DATGANIAD CYFFREDINOL O HAWLIAU DYNOL
Rhagair
Gan mai cydnabod urddas cynhenid a hawliau cydradd a phriod holl aelodau'r
teulu dynol yw sylfaen rhyddid, cyfiawnder a heddwch yn y byd,
Gan i anwybyddu a dirmygu hawliau dynol arwain at weithredoedd barbaraidd a
dreisiodd gydwybod dynolryw, a bod dyfodiad byd lie y gall pob unigolyn fwynhau
rhyddid i siarad a chredu a rhyddid rhag ofn ac angau wedi ei gyhoeddi yn
ddyhead uchaf y bobl gyffredin,
Gan fod yn rhaid amddiffyn hawliau dynol a rheolaeth cyfraith, os nad yw pob
unigolyn dan orfod yn y pendraw i wrthryfela yn erbyn gormes a thrais,
Gan fod yn rhaid hyrwyddo cysylltiadau cyfeillgar rhwng Cenhedloedd,
Gan fod pobloedd y Cenhedloedd Unedig yn y Siarter wedi ail ddatgan ffydd
mewn hawliau sylfaenol yr unigolyn, mewn urddas a gwerth y person dynol ac
mewn hawliau cydradd
gwr a gwragedd, ac wedi penderfynu hyrwyddo cynnydd cymdeithasol a safonau
byw gwell mewn rhyddid helaethach,
Gan fod y Gwladwriaethau sy'n Aelodau wedi ymrwymo, mewn cydweithrediad
a'r Cenhedloedd Unedig, i sicrhau hyrwyddo parch cyffredinol i hawliau dynol a'r
rhyddfreintiau sylfaenol, a'u cadw,
Gan fod deall yr hawliau a'r rhyddfreintiau hyn gan bawb o'r pwys mwyaf i Iwyr
sylweddoli'r ymrwymiad hwn,
Felly, y mae'r
Cynulliad Cyffredinol
yn awr yn cyhoeddi'r
Datganiad Cyffredinol hwn o Hawliau Dynol
yn ddelfryd cyffredin i'r holl bobloedd a'r holl genhedloedd ymgyrraedd ato, fel y
bo i bob person ac i bob offeryn cymdeithasol, gan ddal y Datganiad hwn mewn
cof yn wastad, ymdrechu trwy ddysgu a hyfforddi i sicrhau parch i'r hawliau a'r
rhyddfreintiau hyn, a thrwy ffyrdd blaengar, cenedlaethol a chydgenedlaethol, i
sicrhau eu cydnabod a'u cadw yn gyffredinol ac yn effeithiol, ymysg pobloedd y
Gwladwriaethau sy'n Aelodau eu hunain yn ogystal ag ymysg pobloedd y
tiriogaethau sydd dan eu rheolaeth.
Erthygl 1
Genir pawb yn rhydd ac yn gydradd a'i gilydd mewn urddas a hawliau. Fe'u
cynysgaeddir a rheswm a chydwybod, a dylai pawb ymddwyn y naill at y Hall
mewn ysbryd cymodlon.
Erthygl 2
Y mae gan bawb hawl i'r holl hawliau a'r rhyddfreintiau a nodir yn y Datganiad
hwn, heb unrhyw wahaniaeth o gwbl, yn arbennig unrhyw wahaniaeth nil, lliw,
rhyw, iaith, crefydd, barn boliticaidd neu unrhyw farn arall, tarddiad cenedlaethol
neu gymdeithasol, eiddo, geni neu safle arall.
Ymhellach, ni ddylid gwahaniaethu ar sail safle politicaidd, gyfreithiol na
chydwladol unrhyw wlad neu diriogaeth y mae pawb yn perthyn iddi, p'un ai yw
honno'n annibynnol, dan nawdd, heb hunanlywodraeth, neu dan unrhyw
gyfyngiad arall ar ei sofraniaeth.
Erthygl 3
Y mae gan bawb hawl i fywyd, rhyddid a diogelwch.
Erthygl 4
Ni ddylid dal neb yn gaethwas nac mewn caethiwed; dylid gwahardd
caethwasiaeth a'rfasnach gaethweision ym mhob un o'u hagweddau.
Erthygl 5
Ni ddylid poenydio neb, na thrin na chosbi neb yn greulon, annynol na'n
ddiraddiol.
Erthygl 6
Y mae gan bawb hawl i gael cydnabyddiaeth ym mhobman fel person yng ngydd
y gyfraith.
Erthygl 7
Y mae pawb yn gydradd yng ngolwg y gyfraith gyda'r hawl yn ddiwahan i'r un
amddiffyniad gan y gyfraith. Y mae gan bawb hawl i'r un amddiffyniad yn erbyn
unrhyw wahaniaethu sy'n groes i'r datganiad hwn neu unrhyw anogaeth i
wahaniaethu.
Erthygl 8
Y mae gan bawb hawl i ymwared effeithiol gan y llysoedd cenedlaethol cymwys
rhag gweithredoedd sy'n troseddu'r hawliau sylfaenol a roddwyd iddynt gan y
cyfansoddiad neu gan y gyfraith.
Erthygl 9
Ni ddylai neb gael eu dwyn i ddalfa, na'u caethiwo na'u halltudio yn fympwyol.
Erthygl 10
Y mae gan bawb hawl, mewn cydraddoldeb llawn, i gael gwrandawiad teg a
chyhoeddus gan lys annibynnol a diduedd, wrth benderfynu eu hawliau a'u
rhwymedigaethau ac unrhyw gyhuddiad troseddol yn eu herbyn.
Erthygl 1 1
1 . Y mae gan bawb a gyhuddir o drosedd gosbadwy hawl i gael eu hystyried
yn ddieuog tan y profir hwynt yn euog yn 61 y gyfraith mewn prawf
cyhoeddus lie y byddant wedi cael pob gwarant angenrheidiol at eu
hamddiffyniad.
2. Ni ddylid dyfarnu neb yn euog o drosedd gosbadwy oherwydd unrhyw
weithred neu wall nad oedd yn drosedd, yn 61 cyfraith genedlaethol neu
ryngwladol, pan gyflawnwyd hi. Ni ddylid ychwaith osod cosb drymach na'r
un a oedd yn gymwys ar yr adeg y cyflawnwyd y drosedd gosbadwy.
Erthygl 12
Ni ddylid ymyrryd yn fympwyol a bywyd preifat neb, na'u teulu, na'u cartref, na'u
gohebiaeth, nac ymosod ar eu hanrhydedd na'u henw da. Y mae gan bawb hawl
i amddiffyniad gan y gyfraith rhag y fath ymyrraeth ac ymosod.
Erthygl 13
1 . Y mae gan bawb hawl i symud fel y mynnant ac i breswylio He y mynnant
o fewn terfynau'r Wladwriaeth.
2. Y mae gan bawb hawl i adael unrhyw wlad, gan gynnwys eu gwlad eu
hunain, a hawl i ddychwelyd iddi.
Erthygl 14
1 . Y mae gan bawb hawl i geisio ac i gael mewn gwledydd eraill noddfa rhag
erledigaeth.
2. Ni ellir hawlio hyn mewn achosion o erledigaeth sy'n gwir ddilyn troseddau
anwleidyddol neu weithredoedd croes i amcanion ac egwyddorion y
Cenhedloedd Unedig.
Erthygl 15
1 . Y mae gan bawb hawl i genedligrwydd.
2. Ni ddylid amddifadu neb yn fympwyol o'u cenedligrwydd na gwrthod iddynt
yr hawl i newid eu cenedligrwydd.
Erthygl 16
1 . Y mae gan bawb mewn oed, yn wryw a benyw, heb unrhyw gyfyngiadau o
ran nil, cenedligrwydd na chrefydd, hawl i briodi a sefydlu teulu. Y mae
ganddynt hefyd hawliau cyfartal yngln a phriodas, yn ystod priodas ac wrth
ei diddymu.
2. Ni ddylid priodi ond o Iwyr fodd y ddau sy'n golygu gwneud hynny.
3. Y teulu yw uned naturiol a sylfaenol cymdeithas a chanddo'r hawl i
amddiffyniad gan gymdeithas a'r Wladwriaeth.
Erthygl 17
1 . Y mae gan bawb hawl i feddu eiddo unigol yn ogystal a chydag eraill.
2. Ni ddylid amddifadu neb o'u heiddo yn fympwyol.
Erthygl 18
Y mae gan bawb hawl i ryddid meddwl, cydwybod a chrefydd; fe gynnwys hyn
ryddid iddynt newid eu crefydd neu eu cred, a rhyddid hefyd, naill ai ar eu pen eu
hunain neu gydag eraill, yn gyhoeddus neu'n breifat, i amlygu eu crefydd neu ei
gred trwy addysgu, arddel, addoli a chadw defodau.
Erthygl 19
Y mae gan bawb ryddid barn a mynegiant; fe gynnwys hyn yr hawl i ryddid barn,
heb ymyrraeth gan neb, a rhyddid i geisio, derbyn a chyfrannu gwybodaeth a
syniadau trwy unrhyw gyfryngau, heb ystyried ffiniau gwlad.
Erthygl 20
1 . Y mae gan bawb hawl i ryddid ymgynnull a chymdeithasu heddychlon.
2. Ni ellir gorfodi neb i berthyn i unrhyw gymdeithas.
Erthygl 21
1 . Y mae gan bawb hawl i gymryd rhan yn llywodraeth eu gwlad, yn
uniongyrchol neu drwy gynrychiolwyr wedi eu dewis yn agored.
2. Y mae gan bawb hawl gyfartal i wasanaeth cyhoeddus yn eu gwlad.
3. Ewyllys y bobl fydd sail awdurdod llywodraeth; mynegir yr ewyllys hon
drwy etholiadau dilys o bryd i'w gilydd, drwy bleidleisio cyffredinol a
chyfartal, a thrwy bleidlais ddirgel neu ddull pleidleisio rhydd tebyg.
Erthygl 22
Y mae gan bawb, fel aelod o gymdeithas, hawl i ddiogelwch cymdeithasol, i allu
mwynhau hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol sy'n anhepgorol i'w
hurddas ac i ddatblygiad rhydd eu personoliaeth, trwy ymdrech genedlaethol a
chydweithrediad rhyngwladol ac yn unol a threfniadaeth ac adnoddau pob
Gwladwriaeth.
Erthygl 23
1 . Y mae gan bawb hawl i waith, i ddewis eu gyrfa yn rhydd, i amodau gwaith
cyfiawn a boddhaol, ac i amddiffyniad rhag diweithdra.
2. Y mae gan bawb, yn ddiwahan, hawl i dal cyfartal am waith cyfartal.
3. Y mae gan bawb sy'n gweithio hawl i dal teg a boddhaol gan sicrhau
iddo'u hunain ac i'w teulu fodolaeth deilwng o urddas dynol, ac ychwanegu
at hynny, os bydd rhaid, drwy ffyrdd eraill o nawdd cymdeithasol.
4. Y mae gan bawb hawl i ffurfio undebau llafur ac i ymuno a hwy i amddiffyn
eu buddiannau.
Erthygl 24
Y mae gan bawb hawl i orffwys a hamdden gan gynnwys cyfyngiad rhesymol ar
oriau gwaith, ac i wyliau cyfnodol gyda thai.
Erthygl 25
1 . Y mae gan bawb hawl i safon byw digonol i'w hiechyd a'u ffyniant eu
hunain a'u teulu, gan gynnwys bwyd, dillad, annedd a gofal meddygol ac i
wasanaethau cymdeithasol angenrheidiol; a hawl i sicrwydd cynhaliaeth
os digwydd diweithdra, afiechyd, anabledd, gweddwdod, henaint neu
unrhyw fethiant bywoliaeth arall pan fo'r amgylchiadau tu hwnt i'w
rheolaeth.
2. Y mae gan famolaeth a phlentyndod hawl i ofal a chymorth arbennig. Dylai
pob plentyn, p'un ai wedi eu geni o fewn neu du allan i briodas, fwynhau'r
un diogelwch cymdeithasol.
Erthygl 26
1 . Y mae gan bawb hawl i addysg. Dylai addysg fod yn rhydd, o leiaf addysg
elfennol a sylfaenol. Dylai addysg elfennol fod yn orfodol. Dylid gwneud
addysg dechnegol a phroffesiynol yn agored i bawb, a dylai fod mynediad
llawn a chydradd i bawb i addysg uwchradd ar sail teilyngdod.
2. Dylai addysg amcanu datblygu personoliaeth llawn yr unigolyn a chryfhau
parch i hawliau dynol a'r rhyddfreintiau sylfaenol. Dylai hyrwyddo
dealltwriaeth, goddefgarwch a chyfeillgarwch ymysg yr holl genhedloedd
ac ymysg grwpiau hiliol neu grefyddol, a dylai hefyd hyrwyddo gwaith y
Cenhedloedd Unedig dros heddwch.
3. Gan rieni y mae'r hawl cyntaf i ddewis y math o addysg a roddir i'w plant.
Erthygl 27
1 . Y mae gan bawb yr hawl i gymryd rhan ym mywyd diwylliannol eu
cymdeithas, i fwynhau'r celfyddydau ac i gyfranogi o gynnydd gwyddonol
a'i fuddiannau.
2. Y mae gan bawb yr hawl i fynnu diogelwch i'r buddiannau moesol a
materol sy'n deillio o unrhyw gynnyrch gwyddonol, llenyddol neu artistig y
maent yn awdur iddo.
Erthygl 28
Y mae gan bawb hawl i drefn gymdeithasol a rhyngwladol He y gellir llawn
sylweddoli'r hawliau a'r rhyddfreintiau a nodir yn y Datganiad hwn.
Erthygl 29
1 . Y mae gan bawb eu dyletswyddau i gymdeithas, He yn unig y mae
datblygiad rhydd a llawn eu personoliaeth yn bosibl.
2. Ni ddylid cyfyngu ar neb, wrth iddynt arfer eu hawliau a'u rhyddfreintiau,
ond pan bennir hynny gan gyfraith gyda'r unig amcan o sicrhau cydnabod
a pharchu hawliau a rhyddfreintiau pobl eraill, ac i gyfarfod a gofynion
cyfiawn moesoldeb, trefn gyhoeddus a ffyniant cyffredinol mewn
cymdeithas ddemocrataidd.
3. Ni ellir arfer yr hawliau a'r rhyddfreintiau hyn mewn unrhyw achos yn groes
i amcanion ac egwyddorion y Cenhedloedd Unedig.
Erthygl 30
Ni ellir dehongli dim yn y Datganiad hwn i olygu bod gan Wladwriaeth, grp neu
berson unrhyw hawl i ymroddi i unrhyw weithgarwch neu i gyflawni unrhyw
weithred gyda'r bwriad o ddistrywio unrhyw un o'r hawliau a'r rhyddfreintiau a
nodir yma.