydd : " lesu Grrist, ddoe a heddyw yr un,
ac yn dragywydd."
Y mae rhai yn methu gwybod beth a ddaw o'r ddaear yma
ymhen canoedd o flynyddoedd eto. Y raae Prydain yn awr yn
methu cynal ei thrigolion ; ond y mae America, Awstraha, ac
Affrica, yn agor eu breichiau i'w derbyn. Ond beth a fydd
wedi i'r lleoedd hyny fyned mor llawn a'r wlad hon ì Ni wn i
ddim ; ond mi wn hyn, er bod meibion a merched Sion i aml-
hau megis sêr y nef, fel na bydd gwiw i'r un Joab geisio eu
rhifo, fe bery eu dinas hwynt i fod yn Bethlehem {tŷ baraj,
am dragywyddoldeb, fel na welir yr un colony yn ymadael ;
oblegid y mae rhinweddau yr aberth yn parhau yr un. Os bu
Efe yn eich rhyddhau chwi unwaith, fe wna hyny eto. Nid yw
fel meddyginiaethau y ddaear : y mae cynefindra â'r rhai hyny
yn peri iddynt goUi eu dylanwad ar y cyfansoddiad. Ond os
bu yr aberth yn tangnefeddu y gydwybod unwaith, gall wneuth-
ur hyny eto. Os bu yn gwresogi y serch unwaith, gall
wneuthur hyny eto ; os bu yn plygu yr ewyllys unwaith, y mae
rhinwedd ynddo eto i wneuthur yr un peth. Chwithau sydd
heb bwyso eto ar yr aberth, ac ydych yn ofni fod eich pechodau
yn rhy aml i'w symud ganddo, chwiliwch lyfr Duw, darllenwch
hanes ei saint Ef, i edrych a ganfyddwch chwi neb tebyg i chwi
wedi dianc trwyddo. Y mae hanes rhai o bob math wedi
dianc ; — trigoHon cableddus Jerusalem, — pechaduriaid aflan
Corinth, — eilunaddolwyr ffiaidd Ephesus, — y Groegiaid beilch-
lesîi Gristyr îin. 1029
ion, a'r luddewon rhagfarnllyd : îe, y mae yma un wedi ysgrif-
enu ei gymeradwyaeth iddo, wrth ei gymell, trwy ddywedyd ei
fod ef, y penaf, wedi dianc. Wel, "y mae Efe yn aros yn
fFyddlawn ;" y mae yr un rhinwedd ynddo eto.
3. Y mae yr im yn llwyddiant ei eiìiolaeth. Yr oedd ar
Abraham ofn gof> n lawer gwaith, rhag digio ei Arglwydd ; ond
gall Efe ofyn i dragywyddoldeb, heb ofn ei ddigio. Gan '• iddo
ddwyn pechodau llaweroedd, Efe a eiriolodd dros y trosedd-
wyr." Y mae ganddo ddigon yn y Banc i dỳnu arno yn dra-
gywydd mwy. Yr oedd Moses, Samuel, Noah, Daniel, a Jcb,
yn eiriolwyr llwyddianus iawn ; ond ni agawn yr Arglwydd yn
tyngu, pe safent ger ei fron na byddai ei serch ar Israel, ac na
achubent ond eu henaid eu hun yn unig o afael y farn. Ond
ni raid i lesu Grist ond agor ei enau trosot, na thwng y Tad yn
y fan, y rhydd Efe iddo yn ol fel y mae yn ewyllysio. " Myfi a
wyddwn dy fod di yn fy ngwrandaw bob amser." " Am hyny,
efe a ddichon hefyd yn gwbl iachau y rhai trwyddo ef sydd
yn dyfod at Dduw, gan ei fod ef yn byw bob amser i eiriol
drostynt hwy."
Ond gwell i mi ofyn cyn myned yn mhellach, Beth a debyg-
wch chwi am Grist ? Chivi a welsoch ei íod mor sefydlog a'r
graig, — mor brydferth a dyíTryn Saron ;— anghyfnewidioldeb
Jehofa wedi ei wisgo â holl hawddgarwch creadur ynddo. Yr
ydym ni fel yr eiddew, — y niae yn rhaid i ni gíel rhywbeth i
ymnyddu o'i amgylch; Beth a debygwch chwi am y dderwen
hon ? Yr ydym fel y plant yn brysur yn casglu blodau ; ond y
maent yn gwywo yn ein dwylaw ni ; — beth debygwch chwi am
wneyd y bwysi i fyny o'r Myrr a'r Rhosyn Saron hwn ? Yr
ydych oll yn ymofyn am gyfaill ; ond beth debygwch chwi am
gael un sydd à'i lygaid yn gweled trwy dragywyddoldeb ? Nid
all dim eich cyfarfod heb iddo Ef ei ganfod ; — sydd â hollallu-
ogrwydd yn gorphwys yn ei fraich ? nid all yr un anífawd
ddigwydd i chwi o ddiíTyg gallu ynddo ; sydd yn ddigon doeth
i ddadrys holl ystrywiau pyrth uíFern, ac yn goron ar yr oU,
" sy ddoe a heddyw yr un, ac yn dragywydd."
II. Y defnydd sydd i'w wneuthur o'r gwirionedd hwn. Os
rheswm am yr adnod flaenorol yw y testyn, am hyny gan fod
lesu Grist yr un : —
1030 lesii Grist yr un.
I. Nid yw o bwys mawr i ni pwy sydd yn newid. Yr un un
yw pen y deyrnas hon er's blynyddoedd ; ond y mae gweini-
dogion y llywodraeth yn newid yn fynych, ac y mae pob newid-
iad yn bwysig i ri, am mai hwy mewn gwirionedd ydyw y
llywodraethwyr. Nid felly yr oedd hi yn nyddiau Cromwell ;
— efe ei hun oedd y llywodraeth tra y bu fyw, a phan y bu ef
farw, aeth y cwbl i lawr gydag ef. Felly yn nheyrnas lesu
Grist, — y mae y Uywodraeth oll yn gynwysedig yn ei Phen hi.
W\à oes dim gweinyddiaeth neu weinidogion llywodraeth
yn cymeryd mwy o law na'r pen ; yn perthyn iddi hi. Felly,
gan fod y Pen yr un, nid yw colli neb yn golli " cerbyd
Israel a'i farchogion." Ni a alarwn ar ol y blaenoriaid sydd
wedi traethu i ni air Duw ;— ni a geisiwn ddilyn ôl eu traed
hwynt ; ond ni anobeithiwn ni ddim am yr arch, er bod Hophni
a Phinees a fuant gyda hi wedi marw, am fod ei Duw hi yr un.
Gall Efe beri i'r hyn yr oeddem ni yn ei ofni a fyddai yn gwymp
i'r arch, fod yn fantais i ddangos ei mawredd hi i'r Philistiaid
dienwaededig ; — dangos ei bod hi yn ddigon trech na'u Dagon
hwynt, heb yr un offeiriad i gyflawni y gwasanaeth arferedig
ger ei bron hi. Dyryswyd a chwalwyd aml deyrnas oblegid
colli dim.ond un. Pe buasai Nebuchodonosor yn fyw, ni
buasai Cyrus y Persiad yn gorchfygu Babilon. Pan fu farw
Alexander, chwalwyd ei ymeiodraeth fawr ef. Fe gollodd Israel
lawer brenin enwog, ond ni ddifethwyd mo honynt er hyny ;
ond y paham oedd, — "Myfi yr Arglwydd ni'rrt newidir; am
hyny ni ddifethwyd chwi, meibion Jacob." Yr oedd yr haul a'r
lleuad, a llu aneirif sêr y nen, cyn cael allan y cwmpas, yn
werthfawr iawn i'r morwr ; ond nis gallai ymddibynu ar yr un
o honynt i'w gyfeirio i'r porthladd, am nad oeddent bob amser
yn yr un fan ; ond yr oedd yno un seren fechan nad oedd byth
yn newid, na byth yn machlud. Yr oedd ìlawer corff mwy
disglaer na hi yn y ffurfafen ; ond yr ocdd ei sefydlogrwydd hi
yn ei gwneuthur yn fwy gwerthfawr na hwynt oll. Y mae
llawer seren danbaid wedi bod yn ffurfafen yr eglwys, ac ambell
gomet ddisglaer ; oi.d erbyn myned i edrych am danynt ymhen
ychydig amser, byddant wedi machlud tuhwnt i fryniau tra-
gywyddoldeb. Ond y mae yna un " seren foreu eglur " nad
"oes gyfnewidiad na chysgod troedigaeth " yn perthyn iddi.
lesií Grist yr un. 1031
Ni raid i ti ddim dyrysu pe machludent oll, oblegid y mae "lesu
Grist yr un dJoe a heddyw, ac yn dragywydd." A gellid tybio
fod yr Arglwydd wedi trefnu pethau yn fanteisiol i ni beidio â'r
dyn, a theimlo ymddibyniad yn unig ar lesu Grist ; oblegid y
mae y blaenoriaid yn marw, a rhy w waith yr oeddent wrtho heb
ei orphen. Pe buasent yn ei orphen, buasai tuedd ynom ni i
feddwl mai hwy a'i gwnaeth, ac nid lesuGrist. Bu farw Moses,
ac Israel eto yn yr anialwch ; bu farw Joshua, eto a'r Canaan-
eaid yn y tir ; bu farw Dafydd, a sylfeini y deml eto heb eu
tori; ond fe gyrhaeddodd Israeí wlad yr addewid, er bod Moses
yn rhosydd Moab ; — fe ddarostyngwyd y Canaaneaid yn y tir,
er nad oedd Joshua yn parhau yn Dywysog y llu ; — fe
adeiladwyd y deml, er bod Dafydd wedi ei gasglu at ei dadau.
Nid oedd o bwys pwy oedd yn newid, gan fod lesu Grist yr
un.
2. Gan ei fod Ef yr un, byddwn fyw mwy arno. Hyn ydyw
yr unig beth sydd yn eniU cymeriad i'r ddaear : buasai yn lle
ofnadwy i fod ynddi heb hyn : oblegid y mae siomedigaeth yn
gerfiedig ar ei phob peth hi. Y mae siomiant yn ei phleserau
hi. Y mae pawb yn y diwedd yn gorfod gofyn gydâ'r Pre-
gethwr am eu llawenydd hwynt, — " Beth a wna ?" Y mae
siomiant yn ei chyfoeth hi ; oblegid " y neb a garo arian, ni
ddigonir âg arian." Y raae y gyfeillach buraf sydd ynddi yn
siomedig, am fod angau yn atal iddi barhau. Nid yw yr holl
feddau yna ddim ond cofarwyddion siomedigaeth ; ac wrth
edrych yn ol ara ddira ond ugain mlynedd, O ! y fath rês o
honynt sydd yn yrayl ein llwybrau ni i gyd. Draw yn y pellder
y mae ogof Machpelah, yn yr hon y mae dy holl dadau di yn
huno. Ychydig yn nes y mae derwen Bethlehem, o dan wreidd-
iau yr hon y ma Rahel dy wraig di yn gorwedd. Yn nes eto
y mae yna garnedd yn dangos fod Absalom dy fab di wedi
marw, fel y byddai farw un o'r ynfydion. Drachefn, y raae yiia
ryw dwmpath yn arwydd fod y cwbl oedd yn farwol o Jonathan
dy gyfaiU yn gorwedd odditano. Ychydig ymlaen y mae bedd-
au liaws yn barod eto ; ac y mae .rhywbeth tebyg i drwst traed
yr un a fu yn dwyn dy gyfeillion blaenorol, wrth y drws i ym-
ofyn yr ychydig sy genyt eto ; a chyn pen deng mlynedd, fe
fydd lle rhyw Dafydd a'i was yn wâg o amgylch eich bwrdd;
1032 lesu Grìst yr iin.
a'r siomedigaeth fydd yn argraffedig ar eich gwedd chwi eich
hunaip, yn ddigon o brawf mai o'ch tý chwi y llanwyd rhai o'r
beddau agored yna. Ond edrych yn ol, ac edrych ymlaen, bydd
y cwbl yn ofer am fedd lesu Grist : nid yw y man y mae Efe,
na'r lle y bydd Efe, ddim i'w ganfod. Na, medd rhyw un, yr
ydych yn methu yn awr ; mi wn i pa le y mae ei fedd yntau.
Na wyddost, na neb mwy na thithau, oblegid ni bu ganddo
erioed feddiant beddrod. Y mae yn wir iddo fod mewn bedd
am ychydig ; ond yr oedd yr adeg yr oedd yn bwriadu bod
ynddo mor fèr, fel nad oedd gwiw. ganddo geisio un yn eiddo
iddo ei hun ; benthycio un Joseph a wnaeth ; ac os gwyddost ti
pa le y mae hwnw, bydd yno ryw angel yn gwaeddi, cyn i ti
ddyfod yn agos, — '' Paham yr wyt ti yn ceisio y byw ymhhth y
meirw ?" " Nid arglwyddiaetha marwolaeth arno Ef mwyach."
Y mae llawer o honoch yn edrych o'ch cwmpas, ac nid oes dira
i chwi yr un fath ag yr oedd er's ugain mlynedd yn ol. Nid
yw y byd ddim yr un ; y mae yma rai yn ameu a gânt ychydig
o fara a dwfr i orphen y daith ynddo. Nid yw yr aelwyd ddim
yr un ; Joseph nid yw fyw er's talm, a Simeon erbyn hyn nid
yw fyw ychwaith, ac y mae Benjamin ar gael ei ddwyn ymaith'
Nid yw y gymydogaeth ddim yr un : y mae câr a chyfaill C'ch
ieuenctyd wedi eu gyru ymhtll, ac y mae cydnabod eich mebyd
yn nhywyllwch y bedd. Nid yw yr eglwys ddim yr un : y mae
Moses, gwas Duw, a fu yn eich cychwyn chwi o'r Aipht, wedi
marw. Nid ydych chwi eich hunain ddim yr un : y mae naws
eich ysbryd chwi wedi newid. Y mae yn ofnus i'ch crefydd
heneiddio fel chwithau. A oes yr un graig ansigledig i'wchael,
yn nghanol yr holl gyfnewidiadau .'* Oes : — '' Myfì yr Arglwydd
ni'm newidir." Ni ddifethir mo honom gan hyny, er y cyf-
newidiadau oll. "lesu Grist yr un."
Os sail anogaeth i'r adnod ddilynol yw y testyn : (i). Gan ei
fodEfyrun, byddwn ffyddlawn iddo. ^labwysiadwn iaith y
Salmydd, — " Osanghofiaf yr lesu, anghofied fy neheulaw ganu:
glyned fy nhafod wrth wrth daflod fy ngenau, oni chofiaf di, ac
oni chofiaf yr lesu goruwch fy llawenydd penaf."
2, Gan ei fod yr un, na chydsyniwn à dim, nac â neb, i'w
wrthod ef. Na thrown oddiwrth yr hen efengyl at efengyl
arall, gan na newidiodd hi ddim. Pe buasai yr hen Gyfryngwr
lesu Gristyr un. 1033
wedi newid, buasai rhyw reswm yn ngwaith y Pab yn anfon ei
genhadon i gynyg cyfryngwyr newydd i ni. Pe buasai yr hen
aberth wedi coUi ei rinwedd, dylasem fod yn ddiolchgar am yr
offeren, neu rywbeth i wneuthur y diíTyg i fyny. Gall y rhai
sydd, íel Esau, â phrin ddigon ganddynt, fod yn ddiolchgar am
dipyn o rywle i wneyd i fyny eu difFygion. Ond yr ydym ni,
fel Jacob, â phobpeth genym, am hyny nid oes arnom eisiau
rhoddion neb. Byddwn ffyddlawn iddo, a dangoswn hynydru'y
ei ddefnyddio. A chyn pen ychydig eto, chwi a fyddwch, fel
Pedr ar y môr, wedi coUi y llong o dan eich traed, a chwi a
suddwch yn dragywydd cs na bydd yr lesu genych. Ni a wel-
wn Job wedi colli ei g/foeth, ei blant, a'i iechyd; yn edrych ar
ei gorff a phryfed yn ei ddifa, — cyntaf-anedig angau yn bwyta
ei gryfdwr ; ond wedi colli y cyfan, yr oedd ganddo un peth,
a'r un peth hwnw yn bobpeth : — "Mi a wn fod fy Mhrynwr yn
fyw." Bydd pob enaid sydd yma yn gwybod am y rhan gyntaf
o brofiad Job cyn pen ychydig ddyddiau ; bydd goleuni byd arall
wedi llyncu i fyny ddisgleirdeb pobpeth y byd hwn ; — bydd
rhuadau yr lorddonen yn gwneuthur gagendor mawr rhyngot
â'r cyíeilHon anwylaf. Bydd yn werth dy fywyd tragywyddol y
foment hono i ti alludywedyd yrhan olaf o brofiad Job : — " Mi
a wn fod fy Mhrynwr yn fyw." Ymddiriedwch ynddo heddyw^
ac yna ni frysiwch chwi ddim wrth golli y cyfan, oblegid ni
bydd eu colli yn ddim ond mantais i'w gyflawuder Ef ddyfod
fel diluw i lanw eich eneidiau byth.
[lonawr 19. 1851.]
Cyfansoddwyd y bregeth uchod yn adeg y cyn-n-rf mawr oedd yn y
deyrnas hon. oblegid gwaith y Pab. dan Cardinal Wiseman, yn el rhanu
yn wahanol esgobaethau, ac yn sefydlu esgobion ynddynt. Elglura
hyny y cyfeiriad, yn y Nodiad diweddaf.— Gol.
PREGETH LXII.
PERSON CRIST YN DDIO&ELWCH RHAG PYRTH ÜFFERN.
Matthew XYÌ. 18 : '• Ac yr ydwyf fiuau yn dyn-edyd i ti. mai ti yw Pedr,
ac ar y graig ho;: yr adeiladaf fy eglwys ; a phjrth uffern nis gorch.
fygant hi.''
MAE awydd cryf mewn dyn am gael lle mawr yn
meddwl ei gy 1-ddynion. Gwaith oes aml un ydyw
astudio pa fodd i ymddangos y peth hyn neu y peth
arall, er mwyn gwneyd argraff ffafriol iddo ei hun ar feddyhau
eraill. Pe gofalai dynion gymaint am fod y peth ag y raaent
am ymddangos, byddai y byd yn lle tra gwahanol i'r hyn ydyw,
Ond yr oedd lesu Grist yn ddidoledig oddiwrth bechaduriaid
yn hyn fel ymhob peth arall : nid yn unig nid oedd yn ym.
ddangos i fod yr hyn nad ydoedd, er mwyn gwneyd argraff
ffafriol iddo ei hun ar feddyliau y bobl, ond nid oedd yn gofalu
am i'r hyn ydoedd gael ei wybod ganddynt ; yn hytrach,ceisiai
guddio ei Hun oddiwrthynt. Wedi cyfìawni rhai o'i wyrthiau
rhyfeddaf, gorchymynai yn gaeth, na chyhoeddid yr hyn a
wnaethai i'r byd.
Ond yn yr adran o ba un y darllenwyd y testyn, y mae yr
Arglwydd lesu, mewn ymddangcsiad, yn ymddwyn yn wahanol
i hyn. Gofynai i'w ddisgybho', '' Pwy y mae dynion yn dy-
wedyd fy mod i, Mab y dyn ?" fel pe buasai yn dra awyddus i
wybod barn y byd am dano, — yn dra awyddus i wybod a oedd
enw iddo ymysg dynion. Ond nidoedd yma ddim gwahaniaeth
gwirioneddol ragor pan y gorchymynasai na wnaent ef y , gy-
hoeddus; oblegid arweiniad i mewn oedd y cwestiwn hwn at
yr un dilynol, sef, " Pwy meddwch chwi ydwyf fi .?" ac at y
Person Crist yn ddiogelwch rhag pyrth uffern. 1035
datguddiad o'i farwolaeth, oedd yn awr yn ymyl, a wnaeth i'w
ddisgyblion mewn cysylltiad à'r ymddiddan hwn.
Ond cyn dyfod at y testyn, y mae ychydig bethau teilwng o'n
sylw yn y cwestiynau a'r atebion hyn.
1. Wrth fod lesu Grist yn gofyn beth oedd barn y byd, a barn
y disgyblion, am dano, ni a welwn fod syniad cywir am ei
Berson Ef o\ pwys mwyaf, onid ê ni buasai un oedd mor hofF
o íod yn guddiedig byth yn gofyn cwestiwn fel hyn. Y mae
rhai pethau yn perthyn i grefydd y gellir bod yn gadwedig er
na bydd y farn yn eu cylch yn gwbl gywir ; ond y mae anghy-
wirdeb yn y farn am Berson Mab Duw a chanlyniadau marwol
iddo, oblegid y mae grym ei eiriau, a theilyngdod ei weithred-
oedd, yn ymddibynu ar ei Berson. Os na bydd y Person yn
ddwyfol yn marn y dyn, ni bydd y farwolaeth ddim amgen na
marwolaeth merthyr, na'r geiriau rhyfedd ddim amgen na doeth-
ineb dyn íìaeledig. Cwestiwn pwysig, gan hyny, i bawb ydyw,
— " Pwy meddwch chwi ydwyf fi .?"
2. Ni ofynodd lesu Grist ddim am farn y byd, a barn y dis-
gyblion, am dano ei Hun, cyn yn gyntaf roddi iddynt bob
mantais i ífurfio barn gywir yn ei gylch. Yr oedd ei oes gy-
hoeddus yn awr bron a therfynu ; ei wyrthiau, ei bregethau, a'i
ymddiddanion, yn hysbys drwy yr holl wlad ; ac yr oedd yr
hyn a ddysgodd, fel yr hyn a wnaeth, yn dwyn tystiolaeth i'w
fawredd fel Person dwyfol. Synai y dyn a anesid yn ddall, pa
fodd yr oedd yr luddewon heb ei adwaen oddiwrth ei weithred-
oedd : '' Yn hyn yn ddiau y mae yn rhyfedd, na wyddoch chwi
o ba le y mae Efe, ac Efe a agorodd fy llygaid i." Apehai yntau
ei Hun at ei eiriau a'i weithredoedd fel profion pwy ydoedd :
' Oni bai fy nyfod, a llefaru wrthynt, ni buasai arnynt bechod ;
oni bai wneuthur o honof yn eu plith y gweithredoedd ni
wnaeth neb arall, ni buasai ariiynt bechod;" sef y pechod o
beidio ei adwaen. I bwy bynag y rhoddodd Mab Duw fanteis-
ion i'w adwaen, fe ddaw i ofyn iddynt, " Pwy meddwch chwi
ydwyf fi, Mab y dyn ?" ac nid dibwys i chwi oll fydd medru
ateb y cwestiwn yna yn gywir.
3. Gwelwn yma y gellir rhoddi parch mawr iddo, ac eto
syrthio yn fyr o roddi iddo ei le ei Hun. Y prophwydi oeddent
ddynion mwyaf y byd ymhob ystyr ; — mwyaf o ran gallu medd-
1036 Person Crist yn ddiogelwch rhag pyrth uffern.
yliol, a mwyaf eu duwioldeb hefyd ; ond yr oedd rhai o honynt,
yn enwedig Elias, Jeremias, ac loan Fedyddiwr, yn cael eu
hystyried o'u hysgwyd jau i fyny yn üwch na'u brodyr. Yr
oedd Elias yn un o'r rhai hynotaf o honynt. Ystyrid Jeremias
hefyd yn enwog, am fod traddödiad ymhlith yr luddewon iddo
guddio yr arch, a dodrefn y cysegr sancteiddiolaf, mewn ogof
yn y mynydd y bu Moses farw arno, ac y byddai iddo ym-
ddangos drachefn, pan y byddai ymwared y genedl gerllaw, i'w
hadferyd. Ond o'r holl brophwydi, loan Fedyddiwr oedd y
mwyaf poblogaidd a pharchus. Yr oedd y bobl yn foddlawn i
lesu Grist gael bod yn un o'r rhai hynod hyn, — naill ai yn loan
Fedyddiwr, neu y 1 Elias, neu yn Jeremias. Ond er mor barch-
us oedd y lle a gynygient iddo, nis mynai ef : " Pwy meddwch
chwi ydwyf fi ?" Ni fyn Efe le neb, ond ei le ei Hun. Y mae
llawer un eto yn foddlawn iddo gael parch prophwyd ; — gwnant
ystafell iddo, a dodrefnant hi yn gysurus, fel i brophwyd ; — ond
nis rr.yn hi : rhaid iddo gael addoliad Duw, neu ni fyn Ef ddim.
" Pwy meddwch chwi ydwyf fi ?"
Y mae Pedr yn ateb y cwestiwn, ac yn ateb yn iawn hefyd ;
ond y mae tystiolaeth Pedr am dano, ac ateb yr Arglwydd
lesu i Pedr wedi bod yn achlysur i rai a alwant eu hunain yn
Gristionogion, i osod Pedr mewn lle y buasai yn dychrynu
wrth feddwl am dano, pan ar y ddaear. TTedi i Pedr dystiol-
aethu yn gywir am y Person, — " Ar y graig hon," medd Crist,
" yr adeiladaf fy eglwys." Y mae amry wiol farnau ynghylch
pwy, neu pa beth, ydyw "y graig." Y rhai mwyaf cyíTredin
ydyw y rhai hyn : i. Mai Pedr ei hun ydoedd. 2. Proffes
Pedr. 3. Ffydd Pedr. 4. Gwrthddrych ei ífydd, sef Person
Mab Duw. Yr olaf, debygwn i yn ddiamheuol, ydyw yr un
gywir; — y graig ar yr hon y mae yr eglwys yn cael ei hadeiladu
ydyw Person Mab Duw. Nid oes dim grym na gwerth mewn
tystiolaeth ond yn ei chysylltiad â rhyw berson : yn y lle
cyntaf â'r neb fydd yn ei llefaru hi ; ac os tystiolaeth am berson
a fydd, y niae gwerth y dystiolaeth yn ymddibynu ar ei chywir-
deb hi fel darluniad o'r person hwnw ; a phwy bynag sydd yn
ei derbyn hi, ac yn pwyso arni hi, pwyso y mae mewn gwir-
ionedd ar y person a ddarlunir yn y dystiolaeth. Y mae Pedr
yma yn traethu ei farn am Berson yr Arglwydd lesu. Y mae
Person Crist yn ddiogelwch rhag pyrth iiffern. 1037
yn eglur na all y dystiolaeth ynddi eî hun ddim bod yn graig,
am nad oes gwerth ynddi ar wahan oddiwrth Berson ; ac ni
all fFydd Pedr yn y Person ddim bod yn graig. Yr oedd ei
íTydd yn ei gysylltu â'r graig ; ond y Person ei Hun ydoedd y
graig hono. A Uai fyth y gallasai Pedr ei hun fod yn graig :
gallasai ef fod yn gysgod o'r graig ; ystyr ei enw oedd careg
neu graig. Rhoddwyd yr enw iddo gan yr Arglwydd lesu
ar ei ddyfodiad cyntaf ato, i arddangos yni a phenderfyniad ei
feddwl. Gwir y w iddo syrthio wedi hyny ; ond yr yni a'r pen-
derfyniad oeddent yn ei natur a'i harweiniasant i roddi hyder
gormodol ynddo ef ei hun, ac felly i gwympo. Ond y mae pwy
bynag sydd yn tybio oddiwrth ei gwymp, ei fod yn gymeriad
anwadal, yn gwneuthur cammawr âg ef : "\r wyfyn dywedyd
i- ti mai ti yw Pedr, ac ar y graig hon yr adeüadaf fy eglwys."
Y mae dy enw di yn ddarluniad o dy natur, — careg neu graig
wyt ti ; yr wyt felly yn gysgod o honof íì yn y darluniad a
roddaist o honof fel Mab Duw ; " ac ar y graig hon," (sef ar fy
Mherson, o'r Hwn yr wyt ti yn gysgod) ' yr adeiladaf fy
eglwys ; a phyrth uíTern nis gorchfygant hi."
Y gwirionedd a gyflwynir i'n sylw yma ydyw, mai yn
Mherson Mab Duw y mae diogelwch yr eglwys yn wyneb hoU
ymosodiadau pyrth uflfern arni. Y mae ymadroddion cyíTelyb-
iaefchol y testyn wedi cu bwriadu i ddwyn gwirioneddau mawr-
ion cynwysedig ynddo yn nes i'n deall, Y mae y "graig" yn
arwyddo cadernid diysgog Person y Cyfryngwr fel sylfaen yr
" eglwys." '' Pyrth uflern " yn arwyddo holl gynlluniau ac
ystrywiau y diafol yn erbyn yr " eglwys." Yn y pyrth gynt y
byddai holl ddoethion teyrnas yn ymgyfarlod i ddyfeisio pa
fodd y gallent oreu trwy ddichell neu trwy allu, orchfygu y
gelynion. Y mae yr ymadroddion " pyrth uíîern," gan hyny,
yn cynwys pob dull o eiddo y diafol i ymosod aJ eglwys Dduw.
Gweithio trwy foddion y mae y diafol, sef cymeryd mantais
ar rywbeth mewn crefydd, ac ar rywbeth yn natur dyn, i
gyraedd ei amcan. Drwy gymeryd mantais annheg ar orchymyn
Duw, a chymeryd mantais ar rywbeth yn natur dyn, y llwydd-
odd efe yn Eden ; ac felly y mae yn llwyddo eto.
Ni a nodwn dri llwybr trwy ba rai y mae y diafol, neu byrth
uffern, yu ymosod ar yr eglwys ; ac y mae ei diogelwch hi yn
1038 Person Crist yn ddiogdwch rhag pyrth uÿern.
wyneb pob un o honynt yn Mherson y Cyfryngwr mawr.
I. Y mae yn cymeryd mantais ar ddieithrwch athrawiaethau
crefydd, i demtio y byd i'w hanghredu.
II. Y mae yn cymeryd mantais ar fod dyledswyddau crefydd
yn anhawdd i natur lygredig ymarfer â hwynt, i demtio y byd
i dybio fod hyny yn anmhosibl.
III. Y mae yn cymeryd mantais ar bellder gwobrwyon cre-
fydd, i demtio ybyd i fod yn ddiystyr o honynt, ac i ddywedyd
Ni ddaeth yr araser, — yr amser eto i dalu sylw iddynt.
Ond y mae yn mherson Mab Duw ddiogelwch yn wyneb pob
un o'r ymadroddion hyn. Os bydd deall dyn yn tramgwyddo
wrth ddirgeledigaethau crefydd, y mae digon o ddirgelwch
yn mherson Mab Duw wedi ymddangos yn y cnawd, i atal i'r
un dirgelwch arall sydd yn perthyn i grefydd fod yn dramgwydd
iddo. Os bydd y fynwes yn teimlo fod gorchymynion crefydd
yn drymion, y mae digon o ogoniant ya mherson " Crist Duw"
i sugno pwys y gorchymynion trymaf, fel ag i'w gwneyd yn
ysgafn. Os bydd y galon yn tueddu i wanhau am fod gobaith
crefydd yn cael ei oedi, nes gofyn, " Pwy a ddengys i ni
ddaioni ?" y mae cymaint o gyflawnder dwyfol yn mherson
yr Argìwydd lesu, fel ag i wneyd i fyny am bob gobaith a oed-
er. Y mae cymdeithasu âg Ef yma, er mor anmherffaith, yn
nefoedd fechan ; a'r nefoedd fawr fydd bod mewn ar.gylchiadau
i'w weled Ef megis ag y mae, a chael cymdeithas berffaith âg
Ef. " Ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys."
I. Y mae pyrth uffern yn cyraeryd mantais ar ddieithrwch
athrawiaethau crefydd i demtio y byd i'w hanghredu. Y mae
dirgeHon, a dirgelion anamgyffredadwy, yn perthyn i grefydd.
Y mae dirgelwch yn natur ei gwirioneddau hi ; ac y mae yn
rhaid bod dirgelwch ynddi, i'w gwneyd yn gymhwys i n natur
ninau hefyd. Pan y gwelwn ni drwy unrhyw beth, y mae ein
hyfrydwch ynddo i raddau yndarfod. Ermwyn i'r hyfrydwch
a'r dyddordeb barhau, rhaid i'r gwrthddrych ddal i chwilio i
mewn iddo. Os ydyw gwrthddrychau crefydd i roddi hyfryd-
wch diddiwedd i ni, rhaid iddynt fod yn gyfryw na welwn ni
byth trwyddynt : yn iaith yr emyn, rhaid cael " dwfr i nofio
heb fyn'd trwyddo," onide fe gollir hyfrydwch y nofio. Y mae
dyn yn addef hyn, ac yn gweithredu yn ei ol, gydà phobpeth
Person Crist yn ddiogelwch rhag pyrth uffern. 1039
crefydd, a chydâ phob crefyJd hefydond y\\ unig y wir grefydd.
Y. mae dirgeHon yn perthyn i bob gaugrefydd, a byddai eu colli
yn golh ei nerth : rhaid iddi gael rhyw gyntedd nesef i mewn,
i'r hwn ni chaiíT neb ond yr offeiriad dremio, onide, ni ddaw y
bobl i'r cyntedd nesaf allan. Rhaid iddi gael " cuddiedig beth-
au," er iddynt fod yn " guddiedig bethau cywilydd." Os na
bydd Shecinah gwirioneddol yn gwneuthur y cysegr nesaf i
mewn yn ofnadwy yn ei ddirgelwch, rhaid cael íTug-ddirgelwch
yn ei le.
Bychandra dyn a'i bethau ydyw yr achos fod yn rhaid iddo
greu tipyn o ddirgelwch o'i amgylch, i gadw parch iddo ei hun
a'i ddyfeisiau. Ond mawredd Duw ydyw yr achos fod tywyll-
wch o'i amgylch Ef a'i bethau. Y mae dyn yn aros mewn
tipyn o dywyllwch, am nas gall efe ddal y goleuni ; ond y mae
Duw yn trigo yn y tywyllwch, am mai " Goleuni ydyw Duw."
Y mae goleuni y Duwdod mor danbaid, nes y raae yn troi yn
dywyllwch i lygad pob creadur ; adynaydyw dirgeHon crefydd,
goleuni, gan ei danbeidrwydd,yn ffurfio tywyllwch. Ac y mae
y dirgeUon hyn yn dewfrith ar bob llaw i ni. Tri Pherson yn
un Duw ; — Duw yn arfaethu ac yn cyflawni yr oll wrth gyngor
ei ewyllys ei Hun, a dyn yn berffaith rydd er hyny ; — pawb a
etholwyd yn gadwedig ; — iachawdwriaeth o ras ; — a holl wrth-
odwyr yr efengv1 yn cael eu damnio am ei gwrthod ; — Ysbryd
Duw yn dylanwadu ar ysbryd dyn heb gyfyngu dim ar ryddid
ewyllys y creadur. Dyma rai o ddirgeledigaethau yr efengyl. Ac
y mae pyrth uffern yn cymeryd mantais ar y dirgehon hyn, i
demtio dyn i wrthod creíydd, am ei bod hi yn cynwys pethau
o'r fath yma y sydd y tu hwnt i gyraedd ei ddeall ef. Ond y
mae diogelwch yr eglwys, yn wyneb ymosodiadau o'r fath, yn
Mherson Mab Duw ; oblegid y mae y dirgelwch sydd yn ei
Berson Ef yn parotoi y ffordd i dderbyn holl ddirgelion crefydd,
am fod y dirgelwch hwn yn ffaith ger bron llygaid y byd ; felly,
er nad yw y byd yn ei ddeall, y mae yn anmhosibl. Nid oes
neb yn deall yn gwbl lanw a thrai y mor ; ond ni feiddia yr un
dyn yn ei bwyll ei wadu er hyny ; oblegid nid ar ymresymu y
mae ei wirionedd yn ymddibynu, — ffaith ydyw yn llygaid pawb.
Felly y mae dirgelwch person Mab Duw yn ffaith gerbron y
byd ; ac y mae y ffaith hon yn gwirio holl ddirgelion eraiU
1040 Person Crist yn ddiogelwch rhag pyrth uffern.
crefydd, fel yr.oedd adgyfodiad lesu Grist yn gwirio ei hoU
fywyd ; oblegid y maent oll yn gysylltiedig à hi. Ac y mae y
dirgelwch hwn yn ddirgelwch mwy na phob un arall ; ac os
ydyw y mawr yn bod, beth sydd i atal credu yr un llai. Duw
wedi ymddangos yn y cnawd ! Os yw hynyna yn bod, ni a
allwn gredu y gall Tri Pherson fod yn un Duw. Os yw hyn
yna yn bod, ni a allwn gredu y gall y meddwl dwyfol gario
ymlaen ei amcanion drwy y meddwl dynol, heb gyfyngu dim
ar ryddid y creadur. Os yw hynyna yn bod, ni a allwn gredu
y dichon Ysbryd Duw ddylanwadu ar ysbryd dyn, heb
gaethiwo ewyllys dyn wrth wneyd hyny. Y mae pob mynydd
yn myned yn wastadedd gerllaw y dirgelwch hwn ; — Duw
wedi ymddangos yn y cnawd. Pa fodd y gwyddoch, medd
rhywun, fod hynyna yn bod .? 'profwch ef. Nid oes angen ei
brofi : y mae y peth yn flFaith ; nis gallwn ei gwadu. Darllen-
wch hanes ei fywyd, agwadwch hi, os gellwch. Lle bynag y
cerddodd, yr ydym yn cael fod brysg neu ôl traed Duwdod.
Lle bynag y llefarodd, y mae ei leferydd yn ei gyhuddo,
oblegyd y mae ei eiriau yn troi yn bethau. " Efe a ddywed-
odd, ac felly y bu ; Efe a orchymynodd, a hyny a safodd,"
nes oedd goleuni yn llewyrchu o dywyllwch dallineb, — iechyd
yn codi o wely cystudd, — a bywyd yn bwrlymu o lynclyn marw-
olaeth. Nid ydym ni ddim yn deall, meddwch chwi, pa fodd y
gall dwy natur mor bell oddiwrth eu gilydd gael eu huno yn yr
un Person. Nid yw yr angel ychwaith ddim yn deall ; ond y
mae y fiEaith o'u bod yno yn ddigon eglur i blentyn ei deall hi.
Pe cedwid yn ngolwg y dirgelwch hwn, ni Iwyddai pyrth uflfern
ddim i beri i neb dramgwyddo wrth y dirgelwch arall. Yr oedd
yr Arglwydd lesu wedi traethu peth lled ddieithr wrth Martha,
loan xi. 25, 26, yn gofyn iddi, " A wyt ti yn credu hyn ?" Y
mae rhywbeth dieithr yn ei hateb hithau, " Ydwyf, Arglwydd :
yr wyf fi yn credu mai ti yw y Crist, Mab Duw."
Wrth gredu hyny, yr wyf yn credu pob peth arall : nid
wyf yn deall pa fodd y mae yn bosibl i'r neb sydd farw fyw
drachefn ; ond yr wyf yn deall dy fod di yn Grist,\Mab Duw,
am hyny nid oes dim rhy ryfedd i ti i'w ddweyd na'i wneuthur.
Y mae doethion y byd yn barod i briodoH crediniaeth ambell
hen wraig anllythyrenog o ddirgelion crefydd i'w hanwybodaeth;
Person Crist yn ddiogelwch rhag pyrth uffern. 1041
ond camgymeriad mawr yw hyny: fel Martha, y mae hi yn credu
yn y Person ; — credu yn Nghrist, Mab Duw ; ac yn hyny, y mae
hi yn credu pob peth arall. Os byddwch yn cael eich temtio i
ameurhywbeth rhyfeddyn Epistolau Paul,ymaeyfeddyginiaeth
i hyny yn efengyl Matthew. " Pyrth uffern nis gorchfyganthi.''
11. Y mae pyrth uffern yn cymeryd mantais ar fod dyled-
swyddau crefydd yn anhawdd i natur lygredig ymarfer âhwynt,
i demtio y byd i dybio fod hyny yn anmhosibl. — Y mae arddel
neu broffesu, Mab Duw, yn anhawdd ; — ymddwyn ymhob am-
gylchiad yn deilwng o'r broffes yn anhaws na hyny ; a dioddef
drosto yn un o gampau crefydd, nad all ond ychydig ei chyraedd
hi. Nis gelHr ei broffesu heb fyned tuallan i wersyll y byd, a
dwyn gwaradwydd wrth wneyd hyny. " Ysgymunbeth " ydyw
yr lesu eto yn y gwersyll. Pe buasai y gwahanglwyf arno, ni
buasai raid fod mwy o ddieithrwch rhwng trigohon y gwersyll
a'r Gŵr sydd y tuallan iddo. Y mae piihlic opinion y byd yn
erbyn yr lesu, ac yn erbyn pawb a êl allan ato, fel yr oedd yn
erbyn Dafj'dd, pan wedi ffoi y tuhwnt i'r lorddonen. Yr oedd
efe ei hun yn dwyn gwaradwydd, a phawb a elent allan ato
hefyd yn ei ddwyn. Y mae Mab Duw ar y ddaear eto megis y
tuhwnt i'r lorddonen. Nid ydyw wedi dyfod i deyrnasu mewn
mawredd yn Jerusalem y byd eto ; ac os ewch chwi allan ato,
bydd raid i chwi ddwyn ei waradwydd.
Drachefn, y mae ymddwyn yn deilwng o'r broffes yn anhaws
eto; — bod yn Gristion cyson yn holl amgylchiadau amrywiol y
ddaear. Y mae amgylchiadau y byd hwn yn aml yn myned o'r
naill eithaf i'r llall ; ac y mae y dyn sydd yn dal y naill yn
fynych yn cael ei orchfygu yn y llall. Rhaid cael cyfansoddiad
cryf iawn i allu byw ymhob hinsawdd ; — i ddioddef eithafion
gwres, ac eithafion oerfel. Ymddygodd Joas yn deilwng i'w
broffes tra y bu Jehoiada fyw i edrych ar ei ol : wedi hyny fe'i
dianrhydeddodd hi yn fawr. Gwnaeth Uzziah yr hyn oedd
mniawn yn ngolwg yr Arglwydd, cyn iddo fyned yn gryf : wedi
hyny ei galon a ddyrchafwyd i'w ddinystr ei hun. Os ydyw y
rhan weledig o grefydd, — dyledswyddau allanol crefydd, — mor
anhawdd, beth am y rhan anweledig ì Yn mynwes dyn y mae
crefydd yn cyflawni ei champau : puro y galon aflan ; — caeth-
iwo y meddwl aflywodraethus : — cadw y byd hwn rhag medd-
F4
1042 Person Crtsiyn ddiogeîwch rhag pyrth uŷern,
ianu lle byd arall yn y fynwes ; — tynu y llygad de ; — tori y fraich
dde: a'rdyn yngorfod gwneyd hyny ei hun.Nid Eleazer oDamas-
cus, goruchwyhwr Abrahain, sydd i aberthu Isaac ; — buasai hyny
yn ddioddef mawr i Abraham; na,y mae yn rhaid i'r hen batriarch
wneyd y gorchwyl anhawdd ei hun. Dyma orchestion crefydd.
Y mae pyrth uíFern yn cymeryd mantais ar y pethau hyn i
ymosod trwyddynt ar yr eglwys. Ac y mae llawer, fel disgybhon
y torthau, heb rodio mwyach gyda'r lesu o'r herwydd ; ond nid
ä pawb ddim yn ol, oblegid y mae gogoniant ei Berson wedi denu
rhai i'w garu, ac y mae cariad yn troi dyledswyddau yn freint-
iau, ac yn peri fod rhwystrau yn gynud i beri i'w fflam ef losgi
yn fwy angerddol. " A fynwch chwithau hefyd fyned ymaith ?"
" At bwy yr awn ni .?" Y mae rhywbeth ynot ti sydd wedi
magneteisio ein meddwl ni, wedi sugndynu ein calon arnat dy
hun. Y mae yn rhyfedd genym fod neb yn teimlo dy orchym-
ynion di yn drymion.
Y mae ymlyniad wrth berson yn gwneyd y natur ddynol ym-
ron yn hollalluog. "5f n nghalon dyn y mae ei nerth, — nid yn
ei fraich : y galon sydd yn rhoddi grym yn ngewynau y fraich.
Pa sawl mam, oherwydd nerth ei chalon, a wnaeth bethau yn
ymylu ar fod yn wyrthiau W-ç phlentyn 1 Y mae mewn ambell
gymeriad rywbeth sy Jd yn swynol i bawb o'i amgylch :
gorchymyned yr hyn a fyno, ni theimlir byth fod ei orchymyn-
ion yn drymion. Ni chafodd un dyn erioed ddylanwad mawr
ar ei gyd-ddynion, heb fod felly. Edrychwch ar Napoleon wedi
ífoi o Elba i Ffrainc gydâ'r bwriad i adfeddianu yr orsedd,
Dacw íìlwyr Ffrainc yn cael eu hanfon allan i'w erbyn. Ond
gan ymddiried i'r dylanwad oedd ganddo ar y milwyr, y mae
yn myned allan ei hunan i'w cyfarfod yn y wisg oedd mor ad-
nabyddus iddynt, ac yn eu cyfarch gydâ llais oedd yn crynu gan
deimlad, " Gyd-filwyr, a ydych chwi yn fy adwaen i eto .?''
" Ydym, Dad," meddai y milwyr. ** A ydych chwi yn fy ad-
waen, fy mhlant .'' " ebai yntau. "Myfi yw eich Ymerawdwr :
taniwch arnaf os ydych yn ewyllysio : taniwch ar eich tad :
dyma fy mynwes," a chyda hyny yn ei dynoethi. Yn y fan
dyna yr holl gatrawd yn eu taflu eu hunain wrth ei draed, ac
yn rhoddi y fonllef fawr, Byw fyddo yr Ymerawdwr. Yr oedd
rhywbeth mor swynol yn Napoleon, fel wedi ei orchfygu dra-
Person Crtst yn ddiogelwch rhag pyrih uffern. 1043
chefn y bu raid ei gadw mewn ynys yn eithafoedd y môr, onid
ê ni buasai gorsedd brenin Ffrainc yn ddiogel i'r Bourboniâid —
buasai yn hudo calonau y bobl ar ei ol. Y mae rhywbeth swyn-
ol yn nghymeriad Mab Duw : ni bydd gorsedd y diafol ddim
yn ddiogel tra y bydd Efe ar y ddaear. Dyna'r pryd y bydd yr
eglwys mewn perygl, — pan y cyll ei gymeriad Ef y sugn-dyniad
sydd ynddo. Wrth weled Pedr yn gwadu, yr ydych yn barod
i ddywedyd, fe ddaw yr adeilad i lawr, oblegid dyna un maen
mawr yn myned i dreiglo oddiar ei s/lfaen. Na ddaw ; — dyna
lygad y Person yn disgyn ar lygad Pedr : fe sadiodd y maen ar
y sylfaen mewn moment. " Pwy a'n gwahana ni,'" meddai
Paul, " oddiwrth gariad Crist ? ai gorthrymder, neu ing, neu
ymlid, neu newyn, neu noethni, neu enbydrwydd, neu gleddyf ?"
Rhuf. viii. 35. Na : y mae yn fwy na choncwerwr ar yr oll.
" Pyrth uffern nis gorchfygant hi."
III. Y mae pyrth uíTern yn cymeryd mantais ar bellder
gwobrwyon crefydd, i demt^.o y byd i ddywedyd, Ni
ddaeth yr amser eto i dalu sylw iddi. Cysylltir crefydd yn y
Beibl â'r byd a ddaw, nid i ddangos nad oes ganddi ddim yma,
ond i ddangos mai yno y bydd ei phethau hi yn ddigymysg ; —
yr Oen heb y dail surion ; — yr heddwch heb y chwerwder
chwerw; — yr awyr heb ddim tawch aíìach, i ffurfio cymylau
rhwng y trigolion a'r haul. Yno y bydd ei phobpeth hi hefyd
wedi cyraedd addfedrwydd : ffydd wedi ymledu fel y wawr, i
ddydd goleu golwg ; — gobaith wedi ymarllwys fel afon, i fôr o
fwynhad ; — a chariad wedi myned yn eirias, nes gwneyd ei
berchen yn seraph tanllyd byth ; cân anghelfydd y ddaear
wedi ei pherfFeithio yn anthem, " Iddo Ef," teilwng o'r Ilys ; —
gras wedi addfeduyn ogoniant.
Y mae y diafol yn cymeryd mantaisar y cysylltiad sy rhwng
crefydd â'r byd a ddaw, i demtio rhai i beidio talu sylw iddi
nes bod yn ymyl y byd hwnw. Ond y mae yn Mherson Mab
Duw ddigon i orchfygu yr ymosodiad yna hefyd. Efe sydd yn
gwneyd nefoedd. Ei gyflawnder Ef yw ei chyfoeth hi ; — ei
gymdeithas Ef yw ei digrifwch hi. Nid myned ar ol y nefoedd
yw crefydd, ond myned ar ol yr lesu ; oblegid ni buasai dim
gwerth yn y nefoedd ei hun, oni bai tnai cartref yr lesu ydyw
hi. Y mae bod gyda Christ ymhob man yn nefoedd. '' Byw
1044 Person Crist yn ddiogelwch rhag pyrth uffern.
i mi yw Crist." Disgwyliai y disgyblion gryn ddyrchafiad
mewn rhyw freniniaeth ddaearol o'i ddilyn ; ond yr oedd rhyw
beth yn ei gymdeithas yn talu am ei ddilyn. Pe na buasai y
freniniaeth byth yn dyfod, pum' mynyd o gymdeithas âg Ef a
dorai ryra yr ymosodiad yna o eiddo pyrth uffern yn eich
meddwl am byth. " Pyrth uffern nis gorchfygant hi."
1. Gwelwn oddiwrth yr hyn a ddywedwyd, mai ein llwybr i
ddal ein ffordd, ac i ychwanegu cryfder, gyda chrefydd, ydyw
adnabod Person Mab Duw yn well. Hyn a goncrodd Paul ar
y ffordd i Damascus. " Pwy wyt ti, Arglwydd ? " ac wedi
iddo deimlo nerth y dylanwad yn y cychwyn, yr oedd yn
sychedu mwy-fwy am yr un peth. '' Fel yr adnabyddwyf ef,"
yw ei gais uchaf o hyn allan ar ei ran ei hunan, a'i ddymuniad
penaf ar ran eraill ydyw, ar iddynt gael "ysbryd doethineb a
dadguddiad trwy ei adnabod ef."
2. Fod y rhai sydd yn ymrwystro gyda rhyw beth perthynol
i grefydd, yn gwneyd hyny am nad ydyntyn adnabod y Person.
Gyda chymaint o bethau y gallasai y disgyblion ymrwystro:
gydâ'u sefyllfaoedd, gydà'u teuluoedd, &c. Ond yr oedd yr
olwg a gawsant ar fawredd a gogoniant yr lesu, yn eu galluogi
i adael pob peth i'w ddilyn, ac i aberthu pob peth er ei fwyn.
Ond i ninau gael ei adnabod yn iawn, byddwn barod i ymadael
â phob peth, ac i gyfrif pob peth yn dom, er mwyn ei enill ef.
3. Fod yr adnabyddiaeth o'i ogoniant i'w chael drwy foddion.
Yr oedd y disgyblion yn cynyddu yn hyn, ac yn cynyddu trwy
gymdeithas âg ef. O fod yn Rabbi, fe ddaeth iddynt hwy yn
brophwyd ; o fod yn brophwyd, fe ddaeth yn Grist ; ac o fod yn
Grist, y maent yn awr yn ei adwaen yn Fab Duw. Y modd y
daethant hwy i synio fel hyn am dano oedd, trwy aros yn ei
gymdeithas ; sylwi ar ei weithredoedd ; gwrandaw ar, ac ystyr
ei eiriau; myfyrio ar ei gymeriad, &c. A'r un modd y mae i
ninau gynyddu mewn adnabyddiaeth o hono.
4. Nid oes eisiau dim newydd i orchfygu y byd, — dim gor-
uchwyliaeth newydd, &c. " Yr lesu Hwn," — fe'i concrodd ef
unwaith, fe'i concra ef eto.
[Y mae rhanau o'r bregeth uchod, y rhan ddiweddaf yn enwedig, yn llawer
llai cyflawn yn ysgrifea yr awdwr na'r nifer amlaf o'i bregethau.
Ond g-all y darllenydd meddylgar, yn y rhanau mwyaf diffygiol, ganfod
y cyfeiriad a gymerai y pregethwr.— Golygtdd.]
(Gorphenaf 24ain, 1857.]
PREGETH LXIII.
EFENGYL l'll TLODION.
Mathew XI. 5 :— •• A'r tlodion yn cael pregethu yi- efengyl iddynt."
5^^^ MAE yn yrr.ddangos yn beth dieithr i ni fod cyn
lleied o gysylltiad rhwng loan Fedyddiwr a lesu
Grist, yn enwedig pan y cofiwn fod perthynas natur-
iol a swyddol rhyngddynt. Yr oedd Elizabeth yn gares i Mair,
a loan yn rhagflaenor i'r lesu ; ond er y pethau yna, nid yw yn
ymddangos fod loan jn adwaen lesu Grist, hyd nes y nodwyd
efallan gan ddisgyniad yr Ysbryd Glân ar ei fedydd, fel y
Messiah. Gall fod yr Arglwydd wedi eu cadw yn gwbl ddieithr
i'w giiydd hyd nes y cyfarfuant ar lan yr lorddonen, fel na
chaffai neb achlysur i ddywedyd eu bod wedi cytuno i dwyllo y
wlad. Gwelodd loan y pryd hwnw yn yr lesu Fessiah y pro-
phwydi, ac fe gredodd ei hun ynddo ; a chyfeiriodd y tyrfaoedd
ato fel Oen Duw, yr Hwn syddyn tynu ymaith bechodauy byd.
Ond pan roddwyd loan yn y carchar gan Herod, dechreuodd
ameu ai lesu o Nazareth oedd yr Hwn oedd ar ddyfod ; ac i
gael sicrwydd i'w feddwl drachefn, anfonodd ddau o'i ddisgybl"
ion i ofyn hyny iddo. Y mae rhai o'r esbonwyr yn meddwl
mai er mwyn y disgyblion yr anfonodd loan iofyn y cwestiwn ;
ond y mae yn dra annhebyg y buasai loan a lesu Grist yn cytuno
i gelu hyny, pe felly y buasai : tebycach ydyw iddo eu hanfon
er ei fwyn ei hun. Yr oedd loan, fel yr hoU luddewon, wedi
tynu darlun yn ei feddwl ei hunan o'r Messiah ; a diau ydyw
ei fod yn dra annhebyg i lesu o Nazareth. Gall ei fod wedi
disgwyl, wedi iddo weled ei ogoniant ar lan yr lorddonen, y
buasai yr lesu yn myned yn ei flaen yn gorchfygu, ac i orchfygu,
1046 Efengy ir;TMion.
nes cyraedd y mawredd a'r gogoniant gweledig a ddarluniasid
gan y prophwydi, ond gan nad oedd dim yn ymddygiadau lesu
Grist yn dangos ei fod yn amcanu at hyny, yr oedd cwmwl o
amheuaeth yn ei gylch wedi dyfod dros feddwl loan, yn enwed"
ig yn ei amgylchiadau profedigaethus yn y carchar.
Y mae yn eglur fod rhywbeth yn lesu Grist oedd yn rhoddi
sail i íFydd loan ; ac y mae yn eglur hefyd fod ynddo ryv/beth
oedd yn rhoddi nerth i'w anghrediniaeth. Yr oedd ei waith
yn aníon y cenhadau yn brawf o'i fod yn ewyllysio credu, ac yr
oedd yr un peth yn brawf hefyd o'i fod yn methu credu fel yr
ewyllysiai. Yr ydym yn cael y Phariseaid yn anfon at lesu
Grist i ofyn iddo ddywedyd yn eglur pwy ydoedd ; ond yr oedd
ei ymddygiad atynt.hwy yn dra gwahanol i'w ymddygiad tuag
at loan, am íod eu diben hwy yn gofyn y cwestiwn yn wahanol
i'r eiddo ef. Yr oeddent hwy yn ei ofyn i'w rwydo yn ei ym-
adrodd, tra yr oedd loan yn ei ofyn i gael help i gredu ynddo-
Lle bynag y byddo gwir awydd credu, y mae yr Arglwydd yn
y fan hono yn rhoddi profion a bair i'r amheuaeth ildio i'r
credu.
Y mae rhywbeth yn nghrefydd lesu Grist yn debyg i'r hyn
oedd yn lesu Grist ei hun i loan : rhywbeth i dynu at, ac i yru
oddiwrth ; sail i íîydd, ac achlysur i anghrediniaeth. Y mae y
profion sy dros ei gwirionedd hi yn ddigon cryf, debygid, i'r
íîydd wanaf fedru ei derbyn ; ac eto y mae y tywyllwch sydd
o'i hamgylch yn gyfryw fel ag i wneuthur y íFydd gryfaf weithiau
yn anghrediniaeth. Y mae trugaredd Duw a amlygir ynddi
yn cymhell íTydd ; ond y mae bwriadau Duw a ddatguddir ynddi
yn achlysur i anghrediniaeth. Y mae parodrwydd lesu Grist
i dderbyn yn sugno pechadur ato, ond y mae y gwirionedd, mai
yr hyn oU y mac y Tad yn ei roddi iddo a ddaw ato, yn achlys-
ur i gadw oddiwrtho : ond os try y meddwl at Dduw yn ei
bryder, fel loan at lesu Grist, bydd raid i'r amheuaeth ildio i'r
credu.
Yn adnod y testyn, yr ydym yn cael disgrifiad o'r hyn a
wnaed i symud yr amheuaeth o feddwl loan. Y mae'r efeng-
ylwr Luc yn dywedyd i'r Arglwydd lesu /* yr awr hono,"
gyfiawni llawer o wyrthiau yn ngwydd y ddau ddisgybl, a
dywedyd wrthynt, *' Ewch, a mynegwch i loan y pethau a
EfengyliW Tlodion. 1047
welsoch ac a glywsoch." Yr oedd y pethau hyn oll yn gyflawn-
iad o brophwydoliaethau am y Messiah. Gall fod loan wedi
bod yn rhy ddisylw o'r dosbarth yna o brophwydohaethau, ac
wedi sefydlu ei feddwl yn ormodol, os nad bron yn unig, ar y
dosbarth arall o brophwydoHaethau, oeddyiît yn darlunio
mawredd a gogoniant gweledig y Messiah. "Ewch a rayn-
egwch i loan y pethau a welsoch ac a glywsoch," fe gofia efe
fod yr Hwn oedd ar ddyfod i wneuthur y pethau hyn hefyd ;
ac yn mhellach, fe wêl loan, mai trwy gyflawni y pethau hyn
yr ydwyf i gyraedd y mawredd a'r gogoniant gweledig y mae
efe yn disgwyl am danynt. " Ni waedda, ac ni ddyrchafa," eto
drwy hyny, *'fe ddwgallan farn i fuddugohaeth."
Ar yr olwggyntaf y mae yn ymddangos yn ddieithr, fod y
rhan a ddarllenwyd yn destyn yn cael ei gysylltu â'r pethau
rhyfedd a goífêir o'i flaen, fel un o'r profion o Fessiaeth lesu
Grist, " Y tlodion yn cael pregethu yr efengyl iddynt;" oblegid
y mae yma y fath ddisgyniad, debygid, oddiwrth godi y meirw.
Y mae ar wyneb y weithred ynaargraff o ddwyfoldeb ; ond am
bregethu yr efengyl i'r tlodion, nid oes dim dwyfoî, fel ar
wyneb y weithred yna. Gwir fod hyn yn y brophwydoliaeth
am y Messiah fel y gwyrthiau ; ond yr oedd gweithredoedd
lesu Grist i brofi ei ddwj'fol anfoniad, yn annibynol ar eu bod
yn gyflawniad o brophwydcliaethau. Buasai tystiolaeth y
gweithredoedd yr un, pe na buasai yr un gair o sôn am danynt
yn y brophwydoliaeth : felly nid ydy w fod y testyn yn gyflawn-
iad o brophwydoliaeth yn unig ddim \yxv ddigon o reswm dros
ei nodi allan fel prawf mai lesu o Nazareth oedd y Messîah.
Ond pan edrychwn ychydig yn fwy manwl ar y testyn, gwelwn
ei fod yn cynwys prawf o'r math cadarnaf o Fessiaeth lesu Grist ;
prawf yn wìr o'r un natur a phrawf y gwyrthiau a gofiFêir yma.
Dyna oedd yn nodweddu gwyrthiau lesu Grist, ac yn eu
gwneuthur yn brofion o'i Fessiaeth ef, — gallu Duw, mewn
undeb â thrugaredd Duw. Yr oedd tynerwch a nerth,
trugaredd a gallu, yn cyd-gyfarfod ymhob peth lesu Grist :
" corsen ysig nis tỳr, Ilin yn mygu nis diiffydd," — dyna dru-
garedd : ni phalla, ac ni ddigalona, hyd oni osodo farn ar y
ddaear," — dyna allu. Os edrychwch ar y gwyrthiau a goífêir
yma, gwelwch ynddynt oll drugaredd ddwyfol mewn undeb â
1048 EfengyliW Tlodion.
gallu dwyfol. Rhoddi llygaid i ddeillion,— wele drugaredd
Duw ; wele, allu Duw hefyd : glanhau y gwahan-gleifion, —
wele drugaredd Duw ; wele, allu Duw hefyd. Yn awr y mae
yn y testyn anilygiad o'r un peth, sef o drugaredd Duw, mewn
undeb â gallu Duw. " Y tlodion yn cael pregethu yr efengyl
iddynt ;" — wele, drugaredd Duw yn sylwi ar ddosbarth na
feddyliodd neb ond Duw am wneyd hyny. "Y tlodion,"
(yn ol Luc) " yn derbyn yr efengyl," neu yn cael eu hefengyl-
eiddio, — wele allu Duw yn gallu Llywodraethu dosbarth yr
oedd holl ddoethineb dynion wedi methu gwneyd hyny.
" Ewch a mynegwch i loan," yr hyn yr wyf yn ei wneyd yn y
byd naturiol : rhoddi llygaid i ddeiUion, traed i glofîìon,
glanhad i wahaugleifion, a'u clyw i fyddariaid. " Ewch a
mynegwch i loan " yr hyn wyf ynei wneyd yn myd ymeddwl,
yn y byd ysbrydol : " y tlodion yn cael pregethu yr efengyl
iddynt." Yr wyf yn gwneyd yn hwnw bethau mor ryfedd,
sydd yn dwyn cymaint o ddelw dwyfol, ag yr wyf yn ei wneyd
yn y llall, — pethau sydd yn cyfateb yn myd y meddwl i'r
pethau yr ydych yn eu gweled â'ch llygaid yn y byd gweledig ;
" Y tlodion yn cael pregethu yr efengyl iddynt."
I. Ni a edrychwn ar bregethiad yr efengyl i'r tlodion fel am-
lygiad o drugaredd Duw, ac fel amlygiad o allu Duw.
II. Ceisiwn ddangos y defnydd a ddylem ei wneuthur o'r
amlygiad gwerthfawr o drugaredd Duw, ac o allu Duw, sydd
yn yr efengyl.
I. Y mae pregethiad yr efengyl i'r tlodion yn amlygiad o
drugaredd Duw, ac o allu Duw. Wrth y tlodion yr ydym i
ddeall corff trigolion pob gwlad, dosbarthiadau isaf cymdeithas.
Yr oedd y tlodion yn nyddiau lesu Grist, ac y maent eto
ymhob gwlad lle nad yw efengyl lesu Grist wedi cael mesur o
oruchafiaeth, yn ddosbarth nad oes neb yn arfer gofalu am
danynt. Ystyrid hwynt yn ddiwerth i bob peth, ond i gael eu
caethiwo. Nid oedd yr un o'r crefyddau paganaidd yn gwneyd
sylw o honynt, ond er mwyn eu llyffetheirio, i'w cadw yn
ddiogel yn Uaw y mawrion. Ac er bod y grefydd luddewig yn
tra rhagori yn hyn ar y rhai paganaidd, y farn am danynt ym-
hlith penaethiaid yr luddewon ydoedd, " y bobl hyn, y rhai ni
wyddant y gyfraith, melldigedig ydynt." Efengyl lesu Grist
Efengyl iW Tlodion. 1049
a amlygodd gyntaf ddigon o drugaredd i synio ar dlodion y
byd.
Y maey drugaredd hono yn dyfod i'r golwgmewn tri pheth: —
1. Bod yr efengyl yn cyfarfod â'r tlodion yn eu hamgylch-
iadau.
2. Yn ei bod yn eu cyfarfod yn sefyllfa eu meddwl.
3. Yn ei bod yn eu cyfarfod yn eu teimladau.
I. Y mae yr efengyl yn cyfarfod â'r tlodion yn eu hamgylch-
iadau. Gwelir hyn yn yr hyn sy ganddi i ddyn, ac yn yr hyn
y mae hi yn ei ofyn gan ddyn ; sef, yn ei breintiau ac yn ei
dyledswyddau. Ped ymwelai y dyn tlawd âg un o fasnachdai
mawrion ein prif drefydd, gwelai yn y cyfoeth o nwyddau sydd
ynddynt ugeiniau o bethau cyfaddas i'w angen ef, na byddent
felly i'w amgylchiadau ; ond gall y tlawd fyned drwy ystor-
fëydd iachawdwriaeth, a gweled ynddynt fyrdd o bethau yn
cyfateb i'w angen, ac yn eu plith oll ni wêl gymaint ag un heb
fod yn cyfateb i'w amgylchiad. Maddmant, — dyna un o beth-
au yr ystorfa sydd yn cyfateb yn berffaith i angen y tlawd : ac
y mae y gair bychan, rhad, sydd wedi ei ysgrifenu yn eglur
arno, yn dangos ei fod yn cyfateb mor berffaith i'wamgylchiad.
Cyfiawnhad bywyd^ — dyna beth yn ffitio yr angen ; trwy ei ras
Ef, — dyna yr un peth yn cyfarfod â'r amgylchiad. Efydd, —
dyna beth anmhosibl gwneyd hebddi^"^: rhodd Duw ydyw, — nid
oes eisiau ceisio gwneyd hebddi. Gwin a llaeth, brasder a
daioni, dyna bethau yr angen ; heb arian ac heb werth, — dyna
bethau yr amgylchiad. Gwelodd brenhines y dehau ogoniant
teyrnas Israel wedi ei grynhoi megis i ychydig le, yn y brif-
ddinas yn Jerusalem ; ond ni chafodd ond gweled â'i llygaid :
teyrnas Solomon oedd hi ; ei eiddo ef oedd yr orsedd ifori, y
goron, y deyrnwiale>i, yr holl gyfoeth, a'r gogoniant. Ond gall
y tlawd droi i mewn i'r Jerusalem ysbrydol, a gweled ynddi
mewn ychydig le, grynhöad o ogoniant: teyrnas, gorsedd, coron^
teyrnwialen, cyfoeth, anrhydedd ; ac nid gweled à'i lygaid yn
unig a gaiff efe ; oblegid gyda'i fod yn dechreu rhyfeddu wrth
yr olygfa, fe glyw lais yn dywedyd wrtho, ** Nac ofna, braidd
bychan, canys rhyngodd bodd i'ch Tad roddi i chwi y deyrnas."
Drachefn, y mae yr efengyl yn cyfarfod â'r tlawd yn ei dyled-
swyddau, fel yn ei breintiau. Y mae pob crefydd ond crefydd
105© Efengyl i'r Tlodion.
lesu Grist, drwy eu gofynion, yn malu wynebau tlodion y byd ;
ond nid yw hi yn gofyn dini sydd yn anghydweddol â thlodi ;
nid oes ganddi na champ na choron y byddai raid i dlodi
rwystro neb i'w cyraedd. " Pob un (medd yr efengyl) yn yr
hyn y galwyd ef, yn hyny arhosed gyda Duw," Nid yw yn
erbyn i'r tlawd newid ei sefyllfa : " Os gelli gael bod yn rhydd"
(medd hi wrth y caethwas) " mwynha hyny yn hytrach." Ond
os nad yw hyny yn bosibl, " os yn was y'th alwyd, na fydded
gwaeth genyt," — ni íydd hyny yn ddim rhwystr ar dy fFordd
di, — ni byddi yn ddim îs yn y nefoedd oblegid hyny. Yr oedd
y deyrnwialen a'r meitr yn Israel wedi eu cyfyngu i ddau
Iwyth, Judah a Lefi : ni buasai gwiw i'r Gibeoniaid tlodion
feddwl am y naill na'r llall ; gwehynu dwfr, a chymynu coed,
oedd eu gwaith hwy. Ond y mae'r efengyl yn gwneuthur y
Gibeoniaid mor aml a neb " yn frenhinoedd ac yn oíFeiriaid i
Dduw a'i Dad ef." Y mae hi yn cyfarfod â'r tlodion yn eu
hamgylchiadau.
2. Y mae trugaredd yr efengyl yn dyfod i'r golwg yn ei bod
hi yn cyfarfod â'r tlodion yn sefyllfa eu meddwl. Y mae
tlodion y byd ymhob oes a gwlad yn ddosbarth anwybodus :
pobl ydynt heb wybod y gyfraith ; wedi arfer byw yn myd y
synwyrau a'r teimladau ; am hyny y mae yn anhawdd cael
gafael ar eu meddwl trwy ymresymu, — trwy apelio at eu deall.
Ond y mae un ffordd sicr i feddwl y tlawd, sef trwy ei galon, —
trwy ei serch. Y mae ei serchiadau yn danbaid, os yw ei ddeall
yn farwaidd. Nid rhesymeg sydd yn dylanwadu arno, ond
cariad. Ond y mae'r efengyl yn ei gyíarfod yn hyn hefyd : y
mae crefydd yn gofyn am y deall a'r galon, — y deall i amgyífred,
a'r galon i garu : ond nid cael y galon i garu trwy'r deall, ond
cael y deall i amgyffred trwy'r galon, yw trefn Duw.
Pe'r cyntaf a fuasai y drefn, sef apelio at y deall er rawyn
cyraedd y galon, ni buasai yr efengyl yn gymwys i neb ond i
ddoethion y byd ; ond, gan mai yr ail ydyw y drefn, sef apelio
at y galon, a thrwy hono ddyfod i'r deall, efengyl i dlodion
ydyw. Nid cyfundraeth {system) i'w deall sy genym am fywyd»
ond person i'w garu ; nid dyrys-bwnc (problenì) sychlyd i'w
amgyffred, ond Crist croeshoehedig i'w anwylo. Gwahardd
peth teg yr olwg arno a wnaeth yr Arglwydd yn Eden ; ond fe
Efengyl Vr Tlodìon. 105 1
redodd y galon arno, ac felly fe syrthiodd dyn : ond y mae
wedi newid y drefn yn awr; wedi crynhoi yr holl degwch
crëedig a digrëedig, — gogoniant Creawdwr, a phrydferthwch
creadur, i'r dyn Crist lesu : gwỳn y nefoedd, a gwrid y ddaear.
Fel y canodd Charles o Gaerfyrddin, —
" Ynddo 'n rhyfedd cyd-lewyrcha
Dwyfol fawredd a mwyneidd-dra,"
Ac y mae yr efengyl yn dal y gwỳn a'r gwridog ger bron y byd
i'r galon redeg arno; ac felly y mae'r galon yn arwain y
dyn yn ol, fel yr arweiniodd hi ef ar gyfeiliorn. Y mae yn yr
efengyl blygion lawer ; y mae yma allu, — y mae yma ddoeth-
ineb, — y mae yma gariad ; a'r plyg uchaf ydyw cariad. Pan
fwytaodd ein rhieni cyntaf y ífrwyth oedd wedi denu eu calon
ato gan ei degwch, agorwyd eu llygaid i ddeall ; ond gwbodaeth
ydoedd y buasai yn well iddynt fod hebddi. Ond pe cydicch
chwi yn mhlyg cyntaf yr efengyl heddyw, deuech bob yn
ychydig i gael gafael ar y lleill oll, — i ganfod ynddi ddoethineb
Duw, a gallu Duw hefyd. Trwy apelio yn gyntaf at y galon
y mae hi yn cyfarfod â dyn, ac â phob dyn, yn y fan lle mae. Yr
oedd Williams, y ce/.hadwr, yn dywedyd, na welodd efe ddim
un o farbariaid ynysoedd Môr y De, nad oedd yr unfed adnod
ar bymtheg o'r drydedd benod o loan yn cyraedd ei galon. Er,
feallai, na byddent wedi gweled dyn gwỳn erioed o'r blaen, eto,
gydag iddo ddywedyd yr adnod, " Felly y carodd Duw y byd,
fel y rhoddodd efe ei uniganedig Fab, fel na choller pwy bynag
a gredo ynddo ef, ond caffael o hono fywyd tragwyddol," bydd-
ent yn gwrandaw, â'u geneuau yn agored, gyda syndod, ar y
newydd rhyfedd. Diolch i Dduw am ddwyn efengyl y tangnef-
edd i ymyl pawb, — "y tlodion."
3. Y mae trugaredd yr efengyl i'w chanfod yn ei bod hi yn
cyfarfod â'r tlawd yn ei deimladau. Nid ydyw yr efengyl yn
ei nodi allan fel tlawd, nac yn ei ysgar oddiwrth ei gyd-ddyn
oblegid ei dlodi. Un o brofedigaethau llymaf tlodi ydy w, ei
fod yn ysgar y tlawd oddiwrth ei gyd-ddyn ; yn peri fod hwnw
ymhob man yn dywedyd wrtho, — " saf hwnt." Y mae hyn yn
llanw mynwes y tlawd â theimladau, y mae ei gymydog cyf-
oethog yn eu cam-enwi yn fynych yn falchder; ond mwy
1052 Bfengyl iW'Tlodion.
cymwys fyddai eu galw yn deimladau dyn. Ond nid yw efengyl
lesu Grist ddim yn dywedyd, " saf hwnt," wrtho : nid ydyw
ychwaith yn ei batroneisio, yn ei achlesu yn ddiraddicl, yn ym-
ostwng i sylwi arno ond yn ei adgofio yn ■ barhaus mai tlawd
ydyw. Y mae yn hi tra rhagori ar y grefydd luddewig yn hyn.
£r bod yn hono ofal mawr am y tlawd, eto yr oedd y canolfur
rhyngddo a'r eyfoethog, yn cael ei gadw i fyny yn y deml fel
yrahob man arall. Gellid adwaen y tlawd yno ; oblegid nid
oedd ei ofFrwm ef ddim yr un a'r eiddo ei gymydog cyfoethog: tra
y byddai gan y cyfoethog yr ŷch corniog, carnol, neu feheryn
breision, ni fyddai gan y tlawd ond y ddwy ddurtur fach, neu
ddau gyw colomen : a llawer gwaith, y mae yn dra thebyg, y
daeth ef i lawr o'r deml yn friwedig ei deimlad, oherwydd yr
olwg ddiystyrllyd a daflai y gwr mawr ar ei aberth salw ef-
Caiíf y ddau esgyn i gysegr Duw eto, ond nid heb aberth. Beth
a gaiíîy tlawd ì Oen Duw. Beth a gaiff y cyfoethog? Oen
Duw. Beth a gaifFy tlawd at ei glwyfau ? Y balm o Gilead.
Beth a gaiíT y cyfoethog ? Y balm o Gilead. Beth a gaiíF y
tlawd am dano ? Y wisg oreu. Beth a gaiff y cyfoethog? Yr
un peth. Y llian main a fydd gan y ddau. Y mae'r efengyl
yn darostwng uchel-drem y tlawd yn gystal a'r cyfoethog ; ond
y mae hi yn gweini ei thrugaredd mor llednais fel nadydyw yn
sathru ar un o'i deimladau fel creadur. Cyrau y maes, llofiEon
y winllan, yr hyn a ddygai y ddaear o honi ei hun y seithfed
flwyddyn, oedd rhan y tlawd yn Israel gynt : nid oedd y maes
ddim wedi ei drin er eu mwyn hwy, na'r winllan wedi ei phlanu
er eu mwyn : gweddillion rhai uwch oedd eu rhan. Ond nid
cyrau y maes sydd iddynt yn nhrefn Duw : y mae ganddynt
hawl ynddo oll ; — nid lloffion y winllan sydd iddynt ; ond ei
dewisol ffrwyth hi. " Y tlodion yn cael pregethu yr efengyi
iddynt."
2. Y mae yn yr efengyl amlygiad oallu Duw (yn ol y darllen-
iad yn Luc) : "y tlodion yn derbyn yr efengyl," neu yn cael ei
hefengyleiddio. Y cwestiwn y mae hoU ddoethion y ddaear
wedi methu ei ateb i foddlonrwydd ydyw, '* Pa fodd y gelHr
cadw tlodion y byd, y dosbarthiadau iselaf, rhag dymchwelyd y
dosbarthiadau uwch, ac felly llanw y wlad âg annhrefn a thru.
eni ?" a Uawer gwaith y gwnaethant hyn. I geisio gochel hyny,
EýengyliW Tlodion. 1053
cadwyd y tlodion yn gaethion fel Samson yn y carchar : ond
pan ddeuent yn ymwybodol o'u nerth, rhuthrent fel bwystfilod
ar y dosbarthiadau uwchlaw iddynt. I'r un diben cadwyd
hwynt yn nhywyllwch anwybodaeth; ond llawer gwaith y
rhuthrasant o'r carchar hwnw hefyd i ddinystrio y rhai a'u
cadwent ynddo. Dyfeisiwyd crefyddau, a defnyddiwyd yr
oífeiriaid i'w cadw yn llonydd, trwy weithio ar eu hofnau a'u
gobeithion ; ond mynych y byddai eu holl swynion hwythau
yn methu, a rhuthrent yn ddiluw o ddinystr dros y wlad, fel y
môr tros y cloddiau llanw wedi iddo gael ei gynddeiriogi gan
yr ystorm gref. Ond y mae efengyl Duw wedi cael rhwyraau
a wna y cawr yn berffaith ddiberygl, sef, rhwymau cariad Crist ;
— wedi cael ffordd i ostegu terfysg y bobloedd, sef, trwy dywallt
olew maddeuantar y tònau. " Y tlodion yn cael pregethu yr
efengyl iddynt."
Yr ydym ni wedi cynefino à'r efengyl a'i bendithion, ac felly
yn rhy ddiystyr o'r hyn y mae hi yn ei wneuthur, sef, o'i nerth
hi. Ond i weled hyny, deuwch gydâ mi yn eich meddwl i
edrych ar un o ynysoedd Môr y De er's deugain mlynedd yn ol.
A welwch chwi y dyrfa yna? Yr ydych yn ameu ai dynion ydynt,
oblegid y mae rhywbeth bwystfilaidd, îe, dieflig, yn eu gwedd •
ac y mae y gwaith y maent wrtho yn peri i chwi ameu mwy
eto ai dynion ydynt, oblegid gwledda ar un o'u cyd-ddynion y
maent. Dilynwch hwynt o'r wledd erchyll yna i'w bwthynod
budron, cewch weled yno ddyfnderoedd dan ddyfnderoedd o
drueni. Hyny o dynerwch sydd ynddynt, ar yr aelwyd y mae
yn ymddangos ; ond y mae eu tynerwch yn galed, a'u trugar-
edd yn greulawn. Ewch oddiyno i'w rhyfeloedd ofnadwy:
cewch ddarlun byw gerbron eich llygaid o uffern, cywirach na'r
un a dynodd eich dychymyg yn ei amser mwyaf by wiog erioed.
Wedi syllu nes bron llesmeirio ar y golygfeydd ofnadwy yna,
edrychwch draw eto ar y llong yna yn agosâu at yr ynys ; y
cwch yn cael ei oUwng i lawr o honi, ac yn cael ei rwyfo tua'r
lan, ac wele ddyn dieithr yn neidio o hono i'r traeth. Y mae
y cwch yn dychwelyd, ac yn gadael y dyn yn unig a diam-
ddiffyn, heb gleddyf nac arfau tân ganddo, ymysg yr anwariaid.
Beth y mae am ei wneyd yn y fath le ì Y mae wedi meddwl
gwneyd yr uffern yna yn baradwys, a'rbwystfilod yna yn ddyn-
io!;4 Efengyl i'r Tlodion.
ion. Ow, diuan o hono ! meddwch chwi, onid ê ? Byddai yn
haws iddo wneyd i'rhaul sefyll yn nghanol y nefoedd, — gostegu
twrf y môr pan ruo ei donau, ac atal y ccrwynt yn ei flaen, na
gwneyd y bwystfilod yna yn ddynion, a'r uíTern yna yn barad-
wys ; ac eto wrth i ni syllu arno, ni a welwn ei fod yn edrych
yn lled hyderus. Tybed ei fod yn ei bwyll ? Ydyw, yn
berffaith felly. Ac os mynwch chwi wybod ymha beth y mae
ei hyder yn gwreiddio, edrychwch ar y Uyfr bychan sydd yn ei
law : rhywbeth yn hwnw sydd yn ei wneyd yn hyderus ; a
dyna ydyw hyny : — " Ganwyd i chwi heddy w Geidwad yn
ninas Dafydd, yr Hwn yw Crist yr Arglwydd." " Efe a archoll-
wyd am ein camweddau ni." " Yr Hwn nid arbedodd ei Briod-
fab, ond a'i traddolodd ef trosom ni oll." *' Bod Duw yn
Nghrist yn cymodi y byd âgefeiHun, heb gyfrif iddynt eu
pechodau." Beth a wna pethau fel yna i anwariaid ? Wel, ni
a'u gadawn hwynt am ugain mlynedd. Deuwch gydà mi un-
waith eto : a welwch chwi y gynulleidfa barchus yna ; y mae
deall i'w ganfod yn eu gwynebpryd^ ac y mae synwyr yn bwr-
lymu yn eu llygad. Y mae eu calon yn dyfod i'r golwg yn eu
gruddiau sydd yn wlybion gan ddagrau, wrth gofio am yr Hwn
a wânwyd. Dilynwch hwynt i'w cartrefieoedd, y mae tyner-
wch cariad, a mwyneidd-dra trugaredd, ar bob peth yno : îe,
dilynwch hwynt i bob man, y maent i'w gweled yn ymestyn at
berffeithrwydd. Wel, pwy ydyw y rhai hyn, ac o ba le daeth-
ant ? Y bwytawyr dynion, — yr anwariaid ydynt, wedi bod dan
ddylanwad y llyfr bychan a welsoch yn llaw y dyn dieithr. Y
tlodion yn cael eu hefengyleiddio — y mae gobaith am y ddaear
eto ; oes, oes ; — oblegid " gallu Duw yw hi."
Y mae rhywbeth hynod o galonogol yn y meddwl fod yn
bosibl efengyleiddio ein byd ni : gwneyd â thrueni y byd
moesol waith tebyg i'r hyn a wnaeth yr Arglwydd lesu ar y
naturiol. Yr oedd awyr hwn pan ddaeth lesu Grist iddo yn
llwythog o drueni : dymuniadau yn mynwes dyn, heb ddim ar
eu cyfer ; poenau a chlefydau yn ei gyfansoddiad, heb neb a
fedrai eu symud; muriau rhyngddo â llawer o roddion rhaglun-
iaeth na fedrainebeu chwalu ; ei fynwes jn lle i drueni a gofid
gael eu bwrw iddo, fel y teflid budreddi Jerusalem i ddyffryii
mab llinnom. Ond ryw ddydd, wele yr lesu yn dywcdyd
Efeiigyli'r Tlodion, 1055
wrth edrych arno, " Nis gallaf ymatal yn hwy," ac yn cychwyn
allan, â thrugaredd Duw yn ei galon, a nerth Duw yn ei fraich;
a chydag iddo gychwyn, wele y cloíF yn neidio, a thafod y
mudan yn seinio cân ; y cleifion gwahanol yn moli Duw, a'r
byddariad yn barod i ddawnsio wrth y beroriaeth oedd yn eu
clustiau ; y meirw yn cyfodi, ac angau yn dianc o flaen yr Ad-
gyfodiad a'r Bywyd. Cysgod oedd hynyna o'r hyn y mae
efengyl Crist yn ei wneyd. Yn awr y mae wedi myned allan
yn gyfoethog o drugaredd, ac yn gyflawn o nerth, ac y mae y
byd yn teimlo oddiwrth hyny. Y mae ei awyrgylch foesol ef
yn puro, — ei anafusion yn myned yn llai aml, ei gloffion ysbryd-
ol yn llamu, a miloedd o'i fudaniaid yn seinio cân ; ei fynwent-
ydd oeddynt mor llawnion ymhob ardal yn cael eu gwaghau
yn gyflym ; Lazarus i'w weled yn gwledda gyda'r byw, yn lle
bod yn llygru gydâ'r meirw ; merch Jairus yn bwyta gyda'r
teulu, yn lle gorwedd yn dawel yn ystafell angau ; a mab y
weddw yn dychwelyd adref gydâ'i fam, yn lle cael ei gario ar
yr elor i'r gladdfa. Wele, dyma ranau o fíyrdd efengyl Duw,
ond pwy a draetha yr holl drugaredd a'r nerth sydd ynddi ?
'* Y tlodion yn cael pregethu yr efengyl iddynt."
II. Ceisiwn ddangos y dylanwad a ddylai yr athrawiaeth
werthfawr hon gael arnom ni.
I. Gwelwn ynddi brawf gwastadol o wirionedd yr efengyl.
Y mae oes y gwyrthiau yn y byd naturiol wedi myned heibio ;
ond yr ydym wedi cael pethau gwell yn eu lle hwynt ; ac iaith
lesu Grist wrth ei weision heddyw yw, " Ewch, a mynegwch i'r
bobl y pethau a welsoch ac a glywsoch." '* Ac nid gan ddilyn
ehwedlau cyfrwys yr ydym yn hysbysu i chwi efengyl Duw, ond
wedi gweled ei gwirionedd hi â'n llygaid.'' Ac nid rhaid i ni
mwy na'r dyn a anwyd yn ddall, ymresymu dim â neb sydd yn
dymuno gwrth-ddywedyd, ond fel yntau, ni a apeliwn at ffeith-
iau. " Ai pechadur yw, nis gwn i : un peth a wn i ; lle yr
oeddwn i yn ddall, yr wyf fi yn awr yn gweled." Dy weded y
neb a fyno fod gwyrth yn anmhosibl, — fod datguddiad dwyfol
yn anmhosibl, — fod yr efengyl yn afresymol, nid awn ni ddim i
ymddadleu â hwynt ; ni a wyddom un peth, fel y dyn dall, y
mae hi yn achub. Pe buasai lesu Grist wedi agor llygaid un a
anesid yn ddall, neu yn enwedig wedi codi un marw yma, buas-
1056 EfengyliW Tlodion.
ech yn teimlo y buasai peidio credu ynddo yn bechod dirfawr ;
ac felly y buasai : ond y mae wedi gwneuthur pethau mwy yma
na hyny ; cymaint yn fwy ag ydyw enaid yn fwy na chorflF, a
thragywyddoldeb yn fwy nag amser : ac eto y mae yma aml un
yn dawel heb gredu. Gweithredoedd yr efengyl fydd yn con-
demnio ei gwrthwynebwyr hi. Nid rhaid iddi wrth wyrthiau
yn llythyrau canmoHaeth i ddangos o ba le y daeth, oblegid
gall ddywedyd am bob sant, " Fy llythyr i ydwyt ti." Efengyl
farw yn y llythyren sydd yn y Beibl ; ond efengyl fyw yn yr
Ysbryd ydyw y sant : a'r fyw fydd yn condemnio. Nid pregeth
Noah, ond arch Noah a gondemniodd yr hen fyd : y bregeth
yn fyw oedd yr arch. Yr efengyl yn fyw ydyw y tlodion wedi
eu hefengyleiddio. Y mae myned i uíTern o'r un wlad a Beibl
yn beth ofnadwy ; ond rawy ofnadwy na hyny, ydyw myned
yno o'r un wlad a saint. " Oni bai wneuthur o honof yn eu
plith y gweithredoedd ni wnaeth neb arall," medd lesu Grist
am yr luddewon, *' ni buasai arnynt bechod ;" felly oni bai
eich bod wedi gweled gweithredoedd yrefengyl, ni buasai mewn
cymhariaeth, arnoch bechod am ei gwrthod hi, Y gweithred-
oedd fydd yn condemnio.
2. Gwelwn yn yr athrawiaeth hon brawf o'i chyfaddasder i
bob un o honom ni yn bersonol, ac felly o'i theilyngdod o gael
pob derbyniad genym. Yn yr hyn a wnaeth hi, ni a gawn
brawf o'r hyn a all hi ei wneyd. Wrth edrych i mewn iddi, yr
ydym yn gweled ei bod yn cyfateb yn gwbl i'n hangen ni ; —
digon o drugaredd ar gyfer ein hannheilyngdod, a digon o allu
ar gyfer ein trueni : ni a welwn fod ganddi iawn i Dduw, a
braich i ddrylHo gweithredoedd y diafol ; fod ynddi holl gyf-
lawnder y Duwdod yn gyfoeth o ras ar gyfer gwagder ein coll-
edigaeth ni, a holl allu y Duwdod yn gyfoeth o nerth ar gyfer
ein caethiwed ysbrydol ni. Dyma gyfaddasder, onide ? ond
cyfaddasder pwnc yw hwnyna ; ond yn y testyn yr ydym yn
gweled y cyfaddasder mewn gweithred. Wrth edrych ar beir-
ianwaith cywrain, gelhr íTurfio barn am ei gymhwysder i'w
waith amcanedig cyn ei weled yn gweithio; os na bydd yn
croesi yr un o ddeddfau natur, ond yn ol pob peth sydd yn ym-
ddangos yn gyson â hwynt, gwna hyny y tebygolrwydd yn fawr
y cyflawna fe y gwaith : ond ni bydd yna ddim ond tebygol-
^ Efengyl t'r Tlodion. 1057
rwydd, ond pan y gwelir ef yn gweithio, yn gwneyd y gwaith
yn berffaith, bydd hyny yn sicrwydd o'i gyfaddasder. Dyma
ydyw y prawf sy genyni iii ar efengyl iHiw. Y peirian-
waith dwyfol yn cyflawni yr hyn yr amcanwyd ef iddo
sydd yn y testyn. Ni raid pryderu am fynyd am ei chyfaddas-
der hi. Llawer o ddadleu a fu ynghylch y llong fawr, pan oedd
hi yn cael ei hadeiladu : tybiai rhai na wthid mo honi i'r dwfn
byth : wedi hyny ofnid y byddai yn anmhosibl.myned â hi yn
ddiogel i lawr yr afon i'r môr : wedi cyraedd yno, ofnid ei bod
yn rhy fawr i'w lly wodraethu ; ond hyd y cafwyd prawf o honi^
y mae yr holl ofnau hyd yma wedi bod yn ddisail : ond nid oes
llawn hyder ynddi eto, — nid yw wedi croesi yr Atlantic ; os
gwna hi hyny yn ddiogel, fe gredir iddi, — a pha ddiolch am
hyny ? Llawer o ddamcanu fu ynghylch Uong fawr iachawd-
wriaeth. Fe dybiodd Satan y buasai yn medru atal iddi gael
ei gyru i'r dwfr, ond methodd : cyrhaeddodd y mòr, a rhodiodd
yn fawreddus ar wyneb ei donau : ac nid hyn yw yr oll, — y
mae hi -wedi croesi filoedd o weithiau, er yr ystormydd oll, a'i
llwyth yn ddiogel, i borthladdoedd prydferth y nefoedd, ac y
mae hi wrth y làn yma yn awr yn disgwyl am Iwyth newydd.
A gaiíT hi ddisgwyl yn ofer ?
Nid oes ond un o ddau beth a all eich cadw ch^vi yn ol ; naiU
ai ofn nerth y drefn, neu ofn ei graslonrwydd hi. Ond er
bod haenau ar haenau o drueni yn eich cyflwr, wrth edrych ar
y drefn yn gweithio, mi welaf nad oesyma yr un trueni nad
oes ganddi hi drugaredd ar ei gyfer; — nad ydych mewn un
pydew nad oes ganddi hi fraich ddigon cref i godi o hono. Y
mae hi wedi achub eich bath chwi. Y mae hi wedi achub
eich gwaeth chwi hefyd, fel y dangosid drwy hyny nerth a
graslonrwydd y drefn, er esiampl i'r rhai a gredant rhagllaw.
Os wyt ti yn ddall, y mae wedi rhoddi llygaid i ddeilHon ; os
wyt ti yn fud, y mae hi wedi datod rhwymau tafod y mudan.
Mewn gair, nid ynghylch beth wyt ti y mae y ddadl, ond a
gaifiF efengyl Duw roddi prawf o'i gallu a'i gras ar.iat ti. Ni
siomwyd mo honi yn neb a gafodd hi erioed. Fe siomwyd
Hiram yn y dinasoedd a roddodd Solomon iddo ; ond os rhoddi
di dy hun i fyny i efengyl Duw, ni siomir mo honi ynot ti. Nid
danod dy fod yn ddall a wna hi, ond chwilio am ddau lygad
G4
1058 Efengyl tW Tìodîon.
ti. Nid dangos anfoddlonrwydd am dy fod yn fud a wna hi,
ond datod rhwym dy dafod, a rhoddi emyn i ti i ganu hefyd.
Ni ddeibyniai yr Arglwydd yn Jerusalem mor hyn a ysglyf-
aethwyd, na'r cloíf, na'r clwyfus, na'r anafus, yn aberth ; ond y
mae Mab Duw yn eu derbyn oll. Y mae wedi derbyn miloedd
felly eleni, ac wedi eu hefengyleiddio ; ac o'r wedd brydferth
sydd arnynt ! Nid rhyfedd fod rhai yn myned i ameu yr hyn
a fuant, fel yr luddewon am y dall hwnw: y mae y cyfnewid-
iad mor fawr ! Os mentri di eíengyl Duw, ti a weli ddydd yr
amheui di dy hunan pwy ydwyt. Ei hargraíî" fendigedig hi a
fyddo arnoch oll.
[Gwener, Mawrth 23, Eto Ebrill 19, 1860 ]
PREGETH LXIV.
Y MWYNDER YN YMADO.
HoSEA YT. 4 : — " Beth a -wnaf i ti, Ephraim ? beth a wnaf i ti, Judah ? eich
mwynder sydd yn ymado fel cwmwl y boreu, ac fel gwlith boreuol,"
R nad oes ond dau gyflwr yn y byd, y inae yn eglur
wrth ddarllen y Beibl fod graddau yn perthyn i
ddrwg a da ; oblegid yr ydym yn darllen am rai
bach yn Nghrist, ac am wŷr perffaith ; — ani deyrnas Dduw yn
yr eginyn, yn y dywysen, ac yna à'r ŷd yn llawn yn y dywysen ;
am y tir da yn dwyn ffrwyth, peth ar ei ddegíed ar hugain, arall
ar ei driugeinfed, ac arall ar ei ganfed. Gall y cymhariaethau
hyn fod yn ddarluniad o wahanol bersonau : mewn rhai y raae
crefydd o hyd fel yn yr -eginyn ; mewn eraiU y mae hi wedi
cyraedd y dywysen, ond heb addfedu nemawr ; tra raewn eraill
ymae yr ŷd wedi llenwiyn y dywysen, — crefj'dd wedi addfedu.
Y mae hyn hefyd yn ddisgrifiad o'r un person ar wahanol am-
serau ar ei oes : yr eginyn gwanaidd a welwyd ynddo i ddech-
reu, ond dilynwyd hwnwmewn amser gan y dywysen, acymhen
amser drachefn, cafodd hono ei llenwi âg 5'd. Neu, yn ol dar-
luniad y ddameg arall, — daeth y tir oedd i ddechreu ffrwytho
ar ei ddegfed ar hugain, i ffrwythoar ei driugeinfed, ac yna ar ei
ganfed. Y mae y graddau hyn hefyd yn dilyn eu gilydd yn
rheolaidd : yn y dywysen y mae yr ŷd yn ilawn, ac nid yn yr
eginyn : y tir oedd yn dwyn ar ei driugeinfed, a ddaeth gyntaf
i ddwyn ar ei ganfetl, ac iiid yr hwn oedd yn dwyn ar ei ddeg-
fed ar hugain.
Y mae y siamplau hyn yn dangos fod graddau mewn crefydd;
ac y mae yn y Beibl siamplau mor eglur a'r rhai hyn yn dangos
fod graddau mewn pechod : oblegid yr ydym yn darllen am ra
io6o Y mtoynder yn yma/^o.
ymhell oddiwrth gyfìawnder ; — am rai wedi diddarbodi, yn ym-
roddi i gyflawni pob pechod yn un chwant ; — am rai â'u cyd-
wybod wedi ei serio â haiarn poeth ; — am rai nad allent gredu;
tra yr ydym yn darllen am eraiU heb fod ymhell oddiwrth
deyrnas Dduw, — o fewn ychydig i fod yn Gristionogion ; — ac
am rai mor agos, fel y gelwir hwynt yn blant y deyrnas, eto heb
fod ynddi. Er nad oes dim yn rhy anhawdd i Ysbryd yr
Arglwydd, eto y mae yr hyn yr ydym yn ei ganfod â'n llygaid
yn cytuno yn dda â'r hyn yr ydym yn ei ddarllen yn y Beibl,
mai o'r dosbarth agos at y deyrnas, fel rheol, y mae Ysbryd Duw
yn ei phoblogi hi, " Pa fodd y credant yn yr hwn ni chlyw-
sant am dano ?" Y mae y rhai sydd heb glywed yr efengyl yn
rhy bell i gael eu hachub ; — tra yn y tir yna, rhaid iddynt íarw
heb Grist, oblegid "ffydd sy trwy glywed.'' Ac ymysg gwran-
dawyr yr efengyl drachefn, y mae rhai, fel y Bereaid, yn agos ;
tra y mae eraill, fel yr luddewon, ymhell.
Y mae yn anhawdd, feallai, cysoni y syniad fod graddau
mewn drwg a da, â gwaith Ysbryd Duw yn nhröedigaeth pech-
adur ; ond y mae yn eglur fod gwadu hyn yn y naill neu y llall,
neu gamsynio yn ei gylch, yn eíTeìthio yn dra niweidiol ar y
neb a wna hyny. Y mae camsynio ynghylch cynydd graddol
crefydd yn meithrin ysbryd dioglyd, sydd yn gwneuthur y dyn
yn ddigysur iddo ei hun, ac yn ddiogoniant i Dduw. Dylem
gofio yn barhaus fod gwahaniaeth mawr rhwng bod mewn sef-
yllfa gadwedig, a bod yn ddyn perffaith yn Nghrist lesu. Fe
gyferchir pob un o'r rhai bach yn Nghrist, am eu bod mewn
sefyllfa gadwedig, â'r geiriau hyny gan y Barnwr, y dydd di-
weddaf : — " Ha fab, cymer cysur, maddeuwyd i ti dy bechod-
au." Ond rhaid i un berthyn i'r dosbarth perffaith i gael ei
gyfarch â'r geiriau, — '* Da, was da a ffyddlawn." Yr oedd yr
Apostol Paul yn ÿmorchestu i gyflwyno " pob dyn yn berffaith
yn Nghrist lesu." Nid eu hachub yn unig oedd hyny ; ond eu
cael yn gyfryw ag y byddent yn llawenydd ac yn goroii iddo
yn nydd Crist ; nid yn unig " yn gymeradwy yn yr Anwylyd,"
ond yn rhai wedi cyraedd " at fesur oedran cyflawnder Crist."
Drachefn, y mae camsynio ynghylch graddau pechod yn
effeithio mor, neu yn fwy, niweidiol ag ydyw camsynied
ynghylch graddau crefydd. Y mae dyn o dan ddylanwad y
Y mwynder yn ymado. io6 1
camsyniad yna yn ymwerthu i ddrwg, ac yn disgwyl nefoedd er
hyny : am mai Duw sydd yn achub, meddai, yr un peth i Holl-
alluogrwydd ydyw achub y pechadur mwyaf a'r lleiaf; gan
hyny y mae y dyn mor dawel heddyw mewn cyflwr drwg ag
ydoedd ddeng mlynedd i heddyw ; er ei fod, mewn gwirionedd,
yn llawer iawn pellach oddiwrth deyrnas Dduw heddyw nag
ydoedd y pryd hyny. laith ymddygiad y dyn yna ydyw,
'Grwnafddrwg fel y dêl daioni.' Y mae graddau y drwg yn
sylfaen gobaith iddo, yn lle bod yn achos pryder. Ond y mae
y testyn hwn yn dangos fod cynydd mewn drwg yn beth a
ddylai achosi pryder mawr. Y mae gweled un yn cynyddu
felly, — yn ymbellhau oddiwrth deyrnas Dduw, — yn olwg mor
ddifrifol, fel y dengys y testyn ei bod hi, yn achos pryder yn
mynwes yr Anfeidrol ei Hun ; nes y gofyn Efe yma, " Beth a
wnaf i ti, Ephraim .? beth a wnaf i ti, Judah .?'' Y mae y
mwynder, — y daioni, — a f u ynoch unwaith, ynymadael; ac y
mae ymadawiad hwnyna yn arwyddo yn ddrwg i chwi. — "Beth
a wnaf i ti."
Y mae yn y testyn, a'r adnodau blaenorol, gyfeiriad at
gynyddu yn y ddau beth a fuant o dan sylw, sef mewn drwg ac
mewn da. Yr oedd yr Arglwydd yn niwedd y benod ddiwedd-
af wedi dywedyd y dychwela Efe i'w le, hyd oni chydnabydd-
ent eu bai, a cheisio ei wyneb. Yn ngwyneb hyny, " Deuwch,"
meddai y prophwyd, "a dychwelwn at yr Arglwydd ;" —
" Efe a'n bywha ni ar ol deuddydd." Y mae yn debygol mai
ymadrodd diharebol ydyw hwn, i ddangos y caent dderbyniad
buan ganddo ; a'r canlyniad o hyny fyddai ei adnabod ; a thrwy
ddilyn gwneuthur hyny, cynyddent yn raddol yn y wybodaeth
am dano, fel y mae goleuni y boreu yn cynyddu yn raddol nes
ymlid y tywyllwch oll i ÍTordd : neu fel y mae y diweddar-
wlaw yn mis Hydref yn peri i'r had fyddai newydd eihau, egino
a thyfu, a'r cynar-wlaw drachefn yn y Gwanwyn yn peri iddo
ffrwytho ac addfedu ; ac felly, wrth ddilyn adnabod yr
Arglwydd, fe gynyddwn ninau o radd i radd, nes o'r diwedd ei
adnabod yn berflfaith.
Ond yn nghanol cysuro ei hun â'r meddwl yna, y mae y
prophwyd fel yn coíìo yn ddisymwth pa fath rai ydoedd y
bobl hyn, mai pobl oeddent yn cynyddu o radd i radd, nid
1002 Y mwynder yn y mado.
mewn daioni, ond mewn drygioni. — yn lle cynyddu fel goleuni
y boreu mewn adnabod yr Arglwydd, yr oedd eu mwynder,
neu eu daioni hwy, yn cilio '• fel cwmwl y boreu, ac fel gwlith
boreuol. " Cynyd Ju mewn drwg, ac nid mewn da, yr oeddent ;
— myned yn bellach oddiwrth deyrnas Dduw, yn lle yn nes ali'
Yn yr olwg ar hyny, y mae y prophwyd, o dan deimlad dwys;
yn dywedyd, " Beth a wnaf i ti, Ephraim ? beth a wnaf i ti'
Judah ?" — neu fel yr awgrymwyd eisoes, feallai mai yr
Arglwydd sydd wedi llefaru y testyn yn ddigyfrwng wrth ej
was, wrth ei weled yn ymgysuro yn y meddwl yr adferid
hwynt yn raddol. Y mae yr Anfeidrol yn dywedyd pa fath rai
oeddent ; — nid rhai a gynyddent mewn crefydd, ond a gynydd-
ent mewn drwg ; — bod eu mwynder yn ciho " fel cwmwl y
boreu, ac fel gwHth boreuol."
Oddiwrth y testyn, daw tri pheth dan ein sylw: —
I. Fod amseroedd ar ddynion y gellir yn briodol eu galw yn
amseroedd o fwynder, neu ddaioni, — amseroedd y mae yr
Arglwydd yn agos atynt hwy, a hwythau yn agos at deyrnas
nefoedd.
II. Fod perygl i'r mwynder hwnw giHo, — ymadael.
III. Fod pwys dirfawr yn hyny ; " Beth a wnaf i ti, Ephraim ?
beth a wnaf i ti, Judah ?
I. Fod amseroedd ar ddynion y gellir yn briodol eu galw yn
amseroedd o fwynder, neu ddaioni, — amseroedd y mae yr
Arglwydd yn agos atynt hwy, a hwythau yn agos at deyrnas
nefoedd. Gellir cymeryd y mwynder neu y daioni hwn, naill
ai fel amlygiad o agwedd meddwl dyn, neu fel amlygiad o
feddwl yr Arglwydd am dano ; hyny yw, geUir deall wrth y
mwynder, naill ai y tynerwch sydd ynddynt hwy at yr
Arglwydd, neu, a llefaru am Dduw yn iaith dyn, y tynerwch
sydd yn mynwes yr Anfeidrol tuag atynt hwy. Fel pe dy\ved-
asai yr Arglwydd, — Y mae y tynerwch sydd ynddynt hwy tuag
ataf íi yn cilio yn raddol ; neu ynte,— Y maent hwy yn myned
yn gyfryw, fel y mae y tynerwch yr oeddwn i yn ei deimlo
tuag atynt hwy yn ciHo. YmwcHadau yr Arglwydd â dyn sydd
yn achosi y mwynder yna yn ei ysbryd ; a thra y bydd hwnw
yna, y mae y dyn yn agos at deyrnas Dduw. Y mae yr amser
yna ar ddyn yn amser serchawgrwydd arno hefyd yn ngolwg
Y mwynder yn ymado. 1063
yr Arglwydd. Cyfeiria yr Arglwydd, trwy y prophwyd
Jeremiah at un o'r^amseroedd yna ar genedl Israel: — " Cofiais
di, caredigrwydd dy ieuenctyd." Felly y mae y naill ystyr yn
rhedeg i'r llall. Pan y mae yr Arglwydd yn ymweled â'i
greadur, y mae'r adeg'hono yn adeg o fwynder ar ei feddwl. Y
mae yr un adeg hefyd yn amser serchawgrwydd arno yn
ngolwg yr Arglwydd. Y mae efe yn agos at deyrnas Dduw, ac
y mae Duw fel Achubydd yn agos ato yntau. Y mae amser-
oedd o'r fath ar oes pawb. Dywed y bardd fod tide yn amgylch-
iadau pawb a all arwain i gyfoeth, ond cymeryd y fantais arno-
Dichon fod lle i ddadl ynghylch cywirdeb hynyna yn ei berth-
ynas â'r byd hwn ; ond y mae yn ddiddadl fod adegau o'r fath
ar oes dyn yn ei berthynas à'r byd arall. Y maeat yr un peth
iddo ag ydyw y spring tide i'r llestr, — yr un peth ag
ydyw y gwanwyn i hau i'r cynhauaf : amseroedd ydynt
cyffelyb i'r dydd pwysig hwnw yn hanes Saul, ag y cadwodd
efe Agag yn fyw, yn lle ei ladd. Y dydd hwnw y penderfyn-
wyd tynged ei frenhiniaeth ef. Neu, cyffelyb ydynt i'r adeg yr
oedd brenin Israel â'r bwa yn ei law, yn ystafell y prophwyd
Eliseus ; fe drodd tynged ei frenhiniaeth ef ar yr ychydig
fynydau hyny. Os ä yr adegau hyn heibio heb eu defnyddio
yn briodol, bydd pob peth a'u dilyno yn ofer i'r dyn hwnw.
Cyfeiria yr Arglwydd lesu at ddydd felly a gafodd Jerusalem,
yr hwn a fuasai, ond ei ddefnyddiu yn iawn, yn ei harwain hi i
heddwch a llwyddiant, ond a aeth heibio heb iddi ei adwaen ;
ac wedi iddo fyned heibio, gellid dywedyd am dani, *'0'th
aflendid ni'th lanheir mwy."
Y maedau amser penodol ynperthyn i ddyn, y gelhr eugalw
yn amseroedd o fwynder arno. Y naill yn adeg benodol ar ei
oes, sef amser ieuenctyd ; a'r Uall, yr adeg hono, pa pryd bynag
y bydd, pan y mae Ysbryd yr Arglwydd yn ymryson â'r meddwl
mewn modd anghyffredinol.
I. Un o amseroedd mwynder y ddynoliaeth ydyw tymor
ieuenctyd. Er bod holl feddylfryd calon dyn o'i ieuenctyd yn
ddrwg, eto y mae y tymor hwn ar oes yn dymor mwynder. Y
mae yr ieuanc yn dyner. Nid yw y gydwybod ddim wedi ei
serio, — y galon ddim wedi caledu, — yr holl enaid ddim wedi ei
haiarneiddio fel nad ellir menu arno ; y mae y cymeriad eto
1064 ' Y mwynder yn ymado.
heb ymífurfio, ond fel metel toddedig heb oeri, a chymeryd Hun
penodol. Fe ellir rhoddi argraff y ffurf a fynech arni, Ira y
bydd hi yn yr ystad doddedig yna. Felly dyn yn nhymor
ieuenctyd. " Hyfforddia blentyn ymhen ei ffordd; a phati hen-
eiddio nid ymedy â hi." Ond wedi i'r cymeriad gael ei ffurfio,
y mae mor anhawdd ei newid ag ydyw i'r Ethiop newid ei groen^
neu y Uewpard ei frychni. Y mae newydd-deb ynghylch pob
peth i'r meddwl ieuanc : nid yw wedi cynefino â phethau cre-
fydd, fel ag i'w gwneuthur yn gyffredin iddo. I'r ieuanc y
maent yn bethau sylweddol, ac nid yn enwau gweigion. Y
mae bygythion y Beibl yn disgyn ar feddwl llawer un yn
nghanol-ddydd oes, fel careg ar graig : y mae y meddwl wedi
caledu, am hyny nid ydynt yn menu arno; ond y maent yn
disgyn ar feddwl yr ieuanc fel careg ar glai, — y mae eu hol
hwynt yno. I un felly, y mae lesu Grist yn berson, ac nid yn
ddrychfeddwl ; — y nefoeid yn lle, ac nid yn freuddwyd ; — uffern
yn llyn yn Uosgi o dân a brwmstan, ac nid yn bictiwr ar y
pared.
Dylanwad Ysbryd Duw sydd yn cynyrchu y mwynder hwn ;
ac y mae genym le i gasglu oddiwrth y gwirionedd fod y
dylanwad hwnw yn gyson ar y meddwl ieuanc. Y mae y Duw
mawr am feddianuei greadur yn nechreuad ei ffordd, fel y gellir
dywedyd am áano yn yr adeg yna, fel am Joseph yn yr Aipht,
fod yr Arglwydd gydâg ef. Y mae y Tad sydd yn y nefoedd
yn hyn yn gyffelyb i'r rhieni naturiol ; y mae blynyddoedd
cyntaf plentyn yn amser serchawgrwydd arno i'w rieni ;— y mae
pob peth sydd yn ei amgylchu wedi eu bwriadu i enill ei galon
i ymlynu wrthynt, eu caru, a'u parchu ; ac os na wnant hyny,
y tebyg ydyw na effeithia dim ar ol yr adeg yna ar ei oes i
gynyrchu hyny. Felly y mae Tad yr ysbrydoedd yn amgylchu
yr ysbryd ieuangaidd â dylanwadau i enill ei galon i ymlynu
wrtho, ei garu, a'i barchu ; ac os na effeithiant hyny, y tebyg
ofnadwy ydyw na chynyrcha dim, mewn unrhyw adeg arall ar
oes, y peth hwn.
Ni a welwn yn eglur yn hanes Mab Duw fod yr amser yna ar
oes yn amser o fwynder yn ngolwg Duw. Yr oedd y Mab yn
hyn hefyd yn amlygiad o'r Tad : nid unwaith na dwywaith y
dangosodd Efe serchawgrwydd neillduol at ieuenctyd. Fe gym-
Y mwynder yn ymado. 1065
erodd y plant yn ei freichiau i'w bendithio ; — fe'u cyfiay/nhaodd
am dỳru o'i amgylch, a llefain, " Hosanna" iddo. Fe hoffodd
y dyn ieuanc oedd yn dyfod ato i ymofyn bywyd tragwyddol ;
ac fe ddewisodd ei ddisgybl anwyl o'r dosbarth hwn. Ai nid
tynerwch, symlrwydd, a diragrithrwydd plentyn ydyw y nodau
y mae yn eu rhoddi ar y rhai a dderbynir i mewn i'w deyrnas ?
"Oddieithr eich troi chwi, a'ch gwneuthur fel plant bychain,
nid ewch chwi ddim i mewii i deyrnas nefoedd." Amser mwyn-
der y ddynoHaeth ydyw y tymor hwn.
2. Amser mwynder y ddynoliaeth yn arbenig hefyd ydyw yr
adeg y mae "^ sbryd Duw yn ymryson mewn modd anghyffred"
inol â'r meddwl. Y mae dylanwad yr haul ar y ddaear yn
ddigon cryf bob amser i gadw bywyd lle y mae ; ond y mae
weithiau yn ddigon cryf i ddeflroi bywyd yn yr hadau a fuasent,
oni bai am hyny, yn parhau yn farw. Felly y mae digon o ddy-
lanwad Ysbryd Duw bob amser gydâ'r efengyl i gadw bywyd lle
y mae ; ond y mae weithiau ddylanwadau anghyffredinol yn
deffroi bywyd lle nad oedd ; fel y mae tir diffrwyth mewn
canlyniad yn tarddu ac yn tyfu.
Y mae hyn yn cymeryd lle bron yn ddieithriad ar fynediad
cyntaf yr efengyl i unrhyw wlad. Cyflawnir y pryd hyny
brophwydoliaeth Joel, sef tywallt yr Ysbryd ar bob cnawd.
Hyn a barodd iddi orchfygu y b}d adnabyddus yn nyddiau yr
apostolion.
Y mae hyn hefyd yn cymeryd lle pan y mae yr Arglwydd
yn bywhau ei waith mewn gwlad, — yn ymweled drachefn â'i
eglwys. Y mae crefydd yn cael ei dwyn ar amseroedd felly yn
destyn sylw pawb, ac nid oes odid fynwes i'w chael nad yw y
cwestiwn yn sibrwd ynddi, " Beth a wnaf fel y byddwyf cad-
wedig?"
Eilwaith : y mae amseroedd fel hyn yn digwydd yn hanes
pob dyn yn bersonol, pryd nad ydyw yn adeg o adfywiad
cyffredincl ar grefydd. Y mae Ysbryd Duw yn taenu mwyn-
der dros ei feddwl, yn cynyrchu tynerwch trwy ei enaid, sydd
yn ei wneuthur i fesur fel y cwyr toddedig, yn barod i dderbyn
argraff y gwirionedd. Oni wyddoch chwi oll am amseroedd,
pan y mae y byd arall, a'ch perthynas ddifrifol chwi âg ef, yu
dyfod i gartrefu yn y meddwl ; — Eich pechodau yn eich dal, fel
io66 Y mwynder yn ymado.
na ellwch edrych i fyny ? Ac ar y pryd yr ydych yn crynu fel
Felix ; ond fel yntau, yn dywedyd yn rhy aml, " Dos ymaith
ar hyn o bryd."
Drachefn ; y mae yr adeg pan y mae pethau dieithr mewn
rhagluniaeth yn cyfarfod dyn yn amser o fwynder ar ei feddwl-
Y maent yn dylanwadu ar y meddwl fel y rhew a'r eira ar y
ddaear, — yn lladd y chwyn, yn marweiddio ffrwythau y felldith;
ond os colhr yr adeg fanteisiol yna i roddi rhywbeth gwell yn eu
lle, tyfant eilwaith gyda mwy o nerth nag erioed. Dyma
ychydig o amseroedd mwynder y ddynoliaeth.
II. Ond y rr.ae y mwyrder yna yn fynych yn ciHo : tyner-
wch ieuenctyd yn cael ei golÜ ; bywiogrwydd y gydwybod yn
heneiddio ; y gaka yn caledu ; Ysbryd yr Arglwydd yn
yraadael ; y weinidogaeth yn collì ei dylanwad ; y Beibl yn
distewi ; pethau dieithr rhagluniaeth yn myned heibio heb gael
nemawr neu ddim efifaith ar y meddwl. Y meddwl fu unwaith
fel y ddaearynteimlo oddiwrth hoU ddylanwadau yr awyrgylch;
yn cael ei mwydo gan y cawodau, a'i maethu gan yr haul, yn
myned yn raddol fel y graig, yr hon nid ydyw na gwlaw na
haul yn cael dim effaith er daioni arni. Y " mwynder yn ym-
ado fel cwmwl y boreu, acfel gwlith boreuol." Y niae hyn yn
dangos dull yr ymadawiad, a'r achos o hono : ỳmadael yn
raddoî fel. y cwmwl a'r gwlith, ac ymadael trwy ddylanwad
pethau croes iddo, fel y cwmwl a'r gwlith.
I. Ymado yn raddol, fel y cwmwl. Yn y dwyrain, Ue y mae
y gwrês mor angerddol, edrychir ar gael cwmwl yn y ffurfafen
yn y boreu yn dra phwysig ; ac fe sylwir yn bryderus pa un ai
y cwmwl a Iwydda i gadw draw wres yr haul, ai ynte yr haul
a Iwydda i leibio i fyny y cwmwl. Am ychydig y mae yn an-
hawdd dywedyd pa un a orchfyga ; ond fel y mae yr haul yn
codi yn uwch i'r lan, y mae y cwmwl yn cael ei leibio yn radd-
ol, nes y mae y ffurfafen yn gwbl glir. Felly y mae mwynder
meddwl dyn yn ymado. Nid mewn mis, — nid mewn blwydd-
yn, — y collwyd tynerwch ieuenctyd : gwaith blynyddoedd a fu
dileu ofn pechu oddiar y meddwl. Yr oedd hyn yn cymeryd
lle mor raddol, fel nad oedd y dyn ieuanc ddim yn ymwybodol
fod nemawr wahaniaeth ynddo yn niwedd y flwyddyn ragor
oedd yn ei dechreu hi. Y mae ymrysoniadau Ysbryd Duw yn
Y mwyndcr yìi ymado. 1067
myned yn wanach wanach. Y mae yn ymadael fel y gwelodd
Ezeciel y gogoniant yn ymadael o'r deml : aeth o'r cysegr at y
rhiniog, — o'r rhiniog uwch ben y ddinas, — oddiyno i aely bryn.
Yn y dechreu yr oedd Ysbryd yr Arglwydd yn llefaru yn y
cysegr yn ymyl ; wedi hyny y mae yn llefaru megis oddiar
riniog y tŷ, ychydig yn llai eglur; yna y mae yn llefaru fel
oddiar y ddinas, — llais ydyw fel yn dyfod o bell ; ondy maeyn
symud drachefn i ael y bryn, yn bellach fyth. Y mae rhywbeth
tebyg i sŵn mewn ambell oedfa, ond y mae y dyn yn ameu pa
un ai nid dychymygu a wnaeth. Y mwynder yn ymado yn
raddol. Y mae ei fod yn ymado mor raddol yn anfantais i'r
dyn deimlo oddiwrth bwysigrwydd hyny. Pe buasai y dyn yn
cael ef hun wedi myned fel darn o faen isaf melin mewn saith
niwrnod, ac yntau y Sabbath blaenorol fel cwyr toddedig, buasai
yn dychrynu drwy ei enaid ; ond gall yr un peth gymeryd lle
mewn saith mlynedd heb achosi nemawr bryder iddo ; ond nid
yw y graddolrwydd ddim yn ei wneuthur yn llai pwysig. Y
mae y darfodedigaeth {consiimption) yn lladd yn bur raddol, fel
wrth y fodfedd ; ond lladd y mae er hyny. Nid ydyw mai
cilio wrth y fodfedd y mae > llanw oddiwrth y llestr sydd wedi
sefyll ar y tywod, ddim yn peri i'r morwr fod yn ddiofal am ei
chael hi oddiyno ; oblegid y mae yn gwybod yn dda y cilia efe,
wrth y fodfedd, mor bell fel na bydd gobaith cael y llong i ym-
rodio ar wyneb y dyfroedd. Y mae yroa heddyw lawer llestr
wedi sefyll ar y draethell. A ydyw y llanw ddim wedi dechreu
troi, — dechreu cilio ì gall hyny fod yn raddol iawn : nid yw yn
cilio ond modfedd ar y tro ; ond fe ä wrth y fodfedd yn fuan yn
ddigon pell, fel y bydd yn anobeithiol cael dy lestr di i nofio
byth. " Eich tŷ a adewir i chwi yn anghyfanedd."
2. Ond yr achos fod y mwynder yn ymado ydyw dylanwad
rhywbeth croes iddo. Yr haul, peth hollol groes yn ei natur,
a wnaeth i'r cwmwl a'r gwlith gilio. Chwant y cnawd, — chwant
y llygaid, — balchder y bywyd, sydd yn peri i fwynder meddwl
dyn ymado. Y mae tynerwch ysbryd dyn ieuanc yn cael ei
ddifa bob yn ychydig gan gymdeithas ddrwg. Y mae cellwair
â'r hyn yr oedd y gydwybod yn ei gondemnio wedi sychu i
fyny ireidd-dra Ilawer ysbryd. Nid oedd Samson yn ymwybod-
ol yn y dechreu fod Dalilah yn gwneuthur dim niwed iddo :
io68 Y mwvnder yn ymado.
ond o hir gellwair â hi, cafodd ddeall fod Ysbryd yr Arglwydd
wedi cilio oddiwrtho. Nid pob pren sydd yn blodeuo yn
hardd sydd yn ffrwytho. Nid pob maes sydd wedi ei orchuddio
âg egin clws a welir â'r ŷd yn llawn yn y dywysen. Y mae y
mwynder yn '' ymado fel cwrawl y boreu, ac fel gwlith
boreuol."
III. Y pwys sydd yn hyny : " Beth a wnaf i ti, Ephraim ?
beth a wnaf i ti, Judah ?" Cofiwch mai y Duw anfeidrol sydd
yn dywedyd fel hyn, wrth weled ei greadur yn.mynu ei íFordder
pob peth. Y mae yr iaith hon yn dangos ei fod megis heb wybod
beth yw wneyd : yn gyffelyb i'r meddyg wedi treio ei hoU
fedrusrwydd ar y claf ; ond yn ofer : ymhthro y mae, er y
cyfan, o flaen ei lyt^-iid i freichiau angau. Oni allasai y Duw
Hollalluog, medd rhywun, atal i hyn fod ? A pha fodd y
y cysonwch chwi btth fel yna â bod iachawdwriaeth o ras yn
unig ? Nid oes dim a fynwyf fi â chysoni. Y mae y peth i
lawr yn llyfr Duw ; ac fel pob peth arall sydd yma, y mae yn
wirionedd tragwyddol. Oni buasai fod pwys mewn bod y
mwynder yn ymado, ni buasai iaith fel hon ddim yn dyfod o
enau yr Anfeidrol ei hun. Y mae yn bwysig.
I. Oblegid i'r un graddau ag y mae y mwynderyr. ymado, y
mae eich cadwedigaeth yn myned yn fwy annhebyg. Os byJd
y naill ddydd ar ol y llall o adeg hau yn cael eu gollwng i
lithro heibio heb eu defnyddio, y mae annhebygrwydd medi yn
cynyddu, fel y maent hwy yn IHthro ymaith. Os na bydd ond
un diwrnod i wneuthur gwaith mawr, y mae pob awr o hwnw
sydd yn Uithro heibio, a'rgwaith hebei gyflawni, yn ei gwneyd
yn fwy annhebyg y cyflawnir ef byth. Gwanwyn hau, erbyn
cynhauaf bywyd tragwydJol, ydyw amseroedd mwynder ysbryd
dyn; ac y mae gobaith cynhauaf yn gwanhau, i'r un graddau ag
y mae adeg hau yn myned heibio heb ei defnyddio. Dydd
iachawdwriaeth ydyw dydd y mwynder ; ac fel y mae ei oriau
yn dirwyn i ben, heb ateb y diben, y mae dy iachawdwriaeth
yn myned yn fwy-fwy annhebyg. Ac nid yw hynyna ddim
opd rhan o'r gwirioned 1. Y mae mwynder, os na bydd yn
dwyn un i mewn i'r deyrnas, yn eibellàu oddiwrthi. Y mae yr
haiarn, wedi oeri, yn galetach nag ydoedd cyn ci boethi erioed.
Y mae yr amaethiad sydd ar y ddaear, os na bydd yn efleithio i
r mwynder yn ymado. 1069
gynyrchu llysiau cymwys, yn peri iddi ddwyn mwy o ddra'n a
mieri, na phe buasai hi heb ei hamaethu o gwbl. Y mae yn
anmhosibl i'r rhai a brofasant y rhodd nefol, a nerthoedd y byd
a ddaw, ac a syrthiasant ymaith, ymadnewyddu drachefn i
edifeirwch. Nid yn Rhufain, — nid yn Athen, — nidyn Corinth,
yr oedd y bobl nad oeJd gordd yr efengyl ddim yn ddigon trom
i'w drylHo, ond yn Jerusalem. Pwy a geir yn ddigon caled i
groeshoelio Mab Duw ? Pobl y mwynder. Pwy ydyw
pechaduriaid mawr eiii gwlad ni ? Rhai a fagwyd yn yr Ysgol
Sabbothol. Pwy ydyw yr anffyddiwr yna ì Un a f u o fewn
ychydig i fod yn Gristion.
2. Y mae pwys mewn bod y mwynder yn ymado, oblegid
nid oes genym sail i ddisgwyl iddo byth ddychwelyd yn ol.
" Gweithiwch allan eich iachawdwriaeth eich hunain trwy ofn
a dychryn. Canys Duw yw yr hwn sydd yn gweithio ynoch
ewyllysio a gweithredu o'i ewyllys da ef." G-an hyny,
''gweithiwch allan eich iachawdwriaeth," oblegid os cilia, — os
ymedy, — nid oes arno ddim rhwymau i ddychwelyd. Ewyüys
da ydyw y gwaith. Y mae Uanw yn sicr o ddilyn trai y môr ;
wedi i'r haul naturiol fachlud, fe gyfyd drachefn. Os collir un
gwanwyn i hau, daw un eilwaith ar ei ol ef ; ond mewn ystyr
ysbrydol, y mae llawer nad oes ond un llanw mawr am eu hoes
hwynt. Os machluda yr haul unwaith, ni welir mohonomwy
uwchlaw'r terfyngylch ; os ä y gwanwyn heibio, yn ofer y dis-
gwylir am un arall byth ar ei ol. Gan hyny, os ydyw y mwyn-
der yn ymado, y mae cysgodau hwyr yr ail farwolaeth yn
dechreu ymdaenu drosoch chwi.
3. Wedi i'r mwynder ymado, bydd pob peth i'ch cyferfydd
yn effeithio yn niweidiol. Beth addeuai o'r ddaear wedi colli y
dwfr o honi ? Y mae yr haul sydd yn gwneuthur i'r ddol
darddu a thyíu, yn gwneuthur y diffaefchwch yn fwy diffaeth.
Paham ? Dwfr sydd yn y naill, a dim yn y llall. Os tyr
dyfroedd allan yn y diffaethwch, nid diffaethwch mo hono.
mwy ; ond bydd " trigfa y dreigiau a'u gorweddfa yn gyfle
corsenau a brwyn." Y mae enaid dyn, wedi i'r mwynder
ymado, fel y diffaefchwch, a phob peth yn effeithio i'w wneyd yn
fwy diffaeth : bydd yn trysori digofainfc allan o ddaioni, — yn
sugno gwenwyn o'r efengyl. Bydd y feddyginiaeth yn arogl
1070 Y mwynder yn ymado.
marwolaeth i farwolaeth iddo. Y mae rhyw allu ymadferol yti
natur dyn, — tuedd i ymiachau ; a thra y bydd hwnw heb ei
golli, y mae yn ymryson â'r clefyd, ac yn tynu nerth iddo ei
hun oddiwrth yr awyr, yr ymborth y feddyginiaeth, a phob
peth syddo'i amgylch; nes o'r diwedd y mae yn myned yn drech
na'r clefyd, a'i daflu allan o'r cyfansoddiad ; ond os bydd y
gallu ymadferol hwn yn wan iawn, neu wedi ei goUi, dyna bob
gobaith am adferiad un felly wedi ei golH hefyd. Y mae yr oll
bellach yn troi yn nerth i'r clefyd ; — elfenau bywyd yn myned
yn elfenau angau ; — yr awyr, yr ymborth, y feddyginiaeth, yn
weision angau. Yr oedd yr Arglwydd wedi cyhoeddi gwae
uwch ben Jerusàlem, pan ymadawai ei enaid Ef â hi. Pan
golHd hwnw, fe gollid y gallu ymiachaol, ac yna fe fyddai
yr oU yn troi yn ymborth i lygredigaeth.
Nid peth bychan yw coUi y mwynder : oblegid wrth ei golli,
yr ydych yn colli y cyfaddasrwydd o'r meddwl i'r efengyl i wneyd
rhywbeth o honoch ; ac nis gwn am un olwg drymach na gweled
dyn wedi colli y mwynder. Wrth fyned heibio i ambell ran
o'r ddaear, er ei fod yn wyllt ac anniwylledig, yr ydym yn
teimlo y gall ddyfod yn dir da, pe cai ei amaethu; ond am le
arall, tebyg o ran yr olwg, yr ydym yn teimlo nad oes bron
obaith i hwnw ddyfod felly, oblegid y mae yno ol aredig ac
amaethu ; prawf na thyfai y llysiau cymhwys ddim yno, onidê
ni buasai yn cael ei adael i ÍTrwythau y felldith. A oes yma
ddim llawer yn debyg? y mae yna hen ryniau yn dy feddwl —
ol yr hen amaethu ; ond ni thyfodd dim llysiau cymhwys : gan
hyny y mae wedi ei rhoddi i ffrwyfhau y felldith. Os oes
ychydig heb ymadael â rhyw feddwl sydd yma, sicrheweh yr
hyn sydd yn ol trwy wneyd pobpeth i'w gadw. Pan oedd y
gogoniant yn ymadael o'r deml, yr oedd yn sefyll ac yn aros
amryw weithiau, i ddisgwyl i ryw un ofyn iddo ddychwelyd.
Os yw Ysbryd Duw yn ymadaw â rhyw feddwl yma, y mae
yntau yn sefyll i ddisgwyl cael ei gyfarch ; a'r ffordd i gynyddu
y mwynder ydyw ufuddhau i hyny sydd. " Dychwelwch wrth
fy ngherydd, wele mi a dywalltaf fy Ysbryd i chwi, fy ngeiriau
a hysbysaf i chwi." " Yna yr adnabyddwn, os dilynwn adnabod
yr Arglwydd : ei fynediad a ddarperir fel y bore ; ac efe a ddaw
fel gwlaw atom, fel y diweddar-wlaw a'r cynar-wlaw i'r ddaear.''
fOyfansoidwyd, lonawr, 1854 ; adysgrifenwyd, Awst 31, 1859.]
PREGETH LXV.
AMYNEDD YN lACHAWDWRIAETH.
2 PEDR III. 15:— •• A chyfrifwch hir-amynedd ein Harglwydd yn
iachawdwriaeth."
R oedd grasusau yr eglwys yn nyddiau yr apostolion
yn gryfion iawn. Yr oedd y cariad cyntaf yn llafur-
us gariad, a'r gobaith cyntaf yn obaith perffaith, a'r
ffydd gyntaf yn sicrwydd ffydd. Yr oedd eu cariad brawdol
raor gryf y pryd hwnw, fel yr oedd pob peth ganddynt yn
gyffredin, a'u ffydd mor gref, fel y cymerent eu hysbeilio o'r
pethau oedd ganddynt yn llawen, gan wybod fod iddynt olud
gwell yn y nefoedd, ac un parhaus. Yr oedd y profiad gwastadol
yr oeddent yn ei gael nad 'oedd iddynt yma ddinas barhaus yn
eu codi i edrych ac i ddisgwyl am yr un i ddyfod ; ac felly yr
oedd yr ymdrech mawr o helbulon yr oeddent ynddo, yn
cryíhau eu ffydd. Yr oedd eu ffydd hwynt yn ddigon cref i
ddifodi amser a phellder. Ysgrifenai Paul am ddiwedd y byd,
a dyfodiad ei Arglwydd, fel pethau wrth y drws, am fod nerth
ei ffydd yn difodi yr amser maith ag oedd rhyngddo â'r pethau
hyny. Yr oedd cariad Jacob at Rahel yn difodi saith mlynedd
y gwasanaeth, neu yn eu gwneyd yn ei olwg fel ychydig ddydd-
iau ; felly yroedd ffydd Paul yn difodi yr amser oedd rhyngddo
a chael gweled ei Waredwr fel y mae. Ond yr ydym yn cael
fod rhai, fel y Thesaloniaid ag oeddent yn amddifad o'i ffydd
gref ef, yn cael eu cam-arwain gan hyn ; oherwydd deall y
geiriau yn llythyrenol, tybient fod dydd yr Arglwydd wrth y
drws. Yr ydoedd wrth y drws i ffydd, er bod miloedd o flyn-
yddoedd rhyngddo a bod felly i olwg. Ond gellir dywedyd am
1072 Amynedd yn Tachawdwriaeth,
ffydd gref, fod mil o flynyddoedd iddi hi megis un dydd, ac un
dydd niegis mil o flynyddoedd ; oblegid nid ydyw yn sylwi a'-
bellder lle, na meithder amser. Nid ydyw yn credu y naiU beth
am ei fod yn agos, nac yn gwrthod y llall am ei fod yn bell ;
ond y mae hi yn credu, am mai Duw sydd yn llefaru. Pe
buasai gan y Thesaloniaid ffydd gyffelyb i un yr apostol, ni
buasai perygl iddynt gamgymeryd : ond am ei bod yn wan, y
rnae yn gorfod dywedyd wrthynt yn eglur nad ydoedd dydd
Crist yn agos, onid ê yr oeddent yn dyrysu yn eu perthynas â'r
pethau gweledig. Nid yw y pethau ni welir ddim i gymeryd
lle y pethau a welir, er eu bod i gael y flaenoriaeth arnynt, ac
i'w llywodraethu hwynt. Yr ydym i arfer y byd hwn, ond i
fyw o dan nerthoedd y byd í. ddaw.
Gwrthwynebu y cyfeihornadau yr oedd y gwirionedd gwerth-
fawr hwn wedi bod yn achlysur o arwain idd^mt y mae Pedr yn
y benod hon. Ail ddyfodiad yr Arglwydd ydyw ei bwnc yntau^
ac y mae yn esbonio y pwnc i ddau ddosbarth, sef i'r gwatwar-
wyr, ac i'r saint gweiniaid. Yr oedd y gwatwarwyr yn tynu
casgliad cyfeiHornus a thra niweidiol oddiwrth ei fod yn oedi
dyfod. Edrychent ar yr holl son am hyny fel chwedl ddisail.
" Pa le," meddent, " y mae addewid ei ddyfodiad Ef .?" a thyb-
ient fod diwedd ar y byd, nid yn unig yn beth annhebyg, ond yn
beth anmhosibl. Ond dengys yr apostol fod eu tyb yn hollol ddi-
sail, ac y rhaid eu bod hwythau yn gwbl ddisylw ar bethau, cyn y
gallasentgoleddu tybo'r fath, yn gymaint abod y byd eisoes wedi
cael ei ddifetha unwaith gan ddwfr. Acy mae y ffaith hono yn
profi nad ydyw yn beth anmhosibl i ddinystr ddyfod arno eto :
ac nid yn unig y mae hyn yn beth posibl, ond hefyd yn beth
sicr ; oblegid y mae yr un "gair," a wiriwyd yn ei ddinystr y
tro cyitaf, wedi myned allan y dinystrir ef eto. Y mae ' wedi
ei roddi i gadw trwy yr un gair, i dàn.'
Yna y mae yr apostol yn dangos y gwir achos o'r oediad.
Nid am fod yr Arglwydd yn cilio oddiwrth ei air oherwydd
diffyg nerth i'w gyflawni, neu anffyddlondeb iddo, yr ydoedd
yn oedi dyfod, ond er mwyn i'w elynion gael amser i edifarhau.
A'r esboniad cywir ar yr oediad ydyw y testyn. Peth er eich
mwyn chwi ydyw yr oediad, ac nid er ei fwyn Ef ei Hun : eich
iachawdwriaeth chwi ydyw y diben sydd iddo, ac nid unrhyw
Amynedd yn lachawdwriaeth. io73
beth o'i eiddo Ef ei Hun. Cyfrifwch chwithau ei hir amynedd
yn lachawdwriaeth. Y mae y gwatwarwyr yn ei gyfrif yn oed-
iad, neu yn anflFyddlondeb ; ond cyfrifwch chwi ef yn iachaw-
dwriaeth, oblegid hyny ydyw.
Y gwirionedd cynwysedig yn y testyn ydyw, Fod gwaith
Duw yn oedi cyflawni ei fygythion ar fyd drygionus i'w gyfrif
yn iachawdwriaeth : amynedd Duw, a'i ddiben.
I. Beth ydyw amynedd Duw ì
II. Pa fodd y gellir cyfrif yr amynedd hwnw yn iachawdwr-
iaeth ì
I. Beth ydyw amynedd Duw .'' GíJl edrych beth ydyw
amynedd mewn dyn fod yn help i ni ddeall beth ydyw amynedd
yn Nuw. Amynedd mewn dyn ydyw y gallu i ddioddef pethau
blinion heb rwgnach, ac ymostwng i ewyilys Duw, pa mor
groes bynag i'r teimlad y dichon hono fod, heb roddi dim yn
ynfyd yn ei herbyn. Hunan-feddiant ydyw amynedd mewn
dyn : mewn " amynedd meddienwch eich eneidiau." Gallu
ydyw yn y meddwl yn ei gadw rhag gwneyd yr hyn y mae
pethau eraiU yn ei gymhell yn gryf i'w gwneyd. Yr oedd
profedigaethau Job yn ei gymhell i felldithio ; ond yr oedd
ganddo allu arno ei hun, oedd yn ei gadw yn dawel yn eu
canol ; a'r gallu hwnw ydoedd ei amynedd. Amynedd mewn
creadur ydyw, nid bod heb deimlo yn y brofedigaeth, ond gallu
i ymdawelu er teimlo.
Y mae amynedd yn Nuw, ar ryw olwg, yn debyg i amynedd
mewn creadur ; ond mewn golwg arall yn dra annhebyg : y
mae yn debyg yn ei fod yn allu yn cael ei weithredu arno Ef ei
Hun, Duw yn ei feddianu ei Hun, — dyna ydyw ei amynedd, —
yn peidio cosbi, er cael ei anog gan wrthryfel ei greadur i hyny.
Ond y mae yn annhebyg iawn yn hyn : nid yw amynedd ynom
ni yn ddim ond goddef yn dawel yr hyn ni allasem ei osgoi
na'i orchfygu. Gallasem rwgnach yn y brofedigaeth, ond ni
allasem ddianc rhagddi ; gallasem wingo yn erbyn y symbylau,
ond ni allasem eu gorchfygu ; ac amynedd ynom ni ydyw
peidio grwgnach a pheidio gwingo : ond amynedd yn Nuw ydy w
peidio gwneyd peth, er y gallasai yn hawdd ei wneyd ; — peidio
taraw ei elyn, pan nad oedd dim ar ei ífordd i hyny. Yn ei
eiriau Ef ei Hun, cymeryd ei " lethu " gan bechodau dynion,
14
1074 ■^Amynedd yn lachawdwriaeth.
" fel y llethir y fèn lawn o ysgubau " (Amos ii. 13), pan na
buasai raid iddo ond ewyllysio, i daflu y baich i fFordd am byth.
Gallu i wneyd ydyw ei hollalluogrwydd ; ond gallu i beidio
gwneyd ydyw ei amynedd. Dynahollalluogrwydd yn dyfod i'r
golwg yn ninystr Pharaoh ; dyna'r amynedd yn dyfod i'r golwg
yn arbediad Israel ar ol gwneyd y llo aur. Y mae yna ddau
allu, ond y gallu i beidio gwneyd ydyw y rhyfeddaf.
Y mae mwy o fawredd Duw yn dyfod i'r golwg yn ei amynedd
nag mewn dim arall. Y mae perfiFeithrwydd y priodoHaethau
ereill yn dangos mawredd ei amynadd. Pe na buasai mor gyf-
iawn ac mor sanctaidd, pe na buasai ei fraich mor alluog, ni
buasai ei amynedd mor ryfedd ; ond gan y gall Ef bob peth, ac
nad oes yr un meddwl yn guddiedig oddiwrtho ; gan ei fod yn
lanach ei lygaid nag y gall edrych ar ddrwg, a'i fod yn gyfiawn
odiaeth, y mae ei fod yn goddef ein byd ni o gwbl, yn dangos
fod mawredd annhraethadwy yn ei amynedd. Yr ydym yn
rhyfeddu y gallu a ddygodd y byd i fôd o ddim, a'r daioni a
gyflëodd bob peth ynddo yn fanteisiol i gynyrchu dedwyddwch
i'w greadur ; ac y maent yn rhyfedd ; ond nid oes dim yn natur
Duw i'w gymhell i beidio gwneydy pethau hyn : yn hytrach yr
oedd yr hoU briodoliaethau yn llawenychu yn ngwaith y fraich
hollalluog ; ond rhyfeddach o lawer ydyw yr amynedd sydd yn
goddef byd pechadurus mewn bòd, na'r gallu a'i dygodd i fôd,
oblegid y mae pethau yn natur Duw sydd yn galw am ei ddi-
nystrio. I dy grëu di, nid oedd raid i'r Anfeidrol ond gorch-
fygu diddymdra ; ond i beidio dy ddaranio di heddyw, yr oedd
yn rhaid iddo ei orchfygu ei Hun. Y mae yr amynedd sydd
yn ein goddef mewn bòd yn annhraethol ryfeddach na'r gallu
a'n dygodd i fôd. A phe deuai angel i'n byd ni i weled profion
o fawredd Duw, nid y pethau sydd yn tynu ein sylw ni a dynent
ei sylw ef : nid ar harddwch golygfëydd y ddaear, nac ar gyfoeth
ei daioni, yr edrychai : nid chwilio i mewn i'w chrombiloedd i
weled mawredd Duw yn nhrefniad doeth ei defnyddiau a wnai ;
ond fe dröai oddiwrth bob golygfai weled mawredd Duw mewn
dyn ; a hyny nid yn nghyfansoddiad eigorff, nac yn ngalluoedd
ei feddwl, ond yn ei ío\ yn ddigon mawr i'w ddioddef heb ei
ddinystrio. Fe welai fawredd yn ei waith yn dal y môr ar
gledr ei law ; ond yn ei waith yn dal ei elyn yno y gwelai efe
Amynadd yn lachawdwrtaeth. 1075
gyfoeth o fawredd. Gan ei fod mor fawr a rhyfedd, rhaid fod
diben mawr iddo. Y mae hyn yn ein harwain at yr ail sylw: —
II. Yr esboniad a ddylem ni ei roddi ar amynedd Duw :
" Cyfrifwch hir-amynedd ein Harglwydd yn iachawdwriaeth."
Cyfrifwch ef fel iachawdwriaeth. Yr oedd yr Apostol Paul yn
cyfrif y cwbl yn golled er mwyn Crist, neu fel colled iddo ef :
yr oedd y ddau air yn gyfystyr. Cyfrifwch chwithau yr hir-
amynedd ac iachawdwriaeth fel dau air cyfystyr. Gan y gellir
cael gafael ar iachawdwriaeth yn ysbaid yr amynedd, cyfrifwch
ef yn iachawdwriaeth ; a chan mai amcan a thuedd naturiol yr
amynedd ydyw dwyn dyn i dderbyn iachawdwriaeth, " cyfrifwch
hir-amynedd ein Harglwydd yn iachawdwriaeth," Fe gyfrifir
amser yn arian, am y gellir ei droi yn arian. Fe gyfrifir
edrychiad anllad yn odineb, a digio heb ystyr yn lladd, am fod
y pethau yna yn tueddu neu yn arwain yn naturiol at y lleill.
Yn yr ystyriaethau hyn, y mae hir-amynedd ein Harglwydd i'w
gyfrif yniachawdwriaeth, amygellir ei droi yn iachawdwriaeth,
fel y gellir troi amser yn arian ; ac hefyd am ei fod yn tueddu
yn naturiol at iachawdwriaeth, fel y mae digio at ladd.
1. Gellir cyfrif amynedd yn iachawdwriaeth, fel y mae yn
ddangosiad i ni o feddwl Duw am danom.
2. Gellir ei gyfrif yn iachawdwriaeth am ei fod wedi ei gyf-
addasu i eiîeithio ar ein meddwl ni.
Os chwjliwch chwi i ddiben Duw yn ei amlygu , neu ynte,
os chwiliwch i'w eíîaith naturiol ar feddwl dyn, nis gellir ei
gyfrif yn ddim ond iachawdwriaeth.
I. Y mae i'w gyfrif yn iachawdwriaeth fel y mae yn amlyg-
iad o feddwl Duw. Am hyny (i.) gallwn gasglu mai iachawdwr-
iaeth ydyw ei amynedd, oddiwrth nad allwn ni weled yr un
diben arall teilwng o Dduw i'w amynedd, ond iachawdwriaeth.
Yn hyn gallwn ymresymu oddiwrth yr hyn a wnai dyn at yr
hyn a wnai Duw; oblegid, er bod ei feddyliau a'i flFyrdd Ef yn
gymaint uwch na'n rhai ni, ag ydyw y nefoedd yn uwch na'r
ddaear, cofiwn eu bod yn uwch mewn daioni, fel ymhob peth
arall, na'n rhai ni. Ac os ydym yn teimlo fod unrhyw beth yn
annheilwng o ddyn da, gallwn fod yn sicr fod Duw yn gymaint
pellach oddiwrth wneuthur y peth hwnw na dyn, ag ydyw y
nefoedd yn uwch na'r ddaear.
1076 Amyntdd yn lachawdwriaeth.
Y mae'n ffaith gerbron ein llygaid fod dyn yn cael ei oddef
heb ei gymeryd ymaith â dyrnod, a gellir gofyn, Paham ? ac
nid oes ond un o ddau ateb i'r cwestiwn, naill ai i'r ddyrnod
hono fod yn drymach pan ddel hi, am y bydd yn gosb am bech-
odau IHosocach ; neu ynte, i'r pechadur gael cyfle i droi oddi-
wrth ei íTyrdd drygionus, a byw. Yn awr, byddai y raeddwl
cyntaf yn un caled am ddyn, sef ei fod yn cadw ei elyn mewn
cyfle iddo gael ychwanegu at ei ddrwg haeddiant, er mwyn i'w
gosb fod yn fwy. Os byddai hyn yn annheilwng o ddyn, y mae
Duw yn anfeidrol beìlach oddiwrth gadw ei elyn mewn bôd er
mwyn iddo gael rhedeg yn ddyfnach i'w ddyled, i hyny fod yn
achos o wneyd ei dywyllwch yn fwy dudew, a gefynau ei
garchar yn fwy tynion a thrymion, y mae hyn, meddwn, yn
anfeidrol bellach oddiwrth Dduw nag oddiwrth y dyn goreu ar
y ddaear. Y mae Duw, tnedd yr apostol, yn " dangos ei ddig-
ofaint," ac yn " peri adnabod ei allu " ar " lestri digofaint ;"
ond y maey rhai hyny yn gyfryw nad ydynt yngymwys i ddim
ond colledigaeth ; ac nid ydyw yn dangos ei ddigofaint heb yn
gyntaf ddangos hir-ymaros tuag atynt: a chan nad oeddyr hir-
ymaros wedi ateb ei ddiben, sef eu tywys i edifeirwch, yr oedd
yn rhaid iddo ddangos ei ddigofaint. Fe fu hir-amynedd Duw
yn aros wrth fyd y rhai anwir yn nyddiau Nöe ; ac er mai eu
haddfedu hwynt i'r diluw a wnaeth yr amynedd, eto ei ddiben
ef oedd eu hiachawdwriaeth. Nid cymhwyso Uestri digofaint i
golledigaeth oedd ei ddiben, ond eu cael yn llestri trugaredd.
Nid i gynyrchu drain a mieri y rhoddir gwrês yr haul a gwlaw
y nefoedd i'r ddaear, ond i gynyrchu llysiau cymwys ; ac os
cynnud tàn yn unig a gynyrcha hi, ni all neb ddywedyd mai
hyny oedd diben y gwlaw a'r gwrês. Nid yr hyn y mae dynion
yn ei wneyd âg amynedd Duw sydd yn profi beth ydyw diben
yr amlygiad o hono ; ond pa ddiben sydd yn deilwng o"r An-
feidrol a brawf hyny ; ac nid oes yr un diben teilwng o Dduw
ond iachawdwriaeth.
(2.) Peth arall sydd yn profi mai iachawdwriaeth yw diben
amynedd Duw, ydyw, fod y diben hwn yn cytunoà holl gymer-
iad datguddiedig yr Arglwydd, Pe cesglid pa fath un ydyw
Duw oddiwrth ei weithredoedd, byddai raid penderfynu ei fod
yn un daionus i bawb, oblegid y mae ei drugaredd ar ci holl
Afnyncdd yn lachawdwriaeth. 1077
weithredoedd. Y mae wedi cyfaddasu pob peth fel Creawdwr
yn fanteisiol i hapusrwydd, ac wedi trefnu pob peth fel Llyw-
odraethwr i ddwyn o amgylîh yr un diben. Wel, os ydyw yn
goddef dyn heb wneyd barn yn erbyn ei weithredoedd drwg yn
fúan, y mae yn naturiol casglu mai daioni sydd wrth wraidd
hyny hefyd. Nid ydyw yn ewyllysio fod ei greadur yn an-
nedwydd, onid è ni buasai yn cyfaddasu pob petli yn ei gyfan-
soddiad mor berffaith i fwynhau. Nid ydyw yn ewyllysio ei
fod yn annedwydd, onid ê ni buasai yn cyfaddasu pob peth yn
yr amgylchiadau mor fanteisiol i gynyrchu dedwyddwch. Wel,
oddiwrth ei gymeriad, gallwn fyned gam yn mhellach, a dy-
wedyd nad ydyw yn ewyllysio raarwolaeth yr annuwiol ; onid ê
ni buasai mor hir-ymarhous tuag ato. Cyfrifwch ei amynedd
yn amlygiad o'i feddwl am eich iachawdwriaeth.
Ao os cymerwch chwi fod rhyw ddiben i'w amyiiedd heblaw
eich iachawdwriaeth, bydd yn anmhosibl cysoni y diben hwnw
â chymeriad datguddiedig y Duw anfeidrol. " Y gelyn ddyn a
wnaeth hyn," sef hau yr efrau, meddai perchenog y maes wrth
ei weision. Yr oedd yn dywedyd felly am ei fod yn debyg i
waith gelyn. Os nad iachawdwriaeth y w diben amynedd Duw,
nid ydyw yn debyg i'w waith Ef. Nid ydyw yn cytuno â'i
arfer Ef ; oblegid daioni sydd yn gosod hynodrwydd arno fel
Duw. Yr oedd Jehu i'w adwaen wrth ei waith yn gyru ;
Samuel wrth ei fantell ; Pharaoh wrth ei greulondeb. Y mae
y Jehofah i'w adwaen wrth ei ddaioni. " Pa Dduw sy fel tydi,"
meddai y prophwyd, — yn nerth ei fraich ? nage, er y gallesid
gofyn hyny. Ymha beth y mae ynhynodi ei Hun ar y duwiau
oll ì Mewn '' maddeu anwiredd," mewn " myned heibio i an-
wiredd," mewn peidio dal dig, raewn hoíìì trugaredd. Dyma
ei enw, — ei c'ymeriad fel y mae yn cael ei gasglu oddiwrth ei
weithredoedd. Ni wnawn gymaint a chymeryd brâs olwg
arnynt yn awr, onid ê byddai raid i ni fyned draw i dragywydd-
oldeb i gychwyn, i'w weled yn cynllunio trefn i gadw ; ac yna
dyfod ymlaen i amser, i ganfod y drefn hono yn dadblygu ei
hun mewn sefydliadau a gosodiadau i gadw ; ac yn nghyfiawn-
der yr amser, i weled y prîod Fab yn ymddangos i geisio ac i
gadw. Wel yn awr, os ydyw yn goddef pechadur am ílynydd-
oedd heb ei daraw â dyrnod, ni bydd yn gwneyd yn ol ei arfer,
1078 Amynedd yn lachawawriaeth.
os nad cadw fydd yn ei olwg yma hefyd. Cyfrifwch ei amynedd
yn iachawdwriaeth.
Os ydyw ei gymeriad íel y mae yn cael ei ddangos yn ei
weithredoedd yn peri i ni ddisgwyl mai iachawdwriaeth ydyw
diben ei amynedd, y mae ÍTeithiau filoedd yn profi fod y dis-
gwyliad yn un cywir. Fe ddisgwyliodd Agag, gan ei fod wedi ei
arbed gan Saul a'r bobl, fod chwerwder marwolaeth wedi myned
heibio ; ac felly yr oedd yn mwriad Saul ; ond fe siomwyd dis-
gwyliad Agag : ac er nad ydyw ein bod ni wedi ein harbed
ddim yn brawf fod chwerwder marwolaeth wedi myned heibio,
eto y mae yn awgrymiad oddiwrth Dduw, y gall ê fyned heibio
am byth; ac y mae genym hanes amryw yn tynu y casgliad yna
oddiwrth eiamynedd, ac ni siomwyd mohonynt yn eu disgwyl-
iadau. Cymerodd Ahabddrygionus yr amynedd oedd yn cadw
y farn fygythiol rhag cael ei gweini yn y fan, yn awgrym i ym-
ostwng ; ac er nad oedd gair o son am ymostwng yn nghenadwri
y proph\vy'd, eto fe ddangosodd y canlyniadau fod disgwyhad
Ahab yn gywir : fe drodd yr amynedd allan yn iachawdwnaeth
iddo. Ymostyngodd trigolion Ninifeh yn ddirfawr pan gy-
hoeddwyd cwymp eu dinas, gan ddywedyd, " Pwy a ŵyr a dry
Duw ac edifarhau } Ac er nad oedd ganddynt ddim ond deu-
gain niwrnod yr amynedd yn sail i'w gobaith, ni siomwyd mo
honynt, — fe drodd yr amynedd allan yn iachawdwriaeth iddynt.
Y mae holl weithredoedd Duw yn cytuno i ddangos mai eich
iachawdwriaeth chwi yw diben ei amynedd. " Cyfrifwch hir-
amynedd ein Harglwydd yn iachawdwriaeth."
(3.) Peth arall sydd yn profi íod ei amynedd i'w gyfrif yn
iachawdwriaeth ydyw, fod hyny yn cytuno â holl dystiolaethau
yr Arglwydd am dano ei Hun. Wele ychydig o honynt, i chwi
gael cymharu y weithred â'r gair. " Fel mai byw fi, medd yr
Arglwydd, nid ymhoffaf yn marwolaeth yr annuwiol ; ond troi
o'r annuwiol oddiwrth ei ffordd, a byw." " Trowch eich
wynebau ataf fi, hoU gyrau y ddaear, fel y'ch achuber : canys
myfi wyf Dduw, ac nid neb arall." '' Deuwch yr awr hon, ac
ymresymwn, medd yr Arglwydd : pe byddai eich pechodau fel
ysgarlad, änt cyn wyned a'r eira; pe cochent fel porphor, bydd-
ant fel gwlân." " Nid oes lidiowgrwydd ynof. Ymafled yn fy
nerth i, fel y gwnelo heddwch â mi, ac eíe a wna heddwch â
Amyntdd yn Tachawdwriaetht 1079
mi." " Trugarog fyddaf wrth eu hanghyfiawnderau, a'u pech-
odau hwynt a'u hanwireddau ni chofiafddim o honynt mwvach."
Dyna siampl fechan o honynt ; ac os na fedrwch chwi gredu y
geiriau, fel y dywedodd yr Arglwydd lesu wrth yr luddewon,
" credwch y gweithredoedd," neu credwch y geiriau yn ngoleuni
y gweithredoedd. Cymerwch y weithred yn brawf o gywirdeb
a diragrithrwydd y gair, a chymerwch y gair eilwaithyn esbon-
iad ar y weithred. Os ydych yn ameu diragrithrwydd y
gwahoddiad, nid rhaid i chwi edrych oddiwrthych eich hunain
am brawf o hyny. Cafodd Zecharias arwydd ynddo ei hun o
wirionedd yr hyn a glybu yn y deml : yr oedd ei fod ef yn
methu siarad yn brawf mai angel Duw oedd wedi siarad âg
ef. Felly y mae amynedd Duw yn ein goddef ni yn profi
cywirdeb ei alwadau ar ein hol, ac y mae y galwadau yn profi
diben yr aniynedd. Pan oedd Mr. Charles unwaith yn hoH
cynulleidfa am brofion o fod Duw, fe ddywedir fod ur. plentyn
bychan wedi codi ar ei draed, a dywedyd, " Yr ydwyf fi yn bod :''
ystyriai hyny yn ddigon o brawf o fod Duw yn bod ; ac felly yr
ydoedd. Y raae bod y pechadur ar y ddaear heddyw yn ateb
digonol i'r cwestiwn, A ydyw Duw yn ewyllysio yn dda iddo.?
Cyfrifwch ei amynedd yn amlygiad o'i feddwl am eich iach-
awdwriaeth
2. Y mae amynedd Duw i'w gyfrif yn iachawdwTÌaeth, fel y
mae wedi ei gyfaddasu i effeithio er iachawdwriaeth ar feddwl
dyn ; — daioni Duw yn tywys i edifeirwch. lachawdwriaeth
ydyw ei ddiben i'r saint. Y mae yn y testyn gyfeiriad at hyn ;
oblegid adeg ydyw i gwblhau y gwaith da arnynt. Os ydyw y
Priodfab yn oedi dyfod, diben yr oediad ydyw, i'r briodasferch
gael ymdrwsio yn deilwng erbyn y dyfodiad. Os nad ydyw yr
Arglwydd yn dyfod i'w deml, diben yr oediad ydyw, er mwyn
i'r saint gael ymbarotoi i oddef ei ddyfodiad. Y mae yr Arglwydd
yn fynych yn oedi cyflawni ei addewidion i'w bobl, ond y mae
yr oediad yn ddieithriad yn iachawdwriaeth iddynt. Yn ol ein
meddwl ni, eu cyflawni yn ddiced a fyddai yn iachawdwriaeth i
ni ; ond peidio gwneyd ydy w hyny yn aml. Yn ei amser y mae
pob peth yn deg. " Efe a'n cynorthwya yn fore iawn ;" ond
bore Duw ydyw, pan y mae y bobl yn addfed i'r addewid. Fe
oedodd yr addewid a wnaethpwyd i Abrahara am bedwar can
io8o Amynedd yn Tachawdwriaeth.
mlynedd ; ond nid oedd y bobl wedi cael digon ar yr Aipht cyn
hyny. Fe fu yr amynedd yn iachawdwriaeth iddynt. Fe
oedodd yr addewid o'u dwyn o'r caethiwed am ddeng mlynedd
a thriugain ; ond pe buasai yn eu dwyn yn gynt, ni buasent
wedi cael digon ar yr eilunod. Fe drodd yr amynedd yn iach-
awdwriaeth iddynt. Fe oedodd yr addewid am Hâd y Wraig
am bedair mil o flynyddoedd ; ond bu yr amynedd yn iach-
awdwriaeth i'w eglwys, oblegid nid oedd yn addfed i'w dderbyn
yn gynt. Fe oedodd yr Athraw fyned i dŷ Mair a Martha, nes
oedd Lazarus wedi marw, ac wedi ei gladdu ; ond bu yr oediad
yn iachawdwriaeth iddynt. Y fath amlygiad gogoneddus a
gawsant trwy hyny o fawredd eu Ceidwad ragor a fuasent yn ei
gael pe buasai yn dyfod atynt yn y fan. Os ydyw yn oedi ei
addewidion i rai o honoch chwi, cyfrifwch hyny yn iachawdwr-
iaeth. Bu raid i Dafydd aros am flynyddoedd wedi ei eneinio
cyn cael eistedd ar orsedd Israel ; ac fe deimlodd ]awer gwaith,
ac fe ddywedodd hyny unwaith, raai syrthio a wnai ryw ddydd
yn llaw Saul ; ond fe drodd yr oediad allan yn iachawdwriaeth
iddo. Gwnaeth yr hir ddisgyblaeth fu arno, ef yn frenin heb ei
ail. Y mae yma lawer un â'r corn olew wedi bod ar ei ben ; fe
fu cyn hyn yn disgwyl teyrnas, ond y mae wedi myned i ofni
mai syrthio a wna yn llaw y gelyn: na, nid felly y bydd hi ;
nid ä eneiniad Duw ddim yn ofer. Dy ddisgyblu a'th addysgu
i'th gael yn frenin iawn y mae yr oediad : fe dry allan yn iach-
awdwriaeth. Os oes rhai o honoch heb gael grawnsypiau
Canaan eto, er eich bod wedi gadael yr Aipht, y mae yn debyg
mai blâsy pompiwn a'r wynwyn sydd heb ddarfod ar eich genau
eto, am hyny ni wnaech gyfiawnder â'r grawns'. piau. Pan
ewch chwi yn ddigon pell o dŷ y caethiwed i anghoíìo ei bob
peth ef, chwi fyddwch yn addfed i'r grawnsypiau y 'iryd 'n-ny;
ac fe ddeuant i chwi o fewn corff" y dydd y byrtdwch chwi yn
barod iddynt. ** Cyfrifwch hir-amyhedd ein Hai^lwyJd yn iachl
awdwriaeth."
Ond y mae amynedd Duw yn tueddu i ddwyn áyn i afael
iachawdwriaeth.
I. Am ei fod yn dangos fod iachawdwriaeth yn bosibl ; ac y
mae felly yn ei gymhell i ymdrech am dani. Yr ydym eisoes
wedi crybwyll siamplau o rai yn gweled posibilrwydd eu cadw
Aniynedd yn laehawdwriaeth. io8l
yn amynedd Duw. Y mae amynedd wedi gwneyd dyíTryn
Achor yn ddrws gobaith, pan nad oedd dim arall yn ei wneyd
felly. Y mae llawer o bethau yn y Beibl i obaith pechadur
ymaflyd ynddynt am ei fywyd ; ond nid oes yr un o honynt
nad all y diafol ei gymeryd oddiar y gwan ond hwn. Fe ymaíl-
odd gobaith y wraigoGanâan am waredigaeth i'wmerch mewn
peth rhyfedd iawn, sef yn yr enw a roddwj'd arni, — un o'r cẃn;
cafodd afael ar beth yn y fan yna na fedrai neb ei gymeryd
oddiarni. Gofynodd am. ran y c.ŵn ; yr oedd hi yn foddlawn
i'r plant gael y dorth ; ond y cŵn bíau y briwsion. Y mae enw
Duw, gair Duw, trugaredd Duw, yn bethau i obaith pechadur
ymaflyd ynddynt am ei fywyd; ond os na fedrwch chwi ddadleu
ei enw, a dywedyd, " Er mwyn dy enw, Arglwydd, maddeu fy
anwiredd ;" os na fedrwch chwi ddadleu ei air am wrandawiad,
a dywedyd, " Cofia y gair wrth dy was, yn yr hwn y peraist i
mi obeithio ;" os na fedrwch chwi ddadleu ei drugaredd am
ddiangfa, a dywedyd, " Yn ol dy drugaredd meddwl Di am
danaf ;" os ydwyt yn ofni mai bara y plant ydyw y pethau yna^
— mai eiddo pobl eraill ydyw yr enw, y gair, a'r drugaredd, —
dyma beth sydd yn eiddo i chwi eich hunain, fel y briwsion i'r
cŵn, sef amynedd Duw ; ac y mae yn y briwsion yma iach-
awdwriaeth. Cyfrifwch ef felfy. Y mae y flFaith ei fod wedi
eich cadw yn fyw yn profi ei bod yn bosibl : bydded hyny yn
gymhelliad i ymofyn am dani. Ac yn wir ni chafodd neb ei
siomi a ymaflodd mewndim oedd yn perthyn i Dduwam fywyd.
Yr oedd cysgod Pedr yn iachau ; yr oedd Paul mor lawn o'r
dawn iachau, fel ag yr oedd napcynau neu foledau oddiwrth ei
gorflf yn peri i'r clefydau gilio, ac i'r ysbrydion aflan ddianc,
Y mae ein Duw ni mor lawa o iachawdwriaeth, fel os cyflyrdd-
wch chwi mewn dim sydd yn perthyn iddo, fe rêd iachawdwr-
iaeth o'r oll. Fe gyflFyrddodd Moses â'i enw ; cafodd iachawdwr-
iaeth i'r bobl yn y fan yna. Fe gyfiFyrddodd Nehemiah â'i
drugaredd ; fe lifodd iachawdwriaeth o'r fan hono. Fe gy-
fiPyrddoG'd Daniel â'i gyfiawnderau ; fe redodd iachawdwriaeth
oddiyno hefyd. Fe gyíTyrddodd Ahab a'r Ninifeaid â'i amyn-
edd ; fe fwrfymodd iachawdwriaeth o'r fan yna hefyd. Rhai
yn rhy wan a llwfr eu meddwl i ofyn cymwynas gan Pedr,
oeddent yn dyfod â'r cleifion i'r ystrydoedd i'wgysgod ef gael
io82 Amynedd yn Tachawdwriaeth.
disgyn arnynt'; ond nid oedd yrhai yna ddim yn cael eu siomi;
felly os ydych chwithau yn rhy Iwfr i ymaflyd mewn na
chyfamod, nac addewid, nac iawn, ymaflwch yii ei amynedd ;
fe dry hono allan yn iachawdwriaeth i chwi. Drachefn yn
2 Y mae amynedd yn tywys at iachawdwriaeth, am ei fod
yn dangos fod y perygl yn fawr iawn ; gan nad oes ond amyn-
edd rhwng pechadur ag ef, y dylai geisio iachawdwriaeth
yn ddioed. Os nad oes ond amynedd yn gysgod rhyngoch â
dinystr, nid oes eisiau rheswm cryfach yn gymhelliad i chwilio
am un gwell. Gwir yw ei fod yn hir-amynedd, ond y mae
terfyn iddo. Parhaodd chwech ugain mlynedd " yn nyddiau
Nöe, tra y darperid yr arch ;" a bu yn gysgod da i'r hen fyd,
ond fe derfynodd yr amynedd yn yr un dydd ag y cauwyd drws
yr arch ; a dyna'r hen fyd heb un cysgod : ac oni buasai fod gan
Noah ei hunan a'i deulu, gysgod gwell nag amynedd Duw,
buasent hwythau felly hefyd. Bu Jonah lawen iawn oherwydd
y Cicaion, ac nid heb achos, oblegid yr oedd yn ei gysgodi rhag
pelydrau tanbaid yr haul ; ond buasai yn dda i Jonah pe buasai
ganddo gysgod gwell na'r Cicaion, oblegid fe wywodd hwnw ;
a phan ddaeth poethwynt y dwyrain i chwythu arno, a'r haul
i daraw ar ei ben, fe lewygodd. Y mae yn dda i ni wrth amyn-
edd Duw ; yr ydym yn cael ein cysgodi rhag y gwres ganddo.
ond Cicaion a wywa ydyw, ac cs na fydd genych gysgod gwell
daw poethwynt y Dwyrain, a gwres y byd arall, i daraw ar dy
ben : ti a lewygi, fel Jonah, ac a ddeisyfi farw am dragywyddol-
deb, heb fedru gwneyd hyny. Mỳnwch gysgod gwell na'r
Cicaion. " A gẃr fydd raegis yn ymguddfa rhag y gwynt, ac
yn lloches rhag y dymestl."
Peidiwch ymddiried eich bywyd i ddim sydd a therfyn iddo.
Mi deimlwn i y pryder mwyaf yn nghysgod amynedd, er mai
amynedd Duw ydyw, am fod terfyn iddo ; ond mi fentrwn
drugaredd mewri lawn heb bryderu, am fod hono o dragywydd-
oldeb hyd dragywyddoldeb. Dyma'r babell ni thynir i lawr, ac
ni syflir yr un o'i hoehon yn dragywydd ; am hyny ni raid ofni
symud iddi i fyw. Yr oedd y llongau a gollasant yn ddiweddar,
ar dueddau Sir Gaernarfon, wedi troi i mewn i ryw gilfachau
bychain, oeddent yn burion cysgod tra y byddai y gwynt o ryw
ffordd benodol ; ond pan drodd hwnw yn y nos, ni thalai y
Amynedd yn lachawdwriaeth. 1083
gilfach ddim, aeth yn llongddrylliad arnynt yn fuan ; ond pe
buasent wedi troi i Angorfa ddiogel ( Harbonr of Refugc ), ni
buasai o bwys iddynt o ba le y buasai y gwynt yn chwythu ;
buasent yn ddiogel ar bob awel. Cilfach sydd yn rhoddi cysgod
pur dda ydyw amynedd Duw : y mae yma lawer yn ddiogel yn
y gilfach yr awr hon ; ond pe tröai y gwynt cyn y bore, ni
thalai dy gilfach di ddim. Os mynit ochel dinystr, rhaid dyfod
i'r Porthladd diogel, i gysgod iawn y groes : yna chwythed yr
awel o'r lle y chwytho hi, " Gŵr a fydd yn ymguddfa." Ani-
ynedd Duw a fyddo yn eich cymhell chwi i chwilio am gysgod
gwell.
3. Y mae amynedd yn iachawdwriaeth, oblegid y mae'r
amlygiad a rydd amynedd o gymeriad Duw yn dangos na
chewch chwi ddim ei cheisio yn ofer; ac felly y mae yn lladd
gelyniaeth pechadur, ac yn ei ddwyn i'w derbyn hi. Yr oedd
Saul yn tybio fod Dafydd yn ceisio am ei einioes ef ; ond pan
arbedodd mab Jesse ef yn yr ogof, daeth hyny a chymaint o'i
gymeriad i olwg Saul, fel ag i ladd meddyliau celyd am dano,
ar y pryd, o leiaf, ac i'w ddodi i ddymuno bod yn gyfaill iddo.
Dyna amynedd Dafydd wedi gwneyd i Saul yr hyn yr oedd pob
peth arall wedi methu ei wneyd. Yr wyt tithau yn tybio fod
yr Arglwydd yn ceisio achos yn dy erbyn, a'i fod yn elyn i ti ;
ond y mae wedi dy gael bob dydd megis yn yr ogof, mewn lle
manteisiol iawn i dy ladd, ac eto hyd yma wedi dy arbed : paid
gwrandaw, gan hyny, ar lais calon ddrwg, a'r diafol, yn dywed-
yd fod y nefoedd yn ceisio niwed i ti, oblegid y mae dy lygaid
yn gweled y dydd hwn ei foJ wedi dy arbed. Y mae yn rhyfedd
na pharai yr amynedd i ti ddyrchafu dy lef i wylo, fel Saul gyda
Dafydd, oherwydd dy feddyhau annheilwng am dano. Y mae
amynedd Duw ond ei ystyried yn tywys i edifeirwch. Cyfrifwch
ef yn iachawdwriaeth.
Y mae amynedd Duw yn cael ei droi yn rhywbeth genym oll.
Y mae yma rai yn ei droi yn iachawdwriaeth. Y mae ymaeraiU
yn ei droi yn yolledigaeth. Trodd Noah ef yn arch, ond trodd
yr hen fyd ef yn ddiluw. Yr ydym ninau yn ei droi naill ai yn
iachawdwriaeth, neu yn ddigofaint Y mae Paul yn sôn am rai
yn lle troi yr ymaros a'r dioddefgarwch yn edifeirwch, yn eu
trysori yn ddigofaint erbyn dydd y digofaint. Fe ddigiodd yr
1084 Amynedd yn Tachawdwriaeth.
Arglwydd yn ddirfawr wrth y Jezebel oedd yn eglwys Thyatira
am gam-ddefnyddio ei amynedd : "Mi a roddais iddi amser i
edifarhau, ac nid edifarhäodd hi." Gwyliwch gam-ddefnyddio
amynedd Duw, a dywedyd mewn eíTaith gyda gwatwarwyr
dyddiau Pedr, " Pa le y mae addewid ei ddyfodiad ef?" "Y
mae pob peth yr un fath er pan wyf yn cofio ;" gall hyny fod, a
bod dinystr yn dy ymyl di er hyny. Nid oedd dim yn y golwg
i beri braw i'r hen fyd hyd y dydd yr aeth Noah i mewn i'r
arch : nid oes yr un cwmwl, feallai, yn y golwg yn dy ÍTurfafen
dithau yn awr ; ond y mae rhai o weision y prophwyd ar ben
Carmel yn gweled y môr,— môr digofaint, — yn y pellder, ac y
maent wedi gweled y cwmwl yn codi o hono, ac wedi clywed
yn yr awel drwst llawer o wlaw : a dyma ydyw cyngor un o
honynt i ti yn awr, " Rhwym dy gerbyd, a gwna bob peth yn
barod i gychwyn yn ddioed, fel na'th rwystro y gwlaw." Trowch
yr amynedd mawr hwn yn iachawdwriaeth !
[Dechreuwyd Chwefror 4, gorphenwyd Chwefror 24, 1860.]
PREGETH LXVI.
CRIST YN ESAMPL 1 NI.
1 Pedr ii. 21.— '•Crist yntau a ddioddefoid diosom ni. gan adael i ni
esiampl, fel y canlynem ei ol ef."
SAMPL yw arddangosiad gweledig o'r modd y dylid
cyflawni unrhyw beth. Nid yw yn angenrheidiol
ond i greaduriaid tra anmheríFaith, rhai heb synwyr
ganddynt i ddosbarthu y drwg a'r da. Y mae yn rhaid i'r
Arglwydd amlygu ei ewyllys mewn rhyw ddull i greaduriaid
perífaith sanctaidd ; ond tebyg ydyw nad rhaid iddynt hwy
wrth esampl i'w dysgu pa fodd i'w chyflawni. Eithr y mae yn
rhaid i greadur anmherfFaith, nid yn unig gael ewyllys Duw
mewn geiriau, ond hefyd cael esampl o ryw un yn cyflawni yr
ewyllys hono, cyn y cred bod hyny yn bosibl. Ac y mae y
ddau beth hyn yn gyffredin ynglŷn ; yr ewyllys mewn gair, a'r
gair hwnw yn cael ei arddangos mewn esampl. Y maent fel y
corff a'r ysbryd : vr ydym yn methu cydio yn y gair nes iddo
ymddangos yn y cnawd. Duw yn dysgu y byd trwy esamplau
ydoedd yr hen oruchwyliaeth. Yr ydoedd yn dywedyd mewn
gair ei fod yn Dduw cyfiawn, a hyny yr oedd yr hoU aberthau
yn ei ddangos mewn gweithred. Yr oedd Moses, fel prophwyd
iddo, wedi mynegi i'r bobl ei fod yn Dduw sanctaidd ; yr oedd
Aaron, fel ei offeiriad, yn dangos yr un peth yn weledig yn
amryw olchiadau a phuredigaethau y cysegr. Yr oedd yr holl
olchiadau yn esampl o'i burdeb : y tywallt gwaed yn esampl o'i
gyfiawnder. Lladdodd Nadab ac Abihu i argiafìu ar feddyliau
y bobl ma'; sancteiddrwydd a weddai i'w dŷ byth ; a thödd
babell y cyfarfod â chwmwl i'w dwyn i deimlo ei fod yn ofnad-
io86 Crisi yn esamùl i m.
wy iawn yn ei gysegr. Yr oedd pob peth yn cael eu dysgu
iddynt trwy esamplau neu ddarluniau. Ystàd o íabandod neu
blentynrwydd ar yr eglwys sydd yn gwneuthur hyn yn angen-
rheidiol. Y mae hi yn awr wedi dyfod mor beríFaith fel nad
rhaid iddi wrth esamplau yr hen oruchwyliaeth. Ond er y
gall hi ymsynied yn Iled gywir am gyfiawnder a sancteiddrwydd
Duw, heb ainryw olchiadau a thywallt gwaed gwastadol y demL
eto nid yw wedi cyraedd ystâd nad rhaid iddi wrth esampl i'w
dysgu pa sut i rodioa rhyngu bodd Duw ; ond y mae yr esampl
bresenol sydd ganddi yn fwy ysbrydol o lawer na'r rhai gynt.
Gynt, dangosid iddi sancteiddrwydd buchedd drwylendid corfF
ond y mae hyry yn cael ei ddangos yn awr trwy fywyd perffaith
sanctaidd y d^ii Crist lesu. Dangosodd yn ei fywyd a'i angau
yr hoU wirioneddau sydd yn cael eu dangos trwy seremon'iau
cyfraith Moses ; ac yn ei rodiad, arddangosodd yn eglur yr
egwyddorion mawr, wrth ddilyn pa rai y gallwn ninau rodio a
rhyngu bodd Duw. "Gan adael i ni esampl, fel y dilynem ei
ol Ef."
Y mae yr Arglwydd lesu yn ei bob peth yn cyfateb i'n hangen
ni, fel y mae wyneb yn ateb i wyneb mewn dwfr ; gan hyny y
mae yn rheidiol ei ddefnyddio yn ei bob peth, — yn aberth, ac
yn esampl ; ei farwolaeth yn iawn trosom i Dduw, a'i fywyd i'n
dysgu pa fodd i fyw i Dduw. Ond y mae tuedd gref mewn
dynion i ranu y Gwaredwr. Y mae rhai ani ei gael yn aberth
i'w rhyddhau oddiwrth felld'ith y ddeddf, heb ofalu ond ychydig
am ei gael yn esampl i'w dysgu i gydffurfio â'r ddeddf Y mae
eraiU yn dra awyddus i'w ddilyn fel esimpl, nad oes dim a
fynont âg ef fel aberth. Ond nid ydyw i'w ranu. Y mae yn
slcr nad oes neb yn cael bywyd yn ei angau, nad ydynt i ryw
fesur yn rhodio megis y rhodiodd Efe ; ac nid oes llawer o
ddylanwad yn ei esampl i neb, os nad ydynt hefyd yn gobeithio
cael dianc byth gydâ'u Barnwr trwy ei angau ef. Yr oedd
bywyd lesu Grist fel ei angau yn ufudd dod i Dduw yn lle
pechadur, ac felly yn bris gollyngdod y caefchion ; ond nid oedd
hyny ddim yn ei atal i fod yn esampl i ni, ond yn hytrach yn
ei gyfaddasu i hyny. GelHr dywedyd fod ei waith yn dioddef
wrth farw yn esampl i ni, a'i fywyd perffaith yn ufudd-dod
drosom ni : mewn gwirionedd, ni ddylent gael eu hysgar. Pan
i
Crtsíyn esampi, t ni. 1087
feddyliom am dano fel iawn, dylem ei gymeryd o'r preseb i'r
groes ; a phan feddyliom am dano fel esampl, dylem ei gymeryd
o'r un man. Fel yr haul naturiol, — y mae hwnyna oU yn
goleuo, ac oU yn ganolbwynt hefyd ; felly y mae yr oll o lesu
Grist yn aberth, a'r oll o hono yn esampl hefyd. " Gan adael i
ni esampl, fel y canlynem ei ol Ef." Y mae yr apostol yma yn
cyfyngu ei esampl i un peth, sef i ddioddef ; ond y mae rhanau
eraiU o'r gwirionedd yn rhoddi hawl i ni ddeall y gair yn ei
ystyr eangaf, ac felly ei gymhwyso at ei fywyd oll.
Ni a edrychwn ar rai pethau oeddent ynddo yn ei gymhwyso
i fod yn esampl : y rhai ydynt, (i.) Yr oedd yn ein hamgylch-
iadau ni. (2.) Yr oedd wedi dyfod iddynt yn wirfoddol. (3.)
Yr oedd yn gymeriad períîaith ynddynt.
(i.) Yr oedd yn ein hamgylchiadau ni. Nid oes odid ddyn
ar y ddaear, nad oes rhyw esampl o flaen ei feddwl, ac y mae
hono bob amser yn perthyn i'r un dosbarth ag ef ei hun. Y
mae y celfyddydwr yn cymeryd rhyw gelfyddydwr arall yn
esampl ; — y morwr, ryw forwr arall ; — y bardd a'r athronydd,
rywrai oeddent yn yr un cylch a hwynt : felly oni buasai fod
Mab Duw yn ein hamgylchiadauni, wedi ei demtio ymhob peth
yr un íîunud a ninau, nis gallasai fod yn esampl i ni. Oni
buasai ei fod wedi ei amgylchu â gwendid, ni fuasai yn agored
i'w demtio. Nis gellir temtio Duw â drygau ; ac y mae yn
debyg y bydd dyn hefyd, pan wedi ei berffeithio, yn rhy uchel
i'w demtio. Ond yr oedd dynoliaeth Mab Duw, am ei bod yn
nghyíîelybiaeth cnawd pechadurus, yn ddigon isel i'w themtio.
Beth bynag oedd dylanwad rhyfedd y natur ddwyfol ar y
ddynol, y mae yn sicr nad oedd yn gwneuthur y natur ddynol
uwchlaw bod yn agored i'w phrofi. Ac yn y ddwy demtasiwn
fawr y bu Mab Duw ynddynt, y naill ar ddechreu ei oes gy-
hoeddus, a'r llall ychydig cyn marw, geUid meddwl fod y dylan-
wad hwnw fel wedi ei dynu i ffordd, a'r ddynoliaeth megis wed^
ei gadael i ymdrechu ei hunan à'r temtiwr. Y mae dirgelwch
o amgylch hyn sydd yn perthyn i Fab Duw, fel o amgylch pob
peth arall. Byddai mor hawdd deali undeb y ddwy natur â'u
gilydd yn ei Berson mawr, ag ydyw deall pa fodd yr oedd yrì
bosibl iddo gael ei demtio : ond ni a wyddom fod y ddwy natur
yn ei Berson, oblegid yr oedd yn gweithio fel Duw, ac yn teimlo
io88 Crtstyn esampl i ni.
fel dyn ; felly ni a wyddom fod ei demtasiynau ef yn bethau
gwirioneddol, oblegid nid heb ymdrech mawr y daeth yn
llwyddianus trwyddynt. líroedd angylion yn gweini iddo ar
ol i'r diafol ei adael y waith gyntaf ; ac ar ol y prawf mawr fu
arno yn yr ardd, daeth angel i'w nerthu. Y mae hyn yn dangos
mai yr unig wahaniaeth rhyngddo â ni ydyw, ein bod ni yn
cael ein temtio ac yn pechu, ac iddo yntau gael ei demtio heb
bechu. Nid anhawdd fyddai dangos ei fod ymhob ystyr yn ein
hamgylchiadau ni ; — nad oedd dim chwerwder mewn tlodi na
wyddai Efe am dano, — dim swyn mewn cyfoeth nad ym-
ddangosodd ê yn ei liw mwyaf deniadol i'w feddwl yntau. Nid
ymosododd rhv vsg a mawredd bydol ar neb erioed fel arno Ef.
Nid oedd- Lazarus ddim yn îs nag y bu Ef : ni bu Solomon ddim
yn uwch nag y cynygiwyd iddo yntau fod. Dirmygwyd Ef yii
fwy na Dafydd ; a gallasai eistedd, pe mynasai, yn uwch na
Gamaliel. Beth bynag ydyw ein hamgylchiadau, nid all yr un
demtasiwn ymosod arnom, nad yw lesu Grist yn hono wedi ei
wneuthur yr un ffunud a ninau. Ond yn
(2.) Y peth oedd yn ei gymhwyso yn neillduol i fod yn
esa.npl, oedd ei fod wedi dyfod i'r amgylchiadau hyn yn wir"
foddol. Y mae yr apostol wrth gyfeijio ein meddwl at lesu
Grist fel esampl yn agwedd gwat, yn ein hadgofìo y gallasai fod
yn íFurf Duw. Nid yw bod un yn cyflawni yr hyn sy ddyled
arno mewn gwirionedd, ddim yn ei wneuthur yn deilwng ;
gweision anfiiddiol ydyw yrhai sydd yn gwneuthur cymaint oU
a'r a orchymynwyd, os bydd y peth yn ddyled arnynt. Nid >w
bod yn dda ein hamynedd mewn dioddeíîadau, pan wedi eu
haeddu yn ddim clod ; ond y mae bod felly pan yn dioddef dS
gam, yn rasol. Felly y mae ymdrechu i wneuthur unrhyw beth
fel dioddef, pan nad oes rhwymau, yn rhoddi teilyngdod a grym
yn esampl y neb a wna hyn. Yr hyn oedd yn peri fod ym-
drechiadau Howard i ymweled â charcharau Ewrop, yn cael eu
codi i fyny fel esampl o ddyngnrwch, ydyw ei fod, o'i fodd, heb
rwymau, wedi cymeryd y draíferth hon arno ei hun. Yr hyn
sydd yn gwneuthur gwaith y cenhadon sydd yn myned i'r byd
paganaidd i bregethu Crist, yn esampl mor ddisglaer o gariad
at Grist ac eneidiau dynion ydyw, y gallasent fod mewn am-
gylchiadau gwahanol iawn. Felly, yr hyn sydd yn rhoddi y
Crist yn esamỳl i ni, I0$9
fath sv7yn yn esampl y dyn Crist lesu ydyw, ei fod wedi dewis
dyfod i'r amgylchiadau hyn. Yn hyn y mae ei esampl yn
rhagori cymaint ar esamplau holl enwogion y Beibl. Fe'n
cyfeirir at y prophwydi ac at Job fel esaraplau o ddioddef blin-
derau, ac o hir-ymaros ; ond nid o'u bodd y daethant hwy i awr
y brofedigaeth. Ac y mae yr Arglwydd lesu yn cynghori ei
bobl i ochel profedigaeth, gan eu hanog, " pan y'ch erHdiant
mewn un ddinas, ífowch i un arall." A phan y byddai saint yr
Hen Destaraent yn goddef profedigaeth, yr oeddent yn gwneu-
thur hyny am nas gallent ei hysgoi hi. Tewi a wnaeth Aaron
yn y brofedigaeth ; ond pe buasai ei lais yn gallu rhoddi bywyd
i íeirw, y mae yn bur debyg mai Uefaru y buasai uwchben
Nadab ac Abihu. "YrArglwydd yw Efe," meddai Eli ; ond
pe buasai yn gallu siarad nes y buasai y lladdedigion yn fyw, a'r
gelynion yn syrthio yn wysg eu cefnau o ílaen ei eiriau, tebyg
ydyw mai hyny a wnelsai, yn lle syrthio i lawr a marw. Pe
buasai Job yn gallu dal y Caldeaid, gorchfygu y Sabeaid»
dywedyd nes y buasent yn clywed uwchben tŷ y mab hynaf,
<' DefiFrowch a chenwch, breswylwyr y Ilwch," tebyg ydyw mai
hyny fuasai efe yn ei wneuthur, yn Ile rhwygo ei fantell ac
eistedd ar y domen. Ond wele lesu Grist yn cerdded nes blino»
pan y gallasai wneuthur y cwmwl goleu yn gerbyd iddo, a
marchog ar adenydd y gwynt. Wele Ef yn newynu mewn
anialwch, yn cael ei siomi gan y ffigysbren am fodd i dori ei
newyn, pan y gallasai à gair droi pob careg oedd o'i amgylch
yn fara, a pheri i bob pren crin ddwyn fifrwyth fel gwialen
Aaron. "Wele Ef yn cael ei rwymo, pan y gallasai â gair o'i
enau wneuthur ei holl elynion fel byddin Senacherib. Wele
Ef yn cael ei goroni â drain, ei daraw à chorsen, ei hoelio ar
groes, pan y gallasai mewn moment godi y tô oddiar ddistryw,
nes y buasai ei holl boenydwyr yn cael eu hunain mewn cadwyni
tragywyddol. Y m^e ei waith yn dyfod o'i fodd i'r amgylch-
iadau hyn, yn gwneuthur ei esampl yn annhraethol deilwng o
gael sylw.
(3.) Perfleithrwydd ei gymeriad oedd y cymhwysder olaf a
nodasom ynddo i fod yn esampl. Yr oedd dau beth hynod
ynddo : y naill ydoedd ei fod mor debyg i gnawd pechadurus,
ûes yr oedd dynion yn teiralo ei fod yu un o honynt hwy ; a*r
K4
loço Crtstyn esampl i ni.
llall ydoedd ei fod mor berfFaith, nes yr oedd deddf Duw yn
dywedyd uwch ei ben, "Boddlonwyd !" Y mae mantais i ni
ar wendidau saint yr Hen Destament : oblegid y maent yn
dangos i ni, er uched oeddent, nad oeddent yn rhy uchel i
syrthio ; ac yn rhybudd i ni nad all y Cristion gyraedd yr un
ystâd yma, nad ydyw yn briodol dywedyd wrtho, " Na fydd
uchelfryd, eithr ofna." Ac y mae yr un rhinwedd, sydd yn
ymddangos mor eglur yn eu cymeriad trwy sefyll ar wahân, yn
cael mantais i wneuthur argraff ddwysach ar ein meddwl, na
phe buasai pob gris yn ogyhyd a gogymaint ynddynt. Y mae
y grasusau hyn, fel amrywiol ranau y tabernacl neu y deml, ar
wahân, — y mae cael edrych arnynt bob yn un ac un, yn fan_
teisiol i bob un roddi argraff ar y raeddwl ; ond i gael syniad
cywir an'. danynt, y mae yn rhaid eu gweled yn eu cysylltiad
â'u gilydd, fel y maent yn gwneuthur i fyny un deml. Y deml
ysbrydol, y gwelsom ni ranau o honi mewn llawer man o'r
blaen, wedi ei chyd-gysylltu oedd lesu Grist ; a'r hyn sydd yn
ein taraw ni yn ei gymeriad Ef ydyw, nid amlygrwydd rhyw
un peth neillduol, ond cydgyfarfyddiad pob peth ; a hyny yn y
cyfartaledd perífeithiaf â'u gilydd, fel IHwiau yr enfys, y naill
yn toddi i'r llall. Pan yr^ meddwl am Abraham, ei fFydd sydd
yn tynu ein sylw ; pan yn meddwl am Job, ei amynedd sydd
yn taraw y meddwl ; ond pan yn meddwl am lesu Grist, nid
fel un hynod am ífydd, nid fel un hynod am amynedd, nid fel
un hynod am lareidd-dra, y bydd yn ein taraw ni ; ondyr achos
o hyn ydyw am fod yr holl bethau hyn yn berífaith ynddo.
Pe na buasai yn llawn teimlad a thynerwch fel Jeremiah, bu-
asai ei waith yn galw y Phariseaid a'r ysgrifenyddion yn rhag-
rithwyr, yn peri i ni ei gymharu i Elias ; ac oni bai am yr
eofndra hwn oedd ynddo, buasai ei waith yn wylo uwchben
Jerusalem, yn peri i ni ei gyíTelybu i'r prophwyd yr oedd ei ben
yn ddyfroedd, a'i lygaid ynffynhonau o ddagrau. Ondnidywei
dynerwch ddim yn ein taraw fel y mae tynerwch Jeremias, na'i
onestrwydd fel y mae gonestrwydd EHas; ond yr achos ydyw am
ei fod yn berflfaith yn y ddau beth. Y mae ei gymeriad gogon-
eddus yn ein taraw â syndod, nesy dywedwn, "Pwy yw Hwn ?"
Perffeithrwydd cymeriad lesu Grist sydd yn peri fod cymaint o
dynfa yn ei esampl i'w bobl ; a'r un peth sydd wedi gwneuthur
I
Crist yn esampl i ni. 109Ì
yn ofer holl ymdrechiadau ei clynion yn ei erbyn Ef a'i gref-
ydd; oblegid wedi iddyiit, yn ol eu tyb hwy, symud ymaith
bob prawf arall o ddwyfoldeb ei grefydd, y mae perífeithrwydd
cymeriad ei sylfaenydd hi yn aros yn graig rhwystr nad oes
modd ei symud. Ac nid rhaid wrth brawf ond hwn mai oddi-
wrth Dduw y daeth ; oblegid ni fedrodd holl ddoethion y byd,
am bedair mil o flynyddoedd, dynu llun dyn períFaith, rhagor
bod yn berlTaith eu hunain. Ond dyma bysgodwyr Môr Gali-
Jea wedi disgrifio un felly yn y pedair efengyl. Y mae yn rhaid
addef fod un felly wedi bod, neu ynte fod y pedwar efengylwr
wedi cyflawni un o'r gwyrthiau hynotaf a wnaed erioed. Nid
bychan oedd trafferth yr luddewon i gael ei gondemnio ; ac er
cyflogi gau dystion i'w erbyn, bu bron iddo ddyfod yn rhydd.
Ac wrth ei draddodi, yr oedd Pilat yn tystio, nad oedd yn cael
dim bai ynddo. Yn yr un dull y diweddodd pob prawf fu ar
gymeriad Mab Duw. Y mae y gelynion yn gorfod tystio, " Nid
ydym ni yn cael dim bai ynddo." Ac erbyn hyn nid oes odid
neb o honynt yn ddigon digywilydd i roddi dira yn ei erbyn ;
ond y maent, yn luddewon, yn iYnflFyddwyr, ac yn Sosiniaid,
yn tystio ei fod yn ddyn da, er fod y cyntaf yn gwadu ei fod
yn Fessiah, yr ail yn gwadu ei fod yn brophwyd, a'r trydydd
yn gwadu ei fod yn Dduw ; eto y maent yn cytuno ei fod yn
ddyn da. Ond pa ddiolch iddynt ? pe buasai cîiwydd-wydr
rhagfarn a gelyniaeth yn gallu canfod y bai lleiaf ynddo, nid
hwy yw y rhai a fuasent yn ei guddio.
Y mae y perffeithrwydd hwn sydd yn ei gyraeriad yn ei
gymhwyso i fod yn esampl i ni ; oblegid, er dyfned ydyw
cwymp dyn, y mae gan berfíeithrwydd ry w swyn ryfeddol iddo.
Dyna ydyw barddoniaeth, — ymgais yr enaid am baentio rhyw
bethau rhagorach na'r pethau sydd o'i amgylch. A gall hyn
ymddangos yn ddieithr, eto y mae yn wir, — y rhai sydd wedi
c^Taedd y perflFeithrwydd mwyaf n.ewn rhyw beth S3"dd yn
swyno mwyaf ar eraill i'w dilyn ; ac yn ol graddau perflfeith-
rwydd ein esampl ni y bydd ein perflFeithrwydd ninau, oblegìd
os bydd y nôd yn uchel, y mae yr ymdrech i'w gyraedd yn
gyfatebol. Ac os na bydd esampl o ragoriaeth o flaen y roedd-
wl, ni ragora y person hwnw mewn dim. Yr hyn a gadwodd
y deyrnas hon, a rhanau eraill o Ewrop, mor hir yn anwaraidd
1092 Crisi yn esamtl i ni.
ydoedd nad oeddent yn gydnabyddus â'r un ystâd well arbeth-
au ; ond pan aeth canoedd o'r trigolion, yn y ddeuddegfed gan-
rif i'r dwyrain, i geisio enill Palestina oddiar y Mahometaniaid,
gwelsant yno gymdeithas mewn yslâd llawer mwy coethedig
nag oedd hi yma ; ac ni orphwysodd y rhai a ddychwelasant
heb amcanu cyraedd ystâd gyífelyb. Felly y mae Mab Duw
wedi dangos i ni beth yw natur ddynol berffaith ; ac y mae
railoedd ar y ddaear wedi eu swyno gymaint gan yr olygfa, nes
y maent yn penderfynu na orphwysant nes dyfod yn gyffelyb
iddo. Y mae dedwyddwch dyn yn gynwysedig mewn cerdded
rhagddo yn dragywydd ; a rhagoriaeth natur Duw ydyw fod
yma ddigon o le iddo. laith y ddeddf byth fydd, *'Dring i
fyny yma;" ac iaith lesu Grist yn ei esampl fydd, "Gwnewch
fel íinau," fel y mae yn anmhosibl i ddyn fyned yn fanylach na'r
ddeddf, nac mor bell ymlaen mewn perffeithrwydd. Na, dilyn
yr Oen y bydd yn ddiddiwedd. Y mae mynyddoedd yr Alps, fel y
mae y teithiwr yn esgyn,yn ymddangos fel pe byddent yn myned
uwch : erbyn iddo gyraedd y man y tybiodd o'r gwaelod, ond
dyfod iddo, y buasai yn agos i'r pen, y mae y pen yn ymddang-
os yn bellach o'r fan hono nag ydoedd o'r gwaelrd. Cyffelyb i
hyn ydyw esampl lesu Grist : ni gawn ei ddil^ n am byth, h
myned byth ymlaen ; ac er dyfod yn debycach, debycach iddo,
fe bery Ef i fod yn gyntaf-anedig ymhlith ei frodyr lawer, — i
flaenori ymhob peth ; fel ag y gall ddywedyd wrthym yn ddi-
ddiwedd, " Dring i fyny yma."
Y mae y tri pheth hyn sydd yn lesu Grist yn peri bod ei
esiampl yn berffaith. Pe na buasai yn ein hamgylchiadau ni,
iaith ein calon wrth ddarllen a chlywed am dano fuasai,
" Feallai na buasai yntau yn ddim gwell na ninau, pe buasai yn
ein sefyllfa ni." Pe na buasai wedi dyfod i'n hamgylchiadau
ni o'i wirfodd, buasai yn demtasiwn i rywun ddywedyd, " Nid
ydyw ei ddioddefgarwch ond tawelwch anobaith." Pe buasai
y gwall lleiaf ynddo yn y sef^dlfa y daeth iddi, buasai perygl i
lawer ymdebygoli iddo, nid yn y rhinwedd, ond yn y bai ; onc?
gan fod y tri pheth hyn ynddo, y mae ei esiampl yn berffaith.
*'Gan adael i ni esiampl."
Wrth son am lesu Grist fel esampl, y mae yn angenrheidiol
i ni gofio mai ei ysbryd, yn hytrachna'i eiriau, sydd i'wddilyn.
Crist yn etampt i m. 1093
Y mae rhai yn meddwl eu bod yn dilyn lesu Grist i fanjl-
rwydd, wrth gyhoeddi gwaeau a melldithion uwchben eu cyd-
ddynion, yr hyn beth a alwant yn onestrwydd ; pan mewn
gwirionedd nad ydynt byth yn annhebycach iddo ef na phan
yn gwneuthur hyny. Wrth geisio bod yn onest fel Efe, y
maent yn anghofio ei hynawsedd ; ac nid yw gonestrwydd lesu
Grist byth yn gwneuthur lles, pan ar wahân oddiwrth ei dyn-
erwch. Pe buasem ni yn bur, yn ddibechod fel Efe, feallai y
gallasem ni ddefnyddio iaith fel yntau ; ond gan nad ydym,
dylai ein gwaith ni yn ein hystyried ein hunain, rhag ein
temtio ninau, beri i ni ymdebygoli yn fwy iddo yn hynawsedd
ei ysbryd ; nag yn yr awdurdod gydâ pha un y ceryddai rag-
rithwyr ei oes, Y mae i bob un ei ddull priodol ei hun o
wneuthur daioni ; ac y mae ein llwyddiant ni yn ymddibynu
mwy ar dymer ein hysbryd nag ar gryfder ein geiriau.
Gallasai Saul (oedd o'i ysgwyddau i fyny yn uwch na phawb)
wneuthur gwroldeb gyda'r arfogaeth drom hono ; ond yr oedd
hi yn rhwystr i'r llanc Dafydd : y ífon dafl a'r ceryg llyfnion
oeddent yn gweddu iddo ef Felly, byddai yn llawn mor rhes-
ymol i ninau geisio ymdebygoH i Fab Duw mewn gorchymyn
i'r dwfr droi yn win, ag a fyddai ceisio gwneuthur hyny mewn
galw dynion yn rhagrithwyr ac yn gelwyddwyr, ac mewn
cyhoeddi gwaeau ofnadwy uwch eu penau. Yr oedd y geiriau
hyn, o'i enau Ef, yn peri fod y gynulleidfa yn delwi gan ofn
ger ei fron, am eu bod yn teimlo fod ei lygaid yn darllen dir-
gehon eu calonau ; cnd o'n genau ni, ni pharent ond iddynt
godi yn ein herbyn, fel y rhai hyny yn erbyn meibion Scefa,
gan ddywedyd, Yr "lesu a adwaenom, ond pwy ydych chwi .?"
Ped yfem ni fwy o'i ysbryd, byddem yn aml yn fwy gwyhad-
wrus ynghylch defnyddio ei eiriau.
Ond i alw sylw ato yn fwy neiUduol fel esampl, ni a enwn
rai pethau ymha rai y mae yn esampl i ni. Y mae holl ddyled
dyn yn cael ei chrynhoi yn y Testament Newydd i ddau air,
yn lle deg yr Hen Destament ; ac y mae lesu Grist yn esampl
beríFaith o'r ddau. Y ddeddf foesol wedi ymgnawdoli ydoedd. Y
mae perthynas fawr rhyngom ni â Duw, a pherthynas rhyngom
ni a'n cyd-ddynion ; ac y mae lesu Grist wedi rhoddi esampl i
ni pa sut i ymddwyn yn deilwng i'r perthynasau pwysig hyn
1094 Crist yn esainpî i ni.
yr ydym ynddynt. Y mae yn esampl o'r modd y mae i ni
barotoi ein hunain i gyflawni ein holl ddyledswyddau. Hefyd
o'r dull y mae i ni orchfygu yr ymosodiadau a wneir
arnom i'n hatal i'w cyflawni. Dangosodd i ni pa fodd i gyf-
lawni ewyllys Duw, — pa fodd i barotoi ein hunain at y gwaith,
— a pha fodd i orchfygu pob gelyn a geisia ein troi oddiwrtho.
I. Y mae yn esampl i ni o'r modd yr ydym i ymddwyn tuag
at Dduw. 1. Trwy ddangos mai gwasanaethu Duw ddylai fod
yn flaenaf ar ein meddwl. Yr unig hanes sy genym am dano
Ef wedi dyfod o ystâd ei fabandod, nes bod yn ddeg ar hugain
oed, ydyw ei waith yn ymddiddan â'r doctoriaid ; ac y mae y
rheswm a roddodd i'w fam dros hyny wedi ei fwriadu, feallai, i
fod yn eglurhad ar y rhan hyny o'i oes ag y mae yr efengylwr
yn ddistaw yn ei chylch. Ynghylch y pethau oedd yn perthyn
i'w Dad yr oedd y pryd hwnw, a diau ydyw mai ynghylch yr
un pethau y bu nes dechreu ei oes gyhoeddus. Wedi iddo
ddechreu pregethu, ei fwyd a'i ddiod oedd gwneuthur ewyllys
yr Hwn a'i hanfonodd. Hyn ydoedd ei waith : nid rhywbeth
y byddai yn ei wneuthur weithiau, ond ei alwedigaeth, — ei
gelfyddyd ydoedd. Er ei fod " yn addfwyn a gostyngedig o
galon," eto buasai yn haws symud y mynyddoedd tragwyddol
na throi ei feddwl am foment oddiwrth ei waith. Yr oedd yr
Hwn oedd yn addfwyn fel oen ymhob man arall, yn myned yn
wrol fel llew, pan y ceisiai rhywun fyned rhyngddo a'i waith.
Pell oddiwrtho oedd cablu urddas ; eto pan y ceisiai rhai urdd-
asol fyned rhyngddo a'i waith, y mae yn eu galw yn "rhagrith-
wyr," "yn feddau wedi eu gwyn-galchu," ac yn " gelwyddwyr."
Nid ydoedd yn amddifad o deimladau mwyaf serchoglawn y
ddynoliaeth ; eto pan geisiai ei fam a'i frodyr ei rwystro gyda'i
waith, fe'u gwadai ar goedd gwlad. Ni fu athraw erioed yn
cyd-ddwyn mor dyner âg anwybodaeth a phlentynrwydd di5-
gyblion ag Ef ; eto pan y ceisiai un o honynt ei atal yn ei
waith, y mae yn ei alw yn "Satan." Yr oedd yn teimlo oddi-
wrth lafur a lludded ; eto ni rwystrid ef ganddynt i gyflawni y
gwaith wrth íFynon Jacob. Darfu i galedwch ei wrandawyr
beri i Jeremias benderfynu na lefarai mwyach wrthynt; darfu i
gariad at y byd ddyrysu Dernas yn ei wcinidogaeth ; darfu i
ofn dyn faglu Pedr onest ; ond nid oedd yr un demtasiwn o'r
Cristyn esampl i ni. IO95
fath hyn yn effeithio am foment arno Ef. Ar y mynydd yr
oedd y bobl yn rhyfeddu wrth ei ddysgeidiaeth Ef ; yn y di-
ffaethwch yr oeddent yn meddwl ei wneuthur yn frenin ; yn y
deml yroeddent yn ceisio ei rwydo yn ei ymadrodd ; ar lan y
môr yr oeddent yn ei adael wrth y canoedd ; eto cyrchai
drwy bob peth at y nôd, oblegid cyflawni ewyllys Duw oedd ei
waith Ef. Yn hyn fe roddes i ni esampl. Ai gwneuthur ewyll-
ys Duw ydyw ein gwaith ni .? O ! pa faint o honom sy gydâ
chrefydd, ond nid hi ydyw ein gwaith ni ; rhy wbeth arall ydyw
ein celfyddyd n\. Y mae crefydd yn cael ambell bum' mynyd,
ond yr alwedigaeth sydd yn cael ein nerth. Yn hyn yr ydym
yn debycach i Satan nag i lesu Grist. Y mae Satan weithiau
yn troi ei hun yn angel goleuni : angel y tywyllwch ydy w ei
gymeriad ef er hyny. Ac os oes rhai o honoch yn cael eich
cadw rhag crefydd gan drafferthion y bywyd hwn, — gan berth-
ynasau neu gyfeillion, — neu rhag digio rhyw Phariseaid ac
archofleiriaid, — cofi wch na ataHodd yr un o'r pethau hyn Fab Duw
rhag myned â'i waith ymlaen. Ac y mae pob dyn sydd yn by w
i bwrpas gyda dim, nid yn aros am amgylchiadau, ond yn
oaethiwoyr amgylchiadau ybyddoynddynti fodynfanteisioliddo
ef gyraedd ei nôd. Felly y gwnaeth lesu Grist : fe drodd bob
amgylchiad yn fantais i roddi gwasanaeth i Dduw ; nid addaw
yn yr anialwch y plygai yn y deml, nac addunedu yn nghanol
cynwrf y deml, yr ymroddai i'r gwaith wedi cyraedd unig-
rwydd lle anghyfanedd ; na, fe drodd amgylchiadau profedig-
aethus yr anialwch yn fanteisiol i roddi y gogoniant i Dduw ;
a checraeth y deml yn fantais i'r un peth. Felly, os awn ninau
i aros am amgylchiadau manteisiol i waith Duw gael y lle
blaenaf ar y meddwl, fe'n dehr ni gan angau cyn i ni weithio
un awr yn y winllan.
2. Fe roddes i ni esampl mewn proffesu yn gyhoeddus ei
barchedigaeth i Dduw. Yn ein sylw blaenorol, esampl o ysbryd
crefydd a roddodd Efe i ni ; ond trwy ei phroffesu hi yn
gyhoeddus, y mae wedi rhoddi esampl o'i chorff hi ; ac nid
ydynt i fod ar wahan, — yr ysbryd heb y corff, na'r corff heb yr
ysbryd. Nid ydym i roddi ein hunain i'r Arglwydd, heb roddi
ein hunain hefyd i'w bobl ; nac i'w bobl ychwaith, heb roddi
ein hunain yn gyntaf iddo Ef. \ r oedd y grefydd luddewig y
1096 Crist yn esampl i nit
pryd hwnw yn dra llygredig, — nid ydoedd ond corfF o seremon-
iau, a'r ysbryd wedi hen ymadael ; eto nid ystyriai Mab Duw
hyny yn ddigon o reswm dros neillduo ei hun oddiwrth ei hor-
dinhadau cyhoeddus hi. Ond nid yw ei waith Ef yn glynu wrth
yr eglwys luddewig ddim i fod yn esampl i ni lynu wrth un-
rhyw eglwys lygredig, am nad oes gan yr un eglwys ar y ddaear
yn awr yr un sail i ddisgwyl hyn ag oedd gan yr eglwys
luddewig, oblegid nid oedd onid hi ar y ddaear y pryd hwnw,
ac nis gallasai yr un arall fod. Yr oedd gwaith yr Arglwydd
yn cyfyngu aberthau i un man yn gwneuthur eglwys arall yn
beth anmhosibl, oblegid nis gallasai dim crefydd fod heb aberth;
felly nid oedd neb i gilio oddiwrth yr eglwys luddewig, ond yn
hytrach i geisio ei diwygio hi: ac felly parchwyd hi fel sefydHad
dwyfol gan lesu Grist ei hunan. DyHd gochelyd eto rhag
gwneuthur ymraniadau yn eglwys Dduw ; ond gallant fod yn
yr eglwys Gristionogol, oblegid y mae yr awr wedi dyfod pryd
nad ydys yn addoH y Tad, nac yn y mynyddhwn, nac yn Jeru-
salem ; ond pwy bynag sydd yn addoH mewn ysbryd a gwirion-
edd, y rhai hyny sy gymeradwy ger ei fron. Yr hyn oedd i
atal ymraniad oddiwrth yr eglwys luddewig ydoedd, mai i
Jerusalem yr ydoedd yr aberthau yn perthyn ; ond nis gall
hyny atal ymraniad yn awr, oblegid nis gaH yr un eglwys hòni
hawl iddi ei hunan o lesu Grist a'i aberth, fel ag i gau aHan
bawb ereiU ; na : y mae Efe yn ddiddadl yn d>fod i mcMn i
aml adeilad, nes gwasgaru perarogl ei bresenoldeb dros y Ile, er
bod aml un sydd yn proffesu bod yn ddisgybl iddo, feaUai, yn
ofni dyfod yno rhag cael ei halogi. 6an hyny y mae ymneiH-
duo oddiwrth eglwys lygredig yn awr, nid yn unig yn oddefol,
ond yn ddyledswydd ; ac yn wir nid oes yr un eglwys ar y
ddaear heddyw, nad un wedi ymneiHduo oddiwrth un araH
ydyw. Nid Eglwys Rhufain oedd yr un a sefydlwyd gan yr
ApostoHon : wedi ymneiHduo oddiwrth Eglwys Rhufain y mae
Eglwys Loegr ; ac y mae y rhai a elwir yn YmneiHduwyr, yn y
wlad hon, wedi gwneuthur hyny oddiwrthi hithau ; fel nadoes
gan neb ddim i'w ddanod i'w gilydd, oblegid YmneiHduwyr
ydyw pawb ; fel nad oes ar y ddaear heddyw yr un eglwys y
geHir dywedyd am dani, " Hon a sefydlodd yr ApostoHon." A
pha bwys sydd yn hyny, oblegid onid ydyw portread yr eglwys
Crisi yn esampl i ni. 1097
genym yn y Beibl ? ac â'r un sy debycaf, yn ol ein barn gyd-
wybodol ni, i'r portread y dylem ymuno, pe na byddai ond
blwydd oed. Nid ein hamcan wrth ddywedyd hyn ydyw cefn-
ogi ymraniadau yn eglwys Dduw, ond yn hytrach ceisio dangos
nad oedd gwaith lesu Grist yn talu parchedigaeth i eglwys mor
lygredig ag ydoedd yr eglwys luddewig yn un rheswm dros i
ni wneuthur felly. Ar y llaw arall, ni ddylai neb sefyll draw
oddiwrth bob cangen o eglwys Crist am fod rhyw anmherífeith-
rwydd ynddynt oll, oblegid y mae lesu G-rist yn proflFesu crefydd
yn gyhoeddus, er yr anmherffeithrwydd ; ac yn hyn fe roddes
esampl i ni, fel y canlynem ei ol Ef. Yr oedd Efe yn edrych
ar grefydd, nid yn ei pherthynas â'r rhai oeddent yn ei phroífesu
hi, ond yn ei pherthynas â Duw. Nid tŷ y Phariseaid rhag-
rithiol y galwai efe y deml, ond "tŷ fy Nhad ;" felly y dylem
ninau edrych ar grefydd ; nid yn ei pherthynas â dynion, ond
yn ei pherthynas â Duw. Yr oedd pawb oeddent yn dwyn
cysylltiad â'r deml, yn erbyn lesu Grist, ond nid oedd Efe ddim
yn digio wrth y deml oblegid hyny ; ond y mae aml un yn awr^
üs gwna rhywun sydd yn perthyn i eglwys rywbeth yn ei erbyn
ef, y mae yn y fan yn digio wrth y Ue ; ond y mae yn amlwg
md nid tŷ Dduw ydoedd yn ei olwg o'r blaen, onidê ni fuasai
ymddygiad un dyn ddim yn peri iddo gilio oddiwrtho. Yr oedd
anmheríFeithrwydd y disgyblion gynt yn peri i lawer feio
arnynt : ond yr oedd eu Hathraw mawr yn eu hamddiffyn, ac
yn cymeryd yn garedig dros ben eu gwaith yn ei ddilyn, er mor
anmherffaith oeddent. Yr un un ydyw Efe eto, ac y mae ei
ddisgyblion tlodion, er eu hanmherfFeithrwydd, yn beríFeithiach
na neb sydd yn beio arnynt. Y maent hwy yn cynal ei enw ar
y ddaear : buasai wedi marw o ran pawb ereill ; ac yn y dydd
diweddaf, fe ddatguddir mai nid peth bychan yn ei olwg fydd
hyn. Os mynem ni ddilyn esampl lesu Grist, ni ddylai an-
mheríìeithrwydd crefyddwyr ddim ein hatal i brofEesu crefydd.
3. Fe roddes i ni esampl mewn ymostwng i ewyllys Duw.
Y mae ein dyledswydd tuag at Dduw yn gynwysedig yn y ddau
beth hyn, sef cyflawni ei ewyllys, i dioddef ei ewyllys. Y mae
yn anhawdd ei chyflawni ; ond y mae yn anhaws ei dioddef hi.
Dioddef ydyw y ddisgyblaeth y mae pob Cristion i fyned trwy-
ddi i'w barotoi i fyd arall. Trwy anialwch o ddioddef yr oedd
1098 Crist yn esampl i ni.
myned i'r Ganaan ddaearol ; yn gyíFelyb y mae myned i'r nefol,
oblegid nid oes dim ond dioddef a ystwytha ewyllys gyndyn
pechadur ; a'r foment y bydd y sant yn gallu dywedyd wrth ei
Dad nefol, " Gwneler dy ewyllys," y foment hono y bydd yn
gymwys i gael ei dderbyn i wlad nad oes dioddef ynddi. Felly
nid yw hanes saint y Beibl bron ddim ond hanes eu dioddefiad-
au. Yfwyd y cwpan chwerw at Adda, y cyntaf o honynt : aeth
yr un cwpan at Noah a'r holl batriarchiaid. Yr oedd yn cael
ei yfed at y mwyaf o feibion y dwyrain fel at y Ueiaf. Nid yr
un peth sydd yn chwerwi cwpan pawb ; ond y mae i bawb yn
gwpan chwerw. Y mae naill ai colli cyfoeth gyda Job, colli
plant gyda Dafydd, cyfarfod â phrofedigaethau personol gyda
Daniel a'r tri llanc, neu ddioddef yn achos eraiU fel Jeremias a
Paul, yn ei wneuthur felly. A'r Cristion goreu ydyw yr hwn
sydd yn dioddef oreu ; oblegid mesur ein perífeithrwydd ni
ydyw mesur cydffurfiad ein hewyllys ni âg ewyllys Duw ; a'r
pethau chwerwon sydd yn ein cyfarfod yn unig a brofant hyny.
Yr oedd geiriau Satan yn herwydd Job, yn wirionedd ar hyn
sef nad yw gwasanaethu Duw mewn llwyddiant yn ddim prawf
o galon yn plygu iddo : yr hyn a brofa hyny ydyw, peidio ei
felldithio yn y dydd blin. Ond y mae esampl lesu Grist yn
berffaith yn hyn : ni ddioddefodd neb erioed gymaint ag Ef ; —
ni phlygodd neb erioed mor berffaith i ewyllys Duw ag Ef. Yr
oedd ei oes, er ei bod yn oes o ddioddef, yn oes o ufuddhau.
Y mae chwerwder mewn tlodi, — y mae colyn yn nirmyg ein
cyd-ddynion, — y mae swyn mewn sefyllfa uchel : gwyddom am
yr holl bethau hyn ; ond nid oedd yr un o honynt yn ei atal
Ef i ddywedyd, — " Gwneler dy ewyllys." Yn ei gyfyngder y
mae yn dywedyd, — "Fy enaid a gynhyrfwyd, a pha beth a
ddywedaf?" A ddywedaf fi, " Gwared fi allan o'r awr hon?"
Na wnaf ; eithr "oherwydd hyny y daethum i'rawr hon." Ond
hyn a ddywedaf, — " Gogonedder dy enw ;" pe byddai raid i mi
fyned yn ddyfnach eto, " Gogonedder dy enw." Ac yn y goleu
hwn y dylem gymeryd ei waith yn gweddio ar i'r cwpan fyned
heibio, sef, fel amlygiad o'i fod yn teimlo i'r byw yr anhawsder
oedd yn ei yfed ; ond, er teimlo, y mae yn gallu dywedyd,
*' Gwneler dy ewyllys." Dyma i ni esampl o ddioddef heb ei
bath Profodd yr Arglwydd Adda, ond gwyddoch beth fu y
Crist yn esampl i ni. 1099
canlyniad ; profodd Abraham, ond pallodd ei fFydd yntau ; fe
brofodd Job, ond clywch ef yn melldithio ei ddydd ; fe brofodd
Dafydd, ond dangosodd yntau trwy Iwfrhau mai bychan oedd
ei nerth ; ond fe brofodd lesu Grist, ac er bod y cwpan yn cael
ei wneuthur ya chwerwach, bob tro yr. yfwyd ef ato, eto ei iaith
y waith olaf oedd, — " Onid yfaf ef." Ymgasglodd cymylau o'i
amgylch, y naill haen ar ol y llall, nes i ni ei golli yn y tywyll-
wch ; ond pan oedd y tywyllwch yn fwyaf ofnadwy, dyna y
Uais oedd yn dyfod o hono, "Gwneler dy ewyllys," "O Dad ! "
'' Fy Nuw, Fy Nuw," er ei fod wedi ei adael ; 'ie, " Fy Nuw, Fy
Nuw, paham y'm gadewaist?" "Edrychwch arnaf fì, a gwnewch
yr un ffunud," meddai Gideon wrth ei dri chanwr ; ac yr oedd
sicrwydd eu concwest ar y Midianiaid yn ymddibynu ar hyny :
felly medd Mab Duw wrth ei bobl, "Os ydych am ddyfod drwy
ofidiau y byd er gogoniant i Dduw, edrychwch arnaf Fi, a
gwnewch yr un íTunud ;" ac ni chollem ninau y frwydr mor
fynych, pe byddem yn dilyn y cyfarwyddyd. Mordaith ydyw
ein bywyd ni ; y Beibl ydyw y cwmpawd i ddangos y ífordd ;
ond esampl ein Ceidwad ydyw ein harlen (charí) ni. Y naill
yn dangos y íTordd y dylid myned, a'r Uall y ffordd y mae un
wedi myned yn ddiogel. Ac nid yw mordaith bywyd ddim fel
mordaith Paul : yr oedd efe yn gauafu yn Melita, ac yn cych-
wyn eilwaith tua Rhufain, ar ol i'r tywydd garw fyned heibio ;
ond nid oes lleoedd i auafu genym ni. Y mae yn rhaid dal
allan ar bob tywydd ; ond er garwed fo'r tywydd, ni bydd colled
am ein heinioes, er y gall ein henaid doddi ynom gan flinder.
Tra y bydd y cwmpawd a'r arlen genym, gair Crist a'i esampl
Ef, er y gall ein llestri ni syrthio ar leoedd geirwon, nid awn i
un raan na bu ei lestr Ef yno o'r blaen ; ac wrth sylwi ar y
chart, fe'n cedwir rhag y creigiau. Yr hyn sydd yn gwneuth-
ur moroedd dieithr mor ddinystriol i fywydau ydyw, na wyr
neb pa le y mae y peryglon. Y mae yn rhaid eu teithio lawer
gwaith, ac i liaws gael eu colli ynddynt, cyn y gelHr gwneuthur
arlen gywir, a nodi ynddi lle y mae yr holl beryglon. Môr
dieithr yr ydym ninau yn ei deithio : fe gollwyd myrddiynau
ynddo; ac er bod genym hen arleni y cynoesoedd, nid oedd yr
un o honynt yn gwbl gywir ; ond o'r diwedd, yr ydym wedi
cael un berffaith : " Efe a roddes i ni esiampl," ac nid oes ond
I loo Crùt yn esampl i ni.
gwir esgeulusdra, yn achos o golli neb yn awr, sef diffyg sylwi
ar yr esampl.
II. Edrychwn ar ei esampl yn ei pherthyhas â'n cyd-ddyn-
ion ; oblegid yr oedd hi mor angenrheidiol i'n dysgu ni i ym-
ddwyn yn iawn tuag at ddynion ag oedd hi i'n dysgu pa fodd i
rodio a rhyngu bodd Duw. Gallwn sylwi yn
I, Iddo roddi esampl i ddyn ymhob ystad, ac hefyd i bob
math ar ddyn. Fel rheol gyíîredin, gellir barnu oes dyn oddi-
wrth ei chychwyn hi. Os ydyw yn un drygionus a diwerth ar
aelwyd ei dad ,a'i fam, y mae pob tebygolrwydd mai un felly
fydd wedi ei gadael hi. Ni roddwyd i ni ond dau air o hanes
lesu Grist yn hyn : un yn cynwys hanes yr hyn sydd ar yr
olwg gyntaf yn drc:edd yn erbyn ei rieni ; ond erbyn sylwi, y
mae hyny yn profi beth oedd ei gymeriad cyffredin, oblegid yr
oedd gwaith Joseph a Mair yn teithio am ddiwrnod hebddo, yn
brawf ei fod y pryd hwnw yn un nad oedd raid i neb ofalu am
dano ; ond rhag i rywun gasglu oddiwrth yr amgylchiad nad
oedd yn cyflawni dyledswyddau plentyn, gofelir dywedyd, ar ol
yr hanes, ei fod yn ostyngedig i'w rieni. Ac oddiwrth eiriau
Mair wrth y rhai oeddent yn gwasanaethu yn y briodas yn
Cana, y mae rhai yn casglu ei fod* wedi gwneuthur aml wyrth
i roddi ymwared i'w fam cyn hyny ; ac y mae yn anhawdd
deall y geiriau heb dybied rhywbeth o'r fath. Y mae genym
grybwylliad arall am dano yn ei gysylltiad â'i fam, sef pan
ydoedd yn marw. Yr oedd y crybwylliad cyntaf am dano wedi
ei fwriadu i roddi goleuni ar ei holl gymeriad yn more ei oes ;
felly y mae yr ail wedi ei fwriadu i roddi goleuni ar ei hoU gym-
eriad wedi dyfod i'w gyflawn faintioli. Yr oedd yn ufuddhau
i'w rieni pan yn blentyn, yn gofalu am danynt pan yn ddyn ;
yn hyn y mae esampl berff"aith i'r byd. Ac er nad oes genym
nemawr o hanes ei ymddygiadau at neb ond ei deulu, y mae
hyny yn ddigon i daflu goleuni arei ymddygiadat bawb ereill ;
oblegid y mae y neb sydd yn cyflawni y dyledswyddau yna yn
berff"aith, yn sicr o fod felly yn nghyflawniad ei ddyledswyddau
at bob math o ddyn. Wedi clywed hyn am dano, nid ydym yn
rhyfeddu ei weled yn wylo ar ©1 ei gyfaill Lazarus, na'i weled fel
gwladwr yn teimlo dros ddinystr eigenedl. O na byddai mwy
o'i ddisgybhon yn ei gymeryd yn esampl yn hyn ! Cariad
Crist yn esatnpl i ni. Iioi
ydyw ein Duw ni, a chariad ydyw ein crefydd ni ; ac nid oes
dim yn ei hargymell hi ar y byd mor eífeithiol a gweled ei dis-
gyblion hi yn dilyn eu Hathraw mawr mewn cyflawni gweith-
redoedd cariad.
2. Rhoddodd esampl i ni mewn cyd-ddwyn â dynion, ac
mewn maddeu iddynt ; ac Efe ydyw yr esampl gyntaf o hyn.
Ni ddialodd Dafydd ddim ar ei elynion ei hun, ond wrth farw
rhoddodd orchymyn i Solomon dalu y pwyth iddynt. Galwodd
yr hen Elias am dân Duw i ladd y rhai oeddent am ei ddal ef.
Y mae amryw o'r Salmau, ac o ysgrifeniadau y proffwydi, yn
weddiau am felldith ar eu cas ddynion ; ond y mae lesu Grist
wedi rhoddi esampl i'r byd o ddioddefgarwch, ac o faddeu. Pan
oedd ei ddisgybhon am alw tân i lawr i ddinystrio dinas y
Samariaid, y mae Efe yn eu ceryddu ; pan dorodd Pedr glust
gelyn, y raae Efe yn ei hiachau hi ; a phan oedd gelyniaeth
dynion wedi cyraedd y nôd pellaf, y mae ei addfwynder yntau
yn dyfod i'r amlwg egluraf, mewn dywedyd, — "O Dad, maddeu
iddynt." Ni chafodd neb erioed gymaint o achos digio wrth
ddynion ag Efe, oblegid ni wnaeth ddim ond cymwynasau ; eto
fe'i gwrthodwyd gan bawb : gwerthwyd Ef gan un o'i ddis-
gyblion, — gwadwyd Ef gan un arall, — gadawyd Ef ganddynt
oll, — ac yn olaf croeshoehwyd Ef, — er hyny gweddiodd dros ei
boenydwyr ; anfonodd yn gyntaf at y disgybl a'i gwadodd ei
fod wedi codi ; a phan gyfarfyddodd â'r rhai oeddent wedi ei
adael, dyna y geiriau cyntaf a ddy wedodd wrthynt, — " Targnef-
edd i chwi." "Anrhydedd yw myned dros gamwedd," raedd
Solomon ; ond nid oedd ond ychydig iawn yn enill yr anrhyd-
edd yma nes i lesu Grist ddysgu y byd i hyny. Ond o drugar-
edd, y mae y byd yn awr yn dechreu yfed tipyn o ysbryd yr
lesu. Beth yw y cymdeithasau heddwch ond hen gyngor yr
lesu i Pedr, — " Dyro dy gleddyf yn ei wain," yn dechreu
dylanwadu ar y byd. Gallwn ymffrostio yn lesu Grist ymhob
ystyr ; ond nid ymddengys yn fwy mawreddus mewn un man
na phan yn dywedyd, " O Dad, maddeu iddynt ;" ac nid yw ei
ddisgybl ychwaith yn rhoddi cymaint gogoniant iddo mewn
dim ag mewn ymdebygu iddo yn hyn.
3. Rhoddodd i ni esampl mewn amcanu yn benaf a blaenaf
at iachawdwriaeth dynion. Gwnaeth gymwynasau iddynt
I Ì02 Crist yn esampl i ni.
mewn ystyr naturiol na wnaeth neb eu bath. Yr oedd y rhai hyny
mor liosog, fel y dywed loan, " Pe'd ysgrifenid hwynt bob yn
un ac un, na chynwysai y byd y llyfrau a ysgrifenid." Nid
hanes cyflawn o'i íywyd sydd genym yn yr Efenyglau, ond
yn hytrach darlun o hono : hyny, a dim yn ychwaneg sydd yn
cael ei gofnodi, ag oedd yn angenrheidiol i ddangos pa fath un
ydoedd. Y mae y Salmydd yn galw ar yr holl greadigaeth i
glodfori yr Arglwydd, — y môr a'i gyflawnder, — y llifeiriant, —
y mynyddoedd a choed y maes ; — felly, pe galwesid arnynt,
buasent oll yn dwyn tystiolaeth i dynerwch calon lesu Grist.
Gallasai y môr ddywedyd, "Fe'm hatahodd i i lyncu ei ddis-
gyblion ;" a'r anialwch, " Fe'm rhwystrodd inau i fod yn fedd
i'r tyrfaoedd oeddent wedi dyfod i'w wrandaw." Gallasai myn-
yddoedd Judea a Galilea ddywedyd, "Gwir a ddywedodd ei
elynion, na lefarodd dyn erioed fel Efe." Pa ddosbarth o ddyn-
ion oedd, na allesid gofyn ei gymeriad iddo ? Yr oedd pendef-
igion wedi cael aml gymwynas oddiar ei law; — y tlodion yn
fwy dyledus iddo na neb ; — y morwyr wedi cael gofyn, " Pwy
ydyw hwn ?" — dylasai y milwyr roddi gair da iddo, oblegid nid
oedd wedi eu hanghofio hwynt ; — a phe buasid yn cymeryd y
duU dwyreiniol o roddi enw arno yn cyfateb i'w waith, pa enw
na fuasai arno ? Buasai merch Jairus, mab y wraig weddw, a
Lazarus, yn ei alw, " Yr adgyfodiad a'r bywyd." Buasai Bar-
timeus, ac aml un gydag ef, yn ei alw yn *' Oleuni y byd."
Buasai degau o wahangleifion yn ei alw yn "Offeiriad mawr."
Pa faint o blant galar fuasent yn ei alw " Barnabas mab
Diddanwch ?" Pa gynifer o drigollion dyffryn Achor yn ei
alw yn " Ebenezer, maen y cymorth ?" Yr oedd ugeiniau yn
y wlad, bob tro yr agorent eu Uygaid, — cofient yr lesu : eraiU,
pob cam a roddent, meddyhent am dano. Mewn gair, yr oedd
pawb a phob peth yn tystio ei fod yn myned oddiamgylch gan
wneuthur daioni ; ond ei amcan mawr Oûdd achub dynion, —
gwneuthur yr un peth i'w heneidiau, mewn ystyr ysbrydol, ag
yr oedd yn ei wneuthur yn naturiol areu cyrff. Yr hyn hefyd,
" fe roddes i ni esampl."
[Y mae y Bregeth wedi ei gadael heb ei chwbl orphen. Nid oes dyddiad
•WTtbi, ond ysgrifenwyd hi tua mis Chwefror, 1850. Goltgydd.J
PREGETH LXVII.
CYFRAITH Y LLOFRUDD,
Deuteronomium xix 4 :— " Dyma gyfraith y llofrudd, yr hwn a ffŷ yno i
fyw."
MAE'R Beibl yn fynych, wrth ddisgrifio gweithred-
oedd neu orchwyliaethau yr Arglwydd, yn son am
ddeddf y gweithredoedd neu y gorchwyliaethau
hyny. Yr ydyra yn darllen am ddeddf y môr, deddf y gwynt,
ÍTordd mellty taranau, ac orediniadau y nefoedd. Deddfau gweith-
redoedd Duw yw y pethau yna. Ac y mae deddf yn cael ei
chysylltu yn barhaus â holl hanes y greadigaeth resymol. Fel
y mae'r greadigaeth ddifywyd, o'r gronyn lleiaf hyd at y byd
mwyaf, o dan ddeddf, — felly y mae pob creadur rnesymol, gyda
phob peth ac ymhob man, o dan ddeddfau tragwyddol. Wrth
ddeddf y môr, y gwynt, a'r greadigaeth ddifywyd, yr ydym yn
arfer deall y drefn ymha un y mae'r Creawdwr doeth wedi eu
rhoddi i weithredu ; ond wrth ddeddf yn ei pherthynas â'r
greadigaeth resymol, yr ydym i ddeall y rheol yn ol pa un y
mynai Duw iddynt ymddwyn, ac yn ol pa un y mae
Efe yn bwriadu ymddwyn yn ol atynt hwythau. Y mae yr
Arglwydd wedi gosod yr oll a wnaeth odan ddeddf neu ddeddf-
au ; ac y mae yr un mor anmhosibl i'r creadur rhesymol ym-
ryddhau oddiwrth ddeddfâg ydyw i'r greadigaeth ddifywyd
wneyd hyny. Gall ef, drwy geisio ysgwyd ymaith ei hiau,
golli ei gwobr hi ; ond caiff ddeall, trwy ddioddef ei chosb, fod
ei gafael hi yn sicr ynddo.
Yn hanes cenedl Israel, ni a welwn gymaint sydd a wnelo
deddf â dyn yn ei bob peth. Yr oeddynt hwy o dan ddeddfau
manwl yn eu perthynas â Duw, ac â'u^gilydd ; ac feallai mai un
II 04 Gyfraith y Llofrudd.
o ddibenion amlygu hyn oedd, i ddangos trwyddynt hwy i holl
oesoedd y byd fod dyn dan ddeddf yn ei berthynas â phob peth,
er y gall na bydd y ddeddf yn weledig fel gyda hwynt. Y mae
llawer o'u deddfau hwynt yn ymddangos i ni yn rhai dieithr ;
ond y mae yn debyg fod y dieithrwch i'w briodoli i neillduol-
rwydd eu hamgylchiadau fel cenedl, ac hefyd am fod llawer o'r
deddfau yn " gysgod daionus bethau i ddyfod." Y mae portre-
ad adeilad ar bapyr yn ymddangcs yn ddieithr ac yn ddiystyr
i'r anwybodus ynghylch pethau o'r fath ; ond pan wêl efe yr
adeilad hardd wedi ei gorphen yn ol y portrerd, fe rydd hyny
ystyr ac eglurder yn y portread iddo. Yr adeilad wych yn y
Testament Newydd sydd wedi esbonio a rhoddi ystyr i bortread
dieithr yr Hen Destament. Y mae daionus bethau yr oruch-
wyHaeth hon wedi esbonio cysgodau yr hen. Felly y mae
goleuni y Testament Newydd yn esbonio dinasoedd noddfa i ni.
Wrth edrych arnynt heb eu cysylltu â dim arall, ymddangosant
yn dreíniant tra dieithr ; ond fel portreiad daionus bethau y
drefn i gadw pechadur, ymddengys priodoldeb a phrydferthwch
mawr yn yr holl drefniant.
Yroeddwn am alweichsylw at gyfraithy llofrudd yny goleu-
niyna, sef, fel cysgod o bethau gwell.Y mae y cysgod a'r gwrth-
gysgod yn wasanaethgar i'w gilydd : y gwrthgysgod yn esbonio
y cysgod, a'r cysgod yn aml yn ein cynorthwyo i weled mwy o
brydferthwch y gwrthgysgod. Gan hyny, ni a edrychwn ar y
drefn i gadw enaid yn ngoleuni y gyfraith i gadw y llofrudd
yn fyw. Wrth wneuthur hyny, ymofynwn beth oedd y gyf-
raith, pa fodd y gellid dyfod o dan ei hamddiffyniad, a pha beth
oedd natur y diogelwch a roddid i'r llofrudd. Yn y pethau
hyn, bydd y cysgod yn taflu goleuni ar y gwrthgysgod.
I. Beth oedd y gyfraith ? Darpariaeth benodol ydoedd y
gyfraith hon i gyfarfod âg ystâd benodol neu neillduol ar beth-
au. Cyfraith ydoedd i gyfarfod â 'chyfraith arall. Cyfraith i
gadw yn fyw lofrudd ydoedd. Yr oedd hen gyfraith yn eu
plith i'w ladd. Cyfraith y Uofrudd er dyddiau y patriarchiaid
oedd, " A dywallto waed dyn, trwy ddyn y tywelltir ei waed
yntau." A'r hwn a y-tyrid gymhwysaf i wneuthur hyny yd-
oedd yr hwn a berthynai agosaf i'r neb a laddwyd. Hwn yd-
oedd "dialydd y gwaed ;" a dyledswydd hwn oedd gweini ded-
Cyfratth y Llofrudd. 1105
fryd y gyfraith ar y lleiddiad y cyfle cyntaf a gaflfai. Ond pan
leddid un yn araryfiis, yr oîdd cyfraith Jy 'ddinas noddfa yn
dyfod i gyfarfod y gyfraith arall, i achub y llofrudd o law y di-
alydd. Yr oedd gan y dialydd gyfraith o'i blaid, ac yr oedd
hefyd gan y noddfa gyfraith o'i phlaid hithau ; ac yr oedd yr
un nerth yn y naill gyfraith ag ydoedd jyn y llall, oblegid yr
un oedd awdwr y ddwy. Eithr yr oedd awdurdod y naill gyf-
raith yn darfod yn y lle yr oedd awdurdod y llall yn dechreu ;
a'r hyn oedd yn penderfynu tynged y üofrudd ydoedd, yn nhir-
iogaeth pa un o'r ddau y byddai. Yr oedd cyfraith y lladd yn
anorchfygol y tuallan i'r ddinas, ac yr oedd cyfraith y cadw yn
fyw yn anorchfygol y tumewn iddi. Yr oedd ei gwbl ef, gan
ganhyny, yn troi ar y diriogaeth y byddai ynddi. Cyfraith yd-
oedd i gyfarfod â chyfraith arall.
Hen ddeddf llywodraeth Duw ydoedd, mai cyflog yr enaid a
becho ydyw marwolaeth ; a chan fod pawb wedi pechu, y mae
hono ar unwaith yn dwyn yr holl fyd o dan farn condemniad.
Ond y mae deddf arall, deddf newydd, yn y llywodraeth, sef,
" Yr hwn sydd yn credu yn y Mab, y mae ganddo fywyd tra-
gẁyddol ; ni ddaw i farn, eithr efe a aeth trwodd o farwolaeth i
fywyd." Dyma gyfraith ar gyfer cyfraith. Y mae y ddwy
ddeddf yn hoüalluog yn eu tiriogaethau eu hunain, ond yn
gwbl ddirym y tuallan iddynt ; ac y mae tynged pob un sydd
yma yn troi ar hyn : Yn nhiriogaeth pa un o'r ddwy ádeddf yr
ydych 1 ai deddf y cadw yn fy w, ai ynte deddf y Uadd ì Na
obeithiwch am ddianc y lladd yn y naill diriogaeth, ac nac
ofnwch ei gyfarfod byth yn y llall; oblegid y mae awdurdod y
naiU ddeddE yn diweddu yn y fan y mae awdurdod y Ilall yn
dechreu. Y cwestiwn pwysig i ni ydyw, gan ein bod wrth natur
o dan awdurdod heu gyfraith y Ilywodraeth, sef cyfraith y lladd,
Pa fodd y gellir dyfod dan amddiffyniad cyfraith y cadw yn
fyw ? Y mae hyn ya ein harwain at y mater nesaf : —
II. Pa fodd y gellir dyfodo dan amddiflyniad cyfraith y cadw
yn fyw 1 I hyny yr oedd tri pheth yn angenrheidiol i'r llof-
ruddd; ac y mae pob un o honynt yn gysgod o'r hyn sydd raid
i ni ei wneuthur tuag at gyraedd yr un peth : ymdrech personol
am ei fywyd — ymwadiad â phob peth er mwyn ei fywyd — a
chydymfí"urfiad cyflawn â phob peth y drefn i ddiogelu ei fyw.
L4
iio6 Cyftaith y Llofriidd.
yd; ac yr oedd y tri pheth hyn yn ei ddwyn o dan amddifíyn-
iad cyfraith y ddinas noddfa.
I. Yr oedd ymdrech personol y llofrudd i sicrhau ei fywyd
yn anhebgorol. Gwir yw fod pob peth yn fanteisiol iddo am ei
fy wyd : y ddinas yn y lle mwyaf cyfleus yn y wlad, yn amlwg o
bob raan, y ffyrddiddi y rhai goreu yn y wlad, pont ar bob afon
oedd yn croesi y ífordd hono, a mynegbyst ar bob íTordd am-
heus i'w atal i bryderu yn nghylch y íFordd ; ac fe ddywed yr
luddewon ybyddai unneu ddau o fyfyrwyr y gyfraith yn myn-
ed gydag ef i'w gynorthwyo ar y daith. Ood nid oedd y peth-
au yna oll yn gwneyd y tro yn lle ei ymdrech personol ef ei hun.
Yr oeddynt yn gymhelliadau cryfion iddo i ymdrechu, am eu
bod yn dal allan obaith cryf iddo am íywyd ; ond erddynt oll,
dyn marw a fuasai heb ffoi i'r ddinas.
Cyftelyb ydyw trefn Duweto, Rhoddir pob mantais i'r euog
i ffoi at Geidwad, trwy ddweyd yn eglur pwy a pha fath ydyw.
Os mynech wybod pwy ydyw, y mae hyny mor eglur yn yr
Ysgrythyrau ag ydoedd y ddinas noddfa yn Israel. Y mae'r
propwydi a'r apostolion fel mynegbyst yn cyfeiria ato, gan
ddywedyd, " Wele Oen Duw." Os :nynech wybod pa fath
ydyw, edrychwch i'i un man, i weled ei allu yn ei amlygu ei hun
mewn gweithredoedd nerthol i brofi ei fod yn abl i gadw, a'r rhai
hyny yn weithredoedd o drugaredd, i brofi ei fod yn barod i
dderbyn pwy bynag a ddêl. Y mae yr addewidion fel prenau
ffrwythlawn o bob tu y ffordd yn arwain ato, a phob dydd yn
rhoddi eu ffrwyth, i gynal pawb sydd yn ffoi. Ac y mae Ar-
weinydd difeth, sef Ysbryd Duw, yn cynyg ei wasanaeth drwy
yr holl daith. Y mae'r pethau hyn yn sail gobaith cryf i
bechadur am fywyd — yn. gymh elliadau nerthol iddo roddi pob
gewyn ar ei eithaf mewn ymdrech. Ond rhaid iddo ffoi ei hun.
Nidoes dim modd ei gadw trwy proxy^ neu drwy i rywun arall
wneyd y gwaith yn ei le. Arall a wnaeth y ddinas noddfa, a'r
ffordd iddi ; ondefe ei hun oedd raid ffoi yno.
2. Tuag at sicrhau diogelwch, yr oedd raid iddo ymwadu à
phobpeth er mwyn ei fywyd. Nid peth bychan oedd hyn ;
oherwydd yr oedd i adael ar 61 yr oll a feddai : ei deulu, ei gyf-
eillion, ei feddianau. Pa mor werthfawr bynag y gallasai y
pethau yna fod yn ei olwg, dyn marw ydoedd tra yn aros g^ da
Cyfraith y Llofrudd. 1107
hwynt ; yr oedd yn rhaid i bob peth gael eu haberthu ganddo
er mwyn cyraedd noddfa.
Rhaid gadael pob peth eto i gael bywyd tragwyddol. Rhaid
i'r dyn ei adael ei hun, ei deulu, y byd, ie, ei einioes ; ymwadu
âg ef ei hun, fel Abraham i fyned i wlad yr addewid — ymwadu
â'i deulu, fel Lot i ffoi o'r dinystr — ymwadu â'r byd, fel Moses i
ddianc at y blaid ddiogel — ymwadu à'i einioes, fel Paul i gyraedd
cadwedigaeth. Caledwaith y drefn ydyw troi pob peth heibio,
i gael bywyd. Fe foddlonai y dyn i wneuthur cyfnewid yn
rhwydd : íe adawai bechod anwyl, er y byddai hyny yn aberth,
os cai fynwesu un arall yn ei le : gadael yr oll sydd yn anhawdd.
Ac nid yw yr hoU lygriadau ar grefydd, megis Pabyddiaeth, a
Phuseyaeth neu Ddefodaeth, ddim ond dyfais o eiddo y diafol,
a chalon lygredig dyn, i geisio cael diogelwch heb adael yr hen
bethau. Y maent ar y ffordd i'r noddfa, fel pabell Jael ar ffordd
Sisera gynt, ac, fel hithau gynt, y maent yn gwahodd i mewn
yn bur daer, gan ddywedyd, •' Tro i mewn, tro i mewn ataf fi !
nac ofna." Ond er mwyn eich einioes, na wnewch ; oblegid
nid oes yn'a ddim diogelwch. Er y gall yr orphwysfa y maent
yn ei chynyg ymddangos yn ddyniunol i gnawd, fe ddaw y
dialydd yna ar eich hoì. Y mae trefn yr efengyl yn sicr o'ch
cadw ond i chwi adael pob peth, Os caiff hi yi holl galon, yr
holl ddeall, yr hoU feddwl, cadwedig a fyddwch. Ni fedd Duw
yr un drefn i gadw rhan o bechadur ; mae yn rhaid ei gael i
gyd.
3. Yr oedd cydymffurfiad perffaith à'r drefn yn angenrheidiol
i sicrhau diogelwch y bywyd. Yr oedd yn rhaid i'r llofrudd,
nid yn unig ffoi i'r noddfa, ond aros yno. Ni chai brynu âg
arian ei ryddid i ddychwelyd i'w dŷ ; yr oedd raid iddo fyw yn
y ddinas, neu fod yn ddyn marw, oherwydd yr oedd pob
modfedd o'r tu allan i derfynau y ddinas yn diriogaeth dialydd
y gwaed.
Nid dyfod at Grist yn unig sydd yn angenrheidiol i ddiogelu
y bywyd ysbrydol, ond aros yn Nghrist. " Onid erys un ynof
fi, efe a daflwyd allan megis cangen, ac a wywodd." Fe ddeuai
mwy at Grist i gael diogelwch, pe byddai yn ddigon dyfod ato
unwaith, a'i adael byth mwy, fel y naw gwahanglwyfus hyny yn
yr efengyl. Aros yn y ddinas sydd yn ymddangos i lawer yn
io8 Cyýraith y Llofrîidd.
gaethiwed annioddefol. Tŵr i redeg iddo dros ychydig y
maent hwy yn ei geisio, ac nid dinas i fyw ynddi. Yr oedd
Absalom yn dygymod â gwlad Gesur hyd nes yr elai llid y
brenin heibio, ond yn Israel yr oedd efe yn meddwlbyw. Yr
oedd yn dda gan y Rechabiaid gael íîbi i Jerusalem dros ychydig
amser rhag y Caldeaid ; eithr nid yno yr oeddynt yn meddwl
byw. Ond rhaid aros yn Nghrist ; byw yn y ddinas, dysgu ei
chelfyddyd hi; — yr oedd y llofrudd yn gwneyd hyny yn y
ddinas noddfa. Y prawf o'n bod ni yn y ddinas ydyw, ein bod
yn dysgu galwedigaeth y lle, ac addoli ydyw hwnw ; fod
boneddigeiddrwydd dinasyddion i'w ddarllen arnom, ac argraíT
hinsawdd y ddinas i'w weled yn ein gwedd. Sancteiddrwydd
ydyw awyrgylch y ddinas ; ac y mae hwnw yn rhoddi ei ddelw
ar bawb sydd yn byw yno, megis y gwnaeth y Presenoldeb
Dwyfol ar wyneb Moses gynt. Y foment y byddwch o fewn i
furiau cyfiawnder yr efengyl, chwi a fyddwch o fewn i'w hawyr-
gylch sanctaidd hi. Ac os na bydd y ddelw hon arnoch, ni
byddwch o fewn tiriogaeth cyfraith y cadw yn fyw.
III. Natur y diogelwch a roddai y gyfraith i'r llofrudd. Fel
diogelwch cyfraith, yr oedd yn ddiogelwch trwyadl. Y
mae yn ddymunol cael edrych ar y drefn i gadw fel y mae yn
dyfod o benarglwyddiaethol ras — fel ÍTrwyth haelfrydedd,
ewyllys da, ac anrhydedd y Jehofah ; ond y mae rhywbeth
hynod o ddyddanol yn y meddwl fod y diogelwch sydd ynddi
yn ddiogelwch cyfraith ; cyfraith i gadw yn fyw.
I. Gan ei bod yn gyfraith, y mae yn ffrwyth ystyriaeth
bwyllog, ac yn seiUedig ar gyfiawnder. Nid teimlad y foment
ydyw cyfraith, ond íTrwyth barn. Fe arbedodd Dafydd Simei,
am iddo ddyfod ato ar adeg yr oedd yn anhawdd iddo beidio
gwneuthur ei gais ; ond peth byrbwyll oedd yr arbediad ; ar
ewyllys da Dafydd yn unig yr oedd yn crogi. Yr oedd cyfraith
y deyrnas yn gofyn bywyd Simei; a phan fu farw Dafydd, aeth
Simei i afael y ddedfryd, am nad oedd ei fywyd wedi ei ddiogelu
mewn deddf. Nid oedd wedi ei sicrhau iddo ar dir cyfiawnder,
ac nid oes dim yn gadarn ond yno. Ond am gyfraith, cyfiawn-
der ydyw ei sail hi. Nid ydyw pawb yn cydsynio beth sydd
gyfiawnder ; ond fe broffesir fod pob cyfraith yn seiliedig ar
rywbeth a dybir yn gyfiawnder. /r oedd y llofrudd yn sefyll
í
Cyfraith y Llofrudd. II 09
ei brawf wedi dyfod i'r ddinas noddfa ; ac os nas gellid ei gadw
yn fyw yn gyfiawn, sef trwy ddangos mai damwain, ac nid
bwriad, oedd y weithred, rhoddid ef i fyny i'r dialydd, er ei fod
wedi dianc i'r noddfa ; oblegid Uaw cyfiawnder oedd yn dal
tarian trugaredd i amddiffyniad y ddinas ; ac os na wnai cyf-
iawnder ddal y darian dros y Uofrudd, nid oedd yr un fraich
arall yn ddigon cref i hyny.
Nid gwaith hawdd a fu cael cadw pechadur yn bwnc cyfraith.
Nid gorchest fechan a fu cael, sylfaenu teml trugaredd ar greig-
iau adamantaidd cyfiawnder ; a thywod a fuasai pob peth arall
yn sylfaen iddi. Yr ydys yn cael cryn draíTerth i gael act neu
gyfraith i wneyd rhai o'r railways ; ac nis gelHr eu gwneyd heb
hyny ; oherwydd y maent yn myned trwy diroedd yr arglwydd
yma, a'r boneddwr draw ; ac y mae cyfraith y deyrnas yn sicr-
hau awdurdod y pendefigion ar eu hetifeddiaethau ; ac am hyny
rhaid myned i draul fawr i gael cyfraith arall, seiHedig ar gyf.
iawnder, i fyned yn drech na'u hawl hwy ynddynt. Dyna oedd
ar ben Galfaria : tahi y swm mawr i gael act neu gyfraith
gyfiawn i gadw yn fyw. Ac yn awr, beth bynag yw hawl y
deddfau eraiH, y mae hawl hon yn gryfach na hwynt oll,
Fefethodd Darius gael cyfraith i gadw Daniel yn fyw, heb ddir-
mygu y gyfraith oedd yn myned â'i fywyd. Ond am Frenin
Sîon, *' efe a fawrha y gyfraith, ac a'i gwna yn anrhydeddus,"
wrth wneuthur y gyfraitli i gadw yn tyw. Y mae hen ddeddfau
y deyrnas yn gwenu ar y gyfraith newydd, oblegid y maent oll
wedi enill arni. Y mae yn wir fod y gyfraith newydd yn un
ddieithr ; oherwydd pwy erioed a glybu am drugaredd yn
myned yn gyfraith .? Nid oes dim He i drugaredd mewn deddf.
Cadwen gadarn o gyfiawnder ydyw deddf. Y mae pob deddf
gyfiawn o angenrheidrwydd yn un dda ; ond nis gaH trugaredd
berthyn iddi ; ar droseddwr y mae angen hono ; ac nid oes gan
ddeddf gyfiawn ddim i droseddwr ond cosb. Ond y mae cyfraith
y cadw yn fyw yn drugaredd ddigymysg, ac eto yn gyfiawn
odiaeth. Ac yn hyn y mae ei phrydferthwch hi : fod pethau wedi
cydgyfarfod ynddi na welwyd mo honynt yn yr un Ue erioed o'r
blaen. " Trugaredd a gwirionedd a ymgyfarfuant ; cyfiawnder a
heddwch aymgusanasant." O'r blaen byddai cyfiawnderyn sefyll
o'r neilldu hsb ymddangos pan y byddai trugaredd wrth ei hoíF
Iiio Cyfraith y Llofrudd.
waith; a thrugaredd, hithau, yn sefyll o'r neilldu, ac yn wylo, pan
y byddai cyfiawnder yn ymogoneddu ar y ddaear. Ond yma,
wele y ddau wedi cydgyfarfod mewn cyfraith. Wele drugaredd
yn estyn pardwn i'r euog, a hwnw wedi ei law-nodi gan gyfiawn-
der ; trugaredd, fel y Samaritan da, yn codi y truan archoUedig
ar ei hanifail, ac yn ei ddwyn i'r llety i'w ymgeleddu, a chyf-
iawnder yn dyfod yno gyda hi i dalu drosto ; trugaredd yn
tywallt olew a gwin maddeuant i'w glwyfau, gan ofyn, " Pwy
yw yr hwn sydd yn damnio ? " a chyfiawnder yn ateb yn ol yn
y fan, " Crist yw yr hwn a fu farw ! "
, Y mae rhai pethau yn cael eu goddef mewn gwlad a llythyren
y gyfraith yn eu herbyn ; y mae'r gyfraith fel yn winMo arnynt.
Peth fel hyna oedd myned i'r nefoedd o dan yr Hen Destament.
Cyn adeg rhyddhad y caethion yn America, yr oedd ganddynt
rywbeth a alwent yn imdergroimd railway^ sef dull dirgelaidd
o drosglwyddo caethion o'r Taleithiau i Canada rydd. Yr oedd
cyfraith y wlad yn gwahardd y peth ; eto yr oedd miloedd yn
myned yn ddirgelaidd, fel o'r tu cefn i'r gyfraith. Ond pan
basiodd yr emancipation act, deddf gollyngdod y caethion, fe
dynwyd eu cadwynau gan y gyfraith, ac nidgan neb o'r tu cefn
iddi. Undergronnd railway oedd yn myned ag eneidiau i'r
nefoedd cyn cyflawnder yr amser. Fe aeth miloedd yn ddistaw
ar hyd-ddi o'r dalaeth gaeth i'r Jerusalem hono uchod sydd
rydd. Yr oedd cyfiawnder fel yn winkio ar y peth — ddim yn
cymeryd arno ei weled ; ond fe basiodd act y rhyddhad ar y
groes ; ac yn awr y mae cyfraith i oUwng y caethion yn rhydd.
" Fel y byddai efe yn gyfiawn, ac yn cyfiawnhau y neb sydd o
flTydd Tesu." Gan fod y drefn yn gyfraith, y mae yn seiliedig
ar gyfiawnder.
2. Gan ei bod yn gyfraith, y mae nerth ynddi. Nerth y
brenin, neu nerth y deyrnas, ydyw nerth cyfraith. Wedi i beth
basio yn ddeddf, y mae anrhydedd y deyrnas yn galw am iddo
gael sefyll ; a phwy bynag a esyd ei hun o dan amddiflíyniad y
ddeddf, nid ei deilyngdod personol ef o gael trafferthu gydag ef
ydyw'r cwestiwn i edrych arno wedi hyny, ond teth y mae
anrhydedd yr orsedd, sydd wedi gwneyd y ddeddf, yn ei ofyn.
Yr ydym'yn;cofio flynyddau yn ol, pryd yr oedd Naples heb
ddyfod dan lywodraeth Victor Euimanuel, fod yno ddau ddyn
Gyfraith y Llofrudd. IUI
nadnabyddus wedi cael eu carcharu ; ni chlybuwyd erioed o'r
blaen eu henwau o'r tu allan i gylch bychan eu cydnabyddiaeth
bersonol ; ond bellach wele hwynt gerbron Senedd Lloegr,
dadleuon brwd yno o'u herwydd, a llythyrau meithion yn cael
eu hanfon at lywodraeth Naples yn eu cylch. Paham yr holl
drafFerth yna gyda dau ddynanenwog, anadnabyddus ? Deiliaid
cyfraith Lloegr ydynt: ac y mae anrhydedd y gyfraith yn gofyn
am eu goUwng yn rhydd ; am hyny y mae nerth y deyrnas
drwy y gyfraith yn dadgloi drysau cedyrn y carchar, gan ddy-
wedyd, "Ewch allan."
I weled nerth cyfraith, eto, tröwch i'r neuadd yna,
i edrych ar lys barn. Dyna'r barnwr ar y famc, y rheith-
wyr gerllaw, y dadleuwyr o'i flaen, a dyn cryf ger ei fron,
yn sefyll ei brawf am ei fywyd. Y mae y naiU dyst ar ol y llall
yn cael eu holi ; ac o'r diwedd profir ef yn euog o'r ddrwg-
weithred. Dyna y barnwr yn cyhoeddi uwch ei ben, " Gan
farw ti a fyddi farw." Arweinir ef o'r llys i'w gell drachefn ;
ac ar ryw foreu, wele ychydig bersonau yn myned i mewn ato,
ac yntau yn cael ei arwain.ganddynt, a'i ddwyn i sefyll o dan y
grogbren; ac ymhen ychydig eihadau dyna ei enaid wedi ei
dynu allan o'i gorff. Gallasai fod miloedd lawer yn edrych
arno, ac yn tosturio wrtho, tra nad oedd yno ond un dyn yn
cyflawni y ddedfryd arno ; ond yr oedd y miloedd yn teimlo
fod yna ormod o nerth iddynt feiddio cynyg gwaredu yr adyn
o'i law. Beth oedd y nerth ? Nerth cyfraith Prydain.
Y mae'r drefn i achub pechadur yn gyfraith y cadw yn fyw,
ac am hyny y mae ynddi yr un nerth ag sydd yn ngorsedd y
Brenin tragwyddol. Y mae, " Ni cholhr pwy bynag a gredo
ynddo Ef," wedi pasio yn ddeddf yn y deyrnas ; ac y mae daioni,
cyfiawnder, doethineb, a gallu y Brenin, yn sicrhau y saif hi
bellach. " Minau a osodais fy Mrenin ar Sion fy mynydd sanct-
aidd ; mynegafy ddeddf." Yr wyf yn cyhoeddi hyn yn ddeddf
yn fy nheyrnas ; gan hyny, " paham y terfysga y cenhedleedd,
ac y myfyria y bobloedd beth ofer ?" Gan fod y peth yn ddeddf
íTolineb ydyw codi yn ei erbyn. " Gan hyny yr awr hon, fren-
hinoedd, byddwch synwyrol ; barnwyr y ddaear, cymerwch
ddysg ; cusenwch y Mab rhag iddo ddigio, a'ch difetha chwi o'r
ffordd." Y mae hyn wedi ei fynegu yn ddeddf er ystalm bell-
ach : " Yr hwn sydd yn credu ynddo ef, ni ddemnir." Paham
II 12 Cyfraiih y Llofrudd.
gan hyny y terfysga y diafol, ac y myfyria uflFern beth ofer, gan
ddywedyd, Erlidiwn a difethwn hwynt ? Yr Hwn sydd yn
preswylio yn y nefcedd a chwardd ; mae'r peth yn ddeddf, ac
nid ydyw deddfau i gellwair â hw^nt. Rhaid cadw y ddeddf,
ac felly, rhaid cadw y neb sydd yn credu. Y mae nerth yn y
drefn.
3. Gan fod cyfraith i gadw yn fyw, y mae sicrwydd yn y
drefn. Nid ydym yn arfer cysylltu anwadalwch â'r meddwl am
ddeddf. Meddyliwch am ddeddfau natur : y mae sicrwydd yn
perthyn iddynt oll ; yr haul yn codi ac yn machlud, y môr yn
Uenwi ac yn treio, y gwynt yn dychwefyd yn ei gwmpasoedd,
hâf a gauaf, oerni a gwrês, yn dyfod yn eu hamseroedd priodol.
Y mae deddfau dynion i'w cyfrif fel y pethau mwyaf dylanwad-
ol sydd yn perthyn i'r byd cyfnewidiol hwn. Ein sicrwydd
mwyaf am unrhyw beth ydyw fod deddf yn ei roddi i ni. An-
turiaeth fawr a pheryglus oedd mynediad Esther gerbron
Ahasferus gynt, am mai un o gyfreithiau ei deyrnas ef ydoedd,
y rhoddid i farwolaeth bob un a äi i mewn heb ei alw, oddieithr
yr hwn yr estynai y brenin y deyrnwialen aur iddo. Yr oedd
yno gyfraith i roddi i farwolaeth : ond yr oedd y cadw yn fyw
yn ymddibynu ar y dymer y digwyddai i'r brenin fod ynddi ar
y pryd ; a digon anwadal ydoedd hono. Buasai yn well genyf
anturio at Dduw y nefoedd am fy mywyd nag at Ahasferus, pe
na buasai genyf ond ewyllys da Duw yn sail i hyny ; oblegid y
mae ynddo gyfoeth diderfyn o drugaredd. Eiihr nid ei ewylfys
da yn unig sydd genyf heddyw, ond ei air. '' Cofia y gair wrth
dy was, yn yr hwn y peraist i mi obeithio." Yn sail gobaith,
dyma genym drefn — cyfraith i gadw yn fyw.
"Antüriaf ato yn hyderus
Teyrnwialen aur sydd yn ei law ;
Estyniad hon sydd at bechadur,
Ni -wrthodir neb a ddaw.'"
lë, ond gan na wrthodir neb a ddaw, nid antur mohoni mwy.
Nid oes dim mympwy, dim caprice, yn y drefn. *' Pwy a ẃyr
a drŷ efe ?" meddai Joel, wrth anog y bobl i ymostwng o'i flaen
ac ymchwel ato. " Feallai y cuddir chwi yn nydd digofaint yr
Arglwydd," meddai Sephania, wrth anog holl rai Uariaidd y
ddaear i geisio yr Arglwydd. Ond nid *' pwy a ẃyr," neu
Cyfraith y Llojrudd. II 13
" feallai," ydyw hi yr awr hon. Nage ! " yr hwn sydd yn credu
ynddo ef, ni ddemnir ;" y mae yma bob sicrwydd.
4. Gan fod cyfraith i gadw yn fyw, y mae rhwymau ar y ddwy
bîaid. Gallai fod rhai yn ofni, wrth fy nglywed yn sòn am
ddeddf cadw yn fyw, rhag i mi gymylu rhad ras y drefn. Yn
hytrach, hyn sydd yn dangos mor anfeidrol raslawn ydyw hi.
Duw yn rhoi rhwymau deddf arno ci hun i drugarhau —
yn gwystlo ei hoU briodolaethau yn sicrwydd y maddeua efe i
bechadur a ddêl ato trwy Grist — yn clymu anrhydedd ei orsedd
âg i ti, pwy bynag wyt, sydd yn credu yn ei Fab ef, gael dy
fy wyd ! Cyfraith i gadw yn fyw. Ac nid yn unig y mae mor
raslawn âg i roddi rhwymau arno ei hun i sicrhau nefoedd i ni,
ond y mae mor raslawn hefyd âg i ofalu am ein cysur ni ar y
ffordd yno. *' Duw, yn ewyllysio yn helaethach ddangos i
etifeddion yr addewid ddianwadalwch ei gyngor, a gyfryngodd
trwy Iŵ, fel dau beth ddianwadal, yn y rhai yr oedd yn an-
mhosibl i Dduw fod yn gelwyddog, y gallem ni gael cysur cryf,
y rhai a ffoisom i gymeryd gafael yn y gobaith a osodwyd o'n
blaen, yr hwn sydd genym ni megis angor yr enaid, yn ddiogel
ac yn sicr, ac yn myned i mewn hyd at yr hyn sydd o'r tu fewn
i'r llen." Nid ein gwneyd yn fwy ddiogel oedd amcan y llẃ,
ond ein gwneyd yn fwy cysurus. Pe buasai'r llong yn cael ei
driftio yn yr ystorm, ni buasai un gwir berygl arni ; oherwydd
ni fethodd ein Cadben mo'i bassage erioed ; ond buasem ni
dipyn yn fwy pryderus wrth fyned o flaen y gwynt, na wyddem
yn iawn i ba le. I ochel hyn, y mae genym angor yr enaid,
sef y gobaith sydd o'r tu mewn i'r llen ; a'r cable sydd yn
cysylltu y llong â'r angor ydy w llẃ ac addewid Duw, — y ddau
beth dianwadal. Nid yn unig ni a gawn safe passage i'r
nefoedd, ond y mae Duw yn bwriadu i ni gael hefyd fordaith
weddol gysuruSí. O raslonrwydd y drefn.
Y mae hi yn rhoddi rhwymau arnom ninau hefyd. Gwrth-
odwch y drefn hon, ac fe fydd felly ddwy ddeddf rhyngoch â'r
bywyd, sef deddf y lladd, a deddf y cadw yn fyw.
[Awst 10, 1858.]
PREGETH LXVIII.
YR lAWN A PHECHOD.
1 ToAN ii. 1, 2.—'- Fy mtilant bychain. y petbau hyn yr wyf yn eu hysgrif-
enu atoch, fel na phechoch. Ac o phecha neb. y mae i ni Eiriolwr
gyda'r Tad. Tesu Grist y Cyfiawn : ac efe yw'r iawn dros ein pechodau
ni : ac nid C. os yr eiddom ni yn unig, eithr dros bechodau yr hoU fyd."
jN' o'r pethau sydd yn hynodi trefn Duw i gadw rhagor
pob trefn o eiddo dychymyg dyn ydyw ei bod hi yn
cyfarfod â holl angen dyn ar unwaith ; yn ei gyfar-
fod fel pechadur, ac fel creadur hefyd. Er bod yn perthyn iddo
fel pechadur drueni mawr, y mae yn perthyn iddo fel creadur
syniadau am gyfiawnder ac uniondeb. Y mae y rhai hyn yn
peri nad all fel creadur barchu dim ond cyfiawnder, tra y mae
ei drueni fel pechadur yn ei wneuthur yn gyfryw fel nad ydyw
yn gymwys i ddim ond trugaredd. Ac nid peth hawdd oedd
cael trefn i weini trugaredd i'r pechadur, heb wrth hynyaberthu
parch y creadur i gyfiawnder.
Llawer cais a fu ac sydd gan ddynion eto i gyfarfod âg un o'r
pethau hyn ; naill ai cynyg rhywbeth i'r teimlad o uniondeb
sydd yn mynwes dyn, i'w demtio i wneyd ad-daHad i gyfiawn-
der, fel ag i deilyngu cael ei oliwng yn rhydd ; neu ynte, am-
canu ei gyfarfod yn ei drueni, er aberthu uniondeb i hyny.
Gwelir y peth cyntaf yneglur yn nghrefyddau paganiaid y byd;
y maent hwy yn cydnabod uniondeb i ryw fesur, ac yn ceisio
gwneyd math o ad-daliad i gyfiawnder am y trosedd, gan
ddisgwyl felly ddianc rhag y gosb. Y mae yr ail beth i'w
ganfod yn y grefydd Fahometanaidd. Y mae hono fel yn ddi-
ystyr o uniondeb, ac yn syrthio yn ol ar drugaredd. Y naill yn
amcanu teilyngu dianc, a'r llall yn disgwyl am hyny yn unig o
Yr lawn a phtchod. 1 1 1 5
drugaredd noeth. Trefn Duw yn unig sydd yn cyfarfod â holl
eisiau mynwes dyn.
Gofynai y Dr. DuíT i Fahometan dysgedig, oedd wedi e^
ddychwelyd at Gristionogaeth yn yr India, Beth oedd yn ei
daraw fel y peth hynotaf yn nhrefn yr efengyl ? Ei ateb oedd,
Mai y ddarpariaeth sydd ynddi ar gyfer y dyn i gyd : fod
Mahometaniaeth yn cynyg trugaredd iddo, ond ei bod hi am
ymgele îdu ei drueni ar draul gwneyd cam â'i deimladau fel
creadur ; ond y mae trefn Duw yn adfer dyn o'i drueni â'i
thrugaredd, heb dreisio ei syniadau am uniondeb ; am hyny
gall yr efengyl ysgrifenu ato i orchymyn iddo beidio a phechu,
yn yr un llythyr, ac yn yr un frawddeg, ag y mae hi yn dat-
guddio iddo drefn i faddeu pechod. Y mae hi yn gadael pechod
yn bechod, a chyfiawnJer yn gyfiawnder, er ei bod hi yn trugar-
hau wrth y pechadur.
" Y pethau hyn yr wyf yn eu hysgrifenu atoch, fel na phech-
och : ac o phecha neb, y mae i ni Eiriolwr gyda'r Tad, lesu
Grist y Cyfiawn : ac efe yw'r iawn dros ein pechodau ni." " Y
pethau hyn :" cyfeiria yr ymadrodd hwn at gynwys y benod
gyntaf, lle y dangosir dylanwad yr efengyl ar y neb sydd yn ei
chredu, sef ei ddwyn i rodio yn y goleuni — i dd:.' cymdeithas
â'r purdeb anfeidrol ei Hun. Felly nis gall hwnw bechu, ond
y mae y goleuni yn yr hwn y mae yn rhodio yn ei ddwyn i
ymdeimlo â'r tywyllwch, sef â'r pechod sydd ynddo ; ac y mae
hyny yn ei arwain i'w gyfaddef, ac felly i gael ei lanhau oddi-
wrth bob anghyfiawnder gan waed lesu Grist ei Fab Ef.
' Yr wyf yn ysgrifenu y pethau hyn atoch,' er mwyn i chwi
weled na ddylech, ac nas gallwch bechu, os yn saint : " ac o
phecha neb," er ymdeimlo â'r drwg sydd yn bresenol gyda
chwi, na ddylech ddigaloni, ond cyfaddef ; oblegid "y mae i ni
Eiriolwr gyda'r Tad, ac efe yw'r iawn dros ein pechodau ni."
Y mae goleuni trefn Duw yn dangos pechod yn gyfryw ag y
dylech giHo oddiwrtho ; ond y mae yr un drefn yn dangos sail
gobaith i chwi er llithro o honoch iddo.
Y ddau beth a ddeuant dan ein sylw ni yn awr ydynt :—
I. Yr olwg a geir ar bechod yn wyneb iawn.
II. Yr olwg a geir ar yr iawn yn wyneb pechod.
I. Pechod yn wyneb iawn. Nid ychydig yw nifer y pethau
lOlé Yr lawn a phechod.
sydd yn taflu goleuni ar bechod. Gellir darllen ei natur yn
ngwedd ein byd ni, ac yn ngoruchwyliaethau y Llywydd mawr
tuag ato. Fe newidiodd gwedd y ddaear ar ei ddyfodiad cyntaf
i mewn iddi : ymgymysgodd ei wenwyn marwol â'i holl elfenau
hi, fel ag i droi elfenau bywyd yn elfenau angau, a gwneuthur
y berthynas oedd rhwng dyn a hi, yr hon oedd mor gyfeillgar,
yn berthynas elynol : o fod yn baradwys iddo, aeth ynanialwch:
o fod yn balas hapus i drigo ynddo, aeth yn garchar caeth. Ac
ni raid i Arglwydd yr hoU ddaear ond cyfiFwrdd âg unrhyw
elfen ynddi na bydd hono yn dal dyn fel â chadwen gref i'w
gosbi. Y mae tylwyth tŷ dyn, yn yr ystyr hon, wedi myned
yn elynion iddo, a gofyhant i'w Harglwydd, fel y goíynai
gweision Dafyd 1 iddo ef am Saul pan yn cys^u gyda'i wŷr yn y
wersyllfa, — " A gaf fi ei daraw ef, atolwg ?" Ac er mai yn
anaml, o drugaredd, y mae y Llywydd mawr yn ateb, " Gwna
hyny," eto fe roddodd cyn hyn genad i'r dwfr ei daraw, nes yr
oedd byd cyfan wedi ei lanhau oddiwrth bechod ; — i'r gwynt,
bryd arall, nes yr oedd miloedd yn trengu mewn marwolaeth ;
— i'r tân drachefn nes yr oedd gwastadedd íTrwythlon yr
lorddonen yn llosgi fel flfwrn. Ei weision Ef yw pob peth ;
gwneuthur eiair Ef y mae y tân a'r cenllysg, a'r gwynt ystorm-
us. Y mae goleuni cosb yn dangos pechod yn anghenfil ar-
swydus ; ond yn ngoleuni y drugaredd sydd yn ei faddeu mewn
iawn, y daw holl er:hylldra ac ysgelerder ei natur i'r golwg.
Y cam cyntaf tuag at ein hadferu ni, ydy w ein dwyn i syniaw
yn gywir am fawredd ein trueni ; ac y mae yn fantais i hyny i
ni gael edrych ar y trueni hwnw mewn un arall. Daeth Dafydd
trwy weled a chondemnio y bai mewn un arall, i deimlo ymhob
gewyn mai efe oedd y gẃr. Ac wrth i ninau edrych ar bechod
yn wyneb iawn, gall Ysbryd yr Arglwydd cin dwyn ni fel
Dafydd i deimlo mai ein drwg a'n trueni ein hunain sydd yn y
golwg. A dengys iawn dri pheth i ni am bechod : —
I. Fod ei ddrwg yn gyfryw fel nas gall Duw ei adael yn ddi-
sylw- Y mae mawredd yn fynych yn peidio sylwi ar bethau a
wneir yn ei erbyn. Fe gyfododd meibion Belial yn erbyn Saul
pan eneiniwyd ef yn frenin, ond ni chymerodd efe arno glywed
dim a ddywedid am dano ; a doethineb ynddo ydoedd hyny.
Arfer y bychan ydyw codi yn crbyn y mawr. Y mae ci fychan-
Yr lawn a phechod. 1 1 1 7
der yn peri iddo genfigenu wrth wir fawredd, a mynych y mae
yr un peth yn ei anghymhwyso i weled doethineb cynlluniau y
mawr; ac am fod anallu naturiol ynddo i'w deall, y mae yn eu
gwrthwynebu : ond nid ydyw gwir fawredd un amser yn ym-
ddangos yn fwy gogoneddus na phan y raae heb weled ac heb
glywed dim o'r pethau hyn.
Os sonir am fawredd, yn Nuw y mae hwnw. Efe ydyw y
Mawr, — **ei fawredd sydd anchwiliadwy." Y mae yn ymestyn
i anfeidroldeb ymhobcyfeiriad, — yn anfesuredig ac anfesuradwy,
yn llenwi tragywyddoldeb. Yr ydym yn cael dirnadaeth wan«
aidd am dano wrth geisio ei osod yn ymyl pob mawredd arall :
" Hwy na'r ddaear, a lletach na'r môr :" " uwch na'r nefoedd,
dyfnach nag ufFern ;" ac wedi edrych arno yn ymyl pob mawr-
edd y gwydd im ni am dano, nid oes genym ond dywedyd gyda
Job, " Wele mawr ydyw Duw, ac nid adwaenom Ef."
Os sonir am fychander, at ddyn yr awn i weled hwnw : "dyn,
yr hwn sy bryf ; a mab dyn, yr hwn sydd abwydyn:" yr hwn
nid ydyw ond er doe, ac ni ẃyr ddim. Bychan ydyw o'i gym-
haru â'r greadigaeth : dim ydyw o'i gyraharu â'r Creawdwr ;
eto y mae y bychan hwn wedi codi yn erbyn y mawr, gan
ddywedyd, Ni fynaf hwn i deyrnasu arnaf. Ac os un o briod-
ohaethau mawredd ydyw peidio sylwi ar fychandra, a ydyw yn
debyg y gwna yr Ydwyf sylwi ar y " nià yw." Os nad oedd
Saul yn cymeryd arno weled na chlywed yr hyn oedd yn cael
ei wneyd yn ei erbyn, a ydyw yn debyg y gwna yr Hwn y mae
yn rhaid iddo ymostwng i weled y pethau sydd yn y nefoedd
ryw sylw ar ymddygiadau abwydyn y llwch ? Gwna. Y mae
iawn yn dangos ei fod, er yn anfeidrol, " yn dal ar ffyrdd dyn,"
— fod holl ysgogiadau yr abwydyn hwn yn cael eu croniclo
ganddo. Rhaid bod dyfnderoedd o ddrygioni mewn pechod,
gan nas gallasai Lly wydd mawr y bydoedd adael i ymddygiadau
creadur mor ddiddim a dyn fyned heibio yn ddisylw.
2. Yn wyneb íawn^ ni a welwn fod pechod y fath ddrwg, fel
nas gallasai trugaredd Duw wneuthur dim ddo. Fe sylwir ar
wrthryfel rhai lled ddiyni weithiau gan un mawr, i ddangos
cyfoeth ei ddaioni trwy hyny. Nid cosbi oedd y diben eithaf
yn ei olwg wrth wneyd hyny, ond maddeu : — dangos, er bod
digon o nerth yn ei fraich i gosbi, bod digon o drugaredd yn ei
1 1 1 8 Yr Tawn a phechod.
fynwes i faddeu, ac y gallai, heb beryglu ei gymeriad na'i orsedd,
ÍTorddio gwneuthur hyny. Ond yn ngoleuni icnün, ni a welwn
fod pechod yn ddrwg mor ysgeler, fel nas gallasai trugaredd,
Duw wneyd dim iddo; ac y mae dywedyd hyn yn ddywedyd
llawer. Trugaredd wneuthur dim iddo ? Beth na fedr trugar-
edd ei wneuthur ? oblegid y mae y fath gyfoeth o honi yn y
fynwes ddwyfol. " Duw cariad yw." Pwy fedr esbonio y gair
yna ? Pwy fedr ei agor i ni ganfod y cyfoeth sydd o'i fewn ?
Y mae y disgleirdeb sydd o'i amgylch yn dallu ein llygaid ni
fel na welwu ddim ond trugaredd ar ei holl weithredoedd . Y
mae hi yu rhidens, yn ymylwê, oleu, hyd yn nod o amgylch
cymylau duon digofaint ei hun. "Llawn ydyw y ddaear o'i
chyfoeth." Tybia rhai y gall hi wneuthur pobpeth ; hi a all
wneuthur l'awer ; ac mi a ddymunwn i'n syniadau gael eu
heangu yn fwy nag erioed am ei gallu hi ; ond \yedi iddynt
eangu i'r eithafion pellaf, rhaid dywedyd fod un peth na fedr
trugaredd, er ei maint, ddim ei wneuthur, sef cuddio pechod. Y
mae ei chwrlid hi yn rhy gul i'w guddio, — ei mòr hi, er dyfned
ydyw, yn rhy fâs i'w gladdu. Er mai trugaredd Duw ydyw ,
buasai y byd erddi hi yn cael ei ddinystrio â dymchweliad
Edrychwch arni yn gweithio dan yr Hen Destament. Ah ! y
drafferth yr oedd trugaredd ynddo yn ceisio cuddio pechod !
Taenellu gwaed bob boreu ar yr ystaen du : ond ymweithio y
byddai yr ystaen i'r golwg yn y prydnawn drachefn, fel y bydd-
ai yn llawn bryd ceisio ei guddio à gwaed eilwaith ; ond dyna
oedd yr adsain y prydnawn a'r boreu: " Anmhosibl yw i waed
teirw a geifr dynu ymaith bechodau." Ceisiai trugaredd ddifa
ei sawyr heintus â'i pheraroglau ; ond er gwaghau y dwyrain o
beraroglau, myned yn fwyfwy heintus yr oedd awyrgylch y
ddaear yn oarhaus. Y mae pechod nid yn unig yn rhy ddrwg i
fawredd Duw beidio crafifu arno; ond yn rhy ddrwg i drugaredd
Duw, er ei maint, ei guddio.
3. Yn ngoleuni iawn^ ni a welwn fod pechod yn rhy ddrwg i
bethau mwyaf drudfawr y ddaear ddyhuddo am dano. Bywyd
ydyw y peth gwerthfawrocaf a fedd y ddaear : wrth gynyg
hwnw i geisio tynu ymaith ei gosb, yr oedd y ddaear yn cynyg
ei heithaf; a hi a wnaeth hyny yn ddibrin am oesau. Nj
arbedwyd dim traul. Aberthwyd miliynau ar filiynau o fywyd-
Yr lawn a phtchod. II 19
au. Yr oedd rhywbeth pruddaidd i feddwl teimladol yn yr
olwg ar allor Jerusalem bob dydd, yn goch o hyd gan waed ;
ond yr oedd golwg ofnadwy arni ar un o'r gwyliau : yr hoU
wlad wedi ymgasglu yno ; yr anifeiHaid gwirion yn cael eu
harwain at yr allor, eu lladd, a'u blingo, a'u Ilosgi ; eu brefiadau
torcalonus yn disgyn yn bruddaidd ar y glust, eu dirdyniadau
angeuol yn poeni y llygaid ; y tàn, a'r mwg, a'r tarth, yn
gwneuthur yr awyr yn Ilwythog gan angau ; dinystr, a dinystr
Uwyr arnynt yn cymeryd lle, trwy fyned i afael yr elfen fwyaf
dinystriol yn y greadigaeth, sef tân. Yr oeddent fel yn cael eu
difodi. Wrth edrych ar yr olygfa, gellir dywedyd, " Wele y
ddaear wedi cynyg ei heithaf." Nid ydyw aur, arian, a pherlau,
ddim i'w cymharu mewn gwerth â bywyd. Amgylchiadau
sydd yn gosod gwerth ar y rhai hyny ; ond nid felly am fywyd-
Wrth eu rhoddi hwynt, nid ydyw y greadigaeth yn myned yn
ddim tlotach ; nid ydyw y cyfoeth ond megis yn newid Ilaw ;
ond wrth roddi bywyd i lawr, dyna ddinystr yn cymeryd lle yn
y greadigaeth Y mae hi mewn gwirionedd yn dlotach yn awr:
y mae peth wedi ei symud o honi y mae yn rhaid cael Creawdwr
i'w adferu. Ac os gall rhywbeth ar y ddaear deilyngu gollyng-
dod i bechadur, hyn a all ; ond wedi i'r ddaear wneuthur ei
chynyg olaf, yr ateb ydyw, " Anmhosibl yw i waed teirw a geifr
dynu ymaith bechodau." Y mae Llundain yn cael ei gorchuddio
à thywyllwch mor ddudew ar rai amseroedd, fel nas gall goleuni
yr haul yn ei nerth dreiddio trwyddo, na goleuni mwyaf tanbaid
y ddaear effeithio dim arno ; rhaid i gyfnewidiad gymeryd Ile
yn ansawdd yr awyrgylch cyn y symudir ef i ffordd. Cyffelyb
i'r tywyllwch yna ydoedd pechod ; nis gallasai pelydrau treidd-
iol Haul trugaredd Duw ymweithio trwyddo, na holl ddyfais
daear ei symud i ffordd. Rhaidcael cyfnewidiad yn ansawddyr
awyr, onid ê fe fydd yn niwl tywyllwch, yn gorchuddio dyn yn
dragywydd.Y mae hynywedi ei gae!,yr hyn sydd yn ein harwain,
II. I edrych ar yr iawn yn sail gobaith yn wyneb pechod. Os
ydyw pechod yn ymddangos yn bechod, sef yn ddrwg diobaith
yn wyneb iawn, y mae iawn er hyny yn rhoddi sail i obeithio
yn wyneb pechod. Yr eiriolaeth a ddygir ymlaen yn y testyn
fel sylfaen gobaith, ond cysylltir hyny â'r iawn fel ei sail a sicr-
wydd ei Uwyddiant. " Ac Efe yw'r iawn."
1 1 20 Yr lawn a phechod.
Y mae yr iawn yn sail gobaith yn wyneb pechod, am fod yr
oll ynddo a allasai fod yn nghosp pechadur, a mwy na hyny. Y
mae yr enw sydd arno yn cynwys hyn, Iawn. Nid ydyw cosb
o angenrheidrwydd yn iawn. Os ydyw iawn yn sail gobaith,
rhaid i iawn adferu i bawb a phobpeth yr hyn a gollwyd trwy
y pechod. Nid ydyw cosb yn gwneyd hyny. C)ŵawnder trwy
allu, yn mynu ei gydnabod ydyw cosb : deddf yn gorfodi y neb
oedd yn gwadu ei bodolaeth hi, i deimlo hwnw trwy gryfder
ydyw cosb ; a phe gallasai troseddwr ddioddef ei holl gosb hi,
nid oes dim yn hyny o angenrheidrwydd yn adferu pobpeth a
gollwyd trwy y trosedd. Ond y mae iawti yn cynwys fod pob-
peth wedi ei ail-drefnu, fel pe na buasai y trosedd wedi ei gyf-
lawni. Y mae a fyno felly â'r ddwy blaid. Y mae yn iawn i
Dduw, ac felly yn newid sefyllfa y troseddwr yn ei berthynas â
deddf, ac mewn canlyniad i hyny yn newid ansawdd ei ysbryd.
Y mae y gobaith y mae iawn yn ei roddi iddo o gael dianc
gydâ'i Farnwr rhag canlyniadau ci bechodau, yn puro ei galon
ef ei hun oddiwrth bechod. Trwy newid ei gyflwr, y mae'r
iawn yn newid ei galon.
Nid ydyw yr hyn y mae pechod yn ei wneyd i bechadur ond
esboniad hanerog iawn ar ei ddrygau : yr hyn y mae yn am-
canu ei wneuthur i Dduw sydd yn dangos ei natur ; ac nid
myned yn erbyn ychydig o'i briodoliaethau y mae, ond yn
erbyn ei fod. " O na byddai yr un Duw !" Y mae felly yn
taflu y diystyrwch mwyaf ar ei holl briodoliaethau : yn mathru
cyfiawnder ; yn diystyru sancteiddrwydd ; yn dirmygu doeth-
ineb ; yn beiddio gallu ; yn gwadu daioni. Beth bynag oedd
mewn deddf yn amlygiad o'r Anfeidrol, dirmygir ef, oblegid y
mae deddf fel yn cael ei gosod o'r ncilldu — ei bodolaeth fel yn
cael ei wadu. "Anghyfraith yvv pechod." Yr oedd yn rhaid
i iawn adfer yr holl bethau hyn : rhoddi i bob priodoledd an.
rhydedd a orbwysai y dirmyg a gafodd hi gan bechod. I hyny
yr oedd yn rhaid dioddef y gosb ddyledus am y bai ; ac fel yr
awgrymwyd, pe buasai hono oU yn cael ei dioddef, ni buasai
hyny o angenrheidrwydd ddim yn iaivn^ heb fod rhyw beth yn
perthyn i'r dioddefydd a roddai nodwedd penodol i'r dioddef-
jadau hyny. Ac ni a gamsyniem pe tybiem ni mai mawredd y
Person oedd yn gosod gwerth ar beth nad oedd ynddo ei hun
}"/- Tawn n phechod. 1121
yn werthfawr : na, yr oedd y dioddefiadau yn gyfryw ag yr
oedd cyfiawnder yn eu gofyn ; er hyny, ni buasent yn iawn^
oni buasai am fawredd y Person. Yr oedd teilyngdod yn y
Person yn annibynol ar y gwaith ; ond nid teilyngdod y Person
ynddo ei hunan a foddlonodd gyfiawnder, ond perffeithrwydd
y gwaith. Nid gosod deddf o'r neilldu â'i fawredd a wnaeth,
ond ei chyflawni hi à'i waith ; ac yr oedd y gwaith hwnw yn
iawìi, neu yr oedd yn ofer ; oblegid os gallai yr Anfeidrol, yn
gyson â'i briodoliaethau, ollwng yn rhydd heb gael y ffyrling
eithaf, gallasai ollwng yn rhydd heb gael dim ; oblegid yr un
peth iddo Ef fuasai maddeu pum' can' ceiniog a deg a deugain.
Ond gan fod yn rhaid cael y ffyrling eit laf, '* anmhosibl oedd i
waed teirw a geifr dynu ymaith bechod," am hyny, " Wele fi
yn dyfod," medd y Person mawr ; ac fe ddioddefodd yn ein lle
ni. Nis gallasai ddioddef ymhob ystyr fel pechadur. \ mae
elfenau yn nioddefiadau tffern nad oeddent yn ei ddioddefiadau
Ef. Nis gallasai yr Hwn ni wnaeth bechod deimlo chwerwder
mynwes euog — "y pryf ni bydd marw." Ond yr oedd ei bur-
deb Ef yn peri fod elfenau yn ei ddioddefiadau Ef nad ydynt
yn nioddefiadau y colledigion. Gall yr aflan ddioddef am
bechod, ond nis gall ddioddef oddiwrth natur pechod : sanct-
eiddrwydd yn unig a all deimlo hwnw. Ond yr cedd Efe yn
dioddef canlyniadau pechod, ac yn dioddef oddiwrth natur
pechod. Ar unwaith, yn ol Dr. Owen, fe'i poenydiwyd, nid yn
unig yn nhân digofaint Duw, ond yn nhân ein pechodau ni ;
ond diffoddodd y ddau dàn : " Efe yw'r iawn." Ac yn awr
gellir edrych ar bechod ac ar iawn bob yn ail, a gweled yn y
naill yr hyn oedd ya eisieu ar gyfer y llall. Mewn pechod, ni
a welwn Dduw yn ei holi briodoliaethau yn cael ei ddirmygu ;
mewn iawn^ dyna Dduw yn ei holl briodoliaethau yn cael ei
anrhydeddu. Mewn pechod, dyna'r gyfraith yn myned yn
ddrylliau, fel y llechau yn nwylaw Moses gynt : mewn iawn^
dyna hi mewn arch yn ngysegr sancteiddiolaf Duw. £r ei bod
hi wedi ei dryllio gan bechod, yr oedd pob darn o honi yn
melldithio o'r llwch ; ond mewn iawn, dyna hi yn dragywydd-
ol dawel. Wrth edrych ar bechod, y mae yn fwy na phob peth
a welwn. — yn fwy na thrueni y ddaear, — yn fwy nag angau, —
yn fwy nag uffern ; ond pan yn edrych ar iawny mi a welaf
M4
1122 Yr lawii a phechod.
beth mwy na phechod I Fe welodd Luther, yn ei freuddwyd,
ei feiau fel mynyddoedd, yn fwy na phob peth ; ond fe welodd
ryw un yn cyffwrdd à hwynt à diferyn o waed nes y diflanodd
y mynyddoedd. Yr oedd y mynyddoedd yn fawr, ond yr oedd
y gwaed yn fwy na hwynl.
Rhan o'r hyn oedd yn eisieu arnom oedd ein gwaredu rhag
y gosb. Darllenasom am un yn myned i lŷs barn lle yr oedd
brawd iddo yn cael ei gondemnio, ac yn dal i fyny ddarn o
fraich gerbron y barnwr, gan ofyn am faddeuant i'w frawd ar
gyfrif ei fod ef wedi colli ei fraich yn ngwasanaeth ei wlad. Yr
oll a ofynai oedd iddo gael dianc rhag y gosb : nid oedd yn
meiddio gobeithio am wobr iddo Fe beidiodd yr Arglwydd â
chosbi Israel ar gais Moses ; ond er iddynt osgoi y gosb, coUas-
ant Ganaan. Ond y mae yn nhrefn yr efengyl beidio â cholli,
a chael bywyd tragywyddol. Y mae y pethau hyn i'w gwahan-
iaethu, er nad ydynt i'w gwahanu. Yn ngeiriau un o'r Purit-
aniaid, yr oedd y fath gyflawnder o deilyngdod yn yr iawn fel ag
y talodd y ffyrling eithaf i gyfiawnder, ac wedi hyny fe brynodd
dri byd ar unwaith, sef y bydisod, gweledig hwn ; y byd canol,
sef byd gras ; a'r byd uchod, sef byd y gogoniant : y byd isod i
fod yn weithdŷ ; y byd canol, sef byd gras, i gael defnyddiau i
gario y gwaith ymlaen ; a'r byd uchaf, sef byd y gogoniant, i
fod yn gartref i'r teulu byth. Dyna holl waith pechod wedi ei
ddatod — yr oll a wnaeth wedi ei ddadwneyd — tô wedi ei roddi
ar ddistry w, a drws wedi ei agoryd eto yn y nefoedd — y gwg ar
wyneb y Barnwr wedi ei gyfnewid am wên, — am wên ar wyneb
Tad. Holl berthynasau dyn â phersonau ac â phethau y tuallan
iddo ei hun wedi eu hunioni, a holl addurniadau ei natur ef ei
hun wedi ei hadferu ; ac y mae yr holl bethau hyn yn deilliaw
o iawìi. lawn a gyflawnodd bob peth ymhob byd : a gyflawn-
odd y ddeddf yn y nefoedd, ac yn y fynwes ar y ddaear ; a
gyflawnodd y cysegr sancteiddiolaf â haeddiant, a mynwesau y
bobl yn y cyntedd â thân y nefoedd : am hyny, " o phecha
neb, y mae i ni Eiriolwr ; ac Efe yw'r Iawn."
Nis gall fod ar ddyn eisieu clywed dim mwy na hyn, oblegid
y mae hynyn llon'd grt-agle ei golledigaeth : y mae yn cynwys
ei holl iachawdwriaeth a'i holl ddymuniad — digon i lenwi
trueni ei gyflwr, a digon i lenwi dymuniadau ei galon. Ond
Fr Tawn a phechod. \\2'\
wedi clywed pethau inor fawr, y cwestiwn sydd yn ymorodi yn
y fynwes ydyw, " Pa fodd y gwybyddaf fi hyn?" Y mae y
prawf o wirionedd y peth yn y testyn : " Efj y w yr lawn."
Nid oes yma na mesur nac esboniad ar yr lawn ond hyn, " Efe
yw'r lawn." Ni wyddom ni ddim beth ydoedd ccsb pechod :
y mae pob peth y tuallan i ni, lynghyd àg awgry.niadau o'n
mewn yn dangos fod ei ddrwg yn annhraethadwy fawr ; ond gan
mai " Efe yw'r lawn," nid oes le i ameu na ddioddefodd eithaf
y gosb. Pa faint o deilyngdod oedd yn eisie'j i godi abwydyn
i y myl gorsedd Duw ? pwy a fedr ddywedyd 1 ond gan mai " Efe
yw'r lawn," nid ydym yn ameu nad 065 ynddo ddigon i hyny.
Pe dywedasid ei fod wedi gwneyd iawn^ buasai hyny yn gryf ;
ond dyma beth annhraetliadwy gryfach — " Efk yw'r iawn :"
dyna fe yn myned i anfeidroldeb, dros derfynau rhif, a phwys,
a mesur. Ni wnaeth Efe ddim nad oedd Efe ei Hun yn fwy
nag ef ond lAWN. Fe wnaeth fydoedd aneirif, ond y mae Efe
yn fwy na hwynt oll. Nis gallwn ni fesur ei greadigaeth, ond
y mae hi yn fesuradwy am fod terfynau iddi. Ond y maeEfe ei
Hun yn anfesuradwy. Fe wnaeth greaduriaid mawrion, cedyrn
o nerth ; ond y mae Efe ei Hun yn anfeidrol fwy na hwynt.
Fe greodd nefoedd uchel, ond y mae Efe ei Hun yn anfeidrol
uwch na hwynt : fe greodd uíTern ddofn, ond y mae Efe ei Hun
yn anfeidrol ddyfnach na hi : ond fe wnaeth iawn, ac nid yw
Efe ei Hun ddim yn fwy na hwnw. " Efe yw'r iawn."'
L)au air wrth derfynu : —
1. Wrth y rhai sydd heb ddychrynu yn wyneb pechod. Heb
ei weled yn ngoleuni iawn yr ydych. Y mae golwg digon
erchyll i'w chael arno wrth edrych ar yr hyn a wnaeth mewn
lleoedd eraiU. Efe a roidodd fôd i angau, ac a gloddiodd y
bídd; efe yd/w tad o:heieidiau y diîeir a gruilfaniu
Geheana ; ond rhanau o'i ffyrdi yn unig ydyw hyny. I'w
weled fel y raae, rhaid eirych arno yn ngoleuni lawn. Ymi
ni a welwn fod ei ystaen ef mor ddwfn, fel y bu raid caìl dwyfol
waedi'wgoli ; foiei aerth i d lin/strio mor gr/f, fel agybu raid
ciel braich Hollalluog i'w dre^hu. Ffyliaid yn unig a wnant
gellwair à ph3th fel hyi. Nid rhyfeli fod ut oadl weli ei
welel yn ngoleuai iawn ya ysTrifenu at y bobl fel ni p'iechent.
2. Giir a»: y rhai syii yi dijiloai y^ wyaeb pechod. Heb
11^4 K;' lawn a phechod.
weled iarcn yr ydych. Yr oedd y llu o Syriaid yn ofnadwy i
was y prophwyd : dywedai yn ei ddychryn, " Aha, fy meistr,
pa fodd y gwnawn ?" Ond nid oeddent felly i'r prophwyd, am
ei fod ef yn gweled meirch a cherbydau tanllyd y nefoedd yno.
Y mae pawb a welodd bechod yn rhwym o ddywedyd gydâ
gwas y prophwyd, " Aha ! pa fodd y gwnawn ni ?" Ond pan
weloch chwi iawn, ni [ddigalonwch chwi ddim er y llu. Nid
oes dim mwy na phechod yn uffern ! laith y trigolion yno yn
eu dychryn ydyw, "Aha! pa fodd y gwnawn ?" Ond y mae
yma beth mwy nag ef ar'y ddaear, sef iawn. Edrychwch yma
i gael gweled eich beiau fel mynyddoedd, a'ch anwireddau fel y
bryniau oesol. Edrychwch yma i gael gweled y mynyddoedd
yn cilio, a'r bryniau yn symud, trwy rinwedd trugaredd mewn
lAWN.
[Adysgrifenwyd. lonawr 3, 1863. Ysgrifenwyd y waith gyntaf, Medi
16. 1856.]
PREGETH LXIX.
Y LLWYNOGOD BYCHAIN.
Caniad Solomon ii. 15:— "DeliwcL i ni y llwynogod, y llwynogod
bychaÌD. y rhai a ddifwynant y gwinllanoedd : canys y mae i'n gwin-
Uanoedd egin grawnwin."
RFER Duw er pan ddechreuodd lefaru wrth ddyn
faa.^ ydyw defnyddio pethau gweledig i ddangos trwy-
áhJàjj ddynt bethau ysbrydol. Nid oes ond ychydig fedd-
yliau yn medru cymeryd gafael mewn gwirionedd noeth : naill
ai fe fydd gwendid y deall yn rhwystr i'w amgyíTred, neu ynte
farweidd-dra naturiol y meddwl yn atal iddo gael y sylw
angenrheidiol i hyny. Am hyny, y mae yn rhaid deffro y sylw
trwy rywbeth gweledig, a chynorthwyo y deaU i anigyffred â
chyffelybiaethau Os fel hyn y mae gyda gwirioneddau natur-
iol, pa faint mwy y mae felly gyda gwirioneddau ysbrydol ?
Oherwydd hyn, ni a'u cawn yn cael eu cymell i'n sylw yn y
Beibl gan y wisg fydd am danynt, ac yn apeHo at ein deall trwy
ddywedyd eu bod yn debyg i rywbeth adnabyddus i ni. Gwisg-
oedd gwirionedd oedd seremoniau cyfraith Moses — dillad gwir-
ionedd oedd cyffelybiaethau y prophwydi. Yr oedd gwisgoedd
yr offeiriad luddewig yn anhebgorol angenrheidiol tuag at i'r
bobl deimlo urddasolrwydd ei swydd. Yr oedd llygad meddwl
luddew yn cael cymorth i ganfod prophwyd trwy i lygad y
corff weled dillad y prophwyd. Trwy y corff naturiol yr ydym
yn medru dal cymdeithas â'r ysbryd sydd mewn dyn ; felly,
trwy y wisg — trwy y gyffelybiaeth — y gall y lliaws ddal cym-
deithas â'r gwirionedd. U. i
Dylem goíìo y pethau hyn yn arbenig wrth d<larllen'llyfr
Caniad Solomon ; oblegid gwisgoedd ydyw yr holl lyfr hwn am
1 1 30 Y lhvynof^ijd bychain.
wirioneddau mawrion a gogoneddus, y rhai a ddatguddir yn yr
efengyl, nid heb wisgoedd, ond mewn diUad llai addurniadol.
Y mae rhai, oherwydd y gwisgoedd, yn gwadu ysbrydoliaeth y
llyfr hwn. Mynant i ni gredu fod y darluniadau a'r cyffelyb-
iaethau yn rhy gnawdol ac isel i ddangos trwyddynt wirionedd-
au ysbrydol. Ond, heb son am y profion diymwad sydd genym
o ddwyfol ysbrydoliaeth y llyfr mewn lleoedd eraill o'r Beibl,
nid all fod dim grym yn yr wrthddadl hon, oblegid i'r pur pob
peth sydd bur. Y mae y cysylltiadau perthynasol wedi eu
hordeiniogan Dduw cyn i bechodddyfod i mewn i'r byd ; ac er
fod pechod yn troi y rhai liyn, fel pob peth arall, yn ffynhonell
0 lygredigaeth mawr yn fynych, eto nid ydynt felly yn eu
natur, eithryn sanctaidd ; ac i'r pury maent eto yn bur. Felly,
fe wetodd Ysbryd Duw yn dda eu defnyddio i ddangos trwy-
ddynt berthynas Crist â'i eglwys : ei barn hi am dano Ef, ei
Hanwylyd, ynghyd â'i theimlad tuag ato, a'i gariad yntau tuag
ati hi, ynghyd â'i ofal cyson drosti.
Y mae y beirniaid diweddaraf, sydd yn edrych ar y Uyfr fel
cân cariad naturiol, ac felly heb fod ynddo unrhyw ystyr gyf-
riniol, yn methu cydsynio â'u gilydd am ystyi cymwys y llyfr,
yr hyn sydd o leiaf yn awgrymiad eu bod yn cyfeiUiorni ;
oblegid nid oes dim yn gyson âg ef ei hun ond gwirionedd. Pe
na byddai genym ddim ond hyny, byddai bron yn ddigon dros
gymeriad y Ilyfr hwn, sef y ífaith fod yr Eglwys luddewig, a'r
Eglwys Gristionogol, wedi arfer edrych ar y Ilyfr trwy yr hoU
oesoedd fel yn arddangos Crist a'i eglwys. Ac ni chawn yn
hanes yr eglwys y byddai amheuaeth yn dyfod i mewn ar y
pwnc ond pan y byddai crefydd yn isel — ysbrydolrwydd creíydd
wedi ei golli — y pryd hyny codai rhywrai i wadu ystyr ddofn
ac ysbrydol y Ilyfr hwn.
Ond heb aros dim* yn hvvy gydà'r Ilyfr, ni a geisiwn gael
allan rai o'r gwirioneddau sydd o fewn i wHsgoedd cymhariaeth-
01 adnod y testyn. Yn y benod hon, y mae Crist a'i eglwys yn
cyfarch eu gilydd amryw weithiau. Yn nechreu y benod, y
mae Crist yn darhinio ei eglwys ; ac y mae hithau, wedi iddo
Ef fyned o'r neilldu i orphwys, yn rhoddi darluniad nianwl o
hono ef i'w chyfeillesau. Ymhen ychydig y mae yn clywed ei
lais yn ymddiddan â'i gymdeithion ; ac y mae yn dyfod o dan
V llwynogod bychain. 1 1 27
ei fFenestr hi i'w gwahodd hi i ddyfod allan g^'dâ hwynt. Ac
wedi dwyn amry'w gymhelliadau i hyny, adn. Ti— 13, ymae
yn adn. 14 yn ei hail wahodd — yn dymuno cael gweled ei
hwyneb a chlywed ei llais ; ac yn y testyn y mae yn gorchymyn
i'w gyfeillion, mae yn debyg, ddal y Uwynogod bychain oedd
yn difwyno y gwinllanoedd yr oedd ef a'i anwylyd yn ym-
hyfrydu cymaint ynddynt.
Yr addysg neu y gwirionedd y dyinunwn gael eich sylw arne
oddiwrth y testyn ydyw — Ydylem wylio rhag i bethau bychain
drwg ddinystrio pethau bychain da — daioni bychan yn cael ei
ddifwyno gan ddrygau bychain — llwynogod bychain, egin
grawnwin, — pethau bychain o bob tu. Egitî grawnwin, nid y
sypiau mawrion addfed. Llwynogod bychain^ nid yr hen gad-
naw, wedi cyfrwyso mewn drygioni trwy hir broiìad ; buasai
pawb yn teimlo fod perygl ar y winllan os deuai hwnw i mewn
iddi ; ond am y llwynogod bychain, prin yr oeddynt yn tynu
sylw. Pe buasai y rhai bychain hyn yn difwyno y sypiau
grawnwin addfed oeddynt yn plygu y canghenau hyd lawr,
buasid yn canfod ar unwaith y drwg oeddynt yn ei wneuthur ;
ond yr oedd perygl iddynt gael llonydd i ddifa yr egin heb
dynu sylw neb ; ond trwy ddifa yr egin, yr oeddynt mewn
gwinonedd yn difa y sypiau grawnwin hefyd — cynyrch yr egin
oedd y rhai hyny; am hyny, " deliwch i ni y llwynogod, y
llwynogod bychain, y rhai a ddifwynanî; y gwinllanoedd," &c.
I. Ni a edrychwn ar ychydig o'r egin grawnwin — y daioni
bychan.
II. Ni a nodwn rai o'r llwynogod bychain sydd mewn perygl
o'u difa hwynt.
1. Yr egin grawnwin, sef y daioni bychan, yr oedd y priodfab
mor ofalus rhag i ddimeu niweidio hwynt, sef y pethau bychain
sydd neu a fu yn meddiant neu yn perthyr» i bobdyn yn ngwlad
efengyl — pethau y gellir yn briodol eu hystyiied ynhadau cyn-
hauaf — yn rhagarweinyddion bywyd tragywyddol — neu, yn ol
y testyn, yn egin grawnwin.
Ni a enwn dri o honynt, — 1. Y duedd sydd yn mynwes dyn
i ddyfod i'r cysegr.
2. Tuedd i ddarllen Gair Duw.
3. Y cymhelliadau a deimlir gan ddyn i roddi ei hun i fyny
i'r Arglwydd.
1 1 2X I' Ihwnngod hychnin.
Y mae pob uno'r pethau yna yn egin grawnwin — yn arwydd-
ion ffrwyth, a'r íTrwyth hwnw yn íywyd tragywyddol. Yr ydym
yn sylwi ar arwyddion mewn cyàylltiad à phob peth ond peth-
au ysbrydol. Ni a edrychwn am arwyddion gwlaw cyn i'r
gwlaw ddyfod ; am arwyddion cynhauaf cyn i'r cynhauaf ddyfod_
Y mae blodau ar y pren yn arwyddion o afalau euraidd. Gwir
y gall yr arwyddion ein siorni. Nid yn ddieithriad pan y mae
yr awyr yn drymaidd, a'r niwl yn hongian o gwmpas y myn-
yddoedd, y daw y gwlaw. Y mae gwynt y gogledd weithiau
yn gyru y gwlaw a'r aiwyddion hefyd ymaith. Gall noson
rewllyd niweidio blodau ) pren afalau i'r fath raddau fel mai
ofer a fydd disgwyl íTrwyth, er i'w arwydd ymddangos. Fe all
yr arwyddion, yn y wedd hyn, ein sioTii weithiau; ond nid
ydym yn meiddio disgwyl ÍTrwyth un amser os na welwn ar-
wyddion o'i flaeii. Y mae arwyddion bywyd tragywyddol yn
bod, ac ni a ddylem gyda phryder edrych am danynt ; a phan
eu gwelir, gwneyd ein goreu rhag i ddim beri iddynt giHo.
I. Un o honynt ydyw y duedd i ddyfod i'r cysegr i'r gynull-
eidfa gyhoeddus. Y mae y cysegr yn im o rodfeydd penodol y
brenin — v lle y mae yn gorchymyn y fendith, sef bywyd tra-
gwyddoL Er fod yr amser wedi dyfod pryd nad addolant y
Tad nac yn y mynydd hwn nac yn Jerusalem, cofiwn mai y lle
sydd wedi myned yn ddibwys, nid y gwaith. Pan yn y cysegr,
yr ydym yn mangre y fendith — yn awyrgylch bywyd tragyw-
yddol — yn mhorth y nefoedd, — yii y fan y mae Duw fel Duw
iachawdwriaeth wedi ymrwymo i fod yn bresenol — " Mi a gyf-
arfyddaf â thi yno." Nid y w y fendith yn dyfod o angenrheid-
rwydd yn y cysegr. Y inae y fath beth ag i Dduw bellhau
oddiwrth ei gyeegr ; a phan y bydd ef yn ymadael, mae y
fendith yn ymadael hefyd ; ond pan y daw hi, i'r cysegr y mae
yn dyfod. Yr oedd Anna a Simeon yn disgwyl am Fessiah :
yn ydeml yr oeddynt yn disgwyl ei gael : ac yn ol y disgwyHad
y bu. Yr oedd y claf ar lán y Hyn yn disgwyl am iechyd ; ac
er i'r disgwyliad am amser maith fod yn ofer, eto daeth yn y
diwedd, oherwydd yr oedd yn disgwyl yn y fan lle yr arferai
ddyfod. Dawn Duw ydyw bywyd tragywyddol ; ond olrhein-
iwch chwi le ac amser cyfraniad y ddawn, chwi a gewch mai y
cysegr a'r Sabbath a fyddant. Y gynuUeidfa gyhoeddus, dyna
Y llwynogod bychain. \ 1 29
y lle ; dydd yr Arglwydd, dyna yr amser. Arfer yr Athraw
mawr eto ydyw tosturio wrth y gynuUeidfa, a thrwy ei weision
dori iddynt fara y bywyd. Y mae ganddo gymaint o barch i'w
dŷ a'i ddydd, fel y mae yn arfer anrhydeddu pawb â rhoddion y
tŷ a'r dydd a fyddant yn parhau i anrhydeddu y cysegr. Panyr
oeddynt yn gytun yn yr un lle y disgynodd yr Ysbryd gyntaf
o dan yr oruchwyhaeth hon, sef ar y gynulleidfa. Onid ar y
gynuUeidfa drachefn y disgynodd gyntaf ymysg y Cenhedloedd,
sef yn nhŷ Cornelius ? Ac o hyny hyd yn awr, y cysegr ydyw
íTrydle y fendith. Gan hyny, y mae tuedd i ddyíod i'r cysegr
yn werth ei meithrin : oni elUr dywedyd ei bod yn egin grawn-
win, yn arwydd bywyd tragywyddol 'i Nid wyf yn dywedyd
nad all yr egin gael eu difwyno. ond egin ydynt er hyny. A
welsoch chwi ddyn yn hoffi myned i'r dafarn, na choUai efe yr
un cyfle i fyned yno : os pery ef i roddi meithriniad i'r duedd
yna am flynyddoedd, ond odid nad dadblygu ei hun yn feddw-
dod a wna bob yn ronyn ; mae'r hoffder yn egin y meddwdod.
Felly y mae y duedd i ddyfod i'r cysegr — y cariad aty cysegr —
yn eginyn bywyd tragywyddol : os caiíî honyna feithriniad, ond
odid nad dadblygu ei hun yn fywyd a wna hi bob yn ronyn.
2. Peth arall y gellir ei ystyried yn egin grawnwin ydyw
tuedd i ddarllen Gair Duw. " ChwiHwch yr Ysgrythyrau,"
medd lesu Grist, " oblegid ynddynt hwy 3'r ydych chwi yn
meddwl cael bywyd tragywyddol ;" ac ni awgrymodd Efe yr un
gair eu bod yn camsynied yn y meddwl. Y mae bywyd tra-
gywyddol ynddynt fel perl wedi ei guddio ; ond nid wedi ei
guddio i'r fath raddau nad all pob chwihwr gael gafael arno.
Ar ryw olwg, yr oedd yn anhawdd adwaen Mab Duw yn lesu o
Nazareth, am fod yr holl amgylchiadau yn anfanteisiol i hyny
Oblegid hyuj Mab y Saer, Mab Joseph, a welai y Uiaws ynddo.
Ond yr oedd ei ganlynwyr cyson, y rhai oeddent yn cymdeithasu
llawer àg Ef, yn gallu dywedyd ymhen ychydig, '' Ni a welsom
ei ogoniant Ef," — " Ti yw y Crist, Mab y Duw byw." Yr oedd
efe yno, ond parhau i chwiHo am dano. Yn gyffelyb y mae
bywyd tragy wyddol. Y mae wedi ei guddio, ond wedi ei guddio
fel trysor mewn maes y mae ; ac y mae y dyn sydd yn prynu y
maes yn prynu y trysor hefyd — yr hwn sydd yn cymeryd
meddiant llawn o'r llyfr, yn cymeryd meddiant ar y trysor, sef
lîjo Y llwynogod bychatn.
y bywyd trag}'^\vyddol sydd ynddo. A welsoch chwi ryw rai
yn parhau i'w ddarllen oddiar raddau o hoíTder yn y gwaith.
heb gael bywyd ynddo ? Naddo erioed. Ni a welsom rai yn
ei ddarllen o orfod ; ni a welsom rai yn ei ddarllen i gael he'p
trwy hyny i ddangos eu medr i ddadleu ; ni a welsom rai yn ei
ddarllen i ŵyrdroi ei eiriau, heb gael bywyd ynddo. Ond am
y dyn sydd yn ei ddarllen yn syml fel Gair Duw, fe dery ar y
trysor ryw ddiwrnod. Cael bywyd tragywyddol f\'dd y diwedd.
Y mae y duedd yn egin grawnwin.
Y mae y Beibl yn hóni fod pob peth bywyd tragywyddol
ynddo ; ac y mae profiad y rhai sydd wedi cael meddiant ar y
bywyd yn dwyn l/stiolaeth i wirionedd yr hóniad. Y mae
cychwyniad, cynydd, nerth, a chysur y byw^'d yn dyfod o'r
llyfr. " Wedi eich ail eni — trwy air Duw;"' dyna y bywyd yn
cychwyn trwy y Gair. " Chwenychwch ddidwyll laeth y Gair,
fel y cynyddoch trwyddo ef ;" dyna'r bywyd yn cynyddu trwy
y Gair. '' A dy Air y'm bywheaist ;" dyna efe yn cael ei ad-
newyddu trwy y Gair. "Yr oedd dy Air i mi yn llawenydd
ac yn hyfrydwch fy nghalon ;" — " Mor felus yw dy eiriau i'm
genau, melusach na mêl i'm safn," dyna'r bywyd yn cael ei
gysur o'r Gair. A'r Gair hefyd ydyw moddion amddiffyn y
bywyd. Gair Duw ydyw helm yr iachawdwriaeth, a chleddyf
yr Ysbryd sydd yn gwneyd hyny.
Y mae y diafol yn deall 3'n dda y berthynas sydd rhwng y
Gair a bywyd tragywyddol, am hyny y mae yn ei gadw hyd v
gall oddiwrth ddynion, fel y gwneir gan yr Eglwys Babaidd,
am y gŵyr fod ei ddarllen yn beth peryglus i'w deyrnas. Y
mae y dyn sydd yn gwneyd hyny yn ddifrifol yn gyffelyb i un
a fyddai yn troi ac yn trosi blwch o enaint gwerthfawr : wrth ei
droi fe ally blwch dori — yr adnod agor ; ac unwaith yr egyr, ac
i'r perarogl dyfod allan, y mae hwnw yn arogl bywvd tragyw-
yddol bob am-er. Y mae y dyn sydd yn darllen llawer ar y
llyfr yn gyffelyb i'r pryf acw a welwch chwi yn chwareu o
gwmpay y ganwyll : cael ei ddal fydd y diwedd. V mae y
dyn sydd yn ei ddarllen fel un yn ycysegr. Y mae yn wir mai
yn y sancteiddiolaf y gwelir rhyfeddodau Duw ; yno y preswylia
y Shecinah ; yno y mae y drugareddfa ; yno y mae y gwaed »
yno y mae y bywyd ; ond Uen deneu y llythyren yn unig sydd
Y llwy nogod by chain . 1 1 3 1
rhwng y cysegr a'r sancteiddiolaf ; ac y mae dylanwad y gair
'' Go'-phenwyd " yn rhwygo hwnw eto yn amlach nag unwaith
yn y flwyddyn, nes y mae y sancteiddiolaf a"i fywyd yn dyfod i'r
golwg. We'e yr Eunych yn darllen : y mae yn y cysegr ; ac
yn ddisymwth fe rwygodd y llen i'w ryfeddodau ddyfod i'r
golwg Y mae y duedd i ddarllen Gair Duw yn egin grawnwin_
3. Peth arall sydd yn egin grawnwin ydyw y cymhelliadau
sydd ar feddwl dyn i roddi ei hun i fyny i'r Arglwydd. Gellir
dywedyd am y rhai hyn, fel y dywedodd gwraig Manaoh wrlh
ei phriod, " Pe mynasai yr Arglwydd ein lladd ni, ni ddangos-
asai i ni yr hoU bethau hyn." Y mae y fFaith o fod cymhell-
iadau o'r fath yn y fynwes yn profi fod bywyd tragywyddol o
fewn cyraedd i ti. Y maent yn egin grawnwin, oblegid cyuyrch
Ysbryd Duw ydynt oU. Er fod dyn wedi gadael Duw, nid yw
Duw ddim wedi ei adael ef ; ond trwy gyfryngdod yr Arglwydd
Icsu, y mae yr Ysbryd wedi ei roddi i ymryson â'i feddwl, ac i'w
gyraell i ddyfod yn ol i heddwch Duw ac i'w gymdeithas. Ni
fu ein byd ni heb yr Ysbryd ar ol addewid Eden. Yr ydoedd
yn ymryson cyn y diluw â'r genhedlaeth annuwiol hono ; ac er
iddynt hwy Iwyddo i'w ddiífodd — i'w gythruddo fel y bu raid
iddo eu gadael yn llwyr, ac yna nid oeddynt mwyach ond swp
o gnawd — llygredigaeth digymysg — yr hwn yr oedd yn rhaid, er
mwyn iechyd y Ilywodraeth ddwyfol, ei dafiu i'r domen o'r
golwg; — ond fe'i rhoddwyd drachefn : yn enwedig o dan yr
efengyl, y mae wedi ei roddi mor helaeth fel y gelwir yr oruch-
wyliaeth yn oruchwyliaeth yr Ysbryd. Felly, y mae yn awr yn
llefaru mewn llawer dull, ac mewn llawer modd ; ond, ysywaeth,
ni ddeall dyn yn fynych, mwy nag yr oedd Samuel yn Siloh
gynt yn deall mai yr Arglwydd oedd yn galw arno. Yr oedd y
Uanc yn priodoli y lìais i EIi, am nad oedd yn adwaen yr
Arglwydd : ond yr oedd Eii yn dea1I pethau yn well na'r Ilanc ;
am hyny fe'i cynghorodd yn ddoeth beth i'w wneuthur os
gelwid drachefn arno. Nid ydoedd ond un gair bychan yn cael
ei ddywedyd ; beth er hyny, yr oedd y gair bychan hwn yn
cychwyn gwneyd y llanc yn brophwyd. Pe buasai y Ilanc heb
wrandaw ar hwnyna, buasai Israel heb un o'i phrophwydi
enwocaf. Goddefwch i mi wneyd i chwi yr hyn a wnaeth Eli i
Samuel, sef eich sicrhau mai llais Duw ydyw y tipyn aflon-
1 1 34 í^ Ihwnogod bvchain.
un math o dir, a hwnw yn un gobeithiol iawn. Am fin y
flbrdd, nid cedd Ue i ddisgwyl i hwnw dylu ; ac am yr had a
ddisgynodd ar y graig, nid oedd modd i hwnw beidio gwywo
mewn daear deneu o'r fath. Ond yr oedd yr olwg ar hwn yn
dra gobeithiol; er hyny fe'i tagwyd gan ddrain gofalon bydol
a thwyll cyfoeth. Ni raid i ni fyned at y cynddiluwiaid, neu
ddamhegion ein Harglwydd, i chwilioam esamplau o wirionedd
y sylw. Onid ydynt i'w cael ymhob ardal yn ein gwlad ì Onid
ydym yn adwaen dynion ag y mae ysbryd y byd wedi ymUd
o'u mynwesau bob tuedd at gysegr Duw ì Pe gwlawiai fen-
dithion, nid ydynt hwy yno i'w derbyn. Y mae yr un ysbryd
yn eraill wedi peri iddynt golli bob tuedd at y cysegr fel cysegr
Duw. Os na bydd gwychder a mawredd y byd hwn ynglŷn àg
ef, nid ânt iddo : byddai yn wyrth gweled iTrwyth ar y rhai
yna ; y mae yr egin wedi eu difa.
Drachefn, y mae y duedd i orfeirniadu sydd mewn eraill yn
diía o ysbryd y dyn bob tuedd at y cysegr. Y rheol heb
eithriad ydyw, fod y barnydd a'r ymholydd yn myned i deimlo
ei hun ynrhyddach bob yn ronyni ddyfod i'r cysegr. Y maent
trwy hyn ar weithred yn barnu eu hunain yn annheilwng o'r
bywyd tragywyddol. Y mae y llwynogod yn difa'r egin.
2. Edrychwch ar y duedd i ddarllen Gair Duw, yr hon, fel y
gwelsom, sydd yn egin grawnwin ; y mae hon hefyd yn cael ei
difa gan y llwynogod bychain. Un peth yn unig a enwaf, sef
Diíyrwch. Y mae difyrwch yn angenrheidiol i ddyn, ac felly
yn gyfreithlawn iddo ; ond y mae math o ddifyrwch sydd mewn
myrdd o amgylchiadau yn gwneyd gwaith llwynogod bychain
y testyn, sef y difyrwch a geir trwy ddarllen, ynenwedig darllen
flfugchwedlau. Nid yw ffugchwedlau o angenrheidrwydd yn
niweidiol ; ond y mae hyn yn wirionedd am y fafch oreu o
honynt, mai effaith darllen llawer arnynt ydyw dileu tuedd o'r
meddwl at ddarllen Gair Duw. Y mae y meddwl yn myned
yn gyfryw fel na bydd ganddo flas at wirioneddau plaen y Ilyfr
dwyfol. Y mae Mr. Robert Hall yn dywedyd i ni, iddo ef, trwy
ddarllen ff"u5-chwedlau Miss Edgeworth, er nad oedd dim
uniongyrchol anghrefyddol ynddynt, eto gan eu bod yn cau
allan grefydd efengylaidd yn gwbl yn ff"urfiad y cymcriadau
goreu a ddarlunir ganddi, fyned \ deimlo mor sychlyd a di-
Y llwynogod bychain. 1^35
grefydd yn ei feddwl ei hunan, fel y bu gorfod iddo eu troi
heibio yn hoUol. Nid ydyw y werin, yn ein mysg ni y Cymry,
ddim mor ymroddedig i'r math hwn o ddiíyrwch ag ydyw y
Saeson ; eto, y mae ymhlith dosbarth IHosog o honom ninau
beth sydd yn difa yr awydd at Air Duw mor effeithiol a'r ÍTug-
chwedlau, sef y darllen awchus sydd ar y sothach iselwael o
ddifr'íaeth bersonol, a phethau cyfifelyb, a gyhoeddir mewn rhai
o'n newyddiaduron. Y mae y pethau hyn yn dita yr awydd at
y Llyfr Dwyfol. Llwynogod bychain ydynt sydd yn difa'r egin.
3. Edrychwch, yn olaf, ar y cymhelHon sydd yn y meddwl i
ymroddi i grefydd ; y mae y Hwynogod bychain yn difa y rhai
yna hefyd, sef pe.hodau bychain. Pethau cyfreithlawn wedi
myned yn ddrygau trwy gael eu camarfer oeddent yn difa yn y
siamplau eraiH ; ond ynhon pechodau bychainsydd yngwneyd;
ac y mae perygl iddynt fyned yn ddisylw am eu bod yn fychain,
fel yr oedd perygl i bethau eraiH fyned yn ddisylw am eu bod
yn gyfreithlawn. Ni oddef amser i mi eu henwi, oblegid y
maent yn Heng. Beth bynag sydd yn Heihau tynerwch y
meddwì, yn gwanhau cymheUion y gydwybod i fywyd crefydd-
ol, neu yn peri i chwi oedi ufuddhau iddynt, Hwynogod ydynt
sydd yn difa yr egin grawn. FeaHai mai gair garw fydd y
peth, neu roddi ífordd i nwydau drwg yn awr ac eilwaith, neu
ymoHwng i ddy wedyd dy eiriau dy hun ar ddydd yr Arglwydd,
neu gais am fantais annheg ar dy gytnydog wrth drin y byd,
neu ddilyn rhy wbeth yr ydwyt yn ameu ei gyfreithlondeb. Dyma
y dosbarth : nid ydyw yr hyn a enwyd ond esamplau o hono.
Nid wyf yn enwi pechodau mawrion, megis meddwdod, anHad-
rwydd, ac anniweirdebcyhoeddus. Tebycach ydyw y rhai hyn
i'r baedd, ac i'r bwystfil nag i'r Hwynogod. Nid yr egin y
maent hwy yn eu dinystrio, ond dryHiant y canghenau, a
gwnant y pren fel noeth-bren y diíTaethwch, heb yr arwydd
leiaf o flfrwyth. Y mae rhai fel hyn yn ein gwlad, a'r baedd a'r
bwystfil wedi eu hanrheithio ; ond nid am y dosbarth yna yr
wyí yn son yn awr ; ond am y rhai y mae pechodau bychain
yn eu dinystrio. Ac O ! mor Hiosog ydyw y dosbarth hwn !
Gymaint a adwaenom ni o'r rhai a fuant â'r olwg fwyaf gobeith-
iol arnynt ! Nid oedd eu He byth yn wàg yn y cysegr, tynerwch
gwastadol yn eu raynwes, deigryn yn fynych yn gloewi eu
1 1 36 Y llwyno^ od bychain .
llygad ; ond erbyn heddyw, trwy gellwair â phechodau bychain
y mae yr holl bethau yna wedi cilio — y llwynogod wedi difa yr
egin. Pa beth a wneir ? Ai cymeryd y fwyall i dori y prenau
diffrwyth yna i lawr ? Na, nid felly. Ni a gloddiwn dipyn
o'u cwmpas. ni a fwriwn dail at eu gwraidd, ac ni a awn at ein
Duw i ofyn iddo wneyd gwanwyn eto ; oblegid y mae genym
ni Dduw a fedr wneyd hyny. Pe gorchymynai Efe i'r deheu_
wynt chwythu, fe fwriai y noeth-brenau ddail eto. Dymunwch
wanwyn eto.
A chwithiau sydd a'r egin heb eu difaoll, deliwch yllwynog-
od. Pwy, meddis, sydd i'w dal hwynt ? Ni waeth pwy —
rhywun a all. Rieni, deliwch hwynt. Athrawon yr Ysgol
Sabbothol, dehwch hwynt. Weinidogion y Gair, deliwch
hwynt. Tithau dy hun, fy nghyfaill, yr wyt ti mewn gwell
mantais i hyny na neb arall ; ac os wedi ymdrechu, y teimli dy
hun yn methu eu dal, dos at y Garddwr (oblegid iawn y galw-
odd Mair ef felly) am help ; a thi a'i cei yn y fan. A dim ond
eu dal hwynt, bydd golwg brydferth ymhen gronyn bach ar y
winllan — sypiau grawnwin mawrion addfed, a bendith bywyd
tragy wyddol ymhob sypyn !
[Medi 29, 1866.]
DIWEDD CYFROL II.
PLEASE DO NOT REMOVE
CARDS OR SLIPS FROM THIS POCKET
UNIYERSITY OF TORONTO LIBRARY
<:?^:'-i^V
i^.im'm'aaŵ'ifiiii'miaRumw»^^