ADAU
HODISTAIDD.
u JOHN MORGAN JONES, Caerdydd,
I
WILLIÁM MORGAÌN, U.H, Pant, Dowlals.
■JiŵWSŵWflftîS?
ìWí!r.
'/M-Xu.
>(i.i'i->:.*;.Wí,,»:r,'«M
i!^-Ýyy>î^y<:-:'i'i:yü^^^^^
YHOEDDEDÍG GAN YR AWDWYR
?.
From the Library
of
PÁDRAIG Ó BROIN
<UL^
jSd^J-^^
CERFLUN Y PARCH. DANIEL ROWLAND, LLANGEITHO
(a lütmed gan Miu Edwaru GpaFiTiH, CacrUcon., yn y flwijclcìyn 18S3).
Y Taüau Methodistaidd
(Eu Ilafitr a u tUtinîiîúant goöa (Btoaítlj ür (gfíngül
y^ NGHYMRU, TREFYDD' LLOEGR, AMERICÄ, AC AWSTRALLd.
YNGH.Ỳl) A
NIFER MAWR 0 DDARLUNIAU 0 BERSONAU A LLEOEDD NODEDIG.
^AN"
V Parch. JüHN r^IüRGAN JüNES, Cai-kuvud,
A
Mk. W ÍLLIAM MOUGAN, U.IL, Pant, Duwlais.
CYFROL I.
CYHüEDDEDIG GAN YR AWDWYR.
Abhrtawi: :
Akgkai-t-wvu ga.\ Ltwis Evans, 13, CaoTle Strllt.
1895.
ABKUTA\V1-: :
AUGUA1-F\VY1) UAN LEWIS KVA>;S,
CASTLK STIìKET.
RHAGYMADRODD.
(^I^^R oedd dwyn allan-lyfr darluniedig ar hanes Methodistiaeth Cymru yn amcan
jf^ffi genym er ys blynyddoedd, a buonj' ani ámser maith yn casglu defnyddiau i'r
pwrpas. Yn awr, dyma y Gyfçol Gÿfttaf allan o'r wasg. Fel awduron yn
gyíîredin, yr ydym wedi medru'*'-pèpsvvadio ein hunain fod angen a galwad am lyfr o'r
fath, ac yr ydym yn credu na wnaetho^i gamgymeriad. Teimhr yn bresenol fwy o
ddyddordeb nag erioed yn hanes 'dechreuad a chynydd Methodistiaeth ; dangosir
awyddfryd cryf am adnabod cymeriad ei Sylfaenwyr, a gwybod pob peth a elUr wybod
am danynt, ac am eu gwaith. Cryfhawyd y dyddordeb yma yn ddirfawr gan y modd
llwyddianus y dathlwyd Trydydd Jiwbih y Cyfundeb ; a chredwn fod y teimlad a gyn-
yrchwyd yn un naturiol ac iachus, ac yn teilyngu meithriniad.
W'rth gyflwyno Y Tadaii Mctìwdistaidd i sylw y cyhoedd, nid ydym mewn un modd yn
ddiystyr o'r llyfrau gwerthfawr ar hanes y Cyfundeb sydd genym yn barod, yn arbenig
Methodistiacth Cynirii, gan y diweddar Barch. John Hughes, Liyerpool ; a Welsh
Calyinistic Methodisui, gan y Parch. Wilham W'ilhams, Abertawe. Pan yr ymgymerodd
Mr. Hughes a'i waith, yr oedd ein hanes, gan mwyaf, yn aros mewn traddodiad, ac
mewn perygl o fyned yn hollol ar ddifancoll. Iddo ef, yn anad neb, yr ydym yn ddyledus
am gasglu y traddodiadau gwasgaredig yn nghyd, a'u dwyn i ffurf hanesyddoL Eithr yr
oedd toraeth o fíeithiau cysylltiedig â dechreuad Methodistiaeth nas medrodd ef ddod o
hyd iddynt, yn guddiedig mewn llawysgrifau gwerthfawr, a Uyfrau Saesnig henafol a
phrin, ond yn benaf yn gorwedd yn Nhrefecca, heb fod neb wedi eu hastudio na'u
darllen. Ymroddasom gyda phob dyfalwch i gasglu y rhai hyn. Buom yn chwiho yr
Amgueddfa Frytanaidd yn Llundain, a gwahanol lyfrgelloedd, cyhoedd a phreifat, er
ceisio dyfod o hyd i bob ffaith o bwys. Ac yn benaf, darllenasom ddydd-lyfr Howell
Harris, a ysgrifenwyd ganddo ef ei hun, trwyddo ; yr hyn, mor bell ag y gallwn gasglu,
na wnaed gan neb o'n blaen. Trwy hyn, credwn ein bod wedi llwyddo i daflu goleuni
newydd ar ddechreuad y Cyfundeb, ac ar hanes a chymeriad y rhai, dan fendith Duw,
a fuont yn offerynol i'w ddwyn i fod.
Dichon mai nodwedd fwyaf amlwg a gwahaniaethol Y Tadau Methodistaidd yw ei
fod yn llyfr darluniedig. Yr ydym yn gosod ynddo bob darlun sydd ar glawr a chadw
o enwogion Methodistaidd ; ac yr ydym wedi llwyddo tu hwnt i'n dysgwyliad i ddar-
ganfod darluniau nas gwyddem eu bod mewn bodolaeth. Yn mhlith eraill, daethom o
hyd i ddarlun anhysbys o Daniel Rowland, copi o ba un a geir yn nechreu y gyfrol hon.
Cawsom ef yn llyfrgell yr Amgueddfa Frytanaidd. Heblaw y rhai a geir yn y Gyfrol
Gyntaf, y mae genym ddarluniau o'r enwogion canlynol : Nathaniel Rowland ; Griffiths,
iv. RJIAGYMADRODD.
Nevern ; John Roberts, Llangwni ; Simon Llwyd ; John Jones, Edeyrn ; Evan
Richardson ; John Rees, Casnewydd ; John Thomas, Aberteifi ; Griffiths, Lantwd ;
Morgan Howell ; Theophilus Jones ; Thomas Harris ; Hopkin Bevan, &c., &c.
Caiffy rliai hyn, yn nghyd a darluniau o leoedd dyddorol cysylltiedig â hwynt, addurno
y gwaith ; a phan ei gorphenir, dysgwyhwn y byddwn wedi llwyddo i osod yn nwylaw
ein darllenwyr gasgHad o ddarluniau o werth a dyddordeb anmhrisiadwy.
Yr ydym yn rhwymedig i amryw gyfeilhon am lawer o gymhorth gwerthfawr yn
nygiad allan y gwaith hwn. Nis gallwn gydnabod pawb ag yr ydym mewn dyled
iddynt, ond rhaid i ni nodi Mr. Daniel Davies, Tòn, Cwm Rhondda ; yn nghyd a'r
Parchn. John Davies, Pandy ; E. Meyler, Hwlfìfordd ; J. E. Davies, M.A., Llundain ;
Owen Jones, B.A., Llansantffraid ; E. WilHams, M.A., Trefecca ; W. WiUiams,
Abertawe ; J. Cynddylan Jones, D.D., Caerdydd ; T. Rees, D.D., Cefn ; W. Evans,
M.A., Pembroke Dock ; Hugh WiHiams, M.A., Bala ; a Joseph Evans, Dinbych.
Derbynied y rhai hyn ein diolchgarwch goreu. Dymunem hefyd gydnabod caredig-
rwydd Cymdeithasfa y Deheudir, yn caniatau i ni fenthyca y Hawysgrifau gwerthfawr
sydd yn nghadw yn HyfrgeH Trefecca ; oni bai am y caniatad hwn, ni buasem yn aHuog
i gyflwyno i'r cyhoedd y rhan fwyaf dyddorol a gwerthfawr o'r gyfrol hon.
Gobeithiwn y bydd i ni, trwy gyfrwng y Hyfr hwn, fod o ryw wasanaeth i'r
Cyfundeb a gerir genym mor fawr, ac y bendithir ein Hafur i fod o wasanaeth i
achos crefydd.
JOHN MORGAN JONES, Caerpydd.
WILLIAM MORGAN, Pam.
Goì'ph. 15, 1S95.
-4^V-rV^^
CYNWYSIAD.
n;N. TUDAL.
I. — Shfyllfa Foesol Cymru adfx. Cvfodl\d MeTHODISTL'^ETH ... ... I
Sefyllfa foesol Prydaiii yn isel adeg cyfodiad Methodistiaeth — Cyílwr Cymru o
angenrheidrwydd yn gyffelyb — Hirnos gauaf mewn amaethdy— Tystiolaeth ysgrif-
enwyr diduedd am gyíiwr y Dywysogaeth — Cyliuddiad Dr. Rees yn erbyn y Tadau
]\Iethodistaidd — Y cjhuddiad yn dciisail — Tafien ]\Ir. Jolin Evans, o Lundain — Y
daflen yn cael ei llyrgunio i aracan — Yr eglwysi YmneiUduol yn cael eu gwanhau
gan ddadleuon — Yr elfenau newyddion a ddaetliant i mewn gyda'r Älethodistiaid.
IL — Griffith Jones, Llanddowror ... ... ... ... ... ... 22
Eienedigaeth a'iddygiadi fynu — Ei ordeiniad — Ei glod fel pregethwr yn ymledu
— Yn dechreu pregethu y tu allan i'w blwyf — Yr ysgolion elusengar — Y clerigwyr
yn wrthwynebol — Ymdaeniad yr ysgolion trwy yr oU o Gymru — Argraffu Beiblau —
Cyfansoddi llyfrau — Ei gysylltiad a'r ]\Iethodistiaid — Ei angau.
IIL — Y Diwygiad Methodistaidd yn Lloegr ... ... ... ... 34
Nad deilliad o Fethodistiaeth Lloegr yw Methodistiaetli Cymru— Cychwyniad y
symudiad yn Rhydychain — "Y Clwb Sanctaidd " — .Tohn a Charles ^Yesley — John
Gambold, y Cymro — Manylwch rheolau a liunanymwadiad aelodau y " Clwb
Sanctaidd " — Y symudiad yn un Sacramentaraidd ac Uchel-eglwysyddol — Dylanwad
y ]\Iorafìaid ar John Wesley — Wesley yn ymwrtliod a Chalfìniaeth — Yr ymraniad
rliwng Wesley a Whitefìeld — Y ddau yn cael eu cymodi trwy offerynoliaetli
Howell Harris.
I\'. — Daniel Rowland, Llangeitho ... ... ... ... ... ... 41
Ei faboed a'i ddygiad i fynu — Ei ordeiniad— Ei droedigaetli yn eglwys Llanddewi-
brefi — Yn tynu Hiaws i Langeitho trwy ei bregetliu tanllyd — Pregetbu y ddeddf —
Yn dyfod yn fwy efengylaidd — Myned allan o'i blwyf — Cyfarfod am y tro cyntaf a
Howell Harris — lírlid Daniel Rowland — SefydUi seiadau — F^i droi allan o'r eglwys — •
Llangeitlio yn dyfod yn Jerusalem Cymru — Desgrifiadau Charles o'r Bala ; Jones,
Llangan ; Griffitbs, Nevern ; Christmas Evans ; Jolin Williams, Dolyddelen ; a
Dr. Owen Tliomas, o weinidogaeth Rowland.
\'. LIOWELL HaRRIS ... .. ... ... ... ... ... ... 71
Ei enedigaetli a'i ddygiad i fynu — Ei argylioeddiad yn eglwys Talgartli — Cael
dyddanwch yn Nghrist — Dechreu cynal addoliad teuluaidd a chynghori — Yn
myned i Rydycliain — Yn gadael Rhydycbain — i\Iyned o gwmpas i rybuddio yr an-
nuwiol — Gwrtbwynebiad yr ofleiriaid a'r boneddwyr — Cael ei erlid — Sefydlu seiadau
— Myned i lefaru i Sir Faesyfed — Argyhoeddiad Mr. Gwynn— Harris yn myned ar
daith i Sir Fynwy — Yn ymweled a Sir Forganwg y tro cyntaf — Rhanau o'i ddydd-
lyfr — Cyfarfod a Whitefield yn Nghaerdydd — Myned i Lundain — ]\Iyned y tro
cyntaf i'r Gogledd, mor bell a'r Bala — Dalenau ycbwanegol o'i ddydd-Iyfr — INIyned
i Sir Benfro — Sessiwn Trcfynwy — Ail daitli i'r Goglcdd — Ei erlid yn y Bala —
i\Iyncd i Sir Gacrnarfon — Yn teithio ac yn gweithio yn ddidor.
\'L — HowELL Dayies ... ... ... ... ... ... ... ... 128
Ei hanes dechreuol yn anhysbys — O dan addysg Grifìfìtli Jones — Yn guwrad
Llysyfran — Ei benodiad i fod yn guwrad Llanddowror — J'íglwys Prendergast, a
chysylltiad Howell Davics a iii — Yn dyfod yn un o arweinwyr y ]\Iethodistiaid —
Penfro yn brif faes ci lafur — Ei briodas — Ei lafur mawr gyda'r diwygiad — Adeiladu
y Tabernacl yn Hwlffordd— Capel Woodstock, gweinyddu y sacramentau yno —
Adciladu Capelnewydd — Ei nodwcddion — Ei farwolactli a'i gladdedigaeth.
VI. CyNU'YSIAD.
PKN. Tl'DAI-
VII. WlLLIAM WlLHAMS, PaNTYCHLYN ... ... ... ... ... ... I4I
Sylwadau arweiniol — Cofiant Mr. Charles iddo — Sefyllfa barclius ei rieni — Ym-
chwiliad i hanes ei ieuenctyd — Sefyllfa foesol a chrefyddol yr ardal y magwyd ef —
Desgrifiad Fieer Pritcliard o honi — Eglwysi Ymneillduol yr ardal — Eu dadleuon
a'u hymrysonau — Desgrifiad tebygol o'r eglwysi hyn yn " Theomemphus " — Ei
fynediad i Athrofa J.lwynllwyd — Ei droedigaeth ar ei ddychweliad adref, dan
weinidogaeth Howell Harris — Yn ymuno a'r Eglwys Wladol, ac yn ymadael a hi
yn fuan — Ei apwyntiad yn gynorthwywr i Daniel Rowland — Ei lafur fel efeng-
ylydd, a'i safle fel pregethwr — Ar gymlielliad ei frodyr yn decbreu cyfansoddi
hymnau — Hymnau ei ieuenctyd — Yn cyhoeddi ei " Aleluia " — Yn ymgymeryd a
llafur llenyddol o bob math — Rhagoroldeb ei brif gyfansoddiadau barddonol — Ei
" Olwg ar Deyrnas Crist " a'i " TLeomemphus " — Poblogrwj-dd anarferol ei
gyfansoddiadau — Barn llenorion Cymru am ei safic fel llenor, cmynydd, a bardd.
VIII. — Wyth Mlynedd Cyntaf y Diwygiad ... ... ... ... ... 179
Cynydd cyíiym y diwygiad yn y Deheudir — Y Gogledd, gyda'r eithriad o Sir
Drefaldwyn, yn elynol i'r symudiad — Y diwygiad Methodistaidd yn gyffelyb i
ddiwygiad yr oes apostolaidd — Yr Ymneillduwyr ar y cyntaf yn cydweithredu, ond
gwedi hyny yn peidio — Y Methodiätiaid yn debygol o gael eu hesgymuno o'r
Eglwys-Eu safle yn anamdditì'ynadwy — Ymgais at drefn — Y cynghorwyr cyntaf —
Cyfarfodydd o'r arweinwyr a'r cynghorwyr yn dechreu cael eu cynal yn 1740— Yr
angenrheidrwydd am Gymdeithasfa— Rheolau cyntaf y seiadau.
IX. — Y Gymdeithasfa ... ... ... ... ... ... ... ... 194
Howell Harris ar ei daith tua Watford— Y chwech cyntaf— Penderfyniadau y
Gymdeithasfa — Gorphen mewn cân a moliant — Cj'farfodydd ÄIisol Llanddeusant,
Trefecca, Tyddyn, Llanwrtyd, a Glanyrafonddu — Ail Gymdeithasfa Watford — Taith
Whitefield a Howell Harris trwy ranau helaeth o'r Deheudir— Argyhoeddiad Peter
Williams — Cyfarfodydd ]\Iisol Gelliglyd, Watford, Dygoedjdd, a Longhouse — Cym-
deithasfa Chwarterol Trefecca — Y ddau arolygydcì tramgwyddus — Whitefield a
Howell Harris yn ysgrifenu llythyrau atynt.
X. — Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf ... ... ... ... ... ... 213
Richard Tibbot — Lewis Evan, Llanllugan — Herbert Jenkins — James Ingram —
James Beaumont— Thomas James, Cerigcadarn — Morgan John Lewis — David
Williams, Llysyfronydd — Tliomas Williams — William Edwai'd, yr Adeiladydd —
William Richard— Benjamin Thomas — John Harris, St. Kennox — John Harry,
Treamlod — William Edward, Rhydygele — Rhai o'r Adroddiadau a anfonwyd i'r
Cy mdeithasf aoedd .
XI. — Howell Harris (1743-44) ... ... ... ... ... ... ... 245
Gwaeledd iechyd Harris yn ei dueddu i roddi i fynu y gwaith cyhoeddus — Ymos-
odiad Edmund Jones ar y INIethodistiaid — Dechreu codi capelau — Capelau Maes-
gwyn a'r Groeswen — Prawf Morgan Hughes — Dadl ag Esgob Tyddewi — Pumed
ymweliad H. Harris a Llundain — Ý Gymdeithasfa Saesnig — Glynu wrth yr Eglwys
Sefydledig — Whitefield yn tybio y cai ei wneyd yn es-gob— Dadl a Ricbard Jenlcins
gyda golwg ar y Gair — Ystorm yn Nghymdeithasfa Glanyrafonddu — Cymdeithasfa
Watford, 1744 — Y Methodistiaid a'r gyfraith wladol — Llythyr aelodau Mynydd-
islwyn — Chweched ymweliad Harris a Lhmdain — Amrj-w Gymdeithasfaoedd
Chwarterol a IMisoI.
XÎI. — IIowELL Harris (1745) 282
Pregeth Williams, Pantycelyn, yn Nghymdeithasfa Watford — Ymdrin a phync-
iau athrawiaethol dyfnion — Harris, yn Erwd, yn galw gwaed Crist yn " waed Duw"
— Cymdeithasfa Abergorlech— Howell Harris mewn dyfroedd dyfnion yn Sir
Benfro— Daniel Rowland yn rhvbuddio Harris i fod yn fwy gofalus parthed yr
athrawiaethau a bregethai-Sefyìlfa gyffrous Methodistiaid Lloegr— Cymdeithasfa
Bryste— Cymdeithasfa Cayo— Llythyr cynghorwyr y Groeswen— Price Davies yn
caniatau v sacrament i'rMethodistiaid yn Nhaìgarth— Datganiad Howell Harris
yn Nghymdeithasfa Watford— Howell Harris yn Llundain eto— Pressio i'r fyddin
— H. Harris ar daith yn Sir Forganwg— H. Harris yn arolygwr y IMethodistiaid
Saesnig— Dadl a Griffith Jones, Llanddowror— Ymweled a Llundain eto.
CYNWYSIAD. vii.
I'KN. TUÜAL,
XIII. — HowELL Harris (1746) ... ... ... ... ... ... ... 311
Taith Howell Harris yn Sir Forganwg — Gwrtbwyncbiad i'w athrawiactb yn
dechrcu codi — Thomas Willianis, y Grocswcn, yn dychwelyd at y IMetiiodistiaid —
Cymdeitliasfa y Glyn — Llythyr at Rlr. Thomas .Adanis — Cymdcithasfa Glancothi —
Y Cyfarfod Cbwcch-wythnosol — Howcll Harris yn Lhindain — Cymdeithasfa ys-
tornius yn Watford— Ymosodiad y ÌNIorafìaid ar Gymru — flowell Harris yn Hwl-
lîordd — Yr anghytundcb rhwng Rowland a Harris yn cycbwyn yn Ngbynideithasfa
Trefecca — Rowland a Harris yn ail-heddycbu — Cymdeitbasfa gyffrous yn Castell-
nedd — Cymdeithasfa ddymunol yn Watford.
XI\'. — HowELL Harris (1747-48) ... .. .. ... -.- ... ... 337
Gwaredigaeth bynod yn Llansantffraid — Ainryw Gymdeitliasfaoedd — Harris yn
cybuddo Wilhams, Pantycelyn, o bregcthu yn ddeddfol — Dealltwriaetb a'r Wesley-
aid — Howell Harris yn ymweled a ÌNIôn, Arfon, Dinbjcb, a ^Mcirionjdd— Llythyr
cryí at y Parch. Edmund -Jones — Taith i ürllewin Lloegr — Syr Watkin Williams
Wynne yn erlid y Metbodistiaid — Cymdeitbasfa Ijlanbedr — Adroddiad ani gasgliad
— Cymdeithasfa Caerfyrddin — Y" myfyrwyr yn rbutbro i'r Gymdeitbasfa — Howell
Harris yn Sir Benfro — Dadl a dau weinidog i'mneillduol.
X\'. — HowELL Harris (1749-50) ... ... ... ... ... ... ... 357
Harris yn amddiffyn .James Beaumont— Dyledswyddau y gorucbwylwyr— Harris
yn beio seiat y Groeswen am ordeinio brodyr i weinyddu yr ordinhadau — Ei syniad
am atbrofa — Taith i Sir Drefaldwyn — Ymweliad arall a L'angeitbo — Ymheddychu
a'r Parcb. Price Davies— Taitb arall trwy Benfro, Caerfyrddin, a Morganwg —
Parotoi at ymraniad — Harris yn ymosod ar yr oíîeiriaid -Pregeth nerthol yn y
Groeswen — Howell Harris a Price, o'r Watford — Ffrwgwd partbed troi y gorucb-
wylwyr allan yn yr Aberthyn — Cymdeithasfa Llanidloes — Dim yn bosibl bellach
ond ymraniad.
XVI. — Yr Ymra.mad ... ... ... ... ... ... ... ... ... 380
Syniadau atbrawiaethol Howell Harris — " Ymddiddan rhwng Uniawngred a
Cliamsyniol " — Achosion i'r ymraniad bcblaw gwabaniaeth barn parthed athraw-
iaeth — Harris yn petruso cyn ymranu — Plaid Rowiand yn cyfarfod yn Llantrisant,
ac yn ymwrtbod a Harris — Yntau yn cynal pwjilgor yn Llansamlet — Cymdeithas-
fa gyntaf plaid Harris, yn St. Nicholas — Cymdcithasfa Llanfair-muallt — Llytbyr
Harris at Rowland — Harris yn Sir Benfro— Harris yn Ngogledd Cymru — Cym-
dcitbasfa Llwynyberllan a Dyserth.
X\'II. HOWELL HaRRIS GWEDI YR YmRANIAD ... ... ... .... ... ^03
Howell Harris yn gosod i lawr sylfaen yr adeilad newydd yn Nhrefecca— Ei
afiechyd difrifol — Anercbiad pwysig yn y " Cynghor " — Anfon milwyr i'r fyddin —
Harris yn gadben yn y milisia— Ei lafur yn Yarmoutb a manau eraiU- Gostegu
y terfysgwyr yn Nghymdeithasfa Llanymddyfri— Blwyddyn ei Jiwbili— Anfon at
Rowland, yn Llangeitbo, i ofyn am undeb — Y ddau yn cyfarfod yn Nhrecastell —
Harris yn teitbio yn mysg y Sletbodistiaid — Cymdeithasfa eto yn Nhrcfecca, gwedi
tair-blynedd-ar-ddeg — Cymdeithasfa Woodstock — Amryw frymdeitbasfaoedd craiU
— Coleg yr larlles Huntington yn Nbrefccca-Isaf— Yniweliadau y Metbodistiaid a
Threfecca — Terfyn oes Howell Harris.
X\'III. — Peter Willia.ms ... ... ... ... ... ... ... ... 133
Ei cnedigactb a'i dd.ygiad i fynu— Ei fam yn ci fwriadu i'r wcinidogaeth — Colli
ci rieni yn foreu— Rhagluniactb yn gofalu am yr amddifad — Peter Williams yn
mynedi atbrofa Tbomas Einion— Yn cael ei argyhocddi trwg bregetb Whitefield—
Cael ei urddo yn guwrad eglwys Gymmun--Corii ei le oblegyd ei Fetbodistiaeth —
CoUi dwy guwradiaetii arall am yr un rheswm — Yn ymuno a'r Methodistiaid — Ei
daith gyntaf i'r Goglcdd— Cael ei erlid oblegyd yr efengyl yn y Dè a'r Gogledd—
Cael lle amiwg yn fuan yn y Gymdeitbasfa — Yn ymuno a pblaíd Rowland adeg yr
ymraniad— Ysgrythyroldcb ei bregctbau— Dwyn allan y Beibl niawr, gyda sylwadau
ar bob penod- Cyhocddi y "Jlyncgair," yn ngliyd a " Thrysorfa Gwybodaeth," scf
y cylchgrawn Cymreig cyntaf— Anfoddlonrwydd i'w sylwadau gyda golwg ar y
Drindod— Y'r anfoddlonrwydd yn cynyddu ulilegjd iddo ncwid riiai gciriau yii
^lcibl Canne— Dadleu In-wd yn y Gymdcithasfa - Pctcr WiIIiams yn cael ei ddi-
arddel gan y Mctbodistiaid— Ýn gwneyd amryw gcisiadau am ail brawf, ond yn
glynu wrtb ei olygiadau— Caulyniadau ei ddiarddeliad— Diwedd ei oes— Purdcb ei
amcaniün, a niawredd ci ddefnvddiûldcb.
viii. CÌWWYSIAD.
l'EN. TL-DAL.
XIX. — D.wiij JoNiis, Llangan' ... ... ... ... ... ... ... 459
Sylfaenwyr ac arwcinyddiou cyiitaf y Mcthodistiaid — Joiics lieb fod yu uu o
houyut — Ei gydocswyr a'i gyfoediou — Hanes ei eucdigaeth a'i ieucuctyd — Yu
cyfarfod a damwaiu — Ei addysg a'i urddiad i Lauafau-fawr— Symud i Dydweiliog
— Dyfod i gyfîyrddiad a Dr. Read yu Trefethiu, ac yu cael ei gyfuewid trwy ras —
Yn cael bywioliaeth Llaugau, drwy ddylauwad larlles Huutiugtou— -Sefyllfa focsol
a chrefyddol y plwyf— Ei gydweithwyr yu Worganwg — Desgriíìad o Sul y Cymuu
yn Llangan — Yu pregethu niewu lleoedd anngliysegredig — Yn adeiladu Capcl
Salem — IMarwoUieth a chladdedigaeth ei wraig — Yn gosod i lawr ddrwg arferion yr
ardal— Achwyu arno wrtli yr esgob— Ei lafur yn mysg y Saesou — Vá allu i gasglu
ariau at gapelau -Ei lafur yu mysg y Cymru— Y"n cyfarfod ag erledigaethau ac yu
eu gorchfygu — Ei boblogrwydd fel pregetlawr— Annas yn dyfod o Sir Fòn i geisio
cyhoeddiad ganddo — Yn efeugylydd yn hytrach nag yn arweinydd — Peuillion
Thomas WiUiams, Bethesda-y-Fro— Desgrifiad Williams, Pautycelyu ; Robert
Jones, Rhoslan ; a Chri.stmas Evans, o houo— Ei ail briodas, a'i syuiudiad i
iNIanorowcn — Yu dyfod o fewn cylcli mwy eglwysig — Y'u lieneiddio ac yn llcsghau
— Diwedd ei oes.
XX. — W'iLLiAM Dayies, Castellnedd ; Dafydd Morris, Twrgwyn ; a
WlLLIAM LlWYD, O GaYO ... ... ... ... 478
William Davies yn hanu o Sir Gaerfyrddiu — Ei ddyfodiad i Gastellnedd-Ei
büblogrwydd— Yu colli ci guwradiaeth — Aduewyddu capcl y Gyfylchi iddo— Baru
Howell Harris am dauo — Odfa ryfcdd yu Llaugeitho— Y tair chwacr — Ei farw-
ohieth — Borcu ocs Dafydd Morris — Dechreu prcgethu yu icuauc — Meddwl uchel
Uowland am dauo— S\vyu ei lais— Yn symud i Dwrgwyn— Yn teithio Cymru —
Pregeth y golled fawr — Ceryddu blaenor sarug— Amddifîyn Llcwelyn John — Dafydd
Morris fel emynydd — Marwolaetla ei wraig— Ei farwolaeth yntau — Haniad William
Llwyd, o Gayo— Ei argylioeddiad — Ei ymuniad a'r Mcthodistiaid — Yn dcchreu
pregethu^Hynodrwydd William Llwyd— Nodwcdd ci wcinidogacth — Ei farwulacth.
ATTüDLYD. — Y Tadau Methodistaidd a'u Cyhuddwyr 493
y TADAU METHODISTAIDD
Eü LLAFÜH A'ü LL.WYDDIANT.
PENOD I,
SEFYLLFA FOESOL CYMRU ADEG CYFODIAD METHODISTL\ETH.
Scfyllfa focsol Prydatn yn iscl adcg cyfodiad Mctìwdistiacth — Cyflwr Cyniru o angcnrhcidmydd
yn gyŷ'clyh—Hirnos gauaf incwn amaetbdy — Tystiolacth ysgnfcnwyr diducdd ani g\flwv
y Dywysogaeth — Cyhuddiad Dr. Recs yn crbyn y Tadau Mcthodistaidd—Y cyhuddiád yn
ddisail — Taflcn Mv. John Evans o Lundain — Y daflen yn cacl ei llyrgunio i atncan — Yr
. eglwysi Ymncillduol yn cael eu gwanhau gan ddadleuon — Yr elfenau newyddion a ddacthant
i mewn gydar Methodistiaid.
Pî^r,T?: MAE yn amheus a fu crefydd
"^wf/ ysprydol erioed yn îs yn Mhrydain,
'^Ai'' er pan y pregethwyd yr efengyl
gyntaf yn yr ynys, nag adeg dechreuad
Methodistiaeth. Yr oedd y Puritaniaid
gyda eu bywyd a'u harferion personol a
theuluaidd dysyml, eu gwrthnaws at bob
rhodres, gwag-ymddangosiad, a balchder,
eu difrifwch angerddol, a'u cydnabydd-
iaeth eang a Gair yr Arglwydd, wedi cael
eu rhifo i'r bedd ; ac ar eu hol cyfodasai
oes arall, hoUol wahanol o ran yspryd,
arferion, a moes, yr hon oedd wedi ymroddi
i bob math o chwareu, a phob math o
lygredigaeth. Gelhr olrhain y cyfnewid-
iad mewn rhan i wrthweithiad naturiol yn
erbyn yr yspryd Puritanaidd, yr hwn o
bosibl oedd yn rhy lym ; mewn rhan i
ddylanwad llygredig llys Siarl yr Ail, yn
yr hwn y gwawdid rhinwedd a phob math
o ddifrifwch, ac yr ymffrostid mewn an-
foesoldeb ; ond yn benaf i lygredigaeth
naturiol y galon ddynol, yr hon sydd yn
unig yn ddrygionus bob amser. Nid
oedd prinder dynion galluog yr adeg hon.
Dyma y pryd y l)lodeuai Handel y
cerddor, Pope y bardd, Daniel Defoe y
nofelydd, a Samuel Johnson y Uenor.
Tua'r amser hwn y cyfansoddai Butler ei
Gyfatebiaeth, yr hwn lyfr nad oes yr un
anffyddiwr wedi llwyddo i'w ateb hyd
heddyw. Fel dynion o allu arbenig yn
yr Eglwys Sefydledig, gellir cyfeirio at
Rhan /.
Sherlock, Waterland, a Secker; ac yn
mysg yr Ymneillduwyr at Isaac Watts,
Nathaniel Lardner, a'r duwiol Philip
Doddridge. Ond fel y sylwa un, nid yw
talent bob amser yn esgor ar ddaioni.
Ac yr oedd yr oes yma, er yr holl ddynion
galluog a dysglaer eu talent a gynwysai,
yn nodedig am ei hanfoesoldeb. Meddai
ysgrifenydd galluog: * " Ni wawriodd canrif
erioed ar Loegr Gristionogol mor amddifad
o enaid ac o ffydd a'r hon a gychwynodd
gyda theyrnasiad y Frenhines Anne, ac a
gyrhaeddodd ei chanolddydd dan Sior yr
Ail. Nid oedd dim irder yn yr amser a
basiodd, na dim gobaith yn y dyfodol.
Athronydd yr oes oedd Bolingbroke,
ei haddysgydd mewn moesoldeb oedd
Addison, ei phrydydd oedd Pope, a'i
phregethwr oedd Atterbury. Gwisgai y
byd olwg segur anniddig tranoeth i ddydd
gwyl gwallgof."
Cadarnheir y desgrifìad gan y rhai
oeddynt yn byw ar y pryd. Dywed
Esgob Lichfield, yn 1724, mewn pregeth
o flaen y Gymdeithas er Diwygio Moes-
au : t " Dydd yr Arglwydd yn awr yw
dydd marchnad y diafol. Ymroddir i fwy
o anlladrwydd, i fwy o feddwdod, ac i fwy
o gynhenau ; cyflawnir mwy o fwrddradau
a mwy o bechod ar y dydd hwn nag ar
* North British Retiew, 1847.
t Tyerman's Life of John WcsleT/.
B
Y TADAU METHODISTAIDD.
holl ddyddiau eraill yr wythnos. Y mae
diodydd cryfion wedi dyfod yn haint yn y
ddinas. Y mae mwy o bobl yn marw o'r
gwahanol glefydau a gynyrchir gan ym-
arferiad cyson o frandi a gwirf, nag sydd
o bob afiechyd arall, o ba natur bynag.
Pechod yn gyfifredinol sydd wedi ymgaledu
i'r fath raddau, ac wedi tyfu mor rhonc,
fel yr amddiíFynir, îe, y cyfiawnheir, an-
foesoldeb oddiar egwyddor. Câ Uyfrau
aílan, masweddgar, ac anllad farchnad
mor dda, fel ag i gefnogi y fasnach o'u
cyhoeddi. Nid oes un pechod nad yw
wedi fifeindio ysgrifenydd i'w ddysgu a'i
amddiffyn, a llyfrwerthydd a phedlwr i'w
daenu ar led." Yr adeg yma yr oedd yfed
gin wedi dyfod yn orphwylledd cyíîredinol.
Yn Llundain yr oedd un tŷ o bob chwech
yn wirottŷ. Ar eu harwydd-estyll [sign-
hoards) addawai y tafarnwyr y gwnaent
ddyn yn feddw am geiniog, ac y ffeindient
wellt iddo i orwedd arno hyd nes y byddai
wedi adfeddianu ei synwyrau. Àfradedd
oedd trefn y dydd. Nid oedd un teulu o
bob deg yn ymgais am dalu ei íìfordd. Y
cwestiwn mawr oedd gallu bwyta yn fwy
danteithiol, yfed yn fwy helaeth, a gwisgo
yn fwy gwych na'r cymydogion o gwmpas.
Bob nos goleuid y gerddi cyhoeddus a llus-
ernau dirif, lle yr ymgynullai, wediymwisgo
mewn sidan a phorphor, a chyda niwgwd
ar eu gwynebau, lladron, oferwyr, hap-
chwareuwyr, a phuteiniaid, yn gymysg a
chyfoethogion a phendefigion o'r saíle
uchaf, a lle y carient yn mlaen ymddiddan
anniwair, ac y sibrydent athrod celwyddog.
Cawsai pob dosparth ei feddianu a'r haint.
Yr oedd clarcod a phrentisiaid, merched
gweini a chogyddion, yn ymddilladu mor
orwych a'u mestr neu eu meistres. . I
gyfarfod yr holl afradedd yma rhaid, bid
sicr, cael arian ; ac edrychid ar bob ffordd
i'w cyrhaedd, bydded onest, bydded an-
onest, fel yn hollol gyfreithlon. Cyfrifid
lladrad yn foneddigaidd, a hapchwareu yn
ddyledswydd. Byddai boneddigesau yn
dal cyngwystl yn eu tai, tra y byddai eu
gwyr yn ymroddi i hapchwareu oddi-
cartref ; a chly wid swn disiau yn trystio
ar ferfa olwyn yr hwn a elai o gwmpas i
werthu afalau, penogiaid, a bresych, yn
gystal ag ar fyrddau y pendefigion. Rhaid
oedd cael arian, ac nid oedd wahaniaeth
yn y byd pa fodd. Dywed y Wcehly
Miscellaiiy am 1732, fod y bobl wedi ym-
gladdu mewn pieser, fod ymgais at fyw
yn dduwiol yn cael edrych arno mor
hynod a phe yr ai dyn i'r heol wedi
ymwisgo yn nillad ei daid ; a bod clybiau
anffyddol wedi cael eu ffurfio, gyda'r
amcan addefedig o wneyd y bobl yn
genedl aflan. Nid oedd bris ar rinwedd,
a dirmygid crefydd a duwioldeb. Gelhr
cymhwyso geiriau y prophwyd Esaiah at
yr oes : " Cenhedlaeth bechadurus, pobl
îwythog o anwiredd, had y rhai drygionus,
meibion yn llygru ; y pen oU sydd glwyfus,
a'r galon yn llesg ; o wadn y troed hyd y
pen nid oes dim cyfan ynddo, ond archoll-
ion, a chleisiau, a gwehau crawnllyd."
O'r diwedd, dychrynodd yr awdurdodau
gwladol oblegyd y llygredigaeth a'r an-
foesoldeb. Apwyntiwyd pwyllgor gan Dŷ
yr Arglwyddi, "i chwiHo i mewn i achosion
yr anfoesoldeb a'r halogedigaeth rhemp
presenol." Yn ei adroddiad mynegai y
pwyllgor fod nifer o ddynion llygredig eu
moes wedi ymfifurfio yn ddiweddar yn
glwb, dan yr enw Mallwyr (Blasters), a'u
bod yn defnyddio pob moddion i geisio
cael ieuenctyd y deyrnas i ymuno a hwy.
Fod aelodau y clwb hwn yn profifesu eu
hunain yn addofwyr y diafol, eu bod yn
gweddi'o arno, ac yn yfed iechyd da iddo.
Eu bod yn defnyddio y fath iaith gabl-
eddus yn erbyn mawrhydi ac enw
sanctaidd Duw, ac yn arfer ymadroddion
mor aflan ac ehud, fel nad oedd y cyffelyb
wedi ei glywed yn flaenoro), a bod y
pwyllgor yn pasio heibio i'r cyfryw mewn
dystawrwydd am eu bod yn rhy erchyll
i'w hail adrodd. Adroddai y pwyllgor yn
mhellach fod crefydd a phob peth cysegr-
edig wedi cael eu hesgeuluso yn ddifrifol
yn ddiweddar ; a bod mwy o esgeuluso yr
addohad dwyfol, yn gyhoeddus ac yn
breifat, ac o anmharchu y Sabbath, nag y
gwybuwyd am y fath yn Lloegr erioed o'r
blaen. Fod segurdod, moethusrwydd,
hapchwareu, ac ymarferiad a gwirodydd,
wedi cynyddu yn arswydus, Cynghorai
ar fod i'r esgobion yn eu hymwehadau i
siarsio y clerigwyr ar iddynt rybuddio y
bobl a'u cymhell i fynychu y gwasanaeth
dwyfol, ac ar fod i'r ieuenctyd yn y prif-
ysgohon gael eu haddysgu yn ofalus yn
egwyddorion crefydd a moesoldeb. Ÿn
1744 darfu i uchelreithwyr Middlesex
gyflwyno y cwyn canlynol i'r barnwr yn y
Sessiwn : " Fod y bobl yn cael eu llithro
i foethusrwydd, afradedd, a segurdod ;
trwy hyn fod teuluoedd yn cael eu dinystrio
a'r deyrnas yn cael ei dianrhydeddu ; ac
oni fyddai i ryw awdurdod roddi terfyn ar
y fath fywyd afradlon, eu bod yn ofni yr
arweiniai i ddinystr y genedl." Mewn
SEFYLLFA FOESOL CYMRU^
gwirionedd yr oedd anwiredd yn prysur
ddatod seiliau cymdeithas ; wedi taflu
rhinwedd a chrefydd dros y bwrdd nid
oedd gan y bobl nerth i ddini ; bygythiai
eu blysiau droi yn feddau iddynt ; yr
oedd dinystr gwladol a chymdeithasol yn
llygadrythu yn eu gwynebau ; ac ym-
ddangosent fel ar suddo yn dragywyddol
dan adfeilion y moesoldeb y tynasent tan
ei sail, Yr un pryd dychrynai yr ychydig
bobl dduwiol a weddillasid, a chyfodent
eu golygon at Dduw, gan waeddi : " O
Arglwydd, pa hyd ! pa hyd ! "
Naturiol gofyn : Beth am glerigwyr yr
Eglwys Sefydledig ? Ai nid oeddynt hwy
yn gwylio ar y mur, yn ol y lhv difrifol
a gymerasent adeg eu hordeiniad ? Ai
nid oeddynt yn ceisio atal y Ihfeiriant fel y
gweddai i"w swydd ? Na, ysywaeth " 'Run
fath bobl ag offeiriad " ydoedd y pryd
hwnw fel bron yn mhob oes. Árwein-
iai llu o'r clerigwyr fywyd anfucheddol,
ac yr oeddynt bron mor anwybodus
a thyrchod daear yn athrawiaethau yr
efengyl yr ymgymerasent a'i phregethu.
Gallent herio y penaf yn yr ardal am
gryfder i yfed cwrw a gwirod ; medrent
ymgystadlu a neb pwy bynag, yn y
gadair ger y tân hirnos gauaf, am adrodd
ystoriau gogleisiol ac anweddus ; yr
oeddynt yn awdurdod ynglyn a'r campiau,
a'r amrywiol chwareuon ; ond yr oeddynt
yn gwbÌ anwybodus yn efengyl Duw, ac
yn llawer mwy cydnabyddus a bywyd a
gweithrediadau Alexander Fawr, a Julius
Caesar, nag a hanes yr Arglwydd lesu.
Rhag i neb dybio ein bod yn lliwio pethau
yn rhy ddu, difynwn yr hyn a ysgrifenwyd
. gan yr Esgob Burnet yn y flwyddyn
1713: "Y mae y nifer fwyaf o'r rhai a
ddeuant i'w hordeinio mor anwybodus, na
all neb gael syriiad am dano, ond y rhai y
gorfodir hwynt i'w wybod. Y wybodaeth
hawdáaf yw yr un y maent ddyeithraf iddi ;
yr wyf yn cyfeirio at y rhanau mwyaf
hawdd o'r Ysgrythyr. Nis gallant roddi
un math o gyfrif hyd yn nod o gynwys yr
Efengylau, neu y Catecism ; neu ar y
goreu, cyfrif anmherffaith iawn." Darlun
ofnadwy o ddu, onide ? A choíìer ei fod
wedi cael ei dynu gan esgob. Teg yw
hysbysu fod dosparth o glerigwyr ar y
pryd a arweinient fywyd moesol, a bod yn
eu mysg ddynion dysgedig a thalentog.
Y rhai hyn oeddent yr Uchel-eglwyswyr.
Ond anurddid hwythau gan ddau fai.
Un oedd eu rhagfarn at YmneiUduaeth.
Dalient nad oedd neb yn weinidog i Grist
B
os na fyddai wedi derbyn urddau esgobol,
fod yr hoU sacramentau a weinyddid gan
yr ỲmneiUduwyr yn ddirym, a bod yr
Eglwysi Ymneillduol oll mewn stad o
becho'd a damnedigaeth. Yn ychwanegol,
yr oeddynt yn wleidyddwyr penboeth.
Yr oeddynt, lawer o honynt beth bynag,
yn Jacobiaid, sef yn annheyrngar i'r
Brenin Sior, ac yn awyddus am weled
Siarl Steward, yr Ymhonwr fel ei gelwid,
yn esgyn i'r orsedd. Deuai pechod yn
rhinwedd yn eu golwg, os dangosai yr
hwn a'i cyflawnai zêl anghymedrol o
blaid yr Ymhonwr ; deuai sancteiddrwydd
yn gamwedd os dangosid unrhyw frawd-
garwch at yr YmneiIIduwyr. Gallai dyn
fod yn feddw trwy yr' wythnos, a byw y
bywyd ffìeiddiaf; ond os yfai iechyd da
yr Ymhonwr, ac os unai i felldithio y
brenin, ystyrid ef yn sant. Ar y Ilaw
arall gallai dyn fod yn ddysgedig, yn
ddiwyd, yn ddefosiynol, a defnyddiol ; ond
os gwrthwynebai yr Ymhonwr, y safai yn
gryf yn erbyn Pabyddiaeth, ac os amheuai
fod yr YmneiIIduwyr oll i gael eu damnio,
edrychid arno fel un anuniongred, a deuai
ar unwaith yn nod i saethau y blaid
Uchel-eglwysig.
Ychydig neu ddim gwell oedd pethau
yn mysg yr Ymneillduwyr. Cwynent
hwythau eu bod yn colli yr ieuenctyd,
fod difrawder cyff"redinoI ac oerni gauaf-
aidd wedi ymdaenu dros eu cynulleidfaodd,
a bod crefydd ysprydol yn nodedig o isel.
Achwynent fod Ilawer o'u gweinidogion
yn esgeulus ac yn arwain bucheddau
anfoesol, a'u bod yn eu pregethau, y rhai
a ddarllenid ganddynt, yn dangos mwy o
gydnabyddiaeth a'r awduron clasurol
nag a Gair Duw. Rhaid fod pethau
wedi cyrhaedd sefyllfa alaethus, a dywed
Tyerman mai cyfodiad a chynydd Metho-
distiaeth a achubodd Brydain rhagdinystr
tymhorol a chymdeithasol. Yn gyffelyb y
barna Macaulay.
Yr ydym wedi manylu ac ymhelaethu
ar sefyllfa crefydd a moesau yn Lloegr,
am fod yr unrhyw achosion, i raddau
mwy neu lai, ar waith yn Nghymru, ac o
angenrheidrwydd yn cynyrchu yr unrhyw
effeithiau. Braidd nad oedd dylanwad
Lloegr ar y Dywysogaeth yn gryfach y
pryd hwnw nag yn awr. Rhaid cofio fod
llenyddiaeth gyfnodol Gymreig heb wneyd
ei hymddangosiad eto ; na anwyd yr
Amseran, y newyddiadur wythnosol Cym-
reig cyntaf, am gan mlynedd gwedin, ac
na chyhoeddwyd y cylchgrawn misolcyntaf
Y TADAU METHODISTAIDD.
yn iaith yboblam rywhanercant. Cymaint
o lenyddiaeth yn adlewyrchu syniadau y
dydd ag a ddarllenid, deuai o JLoegr, ac
yr oedd ei ddylanwad fel gwynt heintus yn
deifio pob blodeuyn prydferth a thêg yr
olwg arno. Gwir nad oedd nifer y dar-
llenwyr ond ychydig, ond o herwydd eu
safle gymdeithasol medrent, fel y lefain
yn y ddameg, suro pob peth y deuent i
gyffyrddiad ag ef. DyHd coíìo yn
mhellach mai ychydig o ysgolion oedd yn
Nghymru, ac yr anfonid yr ieuenctyd am
addysg i'r trefydd mawrion Saesnig, a
bod y rhai a allent fforddio hyny yn
myned i Rydychain. Fel y gelíid
dysgwyl, deuent yn eu holau wedi ym-
lygru, ac wedi llyncu syniadau anffyddol
ac afiach y lleoedd y buont yn aros
ynddynt. Cadarnheir hyn gan dystiol-
iaeth unfrydol y rhai oeddynt yn byw ar
y pryd. Dywedant fod gwir grefydd
ymron wedi darfod o'r tir, fod anfoesoldeb
yn ei ffurfiau mwyaf hyll yn llanw y
wlad ; ac yn ych^vanegol fod yr anwybod-
aeth fwyaf eithafol, a'r ofergoelaeth
fwyaf hygoelus yn ffynu yn mysg y werin.
Ychydig oedd nifer y Beiblau, llai fyth
oedd nifer y rhai a fedrent eu darllen.
Treuhd nosweithiau y gauaf i adrodd
ystoriau gwrachíaidd am fwganod, drych-
iolaethau, goleu corff, a phethau o'r fath.
Er rhoddi ryw syniad i'r darllenydd am
sefyllfa isel y wlad, a pha mor llawn
ydoedd o ofergoehaeth, rhaid i ni geisio
ganddo ddyfod gyda ni ar daith ddych-
ymygol, i ffermdy gwell na'r cyffredin, ryw
noson yn y gauaf, lle y mae cwmni
dyddan wedi ymgasglu. Er oered yr hin
oddiallan, nid yw yn oer yn nghegin yr
amaethdy, oblegyd llosga tân braf, cymysg
o fawn ac o goed, ar yr aelwyd. Nid oes
yr un ganwyll yn nghyn, y mae goleu y tân
yn ddigon, a theifl y fflamau eu llewyrch
ar y platiau piwter sydd ar y seld nes y
maent yn dysgleirio drostynt. Eistedda
yr hên y tu fewn i'r simne eang hen
ffasiwn ; mewn pellder gweddol y tu ol yr
eistedd yr ieuanc, perthynol i'r ddau ryw ;
a'r gwaith, yr hwn a gerir yn nilaen gyda
chryn asbri, yw adrodd chwedlau, hen a
diweddar. Dywed un am ryw helynt a
ddigwyddasai yn y fferm agosaf ond un.
Ryw foreu yr wythnos o'r blaen, daeth
hen wraig, hagr ei gwedd a melyn ei
chroen, at y drws ; aeth gwraig y tý at y
drws i'w chyfarfod, pryd y cymerodd yr
ymddiddan canlynol le rhyngddynt.
" Bendith y nefoedd a fo arnoch ! A
welwch chwi yn dda roi cwpanaid o
haidd yn gardod i hen wreigan ? "
" Y mae yn wir ddrwg genyf ; yr ydym
yn hollol allan o haidd ; rhaid i'r hogiau
fyn'd i'r 'sgubor i ddyrnu, cyn y byddo
genym ddim at wasanaeth y tŷ."
" A ydych yn gwrthod y cwpanaid
haidd ? "
" Rhaid i mi wrthod heddyw, nid oes
dim genyf at fy Ilaw."
" Chwi a ddifarwch cyn machlud haul
am fod mor llawgauad."
Aeth yr hen ddynes i ffwrdd yn guchiog
ei gwedd, gan fwmian bygythion ; a throdd
y wraig yn ei hol i'r gegin. Yno yr oedd
y forwyn yn gwneyd paratoadau at
gorddi. Yn mhen ychydig dechreuodd ar
ei gwaith, a chorddi y bu am oriau
meithion, ond nid oedd un argoel fod yr
hufen am droi yn ymenyn. Gwawriodd
ar feddwl y feistres mai melldith yr hen
ddynes oedd y rheswm am y ffaelu corddi.
Aeth mewn brys gwyllt at ei gwr oedd yn
yr ydlan, gan ddweyd : —
" Ewch ar unwaith, cymerwch y ceffyl
buanaf sydd yn yr ystabl ; gyrwch ar ol yr
hen ddynes a fu wrth y drws ; y mae wedi
rheibio yr hufen ; dygwch hi yn ei hol
bodd neu anfodd."
Ymaith a'r gwr ; goddiweddodd y ddew-
ines; gwnaeth iddi ddychwelyd; dywedodd
hithau ychydig eiriau dan ei hanadl ; ac
ychydig o waith corddi a fu nes bod yr
ymenyn yn Ilon'd y fuddai. Gwnaed y
nodiadau oedd yn gweddu ar yr hanes ;
datganai rhai o'r cwmni ryw gymaint o
syndod ; ac eto nid oedd y syndod yn
fawr, gan fod digwyddiadau o'r fath yn
cymeryd Ile yn rhy gyffredin.
Gwedi byr seibiant dyma yr ail yn
cymeryd ei ddameg, ac yn adrodd am
Dafydd Pantyddafad yn yfed yn nhafarn
y pentref ryw fis cynt. Ystormus oedd y
nos, a chaddugol oedd y ty wy-IIwch ;
chwibanai y gwynt fel ellyll gwawdus yn
nghorn y simne, a disgynai y curwlaw i
lawr yn genllif, fel yr oedd yn berygl
bywyd myned allan o dŷ. Eisteddai
Dafydd yntau yn dra phruddglwyfus wrth
y tân, gan geisio dychymygu sut yr äi
adref, gan fod Pantyddafad ddwy filltir o
bellder, yr ochr arall i'r afon Teifi. Wrth
ei benelin yr oedd hen wreigan, gyda
sJimid goch ar ei gwar, yn cribo gwlan yn
ol ffasiwn yr hen Gymry. Gwaghaodd
Dafydd ei beint, galwodd am un arall, ac
wedi yfed dracht dda o hono, estynai ef
i"r hen wraig a'r . cribau, er mwyn iddi
SEFYLLFA FOESOL CYMRU
hithau gael yfed. Yn y man ymdora
gofid ei galon allan, a dywed : —
" Y mae yn noson enbyd. \\'n i yn y
byd pa fodd yr af adref."
." Cymerwch galon ; chwi ewch adre'
yn ddyogel," meddai y wraig a'r cribau.
" A ydych chwi yn meddwl y gostwng
y gwynt, ac yr aiff hi yn hindda ? "'
" Gostwng neu beidio, fyddwch chwi
ddim gwaeth."
Yfodd yr amaethwr ragor o beintiau,
gan roddi yfed o hyd i'r hon oedd yn
cribo gwlan ; ond nid oedd argoel fod yr
ystórm yn Uaesu. O'r diwedd cododd,
gwisgodd ei gob fawr am dano, a
dywedodd ei fod yn myned deued a delai.
Tynodd y drws ar ei ol, rhoddodd un cam
allan i'r tywyllwch ystormus, a'r cam
nesaf yr oedd wrth ddrws ei dỳ, heb
wlychu nag arall. Yr oedd yr hon a
yfasai o'i beint wedi tahi iddo am ei
garedigrwydd, trwy ei gario mewn myn-
ydyn o amser ddwy filltir o ffordd yn
groes i'r Teifi, mewn modd nas gwybuai
efe. Cynyrchodd yr ystori yma fwy o
syndod ; yr oedd fod dyn yn cael
ei gipio trwy yr awyr mewn modd
gwyrthiol gan reibwraig yn ddigwyddiad
anghyffredin.
Hanes am ddyn yn cael ei ddal mewn
toilu sydd gan y trydydd, a gwrandewir
ar ei eiriau gydag awch. Dywedai
ddarfod i gasglwr trethi y plwyf, pan ar y
ffordd fawr yn dychwelyd i'w artref, a
hithau yn hwyr, gael ei hun yn ddisymwth
ynghanol torf o ddynion. Sathrai y rhai
hyny ei draed, a chilgwthient ef, nes y
cafodd ei hun ar ei ledorwedd ar ochr y
claẅdd. Yn fuan deallodd fod angladd
yn pasio. Elai y dorf yn dewach, yn
mhen enyd dacw yr arch yn d'od i'r
golwg, ac adwaenai yntau y rhai oeddynt
yn cario yr elor. Yn raddol teneuai y
dyrfa, a phasiodd y cynhebrwng. ünd yn
mysg yr olafiaid gwelai y trethgasglydd
amaethwr oedd yn ei ddyled o'r dreth,
a thybiodd fod yno gyfle braf i'w cheisio,
fel ag i hebgor iddo gerdded rhai miHtir-
oedd boreu dranoeth. Rhedodd ar ei ol,
a galwodd arno erbyn ei enw. ünd ni
atebai ; cerddai yn ei flaen mor sobr a
sant, heb edrych ar y deheu na'r aswy, ac
heb gymeryd unrhyw sylw o gais g\vr y
dreth. Wedi bhno gaiw gwawriodd ar
feddwl y trethgasglydd mai mewn toilu yr
oedd, mai ysprydion a arferent orymdeithio
mewn sefydliadau o'r cyfryw natur, ac
nad oedd ysprydion un amser yn talu
treth. Trodd ar ei sawdl, ac aeth adref
wedi ei siomi yn fawr.
Nid oes genym hamdden i groniclo ond
un arall o'r ystoriau a adroddid, ac y mae
hono, fel llawer o'r chwedlau a ffynent ar
y pryd, am offeiriad. Dywedid fod y
Parchedig Thomas Jones, ficer un o'r
plwyfi agosaf, yn \vr tra dysgedig, ei fod
yn gallu darllen Lladin, fod yn ei feddiant
lyfr llawn o gythreuhaid, ac y drwgdybid
yntau yn gryf o ddal cymundeb a'r g\vr
drwg. Cedwid y llyfr consurio bob amser
yn rhwym mewn cadwyn glöedig. Ond
yr oedd y forwyn, yr hon, fel llawer o'i
dosparth, a feddai swni mawr o chwil-
frydedd, wedi canfod y Uyfr yn haner
agored gan ei meistr ; a thystiai ei fod
wedi ei orchuddio drosto a lluniau an-
naearol, ac ag ysgrifeniadau mewn inc
coch. Un tro penderfynodd Mr. Jones y
gwnai ddatgloi y gadwyn ac agor y llyfr.
Gyda bod y llyfr íed y pen, dyma haid o
ddiaflaid yn rhuthro allan, ac yn gofyn
am waith. Y perygl mawr wrth godi
cythreuHaid allan o lyfr yw methu cael
digon iddynt i' w wneyd ; ac os na chant hyny,
cymerant y dyn a roes eu rhyddid iddynt
i fynu yn gorphorol, a dygant ef gyda
hwynt i'r pwll. Yn ffodus, cofiodd Mr.
Jones am Lyn Aeddwen, ei fod yn llyn
mawr a dwfn, a gorchymynodd i'r ellyllon
fyned yno, a thaflu y dwfr allan, nes
gwneyd y Uyn yn wag. . I ffwrdd a hwy
ar unwaith ; torodd y chwys dyferol allan
drosto yntau, a theimlai ei fod wedi cael
gwaredigaeth fawr. Ond meddai ar gryn
wroldeb,.a mentrodd agor dalen arail ; a
chyda ei fod yn gwneyd dyma haid arall o
ddiaflaid yn rhuthro allan, ac fel y rhai
cyntaf yn hawho gorchwyl. Nid oedd yr
hen offeiriad yn amddifad o gyfrwysdra,
ac anfonodd yr haid hon at yr un Ìlyn, i
daflu yn ol y dwfr a luchid allan gan y
rhai blaenoroL Pa hyd y bu y ddau
ddosparth yn taflu dwfr i mewn ac allan,
ni eglurai yr adroddwr, na pha un oedd y
trechaf yn yr ymdrech ; nac ychwaith pa
fodd yr aethant yn eu holau i'r Uyfr, os
mai yno yr aethant, gan i'r ficer ei gloi
a'i osod yn ol yn ddyogel yn y cwpbwrdd
ar unwaith. A chymaint oedd y dychryn
a gawsai fel na chynygiodd ar ddireidi o'r
fath drachefn.
Fel yr elai y nos yn mlaen cynyddai yr
asbri, a deuai y chwedlau yn fwy braw-
ychus. Yn awr ac yn y man pesid y
gostrel a'r cwrw o gwmpas, yr hon ddiod
oedd wedi ei darflaw gartref, a deuai
Y TADAU METHODISTAIDD.
tafodau yr adroddwyr yn fwy rhydd iiiewn
canlyniad. Ni thorwyd i fynu hyd haner
nos, ac erbyn hyny yr oedd y dosparth
ieuangaf wedi eu meddianu gan ddychryn-
feydd ; cyniweiriai iasau oerion trwy eu
cnawd, a safai eu gwallt i fynu yn syth.
Ar y fifordd adref tybient mai drychiolaeth
oedd pob llwyn o ddrain, ac mai canwyll
gorff oedd Uewyrch y glöyn byw yn ffos y
clawdd.
Dyma yr ymborth meddyhol a roddid i
ieuenctyd Cymru gant a haner o flynydd-
oedd yn ol ; dyma y chwedlau ofergoelus
a yfent megys gyda llaeth eu mamau, ac
a gredid yn ddiameu yn eu phth. Ni
wyddent ddim am Dduw, heblaw bod yn
gydnabyddus a'i enw ; ni feddent yr un
syniad am ysprydolrwydd ei natur nac am
y dyledswyddau a ofynai ar eu llaw. Am
y pethau mawrion yma yr oeddynt agos
mor anwybodus a phaganiaid India. Ac
yr oedd yr anfoesoldeb yn gyfartal i'r
anwybodaeth. Ymlygrasai yr holl wlad ;
yn hyn nid oedd wahaniaeth rhwng
boneddig na gwreng, ofíeiriad na phobl.
Nid oedd y pwlpud yn meddu un math o
allu i atal y Uifeiriant. Yn wir, anaml
y clywid enw ein Gwaredwr yn cael ei
yngan ynddo, ac ni chyfeirid o gwbl
at bechadurusrwydd dyn, nac at waith
yr Yspryd Glân." Bob Sul cynhehd
chwareugamp, lle y byddai ieuenctyd y
wlad yn gwneyd prawf o'u nerth mewn
ymgodymu, neidio, rhedeg, a chicio y bel
droed, tra y byddai yr hen yn sefyll o
gwmpas i edrych. Gorphenid y dydd
trwy fyned yn un dorf i'r tafarn, lle y
treuhd y nos mewn meddwdod, ac yn
aml mewn ymladdfeydd creulon. Nos
Sadyrnau, yn arbenig yn yr haf, cynhehd
cyfarfodydd i ganu carolau, i ganu gyda'r
delyn, i ddawnsio, ac i berfformio inter-
Hwdiau, gyda y ddau ryw ynghyd ; yn y
chwareuon hyn ymunai boneddigion yr
ardaloedd yn gystal a'r tlodion. Cafodd
y pethau yma, ynghyd a'r anfoesoldeb
cydfynedol, y fath ddylanwad ar yspryd
Mr. Charles o'r Bala, fel yr oedd hyd
derfyn ei oes yn boen iddo i aros mewn
ystafell yn mha un y byddai y delyn yn
cael ei chwareu.
Cyhudda y Parch. T. Rees, D.D., Aber-
tawe, y tadau Methodistaidd o ddesgrifio
sefyllfa y Dywysogaeth ar y pryd mewn
Ihwiau rhy ddu, a lledawgryma ddarfod
iddynt wneyd hyny yn wirfoddol, er
"" Johnes' Cauÿcs of Dissent iti Wahs.
dirmygu llafur blaenorol yr YmneiUduwyr,
a mwyhau y diwygiad a gynyrchwyd
trwy eu llafur hwy eu hunain. Ni
ddylasai y fath gyhuddiad ehud a disail
gael ei wneyd. Y tadau Methodistaidd
fyddai y (Hweddaf i orbrisio eu gwaith.
Yn wir, nid oedd ganddynt un syniad am
fawredd y chwildröad y buont yn foddion
i'w gynyrchu ; nyni, wrth edrych yn
ol arno dros agendor o gant a haner o
flynyddoedd, sydd yn gaUu deafl pa mor
bwysig a pha mor flesiol a fu eu flafur
a'u gweinidogaeth. SeiHa Dr. Rees ei
gyhuddiad ar ryw daflenau y daeth o hyd
iddynt yn Lhmdain, ac ar lythyr o
eiddo y Parch. Edmund Jones, Pontypwl.
Cawn sylwi yn nes yn mlaen ar y taflenau,
ond y mae yn amlwg fod Edmund Jones,
a Dr. Rees yn ogystal, wedi camddeaH
marwnad Wifliams, Pantycelyn, i Howell
Harris. Pan y desgrifia Wifliams Gymru,
yr adeg y daeth Harris i maes o Drefecca
fel dyn mewn twym ias, ac y dywed eu
bod
" yn gorwedd
Llewn rhyw dywyll, farwol hun,
Heb na Phresbyter na 'Ffeirad,
Nac un Esgob ar ddihun,"
nid yw am wadu fod rhai eithriadau
pwysig. Ysgrifenai fel bardd, ac ni
fwriadai i'w eiriau gael eu deafl yn hoflol
lythyrenol. " Nid yw Wifliams," meddai
Dr. Rees, " mewn un modd yn fleddfu
ei haeriad fod pawb yn Nghymru mewn
trwmgwsg pan y cychwynodd Method-
istiaeth." Y mae hyn yn gamgymeriad ;
ceir ymadroddion yn y farwnad ei hun
sydd yn dangos na fwriedid y geiriau i
gael eu gwasgu i'w hystyr eithaf. Tua
chanol y farwnad ceir y flineflau canlynol :
" Griffìth Jones pryd hyn oedd ddeíîro
Yn cyhooddi Efengyl gras,
Hj'd cyrhaeddai'r swn o'r pwJpud
Neu, os rhaid, o'r fynwent las."
Cyn diwedd yr unrhyw farwnad, ceir fod
rhagor na Griffìth Jones ar ddihun ; yr
oedd
" Rowlands, ITarris, a rhyw ychydig
Yma yn Nghymru j'n seinio maes,
Weithiau o Sinai, weithiau o Sion,
Hen ddirgelion dwyfol la;."
Fel desgrifiad o agwedd gyffredinol y wlad
yr oedd geiriau Wifliams yn wirionedd ;
yr oedd trwmgwsg marwol wedi meddianu
hyd yn nod y rhai oeddynt wedi cael eu
appwyntio i wyHo. Nid yw am wadu yr
eithriadau, yn hytrach cyfeiria atynt,
ond achwyna nad oeddynt ond " rhyw
ychydig." Rhaid esbonio y gwahanol
SEFYLLFA FOESOL CYMRU.
linellau yn y farwnad yn ngoleuni yr oll o
honi. Dyma y rheol bendant wrth esbonio
yr Ysgrythyr ; a phe y gwneid fel arall, ac
y cymerid ymadroddion allan o'i cysyllt-
iadau, fel y gwna Dr. Rees ac Edmund
Jones wrth feirniadu geiriau Williams,
Pantycelyn, gelHd gwneyd i'r Beibl ddysgu
y cyfeiHornadau mwyaf dinystriol. Yn
mheUach, ysgrifenai Edmund Jones ei
lythyr dan ddylanwad teimladau digofus
at y Methodistiaid. Hawdd deah hyny
wrth ei dôn. Dywed : " Y mae WiHiam
WiUiams, y clerigwr Methodistaidd, yn
dweyd yn blaen nad oedd na 'ffeirad na
phresbyter ar ddihun pan ddechreuodd
Howell Harris gynghori. Dyma anwiredd
cywilyddus wedi ei argraffu. . . . Myfi
fy hun a ddygodd Harris gyntaf i Sir
Eynwy i gynghori. Y mae yn rhyfedd
fod y dyn yna yn gaHu dweyd y fath beth,
ac yntau wedi ei eni a'i addysgu yn mysg
yr YmneiHduwyr. üs na wna y Method-
istiaid roddi heibio senu yn Hym fel y
maent, bydd i Dduw o radd i radd eu
gadael." Geiriau digHawn, ac nid an-
hawdd rhoddi cyfrif am deimlad yr hwn
a'u hysgrifenai. Yr oedd HoweH Harris
wedi gweini cerydd i Edmund Jones am
ei zêl broselytiol, a'i waith yn ffurfio
eglwysi Annibynol o ddychweledigion
Harris ei hun. Yr oedd y cerydd yn
nodedig o fwynaidd a thyner, yn arbenig
pan yr ystyrir yr amgylchiadau ; addefir
hyny gan Dr. Rees ; ond y mae yn ym-
ddangos iddo chwerwi yspryd Edmund
Jones, a pheri iddo deimlo yn gas at y
Methodistiaid.
Ond nid rhaid dibynu yn unig ar dyst-
iolaeth y Methodistiaid gyda golwg ar
agwedd y Dywysogaeth yr adeg hon ;
cadarnheir eu desgrifiad gan bersonau y
tu aHan iddynt. Ni ddeallai neb beth
oedd sefyHfa foesol ac ysprydol Cymru yr
adeg yma yn weH na'r Parch. Griffith
Jones, Llanddowror ; ni chafodd neb weH
cyfleustra ; yr oedd yntau yn \Vr nodedig
o gymhedrol, ac yn dra gofalus am bwyso
ei eiriau. Fel hyn yr ysgrifena efe : '•'
" Mewn amrywiol fanau, pan yr ym-
gynuHai rhyw driugain, neu bedwar ugain
o bobl, cymysg o hen ac ieuanc, i'r
ysgoHon, cafwyd nad oedd dros dri neu
bedwar o'r oH yn aHuog i adrodd Gweddi
yr Arglwydd, a'r rhai hyny yn dra an-
mherffaith ac anneaHadwy, heb wybod
pwy yw eu Tad yn y nefoedd, na medru
rhoddi gweH cyfrif am y gwirioneddau
hawddaf a mwyaf cyffredin yn y grefydd
Gristionogol, na'r paganiaid ydych yn
ddysgu o'ch caredigrwydd yn yr India.
Nid disail yw yr achwyniadau fod halog-
edigaeth, anHadrwydd, trais a Hadradau,
yn Hanw y wlad, ac ar gynydd." Geiriau
cryfion, ac nid rhyfedd fod y g\vr da yn
gofyn yn brudd : " Beth a fedr ymdrechion
preifat ychydig mewn cymíaariaeth ei
effeithio ? " Meddai : i " Ymddengys fod
cwmwl Hawn o ystorm yn hofran uwch
ein penau, pa le bynag y disgyna, yr hon
sydd yn bygwth dinystr ar bawb sydd yn
esmwyth arnynt yn Sion." Trachefn : [.
" Chwi a synech y fath syniadau ynfyd a
chywilyddus, os nad cableddus, sydd gan
lawer o'r tlodion am Dduw a Christ a'r
sacramentau. Ni wyddanf ddim am
fedydd ond iddynt gael eu bedyddio, a'u
gwneyd yn Gristionogion da, ychydig
wedi eu geni ; nac am Swper yr Arglwydd
heblaw mai bara a gwin ydyw, yr hyn y
bwriada rhai o honynt ei gymeryd pan
fyddont yn myned i farw. Prin y maent
yn dirnad mwy am briodoleddau Duw,
neu swyddau ein Hiachawdwr, neu y
cyfamod gras, neu aniodau iachawdwr-
iaeth, neu ynte am eu sefyHfa ysprydol eu
hunain, a'u dyledswyddau at Dduw ac at
ddynion, na phe byddent heb gael eu geni
mewn gwlad Gristionogol. Y fath yw yr
anwybodaeth sydd wedi goresgyn ein
gwlad, fel mewn Hawer rhan o honi, y
niae gweddiHion ei phaganiaeth gynt,
ynghyd a gweddiHion Pabyddiaeth ddi-
weddarach, yn aros hyd heddyw yn mysg
y tlodion, mewn syniadau, geiriau, a duH
o fyw. Nid rhyfedd ynte fod y fath
ddiluw o anfoesoldeb a drygioni, megys
cenfigen, malais, celwydd, anonestrwydd,
rhegu, meddwdod, aflendid, a chabledd,
ynghyd a phob math o halogedigaeth ac
annhrefn wedi Hifo aHan o hono. Yr unig
wahaniaeth a wna Hawer rhwng y Dydd
Sanctaidd a dyddiau eraiH yw ei fod yn
rhoddi mwy o hamdden iddynt i ymroddi
i anHadrwydd a bryntni."
GaHem ddifynu brawddegau eraiH,
Hawn mor gryfion, o ba rai y niae ei
ysgrifeniadau yn dryfrith, ond rhaid ym-
atal. Bydchii yn anhawdd tynu darlun
duach, na mwy byw. Braidd nad ydym
yn gweled y whid wedi ei gorchuddio gan
anwybodaeth caddugawl am Dduw, am
Grist, ac am grefydd, heb un dirnadaeth
Wdsh Piety.
t Ibid.
IbiJ.
Y TADAU METHODISTAIDD.
ain drefn yr efengyl i achub, ac yn Uawn
o syniadau ac arferion haner Pabyddol,
a'r cyfoethog a'r tlawd wedi cydsuddo i'r
anfoesoldeb rnwyaf gwarthus. Gwyddai
Griffith Jones beth oedd yn ddywedyd,
oblegyd yr oedd wedi trafaelu rhanau
helaeth o'r Dywysogaeth ar ei deithiau
pregethwroL Cofier hefyd ei fod yn byw
ynghanol y Deheudir, lle y meddylia rhai
fod Ymneillduaeth yn ílaenorol wedi agos
cwbl grefyddoh y werin, ddarfod iddo gael
ei ddwyn i fynu yn nyddiau ei faboed
gyda'r YmneiUduwyr, a bod yr eghvysi a
wasanaethai o fewn ychydig filldiroedd i
dref Caerfyrddin, lle yr oedd Aíhrofa
Ymneillduol wedi cael ei sefydlu. Y mae
tystiolaeth y fath \Vr yn werth mil o
gasghadau wedi eu tynu oddiwrth dyb-
iaethau amheus.
Adrodda Mr. Pratt,''' yr hwn a deithiodd
y rhan fwyaf o'r Dywysogaeth ýchydig
wedi cychwyniad Methodistiaeth, ac a
ysgrifenodd hanes ei deithiau, am yr
ofergoehon a íìfynai yn mysg y werin. Yn
y Dê a'r Gogledd cafodd fod cred
mewn drychiolaethau yn gryfach ac yn
fwy cyífredinol na chred yn Nuw ; ni
amheuai neb y chwedlau a adroddid am
ganhwyllau cyrfìr, a'r tylwyth têg. Yn Sir
Forganwg bu yn ymddiddan ag oíTeiriad,
yr hwn nid yn unig oedd yn gredwr yn y
tylwyth têg, ond a ysgrifenasai lyfr yn
desgrifio eu nodweddion, ac yn croniclo
eu gwrhydri. Pan y darfu i Mr. Pratt
ledamheu gwirionedd ei dybiaethau, aeth
yr ofifeiriad i dymer ddrwg, gorchuddid ei
enau ag ewin, a da gan yr ymwelydd oedd
cael ymadael mor gyflym ag y medrai.
Ar y ffordd i'r gwestŷ' dywedai ei letywr
fod yr ofí'eiriad yn arfer brochi ac ym-
gynddeiriogi pan yr amheuid dihsrwydd
yr hyn a draethai ; yr haerai unwaith
wrth nifer o bobl oedd wedi ymweled ag
ef fod tros fìl o'r tylwyth têg yn yr ystafell
ar y pryd, y rhai osddynt yn anweledig i
bawb ond iddo ef ei hun ; a'u bod wedi
dyfod yno oblegyd ei fod yn eu parchu
mor fawr. Dechreuodd rhai chwerthin ;
ymgynhyrfodd yntau mewn canlyniad, a
bygythiodd y gwnai beri i'r tylwyth
bychain direidus eu pinsio, a'u bhno
ddydd a nos. " Ac mor wir a'ch bod yn
fyw," meddai y gwestywr wrth Mr. Pratt,
" ar waith dau o'r cwmni yn clecian eu
bysedd, gan ddweyd nad oeddynt yn maho
* Pratt's Gleaniìigs in Wales, Holland, and West-
phalia.
dim am dano ef na'i dylwyth têg, efe a
wnaeth iddynt edifarhau. Oblegyd nos a
dydd cafodd y ddau ddyn eu poenydio
gymaint gan y diaflaid bychain, fel y bu
raid iddynt ddychwelyd at yr offeiriad, a
chrefu ei faddeuant, a gofyn ganddo eu
gyru ymaith oddiwrthynt." " A ydych
chwithau yn credu yn y tylwyth teg ? "
gofynai Mr. Pratt.
" Credu ! ydwyf," oedd yr ateb, " ond
y maent bob amser wedi bod yn elynion i
mi, ac i fy nheulu, a hyny am y peth
mwyaf dibwys, na fuasai yn gyru gwib-
edyn allan o dymer."
" Pa beth a wnaethoch i'w gofidio ? "
" Dim ond bario y ffenestr agosaf at yr
ystafell, yn mha un y darfu i chwi gysgu
neithiwr."
" Pa wrthwynebiad a alhii fod ganddynt
i hyny ? "
" O, yr oeddynt yn arfer agor y ffenestr,
a dyfod i mewn i'r tý, gan ladrata pa beth
bynag y gaUent osod eu dwylaw arno."
" Yn wir ; a ydynt yn wreng mor
anonest ? Y rhempod bychain ! Pwy
allasai feddwl y fath beth ?"
" Ydynt, Syr. Hwy yw y lladron
gwaethaf yn yr lìoU fyd, er eu bod mor
fychain."
" A ydych yn ddifrifol ? Ydych chwi
mewn gwirionedd yn credu y fath
chwedlau ? "
" Credu ? Mi a hoffwn pe yr aech i
gysgu am noson i'r ystafell lle y mae y
ffenestr wedi ei bario ? "
Eithr pan y boddlonodd Mr. Pratt
gysgu yn yr ystafell, gwrthododd y
gwestywr ganiatau iddo ; dywedai nad.
oedd am gael ei orfodi i ateb am fywyd
neu aelodau un o'i letywyr ; ac yn
mheUach fod y llyfifaint bychain, fel y
galwai y tylwyth têg mewn tymer ddrwg,
yn dechreu bhno hofran o gwmpas, ac
ond iddo gadw yr ystafell yn nghau am
ryw flwyddyn yn ychwaneg, efaUai yr
ymadawent ac y chwihent am gyrchfa
araU. Hawdd deall nad oedd y tafarnwr
ond yn rhoddi Hais i'r gred gyffredinol a
fíynai trwy y wlad, a bod yr holl gymyd-
ogaeth yn credu yn y tylwyth têg, ac yn
awdurdod yr offeiriad arnynt.
Er prawf pa mor ofergoelus oedd y
cyffredin bobl yr adeg yma, hyd yn nod
yn y Deheudir, ac fel y ffynai syniadau ac
arferion Pabyddol yn eu mysg, cymerer y
difyniadau canlynol allan o lyfr a ysgrif-
enwyd gan Erasmus Saunders, D.D., ac a
gyhoeddwyd yn Llundain yn y flwyddyn
SEFYLLFA FOESOL CYMRU.
1721, sef tua phymtheg mlynedd cỳn
cyfodiad Methodistiaeth. Enw y Uyfr
y\v, "--1 VI cw of tìic State of Rcligion in the
DiOi'cse of St. Danid's ahout tìie Beginning of
tlic Eightecnth Centuyy.'" Amcan yr awdwr
yn y difyniadau hyn yw dangos fod y
Cymry yn meddu tueddfryd grefyddol ;
wrth fyned heibio, ac yn mron o'i anfodd,
y cyfeiria at eu hofergoeledd.''' " Ymaent,"
meddai an"! y werin Gymreig, " yn croesi
eu hunain, fel y gwnelai y Cristionogion
cynteíìg, ar lawer o achlysuron, gyda
saeth-weddi fer ar iddynt trwy groes Crist
gael eu cadw. Yn y rlianau mwyaf
mynyddig, lle y glynir yn benaf wrth
yr arferion a'r symh'wydd henafol, yno
gwelwn y bobl ar eu dyfodiad i'r eglwys,
yn myned ar eu hunion at feddau eu
cyfeilhon, a chan benhnio yn ofFrymu eu
gweddi i Dduw." Ni ddywed yr awdwr
am ba beth y gweddîent, ond y mae yn
dra sicr, oddiwrth eiriau Mr. Johnes ac
eraiU, mai gweddio ar ran y marw a
wnaent, ar iddo gael ei waredu o'r
purdan ; oblegyd y ffurf-weddi a arferid
yn gyffredinol ydoedd, " Nefoedd iddo."
Ond i ddychwelyd at ddesgrifiad Dr.
Erasmus Saunders : " Yn enwedig ar wyl
genedigaeth ein Harglwydd, oblegyd y
■ pryd hwn deuant i'r eglwys gyda chan-
iad y ceihog, gan ddwyn gyda hwynt
ganhwyllau neu ffaglau, y rhai a osoda
pob un i losgi ar fedd ei gyfaill ymadaw-
edig ; yna dechreuant ganu eu carolau, a
pharhant i wneyd hyny er croesawi yr wyl
agoshaol, hyd amser y weddi. Ond gyda
yr hen arferion diniwed a da hyn, y
maent wedi dysgu llawer o ymarferiadau
coelgrefyddol Pabaidd yn yr oesoedd
diweddaf, fel yr arferant yn eu saeth-
weddiau alw nid yn unig ar y Duwdod,
ond hefyd ar y Forwyn Sanctaidd, ynghyd
a seintiau eraill ; canys y mae Mair Wen,
lago, Teilaw Mawr, Celer, Celynog, ac
eraiU yn cael eu cofio fel hyn yn fynych,
fel pe y byddent hyd yma heb anghofio yr
arfer o weddio arnynt. . . . Mewn Uawer
rhan o Ogledd Cymru, parhant mewn
ystyr i dalu am y marw-ddefodau, trwy
gyflwyno offrymau i'r gweinidogion ar
gladdedigaethau eu cyfeilhon, fel y dysgid
hwy yn flaenorol i wneyd am eu gweddio
ahan o'r purdan." A yr awdwr yn mlaen
i ddangos fod y cymysgedd o goelgrefydd
a chrefydd, cyfeihornad a gwirionedd, a
ffynai yn mysg y werin, yn ffrwyth cam-
* Tudal. 17.
arweiniad yn fwy na dim arah ; gan sylwi
yn mhellach fod y bobl yn fwy dyledus
am hyny o grefydd ag a feddent i'w
gonestrwydd a'u crefyddolder naturiol, i'w
carolau, ac i ganiadau Ficer Llanymddyfri,
nag i unrhyw lesiant a gaent oddiwrth
weinidogion yr eglwys trwy bregethu neu
gateceisio. Ỳchwanega : " Os nad' ydym
eto wedi dad-ddysgu cyfeiliornadau ein
hynafiaid Pabyddol, y rheswm am hyny
ydyw, nad yw athrawiaethau y Diwygiad
Protestanaidd, a gafodd ei ddechreuad yn
Lloegr tua dau can' mlyríedd yn ol, hyd yn
hyn wedi ein cyrhaedd ni yn efifeithiol, ac
nid yw yn debygol y gwnant byth, heb i
ni gael clerigwyr dysgedig a theilwng."
Gellid lluosogi toraeth o brofion ychwan-
egol gyda golwg ar iselder crefydd yn
Nghymru, adeg cyfodiad Methodistiaeth,
ynghyd a ffyniant ofer-gampau' ac am-
mharch i'r Sabbath, yn y Deheudir yn
gystal ag yn y Gogledd, ond ymfoddlonwn
gyda rhoddi tystiolaeth y Parch. John
Thomas, pregethwr Annibynol, gweinidog
y Rhaiadr, a dwy eglwys arall yn Sir
Faesyfed. Cyfansoddodd Hunan-gofiant
yn y flwyddyn 1767, o ba un difynwn a
ganlynar awdurdod y Parch. W. Williams,
Abertawe, yn ei Iyfr rhagorol, Welsh
Calvinistic Methodism.\ Ganwyd ef yn
I730,yn mhlwyf Myddfai, Sir Gaerfyrddin.
O'i febyd yr oedd tan argraíìiadau cref-
yddol cryfion ; a theimlai, ac efe eto yn
llanc, ei enaid yn ddolurus ynddo wrth
weled annuwiaeth y bobl yn mysg pa rai
yr oedd yn byw, ac hyd yn nod y pryd
hwnw dechreuodd eu ceryddu. Yr oedd
chwareu-gampau yn bethau cyffredin yn
ei gymydogaeth, fel yn mhob cymydog-
aeth arall y pryd hwnw ; am ryw gymaint
o amser cymerai efe ran ynddynt, ond wedi
iddo gael ei argyhoeddi o'u pechadurus-
rwydd, nid yn unig cefnodd arnynt eu hun,
eithr ceisiai berswadio eraill i wneyd yr
un peth. ' Yr wyf yn cofio,' meddai,
' myned un prydnawn Sul yn agos i eglwys
fy mhlwyf genedigol, Ile yr oedd nifer yn
chwareu coetanau (guoitsj, a thyrfa fawr,
fel ffair, yn edrych arnynt. Yn fy fifordd
blentynaidd fy hun, dechreuais ddweyd
wrthynt amgyflwr eu heneidiau ; chwardd-
ent yn uchel, ac ymddangosent fel yn
credu fy mod yn wallgof ; eto, pa un ai
mewn canlyniad i'm geiriau i, neu iddynt
gael eibygwth gan eraiU, neu ynte ddarfod
iddynt gael eu cnoi gan eu cydwybodau,
t Welsh Calvinistic Methodism, tudal. 18.
lO
Y TADAU METHODISTAIDD.
darfu i amryw o honynt roddi i fynu
chwareu yn y fynwent. Ond aent wedin
i gonglau lle nad oedd fawr tramwy ; eithr
mi a'i gwnaethum yn bwynt i'w canlyn, ac
i lefaru wrthynt am y drwg o halogi Dydd
yr Arglwydd felly. Weithiau bygythiwn
alw ar wardeniaid yr eglwys, er y gwyddwn
na fyddai hyny ond ofer, canys gan fod yn
ddibris o'u Uwon ni ddeuent hwy allan o'r
tafarndai, er i mi fyned yno i'w cyrchu.
O ! chwychwi dyngwyr anudon, pa le y
mae eich llwon ! '
"-■'Dechreuodd bregethu cyn bod yn ugain
oed, gan deithio o gwmpas, a chael ei
gamdrin yn enbyd mewn amryw fanau yn
Neheudir Cymru. Pan yn pregethu yn yr
awyr agored yn Nhregolwyn, Bro Mor-
ganwg, lluchiwyd wyau clwc ato nes yr
oedd ei ochrau yn ddolurus, a'i ddillad yn
orchuddiedig gan aflendid. Methwyd taro
ei ban, gan fod hen wreigan yn dal het yn
amddiffyn iddo. Yn Llangattwg, swydd
Frycheiniog, daeth yswain y pentref,
ynghyd a'r offeiriad a'r clochydd, a gwr y
tv tafarn, allan i'w wrthwynebu. Gafael-
odd y cyntaf o'r rhai hyn yn ei goler, a
rhoddodd ergyd iddo ar ei foch, ac yna
dychwelasant yn eu holau i'r tafarndy. Yn
Nghrug-hywel parai ysgrechfeydd y ter-
fysgwyr i arswyd dreiddio trwy ei gnawd,
a darfu iddynt ddryho ffenestr y ty yn mha
un y pregethai. ' Yr oeddwnl unwaith,'
meddai, ' gerllaw eglwys Ystrad, yn Mor-
ganwg, tra yr elai chwareuyddiaethau yn
mlaen, a sefais i bregethu wrth glawdd y
fynwent. Yna darfu i'r rhai oeddynt yn
chwareu pêl, ac yn dawnsio, ymatal, gan
ddyfod y tu arall i'r clawdd i wrando, y
ffìdleriaid a phawb. Gwedi i'r offeiriad,
yr hwn oedd yno gyda hwynt, golh eu
gwmni, dywedodd wrth y fîìdleriaid : Os
ydych yn disgwyl cael eich taki, ewch yn
mlaen a'ch gwaith ; a chwithau sydd yn
siarad, ewch ymaith oddiwrth y fynwent,
daear gysegredig ydyw."
Profa y tystiolaethau hyn, a llawer o
rai ychwanegol a elHd ddwyn yn mlaen, y
rhai a gawsant eu hysgrifenu yn hollol
annibynol ar eu gilydd, ac heb un amcan
heblaw adrodd ffeithiau hanesyddol, fod
cyflwr Cymru yn gyfangwbl fel y darfu i
WilUams, Pantycelyn, a Charles o'r Bala,
ac eraiU ei desgrifio ; sef yn llawn annuw-
ioldeb, anwybodaeth agos a bod yn bagan-
aidd, ac ofergoeledd Pabyddol ; na feddai y
werin bobl fawr gwybodaeth am Dduw, na
* Wélsh Calüinistic Methodism, tudal. l'J. t Ibid.
pharch i'r Sabbath, ond eu bod yn ym-
roddi i ofer-gampau a meddwdod, a phob
math arall o lygredigaeth. Cadarnheir y
cyfryw dystiolaethau, pe bai eisiau cadarn-'
hau arnynt, gan yr erledigaethau a'r
ymosodiadau creulon a wnaed ar y Metho-
distiaid cyntaf, pan yn myned o gwmpas i
bregethu yr efengyl. GweHr na chyfyngid
yr erledigaethau o gwbl i Ogledd Cymru,
er efallai mai yno y buont ffyrnicaf ac y
darfu iddynt barhau hwyaf, ond eu bod yn
cael eu cario yn mlaen yn y Dê yn ogystal.
Yn sicr, pe bai rhanau helaeth o'r Deheu-
dir wedi cael agos eu llwyr feddianu yn
flaenorol gan yr YmneiUduwyr, fel y myn
Dr. Rees, buasai y fath ymosodiadau ciaidd
ar ddynion a deithient o gwmpas heb
unrhyw amcan ond ceisio dwyn y byd at
Grist, yn hollol amhosibl.
Cyn cael dirnadaeth ghr am sefyllfa
grefyddol y Dy wysogaeth yr adeg y cyfeir-
iwn ati, rhaid i ni ddangos ansawdd crefydd
yn yr Eglwys Wladol, ac yn mysg yr
Ymn^illduwyr. Am yr Eglwys Sefydledig,
addefa ei haneswyr hi ei hun fod crefydd
ynddi mewn ystâd ddirywiedig tu hwnt.
Dywed Dr. Erasmus Saundersi: fod amryw
o eglwysydd wedi cael eu troi, naill ai yn
ysguboriau neu yn ystablau ; a bod eraill,
enwau y rhai a roddir, heb neb yn tywyllu
eu drysau, ac wedi dyfod yn aneddau y
ddalluan a'r frân goeg. " Prin," meddai,
" y cofia neb at ba wasanaeth eu bwriedid,
os nad feallai yn Llanybri, lle y mae
perchen y degwm wedi rhenti yr eglwys i'r
Ymneillduwyr, y rhai oeddynt yn falch o'r
cyfleustra i droi eglwys yn dỳ cwrdd.
Mewn rhai lleoedd y mae genym eglwys.
heb ganghell ; mewn eraill nid oes genym
ond darn o eglwys ; hyny yw, un pen, neu
un ochr yn sefyll ; tra y mae rhai plwyfi
heb ddim o gwbl. Mewn llawer iawn nid
oes seddau, gyda'r eithriad o ychydig o
ystoHon a meinciau geirwon a thoredig
draw ac yma. Y mae eu ffenestri bychain
heb wydr, ac wedi eu tywyllu gydag
estyH, matiau, neu ddeHt, er cadw y gwynt
a'r gwlawogydd allan. Eu muriau ydynt
wyrddion, yn briwsioni i ffwrdd, ac yn
ífiaidd ; ac yn aml heb na golch na phlastr.
Eu tô sydd yn darfod, yn crynu, ac yn
goUwng defni ; a'u lloriau ydynt wedi eu
rhychio a beddauafiach, heb ddim palmant,
ond wedi eu gorchuddio yn unig ag ychydig
frwyn." Hawdd deaU nad oedd neb yn
J -4 Vicw of ReligLon in the Diocese of St.
David's, tudal. 17.
SEFYLLFA FOESOL CYMRU.
gofalu am y lleoedd hyn, nac yn cyrchu
iddynt i addoH. Nid oedd y persondai neu
y ficerdai ychwaith ond cotiau gwael ; ni
aUai y clerigwyr, er tloted eu byd, fyw
ynddynt ; feíly ardrethid hwy i rywun a'u
cymerai. Yn aml syrthient i ran y cloch-
ydd ; yr hwn, er mwyn cynal corph ac
enaid wrth eu gilydd rywlun, a gai y fraint
o werthu cwrw yn ymyl y fynwent.
Nid oedd yr ofteiriaid nemawr gwell na'r
eglwysydd. Llenwid yr esgobaethau Cym-
reig gan Saeson, nad oeddynt yn gofalu o
gwbl beth a ddeuai o'r genedl ; ni fwriadent
ychwaith arosyn eu gwahanol esgobaethau,
gan mor dloted oeddynt, ond am amser
byr, ac hyd nes eu dyrchefid i esgobaeth
gyfoethocach. Penodai y rhai hyn eu
meibion, eu brodyr, eu neiaint, neu eu
cyfeilhon, i fywioHaethau Cymreig, er eu
bod yn Saeson, ac yn analluog i ddarllen
na phregethu yn iaith y plwyfoHon."' Yn
nechreu y ddeunawfed ganrif yr oedd y
rhan fwyaf o Sir Faesyfed yn Gymreig ; a
chawn ohebiaeth ddyddorol rhwng plwyf-
ohon Ghiscwm, yr hwn blwyf a orwedda
tua chanol y Sir, ag Esgob Tyddewi, gyda
golwg ar yr ofîeiriad oedd newydd gael ei
appwyntio iddynt. Yn flaenorol darllenid
y Ìhthiau yn Gymraeg a Saesneg ar yn
ail ; felly hefyd gyda golwg ar y gweddíau ;
a phregethid yn Saesneg un Sabbath, ac
yn Gymraeg y Sabbath dilynoL Ond am
yr off^eiriad newydd, cariai ef y cyfan yn
mlaen yn Saesneg. Dymunai y plwyfohon
i"r Esgob ei orfodi i gario y gwasanaeth yn
mlaen yn ddwy ieithog, neu i gyflogi rhyw
weinidog galluog a wnelai hyny drosto.
Ymddengys i'r Ficer ar arch yr Esgob
geisio cydsynio a'u dymuniad. Ond cyn
pen ychydig fisoedd, anfonent gwyn arall
at yr Ésgob, sef fod yr offeiriad wedi
ymgymeryd a darflen y gwasanaeth yn
Gymraeg, ond nad oedd neb yn deall gair
a lefarai, am nad oedd yn Gymro, nac wedi
dysgu yr iaith. Cymerodd hyn le yn y
flwyddyn 1743. Yr oedd yn amcan gan yr
esgobion a'r clerigwyr Saesnig i aUtudio y
Gymraegallano'rtir. Meddai Evan Evans
(leuan Brydydd Hir), mewn llythyr at ei
gyfaill Rhisiart Morys, dyddiedig Mehefin
23, 1766, " Am danom ni yn yr Esgobawd
yma (Llanelwy), y mae'r Esgob yn cael
gwneuthur a fyno yn ddiwarafun ; sef y
mae, megys Pab arall, wedi dyrchafu tri
neu bedwar o'u neiaint i'r Ileoedd goreu,
lle yr oedd Cymry cynhenid gynt yn gwein-
* Diocesan History of St. David's.
yddu, ac ni chaiff" y curadiaid danynt
ddarllen mo'r Gymraeg. Ac myft a glyw-
ais hefyd ddywedyd yn ddiweddar fod dau
Sais arall yn Sir Drefaldwyn, mewn dwy
eglwys a elwir Castell ac Aber Hafesb, yn
darllen Saesneg yn gyfan drwy gydol y
flwyddyn, er nad oes mo haner y plwyf-
olion yn deall nac yn dirnad dim ag a
draethir ganddynt. Myfi a glywaf fod
gwyr Môn am ddeol y Sais brych a dder-
chafwyd i fod yn Berson Trefdraeth i'w
wlad ei hun." i Nid rhyfedd fody Prydydd
Hir yn ychwanegu — " Duw a ddelo ag
amseroedd gwell, ac a atalio ar eu rhwysg,
rhag iddynt andwyo eneidiau dynion dros
fyth!"
Ychydig iawn o bersoniaid Eglwys
Loegr a fedrai bregethu yn iaith y bobl,
ie, hyd yn nod o'r Cymry. Gan niwyaf
yr oeddynt yn greaduriaid diddysgl ac
anwybodus, heb feddu unrhyw gymhwys-
der.ar gyfer eu swydd gysagredig parthed
talent, cymeriad, na dawn ymadrodd, ond
yn unig eu bod wedi medru ymwthio i
ff"afr rhywun a feddai ddylanwad ar
berchenog y fywioliaeth. Fel yn mhob
adeg o ddirywiad crefyddol, gwnelid
gwehilion y bobl yn offeiriaid. Meddai
Dr. Erasmus Saunders : " Nis gellir
ameu fod ordeinio personau sydd eu
hunain yn ddirmygus yn tueddu i daflu
dirmyg ar eu swydd ; ac y mae felly pan
fyddo unrhyw damaid o ysgolfeistr sydd
yn dysgu yr A B C, neu drulliad g\Vr
bonheddig, neu gwac, neu bob peth yn
mron, yn cael eu derbyn mor rhad i'r
offeiriadaeth ar sail cymeradwyaeth rhyw
berchenog degwm, a fyddo am gael caplan
yn rhad, neu ynte am gael gwared o was
diwerth." Medrai y rhai hyn Gymraeg
pen heol ; gallent gyfeillachu ag yfwyr
cwrw yn y tafarndai trwy gyfrwng yr
iaith gysefin, ond ni feddent iaith pwlpud.
Dywed y Parch. G. Jones,§ y darllenent
Iyfrau Saesneg, pan yn ceisio parotoi ar
gyfer y Sabbath ; ond wedi clytio rhyw
fath o bregeth, a dyfod i'r pwlpud i'w
thraddodi, yr oedd y fath ffregod bal-
dorddus, ansoniarus, a Ilygredig, fel na
allai y gwrandawyr ddeall gair o honi.
Cyhuddiad o gylíelyb natur, onide, a
ddygasai John Penry, y merthyr Cymreig,
yn erbyn off'eiriaid ei ddyddiau ef ? sef eu
t Gwaith y Parchedig Evan Evans (leuan Brydydd
Hir). Golygedig gan D. Silvan Evans, B.D.,
tudal. 202.
l State of Rcligion in the Diocese of St. David's.
§ Welsìi Piety.
Y TADAU METHODISTAIDD.
bocl yn amddifad o eiriau crefyddol a
thermau duwinyddol, ac felly yn methu
gwneyd eu hunain yn ddealladwy yn y
pwlpud, er y gallent gario yn mlaen
ymddiddân mewn iaith weriniol ar ben y
íìbrdd fawT, neu yn nghongl yr aelwyd.
Gwaeth na'r cyfan, yr oeddynt yn ddi-
gymeriad, a llawer o honynt yn byw mewn
annuwioldeb cyhoeddus. Nis gallent
gynghori yr anfoesol, na chyhuddo y
drygionus, am eu bod hwy eu hunain yn
llygredig.''' " Nis geUir cuddio," meddai
Griffith Jones, " ddarfod i amryw o ofer-
wyr halogedig gyffesu mai y gwir reswm
am eu hinffidehaeth a'u rhysedd cnawdol,
oedd y syniad isel a feddent am yr
offeiriaid ; y rhai, fel y tybient, na feddent
fwy o ffydd mewn Cristionogaeth na
hwythau, onide y byddent yn pregethu ac
yn byw yn well." Cawn yr un gŵr parch-
edig, mewn Uythyr o"i eiddo ar gateceisio,
yn ymosod yn ddiarbed ar î y " periglor-
iaid a'r ficeriaid diog, y rhai a arweinient
fywyd difater, ac a w^arient eu hamser
mewn cadw cwmniaeth, ac mewn meddwi
ar hyd y tafarndai, yn lle glynu \vrth
eu llyfrau, a chyflawni eu dyledswydd."
Pan yr oedd gweinidogion y Gair eu
hunain yn byw mewn rhysedd annuwiol,
ac yn dangos yn amlwg yn eu bucheddau
nad oeddynt yn credu nac yn parchu y
gwirionedd, y tyngasent hv o ffyddlondeb
iddö ar eu hordeiniad, pa ryfedd fod y
rhai y tu allan, yn wreng a boneddig, yn
cymeryd yn ganiataol nad oedd Cristion-
ogaeth ond ffug, na chrefydd ond chw^edl,
a'u bod yn troi eu cefnau ar foddion gras,
gan arwain bywyd penrhydd ?
Cyfaddefa Dr. Erasmus Saunders ^^ fod
llawer o eglwysydd yn y rhai na fyddai na
phregethu, na chateceisio, na gweinyddiad
o'r cymun bendigaid, yn cymeryd Ìle ond
anaml, os un amser ; ac mewn eglwysydd
eraill nad oedd y gweddîau yn cael eu
darllen ond yn rhanol, a hyny efallai
unwaith y mis, neu unwaith y cwarter.
Ond y mae yn taflu y bai ar fychander
cyflog y cuwradiaid. Gorfodid hwy i
wasanaethu tair neu bedair o eglwysydd,
a'r rhai hyny yn mhell oddiwrth eu
gilydd, am ryw ddeg neu ddeuddeg punt
y flwyddyn ; a gofyna me^vn Ihd, pan
fyddo pethau fel hyn, pa drefn neu
reoleidd-dra elhr ddisgwyl ? " Gorfodir
* WelshPietij.
t Diocesan History of St. David's.
l A View of the State of Religion in the Diocese of
St. David's.
hwy," meddai, " yn awr gah eu bod wedi
eu hordeinio, i blygu i unrhyw delerau ;
rhaid iddynt naill ai newynu neu ynte
foddloni i'r gyflog waelaf, gan gerdded a
gweithio am dani cyhyd ag y medrant.
A chan fod eu hamser mor fyr, a chan-
ddynt hwythau gynifer o leoedd i'w
gwasanaethu, mor frysiog ac fel allan o
anadl y rhaid iddynt ddarllen y gweddíau,
neu eu byrhau a'u talfyru ! Pa amser
sydd ganddynt hwy neu eu cynulleidfa-
oedd i ymlonyddu, tra y gorfodir hwy fel
hyn i fod yn fath o ysgogiad parhaus
(perpetual motion), neu deithwyr ffrystiog yn
brysio o gwmpas o le i le ? Nid oes
unrhyw amser penodol i fyned i"r eglwys,
ond iddi fod yn ddydd Sul ; rhaid i'r dyn
tlawd (y cuwrad) ddechreu unrhyw bryd,
gyda chynifer ag a fyddo yno, yn foreuach
neu yn hwyrach, fel y byddo yn gallu
d'od o gwmpas. Yna brasgama yn gyflym
tros gynifer o weddíau ag a all mewn
rhyw haner awr, a chwedin ail-gych^vyna
i'w daith, gyda chyUa gwag (oblegyd pa
mor Uyni bynag y byddo ei chwant bwyd,
anaml y mae ganddo amser i gymeryd
cinio ; ac anaml y gaU deihad y fferm-
ddegwm fforddio rhoddi cinio iddo) hyd
nes y byddo wedi gorphen ei gylch, neu
ynte hyd nes y byddo bhnder neu dywyll-
wch y nos yn peri iddo orphwys. EfaUai
o ddiffyg ychydig luniaeth gartref yr â i le
na ddylai, ag y bydd yn debyg o gyfarfod
a'r rhan fw^yaf o'r gynuUeidfa, y rhai pan
fyddo y gwasanaeth byr drosodd, a deim-
lant yn rhydd i dreuho gweddiU y dydd yn
y tafarndŷ, neu mew'n rhyw chwareuon
dymunol yn eu gohvg."
Profa y tystiolaethau hyn, a gymerwyd
oU aUan o weithiau awdwyr eglwysig,
ynghyd ag eraiU a eUid ychwanegu atynt,
fod yr Eglwys W'ladol yn hoUol amddifad
o aUu i wrthsefyU y Uygredigaeth oedd yn
dyfod i mewn fel diluw, ac i ddyrchafu
moes a chrefydd. Gydag eglwysydd
afiach, brwnt, a dadfeiliedig ; gyda gwas-
anaeth crefyddol ffrystiog, difater , ar y
Sul, na wyddai neb pa awr o'r dydd y
cymerai le ; a chyda clerygwyr anfuch-
eddol, dirmygus yn ngohvg y cyhoedd,
mwy cydnabyddus a chadair freichiau ac
a chwmni dyddan y tafarndŷ nac a Gair
Duw, ac mor anwybodus o'r iaith yn mha
un eu ganed, fel na allent bregethu yn
ddealladwy, nid oedd unrhyw ddylanwad
ysprydol er da yn bosibl. Yn rhy aml yr
oedd yr offeiriaid yn ffynonhellau Ilygredig-
aeth. Blaenorent yn mhob annuwioldeb
SEFYLLFA FOESOL CYMRU.
13
a rhysedd ; ymgymysgent ag oferwyr ar y
Sabbath, gan gymeryd rhan flaenllaw yn
y campau halogedig, ac yr oedd eu bywyd
preifat yn fynych yn waradwydd. Pa
ryfedd felly fod crefydd yn cael ei chablu ?
Nid gorchwyl hawdd yw cael gwybod-
aeth gy wir am jif a nerth yr Ymneillduwyr
yr adeg hon, yn nghyd a'r dylanwad a
feddent ar y wlad. Wrth yr " Ymneilldu-
wyr " yr ydym . yn golygu yr Henadur-
iaethwyr, yr Annibynwyr, a'r Bedyddwyr,
er fod. y Crynwyr yn ogystal yn gryfion
mewn rhai parthau o Gymru. Nid ydym
am atal dim o'r clod dyledus i'r Tadau
YmneiUduol, nac am fychanu y Uwyddiant
ddarfu ganlyn eu hymdrechion. Dynion
gwronaidd a llawn o ft'ydd oeddynt ; Uafur-
iasant yn galed o blaid yr efengyl tan
anhawsderau dirfawr, ac ni chyfrifent eu
heinioes yn werthfawr pan yn cyhoeddi
gwirionedd Duw i'w cydwladwyr. Braidd
na ddahai y dyoddefiadau yr aethant
drwyddynt eu cymharu a chyfres dyoddef-
iadau yr Apostol Paul. Gorthrymwyd
hwy gan ddeddfau anghyfiawn a chan
swyddogion gwladol didosturi ; erhdiwyd
hwy fel petris ar hyd copäu'r mynyddoedd ;
yr oeddynt yn gydnabyddus a charcharau,
yn gystal ag a newyn ac a noethni. Bydd
enwau Walter Cradoc, Vavasour Powel,
Stephen Hughes, Hugh Owen, Brony-
clydwr, a'u cydlafurwyr agos mor enwog
a hwythau, mewn coffa parhaus yn
Nghymru. Darllena eu hanes fel rha-
mant. Os ystyrir iselder cyflwr y genedl
pan wnaethant eu hymddangosiad, a'r
rhwystrau oedd ganddynt i ymdrechu yn
eu herbyn, rhaid i bawb deimlo iddynt
wneyd gwaith mawr. Buont yn foddion i
gasglu cynulleidfaoedd, ac i fíurfio eghvysi,
mewn amryw ranau o'r wlad, llawer o ba
rai sydd yn aros hyd heddyw. Gwir mai
bychain oedd yr eghvysi, ac mai mewn
tai anedd yr ymgynulHd i wrando yr
efengyl yn cael ei phregethu ; ond os na
allent rwystro a throi yn ol y Ihfeiriant
pechadurus oedd wedi goresgyn y wlad,
medrent ddwyn tystiolaeth dros Dduw yn
ei ganol, fel ag i wneyd cydwybpdau rhai
yn anesmwyth.
Dadleua y Parch. Thomas Rees, D.D.,
yn ei History of Protestant Nonconformity in
Wales, fod y Dywysogaeth, yn arbenig
Deheudir Cymru, wedi cael ei hefengyl-
eiddio i raddau mawr cyn cychwyniad
Methodistiaeth trwy lafur y gwyr enwog
uchod, ynghyd a'u holynwyr ; ac mai
myned i mewn i'w llafur hwy a medi yr
hyn a gawsai ei hau ganddynt, a wnaeth y
Diwygwyr Methodistaidd. Yn hyn yr
ydym yn credu ei fod yn cael ei arwain ar
gyfeihorn gan ei zêl enwadol. Un prawf a
roddir ganddo yw fod cynuUeidfaoedd
cyntaf Howell Harris a Daniel Rowland
wedi cael eu casglu yn y cymydogaethau
hyny lle yr oedd eglwysi Ymneillduol yn
barod. Yr awgrym yw mai dynion oeddynt
yn flaenorol yn aelodau yn yr eglwysi hyny
a ff'urfient gynulleidfaoedd cyntaf ý Method-
istiaid, ac nid rhai wedi cael eu hachub
trwy weinidogaeth y pregethwyr Method-
istaidd. Y mae hyn yn hollol groes i
dystiolaeth bendant Howell Harris. Pan
yn ceryddu Edmund Jones, Pontypwl,
mewn modd ncdedig o dyner ac efengyl-
aidd, am ffurfio eglwysi YmneiIIduoI yn
Defynog a manau eraill heb ymgynghori ag
ef, nac a Daniel Rowland, dywed : " Y mae
y rhan fwyaf o'r bobl wedi cael eu galw
trwy ein gweinidogaeth ni. Pe y rhoddech
eich hun yn ein Ile ni, gwelwch nad yw yr
hyn a wnaethoch yn iawn, mwy na phe
bawn i yn dyfod ac yn cymeryd eich pobl
chwi i ffwrddyn ddirgel oddiwrthych chwi."
Prawf y difyniad hwn, i'r hwn ni atebodd
Edmund Jones air, mai nid o eglwysi yr
Ymneillduwyr oeddynt yn barod mewn
bodolaeth y ííwr^-wyásocieties cyntaf Howell
Harris a Daniel Rowland, ond o ddynion
annuwiol a gawsant eu hargyhoeddu
trwyddynt. Yr un fath, cydnebydd eglwys
y Groeswen, yn y Ilythyr a anfonodd i'r
Gymdeithasfa yn 1746, wrth ofyn am i rai
o'i phregethwyr cynorthwyol gael eu hor-
deinio, mai plant ysprydol y gweinidogion
Methodistaidd oedd yr aelodau. Yr hyn a
brofir gan sefydliad societies Methodistaidd
yn nghymydogaeth hen eglwysi YmneiII-
duol yw, fod yr eglwysi hyny ar y pryd yn
fychain o ran rhif, eu bod yn gwanhau
yn gyflym^ ac heb fawr dylanwad ar y
wlad o gwmpas.
Addefa Dr. Rees fod cyflwr ysprydol
Gogledd Cymru yn cyfateb yn hollol i'r
desgrifiad a rydd Mr. Charles o'r Bala, yn
y Drysorfa Ysprydol, '■'■'• o agwedd y Dywys-
ogaeth. Yr oedd Mr. Charles y fath fel
na feiddir ei gyhuddo o gam-ddarluniad..
Ond honir mai Gwynedd yn unig a ddes-
grifiai, a bod cyflwr y wlad yn y Deheu-
barth yn dra gwahanol. Anghofir, pa fodd
bynag, ddarfod i Mr. Charlesgaelei ddwyn
i fynu yn y Dê, ac mai yno y trigodd.
* Jíistory of l'rotcstant Nonconformity in
Wales, tudal. 278.
H
Y TADAU METHODISTAIDD.
gyda'r eithriad o'r adeg y bu yn Rhydych-
ain, hyd nes cyrhaedd oedran g\vr ; ac felly
ei fod yn gwbl gydnabyddus ag agwedd
crefydd yn yr oll o Gymru. Pe buasai
cyflwry Deheubarth yn gwahaniaethu mor
fawr ag y tybir gan rai oddiwrth eiddo y
Gogledd, y mae yn hollol sicr y buasai
gŵr o degwch Mr. Charles, un ag oedd
mor gymhedrol ac mor ofalus yn ei ymad-
roddion, yn galw sylw at hyny pan yn
darlunio agwedd y wlad. Y mae y rheswm
a rydd Dr. Rees am y gwahaniaeth tybiedig
rhwng y Gogledd a'r Dê yn ddychymygol
ac yn blentynaidd. Dywed fod y gwein-
idogion yn mron oll yn Ddeheuwyr, a bod
y fath wahaniaeth rhwng tafodiaith y
ddwy dalaeth, fel yr oedd eu pregethau i
raddau mawr yn annealladwy i drigolion
Gwynedd, ac y defnyddient ymadroddion
yn y pwlpud a pha rai y cysylltai y gwran-
dawyr y syniadau mwyaf chwerthinllyd a
digrifol. Gwir y gwahaniaetha ieithoedd
y ddwy dalaeth i raddau ; ond pan aeth
pregethwyr cyntaf y Methodistiaid i Wyn-
edd, ni cheir un awgrym fod y werin yn
methu eu deall, na bod eu geiriau yn cyn-
yrchu digrifwch. Yn hytrach, cynyrchent
gyffro angerddol ; parent i rhai ymgynyrfu
mewn Ihd, ac i eraill waeddu mewn pryder
oblegyd eu cyflwr. Deheuwr, o Ddyfryn
Nedd, oedd Mr. Lewis Rees, a fu yn wein-
idog llwyddianus am agos i chwarter canrif
yn Llanbrynmair ; geiriau Dr. Rees am
dano ydynt : '■'" Trwy fendith Duw yn
cydfyned a'i ymdrechion diorphwys, ac ag
eiddo y prege^hwyr bywiog o'r Deheubarth
a wahoddai i ymweled a siroedd esgeulus-
edig y Gogledd, megys Howell Harris,
Jenkin Morgan, ac eraill, cymerodd adfyw-
iad ar grefydd le, yr hyn mewn amser a
effeithiodd gyfnewidiad hapus yn agwedd
foesol y wlad." Buasai hyn yn amhosil)!
pe y byddent yn methu gwneyd eu hunain
yn ddealladwy i"r werin. Anhawdd cyfrif
hefyd am yr erledigaethau enbyd a'r ym-
osodiadau cywilyddus a wnaed ar Howell
Harris a Daniel Rowland, ynghyd a chyng-
horwyr cyntaf y Methodistiaid, yn y Deheu-
barth yn gystalacyny Gogledd,pey buasai
y wdad wedi cael ei meddianu mor Uwyr
ag y tybir gan rai gan yr Ymneilldu-wyr.
SeiHa Dr. Rees ei honiad, fod y Deheudir
wedi cael ei meddianu i raddau mawr gan
yr Ymneillduwyr cyn cyfodiad Methodist-
iaeth, yn benaf ar ddwy o daflenau. Un
* Hiatory of Frotestant Nonconformifi/ in Walcs,
tudal. 413.
yw y daflen a baratowyd gan y clerigwyr,
trwy orchymyn Archesgob Canterbury, yn
y flwyddyn 1669, pan yr adfywiwyd y
CoHücnticle Act. Rhoddir nifer y capelau
yn mhob esgobaeth yn Lloegr a Chymru,
ac y mae y papyrau ar gael yn bresenol yn
mhalas Lambeth. Methwyd dod o hyd i
daflenau esgobaethau Bangor a Thyddewi;
rhai Llandaf a Llanelwy yn unig sydd ar
gael. Y daflen arall yw yr un a gasglwyd
trwy ymdrechion Dr. John Evans o Lun-
dain, yn y flwyddyn 1715, yr hon sydd ar
glawr a chadw yn bresenol yn llawysgrif
Dr. Evans, yn lly frgell Dr. Daniel Wilhams,
Gordon Square, Llundain. Yn hon rhoddir
rhifedi a grym y cynuUeidfaoedd Ymneill-
duol trwy Gymru a Lloegr yr adeg hono.
Mewn cysyíltiad a hyn ymddengys yr
ystyriaethau canlynol i ni yn briodol.
Nad yiv y tajìenau hyn, naW casgliadau
a dynir oddiwrthynt, yn gyfryw ag y gellir
ymddiried nemawr ynddynt. Cymerer yr
ystadegau a anfonwyd gan y clerigwyr i
Archesgob Canterbury yn 1669. Dywed
Dr. Rees y gallwn fod yn sicr nad yw rhif
y gwrandawyr yn cael ei osod yn fwy nag
ydoedd mewn gwirionedd. Ond dibyna
hyn yn gyfangwbl ar yr amcan mewn
golwg. Y tebygolrwydd yw yr amcanai y
clerigwyr ail ddefro yr erledigaeth yn erbyn
yr Ymneillduwyr, ar y tir eu bod yn
annheyrngar, ac o herwydd hyny yn ber-
yglus i"r llywodraeth ; felly pa liosocaf y
gellid gwneyd eu cynulleidfaoedd, mwyaf
oll yr ymddangosai y perygl, a chryfaf y
rheswm dros i'r gallu gwladol ail osod
mewn grym y deddfau cosbawl yn eu her-
byn. Dengys Dr. Rees ei hunf nas gall
dim tebyg i gywirdeb berthyn i'r ystadegau
yma, am fod y cyfarfodydd yn cael eu
cynal mor ddirgel ag oedd bosibl, fel yr
oedd yn gwbl annichonadwy i'r clerigwyr
a'r wardeniaid, y rhai a gasglent y cyfrif,
wybod y nifer a ymgasglai ynghyd. Dywed
tafleni 1669 fod y gynulleidfa a ymgynullai
yn Merthyr Tydfil, yn nhai Howell Rees
Philip ac Isaac John Morgan — sef, gallwn
feddwl, ar yn ail ; Sabbath yn un ty a
Sabbath gwedin mewn ty arall — ynghyd
a'r werinos gymysg a'r Crynwyr yn nhai
Jenkin Thomas, Harry Thomas, a Lewis
Beck, yn rhifo tri, pedwar, pump, ac
weithiau chwech cant. Ymddengys i ni
fod cynulleidfa o chwech cant o bersonau
mewn ychydig dai tlodion yn Merthyr yr
f History of Protestant Nonconfoi mity in
Wales, tudal. 172.
SEFYLLFA FOESOL CYMRU.
15
f/aco o/A,th.j ?l'<^r£'írr O^a.,^
C^ tf-c cíCtn\^
y/ÄJs^s.
jT^Cu^f :,i2l^,
-p.,. D iy] i=F>
^n,7>-
$rícknockslíirc.
/nXÄq'ti^y
crz,nJl )
/
'f/'
X.,e.
t/
f
A/
8.
-/
30
/«.^/-
!/,*rrr
fefí/f,rn,'7;</^^ 'RicS^Ti WiUi^mS A
joüj/^'^
l/jhea.
PHOTOOnAPH O DUDALEN O YSTADEGAU DR. JOHX EVAXS.
adeg hono yn anmhosibl ; ac naill ai fod
dychryn yr ysgrifenydd yn peri iddo weled
y rhif yn fwy nag ydoedd, neu ynte ei fod
yn wirfoddol yn cam-arwain yr Archesgob.
Sylwer eto ar ystadegau Dr. John
Evans, a gasglwyd tua'r flwyddyn 1715.
Yn ol y llawysgrif, rhoddwyd y cyfrif
am Sir Fynwy gan Mr. Joseph Stennett
o'r F'enni, mewn llythyr at Mr. Henry
Bendish ; ac am Ddê a Gogledd Cymru
gan Mr. Charles Lloyd, Brycheiniog,
trwy Mr. Barrington. Rhydd hon rifedi
yr Ymneillduwyr yn Nghymru yr adeg
yma yn ugain mil. Nid ydym yn gwybod
i ba raddau y gelHr ymddiried yn yr
ystadegau hyn ychwaith. Diau y gwnaed
a elhd i arddangos y cynulleidfaoedd
YmneiUduol mor ihosog, a'r personau a
berthynai iddynt mor gyfrifol a pharchus,
ag oedd modd ; oblegyd amcan yr ystad-
egau oedd dangos i'r Toriaid a geisient
adfywio y cyfreithiau erlidgar, ac hefyd i'r
Whigiaid yn y rhai y gobeithid, pa mor
gryf oedd Ymneillduaeth trwy y deyrnas,
ac na ellid ymosod arni yn ddiberygl.
Gan hyny, y mae yn sicr na chyfrifwyd
y gwahanol gynulleidfaoedd yn llai nag
oeddynt. Caria yr ystadegau ar eu gwyn-
eb amddifadrwydd o fanylwch. Crynhoir
amryw eglwysi ynghyd ; wedi enwi dwy
neu dair, cawn yn fynych " &c.," yn
dynodi fod cyfrif eglwysi eraill, na roddir
eu henwau, yn cael ei osod i mewn ; ceir
un eglwys a chynulleidfa weithiau yn cael
eu harddangos fel yn wasgaredig tros
wlad deugain milltir o hyd wrth ugain o
i6
Y TADAU METHODISTAIDD.
led ; yr hyn sydd yn profi yn eglur mai
cyfrif bys a bawd a roddir, ac nas gellir
yniddiried nemawr ynddo. Am rai o'r
ffugrau gwelir yn amlwg wrth ystyried
poblogaeth y-wlad yr adeg hono y rhaid
eu bod yn gyfeiHornus. Er enghraifft,
rhoddir cynuUeidfaoedd Llanafan a Llan-
wrtyd, cymydogaethau anghysbell yn
nghanol mynyddoedd Brycheiniog, fel yn
rhifo wyth cant. Y mae yn amheus a
gynwysai yr adran yma o'r wlad gynifer a
hyny o drigohon yr adeg hono, hyd yn
nod pe y cyfriíìd y babanod ar y fron.
Pa fodd bynag, proffesa yr ystadegau
roddi holl nerth Ymneillduaeth, mewn
rhifedi, cyfoeth, ac urddas sefyllfa. Oni
wnaent hyny, ni chyrhaeddent yr amcan
mewn golwg ; yn wir, gelhd eu defnyddio
fel arfau ymosodol gan y gelynion. Heb-
law rhif y gwrandawyr, rhoddir eu safle
gymdeithasol, gan nodi yn fanwl rifedi y
boneddwyr, ynghyd a'r rhai a berchenogent
bleidlais yn eu mysg, fel y gwelir oddi-
wrth y fac simile (tudal. 15).
Buasai yn dda genym pe y gallasem
adael yn y fan hon ystadegau Dr. John
Evans, ynghyd a'r cofnodiad o honynt
gan y Parch. Thomas Rees, D.D., ond
ni feiddiwn ; y mae ffyddlondeb i wirion-
edd, ynghyd a pharch i goffadwriaeth y
Tadau Methodistaidd yn ein gorfodi i fyned
yn mlaen, i ddynoethi y twyll dybrid sydd
w'edi cael ei arfer. Cofnoda Dr. Rees yr
ystadegau, fel y maent yn y llawysgrif, yn
ei Histoiy of Protestant Nonconformity in
Wales ; a phroffesa wneyd hyny yn llawn,
air am air, ffugr am ffugr, a llythyren am
lythyren. A darfu iddo wneyd hyny yn
gywir gydag un cithriad. Ond y mae yr un
eithriad hwnw mor bwysig fel y mae yn
gwneyd yr oll o"r ystadegau yn gam-
arweiniol. Penawd y bumed golofn yn
llawysgrif Dr; John Evans yw " rhif
y gwrandawyr " {iinmber of hearers) ; ac
amlwg yw, fel y darfu i ni sylwi, y cyfrifid
pawb y gelhd mewn unrhyw ffordd edrych
arnynt fel yn perthyn i gynulleidfaoedd yr
Ymneillduwyr. Ond y mae Dr. Rees yn
rhyfygus, ac heb awgrymu ei fod yn
gwyro oddiwrth y gwreiddiol, wedi newid
y penawd i " canolrif y rhai presenol "
\average attendance) ! " Gwel y cyfarwydd
ar unwaith pa mor bwysig yw y newidiad
hwn. Rhifai Dr. John Evans bawb a
wrandawent gyda'r Ymneillduwyr, er na
* History of Protestant Nonconformity in Wales,
tudal. 259.
fyddent oll yn bresenol hyd yn nod pan
fyddai y gynulleidfa fwyaf ; ond ystyr
" canolrif y gwrandawyr " yw nifer y rhai
presenol pan na fydd y gynuUeidfa nac
yn fach nac yn fawr. Gwyddai Dr.
Rees yn dda ei fod yn gwyrdroi y cyfrif,
er gwneyd rhif yr Ymneillduwyr yn
ddwbl yr hyn ydoedd, oblegyd y mae
yn eglur ei fod wedi astudio y llawysgrif
yn fanwl ; wrth ei ddarllen daeth drachefn
a thrachefn ar draws y penawd " rhif y
gwrandawyr," fel yr oedd yn anmhosibl i'r
gwall ddigwydd mewn camgymeriad. Yn
wir, galwodd y Parch W. Wilhams,!
Abertawe, sylw cyhoeddus ato ; a chawn
Dr. Rees yn y rhagymadrodd i'r ail
argraíìfiad, yn ceisio ateb Mr. WiUiams
ynglyn a rhai pethau, ond gadawa y
mater pwysig hwn, sydd yn cyffwrdd a'i
gymeriad fel hanesydd geirwir, heb ei
gyffwrdd ; yn hytrach, gesyd y daflen a
lyrguniodd i mewn yn ei lyfr fel yn yr
argraíììad cyntaf. Gwyddai Dr. Rees yn
drwyadl pa mor bwysig a pheth oedd ystyr
y cyfnewidiad a wnelai yn y penawd,
oblegyd brysia i fanteisio ar y camwri a
gyflawnodd, trwy ddweyd nad yw l canol-
rif y presenohon un amser yn fwy na
haner rhif y gwrandawyr ; felly y rhaid
fod nifer yr Ymneillduwyr yn Nghymru
pan wnaed y cyfrifiad yn ddwbl yr hyn
a geir yn y daflen, ac nas gallent fod yn llai
na haner can mil, sef tuag un rhan o wyth
o'r holl drigohon. Y mae yn wir ofidus
fod gweinidog yr efengyl o safle barchus,
ac un a ystyrid yn gyffredin yn hanesydd
gofalus, wedi ymostwng i gyflawni gweith-
red anonest, yr hon yn ddiddadl a fwriedid
i gamarwain. Y mae ein gofid yn fẅy pan
y cofiwn ei fod yn seiHo yn benaf ar y
twyll hwn ei gyhuddiad yn erbyn y Tadau
Methodistaidd, sef ddarfod iddynt yn
fwriadol gamddarlunio sefyllfa Cymru ar
y pryd o ddirmyg at yr YmneiUduwyr, ac
er mwyn tra-ddyrchafu eu gwaith eu
hunain. Dyma enghraifft fyw o ddyn a
thrawst yn ei lygad yn ceisio tynu brych-
euyn ahan o lygad ei frawd. Profa yr
ymddygiad hwn o'i eiddo nas geHir rhestru
Dr. Rees mwy yn mhHth haneswyr cred-
adwy ; o leiaf mewn amgylchiadavi ag a
fyddo yn tueddu i ddeffro ei ragfarnau
enwadol. Yn ol ystadegau Dr. John
Evans, yr oedd rhifedi yr YmneiUduwyr
t Welsh Calrinistic Methodism.
\ Historii of Protestant Nonconforinity ín Walcs,
tudal. 226.
CüFLECH Y PARCH. GRH^'FITH JONES,
AC
EGLWYS LLANDDOWROR.
SEFYLLFA FOESOL CYMRU.
17
yn y Dywysogaeth ddechreu y ganrif
ddiweddaf yn 20,007 ; yr ydym yn fodd-
lawn i Dr. Rees ychwanegu atynt yr
eglwysi y dywedir eu bod wedi cael eu
gadael allan, ynghyd a'r Crynwyr, fel ag i
wneyd y nifer o gwmpas saith-mil-ar-
hugain, sef tuag un ran o bymtheg o'r
holl boblogaeth, Tueddwn i feddwl fod
hyn uwchlaw'r gwirionedd ; pa fodd bynag,
i'n pwrpas ni nid yw ychydig filoedd
mwy neu lai o nemawr pwys ; eithr y
mae cywirder hanesyddol, a pharch i
gymeriad rhai o'r dynion goreu a sangodd
ddaear Cymru, o'r pwysigrwydd mwyaf.
A dibynai dylanwad yr Ymneillduwyr ar
y wlad yn y cyfnod y cyfeiriwn ato, nid
yn gymaint ar eu lliosogrwydd, eithr yn
hytrach ar grefyddolder, ymroddiad, ac
yni eu cymeriad. Yn hyn ofnwn eu bod
yn fwy diffygiol nag mewn rhifedi.
Yn y cyfnod yìming deohreuad y ddeiinaw-
fed ^anrif a chyfodiad Methodistiaeth, yr oedd
ncrth Ymneilíduaeth yn Nghymru wedi gwan-
ychu yn ddirfawr, 0 herwydd dadleuon hlinion yn
yr eglu'ysi. Yn y cynulleidfaoedd Ymneill-
duol cyntaf ceid Annibynwyr a Henadur-
iaethwyr, Trochwyra Bedyddwyr babanod,
yn aelodau o'r un eglwys. Am beth amser
ni roddid cymaint o bwys ar y gwahan-
iaethau hyn ; y pwnc mawr oedd cael
pregethiad o wirioneddau hanfodol yr
efengyl yn eu purdeb ; a thueddai yr
erledigaeth greulawn a ddioddefid i uno
pob cynulleidfa, er y gwahaniaeth barn a
allai fodoH rhwnggwahanol bersonau. Ond
gwedi pasio Deddf Goddefiad yn y flwyddyn
i68g, ac i'r erledigaeth mewn caniyniad
beidio i raddau mawr, dechreuwyd rhoddi
mwy o bwys ar y materion mewn dadl, a
daeth anghysur dirfawr i mewn i'r eglwysi
mewn canlyniad.
Un oedd y ddadl rhwng yr Henadur-
iaethwyr a'r Annibynwyr parthed íîurf-
lywodraeth eglwysig. Diau i hon achosi
cryn derfysg yn yr eglwysi, ac mewn dwy
o leiaf bu yn achos ymraniad. Efallai mai
yr eglwys YmneiUduol liosocaf a mwyaf ei
dylanwad yn Nghymru, tua diwedd yr ail-
ganrif-ar-bymtheg, oedd eglwys Gwrecsam.
Sylfaenesid hi gan Walter Cradoc ; buasai
yr enwog Morgan Llwyd o Wynedd yn
gweinidogaethu yma am dymhor, a hyny
gyda chryn hvyd(iiant. Ond darfu i'r ddadl
rhwng Dr. Daniel WilUams, yr hwn oedd
yn enedigol o'r Ue, a Dr. Crisp, parthed
ffurf-lywodraeth eglwysig, aflonyddu ar ei
heddwch ; a'r diwedd a fu, gwedi blynydd-
oedd o ymrafaelio blin, yn gynulleidfaol a
thrwyy wasg, i'r Henaduriaethwyrymadael
a sefydlu achos perthynol iddynt eu hunain.
Yn raddol hefyd newidiodd yr aelodau a
adawsidar ol eu barn gyda gohvg ar fedydd,
ac aethant yn Fedyddwyr. Cymerodd
dadl flin le ynglyn a'r un mater yn eglwys
Henllan, Sir Gaerfyrddin. Tueddai y
gweinidog, y Parch. David Owen, ynghyd
a mwyafrif yr aelodau, at Henaduriaeth,
ond yr oedd y diaconiaid yn gryf o blaid
Annibyniaeth. Parhaodd y ddadl o 1707
hyd 1710; gwnaed appeliadau mynych at
y cymanfaoedd ac at y gwahanol wein-
idogion i geisio cyfryngu rhwng y pleidiau ;
ond bu pob ymgais yn ofer ; ac yn y
flwyddyn 1710, ymadawodd y Cynulleidfa-
olwyr, a ffurfiasant eglwys Annibynol yn
Rhydyceisiaid. Yn mhen rhywbeth gyda
deng mlynedd, newidiodd yr Henaduriaeth-
wyr yn Henllan eu barn ; anfonasant y
Parch. Jeremiah Owen, y gweinidog, i
ffwrdd, gan ordeinio Mr. Henry Palmer,
un o'r diaconiaid a fuasai yn dadleu o blaid
y ffurf-lywodraeth Annibynol, yn weinidog
yn ei le. Er mai yn y ddwy eglwys a
nodwyd yn unig, mor bell ag y gwyddom,
y darfu i'r ddadl hon gyrhaedd eithafion
mor fawr nes peri ymraniad, y mae yn bur
sicr ddarfod i'r un pwnc fod yn destun
ymrafael a blinder mewn Ilawer o eglwysi
eraill.
Dadl arall a gariwyd yn mlaen mewn
ysbryd tra annghristionogol oedd y ddadl
ar fedydd. Cychwynodd tua diwedd yr
eilfed-ganrif-ar-bymtheg yn fuan gwedi
pasio Deddf Goddefiad. Cawn hanes dadl
gyhoeddus yn cymeryd Ile ar y mater yn y
flwyddyn 1692, mewn Ile o'r enw Penylan,
ar lechwedd y Frenni Fawr, yn Sir Benfro.
Yno pregethai y Parch. John Thomas,
Llwynygrawys, o blaid bedydd babanod ;
a'r Parch. Jenkin Jones, Rhydwilim, o
blaid bedydd y crediniol. Yn hytrach na
therfynu yr ymryson, gwasanaethodd hyn
i fy whau y cyffro ; cafodd y ddadl ei pharhau
trwy y wasg mewn yspryd chwerw ; daeth
yr enwog Samuel Jones, Brynllywarch,
allan o blaid yr Annibynwyr ; tra y bu
raid i'r Bedyddwyr anfon am gymorth i
Loegr, Y canlyniad oedd ymraniad Ilwyr ;
ymwahanodd y ddwy blaid, gan sefydlu
eglwysi o"r un golygiadau a hwy eu hunain.
Ond gellir bod yn sicr na chymerodd hyn
le heb gyffroadau poenus yn y gwahanol
gynulleidfaoedd, yr hyn a fu yn wanychdod
dirfawr iddynt, ac yn achos o ddirywiad
mawr ar grefydd.
Ond o'r holl ddadleuon, yr un a barodd
c
Y TADAU METHODISTAIDD.
fwyaf o ymrafael, ac y bu ei chanlyniadau
fwyaf alaethus, oedd yr hon a elwir Y
Ddadl Fawr Arminaidd. Dechreuodd
sy niadau Arminaidd lefeinio eglwysi Ym-
neMlduol Cymru tua dechreuad y ddeunaw-
fed ganrif. Cafodd y syniadau hyn gefnog-
ydd yn Mr. Perrot, athraw yr athrofa
Ymneillduol yn Nghaerfyrddin ; o leiaf yr
oedd y nifer fwyaf o'r efrydwyr a aent ato
i astudio yn dyfod allan yn Arminiaid
rhonc. Yr oedd yr Arminiaeth yma o
nodwedd isel a hollol anefengylaidd ; y
gwir enw arni fuasai Pelagiaeth ; ymyhii
ar Ariaeth, ac ymddadblygodd yn raddol i
fod yn Undodiaeth. Dyma y rheswm fod
llawer o eglwysi, a fuont unwaith yn
uniongred, ac yn perthyn i'r Annibynwyr
neu yr Henaduriaethwyr, yn siroedd Cere-
digion, Caerfyrddin, a Morganwg, yn awr
yn hoUol Sosinaidd. Achosodd yr heresi
newydd ddadleuon brwd, a chyffro dirfawr,
yn yr eglwysi Ymneillduol. Ymdrechai y
pleidiau orchfygu eu gilydd yn mhob dull
a modd. Os mai y blaid Galfinaidd fyddai
drechaf, mynai ddewis gweinidog o'r un
golygiadau yn fugail ar yr eglwys. Yn
mhen ychydig, efallai yr enillai yr Armin-
iaid y dydd, a mynent yru y Calfin ymaith,
a dewis gweinidog Arminaidd yn ei le.
Weithiau byddai dau weinidog, un yn
Galfiniad a'r llall yn Arnìiniad, yn cyd-
weinyddu i'r un bobl ; a hyny nid oblegyd
eu Uiosogrwydd, ond er mwyn cyfarfod a
golygiadau y ddwy adran ddadleuol yn yr
eglwys. Pa fodd y pregethent, nis
gwyddom ; ai ar yn ail Sabbath ynte ar yn
ail odfa ; ond gwaith penodol y naiU wein-
idog oedd tynu i lawr a dinystrio yr hyn
oedd wedi cael ei adeiladu yn mhresenoldeb
yr un gynulleidfa gan ei gyd-weinidog.
"Caw^n engrhaifft o hyn yn eglwys Cwm-
yglo, ger Merthyr Tydfil, lle yn ol pob
tebyg, yr adeiladwyd y capel Ymneillduol
cyntaf yn Nghymru. Yn nechreu y ganrif,
gweinidog yr eghvys oedd y Parch. Roger
Wilhams, gŵr o syniadau Arminaidd, ac
yn pregethu ei olygiadau gyda hyfdra, er
mawr foddlonrwydd i un dosparth. Ond
aeth yr adran Galfinaidd yn anesmwyth ;
ymddengys hefyd iddi gynyddu mewn
nerth ; a mynodd ordeinio Mr. Jas. Davies,
g\vr o ardal Llanwrtyd, fel gweinidog
ychwanegoL Cymerodd hyn le rywbryd
rhwng 1720 a 1725. Pan fu farw Roger
WilHams, a neb ond James Davies yn
gweinidogaethu i'r gynulleidfa, dechreuodd
yr Arminiaid rwgnach ; a chawn Sion
Hanes Eglwysi Annibynol Cymrn.
tudal, 248-249.
Cyfrol II.
ADi'JiILlOÌN' CAPEL CWMYCiLiU.
SEFYLLFA FOESOL CYMRU.
19
Llewellyn, rhigymwr aberthynai i'r eglwys,
yn rhoi niynegiant i'r anfoddlonrwydd ar
ffurf cân. Yn mhen dwy flynedd, sef yn y
flwyddyn 1732, llwyddodd yr adran Armin-
aidd i ordeinio un Richard Rees, gŵr
ieuanc o'u mysg eu hunain, ac wedi bod
tan addysg Mr. Perrot yn Nghaerfyrddin,
fel cyd-weinidog a James Davies. Mynega
Sion Llewellyn ei foddlonrwydd ef a'i
blaid i weinidogaeth Richard Rees mewn
rhigwm, o ba un y mae a ganlyn yn
ddifyniad : —
" Er cynhaliaeth mawr i'n crefydd,
Duw gododd Mr. Rees i fynydd ;
Gwr Uawndeal), dysg a doniau,
Llariaidd, gwresog ei rasusaii.
Mi glywn y gwr yn rhoi ergydion,
Ac yn dechrea hela hoelion ;
'Nol eu hiro yn olew 'r Yspryd,
Fe gerddai 'r hoelionhyny 'n hyfryd."
Fel hyn y parhaodd pethau yn Nghwmyglo
am bymtheg mlynedd ychwanegol ; y
gweinidog Arminaidd yn gyru ei hoehon
dewisol, ac yn ceisio eu sicrhau yn
meddyhau y bobl, un odfa ; a'r gweinidog
Calfinaidd yr odfa ganlynol yn ceisio eu
tynu allan, a gosod hoehon gwahanol yn
eu lle. Nis gallai heddwch na llwyddiant
ffynu fel hyn ; felly nid syn darllen ddar-
fod i'r blaid Arminaidd yn 1747 ymadael, ac
ymsefydlu yn Nghefncoedcymmer. Aeth
hon yn raddol yn eglwys Undodaidd, Yn
mhen pedair blynedd ymneillduodd yr
aelodau perthynol i Cwmyglo a breswyl-
ient yr ochr arall i'r mynydd, gan sefydlu
eglwys yn Aberdar. Aeth hon hefyd yn
Sosinaidd. Yn 1750, pan yr oedd y
gynuheidfa wedi symud o Cwmyglo i
Ỳnysgau, ordeiniwyd Samuel Davies,
mab y Parch. James Davies, yn gyd-
weinidog a'i dad. Yr oedd Samuel wedi
cael ei addysg yn Athrofa Caerfyrddin, ac
fel yr efrydwyr oU wedi Ilyncu y golyg-
iadau Arminaidd ; felly yn yr Ynysgau,
ceid y tad a'r niab yn pregethu yn groes
i'w gilydd, ac yn arweinwyr pleidiau
gwrthwynebol. Ond achwyna y Calfin-
iaid yn enbyd fod James Davies yn goddef
yn ei fab yr hyn na oddefai ar un cyfrif
yn Richard Rees, ei gyd-weinidog blaen-
orol. Bu aml i gyfnewidiad yn mhwlpud
yr Ynysgau ; byddai weithiau yn Galfin-
aidd, ac weithiau yn Arminaidd, os nad
yn wir yn Undodaidd ; ond da genym mai
y bhiid efengylaidd a orfu o'r diwedd, a
bnd yr eglwys yn awr mor iach yn y ffydd
ag unrhyw eglwys yn Nghymru.
Cawn engrhaifft gyffelyb yn eglwysi
Gefn-arthen a Phentre-ty-gwyn, yn Sir
Gaerfyrddin, Ue yr oedd rhieni WiIIiams,
Pantycelyn, yn aelodau. Yr oedd yma dri
o weinidogion yn 1731 a 1732, sef David
Williams a John WiIIiams, meibion neu
berthynasau Roger WiIIiams, Cwmyglo,
yn ol pob tebyg, a D. Thomas. Yr oedd
y ddau flaenaf yn Arminiaid zeIog, ond yr
olaf yn Galfiniad gwresog, ac wedi cael ei
ddewis gan y blaid Galfinaidd yn yr eglwys,
er gwrth-weithio dylanwad y ddau arall.
Aeth yn rhy anghysurus i'r pleidiau fyw
ynghyd, a chawn D. Thomas, yn 1739, yn
traddodi ei bregeth ymadawol, gan ym-
sefydlu, efe a'r Calfiniaid a lynent wrtho,
yn Nhy-yn-y-pentan. Ar wahan y bu yr
eglwysi hyn am lawer o flynyddoedd, ond
Ilwyddodd y Parch. Morgan Jones, Ty-
gwyn, i'w hail uno mewn amser.
Er na fu ymraniadau o herwydd y ddadl
Arminaidd mewn Ilawer o eglwysi, eto yr
oedd dadleuon brwd trwy yr holl gynulleid-
faoedd, ac yspryd chwerw yn cael ei fagu,
er mawr niwed i grefydd ysprydol, ac er
gwanychiad dirfawr i Ymneillduaeth. Tan
y cyfryw amgylchiadau yr oedd cynydd yn
amhosibl. Rhaid bod yr eglwysi a oddefai
ddau weinidog yn pregethu yn erbyn eu
gilydd, gyda'r naill yn galw y Ilall yn gyf-
eiliornwr, ac un adran yn edrych yn ddig-
Ilawn pan fyddai yr adran arall yn cael eu
boddio, mewn cyflwr truenus o isel. Nid
rhyfedd fod yr eglwysi YmneiIIduoI wedi
myned yn eiddil, a di-ymadferth, pan y
gwnaeth y Cyfundeb Methodis':aidd ei
ymddangosiad.
Nodii)eddid yy YmnciUdmvyr pan gyfododd
Methodistiaeth gan ffnrfioldeh, difaterwch, a:
oerni poenus. Yr oedd y gweinidogion wedi
colli yspryd ymosodol y Tadau ; ni theith-
ient o gwmpas i geisio efengyleiddio y wlad
ac i ddwyn y werin at Grist ; boddlonent
ar fugeilio yr ychydig braidd a berthynai
iddynt, gan yn unig geisio cadw y rhai
hyny rhag mynedar ddispsrod. Yrychydig
fywyd a feddent, deuai i'r golwg yn benaf
mewn dadleu yn hytrach nag mewn ym-
drechion i wneyd daioni. Addefwn yn
hawdd fod rhai eithriadau gwerthfawr i
hyn yn eu mysg, ond yr oeddynt yn dra
phrin. Yr oedd yr oerni crefyddol yma yn
ddiau mewn rhan yn ganlyniad yr heresi
Arminaidd, yr hon fel iâ-fynydd (ice-berg) a
oerai yr awyrgylch, er na fyddid wedi
dynesu yn agos iawn ati. Gyda y ffurf-
ioldeb oer yma ceid difaterwch mawr gyda
golwg ar ddisgyblaeth. Aethai hyn mor
bell fel yr oedcl rhai gweinidogion zeIog yn
Iled-ddymuno ymraniad. Mewn llythyr
c 2
■20
Y TADAU METHODISTAIDD.
o eiddo y Parch. Edmund Jones, gweinidog
yr Annibynwyr yn Mhontypwl, at Howell
Harris, Awst 7, 1741, ceir y geiriau can-
lynol : "•" Byddai yn dda genyf pe bai rhai
o'r gweinidogion Ymneillduol iach yn ym-
wahanu oddiwrth yr Ymneillduwyr cyfeil-
iornus a phenrydd ; ond efallai y daw i
hyny. Y mae y ddau weinidog yn Mhen-
maen yn gwadu fod unrhyw angen am
ddisgyblaeth yn eu mysg hwy ; a galwant
fy ymdrechion i o blaid disgyblaeth wrth
yr enwau sarhaus o ddefodau newyddion
gorfanwl a chaeth Gwrthoda y
dynion hyn gymeryd eu diwygio, fel y mae
gwaethaf." Ymddengysypregethai Howell
Harris yn enbyd o lym yn erbyn clauarineb
yr Ymneillduwyr, a cheir cyfeiriad at hyny
yn yr un llythyr o eiddo Edmund Jones.
" Tra yr ydych yn llefain mor groch yn
erbyn clauarineb ein Hymneillduwyr ni
(yr Annibynwyr),nac esgeuluswch rybuddio
rhag balchder ysprydol ac yspryd an-
nhymerus y Bedyddwyr Ymneillduol, y
rhai ydynt yn waeth, er fod yn cydfyned a
hyny zêl nad yw yr Ymneillduwyr claviar
eraill yn feddu."
I rai o'r gweinidogion yr oedd zêl ac
angerddoldeb Howell Harris a Daniel
Rowland yn dramgwydd. Byddent, meddai
Dr. Rees, yn dweyd llawer o bethau a
ddoluriai chwaeth goeth yr Ymneillduwyr.
Er prawf o hyn rhoddir geiriau un Thomas
Morgan, a fu yn gwrando Daniel Rowland
yn agosiGaerfyrddin. ! " Pregethai oddiar
Hosea ii. 14. Ni chadwodd fawr at ei
destun, ond yr oedd yn dra difrifol, gan
geisio eniU y serchiadau. Yr wyf yn
meddwl i mi ddarganfod rhyw gymaint o
effeithiolrwyddyncydfyneda'iwaith, er fod
ganddoraiymadroddion hynod o weiniaid."
Bu yr un g\vr yn gwrando ar Rowland yn
agos i Gaerphih. Meddai, " Ei destun
oedd Barnwyr v. 23. Yr oedd ei bregeth
yn ymarferol, ond nid yn feirniadol ; canys
dywedodd amryw bethau na ddywedasai,
yr wyf yn meddwl, pe buasai wedi astudio
y mater yn dda yn mlaen llaw." Dywed
Dr. Rees fod y g\Vr hwn yn un o'r mwyaf
diragfarn yn mysg yr Ymneillduwyr !
Prawf yr ychydig ganmoliaeth a rydd yn
grintachlyd i Daniel Rowland, y pregethwr
goreu, yn ol pob tebyg, a welodd Cymru
erioed, fod ei yspryd wedi oeri o'i fewn, a'i
* Life of Howcll Harris, by 11. J. Hughes,
tuclal. 181.
t Historii of Protesian' Nonconformity in Wales,
tudal. 369.
fod yn rhoddi mwy o bwys ar ffurf nag ar
wirionedd achubol.
Dwg y Parch. John Thomas, at ba un
yr ydis wedi cyfeirio yn barod, dystiolaeth
i'r oerfelgarwch enbyd a flfynai yn mysg
yr Ymneillduwyr yr adeg yma. Cych-
wynasai ei fywyd crefyddol gyda'r Meth-
odistiaid, ond yn 1761 ymunodd a'r
Annibynwyr, neu fel y geilw efe hwy, yr
YmneiUduwyr. Gyda chyfeiriad at hyn,
dywed : " Cynghorwyd fi gan amryw o
bryd i bryd i fyned i'r coleg, fel y gallwn
gael ychydig wybodaeth. . . . Yr oeddwn
yn canfod fod yr Ymneillduwyr yn eu
disgyblaeth (ffurf-lywodraeth eglwysig ?)
yn unol a Gair Duw, ac yn nes at drefn
Apostolaidd y Testament Newydd na'r
Methodistiaid. Ond yr oeddwn yn caru
bywyd a zêl y Methodistiaid, ac yn ofni
clauarineb yr Ymneillduwyr, rhag, os
ymunwn a hwy, i mi fyned yn glauar fel
hwythau. ünd dywedai rhai o honynt,
os deuwn atynt, y gallwn fod yn foddion
i'w gwresogi hwy." Penderfynodd fyned
i Goleg y Fenni. " A phan fynegais fy
mwriad i"r Parch. Daniel Rowland, ni
ddywedodd ddim yn fy erbyn. Cyrhaedd-
ais y Fenni tua diwedd 1761 ; a phan
ddechreuais ddysgu llyfrau Lladin, a
chanfod y fath annuwioldeb yn y dref, a'r
fath glauarineb yn y gynulleidfa, teimlais
fy mod wedi newid hinsawdd. A chan
ofni y coUwn dir yn fy yspryd, ymneilldu-
Avn bob canol dydd i'r coedwigoedd gerllaw
yr afon Wysg i weddío, a phrofais hyny
yn felus yn aml. Yn ystod y pedair
blynedd y bum yn y coleg pregethwn yn
fynych yma, ac mewn lleoedd eraill ; yn
ystod y gwyliau awn ar daith trwy
wahanol Siroedd Cymru, yn arbenig Sir
Aberteiíì, gan bregethu gyda'r Method-
istiaid a chyda'r Annibynwyr, pan y cawn
ychydig o dân Llangeitho i gadw fy enaid
rhag rhewi yn nghymydogaeth y Fenni.
Yr oedd Mr. Rowland yn dra charedig
wrthyf, a gofynai i mi bregethu yn
Llangeitho weithiau. . . . Yr oedd y rhai
mwyaf difrifol a phrofiadol yn mysg yr
Ymneillduwyr yn fy hoffi ; ond yr oedd y
rhai clauar a ffurfiol o honynt yn edrych
arnaf fel yn ormod o Fethodist, yn
arbenig pan y cawn gymorth o'r nefoedd
wrth bregethu. Eithr pan y byddwn yn
sych ac yn farwaidd, gan lefaru o'm deall
fy hun, dywedent fy mod yn debyg i
Ymneillduwr."]:
\ Wchìi Calfinistic MethocUsm, tudal. 23, 24.
SEFYLLFA FOESOL CYMRU.
21
Profa y tystiolaethau yma, y rhai nad
oes un rheswm dros ameu eu cywirdeb,
fod cyflwr yr Ymneillduwyr pan y cyfododd
y Methodistiaid yn Nghymru, yn dra
gresynus ; fod eu gweinidogion gan mwyaf
yn ddifater a diyni ; fod y weinidogaeth
yn eu mysg yn ffurfiol, beirniadol, ac oer,
heb fawr lle yn cael ei roddi i brif athraw-
iaethau crefydd efengylaidd ; a bod yr
eghvysi yn fychain ac yn lleihau yn
gyflym, a'r aelodau yn rhanedig i wahanol
bleidiau, y rhai oeddynt yn llawn teimlad
chwerw at eu gilydd. Yr oedd Armin-
iaeth, a dueddai yn gryf at Ariaeth, yn
dyfod i mewn fel llanw y môr ; ac yn ol
pob tebyg, oni bai am y Diwygiad Meth-
odistaidd, buasai y rhan fwyaf o Gymru
heddyw yn Undodaidd. Chwech o gapel-
au^ a'r rhai hyny yn gymharol fychain, a
feddent yn yr oll o W'ynedd. Yr oeddynt
yn gryfach yn y Deheudir, ond yma
hefyd yr oeddynt yn gwywo yn gyflym.
Meddai Mr. Johnes am danynt :* " Darfu
iddynt wanychu eu hunain trwy eu dadleu-
on gyda golwg ar fedydd ; parhausant i
ddirywio hyd gyfodiad Methodistiaeth."
Ychwanega yr un g\vr : " A siarad yn
briodol, hanes Methodistiaeth yw hanes
Ymneillduaeth yn Nghymru."
Pan yr aeth son ar led am y cyffroad
a gynyrchid gan bregethu nerthol Howell
Harris a Daniel Rowland, llawenychodd
yr Ymneillduwyr a llawenydd mawr tros
ben; teimlent fod gobaith am waredigaeth
megys o safn marwolaeth. Yn y flwyddyn
1736, pregethai y Parch. Lewis Rees yn
y Capel Ymneillduol yn Mhwllheli ;
cafodd y ddeadell fechan yno yn nodedig
o ddigalon ; achwynent fod yr eglwys yn
lleihau, yr hen bobl yn marw, a neb o'r
newydd yn ceisio crefydd, ac y darfyddai
am yr achos yn fuan yn ol pob tebyg.
Ond cynghorodd Mr. Rees hwy i ym-
galonogi, gan ddweyd fod y wawr wedi
tori eisioes yn y Deheudir, fod Howell
Harris yn ddyn rhyfeddol, ei fod yn
myned o gwmpas i bregethu a rhybuddio,
a bod effeithiau hynod yn cydfyned a'i
ymdrechion. Yn fuan mynodd Mr. Lewis
Rees addewid gan Howell Harris y deuai
i Wynedd. Cyffelyb oedd teimlad Edmund
Jones, Pontypwl ; David WiIIiams, Wat-
ford ; Henry Davies, Bryngwrach, ac
eraill. Gwelent yn y Methodistiaid gat-
* Causes of Dissent in Wales.
rawd newydd yn cyfodi i ymladd rhyfel-
oedd Duw yn y tir, ac er eu bod yn
flaenorol wedi Ilaesu dwylaw, ac ar roddi i
fynu mewn digalondid, effeithiodd dyfodiad
y gatrawd ddewr hon i roddi yspryd
newydd ynddynt. Cryfhaodd yr eglwysi
Ymneillduol o hyny allan. Gellir dweyd
ddarfod i'r Methodistiaid ddwyn i mewn
yr elfenau canlynol : —
(i) Yspryd ymosodol hyf, yn beiddio
gwrthwynebu anwiredd a rhysedd mewn
modd cyhoeddus a phenderfynol.
(2) Cyhoeddiad pendant o'r athraw-
iaethau efengylaidd, a hyny gyda gwres-
awgrwydd angerddol. Yn arbenig pwys-
leisid ar yr angenrheidrwydd am ail-
enedigaeth, a gwaith yr Ysbryd Glân.
(3) Gweinidogaeth personau heb urddau,
os meddent ar gymhwysderau pregeth-
wrol.
(4) Gofal manwl am ddychweledigion,
yn arbenig trwy gyfrwng y seiadau
profiad.
Nid ydym am hawlio i'r Cyfundeb
Methodistaidd yr holl glod o fod yr unig
offeryn yn Ilaw yr Arglwydd i efengyl-
eiddio Cymru ; gwyddom yn amgen. Gwir
mai ar Howell Harris a Daniel Rowland y
disgynodd y tân dwyfol gyntaf yn yr adeg
hon o ddirywiad ; hwy aeth o gwmpas feí
Ilwynogod Samson, gan gyneu ffagl sydd
yn parhau hyd heddyw. Ond mor wir
a hyny, enynodd y tân yn bur fuan
yn yr enwadau YmneiIIduoI oedd ar y
maes yn barod. Cyfranogasant hwythau
o'r un dylanwadau nefol mewn helaeth-
rwydd. Eithr yr yspryd Methodistaidd, a
deimlwyd yn gyntaf yn Nhrefecca a Llan-
geitho, a'u bywiocaodd. A threiddia yr
yspryd hwnw trwyddynt, a thrwy eu holl
weithrediadau, hyd y dydd hwn. Yn wir,
gellir edrych ar yr YmneiIIduwyr Cymreig
presenol, yn angerddoldeb eu zôl a'u hym-
roddiad, .yn eu beiddgarwch i wrthsefyll
drygioni yn eu holl ffurfiau, yn efengyl-
eidd-draeugweinidogaeth,ac yn y Ile mawr
a roddir gan eu pregethwyr i bynciau han-
fodol ein crefydd, yn gystal ac yn eu gofal
am y dychweledigion, fel plant Daniel
Rowland a Howell Harris yn hytrach nag
fel olynwyr yr YmneiIIduwyr cyntefig. Ar
yr un pryd, cyfaddefa pob cristion fod ym-
drechion y Tadau Methodistaidd, ynghyd
a Ilafur y pregethwyr galluog a'u dilynodd
ymron yn ddidor o hyny hyd yn awr, yn
ffurfio penod ddysglaer a gogoneddus yn
hanes crefydd yn Nghymru.
PENOD II,
GRIFFITH JONES, LLANDDOWROR.
Ei encdigacth ai ddyt^iad i fynu — Ei ovdeiniad — Ei glod fel pregethiw yn ymledu — Yti dechreu
prcgcthu y tu allan ì\ìj blwyf — Yr ysgolion elusengar — Y clerig-wyr yn wrthwynehol —
Ymdacniad yr ysgolion tniiy yr oll o Gymru — A rgraffu Beihlau—-Cyfansoddi llyfrau — Ei
gysylltiad ar Mcthodistiaid — Ei angan.
^h^Pl chafodd Cymru er pan y mae
(^l^yti yn wlad ragorach cymwynasydd
Ä^J na'r Hybarch Griffith Jones. Ni
sangwyd ei daear gan wladgarwr mwy pur
na mwy anhunangar, ac ni anadlodd neb ei
hawyr ag y mae ei enw yn fwy clodforus,
a'i goffadwriaeth yn fwy bendigedig hyd y
dydd hwn. Priodol iawn y gelwir ef yn
Seren Foreu y Diwygiad. Yr oedd ar y
maes yn mhell o flaen Rowland a Harris ;
ymdaflasai gyda holi yni a bywiogrwydd ei
natur i'r gorchwyl mawr o oleuo ac efengyl-
eiddio ei gyd-genedl ; gyda y gorchwyl hwn
ni phallodd, er y lliaws gwrthwynebiadau
a'i cyfarfu, nes cau o hono ei lygaid yn yr
angau ; ac wrth farw gwasgai cyílwr ei
wlad yn drwm ar ei feddwl, a gwnaeth
ddarpariaethau yn ei ewyllys er cario yn
mlaen y gwaith da oedd ef wedi gychwyn.
Bydd y genedl Gymreig dan ddyled i
Griffith Jones tra y byddo haul.
Ganwyd ef yn y flwyddyn 1684, fel y
dengys yr argraff ar y gareg fedd a osodwyd
i fynu iddo gan Madam Bevan, yn mhlwyf
Cilrhedyn, yn nghydiad Sir Gaerfyrddin a
Sir Benfro. Yr oedd ei rieni yn grefyddol
ill dau, ac yn aelodaugyda'r Ymneillduwyr.
Tybia Dr. Rees mai i Henllan y perthyn-
ent, i'r hwn le y deuai John Thomas,
Llwynygrawys ; David Lewis, Cynwyl,
a gweinidogion poblogaidd eraill, yn aml i
bregethu, ac mai yno y derbyniodd ei
argraffiadau crefyddol cyntaf, ynghyd a'i
chwaeth at yr athrawiaethau Calfinaidd.
Eiddil oedd ei gyfansoddiad ; pan yn
blentyn blinid ef yn fawr gan ddiffyg anadl,
fel na allai gerdded ar drawsyr ystafell heb
boen ac anhawsder ; ond cryfhaodd i raddau
wrth dyfu i fynu, ac mewn rhan medrodd
ysgwyd yr afiechyd i ffwrdd. Bu ei dad
farw pan nad oedd ond ieuanc, felly dis-
gynodd holl ofal ei ddygiad i fynu ar ei
fam. Dywed Mr. Charles ei fod o duedd
grefyddol o'i febyd. Dangosodd hefyd
fywiogrwydd cynheddfau, ynghyd ag
awyddfryd i ddysgu, yn foreu. Gan y
teimlai awydd i ymgyflwyno i weinidogaeth
yr efengyl, trefnodd ei fam iddo gaei pob
manteision addysg dichonadwy ; ac wedi
iddo fyned tu hwnt i ysgolion yr ardal,
cafodd ei anfon i Gaerfyrddin, naill ai i'r
Athrofa Ymneillduol a gedwid yno, neu
ynte i Ysgol Ramadegol. Croniclir iddo
gael ei ordeinio yn ddiacon yn yr Eglwys
Sefydledig, Medi, 1708, gan yr Esgob Bull,
a darfod iddo dderbyn ei lawn urddau trwy
yr un gŵr, Medi, 1709. Pa beth a barodd*
iddo fwrw ei goelbren yn yr Eglwys, ac
yntau wedi cael ei ddwyn i fynu yn mhlith
yr YmneiIIduwyr, nis gwyddom ; ond sicr
yw mai nid unrhyw fanteision bydol ddarfu
ddylanwadu ar ei feddwl, oblegyd profa ei
holl hanes ei fod yn Eglwyswr cryf a chyd-
wybodol. Tebygol mai cuwradiaeth eglwys
Cilrhedyn, ei blwyf genedigol, a gafodd ar
y cyntaf.
Yn bur fuan dechreuodd bregethu gyda
nerth a difrifwch mawr. Dywed Mr.
Charles nad oedd dirnadaeth Griffith Jones
o athrawiaethau yr efengyl a threfn yr iach-
awdwriaeth ond aneglur ar y cychwyn ;
fod ei foreu yn dywyll, ac mai yn raddol y
pelydrodd y goleuni dwyfol ar ei feddwl yn
ei ddysgleirdeb a'i ogoniant. Casglai Mr.
Charles hyn oddiwrth ei Iythyrau at
Madam Bevan. Ar yr un pryd amlygai
ynddynt lawer o ddwys ystyriaeth a difrif-
wch sobr. Ymroddodd i astudio duwinydd-
iaeth, a chan ei fod yn \Vr o gynheddfau
cryfion, a'i ddeall yn gyflym, a'i gof yn
afaelgar, daeth yn fuan yn dra hyddysg
yn ysgrifeniadau y duwinyddion mwyaf
enwog, Saesneg a thramor. " Trwy
gynorthwyon dwyfol," meddai Mr. Charles,
" a bendith Duw ar ei ddiwydrwydd, cyn-
hyddodd yn brysur mewn gras a gwybod-
aeth o Dduw, a'r IachaAvdwr lesu Grist."
Yn mhen yspaid cafodd guwradiaeth plwyf
GRIFFITH JONES, LLANDDOWROR.
23
Lacharn, ac yma ymddengys iddo gynyddu
yn ddirfawr mewn hyawdledd a doniau
gweinidogaethol, a darfod i'w bregethau
hyawdl ac efengylaidd beri cyffro dirfawr
yn y plwyf, ynghyd a'r plwyfydd cylch-
ynol. Priododd a Miss Philhps, merch
Syr Erasmus Philhps, Picton Castle. Yr
oedd yn ddynes nodedig am ei duwioldeb ;
nid annhebyg mai trwy ei weinidogaeth ef
y cawsai ei hargyhoeddi ; ond yr oedd yn
wanllyd o iechyd, ac ymddengys na fu
iddynt blant. Yn mhen rhyw ddwy flynedd
gwedi derbyn ei lawn urddau, cyflwynwyd
iddo berigloriaeth Llandilo, Abercowyn ;
ac ýn y flwyddyn 171 6, cafodd ficeriaetli
Llanddowror, gan ei frawd-y-nghyfraith,
Syr John PhilHps, noddwr y fywohaeth.
Yr oedd Syr John Philhps yn \Vr tra
boneddigaidd, a dywed Mr. Charles ei fod
yn casglu oddiwrth ei lythyrau mai crefydd
a duwioldeb oedd wrth wraidd y boneddig-
eiddrwydd. Cadarnheir y dystiolaeth hon
gan haws o íìfeithiau. Pan yn Llundain
ymgyfathrachai Sir John a Whitefield ac a'r
ddau Wesley. Ceir cyfeiriadau mynych
ato yn eu dydd-lyfrau fel boneddwr yn
rhagori mewn crefydd ; ac fel hwythau, ar
un tymor o'i oes, bu yn mynychu y Gym-
deithas Forafaidd yn Fetter Lane. Heb-
law gwasanaethu yn Llandilo a Llanddow-
ror, ymwelai Grifíìth Jones yn bur aml ag
eglwys Llanllwch ; a than ei weinidogaeth
yma yr argyhoeddwyd Miss Bridget
Yaughan, merch y Derllysg, yr hon y mae
ei henw yn glodfawr trw^y hoU Gymru fel
Madam Bevan. Bu y foneddiges hon yn
gyfeilles iddo tra y bu by w ; cefnogai ef yn
mhob modd gyda ei lafur ; ac yr oedd ei
phwrs yn wastad yn agored pan fyddai galw.
Ymledodd clod Griffith Jones fel pre-
gethwr tros y wlad, cyrchai y bobl yn
dyrfaoedd i'w wrando. CJywyd son am ei
hyawdledd a'r nerth oedd yn cyd-fyned a'i
weinidogaeth hyd yn nod yn Ysgotland, a
chafodd ei alw i bregethu o flaen y frenhines
Anne. Ein hawdurdod ar hyn yw WiUiams,
Pantycelyn, yr hwn, heblaw Ìaod yn emyn-
ydd digymhar, oedd yn hanesydd gwych.
Fel hyn y dywed efe yn y farwnad ragorol
a gyfansoddodd iddo : —
" Fe gadd Scotland oer ci wrando,
Draw yn eitha 'r Gogledd dir,
Yn dadseinio maew yn uchel
Bynciau 'r iachawdwriaeth bur :
Cadd niyrddiynau dcimlo geiriau
Hedd, o'i enau 'n llawer nian ;
Clywodd hithau rym ci ddoniau
Frenhinol ardderchocaf Anne."
Daeth dan sylw y Gymdeithas er Uedaenu
yr Efengyl mewn Parthau Pellenig fel un
cymwys i'w anfon allan yn genhadwr i'r
India ; y mae Ilythyrau yn awr ar gael
sydd yn dangos i daerineb dirfawr gael ei
arfer arno ; ac yn y diwedd cydsyniodd
yntau. Ni wyddis pa beth a'i rhwystrodd
i roddi ei fwriad mewn grym. Efallai mai
cariad at ei gydwladwyr, a thosturi at
iselder eu cyflwr, a'i gorchfygodd. Ond
yr oedd Ilaw Rhagluniaeth yn y peth ;
yr oedd ganddi hi waith mawr i Grifíith
Jones yn ngwlad ei enedigaeth.
Rhydd Mr. Charles y desgrifiad canlynol
0 hono fel pregethwr : " Yr oedd ei
destynau a'i ddull o ymadroddi yn neill-
duol o addas i gyflyrau ei wrandawyr ; yn
aml yn finiog, yn danllyd, ac yn ddeff"rous;
bob amser yn athrawiaethol, yn ddefnydd-
iol, ac yn fucheddol ; yn cadw yn mhell
oddiwrth benrhyddid Antinomaidd, a
deddfoldeb digysur ac anffrwythlawn.
Yr olwg arno yn esgyn i'r areithfa oedd
neillduol sobr a phwysig. Darllenai y
gweddiau gyda Uawer o ddifrifoldeb, a'r
llithiau yn arafaidd ac yn ddeallus. Yn ei
bregethau dechreuai yn bwyllog, a dos-
ranai y defnydd mewn Ilaw yn olau ac yn
rheolaidd, mewn dull cyfeillgar, nid an-
nhebyg i ymddiddan. Ond fel yr elai i
mewn i'w fater, byddai ei yspryd yn
tanio ac yn gwresogi, a'i ymadroddion yn
fywiog ac yn awdurdodol, nes meistroli'r
gwrandawyr yn gwbl. Yr oedd ei agwedd
gorphorol yn barchus, ei lais yn eglur ac
yn beraidd, ei resymiadau yn gedyrn, ei
ddarluniadau yn ardderchog, a'i gynghor-
ion a'i rybuddion yn Ilym, ac yn afaelgar
yn y gydwybod. Yr oedd ei holl enaid
yn y gwaith, ac yn profi yn fywiog bob
teimlad addas i'r gwirionedd a draddodai.
1 ddweyd y cwbl am dano mewn im gair,
yr oedd wedi ei wisgo a nerth o'r uchelder,
ac am hyny yr oedd yn gweini yn mhethau
sanctaidd Duw, gyda harddwch a gwedd-
eidd-dra addas, yn awdurdodol ac yn
fuddiol." Y mae y darluniad hwn o hono
gan Mr. Charles yn nodedig o fyw.
Braidd nad yw ein dychymyg yn porteadu
gŵr Duw yn esgyn yn araf ar hyd grisiau
y pwlpud, gydag osgo difrifddwys, a sobr-
wydd tragywyddoldeb yn eistedd ar ei
wedd. Wedi darllen y Ilithiau a'r
gweddíau yn hyglyw dyna ef yn cymeryd
ei destun ac yn rhanu ei fater ; ymadrodda
yn araf ar y dechreu, yn ol rheolau
manylaf areithyddiaeth ; ond yn fuan
gwresoga ei galon tan ddylanwad ei fater ;
rhydd y gwirionedd ei holl yspryd "^n
24
Y TADAU METHODISTAIDD.
fflam ; y mae yn awr fel angel yn ehedeg
yn nghanol y nef a'r efengyl dragywyddol
ganddo ; arllwysa ar y dyrfa fawr sydd
wedi dyfod i'w wrando raiadrau o hyawdl-
edd cysegredig ; ac yswatia hithau yn ei
bresenoldeb wedi ei Uwyr orchfygu. Nid
rhyfedd i'w glod fyned ar led ; y tebygol-
rwyddywnachlywyd yfath bregethu ofewn
eglwysi Cymru er ys canrifoedd, os erioed.
Dawgalwadau amdanoo'rplwyficymydog-
aethol ; cred yntau, fel y gwnaeth Paul
am yr alwad o Macedonia, eu bod yn wys
oddi uchod, ac ufuddha hyd eithaf ei alhi.
Yn aml byddai yr eghvysi yn rhy fychain
i ddal y dorf ; pregethai yntau yn y fyn-
went, gyda chofadail un o'r meirw yn
bwlpud tan ei draed, a'r nefoedd yn dô
uwch ei ben. Nis gallwn wrthsefyll y
brofedigaeth o ddifynu marwnad WiUiams
eto : —
" AUan 'i aetli yn llawn o cldoniau,
I bregcthu 'r 'fengyl wir,
Ac i daenu iachawdwriaeth
Olau, helaeth 'r hyd y tir;
Myrdd yn cludo idd ei wrando,
Llenwi'r llanau mawr, yn llawn,
Gwneyd eglwy.sydd o'r mynwentydd
Cyn ei glywed ef yn iawn."
Heblaw bychander yr eglwysi yr oedd
rheswm arall paham y pregethai yn aml
yn y mynwentydd, sef eiddigedd a dig
liiaws o'r clerigwyr. Cynhyrfent drwydd-
ynt oblegyd ei fod yn meiddio dyfod i'w
plwyfi heb eu caniatâd ; yr oeddynt ar
dori ar eu traws gan genfigen ato oblegyd
ei dalent a'i boblogrwydd ; felly clöent yr
eglwysi rhagddo, a chymerent yr agor-
iadau adref gyda hwynt yn eu llogellau.
Ond nis galient trwy hyn gau genau
Griffith Jones. Yr oedd ef yn dyheu am
bregethu, a'r bobl yn dyheu am wrando ;
felly, fel y dywed Williams, gwnai eglwys
o'r fynwent.
Yn raddol ymestynodd ei deithiau i"r
siroedd cyfagos, ac yn wir, i'r oU o"r
Deheudir. Ar daith bregethwrol yr oedd
pan yr argyhoeddwyd Daniel Rowland
trwy ei weinidogaeth, yn eglwys Llan-
ddewi-brefi ; a phe na wnaethai ddim yn
ystod ei oes ond bod yn off^eryn tröedigaeth
Rowland, buasai wedi gwneyd gwasanaeth
ardderchog i grefydd. Gan mai ar wyth-
nosau y Pasg a'r Sulgwyn yr arferai
Cymry yr oes hono gynal yn benaf eu
cyfarfodydd gloddestgar, a'u campau an-
nuwiol, trefnai ef ei deithiau ar yr adegau
hyny, er mwyn pregethu y cyfryw lygred-
igaethau i lawr, a dywedir na fyddai nemawr
bregeth yn myned heibio heb fod rhywrai
yn cael eu hachub. Byddai ei gynuUeidfa
yn aml yn cael eu gwneyd i fynu o oferwyr
a dihyrod penaf y wlad, wedi ymgasglu
oblegyd cywreinrwydd ; ond ni phetrusai
ddynoethi eu drwg arferion. Darlunia
Mr. Charles eu hagwedd pan yn gwrando.
Ar y cyntaf ymddangosent yn wyllt ac
anifeilaidd ; ond yn raddol, fel y pregethai
Mr. Jones, gwehd hwy yn sobri ac yn
difrifoh ; dechreuai y dagrau hfo yn nentydd
dros eu gruddiau ; yn y man y maent yn
wylo yn uchel, ac yn gwaeddu, " Pa beth
a wnawn i fod yn gadwedig." Ai yntau
yn ei flaen i egluro trefn yr iachawdwriaeth
iddynt, a phregethai weithiau dros dair
awr o amser.
Ond er enwoced oedd Griffith Jones fel
efengylwr, braidd nad yw ei glod yn fwy
fel addysgydd, a thrwy yr Ysgolion
Elusengar Cylchynol a sefydlwyd ganddo
gwawriodd cyfnod newydd ar Gymru.
Dywedir, ac ail-ddywedir ddarfod iddo
gael y syniad am danynt oddiwrth ysgol-
ion Thomas Gouge. Ond nid oedd un-
rhyw debygolrwydd rhyngddynt. Ysgol-
ion Saesneg oedd eiddo Thomas Gouge ;
ysgolion Cymraeg oedd eiddo Grifíìth
Jones, a dj'Sgu Cymraeg yn unig a wneyd
ynddynt. Yr hyn, yn ol a wyddom, a
ddygai fwyaf o debygolrwydd i ysgolion
Griffith Jones, oedd elusen John Jones,
Deon Bangor,* ond ei bod ar raddfa lai.
Yn ei ewyllys, dyddiedig Mawrth lo, 1719,
gadawodd y Deon y swm o haner can' punt
i beriglor Llandegfan, Môn, ac i'w olynwyr
hyd byth, at wasanaeth y tlodion ; fel ag
y byddai i'r llôg oddiwrth yr arian gael ei
ddefnyddio " i ddysgu deg o blant tlodion
y plwyf i ddarllen y Beibl a"r Llyfr
Gweddi Cyffredin yn Gymraeg, mewn
modd eglur ; ac hefyd i'w haddysgu yn
egwyddorion y grefydd Gristionogol yn ol
Catecism Eglwys Loegr." Gadawodd y
Deon Jones y cyffelyb swm at yr un
amcan i blwyfi Llanfair-yn-NeubwU,
Llanffinau,LIanfihangeI-yn-Nhywyn,LIan-
fihangel Ysgeifiog, Rhoscolyn, a Phen-
traeth, oll yn Môn. Cawn yr un g\vr yn
yr unrhyw ewyllys yn gadael y swm o
gan' punt i reithor Llanllechid, Àrfon, fel
ag y byddai i"r Ilôg gael ei ddefnyddio hyd
byth i addysgu deuddeg o blant tlodion y
plwyf " i ddarllen Cymraeg yn berff'aith,
ac i'w hyfforddi yn Ngatecism Eglwys
Loegr yn Gymraeg, fel y gallent nid yn
The Charity CoDimissioìiers' Report relating
to Wales, vol. i.
GRIFFITH JONES, LLANDDOWROR.
25
unig ei adrodd, ond hefyd trwy eglurhad
deallus a duwiol ei ddeall ; ac hefyd fel y
byddont yn alluog i ddarllen y Beibl a'r
Llyfr Gweddi Cyfîredin yn eglur ; ac os
gelhr, eu hyfforddi ryw gymaint niewn
ysgrifenu a rhifo." Gadawodd yr un swm
o gan" punt i'r unrhyw bwrpas i blwyfi
Cyffyn, Aber, a Bangor, oll yn Sir
Gaernarfon. I blwyfì Llanddecwyn, a
Llanfihangel-y-Traethau, yn Sir Feirion-
ydd, gadawodd y Deon cymwynasgar y
swm o haner can' punt yr un at yr amcan
a nfedwyd. Dyma yr unig ymgais gwyb-
yddus i ni, yn flaenorol i ddyddiau Griffith
Jones, i ddysgu Cymraeg yn yr ysgohon
dyddiol. Ond nid yw yn ymddangos mai
canlyn y Deon a wnaeth Griffìth Jones ;
yn wir, nid oes genym un prawf y gwyddai
am ei ymgais ; yn hytrach, cynhun a
ddaeth yn raddol i'w feddwl ef ei hun
oedd yr Ysgohon Cylchynol, er cyfarfod yr
anwybodaeth dirfawr a fifynai yn y wlad
ar y pryd.
Yr hanes a rydd Mr. Charles am ddech-
reuad yr ysgohon hyn yw a ganlyn : —
" Byddai Mr.Grififith Jones, y Sadwrn o flaen
gweinyddiad yr ordinhad o swper yr
Arglwydd, yn cadw math o gyfarfod para-
toad. Darllenai y gwasanaeth a'r Ihthiau
priodol ; yna gofynai a oedd rhy wun yn y gyn-
uheidfa wedi dal sylw neiUduol ar ry w adnod.
Os enwid adnod neu adnodau, eglurai yntau
hwy mewn modd deallus, cyfaddas i am-
gyffredion y bobl." Ond caffai fod y rhai ag
yr oedd mwyaf o eisiau y cyfryw addysg
arnynt yn sefyU yn ol, yn enwedig dynion
wedi tyfu i fynu, ac wedi heneiddio mewn
anwybodaeth. Er meddyginiaethu hyn,
cyhoeddai fod bara yn cael ei gyfranu i'r
tlodion ar y Sadyrnau misol yma, wedi ei
brynu a'r arian a offrymid yn y cymun.
Pan ddeuent yn mlaen i dderbyn y bara,
gosodai hwy yn rhes, a gofynai ychydig o
gwestiynau hawdd iddynt, ond mewn dull
caredig, rhag eu dyrysu na'u cywilyddio.
Ond er ei holl diricndeb, yr oedd flawer o
gaUineb y sarff yn Griffith Jones, ac fel na
adewid ei ofyniadau heb atebiad gofalai am
hyfforddi rhywrai yn dda yn flaenorol, fel
y byddent yn foddion i dynu y lleill yn
mlaen. Trwy hyn daeth yn gydnabyddus
a'r anwybodaeth dirfawr am bethau yr
efengyl, hyd yn nod am ei hegwyddorion
elfenol, oedd yn y wlad, a deallodd nad
oedd yn bosibl dyrchafu y genedl heb gael
rhyw drefniant i ddysgu y bobl i ddarìlen
Gair Duw. Sefydlodd ysgol ddyddiol yn
ei bentref ei hun i ddysgu plant a phobl
mewn oed i ddarllen Cymraeg ; a chynhelid
yr ysgol mewn rhan ag arian y cymun, ond
sicr yw y deuai rhan fawr o'r arian o'i
logell ef ei hun. Llwyddodd yr ysgol, nid
yn unig y tu hwnt i'w ddisgwyliad, ond yn
mhell y tu hwnt i'w obeithion. Heblaw
plant, deuai dynion mewn oed, a hen bobl
iddi, y rhai a wylent yn uchel, mewn rhan
o alar oblegyd eu hanwybodaeth, ac mewn
rhan o lawenydd oblegyd mawredd y fraint
oedd yn cael ei hestyn icldynt. Gwelid hyd
yn nod y deillion yn cyniwair yno, er mwyn
clywed Gair Duw yn cael ei ddarllen, ac er
mwyn ei ddysgu ar eu cof. Arweiniodd
hyn i sefydliad ysgolion eraill mewn gwa-
hanol ranau o'r wlad. Agorwyd yr ysgoí
gyntaf yn mhentref Llanddowror, tua'r
flwyddyn 1730, ryw chwech mlynedd cyn
cychwyniad Methodistiaeth ; ac yn y
flwyddyn 1737, cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf
o Wclsh Piety, yn rhoddi crynodeb o'r
amgylchiadau ddarfu arwain i blaniad yr
ysgolion, rhesymau drostynt, ac atebion i
wrth-ddadleuon yn eu herbyn. Yn mhen
pymtheg mlynedd, cawn fod rhif yr ysgol-
ion wedi cynyddu i 116, a bod ynddynt
5685 o ysgolheigion yn derbyn addysg.
Nid oedd moddion bydol Griffith Jones,
na'r cynorthwy a dderbyniai oddiwrth ei
ffrynd, Madam Bevan, yn ddigonol i gynal
y nifer mawr yma o ysgolion ; ond cafodd
gymorth effeithiol oddiwrth wyr parchus,
yn benaf o Loegr, fel na bu prinder arian
at y gwaith.
Cynllun Grififith Jones oedd cyflogi
nifer o ysgolfeistriaid effeithiol, a'u gwasgar
trwy wahanol ranau y wlad, fel y byddai
y galw am danynt. Dymunol ganddo oedd
fod yr alwad yn dyfod oddiwrth offeiriad y
plwyf ; ond oni ysgogai ef, anfonid yr
ysgolfeistr ar ddymuniad yr ardalwyr. Fel
rheol, yr oedd yr ysgol i barhau mewn
ardal neu blwyf am chwarter blwyddyn ;
ystyrid y gallai plentyn neu ddyn o alluoedd
cyffredin ddysgu darllen y Beibl yn weddol
dda yn hyny o amser, a symudid yr ysgol
i gymydogaeth arall ar gylch ; ond weith-
iau, dan amgylchiadau neillduol, cedwid hi
yn yr un lle am haner blwyddyn neu
flwyddyn, Yn yr ysgolion hyn dysgid yr
ysgolheigion i ddarllen y Beibl yn yr iaith
Gymraeg ; hyfforddid hwy yn egwyddorion
Cristionogaeth yn ol Catecism Eglwys
Loegr, dysgid hwy i ganu Salmau, a def-
nyddid pob moddion i'w diwyllio a'u
crefyddüli. Nid plant yn unig a addysgid,
fel yr awgrymwyd, ond dynion mewn oed
a hen bobl, ac ar gyfartaledd yr oedd dwy
26
Y TADAU METHODISTAIDD.
ran o dair o'r ysgolheigion yn rhai wedi
tyfu i oedran. Fel ag i roddi mantais i
bawb, cynhehd yr ysgohon y nos yn gystal
a'r dydd ; ac os byddai rhywrai yn niethu,
oblegyd amgylchiadau, dyfod i'r ysgol na'r
nos na'r dydd, disgwyiid i'r athrawon
ymweled a hwy yn eu cartrefi, a rhoddi
gwersi iddynt yno. Mewn gwirionedd, ni
fu erioed drefniant ystwythach a mwy
hylaw nag ysgohon Griffìth Jones ; cyf-
addasid hwy at bob math o oedran ac at
bob math o amgylchiadau ; a rhaid fod pwy
bynag na fedrai ddarhen yr Ysgrythyr lân
yn gwbl ddiesgus. Yn mhen blynyddoedd,
yr oedd yr ysgolfeistri i ddychwelyd i'r
îleoedd y buasent ynddynt gyntaf, er
addysgu yr ieuenctyd oeddynt wedi cyfodi
yn ystod eu habsenoldeb. A ganlyn sydd
grynodeb o reolau yr ysgolion, fel eu ceir
yn y Wclsh Picty. i. Rhaid i'r ysgol-
feistriaid fod yn sobr, yn caru duwioldeb,
yn aelodau o Eglwys Loegr, ac yn ffydd-
lawn i'r brenin ac i'r llywodraeth. 2.
Rhaid iddynt, heblaw dysgu yr ysgolheigion
i sbelian, ac i ddarllen y cyfryw lyfrau ag a
bwyntir iddynt, eu hyfforddi hefyd ddwy
waith yn y dydd yn Nghatecism Eglwys
Loegr ; a'u dysgu i ateb yr offeiriad yn
barchus, yn fedrus, ac yn ddefosiynol yn
ngwasanaeth yr Eglwys. 3. Rhaid i'r
meistria'r ysgolheigion roddi eupresenoldeb
yn foreu yn yr ysgol, a dyfod gyda chyson-
deb bob Sabbath i'r addoliad cyhoeddus ;
ac yna ar y Llun canlynol, fod yr ysgol-
heigion i gael eu holi yn fanwl ynghylch y
penodau a ddarllenwyd, y testun, a plienau
y bregeth a glywsant yn yr Eglwys y dydd
blaenorol. 4. Rhaid i'r meistriaid roddi i
mewn, yn mhen y chwarter, gyfrif manwl
o'r ysgolheigion, eu henwau, a'u hoedran,
a'r amser y bu pob un o honynt yn yr
ysgol. Er sicrwydd.fod y rheolau hyn yn
■cael eu cario allan, a bod y meistriaid yn
cyílawni eu dyledswydd yn ffyddlawn,
gosodid yr ysgol yn mhob cymydogaeth,
hyd ag oedd bosibl, dan reolaeth yr offeir-
iad, yr hwn oedd i anfon i mewn adroddiad
am ymddygiad yr ysgolfeistr, a'r Ilwyddiant
oedd wedi bod ar ei ymdrechion yn ystod y
tymor. Cawn yn y Welsh Piety nifer dir-
fawr o'r cyfryw adroddiadau, a dygant oll
dystiolaeth uchel i ddiwydrwydd a duwiol-
deb y meistriaid, ynghyd a'r cyfnewidiad
dirfawr a gawsai ei efìfeithio drwyddynt yn
moesau yr ieuenctyd, a'u dull o ymddwyn
yn nhŷ Dduw. Cafodd Grifììth Jones gryn
anhawsder i gael ysgolfeistri priodol, y rhai
a gyfunent grefyddolrwyddyspryd, a bywyd
diargyhoedd, gyda medr i addysgu. Dywed
Dr. Rees ddarfod iddo gael ei orfodi i gym-
eryd y nifer fwyaf o honynt o fysg yr
Ymneiliduwyr, gan nad oedd nemawr yn
yr Eglwys Wladol yn meddu y cymhwys-
derau priodol. I hyn nid oes rhith o sail.
Noda rheolau yr ysgolion yn bendant
y rhaid i bob ysgolfeistr fod yn aelod
o Eglwys Loegr ; a dywed Griffith Jones
ei hun yn y Welsh Piety am 1745, sef
yn nihen pymtheg mlynedd gwedi cych-
wyniad yr ysgolion, ddarfod i'r rheol ynglyn
a hyn gael ei chadw yn ddigoll. Cyn y cai
unrhyw Ymneillduwr ei gyflogi i fod yn
ysgolfeistr dan Griffith Jones, rhaid iddo
yn gyntaf Iwyr-ymwrthod a'i Anghydffurf-
iaeth, a dyfod yn gymunwr yn yr Eglwys.
Gorchfygodd Grifíìth Jones yr anhawsder
gyda golwg ar athrawon drwy sefydlu math
o Goleg Normalaidd yn Llanddowror, dan
ei arolygiaeth ei hun, yn yr hwn y parotoid
athrawon ; ac hefyd yr addysgid personau
ar gyfer y weinidogaeth.
Ni chafodd y gwaith da hwn fyned yn ei
flaen heb wrth-wynebiadau. Nid oedd yr
esgobion yn cydymdeimlo o gwbl a'r ysgol-
ion, er na feiddient eu gwarafun yn hollol.
Efallai mai y prif reswm am eu gwrth-
wynebiad oedd fod yr ysgolion yn Gymraeg.
Saesonoedd yr esgobion ; nifeddent unrhyw
gydymdeimlad a dim Cymreig ; nid oeddynt
yn deall Cymraeg eu hunain ; credent mai
goreu pa gyntaf yr ysgubid yr iaith oddiar
wyneb y ddaear, ac felly nid rhyfedd eu bod
yn casau yr ysgolion a amcanent *ddysgu y
werin bobl i' w darllen. Y mae amddiíîyniad
Griffìth Jones yn ngwyneb y teimlad hwn
yn hyawdl ac anatebadwy. Dywed y
byddai sefydlu ysgolion elusengar Saesneg
i bobl nad oeddynt yn deall dim ond Cym-
raeg, mor ynfyd a phregethu pregeth
Saesnig i gynulleidfa o Gymry nad oedd-
ynt yn gynefin ag unrhyw iaith ond iaith
eu mam. "A fyddwn ni," meddai, " yn
fwy awyddus am ledaeniad yriaith Saesneg
nag am iachawdwriaeth ein pobl ? " Dad-
leua ei fod yn amhosibl i haws o'r tlodion,
yn arbenig rhai mewn oedran, a hen bobl,
ddysgu Saesneg ; ond nad iawn o herwydd
hyny eu gadael i syrthio i ddinystr tra-
gywyddol. Dywed y byddai sefydlu
ysgolion Saesneg iddynt yr un peth a
chychwyn ysgol elusengar yn y Ffrancaeg
i dlodion Lloegr. " Ffolineb," meddai,
" yn ol rheswm a natur pethau yw ceisio
* History of Protestant Nonconformity in
Wales, p. 318, 2 ed.
GRIFFITH JONES, LLANDDOWROR.
27
addysgu pobl yn egwyddorion crefydd,
trwy gyfrwng unrhyw iaith ond yr un a
ddealhrganddynt." Yr oeddGriffith Jones
yn wir athronydd ; deallai yn drwyadi mai
trwy gyfrwng y gwybyddus yn unig y
gelhr dod o hyd i'r anwybyddus ; ac yr
oedd yn pleidio yr egwyddorion y dadleuir
drostynt gan Gymdeithas yr laith Gym-
raeg, gant a haner o flynyddoedd cyn i'r
Gymdeithas gael bodolaeth. Nid ydym yn
deall ei fod yn cael ei gyffroi o gwbl gan
zêl at iaith, ychwaith ; ond deallai 'mai trwy
gyfrwng y Gymraeg yn unig y gellid cael
gafael ar y bobl ; nad oedd un moddion
arall trwy ba rai y gellid eu hyfforddi yn y
pethau a berthynent i'w' heddwch.
Er mor gymhedrol ddyn oedd Griffith
Jones, ac er mor ofalus oedd yn newisiad
ei eiriau, cyffröid ei yspryd weithiau gan
wrthwynebiadau yr esgobion, ac uchelwyr
y wlad, ac ysgrifen:ii bethau cryfion a
difrifol.* " Pe bai lesu Grist ar y ddaear
yn awr," meddai, " a phe y gofynai y
cwestiwn ' oni ddarllenasoch ? ' byddai raid
i lìloedd o'n pobl dlodion ateb, ' Naddo,
Arglwydd ; ni ddysgwyd ni i ddarllen ; ni
fedrai ein rhieni fforddio y draul i'n hanfon
i"r ysgol ; ac ni wnai ein Harweinwyr
ysprydol gynorthwyo ; a phan y gwnaed
ymdrech i'n haddysgu yn rhad, ni wnai
rhai o'n gwell,' a feddai awdurdod yn y
plwyf, oddef y cyfryw beth.'" Y mae
hynyna yn ddigon hallt, ond nid ydym yn
gwybod i ni ddarllen erioed ddim mwy
llosgadwy nag a ganlyn : " Os bydd i
rywun, nid yn unig esgeuluso, ond hefyd
geisio rhwystro yr amcan caredig hwn (sef,
dysgu y bobl i ddarllen y Beibl Cymraeg),
byddai yn dda iddo ystyried ai llawenydd
anrhaethol ynte poen annyoddefol iddo, yn
nydd mawr y cyfrif, fydd bod y trueiniaid
coUedig anwybodus yn pwyntio ato, gan
ddywedyd : ' Dacw y dyn, y dyn creulawn
annhrugarog, gelyn Duw a bradychwr ein
heneidiau ninau, yr hwn a rwystrodd ein
hiachawdwriaeth, ac a'n cauodd allan o
deyrnas nefoedd. Gan hyny y mae yn
euog o'n gwaed ; efe yw achos ein damned-
igaeth, gan iddo wrthwynebu y moddion a
gynygid i'n dwyn i wybodaeth o Grist yr
lachawdwr.'" Teimla ei fod yn ysgrifenu
yn Ilym, ac yn tynu darlun ofnadwy a
brawychus ; felly amddiffyna ei hun trwy
ddweyd : " Hfallai y tybia rhai fy mod yn
gwarthruddo yr ynadon, y gweinidogion,
a'r esgobion. Pell oddiwrthyf fi fyddo
* Wclsh Pietij, 1742.
gwarthruddo neb ond y sawl y mae y
gwarthrudd yn perthyn iddo." Cystal a
dweyd : Peidied neb a gwisgo y cap os
nad yw yn ei ffitio. Yna ychwanega :
" Chwi a wyddoch i mi gael fy ngeni yn
Gymro, ac nad wyf eto wedi dad-ddysgu
gonestrwydd a gerwindeb {nnpolitcncss)
iaith fy mam, nac ychwaith wedi meddíanu
Ilyfndra olewaidd yr iaith Saesneg, yr hon
yn awr sydd wedi ei reffeinio fel y mae yn
aml yn ymylu ar weniaeth."
Ond er pob peth yr oedd gwrthnaws yr
esgobion, ac eiddigedd y clerigwyr dioglyd
a meddw, at Griffith Jones a'i ysgolion yn
parhau ; ac yn y flwyddyn 1752 cyhoedd-
wyd traethodyn bustlaidd, ond heb enw
wrtho, i'w waradwyddo, ac i geisio enyn
rhagfarn yn ei erbyn. Teitl y traethawd
yw : Pcth 0 hancs yr Ysgolion Elusengay
Cymreig, a , ■shyfodiad a chynydd Methodist-
iaeth yn Nghymru trwy eu hofferynoliactìi, dan
drefniant a chyfarwyddid unigol Griffith Joncs,
offeiriad, Pcrson Llanddo-wror, yn Sir Gaer-
ýyrddin, mewn hanes byr 0 fywyd y Clerigwr
h'junw fel Clerigwr, Dywed Gwilym Lleyn
mai awdwr y Ilyfryn hwn oedd y Parch.
John Evans, person eglwys Gymmun, ger
Elanddowror, dyn drwg ei foes, a gelyn
anghymodlawn i Griffith Jones a'r diwyg-
iad. Ond yr oedd John Evans yn hyn o
orchwyl dan dàl gan Esgob Tyddewi, yr
hwn na phetrusai ddefnyddio yn ddirgel-
aidd yr offerynau gwaelaf i ddrygu dyn na
feiddiai ei erlid yn gyhoeddus. Nis gellir
dychymygu am ddim butrach na'r traeth-
odyn hwn ; y mae ei iaith yn isel, ac mewn
manau yn rhy anweddaidd i'w gosod
mewn argraff ; daw gelyniaeth a malais i'r
golwg yn mhob brawddeg a Ilinell. Wele
rai o'r cyhuddiadau : —
1. Mai Catecism Matthew Henry a
arferai Griffith Jones wrth gateceisio rhwng
y Ilithiau, pan y tybid yn gyffredin ei fod
yn defnyddio Catecism Eglwys Loegr ; ac
iddo wasgar 24,000 o'r cyfryw Gatecism,
wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg, rhwng ei
ysgolheigion.
2. Y maentymiai fod ẁyn gwerthfawr i
Grist yn mhlith y gwahanol ssctau.
3. Mai YmneiUduwyr oedd ei rieni, ac
na fu yntau eu hun erioed yn gymodlawn
ag Eglwys Loegr, gyda ei chanonau, ei
homiliau, ei chlerigwyr, a'i rubric.
4. Iddo dreulio peth amser, tra yn
beriglor yn Llanddowror, i astudio
Hebraeg dan Mr. Perrot, Athraw y
Coleg Presbyteraidd yn Nghaerfyrddin.
5. Fod naw o bob deg o'r rhai a gymun-
Y TADAU METHODISTAIDD.
ent yn ei eglwys yn Ymneillduwyr, y rhai
na chroesent drothwy unrhyw eglwys, ond
yr eiddo ef.
6. Ei fod yn cydymdeimlo a Methodist-
iaeth ; mai efe a wnaeth Howell Harris yn
Fethodist, a'i fod yntau ei hun yn gohebu
a"r Methodistiaid.
7. Ei fod yn ei Eglurhad ar Gatecism
yr Eglwys yn esbonio ymaith yr athraw-
iaeth werthfawr am ail-enedigaeth mewn
bedydd, ac yn honi na all bedydd, nac
unrhyw beth arall, heb ffydd yn Nghrist,
wneyd neb yn Gristion.
8. Ddarfod iddo ef a'i ffrynd (Madam
Bevan, yn ddiau), fyned i drafferth a thraul
fawr i ddiddymu gwyl-mabsantau, a
chwareuyddiaethau, er mawr niwed i hael-
frydedd a chariad Cristionogol a chymydog-
aeth dda, i'r hyn y gwasanaethai y
chwareuon yn fawr, ac heb fod unrhyw
niwed o bwys yn eu canlyn.
g. Mai yn dyrnor llestri coed y cafodd ei
ddwyn i fynu, a'i fod yntau yn arfer y
gwaith hwnw wrth ei bleser pan yn beriglor
yn Llanddowror.
10. Y derbyniai dâl am bregethu ar hyd
a lled y wlad, y disgwyhai gael haner coron
yn nghil ei ddwrn ar derfyn pob pregeth,
tra na thalai efe y neb a wasanaethai yn ei
le yn Llanddowror.
11. Ei fod yn cyfnewid y Litani, ac yn
gadael allan ddarnau cyfain o'r gwasanaeth,
er mwyn cael amser i weddío a phregethu
ei hun.
Ceir yn y traethodyn haws ychwanegol
o'r cyffelyb gyhuddiadau. Desgrifir Griffith
Jones yn yr iaith fwyaf garw ac aflan fel
rhagrithiwr ffiaidd, gormeswr creulawn, a
chelwyddwr diail ; a dynodir ei ganlynwyr
fel lladron, creaduriaid diog, puteinwyr, a
phenboethiaid anwybodus. Yn synwyrol
iawn, ni wnaeth Mr. Jones unrhyw sylw o'r
llyfryn ; aeth yn ei flaen gyda ei waith heb
gymeryd arno glywed cabledd a difriaeth
ei wrthwynebwyr. Nid ydym yn gw^ybod
i neb sylwi arno, hyd nes y darfu i leuan
Brydydd Hir gyfeirio ato yn y flwyddyn
1776, yn nghyflwyniad ei lyfr cyntaf o
bregethau " I Syr \Vatkin Wilhams Wynn,
o Wynnstay, Barwn." Dywed efe fod
" rhai o weinidogion cydwybodol yr efengyl
wedi dyoddef yn greulawn yn y blynydd-
oedd diweddaf dan yr esgobion arglwydd-
aidd a gormesoL Od amheuir hyn, cyfeiriaf
at ysgrifeniadau y diweddar dduwiol a gwir
barchedig Mr. Griffith Jones, o Llanddow-
ror, yr hwn a ddyoddeíodd hoh fustleidd-
iwch offeiriad llwgr-wobrwyedig, a gyflog-
asid gan yr esgobion i'w drybaeddu, er ei
fod ef, trwy neiUduol ras Duw, heli na
brycheuyn na chrychni arno, ond yr hyn a
welai malais a gwallgofrwydd yn dda ei
fwrw."
Er pob gwrthwynebiad Ihosogi a wnaeth
yr ysgohon, a chynyddu a wnaeth rhif yr
ysgoUieigion. Nid oedd ball ar ymdrechion
Griffith Jones o'u plaid ; dadleuai drostynt
yn y Welsh Píety y naiU flwyddyn ar ol y
llaU, gan brofi y da a effeithid trwyddynt,
a chyhoeddi tystiolaethau ffafriol iddynt o
bob rhan o'r wlad. O'r ochr arall, yr oedd
gwanc anniwall yn y werin am ddysgu
darllen. Deuai y dah, y cloff, yr anafus,
a'r hen, i'r ysgol, ac wylent ddagrau o
lawenydd oblegyd eu braint. Ymledodd
yr ysgohon dros yr oll o'r Dywysogaeth ;
plenid hwy yn fynych yn y mynydd-dir
anghysbell, ac yn y cymoedd mwyaf unig,
fel ag i roddi i bawb gyfleustra i ddysgu
darllen yr Ysgrythyr lân. Wele daflen yn
dangos eu hansawdd, a gyhoeddwyd gan
Mr. Jones yn 1760, sef blwyddyn cyn ei
farw.
SlROEDD.
YSGOLION.
YSGOLHEIGION,
Brycheiniog
Aberteifì
4
20
196
1153
Caerfyrddin
Älorganwg
Mynwy
Penfro
25
2
23
2410
872
61
837
Môn
25
1023
Caernarfon
27
981
Meirionydd
15
508
Dinbych
Trefaldwyn
8
12
307
339
011 ynghyd 215 8G87
Oddiwrth y daflen uchod, gwelir mai
dwy yn unig o holl siroedd Cyniru oedd
heb ysgolion, sef Maesyfed a Fflint.
Anhawdd dweyd paham yr oeddynt hwy
yn eithriadau. Priodola rhai hyny i elyn-
iaeth ffyrnig yr offeir'iaid yn erbyn y
Diwygiad ; ond nid oes genym un prawf
eu bod yn fwy gelynol iddo yn y ddwy sir
hon nag yn y rhanau eraill o Gymru.
Efallai fod gwybodaeth o'r iaith Saesneg
yn fwy cyffredinol ynddynt ; yr oedd Maes-
yfed yr adeg hon yn ym-Saesnegeiddio yn
gyflym ; ac felly nad deddynt yn sefyll
mewn cymaint o angen am yr ysgolion
Cymraeg.''' Yn ystod deng-mlynedd-ar-
hugain parhad yr Ysgolion Cylchynol,
dywedir i dros gant a haner o filoedd gàel
eu dysgu i ddarllen Gair Duw, oedran y
rhai a amrywiai o chwe' blwydd hyd dros
* Sir Thomas PhiUips' Wales, p. 284.
GRIFFITH JONES, LLANDDOWROR.
29
ddeg-a-thriugain. Nid oes ond y " dydd
hwnw " a ddengys faint y daioni a gadd ei
eífeithio trwy y moddion hyn.
Wedi creu darllenwyr, teimlodd Griffith
Jones fod angenrhaid wedi ei osod arno i'w
cyflenwi a llyfrau, ac y mae ei ymdrechion
yn y mater hwn yn gyfartal i'w eiddo fel
pregethwr ac addysgydd. Yn neillduol yr
oedd y wlad yn 11 wm iawn o Feiblau. Er
cyfarfod yr angen yma, gwnaeth appel at
ewyllyswyr da achos y Gwaredwr yn
Nghymru a Lloegr ; a chwedi derbyn
cymorth helaeth, llwyddodd i gael gan Y
Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Grist-
ionogol i ddwyn allan argraffiad newydd o'r
Beibl Cymraeg. Dygwyd yr argraffiad
hwn allan y flwyddyn 1 746 ; cynwysai
bymtheg mil o gopíau, a golygid ef gan
Rhisiart Morris, brawd Llewellyn Ddu o
Fôn, yr hwn oedd yn Swyddfa'r Llynges,
yn Llundain, ac yn ŵr tra dysgedig. Yn
ychwanegol at y Beibl, ceid ynddo y Llyfr
Gweddi Cyffredin, yr Apocrypha, ynghyd
a'r Salmau Can, a Mynegair. Addurnid
yr argraffiad hefyd a dwy barthlen fmap),
" Rhodd W. Jones, Ysw., F.R.S., i'r
Cymry." Yr oedd y W. Jones hwn yn
dad i'r ieithydd Dwyreiniol enwog, Syr
William Jones. Gwerthid y Beiblau am
bris isel, fel y gallai y cyffredin eu meddianu ;
os byddai neb yn rhy dlawd i'w prynu,
rhoddid hwy yn rhad ; nid rhyfedd felly i'r
pymtheg mil copíau gael eu gwasgar mewn
"byr amser. Yn y flwyddyn 1752, cawn Y
Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Grist-
ionogol, ar anogaeth Griffith Jones, yn
cyhoeddi argraffiad arall o'r Beibl Cymraeg,
tan olygiaeth yr un Rhisiart Morris. Yr
oedd hwn eto yn bymtheg mil o gopîau, ac
yn del)yg i'r cyntaf, ond fod yr Apocrypha
wedi adael allan o hono. Heblaw lledaenu
y Beibl, er mwyn goleuo ei gydwladwyr,
cyfansoddodd nifer dirfawT o lyfrau, a
chyfieithodd eraill, oll o nodwedd athraw-
iaethol neu ddefosiynol. Dengys y daflen
a ganlyn pa mor fawr a fu ei lafur yn y
cyfeiriad hwn.*
Cyfii:ithiadau ac Ad-argrai-fiadau —
1712— Hynodeb Eglwysyddol.
1722— Holl ddyledswydd dyn, &c.
1743 — Crynodeb o'r Salmau Cân, &c. 164 tudal.
1749-Pigion Prydyddiacth Pen Fardd y Cyniru,
212. (Y "Pen Fardd" hwn ocdd Ficer
Pricliard, Llanyniddy f ri ) .
1758— Llof'fion Prydyddiaeth, sef 46 o Ganiadau
o waith Mr. Kees Prichard, 92 tudal.
* Y Parch. Owen Jones, B.A.
Lladmerydd, 1887
Liverpool, yn
Adroddiadau Saesneg yr Ysgolion
Cylchynol, sef " Welsh Piety."
1737—0 1734 hyd 1737.
1740-1754. Pymtheg Adroddiad, oU yn 824
tudal.
1755 —1760. Saith neu wyth Adroddiad.
Llyfrau Saesneg eraill —
1741 — An Address to the Charitable and Well-
disposad, 20 tudaL
1745 — A Letter to a Clergyman, 90 tudal.
1747 (?) — Twenty Arguments for Infant Baptism.
1750— lustruction to a Young Chiistian. Fglur-
had ar Gatecism yr Eglwys mewn ffordd
o Holiad ac Ateb. (Y mae yn ddwy-
ieithog, pris 4c.)
17 (?) — The Christian Covenant, or the Baptis-
mal Vow, as stated in our Church
Catechism, Scripturally esplained by
Questions and Answers. (2nd Edition,
1762; 3rd, 1770).
17 (?)_The Christian Faith, or the Apostles'
Creed, spiiitually exp]ained by Quest-
ions and Answers. (2nd Edition, 1702).
17 (?) — Platform of Christianity, being an
Explanation of the 39 Articles of the
Church of England (ar awdurdod Mr.
Charles).
Llyfrau Defosiynol —
1730— Dwy Ffurf o Weddi, 48 tudal. (Ail
Argraffìad, 1762).
1738 — Galwad at Orseddfainc y Gras, 148 tudal.
1750— Eto Ail Argraffiad, 148 tudal.
1740— Hyfforddwr at Orseddfainc y Gras, yr
ail ran o'r Alwad at Orseddfainc y
Gras, 140 tudal.
17 (?) — Anogaeth i Folianu Duw. (Dyri Mr.
Charlcs hwn fel un o'i lyfrau).
Hyfforddiadau, neu Gatecismau —
17.37 — Cyngor rhad i'r Anllythyrenog, neu lyfr
bach mewn ffordd o Holiad ac Ateb.
1741 — Hyfforddiad i Wybodaeth lachusol o
Egwyddorion a Dyledswyddau Crefydd,
sef Holiadau ac Atebion Ysgrythyrol
ynghylch yr Athrawiaeth a gynwysir
yn Nghatecismau yr Eglwys. Angen-
rheidiol i'w dysgu gan Hen ac leuainc.
Y mae hwn yn bum' rhan, ac yn
cynwys 642 tudal.
174S — Drÿch Difynyddiaeth, neu Hyfforddiad i
Ẁybodaeth lachusol. (Yn ol pob tebyg
ail-argraffiad yw hwn o'r llyfr blaenorol
tan enw arall).
1749_Llythyr ynghylch y Ddyledswydd o Gatec-
èisiö plant a phobl anwybodus, 48 tudal.
1749_Hyfforddiad Gymwys i Wybodaeth lach-
usol, 330 tudal. (Talfyriad o Hyffordd-
iad 1741).
1752— Esboniad byr ar Gatecism yr Eglwys.
Yn bum' rhan, 170 tudal. (Talfyriad
o'r llyfr diweddaf). Cafodd ei argraffu
hefyd yn 1762, 1766, a 1778, ac yn
rlianau wrthynt eu hunain o hyny hyd
yn awr, gan y Gymdeithas er Taenu
Gwybodaeth Gristionogol.
Yr oedd cychwyniad Griffith Jones fel
awdwrynfychan. Dechreuodd fel cyfieith-
30
y TADAU METHODISTAIDD.
ydd, aeth yn mlaen i fod yn Dalfyrydd,* a
thybir iddo gyfnewid rhyw gymaint ar
" Holl Ddyledswydd Dyn," er ei wneyd yn
fwy efengylaidd a Chalfinaidd. ü'i holl
lyfrau, ei Gatecismau sydd fwyaf hysbys,
ac wedi bod o fwyaf o ddefnydd. Yr oedd
yn agos i driugain mlwydd oed pan y
cyhoeddodd yr " Hyfforddiad," yr hwn,
fel y gwehr, sydd waith mawr o 612 tudal-
en. Catecism Eglwys Loegr yw ei sail,
ond eglura ynddo yn bur fanwl a goleu
athrawiaethau pwysicaf Cristionogaeth.
Trinia y materion yn helaeth ; rhydd yr
Ysgrythyrau sydd yn profi yr atebion yn
llawn ; rhana yr ateb weithiau i ddeg neu
ddeuddeg o benau, a rhai o honynt yn
llanw tua dalen gyfan. Cafodd ledaeniad
eang. Dywedir fod cynifer a deuddeng
mil o'r rhan gyntaf wedi eu hargraffu.
Mewn hysbysiad sydd yn ei ragflaenu,
dywed na ddisgwyhai i neb ddysgu ar ei
gof gatecism mor faith, ond iddo gael ei
ddarpar i'w ddarllen yn ystyriol a mynych ;
un i ddarllen dau neu dri o'r cwestiynau
a'r atebion ar nos Sabbath, neu o'r wythnos,
i bawb o'r tylwyth, ac iddynt hwythau ateb
yn eu geiriau eu hunain yn ganlynol. Ond
y fath oedd yr awch am wybodaeth a lanwai
feddwl ieuenctyd y wlad, fel yr hysbysa yn
mhen ychydig, fod rhai pobl ieuainc obeith-
iol wedi ei drysori oll yn eu cof. Pa fodd
bynag, gwelodd yn angenrheidiol ei fyrhau,
er ei gymhwyso ar gyfer y Ihaws ; felly yn
1749, cyhoeddodd dalfyriad o hono, tua
haner maint y llyfr blaenorol. Ond yn
mhen tair blynedd, y mae yn taffyru y
talfyriad, gan ei alw yn Esboniad byr ar
Gatecism yr Eglwys. Y Catecism byraf
hwn sydd fwyaf hysbys. Griffìth Jones a
gymerwyd yn gynllun gan Mr. Charles
wrth gyfansoddi ei " Hyfforddwr," er iddo
mewn eglurder, trefn, a chymwysedd, dra
rhagori ar ei ragflaenydd. Yn ei ragym-
adrodd i'r Crynodeb, y ffurf gyntaf är yr
Hyfforddwr, dywed Mr. Charles : " Cym-
erais yn hyf amry w Gwestiynau ac Atebion
allan o Esponiad rhagorol Mr. G. Jones."
Tra yn coleddu y syniadau uchaf am
Griíîith Jones fel duwinydd, prin yr ystyriai
Mr. Charles ef yn gynliun o ysgrifenydd,
am nad oedd yn ddigon syml a chryno.
Fel hyn y dywed am dano :t " Fel ysgrifen-
ydd yr oedd ei ddoniau yn helaeth, ond yn
hytrach yn gwmpasog, gorlanwog, ac aml-
eiriog; a'i frawddegau yn faith a dyryslyd.
* Y Parch. Owen Jones, B.A., Liverpool, yn
Lladmcrydd, 1887.
f Trysorfa Ysbrydol. Llyfr II.
Dengys bob amser wybodaeth helaeth am
yr hyn y traetha am dano, ac amlyga ei fedd-
wl mewn ymadroddion addas, ac iaith gan
mwyaf yn bur ac ardderchawg. Mae rhai
o'i draethodau diweddaf yn rhagori Uawer
ar ei gyhoeddiadau mwyaf boreuol, o ran
destlusrwydd cyfansoddiad, dichlynrwydd
ymadrodd, a phurdeb iaith. Ysgrifena bob
amser yn Ysgrythyrol, yn ddifrifol, ac yn
bwysig, fel un am wneuthur Ilesad i eneid-
iau dynion. Yn y cwbl, ymddengys yn
dduwinydd da, o wybodaeth a doniau
helaeth, a chariad gwresog at achos yr
efengyl." Y gwir yw fod Mr. Charles ei
hun yn rhagori yn fawr arno mewn ysgrif-
enu yn gryno ac yn oleu, yn gystal ag
mewn tlysni arddull. Ond gwnaeth Griffìth
Jones, trwy ei ysgrifeniadau, wasanaeth
anrhaethol i genedl y Cymry, nid oes ond
goleuni y farn a ddengys ei faint ; trwydd-
ynt gwawriodd cyfnod newydd ar y wlad,
yr hon yn flaenorol oedd yn dra amddifad
olenyddiaethgrefyddol boblogaidd. Gwas-
garwyd ei Gatecismau yn arbenig o'r naill
gwr o'r Dywysogaeth i'r Ilall ; ac anaml y
ceid bwthyn yn nghesail y mynyddoedd
hebddynt. Yn nygiad allan ei lyfrau,
cafodd gymorth sylweddol gan Y Gym-
deithas er Taenu G wybodaeth Gristionogol;
yr hyn a'i galluogai i'w gwerthu am bris
isel, ac i'w rhoddi yn rhad i'r rhai oeddynt
yn rhy dlawd i'w prynu.
Bu Griffith Jones fyw am chwarter
canrif wedi cychwyniad y Diwygiad Meth-
odistaidd, ond ni ddarfu iddo fwrw ei goel-
bren yn gyhoeddus gyda y Diwygwyr.
Nis gellir gwybod i sicrwydd pa beth a'i
hataliodd. Priodola WiIIiams, Pantycelyn,
hyn i dywyllwch ei foreuddydd, a gwendid
ei ffydd : —
" Ond am fod ei foreu 'n dywyll,
Ac nad oedd ei ffydd ond gwan,
Fe arswydodd fyn'cl i'rmcasydd,
Ac i'r üeoedd nad oedd llan."
Efallai fod yr hyn a ddywed Williams yn
wir am ei foreu, ond nid oes arwyddion o
ddiffyg gwroldeb na phall ar ffydd i'w
canfod yn mywyd yr Efengylydd o Lan-
ddowror, gwedi i'w ddydd fyned yn nes
yn mlaen. Tebygol fod rhai pethau ynglyn
a'r Diwygiad na fedrai eu cymeradwyo yn
hollol. Dywed Howell Harris mewn
Ilythyr o'i eiddo, a gafodd ei ysgrifenu yn
ol pob tebyg yn y flwyddyn 1743, ddarfod
i'r Parch. Griffith Jones, yn y Wels/i Picty,
weini cerydd caredig i'r Methodistiaid,
ond na wnaethai hyny yn ddiachos, gan
fod cryn lawer o anrhefn yn eu mysg. Y
GRIFFITH JONES, LLANDDOWROR.
31
mae lle i dybio hefyd nad oedd yn cymer-
adwyo yn gyfangwbl y cyffro a'r gwaeddu
oedd yn cydfyned a gweinidogaeth nerthol
Daniel Rowland, a bod rhywrai wedi
cludo iddo anwireddau am ymddygiadau y
y g\Vr da hwnw, ac am ei syniadau tuag
ato.* Mewn llythyr at Rowland, dywed
Howell Harris ddarfod iddo ei amddiffyn
wrth Grtffith Jones, a'i hysbysu nad oedd
wedi ei glywed yn dweyd gair yn isel am
G. Jones erioed ; ond fel arall yn hollol, ei
fod bob amser yn siarad yn barchus am
dano, ac am ei waith. Yn mhellach, ei
fod yn gwneyd defnydd mawr o'i Gatec-
ism, ac yn anog y bobl i'w brynu.
Tebygol hefyd y barnai Griíììth Jones y
gallai wneyd mwy o ddaioni ynglyn ag
achos y Gwaredwr trwy beidio ymuno yn
gyhoeddus a'r Methodistiaid, gan y byddai
hyny yn debyg o greu rhagfarn yn erbyn
ei ysgohon ac yn erbyn ei lyfrau. Nid
ydym yn sicr nad oedd yn barnu yn gywir.
Pa fodd bynag, amlwg yw ei fod mewn
cydymdeimlad dwfn a'r Diwygiad, ac yn
dymuno Duw yn rhwydd iddo. Disgybl
iddo ef, a godasid i fynu wrth ei draed yn
yr ysgol yn Llanddowror, oedd Howell
Davies ; teimlai ddyddordeb dwfn ynddo,
a gwnaeth appêl cyhoeddus at y gynulleidfa
am weddîo drosto Sabbath ei ordeiniad.
Y mae yn bur sicr na ddarfu i Howell
Davies droi allan i'r prif-ffyrdd a'r caeau
yn Sir Benfro, ac uno yn gyhoeddus a
Rowland a Harris, heb ymgynghori a'i
hen athraw. A chawn gyfeiriadau mynych
at Griffith Jones yn llythyrau Howell
Harris.f Wele ychydig ddifyniadau :
" Cefais y ffafr o ymddiddan am rai oriau
a'r anwyl a'r gwerthfawr Mr. Griffith
Jones. Y mae yn cynyddu yn rhyfedd.
Pa fwyaf wyf yn gyfeillachu ag ef, mwyaf
oU yr wyf yn gweled ei werth."J " Cafodd
Mr. Davies a minau tua phum' neu chwech
awr o siarad a'r Parch. G. Jones bythefnos
i ddoe. Y mae yn llawn zêl, ac yn dyfod
agosach agosach wrth glywed Ilefau yr
ẃyn. Y mae ganddo yn awr yn y wasg
esboniad ar yr erthyglau."§ " Pythefnos
i foru yr wyf yn gobeithio clywed yr hen
filwr ymdrechgar, Mr. Griffith Jones, yr
hwn sydd wedi cael ei arddel i chwalu
cadarn-leoedd Satan am dros ddeng-
mlynedd-ar-hugain, ag sydd o hyd yn dal
yn mlaen, ac yn cael ei arddel yn rhyfedd
yn ei weinidogaeth." Cawn ef yn adrodd
ddarfod iddo tua diwedd y flywddyn 1742
ymweled a Llanddowror, ac aros yno dros
Sul y cymundeb, a dywed : " Pan yn
derbyn y sacrament yno, yr wyf yn credu
na chefais erioed y fath ddatguddiad o fy
anwyl Arglwydd, yr hwn er cymaint wyf
yn demtio arno, sydd yn parhau i fod yn
fwy fwy gwell i mi o ddydd i ddydd."
Hawdd gweled natur teimlad Howell
Harris at Griffith Jones, ac y mae yn debygol
fod teimlad ei hoU gydlafurwyr yn gyffelyb.
Nid yw yn ymddangos ychwaith ddarfod i
Griffith Jones gyfyngu ei weinidogaeth yn
gyfangwbl i'r " lleoedd nad oedd llan."
Pregethai yn nghapelau yr Arglwyddes
Huntington yn Bath a LIundain.|| Pan
ddaeth yr " etholedig arglwyddes " ar daith
trwy Gymru yn y flwyddyn 1748, cyfarfu
a hi yn Bristol Howell Harris, Daniel
Rowland, Howell Davies, a Grifíìth Jones,
y rhai a fu yn osgordd iddi trwy holl amser
ei harosiad yn y Dywysogaeth. Trafaelent
yn araf ; ac am fwy na phymtheg niwrnod
pregethai dau o'r gweinidogion bob dydd
yn y pentref neu y dref drwy yr hon
y byddent yn pasio. Pan feddylier pa mor
ddysglaer oedd doniau gweinidogaethol
Mr. Jones, a pha mor fawr oedd ei barch-
edigaeth, gallwn fod yn sicr na oddefid iddo
fod yn fud ar y cyfryw achlysuron. Yn
Sir Aberteifi, ymwelwyd a'r cwmni gan
Philip Pugh, Llwynpiod. Wedi taith
faith, cyrhaeddasant Trefecca, Ile y daeth
yn ychwanegol WiIIiams, Pantycelyn ;
Thomas Jones, Cwm lau ; Thomas Lewis,
Aberhonddu ; a Lewis Rees ac eraill. Tra
yno pregethai y gweinidogion dair neu bedair
gwaith y dyddynyrawyr agoredi'r torfeydd
lliosog oedd wedi ymgasglu i wrando yr
efengyl. UnwaithcafoddGriffith Jones odfa
nerthol iawn ar y maes, pan yn pregethu
oddiar y geiriau hyny yn Esaiah, " Beth a
waeddaf?" Yr oedd y fath ddylanwadau
nerthol yn cydfyned a'i genadwri fely dwys-
bigwyd Ilawer, ac y dolefent allan yn y
modd mwyaf torcalonus. Wedi i'r cyfarfod
derfynu, holai yr Arglwyddes rai o'r cyfry w
am yr achos o'u Ilefau. Atebent hwythau
eu bod wedi cael eu hargyhoeddu o'u
sefyllfa druenus a'u cyflwr euog gerbron
Duw, fel yr ofnent na wnai byth gymeryd
trugaredd arnynt. Profa yr hanes hwn y
pregethai Griffith Jones mewn Ileoedd
anghysegredig, ac y cydweithredai weithiau
* WeeMij Historij.
t Wechly History, 1743.
î Ibid. s Ibii.
Lifo and Times of Selina, Countess of
Huntington, tudal. 85.
32
Y TADAU METHODISTAIDD.
a'r Diwygwyr, er nad oedd wedi ymuno a
hwy. Ỳ mae yn eglur fod gwaith Griffith
Jones yn cyflenwi y wdad a Beiblau, ac a
Chatecismau, a llyfrau crefyddol eraiU ; a'i
waith trwy yr ysgoHon yn dysgu y bobl i
ddarllen, yr hyn a gerid yn mlaen am
chwarter canrif ochr yn ochr ag ymdrechion
y Tadau Methodistaidd, yn gefnogaeth o'r
fath fwyaf sylweddol i'r Diwygiad. Oni
bai am ei lafur ef, y mae yn amheus a
fuasai Uafur Harris, a hyawdledd Rowland
a Howell Davies, wedi gadael efifeithiau
mor barhaol ar y wlad. Pe aem i olrhain
dylanwad y gw^ahanol ofiferynau a ddefnydd-
iodd yr Arglwydd i efengyleiddio Cymru yr
adeg hon, braidd na theimlem mai dylanwad
yr Efengylwr a'r Addysgydd o Landdow-
ror oedd y dwysaf a'r eangaf. Yr oedd y
werin, wedi cael craff ar ddarllen, yn
awyddus am ddefnyddio y gallu newydd
osddynt wedi feddianu. Hirnos gauaf, yn
lle adrodd chwedlau ofergoehis am fwganod
adrychiolaethau, ceidy meibion a'rmerched
yn y ffermdai a'r bwthynod yn darllen Gair
Duw goreu y medrent yn uchel ; a'r hen
bobl yn gwrando yn astud, a'r dagrau yn
llanw eu llygaid wrth glywed newyddion
mor ogonsddus. Cyfarfyddid i gyd-adrodd
ei Gatecism, a llenwid y cymoedd mynyddig
a'r pentrefydd gwledig gan swn y rhai
oeddynt yn ymgais i'w drysori yn eu cof.
O flaen dylanwad dystaw yr addysg
Ysgrythyrol, diflanodd y bwganod allan o'r
tir, a lle ni chafwyd iddynt mwyach. Yn
hollol gywir olrheinia Mr. Johnes darddiad
Methodistiaeth yn ol i Griffith Jones, er o
bosibl na fwriadai ef ddim o'r fath. Gwna
yr un g\Vr y sylw canlynol : *" Fod ychydig
o weinidogion duwáol ac ymroddgar yn
wendid yn hytrach na chryfder i sefydhad
crefyddol, pan y mae y mwyafrif o'r
gweinidogion yn ddiofal am eu dyledswyddau
cysegredig ; am fod zêl yr ychydig yn gwneyd
y tywyllwch yn fwy gweledig, ac yn gwneyd
y bobl yn fwy annyoddefol o gamwri."
Bu farw Griffith Jones ar yr 8fed o Ebrill,
1761, yn y 78 flwyddyn o'i oed, yn nhŷ
Madam Bevan. Yr oedd ei wraig wedi
marw bsth amser o'i flaen. Bu farw yn
ogoneddus, heb ymddiried dim yn ei ym-
drechion, ond yn llawn ffydd yn eiWaredwr.f
Wrth gyfaiU a alwasai i'w weled cyffesai ei
waeledd a'i ddiffrwythder. Atebodd y
cyfaiU na ddylasai ddywedyd felly, gan
ddarfod iddo fod mor Uafurus trwy ei oes, a
* Caiises of Dissent in Wales,
t F Drysorfa, 1813.
bod yr Arglwydd wedi gwneyd defnydd
mor fawr o hono. Yr oedd y claf yn grwm
yn ei wely, ac yn pwyso ei ddwy benehn ar
ei benhniau ; ond ar hyn ymsythodd, a
chan edrych yn myw Hygaid y cyfaill,
gofynodd, " Beth ! a'i cymeryd phiid y
gelyn yr ydych ? " Wrth gyfaill arall a
alwasai i ofyn ei helynt, dywedai, " Rhaid
i mi ddwyn tystiolaeth i ddaioni Duw. Yr
ydwyf, íe, yn awr, yn rhydd oddiwrth y
diffyg anadl yr oeddwn yn ddarostyngedig
iddo yn fy ieuenctyd. Nid wyf yn ddall,
fel y bum dros dair wythnos yn fy maban-
dod gan y frech wen ; ac nid wyf yn
gardottyn dall yn hel fy nhamaid o ddrws i
ddrws. Mor rhyfedd yw daioni Duw, gan
nad wyf yn teimlo dim poen, ac am fy mod
yn debyg o fyned i'r bedd mewn esmwyth-
der. Mor rhyfedd yw trugaredd Duw, fy
mod yn gallu canfod yn eglur yr hyn a
wnaeth ac a ddyoddefodd Crist drosof fi, ac
nad oes genyf yr amheuaeth leiaf am fy
hawd yn fy Achubwr Hollalluog." Yna
aeth yn mlaen i fohanu, " Bendigedig fyddo
Duw ! Y mae ei ddiddanwch yn llenwi fy
enaid ! " Dywed Mr. Charles fod ei
gladdedigaeth yn dra galarus, a bod lluoedd
o bobl dlodion, trwy eu gwynebaugwlybion
a'u dagrau heilltion, yn tystiolaethu eu
cariad a'u tristwch, o herwydd colh gŵr
mcr rhagoroL
Er gwneyd pob ymchwihad, methwyd a
dod o hyd i ddarlun Griffith Jones. Hys-
bysir ni gan bobl ag y disgwyhd eu bod yn
gwybod nad oes yr un ar gael, . ac nad oes
lle i feddwl ddarfod i ddarlun o hono gael
ei gymeryd erioed. Nid oes darlun ar gael
ychwaith o Madam Bevan. Gan i ni
fethu darganfod unrhyw ddarlun o hono, a
bod y persondy yn ymyl yr eglwys lle y
trigai yn gyd-wastad a'r ddaear, nid oes
genym ond rhoddi i'n darllenwyr ddarluniau
o bsntref Llanddowror, yr eglwys, a'r maen
coffadwriaethol sydd uwchben ei fedd.
Yn ei ewyUys gadawcdd yr oll a feddai,
ssf tua saith mil o bunoedd, i Madam
Bevan, mewn ymddiriedaeth, i'w defnyddio
at wasanaeth yr Ysgohon Cylchynol. j Bu
hi fyw am ddeunaw mlynedd yn mhellach,
sef hyd 1778, a thrwy ystod ei hpes
gofalodd am ysgohon Griffith Jones. Cyn
ei marw gadawodd dair mil o bunoedd
ychwanegol yn ei hewyllys at yr un amcan,
fal yr oodd yr holl swni yn ddeng miL
Ond ceisiodd y Gymunweinyddes, yr
Arglwyddes Stepney, feddianu yr arian fel
J Enu-ocjion y Ffyäd.
M E T H O D I S T I A I D L L O E G R
fafnont yn llafuno yn Nghymru).
1. Parch. Joiin- West.fa', M.A. 4. Parch. George Whitefield .,, , rr ^
2. Parch. Charles Wesley, M.A. 5. Parch: John Fletcher, Pnf Athraw Athrofajrefecca.
3 I\RiLES HuNTiNGTON 6. Paech. Joseph Benson, Ail Athrüio Athrofa Trefecca.
GRIFFITH JONFS, LLANDDOWROR.
LLANDDOWROE.
eiddo personol ; ac mewn canlyniad cauwyd
yr ysgolion, a thaflwyd yr holl achos i'r
Canghell-lys. Yno yr arhosodd yr arian
hyd y flwyddyn 1808, pan yr oeddynt wedi
cynyddu i ddeng-mil-ar-hugain. Gwnaed
trefniant y .pryd hwnw i ail agor yr ysgol-
ion, ond ar gynllun hollol wahanol i eiddo
Griffith Jones a Madam Bevan ; daeth yr
oll yn gysylltiedig ag Eglwys Loegr, a
chauid pawb allan o honynt ond y rhai
oeddynt yn mynychu y llan. Felly
ychydig a fu eu defnydd i genedl y Cymry.
Gaclawn Griffith Jones a'i hanes godidog
trwy dchfynu rhanau o'i farwnad ardclerchog
gan \\'iniams, Pantycelyn : —
" Dacw'r Beiblau têg a liyfrycl,
Ddeg-ar-hugain fìloedd llawn,
Wedi 'u trefnu i ddod allan,
Trwy ei ddwylaw'n rhyfedd iawn ;
Dau argraíYìad, glân ddiwygiad,
Llawn ac uchel bris i'r gwan ;
Mewn cabanau fe geir Beiblau
'Nawr gan dlodion yn mhob man.
Hi, Ragluniaeth ddyrys, helaeth,
Wna bob peth yn gydsain llawn,
D'wed nad gwiw argraffu Beiblau
Heb eu darllen hwy yn iawn ;
Daeth yn union ag ysgolion,
O Werddon fòr i Hafren draw ;
Rhwng y defaid mae'r bugeiliaid
'Nawr a'r 'tígrythyr yu eu llaw.
Tair o filoedd o yfgoüon
tTawd yn Nghymiu faith a mwy,
Cliwech ugain mil o ysgollieigion
Fu, a rhagor, yndclynt hwy ;
Y goleuni ga'dd ei enyn
O Rheidol wyllt i Hafren hir,
Tros Blumlumon faith yn union
T'wynodd ar y Gogledd dir.
Braidd ca'dd plwyf nac ardal ddianc
Heb gael iddo gynyg rbad,
0 fanteision ddysgai'n union
Iddynt ddarllen iaith eu gwlad.
Dyma'r gwr a dorodd allan
Ronyn bach cyn tori'r wawr ;
Had fe hauodd, fe eginodd,
Fe ddaetla yn gynhauaf mawr ;
Daeth o'i ol fedelwyr lawer,
Braf, mor ffi'wythlawn y mae'r ŷd !
'Nawr mae'r wyntyll gref a'r gogr
Yn ci nithio'r hyd y byd.
Griffìth Jones gynt oedd ei enw,
Enw newydd sy' arno'n awr,
Mewn llyth'renau na ddeallir
Ei 'sgrifenu ar y llawr ;
Cân, bydd lawen, aros yna,
Os yw Duw, o entrych ne',
Yn gwei'd eisiau prints, a dysgu,
Fe fyn i-ywun yn dy Ìe."
Gwir y prophwydodd Wilhams. Fe gyf-
ododd Duw olynydd teilwng i Griffith
Jones yn y Parch. Tliomas Charles, o'r
Bala, o fendigedig goffadwriaeth,
D
PENOD III
Y DIWYGIAD METHODISTAIDD YN LLOEGR.
Niid dciUiad o Fethodistiaeth Lloegr yw Methodistiaeth CymvH — Cychwyniad y symndiad yn
Rhydychain — " Y Clwb Sanctaidd'' — Johu a Charles Wesley — John Gambold, y Cymro —
Manylwch rheolau a hunanymwadiad aelodau y " Clwb San:taidd" — Y symudiad yn nn
Sacramentaraidd a: Uchel-sglwysyddol — Dylanwad y Morajiaid av John Wesley — Wesleyyn
ymiwthod a Chaljiniaeth — Yr ymraniad rhwng Wesley a Whitejield — Y ddau yn cael eu
cymodi tvwy offerynoliaeth Hoiíicll Hawis.
'ID oedd un cysylltiad allanol a gwel-
'pyi) edig rhwngcychwyniad y Diwygiad
s*Í^J Methodistaidd yn Nghymru a'r
Diwygiad yn Lloegr. Nid gwTeichion o'r
tân oedd wedi dechreu cyneu yn Rhyd-
ychain a gafodd eu cario gyda'r awel i
Langeitho a Threfecca, gan enyn calonau
Daniel Rowland a Howell Harris, fel y
darfu i rai haeru mewn anwybodaeth.
Daeth tân Duw i lawr i Gymru yn union-
gyrchol o'r nefoedd ; ac yr oedd Rowland a
Harris wedi bod yn llafurio am agos i ddwy
flynedd, ac wedi cynyrchu efifeithiau rhyf-
eddol trwy eu gweinidogaeth, cyn iddynt
glywed gair am yr hyn oedd yn cymeryd
lle yr ochr hwnt i'r Hafren. Ondyr ydym
yn galw sylw at y Diwygwyr Saesneg,
oblegyd yr undeb agos a fu rhyngddynt am
gryn dymor a ni fel corff o bobl. Oddi-
wrthynt hwy y derbyniodd y Cyfundeb ei
enw. Bu amryw o honynt droiau ar daith
trwy y Dy wysogaeth , yn pregethu yr efengyl,
a bu gweinidogaeth y ddau W'esley, ac yn
arbenig eiddo Whitefield, yn nodedig o
fencUthiol. Am dymhor, edrychid ar gan-
lynwyr Whitefield a Cennick yn Lloegr, a
chaniynwyr Rowlanda Harrisyn Nghymru,
fel yn íîurfio un cyfundeb. Whitefield a
lywyddai yn y Gymdeithasfa gyntaf yn
Watford, a gwnaeth lawn cymaint a
Rowland a Harris i roddi ffurf i'r Diwygiad.
Cawn ef mewn amry w o'r Cymdeithasfaoedd
dilynol, a phan yn bresenol efe fyddai yn
ddieithriad yn y gadair. Edrychid arno
fel un o'r arweinwyr. Byddai Harris a
Rowland, ac eraiU o bregethwyr Cymru,
drachefn yn myned i Loegr, ac i'r
Tabernacl yn Llundain, gan aros yno
weithiau am wythnosau i weinidogaethu ;
a byddent, hyd y medrent, yn presenoH
eu hunain yn y Cymdeithasfaoedd a
gynhelid yno, ac yn cymeryd rhan
ynddynt. Tebygol mai anhawsder yr
iaith, ac anghyfleustra teithio, a barodd
i'r Diwygwyr Cymreig ymddieithrio yn
raddol oddiwrth eu brodyr yr ochr arall
i Glawdd Off"a.
GeUir olrhain dechreuad Methodistiaeth
Lloegr i waith nifer o ddynion ieuainc yn
Rhydychain yn ymuno a'u gilydd i ddarllen
y Testament Groeg. Cymerodd hyn le yn
Nhachwedd y flwyddyn 1729. Nid hawdd
dweyd pa nifer a gyfenwid yn Fethodistiaid,
ac a ystyrid yn aelodau o'r " Clwb Sanct-
aidd," fel yr oedd yn cael ei alw, gan yr
amrywiai y rhif ar wahanol amserau. Ond
yr oedd yn eu mysg y rhai canlynol :
John Wesley, Charles Wesley, ei frawd,
Robert Kirkham, William Morgan, George
Whitefield, John Clayton, J. Broughton,
Benjamin Ingham, James Hervey, John
Gambold, Charles Kinchin, Wflham Smith,
ac eraill. Nid arhosodd y rhai hyn oU
ynghyd ; bu dadleuon poethion a chwerw-
der yspryd nid bychan yn eu mysg ; a
chawn rai yn cymeryd y cyfeiriad hwn, ac
eraill y cyfeiriad arall ; ond yr oeddynt oll
yn mron yn ddynion difrifol, ac yn llawn
awyddfryd am wasanaethu y Gwaredwr.
Glynodd rhai wrth yr Eglwys Sefydledig,
a chymerasant fywioliaethau o'i mewn ;
ymunodd eraill a'r Eglwys Forafaidd, lle y
cyrhaeddasant safle uchel ; cawn eraiil
drachefn yn fFurfio cyfundebau crefyddol
newyddion, ac yn dyfod yn ben arnynt.
Ond, fel y sylwa Tyerman, byddai yn
anhawdd i'r byd ddangos cwmni o ddynion,
ag y darfueu bywyd a'u gweinidogaeth, dan
fendith y nefoedd, fod o gymaint lles i
ddynolryw, ag eiddo y rhai a elwid yn
Fethodistiaid Rhydychain. Fel yr afonydd
a Hfai allan o Eden, er tarddu o'r un fangre,
Y DIWYGIAD METHODISTAIDD YN LLOEGR.
35
cymerasant wahanol gyfeiriadau,
ond gwnaethant yr ardaloedd
trwy ba rai y ífrydient yn ffrwyth-
lawn ac yn iach, a hyfrydwch
nid bychan i'r hanesydd crefyddol
ei yspryd ydyw olrhain eu
dylanwad.
Bywyd ac enaid y " Clwb Sanct-
aidd" ynddiauoedd John Wesley.
Yn aml fe briodoHr cychwyniad
y mudiad hwn iddo ef ; ond nid
yw hyny yn gywir. Perthyna yr
anrhydedd i Charles Wesley a
William Morgan, a chymerodd
hyn le pan yr oedd John Wesley
wedi gadael Rhydychain er mwyn
gwasanaethu ei dad fel cuwrad.
Pan ddychwelodd yn ol yn mhen
amser, a chael fod y mudiad yn
gydnaws a"i feddwl, taflodd hoU
frwdfrydedd ei natur iddo ; ac yn
y man disgynodd arweiniad y
blaid newydd yn hollol naturiol i
ddwylaw John W^esley. Cawsai
ei ddwyn i fynu tan ddisgyblaeth
lem ; er fod ei dad yn ficer
Epworth, ac yn ddyn tra rhagorol,
yr oedd ei fam yn hynotach am
ei synwyr cryf a'i duwioldeb per-
sonol ; ac nid ymryddhaodd John
oddiwrth 4dylanwad ei fam tra
y bu byw. Yr oedd yntau yn
ddyn o yni a bywiogrwydd
diderfyn ; perchenogai ewyllys
gref, anhyblyg ; meddai lygad
barcud i adnabod ei gyfleusterau,
a chyflymder dirfawr i fan-
teisio arnynt. Mae yn amheus
a anwyd i'r byd ragorach trefn-
iedydd ; gwnaethai gadfridog di-
gyffelyb pe y cymerasai gyfeiriad
milwraidd ; gwnaethai ail Napoleon
neu ail W^elHngton. Nid oedd yn
athronydd dwfn, ac nid oedd ei ddirnad-
aeth o wirioneddau mawrion y Beibl yn eu
cysondeb a'u gilydd mewn un modd yn
eang. Bu am ran fawr o'i oes yn sigledig
yn ei olygiadau duwinyddol, weithiau yn
Uchel-eglwysyddol, bryd arall yn tueddu at
y Morafiaid, ac yn cael ei ddylanwadu yn
fawr ganddynt ; ond am y rhan olaf o'i
fywyd, yr oedd yn fath o Arminiad efengyl-
aidd. Llafuriodd yn galed ; teithiodd a
phregethodd am oes faith yn ddidor ; a
chyn iddo farw, cafodd weled y Cyfundeb
Wesleyaidd, a sylfaenwyd ganddo, wedi
gwasgar ei gangau tros yr holl fyd adna-
byddus. Charles Wesley, ei frawd, oedd
" Y CLWB SANCTAIDD. "
emynydd y Cyfundeb Wesleyaidd, er i
John gyfansoddi rhai emynau tra rhagorol,
y rhai a genir ac a ystyrir yn safonol hyd
heddyw, Dyn siriol a charedig oedd
Charles Wesley, llai galluog na John ;
ac fel math o is-filwriad i'w frawd mwy
penderfynol, yn ei gynorthwyo gyda ei
drefniadau, ac yn cario allan ei gynlluniau,
y treuUodd ei 03S. Pregethwr y Diwygiad
Saesneg oedd George Whitefield, Ni
ymunodd ef a'r " Clwb Sanctaiddd " hyd ar ol
rhai blynyddoedd gwedi ei sefydhad.
Oblegyd tlodi amgylchiadau, math o
wasanaeth-efrydydd (servitor) oedd yn y
Brif-ysgol ; cynhaUai ei hun yno yn benaf
a'r arian a dderbyniai am weini ar blant
boneddigion a dynion arianog. FeUy
D 2
36
Y TADAU METHODISTAIDD.
edrychai i fynu at y ddau Wesley, y rhai
oeddynt feibion clerigwr. Er ei fod o duedd-
fryd grefyddol, ac wedi dechreu gweddio a
chanu Sahnau wrtho ei hun yn ddyddiol,
ofnai anturio at y Methodistiaid ; ond trwy
ryw ddigwyddiad rhagluniaethol, daeth i
gydnabyddiaeth a Charles Wesley, ac ar
unwaith bwriodd ei goelbren yn eu mysg.
Dyn yn berwi trosodd o natur dda oedd
Whiteíìeld ; nis gallai oddef ymrafaehon a
dadleuon, er iddo gael ei orfodi i gymeryd
rhan mewn llawer o'r cyfryw ; yr oedd yn
llawer mwy heddychol a hynaws na John
Wesley, ac yn gant mwy caredig a rhydd-
frydig. O'r holl Ddiwygwyr ÿaesneg, nid
oedd neb i' w gymharu ag efe am ddysgleirdeb
doniau gweinidogaethol ; dylanwadai yn
gyíîelyb ar y dysgedig a'r annysgedig ;
toddai y glowyr o gwmpas Bryste, a'r mob
ar y Moorfields yn Llundain, ac ar yr vm
pryd swynai a gorchfygai a'i hyawdledd
llifeiriol Hume yr anffyddiwr, nad oedd yn
credu gair o'r athrawiaeth a bregethid
ganddo. A phregethwr ydoedd. I bregethu
yr efengyl y credai ef ei hun ei fod wedi
cael ei aíw. Nid oedd yn amddifad o allu
trefniadol, er nad oedd i'w gystadlu yn hyn
o beth a'i gyfaill John Wesley, a chawn ef
fwy nag unwaith yn gadeirydd y Gym-
deithasfa yn Nghymru. Ond diystyrai
drefniadaeth, tybiai fod eraill yn gymhwys-
ach nag ef at y cyfry w waith, a dywedai yn
bendant mai i argyhoeddi yr annuwiol yr
oedd ef wedi ei gymhwyso. Felly manteis-
iodd Wesleyaeth yn Lloegr yn ddirfawr ar
ei lafur. Pe buasai wedi amcanu ffurfio
cyfundeb, ac ymroddi i hyny, buasai ei gan-
lynwyr yn Ihosog yn LÌoegr ac America.
Teithiodd yntau lawer ; teimlai hoffder
mawr at Gymru, a Chymraes, o ymyl y
Fenni, oedd ei wraig. Bu saith o weithiau
trosodd yn yr America, ac yno y cafodd
fedd ; a bu yn offeryn i argyhoeddi canoedd o
bechaduriaid. Adnabyddir ei ddilynwyr yn
Lloegr fel Cyfundeb larlles Huntington.
Cymro oedd John Gambold, yr únig un
o holl aelodau y " Clwb Sanctaidd " y mae
sicrwydd ei fod yn Gymro. Nid annhebyg
hefyd mai Cymro oedd Wilham Morgan, er
mai ger DubHn y ganwyd ef. Y mae ei enw
yn Gymreig, a gwyddis i amryw deuluoedd
o Gymru ymfudo i'r Iwerddon tuag amser
y chwildroad. Ganwyd John Gambold yn
Puncheston, swydd Benfro,Ebrill lo, 171 1,
ac yr oedd ei dad yn offeiriad yn yr Eglwys
Sefydledig. Cyfyng oedd ei amgylchiadau,
oblegyd gwasanaeth-efrydydd [sewitor) oedd
yn Rhydychain. Yr oedd o duedd fywiog
a siriol ; fel y rhan fwyaf o'r Cymry, ym-
hoffai mewn barddoniaeth, a dywedir y
treuliai lawer o'i amser i efrydu gweithiau
y prif feirdd Saesneg, ynghyd ac eiddo y
prif chwareu-ganwyr {di'iiìnatists). Yn
mhen dwy flynedd wedi iddo fyned i Ryd-
ychain, bu ei dad farw, a darfu i'r amgylch-
iad, ynghyd a chynghorion a rhybuddion
ei dîd ar ei wely angau ei ddifrifoli, a pheri
iddo wneyd iachawdwriaeth ei enaid yn
brif bwnc ei fywyd. Ond Ini am amser
dan argyhoeddiadau dwysion, ac heb gael
golwg ar drefn yr efengyl. Dywed iddo
fod am ddwy flynedd mewn pruddglwyfni
dwfn, a darfod i'r Arglwydd, er plygu ei
yspryd balch, wneyd y byd yn chwerw
iddo. " Nid osdd genyf neb," meddai, "i
ba un y gallwn agor fy mynwjs, na neb yn
gofalu am fy enaid. Yr oeddynt hwy yn
esmwyth arnynt, ac nis gallent ddirnad am
beth yr oeddwn i yn gofidio." Yn rhaglun-
iaethol, pa fodd bynag, daeth i gyfíyrddiad
a'r ddau Wesley, ac ymunodd a'r Meth-
odistiaid dirmygedig. Ordeiniwyd ef gan
Esgob Rhydychain, Medi 1733, ac mor
fuan ag y daeth yn alluog i ddal bywiol-
iaeth, cafodd ficeriaeth Stanton-Harcourt.
Yn y pentref gwledig hwn, heb fod nepell
o Rydychain, y treuHodd saith mlynedd
o'i oes mewn neillduaeth, yn myfyrio ar
gwestiynau athronyddol a duwinyddol
dwfn, ac yn pregethu yn mhell uwchlaw
amgyffredion ei wrandawyr syml. Ond fel
John Wesley ei hun, daeth dan ddylanwad
y Morafiaid, a chyfnewidiodd o ran ei farn
gyda golwg ar rai o wirioneddau yr efengyl ;
taflodd ei athroniaeth i'r gwynt, a daeth yn
gredadyn syml yn y Gwaredwr. Yn y
flwyddyn 1742, gadawodd gymundeb
Egiwys Loegr, ac ymunodd a'r Morafiaid,
a chyda hwy y treuliodd weddill ei oes,
ysbaid o naw-mlynedd-ar-hugain. Yn bur
fuan gwnaed ef yn esgob ganddynt. Tua
dwy flynisdd cyn ei farw, oblegyd ei afiechyd,
daeth i wasanaethu eglwys y Morafiaid yn
Hwlffordd, yn y gobaith y byddai i awyr
ei wlad enedigol brofi yn llesiol iddo. Ond
suddo yn raddol a wnaeth. Hunodd Medi,
1771, a chladdwyd ef yn mynwent yr
eglwys Forafaidd yn Flwlffordd.
Yr oedd John Gambold yn ddyn o
ddiwylliant helaeth, ac yn llenor gwych.
Cyfansoddodd amrai lyfrau, yn benaf er
amddiffyn y cyfundeb i ba un y perthynai ;
a chyhoeddodd ddwy o'i bregetliau. Ond
rhagorai fel emynydd. Efe a olygai lyfr
hymnau y Morafiaid yn Lloegr, a chredir
fod nifer mawr o"r emynau a gynwysa
Y DIWYGIAD METHODISTAIDD YN LLOEGR.
37
wedi eu cyfansoddi ganddo. Yr oedd yn
nodedig am ei dduwiolfrydedd, ac am hyn-
awsedd ei yspryd. Tra y methai John
W'esley gyd-ddwyn a gormes a haerUug-
rwydd Zinzendorf, penaeth y Moraíìaid, bu
Gambold yn llafurio yn y cyfundeb hwnw
am y rhan olaf o"i oes mewn pob brawd-
garwch. Ac yr un pryd nid oedd yn
amddifad o asgwrn cefn ; gallai aberthu pob
peth er mwyn egwyddor. Pan y gadawodd
yr Eglwys Sefydledig, i bob ymddangosiad
wynebai ar dlodi ; oblegyd nid oedd ond
triugain a deuddeg o Forafiaid y pryd hwnw
yn hoU Lundain. Teimlodd yn ddwys
oblegyd y cyfeiriad a gymerodd y ddau
W'esley, a darfyddodd ei gyfeiUgarwch a
hwy yn hoUol ; yn wir, dywedodd wrth
John fod arno gywilydd bod yn ei gym-
deithas. Er hyn oU, parchai John Wesley
ef yn ddirfawr, ac ychydig amser cyn ei
farw, dywedai mai efe oedd un o'r dynion
caUaf a mwyaf pwyUog yn Lloegr. GaU
Cymru ymfalchio yn yr Ésgob Gambold.
Rhaid i'n sylwadau ar y gweddiU o aelodau
y " Clwb Sanctaidd" fod yn fyr. Disgynai
Benjamin Ingham oddiwrth un o weinidog-
ion Eglwys Loegr a drowyd aUan yn 1662
am wrthod cydffurfìo. Pan yn ddwy-ar-
liugain oed, bwriodd ei goelbren gyda'r
Methodistiaid yn Rhydychain. Ymunodd
yntau a'r eglwys Forafaidd, ac ni adawodd
ei chymundeb pan y trodd y ddau Wesley
eu cefnau. Llafuriodd yn benaf yn swydd
Gaerefrog (Yorhsìiire). Pregethai gyda
nerth ; dyUfai y bobl wrth y miloedd i'w
wrando, achubwyd Uawer trwy ei weinidog-
aeth, a sefydlodd eglwysi Morafaidd trwy
y wlad. Cyn diwedd ei oes, cefnodd ar y
Morafiaid, a sefydlodd gyfundeb o'i eiddo
ei hun. ü herwydd ymrysonau tumewnol,
yr oedd wedi dyfod i'r dim agos cyn i
Ingham farw ; ac yn y diwedd ymunodd yr
ychydig eglwysi a'i cyfansoddent a'r Anni-
bynwyrYsgotaidd. ArosoddJamesHervey,
un araU o enwogion y " Clwb Sanctaidd,"
yn yr Eglwys SefycUedig. Yr oedd yn ddyn o
dcUwylhant uchel, ac yn Uenor coeth,a thrwy
ei ysgrifeniadau gwnaeth lawer er dyfnhau
gafael crefydd efengylaidd ar y dosparthiad-
au uchaf. Am John Clayton, arosodd yntau
hefydynEglwysLoegr,acyn Uchel-eglwys-
wr defodol y parhaodd hyd ddiwedd ei oes.
Yr ydym wedi nodi ddarfod i Fethodist-
iaeth Rhydychain gychwyn yn nghynuUiad
nifer o ddynion ieuainc yn darUen y Test-
ament Groeg. Ond yn bur fuan daeth yn
gyfeiUach grefyddol. Dechreuasant gyd-
weddío, a chyd-gynUunio pa fodd i lesoU
eu cyd-ddynion. Penderfynasant ym-
wrthod a danteithion bywyd, gan fwyta yn
unig yr hyn oedd yn angenrheidiol i gynal
natur. Ymwrthodent a thê, a chwrw, ac i
raddau mawr a chigfwyd, fel y byddai gan-
ddynt bethi'w gyfranu mewnelusen i'r tlod-
ion. Nid gorchwyl hawdd oedd hyn i rai,
oblegyd cawn un o honynt ychydig yn flaen-
orol, mewn Uythyr at John Wesley, yn dar-
luniogydag asbri rhyfeddol fel yr oedd wedi
mwynhau dysglaid o gig Uô a bacwn, gyda
baril o seidir newydd ei thapio. Tynasant
aUan reolau manwl pa fodd i ymddwyn
yn ddyddiol ac yn wythnosoL Yn ol y
rhai hyn yr oeddynt i dreuUo dwy awr bob
dydd mewn gweddi, i weddîo wrth fyned i'r
eglwys a dyfod o honi, ac i weddio ar
wahan am awr dri diwrnod o'r wythnos ar
yr un adeg, fel y byddai cyd-gymundeb
rhyngddynt. Yr oeddynt yn mheUach i
godi yn foreu, i dreuUo awr bob dydd
mewn siarad a dynion yn uniongyrchol am
bethau crefydd, i wneyd eu goreui rwystro
drwg, ac hyd ag oedd ynddynt i berswadio
pawb i bresenoU eu hunain yn yr addoUad
cyhoeddus. Amlwg fod y dynion ieuainc
a'u heneidiau yn Uosgi o'u mewn gan
awydd gwneyd daioni. Yr oeddynt wedi
eu Uenwi a difrifwch ofnadwy. Rhybudd-
ient eu cyd-efrydwyr annuwiol a Uygredig
eu moesau am fater eu henaid ; ymwelent
a theuluoedd isel y ddinas, gan daranu yn
erbyn anwiredd ; cyfranent yr oll a feddent
mewnelusenau, ac ymwelent a'r tlottai a'r
carchardai, gan gynghori pawb i ymdrechu
am fywyd tragywyddol. Dywed John
Gambold yr arferent gyfarfod bob hwyr,
yn gyffredin yn ystafeU John Wesley, er
adolygu gweithrediadau pob un yn ystod y
dydd, a gwneyd trefniadau ar gyfer y dydd
dilynol. Cynwysai y trefniant ymddiddan
difrifol ag efrydwyr y Brif-ysgol, ymwel-
iadau a'r carcharau, addysgiant teuluoedd
tlodion, ymweled a'r tlotty, a gofal am yr
ysgol a osodasid i fynu ganddynt. Gyda
golwg ar yr ysgol, cawsai ei sefydlu gan
John Wesley ; efe a dalai y feistres, a chan
mwyaf a ddiUadai y plant. Fel engrhaiíTt
o'u helusengarwch geUir nodi y fifaith gan-
lynoL Un diwrnod oer yn y gauaf,
galwodd crotes dlawd ar John Wesley.
Yr oedd ei gvvn yn deneu, a hithau yn mron
sythu gan anwyd, Gofynodd iddi, " Ai
nid oes genych gynhesach g\Vn na'r un
sydd am danoch ? " Atebai yr eneth,
" Syr, dyma yr oU sydd genyf." Rhoddodd
Wesley ei law yn ei logeU er ei chynorth wyo,
ond yr oedd agos a bod yn wag. Ond yr
38
y TADAU METHODISTAIDD.
oedd muriau ei ystafell yn orchuddiedig
gan ddarluniau, a throdd y rhai hyn yn
gyhuddwyr iddo. Gwaeddodd yn uchel,
" O Gyfiawnder ! O Drugaredd ! Ai nid
yw y rhai yma yn werth gwaed yr eneth
dlawd hon ? " Gwerthodd hwy oll, a
dilladodd y ferch. Nid yn fynych y cair
engrhaifît o'r fath gydwybodolrwydd. Yn
ychwanegol, cyfranogent o'r cymun ben-
digaid yn wythnosol, ac aent yn orymdaith
i Eglwys Crist i'r pwrpas. Pan gofiom pa
mor llygredig oedd Rhydychain yr adeg
hon, y modd yr oedd drwg yn cael ei
ystyried yn ffasiynol, ac anffyddiaeth ronc
yn cael ei phroffesu gan lawer yn gyhoeddus,
hawdd deall ddarfod i Wesley a'i gwmni
ar unwaith ddyfod yn wrthrychau sylw.
Cyfeirid atynt yn gyhoeddus. Gwarad-
wyddid hwy yn mhob modd. Dihysbyddwyd
ystorfeydd yr iaith Saesneg er cael enwau
digon dirmygus i'w gwarthruddo. Gelwid
hwy y " Clwb Sanctaidd," y " Clwb Duw-
iol," ac yn ddiweddaf yn " Fethodistiaid,"
gyda chyfeiriad at ddosparth o feddygon,
nodedig o drefnus eu harferion, a fuasai yn
bodoh gynt. Glynodd yr enw diweddaf
wrthynt. Ond nid oedd y frawdohaeth
fechan yn gofalu am ddirmyg y Brif-ysgol ;
aethant yn mlaen yn ol argyhoeddiadau eu
cydwybod ; mabwysiadasant yr enw a
roddasid arnynt mewn cellwair, ac yn
raddol daeth yn enw o anrhydedd.
Ar yr un pryd rhaid addef fod y Meth-
odistiaid yr adeg hon yn mron yn hoHol
anwybodus am rai o athrawiaethau mwyaf
hanfodol crefydd efengylaidd. Ni wyddent
ddim am gyfiawnhad trwy ffydd, a gwaith
yr Ysbryd Glân. Y gwir yw fod y symud-
iad ar y cyntaf yn un hollol ddefodol a
sacramentaraidd, lawn cymaint felly a'r
symvidiad Tractaraidd a gychwynwyd yn
yr un lle gan Pusey a Newman ryw haner
can' mlynedd yn ol. Ni fu Pharisead
erioed yn fwy manwl a gofahus am ei
phylacterau a defodau ei grefydd, nag yr
oedd Methodistiaid Rhydychain am y
gwisgoedd offeiriadol, a ffurfiau a defodau
Eglwys Loegr. DaHent yr athrawiaeth
am bresenoldeb gwirioneddol Crist yn y
sacrament, ac edrychent ar y cymun
bendigaid fel aberth. Cadwent yn ofalus
hoU ddyddiau y saint. Sancteiddient y
Sadwrn a'r Sul ; y cyntaf fel y Sabboth,
a'r olaf fel Dydd yr Arglwydd. Ympryd-
ient yn fynych ; trwy holl amser y Garawys
ni phrofent gig oddigerth ar y Sadwrn a'r
Sul ; a chadwent bob dydd Mercher a
dydd Gwener fel dydd o ympryd, gan
ymgadw rhag archwaethu unrhyw fwyd
hyd ar ol tri yn y prydnhawn. Credent
mewn penydiau, ac hefyd yn y gyffesgell.
Llithrasant i'r cyfeihornad Pabyddol, y
dyhd cymysgu dwfr gyda'r gwin sacram-
entaidd, am i ddwfr yn gystal a gwaed
ddyfod allan o gorfif ein Harglwydd pan
drywanwyd ef a'r bicell gan y milwr ; a
chawn John Clayton yn ysgrifenu at
Wesley mewn gradd o betrusder, gyda
golwg ar y priodoldeb o gymuno pan na
chymysgid dwfr gyda'r gwin. Yr oeddynt
yn llawn o athrawiaeth yr olyniaeth
apostolaidd. Y fath oedd gwrthnaws
John Wesley at bob peth y tu allan i
gylch Eglwys Loegr, a'i ddirmyg o
Ymneillduaeth, fel y gwarafunodd i John
Martin Bolzius, un o ddynion duwiolaf
ei oes, gyfranogi o'r sacrament arn nad
oedd wedi cael ei fedyddio gan glerigwr
perthynol i'r Eglwys Sefydledig. Nid
rhyfedd ei fod yn cywilyddio oblegyd ei
guhii mewn blynyddoedd diweddarach.
Pan yn Savannah edrychid arno fel
Pabydd ; a dywed ei fywgraffydd ei fod
yn Buseyad gan' mlynedd cyn i Pusey
gael ei eni. Bwriadodd yn ddifrifol sefydlu
cymdeithas uchel-eglwysig a sacramentar-
aidd, yn mha un y cedwid yn fanwl yr hoU
ddefodau haner Pabyddol y ceir unrhyw
sail iddynt yn y rubric, ac y gofehd am
sancteiddio dyddiau y saint, a'r gwyliau,
ynghyd a phob peth a berthyn i ddefodaeth
eithafoL Ond yr oedd gan yr Arglwydd
fwriadau gwahanol gyda golwg ar y
Methodistiaid. Gan eu bod yn hollol
ddifrifol, ac yn gweithredu yn gydwybodol
yn ol y goleuni oedd ganddynt, arweiniodd
Duw hwy oddi amgylch i beri iddynt
ddeall, ac yn y diwedd dygwyd hwy i
oleuni chr yr efengyL Cymerodd hyn le
mewn cysylltiad a John Wesley ei hun
trwy offerynohaeth un Peter Bohler,
gweinidog perthynol i'r Morafiaid, tua
dechreu y flwyddyn 1738. Barnai ef ei
hunan ei fod yn flaenorol i hyny yn ddyn
annuwiol. Eglurodd Peter Bohler iddo
natur ffydd yn Nghrist, ynghyd a'r effeith-
iau a'i dilynant. " Rhaid i chwi daflu
eich athroniaeth dros y bwrdd," meddai y
Morafiad wrtho ; gwrandawodd yntau, a
thros y bwrdd y cafodd fyned. O hyny
allan yr oedd yn gredadyn, yn pwyso ar
iawn y Gwaredwr am gymeradwyaeth,
gan waeddu fel Paul : " Ac a'm cair ynddo
ef heb fy nghyfiawnder fy hun, yr hwn
sydd o'r gyfraith." Heb fod yn hir
dygwyd y rhan fwyaf o'i gyfeilhon gynt i
Y DIWYGIAD METHODISTAIDD YN LLOEGR.
39
ryddid yr efengyl fel yntau. Yn wir y
mae yn amheus a fu Whitefield yn ddefod-
wr eithafol o gwbl.
GelHr edrych ar Fethodistiaeth Rhyd-
ychain fel yn parhau o 1729 hyd 1735.
Yn y ílwyddyn a nodwyd ddiweddaf
ymwahanodd y frawdohaeth, ac ni ail-
unwyd hi yn hollol byth. Croesodd John
Wesley i drefedigaeth Georgia yn yr
'America, yn y bwriad o efengyleiddio yr
Indiaid, lle yr arosodd tua dwy flynedd, ac
aeth ei frawd, Charles, a Benjamin Ingham
allan gydag ef. Gadawsai Whitefield
Rydychain yn flaenorol oblegyd fod ei
iechyd wedi tori i lawr. Yr oedd John
Clayton wedi ymsefydlu yn Manchester,
a John Gambold yn Stanton-Harcourt.
Nid oedd yr ychydig a weddillasid ond
gweiniaid a dinerth. Felly dychwelodd y
Brif-ysgol at ei hen lygredigaethau heb
fod neb i aflonyddu ar ei heddwch,
a phan aeth Howell Harris yno, Tach-
wedd, 1735, ni chlywodd sôn am y " Clwb
Sanctaidd," ac ni welodd dim ond drygioni
wedi cael y fath raff nes yr oedd ei
yspryd yn merwino o'i fewn. Pan
ddychwelai John Wesley o Georgia, yr
oedd Whitefield ar yr un adeg yn myned
allan i'r un drefedigaeth. Yn y flwyddyn
1740, cyhoeddodd John Wesley bregeth
dan y teitl " Rhad ras," seiliedig ar
Rhuf. viii. 32, yn yr hon yr ymosodai ar yr
athrawiaeth Galfinaidd am etholedigaeth
gras. Ynglyn a'r bregeth yr oedd emyn o
gyfansoddiad ei frawd, Charles, yn dysgu
prynedigaeth gyffredinol. Cly wodd White-
field am y bregeth cyn ei chyhoeddi, ac
ysgrifenodd yn ddioed at ei hen gyfaill i
wrthdystio, gan grefu arno am beidio ei
hargraffu, onide yr arweiniai i ymraniad.
"Y fath lawenydd gan elynion ein
Harglwydd," meddai, " fyddai ein gweled
wedi ymranu." Trachefn dywed, " Anwyl
ac anrhydeddus Syr, os oes genych unrhyw
ofal am heddwch yr eglwys, cadwch yn ol
eich pregeth ar rag-arfaethiad. Y mae fy
nghalon yn toddi fel cwyr o fewn fy nghorff.
Golchwn eich traed yn ewyllysgar. O
gweddíwch na byddo unrhyw ymddyeith-
riad mewn serch rhyngoch chwi, anrhy-
deddus Syr, a mi, eich mab a'ch gwas
annheilwng yn Nghrist." Mewn Ilythyr
arall, awgryma i Wesley ar iddynt barhau
i gynyg iachawdwriaeth trwy waed yr
Arglwydd lesu i bawb, a pheidio sôn yn
gyhoeddus am y materion ynghylch pa rai
yr anghytunent. Yr oedd enaid White-
field yn gythryblus o'i fewn yn y rhagolwg
ar ymraniad. Tua dechreu Mehefin yr un
flwyddyn, ysgrifena at James Hutton, " Er
mwyn Crist, dymunwch ar y brawd anwyl
Wesley i beidio ymddadleu a mi. Yr wyf
yn meddwl y byddai yn well genyf farw na
gweled ymwahaniad yn ein plitíi ; ac eto
pa fodd y gallwn rodio ynghyd os byddwn
yn gwrthwynebu ein gilydd ? " Teiinlai
Howell Harris yn Nghymru yr un mor
angerddol, ac ysgrifenodd yntau lythyr
cryf at Wesley. Meddai, " Hysbysir fi i
chwi droi dyn allan o'r seiat, gan rhybuddio
pawb i wylio rhagddo, am ei fod yn credu
mewn etholedigaeth. Fy anwyl frawd,
peidiwch ymddwyn yn ol yr yspryd ystiff
angharedig, a gondemniwch mewn eraill.
Os ydych yn ei droi ef allan oddiwrth y
Methodistiaid am y fath achos, rhaid i chwi
hefyd droi allan y brawd Whitefield, y
brawd Seward, a minau. Gobeithiaf y caf
ddal hyd fy anadliad olaf a'r diferyn diweddaf
o'm gwaed, mai o herwydd gras arbenig,
gwahaniaethol, ac anorchfygol, y cedwir y
rhai a gedwir. O na wnaech adael y mater
yn llonydd hyd nes y byddo Duw yn
goleuo eich meddwl. Pa fwyaf wyf yn ysgrif-
enu mwyaf oll yr wyf yn eich caru." Gwelir
fod Harris, fel W^hitefield, yn ysgrifenu yn
gyfifrous, ond fod anwyldeb personol cryf
at Wesley yn treiddio trwy bob brawddeg,
ac mai gorfodaeth, oblegyd cydwybod i'r
hyn a ystyrient yn wirionedd Duw, a barai
iddynt lefaru fel y gwnaent. Ond ofer fu
eu hymgais. Yr oedd Wesley wedi gwneyd
ei feddwl i fynu, ac nid oedd dylanwad
gelyn na chyfaill yn ddigon i blygu ei
ewyllys. Cyhoeddodd ei bregeth, a dy-
wedai yn ei gyfarchiad at y darllenydd
mai dim ond yr argyhoeddiad cryfaf, nid
yn unig fod yr hyn y dadleuai drosto yn
wirionedd, ond hefyd fod angenrheidrwydd
wedi ei osod arnoef i bregethu y gwirionedd
hwnw, a'i cymhellai i wrthwynebu yn
gyhoeddus syniadau y rhai y teimlai y
fath barch iddynt oblegyd eu gwaith. Nid
oes neb a amheua fod John Wesley yn
gydwybodol yn ei ymddygiad. Ai nid
doethineb ynddo fuasai gwrando ar lais ei
frodyr, a pheidio son yn gyhoeddus am y
pynciau y gwahaniaethai ef a hwythau
gyda golwg arnynt, sydd gwestiwn arall.
Dadleua yn ei bregeth " fod etholedigaeth
gras o angenrheidrwydd yn golygu ddarfod
y Ddu w ordeinio y nifer m wy af o ddy nolry w
i golledigaeth, ac mai cellwair yw cynyg
yr efengyl iddynt. Y rhai hyn y mae Duw
yn gasau ; a chan hyny arfaethodd cyn
iddynt gael eu geni eu bod i gael eu taflu
40
Y TADAU METHODISTAIDD.
i'r llyn o dàn. Arfaethodd hyny am mai
hyny oedd ei ewyllys ben-arglwyddiaethol.
Felly, y maent yn cael eu geni i'r pwrpas
hwn, sef, fel y caent eu dinystrio enaid a
chorph yn ufiern." GweHr fod Wesleyyn
camHwio syniadau ei wrthwynebwyr yn
enbyd ; daHai hwyyngyfrifolamgasgHadau
oedd ef ei hunan yn dynu, ac a pha rai y
buasent yn ymwrthod yn y modd mwyaf
pendant. Yr oedd ei dduwinyddiaeth yn
dra unochrog, ac fel y dywed Howell
Harris wrtho yn un o'i lythyrau, yn fFrwyth
addysg deuluaidd yn hytrach nag yn
gynyrch astuciiaeth ddyfal o Air Duw.
Ond yr oedd y coelbren wedi syrthio.
Dyma y Methodistiaid wedi ymranu yn
ddwy blaid. Glynodd Methodistiaid Cymru
fel un corph wrth yr athrawiaethau Calfin-
aidd ; ni pharodd yr ymraniad unrhyw
rwyg, ac ni achosodd fawr dadleu, yn yr
eglwysi ; ac yn wir nid yw yn ymddangos
i Wesley wneyd unrhyw ymgais i ledaenu
ei olygiadau neiHduol yn y Dywysogaeth.
Digon tebyg mai y parch mawr a deimlai
at ei frodyr yn Nghymru, yn arbenig
Howell Harris, oedd y prif reswm am
hyn. Fel y gallesid disgwyl, aeth Charles
Wesley gyda ei frawd, ond glynodd
Cennick wrth Whitefield. Aeth John
Wesley i lawr i Kingswood, ger Bryste,
ddechreu y flwyddyn 1741, a throdd John
Cenniclí, a thros haner cant o aelodau eraill,
allan o'r gymdeithas. Yn nghanol y terfysg
hwn y glaniodd \\'hitefield o'r Àmerica.
Ar unwaith cyhoeddodd atebiad i bregeth
Wesleyarrad ras. Yn fuancawn ef yndwyn
allan newyddiadur o'r enw Weehly History,
y newyddiadur Methodistaidd cyntaf erioed,
gydag un o'r enw John Lewis, Cymro o
Lanfairmuallt, yn olygydd iddo, er gwrth-
weithio golygiadau y ddau Wesley. Fel y
gallesid disgwyl, aeth y rhwyg yn fwy.
Rhwystrwyd Whitefield i bregethu yn y
capelau y bu efe ei hun yn foddion i'w
hadeiladu. Ond yr oedd yni ei yspryd, a
dysgleirdeb ei ddoniau yn gyfryw, fel nas
gellid ei atal rhag cael cynulleidfaoedd i'w
wrando ; yn bur fuan codwyd capelau iddo
mewn amrywiol barthau o'r wlad, ac
adeiladwyd y Tabernacl ar y Moorfields
yn Llundain, Ile y tyrai y miloedd, ac y
cafodd Ilawer afael ar fywyd tragywyddol.
Ar yr un pryd cariai John Wesley yn
mlaen ei gynlluniau yntau. Sefydlodd y
cymdeithasau neillduol; rhoddodd ganiatad
i leygwyr gynghori, a threfnodd iddynt i
ymweled yn rheolaidd a'r aelodau yn eu
cartrefleoedd ; ac argraffbdd docynau, y
rhai a arwyddid ganddo ef ei hun, yn
dangos hawl yr aelodau i agoshau at
fwrdd y cymundeb. Cawn Charles Wesley
hefyd am y tro cyntaf yn gweinyddu y
cymun bendigaid mewn adeilad heb ei
gysegru. Gellir dweyd mai yn y flwyddyn
1741 y dechreuodd Wesleyaeth yn ystyr
briodol y gair.
Gwnaed amryw ymdrechion i gymodi
ac i ail-uno Whitefield a Wesley. Howell
Harris yn benaf oedd wrth wraidd yr
ymgais ; yr oedd ef ar delerau cyfeillgar
a'r ddau, ac yn eu caru yn ddwfn ; canmola
Wesley droiau angerddoldeb a serch ei
galon fawr Gymreig. Ni fu yr ymgais yn
llwyddiant mor bell ag i gynyrchu undeb
gweledig, ac undeb gweithrediadau ; yr
oedd y ddau yn rhy bell eu golygiadau
oddiwrth eu gilydd i allu gweled Iygad yn
Ilygad, ac yr oedd pob un o'r ddau yn rhy
gydwybodol i aberthu yr hyn a ystyriai yn
wirionedd er mwyn cyfeillgarwch ; ond
Ilwyddwyd i'w cymodi. Cyfarfyddasant
a'u gilydd ; credodd pob un fod y Ilall yn
awyddus am achub eneidiau a helaethu
teyrnas y Cyfryngwr ; cytunasant i wahan-
iaethu, a chyfeillion a fuont hyd eu bedd.
Dywedai Whitefield am Wesley ar ol
hyn : " Yr wyf yn tybio ei fod yn gyfeil-
ioi'nus mewn rhai pethau, ond credaf y
bydd yn Ilewyrchu yn ddysglaer mewn
gogoniant." Meddai drachefn mewn Ilyth-
yr at W'esley ei hun : " Bydded i'r hen
bethau basio heibio ; gwneler pob peth yn
newydd. Gallaf ddweyd ' Amen ' wrth y
rhan ddiweddaf o hono. Byw byth fyddo
y Brenin, a threnged dadleuaeth. Y mae
wedi trengu gyda mi er ys amser." Natur
serchog,gariacIlawn,oedd eiddo Whitefield ;
ni allai oddef digasedd at hen gyfeillion ;
ac y mae yn dra sicr y teimlai John
W'esley yn gyffelyb ato yntau. Nid yw
yn perthyn i ni olrhain cynydd a gweithred-
iadau y ddwy gangen Fethodistaidd yn
mhellach. A Whitefield a'i ganlynwyr yn
unig, y rhai a elwid ar ol hyny yn
Gyfundeb yr larlles Huntington, y bu
cyfathrach a Methodistiaid Cymru, er i'r
ddau Wesley fod yma droiau yn pregethu.
Daw y pethau hyny dan ein sylw eto.
PENOD IV.
DANIEL ROWLAND, LLANGEITHO.
Ei faboed ai ddygiad i fynu—Ei ordeiniad — Ei dvoedigaeth yn eglwys Llanddeîtn-byefi — Yn
tynii Uiaim i Langeitho trwy ei bregethu tanllyd — Pregethu y ddeddf — Yn dyfod yn fitiy
efengylaidd — Myned aìlan o'i blwyf — Cyfarfod am y tro cyntaf a Howell Harris — Erlid
Danieì Rowland — Sefydlu seiadau — Ei droi allan oW eglwys — Llangeitho yn dyfod yn
Jerusaleni Cymru — Desgrifiadau Charles ó'r Bala ; Jones, Llangan ; Grifiiths, Nevern ;
Christmas Evans ; John WiUiams, Dolyddelen ; a Dr. Owen Thomas, o weinidogaeth
Rowland.
^Â^ R ben bryn goruwch dyffryn pryd-
(^J^mi ferth Aeron, tua miUdir a haner
JLf^M. islaw Llangeitho, ar y tu gorllew-
inol i'r afon, y saif amaethdy cyffredin ei
olwg o'r enw Pantybeudy. Yma y ganwyd
Daniel Rowland, yn y flwyddyn 1713. Ei
rieni oeddynt Daniel a Jennet Rowland.
Offeiriad yn yr Eglwys Sefydledig oedd y
tad, yn dal bywioHaethau Llancwnlle a
Llangeitho, ac heb ddim neillduol ynddo
i'w wahaniaethu oddiwrth glerigwyr eraill
y wlad. Ail fab iddynt oedd Daniel, ond
tra rhagorai ar John, y bachgen henaf,
mewn talent, er i John hefyd gael ei ddwyn
i fynu yn offeiriad. Ychydig o hanes
maboed Daniel Rowland sydd ar gael, ond
dywed traddodiad ei fod yn fachgenyn
bywiog, llawn asbri a hoenusrwydd, gyda
llonaid ei groen o chwareu, ac yn rhagori
mewn pob math ar gamp. Yr oedd yn
dywysog yn mysg ei gyfoedion ieuainc.
Pa beth bynag a wneHd, ai pysgota brith-
yllod yn afon Aeron, chwareu hêl cadnaw
ar hyd llechweddau y dyffryn coediog a
thlws, neu ynte ymryson gyda y bêl droed,
byddai ef yn debyg o fod ar y blaen.
Rhagorai yn yr ysgol lawn cymaint ag fel
chwareuwr ; yfai ddysg fel yr ŷf y behem-
oth ddwfr. Er nad oedd ynmedduunrhyw
dueddfryd grefyddol, dygid ef i fynu ar
gyfer y weinidogaeth yn yr Eglwys Sefyd-
ledig, yn ol arferiad y dyddiau hyny, a
chafodd ei anfon i Ysgol Ramadegol
Henffordd i berffeithio ei addysg. Pan yn
ddeunaw oed, cafoddei alw adref ar farwol-
aeth ei dad, ac nid yw yn ymddangos iddo
ddychwelyd. Ond yr oedd yn ysgolhaig
pur dda, ac oblegyd hyny cawn yr esgob
yn ei ordeinio yn y flwyddyn 1733, pan nad
oedd ond ugain oed, ac felly heb gyrhaedd
yr oedran gofynol yn ol y gyfraith. Am
ryw reswm anwybyddus yn awr, ordein-
iwyd ef yn Llundain, ond ar sail llythyrau
cymeradwyol esgob Tyddewi, a cherddodd
yntau yr holl ffordd i fynu i'r Brif-ddinas.
Profa hyn dlodi ei amgylchiadau, ac yn
ogystal, wroldeb ei feddwl. Ymddengys y
cawsai John, ei frawd hynaf, fywioliaethau
Llangeitho a LlancwnlÌe ar farwolaeth eu
tad ; yn bur fuan rhoddwyd iddo yn
ychwanegol ficeriaeth Llanddewi-brefi ; ac
yn guwrad i'w frawd di-nôd y penodwyd
Daniel Rowland. Ni chyfododd yn uwch
na chuwrad yn yr Eglwys Sefydledig, ac
ni chafodd trwy ystod yr holl amser y bu
yngwasanaethufwy na deg punty flwyddyn
fel cydnabyddiaeth am ei lafur.
Dyddiau y tywyllwch oedd y rhai hyn ar
Gymru. Arferai yr offeiriaid garlamu yn
ddifeddwl dros y llithiau a'r gweddíau yn
yr eglwys, heb y gradd lleiaf o ddifrifwch
yn eu hyspryd, ac ar derfyn y gwasanaeth
aent allan i ymuno ag oferwyr y plwyf,
naill ai mewn yfed cwrw a meddwi yn y
dafarn gerllaw, neu ynte, mewn chwareuon
ac ymrysonau ar y maes. Nid oes sail o
gwbl dros gredu fod Daniel Rowland fym-
ryn gwell ; yn hytrach, oddiwrth yni ei
natur, gallwn gasglu ei fod y blaenaf gyda
y campau ofer, a'r annuwioldeb a'r rhysedd
a ffynai. Ond nid hir y cafodd ei adaelyn
y cyflwr hwn. Etholasid ef gan Dduw i
fod yn un o'r prif offerynau yn efengyleidd-
iad a dyrchafiad ysprydol Cymru,
Gyda golwg ar yr amgylchiadau a
arweiniasant i'w droedigaeth ceir dau
draddodiad gwahanol, ond nidanhawddeu
cysoni. Yn ol un, yr oedd yn eiddigus o'r
cynulleidfaoedd mawrion a ymgynullent i
wrando y Parch. Phyhp Pugh, gweinidog
42
Y TADAU METHODISTAIDD.
Presbyteraidd Llwynpiod, tra y pregethai
ef yn Llangeitho i furiau moeUon. Wedi
ymhoh, cafodd fod gweinidogaeth y gwr
hwnw yn tueddu i ddefroi cydwybodau
dynion, trwy ddynoethi eu pechodau, a'u
trueni, a'u perygl. Penderfynodd yntau
gymeryd yr un cynUun. Dechreuodd
daranu yn ofnadwy yn erbyn drygioni, a
darlunio trueni yr annuwiol yn y byd a
ddaw yn y modd mwyaf brawychus a byw.
Dewisai, gan hyny, destunau priodol i'r
amcan, megys, " Y drygionus a ymchwel-
ant i uffern," " Y rhai hyn a ânt i gosped-
igaeth dragywyddol," " Daeth dydd mawr
ei ddigter ef." Llwyddodd y cynllun yn
mhell y tu hwnt i'w ddisgwyhad. Aeth yr
eglwys yn rhy fach i ddal y gynulleidfa.
Tyrai dynion o bob parth o'r wlad i wrando
arno, dychrynid hwy yn ofnadwy gan
weinidogaeth frawychus yr offeiriad ieuanc
hyawdl, a dywedir fod dros gant o ddynion
wedi eu dwyn tan argyhoeddiad dwys, cyn i'r
pregethwr ei hun deinilo dylanwad y gwir-
ionedd. Ond yn raddol darfu i'r gwirion-
eddau a draethai gyda'r fathnerth, ddwys-
bigo ei gydwybod yntau.
Yn ol traddodiad arall, yr hwn a
adroddir gan y Parch. John Owen,
Thrussington, daeth yr Hybarch Griffith
Jones, Llanddowror, i bregethu i Eglwys
Llanddewi-brefi, fel yr arferai weithiau,
a phenderfynodd Daniel Rowland fyned i'w
wrando. Gan mor Hiosog oedd y gwran-
dawyr, nid oedd Ile iddynt oll eistedd ; a
bu raid i Rowland, fel canoedd eraill,
sefyll ar ei draed trwy ystod y gwasanaeth.
Safai gyferbyn a'r pregethwr, ac yr oedd
ei ymddangosiad a'i osgo yn falchaidd a
choeg ; eisteddai gwatwareg ar ei wedd ; a
hawdd gweled ei fod yn teimlo yn ddir-
mygus at yr hwn oedd yn y pwlpud, ac at
y bobl oedd wedi ymgynuU i'w glywed.
Tynodd ei agwedd sylw Griffith Jones,
methodd beidio cyfeirio ato yn gyhoeddus;
a thorodd allan mewn gweddi ddifrifol ar
ei ran. Aeth y saeth i galon Daniel
Rowland ; syrthiodd ei wynebpryd, Ues-
meiriodd ei galon, crynodd ei hniau
ynghyd, a darostyngwyd y creadur uchel-
olwg yn bechadur digymorth ger bron
Duw. Aeth adref gyda ei gymdeithion
mewn dystawrwydd, a'i wyneb tua'r Uawr,
a golwg ddifrifol arno.
Nid yw y ddau draddodiad mewn un
PANTYBEUDY : LLE GENEUIUAÜTH DANIEL ROWLAND.
DANIEL ROWLAND, LLANGEITHO.
43
modd yn anghyson. Efallai i'w argy-
hoeddiad gael ei gychwyn gan y gwirion-
eddau a draethid ganddo ef ei hun, er mai
tan weinidogaeth Grifììth Jones y llwyr
orchfygwyd ef. Nid yw yn anmhosibl fod
ei gydwybod yn anesmwyth ynddo, pan yn
sefyll yn dalgryf a balch o flaen gwyneb y
pregethwr yn Eglwys Llanddewi-brefi ;
efallai fod yr anesmwythid hwnw, a'i
ymdrech yntau i gael concwest arno, yn
peri iddo ymroddi i fwy o goegni a
herfeiddiad nag a wnelsai oni bai hyny ;
dyma ymdrech olaf natur lygredig i wrth-
sefyll nerth y gwirionedd, a hawdd deall
ei bod yn frwydr galed ac ystyfnig. Pa
fodd bynag, dychwelodd yn ei ol yn ddyn
newydd. Ö herwydd yr olwg a gawsai ar
ei gyflwr, ac ar ei waith yntau ei hun yn
pregethu heb unrhyw amcan teilwng,
teimlai yn athrist ar y ffordd, ac yn llawn
digalondid, gan benderfynu na esgynai
risiau y pwlpud mwy. Soniai y bobl oedd
o'i gwmpas am y bregeth ryfedd a glyw-
sent, gan dystio na wrandawsent ei
chyffelyb erioed o'r blaen ; disgynai eu
hymadroddion fel plwm ar ei galon yntau,
nes y llewygai ei yspryd ynddo, ac y
cryfheid ei benderfyniad i beidio pregethu
mwyach. Eithr yr oedd un amaethwr yn
eu mysg, yr hwn a farchogai wrth ochr yr
offeiriad athrist, ac wrth glywed y bobl yn
mawrygu pregeth Griíìfìth Jones, tarawodd
ei law ar ysgwydd Rowland, gan ddweyd :
" Wel, wel, canmolwch chwi a fynoch ar
y bregeth heddyw, ni chefais i ddim budd
ynddi ; y mae genyf fi achos diolch i
Dduw am offeiriad bach Llangeitho."
Cafodd geiriau y fifermwr effaith rymus ar
feddwl Ilwfr yr offeiriad ieuanc. Pender-
fynodd na wnai roddi i fynu y weinidog-
aeth, gan ddweyd ynddo ei hun : " Pwy a
wyr na wna yr Arglwydd ryw ddefnydd o
honof finau, greadur gwasl." Mor dda
y w gair yn ei amser !
Mewn canlyniad i'r tro mawr a gymerodd
le arno yn Eglwys Llanddewi-brefi, daeth
gweinidogaeth Rowland yn fwy angerddol.
Ý ddeddf a bregethid ganddo ; y ddeddf
yn ei hysprydolrwydd, yn manylrwydd ei
gofynion,ac yn ofnadwyaeth ei mellditliion.
Yr oedd ei hun wedi bod yn y tywyllwch
dychrynllyd Ile y mae Duw ; toddasai ei
galon fel cwyr yn y presenoldeb dwyfol ;
ac yn awr, safa yntau ar gopa mynydd
Sinai, gan gyhoeddi dinystr ar euog fyd.
Meddai y ì^arch. John Hughes :■■'■ " Yr
oedd mellt a tharanau arswydus yn ei
* Methodistiaeth Cymru, Cyf. i. tudal. ü'J.
weinidogaeth. Teimlai ei wrandawyr fel
pe y crynai y ddaear dan draed, gan rym
y bygythion a gyhoeddai. Saethodd fellt,
a gorchfygodd ei wrandawyr. Dilynid ei
weinidogaeth, bellach, gan effeithiau rhyf-
eddol. Daethai ar y trigolion diofal fel
braw disymwth ; defifröid hwy megys gan
ruad taranau trymion. Meddianid y
canoedd a'r miloedd a ddeuent weithiau
i'w wrando a braw aruthrol, a syrthiai
Ilawer o honynt i lawr fel meirwon.
Gellid canfod arswyd a dychryn wedi ei
bortreadu ar wynebau y dyrfa fawr ;
Ilethid eu cydwybodau gan saethau Ilym-
ion ; a llifai eu dagrau yn afonydd dros eu
gruddiau, fel cawodydd o wlaw ar ol
taranau mawrion." Tra y pregethai fel
hyn, gan fygwth yr annuwiol, dywedir
nad oedd gerwinder yn ei lais, na Ilymder
yn ei wedd ; ond i'r gwrthwyneb, y tyner-
wch mwyaf toddedig, fel pe y buasai ei
ymysgaroedd yn toddi o'i fewn, oblegyd
cyflwr difrifol y gynulleidfa.
"Boanerges oedd ei enw,
Mab y daran danllyd gref,
Sydd yn siglo yn ddychrynllyd
Holl golofnau dae'r a nef ;
Dewch, dihunwch, oedd yr adsain,
Y mae 'n dinas ni ar dân ;
Ffowch oddiyma mewn mynydyn
Ynte ewch yn ulw mân."
Ar yr un pryd, er mor rymus y pregethai
Daniel Rowland, ac er mor angerddol y
dylanwadau oeddynt yn cydfyned a'i wein-
idogaeth, nid yw yn ymddangos fod ei
olygiadau am athrawiaethau hanfodol yr
efengyl mewn un modd yn glir. Yr oedd
wedi Ilyncu rhai o syniadau cyfeiliornus
William Law. Prin hefyd y deallai fod
iachawdwriaeth yn gyfangwbl o ras ; yn
hytrach, pregethai fel pe byddai mewn rhan
trwy ras, ac mewn rhan trwy weithredoedd.
Oblegyd hyn, achwynai rhai perthynol i
gynulleidfa Llwynpiod wrth Mr. Pugh, eu
gweinidog, gan geisio ganddo fyned at
Rowland iymliwag ef oblegyd ei gyfeiliorn-
adau, a cheisio ei osod ar yr iawn. Ond
yr oedd yr hen weinidog hybarch yn
adnabod y natur ddynol yn well. " Gad-
ewch ef yn Ilonydd," meddai, " offeryn yw
ag y mae yr Arglwydd yn ei gyfodi i wneyd
rhyw waith mawr yn y lìyd. Fe ddiwygia
mewn amser. Plentyn ydyweto ; fe ddysg
ei Dad nefol ef yn well." Ateb teilwng o
apostol. Meddai Dr, Lewis Edwards,
" Nid wyf yn gwybod am ddim yn hollhanes
Rowland ei hun, sydd yn dangos mwy o
fawredd moesol na'r dywediad hwn o eiddo
gweinidogyr Ymneillduwyryn Llwynpiod."
44
Y TADAU METHODISTAIDD.
Yr ydym am olrhain arweiniad rhaglun-
iaeth ddwyfol yn mywyd Daniel Rowland.
Ni symudodd gam, ond fel yr oedd bys
Duw yn cyfeirio. Arweiniwyd ef i bregethu
y tu allan i derfynau ei blwyf yn y modd
canlynf)!. Yr oedd gwraig o gymydogaeth
Ystrad-ffìn, yn Sir Gaerfyrddin, a chanddi
chAvaer yn preswyHo yn Llangeitho. Pan
ar ymweUad a'r chwaer hon, clywodd y
wraig bethau ryfedd am bregethu Daniel
Rowland, ac am y dylanwadau rhyfeddol
oedd yn cydfyned a'i weinidogaeth, nes y
gelwid ef gan y difeddwl yn y gymydogaeth
yn 'fìfeirad crac. Penderfynodd fyned i'w
wrando. Ond aeth ymaith boreu dydd
Llun heb ddweyd gair wrth ei chwaer am
y pregethwr na'r bregeth. Y Sabbath
canlynol, pa fodd bynag, wele hi yn nhŷ ei
chwaer drachefn. Dychrynodd hono, gan
dybio fod rhyw ddamwain alaethus wedi
digwydd, a gofynodd yn frawychus, " Beth
sydd yn bod ? A oes rhywbeth wedi dig-
wydd i'r g\Vr neu i'r plant ? " " Nag oes,"
meddai y wraig, " y mae pob peth yn y
teulu o'r goreu." " Paham y daethoch
yma heddyw eto, ynte ? " " Nis gwn yn
iawn," oedd yr atebiad ; " rhywbeth a
ddywedodd eich 'ffeirad crac chwi sydd
wedi gafaelu yn fy meddwl, fel yr wyf wedi
methu cael llonydd na dydd na nos." I
wrando Rowland yr aeth, a pharhaodd i
fyned yno bob Sabbath, er fod ganddi dros
ugain miUdir o ffordd arw, tros fynyddoedd
anhygyrch, i'w teithio. Un tro mentrodd
fyned ato, a dweyd, " Syr, os gwirionedd
yw yr hyn ydych chwi yn bregethu, y mae
llawer o ddynion yn fy nghymydogaeth i
mewn cyílwr truenus iawn ; er mwyn yr
eneidiau gwerthfawr sydd yn cyflymu i
golledigaeth mewn anwybodaeth, deuwch
trosodd i bregethu iddynt." Tarawyd
Rowland, a chwedi myfyrio am ychydig,
atebai yn ei ddull sydyn ei hun, " Dôf, os
câf ganiatâd yr offeiriad." Y caniatâd gof-
ynol a gafwyd, aeth Rowlandigapel Ystrad-
fììn i bregethu, yr hyn a wnaed ganddo gyda
chysondeb am rai blynyddoedd, a dychwel-
wyd Uawer trwy ei weinidogaeth. Gyda
chyfeiriad at hyn y canai WilHams : —
" Daeth y sẁn dros fiyniau Dewi,
INIegys fflam yn llosgi llin,
Nes dadseinio creigydd Towi,
A lien gapel Ystrad-ffin."
Y mae amheuaeth a oedd Eglwys Loegr yn
defnyddio capel Ystrad-fifìn yr adeg hon.
Buasai yn nghau, heb fod unrhyw wasan-
aeth crefyddol yn cael ei gynal ynddo, am
gryn amser ; nid annhebyg ei fod felly ar hyn
o bryd. Digwyddodd amgylchiad teilwng
o'i gofnodi ynglyn a phregeth gyntaf Daniel
Rowhmd yn Nghwm Towi. Yroedd yn y
gymydogaeth foneddwr, annuwiol ei foes,
yr hwn a arferai dreuHo y Sabbath mewn
hela gyda ei gún. Clywsai yntau fod
Rowland i ddyfod i'r capel i bregethu y
Sul hwnw, a'i fod ahan o'i bwyll, ac yn
dweyd pethau rhyfedd. Aeth ef a'i gym-
deithion i wrando, er mwyn difyrwch
cnawdol, os nad er mwyn codi terfysg.
Safai yn dalgryf ar fainc gyferbyn a'r
pregethwr ; yr oedd dirmyg yn ei wedd, a
gwatwareg yn argraffedig ar ei wynebpryd.
Amcanai ddyrysu gweinidog Duw. Deallai
Rowland ei fwriad yn dda, ond yr unig
efifaith a gafodd arno oedd peri iddo fod yn
fwy hyf dros ei Feistr. Ei destun ydoedd,
" Peth ofnadwy yw syrthio yn nwylaw y
Duw byw ! " Dechreuodd daranu yn
ofnadwy, fflamiai ei lygaid gan eiddigedd
sanctaidd dros Dduw, a disgynai ei ymad-
rodcHon gyda y fath nerth a dylanwad nes
yr oedd y gynuHeidfa yn welw gan ddych-
ryn. Yn fuan dyma ddychrynfeydd y farn
yn ymaflyd yn y boneddwr annuwiol ;
gwelwa ei wedd a diflana ei uchel-drem ;
y mae ei Hniau yn curo ynghyd fel eiddo
Belsassar, pan y gwelodd y darn Haw yn
ysgrifenu ar galchiad y pared, ac ymoHyng-
odd yn sypyn diymadferth ar y Hawr.
FeHy yr arhosodd hyd ddiwedd y bregeth,
gan grynu ac wylo. Wedi i'r gwasanaeth
derfynu, aeth at Rowland gan gyfaddef ei
fai, a'i ddrwg-fwriad wrth ddyfod i wrando
arno ; gofynai ei faddeuant yn edifeiriol, a
dyraunai arno fyned adref gydag ef i giniaw
ac aros tros y nos. Achubwyd y dyn, elai
i Langeitho unwaith y mis ar ol hyn tra y
bu byw, a dygai ei ymarweddiad da a'i
ddefosiwn dystiohieth ddiamheuol i wirion-
edd ei grefydd.
Dyna fel yr arweiniwyd Daniel Rowland
i weinidogaethu aHan o'i blwyf ; dyddorol
sylwi eto pa fodd ei cymheHwyd i bregethu
mewn Heoedd anghysegredig. Dyhd cofio
maiadeiladeghvysigoeddCapel Ystrad-fíìn,
a"i fod wedi cael ei gysegru yn rheolaidd
gan esgob, yn yr amser gynt, i weini
mewn pethau sanctaidd ynddo. Ym-
ddengys fod nifer o ieuenctyd annuwiol yn
nghymydogaeth Llangeitho wedi ymgaledu
mewn drygioni i'r fath raddau fel na allai
hyd yn nod enwogrwydd Rowland eu tynu
i wrando yr efengyl ; treulient eu Suliau
ar ben bryn gyferbyn a'r pentref, lie yr
ymroddent i bob math o chwareuon
annuwiol, er mawr ofid i'w enaid sanct-
DANIEL ROWLAND, LLANGEITHO.
45
aidd. Gwnaeth ei oreu i osod terfyn ar y
cyfryw chwareuon, ond bu pob ynidrech
o"i eiddo yn aflwyddianus. O'r diwedd
penderfynodd yr ai yno i bregethu. Yno
yr aeth ryw Sabbath, a'i yspryd gwrol yn
llawn o hyfdra sanctaidd ; methodd y
cwmni drygionus ddal mîn a nerth yr
athrawiaeth, ac ymwahanasant am y
cyntaf. Fel hyn y chwalwyd y nyth
annuwiol hono. Wedi dechreu rhybuddio
dynion drwg y tu allan i furiau yr eglwys,
gan ymosod arnynt megys ar eu tiriog-
aethau eu hunain ; a chw^edi canfod y fath
Iwyddiant a"r fath fendith yn cydfyned a"i
ymdrechion, naturiol iddo oedd myned
rhagddo, a pliregethu pa le bynag y caffai
ddrws agored, heb ofahi a oedd y ddaear
arwain allan o ddyffryn Aeron. Daeth y
rhai a wahoddasid ynghyd erbyn yr
amser, ond methent ddeall beth a allasai
ei amcan fod wrth eu cynull. Ofnent ei
fod yn myned i"w ceryddu ara ryw feiau a
ganfyddai ynddynt. Eithr gwasgarwyd
eu hofnau yn fuan, canys gwelsant raai ei
ddyben oedd eu lioh am natur ac aracan
Swper yrArglwydd,. a'u dysgu yn fanylach
gyda gohvg ar y sacrament sanctaidd. Treul-
iasant y rhan fwyaf o"r nos gyda'r gwaith
hyfryd hwn, yn cael eu hadeiladu a'u
cadarnhau yn y gwirionedd. Am gryn
amser cedwid y cyfarfodydd hyn yn nhy
teihwr a breswyhai yn y cwm crybwyll-
edig, o herwydd ei neillduedd, eithr yn
mhen amser symudwyd hwy i un o
MA'f;FA TUFK\VNOIj ar eglwys llangeitho.
[Ailan o Meijì-iclc's History of Cardiganshire.]
wedi cael ei chysegru gan esgob ai peidio.
Felly y gwnaeth, ac yn bur fuan ymwelodd
a rhanau helaeth o Gyraru, gan gyhoeddi
yr efengyl gyda llwyddiant mawr.
Dywedir iddo gael ei arwain hefyd, yn
annibynol ar yr hyn a wnaeth Howell
Harris, ac yn wir heb wybod am dano, i
sefydlu seiadau profiad. Fel hyn y bu.
Gofynodd i un o'r aelodau perthynol i
Lancwnlle am alw gyda'r rhai oedd raewn
cyraundeb yno, a'u gwahodd i'w gyfarfod
et ar noswaith benodol raewn tŷ o'r enw
GelH-Dywyll, gerllaw Bwlchdiwyrgara, yr
hwn le sydd raewn cwni cul ac unig yn
ysguboriau Daniei Rowland. Caent eu
cadw ar y cyntaf yn achlysurol, fel y
byddai cyfleustra yn caniatau ; weithiau ar
y Sabbath, a phryd arall ar ddydd gwaith,
yn y dydd neu yn yr hwyr ; ac weithiau ar
ol pregeth, pan fyddai pregethwr yn dyfod
ar daith. Yn raddol, fodd bynag, daethant
i gael eu cynal yn wythnosol, a gelwid y
frawdoliaeth fyddai yno yn " gymdeithas
grefyddol," yn ^^ society,'' neu yn ^^band;"
ond nid un amser yn eglwys, rhag trara-
gwyddo yr Eglwyswyr. Gwehr fod
anghenion ysprydol y rhai a gawsant eu
hargyhoaddi wedi arwain Daniel Rowland
46
Y TADAU METHODISTAIDD.
a Howell Harris, ar wahan i'w gilydd, i
sefydlu cymdeithasau neillduol er adeiladu
y praidd a'u cadw rhag myned ar gyfeil-
iorn ; ac erbyn hyn y mae y cymdeithasau
yma yn elfen o'r pwysicaf yn mywyd
ysprydol y genedl.
Amrywia haneswyr yn eu barn gyda
golwg ar pa un ai Daniel Rowland ynte
Howell Harris oedd y blaenaf o ran amser
ynglyn a'r Diwygiad. Dywed y Parch.
John Hughes, LiverpooI, * ei fod yn
ymddangos yn lled sicr ddarfod i Harris
gael y blaenafìaeth o ychydig amser ; ond
ni rydd Mr. Hughes un rheswm dros ei
dybiaeth, ac oddiwrth yr hyn a ysgrifena
yn nes yn mlaen yn ei lyfr, y mae yn
amlwg ei fod mewn cryn betrusder gyda
golwg ar ei chywirdeb. Maentymia y
Parch. Hugh J. Hughes, Cefncoedcymmer,
mai Harris yn ddiamheuol bia y blaen
mewn amseriad, yn gystal ag mewn
cymeriad beiddgar a diofn ; ond nid yw
yntau ychwaith yn dwyn yn mlaen unrhy w
brawf. Geiriau How^ell Harris ei hun
ydynt : " Am y gweinidog arall, y dyn
mawT hwnw dros Dduw, Mr. Daniel
Rowland, deffrowyd ef tua'r un amser a
minau, mewn rhan arall o Gymru, sef yn
Sir Aberteifì ; ond gan mai ychydig o
ohebiaeth oedd rhwng y sir hono a
Brycheiniog, aeth ef yn mlaen gan
gynyddu yn raddol mewn doniau heb
wybod dim am danaf fì, na minau am
dano yntau, nes i ni gyfarfod yn Eglwys
Defynog, yn y flwyddyn 1737."^ Tuedda
Wilhams, Pantycelyn, yn amlwg i roddi y
blaen mewn amser i Daniel Rowland, a
dyHd cofio fod WilHams yn gyfaill myn-
wesol i'r ddau, ac agos yn gyfoed a hwynt;
a'i fod yn mhellach nid yn unig yn fardd
ardderchog, ac yn emynydd digyffelyb,
ond hefyd yn hanesydd gwych. Nid
ydym yn rhoddi cymaint pwys ar ei eiriau
yn y farwnad i Rowland : — •
" Pan oedd tywyll nos trwy Frydain,
Heb un argoel codi gwawr,
A thrwmgwsg oddiwrth yr Arglwydd
Wedi goruwch guddio'r llawr ;
Daniel chwythodd yn yr udgorn."
Y mae yn amlwg nad yw yr ymadroddion
hyn i'w gwasgu i'w hystyr eithaf, a
defnyddia eiriau llawn mor gryfion gyda
golwg ar Howell Harris : —
" Pan oedd Cymru gynt yn gorwedd
Mewn rhyw dywyll, farwol hun,
Heb na Phresbycer na 'Pfeirad,
Nac un Esgob ar ddihun ;
* Methodistiaeth Cijmru, Cyf. i. tudal.
t Life of Howell Harris, tudal. 45.
66.
Yn y cyfnos tywyll, pygddu,
Fe ddaeth dyn fel niewn twym ias,
Yn Uawn gwreichion goleu, tanllyd,
O Drefecca fach i maos."
Amlwg yw nad ydyw y difyniadau uchod
yn penderfynu dim ar y mater ; gelhr
gosod y naill farwnad ar gyfer y llall.
Eithr y mae un Hinell yn marwnad
Rowland a ymddengys yn troi y glorian
yn drwm o'i blaid : — •
" Bowland startodd allan gyntaf,
A'i le gadwodd ef yn lân ;
Ac nis cafodd, er gwisgied,
Ungwr gynyg cam o'i íiaen."
I " Ond y mae perygl i ni fod yn rhy
frysiog," meddai y Parch. Lewis Edwards,
D.D., " oblegyd nid yw yn sicr fod yma
gyfeiriad at Howell Harris. Er hyny, pe
buasai Harris wedi ' startio ' allan yn
gyntaf, nid yw yn debyg y buasai Williams
yn anghofio y n'aith wrth gyfansoddi ei
farwnad, ac y mae yn ddiau y buasai hyny
yn ei rwystro i ddefnyddio geiriau mor
gryfion am Rowland."
Ymddengys yr holl amgylchiadau fel yn
ffafrio y golygiad fod Rowland wedi tori
allan i rybuddio pechaduriaid lawn mor
fuan a Harris, os nad o'i flaen. Argy-
hoeddwyd Howell Harris yn y flwyddyn
1735. Hydref y flwyddyn hono aeth i
Rydychain. Ond yr oedd yn flaenorol wedi
dechreu cynghori ei gydwladwyr. Dych-
welodd adref o gwmpas y Nadohg, ac nid
aethyneiol. Ailymaflaynei waithyngynar
yn y flwyddyn 1736. Y flwyddyn ganlynol,
sef yn 1737, yr ydym yn cael Daniel Rowland
yn pregethu yn Eglwys Defynog, ddeugain
mifldir o'i gartref fel yr hêd brân ; a chawn
ef yr un flwyddyn ar daith yn Sir Gaer-
fyrddin. Nid yw yn debyg y buasai yn
myned i bregethu i siroedd eraiH, heb ei
fod wedi treuho cryn lawer o amser yn y
cymydogaethau o gwmpas ei gartref, a
chael arwyddion amlwg fod bendith ar ei
ymdrechion. Meddai Joshua Thomas, ei
gydoeswr, gyda golwg arno : ^ " Yr wyf
yn cofio ddarfod i mi ei glywed o gylch
1737 yn Sir Gaerfyrddin. Yr oedd yno
liaws yn gwrando ; ac mi glywais rai o'r
YmneiIIduwyr yn son am y bregeth wrth
ddychwelyd adref. Yr wyf yn cofio mai
rhan o'r ymadrodd oedd hyn : " Ni
chlywsom erioed ei gyffelyb yn Eglwys
Loegr ond Griffith Jones. Ni bu yn ein
dyddiau ni y fath oleuni yn mhlith pobl yr
Eglwys." Dylid cofio mai gwr ieuanc,
l Traetliodau Llenyddol, tudah 479.
§ Hanes y Bedyddtuyr, tudal. 53.
DANIEL ROWLAND, LLANGEITHO.
47
newydd gychwyn ar ei waith oedd Daniel
Rowland y pryd hwn ; a bod ei ddoniau
pregethwrol heb ymddadblygu eto i'w
gogoniant uchaf; felly y mae y ganmol-
iaeth a roddir iddo, fel agos yn gyfartal a
Griíììth Jones, yn dra nodedig.
Efallai nas gelHr profi fel ag i'w osod y
tu hwnt i amheuaeth mai Rowland a bia y
blaen, ac nid yw hyny o gymaint pwys.
Eithr yr oedd ei gyd-gyfarfyddiad ef a
Howell Harris yn Defynog, yn 1737, yn
amgylchiad o'r pwys mwyaf. Eu hanes
hwy iU dau yw hanes Methodistiaeth
Cymru am y pymtheg mlynedd nesaf.
Meddai Harris, yn y llythyr a ddifynwyd
yn barod, " Pan y clywais y bregeth, ac y
gwelais y doniau a rodded iddo, ynghyd a'r
nerth a'r awdurdod rhyfeddol gyda pha un
y Uefarai, a'r effeithiau ar y bobl, yr oeddwn
yn wir ddiolchgar, a llosgai fy nghalon o
gariad at Dduw ac ato ef. Dym.a ddechreu
fy nghydnabyddiaeth ag ef, ac i dragywydd-
oldeb ni bydd diwedd arno." Aeth Harris
gyda Rowland i Langeitho, "a phan y
clywais ragor am ei athrawiaeth a'i gym-
eriad " meddai, " mi a gynyddais yn fwy
mewn cariad tuag ato." Ni fedrai Daniel
Rowland fyned oddicartref ar deithiau
gweinidogaethol i'r un graddau a rhai o'i
gyfeilUon, oblegyd yr eglwysi oeddynt dan
ei ofal, ond ymddengys iddo yntau deithio
y rhan fwyaf o'r Dy wysogaeth, a hyny lawer
gwaith, fel y tystia Williams, Pantycelyn : —
" Nicl oes uu o siroedd Cymru,
Braidd un plwyf sy"n berclien crêd,
Na bu Rowland yn eu teitbio
Ar eu byd ac ar eu Ued ;
Dios fynyddau, drwy afonydd,
Ac aberoedd gwaetba' sydd,
O Dyddewi i Lanandras,
O Gaergybi i Gaeidydd."
Fel y darfu i ni sylwi, pregethu y ddeddf
a wnelai ar y dechreu ; '•'" ond nid y ddeddf
fel crynodeb o drefniadau," meddai Dr.
Lewis Edwards, " eithr y ddeddf fel y mae
yn ddatguddiad o sancteiddrwydd Duw.
Yr oedd Rowland wedi gweled Duw, ac yn
teimlo ei fod wedi derbyn cenadwri oddi-
wrtho, ac am hyny yn Ilefaru fel un ag
awdurdod ganddo. Deallodd y bobl yn
fuan fod yno ffynhonell o fywyd anorch-
fygol wedi tarddu allan o Langeitho. Yn
raddol, trwy ei lafur ef ac eraill, ymdaen-
odd y sẃn trwy Gymru ; ac ar y rhai oedd
yn credu y dystiolaeth yr oedd yn effeithio
yn Iled gyffelyb i'r hanes yn ein dyddiau ni
am ddarganfyddiad cloddfa o aur yn Aws-
tralia." Pa hyd y parhaodd ei weinidog-
* Traethodau LLcnyddol, tudal. 479-48U.
aeth yn daranllyd ac ofnadwy, ni wyddis ;
ond yr oedd wedi teithio cryn lawer o'r
Dywysogaeth cyn i'w thôn gyfnewid.
Meddai Williams yn ei farwnad : —
" Pump o siroedd penaf Cymru,
Glywsant y taranau mawr,
A chwympa ;ant gan y dychryn,
Megys celaneddau i lawr ;
Clwyfau gaed, a cblwyfau dyfnion,
Ac fe fetbwyd cael iacbâd,
Nes cael eli o Galfaria,
Dwyfol ddwr a dwyfol waed."
Tybir mai am ryw dair blynedd y bu fel
Mab y Daran yn genad dychryn ; yn y
flwyddyni73g,cyhoeddodduno'ibregethau,
dan yr enw " Llaeth Ysprydol," oddiar
I Petr, ii. 2 ; ac er ei fod yn y bregeth yma
yn tueddu at fod yn ddeffröus a thanbaid,
eto y mae yn dra efengylaidd a chysur-
lawn o ran tôn, a'i gymhwysiadau yn
ddyddanus, yr hyn a brawf fod ei yspryd
wedi tyneru i raddau mawr. Dywedir mai
yr hên Mr. Pugh, gweinidog x\nnibynoI
Llwynpiod, a f u y prif foddion i effeithio y
cyfnewidiad ynddo. " Mr. Rowland bach,"
meddai, " pregethwch yr efengyl i'r bobl ;
cymhwyswch y Balm o Gilead at euclwyfau
ysprydol ; a dangoswch iddynt yr angen-
rheidrwydd am ffydd yn yr lachawdwr
croeshoeliedig." Atebai yntau, " Yr wyf
yn ofni nad yw y ffydd hono, yn llawn
nerth ei gweithrediad, genyf fi fy hunan."
Meddai Mr. Pugh yn ol, " Pregethwch hi
hyd oni theimlwch ei bod genych ; os ewch
yn y blaen i bregethu y ddeddf yn y modd
yma, byddwch yn fuan wedi lladd haner
pobl y wlad ! Yr ydych yn taranu melldith-
ion y gyfraith, ac yn pregethu mor ofnadwy
fel nas gall neb sefyll o'ch blaen." Nis
gellir meddwl am olygfa fwy dyddorol ;
gweinidog YmneiIIduoI, heb nac eiddigedd
na rhagfarn, yn cynghori gŵr ieuanc o
offeiriad yn yr Eglwys Sefydledig ; un oedd
wedi ei ddisodli o ran poblogrwydd yn y
wlad, ac wedi Iladratta ei gynulleidfa i
raddau mawr oddiarno. Yroedd Rowland
o'r tu arall yn ddigon gostyngedig a syml
ei galon i dderbyn y cyngor caruaidd yn yr
yspryd yr oedd yn cael ei roi, ac i weith-
redu yn ei ol. O hyn allan, daeth yn Fab
Dyddanwch. Meddai Williams, Panty-
celyn, eto: —
" 'Nol pregetbu 'r ddcddf dymhesjlog,
Rai blynyddau yny blaan,
A rboi llawcr yn friwedig,
'Nawr, cyfnewid wnaeth ei gân ;
Fe gyhoeddodd iacbawdwriaeth
Gryflawn, bollol, berffaith, llawn,
Trwy farwolaeth y Messiah
Ar Galfaria un prydniwn."
48
Y TADAU METHODISTAIDD.
Gyda'r cyfnewidiad hwn yn nhôn ei weini-
dogaeth, cyfnewidiodd y dylanwadau ar y
gwrandawyr. Yn flaenorol, llewygent gan
ofn, dychrynid hwy gan arswyd y Barnwr
nes y toddai eu heneidiau ynddynt fel
cwyr ; nid oedd yr eífeithiau gwedi hyn yn
llai rhyfeddol, nac yn llai nerthol, ond
bellach torent allan mewn gorfoledd a
chân. Dyma ddechreuad y moHanu am
ba un y daith Llangeitho yn enwog.
Ymddengys fod Rowland ei hun ar y
dechreu yn anfoddlawn i'r molianu a'r
neidio ; ofnai nad oedd yn hollol bur, y
gallai roddi achlysur i'r cnawd, a pheri i'r
gelyn gablu. Ò herwydd hyn ceisiai gan
y bobl ymatal, a chadw ei teimladau
danodd. Ond buasai lawn mor hawdd
cadw y dwfr rhag berwi tra y llosgai y tân
o dano gyda gwres. Wedi i'r gynuUeidfa
gael ei gwasgu i ymylon anobaith, a chan-
fod ufifern yn agor ei safn i'w llyncu ; pan
y canfyddent yr Arglwydd lesu yn ei
ogoniant fel Gwaredwr holl-ddigonol ar eu
cyfer, ac yn ewyllysio i'w hachub, torai y
teimlad dros bob restvaint, a mynent foli
am y waredigaeth. Dywedir mai o'r braidd
y daeth Rowland yn gymodlawn a'r peth
hyd ddiwedd ei oes. Ond amddiffynai y
rhai oeddynt yn moHanu rhag gwawd y
Saeson clauar. " Yr ydych chwi yn galw
arnoni ni," meddai, ' Neidwyr, Neidwyr,'
gaHwn ninau alw arnoch chwithau, ' Cys-
gaduriaid, Cysgaduriaid.' " Efahai nad
oedd y cyfifro a'r Hefain a'r bloeddiadau o
fawl yn hoHol rydd oddiwrth gnawd yn
mhawb ; fod y teimladau weithiau pan y
rhedent dros y Hestri heb fod yn gyfan-
gwbl yn gynyrch Yspryd Duw ; ac nid
annhebyg íod rhai dynion annuwiol yn
cael eu cario i ffwrdd, mewn ífordd nas
gwyddent, gan y dylanwad, ac yn ymuno
yn y gân. Ond wedi 'r cwbl, rhaid ystyried
fod y goleuni wedi tywynu ar feddyhau y
bobl yn nodedig o sydyn, fod y rhyddhâd
adeimlent yn rhyddhàdoddiwrth ddigofaint
yr Anfeidrol oedd yn pwyso fel mynydd ar
eu cydwybodau ; ac mewn canoedd yr oedd
y gorfoledd, er yn eithafol, ac yn cymeryd
ffurfiau anarferol, mor bur ac ysprydol ag
y geill unrhyw deimlad duwiolfrydig fod ar
y ddaear hon. Profodd Hawer o'r rhai a
fu yn gorfoleddu yn Llangeitho, trwy eu
bywydau duwiol, eu dyoddefiadau oblegyd
eu crefydd, a'u hymroddiad i wasanaethu
yr Arglwydd lesu er gwaethaf pob gwrth-
wynebiad, eu bod wedi cael eu hail-eni i
fywyd tragywyddol.
Yr oedd yr eífeithiau a ddilynent ei
w^einidogaeth beHach yn nodedig iawn.
Meddai HoweH Harris, mewn llythyr a
ysgrifenodd at Whitefield, Mawrth laf,
1743 : '■' " Yr oeddwn y Sul diweddaf yn
ngwasanaeth y cymundeb gyda y brawd
Rowland, He y gwelais, y clywais, ac y
teimlais y fath bethau na aHaf roddi i chwi
un syniad am danynt ar bapyr. Y mae y
gaHu sydd yn parhau gydag ef yn rhyw-
beth anghyffredin. Y fath waeddu allan,
y fath ocheneidiau calonrwygol, a'r wylo
dystaw, a'r galaru sanctaidd, a'r fath
floeddiadau o lawenydd a gorfoledd ni
chlywais erioed. Gwnai eu hamenau, a'u
gogoniant, osod eich enaid yn fflam pe
baech yno. Pan y pregetha, peth arferol
yw fod ugeiniau yn cwympo i lawr tan
ddylanwad y Gair, Avedi eu gwanu a'u
clwyfo ; neu wedi cael eu gorchfygu gan
gariad Duw a phrydferthwch a gogoniant
yr lesu. Llethir natur, fel pe bai, gan y
mwynhâd o Dduw a deimhr ganddynt, fel
na aHant ddal ychwaneg. Braidd nad y w
yr yspryd yn drylHo y tŷ o glai i gael hed-
fan i'w gartref. Cynwysa ei gynuHeidfa,
mi dybiaf, yn mheH dros ddwy fil, o ba rai
y mae y rhan fwyaf wedi cael eu dwyn i
ryddid gogoneddus, a rhodiant yn gadarn
mewn goleuni cHr." Trachefn a thrachefn,
bron yn yr hoH o'i lythyrau, cawn HoweH
Harris yn cyfeirio at y dylanwadau gogon-
eddus oedd yn cydfyned a gweinidogaeth
Rowland yn y cyfnod hwn. Dywed dros-
odd a throsodd fod yr efifeithiau yn
annesgrifiadwy. Ddiwedd y flwyddyn
1742, ysgrifena o Langeitho, at ei frawd,
f " Heddyw clywais yr anwyl frawd
Rowland, a'r fath olygfa ni welodd fy
Hygaid erioed. Nis gaHaf anfon i chwi un
syniad am dani. Yr oedd y fath oleuni a
nerth yn y gynuHeidfa fel nas geHir ei
fynegu. Élai y bobl wrth y canoedd o'r
naiH eglwys blwyfol i'r HaH, dair miHdir o
beHder (o Langeitho i LancwnHe, yn ol
pob tebyg) dan ganu a Hawenychu yn
Nuw ; a chwedi cyfranogi o'r Swper
Sanctaidd, dychwelasant gynifer o filldir-
oedd trachefn i'm gwrando i y nôs ; a gaHu-
ogwyd fi i lefaru, gyda nerth nad wyf yn
arfer gael, ar y fíbrdd fawr, hyd wyth o'r
gloch, i tua dwy fil. Y mae rhai o'r
profifeswyr cnawdol, oeddynt wedi adeiladu
ar y tywod, yn dyfod yn feunyddiol dan
argyhoeddiad. Y mae yr \Vyn (y dychwel-
edigion) yn tyfu, a llawer yn rhodio
* Wcchly Historij.
t Ibid.
Q
<
>
o
<
Q
o
H
o
DANIEL ROWLAND, LLANGEITHO.
49
mewn rhyddid gogoneddus. Y niae tàn
cariad Duw yn caeì lle mewn Uawer calon,
ac y mae Duw yn wir fel fflam yn eu canol.
Cynhaliant seiadau bob nos, a'r fath yw
y dylanwad a deimUr ganddynt mewn
gweddi yn fynych, fel y tarewir hwy a
dystawrwydd ofnadwy; bryd arall, boddir
llais y gweddíwr gan gri calonau dryll-
iedig." Dyma dôn hoU lythyrau Harris y
pryd hwn. Nis geill ymatal rhag datgan
ei syndod aruthrol o herwydd y nerthoedd
oedd yn cydfyned a phregethu ei gyfaill.
Pan wedi gwrando WilHams, Pantycelyn,
a Howell Davies, yn Sir Benfro, y clod
uchaf a fedr roddi iddynt yw dweyd eu
bod wedi cyfranogi yn helaeth o dàn
Llangeitho. Ac nid yn ei gartref yn unig
y byddai y cyfryw ddylanwadau yn cyd-
fyned a phregethu Daniel Rowland, ond
pa le bynag yr elai. Meddai ef ei hun,
mewn llythyr at Howell Harris, yr hwn
oedd yn Llundain, dyddiedig Hydref 20,
1742 : * " Yr wythnos ddiweddaf bum ar
daith yn Siroedd Caerfyrddin a Morganwg,
ac odfaeon ardderchog oeddynt ; cynull-
eidfaoedd cyfain yn cael eu dwyn i deimlo,
a llawer yn bloeddio allan fel yr oedd fy
llais yn cael ei foddi. Croesawyd íì i'w
tai gan rai personau o safle, a hyny gyda
pharch anarferol. O ! beth wyf fi, fel y
gwelai fy llygaid, ac y clywai fy nghlustiau
y fath bethau ! " Mewm llythyr arall, at
un o'i wrandawyr oedd yn Llundain,
dywed Rowland : i "Y mae crefydd yn
blodeuo yn y rhanau hyn o'r wlad.
DyHfa miloedd i glywed y Gair. Y mae
rhan fawr o honynt yn y fath ingoedd nes
bod yn ddigon i wanu y galon galetaf.
Gwnaeth rhai ef yn bwnc i'w ceryddu ;
ond y mae y rhai hyny eu hunain yn awr
wedi eu gorchfygu gan allu Duw, ac yn
gwaeddu allan : ' Pa beth a wnant fel
y byddont gadwedig.' Chwi a ryfeddech
at yr hyn ydym ni yn weled ac yn glywed
yn feunyddiol. Am danaf fy hun, gallaf
dystio na welais, ac na chefais erioed y
fath nerth ag wyf yn awr yn gael bol)
dydd." Canlyniad y weinidogaeth nerthol
yma, a'r effeithiau rhyfeddol oedd yn
cydfyned a hi, oedd tynu tyrfaoedd i
Langeitho o bob cwr o'r wlad. Daeth y
pentref bychan gwledig, diaddurn, yu
Jerusalem Cymru.
Efallai na theithiai Daniel Rowhind
gymaint ag a wnelai Harris, a WiUiams,
Pantycelyn ; pregethwyr teithiol oeddynt
Weeldy History.
t Ihid.
hwy ; ond gwasanaethai ef yn rheolaidd
yn y tair eglwys i ba rai y cawsai ei
benodi yn guwrad, sef Llangeitho, Llan-
cwnlle, a Llanddewi-brefi. Yr un pryd, y
mae sicrwydd ei fod yn trafaelu llaw^er, a
hyny trwy bob rhan o'r Dywysogaeth.
Pregethai yn fisol yn Ystrad-ffin, Twr-
gwyn, Waunifor, Abergorlech, a Llanlluan.
Yn anffodus, ychydig o hanes ei deithiau
sydd genym, oblegyd fod ei bapyrau wedi
cael eu cyfrgolH. Gwedi marwolaeth
Rowland casglwyd yr oH a elHd gael o'i
lythyrau a'i hanes, gan ei fab, Nathaniel
Rowland, ac anfonwyd hwy i'r larUes
Huntington, yr hon a fwriadai gael byw-
graffiad iddo wedi ei ysgrifenu gan ryw
berson cymhwys. Cyn i hyny gael ei
wneyd bu farw yr larHes, ac aeth y
wybodaeth werthfawr a anfonasid iddi i
golli. \ Adrodda y Parch. John Evans, y
Bala, mewn hen ysgrif o'i eiddo, am
Rowland yn ymweled a Llanuwchllyn, yn
y flwyddyn 1740. Gofynodd am ganiatad
yr offeiriad a'r wardeniaid i bregethu yn
yr eglwys, a chafodd hyny, Ymddengys
nad oedd yr offeiriad, mwy na Galio gynt,
yn gofalu am ddim o"r pethau hyn. Nid
gwaeth ganddo, dybygid, pwy a bregethai,
na pha beth a bregethid. Aeth yn
ymddiddan rhyngddo a Rowland ynghylch
ail-enedigaeth, ond cyfaddefai yr hen
offeiriad na Avyddai efe ddim o gwbl am y
pwnc hwnw. " Beth," ebai y Î3iwygiwr,
" a wyt ti yn ddysgawdwr yn Israel, ac ni
wyddost y pethau hyn ? " Digwyddodd
Rowland Lloyd, periglor Llangower, ger
y Bala, fod yn y psntref ar y pryd, a
phan glywodd fod un o'r Methodistiaid
wedi cael caniatad i bregethu yn eglwys y
plwyf, cyffrodd trwyddo. Ymaith ag ef
ar ffrwst, ac i'r eglwys. Yr oedd y
gwasanaeth wedi dechreu, ac ar unwaith
dechreuodd yntau godi terfysg. Darllenai
Mr. Rowland ar y pryd benod y melldith-
ion yn Deuteronomium, sef yr xxviii.
" Beth," ebai Lloyd, "a ydyw Stephen,
Glanyllyn (boneddwr a drigai gerllaw), yn
felldigedig ? " " Ydyw," oedd atebiad
Rowland, " os yw y gŵr yn ddyn an-
nuwiol." Aeth y terfysg yn fwy gwedi'r
atebiad hw'n ; dechreuodd rhyw hen ddynes
ganu y gloch yn drystfawr ; a rhwng
brygawthan offeiriad Llangower, a thinc
y gioch, rhwystrwyd yr odfa, ac er gofid
i'r gynulleidfa bu raid i Daniel Rowland
ymadael heb bregethu.
\ Methodistiaeth Cymru, Cyf. i. tudal. 630.
E
50
V TADAU METHODISTAIDD.
Aeth Rowland i Lanuwchllyn ar ol
hyn, a phregethai y tro hwnw oddiar gareg
farch y FeHn-dre, fíermdy yn nghydiad
plwyíì Llanuwchllyn a Llangower. Ni
wyddis dyddiad yr odfa. Ei destun
ydoedd : " Wele ef yn dyfod yn neidio ar
y mynyddoedd, ac yn llamu ar y bryniau "
(Can. ii. 8). Nid oes hanes am efí^eithiau
y bregeth, ond fod y bobl mor anwybodus
fel yr edrychent i'r bryniau o gwmpas, gan
ddisgwyl gweîed rhywun hynod yn gwneyd
ei ymddangosiad.
Cawn ef yn ymweled a'r Gogledd hefyd
yn 1742. * Mewn llythyr a anfonodd at
Howell Harris y flwyddyn hono, dywed
iddo fod yn ddiweddar ar daith yn Sir
Drefaldwyn ; ddarfod iddo, naiU ai wrth
fyned neu ddychwelyd, bregethu gyda
nerth anarferol mewn amryw eglwysi a
thai anedd yn INIrycheiniog, a bod rhyw
Mr. Phi'Hps, o Lanfairmuallt, wedi ei
roddi yn Nghwrt yr Esgob am lefaru
mewn ty tafarn yno. Ychwanega fod y
brawd \V. Williams — Williams, Panty-
celyn, yn ddiau — wedi cael ei roddi yn yr
vm llys am nad oedd yn byw yn y plwyf
yn mha un y gweinidogaethai. Ceisia gan
Harris, yr hwn oedd yn y Brif-ddinas ar y
pryd, am ymgynghori a'r brodyr yn
Llundain pa fodd y dylid ymddwyn dan
yr amgylchiadau. Y mae yn fwy na
thebyg ddarfod i Daniel Rowland, y
flwyddyn ganlynol, sef 1743, deithio trwy
Sir Gaernarfon, mor bell a Sir Fôn, er na
cheir hanes y daith yn ei gofiant, nac yn
Mctlwdistiadìi Cyìiini. Mewn Ilythyr o
eiddo un Evan W^illiams, cynghorwr yn
Nghymru, yr hwn a gafodd ei ysgrifenu
yn y flwyddyn 1742, dy wedir : f "Y
mae Mr. M. H s wedi bod yr wyth-
nos ddiweddaf yn Sir Fôn, a rhyfedd
fel y mae y gwaith yn myned yn ml.ien
yno. Bwriada y brawd Rowland fyned
yno yn mhen mis." Ddarfod iddo
gario allan ei fwriad sydd sicr, oblegyd
dywed un T s B n, yr hwn yntau
oedd hefyd yn gynghorwr yn ol pob tebyg,
mewnolysgrifilythyr a ysgrifenwyd ganddo
yn 1742 : " Bu y brawd Richards a'r brawd
R s yn Sir Fôn. Yn awr y mae y brawd
Richards yn myned o gwrnpas Deheudir
Cymru." Diau mai Daniel Rowland
oedd y brawd " R s " ; ysgrifenid
ei enw weithiau yn Rowland, a phryd arall
yn Rowlands ; ac felly y gwnai ef ei hun.
Y mae y gweddill o Iythyr Evan Williams
mor ddyddorol fel yr ydym yn rhwym o'i
Weehly History.
t Ibid.
gofnodi : " Bendithiwyd y brawd Beaumont
yn fawr yn ein tref, yn neillduol er dystewi
yr erhdwyr. Ond digwyddodd fod Cwrt yr
Esgob yn fuan, a phregethodd y Canghell-
ydd yn erbyn y Methodistiaid ac yn erbyn
Mr. Whitefìeld, fel y trowyd meddwl Ilawer
o'r bobl drachefn. Gelwir llawer i'r cwrt
er rhoddi cyfrif paham y cadwant seiadau
yn eu tai. Tybiodd rhai mai gwell oedd
talu (y dirwyon a osodid arnynt), gan eu
bod yn weiniaid, er mwyn cael myned yn
rhydd. Gwedi eu holi, dywedwyd wrthynt
eu bod yn bobl oedd-yn bwriadu yn dda, ond
y dylent geisio cadw Rowland a Harris o
fewn eu terfynau. Dywedodd y Canghell-
ydd y gwnai selio gwarant i ddal Rowland
y tro nesaf." Eglurà jlythyr yr hen
gynghorwr fel yr erlidid y Methodistiaid
yr adeg hon gan swyddogio;i yr Eglwys
W^adol. Am awdwr y llythyr, sef Evan
Williams, brodor o Ystradgynlais ydoedd ;
cawsai ei argyhoeddi wrth ddarllen gwaith
Bunyan, " Tyred, a chroeso, at Icsii Gi'ist ; ". ac
yn bur fuan dechreuodd gynghori gyda'r
Methodistiaid. Am beth amser bu yn un
o ysgolfeistri Griffìth Jones, gan yr hwn y
danfonwyd ef i Sir Gaernarfon i gadw
ysgol. Yr oedd hyn yn 1742. Erlidiwyd
ef yn enbyd yno, bu mewn perygl am ei
einioes, a ffodd yn ei ol at Grifíìth Jones.
Y dref y sonia am dani yn ei Iythyr, yn ol
pob tebyg, oedd Caerfyrddin. Diweddodd
ei oes gyda'r Annibynwyr.
Cawn gyfeiriad at ymweliad o eiddo
Daniel Rowland a Lleyn, yn Sir Gaernar-
fon, a gymerodd le cyn y flwyddyn 1745,
mewn hên interliwd. Ai y daith yn 1743
ydoedd, ynte taith a gymerodd y flwyddyn
ddilynol, nis gwyddom. A ganlyn yw
gwyneb-ddalen yr interliwd : —
" Inteblude ]\Iorgax y Gogrwr
Ar Y CaRADOGS, NEU FFltEWYLL Y
IMethodistiaid, yn dair Act Gan
WiLLiAM RoBERT.-i, o Lanor yn
Llyn, Mwytliig ; argraffwyd
gan R Lathrop tros yr
AwDWB, 1745."
Yr oedd hon yn un o'r interliwdiau mwyaf
poblogaidd yn erbyn y Methodistiaid ;
chwareuid hi mewn ffeiriau a Ileoedd
poblog, er mawr ddifyrwch i'r werin isel
eu chwaeth, a chyda chymeradwyaeth
boneddigion ac offeiriaid yr ardaloedd.
Heblaw fod y syniadau a roddir yn ngenau
y gwahanol gymeriadau Methodistaidd yn
yr interliwd yn gelwyddog, y mae yr iaith
yn warthus ac aflan mewn llawer man, yn
gymaint felly fel na feiddiem ddifynu aml
i linell. Darlunir " Chwitfíild," fel ei
DANIEL ROWLAND, LLANGEITHO.
51
gelwir, yn dweyd fel y canlyn wrth
Howell Harris : —
" Pa beth a dàl trâd i ddyn truan,
A rhoi 'r mawr anhunedd arno fo 'i hunan,
I yru dynion anonest i'r ne',
Dan rorio, oni cheifî ynte 'r arian ?
ÌMi rois i sos go dda i'r Saeson,
Mae yno bob bedlem yn abl boddlon ;
Ped feifc tithe 'n medru gyru 'r Cymry o'u co',
jSTyui a 'sguben holl eiddo 'r Esgobiou.
.4 c a gaem ferdid j Brenin ar fyrder
A'r Parlament i wneyd ffwrn saith m wy ei phoeth-
'der,
Na ffwrnas Nebucodonosor sur,
I losgi gwyr Eglwys Loeger."
Hysbysir ni ar w^aelod y ddalen fod y
peniU olaf hwn yn cynwys " geiriau a
ddywedwyd gan Mr. Dan Rowlands, yn
Lleyn, a chan Tho Jones, o Bortdinllaen."'
Y mae'r interUwd trwyddi, a chynwysa
dros driugain tudalen, yn llawn o'r cyffelyb
gam-ddarluniadau o amcanion y Meth-
odistiaid, ac o'r athrawiaethau a bregethid
ganddynt. Ond ein hunig amcan ni yn
awr, wrth ei difynu, oedd profi ddarfod i
Daniel Rowland ymweled a Lleyn, cyn y
flwyddyn 1745.
Cawn hanes hefyd am dano yn teithio
trwy ranau o Sir Gaernarfon a Sir Fòn,
yn 1747, ac yn ffodus y mae cryn dipyn
o hanes y daith ar gael. Yn Mhenmorfa,
ger Porthmadog, bygythiwyd ef yn dost,
gan ei sicrhau, os pregethu a wnai, y
gwneid ei esgyrn yn ddigon mân i'w
gosod mewn c\Vd. Diystyru eu bygyth-
ion a wnaeth. Aeth yn ei flaen i Leyn,
lle y cyfarfyddodd a rhai cyfeiUion serchog.
Yn Llanmellteyrn, gwnaed cais am gael yr
eglwys iddo, am ei fod yn offeiriad urdd-
edig, ond nacawyd hi. Pregethodd yntau
oddiar y gareg farch wrth borth y fynwent.
Ei destun oedd, Jer. xxx. 21: * " Canys
pwy yw hwn a Iwyr roddodd ei galon i
nesau ataf fi ? medd yr Arglwydd." Yn ei
bregeth profai nad oedd neb ond Crist wedi
llwyr roddi ei galon i'r perffeithrwydd ag y
mae deddf Duw yn gofyn. Yna darluniai
gyfiawnder yn dangos yn mlaen llaw i lesu
Grist y dyoddefiadau y byddai raid iddo
fyned trwyddynt, os elai yn ei flaen i dalu
dyled pechaduriaid. " Gwybydd," rneddai
cyfiawnder, " er dyfod at yr eiddot
dy hun, na chai ond tŷ yr anifail i
letya, a phreseb yn gryd, a chadachau
yn wisgoedd." Ond yn lle ciho yn
ol, atebai y (jwaredwr, " Boddlawn i'r
driniaeth hono er mwyn fy nyweddi."
" Os wynebu i fyd sydd dan y felldith, cai
fod heb le i roi dy ben i lawr ; îe, byddi yn
nôd i eithaf llid a malais creaduriaid sydd
yn cael eu cynal genyt bob moment." " O
íy nghyfraith lân, yr wyf yn foddlawn i
hyny ! " " Cai hefyd chwysu dafnau
gwaed ar noswaith oer, a phoeri yn dy
w^yneb, a'th goroni a drain; a'th ddysgybl-
ion, wedi bod cyhyd o amser yn gweled dy
wyrthiau, ac yn gwrando dy nefol athraw-
iaethau, yn dy adael yn yr ing mwyaf ; îe,
un o honynt yn dy werthu, ac un arall yn
dy wadu, gan dyngu a rhegu yn haerUug
na adwaenai mo honot." " Er caleted hyn
oll," meddai lesu Grist, " ni f1>«Daf yn ol ;
cuddiwyd edifeirwch o'm golwg." Yn
ganlynol, dyma gyfiawnder a'r gyfraith yn
cyd-dystio : " O dydi, Wrthrych clodforedd
holl angyhon y nef, a gwir hyfrydwch
y Jehofah Dad, os anturi i'r fachníaeth
ddigyffelyb yma, bydd holl allu uffern yn
ymosod arnat, a digofaint dy Dad nefol yn
ddigymysg ar dy enaid a'th gorff sanctaidd
ar y groes ; îe, os rhaid dweyd y cyfan,
bydd raid i ti oddef tywallt allan y diferyn
olaf o waed dy galon ! " Yn awr, pwy heb
syndod a all feddwl am y Meichiau bendi-
gedig, yn ymrwymo yn ngwyneb yr holl
ystormydd i gymeryd y gorchw^l caled
arno ei hun, ac yn ngwyneb y cwbl yn
gwaeddu " Boddlawn ! " Ni allodd fyned
yn y blaen ymhellach mewn ffordd o bre-
gethu, canys torodd allan yn un floedd
orfoleddus o wylo a diolch, megys y blwch
enaint gynt yn Ilenwi y Ile a'i berarogl.
Ni anghofiwyd y tro hwn gan lawer
ddyddiau eu hoes.
Ymwelodd lawer gwaith a"r Gogledd
wedi hyn. Dywedir y rhoddai dro trwy y
rhan fwyaf o Gymru unwaith yn y flwyddyn
am ysbaid lled faith o'i oes. Bu yn gwas-
anaethu yn aml yn Llundam ; a phregethai
nid yn anfynych yn nghapelau yr larlles
Huntington yn Bristol, Bath, a manau
eraill.
Fel y rhan fwyaf o'r Diwygwyr, cafodd
yntau ei erlid a'i faeddu yn fynych. Nid
anaml byddai offeiriad y plwyf, neu
foneddwr a breswyliai yn yr ardal, yn cyf-
logi nifer o ddihirwyr i ymosod arno, pan
y byddai yn ceisio Ilefaru. Mewn Ilythyr
at Whitefield, dyddiedig Chwefror 14,
1743, dywed Howell Harris, f " Yr wyf
wedi gweled y brawd Wm. W^ilhams, ar
ei ddychweliad oddiwrth y brawd Rowland,
ac fe'm hysbyswyd ganddo ddarfod i"r
gelyn gael ei oUwng yn rhydd arnynt ill
Drycìi yr Amserocdd, tudal. 7'J-81.
t Weehly History.
52
Y TADAU METHODISTAIDD.
dau, pan yn pregethu ar lan y môr mewn
rhan o Sir Aberteifi. Daeth cwmni o
dthhirwyr, wedi eu harfogi a phastynau ac
a drylhau, gan ymosod arnynt a'u curo yn
ddidrugaredd. Trwy ofal y Pen Bugail,
dihangasant heb dderbyn niwed mawr, ond
cafodd y brawd Rowland un clwyf ar ei
ben. Cawsent eu cyflogi i hyn gan
foneddwr o'r gymydogaeth. ünd nid
rhyfedd fod y gelyn yn myned yn gynddeir-
iog wrth weled y fath ymosodiad yn cael
ei wneyd ar ei deyrnas." ''■'- Nid anfynych
y bu mewn perygl am ei fywyd. Dyrysid
yr addohad weithiau, a byddai raid iddo ef
a'i wrandawyr ffoi rhag ffyrnigrwydd eu
herhdwyr, dan gawodydd o laid a cherig,
nes dianc allan o'u cyrhaedd i ryw gilfach
ddirgel ; ac yno mewn tawelwch mwyn-
haent y fath gysur a thangnefedd ag a
dalai yn dda am y dirmyg a'r gorthrym-
derau. Ymosodwyd yn enbyd arno
unwaith yn Aberystwyth, gan ryw greadur
haner meddw, yr hwn a dyngai y byddai
iddo ei saethu. Anelodd y dryll ato, a
thynodd y ghced, ond ni thaniai. Wedi
methu yn hyn, curodd ef yn greulawn a'r
pen arall i'r dryll. t Darllenwn am ym-
gais dieflig mewn man penodol i'w ddinys-
trio ef a'r bobl a wrandawent arno.
Dealhd ei fod i bregethu yn yr awyr
agored, a pheth wnaeth rhyw greadur
mileinig ond cuddio swm mawr o bylor o
dan y fan yr oedd ef a'r bobl i sefyH, gan
wneyd Ihnyn main o bylor oddiyno hyd
ryw^ bellder, yr hwn hnyn a derfynai mewn
ychydig wellt. Y bwriad oedd gosod tân
yn y gweht, a chwythu y pregethwr a'i
gynuheidfa i fynu i'r awyr. Ond yn rhag-
luniaethol, daeth rhywun yno cyn i'r odfa
ddechreu, a darganfyddodd y brâd. Yn
mhob man braidd, byddai mewn perygl o
gael ei faeddu, ond ni phahai. " Ymosod-
wyd ar y brawd Rowland ryw bythefnos
yn ol gan nifer ofeddw^on," meddai Howell
Harris, mewn hythyr at \\'hitefield, dydd-
iedig Mawrth i, 1743, "ond Uanwodd Duw
eienaidynodiaeth." Buy Diwygwyr droiau
mewn cydymgynghoriad gyda golwg ar y
priodoldeb o ddwyn y rhai a'u baeddent i'r
llys gwladol ; ond peidio a wnaethant ; yn
hytrach gwnaent eu herhdwyr yn wrth-
rychau arbenig eu gweddíau. Pa 'fodd
bynag, nid oedd Rowland yn ei weled yn
anmhriodol defnyddio ychydig ystryw
weithiau er dianc rhag eu erhdwyr. Un
tro, pan yn myned i bregethu mewn tref
* Enwocjioyi y Ffydd.
t Ministerial Becords, tudal. 103.
yn y Gogledd, daeth i'w ghistiau fod haid
o oferwyr wedi penderfynu na chai fyned i
mewn o gwbl i'r Ue. Daethant allan yn
hu i'w gyfarfod. Pan wybu wrth y s\Vn eu
bod yn agos, gosododd ei het ar ei goryn
yn y duU mwyaf ffasiynol, gan yru y
ceffyl ar garlam. " Dyma fo'n do'd,"
meddai rhai, " Na, nid y fo ydyw,"
meddai'r lleill ; "nid yw y Methodistiaid
byth yn gyru fel yna." Pan ddaeth i'w
cyfer, dywedodd, " Blant y diawl, beth
ddaeth a chwi ahan mor foreu ? " Pender-
fynodd hyn y cwestiwn ; " y mae wedi
dweyd enw'r diawl," meddent, a chafodd
basio yn ddirwystr.
Yn ngwyneb gwrthwynebiad mwyaf
pendant yr awdurdodau eglwysig y cariai
Daniel Rowland ei waith yn mlaen. Nid
yn unig meddai yr esgobion Saesneg, a'r
nifer amlaf o'r clerigwyr, wrthwynebiad
cryf at yr hyn a ystyrient yn annhrefn yn
ei ymddygiad ; ond yr oedd yr athraw-
iaethau Calfinaidd a bregethid ganddo yn
gâs ganddynt. Yr oedd Eglwys Loegr, a'i
holl offeiriaid yn mron, wedi cael eu llygru
gan yr heresi Árminaidd. lachawdwriaeth
yn gyfangwbl o râs, a bregethai yntau, a
hoU gyfiawnderau dyn ond megys bratiau
budron. Dyrchafai Grist fel yr unig
Waredwr, a ffydd ynddo fel unig foddion
cyfiawnhad gerbron Duw. Oblegyd hyn
nid oedd ond erledigaeth a phob am-
mharch yn ei aros yn yr Eglwys. I
gychwyn, rhwystrwyd ef i l'^regethu yn
nghapel Ystrad-fiin. Mewnhythyrat Mrs.
James o'r Fenni, yr hon, wedi hyny, a
ddaeth yn wraig i Mr. Whitefield, dydd-
iedig 1742, dywed : l " Ni oddefir fi i bre-
gethu yn Ystrad-fíìn yn hwy. Pregethais
fy mhregeth ymadawol yno, oddiwrth
Actau XX. 32. Cyrhaeddodd eu calonau.
Nid wyf yn credu i'r fath wylo uchel gael
ei glywed mewn unrhyw angladd yn nghôf
dynion. Clywed yr Arglwydd eu Uef, ac
anfoned iddynt weinidog galhiog, yr hwn a
gyfrana iddynt air y gwirionedd, fel y mae-
yn yr lesu. Yn awr yr wyf i ymsefydln yn
Llanddewi-brefi, yr hon sydd eglwys
helaeth, yn abl cynwys amryw filoedd o
bobh Daw amryw o'm cymunwyr yn
Ystrad-ífin ac Abergwesyn yno ddiwedd y
mis nesaf." Y mae y gair " ymsefydlu "
wedi ei osod mewn Uythyrenau Italaidd, er
dangos ddarfod i Rowland gael awgrym
cryf na oddefid iddo grwydro o gwmpas fel
yr arferai, Er mor boblogaidd ydoedd, ac
X Ministcrial Records, tudal. -54.
DANIEL ROWLAND, LLANGEIJHO.
53
er mor ddysglaer ei ddoniau, ni chynyg-
iwyd iddo unrhyw ddyrchafiad gan yr
Esgob. Yn guwrad, gyda deg punt y
flwyddyn o gyflog, am wasanaethu tair
eglwys, y cafodd fod trwy'r blynyddoedd.
Yn y flwyddyn 1760, bu ei frawd, John
Rowland, yr hwn a ddaliai y fywiohaeth,
farw ; boddodd wrth ymdrochi yn y môr
gerllaw Aberystwyth. Ni chynygiwyd y
fywiohaeth i Daniel Rowland ; yr oedd ei
fod yn Fethodist yn rhwystr anorfod ar ei
fifordd i'w chael ; ond rhoddwyd hi i'w fab
hynaf, yr hwn a'i daliodd tra y bu byw ; a
]\Ir. \\'ilhams (WiUiams, Pantycelyn). Bu
y Parch. INIr. Rowland gyda'r Esgob dydd
Llun, yr hwn a ymddygodd yn garedig ato,
a chyda hawer o barch." O'r diwedd,
rhoddwyd ar ddeall iddo fod yn rhaid iddo
beidio gweinidogaethu allan o'i blwyf, a
phregethu mewn lleoedd anghysegredig,
onide nas gelhd ei oddef yn hwy. Atebodd
yntau yn dawel, fod amgylchiadau y
wlad ar y pryd yn ei farn ef yn galw
am weinidogaeth deithiol, ai fod yn credu
fod ei waith wedi derbyn cymeradwyaeth y
nefoedd, ac nas gallai ymatal, beth bynag
I.LANGEITHO.
gwasanaethai yntau fel cuwrad i'w fab ei
hun. Achwynid arno yn barhaus ger-
bron yr Esgob, ac nid aiifynych gwysid ef
i ymddangos ger ei fron. Weithiau rhy-
buddid ef yn arw, a gollyngid ef ymaith
gyda bygythion. Bryd arall ceisid ei
ddarbwyllo gyda geiriau têg. Am un o'r
troion hyn, ysgrifena un W'ilham John,
cynghorwr, at Howell Harris, tua diwedd
1743 : ■■- " Gwrthododd yr Esgob ordeinio
* Weehly Hislorij.
yn bresenol yn
Rowland gael ei
y ffaith nad oes
fyddai y canlyniadau. Mewn canlyniad,
prysurwyd i'w ddihatru o'i swydd. Ceir
dosparth o'r clerigwyr
tueddu i wadu ddarfod i
atal, a seiliant ei dadl ar
unrhyw gyfeiriad at hyn yn nghofnodau
llys yr Esgob yn Nhyddewi. Ond y maent
yn anghofio nad rhaid wrth erlyniad cyf-
reithiol i droi Rowland allan ; nid oeddond
cuwrad ; gallai yr Esgob gymeryd ei
drwydded oddiarno wrth ei ewyllys, a
hyny nid yn unig heb brawf yn ei Iys, ond
54
Y TADAU METHODISTAIDD.
heb osod cofnod o'r weithred ar y Uyfrau.
Ac felly y gwnaeth yr Esgob Squire.
Yn y flwyddyn 1763 y trowyd Daniel
Rowland allan. Ceir dau draddodiad
gwahanol gyda golwg ar yr amgylchiad.
Dywed y Parch. John Owen, yn ei fyw-
graffiad, i hyn gael ei wneyd yn gyhoeddus
ar y Sul yn Llanddewi-brefi. Cawsai efe
yr hanes oddi wrth hen \vr duwdol a
breswyhai yn y lle, ac a gofiai yr amgylch-
iad yn dda. Daeth dau offeiriad i'r eglwys
pan yr oedd Rowland yn esgyn grisiau y
pwlpud. Un o'r ddau oedd y Parch, Mr.
Davies, brawd Cadben Davies, Llan-
fechan ; ni wyddis enw y llall. Estyn^ýyd
llythyr i Rowland yn y pwlpud. Gwedi
ei ddarllen, trodd at y gynuUeidfa anferth
oedd wedi ymgynull, gan ddweyd na
oddefid iddo bregethu. Daeth i lawr o'r
pwlpud, ac aeth allan o'r eglwys, yn
cael ei ganlyn gan y bobl, y rhai a wylent
yn hidl. Yr adroddiad hwn a ddilynir
gan y Parch. E. Morgan, Ficer Syston,
yn y bywgraffiad a gyfansoddodd yntau ;
ond ychwanega ddarfcd i'r gynulleidfa,
gwedi myned allan, daer gymhell Rowland
i bregethu, yr hyn a wnaeth yntau oddiar
glawdd y fynwent.
Eithr cafodd y Parch. John Hughes,
Liverpool, adroddiad gwahanol gan David
Jones, Dolau-bach, yr hwn oedd yn
flaenor yn Llangeitho, ac yn ŵr tra
chraffus. Fel hyn y dywed efe : " Yn
Nadohg, 1763, y trowyd ef allan gan
swyddogion yr Esgob. Tybiaf fod cam-
gymeriad yn hanes ei fyw^yd gan y Parch.
J. Owen, pan y dywed mai o Landdewi-
brefi y trowyd ef allan. Canys y mae yr
hanesion a gefais i yn sicrhau mai yn
Llangeitho a Llancwnlle yr oedd ef yn
gweinidogaethu ar y pryd. Bum yn
ymddiddan a hen \Vr o'r enw John Jenkins,
yr hwri, pan yn hogyn tua phymtheg
mlwydd oed, a aethai gyda'i rieni i Lan-
cwnHe i wrando Rowdand ryw Sabbath ;
ac i ddau swyddog oddiwrth yr Esgob
ddyfod yno i droi Rowdand allan, a bod
Rowland wedi dechreu yr addohad cyn eu
dyfod. Atahodd y bobl y gwŷr wrth y
drws, nes iddo orphen pregethu ; yna aeth
rhywun ato i'w hysbysu am eu dyfodiad
a'u dyben. i\r hyn, disgynodd yntau yn
ddioed o'r pwlpud, a daeth atynt i'r drws,
gan ofyn eu neges. Hwythau a fynegasant
iddo. ' O,' ebai Rowland, ' gahasai ei
arglwyddiaeth gymeryd llai o boen arno
na'ch danfon chwi yma ; o'm rhan i, nid âf
byth o fewn ei muriau mwy ; os mynwch
chwi, hi gaififfod yn llety dyUuanod. Mae
y bobl yn barod i ddod gyda fi.' Tystia yr
hen ŵr ei fod ef yn bresenol ar y pryd, yn
gweled ac yn clywed hyn oll, ac mai yn y
modd a ddarluniwyd y bu yr amgylchiad.
Ac fe wyr pawb sydd mewn oedran i gofio
hefyd mai yn gwbl anghyfanedd yn mron y
bu y rhan fwyaf o'r llanau, yn y cymydog-
aethau hyn, am amser maith ar ol tröad
Rüwland allan." Nid yw y ddau adrodd-
iad o angenrheidrwydd yn anghyson. Nid
yw yn anmhosibl i Daniel Rowland gael
ei atal yn y boreu rhag gweinyddu yn
Llanddewi-brefi, ac iddo farchogaeth rhyw
chwech milldir i Lancwnlle erbyn y
gwasanaeth prydnhawnol, yn yr hwn le y
digwyddodd yr amgylchiad a gofnodir
gan yr hen flaenor duwiol o'r Dolau-bach.
Ond iddo gael ei droi allan sydd sicr. Ni
amheuwyd hyn gan nac Eglwyswr nac
Ymneillduwr am fwy na chan' mlynedd
gwedi i'r peth ddigwydd. '■' Hysbysai y
Parch. Howell Davies ar gyhoedd yn
Nghapel Llangeitho, ddarfod i'r weithred
brofi yn flin i'r Esgob mewn canlyniad ; ei
fod mewn ing enaid oblegyd hyn ar ei
wely angau, ac iddo ddolefain: " Ymdrech-
ais yr ymdrech (ai yr ymdrech yn erbyn
Methodistiaeth a olygai ?), gorphenais fy
nghyrfa, ond collais fy enaid, ac yr wyf
bellach yn andwyol ! " A bu farw dan
gnofeydd cydwybod ofnadwy. Byddai
hyn, yn annibynol ar bob prawf arall, yn
ddigon o sicrwydd ddarfod i ddrysau yr
Eglwys gael eu cau yn erbyn Daniel
Rowland ; oblegyd yr oedd Howell Davies
ac yntau yn gyfeillion o'r fath fwyaf
mynwesol tra y buont ill dau byw ; ác yn
ychwanegol, yr oeddynt mewn cyfathrach
berthynasol, gan i Nathaniel, ail fab
Rowland, briodi merch Flowell Davies.
Rhaid felly fod amgylchiadau tröadRowtand
allan yn gwbl hysbys i Mr. Davies. Yr
oedd Rowland yn gweled yr ystorm yn
dyfod, ac yn parotoi i ymadael a'r Eglwys
Sefydledig. f " Difyr yw darllen," meddai
Dr. Lewis Edwards, " am y dull y Ilwydd-
odd yr hen ddiacon craffus o'r Dolau-bach
i gael allan brofion fod Rowdand yn
Ymneillduwr ewyllysgar. Nid oes un
ymresymiad cadarnach yn Euclid. Ond
er bod Rowland yn parotoi i ymadael,
tynodd yr Eglwys Sefydledig arni ei hun
yr anfri o'i droi allan. Os oedd y pechod
o sism yn gysylltiedig o gwbl a'r am-
* Ministerial RecorJs, tudal. 85.
t Traethodaii Llenijddol, tudal. 498.
DANIEL ROWLAND, LLANGEITHO.
55
gylchiad hwn, y mae yn rhaid mai yr
Esgob a'i trodd ef allan oedd yn euog ; ac
nid ydym yn gwybod nad yw yr euog-
rwydd hwnw yn gorwedd hyd heddyw ar
yr Eglwys o'r hon y cafodd ei ddiarddel."
Dyma Daniel Rowland bellach yn ddyn
rhydd. Nis gall yr Esgob bellach ymyr-
aeth ag ef, na chlerigwyr cenfigenllyd
gwahanol blwyfau Cymru ei niweidio a'u
hachwynion ; y mae at ei ryddid i bregethu
yr efengyl dragywyddol yn y lle a'r modd
a ddewisa, heb fod gan neb rith o hawl i'w
alw i gyfrif. Gwnaethid paratoadau yn
flaenorol i adeiladu capel helaeth iddo yr
ochr arall i afon Aeron, ac ar gongl pentref
Gwynfil, yr hwn yn aml a gamenwir yn
bentref Llangeitho ; yn awr gwnaed pob
brys i fyned yn mlaen a"r adeilad. Gwedi
ei orphen, gelwid ef " Yr Eglwys Newydd."
Yr oedd tua 45 troedfedd o hyd, yr un
faint o lôd, ac heb un oriel ; yr oedd y
pwlpud gyferbyn a'r drws yn mhen pellaf
y capel, a mynedfa iddo o'r cefn, fel na
fyddai raid i'r pregethwr ymwthio trwy y
gynullëidfa. Dyma lle y bu yn gweinidog-
aethu mwy hyd ddydd ei farwolaeth. Yr
oeddid wedi troi yr ysgubor cedd ar dir
Rowland, yn mha un yr arferid cadw seiadau,
yn fath o gapel yn mhell cyn hyny, yn yr hwn
yr arferai y cynghorwyr di-urddau bregethu.
Adeilad gwael a diaddurn oedd yr hen
ysgubor, ei muriau o bridd a chlai, a'i thô
yn gymysg o wellt a brwyn ; ac nid oedd
ei mesuriad ond rhyw ddeg llath o hyd
wrth chwech o led. Aeth yr ysgubor yn
rhy fach, trowyd hi yn dŷ anedd, a chyfod-
wyd capel bychan tua'r flwyddyn 1760,
ryw dair blynedd cyn diarddeUad Rowdand.
Muriau pridd a thô gwellt oedd i hwn eto,
ac yr oedd yn dra diaddurn. " Ty Seiat "
y gelwid y naiU a'r llall o"r rhai hyn.
Byddai Rowland yn y cyfarfodydd a gyn-
hehd ynddynt yn fynych, naill yn y gyfeiU-
ach grefyddol, neu yn gwrando'r cynghor-
wyr ; ond elai iddynt yn ddirgel, rhag i'w
elynion gael achlysur i achwyn arno wrth
yr Esgob. Dywed Edward Morgan, Eicer
Syston, ei fod mewn amgylchiadau cyfyng
wedi ei droi allan ; nad oedd ganddo ddim
at gynal ei wraig a'i blant ; ac nad oedd
gan y Methodistiaid yr adeg yma unrhyw
gynliun tuag at gynal eu pregethwyr. Er
prawf o hyn, adrodda ddarfod i Rowland,
yn fuan gwedi hyny, gerdded ar ei draed yr
holl ffcrdd i Landdowror, i ymgynghori a'r
Hybarch Griffìth Jones, ac nad oedd
ganddo i gynal natur ond teisen yn ei logell,
yr hon a fwytäi efe ar y ffordd, gan yfed
dwfr o'r ffynon i dori ei syched. Nis geill
yr ystori hon fod yn wir. Yn 1763, mor
bell ag y gwyddis, y diarddelwyd Rowland ;
ond yr oedd Griffìth Jones wedi marw yn
ngwanwyn y flwyddyn 1761, sef ddwy
flynedd cyn hyny. Yr oedd Daniel
Rowland wedi priodi i un o'r teuluoadd
goreu yn yr amgylchosdd, ac yr oedd Mrs.
Rowland yn cael ei chyfrif yn ddynes
" lew iawn," fel y dywedir yn Sir Aber-
teifi. " Teg ydyw dweyd," meddai y
Parch. John Hughes, " fod lle i feddwl
fod Rowland yn derbyn Uawer mwy
oddiwrth ei Fethodistiaeth nag y dywedir
ei fod oddiwrth ei guwradiaeth. Dywedir
y cymunai rhai miloedd yn Llangeitho bob
mis, cyn, ac ar ol ei droad allanj acarferol
ydoedd i'r cymunwyr gyfranu rhyw gym-
aint o'u heiddo ar ddiwedd y cymundsb.
Yr oedd Ilawer o honynt yn dlodion yn
ddiau ; ond yr oedd cryn nifer yn eu niysg
yn alluog, ac yn ewyllysgar i gyfranu yn
helaeth. Pa faint a allasai y cyfanswm
fod, sydd anmhosibl dweyd, ac afreidiol
ymofyn. Teilwng iawn i'r gweithiwr hwn
ei gyflog, pa faint bynag ydoedd. Yr oedd
arian y cymun, mewn amrywiol leoedd yr
oedd cyfranu ynddynt, heblaw Llangeitho,
yn cyrhaedd cryn swm.'" Ar yr un pryd,
nid 03S sail i dybio iddo ar unrhyw gyfnod
o'i oes fod yn gyfoethog, na bod casglu
arian yn amcan ganddo o gwbl.
Daeth y capel newydd bjllach yn gyrch-
fan y miloedd ; deuent yno o bob parth o"r
Dywysogaeth, a pharhaodd felly dros ystod
oes Rowland, ac am flynyddau lawer
wedi iddo farw. Elai yr holl wlad yno o
fewn cylch o rhyw bymtheg milldir, a deuai
tyrfaoedd yn rh^oludd bob Sul cymundeb
o eithafDcdd y Gogledd, ac o gyrau pellaf
y Dê. Am rai milldiroedd o gwmpas,
byddai yr holl dai yn Ilawn o ddyeithriaid.
Yn fynych, byddai dros bum' mil o bobl yn
bresenol. Gofalai yntau am fod gartref
ar Sul y cymundeb ; pregethai fath o
bregeth paratoad y Sadwrn blaenorol am
un-ar-ddeg yn y boreu, a chan amlaf byddai
rhai o'r gweinidogion dyeithr, neu o'r cyn-
ghorwyr, yn pregethu am dri yn y pryd-
nhawn. Yn gyffredin, cynorthwyid ef yn
y gwaith o gyfranu gan ddau neu dri o
weinidogion, ac weithiau gan saith neu
wyth. Dywedir fod y cynulliad yn Llan-
geitho yr adeg yma yn gyffelyb i ffair fawr ;
yr heolydd a'r ffyrdd yn dew o bobl, ond
heb ddim o derfysg a dadwrdd ffair ; yn
hytrach,yr oedd difrifwch tragywyddoldeb
yn eistedd ar wedd y dyrfa. Ni chanfyddid
56
Y TADAU METHODISTAIDD.
yno nac ysmaldod nac ysgafnder ; byddai
yr ieuanc a"r difeddwl, y rhai a ddaethent
i'r cyfarfodydd gyda'r dyrfa, neu i foddhau
chwilfrydedd, yn teimlo rhyw ddifrifwch yn
ymaflyd ynddynt. Y caeau oeddynt lawn-
ion o geíTylau y dyeithriaid, a gwelid
canoedd o anifeiHaid wedi eu cylymu yn
rhesi wrth y cloddiau. Symhyhad i"r
gwaith mawr a fu troad Rowland allan ;
rhyddhawyd ef o'i gadwynau ; daeth ei
weinidogaeth yn fwy nerthol, a lliosogodd
y tyrfaoedd a ddeuent i wrando arno.
Yr ydym wedi galw sylw at y nerthoedd
a arferent gyd-fyned a"i weinidogaeth ;
anaml y pregethai heb enill goruchafiaeth
ar ei wrandawyr ; trwy holl ystod ei oes
gwisgid ef a nerth o'r uchelder, ac arddelid
ef gan ei Arglwydd ; ond weithiau torai
allan yr hyn a elwid yn " ddiwygiad." Y
" diwygiad " oedd y tân dwyfol yn disgyn
gydag angerddolrwydd mwy na chyffredm,
nes gwneyd yr holl gynulleidfa yn fflam,
gan beri i'r drygionus grynu fel dail yr
aethnen, a llenwi geneuau y duwiohon a
sain cân a moliant. Nid oes yriom un
amheuaeth fod y diwygiadau hyn o Dduw ;
profir hyny yn ddiymwad gan eu fFrwyth.
Ofer eu beirniadu mewn yspryd cnawdol ;
nid oes gan gnawd hawl i eistedd mewn
barn ar waith Yspryd Duw. Cawn hanes
nifermawr o'rdiwygiadau hyn yn cychwyn
yn Llangeitho. Dechreuodd un cyn i
Rowland gael ei dori allan o'r Eglwys,
wrth ei fod yn darllen y Litani. Pan yn
myned tros y geiriau, " Trwy dy ddirfawr
ing a'th chwys gwaedlyd, trwy dy grôg a'th
ddyoddefaint,trwy dy werthfawrangau a'th
gladdedigaeth, &c., Gwared ni, Arglwydd
daionus," disgynodd rhyw ddylanwad
rhyfedd ar ei yspryd ; yr oedd ei dôn o'r
fath fwyaf toddedig, a'i lais yn crynu gan
deimlad ; enynodd y teimlad yn y gynull-
eidfa, cawsant hwythau olwg ar yr Hwn a
wanasant, a galarasant am dano fel un yn
galaru am ei gyntafanedig ; ond yn bur
fuan trodd y galar yn orfoledd annhraethol.
Ymdaenodd y diwygiad hwn trwy ranau
mawr o'r wlad. Torodd diwygiad arall
allan yn Llangeitho yn y flwyddyn 1762,
pan y daethai casgliad o hymnau WilUams,
Pantycelyn, a elwid " Môr o wydr " allan
o'r wasg. Wrth ganu yr hymnau ardderchog
hyn, y rhai ydynt mor llawn o syniadau
dyrchafedig ac efengylaidd, llanwyd eneid-
iau y bobl a mohant, ac ymdaenodd y
gorfoledd trwy y cymydogaethau o
gwmpas. Ond yn fuan wedi troad
Rowland allan, y cafwyd y diwygiad
mwyaf grymus, fel pe buasai yr
Arglwydd am ddatgan ei foddlonrwydd
mewn modd amlwg i wroldeb a
hunanymwadiad ei wâs. Gelwir ef y
" Diwygiadmawr,"oblegyd ymledodd trwy
y rhan fwyaf o'r Deheudir, a rhanau hel-
aeth o'r Gogledd, a bu yn foddion dwyn
miloedd at draed y Gwaredwr. Cofiai
Nathaniel Rowland am dano yn cychwyn,
pan yr oedd ei dad yn pregethu, ac fel hyn
yr adrodda yr hanes : " Yr oedd y tý fel pe
buasai wedi ei lenwi a rhyw elfen oruwch-
naturiol, a'r holl dorf wedi cael ei meddianu
a rhyw deimladau rhyfedd ; Ihfai y dagrau
dros wynebau canoedd, rhai o honynt yn
ddiau gan orlawnder tristwch, a rhai gan
orlawnder gorfoledd ; yr oedd rhai wedi eu
drylHo gan edifeirwch, ac eraiH yn
gorfoleddudanobaith gogoniant." Dywed
Nathaniel Rowland yn mhellach i'r goleu
yn yr odfa ddechreu tywynu trwy adnod
o'r Beibl : "I ti yr wyf yn diolch,
o Dad, Arglwydd nef a daear, am i
ti guddio y pethau hyn rhag y doethion
a'r rhai deaflus, a'u datguddio o honot
i rai bychain ; 'íe, o Dad, canys fefly
y rhyngodd bodd i ti." Disgynodd rhyw
daranfollt allan o'r geiriau i fysg y gynull-
eidfa ; dallwyd canoedd gan lewyrch y
dysgleirdeb ; yr oedd yr eífaith mor union-
gyrchol, pwerus, a gorchfygol, fel mai
ofer fyddai ceisio ei ddesgrifio. Dywedir
i'r diwygiad hwn fod yn foddion i iachau
llawer o'r teimladau dolurus a ganlynodd
yr ymraniad gofidus a gymerasai le rhwng
Rowland a Harris. Yr oedd yr effeithiau
oeddynt yn cydfyned a'r diwygiadau hyn
yn anhygoel ; syrthiai rhai mewn Ilewyg-
feydd ; torai eraill allan mewn ocheneidiau
a Ilefain, gan ddychrynfeydd ac ing
meddwl, fel pe y buasai y Barnwr wrth y
drws ; tra y clywid eraill drachefn yn tori
allan mewn mawl a gorfoledd, am eu
gwaredu megys o safn marwolaeth. Yr
adegau yma, byddai y bobl yn fynych yn _
dychwelyd adref o Langeitho, rhai ar
draed ac eraill ar geffylau, yn wŷr a
gwragedd, meibion a merched, dan ganu a
gorfoleddu, fel yr oedd eu s\Vn yn cael ei
gario yn mhell gyda'r awelon. Fel hyn eu
desgrifir gan WiIHams : —
" Mae'r torfeydd yn dycliwel adref,
Mewn rhyw yspryd llawen fryd,
Wedi tafiu Ìawr eu beichiau,
Oedd yn drymion iawn o hyd ;
Y ffyrdd niawr yn frith o werin,
Swn caniadau'r nefol Oen,
Nes mae'r creigiau oer a'r cymoedd
Yn adseinio'r hyfryd dôn."
DANIEL ROWLAND, LLANGEITHO.
57
Er gwaethaf Esgob Tyddewi a"r clerig-
wyr rhagfarnllyd ni adawyd Daniel
Rowland heb anrhydedd daearol. Tuag
amser ei droad allan gwnaed ef yn " Gaplan
i'r Dug o Leinster, un o anrhydeddusaf
Gyfrin Gynghor ei Fawrhydi yn nheyrnas
yr Iwerddon." Ni wyddis pa wasanaeth
a ddisgwyhd oddiwrtho yn y swyddogaeth
hon, ond tybir y dygai iddo ryw gymorth
sylweddol tuag at ei gynhaliaeth ef a'i
deuhi. Cynygiwyd iddo fywioHaeth Tref-
draeth, yn Sir Benfro, gan y dyngarwr,
John Thornton. Daethai Mr. Thornton
i wybod am dano trwy wraig o ardal
Llangeitho, yr hon, yn ol arfer llawer o
ferched Sir Aberteifi yr adeg hono, a
arferai fyned i Lundain yn ystod misoedd
yr hâf i chwynu gerddi. Cawsai waith yn
ngerddi y dyngarwr. Tra yno, elai bob
Sabbath i giywed Mr. Romaine, a chaffai
hyfrydwch dirfawr wrth ei wrando.
Dymunai hefyd gael ei glywed yn yr
wythnos, ac aeth at Mr. Thornton i ofyn
caniatad i adael ei gwaith ychydig yn
gynarach i'r pwrpas hwnw, gan addaw
codi yn foreuach dranoeth. i wneyd iawn
am y goUed. Gofynai yntau : " A ydych
yn hoffi pregethau Mr. Romaine ? "
" Ydwyf," meddai hithau, " y mae yn
gwneyd i mi gofio am Gymru, oblegyd y
mae gyda ni yno bregethwr heb ei fath."
Arweiniodd hyn y boneddwr i hoh hanes
Rowland, ac yn raddol daeth yn un o'i
gyfeilhon mwyaf mynwesoL Canlyniad y
cyfeillgarwch oedd cynyg iddo fywiohaeth
Trefdraeth ; ond pan glywodd y bobl yn
Líangeitho, llanwyd hwy a thristwch ;
cynullent yn Uuoedd i'w d_v, gan daer erfyn
arno am beidio eu gadaeì ; dadleuent mai
efe oedd eu tad, ac na fyddai neb ganddynt
i dori bara'r bywyd iddynt pe y cefnai efe.
A'u Uefau a orfu, penderfynodd Rowland
aros he yr ydoedd, ac ymddibynu ar
Raghmiaeth. Pan yr anfonodd ei bender-
fyniad, a'i resymau drosto, trwy law ei fab
i Mr. Thornton, atebai yntau : " Yr oedd
genyf feddwl mawr am eich tad o'r blaen,
ond y mae genyf fwy meddwl o hono yn
awr, er ei fod yn gwrthod y rhodd a
gynygiais. Y mae ei resymau dros hyny
yn anrhydedd iddo. Nid wyf yn arfer
gadael i eraiU wthio eu dwylaw i'm Uogell,
ond dywedwch wrth eich tad fod croesaw
iddo roddi ei hiw ynddi bryd bynag y
myno." Dywedir ddarfod iddo cyn hyny
wrthod bywiohaeth yn Ngogledd Cymru
yn holloi oblegyd yr un rhesymau.
Cawn gyfeirio yn nes yn mlaen at yr
ymraniad anhapus a gymerodd le rhwng
Rowland a Harris, a'r rhwyg a achoswyd
yn y Cyfundeb mewn canlyniad. Gwedi yr
ymraniad, Rowland aystyrid fel arweinydd ;
arno ef y disgynai yr holl ofal ; wrtho ef,
mewn undeba'i gyfaiU hoíf, Wilhams, Pant-
ycelyn, y disgwylid am gadw i fynu burdeb
mewn athrawiaeth a disgyblaeth. Nid
ysgôdd yntau y cyfrifoldeb a orphwysai
arno ; cymerai faich yr hoU eglwysi ar ei
ysgwyddau, ac nid bychan a fu ei drafferth-
ion. Nid yw yn ymddangos i'r heresi
Arminaidd beri fawr traffeth iddo ; yr oedd
gweinidogaeth y Diwygwyr Cymreig, o'r
dechreuad, yn drwyadl Galfinaidd. Ond
yn raddol aeth rhai o'r cynghorwyr i'r
eithafion cyferbyniol. Llyncodd un o
honynt y cyfeiliornad Sandemanaidd, sef
nad yw y ffydd sydd yn cyfiawnhau ond
cydsyniad noeth a gwirionedd yr efengyl.
Gwnaethai y cyfeiliornad yma ddifrod
dirfawr ar yr eglwysi yn Lloegr. * Yn awf,
yr oedd un Mr. Popkins, pregethwr tra
phoblogaidd, yn niyned o gwmpas, gan
gyhoeddi yr un syniadau yn mysg y Meth-
odistiaid. Gwnaeth y gẃr hwn lawer
o ofid i Rowland. O'r diwedd, dygwyd
ef i brawf mewn cymdeithasfa, cauwyd
ei enau yn hollol, ac ni flinwyd y
Cyfundeb ganddo mwyach. Trafaelodd
o gwmpas, gwedi ei fwrw allan, mor
belì a Sir Gaernarfon, er ceisio Hed-
aenu ei egwyddorion, ond aflwyddianus
hoUol a fu ei ymgais i enill canlynwyr.
Ni fuasai Sandemaniaeth wedi cael Ile i
osod ei throed i lawr yn Nghymru, oni bai
i Jones, o Ramoth, un o brif weinidogion y
Bedyddwyr, gael ei hudo ganddi ; parodd
hyn niwed dirfawr i gyfundeb y Bedydd-
wyr yn y Gogledd. Eithr denwyd amryw
gan yr heresi Antinomaidd, y rhai a
arweinient fywyd penrhydd, ac a wnaent
ras Duw yn achlysur i'r cnawd. Yn mysg
y rhai hyn yr oedd im o'r enw David Jones,
pregethwr o ddoniau mawr, ac yn dra phob-
Ìogaidd trwy Ddê a Gogledd, yr hwn hefyd
oedd yn nai i Rowland ei hun. Aeth y gŵr
hwn yn falch ac yn annyoddefol ,o hunanol.
Ni phetrusai wrthwynebu Rowland a
Williams yn gyhoeddus mewn cymdeith-
asfa ; pan y pwysleisient hwy ar yr angen-
rheidrwydd am edifeirwch, a sancteidd-
rwyddbuchedd,dywedaiyntau: " Morddall
a deddfol ydych ; nid ydych fel pe baech
Mínisterial liccords.
58
y TADAU METHODISTAIDD.
yn deall yr efengyl." Vr oedd llu yn
tueddu i'w ganlyn, ac ofnid i'r hoU wlad
fyned ar ei ol. O'r diwedd, penderfynodd
Rowland ei fod naill ai i roddi heibio ei
olygiadau Antinomaidd, neu i gael ei
ddiarddel o'r Cyfundeb ; yr oedd yntau yn
rhy warsyth i blygu, a'i ddiarddel a gafodd.
Tybiodd, yn ei ffolineb, y gallai ddyfod yn
sylfaenydd plaid grefyddol ; ond "pan aeth
ogwnipas,gwedi ei ddiarddehad, gan geisio
casglu canlynwyr, ni chafodd nemawr i
lynu wrtho, ac ni arhosodd y rhai hyny
gydag ef ond am ychydig. Yn y diwedd,
gadawyd ef gan bawb, fel halen wedi coUi
ei halltrwydd. Bu gwroldeb Rowland yn
gweinyddu disgyblaeth ar Popkins a D.
Jones yn llesiol i'r lleill, a dueddent i'r
unrhyw gyfeiHornad ; dychwelasant at
symledd yr efengyl, gan ofyn maddeuant
am y bhnder oeddynt wedi beri. Yr oedd
yntau o yspryd nodedig o faddeugar. Ond
adroddir i un pregethwr tra phoblogaidd,
oedd wedi teithio cryn lawer yn Ngogledd
Cymru, gan bregethu syniadau Antinom-
aidd, gael ei osod tan ddisgyblaeth boenus
iddo. Parwyd iddo ddychwelyd trwy yr
holl eghvysi, a pha rai yr ymwelasai yn
flaenorol, gan dynuyn ol ei gyfeihornadau,
ac addef ei fai a"i gamgymeriad; yr hyn a
wnaeth yntau gyda pharodrwydd. At hyn
y cyfeirir yn ei farwnad : —
" Ac fe wibiodd amryw ddynion,
Rhai ar aswy, ihai ar ddê ;
Ond fe gadwodd arfaeth nefol
Rowland onest yn ei le ;
A phwy bynag gyfeiliornai
0 wiw Iwybrau dwyfol ras,
Fe ddatguddiai 'u cyfeiliornad,
Hyd nes gwelai pawb hwy'n gas."
Cawsom gyfleusdra i ymddiddan ag
amryw hen bobl yn nghymydogaeth Llan-
geitho oedd yn coíìo Rowland yn dda, yn
arbenig a David Jones, yr hen flaenor
duwiol o'r Dolau-bach. Darlunient ef fel
dyn cymharol fychan o gorffolaeth, cyflym
ar ei droed, a chwimwth ei ysgogiadau.
Dywed Dr. Owen Thomas fod y darlun o
hono, a dynwyd ychydig cyn ei farwolaeth,
ac a gyhoeddwyd yn mhen mis wedi ei gladd-
edigaeth, gan R. Bowyer — gyda'r talcen
llydan, uchel, llawn, yr aehaubwaog, y llyg-
aid treiddgar, y trwyn Rhufeinig, y genau
llydan, y gwefusau teneuon, a'r ymddan-
gosiad penderfynol — yn un tra chywir.
Darfu iddo ef adnabod merch iddo yn
Llandilo Fawr, pan ar daith ddirwestol yn
y Deheubarth yn y flwyddyn 1837, wrth y
darhm hwn, er na wyddai ar y pryd fod
un ferch wedi bod gan Rowland erioed, a
llai fyth fod merch idtlo yn fyw y pryd
hyny. Trwy gryn anhawsder y cafwyd
cymeryd ei hm. " Nid wyf fi ond telpyn
o glai fy hun.in," meddai. A thra yr oedd
yr arhmydd wrth ei orchwyl, dywèdai
drosodd a throsodd : " Ow ! Ow ! tynu
llun hen bechadur tlawd ! " Fel y rhan
fwyaf o'r prif areithwyr, yr oedd yn dra
neruoHS ; pan y gwelai y bobl yn ymdaith
wrth y canoedd tros y bryniau cyfagos, ac
yn ymdywaUt i ddyffryn cul Aeron, er
mwyn gwrando arno, byddai ef yn crynu
trwyddo gan ofn yn aml, ac yn arswydo
eu gwynebu yn y capeL Dywedai wrtho
ei hun yn uchel : " Yr Arglwydd a
drugarhao wrthyf, bryfyn distadl, llwch a
Uudw pechadurus." Treuhai lawer wyth-
nos mewn pryder poenus gyda golwg ar ei
bregetli y Sul dilynol ; pan y deuai boreu
y Sabbath, dywedai wrth ei hen was ei fod
yn ofni na fedrai bregethu ; ond meddai
hwnw : " Wedi ei gael i'r pwlpud ni a
wyddem fod pob peth yn iawn ; eniUai
nerth yn raddol, byddai ei eiriau fel
fflachiad meUten yn cyniwair trwy y
gynulleidfa oddi ahan ac oddi mewn ;
oblegyd yn gyffredin byddai mwy y tu
allan nag yn y capel, a byddai yr effeithiau
arnynt yn rhyfedd." Weithiau teimhii
adgyfnerthiad i'w yspryd wrth weled y
tyrfaoedd, a chlywed swn eu caniadau.
Yr oedd ffynon tua dwy fiUdir yn uwch i
fynu na Llangeitho ; yno yr ymgasglai yr
ymdeithwyr wrth y canoedd i fwyta eu
tamaid bara a chaws, ac i ddrachtio y
dwfr; wedi i natur gael ei hadfywio,
canent emyn, a than ganu y disgynent yn
fynych ar hyd llechweddau y dyffryn. Yn
y cyfamser cerddai yntau yn gyflym ar
hyd lan yr afon a'i feddwl mewn pryder ;
ond wrth glywed y swn codai ei ben i fynu
yn sydyn, a dywedai, gyda gwen : " Dyma
nhw'n dod, gan ddwyn y nefoedd gyda
hwy."
Yr oedd holl elfenau y gwir bregethwr
wedi cyfarfod yn Daniel Rowland. Meddai
lais o'r fath oreu ; hais treiddgar, chr, yn
medru cyniwair yn hawdd hyd gyrau
pehaf cynuUeidfa o ugain miL Dywed rhai
na fyddai yn bloeddio, er y siaradai yn
gyffredin gydag yni mawr. Ond tystiai
hen bobl Llangeitho fel araU, a dywedai ei
hen forwyn y gorfyddai iddo newid ei
grys ar ol yr odfa, gan fel y byddai wedi
chwysu. Medrai ei lais arddangos pob
math o deimlad, a phan yn traethu
gwirioneddau tyner yr efengyl, byddai
melusdra ei acenion yn orchfygoL Yr oedd
DANIEL ROWLAND, LLANGEITHO.
59
ei gynefindra rhyfedd a'r Beibl yn peri fod
ganddo gawell saetliau o'r fath oreu wrth
ei benehn yn wastad ; ni fyddai ei gôf byth
yn pallu pan y dymunai ddifynu adran o'r
Ysgrythyr ; byddai yr adnod wrth law
ganddo yn ddieithriad, a hono yr adnod
gymhwysaf i'r mater. Meddai ddychymyg
beiddgarachryf, yr hwn abarai :'r amgylch-
iadau a fyddai yn ddarlunio ymrithio yn ddel-
Aveddau byw o flaen ei Iygaid. Pan yn
pregethu unwaith yn Llancwnlle ar ddyodd-
efiadau y Gwaredwr, teimlodd fel pe bai
lesu Grist dan ei glwyfau a'i gleisiau yn
bersonol ger ei fron, a gwaeddodd allan,
" O wyneb glaswyn ! O wthienau gw^eigion !
O gefn drylliedig," nes yr oedd y dylanwad
arno ef ei hun, ac ar y gynulleidfa yn
mron yn Ilethol. Yr oedd ei deimladau yn
danbaid ac yn gryfion. Dywedai un a'i
hadweinai fod ganddo ddigon o deimlad-
aeth [aiìimal spirits) i haner dwsin o ddyn-
ion. Felly, hebíaw fod ei ddeall yn
nodedig o gyflym a chlir, a'i grebwyll yn
fí^rwythlawn mewn meddylddrychau, yr
oedd grym ei deimladaeth yn rhoddi
adenydd i'w eiriau, ac yn peri eu bcd yn
Ilawn tân. A thynai ysprydoliaeth o
bresenoldeb cynulleidfa ; byddai dcd
wyneb yn wyneb a thorf yn ei gyffiroi
drwyddo ; a byddai y cyfryw gyfi"ro nid yn
ei ddyrysu, ond yn grymysu pob cyneddf a
feddai, fel yr oedd ei ddeall yn fwy bywiog,
a'i grebwyll yn fwy cynyrchiol, a gwresog-
rwydd ei yspryd yn gryfach nag ar unrhyw
adeg arall. Efallai mai yn y pwlpud, yn
nylanwad yr ysprydoliaeth a sugnai oddi-
wrth ei wrandawyr, y deuai o hyd i'r perlau
dysgleiriaf a ddisgynai dros ei wefusau.
Ac yn goron ar y cyfan, arddelid ef gan
Yspryd Duw mewn modd neillduol yn
mron trwy holl gydol ei oes, Pan y dis-
gynai y dylanwadau nefol arno byddai fel
Ilosg-fynydd mawr, yn arllwys allan o'i
ymysgaroedd ffrydiau o hylif tanllyd, fel
nad oedd yn ddichon i gnawd sefyll o'i
flaen. Byrion oedd ei bregethau fel rheol,
rhyw haner awr neu ddeugain mynyd o
bellaf, ond ar rai achlysuron, anghofiai ei
hunan yn gyfangwbl, a phregethai am dair
neu bedair awr. Adroddir am un tro
arbenig, pan yr cedd ef a"i wrandawyr
wedi ymgolli mewn mwynhâd, fel na
wyddent ddim am amser, ínai wrth weled
yr haul yn pelydru i mewn trwy y pen
gorllewinol i'r eglwys, yíi arwydd fod y
dydd yn tynu at ei derfyn, y deallasant feith-
der yr adeg yr oedd yr odfa wedi para. Yr
oedd ei deimladaeth ysprydol yn nodedig o
fyw. Mewn cymdeithasfa unwaith, yr cedd
yr odfaeon wedi bod yn bur galed ; yr cedd
off"eiriad wedi pregrethu yn dra marwaidd
am ddeg o'r gloch y prif ddiwrnod, a
Rowland i sefyll o flaen y dorf ar ei ol.
Teimlodd nas gallai lefaru heb fedru cyn-
hesu yr hinsawdd rywsut yn gyntaf.
Galwcdd ar hen gynghorwr duwiol, enwog
am fyrdra a nerth ei weddîau, Dafydd
Hugh, Pwllymarch, i fyned am fynyd i
weddi, " dim ond mynyd," meddai. Gyda'r
gair, yr oedd yr hen gynghorwr yn anerch
yr orsedd : " Arglwydd lesu, er mwyn dy
waed a'th ing, gwrando fi. Y mae dy
weision wedi bod yma yn ceisio nithio y
prydnhawn ddoe, a'r boreu heddyw ; ond
yn ofer,, Arglwydd ; nid oes yr un chwâ o
wynt wedi chwythu arnom o'r dechreu. Y
gwynt, Arglwydd ! Y gwynt, Arglwydd
grasol \ Oblegyd yn dy ddwrn di y mae y
gwynt yn awr ac erioed, Amen." Daeth
tòn o deimlad drcs y gynulleidfa ; chwyth-
odd yr awel falmaidd nes sirioli ac adfywio
pawb, a phregethcdd g\Vr Duw^ gyda nerth
a dylanwad anorchfygol.
Siaredir weithiau fel pe byddai nerth
Daniel Rowland yn gynwysedig yn gyfan-
gwbl yn ei areithyddiaeth, ac nad oedd ei
bregethau, ar wahan cddi wrtho ef, ond
cyfansoddiadau digon cyíîredin. Y mae
hyn yn gamgymeriad hollol. Y mae ei
bregethau a gyhoeddwyd yn awr ger ein
bron, ac y maent mewn gwirionedd yn
ardderchog, yn llawn mater, ac wedi eu
cordeddu a difyniadau allan o'r Beibl.
Puritanaidd ydynt o ran nodwedd, a
ncdedig o Ysgrythyrcl ; ac y maent yn
dryfrith o'r cymhariaethau mwyaf cyffrous
a swyncl. Eid sicr, yr oedd hyawdledd a
chyffro enaid y pregethwr yn ychwanegu
at eu heffeithiolrwydd ; ond ar eu penau
eu hunain byddai yn anhawdd cael dim
mtwn unrhyw iaith yn rhagori arnynt.
Cymerer y difyniad canlynol o " Newydd
Da i'r Cenhedloedd." Cyfeiria at y
doethion wedi myned i Jerusalem i chwilio
am y Mab bychan yn Ile i Bethlehem :
" Nid trwy dywysogaeth y seren y daeth-
ant yno, ond trwy dywysiad eu rhesymau
eu hunain. Tybiasant, gan mai Caer-
salem cedd prif ddinas y deyrnas, ac
eisteddfcd brenhinoedd, y byddent yn sicr
o glywed yno am enedigaeth Crist.
Dilynasant, meddaf, ddyncl resymau, am
hyny, nis cawsant yr lesu. Nis gellir ei
gael cf ond wrth ei oleuni a'i gyfarwydd-
iadau ei hun. Rheswm yn wir sydd
roddiad daionus, ac o'r gwaed brenhinol ;
6o
Y TADAU METHODISTAIDD.
eto, fel Mephiboseth, mae yn gloff o'r
ddwy droed. Ni ddaethai hwnw byth at
Dafydd nes cael ei gario ryw ffordd neu
gilydd ; am hyny, da y gwnaeth Dafydd
ddyfod ato ef. Felly, rheswm sydd yn
dymuno marwolaeth yr uniawn, ac yn
canfod daioni ac yn ei ganmol, ond byth
nid yw yn ei ddilyn, ac nis gwna hyd oni
lusgir ef : ' Ni ddichon neb ddyfod ataf fi,
oddieithr i'r Tad, yr hwn a'm hanfonodd,
ei dynu ef.' Cyhyd ag y dilynasant y
seren y gwnaethant yn dda ; pan adawsant
y seren, ac y dilynasant eu rheswm eu
hunain, y gwnaethant yn ddrw^g. Dilyned y
dyn dall ei arweinydd, serch gorfod myned
trwy ddrain a mieri, trwy ddyffrynoedd a
thros fynyddoedd ; ymddirieded i olygon
eraill, gan nad all weled ei hun. Yr ydym
bawb yn ddeilhon wrth natur, ac o dosturi
atom y danfonodd Crist y Diddanydd
i'n harwain." Cymerer eto ddifyniad o'r
un bregeth, yr hon sydd yn llawm o'r
cyffelyb berlau : " Trueni yw meddwl
leied gwerth a wel rhai yn yr Arglwydd
lesu ; ni ddeuant o'r tai nesaf i ymofyn
am ei wyneb. Pa mor bell yr à rhai i
farchnad pan fyddo angenrheidiau y corph
yn palhi ? Mae eneidiau llawer wedi hir
ddyoddef heb eu diwaUu. Mae arnaf
chwant dadleu dros eich eneidiau, a llefain
am gael tamaid o fara iddynt, o'r fan
lleiaf unwaith yn yr wythnos. Pe y caent
ond hyny, mi a ddisgwyhwn iddynt
gryfhau, ac ymorol am lawer yn ych-
waneg. Deuai y doethion ychwaneg o
fiUdiroedd nag y deuwch chwi o gamrau.
Gwrthddadl ; pe y gallech ei ddangos
i ni, byddem foddlawn iawn i ddyfod.
Chwi a ellwch gael ei weled ef, ac yn fwy
gogoneddus nag y gwelodd y doethion eí.
Yr ydym yn dangos Crist i chwi yn
ngwyneb yr efengyl, nid i lygaid y corph,
ond i"r enaid ; nid yn gorwedd yn y preseb,
nac yn gweddío ar y mynydd, nac yn
gwaedu yn yr ardd, nac yn marw ar y
groes, ond yn eistedd ar ei orsedd yn
ogoneddus yn y nef. Pe deuai un i ystafell
olygus, a bod ynddi lawer o luniau pryd-
weddol, os bydd lleni neu gorteni (curtains)
drostynt, ni all neb weled yr un o honynt ;
ond pe y tynai un y Ileni ymaith, byddai yn
hawdd iawn eu canfod. Felly y mae
ymddangosiad Crist yn ngwyneb yr efengyl ;
ond y mae llen rhwng rhai a hwynt ;
gorchudd ar eu Ilygaid, fel na welant. O !
gweddîwch am rwygo'r llen, a thynu
ymaith y gorchudd ; yna y gwelwch
ardderchawgrwydd yr Arglwydd lesu yn
ei gynulleidfaoedd." Gallasem ychwanegu
sylwadau pert o'r fath yma, yn dynodi
crebwyll o'r radd uchaf, yn ddiderfyn
braidd, ond rhaid i ni ymfoddloni ar un
difyniad ychwanegol. Y mae allan o'r
bregeth, " Crist oll yn oll." Mater y pre-
gethwr y w dangos cymh wysder yr Arglwydd
lesu, fel eneiniedig y Tad, i fod yn lach-
awdwr. " Nid gwan ydoedd, eithr galluog
i waith y prynedigaeth. Yn Esaiah iii. 7,
y dywedir, ' Na osodwch fi yn dywysog ;
ni byddaf iachäwr ; canys yn fy nhŷ nid oes
fwyd na dillad.' Cymhwysfod tywysogion
yn gyfoethog ; ni wnabegeriaidondgwancu
meddianau eu deiliaid. Ni allasai Crist
ddywedyd felly (fel y g\Vr yn Esaiah),
o herwydd efe a addaswyd a phob gras a
dawn angenrheidiol i'r gorchwyl yr
appwyntiwyd ef iddo ; Salni Ixxxix. 19.
Yna, gwelwn nad ar wànŵr y rhoed y cym-
horth, un ag a lewygai dan ei faich ; nage,
nage, ond un galluog, ië, hollalluog, i fyned
trwy eiorchwyl. Megysy cyfododdSamson
haner nos, ac y cariodd byrth Gaza i ben
bryn uchel rai milltiroedd o'r dref; felly
lesu, y Cadarn, a gododd o angau, ac a
gariodd byrth uffern a marwolaeth, ac a
esgynodd i'r nef. Obaherwyddydywedir,
' Efe a ddichon yn gwbl iachau y rhai
trwyddo ef sydd yn dyfod at Dduw, gan ei
fod yn byw bob amser i eiriol drostynt
hwy.' Nid ydym yn dyfod at un egwan,
fel at yr archoffeiriad gynt ; eithr at im
cadarn, un etholedig o'r bobl. Wele fawr
gysuri bob credadyn gwan, fod ei Arglwydd
yn alluog i orphen y gwaith a ddechreuodd.
Cysur y gwahanglwyfus oedd, ' Os myni,
ti a elli fy nglanhau i.' Enaid, y mae
genyt Dduw ag y tâl ymddiried ynddo, y
mae mor Ilawn o ewyllys ag yw efe o allu
i"th iachau. Gan ei fod yn hollalluog,
gorphwyswn ar, ac ymddiriedwn yn ei
allu ef. Rheded dynion fel y mynont,
yma ac acw i mofyn cymorth, nid oes neb
a ddichon eu cynorthw'yo ond efe. Yn
mha galedi bynag y byddom, pwyswn arno
ef; efe a all gadw Noah mewn arch o
goed ; yr un ffunud y ceidw efe Moses
mewn arch o frwyn. Gwel Esaiah xviii. 2 :
' Efe a hebrwng genhadau hyd y môrmewn
Ilestri brwyn.' Efe a wared trwy foddion,
heb foddion, yn wrthwyneb i foddion, a
goruwch moddion." Anmhosibl darllen y
difyniadau uchod heb deimlo ardderch-
awgrwydd y mater. Ar yr un pryd, rhaid
addef fod nerth teimlad, a gwresawgrwydd
yspryd y pregethwr, yn ychwanegu yn
fawr at eu grym.
DANIEL ROWLAND, LLANGEITHO.
6i
Y mae Ilawer o ddywediadau pert
Rowland, yn gyhoeddus ac yn breifat,
ẃedi cael eu cadw yn nghôf hen bobl.
Dywedai unwaith wrth athrodwr : " Yr
wyt ti, ddyn, yn dweyd fod yn rhaid dat-
guddio a hêl pechodau ; am eu bod yn rhy
aml yn yr eglwys, na ddyhd eu cuddio.
Pwylla, ddyn. Pwy wyt ti ? Yr wyf yn
meddwl fy mod yn adnabod dy deulu, a'th
frawd hynaf, sef Cam, mab Noah. Ei
ddau frawd a ddymunent guddio noethni
eu tad ; ond nid oedd efe dros hyny. Pa
wobr a gawsant hwy am eu gwaith o
guddio ? Bendith Duw a'u tad. Beth a
gafodd dy frawd di ? Melldith gan Dduw
a'i dad. Diameu genyf na fydd dy wobr
dithau ddim gweU." I ragíìaenu disgybl-
aeth ry lem, dywedodd unwaith fel hyn :
" Mae disgyblaeth yr efengyl yn debyg i
gribyn aur, yn tynu ac yn cynull y cwbl
ati, er achles ac amddifîyniad, ac nid fel
fforch, sydd yn taflu ymaith ac yn
gwasgaru."
Y mae yn amheus a gyfndodd Duw,
oddiar ddyddiau yr apostoUon, y fath
bregethwr a Daniel Rowland, ac yn
meddu y fath gymhwysderau ar gyfer y
pwlpud. Barn ddiamwys bron bawb a'i
clywsant, ac yn eu mysg cawn dystiolaeth
personau o ddysgeidiaeth uchel, na wran-
dawsant ar neb wedi ei ddonio i'r un
graddau. Yr oedd fel Saul yn eu gohvg,
yn uwch o'i ysgwyddau na phawb.
Meddai Howell Harris, mewn llythyr ag y
difynwyd rhan o hono yn barod : " Y mae
yr Arglwydd gydag ef (Daniel Rowland)
yn y fath fodd, fel yr wyf yn credu bod y
ddraig yn crynu y ffordd y cerddo. Er fy
mod yn awr wedi cael y fraint o glywed a
darllen gwaith llawer o enwogion Duw,
nid wyf yn gwybod, mor bell ag y gallaf
farnu, i mi adnabod neb wedi ei fendithio
yn y fath fodd a doniau a nerth ; y fath
oleuni treiddgar i yspryd yr Ysgrythyrau,
i osod allan ddirgehvch duwioldeb a
gogoniant Crist. Ac er iddo yn fynych
gael ei gyhuddo o gyfeihornadau, eto mae
yr Yspryd tragywyddol wedi ei dywys yn
y fath fodd i'r holl wirionedd, a'i gadw
felly rhag syrthio i unrhyw gyfeihornad,
CAPKL LLANGKITHO A'R GOFGOLOFN.
62
y TADAU METHODISrAIDD.
fel y mae ei weinidogaeth, yr wyf yn
credu, yn un o'r bendithion mwyaf y mae
eglwys Dduw yn y parth hwn yn eu
mwynhau." Yr oedd Harris, pan yn
ysgrifenu fel hyn, wedi gwrandaw prif
bregethwyr Cymru a Lloegr ; clywsai
Griffith Jones, a Whiteíìeld, a'r ddau
Wesley, a'r enwogion eraill a gyfodasent
yn yr 02s ryfedd hono ; ond yn ei farn ef
nid osdd un o honynt wedi ei ddonio yn
gyíìfelyb i Rowland.
Cyffelyb y barnai ac y dywedai Alr.
Charles o'r Bala, a gwyddis pa mor
bwyllog a chymedrol ei ymadroddion oedd
efe. Yn y Diysorfa ysgrifena fel y canlyn :
■■ " Yr oedd ucheledd a phob rhagor-
iaethau yn noniau Mr. D. Rowland,
dyfnder defnyddiau, grym a phereidd-dra
llais, ac eglurdeb a bywiogrwydd yn
traddodi dyfnion bethau Duw, er syndod
a'r effeithioldeb mwyaf ar ei wrandawyr."
Eto, yn yr ymddiddan rhwng Scrutator a
Senex, dywed Senex : i " Yr oedd gweini-
dogaeth y g\Vr hwn, fel y gwyddoch, yn
ardderchawg dros ben, ac yn rhagori yn ei
mawredd a'i hawdurdod ar neb a glywais
erioed." Eto, l "-Yr oedd doniau ac ar-
ddehad Mr. Rowland y fath nas dichon
gwrandawyr yr oes bresencl gynwys dim
amgyffred am danynt. Cyffeîybais ef yn
aml yn fy meddwl i'r Tachmoniad hwnw
yn mhlith cedyrn Dafydd ; efe oedd benaf
o"r tri ; ac er godidoced oedd y lleill, eto,
ni chyrhaeddasant y tri chyntaf. O
rhyfedd y fath awdurdod a dysgleirdeb
oedd gyda ei weinidogaeth, a'r modd
rhyfedd yr effeithiai ar y gwrandawyr !
Gwedi gwrando pregeth neu ddwy ganddo,
ai y werin i'w hamrywiol deithiau meith-
ion, yn llon eu meddwl, ac yn ddiolchgar
i'r Arglwydd am ei ddawn annrhaethol."
Meddai Mr. Charles am dano unwaith,
Avrth geisio ei ddarlunio i gyfaiU o Sais :
" Pregethai Rowland edifeirwch, nes y
byddai dynion yn edifarhau ; pregethai
ffydd nes y byddai dynion yn credu.
Darluniai bechod mor wrthun nes psri
casineb ato ; a Christ mor ogoneddus nes
peri dewisiad o hono." Mewn llythyr a
ysgrifenodd yn y flwyddyn 1780, at yr hon
a ddaeth wedi hyny yn wraig iddo, dywed :
" Yr wyf yn credu fel chwithau, nid yn
unig fod y Bala bach, ond hefyd Cymru,
* Llyfr Cvntaf, tndal. 103.
t Ih'id, tudal. 136.
\ Ibid, tudal. 137.
yn dra breintiedig. Y mae y cenad oed-
ranus hwnw i Frenin y Gogoniant, Daniel
Rowland, yn anrhydedd bythol iddi, ac efe
a fydd felly. Anaml y gallaf grybwyll am
dano mewn ymadroddion cymhedrol. Yr
wyf yn ei garu yn fawr, fel fy nhad yn
Nghrist ; ac nid heb reswm, oblegyd iddo
ef, tan fendith Duw, yr wyf yn ddyledus
am gymaint o oleuni a phrofìad a feddaf o'r
iachawdwriaeth ogoneddus trwy Grist."
Byddai yn anhawdd defnyddio ymadroddion
cryfach, a phan y cofir eu bod yn dyfod
oddiwrth Mr. Charles, amlwg y rhaid eu
cymeryd yn eu llawn ystyr.
Yn gyffelyb y tystiolaetha ]\Ir. Jones,
Llangan. Mewn llythyr o'i eiddo at
yr larlles Huntington, dyddiedig, Peny-
bont, Mai 14, 1773, efe a ddywed :
i " Buasai yn wir dda genym eich gweled
yn ein cymdeithasfa. Yr ydoedd mewn
gwirionedd yn ddiwrnod tra arbenig. Cyf-
lawnodd yr Arglwydd lesu ei addewid
werthfawr i'w weision, ' Wele, yr wyf fi
gyda chwi.' Yr oedd gallu mawr oddi
uchod yn cydfyned a'r gair a bregethid.
Aeth llawer adref i'w cartref yn llawen ; a
phwy na lawenhai wrth weled Tywysog
ein Hiachawdwriaeth ei hunan yn ymddan-
gos ar faes y frwydr, ac yn sicrhau i
galonau ei bobl druain, y byddai iddo ef
fuddugoliaethu ynddynt a throstynt ? Yr
wyf yn hyderu fod rhai diofal wedi eu
dwysbigo yn eu calon. Pregethodd Mr.
Rowland yr ail bregeth yn y boreu, oddiar
Actau ix. 4 : ' Ac efe a syrthiodd ar y
ddaear, ac a glybu lais yn dywedyd wrtho,
Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erhd i ? ''
Pregethodd Mr. William Wilhams o'i
flaen ef. Ni a gawsom ddwy bregeth
hefyd yn y prydnhawn. Y gyntaf gan Mr.
William Llwyd (o Gaio), pregethwr di-
urddau, a'r ail gan Mr. Peter Wilhams.
Gwnaeth rhai o'r bobl i'n tref fechan
adsain ' Gogoniant i Fab Dafydd,' ' Hosana
trwyr nefoedd,'' ' Hosana hefyd trwy'r ddaear,'
Amen, Amen. Y mae digon yn eich cyr-
haedd i gyfieithu y geiriau Cymraegichwi.
Pregethodd Mr.Rowland, y dydd canlynol,
mewn tref fechan, ryw ddeuddeg milltir
i'r gorllewin i ni ; lle y cafodd odfa felus
mewn gwirionedd. Llefarodd yn rhyf-
eddol am Abraham yn dyrsJtafu ei lygaid
ac yn edrych, Genesis xxii. 13. Ni chlywais
y fath bregeth erioed o'r blaen. Yn
sicr, efe yw y pregethwr mwyaf yn Ewrob.
g Tìie Life and Timcs of Selina, Countcss of
Huntington, Cyf. II., tudal. 118.
DANIEL ROWLAND, LLANGEITHO.
63
Bydded i'r Arglwydd ei arddel fwy-fwy.
Yr oedd y dref fechan hono hefyd yn
adseinio ' Gogoniant.' Parha, fendigedig
lesu, i farchog yn llwyddianus trwy ein
gwlad. Llanw eni calonau oerion a'th
gariad, ac yna ni a"th fohanwn di o fôr i
fôr."
Yr oedd gan yr Hybarch Grifíìths,
Ne\ern, y syniadau uchaf am Rowland fel
píegethwr. '■' " Yr oedd y pregethwr
niawr hwn," meddai, " yn ei weinidogaeth
gyhoeddus, yn gyffelyb i ymchwydd ac
ymdoriad tònau y môr, pan fyddo y gwynt
yn cynhyrfu mynwes yr eigion. Deuai
nerth oll-orchfygol dylanwad yr Yspryd yn
mlaen yn raddol, fel tòn y môr, gan gyn-
yddu fwy-fwy. Dechreuai ei bregeth yn
dawel, ond fel yr elai yn mlaen, cynyddai
ei fater a'i ardduh mewn dyddordeb.
Byddai ei gynulleidfa, yx hon oedd yn
wastad yn anferth o fawr, yn dwys syllu
arno, gyda llygaid yn dysgleirio fel sêr, gan
sylwi arno gyda phleser wrth ei fod yn
myned rhagddo mewn modd mor ardder-
chog. Dygid eu meddyliau a'u teimladau
yn mlaen gydag ef yn y modd mwyaf
nerthol a melus, gan fod wedi eu cyíîroi i
radd uchel o gynhyrfiad crefyddol, nes yn
mhen enyd y cyrhaeddai ei hyawdledd ei
uchaf-bwynt ; acyna ymdoraiei hyawdledd,
dan y dylanwadau dwyfol, mewn ardderch-
awgrwydd, fel ymchwydd y dòn, gan Iwyr
orchfygu y dyrfa fawr yn y modd mwyaf
rhyfedd. Y pryd hwn, byddai angerddol-
rwydd eu teimladau yn cael gradd o
ryddhad mewn bloeddiadau o ' Haleliwia,' a
' Bendigedig fyddo Duw.' Arafa y pre-
gethwr ; rhydd seibiant i'r gynuUeidfa i
twynhau y wledd ; yn wir, ni chlywsid ei
lais pe yr elai yn ei íîaen. Yr oedd yn
angenrheidiol hefyd i'w brwdaniaeth gael
pasio, er eu cymhwyso i wrando ar y
gweddill o'r bregeth gyda budd. Felly
ceisiant gadw eu teimladau danodd, ac
ymdawelu, gan eu bod yn awyddus am
fwynhau y danteithion a arlwyid ger eu
bron gan genhadwr rhyfedd y nefoedd, yr
hwn oedd wedi cael ei ddonio mor arbenig.
Dechreua yntau adran arall o'i bregeth yn
bwyllog a thawel, gan ymddyrchafu yn
raddol, fel tòn arall o'r môr, i uchder
gogoneddus mewn syniadau a theimladau,
y rhai ydynt \\\x a naturiol effeithiau syn-
iadau efengylaidd, a dylanwad yr Yspryd.
Tan addysgiant Yspryd Duw, cynyrcha y
rhai hyn eu cyffelyb yn y gwrandawyr. Y
* Ministerial Records.
maent yn crogi wrth ei wefusau ; gwyliant
bob ysgogiad o'i eiddo, gan eu bod yn
gwybod oddiwrth ei fater a'i ddullwedd
fod ymdoriad gerllaw. Ei lais yntau, a
gwedd ei wyneb, sydd yn cyfnewid, cyn-
ydda ei ymresymiad mewn nerth, ac yna
dyna ei hyawdledd efengylaidd yn ymdori
fel ymchwydd y dòn drachefn. Ar hyn y
mae y gynulleidfa yn cael ei gorchfygu gan
ei theimladau unwaith eto, ac yn tori allan
mewn Ilefau uchel, ' Hosanai FabDafydd.'
Yr oedd arddull, Ilais, ac osgo y dyn mawr
hwn, ar adegau o'r fath, yn anarluniadwy
o ardderchog ac effeithiol. Yr oedd holl
gyhyrau ei wyneb yn siarad, a'i wedd yn
pelydru mewn dysgleirdeb, fel yr haul yn
ei nerth."
Er prawf pa mor rymus oedd dylanwad
Rowland, a'r modd yr oedd teithwyr o
gyrau pellaf y Dywysogaeth yn anghofio eu
holl ludded tan swyn ei weinidogaeth,
adrodda Dr. Owen Thomas yr hanes can-
lynol, wedi ei gael ganddo oddiwrth yr hen
bregethwr hybarch, Mr. John WiIIiams,
Dolyddelen, "yr hwn," meddai, " nid oedd
mewn un modd yn un gwanaidd, difeddwl,
a pharod i ymollwng gyda phob awel a
chwythai ar ei dymherau. f Dywedai ei
fod ef (John "W^illiams), un tro, wedi myned
i Langeitho, gan gerdded yr holl ffordd o
Ddolyddelen. ' Yr oeddwn,' meddai, ' wedi
blino cymaint fel yr oeddwn yn llawer
fììtiach i fyned i fy ngwely nag i fyned i'r
capel. Ond fe aeth Rowland i bregethu.
Y testun oedd : ' Ac Arglwydd y Iluoedd a
wna i'r bobloedd yn y mynydd hwn
wledd o basgedigion, gwledd o loyw-win ;
o basgedigion breision, a gloyw-win pur-
edig.' Ac ni chlywsoch chwi erioed y
fath beth. Fe aeth ati i dapio barilau y
cyfamod gras, ac i ollwng allan y gwin
puredig, ac i ddiodi y bobl ag o. Yn wir,
yr oedd o yn Uifo trwy y capel. Mi yfais
inau o hono, nes yr oeddwn i wedi meddwi
fel ffŵl; a dyna lle y bum i, ac ugeiniau
gyda mi, heb feddwl dim am flinder, yn
gwaeddu, a rhai o honom yn neidio, am
oriau.' "
Byddai yn gamwri gadael allan ddes-
grifiad Christmas Evans o hono. Yr oedd
Christmas, fel yntau, wedi ei eni a'i ddwyn
i fynu yn Sir Áberteifi, ac yn 24 mlwydd
oed pan y bu farw ; a diau felly iddo gael
cyfleustra i wrando arno lawer gwaith.
Fel hyn y dywed yr hen Fedyddiwr
hyawdl : |: " Calfinaidd yn mhob ystyr o'r
t Cofiant Juhn Jones, Talsarn.
l Hanes JJyiuyd Christmas Enans.
64
Y TADAU METHODISTAIDD.
gair oedd athrawiaeth Daniel Rowland.
Byr-eiriog oedd ei ddull o lefaru, a byddai
ei ymadroddion yn gryno, sylweddol, a
synwyrlawn. Pregethai yn ei arddull
briodol ei hun, ac nis gellid ei ddynwared.
Yr wyf megys pe gwelwn ef yn a wr, yn ei
ŵn du, yn myned i mewn trwy y drws
bychan oddi allan i'r pwlpud, ac yn
ymddangos felly yn ddisymwth i'r gynull-
eidfa fawr. Yr oedd ei wedd, yn mhob
ystyr, wedi ei haddurno a mawredd, ac yn
arddangos synwyr cryf, hyawdledd, ac
awdurdod. Yr oedd ei dalcen yn uchel a
llawn ; ei lygaid yn llym, yn fywiog, a
threiddiol ; ei drwyn yn eryraidd, neu
Rufeinig ; ei wefusau yn weddus, ac yn
arwyddo penderfyniad ; ei ên yn taflu allan
ac yn codi ychydig ; a'i lais yn soniarus,
peraidd, cryf, a dylanwadol iawn. Yr arfer
gyffredin fyddai i ryw weinidog ddarllen a
gweddîo, cyn y cyfodai Rowland yn y
pwlpud ; yna rhoddai yntau allan, gyda
Ìlais eglur a hyglyw, air o Sahn i'w ganu,
megys xxvii. 4 : —
' Un arch a eicbais ar Dduw Nâf,
A liyny a archaf eto ;
Cael dyfod i dy yr Arglwydd Glân,
A bod a'm trigfan yno.'
Un penill a genid o flaen pregeth yn y dydd-
iau hyny, oedd mor rhyfedd am ddylanwad-
au nerthol. Ymunai'r holl gynulleidfa
i ganu gyda gwTesogrwydd mawr ; eto heb
ddyblu ond ychydig o flacn pregeth, rhagi'r
oiew nefol redeg dros y Ilestri yn rhy fuan.
Yna cyfodai Rowland, a darllenai ei destun
yn eglur i glyw pawb. Byddai yr holl
gynulleidfa megys yn glustiau i gyd, yn
astud iawn, fel pe buasent ar wrando rhyw
oracl efengylaidd a nefol. Byddai Ilygaid
yr holl bobl ar yr un pryd yn craffu arno
yn ddyfal. Yn nechreu ei bregeth, byddai
ganddo ryw syniad tarawiadol, cyffrous,
megys blwch bychan o enaint i'w agor o
flaen blwch mawr ei bregeth, yr hwn, pan
ei hagorid, a wasgarai berarogl yr enaint
trwy yr holl gynulleidfa, ac a baratoai
ddisgwyliadau y bobl am agoriad y blychau
dilynol, o un i un, trwy'r bregeth, nes
Ilenwi yr holl dy a"i arogl nefol, megys
perarogl blwch enaint Mair yn Bethania
gynt. Wedi cyffroi y gynulleidfa, fel hyn,
a rhyw feddwl anghyffredin, efe a ranai ei
destun, ac a ai yn mlaen gyda'r rhaniad
cyntaf, gan blygu ei ben ychydig, fel ag i
daflu cipolwg ar ei nodiadau a fyddent ar
ddernyn o bapyr o'i flaen. Gwelais ei
nodiadau ar y testun, ' Edifarhewch,' &c.,
y rhai oedd yn bur fyrion, fel hyn : '(i)
Edifeirwch, o ran ystyr, yw cyfnewidiad
meddwl, am Dduw ac am ddyn, am y ddeddf
a'r efengyl, am bechod a sancteiddrwydd,
am ddrygioni'r galon a'r fuchedd, am
haeddiant dyn a haeddiant Crist, ac am
allu dyn, a nef a daear, ac uffern obry. (2)
Y mae Duw yn galw ar ddyn i edifarhau.
Clyw weinidogaeth loan Fedyddiwr, a
Christ, a Phetr ar ddydd y Pentecost, a
Phaul yn Pisidia. (3) Y mae Duw, o'i
ras, yn rhoddi edifeirwch trwy lesu Grist.
Efe yw'r bibell euraidd, trwy yr hon y
rhed holl ffrydiau gras a gogoniant. Cofia
ymadrodd Petr, bod Duw yn rhoddi
edifeirwch a maddeuant pechodau, drwy
fendith yn dyfod o groth fawr arfaeth y
nef, ac y maent fel efeilliaid yn canlyn eu
gilydd yn ddiwahan ; neu fel dwy râff yn
tynu Ilongiachawdwriaeth dros y bâs^'^oedd
peryglus, trwy effaith eiriolaeth Crist yn
tynu pechaduriaid ato ei hun.'
Yr ydym yn awr yn dyfod at y rhan
anhawddaf o'r desgrifiad, gan nas gallwn
beri i ddelw fud lefaru, na dyn marw i fod
yn fyw. Wedi cymeryd cipolwg ar ei
nodiadau, o ran arfer yn fwy na dim arall,
dechreuai ymadroddi yn bwyllog, gan
lefaru yn rhwydd a hyglyw. Cyfîelybaf ef
i'r gôf yn rhoddi yr haiarn yn y tân, ac yn
dywedyd wrth y chwythwr am chwythu
mwy neu lai, gan gadw ei Iygad o hyd ar
yr haiarn yn y tân, ac ar yr un pryd yn
gallu siarad am bedoli, a durio'r sẃch a'r
cwlltwr. Y mae'r tân yn fflamio fwy-fwy,
a gwreichion y twym-iàs yn esgyn i fynu.
Yna cipia yr haiarn, wedi ei ddwyni dymer
doddedig ac ystwyth, i'r engan, a'r ordd
fawr a'r morthwyl yn curo arno, nes i'r
gwreichion ehedeg trwy yr holl efail. Yn
gyíîelyb y byddai Rowland, yn poethi acyn
brydio yn raddol, fel y byddai yn graddol
deimlo ei fater ; ac o'r diwedd dyrchafai ei lais
yn awdurdodol, nes y byddai yn dadseinio
trwy'r holl gapel. Byddai yr effeithiau ar
y bolìl yn rhyfeddol ; nis gwelid dim ond
gwenau a dagrau yn treiglo dros eu
gwynebau ; a byddent ar yr un pryd yn
bloeddio mewh gorfoledd. Cyfodai hyn
oll o fflam ei oslef, a godidowgrwydd ei
fater ; a'i fywiogrwydd yntau o'r fflaai a
fyddai yn y meddyliau dyrchafedig a
draddodid ganddo, yn nerthoedd yr Yspryd
Glàn. Yr oedd y gwahaniaeth yma
rhyngddo ef a Whitefield ; pan fyddai
W^hitefield fwyaf angerddol yn nhônau
peraidd ei lais, byddai braidd yn gwanhau
yn ei fater ; ond ei fater a fyddai yn
dyrchafu hyawdledd Rowland, a byddai ei
DANIEL ROWLAND, LLANGEITHO.
65
lais yn dyrchafu gyda'i faterion. Gwedi
i'r iâs hon lonyddu, dan y pen cyntaf, ac
iddo frysio edrych ar ei bapyrun nodiadau,
dechreuai yr ail waith doddi ac ystwytho
meddyliau ei wrandawyr, nes eu dwyn
drachefn i'r unrhyw dymer nefol. Gwnai
felly weithiau chwech neu saith waith yn
yr un bregeth, a byddai y twym-iâs nefol,
a serch y gynulleidfa yn y sefyllfa fwyaf
angerddol. Pur ychydig a fyddai ganddo
yn niwedd y bregeth mewn ffordd o
gasgHadau, neu gymhwysiad, gan y byddai
yn cymhwyso ac yn cymell gwirioneddau
gogoneddus yr efengyl trwyddi oll. Ter-
fynai gydag ychydig sylwadau tarawiadol
a grymus ; yna gweddíai yn fyr ac yn
felus, a datganai y fendith. Yna, yn Ilawn
chwys, brysiai allan o'r pwlpud trwy'r
drws-bychan, a hyny mor sydyn ag y
daethai i mewn. Os na byddai cymundeb
ar ol, gadewid y gynulleidfa fawr mewn
hwyl nefol, yn mwynhau llewyrch wyneb
eu Harglwydd, a hyn oll yn y modd
nas gellir ei ddesgrifio ar bapyr. . . . Yr
oedd y fath wresogrwydd tanbaid, an-
orchfygol, yn ei bregethiad, fel ag i ymlid
ymaith yn effeithiol yspryd diofal, bydol, a
marwaidd ; a byddai'r bobl, wedi ei deffro
felly, yn nesau megys yn y cwmwl goleu,
at Grist, a Moses, ac Elias, a thragywydd-
oldeb a'i sylweddau aruthrol yn goresgyn
eu meddyliau ! Seren o'r maintioli mwyaf
oedd efe, a thebyg na bu yn Nghymru ei
gyffelyb er dyddiau yr apostolion. Y darlun
uchod a dynais o'r pregethwr tywysogaidd
hwn o barch i'w goffadwriaeth."
Gallasem ddifynu IIu o dystiolaethau
eraill i brofi fod Daniel Rowland yn
bregethwr digyffelyb, ond rhaid i ni ym-
foddloni bellach ar y darluniad canlynol o
eiddo y Parch. Dr. Owen Thomas :
"'■' " Siaradai, ar y cyntaf, yn hytrach yn
isel, ond yn dra chyflym ; yn gymaint
felly fel mai anhawdd braidd oedd ei
ddilyn. Yr oedd yn ymddangos am
amryw fynudau fel pe y buasai yn ofnus,
ac heb ymddiried hollol ynddo ei hun.
Ond, yn raddol, fe ddiflanai hyny, ac fe
enillai hunan-feddiant perffaith. Siaradai
yn awr yn fwy araf, ond yn uwch ac yn
rymusach, gan ymwresogi fel yr elai
rhagddo, a'r holl gynulleidfa yn cynhesu
gydag ef, nes y byddai iâs o deimlad tyner
yn treiddio trwyddi. Y mae wedi darfod
yn awr a'r sylw cyntaf ; yn gostwng ei
lais ; yn rhoddi ysgydwad naill-ochrog
* Cofiant y Parcìi, Jolm Joiics, Talsarn.
Rìian II.
arno ei hunan ; ac yn dechreu ar yr ail
sylw. Y mae yn cychwyn eto yn Iled araf
a phwyllog, ond yn cyflymu yn fuan iawn,
ac yn Ilefaru gyda nerth a rhwyddineb
anghyffredin ; y mae ei lygaid yn treiddio
trwy'r capel ; ei lais yn ymddyrchafu ; ei
deimladau yn tanio ; y mae y gwres yn
awr yn cydio yn y bobl ; y mae y dagrau
yn treiglo dros eu gruddiau ; yr Amcnaii
cynhes yn dyfod dros eu gwefusau ; a'r
pregethwr a hwythau mewn meddiant
hapus o'u gilydd. Y mae yn darfod a'r ail
sylw. Ymaeyndisgynyn raddoI,drachefn,
i'r tawelwch a'r pwyll a deimlid yn angen-
rheidiol ganddo gyda phob adgychwyniad.
Ac ni a glywsom y syìw gan fwy nag un
o'i hen wrandawyr, na byddai efe byth yn
ymddangos yn well fel siaradwr, na phan
yn disgyn o'r arucheledd teimlad, y byddai
efe ei hunan a'r gynulleidfa wedi eu codi
iddo, i'r arafwch a roddai iddo y fantais
oreu i ail ddisgyn. Ni welwyd mo hono
erioed yn syythio i lawr, ond yn disgyn yn
daiiiel ac yn esmivyth, a'i holl nerth ganddo
i ail godi. A dyna fo yn esgyn eto, ac yn
cyfodi ei gynuUeidfa gydag ef, i deimladau
uwch, a dwysach, a phoethach. Y mae'r
' Anicnaii ' yn amlach a chryfach ; bloedd-
iadau, ' Diolch,' ' Bendigedig,' ' Gogoniant,'
i'w clywed o bob cwr i'r capel ; a'r holl
gynulleidfa, mewn hwyl hyfryd, yn mwyn-
hau gorfoledd yr iachawdwriaeth. Ond y
mae y pregethwr yn arafu ; yn disgyn
drachefn, braidd yn esmwythach ac yn
brydferthach nag o'r blaen ; ar. yn rhoddi
ychydig eiliadau o seibianC í'r bobl i ddis-
gyn gydag ef. Eithr y mae heb ddarfod
eto. Y mae yn cychwyn drachefn, ac i
fynu, yn uwch, uwch, UWCH. Y
mae golwg ryfedd erbyn hyn arno. Y
mae ei Iygaid yn fflamio ; ei lais yn
ymdori ; ei wyneb yn dysgleirio ; ei holl
gorph yn ymddangos fel pe byddai wedi ei
ysprydoli ; yr enaid mawr yn gollwng
allan, yn ffrydlif o hyawdledd byw, y
meddyliau mwyaf tanllyd; a'r rhai hyny yn
tanio yr holl gynulleidfa, ac yn ei chyfodi
i hwyliau rhyfedd o orfoledd a mawl. Y
mae Ilais y pregethwr wedi ei golli yn awr
yn mloeddiadau a chaniadau y dyrfa ; y
mae yntau yn terfynu, nad oes neb
yn gwybod pa fodd ond efe ei hun ; ac yn
gadael y gynulleidfa i orfoleddu am oriau.
Ý mae yn cymeryd ychydig luniaeth, yn
myned am ddwy awr i'w wely i orwedd ;
ac yn ei gwsg yn adenill rhyw gymaint o'r
yni gwefrol a gollwyd ganddo, mewn awr
o amser, yn y capel."
F
66
Y TADAU METHODISTAIDD.
Tra mai fel pregethwr y rhagorai Daniel
Rowland, y mae yn dra sicr ei fod yn drefn-
iedydd nodedig o fedrus, ac yn arweinydd
doeth a dyogel. Gwedi yr ymraniad, efe
a fyddai yn llywyddu yn y cymdeithasfa-
oedd, os yn bresenol. Ỳchydig a lefarai efe
ei hun fel rheol ; gwrandawai ar eraill am
enyd, gan rodio yn ol ac yn mlaen ar hyd
yr ystafell ; yna torai y ddadl a fyddai yn
caeleicharioyn mlaen i fynu, trwy ddweyd :
" Dyna ddigon wedi ei siarad," ac yna
gosodai ei olygiadau eu hun ar y mater
gerbron, yn gryno ac yn oleu, a bron yn
ddieithriad dilynid ei gyfarwyddid. Fel
arweinydd, unai benderfyniad meddwl, a
hynawsedd yspryd nodedig. Y mae yn
dra sicr ei fod yn anghydweled a golygiadau
Peter Wilhams ; nis gallasailai yn ngwyneb
y saflai a gymerasai mewn cysylltiad a
daHadau Harris ; ond yr oedd yn mhell o
gydweled a'r ymosodiadau a wneyd ar yr
hen esboniwr. Gwyddai Peter WilHams
hyn}' yn dda, a chyfeiria at ei dynerwch
yn y farwnad a gyfansoddodd iddo : —
" 0, mrawd Rowland, ni 'th anghofiaf,
Ti loddaist i mi lawer sen ;
Ymhob tywydd, ymhob dirmyg,
Pwy ond ti orchuddiai 'mhen ? "
Meddai gydymdeimlad mawr a dynion
ieuainc, a llygad crâfif i'w hadnabod. Ni
theimlai ddim tebyg i eiddigedd pan fyddai
pregethwr ieuanc poblogaidd yn codi. Yr
oedd Grififiths, Nevern, o ddoniau dysglaer ;
wedi gwrando arno yn pregethu y tro cyn-
taf, aeth Rowland ato, a'i lygaid yn tywynu
gan lawenydd, gan ddweyd : " Fy mab
anwyl ! Yr wyt wedi taro ar yr wthíen ;
gwthîen euraidd y weinidogaeth ; gofala
gadw arni, a rhoddi yr hoH glod i Dduw."
Dyẁedir ei fod yn petruso ar y dechreu
gyda golwg ar ganiatau rhyddid y pwlpud
i Roberts, Clynog. Anhawdd gwybod yn
bresenol y rheswni am hyny. Ond pan
ddaeth Roberts y tro cyntaf i Langeitho,
aeth Rowland yn llechwraidd i'r capel, gan
gadw ei hun yn nghudd allan o olwg.
Boddhawyd ef yn fawr yn noniau dysglaer
y seraphtanHydo'r Gogledd. Ar y diwedd,
aeth ato yn Hawn sirioldeb, gan ei longyf-
arch ar yr odfa lewyrchus oedd wedi gael ;
ac wedi peth ymddiddan, dywedai : "A
wnewch chwi dderbyn gair o gyngor
oddiwrth henŵr penwyn ? " " Gwnaf, gyda
y parodrwydd mwyaf," oedd yr ateb.
Meddai yntau, " GAvyddoch fod gan y
siopwyr dyHau bychain yn eu counters yn y
rhai rhoddant yr oH y maent yn dderbyn ;
beth bynag a gânt, bydded aur, arian, neu
brês, gosodant yr oll yn y tyllau hyn.
Anwyl frawd, gwnewch chwithau yr un
fath ; beth bynag a dderbyniwch, rhodd-
wch ef yn y drysorfa. Peidiwch pocedu
cymaint a fifyrhng o arian y Meistr." Yr
oedd ei allu i adnabod dynion ieuainc, ac i
gydymdeimlo a hwy yn eu huchelgais, yn
gymhwysder dirfawr iddo at fod yn
arweinydd.
Er ei hoH boblogrwydd a'r parch a dehd
iddo, cadwodd Duw ef rhag ymchwyddo ;
yn nghanol yr oH yr oedd ei galon yn wir
ostyngedig. Adroddir amryw hanesion
fel prawf o hyn. Trafaelai ar ei draed yn
bur fynych ; a phan wedi ei gyhoeddi i
bregethu mewn cymydogaeth, anfonodd
gwraig dda, a breswyhai mewn fifermdy
o'r enw Bryn-y-brain, ei gwas gyda chefifyl
i'w gyfarfod. Rywsut camgymerodd y
gwas y fifordd, neu daeth y pregethwr o
gyfeiriad nad oeddid yn ei ddisgwyl, a
chyrhaeddodd Rowland y He ar ei draed,
ac yn flin. Gofidiai y wraig yn dddirfawr,
a mynegai ei siomiant drosodd a throsodd.
Atebai yntau : " Nel fach, ni feddyhais fy
hun yn deilwng i neb ddod i'm cyfarfod,
naddo gymaint a chan Hath, erioed."
Adroddir ddarfod i wraig weddw, o'r enw
Mrs. Grifiíìths, Glanyrafonddu, oblegyd ei
serch ato, a'r mawr Hes a dderbyniasai
trwy ei weinidogaeth, adael cerbyd iddo
yn ei hewyllys. Yn hwn y teithiau yntau
y rhan olaf o'i oes. Mewn pentref neiH-
duol, He yr arferai bregethu, ni wnai neb
ei dderbyn i dy ond hen wreigan dlawd.
Pan welodd hon y pregethwr yn dyfod yn
ei gerbyd i'r pentref am y tro cyntaf,
dechreuoddymofidio, a theimlo nad oeddei
thŷ na'i gwely gwael hi yn deilwng o'r fath
\vr. Dywedaihynyyneiglyw. Ond ei ateb
ef ydoedd : " Taw sôn, da thi ; yr wyf yn
gweled dy fod di mewn mwy perygl o gael
niwed oddiwrth fy ngherbyd i, nag wyf fi
o gael fy niweidio gan dy dŷ a'th wely di."
Byddai yn anesgusodol ynom i basio
heibio yn ddisylw y Hyfrau a briodoHr i
Daniel Rowland, naiH a'i fel Awdwr neu
Gyfieithydd. Yn 1739, cyhoeddodd ei
bregeth gyntaf, a elwir " Llaeth Ysprydol :
o gasghad Eglwyswr." Y mae yn sylfaen-
edig ar i Petr ii. 2. Yn fuan wedi sefydlu
y seiadau profiad, sef yn y flwyddyn 1742,
cyhoeddodd, mewn undeb ag eraiH, lyfr yn
dwyn y teitl a ganlyn : " Sail, Dibenion, a
Rheolau y Cymdeithasau, neu y Cyfarfod-
ydd NeiHduol, a ddechreuasant ymgynuH
yn ddiweddar yn Nghymru. At y rhai y
DANIEL ROWLAND, LLANGEITHO.
67
chwanegwyd rhai hymnau i"w canu yn y
cyfarfodydd. Gan wŷr o Eglwys Loegr."
Nid oes enw neb ar y wyneb ddalen, ond
ceir enw Howell Harris wrth yr hymn
gyntaf, enw Morgan Jones wrth yr ail,
eiddo Daniel Rowland wrth y drydedd, ac
eiddo Herbert Jenkins Avrth y bedwaredd.
Tybir mai Rowland oedd a'r llaw bwysicaf
yn nghyfansoddiad y Ilyfr. Y flwyddyn
ganlynol, 1743, cyhoeddodd gyfieithad o
draethawd Ralph Erskine, ar " Farw i'r
Ddeddf, a byw i Dduw, at ba un y chwan-
«gwyd chwech o Hymnau buddiol ar
amrywystyriaethau. O waith y Parchedig
Daniel Rowland." Cawn ef y flwyddyn
nesaf, 1744, yn cyhoeddi " Hymnau
Duwiol, i'w canu mewn Cymdeithasau
crefyddol. A gyfansoddwyd gan mwyaf
gan y Parchedig Daniel Rowhmd, .Gwein-
idog o Eglwys Loegr." Y mae y wyneb
ddalen yn gyfeihornus ; allan o 72 tudalen
nid oes ond 25 yn perthyn iddo ef. Y mae
yn ddyddorol sylwi mai yr un flwyddyn y
cyhoeddodd Winiams, Pantycelyn, y rhan
gyntaf o'i " Aleluwia." Yr achlysur nesaf
iddo ddyfod allan trwy y wasg, oedd er
gwneyd yn hysbys ei olygiadau ar y pwnc
mewn dadl rhyngddo ef a Harris. Gelwir
y llyfr : " Ymddiddan rhwng Methodist
Uniawn-gred ac un Camsyniol. Yr ail
argrafíìad, 1750." Ni wyddis pa Lryd y
bu yr argraffiad cyntaf. Dygwyd allan
drydydd argraffiad o Gaerfyrddin, 1792.
Yn 1759, cyfieithodd " Aceldama, neu
Faes y Gwaed." Traethawd yw hwn yn
dangos echryslonrwydd rhyfel. Hysbysir
ei fod ar werth gan Peter Williams.
Pregeth a gyhoeddodd nesaf, sef: " Llais
y Durtur. Gwahoddiad grasol Crist ar
bechaduriaid. Neu bregeth a bregethwyd
yn Llanddewi, Tach. i, 1761. Ar Dat-
guddiad iii. 20. ' Wele, yr wyf yn sefyll
wrth y drws, ac yn curo,' &c. Gan y
Parchedig Mr. Daniel RowIand,Gweinidog
yr Efengyl yn Llangeitho, 1762." Yn ol
Mr. Morris Davies, cyhoeddwr a golygydd
yr argraffiadaucyntafobregethauRowIand,
oedd un Thomas Davies, gerllaw H wlffl^rdd,
Sir Benfro. Tybia fod Mr. Davies yn un
o'r cynghorwyr a lafurient gyda'r Method-
istiaid, a'i fod, fel cyhoeddwr Ilyfrau, yn ẃr
ymdrechgar,by wiog,a gofalus. Ymddengys
nad oedd yr awdwr yn derbyn dim elw oddi-
wrth werthiant ei bregethau ; rhoddasai
y copíau o honynt i'r cyhoeddwr, ac y mae
yntau ar ddiwedd y rhestr o dderbynwyr
yn diolch yn gyhoeddus iddo am danynt.
Dywed fod y brys i'w dwyn allan gymaint,
F
fel na chafodd yr awdwr, yn nghanol ei
lafurwaith, amser i'w darllen wedi eu hys-
grifenu, cyn rhoddi'r copíau o'i law i'w
hargraffu. Blwyddyn nodedig yn ei hanes
oedd y nesaf, 1763 ; dyma y pryd y trowyd
ef allan o'r Eglwys Sefydledig ; a chawn ef
yn cyhoeddi " Pymtheg Araeth, ar Amryw
Destunau." O flaen y rhai hyn y mae
rhagymadrodd gan Peter WiIIiams. Tybir
mai efe a gyfieithodd " Camni yn y Coel-
bren," o waith Thomas Boston, a ddaeth
allan yn 1769. Yn y flwyddyn 1772,
cyhoeddwyd tair pregeth o'i eiddo ; ac o
fewn corff yr un flwyddyn, bum' pregeth
arall, at ba rai y chwanegwyd amryw
hymnau. Yr ydym yn ei gael yn 1774, yn
cyhoeddi cyfieithad o " Ryfel Ysprydol "
John Bunyan, gyda rhagymadrodd byr,
eithr nodedig o ddyddorol, ganddo ef ei
hun. Yn y flwyddyn hon hefyd, cyhoedd-
odd Thomas Davies " Wyth Bregeth "
Saesneg o'i waith, a dywedir ar y wyneb
ddalen eu bod wedi cael eu pregethu ar
bynciau ymarferol yn yr " Eglwys Newydd,
yn Llangeitho." Wrth yr " Eglwys
Newydd " y golygir y capel a adeiladesid i
Rowland wedi iddo gael ei droi allan.
Cyfieithwyd y rhai hyn gan y Parch. John
Davies, Rheithor Sharnecote, swydd
Wilts. Cafodd tair pregeth Saesnegarall,
o gyfieithad yr un gŵr, eu dwyn allan y
flwyddyn ganlynol. Yn 1776, cyhoeddwyd
" Ychydig Hymnau yn ychwaneg, gan y
Parchedig D. Rowland." Y cyfansoddiad
olaf o'i eiddo a ddaeth allan trwy y wasg
oedd : " Llwyddiant wrth Orsedd Gras :
Pregeth ar Judas, 20, a bregethwyd yn
Nghapel Llangeitho, 1782." Pan feddylir
amledd ei deithiau, a maint ei lafur gyda
gweinidogaeth yr efengyl, y mae yn syn
iddo allu ysgrifenu cymaint. Ar y cyfan,
y mae ei Gymraeg yn bur a chref, a'i holí
ddullwedd yn eglur a chryno.
Er ardderchoced pregethwr oedd Daniel
Rowland, ac er godidoced y gwaith a gyf-
lawnwyd trwyddo, ni chafodd ddianc, hyd
yn nod gwedi ei farw, heb gael ei gyhuddo
o feiau a cholliadau. Dywed Dr. Rees, yn
ei History of Nonconforinity in Wales, ei fod
yn mhell o fod yn ddifai fel pregethwr,
'■' ac awgryma, ar dystiolaeth gweinidog
Annibynol cymharol ddinôd, ei fod yn wan
o ran mater, ac yn crwydro yn fynych
oddiwrth ei destun ; ond fod rhyw gym-
aint o effeithiolrwydd yn perthyn iddo.
Byddai yn anhawdd cael gwell engrhaifft
• Tudal. 368.
Y TADAU METHODISTAIDD.
o'r hyn a eilw y Saeson, " damning nnth faint
praise." Meddai Dr. Rees : " Dywedai
Harris a'r clerigwyr " — a diau y cynwysa
y " clerigwyr " Daniel Rowland — " lawer
o bethau yn eu pregethau difyfyr, a dram-
gwyddent chwaeth ddiwylhedig yr Ymneill-
duwyr, ac a roddai i'r digrefydd o bob
dosparth destunau i gellwair halogedig,"
Sicrywy defnyddiai Rowland, pan yr oedd
ei hoU natur yn berwi gan gyffro, a'r gyn-
ulleidfa wedi cael ei chodi i hwyl, ymad-
roddion cryfion ; ac yr oedd yn hollol
gyfreithlon iddo wneyd hyny ; cyíìawnhäi
yr amgylchiad y cyfryw eiriau ; ond yr
oedd gwaith rhai Ymneillduwyr — os bu y
cyfryw — yntramgwyddowrthymadroddion
o'r fath yn brawf, nid o ddiffyg chwaeth yn
Rowhmd, ond o gulni eu hysprydoedd a
mursendod eu clustiau hwy eu hunain.
Syniad unfrydol y rhai a glywsant yr
Efengylydd o Langeitho, ac a feddent
gymhwysder i farnu, oedd ei fod yn
ardderchogmewnmateracardull. Meddai
Christmas Evans : " Byddai wynebpryd,
agweddiad, a llais Rowland yn cyfnewid yn
fawr yn y pwlpud, yn ol fel y byddai ei
deimladau ; ond nid oedd dim yn isel ac yn
annymunol ynddo ; eithr oU yn weddaidd
ac urddasol odiaeth." Dyna dystiolaeth
Ymneillduwr, ac un o gedyrn y pwlpud
Cymreig. Cymerer eto dystiolaeth Charles
o'r Bala, g\vr o'r chwaeth buraf. '■' " Yr
oedd," meddai, " urddas ac ardderchawg-
rwydd, yn gystal a phob rhagoriaeth arall,
yn noniaugweinidogaethol Rowland ; medd-
yhau dyfnion a gogoneddus, llais nerthol a
melus, ac eglurder a bywiogrwydd wrth
arddangos dyfnion bethau Duw, er syndod,
deffroad, a budd ei wrandawyr hiosog." I
bob dyn diragfarn y mae y tystiolaethau
hyn yn ddigonol brofion o burdeb chwaeth
ac ardderchawgrwydd mater Daniel
Rowland.
Cafodd ei gyhuddo hefyd o gulni yspryd
at yr Ymneillduwyr, ac o ymlyniad dall
wrth yr Eglwys Sefydledig. Profa ei hoU
hanes yn amgen. Ni anghofiodd drwy ei
oes ei ddyled i Mr. Pugh, gweinidog
Ymneihduol Lhvynpiod. Y mae yn bur
sicr fod ymlyniad Howell Harris wrth yr
Eglwys yn llawer cryfach nag eiddo
Rowland. Ar anogaeth bendant Rowland,
fel y cawn ddangos eto, y darfu i amryw
eglwysi yn Morganwg a Mynwy, oeddynt
yn perthyn i'r Methodistiaid, ordeinio
gweinidogion iddynt eu hunain, yn ol trefn
* Trysorfa Ysprydol.
yr Ymneillduwyr. Awyddai ThomasGray,
olynydd Mr. Pugh yn Llwynpiod, am
ymuno a'r Methodistiaid, yn benaf,
o herwydd ei fawr serch at Rowland.
" Gwell i chwi," meddai yntau wrtho,
" barhau i weithio yr ochr yna i'r mynydd,
âf finau yn mlaen yr ochr yma; efaUai y
cyfarfyddwn mewn amser, pan yn cloddio
dan deyrnas Satan." Yr oedd, fel y mae
yn amlwg, yn rhyddfrydig ei galon at
Ymneillduwyr ac Eglwyswyr, ac yn hollol
amddifad o yspryd proselytio.
Ond y cyhuddiad mwyaf enlhbaidd yn
erbyn Daniel Rowland, oedd yr un a
ymddangosodd yn y Çiiarterly Review, Medi,
1849, agos i driugain mlynedd gwedi ei
farw. Yn yr ysgrif hono, a gyfansoddwyd
gan Ficer Meifod, haerid ei fod yn euog o
yfed i ormodedd, y teimlid anhawsder
weithiau i gehi yr effeithiau, pan y byddai
ar fedr pregethu ; ac mai yn ngrym
cynhyrfiad diodydd cryfion y byddai yn
traddodi ei bregethau gyda'r fath nerth ac
awdurdod. Seihd y cyhuddiad gwarad-
wyddus hwn ar dystiolaeth cuwrad meddw
a digymeriad, o'r enw W. Wilhams, yr
hwn oedd yn fab i Siôn y Sgubor, hen wâs
Rowland ; ac yr oedd y cuwrad yma yn
gyfryw fel na dderbyniasid ei dystiolaeth
fel prawf o unrhyw beth, heblaw achwyn-
iad ar Anghydffurfiwr. Yn ffodus, gwnaed
yr ymosodiad ar ei gymeriad yn ddigon
cynar i'w droi yn ol yn effeithiol, ac i beri
i'r gwarth syrthio ar y rhai a'i gwnaeth.
Cymerodd y Parch. Johrf Griífiths,
Rheithor Aberdâr ar y pryd, Rheithor
Merthyr gwedi hyny, ran flaenllaw mewn
chrio y mater i fynu. Trwy gymorth
Mr. David Jones, yr hen flaenor duwiol
o Dolau-bach, casglodd dystiolaeth yr
hen bobl oeddynt yn cofio Rowland
yn dda, yn mysg pa rai yr oedd un
84 mlwydd oed, ac wedi bod am saith
mlynedd yn ei wasanaeth ; datganent un
ac oll nad oedd rhith o sail i'r cyhuddiad,
ond ei fod yn enhibo'r fath fwyaf maleisus.
Dywedai y Parch. T. Edwardes, Rheithor
Llangeitho, a'r hwn a adwaenem yn dda,
ei fod dros driugain mlwydd oed, na fu
erioed yn byw allan o'r plwyf, fod cymun-
wyr amryw wedi bod ganddo a fuasai yn
cymuno gyda Daniel Rowland ; fod yn eu
mysg un hen \'vr a fuasai farw yn bedwar
ugain ac wyth mlwydd oed, a'u bod oH yn
tystio, nid yn unig nad oedd y Diwygiwr
yn yfed i ormodedd, ond ei fod yn un tra
chymedrol. Casglodd y Rheithor Griffiths
hefyd dystiolaethau gwyr eglwysig o gryn
DANIEL ROWLAND, LLANGEITHO.
69
enwogrwydd, oeddynt wedi cael ei dwyn i
fynu yn nghymydogaeth Llangeitho, yn
datgan na chlywsent air am y cyhuddiadau
yn erbyn Rowland, nes iddynt ymddangos
yn y Qiiaytevly Rcview. Yn mysg y rhai
hyn, ceir Canon Jones, Tredegar ; Canon
Jenlíins, Dowlais ; a'r Parch. D. Parry,
Llywel. Teimlwn ein bod tan ddyled
ddifesur i'r diweddar Reithor Griffìths am
y boen a gymerodd i ghrio cymeriad gŵr
Duw. Nid yn unig nid oedd Rowland yn
euog o anghymedroldeb ei hun, ond medrai
gondemnio yn ddifloesgni y cyfryw ff^aeledd
mewn eraifl. Yr oedd oífeiriad yn nghym-
ydogaeth Llangeitho unwaith yn awyddus
am gael ei anfon fel cenhadwr i le penodol,
ond nid oedd Rowland yn credu yn mhur-
deb ei fuchedd. Trôdd ato, a dywedodd :
" Yr wyf yn cofio amser, Syr, pan nad
oedd i ni ond derbyniad a bywioHaeth go
wael, wrth deithio dros fryniau a mynydd-
oedd ar ein merlod, heb ddim ond bara a
chaws yn ein pocedau, na dim i'wyfed ond
dwfr o'r ffynhonau; ac os caem lymaid o
laeth enwyn yn rhai o'r bythynod, cyfrifem
hyny yn beth mawr. Ond yn awr, Syr,
y mae ganddynt eu tê, a'u brandi, ac os
nad wyf yn camsynied, yr ydych chwi
wedi cael gormod o'r brandi hwn." Rhaid
fod yr hwn a fedrai lefaru mor gryf a
difloesgni ar bwnc o'r fath o fuchedd
ddiargyhoedd ei hunan.
ünd dyddiau Rowland a nesasant i farw.
Gwanychasai ei iechyd yn ddirfawr yn
ystod y flwyddyn olaf o'i fywyd, eithr yr
oedd yn parhau i bregethu yn Llangeitho.
Dydd Gwener, Hydref 15, 1790, cymerwyd
ef yn glâf, a thranoeth gorphwysodd mewn
tangnefedd, ac efe yn 77 mlwydd oed.
Cyrchasai miloedd y Sadwrn hwnw i
Langeitho ar gyfer y cyfarfod paratoad ;
disgwyhd Rowland yno i'w cynghori fel
arfer; eithr ar ganol y gwasanaeth, cyr-
haeddodd y newydd ei fod ef wedi marw, a
chyffrodd hyny y fath deimhidau o alar fel
y methwyd myned yn mlaen a'r cyfarfod.
Claddwyd ef yn mynwent Llangeitho,
wrth ffenestr ddwyreiniol yr eglwys. Ac
yn ddiweddar cyfodwyd cofadail ardderchog
iddo, ger capel Gwynfil, y fan a wnaed yn
gysegredig ganddo i galon pawb a garant
yr Arglwydd lesu. Nis gaUwn wrthsefyll
y brofedigaeth o ddifynu rhanau o'r
farwnad ardderchog a ganwyd iddo gan
ei hen gyfaill, WiUiams, Pantycelyn : —
" Nid rhaid canu dim am dano,
Nid rhaid marhle ar ei fedd ;
Ofer tynu dim o'i bictiwr
Ar bapyryn sâl ei wedd ;
Gwnaeth ei farwnad yn ei fywyd,
Rhodd e'i fcirblc yn ei le,
'Fe 'sgrifenodd arno 'i enw
A llyth'renau pur y ne'.
Boanerges oedd ei enw,
Mab y daran danllyd, gref,
Sydd yn siglo yn ddychrynllyd
HoU golofnau dae'r a nef ;
' De'wch, dihunwch, oedd yr adsain,
Y mae 'n dinas ni ar dûn ;
Ffowch oddi yma mewn mynydyn,
Ynte ewch yn ulw mân.'
Y'n Llangeitho fe ddechreuodd
Waeddi dystryw 'r anwir fyd,
Miloedd iîòdd o'r Dê a'r Gogledd,
Yn un dyrfa yno ynghyd ;
Arswyd, syndod, dychryn ddaliodd
Y'r holl werin, fawr a mân,
Nid oedd gwedd wynebpryd un-gwr,
Fel y gwelwyd ef o'r blaen.
Gliniau 'n crynu gan y daran,
Fel pe buasai angeu 'i hun,
Wedi cym'ryd Ilawn berch'nogaeth
Ar y dyrfa bob yr un ;
' Beth a wnawn am safìo 'n henaid ? '
Oedd yr unrhyw gydsain lêf ;
Chwi sy' am wybod hanes Daniel,
Dyma fel dechreuodd ef.
Pump o siroedd penaf Cymru
Glywodd y taranau mawr,
A chwympasant gan y dychryn,
Megys celaneddau i lawr ;
Clwyfau gaed, a chlwyfau dyfnion,
Ac fe fethwyd cael iachad,
Nes cael eli o Galfaria,
Dwyfol ddwr a dwyfol waed.
Deuwch drosodd i Langeitho,
Gwelwch yno ôl ei law,
Miloedd meithion yno 'n disgwyl,
Llu oddiyma, Ilu o draw ;
A'r holl dorf yn 'mofyn ymborth,
Amryw 'n d'weyd, ' Pa fodd y cawn ? '
Pawb yn ffrostio wrth fyn'd adref,
Iddo gael ei wneyd yn Uawn.
Gwelwch Daniel yn pregethu
Y"n y tarth, y mwg, a'r tàn,
Mil ar unwaith yn molianu,
Haleluwia yw y gân ;
Nes bai torf o rai annuwiol
Mewn rhyw syndod dwfn, a mud,
Ac yn methu rhoi eu meddwl
Ar un peth, ond diwedd byd.
Bywiol oedd ei athrawiaethau,
Melus fel yr hyfryd win,
Pawb a'u clywai a chwenychai
Brofi peth o'u nefol rin ;
Pur ddyferion bythol fywyd,
Ag a roddai iawn iacbnd,
I rai glwyfodd cyfraith Sinai,
Ac a ddrylliocd dan ei thracd.
Crist ei hunan ar Galfaria
Yn clirio holl hcn Iyfrau 'r nef,
Ac yn talu 'n Ilwyr bob hatling
0"r holl ddyled ganddo ef ;
Mae 'r gwrandawyr oll yn Ilawen,
011 yn hyfryd, oll yn llawn,
Wedi bwyta 'r bara nefol,
0 lâs foreu hyd_brydnhawn."
70
Y TADAU METHODISTAIDD.
Hanes y Darluniau. — Cymerwyd dau ddarlun
o'r Parch. Daniel Rowland ar wahanol amserau
ar ei fywyd. Ymddangosodd y cyntaf mewn
cyhoeddiad misol o'r enw, The Gospel Magazine,
am fis Gorphenaf, 1778. Yr un pryd, nid yw yn
debyg mai ar gyfer y misolyn hwnw y gwnaed ef,
oblegyd dengys Rowland yn nghaiiol ei ddyddiau,
neu yn gynarach na hyny, ac nid yn hen ẃr, fiG
mlwydd oed, fel yr oedd yn 1778. Yn mhen mis
arol marwolaeth y Diwygiwr enwog ycyhoeddwyd
y llall. Gwnaed ef gan " Mr. B. Boioyer, Miniature
Paintcr to His Majcsty" Bernei-s Street, Cornhill,
Lhmdain. Darhm i'w fîramio ydoedd hwn, ac
nid un i'w osod mewri llyfr. ]\Iewn ysgrif argrafî-
edig o dan y darhni hwn, cyíìwyna yr awdwr ef i'r
Anrhydeddusaf larlles Huntington. Yr oeddid
wedi colli golwg yn Uwyr ar y darlun cyntaf, nes i
Mr. Daniel Davies, Ton, Rhondda, ei ddarganfod
yn Llyfrgell yr AmgLieddfa Frutanaidd [British
Museuìn), Lhmdain.
Adciiadwyd cofgolofn iddo yn yml Capel L'.an-
geitho yn y flwyddyn 1883. Costiodd hon lawn
£700. Cafwyd yr arian drwy i'r Parch. Thomas
Levi, Aberystwyth, anturio gwneyd apêl at blant y
" Drysorfa " am arian i'w chodi. Mewn atebiad
i'r apêl hwn, dylifodd arian i mewn o fis i fis, am
ysbaid chwech neu saith mlynedd, pa rai a
gydnabyddid ar glawr " Trysorfa y Planf," ac a
osodid yn y banc. Yr arian hyn, gyda'r llôg, a
dalodd am dani. Y cerfiwr oedd Mr. Edward
Griífith, Caerlleon, Cymro o waed, ac o yspryd ; a
chyflawnodd ei waith yn ardderchog. Tybia
Uawer ei fod y cerflun goreu o'i fath yn Nghymru.
Da genym ein bod yn ahuog i roddi copi o'r cerflun
ar raddfa eang yn nwylaw ein darllenwyr. Gwnaed
ef oddiar ddarlun sydd yn meddiant y Parch. T.
Levi.
Adeiladwyd y gofgolofn yn y flwyddyn 1883, ac
ar y üed a'r 7fed o Fedi, yn y flwyddyn hono,
cynhaliwyd cyfarfod i'w dadorchuddio hi. Dyma
drefa y cyfarfodydd. Ar nos lau, y 6ed, pregetlìodd
y Parchn. Joseph Thomas, Carno, a Dr. Lewis
Edwards, Bala. Boreu Gwener, pregethwyd yn y
capel gan y Parch. Joseph Thomas, ac yna yn yr
ysgwâr wrth ochr y capel, gan y Parch. Dr. Òwen
Thomas. Am un o'r glochyr oeddy dadorchuddiad,
pan yr oedd dwy neu dair mil o bobl, o leiaf, wedi
dyfod yngliyd, a llawer o honynt wedi dyfod yno o
bellder íîordd. Declireuodd y Parch. J. A. Morris
(Bedyddiwr), Aberystwyth, trwy weddi. Llywydd-
wyd gan y Parch. T. Levi, fel Cadeirydd y Gymanfa
GyffredinoL Dr. Lewis Edwards, gwedi araeth
alluog, a ddadorclîuddiodd y golofn yn nghanol
cymeradwyaeth yr hoh gynuheidfa. Areithiwyd yn
ganlynol gan y Parchn. Dr. Owen Tliomas, Joseph
Thomas, a T. Charles Edwards, o Goleg Aber-
ystwyth, sef Prifathraw presenol Athrofa y Bala.
Diolcbwyd yn wresog i'r Parch. T. Levi am ei
ymdrech Iwyddianus tuag at gael y gofgolofn, ac
am ei wasanaeth fel Uywydd, a therfynwyd trwy
weddi gan y Parch. Griffith Parry.
Gyda'r eithriad o'r darlun o'r tufewn i hen
Eglwys Llangeitho, a geir ar tudalen 45, y mae yr
oU o'r darluniau sydd yn addurno y benod hon yn
dangos pethau fel y maent yn bresenol. Y mae
amaethdy Pantybeudy, yr Eglwys, a'r Capel, wedi
myned drwy gyfnewidiadau a gwelliantau mawrion.
Hyd y gwyddis, nid oes darluniau o'r hen adeiladau
ar gael.
PENOD V.
H O W E L L H A R R I S.
Ei cncdigacth ai ddygiad i fynii — Ei argyhoeddiad yn eglinys Talgartli — Cael dyddauîDch yn
Nghrist — Dcchreu cynal addoliad teuluaidd a chynghori — Yn myned i Rydychain — Yn
gadacl Rhydychain — Myncd o givmpas i rybuddio yr anmmiol — Gwrthwynehiad yv ojfeiriaid
ar honeddivyr — Cael ei erlid — Sefydlu seiadau — Myned i lefaru i Sir Faesyfed — Argy-
hoeddiad Mr. Giejynn — Harris yn myned ar daith i Sir Fynwy — Yn ymweled a Sir
Forganwg y tro cyntaf — Rìianau o'i ddydd-Iyfr — Cyfarfod a Whitefield yn Nghaerdydd —
Myned i Lundain — Myned y tro cyntaf i'r Gogledd, nior bell a'r Bala —Dalenau ychwanegol
o'i ddydd-Iyfr — Myned i Sir Benfro — Sessiwn Trefynwy — Ail daith ir Gogledd — Ei
erlid yn y Bala — Myned i Sir Gacrnarfon — Yn tcithio a: yn gweithio yn ddidor.
'ID oes unrhyw dywyllwch yn gorch-
uddio hanes Howell Harris,oblegyd,
yn wahanol i'r oll o'r Tadau Method-
istaidd eraill, gadawodd Hunan-gofiant ar ei
ol ; yr hwn gofiant a gynwysa, nid yn unig
ffeithiau ei fywyd, ond ei deimladau a'i
brofiad yn ogystal. Cafodd yr Hunan-
gofiant ei olygu, a'i gyhoeddi, gydag
ychwanegiad, gwedi ei farw, gan " y rhai
oeddynt o'r dechreuad yn gweled." Y rhai
hyn oedd " teulu " Trefecca, y buynmyned
i mewn ac allan yn eu mysg, ac yn hyw-
odraethu arnynt am yr yspaid o dair
blynedd ar hugain. Yn ychwanegol,
cadwai ddydd-lyfr, yn mha un y croniclai
yn fanwl bob nos, holl helynt y diwrnod
blaenorol, yn arbenig ystâd ei feddwl, a'r
temtasiynau tumewnol a pha rai y buasai
yn brwydro. Yroedd hefyd yn ysgrifenydd
llythyrau lawer, o ba rai y mae swm dir-
fawr ar gael hyd y dydd hwn. Rhwng
ysgrifeniadau Harris ei hun, a thystiolaeth
y " teulu " a gasglodd o'i gwmpas, y rhai
oeddynt yn gydnabyddus a'i holl symud-
iadau, ac yn gwybod ei amcanion, y mae
y goleuni dysgleiriaf sydd yn bosibl wedi
cael ei daflu ar ei gymeriad ac ar ei waith.
Nis geill neb wadu ei fod yn ddyn arbenig.
Ymddengys fel Elias y prophwyd, yn wrol
ei wedd, a gair Duw yn Ilosgi fel tân yn ei
yspryd, ac yn taranu gyda holl angerddol-
deb ei natur yn erbyn drygioni y genhedl-
aeth drofaus y cawsai ei anfon yn genad ati.
Yr oedd teulu Howell Harris yn hanu o
Sir Gaerfyrddin, o gymydogaeth Llandilo
Fawr, nid yn nepell o'r fangre Ile y pres-
wyliai henafiaid y Parch. Henry a WiIIiam
Rees ; a symudasant i Frycheiniog tua'r
flwyddyn 1700. Perchenogai ei rieni,
HowelÌ a Susanna Harris, y tyddyn y darfu
b^a^/ya^ ///4 <^A)a/ KS>n:tA'í{rJ77i
COPI O R DAELUN GWREIDDIOL.
72
Y TADAU METHODISTAIDD.
iddynt symud iddo, sef Trefecca Fach ; ar
yr hwn y saif Coleg y Methodistiaid,
perthynol i'r Deheudir, yn bresenol. Ond
nid oeddynt mewn un modd yn gyfoethog.
Ni fedrai y tad roddi i'w blant well addysg
na'r hyn a dderbyniai plant ffermwyr yn
gyffredin. Cafodd Howell Harris ei eni yn
y fìwyddyn 1714, ac felly yr oedd flwydd
yn ieuangach nai gyfaill a'i gyd-ddiwygiwr
Daniel Rowland, a thair blwydd yn hŷn
na'i fab yn yr efengyl, sef WilHams, Pant-
ycelyn. Efe oedd yr ieuangaf odribrawd,
ac y mae yn anhawdd meddwl am frodyr a
mwy o wahaniaeth rhyngddynt, a phob un
er hyny wedi ymddyrchafu i enwogrwydd
ynyralwedigaeth a phaun yr ymgymerodd.
Trwy ymdrech a dyfal bara, ymddyrchafodd
Joseph, y brawd hynaf, o fod yn ôf y pentref
i sefyllfa o gyfrifoldeb mawr yn y bathdy
brenhinol. Arno ef y gorphwysai y cyfrif-
oldeb o weled fod yr argraff ar yr arian yn
ddinam, a bod pob darn yn gyíîawn o
bwysau. Trwy ei gyrhaeddiadau gwydd-
onol, daeth yn adnabyddus i rai o brif
ddysgedigion ei oes. Cyfansoddodd amry w
draethodau seryddol a meintonol ; ond
wrth un yn unig y gosododd ei enw, sef
traethawd ar dremofyddiaeth (optics), yr
hwn a gyhoeddwyd ryw ddeng mlynedd
gwedi ei farw. Llwyddasai i gasglu cryn
gyfoeth, a chawn ef yn priodi merch i
Thomas Jones, Tredwstan, hen gymydog
i'w dad. Bu farw yn y T\vr yn Llundain,
ryw naw mlynedd o flaen ei frawd Howell.
Darfu i Thomas, yr ail frawd, ymsefydlu
fel dilledydd yn Lhmdain, a thrwyddylan-
wad rhywrai mewn safle uchel, cafodd ei
benodi i gyflenwi y milwyr yn y fyddyn a
diUad milwrol. Llwyddodd i gasglu cyfoeth
dirfawr, a chwedi ymneillduo oddiwrth ei
fasnach, prynodd etifeddiaeth Tregwnter,
yn gyfagos i Drefecca. Ymdderìgys iddo
wasanaethu fel Uchel Sirydd Brycheiniog
yn y flwyddyn 1 768. Bu farw yn y flwyddyn
1782. Ychydig o gydymdeimlad oedd
rhwng Joseph a Thomas a Methodistiaeth
eu brawd. Ceir amryw o lythyrau o eiddo
Howell at eu frodyr, pan oeddynt yn Llun-
dain, yn y rhai y rhybuddia hwy yn ddwys
rhag cael ei Hyncu i fynu yn ormodol gan
awydd am gyfoeth a phleserau y bywyd
hwn. Y mae un llythyr o leiaf yn Nhre-
fecca, yn llawysgrif Joseph Harris, wedi ei
anfon at Howell ei frawd, yn yr hwn y
cwyna arno ei fod mor ffol ag ymgladdu
mewn dinodedd yn mysg y Methodistiaid,
tra y gallasai, ond cymeryd cyfeiriad
gwahanol, gyrhaedd enwogrwydd, anrhyd-
edd, a chyfoeth, a'i gwnelai yn gyd-stâdag
uchelwyr penaf ei wlad. Mor ddaU oedd y
brodyr ? Y mae enw Howell Harris yn
dysgleirio heddyw, fel seren yn ffurfafen
hanesiaeth ; tra y buasai eu henwau hwy
wedi myned ar ddifancoll, oni bai am eu
cysylltiad perthynasol ag ef.
Ychydig o hanes bachgendod Howell
sydd ar gael, ond ymddengys iddo gael
ysgol dda, ac yr amcenid ei ddwyn i fynu
ar gyfer y weinidogaeth yn yr Eglwys
Sefydledig. Yr oedd cario aflan y bwriad
hwn yn dreth drom ar amgylchiadau y
teulu. Cawn Joseph yn ysgrifenu, pan yr
oedd ei frawd ieuangaf tua phymtheg
mlwydd oed, yn dymuno cael ei esgusodi
rhag estyn cynorthwy at hyn ar y tir fod
ei arian yn brin, oblegyd ei fod newydd
gyhoeddi Uyfr, ond yn addaw gwneyd yr
hyn a fedrai pan ddechreu y llyfr dalu.
Dywed Howell yn ei Hunan-gofiant :
" Cefais fy nghadw mewn ysgol gan fy
rhieni hyd y ddeunawfed flwyddyn o'm
hoed ; erbyn hyn yr oeddwn wedi dyfod yn
mlaen lawer mewn dysg — yna bu farw fy
nhad." Rhaid fod yma ryw gymaint o
gamsynied, oblegyd yn ol y dyddiad ar ei
gareg fedd yn mynwent Talgarth, bu ei
dad farw Mawrth 9, 1730, pan nad oedd
Howell ond ychydig dros un mlwydd-ar-
bymtheg. Yr oadd yr amgylchiad yn ergyd
enbyd iddo ; nid oedd ganddo unrhyw
obaith bellach am ddringo i'r offeiriadaeth,
a bu raid iddo fyned i gadw ysgol er cael
defnydd cynhahaeth. Awgryma fod ystyr-
iaethau pwysig yn cael peth lle yn ei feddwl
yn flaenorol i hyn ; ond beUach nid oedd
ganddo unrhyw gyfaill difrifol a'r hwn y
gallai ymgynghori ; aeth yr ymdeimlad a'i
ryddid yn gymhefliad i lygredigaeth ; a
chariwyd ef i ffwrdd gyda ffrwd o wagedd
y byd, balchder, a chwantau ieuenctyd.
Gellir darllen gwagedd ei feddwl yn y rhês
ganlynol o dreuhau, a gofnodir ganddo yn
nechreu y flwyddyn 1732. Dywed ddarfod
iddo wario arian am ddawnsio, ac am
berwig, ellyn, menyg, chwip hela, ac
amryw bethau di-lês o'r fath. Ynghanol
ei ymroddiad i bleser, ni chaffai lonydd er
hyny ; yr oedd " rhyw reddf o argyhoedd-
iad " yn ymweled ag ef yn fynych ; a chof-
nodai ei ffaeleddau ar bapyr, fel y byddent
yn dystiolaeth yn ei erbyn. Dechreuodd
ar y cyffesiadau hyn pan oedd tua dwy
flwydd-ar-bymtheg oed, ac y maent ar
glawr eto yn mysg ei ysgrifeniadau yn
Nhrefecca. Dangosant nid yn unig fod ei
gydwybod heb hollol galedu, ond hefyd ei
HOWELL HARRIS.
Ti
fod yn ysgolhaig pur wych, gan fod y llaw-
ysgrif yn rheolaidd, yr iaith yn ramadegol,
gyda nifer mawr o dalfyriadau yn yr iaith
Ladin.
W'edi bod yn cadw ysgol am tua dwy
flynedd, dechreuodd y cymylau ghrio
oddiar ei amgylchiadau; daethai i gydnab-
yddiaeth a dynion o ddylanwad, y rhai a
addawent ei gynorthwyo i ymbarotoi am
urddau; ac yr oedd Joseph, ei frawd, erbyn
hyn wedi dyfod yn alluog i wneyd rhy wbeth
erddo. " Tra yr oeddwn fel hyn," meddai,
"ac amryw ragluniaethau yn cyd-weithio
o'm tu i'r dyben o gael dyrchafiad yn y
bywyd hwn, a"m hoU lygredigaethau
cnawdol inau yn cael maeth oddiar
hyny, i gynyddu gryfach gryfach ynof yn
feunyddiol, gwelodd yr Arglwydd yn dda
ogoneddu ei ras ynof." Daeth amgylchiad
i'w gyfarfod, a newidiodd holl gyfeiriad
ei fywyd.
Y mae hanes troedigaeth Howell Harris
yn haeddu cael ei adrodd yn fanwl. Y
Sul o flaen y Pasg, sef Mawrth 30, 1735,
ac efe yn un-ar-hugain mlwydd oed, aeth
yn ol ei arfer i eglwys Talgarth. Cyhoeddai
yr offeiriad, y Parch. Price Davies, y
gweinyddid y cymun bendigaid yno y
Sabbath dilynol, gan ddarllen y rhybudd
sydd yn y Llyfr Gweddi Cyffredin pan
fyddo y bobl yn esgeuhis am ddyfod i'r
ordinhad. Nid ymfoddlonai ar ddarllen
yr hyn oedd ysgrifenedig ; aeth yn ei flaen
i brofi ei fod yn ddyledswydd ar bawb i
ddyfod at fwrdd y cymun, ac i ateb gwrth-
ddadleuon cyftredin y rhai a esgeulusant
y ddyledswydd. " Os nad ydych yn
gymhwys," meddai, " i ddyfod at fwrdd
yr Arglwydd, nid ydych gymhwys
ychwaith i ddyfod i'r eglwys ; nid ydych
yn gymhwys i fyw, nac yn gymhwys i
farw." Efíeithiodd y gadwen hon o
ymresymiad ar feddwl y Uanc ieuanc
o Drefecca Fach ; penderfynodd cyn
codi oddiar ei eisteddle roddi heibio ei
ddifyrwch cnawdol a'i bechodau cyhoedd,
ac ymddangos yn mysg y cymunwyr y
Sul dilynol. Fel parotoad i hyn, galwodd
ar ei ffordd adref heibio i gymydog, a'r
hwn yr oedd mewn ymrafaeì, gan gyffesu
ei fai, a dymuno maddeuant, ac estyn
maddeuant iddo yntau. ünd yr oedd yn
enbyd o anwybodus am grefydd ysprydol ;
" yr oeddwn," meddai, " heb wybod dim
am y wisg briodas, ac yn gwbl ddyeithr i
grefydd dufewnol, a'm truenus gyflwr
wrth natur." Penderfynodd, pa fodd
hynag, geisio dilyn buchedd newydd ; " er
nas gwyddwn," meddai, " pa fodd y
dechreuwn, na pha beth i'w wneyd."
Y Sul canlynol y mae Harris yn yr
eglwys mewn pryd, ac ar derfyn y
gwasanaeth â yn ei flaen gyda'r lleiU a
fwriadent gymuno, gan syrthio ar ei
ddeuhn gerbron yr allor. Ond wrth gyd-
adrodd a'r gweinidog y gyffes gyffredin :
" Yr ym ni yn cydnabod ac yn ymofidio
dros ein hamryw bechodau a'n hanwiredd,
y rhai, o ddydd i ddydd, yn orthrymaf a
wnaethom, ar feddwl, gair, a gweithred,
yn erbyn dy Ddwyfol Fawredd, gan anog
yn gyfiawnaf dy ddigofaint a'th hd i'n
herbyn. Yr ydym yn ddifrifol yn edifaru,
ac yn ddrwg gan ein calonau dros ein
cam-weithredoedd hyn. Eu coffa sydd
drwm genym ; eu baich sydd anoddef-
adwy," saethodd i'w feddwl nad oedd y
geiriau yn wir yn eu perthynas ag ef ; nad
oedd y gradd lleiaf o alar yn ei galon
oblegyd ei bechodau, nad oeddynt mewn
un modd yn faich ar ei gydwybod, a'i fod
yn myned at Fwrdd yr Árglwydd a
chelwydd yn ei enau. " Y teimlad hwn,"
meddai, " ynghyd a golwg ar fawredd y
wledd sanctaidd, a darawodd fy nghalon,
fel y bum agos a chodi oddiar fy nghniau,
a sefyll yn ol, heb dderbyn y sacrament."
Ond ceisiodd dawelu ei gydwybod, gan
benderfynu dilyn buchedd newydd rhag-
llaw. Am ryw gymaint o amser gwedi
hyny, ymdrecha fod yn ffyddlon i'w
benderfyniad ; ymrodda i weddi, a cheisia
sefydlu ei fyfyrdodau ar Dduw. Ond yn
mhen y pythefnos y mae yn cael ei fod
wedi colli agos ei holl argyhoeddiadau,
Eithr Ebrill 20, daeth llyfr i'w law a ail-
adnewyddodd y teimlad o euogrwydd o'i
fewn. Yr un diwrnod daeth o hyd i lyfr
arall, a gawsai ei ysgrifenu gan Bryan
Duppa ar y gorchymynion. " Wrth
ddarllen hwn," cofnoda, " cafodd fy
argyhoeddiadau argraff ddyfnach arnaf ;
pa fwyaf a ddarllenwn, mwyaf oll o oleuni
ysprydol oedd yn Ilewyrchu o'm mewn, i
weled mawr feithder a manylrwydd cyfraith
Duw, yn fy ngalw i gyfrif nid yn unig am
bechodau gwaradwyddus oddi allan, eithr
hefyd am ein rhodiad, amcanion, a dyben-
ion, yn yr hyn oll a feddyliom, a ddywedom,
neu a weithredom. Yna y gwelais yn
eglur, os wrth y gyfraith hono y'm bernid,
y darfyddai am danaf yn dragywydd."
Am ragor na mis bu yn ystorm enbyd
arno, ei gydwybod yn rhuo fel arthes o'i
fewn, ac yntau yn ceisio ei thawelu trwy
^ympryd, a gweddi, a chosbi ei goríf.
74
y TADAU METHODISTAIDD.
Teimlai ei fod wedi ei werthu dan bechod,
ei fod yn gnawdol, ac nas gallai gredu, na
galaru yn briodol am ei ddrygioni mwy
nag y gallai ddringo i'r wybr. Yr oedd
uffern wedi lledu ei safn i"w dderbyn, ac
yntau heb adnabod llais yr lachawdwr.
Eithr ar weddi, teimlodd gymhelHad un
diwrnod i roddi ei hun fel yr ydoedd i'r
Arglwydd lesu, gan adael y canlyniadau
yn gyfangwbl iddo ef. Yn erbyn hyn, pa
fodd bynag, gwingai yr yspryd deddfol
òedd ynddo ; teimlai, os rhoddai ei hun i'r
Arglwydd, y collai ei ryddid, ac na fyddai
byddem yn sicr o dderbyn maddeuant o'n
holl bechodau. Ac yn wir felly y bu i mi ;
cefais brawf eglur trwy yr Yspryd Glân,
fod Crist wedi marw drosof íì, a bod fy
mhechodau i gyd wedi eu rhoddi arno ef ;
a'm bod yn awr yn rhydd oddiwrth
frawdle cyfìawnder, ac yn fy nghyd-
wybod." Pan yn y wasgfa cawsai ei flino
gan syniadau Atheistaidd, y rhai a wnaent
ei fywyd yn faich iddo ; " ond wrth weled
fy Nuw ar y groes," meddai, " cefais
ryddhad oddiwrth y profedigaethau hyny.
Weithian yr oedd y byd hwn, a phob
ivIH, FEL YR YDOEDD YN AMriKR HuWEl.L HAIU;!.-
yn eiddo iddo ei hun. Ond gwedi ym-
drech galed, gwnaed ef yn ewyllysgar i
roddi ffarwel i bob peth tymhorol, ac i
ddewis Crist yn rhan dragywyddol. " Yr
wyf yn credu," meddai, " ddarfod i mi
gael fy ngalw y pryd hwnw yn effeithiol i
fod yn ddilynwr i'r Oen." Nid oedd eto
wedi cael cyflawn ryddhad. Aeth i'r
cymundeb ar y Sulgwyn yn flinderog a
thrwmlwythog dan euogrwydd ei bechodau.
Eithr darllenasai mewn llyfr, " os byddai
i ni fyned i'r sacrament, gan gredu yn
syml yn yr Arglwydd lesu Grist, y
meddyhau am ddyrchafiad, a chlod dynol,
wedi cwbl ddiflanu o'm golwg, a'r byd
ysprydol a thragywyddoldeb yn dechreu
ymddangos."
Dyma Harris yn ddyn newydd ac yn
ddyn rhydd. Drylliwyd ei gadwynau yn
chAvilfriw, dihangodd yntau am byth gyda 'i
Farnwr. Mewn canlyniad i hyn, IHfodd
tangnefedd fel yr afon i mewn i'w gyd-
wybod ; prin y cyffyrddai ei draed a'r
ddaear wrth fyned adref ; gallai ddawnsio
a neidio, fel y cloffyn mhorth y deml gwedi
ei iachau. Wrthfynedo'reglwys, dywedai
HOWELL HARRIS.
75
wrth ei gymdeithion, gyda thôn orfoleddus :
" Y mae fy mhechodau wedi eu maddeu !"
Edrychai y rhai hyny yn hurt, heb ddeall
ystyr ei eiriau, am nad oeddynt wedi bod
yn y wasgfa ; âi yntau yn mlaen at y fyntai
nesaf, gan ddweyd yr un peth : " Y mae fy
mhechodau wedieumaddeu !" Yroeddhyny
yn gymaint peth yn ei olwg a phe y buasai
wedi cael nefoedd. Ni chlywsai neb yn
gwneyd cyffes o'r fath o'r blaen, ond yr
oedd llawenydd ei fynwes yn gyfryw fel y
mynai fwrlymu i'r golwg ; a mawr chwen-
ychai i'w gymydogion lawenychu gydag ef
oblegyd y ddihangfa. O hyn allan, cawn
ef yn cyson ddal cymdeithas a Duw, ac yn
cael amlygiadau mynych o wedd ei wyneb.
" Mehefin i8, 1735, pan oeddwn mewn
gweddi ddirgel," ysgrifena,* " yn ddisym-
wth teimlais fy nghalon yn toddi ynof fel
cwyr o flaen tân o gariad at Dduw fy lach-
awdwr ; teimlais hefyd nid yn unig gariad
a heddwch, ond hefyd hiraeth am ymddatod
a bod gyda Christ. Yr osdd Ilef yn nyfn-
der fy enaid, na wyddwn am dani o'r I^Iaen,
' Abba Dad, Abba Dad.' Nis gallwn
beidio a galw Duw, fy Nhad ! Yr oeddwn
yn gwybod mai ei blentyn ef oeddwn, a'i
fod yn fy ngharu ac yn fy ngwrando.
Cafodd fy enaid ei lenwi, a'i Iwyr ddiwallu,
nes y gwaeddwn, 'Digon! Digon!' Dyro
i mi nerth, ac mi a'th ddilynaf trwy ddwr
a thân ! "
Y mae yn brofedigaeth i ni fyned yn y
blaen i ddifynu, ond rhaid ymatal. Nid
oedd allan o'r maglau eto, er hyny ; bu
mewn aml brofedigaeth gyda'r gelyn ar ol
hyn. Cadwai yr ysgol yn y blaen, gan
ddisgw^yl galwad oddiwrth berthynas agos
iddo i fyned i Rydychain ; a ry w ddiwrnod
collodd ei dymher o herwydd cam-ymddyg-
iad un o'r plant. Ar hyn, dyma y gelyn
yn rhuthro arno, gan haeru ei fod wedi
syrthio oddiwrth ras, ac wedi fforffetio ei
hawl yn Nghrist. Ond wedi bod mewn
ing enaid am dymor, danfonodd Duw
gysur iddo trwy Mal. iii. 6 : " Myfi yr
Arglwydd ni'm newidir." Gweloddnadar
ei ffyddlondeb ef y dibynai ei iachawdwr-
iaeth, ond ar ffyddlondeb Crist, ei Waredwr.
O hyn allan, byw i'r lesu yw ei amcan.
YmneiIIdua oddiwrth ei hen gyfeillion
difeddwl ; pendcrfyna ymwrthod a phob
dyrchafiad bydol ; a gwertha yr oll oedd
ganddo, gan eu rhoddi i'f tlodion. Yn
mysg pethau eraill, teimla fod y dillad a
wisgai yn flaenorol yn rhy wych i Gristion,
* Hunan-gofiant.
ac yn cydymffurfio yn ormodol a ffasiwn y
byd, ac felly ymâd a hwythau, gan gyfranu
yr hyn a gawsai am danynt mewn elusen.
Nid yw yn pryderu gyda golwg ar ei
ddyfodol o gwbl ; mentra ar addewid Duw.
Yn awr, y mae cyflwr ysprydol ei gyd-
ddynion yn dechreu gwasgu yn ddwys ar
ei feddwl. Gwel eu bod yn teithio y ffordd
Iydan, ac nad oedd neb o ddifrif yn eu
rhybuddio am eu perygl. Methai ymatal
rhag siarad a hwy am bethau ysprydol ;
ond y canlyniad oedd fod rhai yn ei ddir-
mygu, ac eraill yn tosturio wrtho ; ceisiai
un dosparth ei ddychrynu, tra yr oedd
dosparth arall yn ei gynghori. Edrychent
arno fel penboethyn. " Nid oeddwn gym-
aint a meddwl y pryd hwnw," meddai, " y
byddai i'r Arglwydd fy nefnyddio i er
bendith i neb ; canys nid oeddwn yn
gweled y tebygolrwydd Ileiaf o hyny, ond
yn hytrach i'r gwrthwyneb." Ond yr oedd
gair yr Arglwydd yn Ilosgi fel tân o'i
fewn, ac aeth yn ei flaen i gynghori pawb
y deuai i gyffyrddiad a hwy. Am angeu,
a'r farn, a thragywyddoldeb, y llefarai yn
benaf, ynghyd a'r angenrheidrwydd am
weddío a derbyn y sacrament. Tywyll
oedd ei syniadau; nid oedd ei ddirnadaeth
o athrawiaethau yr efengyl ond cyfyng,
ond ni chuddiai yr ychydig oleuni a feddai
dan lestr. Cawn ef yn dechreu cynal
addoliad teuluaidd yn nhy ei fam ; a'r
boreuau Suliau, cyn pryd eglwys, arferai
amryw o'r cymydogion ddyfod i'w wrando
yn darllen y Ilithoedd a'r Salmau. Meddai :
" Nis gallwn orphwys na dydd na nos, heb
wneuthur rhywbeth dros fy Nuw, a'm
Hiachawdwr ; acnisgallwn, gyda boddlon-
rwydd, roddi hun i'm hamrantau os na
byddwn wedi gwneyd rhyw wasanaeth er
gogoniant iddo ef ar hyd y dydd. Yr oedd
amser mor werthfawr yn fy ngolwg, fel nas
gwyddwn pa fodd i'w dreulio yn hollol i
ogoniant Duw, ac er daioni i eraill." Ym-
roddai i ddarllen a gweddio pan ar ei ben
ei hun, ac ai yn ei flaen i gynghori y bobl
a ddeuent i'w wrando bob prydnhawn
Sabbath. Erbyn hyn, yn ol ei gyfaddefiad
ef ei hun, yr oedd wedi myned yn ddiareb
gwlad. Dirmygid ef gan rai ; bygythiai
eraill wneyd niwed personol iddo ; " ond,"
meddai, " yr oeddwn yn cael fy nghario fel
ar adenydd trwy bob math o dreialon."
Nis gwyddai ei frawd Joseph, oedd yn
awr yn Llundain, beth i'w wneyd o hono,
nac o'i Iythyrau ; a lled awgryma fod y
pruddglwyf wedi ei orchfygu. Er cael
ymwared oddiwrth hyn, deil o'i flaen uchel-
76
Y TADAU METHODISTAIDD.
gais bydol, a chymhella ef i frysio i Ryd-
ychain. Meddai Howell yn ol : " Nid wyf
yn bruddglwyfus, fel yr ydych yn tybio.
Yr wyf yn mwynhau trysor na fedraf roddi
syniad i chwi am dano. Y maegalarbron
a bod yn estron i mi." Nid yw yn cael ei
ddallu ychwaithgany rhag-olygon dysglaer
a ddehr o'i flaen. "Bydded i'r rhai sydd
yn caru gweled, a chael eu gweled," medd,
" afaelu yn hudoliaethau Madam Ffawd.
Goddefer i mi gymaint a hyny o ddifrifwch
fel ag i ddeho yn onest a fy enaid." Nid yw
yn gweled ei Iwybr gyda golwg ar y dyfodol
yn ghr ; ond dywed nad oes arno ofn na
bydd iddo eniU bywioliaeth, ei fod yn
gobeithio ei fod wedi cael ei fwriadu i fod o
ryw lês, ac na chyfrifa unrhyw drafferth na
phoen yn ormod er ei gymhwyso ar gyfer
hyny. Ni fwriadaidderbyn urddau bellach.
" Peidiwch a'm cymhell i fod yn ddyn
cyhoeddus,"' meddai wrth ei frawd, " oblegyd
os goddefir i mi farnu gyda golwg arnaf fy
hun, ni feddaf unrhyw gymhwysder at
hyny." GweHr nadoedd ynadnabodeihun,
na"i gymhwysderau, ac nad oedd ganddo
syniad am y gwaith y galwyd ef i' w gyflawni.
Dechreu Tachwedd, 1735, aeth i Ryd-
ychain, gan ymrestru fel efrydydd yn
Neuadd Sant Alair, tan addysg Mr. Hart.
Gobeithiai ei gyfeillion a"i frodyr y cai ei
ddiwygio yn y brifysgol oddiwrth yr hyn
a alwent hwy yn benboethni. Ac os bu
unrhyw le neu sefydliad yn meddu
dylanwad er angrefyddoli dynion ieuainc,
a pheri iddynt goUi pob difrifwch ysprydol,
yr oedd Rhydychain felly y pryd hwn.
Dywed John Wesley '■' fod y lle yn flawn
o ieuenctyd anfoesol, mwy niweidiol na
phe buasent yn arwain bywyd drwg
cyhoeddus, y rhai a wisgent glogyn o
weddeidd-dra allanol, ond a dreuhent eu
holl amser mewn oferedd, ac a arhosent
mewn ymyfed a chyfeddach hyd haner nos.
Ni feddent rith duwioldeb, chwaethach ei
grym. I ganol y rhai hyn y taflwyd
Harris druan, a theimlai bron fel pe bai
wedi ei daflu i uffern. Yr oedd anfoes-
oldeb y lle yn ei ddychrynu, a threuhai y
rhan fwyaf o'i amser mewn gweddi ddirgel
ac yn yr addohad cyhoeddus. Dyhd nodi
fod Methodistiaid Rhydychain y pryd
hwn wedi cael eu gwasgar ; yr oedd John
a Charles Wesley, ynghyd a Benjamin
Ingham, ar Fôr y W'erydd, yn croesi i
Georgia, gyda'r amcan o efengyleiddio yr
Indiaid ; torasai iechyd Whitefield i lawr,
* Oxford Methodists, gan Tyerman, tudal. 18.
ac aethai adref i Gaerloyw ; ymsefydlasai
John Clayton yn Manchester, a John
Gambold, y Cymro o Sir Benfro, yn
ficeriaeth Stanton-Harcourt. Felly, nid
oedd braidd neb o fewn y Brifysgol yn
ceisio atal y Ihfeiriant o lygredigaeth oedd
yn cario pob peth o"i flaen. Dibynai
Harris am gynhahaeth tra yn Rhydychain
ar ei gyfeiflion, ac yn arbenig ar ei frawd
Joseph. Y mae flythyr ar gael a anfonwyd
ato yr adeg hon gan Joseph Harris
yn profi hyny. " Chwi a gewch yn
y gist hon,"' meddai y llythyr, " hen
bâr o ddillad i mi wedi ei gyfnewid
ar eich cyfer gan fy mrawd, gyda dau
bâr o glôs [hvee:hes) perthynol iddo, hefyd
fy hen glôs lledr i, y rhai a fyddant yn
wasanaethgar i chwi yn y wlad neu yn
Rhydychain." Ymddengys fod ei rag-
olygon bydol yn awr yn dra dysglaer, ond
iddo fyned yn ei flaen i gymeryd urddau.
Addewid lle iddo fel athraw ar ysgol fawr,
ac yr oedd rhyw foneddwr yn cynyg
bywioHaeth eglwysig iddo, gwerth saith
ugain punt y flwyddyn. Ond meddai :
" Yr oedd yr Arglwydd lesu yn awr wedi
meddianu fy nghalon, fel nad oedd yr holl
addewidion teg a osodent o'm blaen yn
cael fawr effaith arnaf." Gwelodd nas
gallai dreulio allan y tymor priodol yn
Rhydychain ; taflodd ymaith yr holl
ragolygon am ddyrchafiad ; a phender-
fynodd ddychwelyd adref, gan dreiglo ei
ffordd ar yr Arglwydd.
Gadawodd Howell Harris y Brifysgol
ddiwedd y flwyddyn 1735, ac ni ddych-
welodd yno mwyach. Mor fuan ag y
daeth yn ei ol dechreuodd fyned o
gwmpas i gynghori, a gwnai hyn gyda zêl
angerddol. Ai o dŷ i dŷ yn ei blwyf ei
hun, a'r plwyfydd cyfagos, i rybuddio y
trigianwyr i ffoi rhag y Ilid a fydd ;
cyfarchai y bobl a gyfarfyddai ar y ffordd
fawr ; pan y gwelai was ffermwr yn aredig
ar y maes ymwthiai trwy y berth ato, a
cherddai gydag ef o'r naiU dalar i'r Ilall, er
argraffu ar ei feddwl y pwys o ddianc rhag
uffern. Buan y cynyrchodd ei ymddygiad
gyffro trwy yr holl wlad. Aeth y tai
anedd yn mha rai y cynghorai yn rhy
fychain i'r bobl a ddeuent i'w Wrando.
Dywed yn ei Hunan-gofiant : " Yr oedd y
fath awdurdod yn cydfyned a'r Gair, fel y
byddai amryw yn y fan yn gwaeddu allan
ar Dduw am faddeuant o'u pechodau, a'r
cyfryw ag oedd yn byw mewn Ilid a
chenfigen yn cyffesu eu beiau y naiU i'r
llall, ac yn ymheddychu a'u gilydd, gan
HOWELL HARRIS.
77
yniddangos fel rhai yn ddifrifol ynghylch
eu cyflwr tragywyddol. AddoHad teiüu-
aidd a osodwyd i fynu mewn llawer o dai ;
ymgasglai tyrfaoedd mwy i'r eglwysydd,
ac hefyd at Fwrdd yr Arglwydd." Yr
oedd y lefain yn y blawd, a'r ymweithiad
yn dechreu cymeryd lle.
Nid ymgynghorodd Harris a chig a
gwaed er gwybod a oedd yr hyn a wnelai
yn rheolaidd ; nid oedd yn tybio ei fod yn
pregethu, ac ni amcanai at fod yn
bregethwr ; ni feddai unrhyw gynUun
ychwaith, ond gwelai ei gydwladwyr yn
cyflymu i ddystryw, mewn anwybodaeth
o'u perygl, a theimlai mai gwae ef oni
rybuddiai hwynt. Efe yn ddiau yw tad y
weinidogaeth leygol, yr hon a fu mor
fendithiol i Gymru ; ond ni amcanai ef
ddwyn unrhyw newydd-beth i mewn.
Awydd achub eneidiau anfarwol a losgai
fel tân yn ei yspryd. " Erbyn hyn,"
medd, " yr oedd yn bryd i'r gelyn ymosod
arnaf," ac amlwg yw iddo wneyd hyny
mewn gwahanol ddulliau. Dechreuodd
y werinos, yn cael eu cyff^roi yn ddiau gan
rai mewn sefyllfa uwch, ei wawdio a'i
erlid ; bygythiai yr ynadon ef a'r bobl a'i
derbynient i'w tai a charchar neu ddirwy ;
a chynhyrfai preladiaid yr Eglwys Wladol
o herwydd ei fod yn ymyraeth a'r hyn a
berthynai, fel y tybient, iddynt hwy yn
unig. Chwefror, 1736, derbyniodd lythyr
ceryddol oddiwrth Mr. Price Davies, ficer
Talgarth. Yn y Ilythyr hwn dywed Mr.
Davies ei bod yn Ilawn bryd ei hysbysu o'r
pechod a'r gosb oedd yn dynu arno ei hun ;
ond iddo ddarllen ei Feibl, y gwelai nad
oedd y gwaith a pha un yr ymgymerasai
yn perthyn i leygwyr o gwbl, yn mhellach
na darllen a gweddîo yn eu teuluoedd ;
fod ganddo un camwedd trymach i'w osod
yn ei erbyn, sef ddarfod iddo derfynu un
anerchiad gyda gweddi faith, allan o'i frest ;
a dymuna arno ystyried pa mor gryf y
sawra ei ymddygiad o ffanaticiaeth a rhag-
rith. Diwedda Mr. Davies trwy fygwth.
Bygythia ysgrifenu at ei frawd Joseph, a
rhoddi gwybod i'r esgob, yr hyn a'i
rhwystrai i gael ei urddo, oni wnai ymatal ;
a gobeithia na wna roddi achos cyfiawn
iddo ef ac eraill i dybio fod ei synwyrau
wedi eu amharu. Nid gelyniaeth at
grefydd efengylaidd oedd yn cyffroi y
Parch. Price Da\ies, na difaterwch hollol
oblegyd cyflwr ysprydol y wlad ; y mae yn
amlwg ei fod yn meddu cryn lawer o
ddifrifwch ; ond ysgrifenai yn ol y goleuni
oedd ganddo. Iddo ef a'i gyffelyb rheol-
eidd-dra oedd y pwnc mawr ; purion peth
oedd achub eneidiau, ond i hyny gael ei
wneyd yn rheolaidd, a thrwy gyfrwng
gweinidog wedi derbyn urddau esgobol ;
ond ystyriai fod gwaith Ileygwr yn ymyr-
aeth yn drosedd anfaddeuol, Nid oedd yn
canfod fod achubiaeth y byd yn bwysicach
na swyddogaeth. Efallai yr ofnai hefyd os
cai personau di-urddau fyned o gwmpas i
gynghori y darfyddai am yr off'eiriadaeth.
Ni effeithiodd Ilythyr y ficer ar Harris fel
agiberi iddo newid eigyfeiriad. Dychryn-
wyd rhai o'r personau a arferent ddyfod i
wrando arno gan wrthwynebiad y person-
iaid, ac erledigaeth y werin bobl ; ond cyfar-
fyddent yn ddirgel, pan na feiddient wneyd
yn gyhoeddus. Yn raddol chwythodd yr
ystorm heibio, a'r gwanwyn dilynol ail-
gychwynodd ei ymweliadau o dŷ i dỳ'.
Erbyn hyn daethai i gydnabyddiaeth ag
amryw o'r YmneiIIduwyr ; yr oedd eglwys
Ymneillduol yn Nhredwstan, yr ochr arall
i'r cwmiddo, yn yr hon, er ei bod yn fychan
ac yn eiddil, yr oedd rhyw gymaint o wir
grefydd yn aros, fel llin yn mygu ; a chaff'ai
gan y rhai hyn dderbyniad calonog i'w tai.
Er mwyn bywioliaeth, sefydla ysgol ddydd-
iol yn Nhrefecca, yr hon yn fuan a symud-
wyd i eglwys Talgarth. Er ddarfod iddo
fod ar ymweliad a'r Hybarch Griffith
Jones, yn Llanddowror, yn mynegu ei
fwriad ac yn gofyn cyfarwyddid, nid yw yn
ymddangos fod ei ysgol yn un o rai Griffìth
Jones ; yn hytrach, anturiaeth bersonol
ydoedd. Ond yr oedd mewn gohebiaeth
gyson ag offeiriad duwiol Llanddowror ;
mynegai ei Iwyddiant iddo gydag asbri ; a
derbyniai oddiwrtho roddion o lyfrau a
phob cefnogaeth. Bu yr ysgol yn gym-
orth nid bychan i'r Diwygiad. " Llawero
ddynion ieuainc," meddai, " a gofleidiasant
y cyfleustra, ac a ddaethant ataf i gael eu
hyffbrddi yn mhellach yn ffordd iachaw-
dwriaeth."
Cafodd gyfleustra arall i rybuddio ei
gyd- wladwyr gyda golwg ar fater eu henaid.
Elai dyn o'r gymydogaeth o gwmpas i
ddysgu pobl ieuainc i ganu Salmau. " Nid
oedd gwrthwynebiad i hyny," meddai
Harris, " mwy na phe y buasent yn
ymgynull ynghyd i ddawnsio, neu i ymladd
ceiliogod." Felly yr ysgrifena, gyda phob
difrifwch ; nid yw fel yn ymwybodol y
fath ddatguddiad a rydd ei eiriau o gyflwr
y wlad. Wedi i'r athraw cerddorol der-
fynu ei addysgiant mewn canu, cyfodai y
Diwygiwr i roddi iddynt air o gyngor, a
thrwy y moddion yma dygwyd Uawer dan
78
Y TADAU METHODISTAIDD.
argyhoeddiad. Arweiniodd hyn i sefydUad
societies. Meddai, " Myfi a ddechreuais
sefydlu y societies hyn yn ol y drefn y mae
Dr. Woodward yn rhoddi hanes am dani,
mewn traethawd a ysgrifenodd efe ar y pen
hwnw. Nid oedd hyd yn hyn ddim
societies o'r fath yn Nghymru na Lloegr.
Yr oedd y Methodistiaid Saesneg heb son
am danynt eto, er fod yr Arglwydd y pryd
hyny, fel y cefais wedin, yn gweithio ar rai
o honynt yn Rhydychain a manau eraill."
Perthyn i'r Eglwys Sefydledig yr oedd y
Dr. Woodward y cyfeirir ato ; sefydlasai
ei seiadau ar gynllun, ac yn unol a rheolau
a dynasid allan gan Archesgob Caergaint ;
yr amcan oedd casglu yngliyd y rhai a
geisient arwain bywyd sanctaidd, ac a
foddlonent i fyw yn unol a rheolau manwl,
yn un gymdeithas, i'r hon y byddent oll yn
gyfrifol. Mewn rhai pethau nid oeddent
yn annhebyg i'r guilds presenol yn Eglwys
Loegr. Yn Llundain yn unig y cawsent
eu sefydlu gan Dr. Woodward, ac er iddynt
unwaith fod yn bur gryfion, suddasent
erbyn hyn i gyflwr isel a difywyd. Yn
wir, ychydig o gyffelybrwydd oedd rhwng
y seiadau a sefydlwyd gan Howell Harris i
eiddo Dr. Woodward. Amcan seiadau
Woodward oedd disgyblaeth ; yspryd
deddfol a lywodraethai ynddynt ; ufudd-dod
i reolau ac ordinhadau allanol yn benaf a
ofynent. Amcan seiadau Harris oedd
cyd-hyíîorddiant ar y fîordd i'r nefoedd ;
cyfleusterau oeddynt i'r rhai a gawsent eu
hargyhoeddi i adrodd eu profiadau, ac i
arllwys eu calonau y naill i'r llall, fel y
gallent gysuro a chynorthwyo eu gilydd.
Ýr oeddynt yn drwyadl efengylaidd o ran
tôn, ac yn talu sylw yn benaf i'r ysprydol
a'r mewnol. O ran ei hanfod yr oedd cyn-
llun Harris yn wreiddiol iddo ef ei hun.
Diau ei fod yn gywir wrth ddweyd nad
oedd seiadau o'r fath ar y pryd yn Nghymru
na Lloegr. Yn mhen tair blynedd gwedi
hyn y sefydlodd John Wesley y gyntaf
o'i seiadau ef. Cawn y Parch. James
Hervey, un o Fethodistiaid Rhydychain,
yn y flwyddyn 1739, yn ffurfio cym-
deithas grefyddol gyffelyb yn Bideford,
" nid," meddai, " mewn gwrthwynebiad
i'r Eglwys Sefydledig, ond mewn cyd-
ffurfiad dyledus a hi." Dywed fod y
manteision canlynol i'w cael mewn cym-
deithasau o'r fath. "(i) Yr ydym ni yn
anwybodus, ac yn fynych yn methu canfod
y pethau sydd a rhagoriaeth ynddynt ; eithr
gwel Duw yn dda ddatguddio i rai yr hyn
a guddir oddiwrth eraill ; felly, yn amlder
cynghorwyr y mae doethineb yn gystal a
dyogelwch. (2) Yr ydym yn tueddu i
garu ein hunain, ac felly yn analluog i
ganfod ein colliadau; o ganlyniad, yr ydym
yn anhebyg o ddiwygio. Ond gwna ein
cyfeilhon, mewn yspryd llariaidd a di-
duedd, ddangos i ni ein bai. (3) Yr ydym
yn wan ac anmhenderfynol ; rhwystrir ni
yn hawdd pan yn ymgais am yr hyn
sydd ardderchog ; ond y mae cymdeithas
cyfeilhon, yn ymdrechu am yr un rhagor-
iaethau, yn ein llenwi a gwroldeb a
sefydlogrwydd. (4) Yr ydym yn ddiog ac
yn glauar yn nghyflawniad ein dyled-
swyddau crefyddol ; eithr gwna cyd-
gymundeb sanctaidd gyffroi a chadw yn
fyw zêl dduwiol. Mor fynych yr aethum
i gyfeillach fy mrodyr yn oer a diyspryd ;
ond dychwelwn yn ddyn newydd, yn
Ilawn awyddfryd a zêl."* Pa fodd bynag,
methodd Hervey a chadw y gymdeithas
yn Bideford ar y llinellau hyn. Nid oedd
y rhai a ymgynullent yn teimlo y medrent
gynal ymddiddan crefyddol yn mlaen
mewn modd a gynyrchai adeiladaeth ; nid
oeddynt yn ddigon ysprydol ychwaith
i gwestiyno y naill y Ilall gyda golwg ar
fater eu heneidiau ; felly, yn Ile adrodd
profiad, darllenid rhyw Iyfr defosiynol da.
Ond yr hyn y methodd Mr. Hervey ei
sefydlu a ddaeth yn Nghymru yn gyfarfod
o'r pwysigrwydd mwyaf, ac yn rhan o
fywyd crefyddol y genedl. Yn y seiadau,
a sefydlwyd gan Howell Harris a Daniel
Rowland, mewn anwybodaeth am waith
eu gilydd, yr addysgid yr anwybodus yn
fanylach yn egwyddorion yr efengyl, y
dangosid i'r anghyfarwydd y modd y
dylai droedio er gochel maglau y gelyn,
y rhybuddid y rhai a dueddent i oeri
mewn zêl, y dyddenid y rhai oeddynt yn
cael eu poeni gan ofnau, ac y caffai saint
Duw gymdeithas a'u gilydd yn Nghrist
lesu. Ni wnaeth dim fwy er dwyshau y
teimlad crefyddol yn y wlad na'r seiat
brofiad.
Hyd yn hyn, Talgarth a'r cymydog-
aethau o gwmpas oedd cylch gweinidog-
aeth Howell Harris. Ond yn haf 1737,
anfonodd boneddwr o Sir Faesyfed am
dano i lefaru yn ei dŷ. Cwbl gredodd
yntau fod yr alwad o'r nefoedd, ac heb
ymgynghori a chig a gwaed yno yr aeth.
Daeth nifer o bobl barchus ynghyd i
wrando, wedi eu cyffroi yn benaf gan
gywreinrwydd. Ond cawsant y fath fodd-
* Tyerman's Oxford Methodists.
HOWELL HARRIS.
79
lonrwydd yn yr hyn a draethai, ac yn yr
atebion i'r gwahanol gwestiynau a ofynent
iddo, fel y symudwyd eu rhagfarn yn
hollol, a chafodd amryAV eu hargyhoeddi
o druenusrwydd eu cyflwr. Darfu i
fendith Duw ar yr odfa gyntaf a gynhal-
iwyd ganddo yn mhell o cartref, ei
argylioeddi y bwriedid iddo eangu cylch
ei lafur. Hyn a wnaeth yn ddiymaros.
Ai i ffeiriau, a gwyHau, ac i bob man o
fewn ei gyrhaedd, lle yr ymgynullai y
Ihaws, i rybuddio dynion o'u perygh Ond
yr oedd yr ysgol ar ei ífordd, fel na fedrai
fyned yn mhelL Eithr symudwyd y
rhwystr hwn trwy frâd y diafol ei hun ;
oblegyd tua diwedd y flwyddyn cafodd ei
droi aflan o'r ysgol oblegyd ei afreolaeth.
Bellach, yr oedd at ei ryddid i fyned pa le
bynag y gelwid am dano, ac ni phetrusai
yntau dderbyn pob gwahoddiad. Pregethai
dair neu bedair gwaith y dydd, weithiau
bump neu chwech, a hyny i gynuUeidfa-
oedd anferth. Cyíìrowyd Siroedd Brych-
einiog a Measyfed trwy ei weinidogaeth
o gwr i gwr. Deffrôdd hyn elyniaeth
danllyd yn ei erbyn. Meddai: "Weithiau
yr oeddwn yn cael fy llwytho a phob
math o gamachwyniadau ; y swyddogion
gwladol yn bygwth fy nghospi, yr
ofíeiriaid yn yr eglwysydd yn pregethu
yn fy erbyn, gan fy nodi allan fel y Gau-
Brophwyd, a'r Twyllwr, a'r moh yn mhob
Ue, yn amcanu fy niweidio." Ond nid
oedd gŵr Duw yn gofalu am y pethau
hyn ; llenwid ei enaid ynddo gan ddyddan-
wch pur.
Anhawdd i ni yn yr oes hon ffuríìo barn
am wresogrwydd a nerth gweinidogaeth
HoweU Harris. Nid oedd ei bregethau
parthed ardduU cyfansoddiad, ynghyd a
dyfnder ac arucheledd meddylddrychau,
i'w cymharu ag eiddo Griffith Jones, ac
yn arbenig eiddo Daniel Rowland. Ni
wnaeth ymgais am rai blynyddoedd i
draddodi pregethau ar destynau ; rhoddai
anerchiadau difyfyr, heb unrhyw drefn
neiUduol, gan daranu yn erbyn pechod.
Meddai : " Mewn perthynas i swm fy
ymadrodd, yr ydoedd oU yn cael ei roddi i
mi mewn modd anarferol, heb y rhag-
fyfyriad lleiaf; nid cynyrch fy nghof
ydoedd ychwaith, canys ni fu genyf gof
da erioed ; nerthol gynhyrfiad a deimlwn
yn fy enaid ydoedd, fel nas gallwn fod
yn llonydd, gan yr angenrhaid a osodwyd
arnaf i ddeffroi eneidiau pechaduriaid."
Cawsai ei gyfaddasu yn arbenig gan
natur, a chan ddyfnder ei argyhoeddiad,
ar gyfer rhybuddio yr annuwioL Yr oedd
ei olwg yn fawreddog, ac yn tynu sylw
ar unwaith ; yr oedd ei lais yn gryf ac yn
ghr ; fflamiai ei lygaid ; eisteddai difrifwch
o dragywyddoldeb ar ei wynebpryd ; ac
yr oedd nerth anorchfygol yn ei draddodiad.
Elai allan i'r rhedegfeydd, ac i ffeiriau,
gwylmabsantau, a chyfarfodydd Uygredig
y wlad, gan rybuddio y bobl i ffoi i'r
cysgod. Disgynai ei ymadroddion fel
pelenau o dàn ar y tyrfaoedd anystyrioL
Wedi cael cynuheidfa o'i flaen, y mae y
pregethwr yn sefyh i fynu, a chyda ei fod
yn agor ei enau, dyma ystorm ddychryn-
llyd o feflt a tharanau yn disgyn ar ben y
gwrandaw'yr; y maent yn cael eu hysgwyd
uwchben uffern, nes y mae rhai yn gwelwi
a rhai yn gwaeddu. Nid anaml gwehd
cynuUeidfa o ddwy fil yn aros am ddwy
awr yn y gwlaw i wrando arno yn Uefaru.
Byddai rhai yn cael eu hargyhoeddi, ac
eraill yn ceisio dystewi Uais cydwybod
trwy erhd y pregethwr. Ofer ceisio
cyfrif ar dir rheswm cnawdol am y dylan-
wad a fyddai yn cydfyned a'i eiriau ; yr
oedd ganddo genadwri oddiwrth Dduw i
ddynion, a thraddodai hi gydag angerdd-
olrwydd yspryd a gariai y cwbl o'i flaen.
Cymwys desgrifiad WilHams, Pantycelyn,
o hono : —
" Yn y cyfncs tywyll pygddu,
Fe ddaetli dyn fel mewn twym ias,
Yn llawn gwreichion goleu, tanllyd,
0 Drefecca Fach i ma's.
Yn y daran 'r oedd e'n aros,
Y"n y cwmwl 'r oedd ei le,
(Y^spryd briw, drylliedig, gwresog,
Sy'n cael cwnsel Brenin Ne') ;
Ac yn saethu oddiyno allan
Fellt ofnadwy iawn eu rhyw,
At y dorf aneirif, dywyll,
Yn eu pechod oedd yn byw.
Gorfu gwrando ei eiriau geirwon,
Cadarn yw awdurdod nen ;
Os gwrthw'nebu wna pechadur,
Trymach cwymp hi ar ei ben ;
Dilyn ergyd a wnaeth ergyd,
Nes gwneyd torf yn foddlon dod
At yr lesu mewn cadwynau,
Fyth i ddilyn ôl ei droed.
Gwerin fawr o blant pleserau
Y' pryd hwnw gafodd flas,
Ag nad â tra fyddo anadl
O'u hysprydoedd ddim i macs.
'Eoedd ei eiriau dwys, sylweddol,
Heb eu studio 'mlaen llaw'r un,
Wedi ei ffìtio gan yr Yspryd
1 gyflyrau pob rhyw ddyn."
Digwyddodd dau amgylchiad ynglyn a
HoweU Harris, yn haf 1737, o bwysig-
rwydd mawr iddo ef ei hun ac i'r diwygiad.
8o
Y TADAU METHODISTAIDD.
Un oedd cyfarfod am y tro cyntaf a
Daniel Rowland yn Defynog. Er fod y
ddau er ys peth amser wedi tori allan o'r
llwybr cyffredin i rybuddio yr annuwiol, ni
wyddent ddim am eu gilydd ; a gwna hyn
eu hymddygiad yn fwy beiddgar a gwron-
aidd. Ai Harris allan yn enw Crist i'r
pentrefydd, ac i gymoedd mynyddig
Brycheiniog a Maesyfed, gan dybio, fel
EHas gynt, mai efe oedd yr unig dyst dros
y Gwaredwr. Ond cafodd Rowland ei
wahodd i Eglwys Defynog, gan fìcer y
plwyf; daeth Harris, trwy wahoddiad y
íìcer, yn ol pob tebyg, yno i'w gyfarfod; ac
wrth weled y doniau seraphaidd a pha rai
yr oedd wedi ei gynysgaeddu, a'r nerth
gyda pha un y traddodai wirioneddau
gogoneddus yr efengyl, ymglymodd ei
enaid am yr apostol o Langeitho, ac aeth
gydag ef i Sir Aberteifi cyn dychwelyd.
Ós edrychir ar Fethodistiaeth fel yn
tarddu, a dywedyd yn ol dull dynol, o
ddwy ffrwd wahanol ac annibynol, yn
Defynog y pryd hwnw gweHr y ddwy
ffrwd yn ymuno a'u gilydd, ac yn ymffurfio
yn afon.
Yr amgylchiad arall oedd argyhoeddiad
Mr. Marmaduke Gwynn, un o brif fonedd-
wyr Brycheiniog, yr hwn abreswyliai yn y
Garth, yn rhan uchaf y sir. Disgwylid
Harris i bregethu yn y gymydogaeth.
Clywsai Mr. Gwynn lawer math o ddrygair
am y pregethwr, ei fod yn wrthryfelwr yn
erbyn y brenin, ac yn terfysgu y bobl, gan
eu hanog i gcdi yn erbyn yr awdurdod
wladol. Teimlai mai ei ddyledswydd, fel
ustus heddwch, oedd traddodi y terfysgwr
i'r carchar. Ond yr oedd yn ŵr cyfiawn,
ac meddai wrth ei wraig : " Mi a'i gwran-
dawaf cyn ei draddodi." I'r cyfarfod yr
aeth, a Deddf Terfysg {the Riot Act), yn ei
logell, er tori y cyfarfod i fynu, a gwasgar
y gwrandawyr, pan welai duedd at wrth-
ryfel. Ond ni soniai Harris am bethau
tymhorol ; bygythion Duw yn erbyn yr
annuwiol a fynegai ; anog y gynulleidfa i
ddianc rhag y IHd a fydd yr oedd, a'u cer-
yddu am eu pechodau gwaradwyddus, a'u
bucheddau anfoesol. Ymddangosai i Mr.
Gwynn fel angel Duw, fel cenad o fyd
arall. Yn Ile dal y pregethwr, cafodd efe
ei hun ei ddal, ai ddwyn yn gaeth i Grist.
Ar derfyn y cyfarfod, aeth at y pregethwr,
gan gyfaddef ei ddrwg-fwriad, a gofyn ei
bardwn, a'i gymhell i letya i'w dŷ. Bu
aruthr gan Mrs. Gwynn, yr hon oedd yn
foneddiges yn hanu o deulu uchel, weled
ei phriod yn dychwelyd yn nghwmni y
pregethwr terfysglyd, ac yn taiu cymaint o
barch iddo a phe byddai yn esgob. Braidd
na chredai fod ei g\vr wedi colli ei synwyr.
Eithr trodd y ferch, Miss Sarah Gwynn,
gyda ei thad. Bu Mrs. Gwynn am beth
amser yn elynol i'r diwygiad, ond cafodd
hithau ei hargyhoeddi i fywyd, a daeth yr
holl deulu yn Fethodistiaid. Priododd
Miss Gwynn a Charles Wesley ar ol hyn.
Taflodd Mr. Gwynn ei holl ddylanwad o
blaid Harris ; amddiffynodd ef yn mhob
modd, a sicr yw ddarfod i'w ymddygiad
effeithio yn fawr er Ileihau yr erledigaeth,
ac i ddwyn opiniwn y cyhoedd yn bleidiol
i Fethodistiaeth.
Erbyn diwedd 1737, a gwanwyn 1738,
er.pob gwrthwynebiad oddiwrth yr offeir-
iaid a'r boneddwyr, ac er terfysg y werinos,
yr oedd seiadau wedi cael eu ffurfio bron
yn mhob cymydogaeth yn Sir Frycheiniog,
mewn nifer mawr o leoedd yn Sir Faesyfed,
ac mewn rhai manau yn Sir Henffordd.
Nid oedd ardal na chwmwd perthynol
iddynt nad oedd wedi ymweled a hwy
droiau. Pregethai weithiau yn addoldai
yr YmneiIIduwyr, ond gan amlaf yn yr
awyr agored. Heblaw hyn, ymwelai yn
fynych a Llangeitho, nid yn uniger mwyn-
hau gweinidogaeth seraphaidd Daniel
Rowland, ond hefyd yn ddiau er cael cyd-
ymgynghori ag ef gyda golwg ar gario y
gwaith mawr yn mlaen. Bu ddwywaith o
leiaf yn Llanddowror yn 1737, fel y prawf
ei ddydd-Iyfr, ar ymweliad a'r Parch.
Griffìth Jones, yr hwn a berchid ganddo
megys tad. Y mae yn bur sicr ei fod yn
pregethu rhyw gymaint wrth fyned a dych-
welyd yn siroedd Caerfyrddin ac Aberteifi.
Canlyniad hyn, ynghyd a Ilafur Daniel
Rowland, oedd fod arwyddion o ddiwygiad
i'w canfod mewn amryw siroedd ; ymdyrai
y bobl i leoedd o addoliad ; elai y cyfarfod-
ydd Ilygredig heb fod nemawr yn cyrchu
iddynt, ac yr oedd anfoesoldeb yn dechreu
plygu ei ben mewn cywilydd. Clywyd
son am ei weinidogaeth, a'r arddeliad
rhyfedd oedd yn cydfyned a hi, yn Mynwy
a Morganwg ; tybiodd rhai o"r gweinidogion
YmneiIIduol yn y siroedd hyn fod gwawr
gobaith yn ymagor ynddo ar Gymru, a
phenderfynasant ei wahodd i ddyfod ar
daith trwy eu gwlad, gan hyderu y byddai
i'w ymweliad fod yn foddion adfywiad i'r
achosion gweiniaid oedd yn wywllid eu
gwedd, ac yn barod i farw.
Y cyntaf i roddi gwahoddiad i Howell
Harris oedd y Parch. Edmund Jones, Pont-
ypŵl. Yr oedd Mr. Jones yn fab i rieni
u
u
-H
'-^ <
2;
co
c^
^
o
o
H
tì
Q
<;
O
u
u
HOWELL HARRIS.
8i
tlodion oeddynt yn aelodau yn eglwys
Annibynol Penmain. Ni chawsai nemawr
fanteision addysgol ; nid ymddengys
ychwaith ei fod o ddoniau mawr, ond yr
oedd yn llawn o zêl a gweithgarwch.
Llwyddasai i gasglu cynulleidfa ac eglwys
fechan yn nghymydogaeth Pontypŵl; eithr
gwanaidd a dilewyrch iawn oedd yr achos ;
nid oedd ganddynt addoldy o gwbl ; ond
ymgynullent mewn gwahanol dai anedd ar
gylch. Yr oedd yr holl gwm, ynghyd a'r
cwm nesaf, o Flaenau Gwent i lawr, yn
ddigrefydd ac annuwiol. Penderfynodd
Mr. Jones y gwnai ymgais i gael Howell
Harris yno i bregethu ; ddechreu gwanwyn
1738, aeth yn un swydd ar ei draed i Dre-
fecca i'w gyrchu ; ac ni ddychwelodd heb
ddwyn Mr. Harris gydag ef. Cynyrchodd
ymwehad y Diwygiwr gyffro dirfawr yn
yspryd offeiriad Mynyddislwyn a Bed-
wellty, ac yn ei hd, anfonodd ato y Ilythyr
canlynol : —
" Mr. Harris. — Yr wyf yn synu at
eich hyfdra yn dyfod i fy mhlwyfydd i, sef
Mynyddislwyn a Bedwellty. Rhaid i
chwi giho yn ol ; onide bydd i chwi, a'r
person neu y personau a'ch gwahoddodd
ac a anfonodd am danoch, dderbyn y
dialedd cyfìawn sydd yn ddyledus am
y fath ymddygiadau anghyfreithlon. — Yr
eiddoch, Dayid Perrot."
Y mae y llythyr hwn wedi ei ddyddio
Mawrth 17,1738. Nithalodd HowellHarris
un sylw i fygythion Mr. Perrot ; aeth yn ei
flaen gan daranu yn erbyn drwg arferion y
trigoHon gyda nerth, nes y syrthiodd braw
a dychryn arnynt. Nid oes genym restr
o'r lleoedd a phai rai yr ymwelodd, ond
ymddengys fod dylanwadau rhyfedd yn
cydfyned a'i weinidogaeth, a bod y fath
awdurdod yn ei leferydd fel y dychrynid
y mwyaf rhyfygus, ac y sighd teyrnas
y tywyllwch hyd ei saiL Cynyrchodd
chwildroad holloi yn sefyllfa foesol y wlad.
Cymerer yr hyn a gymerodd le yn nghym-
ydogaeth Mynyddislwyn fel enghraifft.
Ger eglwys y plwyf yr oedd twmpath
uchel a elwid " Towyn Tudur," a thaenid
hen chwedl yn yr ardal yr elai yn ystorm
o fellt a tharanau pe y ceisiai neb ei
symud. Ar y twmpath hwn y safai
Harris, ynghanol y canoedd campwyr
oedd wedi ymgynull i wrando. Ychydig,
meddir, oeddynt yn ddirnad am faterion y
bregeth, ond deallent fod y Uefarwr yn
cyhoeddi melldithion ofnadwy yn erbyn
eu drygfoes, a'i fod yn bygwth y llyn o
dân ar y rhai a fynychent y gwyhnab-
santau a'r campau. Effeithiai ei ddull yn
ofnadwy ar y gwrandawyr. Tybient fod
y ddaear yn crynu dan eu traed, a bod
uffern yn myned i agor ei safn i'w Uyncu
yn fyw. Nid annhebyg fod a fynai yr
hen chwedl ofergoelus a mwyfiau eu
dychryn. Darfu i'r un bregeth hon fwrw
diflasdod ar hen arferion bryntion yr ardal,
a gwneyd y chwareuon yn anmhoblog-
aidd. Dywedai hen \Vr wrth y diweddar
Barch. Thomas Evans, Risca : " Ni
chefais flas byth mwy gyda'r bôl droed, er
fy mod yn flaenorol yn un o benaethiaid y
gamp. Pan aem i chwareu, dychymygwn,
yn arbenig os byddai wedi machlud haul,
fod y diafol yn bersonol yn ein mysg." Y
dyb gyffredin gan drigoHon y fro oedd fod
y g\Vr a fu yn pregethu ar Dowyn Tudur
wedi rheibio y chwareu. Cyffelyb a fu yr
effeithiau mewn ardaloedd eraiH, er nad
oes genym hanes mor fanwl am danynt.
Dywed Edmund Jones * ddarfod i lawer
gael eu hachub y pryd hwn yn Mlaenau
Gwent, ac Ebbwy Fawr ; ymunodd rhai o
honynt ag Eglwys Loegr, eraiU a'r
Bedyddwyr, ac eraill a'r Annibynwyr.
Dylid cofio mai ardaloedd amaethyddol
oedd y rhai hyn y pryd hwnw, mai fferm-
wyr a'u Ilafurwyr a drigianai yma, a bod y
wlad o ganlyniad yn anaml ei thrigolion.
Meddai E. Jones : " Adeg ddedwydd oedd
hon yn Ebbwy Fawr, y fath na welwyd,
yr wyf yn credu, na chynt na chwedi hyn.
Gallai un feddwl fod yr holl ddyffryn yn
troi at Dduw. O ddau-ar-bymtheg-ar-
hugain o dai, nid oedd ond saith, os oedd
cynifer, i ba rai nad oedd Gair yr Arglwydd
wedi treiddio. Yr oedd y bobl a dueddent
at grefydd yn Ilawer amlach na'r lleill."
Bendithiwyd gweinidogaeth Harris y tro
hwn er argyhoeddiad i amryw a ddaethant
yn ganlynol yn bregethwyr, megys Phylip
Dafydd, yr hwn a fu yn weinidog gyda'r
Annibynwyr yn Mhenmain am agos i haner
can' mlynedd ; Thomas Lewis, yr hwn
a gafodd ei benodi yn arolygwr yr achosion
Methodistaidd yn y rhan agosaf i Loegr o
Fynwy ; John Powel, yr hwn oedd frodor
o Frycheiniog, ac a ddygasid i fynu mewn
tafarndy ; ynghyd a Morgan John Lewis,
gweinidog cyntaf eglwys y New Inn, am
yr hwn y cawn son eto. Yn bur fuan,
cawn seiadau wedi cael ei sefydlu yn y
Goetre, Glascoed, Mynyddislwyn, Llan-
gattwg, Trefethin, LIansantffraid,LIangatt-
wg-ger-CaerlIeon-ar-Wysg, Llanfihangel,
* Historij of the I'arish of Aberijsiruth.
G
82
Y TADAU METHODISTAIDD.
a Llanheiddel. Pa un ai ar y daith hon,
ynte taith arall a gymerwyd ganddo trwy
Fynwy yn Hydref yr un flwyddyn, y caw-
sant eu sefydlu, nis gwyddom. Derbyn-
iwyd HoweÌl Harris fel cenad o'r nefoedd
gan y gweinidogion Ymneillduol a bregeth-
ent athrawiaethau Calfinaidd ; a bu ei
ddyfodiad fel bywyd o farw i'r achosion
gweiniaid oedd dan eu gofaL Yn bur fuan
yr ydym yn cael Edmund Jones yn adeiladu
addoldy yn Mhontypẃl, a Ihosogodd yr
eglwysi YmneiUduol yn yr holl gwmpasoedd
yn ddirfawr. Ond am y gweinidogion a
dueddent at Arminiaeth, gwnaent hwy yr
oll a fedrent i rwystro y diwygiad, ac i
wrthwynebu Harris, a braidd nad y dos-
parth yma oedd yn y mwyafrif ar y pryd.
Eu cri yn ei erbyn oedd na chawsai ei
ordeinio, ac felly nad oedd hawl ganddo i
bregethu. Rhoddai yr Ymneillduwyr
fFurfiol hyn gymaint o bwys ar ordeiniad
ag a wnelai offeiriaid Eglwys Loegr.
" Ni fedraf lai na sylwi," meddai Edmund
Jones, mew^n ' llythyr at Howell Harris,
" mai ein dynion goreu sydd yn ffafriol i
chwi, ac mai y rhai sychion, amddifad o
brofiad, neu Arminiaid, sydd yn eich
erbyn ; o leiaf, hwy sydd yn chwerw."
Dywed yn mhellach fod y gweinidogion
efengylaidd yn edrych arno fel un wedi
cael ei alw i"r weinidogaeth, er nad yn y
ffordd arferol. Harris wedi ei alw ? Ỳ
mae mor sicr ei fod a darfod i'r apostolion
gael eu galw gan y Gwaredwr ; profid hyny
yn ddiymwad gan yr arddeliad oedd yn
cydfyned a'i bregethu, a chan y canoedd a
gawsent eu dychwelyd trwyddo. Os gallai
Paul droi ar y Corinthiaid crediniol, gan
ddweyd : " Sêl fy apostoliaeth i ydych chwi
yn yr Arglwydd," gallai Harris yntau
gyfeirio at ganoedd ar hyd a Iled y wlad a
gawsant eu hachub trwy ei ofFerynoIiaeth,
ac a oeddynt yn dystion byw o'i ddwyfol
anfoniad. Yr oedd rhesymau personol gan
y gweinidogion Arminaidd dros wrthwynebu
y Diwygiwr. Yn un peth, yr athrawiaethau
Calfinaidd a bregethid ganddo, a hyny yn
y modd mwyaf difloesgni ; dyn yn golled-
igaeth ynddo ei hunan, y galon yn ddrwg
diobaith, holl ymdrechion dyn i ddod i fynu
a gofynion deddf gyfiawn y nefoedd yn
gwbl ofer, ufudd-dod ac iawn yr Arglwydd
lesu yn unig sail cadwedigaeth, a'r clod
yn gyfangwbl yn perthyn i ras pen-
arglwyddiaethol Duw, dyma y gwirion-
eddau a gyhoeddai. Gellid symio ei gredo
mewn cymal a geir yn un o'i weddiau :
" Uff'ern wyf fi ; ond nefoedd wyt ti."
Yn erbyn yr athrawiaeth hon gwingai yr
Arminiaid anefengylaidd yn enbyd. Heb-
law hyn, taranai yn ofnadwy yn erbyn yr
oerni, y cysgadrwydd, a"r bydolrwydd,
oedd wedi gorddiwes yr eglwysi Ymneill-
duol, ynghyd a dull clauar a deddfol y
gweinidogion o bregethu. Fflangellai
hwynt yn y modd mwyaf diarbed, a
galwai arnynt yn enw yr Arglwydd i
ddihuno, onide y syrthient dan y farn.
Tybiai Edmund Jones ei fod yn tueddu i
fod yn rhy lym. " Da genyf," meddai,
" ddarfod i Mr. W'hitefield ddwyn tystiol-
aeth onest a hyf yn erbyn clauarineb a
bydolrwydd yr YmneiIIduwyr, ynghyd ag
ysgafnder a bywyd penrhydd amryw o'u
gweinidogion. Yr oedd yr angen mwyaf
am wneyd hyn ; ond gwna Mr. Whitefield
ef mewn modd cymhedrol, eithr gonest ; a
phe y gwnaech chwithau hyn, anwyl
frawd, gyda Ilai o nwyd a chyffröad
yspryd, gan barchu eu personau, gallasech
effeithio Ilawer o dda. Ond fel y mae,
ofnaf na wnaed fawr da. Ar yr un pryd,
gwelaf mai i ni y perthyn y bai mwyaf."
Nid awn i geisio penderfynu a ydoedd
Edmund Jones yn, barnu yn gywir ; sicr
yw fod Harris yn wresog ei yspryd, ac yn
dra Ilym yn ei ddynoethiad o ddrygau, yn
arbenig drygau cysylltiedig a'r cysegr ;
ond gwelir yn eglur ddarfod i'w hyfdra
gynyrchu gwrthwynebiad iddo yn mysg
y gweinidogion Ymneillduol o syniadau
anefengylaidd. Pa fodd bynag, yr oedd
Ilaw yr Arglwydd gydag ef, ac nid ofnai
yntau beth a wnelai dyn iddo.
Pregethwr Ymneillduol arall a wahodd-
odd Mr. Harris i'w ardal oedd y Parch.
David WiIIiams, gweinidog yr eglwysi
Presbyteraidd yn Watford a Chaerdydd.
Dywed yn ei Iythyr at Harris ei fod wedi
ei gyhoeddi i fod yn mlwyf Eglwysilan am
ddau ddiwrnod, sef dydd Mercher gwedi
y Sulgwyn yn Bwlchycwm, a'r dydd lau
dilynol yn Maesdiofal, ac y disgwÿlid torf
fawr i wrando. Aeth yntau yn ftyddlawn
i"w gyhoeddiad. Ymddengys iddo fyned
trwy Fynwy, oblegyd addawa INIr. Williams
ei gyfarfod y nos Fawrth flaenorol yn Bed-
weílty, a'i ddwyn i'w dŷ ei hun i letya. Nid
ydym yn gwybod a ddarfu iddo bregethu
mewn Ileoedd eraill yn ]MorganAvg y tro
hwn ; y tebygolrwydd y w iddo wneyd ; prin
y gallwn feddwl iddo deithio yr holl ftbrdd
yma o Dalgarth er mwyn gwaith dau ddi-
Avrnod. Yr oedd yr un dylanwad yn cyd-
fyned a'i Aveinidogaeth ag yn Mynwy. Ac
nid rhywbeth amserol, yn cilio fel cysgod,
HOWELL HARRIS.
83
oedd yr effaith ; yn hytrach, tebygai i'r
surdoes yn y blawd, yn cyfnewid ansawdd
yr holl does. Mewn llythyr a anfonodd y
Parch. D. WilHams i Drefecca ychydig ar
ol hyn dywedir : " Bu gwasanaeth y ddau
ddiwrnod gyda ni yn rhyfeddol o Iwydd-
ianus. Y mae yr eglwysydd a'r cyfarfod-
ydd yn orlaw^n ; y mae tori y Sabbath yn
myned lawr, edrychir arno fel peth atgas ;
a gwrthdystir yn erbyn tyngu ac ymladd
ceiliogod. Ond nid ydych yn dychymygu
fod y diafol yn fud ac yn Uonydd. Na, y
mae yn llefaru ac yn gweithredu ; ond
tybiaf fod mwy yn ei erbyn nac sydd o'i
blaid yn y rhan hon o'r wlad. Y niae
eich cyfeilhon yn Ihosocach na'ch gwrth-
wynebwyr. Pregethir yn eich erbyn mewn
rhai manau ; ond try er gwaradwydd i'r
rhai sydd yn ceisio ei wneyd." Yn nes
yn mlaen, dymuna yr ysgrifenydd iddo
adferiad buan i iechyd, yr hyn a ddengys
fod ei lafur dirfawr mewn pregethu a
theithio diorphwys yn dechreu effeithio ar
ei gyfansoddiad, er cadarned ydoedd ;
dymuna yn daer arno ymweled a'r rhan
hono o'r wlad mor ddioedi ag sydd bosibl ;
" ni wna unrhyw wahaniaeth," meddai,
" pe bai yn amser cynhauaf, gan mor
awyddus yw y bobl i wrando arnoch ;" a
dywed yn mhellach fod ganddo nifer o
leoedd yn crefu am ei wasanaeth. Dydd-
iad y llythyr hwn yw Mehefin, 1738.
Cawn Mr. Wilhams yn ysgrifenu yn mhen
dau ddiwrnod drachefn i wasgu arno am
ail gyhoeddiad, gan ddweyd y byddai yr
wythnos olaf yn y mis hwnw, neu yr
wythnos gyntaf yn Gorphenaf, yn gyfleus
iawn. " Y lleoedd mewn golwg genyf,"
meddai, " heblaw y rhai a gawsant eu
siomi, ydynt Llanedeyrn (myned yno o
St. Nicholas), yna Machen neu Maesaleg,
ac wedi hyny i'n plwyf ni (Eglwysilan), yn
y Ile y tybir ei fod fwyaf cyfleus. . . .
Dylaswn ddweyd y disgwylir chwi o'n
plwyf ni i Gelligaer. Y mae y cuwrad, yr
hwn a alwodd yn ein tỳ ni y nos o'r blaen,
yn gwneyd ei oreu drosoch, er efallai mai y
tu ol i'r Ilen, gan ei fod ar gael ei urddo yn
ofíeiriad." Diweddir y Ilythyr gyda dweyd
nad rhaid iddo fod mor anmharod i gyfeill-
achu ag YmneiUduwyr yn y rhanau hyny
o'r wlad ag mewn manau eraill, gan fod
rhagfarn yn diflanu yn gyflym, Y lleoedd
y cyfeirir atynt fel wedi cael ei siomi yn
eu disgwyliad am Howell Harris oeddynt
Aberdâr, Llanwono, Llantrisant, a St.
Nicholas, yn Mro Morganwg. Yn y
manau hyn ymgynullasai torfeydd ynghyd.
ac yr oedd eu siomiant yn ddirfawr pan y
deallasant fod selni wedi rhwystro'r pre-
gethwr.
Tua'r un amser ag yr ymwelodd Mr.
Harris gyntaf a chymydogaeth Caerphili,
bu yn pregethu yn y rhan orllewinol o
Forganwg ; ac y mae yn sicr mai gwa-
hoddiad taer oddiwrth y Parch. Henry
Davies, Bryngwrach, a'i cymhellasai. Yr
oedd Henry Davies yn weinidog ar gynull-
eidfa o YmneiIIduwyr yn Nyffryn Nedd ;
bu ar delerau cyfeillgar a'r Methodistiaid
trwy ei oes ; cawn ef yn bresenol yn y
Gymdeithasfa gyntaf, yn Watford, ac
mewn amryw Gymdeithasfaoedd eraill, a
diau ei fod yn \'vr oedd yn ofni Duw.
Gwedi ei farw aeth ei gynulleidfa yn
Undodiaid. Ymddengys ddarfod i selni
Howell Harris ei rwystro i fyned i'r parth-
au hyny yn mis Mehefin, fel yr arfaethasai,
ac i filoedd gael ei siomi mewn canlyniad.
Mewn Ilythyr, dyddiedig Gorph. 28, 1738,
dywed y Parch. Henry Davies : " Y mae
y g\vr difrifol, zeIog, a duwiol hwnw, Mr.
William Thomas, offeiriad Llanilltyd-ger-
Nedd, yn dra awyddus am eich gweled, a
chael eich cymdeithas. Aethai yn un
swydd i'r Fonachlog i'ch gwrando, ond
cafodd ei siomi, a miloedd heblaw efe.
Ceryddwyd ef gan ofí^eiriad chwerw sydd
yn byw yn Nghastellnedd. Y mae yr
off"eiriaid yn rhanedig y naill yn erbyn y
Ilall yn y cymydogaethau hyn. Y mae
cadben ymrysonfeydd ceiliogod, yr hwn
a'ch clywoddyn y Bettws, yn addaw peidio
dilyn y chwareu annuwiol hwnw mwy ; a
darfu i un arall, yn agos i lan y môr, yr
hwn oedd yn arweinydd yn mhob annuw-
ioldeb, dori ymaith benau ei holl geiliogod
ar ol bod yn gwrando arnoch. Gwelais ef
y Sul diweddaf, ac ymddangosai fel gwran-
dawr difrifol. Gwahoddodd fi i'w dŷ.
Duw yn unig bia'r clod. . . . Yr wyf yn
credu ddarfod i'r diafol golli rhai milwyr
medrus, y rhai ddarfu ymrestru i fod yn
filwyr ffyddlawn dan y Cadben mawr, ein
Harglwydd lesu. O gweddíwch am ragor
o fagnelau i ddryllio teyrnas Satan." Tua
yr amser hwn hefyd derbyniodd Mr.
Harris gyffelyb wahoddiadau oddiwrth y
Parch. John Davies, gweinidog Cwmyglo,
ger Merthyr Tydfil, ac oddiwrth y Parch.
"Vavasour Grififiths, o Sir Faesyfed.
Methasom ddod o hyd i ddydd-Iyfr y
Diwygiwr am y rhan olaf o'r flwyddyn
1738, ond y mae Ile cryf i gasglu ddarfod
iddo, yn unol a gwahoddiad y gweinidogion
Ymneillduül yr ydym wedi cyfeirio atynt,
84
Y TADAU METHODISTAIDD.
fyned ar daith trwy ranau helaeth o For-
ganwg a Mynwy Awst neu Medi, 1738, ac
i'w weinidogaeth brofi yn nodedig o fen-
dithiol. Ysgrifena y Parch. David WilHams
ato, Hydref 17, 1738, fel y canlyn : " Bu
y dygiedydd yn bur wyllt, ond y mae wedi
diwygio yn fawr. Oddiar pan y gwran-
dawodd chwi ddiw^eddaf yn ein plwyf ni, â
i bob cyfarfod sydd o gwmpas, nosweithiau
gwaith yn gystal a'r Sul. Y cyfarfodydd
yma ydynt yn orlawn. Y mae un-ar-
bymtheg wedi anfon cais am ddyfod i'r
cymundeb nesaf yn Nghaerdydd. Y mae
genym ysgol Gymraeg yma yn myned ar
gynydd." Yn mhen y mis ysgrifena dra-
chefn : " Y mae genym ysgol Gymraeg
fawr, yn yr hon y mae gweddîo wedi dyfod
yn ffasiynol, a theimlwn awydd sefydlu un
arall. Sefydhr cyfarfodydd gweddi yn
mhob man. Derbyniwyd dau-ar-bymtheg
i gymundeb y Sul diweddaf, ac y mae
rhagor wedi cael eu cynyg. Gwehr gwedd
gysurus ar bethau yma yn bresenol."
Diwedda Mr. Wilhams trwy ddymuno am
ymwehad arall o gwmpas y Nadolig, er
na elhd disgwyl iddo bregethu yn yr awyr
agored yr adeg hono o'r flwyddyn. Yr
ydym yn difynu y ddau lythyr diweddaf,
nid yn unig oblegyd eu dyddordeb, ond
hefyd fel prawf ddarfod i Howell Harris
ymweled a rhanau helaeth o Fynwy a
Morganwg, Awst neu Medi, 1738, ac i'w
daith fod yn dra bendithfawr. Pe na
fuasai Mr. Harris wedi niedru cydsynio
a'r gwahoddiadau taer blaenorol, y mae
yn mron yn sicr mai tôn siomedig fuasai
yn rhedeg trwy y llythyrau hyn. Yn
lle hyny, mawl oblegyd llwyddiant sydd
yn eu llenwi. Fel ffrwyth ei lafur
sefydlwyd amryw eglwysi yn Morganwg
cyn diwedd 1738, yn mysg pa rai
yr oedd Caerdydd, St. Ffagan, Eglwys-
newydd, Pentyrch, Aberthyn, Llantrisant,
Tonyrefail, a Llanwono. Enillwyd
amryw deuluoedd hefyd at Fethod-
istiaeth a ystyrid fel yn perthyn i
fonedd y tir. Cawsai yr Yswain Jones,
o Gastell Ffonmon, ei argyhoeddi wrth
wrando Howell Harris yn pregethu yn
Aberddawen. Aethai Mr. Jones tuag yno,
gyda nifer o foneddigion, a'i gleddyf noeth
yn ei law, er rhwystro y cyfarfod. Ni
ddarfu i'r olwg arno ddychrynu y llefarwr
o gwbl ; yn hytrach ceisiodd gan y bobl
ymwahanu a rhoddi ffordd, a throdd i
bregethu yn yr iaith Saesneg, fel y gallai
y boneddw^yr ddeall. Aeth ceffyl yr ys-
wain yn sicr yn y llaid fel nas gallai
symud ; gorfodwyd y marchogwr felly i
wrando gwirionedd Duw o'i anfodd ; ond
aeth saeth i'w galon ; tynodd ei het mewn
parchedigaeth, agorodd ei galon i dderbyn
yr efengyl, ac aeth yn ei ol i'w gastell a'r
pregethwr gydag ef. Cyfododd bwlpud
yn ei dŷ at wasanaeth y llefarwyr ;
daeth ei balas ar unwaith yn gartref
y Diwygwyr pan ar eu teithiau, ac
ymddengys y cynhehd pregethu rheolaidd
yno trwy ystod oes y boneddwr, ac
am fiynyddoedd gwedi. Yma y lletyai
Whitefield pan ar ei daith trwy y wlad.
Boneddwr arall a gafodd ei argyhoeddi y
pryd hwn oedd Mr. Howell Griffith, o
Drefeurig, palasdy rhwng Llantrisant a
Thonyrefail, yr hwn, fel y mae yn amlwg
oddiwrth ei lythyrau at y Diwygwyr
Saesneg, a gawsai addysg dda. Daeth ef
yn bregethwr, a'i d_ŷ yn gartref Method-
istiaeth. Un arall eto a gafodd ei enill
yr adeg hon oedd Thomas Price, o
Watford, ger Caerphili, yr hwn a elwir
gan Wilhams, Pantycelyn, yn ei farwnad
i Grace Price yn " Price y Jiisti:e.''
Daeth yntau hefyd yn bregethwr. Cawn
amryw eraill, yn cael eu dwyn tan
ddylanwad yr efengyl, a ddaethant yn
bregethwyr, neu, fel eu gelwid y pryd
hwnw, " cynghorwyr." Yn mysg y rhai
hyn yr oedd Thomas WilUams ; William
Edwards, adeiladydd pont enwog Ponty-
pridd ; a John Belcher. O'r rhai hyn,
John Belcher oedd y dysgleiriaf ei ddoniau ;
cafodd ef ei anfon yn un i'r Gogledd er
mwyn ceisio efengyleiddio y wlad, a
dywedai yr hen John Evans, o'r Bala, am
dano " ei fod yn ddyn gwrol, o gyneddfau
crytìon, ac yn bregethwr da."
Fel y darfu i ni sylwi, nid oedd Howell
Harris wedi tori allan unrhyw gynllun
iddo ei hun ar y cychwyn ; ni thybiasai ei
fod wedi cael ei alw i fod yn bregethwr,
credai yn benderfynol nad oedd ; rhyw
reidrwydd mewnol a'i gorfodai i rybuddio
dynion am eu trueni ysprydol. Ond wrth
weled y dylanwadau rhyfeddol oedd yn
cydfyned a'i ymdrechion, a'r arddehad
oedd ar yr anerchiadau a draddodai, daeth
i deimlo yn raddol mai cyhoeddi Crist yn
Geidwad oedd gorchwyl mawr ei fywyd
i fod. Ail-adnewyddodd hyn ynddo y
duedd am ordeiniad. Yn ei ddydd-lyfr am
fis Hydref, 1737, ceir a ganlyn : " Bedw
(Aberdw ?) Sul, y 30. Sacrament. Codi
gwedisaith. Marwaidd fel arfer. Dymun-
iadau heddyw am gael fy argyhoeddi o'm
camsyniadau. Gwedi wyth, myned tua
HOWELL HARRIS.
85
chapel Dyffryn Honddu ; ar y ffordd
myfyrio ar y sacrament, gan deimlo yn
orlwythog o ofnau, Yn y capel am enyd
yn farwaidd ; gwedi hyny dymuno am
gael bod yn oleuni i"r byd, gan fod mewn
trallod tumewnol mawr gyda golwg ar
beth i'w wneyd, gan yr ofnwn gymeryd fy
ordeinio rhag i mi gael fy rhwystro i fyned
o gwanpas. Ond goleuwyd fi i ganfod, os
yw Duw yn fy ngalw y byddai iddo
gadw y drws yn agored i mi, gan osod yn
nghalonau rhai i ganiatau i mi ddyfod i'w
heglwysydd." Teifl y difyniad hwn ffrwd
o oleuni ar agwedd meddwl Howell
Harris. GweHr iddo, wedi cryn bryder a
therfysg meddwl, ddyfod i benderfyniad i
wneyd cais am ordeiniad ; mai ei amcan
wrth wneyd y cyfryw gais oedd, nid cael
bywiohaeth fras, na chael cyfleustra i
efengyhi o fewn cylch cyfyng plwyf, ond
symud ymaith yr afreoleidd-dra a berthynai
i'w waith, fel na byddai mwy yn myned o
gwmpas i bregethu heb awdurdod ac
ordeiniad esgobol ; ac mai yn yr hyder y
teflid eglwysydd y wlad yn agored iddo
mewn canlyniad y daeth i'r cyfryw
benderfyniad. Y mae y weddi, " dymuno
am gael bod yn oleuni i'r hyd,'' yn dra
arwyddocäol, ac yn profi na dderbyniai
ordeiniad ar yr amod iddo roddi y teithio i
fynu. Y mae yn sicr ddarfod iddo gario ei
benderfyniad allan, ac appeho am ordeiniad
at yr. esgob ; dywed Whitefield iddo
appeho ddwy waith, a chawn iddo wneyd
hyny y drydedd waith. Ond yr oedd
afreoleidd-dra ei ymddygiad, a'r ffaith ei
fod yn un o'r Methodistiaid dirmygus, yn
rhwystr anorfod ar ei ffordd i gael urddau.
Trodd yr esgob ef heibio ar y tir ei
fod yn rhy ieuanc, " er," meddai Whitefield,
" ei fod ar y pryd rhwng dwy a thair-ar-
hugain mlwydd oed, ac yn meddu pob
cymhwysder ar gyfer urddau sanctaidd."
Eithr er cael ei wTthod yn ei gais, ni
roddodd Harris i fynu fyned o amgylch a
chynghori. Ar yr un pryd, ymddengys ei
fod mewn pryder dirfawr gyda golwg ar ei
ynìddygiad ; edrychai arno ei hun fel un
hoUol afreolaidd. Ar y naiU law, gwelai
dân y diwygiad yn ymledu trwy ei offeryn-
ohaeth, eneidiau gwerthfawr yn cael eu
hachub, y meusydd yn wynion i'r cyn-
hauaf, anfoesoldeb y werin yn toddi
ymaith tan ddylanwad yr efengyl, a rhag-
Ìuniaeth yn agor drysau newyddion iddo
yn barhaus. O'r tu arall, ni wyddai am
neb diurddau yn myned o gwmpas i
gynghori ond ei hunan. Yr oedd yr
Ymneihduwyr lawn mor wrthwynebol i
weinidogaeth leygol a'r Eglwyswyr. Cawn
hyd yn nod John W^esley, a hyny mor
ddiweddar a'r flwyddyn 1742, tua saith
mlynedd gwedi i Howell Harris ddechreu
ar ei waith, yn cyffroi trwyddo pan y
clywodd fod Thomas Maxfield, y lleygwr,
wedi ymgymeryd a phregethu, ac yn
rhuthro i fynu i Lundain mewn nwyd er
mwyn ei rwystro. Ond IHniarwyd Ihd
Wesley gan ei fam. " Cymerwch ofal
pa beth a wnewch, John," meddai wrtho ;
" y mae y dyn ieuanc yna wedi cael ei alw
gan Dduw i bregethu mor wir a chwithau."
Ni fynai Howell Harris ychwaith ymuno
a'r Ymneillduwyr, er mwyn dwyn ei
weithrediadau o'r tu fewn i derfynau
rheoleidd-dra ; yr oedd eu deddfoldeb, eu
dadleuon, eu rhagfarnau, ac yn arbenig eu
hoerni crefyddol yn annyoddefol iddo, er
fod ganddo barch mawr i'w gweinidogion
efengylaidd, a'i fod yn cydweithredu yn
galonog â hwy. Rhwng pob peth yr oedd
ei feddwl yn gythryblus ynddo, a gwnai
aml gyhuddiadau yr offeiriaid a'r gweini-
dogion Ymneillduol anefengylaidd y cyth-
rwfl yn fwy. Ond penderfynu myned yn
mlaen a'i waith a wnaeth er pob peth.
A diwedd y flwyddyn 1738, derbyniodd
Iythyr calonogol oddiwrth Whitefield.
" Ewch yn mlaen, anwyl frawd," medd y
Diwygiwr Saesnig, " ewch yn mlaen ;
ymgryfhewch yn yr Arglwydd, ac yn
nghadernid ei allu ef. Ỳ mae, a bydd,
llawer o wrthwynebwyr, ond nac ofnwch.
Bydd i'r hwn a'ch anfonodd eich cynor-
thwyo, eich cysuro, a'ch dyogelu, a'ch
gwneyd yn fwy na choncwerwr trwy ei
fawr gariad. Fy anwyl frawd, yr wyf yn
eich caru yn ymysgaroedd yr Arglwydd
lesu, ac yn dymuno i chwi fod yn dad
ysprydol miloedd, a Ilewyrchu fel yr haul
yn y ffurfafen yn nheyrnas ein Tad Nefol.
Fy serch calonog at Mr. Jones (Grifíìth
Jones, Llanddowror). O ! fel y llawen-
ychaf eich cyfarfod gerbron mainc Crist."
Y mae y Ilythyr hwn yn ddyddorol ar
gyfrif mai dyma yr ymgyfathrach cyntaf
rhw^ng y Diwygwyr Cymreig a Method-
istiaid Lloegr. Llonodd ei gynwys yspryd
Howell Harris yn fawr ; yr oedd iddo fel
dyfroedd oerion i enaid sychedig ; cadarn-
hawyd ef yn ei gred ei fod tan arweiniad
yr Yspryd Glân. A diau fod ei ddylanwad
yn fwy, gan mai g\vr wedi derbyn urddau
esgobol, ac o enwogrwydd gweinidog-
aethol digyffelyb, oedd wedi ei ysgrifenu.
Ysgrifenodd yntau Iythyr caruaidd yn ol
86
Y TADAU METHODISTAIDD.
yn fuan, yn rhoddi byr hanes am y
diwygiad yn Nghymru. Gwedi ei dderbyn
dywedai Whitefield : " Y mae Mr. Howell
Harris a minau yn gohebu ; bendigedig
fyddo Duw ! Bydded i mi ei ganlyn fel y
mae efe yn canlyn lesu Grist. Gymaint
yn mlaen yw efe arnaf ! "' Dyma ddechreuad
ymgyfathrach a ddaeth yn gyfeillgarwch
o'r fath fwyaf anwyl, ac a barhaodd tra y
buont byw iU deuoedd. Tawelodd llythyr
Mr. Whiteíìeld amheuon ei feddwl i
raddau mawr ; ond dywed na chafodd
Iwyr ymwared oddiwrthynt nes iddo gael
ei wysio i wydd person o urddas i roddi
cyfrif am ei ymddygiad, pan y daeth
gyda nerth i'w enaid y geiriau sydd yn
Datguddiad iii. 7, 8 : " Wele, rhoddais ger
dy fron ddrws agored, ac ni ddichon neb
ei gau." Cwbl gredodd ddarfod i'r geiriau
gael eu hanfon i'w feddwl fel cenadwri
uniongyrchol oddiwrth yr Yspryd Glàn,
ac nid amheuodd drachefn.
Nid oedd derfyn ar yni a gweithgarwch
Howell Harris, a chawn ef ddechreu y
flwyddyn 1739 ar daith eto yn Morganwg
a Mynwy. Ceir hanes rhan o'r daith mewn
dalenau o'i ddydd-lyfr, o ba un y gwnawn
ychydig ddifyniadau. Y mae difynu yr
oll allan o'r cwestiwn, ni fyddai pen draw
ar y cyfrolau a lenwid, oblegyd ysgrifenai
y Diwygiwr yn ddiderfyn ; croniclai nid
yn unig y digwyddiadau a'i cyfarfyddai,
ond hefyd ei fyfyrdodau, a theimladau ei
galon.
" COLLENE, GER TreFEURIG, Sul (lon-
awr 9, 1839). Defîro yn foreu. Codi
gwedi wyth. Yn farwaidd mewn dyled-
swydd, ond yn teimlo dymuniad am fod ar
ben fy hun, yn dal cymdeithas a fy Nuw.
Marw^aidd hefyd yn y weddi deuluaidd.
Oddeutu deg, myned tuag eglwys Llan-
harry ; ac ar y ffordd meddwl am yr hyn a
draethwn ; ond gwedi hyny cefais ystyr-
iaethau ddarfod i Dduw fy ngwneyd er ei
ogoniant ei hun. Teimlwn ddiofalwch pa
beth a ddeuai o honof, a pha beth a ddy-
wedid am danaf, ond i mi gael fy ngyn-
orthwyo i ogoneddu Duw. O Arglwydd,
ai ni wnei ganiatau hyn i mi ? Nid wyf
yn gofyn am ddim arall mewn bywyd.
Pe ei caniateid byddwn y dyn dedwyddaf
o fewn y byd. Dwfn ddymuniad fy enaid
yw bod yn ddim yn fy ngolwg fy hun, a
byw i Dduw. Ond och ! pan fyddwyf yn
ymadroddi, fynychaf nis gallaf ganfod o ba
le y mae yr ymadrodd yn tarddu ; a yw yn
tarddu oddiar ras, a chariad at Dduw, ynte
oddiar yr arferiad o siarad. Myned i eglwys
Llanharry gwedi un-ar-ddeg (yn agos i
ddeuddeg). Teimlo ar y cyntaf yn gysg-
lyd ; gwedi hyny llanwyd íì oddimewn a
thosturi at yr eneidiau oedd o'm cwmpas.
Gwedi tri, myned allan, a gweled pobl
ddeilhon yn mhob man yn halogi Dydd yr
Arglwydd mewn anwybodaeth, a chael fy
llanw a thosturi atynt. Yna tynwyd fi
allan i weddio : ' O Arglwydd, anfon
ddynion ffyddlon i'th winllan ! O Ar-
glwydd, ai nid ydwyt yn Dduw trugaredd ?
O, ai nid dy gariad a ddanfonodd dy Fab
i'r byd ar y cyntaf ? O, ai nid ydwyt eto
yn parhau yn Dduw y cariad ? O, ai nid
ydwyt yn canfod dy greaduriaid tlawd
mewn anwybodaeth o honot ti yn mhob
man ? Anfon weithwyr ! ' \\'edi hyn,
gorchfygwyd fi gan deimlad anniddig ac
anfoddog, nes y darostyngwyd fi, wrth
ganfod mor lleied o'r ddwyfol natur
ynof. Ofnwn fyned i lefaru heno, gan fy
mod wedi fy llenwi a meddyhau anghar-
edig am gyfeilhon anwyl, yn enwedig Mr.
Edmund Jones. Daeth hunan i mewn, i
holi beth a ddywedwn heno, gan ei fod ef
(Edmund Jones, yn ddiau) wedi dyfod i'm
gwrando. Myned i fysg y bobl o gwmpas
chwech, pan oedd Mr. Henry Davies yn
gweddio, pan y dygwyd fi i deimlo mwy
o'm hanneilyngdod, ac i ddymuno ar i ryw-
un arall gymeryd y gwaith mewn llaw.
O, yr wyf wedi íîbrffetio pob íTafr; dehr fi
i fynu yn unig gan hyn, y gall Duw fy
nghynal, ac nad yw yn rhoddi cymorth er
fy mwyn i, ond er mwyn ei Fab. Y mae
dau beth, y rhai, pe y caem olwg arnynt,
a'n cyfnewidiai yn fawr ; golwg arnom ein
hunain, a gohvg ar Dduw yn ei holl briod-
oleddau. Cynorthwywyd fi i orchfygu y
teimlad slafaidd, hunangeisiol, o geisio
boddhau dynion. Yn y man cefais ddrws
agored, (dangosais) yn y modd mwyaf ar-
swydus a chryf fel y caiff y duwiol fwyn-
hau Duw mewn cariad, a'r annuwiol mewn
dychryn, a hyny yn fwy argyhoeddiadol
nag erioed, ac heb dderbyn wyneb. (Dang-
osais) o ba beth y mae uffern wedi cael ei
gwneyd, a'r modd y mae rhieni yn dwyn
eu plant i fynu." Wedi myned dros lawer
o'r pethau a draethwyd ganddo, ychwan-
ega : " Cefais ryddid ymadrodd mawr
mewn gweddi ar y diwedd. Yr oeddwn
yn wan iawn o ran fy nghoríî o eisiau
bwyta, ond gweddiais am nerth, a chyn-
ORTHWYWYD Fi. Yu ganlynol, wedi mwyn-
hau cymdeithas cyfeilhon, i gyflawni fy
llawenydd, derbyniais lythyr oddíwrth
Mr. Whitefield. Ac wrth weled ei fod yn
HOWELL HARRIS.
87
un a mi mewn yspryd, }-r hyn a brofais i
yn fynyclì yn fy enaid tuag ato ef, er heb
unrhyw obaith ei weled ef i lawr (yn
Nghymru) na chlywed oddiwrtho, synwyd
fi at ddaioni Duw." Ymddengys oddiwrth
y difyniadau hyn, yn y rhai y lleda Howell
Harris ei galon ger ein bron, fod Edmund
Jones, Pontypẃl, yn dechreu dangos yr
yspryd proselytio, a"r duedd i droi liafur y
Diwygiwr yn fantais i"w enwad ei hun, am
yr hyn y gweinyddir cerydd tyner iddo yn
nes yn mlaen. Yn nhynerwch ei gyd-
wybod beia Harris ei hunan am roddi Ue i
Deffro yn fynych ; medrwn godi, ond es-
geulusais. Codi o gwmpas wyth. Yr
wyf yn gobeithio y dygir fì i fuddugohaeth
Iwyr ar y cnawd. Gweddi breifat ; marw-
aidd, marwaidd ; ond cefais benderfyniad
i ddisgwyl. Wrth weled fod son am danaf
wedi ymledu tros Loegr, ac mor barod yw
fy nghalon i ymchwyddo, a pha mor
arwynebol ydwyf, parwyd i mi lefain gyda
goíìd yn fy enaid : ' O Arglwydd, yr wyf yn
ofni fod hyn oU yn tueddu i'm dinystr, o
herwydd balchder fy nghalon fy hun.
Mor Ìhthrig yw y lle yr wyf yn sefyll arno !
ATHHOFA'a lAIU.LES HUIS-J'INGrON YN NHREFF.CCA.
[A gymerwyd allan o'r Ev:ingcVcal BcgUtcr, 1S:H.'\
syniad o'r fath ; ond daeth yn amlwg, yn
mhen ycliydig, fod y dybiaeth y gwrthodai
roddi he iddi yn ei fynwes yn sylfaenechg
ar ffaith. Gwelir hefyd mai yn y Collene,
yn ^b^rganwg, ar y yfed o lonawr, y der-
Ìiyniodd lythyr Mr. Whitefield, er i'r llythyr
gael ei ysgrifenu y 26ain o Rhagfyr, y
flwyddyn ílaenorol. Rhaid cotìo fod y
trefniadau ynglyn a llythyrau y pryd hwnw
yn anmherffaith iawn, a thebygf)Ì ddarfod
i'r llythyr fyned yn nghyntaf i Drefecca, a
chael ei ddanfon oddiynoar ol Mr. Harris.
" Trefhurig, Llun, lonawr 10, 1739.
Diolch nad aethum o gwmpas er mwyn
cael enw. Ü na fyddwn yn ddinod ! Ond,
O Arglwydd, yr wyf yn cyflwyno yr oll i
ti. Yr wyf yn ewyllysgar i fyned os wyt
ti yn fy anfoii, digwydded y peth a ddig-
wyddo i mi. Gelli di ddarostwng holl
falchder fy nghalon, a'm cadw yn ostyng-
edig. O Arglwydd, tosturia wrth y byd.
Estyn einioes Mr. Whitefield, Mr. Griffith
Jones, Mr. Edmund Jones, a dy hoU rai
fiyddlon. Os yw y Bedyddwyr yn cyfeil-
iorni, gosod hwy ar yr iawn. Na' fydded
hyn (bedydd) yn achlysur ymraniad yn ein
88
Y TADAU METHODISTAIDD.
mysg. Bydded i ni oll fod yn un. O, yr
wyf yn ofni dadleuon, ynghyd a'u canlyn-
iadau i'r cywion (dychweledigion) ieuainc.
Yr wyf yn dy glodfori am gynifer o rai
ífyddlon. Ti wyddost, O Arglwydd, mor
anghymwys wyf i fyned i'r cyhoedd : mor
fach yw yr amser sydd genyf i ddarllen ;
ac mor ychydig o allu sydd genyf i dreuHo
ac i ddal. O, mi a hofîwn fod yn ddiwyd,
ond gan na fedraf, yr wyf yn cyflwyno fy
hun i ti ; goleua di íì, ac arwain fi i bob
gwirionedd. Bydded i mi gael rhagor o
oleuni ar dy Air, Os ydwyf yn un o dy
blant, bydded i mi deimlo mwy o ddyddor-
deb yn dy achos ; yna mi a allwn dy glod-
fori yn dragywydd. Cynorthwya fi heddy w
i fod yn hyf drosot ti, a gwared fi rhag yr
anghenfil hwn, hunan.' "
Dydd Llun y mae yn gadael Trefeurig,
ac yn croesi y mynydd heibio Tonyrefail,
gan gyrhaedd Cymmer, yn Nghwm Rhon-
dda, tua chanol dydd.
"Cymmer. Llefaru ar y ffordd. Ond
fflachiadau yw y cwbl sydd yn perthyn i
mi ; nid yw yn tarddu oddiar gariad. Yr
wyf yn gweled hunan o hyd yn chwerthin
o herwydd gwendidau fy nghydgreaduriaid.
O, beth wyf fi, fel y cawn fod yn yr un
byd a saint Duw ? Ond os gwneir fi ryw-
bryd yn rhywbeth dros Grist, bydd er
gogoniant tragywyddol rhad gariad. Ar
y ffordd, clywed am un o'r Methodistiaid,
cadben ar y môr, yn cynghori y milwyr.
Llanwyd fy enaid a llawenydd am oriau
o'r herwydd. Cefais hiraeth dwfn ac wylo
yn fy enaidam Yspryd Duw. O na chawn
dy Yspryd, Arglwydd ; onide beth a wnaf
a dy seiadau di ? Yn Cymmer gwedi un,
dechreu (trwy ddweyd) Ai nid yw dynion
mewn carchar yn llawen wrth glywed am
un i'w rhyddhau ? A'r claf, wrth glywed
am physygwr ? Ond yr ydym ni yn farw,
yn farw mewn pechod. Cymell i ymgadw
rhag dawnsio a phob chwareuyddiaethau.
Crist yn dwyn pechaduriaid ato ei hun
trwy argyhoeddiad. Y gair (wrth argy-
hoeddi) yn gyffelyb i dân, i ordd, i oleuni,
i gleddyf, ac i sebon. Cyfeirio at yr ludd-
ewon yn cael eu dwysbigo, ac at Nebu-
chodonosor. Nodau argyhoeddiad ydynt,
golchiad y galon, tynu y galon oddiwrth
bob peth ato ef, ein tynu i beidio ymddir-
ied ynom ein hunain. Cael peth hyfryd-
wch a phleser yn y gwaith ; rhy w gymaint
o gariad at yr eneidiau, a thosturi atynt ;
ynghyd a hiraeth am Dduw. Rhoddodd
Duw i ni hin hyfryd heddyw. Gwedi hyn
argyhoeddwyd fi gan Mr. Henry Davies o
fy anniolchgarwch i'r Arglwydd am yr
help yr oedd yn roi, a'm bod o'r herwydd
yn fforffetio'r cwbl ; ac o'r ychydig gariad
sydd yn fy enaid."
Boreu dydd Mawrth, lonawr ii, y
mae yn llefaru yn Cymmer drachefn,
yn teithio rhyw bedair milldir ar hyd
Cwm Rhondda, nes cyrhaedd Ynys-
yngharad, ger Pontypridd. Dydd Merch-
er, lonawr 12, cawn ef wedi croesi y
mynydd ar ei draws, ac yn y Parc, plwyf
Eglwysilan ; a phrydnhawn yr un dydd
mewn Ue o'r enw Tynycoed. Rhaid di-
fynu rhan o'i ddydd-lyfr yma eto : "Caw-
som dynerwch hyfryd, ac yspryd cariad at
y bobl ieuainc ; ac yr wyf yn gobeithio
ddarfod cael rhai o honynt i Grist. Gwedi
un, lleferais hyd o gwmpas pedwar. Caw-
som heddyw eto yr hin yn hyfryd ; nid yn
aml y ceir y fath dywydd yr adeg hon o'r
flwyddyn. Yr wyf yn gobeithio fod Duw
gyda ni. Rhoddwyd i mi beth a ddywed-
wn ; nid oeddwn wedi ei ragfeddwl, gan y
bwriadwn lefaru ar fater araU. Gwedi
hyny, myned tua Llanbradach Fach, ac
ar y ffordd cael ymosod arnaf gan Fedydd-
iwr, yr hwn a geisiai bigo cweryl a mi.
Teimlais oddimewn i mi wrthnaws at y
ddadleuaeth, oblegyd ofn y canlyniadau.
Nis gaflaf ddweyd beth sydd yn peri fy
mod yn cael fy yspryd yn fwy yn erbyn y
rhai hyn na neb, oddigerth y Pabyddion.
Yr wyf yn ofni fod penboethiaid yn eu
mysg, y rhai, os na wel Duw yn dda eu
darostwng, a wnant niwed i eglwys Crist.
Ond yr wyf yn hwyrfrydig i gymeryd i
fynu y pastwn yn eu herbyn ; nid rhag ofn
y ddadl, oblegyd yr wyf yn glir ar y mater,
eithr rhag tynu i lawr waith hyfryd y
diwygiad. Yr wyf yn gweled nodau y
rhagrithiwr yn amlwg ar y penboethiaid
yma. Yn un peth, y mae holl gyfeiriad
eu hymddiddan tuag at hyn (bedydd), a
dim ond ychydig am Grist. Yn ail, y mae
èu cariad gwresog yn gyfyngedig i'r rhai
o'r un opiniwn a hwy eu hunain ; ond
eiddo y dyn duwiol at holl aelodau eglwys
Crist. Yn drydydd, y niae evi holl awydd-
fryd yn amlwg am wneyd proselytiaid
iddynt eu hunain, ac awyddfryd y duwiol
am ddwyn dychweledigion at Grist, O 7
hyd II, noswaith anghyffredin o hyfryd ;
ni welais un mor hyfryd ; o leiaf yr un yn
fwy. Rhoddwyd i mi (yr hyn a ddywed-
wn); ond ni phrofais ddigon yn fy yspryd.
Argoelion dymunol heno.
Llanbradach Fach, Dydd lau (lon-
awr 13). Dihuno yn foreu, a chodi am
HOWELL HARRIS.
naw. Cefais gymorth wrth edrych ar y
groes. Yr wyf yn gobeithio fod ei angau
ef yn marweiddio pechod ynof. Am ddeg,
gweddi ddirgel, a chael fy narostwng gan
deimlad o fawredd Duw, fel nas gallwn
edrych i fynu. ' O Arglwydd, er mwyn
Crist, ac nid er mwyn fy nagrau a'm
gweddíau tlawd i (oblegyd yr wyf yn
wael, fel y pryf gwaelaf sydd yn ymlusgo
ar dy ddaear, yn ceisio hunan a phechod),
ai ni rynga bodd i ti i'n cadw ni rhag
dadleuon, oblegyd eu canlyniadau ? O
leiaf, Arglwydd, yr wyf yn dymuno ar i ti
fy nghadw i allan o'r ddadl, a danfon
rhywun arall i'w chymeryd mewn llaw.
Ond os wyt yn fy anfon, yr wyf yn
foddlon gwneyd pa beth bynag wyt ti yn
ewyllysio.' Yna parwyd i fy enaid weled
cymaint o ddaioni Duw, fel y tynwyd íì
allan mewn clodforedd — ' O Arglwydd, yn
sicr dylwn dy foHanu yn barhaus am yr
hyn wyt wedi ei wneyd mor rhyfedd erof.
A wnai di dderbyn fy mawl ? Cadw íì yn
isel, canys yr wyf oll yn bechod. Dyma
fy ngweddi, tosturia wrthyf ; yr wyf yn
l)wrw y cwbl arnat ti. Yr wyf yn ymddiried
ynot, pan yr af i Gaerdydd, ar roddi i mi yr
ymadrodd yno er dy ogoniant.' "
Yn nesaf, dydd Gwener, lonawr 14, yr
ydym yn ei gael yn Werndomen, ffermdy
ger Caerphili. Yma eto y mae y Bedydd-
wyr yn ei ílino. Ysgrifena : " O Arglwydd,
yr wyf yn myned heddyw i lefaru ; pa
beth a wnaf ac a ddywedaf ? A wnai di
fy nghadw rhag dynion penboeth i boen-
ydio fy enaid ? Os mynet ti, Arglwydd, i
mi newid fy marn, gad i mi weled dy
ewyllys ; ac os arweini di hwy ataf íì,
bydded i mi fod yn gywir. O, bydded i ni
gael cariad ac undeb. Yr wyt yn canfod
nad wyf íì am ymresymu, os rhynga dy
fodd di i'm cadw rhagddo. O, ni wnawn
ymddadleu oni bai i ti fy anfon."
Gwedi hyn yr ydym heb hanes am dano
hyd dydd Mercher, lonawr ig, pan yr
ydym yn ei gael yn Gwrhay, ger Mynydd-
islwyn. Ai rhan o'r dydd-lyfr sydd ar goll,
ynte a ddarfu iddo ef beidio ysgrifenu, nis
gwyddom. Nid oes genym ond dyfahi
hefyd pa le y treuhodd yr amser cydrhwng,
oncl y mae yn fwy na thebyg iddo fyned i
Gaerdydd fel yr arfaethasai. Dydd lau,
lonawr 20, y mae yn Llanheiddel, ger
Pontypŵl. Dydd Gwener, lonawr 21,
cawn ef yn Mlaenau Gwent ; a'r Sul dilynol
yn Llanbedr — Llanbedr, ger Crughy wel, yn
ol pob tebyg — heb fod yn nepell o'i gartref.
Gwelwn ei fod yn teithio ar draws
gwlad, o orllewin Morganwg hyd y rhan
ddwyreiniol o Fynwy, a bod y Parched-
igion Edmund Jones, Pontypẃl, a Henry
Davies, gydag ef am ran o'r daith. Ai
Henry Davies, Bryngwrach, a olygir ;
ynte Henry Davies, gweinidog yr Ym-
neillduwyr yn Llantrisant, sydd ansicr.
Y mae y tebygolrwydd yn ffafr y
diweddaf. Anmhosibl darllen ei ddydd-
lyfr heb deimlo fod ei holl fryd ar
achub ei gydgenedl. Teimhr ei fod yn
byw yn y byd ysprydol ; prin y mae y
ddaear a'i helynt yn bod iddo ; ei berth-
ynas â Duw, a'r gwaith mawr a pha un yr
ymgymerasai, sydd wedi llyncu ei enaid.
Er ei fod yn achwyn ar y Bedyddwyr, y
mae yn amlwg na theimlai unrhyw
chwerwder yspryd atynt. Ofni yr ydoedd
fod rhoddi y fath arbenigrwydd y pryd
hwnw ar fedydd, ac ymgolli mewn dadleu-
aeth mewn perthynas iddo, yn rhwystr ar
ffordd cerbyd y diwygiad. Buasai ef yn
hollol foddlawn i gydweithio a'r Bedydd-
wyr pe y gallent suddo ei hoff bwnc, ac
ymroddi i gyhoeddi Crist yn Geidwad i
bechaduriaid. Yr ydym trwy y dydd-lyfr
yn gallu edrych i mewn i ddyfnderoedd ei
galon ; y mae cilfachau pellaf ei yspryd yn
cael eu datguddio ; braidd nad yw yn
tueddu i ddwyn i'r wyneb ei feiau yn
hytrach na'i rinweddau ; a gwelwn mor
syml yr ydoedd, mor ostyngedig, ac mor
awyddus am gadw ei hunan i lawr, ac i
roddi yr holl glod i Dduw. Mor bell ag y
gallwn gasglu oddiwrth y nodiadau a
geir, gwasgarog oedd ei bregethau ; ni
ddangosent feddylgarwch dwfn, ac nid
ymdriniai ynddynt o gwbl a phynciau
duwinyddol dyfnion. Ond yr oedd saeth ar
flaen pob brawddeg, yr hon a anelai yn syth
at galonau pechaduriaid; athaflai yntau ei
holl yspryd i'r gwaith pan yn tynu yn y bwa,
fel nad oedd yn rhyfedd fod dynion wrth yr
ugeiniau a'r canoedd yn cael eu clwyfo.
" Dewch, gwrandewch ef yn pregethu,
Calon ddrwg, lygredig dyn,
Ac yn olrhain troion anial,
A dichellion sy' yno yngiyn ;
Dod i'r goleu a dirgelion
I rai duwiol oedd yn nghudd,
Agor hcn 'stafelloedd tywyll
Angau glas, i oleu'r dydd.
Dewch, gwrandewch ef yn agoryd
Dyfnder iachawdwriaeth gras,
Go.-iod allan y Rlessiah
Yn y lliw hyfryta 'maes ;
Ac yn dodi'r cystuddiedig,
Ag sy'n ofni ei ras a'i rym
Fel i chwerthiii o orfoledd,
Ac i 'mado hcb ofni dim."
90
Y TADAU METHODISTAIDD.
Ymddengys ddarfod i Harris dreulio mis
Chwefror, 1739, yn ymweled a gwahanol
leoedd yn siroedd Brycheiniog, Maesyfed,
a gogledd-orllewin Morganwg ; felly y
dengys ei ddydd-lyfr. Nid anhebyg iddo
gael ei rwystro i fyne'd i'r Gogledd, fel y
bwriadasai, gan lythyr oddiwrth Mr. White-
íìeld, yn addaw dyfod i Gymru. Ymglym-
asai calonau y ddau yn rhyfedd, er nad
oeddynt wedi gweled eu gilydd yn y cnawd.
Cychwynodd Whitefield o Bryste Mawrth
6. Ffaith ddyddorol yn ei hanes yw mai
rhyw bythefnos cyn hyny y pregethasai
gyntaf yn yr awyr agored, a hyny i lowyr
Bryste, pan yr oedd holl eglwysi y ddinas
wedi cael eu cau yn ei erbyn. O hyn allan,
pregethai pa le bynag y cai gyfleustra, heb
hoU pa un a oedd esgob wedi cysegru y
ddaear â halen ai peidio. Er ei bod yn
gynar yn y flwyddyn, a'r hin mewn can-
lyniad yn oer, tyrai miloedd i'w wrando yn
Mryste; ar un amgylchiad dywed fod tuag
wyth mil o bobl yn bresenol, tra y llefarai
ar boìí'Iing green a fenthycasid iddo. Yr
oedd hefyd newydd gyfarfod a'r Hybarch
Grifíith Jones, Llanddowror, yn Bath, gan
yr hwn y cawsai hanes Cymru, ac yn ol
pob tebyg hanes manylach am Howell
Harris, a'r gwahanol rwystrau ar ffordd
llwyddiant yr efengyl yn y Dywysogaeth.
Teimlai Whitefield ei galon yn cynhesu at
yr hen filwr, a cbafodd ei argyhoeddi nad
oedd ef ond milwr dibrofiad iawn eto. Yn
nghwmni ei gydymaith, Mr. Wilham Se-
ward cyrhaeddodd y New Passagc pryd-
nhawn dydd Llun, MawTth 6. Yma cyfar-
fuant a'r Parch. Nathaniel Well, offeiriad
Caerdydd, yr hwn a deimlai y fath hd at y
Methodistiaid, fel na wnai groesi yn yr un
cwch a'r ddau efengylwr. ünd o herwydd
tywydd ystormus, gorfodwyd hwy i aros
yma am ddeuddeg awr, ac nid oedd gan
Mr. Well well ffordd i dreuHo ei amser na
thrwy chwareu cardiau. Achwynai Mr.
Well fod y ddau yn canu hymnau pan yn
croesi y sianel, fel yr oedd y llywiwr yn
methu clywed llais y dyn oedd yn gwyho,
nes y bu raid eu rhwystro. Sicrhai hefyd
na chai Mr. Whitefield ei eglwys i bre-
gethuynddi. " Gobeithio,"meddai Wilham
Seward, "fod y meusydd yn wynion yn
Nghaerdydd, fel ag yn Mryste. Y mae
yno hefyd seiat yn disgwyl am danom."
Awgryma hyn fod eglwys Fethodistaidd
wedi cael ei sefydlu yn barod yn Nghaer-
dydd trwy offerynohaeth Howell Harris.
Cyrhaeddodd Whitefield a Seward Gaer-
dydd o gwmpas un-ar-ddeg dydd Mercher.
Dechreuodd Whitefield ar unwaith gyng-
hori y bobl oedd yn y gwest-dy, tra yr aeth ■
Seward i chwilio am le i bregethu ynddo.
Cafodd, trwy ryw ddylanwad, neuadd y
dref, a phregethodd Whitefield o sedd y
barnwr i gynulleidfa o bedwar cant ;
gwrandawai y rhan fwyaf yn sylwgar, ond
gwatwarai rhai. Gyda ei fod yn disgyn
o'i sedd, pwy a welai ond Howell Harris.
Teithiasai Harris trwy Gwm Tâf P^awr,
ac arosai y nos flaenorol yn Eglwysilan,
nid anhebyg yn nhŷ Mr. David Wilhams.
Y cwestiwn cyntaf a ofynodd i'r Diwygiwr
Cymreig oedd : " A ydych yn gwybod fod
eich pechodau wedi cael eu maddeu ? "
Prin y medrai Harris ateb, gan mor
sydyn y daeth y gofyniad ar ei draws.
" Pan gyntaf y gwelais ef," meddai White-
field, "ymglymodd fy nghalon am dano ;
yr oedd arnaf eisiau derbyn rhyw gymaint
o'i dân ; a rhoddais iddo ddeheulaw cym-
deithas a'm holl galon. TreuHasom yr
hwyr mewn adrodd y naill wrth y Uall beth
oedd Duw wedi ei wneyd i'n henaid ;
cymerasom i ystyriaeth hefyd achosion y
gwahanol seiadau ; a chytunasom ar y
mesurau hyn}' ag a ymddangosai y mwyaf
tebygol i Iwyddo gwaith ein Harglwydd."
GweHr yma fel yr ymgynghorai y Diwyg-
wyr a'u gilydd ; a'r ymgynghoriadau an-
ífurfiol hyn a ymddadblygasant yn raddol i
fod yn gyfansoddiad trefnus, gyda Chym-
deithasfa a Chyfarfodydd Misol. TreuHwyd
boreu dydd lau, Mawrth 9, mcwn gweddi
ac ymddiddan gydag aelodau y seiat yn
Nghaerdydd. Am ddeg, pregethai White-
field yn neuadd y dref i gynuHeidfa fawr,
gydag Harris yr^ eistedd yn glos wrth ei
ochr. Tra y Hefarai, yr oedd rhyw gre-
aduriaid anystyriol oddiaHan yn Husgo
Hwynog marw o gwmpas, ac yn ceisio cael
y c\vn cadnaw i'w hela, i rwystro'r odfa.
Wedigorphen, aeth y ddau Ddiwygiwr, yn
nghwmni dau weinidog YmneiHduol, i
wasanaeth a gynhehd yn yr eglwys. Ys-
grifena Whitefield yn ei ddydd-lyfr am
HoweH Harris : "Goleuni dysglaer a
Hosgedig a fu efe yn y rhan hon o'r wlad ;
gwrthglawdd yn erbyn cabledd ac anfoes-
oldeb ; a gweithiwr difefl yn efengyl lesu
Grist. Er ys rhyw dair neu bedair bljm-
edd y mae Duw wedi ei dueddu i fynecl o
gwmpas i wneyd daioni. Y mae yn awr o
gwmpas pum' -mhyydd - ar-hugain oed.
Ddwy waith appehodd am urddau sanct-
aidd, a châdd ei wrthod ar yr honiad
twyHodrus nad oedd mewn oed, er ei fod y
pryd hwnw yn ddwy-flwydd-ar-hugain a
HOWELL HARRIS.
91
chwech mis. Tua mis yn ol cynygiodd ei
hun drachefn, ond trowyd ef heibio. Er
hyn }■ mae yn benderfynol i fyned yn y
bìaen gyda'i waith. Er ys tair blynedd y
mae wedi llefaru braidd ddwy waith bron
bob dydd, am dair neu bedair awr o'r
bron, nid yn awdurdodol fel gweinidog,
ond fel person preifat yn cynghori ei frodyr.
Y mae wedi teithio saith sir, gan fyned i
A\ylnosau, ÿcc, er troi y bobl oddiwrth
wagedd a chelwydd. Llawer o bobl y
tafarndai, ynghyd a'r fììdleriaid, a'r telyn-
wyr, a achwynant arno am spwylo eu
galwedigaeth. Gwnaed ef yn wrthrych
seiadau, a pharha cylch ei ddefnyddioldeb
i ymeangu. Y mae yn llawn o ffydd, ac o'r
Yspryd Glan."
Yr ydym wedi difynu mor helaeth o'r
dydd-lyfr, am y ceir ynddo gryn lawer o
hanes Howell Harris, ac hefyd am y
dengys deimlad cynes Whiteíìeld tuag ato.
Tehiilai Harris lawn mor gynes ato yntau.
Dywed ei fod yn ei garu am ei fod ef yn
caru yr Arglwydd lesu. Ymddengys
ddarfod i Howell Harris bregethu yn
Nghaerdydd yn ogystal, a dywed iddo
wneyd gyda gradd o awdurdod. Dydd
Gwener, y niaent yn gadael Caerdydd, ac
ArHKOKA lARLLES HUNTINGTON, FEL Y JIAE YN BRESENOL.
Ihaws o bregethau ; bygythiwyd ef ag er-
lyniad cyfreithiol, ac anfonwyd cwnstel)h
i'w ddal. Ond y mae Duw wedi ei fendithio
a dewrder anhyblyg ; ac y mae yn parhau
i fyned yn ei flaen o fuddugoliaeth i fuddu-
goliaeth. Y mae o'r yspryd mwyaf catholig,
yn caru pawb sydd yn caru ein Harglwydd
lesu Grist ; ac felly gelwir ef gan ben-
boethiaid yn Ddisenter. Geilw Ilawer ef
yn dad ysprydol, a rhoddent, yr wyf yn
credu, eu bywydau i lawr drosto. LÌefara
fynychaf mewn maes, bryd arall mewn ty,
oddiar fur, bwrdd, neu rywbeth arall. Y
mae wedi sefydlu tua deg-ar-hugain o
yn cyrhaedd Casnewydd. Cafodd W'hite-
field bwlpud yr eghvys yno ; daeth llu o
Jjontypŵl a manau eraill i'w wrando ; a
chyfrihd y gynulleidfa yn fil o bobl. Aeth
Howell Harris gydag ef i Fryste; treuliodd
yno ac yn Bath, lle y gwasanaethai Griffith
Jones ar y pryd, o ddydd Sadwrn hyd
ddydd Mercher, gan bregethu i'r glowyr
ar y maes, ac yn y seiadau yn ogystal.
Diau fod angerddolrwydd ei yspryd, a'r
tàn Cymreig a fflamiai o'i fewn, yn synu y
Saeson, ac yn dylanwadu yn fawr arnynt.
Cyn dychwelyd, cyflwynodd Mr. Seward
oriawr iddü, fel prawf o'i serch. Dydd lau,
92
Y TADAU METHODISTAIDD.
Mawrth i6, cawn ef yn llefaru yn Eglwys-
newydd, tair milldir o Gaerdydd ; dydd
Gwener y mae yn Mhontypŵl, dydd Sad-
wrn yn Llanfihangel, yn yr un gymydog-
aeth ; y Sul yn Mynyddislwyn ; yn Maesaleg,
ger Casnewydd, y Llun ; yn Pentre Bach
dydd Mawrth, yn St. Bride dydd Mercher,
yn ol yn Nghaerdydd dyd.i lau, yn Ynys-
yngharad, ger Pontypridd, y Sadwrn, yn
Parc Eglwysilan y Sul, yn Llanwono y
Llun, Aberdâr dydd Mawrth, Cwmyglo,
ger Merthyr Tydfil, dydd Mercher, a nos
yr un dydd yn Faenor, yr ochr arall i
Ferthyr, a dydd lau, Mawrth 30, y mae
yn Cantref, wrth waelod Bannau Bry-
cheiniog, o fewn taith diwrnod i'w gartref.
Cyrhaeddodd Drefecca yn ddiau y dydd
canlynol, wedi taith o rhwng tair wythnos
a mis.
Eithr nid oedd gorphwys i was yr Ar-
glwydd. Llai nag wytlinos a gafodd yn ei
artref, oblegyd, Ebrill 5, yr ydym yn ei gael
drachefn yn Brynbiga (Usk), yn Sir
Fynwy, yn cyfarfod Whitefield ar ei ail
ymweliad â Chymru. Gwrthodwyd yr
eglwys iddynt yno ; a phregethodd White-
field oddiar fwrdd dan gysgod coeden fawr,
a Harris ar ei ol yn Gymraeg. Dilynwyd
hwy gan osgordd o tua haner cant o wŷr i
Bontypŵl ; cawsant yr eglwys yno ; ond
gan nad oedd lle i'r lliaws a ymgynullasai
yn yr adeilad, pre;(ethasant drachefn ar y
maes. Yn nghwmni tua deg-ar-hugain o
wŷr ceffylau, aethant i'r Fenni; cyffelybai
Ẅhitefield hwy i Joshua a'i fyddin yn
goresgyn gwlad Canaan. Cawsant gynuU-
eidfa o tua dwy fil yn yr awyr agored, ac
nid arbedasant y gwatwarwyr bonheddig
wrth lefaru. Disgwyhasent gynhwrf yn y
Fenni, ond ni feiddiodd neb agor ei enau
i'w herbyn. Cawn hwy yn myned oddiyno
i Cwm lau, at yr offeinad duwiol, Mr.
Jones ; ond yr oedd y gynulleidfa yn rhy
fawr i'r eglwys, a líefarasant yn y fyn-
went. Gwaith un dydd oedd hyn oll.
Ebrill 6, cyrhaeddasant Gaerlleon-ar-
Wysg, yn nghwmni tua thriugain o wŷr
ceffylau, "yr hon dref," nieddai Whitefield,
"sydd yn enwog am fod deg-ar-hugain o
frenhinoedd Prydeinig wedi eu claddu
ynddi, a'i bod wedi cynyrchu tri o fer-
thyron ardderchog." Mewn maes yma yr
oedd pwlpud wedi ei godi i Howell Harris
pan yr ymwelasai a'r lle yn flaenorol ; yn
hwn y darfu i'r ddau bregethu yn awr ;
daethai miloedd i wrando, ond ni feiddiodd
neb aflonyddu, er iddynt guro drwm a
bloeddio pan y buasai Harris yma o'r
blaen. Odfa ryfedd oedd hon, fel yr
ymddengys. " Rhoddodd Duw i mi y fath
gymorth anarferol," meddai Whitefield,
" fel y cefais fy nghario yn mhell tu hwnt i
mi fy hun." Ychwanega : " Gweddíais
dros Howell Harris erbyn ei enw, fel yr
wyf wedi gwneyd yn mhob lle y pregethais
ynddo yn Nghymru. Na ato Duw i mi
gywilyddio o herwydd fy Meistr na'i weis-
ion." Tebyg y cyfeiria at y ffaith fod
Harris yn pregethu heb urddau. Priodola
y Gloucestey Joiinia!, am Ebrill 24, 1739,
fawredd y cynuHeidfaoedd i serch personol
at Mr. Whitefield, ac hefydi'r athrawiaeth
am yr enedigaeth newydd a bregethai.
Prawf hyn mai ychydig o son oedd am
ailenedigaeth yn mhwlpudau yr Eglwys.
O Gaerlleon aethant i Trelech ; y gareg
farch, ger y gwest-dŷ, oedd eu pwlpud yno.
Cawsant fynedfa i'r eglwys yn Nghaer-
gwent, y dref Gymreig olaf iddynt ar y
daith hon, a chawn hwy, Ebrill g, yn cyr-
haedd Caerloyw.
Yn y ddinas hon naceid yr eglwysi i
W^hitefield, y naill ar ol y llall, er mai
dyma ei le genedigol ; cymerodd yntau y
maes, gyda Howell Harris wrth ei ochr,
ac yr oedd eu cynulleidfaoedd yn fynych
yn rhifo o dair i bedair mil. Fel hyn yr
ysgrifena Whitefield : "Llefed y neb a
fyno yn erbyn fy nghyndynrwydd, nis
gallaf weled fy anwyl gydwladwyr a'm
cydgristionogion yn mhob man yn suddo i
ddinystr, o herwydd anwybodaeth ac ang-
rhediniaeth, heb wneyd fy ngoreu i'w
hargyliosddi. Yr wyf yn galw ar y rhai
sydd yn ceisio fy rhwystro i ddwyn yn
nilaen reswm dros eu gwaith ; rheswm nid
yn unig a foddlona ddynion, ond Duw.
Aelod o Eglwys Loegr ydwyf fi. Yr wyf
yn dilyn yn glos ei herthyglau a'i homiliau ;
a phe y gwnelai fy ngwrthwynebwyr yr un
peth, ni fyddai cymaint o Ymneillduwyr
oddiwrthi. Ond y mae yn gyffredinol
hysbys fod y wlad yn galaru oblegyd an-
wiredd yr offeiriaid. Yr ydym (ni yr
offeiriaid) wedi pregethu a byw Ilawer o
ddynion difrifol allan o'n cymundeb. Yr
wyf wedi ymddiddan a nifer o oreuon y
gwahanol enwadau, ac y mae Ilawer o
honynt wedi tystio yn ddifrifol ddarfod
iddynt adael yr Eglwys am na chaent yno
fwyd i'w henaid. Arosasant yn ein mysg
nes iddynt gael eu newynu allan." Geiriau
ofnadwy o ddifrifol, ac yr ydym yn eu
difynu am eu bod yn wir i'r Ilythyren gyda
golwg ar Gymru. Darfu i'r Methodistiaid,
a chorff y genedl gyda hwy, adael yr
HOWELL HARRIS.
93
Eglwys Wladol, nid oblegyd syniadau
neillduol gyda golwg ar berthynas yr
Eglwys a'r wladwriaeth, ond oblegyd fod
eu heneidiau yn rhynu ac yn newynu i
farwolaeth o'i mewn. Newyn am efengyl
oedd yn yr Eglwys ; yno cynygid careg i'r
bobl yn Ìle bara, ac aethant hwythau i"r
meusydd, Ue yr oedd gwirionedd Duw yn
cael ei bregethu gan dáynion ffyddlon.
Un o feibion ffyddlonaf Eglwys Loegr
oedd Howell Harris ; nid yw byth yn bhno
mynegu hyny; ond parodd anfoesoldeb
buchedd, a difaterwch yr offeiriaid, iddo
fod yn flaenllaw gyda mudiad a waghâodd
yr eglwysi ar hyd a Iled y wlad.
Ond i ddychwelyd, aeth Howell Harris
gyda Whitefield i Lundain. Pregethent
ar y ffordd, ac yr oedd nid yn unig tân,
ond hefyd beiddgarwch penderfynol y
Cymro o fantais ddirfawr. Yn nghym-
ydogaeth Bryste, rhwystrwyd Whitefield i
lefaru gan branciau a gwatwaredd rhyw
chwareuwr, a bu raid iddo roddi i fynu.
Neidiodd Harris i'r pwlpud, a chymerodd
yn destun : " Daeth dydd mawr ei ddigter
ef, a phwy a ddichon sefyll ? " Meddai
y gwatwarwr annuwiol : " Fe safa i."
" Beth ! " llefai Harris, a'i lygaid yn
melltenu yn ei ben, ac arswyd yn eistedd
ar ei wedd ; " Y ti scfyll ! Y ti, brifyn
diddim a gwael y fath ag wyt, sefyll o
flaen Ihd yr Anfeidrol ! " Cwympodd y
dyn fel marw i"r ddaear, a dywedir na
adawodd y cryndod mo hono tra y bu
byw. Cyrhaeddodd y Diwygwyr Lundain
Ebrill 25, lle yr arhosodd Harris hyd
ddechreu Mehefin. Tra yn y Brifddinas,
elai yn fynych gyda Mr. Whitefield 1
gymdeithas grefyddol y Morafiaid yn
Fetter Lane. Perthynai, nifer o ddynion
duwiol a da i'r gymdeithas hon, ac yn eu
mysg amrai o fonedd y tir, megys Arglwydd
ac Arglwyddes Huntington, Syr John
PhiIIips, y Cymro o Sir Benfro, a brawd-
yn-nghyfraith Griffith Jones, &c. Diau i
Harris yma gael cymundeb wrth fodd ei
galon. Cyffröid y gymdeithas ar y pryd
gan y cwestiwn o hawl Ileygwyr i bregethu.
Meddai Charles Wesley, yn ei ddydd-Iyfr :
" Cyfododd dadl gyda golwg ar bregethu
Ileygwyr ; yr oedd amryw yn zeIog
drosto ; ond darfu i mi a Mr. Whitefield
sefyll yn gryf yn erbyn." Yn raddol, pa
fodd bynag, daeth Whitefield yn fwy
cymhedrol ; cawn ef yn ysgrifenu mewn
llythyr at John Wesley, dyddiedig Mehefin
25» 1739- " Yr wyf yn oedi barn ar ym-
ddygiad y brodyr Cennick a Watkins, hyd
nes y deallaf yr amgylchiadau yn well.
Y mae gwahaniaeth mawr rhyngddynt
hwy a Howell Harris. Y mae efe wedi
ceisio urddau sanctaidd dair gwaith ; bydd
i mi ei gefnogi ef ynghyd a'r cyfeillion yn
Nghaergrawnt." Rhoisai Harris y seiadau
a fifurfiasid trwy ei oíferynoliaeth dan ofal
dynion ffyddlon, y rhai oeddynt i'w
harolygu, ac i anfon gwybodaeth o'u
hansawdd iddo ef i Lundain. Yn mysg y
rhai hyn yr oedd Meistri James Roberts ;
David WiUiams, Watford ; Edmund Jones ;
a Henry Davies. Ysgrifena James Roberts
ato EbriII 17, 1739, ac y mae tôn ei
Iythyr braidd yn gellweirus : " Fy anwyl
Howell," meddai, " gadewch i mi fod
dipyn yn siriol gyda chwi. Yr ydych
yn fath o Arolygydd, neu Arglwydd
Archesgob, mewn amrai siroedd ; felly,
priodol i'ch caplan tlawd, yr hwn sydd
wedi ufuddhau i'ch arch, ac wedi ysgrifenu
y Ilythyr, o ba un y mae copi yn cael ei
amgau i chwi, yw . eich hysbysu am y
modd y cyflawna ei ddyledswyddau." Y
" Ilythyr " oedd cenadwri at yr eglwysi
yn Longtown, Llandefathen, Crugcadarn,
a Gwendwr. Ysgrifena Mr. Edmund
Jones Iythyr ato Mai 21, 1739, o ba un y
difynwn a ganlyn : " Yr wyf wedi bod o
gwmpas eich seiadau fel gwyliwr, i edrych
sut yr oeddynt yn dod yn mlaen, a pha un
a oedd y diafol yn ceisio eu niweidio ; a
gallaf ddweyd, diolch i Dduw, i mi gael y
cwbl yn Ilwyddianus. Ni chefais gymaint
o bresenoldeb Duw er ys blynyddoedd ag
a gefais ar y daith hon ; yn enwedig yn
Maesyronen, yn y weddi yn Gwendwr, y
Sul yn Nhredwstan, a'r Llun yn Grwyne-
fechan. Y mae eich cyfeillion yn Mrych-
einiog yn hiraethu am eich gweled. Cefais
nerth gan Dduw wrth weddío drosoch yn
Grwynefechan. Y mae y ivarrant yn eich
erbyn wedi dyfod i ddim. Ni wnai y
Cynghorwr Gwynn gyffwrdd a hi, na neb
o'r ustusiaid, ond yr ustusiaid offeiriadol ;
yr oedd Price Davies (offeiriad Talgarth)
yn neillduol i'w weled yn eich erbyn ; ond
Ìlwfrhasant, ac ymddangosent fel yn
cywilyddio. ü"r braidd y darfu i'r oíîeiriad
James, o Lanamwch, yr hwn oedd mor
weithgar yn eich erbyn, ddianc rhag boddi
ychydig yn ol, yr hyn a haedda sylw. Yr
wyf wedi ceisio gan y dynion ieuainc,
perthynol i'r seiadau, i weddío yn benodol
dros y boneddwyr a safasant o'ch plaid."
Profa y Ilythyrau hyn amryw bethau ;
(i) Fod yr Eglwyswyr, yn arbenig y
personiaid, yn Ilawn llid eto yn erbyn
94
Y TADAU METHODISTAIDD.
Howell Harris, ac yn awyddus am ei
gospi, pe y medrent. (2) Fod bonedd y
Avlad yn dechreu troi o blaid y diwyçiad
mewn amrywiol leoedd. (3) Fod Harris
yn barod wedi sefydlu nifer o seiadau, y
rhai oeddynt yn holìol ar wahan i'r eglwysi
Ymneillduol oedd yn flaenorol yn y whid,
ac nad oedd y gweinidogion Anghydffurfiol
hyd yn hyn yn eiddigus o'r herwydd.
Yn mis Mehefin, cawn Harris yn canu
yn iach i"w gyfeillion yn Llundain, ac yn
cyrhaedd Trefecca. Heb orphwys ond
noson yn nhy ei fam, cychwyna i'r Fenni ;
yr oedd cymdeithas y brodyr yno mor
felus, fel na fedrodd gyrhaedd adref hyd
yr hwyr ; ac yna bu yn ysgrifenu hyd un
o'r gloch. Tranoeth pregetha ddwy waith
yn y Gelh, Brycheiniog. Y dydd canlynol,
wyneba ar gynulhad annuwiol yn Long-
town, Sir Henffordd ; gyda ei fod ar ymyl
y dorf, clywodd ddyn yn rhegu, a cherydd-
odd ef yn llym. Aeth y si trwy yr holl le
fod Howell Harris yno, a daeth torf o ryw
ddwy fil o"i gwmpas. " Rhoddodd yr Ar-
glwydd nerth i mi i ymosod ar y diafol ar
ei randir ei hun," meddai ; "gosododd fy
wyneb fel callestr, gan fy llanw o'r hyn a
ddywedwn.^ Yn enwedig, pan welais rai
boneddwyr a boneddigesau yn dyfod i
wrando, gwnaed fi yn gryfach gryfach i
ddarostwng eu balchder," Appehodd hefyd
at yr ynadon, ac at offeiriad y plwyf, gan
ofyn iddynt pa fodd y rhoddent gyfrif o'u
goruchwyhaeth, gan eu bod yn cefnogi
tyngu, a meddwdod. Chwarddodd rhai o"r
boneddwyr; "tynwch y clebrwr i lawr,""
meddai un arall ; "ond ni ddaethai fy
amser eto," meddai. Wedi pregethu mewn
amryw fanau, aeth i Bontypẁl, lle y he-
farodd am wroldeb Daniel, a'r tri llanc, ac
fel yr oedd yr Arglwydd wedi sefyll o blaid
ei bobl yn nydd y frwydr. Eithr erbyn
hyn yr oedd yspryd erhd wedi ei ddeffro
yn i\Ihontyp\vL Daeth ustus heddwch ar
draws y gynulleidfa ac yntau, gan ddarllen
deddf terfysg, a gorchymyn iddynt ym-
wahanu mewn awr o amser. Addawodd
yntau y gwnaent ; ond gofynodd iddo a
oedd yn arfer darllen deddf terfysg yn y
gwahanol gampau, ac yn yr ymladdfeydd
ceihogod ? Rhoddwyd ar gwnstab hefyd i
gymeryd Harris i fynu. Mynai ef fyned
i'r carchar, ond perswadiwyd ef i roddi
meichiau, y gwnai ymddangos yn Sessiwn
Trefynwy. Cymerodd yr ymddiddan can-
lynol le rhyngddo a'r ustus : —
Harris : "Nid oeddwn yn disgwyl mai
mab yr Uchgadben H fuasai y cyntai
i ymosod ar gynulleidfa o Brotestaniaid
heddychol ; oblegyd dyn hynaws oedd
efe."
Ustus : " Yr wyf wedi derbyn fy nghyf-
arwyddyd oddiuchod."
" Ai o'r nefoedd ydych yn feddwl ? ""
"Na, nid oeddwn yn golygu hyny.""
" Dywedais wrtho," meddai Harris, " Pe
y gwybuai ei fawrhydi mor deyrngar a di-
niwed ydym, na wnai feddwl yn uwch o
hono ef am ein gorthrymu. Felly gadewais
ef, wedi gadael rhai saethau yn ei gyd-
wybod, a'i adgofio y rhaid iddo yntau roddi
cyfrif gerbron gorsedd ofnadwy ; ond y
gwnawn weddío drosto ; a diolchodd yntau
i mi." Yr oedd hyn ganol Mehefin, ac nid
oedd y Sessiwn yn Nhrefynwy cyn Awst.
Yn y cyfamser aeth Harris i Fryste, a
phregethodd yno i gynuUeidfa o Gymry.
Cyfarfyddodd yno hefyd am y tro cyntaf â
John Wesley. Ymddengys fod peth rhag-
farn yn ei feddwl at John Wesley, am nad
oedd yn dal yr athrawiaeth o etholedigaeth,
a pharhâd mewn gras ; nid anhebyg hefyd
i'r rhagfarn gael ei ychwanegu gan Mr.
Seward, yr hwn oedd wedi cwympo allan
a Charles Wesley. Pregethai Mr.Wesley
ar Esaiah xlv. 22 : " Trowch eich wynebau
ataf fi, holl gyrau y ddaear, fel y'ch
achuber ; canys myfi wyf Dduw, ac nid
neb arall." Cyhoeddai y gwirionedd mawr
am gyfiawnhâd trwy ffydd mor ddifloesgni
a chiir, ynghyd a'r angenrheidrwydd, y
fraint, a'r ddyledswydd o edrych at lesu
am gyfiawnder a nerth ; ac yr oedd y fath
ddylanwad nefol yn deimladwy yn yr odfa,
fel y toddodd holl ragfarn Harris ; ac er
anghytuno ag ef gwedi hyn, nid amheuodd
byth fod John Wesley yn weinidog Crist.
Aeth yn ganlynol i ymweled ag ef yn ei
lety, a phan y gwnaeth ei hun yn hysbys,
syrthiodd Wesley ar ei liniau i weddio
drosto gerfydd ei enw, a thros Griffith
Jones, a thros Gymru. Bu y ddau yn
gyfeillion mwy hyd eu bedd.
Gwedi teithio rhanau helaeth o Gymru,
dychwelodd i Drefynwy yn brydlon erbyn y
Sessiwn. Teimlai yn bryderus ac yn isel
ei yspryd ; gwyddai nad oedd ganddo
nac arian na chyfeillion i wynebu ar brawf
costus ; ac ofnai fod yr erledigaeth yn
brawf nad oedd wedi cael ei alw i gyng-
hori, a'i fod fel yr honai yr offeiriaid yn
rhedeg heb gael ei anfon. Ond pan
ddaeth i'r dref llonwyd ei galon ; cyffröasai
yr Arglwydd feddwl nifer mawr o ddynion
da i ddod yno i'w bleidio, o Lundain,
Caerloy w, a rhanau o Gymru. Yn ngwyneb
HOWELL HARRIS.
95
y teimlad cyhoeddus, ac yn ddiau dan
argyhoeddiad fod y gyfraith yn eu herbyn,
gadawodd yr ustusiaid yr achos i syrthio ;
a chafodd Harris ymadael heb na dirwy
na charchar. Diau i'r helynt brofi yn
fantais ddirfawr i"r diwj^giad ; gwelwyd
na elUd ei osod i lawr trwy gyfrwng
cyfraith y wlad. Enynodd sirioldeb difesur
hefyd vn mynwes Howell Harris ; symud-
wyd ei ofnau, a chwbl gredodd y mynai yr
Arghyydd iddo deithio o gwmpas i gynghori
pechaduriaid. Nid oedd neb a lawenychai
yn fwy na Whitefield. Ysgrifena o Phila-
ddefíro y wlad o gwr i gwr ; mentrodd i
ganol y gwyhnabsantau a"r ffeiriau an-
nuwiol, gan yru ofn ar weithredwyr
anwiredd ; daeth ei enw yn ddychryn
i"r campwyr, a sefydlodd nifer mawr o
seiadau. A gwnaeth hyn oll heb nemawr
gymorth dynol ; efe ei hun, a phresenoldeb
ei Dduw gydag ef, a gynyrchodd y chwil-
dröad ; ychydig iawn o gymorth a gafodd
gan yr ofteiriaid, na chan y gweinidogion
Ymneillduol. At ychydig o"i orchestion
yn unig y cawn gyfeirio. Adroddir am
dano yn pregethu mewn ffair yn Crug-
ATHIÍUFA •|'KF.FKCCA : GOlA'dFA DJ )\V YKA IN-0(iLKI)U()L.
delphia : " Yr wyf yn eich llongyfarch ar
eich llwyddiant yn Nhrefynwy. Yn nihen
tua deuddeg mis, os myn Duw, yr wyf am
wneyd defnydd o'ch maes-bwlpudau eto.
Y mae ein hegwyddorion yn cyduno fel yr
etyb wyneb i wyneb mewn dwfr."'
Siroedd Morganwg a Mynwy a gawsant
y rhan fwyaf o lafur Howell Harris yn
ystod 1738, 1739; yr ydym wedi crybwyll
eisioes am efîeithiau ei weinidogaeth yn
Mynwy, a Dwyrain Morganwg, ac ym-
ddengys i'r unrhy w ddylanwadau ei ganlyn
i ürllewin Morganwg. Bu yn ofîeryn i
glas, ger Abertawe. Yr oedd terfysg y
ffair yn ddirfawr, y swn yn ddigon i
ferwino clustiau, a'r ymladdfeydd yn waed-
Iyd a chreulon. Buasai dyn cyffredin
yn cael ei lethu gan ddychryn, ond
ni wnai hyn ond awchu zêl Harris.
Cododd i fynu ynghanol y berw, a'r olwg
arno mor arswydlawn a phe buasai yn ym-
gorfforiad o ddychrynfeydd Sinai ; taflodd
olwg lem ar y twmpath chwareu, a dech-
reuodd weddio. Yn raddol y mae difrifwch
ei wedd, treiddgarwch ei lais, a thaerni ei
weddi yn enill sylw ; Ilonydda y berw fel
96
Y TADAU METHODISTAIDD.
pe y tywelltyd olew-ar ddyfroedd cyffrous;
cywilyddiaychwareuwyr acymeifl dychryn
ynddynt ; a dyma hwy yn dianc oddiar y
maes fel pe eu hymhdyd gan ellyllon. Pan
welodd y telynwr ddarfod iddo gael ei
adael, rhoes yntau ei offer heibio ac yma-
dawodd. Yn mysg y rhai oedd yn bresenol
y pryd hwnw yr oedd creadur annuwiol a
elwid " Rotsh o'r Gadle." Ymddengys i
saeth lynu yn ei gydwybod yntau, ond ni
adawodd ei ffyrdd drygionus. Gwyddai ei
fod ar ffordd na ddylai, ond ni chefnai arni.
Dywedir ei fod unwaith wedi gwario ei holl
arian ar ei flysiau, ac na wyddai pa fodd i
fyned yn y blaen. Tybiai y dylasai yr hwn
a wasanaethai mor egniol ei gynorthwyo,
a chyfarchai y "gwr drwg:" "Wel, yr
wy' i wedi bod yn was ffyddlawn i ti, gad i
mi wel'd fath feistr wyt ti ; dod rywfaint o
arian yn fy het." Yna rhoddai ei het i
lawr, a chihai oddiwrthi encyd o ffordd.
Yn mhen enyd, dychwelai ati eilwaith, i
gael gweled beth oedd ynddi. Wedi ei
chael yn wag, troai i edhw a'r diafol, gan
ddweyd : " Mi welaf mai meistr caled
ydwyt wedi'r cyfan." Pa foddion a ddef-
nyddiwyd i'w ddwyn ato ei hun ni wyddis
i sicrwydd. Aeth ryw foreu Sul i gyrchu
y cwn hela ar gyfer tranoeth ; nid anhebyg
i eiriau HoweÙ Harris drywanu ei galon ar
y ffordd ; pa fodd bynag, daeth yn ei ol heb
y cwn, ac aeth i'w wely, dan arteithiau
euogrwydd anamgyffredadwy. Yr oedd
wedi cael ei ddal megys a gwys oddiuchod;
a fflangelhd ef megys ag ysgorpionau. At
hyn y cyfeiriai gwedi hyny wrth ganu: —
" Pan oeddwn ar fy ngwely,
Ùn prydnhawn,
Heb feddwl dim ond pechu,
Un prydnhawn,
Fe ddaeth ei danllyd saethau,
Y ddeddf a'i dychryniadau,
I'm tori i lawr yn ddiau,
Un prydnhawn,
A gado'm holl bleserau,
Un prydnhawn."
Bu ei argyhoeddiad yn ofnadwy. Ai at lan
y môr, gan godi llonaid ei law o'r tywod, a
cheisio eu rhifo : " Mi a ddeuwn i ben a
hyn rywbryd," meddai, "ond am dra-
gywyddoldeb, nid oes rhifo arno byth ! "
Ymofynai a'i hen gymdeithion, ai ni wydd-
ent hwy am un ffordd o ddiangfa, ond
cysurwyr gofidus oeddynt oll, Cyfarfu
unwaith â hen feih yn Abertawe, ac yn ing
ei enaid gofynai i hwnw : "A wyddost ti
rywbeth am lesu Grist ? " Edrychodd y
beih yn hurt arno, ac aeth ymaith heb
ddywedyd gair, Ond o'r diwedd tywallt-
wyd olew a gwin i glwyfau " Rotsh o'r
Gadle," a'r offeryn a fendithiwyd i hyny
oedd Mr. Lewis Rees, o Lanbrynmair, yr
hwn oedd wedi dyfod yn weinidog i'r
Mynyddbach.
Yr ydym yn cofnodi hanes "Rotsh" am
ei fod yn ddiau yn engrhaifft o'r duü yr
argyhoeddwyd Uawer i fywyd yn yr amser
rhyfedd hwnw. Un arall o'r cedrwydd
talgryf a dorwyd i lawr yn 1739 oedd
Wilham Thomas, o'r Pil, a hyny pan nad
oedd on_d llencyn un-mlwydd-ar-bymtheg
oed. Dwysbigwyd ef trwy wrando Harris
yn pregethu mewn lie a elwir Chwarelau
Calch, yn agos i Gastellnedd, eithr bu am
agos i bedair blynedd gwedi hyn cyn rhoddi
ei hun i fynu yn llwyr i'r lesu. Daeth
yn ganlynol yn " gynghorwr " nid anenwog,
ac yn ddyn o ddefnyddioldeb mawr. Ad-
roddai hen vvr, o'r enw John Morgan, am
Harris yn dyfod i le a elwir Waungron, nid
yn nepell o'r Goppa-fach, ar gyffìniau
Morganwg a Chaerfyrddin. Cynhelid
gwylmabsant yno ar y pryd. Yr oedd y
cyfarfod wedi dechreu cyn i John Morgan,
ar ei ffordd i'r gamp, gyrhaedd ; ond pan
tua chwarter milldir neu fwy o'r Ile, cyr-
haeddodd Ilais y pregethwr ei glust, " a
daeth," meddai, "gyda'r fath awdurdod,
fel y teimlwn ef yn myned trwy fy esgyrn
yn y fan." Dychwelwyd ef a Ilawer eraiU
at y Gwaredwr y tro hwnw. Cyfeiriai yr
hen weinidog hybarch, Hopkin Bevan, o
Hirwaun, at Howell Harris yn dyfod dro
arall i Crug-glas. Daeth dyn haner meddw
yn mlaen, wediei anogganrywddihirwyr, a
gwn yn ei law, gan geisio saethu y pre-
gethwr, Cynygiodd ddwy waith a thair,
ond ni thaniai yr ergyd. " Trowch ffroen
eich dryll ffordd arall," meddai Harris,
gyda Ilais awdurdodol ; gwnaeth y dyn,
ac allan aeth yr ergyd. Yn fuan wedyn
cafwyd y dyn wedi Ilosgi i farwolaeth mewn
odin galch, Ile yr aethai yn ei feddwdod.
Nis gallwn, o ddiffyg lle, gofnodi ychwa-
neg o lafur a buddugoliaethau Howell
Harris yn Ngorllewin Morganwg y cyfnod
yma. Tua'r pryd hwn, neu yn fuan
gwedi, sefydlwyd seiadau yn y Palleg, ger
Ystradgynlais ; Creunant, yn nghymydog-
aeth Castellnedd ; y Goppa-fach, nid yn
nepell o Abertawe ; Castellnedd, Hafod,
CnapIIwyd, Llansamlet ; a'r Dyffryn, ger
Margam.
Tua mis Rhagfyr bu ar ymweliad a Sir
Benfro ; ei ymweliad cyntaf yn ddiau,
Nid yw hanes y daith genym ; felly, nis
gwyddom pa mor bell yr aeth, nac yn
HOWELL HARRIS.
97
mha leoedd y bu yn efengylu ; ond
cyfeiria at yr amgylchiad mewn llythyr
" at chwaer yn Sir Fynwy." Dyddiad y
Ilythyr yw Tachwed.d 30, 1739. Dywed :
" Yr wyf yn awr ar fy ffordd i Sir Benfro ;
collais y ffordd ar y mynyddoedd neithiwr,
ond yr Arglwydd a gofiodd ei gyfamod."
Nid ydym yn tybio iddo aros yn hir yma
y tro hwn. Nid oes pen draw ar ei
deithiau yr adeg hon. Cawn ef yn
ngodreu Sir Aberteifi, yn ngymydogaeth
Penmorfa ; teithia oddiyno i Lanarth, ac i
Lanbedr ; croesa y Mynydd Mawr, a
phregetha mewn amaethdy bychan yng-
hanol y brwyn, o'r enw Brynare, yn agos
i darddiad yr afon Towi. Cyn pen wyth-
nos yr ydym yn ei gael yn nhref Henffordd,
ac yn myned oddiyno i Gaerloyw, trwy
ranau o Sir Fynwy. Rhaid fod ei gyfan-
soddiad fel haiarn, a'i zêl yn angerddol.
Dechreu y flwyddyn 1740 y mae yn
cychwyn ar ei ymwehad cyntaf a'r Gogledd.
Rhydd yr Hybarch John Evans, o'r Bala,
yr amser yn 1739; dywed Methodistiadli
Cymrn fod dydd-lyfr Howell Harris yn
cytuno a hyn ; eithr y mae y ddau yn
camgymeryd. Y mae y dydd-lyfr, ynghyd
a'r holl lythyrau a ysgrifenodd Mr. Harris
ar ei daith, at Mrs. James, o'r Fenni, a
Miss Anne Wilhams, o'r Scrin, ac eraill,
yn profi mai Chwefror, 1740, y cymerodd
hyn le. Hawdd esbonio y modd y darfu
iddynt garnsynied. Dilynai Howell Harris
wrth ysgrifenu yr hen galender eglwysig ;
o lonawr hyd Mawrth 25, rhoddai, wrth
ddyddio ei lythyrau, yr hen flwyddyn
a'r flwyddyn newydd ; ac y mae y Ilythyr
o Lanfair-muallt, y cyntaf iddo ar y daith
hon, felly, sef " Builth, Feb. i, 1839-40."
Elai ar wahoddiad Mr. Lewis Rees,
gweinidog yr YmneiIIduwyr yn Llanbryn-
mair, yr hwn a ddaethai dros y mynyddoedd
cribog yn un swydd i'w gyrchu. Gan mai
Mr. Lewis Rees a fu yn foddion i ddwyn
Methodistiaeth i ügledd Cymru, nid an-
nyddorol fyddai ychydig o'i hanes. Gan-
wyd ef yn Glynllwydrew, Cwm Nedd, yn
Sir Forganwg, yn y flwyddyn 17 10, ac
felly yr oedd rai blwyddau yn hŷn na
Rowland a Harris. Yr oedd ei rieni yn
aelodau yn yr Eglwys Ymneillduol yn
Blaengwrach, yr hon oedd dan ofal y
duwiol a'r diragfarn Henry Davies. Ym-
unodd a chrefydd yn ieuanc. Darfu i'w
allu meddyliül, ynghyd a'i dalentau, yn
arbenig ei ddawn mewn gweddi, beri i'w
rieni ei godi i fynu ar gyfer y weinidog-
aeth. Cafodd fanteision addysg helaeth ;
bu yn yr ysgol gyda Joseph Simons, yr
hwn a gadwai ysgol ramadegol yn Aber-
tawe, gyda Mr. Rees Price yn Penybont-
ar-Ogwy, ac yn ddiweddaf gyda y Parch.
Vavasor Grifiìths, yn Sir Faesyfed.
Dywedodd yr olaf ei fod yn Ilawn digon
o ysgolhaig, ac anogodd ef i ymgymeryd a
gweinidogaeth yr efengyl yn ddioedi. Y
pryd hwn daeth y Parch. Edmund Jones,
Pontypŵl, heibio, gwedi bod ar daith yn y
Gogledd ; darluniodd gyflwr gresynus y
rhan hono o'r wlad, ac anogodd ef i ym-
gymeryd a bugeihaeth y ddeadell fechan
yn Llanbrynmair, gan addaw troi yn ol
gydag ef, a'i gyflwyno i'r bobl. Cyn
cyrhaedd pen eu taith collasant y ffordd, a
buont am rai oriau yn crwydro mewn Ile a
elwir Coedfron. Yn y sefyllfa annymunol
hon ymroisant i ymddiddan a'u gilydd am
bethau yr efengyl, a hynod y mwynhad a
gawsant ; terfynodd eu dyryswch hefyd
yn annisgwyhadwy, gan iddynt gael gafael
ar Lanbrynmair tua dau o'r gloch yn y
boreu. Yr oedd hyn yn y flwyddyn 1734,
tua blwyddyn cyn dechreuad y diwygiad
Methodistaidd, a thua chwe' mlynedd
cyn taith gyntaf Howell Harris i Wynedd.
Yr adeg hon y r oedd cy fl wr ysprydol Gogledd
Cymru yn dra gresynus. Mewn ychydig
fanau yn unig y pregethid yr efengyl yn
ei phurdeb. Dyhoenai yr eglwys fechan
yn Llanbrynmair ; ychydig iawn oedd
rhif y ffyddloniaid yn y Bala, lle yr oedd
*ichos wedi cael ei blanu gan y Parch.
Hugh Owen, Bronyclydwr ; ac yr oedd y
ddeadell yn PwIIheli ar roddi i fynu
mewn digalondid. Ymroddodd Mr. Rees
i bregethu ; elai i Bwllheli mor aml ag y
medrai, ac i'r Bala unwaith y chwarter.
Gwnai hyn drwy anhawsder a pherygl
dirfawr. * Yr oedd y ffordd yn faith,
mynyddig, ac anhygyrch ; y tywydd yn
aml yn oer, ac yn ystormus ; a phreswyl-
wyr Dinas a Llanymowddwy, y pentrefydd,
oedd ar ei ffordd, yn ffyrnig am ei ladd,
gwedi deall ei neges. f Pan yn pregethu
yn y Bala un tro digwyddodd i Meurig
Dafydd, o ben uchaf plwyf Llanuwchllyn,
fod yn gwrando. Wedi cael blas ar yr
odfa, gwahoddodd Mr. Rees i bregethu
i'w dŷ ef. Yntau a aeth fel yr addawsai.
Yr oedd y tŷ yn Ilawn ; daethai y bobl
yno o chwilfrydedd i glywed Pengrwn yn
pregethu ; ond yn ol defod y wlad yr amser
* Methodistiaeth Cynirii, cyf. i.
I Ilistory of I'rotcstant Nonconformiti/ m Wnlcs,
tudal. 415.
H
98
Y TADAU METHODISTAIDD.
hwnw, yr oedd pawb, y gwyr yn gystal
a'r gwragedd, wrthi yn ddiwyd yn gwau
hosanau. Gafaelodd yntau yn y Beibl,
gan ddarllen penod, a disgwyl i'r bobl
rhoddi heibio eu gwaith ; eithr yn nilaen
yr oedd y gwau yn myned, a swn y gweill
yn ymgymysgu a swn y Gair. Trodd i
weddío, ond heb fawr gobaith y byddai i
neb o'r gynuUeidfa gydynmno ag ef, a'r
olwg ddiweddaf a gafodd cyn cau ei lygaid,
oedd gweled y bysedd wrthi yn brysur
yn trin y gweill. Ár weddi cafodd gymorth
arbenig ; aeth ei enaid allan at Dduw
mewn deisyfiadau ar ran y trueiniaid an-
wybodus oedd yn bresenol ; deallodd yn
íuan fod y gwau wedi cael ei roddi heibio ;
ac yn lle clec y gweill clywid swn grudd-
fanau ac ocheneidiau ani drugaredd. Ni
adawyd ef hefyd wrth bregethu, a bu yr
odfa yn foddion achubiaeth i amryw.
Gwedi hyn, bu Morgan, brawd Meurig
Dafydd, oedd yn gryfach na'r cyffredin, ac
yn adnabyddus fel ymladdwr mawr, yn
dra charedig iddo. Hebryngai ef trwy
Lanymowddwy, gyda phastwn onen cryf
yn ei law, a phan geisiai rhywrai niweidio
y pregethwr ysgydwai y pastwn, gan
ddweyd : " Wedi hebrwng y gẁr da i
ffwrdd, mi a ddof i siarad a chwi."
Droiai bu gwarant allan i ddal Lewis
Rees, am fyned o gwmpas i bregethu yr
efengyl. Un tro dygwyd ef o ílaen y
Canghellydd Owen, yr hwn yn ogystal
oedd yn fìcer Llanor a Dyneio. Gwedi'
i'r g\Vr hwn ddeall fod ganddo drwydded i
bregethu, ac felly nas gallai ei anfon i'r
carchar, aeth yn gynddeiriog. Ymaflodd
müwn cleddyf, gan fygwth ei ladd, ac yn
ei gynddaredd torodd got y pregethwr yn
gareiau a'r cledd oedd yn ei law. ''■'' Pan
y teithiai Mr. Rees trwy Lanymowddwy
un tro, cyfarfu ag ofteiriad y plwyf, wrth
yr hwn yr achwynodd am ymddygiadau
barbaraidd ei blwyfohon. Cymerodd yr
ymddiddan canlynol le rhyngddynt : —
" Gẃr o ba wlad ydych chwi ? " ebai'r
oíîeiriad.
" Gẁr o Lanbrynmair, Syr," ebai Mr.
Rees, yn fwynaidd iawn.
" Beth a ddaeth a chwi i Lanbryn-
mair ? "
" Yr oedd y gynuheidfa YmneiUduol
heb weinidog ; ar eu dymuniad, mi a
ddaethum atynt, ar y cyntaf ar brawf ; ac
wedi cael boddlonrwydd o bob ochr, mi a
osodwyd yn weinidog arnynt."
" Peth afresymol," ebai'r offeiriad, " yw
goddef i Bresbyteriaid bregethu yn y wlad
lion ; Ysgotland y w y whid iddynt hwy."
" (ìobeithio, Syr," meddai Mr. Rees,
" eich bod o well egwyddor nag y ffurhech
eich crefydd wrth arfer y wlad y l)yddech
yn byw ynddi ; onide byddai raid i chwi
íod yn Bresbyteriad yn Ysgotland, ac yn
Babydd yn Rhufain."
Tarawodd grym ei resymau, a mwyn-
eidd-dra ei atebion, y gŵr eglwysig, a
thrwy ei ddylanwad ar y preswylwyr, ni
chafodd Mr. Rees ei aíìonyddu o hyny
ahan. Gwnaeth Lewis Rees ddaioni an-
nhraethol yn y Gogledd ; nid oedd rhag-
farn yn ei yspryd ; a pharhaodd yn
groesawgar i'r Methodistiaid tra y bu yn
Llanbrynmair. Wedi hafurio am chwarter
canrif yn Ngwynedd, symudodd i'r Myn-
yddbach, ger Abertawe. Bu farw Mawrth
21, 1800, pan wedi cyrhaedd ei bedwar-
ugain-a-deg mlwydd oed.
Ond i ddychwelyd at daith Idowell
Harris i'r Gogledd. Ymddengys iddo fod
mewn pryder cyn cychwyn pa un ai yno,
ynte i Sir Benfro, yr ai. Tebygol mai yr
hyn a benderfynodd o blaid Gwynedd
oedd cymheUion cryfion Mr. Lewis Rees,
ac hefyd yr elfen o berygl oedd ynglyn a'r
daith. Ymddengys fod boneddwyr Sir
Drefaldwyn wedi rhwymo eu hunain a
diofryd y gwnaent garcharu unrhyw
Fethodist a anturiai i'w tiriogaethau ;
daethai hyn i glustiau Mr. Harris, a
pharai beiddgarwch ei yspryd, a'i zêl dros
ei Waredwr, iddo deimlo awydd angerddol
ain anturio i ganol yr ystorm. Chwefror
y laf, yr ydym yn ei gael ar y ffbrdd
tuag yno, yn Llanfair-mu;dlt. Rhaid i ni
ddifynu darnau o'i ddydd-lyfr, ac o'i
lythyrau, eto, fel y caffbm nid yn unig ei
hanes, ond hefyd agwedd ei feddwl.
I " Pan y daethum yma (Llanfair-muallt)
ceíais y bobl yn canu, a boneddwr ieuanc
yn Uusgo celain cath o gwmpas, er mwyn
peri terfysg. Ond siomwyd ef ; ni wnai y
cwn hela. Cawsom nerth mawr, ac yr
wyf yn awyddus iawn am fod yn rhydd
oddiwrth, a byw uwchlaw y creadur, gan
ddianc at waed Crist am heddwch a sanct-
eiddrwydd. Yr wyf yn clywed pethau
nodedig o hyfryd am Mr. Gwynn ; gweddí-
wch drosto.
Rhaiadr (wyth miUtiro Llanfair-muallt),
Chwefror 3, 1740. Y mae fy ngorff" yn
flin, gwedi Uafur caled, ac y mae yn awr
Mcthodistiactìi Cynim.
t Llythyrau at Miss Anne Williams, Y Scrin.
HOWELL MARRIS.
99
yn bedwar o'r gloch y boreu. Ond y mae
rhywbeth ynof, pan ei rhoddir mewn
gweithrediad, sydd yn fy ngwneyd yn ddi-
ludded. Ddoe, galhiogwyd fi i lefaru
ddwywaith, i drafaelu deng milltir, ac i
ysgrifenu llawer o lythyrau. Heddyw,
teithiais chwech milltir, llefarais ddwy-
waith, cedwais ddwy ddyledswydd deulu-
aidd, ac ysgrifenais chwech o lythyrau.
Heno cefais y newydd cysurus fy mod
mewn gwirionedd i gael fy nghymeryd i'r
ddalfa yn Sir Drefaldwyn. Gwn y llawen-
hewch, y gweddiwch, ac y bendigwch
Dduw trosof. Cawsant gyfarfod i'r pwr-
pas, ac yr wyf yn cael yr Arglwydd yn fy
nerthu yn rhyfedd oddimewn. Gosododd
Duw yn meddwl cyfaill anwyl i ddod i
ddweyd wrthyf. Cuddied yr Arglwydd
fy mhen yn nydd y frwydr. Yr wyf yn
myned y fory i Cwmtyddwr, i wyl, a nos
y fory i ran o Drefaldwyn. Y mae yr Ar-
glwydd wedi rhoddi i mi lawer concwest
ar y diafol.
Llanybister (pedair miHtir o Rhaiadr),
Chwefror 5, 1740. Diwrnod gogoneddus
oedd y ddoe ; yr oeddwn yn yr wyl fawr,
a mentrais wrthwynebu y diafol ar ei dir
ei hun. Felly lleferais o fewn ychydig
latheni i dafarndy, lle yr oedd y chwareu-
yddiaeth i gychwyn. Ar y dechreu yr
oeddwn gryfaf ; wrth lefaru am argy-
hoeddiad Zaccheus, ceisiais eu denu trwy
gariad ; ond collais fy awdurdod. Yr
oeddwn yn farw ac yn sych yn mron
hyd y diwedd. Yna dyrchafodd yr Ar-
glwydd fy Ilais fel udgorn, a galluogodd fì
i gyhoeddi hyd adref gyda golwg ar elyn-
ion Duw. Ni phrofaiserioed fwy o nerth.
Yr wyf yn credu ddarfod i rai gael eu
gwanu ; wylai Ilawer ; Ilewygodd un ;
eraiU drachefn a deimlent gryndod dir-
fawr ; ac yr oedd ar bawb fraw mawr.
(jwedin aethum i'r eglwys ; pan y daeth-
um allan ofnwn rhag i'r diafol eu cael i'w
fagl drachefn, a chyhoeddais y pregethwn
o fewn chwarter milltir i dref Rhaiadr.
Yno y daethant, yn mron bawb, yr wyf yn
meddwl, ond ychydig oedd yn y tŷ. Cyn-
orthwywyd fì i lefaru, a hyny gyda Ilai o
daranu a mwy o ddyddanwch, nag arfer.
Oddiyno aethum i le a elwir Y Lodge, yn
Llandinam, lle y galluogwyd fi i íefaru
gyda nerth, Neithiwr a heddyw ni chyf-
arfyddais a dim gwrthwynebiad, a chawsom
odfaeon melus": Cedwir Ilawer rhag dyfod
i'm gwrando gan ystori, sydd yn pasio fel
gwirionedd, fy mod yn gohebu a brenin yr
Ysbaen, a bod deugain punt yn cael eu
cynyg am fy nghymeryd. Y fory yr wyf
yn disgwyl cael fy nal ; ac os caf, ysgrif-
enaf yn uniongyrchol o fy Ilety newydd.
Dyma Howell Harris wedi rhoddi ei
draed ar ddaear Gw,nedd, ac wedi
pregethu yn Llandinam, a hon oedd y
bregeth gyntaf i Fethodist n N ^ogledd
C mru. Dengys yr hanes pa mor íîol
oedd y chwedlau a daenid am dano.
" Llanbrynmair,Nos Sadwrn(Chwefror
g, 1740). Hyd yn hyn y mae yr Arglwydd
wedi bod gyda mi, ac yn fy Ilwyddo fwy-
fwy. Ymddengys Satan fel wedi ei rwymo ;
yr oeddwn yn disgwyl bob dydd gael fy
rhoddi mewn cadwyn ; ond hyd yn hyn
nid wyf wedi cyfarfod gwrthwynebiad.
Dydd Gwener, cyfarfyddais a Mr. Lewis
Rees, ac ni chefais yn ystod fy holl
deithiau y fath nerth ag a ges neithiwr
wrth lefaru i tua mil o bobl yn Llan
(Llandinam ?) Gallech glywed calonau
yn ymddryllio ; ac yr oedd y fath ochen-
eidiau, a dagrau, a gwaeddi, na wrandaw-
soch ar ei gyffelyb. Yr wyf yn gobeithio
ddarfod i lawer o galonau agor i lesu
Grist. Yr oeddwn ymron a chael fy
nghario allan o fy hunan. O ! gogonedd-
wch Dduw drosof. Yr wyf yn myned
dydd Llun nesaf i Sir Feirionydd. Druan
o Wynedd ; y maent yn byw yma fel
anifeiliaid, heb wybod dim ! " Pasiai ar ei
daith trwy Lanidloes ; nid yw yn ei
lythyrau yn cyfeirio at y dref, ond dywedir
yn Nrych yr Amseroedd iddo gael Ilonydd i
bregethu heb i neb aflonyddu arno. Bu
cymaint o erlid yn Llanidloes a braidd
unrhyw dref yn Nghymru ar ol hyn.
Cawn iddo hefyd bregethu yn Nhref-
eglwys, a dywedir mai dyma y pryd yr
argyhoeddwyd Lewis Evan, Llanllugan,
yr hwn oedd ar y pryd yn ddyn ieuanc un-
ar-hugain mlwydd oed. Gwehydd ydoedd
Lewis Evan ; gwedi ei argyhoeddi ym-
roddodd i ddarllen y Beibl ; ac yn bur
fuan cymerai ef o gwmpas i'w ddarllen o
dý i dŷ ; Ilithrodd yn raddol i roddi gair o
gynghor, ac i derfynu trwy weddi, a daeth
yn gynghorwr heb yn wybod iddo, ac heb
wybod fod neb wedi gwneyd fel hyn o'i
flaen. Peth dyeithr yn yr ardal oedd
gwehydd ieuanc yn myned o gwmpas i
gynghori, a pharodd ei ymddygiad gryn
gyffro.
Nid yw Mr. Harris yn ei lythyrau yn cyf-
eirio at ei bregethu yn Llanbrynmair, ond y
mae yn sicr iddo wneyd, * a dy wedir mai o
* Metìiodistiaeth Cymru, cyf. i., tudal 98.
Y TADAU METHODISTAIDD.
'flaen tafarndy, a elwir yn awr y Wynnstay
Arnis, y llefarai. Yr oedd son am dano
wedi myned ar led y gymydogaeth fel un a
welsai weledigaeth, yr hwn a ai o amgylch
i fynegu yr hyn a welsai ac a glywsai.
Yn mhlith eraill a ddaethant i'w wrando
yno yr oedd tri o frodyr, sef Wilham,
Edward, a Richard Howell, ynghyd a gẃr
arall o'r enw Richard Humphrey. Er
mwyn bod yn gyfleus i wrando aethant i
ben tỳ bychan gerllaw. Dechreuodd
gŵr Duw bregethu, a nodi beiau yr oes,
yn ei ddull llym a phriodol ei hun.
Tybiasant hwythau fod y pregethwr yn
gwybod am danynt, ac yn eu pwyntio allan.
Bu gorfod arnynt, gan rym cydwybod,
ddisgyn oddiar ben y tŷ, fel Zaccheus o'r
sycamorwydden, a saeth argyhoeddiad a
drywanodd y pedwar g\vr. Dyma ddech-
reuad Methodistiaeth yn Llanbrynmair.
W'edi dweyd ei fod yn oedi ymweled a Sir
Benfro, am y credai fod gan Dduw waith
iddo yn Ngwynedd, â Harris yn mlaen yn
ei lythyrau : —
"SiR Feirionydd, ger y Bala, Dydd
Mawrth (Chwefror 12, 1740). Y ddoe,
anrhydeddwyd fi gan Dduw trwy gael fy
nghymeryd yn garcharor yn ei waith, yn
mhlwyf Cemmes, yn Sir Drefaldwyn.
Gwnaed hyn gan un Wynne, ustus, yr
hwn, gydag ustus arall, a boneddwr arall,
ynghyd ag offeiriad y plwyf, a ddaeth
arnom, wedi anfon eu hysbiwyr, ynghyd
a'r cwnstab, o'u blaen. Ni chefais yr
anrhydedd o fyned i Drefaldwyn mewn
llyfetheiriau ; ond cymerasant ein henwau,
ynghyd a'r manyhon perthynol i'r cyfarfod,
a'n bod yn ymgynuU mewn lle heb ei
drwyddedu ; a bygythient wneyd eu goreu
i'm dirwyo i o ugain punt, g\vr y ty o
ugain punt, a phob un o'r gwrandawyr o
bum' swdlt yr un. Achwynent fy mod yn
tori deddf y tŷ cwrdd {:onvcnticle act).
Atebais nas gelHd fy nghospi yn unol a'r
ddeddf hono ; mai deddf ar gyfer yr
Anghydfí'urfwyr ydoedd, tra yr oeddwn i
yn gydffurfiwr a'r Eglwys Sefydledig.
' Ni a fynwn ymgynghori a'r cyfreithwyr
goreu,' meddent, ' ac os oes cyfraith i'w
chael, cewch ddyoddef ei llymder eithaf.'
Dywedais yn ol, os oedd y gyfraith yn fy
erbyn, fy mod yn foddlawn dyoddef pa
gospedigaeth bynag a farnent yn addas ei
gosod arnaf. Llanwodd yr Arglwydd fi a
gwroldeb ; ni chefais fy ngadael. Llawer
o ddagrau a goUwyd gan y gynulleidfa ; ac
yr oedd nifer wedi arfaethu dod gyda mi
i Drefaldwyn pe buasai raid. Dychwelais
gyda rhai dwsynau oeddynt wedi dyfod
gyda mi, i"r lle o ba un y cawswn fy
nghymeryd, a llefarais wrthynt am sefyll yn
nydd yr ystorm. Cychwynais tua'r lle hwn,
taith o tua deuddeg milltir, a Uefarais ddwy
waith ar y ffordd. W'edi teithio encyd, dis-
gynais, ac aethum i fwthyn bychan ar ochr
y ffordd, lle yr ysgrifenais hwn. Gwelais
yno, mewn hen wraig, gariad at Air Duw
ac at ei Fab, a mawr uniondeb meddwl, a
gofal tyner. Y mae arnaf ofn dilyn fy
ewyllys fy hun mewn dim, llawenheir fi
wrth feddwl mai gwas i Un arall wyf, ac y
mae heddwch mawr mewn ymostwng i
Dduw yn mhob peth. Teimlais fy nghalon
yn cynhesu at yr hen wraig — dywedodd y
daw Duw'n nes atom ninau os aw^n ni yn
nes ato ef. Yr oedd yn ddiolchgar iawn,
yr oedd yn gweled ei hun yn bechod i gyd,
yr oedd ganddi gariad cryf at Grist,
teimlwn fy nghalon yn agor iddi o gariad
at yr lesu. Yr oedd yn fwy o ddyddanwch
i mi gael bod yn ei thŷ na phe buaswn
mewn palas. Bwyteais ychydig fara
ceirch tew caled a chaws, ac yna aethum
yn fy mlaen ar y fíbrdd tua thŷ Meurig
Dafydd, Gweirglodd Gilfach.
Fel yr oeddwn yn myned o'r bwthyn
tua Llanymowddwy, gwawdiwyd fi ;
rhedai plant ac eraill ar fy ol, gan waeddi,
' Down with tìie Riinips,' a phethau eraill.
Yr oedd Satan yn rhuo, ac yn chwerw
iawn. Ni theimlais unrhyw derfysg yn fy
enaid, eithr gweddíais drostynt, a thost-
uriwn wrthynt, — er nad cymaint ag yr
hofí'wn wneyd. Ac nis gahwn gael fy hun
yn ol i'r ystad meddwl hyfryd yr oeddwn
ynddi cyn hyny.
Pan aethum yn agos at yr eglwys, daeth
tyrfa o bobl mewn oed a bechgyn at eu
gilydd ; pan welsant fi yn dod, gwaeddasant :
' Doitni with the Riimps,' a chasglasant y
c\Vn at eu gilydd i'w hysio arnaf. Pan
welais hwynt, teimlais fy ewyllys yn hollol
ymroddedig — felly hefyd yr wyf wedi ei
theimlo ar hyd y ffbrdd — cefais galondid
mawr i fyned yn mlaen, siaredais heb ofn, a
chefais ryddid meddwl. A gofynodd dynes
i mi — galwent hi yn wraig fonheddig — beth
oedd arnaf fi, dd 1 coll, eisiau yno. A
chyda hyny, cymerodd laid a thywarchen —
nid oedd cerig yn ei hymyl wrth Iwc — a thafl-
odd hwynt ataf. Gwelais ei bod yn un o
ddilynwyr Satan, ond ni dderbyniais niwed.
Qwaeddasant ar fy ol wedi fy myned,
ond tra yr oeddwn yn pasio cauodd yr
Arglwydd eu safnau.
Ar ol hyn deuais at eglwys Lhiny wyllyn.
HOWELL HARRLS.
lOI
tref fechan ar lan Llyn y Bala ; cyfrifir y
daith tua deuddeng milltir. Daeth rhyw-
beth fel ofn drosof wrth glywed fy mod yn
neshauat dref, ond tawelwyd fi gan ymrodd-
iad meddwl. Yr oedd fy myfyrdodau yn
rhy ysgeifn, ac mor ychydig o Dduw sydd
yn fy meddwl ! Cefais beth hyfrydwch
i'm henaid wrth weled daioni Duw yn
rhoddi pethau i ni, a chefais fy hun yn
gweddio : ' O Arglwydd, na ad i mi bechu
mewn ewyllys na meddwl.'
Wedi hyn, tra'r oedd cur yn fy mhen, a
minau ar newynu, cyrhaeddais y Llan tua
phump. Arhosais yma ; yr oedd cynulleidfa
fawr iawn wedi ymgynuÌI, ond wedi myn'd
ymaith. Siaredais hyd chwech wrth rai can-
oedd am dröedigaeth St. Paul. Cefais gym-
orth yma i efengylu gyda grym, ac yr oedd
Ilawer yn wylo. Atebais amheuon a gwrth-
wynebiadau, a gwahoddais bawb at Grist.
Cefais rwyddineb melus i siarad wrth
galonau drylliog, calonau wedi eu perswadio.
Wedi hyn, rhoddwyd i mi ras i weddîo
am Yspryd Duw, fel y medrwyf ganu a
gweddío, a charu a siarad, a byw yn yr Ys-
pryd hwnw, ac O mor angenrheidiol y w hyn !
Yna aethum i'r tŷ, Ile'r oedd yspryd ys-
gafnder wedi dod dros y bobl. Bum uwch
ben fy mwyd o saith hyd yn agos i wyth.
Ac yna agorodd yr Arglwydd ddrws i mi
siarad a hwynt, a hwy a wrandawsant.
Siaredais am ein cwymp, ac fel yr agorodd
y cwymp hwnw ddrws i gariad Duw
hefyd. Danghosais iddynt gariad Duw
tuag atom, a'n gwrthryfel ninau yn ei
erbyn. Effeithiodd hyn arnynt, a wylodd
Ilawer. Agorwyd drws i mi — tŷ tafarn
oedd y t}- — i ddarllen ac esbonio y ddeu-
ddegfed benod o'r Rhufeiniaid, i ganu ac
i weddio. Ymddengys mai pobl ddiniwed
sydd yma, a chefais gymorth i fod yn
fîyddlon yn eu mysg.
Ysgrifenais Iythyr hyd wedi deg ; a
bum mewn gweddi ddirgel hyd gwedi
un-ar-ddeg, yn gweddío gyda pheth pryder,
wedi darllen Actau ii. 17, 18: 'O dyro i
mi o'th Yspryd, O dyro i mi o'th Yspryd,
fel y gogoneddwyf ac yr anrhydeddwyf di.
O Dduw, a allaf fi fod yn llawen tra y
dianrhydeddir dy Fawrhydi bendigedig
genyf fi ac eraill ? Arglwydd anwyl,
paham yr wyf yn rhoddi mor ychydig o
werth ar dy gariad ? Yr wyf yn diolch i
ti am y wybodaeth am danat dy hun
a roddaist i rai eraill. O Dduw, pa bryd y
caf fi dy adnabod a dy garu ? O, rhyfedd
dy fod yn gwneyd cymaint rhyfeddodau i
mi, a minau eto heb gariad atat ! '
Llanywyllyn, ger y Bala, Sir Feirion-
ydd, Dydd Mercher. Deffroais yn fore ;
codais am wyth. Yr wyf yn mhell oddi-
wrth Dduw o hyd, ac eto yn anfoddlon
hebddo. Aethum i weddi yn y dirgel ; a
gweddîais yn hir mewn geiriau, o'r pen a'r
deall, ac nid o'r galon. Nis gallwn gael
gafael ar ddymuniadau i wneyd daioni o
ddifrif. Ond o'r diwedd, tra yn disgwyl yno
ac yn ofni dilyn f'ewyllys fy hun heb
Dduw, rhoddodd yr Arglwydd allu i'm
henaid lefain : ' O Arglwydd, yr wyf yma
ymhell oddiwrthyt ti, ac mewn gwlad bell.
Gad i mi dy gael di yn rhan ; yr wyf yn
ymwadu a phob peth arall. Dyro hwynt
i'r hwn a fynot, a gad i mi fod yn eiddo i
ti. O Drindod, yr wyf yn rhoddi fy hun
i ti.' O naw hyd ddeg, pregethais i rai
canoedd o bobl. Dechreuais trwy ddangos
oddiwrth y seithfed benod o Rhufeiniaid —
fel y gwnaethwn y nos o'r blaen wrth son
am dröedigaeth St. Paul — ein bod yn
gweled yma y dygir ni, pan ddaw gras
Duw i'r galon : (i) I ganfod Ilygredigaeth
ein natur, fel y mae coríf ac enaid wedi eu
cwbl halogi, ein hamharodrwydd i wneyd
da a'n parodrwydd i wneyd drwg. (Dang-
hosais hyn oddiwrth eu profiad hwy eu
hunain.) (2) I weled fod teimlo yr an-
mhosiblrwydd hwn i wneyd daioni yn
boen a gofal mawr i'r enaid. (3) Nis
gallant fod yn dawel heb chwilio am
ryddhad. ■' Pwy a'm gwared oddiwrth
gorft" y farwolaeth hon ? ' (4) Fel y
gwelwn oddiwrth Rhuf. viii. 2, pan ddaw'r
enaid i chwilio yn ddyfal am ryddhad,
datguddia Crist ei hun, i ryddhau yr enaid
oddiwrth euogrwydd a Ilygredd pechod, a
chadwynau'r tywyllwch. Ac yma cefais
oleuni mawr i ddangos (i) Ein bod dan y
gyfraith tra byddom ynom ein hunain.
Gadawyd i mi ddeall mwy ar natur y
gyfraith nag erioed o'r blaen ; dangosais
nas gall Duw faddeu am droseddu ei
gyfraith nes y caíîo iawn i'w gyfiawnder.
' Ai ni fuasech chwi'n condemnio barnwr,
ac yn ei gyfrif yn anghyfiawn, pe y rhodd-
asai bardwn i ddrwgweithredwr, a'i fai yn
amlwg, heb iawn i'r gyfraith ? ' (2) Nas
gall Duw edrych arnom nes y newidir ein
natur, ac nas gallwn ninau ymhyfrydu
ynddo ef, A fedrai g\vr a gwraig gytuno
pe carai y naill yr hyn a gashäi y Ilall ?
Felly nis gallwn ninau fod yn gytûn a Duw
os carwn chwant, balchder, cybydd-dod,
meddwdod, tywyllwch, yr hyn bethau y
mae Duw yn gashau ; a thra nas gallwn
garu y sancteiddrwydd a'r purdeb y mae
Y TADAU METHODISTAIDD.
Duw yn garu. Felly, rhaid i Dduw golli
ei briodoleddau o gyfiawnder a phurdeb,
neu rhaid i ni gael gwaredigaeth oddiwrth
euogrwydd a natur pechod, cyn y gallwn
sefyll ger ei fron. (3) Rhaid symud y
tywyllwch oddiar ein Uygaid ; fel y gwelom
farwolaeth ynom ni a bywyd yn Nghrist,
tywyllwch ynom ni a goleuni yn Nghrist,
aflendid ynom ni a phurdeb ynddo ef,
gwendid ynom ni a nerth ynddo ef. Ond
rhaid i ni deimlo mor druenus ydym cyn
yr awn ato, a rhaid ei uno a ni trwy ff^ydd
fywiol, neu ni fydd yn fwy llesol i ni
glywed am gyfiawnhad trwy íTydd a
thrueni y rhai sydd heb fod yn Nghrist,
na phe y clywem am feddyg pan yn wael ac
heb gymeryd ei gyffeiriau.' Cefais nerth ;
a phan ddaethum i'r fan yma, gwelwn fod
llawer wedi teimlo i'r byw, a medrais
bregethu yn felus. Daeth cawod hyfryd
arnom wrth i mi ddweyd wrthynt nas
gallwn eu twyllo. Yna soniais am ragor-
freintiau y rhai sydd yn derbyn Crist. Y
mae y rhai sydd yn meddu Crist yn meddu
pob peth ; a'r rhai nis meddant ef, ni feddant
ddim. Cynghorion cyfí'redinol : moHanu
Duw. Gwagedd yw gobeithion gau. Pan
fo'r Arglwydd yn dysgu ac yn rhoi nerth,
peth melus yw gweithio, a pheth hawdd.
Fely teimlasom yr Adda cyntaf ynom, felly
y rhaid i ni deimlo Adda'r ail. Mewn
gweddi ddirgel, cefais mai dymuniad fy
enaid ydyw bod yn ffyddlon, a gogoneddu
enw'r hwn a'm danfonodd. Gwneled Duw
ei ewyllys arnaf. Ac O, pa fodd y gallaf
fod yn llawen tra mae pobl yn di-
anrhydeddu ac yn anghofio Duw !
Ysgrifenais tan haner dydd, ac yna
teithiais i'r Bala — pum' miUdir. Nis
gaUwn gael fy enaid i feddwl am unrhyw
fater ar y ffordd — dim ond meddyhauysgafn
— a dyma wnawn beunydd oni bai am ras.
Cyrhaeddais y Bala cyn dau o'r gloch,
a siaredais gyda rhai canoedd hyd yn
agos i bedwar. Tra yr oeddwn yn siarad,
yr oedd llawer yn chwerthin ar eu gilydd,
a gollyngwyd ergyd o wn yn fy ymyl.
Clywais un yn dymuno cael ei ddamnio,
pe gwyddai mai Presbyteriad oeddwn, os
cawn bregethu. Dywedais wrthynt fy
mod yn perthyn i'r Eglwys. Pregethais
ar y stryd ar gyfer neuadd y dref, ac yr
oedd pregethu yno fel pregethu uwchben
ceihogod yn ymladd.
Dechreuais gyda chatecism yr Eglwys,
llw y bedydd, y ddwy ddyledswydd at
Dduw a dyn, a'r sacramentau. Nid
oeddwn hyd yn hyn wedi cael fawr o
awdurdod arnynt, ond yr oeddwn yn
edrych a fedrwn eu tynu ataf. Gwrand-
awodd llawer, a wylodd eraill. Pregethais
ar Luc xix. 12. Cefais awdurdod i siarad
wrthynt am eu pechodau. Rhoddwyd i
mi oleuni mawr, fel yn y t\- cyn myned
allan, o wybodaeth gliriach ; a dangosais
ddrwg pechod fel y mae yn bechod yn erbyn
daioni Duw, er argyhoeddiad Uawer yr
wyf yn gobeithio. Y mae arnaf ofn na
wnaed Uawer o ddaioni yma, ond cefais
nerth i fod yn ffyddlon.
Wedi hyn bum ar fy mhen fy hun, yn
bwyta, &c., hyd bump. Yna pregethais
hyd chwech. Dangosais fel y mae Duw
yn cario ei waith ymlaen yn raddol, o
ris i ris ; ceisiais gynorthwyo eu meddyhau
i weled eu trueni ; dangosais fel y mae
Satan a'r byd yn ymgynhyrfu yn ein
herbyn pan ddechreuom newid oddi mewn
ac oddi allan, ac fel y medr yr enaid gael
nerth i'w gwrthsefyll ; a dywedais wrthynt
hanes fy nhröedigaeth fy hun. Cefais
íelusder, a nerth i fod yn ffyddlon. A llefais
yn y dirgel : ' O Arglwydd, gad i mi bob
amser dy deimlo di ynof, a rho nerth i mi
fod yn ffyddlawn i ti, anwyl Arglwydd.'
W'edi hyn ymadewais, gan deimlad
cariad cryf, tua Thabardd, pum milldir o
ffordd. Cefais gipolwg ar y ffordd ar
drueni yr hwn elo at y meirw heb Grist,
ond nis gallwn wasgu y peth yn agosach
at fy enaid. Gwelaf nad wyf ond pechod,
yn farw a thywyll oll ; nid oes genyf ond
pechod a thrueni ; nis gallaf wneyd dim,
ond anghofio Duw o hyd ; nis gwn ddim,
ond y peth a ddangosir i mi.
Daeth pryder ar fy enaid am fy mam,
ac awydd i ddadleu drosti mewn yspryd
tosturi ac ofn : ' O Arglwydd, gwared hi o
drueni. O na welwn hi wedi ei newid.
Dyro iddi dy Yspryd, lladd ei hanghred-
iniaeth, gwna hi yn rhydd, dadguddia
dy anwyl Fab ynddi. Gad i mi weled
arwyddion amlwg o gyfnewidiad ynddi, ac
yn fy enaid tlawd fy hun. O Arglwydd,
goleua fy meddwl ; a gwrando fi ar ran
fy mrodyr. A adewir iddynt fyned ymlaen
yn eu pechodau, ac mewn gwrthryfel yn
dy erbyn di ? Cofia''S yr hon sy'n rhan o'm
henaid. Ac na alw fi i dragywyddoldeb
tra'n farw yn fy mhechodau.'
Cefais olwg ar y cyflwr ofnadwy y
buaswn ynddo i dragywyddoldeb ; a
Wrtli * y meddylir Ann WiUiams, o'r Ysgrin, yr
hon ddaeth wedi hyny yn wraig i Howell
Harris.
HOWELL HARRIS.
103
gwnaeth meddwl mor gyfiawn fuasai
Duw, wrth wneyd hyn, i mi ymostwng i"r
Uwch ger ei fron. Ac yna dangoswyd i
mi dynerwch Duw tuag ataf, rhagor at
eraill. ünis gallaswn fod wedi ymbarotoi
at fod yn iìlwr, a chael fy ngadael i mi fy
hun, i fod yn erlidiwr ? O, beth wyf fi, fel
yr hoffwyd fi rhagor miloedd ? Gwae i mi
os na ogoneddaf Dduw. O Arglwydd, y
mae arnaf ofn pechod. Gwna fi yn un
a arweinir ymlaen gan gariad. Tyn fy holl
wrth weled fod mor ychydig o bob un o'r
rhai hyn ynof fi. Ofnwn nad ydyw ef ynof
— ond eto y mae graddau, a phwy sydd yn
tynu fy meddyliau i fyny ? O na fedrwn
fod yn ddiolchgar fyth.
Ar y ftbrdd cefais olwg gliriach ar fawr-
edd Duw. Yr oedd y mawredd hwn o
flaen fy llygaid o hyd : ' yr hwn yn unig
sydd yn taenu'r nefoedd.' Yr oeddwn
mewn syndod wrth feddwl yr edrychai
ar Iwch ; ac wrth weled rhvfeddod ei
I!
\Lìe !ic;if(ni!l<ìil Hmrrìl Iliil-,
EGLWYS DEFYNOG.
laDaniel Roiclandam ij frociiiituf, iiii 11 tUviiiliÌ!in IT^ì^.^
gariad atat, ac na ad i mi orphwys nes
teimlo yn sicr fy mod yn eiddo i ti, a
thithau yn eiddo i mi yn fwy llwyr o liyd.
Ac O, arhosed hyn ynof — cael teimlo car-
iad newydd, ac awydd am ogoneddu Duw.'
Cyrhaeddais Lanywyllyn, ac arosais
yno tan oedd yn agcjs i ẅyth ; yna troais
i tuag adref heno, ac yr oedd ■'• yn cael lle
mawr yn fy meddwl. ' O Arglwydd, gad
i mi sicrwydd dy fod di'n Dduw i mi, a fy
mod inau'n eiddo i tithau yn mhob peth.'
Cefais betli iselder meddwl wrth weled
fod Crist yn oleuni a bywyd a phurdeb, ac
dragywyddol gariad yn anfon ei Fab,
collais fy hun mewn edmygedd. O tyn
fi yn gyfangwbl i dy garu di !
Cyn cyraedd yno yr oeddwn wedi bhno,
gorff ac yspryd, ac yr oedd fy nhymerau
naturiol yn pallu. Pregethais ar ragor-
oldeb ffydd : (i) Fel y mae'n agoriad i glo
trysorau gras Rhaghiniaeth Duw. (2) Hi
ydyw llaw yr enaid i dderbyn oddiwrth
Dduw. (3) Hi ydyw'r droed i redeg ar ol
Duw pan fydd yn ciho, ac i ddilyn pan
fydd yn tynu ynom. (4) Hi yw y Uygad i
weled Crist, a phob gras wedi ei drysori
I04
Y TADAU METHODISTAIDD.
ynddo ef. (5) Hi yw y glust i glywed llais
Crist yn mhob dim. (6) Hi yw llais a
thafod yr enaid. (7) Ei hedyn. (8) Yn
treuUo bwyd ysprydol.
Ceisiais ddangos gallu cariad Crist, ond
gorfod i mi roddi i fyny. Aethum i'm gwely
tua haner nos.
Tal-ardd, yn mhlwyf Llanywyllyn,
Meirionydd, Dydd lau. Codais cyn saith;
wedi breuddwydio neithiwr. Cefais ddy-
muniadau am i Dduw fy rheoh, a rhoddi
i mi fyfyrdodau sanctaidd ar y ffordd
heddyw — un-milldir-ar-bymtheg yn ol eu
cyfrif hwy — fel y gwelwyf fod fy nghym-
deithas i gyda'r Tad a chyda'r Mab.
Dymunwn yn dda, ond nid wyf yn teimlo
digon o wagder yn fy enaid i dderbyn
Duw. Yn sicr ni chafodd neb erioed
natur mor anhawdd ganddi ddod at Dduw,
ac mor anhawdd iddi gredu'r Beibl ac ym-
hyfrydu ynddo. Yna daethum i ddarllen y
Beibl, ond ychydig o hono gyda'm calon ;
eithr y mae ef yn tosturio wrthyf, ac yn fy
nilyn a'i gariad. Ni fu neb yn meddu mwy
o Satan na myfi, nac mor galed i effeithio
arnaf, ond rhyfedd yw natur gras — y gras
a wnaeth ragrith yn onestrwydd ac union-
deb, y gras a wnaeth y casineb mwyaf yn
gariad, y gras a wnaeth y balchder mwyaf
yn ostyngeiddrwydd, y gras a wnaeth y
Uwfrdra mwyaf yn wroldeb, y gras a
wnaeth y chwant mwyaf yn burdeb, y
gras a'm cododd o'r domen i anrhydedd.
O nas gallwn ei ogoneddu ef am byth !
Wedi bwyta a gweddio gyda'r teulu,
cychwynais tua Machynlleth cyn wyth,
taith o un-milldir-ar-bymtheg. Mor fuan
ag yr aethum allan cafodd fy enaid
daerineb a llefain, ac erfyn dros Ogledd
Cymru, druan : ' O Arglwydd, dyro wybod-
aeth iddynt. O trugarha wrthynt. Oni
weli di'r tywyllwch dudew sydd yn mhob-
man yn eu mysg ? O Arglwydd anwyl,
na wrthod fy nghais ; anfon wybodaeth
iddynt drwy ryw fodd neu gilydd.'
Nis gallwn oddef cymeryd fy ngwrthod,
eithr gwnawd i mi barhau mewn taerineb.
Wedi peth cysgadrwydd, gweddîais wedin,
ond yr wyf eto yn mhell oddiwrth Dduw.
Yna meddyliais am fy myned i Fachyn-
lleth heddyw, a Ilefais : ' Pe gwyddwn,
Arglwydd, fy mod yn myn'd i dy ddi-
anrhydeddu di, trwy ras y gallaf ddweyd
nad awn. Y mae digon o ddianrhydeddu
arnat heb i minau hefyd dy ddianrhydeddu
di. Na ad di i mi fod yn mhlith y rhai
sydd yn dy erbyn mwy. Er i mi ildio i
feddyUau ofer, ac er i'r rheini sychu
fy enaid, O dyro dy hun i mi, ac yna gad i
mi fod y peth a fynot, gan deimlo fy enaid
wedi ei ddiddyfnu oddiwrth bobpeth, a
chan allu meddwl ychydig am berfifeith-
derau Duw.. Rho dy natur ynof, nid oes
arnaf ofn dim ond pechod. Na foed
ewyllys ynof ond dy ewyllys di, dysg fi
i'th ogoneddu yn mhob peth.'
Tuag un-ar-ddeg daethum i Ddinas Maw-
ddwy, tref wyth milldir o Fachynheth. Yr
oeddynt yn ymddangos ychydig yn dyner-
ach yma y tro hwn, a dywedent y buasent
yn falch o'm clywed. Yna penderfynais
bregethu yno, a dechreuais siarad a rhyw
ychydig o honynt oedd wedi dod at eu
gilydd. Chwarddai rhai, yr oedd pawb
a'u hetiau am eu penau, ai rhai eraiU
heibio heb gymeryd sylw o honof, gwaeddai
rhai eraill : ' Yr wyf fi'n clywed digon yn
yr eglwys.' Lle ofnadwy ydyw hwn ;
addefasant y bydd canoedd yn dawnsio
ar y Sul, ac yn chwareu pêl, yn tyngu ac
yn byw pob afradlondeb ; felly y mae yn
mynwent Mawddwy. Ni chefais awdur-
dod arnynt, ac ni chymerais destun, ond
pregethais yn gyffredinol am Dduw, a
marw, a'r farn, a thragywyddoldeb, a
phechodau a arferir. Ni chefais awdurdod,
a pheidiais a siarad pan welais rai yn
rhedeg ataf, gan feddwl eu bod yn dod i
aflonyddu. Ond gwelais mai dod i wrando
yr oeddynt, a phregethais ychydig yn
ychwaneg gyda mwy o deimlad, ond
ychydig iawn. Ni chefais unrhyw effaith
arnynt, darostyngwyd fy yspryd ; yr
oeddwn yn foddlon iddynt fy mathru dan
eu traed, ond yr oedd ynof dosturi tuag
atynt, a pheth pryder ara achos Duw.
Cefais yspryd tosturi i weddío, gan
deimlo'n isel a gostyngedig iawn.
Ymadewais am haner awr wedi deuddeg,
tua Machynlleth, a daeth ataf, fel o'r
blaen, yspryd i weddío dros Ogledd
Cymru. Cyfarfyddais ŵr ieuanc tlawd
oedd yn ffafriol, a chawsom ymgom felus ;
yr oeddwn yn ei garu, a chynorthwywyd
fi i'w gynghori. Yr oedd gras Duw ynddo,
ond yr oedd yn anwybodus am Grist.
Rhedodd y bechgyn bach ar fy ol
heddyw, i waeddi. Yr wythnos hon, hyd
yn hyn, y mae Satan wedi cael ychydig o
ryddid. Yr oeddwn inau wedi fy ngadael,
ac yn isel fy yspryd. Gofidiais pan
glywais fel yr oeddynt yn cymeryd enw
Duw yn ofer, a llefais : ' O Arglwydd, pa
hyd y dyoddefi ni ? Saf drosot dy hun,
dros dy dŷ dy hun. Ymwregysa, Ar-
glwydd, amddiífyn dy ogoniant ; oni weli
HOWELL HARRIS.
105
di fod yr oíìfeiriaid yn dy erbyn, oni weli
fod y rhai mawr yn codi yn dy erbyn di ?
O Dduw, bydd gyda mi. Boed i bob-
peth a'th ofidio di fy ngofidio inau ; a
phobpeth a'th foddhao di fy moddhau
inau.' Adnewyddwyd fy nerth, ond yr
oeddwn eto yn wan. Teimlais beth cymun-
deb a Duw, ond yr oeddwn yn rhy ddiofal
yn fy myfyrdodau.
Cyrhaeddais Fachynlleth ychydig wedi
tri. Disgynais wrth dŷ'r Cylhd. Yno
cyfarfyddais a hen ŵr bonheddig, yr hwn
oedd wedi meddwi. Cydiodd ynof, sarha-
odd fi, gan ofyn cwestiynau sarhaus.
Ond ni wnaed terfysg. Clywais iaith
uffern — dynion yn damnio eu hunain yn
fy nghlustiau — a daeth yr holl dyrfa
ynghyd i chwareu pêl droed. Wedi cael
ychydig o luniaeth aethum allan, gan feddwl
myn'd i"r Clwt Teg oedd ger llaw. Yr
oedd yr Arglwydd wedi darparu tri neu
bedwar o gyfeilHon i'm hamddiffyn ; ac yr
oeddynt hwy wedi cael lle arall i mi, mewn
drws bychan oedd yn agor o loíft uwchben
grisiau. Sefais yn y drws hwnw, a'm
gwyneb i'r heol. Ni wnaethum yr hyn a
ddylaswn wneyd mewn lle mor beryglus, sef
ceisio yr Arglwydd, eithr dechreuais siarad
am Iw y bedydd. Ond yr oeddynt wedi
ymgynddeiriogi cymaint fel na wrandaw-
ent. Yr oedd offeiriad — Mr. Griffiths, o
Benegoes, mab i Ddissenter o Sir Aber-
teifi — a thwrne o'r enw Lewis Hughes, a
gŵr bonheddig o'r enw Mr. Thomas
Owens ; yr oedd y rhai hyn fel pe buasent
wedi eu rhoddi ar dân uffernol gan Satan.
Yr oeddynt mor wallgof fel y gallesid
gweled cynddaredd yn mhob gwyneb ; ac
ymgynddeiriogai y dyrfa, gan iuchio cerig
a thyweirch, a hen esgyrn ataf. Ond
gwaredodd yr Arglwydd fi rhag i'r un o
honynt gyffwrdd a mi. Y mae genyf
achos cywilydd, am fy niofalwch yn
peidio ceisio'r Arglwydd, ac yn enwedig
yn peidio gweithredu ffydd. Yr oeddwn
yn wan, ac nis gallaswn gael geiriau.
Ond o'r diwedd ymdawelasant ychydig, a
chefais inau beth awdurdod. Siaredais
ychydig am y clefyd mawr sydd yn eu
mysg ; lluchiwyd pethau ataf, ac yr oedd
yr offeiriad a'r twrne yn rhuo bygythion,
yn bygwth rhoi'r cwnstab arnaf oni
thawn, ac yn cynhyrfu'r dyrfa i ymosod
arnaf. Teimlais nad oedd Duw wedi fy
ngalw yma, neu fy mcd wedi cam-
ymddwyn. Ofnais i mi ymfalchio, ond
yma tynwyd fy malchder i lawr. Cefais
gymorth i ddweyd wrthynt am edrych ati,
na safai gwyr mawr yn y farn yn eu lle.
Wrth fy ngweled yn dal i bregethu,
rhedodd y twrne i fyny i'r ystafell Ile yr
oeddwn, mewn dig a chynddaredd mawr,
a"i enau'n llawn melldithion, yn tyngu yn
erchyll, gan feddwl fy Ilusgo i lawr.
Siaredais inau yn deg ag ef, a dangosais
mor afresymol oedd iddo ymwallgofi heb
reswm. Gorfod i mi dewi, o herwydd nis
gallai neb fy nghlywed. Ac yna daeth y
g\Vr bonheddig i fyny at y drws oddi allan,
mewn cynddaredd mawr, a saethodd ergyd
o lawddryll yn ein mysg, a chrochlefodd.
Aethum inau i lawr y grisiau yn awr, gan
weled fy mod mewn perygl. Aethum gyda'r
cyfeillion i ystafell breifat, ac yna daeth y
dyrfa i'r ffenestr, a chrochlefasant dra-
chefn. Gwelais fy mod yn awr yn uffern,
yn ymladd ag anifeiliaid yn Ephesus.
Aethum allan, gan feddwl myned ymaith ;
ond pan gefais fy hun yn y dyrfa gwelais fod
fy mywyd mewn perygl. Ofnwn gael fy
nhrywanu, yr oeddwn wedi cael fy nghicio
ddwywaith, ac wedi fy ngwneyd yn wawd
y dyrfa. Galwent fi yn ' berson,' mewn
dirmyg. Dangosodd marwolaeth ei wyneb
i mi mewn Ilawer ffordd.
Cefais ystafell breifat wedin gan gyfaill,
a bolltiasom y ddôr ; ond yr oeddynt yn
ysgrechain cymaint y tu faes fel yr oeddwn
yn disgwyl gorfod marw pan ddown allan.
Ac yn awr ymdrechais geisio Duw, ond
gadawyd fi yn unig. Yr oeddwn ar fy
mhrawf, a'm ffydd yn wan. Deisyfais ar
iddynt beidio fy Ilofruddio ; ac yna agor-
asom y drws ac aethom i'w mysg.
Achubodd yr Arglwydd fy mywyd ; a
gwnaeth iddynt adael i mi fyned pan ddy-
wedais fy mod am droi i ffwrdd. Pan
ofynais am heddwch yn enw'r brenin,
dywedodd un na chawn niwed ; a dywed-
odd un arall, pan oeddynt yn meddwl fy
mathru dan eu traed, fy mod yn gyd-gre-
adur. Cymerais fy ngheffyl, ac aethum ar
hyd ffordd gefn ; ond gorfod i mi fyned drwy
ran uchaf y dref ar fy ffordd, a dyna lle yr
oeddynt yn dod oll i'm cyfarfod eilwaith.
Rhedodd un ataf drwy'r caeau, gan godi
dwy dywarchen. Dymuiiais arno beidio
fy Iladd ; taflodd un dywarchen ataf a
methodd, yna taflodd y Ilall yn union heibio
fy mhen. Aethum trwy eu canol, Iluch-
iwyd cerig ar fy ol, ond cadwodd yr Ar-
glwydd fi, ac ni chefaisfy nharo gan gareg.
Rhedodd un gyda pholyn ar fy ol i'm taro,
ond nerthodd yr Arglwydd fy ngheffyl
blinedig i garlamu, ac felly dihengais. Ond
yr oedd fy nghyfaiU ar ei draed, ac yn eu
io6
Y TADAU METHODISTAIDD.
canol ; ac ni theimlais gariad yn fy
nhynu yn ol i'w achub, er na fedraswn
wneyd dim. Ond achubodd yr Arghv)dd
ef a'r lleill. Pan ddaethum at fy nghyfeill-
ion, galwodd tri neu bedwar o bobl ar ein
holau. Yr oeddwn yn ddrwgdybus o
honynt ; er hyny arhosais hwynt. Yr wyf
yn meddwl mai rhai wedi dod i'm dal ar
fy nhaith oeddynt ; gofynasant i mi beth
oedd fy mywohaeth, a beth oedd yn gwneyd
i mi ddod o gwmpas, a chwestiynau felly.
Pan ar fy mhen fy hun, agorodd y Llyfr
ar 2 Tim. i\'. 17, 18. Treiais geisio'r
Arj^hvyd(l, ond yr oedd wedi ciho ; nis
gallwn ei gael, ond medrais lefain : ' Ar-
ghvydd, nid af oddiyma nes yr edrychot
arnaf." O mor ddigysur ydyw arnom hyd
nes y daw yr Arghvydd o hono ei hun.
Parodd ei ymadawiad oddiwrthyf i mi
edrych ychydig i mi fy hun, a gwelais fod
popeth o'i le, — (i) Nid oeddwn wedi cael
galwad ghr i ddod yma. (2) Nid ym-
ddygais, y mae arnaf ofn, er anrhydedd i
Dduw ; a gwelaf na wnaf, os na chynhehr
fì bob eihad ac os na ddysgir fì gan Dduw.
Ond cefais gysur wrth íeddwl fy mod wedi
gwneyd, er nad fel y dylaswn, eto fel y
daeth i'm meddwl i wneyd. (3) Ni ddis-
gwyUais ddigon wrth Dduw, a thorais y
gorchymyn : ' Nac ofnwch y rhai sydd yn
lladd y corff.' Ond ildiais i ofn y cnawd,
dywedais yn deg wrth elynion yr Arghvydd,
gwelais fy hun yn Uawn o hunan-gariad,
yn cymeryd mwy o ofal am fy mywyd nag
am achos Duw, ac nid oedd pryder am ei
anrhydedd ef yn ddwfn yn fy nghalon.
Daeth y pethau hyn oU i'm meddwl ;
ond wrth ddisgwyl wrth Dduw, cofiodd
drugaredd ; er fy mod i yn hir mor galed a
chareg, heb gariad, yn galed a sych, a'm
calon yn berwi drcsodd o feddyhau chwerw-
on am Dduw. Cefais gymorth i osod yr
holl fater ger bron Duw, ac i ymbil ag eí,
gan deimlo peth euogrwydd a'm caledai.
Nis gaUwn fyned ymaith, — disgwyhwn,
gobeithiwn wrth weled tynerwch Crist, —
ond yr oedd fy enaid mewn cadwynau.
O'r diwedd rhyddhawyd fi, a medrais
lefain gyda pheth gofid, wrth gofio i mi
gwympo yn Adda, a cholU ei ddelw ef :
' Ai ni weUr dy ddelw arnaf byth mwy ?
O anwyl ogoneddus Arghvydd ! Ai nid
digon genyt yr hyn a wnaeth Crist drosof ?
Tro oddiwrthyf wyneb dy gyfiawnder, ac
edrych arnaf mewn trugaredd yn Nghrist.
O edrych ar ei waed ef ! '
Cefais feddwl rhydd i weddio drostynt
oU, ond ni fedrais gael taerineb. ' O
Arghvydd, anwyl i\.rghvydd, yr wyf yn
hiraethu am fod gyda thi. O pa hyd raid
iddi fod nes y caf ddod ! Ò 'rwyf yn
hiraethu, 'rwyf yn hiraethu — cymer fi,
eniU y fuddugoUaeth yn Uwyr dy hun.
Yr wyf yn sicr nad oes yr un cythraul yn
uffern haeddodd uffern yn fwy na fi, ond y
mae genyt ti drugaredd — golch fi yn
ngwaed Crist, seUa fi yn l)lentyn i ti
dy hun.'
Yna adfeddienais fy enaid, i ddweyd
geiriau cariad melus, a diolchgarwch.
Yna aethum at y brodyr ; gweddiasom a
chanasom ynghyd hyd saith. \Vedi hyn
aethum i dŷ fy ngyfaill, bu'm yno hyd
wedi deg, yna i'm gwely.
Dysgais oddiwrth heddyw : (1) Fel y
digir yr Arglwydd, ac fel y dengys ei
amynedd wrth fy nyoddef. (2) Gymaint
o wrthryfel sydd yn Satan, pan welir
cymaint o derfysgu yn mysg dynion er
cymaint o atalfeydd — er gwaethaf cyd-
wybod, cyfreithiau dynol, gobaith, cywil-
ydd, &c. (3«) Fy mod bob amser yn teimlo
yn ddiolchgar drostynt am y fraint o
siarad a byw dros Dduw. (4) Beth wyf
pan wedi'm gadael, mor barod i edrych i
lawr. Mor dda i mi ei fod ef yn dal
gafael ynof fi, onide buan iawn y coUwn
fy ngafael ynddo ef. (5) Mor gryf yd}'w
cynddaredd Satan yn fy erbyn ; a rhaid
mai ei gynddaredd ef yw hwn, o herwydd
nid oedd dim arall i enyn y bobl yn
fy erbyn. Galwasant fi yn ymhonwr ac yn
awdwr y cynhwrf hwn ; a phe buasent
wedi fy nghael allan o"r tŷ, yr oeddynt
wedi meddwl fy nghario mewn cadair o
gwmpas y dref, mewn gwawd." Yma
daw ei fyfyrdodau a'i weddîau hyd nes y
cysgodd, cyn un o'r gloch y boreu.
" Rhuhgruawell, plwyf Penegoes, Sir
Drefaldwyn. Yr oedd fy nghorff yn flin-
edig, wedi trafaelu ugain miUdir ddoe, ac
arhosais yn fy ngwely tan oedd agos yn
naw. Breuddwydiais fy mod yn derbyn
fy nghymun gyda'r Dissenters, ac arhos-
odd y meddwl hyfryd yn f'enaid. O mor
ddiyni ydwyf; a phan fyddaf ar lawr, pa
fodd y gallaf godi ? A rhoddodd ífydd,
wedi ei sylfaenu ar yr addewidion, allu i
mi ddisgwyl am atebiad, o herwydd fod
Duw wedi addaw, a bod Crist yn y nefoedd.
Dadleuais hyn, fel y noson o'r blaen.
Wedi hyn, pregethais hyd oedd yn agos
i un-ar-ddeg. Cefais beth cymorth wrth
weddîo. A melus oedd pregethu am
osod y sylfaen yn ddwfn, ac am afresym-
oldeb erlid. Daeth adnodau lawer i'm
HOWELL HARRIS.
107
meddwl i ddweyd na chawn ond erlid
yma. Cefais gymorth i siarad, yr wyf yn
gobeithio, yn ddidderbyn-wyneb, a chyda
thynerwch."
Oddiyma aeth tua Thalerddig, ac
yr oedd yn nos ar ei brofiad wrth
deithio. Nis gallai gredu mwy nag
y medrai ehedeg, ond medrodd weddio.
Pregethodd ar gwymp Petr, gan ddifynu
adnodau o'i hoff Rufemiaid. Efengyl-
eiddiodd, ac yr oedd yno " wylo mawr."
Ar ganol adrodd
ei bregeth dywed :
" Yr wyf yn gweb
ed cymaint o
ddrygioni yn fy
nghalon fel nas
gallaf ddweyd y
cwbl wrth fy
m r a w d L e w i s
Rees. Pan ofyn-
odd un i mi i ble
yr ai i gymuno,
nis gaUwn ddweyd
wrthi am fyn'd
ato ef, gan yr hoff-
wn gael seiadau yn
ein heglwys ni ;
ond pan welaf na
fyn Duw hyn, yr
wyf yn ymostwng.
Ni fedraf fyned
gam o flaen ei Ys-
pryd ef." Wedi
prophwydo y prof-
id eu ffydd, a chael
hwyl ryfedd ar
bregethu, a son
am "offeiriad
cnawdol,"aeth tua
Chwmcarne, a
phregethodd yn
nerthol ar ddiwyd-
rwydd Satan, a
phethau eraill. Ar
weddi, cafodd
Lewis Rees lew-
yrch rhyfedd, ond tywyll oedd hi ar
flowell Harris. Eto teimlai fod rhywbeth
yn ei gynal.
" Treuhais beth amser i drefnu i ba le i
fyned yr wythnos nesaf. Teimlwn awydd
cryf am fyned adref, meddwn deimlad i
weddío am fyned, i weled fy mam a ■■'■
Ond perswadiwyd fi, yn erbyn fy nheimlad,
i fyned ffordd arall, o dosturi at eneidiau."
Yr ydym yn gobeithio nad yw ein dar-
llenwyr yn bhno ar y dydd-lyfr. Yr ydym
COFLECH HOW'ELL HAUHIS YN líULWYS TALÜARTH.
yn difynu mor helaeth o hono am ei fod yn
taflu goleu cryf ar ansawdd y wlad, ac ar
yr amgylchiadau a gyfarfu y Diwygiwr yn
ei ymdrech i geisio efengyleiddio ei gyd-
wladwyr ; ond yn fwy arbenig, am ei fod
yn ddangoseg o natur ei brofiad, y prudd-
glwyf a'i goddiweddai yn aml, ei ddyhead
am Dduw, a'i ryfeloedd yn erbyn anghred-
iniaeth a llygredigaeth ei galon. Gelhd
meddwl y buasai, ar ol cymaint bhnder ac
erhd, yn dyheu am orphwys ; ond pan yn
ysgrifenu y dydd
canlynol o Lan-
brynmair, trefnu
cyhoeddiad arall y
mae. Fel hyn y
dywed: "Arfaeth-
ai lefaru yn y sir
hon hyd dydd
Mawrth. Nos
Wener yr wyf yn
bwriadu, os Duw
a'i myn, cysgu yn
nhŷ fy anwyl fam,
a phregethu yno
boreu dydd Sad-
wrn." Yna trefna
i gyfarfod a chyf-
eiíhon yn Noly-
gaer nos Sadwrn,
mynediCwm lau,
Ue yn y mynydd-
oedd, rhwng y
Fenni a Thal-
garth, y Sul, i
wrando ar yr off-
eiriad efengylaidd,
Thcmas Jones; he-
faru yn y pryd-
nhawn yn agos i
Cwm lau, a dych-
welyd i'r Fenni i
gysgu. Yna lle-
faru dydd Llun yn
Llandilo, ger y
Fenni, a nos Lun
yn y Goetre, ger
Pontypúd ; dydd Mawrth yn ysgol Wilham
Powell, a nos Fawrth yn y Treiish: dydd
Mercher yn Llanafan, yn agos i dý hen ŵr
oedd yn awyddus am ei weled, ac yn Broohs
nos Fercher. Oddiyno myned i bregethu i
Langynidr boreu dydd lau, gan gyrhaedd
Trefecca nos lau. Ond wedi cyrhaedd
adref, nid oes ganddo hamdden i orphwys.
Arfaetha bregethu yn Nhrefecca boreu
dydd Gwener, myned y Sul i wrando y
Parch. Thomas Lewis, offeiriad ieuanc
io8
Y TADAU METHODISTAIDD.
oedd yn bregethwr da yn nghymydogaeth
Aberhonddu, a chychwyn oddiyno ani
■daith faith arall yn Sir Benfro. Braidd
nad oedd angerddolrwydd ei yspryd yn ei
godi uwchlaw lludded corff ; ac nid gwerth-
fawr ganddo yntau ei einioes ei hun, os
gallai gyflawni rhyw wasanaeth i Grist ei
lachawdwr. Yr un pryd, digalon y teimlai
gyda golwg ar Sir Drefaldwyn. " Yr wyf
yn ofni," meddai, "fod y sir hon dan
felldith ; yr wyf yn cael fod y rhan fwyaf,
os nad yr oll, o'r boneddwyr yn elynion."
Fel yr arfaethasai Howell Harris, felly
y cyflawnodd. Cychwyna tua Sir Benfro
dydd Llun, Mawrth, 1740, gan bregethu
dair gwaith yn ystod y dydd. Yn Llywel
(Trefcastell) cynhelid ffair bleser ; pre-
gethodd yntau gydag awdurdod yn ei
chanol. Ceisiodd Satan ei rwystro trwy
osod un i fynu i hoH cwestiynau iddo, ac
un arall i ganu'r gloch, ac arall drachefn i
gadw swn. Ond aflwyddianus fuont.
Wedi gorphen y bregeth, gosodasant i
fynu ddawns yn y fynwent ; nis gallai ei
enaid yntau oddef iddo ymadael tra yr
oedd y dawnsio yn myned yn mlaen ; aeth
i'w canol, a tharanodd felldithion y gyfraith
ddwyfol yn eu clyw, nes eu gyru oll ar ffo.
Trwy yr wythnos, cawn ef yn teithio o
gwmpas deg miUdir, ac yn pregethu dair
gwaith y dydd, nes, erbyn nos Sadwrn,
Mawrth 8, y mae yn cyrhaedd t\' yr
Hybarch Griffìth Jones, Llanddowror.
Gydag ef, a Madam Bevan, y treuliodd y
Sabbath, ac yr oedd eu cymdeithas, yn ol
ei ddydd-lyfr, yn wledd felus i'w enaid.
Dydd Llun, yr ydym yn ei gael yn Llwyn-
dryssi, plwyf Llangan, Sir Gaerfyrddin; a
dydd Mawrth y mae wedi myned i mewn i
Sir Benfro.
'■'Yr oedd Penfro yr adeg yma yn gyffelyb
i siroedd eraiU Cymru o ran drygfoes, an-
wybodaeth, a choelgrefydd ; os nad oedd,
yn wir, yn fwy ofergoelus. Dywedir yr ai
y trigolion i'r llan, Sul y Pasg, yn nhraed
eu hosanau, sef heb esgidiau, rhag, medd-
ent, gyffroi y pridd. Ar foreu NadoUg
cyfodent cyn dydd i edrych y Rhosmari, a
thaerent ei fod yn blodeuo ; ond rywfodd
nid oedd y blodau byth yn aros hyd doriad
y wawr. Credent fod ysprydion yn yr
eglwys nos Calangauaf, yn cyhoeddi enwau
pawb perthynol i'r plwyf a fyddai farw o
fewn corff y flwyddyn ddyfodol. Ceid
ambell un yn ddigon gwrol i fyned i
wrando dan ffenestr y gangell ; clywai
hwnw, meddid, yr enwau yn cael eu cy-
hoeddi ; ond pe elai a chydymaith gydag
ef, ni chlywid dim. Ddydd Calanmai
byddai ganddynt helynt fawr ynghylch
"gwisgo y fedwen ; " ymdyrai y IHaws
ynghyd, a meddwdod ac ymladd fyddai y
diwedd. f Dyoddefai hyd yn nod y ddaear
oblegyd anwiredd ei thrigolion. Prin y
gellid dweyd fod amaethyddiaeth yn bod o
fewn y sir ; ychydig neu ddim triniaeth a
gaffaiytir; bwrid ychydig yd i'r ddaear
yma a thraw, yn y llanerchau hawddaf i'w
haredig ; ond ni fyddai na gwrych na
chlawdd o'i amgylch, a gwaith y trigoUon
trwy yr haf fyddai ei warchod, a chadw
yr anifeiHaid allan o hono. GweHr hyd yn
nod y tir yn ddyledus i'r diwygiad. Yr
oedd rhai eglwysi perthynol i'r Annibyn-
wyr a'r Bedyddwyr wedi eu planu yma
oddiar y ganrif flaenorol ; ac ymddengys
fod bedydd wedi bod yn destun dadl, a
chwerwder yspryd nid bychan yn eu mysg,
oddiar adeg y ddadl gyhoeddus ar lechwedd
y Frenni Fawr, yn 1692, hyd yn awr. Y
mae dydd-lyfr HoweH Harris yn Hawn o
gyfeiriadau at yr ymryson ynghylch bed-
ydd ; teimlai ei galon yn ofidus ynddo o'r
herwydd.
Gwnawn ei ddilyn ar ei daith trwy y
wlad gyda chymorth ei ddydd-lyfr a'i
lythyrau.
Trefhowell, plwyf Llanfrynach, Sir
Benfro, dydd Mawrth. Y peth cyntaf a
wna wedi codi o'i wely yw gweddîo ar ran
John PoweH, gweinidog cyfagos perthynol
i'r Bedyddwyr, yn ol pob tebyg, yn yr
hwn y cred fod y gwaith da wedi ei ddech-
reu, ond yr ofna iddo gael ei arwain ar
gyfeiHorn, a gwneyd niwed. Yna gofyna
am gael ei wrando ar ran y Bedyddwyr, yn
mysg pa rai y mae yn hyderus fod llawer
o bobl i'r Arglwydd, ond amheua mai o
hono ef y tardd eu hyspryd condemniol.
" Melusa hwy a dy gariad," medd, " fel y
byddont bobl bur i ti." Gweddía yn
ganlynol dros y Methodistiaid, ar iddynt
gael eu cadw rhag cyfeiHornadau ; a thros
hoU weinidogion y Gair. Cyfaddefa ei
fod ef yn hoUol aUan o drefn, ar ei ben ei
hun yn gyfangwbl, ond eto yn cael drws
agored i'r weinidogaeth. " Gwna di, Ar-
glwydd, dy ewyUys dy hunan arnaf,"
medd ; " na ad i mi fyned yn fy nerth fy
hun, nac yn fy neaU fy hun." Ceisiwyd
ganddobregethuar bwnc dadleugar, bedydd
yn ddiau, ond ni wnai, o herwydd y cariad
* Methodístiacfh Cymru.
t Ibid.
HOWELL HARRIS.
log
a lanwai ei galon ; yn hytrach ymosododd
ar lygredigaeth yn y wedd o falchder,
meddwdod, gwyn, a chybydd-dod.
Prydnhawn yr un dydd cyfeiria ei
gamrau tua Maenclochog, ac ar y ffordd
cyffröir ei enaid ynddo wrth siarad am
Enoch Francis, gweinidog ymadawedig
perthynol i'r Bedyddwyr, galara am y
golled a barodd ei farwolaeth i'r eglwys, a
gweddia na chaffo Satan wneyd dinystr
arnynt yn awr, wedi i Mr. Francis gael ei
symud. Yr oedd Enoch Francis yn
bregethwr gwych, ac yn dal gafael dyn yn
yr athrawiaeth efengylaidd. Ei ddylan-
wad ef yn benaf a gadwodd eglwysi y Bed-
yddwyr yn Nghymru rhaggwyro at Ärmin-
iaeth, fel y gwnaethai amryw o'r eglwysi
Presbyteraidd. Erbyn cyrhaedd Maen-
clochog nid oedd neb yn ei ddisgwyl, nid
oeddynt wedi cly wed am ei ddyfodiad ; ond
yn mhen rhyw awr casglwyd cynulleidfa o
amryw ganoedd, a phregethodd yntau am
agos i dair awr. Cyn dechreu, bu mewn
ymdrechfa galed a Satan ; ond rhoddodd
yr Arglwydd fuddugohaeth iddo ar y
gelyn, a galluogwyd ef i lefain : " Satan,
gwna dy waethaf! Yn enw yr lesu yr
wyf yn dy herio ! Mi a dynaf dy deyrnas
i Ìawr, ac a ddynoethaf dy ddichellion."
Yr oedd y rhan gyntaf o'r bregeth yn
daranllyd, ac yn dynoethi drygedd y
galon ; yna trodd i ddangos mai dyna y
rheswm paham y dylent ddyfod at Grist.
" Ar hyn," medd, " wylodd llawer yn
chwerw ; ac ymddangosai nerth mawr yn
ein mysg oddiyno i'r diwedd. Cyn ym-
adael anoga broffeswyr crefydd i beidio
ymryson, ac ymladd y naill yn erbyn y
llall, ond i gytuno yn eu hymdrechion yn
erbyn y gelyn. Cyfarfu yma a'r Parch.
John Powell, y gweddíasai drosto yn y
boreu ; " a galluogwyd fi," medd, " i
lawenychu yn galonog yn ei Iwyddiant."
Yn yr hwyr cychwyna tua Hwlffordd ; y
mae yn Ilefaru ar fin y ffordd ; cyn cyr-
haedd, clyw fod un M. P yn pregethu
yn erbyn bedydd babanod, a theimla ei
yspryd yn ymgynhyrfu gan awydd cymeryd
i fynu arf yn ei erbyn. Eithr gwedi ail
ystyriaeth, tyr allan mewn gweddi, i ofyn
ar i'r Arglwydd Iywodraethu ei yspryd a'i
galon. Y mae yn clywed, hefyd, os aiff i
Dyddewi, y caiff ei gymeryd i'r ddalfa, fod
un Justice Yaughan wedi arwyddo gwarant
i'r perwyl hwnw ; " ond gwnaed i'r oll a
glywais," medd, " ddylanwadu yn felus ar
fy enaid, i'm tynu allan o fy hunan at
(irisl."
Dydd Mercher, y mae yn Hwlffordd.
Wrth ddal cymundeb â Duw yn y boreu
dywed : " Yr wyf yn gofyn am help yn
unig i fod yn ffyddlawn i'm Harglwydd ;
nid yw fy mod i yn cael fy namsang mewn
un modd yn ddolurus ; nid oes arnaf ofn
dim yn gymaint ag i mi drwy fy ngwaith
dy ddianrhydeddu di." Gobeithia fod yr
Arglwydd am ddefnyddio John Powell i
ddiwygio y sir, a hydera y bydd iddo yntau
gael gwneyd yr oll a fedr i gryfhau ei
ddwylaw. Y mae yn pregethu i ganoedd
lawer, cyfrifa y gynulleidfa tua dwy fil.
Pregetha yr un dydd yn Saesneg am agos
i ddwy awr ; pwnc y bregeth yw fod cre-
fydd yn gynwysedig mewn gallu, fel ei
heglurir mewn cysylltiad â Zaccheus, ac yn
nhroedigaeth Paul. Ymddengys fod yr
odfa yn un dra nerthol ; " llanwodd yr Ar-
glwydd fy ngenau â geiriau," medd ;
"dyrchafwyd fy llais i fynu ; gwnaed fy
yspryd yn gryf ; yr wyf yn gobeithio fod
awdurdod yn cydfyned, ac i mi gael cym-
orth i edrych i fynu at Dduw." Pregetha
ar yr un mater drachefn yn Gymraeg.
Teimlodd hyfrydwch mawr wrth lefaru y
ddau dro ; ond yn arbenig yn Gymraeg.
Yn ganlynol, ymgynghora â chyfeiUiün
gyda golwg ar ei daith trwy ranau eraill y
sir.
Dydd lau, yr ydym yn ei gael eto yn
Hwlffordd, ac yn myned i ymweled a'r
Parch. Howell Davies, yr hwn feddyliem
a ddaethai i'w wrando. Yr oedd y gyfeill-
ach mor felus fel ag i beri i Harris waeddi
" Gogoniant ! " " Cefais ymddiddan maith
agefam wahanoIbethau,"meddai. "Galwai
eí sancteiddrwydd yn amod iachawdwr-
iaeth ; addefwn inau nas gallai iachawdwr-
iaeth fod hebddo ; ond nad oeddwn yn
foddlawn ei alw yn amod, rhag i bobl gael
eu gyru i chwilio am dano ynddynt eu
hunain ac nid yn Nghrist, gan dybio na
chânt eu derbyn os na byddant yn fedd-
ianol arno. Yr ydym yn cael ein cyfiawnhau
er mwyn Crist, ac yn cael ein hachub trwy
weled mawr gariad Duw yn rhoddi ei Fab.
Ymddiddanasom am deimlad, a"r modd i
brofi ei wirioneddolrwydd, trwy y cyf-
newidiad a effeithia ar ein heneidiau a'n
by wydau ; am yr angenrheidrwydd am
ffydd yn flaenorol i weithredoedd ; am
berygl moesoldeb heb egwyddor ; am y
perygl o fod yn amddifad o dlodi yspryd, i
beri i ni anobeithio ynom ein hunain, a'n
tynu allan o hunan at Grist ; a pha fodd
yr ydym yn cael ein cyfiawnhau yn ngolwg
Duw trwyGrist, ac nid o herwydd ein hedi-
IIO
Y TADAU METHODISTAIDD.
feirwch a'n gweithredoedd da." Teimlai
Mr. Harris fod ganddo reswm cryf dros
geisio cydnabyddiaeth eangach â'r Ys-
grythyr. " Ymadawsom yn felüs," nieddai.
A oedd Mr. Davies wedi ei ordeinio yn
awr, sydd ansicr ; ond y mae yr ymddi-
ddan hwn rhyngddo ef, a wnaed gan yr
Arglwydd gwedi hyn yn Apostol Sir
Benfro, a Howell Harris, yr hwn a wnelsid
yn Apostol holl Gymru, a rhanau helaeth
o Loegr, yn dra dyddorol. Wrth fyned o
Hwlffordd, clywodd bethau dychrynllyd
am gyflwr moesol y wlad ; fod meddwdod,
puteindra, tyngu, a drygau cyffelyb yn
ffynu ynddi, fel na wyddai beth i'w
wneyd.
Dydd Gwener, y mae mewn lle o'r enw
Loverson, tua saith miUdir o Hwlffordd.
Yma eto cyfeiria at y Bedyddwyr, ac ym-
ddengys fod ei deimlad tuag atynt wedi
newid yn gyfangwbl. "Cefais gryn deim-
lad," medd, "wrth weddio dros John
Powell. Mi fum nas gallwn garu y Bed-
yddwyr, na llawenhau yn eu llwyddiant ;
ond yn awr y mae y cadwynau oU wedi eu
drylho ; yr wyf yn teimlo cariad atynt, a
phleser yn eu llwyddiant ; a mawr yw y
nefoedd wyf yn fwynhau yn hyn." Pre-
gethodd yma eto yn Saesneg a Chymraeg
ar ein cwymp yn Adda, ac am gariad
Crist. Gobeithia i lawer gael eu dwysbigo
hyd adref yn yr odfa. Y mae yn myned
oddiyno i dŷ Crynwr, yn mhlwyf Llan-
ddewi. "Tra y bof yr ochr hyn i dra-
gywyddoldeb," medd, "na fydded i mi
dramgwyddo yr un o dy blant, o unrhyw
blaid neu enwad." Pregethodd yma am
nerth duwioldeb, oddiar y geiriau, " Deled
dy deyrnas." Yn nhŷ y Crynẅr y lletyai,
ac ymddengys i'r gymdeithas rhwng y
ddau fod yn nodedig o feUis ; gobeithia
Harris na chaiff ei adael i ddweyd gair
anffafriol am y bobl hyn eto.
Dydd Sadwrn, y mae yn Pwllhook, ger
Clarbeston. Llefarodd gyda nerth mawr
am yr angenrheidrwydd o seilio ein
gobaith ar waed Crist, a pharhaodd y
cyfarfod dros ddwy awr. " O, na fyddai i
Dduw," medd, " dosturio wrth y sir hon.
Yr wyf fi yn ymadael a'r lle, yn unol a
chyngor cyfeillion, er mwyn ymroddi i
astudio, gan yr ymddengys mai hyny yw
ewyllys Duw." Gwelir fod y pwnc o
gymeryd ordeiniad esgobol yn ei flino o
hyd. Oddiyma y mae yn myned i le na
rydd ei enw, lle yr oedd cynulleidfa o dair
mil o leiaf ; cafodd nerth mawr wrth
weddio, a phregethodd hyd agos i saith ar
" Deled dy deyrnas," gan gymharu y
ddwy deyrnas a'u gilydd. Y Sul, y mae
yn Wolf's Castle, lle y llefara ar gyfiawn-
had. Llefara hefyd yn y prydnhawn, ond
ni thcimlai unrhyw awdurdod. Yna â
tua Ue o'r enw Trecomau, Ue yr ym-
gynuUasai amryw filoedd. Dydd Llun, y
maeyn Nhre-Cadwgan,plwyf Whitchurch.
Yr oedd yn flinderog mewn gweddi, ond
cynorthwyodd yr Arglwydd ef i raddau.
Yma gwelodd lythyr wedi ei ysgrifenu gan
weinidog perthynol i Eglwys Loegr, yn
erbyn y Bedyddwyr, ac achwyna nad yw
y llythyr yn arogli o yspryd Crist. Ám
ddeg y mae yn cychwyn tua lle o'r enw
Tygwyn. Yma cyfarfu a gweinidog perth-
ynol i'r Bedyddwyr, o'r enw Thomas
Williams, yr hwn a ofynai iddo pa brawf
oedd ganddo dros fe'dydd babanod. Cyf-
eiriai Harris ef at i Cor. vii. 14: " Canys
y g\Vr digred a sancteiddir trwy y wraig,
a'r wraig ddigred a sancteiddir trwy y
gẁr ; pe amgen, aflan yn ddiau fyddai eich
plant ; eithr yn awr sanctaidd ydynt."
Nid oedd gan Mr. WiIIiams ddim i'w
ateb, ond nad oedd yn gweled bedydd
babanod yn y geiriau. " Yr oeddwn mewn
brys," meddai Mr. Harris, " ac nis gallwn
aros ; ond gwelwn eu bod yn ddeillion i
dybio ei bod yn ddyledswydd arnynt dros
Dduw i amddiffyn un gwirionedd, heb
ystyried eu bod wrth hyny yn niweidio
gwirioneddau eraill. Dywedais wrtho ei
fod yn gwneyd yn iawn wrth ufuddhau i'r
goleuni sydd ynddo ef; felly finau wrth
ufuddhau i'r goleu sydd ynof fi."
Dydd Mawrth, y mae yn Hendre-
Einon, Tyddewi. Dywed ei fod yn deall
ddarfod i'r Arglwydd eisioes ei arddel i
wneyd daioni mawr yn Sir Benfro, a bod
un Cadben Davies a'i foneddiges wedi
ymlynu wrtho. Gweddía : " O Arglwydd,
tosturia wrth y sir hon. Yr wyf yn
foddlawn cymeryd fy arwain genyt ti,
gyda golwg ar fy ymddygiad yn y dyfodol,
pa un a af o gwmpas a'i peidio. Galluoga
fi i ddal i fynu, gorff ac enaid." Pregetha
i amryw filoedd ar drueni yr hwn sydd
heb Grist, am y creadur newydd, ac am y
ffydd sydd yn cyfiawnhau, ac yn gafaelu
yn y Gwaredwr. Yr oU a ddywed am yr
odfa yw fod yno nerth, a'r gwirionedd yn
chw^lio y galon. Yn Methodistiaeth Cymru
ceir hanes manylach gan Mr. T. Rees,
Trepuet. Dywed ef y pregethai Mr.
Harris wrth y Groes, ynghanol yr heol ;
fod hyny wedi cael ei hysbysu yn flaenorol,
ac i dyrfa fawr ymgasglu ynghyd. Dy-
HOWELL HARRIS.
noethai y llefarwr arferion llygredig y
dinasyddion yn ddiarbed a dilìoesgni ; ac
yr oedd pob darn ymadrodd o'i enau yn
gwreicliioni ac yn melltenu mor daranllyd
i gydwybodau y gwrandawyr, nes yr
ofnent fod y farn gyffredinol wedi eu
goddiw^eddyd. Mor rymus oedd yr effeith-
iau, fel yr oedd dynion dewrion a thal-
gryfìon yn syrthio yn gelaneddau ar yr
heol, mewn liewyg-
feydd o fraw a dych-
ryn. Odfa i'wchofio
V) y t h y d o e d d y n
ddiau. Arswyd a
gynhyrfai yn benaf ;
fel V dywed efeihun,
trueni y sawl oedd
heb (irist oedd ei
phrif fater, a chy-
hoeddi gwae yn er-
byn yr oferwyr a
mynychwyry camp-
au; trwyddi dadym-
chwehvyd yr hen
chwareuon, a fuont
yn uchel eu penau
am oesoedd, fel nad
ydynt wedi medru
codi eu penau hyd
heddyw. F"el eng-
rhaifft o"r dylanwad,
adroddir am lencyn
pymtheg oed, mab i
un Sion Griffith, a
ddaethai i'r odfa yn
hollolddifeddwl,gan
gael ei gyfifroi gaii
gywreinrwydd yn
unig. Ontl aclh
saeth i'w galon, ac
er pob ymdrech,
methai ei hysgwyd
ymaitli. Cynyddu a
wnacth ei drallod.
\'\ oedd ing ei fyn-
wes yn ymylu ar
wallgofrwydtl ; ncs
iddo benderfynu
rhoddi terfyn ar ei
einioes trwy daflu
ei hun bendramwnwgì
na wnai wrth fyw yn
c:n'i'.\jj\vitLA]rjiiui..
1 r mor, gan
y blaen, ond
lliosogi ei bechodau, a thrymhau ei gosb.
Eithr tra yncyfeirio ei gamrau at y geulan,
daeth yr ymadrodd, " Ha fab, madcleuwyd
i ti dy bechodau," gyda nerth i'w feddwl ;
y fath oedd y goleuni a lewyrchai arno, fel
y syrthiüdd yn gelain ar y ddaear ; wedi
dadebru, bu yn ceisio amheu nad oedd y
gair yn perthyn iddo ef ; ond ofer fu ei
ymdrech, a chyn codi, Uwyr roddodd ei
enaid i ofal y Gwaredwr. Erbyn codi
ar ei draed, ymddangosai hyd yn nod y
ddaear iddo wedi gwisgo gwedd newydd.
Diau nad yw hanes y llanc hwn ond un
allan o lawer cyffelyb.
O gwmpas 1 1 yr un dydd y mae yn
myned tua Threfin,
ac ar y ffordd y mae
ei yspryd yn flin
ynddo oblegyd fod
Duw yn cael ei ddi-
anrhydeddu yn y
wlad, a'i Sabbathau
yn cael eu halogi.
Dywed fod gwaith
tla yn cael ei gario
yn mlaen trwy y
diwygiad, os na chai
ei rwystro gan rai
oddifewn yn ffurfìo
pleidiau. Yn Trefìn
cafodd ymddiddan â
chyfeillion anwyl a
ddaethent ato i ym-
gynghori gyda gol-
wg ar ddyfod at
Grist, a galluogodd
yr Arglwydd ef i
fod yn fîyddlawn.
Erbyn myned i'r
maes yr oedd rhai
miloedd yn disgwyl ;
cafodd nerth mawr
ar weddi ; llefarodd
am dair awr oddiar
loan XV. I, gan
ddangos yr angen-
rheidrwydd am i ni
gael ein huno â
C'hrist. "Yroeddyn
ddiwrnod gogonedd-
us," meddai. Efallai
y cyfeiria hyn at yr
odfa yn Nhyddewi
yn gystal a Threíìn.
Yn y tý daeth rhai
ato i ymddadleu yn
nghylch bedydd; gwrthododd gymeryd y
mater i fynu, gan lefaru yn hytrach am yr
angenrheidrwydd o gael Crist ynom.
Dydd Mercher, y mae yn Nhref Howell,
plwyf Llanwnda, ar lan y môr. Oddiyno
cyfeiria ei gamrau tuag Abergwaen, lle y
pregethodd yn Saesneg a Chymraeg i
amryw fìloedd. Yr oedd llawer o fonedd
112
Y TADAU METHODISTAIDD.
y wlad wedi dyfod i'w wrando, a gobeithia
ei fod mewn yspryd cariad a phwyll wedi
medru eu cyrhaedd. Yn Gymraeg pre-
gethai ar droedigaeth Paul, ac ymddengys
fod y cyfarfod yn un nodedig iawn.
" Galluogwyd fi," medd, "i daranu mewn
modd ofnadwy iawn gyda golwg ar uffern."
Cyn gorphen, pa fodd bynag, cyfeiria at
gariad Crist. Ymddangosai effeithiau an-
arferol yn cydfyned a'r traddodiad, a llawer
yn cael eu dwysbigo. Achwyna fod John
Powell yn ymgynhyrfu gyda golwg ar
fedydd, a'i fod y dydd Llun blaenorol wrth
bregethu wedi galw yr athrawiaeth am
fedydd babanod yn gyfeiliornus, uffernol,
melldigedig, a chythreulig. "O," meddai,
"fel yr wyf yn hiraethu am heddwch a
chariad."
Dydd lau, y mae yn Nevern, tua milldir
o Trefdraeth. Teimlai angenrhaid arno
yma i lefaru ar " Profwch yr ysprydion."
Gofynwyd iddo fyned gydag un a eilw
"Parson Thomas," gweinidog perthynol
i'r Bedyddwyr, yn ol pob tebyg. "Yr wyf
yn meddwl," ysgrifena, " ei fod er gogoniant
Duw i mi fyned ; nid i ymryson a'r Bed-
yddwyr, ond i geisio atal yr ystorm, a pheri
i bawb brofi eu hunain. Yn sicr, y mae
Dliw yn caelei ddianrhydeddu, ac eneidiau
yn cael eu dinystrio, trwy y zêl hon." Üddi-
yma â tua Glyn-Meredydd. "Yr wyf yn
credu," meddai, "fy mod yn eiddo i ti. Ti
yw fy Mrenin, a fy Meistr." Wrth ganu,
portreadwyd dyoddefaint, angau, a chariad
yr Arglwydd lesu, mor fyw gerbron llygaid
ei feddwl, fel yr enynwyd fflam o gariad yn
ei enaid yntau. Yn nesaf yr ydym yn ei
gael mewn Ue o'r enw Dygoed. Dydd
Sadwrn y mae mewn lle o'r enw Bwlchy-
clawdd, yn mhlwyf Maenclochog, y Sul yn
Rhyd Hir, plwyf Llanddewi Ýelfrey, a
dydd Llun y mae yn ymadael a Sir Benfro,
ac yn cyrhaedd lle o"r enw Wenallt.
Gyda golwg ar y daith hon yn Mhenfro,
y mae yn sicr mai yn y flwyddyn 1740 y
cymerodd le ; profa llythyrau a dydd-lyfr
Mr. Harris hyny tu hwnt i amheuaeth.
Amlwg yw idd ei ddyfodiad gynyrchu
cyffro dirfawr. Pan y deuai cynulleidfa-
oedd o amryw filoedd i wrando, mewn
gwlad mor deneu ei thrigolion, rhaid fod
corff y boblogaeth am filldiroedd lawer o
gwmpas yn crynhoi ynghyd. Y mae yn
sicr fod yr odfaeon, rai o honynt, beth
bynag, yn nodedig o nerthol ; fod y cynull-
eidfaoedd yn cael eu hysgwyd fel cae o yd
o flaen rhuthr y corwynt. Mynai y Bed-
yddwyr ddadleu ag ef gyda golwg ar
fedydd ; yr oedd ei enaid yntau yn cashau
dadleuaeth, ac ni fynai ymryson. Nid oedd
ganddo wrthwynebiad pendant yn erbyn
yr athrawiaeth am fedydd y crediniol ; ond
credai ei bod yn cael ei gwthio yn ormod i
sylw, pe byddai yn wir, a hyny ar draul
esgeuluso gwirioneddau pwysicach. ünd
yr hyn a'i blinai fwyaf oedd fod y ddadleu-
aeth yn Iladd yspryd crefydd, ac yn rhwystr
anorfod ar ffordd y diwygiad. Nid oes
amheuaeth na wnaeth y daith fanwl hon o
eiddo Mr. Harris, yr hon a barhaodd
bythefnos o amser, argraff annileadwy ar
Sir Benfro, a'i bod yn rhagymadrodd ar-
dderchog i lafur cyson Howell Davies yn
y blynyddoedd dyfodol.
Medi, y flwyddyn hon (1740), cawn ef yn
nghwmni Mr. WiUiam Seward yn cymeryd
taith faith trwy ranau o Fynwy, Hen-
ffordd, a Brycheiniog. Yr oedd William
Seward yn \vr o safle gymdeithasol anrhyd-
eddus ; cawsai ei argyhoeddi mor foreu a'r
flwyddyn 1728; daeth i gyffyrddiad a'r
ddau Wesley, ond glynodd yn hytrach
wrth Whitefield, ac yr oedd yn gydymaith
iddo yn America yn y flwyddyn 1739. Yr
oedd gyda Whitefield pan yr ymwelodd
gyntaf â Chymru. Calfin trwyadl ydoedd
mewn athrawiaeth, a chwedi cwympo allan
a Charles Wesley, y mae yn croesi y
sianel, ac yn ymuno â Howell Harris yn
Mhontfaen. Pregethasant mewn amryw
leoedd nes cyrhaedd Casnewydd. Yno
ymosodwyd arnynt yn enbyd ; rhwygwyd
dillad Mr. Harris, a Iladratwyd ei berwig,
a bu raid iddo sefyll yn ben-noeth yn y
gwlaw. "O ben-noethni hyfryd," meddai,
"dan waradwydd Crist." Lluchiwyd cerig
atynt, ac afalau pwdr, ynghyd â llaid ;
ceisiai ei gyfeiUion gan Harris roddi i fynu,
ond ni theimlai yn rhydd gwneyd hyny nes
i'r Arglwydd gael goruchafiaeth ar Satan.
Aethant oddiyno i Gaerlleon-ar-Wysg.
Tra y gweddi'ai Seward, a hyny gyda
melusder mawr, yr oedd pob peth yn
dawel ; ond pan y cyfododd Harris i bre-
gethu, dyma y cythrwfl yn dechreu.
Crochlefai y werinos ; lluchient dom a
llaid, ynghyd ag wyau a cherig eirin, at y
llefarwyr, a tharawyd Seward ar ei lygad
fel y llidiodd, ac yn y diwedd y coUodd ei
olwg yn hollol. " Gwell dyoddef hyn nag
uffern," ebai yntau. Yn Nhrefynwy
cedwid rhedegfa geffylau ; ac yr oedd
gwreng a bonedd wedi ymgynuU ynghyd.
Dechreuodd Harris lefaru ger neuadd y
dref, lle yr oedd nifer o foneddigion a
boneddigesau ar giniaw ; ymddengys y
HOWELL HARRIS.
113
taranai yn ofnadwy yn erbyn dawnsfeydd^
cynulliadau llygredig, puteindra, a meddw-
dod ; merwinai clustiau y gwj-r mawr
wrth glywed, ac anfonasant rywun i
chwareu'r drwm, fel y boddid ei lais ;
dechreuodd y werinos hefyd luchio cerig,
ac afalau, a llaid. Ond yn mlaen yr aeth
gweision Crist, yn gorchfygu ac i orchfygu.
Aethant oddiyno trwy ran o Sir Gaerloy w ;
yna dychwelasant i Drefecca. Hydref 22,
aethant i Hay ; ymosodwyd arnynt yn
enbyd yno ; dihangodd Harris yn ddianaf,
ond tarawodd rhywun Seward druan a
chareg ar ei ben, fel y bu farw cyn pen
nemawT ddyddiau. Efe, yn ddiau, oedd
merthyr cyntaf Methodistiaeth.
Tua dechreu y flwyddyn 1741 y mae
Howell Harris yn ymweled a'r Gogledd yr
ail waith. Aeth ar y tro hwn ar wahodd-
iad un Robert Griffith, o Bryn Foyno, yr
hwn a'i taer gymhellai, oblegyd i lawer
gael eu hargyhoeddi trwyddo pan fu yn
flaenorol yn Llanuwchlyn. Yn ddiegwan
o ffydd y mae yntau yn myned, er llid y
gelyn a bygythion yr offeiriaid. Ymdaen-
odd y newydd am ei ddyfodiad fel tân
gwylh trwy y wlad, a gwnaed parotoadau
eang i'wrwystro i bregethu, ac i'w faeddu.
Wrth agoshau at y Bala, ar lan y llyn,
goddiweddwyd ef gan offeiriad y plwyf.
Rhybuddiodd yr offeiriad ef, os oedd am
ddianc a'i fywyd yn ysglyfaeth, am beidio
myned i'r dref. Atebai yntau mai ymdeim-
lad a'i ddyledswydd oedd yn ei yru, nas
gallai droi yn ei ol, ac mai ei unig amcan
oedd mynegu ffbrdd iachawdwriaeth i'r bobl,
a hyny heb roddi achos tramgwydd i neb.
Cyffrodd yr off'eiriad, ac yn ei ddig cyfod-
odd ei ffon, gan fygwth ei daro. Ateb yn
fwynaidd a wnaeth Harris, a chafodd
lonydd i fyned yn ei flaen. Erbyn cyr-
haedd y Bala, lle yr oedd ychydig ddis-
gybhon yn disgwyl am dano, cafodd y dref
yn llawn cythrwfl, y werinos wedi ym-
gynull ynghyd, ac yn tyngu y gwnaent ei
ladd. Blaenor y gad oedd yr offeiriad, yr
hwn oedd wedi parotoi baril o gwrw, gan
ei gosod yn gyfleus ar y gareg farch yn
ymyl y tafarndy, er mwyn gwneyd y bobl
yn fwy ffyrnig trwy yfed. Dechreuodd
Harris lefaru ar yr heol, ond llefodd yr
offeiriad yn groch ar i'r. rhai a garent
yr Eglwys ddyfod i'w hamddiffyn. Ar
hyn dyma lu, wedi yfed yn helaeth,
ac wedi ymddiosg hyd at eu crysau,
yn dyfod yn mlaen yn fygythiol, gyda
phastynau yn eu dwylaw. Yr oedd fel pe
buasai uffern wedi cael ei goUwng yn
rhydd. Barnwyd mai ofer ceisio parhau
yr odfa ar yr heol, ac awd i dŷ preifat yn
nghanol y dref, lle y gwnaeth Harris
ymgais i lefaru oddiar y geiriau : " Saul,
Saul, paham yr wyt yn fy erlid i ? " Yn y
cyfamser yr oedd y werinos yn yfed
cynwys y faril, ac yn cael eu hanog gan y
Person i ymosod ar y t\'. Ni chafodd
ymadroddi ond ychydig. Torwyd y
ffenestri yn ganddryfl, daeth rhai o'r
terfysgwyr i mewn, gan ruo fel bwystfilod.
Ond meddianai gweinidog Crist ei enaid
mewn amynedd, ni ddeuai dychryn yn
agos ato, a theimlai alwad arno i fyned yn
ei flaen ; a phan ar gais taer cyfeiUion y
rhodd i fynu, profai fel pe bai yr Arglwydd
wedi ei adael. Ond er tewi ni chaffai
lonydd. Yr oedd y terfysgwyr wedi
penderfynu ei gael allan. Dringodd rhai
i'r tô, gan fygwth tynu y t^' i lawr ; ym-
wthiai eraill i mewn trwy y ffenestri
drylliedig. Aflan y bu raid iddo ef a rhai
o'i wrandawyr fyned, fel defaid i safnau y
cwn. Gwnaeth ei gyfeilHon eu goreu
drosto, ond ei amddiffyn ni fedrent. Ym-
osodai y dorf fileinig, cynwysedig o'r ddau
ryw, arno yn y modd mwyaf creulon ;
y benywod a'i trybaeddent a thom yr
heolydd, y gwýr a'i curent a'u dyrnau, ac
a'u pastynau, nes yr oedd ei waed yn
cochi yr heol. Dilynwyd ef allan o'r dref
tua'r Uyn, bu dan draed yr erhdwyr am
beth amser, a thybiodd yn sicr y collai ei
fywyd. Llusgwyd ef o gwmpas wrth
napcyn ei wddf, a buasai wedi cael ei
dagu oni bai i'r napcyn ddyfod yn rhydd.
Ond cyfryngodd yr Arglwydd ar ei ran
mewn modd oedd bron yn wyrthiol, a
dihangodd o'u dwylaw. Daethai Jenkin
Morgan, un o ysgolfeistri Griífith J'ones,
i'r Bala i'w glywed, a bu ei hoedl yntau
mewn enbydrwydd. Pan ar gefn ei
geffyl, ac yn ceisio dianc, gafaelwyd
ynddo gan y werinos. Gwnaed ymdrech
i'w daflu ef a'i geffyl dros y graig i'r llyn ;
glynodd ei droed yn yr wrthafl, a bu felly
yn cael ei lusgo o gwmpas am enyd ; ond
trwy diriondeb Rhagluniaeth dihangodd
yntau. Sicrheir ddarfod i farn amlwg
Duw orddiwes y rhai blaenaf yn yr
helynt warthus. Wedi i'r terfysgwyr
wasgar, ymgasglodd y dysgybhon yn
nghysgod y tywyllwch i'r llety, lle y buont
yn ceisio meddygyniaethu clwyfau eu
gilydd. Cynghorai Harris ei gyd-ddyodd-
efwyr i lynu wrth y Gwaredwr, ac i
lawenhau oblegyd eu cyfrif yn deilwng i
ddyoddef drosto. Yr oedd Harris ei hun
I
ii4
Ÿ TADAU METHODISTAIDD.
yn llawn penderfyniad ; " dyma y gwaed
cyntaf a gollais dros Grist," meddai, " er i
mi gael fy mynych fygwth." Yr unig
beth a'i gofidiai oedd iddo gymeryd ei
berswadio i roi i fynu pregethu ; gwyddai
na fyddai marw iddo ef ond mynediad i
ddedwyddwch.
Wedi cael ei drin mor ddidrugaredd yn
y Bala, naturiol disgwyl y buasai yn troi
yn ol, ac yn gadael y Gogledd i farn ; ond
yn ei flaen yr aeth. Nid oedd Luther
wrth fyned i Worms, pan y dywedai yr ai
yno pe bai yn y lle gynifer o gythreuhaid
ag oedd o lechi ar benau y tai, fymryn yn
fwy gwrol dros Dduw nag oedd Howell
Harris, pan yn wynebu Gwynedd yn awr.
Nos Sadwrn, cyrhaeddodd Bwllheh, ond ni
wyddai neb pwy ydoedd. Boreu y Sul,
holodd am y pregethwr goreu oedd yn yr
Eglwys yn y parthau hyny. Dywedwyd
wrtho fod Canghellydd yr Esgobaeth yn
pregethu yn Llanor. Yno yr aeth, ac efe
a'i ddyfodiad i Wynedd oedd pwnc y bre-
geth. Galwai y Canghellydd ef yn weini-
dog dros y cythraul, yn au brophwyd, ac
yn waeth na"r diafol, "oblegyd," ebai ef,
"nis gall y diafol weithredu yma yn mysg
dynion ond trwy gyfrwng ofiferynau o'r
fath." Galwai arnynt er mwyn Crist a'i
eglwys, ac o gariad at eu gwlad, i ymuno
yn erbyn y fath ddyn ofnadwy, yr hwn a
amcanai ddinystrio nid yn unig eu per-
sonau a'u meddianau, ond eu heneidiau
dros byth. Fel hyn y llefarai y Canghell-
ydd wrth ei blwyfohon, heb wybod fod y
neb a ddynosthai yn bresenol. Ar derfyn
y gwasanaeth aeth Harris ato, i ymgyng-
hori ag ef gyda golwg ar osod ysgohon
Cymraeg i fynu, ac i ymhw ag ef am y
bregeth. Ar hyn deallwyd fod Howell
Harris ei hun yn y Ue. Dechreuwyd ym-
osod arno ; ceisiai rhai fyned a'i geffyl
oddiarno, eraiU a daflent gerig at ei ben,
ac o braidd y diangodd. "Tybiais,"
meddai, "na chawn byth genad i ddych-
welyd yn fyw o"r parthau hyny."
Ymddengys fod y Parch. John Owen, y
Canghellydd y cyfeiriwyd ato, ac oedd
hefyd yn ficer Llanor a Dyneio, yn ddyn
brwnt, ac yn dra lUdus yn erbyn y Meth-
odistiaid. Dywedir ei fod yn meddu ar
gryn dalent, y medrai siarad yn rhigl a
rhwydd, a bod ganddo ddylanwad nid
bychan yn y wlad o gwmpas. Er mwyn
rhwystro y diwygiad trefnodd, gyda ei
frodyr y clerigwyr, i gadw cyfarfod bob
dydd Mercher yn Dyneio, ger Pwllheh, i
bregethu yn erbyn yr hyn a ahvent yn
gyfeihornadau dinystriol, oídd yn ymdaenu
ar led y wlad. Deuai yr offeiriaid i gynal
y cyfarfod yn eu tro ; eu testynau fyddai :
" Ymogehych rhag gau brophwydi ; " " A
chanddynt rith duwioldeb, eithr wedi
gwadu ei grym hi ; " " Y rhai hyn sydd
yn ymlusgo i deiau, gan ddwyn yn gaeth
wrageddos flwythog o bechodau," &c.
Nid yw yn ymddangos, pa fodd bynag,
i'r weinidogaeth enlhbaidd hon rwystro
dim ar y cerbyd. Yr oedd gan y Cang-
hehydd hefyd glochydd talentog, yr hwn
oedd yn ogystal yn ysgolhaig pur
wych. Y g\vr liwn a gyfansoddodd
yr * iiiteyl.udí' enlhb'iiddd yr ydym wedi
cyfeirio ati yn barod, yr hon a elwir
yn '■'■ Interlude Morgan y Gogrwr." Yn y
gân fudr hon, nad yw mewn un modd yn
amddifad o ddawn, gosodir Howell Harris
i gyfarch " Chwitffild " yn yr ymadroddion
a ganlyn : —
"Pedfaech chi mor dda 'ch tuedd, ]Mr. Sanctiddiol,
A rhoi i mine beth o'ch awdurdod nefol,
Rwy'n tybied y gwnawn heb ronyn dawn dysg,
Waith odiaetli yn mysg ynfydion.
ÄJi fedra grio ac wylo'n greulon,
JMewn golwg, heb ddim ar y nghaloT ;
A phregethu rhagrith heb ronyn rhith rhaid,
I dw^ilo trueiniaid tlodion.
Mi fedraf, pan fynwyf, roi pres ar f' wyneb,
A dweyd mai Gair Duw a fydd pob gwiricndeb,
A thrji 'r Ysgrythyr, loew bnr wledd,
Gwaich anial w'.edd, i'r gwrthwyneb.
IMae genyf ddigon we:li eu hudo yn y Deheudir,
A ddaw ar fy lledol fel ped fawn i garn Ueidr,
I 'mofyn am ryw gyngor gwan
Mewn hylltod wedi can' miUdir."
Fel hyn y dywed Harris wrth Jenkin
Morgan : —
" Dos di 'mlaen yn rhith y prophwyd Elias,
Mi ddeuaf finau 'n swydd Simon Magus, neu
Suddas,
Ni a fynwn arian am gadw nad,
Os bydd dim yn y wlad neu 'r deyrnas."
Nis gaUwn ddilyn yr Interhide yn mheUach;
rhaid addef fod ynddi ddawn, ond dawn
cehyyddog ydyw, wedi ei fwriadu i daflu
gwarthrudd ar gymeriad y rhai a wynebent
bob math o beryglon, heb un amcan îs
nag achub eneidiau. Pa fodd bynag,
boddhaodd y clochydd ei feistr. Galwyd
cyfarfod o fonedd y tir yn mhalas Bodfel
i ddarUen yr Interlude, a'r fath oedd y
boddlonrwydd a roddodd iddynt, fel y
tanysgrifwyd haner can' gini yn y fan a'r
Ue i'r clochydd, am y gwasanaeth a
*Gwel tudalen 51.
HOWELL LL4RRIS.
115
gyflawnasai ar ran yr Eglwys. Nid hir y
bu y clochydd, modd bynag, heb i"r farn
ei orddiwes. Wrth ddychwelyd o argrafìfu
ei lyfr, trodd i fehn gerllaw y Bala i
orphwys. Gofynodd y rhai a ddigwyddai
fod yno ar y pr}d, beth a gludai. Atebodd
yntau mai intcrludc yn erbyn y Cradocs.
Ond yr oedd y dynion yn cydymdeimlo a'r
diwygiad. " Y distryw mawr," meddent,
" pa beth a wnaethant i ti ? Ble y mae y
rhafî? ni a'i crogwn yn ddioed." Dych-
rynodd yr adyn, a phrin y dihangodd a'i
fywyd yn ysglyfaeth. Wedi hyn aeth yn
Evans, yn cadw dyledswydd deuluaidd ;
anfonasai at Griíììth Jones am ysgolfeistr
i gadw ysgol ac i bregethu ; yn unol a'r
cais hwn y daeth Jenkin Morgan i'r Gog-
ledd, ac yn y Glasfryn Fawr y cedwid yr
ysgol. Teimlai y Canghellydd Owen yn
gas at Mr. Pritchard oblegyd hyn, a
rhoddodd ef yn Nghwrt yr Esgob. Gyda
fod Howell Harris yn dechreu llefaru,
rhuthrodd y Canghellydd, gyda haid o
oferwyr wrth ei sodlau, arno. Rhoes yntau
i fynu bregethu, a dechreuodd weddio.
Ceisiodd yr offeiriad luddias neb i glywed,
LLYFEGKLL TKI I I
I .^ |i \ 111 W li'l I'
\ I i , 1 I : I ■ 1 1 1 I : w 1 1 (I \'. I I , I
ffrwgwd rhyngddo a'r Canghellydd. Tyb-
iai hwnw ei fod yn ceisio taílu y gloch ar
ei gefn er mwyn ei ladd ; rhuthrcjdd arno
fel arth, ac ymladdfa waedlyd a gymerodd
le, mewn canlyniad i'r hyn y tröwyd y
clochydd o'i swydd. Bu farw yn dlawd a
thruenus.
Yn ol Drych yv Amscroedd, yn Nglasfryn
Fawr, ty Mr. William Pritchard, y pre-
gethodd Howell Harris gyntaf yn Sir
Gaernarfon. Saif Glasfryn Fawr yn
mhlwyf Llangybi, ger Pwllheli. Cawsai
WilJiam Pritchard ei argyhoeddi wrth
wrando ar YmneiUduwr, o'r enw Francis
trwy roddi ei law ar ei enau. Cododd
Harris i fynu, a dywedodd : —
" Pa beth ? A rwystrwch chwi ddyn i
weddîo ar Dduw ? Byddaf yn dyst yn
eich erbyn am hyn yn y farn."
" Byddaf fì yn dyst yn dy erbyn di, y
burgyn budr," oedd yr ateb, "am fyned ar
hyd y wlad i dwyllo pobl."
Yna galwai ar un o'i ffyddlon ganlynwyr
i ddyfod yn mlaen i gydio yn Harris. Eithr
dychrynasid hwnw wrth glywed son am y
farn, a gwrthododd, gan ddweyd : "À
glywch chwi ar y gwŷr ! Ni wn pa un o
honoch yw y ffolaf. Ni feiddia yr un o
I 2
ii6
Y TADAU METHODISTAlDD.
honoch ddweyd gair yno." Ymddengys
fod William Pritchard yn ddyn gwrol a
chryf; gwthiodd y Canghellydd a'i griw
allan dros y trothwy, gan gau y drws ar eu
holau. Ceisiodd Harris bregethu drachefn
ar ol adfer tawelwch ; ond ni chafodd ddrws
agored, yr oedd ei yspryd ynddo wedi ei
gythryblu yn ormodol, a therfynodd y
cyfarfod trwy anog y bobl i ymgadw rhag
bugeihaid ysprydol annuwiol. Yn mhen
amser bu y Canghellydd Owen farw tan
farn amlwg.
Aeth oddiyno i le a elwir Ty'n Llanfi-
hangel, gerllaw Rhydyclafdy. Daethai
cynullei«ifa anferth ynghyd, gan eu bod
wedi clywed mai y g\Vr a welsai weledig-
aeth ydoedd. Yn mysg eraill, daethai yno
foneddwr, gyda bwriad i saethu y pre-
gethwr. Ëithr gan na chadwodd Mr.
Harris ei amser, blinodd yn disgwyl, ac
aetlì adref i'w giniaw. Gyda ei fod wedi
troi ei gefn dyna Harris yno. Pre :ethai
yn yr awyr agored, a chafodd nerth an-
arferol i lefaru. Disgynai ei eiriau
fel tân ar gydwybodau ei wrandawyr.
"Yr ydych yn arfer gweddío," meddai,
gan gyfeirio ei sylwadau at y bobl
annuwiol a arferent fynychu yr eg-
Iwysydd, " deled dy deyrnas. Beth pe
yr ymddangosai efe yn awr, mewn gallu
a gogoniant mawr, gyda myrddiwn o
angelion a thân fflamllyd ; ai ni waeddech
allan : ' O Arglwydd, yr wyf yn an-
mharod ; bydded i'th ddyfodiad gael ei
oedi ! '" Cerddai grym dwyfol gyda'r ym-
adroddion ; methai dynion caledion a
thalgryf sefyll ; cwympent fel meirw ar y
maes ; ac wrth fyned i'w cartrefi llefent
ac wylent ar hyd y ffordd, fel pe buasai
dydd yr Arglwydd gerllaw. Odfa ryfedd
oedd yn ddiau. Dywedai un o'i wrandawyr
i Mr. Harris bregethu y tro hwn nes oedd
Lleyn yn crynu ; " a dydi hi byth wedi
dod ati ei hun," meddai.
Y dydd canlynol pregethodd yn Towyn,
ger Tydweiliog, a hyny dan arddeliad
rhyfedd. Dyma y pryd yr argyhoeddwyd
John Griffith Ellis, a ddaeth yn ganlynol
yn bregethwr, am weinidogaeth yr hwn y
dywedir ei bod yn rhagori mewn rhai
pethau ar eiddo ei holl gydoeswyr. Cryb-
wyllir am un bregeth hynod o'i eiddo, yn
Nghymdeithasfa y Bala, ar y geiriau,
" Deffro gleddyf yn erbyn fy Mugail," pan
y disgynodd rhyw dywalltiad nodedig fel
cwmwl yn ymdori, nes y llesmeiriodd ef a
llawer o'i wrandawyr gan nerth y dylanwad.
Dan y bregeth hon o eiddo Mr. Harris,
hefyd, yr argyhoeddwyd un o ferched y
Tyddynmawr, a fu gwedi hyn yn wraig
Mr. Jenkin Morgan. Daeth y Tyddyn-
mawr mewn canlyniad yn " lletty ffordd-
olion," ac yn noddfa i aml bererin
lluddedig, pan yr oedd yr erledigaeth yn
chwythu yn gryf. Ymddengys mai dwy
waith y pregethodd gwedi hyn yn Sir
Gaernarfon, sef yn Rhydolion, a Phorth-
dy'n-llaen. Dychwelodd adref trwy Aber-
maw a Machynlleth. Bu yn galed arno
wrth groesi y Traethmawr ; ymosodwyd
arno gan fintai o erlidwyr, " y rhai yr
oedd yspryd mwrddwyr i'w canfod yn eu
gwedd ; " ond dihangodd o'u dwylaw, ac
yn nhŷ gweinidog Ymneillduol y cafodd
noddfa. Bu mewn perygl, hefyd, yn
Machynlleth ; ond cafodd groesaw mawr
yn Llanbrynmair gan Mr. Lewis Rees, a
siriolwyd ei yspryd yn hyfryd wrth weled
cymdeithasau bychain wedi cael eu sefydlu
mewn amrywiol fanau.
Ofer fyddai ceisio rhoddi hyd yn nod
crynodeb byr o lafur a theithiau Howell
Harris y blynyddoedd hyn. Cyniweiriai
trwy swyddi Wilts, Caerloyw, Henffbrdd,
a'r Amwythig ; ymwelai a Bryste, Bath, a
Llundain , a threuliai gryn amser y n y lle olaf
a nodwyd. Gwibiai, fel pe byddai yn angel
digorff, o'r naill gwr i'r llall o'r Dywysog-
aeth, trwy afonydd, a thros fynyddoedd an-
hygyrch, gan rybuddio pechaduriaid. Haf,
1742, bu yn Llundain am bedwar mis, nid
yn segur, ond yn efengylu i'r Saeson yn y
Moorfields, ac yn Lambeth. Dywedir y
byddai yn pregethu yn Gymraeg yn aml
yn Lambeth er budd ei gydgenedl. Cyfeiria
ef at un tro arbenig yn ei ddydd-lyfr, pan
y pregethodd am dri o'r gloch y prydnawn
i dorf o Gymry, oddiar y geiriau : " Simon,
mab Jona, a wyt ti yn fy ngharu i ?" Tra
yn y Brif-ddinas yr oedd gofal yr holl eg-
Iwysi yn pwyso arno ; er hyny teimlai ei
frodyr yn y Dywysogaeth ei eisiau yn fawr,
a thaer gymhellent ef i ddychwelyd.
Meddai Daniel Rowland wrtho mewn
llythyr : " Ai nid ydych yn clywed eich
hoU frodyr yn Nghymru yn gwaeddi,
'Cymorth, cymorth, cymorth !' Frawd
Harris, tydi ryfelwr dewr, pa le yr ydwyt ?
Beth, yn Llundain yn awr yn nydd y
frwydr ! Beth, ai nid oes gan Lundain
ddigon o ryfelwyr i ymladd drosti ? . . .
Arglwydd da, tosturia wrth Gymrudlawd.
Anfon ein brawd anwyl i'n mysg yn dy
allu, ac yn nghyflawnder dy fendithion, a
bydded i'r cythraul grynu o'i flaen. Amen,
Amen."
HOWELL HARRIS.
117
Fel esiampl o'i lafur dirfawr, a pha mor
ddiorphwys y teithiai, yr ydym yn cael ein
temtio i roddi ei hanes am ran o Tachwedd
a Rhagfyr, 1742. Dydd lau, Tachwedd yr
1 1 , y mae yn gadael Llundain gyda'r cerbyd
am 6 o'r gloch y boreu, er mwyn dychwelyd
i Gymru. Yr oedd yr ymadawiad rhyngddo
a'r gymdeithas yno yn nodedig o dyner.
Pur wag oedd y cerbyd, cafodd yntau gyf-
leustra i ymddiddan a'r cerbydwr am fater
ei enaid, ac â dynes ieuanc oedd yn cyd-
deithio ag ef, a gobeithia nad â y dylanwad
i golH. Dydd Gwener y mae yn Reading,
a thennla yn drymllyd a gwanaidd oblegyd
colh ei gwsg. Ceisiodd yr Arglwydd, a
chafodd neshad ato. Synai at natur y
cyfamod trwy yr hwn y mae yr Arglwydd
yn sicrhau ei ogoniant ei hun, ac iachaw-
dwriaeth pechadur, a hyny y tu hwnt i
gyrhaedd llygredigaeth. Gweddíodd tros
yr eglwys yn Llundain, dros yr eglwys yn
Nghymru, a thros yr hoU weinidogion a'r
cynghorwyr. Dydd Sadwrn teithia trwy
Marlborough, yn swydd Wilts ; a chan
basio trwy Bath, cyrhaedda Bryste yn
hwyr. Cyfid y Sul o gwmpas wyth, ac â
ar unwaith i bregethu gyda y brawd Hum-
phrey, a'r hwn y cafodd gymdeithas anwyl.
Teimlai ei galon yn ymlynu wrtho, oblegyd
y dystiolaeth ffyddlon a ddygasai yn
erbyn y gweinidogion Ariaidd neu Un-
dodaidd. Wrth bregethu cafodd ryddid
mawr ; ac er ei fod wedi colh ei gwsg, yr
oedd yn llawn o nerth a bywiogrwydd.
Pregethodd drachefn o gwedi deg hyd
ddeuddeg oddiar i Thes. iv. 14, a thybia
i'w weinidogaeth fod er bendith.
Dydd Llun, Tachwedd 15, y mae yn
gadael Bryste am Gymru cyn chwech y
boreu, ac yn cyrhaedd y Passage o gwmpas
naw. Bu raid iddo aros yma y gweddiU o'r
diwrnod, am ei bod yn amhosibl croesi y
sianel. Ond yr oedd amser yn rhy werth-
fawr yn ei olwg i'w afradu. Wedi adgyf-
nerthu natur â lluniaeth, ysgrifenodd yn ei
ddydd-lyfr hyd gwedi 12 ; yna aeth allan i
bregethu i'r bobl oedd fel yntau yn disgwyl
am y cwch ; rhoddes yr Arglwydd ym-
adrodd iddo, a gweddîai yntau am gael ei
wneyd yn halen y ddaear. Gwedi ciniaw
ymosodwyd arno gan yr hen demtasiwn ;
beth oedd hono ni ddywed ; ond rhoddodd
Duw waredigaeth iddo. Methodd groesi
dydd Mawrth eto, oblegyd yr ystorm, ond
dahodd ar y cyfle i gynghori, ac agorodd
yr Arglwydd glustiau y bobl i wrando.
Siaradai am ei droedigaeth, am ddydd y
farn, am y cyfrif y rhaid i ni rhoddi o'n holl
dalentau, gan eu nodi, pa fodd y dygwyd ef
ei hun i weled nas gallai gael ei gyfiawnhau
trwy weithredoedd, am haeddiant Crist,
am ffydd, beth ydyw, a pheth nad yw, ac
am ufudd-dod a chariad fel ffrwythau ffydd.
Yn y prydnhawn y mae yn cynghori eil-
waith. O gwmpas wyth yn yr hwyr caw-
sant groesi ; yr oedd y gwynt yn ystormus,
a'r tonau yn lluchio ; meddyhai fod angau,
efallai, yn agos, ond cafodd nerth i ym-
ddiried.
Dydd lau y mae yn Redwick, Sir Fynwy ;
cyrhaedda Watford, ger Caerphih, nos lau,
lle oedd yn gartref iddo pan ar ei deithiau
yn y parthau hyn. Pa nifer o weithiau y
pregethodd, ni ddywed ; ond y mae yn sicr
na chroesodd yr holl filldiroedd ar draws
gwlad heb gymell eneidiau at Grist. Cawn
ef yn Llanheiddel nos Wener ; cyfi 1 am 6
boreu Sadwrn, a dywed ei bod yn felus ar
ei enaid yn y weddi ddirgel ac yn y ddyled-
swydd deuluaidd. Pregetha yn y boreu
mewn lle o'r enw Coedcae-mawr ; oddiyno
cyfeiria ei ganirau tua'r Goetre, ger Pont-
ypẃl. Yno clywodd am ganlyniadau ei
íwyddiant blaenorol, nes y darostyngwyd
ei enaid ynddo, a pheri iddo waeddi ei fod
yn foddlon cael ei droi o'r neilldu, a'i sathru
dan draed pawb, a'i fod yn adyn mor wael
fel nad yw yn haeddu cael byw. Pregeth-
odd oddiar Sahn xh., am y galon doredig ;
cafodd odfa hyfryd ; teimhd yno nerth dir-
fawr, yn arbenig ar rywun oedd o'r blaen
yn llawn rhagfarn tuag ato. Dydd Sadwrn
aeth i'r Fenni ; cafodd yno ryddid niawr
mewn gweddi, yn arbenig wrth gyffesu ei
bechodau. Llefarodd oddiar Matt. v. 3-8,
gan ddangos gwir natur tlodi yspryd, ac
mai dyna y cam cyntaf at Grist. Yna
gwnaed iddo ddyrchafu ei lais i alw yr hoU
bechaduriaid tlodion, coUedig, a hunan-
gondemniedig at y Gwaredwr, gan gyfaddef
ei hunan y gwaelaf a'r balchaf o bawb, a'u
cymhell at yr lesu. Cred i rai ddyfod.
Ymddengys hefyd fod rhyw ofid dwys yn
gwasgu arno y pryd hwn mewn cysylltiad
a'r diwygiad ; drosodd a throsodd dywed
nad arno ef yr oedd y bai ; ond fod ei galon
ar dori o'r herwydd. Pa beth ydoedd, nid
oes genym ond dyfalu ; yn ol pob tebyg,
rhyw chwedl gelwyddog, yn drwghwio ei
gymeriad, yn cael ei thaenu ar led. Nos
Sadwrn, breuddwydiodd fod Esgob Rhyd-
ychain yn pregethu yn y 'stryd, ac yn
dweyd fod yn rhaid i bawb deimlo cariad
Crist wedi ei dywallt ar led yn eu calonau,
fel yr oedd yn ei galon ef ; llanwodd hyn
yspryd Harris â mwynhad.
ii8
Y TADAU METHODISTAIDD.
Dydd Sul, Tachwedd 21, y mae yn Llan-
dilo, ger y Fenni, ac achwyna ei fod yn
wanaidd o ran ei gorff. Gwelodd a theim-
lodd ei fod yn caru ei Dduw nior ghr ag y
gwelsai ei bechod. Arllwysodd ei deimhid
gyda golwg ar ei ofid i'r brawd Price.
Gwedin aeth i Cwm lau i wrando yr
Hybarch Thomas Jones. Ar ol ciniaw
cyfeiriodd ei gamrau tua seiat Longtown,
collodd ei ffordd ar y mynyddoedd, ac yr
oedd yn agos i saith arno yn cyrhaedd.
Cafodd un ymwehad neiUduol oddiwrth yr
Arglwydd ar ei daith. Ac eto, yr oedd yr
helynt yn pwyso ar ei yspryd ; ofnai i'r
gwaethaf ddigwydd, ac i ganlyniadau
gwarthus ganlyn, fel ag i beri i'r achos gael
ei ddinystrio. Yna gwawriodd ar ei feddwl
nad oedd y gwaith yn dibynu arno ef, nac
ar ei enw, fod y gwaith o Dduw. Dydd
Llun y mae yn Clydach, lle y cafodd awel
hyfryd oddiwrth Yspryd yr Arglwydd.
Teimla nad oes ganddo yr un dymuniad
ond gogoniant Duw, na'r un ofn ond rhag
" ei ddianrhydeddu. Dywed na chafodd y
fath ymwehad erioed o'r blaen. Wrth
deithio yr oedd y brawd Price gydag ef, a
gwnaed y naill yn fendith i'r llall. Dywed
ei fod yn ddedwydd, yn dragywyddol
ddedwydd.
Cyrhaeddodd Drefecca nos Lun, a dy-
wed fod nifer o'r \vyn anw^yl wedi dyfod
i'w gyfarfod, i ba rai yr agorodd ei galon
ar amryw faterion, yn arbenig ei briodas.
Arosodd yn Nhrefecca dydd Mawrth, aeth
i Erwd, nid yn nepell o Lanfair-muaUt,
dydd Mercher ; i Ddolyfehn dydd Lau ;
a chawn ef yn Llansantffraid, Sir Faes-
yfed, y Sul. Yma pregethodd ar y geiriau :
" Myifi yw yr adgyfodiad a'r bywyd," a
chafodd lawer o ryddid ymadrodd. Gob-
eithia i lawer gael eu gosod yn rhydd. Y
mae yn Erwd eto y Llun, a rhed ei fyfyr-
dodau ar Miss Ann Wilhams. Dywed
fod ei weddîau gyda golwg arni yn mron
cael eu hateb, a'i bod yn ymyl cael éi
pherswadio ; yn ífaenorol ofnai y croesau,
a'r treialon, a'i dymher erwin yntau ; ond
yn awr rhoddasai yr lesu iddo ymysgar-
oedd o dynerwch. Yr oedd yn nerthol
iawn wrth bregethu ; cafodd ddiwrncd a
noswaith i'w cofio byth ; yr oedd y bobl
yn fflam o gariad, a chawsant eu goleuo,
eu porthi, a'u deffro. Daeth y tân i lawr,
a phrofwyd melusder dirfawr. Cyrhaedd-
odd Drefecca nos Lun. Dydd Mawrth,
y mae yn nhŷ John Price, yn Merthyr
Cynog, rhyw bymtheg miUdir o bellder, a
thestun ei bregeth oedd : " Canys byw i
mi yw Crist." Dydd Mercher, ceir ef yn
Cantref, wrth droed Bannau Brycheiniog,
dydd lau yn Beiliau, a dydd Gwener yn
Llanwrtyd, Ue y teimla fod Duw gydag ef.
Cawn ef dydd Sadwrn yn Llwynyceihog,
ger Caio. Yma y teimla mai efe yw y
pechadur duaf ar wyneb yr holl ddaear.
Cyrhaeddodd Lancrwys, yn ngodreu Cwm-
twrch, o gwmpas deuddeg, a daeth i Lan-
geitho yn liwyr yr un diwrnod. Dywed
ei fod yn cael ei ddisgwyl yno, ac wrth
weddío, pledia yn daer ar ran yr ŵyn, ac
am iddo yntau gael ei waredu oddiwrth y
natur ufíernol oedd ynddo. " O gariad
rhyfedd," meddai, " nad wyf yn uffern,
wedi temtio cymaint ar Dduw."
Dydd Sul, Rhagfyr 5, y mae yn Llan-
geitho, ac yn myned i'r eglwys yn y boreu,
lle y pregethodd yr anwyl Rowland, oddiar
y geiriau : " Canys g\vr halogedig o wef-
usau ydwyf fi ;" a chythruddwyd enaid
Harris o'i fewn gan lymder y genadwri.
Teimlai mai efe oedd yr adyn gwaethaf o
fewn y byd. Yn y prydnhawn, aeth i
Lancwnlle, un o'r eglwysi a wasanaethai
Rowland ; ac wrth glywed y Gair yn cael
ei ddarilen cafodd olwg ar ogoniant Crist
fel cyfaill publicanod a phechaduriaid.
Gwnaed ef yn ddiolchgar wrth glywed
Rowland yn pregethu. Yna cyfranogodd
o'r sacrament, a gwelodd ei hun y tlotaf,
y gwaethaf, a'r dallaf o bawb. " Y mae
arnaf eisiau bywyd," medd, "a goleuni, a
nerth, a chyfiawnder." Ymddengys fod y
gyfeillach ar y ffbrdd rhyngddo a'r apostol
o Langeitho yn nodedig o felus. " Ni wna
Crist fy nghondemnio," meddai, " er fy
mod yn haeddu, canys dyna ei ewyllys.
Yna torodd goleuni arnaf. Eiddof fi yw
Rowland ; yn fwy nag erioed, gwelais mai
eiddof fi yw Crist ; ac felly eiddof fi yw
pob peth." Yn yr hwyr, ar y maes ger
Llangeitho, pregethodd Howell Harris i
gynulleidfa o ddwy fil, hyd nes oedd yn
wyth o'r gloch. Y mater oedd dydd y
Pentecost, ac yspryd yr Arglwydd fel tân.
Ymddengys fod yr odfa yn un dra nerthol ;
wrth lefaru am y tân, daeth y tân i lawr,
ac yna aeth yn floedd trwy y lle. Ar y
diwedd gweddiodd dros yr esgobion, dros
yr eglwys yn gyffredinol, dros amryw o'r
Diwygwyr erbyn eu henw, dros y seiadau
yn Sir P'organwg, a- thros ei fynediad
yntau y tu hwnt i'r môr. Awgryma
y gair diweddaf fod yn ei fryd ddilyn
esiampl Whitefield, a chymeryd taith i'r
America. Yn y ty bu ef a Rowland yn
ymddiddan hyd dri o'r gloch y boreu,
HOWELL HARRIS.
119
ynghylch y brodyr blaenaf gyda'r diwyg-
iad, a'r angenrheidrwydd am eu dwyn i
ryw drefn. Gwel fod y gwaith da yn
myned yn mlaen yn hyfryd. Cyn myned
i'w wely, trefnodd ei deithiau, ac yr oedd
yn bedwar cyn iddo fyned i orphwys.
lan culfor Aberteifi. Testun ei bregeth
yno oedd : " I hyn yr ymddangosodd Mab
Duw, fel y datodai weithredoedd diafol."
Cafodd odfa rymus ; dyrchafwyd ei lais
fel udgorn ; a dywed ei fod yn nodedig o
nerthol wrth wahodd at Grist. Wedi
(_)|,"i"(;fa 1'I;\v.\oi^ Ait
.(M-lAlj\VUlAi;i 11(11,.
Dydd Llun, cychwyna dros y Mynydd-
bach, a chyrhaedda Landdewi Aberarth,
ar lan y môr. Cafodd nerth mawr yma
i gynghori gyda golwg ar ddwyn fîrwyth,
ac i lefaru yn erliyn balchder, a diogi ;
yna efengylodd i'r rhai oedd wedi eu
clwyfo. l3ydd Mawrth ni a'i cawn mewn
lle o'r enw Gwndwn, ger Llangranog, ar
hyny ysgrifenodd at y cynghorwr blaenaf,
ac yr oedd yn llawn o zêl wrth wneyd,
gan ddangos iddynt y modd yr oedd y
gwaith yn myned yn y blaen dros y byd,
a'u hanog i zêl, bywyd, a thân. Yna,
wedi catm a gweddío, eisteddwyd wrth y
bwrdd ; ond wedi swpera, llefarai Harris
drachefn wrth y teulu, gan eu hanog i
I20
Y TADAU METHODISTAIDD.
gariad, a thynerwch, a charedigrwydd at
bawb. Dydd Mercher y mae yn Llan-
granog ; teimlai yn hyfryd wrth weddio, a
chynghori oddiar y geiriau : " Pa fodd y
gwnaf y mawr ddrwg hwn, a phechu yn
erbyn Duw ? " Erbyn un daeth i Twr-
gwyn, a llefarodd oddiar Matt. xii. 43.
Yma dywedai : " Yr wyf yn benderfynol i
beidio gadael yr Eglwys dywyll hon (Eg-
Iwys Loegr) ; ond mi a safaf yn y bwlch,
ac a lefaf ar y mur ; nis gallaf roddi i fynu
y wemidogaeth na"r bobl.'' Nid oedd y
cyfarfod mor rymus ag yn Llangranog.
Am chwech yr un dydd y mae yn Castell-
newydd-yn-Emlyn. Datgana yma eto ei
benderfyniad i beidio gadael yr Eglwys ;
ymddengys na chymerodd destun, ond
iddo lefaru oddiar amryw adnodau oeddynt
yn ateb ei bwrpas. Llefarodd dan gryn
arddehad. Wedi myned i'r tŷ clyw fod
gwrthwynebiad yn cael ei barotoi iddo ;
wrth glywed, llanwyd ei enaid ynddo a
nerth ; teimlai y gallai w^ynebu pob erhd.
Dywed fod y dyn ieuanc a fwriadai ei gael
yn gynorthwywr iddo, John Belcher, neu
Jameslngram,gydagef ar ei daith; acymae
yn trafferthu llawer i'w gynghori a'i gyf-
arwyddo, a gweddîa yn fynych ar iddo gael
ffydd. Dydd lau, y mae yn Blaenporth ;
ei fater yma eto oedd : " Pa fodd y gwnaf
y mawr ddrwg hwn ? " Dymuna fod
ganddo gan mil o fywydau i'w rhoi i"r
lesu. Aeth oddiyno tua thref Aberteifi ;
a chafodd gymdeithas felus a'r nefoedd ar
y ffordd. Teimlai nerth dirfawr wrth
weddío a phregethu ; ni chafodd erioed y
fath nerth wrth efengylu. Gweddía yn
daer dros ei gydymaith : " O Arglwydd,
cymhwysa ef ar fy nghyfer ; gwna ef yn
gryf i fyned trwy anhawsterau ; gwna ef
yn ffyddlon, yn ufudd, yn ostyngedig, ac
yn dringar. Yr wyf yn hyderu yn awr,
nad oes dim ond angau a'n gwahana."
Dydd Gwener, y mae yn gadael Aber-
teifì, wedi trafaelu y sir o Langeitho i'r
gwaelod, ac yn cyrhaedd Dygoed, yn
Mhenfro. Cafodd wrthwynebiad mawr
yno gan Satan, yr hwn a safai ar ei ddeheu-
law ; ond wrth weddío tynwyd ef y tu fewn
i"r llen mewn modd na theimlodd ei gyffelyb
o'r blaen ; a phregethodd oddiar y geiriau :
" Megys gan hyny y derbyniasoch Grist
lesu yr Arglwydd, felly rhodiwch ynddo."
Ymddengys Sir Benfro iddo mewn cyflwr
truenus. " Nid wyf yn gwybod," meddai,
"ond am ychydig yn y wlad hon gymaint
ag wedi eu dihuno i weled eu bod yn
ddamnedig yn Adda." Llefarodd hyd yn
agos i wyth ; oddiyno hyd 1 1 bu gyda y
dychweledigion ieuainc, yn eu ffurfìo yn
seiadau, ac yn eu hyfforddi mewn dysgybl-
aeth eglwysig. Dangosai iddynt natur
gweithrediadau yr Yspryd ; ei fod weithiau
yn fawl, bryd arall yn alar ; ei fod yn
hyfforddi, yn arwain, yn bywiocau ac yn
cadarnhau. Dangosodd ddyledswyddau
aelodau y seiat, ac na ddylent gyfeirio yn
gyhoeddus at bechodau gweinidogion yr
efengyl, heb yn nghyntaf alaru o"u her-
wydd. Cyfeiriodd at y seiadau yn Llundain,
ac fel yr oedd y gwaith mawr yn myned yn
mlaen dros y byd. Gweddîodd gyda nerth,
ac aeth i gysgu o gwmpas un, gan deimlo
ei hun yn ddedwydd yn Nuw. Pregethodd
boreu dydd Sadwrn drachefn yn Dygoed,
ar, "Arhoswch ynof fi." Ty'r Yet, ger
Trefdraeth, yw y lle y cyrhaeddodd nos
Sadwrn. O gwmpas deg boreu Sabboth
pregethodd ar hunan-ymwadiad ; cafodd
lawer o oleuni, a pheth nerth, ond yr oedd
yn sych. Erbyn un yr oedd yn Llysyfran;
ar y ffordd tuag yno bu yn cynghori yr
ẁyn, y rhai, gobeithiai, oedd yn ddwfn ar-
gyhoeddedig o bechadurusrwydd hunan.
Daethai cynulleidfa anferth ynghyd i Lysy-
fran ; cyfrifa ef hi yn bum miÌ ; ond yr
oedd ef yn dywyll ac yn sych iawn ar y
dechreu ; " ni feddwn ddim nerth," meddai;
ond yn raddol tosturiodd yr Arglwydd
wrtho ; tynwyd ef allan o hono ei hunan
wrth weddío, a chynorthwywyd ef i bre-
gethu ar Had y wraig yn ysigo pen y sarff.
Pregethai yn Gymraeg ac yn Seisneg ; a
soniai am y cyfamod cyntaf, modd ei tor-
wyd, a'r felldith a ddilynodd, a'n bod oll
trwyddo mor ddamniol ein cyflwr a"r di-
aflaid. Yna trodd i ddangos natur y cyfamod
newydd. " Cefais nerth, a goleuni, a hyfryd-
wch mawr,"" medd, "fel yr wyf yn arfer
gael ar y pen hwn, pan y'm harweinir ato
gan Dduw. Yr wyf yn gobeithio i lawer
gael eu hachub a'u troi ; yr oeddyn felus
mewn gwirionedd yma ; ond yr oeddwn yn
dra chyfeiriol a llym yn y rhan flaenorol,
fel na allai cnawd fy nyoddef, gan ddangos
nas gallent gadw eu calonau yn sefydlog
ar Dduw am bum mynyd, pe y caent ddeng
mil o fydoedd am hyny, o honynt eu hunain,
nac edrych ar yr hwn a wanasant." Mewn
ymddiddan preifat a ddilynodd, cafodd y
I)euai rhai ef yn fawr am beidio rhoddi
rhagor o le yn ei weinidogaeth i foesoldeb,
ac am osod dynion moesol ac anfoesol ar yr
un tir o ran cyflwr. Gwelodd fod arno
eisiau doethineb oddiwrth Grist yn gystal
a nerth ; teimlai yn barod, os dywedasai
HOWELL HARRIS.
121
rywbeth ar gam, i alw ei eiriau yn ol, neu
i'w hesbonio, ac yna aeth at yr lesu i geisio
doethineb. Cafodd hyfrydwch mawr yn y
weddi deuluaidd, a gwnaed ef yn dditrifol
iawn wrth weddío dros yr hen bobl yn
neillduol. Bu yn ysgrifenu yn ei ddydd-
lyfr hyd o gwmpas deuddeg. Yna dywed
fod yr helynt hono y cyfeiriasai ati yn
ddrain yn ei ystlys o hyd ; pe buasai wedi
cael ei goddef i ddigwydd, nas gallasai ddal,
y suddasai tani. • Cawsai ei synu yn hapus
at lefau tair merch ieuanc yn y cyfarfod, y
rhai a gydweddíent gerbron yr orsedd.
" Mor hyfryd yw calonau toredig," medd,
" yn neiUduol rhai ieuainc ; mor ardderchog
yw yr olygfa; dim ysgafnder, na dadleu-
aeth, na siarad ; ond ar eu ghniau yn
pledio eu trueni yn ddifrifol gerbron lesu,
CyfaiU pechaduriaid. Ni chlywais fiwsig
mor felus erioed ; yr oeddynt fel colom-
enod yn trydar."
Dydd Llun y mae mewn lle a eilw yn
Treinar ; yr oedd sefyllfa Eglwys Loegr
yn gwasgu yn ddwys ar ei feddwl ; bu yn
wylo, yn galaru, ac yn dadleu ar ei rhan.
Erbyn deuddeg, yr oedd yn Castellnewydd-
bach, a phregethodd hyd gwedi dau ar,
" Gan edrych ar lesu." Ar y dechreu yr
oedd yn sych ; ond yn raddol cafodd rydd-
had, a thynwyd ef allan mewn mawr
gariad. Priodola ei sychder yn y rhan
gyntaf i falchder ei galon, o herwydd pa
un y gorfodir Duw i'w gaethiwo, er ei
gadw yn ostyngedig. Cafodd hyfrydwch
a goleuni mawr ; dangosodd hefyd os oedd
tywyllwch yn Eglwys Loegr, fod marw-
eidd-dra yn mysg yr Ànnibynwyr ; " felly,"
medd, " bydded i ni alaru ynghyd, a
pheidio gadael y naill na'r llall, na gwan-
hau dwylaw ein gilydd ; nid yw Yspryd
Crist yn dymuno am ddinystr nac enwad
na dynion, ond ar i'r holl eglwysi gael eu
Ilanw o Dduw." Aeth oddiyno tua Fish-
gate, pum' milldir o bellder ; yr oedd yn
hyfryd arno ar y ffordd, ac eto nid oedd
mor agos at ei Waredwr ag y dymunai.
Er ei bod yn -nghanol Rhagfyr, dywed y
rhaid iddo bregethu allan yn mhob man,
gan liosoced y cynulleidfaoedd. Cafodd
hyfrydwch wrth weddío, a Ilefarodd oddiar :
" Canys byw i mi yw Crist." Yr oedd yn
sych yma eto ar y cychwyn, ond dychwel-
odd ei Arglwydd ato heb fod yn hir.
Cafodd gryn nerth i gymell at Grist. Yna
aeth i seiat, Ile yr oedd Ilonaid ystafell
wedi ymgynull ; cafodd nerth yma eto,
gobeithia, i'w gosod ar dân ; dywed wrth-
ynt mai tân yw eu prif angen. Cyfeiria
at yr Eglwys ac YmneiIIduaeth fel yn
farw. Cynghora hwy i oddef pawb sydd
a'u hysprydoedd wedi eu tanio ; ac eto nid
oes neb i gael eu cefnogi i gynghori ond y
rhai y mae Duw yn bendithio eu geiriau
er bywiocau.
Dydd Mawrth, y mae yn Abergwaun.
Yr oedd yr Arglwydd yn agos iawn ato yn
ei ystafell wely. Teimlai anwyldeb mawr
at ei gydymaith ; edrychai arno fel wedi
cael ei roddi iddo gan Dduw ; a gweddîai
drosto : " O Arglwydd, dy was di ydyw ;
rho iddo bob doethineb, pob zêl, pob
gostyngeiddrwydd, a phob nerth ffydd, i
ogoneddu dy enw. Yr wyt yn canfod mai
er mwyn dy ogoniant yr oeddwn yn dy-
muno ei gael." Yna cafodd ddifrifwch
mawr wrth weddío tros yr \Vyn, yn arbenig
y rhai a roddasai Duw iddo ef ; teimlai y
fath anwyldeb atynt fel na wyddai sut i'w
gadael ; synai fod y Goruchel a'r Dyrchaf-
edig, yr hwn a breswylia dragywyddoldeb,
yn gwneyd defnydd o hono ef, a darostyng-
wyd ef i'r Ilwch o'r herwydd. Gofynai
am i'r Arglwydd fendithio ei lafur, a Ilafur
yr holl frodyr, a dymunai na fyddai un-
rhyw ymraniad rhyngddynt. Ymddengys
ei fod wedi clywed fod annhueddrwydd
yn yr offeiriaid i oddef i'r Methodistiaid
gymuno yn yr eglwysydd ; a gweddîa
yntau drostynt, os na chawsent eu galw
1 bregethu, ar iddynt gael eu cadw rhag
gwrthwynebu, a goddef y bobl i ddyfod i'r
ordinhad. Pregethodd oddiar Col. i. 12, 13.
Ar y cyfan teimlai hyfrydwch yn y gwaith.
Aeth oddiyno i Long House, ger Trefin.
Llefarodd oddiar Actau ii. 4: "A hwy oll
a lanwyd a'r Yspryd Glân ; " cafodd oleuni,
hyfrydwch, a nerth mawr. Dydd Mercher
y mae yn myned i Dyddewi ; Ilefara hyd
gwedi tri, a theimla dosturi diderfyn yn
Ilanw ei yspryd wrth edrych ar y gynull-
eidfa. Wrth weddio cafodd ryddid mawr;
ac yr oedd nerth rhyfedd yn cydfyned a'r
weinidogaeth. Pregetha yn yr hwyr dra-
chefn ; rhybuddia y bobl i beidio rhoddi
mwy o bwys ar fedydd nag ar waed Crist ;
a chafodd fwy o flas wrth sôn am y clwyfau
nag erioed. Dydd lau y mae yn Wolf's
Castle ; ac yn Hwlffordd dydd Gwener.
Aeth i eglwys Prendergast yn y boreu ; bu
yno mewn seiat breifat hydddeuddeg; yna
pregethodd gyda nerth anarferol hyd oedd
yn agos i ddau. Aeth oddiyno tua Ile a
eilw yn Fenton ; yno yr oedd mewn caeth-
iwed ar y dechreu, ac yn galed arno mewn
gweddi ; ond yn y diwedd cafodd ryddhad
wrth bregethu. Aeth yn ei flaen i St.
122
Y TADAU METHODISTAIDD.
Kennox ; llefarodd am gân Simeon a Mair,
cafodd ei dynu allan yn rhyfedd. Disgwyl-
iai gyfarfod a"r brawd Howell Davies yno,
ond cafodd ei siomi. Gweddíodd drosto,
pa fodd bynag. Dydd Sadwrn â i Lwyn-
dyrys. Yma, er ei fawr lawenydd, daeth
Howell Davies ato. Ar gyfer y Sul ys-
grifena yn ei ddydd-lyfr : "Yr wyf wedi
ymadael a'r anwyl a'r cariadus Howell
Davies ; cydunem yn hollol yn mhob peth,
er fod Satan wedi ceisio creu ymraniad.
Dywedais wrtho am drefn yr eglwys yn
LÌundain, ac am y gwaith mawr yn mhob
man, a chefais ddoethineb i osod allan yn
gHr y pethau a rodded i mi." Dywed ei
fod yn awyddus i'r diwygiad fyned yn ei
fìaen pe na bai ganddo ef un llaw ynddo ;
yn ewyllysgar iddo fyned yn ei flaen fel y
mynai Efe, a thrwy yr hwn a fynai Efe.
Y mae yn foddlon peidio myned i seiat y
gweinidogion, rhag iddo beri gofid iddynt.
■Yna gweddia : " O Arglwydd lesu, pa bryd
y caf ddyfod adref ! O, yr wyf yn hiraethu
am gael dyfod adref atat ti ! Yno, fy Nhad,
fy Mrawd, ni phechaf ! " Aeth yn ei flaen
i Landdowror, yna i eglwys Llandilo, lle y
pregethai y Parch. Griffith Jones yn y
prydnhawn, a daeth awel hyfryd ar ei
enaid. Pregethai Mr. Jones — "y gwerth-
fawr Mr, Jones," y geilw Howell Harris
ef — ar adgyfodiad Lazarus.
Gadawa Landdowror y Llun, y mae yn
Cilgarw, ger Caerfyrddin, dydd Mawrth ;
yn Llanon dydd Mercher; Llansamlet, ger
Abertawe, dydd lau ; Llanddeusant, Sir
Gaerfyrddin, dydd Gwener. Dydd Sadwrn,
yr hwn hefyd yw dydd NadoHg, y mae yn
Llanddew, ger Aberhonddu, am bump o'r
gloch y boreu yn y plygain, Ue y gwasan-
aethai y Parch. Thomas Lewis. Oddiyno
brysiayn eiflaeni Drefecca,fel ygallaigym-
uno yn eglw ys Talgarth yn ol ei arfer. Ar ei
ffordd cly wodd fod ei gyfeilhon wedi cael eu
hatal o gymundeb yr Eglwys. Derbyniodd
y newydd yn hollol dawel ; yr oedd ei feddwl
yn llawíi o heddwch hyfryd, "nidoher-
wydd dylni," medd, "ond o herw^ydd ffydd,
gan y gwelaf Grist yn mhob peth. Teimlais
barodrwydd i adael yr Eglwys, a llawn
nerth i ddyoddef hyn ; ond teimlwn nas
gallwn adael fy mrodyr i gael eu bwrw
allan, heb fyned allan gyda hwynt." Yna
aeth at yr offeiriad, y Parch. Price Davies, i
ymhoH ac i achwyn. Dywedodd hwnw, ei
fod, oddiar resymau digonol, wedi pender-
fynu na chai y Methodistiaid gyfranogi o'r
sacrament. "A ydych yn fy atal i rhag
dyfod i'r ordinhad ? " gofynai Howell
Harris. "Ydwyf, yn benderfynol," meddai
y Ficer. Llanwyd enaid y Diwygiwr â
heddwch dwfn wrth glywed ; ymddiriedai
yn ngeiriau Duw fod pob peth yn gweithio
er daioni i'r rhai sydd yn ei garu ; yna
dywed : " Gwelais fod daioni mawr yn
rhwym o ganlyn hyn ; y mae y gwaith o
Dduw ; yr wyf finau yn foddlon dilyn.
Llanwyd fy enaid â thosturi a chariad at
yr offeiriad a'r bobl." Gobeithia, er iddo
ef gael ei droi allan, y deuai Duw i achub y
bob', druain. Y mae yn foddlon cael ei
ddirmygu, ac i weled ond ychydig yn dyfod
allan gyda hwy.
Yr oedd hyn cyn myned i'r eglwys. Yn
y gwasanaeth, wrth glywed y Litany yn
cael ei ddarllen ynghyd a'r Ilithiau, cafodd
hyfrydwch mawr ; teimlai fod yr adnodau
yn nodedig o gyfeiriol. Pregethai yr
offeiriad yn erbyn y rhai oeddynt yn
mynychu cyfarfodydd crefyddol y tu allan
i eglwys eu plwyf ; galwai hwy yn Sismat-
iciaid, a dywedai eu bod yn archolli corff
Crist ac yn trywanu ei ystlys sanctaidd
mor wir a'r milwr a'i gwanodd a phicell.
Tosturi dwfn ato a deimlai Harris, gwelai
ei fod yn Ilefaru yn ol y goleuni oedd
ganddo. Ond bu raid i'r Diwygiwr ym-
adael heb y fraint o gofio angau y
Gw'aredwr. Ar y ffordd i Drefecca,
penderfynodd roddi yr holl achos gerbron
yr Esgob, ac cs byddai efe yn cadarnhau
ymddygiad yr offeiriaid, nid oedd dim i
wneyd ond cefnu ar yr Eglwys, er cymaint
ei serch ati.
Cyrhaeddodd adref o gwmpas un ; Ilifai
heddwch fel yr afon i mewn i'w yspryd ;
bu yn ysgrifenu Ilythyrau ac yn cofnodi ei
deimladau yn ei ddydd-Iyfr hyd gwedi tri,
yna pregethodd i gynulleidfa Ìiosog oddiar
Esaiah xl : " Cysurwch, cysurwch, fy
mhobl." Cafodd nerth anghyffredin i
gyfeirio eu Ilygaid at Grist ; hydera i
lawer gyfarfod a'r Arglwydd y prydnhawn
hwnw. Cyfeiriodd at waith yr offeiriaid
yn eu cau allan o ragorfreintiau'r tŷ, a
dywed ei fod yn foddlon i'r mater, pwy
yw y gwir brophwyd dros Dduw, gael ei
benderfynu yn y farn ddiweddaf. Dyma
Ile y teimlodd fwyaf o nerth wrth lefaru ;
a syna at y cariad angerddol a lanwai yr
ŵyn. Er ei fod heb gysgu y noson
flaenorol, a'i fod wedi bod mewn chwech
o gyfarfodydd cyhoedd a phreifat y dydd
hwnw, cychwyna gyda mîn y nôs i
Sancily, ffermdy Iled fawr, yn nyffryn
Wysg, rhwng Talybont ac Aberhonddu,
yr hyn a wnelai ei daith am y diwrnod
HOWELL HARRIS.
123
yn ddeng-milldir-ar-hugain. Er hwyred
ydoedd, pregethodd mewn lle o'r enw
Tygwyn. Ei destun ydoedd : " Trowch
eich wynebau ataf lì holl gyrau y ddaear,
fel y'ch achuber." Ar y dechreu }r
oedd yn dra difywyd ; nid oedd unrhyw
ddylanwad yn cydfyned a"i eiriau ; ond
rhoddwyd ef yn rhydd ; cafodd nerth
rhyfedd, a chariad a goleuni, i edrych
at Grist.
Boreu y Sul y mae yn Sancily, a daeth
i'w feddwl drachefn y priodoldeb o fyned
dros y môr ; teimhii * a Chymru yn agos
iawn at ei galon, ond galluogwyd ef
i"w cyflwyno i'r
Arglwydd lesu.
Teimlai Dŷ yr
Amddifaid (a i^
adeiladesid yn SP?/ ^t// í^
Georgia gan
Whitelìeld), a"r ' ^ ' / />,»
eglwysi yr ochr
arall i'r cefnfor,
yn pwyso ar ei
feddwl, a mawr
a w y d d a i e u
gweled. Credai
y gallai yr lesu
gario ei waith
yn mlaen yn y
wlad yma heb-
ddo. Aeth i eg-
Iwys Llanddew,
lle y pregethai y
Parch. Thomas
Lewis. Yno caf-
oddlesi'w enaid.
Yr oedd ganddo
amcan deublyg
wrth fyned i
Landdew, sef
cael cyfranogi o'r
sacr ament, yr
hyn a wahardd-
a s i d i d d o y n
eglwys Talgarth gan
V fìcer, a chae
/'
^
,7/1 lU' ■
LLAWiSGUIF HüWELL HAllliIS.
Mr. Price Davies,
ymgynghori a Mr.
Thomas Lewis, yn ngwyneb y dyryswch
newydd oedd wedi codi. Toddcdd ei
galon fel cwyr ynddo wrth nesu at y
bwrdd ; tynwyd ei yspryd yn agos iawn
at yr lesu, a melus oedd y gyfeillach.
Teimlodd fod yr lesu yn aros yn ffyddlon,
pan yr oedd ef yn cael ei fwrw allan o
eglwys ei blwyf. Wrth edrych ar yr
elfenau, gwelodd fwy o ddirgelwch yr
undeb rhwng y ddwyfoliaeth a"r ddynol-
iaeth yn mherson y Mab nag erioed.
Aeth oddiyno tua Merthyr Cynog ;
clywai fel yr oedd y g^vaith yn myned
rhagddo yn mhob man, a phenderfynai
Iynu wrth yr ŵyn. Cyrhaeddodd yno o
gwmpas pedwar ; " Trowch eich wynebau
ataf fi," oedd ei destun, cafodd nerth
mawr wrth weddîo, ac wrth anerch y
dyrfa. Yn yr hwyr aeth i le a eilw Allt-
mawr, pregethodd hyd gwedi naw oddiar
Zech. xii. 10 : " A thywalltaf ar dŷ
Dafydd, ac ar breswylwyr Jerusalem,
yspryd gras a gweddi'au, a hwy a edrych-
ant arnaf fi yr hwn a wanasant ; " ac yr
oedd y nefoedd yn gwenu arno, Bu i
lawr hyd gwedi
un-ar-ddeg yn
cynghoriyrŵyn.
Dydd Llun, y
inae yn Llan-
ddewi'r Cwm ;
anogodd y bobl i
edrych at Grist,
yna cychwyn-
odd i Langam-
arch, Ile y cyf-
arfyddodd a"r
a n w y 1 M r.
Gwynn. Eidest-
un yno oedd :
" Wele Oen
Duw," a chaf-
f)dd ddirfawr
nerth i lefaru.
Gwedi cym-
deithas felus a
Mr. Gwynn,cyf-
eiriodd ei gam-
rau tua Doly-
felin. Aryffordd
bu yn dda ar ei
enaid ; gwelodd
bechod fel y mae
yn erbyn yr
lesu, ac felly
dychrynai rhag-
ei ddoethineb.
<■//?
'^
' />•-«->;'. '<-0//)r í-)íiti//!r- ,'-/-
. / :/■ ■n'!/íU' yY„;,^ ,.^c ■/.-'-.)
r- /r.yf'/.'y'-f;//ux/</i-ýM'fi;}
/'■ /,,r'>/^'y,r,' : fí.-W" ><yr''-/^(^--'- /(/■'■_
V ^vr/ ,v'/ '/f.- 'ì /.u ■ i/dífei' V'' '•?-' •'•V''
/i-'/'cn: /,' f'(ff/c/^ '' .^/u'/ji'i/ /n-rri \
tU/ r«/'"/ ^' '"'/•)
ŷ(.:'A/ //(• J,-r A (■/<'( :/y,
I .-■/■'''/''■ //./(///
',/
rhas
ddo, yn gystal a ^
ei ewyllys, ei reswm, a"i gyfiawnder ei
hun ; gwelodd Grist yn ogoneddus, a'i
hunan yn ofnadwy, nes y gweddíodd : " O,
achub fi rhag fy hunan ! " Pregethodd
oddiar Heb. xii. i, 2, gyda nerth mawr.
Wedi hyny aeth tua Llanfair-muallt, yr
oedd ei gysylltiad a Miss Williams, y
Scrin, yn pwyso yn drwm ar ei feddwl ;
ar yr un pryd teimlai barodrwydd i'w
rhoddi i fynu, ac i beidio ei gweled byth,
os byddai hyny yn fwy manteisiol i ŵyn
Crist. Cafodd undeb nefol, a rhyddid
124
Y TADAU METHODISTAIDD.
ffydd, yn nghymdeithas saint Llanfair ;
gwelai fod goleuni Crist yn peri iddynt
ddirmygu yr hen gyfamod. Pregethodd
yma eto oddiar " Trowch eich wynebau
ataf fi," a chafodd ryddid a dirfawr
felusder yn y gwaith. Aeth oddiyno tua
chyfeiriad Hengwm, gan daíîu bras-olwg
ar ei lafur, er pan y dechrenodd fyned
allan gyda'r efengyl. Dywed ddarfod iddo
deithio tua deuddeg milldir y dydd am y
pedair blynedd a haner diweddaf, ac felly
fod ei hoU deithiau am y tymor hwnw
dros dair mil o filldiroedd, a'r cyfanswm
am yr wyth mlynedd yn agos i chwe' mil.
Traddodasai rhwng chwech a saith mil o
bregethau, heblaw cofnodi ei deimladau
a'r digwyddiadau yn ei ddydd-lyfr, ac
ysgrifenu llythyrau dirif. Yn ychwanegol,
cynghorai yn y seiadau. Cafodd gyfarfod
nodedig o nerthol yn Hirgwm. Wrth
weddîo daeth dylanwad rhyfedd ar ei
yspryd ; gwelodd ei holl bechodau wedi eu
cyfrif ar Grist ; " Gwehiis ef,"' meddai,
" yn gorchfygu angau ac uffern, ac yn
gwneyd hyny drosof fi, yn fwy cHr nag
erioed ; tynwyd fi allan o fy hunan yn fwy
nag erioed. Yna, wrth bregethu oddiar
' Wele Oen Duw,' yr oeddwn yn ofn-
adwy, yn fwy gorchfygol nag erioed ; yr
oedd genyf yspryd ac awdurdod fel nas
gelhd gwrthsefyll. Yr oeddwn yn galw
ar y chwareuwyr, ac yn condemnio eu
hiaith, yn tori pob peth o'm blaen, gan
gyfeirio at yr hen fyd, at Sodom, ac at y
pechod yn erbyn yr Ysbryd Glân."
Ymddengys fod yr odfa, yr hon a ddes-
grifia gyda manylwch, yn un ofnadwy ;
atebai esgusodion yr annuwiol ; condemniai
y teuluoedd diweddi, a'r rhai a ddygent eu
plant i fynu gan eu harfer i chwareuydd-
iaethau ; a dywedai, os yw Gair Duw yn
wir, fod yr holl wlad yn myned tuag uffern.
" Ychydig oedd genyf i'r \Vyn," meddai ;
" ond ni chefais y fath awdurdod erioed."
Diau fod yno le difrifol mewn gwirionedd ;
mellt Sinai a oleuent i'r bobl eu cyflwr
coUedig, a tharanau yr Hollalluog a ruent
yn eu clyw, nes yr oedd eu wynebau wedi
myned fel calch, a'u ghniau yn curo
ynghyd. Y mae yn Hirgwm hefyd dydd
Mercher ; aeth oddiyno i Cefnllys, yn Sir
Faesyfed ; dydd lau y mae yn Cefnbrith,
nid yn nepeil o Cefnllys. Aeth oddiyno i
Gore, ac ar y ffordd darllenai Lyfr Vavasor
Powell, yn desgrifio ansawdd Cymru yn y
flwyddyn 1641. Pregethodd yma oddiar
Es. xlv. 22. Ar y dechreu yr oedd yn
sych iawn, dim dylanwad, a braidd y
medrai gael geiriau. Ond trodd at y
gyfraith yn ddisymwth ; yna daeth nerth
mawr, tra y dangosai iddynt eu bod yn
caru, yn ofni, yn ymddiried, ac yn rhyfeddu
at bob peth ond Duw. Y mae yn y
Rhiw dydd Gwener, y dydd diweddaf o'r
flwyddyn 1742, a dydd Sadwrn, y cyntaf
o'r flwyddyn newydd, y mae yn y Scrin,
ar ymwehad a Miss Ann WiUiams. Teifl
y difyniadau hyn aUan o'i ddydd-lyfr
oleuni mawr ar ei hanes, ar y diwygiad,
ar y rhwystrau mawrion a'i cyfarfyddent,
ac ar ansawdd ei feddwl yntau. Ónd ein
hamcan penaf oedd rhoddi rhyw syniad am
fawredd ei ymdrechion, a'i yni diderfyn.
Ar ol dychwelyd o'r daith, yr hon a barha-
odd agos i saith wythnos, rhydd y crynodeb
canlynol o'i lafur, mewn Uythyr at gyfaill :
"Yr wyf, oddiar pan adewais Lundain,
wedi teithio dros fil o fiUdiroedd, ac wedi
Ilefaru dros chwech ugain o weithiau,
fynychaf yn yr awyr agored, gan na all
unrhyw á\ gynwys y dorf, a hyny yn
nghanol gwyntoedd, gwlawogydd, a rhew;
ac eto nid wyf yn waeth o ran fy nghorff
nag ar y dechreu. Hyfryd yw bod ar fy
eithafdros Dduw." Meddai, mewn Ilythyr
arall, at un Mr. Baddington, " Pe baech yn
cymeryd tro gyda mi am ddeufis neu dri,
yn gweled fy Ilafur a'm profedigaethau, yr
wyf yn sicr na ryfeddech gymaint am na
anfonais atoch cyn hyn. Y mäe yn awr
ynghylch naw wythnos er pan ddechreuais
fyned o amgylch De a Gogledd Cymru.
Yn yr amser hwn mi a ymwelais â thair-
sir-ar-ddeg, a thrafaelais gan amlaf 150 o
filldiroedd bob wythnos, gan bregethu
ddwy waith, ac weithiau dair a phedair
gwaith y dydd. Bum saith noswaith yn
olynol heb ddiosg fy nillad. Teithiais o un
boreu hyd yr hwyr dranoeth, heb orphwys,
dros gan' miUdir, gan bregethu ganol nos,
neu yn foreu iawn, ar y mynyddoedd, rhag
cael ein herlid."
Mewn gwirionedd, yr oedd ei lafur yn
anhygoel. Y syndod yw nad ymollyngodd
ei gyfansoddiad, er cadarned oedd, tan
bwys y gwaith. Gwedi taith flin, a
phregethu amryw droiau i dorfeydd ter-
fysglyd, a'r hoU wlad yn ferw ac yn gyffro
o'i gwmpas, arosai i lawr drachefn hyd dri
neu bedwar o'r gloch y boreu, yn gweddío,
yn ymdrechu yn galed a Uygredigaeth ei
galon, ac yn ysgrifenu, fel nad oedd ganddo
nemawr o amser i orphwys. Efe, uwchlaw
pawb, a arloesodd y tir, ac a dorodd y
garw, i'r efengyl. Tybiai ef ei hunan yn
fynych fod ei ddiwedd yn ymyl, ond ni
HOWELL HARRIS.
Î25
theimlai unrhyw brudd-der o"r herwydd ;
yn hytrach cyffröid ei enaid ynddo gan y
gobaith o fyned at ei Waredwr.
Fel enghraifft o'i ddyoddefaint gyda
gwaith yr efengyl cymerer a ganlyn.
Ryw noson clywai Mrs. Rumséy, Tyny-
wlad, ger Crughywel, lais gwan wrth
ddrws y tŷ, o gwmpas dau o'r gloch y
boreu. Adnabu y llais, mai llais HoweÌl
Harris ydoedd. Prysurodd i agor, ac
erbyn iddo ddod i mewn yr oedd golwg
ryfedd arno. Wrth ddychwelyd o Sir
Fynwy cawsai ei guro a'i faeddu yn dost ;
gorchuddid ei gorff gan waed, a chan
archollion a chleisiau ; cafwyd fod tri-ar-
ddeg o glwyfau ar ei ben, a'r syndod oedd
na chawsai ei ladd. Cafodd bob ym-
geledd posibl mewn ffermdy, ac aeth i
ffwrdd boreu dranoeth yn siriol ei yspryd,
gan ystyried mai braint oedd cael dyoddef
anmharch dros Grist.
Dro arall, sef Mehefin, 1741, yr oedd ef
a John Cennick yn Swindon ar eu ffordd i
Lundain. Dechreuasant ganu ac efengylu,
ond cyn gallu dechreu pregethu ymosod-
wyd arnynt gan y werinos. Saethent a
drylliau dros eu penau, ac yr oedd ffroenau
y drylliau mor agos i'r pregethwyr fel y
gwnaed eu hwynebau mor dduon gan y
pylor ag eiddo tinceriaid. Nid oedd arnynt
fraw ; agorasant eu mynwesau, a dywed-
asant eu bod yn barod i roddi eu bywydau
dros eu hathrawiaeth. Yna cawsant eu
gorchuddio drostynt oll a Ilwch yr heol, yr
hwn a deflid atynt. Yn nesaf, cafodd y
terfysgwyr beiriant dwfr, yr hwn a lanw-
asant o gwteri aflan, gan arllwys yr hylif
budr ar weision Crist. Ond ni ddigalonent.
" Tra y taflent y dwfr budr ar Harris,"
meddai Cennick, " pregethwn i; pan y
tröent y peiriant arnaf fi, pregethai yntau."
Parhasant i wneyd hyn, nes niweidio y
peiriant ; yna taflasant fwceidiau o ddwfr
budr a Ilaid arnynt. Yr oedd boneddwr,
o'r enw Mr. Richard Goddard, yn anog y
terfysgwyr ; benthycasai iddynt ei beiriant
a'i ddrylliau i'r pwrpas ; dywedai wrthynt
am drin y ddau bregethwr cynddrwg ag y
medrent, ond peidio eu Iladd. Safai ar
gefn ei geffyl yn edrych ac yn chwerthin.
Wedi iddynt ymadael, gwisgasant ddwy
ddelw, galwasant un yn Harris a'r llall yn
Cennick, a Ilosgasant hwy. Diau mai
hyn a wnaethent a'r pregethwyr eu
hunain oni bai fod arnynt ofn. Nid
digwyddiad ar ei ben ei hun oedd hwn,
cyfarfyddent a'r cyffelyb yn mron bob
dydd.
Fel pregethwr, math o loan Fedyddiwr
ydoedd, a gwaith garw, rhagbarotôl, i
raddau mawr, a gyflawnodd. O ran gallu
gweinidogaethol, nid oedd i'w gymharu a
Daniel Rowland. Yn ei flynyddoedd
cyntaf, ychydig o drefnusrwydd fyddai ar
ei sylwadau, ac ni arferai gymeryd testun,
eithr Ilefarai yr hyn a iroddid iddo ar y
pryd. Tywalltai allan yr hyn a fuasai yn
berwi yn ei fynwes, heb ryw lawer o
reoleidd-dra, ond gydag awchlymder a
nerth nas gallai dim sefyll o'i flaen. Ar
yr un pryd, yr oedd rhyw hynodrwydd yn
ei ardduil, oedd yn ei osod ar ei ben ei
hunan ynghanol pawb. Meddai WiIIiams,
yn ei farwnad : —
" Ond yn nghanol myidd o bonynt
Mae rhyw eisiau o dy ddawn."
■■'• " Nid rhaid ond edrych ar ei ddarlun,"
ysgrifena Dr. Owen Thomas, " er mwyn
gweled ar unwaith, mai nid dyn cyffredin
ydoedd. Y mae y wyneb hir, ac yn
enwedig yr ên hir yna, y trwyn eryraidd,
yr aeliau mawrion, y talcen Ilydan er nad
yw yn uchel, y genau agored eang, y
Ìlygaid treiddgar, a'r wynebpryd pender-
fynol yna, yn arwyddo ei fod yn berchen
galluoedd naturiol cryfion, ac yn arbenig
ei fod wedi ei wneuthur heb ofn." Yr oedd
dwysder ei argyhoeddiad hefyd, yr ing
enaid ofnadwy y pasiodd trwyddo, yr agos-
rwydd at dragywyddoldeb yn mha un yr
oedd yn byw, yn awchlymu ei leferydd, ac
yn rhoddi mîn ar ei eiriau. Meddai y
Parch. John Hughes : t " Rhoes Duw iddo
orchymyn, ' Llefa a'th geg, nac arbed ;
dyrchafa dy lais fel udgorn, a mynega i'm
pobl eu camwedd, a'u pechodau i d>' Israel."
Y Ilef a ddywedodd wrtho, ' Gwaedda.' A
gwaeddi yn groch a wnaeth : ' Pob cnawd
sydd welit, a'i holl odidowgrwydd sydd fel
blodeuyn y glaswelltyn.' Gwnaed ei wyneb
fel callestr. Dyrchafodd ei lef uwchben
dynion diofal nes yr oedd eu gwynebau yn
gwelw-Iasu." Pregethwr y werin anystyr-
iol ydoedd yn benaf ; pe buasai ei iaith yn
fwy coeth, ei leferydd yn fwy tyner, a'i
fater yn fwy athronyddol, ni fuasai yn
offeryn cymwys ar gyfer y gwaith oedd
Duw wedi dori allan iddo. Cyfeiria
John Wesley, yn ei ddydd-Iyfr, at
rymusder ei genadwri. Ar gyfer dydd
Llun, lonawr 22, 1750, ysgrifena : " Mi
a weddíais yn y boreu yn y Fomidery (capel
* Cofiant John Jones, Talsarn.
t Methodistiaetli Cymru.
126
Y TADAU METHODISTAIDD.
Mr. Wesley, yn Llundain), a phregethodd
Howell Harris, areithiwr nerthol, yn
gystal wrth natur a thrwy ras, ond nid yw
yn ddyledus am ddim i gelfyddyd na dysg-
eidiaeth." Cyfeiria ef ei hun yn aml at
brinder ei wybodaeth, a'i fod yn methu
cael amser i ddarllen, fel rhwystrau ar ei
ffordd gyda'r weinidogaeth. Önd fel yr
ydoedd yr oedd gymhwysaf ar gyfer an-
sawdd y wlad. Mewn ymroddiad diarbed
i lafur, mewn teithiau hirion a pheryglus,
mewn cydwybodolrwydd dwfn i'r Arglwydd
lesu, mewn hyfdra sanctaidd yn ngwyneb
gwawd ac erhd, ac mewn ymdeimlad
difrifol a gwerth yr eneidiau oedd yn teithio
yn ddiofal i ddinystr, ni ragorodd un o'r
Diwygwyr ar Howell Harris. Braidd na
allai ddweyd yn ngeiriau Paul : " Mi a
lafuriais yn helaethach na hwynt oll ;" ac
yn briodol iawn y gelwir ef yn Luther
Cymru. Yr oedd ei allu trefniadol hefyd
agos a bod yn gyfartal i'w ddawn fel
siaradwr ; bu ganddo ef law fawr, yn wir
y llaw fwyaf, yn lluniad y cyfansoddiad
Methodistaidd ar y cychwyn, ac y mae ei
ddelw ef i'w gweled yn amlwg ar y
Cyfundeb hyd heddyw. Gadawn hanes
Howell Harris yn y fan hon yn bresenol,
ond cawn ddychwelyd ato eto.
HANES Y DARLUNIAU.
Athrofa Trefecca, a Chapel Coffadwr-
lAETHOL HowELL Harris. Cymerwjd y darlun
hwn ar gyfer y gwaitli presenol yn ngwanwyii y
ílwyddyn hon, 1894. Yn inis Ebrill, y flwyddyn
17-52, y gosododd Howell Harris sail yr adeilad i
lawr ; ac yr oedd rhan o hono wedi ei orphen yn y
flwyddyn ganlynol. A'- ddiwedd y flwyddyp 1754
yr oedd tenlu sefydleJig yn Nhrefecca, o gylch
cant o rifedi, heblaw y rhai oedd yn myned ac yn
dyfod. Gan y rhoddir hanes cyflawn o'r sefydliad
yn Nhrefecca yn amser Howell Harris yn y lle
priodol yn nghorfî y gwaith, ni raid ymhelaethu
arno yn y fan hon. Yn y flwyddyn 1842 yr agor-
wyd y lle fel Athrofa y Deheudir, ac am yr ugain
mlynedd cyntaf, y Parch. D. Charles, B.A., oedd
yr unig athraw. Agorwyd y Capel Coffadwriaethol
yn mis Gorphenaf, 1873, sef can-mlwyddiant
inarwolaeth Howell Harris. Gwasanaethwyd ar
yr agoriad gan y Parchedigion Dr. Lewis Edwards,
Bala ; Dr. Owen Thomas, Liverpool ; Edward
Matthews, David Williams, Troedrhiwdalar, ac
eraill. Cynllunydd y capel ydoedd Mr. R. G.
Thomas, IMenai Bridge ; a'r adeiladydd Mr. Evan
Williams, Bangor. Costiodd £;-3,432 2s. 2^c.
Casglwyd yr arian drwy ymdrecbion y Parchedig-
ion Edward Matthews, a Dr. J. Harris Jones, un
o athrawon y sefydliad.
Darlun Gwreiddiol Howell Harris. Cy-
hoeddwyd dau Goflant o Howell Harris yn y
flwyddyn ar ol ei farwolaeth. Argraffwyd hwy yn
Nhrefecca, ac yr oedd y cyntaf yn yr iaith Gym-
raeg, a'r llall yn Saesneg ; ond ni chyhoeddwyd
darlun o'r Diwygiwr hynod yn y Cofiantau hyny.
Cyhoeddwyd Cofiant eilwaith iddo yu Nhrefecca yn
1792, ond nid oes darlun o houo yn hwnw ycbwaith.
Ond yn y flwyddyn 1838, sef yn mhen tri ugain a
phump o flynyddau wedi marwolaeth Howell
Harris, fe ail-argraffwyd y Cofiant a ddygwyd allan
yn 1792 gan Mr. Nathan Hugbe^, tad y diweddar
Barcli. Jobn Ricbard Hughes, Brynteg, Sir Fon.
Argrafíwyd ef yn Mertbyr Tydfil. Pan ynghylcb
cybooddi yr argraffiad hwn o Gofiant Howell
Harris, cafodd Mr. Natban Hughes afael ar ddar-
lun o bono yn Nbrefecca, pa un a osododd yn llaw
cerfiedydd mewn dur, a chyhoeddodd liaws o gopîau
o bono. Er fod cyboeddiad y Cofiant bwn a'r
darlun yn gyfamserol, ymddengys eu bod yn cael
eu gwerthu ar wahán ; o herwydd nid yw y darlun
wedi ei rwymo gyda'r Cofiant, yn y copiau yr ydym
ni wedi eu gweled ; ac yr ydym wedi dyfod ar draws
y darlun yn aml, heb y Cofiant. Pris y Cofiant
ydoedd swllt, a tbebygol fod pris y darlun ei bun
yn llawn cymaint a hyny, o herwydd dywedir
ddarfod i'r ^jZa^e gostio deg punt ; felly gwerthid
hwy gada'u gilydd neu ar Wcihàn, yu ol ewyllys y
prynwr. Dywedir fod y ^jírtíe yn awr yn meidiant
y Parch. Dr. Hughes, gweinidog y Bedyddwyr,
Scranton, Pen. America, sef un o feibion Mr.
Nathan Hughes. Y mae darlun Howell Harris
wedi ei gerfio lawer gwaith yn ystod y blynyddau
diweddaf.
Eglwys Talgarth. Copi ydyw y darlun hwn
o'r print a gyhoeddwyd gydag argraffiad Mr.
William Mackenzie o " Holl Weithiau Williams,
o Bantycelyn," dan olygiad y diweddar Barcb.
J. R. Kilsby Jones. Cymerwyd y photograph
gwreiddiol tua'r flwyddyn 1867, gan Mr. T.
Gulliyer, Abertawe. Yr oedd yr eglwys y pryd
hwnw heb fyned dan unrhyw gyfnewidiad. Y
mae yr eglwys yn bresenol yn bur debyg i'r fel
yr ydoedd yn amser Howell Harris, ac y mae
genym wrth law amryw ddarluniau diweddar o
boni, eto gwell oedd genyra dalu am y copyright
i Mackenzie na gwneyd defnydd o bouynt.
Athrofa'r Iarlles Huntington. Cymerwyd
y darlun o'r adeilad dyddorol hwn allan o'r
Evangelical Rcgister &m Ebrill yn y flwyddyn 1824,
cyhoeddiad perthynol i Gyfundeb yr larlles. Gan
y mynegir hanes yr adeilad yn yr amser priodol yn
ngborfí y gwaith liwn, nid oes eisiau ond crybwyll
yn y fan hon, fod Atbrofa yr larlles, ag Atbrofa
presenol y j\lethodistiaid yn Nhrefecca, yn ddau
adeilad hollol wabanol, fel y gwelir oddi wrth y
darluniau sydd yn addurno y benod bon. Saif
Athrofa'r larlles ar dir Trefecca Isaf; daeth y tir
hwn yn eiddo, trwy bryniad, i Thoraas Harris, a
disgynodd trwy etifeddiaetb ar ol ei ddydd ef, i
Mrs. Hughes, unig fercli brawd bynaf Howell
Harris, sef Josepb Harris. Ar ol marwolaeth yr
larlles, symudwyd yr Athrofa i Chesbunt, ac aeth
yr adeilad yn adfaeledig. Y mae bellach er ys
blynyddau yn amaetbdy, a gelwir ef yn " College
Fann," ac y mae yn meddiant James P. W. Gwynue
Holford, Ysw., o Buckland, yr bwn sydd yn disgyn
HOWELL HARRIS.
127
o'r Harissiaid. Yr oedd y tir ar yr hwn yr adeilad-
wyd yr Athrofa bresenol yn eiddo Howell Harris ei
hun, er mai i bwrpas ara'l y bwriadai efe y lle.
GoLYGFA Ddwyrain-Ogleddol ar Athrofa
Trefecca. Dengys y darlun hwn y rhan o'r
adeilad a neillduir yn breswylfod y Prif Athraw.
Adnewyddwyd yr Athrofa yn fawr yn ystod y
blynyddau diweddaf, ac y mae yn bresenol yn
edrych yn adeilad liardd ac mewn cadwraeth dda.
Eglwys Defynog. Er fod yr eglwys eang lion
weìi myned dan adgyweiriadau yn ystod y blyn-
yddiu diweddaf, eto nid ydyw wedi myned dan
gyfnewidiadau mawrion, er pan y cyfarfyddodd
Howell Harris â Daniel Rowland ynddi, yn y
flwyddyn 1737. Y mae lion, fel eglwys Talgai'th,
yn llawer mwy o faintioli nag yw eglwysi parthau
gwledig Cymru yn gyffredin. Yma y treuliodd y
Parchedig Mr. Parry ddiwedd ei oes, er ei fod yn
llawer mwy adiiabyddus fel Mr. Parry o Lywel.
Yr oedd efe yn ei ddydd yn un o'r offeiriaid mwyaf
poblogaidd a feddai y Deheudir, ar gyfrif ei ddawn
pregethwrol a'i ddaliadau efengylaidd. Y mae ei
gorfî yn gorwedd yn y fynwent hon, er nad yw y
fan yn cael ei ddangos yn y darlun hwn.
COFLECH HOWELL HaRRIS YN EgLWYS TaL-
GARTH. Nid yw yn hysbys pa bryd y gosodwyd y
goflech hon i fyny. Tebygol iddi gael ei gosod yno
yn fuan wedi ei farwolaeth, gan y "teulu" yn
Nhrefecca. Y mae Mr. Theophilus Jones, yn ei
Histor;/ of Breconsìiire, a gyhoeddwyd yn 1809, yn
crybwyll am dani, er mai cyfeiriad anmharchus
ddigon a geir ati yn ei lyfr ef. Y mae yr hanesydd
tra-eglwysig hwnw yn achwyn ar eiriad y coffadwr-
iaeth sydd ar y goflech, ac yn anfoddlawn, debygid,
fod y geiriau "a hunodd yn yr lesu " wedi eu
harfer i ddynodi ei ymadawiad ef. Tra ddyrchefir
ei frodyr ganddo ar draul ei ddarostwng ef. Prin
y mae yn bosibl i gulni yspryd fyned yn mhellach
na hyn. Adnewyddwyd Eglwys Talgarth yn fawr
yn y blynyddau 1874-5, ac o herwydd rhyw resymau
nad ydynt yn hysbys i ni, fe dynwyd y goflech
ymaith oddiar fur gogleddol yr eglwys, lle yr
ydoedd wedi bod am gynifer o flynyddau ; ac y
mae rhan o honi — a dim ond i'han yn unig — yn
awr wedi ei gosod mewn modd digon anmharchus
yn erbyn y mur, ar un o ystlysau yr eglwys. Y
mae yn anhawdd peidio ymholi paham na buasai
yr awdurdodau oedd yn gyfrifol am adgyweiriad yr
eglwys, yn ail-osod y goflech ? Nis gellir dweyd ei
bod yn anhardd ac anolygus, o herwydd y mae y
darlun o honi sydd ar tudalen 107 yn dangos yn
wahanol. Hwyrach y gallasai ei fod yn angen-
rheidiol iddi gael ei symud o'r fan yr ydoedd wedi
bod er amser marwolaeth Howell Harris, ond pa
gyfrif sydd am nad ail-adei'adwyd hi yn ei cliyfan-
rwydd mewn rhyw gwr arall o'r eglwys ? Nid
ydym yn ystyried ein bod yn gwybod digon o'r
amgylchiadau i ateb y gofynion hyn, ond yn sicr,
yr ydym yn credu y dylai fod gan awdurdodau
Eglwys Talgarth atebion da iddynt. Howell
Harris yn ddiau oedd y mwyaf ymlyngar wrth yr
Eglwys Sefydledig o'r oU o'r Tadau, ac y mae ei
goffadwriaeth yn haeddu pob parcliedigaetli oddiar
ei llaw hi. Gan Mr. D. Grant, o Lanfair-yn-muallt,
y cymerwyd y darlun gwreiddiol.
Coflech Howell Harris yn y' Capel
Coffadwriaethol. Y mae y maen coffadwriaethol
hwn yn un destlus a da. Gwnaed y medallion gan
Älr. William Davies (Mynorydd), Llundain, ac y
mae yn waith celfyddgar a gorchestol. Y geiriau
a gerfiwyd arni ydynt fel y canlyn : — " This Chapcl
toas erected in memorij of Hoîuell Harris : born at
Trevecca, Januarij 23rd, 1714 : died July 21st,
1773. He luas interred near the Cominunion Table
in Talgarth Church. His poioerfîd preaching was
blessed of God, to the conuersion of many souls, and
tlie revival of religion in all parts of Wales."
Rhodd cyfeillion Llundain ydyw, a chostiodd £32.
Llyfrgell Trefecca, yncíhyd a Phwlpüd
A Chadair Dderw Howell Harris. Gesid y
dai'lun hwn ger ein bron olygfa ar un o ystafell-
oedd Llyfrgell yr Athrofa. Y mae y pwlpud a'r
gadair wedi eu symud o'u Ileoedd priodol, fel ag i
ymddangos yn y darlun. Y mae y pwlpud yn
egluro ei hun. Cadair dderw gerfiedig ydyw y
gadair hon, ac y mae y flwyddyn 1634 wedi ei
cherfio arni, felly gwelir fod y gadair yn meddiant
y teulu, lawn bedwar ugain mlynedd cyn geni
Howell Harris.
Golygfa Fe wnol ar y Capel Coffadwriaethol.
Rhydd y darlun hwn syniad cywir am sefyllfa
y pwlpud a'r goflech. Gwelir j'nddo y bwrdd a'r
ddwy gadair freichiau, rhodd cyfeillion Dolgellau,
gwerth k,2ò. Y mae eiddo gwerthfawr eraill yn y
capel hwn, ar nas gallesid eu cael i fewn i'r
darlun, megys y llestri arian at wasanaeth y
cymun, gwerth £52, a gyflwynwyd gan gyfeill;on o
Liverpool ; ynghyd ag awrlais ardderchog, gwerth
£25, sydd yn i'hodd cyfeillion o Ddinbych, &c.
Llawysgrif Howell Harris. Gwelir fod y
llythyr hwn wedi ei ysgrifenu yn eglur, ac yn gwbl
anhebyg i'w lawysgrif yn y dydd-Iyfr, yr hwn sydd
yn hynod o aneglur, ac yn Ilawn talfyriadau.
Gosodir tudalen o'r dydd-lyfr i fewn eto. Y mae
nodiad ar gef n y llythyr hwn yn darllen fel hyn : —
" Letter sent, 1756, to tlie 4 brethren gone to the
Army." Nid yw yn hysbys pwy oeddynt. Mae y
gwreiddiol yn ngadw yn Athrofa Trefecca, a chopi-
wyd ef gan Mr. O.M.Edwards, M.A., Rhydychain,
yr hwn sydd yn arlunydd medrus, yn gystal ag yn
llenor gwych.
-^
PENOD VI.
H O W E L L D A V I E S.
Ei hanes dechreuol yn anhysbys — O dan addysg Grijffith Jones* — Yn guwrad Llysyfran — Ei
henodiad i fod yn gtmrad Llanddowror — Eghvys Prcndergast, a chysylltiad Howell Davies a
hi — Yn dyfodyn iin o ariiieimvyr y Methodistiaid — Penfro yn brif faes ei la/ur — Ei briodas
— Ei lafur ìnawr gyda'r diwygiad — Adeiladu y Tabernacl yn Hwlffordd — Capel Woodstoch,
gîe/einyddu y sacramentau yno — Adeiladu capcl newydd — Ei nodweddion — Ei farwolacth a'i
trladdedigaeth.
/R " Tadau Methodistaidd," y
Parchedig Howell Davies, Apostol
Penfro, yw yr un y gwyddis Ueiaf
o'i hanes. Nid ydym yn gwybod brodor
o ba le ydoedd ; beth oedd enwau, galwed-
igaeth, a sefyllfa gymdeithasol ei rieni ;
na dim o hanes ei faboed yntau. Braidd
nad yw fel Melchisedec gynt, " heb dad,
heb fam, heb achau ; " yr ydym yn ei
gyfarfod am y tro cyntaf yn ysgol
athrawol y Parch. Griffith Jones, Llan-
ddowror, mor sydyn a phe y disgynasai
yno o'r cwmwl. Yn mhenawd y farwnad a
gyfansoddwyd iddo gan WilHams, Panty-
celyn, hysbysir ni iddo farw yn y flwyddyn
1770, yn 53 mlwydd oed. Yn ol y cyfrif
hwn cafodd ei eni yn 1717 ; ac yr oedd yr
un oed a Wilhams, dair blwydd yn iau
na Howell Harris, a phedair blwydd yn
iau na Daniel Rowland. Ymddengys mai
o Sir Fynwy yr hanai. Ein hawdurdod
ar hyn yw ysgrif sydd yn bresenol ar gael
o eiddo Lawrence Torstanson Nyberg,
gweinidog cyntaf yr eglwys Forafaidd yn
Hwlffordd. Gweinidogaethai efe yn Hwl-
ffordd o Mehefìn 24, 1763, hyd Awst 23,
1768 ; yn ystod yr amser hwn rhaid ei fod
yn dra chydnabyddus a Mr. Davies, yr
hwn oedd y gweinidog mwyaf ei barch a'r
uchaf ei safle gymdeithasol a feddai y
dref; ac felly yr oedd mewn mantais i
wybod. Dywed traddodiad y disgynai
Howell Davies o deulu parchus, a'i fod
yntau er yn ieuanc wedi dadblygu cyn-
heddfau meddyliol cryfion, ac yn dra
awyddus am ddysg. Yn ysgol athrawol
Griffith Jones gwnaeth gynydd cyflym ;
daeth yn ysgolhaig gwych mewn Lladin
ac mewn Groeg ; a thueddai ei feddwl yn
gryf at y weinidogaeth yn yr Eglwys
Sefydledig. Eiddil o iechyd ydoedd er yn
blentyn ; cryfhaodd i raddau gwedi tyfu i
oedran, ond ni feddianodd o gwbl gyfan-
soddiad cadarn ei gydlafurwyr, sef Daniel
Rowland, Howell Harris, a WiUiam
WilHams. Dywedir yn mhellach ei fod
yn naturiol o duedd ddifrifol, ac iddo gael
ei ddwyn dan awdurdod y gwirionedd
trwy weinidogaeth Griffith Jones, ei
athraw. Felly, nid yw yn debyg iddo
deimlo yr ing a'r loes a brofwyd gan
Rowland a Harris; ni fu yn crynu wrth
droed Sinai yn gwrando ar y taranau ; ni
chafodd ei ysgwyd uwchben y trueni
bythol ; yn hytrach ei brofiad ydoedd —
" Fe'm denodd i yn ddirgel iawn,
A djjtaw ar ei ôl."
Beth bynag am ddull ei argyhoeddiad,
cafodd Howell Davies grefydd ddiamheuol.
Gwedi hyn yr oedd yn fwy tueddol ei feddwl
at weinidogaeth yr efengyl, a diau ei fod
yn cael pob cefnogaeth gan ei athraw.
Efe oedd hoff" ddisgybl Griffith Jones, a'r
diwrnod yr oedd Howell yn caél ei ordeinio,
gofynai yr offeiriad hybarch i'r gynulleidfa
yn Llanddowror offrymu ei gweddi i'r
nefoedd ar ei ran. Yn sicr, gwrandawyd
y weddi hon yn helaeth. I guradiaeth
Llys Bran, neu fel y gelwir y lle ar lafar
gwlad, Llysyfran, y cafodd ei benodi. Yn
rhyfedd iawn, nid oes unrhyw gofnodiad
o'i urddiad fel diacon ar gael yn llyfrau
* Yr ydym yn ddyledus am lawer iawn o gynwys
yr ysgrif hon i'r Parch. E. Meyler, Hwlífordd,
yr íiwn ni arbedodd boen na thrafíerth i geisio
dod o hyd i fíeithiau ; a'r hwn yn ogystal sydd
yn edmygydd mawr o Howell Davies.
HOWELL DAYIES.
A gyhoeddu-yä gan Carrington Bowles, 69, St. rauVs CJmrchtjard, Llnndain,
Maiürth 30ain, 1773.
HOWELL DAYIES.
129
esgobaeth Tyddewi. Bu y Parch. E.
Meyler yn chwiho yn fanwl, a chafodd
fod cofrestriad yr ordeiniad wedi cael ei
esgeuluso yn holloL Dengys hyn mor
ddiofal ac afler y cedwid cofnodau eglwysig
yr adeg hono, ac nas gelhr tynu unrhyw
gasghad diamheuol oddiwrth eu dystaw-
rwydd parthed unrhyw amgylchiad. Nid
oes unrhyw gyfeiriad ato ychwaith ar lyfr
cofrestriad Llysyfran; cafodd Mr. Meyler
fod dalen o'r hyfr a berthyn i'r adeg hon
wedi ei rhwygo aUan. Nid anhebyg mai
un o'r clerigwyr dilynol a wnaeth hyny,
barth Penfro, ar unwaith yn gyrchfa
cynuheidfaoedd aruthrol ; aeth yr eglwys
yn rhy fechan i ddal y gwrandawyr ; ym-
dywaUtai y gwlaw nefol i lawr yn gaw-
odydd bendigedig, fel yn Llangeitho ; a
chafodd llawer eu troi at yr Arglwydd.
Gan mai yn 1740 y cychwynodd, nid
cywir y sylw yn Methodistiacth Cymru, ei
fod yn mysg y rhai blaenaf yn y diwygiad
Methodistaidd yn Nghymru, o ran amser
yn gystal ag o ran enwogrwydd. Yr oedd
Daniel Rowland a Howell Harris ar y
maes agos i bum' mlynedd o'i flaen.
EüLWYS LLYS-BBAN (NEU L.LYSYFBAN), SIU BENFUO.
[I''eí i/r ijmddangomi yn amser Howcll Dauiea.]
iel na chaffai dim perthynol i'r Meth-
odist enwog aros ar gof a chadw mewn
llyfr mor gysegredig. Ond iddo fod
yn guwrad Llysyfran sydd sicr ; profir
y fifaith gan dystiolaeth Uiaws a'i clybu
yno yn efengylu, ac a dderbyniasant
les ysprydol trwyddo. Rywbryd tua
dechreu y flwyddyn 1740 y cychwynodd
ar ei waith gweinidogaethol, a dech-
reuodd yn ddioedi daranu yn ofnadwy yn
erbyn annuwioldeb y wlad, nes yr oedd
gweithredwyr anwiredd yn arswydo yn ei
bresenoldeb. Daeth y Uanerch dawel, a
orwedda fel yn mreichiau cwsg yn nghanol-
Rhan IIL
Gwir nad yw pum' mlynedd yn amser
mawr ; ond ar adeg o gyffro fel osdd yn
berwi Cymru y pryd hwnw, pan y bydd
digwyddiadau yn canlyn eu gilydd yn gyf-
lym, ac effeithiau dwfn ac arosol yn cael eu
cynyrchu mewn cyfnod byr, y mae pum'
mlynedd yn gryn amser. Yr oedd Rowland
a Harris wedi teithio rhanau helaeth o'r
Deheudir, a rhyw gymaint o'r Gogledd,
cyn iddo ef ddyfod a'i gryman i'r maes.
Ond yr oedd agos ysgwydd yn ysgwydd
a'r ddau Ddiwygiwr mewn enwogrwydd, a
gaUu gweinidogaethoL Ac y mae yn
sicr iddo ddechreu ar ei lafur yn annibynol
K
I30
Y TADAU METHODISTAIDD.
A^'ìi
ì k
KGLWYS ST. DANIEL ,S, GER PENFEO.
arnynt ; nid dyfod allan yn gynorthwywr
i'r un o'r ddau a wnaeth ; yr oedd yn
gychwynydd, a hollol briodol ei gyfenwi
yn dad Methodistiaeth Sir Benfro. An-
wiredd i'w gospi gan farnwyr fyddai
ceisio ei osod ar safle îs. Pan y cyfar-
fyddodd a Howell Harris yn Hwlffordd,
gwanwyn 1740, y mae yn dra thebyg ei
fod wedi ei ordeinio, ac wedi dechreu tynu
tyrfaoedd i Lysyfran ; a chyfeiria Harris
ato yn ei ddydd-Ìyfr gyda pharch.
Nid hir y bu Howell Davies yn gweini-
dogaethu yn Llysyfran ; tuag wyth mis
o bellaf a fu tymor ei arosiad ; aeth ei
weinidogaeth danllyd, efifro, yn annyoddefol
i rai o'r plwyfohon cysglyd, a llwyddwyd
i'w yru ymaith. Cawn ef yn cael ei
ordeinio yn offeiriad gan Dr. Nicholas
Claget, Ésgob Tyddewi, Awst 3, 1740,
a'i drwyddedu i guwradiaeth Llanddowror,
a Llandeilo-Aber'cowin, dan yr Hybarch
Griffith Jones. Ond ni chyfnewidiodd o
ran natur ei weinidogaeth ; ni phallodd a
rhybuddio yr annuwiol ; ac ni pheidiodd
y bendithion dwyfol a disgyn i lawr
trwyddo. O hyn allan ystyrir ef yn
perthyn i'r Methodistiaid, ac yn arweinydd
yn eu mysg. Diau mai un o amcanion
Howell Harris wrth ymweled a Sir Benfro,
Rhagfyr, 1742, rhyw bythefnos o flaen y
Gymdeithasfa yn Watford, oedd ym-
gynghori a'i gyfaill yn yr efengyl gyda
golwg ar y trefniadau y bwriedid eu
gwneyd. A chawn fod y ddau yn cyd-
weled yn hollol. Er mai yn Sir Gaer-
fyrddin yr oedd cysyfltiadau eglwysig
Howell Davies, eto Penfro oedd prif faes
ei lafur. Teithiodd y sir o gwr i gwr ;
pregethai yn y tai ffermydd ac ar y maes
cyn adeiladu capelau, am y gwarafunid yr
eghyys iddo mewn aml i fan, a sefydlodd
Haws o seiadau bychain. Er i ymweliadau
Harris a Rowland beri cyfFro dirfawr, a
chynyrchu daioni anarferol, eto, trwy lafur
HoweU Davies yr efengyleiddiwyd y sir,
ac y darostyngwyd hi i grefydd. Ym-
ddengys fod ei ddoniau yn nodedjg o felus.
Cyfeiria Harris ato yn ei lythyrau yn
barhaus fel yn rhagori mewn nertn a
swyn. Dywed, mewn flythyr at White-
field, wedi ei ysgrifenu o Milford, tua
diwedd y flwyddyn 1743:* "Yddau Sul
diweddaf gwrandewais efallai y ddau ud-
gorn mwyaf croch a fedd y genedl ; sef y
brawd Rowland, a'r brawd Davies. Yr
oedd y goleuni, y gallu, a'r ddoethineb
ddwyfol i glwyfo a meddyginiaethu, ac i
ddatguddio yr Arglwydd lesu Grist, y
fath, fel na fedr geiriau gyflwyno unrhyw
syniad cywir gyda golwg arno." Mewn
* Weehly History.
HOWELL DAYIES.
131
llythyr at ei frawd yn Llundain o Fishgate,
yn Mhenfro, dywed :"-^ " Rhyfeddol yw yr
hanes wyf yn glywed am y gallu sydd yn
cydfyned â gweinidogaeth y brawd Howell
Davies ; yn fwyaf neillduol yn mysg y
Saeson (y mae haner y wlad hon yn Saes-
nig). Y mae nerth anarferol hefyd yn y
cymdeithasau yma, fel yn aml pan fyddont
yn myned i geisio bendith ar eu pryd
bwyd, disgyna yspryd gweddi ar amryw o
honynt yn olynol, fel y cedwir hwy wrth
orsedd gras am agos i dair awr. Y mae
llawer yn cael eu swyno gymaint gan
ddifynu Uiaws o ymadroddion cyffelyb, a
frithant Iythyrau Howell Harris, yn
dangos mor aruchel oedd gweinidogaeth
Apostol Penfro, a'r modd y bendithiai
Duw ei weinidogaeth.
Nid oedd yn bresenol yn Nghymdeithasfa
gyntaf Watford. Efallai mai y rheswm
oedd, ddarfod iddo fynegu ei holl feddwl
ar y gwahanol bethau i Harris, fel nad
ystyriaifod eisiau iddo yn ganlynolgymeryd
taith mor bell. Ond yr oedd hefyd yn wan-
llyd o ran coríf, a chyfrifa hyny am ei absen-
oldeb o amryw o'r Cyradeithasfaoedd, ac am
,ll; i;1':m 1;
gariad Crist Avrth ganu, nes y maent yn
Ilewygu."! Yn mis Mawrth, 1743, ysgrif-
ena at eglwys y Tabernacl, yn Llundain :
" Bum y Sul diweddaf mewn un arall o eg-
Iwysydd y I)rawd Davies yn y sir hon, a
gwnaed ef yn ddiwrnod o ogoniant mwy
na'r Sul blaenorol. Credaf fod y gynull-
eidfa o ddeg i ddeuddeg mil. Nis gall iaith
fynegu fel y mae yn bendithio y brawd
Rowland yn Sir Aberteifi, a'r brawd
Howell Davies yn y sir hon." Gallem
Weehly History.
t Ibid.
fod ei lafur yn gyfyngedig i gylch cymharol
fychan. Yn y trefniadau a wnaed gyda
golwg ar y gwahanol siroedd yn y Gym-
deithasfa, rhoddwyd Penfro oll dan ofal
Howell Davies, ac efe, os yn bresenol,
oedd i fod yn gadeirydd y Gymdeithasfa
Fisol. Ar yr un pryd, yr ydym yn ei gael
mewn amryw o'r Cymdeithasfaoedd a'r
Cyfarfodydd Misol cyntaf. Yr oedd yn
Nghymdeithasfa Fisol Gelliglyd, Mai i,
1743 ; yn Nghymdeithasfa Fisol Long-
house, Mehefin 8, 1743 ; ac yn Nghym-
deithasfa Trefecca, Mehefin 29, 30, 1743.
K 2
13^
y TADAU METHODISrAIDD.
Bu niewn Cymdeitbasfa Chwarterol yn
yr un lle hefyd yn 1744. Cawn ef yn
llywyddu yn Nghymdeithasfa Fisol Llan-
gwg, neu yn hytrach Llangwm, yn Sir
Benfro, pan yr oedd John Sparks, George
Gambold, a WiUiam Gambold, yn ym-
geiswyr am y swydd o gynghorwyr. Yr
oedd y ddau Gambold yn frodorion o
Gasmal, er ar y pryd yn trigianu yn
Hwlffordd, ac yn berthynasau agos i John
Gambold, yr esgob Morafaidd, ac un o
Fethodistiaid Rhydychain. Yn nghof-
nodau y Gymdeithasfa Fisol uchod ceir a
ganlyn : " Éin bod yn cymeradwyo ac yn
derbyn George Gambold fel cynghorwr,
a'i fod i fyned oddiamgylch gymaint ag a
all, gyda chymeryd gofal am ei nain."
Ceir yma hefyd enw yr enwog WilHam
Edwards, Rhydygele, a gosodir ef dan
ofal Mr. Howell Davies, y cymedrolwr, i
gael ei dderbyn i gymundeb, ac i fyned
dan arhoHad, cyn y caffai ei ystyried
yn gynghorwr. Rhoddir caniatad hefyd
i John Sparks arfer ei ddawn dan arol-
ygiaeth Howell Davies. Efe a lywyddai
yn Nghymdeithasfa Fisol Hwlffordd, lon-
awr 28, 1745, er fod Howeh Harris yn
bresenol fei arolygydd cyffredinol. Daethai.
amryw gynghorwyr anghyoedd yno, a thri
o rai cyhoedd, sef John Harris, am yr
hwn y cawn son eto, W^iHiam Richard,
a Thomas Meyler. Gwelir, feUy, fod
Howell Davies yn gwneyd gwaith pwysig
ynglyn a threfniadau y diwygiad yn
Sir Benfro.
Tref Hwlffordd oedd canolbwynt ei
lafur, ac eglwys Prendergast, neu fel ei
gelwir gan y trigoHon, Prengast, oedd un
o'r Heoedd yn mha rai y gweinidogaethai.
Anhawdd deall natur ei gysylltiad a'r
eglwys hon. Gelwir ef weithiau yn
" Rheithor Prengast ; " ond nid yw yn
ymddangos iddo fod yma, nac fel rheithor
na chuwrad. ■•'- Y mae llyfr cofrestriad yr
eglwys ar gael yn awr yn gyfan, ac yn
cyrhaedd mor bell yn ol a dyddiau Ohver
Cromwell, ond ni cheir ynddo ddim i ddang-
os ddarfod i Howell Davies fod mewn
cysylltiad a'r lle o gwbl. Ond y mae yn
sicr iddo fod yma yn gweinidogaethu, ac
yn gweinyddu y cymun am flynyddoedd, a
hyny gyda chysondeb, cyn fod gan y
Methodistiaid un capel yn y rhan hon o'r
wlad. Tref Hwlffordd yw canolbwynt
Penfro ; yma y cyrchai y bobl i"r march-
nadoedd ac i'r ffeiriau o'r ardaU^edd
* Ysgrif y Pai-jb. E. Meyler.
amaethyddol ; yr oedd pobl Llysyfran
yn neihduol a'u ffordd trwy Prengast ;
feUy daeth yr eglwys, trwy swyn a nerth
gweinidogaelii yr hwn a efengyhii yno, yn
gyrchfa pobloedd. Ymgynullai tyrfaoedd
aruthrol i wrando. Prengast oedd y
nesaf at Langeitho parthed IHosogrwydd
cynulleidfaoedd, ac nid annhebyg oedd y
dylanwadau nerthol a ddisgynent yn y
ddau le. Pregethai hefyd, a gweinyddai
y sacrament, yn St. Daniel, yn Nghastell
Martin, ac yn Mounton, ger Narberth,
lleoedd a berthynant i'r rhan Saesnig o'r
sir. Rhwng y tri He rhifai ei gymunwyr
dros ddwy hl ; llenwid yr eglwysydd
drosodd a throsodd gan ddynion awchus
am gofìo angau'r groes.
Tua'r flwyddyn 1744 yr ydym yn ei
gael yn myned i'r ystâd briodasol. Nid
heb bryder y darfu iddo newid ei sefyhfa ;
bu yn gofyn cyngor ar y mater i HoweU
Harris, ac y mae ei lythyr ef mewn
atebiad wedi ei argrafifu. Yr oedd Harris
mewn ystâd meddwl addas i gydymdeimlo
ag ef, gan ei fod yntau ei hun ar fedr
priodi. Y mae y llythyr yn un tra difrifol;
dywed fod enw Mr. Davies mor gyhoeddus,
a'r achos o gymaint pwys, fel yr oedd
perygl iddo gamgymeryd serchiadau yn !Ie
datguddiad oddiwrth Dduw. Nid oes
ganddo ddim yn erbyn y ferch ieuanc ;
geilw hi " yr anwyl chwaer C ," yr liyn
a brawf yr adwaenai hi fel dynes ieuanc
dduwiol, a diwedda trwy geisio ganddi
ddyfod i Gapel Ifan i'w gyfarfod, fel y
caffai wybod ystâd ei meddwl yn fanylach.
Trodd yr ymddiddan allan yn ffafriol, a
phriododd Howell Davies. Haedda ei
gymhares ychydig o sylw. Ei henw
morwynol oedd Catherine Poyer, ac yr
oedd yn ferch i John Poyer, Ysw., yr hwn
oedd o haniad Ncrmanaidd, ac yn perthyn
i un o'r teuhioedd mwyaf pendeíigaidd yn
Sir Benfro. Un o'r teulu hẅn, John
Poyer wrth ei enw, a lywodraethai gastell
Penfro yn amser 01iver Cromwell, ac
ymddengys iddo amddiffyn y lle yn erbyn
Ihioedd OHver gyda dewrder a medr
arbenig. Dygasid Catherine Poyer i fynu
mewn palasdy tlws, a pha un y mae stâd
yn gysylltiedig, o'r enw Parke, ar aelwyd
ei thaid a'i hain o du ei mam, sef Griffìth
a Catherine Twyning. Yma y daeth tan
argraffiadau crefyddol, a hyny, yn ol pob
tebyg, wrth wrando ar Howell Davies.
Ond yr oedd crefydd, o ryw fath, beth
bynag, yn nheulu Twyning. Yr oedd
offeiriad o'r enw Griífith Twyning yn ficer
IIOWELL DAYIES.
133
Walton, y plwyf agosaf at Llysyfran, yn
y flwyddyn 1747, ac y mie sail i gasglu
mai efe oedd olynydd Howell Davies yn
nghuwradiaeth Llysyfran. Cawn ferch i'r
ficer hwn, o'r enw Mrs. Scourfield, yr hon
a breswyhai yn Pwllhoolí, yn perthyn i'r
INIethodistiaid yn amser y Parch. I)avid
Jones, Llangan. Y mae sail i gredu fod
fíowell Harris a Daniel Rowland, yn
g)'stal a Howell Davies, yn ymwehíd a'r
Parke yn fynych ar eu teithiau ; a'r tebyg-
olrwydd yw fod Catherine wedi cyfranogi
yn helaeth o yspryd y diwygiad. Cyn ei
phriodas yr oedd ei thaid a'i nain wedi
marw ; felly, perchenogai hi yr etifedd-
iaetli a adawsid ganddynt ; ac yn rhinwedd
yr undeb hwn daeth Howell Davies ar
unwaith yn ŵr o gyfoeth. Eithr ni fu
gohid yn achlysur iddo laesu dwylaw
gyda'r efengyl ; llafuriai gyda'r un awydd-
fryd ac ymroddiad ag o'r blaen, a diameu
iddo gael pob cefnogaeth i hyn gan ei
briod. Nid hir, pa fodd bynag, y parhaodd
pethau yn ddysglaer yn y Parlce ; daeth
angau i mewn i'r palasdy tlws, gan gym-
eryd ymaith ddymuniad llygaid Mr. Davies.
Bu farw ar enedigaeth baban, ei chyntaf-
anedig ; a chyn i'r eneth fechan gyrhaedd
dwy flwydd oed, cafodd hithau ei rhifo
i'r bedd, a gadawyd Howell Davies wrtho
ei hun.
Yn mhen amser, priododd drachefn a
Miss Luce Phillips, merch Mr. Hugh
PhiUips, boneddwr cyfoethog o'r un ardal ;
a chan i'r gweddill o blant Hugh Philhps
farw heb hihogaeth, daeth yr holi eiddo
yn feddiant i Mr. Davies. Yr osdd hi yn
ddynes nodedig o brydweddol, ac heblaw
bod yn enwog am ei doethineb a'i chrefydd,
yr oedd yn gantores dda. Meddai Mr.
Davies, hefyd, ddawn canu rhagorol, a
cheir y dalent yn nheulu y Parke hyd y
dydd hwn. Mewn canlyniad i'r briodas
hon daeth Howell Davies yn berchen dau
gartref, sef y Parke, a thŷ ei wraig yn
Prengast ; preswyliai yn y ddau fel y
byddai cyfleustra yn rhoi. Nid dibrofedig-
aeth a fu ei yrfa er hyny ; bu farw ei unig
fab, Howell, yn y flwyddyn 1749, ac efe yn
saith mis 03d. Ond ganwyd iddo ferch,
ssf Margaret, yr hon wedi hyny a ddaeth
yn wraig i'r Parch. Nathaniel Rowland ;
ac y mae eu hiliogaeth hwy yn preswyho
yn y Parke hyd y dydd heddyw.
Parhau i lafurio a wnaeth Howell
Davies, a pharhaodd y nefoedd i fendithio
ei waith. Yndedodd y diwygiad trwy Sir
Benfro oll, yn arbenig yn y canolbarth, ac
yn nhref Hwlffbrdd. Tua 1748, symudodd
i ddarpar lle i'r dde idell yn Hwlffordd i
addoli, a gahvyd yr adeilad yn " Ystafell y
Tabernacl," gan ganlyn Whitefield, yr
hwn oedd wedi galw ei biball ef yn y
Moorfields, Llundain, yn " Tabarnacl."
Yn cynorthwyo Howell Davies gyda hyn
yr oedd y cynghorwr John Sparks, at ba
un y cyfeirir yn nghofnodau Cymdeithasfa
Fisol LLangwm. Cawsai John Sparks ei
eni yn y flwyddyn 1726; brodor o Hwl-
fifordd ydoedd ; profodd argyho^ddiad dwfn
pan yn ieuanc, a chedwid gwasanaeth
crefyddol yn nhŷ ei rieni, yn yr hwn y
cyin^írai ef ran. Yr oedd yn l)regathwr
d 1, ac yn ddiamheuol dduwiol. Yn yr
ymraniad rhwng Rowland a Harris, glyn-
odd John Sparks wrth y diweddaf. Dar-
Ilenwn am dano droiau yn pregethu yn
Nghymdeithasfaoedd plaid Harris, a dy-
wedir ei fod yn Uefaru gydag arddeliad
anghyffredin. Ond yn 1751, gadawodd y
Methodistiaid, ac ymunodd a'r eglwys For-
afaidd. Yr oedd achos crefyddol cryf wedi
cael ei sefydlu hefyd yn Woodstock, trwy
offerynoliaeth Howell Davies; adeiladwyd
capel yma yn y flwyddyn 1754, agorwyd ef
yn y flwyddyn ganlynol, pan y pregethodd
Whitefield, ac y gweinyddodd sacrament
swper yr Arglwydd. Tybir mai dyma y tro
cyntaf i'r ordinhad gael ei gweinyddu mewn
adeiiad heb ei gysegru, gan offeiriad Meth-
odistaidd, a phrawf yr amgylchiad fod
Howell Davies yn meddu cryn feiddgarwch
meddwl, a'i fod wedi ymrhyddau oddi-
wrth Iyfetheiriau yr Eglwys Wladol o
flaen ei holl gyd-ddiwygwyr. Ar yr un
pryd, yr oadd Howell Harris a Whitefield,
mewn undeb a Methodistiaid Lloegr, wedi
dyfod i benderfyniad mor foreu a 1743, i
weinydda y cymundeb yn y seiadau pan
y gwrthodid y fraintr iddynt yn eu heglwys-
ydd plwyfol, a chawsai hyn ei anfon mewn
llythyr at Howell Davies. Bu yr ordin-
hadau, sef bedydd a swper yr Arglwydd,
yn cael eu gweinyddu gyda chysondeb yn
Woodstock am 56 o flynyddoedd cyn y
neillduad yn 181 1. Felly, mewn un ystyr,
Woodstock yw mam-eglwys y Cyfundeb.
Wrth gyfranu, defnyddiai Mr. Davies
was maeth yr Eglwys ; ond yn aml torai
ar ei draws, gan lefaru am ddyoddefiadau
y Gwaredwr gyda nerth a melusder, a
orchfygai y rhai a ddaethent i gyfranogi.
]^u yn offerynol hefyd i godi addoldy yn
nghwr gogleddol Sir Benfro, a alwyd
Capel Newydd. Sefydlasid cymdeithas
grefyddol mor foreu a 1743 yn y Cerig
134
Y TADAU METHODISTAIDD.
Gwynion, lle heb fod yii nepell ; yn raddol,
yniranodd hon er mwyn cyfleustra, un
adran yn ymgyfarfod yn Llechryd, a'r
adran arall mewn fifermdy yn mhlwyf
Clydau, a elwid Hen Barciau. Pregethai
Howell Davies yn fynych yn y ddau le.
Gan ei fod yn ofì'eiriad urddedig, cai
bregethu yn eglwys Llechryd ; ond gan
hosoced y gynulleidfa, byddai raid iddo
fynychaf lefaru yn y fynwent. Am ysbaid
methid cael tir i adeiladu addoldy arno yn
yr Hen Barciau, er fod y ffermdai wedi
myned yn rhy fychain i"r cyfarfodydd ; o'r
Dechreuwyd gweinyddu yr ordinhadau yn
Capel Newydd ar unwaith, a bu yn enwog
fel yr unig le yn yr ardaloedd hyny ag yr
oedd y sacramentau yn cael eu harfer yn
mysg y Methodistiaid ; cyrchai tyrfaoedd
mawrion iddo, ac fel Woodstock, parhaodd
i fod yn lle i gymuno hyd nes y neiUduwyd
gweinidogion. Howell Davies fyddai yn
gweinyddu amlaf ; yn ei absenoldeb ef
cyfrenid gan Daniel Rowland, neu ei fab,
Nathaniel Rowland ; neu ynte, Davies,
Castellnedd ; Jones, Llangan ; neu Wilhams,
Lledrod. Dywedir ddarfod i Howell
EGLWYS MOUNTON, GER NARBERTH, SIR BENFRO.
diwedd cafwyd tir gan Stephen Colby,
Ysw., cadben yn y llynges, gwraig yr
hwn a deimlai yn garedig at y Method-
istiaid. Howell Davies a benderfynodd
yr ysmotyn. Wrth deithio dros y bryn o
Lechryd i'r Hen Barciau, taflodd ei chwip
i ganol yr eithin mân, a dywedodd wrth
ei gyfeilhon : " Dyma y fan i'r capel."
Cafodd y capel hwn ei agor yn y flwyddyn
1763; pregethodd Mr. Davies ar yr ach-
lysur oddiar y geiriau : " Gad, Ihi a'i
gorfydd, ac yntau a orfydd o'r diwedd."
Harris, gwedi i archoUion yr ymraniad
iachau i raddau, bregethu yma amryw
weithiau. Yn Capel Newydd y pregethai
Daniel Rowland yn y flwyddyn 1773,
oddiar Heb iv. 15, pan y cynyrchwyd y
fath argraffìadau dyfnion ar feddwl Mr.
Charles o'r Bala ; argraffiadau na ddilewyd
mo honynt byth. Yma hefyd y pregethodd
Jones, Llangan, am y tro diweddaf, wrth
ddychwelyd o Langeitho.
Efallai na chafodd Mr. Davies gymaint
o'i erhd a rhai o'r Tadau ; yr oedd ei
HOWELL DAVIES.
135
CAPEL NEWYDD, SIR BENFEO.
sefyllfa fydol barchus, ynghyd a nodded
yr Hybarch Griffith Jones, yn gryn gysgod
iddo. Ond ni ddiangodd yntau heb i'r
ystorm ruthro arno. Mewn llythyr o
eiddo Howell Harris ato, dyddiedig Medi
7, 1743, ceir a ganlyn : " Byddai yn dda
genyf gael gwybod pa fodd yr ymdaraw-
soch yn Nghwrt yr Esgob ; efallai y
gallwn ymddiddan a rhywrai ynia (Llun-
dain) er cael cyfarwyddyd pa fodd i
weithredu. Ond credaf na wnant ddim.
Yn arbenig, os deallant eich bod chwi yn
gwybod nad oes gan eu llys ddim galíu,
a'ch bod chwithau yn benderfynol o appeHo
at y gyfraith wladol, a dwyn cwrs eu
hymddygiadau duon i oleuni. Hyn, mi a
gredaf, y w ein dyledswydd ; ond cadw ar
yr amddiffynol ; ac os cawn ein rhyddid,
bydded i ni yn ostyngedig a diolchgar ei
ddefnyddio." Nis gwyddom beth a ddaeth
o helynt Cwrt yr Esgob, ond sicr yw mai
yn ei flaen, heb droi ar y ddehau na'r aswy,
yr aeth gweinidog Crist, gan deimlo yr
erhd yn fraint, am mai dros ei Waredwr
y dyoddefai.
Apostol Penfro yn benaf oedd Howel!
Davies ; yr oedd ei apostoHaeth yn
gyfeiriedig yn Uawn cymaint at yr adran
Saesnig o'r sir a'r adran Gymraeg ; a
phregethai yn y naill iaith neu y Han fel y
byddai galwad. Gwnaed ef yn gwmwl
dyfradwy i lìenfro ; disgynodd y gwlaw
graslawn yn drwm ar yr hoU wlad trwy ei
weinidogaeth ; cafodd weled y ddaear yn
blaendarddu ac yn dwyn ffrwyth mewn
canlyniad, a'r hoU fro wedi ei darostwng i
raddau mawr i efengyl Crist. Ond er ei
fod yn fwy cartrefol na rhai o'i gyd-
ddiwygwyr, eto, teithiodd lawer ar hyd
Dê a Gogledd Cymru, ac hefyd yn nhref-
ydd Lloegr. Bu yn Llundain droiau ;
ymwelai yn ei dro a Bryste, ac a Bath,
ynghyd a threfydd eraiU, yn mha rai
y pregethai y Methodistiaid Saesnig, a
dywedir ei fod yn un o hoff bregethwyr
larUes Hrmtington. Yr oedd ef yn un o'r
rhai a gyfarfu a'r larlles yn Mryste, ac a
ffurfìent osgorddHi iddi pan yr ymwelodd
a'r Dywysogaeth yn y Uwyddyn 1748.
Dywedai yr Hybarch John Evans, o'r
Bala, iddo fod amryw weithiau yn y dref
hono. " Gŵr tirion a mwynaidd oedd
efe, a phregethwr eniUgar iawn," meddai
Mr. Evans gyda golwg arno. Yr oedd
HoweU Davies yn bresenol yn y Gym-
deithasfa gyntaf a gynhaHwyd yn y Bala.
Cawn ef yn ysgrifenu at HoweU Harris :
" Er y pryd yr ymadawsom o'r Gymanfa,
rhoddais dro trwy Sir Forganwg, a bu i
rai yn amser hyfryd iawn. Am danaf fy
1 3'>
Y TADAü METHODISTAIDD.
hun, yr wyf yn liiraethu ani fyned yno
drachefn yn fuan, canys diau fod I)u\v
gyda hwynt. O berthynas i fy myneíhad
i'r GoiLíledd, yr wyf yn meddwl y hydd yn
rhy boenus i mi, sydd o hyd yn Hesg ac
afìach ; ond, pa fodd bynag, yr wyf yn
penderfynu cynyg hyn}', pe y gorfyddai i
mi farw ar y fíbrdd." * Nid ychydig o
beth i ddyn gwanllyd fel Howell Davies
oedd anturio am daith i'r Gogledd yr adeg
hono. Yr oedd y ffyrdd yn ddrwg ac yn
fynyddig ; y lletÿau yn wael ac yn anaml ;
caredigion yr efengyl gan amlaf yn dlodion
eu cyflwr, ac yn ychydig eu rhif ; yr
addoldai yn wael, ac yn oerion, ac yn
mhell oddiwrth eu gilydd ; y rhagfarn yn
erbyn y Methodistiaid yn greulawn fel y
bedd ; y werin yn derfysglyd a dideimhul ;
a'r clerigwyr a'r gwyr mawr yn llawn Uid,
ac yn gwyho am gyfleustra i erhd a
baeddu y rhai a gyfrifid fel aflonyddwyr
y byd. Nid rhyfedd y dychrynai Mr.
Davies wrth feddwl am yr anturiaeth ;
ond penderfynai fyned, hyd yn nod pe y
tröai y daith yn angau iddo. Yr ydym yn
cael Wilhams, Pantycelyn, yn y farwnad
ardderchog a ganodd iddo, yn cyfeirio at
fawredd ei lafur a'i deithiau. Darlunia
ddau seraph, o'r enw Chw a Sirius, yn
adrodd hanes ei fywyd i'r angehon : —
" D'wedent i ni fel y teitliicdd,
Pan oedd yn ei iecliyd gynt,
Llynwy, Dinbycli, a Chaernarfon,
Môn, Meiricnydd, a Sir Flint ;
Fel cylioeddodd yr efengyl,
Gydag yspryd bywiog, rliydd,
O Lanandras i Dyddewi,
O Gaergybi i Gaerdydd.
D'wedent i ni fel y chwysodd
Fry yn Llundain boblog, lawn,
Wrth bregethu gair y deyrnas,
Weithiau foreu, weithiau nawn ;
Bryste, bithau, oer, derfysglyd,
Glywodd swn ei 'fengyl gref ;
Tide a thonau, llif a storom,
Gurodd ganwaith arno ef."
Y mae yn amlwg ei fod yn ciho yn ol
hyd byth ag y medrai oddiwrth gyhoedd-
usrwydd. Ysgrifena Howell Harris ato
Mawrth 7, 1744 : " Ni ddylai eich ofn i'ch
lUthyr gael ei gyhoeddi yn y WecMy
History beri i chwi beidio defnyddio eich
ysgrifell ; oblegyd ni wnawn hyny heb
eich caniatad. Ni wnaf erchi, fy mrawd ;
yn unig dywedaf fy marn am amcan y
papyr. Nis gwn paham na wnai y braw^d
Davies roddi ei enw yn mysg y rhai a
* Methodistiacth Cyniru.
lahuiant ynglyn ag ef, gan ddweyd yr hyn
sydd ganddo i'w fynegu am Iwyddiant yr
efengyL Yr wyf yn credu fod yr achos
mor agos at ei galon a neb, a'i fod yn
gwyboci cymaint trwy ei sylwadaeth, a
dyhmwad ei Aveinidogaeth a neb. Yr wyf
yn gwybüd ei fod yn eu caru (sef y cred-
inwyr), ei fod yn barod i gyd-gyfranogi
o'u dyoddefaint, gan y gwyr eu bod yn
llefaru yr un iaith, yn cael eu harwain
gan yr un Yspryd, yn ymladd dan yr un
faner, a'u bod yn cael eu cyfrif ynghyd
gan y gelynion. Ni ddyhai ofn clod ein
cadw rhag traethu yr hyn a wyddom,
mwy nag y dyLai awydd clod beri i ni ei
fynegu. Gwyr fy mrawd mai yr Arghvydd
sydd yn gwneyd y cwbl, nid nyni." Wedi
ei gerydchi yn dyner fel hyn am ei yswiL
dod a'i duedd at anghyoeddusrwydd, y
mae Mr. Harris yn myned yn mlaen i'w
gymheU i'r Gymcleithasfa dciilynol, mewn
duU sydd yn dangos y rhoddai bwys mawr
ar ei bresenoldeb. " Yr wyf yn gobeithio
y daw fy mrawd," meddai, " i gyfarfod
y brodyr yn y Fenni, dydd Mercher, yr
28ain. Gelhr llanw yr amser wrth fyned
a dychwelyd mewn pregethu yn Siroedd
Brycheiniog a Mynwy. Yr wyf yn fwy
taer, am yr ymdciengys nad yw y rheid-
rwydd o hyn yn pwyso ar galon ein brawd
i'r graddau ag y dylai. Bydded i ni
gymdeithasu mwy, fel y byddo i'n gelyn-
ion deimlo ein bod o ddifrif, ac fehy nas
gallant ddinystrio un, heb ddistrywio yr
olL Bydd y cwn bob amser yn gyru y
defaid yn glosach at eu gilydd."
Ymddengys mai Mr. Howell Davies a
fu yn ofFeryn dychweliad Mr. Bateman,
ficer St. Bartholomew Fwyaf, yn Llun-
dain, yr hwn, gwedi hyny, a ystyrid fel un
o'r rhai mwyaf efengylaidd yn y brif-
ddinas. Ymddengys fod gan Mr. Bateman
fywiohaeth fechan yn Sir Benfro. Un tro,
pan ar ymwehad achlysurol a'i , blwyf,
daeth i'w ran i bregethu yn un o'r eglwys-
ydd yn mha rai y gweinyddai Howell
Davies. Yr oedd Mr. Bateman y pryd
hwnw heb ei argyhoeddi ; ac yr oedd ei
bregeth yn Ilawn o gyhuddiadau enllibaidd
yn erbyn y Methodistiaid ; rhybuddiai ei
wrandawyr, er mwyn eu heneidiau, i'w
gochel. Gwedi y bregeth, syrthiodd arno
ryw brudd-der yspryd, nas gallai roddi
cyfrif am dano ; ni fedrai na chysgu na
bwyta ; ac nis gallai fwynhau y gyfeillach
anghrefyddol, yn yr hon yr ymhyfrydai
yn flaenorol. Aeth i wrando Howell
Dayies, a hyny i'r un eglwys ag y buasai
HOWELL DAVIES.
137
yn ei wawdio ef a'i ganlynwyr ; teinilodd
y Gair fel " picell yn trywanu ei afu ; " ei
bechodau bellach a'i llethent ; aethant
dros ei ben, yr oeddynt yn faich rhy drwm
iddo eu dwyn. Bu am fìs o amser cyn
cael heddwch i'w enaid. Eithr gwedi
hyny bu yn fendithiol i lawer yn Nghymru
ac yn Lhnidain.
Y mae yn ddiau fod Howell Davies yn
bregethwr nerthol dros ben. Nid oedd,
yn nghyfrif yr hen bobl, yn ail i neb ond i
Rowland ei hun. Pa le bynag y pregethai,
ai mewn tỳ anedd, neu ysgubor, ynte
mewn addoidy eang yn Mhryste neu
Lundain, enillai sylw ei wrandawyr ar
unwaith. Darllenai neu adroddai benill
neu emyn ; yna arweiniai y canu ei hun
gyda y llais clir, Ilawn peroriaeth, a
feddai ; a chydunai y gynulleidfa mewn
mawl i Arglwydd yr holl ddaear. Yn y
weddi arweiniol byddai yn nodedig o
afaelgar ; medrai ymddyrchafu hyd at y
Presenoldeb Dwyfol, a thynu y nefoedd
i'r Ile ; yn ei daerni gerbron yr orsedd
ail-adroddai yr un dymuniad drosodd a
throsodd, fel pe yn methu gollwng ei afael
arno. Yr oedd y gynuíleidfa wedi ei
nawseiddio yn hyfryd ganddo, erbyn ei
fod yn myned i bregethu ; ac yr oedd
rhyw nefoleidd-dra yn ei ymddangosiad yn
tueddu i'w ffafr, ac fel yn cynyrchu cariad
ac ofn ar yr un pryd. Darllenai ei destun
yn hyglyw, a chyda melodedd sain o'r
fath fwyaf dymunol. Am ychydig Ilefara
yn araf, gan esbonio yr adnod a'u chysyllt-
iadau. Ond yn fuan, dyna ei yspryd yn
gwresogi o'i fewn ; y mae yn dyrchafu ei
lais fel udgorn arian, nes y mae cyrau
pellaf y dorf yn gwladeiddio ger ei fron.
Anela saethau Ilymion at ei wrandawyr,
ac y mae pob brawddeg yn clwyfo. Erbyn
hyn y mae yno le difrifol mewn gwir-
ionedd. Clywir canoedd yn ocheneidio ac
yn gruddfan ; aeth y gfaig gallestr yn Ilyn
dwfr ; gwelir y dagrau yn llifo yn hidl ac
yn gyffredinol ; nid oes yr un rudd sych
yn y gynulleidfa. Ond yn fuan newidia y
pregethwr ei gywair ; rhydd heibio daranu,
a chyfeiria y gwrandawyr yn eu dagrau
megys a'i fys at y Gwaredwr a
ddichon achub hyd yr eithaf. Diflana
yr ocheneidiau, a pheidia y grudd-
fan ; yn eu lle clywir blosddiadau
" Gogoniant ! " a " Diolch iddo ! "
Erbyn hyn y mae yn orfoledd cyffredinol
o gwr i gwr i'r dorf. Llifa y dagrau
eto, ond dagrau Ilawenydd ydynt yn
bresenol ; a gorphena y pregethwr, gan
adael y gynulleidfa mewn hwyl sanctaidd.
" Fel liyny y rhodiai y penaf areitliydd,
Dros nef yr athrawiaetb, y bwa o waed,
A roed i rj'chwantLi y bytbol wybreuydd,
Yr eigion rliwng daear a uefoedd a gaed."
Heblaw ymddangosiad personol urdd-
asol, ac areithyddiaeth wych, dywedai
un o'i hen wrandawyr fod ganddo ryw
symudiad neiUduoI iddo ei hun ar ei law
ddehau, yr hon a ddygai i gy.Tyrddiad a'i
law aswy mewn modd effeithiol dros ben.
Yn ei bregethau tynai ddarluniau nodedig
o fyw ; ac yn arbenig, pan y desgrifiai
groeshoeliad y Gwaredwr, yr oedd ei
ddarluniad mor rymus ac efifeithiol, fel
yr oedd pob Ilygad wedi ei hoelio arno.
Dywedir pan y pregethai ar foreu Sabbath
yn Llechryd, yr arosai y gynulleidfa ar ol
weithiau, yn moli ac yn gorfoleddu hyd y
nos. Ai ef ymaith yn y prydnhawn, ond
wedi cyrhaedd bryn a elwir Craig Cilfowyr,
safai am enyd, ac edrychai yn ol ar y
dyrfa orfoleddus gyda syndod a diolch-
garwch. Un tro, cyd-bregethai Howell
Harris ac yntau yn Llechryd. Pregethai
Howell Davies y tu fewn i'r fynwent, a'r
Howell arall y tu allan. Yr oedd un o
honynt wedi bod dan law yr esgob, a'r
Ilall heb fod ; nid oedd caniatad, gan
hyny, i Howell Harris ddiurddau i bregethu
yr efengyl ar dir cysegredig,
Yn yr ymraniad gofidus rhwng Rowland
a Harris, glynodd Howell Davies, yr un
fath a WiIIiams, Pantycelyn, a'r rhan
fwyaf o'r offeiriaid, wrth Rowland. Pw
fawr ddylanwad ef, yn ddiau, y rhaid
priodoli ddarfod i'r corwynt hwn chwythu
drosodd heb wneyd cymaint o niwed yn
Sir Benfro ag a wnaeth mewn rhanau
eraill o'r wlad. Gan fod Siroedd Aber-
teifi a Phenfro yn ffinio am filldiroedd
lawer, yr oedd Rowland a Howell Davies
a therfynau eu meusydd Ilafur yn cyffwrdd
a'u gilydd ; a diau y byddai y ddavi yn
dal gafael ar bob cyfleustra a gaent i
gyd-ymgynghori ac i gyd-gynllunio. Yr
oeddynt yn hollol o'r un syniadau gyda
golwg ar athrawiaethau crefydd. Nid yw
yn ymddangos ychwaith ddarfod i un-
rhyw eiddigedd, nac unrhyw oerfel-
garwch, gyfodi rhyngddynt o gwbl.
Er fod Howell Davies yn ddyn mwynaidd
a thra charedig a rhyddfrydig, eto,
medrai wrthwynebu pob ymadawiad
oddiwrth y ffydd, a phob afreolaeth
mewn buchedd, gyda hyfdra. Cawn
Williams yn cyfeirio at hyn yn ei
farwnad : — ■
138
Y TADAU METHODISTAIDD.
" Clywsom fel y'gwrthwynebocld
Ef heresiau diriecl ryw ;
Mellt a tharan oedd ei eiriau,
I elynion 'fengyl Duw ;
Cywir yn ei egwyddorion,
Symì, gonest yn ei lîydd ;
Elusengar yn ei fywyd,
Llwyr ddefnyddiol yn ei ddydd."
Ni ddarfu i'w boblogrwydd fel pregethwr,
na'r cyfoeth a ddaeth i'w ran, gynyrchu
bererinion, y rhai yr oedd eu calonau yn
llawn, gwres, a'u profiadau yn fywiog ac
ysprydol. Nid oes amheuaeth fod y wledd
nefol yn cael ei phrofi mewn rhan cyn
cyrhaedd y capel, a bod y gymdeithas
yn barotoad ardderchog i'r odfa, ac i'r
sacrament. Geilw W'ilhams ef yn " fugaii
pedair eglwys fawr." Yr eglwysydd hyn
oeddynt Capel Newydd, \Voodstock, St.
V TY LLE Y PRESWYLIAI HOWELL DAVIi;>, ^X I'
GER HWLFORDD, SIR BENPRO.
ynddo y gradd lleiaf o falchder yspryd ; yn
hytrach parhaodd yn wir ostyngedig trwy
yr oll. Hoffai osod ei hun yn gydradd a'r
gwaelaf. Cerddai yn fynych i \Voodstock,
Sul y cymundeb, ffordd arw, bymtheg
milldir mewn hyd. Un amcan mewn
golwg ganddo oedd gosod ei hun yn hollol
ar yr un safle a chorff y werin, y rhai a
ddyhfent yno o ugain miUdir o gwmpas.
Ond diau y gwnelai hyny hefyd er cael
cymdeithasu ar hyd y ffordd a'r hen
Daniel, yn Nghastell Martin, a Mounton,
ger Narberth.
Ond dyddiau HoweU Davies a nesasant
i farw, a hyny pan oedd yn nghanol ei
waith, ac yn nghanol ei ddefnyddioldeb.
O ran oedran, nid oedd nemawr dros
ganol oed ; gallesid disgwyl blynyddoedd
lawer o weithgarwch oddiwrtho ; ond yr
oedd ei lafur dirfawr wedi peri i'r ychydig
nerth a feddai ei gyfansoddiad eiddil
dreuho allan ; a rhifwyd ef i'r bedd,
HOU'ELL DAYIES.
139
lonawr 13, 1770, ac efe yn dair-ar-ddeg-a
deugain oed. Bu farw yn ei balas, sef y
Parke. Buasai Elizabeth, ei ail wraig,
farw ddeng mlynedd o'i flaen. Ac yn ei
hymyl hi, a"i unig-anedig fab, Howell, y
rhoddwyd ei weddilhon yntau i orwedd yn
mynwent Prengast hyd ganiad yr udgorn.
Diwrnod tywyll a du i Fethodistiaid Sir
Benfro oedd y dydd y claddwyd Howell
Davies, ac nid oedd neb a deimlai hyny
yn fwy byw na hwy ei hunain. Er fod y
ei ol, ac mor ddwys y teimlad a lanwai
fynwesau pawb, fel y methai yr offeiriaid
a weinyddent ddarllen y gwasanaeth
claddu. Cyfeiria \\'ilhams at hyn yn ei
farwnad. Ac yn nghanol cawodydd o
ddagrau chwerwon, ac arwyddion o alar
na welwyd ond anfynych eu cyffelyb, y
gosodwyd Howell E)avies i orwedd yn y
ddaear. Efe oedd y cyntaf o'r Tadau
Methodistaidd a gymerwyd ymaith. Gad-
awodd yr achos mewn cyflwr llewyrchus yn
EGLWVS PRENDERG-\ST.
ILle Claddedigaeth Hoicell Daines.l
pellder o'r Parke i Hwlffordd tuag ugain
milltir, yr oedd yr angladd yn un tra
llinsog ; ac heblaw y rhai a deithient yr
holl ffordd, deuai cwmniau neu dorfeydd
o"r gwahanol leoedd, yn mha rai y buasai
efe yn gweinidogaethu, i'r croesffyrdd i
ddangos eu parch iddo ; ac wrth fod yr
arch yn pasio wylent yn uchel. Erbyn
cyrhaedd Hwlffordd yr oedd y dorf yn
anferth, cyrhaeddai lawn milldir ar y
ffordd fawr. Mor fawr oedd yr hiraeth ar
Sir Benfro ; rhifai ei gymunwyr ef yn unig
yn agos dair mil ; ac yr oedd y Methodistiaid
yn y sir yn dra lliosog. Nis gallwn
wrthsefyll y brofedigaeth o ddifynu rhanau
o'i farwnad gan \\'illiams, Pantycelyn : —
" Y mae'r tafod fu'n pregethu
lachawdwriaoth werthfawr, ddrud,
'Nawr yn dew, yn floesg, yn sychu,
Ac fel yn ymgasglu'n nghyd ;
Fíîem a Ìanwodd y pibcllau
Oedd yn dwyn y gwynt i'r lan,
Ac mae natur hithau'n methu
Clirio Ue i'r anadl gwan.
140
Y TADAU METHODISTAIDD.
Y mao'i- olwg ar j'r angladd
Wedi'iii dodi'n drist fy ngwedd,
Haner Sir, i'm tyb, sy'n eisiau,
Pan mae Davies yn ei fodd ;
Ni alla' i ddiin dyo.ìdef cdrycli
Arno'n myned dan y don,
Heb fod hiraeth cryf a chariad
Yn terfysgu dan fy mron.
Gwel\\ch gwmni ar ol cwmui,
Y^n ugeiniau ar bob llaw,
011 yn wylo dagrau heilltion
Yn ei gwrddyd yma a thraw ;
Yr ìiearsc yn cerdded yn y cauol,
Dyma'r arwydd peua' erioed,
Ag a welodd gwledj'dd Penfro
Fod rhyw ddrygau mawr i ddod.
Pwy sydd yu y coffin pygddu,
Trwm, yn nghanol y fath lu?
Medd trafaelwyi- ar y gefiiffordd,
Rheiny'n synu hefyd sy' ;
Howeli DaYÌes, ffyddlon, gywir,
Bugail pedair eglwys fawr,
Sydd yn myu'd i fonwent Prengast,
Hcno i orwedd yno i lawr.
Dacw'r coffin rhwng y hi'odyr,
Yn ei gario idd ei gell,
Ac mae'i swn yn ngwaelod daear
Megys swn taianau pell ;
Y mae'r bobl oll yn wjio,
Ac fe ddaliodd yspryd gwan
Feibion Leíi, fel nas gallent
Ddim llefaru yn y fan.
Nid yn ngerddi cryno'r Parke,
Dan och'neidio ynia a thraw,
Mae'r ofîeiriad hcddyw'n rhodio,
Ond yu ngardd Paradwjs draw ;
Nid y lcmon, nid yr orange,
Pomgrauad, iux'r nectarinc,
Ond pur llrwythau Pren y Bywyd
Mae'n ei ddodi wrth ei fin.
Nid y gwinwydd sy'n rhoi fîrwythau
1 ddiodi cwmni'r nef,
Oud afonydd gloew'r b^'wyd
Heddyw sy'n ei gwpan ef ;
]\Iae yno amrywioldeb eang
0 bob íîrwythau, heb ddiin trai,
A phob dim sydd yu eu gwleddoedd
8ydd fyth fythoedd i barhau."
HANES Y DARLUNIAU,
Darlun t Parch. Howell Dayies. Y mae
copi gwreiddiol o'i ddarluu. ef yn yr Amgueddfa
Frutanaidd iBritish Museìun), Llundain. Cedwir
ef yn y Print Rooni. Hwn yw yr unig ddarluu o'r
Tadau Methodistaidd ag y daethom o hyd iddo yn
yr ystafell hono. I'w fîramio y gwnaed ef, ac nid
i'w osod mewn llyfr. Nid yw y copi hwn ond
tua haner maiutio'i yr uii gwreiddiol. Y'' mae o
wneuthuriad tra chelfyddgar, ac y mae mewn
cadwraeth dda. Fel hyn y mae yr ysgrif dano yn
darllen : " The Rev. Mr. Howcll Davics, late
Minister of the Gospel in Pembrohcshire, and Chap-
lain to tìie Conntess of Wahingham. Printed for
Carì'ington Bmulcs, at his Majj and Print Ware-
hoiise, No. 69, in St. Paul's Churchyard, London.
Puhlished, as the Act clirects, March 30, 1773."
Gweìjr felly mai yn mhen tair blynedd wedi
marwolaeth Howell Davies y cyhoeddwyd ef. Y
mae un o'r copîau gwreiddiol yn nghadw yn
Llyfrgell Athrofa Trefecca. Rhodd Cyfarfod Misol
Sir Beufro i'r sefydliad ydyw.
Eglwys Llysyfran. Nid oes gyfnewidiad o
gwbl yn yr adeilad hwn er dyddiau y Diwygiwr.
Y mae líawer o'r beddfeini ar y fynwent yn
adeiladau diweddar.
Eglwys St. Daniel, ger Penfro. Y mae hon
hefyd fel yr ydoedd gynt. Drwy law y Parch.
W. Evans, M.A., Pembroke Dock, y cawsom
y darlun hwn.
Eglwys Mouston, ger Narberth. Adeilad
fechan iawn ydyw hon, a phur ddiaddurn. Ni
chynelir gwasanaeth grefyddol ynddi yn bresenol,
ond yn ystod misoedd yr haf. Gynt, yr oedd y
brif-ffordd o Eenfro i Lundain yn arwain heibio
iddi ; ond wedi gwneyd y ffordd bresenol, y mae
yr eglwys yn sefyll ar gongl neillduedig, ac nid
oes dramwyfa briodol tuag ati. Y mae yn hollol
fel yr ydoedd yn amser Howell Davies.
Capel WoonsTOCií. Adeiladwyd y capel cyntaf
yn y fiwyddyn 1754. Adnewyddwyd a helaethwyd
ef ddwywaith oddiar hyny. Darlun o'r capel fel
y mae yn bresenol sydd yma. Nid oes darlun o'r
hen adeilad ar gael. Y mae y capel presenol yn
eang a hardd, yn enwedig y tu fewn iddo.
Capiíl Newydd. Saif y capel hwn yn mron ar
derfyn gogleddol Sir Bonfro, heb fod nemawr o
filldiroecíd o dref Aberteifi. Adeiladwyd ef gyntaf
gan Howell Davies yn y íiwyddyn 1763, ac äil-
adeiladwyd ef yn 1848. Darlun o'r capel presenol
ydyw hwu.
Ty Howell Dayies yn Prendergast, ger
HwLFFORDD. Nid oes gyfnewidiad o bwys yn yr
adeilad er dyddiau y Diwygiwr.
Eglwys Prendfrgast, ger Hwlffordd. j\Iae
yr eglwys hon wedi myned dan adgyweiiiadau a
gwelliantau lawer er dyddiau Howell Davies. Yn
mynwentyr eglwys hon y claddwyd ef. Cyfeiriwn
y darllenydd at gareg fedd, sydd yn gorphwys ar
fur porth yr eglwys, yn y darlun. Gwèlir croes
fechan ar y mur uwch ei phen. Dyna'r fan y
mae efe a'i deulu yn gorwedd. Careg fedd syml
a diaddurn — ond careg dda iawn — sydd ar ei fedd.
Gosodwyd hi gan Gyfarfod Misol Sir Tenfro,
mewn cofíadwriaeth barchus o hono. ]\Iae yn
mhwriad IMethodistiaid Sir Benfro i osod Cofìech
hardd i'w goffadwriaeth yn Nghapel Woodstock
yn fuan. Trwy lafur y Parch. E. Äleyler, y niae
yr arian at ddwyn y trouliac'au eisioes wedi eu
casglu.
Cymerwyd yr holl o'r darluniau ar gyfer y
gwaith hwn yn ystod y flwyddyn hon a'r un
ílaenorol ; ac yr ydym yn dra dyledus i'r Parcii.
E. Meyler, Hwlffordd, am ( i garedigrwydd yn ein
arwain ac yn ein cludo dros ugeiniau o filk iroedd,
fel ag i'n galluogi i gymeryd darluniau o'r lleoedd
dyddorol hyn.
PENOD VII,
WILLIAM WILLIAMS, PANTYCELYN.
Syhiiadan aywciníol — Cofiant Mv. Charlcs iddo — Sefyllfa bai'chns ei rieni — Ymchwiliad i hanes
ei ienenctyd — Sefyllfa foesol a chrcfyddol yv ardal y magîvyd ef — Desgrifiad Ficer Pvitchard
0 honi — Eghi'ysi Ÿmneilldnol yr ardal — En dadleuon a'u hymvysonan — Desgrifiad tebygol
o'r eglwysi hyn yn " Theomemphns" — Ei fymdiad i Athrofa Llwynlhvyd — Ei droedigaeth
av ei ddychiejeliad advef, dan weinidogaeth Howell Hawis — Yn ymuno a'r Eghvys Wladol,
ac yn ymadael a hi yn fnan — Ei apîvyntiad yn gynorthwyiw i Daniel Roitdand — Ei lafuv
fel efengylydd, a'i safle fcl pregethwr — Ar gymhelliad ei fvodyv yn dechren cyfansoddi
hymnan — Hymnan ei icuenctyd — Yn cyhoeddi ei ^^ Alehtia" — Yn ymgymeryd a llafur
Ucnyddol o bob math — Rhagoroìdcb ei brif gyfansoddiadan barddonol — Ei " Oheig av
Deyynas Crist " a'i " Thcomemphns " — Poblogrtiiydd anarferol ei gyfansoddiadau — Barn
Ucìwrwn Cymrn am ci safic fel Uenor, cmynydd, a bardd.
47
ILLIAMS, o Bantycelyn, ydyw
,;/ llenor cyntaf y Cyfundeb Meth-
^ '* ''* odistaidd yn Nghymru, ac hwyr
ach mai efe ydyw ei addurn penaf.
Gwnaeth yn ei ddydd fwy er cyfoethogi
Uenyddiaeth ei wlad a'i genedl, na neb
o'i gydoeswyr. Ac mewn un ganghen
bwysig o lenyddiaeth, sef barddoniaeth
gysegredig ac emynawl, cydnebydd pawb
ei fod yn sefyll yn hollol ar ei ben
ei hun. Y mae yn anhawdd synied am
anrhydedd uwch ar ddyn, na chael bod yn
brif gyfrwng mawl y Goruchaf i genedl
gyfan. Y mae Williams heddyw yn dal
yr anrhydedd hon, ac y mae yn debyg o'i
chadw tra y bydd y genedl Gymreig yn
addoli yn iaith eu tadau. Yr oedd W'illiams
yn gymeriad hynod, ac yn meddu cymhwys-
derau arbenig at gyflawni ei waith ei hun.
Cymerodd ran fawr yn ngwaith cyffredinol
y diwygiad, a llafuriodd mor galed a
chyson i ddwyn y cyffröad yn mlaen a'r
un, Gwir nad oedd efe yn un o'r ychydig
nifer a gododd ar y fore wawr. Daniel
Rowland a Howell Harris ddarfu wneyd
hyny. Ond cododd yntau gyda chodiad
hauí, yr oedd yn gweithio yn y winllan
yn gynar yn y dydd, a pharhaodd hyd yr
hwyr, gan ddal pwys y dydd a'r gwres.
Bu fyw i weled y tri chedyrn cyntaf wedi
croesi yr lorddonen. Goroesodd hwy, a
gwnaeth hyny mewn mwy nag un ystyr.
Yr ydym yn gorfod cyfaddef, yr edrychir
gan yr oes bresenol hyd yn nod ar gewri
lel Daniel Rowland, Howell Harris, a
Howell Davies, yn hytrach fel nerthoedd
íi fu — spent forces. Cydnabyddir, bid sicr,
eu bod yn parhau i fyw hyd y dydd hwn,
yn y sefydìiad crefyddol a adeiladwyd
ganddynt, yn eu hanes, ac yn eu hesiampl.
Ond y mae Williams yn parhau i fod yn
ddylanwad presenol ac arhosol yn ein
mysg, ac fel pe wedi dianc heb i îaw oer
angau erioed gyffwrdd ag ef. Y bardd
sydd yn byw hwyaf o bawb ; y mae efe
yn anfarwol.
Hyd y mae ynom gwnawn geisio gosod
y cymeriad aml-ochrog hwn ger bron
ein darllenwyr. Ceisiwn ei ddangos fel
diwygiwr, Ilenor, a bardd, ond rhaid i ni
yn gyntaf gael brâs-olwg ar brif ffeithiau
ei fywyd.
Er cymaint a ysgifenodd Williams yn
ei ddydd, gadawodd ei gydwladwyr mewn
tywyllwch hollol yn nghylch ei helyntion
personol ef ei hun. Tybir, ac y mae
hyny yn ddigon tebygol, fod amryw
gyfeiriadau at amgylchiadau ei fywyd
yn ei weithiau llenyddol, yn enwedig
yn Theomemphns a'r Marwnadau ; ond nid
ydynt yn ddigon eglur a phendant i
fod o neniawr gwerth hanesyddol. Ceir
ynddynt ychydig gyfeiriadau amlwg, ac y
mae y rhai hyny yn bwysig. Hyd y
gwyddom, yr unig linellau a ysgrifenodd
Williams ar lun hanes am dano ei hun,
sydd wedi disgyn i lawr at yr oes hon,
ydyw y paragraph byr hwn a osododd efe
yn nghanol llythyr maith at y Parch.
Thomas (^harles o'r Bala, o fewn tair
blynedd i"w farwolaeth. Ysgrifenwyd ef
} n yr iaith Saesnig, ac y mae yn darllen
fel hyn : " My days are drawing to an end,
iny conrse is nearly run : I hare had a long Ufc.
142
Y TADAU METHODISTAIDD.
I am noiv 73 years old. My strcngth would yet
be pretty good, were it not for the affliction my
Heanenly Father has laid npon mc. I have bccn
preaching for the last forty-three ycars, and have
traüelled on an average between forty and fifty
milcs cvery weeh during that time. I had fonr
or five long journcys last spring through thc
countics of South Wales. Each was about a
fortnight's space, and I travclled each time
about two hundred miles. I intended gotng
through North Walcs, but these long jour-
ncys have, together with my complaint, so
Sasiwn Watford, a sicr yw na chafodd
neb erioed well cynorthwywr nag a gafodd
Daniel Rowland ynddo ef. Dywediad
awgrymiadol iawn oedd hwnw o eiddo
y Parch. D. Griffith, Nevern, onide ?
" Gallai Rowland lywodraethu yr holl
fyd, ond iddo gael Wilhams o Bant-
ycelyn wrth ei benelin." Diau mai
Rowland a Harris oedd arwyr yr oes
hono, am danynt hwy y byddai pawb
yn siarad ac yn ysgrifenu, ac yr oedd
Wilhams o Bantycelyn, fel pawb eraill,
LLWYNLLWYD, GER Y GKLLT, SIB FBYCHEINIOG.
[Prct<irijlJ'ud 11 Payclì. Dainä Price, Gweinidotj Maesìjronen, llc ij üctijai
WüUatns, tra yn yr Athrofa.^
weahencd me, that I havc no hopc of mending.''
Hyn yw hyd a lled " Hunan-gofiant
Wilhams," ac y mae yn nodweddiadol
iawn. Gwehr ei fod yn cyfeirio yn
unig at ei lafur fel efengylydd, heb
wneyd yr awgrym heiaf at ei orchestion
UenyddoL
Ac nid hyn yn unig. Ychydig iawn a
ysgrifenwyd yn ei gyích gan y rhai oedd
yn cydoesi ag ef. Dichon fod y sefyllfa
ail-raddol a lanwai yn cyfrif i fesur
am hyn. Cynorthwywr Daniel Rowland
ydoedd. I hyn yma yr apwyntiwyd ef yn
yn cael ei gysgodi ganddynt, yn en-
wedig yn nghychwyniad y diwygiad.
Yn mhen dwy-flynedd-ar-hugain wedi
ei farwolaeth y gwnaed yr ymgais cyntaf
i ysgrifenu hanes ei fywyd, ac nid neb hai
na'r Parch. T. Charles o'r Bala a ym-
gymerodd a'r gorchwyL Meddai Mr.
Charles bob cymhwysder at y gwaith,
o herwydd yr oedd yn bersonol gydnab-
yddus ag ef, yn hysbys o'i lafur dirfawr
fel efengylydd, ac yn edmygwr mawr
o'i weithiau llenyddol. Ymddangosodd y
cofiant hwn nid mewn cyfrol ar ei phen
WILLIAM WILLIAMS, PANTYCELYN.
143
ei hun, ond yn y cylchgrawn a olygid
ganddo ar y pryd, sef yr Hen Drysorfa.
Cyhoeddwyd ef yn lonawr, 181 3. Nid
oes neb, hyd y gwyddom, yn nodi y
ffaith mai ar gymhelliad y Parch. John
W'ilHams, mab y bardd, yr hwn oedd
yn byw ar y pryd yn Mhantycelyn, yr
ysgrifenwyd y cofìant hwn. Ond dyna'r
gwirionedd. * Mewn llythyr o eiddo y
Parch. John Wilhams, at ei frawd, y
Parch. \\'illiam Williams, cuwrad Truro,
Cornwall, gwna gyfeiriad at farwolaeth
Mr. Charles o'r Bala, gan ddweyd :
" Mawr y golled a gafodd Cymru oll, yn
enw^edig corff y Methodistiaid. Yr oedd
efe yn hynod o ddefnyddiol mewn llawer
ffordd. Cyhoeddodd lawer o lyfrau rhag-
orol, Efe a gyhoeddodd, ar fy nymuniad i,
hanes bywyd ein tâd ; myfi a roddais yr
ysgerbwd iddo, ac yntau a'i gwisgodd a
chroen ; myfi a ddanfonais y defnyddiau, ac
yntau a gododd yr adeilad." Y mae hyn yn
dangos fod Mr. Charles mewn pob mantais
i gyflawni yr hyn yr ymgymerodd ag ef.
Ysgrif fer ydyw cofiant y Drysorfa,
dim ond tua dwsin o dudalenau. Eto,
cynwysa mewn ffordd fer a chryno, yr oU
a dybiai g\vr defosiynol fel efe, yn weddus
i'w groniclo yn nghylch Williams. Gad-
awodd allan o'i ysgrif yr holl ysträeon
difyr am dano. Ö leiaf, gadawodd allan
yr oll ond un, a chafodd hono le, nid am
ei doniolrwydd, debygid, ond am ei bod
yn dangos tynerwch cydwybod y bardd.
Diau fod Mr. Charles yn gwybod degau o
honynt ; ond gan nad oeddynt yn fuddiol
i athrawiaethu, i argyhoeddi, i geryddu,
ac i hyfforddi mewn cyfiawnder, gosododd
hwy o'r neilldu, gan ymgadw at yr hyn
sydd sylweddol a gweddus. Y mae hanes-
wyr diweddarach wedi bod ar eu heithaf
yn casglu y difyr-hanesion hyn at eu gilydd,
a chan fod ystori dda yn byw yn hir, yr
ydys wedi dyfod o hyd i lawer o honynt,
pa rhai erbyn hyn a ystyrir yn rhanau
hanfodol o hanes Williams. Y maent yn
flasus fwyd, y fath a gâr yr oes nwyfus yr
ydym ni yn byw ynddi.
Ganwyd WiUiams yn y flwyddyn 1717,
mewn amaethdy, o'r enw Cefncoed, yn
mhlwyf Llanfair-ar-y-bryn, yn agos i dref
Llanymddyfri. Yn yr amaethdy hwn y bu
yn preswylio hyd iddo briodi. Enw ei dad
oedd John Williams, amaethwr gonest a
* Cofiant y Parcli. J. WiUiams, Pantijcclyn, gan y
rarch. IMaurice Davies, Llanfair-yn-]Muallt,
tudal. 24.
chyfrifol, a diacon yn eglwys Annibynol
Cefnarthen, oedd gerllaw. Efe oedd per-
chenog yr amaethdy y trigai ynddo.
Dorothy Lewis ydoedd enw morwynig
mam Williams, a'i thad hithau oedd
perchenog amaethdy Pantycelyn. Y mae
y ddau dŷ o fewn milldir i'w gilydd ; ac fe
ddaeth Williams i feddiant o'r cyntaf trwy
ei dad, ac i'r olaf drwy ei fam. Yr oedd
ei serch at ei fam yn ddiarebol. Dywedir
iddo ysgrifenu ar ffenestr anedd-dy, Ue yr
arhosai ar un o'i deithiau, benill o glod i
eneth fechan yno oedd yr un enw a hi :—
" Dorotbea yw dy enw,
Ystyr hyn yw ' Rhodd dy Ddaw,'
Ac yn ol yr enw hyfryd
Yn y bywyd b'o it' fyw ;
Rhodd yw'th ddysg, a i-bodd yw'th ddoniau,
A rhodd yw'tb fod yn ferch facb lán ;
Rhodd y rboddion ydyw byny
I'tb gadw di rbag uffern dân."
Yr oedd gwahaniaeth oedran anarferol
rhwng tad a mam Williams, gymaint a
33 o flynyddau. Adroddir y chwedl gan-
lynol am ddechreuad eu carwriaeth. f
" Dywedir fod John Williaras yn cyfeiU-
achu a dynes oedd yn byw yn mhell o'i
gartref, i ymweled a pha un y byddai yn
rhaid iddo fyned heibio i Bantycelyn.
Pan ar ei daith i dalu un o'r ymweliadau
hapus hyny, ac yn myned drwy gyntedd
Pantycelyn, cyfarfu yno a merch y ty, sef
Dorothy Lewis. Meddyliodd y ferch
ieuanc fod hwn yn gyfle rhagorol iddi
gael tipyn o ddifyrwch ar draul yr ' hen
fab.' ' Yr ydych yn myned yn mhell
iawn i ymofyn gwraig, F'ewythr Sion,'
ebe hi ; ' y mae yn ymddangos i mi y
gallech gael un yn nês gartref.' ' Fe allai
mai fel hyny y bydd hi yn y diwedd,'
oedd yr ateb ; ac yn sicr ddigon, fel hyny
y trodd pethau allan." Dywedir yn aml
ddarfod i John Williams farw pan yr oedd
y mab yn bur ieuanc, ac o ganlyniad
ddarfod i'r gofal o'i ddygiad i fynu ddisgyn
ar y fam. Y mae hwn yn gamgymeriad
dybryd ; ac y mae yn anhawdd cyfrif sut
y darfu i neb syrthio iddo. Ar y laf o
Ebrill, 1742, y bu John WiUiams farw, ac
yr oedd Williams y pryd hwnw yn 25
mlwydd oed. Bu y tad fyw bedair blynedd
wedi argyhoeddiad ei fab athrylithgar dan
weinidogaeth Howell Harris, yr oedd yn
fyw am y ddwy flynedd y bu yn parotoi
ar gyfer yr Eglwys Wladol ; ac am ddwy
t Y Parch. \V. Willianis, Abertawe, yn Nhrysorja
18G5, tudal. 123.
144
y TADAU METHODISTAIDD.
flynedd arall o'r amser y bu efe yn guwrad
ar eglwysydd Llanwrtyd ac Abergwesyn.
Os mai ymgais yw hyn i egluro sut yr
aeth mab i ddiacon blaenllaw gyda'r
Annibynwyr yn offeiriad, y mae yn gwbl
annigonol, ac yn groes i'r gwirionedd.
Gwir fod y tad mewn gwth o oedran,
o herwydd yr oedd yn 86 mlwydd oed pan
y bu farw. Yr oedd hefyd wedi colli ei
olygon, canys yr oedd yn ddall hollol am
y chwe' blynedd olaf o'i oes ; ond yr oedd
mewn cyflawn feddiant o'i alluoedd hyd y
diwedd, ac yn ẁr o gyneddfau cryfion,
Fel prawf o'i nerth a'i yni, digon yw
dweyd ddarfod iddo ddwy flynedd cyn ei
farw, arwain y blaid Galfinaidd allan o
gapel Cefnarthen, a chymeryd lle arall i
addoH ar wahan i'r blaid Arminaidd, oedd
ar y pryd yn y mwyafrif yn yr eglwys hono.
Diau i \Viniams gael y fantais o gyfar-
wyddyd ei dad yn gystal a'i fam, pan y
penderfynodd fyned i'r Eglwys Wladol, ac
nas gwnaeth newid ei enwad crefyddol
yn groes i'w teimladau hwy. Pan briododd
Wilhams, yr hyn a wnaed ganddo pan yn
32 mlwydd oed, symudodd o Gefncoed i
Bantycelyn, ac aeth a'i fam, yr hon oedd
erbyn hyny yn weddw, gydag ef. Bu hi
fyw nes ydoedd yn 95 mlwydd oed, ac ni
bu farw ond saith mlynedd o flaen ei mab.
Yr oedd WiUiams a'i wraig yn aelodau yn
nghapel y Methodistiaid yn Nghilycwm,
ond ymddengys i'w fam barhau yn
aelod gyda'r Annibynwyr hyd ei bedd.
Cadarnheir hyn gan hen lyfr seiat
Cilycwm, yr hwn oedd yn cofrestru
yr aelodau yn deuluoedd. Ceid ynddo
yr enwau : " WiUiam Williams, Panty-
cclyn; Maiy, the Wife; Mary, the Maid;"
ond uid oedd " Dorothy, the Mothcr,"
ynddo. Cynrychiohd y tri enwad yn
Mhantycelyn y blynyddoedd hyny, sef
y IMethodistiaid, yr Annibynwyr, a'r
Eglwys Wladol.
Y darn mwyaf tywyll yn mywyd
WiUiams ydyw hanes ei ieuenctyd. Yr
unig wybodaeth sicr sydd genym am
dano yn y cyfnod hwn, ydyw iddo
dyfu i fynu heb dderbyn argraffìadau
crefyddol dyfnion. Y mae genym ei
dystiolaeth ef ei hun ar hyn, fel y cawn
weled, eto ; ond y mae y cwestiwn pa
un ai mewn difaterwch a difrawder y
treuhodd y blynyddoedd hyny, neu
ynte, a ddarfu iddo eu treuUo mewn
Ìlygredigaeth ac annuwioldeb, yn fater
nas gelHr ei benderfynu. Cafodd y
fantais fawr o"i ddwyn i fynu ar aelwyd
grefyddol. * Dywedir am ei dad, heblaw
bod yn " henadur llywodraethol " yn eglwys
Cefnarthen, sef y ffurf uchaf, meddir, ar y
swydd ddiaconaidd, " ei fod yn Gristion
addfwyn, gonest, a chywir, ac iddo gael ei
fynediad trwy anialwch y byd hwn i'r
wlad weU yn fled rydd oddiwrth ofidiau."
Dyma gymeriad ei dad, fel ei rhoddir i ni
gan y rhai a'i hadwaenent oreu. Ac y
mae yn sicr fod ei fam o ymarweddiad
cyffelyb. Eithr er fod yr awyrgylch y
magwyd ef ynddi yn un grefyddol, a bod
dylanwad yr aelwyd gartref yn iachus a
dymunol, y mae yn sicr mai tyfu i fynu
yn anystyriol a dioruchwyliaeth a wnaeth
efe.
Hwyrach nad anfuddiol fyddai ymholi
beth ydoedd ystad foesol a chrefyddol y
gymydogaeth yr oedd efe yn byw ynddi
ar y pryd ? Y mae y cwestiwn hwn yn
un pur hawdd i'w ateb. Yr oedd ardal
Llanymddyfri mor ddyfned mewn Uygred-
igaeth a phechod a'r un yn Nghymru.
Hynodid hi gan ei hannuwioldeb a'i
drygioni. Uwchben y dref halogedig hon
y cyhoeddasai Ficer Pritchard ei felldithion,
gan' mlynedd cyn amser y diwygiad ; ac y
mae genym ddigon o brofion wrth law i
ddangos nad ydoedd ronyn yn well yn yr
amser hwn. Dyma fel y cyhoeddai yr
hen Ficer ei felldithion ar dref Llanym-
ddyfri : —
" 'Meue Tecel,' tre' Llan'ddyfri !
Pwysodd Duw di yn dy fryntni ;
Ni cha'dd yr:ot ond y sorcd,
Gocbel weitliian i'hag ei ddyrnod !
Cefaist rhybudd lawer pryd,
Nidyw cynghor 'mheuthyn id' ;
Nid oes lun it' wneuthur esgus,
O ! gwae di, y dref anhapus !
Bore gDdais g)da'r ceiliog,
Hir ddiiynais, yir dy anog
Droi at Dduw, oddiwrth dy fiyntni,
Ond nid oedd ond ofer imi.
Cenais bibau, ond ni ddawnsiaist, '
Tost gw^nfanais, nis galeraist ;
CeÌHÌais drwy deg, a thrwy liagar,
Ni chawn genyt ond y gwatwar."
Cawn fod plwyfydd Llanfair-ar-y-bryn,
Llandingad, a Chilycwm, mewn tywyll-
wch dudew, ac nad oedd yr ofteiriaid, yn
nechreuad y diwygiad Methodistaidd, ond
gwyliedyddion deillion. Ond beth am yr
eglwysi Presbyteraidd oedd yn y gymydog-
aeth, ai nid oeddynt hwy yn dal yn gryf
yn erbyn y llifeiriant oedd yn gordoi y
'' Hanes Eglicysi Annilynul Cymìu, cyf. iii.,
tudal. 583.
WILLIAM WILLIAMS, PANTYCELYN.
H5
wlad ? Diau eu bod i ryw fesur, ond nid
i'r graddau y gwnaethent mewn adeg
foreuach. Y pryd hwn, yn arbenig, yr
oedd cylch eu dylanwad er daioni yn bur
gyfyng, gan eu bod yn cael eu rhwygo
gan derfysgoedd ac ymrysonau, yn benaf yn
nghylch athrawiaethau crefydd. Yr oedd
dwy o eglwysi Ymneillduol yn nghymydog-
aeth Llanymddyfri, sef eglwys y Bedydd-
wyr yn Nghilycwm, ac eglwys Annibynol
Cefnarthen. Eglwys fechan a chymharol
ddinod ydoedd yn Nghilycwm, ond yr
oedd un Cefnarthen yn un liosog ac o
enwogrwydd. Yn hon yr oedd tad a mam
Williams yn aelodau, ac i'r capel hwn y
byddai WiIIiams yn myned yn ystod ei
ieuenctyd. Rhaid i'r darllenydd gael brâs-
olwg ar hanes yr eglwys yma, er mwyn
iddo weled pa fagwraeth i grefydd
allasai gael ganddi. Yr oedd yn un o
eglwysi hynaf Cymru, ac wedi gwneyd
gwasanaeth anrhaethol i grefydd ardaloedd
Llanymddyfri tuag adeg y weriniaeth,
ac yn ystod yr erledigaeth wedi adferiad
Siarl yr Ail. Ceir hanes Ilawn, a dyddorol
dros ben am dani yn Hanes Eglwysi An-
nibynol Cynii'u, cyf. iii., tudal. 582 ; ond
rhaid i ni dalfyru Ilawer arno yma.
Planwyd eglwys Cefnarthen gan Mr.
Jenlíin Jones, Llanddetty, hwyrach mor
foreu a'r flwyddyn 1642 ; ond gwasgarwyd
hi gan erledigaethau, a charcharwyd y
gweinidog a Iliaws o'r aelodau. Ail-
gasglwyd hi tua'r flwyddyn 1688, gan Mr.
Rees Prytherch, gẁr a fu yn íTyddlon
weinidog ynddi hyd ei farwolaeth, yn
1699. Ei ganlynydd ef ydoedd Mr. Roger
WiUiams. Calfiniaid, o ran athrawiaeth,
ydoedd y ddau weinidog cyntaf ; a Chal-
finiad ydoedd Roger Williams ar y cy-
chwyn ; ond cyn diwedd ei oes yr ocdd yn
pregethu Arminiaeth, a Ilwyddodd i led-
aenu yr athrawiaeth hono yn mysg ei
aelodau a'i wrandawyr. Bu farw yn 1730,
wedi bod yn pregethu, yma ac yn eglwys
Cwmyglo, Merthyr Tydfil, am 32 o flyn-
yddau. Yr oedd yr eglwys yn ddwy blaid
pan y bu efe farw, ac ymddengys mai yr
Arminiaid erbyn hyn oedd y blaid gryfaf
ynddi. Ar ei farwolaeth ef, cafodcl dau
weinidog o ddaliadau Arminaidd eu
dewis gan un blaid, ac un arall o
olygiadau Calfinaidd gan y Ilall. Yr
oedd y tri gweinidog hyn, cofier, yn
weinidogion ar yr eglwys ar yr un amser ;
nid am fod rhitedi yr aelodau yn galw am
hyny, ond yn unig er cyfarfod a'i sefyllfa
ranedig hi ar y pryd. Buont yn pregethu
athrawiaethau croes i'w gilydd, yn yr un
capel, ac o'r un pwlpud, am saith mlynedd.
O'r diwedd ymranodd yr eglwys ; cadwodd
yr Arminiaid feddiant o'r addoldy, ac aeth
y Calfiniaid i addoli i amaethdy o'r enw
Clinypentan, yr hwn sydd yn sefyll rhwng
Cefncoed a Phantycelyn. Yr oedd tad
Williams yn arwain y blaid Galfinaidd allan
o'r hen gapel. W'edi yr ymraniad cyn-
yddodd y Calfiniaid, a Ileihaodd yr Armin-
iaid. Adeiladwyd capel newydd i'r Cal-
finiaid ar ddarn o dir a roddwyd i'r pwrpas
gan fam W'iIIiams, Pantycelyn, ac yntau,
yr hwn a elwir yn Pentretygwyn. Yn
nghwrs blynyddoedd unwyd yr eglwysi
gan Mr. Morgan Jones, a charthwyd yr
athrawiaeth Arminaidd allan o honynt
yn Ilwyr.
Dyna yn fyr, hanes eglwys Cefnarthen.
Gwelir i WiIIiams gael ei ddwyn i fynu
yn un o eglwysi mwyaf terfysglyd Cymru ;
eglwys ag yr oedd Ilawer mwy o ddadleuon
ynddi nag o grefydd. Nid pobl yn cytuno
i anghytuno oeddynt, ond pobl anhyblyg
dros eu gwahanol opiniynau, ac yn medru
cario rhyfel poeth yn mlaen am flynyddau
lawer. Nis gwyddom a oedd WiIIiams yn
aelod proffesedig o'r eglwys, ond yno y
cyrchai i'r addoliad cyhoeddus hyd yr ym-
adawodd i fyned i'r coleg, yn llanc ieuanc,
dwy-ar-bymtheg neu ddeunaw mlwydd
oed. Y mae yn bur debyg fod Roger
WiIIiams wedi troi yn Arminiad cyn iddo
ef gael ei eni. Am y blynyddoedd cyntaf,
nid oedd o fawr pwys i WiIIiams ieuanc
pa athrawiaethau a bregethid yn ei glyw.
Eithr cyn terfyn gweinidogaeth Roger
Williams, hwyrach fod gan y bachgen
Ilygadlas ryw syniad aneglur am yr hyn a
wrandawai; y deallai fod rhyw wahaniaeth
nas gallai efe ei amgyff'red, rhwng yr hyn
a lefarai y gweinidog, a'r hyn a gredai ei
dad ; ac nid anhebyg iddo glywed anfl i
ddadl frwd rhwng y ddau. Yr oedd yn
dair-ar-ddeg oed pan fu y gweinidog
hwnw farw. Yr oedd yn Uawer pwysicach
pa athrawiaethau a gyhoeddid yn ei glyw-
edigaeth yn ystod y pum' mlynedd nesaf ;
dyma y cyfnod yr ymagorai ei ddeall, ac y
rhoddai heibio bethau bachgenaidd, am y
teimlai ei fod yn dyfod yn \vr. Gresyn na
fuasai gweinidogaeth pwlpud Cefnarthen,
a dysgeidiaeth yr aelwyd yn Cefncoed, yn
cyfnerthu eu gilydd yn yr adeg bwysig hon.
ünd y mae genym ofn fod yr hyn a adeil-
edid y pryd hwnw ar yr aelwyd, yn cael
ei dynu i lawr yn y capel. Gwyddom, er
ein gofid, nad oes dim ag a duedda yn
L
146
Ÿ TADÁU METHODISTAIDD.
gryfach i ddyeithrio meddwl yr ieuanc
oddiwrth grefydd, na dadleuon ac ymrys-
onau yn yr eglwys, o unrhyw natur. Ond
yn y tymhor hwn yr aeth rhyfel yr athraw-
iaethau yn ddifrifol o boeth yn Nghefn-
arthen ; yr oedd yr Arminiaid wedi dyfod
yn allu llywodraethol yn yr eglwys, a bhn
fu y frwydr rhyngddynt a'r Calfiniaid. Ai
nid gweli a fuasai iddynt ymwahanu yn gynt ,
gan fod pob undeb gwirioneddol rhwng y
pleidiau wedi llwyr ddiflanu ? O bosibl
hyny ; ond hwyrach fod eu hymlyniad
wrth yr hen addoldy yn gwneyd y peth yn
anhawdd iddynt. Fel y dywedwyd, bu y
pleidiau yn pregethu yn erbyn eu gilydd,
o'r un pwlpud, am saith mlynedd ; ac yr
oedd Wilhams yn mynychu y capel am
bump allan o'r saith hyn. Gresyn na
fuasai ef wedi rhoddi i ni hanes Cefn-
arthen yn y tymhor hwn, gan ddesgrifio
yr hyn a welodd ac a glywodd ; gallasai
daflu goleu ar lu o gwestiynau sydd yn
ddyrus i ni erbyn hyn, megys : A fyddai y
pleidiau yn pregethu yn erbyn eu gilydd
yn yr un odfa, neu ynte ar wahanol
amserau ? Os mai ar wahanol amserau,
a fyddai y naiU blaid yn mynychu cyfar-
fodydd y llall ? A ydoedd Wilhams yn
cymeryd rhan yn y dadleuon hyn, neu
ynte a oedd yn eu hangymeradwyohwynt,
ac yn eu gochel ? Rhaid i ofyniadau fel
yma aros bellach heb eu hateb, ond yr
ydym yn sicr o un peth, sef na ddarfu y
dadleuon a'r ymrysonau hyn grefyddoh ei
yspryd. Prin y gelhr disgwyl y buasent
yn foddion gras iddo. Os darfu iddo ef
ymdaflu i'r dadleuon, hwyrach iddynt
eangu cylch ei wybodaeth, a blaen-llymu
ei alluoedd meddyhol.
Tybed nad oedd hanes eglwys Cefn-
arthen yn^ bresenol yn meddwl WiUiams
pan yr oedd yn cyfansoddi Theomemphus ?
Credwn ei fod ; ac mai trethu ei gof, yn
hytrach na thynu ar ei ddychymyg, yr
oedd pan yn darlunio y pregethwyr hyny,
ag oeddynt yn ceisio dileu dylanwad
Boanerges ac Evangelius oddiar feddwl ei
arwr. Darllener y lUnellau hyn yn ngoleu
yr hanes yr ydym newydd ei osod gerbron
y darllenydd am Gefnarthen, a chredwn y
gwel ynddynt gyfatebiaeth mawr. Dyma
fel y mae un, a alwai y bardd yn Arbìtrius
Liber, yn pregethu cyfiawnhad trwy weith-
redoedd : —
"Gwrandewch, hiliogaeth Aclda " ebe'r areithiwr
mawr,
"Nid dim erioed ond cariad, wnaeth i chwi
droedio'r llawr ;
Meddyliau da tuag atoch sydd er creadigaeth
byd,
A thraw yn nhragwyddoldeb, cyn rhoi'r elfenau
'nghyd.
Eich Crëwr yw eich priod, eich priod oll o'r bron,
Ewyllysiwr da'n ddiameu, i bawb sydd ar y dòn ;
Ni fyn e' i neb i farw, ond am i bawb gael byw,
Os gwir llyth'renau'r Beibl, wel hyn, gwirionedd
yw.
Pa gynifer gwersi sy' yno, pob un yn haeru
'nghyd,
Nad ydyw Duw am ddamnio, yn unig safio'r
byd?
Gwae rhai sy'n cloi trugaredd wrth rai o ddynol-
ryw,
Yn haeru rhagordeiniad, nad rhagwelediad yw.
P'odd gall un perchen rheswm i haeru maes yn
lân,
I Dduw bwrpasu dynion, ryw rai i uíîern dân ?
Mae hyn yn gam anorphen â hanfod mawr yr
lôr,
Sydd a'i ddaioni cymaint a dyfroedd mawr y
môr.
Nid ydyw dyn heb allu, er iddo fyn'd ar ŵyr,
Mae ei 'wyllys a'i resymau, heb eto'i IJygru'n
llwyr ;
Ei ddeall yw ei reswm, fe gadwodd bwn ei le,
Pan collodd ei frenhiniaeth o fewn i deyrnas ne'.
A dyma'm neges inau, cyhoeddi i chwi'r gwir,
A gwneuthur pob dyledswydd, y t'wylla'n oleu
clir ;
Wel, pwyswch yn eich meddwl y geiriau yma'n
llawn,
A gwnewch eich dyledswyddau o foreu hyd bryd-
nawn.
Ymdrowch yn eich rhinweddau, ac ynddynt
byddwch fyw,
Cyíìawni pob gorcliymyn i gyd yw meddwl Duw ;
Am dori'r ddeddf mae damnio, fe dd'wedodd
liyn ar g'oedd,
I'n dori oU os torwn orchymyn fyth o'n bodd.
At ddyledswyddau bellach, y perlau mwyaf drud
Yw dyledswyddau nefol, o'r cwbl sy'n y byd ;
CTweddîau ac elusen, 'does mo'u cyíîelyb hwy,
Hwy ro'nt i angau creulon ei hunan farwol
glwy'.
Rho'wch ymaith bob rhyw bechod, o'weithred
ac o fryd,
Pob malais a cheníìgen, a gormod garu'r byd ;
Ein dyled ni yw caru, wrth geisio fe gair gras,
Nid yw e'n waith mor anhawdd i goncro pechod
A dim ond gwneyd ein goreu, yw'r cwbl sydd gan
ddyn,
A Duw sydd siwr o'i ateb, fe dystia'r gair ei hun ;
Mae gras i'w gael ond ceisio, a'r ceisio sy' arnom
ni,
A'r fynyd gyntaf ceisiom fe rodda Daw yn ffri."
Fel hyn eilwaith y dywed Orthocephalus,
yr hwn sydd bregethwr uniongred, ond ei
fod yn hunanol, ymffrostgar, a sych : —
'WILLIAM WILLIAMS, PANTYCELYN.
147
"Mae gau-athrawon lawer," 'be fe, "yn myn'd ar
led,
Heb 'nabod ac heb ddeall mo egwyddorion cred ;
Heb ganddynt íîurf na rheswm, ond rhyw gy-
mysgedd cas,
0 athrawiaethau anial maent yn eu taflu maes.
Mae'r Coptics a'r Armeniaid, ar hyd yr Aiphtaidd
dir, .^
Yn ddigon pell, ysywaith, oddi wrth derfynau'r
gwir;
Mae yma opiniynau o fewn ein gwlad ein liun,
Sydd ddiau yn ddinystriol i iachawdwriaeth dyn.
]\Iae'r Antinomian trwsgl, yn dweyd i maes ar
g'oedd,
Os pecbu wna neu beidio, y bydd ef wrth ei
fodd ;
Cyn iddo'n caru gyntaf, fe wyddai Duw ein bai,
'Rys wedi maddeu ein pechod, cyn i ni 'difarhau.
Drwg enbyd yw yr amser, rhyw athrawiaethau
blin
Mae gau a gwag-athrawon, er's dyddiau yn eu
trin ;
Da iawn fod gan weinidog ryw lawer iawn o
ddysg,
I gyfarwyddo'r bobol y rhodder e'n eu mysg.
Mi safais, ac mi safaf, ac nid wy'n ofni dim,
Yn erbyn llif o ddyfroedd, er cymaint yw eu
grym ;
Älewn llawer brwydr buais, ond am fod geny'r
gwir,
Cyn i mi lân goncwerio, ni chawn fod yno'n hir.
'Rwy'n gosod fîydd yn ílaenaf, 'rwy'n gosod
gwaith yn ail,
Os anog i sancteiddrwydd, 'rwy'n gosod Crist yn
sail ;
Pa ddyledswyddau enwir o foreu hyd brydnawn,
Mae'r cwbl geny'n gryno mewn iachawdwriaeth
lawn.
:;!»;^>>««.-
. p^i;B:«w--
N r.i;j;,si:Mii.
Mac amryw Galíìnistiaidyn myn'd i maes o'u lle,
Rhy galed maent yn gwasgu'r pwnc ar yr ochr
dde';
Y maent yn dala'r ethol, a'r gwrthod cas yn un,
Heb gofio llw'r drugaredd a dyngodd Duw ei hun.
'Chytuna'i ddim a Baxter, sy'n rlianu'r cyfiawn-
had,
Na Chrisp, sy'n dodi'r gyfraith yn hoUol tan ei
draed,
Na Zinderdorf a'i drefn, 'dwy'n llyncu un o'rtri,
Ac ni bydd Athanasius yn feistr íîydd i mi.
Ni chaifE articlau Lloegr eu credu geny'n lân,
Na rhai wnawd yn Genefa, ryw ílwyddau maith
o'r blaen ;
Er pured Eglwys Scotland, nid purdeb yw hi gyd,
Ni phiniaf ddim o'm crefydd, ar lawes neb o'r
byd.
'Dwy'n gadael unrhyw ganghen 0 grefydd o un
man,
Ag y mae rhai yn ddamsang, nad wy'n ei chodi
i'r lan ;
'Dwy'n gadael un gofyniad yn y cyfamod grâs,
Nad wyf fi ar ryw amser yn ei gyhoeddi maes.
'Rwyf yn dyrchafu'r Arglwydd, ac yn darostwng
<iyn,
Yn tori lawr ei haeddiant a'i allu yn gytun ;
'Rwyn curo cyfeiliornad ar aswy ac ar ddê,
'Rwyf yn cymhwyso 'mhobl i mewn i deyrnas
ne'."
A dyma fel y mae Schematicus yn traethu
ei lith yntau, pregethwr uniongred arall,
ond sydd yn condemnio egwyddorion ac
athrawiaethau pawb, ond yr eiddo ei hun : —
L 2
148
y TADAU METHODISTAIDD.
" Scliematicus, un arall, un gwresog iawn ei ddawn,.
Un pwnc oedd swm ci bregeth o foreu liyd
brydnawn ;
Er fod rhyw bynciau eraiU wrth eu bregethau
Ni 'nynai ei zêl ef ronyn, nes d'ai at ei bwnc
ei hun.
Yr arfaeth oedd ei eilun, ac yna'r arfaeth rad,
Ocdd sylfaen ffydd, sancteiddrwydd, 'difeirwch,
cyfiawnhad ;
üh-heiniai ef ei natur, bob cangen yn gytun,
Oddi wrth un wers o'r Beibl, dros driugain yul
ag un.
Efe 'sgrifenodd lyfrau, rai meithion iawu eu hyd,
'Run pwnc oedd ei athrawiaeth, trwy rheiny oU
i gyd ;
Pwy bynag ŵr na chredai, anrasol oedd y dyn,
Fel credai ef heb amheu, Schematicus ei hun.
A'i athrawiaethau haerUug o'r diwedd 'nynodd
dân,
Am farn ac opiniynau, dyeithr o'ent o'r blaen ;
Daeth enw'n erbyn enw, fe gai un enw'n awr,
Ei godi cuwch a'r cwmwl, a'rUaU ei dynu i lawr.
Terfysgwyd penau'r bobl, fe ranwyd yma a thraw,
Dau 'biniwn mewn un eglwys, ac weithiau wyth
neu naw ;
Zêl at y pethau Ueiaf, yn gweithio yn y dall,
Un pwlpud yn fftangellu athrawiaethau'r Uall.
Didolwyd, gwnawd partîon, o'r bobl oedd gytun,
Tri'n erbyn pump rai prydiau, neu ddeg yn
erbyn un ;
Cyhoeddwyd cymanfaoedd o'r Dê i'r Dwyrain dir,
I chwilio gwraidd opiniwn, a gwneyd y pwnc yn
glir.
Fe lidiwyd, anfoddlonwyd, fe dduw^d ar bob Uaw,
Fe chwiliwyd am athrawon, rai newydd yma a
thraw ;
Pregethwyd, fe 'sgrifenwyd, pawb am ei bwnc
ei hun,
Yn gant o ddarnau rhanwyd y Beibl oedd yn un.
Myfyriwyd Groeg a Hcbrew, gopiau'r 'Sgrythyr
Lân,
Un copi fe'i goreurid, fe roid y Uall i'r tân ;
Darllenwj'd heu 'sgrifenwyr, rhai eu galw'n
gywir câs,
Rhai'n hercticiaid deiUion, ga'dd eu cyhoeddi
maes.
Nes myn'd a Uu o bobl fu'n ochr Sinai fryn,
Yn gwrando Boanerges yn brysur iawn cyn hyn ;
Ar ol rhyw bynciau gweigion, a choUi'r yspryd
trist,
Drylliedig, oedd yn gwaeddi am 'nabod lem
Grist.
I 'mofyn dŵr a bedydd, 'nol gwneuthur proffes
lân,
Anghofio bedydd yspryd, a bedydd nefol diin,
I bledio'n erbyn gwenwisg, a darllen gweddi
maes,
Anghofìo taernu calon, a dirgel ruddfan grâs.
Gwallt Ilaes sydd bwnc arbenig, rhaid cael y
pen yn grwn,
Gwell rhwygo mil o eglwysi, na cholli'r j)wncyn
Iiwn ;
Mae'n rhaid i hwn gael Esgob, ond Presbyter
i'r Ilall,
Wêl Quaker Independiad ddim gwell na mab y
faU."
Braidd nad yw y desghfiad uchod yn
Uythyrenol gywir o sefyllfa eglwys Cefn-
arthen yn nyddiau ieuenctyd WilUams,
sef tra y bu ef o fewn cylch ei dylanwad
hi.
Ymddengys na fu raid i WiUiams adael
cartref tra yn derbyn ei addysg, hyd iddo
fyned i Athrofa Llwynllwyd. Diau mai
mewn ysgohon cymydogaethol, yn nhref
Llanymddyfri, hwyrach, y treuUodd y
blynyddoedd hyny. Yr oedd yn Uawn
dwy-ar-bymtheg neu ddeunaw mlwydd
oed pan yn myned i'r athrofa, o
herwydd cawn ei fod wedi gorphen y
cwrs arferol yno, sef tair neu bedair
blynedd, erbyn ei fod yn un-ar-hugain oed.
Y mae yr enw Athrofa LlwynUwyd yn
disgyn yn ddyeithr ar ein clustiau. Nid
oes enw o'r fath yn mhUth ein hysgoUon.
Byddai yn ddigon cywir, ac yn fwy deaU-
adwy, dweyd mai i Athrofa Caerfyrddin yr
aeth ; Ue y cafodd y fath nifer o enwogion
Cyniru eu haddysg. Yn y sefydUad hwnw
y gorphenodd WiUiams ei addysg, er fod
yr athrofa ar y pryd wedi ei symud o dref
Caerfyrddin, ac yn cael ei chynal yn Llwyn-
Uwyd, yn agos i'r GeUi, yn Sir Frych-
einiog. Yr achos o newidiad Ue yr athrofa
ydoedd hyn. Ar farwolaeth Mr. Thomas
Perrot, athraw Athrofa Caerfyrddin, yn
1733, penodwyd Mr. Vavasor Griffiths,
gweinidog Maesgwyn, Sir Faesyfed, i
gymeryd ei le. Gwrthododd Mr. Griffiths
fyned i Gaerfyrddin, am y barnai y buasai
yn weU i'r athrofa gael ei chadw yn y
wlad, fel na fyddai y myfyrwyr yn agored
i brofedigaethau tref. A hyn cydsyniodd
awdurdodau yr athrofa; ac felly fe symud-
wyd y sefydUad at yr athraw. Yn ystod
y saith miynedd y bu dan ofal y dysgedig
a'r duwiol Mr. Vavasor Griffiths, cynhal-
iwyd hi mewn tri neu bedwar o fanau, am
nad oedd yr un adeilad wedi ei ddarpar
ar ei chyfer. Y Ue y cynheUd hi y
pryd yr oedd WiUiams ynddi ydoedd yn
amaethdy Llwynllwyd, preswylfod Mr.
David Price, gweinidog eglwys Annibynol
Maesyronen. Dywed Mr. Charles mai
Mr. Price ydoedd athraw yr athrofa, ond
y mae hyn yn gamgymeriad. Ac y mae
y Parch. J. Kilsby Jones yr un mor
gamsyniol, pan yn tybied mai yn Llwyn-
Uwyd y preswyUai Mr. Vavasor Griffiths.
Yr oecîd Mr. Vavasor Griffiths yn un o'r
ysgolheigion goreu, ac yn un o'r dynion
mwyaf duwiol yn ei oes. Dywedir ei fod
yn arfer mwy o lymder nag a wnelsai, oni
buasai fod tynerwch eithafol Mr. Perrot,
WILLIAM WILLIAMS, PANTYCELYN.
149
wedi bod yn achlysur i lawer o'r niyfyrwyr
i ymollwng i gyfeiliornadau blin mewn
barn a buchedd. Bu farw yn mhen tair
blynedd wedi i Wilhams adael y sefydhad,
sefyn 1741. Nid oesgair o hanes WiHiams
tra y bu yn yr athrofa genym ; ond gelhr
casghi ddarfod iddo wneyd defnydd da o'i
gyfleusderau. Yr oedd yn hetya, debygid,
gyda Mr. Price yn Llwynhwyd, ac yn
mynychu capel Annibynol Maesyronen ar
y Sabbathau. Tebygol fod ei hoU fryd yn y
tymhor hwn ar gasghi gwybodaeth, yn
enwedig yn y cangenau hyny sydd yn dal
perthynas a'r alwedigaeth feddygol, oblegyd
dyma y cyfeiriad a fwriadai gymeryd. Sef-
ydhad at barotoi pobl ieuainc ar gyfer y
weinidogaeth oedd yr athrofa ; ond cafodd
ef fynediad iddi fel lay stndent. Nid oes
hysbysrwydd pa hyd o amser y bu yn yr
athrofa hon, ond gwyddis ddarfod iddo
orphen ei efrydiaeth ynddi yn y flwyddyn
1738. Gan yr arferai pobl ieuainc aros
mewn athrofeydd, yr amser hwnw fel yn
bresenol, am dair neu bedair blynedd, aeth
yno naiU ai yn y flwyddyn 1734 neu 1735.
Yr oedd mynediad WiUiams i Llwynllwyd
felly agos yn gyfamserol a throedigaeth
Howell Harris, a ffaith ryfedd, nas gellir
yn hawdd gyfrif am dani ydyw, na ddaeth
i gyffyrddiad personol a'r Diwygiwr o Dre-
fecca yn ystod yr amser yr arhosodd yn yr
athrofa. Rhaid iddo glywed llawer o son
am dano. Gwedi ei argyhoeddiad daeth
Harris i enwogrwydd buan, dechreuodd
bregethu i'w gymydogion yn Nhalgarth, a
chynyrfu y wlad o gwmpas yn ddiymaros.
Cyn diwedd y flwyddyn 1737 yr oedd wedi
ymweled a phob ardal yn Sir Frycheiniog,
gan sefydlu seiadau, ac yr oedd wedi
sefydlu amrai o'r cymdeithasau hyn yn
Siroedd Maesyfed a Henffbrdd. Ond nid
yw yn ymddangos iddo bregethu yn Glas-
bury, y pentref agosaf at Llwynllwyd, yn
ystod yr adeg hon. Efallai, gan fod yr
athrofa mor agos, y tybiai y gallai adael y
Ile i'r gweinidog duwiol a dysgedig oedd
yn athraw arni, ynghyd a'r Parch. David
Price, gweinidog parchus Maesyronen.
Gwedi hyn, pa fodd bynag, sef yn y flwy-
ddyn 1738, ysgrifenodd y Parch. Vavasor
Griffiths at Harris, yn ei wahodd yno, a
diau iddo yntau gydsynio a'r gwahoddiad,
o herwydd gwelwn oddiwrth gofnodau
Cymdeithasfa gyntaf Watford, fod eglwys
Fethodistaidd yn (ilasbury yn 1743. Ond
dichon fod hyn wedi i Williams adael
Llwynllwyd. Nis gall nad oedd gweith-
redoedd nerthol y Diwygiwr, a hynod-
rwydd neillduol ei weinidogaeth, yn destun
siarad mawr yn yr athrofa, yn enwedig
pan gofiom mai rhai a'u bryd ar y
pwlpud oedd y rhan fwyaf o'r efrydwyr.
Y mae yn fwy na thebyg i amryw o honynt
fyned yn unswydd i Dalgarth, pellder o tua
chwech miUtir, er mwyn ei wrando. Pa
fodd nad aeth WiIIiams gyda hwynt, nid
oes genym ond dyfalu. Efallai ei fod, fel
llawer o'r YmneiUduwyr ar y pryd, yn dir-
mygu yn ei galon ẁr diurddau yn myned
o gwmpas i gynghori. Neu efallai fod ei
wanc am wybodaeth yn gryf, tra nad oedd
ei dueddiadau crefyddol ond gwan ac eiddil.
Hyn sydd sicr, tra yr oedd Howell Harris
yn cyffroi y wlad, ac yn rhybuddio yr
annuwiol i ffoi rhag y Ilid a fydd, yr oedd
y Ilanc o Bantycelyn yn ymgolli yn ei
efrydiau, ac yn ddifater am gyflwr ei enaid.
Ond daeth adeg ymadael a'r athrofa, ac
yn y flwyddyn 1738 yr ydym yn ei gael yn
dychwelyd adref i dŷ ei dad. Yr oedd
ganddo daith faith, dros ddeg-ar-hugain o
filldiroedd ; arweiniai y ffordd ef drwy dref
Talgarth, ac heibio i fynwant yr eglwys.
Yr oedd Harris yn pregethu ar y fynwent,
pan yr oedd efe yn pasio. Aeth i mewn i'r
fynwent i weled a chlywed am y tro cyntaf
y dyn y clywsai gymaint son am dano ; a
chafodd ei argyhoeddi mor sydyn ac mor
effeithiol ag yr argyhoeddwyd Paul ar y
ffordd i Damascus. Damwain hollol o du
WiIIiams ydoedd hyn, ond
" Yr hyn sy'n ddamwain ddall i ddyn,
Sy'n oleu arfaeth lòr."
Ac yr oedd cyfarfyddiad digwyddiadol
Williams â Howell Harris y boreu hwn
o ganlyniadau pwysig iddo ef ei hun, ac i
eglwys Crist yn Nghymru, o leiaf tra y
bydd hi yn parhau i. addoli yn yr iaith
Gymraeg.
Y mae yn anhawdd peidio benthyca
desgrifiad y diweddar " Hiraethog " (Dr.
William Rees) o dröedigaeth WiIIiams, er
ei fod yn mhell o fod yn hanesyddol gywir,
fel y cawn sylwi eto : " Ar ryw fore
(Sabboth, y mae'n debygol) yn y flwyddyn
1738, dyna sain cloch Ilan blwyfol, mewn
pentref neillduedig yn Sir Frycheiniog, yn
gwahodd yr ardalwyr i ymgynull ynghyd
i'r gwasanaeth crefyddol. Ymgynulla
lliaws at eu gilydd. Yn eu mysg, dacw
\Vr ieuanc, oddeutu un-ar-hugain oed, o
gorff Iluniaidd, a thaldra canolig, ac ym-
ddygiad mwy boneddigaidd na'r cyffredin,
yn myned i mewn i le yr addoliad. Telir
sylw mwy na chyffredin iddo. Y mae
naill ai yn ddyeithr yn y Ile, neu y mae
I50
Y TADAU METHODISTAIDD.
newydd ddychwelyd i blith cydnabyddion
wedi cryn absenoldeb. Craffwch arno !
y mae rhywbeth yn ei wynebpryd a
dynodiant ei lygaid a bâr i chwi deimlo
rhyw fwy o ddyddordeb ynddo nag mewn
unrhyw \Vr ieuanc arall drwy yr hoU
gynulleidfa ; ond ni wyddoch yn iawn pa
beth ydyw chwaith ; rhywbeth ydyw na
ellwch roddi cyfrif am dano, ac na ellwch
chwaith help i chwi eich hunain wrtho.
Pâr i chwi yn awr ac yn y man, drachefn
a thrachefn, daflu eich llygaid arno, bron
yn ddiarwybod i chwi eich hun. Dyma
y gweinidog yn dyfod i mewn, a'r gwas-
anaeth yn myned i ddechreu. Ar hyn,
wele ŵr canol oed, lled fyr o gorffolaeth, o
agwedd difrif-ddwys anghyiTredinol, yn
dyfod i'r lle. Y mae pob llygad yn y
synagog yn canolbwyntio arno. Cynhyrfa
yr olwg arno wahanol deimladau yn y
gynulleidfa, y rhai a ddadguddiant eu
hunain drwy lygaid a delweddau wyneb-
pryd y naill a'r llall. Ei ymddangosiad a
dery fath o syndod ac arswyd drwy y lle.
Y sylw a'r teimladau rhyfeddol a gyn-
hyrfid fel hyn drwy ei ymddangosiad a
enyn gywreinrwydd y g\vr ieuanc y buom
yn edrych arno, a gofyna yn wylaidd a
dystaw i'r agosaf ato : ' Pwy yw y g\vr
rhyfedd hwn sydd yn eniU y fath sylw
cyffredinol ato ? ' Yr ateb yw : ' Dyna
Howell Harris ! ' Y mae meddwl a Ilygaid
y g\vr ieuanc yn y fan yn cael eu hoelio
wrtho. Clywsai bethau rhyfedd am dano,
ond ni welsai ef o'r blaen. Dyma y dyn
hynod oedd yn aflonyddu y byd, ac fel yn
gyru dynion a chythreuliaid i gynddeiriog-
rwydd, yn awr o flaen ei Iygaid ! Edrycha
arno gyda gradd o ofn a chryndod.
" Dyma y gwasanaeth ar ben ; rhedasid
drwyddo mewn dull sychlyd a marwaidd.
Arweinir y gynulleidfa allan gan y gwein-
idog ; â efe yn mlaen, gydag un neu ddau
o'i blwyfolion tua'r persondy ; ond erys y
gynulleidfa ar y fynwent, ac ymgasgla
eraiU o'r pentref a'r wlad oddiamgylch
atynt. Erys y g\vr ieuanc hefyd ar ol.
Yn mhen ychydig, dyma y g\vr a welsom
gynau yn dyfod i'r Ilan, yn esgyn ar gareg
fedd, a phob Ilygad wedi ei adsefydlu
arno. Y mae bywiogrwydd anghyffredin
yn gerfiedig ar Iygad ac wynebpryd y g\vr
ieuanc yn awr. Dyna genad y nef yn
agoryd ei enau. Y mae ei lais fel s\vn
taranau cryfion, neu adsain dyfroedd
lawer ; disgyna ei eiriau fel tân poeth ar y
bobl. Newidia IIiw eu hwynebpryd gyda
phob ymadrodd. Ai yr un bobl a welwn
yn awr yn y fynwent ag a welsom ychydig
fynydau o'r blaen o fewn y muriau yna ?
lë, yr un bobl gan mwyaf ydynt ; ond nid
yr un yw y pregethwr. ' Y mae hwn yn
llefaru fel un ag awdurdod ganddo, ac nid
fel yr ysgrifenyddion.' Gafaela rhywbeth
yn meddyliau a chydwybodau y bobl yn
awr, a bâr i'r cryfaf ei galon frawychu, ac
i'r gliniau cadarnaf guro yn erbyn eu
gilydd. Y mae fel pe bai y nefoedd yn
gwlawio tân a brwmstan am eu penau.
Llenwir rhai o gynddaredd yn erbyn y
pregethwr a'i athrawiaeth ; eraill a les-
meiriant dan bangfeydd o argyhoeddiad
cydwybod ; eraill a lefant allan : ' Pa beth
a wnawn ni ? ' Y mae yn gyffro cyffredinol ;
ond pa le mae y g\vr ieuanc dyddorgar
hwnw ? Dacw efe, a'i wyneb wedi gwyn-
lasu, a'i holl gorff yn ysgwyd gan gryndod
a braw. Y mae yn wir ddelw o ddychryn.
Dysgwylia bob moment weled Mab y
Dyn yn dyfod ar gymylau y nefoedd.
Aeth rhyw saeth loyw-Iem oddiar fwa
athrawiaeth y g\vr sydd ar y gareg fedd
acw i'w galon. Y mae cleddyf dau-finiog
wedi ei drywanu hyd wahaniad yr enaid
a'r yspryd. Y mae ganddo olwg wahanol
arno ei hun yn awr i'r hyn fu ganddo
erioed o'r blaen. Mewn gair, y mae yn
ddyn newydd. Daeth allan o'r fynwent
y boreu hwnw wedi ei greu o newydd."
Y mae yn hysbys bellach nad yw y des-
grifiad campus uchod yn cydgordio yn hollol
â ffeithiau hanes. Y mae mor fyw a
phrydferth, fel y mae perygl yr anghofir
mai desgrifiad barddonol ydyw, ac mai un
felly y bwriadwyd iddo fod. Heb hyny,
gall fod i fesur yn gamarweiniol. Cymerodd
"Hiraethog" drwydded y bardd pan yn ei
ysgrifenu, ac y mae y darlun, er cystal
ydyw, yn wallus mewn amryw o fanylion.
Gwir fod gan hanesydd, yn enwedig bardd-
hanesydd, drwydded i lanw i fynu ddiffyg-
ion hanesiaeth a'i ddychymygion ei hun,
ond iddynt fod yn naturiol a phriodol.
Ond y mae i hyn ei derfynau. Rhaid i'r
bardd barchu ffeithiau, a chadw mewn
perffaith gydgordiad a hanesiaeth awdur-
dodedig. Fel yr oedd yn ofynol i brophwydi
yr oes apostolaidd, pan brophwydent, bro-
phwydo yn ol cysondeb y ffydd ; felly, rhaid
i feirdd ein hoes ninau, pan farddonant,
farddoni yn ol cysondeb hanes. Tebygol,
os nad sicr ydyw, na ddarfu WiIIiams
fwriadu yn mlaen Ilaw gwrando Howell
Harris yn pregethu'yn Nhalgarth; y mae
yn anhebygol hefyd ei fod yn bresenol yn
ngwasanaeth yr eglwys y boreu hwnw ;
WILLIAM WILLIAMS, PANTYCELYN.
151
ac y mae yn sicr na ddarfu iddo weled
Howell Harris yn ystod y gwasanaeth,
os oedd yn bresenol. Nid oddiar gareg
fedd ychwaith yr oedd Harris yn pregethu
ar y fynwent, ac y mae y desgrifiad o oed-
ran y pregethwr yn wallus ; desgrifir ef yn
" \vr canol oed," tra nad oedd ar y pryd ond
24 oed. Nid yw yn debygol ychwaith
mai Sabbath ydoedd, gan fod Wilhams ar
ei ffordd adref, a bod yr hen Bresbyteriaid
yn fanwl iawn mewn cadw y dydd yn
gysegredig. Ac os mai yr hen Price
Davies a weinyddai, ni redwyd trwy y
gwasanaeth mewn duU sychlyd a marw-
aidd. Ond y mae yn ddarlun swynol er
y diffygion hyn. Fel hyn y dywed
eglwys. Ac nid ar gareg fedd yr oedd yn
pregethu ychwaith, ond " heb im twmpath
dan ei droed," yr hyn yn ddiau sydd yn
golygu ei fod yn sefyll ar y llawr gwastad.
Y mae tri phenill yn y gân,* " Golwg ar
Deyrnas Crist," a ymddengys i ni yn
cau allan y golygiad fod WiIIiams yn
awyddus am wrando ar Howell Harris ar
ei ffordd adref yn Nhalgarth. Y mae y
bardd yn y gân hono yn cyfarch ei enaid
ei hun fel yma : —
"Fy eaaid, d'wed pwy ddyben, pwy feddwl, pwy
barto'd,
Oedd ynot yn yr amser y'th alwyd gynta' erioed ?
Trwy foddion anhebygol, y denwyd íì oedd ffol,
Mewn amser anhebygol i alw ar dy ol.
^ÇSfr--:-
CAPEL ANNIBYNUI. MAESYRONEN.
[Sef ijr ÄddüWy y byddai Williams yn ei fynychu, tra yn Athrofa Llwynllwyd.^
WiIIiams ei hun am ei argyhoeddiad yn
marwnad Howell Harris : —
"Dyna'r fan trwy'n fyw mi gofìaf,
Gwelais i di gynta' erioed,
O flaen porth yr eglwys eang,
Heb un twmpath dan dy droed ;
Mown rhyw yspryd dwys nefolaidd,
Fel yn ngolwg byd a ddaw,
Yn cynghori dy blwyfoHon
A dweyd fod y farn gerllaw."
Gwelir fod y peniU hwn yn gwrthddy-
wedyd y desgrifiad uchod mewn dau bwynt
o leiaf. Y mae yn amlwg mai "o flaen
porth yr eglwys eang" y gwelodd y bardd
Harris "gynta' erioed," felly nis gwelsai ef
cyn hyny yn ystod y gwasanaeth yn yr
Yr arfaeth oedd i esgor, fe ddaeth dy drefn lân,
Yn ddiarwybod imi a'r moddion yn y blaen ;
Pob peth yn fîìtio'r dyben, gylch ogylch dan y
nen,
Mab Cis yn lle asynod, gâs goron ar ei ben.
Zachëus, bach y mcddyliodd, ac yntau'n dringo
fry,
D'ai iachawdwriaeth rasol, pryd hyny idd ei d^ý ;
Ac felly Paul a Phetr, a Magdalen, a mwy,
A minau'n ddibarotoad, gâs fywyd gyda hwy."
Y mae yn dra sicr genym mai amcan y
bardd yn y Ilinellau uchod ydyw dangos
pa cyn leied o law fu ganddo ef ei hun yn
* Gweithiau William WiUiams 0 Bantycelyn, gan
y Parch. N. Cynhafal Jones, cyf. i., tudal. 163.
152
Y TADAU METHODISTAIDD.
amgylchiadau ei argyhoeddiad, a pha mor
llwyr yr oedd dan arweiniad Rhagluniaeth
fawr y nef. Gwnaed hyn heb ddyben,
heb feddwl, heb barotoad o'i du ef ; trwy
foddion anhebygol, ac mewn amser anheb-
ygol. Cyflawniad ydoedd, debygid, o'r
brophwydoUaeth : " Ceisiwyd fi gan y rhai
ni ymofynasant am danaf, cafwyd fi gan y
rhai ni'm ceisiasant."
Pa un ai ei glwyfo yn unig a gafodd
WilUams ar fynwent Talgarth y boreu
hwnw, neu ynte a dywaUtwyd olew yn ei
glwyfau ar yr un adeg ? Hwyrach nas
geUir rhoddi atebiad pendant i'r cwestiwn
hwn. Dywed ef ei fod wedi ei ddal gan
\yys oddi uchod, ond nid yw yn dweyd
hefyd ei fod wedi derbyn rhyddhad yr
efengyl. Fel hyn y mae efe yn mynegu : —
" Dyma'r boreu bj'th mi gofiaf,
Clywais inau lais y nef ;
Daliwyd fi wrth wỳs oddi uchod
Gan ei swn dychrynllyd ef ;
Ac er crwydro dyrys anial
01 a gwrthol dilesâd,
Tra bo anadl yn fy ffroenau
Mi a'i galwaf ef fy Nhad."
Swn taranau Sinai a glywir yn y peniU
hwn, a gweinidogaeth gyffelyb a geir yn
mhregeth Boaneyges, Ue y tybir fod y
bardd yn desgrifio ei dröedigaeth ei hun : —
" Ac yna Boanergcs,
Agora'i enw pur
Bhwng awyr dudew, dywyll,
A nefoedd oleu glir ;
Mil oedd o glustiau'n gwraado
A Theomemj)h. yn un,
Ac ofn yn ei galon,
A chryndod yn ei lín.
Uwch coryn mynydd Sina,
Yn uchel, uchel fry,
Ar aden cwmwl gwibiog
Mewn awyr dywyll, ddu,
Lle clywai gwlad o ddynion,
Lle y dadseiniai'r nef,
Mewn eitha' godidawgrwydd
'Roedd ei sefyllfa ef.
Ei lais oedd fel taranau
Amrywiol iawn ynghyd,
Neu fel yr udgorn olaf
A eilw'r meirw ynghyd ;
Yn creu rhyw arswyd rhyfedd,
Trwy'r ddaear faith a'r nef,
A miloedd yn llewygu
Wrth swn ei eiriau ef."
Ond os nad esgynodd Harris i fynydd
Seion y pryd hwnw, diau i WiUiams ei
weled wedi hyny yn esgyn yno, ac mai trwy
ei weinidogaeth ef y cafodd efe ei ryddhad;
pe fel araU, prin y buasem yn dysgwyl
iddo arddel Howell Harris yn dad ysprydol
iddo. Y mae WiUiams yn gosod aUan
Harris fel cenad hedd fel yma : —
"Dewch, gwrandewch ef yn agoryd
Ddyfnder iachawdwriaeth gras !
Gosod allan y Messiah
Yn y Uiw hyfryda' maes;
Ac yn dodi'r cystuddiedig
Ag sy'n ofni ei ras a'i rym,
Fel i chwerthin o orfoledd,
Ac i 'mado heb ofni dim."
Argyhoeddiad rhyfeddol o rymus a gaf-
odd WiUiams. Diau ddarfod i'r saeth
gyrhaedd i ddyfnder ei enaid, ac iddo
deimlo ingoedd angau. Ond pan gym-
hwyswyd i'w archoU y balm sydd yn
iachau, fe'i meddyginiaethwyd yn Uwyr.
Yr oedd beUach yn ddyn newydd — hoUol
newydd, a daeth yn fyw i ystyriaethau ag
yr oedd hyd yma yn farw iddynt. Dyma'r
pryd y daeth gyntaf i gyffyrddiad ffyddiog
a gwirioneddau mawrion yr efengyl. Caf-
odd yn awr ddatguddiad o'r ysprydol a'r
tragywyddol. Difrifolwyd ei feddwl, sanct-
eiddiwyd ei yspryd, dyrchafwyd ac union-
wyd ei amcanion ; a daeth i gysyUtiad â
phobl oedd yn Uosgi mewn awydd am
achub eneidiau. Cyflwynodd ei galon ei
hun i'r Gwaredwr, ac ymddiriedodd ynddo
am ei gadwedigaeth ; a meddianwyd ef
gan awydd angherddol am ddwyn eraiU at
Grist. Daeth i ofyn cwestiwn Saul, " Ar-
glwydd, beth a fyni di i mi ei wneuthur,"
a chafodd dystiolaeth yn ei fynwes fod yr
lesu yn gofyn am hoU wasanaeth ei fywyd.
Penderfynodd ufuddhau i'r alwad nefol, a
chefnu am byth ar yr alwedigaeth ddaearol
yr oedd wedi cymhwyso ei hun iddi, a
chysegru ei holl fyẁyd i weinidogaeth y
gair. Ei gymdeithion newydd oeddynt
Howell Harris, Daniel Rowland, a'r cyng-
horwyr oedd yn eu canlyn ; ac fe yfodd yn
helaeth o yspryd y diwygiad Methodist-
aidd. Hyd yma yr oedd wedi troi yn hoUoI o
fewn cylchoedd YmneiUduoI a gwrth-
Eglwysig ; ac y mae yn debygol ei fod yn
cyfranogi o egwyddorion a rhagfarnau ei
bobl. Gwir nad oedd yn meddu argy-
hoeddiadau cryfion ar bethau crefyddol,
ond prin y gellir tybied nad oedd gwrtb-
wynebiad i'r Eglwys Wladol yn deimlad
dwfn yn e>i fynwes. Cadarnheir hyn i
fesur gan un gair a ddefnyddir gan WiII-
iams am Howell Harris, offeryn ei droed-
igaeth, a'i dad yn Nghrist. Yn y penill
a ddifynwyd genym o'r blaen i amcan
arall, dywed WiIIiams : —
" Trwy ' foddion anhebygol '
Y denwyd fi, oedd ffol ;
Mewn amser anhebygol
I alw ar dy ol."
WILLIAM WILLIAMS, PANTYCELYN.
153
Nis gwyddom beth a wnai Harris yn
" foddion anhebygol" yn meddwl Wilhams,
os nad ei fod yn Eglwyswr zêlog, tra yr
oedd yntau yn YmneiUduwr o ddygiad i
fynu, os nad o argyhoeddiad hefyd. Hyn
yn benaf, feddyhem, yn nghyd a ieuenctid
y pregethwr, a gyfansoddent yr anhebyg-
rwydd hwn. Ond fe ddaeth yr anhebygol
i ben, a thrwy hyny daeth Williams yn
sydyn o fewn cylch dylanwad gwyr Eg-
Iwysig, ac fe'i dygwyd ymaith o'i gysyllt-
iadau cynteíìg, megys gan hfeiriant. Beuir
Wilhams am fyned i'r Eglwys Wladol, ac
nis geUir edrych ar yr hyn a wnaeth yn
amgen na chamgymeriad ; ond fe gy wirodd
y camgymeriad a wnaeth mewn byr amser.
Wedi iddo ddyfod i gyfathrach Howell
Harris a Daniel Rowland, yr oedd ei
fynediad i'r Eglwys Sefydledig yn hohol
naturiol, a braidd yn anocheladwy. Cred-
ent hwy mai angen mawr yr oes hono
oedd cael dynion o dJysg a doniau i'r
offeiriadaeth, pobl fyddai yn Uosgi o gariad
at y Gwaredwr, ac o dosturi at gyflwr y
wlad. Gwelent hwy yn Wilhams lestr
etholedig Duw, a'i le priodol ef, yn eu tyb
fiwy, oedd yn yr oíîeiriadaeth. A thra yr
oedd ei gymdeithion newydd yn ei v\asgu
i'r Eglwys, nid ymddengys fod yr un dy-
lanwad cyferbyniol yn gweithredu arno.
Nid oedd dim yn attyniadol yn yr eglwys
y magwyd ef ynddi, i beri iddo ymgeisio
am y weinidogaeth o'i mewn hi. Yr oedd
yno dri o weinidogion yn barod, a dau o'r
tri yn pregethu athrawiaethau a ystyriai
efe yn heresi ofnadwy. Yn anffodus, nis
gwelodd Wilhams Ỳmneillduaeth erioed
ond yn y fturf fwyaf anhawddgar. Yn
rhyfela a'u gilydd y gadawsai efe eglwys
Cefnarthen, dair neu bedair blynedd yn ol,
ar ei fynediad i'r athrofa, ac yr oedd y
rhyfel yn parhau, a'r frwydr yn boethach,
pan y dychwelodd. Dan yr amgylch-
iadau, pa ryfedd iddo fyned i'r Eglwvs
Sefydledig ? Y tufewn i'w muriau hi yn
benaf yr oedd arweinyddion y Methodist-
iaid, pobl ag yr oedd ef yn awr yn barod
i'w canlyn i'r lle bynag yr elent. Iddo ef,
yr oedd y deffroad Methodistaidd yn ym-
ddangos yn ardderchog agogoneddus. Yn
inhen blynyddoedd, y mae Williams yn
desgrifio cychwyniad Methodistiaeth yn
yr ymadroddion cyffrous canlynol : *"Ond
O, hyfryd foreu ! dysgleiriodd yr Haul ar
Gymru*; fe gododd Duw offerynau yma
o'r llwch, ac a'u gosododd i eistedd gyda
* Ateb Pldlo EvancjclÌHs.
phendefigion ei bobl ; fe daflwyd y rhwyd
i'r môr, ac fe ddaeth allan bob rhyw o
bysgod — mawr a bach. Chwe' sir yn y
Deheu a gofleidiodd y gair yn foreu ; fe
glywyd y ceiliog yn canu ; fe ddihunodd
hen wylwyr ag oedd wedi bod yn cysgu ;
pregethwyd bob Sul yn yr eglwysi ; de-
ffrodd yr Ymneillduwyr ; fe ganwyd iddynt
alarnad, a rhai o honynt a alarodd ; fe
ganwyd iddynt bibell, a rhai a ddawns-
iodd."
Yn mha le y bu efe yn darpar ar gyfer
arholiad yr esgob nis gwyddom. Yr oedd
yn ysgolhaig da yn barod ; a thebygol
ddarfod iddo gael pob cymhorth ag ydoedd
yn eisiau arno gan ryw ẁr Eglwysig a
drigau gerllaw. Fel hyn y dywed Mr.
Charles am ei urddiad : " Urddwyd ef yn
ddiacon yn yr Eglwys Sefydledig a.d. 1740,
gan Nicholas Claget, Esgob Tyddewi, i
guwradiaeth Llanwrtyd, a Llanddewi-
Abergwesyn. Gwasanaethodd ei guwrad-
iaeth am dair blynedd, a phregethodd,
gydag ond ychydig Iwyddiant, i bobl dy-
wyll ac anfoesol iawn. Dywedaj, gyda
llawer o ddifyrwch, iddo gael ei roddi yn
Llys yr Esgob am bedwar-ar-bymtheg o
bechodau y bu yn euog o honynt : sef, am
beidio rhoddi arwydd y groes wrth fed-
yddio, a pheidio darllen rhai rhanau o'r
gwasanaeth, a'r cyffelyb bethau bychain,
dibwys." Dywed yn mhellach : " Mai y
Parch. G. Whitefield, yn benaf, a'i han-
ogodd i adael yr Eglwys, a myned allan
i'r prif-íîyrdd a'r caeau. Yr oedd yn
gwasanaethu ei eglwysi o Gefncoed, deu-
ddeg miUdir o leiaf o Landdewi-Aber-
gwesyn. Yn y dyddiau hyny yr oedd yn
cadw gweddi deuluaidd dair gwaith yn y
dydd, ac yr oedd ei hoU ymarweddiad yn
syml, ac yn dduwiol yn gyfatebol i hyny.
Ni chafodd erioed ei gyflawn urddau, fel y
dywedant ; pallodd yr esgob ei urddo, o
herwydd ei afreolaeth yn pregethu yn
mhob man, heblaw yn yr eglwysi, yn y
plwyfau yr oedd yn gweinidogaethu yn-
ddynt. fGwedi gadael, neu gael ei droi
allan, nis gwn yn iawn pa un, o'r Eglwys
Sefydledig, daeth yn gydnabyddus a'r
Parch. Daniel Rowland, yr hwn a fyddai
yn dyfod yn achlysurol i bregethu i gapel
Ystrad-ffin, yr hwn oedd yn sefyll yn y
plwyf yr oedd yn byw ynddo." Y mae
amryw bethau yn y paragraph hwn nad
t Gadael yr Kglwys Wladol o'i wirfudd a wnaetli
efe, ar gai« ei frodyr yn Sasiwn Watford ; ac
efe oedd y cyntaf o'r Tadau a'i gadawodd hi.
154
Y TADAU METHODISTAIDD.
ydynt yn fanwl gywir. Sicr ydyw fod
Williams yn gydnabyddus a Daniel Row-
land yn mhell cyn iddo adael yr Eglwys, a
chyn iddo ymuno a hi. Yr oedd Daniel
Rowland yn pregethu yn Ystrad-ffin yn
dra chynarol. Daethai Rowland a Harris
i gydnabyddiaeth a'u gilydd íiwyddyn cyn
troedigaeth WilHams, ac y mae yn rhes-
ymol meddwl pan ddarfu i WiUiams ddyfod
i gydnabyddiaeth a'r naill, na fu yn hir
cyn dyfod yn gydnabyddus a'r llall. Y
cyfeiriadau cyntaf a gawsom at WiUiams
yn Uythyrau y Diwygwyr Cymreig ydynt
y rhai canlynol, pa rai a argraffwyd yn y
Weehly History. Mewn Uythyr dyddiedig
Hydref 20, 1742, cawn Daniel Rowland
yn ysgrifenu at HoweU Harris fel hyn :
" Yr wyf yn clywed fod y brawd W^iU-
iams wedi ei roddi yn Nghwrt yr Esgob,
am nad yw yn byw yn ei blwyf."
A chawn gyfeiriad araU ato yn niwedd
yr un flwyddyn, mewn Uythyr oddiwrth
HoweU Harris at y brawd H 1.
" Ymadewais y boreu hyn a'r brawd
W ms, cuwrad Ll d. Gyda yntau
hefyd y mae gaUu rhyfeddol. Ỳ mae yn
Uosgi o gariad a zêl."
Mewn Uythyr oddiwrth Evan WilUams,
cynghorwr, dyddiedig Awst 29, 1743,
dywedir :
" Yr wyf newydd ddychwelyd ar ol bod
yn gwrando ar y nodedig \\r Duw, Mr.
Rowhmd, peUder o ugain miUdir. Rhyf-
eddol oedd gaUu Mr. Rowland ar y Sab-
bath, a Mr. WiUiams ar y Sadwrn cyn
hyny, ac yn y seiat. . . . Dymuna Mr.
W^iUiams ar i mi hysbysu y brawd Harris
fod yr esgob wedi gwrthod iddo ei gyflawn
urddau, am ei fod yn Fethodist, er fod
ganddo lythyrau cymeradwyol oddiwrth
amryw o offeiriaid, ac oddiwrth ei blwyf-
oHon ei hun. Fe anghymeradwyd fod y
plwyfoUon yn datgan eu cymeradwyaeth o
hono."
Yn olaf, ysgrifena y brawd Thomas
Jones at HoweU Harris, Awst 30, 1743 :
" Am un o'r gloch yr oeddwn yn Llan-
gamarch, Ue yr oedd seiat newydd gael ei
sefydlu. Erbyn chwech yn yr hwyr,
daethum i Bronydd, pan y cyfarfyddais a'r
anwyl frawd WiUiams. Gwrthododd breg-
ethu. Wedi yr odfa, cawsom seiat felus o
ugain o rifedi."
Dengys y dyfyniadau uchod fod WiUiams
yn gwbl hysbys i weinidogion a chynghor-
wyr cyntaf y diwygiad, a'i fod yn cael ei
gydnabod yn gydweithiwr a hwy tra yr oedd
yn yr Eglwys Sefydledig. Nid ymddengys
i'w gysyUtiad ef a'r Eglwys fod o nemawr
gwasanaeth i'r diwygiad, nac o ddim
mantais personol iddo ef ei hun. Pe
buasai wedi Uwyddo i gael Uawn urddau
Eglwysig, tra yn y sefydUad hwnw, diau y
buasai ei barch a'i gyfleusderau i wneyd
daioni yn helaethach. Rhoddid bri mawr
ar urddau yr Eglwys Wladol yn yr oes
hono gan y Methodistiaid, ac yr oedd-
ynt yn bethau a fawr chwenychid.
Pobl yn meddu urddau yn unig a bregeth-
aíit yn yr eglwysi, ac oddiar y tir cysegr-
edig. Ganddynt hwy yn unig yr oedd
hawl i weinyddu y sacramentau. Ystyrid
offeiriad yn ẃr o anrhydedd digyffelyb,
perchid ef, teUd gwarogaeth iddo, ac yr
oedd ei awdurdod yn mron yn ddiderfyn.
Methodd WiUiams gyrhaedd yr anrhydedd
hon, a methodd yn unig o ddiffyg arafwch
a phwyU. Yn Ue ymgadw o fewn y ter-
fynau gosodedig, ymdaflodd i weithgarwch,
gan ddilyn esiampl HoweU Harris, ac
enynodd ddigofaint yr offeiriaid tuag ato,
a chauwyd ei Iwybr ef i ddyrchafiad ac
anrhydedd Eglwysig a drain. Cyhuddid
ef, meddai ef ei hun, o dori cynifer ^
phedwar-ar-bymtheg o ddeddfau yr Eglwys
yn ystod tair blynedd o amser. Pechodau
bychain, dibwys, y galwai Mr. Charles
hwynt, ond pechodau ysgeler a rhyfygus
iawn yr ystyriai yr awdurdodau Eglwysig
hwynt. Cafodd ddwyn ei benyd, a chan-
lyniad ei weithredoedd ; a gorfu iddo fod yn
ŵr syml, heb lawn urddau am ei hoU fywyd.
Ymddengys fod WiUiams ei hun yn gosod
Uawn bris ar urddau Eglwysig, ac iddo
gael ei siomi yn fawr pan y nacäwyd
hwynt iddo. Fel yma y dywed Mr.
Charles : " Nid oedd (WiUiams) yn cym-
eradwyo yr afreolaeth hwn, yn ei feddwl,
dros ei hoU fywyd. Gweithred fyrbwyU
ynddo yr oedd yn ei barnu, ac y gaUasai
fod yn fwy defnyddiol pe buasai yn fwy
araf a phwyUog ; ond geiU Duw ddwyn ei
amcanion i ben trwy ffolineb dynion ; a
hwyrach mai fel yr oedd, yr oedd yn fwyaf
addas i gyflawni ei amcanion doeth ef."
Yn ein tyb ni, y mae brawddeg Mr. Charles
wedi ei cham-ddeaU a'i cham-esbonio
gan ysgrifenwyr diweddar. Addefwn ei
bod yn amwys, ond nid yw yn anhawdd
iawn i'w deongU. Beth oedd yr afreolaeth
ag yr oedd WiUiams yn ei anghymeradwyo
ynddo ei hun ? Nid ei fynediad i'r Eglwys
Wladol, fel y tybia rhai, na'i ymadawiad
o honi, fel y barna eraiU. Y mae
Mr. Charles yn deffinio yr " afreolaeth "
yn ddigon cUr, sef " pregethu yn mhob
WILLIAM WILLIAMS, PANTYCELYN.
^55
^tL <^d^
ä. Oíci. /í íJ) J^íi^l-s?f âJ /.vf ^ _
^LH //j0n-/u
CiijfΟ Ŵ M-7J/t pí-í^f-L
J7U 44p A, Á^íko> aiu Li^ /^f^.
ŵ^ C^/Ut.^0. Qa/^^^^^
^ÍIÌOA^^
Â. Miad^' ŷ/ ^/f /t/ /f/nyi//í^i- 1 ^t^il
PHOTOGRAPH 0 LAWYSGRIF WILLIAMS YN KI lEÜENCTYD.
[AUan o ysynjlijfr ij Bardd ija ineddiant ei orwyres, Mrs. Jones, ■pritíd y Parch. Josiali Jones,
MachynUeth.]
156
Y TADAU METHODISTAIDD.
man heblaw yn yr eglwysi, yn y plwyfau
yr oedd yn gweinidogaethu ynddynt."
A ydym ynte yn barod i gydnabod
ddarfod i W'iUiams ddatgan ei edifeirwch
am fyned i bregethu i'r prif-fifyrdd a'r
caeau ? Nac ydym, yn bendant. Ond yr
ydym ar dystiolaeth Âír. Charles yn barod
i gredu ddarfod iddo ddangos ei edifeirwch
am beidio cyfyngu ei hun dros amscr ei
gimradiaeth o fewn ei blwyf. Collodd,
drwy wneyd fel y gwnaeth, sefyllfa o
anrhydedd yn mhhth ei frodyr am ei holl
fywyd, a choUodd yr eglwysi ei wasanaeth
yn ngweinyddiad yr ordinhadau hefyd. Bu
hyn yn fwy o anfantais iddo, hwyrach,
nag ydym yn ei feddwl. Yr ydym ni yn
ystyried Wilham Wilhams yn gydystàd a
Daniel Rowland, Howell Davies, Wilham
Davies, Castellnedd, ac eraill, ond nid
ydoedd felly. Pregethwr yn unig oedd
efe, tra yr oeddynt hwy yn weinidogion
ordeiniedig, ac yn meddu rhagorfreintiau
eu swydd. Medrai yr holl offeiriaid Meth-
odistaidd gymeryd lle Daniel Rowland ar
Sul y cymundeb yn Llangeitho, pan y
byddai galwad am hyny ; ond nis meiddiai
Wilhams wneyd felly, er ei fod yn bresenol
fynychaf. Yr oedd yn cynorthwyo ar y
cymundeb, ond nid yn ^ií'eiìiyddn. Bu yn
Uanw lle ail-raddol felly yn Llangeitho,
yn agos i haner cant o ílynyddoedd. Bu yn
pregethu hefj'd am bymtheg-mlynedd-ar-
hugain, unwaith y mis, yn nghapel Llan-
lluan, lle ag y gweinyddid yr ordinhadau
ynddo. Ar Sul y cymundeb yr oedd yn
rhaid iddo ef i rhoddi lle i ryw \vr ordein-
iedig ag a fyddai o bosibl yn fyrach ei
ddawn, ac yn Uai ei gymhwysderau nag ef
ei hun. Y mae yn naturiol i feddwl fod
Wilhams yn aml yn teimlo y diraddiad
hwn ; ac y mae yn hollol gredadwy
ddarfod iddo yn mhrydnawn ei ddydd
gydnabod wrth Mr. Charles ei fod wedi
gweithredu yn anoeth a byrbwyll, pan
yn guwrad yn Llanwrtyd. Ond y mae
ddarfod iddo ddatgan edifeirwch am bre-
gethu mewn lleoedd anghysegredig, ond
dan yr amgylchiadau yr oedd efe ynddynt
yn ystod ei gnwradiaeth, yn hollol an-
hygoel. Y mae ei eiriau a'i weithredoedd
dros ei hoU fywyd yn dangos yn amgen.
Blwyddyn nodedig iawn yn hanes
WiUiams ydyw 1743, bhvyddyn cynhaHad
Cymdeithasfa gyntaf y Cyfundeb. Yn y
Gymdeithasfa hono, a gynhahwyd yn Wat-
ford, ar y ^ed a'r 6ed o lonawr, y cyfarfydd-
odd efe gyntaf a'r enwog George Whitefield.
Hwyrach mai yn hon y bu efe yn anog
Williams i adael yr Eglwys Wladol, a
myned i'r prif-fîyrdd a'r caeau. Os felly
bu, rhaid mai mewn ymddiddan cyfrin-
achol y gwnaed hyny, o herwydd nid oes
yn yr adroddiad grybwylliad am hyn, hyd
yr ail Gymdeithasfa, a gynhaliwyd yn yr
un Ue ar y 6ed a'r yfed o Ebrill. Yno
pasiwyd penderfyniad " Fod y Parchedig
Mr. Williams i^adael ei guwradiaeth, a bod
yn gynorthwywr i'r Parchedig Mr. Daniel
RowÌand." Yn ychwanegol at hyn, pen-
odwyd ef yn Gymedrolwr ar un o'r pump
dosbarth y rhanwyd y wlad iddynt, sef
Siroedd Maesyfed a Threfaldwyn ; a gos-
odwyd yr enwog Richard Tibbot yn arol-
ygwr dano. Mewn Cyfarfod Misol a
gynhaliwyd rhwng y ddwy Sasiwn yn
Watford, sef ar y 3ydd o Chwefror, yn
nhỳ Jeffrey Dafydd, o'r Rhiwiau, yn
mhlwyf Llanddeusant, Sir Gaerfyrddin,
gosodwyd gorchwyl pwysig arall ar ei
ysgwyddau ef . Yr oedd yn bresenol yn y cyf-
arfod hwn, Howell Harris, Daniel Rowland,
William Williams, a dau neu dri o gyng-
horwyr ; a dywed Mr. Charles, "er nad
oedd ond cyfarfod bychan o rhan nifer, ei
fod wedi ei anrhydeddu yn fawr â phre-
senoldeb yr Arglwydd. Ar yr ail ddydd,
darfu i Howell Harris anog pawb ag oedd
yno i gyfansoddi ychydig benillion o bryd-
yddiaeth erbyn y cyfarfod nesaf, i edrych a
oedd yr Arglwydd wedi rhoddi dawn pryd-
yddiaeth i un o honynt, a phwy oedd
hwnw. Felly y gwnaethant ; ac wedi
iddynt i gyd ddarllen eu cyfansoddiadau,
penderfynwyd yn gydun mai Mr. WiIIiam
WiIIiams a gafodd y ddawn odidog hon, ac
anogodd Mr. Harris, a phawb eraill, iddo ei
harferyd er gogoniant Duw, a Iles ei eg-
Iwys." Gwelir felly iddo gael ei apwyntio
i wasanaeth fel efengylydd ac fel bardd, yn
agos iawn i'r un amser. Sut y cyflawnodd
efe y dyledswyddau hyn ? Cawn weled yn
y man. Edrychwn arno yn gyntaf fel
efengylydd. Gwnaed ef yn brif swyddog
ar eglwysi Maesyfed a Threfaldwyn,
a thrwy ei fod yn gynorthwywr i Daniel
Rowland, ar yr hwn yr oedd gofal rhan
uchaf Sir Aberteifì a Sir Gaerfyrddin, yr
oedd rhan o ofal y siroedd hyny hefyd yn
gorphwys arno ef. Cyflawnodd ddyled-
swyddau ei swydd gyda'r fath ymroddiad
a zêl ag yr oedd yn bosibl i neb wneyd, ac
eithrio Howell Harris ei hun. Gwnai, nid
yn unig gadw golwg gyffredinol ar eglwysi
ei ofal, ond gwnai i fynu ddiífygion y
cynghorwyr oedd dano, gan ymweled a'r
eglwysi ei hun, a danfon adroddiadau
WILLIAM WILLIAMS, PANTYCELYN.
157
o'i sefyllfa i'r Cymdeithasfaoedd. Cawn
engraifft o hyn yn hanes eglwysi Llan-
gwyryfon, Lledrod, Rhydfendigaid, &c.,
yn Sir Aberteifi. Yr oedd arholygiad yr
eglwysi hyn yn gorphwys ar Morgan
Hughes. Yn rhyw sut, methodd gyflawni
ei ymddiriedaeth, ac ymwelodd Williams
a"r eglwysi, ac y mae dau adroddiad
a ddanfonodd Wilhams am danynt yn
awr ar gael a chadw, yn llawysgrifau
WilHams ei hun, yn Nhrefecca.''' Y mae
y cyntaf o honynt yn rhy faith i'w osod i
fewn yma. Rhydd adroddiad manwl ani
y pump eglwys ar wahan, a diwedda trwy
ddweyd : " Yr wyf fi fy hun yn ymweled a
hwy unwaith yn y chwech wythnos, ac yn
cadw cwrdd eglwysig gyda hwy, fel y
gwypwyf eu syniadau a'u sefyllfa. Teim-
Iwyf gariad ac ymlyniad atynt, ac feUy
hwythau tuag ataf finau. Y mae derbyn-
iad caredig i'w cynghorwr anghyoedd yn
gyffredinol yn eu mysg, a da ganddynt
gael eu hoH ganddo ef, a chenyf finau.
Yr wyf yn sylwi mai y fath a fydd y cyng-
horwr, pa un ai zêlog, siriol, a ffyddlawn,
ai ynte claiar, &c., y cyfryw hefyd a fydd
y bobl o dan ei ofal." Ceir adroddiad byr
arall ganddo am yr un eglwysi, dyddiedig
Mehefin 2gain, 1745, yn yr hwn y dywed :
" Nid oes gyda mi fawr o hanes neiUduol
am danynt, oddiwrth yr hyn a gawsoch
o'r blaen. Y maent yn para i ddyfal lynu
wrth yr Arglwydd. Y rhan fwyaf o honynt
sydd yn cynyddu mewn adnabyddiaeth o
hono. Mae arnaf fi a hwythau ry w faint o
flinder, am ein bod mewn eisiau o gyng-
horwyr preifat i edrych atynt yn wythnosol.
Y rhai a fynant hwy eu cael, nis gallant
ddyfod ; a rhai a all ddyfod, nis derbyniant.
Ond yr wyf yn gobeithio y caiff hyn ei
gyflawni." Dengys hyn ei fod yn barod
at bob gorchwyì, ac nad ystyriai yr un
ddyledswydd yn rhy ddistadl iddo ef ei hun
ei chyflawni.
Y mae olrhain teithiau a llafur WilHams
am haner cant o flynyddoedd yn anmhosibl.
Nid ysgrifenwyd hẁynt ond yn Uyfr bywyd
yr Üen. Fel hyn y dywed awdwr i Mdìi-
odistiadh Cymru am dano : " Mae yr hen
ganiedydd peraidd, WilHams, Pantycelyn,
yn ei hen ddyddiau, pan yr oedd yn 73
mlwydd oed, ac yn tynu yn agos i derfyn
ei oes, yn dweyd : ' Mae fy nyddiau yn
tynu tua'r terfyn ; y mae fy ngyrfa ymron
wedi ei rhedeg. Cefais oes faith ; yr wyf
* Gwel Methodistiaeth Cymru, cyf. ii., tudal. 27.
+ Cyf. i., tudal. 206.
yn awr yn 73 mlwydd oed. Yr wyf wedi
bod yn pregethu am y 43 J mlynedd diwedd-
af, ac wedi teithio bob wythnos at eu
gilydd, rhwng deugain a deg-a-deiigain o
filldiroedd, dros yr hoU amser hyny. Y
gwanwyn diweddaf, mi a deithiais bedair
neu bum' waith drwy Ddeheudir Cymru ;
pob taith yn para pythefnos o amser, ac
yn 200 milldir o hyd.'
" GeUir ffurfio rhyw ddrychfeddwl am
ei deithiau, pan y dywedir iddo deithio
digon o fiUdiroedd i gyrhaedd bedair gwaith
o amgylch y ddaear, — nid Uawer Uai na
chan' mil o fiUdiroedd ! O ba faint o
ddefnydd y geUir meddwl y bu y g\vr hwn
yn ei oes i Gymru dyweU ? Pa sawl
pregeth a draddododd ? Pa sawl cyfarfod
eglwysig a gadwodd ? Ac yn mha nifer o
gyfarfodydd cyhoeddus y bu ? A phan y
galwn i gof fywiogrwydd ei yspryd, tan-
beidrwydd seraphaidd ei feddyhau, a'i
ddibyniad cyson ar Dduw am ei fendith,
pa swm o ddaioni, gan ei faint, ni chwbl-
haodd ? Sicr yw ddarfod i'r cwmwl hwn,
mewn ysbaid 43 o flynyddoedd, ddefnynu
Uawer o gawodydd bendithiol ar diroedd
cras y Dywysogaeth ; îe, y mae efe wedi
marw yn Uefaru eto yn ei emynau bywiog,
a'i gyfansoddiadau barddonol ; a thrwy-
ddynt hwy, y mae yn parhau hyd heddyw
i adeiladu a chysuro plant Duw, yn filoedd
ar filoedd ar hyd Cymru oU, ac yn Uawer
o drefydd Lloegr, íe, yn nhir y GorUewin
beU ; a diau genyf y pery ei waith bardd-
onol yn ei flas a'i ddefnyddioldeb am oes-
oedd eto i ddyfod."
Awgrymir weithiau, gan rai pobl, nad
oedd WiUiams ond pregethwr cyfFredin, a
bod ei nerth yn gorwedd mewn cyfeiriadau
eraiU. Nid hyn oedd syniad y bobl oedd-
ynt yn cydoesi ag ef. Dyrchafent hwy ei
J Älae yma gamargi-afî. Pan yr oedd Williams yn
73 oed, yr oedd wedi bod yn pregethu am 50
mlynedd, ac nid am 43. Y mae y dyfyniad
tíeisonig, a geir yn nechreu yr ysgrif hon, yr
un mor wallus. Felly y ceir y cyfrif gan y
Parchn. .J. Hughes a N. Gynhafal Jones. Ceir
y cyfrif yn gywir yn y copi o Iythyr Williams
at y Parch. T. Cliarles, fel y mae yn Yr
Arioeimjdd, cyf. v., tudal. 180. Dyddiad y
llythyr yw lonawr laf, 1791. Dywed yno fel
yma : " Deallwch, er fy mod wedi gwella rhyw
faint o'r poen dirfawr fu arnaf, nid wy' ond
gwan a llesg eto, ac yn analluog iawn, ac nid
ocs geni fawr gohaith galiu dyfod allan fawr
neu ddini I)ytii mwy, am íy mod yn 73 ood ;
ond mcddyliwcli fath siomedigaeth i ddyn ag
oedd yn trafaelio agos i dair mil o íilldir-
oedd'hob blwyddyn tros 50 o flynyddau, fod
yn awr heb drafeilio dim rhagor na é o droed-
feddi yn y dydd, sef o'r tân i'r gwely."
158
y TADAU METHODISTAIDD.
alluoedd pregethwrol ef, a rhoddent iddo
y lle mwyaf parchus yn nghyfarfodydd
pregethu y Cymdeithasfaoedd. Yr oedd
yn anil yn pregethu o flaen Daniel Row-
land. Nid oedd i'w gystadlu ag efe fel
pregethwr, ac y mae yn bosibl nad oedd mor
boblogaidd a Howell Harris ; ond yn sicr
nid oedd neb arall yn rhagori arno yn hyn.
Dywedai Howell Harris fod ganddo " allu
rhyfeddol," ac am ei allu pregethwrol yr
oedd yn siarad. Dyma fel y dywed Mr.
Charles am dano fel pregethwr : " Yr
oedd ei ddoniau areithyddol yn helaeth, ei
bregethau yn efengylaidd, yn brofiadol, ac
yn felus ; yn chwiHo i mewn i au athraw-
iaethau a gau brofiadau, ac yn gwahan-
iaethu yn fanwl rhwng gau a gwir yspryd.
Yr oedd ei ddychymyg yn gryf, ei lygad
yn graíìf a threiddgar, a Uawer o ddylan-
wadau nefol ar ei yspryd wrth weinidog-
aethu yn gyhoeddus, ac yn ei ymddiddan-
ion a dynion am fater eu heneidiau yn y
cymdeithasau neillduol." Yr oedd yn bur
ymddibynol ar y gwynt nefol a gaffai wrth
bregethu, ac fe ddywedir ddarfod iddo
ddweyd wrth ei gyfaill, y Parch. Peter
WilHams : " Ti elU di, Peter, bregethu pe
byddai yr Yspryd Glân yn Ffraiiîc ; ond
ni allaf fi wneyd dim o honi heb iddo fod
wrth fy mhenehn i." Y mae y Parch.
Thomas Jones, o Ddinbych, yn ei ddyr-
chafu fel duwinydd a phregethwr. Ar
ol canmol Daniel Rowland, ysgrifena : —
* " Ond ai rhaid i WiUiams hefyd,
Ar ei ol yn fuan ddiengyd ?
Oedd un ddyrnod ddim yn ddigon,
I geryddu plant afradlon ?
Dau arweinydd eon mawrddysg
Yn ein gado yn y terfysg !
Llon eu gwedd, y'nt mewn hedd, tudraw i'r
bedd Uychllyd ;
Gweiniaìd yn yr helbul dybryd,
Ar ei hol yn ngwlad yr adfyd.
Doniau ar ei ben ei hunan
Oedd gan Williams, fywiog, wiwlan ;
]\Iedrus, manwl mewn athrawiaeth,
Egwyddorion a dysgyblaeth ;
Ca'dd ei ddysgu i drin yn gymhwys
Bob rhyw gyíiwr yn yr eglwys ;
Cryf a gwan, yn mhob man, a wyddan',
Ue teithiai,
Llwybrau ceimion a ddangosai,
Cysur, maeth i'r gwan a roddai.
Cadarn ydoedd f el Duwinydd ;
Nid anfuddiol fel Hanesydd ;
I'r serchiadau ac i'r deall,
Taflai íîrwythau'r Ganaan ddiball ;
At y galon, Balm o Gilead,
Clwyfau'r Oen, a'r cyfiawn bryniad,
rhad, i'r anfad a'r
• Hen Farwnadau, gan y Parch. T. Levi.
Llawn iachad, rhydd
dinerth,
Yn yr unig ddwyfol Aberth,
A wnaeth Iawn am feiau anferth.
O ! 'r mawr goUed fydd am dano,
Athraw doeth, wyliedydd effro !
Gras a deall, a hir brofìad,
Oeddynt ynddo mewn cysylltiad ;
Amryw fîyrdd yr oedd ei ddefnydd
Yn dra amlwg 'r hyd y gwledydd ;
Eto grym, angau llym, oedd hylym, ddiarbed,
Yn ei awr o'u mysg cai fyned ;
Aeth o'r byd yn d'wysen addfed ! "
Cyffelyb hefyd yw desgrifiad Jacob Jones,
o'r Hendre, o hono : —
t " Nid oedd lle i ddysgwyl iddo
Aros yma ddim yn hir ;
'Roedd e' beunydd yn addfedu
Tua'r nefol sanctaidd dir ;
Wedi rhoddi fyny'n hollol
Chwilio naturiaethau'r Uawr,
Dyna swm ei holl bregethau,
Oedd dyrchafu'r enw mawr !
Dewch i'w wrando yn pregethu
Yn ei ddyddiau ola' i gyd,
'I lygaid yn fîynonau dagrau
Wrth ganmol y Gwaredwr drud !
Nid am system Isaac Newton,
Pliny hen, na Ptolemy,
Mae e'n son uwchben y werin,
Ond am fynydd Calfari.
Pan ddoi WiUiams i'r soseiet,
Hynod yno oedd ei ddawn ;
Fe olrheiniai droion calon,
A'i dichellion oll yn Ilawn ;
Nid oedd rhaid ond agor genau,
Chwiliai fe'r cyítyrau ma's ;
Gwahaniaethai rhwng y rhagrith
Ac effeithiau dwyfol râs.
'Roedd e'n berchen goleu cyflym,
Ac fe leflai at y nôd,
Y" Ilygad dê a'r fraich anwyla',
Ac ni fethodd byth mo'i dro'd ;
Ond i'r golwg doi a'r eilun,
Fe ddynoethai'r gwraidd yn llwyr,
Nes bai hen galonau celyd
'N toddi'n union fel y cwyr."
Amlwg yw na chyfrifai y Parchedigion
Thomas Charles, Thomas Jones, na Sion
Lleyn a'u cyff'elyb,— dynion o archwaeth
uchel, — mo Wilhams yn bregethwr cyfî-
redin. Ymddengys mai tybiaeth ddiweddar
ydyw hon, ac nad oes iddi sail hanesyddol.
Sut ynte y cododd syniad o'r fath ? Y mae
yr ateb i'w gael mewn sylw o eiddo y di-
weddar Dr. Lewis Edwards, o'r Bala. Pan
yn traethu ar Wilhams fel duwinydd,
dywed, "fod yn anhawdd ein cael i weled
mwy nag un rhagoriaeth yn yr un person,
felly yn ei achos ef, y mae dysgleirdeb ei
t Ibid.
WILLIAM WILLIAMS, PANTYCELYN. 159
PHOTOGRAPH O LAWYSGRIF WILLIAMS YN EI lEUENCTYD.
iYn daiigos ijr Hymnau wedi eu rhanu yn benilUon, a'u hatalnodi. Allano ìjsariflyfr
Mrs. Jones, Machynlleth.]
i6o
Y TADAU METHODISTAIDD.
farddoniaeth yn tueddu i guddio o'r golwg
ei fawredd fel duwinydd." Y mae y bardd
yn cysgodi y duwinydd, ac yn cysgodi y
pregethwr hefyd. Eto cawn ei fod yn
meddu ar gymhwysderau pregethwr o'r
dosbarth blaenaf. Yr oedd ei ddoniau
areithyddol yn helaeth, ei ddysg a'i wybod-
aeth yn eang, ei ddychymyg yn gryf, ei
yspryd yn wresog, a'i barodrwydd dawn
yn anarferol o gyflawn. Nis gallasai gẃr
yn meddu y rhagoriaethau hyn fod yn
bregethwr cyffredin. Meddai Wilhams
hefyd gyflawnder o ffraethineb ac arabedd,
ond nid ymddengys ei fod yn arfer y ddawn
beryglus hono yn ei weinidogaeth. Rhoddai
efe raff go hir iddi yn aml mewn ymddi-
ddanion personol, ac weithiau yn y seiadau,
ond nid un amser yn y pwlpud.
Ond er ein bod yn credu fod i Wilhams
yn ei ddydd le uchel fei pregethwr, eto y
mae yn hysbysol mai yn nghynulhadau y
saint — yn y societies y byddai ei ddoniau
amrywiol yn dyfod i'r golwg fwyaf. Yma
yr oedd ei allu ymddiddanol i'w weled
mewn llawn weithrediad. Nid oedd ei
fath am gadw seiat. Y mae yn anmhosibl
i orbrisio ei wasanaeth hirfaith i'r Cyfundeb
yn y cyfeiriad pwysig hwn. Yr oedd wedi
ei gynysgaeddu mewn modd arbenig a
neilíduol iawn a'r ddawn i wahaniaethu
ysprydoedd. Adnabyddai ddynion megys
wrth reddf, ac yr oedd yn unplyg a gonest
yn ei ymwneyd a phawb. Yr oedd hefyd yn
hynod am ei allu i orchfygu terfysgoedd, a
heddychu pleidiau, a godent weithiau yn
erbyn eu gilydd yn yr eglwysi. Danfonid
am dano yn aml mewn amgylchiadau o'r
fath, ac yr oedd yn rhyfeddol o Iwyddianus
i adfer heddwch ar ol ei golh. Y mae
Uawer o engreifftiau o'i wasanaeth yn
y cyfeiriadau hyn, wedi eu croniclo yn
hanes ein heglwysi. Yr oedd hefyd yn nod-
edig o wasanaethgar yn nghynadleddavi y
Cyfarfodydd Misol, a'r Cymdeithasfaoedd,
yn enwedig pan fyddai pwnc o athrawiaeth,
neu rai o"r heresiau oedd yn bhno yr eg-
Iwysi gerbron. Yr oedd ei graff"der naturiol,
a'i wybodaeth eang o athrawiaethau cre-
fydd yn ei hynodi yn mhUth ei frodyr, a
gwnaeth ddefnydd mawr o'r doniau arbenig
yr oedd Pen mawr yr Eglwys wedi ei
ymddiried iddo.
Rhaid i ni bellach droi at ei ysgrifeniadau.
Ar yr hyn a ysgrifenodd y mae enwog-
rwydd WiUiams yn benaf yn syUaenedig ;
yma y gorwedd ar waelod Uydan a chadarn.
Cafodd ei anog gan ei frodyr, fel y dywed-
wyd genym, i arfer ei ddoniau prydyddol
yn 1743 ; ond y mae yn amlwg ei fod ef yn
cyfansoddi hymnau yn mheU cyn hyny,
hwyrach yn fuan ar ol ei argyhoeddiad yn
1738. Yn ystod y blynyddoedd diweddaf
yr ydys wedi dyfod o hyd i hen ysgrif-lyfr
o eiddo WiUiams, yr hwn sydd yn awr yn
meddiant Mrs. Jones, priod y Parch. Josiah
Jones, MachynUeth, yr hon sydd orwyres
i'r bardd. l4wn yn ddiau ydyw ei ysgrif-
lyfr cyntaf ef. Y mae yn Uyfr golygus,
mewn cadwraeth dda, gyda chloriau Uedr,
a clasp pres. Ar y clawr, yn ei ddiwedd,
y mae yr unig ddyddiad ag sydd arno, a
hwnw yn Uawysgrifen yr awdwr, sef
March 25th, 1^45. Mae ynddo o chwech
i wyth cant o beniUion, wedi eu hysgrifenu
yn ddiau yn moreuddydd ei oes. Diau fod
y dyddiad sydd ar ddiwedd y Uyfr wedi ei
ysgrifenu ar ol iddo gael ei orphen, ac nid
oedd y bardd y pryd hwnw ond 28ain oed.
Cynwysa lafur blynyddoedd, a diau fod
y rhan gyntaf o hono wedi ei ysgrifenu
yn foreu iawn. Hwyrach fod yr hymnau
cyntaf wedi eu cyfansoddi yn agos i'w
argyhoeddiad, a'i bod ynddangosego ystâd
ei feddwl ef ei hun yn y blynyddoedd
cyntaf o'i fywyd crefyddol. Dangosant fod
ei deimladau yn bur amrywiol. Y mae yn
dechreu gan rodio yn y tywyUwch, yn
gweddío am ymwared, yn gweled gwawr,
yn dyfod yn hyderus, ac hyd yn nod yn
cyrhaedd sicrwydd, ac yn ^ofyn am barhad
mewn gras. Y mae eilwaith mewn tywyU-
wch, yn achwyn ar erledigaethau, yn cael
golwg ar y Cyfryngwr, yn cael sail eilwaith
i hyderu, ac yn gweddîo am sicrwydd
gobaith. Nis medrwn gael Ue i ychwaneg
nag un o'r hymnau dyddorol hyn, a dewis-
iwn y gyntaf, heb un rheswm araU heblaw
mai hi y w y gyntaf yn y Uyfr : —
* " Pe gwelswii i cyn myn'd i'm taith,
Mor ddyfned yw fîordd Duw a'i waitli,
Anobeithiaswn yn y man
Gyfodi o ddystryw byth i'r lan.
Ond j)an y'm galwyd fel Abraham,
Gwnes ufuddhau lieb wybod p'am ;
Gan geisio gwel'd dyeithr Dduw,
Ond íîaelu ei íîeindio yn fy myw.
Pe gwelswn ddyu — mi carwn ef —
A ddysgai'r íîordd im' fyn'd i'r nef ;
Rhyw giiide i'r nef, ei wel'd pe cawn,
Fy enaid fyddai lawen iawn.
Ond och ! sa' draw, ddymuniad gwiw,
A drusto i ddyn melldigaid yw ;
Rhaid i ti aros amser Crist,
Er maint dy hast, fy enaid trist.
* Giueithiau Williams, gan y Parch. N. Gynhafal
Joneí, D.D., cyf. ii, tudal.
WILLIAM WILLIAMS, PANTYCELYN.
'Rwy'n ffiaidcl iawn, 'does fan yn lân,
'Rwy'n gymbwys iawn i fyn'd i'r tân !
Po' fwyaf geisiaf fyn'd i'r lan,
Iselach aiíî fy enaid gwan ;
Ocli ! brysio raid, — gwel angau glas,
A mi prin gam o'r Aipbt i maes !
Cymuno, darllen, gweddîo'r wyf ;
'Chwanegu mae rhai'n at fy ngblwyf ;
Cyfiawnder, angau, euogrwydd du,
Cytuno maent i'm damnio i !
Yn dra diobaith 'rwyf yn byw,
Heb allu rhoi fy mhwys ar Dduw ;
Ac, fel y graig, niae'n nghalon gas,
Och íì ! gwae íì ! betb wnaf am ras ?
'Rwy'n farw fel yr esgyrn sych,
A welsai 'Zeciel gynt trwy ddrych ;
Llabyddiwyd fi a'r ddeddÌEol saeth,
'Does fawr o le im' fyn'd yn wacth.
Cbwi, lân eneidiau, peraidd gainc,
Sy'n rhodio oddeutu'r orseddfainc,
P'odd daetbocb yma, — traethwcb im',
Bydd hyny'n well gen i na dim.
0 Moses, Esau — mawr yw'ch bri —
A Daniel, Job, — p'odd daetboch chwi ?
Dros íîin flynyddoedd buocb, fì),
P'odd darf u i'cb gadw fîordd mor gul ?
Chwi sy'n mwynhau'r goleuni glân,
Dewr filwyr Duw, raewn dwr a thân ;
P'odd darfu i cbwi goncro'r byd,
Pan ddaetboch trwy'r anialwch drud ?
Yn awr, caf ateb gan y rhai'n,
Mewn geiriau amlwg, eglur, plaen ;
Medd Pedr, lago, Jude, ac lo'n —
'Daethom trwy ludded mawr a phoen.'
' Yn crynu'n flin y buom ni,'
^Medd Moses, ' ar y mynydd du ; '
'Minau,' medd Dafydd, 'lawer pryd
Wlycbais a'm dagrau'm gwely clyd.'
A ! dyma'r fíordd, medd pawb yngbyd,
Sy'n arwain tua'r nefol fyd ;
Ffordd gul i'r cnawd, íîordd gyfyng yw,
Sy'n arwain tua thŷ ein Duw.
Unwaith cynygia'i eto i'r nef,
A Duw wrandawo ar fy llef ;
0 Arglwydd, clyw, a chlyw heb ball,
Daer lefain dy greadur dall.
Rbo i mi nerth i fyn'd ymla'n,
Trwy ganol dyfroedd mawr a tliân ;
Ni tbawaf ddim nes caffwyf le
Gyda fy Nuw, o fewn i'r ne'.
(ìwerthfawrogir yr hymnau bachgenaidd
hyn, yn benaf, am eu bod yn dangos ystad
meddwl Williams yn ystod cyfnod ar ei
fywyd ag sydd i fesur yn gyfnod tywyll.
Cawn yma hefyd olwg ar ei awen yn ei
blagur.
Y mae y ffaith ddarfod i W'iHiams
gyhoeddi y rhan gyntaf ox Alelina o fewn
blwyddyn i'r amser y cafodd anogaeth ei
frodyr i arfer ei ddawn prydyddol, yn
dangos ei fod yn bur barod at y
gwaith, ac yn awgrymu nad oedd cyfan-
soddi hymnau yn ddyeithrwaith iddo.
Dyma lyfr argraffedig cyntaf WilHams.
Argraffwyd ef gan FeHx Farley, yn
Mryste. Daeth allan mewn chwech o
ranau : Rhan i. tua dechreu 1744; ail
argraíììad o'r unrhyw tua diwedd yr un
flwyddyn ; Rhan ii. yn 1745 ; Rhan iii. yn
yr un flwyddyn ; Rhan iv. yn 1746 ; Rhan
V. yn 1747 ; a Rhan vi. tua diwedd yr un
flwyddyn. Tybid, hyd yn ddiweddar, na
chyhoeddwyd y rhanau uchod yn un Ìlyfr
hyd y flwyddyn 1758. Gelwid yr argraffìad
hwnw yn " Drydydd Argraíìfiad," * ond y
mae yn sicr, bellach, fod argrafíìad o hono
wedi ei gyhoeddi gan FeHx Farley yn y
flwyddyn 1749. Gelwid hwn yn " Ail
Argraffiad." Teitl yr argraffiad ydyw
'^Alelnia, neu Gasgliad o Hymnau (gan
mwyaf) o waith y Parchedig Mr. WilHam
WiHiams." Cymer y " gan mwyaf" i
ystyriaeth, mae'n debyg, yr hymnau sydd
yn Rhan vi., ag enwau eraiU wrthynt.
Ymddengys ddarfod i WiHiams roddi ei
bin ysgrifenu o"r neiHdu, am un pedair
blynedd, ar ol cyhoeddi y Chweched Ran
o'r Aleluia, yn niwedd 1747, am fod ganddo
fater pur bwysig mewn golwg, sef priodi.
Dywed Mr. Charles ani ei briodas fel
hyn : " Pan oedd yn nghylch deuddeg-ar-
hugain, priododd Mary Francis, brodor o
Lanfynydd, ac wedi hyny a drigodd yn
Llansawel. Bu Miss Francis yn aros
gyda y Parch. Griffith Jones, Llan-
ddowror ; yr oedd yn ferch synwyrol
dduwiol. Yr oedd gofal yr Arglwydd am
dano yn ymddangos yn fawr, yn y fath
rodd iddo a gwraig gall, brydferth, ddoeth,
dduwiol, mwynaidd, a serchog." Gallwn
ychwanegu fod Mrs. WiIIiams yn gantores
ragorol, ac felly yn medru profi Ilithrig-
rwydd yr emynau a gyfansoddid ganddo,
cyn eu cyhoeddi. Gan ei bod yn unig ferch
ac etifeddes ei thad yr oedd ganddij ran
lew o fendithion y bywyd hwn. Enw ei
thad ydoedd Mr. Thomas Francis, o
Benlan. Daeth Williams yn bur gyfoèthog
drwy ei etifeddiaeth ei hun, a'r hyn y
daeth iddo drwy ei briodas. Bu iddynt
ddau o feibion, a phump o ferched. Cododd
ei ddau fab i'r offeiriadaeth. Gwnaeth yr
ieuangaf, John, adael yr Eglwys, ac ymuno
a'r Methodistiaid ; ond cadwodd yr hynaf,
William, yn yr Eglwys Wladol i'r diwedd.
Llytbyr oddiwrth y Parch. Owen Jones, M.A.,
Llansantffraid.
102
Y TADAU METHODISTAIDD.
Bellach, rhaid i ni ddychwelyd at
weithiau llenyddol WilHams. Mae yn
llwyr anmhosibl, o fewn ein terfynau
ni, i fanylu ar amseriad llyfrau WilHams.
Rhaid i ni foddloni ar gyfeirio y darllen-
ydd am bob manyUon at Weithiau
Williams, Pantycelyn, gan y Parch. N.
Cynhafal Jones, D.D., llyfr ag a bery yn
gof-golofn oesol i'r bardd, ac yn anrhydedd
arosol ar y golygydd llafurus a galluog.
Rhüddwn yn y fan hon restr o'i Iyfrau
emynawl ef. Dilynwyd yr Alelnia gan
Ganiadan y rhai sydd ar y nior o wydr, i
Frenin y Saint ; Ffarwel Weledig ; Gloria in
Excelsis; Rhai Hymnan Neivyddion, ynghyd
a dau lyfr o emynau Seisonig dan yr
enwau, Gloria in Excelsis, a Hosannah to the
Son of Dai'id. Cyfansoddiadau barddonol
eraill WilHams ydynt y rhai canlynol :
Goliiig ar Deyrnas Crist ; Caniadau Duwiol ;
Thcomemphns ; Tair -ar -ddeg-ar -hngain o
Farwnadau ; Myfyrdodau ar Angan ; Llyfr
Amrywioldeb ; Cerdd Ncwydd ar Briodas ; a
Gweddillion A liienyddol.
W' ele eto restr o'r gweithiau rhyddiaethol
a gyhoeddwyd ganddo : Sicrinydd Ffydd
(cyfieithiad o bregeth Erskine) ; Pantheol-
ogia,nen HanesHoll G refyddan y Byd : Llythyr
Martha Philopur ; A teb Philo Evangelins ;
Hanes Llwyddiant yr Efengyl (cyfieithiad) ;
Crocodil Afonyr Aipht ; Y Tri Wyr o Sodom ;
Aurora Borealis ; Antinomiaeth ; Drivs Society
Profiad; Cyfarwyddwr Priodas ; Hanes Troed-
igaeth y Parch. Thomas Goodwin, D.D. ;
Imannel ; Ymddiddan rhwng Philalethes ac
Eusebes, mewn perthynas i wir G ristionogrwydd .
Pan ystyriom fod WiUiams yn teithio o
gwmpas pump-a-deugain o fiUdiroedd bob
wythnos trwy gydol ei oes, ac yn pregethu
ac yn cadw seiadau yn ddidor, ymddengys y
gwaith Henyddol a gyflawnodd yn nemawr
llai na gwyrth. Cyrhaedda ei emynau y
nifer o 916, a'r peniUion dros bedair mil.
Y mae ei ddwy brif gán, Golwg ar Deyrnas
Crist, a'i Theomemphns, yn cynwys bob un
dros bum' mil o Hnellau, ac y mae amryw
o'i ganiadau eraiU yn gyfansoddiadau
meithion. Ei brif waith rhyddiaethol ydyw
ei Pantheologia, sef Hanes Holl Grefyddau y
Byd. Rhed athryUth WiUiams drwy ei
hoU weithiau, ac y mae ei ysgrifeniadau
rhyddieithol yn dwyn yr un nodweddau
a'i gyfansoddiadau barddonol. Yr oedd
meddwl WiUiams yn rhyfeddol o gynyrch-
iol. Medrai ei awen ef aros yn hir ar ei
hedyn. Esgynai yn uchel, a medrai aros yn
hir heb ddisgyn. Dichon fod rhai o feirdd
ac emynwyr ein gwlad wedi esgyn yn agos
i'r un uchelderau ag yntau, ond ehediadau
byrion oeddynt ; gan nas gaUent aros yn hir
heb ddisgyn yn ol i'r ddaear. Yr oedd awen
W'ilUams fel eryr cryf yn esgyn yn gyflym
ac yn aros yn hamddenol ar ei hedyn, ac yn
disgyn yn ddiHidded wrth ei hewyUys. Neu,
a newid y gymhariaeth, yn nghyfansodd-
iadau Uawer o feirdd ein gwlad, yr ydym
yn gweled afonydd Uydain a Uynoedd pryd-
ferth ; ond yn ngweithiau WiUiams cawn
olwg ar y môr. Bardd di-urddau oedd,
y mae'n wir, fel mai pregethwr di-urddau
oedd HoweU Harris. GeUid cymhwyso
peniU WiUiams i HoweU Harris fel pre-
gethwr, ato ef ei hun fel bardd : —
"Yntau, Howell, heb arddodiad
Dwylaw dynion o un rhyw,
Na chael cenad gan un esgob
Ag sydd llawer llai na Duw."
Ond cawsant iU dau eu hurddiad yn ddi-
gyfrwng gan Dad y Goleuni. Cydnabydd-
wyd ef yn foreu yn fardd o uchel fri, gan
y genedl Gymreig ; a daeth yn fuan yn
anghymarol fwy cynieradwy a phoblog
na'r un bardd a fu o'i flaen. DarUenid
a chenid ei weithiau yn awchus, a chafodd
ei lyfrau gylchrediad digymhar. Bu y
frawdoHaeth farddonol yn hir cyn ei gyd-
nabod. Nid oedd efe o'u hurdd hwy, ac
am hyny anwybyddent a diystyrent ef.
Ond os nad eniUodd gymeradwyaeth y
beirdd a gydoesent ag ef, gwnaeth fwy trwy
eniU meddwl a theimlad y bobl. Dichon
mai Síon Lleyn a Thomas Jones, o Ddin-
bych, oeddynt y cyntaf o " Feirdd Braint a
Defawd " i ganiatau iddo eistedd gyda'r
beirdd. Yn yr hen Olenad ceir cywydd o
waith Síon Lleyn, dan y teitl, " Paradwys
Gerdd yn cael ei holrhain, sef y farddon-
iaeth a gariodd y grawn-sypiau i Israel
Duw yn yr anialwch," ac ar ol ymhoH
" P'le ceir awcn ysplenydd !
Mirain hoff wawd ; morwyn ffydd?"
y mae yn ateb yn nacaol, na cheìr hi gan
Homer, Horas, Vyrsil, Ofid, nac ychwaith
gan feirdd Cymreig ei oes ef : —
"Nid (a)Efan, mwy na (ò)Dafydd,
Nid (c)Hywel, er hel a'i rhydd ;
Nid (f?)Walter rydd geinber gân,
Gywreiniawg o'i gwir anian :
(e)y Bardd Glas, (/)Thomas, nid da
A gwrdd ddim a'r gerdd yma ;
(í7)Goronwy hen, gywreinia'i hawl,
Ni feddodd y gân fuddiawl."
(íí) leuan o Leyn. (ò) Dafydd Ddu. (c) Howell
leuanc o Lanllyfni. {d) Gwallter Mechain.
(e) Y Bardd Glas o'r Gadair. (/) Twm o'r
Nant. {g) Goronwy Owen.
WILLIAM WILLIAMS, PANTYCELYN.
163
Ond ar ol chwilio llawer, y mae yn cael o
hyd i'r " Baradwys Gerdd " yn meddiant
\Viniams, o Bantycelyn : —
" Oud Williams
Yn rliodd a gafodd y gàn,
Yn fedrus i weddus wau,
A siarad y mesurau ;
Fel gwin, ei ddyfal ganiad ;
Fel y mêl oedd ei fawl mâd ;
Dysgleiriacli na dysgl arian,
Na phelydr gwydr ei gàn ;
Diau wycli íiodeuog wawd
A dyfodd ar ei dafawd ;
Cantor crafî, Asapli oedd,
lach y molai uwch miloedd,
O íîraethder— efîro wychiant,
Nid hyn ei gerdd — hymnau gant ;
Tanau, gwrydau, Gwridog,
Wedi cael o waed y cawg ;
Yn Nghymru ni bu neb iach,
Yn nyddu cerdd fwyneiddiach ;
Dewiswyd gan ei D'wysog,
Yn Gerddor, goleu-\\ r glôg ;
Dwysfardd y Briodasferch,
Mwyn ei sain, emynau serch.
Perlau ei emynau mawl,
A thlysau o'r iach lesawl ;
Cymwys i'r wir Eglwys Rydd
(Llais difeth) yn lìys Dofydd."
i\Iae nodiad ar ddiwedd y cywydd gan
Sion Lleyn ei hun fel yma : " Y rhai hyn
(y beirdd a enwir yn y rhan gyntaf) a
fuant foddlawn ar wisg farddonol, heb yr
enaid, ac am mai ei lienaid yw gwir fohant i
Naf, a dedwydd yw ei pherchenog, yr hyn
beth a feddianodd y Parch. W. WilHams,
yn anad neb y' Nghymru, gan nad beth
oedd ei gwisg hi ganddo ef ; fy marn
dlawd i yw, mai iddo ef y rhoddwyd enaid
y gerdd o neb o"i gyd-oeswyr y' Nghymru.
Os bydd lleferydd iaith ar gael ar ol yr
adgyfodiad, nid amheuaf na bydd rhai o'r
odlau melusber a ganodd WilHams yn
cael eu canu gan y gwaredigol hil y pryd
hyny." Dengys yr hen gywydd hwn fod
rhai o " Feirdd Braint a Defawd " ei oes
ef yn cydnabod uwchafiaeth Wilhams.
Yr un modd y mae Thomas Jones, o
Ddinbych, yn ei ddyrchafu, gan ei
alw, hwyrach am y tro cyntaf, yn
" Bér Ganiedydd Cymru." Arferai Dewi
Wyn o Eifion, hefyd, un o feirdd gallu-
ocaf Cymru, ddywedyd, " y gallasai efe
eistedd drwy gydol y nos, ar y noswaith
oeraf yn y gauaf, heb dewyn o dân yn
agos ato, i ddarllen gweithiau Wilhams,
ac y buasai yn cael ei dwymno hyd at
chwysu yn ddyferol wrth eu darllen."
Yn ystod yr haner can' mlynedd di-
weddaf, y mae clodfori a dyrchafu Wilhams
wedi dyfod yn ffasiynol. Tehr gwarogaeth
iddo gan bawb. Efe yw " Peraidd Gan-
iedydd Cymru," ac efe yw " Prif-fardd y
genedl." Plygir iddo mewn parchedig-
aeth gan y doeth a'r deallus, ac y mae
pob gradd yn teimlo swyn ei farddon-
iaeth. Ac y mae i sylwi arno, mai po
fwyaf a ddarllenir ar ei gynyrchion ef,
niwyaf oll y daw ei ragoriaethau i'r golwg.
Hyd y fiwyddyn 1867, Y^ o^dd gweithiau
WilHams yn aros yn wasgaredig, yn gyfrol-
au a phamphledi prinion fel y cyhoeddwyd
hwy gan yr awdwr ei hun, ac feUy tuahan
i gyrhaedd y bobl. Yn 181 1, casglwyd ei
hoH emynau ynghyd, a chyhoeddwyd hwy
gan ei fab, sef y Parch. John WiHiams,
Pantycelyn ; ond cafodd y wlad aros
am dros haner cant o flynyddau wedi
hyn (1867), cyn i'w hoU weithiau gael
eu casghi at eu gilydd. Gwnaed hyn gan
y diweddar Barch. J. R. Rilsby Jones, gŵr
a lanwodd le mawr yn Henyddiaeth ein
gwlad, a g\Vr oedd yn edmygu y Bardd
o Bantycelyn tuhwnt i fesur. Cafodd yr
argraffiad cyflawn hwn gylchrediad helaeth,
a daeth ei weithiau, am y tro cyntaf, yn
hysbysol i'r oes hon. Yn ddiweddar,
bendithiwyd y wlad ag argraffiad rhatach,
cywirach, a Hawer gweU yn mhob ystyr,
gan y Parch. N. Cynhafal Jones, D.D.,
íel y mae y werin Gymreig, beUach, yn
ahuog i ff'urfio barn drostynt eu hunain am
wir werth a theilyngdod ei gynyrchion
Henyddol ef. Ni raid i WiHiams yn awr
wrth lythyr canmoHaeth. Cyn i'w weithiau
ddyfod o fewn cyrhaedd pawb, gwnaeth
Hiraethog, MiHs, Brutus, Caledfryn, Eben
Fardd, a'r Dr. Lewis Edwards, wasanaeth
da drwy eu hysgrifeniadau am dano.
Ysgrifenasant yn helaeth, gan ddifynu
darnau neillduol yn esiamplau o'i waith, a
dangos eu prydferthwch ; ond y mae hyny,
bellach, yn gwbl afreidiol. Y mae pob
beirniadaeth wedi dystewi, a chymeradwy-
aeth y genedl wedi ei sicrhau.
Nid oes genym ofod i fanylu ar y
cyfnewidiad niawr a effeithiodd Williams
yn emynyddiaeth ein gwlad. Nid ydoedd
yn ddim llai na chwyldroad. Teimlasai yr
arweinwyr Methodistaidd yn Nghymru,
yn gystal ag yn Lloegr, fod mawr
anghen am well emynau yn y gwasanaeth
crefyddol nag oedd mewn arferiad yn y
cyfnod hwnw, ac yr oeddent yn awyddus
am i ryw rai cymhwys ymgymeryd a'r
gorchwyl. Disgynodd yr yspryd ar Charles
\\'esley a Toplady yn Lloegr, ac ar
Williams, Morgan Rhys, ac eraill, yn
Nghymru. Yn briodol iawn y dywed
Mr. Charles, o'r Bala, am Williams fel
M 2
164
Y TADAU METHODISTAIDD.
emynydd : " Yr oedd ei ddoniau pryd-
yddol wedi ei rhoddi iddo yn naturiol ac
yn helaeth gan yr Arglwydd. Eheda yn
aml ar adenydd cryfion iawn, sydd yn ei
gario yn odidog ac yn uchel. Aberth
mawr y groes yw sylwedd a phwnc penaf
ei holl ysgrifeniadau ; a thra byddo cariad
at y Gwrthddrych mawr hwnw yn nghal-
onau y Cymry, bydd ei waith yn gymeradwy
yn eu phth, yn enwedig ei hymnau. Ehedai
ar awel nefol, a chymerai y geiriau nesaf
at law, a chwbl ddeallus i'r werin gyffredin,
y rhai a hoffent ei ganiadau yn ddirfawr.
Eft'eithiodd ei hymnau gyfnewidiad neill-
duol ar agwedd crefydd yn mhhth y Cymry,
a'r addohad cyhoeddus yn eu cyfarfodydd.
Y mae rhai penilHon yn ei hymnau fel
marwor tanllyd yn poethi ac yn tanio yr
hoU nwydau wrth eu canu, ac yn peri eu
dyblu yn aml gan y bobl, nes y byddant
yn gwaeddu ac yn Uamu o orfoledd. Y
mae yr effeithiau cryfion hyn yn brawf
neillduol o rym yr achos sydd yn eu peri."
Nid oes gwell prawf i'w gael o Iwyredd y
cyfnewidiad a ddygwyd i mewn i emyn-
yddiaeth ein gwlad gan y Diwygiad Meth-
odistaidd, na'r ffaith nad oes yn bresenol
ond ychydig iawn o hymnau mewn ym-
arferiad cyffredin, a gyfansoddwyd cyn
yr amser hwnw. Teimhr ynddynt wres
angherddol y diwygiad, a chlywir yn-
ddynt swn gorfoledd a chân.
Nid oes dim yn amlycach na bod ys-
grifenu a chyfansoddi barddoniaeth mor
hawdd iddo ag anadlu. Y mae yn dweyd
hyny ei hun ar rai achlysuron. Yn ei
ragymadrodd i Tìieomemphns — cyfansodd-
iad yn cynwys tua phum' mil o linellau —
dywed : " Fe redodd y llyfr hwn allan o'm
hyspryd fel dwfr o fíynon, neu v/ê'r prif
gopyn o'i fol ei hun. Y mae yn ddarn o
waith newydd, nad oes un platform iddo yn
Saesonig, Cymraeg, nac yn Lladin, am
wn i. Fe redodd i fy neall fel y gwelwch,
ac wrth feddwl y gall fod yn fuddiol, mi
a'i printiais." Y mae y penill olaf yn
" Marwnad Grace Price," yn cofnodi y
ffaith ddarfod i'r alargan odidog hono gael
ei chyfansoddi ganddo mewn ychydig
oriau, cyfansoddiad a gynwysa 42 o benill-
ion, ac un a gafodd y fath dderbyniad, fel
y clywsom hen bobl yn dweyd i'r bardd
wneyd ugeiniau o bunoedd o elw o honi.
Y mae sicrwydd fod llawer o"i emynau
yn fyr-fyfyr. Dywedir ei fod yn pregethu
yn Meidrym, Sir Gaerfyrddin, ar foreu
Sabbath, ac yn darllen ar ddechreu y
gwasanaeth, y ^edd benod o Efengyl
loan. Darllenodd yn mlaen yn ddidor
hyd adnod y 35ain, yr hon sydd fel yma :
" Onid ydych chwi yn dywedyd, Y mae
eto bedwar mis, ac yna y daw y cynhauaf ?
Wele, yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych,
Dyrchefwch eich llygaid, ac edrychwch ar
y meusydd, canys gwynion ydynt eisioes
i'r cynhauaf." Wedi darllen yr adnod
drosti, " Arhoswch chwi," meddai, yn
syn-fyfyriol, " nid yw syniad yr adnod hon
erioed wedi ei droi ar gân." " Arhoswch
chwi," meddai eilwaith (yn fwy wrtho ei
hun nag wrth y gynuileidfa), " F"el hyn,
onide : " —
"Onid ydych chwi'n dywedyd fod eto bedwar mis,
Ac yna daw'r cynhauaf toreithiog gyda brys ?
Dyrchefwch chwi eich llygaid, medd lesu,
brenin nef,
Can's gwynion ydyw'r meusydd lle mai ei
wenith ef."
A darllenodd yn ei flaen i orphen y benod.
Y mae llawer o'i emynau mwyaf poblog-
aidd yn gynyrchion byr-fyfyr ; ac y mae i
amryw o honynt hwiad lleol pur amlwg.
Y mae bron yn sicr mai golygfa ramantus
ar yr afon Tywi, lle y mae y ffbrdd yn
arwain dros greigiau serth rhwng y
Fannog a Chapel Soar, ddarfu awgrymu
i Williams syniad y penill cyfarwydd
hwnw : —
" Cul yw'r llwybr i mi gerdded,
Is fy llaw mae dyfnder mawr,
Ofn sydd arnaf yn fy nghalon
Rhag i'm traed i lithro i lawr ;
Yn dy law y gallaf sefyll,
Yn dy law y dof i'r lan,
Yn dy law byth ni ddiffygiaf,
Er nad ydwyf fì ond gwan."
Ac y niae lliwiad lleol dyfnach fyth ar un
arall o'i emynau. Y mae yr afon Cothi,
heb fod yn mhell o Pumpsaint — lle a
dramwyai Williams yn aml — yn ymollwng
i bwll anferth, ac a elwir yn " BwU Uffern
Gothi," ac yr oedd ffbrdd newydd yn cael
ei gwneyd heibio i'r fan yn nyddiau y
bardd. Ynia, meddir, y canodd efe am y
" Ffordd newydd wnaed gan lesu Grist
I basio heibio uffern drist ;
Wedi ei phahnantu gauddo ef
O ganol byd i ganol nef."
Ond er fod y penillion hyn a'u cyífelyb
wedi eu hawgrymu iddo gan olygfeydd
natur, ac wedi eu cyfansoddi yn hollol ddi-
orchest, eto, y mae WiIIiams ei hun yn
dangos mai nid heb barotoad a Ilafur
mawr y cyfansoddodd ei brif weithiau.
Fel hyn y dywed am ei brif gyfansoddiad
barddonol, Gohi'g av Deyrnas Crist : " Mi
WILLIAM WILLIAMS, PANTYCELYN.
165
wnes fy ngoreu wrth gyfansoddi hyn o
lyfr am ddarllen llyfrau addas at yr achos,
fel yr oeddwn yn myned drwyddo, a'r
rhei'ny, os gailwn, yn uniongred a
iachus. A phan y gwelwn rywbeth at
fy mhwrpas, cymerwn swm hyny i fy
meddwl, ac yna rhown rywfaint o'i syl-
wedd i lawr, wedi ei wisgo a fy ngeiriau
fy hun, ond megys yn gyntaf ymborthi
arno fel yr eidddo fy hun, a'i gymysgu a'r
hyn oeddwn wedi ei wau o fy meddyhau
eisioes, yr hyn sydd bell o fod yn feius.
Ond y llyfr hwnw oeddwn yn glynu fwyaf
wrtho, sef Llyfr Duw. . . . Yn awr yr
wyf yn gadael i hyn o waith i fyned allan
i'r byd, a Duw a safo o'i blaid ! Y mae
arnaf gywilydd o'i blegyd, am fod ei
wisgoedd mor dlawd, ac yntef yn cymeryd
arno i ganmol Un mor ardderchog. . . . Yr
wyf yn gobeithio y bydd i'm Duw ei guddio
oddi wrth ddynion cyfrwys, critic, ag sydd
yn cymeryd pob gwirionedd i ymresymu yn
ei gylch, yn hytrach nag i adeiladu. . . .
Pwy bynag elo i graffu ar y farddoniaeth,
mi wn nad oes yma yr un wers heb ei bai.
A hyn a'm digalonodd lawer pryd i'w
roi mewn print. A pha hwya' y bo yn
fy Uaw, mwya' i gyd wy'n ddiwygio arno.
Ónd y mae arnaf ofn ei gadw yn hwy,
rhag tynu ymaith ei awch. Am hyny,
aed fel y mae. Pwy effaith a gaiff, nis
gwn i ; ond hyn a wn, iddo beri llawer o
boen ac o amser i mi esgor arno." Dywed
ei fywgraffydd iddo astudio cymaint
wrth gyfansoddi y bryddest odidog hon,
fel yr effeithiodd yn niweidiol ar ei iechyd
am y gweddill o'i oes.
Nid gorchwyl hawdd ydyw elfenu athry-
lith Wilhams, a dweyd yn bendant pa le y
mae cuddiad ei nerth. Eto, y mae llawer o
sylwadau perthynasol iawn wedi eu gwneyd
gan feirniaid o enwogrwydd yn y cyfeiriad
hwn. Ar ol bod yn cyniharu Coll Ginynfa
Miltwn, a Golwg ar Deyrnas Crist Wilhams,
a chyfaddef yr anhawsdra i benderfynu pa
un yw y rhagoraf, dywed "Hiraethog"
(Dr. Wilham Rees), fel yma : — "• " Prawf
diymwad o wir fonedd cyneddfau awenydd
ydy w ei gallu i swyno pob gradd a dosbarth
o gymdeithas fel eu gilydd — bod y deall-
twriaethau cryfaf, y meddyhau mwyaf
caboledig, ynghyd a'r werindorf ddisyml
yn gyffredinol yn gallu cydfwynhau a
chydwledda ar ei chynyrchion. Tery
athryUth emynau Wilhams y galon ddynoi
'■^ Traetliodydd, cyf. iii., tudal. 160.
t Traethodau Llenyddol, tudal. 157.
fel y cyfryw, nes y cyd-ddychlama teimlad
yr athronydd uchelgoeth, a theimlad y
bugail gwledig o dan ddylanwad ei gwefr-
iad. Tywysogion mewn dysg a doniau, a
phob gradd oddiyno i waered, hyd at y
weddw ddinod yn ei bwthyn neillduedig, a
gydaddefant eu rhin. Clust dyner-fonedd-
igaidd yr ysgolhaig, a chlust anysgybledig
y gwerinwr isel, a'u cydfendithia hi, 'pan
glywant ei geiriau, canys nielus ydynt.'
Pair sain ei haceniad i'r Ilygaid a belydra
gan ddealltwriaeth ac hyawdledd, ac i'r
Ilygad mwyaf hwyrdrwm ac amddifad o
ddynodiant meddyliol i gyd-ollwng y dei-
gryn dros eu hamrantau. Y mae Ilawer o
wahaniaeth rhwng natur y mwynhad a
brofir gan feddwl coeth a diwylliedig, a'r
mwynhad a deimla y meddwl anghyfar-
wydd, er i ffynonell y mwynhad fod yr
unrhyw. Cenir a mwynheir emynau
WiIIiams er budd ysprydol gan ganoedd o
Gristionogion yn Nghymru, y rhai nad oes
ganddynt nemawr i ddim dirnadaeth yn eu
dealltwriaeth a'u barn am eu rhagoriaeth
cynhenid. Un rheswm am ryfeddol effeith-
ioldeb emynau Williams ydyw eu bod yn
llefaru iaith natur gyda'r fath symledd pur
a diaddurn. Y maent yn hudo cydym-
deimlad ein natur gyda hwynt yn ddi-
arwybod i ni. Bydd y galon yn toddi, a'r
Ilygad yn gollwng ei ddeigryn heb yn
wybod iddynt eu hunain yn nghymdeithas
ei ganiadau. Pa un bynag ai hiraeth, ai
amheuaeth, ai ofn, ai hyder, ai Ilawenydd
a osodir allan, rhaid i ni gydgyfranogi yn y
teimlad, gan mor gywir y mae delweddau
wynebpryd pob un o'r teimladau hyn yn
cael eu portrëadu megys o flaen y meddwl.
Nid yw byth yn Ilefaru mewn tafodiaith
galed, neu iaith ddyfnach nag a ddealla y
llafurwr anghyfarwydd, ac ni allai yr
athraw uchelddysg ychwaith wneuthur
cyfnewidiad er gwell yn iaith a dullwedd
Ilaweroedd o'i emynau." Gwneir y sylw-
adau canlynol gan y Dr. Lewis Edwards
arno fel bardd : f " Yr elfen gyntaf sydd yn
anhebgorol mewn barddoniaeth yw byiiyd.
Dyma sydd yn gwneyd caniadau Homer
mor swynol ; nid oes ynddynt ond ychydig
o'r hyn a feddylir yn y dyddiau hyn wrth
y gair 'arddunawl;' ond y maent oll yn
llawn bywyd. Yn yr ystyr y deallid y gair
gan Longinus, y maent yn dra arddunawl,
oblegyd y maent yn cynhyrfu ac yn tanio
y meddwl wrth eu darllen. Ni fu neb yn
meddu mwy o'r elfen hon na WiIIiams, o
Bantycelyn. Hyn a barodd i hen bererin
ddywedyd unwaith yn ein clywedigaeth,
i66
Y TADAU METHODISTAIDD.
A L E L U I A.
N E TJ,
C AS CLI AD
o
HYMNAU,
Ar amryw Yftyriaethau.
O Waith y Parchcdig
Mr. WlLLIAM WlLLIAMS
£ph. V. lû- Gan lefaru lurth ei Giîydd me^n
SaLMAU, aHYMNAU, ^c.
Col. iii. i6. Gan ddyfgtt a rhyhuddio panuh ei
gtlydd mew/tSKLWAV, Hymnau, i^c.
Y DRYDYDD RHAN.
Argraphwŷd rmrhfto gän FFLIX FARLEY'
Yn y Flwytldyn M.dcc.xi v.
PHOTOGEAPH O WYNEB-DDALEN LLYFR HYAINAU CYNTAF WILLIAMS.
{Y mae gwall argraff yn y cldwy liiteU olaf. Enw yr ArgraffycM oeää Felix Farlei/, a'r
btiri/dtliarl ueclil M.DCC.xi,v.l
'fod emynavi W'illiams fel y ìiiarbìcs, pan yr
oedd llawer o emynau eraill mwy rheolaidd
yn disgyn fel tameidiau o glai.' Nis
gwyddom pa gyfrif i'w roddi am y bywyd
hwn yn enaid y bardd, yn mhellach na'i fod
yn deimlad cryfach na chyfîredin — teimlad
o brydferthwch anian, teimlad sydd yn
myned i mewn i helynt dynohaeth, yn ei
mawredd a"i thrueni, ei llawenydd a'i
galar, ei chariad a'i châs, ei daioni a'i
drygioni." Byddai yn hawdd ychwa-
negu. Y neb a gar weled pa mor
uchel y safai W'ilhams fel bardd, yn niedd-
wl y diweddar Dr. Lewis Edwards, o'r
Bala, darllened ei ysgrif alhiog a dawnus
ar "Gyfnewidwyr Hymnau," yn Nhraetli-
odydd 1850. Teimhvn ei fod yn fwy
pwysig yn awr i gael barn y parchedig
WILLIAM WILLIAMS, PANTYCELYN.
167
ddoctor ar Williams fel duwinydd. Ym-
ddangosodd ysgrif o dan ei law ef, yn
Yy Arweinydd am 1878, cyhoeddiad a
olygid gan ei fab, y Parch. Llewelyn
Edwards, M.A., ar " Dduwinyddiaeth
WiUiams, Pantycelyn," ac er ei bod yn
faith, teimlwn nas meiddiwn ei chwtogi.
Dechreua gyda'r frawddeg a ddyfynwyd
genym yn barod i bwrpas arall : —
" Cydnabyddir yn gyfifredin gan y rhai
sydd yn gallu myned trwy y geiriau at y
meddyliau fod WiUiams yn fardd o radd
uchel, ac yn neillduol ei fod fel emynwr yn
rhagori yn yr angerddolrwydd teimlad
sydd yn hanfodol mewn gwir farddoniaeth.
Ond fel y mae yn anhawdd ein cael i
weled mwy nag un rhagoriaeth yn yr un
person, felly yn ei achos ef y mae dysgleir-
deb ei farddoniaeth yn tueddu i guddio o'r
golwg ei fawredd fel duwinydd : ac am
hyny cymeraf y cyfle hwn i alw sylw at
eangder ei olygiadau duwinyddol.
" Yn y Ue cyntaf, byddai yn fuddiol i ni
oll gymeryd ein dysgu yn fanwl gan
WilUams yn yr athrawiaeth am Berson y
Cyfryngwr. Yn y gwrthdarawiad a gododd
yn erbyn Howell Harris mae yn ddiau
mai emynau Williams fu y moddion penaf
i gadw y Methodistiaid rhag myned i
eithafoedd yr ochr arall : ac er yr holl
barch a deimHd iddo, yr oedd Uawer y
pryd hwnw, ac y mae llawer hyd heddyw,
yn methu rhoddi derbyniad calonog i'r
cyfryw eiriau a ' dwyfol waed,' ' dwyfol
loes,' ' dwyfol glwy',' y rhai ydynt
mor gyffredin yn ei ganiadau. Weithiau
newidid hwynt, neu gadewid hwynt
aUan : a phan arferid hwynt, yr oedd
hyny yn fynych ar y deaUtwriaeth eu
bod i'w cymeryd fel gormodiaeth fardd-
onol, ac nid fel duwinyddiaeth gywir. Yn
awr, yr hyn sydd genyf mewn golwg yw,
nid gwneyd esgusawd dros y geiriau hyn
a'u cyffelyb, ond dangos nad ydynt yn
sefyU mewn angen am esgusawd. Yn eu
hystyr fanylaf y maent yn berffaith gyson
a'r athrawiaeth a ddysgir yn y Testament
Newydd am Berson a gwaith yr Arglwydd
lesu Grist. Dywedir yno fod dynion wedi
Uadd Tywysog y bywyd, wedi croeshoelio
Arglwydd y gogoniant. Y Gäir a wnaeth-
pwyd yn gnawd. Yr Hwn oedd yn íîurf
Duw, a'i dibrisiodd ei hun, ac a'i dar-
ostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd
angau, íe, angau y groes. Y mae o bwys
i ni beidio cymysgu y ddwy natur ; ond y
mae mor bwysig a hyny i ni ofalu rhag
mewn un modd i ni ranu y Person. Efe
a"i hoffrymodd ei hun, nid rhan o hono
ei hun ; ac am hyny efe, yn anfeidrol-
deb ei Berson, ac nid rhan o hono, yw
yr lawn, O ganlyniad, y mae ei waed, yn
yr ystyr helaethaf a all fod, yn ddwyfol
waed, yn briod waed Mab Duw ei hun.
" Arferir priodoli angau pob dyn i'w hoU
berson, drwy ddweyd fod y dyn wedi
marw, ac nid rhan o hono. Ý mae y
gyffelybiaeth hon, er mor anmherffaith, yn
dangos rhesymoldeb y dywediad fod gwaed
Crist yn ddwyfol waed. Ond yr oedd
undeb agosach rhwng Person y Mab a'i
natur ddynol ef nag sydd rhwng enaid
dynol a chorff dynol. Heblaw hyny, yr
oedd ei Berson dwyfol ef yn weithredol yn
ei farwolaeth. Er mwyn cael cyffelybiaeth
gyflawn y mae yn rhaid i ni feddwl am
ddyn yn marw o'i fodd, yn taflu ei hun yn
ysglyfaeth i angau mewn trefn i achub
bywydau rhai o'i gyd-ddynion. Yn y
cyfryw amgylchiad y mae yn marw, nid
yn oddefol yn unig, ond yn weithredol ; ac
y mae ei holl enaid yn y weithred. Felly y
gellir dweyd am yr Arglwydd lesu Grist, fod
ei holl Berson wedi ei wneuthur yn gnawd,
fod ei holl Berson wedi darostwng ei hun,
fod ei holl Berson yn y weithred o farw, gan
fod yn ufudd hyd angau, ie, angau y groes.
" Y mae gan WiIIiams mewn rhai manau
ymadroddion cryfach eto, ac nid wyf yn
myned i wneuthur esgusawd dros y rhai
hyny ychwaith. Dyma un peniU cyflawn,
a darn o un arall, wedi eu cymeryd o ddwy
hymn sydd yn dilyn eu gilydd yn ei waith : —
" ' Mae'r ffordd yn awr yn rhydd
O'r ddae'r i entrych ne',
Er pan y daeth fy Nuw
I ddyoddef yn fy lle ;
Mae'r nef, mae'r nef, o led y pen,
Can's hi ddyoddefodd ar y pren.
Boed bryn y groes, boed Calfari
Yn uwch na'r bryniau mwya' eu bri,
Am mai yma collwyd gwaed fy Nuw.'
" Goreu po gyntaf y dysg y darllenydd
beidio dychrynu a thramgwyddo wrth
eiriau cryfion o'r fath yma am farwolaeth
ein Harglwydd. Yn lle hyny gwell fyddai
iddo gynefino ei hun yn raddol i fyw ar
fwyd cryf. Ac nid ydynt gryfach na'r rhai
a ddyfynwyd eisioes o'r Testament New-
ydd ; a dyma iaith gyffredin y brif eglwys.
" Gan fod y bardd o Bantycelyn yn
meddu golygiadau mor eang am Berson y
Gwaredwr, ac am ddwyfoldeb y gwaed,
nid yvv yn rhyfedd ei fod yn credu fod
gwiwdeb a gwerth anfeidrol yn yr lawn.
Yr hyn sydd yn rhyfedd ydyw fod neb
wedi bod erioed yn amheu gwirionedd mor
i68
y TADAU METHODISTAIDD.
amlwg. Nid yw yn gweddu i ni geisio
bychanu pechod ; oblegyd er nad yw dyn
mewn cymhariaeth ond bychan fel cre-
adur, y mae mwy o ddrwg mewn un
pechod nag y gall neb amgyffred. Er
hyny, pan feddyhom fod Un oedd mor
fawr fel nas gallasai fod neb mwy wedi
ymostwng yn y fath fodd fel nas gallasai
fod ymostyngiad mwy, y mae pob cyfar-
taledd yn diflanu o'r golwg ; ac yr ydym
yn barod i ddywedyd gyda Wilhams : —
" ' Pechod yma, cariad acw,
Fu yno yn y glorian fawr ;
Ac er trymed oedd y pechod,
Cariad bwysodd hyd y llawr.
Y gair Gorphenwyd
Wnaeth i'r glorian bwysig droi.'
Ymddengys mai feUy y cyfansoddwyd y
peniU, ac y cyhoeddwyd ef ar y cyntaf.
Nid oedd y sawl a'i newidiodd yn euog o
gyfeihornad dirfawr. Ond pan y mae
rhai mor fanwl a cheisio gwella gwaith
eraill, y mae yn naturiol i ninau fod yn
fanwl Avrth farnu y gwelHant ; ac y mae yn
sicr mai prin y buasai Wilhams yn fodd-
lawn i ddweyd fod cariad wedi ei bwyso,
oblegyd nis geUir pwyso anfeidroldeb.
Rhoddwyd y cariad yn y glorian, nid i'w
bwyso, ond i orbwyso y pechod, yr hyn a
wnaeth hyd y llawr. Yn yr un hymn
dangosir y meddwl yn gryfach eto, os yw
bosibl, yn y penill canlynol : —
" ' Haeddiant Duwdod, o'i gymharu
'N erbyn uíîern fawr o'r bron ;
Dafn gwaed sy'n ganmil rhagor
Nag aflendid dudew hon :
Gw'radwyddiadau
Duw rydd iawn am feiau'r byd.'
Mewn man arall, rhif 427 o'r llyfr hynmau
diweddaf, ceir y ddau beniU ardderchog a
ganlyn : —
" ' Pe buasai íil o fydoedd
Yn cael eu prynu 'nghyd,
A'r cyfryw bris fuasent
Yn Uawer iawn rhy ddrud :
'Does angel fyth, na seraph,
Na cherub o un rhyw,
I'r filfed ran all ddywedyd
INIor werthfawr gwaed fy Nuw.
0 na allwn inau'r awrhon
Ehedeg fyny fry,
A dysgu rhyw ganiadau
Sydd gan y nefol lu ;
Fel byddai cydsain hyfryd
Rhwng dae'r a nef yn un,
Caniadau anfeidroldeb
IMarwolaeth Duw yn ddyn.'
Gallesid rhoddi llaweroedd o benilhon
eraill yn cynwys yr un athrawiaeth ; ond
y mae hyny yn afreidiol, gan eu bod eisioes
yn nwylaw y cyfîredin o ddarllenwyr
Cymru ; ac felly ni chaf ond ychwanegu
un peniU allan o'r Golwg ar Deyrnas
Crist, yr hwn y cyfeiriwyd fy sylw ato
yn ddiweddar gan ddiacon darllengar a
deallus yn Sir Feirionydd.
" ' Dystawa, fy ngliydwybod
Anesmwyth, rowd ddim liai
Nag y mae Duw yn ei ofyn
ü daliad am fy mai ;
Boddlondeb, a myn'd trosodd,
Rowd i anfeidrol lid ;
A heddwch, a myn'd trosodd,
I edifeiriol fyd.'
" Yr eangder a geir yn nghaniadau
Wilhams pan yn son am Berson a gwaith
y Cyfryngwr, a weHr hefyd yn ei olygiadau
am y drefn drwy ei haeddiant ef i gadw
pechaduriaid. Afreidiol yw cymeryd am-
ser i brofi ei fod yn dal cyfiawnhad drwy
ffydd yn ei hoU helaethrwydd ; oblegyd y
mae Protestaniaid efengylaidd yn gyffred-
inol yn credu yr athrawiaeth hono, Ond
nid oes unrhyw gydwelediad gyda golwg
ar y drefn i aileni ; ac y mae yn werth i ni
chwiho beth oedd barn Wilhams, a oedd
efe yn dal ailenedigaeth drwy tfydd, yr un
modd a chyfiawnhad drwy ffydd. Mewn
geiriau eraill, a ydyw aileni yn dyfod drwy
ffydd, yn ol ei farn ef, ai ynte ffydd yn
dyfod drwy aileni ? Saif y mater hwn
mewn cysylltiad agos ag amryw faterion
eraiU. Er enghraifft, os yw ffydd yn
dyfod drwy aileni, y mae yn rhaid fod ail-
enedigaeth yn rhagíiaenu cyfiawnhad ; ac
hefyd y mae yn rhaid i ni gredu fod yr
Yspryd Glân yn aileni dyn yn ddigyfrwng,
ac nid drwy y gair. A'r hyn sydd yn fwy
pwysig na'r cwbl, y mae y golygiad yma
yn cynwys fod bywyd ysprydol yn dyfod
i'r enaid cyn ei uno â Christ drwy fí'ydd.
Cyn myned i chwiho pa olygiad sydd yn
gywir, byddai yn fuddiol cael ychydig o
hanes yr athrawiaeth hon, fel y gweler i ba
raddau y mae Wilhams yn cytuno â duw-
inyddion eraill ; a gelhr cyfyngu yr ym-
chwihad bron yn gwbl i'r testun cyntaf,
sef aileni drwy ffydd, neu ffydd drwy ail-
eni, gan fod yr ateb a roddir i hwn yn
effeithio ar y Ueill.
" Y nesaf o'r hoU dadau at yr Apostol
Paul, er fod peUder anfesurol rhyngddynt,
oedd Awstin o Hippo. Lled dywyU yw
efe am ystyr y gair aileni, gan ei fod yn ei
gysylhu yn ormodol â bedydd ; er nad yw
dweyd fod yr aileni hwn yn cynwys mwy
na rhyddhad oddiwrth bechod gwreiddiol.
Yr hyn a elwir gan Brotestaniaid efengyl-
aidd yn aileni ydyw yr hyn a eilw efe yn
WILLIAM WILLIAMS, PANTYCELYN.
169
gyfiawnhau. Gwnaeth gamsyniad pwysig
am ystyr y gair ; ond y mae yn eithaf
goleu yn gosod allan fod y cyfnewidiad
hwn, pa beth bynag y gelwir ef, yn dyfod
drwy ífydd. Efallai nad oes neb wedi deall
Awstin yn well na Neander ; ac fel hyn y
mae efe yn symio i fyny ei farn ef ar y
pwnc : ' Ónd er fod y Pelagiaid yn gosod
allan yn eglur y cysylltiad allanol rhwng
Crist a'r credinwyr, yn seiliedig ar yr hyn
a wnaeth efe unwaith, ac a enillodd dros
ddynolryw, ac a sicrhaodd iddynt am yr
amser dyfodol, er hyny gosodent y cysyllt-
iad tufewnol rhwng y ddau yn mhell o'r
golwg, yr hyn nis gallasai lai na bod, yn ol
egwyddorion sylfaenol eu cyfundraeth. Y
mae Awstin yn dwyn yn mlaen yn barhaus
yn erbyn eu cynllun yr wrthddadl, eu bod
yn gwneuthur gras Crist i gynwys dim
mwy na chyfraniad o faddeuant : eu bod
yngadael dyn, wedi iddo gael hyn, i ryddid
ei ewyllys ei hun, ac na chydnabyddent fod
hyd yn nod yn awr ei holl gyfiawnder tu-
fewnol neu ei sancteiddhad yn waith Crist
yn unig ; fod yr egwyddor newydd o fywyd
dwyfol, yr hon yw fîynonell pob daioni yn
y credinwyr, yn tarddu o'r undeb ag ef
trwy ffydd. Yr undeb tufewnol rhwng
Crist a chredinwyr, y cyfiawnhad neu
sancteiddhad yn deilliaw o hyny a'i sylfaen
yn Nghrist, dyma yr hyn a ddaliai Awstin
yn eglur mewn gwrthwynebiad i'r Pelag-
iaid.' — (History of tìie Chiirch, vol. iv.,
p. 363, Bohns edition).
" Y mae yn amheus a oedd Calfin yn fwy
dyn nag Awstin ; ond y mae yn ysgrifenwr
sydd yn medru dwyn ei feddyUau allan yn
fwy eglur ; ac nis gall dim fod yn fwy di-
amwys na'i farn fod aileni yn dyfod drwy
íìydd. Yn y drydedd benod o'r trydydd
llyfr o'i Gorff Diiwinyddiaeth, yr hon sydd
yn traethu, fel y dywedir yn nechreu y
benod, am ' ailenedigaeth drwy ffydd,' yn y
nawfed adran cawn y geiriau a ganlyn :
'Y mae y ddau hyn (sef marweiddiad y
cnawd a bywhad yr Yspryd), yn dyfod i ni
drwy undeb â Christ. Óblegyd os cawn
wir gymdeithas yn ei angau ef, y mae ein
hen ddyn yn cael ei groeshoelio drwy ei
allu ef, a chorff pechod yn marw.' Yna
dywed, ' Mewn un gair, wrth edifeirwch
yr wyf yn deall ailenedigaeth.' Ac mewn
manau eraill dadleua fod edifeirwch yn
dyfod yn unig drwy íîydd. Nid oes achos
ymofyn yma pa un a ydyw yn barnu yn
gywir mai yr un peth yw edifeirwch ac ail-
enedigaeth ; ond y mae yn amlwg mai ei
olygiad ef oedd fod ailenedigaeth yn dyfod
drwy undeb â Christ, a'r undeb hwnw yn
dyfod drwy ffydd.
"Arol dyddiau Calfin aeth amryw o'r
Protestaniaid i gredu ac amddifFyn y farn
Arminaidd, yr hyn a barodd wrthdarawiad
yn y IleiII, fel yr aeth llawer o honynt yn
fwy Calfinaidd na Chalfin. Ni fynent i
neb feddwl am gredu yn Nghrist cyn ei
aileni, ac yn yr aileni nid oedd Ile i'r Gair;
ac y mae Ile i gasglu, yn ol barn rhai o
honynt, nad oedd lle yn yr aileni i Grist ei
hun. Ond rhag gwneyd cam â neb, dylid
ychwanegu eu bod yn cydnabod fod yr ail-
eni yn dwyn y meddwl at y gair ac at
Grist. Fel hyn y dywed Ridgley yn ei
Gorff Dnwinyddiaeth, 'Nis gall y gair lesâu
os na fydd wedi ei gyd-dymheru â ífydd ;
ac nis gall ífydd weithredu os na fydd yn
tarddu o egwyddor o ras wedi ei phlanu
oddimewn ; gan hyny nid yw yr egwyddor
hon o ras yn cael ei chynyrchu ganddo.
Yr un peth fyddai tybied fod dal darlun
prydferth o flaen dyn dall yn ei alluogi i
weled.' Dilynwyd Ridgley gan Dr.
WiIIiams, o Rotherham, Dr. George
Lewis, a lliaws o ysgrifenwyr eraill yn
mysg yr Anghydffurfwyr. Hyn hefyd yw
barn Dr, Hodge, o America, yr hwn yn
ddiau ydyw un o dduwinyddion ga Iluocaf
yr oes hon ; ac nis gallaf fyned heibio i'w
enw heb dalu iddo deyrnged o warogaeth,
ac anog pawb i ddarllen ei ysgrifeniadau.
" Ond y mae yn bryd i ni edrych pa beth
oedd barn Williams a'r hen Fethodistiaid
yn Nghymru ar y mater hwn. Fel hyn y
dywed WiIIiams ynei Theomemphus am natur
fifydd, ac am y drefn i aileni drwy ffydd : —
" ' 'R efengyl wy'n bregcthu,
Nid yw hi ddim ond hyn,
Mynegu'r weithred ryfedd
Wnawd ar Galfaria fryn ;
Cyhoeddi'r addewidion,
Cyhoeddi'r marwol glwy',
A diwedd llygredigaeth
I'r sawl a gredo mwy.
0 cred, 0 cred, cai gymhorth
I dynu'th lygad de ;
O cred, 0 cred, cai allu
I dori'th fraich o"i lle :
Cred yn yr Oen fu farw
Fry ar Galfaria fryn,
Y fynyd gynta' y credost
Cai lawer mwy na hyn.
Nac edrych ar amodau
Fyth fyth o'th fewn dy hun ;
Trwy gredu daw amodau,
Rlae gras wrth gredu 'nghlŷn ;
Y fynyd gynta' y credost
Y^'w'r fynyd byddi byw,
Wrth gredu yn Nghrist yn unig
Cai wel'd gogoniant Duw.
170
Y TADAU METHODISTAIDD.
Nid credu j^w bod genyt
Ryw drugain nôd ac un,
Amrywiol o rasusau
Rhagorol ynot d' hun ;
Ond credu yw dy weled
Yn eisieu oU i gyd,
A'th eisieu yn peri it' bwyso
Ar Brynwr mawr }■ byd.'
"Nid yw y peniUion hyn ond pigion o
lawer a allesid roddi ; ond y mae hyn yn
ddigon i ddangos beth oedd barn WiUiams
am ffydd, fel y mae yn derbyn Crist heb
fod unrhyw anian dduwioi na chalon
newydd yn gymhwysder blaenorol yn y
dyn ei hun. Yna yn y rhan olaf o bregeth
Efangelius rhydd oleu pellach ar y drefn
fel y canlyn : —
"'Crynhowch eich hoU achwynion
Y mwyaf sydd i'w gael,
Cewch yma ddigon digon
I'ch ateb chwi yn hael ;
'Does dim ond edrych yma,
Mae edrych yn iachau,
Mae edrych yn sancteiddio,
Mae edrych yn mwynhau.
Mae'r ffynon yn agored,
Dewch edifeiriol rai ;
Dewch chwithau yr un ffunud
Sy'n methu edifarhau ;
Dewch gafodd galon newydd,
Dewch chwithau na cha'dd un,
I olchi pob budreddi
Yn haeddiant Mab y dyn.'
Dyma oedd barn Wilhams ; a geUir cym-
eryd yn ganiataol ei fod yn rhoddi barn
gyffredin y Methodistiaid yn y cyfnod
hwnw. Ar ol ei ddyddiau ef, y mae yn
debyg na fu neb yn cynrychioH y Method-
istiaid yn well na Mr. Charles o'r Bala :
ac os dewisiwn gael ei olygiadau ef, nid
oes raid i ni ond troi at yr Hyfforddwr. Yn
yr wythfed benod, ar ol son am aileni,
gofynir, ' Pa fodd y mae yr Yspryd yn
gweithredu y cyfnewidiad hwn ? ' A"r
ateb ydyw, ' Trwy uno yr enaid â Christ,
canys trwy undeb â Christ y mae pob gras
a rhagorfraint yn deilho i ni." Y maeyma
radd o anhawsder, drwy fod yr Hyfforddîíir
yn y benod nesaf, ar ol dweyd fod yr Ys-
pryd Glân yn dwyn pechadur at Grist,
drwy amlygu Crist, yn myned yn mlaen i
sylwi mai y rhai sydd yn derbyn y dat-
guddiad hwn o Grist yw y rhai a wir
gyfnewidiwyd gan Yspryd Duw. Byddai
yn waith buddiol i blant yr Ysgol Sab-
bothol, pe chwilient y ddwy benod, nes
cael golwg argysondeb y ddau ddywediad.
Ond er mwyn cael golygiadau Mr. Charles
yn helaethach ac yn eglurach, darllener y
Geifiadur, dan y gair adenedigaeth.
" Wedi dangos fod golygiadau WilUams
am ailenedigaeth drwy ffydd yn cydfyned
a'r hyn a geir yn ysgrifeniadau rhai o'r
prif dduwnnyddion, er yn gwahaniaethu
oddiwrth y cyíîredin o'r hen Anghydffurf-
wyr, y mae yn aros i chwiUo i ba raddau
y maent yn cytuno a thystiolaeth yr Ys-
grythyr. Yn y benod gyntaf o Efengyl
loan ceir ymadrodd fel hyn : 'Ond cynifer
ag a'i derbyniasant ef, efe a roddes iddynt
aUu i fod yn feibion i Dduw, sef i'r sawl a gred-
ant yn ei enw ef.' Pa un ai aileni drwy fîydd
sydd yma, neu ynte fifydd drwy aileni ?
Mae yn sicr mai at aileni, ac nid at fab-
wysiad, y mae loan yn cyfeirio ; oblegyd y
tufewnoi yw ei bwnc ef yn barhaus, tra y
mae Paul yn son mwy am gyíîwr dyn yn
ei berthynas â deddf. Ond pe byddai rhyw
amheuaeth, y mae hyny yn cael ei symud
yn yr adnod nesaf— ' Y rhai ni aned o waed,
nac o ewyllys y cnawd, nac o ewyllys gẃr,
eithr o Dduw.' FeUy, y drefn i ddyn gael
ei aileni ydyw drwy dderbyn Crist ; a'r rhai
a dderbyniant Grist yw y sawl a gredant
yn ei enw ef. Gwneir hyn yn eglurach eto
gan Grist ei hun yn y drydedd benod, Ue y
dengys i Nicodemus fod ei deyrnas eí o
natur ysprydol, ac am hyny yn gofyn cyf-
newidiad ysprydol, sef geni drachefn, cyn
y geUir ei gweled a myned i mewn iddi.
Yr oedd hwn yn ddechreuad angenrheidiol
i'r ymddiddan, gan fod yr luddewon
mwyaf goleuedig yn coledd syniadau mor
ddaearol am deyrnas y Mesiah. I'r cwbl
nid oedd gan Nicodemus ond gofyn, Pa
fodd ? A diau ei fod yn gofyn o ddifrif ;
ac os feUy, a ellir tybied fod yr Arglwydd
lesu yn gadael y gofyniad heb ei ateb? Na
elUr yn ddiau. Ond, yn gyntaf, y mae yn
hysbysu fod yn rhaid dwyn i'r golwg y
pethau nefol am gariad Duw yn anfon ei
unig-anedig Falì, y rhai ydynt yn fwy an-
hawdd eu credu na'r angenrheidrwydd am
y cyfnewidiad tufewnol. Ond er mwyn
enill Nicodemus i'w credu, y mae yn dy-
wedyd ei fod ef wedi disgyn o'r nef, a'i fod
hefyd yn y nef. Yna y mae yn myned
rhagddo i ateb y gofyniad drwy amlygu y
drefn i aileni : ' Ac megys y dyrchafodd
Moses y sarff yn y diffaethwch, felly y
mae yn rhaid dyrchafu Mab y dyn ; fel na
choUer pwy bynag a gredo ynddo ef, ond
caffael o hono fywyd tragywyddol.' Y
bywyd tragywyddol hwn yw y bywyd a
dderbynir yn yr ailenedigaeth ; a gwelir ei
fod yn dyfod drwy gredu. Dyma yr hoU
drefn ger ein bron ; ac y mae yn dra thebyg
fod y geiriau hyn yn meddwl WilUams pan
yn cyffelybu credu i edrych : —
WILLIAM WILLIAMS, PANTYCELYN.
171
" ' 'Does dim ond edrycli yma,
Mae edrych yn iacliau,
Mae edrych yn sancteiddio,
INIae edrych yn fwynhau.'
" Yn llythyrau Paul daw yr un athraw-
iaeth i'r golwg, nid mewn ymadroddion
achlysurol yn unig, ond fel swm a sylwedd
ei ymresymiad, yn enwedig yn ei Epistol
at y Rhufeiniaid. Fel sylfaen i'r hoU ym-
driniaeth am drefn yr efengyl, y mae yn
traethu yn gyntaf
am ein derbyniad
gyda Duw drwy
ffydd heb weithred-
oedd y ddeddf, ac
yna yn myned yn
mlaen i sylwi ar y
cyfnewidiad tufewn-
ol fel y canlyniad
angenrheidiol i gyf-
iawnhaddrwy ffydd.
Dechreua draethu
ar y mater olaf yn
pen. vi, I , drwy ofyn,
' Beth wrth hyny a
ddywedwn ni ? a
drigwn ni yn wastad
mewn pechod, fel yr
amlhao gras ? ' Mae
yn amlwg na fuasai
Ìle i'r gofyniad hwn
pe buasai cyfiawn-
had yn rhagdybied
ailenedigaeth. Ar
y dybiaeth fod gras
wedi amlhau tuag
at ddyn y n y cyfiawn-
had, cyn fod gras
ynddo, y gelHr gof-
yn, ' A drigwn ni yn
wastad mewn pech-
od fel yr amlhao
gras ? ' Yr ateb i'r
gofyniad hwn ydyw,
' A ninau wedi meirw i bechod, pa wedd y
byddwn byw eto ynddo ef ? ' Y mae yr
ateb hwn yn cynwys ein bod wedi meirw i
bechod yn y cyfiawnhad ; hyny ydyw,
wedi meirw iddo yn gyfreithiol, fel nad oes
gan bechod awdurdod arnom mwyach,
megys nad oes gan y meistr awdurdod ar
y caethwas pan fyddo y caethwas wedi
marw. Ond pa fodd y mae y caethwas yn
marw yn yr amgylchiad hwn ? Dengys yr
apostol yn yr un benod ei fod yn marw i
bechod drwy ddyfod i undeb ffydd â
marwolaeth Crist. Y mae hyn oll yn
perthyn i gyfiawnhad ; ac felly mae cyf-
PWLPUD V CiPEL COFFADWiaAETHOL
YN LLANYMDDYFRI.
iawnhad yn ngohvg yr apostol yn cynwys,
nid rhyddhad oddiwrth gondernniad yn
unig, ond rhyddhad oddiwrth arglwydd-
iaeth pechod, yr hyn sydd yn cynwys
hefyd nas gall neb fod yn was cyfreithlawn
i bechod wedi ei gyfiawnhau. Ond i
ddangos yn fwy eglur eto y cysylltiad an-
wahanol rhwng cyfiawnhad a sancteiddhad,
dygir yn mlaen ein perthynas a'r ddeddf,
yr hon oedd yn ein rhwymo yn nghaeth-
iwed pechod. Nid
oedd modd i ni farw
i arglwyddiaet h
pechod heb i'r
ddeddfgaelei newid,
neu i ni farw i'r
ddeddf; ac nid oedd
modd i ni farw i'r
ddeddf oddieithr
drwy undeb ffydd â
marwolaeth Crist.
Y mae hyn eto yn
perthyn i'r cyfiawn-
had. Ond o'r ochr
arall, ' Yr ydym yn
marw i'r ddeddf (yn
y cyfiawnhad) drwy
gorff Crist ; fel y
byddem eiddo un
arall, sef eiddo yr
hwn a gyfodwyd o
feirw, fel y dygem
ffrwyth i Dduw.'
A dyma wreiddyn
ein hailenedigaeth,a
dechreuad ein sanct-
eiddhad. Gwehrfod
y cwbl yn dyfod o
undeb â Christ, a'r
cwbl gan hyny yn
dyfod drwy ffydd.
Ceir yr un athraw-
iaeth yn y bedwar-
edd benod o'r Ep-
istol at y Galatiaid, lle y dywedir ein bod
wrth natur yn gaethion dan wyddorion y
byd. Yr oedd yr etifeddiaeth yn barod ;
ond yr etifedd yn gaeth, ac yn rhaid ei
brynu. Y canlyniad o'r prynu ydyw mab-
wysiad ; a chanlyniad y mabwysiad ydyw
anfon Yspryd y Mab i'n calonau ni, yn
llefain Abba, Dad.
" Addysgiadol yw syhvi fel y mae Paul
yn cyffelybu credu i farw, ac felly yn ei
osod allan fel rhywbeth hollol groes i
weithio, er mai o'r marw hwn y mae bywyd
a gwaith yn tarddu. Fr un perwyl y
dywed Wilhams, mai nid credu yw fod
Y TADAU METHODISTAIDD.
genym rinweddau ynom ein hunain, ond
gweled ein hunain yn eisieu oU i gyd, a'r
eisieu hwnw yn peri i ni bwyso ar y digon-
olrwydd sydd yn Nghrist. Y mae hyn yn
wahanol iawn i'r gred sydd yn rhy gyffred-
in fod yn rhaid cael bywyd newydd yn yr
enaid cyn y gall neb gredu. Mae yn sicr
na ddyhd priodoli i eraill ganlyniadau y
farn a goleddir ganddynt, os byddant hwy
eu hunain yn ymwrthod a'r canlyniadau
hyny. Er hyny, am y rhai sydd yn dal y
farn hon, byddai yn dda iddynt ystyried
mor agos ydynt, ac mor hawdd yw iddynt
lithro i"r golygiad Pabaidd am ffydd a
chyfiawnhad. Addefa y Pabyddion fod
cyfiawnhad drwy ffydd ; ond dywedant yr
un pryd fod ffydd wirioneddol yn cynwys
cariad, ac felly gwnant gyfiawnhad drwy
ffydd yn gyfiawnhad drwy weithredoedd.
Yr unig ffordd i wrthwynebu y golygiad
Pabaidd ydyw drwy ddal, yn ol tystiolaeth
amlwg yr Ysgrythyr, fod aileni yn dyfod
drwy ffydd, ac nid ffydd yn dyfod drwy
aileni. Yr wrthddadl fawr yn erbyn hyri
yw, nas gall dyn gredu heb fod ynddo
fywyd yn gyntaf. Ond ni feddyhr fod neb
yn credu yn gadwedigol heb yr Yspryd
Glân, mwy nag y mae yn marw yn natur-
iol heb i Dduw beri hyny. Ac os caniateir
fod yr Yspryd yn argyhoeddi dyn cyn ei
aileni, paham na ellir caniatau ei fod yn ei
ddwyn i gredu cyn ei aileni, er nad yw yr
Yspryd yn preswyho ynddo nes y daw
drwy gredu i undeb â Christ ? Ond nid ei
wella y mae yr Yspryd cyn iddo ddyfod at
Grist, ond ei ddwyn at Grist er mwyn iddo
gael ei wella. Gan hyny, nid oes achos i
neb oedi nes cael tro cyn dyfod at y
Ceidwad. Pe rhoddid derbyniad dwfn i'r
athrawiaeth hon gan hoU bregethwyr yr
efengyl, byddent yn sicr o deimlo mwy o
gryfder i alw ar bawb i ddyfod at Grist yn
ddiymaros ; ac i ddywedyd gyda W'ilhams,
yn y penill a ddyfynwyd eisioes : —
" 'Mae'r fíynon yn agored,
Dewch eclifeiriol rai ;
Dewcli chwithau yr un fîanud
Sy'n methu edifarhau ;
Dewch gafodd galon newydd,
Deweh chwithau na cha'dd un,
I olchi pob budreddi
Yn haeddiant Mab y dyn.'"
Dichon ein bod wedi aros yn rhy hir ar
deilyngdod llenyddol, a chysondeb athraw-
iaethol emynau a chyfansoddiadau eraill
W'iUiams, ond nid ydym yn anghofio fod eu
prif ragoriaeth yn gorwedd mewn cyfeiriad
arall. I lawer pererin bhnedig y maent
wedi bod fel dyfroedd oerion i enaid sych-
edig. Buont yn gyfnerth i'r llesg, ac yn
olew a gwin i lawer enaid drylhedig.
Cafodd llawer olwg ar y wlad well a'r
Brenin yn ei degwch drwy ei emynau
ef. Profasant yn foddion grâs i filoedd
yn Nghymru, ac yr ydym yn hyderu y
parhant yn eu rhinwedd am oesoedd lawer
i ddyfod.
Nis medrwn adael Wilhams heb goffhau
y difyr hanesion sydd am dano, a'r ffraeth
benillion a wnaeth ar wahanol achlysuron.
Nid ydynt o nemawr gwerth ar wahan
oddiwrth eu hawduriaeth. Taflant oleuni
ar ei barodrwydd, ei ffraethineb, a siriol-
deb ei yspryd. Nid oes iddynt drefn
amseryddol, nac ychwaith unrhyw sicr-
wydd am eu lleohad, ac nis gellir dwyn
nemawr o honynt o dan unrhyw ddosbarth-
iad. Gosodir hwy i fewn yma am fod gan
y wlad barchedigaeth i fan-bethau y bardd
o Bantycelyn, a gwneir hyny mor fyr ag
a fydd yn ddichonadwy. 13anfonodd y
penill canlynol at ei wraig pan yr oedd
ar daith trwy'r Gogledd : —
" Hêd, y gwcw, hêd yn fuan,
Hêd y deryn glâs ei liw,
Hèd oddi yma i Bantycelyn,
D'wed wrth Mali mod i'n fyw ;
Hêd oddi yno i Lanfairmuallt,
D'wed wrth Jack am gadw ei le,
Os na chaf éi weled yma,
Caf ei weled yn y ne'."
Cawn yn Meiìwdistiaeth Cymrn, cyf. iii.,
tudal. 345, nodiad fel yma : " Daeth hanes
arall i law am y bardd pan yr ydoedd ar
daith yn Môn, ac yn yr hanes y mae ffurf
wahanol ar y penill, ' Hêd y Gwcw,' ac
ar yr amgylchiad a barodd ei gyfansoddi.
Cymerwyd y bardd yn afiach, medd yr
hanes, yn y Garnedd-ddu, a bu yn gor-
wedd ddyddiau rai. Yn ei salwch aeth
yn isel iawn ei feddwl, a theimlai hiraeth
angerddol am ei gartref, ac am ei deulu."
Wylai a chanai fel hyn : —
" 'Rwy'n awr yn eitha' Môn yn aros,
Ac y mae yn fy yspryd glwy',
Am gael gweled Pantycelyn,
'Chaf ei weled mo'no mwy !
Hêd, y gwcw, dros y bryniau,
Hêd, aderyn glâs ei liw,
Dwg i'm newydd, dwg yn fuan,
A yw yno bawb yn fyw ?
Hêd oddi yno i Lanfairmuallt,
D'wed wrth Jack am gadw'i le,
Os na chai weled ar y ddaear,
Y caf ei weled yn y ne' ;
Hêd oddi yno, dos at Mali,
Dywed wrthi'n ddistaw bach,
Os ca'i genad gan yr Arglwydd,
Y dof fi adre' eto'n iach."
WILLIAM WILLIAMS, PANTYCELYN.
173
Dywedir ddarfod i Williams, pan yn
hen \vr mewn tipyn o anghofrwydd meddwl,
roddi " Hêd y Gwcw" allan i'w ganu, wrth
ddechreu odfa mewn capel ag oedd wedi ei
adeiladu yn bur agos i'r môr. Ymaflodd
ei gyfaill yn nghwr ei gôt, a dywedodd yn
ddistaw : " W'. Williams, nid yw y peniU
yma yn weddus mewn addohad." " Gwir
a 'wedi di," ebe yntau ; ac ar yr un anadl
rhoddes y penill canlynol allan, a ddaeth
i'w feddwl yn y fan, wrth glywed swn
y môr : —
" Mae'r iachawdwriaeth fel y môr
Yn chwyddo byth i'r lan ;
Mae ynddi ddigon, digon byth,
I'r truan ac i'r gwan."
Gwnaeth y penill canlynol i dalu diolch
i Enos, tad Ow^en Enos, o'r Twrgwyn,
Sir Aberteifi. Yr oedd y bardd yn lletya
ar dywydd ystormus yno, ac er mwyn
iddo fyned i'w gyhoeddiad, rhoddodd Enos
iddo fenthyg ei gaseg, a thaflodd ei wraig,
" Pal," ei chlôg drosto, gan estyn iddo
botel yn cynwys rhyw wlybwr ag y tybiai
hi a'i cadwai ef yn gynes : —
" Deg bendith f'o a- y clogyn.
Ac ugain f'o ar ' Pal,'
A phymtheg f'o ar y gaseg
A'm cariodd i mor dal,
A naw f'o ar y botel,
Ddiddefnydd wrth fy nglun,
A'r rhest ar gopa Enos,
I'w gwneyd yn gant ag un."
Yr oedd unwaith yn pregethu yn Môn,
ac yr oedd y wraig yn cyd-drafaeíio ag ef,
fel y digwyddai yn aml. Daethant i Lan-
gefni. Ar ol y bregeth aeth y ddau i
dafarndy, o'r enw Penybont, i letya. Yr
oedd cynllwyn yn ngwersyll yr erlidwyr
yn erbyn y pregethwr, ac wedi deall pa le
yr ydoedd, ymgasglodd haid o honynt
wrth ddrws y gwesty. Yr oedd gyda hwy
grythwr [fiddler). Ar y pryd yr oedd
Williams a'i wraig yn aros yn y parlwr,
clywent drwst traed Ilawer o bobl yn y
fynedfa, a gwelent ddrws y parlwr yn
agor, a'r crythwr yn sefyll o'u blaen, tra
yr oedd IIu o ddyhiriaid wrth ei gefn. Pan
welodd WiIIiams ef, galwodd arno : " Tyr'd
i mewn, fachgen." Y crythwr a ofynodd,
gyda Ilawer o goeg-foesgarwch, a garent
hwy gael tiinc ? " Carem," atebai WiII-
iams, " gad dy glywed yn chwareu."
" Pa dnne?'' gofynai y crythwr. " Rhyw
dune a leici di, fachgen — Nancy Jig, neu
ry wbeth arall " — oedd yr ateb. Ar hyn
dechreuodd rygnu y crwth, a gwaedd-
odd WiUiams ar y wraig, " 'Nawr, Mali,
" Gwaed dy groes sy'n codi fyny
'R eiddil yn gongcwerwr mawr ;
Gwaed dy groes sydd yn darostwng
Cewri cedyrn fyrdd i lawr :
Gad i'm deimlo
Awel o Galfaria fryn."
A chanu a wnaethant nes gostegu ynfyd-
rwydd y bobl, y rhai a lithrasant ymaith
heb aflonyddu arnynt yn mhellach. Arferai
Williams adrodd am erledigaeth arall a
gafodd yn y Gogledd. Pregethai mewn
tafarndy. Pan o gylch dechreu y gwasan-
aeth, daeth yswain y gymydogaeth a Uu o
bobl gydag ef, i'r amcan o"i niweidio. Ciliodd
yntau o'r golwg, a darfu i'r tafarnwr ei bers-
wadio i newid ei ddillad, ac ymddyeithrio.
Daeth allan wedi newid ei wisg, ac ni ddarfu
i'r erlidwyr ddeall mai efe ydoedd y pregeth-
wr. Ond yn fuan cododd ystorm enbyd
yn nghydwybod Williams yn nghylch
priodoldeb ei ymddygiad, a daeth geiriau
y Gwaredwr gyda nerth anorchfygol i'w
feddwl : " Pwy bynag a'm gwado i yn
ngwydd dynion, minau a'i gwadaf yntau
yn ngwydd fy Nhad, yr hwn sydd yn y
nefoedd." Gorfu iddo ddychwelyd, a
gwisgo ei ddillad ei hun, a gwynebu y
perygl. Adnabuwyd ef yn y man, a
dechreuasant ymosod arno, ond gan i'r
tafarnwr gymeryd ei blaid, ni dderbyniodd
niwed. Efe oedd y cyntaf a geisiodd
bregethu yn nhref Caernarfon. Yr oedd
wedi bod yn pregethu yn Sir Fôn. Yr
oedd ei wraig gydag ef ar y daith hon.
W'rth groesi y culfor o borth Talyfoel,
dyrysodd Mrs. WiIIiams yn rhyw fodd yn
ngodreu yr hwyl, a thaflwyd hi dros ymyl
y cwch i'r môr. Yr oedd tybiaeth gref i
hyn gael ei wneyd o fwriad ! Pa fodd
bynag, gwaredwyd hi rhag boddi, a thirias-
ant yn ddiogel yn Nghaernarfon. Deallodd
WiIIiams yn fuan nad allai anturio pregethu
yno, gan eu bod yn penderfynu ei rwystro
neu ei ladd. Ymguddiodd, ac aeth ym-
aith mor ddirgel ag y medrai dranoeth.
Nis medrai efe wrthsefyll erledigaeth fel y
gwnai y gwrol Howell Harris.
Medrai roddi sen yn bur ddeheuig. Yr
oedd tyddynwr o Landdewi, yr hwn oedd
yn berchen gwaith neu gloddfa, yn achwyn
wrtho fod ei amgylchiadau yn isel, a bod ei
dad yn by w ar driugain punt yn y flwyddyn
yn well nag yr oedd efe ar gant. Dy wedodd
WiIIiams wrtho : —
174
Y TADAU METHODISTAIDD.
" Rho heibio waith Llaaddewi,
A chadw caseg fawr,
A bildio teiau nowyd'i,
A thynu'i- hen i lawr ;
A phaid a rhenti'r tiroedd
l'r deiliaid yn rhy ddrud,
Gwna'r triugain fwy o lawcr
Na wna y cant i gyd."
Cafüdd un Evan Moses sen drymach
ganddo. Teiliwr ac argraffydd oedd y g\Vr
hwn. Yr oedd wedi bod yn ddigon hyf i
feirniadu marwnad WiUiams i Howell
Harris, ac wedi gadael rhai penilhon ahan
wrth ei argraffu hi : —
" Wel, gwrando, Evan Moses,
Y teiliwr gwaetha'i ryw,
O'r dorf ddirif deilwriaid
Erioed a greodd Duw ;
'Dwy'n amheu nad yr Arglwydd,
A'th wnaeth di'n deiHwr glâs ;
Ond Satan a dy alwodd
At waith efengyl grás."
Cyfansoddodd Wilhams lawer yn nyfn-
der y nôs, pan y byddai pawb eraiU yn
gorphwys. Dywedir y byddai yn aml, ar
ol myned i orphwys ei hun, yn deffro ei
gymhar, gan waeddu yn sydyn : " Mah,
Mah ; canwyll, canwyli, y mae yn rhaid i
mi fyned i ysgrifenu." Goleuai Mah y
ganwyll yn ddiymaros a dirwgnach, ond
nid oedd efe bob amser pan ar ei deithiau
yn cael yr un parodrwydd i weini arno.
Un tro, yn y CoUenau, yn ymyl Ton-
yrefail, medd rhai, yn Maesceínffordd,
ger Llangamarch, medd eraill, methodd y
bardd yn lan a dihuno y forwyn, a dyma
fel y canodd iddi boreu dranoeth : —
" 'R wy' 'nawr yn gwel'd yn eglur,
'Tai clychau mawr y Llan,
A rhòd y felin bapyr,
A gyrdd y fehn ban ;
A'r badell fawr a'r crochan
Yn twmblo oddeutu'r tŷ,
A'r gwely'n tori dani,
Mae cysgu wnelai hi."
Un tro yr oedd WiUiams ar daith trwy
Fro Morganwg, ac yn pregethu yn Llysy-
fronydd. Yr oedd pobl y wlad o gwmpas
wedi dyfod i'w wrando, ac yr oedd ganddo
gopíau o Thcomcmphus i'w gwerthu ar ol yr
odfa. Gwnaeth farchnad go dda o honynt ;
ond yr oedd un o"r enw Ned Lewis, un o
wrandawyr Llangan, yn gomedd prynu,
ac yn dweyd fod y llyfr yn rhy ddrud ;
dywedodd Wilhams wrtho : —
"Ned Lewis, er ei wrando,
Yn selog yn mhob man,
Sy'n hofîi ceiniog tincer,
Yn fwy na ffydd Llangan ;
Ni phryn e' ddim o Theo',
Mae e' gciniog yn rhy ddrud,
Nes delo'r wàber danllyd
I fratliu ci fynwes glyd."
Yr oedd dynes yn byw yn ymyl Castell-
nedd, yn Sir P'organwg, o'r enw Sah
Stringol, ag y byddai WiUiams yn arfer
masnachu â hi mewn llyfrau. Yr arfer
oedd talu am yr hen wrth gael y newydd.
Un tro, pan yr oedd Wihiams ar gylch, ni
ddaeth Sah i'w gyfarfod fel y byddai yn
arferol o wneyd, ac fe aeth y bardd i ofni y
byddai iddo golh yr arian. Ysgrifenodd
ati i achwyn, gan ddweyd y byddai ar
amserpenodedig yn FforchonUwyn, Ystrad-
gynlais, ac y carai iddi ei gyfarfod yno, a
dwyn yr arian gyda hi. Digiodd Sah yn
enbyd, a phan ddaeth yr amser, aeth yno
yn ddrwg ei hwyl, er fod ganddi ffordd
faith i'w cherdded. Yr oedd WiUiams yn
Uetya gyda Mr. Jones, yr offeiriad. Pan
ddaeth Sali i'r tý, arweiniwyd hi i mewn
i'r parlwr Ue yr oedd y bardd, gŵr y tŷ, ac
un neu ddau eraiU yn eistedd. Cyfarchodd
y bardd hi yn garedig, gan hoh ei helynt ;
ond yr oedd hi yn rhy glwyfedig ei hyspryd
i siarad, a thaflodd yr arian ar y bwrdd yn
swta, a gofynodd am receipt. Gwelodd
WiUiams fod y wraig dda wedi tram-
gwyddo, a dywedodd, "Cewch, cewch,
cewch, cewxh," yn hoUol hunanfeddianoL
" Rhowch i mi dipyn o bapyr, Mr. Jones,"
meddai, ac wedi ei gael, eisteddodd i lawr
i ysgrifenu. Ar ol gorphen, estynodd y
papyr i'r offeiriad, yr hwn a dorodd aUan i
chwerthin ; a phan ddarUenodd hwnw ef
aUan i glywedigaeth y cwmni, yr oedd Sah
yn chwerthin mor iach a neb o honynt.
Dyma y i'eccipt : —
" 'Rwy'n rhyddhau Sali Stringol,
Y wraig a'r natur fawr,
O bob rliyw ddyled imi
0 Noah hyd yn awr ;
Dymunaf dda i Sali,
A'i chrefydd gyda hi,
A gwnaed fii hecìd a'r nefoedd,
Fel gwnaeth hi hedd a mi."
Ryw bryd yn y flwyddyn 1788, yr
oedd y bardd yn pregethu yn nghapel
y Dyffryn (Dyftryn Clwyd), ac yn ol yr
arfer gyffredin, yn y tymhor hwnw, yn
cadw cyfarfod eglwysig ar ol yr odifa.
Yr oedd yno ddau wedi aros i ymofyn am
aelodiaeth o newydd, sef gVvr o saer yn
y gymydogaeth, a merch ieuanc. Ym-
ddiddanodd WiUiams a hwy, yn ol ei arfer,
ac ar ol darfod, ebe fe, gan gyfarch yr
eglwys : " Gadewch i'r eneth yma aros
WJLLIAM WILLIAMS, PANTYCELYN.
175
gyda chwi, ac ymgeleddwch hi ; ond am y
gẃr yma, nid oes ganddo fwy o grefydd
nag sydd gan fy ífon i," gan daro ei ffon ar
y Ilawr. Felly y troes pethau allan.
Yr oedd g\vr, o'r enw Wiüiam Powell,
aelod o eglwys Llansamlet, Morganwg,
wedi gwyro at Sandemaniaeth, gan ddilyn
Mr. Popkins, yr hwn oedd wedi gwyro o'i
flaen ef. Pan yr oedd efe ar ei wely
angau ymwelodd y l)ardd o Bantycelyn
ag ef, ac yn y gair a goffheir iddo ei
ddweyd wrth y claf, y gallwn weled fod
gan y bardd feddwl da am ei grefydd, er
Llandeilo Fàn, yn Sir Frycheiniog. Ym-
ddengys mai Mrs. Lloyd, Aberllech, ger
Beiludu, ydoedd hi, boneddiges a fu yn
dra chymwynasgar i grefydd yr ardal hono
yn ei dydd. Dyma atebiad boneddigaidd
y bardd iddi : —
" Ti, bendefiges hawdclgar,
Mi gadwaf yn fy ngho',
I'th babell do'i bregethu
Pan ddelwyf gynta' ith fro ;
Ac hefyd ti gai wobr,
Pan elo'r byd ar dân,
Am wa'dd efengyl lesu
I blwy' Llandeilo Fân."
EGLWYS LLANFAIR-AR-Y-BKYX.
[Yìi daníios ij M<dni Coffadmriacthol ci/ntaf a osodioyd ar ij beddaii.]
iddo lithro ychydig oddi ar y ffordd :
" Wil, Wil," eb efe, " ti fuost ti yn îuhil'o
llawerjam ddyn'on perffaith yn dy dymhor,
mi.'dy wela di yn nes atyn' nhw' yn awr
nag erioed." At y Mr. Popkins uchod y
cyfeiriai Williams pan y dywedai, mai
" pedwar peth a'i gwnaethai yn bregethwr
mawr — perwig Samson Thomas, ceffyl
Howell Davies, cyfoeth Popkins, a doniau
Rowlands."
Daeth gwraig foneddig ato unwaith i'w
wahodd i ddyfod i bregethu i'w thŷ hi yn
Ymddengys ei fod yn ẃr pur ddifater
am ei ymddangosiad personol. Nid oedd
un gwasanaeth yn rhy isel iddo ef ei
gyflawni. Elai o gwmpas y wlad fynychaf
ar gefn ei geffyl, gyda sachaid o'i lyfrau ar
y cyfrwy ; ac os digwyddai i'r tywydd
droi allan yn anffafriol, ac yntau yn ddi-
ddarpariaeth, benthycai gôt rhyw gyfaill,
neu glóg ei wraig, heb ymhoh dim a
fyddai diliadau felly yn gweddu gẃr
parchus a chyfrifol fel efe. Cawn ei fod
yn pregethu un tro yn mharlwr gẃr
176
Y TADAU METHODISTAIDD.
boneddig yn Margam, Sir Forganwg.
Ei bwlpud yno oedd bwrdd derw cabol-
edig, ac i'r amcan dyblyg, o beidio niweidio
y bwrdd, ac o beidio niweidio ei hun drwy
syrthio oddiar y bwrdd IHthrig, tynodd
ymaith ei esgydiau, a phregethodd yn
hwyhis yn nhraed ei hosanau, ar y wledd
o basgedigion breision, yn Mhrophwydol-
iaeth Esaiah.
Dro arall, cawn ei fod yn pregethu ar
dalcen pont Castellnewydd-Emlyn. Y gauaf
oedd hi, ac yr oedd ar amser yr odfa, meddir,
yn " dywydd embeidus, ac yn lluwcho
eira." Gwisgodd Wilhams ei gôt fawr,
a rhwymodd ddau napcyn ar ei ben, a
gosododd het walciog ar hyny. Yr oedd
carthen rawn, o"r fath a ddefnyddid i
nithio yd ar faes agored, wedi ei
rhwymo dros y cyfan gyda ffiled gaws.
Pregethodd yn hwylus allan o'r pentwr
dillad hyn. Diau fod yr amgylchiad hwn
yn un eithafol iawn, er y gwyddis
ei fod yn cael ei flino yn dost gan yr
" hyp," neu y pruddglwyf, yn ei henaint,
sef y cyfnod ar ei fywyd y dywedir i'r
peth gymeryd lle.
Yr oedd Morgan Rhys, yr emynydd
enwog, yn enedigol o'r un ardal a W'iUiams,
sef ardal Llanymddyfri ; a buont yn gyd-
aelodau o eglwys Cilycwm, ar un tymhor
o'u bywyd. Ffaith hynod ydyw fod dau
emynydd mor nodedig a William WilUams
a Morgan Rhys yn enedigol o'r un ardal,
ac yn aelodau o'r un eglwys. Cytunir i
osod \MUiams yn mlaenaf yn mhUth yr
emynwyr Cymreig, ac y mae pobl o farn,
a "Hiraethog" yn eu mysg, yn gosod
Morgan Rhys yn nesaf ato. Arferent
adrodd eu hymnau wrth eu gilydd.
Byddai Morgan Rhys weithiau hytrach
yn amleiriog, ac ambeU bryd yn arfer
gormodiaeth anochelgar. Un tro, pan yr
adroddodd hymn newydd o brofiad pur
uchel, dy wedodd y prif emynydd wrtho :
" Wel, y mae genyt ti yn hona, beth
bynag, brofiad Cristion a haner da." Y
meddwl oedd ei fod gryn lawer uwchlaw
cyrhaeddiad y cyffredin o gredinwyr.
BeUach, rhaid terfynu. Ymddengys ei
fod wedi ei fendithio a chyfansoddiad
corphorol cryf, a mwynhaodd iechyd da,
er ei fod yn hynod esgeulus o hono.
Eisteddai i fyny yn aml i ysgrifenu hyd y
boreu, ac anfynych yr elai i'w wely hyd
ddau o'r gloch. Dygodd hyn y graianwst
(gravel) arno, a chafodd ei flino yn fawr
yn y blynyddoedd olaf gan y pruddglwyf.
Yr oedd mor ofnus ar derfyn ei oes, fel
nad elai aUan y nos wrtho ei hun. Bu farw
lonawr ii, 1791, yn 74 mlwydd oed, yn
y gadair freichiau, Ile y gosodasid ef i
eistedd tra y taenid ei wely ; ehedodd ei
enaid i'r orphwysfa dragywyddol y canodd
mor odidog am dani, tra yr oeddynt
wrth y gorchwyl hwnw. Claddwyd ef yn
barchus yn mynwent Llanfair-ar-y-bryn,
a phregethwyd yn Mhantycelyn ar yr
achlysur gan Mr. Llwyd, fîenllan, Cayo,
i gynuUiad Iliosog ag oedd wedi dyfod i
weini y gymwynas olaf iddo.
OLNODIAD.
Ar ol gorphen ysgrifenu y benod hon, tra yn
chwilio cofnodau Trefecca, daetbom o hyd i ffaith
sydd i fesur yn cyfnerthu golygiad a amddiffynir
genym ar dudalenau 154-6, ynglyn a'r cyfaddetiad
o edifeirwch am afreolaetb, a wnaed gan Williams
wrth Mr. Charles o'r Bala. Yr ydym yno yn dal mai
edifarhau am iddo beidio ocdi ei fynediad allan i'r
prif-íîyrdd a'r caeau a wnaeth efe, hyd nes y cafîai
ei lawn urddiad gan yr esgob. Cawn yn y cofnodau
crybwylledig hanes Cymdeithasfa Fisol Longhouse,
pan yr oedd yn bresenol Daniel Rowland, Howell
Davies, a Howell Harris. Yn mysg pethau eraill,
penderfynwyd : " Fod y brawd John Jones i fod yn
ddystaw, meiun trefn i gael ei ordeinio, ìiyd nes y
hyddo yr ordeiniad frosodd." Y dyddiad ydyw
TMehefin 8fed, 1743, sef dau íìs wedi pasio pender-
fyniad fod Williams, Pantycelyn, i adael ei
guwradiaeth. Dengys hyn fod yr arweinwyr
eisioes wedi gweled mai gwell oedd i guwradiaid o
dueddiadau ]\Iethodistaidd ymfoddloni ar fod dros
amser yn ddysgyblion ananilwg, nes iddynt gael
eu hordeinio ; a'u bod yn cyfrif llafur presenol
y cuwradiaid yn liai pwysig na'r gwasanaeth
cyíiawnach a fyddent yn aUuog i'w roddi i'r
diwygiad yn y dyfodoL Hwyrach mai gwrthodiad
yr esgob i urddo Williams a roddodd iddynt
agoriadllygaid. Gwelwn yn y penderfyniad uchod
eu bod yn trefnu na fyddai i John Jones syrthio
i'r un amryfusedd a'r Bardd o Bantycelyn.
DARLUNIAU Ü LEOEDD YN DAL PERTHYNAS A BYWYD A
CHOFFADWRIAETH Y BARDD O BANTYCELYN.
WIL L L4 M WIL L lA MS , PANT YCEL YN .
177
HANES Y DARLUNIAU.
Nid oes un daiiun o Williams av gael a wnaed
tra yr oedd ef yn fyw, ac y anae yn dra tbeliyg na
tbynwyd yr un. Hyn yw banes y darluniau o bono
a gyboeddir genym : Yr oedd gẁr, o'r enw Jobn
Williams, Wernogydd, Llanddarog, Sir Gaer-
fyrddin, pan yn ieuanc, yn arfer gwrando ar
Williams, Pantycelyn, pan fyddai yn pregetbu yn
ngbapel Llanlluan, yr byn a wnai unwaitb yn y
mis. Bu y bardd farw jjan yr oedd awdwr y
darlun tua 19 oed. Yn mheu blynyddau ar ol ei
farwolaeth, pan yr oedd y gân, Golwg ar Dcijríias
Crist allan o brint, darfu i'r gŵr ieuanc bwn
ysgrifenu copi o'r gân mewn copy-booli, a gwnaeth
ddarlun o'r bardd o'i gòf ar y ddalen gyntaf gyda'r
pin ysgrifenu. Ysgrifenodd dano y geiriau byn :
" A resemblance of the poet, William Williaììis,
from rccollection many years after his death." Ac o
dan liyny eilwaitb ysgrifenodd ddifyniad yn Lladin
o waith Yirgil, a cbyfieithiad Saesoneg o dan hyny
eilwaith. Rbed y cyfìeitbiad fel yma : " Hc sìiall
partahe of thc life of gods, shall see heroes minglcd
in society with gods, himself be seen by tJiem, aìid
rule thc pecLceful world lüith his father's virtues."
Ar dudalen arall o'r llyfr bwn y mae yn ysgrifen-
edig : " I attcnded Capel Llanlluan, lühere WiUiam
Williams preached monthly,from my youthful days
till he died. J. Williams, living in Bristol from
1819 till this day, December 16th, 1851. I was born
February 2nd, 1772 ; 79 years old noiu. — /. W.
This book was out of print wJien I lived at Car-
marthen from my youth till 1802, afid the whole of
it copicd oiit of a printed copy, and finished August
19th, 1779, at Wcrnogydd, in the Parish of Llan-
ddarog, near Middleton Hall." Cafodd y diweddar
Barch. R. Jones, Rotlierhitlie, afael ar y llyfr bwn
gyda llyfrwertbwr yn Broadmead, Bristol, a phau
fu Mr. Jones farw, fe brynwyd ei lyfrgell ef gan
Gynghor Trefol Abertawe, ac y mae llyfr Jobn
WiUiams yn awr mewn cadwraeth ofalus yn Free
Library y dref hono.
Y mae barn pobl yn amrywio am wertb y
darlun. Rhaid cyfaddef nas gellir rhoddi llawer o
ymddiried i ddarlun wedi ei wneyd allan o gôf dyn
ieuanc, yn mhen blynyddoedd wedi i'r gwrtli-
ddrych firw. Y mae y llyfr mewn cadwraeth dda,
ac ystyriwn ei fod wedi ei wneyd gan \vr medrus
ar ei bin ysgrifenu. Y niae y wyneb-ddalen yn
ddynwarediad o waith yr argraffwasg. Teimlwn
nad gwaitb dyn anghclfydd ydyw. Nid yw ond
amlinelliad, ond ceir yn aral fras-ddarluniau yn y
cyfnodolion Saesoneg nad ydynt yn amgenach
na bwn. Credwn fod Jobn WiIIiams yn ddigon
galluog i gyflawni ei amcan, os oedd delweddau y
bardd yn ddigon clir ar ei feddwl. Gellir casglu
oddi wrth y nodiadau sydd ar y llyfr i'r darlun
gael ei wneyd o fewn wyth mlynedd i farwolaetb
Williams.
Yr ydym wedi bod yn holi banes awdwr y darlun,
ac yn cael mai enw ci dad oedd Jobn William
Artbur Williams, neu yn ol yr ben enw gwledig,
Sion WiUiam Artbur, ac mai Mari oedd enw ei fam.
Yr oedd iddo frawd o'r enw David Williams. Yr
oedd y bechgyn yn enwog mewn dysgcidiaeth, ac
yn gwybod icithoedd. Y mac dyddiad hedydd
Jobn Williams i'w gael ar gòf-lyfr Eglwys Llan-
ddarog, yr hwn sydd yn cyfatcb i'r hyn a ddywcd
efe am ei oedran. Dywedir i Dafydd fyned at
foneddwr yn agos i Gaerdydd i ddysgu ei blant, ac
iddo fyned i'r offeiriadaeth wedi byny, a gadael
Cymru. Excise Officer oedd Jobn Williams, ond
yr ydym W'Cdi metbu cael dim o'i banes yn Rlryste.
Y'r oedd y rbieni yn Fethodistiaid zêIog.
Pan yr oedd y cyboeddwr, William Mackenzie,
o Glasgow, yn dwyn allan yr argraffiad o Holl
WcitJíiau WiUiams, dan olygiad y diweddar Barcb.
J. R. Kilsby Jones, yn 1867, daeth Mr. Kilsby Joaes
i wybod am ddarlun John Williams, yr bwn oedd
y pryd hwnw yn meddiant y Parch. R. Jones,
Rotberhitbe, a cbafodd ganiatad i wneyd defnydd
o bono i addurno y gwaith. Ymddengys na
tbybiai y cyboeddwr a'r golygydd fod darlun John
Williams ÿn ddigon celfyddgar a gorpbenol i
ateb eu pwrpas bwy, ac felly gosodasant y
gwreiddiol yn Ilaw cerfìedydd i wneyd darlun
gweddusacb a mwy gorpbenol o'r bardd. Gwel y
darllenydd fod copi Mackenzie yn bur anhebyg i'r
gwreiddiol. Rhydd y cyntaf olwg ar Williams yn
bynafgwr, tra y mae yr olaf yn ei ddangos yn ẁr
ieuanc. Diau mai gwell fuasai iddynt adael y
darlun fel y cawsant ef, ac ymfoddloni ar roddi i'w
darllenwyr gopi tég o ddarluu John Williams, a
dweyd yn onest mai darlun a wnaed wcdi marw y
bardd ydoedd hwnw. Ond nid felly y gwnaethant
bwy ; ond yn bytrach cyhoeddasant ddarlun wedi
ei seilio ar yr un gwreiddiol, ond yn gwabaniaetbu
yn fawr oddi wrtho, a hyny beb air o eglurbad,
nac o ymesgusodiad. Nid ydym yn amheu nad
oedd eu bamcan yn gywir a chanmoladwy, ond ym-
gymerasant a gorcbwyl ag oedd yn ol natur pethau
yn anmhosibl. Bellacb, y mae y wlad wedi cynefino
a'r darluniau byn, yn enwedig a'r eiddo Mackenzie ;
ac felly yr ydym dan fath o angenrbeidrwydd i'w
gosod yn y gwaitb bwn, er nas gellir ymddiried llawer
yn eu cywirdeb. Yn ngwyneb y diíîyg byn y mae y
desgrifìad sydd genym o'i ymddangosiad personol
yn dra gwerthfawr, er mor ychydig ydyw. Dywed
Mr. Cbarles " ei fod yn ei ieuenctyd yn ẁr bardd,
bywiog, ac o'r maintioli cyffredin, a bod ei dym-
berau yn o boethlyd, ond yn gyffredinol ei fod yn
dirion ac yn bawddgar tuag at bawb." Y mae byn
i fesur yn cydgordio a desgrifiad yr bynafgwr
Price, Penybont, gẃr oedd yn byw yn ymyl cartref
y bardd, ac yn ei adwaen yn dda. Desgrifiai efe ef
i Mr. Daniel Davies, Ton, yn 1859, fel dyn bychan
0 gorfîolaeth, cyflym ei gerddediad, a siriol ei
wedd. Yr oedd ei bryd yn oleu (Ught complcxion),
y gwallt yu felyn, a'r llygaid yu leision ; siaradai
yn gyflym, a tborai ei ciriau yn fyrion a chrwn.
Yr oedd yn bynod o fywiog ei yspryd, ac 0 dymher
ysgafn a Ilawen.
Llwynllwyd. Dengys y darlun yr hen amaetb-
dy a'r un newydd. Y mae boneddiges ieuanc yn
sefyll yn ymyl drws yr ben amaetbdy, yr bwn
sydd yn gwasanaetbu fel cegyn i'r tŷ presenol. Y
mae y t<- newydd, yr bwn sydd bellacb yn agos
i gau' mlwydd oed, yn un belaeth a cbyfleus.
Adeilad bynafol yw yr ysgubor a welir ar ganol
y darlun.
Yr Athrofa. Ysguhor yw yr adeilad yn bre-
senol, ac ymddengys ei fod wedi ei adeiladu ar y
cyntaf i'r pwrpas bwnw. Yr oedd dwy ysgubor ar
y tir, a diau i'r Parcb. David Price waghau un o
bonynt, a'i gosod at wasanaeth yr athrofa. Saif
ycbydig bellder oddi wrth amaethdy Llwynllwyd,
dau neu dri cbant 0 latbeni.
Capel Maesyronen. Mae y eapel hwu yn
N
70
Y TADAU MËTHODISTAIDD.
sefyll ar fryn gyferbyn a Llwyullwyd, ac mewn
pellder o tua dwy fiUdir. Y mae yn un o'r capelau
Annibynol hynaf yn Nghymru.
Cbfncoed. Y mae yr amaethdy hwn heb nem-
awr o gyfnewidiadau ynddo er y dyddiau gynt.
Eglwys Llanwrtyd. Nid oes gyfnewidiad o
bwys yn yr eglwys hon er dyddiau WiUiams, er ei
bod wedi myned dan adgyweiriadau.
Amaethdy Pantycelyn. Rhoddir yma ddau
ddarlun o gartref y bardd. Dengys y cyntaf y tŷ
fel yr ydoedd yn ei amser ef, a'r llall fel y mae yn
bresenol. Yr ydym yn ddyledus i Mr. William
i\Iackenzie ara ganiatad i gyhoeddi darlun o'r
adeilad cyntefig.
Llanfair-ar-y-bryn, a'r Hen Adeiladau ar
Y Beddau. Yr ydym yn ddyledus i Mr. W.
Mackenzie am hwn hefyd.
Y Gofadail. Y Parch. T. Levi, Aberystwyth,
ddarfu gychwyn y mudiad o osod y gofadail
bresenol ar fedd Williams. Dechreuodd ar y gwaith
yn fuan ar ol gorphen gyda chofadail y Parch.
Daniel Rowland, Llangeitho. Gwasanaethai efe
fel ysgrifenydd i'r mudiad, a D. Roberts, Ysw.,
Liyerpool, fel trysorydd. Casglwyd at y pwrpas
£300, ond ni wariwyd ar y gôfgolofn ond oddeiitu
£150. Gwnaed hi oddi wrth gynllun o eiddo
Richard Owen, Ysw., Architect, Westminster
Chambers, Liverpool. Y mae yn un-ar-bymtheg
a haner o droedfeddi o uchder, ac o gwmpas chwe'
tunell o bwysau. Ei defnydd ydyw ithfaen coch
{red granite). Y mae yn gerfiedig arni y geiriau
canlynol : —
Sacred to the memory of
the
Rev. William Willlams, Pantycelyn,
in this Parish,
Author of several works in prose and verse.
He waits here, the coming of the
morning star, which shall usher in
the glories of the first resurrection,
when at the sound of the Archangel's trumpet
the sleeping dust shall be reanimated,
and death for ever
shall be swallowed up in victorv.
Born 1717 ; Died Jan. llth, 1791 ;
Aged 71 years.
" Heb saeth, heb fraw, heb ofn, ac heb boen,
Mae'n cauu o flaen yr orsedd ogoniant Duw
a'r Oen ;
Yn nghanol myrdd myrddiynau, yn canu oU
heb drai,
Yr anthem ydyw cariad, a chariad i barhau."
Ar yr ochr arall i'r gôfgolofn y mae yn gerfiedig
fel yma : —
ALSO, ]\rARY,
the beloved wife of the above
William Williams,
who died llth June, 1799 ;
Aged 76 years.
Also, the Rev. William Williams,
St. Clement's, Truro, Cornwall, C]erk,
eldest son of the above Rev. William W'illiams,
who died .30th Nov., 1818 ;
Aged 74 years.
Also of the Rev. John Williams,
OF Pantycelyn,
youngest son of the above Rev. Ẅilliam W^iUiams,
who died 5th June, 1828 ;
Aged 74 years.
A sinner saved.
Y Capel Coffadwriaethol. Tua'r un amser
ag yr oeddid yn apelio at y wlad am arian i godi
côfgolofn ar fedd y bardd, penderfynodd Cyfarfod
Misol Sir Gaerfyrddin godi Capel Cofîadwriaethol
iddo yn nhref Llanymddyfri. Cyflawnwyd y ddau
amcan. Y mae y capel yn un destlus a hardd.
Cynlluniwyd ef gan Mr. .j. H. Phillips, Architect,
Caerdydd, ac adeiladwyd ef gan Mr. David Morgan,
Adeiladydd, Abertawe. ]\Iai íîenestri y fîrynt yn
rhai lliwiedig, ac yn gofîadwriaetliol — un am y
diweddar Dr. Thomas Phillips, goruchwyliwr y
Feibl Gymdeithas, yr ail am y Parch. John
Roberts (leuan Gwyllt), a'r drydedd am Ann
Griffìth, yr em^myddes enwog o Ddolwar Fechan.
Costiodd y íîenestri lliwiedig hyn tua £160. Yr
ydys yn dra dyledus ani orpheniad y capel i ym-
roddiad a llafur y Parch. T. E. Thomas, Llanym-
ddyfri, ynghyd a Mr. J. James, Draper, a brodyr
eraill o dref Llanymddyfri. Costiodd £-3,100.
Agorwyd y capel ar ddyddiau Mawrth a Mercher,
Awst 7fed a'r 8fed, 1888. Pregethwyd ar yr ach-
lysur yn y gwahanol gyfarfodydd gan y Parchn. W'.
Powell, Penfro, Edward Matthews, Dr. Saunders,
T. Levi, Dr. Dickens Lewis, Dr. Cynddylan Jones,
D. Lloyd Jones, M.A., H. Barrow Ẅilliams, a
J. Williams, Brynsiencyn.
PwLPUD Y Capel Coffadwriaethol. Gwnaed
ef gan Älr. Joseph Rogerson, London Road,
Liverpool. ^laen yw ei ddefnydd — Caen stone,
feddyliem — ac y mae wedi ei gerfio yn dra ardd-
erchog. Y mae pump jjaHcí cerfiedig yn cylchynu
y pwlpud, a phob panel, ond un, yn arddangos
rhyw hanes ysgrythyrol. Yn y cauol ceir cerílun
o Williams. Darlunir ef megys yn eistedd yn ei
lyfrgell yn ysgrifenu barddoniaeth. Y cerfluniau
eraill ydynt : " Dychweliad y Mab Afradlon,"
" Crist a'r Wraig o Samaria," " Yr Ystorm ar Fòr
Tiberias," a'r " Samaritan Trugarog." Costiodd
£150, a thalwyd am dano a rhan o'r arian a gasgl-
wyd ar gyfer y gôfgolofn gan y Parch, T. Levi,
Abcrystwytb.
Llawy'sgrifau Williams. Yr ydym yn ddyl-
edus i Bwyllgor y Llyfrau am y cop'íau hyn.
Yr Aleluia. Cymerwyd y darlun hwn oddi
wrth y copi o'r argraffiad cyntaf, sydd yn meddiant
y Parch. Owen Jones, ]\I.A., Llansantfîraid.
PENOD VIII,
WYTH MLYNEDD CYNTAF Y DIWYGIAD.
Cynydd cyfìym y diiíygiad yn y Dehcudir — Y Goglcdd, gyda'y citìwiad o Sir Dycfaldioyn, yn
clynoí ir synmdiad — Y dinygiad Methodistaidd yn gyffetyh i ddmygiad yr oes apostolaidd —
Yr Ynineilldimyr ar y cyntaf yn cydweithredu, ond gwedi hyny yn peidio — Y Methodistiaid
yn debygol o gael eu hesgymuno o'r Eglwys — Eu safie yn anamddiffynadwy — Ymgais at
drefn — Y cynghorwyr cyntaf — Cyfarfodydd o'r antfcinwyr ar cynghorwyr yn dechreu cael
eu cynal yn 1740 — Yr angenrheidì'wydd am Gymdcithasfa — Rheolau cyntaf y seiadau.
^ipv^ECHREUODD y diwygiad Meth-
V'pM^ odistaidd yn 1735. Gwael a diolwg
— ''^ iawn oedd yr ofíerynau a ddefnydd-
iwyd i roddi bôd iddo ; nid amgen cuwrad
tlawd, na fu ei gyflog erioed dros ddeg
punt y flwyddyn, inewn dyffryn gwledig
yn Sir Aberteifi ; a dyn ieuanc, na wnelai
yr esgob roddi urddau sanctaidd iddo,
wrth draed mynyddoedd Brycheiniog.
GelHr ychwanegu alynt ddyn ieuanc arall
yn nghanolbarth Penfro. Yn niwedd
1742, sef yn mhen llai nag wyth mlynedd
wedi y cychwyniad cyntaf, yr oeddynt
wedi gosod Cymru oll, o Gaergybi i
Gaerdydd, yn wenfflam. Am y Deheudir,
prin y mae yn ormod dweyd i'r garw gael
ei dori yn ystod y cyfnod byr hwn. Nid
oedd braidd unrhyw gymydogaeth, pa
mor wledig ac anhygyrch bynag ei safle,
Ile na fuasai y Diwygwyr yn pregethu.
Gwir mai Howell Harris oedd y mwyaf
egniol gyda hyn. Y mae yn anmhosibl
rhoddi syniad cywir am gyflymder ei
wibdeithiau ; yr oedd ar y cyfrwy, neu
ynte yn cyhoeddi efengyl gras i lìechadur-
iaid, o doriad y wawr hyd fachlud haul.
Pregethai nid yn unig yn y trefydd, ac yn
y mân bentrefydd yn y cymoedd unig, ond
hefyd tan gysgod coeden, pa le bynag yr
ymgasglai pobl, er na fyddai tai yn agos.
Ceir traddodiad am dano yn mhob ardal
braidd. Flynyddoedd lawer yn ol cerddai
Mr. Daniel Davies, Ton, Rhondda, o
Glanbran, ger Llanymddyfri, tua'r Sugar
Loaf, sef y mynydd uchel a wahana rhwng
Siroedd Caerfyrddin a F5rycheiniog. Ar
ei daith pasiodd fwthyn Aberwyddon, lle
y preswyHai hen wraig o'r enw Kitty
Parry, a anesid yn y flwyddyn 1775.
Wrth fod Mr. Davies yn ei holi am
hen gofion y gymydogaeth, dangosai iddo
goeden yr ochr arall i'r nant, a dywedai :
" Fe fu Howell Harris yn pregethu dan y
pren yna pan oedd yn ddyn ifanc ; " ac
nid oes na Ilan na phentref yn agos. Ceir
cofion cyff"elyb yn mhob rhan o'r wlad
yn mron. Teithiai Rowland, hefyd, a
Williams, Pantycelyn, lawer iawn ; ac
nid oedd Howell Davies hel) wneyd teithiau
hirion.
Mewn canlyniad, yr oedd cymdeithasau
crefyddol wedi cael eu sefydlu dros y
wlad, o Lanandras i Dyddewi. Mewn tai
anedd yr oeddent eto ; ac nid oeddent yn
lliosog ; ond yr oedd zêl yr aelodau yn
fawr. Meddianesid Sir Faesyfed o gwr i
gwr. Darllenwn am Howell Harris droiau
yn Llanybister, ac ymddengys fod y mol-
ianu a'r gorfoleddu yno agos yn gyffelyb
i'r hyn a gymerai le yn Llangeitho.
Ysgrifena James Ingram at Howell Harris:
* " Y mae yr Arglwydd yn bendithio y
brawd William Evans yn rhyfedd. Y
mae y tân a gyneuwyd ganddo yn Llan-
ybister o'r un natur a thân Llangeitho, ac
yn Ilawn mor gryf mewn wyth neu ddeg o
aelodau y seiad. Bum yno yn ddiweddar,
a phrin y clywid fy liais gan eu llefau.
Yr oedd rhai dan argyhoeddiad o'u cyflwr
colledig yn dweyd eu bod wedi eu damnio ;
eraill o fawr lawenydd wrth ddarganfod
iachawdwriaeth yn Nghrist, a waedd-
ent : ' Gogoniant ! gogoniant ! gogoniant
i Dduw yn oes oesoedd am lesu Grist.'
Parhaodd hyn o gwmpas pedair awr."
Wilham Evans, yr hen gynghorwr o
__ ,^Mé- —
Weehly History.
N 2
Y TADAU METHODISTAIDD.
Nantmel, yw "y brawd " y cyfeirir ato.
Cawn seiadau wedi eu sefydlu yn Nant-
mel, Llanybister, Llandrindod, Claerwy,
Aberedw, Dyserth, Glascwm, Llansant-
ffraid, a lleoedd eraill yn Sir Faesyfed,
Yr oedd cymdeithasau, hefyd, yn britho
Sir Fynwy o Blaenau Gwent i Gasnewydd,
ac o afon Rhymney yn y gorllewin hyd
afon Wy yn y dwyrain. Yr ydym yn enwi
y ddwy sir hon am iddynt gwedi hyn gael
eu colh, agos yn hollol, i Fethodistiaeth.
Yr oedd seiadau hefyd, a ystyrid o fewn
cylch y Diwygwyr Cymreig, wedi cael eu
sefydlu yn yr Amwythig, Llwydlo, Llan-
Iheni, ac yn swyddi Caerloyw, WiUs,
a Henffordd. Ychydig ar ol hyn dywed
Thomas Jones, un o'r arolygwyr, fod ■■=
seiat hefyd, cynwysedig o bymtheg o
bersonau wedi cael ei sefydlu yn nhref
Henffordd ; o ba rai yr oedd amryw wedi
eu cyfiawnhau, ac eraill yn ceisio yn
hyfryd. Yr oedd yn y dref eraiU drachefn
yn awyddus am wrando. Am Siroedd
Brycheiniog, Morganwg, Caerfyrddin,
Aberteift, a Phenfro, yr oedd seiadau,
rhai yn fychain a rhai yn fawrion, wedi
cael eu planu ynddynt o gwr i gwr.
Rhaid addef mai ychydig o afael a
gawsai y diwygiad eto ar y Gogledd. Er
fod ymwehadau Howell Harris wedi creu
gryn gyffro, nid yw yn ymddangos fod
nemawr o seiadau wedi cael eu sefydlu
yno trwy ei offerynohaeth. Dywed yn ei
ddydd-lyfr fod y drws yn Ngwynedd fel pe
yn cael ei gadw yn nghau yn ei erbyn.
Yr unig eithriad i hyn oedd Sir Drefaldwyn.
Yr oedd y sir hon yn agos iddo, ac ymwelai
yntau a hi yn fynych, yn enwedig y rhanau
hyny o honi a fììniai ar Frycheiniog a
Maesyfed. Cawn fod cymdeithasau wedi
cael eu sefydlu yn Llanbrynmair, Llanfair,
Llanlhigan, Mochdre, Llangurig, a Llan-
dinam. Yr oedd yr achos yn Llandinam
yn nodedig o lewyrchus, fel y dengys yr
adroddiad a anfonwyd i Gymdeithasfa
Trefecca, Mehefìn, 1743. " A mae yma,"
ebai yr arolygwr, " tua deugain o aeiodau,
a phedwar cynghorwr anghyoedd. Ein
hanwyl Arglwydd sydd yma yn Emmanuel.
Y mae yn dwyn ei waith yn mlaen yn
rhagorol, er gwaethaf llawer o rwystrau."
Nid oedd gwahaniaeth rhwng Sir Dre-
faldwyn a siroedd y Deheudir gyda golwg
ar ymdrechion y Diwygwyr, a'r llwyddiant
a ddilynai eu llafur. Ond am y gweddill
o Wynedd, ychydig o argraff a wnaethid
Trevecca AISS.
arni. Ar yr un pryd, rhaid i ni gofio fod
Lewis Rees yn llafurio gyda graddau o
Iwyddiant yn Llanbrynmair, a'i fod yn
ymweled yn bur fynych a rhanau o Feir-
ionydd. Yr oedd Jenkin Morgan, hefyd,
un o ysgolfeistri Griffith Jones, yn cadw
ysgol, ac yn pregethu, hyd y goddefid
iddo, yn Sir Gaernarfon.
Yn ystod y cyfnod hwn hefyd trechwyd
yr yspryd erhdgar i raddau mawr. Ar y
dechreu, terfysgid y cyfarfodydd gan y
werinos ddifeddwl, y rhai a gyffroid gan
yr offeiriaid a'r boneddigion ; a deuai y
swyddogion gwladol yn mlaen i fygwth
dirwy a charchar. Ond diflanodd hyn
yn y Dê agos yn hollol, yn ystod yr wyth
mlynedd cyntaf. Nid na chawn esiamplau
o erhd gwedi hyn, ond y maent yn anaml,
ac yn fwy o gynyrch damwain nag o rag-
fwriad. Yr oedd dau reswm am hyn.
Un, fod nifer o ddynion dylanwadol yn
mhob sir braidd wedi eu henill at y di-
wygiad, megys Marmaduke Gwynn; Price,
yr ustus ; yr Yswain Jones, Ffonmon ;
Howell Griffiths, Tref-feurig, ac erailL
Gosodai y rhai hyn eu hofn ar y rhai a
hoffent derfysgu, fel na feiddient roddi
rhaff i'w teimlad. Yn ychwanegol, yr
oedd opiniwn y cyhoedd wedi troi yn gryf
o blaid y Diwygwyr. Gwelai y bobl eu
bugeiliaid priodol yn ddifater am eu
heneidiau, a llawer o honynt yn arwain
bucheddau anfoesol cyhoeddus ; teimlent
fod Harris a Rowland, a'u cydlafurwyr,
yn ddynion o ddifrif, ac yn awyddus am eu
hachub rhag distryw. Ac os oedd y sei-
adau yn fychain eu rhif, yr oedd cynull-
eidfaoedd anferth wedi cael eu codi i
wrando ; byddai clywed fod Rowland neu
Harris yn dyfod trwy ryw ranbarth o'r
wlad yn ei chyffroi drwyddi, ac ymgasglai
miloedd i glywed, fel nad oedd unrhyw
adeilad a ddahai y torfeydd. Efallai mai
nifer gymharol fychan fyddai yn cáel eu
hachub, ond yn bur aml ysgydwid yr holl
gynulleidfa, a deffroid eu cydwybodau,
nes y byddai eu holl enaid yn cael ei eniU
o blaid y gwirionedd. Yn ngwyneb y
teimlad hwn anmhosibl oedd cyffroi erled-
igaeth. Dywedai W^hitefield fod canoedd
ar hyd a Ued y wlad yn barod i roddi eu
bywydau i lawr dros Howell Harris. Nid
amheuwn fod yn mysg y rhai hyn lawer o
ddynion anfoesol, meddwon mewn tafarn-
dai, y rhai na fedrent ymwrthod a'u blys-
iau, ond oeddynt ar yr un pryd yn gwbl
argyhoeddedig fod y Diwygwyr yn ddyn-
ion Duw.
WYTH MLYNEDD CYNTAF Y DIWYGL4D.
Yniddengys y diwygiad Methodistaidd
i ni fel yn dwyn cyfFelybrwydd nodedig i
ddiwygiad yr oes apostolaidd. Yn un
peth, drylh'ai y mân reolau oeddent mewn
arferiad, gan ddwyn i mewn dduUiau new-
yddion o weithredu. Gwin newydd oedd
Methodistiaeth, ac nìor gryf oedd ei ym-
weithiad fel yr aeth yr hen gostrelau yn
ganddryll. Bywyd ydoedd, ac fel pob
bywyd, mynodd lunio corff iddo ei hun.
Er yr ymîynai y Diwygwyr wrth Eglwys
Loegr, ac y teimlent anhueddrwydd mawr
i adael ei chymundeb, rhaid addef eu bod
yn rhedeg yn ngwddf holl draddodiadau a
defodau yr Eglwys. Fel esiamplau o hyn
gallwn gyfeirio at y weinidogaeth deithiol,
yr hon oedd yn ngwrthwyneb i'r dosparth-
iad eglwysig o'r wlad yn blwyfydd ; at y
weinidogaeth leygol, yr hon, trwy genadu
i ddynion diurddau fyned o gwmpas i bre-
gethu, a ymddangosai fel yn diystyru
ordeiniad esgobol ; at y cynulhadau mewn
tai anedd, ac ar y maes agored, y rhai a
droseddent y ddefod gyda golwg ar gysegr-
iad ; ac at ffurfiad y seiadau, yn y rhai y
cynghorai pobl gymharol anwybodus.
Ffurfiau newyddion ar fywyd crefyddol
oedd y rhai hyn oll ; rhoddwyd bod iddynt
gan yr yni a'r brwdfrydedd ysprydol oedd
yn y Diwygwyr, a'u hawyddfryd i gyfarfod
amgylchiadau y wlad ar y pryd. Ni honent
fod yr hyn a wnelent yn rheolaidd ; yn
unig dadleuent fod eu gwaith yn angen-
rheidiol yn ngwyneb cyflwr Cymru. Achub
eneidiau oedd eu pwnc 'nawr ; wrth wneyd
hyny ni ofalent pa reolau o osodiad dynol
a sathrent dan draed ; ac fel y maent yn
cerdded rhagddynt, clywir trwst y tra-
ddodiadau, o gwmpas pa rai yr ymgasglasai
mwswgl henafiaeth, yn myned yn deilchion
dan eu gwadnau.
Yn nesaf, tueddai i wneyd defnydd o
bob dawn o fewn yr eglwys er cario y
gwaith yn mlaen. Y mae amrywawgrym-
iadau yn llythyrau Howell Harris ei fod
am wneyd defnydd o hifur benywaidd, fel
y gwnaed yn Nghyfundeb y Wesleyaid ar
ol hyn ; nid i bregethu yr efengyl, ond i
arolygu ac i gynghori yn y seiadau. Mewn
llythyr at Mrs. James, o'r Fenni, a ddaeth
ar ol hyn yn Mrs. WhitefieW, ceisia ganddi
ysgrifenu at y gwahanol gymdeithasau i'w
cyffroi a'u cadarnhau. Dywed : "Cyn-
hyrfwch bawb dros Dduw ; gwnewch yn
anilwg eich bod yn proffesu ei enw ; prof-
wch hwynt hyd adref. Pan yn ysgrifenu
gadewch allan oystyriaeth mai Mrs.J s
ydych, a pha beth a fydd syniad y byd am
danoch ; ond yn hytrach (ystyriwch) beth
fydd eich syniad chwi am bethau pan
fyddoch yn rhoddi y tabernacl hwn heibio ;
na ymddangosed unrhyw beth i chwi yn
anffasiynol, anmhriodol, neu yn anwedd-
aidd. Sonia St. Paul am wragedd anrhyd-
eddus a'i cynorthwyent yn ei waith. Gall
yr Yspryd Glân anadlu ynoch lythyrau i
fod yn ddefnyddiol i eneidiau, yrun fath ag
y medr fendithio geiriau." Nid oes unrhyw
amheuaeth ei fod yma yn cymhell Mrs.
James i lafur mwy neu lai cyhoeddus. Yr
oedd hithau yn ddynes nodedig iawn, a
haedda ei choffadwriaeth fwy o sylw nag
y mae wedi gaeh Dangosai letygarwch
diderfyn i'r cynghorwyr o bob gradd ; yr
oedd yn llawn o fwyneidd-dra doethineb,
ac ar yr un pryd yn hoUol ddiofn. Gwedi
priodi Mr. Whitetìeld, pan yr oeddent ill
dau yn croesi y môr i Georgia, bygythiwyd
y llong, yn mha un yr hwyhent, gan elyn.
Gwnaed parotoadau i frwydr, gan sicrhau
yr hwylbren a dwyn y magnelau yn mlaen.
Addefai Whitefield ei fod ef yn naturiol
hvfr, a'i fod yn crynu gan ofn ; ond am ei
briod, yr oedd hi yn ddiwyd yn gwneuthur
ergydion {carfyidges), ac yn trefnu ar gyfer
yr ymladdfa. Dro arall, ymgasglodd y
werinos o gwmpas Whitefield pan y pre-
gethai ; lluchid ceryg ato o bob cyfeiriad ;
pan oedd yn tueddu i roddi fyny ac i ffoi,
tynodd hi wrth ei wisg, gan ddweyd gyda
gwroldeb diderfyn : "Yn awr, George,
chwareuwch y dyn dros Dduw." Tybiai
Howell Harris fod yn y wraig ardderchog
yma ddefnydd diacones, a chymhellai hi
i'w gyflwyno i wasanaeth Mab Duw. Ceir
rhai awgrymiadau i'r un cyfeiriad yn ei
lythyrau at "Chwaer o Sir Fynwy," ac at
yr "Anwyl Chwaer, PauL" Nis gwyddom
beth a rwystrodd defnyddio llafur benyw-
aidd ; efahai fod rhai o'r Diwygwyr eraill
yn amheus am ei briodoldeb. Ond hyd y
medrid yr oedd pob math ar ddawn yn cael
ei ddwyn yn gaeth at Grist ; zêl a thalent
ymadroddi y cymharol anwybodus ; call-
ineb a gallu trefniadol yr hwn a fyddai yn
safndrwm a thafodrwm fel Moses ; nid
oedd neb o fewn unrhyw gymdeithas i fod
yn segur, nac unrhyw ddawn i gael ei
esgeuluso.
Yn ychwanegol, yn ei ddechreuad cyn-
taf, darfu i'r diwygiad at-dynu iddo ei hun
hoU grefyddoldcr a difrifwch y Dywysog-
aeth. Nid oedd yn adnabod na sect na
phlaid. Deuai personau perthynol i wa-
hanol enwadau, a arferent edrych ar eu
gilydd gyda rhagfarn ddiderfyn, yn mlaen
l82
y TADAU METHODISTAIDD.
i gydweithio yn galonog. Deffroi y wlad,
cael eneidiau at y Gwaredwr, a'u hadeiladu
yn y gwirionedd, oedd yr amcan mawr ; yn
ymyl hynyna nid oedd enwadaeth ond di-
bwys. Ar y naill law, gwelwn nifer o offeir-
iaid perthynol i'r Eglwys Sefydledig yn
cyfranogi yn y defîroad ; dy wedir fod o
leiaf ddeg o'r cyfryw yn cael eu hadnabod
fel Methodistiaid yr adeg hon ; ac y mae
lle i gasglu fod eraill, er na ddeuent allan
yn gyhoeddus, yn dirgelaidd gydym-
deimío. Taflent ymaith eu rhagfarnau
eglwysig, ac ymunent yn y gorchwyl o
ysgwyd Cymru. O'r ochr arall, cawn yr
holl weinidogion Ymneillduol, pa beth
bynag fyddai eu golygiadau gwahaniaethol,
a feddent unrhyw radd o ddifcifwch yspryd,
yn croesawu y diwygiad gyda breichiau
agored. Y mae tegwch hanesyddol, a
chyfiawnder a'u cofîadwriaeth, yn hawho i
ni goffau hyn. Derbyniasant- Howell
Harris a Daniel Rowland fel angehon ;
gwahoddasant hwy i'w cymydogaethau i
bregethu, a gwnaethant bob peth o fewn
eu gahu i gadarnhau eu dwylaw. Adna-
byddasant y diwygiad ar unwaith fel bys
Duw, fel anadhad oddiwrth y pedwar
gwynt ar yr esgyrn sychion ; a mawr fu eu
liawenydd oblegyd ei ddyfodiad. Y mae
hyn yn wir yn unig am y rhai o olygiadau
uniawngred. Gwrthwynebai yr Armin-
iaid ; ond buan y darfu i'r diwygiad ys-
gubo ymaith Arminiaeth anefengylaidd, fel
yr ysguba chwythwm o wynt lonaid dyffryn
0 niwl ac o darth i fifwrdd ; ac ni welwyd
mo hono mwy yn Nghymru, oddigerth
mewn ychydig gonglau, lle yr ymddad-
blygodd yn ol ei natur yn Ariaeth, ac yn
Sosiniaeth. Cydweithredai y Bedyddwyr
yn gystal a'r Annibynwyr ; ac os hofTent
ddwyn bedydd i amlygrwydd gormodol, yn
01 barn a theimlad y Tadau Methodistaidd,
hawdd maddeu iddynt, gan eu bod
hwythau yn awyddus am wneyd yr hyn a
fedrent yn mhlaid yr efengyl. Yr ydym
am bwysleisio ar y ffaith, ddarfod i holl
weinidogion difrifol Cymru, perthynol i
bob enwad a phlaid, yn mron yn ddi-
eithriad, ddyfod allan ar y cyntaf i bleidio
y diwygiad. Talodd y nefoedd yn ol
iddynt hwythau yn ehelaeth; bedyddiwyd
lìwy yn ddwys a'r un a'r unrhyw yspryd-
iaeth ; gwnaed hwythau yn gymylau dyfr-
adwy i ddyhidlo y gwlaw graslawn ar y tir
sychedig; ac ymledoddy diwygiady tuallan
iderfynauMethodistiaeth. Ymaedylanwad
y diwygiad i'w ganfod ar bob enwad cref-
yddol uniawngred yn Nghymruy dydd hwn.
Ond am amser byr y parhaodd y brawd-
garwch a'r cydweithrediad cyffredinol
hwn. Nid oedd rhagfarn wedi marw eto,
er iddi fod mewn trwmgwsg am dymor.
Cawn Edmund Jones, Pontypẁl, y cyntaf
i wahodd Howell Harris i Fynwy, ac i'r
hwn am beth amser yr ymddiriedai Harris
seiadau y rhan hono o'r wlad, yn ngwres
ei zêl broselytiol yn ceisio ffurfio eglwysi
Annibynol o'r dychweledigion, a hyny
heb unrhyw gydymgynghoriad a'r rhai
a fuasai yn offerynau i'w hargyhoeddi.
Gwnaeth hyny yn y Brychgoed, ger
Defynog, yn Nghastellnedd, mewn lle yn
swydd WiUs, ac hyd yn nod yn nghym-
ydogaeth Trefecca. Yr ydym wedi cyfeirio
yn barod at lythyr Howell Harris ato
niewn canlyniad ; llythyr boneddigaidd,
rhyddfrydig, a chathohg ei yspryd ; ond
a dramgwyddodd Edmund Jones i'r fath
raddau fel ag i beidio cydweithredu mwy.
Yn dyner, beia Harris ef am ei fod trwy
ei ymddygiad yn gwanhau dwylaw y
Diwygwyr, gan beri i'w gelynion edrych
arnynt fel rhai awyddus am ffurfio plaid,
tra yr oeddynt hwythau wedi datgan o'r
cychwyn nad oedd hyny yn amcan gan-
ddynt ; am y perai i'w gwrthwynebwyr
gredu am danynt eu bod yn rhagrithwyr,
yn cyhoeddi eu ymlyniad wrth yr Eglwys,
ac ar yr un pryd yn gosod i fynu sect arall
mewm gwrthwynebiad i'r Eglwys, ac felly
mewn ystyr yn tynu dan ei sail ; ac am ei
fod yn dwyn i mewn gyfnewidiad pwysig,
nad oedd un prawf fod yr Arglwydd yn
foddlon iddo, gan mai fel yr oeddynt yn
tfaenorol y daethai Duw at y Methodist-
iaid, gan eu bendithio. Eglura Harris,
hefyd, y cyfarwyddiadau a roddir ganddo
i'r holl ddychweledigion gyda golwg ar
wrando y Gair, sef, ar iddynt fyned (i) lle
y pregethir yr efengyl fwyaf pur ; (2) lle y
cyffyrddir ddwysaf a'u calonau ; (3) lle y
mae yr Arglwydd yn gweithio gryfaf ar eu
heneidiau ; (4) lle y maent yn cael eu
cymhell yn mlaen, eu harwain, eu porthi,
eu cadw rhag cysgadrwydd, a'u hanog i
gynyddu ar ddelw Crist fwyaf. Gyda
golwg ar y cymun, cynghora bawb i aros
íle yr oeddynt, bydded eglwys neu gapel,
er mwyn heddwch. Ni syrthiai Edmund
Jones i mewn a golygiadau Howell Harris;
cawn y Diwygiwr yn achwyn arno oblegyd
ei zêl enwadol mewn amryw o'i lythyrau,
a darfyddodd pob cydweithrediad rhyng-
ddynt. Nid oedd Edmund Jones yn
bresenol yn Nghymdeithasfa gyntaf Wat-
ford. Yn gyff'elyb y gweithredai David
WYTH MLYNEDD CYNTAF Y DIWYGL4D.
183
Williams, Pwllypant. Er mai efe a
wahoddasai Harris gyntaf i Forganwg, ac
iddo ddiolch i'r nefoedd am yr efteithiau
rhyfedd a gynyrchwyd trwy ei weinidog-
aeth, yr oedd yntau erbyn hyn wedi cloffi,
ac yn Nghymdeithasfa Watford y mae
yn amlwg trwy ei absenoldeb. Yr oedd
rheswm arall am gloftni David Williams.
Dechreuasai ohwng ei afael ar yr athraw-
iaethau efengylaidd ; yn raddol, collodd
gydymdeimlad yr adran oreu o'i enwad ei
hyn, a chyn ei farw, yr oedd wedi cofleidio
Pelagiaeth os nad Ariaeth. Ymddengys
fod teimlad diflas at Howell Harris wedi
ei enyn yn y rhan fwyaf o'r gweinidogion
Ymneillduol y pryd hwn. Meddai, gyda
golwg arnynt : "Ar y cyntaf hoftent tì yn
fawr, gan fy mod yn anog y bobl i fyned
i unrhy w fan i wrando, Ile yr oedd Crist yn
cael ei bregethu, a Ile y derbynient fwyaf o
fudd. A phan y cawsant fod eu capelau
yn cael eu gorlenwi trwy hyn, yr oeddwn
am beth amser yn fawr fy mharch gan bob
plaid, ac nid oeddwn heb gefnogaeth i
ymuno â hwy." Ond yn fuan cododd
rhagfarn ei phen. Taranai Harris yn
erbyn oerni, deddfoldeb, a diftyg dysgybl-
aeth yr YmneiIIduwyr, lawn mor groch ag
y gwnaethai yn flaenorol yn erbyn anfoesol-
deb a difaterwch Eglwys Loegr. Ac yr
oedd ei ymlyniad wrth yr Eglwys yn faen
tramgwydd. Cyfeiriai yr Ymneillduwyr at
fywyd penrydd yr oft"eiriaid a'r bobl yn yr
Eglwys, ac at wrthwynebiad pendant y
rhai oeddynt mewn awdurdod i'r diwyg-
iad ; dadleuent nad iawn anog y dychwel-
edigion i gymuno gyda'r cyfryw; nas gallai
fod yn wir eglwys pan y goddetìd y,.fath
bethau o'i mewn ; fod aros ynddi fel ceisio
y byw yn mysg y meirw, ac mai dyled-
swydd y Methodistiaid oedd ei gadael. A
phan na welai Harris a'i frodyr eu ffbrdd
yn rhydd i gydsynio, aed i edrych arnynt
yn gilwgus, ac i wrthod cydweithio.
Yn wir, trodd yr Ymneillduwyr mewn
rhai Ileoedd yn erlidwyr, mor bell ag yr
oedd eu gallu yn cyrhaedd. Mewn Ilythyr
o eiddo WiIIiam Richards, '■''- cynghorwr
yn Sir Aberteifi, at Howell Harris, dydd-
iedig Medi 12, 1742, ceir a ganlyn : " Y
niae y cymdeithasau yn Blaenporth a
Phenbryn wedi ymuno ag eiddo Howell
Da\ies yn Llechryd, gyda'r eithriad o un
aelod, yr hwn sydd wedi uno a'r Bedydd-
wyr, ac nid yw yn dod yn agos atom. Y
mae y diafol wedi cyffroi y Dissentcì's yn
* Trevecca MSS.
ein herbyn, fel y cyffröa y gwynt y coed.
Y maent yn gwyrdroi ein geiriau a'n
hymddygiadau, gan dynu y casgliadau
mwyaf dychrynllyd oddiwrthynt. Y mae
ein hanwyl chwaer, Betti Thomas, yn
cael ei blino yn fawr ganddynt ; bygythiant
ei hesgymuno, os nad ydynt wedi gwneyd
hyny yn barod, am ei bod yn derbyn y
Methodistiaid i'w thŷ. Y mae yn dyfod
i'n seiat breifat ; ac nis gwyddant beth i'w
wneyd o honi (y seiat). Dywedant niai
drws agored i Babyddiaeth ydyw, a Ilawer
o bethau eraill poenus a chableddus."
Prawf y Ilythyr hwn fod yr YmneiIIduwyr
mewn rhai manau wedi ymuno a'r di-
grefydd a'r erlidgar i gamddarlunio y seiat
brofiad, trwy awgrymu weithiau eu bod
yn dwyn cyffelybrwydd i gyff"esu pechodau
yn yr Eglwys Babaidd ; ac weithiau, fel yr
awgryma y gair " cableddus," trwy honi
fcd gweithredoedd pechadurus ac aflan yn
cael eu cyflawni ynddi, ac mai dyna y
rheswm paham ei dygid yn mlaen yn
breifat. Addefa y Parch. Thomas Rees,
D.D., f ddarfod i bob cydweithrediad o
eiddo yr YmneiIIduwyr a'r diwygiad
Methodistaidd ddarfod gwedi y flwyddyn
1741, ac o hyny allan mai yr unig weinid-
ogion a ymgyfathrachent a Howell Harris
oeddynt y Parch. Henry Davies, Bryn-
gwrach, a'r Parch. Benjamin Thomas, a
darfod i'r diweddaf droi yn Fethodist
proffesedig.
O'r ochr arall, gwnai yr awdurdodau
Eglwysig eu goreu i darfu y Diwygwyr.
Dan gochl esgusodion gau, nacaodd yr
esgob ordeinio Harris ei hun, a gwrthod-
odd lawn urddau i WiIIiams, Pantycelyn.
Dywed Howell Harris hefyd ddarfod i
amryw o ddynion ieuainc talentog, yn
meddu cymhwysderau diamheuol ar gyfer
y weinidogaeth, ond oeddynt wedi bwrw eu
coelbren yn mysg y Methodistiaid, apelio
am ordeiniad esgobol, a chael eu gwrthod
heb gymaint ag arholiad. Parodd hyn i
eraill o gyffelyb nodwedd ddigaloni, a
pheidio myned i mewn am ordeiniad, gan
y credent mai ofer fyddai eu cais. Cyfod-
odd cri yn mysg y Methodistiaid eu hunain
mewn canlyniad am adael yr Eglwys. A
phan na chydsyniai yr arweinwyr, ym-
adawodd amryw o'r cynghorwyr, gan
gymeryd eu hurddo yn ol trefn yr YmneiII-
duwyr, a dilynwyd hwy gan rai canoedd o
bobl. Rhydd Howell Harris y rhesymau
t History of Protestant Nonconformity in Wales,
page 355.
184
Y TADAU METHODISTAIDD.
canlynol dros ei ymddygiad : Nad oedd y
prophwydi gynt yn anog y duwiolion i gefnu
ar yr eglwys luddewig, er ei bod wedi yni-
lygru yn ddirfawr ; fod lesu Grist ei hun
yn addoli yn y deml ac yn y synagog fel
aelod o gynulleidfa Israel, er fod yr offeir-
iaid yn anfoesol ac yn rhagrithiol ; na
throdd yr apostoHon, gwedi adgyfodiad yr
lesu, eu cefnau ar y synagog hyd nes iddynt
gael eu gyru allan ; nad oedd rhinwedd y
sacramentau yn dibynu o gwbl ar dduw-
ioldeb neu anuwioldeb yr hwn a'u gwein-
yddai, ond ar ffydd y derbynydd ; mai eu
dyledswydd hwy oedd, nid cefnu ar yr hyn
oedd yn ddiffygiol, ond ei ddiwygio, a dyfod
yn eu perthynas ag ef yn halen y ddaear ;
fod llawer o greaduriaid truain yn derbyn
lles trwyddynt, oedd mor llawn o ragfarn o
blaid yr Eglwys, fel na Avrandawent ar neb
perthynol i gyfundeb arall; mai fel yr oedd-
ynt y bendithiasai yr Arglwydd hwy, ac
mai eu dyledswydd hwytfiau oedd peidio
gwneyd unrhyw gyfnewidiad o bwys, hyd
nes y caent brawf diamheuol o arweiniad
dwyfül. Credwn mai y diweddaf oedd y
prif reswm. Protestia Harris drosodd a
throsodd nad dallbleidiaeth oedd yn ei
gadw i mewn. Yr ydym yn ei gael yn ddi-
weddar yn cyfeirio droiau at "yr Eglwys
dywyll hon." üfni symud heb fod y golofn
yn myned o'u blaenau oedd ar y Diwygwyr.
Y mae yn sicr fod y posiblrwydd o gael ei
yru allan gan amgylchiadau wedi tori yn
gryf ar feddwl Harris y pryd hwn. Pan y
datgana ei benderfyniad, yn ystod ei daith
yn Sir Benfro, i beidio gadael Eglwys
Loegr, nid yw oiìd mynegu ei deimlad yn
ngwyneb amgylchiadau oedd fel yn ei
drechu yn hollol. Anfonasai \\'hitefield
lythyr at y Diwygwyr, diwedd y flwyddyn
1741, yn mha un y mynegai fod ymwahan-
iad oddiwrth yr Eglwys yn rhwym o
gymeryd lle. Y mae y llythyr mor nodedig,
yn neillduol gan ei fod yn dyfod oddiwrth
glerigwr, fel yr hoffem ei ddifynu oll.
Meddai Mr. Whitefield : " Medd gwahanol
bersonau wahanol ddoniau. Y mae rhai
wedi eu galw i ddeffroi, eraill i sefydlu ac i
adeiladu. Medd rhai ddawn poblogaidd, -
cymhwys ar gyfer cynulleidfaoedd mawr-
ion ; symuda eraill mewn cylchoedd cyfyng-
ach, a gallant fod yn dra defnyddiol yn y
seiadau preifat. Yr wyf yn credu am y
rhai a alwyd i fod yn gyhoeddus, y dylent
ymroddi yn gyfangwbl i'r gwaith, gan fyned
allan heb bwrs nac ysgrepan. Gwna y
Meistr ddwyn y draul. Am eraill, y rhai
na allant ond ymweled yn anghyoedd,
dylent barhau i ddilyn eu galwedigaethau.
Y mae rhai o honoch yn weinidogion
perthynol i Eglwys Loegr ; ond os ydych
yn ffyddlon, nid wyf yn meddwl y gellwch
barhau ynddi yn hir. Modd bynag, peid-
iwch myned allan hyd nes y bwrir chwi
allan ; ac yna, pan wedi eich bwrw allan er
mwyn lesu, peidiwch ofni pregethu yn y
caeau." Yna, wedi cyfeirio at amryw
drefniadau, dywed : " GeHir gwneyd hyn
oll heb ymadawiad ffurfiol oddiwrth Eglwys
Loegr, yr hyn, yr wyf yn gredu, nad yw
Duw yn galw am dano yn bresenol." Dyna
yn hoUol deimlad y Diwygwyr Cymreig
gyda golwg ar yr Eglwys ; tybient mai
ymadawiad oedd o'u blaenau ; ond dewisent
gael eu hesgymuno o honi, yn hytrach na
myned allan eu hunain ; byddent felly yn
sicr mai ewyllys Duw oedd iddynt ym-
ffurfio yn blaid, oblegyd ni chafodd y
syniad am roddi y gwaith i fyny le yn eu
meddyhau, naddo am awr.
Y pryd presenol, yr oedd gwaith y cler-
igwyr yn Sir Benfro, yn nghyd a chlerig-
wyr Brycheiniog, yn cael eu harwain gan
Ficer Talgarth, yn gwrthod y sacrament
i'r rhai oeddynt yn aelodau gyda'r Meth-
odistiaid, yn dwyn pethau i argyfwng
difrifol. Ni ddylid beio gormod ar Mr.
Price Davies. Gweithredai ef a'i frodyr
yn hollol onest, yn ol y goleuni oedd
ganddynt. Rhaid addef fod agwedd y
Methodistiaid ar y pryd yn un hollol
eithriadol ac anghyson. Meddai y Parch.
David Lloyd, offeiriad yn Sir Frycheiniog,
yn y ddadleuaeth alluog a gariodd yn
mlaen â Howell Harris : " Yr ydych yn
achwyn fod y sacrament yn cael ei wrthod
i rai personau. Yr wyf yn gobeithio nad
oes yr un clerigwr yn ei wrthod i'w blwyf-
olion heb resymau digonol. Yr wyf yn
gobeithio hefyd na fynech i unrhyw offeir-
iad gamarfer y peth sanctaidd, trwy ei
roddi i rai nad ydynt yn perthyn i'\v gyn-
ulleidfa, y rhai a ymwahanant oddiwrtho
dan glogyn awydd am burdeb mwy ; nac
i'r rhai sydd yn condemnio ein haddoliad
a'n hathrawiaeth. A fedrwch chwi gyfrif
y rhai na ddeuant i"n cynulleidfaoedd yn
eu heglwysydd plwyfol ond ar ddyddiau y
sacrament, ac a safant allan y pryd hwnw
hyd nes y byddo gwasanaeth y cymtm
wedi dechreu, fel yn perthyn i'n cymundeb
ni, ac a ânt yn hwyr y dydd drachefn i
dai cyrddau, ac rias gwyddom pa leoedd ?
Ai nid oes dim yn cael ei wneyd yn iawn
yn ein heglwys ? Ai gweinyddiad y sac-
rament yw yr oll o'n haddohad ? A ydych
WYTH MLYNEDD CYNTAF Y DIWYGL4D.
185
yn tybio fod dyfod i'r eglwys, a derbyn y
sacrament, unwaith y mis, yn ddigon i
beri i ddyn gael ei ddynodi yn aelod o
Eglwys Loegr ? Y mae genych syniadau
chwithig. Ai nid gwneyd y sacrament
yn glogyn i ragrith a sism yw peth fel
hyn ? Ai nid camddefnydd o gorph a
gwaed Crist ydyw ? x\i nid twyllo pobl
ydyw cymeryd arnoch eich bod yn perthyn
i'r Eglwys Sefydledig, tra ar yr un pryd
yr ydych yn ymdrechu ei dinystrio wreidd-
yn a changen, gan ddal yr athrawiaethau
mwyaf penboeth, íe, athrawiaethau cyth-
reuhaid, oddiwrth ba rai yr wyf yn gweddío
Duw ar iddo waredu pawb dynion ? " Yr
oedd David Lloyd a Howell Harris yn
ddadleuwyr glewion, bob un o ddifrif, a'r
naill yn deilwng o ddur y llall. Ar rai
pwyntiau, yn arbenig hawl dyn heb ei
ordeinio i fyned o gwmpas, dan amgylch-
iadau neillduol, i gynghori pechaduriaid i
íìíoi rhag y Ihd a iydd, Harris yn ddiau
oedd y buddugwr ; ond gyda golwg ar
anghysondeb y Methodistiaid yn disgwyl
cael y sacramentau yn yr eglwysydd
plwyfol, heb dywyllu eu drysau ar unrhyw
adeg arall, gan y Parch, David Lloyd yr
oedd pen praffaf y ffon. Y gwir yw, nas
gelhd, gydag unrhyw degwch, alw corph
y Methodistiaid, hyd yn nod mor foreu a
hyn, yn Eglwyswyr ; glynai yr arweinwyr
wrthi, gan benderfynu peidio ei gadael
heb arweiniad pendant ; ond am y cyíîredin
bobl, ni feddent unrhyw barch iddi. Ni
aent y tu fewn i'w muriau ond ar Sul
cymundeb ; y pryd hwnw nid aent i'r
gwasanaeth cyffredin, nac i'r bregeth, os
byddai yno rywbeth o'r fath ; gwyddent
na fedrai yr ofîeiriad bregethu efengyl
Crist, ac mai baldorddi y fifregod fwyaf
ynfyd a wnelai, neu ynte felldithio y bobl
a elent o gwmpas i gynghori heb awdur-
dod oddiwrth yr esgob ; íelly safent allan
o gwmpas y drysau hyd nes y dechreuai
gwasanaeth y cymun, ac yna aent at yr
allor i gyfranogi o'r elfenau. Rhaid addef
fod eu hymddygiad yn anghyson ; braidd
nad oedd yn anweddaidd ; ac ar un olwg
nid yw yn rhyfedd fod llawer o'r offeiriaid
wedi dod i'r penderfyniad i wrthod y sac-
rament iddynt. Canlyniad yr anghyson-
deb hwn oedd fod y "Methodistiaid yn
anghymeradwy gan Eglwyswyr ac Ym-
neillduwyr. Meddai Howell Harris : " Y
mae pob plaid fel yn ymuno i'n gwrth-
wynebu." Nid ydym yn sicr na cham-
gymerodd Rowland a Harris arwyddion
yr amserau, ac nad oeddynt yn crefu am
arwydd mwy pendant nag yr oedd gan-
ddynt hawl i'w ddisgwyl ; dywed y Parch.
T. Rees, D.D., pe y buasent yn gadael yr
Eglwys Wladol yr adeg hon, y buasai
Cymru yn mron oll yn Fethodistaidd. Yr
un pryd, y mae yn bosibl fod rhwystrau
yn amlwg iddynt hwy, nas gaUwn ni sydd
yn barnu eu hymddygiad, gant a haner o
flynyddoedd gwedi, gael unrhyw syniad
am danynt.
Yn ystod y cyfnod o 1735 hyd ddiwedd
1742, yr oedd cryn lawer wedi cael ei
wneyd tuag at gynyrchu trefn. Y mae yn
ddiau y bodolai cydweithrediad rhwng
Rowland a Harris er pan ddarfu iddynt
gyfarfod gyntaf yn Eglwys Defynog, haf
1737; dahent afael ar bob cyfleustra i
gydymgynghori, ac i gydgynllunio gyda
golwg ar ddwyn y gwaith mawr yn mlaen ;
ymholent a'r Diwygwyr Seisnig, perthynol
i bob plaid, fel yr oedd y trefniadau a
wnelent i raddau mawr yn gynyrch barn
addfed. Yn raddol, daeth yr ymgynghor-
iadau hyn, a gymerent le yn achlysurol pan
y byddai rhyw achosion pwysig yn galw, i
gael eu trefnu yn mlaen llaw, nes dyfod yn
gyfarfodydd rheolaidd. Ar y wyneb-
ddalen a flaenora y Tvevecca Minutes ceir y
nodiad a ganlyn yn llawysgrif Howell
Harris ei hun : "Cyfarfyddai y brodyr yn
Nghymru am ragor na dwy flynedd cyn
dyddiad y Uyfr hwn (sef lonawr, 1743),
unwaith y mis, ac unwaith bob dau fis yn
1740, gan arhoh hawer o'r cynghorwyr, a
chwiho i geisio he pob un. Ond ni ddeu-
wyd i unrhyw drefniant sefydlog (settled
agrcement) hyd ddyddiad y Uyfr hwn, pan
yr anfonwyd am Mr. Whitefield. Ac ym-
ddangosai mai ewyllys Duw, fel ei ham-
lygid yn ngoleuni unol yr holl frodyr,
wedi dysgwyl yn ddyfal wrth yr Arglwydd,
a dadleu yr holl fater, oedd : Mai arolygwyr
a chynghorwyr anghyoedd oedd y drefn i
fod yn mysg y brodyr diurddau ; fod y
brawd Harris i'w harolygu oll, a'r gweini-
dogion ordeiniedig i fyned o gwmpas gym-
aint ag a fyddo posibí ; fod yr arolygwyr i
gael adran o wlad {district), a'r cynghorwyr
anghyoedd i arolygu cymdeithas neu ddwy,
gan ddilyn eu goruchwylion arferol, tra yr
oedd rhyw ychydig, ag yr oedd eu doniau
a'r fendith a brofid trwyddynt yn ym-
ddangos yn eu cymhwyso at hyny, i fod yn
gynorthwywyr i'r arolygwyr, mewn modd
mwy cyffredinol." Y mae y nodiad hwn
o'r pwys mwyaf. Dengys ddarfod i ym-
gynghoriadau y Diwygwyr ddechreu cym-
eryd ffurf reolaidd yn y flwyddyn 1740;
i86
Y TADAU METHODISTAIDD.
mai tuag unwaith bob dau fis y cyfarfydd-
ent yn ystod y flwyddyn hono ; iddynt
ddyfod yn ymgynghoriadau misol yn 1741,
a pharhau felly dros y flwyddyn ddilynol ;
ac mai prif fater yr ymdrafodaeth oedd
profi cymhwysderau y cynghorwyr. Mewn
cydgordiad hollol â hyn, ceir Uythyr o
eiddo Mr, Whitefield, a gyhoeddwyd yn yr
Evangclical Magazine am 1826, wedi ei gyf-
eirio at gadeirydd un o'r cynulliadau yma,
a'iddyddio, Bristol, 28, 1741. Ynyllythyr,
o ba un yr ydym wedi difynu yn barod,
dywed fod y materion oedd i ddyfod tan
sylw o'r pwysigrwydd mwyaf, a'i fod yn
gofidio na fedrai fod yn bresenol gyda
hwynt. Yna mynega ei farn yn rhydd ar
amryw o'r pethau oeddynt i fod yn des-
tynau ymdriniaeth. Y' mae lawn mor
amlwg oddiwrth y nodiad mai cymharol
ddiawdurdod yr ystyrid y cyfarfodydd hyn ;
yr hyn a wneyd ynddynt oedd trefnu a
chynghori ; nid oeddynt yn pasio pender-
fyniadau sefydlog, gan hawho awdurdod i'w
gosod mewn grym, ac i orchymyn i'r
brodyr eu cario allan. Yr oedd sefydliad
y Gymdeithasfa, ddechreu y flwyddyn
1743, yn symudiad hollol newydd, ac er
mwyn rhoddi arbenigrwydd ar y cam
pwysig a gymerid, yn gystal ag er mwyn
cael cymhorth gẁr o ddoniau mor ddys-
glaer, yr hwn oedd yn cydweled â hwy
lygad yn llygad ar bob pwnc o athrawiaeth,
y gwahoddwyd Whitefield i fod yn bre-
senol ac i gymeryd y gadair ar yr amgylch-
iad. Cadarnheir hyn gan dystiolaeth
Howell Harris, niewn crynodeb o hanes ei
fywyd sydd ar gael yn awr yn Nhrefecca.
Fel hyn yr ysgrifena : " Yr haf hwn
(1740), gan fod llawer yn sefyll i fyny
i lefaru, mewn gwahanol leoedd yn
Nghymru, tybiodd rhai o'r gweinidogion
mai gwell fyddai gwneyd rhyw ymgais i
drefnu pethau, er rhwystro anhreín, ac fel
na fyddai i bersonau anghyfaddas gymeryd
y gwaith mewn llaw. Yna anogwyd pawb
a lefarent yn y modd hwn i gyfarfod, i
siarad am eu profiad parthed gwaith gras
ar eu calonau, fel y gallent adnabod y naill
y llall, er cael undeb a chymundeb fel
brodyr yn mlaenaf oll. Yna i amlygu eu
cymhelhon, beth a barodd iddynt ym-
gymeryd a'r gwaith, a pha resymau a allai
pob un roddi fel profion ei fod wedi cael ei
alw iddo, ac yna i gyflwyno y cwbl i farn
yr oU. Eto ni feddyhem ein bod wedi cael
ein galw i fFurfio ein hunain yn enwad ar
wahan ; ni chymerasom arnom ychwaith i
arhoH neb gydag awdurdod i roddi i'r
cyfryw genhadaeth ; yn unig tybiem ein
bod yn cael ein gorfodi i fyned mor bell a
hynyna, os oeddym am ymffurfio yn gym-
deithas, yr hon na fedr fodoH heb ryw fath
o reolau." Teifl y difyniad hwn íìfrwd o
oleuni ar natur y cyfarfodydd trefniadol
blaenorol i sefydhad y Gymdeithasfa.
Gwelwn (i) Fod pawbafyddent yn myned
o gwmpas i gynghori yn cael eu gwahodd
iddynt ; (2) Mai gwrando profiad personol
y cynghorwyr, ynghyd a'u cymhelhon i'r
gwaith cyhoeddus, oedd eu prif orchwyl ;
(3) Nad oeddynt yn honiunrhyw awdurdod
ar y cynghorwyr, trwy ar y naiH law roddi
hawl iddynt i fyned o gwmpas, nac ar y Haw
araH, eu hatal ; yr oll a wnelent oedd dat-
gan barn, a rhoddi cynghor, gan adael
rhyngddynt hwy a gweithredu yn ol y
cyfry w. Ond erbyn 1 742 gwelai y Diwyg-
wyr, os oedd yr anheilwng i gael ei rwystro
i ymgymeryd â gwaith na feddai gymhwys-
der ar ei gyfer, ac felly i gael ei gadw rhag
dwyn yr efengyl a'r diwygiad i anfri, fod
yn rhaid iddynt yn eu cyfarfodydd trefn-
iadol gymeryd mwy o awdurdod i'w dwy-
law. 13yma un o'r prif resymau dros fyned
yn y blaen i sefydHi y Gymdeithasfa.
Yr oedd y cynghorwyr, at ba rai yr ydys
wedi cyfeirio yn barod, yn perthyn i Feth-
odistiaeth o'r cychwyn. Daethant i fod,
nid trwy unrhyw benderfyniad dynol, ond
trwy alwad o'r nefoedd. Nid gormod-
dweyd fod y swydd, os priodol galw swydd
arni, yn greadigaeth uniongyrchol yr Y^s-
pryd. Un rheswm paham yr ymledodd
y diwygiad mor gyflym, ac y darfu iddo
gymeryd ffurf barhaol, oedd cyfodiad dyn-
ion diurddau i gynghori eu cydfforddoHon
yn ngwahanol ranau y wlad. Oni bai am
danynt hwy cawsai y seiadau bychain
drengu o ddiff"yg ymgeledd. Cymylau
mawrion, cyfoethog o wlaw, oedd Daniel
Rowland, HoweH Harris, a'r prif Ddiwyg-
wyr ; pa le bynag yr aent pistyHént eu
cynwysar y sychdir diff"rwyth, fel pebyddai
ystorm o wlaw taranau wedi ymdori ar y
fangre; ond wedi gwlychu y tir am y tro,
aent hwy yn eu blaenau i dywaHt y cyífelyb
wlaw brâs ar ranau eraiH y wlad ; a buasai
y gwahanol leoedd wedi gwywo gan sych-
der, yn absenoldeb y cymylau mawrion,
oni buasai i'r A.rglwydd godi y cynghorwyr,
y rhai a fuont dan fendith Duw fel gwHth
dyfrhaol i'r eglwysi. Dechreuasant yn
hynod syml. Yn y cymdeithasau, oblegyd
cymhwysder naturiol a phrofiad dyfnach o
waith gras yn eu calonau, gelwid arnynt i
ddarHen a gweddío yn gyhoeddus, ac i
WYTH MLYNEDD CYNTAF Y DIWYGL4D.
187
roddi gair o gynghor oddiwrth yr hyn a
ddarllenid. Yn raddol darfu i rai o honynt
ddadblygu dawn arbenig at hyn ; aeth y
gair o gynghor yn rhywbeth cyffelyb i
bregeth ; aeth y son am danynt i'r gym-
deithas fechan nesaf, a galwyd hwy i
egluro Gair Duw ac i roddi gair o gyngor
yno, nes yn ddiarwybod iddynt eu hunain
y deuwyd i edrych arnynt fel rhai yn
íîurfio math o swyddogaeth ar wahan.
Nid oeddynt yn cefnu ar eu galwedig-
aethau ; ni dderbynient ond ychydig dàl
am eu llafur ; dyoddefent lawer o wawd a
chamdriniaeth oddiar ddwylaw y drygionus
a'r ffug-grefyddol ; ond arhosodd eu bwa
yn gryf er pob peth trwy rymus ddwylaw
Duw Jacob. Amrywient yn ddirfawr
parthed safle gymdeithasol, eangder gwyb-
odaeth, dawn ymadrodd, a phrofiad ys-
prydol. Ceid yn eu mysg rai o safle
barclius, wedi cael dygiad i fynu, ac
addysg dda, yn cael eu hystyried fel yn
perthyn i fonedd y tir, ond a ddewisent
ddirmyg Crist gyda y Methodistiaid yn
hytrach na rhodres a pharch bydol.
Perthynai eraill o honynt i ysgolfeistri
Griffith Jones. Rhaid y meddent, fel
cymhwysder i swydd ysgolfeistr, raddau
helaeth o gydnabyddiaeth a'r Ysgrythyr ;
arferent yn feunyddiol gyfarch eu hysgol-
eigion, a'u harholi yn y catecism ; feUy,
cam byr iddynt oedd myned i ddweyd
ychydig yn gyhoeddus wrth eu cyd-
ddynion. Cawn amryw o'r prif gynghor-
wyr yn perthyn i'r dosparth hwn. Ond
yr oedd llawer o'r cynghorwyr yn dlawd
eu hamgylchiadau, ac nid yn unig yn
annysgedig, ond yn gymharol anwybodus
yn athrawiaethau crefydd. Eithr cawsent
olwg ar Grist croeshoehedig fel Ceidwad
hoU ddigonol ; ty wynasai ei ogoniant ar eu
heneidiau gyda thanbeidrwydd gorchfygol ;
llanwesid eu calonau a chariad diderfyn
ato ; ac er na wyddent ryw lawer yn ei
gylch, teimlent reidrwydd i fynegu yr
ychydig hyny i bawb o'u cwmpas. Fel
Ahimaasgynt, yr oeddynt yn Hawn awydd
am redeg dros y Brenin ; ac os nad oedd
ganddynt genadwri gryno ar y cychwyn,
cawsant hi cyn rhedeg nemawr. Ychychg
a wyddai y wraig o Samaria am yr lesu ;
ond gwedi i'w eiriau gyffwrdd a'i chalon,
gadawodd yr ystên ar lan y ffynon er
mynegu i'w chyd-ddinasyddion am y
Person rhyfedd a gyfarfyddasai. Yn gyff-
elyb am y cynghorwyr Methodistaidd,
ymroddasant fel yr oeddynt i'r gwaith, a
seliodd Duw eu Ilafur a bendith. Arferiad
y byd yw gwawdio llafur personau di-
urddau, a chyfeirio gyda dirmyg at eu
galwedigaethau bydol. Meddai Dr. South
am y Puritaniaid : " Gallant yn Ilythyr-
enol daro yr hoel ar ei chlopa. Medrant
osod pwlpud wrth ei gilydd cyn pregethu
ynddo." Yn ngolwg Dr. South, yr oedd
medr saerniol yn anghymwysder hanfodol
i'r weinidogaeth. Fel y sylwa awdwr Meth-
odistiaetJi Cyìiirn : " Hen ddull o watwar pre-
gethwr da gynt oedd gofyn, ' Onid hwn yw
y saer ? ' Ònd yn nghyfrif Duw yr oedd
i'r Saer hwnw barch mawr ; fe dderbyn-
iodd gan Dduw Dad barch a gogoniant."
Nid amheuwn fod cyfarchiadau rhai o'r
cynghorwyr Methodistaidd yn dra an-
nhrefnus; efallai fod eu hiaith yn sathr-
edig, eu cymhariaethau yn gartrefol os
nad yn arw, eu hystumiau yn annaturiol,
a'u traddodiad yn gwbl amddifad o ddlysni
araethyddol. Ond yr oeddynt yn Ilawn
o zèl ; profasent argyhoeddiad dwfn eu
hunain, a chyfranogasent yn helaeth o
felusder yr efengyl mewn canlyniad.
Gwyddent beth oedd cael eu clwyfo a'u
meddyginiaethu ; os na feddent gymhwys-
der dysg, meddent gymhwysder profiad ;
a bendithiodd Duw eu gwaith. Nid an-
hebyg mai fel hyn yr oeddynt fwyaf
cymwys. Gallent fyw ar ymborth gwael
wrth deithio; medrent ddyoddef gerwinder
tywydd heb fod eu cyfansoddiadau yn cael
eu hamharu ; a chan mai à dynion anniw-
ylliedig y byddent yn ymwneyd gan mwy-
af, yr oedd eu diffygion yn troi yn fanteis-
ion iddynt, ac yn eu galluogi i fyned yn
fwy agos at y bobl. A chododd Duw o'r
dosbarth hwn bregethwyr ddarfu ysgwyd
Cymru ; rhai ag yr oedd arucheledd eu
doniau, a nerth eu hareithyddiaeth yn
ysgubo y cwbl o'u blaen, ac y mae eu
henwau yn eiriau teuluaidd yn Nghymru
hyd y dydd hwn. Dywedir fod tua deu-
gain o gynghorwyr yn bodoli rhwng pob
rhan o'r wlad adegy Gymdeithasfa gyntaf.
Ar yr un pryd, rhuthrai rhai i'r gwaith o
gynghori heb unrhyw gymhwysder ar ei
gyfer. Disgynasai ar y cyfryw awydd am
hynodrwydd a sylw, fel ar Simon Magus
gynt, ac aent o gwmpas gwlad o'r naill gym-
deithas i'r Ilall, gan wneyd mwy o niwed
nac o les, nes peryglu cymeriad y diwyg-
iad. Un o brif amcanion y Gymdeithasfa
oedd dwyn y cynghorwyr i drefn, drwy
gefnogi y cymhwys, ac atal yr anghymwys.
Yr oedd anìcan arall, Ilawn mor bwysig,
i'r Gymdeithasfa, sef dwyn y seiadau i
ffurf. Yn flaenorol, yr oedd y cymdeith-
i88
y TADAU METHODISTAIDD.
asau hyn yn hollol annibynol ar eu gilydd ;
ni feddent unrhyw rwymyn alhmol o
undeb ; yr unig gysyUtiad rhyngddynt
oedd eu bod oU yn cyfranogi i raddau mwy
neu lai o yspryd y diwygiad, a'u bod
yn meddu parch diderfyn i Rowland, a
Harris, a Howell Davies, y rhai a ystyrid
ganddynt fel eu tadau yn Nghrist. Sail
bersonol oedd i'r ufudd-dod a roddent i
gyfarwyddiadau eu harweinwyr. Pe bu-
asai rhyw gymdeithas yn myned ar
gyfeihorn mewn athrawiaeth, neu yn
goddef o'i mewn y rhai drwg, nid oedd
unrhyw allu i'w galw i gyfrif, ac i adfer
pethau, ond dylanwad personol un o'r
Diwygwyr blaenaf. Gwelwyd angenrhaid
yn fuan am uno yr eglwysi yn un cyfan-
soddiad cryf, er mwyn i ddylanwad y
diwygiad gael ei barhau, ac er mwyn ei
gadw rhag rhedeg yn wyllt. Tua dechreu
y flwyddyn 1742, tynasid allan gyfres o
reolau ar gyfer y cymdeithasau. ünd ni
cheisiwyd eu huno mewn trefniant cyff-
redinol hyd gyfarfyddiad y Gymdeithasfa
yn Watford. Y mae yn sicr na chymerwyd
y cam pwysig hwn heb lawer o ragfeddwl
a rhagymgynghoriad ; ac y mae lawn mor
sicr mai i Howell Harris yr ydym yn ddy-
ledus am gynlluniad a gweithiad allan yr
hyn a elhr ei alw yn sail y cyfansoddiad
Methodistaidd. Efe yn anad un o'r Tadau
oedd y trefnydd ; yr oedd ei feddwl ffrwyth-
lawn ar waith yn wastad yn cynllunio ; ac
yn y cyfwng hwn yr oedd wedi bod mewn
cydymgynghoriad ag amryw bersonau y
tu allan i Gymru, yn gystal ag a'i frodyr
yn y Dywysogaeth. Un y bu mewn
gohebiaeth ag ef ar y mater oedd Mr.
Oulton, gweinidog y Bedyddwyr yn Llan-
Hieni (Leominster). Yr oedd Mr. Ouhon
yn ddyn gwir dduwiol, yn llawn o yspryd
y diwygiad, ond yn Fedyddiwr cryf. Mewn
llythyr ato dy wedai Harris fod yn anhawdd
iddynt oU ddyfod i gydweled gyda golwg
ar y rhanau hyny o'r Beibl a gyfeiriant at
fifurílywodraeth eglwysig, adeg a dull bed-
ydd, a rhyw ychydig o gyflfelyb allanoHon
ydynt .yn fuan i ddarfod ; a bod undeb yn
anmhosibl hyd nes y cydunent i beidio
gwneyd dim yn amod aelodaeth, amgen
adnabyddiaeth achubol o'r Arglwydd lesu,
a ffydd fywiol yn cynyrchu sancteiddrwydd
buchedd, yr hon a brofai ei bodohieth trwy
ei chynydd. " Pe bawn i," meddai, "a
gofal cynuUeidfa arnaf, ystyriwn yn ddy-
ledswydd arnaf i dderbyn pawb yn aelodau
y gallwn obeithio am danynt eu bod wedi
eu geni o Dduw, er na fyddent yn cydweled
â mi gyda golwg ar ychydig o bethau
allanoL" Nis gallai Mr. Oulton gyfranogi
yn y syniadau cathohg hyn ; íîromai
braidd wrth Mr. Harris am gyfeirio at
fedydd fel un o'r allanohon bychain oedd
yn fuan i ddiílanu, gan ei fod yn ordinhad
wedi ei sefydlu gan Grist ei hun, ac i aros
yn yr eghvys hyd ddiwedd y byd. Maen-
tymiai hefyd fod y trefniadau allanol, y
cyfeiriai Harris atynt gyda gradd o ddi-
ystyrwch, lawn mor ghr yn y Testament
Newydd, ac yn llawn mor hawdd dyfod i
sicrwydd gyda golwg arnynt, a'r gwirion-
eddau achuboL Cyfiawnder â Mr. OuUon
yw ychwanegu, er na dderbyniwyd ei
gynghor gyda golwg ar wneyd bedydd
trwy drochiad yn amod aelodaeth, na
ddarfu iddo dynu yn ol ei gydymdeimLad
â Methodistiaeth o'r herwydd ; ond ei fod
gwedi hyn yn ysgrifenu at Howeh Harris
lawn mor gyfeiUgar a brawdol, ac yn
dangos llawn cymaint o ddyddordeb yn
ffyniant y Cyfundeb. Y mae yn sicr ddar-
fod i sefydhad y Gymdeithasfa achosi
pryder dwfn i'r Tadau Methodistaidd ;
teimlent eu ffordd bob cam a roddent ; a
diau mai gyda chalonau gorlwythog ac ys-
prydoedd ofnus y cyfarfuant yn Watford.
Yr ydym wedi cyfeirio at y rheolau i'r
societies a dynwyd ahan. Dywed Howell
Harris yn ei Fywgrafíìad mai efe a'u fitiirf-
iodd ; dywedir ar wyneb-ddalen y rheolau
eu hunain eu bod wedi cael eu cyfansoddi
"gan wyr o Eglwys Loegr." Yr eglurhad
yw mai Harris a'u drafiftiodd ; iddynt yn
ganlynol gael eu cyíiwyno i farn y gweddiU
o'r arweinwyr, a chael eu cymeradwyo
ganddynt ; a chwedi hyny iddynt gael eu
cyhoeddi yn enw yr olL Y mae y rheolau
hyn yn bwysig ynddynt eu hunain ; dangos-.
ant ysprydoh'wydd meddwl dwfn ; ond
meddant ddyddordeb arbenig ar gyfrif mai
dyma y genadwri gyntaf a anfonwyd gan y
Methodistiaid at y gwahanol églwysi.
Felly, er eu bod i raddau yn faith, yr ydym
yn eu gosod i mewn yn y cyfanswm.
"Sail, Dibenion, a Rheolau y Cym-
DEiTHASAU neu y Cyfarfodydd neilltuol,
a ddechreuasant ymgynull yn ddiweddar
yng Nghymru. — At y rhai y chwanegwyd
rhai Hymnau i'w canu yn y Cyfarfodydd
neilhuoL Gan wyr o Eglwys Loegr.
"Diar. XV. 22. ' Ofer fydd bwriadau He
ni byddo cynghor,' &c.
,, xxiv. 6. 'Trwy lawer o gynghor-
wyr y bydd diogelwch.'
,, xxvii, 17. 'Haiarn a hoga haiarn.'
WYTH MLYNEDD CYNTAF Y DIWYGIAD.
"Bristol: Printed by Felix Farley in
Castle Green.
M,DCCXLII.
" RHAGYMADRODD.
"At bawb ag sydd gwedi cael eu gwneu-
thur yn ewyllysgar i ymwadu â hwynt
eu hunain, i gyfodi eu croes, ac i ddilyn
yr Oen ; ac yn neilltuol at y Societies o
Eglwys Loegr.
" Yn ddiweddar fe ein cymhellwyd ni
(ychydig o Weinidogion) i gyfarfod â'n
gilydd mor fynych ag y gallom, i geisio
gwyhed yn fwy manol dros ein gilydd, ac
er mwyn gwybod helynt praidd Crist yn
well, ac er mwyn ymgynghori pa fodd i
ymdreuho oreu yn ngwinllan ein Meistr ;
ac yn y cyfamser a gawsom ein calonau i
gyttuno ar y Rheolau canlynoL A chan
wybod mor wasgaredig ydych chwi, ac er
mwyn eich cyfarwyddo pa fodd i adeiladu
eich gilydd oreu yn eich Cyfarfodydd neill-
tuol, ni a farnasom yn ddyled arnom i
ddanfon y Rheolau hyn atoch, gan obeithio
y bydd i Dduw eu bendithio i chwi ; a
rhoddi calonau i chwi ymostwng y naill i'r
llall, holwch eich gilydd wrthynt mor bell
ag y gweloch y byddont yn uniawn. Tyb-
iasom yn oreu eu rhoddi mewn print, fel y
gallo pawb weled y gwirionedd o'n diben-
ion a'n rheolau yn ein Cyfarfodydd neill-
tuol ; ac os bydd neb yn chwennych
ymuno â ni, fel y gallo ef weled pa ddys-
gyblaeth yr ydym ni yn tybied yn ddyled
ei chadw yn ein mysg. Gan edrych, pa
waradwydd bynag a gaffom gan y byd, bod
genym gydwybod ddirwystr yn hyn, na
feiddiom ni wneyd dim yn y dirgel ag na
allom ei gyfaddef pan gyhoeddir pob peth
dirgel ar benau'r tai. Ofer yw neilltuo
oddiwrth y byd ac ymddangos megys rhai
a fyddai yn rhodio gyda Duw, a gwneuthur
rheolau o'n rhodiad, oni fyddai ein heneid-
iau mewn undeb â Duw yn Nghrist, ac â'r
naill y llall yn yr Ysbryd Glân ; gwedi cael
ein glanhau oddiwrth ein holl eilunod, gan
ddysgwyl dim yn y byd, ond yr hyn a
gafodd ein Pen o'n blaen, a'r hyn a addaw-
odd Efe i'w holl ddilynwyr, sef cael ein
casâu gan bawb er mwyn ei Enw Ef,
Mat. X. 22. Ac y mae yn perthyn i
ninnau edrych mai er ei fwyn ef yr ydym
yn goddef; a thra byddom yn cael ein
cablu a'n difenwi megys rhagrithwyr
lieilchion, segur, twyllodrus, edrychwn ar
fod tyst o'n mewn yn dywedyd eu bod yn
gelwyddog ; onid ê ni erys Ysbryd gras a
gogoniant i'n cysuro na'n cynorthwyo.
Ond os er ei fwyn ef yr ydym yn dioddef,
nac ofnwn : ni Iwydda un ofFeryn a lunier
i'n herbyn, Esa. hv. 17 ; a phyrth uffern ni
allant ein gorchfygu, Mat. xvi. 18. Ond
gwyhwn rhag ysbryd balch y Phariseaid :
os ydym ni yn gweled, ac ereill yn ddall,
pwy a wnaeth y gwahaniaeth ? Dangoswn
ein bod wedi bod gyda'r lesu, trwy ein
hymddygiad addfwyn, tirion, maddeugar,
cariadus a gostyngedig, tuag at ein gwrth-
wynebwyr. Ac er mai trwy Grist yn unig
yr ydym yn gadwedig, etto dangoswn ein
cariad atto ef, am ein prynu a'n gwaredu
yn rhad trwy ei fywyd a'i farwolaeth, trwy
gyflawniad diragrith o'r holl ddyled-
swyddau gorchymynedig, gan garu y gyf-
raith, fel rheol o'n bywyd newydd a
gawsom gan Grist, i'w chadw ; yr hon yr
ydym yn ymwrthod â hi, fel cyfammod i
fyned at Dduw trwyddi i gael bywyd. Yr
ydym yn atolwg arnoch i wylied yn eich
Societies yn erbyn balchder ysbrydol, yn
ymddangos mewn diystyru ereill, bod yn
annioddefus i gyfaddef ein beiau ac i dder-
byn cerydd ; rhagrith, neu geisio ym-
ddangos yn fwy Ilawn o gariad, ffydd,
gostyngeiddrwydd, a goleuni, nag y bydd-
och ; hunan-ewyllys a hunan-gariad,
doethineb cnawdol, a phob ymddangosiad
a fyddo yn tarddu oddiwrth gais dirgel
yn y galon i ereill dybied eich bod yn
dduwiol ac yn cynnyddu hefyd. Ac na
pheidiwch hefyd à chwilio allan bob ar-
wyddion o'r gwreiddyn ofnadwy, yr hwn a
ddwg bob math o ífrwythau drwg, sef
ariangarwch, seguryd, a diogi. Gwyliwch
hefyd rhag geiriau segur, ysgafnder ysbryd,
chwerthiniad cnawdol, meddyliau ofer, ac
anffyddlondeb neu weniaeth mewn geiriau
wrth farchnata, trwy ddywedyd geiriau
dau-ddyblyg, neu ddywedyd mwy neu lai
na'r gwir ; gan wybod ein bod ni bob
amser ger bron Duw. Dangoswch eich
bod wedi ei osod ef bob amser ger eich
bron. Edrychwch at gynnydd eich gilydd
mewn addfwynder, tiriondeb, a gwir iselder
ysbryd ; a bydded genych gariad diragrith
at bawb o deulu'r ffydd, a thosturi dwfn
tuag at ereill, yn peri i chwi alaru yn y
dirgel dros eu pechodau. Gwnewch bob
peth mewn gwirionedd a symlrwydd, megys
i'r Arglwydd. Os plant, gwyhwch ar
wneyd eich goreu i ennill eich rhieni, os
cnawdol ydynt, trwy eich ymddygiad ufudd
a gostyngedig. Os rhíeni, edrychwch pa
fodd yr ydych yn dwyn eich plant a'ch
igo
Y TADAU METHODISTAIDD.
tylwyth [i fyny] yn ofn yr Arglwydd, gan
weddío a chwilio yr Ysgrythyrau yn fanol,
a'u cateceisio beunydd gartref, Deut. vi.
6, 7; Gen. viii. 19. üs tlawd ydych,
byddwch foddlawn i'ch cyflwr, diwyd a
ffyddlawn yn eich gwaith, gan fyw yn
gyfatebol i'ch gradd. Os cyfoethog, ed-
rychwch ar gyfranu, gan ystyried mai
stmavdiaid ydych chwi ; ac fel mai eiddo y
Pen yw eich dá chwi oU, bod yn ddyledus
iddo ef gael ei fîordd a'i ewyllys yn eu
trefnu hwynt fel y mỳno ei hun. Os hen
Gristionogion profiadol ydych, magwch a
dysgwch mewn addfwynder a thiriondeb y
rhai gwan. Os rhai iefainc ydych, gochel-
wch ymrysonau, hunan, ac anghrediniaeth ;
a dysgwyhwch oll am groesau beunydd
oddiallan ac oddifewn ; a phan y byddoch
agosaf at yr orseddfainc, cofiwch ninnau, y
rhai ydym ychydig, a Uawn o lygredd ; ond
yr ydym, er eich mwyn, gwedi cael ein
cymhell i ymadael â phob peth, heb geisio
dim ond bod yn ffyddlawn, fel y gallom
ddywedyd yn y diwedd, ' Wele ni a'r plant
a roddaist i ni.'
"SAIL Y CYFARFODYDD.
"I. Gorchymyn yr Ysbryd Glân trwy
St. Paul yw, nad esgeulusom ein cyd-
gynnulliad ein hunain, megys y mae arfer
rhai, &c.
"II. Os yw yn ddyledswydd arnom
gynghori ein gilydd tra y gelwir hi heddy w
(neu bob dydd), o herwydd mai dyna'r
modd ini ymgadw rhag cael ein caledu
trwy dwyll pechod, Heb. iii. 13 ; yna, ni a
ddylem ddyfod ynghyd i gynghori ein
gilydd.
"III. Arfer y duwiolion oedd ymgynnull
fel hyn dan yr Hen Destament (Gwel Mal.
iii. 16), a than y Newydd hefyd. Wedi
ymgynnull fel hyn yr oedd [y disgyblionj ,
pan ymddangosodd Crist iddynt wedi ei
adgyfodiad, ac y dywedodd, 'Tangnefedd i
chwi.' Luc xxiv. 33 — 36.
"IV. Ein Hiachawdwr a addawodd fod
yn y canol Ile y byddai dau neu dri (oni
fyddai ychwaneg) wedi ymgynnull, yr hon
a addewid y mae pawb a ymgynnullasant
mewn gwirionedd, ymhob oes, wedi ei
phrofi yn cael ei chyflawnu, Mat. xviii. 20.
"EU DIBENION.
"I. Mewn ufudd-dod i'r gorchymyn, i
annog i gariad a gweithredoedd da, Heb.
X. 24.
"2. I ragflaenu calon-galedwch a gwrth-
giliad tra y byddom weinion mewn gras,
a'n Ilygredigaethau yn gryfion, a'n prof-
edigaethau yn aml, i Cor. iii. i, 2, 3, &c.
"3. Er mwyn dyfod i adnabod mwy o
ddichellion Satan, 2 Cor. 11, a thwyll ein
calonau, a gwaith gras a'i gynnydd yn ein
heneidiau, i Pedr iii. 8.
"4. Er mwyn goleuo eu gilydd yng
ngair Duw, ac er mwyn cadarnhau ac
adeiladu y naill y Ilall yn y sancteiddiaf
ffydd.
"5. Er mwyn cynghori eu gilydd a
rhagflaenu ymrysonau, ac anghariad, a
drwg-dybiau, a chenfigenau, &c. i Tim.
vi. 4.
" 6. I edrych yn ol bywyd ac ymarwedd-
iad, ysbryd a thymmer, y naill y Ilall, ac
er mwyn dwyn beichiau ein gilydd, Galat.
vi. 2.
" 7. Er mwyn gogoneddu gwaith gras
Duw, trwy fynegu idd eu gilydd pa beth a
wnaeth efe dros ein heneidiau, yn ol esampl
Dafydd, Salm Ixvi. 16.
"8. Er mwyn ymgryfhâu ynghyd yn
erbyn gelynion ein heneidiau, y byd, y
cnawd, a'r cythraul ; er mwyn gweddi'o
dros ein gilydd, ac er mwyn cyfranu pob
addysg a ddysgasom am Dduw, am ei
Fab, ac am danom ein hunain, er pan fuom
ynghyd o'r blaen.
'■'■ Fel y byddo ir Dibenion hyn gael eu hatteb,
yy ydym yn cyttnno av y Rheolau canlynol : —
" i. Ar ol canu mawl a gweddîo, i Tim.
ii. I, bod ini agoryd ein calonau i'n gilydd,
ac adrodd yn symlrwydd ein calonau yr
hyn oll o'r drwg a'r da, yr ydym yn ei
weled oddifewn ini, yn ol y cymhorth a
gaffom, [ac mor bell ag y gweddai gwneyd
hyny ger bron dynion.] Oherwydd yr
ydym yn profi, trwy'r balchder sydd ynom,
anewyllysgarwch i ddyfod â gweithredoedd
y tywyllwch sydd o'n mewn i'r goleuni,
rhag ini gael cywilydd ; ac felly barod-
rwydd i guddio ein pechod : a thra
byddom yn gwneuthur hyny, ni Iwyddwn
ni ddim yn ein heneidiau. Ond yr ydym
yn profi, pan y gwelom ni y pechod wedi
ei faddau, ac y caffom ein calonau
i'w gasáu, y gallwn ddyfod âg ef i'r
goleuni ; a mawr yw yr undeb ysbryd, y
rhyddid meddwl, a'r cariad yr ydym yn ei
brofi fod yn canlyn y symlrwydd yma.
WYTH MLYNEDD CYNTAF Y DIWYGIAD.
191
Ond os ni fydd i ni gael cymhorth i ddy-
n'edyd gyda rhywfaint o olwg ar y drwg
sydd yn y fath lygredd, a galar a
chywilydd o'n mewn am dano, yr ydym
yn dueddol i wneuthur yn ysgafn o hyn,
ac felly yn sychu ein gilydd. Ac wrth
ddywedyd am ddaioni Duw, os bydd ini
oUwng yn anghof olygu ei ogoniant ef,
ac ymfoddloni â meddyliau y bydd i'r
brodyr feddwl yn dda am danom, neu
edrych yn waei ar y rhai a fyddo heb
brofi mor bell a ni, — os hyn a gaifî le,
yr ydym yn profi ein bod yn tristâu
Ysbryd Duw, ac y mae dieithrwch yn
canlyn rhwng Duw a'n heneidiau, ynghyd
ag oerfelgarwch a sychder.
" 2. Er mwyn tynu ymaith bob dim a'r
sydd yn rhwystro cynnydd cariad, i ddy-
wedyd pob drwg-dyba lettyoyn ein meddyl-
iau am ein gilydd, a ddelo oddiwrth Satan,
cyhuddwr y brodyr, neu ryw ftbrdd arall.
Os gwir fydd yr achwyniad, dywedwn ef
er mwyn codi yr hwn a gwympodd, trwy
ei geryddu ef yn addfwyn, yn ol cynghor
ein Hiachawdwr, rhyngom ni ag ef ei hun,
yna o flaen dau neu dri o'r brodyr, i edrych
a welom ni arwyddion ynddo, fel y bo i'n
cariad gael ei adnewyddu. Os bydd y
drwg-dyb yn wir, yna deuwn a hyny i'r
amlwg er cywilydd i ni ein hunain, fel na
chaffo Satan le i weithio ei waith ei hun
yn ein calonau ni. Llawer ydyw'r budd
yr ydym wedi ei brofi oddiwrth hyn. Yr
esgeulusdra o'r symlrwydd hyn a roddodd
le i Satan weithio cymaint o ymrysonau,
&c.
"3. Bod ini gymmeryd ein holi a'n
chwilio gan ein gilydd ; o herwydd mor
barod yr ydym i sefyll yn rhy agos atom
ein hunain, ac i beidio a myned i dre, wrth
holi ein hunain.
'■^ Holiadau i hrofi cin lnuiain wytliynt.
"i Beth yw ein dibenion ymhob dim ar
a gymmerom yn Ilaw, pa un a'i gogoniant
Duw, ai rhyw bleser neu esmwythder,
rhyw glod neu anrhydedd, neu rhyw elw
neu fudd i ni ein hunain ?
"2. Beth ydym ni yn ei brofi o'n mewn
yn ein cymhell i wneuthur yr hyn yr ydym
ni yn ei wneuthur ? Cariad Crist, neu ynte
hunan gariad ?
"3. Wrth ba ewyllys yr ydym ni yn
rhodio, ac yn gwneuthur pob peth ; pa un
ai ewyllys ddadguddiedig Duw yn eiair, neu
ynte ein hewyllys ein hunain ? A ydym ni
yn ymwadu a'n hewyllysiau ein hunain
ymhob peth ?
" 4. Gan ein bod ni wedi rhoddi ein
hunain yn y cyfamod gras i Dduw yn
Nghrist, ac nad ydym ni mwyach i fyw i
ni ein hunain, ond i'r Hwn a'n prynodd ni,
ac a roddodd ei Hun drosom ; a chan fod
i ni ddwyn ffrwyth oddiwrth bob talent ag
sy genym, yr ydym i wylied dros ein
gilydd, pa fodd y byddo ini arferyd ein hen-
eidiau, a'n cyrph, doniau, cof, dysg, amser,
cyfoeth, a phob odfa i wneuthur a derbyn
daioni, fel y dygom fwyaf o anrhydedd i
Dduw, a Iles i'w eglwys, trwy eu gosod
allan yn ol rheol ei air Ef, gyda phob
diwydrwydd a symlrwydd.
" 5. Fel nad oes ond un corph gan
Grist ; ac fel y mae Efe yn gweddío ar i
bawb o'i ddisgyblion (neu ei ddilynwyr)
Ef i fod yn un;— fel nad yw'r nifer ond
ychydig ; fel ag y mae'r ífyddloniaid
oll (o bob barn mewn pethau amgylch-
iadül) i fod ynghyd yn dragywydd yn ol
hyn; fel ag y maent yn profi yn awr undeb,
wedi ei weithio oddifewn, a'u gilydd yn yr
Ysbryd Glàn ; fel ag y maent yn trafeilio
yr un ffbrdd, yn ymladd dan yr un faner,
yn erbyn yr un gelynion, yn ymborthi ar
yr un manna, yn yfed o'r un fîynon
ysbrydol, yn cael eu tywys gan yr un
Ysbryd, wedi eu gwisgo a'r un cyfiawnder
cyfriíol, yn ceisio yr un diben, ac yn cael
eu cymhell gan yr un egwyddor, wedi
clywed i gyd yr un Ilais, wedi eu prynu
a'u golchi a'r un gwaed, &c., felly nid
ydym ni yn atal neb o un farn rhag dyfod
i fod yn aelod o'r Society gyhoedd ag a allo
gael ei holl galon» i gytuno a'r rhag-
ddywededig Reolau, ac i ateb y cwesti-
ynau canlynol.
" I. A ydych chwi wedi cael eich har-
gyhoeddi gan Ysbryd Duw i weled eich
hunain yn golledig hollol, ac yn haeddu
eich damnio ? ac mai cyfiawn fyddai i
Dduw orchymyn i bob creadur eich
poeni, ac i'ch taflu i'r trueni a'r poenau
eithaf, gan weled eich hunan y penaf o
bechaduriaid ?
"2. A ydych chwi wedi eich deff"roi gan
ras i weled nad yw eich goleuni chwi ddim
ond tywyllwch ? ac na ellwch chwi ddim
adnabod y Tad, na'i Fab, yn gadwedigol,
na chwi eich hunain, heb i'r Ysbryd Glân
oleuo Ilygaid eich meddwl chwi yn oruwch-
naturiol, gan eich bod wrth natur fel ebol
asen wyllt ?
"3. Aydych yn profi, nid yn cyfaddef
yn unig, ond wedi cael eich dysgu gan yr
192
Y TADAU METHODISTAIDD.
Arglwydd, i weled ac i wybod hyn, sef, bod
pechod felly wedi gwenwyno eich holl
natur yn y fath fodd ag na ellwch gym-
maint a meddwl un meddwl da, na gwneu-
thur dim a fyddo cymmeradwy gan Í3duw ?
Ac na ellwch ddim eich helpu eich hunan
o'r cyflwr hwn mewn un modd, wrth
natur ?
"4. A ydych chwi yn credu ac yn profì
mai trwy gyfìawnder Crist, yn cael ei
gyfrif ini yn unig, y mae ini fod yn gadw-
edig ? ac mai trwy fifydd y mae hwn yn
cael ei dderbyn ? ac mai Ysbryd Duw yn
unig a all, ac sydd yn gweithio y íTydd hon ?
ac na allwn ni ddim ei gweithredu hi nag
un gras arall nes y byddo i'r un Ysbryd,
fel y gogledd-wynt neu y deheu-wynt
chwythu arnom.
"5. A ydych (gan weled mai Crist yn
unig yw'r ddinas noddfa i ffoi iddi rhag di-
alydd y gwaed) yn proíì fod Ysbryd Duw
wedi eich gwneuthur yn ewyllysgar i ym-
adael yn eich serchiadau â phob peth ag
oedd gynt yn werthfawr ag yn felus
genych ? megys eich llygad deheu, eich
cyfaill anwylaf, a'ch pechod melusaf,
amlwg a dirgel, er mwyn Crist, ac i wneu-
thur lle iddo Ef yn y galon ?
"6. A ydych chwi wedi bod yn y dirgel
yn bwrw'r draul ? Ac yn awr yn profi fod
gras Duw wedi peri i chwi ymwadu a'ch
dibenion, eich ewyllysiau, eich cyfiawn-
derau, a'ch doethineb eich hunain, ac i
ymostwng i ewyllys, a chyfiawnder, a
doethineb Crist ? Ac yn ymfoddloni i
ddioddef pob croes ag a gyfarfyddoch wrth
fyned ar ei ol Ef, a thrwy allu ei ras Ef i
selio ei air â'ch gwaed, os bydd achos.
"7. Os ydych etto heb gael tystiolaeth
yr Ỳsbryd Glân i gyd-dystiolaethu â'ch
ysbryd chwi eich bod yn blentyn i Dduw,
a ydych chwi yn profi eich bod bob amser
yn ceisio Duw â"ch holl galon, heb geisio
dim ond Efe ? Chwihwch a [ydych] yn
cyfrif pob peth yn goUed fel yr ennilloch
Ef ? ac nas gellwch orphwys ar hyn
chwaith nes i chwi ei gael Ef ?
"8. A ydych chwi yn profi na ellwch
chwi ddim cael esmwythdra, na heddwch,
oddiwrth ddim ag sydd wedi ei weithio
ynoch hyd yma, nes y bo i chwi brofi fod
Crist ynoch chwi — nes y gwyddoch 'eich
bod yn credu, — nes y byddoch wedi cael y
fath olwg ar gyfiawnder Crist yn boddloni
cyfiawnder Duw drosoch chwi, ag a fyddo
yn ennyn cariad ynoch chwi ato Ef, a
hwnw yn eich cymhell i ufudd-dod ; a'r
cyfryw olwg ar ei ystlys fendigedig Ef
wedi ei thrywanu, ag a ddrylho eich calon
i alaru am bechod fel un yn galaru am ei
gyntafanedig, ac i wir gasâu pob pechod,
nes y byddoch wedi derbyn Ysbryd mab-
wysiad yn llefain Abba, Dad, ynoch chwi ?
" g. A ydych chwi yn credu ac yn
cydsynio a'r gwirioneddau sylfaenol, yn
gyntaf, ynghylch y Drindod ; yn ail, ethol-
edigaeth ; yn drydydd, pechod gwreiddiol ;
yn bedwerydd, cyfiawnhad trwy ffydd ; yn
bumed, parhad mewn ystâd o ras, &c., fel
ag y maent yn cael eu dal allan yn Articlau
a Homihau Eglwys Loegr ? Ac yn yr
hyn nad ydym yn hollol, ysgatfydd, yn
cytuno mewn rhai pethau amgylchiadol,
megys dysgyblaeth eglwysig, seremoniau,
y dull a'r amser o fedydd, &c., a ydych
chwi yn addaw na bydd i chwi ddim l)Hno
eich cyd-aelodau ynghylch y pethau nad
yw Duw wedi dyfod a ni i weled yr un
modd ?
"10. A ydych yn profi mai cariad Crist
sydd yn eich cymhell i ymuno a ni ? Ac
a ydych chwi, yn ol dyfal ystyried, yn
profi eich calon yn ddiragrith yn ymostwng
i'r rheolau hyn, gan edrych arnom ni, a
ninau arnoch chwithau, fel aelodau o'r un
corff, fel plant yr un Tad, fel un, ac na
ddywedoch wrth neb o'r rhai sydd oddi-
allan yr hyn a fyddom ni, yn symlrwydd
ein calonau, yn eu dweyd ? (Oherwydd
mai taflu perlau o flaen moch, yvv dweyd
profiadau wrth yr annuwiol.)
" Mae'r cwestiynau hyn yn gofyn i bwy
bynag a chwenycho fod yn aelod o honom,
ar ol iddo yn gyntaf roi ei enw yn y
cyfarfod o'r blaen, a dyfod a thystiolaeth
rhai o'r brodyr (os bydd lle) ynghylch ei
fywyd, a'i dymer a'i ymarweddiad, a pha
gymaint o amser sydd er pan y daeth dan
argyhoeddiad, ac i gael y cyfnewidiad yma
yn ei fywyd. Fe ddichon bod rhai ag a
fyddo heb eu rhyddhau odditan. ysbryd
caethiwed, ac eto yn gwir geisio, a'u bod
eto heb gael ; wedi cael eu gwneuthur yn
ewyUysgar, ac heb yfed o ddwfr y bywyd,
— y rhai hyn rhaid eu porthi a llaeth. Ac
fel na byddo i eraill gael eu cadw yn ol
ganddynt hwy, y rhai a fyddo wedi profi
ymhellach, ac w^edi derbyn cymhwysiadau,
a ddylent adeiladu eraill trwy gynghori,
&c. Ac eraill, wedi profi budd a llesâd
wrth gyfarfod yn fwy neiUtuol i fod yn fwy
manol i chwiho ; ni a gytunasom i gyfarfod
i'r diben hyn yn fwy neiUtuol ; a phwy
bynag a fyddo wedi bod dros amser yn y
Society gyffredin, ac wedi ymddwyn yn
addas, y mae i gael ei dderbyn i"r ymgyn-
WYTH MLYNEDD YNTAF Y DIWYGIAD.
193
ulliad yma, pan y gallo ateb i'r cwestiynau
a ganlyn, neu eu cyfìfelyb.
" I. A wyddoch chwi eich bod yn credu ?
eich bod yn y ffydd ? a bod eich pechodau
wedi ei maddeu ? a bod Crist wedi marw
drosoch chwi yn neilltuol ? ac yn awr yn
trigo trwy ei Ysbryd ynoch chwi ? a bod
Duw wedi eich caru â chariad tra-
gywyddol ? A ydyw Ysbryd Duw bob
amser yn cyd-dystiolaethu â'ch ysbryd
chwi, eich bod yn blentyn i Dduw ?
"2. A ydych chwi yn profi mwy-fwy o
gydymdeimlad yn eich calon â'r rhai a
demtir ? a mwy o dosturi, o bwyll, ac o
anian cariad yn eich ysbryd tuag at bawb,
ond yn enwedig at deulu y ffydd, pwy
bynag fyddont ?
" 3. A ydych chwi yn profi mwy o oleuni
ysbrydol o'ch mewn, yn dadguddio i chwi
fwyfwy o burdeb a sancteiddrwydd Duw,
ac ysbrydolrwydd ei gyfraith ef, ac yn
dangos i chwi fwy o bla a thwyll eich calon,
a drwg pechod, a gwerthfawrogrwydd
Crist ?
"4. Aydyw eich cydwybod yn fwy tyner i
argyhoeddi am y dechreuad cyntaf o bechod
yn y meddwl ? am bob edrychiad anllad â'r
llygaid ? Am y dechreuad cyntaf o ysgafn-
der neu lawenydd cnawdol, neu ragrith,
neu hunan, neu natur chwerw, yn y dech-
reuad cyntaf o honynt ? am eiriau segur,
am ollwng Duw yn anghof, am feddyhau
llygredig ac ofer ?
"5. Pa wers a ddysgodd yr Arglwydd i
chwi er pan fuom ni ynghyd o'rblaen ? Pa
faint a welwch chwi [yn] fwy o ddrwg a
thwyll eich calon ? o ddichelhon Satan ? o
ddyfnderoedd gras Duw, a rhyfeddol waith
ei ras Ef ynoch ? o oleuni ysbrydol, prof-
iadol, yn ei air Ef ?
"6. A ydych chwi yn gweled mwy o
ryfeddod yng nghariad neilltuol Duw tuag
atoch chwi ? Ac a ydyw yr olwg hyn yn
eich cyfnewid i'w ddelw Ef, ac yn gweithio
ynoch fwy o hiraeth am ei ogoneddu Ef yn
y cwbl ? ac am ei weled Ef yn dyfod i gael
ei ogoneddu yn ei saint ?
" 7. A ydyw pechodau rhai eraill yn
dyfod yn fwy agos atoch ? Ac a ydych
chwi yn profi bod eich eneidiau yn cael eu
gwreiddio a'u hadeiladu fwyfwy mewn
cariad ? fel nad yw pob golwg ar eich
gwendid, a grym eich Ilygredd, a'ch tyw-
yllwch, &c., ynoch, a fu yn peri poen (er
eu bod yn achos o alar), ond eich bod yn
amlycach yn canfod eich holl iachawdwr-
iaeth yn Nghrist ? a thrwy olwg ar y
cyflawnder, a'r gallu a'r ffyddlondeb, sydd
ynddo Ef, yn rhodio yn gysurus yng
nghanol profedigaethau, ac yn dweyd :
' Mi a wn i bwy y credais,' pan y byddo
hi dywyllaf arnoch ?
" 8. A ellwch chwi ddywedyd, trwy eich
bod wedi dyfod i weled yn fwyfwy amlwg,
trwy dystiolaeth y dwfr a'r gwaed, bod
eich enwau wedi eu hysgrifenu yn Ilyfr y
bywyd ; ac y gwyddoch ar sail gywir,
ar yr hunan-ymholiad manylaf, wrth air
Duw : ' na all nac angau, nac einioes, nac
angylion, na thywysogaethau, na medd-
ianau, na phethau presenol, na phethau i
ddyfod, nac uchder, na dyfnder, nac un
creadur arall, eich gwahanu oddiwrth
gariad Duw, yr hwn sydd yn Nghrist
lesu ein Harglwydd ; ' ac na all neb eich
tynu chwi o'i law Ef, oherwydd ei fod Ef
yn fwy na phawb oll ; ond pan yr ym-
ddattodo ein daiarol dý o'r babell hon, bod
i chwi adeilad gan Dduw, sef tŷ nid o
waith Ilaw, tragywyddol yn y nefoedd ; ac
mai eich sail chwi i hyn oll yw cyfamod
tragywyddol ac anghyfnewidiol Duw ?"
-í-^
Rhan IV.
PENOD IX.
Y GYMDEITHASFA.
Howell Hawis av ei daith tua Watford — Y chwech cyntaf- — Penderfyniadau y Gymdeithasfa —
Gorphen meimi cán a moliant — Cyfarfodydd Misol Llanddeusant , Trefecca, Tyddyn, Llan-
ttirtyd, a Glanyrafonddu — Ail Gymdeithasfa Watford — Taith Whitefield a Hotvell Hafris
trwy ranau helaeth or Deheudir — Argyhoeddiad Peter Williams — Cyfarfodydd Misol
Gelliglyd, Watford, Dygoedydd, a Longhouse — Cymdeitliasfa Chwarterol Trefecca —
Y ddau arolygydd tramgwyddus — Whitefield a Hoivell Harris yn ysgrifenu llythyrau atynt.
i
jYNHALIWYD y Gymdeithasfa
y,i gyntaf yn Watford, dyddiau Mer-
cher a lau, lonawr 5 a 6, 1743.
I'r dyddiad hwn dwg dydd-lyfr Howell
Harris a dydd-lyfr Whitefield dystiolaeth
bendant, a chadarnheir ef gan amseriad y
llu o lythyrau a ysgrifenwyd yn union-
gyrchol gwedi ; felly, nid oes lle i unrhyw
betrusder gyda golwg ar y mater. Y
tebygolrwydd yw ddarfod i awdwr parchus
Methodistiaeth Cymru gael ei arwain ar
gyfeihorn yma eto trwy gamddeall yr hen
galendar eglwysig. Cychwynodd Howell
Harris, yn ol ei ddydd-lyfr, foreu Sul,
lonawr 2, 1743. Teimlai bwysigrwydd
dirfawr y cyfarfod ar ba un yr oedd yn
wynebu, nid yn unig i'r diwygiad Method-
istaidd, ond hefyd i grefydd Cymru ; a'r
peth cyntaf a geir ar y dyddiad yn ei lyfr
yw : " Myned i gyfarfod y Gymdeithasfa
yn Sir Forganwg." Nid ai ar hyd y
ffordd unionaf, a'r un a arferai gymeryd
pan yn teithio i Forganwg neu Fynwy, sef
heibio Cantref, wrth draed y Banau ; eithr
cadwai yn mhell ar y chwáth, er mwyn
cymeryd Cwm lau ar ei hynt, fel y gallai
ymgynghori a'r offeiriad duwiol a wein-
idogaethai yno, Thomas Jones, ac y caffai
ei enaid gyfnerth wrth wrando arno yn
pregethu Gair y Bywyd. Arweinid ef
trwy olygfeydd mor brydferth a rhamantus
a dim sydd yn Nghymru ; eithr nid ym-
ddengys fod ei yspryd mewn unrhyw
gydymdeimlad a'r tlysni a'i cylchynai ; yr
oedd pryder ei feddwl yn gymaint, fel nas
gallai gael tawelwch ond trwy ddyrchafu
gweddi at Dduw. \\'edi gweddio dros
Miss Ann W^ilHams, a thros ei fam,
" gweddiais," meddai, " dros ein Cym-
deithasfa, ar i Dduw ddyfod i'n mysg i'n
cyfarwyddo, a chyda golwg ar fy myned
dros y môr ; cefais ryddid mawr i osod yr
achos gerbron yr Arglwydd, ond ni chefais
ateb ; dros yr Eglwys dywyll hon, a thros
bawb sydd mewn pechod. Cefais nerth i
alaru ac i lefain ar ran holl deulu Duw,
gan weled yr holl eglwys fel yn perthyn
i'w deulu ef, ar iddynt gael eu dwyn i
rodio yn y goleuni." Rhwng naw a deg
o'r gloch cyfarfu nifer o frodyr ef, rywle
ynghanol y mynyddoedd, y rhai a dystiol-
aethent i'r lles a dderbyniasent oddiwrth
Dduw trwyddo. Gwedi penderfynu rhyw
faterion perthynol i'r gymdeithas fechan
yno, a rhoddi ei gofal i'r brawd Joseph, yr
hwn y tybiai a ordeiniasid gan Dduw i
ofalu am y praidd, aeth yn ei flaen.
Daeth myned dros y môr i bwyso ar ei
feddwl eto. Gwelai y gallai yr eglwys yn
Nghymru fyned yn mlaen hebddo. Ond
yr oedd ei galon yn orlawn o anwyldeb at
ei blant ysprydol, a gwnaed iddo lefain :
" O, pa fodd y gallaf eu gadael ? " Cyffro-
wyd ei yspryd ynddo, ynghanol gẁyUtineb
y mynydd, i fendithio a mohanu Duw.
" Pa fodd," meddai, " y gallaf dy fendigo
ani lesu Grist, a'r cyfoeth a drysorwyd
ynddo ? " W^edi' cyrhaedd Cwm lau,
agorodd ei fynwes i Thomas Jones ; myn-
egai am ddrygedd ei galon, yr hwn a
gynhyrfid pan glywai ei fod i gael ei
esgymuno ; wrth adrodd torodd i lawr
gan wendid corph. Pregethodd yr hen
offeiriad yn hyfryd ; eithr ni chafodd
Harris unrhyw nerth ; ond cafodd afael
ryfedd ar weddi, yr hyn a ddygodd gryfder
i'w gorph a'i enaid. Ymadawodd boreu y
Llun, gwedi ymgynghori a Mr. Jones, yr
Y GYMDEIJHASFA.
195
'Ai'i-:i. ANMi-;\-.Ni
hwn a ddangosodd yspryd gwir gatholig,
a chyrhaeddodd y Goetre, ger Pontypŵl,
o gwmpas saith. Pregethodd yno boreu
dydd Mawrth, gan rybuddio y gwran-
dawyr rhag hunan a drygedd y galon.
Cysgodd yn Llanfihangel nos Fawrth. Y
peth cyntaf a ysgrifena yn ei ddydd-lyfr
boreu Mercher yw : " Myned i'r Gym-
deithasfa ; y mae gofal yr oll ar yr lesu."
Achwyna ei fod yn wanaidd ei gorph, ac
yn teimlo yn druenus heb sicr bresenoldeb
lesu Grist. Cafodd wyneb yr Arglwydd
ar ei daith, a dymunai fod ganddo ddeng
mil o fywydau i'w cyflwyno iddo. Cyr-
haeddodd Watford tua chanol dydd.
Gorwedda Watford ar lechwedd cwm
sydd yn myned i mewn i'r mynydd, tua
thri chwarter milltir i'r gorllewin o Gaer-
phiH, rhwng dyffrynoedd y Rhymncy a'r
Tâf. Nid oes yno na thref na phentref.
Yr unig adeiladau ydynt ffermdy golygus
Watford-fawr, yr hwn, yn adeg Howell
Harris, oedd yn balasdy o gryn fri, a
chapel Ymneillduol Watford, rhyw ddau
led cae yn uwch i fynu, ac a dderbyniodd
ei enw oddiwrth y tir ar ba un y cawsai
ei adeiladu. Dywedir yn M dhodistiaetìi
Cymni : " Yn ymyl tý Watford, y mae
capel Presbyteraidd hcn iawn, yn yr hwn
yr arferai y Diwygwyr Methodistaidd
bregethu, gan y coleddid hwynt gan
Mr. a Alrs. Price, y rhai oeddynt yn
preswyho yn y palasdy y pryd hwnw.
Am y Mrs. Price hon y canodd Wilhams,
Pantycelyn, alareb ragorol ar ol ei marw.
Yr wyf yn tueddu i feddwl nad oedd yr
un gweinidog sefydlog yn yr hen gapel y
pryd hwnw ; a chan fod Mr. Price yn
llochi y Methodistiaid, efe a agorodd ei dŷ
ei hun i'w croesawu, ac a gafodd ganiatad
iddynt ddefnyddio y capel, o leiaf yn
achlysurol, i gynal cyfarfodydd." Buasai
yn anhawdd gwthio mwy o gamgymeriadau
i le mor fychan. Nid gwraig Price, yr
ustus, oedd Grace Price, i'rhon y canodd
Wilhams alareb, ond gwraig Cadben
Price, ei fab ; ac nid oedd wedi ei geni
pan y cynhaHai y Methodistiaid eu Cym-
deithasfa gyntaf yno. Rhy brin y geHir
galw capel Watford yn " gapel Presbyter-
aidd." Nid oedd ychwaith yn hen ; rhyw
dair blynedd cyn y Gymdeithasfa y cawsai
ei adeiladu ; a nerth yr adfywiad a gan-
lynodd ymweliad cyntaf Howell Harris
a'r lle a roddodd galon yn y bobl i ymosod
ar y gwaith o'i godi. " Ystafell newydd "
y geilw Harris yr adeilad. Nid oedd
ychwaith heb weinidog, gan fod David
WilHams, PwUypant, yn dal y He mewn
undeb a Chaerdydd.
Cyfarfyddodd y Gymdeithasfa y tro
cyntaf yn nghapel Watford am ddau o'r
gloch. Meddai Howell Harris, yn ei
ddydd-lyfr : " Arosasom yn yr ystafeH
igó
Y TADAU METHODISTAIDD.
newydd hyd saith, yna aethom i dŷ y
brawd Price." Ar un olwg, y mae yn
syn iddynt gael y capel, gan fod David
WilHams, y gweinidog, wedi darfod cyd-
weithio â hwy. Ond dylid cofio mai rhai
a ddychwelasid trwy weinidogaeth Harris
oedd y nifer amlaf o'r aelodau yno ; mai ei
ymwehad ef yn 1738 a fu yn achlysur i'r
capel gael ei adeiiadu ; ac yr ystyriai yr
eglwys ei hunan ar y pryd i raddau mawr
yn Fethodistaidd, a pharhaodd i deimlo
felly hyd nes y darfu i syniadau Armin-
aidd, a haner Ariaidd David WilHams,
orfodi y Methodistiaid i ymwahanu, ac i
adeiladu capel y Groeswen. Dewiswyd
Mr. Whitefield yn gadeirydd. Agorodd
yntau y cyfarfod trwy weddi, mawl, a
chyngor. Dywed Harris na welodd y
fath serchowgrwydd meddwl, y fath gariad
a grym, wedi cydgwrdd yn neb ag yn y
gŵr da hwnw. Heblaw Mr. Whitefield,
yr oedd yn bresenol y Parchn. Daniel
Rowland, John Powell, a Wilham WiU-
iams, oll yn offeiriaid urddedig; ynghyd a
Mri. Howell Harris, Joseph Humphreys,
a John Cennick, lleygwyr. Y chwech hyn
yn unig a gyfansoddent y Gymdeithasfa
ar y cyntaf. Ystyrid y tri offeiriad yn
perthyn iddi ar gyfrif eu hordeiniad ;
Howell Harris ar gyfrif ei sefyllfa eithriadol
fel y mwyaf ei lafur o bawb, a sylfeinydd
y nifer amlaf o'r seiadau ; a Mri. John
Cennick a Joseph Humphreys, oblegyd y
safle uchel a feddent yn mysg Methodist-
iaid Lloegr. Cuwrad Aberystruth, ger
Blaenau Gwent, oedd y Parch. John
Powell ; argyhoeddasid ef trwy weinidog-
aeth Howell Harris, pan yr ymwelodd
gyntaf a'r rhan hono o'r wlad ; a daeth
mewn canlyniad yn bregethwr efengylaidd
a thra sylweddol. Er ei holl awydd am
wneyd daioni, cafodd ei erHd yn fawr yn
Aberystruth. Ymddengys fod ei wraig
hefyd yn ddynes nodedig o grefyddol ; a
dywed Mr. Edmund Jones y tybid yn
gyffredin, ■■'■ ddarfod i waith rhai o'r prif
blwyfoHon, yn mysg pa rai yr oedd ei
thad, wrthwynebu caniatau i Daniel
Rowland bregethu yn yr eglwys effeithio
mor ddwys ar ei meddwl, fel ag i fyrhau
ei dyddiau. Gwedi dyoddef Hawer oblegyd
ei gysyHtiad a'r Methodistiaid, cafodd Mr.
PoweU fywioHaeth yn rhan isaf o Fynwy,
He y trigodd hyd ddydd ei farwolaeth.
John Cennick ydoedd fab i Grynwr o
Reading, a chafodd ddygiad i fynu cref-
* History of the Parish of Aberystruth.
yddol, gan gael ei arfer i weddío nos a
boreu gan ei fam. Eithr tyfu yn fachgen
drwg a wnaeth John. Arferai ganu
caneuon masweddgar, chwareu cardiau,
a mynychu y chwareudai ; anfonodd ei
dad ef naw gwaith i Lundain i'w brentisio
i ryw gelfyddyd ; eithr ni chymerai neb ef
gan mor ddrwg ydoedd, oddigerth rhyw
saer, yr hwn a'i derbyniodd ar brawf, eithr
a wrthododd ei gymeryd fel egwyddorwas
pan ddaeth yr amser i hyny. Argyhoedd-
wyd y Hanc tra yn cerdded Cheapside, un
o heolydd poblog Llundain, yn y flwyddyn
1735, tua'r un adeg a HoweU Harris. Pa
foddion a fendithiwyd iddo, nis gwyddom ;
ond bu mewn teimladau ofnadwy am
amser. Ymprydiai yn fynych, a hyny am
amser maith, a gweddíai naw gwaith bob
dydd. Ofnai ysprydion yn enbyd ; ac yr
oedd arno fawr ddychryn cyfarfod a'r
diafol. Gan y teimlai fod bara, hyd yn
nod bara sych, dienllyn, yn ymborth rhy
dda i bechadur mor fawr ag efe, ym-
roddodd i fwyta cloron, mês, a glaswellt ;
ac ymawyddai am fyw yn gyfangwbl ar
lysiau a gwreiddiau. Ni chafodd heddwch
i'w enaid hyd Hydref, 1737 ; y pryd hwnw
datguddiodd Duw ei drugaredd iddo, ac
aeth yntau i'w ffordd yn Ilawen. Dech-
reuodd bregethu ar unw'aith, fel Howell
Harris, a chyfansoddi hymnau. Argraff-
wyd nifer o'i hymnau, wedi ei golygu gan
Charles Wesley, yn y flwyddyn 1739. Yr
un flwyddyn cyfarfyddodd a John Wesley,
yr hwn a'i hapwyntiodd yn ysgolfeistr i
Kingswood, ger Bryste, Ile yr oedd nifer
mawr o lowyr wedi eu dychwelyd. Cyr-
haeddodd Ringswood yn mis Mehefin ; er
ei fawr siomedigaeth cafodd fod Wesley
wedi ymadael am Lundain, ond gwahodd-
wyd ef i fyned i wrando rhyw ddyn ieuanc
yn darllen pregeth i'r glowyr. Lle y
cyfarfod oedd dan gysgod sycamorwydden,
yn ymyl y fan y bwriedid i'r ysgol fod.
Daeth y glowyr ynghyd, tua phum' cant
o honynt, ond ni ddaeth darllenydd y
bregeth. Bu raid i Cennick bregethu
iddynt, a chafodd odfa nerthol ; dygodd
Duw dystiolaeth i air ei ras, a chredodd
llawer i fywyd tragywyddol. Pregethodd
dranoeth, a dwy waith y Sul dilynol.
Daeth Howell Harris i'r lle ; ymroddodd
y ddau, pregethwr diurddau cyntaf Lloegr,
a phregethwr diurddau cyntaf Cymru,
i bregethu i dyrfaoedd oeddynt yn awchus
am wrando y Gair ; fel pan gyrhaeddodd
John Wesley yno y dydd Mawrth dilynol,
yr oedd clod y ddau efengylwr yn mhob
Y GYMDEITHASFA.
197
genau. Ni cheisiodd Wesley daflu rhwystr
ar íìíbrdd John Cennick, ac iddo ef y
perthyn yr anrhydedd o fod yr efengylwr
lleygol cyntaf perthynol i'r Methodistiaid
Seisonig. Ac ymddengys ei fod wedi ei
ddonio yn helaeth. Meddai barodrwydd
ymadrodd mawr, a gwroldeb diderfyn.
Pan yr ymranodd Wesley a Whitefield,
mewn canlyniad i syniadau Arminaidd y
blaenaf, glynodd Cennick wrth y blaid
Galfinaidd, ac yr oedd yn un o'r deuddeg-
a-deugain a drowyd allan o gymdeithas
Kingswood gan Wesley, yn y flwyddyn
1741. Efe, gwedi hyn, oedd Uaw ddeheu
Whitefield. Eithr yn y flwyddyn 1745,
tra yr oedd Whitefield yn America, ym-
adawodd a'r Methodistiaid, ac ymunodd
a'r Eglwys Forafaidd. Bu farw yn 1755.
Dywed Tyerman am dano : " Meddai
Cennick ei wendidau ; ond mewn bod yn
farw i'r byd, mewn cymundeb â Duw,
gwroldeb Cristionogol, ac amynedd siriol,
byddai yn anhawdd cael ei ragorach."
Ychwanega Tyerman, gan lefaru oddiar
safle Wesleyad : " Er ei Galfiniaeth, ac er
ei ddadleuon a John Wesley, yr ydym yn
caru y dyn."
Mab i weinidog Ymneillduol yn Bur-
ford, lle heb fod yn nepell o Rydychain,
oedd Joseph Humphreys ; ac er fod ei
enw yn Gymreig, nid oes un sicrwydd ei
fod o haniad Cymreig. Ganwyd ef Hydref
28, 1720, felly yr oedd ychydig dros ddwy-
flwydd-ar-hugain oed adeg y Gymdeithasfa
yn Watford. Cafodd addysg well na'r
cyffredin. Bu ei dad farw pan nad oedd
Joseph ond Ilanc tair-mlwydd-ar-ddeg ; a
chawsai yn ei ddydd ei ddirmygu gan
YmneiIIduwyr ac Eglwyswyr, oblegyd ei
zêl a'i fywyd Puritanaidd. Gwedi hyn
anfonwyd Joseph i ysgol yn Llundain, yn
mha un yr oedd dynion ieuainc yn cael eu
parotoi ar gyfer y weinidogaeth, a thuag
at y pwlpud yr edrychai yntau. Arferai
y Ilanciau a fwriedid i fod yn bregethwyr
gynal cyfarfodydd gweddi ; tylìiai yntau ei
hun yn ffbdus mewn cael bwrw ei goel-
bren yn mysg dynion ieuainc o'r fath
dduwioldeb a difrifwch ; ond yn fuan
gwelodd nad oedd yr oll ond clogyn, a'u
bod yn ddirgel yn ymroddi i chwareuon
annheilwng, yn gystal ag i ymddiddanion
cellweirus ac ofer. Y mae ymddiddanion
drwg yn Ilygru moesau da ; daeth Joseph
Humphreys yn fuan mor ysgafn a'r un o
honynt; ac yn y dirgel yn inffìdel. Rhodd-
odd râff" i'w nwydau llygredig, gan arwain
bywyd cyhoeddus annuwiol. Yn raddol
sobrodd drachefn, ymaelododd mewn
eglwys Ymneillduol yn Llundain, a dech-
reuodd bregethu, " ond yr oeddwn heb fy
argyhoeddi," meddai. Haf 1739, aeth i
wrando Whitefield, gweinidogaeth yr hwn
a ddylanwadai yn fawr arno ; wrth
weled y torfeydd yn ymwasgu yn awchus
i wrando yr efengyl, dywedai ynddo ei
hun : " Ni welwyd y fath beth yn Israel."
Ceisiodd gymdeithasu ag ef, ac un nos
cafodd y fraint o swpera gydag ef a
Howell Harris, a rhai brodyr eraill, mewn
gwesty yn Blackheath. Gwedi swpera,
aed i siarad am bethau crefydd ; aeth y
tafarndy yn gysegr ; teimlai Humphreys y
lle yn nefoedd ar y ddaear. Un diwrnod,
tra y canent emyn yn yr athrofa, Ile y
parhäi i fod yn efrydydd, cafodd y fath
brawf o gariad maddeuol Crist, fel y
toddodd ei galon o'i fewn, ac yr aeth ei
Iygaid yn ffynhonau o ddagrau. Holai ei
gyd-efrydwyr ef beth oedd y mater; ond yr
oll a allai ateb oedd ei fod yn ddedwydd.
Gwedi hyn, dechreuodd bregethu mewn
ystafell ddawnsio ; cafodd gynulleifaoedd
mawrion, a ffurfiodd yno gymdeithas
eglwysig, yn rhifo tua saith ugain o
aelodau. Pregethai yr athrawiaethau
Calfinaidd, pechadur yn cael ei gyfiawn-
hau gerbron Duw ar sail haeddiant lesu
Grist yn unig. Am hyn gwrthwynebwyd
ef yn yr athrofa, daeth yn wawd ei gyd-
efrydwyr, cafodd ei erlid gan ei athraw, a'i
adael gan ei gyfeillion, tybiwyd ei fod
wedi colli ei synwyrau, a Rhagfyr ig,
1739, cafodd ei esgymuno o'r sefydliad,
heb fod unrhyw gyhuddiad arall yn cael ei
ddwyn i'w erbyn. Ond er pob peth rhaid
oedd iddo gael pregethu, a bu yn gwein-
yddu i'r seiadau yn Deptford, Greenwich,
a Ratcliffe. Caffai ei erlid ; weithiau
byddai mewn perygl am ei fywyd, oblegyd
cerig yn cael eu Iluchio ato, ond ni ofalai.
Yn y flwyddyn 1741 unodd a Whitefield,
a phregethwr teithiol mewn cysylltiad ag
ef ydoedd pan ddaeth i Gymdeithasfa
Watford. Hawlia tegwch hanesyddol i
ni grybwyll na fu diwedd ei fywyd agos
mor ddysglaer a'r rhan gyntaf. Yn mhen
amser gadawodd Whitefield, gan gymeryd
ei ordeinio yn weinidog Presbyteraidd ; a
chwedi hyny urddwyd ef yn offeiriad yn
yr Eglwys Sefydledig. A dywedir ei fod
yn gwawdio y Methodistiaid, ac yn cyfeirio
at ei hanes yn ei mysg fel adeg ei wall-
gofrwydd.
Y mae aelodau eraill y Gymdeithasfa
or adnabyddus fel nad rhaid cyfeirio
igS
Y TADAU METHODISTAIDD.
atynt. Braidd na saif y Gymdeithasfa
hon ar ei phen ei hun yn hanes y byd.
Mewn difrif, edrycher arni, yn cael ei
gwneyd i fynu o chwech o ddynion ieuainc,
pob un dan ddeg-ar-hugain oed, wedi ym-
gynull mewn capel bychan ar lechwedd
y mynydd, i drefnu mesurau i ddwyn
Prydain at Grist ! Nid gwallgof ydynt ;
ac nid wynebu ar anturiaeth, heb ymdeimlo
a'i hanhawsderau, y maent ychwaith.
Y maent yn ofnadwy o ddifrifol, eu calonau
sydd yn berwi ynddynt gan gariad at yr
lesu, a zêl am achub eneidiau ; y mae
amryw o honynt yn barod yn adnabyddus
trwy Loegr a Chymru fel pregethwyr
digyíîelyb, y rhai gyda hyawdledd wedi ei
ieuo gydag efengyl bur, a fedrant dynu
miloedd i'w gwrando, a'u cadw am oriau
wyneb yn wyneb a sylweddau tragywydd-
oldeb. Edrychir arnynt gan ganoedd fel
eu tadau yn Nghrist, a cherir hwy mor
angherddol gan hiwer, fel y tynent eu
llygaid o'u penau iddynt. O'u cwmpas, yn
y capel diaddurn, y mae degau a gawsent
eu hargyhoeddi trwy eu hofferynohaeth,
ac mewn canlyniad a ddechreuasent
gynghori pechaduriaid ; ond yn awr ydynt
yn disgwyl yn bryderus am gael rhyw
gyfran benodol yn y gwaith ysprydol wedi
ei gyfiwyno iddynt. Cyfarfod lianesyddol
oedd y cynulliad ; teimHr ei ddylanwad
hyd y dydd hwn ; a diau y bydd ei hanes
yn fehis hyd byth gan bawb ag y mae Iles
ysprydol Cymru yn agos at eu calonau.
Gwaith cyntaf y cyfarfod oedd arhoH y
cynghorwyr cyhoedd, sef y rhai a arferent
deithio o gwmpas i bregethu, dan nawdd y
Diwygwyr. Èi henwau oeddynt Herbert
Jenkins, James Beaumont, Thomas James,
Morgan John Lewis, Benjamin Thomas,
John Jones, a Thomas Lewis. Deuant
oll dan ein sylw eto. Profwyd hwy a
chwestiynau celyd, a hyny nid yn unig
gyda golwg ar eangder eu gwybodaeth,
a'u huniongrededd,ond hefyd gyda golwg ar
waith gras ar eu calonau, eu cymhellion
i'r gwaith, a'r doniau a feddent fel cym-
hwysder ar ei gyfer. Gwedi bod yn ym-
ddiddan â hwy yn y capel hyd saith,
ymneillduwyd i balas Watford, ac yr oedd
yn agos i un o'r gloch y boreu pan eu
derbyniwyd yn aelodau o'r Gymdeithasfa.
Whitefield a John Cennick a gymerent y
rhan fwyaf blaenllaw yn yr ymddiddan.
A ddarfu i Howell Harris gael briw am
na chafodd ei osod yn y gadair, ac am fod
y ddau Sais yn cael Ile mwy amlwg nag
efe ? Yr ydym, oddiwrth rai dywediadau
yn ei ddydd-lyfr, yn tybio iddo gael.
Cawn ef yn achwyn ar yr ymosodiadau a
wnelai hunan arno : " Bydded i mi geisio
bod yn ddim," meddai ; " myfi yw y
gwaelaf, y balchaf, y dallaf, a'r gwaethaf
o bawb," meddai drachefn ; dywed ei fod
yn ofni agor ei enau, fod yn dda ganddo
mai i ran Whitefield y syrthiodd y gwaith,
yr ymawyddai am fod yn guddiedig a chael
ei anghofio ; ond fod prudd-der dirfawr wedi
ymdaenu drosto. Ymddengys hyn fel pe
bai yn ymladd yn erbyn rhyw siomiant a
gawsai yn y cyfarfod. Paham lai ? Dyn
a gwendid ynddo oedd yntau. Ond cafodd
fuddugoliaeth ar y teimlad anfoddog yn
fuan, a thyr allan i weddîo dros Whitefield,
yr offeiriaid, a'r cynghorwyr. Daeth y
pwnc o fyned dros y môr i'w flino drachefn;
dywed nad oedd wedi cael amlygiad clir o
feddwl yr Arglwydd ar y mater ; ond daeth
i hyn : " Os wyf i fyned, yr wyf yn dded-
wydd ; os nad wyf i fyned, yr wyf yn
ddedwydd ; ond bydded i mi gael gras i
ogoneddu Duw."
Boreu dydd lau, am wyth, pregethodd
Daniel Rowland, oddiar Rhuf. viii. i :
" Nid oes gan hyny yn awr ddim damned-
igaeth i'r rhai sydd yn Nghrist lesu ; " yr
oedd yn odfa nerthol. Dangosodd natur
cyfiawnder Crist, a'r perygl i'r athrawiaeth
am gyfiawnhad heb weithredoedd gael ei
chamddeall a'i chamddefnyddio. Dangos-
odd yn mhellach nodau y rhai a gawsent
eu cyfiawnhau trwy ras, nad ydynt yn
byw mewn pechod, nac yn cael pleser
ynddo ; ac eglurodd nodwedd y rhai sydd
yn rhodio yn ol yr Yspryd. Cafodd y
bregeth ddylanwad dwfn, yn enwedig ar
y pregethwyr ; teimlai Howell Harris ei
fod ef yn caru yr Yspryd Glân yn arbenig,
a dywedai James Beaumont ei fod ef wedi
cael cariad newydd at y Tri Pherson.
Ymffurfiodd y Gymdeithasfa drachefn am
un-ar-ddeg. Prif waith y cyfarfòd oedd
arholi y cynghorwyr anghyoedd, yr hyn
orchwyl a ymddiriedwyd yn benaf i
Howell Harris. Cafodd nerth rhyfedd
gyda hyn. Dywed fod ei sylwadau yn
cyrhaedd i'r byw ; iddo gyfeirio at y farn,
a thragywyddoldeb, a'r gyfraith, nes yr
oedd dychryn yn ymdaenu dros bawb ;
" yr oedd yn Ile ofnadwy," meddai.
Gwasgodd arnynt, os oeddynt yn teimlo
ddarfod i'r Yspryd Glân ymddiried gofal
yr ŵyn iddynt, y rhaid iddynt gael eu
llenwi a gofal tad, tynerwch mam, a chyd-
ymdeimlad brodyr ; fod arnynt eisiau yr
lesu yn yr oll o'i enwau, brenin, oíîeiriad,
Y GYMDEITHASFA.
199
a phrophwyd ; aç yn ei holl rasau, ffydd,
cariad, gostyngeiddrwydd, doethineb,
mwyneidd-dra, a thosturi. " Teimlwn
hwy," meddai, " fel rhan o honof fy hun ;
yr oeddwn yn foddlon bod yn arolygwr i
wyho drostynt ; ac yr oeddwn yn dra
chartrefol gyda hwynt. Darostyngwyd
hwythau hyd adref; deallent fod arnynt
eisiau pob cymhwysder." Buwyd yn y
capel hyd saith, yn ymdrin a gwahanol
faterion ; " ac yr oeddym oll yn cyduno ar
bob peth," meddai Howell Harris. Awd
gwedi hyny i'r t>' ; eisteddwyd i fynu hyd
gwedi deuddeg yn gorphen y gwaith, yn
gosod pob un yn ei le, ac yn trefnu y
Gymdeithasfa. " Yr oeddym yn llawn
cariad," meddai Harris, " yn sicr, yr oedd
yr Arglwydd gyda ni ; o gwmpas dau,
aethum i'm gwely yn hyfryd yn fy ys-
pryd." GweHr, os cafodd teimlad anniddig
le yn ei fynwes y dydd blaenorol, ei fod
erbyn hyn wedi diflanu yn llwyr ; fod
dylanwad yr Yspryd Glân wedi ei uno ef
a'r holl frodyr ynghyd, fel y mae dau
haiarn yn cael eu hasio mewn twym ias.
Yr oedd rhyw fân bethau, pa fodd bynag,
heb eu llwyr benderfynu ; a chyfododd y
brodyr o gwmpas haner awr wedi saith
dydd Gwener, i orphen y trefniadau.
" Erbyn deg," meddai Howell Harris,
" yr oeddym wedi trefnu ein hoU faterion,
ac yn llawn cariad. O'r fath heddwch,
doethineb, serch, a threfn a wehr pan y
rhoddir yr holl waith i ddwylaw yr Ar-
glwydd ! " Ymadawodd y nifer f^yyaf tua
chanol dydd, eithr arosodd Harris a John
Cennick i bregethu y noswaith hono.
Cawsant odfa ryfedd. Sylw Harris yw :
" Daeth Duw i lawr." Teimlai ei hun yn
cael ei dynu allan o hono ei hunan yn
felus pan y pregethai Cennick ; aeth ei
gadwynau yn ddarnau ; teimlai ei fod
mewn byd newydd, byd o ryddid. Yr
oedd yr effeithiau yn ddwysach pan yr
aeth ef ei hun i lefaru. " Yr oeddwn fel
yn yr amser gynt," meddai ; " dangosais
fod y rhai sydd yn meddu ffydd yn Nghrist
yn gweled gogoniant yr lesu, eu bod yn
aros yn yr Yspryd, yn caru eu gilydd, yn
meddu gwir zcl dros achos Duw ; eithr eu
bod yn myned allan o'r Yspryd yn fynych,
fel plentyn gwedi myned dros drothwy y
drws, yn cael ei hun yn ddiarwybod iddo
yn mysg y c\vn a'r moch, ond na faidd y
creaduriaid hyn ddyfod i'r tŷ. Yn sicr,
gwresogwyd Ilawer gan dân Duw. Yna
aeth yn floedd yn mysg y dorf." Dyddorol
yw deall na therfynodd y Gymdeithasfa
gyntaf, mwy na degau o Gymdeithasfaoedd
ar ei hol, heb arwyddion amlwg o'r Pres-
enoldeb dwyfol. Ymadawyd ynghanol
moliant a chân. Ac os oedd Ilethrau
mynydd Caerphili, a dyffrynoedd y Tâf a'r
Rhymney, yn adseinio y noswaith hono
gan glodforedd y dorf a ddychwelai adref
wedi yfed hyd at ddigon o felus win yr
iachawdwriaeth, nid oedd ond canlyniad
naturiol y dylanwadau a ddisgynent yn
ddibrin ar y liiaws a ymgasglasai ynghyd.
A ganlyn yw penderfyniadau y Gym-
deithasfa, fel eu ceir yn llawysgrif Howell
Harris : —
" ■'■ Cydunwyd fod y brodyr canlynol i
fod yn gynghorwyr cyhoedd ; sef Herbert
Jenkins, James Beaumont, Thomas James
(i fod fel y mae hyd nes y byddo ei am-
gylchiadau wedi cael eu trefnu), Morgan
John Lewis, Benjamin Thomas, John
Jones, a Thomas Lewis.
" Cydunwyd fod Richard Tibbott i fod
yn ymwelydd cyffredinol a'r seiadau.
" Cydunwyd fod y brodyr canlynol i fod
yn gynghorwyr anghyoedd : —
"James WiIIiams, i ymweled a'r cym-
deithasau yn Cayo, Talley, Llanfynydd, a
Llangathen.
" Morgan Hewes (felly y sillebir ei enw),
Cayo, Lledrod, a Rhydfendigaid.
" David Williams, Lledrod a Llanilar.
" Price Thomas, Pontargamddwr a
Charon.
" John Powell, Defynog.
" Wm. Evans, Llanddewi, Llandegle,
a LIandrindock (Llandrindod ?).
" Howell Griffith, Llantrisant a Glyn-
ogwr.
" Richard Thomas, Llanedern, ac i
gynorthwyo yn Watford.
" John Belsher, ymwelydd a'r brodyr
sengl yn Watford.
" Evan Thomas, Mynyddislwyn.
" WiIIiam Rice, ymwelydd a'r brodyr
priod yn Watford.
" Thomas Evans, i gymeryd gofal y
pethau a.llanol yn Watford.
" William Morgan, ymwelydd y gwŷr.
" Henry Harris, i gynorthwyo y brawd
l^rice.
" Thomas Price, i gymeryd gofal Wat-
ford.
" William Püwell, i gymeryd gofal y
seiadau yn ei dỳ.
" Stephen Jones, Glasgoeda'r Goetre.
" Thomas Lewis, Pentyrch a Newhouse.
* Trevecca Minutes.
200
Y TADAU METHODISTAIDD.
" Richard Jones, a John Deer, Aberthyn,
Llanilltyd, ac Aberddawen.
" Charles Powell, Glasbury a Bronllys.
" John Jones, Cwmdu a Grwynefechan.
" Morgan John, Palleg, Creunant, Llan-
ddeusant, a Cwmaman.
" Cymeradwywyd Wm. Harry, a John
Richards.
" Cydunwyd ar i'r brodyr a deimlent
betrusder gyda golwg ar dderbyn y sac-
rament yn yr Eglwys, oblegyd annuwiol-
deb yr oíìfeiriaid ; a chyda'r Ymneillduwyr,
oblegyd eu clauarineb, barhau i dderbyn
yn yr Eglwys, hyd nes yr agorai yr Ar-
glwydd ddrws amlwg i ni adael ei chymun-
deb.
" Cydunwyd na fyddai i'r un cynghorwr
gael ei dderbyn i'n mysg ond y sawl a
fyddai wedi ei gymeradwyo ; ac nad oedd
neb i fyned dros ei derfynau gosodedig heb
gael ymgynghoriad a chyfarwyddyd yn
gyntaf.
" Cydunwyd fod i bob cynghorwr ang-
hyoedd ddwyn adroddiad am y cymdeith-
asau sydd dan ei ofal, ynghyd a phwy a
fydd wedi cael eu derbyn i aelodiaeth,
i'r Gymdeithasfa, yr hon sydd i gael ei
chynal y Mercher cyntaf gwedi y ^^ain
o Fawrth, 1743.
" Gwelodd yr Arglwydd yn dda fod yn
mysg y brodyr, ac, yn ol pob ymddangosiad,
i lewyrchu ei wyneb ar eu hymgynghoriad.
Gogoniant yn y goruchaf i Dduw."
GweHr fod yspryd yr ysgrifenydd, yr
hwn nid oedd yn neb amgen na Howell
Harris, wedi gwresogi o'i fewn wrth
groniclo y cofnodion ; y mae ei draed ar
yr uchelfanau ; ac ymdora ei deimlad
brwdfrydig allan mewn moHant i'r Ar-
glwydd, yr hwn a'u harweiniasai yn eu
holl ymgynghoriadau. Y mae amryw
bethau yn y cofnodion sydd yn galw am
sylw. Gwelwn fod Watford yn cael ei
wneyd yn fath o ganolbwynt i'r symudiad.
Ai sefyllfa gyfleus y lle, fel man canolog
rhwng Cymru a Lloegr, oedd y rheswm
ani hyny, ynte cymhwysder Thomas
Price, perchenog a phreswylydd palas
Watford, at y gorchwylion y rhaid eu
cyflawni mewn lle o'r fath, nis gwyddom.
Y mae y penderfyniad yn anog y rhai
oeddynt yn betrusgar gyda golw^g ar pa le
y derbynient y cymundeb, i barhau i
wneyd hyny yn yr Eglwys Wladol, wedi
cael ei feirniadu yn Ilym. Meddai y Parch.
T. Rees, D.D. : * " Y màe y penderfyniad
* Histoìy of Protestant Nonconformity in Wales.
yn arddangos ymlyniad dull arweinw-yr
cyntaf y Methodistiaid wrth yr Eglwys
Sefydledig, pan yr anogent eu canlynwyr
i gymuno yn yr eglwysydd plwyfol gydag
ofifeiriaid annuwiol, yn hytrach na chyda
yr Ymneillduwyr clauar, pa mor dduwiol
bynag y gallent fod." Fod yr arweinwyr
Methodistaidd, yn arbenig Howell Harris,
yn dwyn mawr zêl dros yr Eglwys
Sefydledig, sydd sicr ; fel Eglwyswyr yr
edrychent arnynt eu hunain ; ac nid oedd-
ynt am adael ei chymundeb, oni orfodid
hwynt. Ond efallai nad oedd eu hymlyn-
iad mor ddall ag y myn Dr. Rees. Gellir
dwyn y rhesymau canlynol dros y pender-
fyniad y daethent iddo : (i) Anogaeth
ydoedd i'r rhai oeddent hyd hyny wedi
arfer cymuno yn yr Eglwys ; proíir hyny
gan y gair " parhau ; " nid oes yma gym-
aint ag awgrym i'r Ymneillduwyr i adael
yr enwad i ba un y perthynent. (2) Yr
oedd yr oerni a'r clauarineb ysprydol oedd
wedi meddianu llawer o'r eglwysi Ym-
neillduol yr adeg hon, yn gymaint rhwystr
ar fFordd crefydd yn mryd y Tadau Meth-
odistaidd, a buchedd anfoesol yr off"eiriaid.
Yn eu golwg hwy nis gallai oerni ysprydol
a duwioldeb gyd-drigo. Nis gallai dyn
wedi ei ferwi gan y diwygiad, a'i galon yn
Ilosgi ynddo gan gariad at y Gwaredwr,
lai na theimlo gwTthnaws o'i fewn wrth
weled gwasanaeth y cymundeb yn cael ei
gyflawni gan weinidog a'i yspryd ynddo mor
oer a'r rhew. Ac mewn aml i fan yr oedd yr
oerni yn gynyrch syniadau anefengylaidd
am berson Crist, a natur yr iawn a
roddodd. Yn yr Eglwys, pa mor an-
fucheddol bynag y gallai yr offeiriad a
weinyddai fod, yr oedd y gwasanaeth
a ddarllenid ganddo yn ardderchog, ac yn
Ilaw^n maeth i dduwioldeb. (3) " Hyd
nes y rhoddai yr Arglwydd ddrws agored
iddynt i adael cymundeb yr Eglwys," yr
oedd yr anogaeth. Felly y dywed y pen-
derfyniad. Ymddangosai yr adeg yn ymyl
iddynt ar y pryd ; yr oedd gwaith rhai o'r
offeiriaid yn gwrthod y sacrament i'w
canlynwyr fel yn dwyn pethau i argyfwng;
ac os y dymunent i'r rhai a gawsent eu
hargyhoeddi trwy eu gweinidogaeth barhau
ynghyd, heb fod rhai yn ymuno a'r
blaid yma, a'r lleill a'r blaid arall, pwy
a fedr eu beio ? (4) Yr oedd yspryd
diflas, ac, i raddau, erledigaethus, at y
Methodistiaid, fel yr ydym wedi sylwi
yn barod, wedi cael lle erbyn hyn yn
mynwesau Ilawer o'r gweinidogion Ym-
neillduol, ac yn eu heglwysi. Mewn rhai
Y GYMDEITHASFA.
eglwysi awd inor bell ag atal o gymundeb y
rhai a fynychent gyfarfodydd y Method-
istiaid. '•' Yn nghofnodau Cymdeithasfa
Fisol Glanyrafonddu, a gynhaliwyd Ebrill
17, 1744, ceir cyfeiriad at un Thomas
Dafydd, a gawsai ei ddiarddel gan yr
Ymneillduwyr oblegyd ymgyfathrachu a'r
Methodistiaid, a chaniateir iddo aelod-
iaeth, a gwasanaethu fel cynghorwr ang-
hyoedd ar brawf, tan arolygiaeth y brawd
James Williams, ond nad ydyw i adael ei
alwedigaeth. Yr ydym wedi crybwyll am
hen wraig, o'r enw Betti Thomas, yn cael
ei bygwth ag esgymundod oblegyd yr un
peth, yn ngodreu Sir Aberteifì. Ffynai
yr un teimlad yn Lloegr, lle y dyoddefodd
y duwiol a'r diragfarn Dr. Doddridge ei
erhd yn dost gan yr Ymneillduwyr, am
ymgyfathrachu a'r Methodistiaid. Yr oedd
yr ysprydiaeth yma yn naturiol wedi
cynyrchu diflasdod yn y Methodistiaid
at yr Ymneillduwyr, nes erbyn hyn yr
oeddynt wedi myned, mewn llawer man,
yn bur bell oddiwrth eu gilydd. Erbyn
cymeryd yr oll i ystyriaeth nid yw pen-
derfyniad y Gymdeithasfa yn Watford,
gyda golwg ar gymuno yn yr Eglwys,
mewn un modd i synu ato.
Nid oes unrhyw gyfeiriad at Howell
Harris, na neb o'r offeiriaid, yn mhender-
fyniadau y Gymdeithasfa ; ond y mae eu
gwaith yn cael ei benodi yn y nodiad, a
ddifynwyd genym yn barod, sydd yn
blaenori y cofnodau ; sef fod y brawd
Harris i arolygu yr hoU eglwysi a'r cyng-
horwyr, a bod y gweinidogion ordeiniedig i
fyned o gwmpas hyd byth ag y medrent.
Cafodd Howell Harris y gorchwyl a ddy-
munai ei galon. Os oedd yn bryderus cyn
i'r Gymdeithasfa gyfarfod, yr oedd ei \ s-
pryd yn Ilawn hyder a gorfoledd gwedi
iddi fyned trosodd. " Penderfynwyd gan
yr Arglwydd," meddai, "gyda golwg ar fy
arosiad yn Nghymru, fy mod i aros i drefnu
y cymdeithasau, i ddarllen, ac i ysgrifenu
hyd byth ag y caniata fy nghorph. Wrth
weled cynllun Duw, fel y dymunaswn iddo
fod, Ilanwyd fy enaid á chariad, fel y
llefwn : 'Ü, gad i mi ddwyn dy holl feich-
iau di.' Aeth fy nghalon gyda'r rhai a
ymadawent a'r Gymdeithasfa." Ymadaw-
odd yntau dydd Sadwrn, ond nid cyn
gweddío yn daer am gael ei gynysgaeddu
yn helaeth a'r cymhwysderau gofynol i'w
waith. "O, lesu," Ilefai, "er mwyn dy
ogoniant dy hun, a'th enw, a'th achos,
* Trevecca Mimites.
dyro i mi ffydd, cariad, gallu, a phob don-
iau, gan fy mod yn eu gofyn er dy fwyn di
a'th ogoniant, ac nid i mi fy hun, nid hyd
yn nod er mwyn fy iachawdwriaeth ; a
dyro dy fendith ar fy Ilafur." Cyd-deithiai
amryw frodyr gydag ef, ac yn eu mysg
Beaumont a Cennick. Cyrhaeddasant
Gelligaer erbyn tua deuddeg. Wrth fod
Beaumont yn gofyn bendith ar yr ymborth
yno, cafodd Howell Harris ymweliad o'r
nefoedd ; gweddíodd yn dufewnol am gym-
horth i fugeilio yr ŵyn ; am bob doethineb,
cariad, tynerwch, a gofal angenrheidiol at
y gorchwyl ; a dy wed ei fod yn teimlo
yspryd y bugail yn barod o'i fewn. Aeth
Harris yn ei fíaen trwy Cantref, Ile y
treuliodd ran o'r Sabbath, Felinfach, a
Llywel, gan ddychwelyd i Drefecca dydd
lau. Ni fu yno ond dau ddiwrnod, gan fod
trefnu y cymdeithasau yn unol â phender-
fyniad y Gymdeithasfa, a dwyn yr holl
gynghorwyr i ufudd-dod, yn galw arno i
fyned o gwmpas. Eithr gwelodd ryw
ogoniant yn Nghrist cyn cychwyn i'w
daith, na welsai ei gyffelyb erioed o'r
blaen, a hyny yn benaf trwy ddarllen Ilyfr
wedi cael ei ysgrifenu gan un o'r Bedydd-
wyr ar natur eglwys. Dywed fod dynion
yn ymranu yn bleidiau, er fod natur yr eg-
Iwys yn ysprydol, ond fod yr Yspryd yn
bendithio rhywbeth perthynol i bob un
iddo ef, a'i fod yn rhydd oddiwrth fod
mewn caethiwed i blaid.
Erbyn y Gymdeithasfa Fisol yn Llan-
ddeusant, yr hon a gynhaliwyd Chwefror
3, 1743, yr oedd wedi teithio trwy ranau
helaeth o Siroedd Brycheiniog, Mynwy, a
Morganwg, gan sefydlu y seiadau, a phre-
gethu yr efengyl. Ni ddywedir pwy oedd
yn bresenol yno, rhoddir yn unig y pen-
derfyniadau, y rhai sydd fel y canlyn : —
" Fod y rhai sydd yn cynghori mewn un
seiad i barhau, fel yr ydym yn awr yn eu
cymeradwyo, ar yr amod eu bod yn dyfod
i'n Cymdeithasfa nesaf.
" Fod y brodyr W. WiIIiams, Cerig-
cadarn ; W'iIIiam John, Lancothi ; Jenkin
Jenkins, Llandefathen ; David Rees, Tir-
abbad ; Hopkin John, a John Meyrick, i fod
fel y maent yn awr yn cael eu trefnu, a'u
bod i ddyfod i'r Gymdeithasfa nesaf.
"Fod y rhai canlynol i gael eu dystewi
hyd y Gymdeithasfa nesaf, ac i gyfarfod â
ni yno, sef James Tomkins ; David Price,
Dyserth ; Richard Thomas, Ystradfellte ;
John David, Llandyfeilog ; John Watkins,
Defynog; a Thomas Price, Llandilo Fach.
" Fod y brawd John Jones, Cayo, i ym-
202
y TADAU METHODISTAIDD.
sefydlu yn agos i Gastellnedd, ac i arolygu
bob yn ail wythnos y seiadau yn Creunant,
Hafod, Castellnedd, Palleg, Cwmamman,
Llandilo Fach, Llangyfelach, Llansamlet,
Llanddeusant, Blaen Llywel, Casllwchwr,
Llanon, Pembre, a Defynog, gyda y brawd
John Richard ; a'u bod i gael eu cyn-
orthwyo gan y brawd Jeffrey Dafydd yn
Llanddeusant, John Powell yn Defynog,
Jenkin John yn Llywel, Edward Meyrick
yn Pembre, a George PhilHps yn Nghas-
tellnedd a'r Hafod.
"Fod y brawd Richard WilHam Dafydd
i arolygu y seiadau yn Llandyfaelog, Cil-
garw, Llanddarog, a Chaerfyrddin.
" Fod y brawd John Rees i gynghori dan
ofal y parchedig frawd WiUiam W^ilhams.
" Fod y brawd WilHam Richard i arolygu
y seiadau canlynol: Blaenheinaf (Blaen-
hoffnant), Dyffryn Saith, Blaenporth, Twr-
gwyn, Llechryd, a Lhmfair-y-Uwyn.
"Fod y brawd Wilham Harry i gadw
ysgol yn Sir Gaernarfon, ac i gynghori yn
y gymydogaeth, hyd byth ag y medr, rhwng
oriau yr ysgol.
" Fod y brawd WiUiam John, Llanwrda,
a'r brawd Dafydd, i gynorthwyo y brawd
James WilHams yn seiadau Llanwrda,
Llansadwrn, Cilgarw, a TaHey.
"Fod y brawd Richard Tibbot i gadw
ysgol yn Sir Benfro.
"Fod y brawd John Dafydd i lefaru ar
brawf o flaen y brodyr yn seiadau Llan-
dyfaelog, a Chilgarw, hyd nes cawn farn y
brodyr."
Dyma gofnodau Cyfarfod Misol cyntaf
Sir Gaerfyrddin. Gwehr mor debyg oedd
ei waith a'i ardduH i eiddo Cyfarfod Misol
yr amser presenol. Awgryma y cofnodau
amryw gwestiynau dyddorol, nad oes
genym hamdden i sylwi arnynt ; ond rhaid
i ni ddifynu rhan o ddydd-lyfr HoweU
Harris gyda golwg ar y cyfarfod. Fel hyn
yr ysgrifena : " Cymdeithasfa Fisol yn
Llanddeusant. Ar y ffordd yno yr oeddwn
yn sych, a marw, a difater ; ond yn y man,
trwy gredu fod Duw wedi fy ngharu fel yr
ydwyf, yn galed ac yn ddifater, dechreuodd
cariad gynhesu yn fy enaid, a goHyngwyd
íì yn rhydd. Gwelaf fod Duw yn fy
ngharu yn fy mhechod, heb yr un rheswm
am hyny, ond am mai feHy y rhynga bodd
yn ei olwg. Teimlais ynof fod Duw yn
myned i wneyd rhyw bethau mawrion ynof
fi, neu i mi, neu drwof fi, neu erof fi. Am
y rhan fwyaf o'r ff"ordd yr oedd fy nghalon
yn Hosgi ynof fel pentewyn o'r tân.
Daethum i'r He gwedi deuddeg, ac yno yr
eisteddasom yn penderfynu materion y
seiadau hyd yn agos i saith, ac mewn
gweddi. Dygodd yr Arglwydd fi y tufewn
i'r Hen, a chadwodd fi yno yn hyfryd, am y
rhan fwyaf o'r amser. Myfi yw y gwaelaf
o honynt oH, ond yr hyn a ofnais a fuasai
yn faich i mi a wnaed yn hawdd ac yn
ifelus. Cytunasom oH. Yn sicr yr oedd
yr Arglwydd yno. Ond wrth ganu yr
hymnau diweddaf, cyneuwyd ynom y fath
íflam fel na allem ymadael; yn sicr tostur-
iodd yr lesu wrthym ; ac er fy mod (yn
flaenorol) yn ddifater, cyneuwyd ynof y
fath gariad at y brodyr, fel yr oeddwn fel
gwreichionen o dân mewn fflam. A phan
y gwelais fod un o'r brodyr i fyned i Ogledd
Cymru, darfu i fy enaid yn wir fendithio
Duw am hyny. Wrth ganfod fod y nerth
oH, fel pe bai, gyda y brawd Rowland,
teimlais fy enaid yn ddiolchgar ynof; yr
oeddwn yn foddlon cael fy yspeilio o'm
nerth a'm doniau er mwyn iddo ef gael yr
oH ; Ilawenychais a bendithiais Dduw yn
wir wrth ei weled ef mor llawn o Dduw.
O, fel y gwresogem ynghyd ! Gwedi eis-
tedd a threfnu ein holl amgylchiadau,
gwrandewais ar un o'r brodyr yn cynghori
hyd nes oedd wedi naw. O'r fath bethau
y mae yr Arglwydd yn myned i'w cyflawni
ar y ddaear, yn neillduol erof ac ynof fi !
0"r fath newyddion a glywais o Sir Aber-
teifì, y fath dywalltiadau o'r Yspryd sydd
yno, y fath fflamiau o gariad ! Fflamiai
fy nghalon, a Ilosgai ynof fel pentewyn glo,
wrth ganfod fel y mae Duw yn rhoddi
gallu, a zêl, a goleuni i'r brodyr." Gwelir
ddarfod i'r Cyfarfod Misol cyntaf derfynu
mewn moliant ; fod y brodyr yno oll yn
gytun ac yn cydweled ; fod doniau ar-
dderchog Rowland yn rhoddi iddo y flaen-
oriaeth ar bawb yn ngolwg Howell Flarris,
a'i fod yntau yn gallu bendithio Duw y
nefoedd o herwydd y gras a arddangosid
ynddo.
Yn nghofnodau Trefecca rhoddir hanes
cyfarfod a gynhaHwyd yn Nhrefecca,
Chwefror 7, 1743, sef yn mhen pedwar
diwrnod gwedi Cyfarfod Misol Llanddeu-
sant. Dibwys oedd y penderfyniadau a
basiwyd, ac yr oedd y rhai hyny i gael eu
cyflwyno i ystyriaeth bellach y Gym-
deithasfa. Y tebygolrwydd yw nad oedd
yn Gyfarfod Misol rheolaidd, a gwelwn
oddiwrth ddydd-lyfr Howell Harris nad
oedd efe yn bresenol.
Cynhaliwyd cyfarfod yn Tyfyn, neu
Tyddyn, Sir Drefaldwyn, Chwefror 17,
pan y penderfynwyd fod y brodyr Morgan
Y GYMDEITHASFA.
203
Hughes, Benj. Cadman, a Lewis Evan i
gymeryd gofal y seiadau yn Tyddyn,
Llanidloes, Llanllugan, Llanwyddelan,
Bwlchyrliwyaid, a INIochdre, gyda Thomas
Bowen fel goruchwyhwr neu genhadwr. Yr
oedd HoweU Harris yn hwn ; eithr y mae
yn amheus a oedd yn gyfarfod rheolaidd ; y
tebygolrwydd yw mai cymeryd mantais ar
bresenoldeb y Diwygiwr o Drefecca a
wnaed i ymgynghori ar ychydig bethau.
Rhaid mai byr hefyd fu yr ymgynghoriad,
oblegyd dywed Harris yn ei ddydd-lyfr
iddo fod yn ysgrifenu hyd o gwmpas deg,
ac y mae yn pregethu yn Nhrefeglwys,
pellder o ryw saith milldir, o gwmpas
deuddeg. Tebyg mai gwedi yr odfa y nos
flaenorol y bu yr ymgynghoriad.
Yn ganlynol, cawn gyfarfod yn Llan-
wrtyd, na roddir ei ddyddiad, pan y gosod-
wyd yr holl gynghorwyr yn y rhan hono
tan ofal y Parch. W. Williams, oedd ar y
pryd yn guwrad yn Llanwrtyd.
Mawrth i, 1743, cynhaHwyd Cymdeith-
asfa Fisol dra phwysig yn GÌanyrafonddu,
Sir Gaerfyrddin, yn mha un y gwnaed
cryn nifer o drefniadau, ac y cydunwyd ar
nifer o gynygion i'w cyflwyno i'r Gym-
deithasfa Chwarterol oedd i gael ei chynal
yn Watford. Yn mysg pethau eraill
penderfynwyd : —
" Fod y brawd David WiUiams, Llan-
gyndeyrn, i gynghori yn unig gerbron y
brodyr, yn y cymdeithasau preiíat agosaf,
hyd nes y byddo wedi cael tystiolaeth
oddiwrthynt, a'i fod i ddyfod i'n Cym-
deithasfa nesaf i gael ei hoU.
" Fod y rhai canlynol i gael eu dystewi,
am ein bod yn argyhoeddedig nad ydynt
wedi cael eu hanfon gan Dduw : James
Tomlíins ; Richard Thomas, Ystradfellte ;
John W' atkins, Defynog ; a Thomas Price,
Llandilo Fach.
" Fod y brawd John Richard, Llan-
samlet, i gymeryd gofal, ac i gynghori yn
seiadau Cefnfedw, Blaencrai, Llanddeu-
sant, Cwmaman, Llanon, Pembre, Cas-
llwchwr, Llandafen, Llandremor, Llan-
gyfelach, Llansamlet, Castellnedd, Hafod,
Creunant, a Talley ; ei fod i ymweled â
hwy unwaith bob pythefnos, un bob dydd,
ac i gael ei gynorthwyo gan John Jones,
Cayo, yr hwn sydd i ymweled â hwy
unwaith yn y mis, gan fyned o gwmpas
un wythnos, a gweithio yr wythnos aralL
" Fod y brawd William Harry i gadw
ysgol yn Sir Gaernarfon ; a'r brawd
Richard Tibbott i gadw ysgol yn Sir
Benfro.
"Fod y braw^d John David, o Landy-
faelog, i lefaru yn seiadau Llandyfaelog
a Chilgarw, ar brawf, gerbron y brodyr,
hyd y Gymdeithasfa nesaf, pan y disgwylir
barn y brodyr o berthynas iddo.
" Fod Hopkin John, Llangyfelach ; John
Meyrick, Llandafen ; a John Jones, Llan-
dyfalle, y rhai na ddaetfiant hyd yn hyn
i'n Cymdeithasfa i gael eu hoh, i aros yn
y lleoedd a benodwyd iddynt fel y maent
wedi eu sefydlu, ar yr amod eu bod yn
dyfod y tro nesaf, os bydd hyny yn gyfleus
iddynt."
Yr ydym yn rhoddi Ile i'r cofnodau hyn,
oblegyd eu bod yn ddangoseg o'r modd y
gweithredai y Methodistiaid yn eu Cym-
deithasfaoedd, a'u Cyfarfodydd Misol cyn-
taf ; mor fanwl oeddynt yn eu trefniadau,
ac mor ddidderbyn wyneb a chydwybodol.
Am lawer o'r cynghorwyr y cyfeirir atynt,
y mae pob peth perthynol iddynt ond eu
henwau wedi myned yn anghof; nid oes
efallai gymaint a thraddodiad o barthed
iddynt ar gael yn yr ardaloedd lle y pres-
wyíient ; nid oes adswn o'u hanes wedi
cyrhaedd i lawr i'n hoes ni ; ac eto, y mae
yn sicr fod rhai o honynt yn ddynion o
ddefnyddioldeb mawr, os mewn cylchoedd
cymharol gyfyng ; eu bod yn Ilawn zêl ac
ymroddiad, ac nid oes ond y dydd hwnw a
ddengys faint yr aberth a wnaethant dros
yr Arglwydd lesu, a pha mor ddyledus yw
y cyfundeb Methodistaidd hyd yn nod y
dydd hwni i'w llafur cariad.
Pasiwyd hefyd y penderfyniadau dilynol
fel cynygion i'w cyflwyno i'r Gymdeithasfa :
" Fod y Gymdeithasfa GyfFredinol o weini-
dogion a chynghorwyr, sydd yn unedig yn
Lloegr a Chymru, i gyfarfod yn unig bob
haner blwyddyn, oblegyd y pellder mawr.
Fod y brodyr Saesnig i gyfarfod unwaith
cydrhwng, felly hefyd y brodyr Cymreig,
rywle tua chanol y Deheudir, fel y pender-
fynir ; ond eu bod i ymohebu yn fisol trwy
Iythyrau. Fod cynifer ag a fedr o'rgweini-
dogion, a'r cynghorwyr cyhoedd, i gyfarfod
unwaith y mis, neu ddwywaith rhwng pob
Cymdeithasfa Chwarterol, neu i anfon eu
llythyrau. Fod gofal cyfifredinol yr holl
achos i gael ei gyflwyno i'r gweinidogion or-
deiniedig, sef ^íeistri Whitefield, Rowland,
Howell Davies, John Powell, Thomas
Lewis, a William Williams ; ac fel ym-
welwyr cyffredinol, neu gynorthwywyr, dan
y chwech gweinidog hyn, fod y chwech
canlynol i gael eu hapwyntio, sef Meistri
John Cennick, Thomas Adams, a Joseph
Humphreys, yn Lloegr ; a Meistri Howell
204
y TADAU METHODISTAIDD.
Harris, James Beaumont, a Herbert Jen-
kins, yn Nghymrii ; eu bod i gael fel cyn-
orthwywyr, ermwynarolygiaeth fanylach,y
chwech cynghorwr anghyoedd a ganlyn, pob
un o honynt i gael cylch a gofal neillduol,
sef John Richard, WilHam Richard, John
Harris, Thomas James, John Jones, a
Morgan John (Morgan John Lewis, yn
ddiau), deuddeg cymdeithas yr un, neu hii,
iddynt; a Morgan Hughes, JamesWilhams,
Milbourn Bloom, Thomas Lewis, Thomas
W^ilhams, Richard WilHam David, chwech
cymdeithas yr un. Yn gyflawn, 6 gweini-
dog urddedig, 6 i'w cynorthwyo ; 6 cyng-
horwr c'ros ddeuddeg o seiadau, a 6 dros
chwech o seiadau. Fod yr holl gynghor-
wyr anghyoedd eraiH i roddi cyfrif am yr
un neu ddwy gymdeithas sydd o dan eu
gofal i'r ymwelydd cyffredinol a fyddo wedi
ei osod drostynt; fel y byddo adroddiad,
yn bersonol neu trwy lythyr, yn cael ei
dderbyn yn mhob Cyfarfod Misol. Pan
fyddo un yn cynyg ei hun fel cynghorwr,
ei fod i gynghori yn mlaenaf yn y cym-
deithasau preifat; ac yn gyntaf i dderbyn
cymeradwyaeth rhyw Gristion, neu Grist-
ionogion difrifol a phrofiadol, a'i clywsant
ef yn aml ; yn ail, barn tri neu bedwar o'r
cynghorwyr anghyoedd a chyhoedd, a'r
gweinidogion ordeiniedig ; ac yn drydydd,
ei fod i gael ei arholi parthed ei ras, galwad,
cymhwysderau, doniau, ac athrawiaeth.
Mewn trefn i ofalu am y tlawd a'r afiach,
ac am yr arian a gesglir, ac i fod yn genad
y gymdeithas, ac yn dangnefedd-wneu-
thurwr ; fod goruchwyliwr neu ddau i gael
eu dewis yn mhob seiat. Mewn cysylltiad a'r
6 cynghorwr y cyfeiriwyd atynt, sef John
Cennick, Howell Harris, &c., y rhai ydynt
i fod yn gynorthwywyr y gweinidogion or-
deiniedig, eu bod heb unrhyw derfynau
gosodedig gyda golwg ar leoedd, ond i
fyned o gwmpas fel y byddo galwad, eithr
Howell Harris gan mwyaf yn Nghymru ;
a'r 12 cynghorwr arall y cyfeiriwyd atynt
i gael terfynau penodol, y rhai y gellir
eu newid trwy ymgynghoriad a'r gym-
deithas."
Cynhaliwyd yr ail Gymdeithasfa Chwar-
terol yn Watford, EbriII 6ed a'r yfed,
1743. Yr oedd yn bresenol o weinidogion
ordeiniedig, Meistri Whitefield, WiIIiam
WiIIiams, a Thomas Lewis, yn nghyd a
Henry Davies, YmneiIIduwr. O'r arol-
ygwyr, yr oedd yn bresenol Meistri
Harris, Herbert Jenkins, Thomas James,
James Beaumont,^ Morgan Hughes, Mor-
gan John Lewis, Thomas WiIIiams, a
Thomas Adams. Dewiswyd Mr. White-
field yn Ilywydd, yr hwn a agorodd y
Gymdeithasfa gyda phregeth ar y geiriau :
" Ac Enoch a rodiodd gyda Duw." Ym-
ddengys iddo gael cymorth anarferol.
Ysgrifena Whitefield yn ei ddydd-Iyfr :
" Dydd Mercher, ar haner dydd, agorais y
Gymdeithasfa, gydag anerchiad difrifol ac
agos, ar rodio gyda Duw. Teimlai y
brodyr a'r bobl lawer o'r presenoldeb
dwyfol. Gwedi hyny aethom at y trefn-
iadau. Penderfynwyd amryw faterion o
bwysigrwydd mawr. Torasom i fynu o
gwmpas saith ; cyfarfyddasom drachefn
am ddeg, a pharhasom yn penderfynu
pethau perthynol i'r seiadau hyd ddau o'r
gloch y boreu, Dydd lau, eisteddasom
drachefn hyd bedwar yn y prydnhawn.
Yna, wedi cymeryd Iluniaeth, pregethais
ar orphwysdra y credadyn ; gwedi hyny
aethom yn y blaen gyda'r trefniadau, gan
orphen y Gymdeithasfa o gwmpas haner
nos."
Y mae pregeth agoriadol Whitefield ar
gael, a diau ei bod yn un o'i oreuon.
Temtir ni i ddifynu rhanau o honi : " Ni
symudir y pechod preswyliedig yn hollol,"
meddai, " hyd nes y byddom yn crymu
ein pen, ac yn rhoddi i fynu yr yspryd,
Llefara yr Apostol Paul am dano ei hun
yn ddiau, a hyny nid pan oedd yn Pharisead,
ond yn Gristion gwirioneddol, pan yr
achwyna fod y drwg yn bresenol gydag
ef, pan yr ewyllysiai wneuthur da ; yn
bresenol gydag ef, nid yn meddu Ilyw-
odraeth arno, ond yn gwrthwynebu ac yn
rhwystro ei fwriadau a'i actau daionus, fel
na fedrai gyflawni yr hyn a ewyllysiai i'r
perffeithrwydd ag y dymunai y dyn
newydd. Dyma a eilw yn bechod yn
preswylio ynddo. Ond am allu Ilywodr-
aethol pechod, y mae yn cael ei ddinystrio
yn mhob enaid sydd wedi ei eni yn wirion-
eddol o Dduw ; a gwanheir ef yn raddol
fel y byddo y credadyn yn cynyddu mewn
gras, ac fel y byddo Yspryd Duw yn
cael goruchafiaeth fwyfwy yn ei galon."
Meddai drachefn : " Gweddi ! gweddi !
gweddi ! Y mae yn dwyn Duw a dyn at
eu gilydd, ac yn eu cadw ynghyd ; y mae
yn dyrchafu dyn at Dduw, ac yn tynu
Duw i lawr at ddyn. Os dymunech rodio
gyda Duw, gweddíwch ; gweddíwch yn
ddibaid. Byddwch yn aml mewn gweddi
ddirgel. Pan gyda gorchwylion cyffredin
bywyd arferwch saeth-weddíau yn barhaus.
Anfonwch, o bryd i bryd, lythyrau byrion
i'r nefoedd, ar adenydd ffydd. Cyrhaedd-
Y GYMDEITHASFA,
205
ant hyd galon Duw, a dychwelant yn
llwythog o fendithion." Gyda chyfeiriad
at yr hyn y cyhuddid ef yn fynych o hono,
sylwa gyda medr mawr : " Er mai hanfod
penboethni yw honi ein bod yn cael ein
harwain gan yr Yspryd heb y Gair
ysgrifenedig ; eto dyledswydd pob Cristion
yw cymeryd ei arwain gan yr Yspryd
mewn undeb a'r Gair ysgrifenedig. Yr
wyf yn dymuno arnoch, gan hyny, O
gredinwyr, ar i chwi wyho symudiadau
Yspryd y Duw bendigedig yn eich calonau;
a phrofwch eich syniadau a'ch cymhelHon
wrth Air difeth a sanctaidd Duw. Trwy
arfer y rhagochehad hwn, chwi a hwyhwch
yn ddyogel yn y canol rhwng dau eithaf
peryglus, sef penboethni ar y naiU law, a
Deistiaeth ac anfFyddiaeth ronc ar y Ilaw
arall. Terfyna mewn diweddglo hyawdl :
" Un gair," meddai, " un gair wrth fy
mrodyr yn y weinidogaeth, ac yna byddaf
wedi gorphen. Chwi a welwch, fy mrodyr,
fod fy nghalon yn llawn ; braidd na allwn
ddweyd ei bod yn rhy lawn i lefaru, ac eto
yn rhy lawn i fod yn ddystaw, heb ddyferu
gair i chwi. Sylwais ar ddechreu yr
anerchiad fod Enoch, yn ol pob tebyg, yn
ddyn cyhoeddus, ac yn bregethwr tanllyd.
Er ei fod wedi marw, y mae yn llefaru eto
wrthym ni, i fywiocau ein zêl, ac i'n
gwneyd yn fwy ymdrechgar yn ngwasan-
aeth ein Meistr gogoneddus a bendigedig.
Sut y pregethodd Enoch ? Pa fodd y
rhodiodd gyda Duw ? Bydded i ni ei
ddilyn, fel yr oedd efe yn ddilynwr Crist.
Y mae y barnwr wrth y drws. Yr hwn
sydd yn dyfod a ddaw, ac nid oeda. Y
mae ei wobr gydag ef ; ac os byddwn ni
yn zêlog dros Arglwydd y lluoedd, cawn
heb fod yn hir lewyrchu fel y sêr yn
y ffurfafen yn nheyrnas ein Tad byth
bythoedd."
Felly y pregethai Whitefìeld gerbron y
Gymdeithasfa yn Watford, ac nid rhyfedd
fod y fraw'doliaeth yn toddi dan ddylanwad
ei ymadroddion. Daw ei ddoniau godidog
i'rgolwg yn amlwg yn y difyniadau byrion
hyn. Y mae yspryd y peth byw i'w
deimlo ynddynt. Er fod ei bresenoldeb
yn absenol, ac nas gallwn glywed acenion
ei lais, y llais melus a allai wladeiddio
cynulleiddfa a'i llwyr goncro, meddir,
trwy yn unig íîoeddio y gair " Meso-
potamia ; " eto, canfyddwn ynddynt yn
amlwg nodweddion y gwir areithiwr. Y
mae mor amlwg a hyny nad mewn llais a
thraddodiad yn unig y gorweddai cuddiad
ei nerth, ond ei fod yn dduwinydd gwych.
ac yn fanwl ac yn athronyddol yn nghyfan-
soddiad ei bregeth.
A ganlyn yw prif benderfyniadau y
Gymdeithasfa : " Fod y Parch. Mr. Will-
iams i adael ei guwradiaeth, ac i fod yn
gynorthwywr i'r Parch. Mr. Rowland.
Fod y brawd Howell Harris i fod yn
arolygydd dros Gyniru, ac i fyned i
Loegr pan elwir am dano. Fod y brawd
Herbert Jenkins i fod yn gynorthwywr i
Mr. Harris, ac hefyd i'r brodyr Saesonig.
Fod y brawd James Beaumont i gymeryd
arolygiaeth Sir Faesyfed, a Sir Henftbrdd,
ac i gael ei gynorthwyo gan y brodyr John
Williams, John Jones, William Evans,
David Price, ac hefyd gan Richard Lewis,
os cymeradwyir ef gan y Gymdeithasfa
Fisol. Fod y brawd Morgan Hughes, os
teimla ryddid i hyny, i arolygu Sir Dre-
faldwyn, gan gael ei gynorthwyo gan y
brodyr Lewis Evan, Benjamin Cadman, a
Thomas Bow^en (dalier sylw : gwedi hir
brawf newidiwyd hyn, a gosodwyd Richard
Tibbott yn ei le). Fod y brawd Thomas
James i arolygu rhan o Frycheiniog, hyd
yr afon W^ysg, ac i gael ei gynorthwyo
gan y brodyr T. Bowen, Ed. Bowen, T.
Bowen, Buallt, Jos. Saunders, John Will-
iams, Tregunter, W^ W^iIIiams, Jenkin
Jenkins, David Rees, a Rees Morgan.
Fod y brawd Morgan John Lewis i arolygu
cymdeithasau Dolygaer, Cwmdu, Cantref,
Defynog, a Llywel, oll yn Mrycheiniog ;
Llanddeusant, yn Sir Gaerfyrddin ; a
Mynwy, yr ochr arall i'r Wysg ; ac i gael
ei gynorthwyo gan y brodyr John Jones,
John Powell, Richard Thomas, John
Belsher, Evan Thomas, Stephen Jones,
Jeffrey David, a Jenkin John. Fod y
brawd Thomas Lewis i arolygu y cym-
deithasau rhwng y Passage a'r afon Wysg,
i gynorthwyo y brodyr Seisonig, pan elwir
am dano, ac i gael ei gynorthwyo gan y
brawd Geo. Cross. Fod y brawd Thomas
Williams i arolygu Morganwg mor bell a
Llantrisant, ac i gael ei gynorthwyo gan y
brodyr E. Evans, W. Powell, T. Price,
W. Edward, T. Lewis, R. Jones, J.
Yeoman, a H. Griffìth. Fod y brawd
John Harris i arolygu Sir Benfro, ei
gynorthwywyr i gael eu penderfynu yn
Nghymdeithasfa Fisol nesaf y sir. Fod y
brawd Milbourn Bloom i arolygu Sir
Gaerfyrddin hyd Gastellnedd, ac i gael ei
gynorthwyo gan Jno. Richards, ac eraill.
Fod y brawd James WiIIiams i arolygu y
rhan arall o Sir Gaerfyrddin, ac i gael ei
gynorthwyo gan nifer o frodyr. Fod y
2o6
Y TADAU METHODISTAIDD.
hrawd David Williams i arolygu Sir
Aberteifi." Tebygol mai David ẂiUiams,
Aberthyn, gwedi hyn, oedd y brawd
diweddaf.
Heblaw y trefniadau hyn, rhai a ddy-
nodant wyhadwriaeth ddyfal dros yr holl
gymdeithasau, pasiwyd, yn mysg eraill, y
penderfyniadau canlynol : " Fod yr ar-
olygwyr i gael rhyddid i bregethu ar eu
teithiau, os gelwir arnynt, ac os tybiant yn
eu calonau y byddai i'r brodyr yn y Gym-
deithasfa, pe yn gydnabyddus a'u ham-
gylchiadau, ganiatau iddynt ; nad yw y
brodyr yn credu yn eu calonau fod y brawd
James Tomkins wedi cael ei alw gan Dduw
i fod yn bregethwr, ac y maent yn pender-
fynu peidio ei gefnogi, a pheidio ei wahardd,
ond ei adael i'r Yspryd. Fod pawb sydd
yn tybio eu bod wedi cael eu galw i gyng-
hori i wneyd apêl i un o'r Cymdeithasfa-
oedd Misol, gan yr hon y gwneir ymchwihad
manwl i'w doniau, eu gras, a'u galwad ; os
cymeradwyir hwynt, y maent i gael maes
penodedig, fel y gwel y Gymdeithasfa yn
briodol ; ac y mae y cyfryw gymeradwy-
aeth i gael ei ddwyn i'r Gymdeithasfa
Gyffredinol, ac i gael ei gymeradwyo yno.
Fod yr arolygwyr i ddanfon adroddiad am
waith Duw yn eu meusydd neiUduol i Lun-
dain, i fod yno ddiwedd pob mis, ac i
gyfeirio eu Uythyrau at weinidog y Taber-
nacl, i ofal Mr. John Sims. Fod pob
arolygwr i feddu llyfr, yn mha un yr ys-
grifena enwau ei holl gynghorwyr anghy-
oedd, ac enwau pob aelod perthynol i'r
seiadau preifat, gan eu rhanu i ddynion
priod, gwragedd priod, dynion sengl,
benywod sengl, ac hefyd i ddwyn adrodd-
iad am ystâd pob seiat i'r Gymdeithasfa
Gyffredinol. Fod ysgrifenydd i gael ei
benodi i bob Cyfarfod Misol, yr hwn a
gofnoda y gweithrediadau mewn llyfr.
Fod Cymdeithasfaoedd Misol i gael eu
cynal yn y lleoedd a ganlyn : Maesyfed a
Threfaldwyn, gyda y Parch. W. Wilhams
yn gymedrolwr ; Siroedd Caerfyrddin ac
Aberteifi, gyda Mr. Rowland yn gymedrol-
wr ; Brycheiniog, gyda Thomas Lewis ;
Penfro, gyda Mr. Howell Davies ; Mor-
ganwg a Mynwy, gyda Mr. John Powell.
Fod pob Cymdeithasfa Fisol i gynwys
gweinidog ordeiniedig, os yn bosibl, fel
cymedrolwr ; arolygydd y rhandir, yn
nghyd a'i gynorthwywyr ; yn absenoldeb
gweinidog ordeiniedig, yr arolygydd i fod
yn gymedrolwr. Fod pob Cymdeithasfa i
gael ei dechreu trwy weddi, a'i therfynu
trwy weddi a chyngor, a bod yr holl
arolygyddion i fod yn bresenol, heb
eithrio y cynghorwyr anghyoedd, os hoff-
ant ddyfod. Fod y Parch. Mr. Whitefield
i ddewis y brawd Howell Harris i fod yn
gymedrolwr yn ei absenoldeb."
Cofnodir yn mhellach ddarfod i'r Gym-
deithasfa gael ei chario yn mlaen gyda
llawer o undeb a chariad, ac i'r brodyr
ymadael a'u gilydd gan fendithio Duw am
yr hyn a wnaeth, a chan ddisgwyl pethau
mwy yn y dyfodol. Ysgrifena Whitefield
mewn llythyr ddarfod iddo ef gael ei
ddewis yn gymedrolwr parhaus, os byddai
yn Lloegr. Ni cheir hyny, mewn geiriau
pendant, yn y cofnodau ; ac eto cynwysir
ef, o ran ystyr, yn y penderfyniad fod
Whitefield, os yn absenol, i benodi Howell
Harris i gymeryd ei le. Edrycha Tyerman
ar y penderfyniad hwn fel yn gosod White-
field yn llywydd ar holl Fethodistiaid
Cymru, a dywed fod sedd yr awdurdod yn
cael ei symud o'r Dywysogaeth, ac yn
cael ei gosod yn Llundain. Yr ydym yn
amheus a olygai y Gymdeithasfa hyny yn
hollol ; ac eto, pan gofiwn fod y nifer
amlaf o'r aelodau yn bleidiol i ffurf-
lywodraeth esgobol, y mae yn ddiau y
bwriadent gyflwyno gyda'r gadair ryw
gymaint o awdurdod rhwng y Cymdeithas-
faoedd.
Daethai Whitefield i lawr i Gymru y
tro yma gyda'r bwriad, nid yn unig o
gymeryd rhan yn ngweithrediadau Cym-
deithasfa Watford, ond hefyd er cynieryd
taith trwy ranau o'r Deheudir, a pha rai
nad oedd wedi ymweled yn flaenorol. Yr
oedd i'r daith amcan deublyg, sef pregethu
yr efengyl am y deyrnas, hoff waith y
gweinidog poblogaidd hwn ; ac hefyd
dwyn yr holl gymdeithasau crefyddol, a'r
cynghorwyr perthynol iddynt, i syrthio i
mewn a threfniadau y Gymdeithasfa, ac
felly ffurfio vm corph cyfansawdd a chryf.
Yn anfíbdus, nid yw holl ddydd-lyfr
Howell Harris ar gael ; ond anfonodd
Whitefield adroddiad dyddorol, a chymarol
fanwl, o'r daith i Lundain, i'w gyhoeddi
yn y WeeMy History. Ysgrifena y llythyr
cyntaf o Watford, Ebrill 7, 1843. Gwedi
rhoddi hanes y Gymdeithasfa, dywed :
" Nis gallaf ddweyd wrthych y fath
gynydd sydd wedi cymeryd fle er y Gym-
deithasfa o'r blaen. Yr wyf yn cofio pan
y marchogwn ar hyd Gymru, bedair
blynedd yn ol, i"r Arglwydd beri i mi
deimlo yn fy nghalon fy mod yn debyg i
Joshua yn myned oddiamgylch, gan gym-
eryd y naiU ddinas ar ol y llall. Adgofiai
Y GYMDEITHASFA.
207
yr anwyl frawd Harris fi yn awr o hyny,
ac awgrymai fy mod y tro hwn yn debyg i
Joshua yn rhanu y wlad. Y mae yn ym-
ddangos fod Duw wedi rhoddi i'r brodyr
sanctaidd ymddarostyngiad. Dewiswyd
fi, os yn Lloegr, yn gymedrolwr parhaus ;
a gobeithiaf y bydd i'r lachawdwr roddi i
mi yspryd at hyn. Teimlwn fy mod i
raddau mawr dan addysg ddwyfol, a
chydnabyddai y brodyr yn ewyllysgar yr
awdurdod a rodded i mi. Y mae y brodyr
wedi gosod y seiadau yn Nghymru ar fy
nghalon. Efallai y deuaf i Lundain yn
mhen mis. Ymddengys mai ewyllys yr
Arglwydd yw i mi aros yn Nghymru am
ryw bythefnos, a chymeryd taith trwy Sir
Benfro. Y mae drysau llydain yn agored
yno.
" Llantrisant, Ebrill 10, 1743. Pre-
gethais y ddoe yn Nghaerdydd i gynuU-
eidfa fawr. Eisteddai y gwatwarwyr
mwyaf yn llonydd wrth fy ochr, a theimlai
plant Duw y dwyfol bresenoldeb. Yn yr
hwyr aethum i Ffonmon ; derbyniodd Mr.
Jones ni yn garedig ; a gwelodd Duw yn
dda lefaru drosof yn y seiat, lle y pregeth-
ais. Y boreu hwn pregethais drachefn.
Yr oedd yn amser bendigedig. Y mae y
brawd anwyl Harris yn pregethu yn
Gymraeg. Y mae y bobl yma yn hynod
syml." Felly yr ysgrifena Whitefield, ond
yn ol llythyr Howell Harris, yn Aber-
ddawen y pregethai y ddau, ond aethant i
Ffonmon i letya. Dywed hefyd mai yn
Mhenmarc y pregethasant yr ail foreu.
Y mae y llythyr nesaf o Abertawe, ac
wedi ei ddyddio Ebrill 12. Fel hyn y
dywed gẃr Duw : " Y mae pethau mawr-
ion yn cael eu gwneyd, ac i gael eu
gwneyd yn Nghymru ; y mae drws
effeithiol wedi cael ei agor i bregethiad yr
efengyl. Pregethais ddoe yn Nghastell-
nedd, odchar dyganllaw {halcouy) yn yr
heol, i o gwmpas tair mil o eneidiau. Yr
(jedd yr Arglwydd gyda mi mewn gwir-
ionedd. Y boreu heddyw pregethais yma
(Abertawe) i o gwmpas pedair mil, gyda
mawr eghirhad yr Yspryd. O gwmpas
un, pregethais gyda mwynhad mawr yn
Harbrook, bedair milldir o bellder, ac yr
wyf newydd ddychwelyd er pregethu yma
eto. Llefarai yr anwyí frawd Harris ddoe
a heddyw yn Gymraeg." Yna y canlyn
ol-ysgrif, wedi ei hysgrifenu ar ol saith yn
yr hwyr: " Yr wyf newydd orphen pre-
gethu. Dychhimai eich calon gan lawen-
ydd pe liaech yma. Y mae Abertawe
wedi ei chymeryd. Ni phregethais erioed
gyda mwy o nerth argyhoeddiadoL Yr
oedd llawer o'r cyfoethogion a'r mawrion
yn bresenol, a'r gynulleidfa yn fwy nag yn
y boreu. Gorchfygodd yr lesu trosof.
Iddo ef boed yr holl ogoniant. Clodforwch
ef ; clodforwch ef drosof fi." Ysgrifenai
yn amlwg tan ddylanwad y cyffro oedd
wedi ei feddianu yn y pwlpud, ac y mae
yn hawdd gweled fod ei galon yn crych-
neidio ynddo. Tôn milwr buddugol-
iaethus, wedi eniU un o gaerau pwysicaf y
gelyn, sydd i'w theimlo yn ei eiriau, a
rhydd yr holl glod nid i'w ddewrder a'i
fedr ei hun, ond i bresenoldeb yr lesu,
ei Gadfridog.
Yr ydym yn ei gael yn nesaf yn Lach-
arn, Ebrill 15, a dywed : " Wedi i mi
adael Llantrisant, gwnaeth y diafol ym-
drech galed i'm tynu allan o Gymru, trwy
geisio fy mherswadio na ddylwn fyn'd yn
mhellach ; ond yr oedd ein Hiachawdwr
yn rhy gryf iddo. Pregethais dydd Mer-
cher yn Llanelh i gynulleidfa fawr, ac yn
yr hwyr yn AbergwiH. Dydd lau, pre-
gethais yn Nghaerfyrddin, un o'r trefydd
mwyaf a boneddigeiddiaf yn Nghymru ;
yn y boreu llefarwn oddiar ben y groes,
yn yr hwyr oddiar fwrdd yn ymyl. Yr
oedd y Sessiwn fawr yno. Dymunodd yr
ustusiaid arnaf aros hyd nes y byddent
hwy wedi codi, ac y deuent i wrando.
Hwy ddaethant, a llawer o filoedd yn
ychwaneg, ac amryw o bobl bendefigaidd.
Yr oedd yr lesu gyda mi, a hyderaf i lawer
ü dda gael ei wneyd. Y mae y brawd
anwyl Harris yn cynghori yn mhob lle.
Ymddengys ein Hiachawdwr fel pe byddai
wedi rhoddi trefydd Cymru i mi. Yr wyf
yn hoffì Cymru yn ddirfawr. Yn mhen
rhyw ddeg diwrnod gobeithiaf fod yn
Mryste." Y mae yn Hwlfíbrdd, Ebrill 17,
ac yn ysgrifenu : " Pregethais yn Nar-
berth gyda mawr eghirhad yr Yspryd, i
amryw filoedd o eneidiau, y rhai oeddynt
nid yn anhebyg i lowyr Ningswood. Y
boreu hwn pregethais yn Llysyfran i
gynuUeidfa gyffelyb i eiddo Moorfields; a'r
prydnhawn i o gwmpas yr un nifer yn
y dref hon. Hefyd, darllenais y gweddíau.
Y mae yr awdurdod, y nerth, a'r llwyddiant
sydd yn cael ei roddi gan Dduw i mi, yn
mysg cyfoethog a thlawd, yn anrhaeth-
adwy. O, cynorthwywch fi i'w folianu."
Pan yn dweyd fod y gynvilleidfa yn Llys-
yfran yn debyg i eiddo Moorfields, diau
mai cyffelyb mewn IHosogrwydd a feddyha ;
cyfrifai HoweU Harris hi yn ddeuddeg mil.
Tueddwn i feddwl fod y Diwygwyr, yn
208
Y TADAU METHODISTAIDD.
eu brwdfrydedd, yn gorgyfrif, fel y niae
yr arfer wastadol ynglyn a thorfeydd, ond
y mae yn sicr fod cynulleidfaoedd Penfro
y tro hwn yn anferth, a bod holl drigohon
y sir, agos, yn Gymry ac yn Saeson, wedi
ymgasglu i wrando yr efengyl.
Cawn ef yn Nghaerfyrddin eto, Ebrill
y 20, o'r hwn le yr ysgrifena : " Pregethais
dydd Mercher yn HwlfFordd i o gwmpas
wyth mil, ac yn y prydnhawn i amryw
íìloedd yn Narberth. Y boreu hwn llef-
arais gyda melusder mawr yn Lacharn.
Wrth fy mod yn croesi y geincfor cefais
foesgyfarchiad na dderbyniais ei gyífelyb
o'r blaen, sef un llong yn tanio nifer o
fagnelau, a llongau eraill yn cyhwfan eu
banerau. Nis gellwch ddirnad y fath
barch a dehr i mi yma ; y mae Duw wedi
darpar Cymru i'm derbyn. Iddo ef boed
yr holl glod. Pregethais yn CydweH i
gynuheidfa fawr. Yma (Caerfyrddin) pre-
gethai un o'r ofifeiriaid yn fy erbyn y Sul
diweddaf, gan fy enwi ; ond fel fy ngwrth-
wynebwyr eraill, ac fel gwiber yn cnoi
durhf {ýh'), gwnaeth niwed yn unig iddo
ei hun. Yr wyf yn cael fy hun fei pe
mewn byd newydd, a bwnw yn un nod-
edig o ddymunol." Ar y 25, ysgrifena
o Rhaiadr : " EbriU 22, pregethais yn
Nghaerfyrddin i tua deng mil o bobl, a'r
anwyl Mr. Rowland ar fy ol, gyda melusder
a nerth dirfawr. Cawsom Gymdeithasfa
fendigedig arall y dydd blaenorol, ac yr
ydym yn awr wedi trefnu holl siroedd
Cymru." Ychwanega ddarfod iddo bre-
gethu dydd Sadwrn, y 23, yn Llangathen,
lle y caniatawyd yr eglwys iddo, ac yr
oedd cynulleidfa fawr wedi ymgynull ;
yn yr hwyr pregethodd yn Llanymddyfri.
Llefara yn Llanymddyfri foreu y Sul
drachefn, a dywed fod Duw gydag ef ; ac
erbyn yr hwyr y mae yn Aberhonddu,
pellder o dair-milldir-ar-hugain, lle y mae
cynulleidfa fawr, a hynod foneddigaidd,
wedi dyfod ynghyd. Dydd Llun, cawn
ef yn Nhrefecca, ac yn yr hwyr yn Gwen-
fìthen, yn agos i'r Gelh. Am dano ei hun
dywed : " Y mae fy nghorph yn wan, ond
yr wyf wrth draed fy Mhrynwr ; y mae efe
yn llywodraethu yn frenin yn fy nghalon,
ac yr wyf yn llawenychu, ac yn fuddugol-
iaethus ar bob peth." Aeth yn ei flaen
oddiyno i Lanfairmuallt, ac yna i Gore,
yn Sir Faesyfed, y Ile olaf y pregethodd
ynddo yn Nghymru. Dywed : " Yn wir,
cadwodd ein Hiachawdwr ei win goreu
hyd y diwedd ; yr oedd ein phiol yn
rhedeg trosodd." Rhwng wyth a naw
yn yr hwyr cychwynodd am Lanllieni
(Leominster), yr hwn le a gyrhaeddodd o
gwmpas tri o'r gloch y boreu. Aeth yn
ei flaen trwy Heníîbrdd a Ross, a daeth i
Gaerloyw oddeutu wyth yn yr hwyr,
Ebrill 28. Symia hanes ei daith i fynu fel
y canlyn : " Darfu i mi, mewn tair wyth-
nos o amser, drafaelu pedwar cant o
filltiroedd, treulio tri diwrnod mewn dwy
Gymdeithasfa, pregethu o gwmpas deugain
gwaith, a phasio trwy saith o siroedd.
Yma, ynte, mi a osodaf i fynu fy Eben-
ezer ; mi a ddiolchaf i'r gogoneddus lesu
am ei holl drugareddau ; ac o ddyfnder fy
nghalon rhof iddo y clod."
Wedi y cwbl, y mae yn sicr na chron-
iclodd hanes ei holl daith. * Y mae tra-
ddodiad yn Nhregaron ddarfod iddo yr
adeg hon, neu yn fuan gwedi, ymweled a
rhanau o Sir Aberteifi, a'i fod yn pregethu
yn y dref hono oddiar y gareg farch, yn
ymyl yr hen Grown. Cymry uniaith oedd
*y gynulleidfa gan mwyaf, ond torodd allan
yn orfoledd mawr yn yr odfa, er mai yr
unig air a ddeallid oedd " Haleliwia."
Ymddengys hyn ar un olwg yn rhyfedd,
ond soniai Dr. Owen Thomas am gyfreith-
iwr enwog yn Llundain, a arferai fyned
i wrando Ebenezer Morris * bob nos
Sabboth, pan y byddai y g\vr enwog
hwnw yn gweinidogaethu yn y Brif-ddinas,
a bod ei wyneb yn wastad yn foddfa o
ddagrau, er na ddeallai air o'r bregeth.
Y mae yn sicr i'r ymweliad hwn o eiddo
Whitefield fod yn dra bendithiol i Gymru.
Cadarnha Ilythyrau Howell Harris, a
Thomas Price, o \\'atford, ac eraill, yr
hyn a ddywed ef am y nerthoedd oeddynt
yn cydfyned a'i weinidogaeth. Efallai
riiai yn Abertawe a Chaerfyrddin y cafodd
yr odfaeon rhyfeddaf o'r oll. Dywed
Price, A\'atford, mewn Ilythyr at White-
field, yn fuan gwedi, ei fod wedi clywed
newyddion gogoneddus ani lawer wedi
cael eu defifro yn Nghaerfyrddin, un o ba
rai ydoedd ddynes anniwair gyhoeddus,
a'u bod yn myned i sefydlu seiat yn y
dref. Ond yr enwocaf o'r dychweledigion,
yn ddiau, oedd Peter W'iIIiams, yr hwn,
yn laslanc un-ar-hugain oed, oedd ar y
pryd yn yr athrofa yn y dref, ac a aethai
yn Ilechwraidd i wrando y pregethwr
hyawdl Saesonig, er gwaethaf gwaharddiad
Ilywydd y sefydliad. Yr oedd troedig; eth
y gŵr, a ddaeth gwedi hyn yn dad esbon-
wyr Cymru, yn fwy na digon o dâl am
* Ysgrif Mr. Daiiiel Pavies, Ton.
o
o
C/}
î
u
w
O
q"
O
<
?» .o
Y GYMDEITHASFA.
209
holl draíTerthion taith Whitefield. Bu yr
ymwehad yn fendithiol hefyd er sicrhau
ufudd-dod y seiadau a'r cynghorwyr i
drefniadau y Gymdeithasfa. Yr oedd
enwogrwydd Whitefield, ynghyd a'i ddy-
eithrwch, a'i ddawn hifeiriol, a'r parch-
edigaeth cyffredinol iddo a deimhd gan
wreng a bonheddig, yn tueddu yn gryf i
gynyrchu ufudd-dod i'r rheolau a osodai
gerbron, fel Uywydd y Gymdeithasfa.
Cydnebydd Howell Harris hyny mewn
Ilythyr ato, dyddiedig Mai 12, 1743 :
" Bendigedig fyddo Duw," meddai, " yr
hwn a dueddodd eich enaid i feddwl am
yr ŵyn gwasgaredig, tlodion, a gwahan-
glwyfus, sydd yn Nghymru." Ysgrifena
Thomas James, Cerigcadarn, ato hefyd :
" Darfu i'r Arglwydd fendithio eich dyfod-
iad atom yn fawr ; mewn cysylltiad a zêl
a threfn dda, y mae pawb fel pe yn barod
i ymddarostwng, gan edrych arno fel yr
hyn a wnaeth yr Arglwydd, ac nid dyn.
Heb fod yn hir ni a ymsymudwn yn
ofnadwy fel Ilu banerog."
Ond i ddychwelyd at gofnodau y
Cymdeithasfaoedd. Croniclir cyfarfod o'r
brodyr yn nhŷ y cynghorwr Bloom ; ni
roddir dyddiad y cyfarfod, ac nis gwyddom
a oedd yn Gymdeithasfa Fisol reolaidd
a'i peidio. Preswyliai Mr. Bloom yn
Llanarthney, nid yn nepell o Gaerfyrddin,
a thueddwn i feddwl mai dyma y Gym-
deithasfa Fisol y cyfeiria Whitefield ati,
yn mha un y pregethai Daniel Rowland
ar ei ol. Dibwys yw y penderfyniadau a
basiwyd, ond haedda y nodiad a ganlyn ei
groniclo : " Wrth ymadael, disgynodd yr
Arglwydd mewn modd mor hynod i'n
mysg, fel yr aethom oll yn fílam, ac yr
unwyd ni oll mewn gwir gariad."
Cynhaliwyd Cymdeithasfa Fisol yn
Gelliglyd, Mai i, 1743, ac ymddengys i
Whitefield, yn ol y cofnodau, ddychwelyd
o Gaerloyw i fod yn bresenol. Yr oedd
yno heblaw efe, Daniel Rowland, Howell
Davies, a Howell Harris, ynghyd a nifer
o'r arolygwyr a'r cynghorwyr. Y prif
benderfyniadau oeddynt : " Fod y brawd
Geo. Bowen i ddilyn ei orchwyl hyd y
Gymdeithasfa nesaf yn Sir Benfro. Fod
yr offeiriaid a'r arolygwyr i gasglu yr hyn
a fedrant yn eu gwahanol seiadau er
mwyn argraffu llyfrau Cymraeg. Fod
Wilham Jones, David Evan, a Rich.
Til)bot i fod yn ysgolfeistri Cymreig. Ac
nad yw y cynghorwyr anghyoedd ar eu
teithiau i anfon rhybudd o'u dyfodiad i
unrhyw fan ; eithr os dymunir arnynt
gallant lefaru mewn unrhyw dŷ i'r teulu
neu y cymydogion."
Yn Watford, Mai 11, yr oedd y Gym-
deithasfa Fisol nesaf, pan y Ilywyddai
John Powell, ac yr oedd Howell Harris,
a chryn nifer o'r arolygwyr a'r cynghorwyr
yn bresenol. Yn myäg pethau eraill,
pasiwyd : " Fod Mr. Thomas Price i fod yn
oruchwyliwr y gymdeithas hon fel o'r blaen,
ac hefyd i gynorthwyo y brawd Thomas
Williams. Fod y gwrywod a'r benywod i
gyfarfod ar wahan, fel y byddo Yspryd yr
Arglwydd yn eu cyfarwyddo. Fod yr
arolygwyr yn mhob seiat breifat i anerch
y dynion a'r benywod ar wahan, fel y
byddont yn gweled yr achlysur yn galw,
ac fel y bo Yspryd yr Arglwydd yn eu
cyfarwyddo."
Mai 19, yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn
Llandremor, ger Llandilo Fach. Llyw-
yddai Daniel Rowland, ond bychan oedd y
cynulliad. Cymharol annyddorol hefyd
oedd y penderfyniadau, ond dengys y
cofnod a ganlyn ystâd yr amseroedd :
" Fod John ac Edward Meirig, oni throir
hwy allan gan eu rhieni, i gynghori yn
breifat dan orolygiaeth y brawd John
Richard."
Cynhaliwyd Cymdeithasfa Fisol yn
Dygoedydd, Mai 25, 1743, pan yr oedd
yn bresenol Daniel Rowland, a WiIIiams,
Pantycelyn, ill dau yn gweithredu fel
cymedrolwyr ; Howell Harris, Benjamin
Thomas, yr hwn oedd weinidog Ymneill-
duol, ynghyd a James WiIIiams, yr
arolygwr ar ranau o Sir Gaerfyrddin.
Penderfynwyd ar i'r brawd Thomas David,
yr hwn a fuasai dan arholiad gyda golwg
ar ei alwad, gael cynghori ar brawf, dan
arolygiaeth James WiUiams, mewn dwy
seiat breifat hyd y Gymdeithasfa nesaf,
pan y disgwylir tystiolaeth oddiwrtho,
ac oddiwrth y brodyr a'i gwrandawodd.
Pasiwyd y cyffelyb am Jos. John, a David
John. Hefyd, fod l)lwch i gael ei osod yn
mhob seiad, dan ofal un o'r ddau stcward,
i dderbyn cyfraniadau wythnosol tuag at
achos Duw ; a bod pob cynghorwr anghy-
oedd i gadw Ilyfr ag enwau y rhai sydd
dan ei ofal, yr hwn Iyfr a ddygir ganddo
i'r Gymdeithasfa Chwarterol, a'i fod i
hysbysu pa swm a ellir hebgor, trwy
gydsyniad unol y gwahanol seiadau, at y
gwaith cyhoeddus. Gwelir fod y drefn
bresenol o gasglu wedi cael ei bod yn
nghychwyniad Methodistiaeth.
Yn mhen dau ddiwrnod, sef Mai 27, yr
oedd Cymdeilhasfa Fisol yn Dolberthog,
p
2IO
Y TADAU METHODISTAIDD.
Llandrindod ; llywyddai Williams, Panty-
celyn, ond yr unig benderfyniad a basiwyd
oedd, fod y brawd Richard Lewis, Ym-
neillduwr, yn cael ei osod yn gynorthwywr
i'r brawd James Beaumont.
Ar yr 8fed o Fehefin, cynhaliwyd
Cymdeithasfa Fisol yn Longhouse, Sir
Benfro, pan y llywyddai Daniel Rowland,
a Howell Davies, ac yr oedd Howell
Harris yn bresenol. Yn mysg pethau
eraill, penodwyd nifer o eglwysi i fod dan
arolygiaeth Thomas Meyler, John Harris,
a WiHiam Richard. Pasiwyd fod y brawd
Watkin Watkins i gymhwyso ei hun i fod
yn ysgrifenydd i'r brawd Rowland, neu y
brawd Davies. Fod y brawd John Jones
i fod yn ddystaw am ryw amser, mewn
trefn iddo gael ei ordeinio, hyd nes y
byddo yr ordeiniad trosodd ; a b'od y
brawd Richard Tibbot i weithio, ac i
fynychu rhyw seiadau preifat, hyd nes y
caffo ysgol Gymraeg.
Yr ydym yn dyfod yn awr at y drydedd
Gymdeithasfa Chwarterol reolaidd, yr hon
a gynhaHwyd yn Nhrefecca, Mehefìn 29
a 30, 1743. Yr oedd yn Gymdeithasfa
bwysig, gan y disgwyhd iddi adroddiadau
yr arolygwyr gyda golwg ar rif ac ansawdd
y seiadau. Daeth Whitefield yno o Lun-
dain i gymeryd y gadair, gan drafaelu
trwy Gaerloyw a Bryste ; yr oedd yn
bresenol yn ychwanegol Daniel Rowland,
W. Wilhams, Howell Davies, John Powell,
Thomas Lewis, a Benjamin Thomas,
gweinidog Ymneillduol. Yr oedd y cyng-
horwyr cyhoeddus canlynol yno : Howell
Harris,Herbert Jenkins, James Beaumont,
Thomas James, Morgan John Lewis,
Thomas WilHams, Richard Tibbot, Thos.
Lewis, a Wilham Richards. Fel hyn yr
adrodda Whitefield hanes y Gymdeithasfa:
■''• " Cyrhaeddais Drefecca dydd Mercher,
Mehefin 29, lle y cyfarfyddais a byddin
gyfan o dystion yr lesu. Am bump yn
y prydnhawn pregethais i ; gwedi i mi
orphen, pregethodd a gweddíodd Howell
Davies. O gwmpas wyth, agorasom y
Gymdeithasfa gyda difrifwch mawr. Yr
oedd ein Hiachawdwr gyda mi mewn
modd arbenig, yn fy nysgu, ac yn fy
nghynorthwyo i lanw fy lle. Gohiriasom
o gwmpas canol nos, ond darfu rhai o'r
brodyr aros i fynu trwy yr holl nos, gan
groesawu y boreu gyda gweddi a mawl.
Am wyth, cyfarfyddasom drachefn, a siriol-
wyd ni yn fawr gan adroddiadau syipl
yr arolygwyr am eu gwahanol seiadau.
* Tyerman's Life of Whitejìeld, vol. ii., p. 62.
Parhasom gyda'r trefniadau hyd ddau yn
y prydnhawn, a thorasom i fynu gyda
difrifwch mawr a Ilawenydd sanctaidd.
Cawsom undeb rhyfedd a'n gilydd. Yn
wir, y mae yr lesu wedi gwneyd pethau
mawrion i Gymru. Y mae y gwaith wedi
Ilwyddo yn ddirfawr. Synwn weled y
fath drefn. Y mae y brawd Howell
Davies wedi cael ei fendithio er argy-
hoeddiad clerigwr ieuanc, offeiriad St.
Bartholomew, yn Llundain."
Yr ofíeiriad oedd y Parch. Richard
Thomas Bateman, * at yr hwn yr ydym
wedi cyfeirio yn flaenorol. Disgynai o
deulu pendefigaidd, ac yr oedd yn ŵr o
ddoniau mawr. Gwedi ei argyhoeddiad
daeth yn weithiwr difefl yn ngwinllan
Crist. Rhoddai bob rhyddid-i Whitefield
a Wesley i bregethu yn ei eglwys, a
chawn ei fod yn bresenol yn nghynadledd
y Wesleyaid yn 1748. Eithr i ddychwelyd
at y Gymdeithasfa, dywed y cofnodau
iddi gael ei hagor gyda difrifwch arbenig
gan Mr. Whitefield, trwy bregeth, a
gweddi daer am arweiniad yr Yspryd
Glân. Ei phrif waith oedd darllen a
gwrando yr adroddiadau a ddygid gan yr
arolygwyr am sefyllfa y cymdeithasau a
osodasid dan eu gofal. Cawn gyfeiriq at
yr adroddiadau yma eto. Yr unig orch-
wyl arall a gyflawnodd, mor bell ag y
dengys y cofnodau, oedd cymeryd i ys-
tyriaeth Iythyr John Richard, yr hwn a
gondemniai y trefniadau a wnaethid yn
flaenorol. Un o breswylwyr Llansamlet
oedd John Richard ; yr oedd yn arolygydd
ar bymtheg o eglwysi yn nghyffiniau
Morganwg a Chaerfyrddin, â phob un o
ba rai y disgwylid iddo ymweled unwaith
y pythefnos. Yn ei Iythyr, maentymiai
fod rhanu yr aelodau i sengl, priod, a
gweddw, a'u holi yn fanwl parthed eu
cyflwr ac ystâd eu heneidiau yn Babaidd ;
fod gosod eu henwau i lawr ar Iyfr yn an-
ysgrythyrol ; a bod trefnu arolygwyr dros
ranau o wlad yn gamwri. Ond y mae yn
amlwg oddiwrth rediad yr hyn a ysgrifenai,
mai prif achos ei anesmwythid oedd, fod
y Gymdeithasfa wedi cyfyngu ei lafur i
gylch, gan ei rwystro i fyned o gwmpas i
bregethu fel yr ewyllysiai. Dywed fod y
rhesymau canlynol yn ei berswadio mai
ewyllys yr Arglwydd oedd iddo fyned oddi-
amgylch. "Ynmlaenaf," meddai, "yrwyf
yn profi fy enaid yn fwyaf awyddus am
fyned po fwyaf o Dduw sydd yn tywynu
* Gwel tudal. 136.
Y GYMDEITHASFA.
■211
arnaf. Yn ail, nad wyf yn myned i un
man nad wyf yn cael tystiolaeth gan y
brodyr, a rhai marciau gan Dduw, fod yr
Arglwydd yn fy arddel fel offeryn yn ei
law i wneuthur rhyw ddaioni yn ei eglwys.
Yn drydydd, na adawodd fi yn fynych heb
lawer o gymorth, ac na adawodd fi erioed,
mor bell ag yr wyf yn cofio, yn hollol i mi
fy hun. Yn bedwerydd, mi dybygwn rai
prydiau fy mod yn teimlo newyn anorch-
fygol yn fy yspryd am ddychweHad pech-
aduriaid at Dduw, ac y gallwn ddweyd y
trengwn pe y tawn. Yn bumed, yr wyf yn
gwybod pe yr awn oddiamgylch y cawn
lefaru wrth ddeg enaid am bob un yr wyf
yn llefaru wrtho yn awr, a pha fwyaf o
bysgod a fyddo, mwyaf oll o gysur sydd i
daflu y rhwyd. Yn chweched, nid wyf yn
awr yn cael llefaru ond unwaith yn y
pedair-awr-ar-hugain, a'r unwaith hyny
wedi nos, mewn rhai manau ; ond pe bawn
yn myned o amgylch mi a gawn lefaru
gynifer gwaith ag y gallwn. Yn seithfed,
mi a fyddaf yn gorfod dweyd nas gallaf
fyned i rai manau, er fy mod yn cael fy
anog gan Dduw i fyned, ac yn cael galwad
gan ddynion. Yn wythfed, y mae genyf
ormod i gymeryd gofal neillduol am
danynt, a rhy fychan i fyned yn gyhoeddus
oddiamgylch iddynt o hyd ; canys y mae'r
bobl, ar ol hir arfer o ddyn, yn esgeuluso
dyfod i wrando, a chwi ellwch ddeall ei
bod yn anghysurus i mi i fyned ddeng-mill-
tir-ar-hugain o ffordd heb gael fawr pobl
ynghyd yn y diwedd, a hyny yn y dydd."
Diwedda trwy siarsio y brodyr yn y Gym-
deithasfa ar iddynt edrych ati ar fod Yspryd
Duw yn eu harwain mewn cysylltiad ag ef,
a thrwy awgrymu tuedd i fyned o gwmpas
ar ei gyfrifoldeb ei hun mewn dibrisdod o'u
trefniadau. Hen Gristion syml oedd John
Richard, fel y mae yn amlwg, yn arllwys
•allan ei deimladau siomedig, oblegyd cael
cyfyngu arno yn ei waith, gyda gonest-
rwydd unplyg ; a mynega fod dau beth yn
peri iddo amheu ei alwad, sef fod y brodyr
yn ei rwystro, a'r olwg oedd yn gael ar
fawredd y gwaith. Ond y mae ei brofiad
crefyddol yn ogoneddus. " Y mae yn dda
genyf wneuthur a allaf dros Dduw,"
meddai, "hyd yn nod pe byddai iddo fy
nhaflu i uffern yn y diwedd ; ond mi dyb-
ygwn nad oes yr un man a wnaeth Duw,
gwneled y diafol ei waethaf, na fydd i mi
fwynhau Duw ynddo, a chanmol yr anwyl
lesu." Anhawdd genym feddwl na ddarfu
darlleniad y Ilythyr hwn dynu dagrau o
lygaid y brodyr ymgynulledig ; ac er na
fedrent ganiatau iddo yr hyn a ddymunai,
gan mai cymharol fyr mewn doniau ydoedd,
eto y teimlent eu calonau yn cynhesu ato.
Yr oedd Ilythyr o gyffelyb nodwedd wedi
cael ei anfon hefyd gan Rhisiart William
Dafydd, cynghorwr o Sir Gaerfyrddin, yr
hwn y darllenasom am dano yn nghof-
nodau ail Gymdeithasfa Watford ei fod i
fyned dan arholiad.
Penderfynodd y Gymdeithasfa fod
Whitefield i ysgrifenu atebion i'r Ilythyrau
hyn ; darllenodd yntau yr hyn a ysgrifenasai
yn un o'r cyfarfodydd dilynol, yr hyn a dder-
byniodd gymeradwyaeth unfrydol y brodyr.
Y mae yr atebion ar gael, ac yn ddyddorol.
Dy wed Whitefield wrth John Richard,gyda
golwg ar ei fygythiad i íyned o gwmpas ar
draws pob trefniadau, y teimlasai y frawd-
oliaeth yn flin pe y rhoddasai achos
cyfiawn iddo i gymeryd y cwrs hwn ; ond
gan na wnaethai, a chan y teimlai yn sicr
mai dibwys, a hawdd rhoddi pen arno,
fuasai unrhyw wrthwynebiad a allai efe
godi yn y dull yma, ei bod yn teimlo y
gallai ymddiried yr achos i'r Arglwydd
lesu, a bod yn hollol dawel yn ei gylch.
Cydnabydda er hyny y gallai y Gymdeith-
asfa gyfeiliorni, a dy wed y byddai y brodyr
yn barod i ail-ystyried yn ofalus unrhyw
brofion a ddygid yn mlaen fod yr hyn a
benderfynasent yn groes i feddwl Duw.
Yna â yn mlaen i ateb ei wrthddadleuon.
Gyda golwg ar groniclo enwau yr aelodau
mewn Ilyfr, dywed : " Pa beth, anwyl
frawd, sydd yn anysgrythyrol yn hyn ?
Onid yw ein Harglwydd lesu yn dweyd
fod y bugail da yn galw ei ddefaid erbyn
eu henw ? Onid ydyw pob plwyf yn cadw
coflyfr o'r plwyfolion ? Onid yw yr Ym-
neillduwyr yn ysgrifenu enwau pawb mewn
Ilyfr a fyddo mewn cymundeb gyda hwynt ?
A pheth yw Ilyfr Numeri ond cofres o
enwau meibion Israel ? Gyda golwg ar
ymofyn am gyflwr ysprydol pob enaid,
ymddengys i ni ei fod yn hanfodol angen-
rheidiol. Yr ydym yn edrych ar yr eglwys
fel clafdy, a'i gweinidogion fel physigwyr,
y rhai a ddeuant o dro i dro i edrych pa
fodd y mae gyda y rhai sydd dan eu gofal.
Yr wyf yn tybio pan aeth yr apostolion
oddiamgylch i edrych hynt eu brodyr,
iddynt chwilio i ansawdd yspryd pob un.
Nid ydym yn gwybod pa fodd y gall
gweinidog bregethu oddigerth ei fod yn
gwybod am gyflwr ei bobl, na pha fodd y
gallech chwi anfon yr adroddiad a anfon-
asoch, am yr hwn yr ydym yn diolch i
chwi, oni bai i chwi wneyd rhyw ymchwil-
p 2
Y TADAU METHODISTAIDD.
iad." Yna â ymlaen i ddweyd raai amcan
rhanu yr aelodau i ddosparthiadau o sengl,
priod, a gweddw, oedd er mwyn cael cyfrif
eglur, ac hefyd allu cymhwyso cynghorion
priodol at eu gwahanol sefyllfaoedd. Aw-
gryma fod hyn yn cael ei wneyd yn yr
Eglwys Apostolaidd ; fod loan yn ysgrifenu
at y gwŷr ieuainc, a Pliaul yn cynghori y
rhai oeddynt yn wir weddwon, yr hyn a
dybia eu bod yn ffurfio dosparth ar wahan
yn yr eglwys. Diwedda trwy achwyn ar
ry w WilHam Christopher yn ysgrifenu mewn
arddull anweddaidd at Daniel Rowland, a
thrwy ei gynghori ef, John Richard, i
chwilio o ba yspryd yr ydoedd. Y genadwri
a anfonwyd at Rhisiart William Dafydd
oedd ceisio ganddo ddarllen y llythyr a an-
fonasid at John Richard.
Tueddwn i feddwl yr ystyriai Howell
Harris lythyr Whitefield yn rhy amddifad
o dynerwch, ac o ras yr efengyl, ac felly
ysgrifenodd at y ddau frawd tramgwyddus
ar ei gyfrifoldeb ei hun. Wrth John
Richard dywed : " Mi a wn beth yw
profedigaethau o'r fath hyn ; er mwyn yr
lesu byddwch arafaidd a phwyllog ; y
mae'r gelyn yn ceisio eich temtio i wneu-
thur rhwyg yn ein mysg, a'n dodii wanhau
dwylaw ein gilydd. Byddwch ostyngedig;
ofnwch eich hunan; gelyn dirgel yw yn
wir, anhawdd ei adnabod. Y mae yn
bosibl i ni (sef John Richard a Harris)
gamsynied ; maent hwy (aelodau y Gym-
deithasfa) yn llawer, a bagad o honynt o
leiaf yn agos at yr Arglwydd, ac yn chwiho
ei Air ef, ac yn disgwyl wrth ddysgeidiaeth
ac arweiniad ei Yspryd mor glos a ninau ;
ac y maent yn bwyllog, ac wedi gwrando fy
rhesymau i, yn ofn yr Arglwydd, yn methu
gweled fel fi. Myfi, yn hytrach, a ofnaf fod
yn anffaeledig, ac a ddisgwyliaf wrth yr
Arglwydd, rhag i mi wneuthur terfysg yn
ei waith ef, a bhno ysprydoedd ei anwyl
weision, y rhai oeddynt yn Nghrist o'm
blaen i, ac wedi bod a'u bywyd yn eu dwy-
law drosto, ac yn ei gyngor cyn ein geni
ni yn ysprydol — y fath feddyhau a'r rhai
hyn a fu fuddugol i mi yn fy mhrofedig-
aethau. Y mae fy enaid i, anwyl bererin,
yn dy garu yn wresog, a chyda phob tir-
iondeb ac anwyldra brawdol yr wyf yn
dyweddu. — Dy ostyngedig gydfilwr, How.
Harris."
Wrth Rhisiart Wilham Dafydd dywed:
" Fy anwyl, anwyl frawd, er pan adnabum
i chwi gyntaf, yr ydych wedi bod yn anwyl
i mi. Er nad wyf yn fy nghalon yn teimlo
fy hun yn deilwng i olchi eich traed, go-
ddefwch i mi ofyn genych er mwyn yr
lesu, yr hwn sydd anwyl genych, am ym-
drechu cadw undeb yr Yspryd yn nghwlwm
tangnefedd, a bod yn wyliadwrus rhag y
gelyn cyffredinol, cyhuddwr y brodyr. Un
corph ydym, ac ni all un aelod fod heb y
Ilall, gadewch i ni gyd-ddwyn a'n gilydd.
Mae'r gwaith yn fawr, a ninau yn ang-
hymwys iawniddo; gochelwn redegoflaen
ein gilydd. Gan obeithio eich bod yn
credu fy mod yn ostyngedig yn eich gwir
garu yn yr Arglwydd, fel eich brawd a'ch
cydfilwr tlawd, dymunaf anerch yr holl
ŵyn yn fy enw i."
Ysgrifenwr llythyrau heb ei fath oedd
Howell Harris ; teimlir cynhesrwydd ei
galon yn mhob brawddeg o'r rhai blaen-
orol ; ac nid rhyfedd i'r ddau frawd tram-
gwyddus doddi, a syrthio i mewn a'r
trefniadau. Cawn John Richard yn y
llwch mewn canlyniad, ac yn ysgrifenu
Ilythyr edifeiriol i'r Gymdeithasfa nesaf:
"Blin genyf, anwyl frodyr," meddai,
" ddarfod i mi sefyll yn gyndyn yn eich
erbyn cyhyd. Credu yr wyf na wyr neb
yn iawn, ond a gafodd brofiad, pa mor
ddichellgar yw yr hen sarph, fel y bu gyda
mi yn yr amgylchiad hwn, ac mor gyflawn
oeddwn yn meddiant y diafol, fel y tybiais
fod yn rhaid i chwi ymostwng i fy marn i.
Ond yr wyf yn credu fod y diafol wedi
twyllo ei hun. Bendigedig fyddo Duw, yr
hwn a ddug ddaioni allan o ddrwg; oblegyd
fe'm dysgwyd gan Dduw, fel yr wyf yn
credu, i beidio byth eto a meddwl fod mwy
o oleuni genyf nag sydd gan holl blant
Duw ; ac heblaw hyn, fe fu yr amgylchiad
yn gymorth i mi i sefyll yn erbyn yr un a'r
unrhyw yspryd yn rhai o'r brodyr yn
Llansamlet yn ddiweddar. Oddiwrth eich
anheilwng frawd, John Richard."
Felly y terfyna cofnodau Trefecca am
1743 ; dygir y gweddill i mewn i'r hanes
wrth fyned yn y blaen.
PENOD X.
RHAI O'R CYNGHORWYR BOREUAF.
Richard Tihhot — Lmns Evan, Lìanl/iigan — Herhert Jenhins — James Ingram — James Beanmont
— Tìiomas James, Cerigcadarn — Morgan John Lewis — David Williams, Llysyfronydd —
Thomas Williams — William Edward,yr Adeiladydd — ■William Richard — Benjamin Thmnas
— John Harris, St. Kinox — John Harry, Treamlod — ■William Edward, Rhydygele — Rhai
o'r Adroddiadau a anfonwyd ir Cymdeithasfaoedd.
^I^YDDAI unrhyw hanes ani y diwyg-
Qlc^v iad Methodistaidd yn ei ddech-
■^=^ reuad cyntaf, na roddai le mawr i
ymdrechion y cynghorwyr, a'u llafur cariad
gydag achos Crist, yn dra anghyflawn, ac
yn wir yn gamarweiniol. Mewn peiriant,
y mae yr olwynion bychain o lawn cymaint
pwys, er nad mor amlwg, a'r olwynion
mawrion. Y prif olwynion, mor bell ag
yr oedd a fynai dynion a'r peth, yn y
diwygiad, oeddynt Rowland, a Harris, a
Wilham W^ilhams, Pantycelyn, a Howell
Davies. Olwynion bychain, o'u cymharu
a'r rhai hyn, oedd y cynghorwyr, er fod
rhai o honynt hwythau yn fwy, a rhai yn
llai ; ond heb eu gwasanaeth a'u cymhorth,
ni symudasai y peiriant yn ei flaen fel y
gwnaeth. Yr ydym yn meddu ar lawer o
hanes y rhai penaf o honynt ; gwyddom
am eu teithiau, eu peryglon, a'u dyoddef-
iadau ; adnabyddwn eu cymeriadau yn
bur drwyadl yn rhinwedd y llythyrau a
ysgrifenwyd ganddynt. Yr oeddynt oll yn
llawn tân ; bedyddiasid hwy yn helaeth
ag yspryd yr adfywiad ; a meddent ddewr-
der a barai iddynt gael eu clodfori fel
gwroniaid, pe buasai yn cael ei arddangos
ar faes y gwaed. Nid oeddynt heb eu
gwendidau ; pwy sydd ? Y mae rhai o'u
mympwyon a'u syniadavi yn ymddangos
i ni yn awr yn dra gwirion ; ond nis
gelUr amheu eu gonestrwydd, eu zèl, a'u
teyrngarwch i Grist. Am eraill, nid oes
genym ond eu henwau ; prin y ceir
unrhyw adgofion o'u hanes yn y cymydog-
aethau yn mha rai y buont yn llafurio ;
nid oes cofnod ar gael am ddim a wnaeth-
ant ar lyfrau y ddaear ; ond sicr yw fod
eu ffyddlondeb a'u diwydrwydd wedi eu
croniclo yn fanwl ar y llyfrau fry, a phan
y daw yr lesu i'w ogoneddu yn ei saint,
bydd yr hen gynghorwyr Methodistaidd
yn adlewyrchu ei glodforedd mor effeithiol
a neb pwy bynag. Dynion diddysg oedd
Ilawer o honynt, cartrefol eu gwisg, plaen
eu geiriau, heb fawr caboliad na gwrtaith
meddyliol ; ond gwnaent i fynu am bob
diffyg trwy eu hymroddiad, a'u Ilafur, a'u
zêl dros y Gwaredwr. Drwg genyni mai
hanes ychydig o'r prif gynghorwyr yn
unig a ganiata ein terfynau i ni roddi.
Un o'r cynghorwyr mwyaf adnab-
yddus, er efallai nad y mwyaf nodedig
ei ddoniau, oedd Richard Tibbot. Gan-
wyd ef yn Hafodypant, plwyf Llan-
brynmair, lonawr i8, 1718, ac yr oedd
yr ieuangaf o chwech o blant. Ym-
ddengys fod ei rieni yn hynod am eu
duwioldeb, ac ymunodd Richard a chrefydd
cyn ei fod yn Uawn pymtheg mlwydd
oed, a hyny, yn dra sicr, yn eglwys
Annibynol Llanbrynmair. Dywedir iddo
ddechreu pregethu yn y flwyddyn 1738,
yn Ilencyn ieuanc pedair-mlwydd-ar-bym-
theg. Nid yw hyn yn golygu y pregethai
yn rheolaidd ; nid oedd cyfleusterau i hyny
ganddo ar y pryd ; ond anerchai gynuU-
eidfa yn awr ac yn y man, pan y gofynai
Mr. Lewis Rees ganddo wneyd hyny.
Diau fod Richard Tibbot yn un o wranda-
wyr mwyaf aiddgar Howell Harris, pan yr
ymwelodd a'r Gogledd yn 1740, ac y mae
yn sicr ddarfod i'w weinidogaeth effro,
gyffrous, adael argraff ddofn arno, Tua'r
flwyddyn 1741 aeth i ysgol y Parch.
Grifíìth Jones, Llanddowror. Ai Lewis
Rees, ynte Howell Harris, a'i cymhellodd
i gymeryd y cam hwn, ni wyddis. Yn
bur fuan ymunodd a'r Methodistiaid.
Tybir iddo fod am ryw gymaint o amser
yn cadw ysgol yn nghymydogaeth Llan-
ddowror. Tebygol hefyd ei fod yn cyng-
hori yn nghymdeithasau y Methodistiaid
yn rhanau isaf Sir Gaerfyrddin, a'r rhan
214
Y TADAU METHODISTAIDD.
uchaf o Sir Benfro. Gwel y darllenydd
ainryw gyfeiriadau ato yn nghofnodau
Trefecca. Yn Nghymdeithasfa gyntaf
Watford penodwyd ef yn ymwelydd
cyflredinol y seiadau {baiids) ; mewn Cym-
deithasfa ddilynol penderfynwyd ei fod i
gadw ysgol yn Sir Benfro ; a chyn diwedd
y flwyddyn 1743 gosodw^yd ef yn arolygwr
y cymdeithasau bychain a gawsent eu
ffurfio yn Sir Drefaldwyn. Yn Nghym-
deithasfa Fisol Nantmel, Sir Faesyfed,
Ebrill 18, 1744, pasiwyd ei fod i ymroddi
yn hollol ac yn gwbl i'r gwaith o ymweled
a'r holl eglwysi (yn Sir Drefaldwyn)
unwaith bob wythnos. Ond mewn Cym-
deithasfa araU, a gynhaUwyd Hydref yr
un flwyddyn, penderfynwyd ei fod i fyned
at y brawd John Richard i ddysgu y
greíît o rwymo llyfrau.
Er fod Richard Tibbot wedi ymuno
a'r Methodistiaid, ac yn llafurus yn eu
mysg, eto teimlai gryn ymlyniad wrth yr
Annibynwyr, ac ymgymysgai â hwy i
raddau mawr. Crëodd hyn ryw gymaint
o ragfarn ato yn meddyHau y Methodist-
iaid, ac aethant i dybio ei fod yn fwy hoff
o'r Ymneillduwyr nag o honynt hwy. A
w^naed achwyniad cyhoeddus yn ei erbyn
am hyn, nis gwyddom ; ond deallai ef fod
y cyfryw deimlad yn bodoH. Y mae
llythyr o'i eiddo at Gymdeithasfa Hydref,
1745, ar gael yn Nhrefecca, yr hwn y
teimlwn fod tegwch hanesyddol yn galw
arnom i'w gyhoeddi. Yn ychwanegol, y
mae yn ddyddorol ar gyfrif y goleu a dafla
ar yspryd yr amseroedd, ac ar ansaw'dd
meddAvl Tibbot. Fel hyn y dywed : " Y
mae genym gynifer o faterion yn ein
Cymdeithasfaoedd Chwarterol, fel mai
ychydig o gyfleustra a feddwn i fynegu
ein barn a'n profiad parthed amryw
bethau, y byddai yn fuddiol i'n cynydd
a'n hundeb, a'n cariad brawdol, i ni
ymdrin â hwy. Y mae yn ein mysg,
hefyd, gynifer o wahanol syniadau am
ddisgyblaeth (ffurf-lywodraeth ? ) eglwysig,
fel yr ydym yn barod i ymranu oddiwrth
ein gilydd weithiau gyda golwg arnynt,
fel y brodyr yn Sir Forganwg, yr hyn
mewn rhan sydd yn oeri ein cariad, ac yn
lleihau ein braw^dgarwch, a'n hundeb. Gan
fy mod yn fynych gyda'r Ymneillduwyr,
ac yn eu cymdeithas yn aml, yr hyn a eill
fod yn achlysur i chwi dybio fy mod yn
cael fy arwain ganddynt, a'm bod yn
wrthwynebus i chwi mewn tymer a barn,
tybiais yn angenrheidiol wneyd datganiad
o'm syniadau gyda golwg ar seiliau crefydd,
pa mor befl yr wyf yn cydweled a chwi, a
pha mor bell yr wyf yn cydweled a'r
Ymneillduwyr.
" I. Dywedaf ychydig o'm meddwl, i
ddechreujgydagolwgaregwyddorion pwys-
icaf crefydd. Yma, fy mrodyr, rhaid i mi
gyfifesu fy nygn anwybodaeth ; y mae fy
nghalon wedi bod yn ddolurus er ys rhai
blynyddoedd oblegyd fy anwybodaeth ;
ond hyderaf nad wyf yn gorphwys yn
gyfangwbl ar gyffes. Nid wyf yn meddwl
ei fod yn ddigonol sail i mi ddarfod i mi
feddianu nifer o resymau, a chael rhyw
fath o oleuni oddifewn, a phrofi rhyw
gymaint o nerth ac awdurdod yn fy ngor-
fodi i gredu rhyw egwyddorion ; gwelaf y
rhaid i mi gael goleuni oddiwrth yr Yspryd
Glân i oleuo Uygaid fy enaid, fel y gwelwyf
weithrediadau ysprydol mor glir ag y
gwelaf wrthddrychau naturiol yn ngoleuni
yr haul, ac fei na byddo i mi newid fy
marn gyda golwg arnynt yn nydd angau,
yn nydd y farn, ac i dragywyddoldeb.
Dyma y ff"ydd a'r wybodaeth a ddymunaf,
ac yr wyf yn ocheneidio am na feddaf ; am
y wybodaeth hon yr ymgeisiaf, hyd nes y
meddianaf hi, yn Ilawn ac yn berffaith.
Dyma fy ffydd a'm barn, fel yr wyf yn
gweled yn bresenol, (a) Mai un Duw sydd;
{b) Fod Tri Pherson yn y Duwdod, o'r un
sylwedd, gallu, a gogoniant, sef y Tad, y
Mab, a'r Yspryd Glân. (c) Ein bod oU
wedi cwympo yn Adda, ac wrth naturiaeth
yn blant digofaint. {d) Ddarfod i Dduw
ethol rhyw nifer i fywyd tragywyddol
cyn dechreuad y byd. [e) I Fab Duw
ddyfod yn ddyn i waredu ei bobl etholedig.
(/) Mai trwy ei ufudd-dod ef y cyfiawnheir
ei bobl, ac mai trwy ffydd y deuant i
feddiant o'i gyfiawnder. (g) Fod y ddeddf
yn rheol bywyd i'r rhai sydd wedi eu
cyfiaw^nhau trwy Grist. Cymaint a hyna
am yr erthyglau.
" 2. Mew^n cysylltiad a disgyblaeth
eglwysig, credaf ei fod yn oddefol i rai,
mewn rhyw amgylchiadau, i bregethu, heb
dderbyn awdurdod oddiwrth ddynion, fel
yr arferwn ni yn awr ; ac mai ein dyled-
swydd ni ac eraill, dan y fath amgylchiadau,
yw disgwyl am arweiniad yr Arglwydd
trwy ei Yspryd, canlyn rheol ei Air,
gofalu na byddom yn gwneyd dim yn
groes i'w Air ysgrifenedig, a chrefu am
arweiniad Rhagluniaeth ac Yspryd Duw
i ddyfod i drefn ragorach. Er mai ein
dyledswydd yw bod yn drefnus, eto ni
ddylai amryw drefniadau ein cadw rhag
brawdgarwch, a chymdeithasu ag eraill,
RHAI O'R CYNGHORWYR BOREUAF.
215
na fyddo yn cadw y cyffelyb drefniant,
ond ydynt yn cyduno â ni am y prif
athrawiaethau, a chyda golwg ar fywyd
crefydd. Ond yr wyf yn foddlon i aros fel
yr ydyni parthed disgyblaeth eglwysig, hyd
nes y byddo i Dduw roddi i ni drefn a
disgyblaeth well yn ei amser ei hun.
" 3. Gyda golwg ar fy undeb a'r cyffred-
inolrwydd o'r corph o honom ni, ac a'r
YmneiIIduwyr, y mae undeb fy nghalon yr
un a'r undeb a broffesaf, ac a ddangosaf
yn fy ymddygiad. Fel y darfu i mi adael
yr Ymneillduwyr, o ran cymeryd fy llyw-
odraeth ganddynt, a rhoddi fy hun i'ch
llywodraeth chwi, gan broffesu fy hun yn
aelod gyda chwi, felly yr wyf yn teimlo yn
fy nghalon fwy o undeb a'r cyffredinol-
rwydd o honoch nag a'r Ymneillduwyr.
Ond y mae yr amryw brofedigaethau a
gefais y blynyddoedd diweddaf wedi bod
mor gryfìon, fel na fedraf dderbyn
egwyddorion crefyddol, na threfn eglwysig,
oddiwrth unrhyw blaid o bobl, yn unig am
eu bod hwy yn eu proffesu, heb i mi fy
hun weled eu gwirionedd. Nid wyf yn
awr, ychwaith, mor hawdd fy moddhau o
wirionedd pethau ag oeddwn unwaith, am
fy mod yn gweled ddarfod i mi gael fy
nhwyllo wrth dderbyn golygiadau fel gwir,
gan feddwl fy mod wedi fy ngoleuo ynddynt
gan yr Yspryd Glân, tra y gwelais ar ol
hyny nad oedd fy ngoleuni ond rhanol
ac anmherffaith. Hawdd genyf gyffesu
ddarfod i mi gredu mor gryf yn nghywir-
deb rhai pethau, fel na phetruswn sefyll
drostynt, hyd yn nod pe bai y bobl gallaf
a goreu yn barnu yn wahanol ; ac yr oedd
fy zêl wedi tyfu gymaint goruwch fy marn,
fel na ddarllenwn unrhyw Iyfr a fyddai yn
groes i'm golygiadau, fel pe bawn yn
berffaith mewn gwybodaeth, ac yn anffael-
edig ; ac yr oeddwn yn barod i gondemnio
unrhyw un, fel dyn anwybodus, a ddywedai
air yn fy erbyn. Ond cefais fynych achos
i newid fy syniad am anffaeledigrwydd fy
ngwybodaeth gwedi hyn. Ond yn awr
teimlaf rwymau i fod yn eiddigus gyda
golwg ar fy ngwybodaeth, ac i ddirnad
pethau yn ddwfn cyn eu credu, ac nis
gallaf ddirnad dim heb gael fy nysgu gan
Yspryd Duw. Er fy mod yn fwy mewn
undeb à chwi nag a'r YmneiIIduwyr, eto
gwelaf amfyw bethau yn ein mysg sydd
yn gofyn am gael eu diwygio : {a) Ein
bod yn rhy barod i dderbyn pethau fel
gwirionedd, heb eu chwilio yn ddigon
manwl, ac i farnu yn dda am danynt, yn
ol y gradd o gysur a weithiant oddimewn
i ni. {h) Tueddwn i edrych ar bob cysur
a dyddanwch fel cynyrch Yspryd Duw,
yn yr hyn y dylem weithiau fod yn dra
gochelgar, ac hefyd i farnu bywyd crefydd
wrth zêl, a gwresowgrwydd teimladau,
gan gondemnio eraill nad ydynt lawn mor
zêIog fel defodwyr. Gwell genyf fi farnu
pobl wrth eu hymarweddiad cyffredinol,
yn hytrach nag wrth yr hyn a ymddangos-
ant mewn odfaeon. {c) Y mae yn ein mysg
ormod o yspryd partíoi, yr hyn wyf yn ei
gashau yn mhawb. Yr ydym yn rhy barod
i gondemnio rhai o'n brodyr, yr YmneiII-
duwyr, i'w cau allan o'n cymdeithas, ac
i ddweyd yn eu herbyn ; yr hyn, pe y
gwnaethent hwy a ni, a alwem yn erled-
igaeth. Y mae yspryd agored, diragfarn,
yn werthfawr.
" 4. Gyda golwg ar yr YmneiIIduwyr,
yr wyf yn caru yr hyn sydd dda ynddynt ;
ond cyn y gallaif eu barnu yn gywir, rhaid
i mi wybod eu hamgylchiadau, oblegyd
gwahaniaethant gymaint yn eu mysg eu
hunain ag a wahaniaethwn ni oddiwrthynt
hwy ; felly, nid wyf yn cyduno a'r Socin-
iaid, yr Ariaid, yr Arminiaid, a'r Baxter-
iaid sydd yn eu mysg ; ond y mae y rhai
difrifol a sobr o honynt mor anwyl i mi a
neb, ac yr wyf yn cadw ar y telerau mwyaf
anwyl â hwynt. Eithr nid wyf yn cael
fy nghario i roddi fy hun dan eu Ilyw-
odraeth, am fy mod yn credu mai ewyllys
Duw yw i mi aros fel yr wyf,
" 5. Y mae genyf rai pethau i'w gosod
ger eich bron, a fyddai, fel yr wyf yn credu,
yn fuddiol i ni : {a) Dylem fod yn fyrach,
os yw bosibl, wrth ymdrin ag allanolion,
gan ymddiddan mwy am brif bynciau
crefydd, a holi ein hunain am ein sail, a'n
sicrwydd, a'n profiad o honynt. Gwedi
dod mor bell i'n Cymdeithasfaoedd, da
fyddai i ni hebgor peth o amser cysgu, ac
amser bwyta, gan ymroddi i adeiladu y
naill y Ilall yn ysprydol. {b) Tueddaf i
feddwl mai buddiol i ni fyddai rhoddi ein
barn gyda golwg ar egwyddorion mewn
argraff, fel na byddo camsyniadau, na Ile i
neb feddwl ein bod yn coleddu syniadau
nad ydym. Byddai hyn, hefyd, yn gymorth
i ni ddeall golygiadau ein gilydd, ac yn
tueddu i fwy o undeb. A manteisiol fyddai
gadael tystiolaeth am wirionedd yr efengyl
ar ein hol, fel y gallai lefaru er Iles oesoedd
i ddyfod. {c) Tybiaf, pe y gwelai Rhag-
luniaeth yn dda agor y ffordd, y dylid
gosod ysgol i fynu, er mwyn gweini rhyw
gymaint o hyfforddiant i'r rhai sydd yn
cynghori. Gallai ychydig o fisoedd ynddi,
2l6
Y TADAU METHODISTAIDD.
gyda bendith Duw ar yr addysg, fod
yn dra llesiol. Hyn yn ostyngedig, fy
mrodyr, oddiwrth eich annheilwng frawd
a chydfilwr, Richard Tihbot."
Dengys y llythyr hwn Richard Tibbot
fel gŵr craff, nodedig o ddiragfarn, ac yn
meddu gwroldeb digonol i ddweyd ei
olygiadau wrth Gymdeithasfa a gynwysai
ddynion fel Whitefìeld, Rowland, a Harris.
Yr oedd yn fwy o Fethodist nag o An-
nibynwr ; ac nid oedd cefnu ar y Method-
istiaid yn ei fwriad yr adeg yma ; ond elai
i mewn ac allan gyda phob plaid union-
gred, gan deinilo yn gynes at bawb oedd
yn caru yr Arglwydd lesu. Mor bell ag
y gwyddom, efe, yn y llythyr hwn, a
awgrymodd gyntaf y priodoldeb o gael
Cyffes Ffydd a Rheolau Dysgyblaethol, a
dyma hefyd y cyfeiriad cyntaf at gael
athrofa. Mewn rhyw bethau diau ei fod
o flaen ei oes. Y mae y crybwylHad a
geir yn y llythyr am y brodyr yn Sir
Forganwg yn cyfeirio at genadwri cyng-
horwyr y Groeswen at Gymdeithasfa
Cayo, Gwanwyn 1745, yr hon a ddaw dan
ein sylw eto. Tra yr oedd yr YmneiU-
duwyr ar y pryd wedi ymgladdu yn
ormodol mewn defodau oerion, ac yn
condemnio pob gwresowgrwydd crefyddol,
gwelai Richard Tibbot berygl i'r Meth-
odistiaid roddi pwys gormodol ar zêl, a
phroíìad tumewnol ; a hiraethai ei enaid
am fwy o oddefgarwch a chariad brawdol
o'r ddau tu.
Y mae yn sicr i'r llythyr roddi boddlon-
rwydd i'r Gymdeithasfa, oblegyd ychydig
wedi hyn cawn holl eglwysi Gwynedd
wedi eu gosod dan ei ofal ; arolygai y cym-
deithasau yn Siroedd Trefaldwyn, Meirion,
Dinbych, ac Arfon. Wrth deithio, dyodd-
efodd ei ran o erledigaethau. Unwaith yn
Sir Gaernarfon, pan ar ganol pregethu,
ymosodwyd arno gan was boneddwr, yr
hwn a'i curodd a ffon o gwmpas ei ben yn
ddidrugaredd, fel y syrthiodd mewn llewyg,
ac y bu glaf am amser. Dro arall, pan ar
daith yn yr un sir, dygwyd ef gerbron
heddynad, yr hwn a'i triniodd fel vagabond,
gan ei anfon adref o gwnstab i gwnstab, y
naiU yn ei roddi i fynu i'r llall, fel pe
byddai yn greadur peryglus. Yn yr ym-
raniad rhwng Rowland a Harris, ymunodd
Tibbot ar y cychwyn a phlaid y diweddaf.
Yr oedd yn naturiol iddo wneyd felly ;
Harris oedd y cyntaf o'r Methodistiaid i enill
ei fryd ; Harris oedd y mwyaf ei ddylanwad
o'r Diwygwyr yn Sir Drefaldwyn, a chydag
ef y bwriodd yr hoU seiadau yn y sir eu
coelbren. Cawn enwau Tibbot, a Lewis
Evan, Llanllugan, yn mysg y rhai oeddynt
yn bresenol yn Nghymdeithasfa gyntaf
plaid Harris, yr hon a gynhahwyd yn
St. Nichohis, Gorph. 25, 1758; a rhaid
fod cryn zêl yn eu meddianu cyn y teith-
ient o ganol Trefaldwyn i Fro Morganwg
er mwyn bod yno. Yn y Gymdeithasfa
trefnwyd fod Richard Tibbot i ddwyn
adroddiad am ystâd y seiadau yn Sir
Drefaldwyn i'r Gymdeithasfa ddilynol, ac
i fyned ar daith i'r Gogledd i bregethu am
dair wythnos. Cawn ef hefyd yn Nghym-
deithasfa Fisol Llwynyberllan, Rhagfyr
30, yr un flwyddyn, ac yr oedd yn un o'r
rhai ddarfu ateb pan y gofynodd Harris
pwy oedd yn barod i roddi ei galon a'i law
i'r Arglwydd. Nid oedd yn Nghymdeith-
asfa Dyserth y dydd lau canlynol, ond
ceir nodiad yn y cofnodau yn dweyd iddo
gael ei anfon y boreu hwnw i'r Gogledd,
yr hyn a ddengys mai nid diffyg cydym-
deimlad â Howell Harris, a'r rhai a ymiyn-
ent wrtho, a achosai ei absenoldeb. Yii
raddol, pa fodd bynag, ymddengys i
amheuaeth gref godi yn meddwl Tibbot
gyda golwg ar yr yspryd a lywodraethai
Harris a'i ganlynwyr. Ac yn Nghym-
deithasfa y blaid, yr hon a gynhaliwyd yn
Llwynbongam, Gorph. 2, 1751, daeth
pethau i argyfwng. Gofynai Harris am
arwydd, pwy oedd a ffydd ganddo i
gymeryd y wlad, ac i sefyll yn unig yn y
gwaith gyda'r Arglwydd, heb neb gydag
ef. Ystyr hyn, dybygid, oedd myned o
gwmpas y seiadau, er cael ganddynt gefnu
ar yr offeiriaid Methodistaidd. Gwrth-
ododd amryw arwyddo. Y nos gyntaf, yr
oedd Tibbot yn anmhenderfynol ; gwelai
y brodyr heb fod yn sefydlog, a theimlai
awydd am gael ymddiddan a'r blaid arall.
Ceisiai Harris ymresymu ag ef, a dangos
yr angenrheidrwydd am farn sefydlog ;
dywedai, yn mhellach, fod y rhai a ym-
adawsant wedi tramgwyddo, a bod pob
moddion posibl wedi cael ei ddefnyddio
i'w hadfer. Eithr ofer a fu yr ymresymu.
A boreu dranoeth, trowyd Richard Tibbot
allan am wrthod ufuddhau i fyned o
gwmpas, ac am ei benderfyniad i fyned
i ymddiddan a phlaid Daniel Rowland.
Allan yr aeth, gan fwrw ei goelbren gyda
Rowland, a pherthyn i'w blaid ef y bu tra
mewn cysylltiad a'r Methodistiaid. Ni
phallodd ei deimladau caredig at Harris er
hyn, a phan fu gwraig y diweddaf farw
ysgrifenodd Tibbot ato lythyr, yr hwn sydd
yn awr ar gael, yn datgan ei gydymdeimlad
RHAI O'R CYNGHORWYR BOREUAF.
217
ag ef yn ei dywydd ; llythyr Cristionogol,
yn llawn o syniadau aruchel, yn gystal a
thynerwch.
Llafuriodd Richard Tibbot yn mysg y
Methodistiaid hyd y flwyddyn 1762. Y
pryd hwnw yr oedd eglwys Annibynol
Lhmbrynmair yn amddifad o weinidog,
gan fod y Parch. Lewis Rees wedi
symud i'r Mynyddbach, ger Abertawe ;
taer gymhellwyd Tibbot i gymeryd ei le,
yr hyn a wnaeth yntau. Tebygol fod
arno, fel amryw o'r cynghorwyr eraiU,
awydd cael ei ordeinio, yr hyn ni chai gan
y Methodistiaid. Ar yr un pryd, nid oedd,
wrth gymeryd y cam hwn, yn troseddu
unrhyw egwyddor, nac yn gwneyd cam a'i
gydwybod; gyda'r Annibynwyr y cawsai ei
ddwyn i fynu ; pan gwedi ymuno a'r
Methodistiaid, ymgymysgai yn rhwydd a'i
frodyr gynt, gan deimlo parch mawr
iddynt ; ac o'r dechreu nid oedd enwad
a phlaid o nemawr pwys yn ei olwg.
Gweithiodd yn ddyfal yn Llanbrynmair ;
cyrhaeddai cylch ei weinidogaeth o Fach-
ynlleth i Landinam ; ac yn ychwanegol,
teithiai yn fynych trwy Ddê a Gogledd
Cymru. Yr oedd mor gymeradwy yn
mysg y Methodistiaid a chynt, ac nid oedd
ei barch yntau iddynt hwy ddim yn Uai ;
presenolai ei hun hyd ddiwedd ei oes yn
Nghymdeithasfaoedd Llangeitho a'r Bala,
a chaffai bregethu ynddynt ar yr adeg
fwyaf anrhydeddus. Pan yn teithio, pre-
gethai yn nghapelau y ddau enwad yn ddi-
wahaniaeth, a chroesawid ef yn addoldai
y Bedyddwyr. Ni wyddai am gulni
enwadol ; yr oedd ei dŷ yn Llanbrynmair
yn agored i weinidogion a chynghorwyr
pob plaid grefyddoL
Nid oes ond y dydd mawr a ddengys
faint llafur y gŵr da hwn, na'r erUdiau a
ddyoddefodd yn ei ymdrechion gyda'r
efengyh Arferai fyned i'r Waenfawr, ger
Caernarfon, er cymaint y peryglon y
gosodai ei hyn yn agored iddynt, a lletyai
yn nhy Thomas Grifíith, tad y bardd
adnabyddus, Dafydd Ddu Eryri, yr hwn a
gadwai siop fechan yn ymyl y bont. Pan
ddeuai Tibbot i olwg y lle, torai allan i
ganu ; ac ar waith Tiíomas Grifíiths yn
clywed y llais, cyffröai trwyddo, a dywedai
mewn Hinell farddonol : —
" Dyna Tibbot, yr wy'n tybied."
Pr Waenfawr y cyrchai yr ychydig Feth-
odistiaid oeddynt yn nhref Caernarfon i
addoli. Cynygiodd Wilhams, Pantycelyn,
bregethu yn y dref, ond rhwystrwyd ef
gan yr erhdwyr. Er gwaethaf y terfysg-
'wyr, meiddiodd Tibbot lefaru yno tua'r
flwyddyn 1770. Safai, meddir, ar risiau
tŷ un Hugh Owen, lledrwr [curricr),
gyferbyn a tliafarndy "Y Delyn," yn
ngwaelod heol Penyrallt. Ond ni chafodd
lonyddwch. I gychwyn, daeth un Twm
y Goes-fawr yno, gan sefyll ar risiau uwch,
a lluchio prenddysglau at y pregeth-
wr, nes yr oedd ei ben yn orchudd-
iedig gan archolhon, a'i waed yn Ihfo.
Yn ganlynol, cynygiodd rhyw adyn ei
saethu, ond methodd. Gwaeddai rhyw
un yn groch dros y lle, mewn cynddaredd
oedd yn gyfartal i'w anwybodaeth : " I ba
beth y mae y diafliaid hyn yn dyfod yma
i ddwyn yr efengyl oddiar Grist, nis
gwn i." Pa fodd y gorphenodd yr odfa,
ni ddywedir, ond ar y terfyn carcharwyd y
pregethwr a'i anifail yn y castell ; goll-
yngwyd hwy ymaith, modd bynag, foreu
tranoeth, heb dderbyn niwaid.
Cawn hanes am dano, gyda chynghorwr
o'r enw Edward Parry, yn pregethu yn
gyfagos i Henllan, Sir Ddinbych. Daeth
offeiriad Llanefydd, ynghyd a Mr. Wynn,
Plasnewydd, yno i'w rhwystro. Tueddai
Mr. Wynn i aros i wrando, er cael deall-
twriaeth am yr athrawiaeth a draethid
ganddynt ; ond rhuthro yn mlaen yn ei
afiaeth a wnaetli yr offeiriad, gan ofyn yn
sarug : " Paham y meiddiwch bregethu
mewn tŷ heb ei drwyddedu ? " Atebodd
Edward Parry yn fwynaidd : " Y mae
gorchymyn wedi ei roddi i fyned i'r prif-
ffyrdd a'r caeau ; ac yn fy nhyb i, nid
gwaeth myned i dŷ, os bydd cyfleusdra yn
rhoi." " Yr wyf fi," ebai'r offeiriad, " yn
pregethu i'r plwyfohon bob Sul, fel nad
oes raid i neb arall ymyraeth." Deallodd
Tibbot wrth hyn mai clerigwr ydoedd, ac
ebai efe : " Yr wyf yn tybied, Syr, mai
o'r un llyfr a minau yr ydych chwi yn
pregethu, ac feallai oddiar yr un testunau."
" Rhowch weled pa lyfr sydd genych,"
ebai'r clerigwr. Estynodd yntau Desta-
ment Groeg iddo. Ágorodd yr offeiriad
a Mr. W^ynn eu llygaid pan welsant y
Testament Groeg ; ni thybiasent fod y
Pengryniaid dirmygus yn gwybod dim am
yr ieithoedd clasurol, ac ymadawsant iU
dau heb ddweyd gair yn ychwaneg.
Y tro olaf y pregethodd Richard Tibbot
oedd lonawr 21, 1798. Pregethodd ddwy
waith y Sul hwnw, a gweinyddodd yr
ordinhad o Swper yr Arglwydd mewn dau
le. Ymddangosai fel pe byddai ei gorph yn
gryfach, a'i deimladau yn fwy nefolaidd
2l8
Y TADAU METHODISTAIDD.
nag arferol. Sylwai un o'i wrandawyr
ei füd, wrth son am ddyoddefìadau yr
Arglwydd lesu, braidd fel be buasai yr
ochr fewn i'r llen. Bu farw Mawrth i8,
1798, yn agos i bedwar ugain mlwydd oed.
Pregethodd ei olynydd, y Parch. John
Roberts, yn ei gladdedigaeth, oddiar y
geiriau : " Oni wyddoch chwi i dywysog
ac i \Vr mawr syrthio heddyw yn Israel ? "
Tystiolaeth pawb a'i hadwaenent oedd
ei fod yn ddyn galluog, ac o alluoedd
meddyhol cryfion ; er nad oedd yn ym-
adroddus, nac o ddoniau dysglaer, yr oedd
yn dduwinydd gwych ; ac yr ydoedd yn
un o heddychol ffyddloniaid Israel. Mewn
cyfnod ag yr oedd rhagfarn grefyddol yn
rhedeg yn uchel, a dallbleidiaeth yn ffynu,
yr oedd Tibbot yn glynu wrth hanfodion
yr efengyl, gan ddibrisio y mân gwestiynau
a wahanent y naiU blaid oddiwrth y llall.
Y niae ei goffadwriaeth yn fendigedig hyd
y dydd hwn.
Cynghorwr arall yn Sir Drefaldwyn a
haedda ein sylw yw Lewis Evan, Llan-
llugan. Yr ydym wedi cyfeirio yn barod
at ei argyhoeddiad yn Nhrefeglwys, dan
weinidogaeth Howell Harris, yn y íîwydd-
yn 1740, a'i waith yn dechreu cynghori yn
bur fuan gwedin, heb gael caniatad gan
unrhyw lỳs, crefyddol na gwladol. Ym-
ddengys iddo gael ei eni yn y flwyddyn
1719, ac felly yr oedd yr un oed a
Richard Tibbot. Gwehydd oedd wrth ei
gelfyddyd ; gweithiai gyda ei dad mewn
lle o'r enw Crygnant. Peth dyeithr yn y
wlad y pryd hwnw oedd fod gwehydd
ieuanc yn myned o gwmpas o dŷ i dŷ, i
ddarllen y Beibl, ac i weddío, a chynghori ;
creodd ei ymddygiad gryn gyffro yn yr
ardal ; ac yn bur fuan deffrodd erledigaeth.
Gwasanaethai dyn cryf o gorph yn Plas-
helyg, amaethdy rhwng cartref Lewis
Evan a thy yr arferai gyrchu iddo i
ddarllen ; ymddengys fod y gweddío a'r
cynghori yn cythruddo gwas Plashelyg yn
enbyd, a gwyhai Lewis Evan yn pasio,
gan ei fygwth yn dost oni roddai heibio
y gorchwyl. Hyn nis gwnai yntau, a'r
diwedd a fu i'r adyn creulon ei guro yn
dost, nes yr oedd y ffordd yn goch gan
ei waed. Yr oll a atebodd i'w erhdiwr
ydoedd : " Dywed i mi, fy machgen gwyn,
pa beth a wnaethum i ti, gan dy fod yn fy
nhrybaeddu fel hyn ? "
Ceir cyfeiriadau mynych at Lewis Evan
yn nghofnodau Trefecca. Mewn Cyfarfod
Misol a gynhahwyd yn y Tyddyn, ger
Llanidloes, Chwefror 17, 1743, rhoddwyd
nifer o eglwysi Sir Drefaldwyn dan ei ofal
ef, mewn undeb a Morgan Hughes, a
Benjamin Cadman. Yn y Cyfarfod Misol
a gynhahwyd yn Glanyrafonddu, yn mhen
pythefnos gwedin, rhoddwyd cymdeith-
asau Llanllugan, a Llanwyddelan, yn
gyfangwbl tan arolygiaeth Lewis Evan,
tra y cafodd B. Cadman ei drefnu i
ymweled a holl eglwysi y sir. Pender-
fynwyd mewn Cymdeithasfa Fisol yn
Nhrefecca, lonawr, 1744: " Fod y brawd
Lewis Evan i fyned can belled ag
y gallai, yn gyson a'r alwad a fyddai
arno, i Sir Feirionydd." Yn adroddiad
Richard Tibbot o ansawdd yr eglwysi yn
Nhrefaldwyn, yn yr un flwyddyn, dywedir :
" Y mae Lewis Evan, yr hwn sydd yn
cynghori yn Llanhugan, yn cael ei arddel
gan yr Arglwydd i fod yn ddefnyddiol i
lawer ; y mae amryw ddrysau yn cael eu
hagor iddo, ac amryw wedi cael eu har-
gyhoeddu trwy ei athrawiaeth." Ym-
ddengys ei fod yn bregethwr effeithiol, ac
yn dra derbyniol gan y cymdeithasau tros
yr hoU wlad. Mewn llythyr oddiwrth un
T. E., Tyddyn, dyddiedig Awst i, 1746,
at Harris, ceir a ganlyn : " Yr oedd y
brawd Lewis, o Lanllugan, yma ychydig
amser yn ol ; crychneidiai calonau y saint
o'u mewn tan ei ymadroddion. Syndod
fel y mae yr Arglwydd yn peri i'r dyn hwn
gynyddu mewn dawn a gras." Yn haf
1747, dywed Mr. T. Bowen, Tyddyn,
mewn Uythyr at Harris : " Y mae dyfodiad
y brawd Lewis Evan atom wedi bod yn
nodedig o adfywiol yn ddiweddar." Oddi-
wrth yr amrywiol dystiolaethau yma nis
gelHr amheu fod y cynghorwr diaddysg o
Lanllugan yn meddu hawer o gymhwys-
derau pregethwrol, a'i fod yn cael ei
fendithio gan ei Feistr i fod yn offeryn i
achub pechaduriaid, ac i adeiladu y saint.
Fel hoU gymdeithasau a chynghorwyr
Trefaldwyn, yn yr ymraniad' gofidus
rhwng Rowhìnd a Harris, cymerodd
Lewis Evan blaid y diweddaf, ei dad yn
y ffydd, ac yr oedd yn bresenol yn y
Gymdeithasfa gyntaf a gynhaliwyd ganddo
ef a'i bleidwyr yn St. Nicholas. Pan y
penderfynwyd yno anfon nifer o gynghorwyr
i Ogledd Cymru, er perswadio y seiadau
mai Harris oedd yn gywir, a bod Rowland
a'i ganlynwyr wedi colH eu gafael ar yr
Arglwydd, yr oedd Lewis Evan, Llan-
Uugan, yn un o'r anfonedigion. Dengys
hyn yr ystyrid ef yn ddyn o ymddiried.
Cawn ef yn bresenol yn Nghymdeithasfa
yr Harrisiaid, a gynhahwyd yn Dyserth,
RHAI O'R CYNGHORWYR BOREUAF.
2ig
lon. 3, 1751, a darfu iddo, fel nifer o
gynghorwyr eraill, ddatgan ar gyhoedd ei
barodrwydd i gyflwyno ei hun a'r oll a
feddai i'r Arglwydd. Penodwyd ef yno i
fod yn un o'r rhai oeddynt i adael pob
peth, ac i fyned o gwmpas yn wastadol,
i wasanaethu yr achos. Yr oedd yn
Nghymdeithasfa y blaid yn Nhrefecca, y
Chwefror canlynol ; yn Nghymdeithasfa
Castellnedd, Ebrill 10, yr un flwyddyn ;
ac yn Nghymdeithasfa Llwynbongam,
Gorph. 2, 1751, Ue y gwnaeth, fel eraill,
ail ddatganiad o'i ymroddiad i wasanaethu
crefydd tan arweiniad Harris. Cafodd yr
anrhydedd o bregethu hefyd yn y Gym-
deithasfa hon. Y tro diweddaf y ceir ei
enw yn y cysylltiad hwn yw yn Nghym-
deithasfa Trefecca, Hydref 2, 1751. An-
ogid y brodyr yno gan Harris i adrodd eu
teimladau yn rhydd ; yr ail i agor ei enau
oedd Lewis Evan ; dywedai ef ei fod yn
teimlo angenrhaid arno, ddydd a nos, i
fyned at yr lesu croeshoeHedig, ac i
weithio drosto. Eithr yn raddol darfu i
dra-awdurdod cynyddol Howell Harris,
a'i waith yn cyfyngu yn benaf ei lafur i
Drefecca, beri i Lewis Evan, fel nifer o
gynghorwyr eraill, droi ei gefn arno, ac ail
ymuno a'r Methodistiaid dan dywysiad
Daniel Rowland,
Ni ddyoddefodd neb yn yr oes hono fwy
dros yr efengyl na Lewis Evan ; darllena
ei beryglon, ei ddyoddefaint, a'i waredig-
aethau fel rhamant. '■' Pan y teithiai
unwaith yn Nyffryn Clwyd, yr oedd dau
ddyn yn sefyll yn ymyl pont yn ei ddis-
gwyl, gyda phastynau mawrion yn eu
dwylaw ; a chan un o honynt tarawyd ef
ar ei ben, nes yr oedd ei waed yn ffrydio.
Ni wyddai efe, oblegyd y syfrdandod a
achosid gan y ddyrnod, fod ei waed yn
llifo, nes i ryw wraig ei gyfarfod, a gofyn
iddo yn gyffrous : " Yn enw'r mawredd,
beth yw y drefn yna sydd arnoch ? " Fel
yr oedd, cyrhaeddodd dŷ un o'i gyfeillion,
lle y cafodd olchi ei friwiau, a phob
ymgeledd. Dro arall, pan yn cynghori yn
Darowain, nid yn nepell o Fachynlleth,
daeth tua thriugain o ddihyrwyr o'r dref
i aflonyddu arno, gan lawn fwriadu ei
niweidio. Gan eu bod yn rhy ffyrnig i
ymresymu â hwynt, ac yn rhy gryfion i'w
gwrthsefyll, nid oedd dim i'w wneyd ond
ffoi, a ffoi a wnaeth. Gan ei fod yn ysgafn
o gorph, ac yn chwimwth ar ei droed, nid
oedd heb obaith dianc. Wrth redeg,
* Drych r Aviscroedd.
syrthiodd i fíos ddofn, a ddigwyddodd fod
yn sych ar y pryd ; daeth i'w feddwl y
gallai y ffos fod yn ymguddfa iddo. Ynddi
y Ilechodd nes yr aeth yr erlidwyr heibio,
ac felly y dihangodd o'u crafangau,
Pan yn pregethu yn y Bala un Sabboth,
anfonodd boneddwr, oedd hefyd yn hedd-
ynad, swyddogion i"w ddal, ac i'w ddwyn
ger ei fron. Galwyd Lewis Evan i'r
parlwr, a chymerodd yr ymddiddan can-
lynol le rhwng y ddau : —
Ynad. " Ai ti a fu yn pregethu yn
y Bala ? "
Lewis Evan. " lë, Syr, myfi fu yn
rhoddi gair o gyngor i'r bobl."
Ynad. " O ba le yr wyt yn dod, a
pheth yw dy orchwyl pan fyddi gartref ? "
L. E. " O Sir Drefaldwyn, o blwyf
Llanllugan, yr wyf yn dod, a gwehydd
wyf wrth fy ngalwedigaeth."
Ynad. " Beth a ddaeth a thi y ffordd
hon ? Ai nid oedd genyt ddigon o waith
gartref ? "
L. E. " Oedd, digon ; ond mi ddaethum
yma i roddi gair o gynghor i'm cyd-
bechaduriaid."
Ynad. " Nid oes yma ddim o dy
eisiau. Y mae genym ni bersoniaid wedi
cael addysg dda, ac wedi cael eu dwyn i
fyny trwy draul fawr yn Rhydychain, i
bregethu i ni."
L. E. " Y mae digon o waith iddynt
hwy a minau. Y mae y bobl yn myned
yn Iluoedd tua dystryw er y cyfan."
Ynad. " Mi a'th anfonaf i'r carchar
am dy waith."
L. E. " Bu fy ngwell i yn y carchar
o'm blaen. Carcharwyd yr Arglwydd
lesu ei hun, er iddo ddyfod i'r byd i
gadw pechaduriaid." Gyda hyn, dywedai
y gwehydd air yn mhellach am yr Ar-
glwydd lesu, ac am ei amcan goruchel
yn dyfod i'r byd ; ond yr ynad a'i lludd-
iodd, gan ofyn : " A wyt ti yn meddwl
pregethu yn fy mharlwr i ? "
" Nid wyf yn meddwl, Syr," oedd yr
ateb, " fod eich parlwr chwi yn rhy
dda i ddywedyd am lesu Grist ynddo."
Gwelai yr ynad nad oedd fawr tebygol-
rwydd yr enillai lawer ar y pregethwr
trwy ymddiddan o'r fath ; felly, anfonodd
ef i garchar Dolgellau, Ile y bu y gwehydd
tlawd am yspaid haner blwyddyn. Eithr
aeth cyfeillion yr efengyl i chwilio i mewn
i'r helynt, a chawsant fod y prawf a'r
ddedfryd yn afreolaidd, a bod y boneddwr
a'i traddododd, yn ol pob tebyg, wedi
gosod ei hun yn ngafael y gyfraith trwy yr
Y TADAU METHODISTAIDD.
amryfusedd a gyflawnasai. Deallodd yr
ynad hyny yn ogystal, a bod cyfeillion
Lewis Evan yn bwriadu cael ymchwiliad
i'r helynt. Brysiodd i Ddolgellau, ac i'r
carchar at Lewis Evan, lle y cymerodd yr
ymddiddan a ganlyn le : —
Ynad. " Wel, Lewis, ai yma yr wyt
ti eto ? "
L. E. " lë, Syr, dyma lle yr wyf."
Ynad. " Mae yn debyg mai yma y
byddi di byth."
L, E. " Na, ni fyddaf fi na chwithau
yma byth."
Ynad. " Pe y rhoddit ychydig arian,
mi a allwn dy gael allan."
L. E. " Yn wir, Syr, chwi a ddylech
fy nghael allan am ddim, gan fod genych
law fawr yn fy rhoddi i mewn."
Ynad. " Dywed i mi, a oes llawer o
honoch ? "
L. E. " Oes, Syr, y mae llawer o honom,
ac fe fydd mwy o lawer eto yn mhen
ychydig amser."
Ynad. " Yn nghrog y bo'ch chwi wrth
yr un gangen."
L. E. " O ! Syr, chwi fyddwch chwi
wedi hen bydru cyn hyny."
Afreidiol ychwanegu ddarfod goUwng
Lewis Evan yn rhydd yn ebrwydd, ac
heb ddim costau. Mewn canlyniad, gad-
awyd yr ynad yn llonydd, ond rhoddwyd
ar ddeall iddo y cedwid llygad arno o hyny
allan, ac na oddefid iddo gyflawni y fath
gamwri mwy.
Meddai Lewis Evan lawer o ffraethder
a pharodrwydd ymadrodd yn nghanol
diniweidrwydd diddichell. Dringasai ef
a Mr. Foulkes, Machynlleth, i ben yr
Wyddfa unwaith ; ac wedi cyrhaedd ei
gopa tynai Mr. Foulkes ei het, a dywedai :
" Beth pe yr aem ychydig i weddi ? "
" Da iawn, Mr. Foulkes," oedd yr ateb ;
" gwnewch ar bob cyfrif, daliwch afael ar
y cyfleustra, oblegyd ni fuoch mor agos i'r
nefoedd erioed o'r blaen." Rhaid i ni
ymatal, onide gallem groniclo Uu o hanes-
ion am dano. Dyn bychan ydoedd, by wiog
ei ysgogiadau, cyflym ei leferydd, a pharod
ei ymadrodd. Ni ystyrid ef yn bregethwr
mawr, ond bu yn dra defnyddiol. Daliai
afael ar bob cyfle i gynghori. Yr oedd
rhyw adnod o'r Beibl, neu air o addysg,
ar ei wefus yn wastad. Cyfì^elybid ef i
ysgol symudol, gan mor ddyfal yr oedd yn
cyfranu gwybodaeth am Dduw, a chyflwr
colledig dyn, i'r rhai a gyfarfyddai. Bu
farw yn y flwyddyn 1792, yn 72 mlwydd
oed, ac yn ddiau aeth i dangnefedd.
Canodd nai iddo farwnad ar ei ol, ond nis
gallwn ei chofnodi o ddiffyg lle.
Cynghorwr arall, o gryn enwogrwydd,
oedd ílerbert Jenkins. Cawsai ei eni
yn mhlwyf Mynyddislwyn, Sir Fynwy, yn
y flwyddyn 1721. Ymddengys fod ei
rieni yn ddynion crefyddol, ac mewn
amgylchiadau cysurus, a rhoisant addysg
dda i'w mab. Bu am ryw gymaint o
amser yn yr ysgol yn Mryste, gyda
Mr. Bernard Fosket, athraw athrofa y
Bedyddwyr. Yn ol pob tebyg, argy-
hoeddwyd ef dan weinidogaeth Howell
Harris, ac yn bur fuan dechreuodd lefaru
am Grist wrth ei gyd-bechaduriaid. Gan
y medrai bregethu yn Gymraeg ac yn
Saesneg, a'i fod o ddawn poblogaidd,
daeth galwad mawr am ei wasanaeth. Yn
Nghymdeithasfa gyntaf Watford, ei enw
ef a geir y blaenaf ar restr y cynghorwyr
a dderbyniwyd i undeb y Gymdeithasfa.
Ei enw ef hefyd yw y cyntaf ar restr y
cynghorwyr presenol yn yr ail Gymdeith-
asfa ; a phan y dosrenid y wlad tan
arolygiaeth cynghorwyr, ni roddwyd adran
i Herbert Jenkins, eithr trefnwyd iddo i
fod yn gynorthwywr i Howell Harris, ac
i'r brodyr Saesnig. Amlwg felly yr
ystyrid ef mewn rhai pethau yn rhagori
ar ei gyd-gynghorwyr. Dywedir iddo
gael yr apwyntiad gwedi i Howell Harris
ei glywed yn pregethu yn ardderchog, ar
ddirgelwch Duwdod y Gwaredwr. Pa
mor uchel y syniai Harris am dano a
welir oddiwrth lythyr o'i eiddo at White-
field, Chwefror 12, 1743. Meddai : " Y
mae yr Arglwydd yn bendithio y brawd
Herbert Jenkins yn fawr. Gwelais ef yr
wythnos hon, ar ei ddychweliad o Siroedd
Penfro, Morganwg, a Chaerfyrddin. Y
mae yn cael ei arddel, a'i hoffi ; ac y mae
galw cyffredinol am dano ; ac oni fydd ei
alwad i swydd Wilts yn bur eglur, nid
wyf yn meddwl y dylai fyned, oddieithr yn
achlysurol, yn enwedig gan fod y brawd
Adams yn dyfod yn mlaen mor ddymunol.
Ymddengys, modd bynag, mai llefau y
brodyr Saesnig a orfu, oblegyd yn eu
mysg hwy y treuliodd Herbert Jenkins y
rhan fwyaf o w^eddill ei oes. Yn Hanes
Byiiiyd yv larlles Hnntington, dywedir iddo
ymuno a chymdeithas Mr. Wesley yn
1743, ac iddo deithio yn y cyfundeb hwnw
am rai blynyddau gyda dyhewyd a llwydd-
iant ; ei fod yn bresenol yn ail gynhadledd
y Wesleyaid, a gynhaliwyd yn Mryste yn
1745, ac y ceir ei enw yn olaf ar restr
y pregethwyr teithiol. Ond nid yw yn
RHAI O'R CYNGHORWYR BOREUAF.
221
ymddangos fod y nodiad yn hollol gywir.
Nid ymwahanasai Herbert Jenkins oddi-
wrth ei hen frodyr, er iddo lafurio yn
mysg y Wesleyaid am beth amser. Ỳn
mhellach yn mlaen, dywedir yn y cofiant
iddo ymuno drachefn a Mr. \Vhitefield, a
llafurio gyda Cennick ac eraiU yn Nghyf-
undeb y Tabernacl, a'i fod yn pregethu
llawer yn Nghymru. Cawn ef mewn
cymdeithasau perthynol i'w gyfundeb ei
hun yn Mryste, Mawrth 20, 1744. Y
mae llythyr o'i eiddo at Howell Harris,
dyddiedig Ebrill 11, 1745, ar gael yn
Nhrefecca, yn dangos ddarfod i Herbert
Jenkins oeri rhyw gymaint at y Method-
istiaid, ac at Harris ei hun. Achwyna yn
y llythyr nad oedd Harris yn teimlo ato fel
cynt, a'i fod wedi dwyn cyhuddiadau pwys-
ig yn ei erbyn. Sef yn (i) Nad ydoedd ei
holl galon ynglyn wrth yr achos. Gwada
hyn yn hollol, ond dywed yr ymddengys
iddo fod Harris yn nesu yn rhy agos at y
Morafiaid, a'i fod yntau yn eiddigus o'r
herwydd. (2) Nad ydoedd yn cymer-
adwyo y trefniadau Methodistaidd a wnaed
yn y Gymdeithasfa. Ateba ei fod yn
cydweled a'r seiadau preifat, yn y rhai yr
ymgynullai yr aelodau i weddio, ac i ganu,
ac i adrodd eu profiadau ; fod y cyfryw
gyfarfodydd wedi profi yn nodedig o
fendithiol ; ond nad oedd yn cydweled a
gosod ymwelwyr dros y seiadau, ac mai
goreu pa gyntaf y byddai hyny yn darfod.
(3) Ei fod yn aros gyda y Methodistiaid,
er yn anghytuno a'u trefniadau, gyda'r
bwriad o ymadael yn mhen amser, a thynu
y bobl ar ei ol. Y mae yn gwadu y cy-
huddiad hwn yn y modd mwyaf diamwys.
(4) Ei fod mewn ystyr yn ddyn gwahanol,
ac yn teimlo yn wahanol at Howell
Harris. Addefa fod peth gwir yn hyn :
" Unwaith," meddai, " yr oeddwn yn eich
gwneyd yn rheol cred ac ymddygiad ;
tybiwn eich bod yn anffaeledig. Ond yn
awr yr wyf yn ei theimlo yn ddyledswydd
arnaf i beidio canlyn neb, ddim cymaint a
cham, ond i'r graddau y mae efe yn canlyn
Crist." Gorphena ei Iythyr trwy ddweyd
ei fod yn parchu Harris yn fawr, fel un
oedd yn Nghrist o'i flaen ef, ac fel un a
anrhydeddasid gan yr Arglwydd, trwy
gael ei wneyd yn offeryn i ddychwelyd
ílawer o eneidiau.
Nid yw yn ymddangos i Howell Harris
ddigio o herwydd y Ilythyr, ond yn hytrach
i hyn glirio i ffwrdd lawer o'r niwl a
orweddai rhyngddynt. Yn 1745, penod-
wyd Herbert Jenkins i wasanaethu yn y
Tabernacl, fel olynydd i Harris, hyd
Chwefror y flwyddyn ddilynol. Mewn
llythyr arall at Howell Harris, hysbysa
iddo lawn fwriadu myned i'r athrofa, a
gedwid gan un Mr. Thompson, i berffeithio
ei hun yn mhellach mewn Lladin a Groeg;
ond er cynyg droiau, i gynifer o anhaws-
derau gyfodi ar ei ffordd, fel yr oedd yn
argyhoeddedig nad ewyllys Duw oedd iddo
fyned. Ddarfod i Mr. Stephens, gweinidog
yr Annibynwyr yn Plymouth, ei anog i
fyned i Gaerloyw, a chymeryd trwydded
fel pregethwr Ymneillduol ; fod y brawd
Adams wedi gwneyd felly, gan gael trwy-
dded, a myned i Orllewin Lloegr i lafurio ;
ond nas gallai efe feddwl gwneyd peth o'r
fath heb ymgynghori yn gyntaf a'r Gym-
deithasfa. Gyda golwg ar gael ei ordeinio
yn Eglwys Loegr, ei fod yn awr yn gwbl
ddiobaith. Buasai y dydd blaenorol gydag
Esgob Bryste, ac yn dweyd ei holl hanes
wrtho ; gwrandawodd yr Esgob ef yn am-
yneddgar, ac ymddygodd ato yn foesgar, gan
awgrymu iddo na fyddai fawr gwrthwyneb-
iad i'w ysgolheigiaeth. Ond yr oedd Meth-
odistiaeth Herbert Jenkins ar ei ffordd.
Dywedodd yr Esgob wrtho y byddai yn
anhawdd iddo gael teitl, a chael esgob a'i
hordeiniai ; ac hyd yn nod pe y caffai hyn,
y gwneyd yr arholiad yn fwy caled iddo
am ei fod yn Fethodist. Diwedda ei
Iythyr gyda'r geiriau hyn : " Yr wyf yn
gobeithio y bydd i fy mrawd anwyl weddío
trosof. 0 ! pan fyddoch agosaf at yr
Oen, erfyniwch arno am arwain ei blentyn
yn ei holl ffyrdd."
Fel yr ofnai, methiant a fu pob ymgais
o'i eiddo i gael urddau yn yr Eglwys
Sefydledig. Mewn canlyniad, cawn ef yn
bwrw ei goelbren gyda'r YmneiIIduwyr,
ac yn y flwyddyn 1749, urddwyd ef yn
weinidog ar eglwys Annibynol Maidstone,
Ile y Ilafuriodd, gyda mawr Iwyddiant, am
bedair-blynedd-ar-hugain. Bu farw yn
anterth ei boblogrwydd, Rhagfyr 11, 1772,
yn 51 mlwydd oed. Y mae yn sicr fod
Herbert Jenkins yn ddyn gwych, yn
bregethwr hyawdl, ac yn Ilawn o yni ;
a phe y gwelsai y Methodistiaid eu
ffordd yn rhydd i'w ordeinio, ni fuasai
byth yn gadael y Cyfundeb. Cyfansoddodd
amryw emynau, ac y mae un emyn o'i
eiddo ar gael yn av/r. Cynwysa bump
o benillion ar " Gynydd Gras." Ym-
ddengys iddo hefyd gyfieithu amryw o
emynau John Cennick, y rhai, gydag
eiddo David Jenkins, ei frawd, a
argraffwyd dan yr enw, " Ilyiiniaii av
222
Y TADAU METHODISTAIDD.
amryw ystyriaethau, gan amryw Awdwyr,
Bristol, 1744."
Nid yw enw James Ingram i'w gael yn
nghofnodau Trefecca, ond y mae yn sicr
ei fod yn bregethwr teithiol o gryn enwog-
rwydd. Nid yw hanes ei enedigaeth a'i
ddygiad i fynu genym ; ond ymddengys
iddo gael ei argyhoeddi trwy Howell
Harris. Yn fuan, gwnaeth Harris ef yn
was ac yn olygwr ar ei eiddo yn Nhrefecca ;
a throdd y gwas, gan ganlyn ei feistr, i
gynghori, Y llythyr cyntaf oddiwrtho
sydd genym, ysgrifenwyd ef at Harris,
rywbryd yn y flwyddyn 1744, o garchar
Aberhonddu. Cawsai Ingram ei ddal er
mwyn ei orfodi i ymuno a'r fyddyn. Dyma
un o fifurfiau yr erledigaeth yn erbyn y
Methodistiaid, a ddygid yn mlaen gan
ofîeiriaid a boneddwyr y dyddiau hyny,
sef carcharu y cynghorwyr, a'u gorfodi i
fyned yn íìlwyr, neu i ymuno a'r militia.
Cawn bedwar cynghorwr yr un pryd, yn y
flwyddyn 1745, gyda'r fyddyn yn nhref
Caerloyw. Ònd i ddychwelyd at James
Ingram. Yn ei lythyr o'r carchar, dywed :
" Gyda chywilydd yr wyf yn cyffesu ei
bod yn iseí arnaf neithiwr ; ond y boreu
heddyw galluogwyd fi i lefaru ar y
geiriau hyny : ' Yn ol dy ddydd y bydd dy
nerth.' Cefais ryddid neithiwr i esbonio
y ddeuddegfed benod o'r Datguddiad, am
o gwmpas awr ; parheis yn hwy heddyw,
gyda chymorth anghyífredin. Yr oedd fy
enaid yn y nefoedd ; yn enwedig pan
oeddwn yn gweddio drosoch chwi, a thros
y cyfeiUion. A chwedi hyny, pan y daeth
fy nhad, a SaH (ei wraig), gweddîais gyda
phleser mawr. Yr wyf yn erfyn arnoch
berswadio Sah, yr hon sydd yn bender-
fynol o ddyfod gyda mi ; ond yn sicr, nid
yw yn iawn iddi wneyd, er fod ymadael a
hi i mi fel pe y rhwygid asen o'm hochr."
Prin yr oedd yr offeiriaid yn manteisio
wrth garcharu James Ingram ; yr oedd
cynghori yn llosgi fel tân yn ei yspryd, a
gwnai hyny yn y carchar, i'r rhai, fel
yntau, a gawsent eu dal, er mwyn eu
gorfodi i ymuno a'r fyddyn.
Bu Mr. Marmaduke Gwynn yn gwneyd
ei oreu i'w gael yn rhydd, eithr methiant a
fu yr ymgais. Noddfa olaf pob Meth-
odist gorthrymedig oedd yr larlles Hunt-
ington, ac ati hi yr apeliodd Howell
Harris ar ran ei was. Y mae llythyr
Ysgrifenydd yr larlles, a anfonwyd mewn
atebiad at Harris, Mehefin 13, 1744, ar
gael. Dywed : " Ein hunig ffordd i gyn-
orthwyo Mr. Ingram yw trwy apelio at
larll Stair, y prif gadfridog ; ac ni fedd
efe awdurdod dros y swyddogion gwladol,
eithr yn unig y rhai milwrol. Felly, os
nad yw Ingram wedi cael ei roddi i fynu
i'r awdurdodau milwrol, nis geill yr larll
wneyd dim drosto, Cawsom ddwy esiampl
o diriondeb a thegwch ei arglwyddiaeth
yn ddiweddar. Pan y darfu i mi, fel
goruchwyhwr yr larlles, brofi i'w foddlon-
rwydd fod y ddau y dadleuwn drostynt
yn bregethwyr Methodistaidd, er heb fod
mewn urddau, a'u bod wedi cael eu dir-
wasgu i'r fyddyn trwy falais a thwyll yr
offeiriaid, a'r chuychwardens, a'r oferwyr, efe
a ryddhaodd un o honynt yn uniongyrchol,
ar yr amod iddo dalu i lawr yr arian, a'r
costau yr aethai y gatrawd iddi ynglyn ag
ef ; yr hyn a wnaed ar unwaith. Ac am
y llall, cafwyd dyn cryf i gymeryd ei le.
Felly, chwi a welwch, y rhaid i chwi anfon
pob manylion am Ingram, a phrofi nad
yw yn syrthio tan y ddeddf seneddol
ddiweddaf, gan ei fod yn was i chwi, ac
yn edrych ar ol eich eiddo, yr hwn ydych
yn cadw tŷ, a'r cyfryw dŷ yn eiddo i chwi
eich hun, a'ch bod wedi cael addysg dda
yn yr ysgolion ac yn y brifysgol, a'ch bod
yn parhau i ddilyn eich efrydiau. Nid
rhaid i chwi ddweyd eich bod yn bregethwr
Methodist. Ac os gellwch ychwanegu
eich bod yn freeholder, goreu oll ; a bydd
yn barod o'ch plaid i gael eich ryddhau,
pe y rhoddent mewn gweithrediad eu
bygythion mileinig yn eich erbyn chwi.
Rhaid i chwi nodi hefyd a pha gatrawd y
cysylltir Ingram ; pwy yw ei gadben, a'i
filwriad, a rhaid i chwi addaw naiU ai talu
yr arian a'r costau i'r gatrawd, neu fod y
dyn yn barod i'w gynyg yn ei le,"
Teifl y Uythyr hwn ff'rwd o oleuni ar
y modd yr ymddygid at y Methodistiaid.
Gwelwn (i) Fod y cynghorwyr yn cael
eu gorfodi i ymuno a'r fyddyn. (2) Yr
ystyrid eu cael yn rhydd trwy dalu arian,
neu gynyg dynion eraiU yn eu Ue, yn fí'afr.
(3) Na cheid y ffafr hon heb apelio at yr
awdurdodau milwraidd uchaf. (4) Nad
oedd Howell Harris ei hun, er yn dal
eiddo rhydd-ddaliadol, yn ddiberygl o gael
ei bresio. (5) Mai yr offeiriaid, a'r rhai
oeddynt yn ufudd weision iddynt, oedd
wrth wraidd y cyfan. Pa fodd bynag,
daeth Ingram yn rhydd. Ysgrifena at
Howell Harris, Mehefin ig, 1744: " Gallaf
eich hysbysu fy mod allan o garchar
Aberhonddu er ys pythefnos, ar yr amod
fy mod yn rhoddi fy hun i fynu yno pan
ddaw y swyddog. Yr oeddwn yn rhy fyr
RHAI O'R CYNGHORWYR BOREUAF.
223
i dir-filwr, a chedwir fi i fod yn fôr-filwr,
er fy mod yn rhy fyr i hyny yn ogystal,
gan nad wyf ond pum troedfedd a dwy-
fodfedd-a-haner o hyd. Ni wn ddim am
yr amser, na'r llong yn mha un y cymerir
fi i ffwrdd, na pha un a gymerir fi o gwbl.
Y mae amryw ynadon, a Syr H. H.,
aelod seneddol, wedi addaw gwneyd eu
goreu i'm cael yn rhydd. Y mae eraill yn
rhuo fel llewod. Eithr rhuent hwy ; Duw
sydd yn teyrnasu. Pregethais, yn gyff-
redin, dair gwaith y dydd yn ystod y tair
wythnos y bum yn y carchar. Yr wyf yn
awr ar fy nghylchdaith yn Sir Henífordd.
Anerchwch bawb sydd yn caru llwyddiant
Seion yn fy enw. Eich tlawd ac anheilwng
was, ond trwy ras, eich dedwydd frawd,
James Ingram." Tebygol mai yn rhydd,
ac yn pregethu Crist, y bu o hyn hyd
ddiwedd ei oes. Yn Gorph. 28, 1744,
ysgrifena Benjamin Cadman at Howell
Harris gyda golwg arno : " Cafodd y
brawd Ingram, pan oedd ddiweddaf yn
Nantmel, alwad i fyned trosodd i
Drefaldwyn. Atebai ef nad oedd ganddo
awdurdod arno ei hun, ac nas gallai
fyned heb eich caniatad chwi, Yr ydym
yn dymuno arnoch dalu ymwehad â
ni, os gellwch ; os na ellwch, ar i chwi
roddi rhyddid i'r brawd Jemmi Ingram i
ddyfod." Hydref, yr un flwyddyn, ysgrif-
ena John Sparks at Howell Harris o Hwl-
ffordd : " Neithiwr, pregethodd y brawd
Ingram yn fy hen bwlpud i yma. Llefarai
yn felus ac yn gysurlawn oddiar y geiriau :
' I chwi y rhai sydd yn credu y mae yn
urddas.' Daethai llawer i wrando, a
gobeithiaf i rai glywed mewn gwirionedd."
Yn lonawr, 1745, cawn yr hen gynghorwr,
John Richard, Llansamlet, yn ysgrifenu :
" Mi a fum gyda fy mrawd James Ingram
yn Newton, yn ei wrando yn llefaru ;
daethai llawer o bobl i'w wrando, a galhif
ddweyd trwy brofiad ddyfod o'r Arglwydd
yno i'n cyfarfod. Bendigedig a fyddo ei
enw ef. Amen. Yr wyf yn credu i'r odfa
gael ei bendithio i agor calonau rhai i
genhadon Duw, os nad i Dduw ei hun ;
canys chwi a ryfeddech y fath dynerwch
oedd yn eu hysprydoedd. Gosodwch ar y
brawd Jemmi i fyned yno mor fynych ag
y gallo, canys yr wyf yn credu pe y byddai
iddo fyned yno i aros am wythnos, y
byddai i'r holl fro gael ei hagor i dderbyn
cenhadau yr Arglwydd. Yr wyf yn teimlo
fy enaid fel llew am ysglyfaeth, am gael
yr eneidiau hyny oddi tan lywodraeth
Satan." Y mae yn amlwg oddiwrth y
llythyrau hyn a'u cyffelyb fod James
Ingram yn dra phoblogaidd fel cynghorwr.
Tua chanol haf 1745, tybia fod Howell
Harris wedi cael ei anfoddhau ganddo,
oblegyd ei ddiofalwch. " Fel yr oeddwn
yn dyfod o Erwd," meddai, " daeth i'm
meddwl mai gwell fyddai i mi aros mwy
gartref, gan fy mod i, a'm ceífyl, a'm
golchiad, yn dra chostus i chwi, tra nad
wyf o fawr gwasanaeth yn Nhrefecca.
Eto, er mai prawf o falchder fyddai i mi
dybio y gallwn gyffroi pobl aníTrwythlawn
y sir hon, yr wyf yn gostyngedig dybio
fod gan yr Arglwydd genadwri atynt i'w
hanfon drwof fi. Dynoethwyd braich yr
Arglwydd tra y pregethwn yn ngwyl
Aberedw ; darfu i un o brif ddynion yr wyl
dori ei goes ; a syrthiodd un arall, cymydog
i ni, wrth ddychwelyd o wyl arall, dydd
Sul diweddaf, oddiar ei gefìyl, a bu farw
yn y fan." Pa gysyUtiad oedd rhwng
pregethu Ingram a gwaith y dyn yn tori
ei goes, ni ddywed ; y mae yn fwy na
thebyg yr edrychai ar y ddamwain fel
barn Duw. Modd bynag, adferwyd cyd-
ddealltwriaeth yn fuan rhwng Ingram a'i
-feistr. Cawn amryw Iythyrau o'i eiddo at
Howell Harris gwedi hyn, yn mha rai y
dengys awydd am ymroddi i'r gwaith
Saesnig. Eithr cyn yr ymraniad yr ydym
yn colli golwg arno yn Ilwyr. À fu efe
farw yn gymharol ieuanc, neu ynte, a
ymsefydlodd fel gweinidog Ymneillduol ar
ryw eglwys yn Lloegr, nis gwyddom.
Ceir nifer o gyfeiriadau yn nghofnodau
Trefecca, ac yn llythyrau Howell Harris,
at James Beaumont, cynghorwr yn Sir
Faesyfed. Ymdddengys mai yn Gore, lle
yr oedd hen eglwys Ymneillduol, ac yn
yr hwn le hefyd y bu seiat gynes gan y
Methodistiaid, y preswyliai. Dywedir ei
fod yn ymadroddwr gwresog. Rhaid yr
ystyriai Howell Harris ef yn mysg yr
enwocaf o'r cynghorwyr, oblegyd enw
Beaumont yw yr uchaf ar y rhestr bron
yn ddieithriad, oddigerth eiddo Herbert
Jenkins. Cafodd ei dderbyn i undeb y
Gymdeithasfa fel cynghorwr cyhoedd yn
Nghymdeithasfa gyntaf Watford, Ỳn
Nghymdeithasfa Fisol Glanyrafonddu,
cafodd ei benodi, gyda Howell Harris
a Herbert Jenkins, i fod yn ymwelydd
cyffredinol dros yr holl seiadau. Yn ail
Gymdeithasfa Watford, gwnaed ef yn
arolygwr dros seiadau Siroedd Maes-
yfed a Henffordd. Profa y Ilythyr can-
lynol, o eiddo Flowell Harris ato, pa
mor uchel y meddyliai y Diwygiwr o
224
Y TADAU METHODISTAIDD.
Drefecca am dano, a pha mor gynhes
oedd y lle a feddai yn ei serchiadau. Y
mae wedi ei ddyddio Gorph. g, 1743 :
" Fy Mrawd Anwyl, ac agos iawn, Beau-
mont. Dal 3'n mlaen i ymladd ; y mae y
frwydr wedi ei henill ; wele, y mae yr
lesu yn dangos y goron a bwrcaswyd
ganddo. Dos rhagot, tydi filwr dewr ; ni
saf dim o'th flaen, oblegyd y mae Crist
o'th ochr. Gwna ei glwyfau gwaedlyd ef
lanw dy holl raid ; íe, pe y gwnai angau
ac uffern rwystro ar y ffordd. Clyw ! y
mae yr lesu yn galw ; bydded i James
ufuddhau. Efallai y câ y Ilythyr hwn fy
anwylaf frawd, a'm hagosaf gyfaill, yn
flin arno ei hun, ac yn gruddfan am
ryddid. Wel, cymer yr lesu dy faich i
ffwrdd ; ac hyd hyny efe a'th gynal di
dano, gan dy gymeryd yn Ilwyr o fysg
pethau amser, a dangos i ti bethau na
welodd Ilygaid eu cyffelyb. Y pryd hwnw
cofia am dy frawd tlawd, ffol, drygionus,
a phechadurus, a ddymunai rodio yn
Nghrist. Y mae yr Arglwydd wedi
gweled yn dda yn wastad ymostwng i
ddyfod i'n plith pan fydd ei ragluniaeth
yn ein dwyn yn nghyd. . . . Yr wyf yn
mawr hiraethu am weled fy anwyl gyd-
filwr yn fflamio fwyfwy mewn zêl dros yr
Oen ; y mae pob gras a dawn a roddir i
chwi yn mwyhau fy hapusrwydd. Yn
fuan, ni a gyfarfyddwn draw, yn mysg y
Ilwyth adeiniog, lle y bydd pechod a gofid
wedi eu dinystrio. Yn sicr, nis gall neb
yno glodfori rhad ras, a chariad arfaethol,
yn uwch na ni, na chyda phereiddiach
sain. Ydwyf, fy anwylaf frawd, a'm cyd-
ddinesydd, yr eiddot byth yn yr Oen,
How. Harris."
Dengys y Ilythyr hwn anwyldeb di-
derfyn Harris at James Beaumont. Y
mae yn sicr ei fod yntau yn ddyn beidd-
gar, nodedig o ddiofn, ac agos mor egniol
a Harris ei hun gyda theithio a phregethu.
Rhydd y difyniad canlynol o Iythyr a
ysgrifenodd at Harris, Awst 2, 1742, olwg
ar y dyn : " Y mae Ilawer dan argy-
hoeddiad yn Llanybister, Meddigre, Llan-
ddewi, a Maesgwyn, lle y pregethais ddwy
waith gyda nerth. Yr oedd y diafol yn
rhuo ei oreu. Bendigedig fyddo Duw, y
mae teyrnas yr un drwg yn cwympo i
lawr bendramwnwgl o gwmpas ei glustiau.
Felly nid rhyfedd ei fod yn rhuo, gan fod
ei amser mor fyr. Bydded i'r Duw tra-
gywyddol ddryllio ei deyrnas fwyfwy, er
mwyn lesu Grist. Amen." A yn mlaen
i ddweyd fod drws newydd yn ei blwyf ef
wedi cael ei agor i'r efengyl, Ile y pregeth-
odd y noson cynt, tan arddeliad amlwg ;
fod y churchwardm a'i deulu yn y cyfarfod ;
i lawer gael eu cyffroi ; ac ar y terfyn i'r
churchwarden ei wahodd i'w dŷ, ac arlwyo
gwledd iddo. Pregethodd dranoeth yn yr
un lle ; yr oedd y swyddog eglwysig yno
drachefn, a theimlodd dan y Gair i'r fath
raddau, nes y bu raid iddo eistedd i lawr,
a gwaeddu allan. Yr oedd rhai o'r teulu
hefyd yn wylo dros y Ue. Diwedda ei
Iythyr trwy ddweyd fod yr Arglwydd wedi
ei fendithio yn rhyfedd yn mysg pobl
Maesyfed, a bod ei ddau frawd, a'i chwaer
fechan, yn rhodio yn ostyngedig gerbron
yr Arglwydd. Nid bob amser yr oedd
swyddogion eglwysig mor dyner o hono.
Cymerer y difyniad canlynol a ysgrifenodd i
Lundain at Mr. Grace, Tachwedd 29,
1742: " Bum yn ddiweddar yn Siroedd
Brycheiniog, Henffordd, a Morganwg.
Yn Sir Forganwg, yr oedd Duw gyda mi
yn rhyfeddol ; geílid meddwl fod teyrnas y
cythraul yn syrthio ; ni chefais y fath
daith erioed o'r blaen, bendigedig fyddo fy
anwyl lachawdwr. Aethum yn ddiweddar
i wylnos a gynhelid yn y wlad. Gafaelodd
offeiriad y plwyf ynof, gan fygwth fy
rhoddi yn y stocs. Atebais inau i mi fod
yn y stocs o'r blaen o herwydd yr un peth,
a'm bod yn foddlon cael fy rhoddi ynddynt
eto. Ni chyflawnodd ei fygythiad, ond
cadwodd fi yno am beth amser, nes y
gwaredodd yr Arglwydd fi o'i law. Aethum
i dŷ ychydig ffordd o'r lle, a phregethais i
nifer o eneidiau tlodion, y rhai a'm canlyn-
asent o'r fan Ile y'm cymerasid yn garchar-
or. Y mae yr Arglwydd yn rasol iawn i
gynghorwyr tlawd Maesyfed. Y mae yn
agor eu geneuau yn rhyfedd mewn ffeiriau
a marchnadoedd."
Cafodd James Beaumont ei ran o erlid-
iau. Rhydd y Ilythyr dilynol, a ysgrifen-
wyd at Howell Harris, rywbr.yd yn y
flwyddyn 1744, hanes ei ymweliad ef, a'r
hen gynghorwr WiUiam Evans, Nantmel,
â rhan o Sir Drefaldwyn : " Pan aethum i
Lanidloes, rhoddodd boneddiges o'r Ile
genad i mi bregethu dan neuadd y dref.
Ónd gyda bod y bobl yn dechreu ym-
gasglu, daeth y chtirchwarden, gan beri
terfysg mawr. Ymddengys fod ganddo
awdurdod oddiwrth ganghellydd yr esgob-
aeth i'm rhwystro i lefaru yn y dref. Pan
ddaeth yn agos ataf, gofynodd : ' Trwy
ba awdurdod yr ydych yn pregethu yn y
Ile hwn ? ' Atebais inau mai trwy awdur-
dod Gair Duw. Ond ni ofalai efe am y
RHAI O'R CYNGHORWYR BOREUAF.
225
pethau a berthyn i Dduw, eithr yn hytrach
pa fodd y gallai fy nhynu i lawr o'r lle y
safwn arno. Pan welais ei fod yn bender-
fynol o'm rhwystro, dywedais wrtho fy
mod yn barod i ufuddhau i holl gyfreithiau
y tir, yn wladol ac yn eglwysig, Dechreu-
odd geisio fy arwain ymaith fel carcharor ;
tynais inau fy oriawr allan er gweled pa
awr o'r dydd ydoedd ; ar hyn pallodd
calon y dyn o'i fewn, newidiodd ei wedd, a
chyfnewidiodd o ran ei leferydd. Dywed-
odd ei fod yn fater cydwybod ganddo i fy
rhwystro, gan fod y canghellydd wedi ei
orchymyn yn gaeth na chaífai neb bre-
gethu yn y dref ; ac os pregethai rhywun
ar iddo ei gymeryd yn garcharor. Ond
yn lle fy nghymeryd i fynu, aeth ymaith,
gan ddymuno yn dda i mi.
" Yn bur fuan, dychwelais i'r lle yr
oeddwn i bregethu, a rhoddais allan air o
hymn. Trwy amser y canu yr oedd pob
peth yn dawel ; ond pan aethum i weddi,
daeth yr yswain, gan ganu yn ei gorn
hela, a galw ynghyd y bytheuaid bychain
{hcaf^hs).'' Ymddengys mai y werinos
derfysglyd a olyga wrth y beagles ; ac mai
siarad yn fFugrol y mae. " Ymddangos-
ent," meddai, " fel c\vn, yn barod am eu
hysglyfaeth, Ond ni oddefodd yr Arglwydd
iddynt fy nghamdrin yn mhellach na fy
ngorchuddio drosof a thom, ac wyau.
Rhegent y collent eu bywydau cyn y
cawn bregethu yn y dref. Aethum inau i
gwmyn cyfagos, ond y tu allan i gylch y
gorffbriaeth, a chanlynodd Ilawer o bobl.
Gwnaeth yr Arglwydd fi yn gryf, ac yn
ddisigl, a rhoddodd i mi i lefaru ei air
gyda hyfdra, ac nid oedd fy Ilafur yn ofer
yn yr Arglwydd. Methais a phregethu yn
Nhrefeglwys, oblegyd ystorm enbyd o
wynt a gwlaw. Llechai ŵyn Crist o dan
berth yn ymyl y fan y trefnasid i mi
lefaru ; ond treiddiai y gwlaw trwy y
Ilwyni, ac yr oedd y creaduriaid truain yn
oerion ac yn wlyb. Gan nad oedd cyfaill
i'n derbyn, meddyliasom am fyned i
dafarndy, ryw haner milltir o'r Ile. Yno,
yn y gwesty, cynyddodd y bobl. Erlidwyr
oedd y tafarnwr, a'i wraig. Gofynasom
ganiatad i ganu hymn, a chawsom ; gallu-
ogodd Duw ni i ganu a'r yspryd ac a'r
deall. Gwedi canu clodydd ein Prynwr,
cymerais ryddid i gynghori ac i ■weddío,
" O gwmpas deuddeg o'r gloch dran-
oeth aethom i'r Drefnewydd, a chauodd y
trigolion o'n cwmpas ar bob tu. Lledent
eu safnau arnom, ac ysgyrnigent ddanedd,
fel llew parod am ei ysglyfaeth. Dywed-
odd Person y dref wrth ei ysgolheigion,
pwy bynag o honynt a'n curai waethaf, y
caffai fwy o ffafr gydag ef mewn cysylltiad
ag addysg. Ffordd ryfedd o bwrcasu
dysg, sef ei brynu a gwaed ! Gwnaed yr
ymosodiad cyntaf arnaf gan y menywod, y
rhai a wlychent eu ffedogau yn nghenel y
cŵn, er mwyn dwbio fy wyneb a'r budr-
eddu afîan. Safai y brawd William Evans
yn fy ymyl, gan geisio fy nghysgodi oddi-
wrth yr ergydion ar fy nghorph eiddil ; ond
yn ofer. Curent eu ceffylau, gan geisio
gyru trosom. Codasant i fynu fath o
gert, neu chwerfan, fel y syrthiai arnom,
ac y rhoddai derfyn ar ein hoedl. Yr
oedd y cerig a hyrddid atom yn myned
gyda'r fath ruthr, fel y treiddient trwy
glawdd, oedd ryw gymaint o bellder. Fel
hyn y parhaodd y werin derfysglyd i'n
baeddu yn y modd niwyaf barbaraidd, hyd
nes i un o honynt fy nharo, fel y Ilewygais.
Pan welsant nas gallwn ddal mwy, taflodd
rhai o honynt eu harfau i lawr, gan ddweyd
fy mod wedi cael digon. Daliai y brawd
Evans fì yn ei freichiau hyd nes y daeth-
um ataf fy hun, yna aeth i chwilio am fy
ngheffyl, yr hwn a yrasid ymaith gan yr
erlidwyr. Fel y safwn wrthyf fy hun,
daeth dynes annhrugarog, gan geisio fy
nharo a phren ysgwâr, ond gwelodd y
brawd Evans hi, a chyfryngodd rhyngof
a'i hamcan gwaedlyd. Erbyn hyn yr
oeddwn wedi fy ngorchuddio drosof a
thom ac a gwaed, ac mor wan, fel nas
gallwn sefyll heb gymhorth. Tra y ceisiai
fy nghyfeillion fy nghynorthwyo allan o'r
llaid, i ba un y cawswn fy nhaflu, daeth
benyw, a thaflodd ddyrnaid o dom i'm
safn, yr hyn a gymerth ymaith fy anadl,
yn mron. Gwaedais tros ddwy filltir o
ffordd, ar ol cael ymwared oddiwrth fy
erlidwyr ; a phan aethum i ddiosg fy
nillad, cefais fod fy mhen, a rhanau o'm
crys, fel pe y baent wedi eu trochi mewn
gwaed, Wedi cael plastr i fy mhen, ac
ymborth i fy nghorph, gweddîais ar fy
Nhad nefol am faddeu iddynt, ac yr
oeddwn yn ddedwydd o ran fy meddwl
Dyma y derbyniad a gefais gan bobl y
Drefnewydd. Yr wyf yn gweddío ar i
Dduw roddi iddynt galon newydd, er
mwyn lesu Grist. Amen, ac Amen."
Fel hyn yr ymddygid at yr hen gyng-
horwyr ; dyma y driniaeth a dderbynient
oddiwrth y bobl y ceisient eu Ilesoli yn yr
ystyr uchaf. Ond er Ilid y personiaid, a
chynddaredd y dorf, ni Iwfrhaent ; aent
rhagddynt gydag yspryd diofn i gyhoeddi
Q
226
Y TADAU METHODISTAIDD.
efengyl gras Duw i bechaduriaid. Ni
chythruddwyd hwynt ychwaith fel ag i
geisio dial eu camwri ; yn hytrach, fel
Stephan, y merthyr Cristionogol cyntaf,
ac fel yr Arglwydd lesu ei hun, medrent
weddîo dros eu herlidwyr yn eu gwaed.
Dyma wroniaid na fedr y byd ddangos eu
rhagorach.
Yn mhen peth amser aeth Beaumont
drosodd i lafurio yn Lloegr. Ysgrifena at
Howell Harris, EbriU ii, 1745, i ddweyd
ei fod yn bwriadu myned tua Bath a
Llundain. Achwyna hefyd yn y llythyr
hwn fod oerfelgarwch wedi codi rhwng
Harris ag ef. Pa beth oedd achos yr
oerni nis gwyddom ; tueddwn i feddwl
mai gwahaniaeth barn ar ryw bwnc o
athrawiaeth ; ond cynyddu wnaeth y pell-
der rhwng y ddau gyfaill, nes myned yn
dra dolurus. Cawn un Rice WilHams,
cynghorwr yn Sir Faesyfed, yn ysgrifenu
at Howell Harris, Rhagfyr 29, 1748, fel y
canlyn : " Bydded i'r Arglwydd frysio
eich ymwehad â ni i gadw seiat breifat.
Os câ pethau fyned yn mlaen yn hir fel y
maent, gellwch ffarwelio a seiat Sir Faes-
yfed. Y mae rhai yn ddigon hyf i daeru,
os troir Beaumont allan, y bydd i liaws o'r
cynghorwyr ei ganlyn, gan ei fod yn sicr o
gymdeithas y sir. Y mae Beaumont yn
pregethu yn ein herbyn bob wythnos. Yn
awr, y mae ein seiat fechan, oedd mewn
períìaith undeb, yn ferw trwyddi, ac yn
llawn o zôl bartîol. Yr wyf yn ofni
y canlyniadau. Anfonwyd am dano ef
(Beaumont) gan James Probert, i'r Castell,
nos lau diweddaf, lle y maent yn ym-
gynull yn wythnosol, ond, fel ag yr wyf yn
deall, heb yn wybod i'r lleill, Y mae
wedi cael ei wahodd i ddod yma, hefyd, ar
y dydd cyntaf o'r ílwyddyn newydd ; ond
bwriadaf ei rwystro, gan fod Thomas James
i fod yma, yr hwn sydd ychydig yn Uai
tra-awdurdodol. Y mae y ddadl ynghylch
sancteiddhad, yr hyn (fel yr honant) nid
yw ond credu syml. Ni oddefìr cyfeiriad
at ddyledswydd, na gorchymyn ; ac nid
ydynt yn credu mewn cynydd mewn gras ;
a chaseir gwyho ac ymprydio. Y mae
Tom Sheen wedi yfed yn ddwfn o athraw-
iaeth Beaumont ; efe yw gẃr ei ddeheulaw.
Llawer o'n haelodau a gloffant rhwng dau
feddwl, heb wybod pa fodd i fyned yn
mlaen. Y mae ein Credo Nicea yn cael
ei chashau gan ein hathrawon newyddion ;
honant y dylai gael ei diwygio, yn arbenig
y rhan am genhedliad o'r Tad cyn dech-
reuad y byd."
Fel hyn yr 3'sgrifcna Rice W'ilhams, a
rhydd ei lythyr gipolwg ar y golygiachiu
gwahaniaethol a ddelid gan Beaumont.
Ai nid dyma wraidd y gymysgedd o
Sandemaniaeth ac Antinomiaeth a ffynai
am beth amser yn ardaloedd Llanfair-
muallt, gwedi yr ymraniad rhwng Rowland
a Harris, at ba un y cyfeirir yn Nrych yr
Amseroedd, i'r hon y dywedir fod Thomas
Sheen yn athraw ? Nid yw yn debyg i
James Beaumont fyw yn hir gwedi y
îlythyr uchod ; y mae yn sicr ei fod wedi
marw cyn y ílwyddyn 1750. Dywedir
mai cael ei daro a chareg a wnaeth pan
yn pregethu yn yr awyr agored, ac i'r
ddyrnod droi yn angau iddo. Y dyb yw
mai yn Sir Benfro y cymerodd hyny le.
Sicr yw ei fod yn \vr ymroddgar, llawn o
zêl a gwroldeb ; a goíìdus gorfod croniclo
ddarfod iddo gyfeiliorni i raddau oddiwrth
y ffydd cyn diwedd ei oes.
Y cynghorwr nesaf a ddaw dan ein sylw
yw Thomas James, Cerigcadarn, yn Sir
Frycheiniog. Ychydig iawn o'i hanes
personol sydd genym, ond a allwn gasglu
oddiwrth ei lythyrau, ynghyd a'r cyfeir-
iadau ato yn nghofnodau Trefecca. Ym-
ddengys, modd bynag, iddo gael ei argy-
hoeddi tan weinidogaeth Howell Harris,
ac iddo ddechreu cynghori ar unwaith.
Y mae genym brofion y cynghorai yn
nechreu y ílwyddyn 1741. Mewn Uythyr,
dyddiedig Hydref 9, 1742, at Howell
Harris, yn Llundain, dywed ddarfod iddo
bregethu mewn gwylmabsant, yn Llanfi-
hangel, y flwyddyn flaenorol, a chael ei
fendithio i argyhoeddi rhyw enaid. Tybiai
fod hyn yn gosod rhwymau arno i fyned
i'r wylmabsant y flwyddyn ganlynol.
Ceisiai y diafol ei rwystro, gan sibrwd
wrtho y cai ei ladd ; daeth nifer o gyfeill-
ion ato i ddangos iddo y perygl, a gelynion
i'w ddychrynu ; ond ni wrandawai Thomas
James ; yno yr aeth; a'i fywyd ynei ddwrn.
Cyrhaeddodd Lanfihangel cyn i'r rhial-
twch ddechreu ; aeth y tafarnwr ato, a
geiriau llawn mêl ar ei wefusau, gan geisio
ganddo beidio terfysgu, ac y byddai yn
dda ganddo ei weled yno unrhyw amser
arall. Atebai yntau na wnai derfysgu,
ond mai ei waith oedd sefyll i fynu yn
erbyn teyrnas Satan ; na lefarai yn erbyn
dim ond pechod ; ac os oedd y tafarnwr
am gefnogi pechod, fod yn rhaid iddo ei
wrthwynebu. Erbyn hyn, yr oedd y dorf
yn dechreu ymgasglu. Daeth dynes, lawn
o'r cythraul, a hyrddiodd ei hun ar ei
draws, nes ei fwrw i lawr, gan ddweyd
RHAI O'R CYNGHORWYR BOREUAF.
227
mai ar ei thir hi yr oedd yn sefyll. " O'r
goreu,"' atebai'r cynghorwr, " mi a safaf
ar y brif-flbrdd." I'r brif-fíbrdd yr aed,
rhoddodd y pregethwr air ailan i ganu,
eithr y tafarnwr a ddaeth, gan regu na
chaffai aros yno, a galw ar y bechgyn i
barotoi'r cerig. Dyma y rhai hyny yn
rhuthro yn erbyn yr ychydig saint oedd
wedi ymgynull ar yr heol, a chyda
mwrdd-dra yn eu hwynebau, a chan
íloeddio fod y brif-fFordd yn rhydd i bawb,
gwthient y gynulleidfa fechan o'u blaen,
fel na chafîai aros. Yr oedd pastynau yn
eu dwylaw, ond, meddai Thomas James :
" Mor bell ag yr wyf yn coíìo, nid oedd
arnom ofn. Yr oedd tân yn llosgi yn fy
nghalon trwy yr amser." Yn awr y mae
yn myned yn frwydr rhwng y ddwy
deyrnas, pob un o'r ddwy yn ymladd a'u
harfau priodol ei hun. Gwaeddodd y
pregethwr am osteg, fel y gallai siarad a'r
arweinydd ; eithr pan y cymerodd ef allan
o'r dorf, yr oedd y dyn mor wan fel y
crynai yn ei wyddfod, ac aeth i ffwrdd a'i
liniau yn curo ynghyd. Ail gychwynwyd
yr odfa ; tra y canai ac y gweddi'ai y saint
yr oedd gweision y diafol yn taflu tom a
darnauogoedatynt ; gorchuddiwyd gwyneb
Wilham Evans, Nantmel, a llaid. Ond ni
chafodd neb niwed ; y Beibl agored, a"u
dillad yn unig, a gafodd gam. A'r lesu gar-
iodd y dydd. Pregethodd Thomas James
am awr a haner, oddiar y geiriau : " Ac ar y
graig hon yr adeiladaf fy eglwys, a phyrth
uffern nis gorchfygant hi," gan argyhoeddi
yr annuwiol, a chadarnhau yr \Vyn. Ar
derfyn ei bregeth teimlai gariad mawr at
ei elynion, a chymhellai hwynt gyda
thaerni i ddyfod at y Gwaredwr, gan
ddangos ei fod yn alluog i achub hyd
yr eithaf. Trowyd yr wylmabsant yn
gyfarfod pregethu ; ac ar y terfyn aeth y
tafarnwr at \Vr Duw, gan ei wahodd i'w
dŷ i swpera. Diwedda Thomas James ei
lythyr gyda'r geiriau : " Nid i ni, O
Arglwydd, nid i ni, ond i'th enw dy hun
dod y gogoniant."
Yn y Gymdeithasfa gyntaf yn Watford,
cafodd ei dderbyn fel cynghorwr cyhoedd,
ond ni phenodwyd maes iddo i'ẅ arolygu,
oblegyd rhyw helynt ynglyn a'i amgylch-
iadau. Erbyn ail Gymdeithasfa Watford,
ymddengys fod y rhwystr wedi cael ei
symud, a chafodd yntau ei osod yn arolygwr
ar seiadau Brycheiniog, oeddynt yr ochr
nesaf i Drefecca i'r afon Wysg. Cyflawn-
odd yn ffyddlawn y gorchwyl a gawsai ei
ymddiried iddo, fel y dengys yr adrodd-
iadau a anfonodd i mewn. Bu mewn aml
i helynt wrth wasanaethu praidd Duw.
Mewn Ilythyr a anfonodd at Cennick,
Mawrth 26, 1743, rhydd hanes ei ym-
weliad a rhyw seiat, ar gyffyniau Siroedd
Maesyfed a Brycheiniog, yn nghwmni
James Beaumont, a brawd arall. Er cyr-
haedd y Ile, rhaid oedd iddynt groesi yr afon
Wy ; a pherswadiodd boneddwr y badwyr
i godi crogbris arnynt. Pan na thalent,
gwnaed y cwch yn sicr wrth raff" yn
nghanol yr afon ; a daeth IIu o bobl i lan
y dwfr, o'r Gelli a manau eraill, er cael
digrifwch wrth eu gweled"yn methu myned
nac yn ol nac yn mlaen. Ond yr oedd
beiddgarwch a dyfais yn y cynghorwyr ;
troisant y cwch yn bwlpud i'r lesu ; a
dechreuasant bregethu i'r dorf oedd o'r
ddau tu. Ffyrnigodd yr erlidwyr, ac
ymroisant i luchio cerig at y Ilefarwyr.
Eithr cadwodd Duw ei weision yn rhyfedd ;
ni anafwyd un o'r tri ; ac ymddengys i'r
odfa, na chawsai ei chyhoeddi yn mlaen
Ilaw, fod yn foddion i achub amryw.
Gwedi i'r cynghorwyr gael eu cadw uwch
ben y dwfr am bump awr, yn canu, ac yn
gweddîo, ac yn cynghori, caed allan nad
oedd gan y cychwyr yr un drwydded ; a
bu dda ganddynt gymeryd y tri brawd i
dir. Tybia Thomas James ddarfod clwyfo
cydwybodau y cychwyr eu hunain.
Gorchuddir rhan olaf bywyd y gwas
ff'yddlawn hwn i Grist a thywyllwch. Y
cyfeiriad olaf a gawn ato yw yn Ilythyr
Rice W^iIIiams, Rhagfyr 29, 1748. Ni
cheir ei enw yn mysg y rhai a ymlynent
wrth Harris adeg yr ymraniad. NaiII ai
yr oedd wedi marw yn flaenorol, neu
ynte bwriodd ei goelbren, yn yr argyfwng
pwysig hwnw, gyda Daniel Rowland, a
Williams, Pantycelyn. Y mae yn sicr
fod Thomas James yn un o'r cynghorwyr
mwyaf defnyddiol. Cyfunai yn ei dym-
heredd y Ilew a'r oen. Nid oedd arno
ofn perygl ; mentrai i ganol yr erlidwyr
yn ddi fraw ; ond yr oedd yn nodedig o
dirion a gostyngedig wrth drin y praidd.
Y cynghorwr nesaf a ddaw dan ein
sylw yw Thomas W'iIIiam, arolygydd
adran o Sir Forganwg. Ychydig o'i hanes
sydd ar gael ; ond ymddengys iddo gael ei
argyhoeddi ar daith gyntaf Howell Harris
i blwyf Eglwys Ilan, yn y flwyddyn 1738,
ac iddo ddechreu cynghori ar unwaith.
Pan yr ymneillduodd y Methodistiaid. o
W^atford, oblegyd cyfeiliornadau Davîd
WiIIiams, y gweinidog, gan ymsefydlu yn y
Groeswen, yr oedd Thomas W^illiams yn
228
Y TADAU METHODISTAIDD.
un o'r fyntai a aeth allan. Yn Nghym-
deithasfa Fisol Glanyrafonddu, a gynhal-
iwyd Mawrth i, 1743, penodwyd ef i
arolygu seiadau y rhan ddwyreiniol o
Forganwg, can belled a Llantrisant, a
chafodd hyn ei gadarnhau yn Nghym-
deithasfa nesaf Watford. Y mae amryw
o'r adroddiadau am ansawdd yr eglwysi,
a osodasid dan ei ofal, yn awr ar gael,
ac y maent yn dra dyddorol. Pan y
cyfododd anesmwythid yn meddyhau cyng-
horwyr y Groeswen, parthed cymuno yn
yn ystyried ei Inm trwy hyn yn ymadael
a'r Methodistiaid, o leiaf yn llwyr ; ac yr
oedd y Diwygwyr yn arfer ymweled a'r
(jroeswen ar eu teithiau fel cynt. Nid
hir y bu fyw gwedi ei ordeiniad, bu farw
yn nghanol ei ddefnyddioldeb, a chladdwyd
ef yn mynwent Eglwys Ilan, am nad oedd
claddfa yn perthyn i'r Groeswen y pryd
hwnw.
Am ei gyd-weinidog, sef WilHam Ed-
ward, a elwir yn gyffredin, " Wilham
Edwards, yr adeiladydd," y mae ei hanes
WILLIAM EDWARD, YR ADEILADYDD.
[Un o'r Cyrujhonuyr boreuaf.']
yr Eglwys Wladol, yr oedd Thomas Wilham
yn un o'r rhai ddarfu arwyddo y llythyr
hanesyddol, a anfonwyd at Gymdeithasfa
Cayo, Mawrth 30, 1745. Á chan nad
oedd atebiad y Gymdeithasfa yn ei fodd-
loni, cymerodd ef, mewn undeb a Wilham
Edwards, yr adeiladydd, ei ordeinio yn
weinidog i'r Groeswen, yn ol dull yr Ym-
neillduwyr, ac yno y bu yn llafurio, gan
weinyddu y sacramentau, hyd ddydd ei
farwolaeth. Nid yw yn ymddangos ei fod
yn fwy adnabyddus. Cafodd ei eni mewn
ffermdy bychan, yn mhlwyf Eglwys Ilan,
rhwng Pontypridd a ChaerphiH, o'r enw
Bryn, yn y flwyddyn 1719. Efe oedd yr
ieuangaf o bedwar o blant, a phan nad
oedd ond dwy flwydd oed, bu farw ei dad.
Ychydig o ysgol a gafodd, prin digon i'w
alluogi i ddarllen ac ysgrifenu Cymraeg.
TreuHodd ei faboed yn llafurio ar y
tyddyn. Wrth adgyweirio y cloddiau
cerig oedd ar y tir, dechreuodd ymhoffi
RHAl O'R CYNGHORWYR BOREUAF.
229
mewn adeiladaeth ; ac yn bur fuan aeth ei
glod fel gwneuthurwr cloddiau sychion
dros y wlad. Wedi gweled seiri meini
wrth eu gorchwyl, a sylwi pa fath arfau a
ddefnyddient, teimlai ei hun yn ahuog i
adeiladu tai, a daeth i ragori yn y gelf-
yddyd. Yn agos i'w gartref yr oedd hen
gastell enwog Caerphih, gyda ei furiau
cryfion, a'i fŵau celfydd, yn sefyU i fynu,
gan herio ystormydd y canrifoedd. Yr
oedd athryhth adeiladu yn y llanc Wihiam
Edward, a threuhai bob awr a aUai hebgor
mewn astudio nodweddion yr adeilad, ac
yn fuan daeth i ddeall egwyddor bŵa
[aì'cìi). Pan tuag un-ar-hugain mlwydd
oed, gosododd weithfa haiarn {ivon forge) i
fynu yn Nghaerdydd, ac aeth i'r ysgol yno
at ddyn dall, o'r enw Walter Rosser, he y
dysgodd Saesneg, ac elfenau gwyddon-
iaeth. Tua'r flwyddyn 1749, ymgymerodd
ag adeiladu pont dros afon Tâf, yn Mhont-
ypridd, yr hyn orchwyl a gyflawnodd gyda
medr mawr. Ond yn mhen tua blwyddyn,
daeth Ihfeiriant enbyd ; cauwyd bŵau y
bont gan y coed a'r llwyni a ddeuent
gyda'r dwfr i lawr o'r cymoedd uwchlaw ;
cronodd y dwfr, a than y pwysau anferth
rhüddodd y bont ffordd. Y mae yntau yn
ymosod i adeiladu pont araU, ac fel na
ddigwyddai anffawd gyffelyb drachefn,
penderfyna ei gwneyd o un b\va. Eithr
cyn fod y bont wedi ei gorphen, darfu i'r
pwysau ar y ddau pen wasgu y gareg glo
aUan, a syrthiodd hithau i'r afon. Ni
wangalonodd Wihiam Edward ; canfydd-
odd ble y camgymerasai ; ac ymosododd i
adeiladu trydedd bont, sef y bont fwyaf o
un bẁa yn y byd. Y mae y bont hon yn
sefyll hyd heddy w, ac yn brawf o athrylith
a dewrder y gŵr a'i lluniodd.
Ond a hanes grefyddol WiUiam Edward
y mae a fynom ni. Argyhoeddwyd ef dan
weinidogaeth Howell Harris, pan nad oedd
ond Uanc pedair-mlwydd-ar-bymtheg oed.
Ymroddodd ar unwaith i wasanaethu
Crist, a dechreuodd gynghori ei gyd-
bechaduriaid. Yn Nghymdeithasfa Wat-
ford, pan y penodwyd ei gyfaill, Thomas
WiUiam, yn arolygydd, gosodwyd Wilham
Edward, fel cynghorwr anghyoedd, i fod
yn un o'i gynorthwywyr. Y mae yn
debyg nad diffyg dawn na chymhwysder
oedd yr achos na osodwyd ef yn arolygwr,
ond amledd a phwysigrwydd ei orchwyhon
bydül, gan ei fod, hebhiw cynghori, yn
cadw tyddyn, ac yn adeiladydd prysur.
Prawf ei fod yn dra derbyniol yw pender-
fyniad Cymdeithasfa Watford, Ebrill 24,
1744, sef nad oedd y cynghorwyr anghy-
oedd i lefaru yn gyhoeddus, eithr yn y
seiadau preifat, gyda'r eithriad o William
Edward, am yr hwn yr oedd galw i Lan-
trisant a'r Groeswen. Cawn ei enw ef
wrth Iythyr cynghorwyr y Groeswen i'r
Gymdeithasfa, a chafodd ei ordeinio yn
weinidog yno yr un pryd a Thomas
William. Ar farwolaeth ei gyfaill, daeth
yn unig weinidog y Groeswen, ac yno y
bu yn Ilafurio, gyda mawr gymeradwy-
aeth, hyd ddydd ei farwolaeth. Meth-
odist yr ystyriai ei hun hyd ddiwedd ei
oes. Cymerai ychydig gydnabyddiaeth
gan yr eglwys am ei lafur, ond ni roddodd
i fynu ei orchwylion bydol ; yn hytrach par-
haodd i adeiladu pontydd a thai, ac i am-
aethu ei dyddyn, yn ogystal a phregethu yr
efengyl. Bu farw yn y flwyddyn 1789, yn
dri-ugain-a-deg mlwydd oed, a chafodd ei
gladdu yn mynwent Eglwys Ilan. Y mae
crefydd wedi aros yn ei deulu hyd y dydd
hwn. Gorùyr iddo yw Dr. Edwards,
Caerdydd, yr hwn nid yn unig sydd yn
enwog fel meddyg, ond hefyd yn \vr tra
chrefyddol.
Am y tri arall o gynghorwyr y Groes-
wen a ddarfu arwyddo y Ilythyr i'r
Gymdeithasfa, sef Thomas Price, John
Belsher, ac Evan Thomas, nid rhyw
lawer o'u hanes a wyddom. Nid oes dim
ond enw Evan Thomas wedi ein cyrhaedd.
John Belsher oedd y dysgleiriaf ei ddoniau
o'r pump, a'r mwyaf poblogaidd. Pan y
penderfynwyd yn Watford, EbriII 27, 1744,
fod un i gael ei ddewis i Iwyr ymroddi i'r
gwaith, er mwyn bod yn gymorth i Howell
Harris, a chynorthwyo yr arolygwyr yn
eu gwahanol adranau, wedi cryn ym-
ddiddan parthed ei gymhwysderau mewnol
ac allanol, syrthiodd y coelbren ar John
Belsher, fel yr addasaf i lanw y swydd.
Tybia y Parch. John Hughes mai ar gyfer
y Gogledd yn benaf y gwnaed y penodiad
hwn ; ond y mae hyny yn anghywir ;
dywed y penderfyniad mai ei faes oedd
Siroedd Mynwy, Marganwg, a Chaer-
fyrddin. Ceir nodiad yn nghofnodau
Cymdeithasfa Fisol Llanfihangel, Mai 3,
1744, yn awgrymu fod cryn betrusder
wedi codi yn ei feddwl gyda golwg ar
gymuno yn yr Eglwys W^IadoI, ond iddo
addaw cadw ei amheuaeth iddo ei hun.
Tua diwedd y flwyddyn 1745, neu ddechreu
y ganlynol, cafodd ei benodi, gyda thri o
gynghorwyr eraill, i fyned i Wynedd, er
ceisio ei darostwng i'r efengyl. Dyma yr
hanes olaf sydd genym am dano. A
230
Y TADAU METHODISTAIDD.
ddarfu iddo farw yn gynar, neu ynte
ymuno a'r Ymneillduwyr, nis gwyddom.
Am Thomas Price, perchenog palas
Watford, yr hwn a alwa Williams, Pant-
ycelyn, yn " Price yr Ustus," nid oes
llawer o hanes. Y tebygolrwydd yw iddo
gael ei argyhoeddi dan Howell Harris, ac
i'w dỳ gael ei daflu ar unwaith yn agored
i'r efengyl. Ymadawodd yntau a chapel
Watford, oblegyd heresi David Wilhams,
gan ymaelodi gyda'r Methodistiaid yn y
Groeswen. Gwnaed ef yn arolygwr ar
nifer o eglwysi yn Morganwg, mewn
cysyUtiad â Thomas Wihiams, ac y mae
genym nifer o adroddiadau o'i eiddo. Er
iddo arwyddo y llythyr at y Gymdeithasfa,
ac iddo barhau mewn cysylUiad a'r Groes-
wen wedi urddo gweinidog yno, Methodist
yr ystyriai efe ei hun hyd ei fedd, a
chyrchai y Diwygwyr i'w dỳ megys cynt.
Ymddengys iddo roddi pregethu i fynu yn
bur gynar. Ceir llythyr o'i eiddo at y
Gymdeithasfa yn y Weekly Histoiy, yn
deisyf cael ei ryddhau oddiwrth y gwaith.
Ni rydd reswm penodol dros ei gais. Ond
ymddengys nad oedd ei ddoniau mor
ddysglaer a rhai o'r cynghorwyr, a'i fod yn
barod yn dechreu cael ei flino gan asthiìia.
Tad-yn-nghyfraith oedd i Grace Price, i'r
hon y canodd WilHams ei farwnad odidog ;
ei fab, Nathaniel, oedd ei gŵr ; ac yr oedd
Thomas Price yn fyw, er yn llesg ac yn
gaeth gan y diíîyg anadl, pan y bu ei
ferch-yn-nghyfraith dduwiol farw. Profir
hyny gan y penill canlynol : —
" Price y Justis, ti ge'st goUed,
Rwymodd asthma ar dy 'stôl,
Aeth dy ferch i ganol nefoedd,
Fe'th adawyd dithau'n ol ;
Aros ronyn, trwy amynedd,
Yn y dyrys anial dir,
Ti gai gyda gwraig y capten
Ganu authem cyn bo hir."
Cynghorwr o gryn enwogrwydd, ac un
a fu yn dra gweithgar yn nechreuad
Methodistiaeth, oedd y Parch. Morgan
John Lewis. Hanai, yn ol pob tebyg, o
Blaenau Gwent, a chafodd ei argyhoeddi
ar daith gyntaf Howell Harris i Fynwy,
yn y flwyddyn 1738. Yn bur fuan
dechreuodd gynghori, a cheir aml gyfeiriad
ato yn nghofnodau Trefecca. Yr oedd yn
un o'r rhai a gafodd eu penodi yn gyng-
horwyr cyhoedd yn Nghymdeithasfa gyntaf
Watford. Yn ail Gymdeithasfa Watford,
gosodwyd ef yn arolygydd ar y seiadau yn
Dolygaer, Cwmdu, Cantref, Defynog, a
Llywel, yn Mrycheiniog ; Llanddeusant,
yn Sir Gaerfyrddin, a'r oll o Fynwy, yr
ochr nesaf i Gymru i'r afon Wysg. Y
mae amryw o'r adroddiadau a anfonodd i
mewn yn awr ar gael. Yn Nghymdeith-
asfa Llanfihangel, Mai 3, 1744, bu ym-
driniaeth bwysig ar y priodoldeb o barhau
i dderbyn y cymundeb yn Eglwys Loegr ;
ymddengys mai Morgan John Lewis a
agorodd y ddadl, a'i fod yn gryf dros i'r
Methodistiaid ordeinio gweinidogion iddynt
eu hunain. Penderfynu peidio, nes cael
arweiniad eglurach a wnaed, a dywedir yn
y cofnodau ddarfod " i'r brawd Morgan
John Lewis gyduno, mewn ffordd o oddef-
garwch, i beidio symud, hyd nes y byddai
i'r Arglwydd ein gwthio allan, neu ynte
ddwyn diwygiad i mewn." Cymerodd ran
flaenllaw yn y ddadl yn Nghymdeithasfa
Llanidloes, rhwng pleidwyr Rowland a
Harris, yr hon a derfynodd mewn ym-
raniad ; ymddengys mai efe a ddygodd y
pwnc i sylw. Pleidiwr Rowland oedd
efe, a chyda'r Diwygiwr o Langeitho, a
WiIIiams, Pantycelyn, y bwriodd ei goel-
bren. Yn nghymydogaeth y New Inn,
yn Sir Fynwy, y preswyliai ; a chwedi yr
ymraniad, i'r ddeadell fechan a ymgynull-
ai yno, y pregethai yn benaf. Cynydd-
odd y gymdeithas yno yn fawr, drwy i
nifer o Eglwyswyr efengylaidd, na fedrent
ddyoddef gweinidogaeth anefengylaidd
offeiriad Llanfrechfa, ymuno a hi ; mewn
canlyniad, adeiladwyd capel, ac ystabl
ynglyn ag ef. Yr oedd hyn yn y flwyddyn
1751. ünd yr oedd yr aelodau yn an-
alluog i gael y cymundeb ; ni oddefai eu
cydwybod iddynt gymuno gyda'r clerigwyr
digrefydd yn y Ilan, ac nid oeddynt am
ymuno a'r Ymneillduwyr. Yn eu cyfyng-
der, anfonasant ddau genad i Langeitho, i
ofyn cyngor Daniel Rowland. Yntau,
wedi gwrando arnynt, a dwys ystyried
yr amgylchiadau, a'u cynghorodd i alw
Morgan John Lewis yn weinidog iddynt,
trwy ympryd a gweddi ; ac ychwanegai :
" Gwna gweddi y ffydd fwy o les iddo na
dwylaw unrhyw esgob dan haul." Dyn
nodedig o ryddfrydig oedd Daniel Rowland ;
nid oedd ei ymlyniad wrth yr Eglwys agos
mor gryf ag eiddo Harris, ac ychydig o
bwys a roddai ar ordeiniad esgobol.
Derbyniwyd ei gynghor gan eglwys y
New Inn. YmgynuIIodd yr holl aelodau
ynghyd ; wedi darllen rhanau o'r Gair,
a chanu, a gweddío, mynegodd y pre-
gethwr ei gredo ar g'oedd ; yna dang-
osüdd yr eglwys trwy arwydd ei dewisiad
o hono i fod yn weinidog iddi. Yn
ganlynol, cyfododd un o'r blaenoriaid, ac
RHAI O'R CYNGHORWYR BOREUAF.
231
mewn modd difrifol cyhoeddodd Morgan
John Lewis yn weinidog dros Grist, i
eglwys y New Inn, i gymeryd ei gofal yn
yr Arglwydd. Dywedir yn Methodistiaeth
Cymru mai Sulgwyn, 1756, y cymerodd
hyn le ; ond tueddwn i feddwl ei fod yn
gynarach,
Parodd yr ordeiniad hwn, un o'r rhai
cyntaf yn mysg y Methodistiaid, gyífro dir-
fawr. Beiai yr Eglwyswyr y peth mewn
modd chwerw, am yr ystyrient waith neb yn
gweinyddu y sacramentau, heb feddu
ordeiniad esgobol, yn rhyfyg ac yn ysgel-
erder. Beiai yr Ymneillduwyr y weithred
hiwn mor chwerw, am nad oedd unrhyw
weinidog ordeiniedig wedi bod a llaw yn
yr urddiad. Yr oeddynt hwy yn eu ffordd
eu hunain lawn mor guhon a'r Eglwyswyr,
ac yn credu lawn mor gryf mewn math o
olyniaeth apostolaidd. Meddai Morgan
John Lewis, ac eglwys y New Inn,
syniadau mwy rhyddfrydig, a nes at y
Testament Newydd, am osodiad gwein-
idog ar eglwys. " Llawer o ddyeithrwch,
chwerwder, anfrawdgarwch, a dirmyg, a
daílwyd arnom," meddai Mr. Lewis ;
" Fe'n gwrthwynebwyd yn gyhoeddus y
cyfle cyntaf a gafwyd. Ond y mae y
fifordd yr ydym ni yn brofifesu yn ym-
ddangos i ni yn fwy cydsyniol a threfn yr
efengyl, ac yn ateb y dyben yn well, ar y
dewisiad cyhoeddus, neu ordeinasiwn
gweinidogion. Dymunwn i'r Arglwydd
ein cynorthwyo bawb i gydoddef ein
gilydd mewn cariad." Gan mor gyn-
ddeiriog oedd yr ystorm a ymosodai ar
eglwys y New Inn, a chan mor anwir-
eddus a disail oedd y chwedlau a daenid
am dani, ac am ei gweinidog, barnodd
Morgan John Lewis yn ddoeth argraffu
math o Gyffes Ffydd, yn yr hon y gosodai
allan mewn modd chr yr egwyddorion
a gredai.
Eglwys Fethodistaidd oedd eiddo y
New Inn dros yr holl amser y bu Morgan
John Lewis yn gweinyddu iddi. Yn wir,
ni wnai eglwysi Ymneillduol y wlad ym-
gyfathrachu a hi ; ni ddeuai gweinidogion
yr Anghydffurfwyr yno ar unrhyw gyfrif i
gyflenwi ei phwlpud ; cauid hi y tu allan
i'r gwersyll, yr un fath a'r gwahanglwyfus
gynt yn Israel ; a gelhd tybio ddarfod
iddi bechu y pechod anfaddeuol wrth alw
gweinidog i'w bugeiho yn ol y drefn a
ystyriai hi fwyaf cyson a dysgeidiaeth y
Testament Newydd. Mor gryf ac mor
greulon ydyw rhagfarn ! Pa fodd bynag,
deuai y cynghorwyr Methodistaidd yno ar
eu teithiau, gan sirioh calon y gweinidog
a'i gynulleidfa drwy eu hymwehad. Yno
y llafuriodd Morgan John Lewis am o
gwmpas pymtheg mlynedd gwedi, gyda
mawr Iwyddiant. Teimlodd yr hoH wlad
o gwmpas oddiwrth ei weinidogaeth ; ym-
gasglai dynion i wrando arno bymtheg
milltir o behder. Eithr daeth ei wasan-
aeth i derfyn mewn modd hynod iawn. Y
Sabbath olaf y bu yn pregethu yn y New
Inn, aeth yn yr hwyr i gynal gwasanaeth
crefyddol mewn ffermdy yn nghymydog-
aeth Pontypŵl, tua miihir allan i'r dref.
Yn y tŷ he y darfu iddo bregethu y Uetyai
y noson hono, Dranoeth, cyn iddo godi
o'i wely, daeth perchenog y tyddyn i'r lle,
a rhyw swyddog milwraidd gydag ef, a
chan gyfarch g\vr y tŷ, gofynai : " Pa le y
mae y pregethwr a fu yn cadw cwrdd yma
neithiwr ? " Atebwyd yn ofnus iawn ei
fod yn ei wely. " Rhaid i ni gael ei
weled," ebai'r boneddwr ; "y mae arnom
eisiau cael ymddiddan ag ef." Cynygiodd
y gŵr ei alw i lawr atynt, ond ni wnai
hyny mo'r tro i'r boneddwyr, eithr rhuthr-
asant i fynu y grisiau, ac i mewn â hwy i
ystafell wely y gweinidog yn ddiseremoni.
Yno y cysgai g\Vr Duw heb freuddwydio
am berygl. Tynodd y swyddog milwr-
aidd ei gleddyf, a chan sefyll wrth ochr y
gwely, a dal y cledd uwchben y pregethwr,
gwaeddodd mewn llais croch : " Heretic,
deff'ro ! " Deffrodd yntau, a'r olwg gyntaf
a ganfu oedd milwr yn dal arf uwch ei
ben, fel pe ar fedr ei drywanu. Yr oedd
yr olygfa mor enbyd, ac yn ymrithio o'i
flaen mor ddisymwth, cyn iddo gael amser
i ymresymu ag ef ei hun, nac i ymbarotoi
ar gyfer y brofedigaeth, fel y bu yn ddigon
i ysgytio ei natur o'i Ile, ac i ddyrysu ei
synwyr. Ymddadebrodd i raddau gwedi
hyn, ond ni ddaeth byth yn alluog i
bregethu. Darfu a bod yn gysur iddo ei
hun, a chollodd ei ddefnyddioldeb i eraill,
ac yn mhen tua blwyddyn ymollyngodd
i'r bedd, Meddai y Parch, John Hughes :
" O ran ymddangosiad, y gelyn a gawsai
yr oruchafiaeth, Y New Inn, a Sir
Fynwy, íe, a Chymru oll, a gafodd y
golled," Duwinydd gwych oedd Morgan
John Lewis ; meddai gydnabyddiaeth
ddofn a Gair Duw, a chryn dreiddgarwch
meddwl i fyned i mewn i'w ystyr, Pre-
gethai gyda nerth a hyawdledd, a chrynai
dynion tan ddylanwad ei weinidogaeth.
Yr oedd yn dra difrifddwys yn wastad, a
dywedir na welwyd erioed wên ar ei
wyneb, Gyda hyn oll, yr oedd yn Grist-
232
y TADAU METHODISTAIDD.
ion pur, ac yn ddyn gwir ostyngedig. Bu
farw tua'r flwyddyn 1771, wedi gwasan-
aethu Cyfundeb y Methodistiaid am tua
deng-mlynedd-ar-hugain.
Pregethwr rhagorol, ac un a fu yn dra
defnyddiol, oedd y Parch. David Williams,
Llysyfronydd. Dywedir yn Metìiodistiaeth
Cymnt mai brodor o Landyfaelog, yn Sir
Gaerfyrddin, ydoedd. Y mae yn bur sicr
fod hyn yn gamgymeriad, ac mai o Dre-
garon yr hanai ; mai yno y cafodd ei eni
a'i fagu, ac y cafodd grefydd. Efe yw y
Dafydd Wilham, y cyfeiria Mr. Hughes
ato fel cynghorwr, a breswyliai yn Nhre-
garon ar gychwyniad yr achos yno. Yn
Hanes Eglwysi Annihynol Cymru, dywedir
ei fod yn Blaenpenal, a'i fod yn un o
ddisgyblion Phihp Pugh, ond iddo, ar
doriad allan y diwygiad Methodistaidd,
ymuno a Daniel Rowland yn Llangeitho.
I hyn nid oes sail o gwbl ; ceisir dal yr
honiad i fynu yn unig ag " ymddengys ; "
cyfìd oddiar awydd anghymesur am wneyd
holl gynghorwyr cyntaf y Methodistiaid
yn broselytiaid oddiwrth yr Ymneilldu-
wyr. Y mae y tebygolrwydd yn gryf fel
arall. Nid oedd David Williams ond
glaslanc, dwy-ar-bymtheg mlwydd oed,
pan y dechreuodd Daniel Rowland gyn-
hyrfu ; y tebyg yw ei fod yn gyífelyb i'w
gyfoed, yn ddifater am Dduw a phethau
ysprydol ; ac mai nerth angerddol gwein-
idogaeth y Diwygiwr o Langeitho a'i
torodd i lawr, ac a'i dygodd i feddwl am
grefydd. Yn bur fuan, pan yn ngwres
ei gariad cyntaf, dechreuodd gynghori,
a dygodd ei ddoniau enillgar ef i sylw
Rowland. Yn ail Gymdeithasfa Wat-
ford cafodd David WiIIiams ei benodi
yn arolygwr yn Sir Aberteifi ; a oedd holl
seiadau y sir dan ei ofal, ynte ryw gyfran
o honynt, ni ddywedir. Nid yw ei enw
wrth un o'r adroddiadau a anfonwyd i'r
Gymdeithasfa. Pan y penderfynwyd anfon
pedwar o'r pregethwyr enwocaf i Ogledd
Cymru i lafurio, oblegyd fod crefydd mor
isel yno, pob un o honynt i aros am
chwarter blwyddyn, yr oedd David WiII-
iams yn un o'r cyfryw. Mor werthfawr
oedd ei lafur, ac mor gymeradwy oedd ei
weinidogaeth, fel y dywedir iddo gael
gwahoddiad taer i ymsefydlu yn y Bala.
Wrth deithio Gwynedd cafodd ei drin yn
arw yn aml. Cawsai ei gyhoeddi unwaith
i bregethu mewn tŷ bychan yn nghymyd-
ogaeth Caergwrle, yn Sir Fflint. Daethai
yno yn lled gynar, ond yn min y nos,
rhuthrai merch i'r tŷ, a'i hanadl yn ei
gwddf, gan ddweyd fod llu o erlidwyr ger-
Ilaw. Cododd gŵr y tŷ, a chlodd y drws.
Gyda hyny, dyma y dyrfa afreolus yno, ac
yn nghanol rhegfeydd a swn, yn gorch-
ymyn gyru y pregethwr allan. Ni fynai
pobl y tŷ gydsynio. Darfu i'r gwrthodiad
gynhyrfu yr erlidwyr yn fwy, a thyngent
i'r dystryw mawr, oni wnaent yru y Ilef-
arwr allan y tynent y tý i lawr am eu
penau. Rhedodd rhai o honynt i gyrchu
trosolion, er mwyn rhoddi eu bwriad
dieflig mewn grym. Penderfynodd David
WiIIiams, ar hyn, yr ai allan i'w mysg.
Pan y ceisid ei atal, dywedai : " GoIIyng-
wch fi ; rhaid i mi gael myned." Allan
yr aeth i ganol y dyrfa ffyrnig, a chan
edrych yn ddiofn arnynt, gofynodd : " Yn
enw'r Gwr goreu, beth sydd a fynoch a
dyn dyeithr ar ei daith ? Pa enw neu
anrhydedd a gaech pe baech yn fy Iladd ? "
Digwyddodd fod yn eu mysg ryw ddyn
cryf, a rhyw deimlad o anrhydedd heb
ddiffodd yn ei fynwes. Safodd hwn i fynu,
a chyda Ilonaid ei safn o Iwon, gwaeddodd :
" Dyn iawn yw hwn. Mi a fynaf chwareu
teg iddo." Gwelodd David WiIIiams fod
y drws wedi ei agor iddo megys yn wyrth-
iol i lefaru ; cafodd le i sefyll arno wrth
ochr y ffbrdd, a phregethodd gyda dylan-
wad mawr wrth oleu'r Iloer ; a diau na
chuddiodd Haul y Cyfiawnder ei wyneb.
Bu yr erlidwyr mor ddystaw a chẁn yr
Aipht, ac ymadawsant yn heddychol.
Rhydd y Parch. E. Morgan, Syston, yr
hanes ychydig yn wahanol. Dywed efe
ddarfod i'r erlidwyr ymaflyd yn y pregeth-
wr, gan ei gymeryd at ryw Iyn, a bygwth
ei foddi. Pan ar gael ei daflu i mewn,
gwaeddodd David Williams : " Bydd yn
warth tragywyddol i bobl Caergwrle,
os boddant hen bregethwr penllwyd, a
ddaethai o eithafion y Deheudir i gyhoeddi
iachawdwriaeth iddynt." A dyma y pryd,
meddai Mr. Morgan, y darfu i'r dyn cryf
gyfryngu rhyngddo a'r gwaethaf.
Ymddengys ddarfod i David WiIIiams
symud i Lysyfronydd, er gofalu am y mân
gymdeithasau a gawsent eu sefydlu yn
Mro Morganwg, ac mai gan Daniel
Rowland y bu y prif law yn ei symudiad.
Yn bur fuan priododd a Miss Pritchard,
Talygarn, yr hon a berthynai i deulu tra
chyfrifol, Pan y cyfododd awydd yn y
cymdeithasau am gael rhai o'r cynghorwyr
yn weinidogion, ordeiniwyd David Will-
iams yn weinidog i eglwys yr Aberthyn.
Dywedir yn Hanes Eglwysi Annibynol Cymru
mai yn y flwyddyn 1766 y bu hyn ; ond
RHAI O'R CYNGHORWYR BOREUAF.
233
credwn iddo gymeryd lle gryn lawer yn
gynt. Wedi ceisio gwneyd Mr. Willianis
yn Annibynwr yn nechreu ei oes, y mae
yr un llyfr yn ceisio ei wneyd yn Annibyn-
wr o'i urddiad yn mlaen. Dywedir iddo
gael ei ordeinio yn ol trefn yr Annibyn-
wyr. Y mae hyn yn anghywir. Y mae
y traddodiad am ei ordeiniad yn gyfîelyb i
eiddo Morgan John Lewis. Methai y
ddeadell fechan yn yr Aberthyn a chael
gweinyddiad cyson o'r ordinhadau gan
offeiriad Methodistaidd ; yr oedd Davies
heb ddyfod eto i Gastellnedd, a Jones heb
ddyfod i Langan ; nid oedd yr aelodau yn
foddlawn myned i gymuno at offeiriaid
digrefydd yr egiwysi cymydogaethol, ac
felly anfonasant at Daniel Rowland i
geisio cyfarwyddyd. Ei gyngor ef oedd ar
iddynt ordeinio David Wilhams. Hyny
a wnaethant, a gweinyddodd yntau yr
ordinhadau yn y lle hyd ddydd ei farwol-
aeth. Nid oes hanes i weinidogion Ym-
neillduol gael eu galw i gymeryd rhan yn
y ddefod ; y mae yn fwy na thebyg mai
cynllun eglwys y New Ìnn a ddilynwyd.
Dengys yr hanes pa mor rhyddfrydig oedd
Daniel I^owland ; mor llac oedd y rhwymau
a'u cysyUtent wrth yr Eglwys Sefydledig,
a'r modd yr oedd yn gallu ymddyrchafu
goruwch mân ragfarnau yr Eglwyswyr
a'r YmneiIIduwyr. Yn yr un dull yn
hollol yr ordeiniwyd Thomas Williams, a
fu am flynyddoedd yn aelod gyda David
WiIIiams yn yr Aberthyn, yn weinidog
Bethesda-y-Fro, fel y dengys cofnod yn
llawysgrif yr hen fardd, John Williams,
St. Athan.
Parhaodd David WiIIiams yn Fethodist
gwedi ei ordeiniad fel cynt, ac eglwys
Fethodistaidd yw yr Aberthyn hyd y
dydd hwn. Gweinyddai swper yr Ar-
glwydd yno yn fisol, ac ar y cyfryw
achlysuron ymgynullai ato liaws o grefydd-
wyr yr ardaloedd o gwmpas. Ni roddodd
i fynu deithio ychwaith ; mynychai y
Cyfarfodydd Misol a'r Cymdeithasfaoedd ;
ac elai o gwmpas trwy Gymru i efengylu
yr un fath a'i frodyr. Yr ydoedd yn ŵr
cadarn yn yr Ysgrythyrau. A dywedir
mai efe a ddysgodd ffordd Duw yn fanyl-
ach i Jones, Langan, ac a fu yn arweinydd
i'r g\vr enwog hwnw mewn duwinyddiaeth.
Tynerwch a nodweddai ei weinidogaeth.
Nid líoanerges ydoedd, yn sefyll ar goryn
Ebal, ac yn taranu melldithion uwchben
anwir fyd ; ond Mab Dyddanwch, yn cym-
hwyso y Balm o Gilead at glwyfau y
rhai oeddynt yn archolledig a briw.
o'r Bala, am dano :
mwynaidd iawn, a
iraidd a g'wIithoÊf."
Enillgar ydoedd o ran dawn, a inelus
odiaeth o ran Ilais. Dywed John Evans,
' Gŵr tirion oedd efe,
phregethwr hynod o
Gyda golwg arno ef
a John Belsher, ychwanega yr un g\vr :
" Bu y ddau hyn yn dyfod atom bob yn
ail dros rai blynyddoedd, yn ngwyneb
Ilawer o iselder ac anhawsderau, Nid
oeddem ni ond tlodion i gyd, ac o'r braidd
y gallem roddi Ilety a thipyn o fwyd
iddynt, wedi iddynt, trwy fawr ymdrech,
ddyfod atom. Byddai y brodyr yn y
Deheudir yn garedig yn eu cynorthwyo,
onide nis gallent dalu eu ffordd ar eu
teithiau." Cafodd David WiIIiams lawer
o drafiferth yn yr Aberthyn ; daeth Sabel-
iaeth i mewn i'r eglwys, a bu yn achos
llawer o ddadleu ac ymrafaelio. Ond
cadwodd ef ffurf yr athrawiaeth iachus, a
bu farw mewn tangnefedd, gan adael
Bro Morganwg mewn galar ar ei ol.
Gweddus cofnodi fod Mr. WiIIiams yn
frawd yn ol y cnawd i'r enwog fardd, John
W^illiams, St. Athan, awdwr yr emyn
ardderchog : —
" Pwy welaf 0 Edom yii dod '?"
CAÜEG-FEDD
Y PAUCH. DAYID WILLIAMS,
LLYSYFRONYDD.
234
7 TADAU METHODISTAIDD.
Ychydig iawn a wyddoni am William
Richard, arolygwr seiadau y rhan isaf o
Sir Aberteifi, yn nghyd a'r oll o gymdeith-
asau glàn y môr yn Sir Benfro, mor bell a
Thyddewi, ond a geir yn nghofnodau
Trefecca. Un o ddychweledigion Daniel
Rowland ydoedd, a dechreuodd gynghori
yn mron yn union wedi iddo gael crefydd.
Cawn y cyfeiriad cyntaf ato yn nghofnodau
Cyfarfod Misol Llanddeusant, pan y
rhoddwyd nifer o seiadau dan ei ofal.
Cyfeirir ato hefyd yn nghofnodau ail Gym-
deithasfa Watford, lle y dywedir ei fod i
aros fel yr ydoedd hyd Gymdeithasfa
Dygoedydd. Yn Nghymdeithasfa Fisol
Glanyrafonddu, ail-roddir seiadau Blaen-
hownant, Dyffryn Saith, Blaenporth, Twr-
gwyn, a Llechryd dan ei ofal, a gelwir ef
yn " WiUiam Richard o Landdewi-frevi."
A ydoedd yn preswyho yn Llanddewi-brefi
ar y pryd, nis gwyddom ; y tebygolrwydd
yw mai oddiynoyr hanai, ond ddarfod iddo
symud ei breswyl cyn hyn i gymydogaeth
Aberteifi. Yn ngweithiau barddonol Will-
iams, Pantycelyn, ceir marwnad i un
WiUiam Richard, o Abercarfan, yn mhlwyf
Llanddewi-brefi, yr hwn a fu farw o'r
darfodedigaeth, haf 1770. Y mae amryw
bethau yn y farwnad yn pleidio mai yr un
ydyw a Wilham Richard y cynghorwr.
Dywed y bardd : —
" ]\Iae Llanfrynach wan yn wylo
Hyd yn awr, wrth gofio am dano,"
Gorwedda Llanfrynach yn gyfagos i gydiad
y tair sir, sef Penfro, Caerfyrddin, ac
Aberteifi, ac felly yr oedd yn ymyl y
maes a gawsai ei ymddiried i WiUiam
Richard, os nad oedd yn wir yn rhan o
hono. Os ydym yn gywir yn ein dyfaliad,
profasai Wilham Richard bethau cryfion
ar gychwyn ei fywyd crefyddol ; buasai
yn neidio ac yn moUanu tan weinidogaeth
danllyd Rowland ; a chadwodd ei goron
hyd ddiwedd ei ddydd. Fel hyn ei des-
grifir gan Wilhams : —
" Gwelais ef ar oriau hyfryd,
Yn moreuddydd braf ei fywyd,
Yu molianu, yu prophwydo,
Yn fìaena' o'r werin yn Llangcitho ;
Chwys fel nentydd clir yn hifo,
Tarth trwy ei wisgoedd tew yn suo ;
Cariad pur, gwerthfawr clir, yn gwir enynu,
Nes oedd corph yn gorfod helpu
Enaid allan i'w fynegu.
Mi íum unwaith wrth ei wely,
'Jlocdd ei wledd fel gwleddocdd gwindy,
A'i hoU eiriau'n tarddu'n gyson,
O giediniaeth, heb ddim ofun :
Gw\'-r yn twymo wrth y siarad,
Merchcd, hwj'thau'n wylo cariad ;
Minau f'hun, waelaf ddyn, gwanaidd, yn gwenu,
Ac yn hyfryd eiddigeddu,
Weled plentyn arna i'n blaenu.
Y mae y desgrifiad yn nodedig o fyw.
Braidd na welwn ef yn moreuddydd ei
fywyd, gyda dillad tewion, wedi eu gwneyd
o frethyn cartref, yn ol arfer ffermwyr y
pryd hwnw, am dano ; y mae y syniadau
am ogoniant y Gwaredwr a ymrithiant
gerbron ei feddwl mor ogoneddus, nes y
mae ei gorph yn gorfod helpu ei enaid i
roddi mynegiant iddynt. W^rth ei fod yn
neidio ac yn mohanu, y mae chwys fel
nentydd yn Ihfo dros ei wyneb, a'i ddillàd
yn myned yn wlybion am dano, fel pe
buasai tarth wedi treiddio trwyddynt. A
chan yn amlwg y cyfunai wybodaeth
grefyddol eang, a medr mawr mewn
ymwneyd a'r dychweledigion, nid rhyfedd
fod seiadau glàn y môr mewn rhanau o
ddwy sir yn cael eu gosod dan ei ofaL
Gallwn dybio ddarfod iddo yn mhen amser
symud yn ei ol i Landdewi-brefi, ac mai
yno yr arhosodd hyd ddydd ei farwolaeth.
Nid tawel a fu ei fywyd crefyddol yno ;
bu mewn dadleuon poethion ; eithr safodd
yn ffyddlon trwy bob anhawsder. Meddai
WiUiam WiUiams yn mheUach : —
" Ti, Llanddewi, fu'n agosa'
Gneifio'r bluw oedd ar ei gopa,
IMwg a thân fu iddo'n galed
Yn y ffrae rliwng Twrcs ac ludiaid ;
Oucí fc safodd Wil i fynu
Pan oedd Efan laitli yn methu."
Nis gwyddom beth oedd testun y ffrae, na
phwy oedd y " Twrcs ac Indiaid " a'i
dygent yn mlaen ; na phwy oedd yr " Efan
laith " a fethodd sefyU ei dir ; ac ofer
dyfahi yn awr. Yr hyn sydd yn bwysig
yw deaU ddarfod i WiUiam Richard ddyfod
" O'r anialwch mawr i fynu,
Heb ei ladd, heb ei orchfygu."
Gweinidog YmneiUduol, a ymunodd a'r
Methodistiaid, oedd y Parch. Benjamin
Thomas. Ychydig iawn o'i hanes sydd
genym. Yn nghofnodau ail Gymdeith-
asfa W^atford, cyfeirir at ddau weinidog
Anghydffurfiol ; un yn bresenol, sef y
Parch, Henry Davies, Bryngwrach ; a'r
UaU yn absenol, sef y Parch. Benjamin
Thomas. Rhoddir eu henwau yn mysg
yr offeiriaid ordeiniedig ; geUid meddwl yr
edrychid ar urddiad YmneiUduol fel yn
hollol gyfartal i ordeiniad Esgobol ; y mae
enw HoweU Harris yn is i lawr, sef yn
mysg y Ueygwyr. Rhaid nad oedd y
RHAI O'R CYNGHORWYR BOREUAF.
235
Tadau Methodistaidd, er eu hymlyniad
wrth yr Eglwys Sefydledig, yn ddynion
rhagfarnllyd. Yr ydym yn cael y Parch.
B. Thomas yn bresenol yn Nghymdeith-
asfa Trefecca, haf 1743, yn gystal ac yn
Nghymdeithasfa y Fenni y mis Mawrth
dilynol. Yn Nghymdeithasfa Portliyrhyd,
Hydref, 1744, penderfynwyd fod y brawd
Benjamin Thomas i gynorthwyo Howell
Harris fel arolygwr dros holl Gymru, yn
lle Herbert Jenkins, yr hwn a ymroddasai
i lafurio yn benaf yn Lloegr.
Teithiai Mr. Thomas lawer, trwy Ddé
a Gogledd Cymru, ac ni ddihangodd
rhag erhdiau, mwy na'r gweddiU o'i frodyr.
Cawn hanes am dano yn pregethu yn
Minffordd un tro, mewn adeilad wedi cael
ei drwyddedu yn ol y gyfraith i gynal
addohad. Daeth yno hi o erhdwyr, gyda
ffyn mawrion yn ei dwylaw, ac i un o'r
ffyn hyn yr oedd pen haiarn. Ceisiwyd
taro y pregethwr a'r íîon hon, ond ar un
Howell Thomas, o Blas Llangefni, y
disgynodd yr ergyd ; ac yr oedd y tarawiad
mor chwimwth fel y torodd y pen haiarn i
ffwrdd, gan fyned dros y clawdd i'r ffos tu
hwnt. Dilynodd yr erhdwyr y dorf am
chwarter milltir, gan eu curo a'u baeddu
yn ddidrugaredd, nes yr oedd eu gwaed
yn ffrydio ar hyd y ffordd. Ymddengys,
modd bynag, i B. Thomas ddianc yn
gymharol ddianaf, gan ei fod yn \vr cyílym
ar ei draed. Tyner oedd nodwedd pre-
gethu Benj. Thomas ; Ihfai y dagrau i
lawr ei ruddiau wrth gynghori pechadur-
iaid. Pregethai unwaith yn y Bontuchel,
yn Sir Ddinbych. Daeth dyn i'w wrando
o'r enw Thomas Parry, g\vr pwyllog, tra
ymlyngar wrth Eglwys Loegr, a Uawn
rhagfarn at y Methodistiaid. Ond cym-
hellasid ef gan ei frawd i ddyfod i'r odfa.
" Ti gei weled, Twm," nieddai ei frawd,
" y bydd y dyn yn pregethu o'i galon,
canys bydd ei ddagrau yn treiglo i lawr ei
wyneb." Pwnc y bregeth oedd ailenedig-
aeth. Mawr ddymunasai Thomas Parry
gael pregeth ar y mater hwn ; ond nid
oedd y clerigwr a wasanaethai yn yr
eglwys yn cyfeirio un amser at y mater.
Eithr cafodd yn y pregethwr o'r Dê fwy
na boddlonrwydd i'w gywreinrwydd, ac
eghirhad ar bwnc duwinyddol ; bacliodd
y gwirionedd yn ei gydwybod, a daeth yn
ddyn newydd o'r dydd hwnw allan. Daeth
gwedi hyny yn adnabyddus fel Thomas
Parry, o'r Rhewl, ac yn un o'r blaenor-
iaid galluocaf a mwyaf defnyddiol yn holl
W'ynedd. Nid ydym yn gwybod pa bryd
na pha le y terfynodd y Parch. Benjamin
Thomas ei yrfa. Ymddengys, pa fodd
bynag, mai wrth blaid Rowdand y glynodd
yn amser yr ymraniad, ac iddo barhau i
efengyhi yn mysg y Methodistiaid hyd
ddiwedd ei oes.
Yr oedd dau gynghorwr yn Sir Benfro,
cyffelyb o ran enwau, y rhai y mae eu hanes
wedi eu cydgymysgu yn anobeithiol yn
Mdhodistiaeth Cynini. Un oedd John Harris,
St. Ivennox, yr hwn, mor foreu a'r ílwyddyn
1743, a benodwyd yn arolygwr ar y
cymdeithasau yn Llawhaden, Prendergast,
Jefferson, Carew, Llandysiho, a Gelh-
daweL Y llall oedd John Harry, Tre-
amlod, cynghorwr anghyoedd. Y blaenaf
oedd yr enwocaf o lawer. Ymddengys ei
fod yn ddyn siriol, yn bwrlymu o athrylith,
yn ysgolhaig gwell na'r cyfifredin niewn
Cymraeg a Saesneg, a chyda hyn yn
meddu gwroldeb diofn. Er dangos ei
gymeriad, nis gallwn wneyd yn well na
difynu rhanau o'i Iythyrau i'r Cymdeithas-
faoedd. Fel hyn yr ysgrifena at Gym-
deithasfa Fisol Longhouse, Medi 28,
1743, gan gyfarch Daniel Rowland a
Howell Davies : " Anwyl a charedig
fugeiliaid. O'r diwedd, fe'm cymhellir, o
gariad at yr anwyl Immanuel, i'ch hysbysu
pa fodd y mae wedi bod arnaf er ein
Cymdeithasfa Fisol ddiweddaf, pryd y
rhoddasoch arnaf ofal amrywiol gym-
deithasau. Pan y gofynwyd i mi y pryd
hwnw am fy rhyddid (sef rhyddid i fyned
o gwmpas i arolygu y seiadau), atebais
fel y dysgwylid i mi. Ond daeth y syniad
ar unwaith i'm meddwl, pa fodd y gallwn
i, nad wyf ond baban mewn profìad,
ryfygu sefyll i fynu fel clorian i bwyso
eneidiau ? Meddyliais ynof fy hun, pe y
digwyddai rhyw amryfusedd ynglyn ag
esbonio, y byddai yn Ilai niweidiol i enaid
nag a fyddai barnu ar gam rhwng cnawd
ac yspryd, a rhwng gwir a gau gariad.
Pa fodd bynag, fe fu y gair ' Rhydd ' a
atebais i chwi, fel cadwen i fy rhwymo i
edrych beth a gymerais mewn Ilaw.
Syrthiodd dychryn ar fy enaid, rhag im
fod nid yn unig yn anffyddlawn i'r anwyl
Oen, ond yn dristwch i fy hoff athrawon,
ac hefyd yn waradwydd i ffyrdd Duw, ac
i'w blant. Daeth y baich hwn mor an-
nyoddefol fel ag yr oedd corph ag enaid yn
mron cael eu Ilethu dano. Bum yn yr ing
am gryn amser, yn meddwl mwy am y
Gymdeithasfa, Ile y gelwid arnaf i roddi
cyfrif o'm goruchwyliaeth, nag am y farn
fawr. Ynu'oddais i anfon at y cymdeith-
236
y TADAU METHODISTAIDD.
asau i ymgynuU ar amser priodol ac mewn
trefn, gan ymddangos iddynt fel gŵr o
awdurdod." Yn canlyn, ceir adroddiad o
ansawdd y seiadau. Yn sicr, nid dyn
cyffredin a allasai ysgrifenu fel y gwna
John Harris.
Yr un gẁr, sef John Harris, St. Kennox,
sydd mewn llythyr, dyddiedig Mai 12,
1745, yn cofnodi hanes ei ymweHad a
chymydogaeth Tenby. " Nid oes, bell-
ach," meddai, " yr un rhan o'r sir na
fum yn cynghori ynddi, ond tref Penfro,
a bwrdeisdref Tenby, yr hon sydd borth-
ladd tua phump neu chwech miUtir o
Penfro. Bum yn llefaru o fewn dwy
íìlltir i'r lle, nos Wener diweddaf. Nid
oes ond un brawd crefyddol yn byw yn
Tenby ; mynych y ceisiasai hwn genyf
ddyfod i'r dref i bregethu ; yn awr, anfon-
ais ato y deuwn i'w d\' i letya, ac os
gwelai efe yn oreu wahodd rhyw nifer o
wỳr a gwragedd adnabyddus iddo, ac yn
chwenych fy ngwrando, i fy nghyfarfod, y
gwnawn esbonio ychydig o adnodau yn yr
ystafell gefn. Felly hefyd y gwnaeth y
gŵr. Ond pan oeddwn ar ganol y gwas-
anaeth, daeth y cwnstab i mewn, gan
ddweyd : ' Syr, y mae yn rhaid i chwi
dewi ; gorchymynir i mi gan y maer eich
dwyn o'i flaen yn ddioedi.' Dywedais
inau y cydsyniwn a'r cais, ond gan fy mod
ar wasanaeth Meistr arall yn awr, fy mod
yn hawlio caniatad i draddodi fy neges
drosto ef yn nghyntaf. Ar hyn, efe a
adawodd yr ystafell. Eithr cyn i mi
orphen, dyma y cuwrad i mewn, a chydag
ef yr oedd cwnstebh, a phedwar neu
bump o foneddigion. Ceisiai y cuwrad gan
y swyddog fy llusgo i lawr. Atebodd
yntau : ' Gresyn fyddai hyny, cyn iddo
orphen, oblegyd y mae yn lleíaru yn
felus.'
" ' I lawr ag ef,' ebai y cuwrad, ' onide
mi rof gyfraith arnat ti am esgeuluso dy
ddyledswydd.'
" Er fod y dynion (y cwnstebH) yn haner
meddw, cefais genad i orphen yr odfa ; ac
yn wir, yr oedd yn hyfryd ar fy yspryd, ac
ar fy ngwrandawyr hawddgar, y rhai a
rifent tua deugain. Disgynais oddiar y
lle y safwn, a thra yr ymesgusodent (y
swyddogion) wrth \vr y ty, yr oedd eu
gwedd yn llwyd rhyfedd.
'" Niaddaethom, Mr.Thomas,'meddent,
' i weled y darluniau gwych sydd genych.'
" Atebais inau : ' Tybygwyf, foneddigion,
mai fi yw y darlun y daethoch i'w weled.'
Ar hyn, y swyddog a roes ei law ar fy
ysgwydd, gan ddweyd : ' Yr ydych yn
garcharor, Syr, a rhaid i chwi ddyfod o
tlaen y maer.'
" ' Yr wyf yn barod i ddyfod,' ebe finau.
Pan aethom i'r heol, a hyny rhwng naw a
deg o'r gloch y nos, yr oedd yno tua mil
o bobl, yn wj-r ac yn wragedd, gyda
llusernau a chanhwyllau yn fy nysgwyl,
ac yn llefain yn echrys : ' Ymaith ag ef !
Ymaith ag ef ! '
" At y maer yr aethom. Hwn, heb
edrych yn fy wyneb, a ofynodd am fy
nhrwydded. Atebais nad oedd genyf yr
un. Gofynodd : ' Pa fodd y meiddiwch
ddyfod i'n tref ni i bregethu ? '
'T hyn atebais : ' Ni chyhoeddwyd fi i
bregethu ; eithr gwedi i'r bobl wybod am
fy nyfodiad yma i letya, daethant i mewn ;
minau a esboniais ychydig adnodau iddynt,
canasom emyn neu ddwy, a gweddîasom.'
" ' Rhaid i chwi,' ebe y maer, ' roddi
meichiau am eich ymddangosiad yma y
cwarter sessiwn nesaf.'
" ' Da fyddai genyf wybod, Syr, beth
sydd genych i'w roddi yn fy erbyn.'
" ' Eich gwaith yn pregethu,' oedd yr
ateb.
" ' Os hyny yw y trosedd, Syr, chwi a'u
cewch yn ewyllysgar. Am ba swm y
gofynir hwynt ? '
" ' Am ddau cant o bunoedd,' oedd yr
ateb. Yr oedd yno' ddau frawd yn barod
i ymrwymo, ond gofynodd rhywrai a safent
gerllaw : ' A roddech chwi eich gair, pe y
caech fyned yn rhydd yn awr, na ddeuwch
yma i bregethu mwy ? '
" ' Hyny nis gallaf ei wneyd,' ebe finau; '
' er na ddaethum yma i bregethu y tro hwn,
nid oes sicrwydd na fydd raid i mi bre-
gethu yma cyn y fory, oblegyd nid oes
genyf awdurdod arnaf fy hun.'
" ' Gan bwy, atolwg, y mae awdurdod
arnoch ? ' gofynai gwraig y maer.
" ' Dan awdurdod fy Meistr yr wyf.'
" ' Pwy yw eich meistr ? Ai y diafol ? '
" ' Nage. Y mae fy Meistr i yn feistr
ar y diafol, ac arnoch chwithau yn ogystal.'
" ' Ust,' ebe y maer wrth y wraig, ' tewch
a son.' Gyda hyn, galwyd arnaf i law-
arwyddo yr ymrwymiad, a gollyngwyd fi
yn rhydd."
Dyma adroddiad John Harris o helynt
Tenby. Pan aeth allan i'r heol yr oedd
yno dorf o derfysgwyr yn ei ddysgwyl, yn
ffyrnig eu gwedd, ac yn barod i ymosod
arno. Ond amddiffynwyd ef yn annysg-
wyliadwy gan ryw ynad, a deimlai yn
garedig at y Methodistiaid, a chymerodd
RHAI O'R CYNGHORWYR BOREUAF.
237
ef i'w dỳ, gan ei letya fel brenin. " Dych-
welais inau adref dranoeth," nieddai, " a'r
dagrau yn IHfo dros fy ngruddiau, o wir
dosturi at drigolion tlodion Tenby." Sut
y bu yn y sessiwn nis gwyddoni. Y teb-
ygolrwydd yw i'r Arglwydd, yn ol ei arfer,
i'r rhai a garant ei enw, amddiffyn ei was,
a'i ddwyn yn ddyogel allan o fysg y llewod.
Y mae hanes John Harris, o'r ymraniad
allan, yn gorwedd dan gryn dywyllwch.
Dywedir iddo, yn yr argyfwng hwnw,
gymeryd plaid Harris ; a phan y deallodd
tan arolygiaeth y brawd William Richard.
Yn Nghymdeithasfa Fisol Hwlffordd,
lonawr 28, 1745, penderfynwyd fod y
brodyr John Harry, a John Morris, gan
eu bod yn addysgu mewn ysgol, i gynghori
gymaint ag a fedrant yn gyson a gofal yr
ysgoHon. Ymddengys fod John Harry yn
ddyn tra gweithgar, ac yn dal gafael ar
bob cyfleustra i gynghori ei gyd-bechadur-
iaid gyda golwg ar eu mater tragywyddol.
Lletyai unwaith mewn ffermdy, ac nid
esgeuHisodd rybuddio y rhai a weinyddent
BEDDRüIJ JOIIN IIAlíRY, TREAMLÜD, SIU liE^'l-RU.
[Yma liefijd y claddwyd ei fab, y Parch. Evan Harris, a'i loyr,
y Parch. Thomas Harris.}
fod y blaid yn gwanhau, ac yn rhwym o
ddarfod, iddo, fel y cynghorwr John Sparks,
o Hwlffordd, ymuno a'r eglwys Forafaidd.
Am John Harry, o Dreamlod, dywedir
mai brodor o ranau uchaf Penfro ydoedd,
ac mai tuag adeg y diwygiad y symudodd
i lawr i odreu y sir. Cawn y cyfeiriad
cyntaf ato yn nghofnodau Trefecca yn
nglyn a Chymdeithasfa Fisol Llangwg,
neu Llangwm, Gorph. 16, 1744. Yno
penderfynwyd fod y brawd John Harry yn
cael ei gymeradwyo, a'i fod i gynghori fel
o'r blaen hyd y Gymdeithasfa Fisol nesaf,
yno. Boreu dranoeth, gofynai y feistres
i'r llances o forwyn oedd yno : " Dos a
botasau y g\Vr dyeithr iddo." " Nac af fi,
yn wir," oedd yr ateb. " Paham hyny ? "
" F'wed wrthw i mod i yn bechadur,"
meddai yr eneth. Prawf diymwad nad
esgeulusai efe unrhyw gyfle i wneyd daioni.
Yr oedd gan yr hynod Rowland Hill
feddwl uchel am dduwioldeb John Harry.
Pregethai Mr. Hill unwaith yn Nhre-
amlod, gwedi i'r hen gynghorwT farw ;
ond yr oedd y weddw, a'i fab, y Parch.
Evan Harris, yn preswylio yno ar y pryd.
238
y TADAU METHODISTAIDD.
Wrth yniadael, dywedai : " Os ewch
chwi i'r nefoedd o'm blaen i, cofiwch fi
at John Harry, a dywedwch fy mod
inau hefyd yn dyfod." Dro arall, galwodd
ŵyr i John Harry, sef y Parch. T.
Harris, Hwlffordd, yn nhŷ Mr. HiU yn
Llundain. " Pwy ydych chwi ? " ebai
Mr. Hill. " Yr wyf yn ẁyr i'r diweddar
John Harry, o Dreamlod," atebai yr
ymwelydd. Ar hyn, ymunionodd Mr.
Hill ; sefydlodd ei lygaid ar y dyn ieuanc,
ac meddai, mewn Ilais llawn o deimlad :
" Os oes un dyn o'n byd llygredig ni yn y
nef, y mae yr hen John Harry yno."
Efallai mai ei berthynas a'r hen John
Harry a barodd i Mr. T. Harris gael ei
ddewis gwedi hyn i fod yn weinidog
Wooton-under-Edge, lle yr arosodd am rai
blynyddoedd. Gyda Rowland y glynodd
efengylydd Treamlod yn yr ymraniad, a bu
yn nodedig o ddefnyddiol yn nghylchoedd
Methodistaidd Penfro hyd ddiwedd ei oes.
Pregethai unwaith yn y mis yn nghapel
Woodstoclí. Gelwid y Sabbathau yno yn
ol enw y pregethwr a fyddai yn gweinyddu.
" Sul Rowland " y gelwid Sul pen y mis ;
" Sul John Harry " oedd yr ail ; " Sul
Henry Richard," tad Eben a Thomas
Richard, oedd y trydydd ; a " Sul William
Griffith " oedd yr olaf. Bu John Harry
farw yn y flwyddyn 1788, yn nhŷ offeiriad
Trefdraeth. Yn ei angladd, pregethwyd
gan Sampson Thomas, oddiar y geiriau :
" Gwyn eu byd y meirw, y rhai sydd yn
marw yn yr Arglwydd." Pregethwyd
hefyd ar yr amgylchiad yn eglwys Tre-
amlod, gan Mr. Rowland, oddiar y geiriau :
" Ac os o braidd y mae y cyfiawn yn
gadwedig, pa le yr ymddengys yr annuw-
iol a'r pechadur ? " Nid yw yr hen John
Harry heb fod rhai o'i hiliogaeth yn
gweinyddu mewn pethau sanctaidd, yn
mysg y Methodistiaid, hyd y dydd hwn.
Mab iddo oedd y Parch. Evan Harris, a
gafodd ei ordeinio yn mysg y fyntai gyntaf
yn Llandilo Fawr, yn y flwyddyn 181 1.
Mab iddo yntau oedd y Parch. Thomas
Harris, gŵr o ddoniau arbenig, ond a
derfynodd ei yrfa mewn cysylltiad a'r
Eglwys Wladol. Gorẁyr i John Harry
yw y Parch. James Harris, Clarbeston
Road ; ac yr ydym yn deall fod mab iddo
yntau eto wedi cychwyn gyda gweinidog-
aeth y Gair.
Un o gynghorwyr hynotaf Penfro oedd
WiIIiam Edward, Rhydygele. Darllenwn
am dano yn nghofnodau Trefecca yn
cael caniatad i ymweled a chymdeithasau
Tyddewi, Penrhos, a Mounton, yn wyth-
nosol, ar brawf, hyd y Gymdeithasfa
ddyfodol. Yr oedd yn Ilawn tán a chyfíro,
a meddai lawer o dalent naturiol, a medr
i gyfarch pechaduriaid, ond ei fod yn
drwsgl ac yn dra anwrteithiedig. Meth-
odist ydoedd ; dan weinidogaeth Howell
Harris y cawsai ei argyhoeddi ; ond ym-
gymysgai gryn lawer a'r YmneiIIduwyr,
ac yn eu cyfarfodydd arbenig, eisteddai bob
amser yn mysg y swyddogion. Edrychent
hwy arno ef fel un rhy danbaid, a rhy
ddireol ; credai yntau eu bod hwy yn rhy
farwaidd ac anefengylaidd. Gyda Ilawer
o ffraethineb, dangosai iddynt unwaith y
gwahaniaeth rhwng ei ddull ef yn pre-
gethu, a'r eiddynt hwy, trwy gymhariaeth
o dŷ ar dân. " Eich dull chwi," meddai,
" yw dweyd : Wrth deithio yn y nos, yn laf,
Mi a ganfum dân. Yn 2ÌI, Mi a welais
fû'g. Yn 3ydd, Mi a ddeallais fod y tŷ
yn Ilosgi. Yn 4ydd, Mi a wybum fod y
teulu ynddo mewn trwmgwsg. Yn ^ed,
Mi a ddaethum i'ch deffro, a'ch galw
allan, rhag eich dyfetha. P"y null inau,
wedi deall fod y ty ar dân, a'r teulu yn
cysgu, yw gwaeddu, heb na chyntaf nac
ail : Iwb ! Iwb ! Hawyr! Hawyr ! Deff-
rowch ! Deuwch allan ar frys, y mae y
tŷ ar dân, onide fe'ch Ilosgir yn Iludw ! "
Saer oedd WiIIiam Edward wrth ei
grefíf. Arweiniwyd ef unwaith, wrth
ddilyn ei gelfyddyd, i fysg y Saeson a
breswyliai ran o Benfro, a hyny mewn
palasdy, Ile yr oedd pobl dra boneddigaidd
yn byw. Yn fuan, aeth y si allan fod y
saer yn bregethwr. Gwedi ei holi, a
chael fod y chwedl yn wir, trefnodd y
foneddiges fod iddo gael anerch y teulu y
Sul canlynol. Y Sul a ddaeth, ac esgynodd
WiIIiam Edward i ben ystôl, er mwyn bod
yn uwch na'i wrandawyr. Tynodd Iyfr
allan o'i logell, gan ddarllen yn Saesneg o
hono fel testun : " Pwy bynag a _vr ei was
neu ei forwyn i godi pytatws, neu i dori
bresych, ar foreu Sabbath, a ddemnir dros
byth." " Dyma fy nhestun, madam,"
meddai ; " yn awr, gyda'ch cenad, mi a
af yn mlaen." Eithr cyffrodd y fonedd-
iges yn enbyd ; nid oedd yn ddieuog yn
ngwyneb y cyhuddiad ; a bloeddiodd yn
groch : " Nag ewch ddim yn mlaen, yr
adyn ; dewch i lawr ar unwaith ; dim
ychwaneg o'r fath gleber ! " Ac i lawr y
bu raid iddo ddod, heb wneyd rhagor na
darllen y testun, a therfynodd y cyfarfod.
Dengys yr hanesyn fod tân a zêl yn
yspryd y cynghorwr, ond yn fynych fod y
RHAI O'R CYNGHORWYR BOREUAF.
239
cyfryw yn tori allan yn wyllt, heb gael eu
llywüdraethu gan yspryd pwyll.
Ijyddai ei dynier yn anil yn fagl iddo.
Unwaith, aeth yn ddadl rhyngddo a
Thomas Hooper, ei gymydog ; aeth yr
ymryson yn enbyd o boeth, ac yn y cyfifro
rhoddes WilHam Edward wth i'w wrth-
wynebydd, nes y syrthiodd yn sybyrthol
yn erbyn rhyw arf, gan gael archoll ddofn
ar ei dalcen. Dyma y si allan fod Wilham
Edward, Rhydygele, pregethwr efengyl,
wedi taro ei gymydog a chaib, fel yr
oedd ei ymenydd yn y golwg. GelHr yn
hawddach ddychymygu na darlunio y
gofid a barodd y chwedl i'r cyfeilhon
crefyddol. Dygwyd y mater yn mlaen yn
y seiat. Gwadai yntau iddo daro Tom
Hooper. Eithr ni chredai ei gyd-aelodau ;
ymddangosai yr archoll yn profi yn wa-
hanol. Penderfynwyd ei ddiarddel. Cyn
myned allan, gofynai ganiatad i fyned i
weddi. Yr oedd y weddi yn un ryfedd ;
gruddfanau yr hen bererin mewn edi-
feirwch wrth yr orsedd, gan grefu am
faddeuant, ac apehai at hoílwybodaeth y
Goruchaf nad oedd wedi gwneyd yr hyn y
cyhuddid ef o hono. " Y mae fy mrodyr
yn gwrthod fy nghredu," meddai, " eithr
gwyddost ti, Arglwydd Mawr, na thar-
ewais mo Tom Hooper yn ei dalcen a'r
gaib." Gorchfygwyd ei gyd-aelodau, a
chwedi eu hargyhoeddi yn drwyadl nad
oedd yn bwriadu drwg, caniatasant iddo
aros yn eu mysg. Bu y tro yn wers iddo
am ei oes ; daeth gwedi hyn mor hynod
am ei larieidd-dra a'i arafwch ag oedd yn
flaenorol am ei fyrbwylldra. A gorphen-
odd ei yrfa yn fawr ei barch gan bawb
a'i hadwaenai.
Bellach, rhaid i ni adael y cynghorwyr,
er mor ddifyrus ac addysgiadol eu hanes.
Yr amser a ballai i ni fynegu am John
Richard, Llansamlet, yr hwn oedd yn ŵr
gwresog ei yspryd, a gonest ei galon, ac er
tramgwyddo wrth arweinwyr y Gymdeith-
asfa ol)legyd cyfyngu o honynt ar ei faes
llafur, a ddaeth i'w le yn fuan, gan gyf-
addef ei ffolineb, a gofyn am faddeuant ;
am Howell Griífith, Trefeurig, yr hwn
oedd yn ẁr dysgedig, ac mewn amgylch-
iadau da, ac a fu o fawr ddefnydd i achos
yr Arglwydd yn ngymydogaethau Llan-
trisant, Tonyrefail, a Bro Morganwg, ac
nad oedd uwchlaw derbyn cerydd yn
garedig gan ei frodyr, pan y teimlent ei
fod yn tueddu i fyned ar gyfeiliorn ; am
James Williams, arolygydd y seiadau yn
Sir Gaerfyrddin, adroddiadau pa un o sef-
yllfa y cymdeithasau a osodasid dan ei
ofal sydd yn awr ar gael, ac yn dra
dyddorol eu cynwys; am Milbourn Bloom,
a breswyliai yn Llanarthney, yn nhŷ yr
hwn y cedwid y Cyfarfod Misol nodedig,
pan y disgynodd Ýspryd Duw fel fflam
i fysg ei bobl, nes gwresogi eu calonau, a
pheri iddynt folianu ei enw ; am Morgan
Hughes, a fu unwaith yn arolygydd seiadau
Sir Drefaldwyn, a chwedi hyny, méwn
undeb a WiUiams, Pantycelyn, yn arol-
ygydd seiadau rhan uchaf Sir Aberteifi, yr
hwn, am ei waith yn myned o gwmpas i
efengylu, a wysiwyd i frawdlys Aberteifi,
yn y flwyddyn 1743, ond erbyn myned
yno, a ddaeth yn rhydd am nad oedd neb
i'w erlyn ; ac am amryw eraill. A'u
cymeryd fel dosbarth, dynion ardderchog
oedd yr hen gynghorwyr. Eu hunig
wendid, os gwendid hefyd, oedd awydd
am gael eu hordeinio, fel y gallent weini yr
ordinhadau megys gweinidogion yr Ym-
neillduwyr. Ychydig o gydymdeimlad
oedd rhwng y nifer fwyaf o honynt a'r
Eglwys Sefydledig ; yr oedd eu cydym-
deimlad a'r Ymneillduwyr yn fwy. A
phan na fynai yr arweinwyr ganiatau
ordeiniad iddynt, aeth amryw trosodd at
yr Ymneillduwyr, gan gymeryd gofal
eglwysi a gwasanaeth eu Harglwydd a'u
cenhedlaeth yn ffyddlawn. Dyma fel y
collodd y Cyfundeb Evan Wilhams, y
crybwyllasom am dano yn dianc o"r
Gogledd oblegyd poethder yr erledigaeth ;
a John Thomas, a ymsefydlodd yn y
Rhaiadr ; a Richard Tibbot, Herbert
Jenkins, Milbourn Bloom, ac amryw o
ddynion talentog eraill. Eithr glynodd y
nifer fwyaf yn ffyddlawn, er pob temtasiwn
i gefnu. Ond yr ydym yn colli golwg ar
amryw o honynt yn amser yr ymraniad, a
pha beth a ddaeth o honynt, nis gwyddom.
Aeth rhai yn Annibynwyr ; cyfeiliornodd
eraill oddiwrth y ffydd, gan ffurfio mân
bleidiau, a gosod eu liunain yn ben arnynt ;
ond am y nifer fwyaf, ymlynasant wrth
Rowland, Howell Davies, a Williams,
Pantycelyn, a buont farw ar y maes fel
medelwyr diwyd, a'u crymanau yn eu
dwylaw.
Yr ydym yn dyfod yn awr at adrodd-
iadau y cynghorwyr, a anfonwyd i'r Cym-
deithasfaoedd, yn desgrifio sefyllfa yr
eglwysi a osodasid dan eu gofal. Y mae
yr adroddiadau hyn mor Iliosog, fel nas
gallwn ond difynu ychydig o honynt, a
hyny megys ar antur. Yr adroddiad
cyntaf yn nghofnodau Trefecca yw eiddo
240
Y TADAU METHODISTAIDD.
ThoniMS James, Cerigcadarn, o ba un y
mac a ganlyn yn esiampl : —
" Cymdeithas
horwr, Thomas
Enwnu i/r Aelodaii.
Thomas James
Thomas Bowen
Evan Evans
Sarah Williams
Sarah James
Eliza Bowen
Ann Baisdel
]\Iary Bowen
Margaret Lewis
Eliza Price
Susan Davies
Margaret Bowen
Elenor Joncs
Gwen James \
Llanfair-muallt. Cyng-
Bowen : —
Eu SefyUfa.
Tystiolaeth lawn ac arosol.
Mewn rhyddid helaeth.
Wedi cael tystiolaeth, ond yn
wan mewn gras.
Wedi ei chyfiawnhau, ac wedi
dod allan o'r fíwrnes.
Tystiolaeth gyflawn, ond
mewn dirfawr gaethiwed.
Yn gyffelyb, ond i raddau
wedi ei gadael.
Profìad hyfryd, oud yn wan.
Yn dyfal geisio yr Arglwydd
lesu.
Wedi ei chyfiawnhau yn
ddiweddar.
Tystiolaeth lawn, ond yn
dechreu canfod ei chalon
yn fwyfwy caled.
Wedi ei chyfiawnhau, ond
yn awr tan lawer 0 am-
heuon.
Yn gyffelyb, ond yn meddu
llygredigaethau cryfion.
Yn dechreu ymadfer o'i
gwrthgiliad.
Wedi myned i ogoniant, fel
yr wyf yn credu."
Susan James
Gwen Kinsey
Rhif yr aelodau yma oeddynt 13.
" Cymdeithas Llanafan. Cynghorwyr
anghyoedd, Edward Bowen a Thomas
Bowen : —
Eu ScfijUfa.
Yn dwyn tystiolaoth yn ei
gystudd.
Yn gyffelyb, ond wedi coUi
Uawer o'i gariad, a'i zêl,
gan fod wedi ei faglu yn y
byd.
Mewn caethiwed dirfawr.
Yn dysgwyl.
Dan lawer o dywyllwch.
Yn wan mewn gras ; ond yn
dysgwyl.
Tystiolaeth lawn yn aml, ond
nid yn ai'osol.
Tystiolaeth lawn ac arosol.
Tan lawer o amheuon obleg-
yd giym llygredigaethau.
Y gair hwn wedi ei selio
iddi hi : " A chariad tra-
gywyddol y'th gerais."
Tystiolaeth hyfryd o gariad
Duw.
\^r un modd.
Yn rhodio yu agos at Dduw,
ond mewn llawer o am-
heuon.
Tystiolaeth lawn."
rhif yr aelodau yma yn
Enicau yr Aeìndaii.
Rice Price
Thomas Price
Thomas Jones
Stephen Jones
James Evans
Thomas Bowen
Edward Bowen
Eliza Evans
Mary Jones
Catherine Jones
Mary Price
Diana Evans
" Cymdeithas
anghyoedd, Rice
]'jiiivau yr Aclodaii.
liice Morgan
David Williams
Kice WiUiams
Thomas Lloyd
Edward Winston
Roderick Rice
Ann Lloyd
Eliza Evans
Margaret Evans
Eliza Williams
Margaret Bound
Tri-ar-ddeg oedd
ogystal.
Llanwrtyd. Cynghorwr
Morgan : —
Eu SefijUfa.
Yn rhodio yn agos, ond
mewn peth amheuaeth.
Nid yw wedi ei adael mewn
un gradd o amlieuaetli.
Ei gyflwr yn dywyll iawn.
Efe yn tybio ddarfod iddo
gael tystiolaeth, ond eraiU
heb eu llawn foddloni yn
ei gyflwr.
Mewn caethiwed mawr.
Mewn caethiwed a thyw-
yllwch.
Yn ceisio yn ddyfal, ond
mewn treialon dirfawr.
Ar y fíordd yn ceisio.
Yn ei chariad cyntaf.
Yn llwythog o anghredin-
iaetlî."
Yr oedd 28 o aelodau yn perthyn i'r
gymdeithas hon, a dywedir ei bod yn
myned yn y blaen yn hyfryd. Rhydd
gyfrif cyffelyb am seiadau Merthyr Cynog,
Llandyfathen, Cerigcadarn, Llanddewi'r
Cwm, a Llaneigion. Y mae ei sylwadau
ar gyflyrau y gwahanol aelodau i'r pwynt,
ac yn fynych yn brydferth. Dywed am
un William Saunders, Llaneigion : "Gwedi
bod mewn dirfawr amheuaeth gyda golwg
ar dduwdod Crist, ond yn awr creda nid yn
unig ei fod yn Dduw, ond hefyd yn Dduw
iddo ef." Am un Mrs. P., o'r un seiat,
dywed : " Medd dystiolaeth lawn, ac y
mae yn rhodio yn agos, ond nid yw ei
henw wedi ei ysgrifenu, am fod y gẁr yn
bytheirio ac yn erhd." Ychwanega am yr
un gymdeithas : " Y mae saith yn ychwaneg
i ddod i mewn."
Dengys y cofnodion hyn ddirfawr wa-
haniaeth parthed ysprydolrwydd meddwl
rhwng y Methodistiaid a'r Ymneillduwyr
oeddynt yn y wlad o'u blaen. Dospartha
Dr. John Evans, yn y daflen y cyfeiriasom
ati yn barod, y rhai a berthynent i'r
Anghydffurfwyr yn ol eu sefyllfa fydol ;
rhenir hwy i ynadon, ysweiniaid, rhai yn
meddu pleidlais yn y sir neu y fwrdeisdref,
rhydd-ddeihaid, amaethwyr, masnachwyr,
a labrwyr. Nid yw yr hen gynghorwr o
Gerigcadarn yn prisio dim parthed safle
fydol aelodau y gwahanol seiadau ; dibwys
ganddo pa un ai labrwyr ynte ustusiaid
ydynt ; rhana efe hwy yn ol eu cyflwr
ysprydol, sef rhai wedi eu cyfiawnhau,
rhai yn dyfal geisio, a rhai dan draed
amheuon, &c. Yr oedd y Methodistiaid
cyntaf yn byw gymaint yn y Presenoldeb
Dwyfol, fel nad oedd mân wahaniaethau y
byd o un pwys yn eu golwg. Eithr y mae
RHAI O'R CYNGHORWYR BOREUAF.
241
Thomas James heb orphen ei adroddiad.
Fel hyn y dywed am y seiadau canlynol : —
Heb fod niewn trefn.
Newydd ei íîurfio. Cynghor-
wr anghyoedd — David.
Rhif, oddeutu 14.
Mewn trefn, ond nid yw yn
gyfleus i mi rhoddi ei chyf-
rif.
Y seiat newydd ei ffurfìo.
' Trefecca
Llangamarch
Llwyncoll
Llanfìhangel-
Nant-Bran
Llanfihangel-
Fechan
Tref Aberhonddu
Llangors
Cilhon'w^
Dyserth
Ni wnant eto ymostwng
unrhyw drefn.
Heb ei ffurfio.
Heb ddod i drefn.
Y seiat tan Mr. Beaumont.
Heb gael ei phrofi.'
Dywed fod yr aelodau y rhydd gyfrif o
honynt yn 134, ond y byddai y cyfanswm
yn sicr o fod yn 200. Cofìer mai rhan o
Frycheiniog oedd dan ei ofal. Terfyna yn
y modd a ganlyn : " Bendigedig fyddo ein
Hiachawdwr am hyn o ddechreuad, gan
obeithio y gwna efe ei Jerusalem yn
llawenydd yr holl ddaear, oblegyd yn wir
eto y mae lle. Am hyn, gweddíwch lawer
drosom, a throsof fi, yr annheilwng —
Thos. James."
Cymerer eto adroddiad Morgan Jones,
arolygwr dros ranau o Fynwy. Fel hyn
yr ysgrifena efe : —
" GoETRE. Y maent yn 13 o rif, gydag
un goruchwyliwr drostynt, yr hwn sydd
ẃr tra gofalus. Nid oes yma ond dau ŵr
priod, a dim un sengl. Derbyniwyd dau
yn ddiweddar, un yn wraig mor hawddgar
yn ei hyspryd a'r un o'r lleill. Y mae
rhai, fel yr wyf yn credu, yn Gristionogion,
ond heb uno eto a'r seiat breifat. Y mae
yr aelodau wedi profi mesur o ryddid, neu
amlygrwydd eu bod wedi cael eu cyfiawn-
hau, bawb o honynt ond un, rhai fwy, a
rhai lai. . . . Meddant ryddid mawr at eu
gilydd, ac at y brawd Stephen Jones, eu
cynghorwr anghyoedd. Gwn ddarfod i'r
Arglwydd fendithio fy llafur yn eu mysg.
Meddwn ryddid mawr y naiíl at y llall.
Bendigedig a fyddo y sanctaidd Dduw, yr
hwn a'i dygodd.
" Glascoed. Y maent tua 9 mewn rhif.
Y brawd Jones, eu cynghorwr anghyoedd,
a wasanaetha swydd goruchwyhwr, ac,
fel yr wyf yn credu, a wasanaetha yn
ffyddlawn. Y maent wedi eu gosod yn y
drefn oreu bosibl, ac ystyried eu hamgylch-
iadau. Cyfarfyddant yn breifat mor aml
ag y gallant, ac y mae yr Arglwydd yn eu
bendithio, fel y mae yn bendithio pawb a
gyfarfyddant felly. Nid wyf yn gwybod
am un nad yw yn barod i dystio fod yr
Arglwydd yn eu bendithio yn rhyfedd yn
eu cynulliadau preifat ; ond am y rhai
sydd yn gwrthsefyll, y maent yn myned
yn sychach bob dydd. Y mae yr holl
aelodau wedi profi cariad Duw wedi ei
dywallt ar led yn eu calonau i'r fath
raddau, fel y maent wedi eu hargyhoeddi
fod eu pechodau wedi eu maddeu, a'u
hanwireddau wedi eu cuddio. Yr wyf yn
credu fod eu profiad yn gadarn ac yn
gywir, oblegyd y mae eu bywydau yn
cyfateb. Tlodion ydynt gan mwyaf, ond
y maent yn ífyddlawn yn eu galwedig-
aethau, ac hefyd y naill i'r Ilall. Y maent
yn foddlawn gweithio er cynorthwyo eu
gilydd, pan yn glaf neu mewn eisiau. Y
mae i mi undeb mawr a hwy, a felly
hwythau ataf finau. Bendigedig fyddo
Duw am ei ddwyn oddiamgylch. Amen.
" St. Brides. Pedwar-ar-ddeg o rif
ydynt, a chredaf eu bod yn Gristionogion
sylweddol o ran gwybodaeth a phrofiad.
Holais hwynt yn breifat, a chefais dyst-
iolaeth ddarfod iddynt oll brofi rhyddid yr
efengyl i raddau mawr, oddigerth tri ; ac
y mae un o'r tri wedi cael fod Crist yn
eiddo iddi, ond y mae ei ffydd yn wan.
Am y ddau arall, dywedant nad ydynt eto
wedi cael gafael ar yr Arglwydd, ond yr
wyf yn credu eu bod, a dyna farn y
gweddill o'r brodyr. Meddyliais iddynt
wneyd yn glir mai gwaith Duw ydoedd, er
eu bod yn ceisio ei guddio. Temtir hwy
gan y gelyn i gredu na chawsânt eu har-
gyhoeddi erioed, er fod eu calonau yn
ymddangos yn ddrylliedig. Y maent mor
ostyngedig a neb a welais.
" Mynyddislwyn. Y maent yn 10 o
rif, gyda dau oruchwyliwr drostynt, ac y
mae yr Arglwydd yn bendithio y moddion
iddynt. Cynorthwyir fi, ac felly eraill
hefyd, pan fyddwyf yn llefaru yn eu mysg.
Cyfarfyddant yn breifat unwaith yr wyth-
nos, a chant gymaint o les trwy hyn a
dim. Y maent yn ddiargyhoedd yn eu
bywydau. Medd rhai o honynt dystiol-
aeth ddarfod eu cyfiawnhau, a dyhea y
gweddill yn feunyddiol am ei gael.
" Llangadog. Daw cryn nifer ynghyd
i wrando y Gair yn y cymdeithasau
cyhoeddus, a rhydd yr ArgÌwydd allu i
lefaru mewn cariad. Pedwar-ar-ddeg sydd
wedi rhoddi eu henwau. Y maent yn rhy
ieuainc i dderbyn un i edrych drostynt,
ond daw un atynt o Lanfihangel mor
fynych ag sydd bosibl. Dechreu ymgynull
yn breifat y maent. Yr wyf yn teimlo
rhyddid mawr yn eu mysg, am eu bod
R
242
Y TADAU METHODISTAIDD.
mor debyg i blant, gan fod yn foddlawn
cymeryd eu dysgu.
" Trhfethin. Y maent yn 19 o rif,
gyda thri goruchwyliwr. Y rheswm fod
tri ganddynt yw, fod dau o honynt yn
fasnachwyr, ac felly yn analluog i ddyfod
i bob moddion. Cyfarfyddant dair gwaith
yr wythnos, a theimlant lawer o Dduw yn
eu mysg, yn arbenig yn eu cyfarfodydd
preifat. Rhodiant yn ddiargyhoedd, ac y
maent, mi a hyderaf, yn cynyddu yn
ngwybodaeth yr Arglwydd. Y maent,
gan mwyaf, yn deimladwy o gariad madd-
euol Duw. Y mae seiat fechan yn Llan-
heiddel hefyd, nad yw yn ewyllysgar i
gymeryd ei dwyn i drefn hyd yn hyn ; ond
ar yr un pryd, y mae yno lawer o blant
anwyl i Dduw.
" Grwynefechan. Ugain yw rhif yr
aelodau yma ; y maent mewn trefn, gyda
dau oruchwyliwr yn gofalu drostynt.
Cyfarfyddant dair gwaith yr wythnos, un
o'r tair yn breifat. Gallant oll dystiol-
aethu fod ganddynt amlygrwydd ddarfod
eu cyfiawnhau, er fod rhai heb deimlo
cymaint o gysur ag y buont. Ond yr wyf
yn hyderu fod yr Arglwydd yn eu mysg.
Teimlais nerth mawr pan fum yn eu plith
ddiweddaf.
" CwMDU. Rhif yr aelodau yw 12. Y
mae yr Arglwydd yn Ilewyrchu arnynt,
ac yn tywallt ei Yspryd i'w mysg yn fwy
nag erioed. Y maent oll, ond dau,
wedi profi cariad maddeuol Duw. Cant
weithiau gymaint o bresenoldeb Duw, nes
peri iddynt lefain : ' Arglwydd, digon
yw ! ' Teimlant gymaint o Dduw mewn
gweddi weithiau, nes dymuno peidio
myned o'r fan, hyd nes y byddo iddynt
ymadael i fod gyda Christ.
" Cantref. Y maent yn 14 o rif, a
chredaf am y rhan fwyaf o honynt ddarfod
eu selio gan yr Yspryd Glân hyd ddydd
prynedigaeth.
" Blaenyllyn. Ugain ydynt o rif. Ar-
holais hwy yn breifat, a chefais fwy o
foddlonrwydd nag a feddyliais y gellid
gael. Credaf fod yr Arglwydd wedi
dechreu gwaith ar eu heneidiau. Ym-
ddangosant yn dra gonest ; mor bell ag y
gallaf farnu, y maent wedi bwrw eu
heneidiau ar Grist ; ond nid ydynt eto
wedi cael Ilawer o arwyddion o gariad Duw.
" Llywel (Sir Frycheiniog). Y maent
yn 18 o rif, ac y maent wedi eu gosod
mewn cystal trefn ag a allaf, gyda goruch-
wyliwr i wylio drostynt. Y maent yn
benderfynol o gyfarfod yn breifat, i weled
beth a wna Duw i'w heneidiau. Buont
yn dra esgeulus o hyn. Teimlodd rhai o
honynt fesur o gariad Duw ; yr wyf yn eu
cael yn foddlon cymeryd eu dysgu, ond
nid oes Ilawer o undeb yn eu mysg, am na
chyfarfyddant yn breifat. Dylent gael eu
cymeryd yn dyner, fel baban sugno ar y
fron, oblegyd eu gwendid.
" Llanddeusant (Sir Gaerfyrdddin).
Wyth-ar-hugain o rifedi ydynt yma ; y
maent wedi eu gosod mewn trefn, gyda
dau oruchwyliwr anghyoedd yn eu mysg.
Cyfarfyddant yn gyhoeddus ddwy waith
yr wythnos, ac unwaith yn breifat. Credaf
fod gwaith mawr yn cael ei - gario yn
mlaen yn eu plith. Gallant dystiolaethu
fod Duw yn tywallt ei Yspryd yn helaeth
arnynt, yn arbenig yn eu cyfarfodydd
anghyoedd. Medd rhai o honynt brofiad
helaeth a dwfn o gariad Duw ; ond y mae
eraill mewn caethiwed. Y maent oll yn
ddiargyhoedd o ran ymarweddiad. Tyst-
iolaethant ddarfod i'r Arglwydd fy men-
dithio i fod o les i'w heneidiau. Bendigedig
a fyddo yr Arglwydd hyd byth ! Amen,
ac Amen. Teimlais nerth rhyfedd yn eu
mysg y tro diweddaf, wrth lefaru am
fawrion bethau Duw, oddiar Actau ii. 11;
yr oedd tua dau cant yn bresenol.
" D.S. Y mae ychydig o eneidiau hefyd
yn cyfarfod yn Llanfihangel-Cerig-Cornel,
tua thair milltir o'r Fenni, y rhai a
anghofiwyd y tro diweddaf yn Watford.
Dymunwn i chwi feddwl am danynt, ac
anfon rhywun i ymweled â hwynt. Y
brawd Morgan John Lewis yw y cym-
hwysaf, yn ein tyb ni, gan nad yw y brawd
Beaumont yn medru siarad Cymraeg."
Byr, mewn cymhariaeth, yw adroddiad
Thomas Williams, arolygydd adran o
Forganwg, o'r cymdeithasau a osodasid
dan ei ofal ef. Y mae fel y canlyn, ond
ein bod yn gadael allan yr enwau : —
" Groeswen —
^ Ciici-Mi- Dynion Merched
^"■'/'- edd.' acnol. sciujl.
Wedi eu cyfiawnhau 9 8 18 9
Dan y dcleddf . . 1 2 3 4
Rhif aelodau cyífi'edin y Groeswen oedd
49 ; ychwaneger at hyny y pump cyng-
horwr anghyoedd, a gwnaent y cyfanswm
yn 54. Dywedir yn mhellach fod un
ferch ieuanc, o'r enw Amy Price, wedi
marw mewn Ilawn sicrwydd ffydd.
" Llantrisant —
Wedi eu cyfiawnbau, ac
yn meddu rhyddid . .
Dan y ddeddf . .
Gwijr.
Dijnion Merched
üCIHjl. sciujl.
RHAI O'R CYNGHORWYR BOREUAF.
243
Felly, rhif seiat Llantrisant oedd deunaw,
ac os yw y cyfrif yn gywir, ni pherthynai
yr un wraig briod iddi.
Rhifai cymdeithas Llanedern 6, o ba
rai yr oedd 4 wedi eu cyfìawnhau, a 2
dan y ddeddf ; Dinas Powis, 13, o ba rai
yr oedd 2 wedi eu cyfiawnhau, ac yn
meddu rhyddid ; 6 wedi eu cyfiawnhau,
ond mewn caethiwed, a'r gweddiU dan y
ddeddf ; St. Nicholas, 32, o ba rai yr oedd
15 wedi eu cyfìawnhau, ac yn meddu
rhyddid ; 1 1 wedi ei cyfìawnhau, eithr
mewn caethiwed, a"r gweddill dan y
ddeddf. Rhifai seiat Pentyrch 9 ; Aber-
ddawen,*i5; ac Aberthyn, ig. Rhif yr
holl aelodau dan ofal Thomas Williams
oedd 168.
Nodedig o fyr yw adroddiad James
WilHams, arolygwr rhan o Sir Gaer-
fyrddin. Dywed fod seiat Cayo yn rhifo
49 ; Talyllychau, 45 ; Llansawel, 46 ;
Llangathen, 37 ; Cwmann, 32. Am seiat
Cilycwm, yr oedd yn ieuanc, ac heb ei
dwyn i drefn, ac felly ni roddir ei rhifedi,
Dywed am rai o'r aelodau eu bod yn
meddu rhyddid, eraill fel pe yn canfod yr
orphwysfa, a'r gweddill tan y ddeddf.
Am y rhai a feddent ryddid, nid oeddynt
oU ar yr un tir, oblegyd am nifer o honynt
dywedir eu bod yn meddu mesur bychan
o ryddid.
Àdroddiad tra dyddorol yw eiddo Will-
iam Richard, arolygwr y rhan isaf o Sir
Aberteifì, a'r rhan Gymreig o Sir Benfro.
Cymerer yr esiampl a ganlyn : —
" Dyffryn Saith —
Enwau yr Aelodau. Eu Sefyllfa.
1. Thomas Dafydd Yn credu, ond tan rai am-
heuon o herwydd temtas-
iynau ; y mae yn dymuno
ac yn dyheu am fwy o
ryddid.
2. Dafydd IMorgan Wedi archwaethu llawer o
gariad Duw ; y mae yn
credu yn wastadol ; ci
brofiadau ydynt yii dra
synil.
3. Dafydd llocs Yn crodu, ond tan lawcr
o gymyiau. Daeth trwy
lawer o brofedigaethau,
ond yn gorchfygu f wy f wy.
4. Jenkin John Tan dreialon am dymhor,
yn dywyll ac yn sych ei
yspryd.
n. Margaret Thomas Tan lawer o argyhoeddiad-
au, ond yn dra tliywyll."
Nis gallwn gofnodi yr holl daflen, eithr
rhifai cymdeithas Dyffryn Saith 20, ac
ymddengys na pherthynai iddi yr un wraig
briod; eiddo Blaenhownant, 10; Twr-
R 2
gwyn, 9 ; Llwyndafydd, 10 ; ac Aber-
porth, 20. Yn Sir Benfro, rhifai cym-
deithas Longhouse 15 ; cymdeithas Ty-
ddewi, 1 1 ; eiddo Abergwaun, 35 ; Dinas,
7; Trefdraeth, 13; Pencaer, 7; Llwyn-
ygrawys ac Eglwyswrw, 35. Gwna yr
oll 190, gyda 19 o aelodau ar brawf.
Cyn terfynu, rhaid i ni roddi adroddiad
John Harris, St. Kennox. Fel hyn y
dywed : " Ar y i^eg o'r mis, mi a gyfar-
fyddais ag \Vyn Prendergast ac Ismason
yn Phonton (25 o rifedi) ; agorwyd
ffenestri y nefoedd, a gwlawiwyd i lawr
arnom wlith cariad Duw, nes yr oeddem
ar ymgoIU a boddi yn y môr mawr.
Rhoddwyd i mi deimlo doethineb, gwyb-
odaeth, deall, gostyngeiddrwydd, a chyd-
ymdeimlad a íy ŵyn anwyl, fel y gallwn
ddweyd : ' Teyrnas Dduw sydd o fewn i
mi,' ac hefyd, ' Duw cariad yw.' Yr oedd
yr ŵyn fel asgwrn o'm hasgwrn, a chnawd
o'm cnawd. Canasom y gân newydd, a
chanasom ag un anadl.
" Y i^eg o'r mis, yn Llawhaden. Nid
oedd ond 1 1 o rif, ond yr oedd fy serch yn
parhau ac yn cynyddu. Ar weddi, nid
digon oedd penlinio ; sythiodd dau ar eu
hwynebau ar y Ilawr, ac o braidd y
medrent gyfodi. A thra y gosodwn ger
eu bron gariad yr Oen, nis gallent aros yn
yr ystafell, eithr aethant allan o un i un,
gan ymdreiglo yn y Ilwch, a gwaeddi :
' Michael, cân di, nis gallwn ni ! '
" Y i^fed o'r mis, yn Jefferson. Ysgyd-
wyd tŵr Babel, ac yr oedd ar ei ogwydd i
syrthio, yn ddirgel ac ar gyhoedd. Gallu-
ogwyd fì i gredu ddarfod iddo gwympo ;
yr oedd sain hyfryd rhad ras yn mhob
genau, a phob calon yn Ilawn o gariad.
" Ar y i8fed o'r mis, yn Carew. Rhif 25.
Wedi cynghori yn gyhoeddus datguddiwyd
i mi nad oes dim yn trallodi'r diafol yn
gymaint a'r seiadau preifat. Yr oedd
hyny yn amlwg yn ei ofiferynau, sef y bobl
gnawdol o bob enwad ; y maent yn eu
cashau uwchlaw pob peth. Er fod y
drws yn nghau ar y dechreu, daeth yr
anwyl Oen, gan sefyll yn y canol, a dy-
wedyd : ' Tangnefedd i chwi ! ' Yna yr
ŵyn anwyl a doddwyd hyd ddagrau, ac a
lanwyd â chariad, nes y gwaeddodd un
allan : ' Gresyn ! gresyn ! y mae yn Ilifo
drosodd. Na fydd hanerog, eithr llanwer
eraill hefyd.' A thorodd y IleiII allan i
lefain : ' Bendigedig fyddo Duw am lesu
Grist.'
" Ar y igeg o'r mis, yn Mounton, ger
Narberth. Rhif 9. Cawsom gymundeb
244
Y TADAU METHODISTAIDD.
melus a'r anwyl Immanuel. Gan fod yr
hin yn wlyb, ac amgylchiadau eraill yn
ymyraeth, nid oeddent yn fy nysgwyl,
felly yr oedd ii o'r aelodau yn absenol.
" Ár yr 2ofed o'r mis, yn Qenidawel.
Rhif i6. O'r cychwyn, íe, hyd yn awr,
ni chymerodd yr anwyl Oen ei wenau
melus oddiarnaf, ond fe'm dyddanodd
megys ar ei hn, nes fy llenwi i, a'r ẃyn yn
ogystal, a chariad, gan beri i ni lefain ar
lu y nef: ' O, chwi wyryfon gogoneddus,
cenwch, oblegyd rhyddhawyd chwi oddi-
wrth y clai. Treblwch eich cân, nes y
deuwn ninau ! '
" Felly, gan fy mod yn eich galw yn
anwyl frodyr, fe a'm gwnaed yn gyfranog
o'ch llafur, a'ch hymdrechion, yn eich
gwaith mawr. Yr wyf yn tybio fy mod
yn dwyn y baich gyda chwi. A chan fy
mod yn credu fod ein hanwyl Archoffeiriad
yn eich cynorthwyo, yr wyf yn meddwl fel
mai efe ydyw awdwr, y bydd hefyd yn
berífeithydd y gwaith ; er y gall Satan a'i
offerynau ddweyd fel Tobiah wrth Sanbalat
am waith Nehemiah yn adeiladu muriau
Jerusalem : ' Ped elai Iwynog i fyny, efe a
fwriai i lawr eu mur hwynt.' Ewch yn
mlaen, yn wir y mae gan Oen Duw law
yn y gwaith a pha un ydych yn ymwneyd,
a chwithau a gewch fedi o ffrwyth eich
Uafur. Hyn oddiwrth yr annheilyngaf o
bawb sydd yn ceisio gwyneb yr Oen —
JoHN Harris."
Dengys yr adroddiadau hyn lawer o
frwdaniaeth yspryd, a llawer o fedr i
adnabod sefyllfa ysprydol yr eneidiau,
gofal pa rai a gawsai ei ymddiried i'r
cynghorwyr, Adroddiadau am sefyllfa
pethau tua dechreu y flwyddyn 1743
ydynt. Dylem gadw mewn cof nad yw
nifer yr aelodau yn ddangoseg o gwbl o
rifedi y rhai a wrandawent yr efengyl
gyda y Methodistiaid, ac a ystyrient eu
hunain yn ganlynwyr Rowland a Harris.
Nid gorchwyl hawdd oedd ymuno a'r seiat
y pryd hwnw. Yr oedd y drws mor gul,
a'r ddisgyblaeth ynddi mor lem, fel y
cawn amryw o'r arolygwyr yn cyfaddef
fod rhai wedi eu hachub i fywyd tragyw-
yddol, fel yr oeddynt hwy yn barnu, ond
heb ymuno ag unrhyw gymdeithas. Yn
Llanddeusant, cawn nad oedd rhif yr
aelodau ond wyth-ar-hugain, ond barnai
yr arolygwr fod y gynulìeidfa a'i gwran-
dawai ef yno tua dau cant.
PENOD XI
HOWELL HARRIS
(1743-44)-
Giíiaeledd iechyd Harris yn ei dneddu i roddi i fynu y gwaiíh cyhoeddus — Ymosodiad Edmmid
Joncs ar y Methodistiaid — Dechreu codi capelau — Capelau Maesgwyn ar Groeswen Prawf
Moygan Hughes — Dadl ag Esgob Tyddewi—Pumed ymweliad H. Harris a Llundain—
Y Gymdeithasfa Saesnig — Glynn wrth yr Eglwys Sefydledig — Whitefield yn tybio y cai
ei wneyd yn esgob — Dadl a Richard Jcnhins gyda golwg ar y Gair — Ystorm yn Nchym-
deithasfa Glanyrafonddu — Cymdeithasfa Watford, 1744 — Y Methodistiaid ar gyfraith
lüladol — Llythyr aelodau Mynyddislwyn — Chweched ymnueliad Harris a Llundain — Amryw
Gymdeit hasfaoedd Chivarterol a Misol.
ydym yn barod wedi olrhain
hanes Howell Harris hyd tua
chanol y flwyddyn 1743. Gwel-
som ei fod yn teithio yn ddidor, ac
yn llafurio yn hwyr ac yn foreu, mewn
cynghori pechaduriaid, cadarnhau y saint,
trefnu y seiadau, ac arolygu pob peth
cysylltiedig a'r symudiad grymus oedd yr
Arglwydd wedi gychwyn trwyddo ef a
Rowland. O Gymdeithasfa gyntaf Wat-
ford, a gynhahwyd ddechreu lonawr, hyd
ganol Awst, pan yr aeth am ychydig
amser i Lundain, prin y gellir dweyd iddo
gael diwrnod o orphwys. Yn ychwan-
egol, yr oedd ei ohebiaeth yn ddirfawr.
Ysgrifenid ato gan bersonau na welodd
mo honynt erioed, a hyny ar bob math o
faterion ; ac yr oedd yntau mor gydwybodol
a gofalus, fel na adawai lythyr heb ei
ateb. Dan yr holl bwys hyn, nid rhyfedd
i'w iechyd fethu. Nid gormod dweyd
iddo amharu ei gyfansoddiad i'r fath
raddau, fel na bu mor gryf a chynt byth.
Fel rheol, pan yn croniclo helynt pob
diwrnod yn ei ddydd-lyfr, dechreua trwy
gofnodi fod ei gorph yn sâl ac yn friw.
Pan ar daith yn Sir Benfro, mis Mehefin,
cwyna fod poen annyoddefol yn ei wddf,
ac yn saethu trwy ei ben, a bod ei lygaid,
ei glustiau, a'i dafod yn y cyfryw stâd, feÌ
nas gallent gyflawni eu swyddau priodol.
Parodd hyn iddo feddwl am roddi y cyng-
hori i fynu, ac ymroddi yn gyfangwbl i'r
gwaith o arolygu y cymdeithasau. Mewn
llythyr at gyfaiU yn Llundain, dyddiedig
Mehefin 4, 1743, dywed : "Y mae yn
gwasgu yn drwm ar fy meddwl fy mod yn
cael fy ngalw oddiwrth y gwaith cyhoeddus
at yr hyn sydd yn fwy preifat. Rhoddaf
fy rhesymau i chwi, a gwn y gwnewch
chwithau eu lledu gerbron yr Arglwydd,
ynghyd a'r credinwyr gweddîgar o'ch
cydnabod. (i) Ymddengys fel pe bai
Duw yn gosod hyn yn fwy ar fy nghalon
na'r llall. (2) Y mae fy natur wedi ei
hamharu a'i threulio allan i'r fath raddau,
a'm corph wedi myned mor egwan, fel
nad oes genyf nerth digonol ; ac ni fu y
cyfryw genyf er ys amser maith, ond pan
ei cawn yn wyrthiol trwy fiydd. (3) Yr
wyf yn gyson yn colli fy Ilais, fel na fedraf
wneyd i gynulleidfa fawr glywed, o leiaf
heb boen dirfawr. (4) Trwy gyfres o
dreialon anarferol o bob cyfeiriad, oddi-
wrth ddynion, oddiwrth Satan, ac oddi-
wrth fy natur felldigedig fy hun, y mae yr
Arglwydd fel pe yn fy nghymwyso yn
neillduol at waith oddifewn. (5) Darfu
iddo gyfranu doniau cyhoeddus i alw,'
argyhoeddi, ac i ddal Crist gerbron yr
annychweledig, yn helaethach ar amryw
o'r brodyr nag arnaf fi, a chredaf eu bod
yn cael eu bendithio yn fwy yn y gwaith.
(6) Ymddengys angenrheidrwydd am ryw-
un at y gwaith hwn, ac y mae digon o
wahaniaeth rhyngddo a'r gwaith cyhoedd-
us. (7) Trwy hyn, gallwn roddi mwy o
amser at ddarllen, ysgrifenu Ilythyrau, ac,
efallai, gwneyd a derbyn mwy o ddaioni
yn breifat. Y rhesymau hyn, yn neillduol
fy nghrygni a'm gwaeledd, sydd yn eu
gwneyd yn anmhosibl i mi ddod i Lun-
246
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1743-
dain, oni ddaw rhyw frawd gyda nii at y
gwaitli cyhoeddus." Pa fodd bynag, dywed
i'w sehii ddysgu gwersi gwerthfawr iddo,
sef ei ddyledswydd i gydymdeimlo a'r rhai
ydynt mewn poen ; deall y fath gydym-
deimlad sydd rhwng y naill ran o'r corph
a'r llall, a'r parodrwydd sydd yn y naill
aelod i gynorthwyo y llall, yr hyn sydd yn
ddrych o'r undeb dirgel ac ysprydol a
fodola rhwng y saint ; a theimlai yn sicr
fod y cystudd wedi ei fwriadu er Ues iddo,
er ei wneyd yn fwy gostyngedig, ac felly
ei barotoi i dderbyn rhyw ddawn oedd
Duw ar fedr ei gyfranu iddo.
Ymddengys i'r rhwyg oedd wedi dechreu
eisioes rhwng y Diwygwyr a'r Ymneilldu-
wyr ymledu yn ddirfawr tua'r cyfnod
hwn. Mai 30, 1743, cawn Howell Harris
yn ysgrifenu yn ei ddydd-lyfr : " Clywais
trwy y brawd H. am broclamasiwn cy-
hoeddus yn ein herbyn gan yr anwyl
frawd Edmund Jones, a'r rhai a ymlynant
wrtho yn mysg gweinidogion yr Annibyn-
wyr. (Condemniant ni) : Yn gyntaf, am
ein bod yn cymuno gydag offeiriaid cnawd-
ol ; ac yn ail, am nad ydym wedi ein
hordeinio," "Y brawd H.," yn ol pob
tebyg, oedd Herbert Jenkins, yr hwn ar y
pryd oedd ar ymweHad a Threfecca.
Math o alw i'r gâd oedd y proclamasiwn,
yn ddiau, mewn canlyniad i waith Cym-
deithasfa Watford yn cynghori yr aelodau
a arferent gymuno yn yr Eglwys i barhau,
hyd nes yr agorai yr Arglwydd ddrws i
adael ei chymundeb. Ymddengys ei fod
yn benderfyniad cymanfa, ac yn cael
ei anfon at yr egiwysi yn ei chylch-
lythyr. Y mae cyfeiriad yr ail adran
o'r cyhuddiad, sef pregethu heb feddu
ordeiniad, yn uniongyrchol at Howell
Harris. A dweyd y lleiaf, yr oedd
hyn yn anniolchgarwch mawr ar ran
Edmund Jones a'i frodyr. Wedi i'r
Diwygiwr ymweled a'u hardaloedd ar eu
cais, a bod yn foddion yn llaw Duw i
argyhoeddi lliaws o eneidiau, o ba rai y
darfu i nifer mawr ymuno a'u heglwysi,
peth tra annheilwng oedd troi arno, gan
ddanod mewn proclamasiwn cyhoeddus, a
ddeuai, yn ol pob tebyg, yn swyddogol o'u
cymanfa, nad oedd wedi ei ordeinio.
Eithr ni chythruddwyd yspryd Howell
Harris. Meddai : " Darfu i'r Yspryd
Glân, fy anwyl Arweinydd, fy nghadw
rhag fy yspryd fy hun, gan fy narostwng,
a'm danfon at Dduw, a rhoddi 1 mi
gariad at bawb sydd yn ymwahanu oddi-
wrthym. Galluogwyd fi i lefain yn y
dirgel : ' O Dad, dangos i mi dy lais
mewn perthynas i hyn ; gwel fel yr ym-
osodir arnom o bob cyfeiriad. O arwain
ni, a threfna ni fel y mynost, a sancteiddia
yr oll i ni. Bendithia y rhai sydd yn ein
herbyn. Pa hyd y caifF dy blant di
ymryson ar y ffordd, a bod yn rhanedig ?
(Yma rhüddwyd i mi yspryd galar oblegyd
hyn). O cadw ni rhag eu niweidio, na
gwanhau eu dwylaw mewn un modd.
Bendithia a Uwydda hwy i gasglu eneidiau
atat ti, a bydd yn eu mysg.'" Os bu
gweddi anhunangar erioed, yn anadlu
yspryd lesu Grist, yr oedd y weddi hon o
eiddo Howell Harris ar ran Edmund Jones,
a gweinidogion yr Annibynwyr, felly.
Teimla ei hun ddarfod iddo gael ei ddyr-
chafu uwchlaw ei natur lygredig, oblegyd
sylwa rhwng cromfachau : " Y mae hyn
yn mhell oddiwrth yr hen ddyn."
Darfu i broclamasiwn Edmund Jones
ddwyn ffrwyth, a pheri i nifer o weinidog-
ion yr Ymneillduwyr, oeddynt hyd yn hyn
wedi bod yn cynorthwyo gyda'r diwygiad,
droi eu cefnau. Yn mhen ychydig ddydd-
iau cawn Howell Harris yn ysgrifenu fel
y canlyn yn ei ddydd-lyfr : " Cly wais eto
fod nifer o frodyr anwyl, gweinidogion, yn
bwriadu ein gadael, oblegyd rhagfarn atom.
Yr oedd yn dra phoenus. Ond darfu
i Yspryd Duw, trwy yr hwn y gallaf
wneyd a dyoddef pob peth, fy nghadw
rhag fy hunan. Darostyngwyd íì yn
isel, a gwnaed i mi garu Duw o'r herwydd ;
gan fy mod yn ei weled yn gadwraeth rhag
hunan, a rhag ymuno yn gnawdol. Ni
theimlwn na Ihd na dig atynt ; gallwn
olchi eu traed ; ac anfonais genadwri
atynt, os gadawent hwy ni, nas gallem ni
eu gadael hwy." Byddai yn anmhosibl
cyfarfod ag yspryd mwy rhyddfrydig.
Efallai fod yr ymadrodd " ymuno yn
gnawdol " yn cyfeirio at y perygl y bu
Harris unwaith yn ei ofni, sef iddo ef a'i
gyd-ddiwygwyr gael eu gyru gan am-
gylchiadau i ymuno a'r YmneiUduwyr, heb
fod yr undeb rhyngddynt yn undeb yspryd
a chalon. O hyn allan, ychydig o gym-
horth a gafodd Harris oddiwrth weinidog-
ion yr YmneiUduwyr ; yr oedd ei fod yn
myned o gwmpas i gynghori, heb gael ei
ordeinio gan esgob, na'i urddo gan wein-
idog, yn faen tramgwydd iddynt nas
gallent gamu drosto.
Yr oedd cyffro wedi enyn yn mysg y
Methodistiaid erbyn hyn am adeiladu
capelau ; nid mewn gwrthwynebiad i'r
eglwysydd plwyfol, ond er cyfleustra i'r
1743-]
HOWELL HARRIS.
247
lleygwyr lefaru, gan fod y tai anedd yn
myned yn rhy fychain i'r cynulleidfaoedd,
ac hefyd er mwyn cynal y seiadau yn-
ddynt. Yn ol pob tebyg, y capel cyntaf
perthynol i'r Methodistiaid ag y mae
genym hanes am dano, yw capel Maes-
gwyn, yn Sir Faesyfed. Nid yr un Maes-
gwyn yw a'r lle o'r un enw cyfagos i'r
Gelh, yn mha un y gweinyddai y gweinidog
Ymneillduol enwog, Vavasor Griffiths ; y
mae yn fwy i'r gogledd, ac yn gorwedd
rhwng y Rhaiadr a Llanybister. Ysgrifena
James Í3eaumont at Howell Harris, yr hwn
oedd yn Llundain, Awst 2, 1742: "Y
mae yr Ustus V n yn bygwth tynu tŷ
codi addoldai yn y flwyddyn 1742. O
fewn corph y flwyddyn hono ysgrifena at
foneddiges gyfoethog, nad oedd yn ddi-
berygl o gael ei pherswadio i gyfranu ei
heiddo at bethau diraid, gan ddynodi
amryw achosion teilwng oeddynt yn galw
am gymhorth, ac yn mysg pethau eraiH,
dywed : " Y mae llyfrau i'w hargrafí'u a'u
gwasgar, a thai seiat i'w hadeiladu."
Sefydliad neillduol i'r Methodistiaid oedd
y seiat, a rhaid mai ar adeiladu addoldai
iddynt hwy yr oedd bryd Howell Harris,
pan y cyfeiria at dai seiat.
Ymddengys i gapel y Groeswen gael ei
adeiladu yn y flwyddyn 1742. Dyddiad
LAl'l';i. ANNIBYNOL, Y tìKÜJiSWJiN.
lAdeiladwìjd y Capel cyntaf gan y Methodistiaid yn y fliuyddyn 17Ì2.']
cwrdd Maesgwyn i lawr." Pe capel Ym-
neillduol fyddai, buasai wedi ei drwyddedu
yn ol y gyfraith, a buasai gymaint allan o
gyrhaedd unrhyw ustus i'w dynu i'r llawr
ag eglwys gadeiriol Tyddewi ei hun. An-
hawdd meddwl na wyddai Beaumont hyn
yn dda. Ond gan nad oedd y Method-
istiaid gynt yn codi trwydded ar eu
haddoldai, am nad ystyrient eu hunain yn
Ymneillduwyr, yr oedd yr adeiladau a
osodent i fynu i raddau mawr at drugaredd
yr erlidwyr. Y tebygolrwydd yw mai
capel Methodistaidd oedd Maesgwyn. Yr
oedd Howell Harris yn fyw gan awydd
gweithred y tir, ar ba un y saif, yw
Mehefin 2, 1742. Yn Hanes Eghvysi
Annihyml Cymru, ceisir gwadu mai y
Methodistiaid a'i hadeiladodd, a dywedir
yn bendant na fu erioed yn perthyn iddynt.
F'el hyn yr ysgrifenir : " Yn 1742, adeilad-
wyd capel bychan ar ben y Groeswen, ar
gwr cae, a elwid y Waunfach, fel cangen
o'r Watford, y mae yn dra thebyg, Ond
yn mhen ychydig amser, aeth y bobl a
ymgynullent yno yn rhy Fethodistaidd i
bobl y W^atford a'u gweinidog allu cyd-
dynu a hwy ; ac felly buont am flynyddau
yn ymgyfeillachu mwy a'r Methodistiaid
248
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1743-
nag a'r Annibynwyr. Ond ni buont ar un
adeg o'u hanes yn Felhodistaidd liollol ; a
chamgymeriad yw haeru mai gan y Meth-
odistiaid yr adeiladwyd ef, oblegyd yr
oedd wedi ei adeiladu cyn i'r Methodist-
iaid ymffurfio yn gorph. Ffurfiwyd yma
gymdeithas eglwysig yn ol cynllun Howell
Harris, a bu am dymor yn cael ei hystyr-
ied yn gymdeithas Fethodistaidd, yn ol yr
ystyr a roddid i Fethodistiaeth ar y pryd."
Y mae y difyniad hwn nid yn unig yn
dywyll a chymysglyd, gyda ei wahanol
adranau yn gwrthddweyd eu gilydd, ond y
mae yn ogystal yn gwbl gamarweiniol.
Nid eglwys Watford yn Uedu ei therfynau,
ac yn bwrw ei gwraidd i lawr mewn tir
newydd, a roddodd fod i gymdeithas y
Groeswen, ond y Methodistiaid, gw^edi
bHno dadleu yn erbyn David WilHams a"i
heresi, a chwilient am gartref heddychol.
Thomas Price, o'r Watford, cynghorwr
gyda'r Methodistiaid, oedd y prif ysgogydd
yn y symudiad, a'i enw ef yw y blaenaf o'r
ymddiriedolwyr ar weithred trosglwyddiad
tir y capel. Cymerai seiat y Groeswen ei
Hywodraethu gan y Gymdeithasfa fel y
seiadau eraiU, a cheir ei hadroddiadau, a
anfonwyd i'r Gymdeithasfa, yn mysg yr
adroddiadau sydd yn awr yn Nhrefecca.
Yn mheHach, datgana cynghorwyr y
Groeswen ynbendant, yn eu Hythyr hanes-
yddol at Gymdeithasfa Cayo, mai trwy y
Methodistiaid y cawsent eu hargyhoeddi
a'u dwyn at grefydd, ac mai hwy a gyd-
nabyddent fel eu tadau yn Nghrist. Yn
ngwyneb y íîeithiau hyn ofer dweyd na fu
eglwys y Groeswen erioed yn Fethodist-
aidd. Yroedd mor Fethodistaidd a'r gym-
deithas a ffurfiwyd yn ei ysgubor gan
Daniel Rowland, yn Llangeitho, ac nid yw
fod y capel wedi cael ei adeiladu ychydig
fisoedd cyn ffurfiad y Gymdeithasfa, os
mai feHy y bu, yn newid dim ar y
cwestiwn.
Fel y dywedasom, tua'r blynyddoedd
1742-43, yr oedd adeiladu capelau wedi
dod yn gwestiwn pwysig yn mysg y
Methodistiaid, a thueddwn i feddwl fod
amryw wedi cael eu gosod i fynu yn
ngwahanol ranau y wlad. Yn mis Mawrth,
1743, ysgrifena y Parch. Benjamin Thomas,
y gweinidog YmneiHduol a ymunodd a'r
Methodistiaid, at HoweH Harris : "Darfu
i'r Eglwyswyr gloi un o'r tai cyrddau yn
fy erbyn, a phregethais inau gyda fy
nghefn ar y drws. Tybia rhai ddarfod
iddynt ysgrifenu i Lundain gyda golwg
ar hyn. Byddwch mor garedig a rhoddi
gwybod i ni beth a aHant wneyd. Yr
wyf yn foddlon rhoddi fy nghorph a
fy enaid i ddyoddef drosto, os rhydd efe
i mi nerth." Anhawdd genym feddwl fod
Mr, Thomas yn cyfeirio at un o'r capelau
YmneiHduol ; gwyddai efe, a gwyddai yr
hoH wlad erbyn hyn, fod Deddf Goddefiad
yn gysgod i'r cyfryw, ac nad oedd gan neb,
hyd yn nod Archesgob Caergaint, hawl i
ymyraeth â hwy ; y mae tebygolrwydd
cryf mai at dai cyrddau perthynol i'r
Methodistiaid y cyfeiria, y rhai oeddynt
yn ddiamddiffyn, gan nad oeddynt wedi eu
trwyddedu yn ol y gyfraith. Yn Nghym-
deithasfa Porthyrhyd, a gynhahwyd Hyd. 3,
1744, penderfynwyd, yn mysg pethau eraiH,
fod tŷ at ddybenion crefyddol yn cael ei
adeiladu yn Llansawel. Nid oes un
rheswm dros amheu ddarfod i hyn gael ei
gario aHan, ac nid yw geiriad y pender-
fyniad yn awgrymu ei fod yn symudiad
newydd.
Teimlai HoweH Harris ddyddordeb ar-
benig yn y dyddiau o'r flwyddyn a fyddent
yn cyfateb i'r adegau pwysig yn ei fywyd
ysprydol. Cawn ef yn ysgrifenu EbriH 6,
1743 : " Ar y dydd hwn, wyth mlynedd
yn ol, yn ol dyddiau y mis, Sul y Pasg y
flwyddyn hono, y derbyniais y sacrament
am y tro cyntaf. Yr oeddwn wedi cael fy
argyhoeddi gyda golwg ar yr angenrheid-
rwydd am hyn y Sul blaenorol, sef
Mawrth 30. Y pryd hwn cynyrchwyd y
fath argraff ar fy yspryd na adawodd fi am
bythefnos gwedi. Yna cefais Hoìl ddylcd-
swydd dyn, trwy yr hwn y daethum yn
raddol i ganfod fy nhrueni, yr hyn a der-
fynodd mewn argyhoeddiad." Ebrill 20,
1743, ysgrifena : " Heddyw yw dyddgylch
yr wythfed flwyddyn oddiar fy argyhoedd-
iad cyntaf, trwy ddarHen Holl ddyledswydd
dyn." Sulgwyn yr un flwyddyn cawn ef
yn ysgrifenu : " Dyma gylchwyl yr wyth-
fed flwyddyn er pan y cefaisolwg.gyntaf —
trwy ffydd — ar Grist yn niarw trosof, ac y
teimlais heddwch a Hawenydd. O gwmpas
yr amser hwn, wyth mlynedd yn ol, y
bwriwyd Satan aHan o honof. Yn awr,
gwnaed i fy enaid lefain, nid mewn teimlad
yn unig ond gyda gradd o oleuni, ' Satan,
ti a wyddost dy fod wedi dy fwrw allan o
honof, trwy aHu Duw ; fod Duw yn awr
ynof. Ti a wyddost, Satan, mai plentyn
Duw ydwyf yn awr, a llestr etholedig iddo.
Ti a wyddost mai fi yw dy arglwydd, na
chefaist lywodraethu arnaf byth oddiar
hyny, ac na chai di ddim Hywodraethu
arnaf fi. Ti a wyddost fy mod yn eiddo'r
1743-]
HOWELL HARRIS.
249
Arglwydd, nas gelli fy niweidio.' Gwnaed
i fy enaid yn awr mewn ffydd goncwerio
ar fy holl elynion, trwy weled fod Duw
wedi fy ngharu, ac wedi fy ngwaredu
rhagddynt oll. Gwnaed fì, yn wir, yn
ddiolchgar am fy ngwaredu o deyrnas y
diafol, gyda ei grym a'i thrueni. Gwelais
yn awr, trwy fîydd, fy rhagorfreintiau, fy
mod yn eiddo yr Arglwydd, ac yntau yn
eiddo i minau. Wyth mlynedd yn ol
tynwyd fi o grafangau y diafol at Dduw ;
ond yn awr y mae arnaf eisiau cael fy
ngwaredu oddiwrth ddylanwad y cnawd,
a'r natur, yn mha rai y mae Satan yn
gweithio. O Dduw, gwared fì rhag fy
hunan ! O, gwared fi rhag fy natur ! " Yn
sicr, nis gallai neb ond un yn byw llawer
yn y byd ysprydol ysgrifenu fel hyn.
Ún o ddigwyddiadau mawr y flwyddyn
1743, oedd dal y cynghorwr Morgan
Hughes, a'i anfon i garchar Aberteifi, i
sefyll ei brawf yn y brawdlys yno, heb
ganiatau iddo gael myned yn rhydd yn y
cyfamser, trwy roddi meichiau am ei ym-
ddangosiad. Cynyrchodd yr amgylchiad
gyffro dirfawr yn mysg y Methodistiaid ;
ymddangosai yr helynt, y naill ffordd neu y
llall, fel yn penderfynu tynged y diwygiad.
Pan y pasiai Howell Harris trwy dref
Aberteifi, ar ei ffordd i Gymdeithasfa
Fisol Longhouse, yr oedd Morgan
Hughes, druan, yn gaeth y tu fewn i furiau
y carchar. Nis gallodd fyned i'r carchar
i'w weled ; nid y w yn ymddangos fod ganddo
drwydded i hyny oddiwrth yr ynadon. Ond
hawdd gweled ei deimlad yn y difyniad
canlynol o'i ddydd-lyfr : " Aberteifi, dydd
Mercher. Yn y dirgel cefais achos y
brawd Morgan Hughes, y carcharor, yn
gwasgu yn drwm arnaf. Teimlais y fath
gariad ynof fel yr oeddwn fel pe wedi
cymeryd lle y carcharor, ac yn teimlo fel
y teimlai efe ; yr oedd pob peth oedd genyf,
bywyd, arian a chwbl, at ei wasanaeth ;
gallwn ddyoddef yn ei le. Teimlwn hefyd
y cyfryw gariad tadol at yr oll o'r cynghor-
wyr, fel y gallwn ddyoddef gyda hwy.
Ysgrifenais Iythyr at y brawd Rowland,
yn ei gyfarwyddo i geisio cael y brawd yn
rhydd trwy roddi meichiau." Teimlad
diflas i un a'i ymysgaroedd mor dosturiol a
Howell Harris, oedd gorfod cefnu ar Aber-
teifi heb weled ei gyfaill, na medru ei
gynorthwyo mewn un modd. Ni Iwydd-
wyd i gael Morgan Hughes allan trwy
feichiau, ychwaith ; bu raid iddo aros
yn rhwym hyd ddydd y prawf. Teimlai
Thomas Price, o'r Watford, a'r gymdeith-
as i ba un y perthynai, yn ddwfn oblegyd yr
helynt. Meddai Mr. Price, mewn Ilythyr
at Howell Harris : " Yr wyf yn ofidus, ac
eto yn llawenhau, oblegyd yr erledigaeth
ar y brawd Rowland a'r brawd Hughes."
Awgryma hyn fod Daniel Rowland yn
ogystal wedi cael ei wysio i sefyll ei brawf
yn Aberteifi, ond na feiddai yr ynadon
draddodi offeiriad ordeiniedig i garchar.
Ychwanega Mr. Price : "Bûm yn meddwl
myned i Aberteifi erbyn y brawdlys, gyda
y brodyr William Morgan a Watkin
Evans ; ond gan i rwystrau ddyfod ar ein
ffordd, a bod y draul yn anghymesur, yr
ydym yn anfon hyn (swm o arian) gyda ein
sarch i'r brodyr Rowland a Hughes. Yr
ydym yn anfon cymaint ag a fedrwn o'n
cariad gyfranu, er mwyn i chwi symud yr
achos i Westminster, ac yr ydym yn barod
i'ch cynorthwyo hyd eithaf ein gallu.
Gwell i ni fod yn ddiffynwyr, ond os nad
ânt yn y blaen, dymunwn arnoch ddwyn
cyhuddgwyn yn eu herbyn am gam drin
Morgan Hughes ar brif-ffbrdd y brenin.
Nid rhaid wrth dyst, gan i'r peth gael ei
gyflawni nlewn Ile mor gyhoeddus." Felly
yr ysgrifena Mr. Price, a hawdd gweled ei
fod wedi ei gyffroi, ac y msddai yn ogystal
lawer o wybodaeth o'r gyfraith.
Ar foreu dydd Llun, tua diwedd mis
EbriII, y mae Howell Harris a Daniel
Rowland yn cychwyn o Langeitho tua
brawdlys Aberteifi. Yr oedd eu ffordd ar
y cyntaf trwy ddyff"ryn prydferth Aeron,
un o'r rhai tlysaf yn Nghymru ; erbyn tri
daethant i Clwyd Jack, haner fifermdy a
haner palasdy, tua thair milltir islaw Tal-
sarn, Ile y cawsant ymborth i'w hanifeiliaid.
Cyrhaeddasant d}' un Walter Watkins
erbyn chwech, ac yr oedd yn agos i naw
arnynt cyn cyrhaedd Aberteifi. Melus
odiaeth oedd y gyfeillach ar y ffbrdd ;
teimlent ddirfawr hyfrydwch mewn cael
cyd-ddyoddef. Gwelai Howell Harris fawr
dynerwch a doethineb Duw yn nhrefniant
eu dyoddefaint ; ar y cychwyn, pan oeddynt
yn wan, ni erlidid hwy ond trwy eu
gwatwar a'u gwawdio, dim ond digon o
wrthwynebiad yn eu cyfarfod i roddi rhyw
gymaint o ymarferiad i'w gras eiddil ; a
phan, tua phedair blynedd yn ol y cyfod-
odd ystorm yr oedd ganddynt gyííawnder
o frodyr, a chyfeillion ac arian i fod yn
gymhorth iddynt. Daeth ar ei feddwl i
ysgrifenu a chyhoeddi Ilyfrau Cymraeg, fel
gallai pawb ddod i adnabod Crist ; ond
teimlai mai ei ddyledswydd gyntaf oedd
ymweled a'r seiadau, Ile yr oedd yn amlwg
250
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1743-
fod yr Arglwydd yn ei fendithio. Wedi
cyrhaedd Abcrteifi, y peth cyntaf oedd
ymweled a Morgan Hughes, y brawd oedd
yn y carchar. " Pan ei gwelais," meddai
Howell Harris, "aeth fy nghalon yn fflam ;
tynwyd fi allan mewn nerth ffydd, a
chariad, a gwres, fel y diflanodd pob ofn
ac iselder yspryd, a dychryn ymddangos
gerbron y fainc ; gallwn eu gwynebu oll yn
wrol, a dyoddef gyda fy mrawd. Yn
ngrym y nerth hwn gallwn, yn wir, fyned
i'r fflamau ; tynwyd ofn y werinos i íTwrdd
oddiwrthyf ; yr oedd ynof ddigon o ddewr-
der i arddel fy Arglwydd. Daethum at
Morgan Hughes pan oedd yn isel ei yspryd,
ac yn gweled pob peth yn ei erbyn, heb
wybod am neb a gymerai ei achos mewn
llaw. Ond cefais ddigon o nerth fifydd i
ddweyd a dangos fod Duw uwchlaw iddynt
oll, nad oes arnom eisiau cymhorth braich
o gnawd, gan fod Duw yn chwerthin ar
ben y diafol, a phob ymgais o'i eiddo, ac y
byddai iddo ddwyn da o hyn oll. Cysurais
fy mrawd, a theimlais fy hun yn llawn
cariad a thosturi at ein gwrthwynebwyr."
Manyla Howell Harris ar eu hanes yn
Aberteifi, lle y buont o nos Lun hyd bryd-
nawn dydd lau. Dywed fod ei gorph yn
wan, ond am ei enaid yr oedd yn byw yn
mhell uwchlaw y creadur, ac yn bendithio
Duw am edrych ar ei fath. Daethai
llawer o'r brodyr crefyddol yn nghyd, fel
nad oedd prinder cydymdeimlad nac arian ;
ac yn nghanol eu pryder cadwent gyfar-
fodydd i weddîo, a chanu, a moHanu, y
fath na chlywyd y cyíîelyb o'r blaen mewn
brawdlys. Ymddengys mai un W. Llwyd
oedd blaenor yr uchel reithwyr ; dang-
osodd hwn ei fod yn gyfaill i'r diwygiad ;
ac meddai Harris : " Teimlwn fy enaid yn
ymlenwi o gariad ato, cyffelyb i eiddo yr
angeHon." Buont yn ymgynghori a chyf-
reithiwr, a dadleuydd, ac yn egluro yr holl
achos. Arweiniodd Mr. Llwyd Harris i'r
coffee room yn y prif westy, i ganol yr uchel-
reithwyr a'r mawrion, ac ymddengys i
argraff ffafriol gael ei gynyrchu. Dydd
lau y daeth y prawf yn mlaen. Yn
nghyntaf oll gosodwyd gerbron bump o
ddrwgweithredwyr ; tri am ladrata caseg,
a buwch, a rhyw gymaint o arian ; a dau
am dori ty. Wedi gorphen â'r lladron, a'r
tŷ-dorwyr, dygwyd Morgan Hughes ger-
bron. Ond yr oedd yn ddealledig erbyn
hyn fod yr uchel-reithwyr wedi taflu yr
achos aUan, trwy ddylanwad Mr. Llwyd
yn benaf, ac yr oedd ei wraig, boneddiges
ieuanc dyner, wedi dylanwadu arno yntau.
Addawsai Harris i Mr. Llwyd na byddai
i'r Methodistiaid osod cyfraith ar eu her-
lynwyr, ond iddynt dalu holl gostau y
prawf. Felly, nid oedd gan y barnwr
ddim i'w wneyd ond rhyddhau Morgan
Hughes, heb ei osod ar ei braw^f, ac wrth
wneyd hyny dangosodd barch mawr at y
rhai a erlynid heb ddim yn eu herbyn ond
eu crefydd. " O Arglwydd," meddai
Harris, " y mae hyn oll yn dyfod oddi-
wrthyt ti." Felly y terfynodd y prawf yn
Mrawdlys Aberteirì, ac y mae yn sicr i'r
amgylchiad feddu dylanwad mawr er gyru
ofn ar y gwrthwynebwyr, a chalonogi y
rhai a geisient addoH Duw yn ol argy-
hoeddiad eu cydwybodau.
Yn ystod y flwyddyn 1743, hefyd, bu
Howell Harris mewn gohebiaeth ag Esgob
Tyddewi, gyda golwg ar waith y clerig-
wyr yn gwrthod y cymundeb iddo, ac i'r
rhai oeddynt wedi eu hachub trwyddo.
Nid oes un o lythyrau yr Esgob ar gael,
ond y mae yn Nhrefecca gopi o lythyr a
anfonodd Howell Harris at Ysgrifenydd yr
Esgob. Ei ddyddiad yw Awst i, 1743.
Geflir casglu oddiwrtho fod achwynion
trymion wedi cael eu dwyn yn erbyn
Harris, parthed athrawiaeth ac ymddyg-
iad ; a chawn yntau wrth ateb yn dweyd
ei feddwl yn ddifloesgni, heb ofni awgrymu
nad yw yr Esgob yn hollol iach yn y ftydd.
Difynwn ranau o hono : " Yr wyf eto yn
amheus a ydyw ei arglwyddiaeth yn
cyduno gyda golwg ar gyfiawnhad, mai
unig achos am gyfiawnhad gerbron Duw
yw ufudd-dod gweithredol a dyoddefol
lesu Grist, heb unrhyw waith o eiddom
ein hunain ; a bod yr haeddiant hwn yn
cael ei drosglwyddo yn rhad i ni gan
Dduw, ac yn cael ei ddirnad yn y gyd-
wybod fel yn eiddo i ni trwy y gras o
ffydd, yr hwn hefyd sydd yn caeì ei roddi
i ni. Y mae y ffydd hon yn profi ei hun i
ni y wir ffydd, trwy fod yr Yspryd Glân
yn tystiolaethu yn ein calonau ; ac i'r byd
trwy fywyd ac ymarweddiad uniawn. Yn
yr ystyr hwn yr wyf yn credu fod sanct-
eiddrwydd tumewnol ac allanol yn angen-
rheidiol ; sef yn angenrheidiol i rodio
ynddynt tua'n cartref tragywyddol ; a
phob amser yn angenrheidiol fel y ffrwyth
sydd yn canlyn cyfiawnhad. . , . Gyda
golwg ar y cyhuddiadau amgauedig yn
eich llythyr, yr wyf yn addef rhai, ac yn
gwadu rhai. Ond chwi a addefwch eu
bod yn llawn chwerwder, a theimlad
cas. Gyda golwg ar y Ileoedd y bum yn
Ilefaru ynddynt, cydnabyddaf ddarfod i mi
1743-]
HOWELL HARRIS.
251
o^ J- A^- ^^
^/ul,*
Ji^iP^^
PHOTOGBAPH O DUDALEN 0 DDYDD-LYFR HOWELL HARRIS.
wneyd casgliadau at amcanion crefyddol
yr ochr arall i'r môr, ond telais hwy bob
ceiniog i Mr. Whitefield, fel y dengys ei
lyfr, a thalodd yntau hwy at yr amcan
rnewn golwg. Parthed fy mod yn dal
perffeithrwydd dibechod, ni chredais ac ni
chyhoeddais hyny erioed. Eithr wedi l)od
yn nghymdeithas Mr. Wesley, tua thair
blynedd yn ol, yr wyf yn addef i mi arfer
ymadroddion heb fod yn gUr ; ond wedi
deall ei fod ef yn dal y cyfryw gred, mi a
ysgrifenais lythyr maith ato, ac a ysgerais
fy hun oddiwrtho ar bwnc o athrawiaeth.
Ér hyny, yr wyf eto yn credu ei fod yn
ddyn gonest, yn ymdreulio mewn gwneyd
daioni, ac fel y cyfryw, yr wyf yn ei garu
ac yn ei anrhydeddu. Credaf y byddai ei
arglwyddiaeth yn fwy ffafriol i ni pe na
chredai yr oll y mae yn glywed. Cy-
huddir fi o ddweyd nad yw y naill le yn
fwy sanctaidd na'r llall. Yr wyf yn
gobeithio eich bod chwithau yn credu
felly, nad oes yr un gwahaniaeth, dan
yr efengyl, rhwng un lle a lle arall,
ond gwahaniaeth cyfleustra ; ac na cheir
unrhyw addewid yn yr Ysgrythyr am
bresenoldeb Duw mewn un man rhagor
man arall, oddigerth gyda golwg ar deml
252
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1743-
Solomon. Nid oedd hyny ychwaith ond
fel yr oedd yn gysgod o'r eglwys Gristion-
ogol, ac i barhau yn unig hyd nes y
sefydHd addoliad ysprydol, pan y dar-
fyddai yr holl gysgodau. Yn awr, pa le
bynag yr ymgynull dau neu dri yn enw yr
lesu, ac mewn fìfydd, yno y mae presen-
oldeb Duw. Ar yr un pryd, er mwyn
trefn allanol, dymunwn na fyddai un
rheswm yn erbyn, a'i fod yn bosibl i ni oll
ymgynuU yn yr un lle. Am y cyhuddiad
ddarfod i mi lefaru ar adeg y gwasanaeth
dwyfol yn FeUn-newydd, credaf ddarfod i
chwi gael eich camhysbysu ; mewn an-
wybodaeth y gwnaethum, os gwnaethum
hefyd ; yr oedd yn ymyl machlud haul
arnaf yn cyrhaedd yno, mor bell ag yr
wyf yn cofìo. Os troir fi allan o gymun-
deb, pan na elHr dwyn unrhyw achwyn yn
erbyn fy ymarweddiad, tra y mae eraill yn
cael derbyniad, er byw mewn pechodau
ysgeler, dan rith tynerwch cydwybod,
daw yn amlwg ryw ddydd, os nad yw
felly yn awr, a ydyw hyn yn ymddygiad
cydwybodol. Gwyddoch os nad oes ym-
wared i'w gael oddiwrth hyn, ac oddi-
wrth y cyífelyb weithredoedd direswm ac
anghariadus, yn y llysoedd eglwysig, fod
y gyfraith wladol i'w chael. Os troir
aelodau allan o eglwys yn unig am fyned
i wrando lle y medrant ddeall yr hyn a
wrandawant yn well nag yn eu heglwysydd
plwyfol, a lle y cânt fwy o les, ac y
teimlant fwy o'r Presenoldeb Dwyfol, nis
gwn pa fodd y gall y cyfryw Eglwys gael
ei rhyddhau oddiwrth yspryd erledigaeth,
na honi ei bod yn meddu y cariad catholig,
na'r tynerwch, y rhai y tybiwn ydynt brif
nodweddion eglwys."
Llythyr teilwng o apostol. Hawdd
gweled ei fod yn ysgrifenu gyda phob
gonestrwydd, ac yn hollol ddiofn, er ei
fod yn awyddus am dalu i'r Esgob a'i
Gaplan bob parch gweddus. Yn ngoleuni
y llythyr yma gallwn weled natur y
cyhuddiadau a ddygid yn erbyn Howell
Harris, sef (i) Ei fod yn dal nad yw
gweithredoedd da yn amod cyfiawnhad,
a'i fod yn pregethu athrawiaeth John
Wesley gyda golwg ar berffeithrwydd
dibechod y credadyn. (2) Ei fod yn
casglu arian yn y cyfarfodydd crefyddol
a gynhelid ganddo, gan ddefnyddio y
cyfryw at ei wasanaeth ei hun. (3) Ỳ
pregethai nad oedd cysegriad esgobol yn
gwneyd adeilad yn fwy sanctaidd, ond y
gellid defnyddio unrhyw le, pa un bynag
ai wedi ei gysegru neu ynte heb ei gys-
egru, at ddybenion crefyddol. (4) Ei fod
yn cynal ei gyfarfodydd ar yr un adeg ag
yr oedd yr offeiriaid yn cynal gwasanaeth
dwyfol yn y Ilanau. Profa yntau ei fod
yn ddieuog o rai o'r pethau a osodid i'w
erbyn ; ac am y pethau eraill, fod ei
syniadau yn fwy Ysgrythyrol nag eiddo ei
wrthwynebwyr. Gyda golwg ar wrthod
y cymun bendigaid iddo ef, a'r Methodist-
iaid, tra yn derbyn i'r ordinhad sanctaidd
ddynion o fucheddau annuwiol cyhoeddus,
ysgrifena gyda grym anwrthwynebol, ac
anhawdd genym feddwl nad oedd y gwrid
yn dyrchafu i ruddiau Esgob Tyddewi wrth
ddarllen ei eiriau Ilosgedig. Da genym
weled nad oedd eglwysyddiaeth Harris yn
myned mor bell ag y tybir weithiau, ac
niai dibwys iawn yr edrychai ar gysegriad
esgob. Yr ydym yn parchu ei ddewrder,
a'i onestrwydd, ynghyd a'i gydwybodol-
rwydd i wirionedd ac i Grist.
Dydd Mercher, Awst 3, 1743, y mae
Howell Harris yn cychwyn ar gefn ei
geffyl tua Llundain, sef ei bumed ym-
weliad a'r brif-ddinas. Amcan ei ymweliad
oedd cael cyfarfod a'r brodyr Saesnig yn
eu Cymdeithasfa Gyffredinol. Eithr nid
ai y ffordd unionaf ; yn hytrach cymerai
dro ar draws y Deheudir, mewn rhan er
defnyddio pob mantais i bregethu yr
efengyl, ac mewn rhan er cael cydym-
gynghori a'i frodyr, fel y byddai yn alluog
yn y Gymdeithasfa i roddi mynegiant i
syniadau yr arweinwyr yn Nghymru, yn
gystal a'i syniad ei hun. Aeth y diwrnod
cyntaf i Beiliau, Ile y pregethodd oddiar
y geiriau : •" Myfi yw y ffordd." Yr oedd
yn odfa dda, a theimlai yntau ryddid
mawr. Tranoeth, aeth i Myddfai, Ile y
Ilefarodd oddiar y geiriau : " Portha fy
ŵyn." Nid arosodd yma nemawr, eithr
teithiodd yn ei flaen i'r Parke, yn Sir
Benfro, a chyfrifa fod taith y diwrnod o
gwmpas haner can' milltir. Yma yr
arosodd hyd brydnhawn dydd Sadwrn.
Oddiyno aeth yn ei flaen trwy Lan-
stephan, hyd Gapel Evan. Ymddengys
fod Cymdeithasfa Fisol yn cael ei chynal
yma. Pregethodd Howell Davies yn
mlaenaf, i gynulleidfa o saint yn benaf.
Ar ei ol ef Ilefarodd Daniel Rowland, oddiar
Gal. ii. 20 : " Mi a groshoeliwyd gyda
Christ." Pregeth anarferol, gyda goleuni
a gwres mawr. Dangosai yn (i) Fel y
mae yr enaid yn canfod ei hun yn wag o
bob daioni, ac fel y mae yn canfod ei
ddigonedd, am amser a thragywyddoldeb,
yn Nghrist. (2) Natur y farwolaeth o ba
1743-]
HOWELL HARRIS.
253
un y mae y Cristion yn marw yn rhin-
wedd ei undeb â Christ ; sef ei bod (a) yn
farwolaeth boenus, (b) yn farwolaeth araf
a dyhoenus, (c) yn farwolaeth gywilyddus,
ond (d) ei bod yn dwyn llawenydd i'r
enaid. (3) Dangosodd natur y bywyd
sydd i'w gael trwy undeb à Christ, a'r
fath ddirgelwch yw y credadyn ; ei fod yn
farw ac eto yn fyw, yn wan ac eto yn
gadarn, yn bechadurus ac eto yn bur, yn
ddall ac eto yn gweled, yn cwympo ac
eto ar ei draed. Y casghad oedd fod
pawb amddifad o'r bywyd hwn o dan y
felldith. Gwaeddai gydag awdurdod :
" Bechadur, beth wnei di ! Dere allan
oddi tan y gyfraith, ac oddiwrth bechod,
a hunan, a'r byd, a rho dy hun i Grist."
Cafodd nerth anghyffredin ; yr oedd calon
Harris yn gyffrous o'i fewn hyd yr Amen,
a theimlai sicrwydd ynddo y gwnai Duw
ddisgyn, a bendithio'r gwaith.
O Gapei Evan aeth Harris yn ei flaen
ar draws Siroedd Caerfyrddin, Morganwg,
a Mynwy, gan bregethu efengyl gras Duw
yn Abertawe, Castellnedd, Llantrisant,
Watford, a Llanfihangel, a lleoedd eraill,
a chyrhaeddodd Bryste dydd Mercher,
pen y pythefnos er pan y cychwynodd
o gartref. Brysiodd gyda'i gydymaith,
James Beaumont, i'r ystafell newydd i
wrando Mr. Mansfìeld yn pregethu. Pwnc
y bregeth oedd cyfiawnhad heb weithred-
oedd y ddeddf ; eglurai y llefarwr y mater
mor ghr, gan ddangos geudeb yr egwyddor
o wneyd hyn, a'r llall, ac arall, er mwyn
cael bywyd, fel y Uanwyd enaid Harris a
diolchgarwch i Dduw am gyfodi y fath
oleuni yn y wlad. Teimlai ei falchder
hefyd yn cael rhyw gymaint o glwyf am
ddarfod iddo dybio nas gallai y cyfryw
oleuni ddyfod " heb fod rhai o honom ni
yn eu mysg." Ai y Cymry a olyga wrth
y " ni," nis gwyddom. Bwriadai fod yn
l)resenoI mewn Cymdeithasfa Fisol yn
Mryste, ond yr oedd drosodd cyn iddo
gyrhaedd. Eithr wedi clywed y pender-
fyniadau teimlai y gallai gymeradwyo yr
oll. Boreu dydd lau ail gychwynodd tua
Lhmdain, gan gyrhaedd yno oddeutu pump
prydnawn dydd Gwener. Elai i mewn i'r
ddinas trwy Hyde Park, gan basio yr
adeiladau mwyaf gorwych perthynol iddi,
ond prin y sylwai ar y mawredd oedd o'i
gwmpas ; agorodd Duw ei lygaid i ganfod
gogoniant byd arall, a gwychder tŷ ei
Dad, yr hwn ogoniant sydd dragywyddol,
tra y mae mawredd daear i ddiflanu. Er
mor flinedig ydoedd, aeth y noson hono i'r
Tabernacl i wrando Mr. Whitefield yn
pregethu, a theimlo ei enaid yn ymddaros-
twng ynddo tan ddylanwad y gwirionedd.
Boreu dydd Sadwrn aeth Howefl Harris,
yn ngwmni Whitefield, i gyfarfod â John a
Charles Wesley. Teimlai nad oedd yn
gymhwys i fod yn mysg y cyfryw gym-
deithion, ac y byddai yn fraint iddo gael
bod wrth eu traedi'w cynorthwyo. Mater
eu hymgynghoriad oedd gwaith mawr y
diwygiad, y posiblrwydd o undeb rhyng-
ddynt, a'r priodoldeb o neillduo personau i
gyfarfod er cael cydweithrediad, Cafwyd
cryn ymddiddan gyda golwg ar gyfranogi
o'r sacrament yn nghyd ; nid oedd y ddau
Wesley yn teimlo eu hunain yn rhydd i
hyny ; ofnent rhag i gyfarfyddiad canlyn-
wyr Whitefield a'u canlynwyr hwythau
beri dadleuon. Cydunent mai dymunol
cael pregethwyr diurddau, eu bod gan bob
eglwys ; mai gwell peidio ymffurfio yn
blaid wahaniaethol hyd nes y byddai
iddynt gael eu gwthio allan o Eglwys
Loegr ; ac hefyd i roddi cyfraith ar y
werinos a ymosodai arnynt, fel y gallent
gadw eu rhyddid. Eithr nid oedd y
Diwygwyr am ddial ; bwriadent faddeu i'r
rhai a'i camdriniai wedi iddynt ddeall
ddarfod iddynt droseddu cyfraith y tir.
Penderfynasant yn mhellach apelio at y
gyfraith wladol rhag traha y Ilysoedd Eg-
Iwysig. Ymadawyd mewn teimlad hyfryd,
wedi cydymostwng gerbron gorsedd gras.
Dydd Mercher, yn mhen yr wythnos, y
dechreuodd y Gymdeithasfa, yr hon oedd
yn gyffredinol i'r holl frodyr Saesnig.
Pwnc cyntaf yr ymdriniaeth oedd y priod-
oldeb o ymwahanu oddiwrth yr Eglwys
Sefydledig. Meddai Howell Harris :
" Darfu i'r brawd Whitefield a minau
sefyll yn erbyn ; ac yn y pen draw dar-
bwyllwyd y brodyr i aros fel'yr ydym. Yr
wyf yn cael nad yw yr Arglwydd am
ddinystrio yr Eglwys Genedlaethol dlawd
hon. Yn (i) Y mae ganddo lawer o eneid-
iau da o'i mewn, nad ydynt yn ymuno â ni.
(2) Y mae yn cadw ac yn bendithio y
brawd W. yn fawr. (3) Y mae yn gor-
uwch-lywodraethu malais y clerigwyr.
(4) Y mae wedi argraffu yn ddwfn ar
feddwl y brawd Whitefield y bydd iddo
gael ei wneyd yn esgob, a thrwy hyn y
mae yn ei gadw yn mlaen fel y mae yn
awr. (5) Y mae yn rhagluniaethol wedi
ein cadw rhag ysgar oddiwrthi hyd yn hyn.
Parhaodd y ddadl yn hir ; dadleuais (i)
brydferthwch ffurf yr ordeiniad yn ein
mysg ; (2) fod yn rhaid i'r sawl a fyddo
254
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1743-
am gael ei ordeinio gael cymeradwyaeth y
sawl sydd yn ei adwaen, gan y rhaid
cyhoeddi ei fwriad o gynyg ei hun, yn
eglwys y plwyf, dri Sul yn mlaen Haw ;
(3) rhaid iddo gael cymeriad oddiwrth dri
offeiriad sydd yn ei adnabod ; (4) rhaid
iddo gael ei arhoH gan yr esgob. Dy wedais
nad aethum allan ar y cyntaf i ffurfio
plaid, ond i ddiwygio y wlad, ac mai dyna
wyf yn wneyd yn awr.
" Cydunwyd nad y w y brawd Humphreys
i gymeryd ei ordeinio (yn ol ffurf yr
Anghydffurfwyr). Sonia ef am ymuno â'r
Ymneillduwyr, a chymeryd y gynulleidfa
gydag ef. Cefais ryddid i ddweyd am iddo
yn hyn ateb i'w gydwybod ; ond pe bawn
i yn ei gefnogi gyda golwg ar ordeiniad, y
byddwn yn dyfod yn un ag ef yn yr act, ac
yn ei gwneyd yn eiddo i mi fy hun. A
chan nas gallwn gymeryd fy ordeinio fy
hunan yn y cyfryw fodd, nas gallwu ei
gefnogi yntau. Eithr y byddai i mi wedi
hyny ddal cymundeb ag ef fel brawd Ym-
neillduol, ond nid fel un o"r Methodistiaid,
y rhai ydynt yn briodol yn perthyn i Eg-
Iwys Loegr, oni yrir hwy allan. Cydun-
wyd gyda golwg ar y cyfryw YmneiIIduwyr
ag sydd yn ymuno â ni, fod i rai gweinid-
ogion YmneiIIduoI a wnant hyny, gael
cyfranu yr ordinhad ; ac yn mysg y
gweddill, y rhai na fedrant gael y cymun
yn yr Eglwys, rhai o'n hoffeiriaid ni a
fyddant yn rhydd. Y mae hyn yn groes
i'r canonau ; eithr yr ydym yn gwadu
awdurdod y rhai hyny."
Teifl yr ymdrafodaeth ffrwd o oleuni ar
agwedd meddwl y Methodistiaid yr adeg
hon. Yr oedd y pwnc o barhau yn nghym-
undeb yr Eglwys wedi dyfod yn gwestiwn
llosgawl. Whitefield, a Howell Harris,
oedd y mwyaf awyddus am aros i mewn.
Am Whitefield y mae yn sicr ei fod yn
credu y caffai ei wneyd yn esgob ; yr oedd
ei gyfeillgarwch a'r larlles Huntington, ac a
phendefigion a boneddigesau urddasol eraill
yn ei gefnogi yn ei dyb ; ceir amryw gyfeir-
iadau yn nydd-Iyfr Harris at y gobaith y
byddai iddynt gael esgob mewn cydym-
deimlad a'r diwygiad ; a diau fod a fynai hyn
a'i ymlyniad penderfynol wrth y Sefydliad.
Nid ydym am awgrymu fod Whitefield yn
wageddus ei feddwl, ac yn awyddus am y
swydd er dyrchafiad personol. Tebygol
y credai mai y modd i beri i grefydd efeng-
ylaidd wreiddio yn y deyrnas oedd trwy
efengyleiddio yr Eglwys Wladol ; a phe
bai y Methodistiaid yn cefnu arni, ac yn
ymffurfio yn blaid ar wahan, y byddai i'r
amcan gael ei oedi, os nad ei wneyd yn
amhosibl. Ac eto, efallai nad oedd urddas
y swydd heb feddu rhyw gymaint o
ddylanwad arno. Pwy sydd yn hollol
rydd oddiwrth awydd am ddyrchafiad ?
Am Howell Harris, nid hawdd deall grym
ei ymlyniad. Ar y naill law yr ydym yn
ei gael yn ddyn rhyddfrydig, yn dibrisio
traddodiadau a defodau yr Eglwys Wladol,
yn tori ar draws ffurfiau a ystyrid yn
awdurdodol, ac yn meiddio dweyd yn
ngwyneb yr Esgob nad oedd gwahaniaeth
o gwbl rhwng tŷ wedi ei gysegru, a thŷ
heb ei gysegru. O'r ochr arall, ni fynai
son am adael ei chymundeb, oddigerth
cael ei yru allan. Modd bynag, yr ydym
yn sicr ei fod yn gwbl anhunangar yn y
mater. Nid oedd ei Iygaid yn cael eu dallu
gan swydd, ac nid oedd yn awyddus am
gael ei ddyrchafu. Os oedd yn dymuno
cael ei ordeinio, awyddai am hyny er cael
mantais helaethach i wneyd daioni.
Ond i fyned yn mlaen gyda phenderfyn-
iadau y Gymdeithasfa. Cydunwyd mai
cyfreithlon erlyn â chyfraith y werinos a
derfysgent y cyfarfodydd, ac a ymosodent
ar y crefyddwyr. " Ar hyn," meddai
Howell Harris, " llanwyd fy enaid a thos-
turi at y terfysgwyr;, cefais y fath olwg ar
eu trueni, a'r fath gariad atynt, fel yr oedd
fy nghalon ar dori." Wrth benderfynu
gosod yr achos yn Ilawcyfreithiwr, yr oedd
gofal i gael ei gymeryd nad oedd y per-
sonau a erlynid i gael eu niweidio ; gyru
ofn arnynt yn unig oedd yr amcan. Yna
aed i giniawa i dỳ un Mr. Richardson. O
gwmpas y bwrdd bu cryn ymddiddan gyda
golwg ar y Morafiaid, a'u cyfeiliornadau ;
a gwnaeth Howell Harris ymdrech i leihau
chwerwder teimlad rhai o'r brodyr atynt.
Yn yr hwyr yr oedd seiat. " Ac ër fy mod
trwy y dydd," meddai Harris, " yn mhell
o'r goleuni, ac heb feddu cymundeb yspryd
â Duw, yn y canu daeth y dylanwad
dwyfol arnaf, fel y cefais fy nhynu yn agos
at yr Arglwydd, ac y perwyd i mi lefain
am gael peidio dychwelyd i'r creadur."
YmgynuIIai y Gymdeithasfa ychydig
wedi saith dydd lau drachefn. Teimlai
Howell Harris ei hun yn dywyll ac yn dra
digysur ; yr oedd y ddadl y dydd blaenorol
wedi dolurio ei yspryd. " Yr oedd cryn
betrusder yn fy meddwl," meddai, " pa un
a barhawn i fod yn gysylltiedig a'r Gym-
deithasfa hon. Er y gallwn aros i
ddysgwyl am dano, nis gallaf deimlo yr
un undeb brawdol atynt ag at y brodyr yn
Nghymru. Ychydig wedi saith aethum
1743-]
HOWELL HARRIS.
255
at y brodyr, ac eisteddasom hyd wedi dau,
yn trefnu achosion y Tabernacl, gan
ddewis yn (i) ymwelydd a'r cleifion, (2)
athraw ysgol, (3) llyfrwerthydd, (4) un yn
ben ar bob dosparth, er ceisio eu dwyn i
drefn. Yna cafwyd ymddiddan maith am
y priodoldeb o bregethu y ddeddf fel rheol
bywyd i gredinwyr. Yr oedd y brawd
Cennick yn erbyn hyn, eithr pregethu
Crist, hyd nes y byddem yn dyfod yn
debyg iddo, a phechod yn cael ei ddys-
trywio. Minau a ddywedais nad oeddwn
yn cyduno ag ef, a bod ei syniadau yn
Antinomaidd. Fy mod yn meddwl fel
mai trwy adnabyddiaeth o Dduw yn
Nghrist y mae y creadur newydd yn cael
ei borthi, felly mai trwy sancteiddrwydd
Duw yn y gyfraith y mae gweled drwg
pechod, ac y dinystrir yr hen ddyn, sef y
natur Iygredig. Mai nid hyd nes y
byddom yn credu yr ydým dan y ddeddf,
ond hyd nes na byddo dim o'r hen natur
yn aros ; a bod y ddeddf i barhau yn
athraw i ni hyd nes y dygir ni i Iwyr
ddarostyngiad i'r lesu. Gwelwn ei fod ef
(Cenniclí) y tuhwnt i mi yn mhell mewn
rhyddid, ond nis gallwn uno ag ef yn hyn.
Cefais nerth i ddweyd sut yr oedd arnaf,
fy mod yn methu teimlo undeb â hwynt, y
modd yr oeddwn yn teimlo petrusder gyda
golwg ar ddyfod i Lundain gwedi hyn, a
datgenais fy mwriad i beidio dyfod. Yr
oeddwn yn farw, a dwl, a thywyll, a sych,
yn mhell oddiwrth Dduw, ac nis gallwn
deimlo cymundeb â Duw nac â hwy.
Darostyngwyd fi ; gwelais nad oeddwn yn
deilwng i ddyfod i'w mysg, ac eto yr
oeddwn yn Ilawn cariad atynt. Yna ym-
ddiddanasom am lawer o bethau. . . .
Yna, gwedi trefnu ymwelwyr mewn cys-
ylltiad a'r Tabernacl, ynghyd a'r tŷ
newydd, ciniawsom yn nghyd ; yr oeddwn
yn afiach o ran corph, ac yn flinedig yn fy
yspryd. YmneiUduais, a cheisiais weddîo a
thynu yn agos at fy Arglwydd, ond nis
gallwn. Ychydig o Dduw a welwn yn fy
neall, yn fy ewyllys, ac yn fy serchiadau ;
ond Ilawer o'r diafol, ynghyd a'r natur
hono sydd yn barod i gyneu mewn unrhyw
l)rofedigaeth. Myfi yw yr eiddilaf, y dall-
af, y mwyaf Ilygredig, a'r Ilawnaf o hunan
o bawb ; a thra yn dymuno am i undeb
mewnol i gael ei ffurfio, yr wyf yn ewyllys-
gar i fod mewn undeb allanol â hwy. Yr
oedd yn boenus arnaf heddyw ; ac eto yr
wyf yn drwyadl ddedwydd, o herwydd fy
mod trwy ffydd yn gorwedd ar ffyddlondcb
Crist." Felly yr ysgrifena Howell Harris,
a therfynodd y Gymdeithasfa trwy iddo ef
bregethu oddiar Heb. x. 19, 20.
Dyma y ddadl frwd gyntaf, yn cynyrchu
teimladau dolurus, a gymerodd le yn
Nghymdeithasfaoedd y Methodistiaid.
Hawdd gweled ddarfod i Howell Harris
golli ei dymer. Cydnebydd yntau hyny
mewn gofid, gan achwyn yn dost ar ei
natur lygredig, yr hon sydd yn barod i
danio ar y brofedigaeth leiaf. Cawn
gipolwg am y tro cyntaf ar y dymher
gyffrous, a'r yspryd na oddefai gymeryd
ei wrthwynebu, a andwyodd ei ddefnydd-
ioldeb gwedi hyn, ac a barodd iddo droi ei
gefn ar ei frodyr. Y mae yn sicr fod a
fynai ei iechyd, canlyniad naturiol gor-
lafur, a'r ysprydiaeth oedd yn dechreu ei
feddianu.
Dychwelodd i Lundain ddechreu mis
Hydref. Y peth cyntaf a gofnoda wedi
dychwelyd adref yw ymddiddan ag un
I^ichard Jenkins, yr hwn oedd wedi gadael
y Methodistiaid, ac wedi ymuno a'r Ym-
neillduwyr. " Gwelais," meddai, " ei fod
yn synio yn gyfeiliornus am danaf, sef fy
mod wedi newid fy marn gyda golwg ar y
Gair ysgrifenedig a bywiol ; fy mod yn
derbyn ac yn coleddu chwedlau anwir-
eddus am danynt, gan edrych arnynt fel
plaid wedi ymuno yn ein herbyn, a'm bod
wedi gosod gorfodaeth ar bobl i gadw i
ffwrdd oddiwrthynt. Atebais inau fod y
goleuni a ganlynent yn digwydd gwanhau
ein dwylaw ; am danaf fy hun, fy mod
wedi cael fy ngalw i aros yn yr Eglwys
Sefydledig ; a'u bod yn pregethu yn ein
herbyn. Ond gyda golwg ar Mr. Edmund
Jones, fy mod yn credu am dano ei fod yn
blentyn i Dduw, yn wir w^einidog i Grist,
ac yn gwneyd pob peth a wnelai yn gyd-
wybodol ; ond fy mod inau yn aros yn yr
Eglwys o herwydd cydwybod, ac nid o
herwydd rhagfarn. Yna mynegais fy
syniadau gyda golwg ar y Gair ysgrifen-
edig, nad yw Duw ynddo yn hanfodol, nac
yn barhaus, nac yn gweithio ynddo yn
wastad, ond fel y mae yn ewyllysio ; mai
üfferyn ydyw y Gair, trwy yr hwn y mae
yr Arglwydd yn gweithio i alw pechadur-
iaid ato ei hunan, ac i ddatguddio iddynt
yr Arglwydd lesu. Ond ynddo ei hun, ac
ar wahan oddiwrth Dduw, nad yw ond
llythyren farw, a'i fod yn amddifad o
oleuni, a bywyd ; mai yn Nuw yn unig y
mae y bywyd. Ei fod (y Gair) yn dest-
ament ysgrrfenedig, yn cynwys cymun-
roddion i blant Duw, ac yn ddarlun o
Dduw, yn ei gynrychioli gerbron y byd ;
256
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1743-
ond nas gallwn weled Duw ei hun heb i'r
Yspryd ei ddatguddio i'n heneidiau ; fod
yr Yspryd ar wahan oddiwrth y Gair, ac
nad yw wedi rhwymo ei hun wrtho, er ei
fod wedi ein rhwymo ni ; a bod dal ei fod
yn wastad ynddo, pe byddai ein grasusau
ni yn weithgar i'w ganfod, yr un peth, yn
ol fy meddwl i, a dweyd fod yr Yspryd yn
wastad yn y dwfr bedydd, neu yn yr elfenau
yn Swper yr Arglwydd ; a'i fod yn wadiad
ar benarglwyddiaeth yr Yspryd, yr hwn
sydd yn ty wynu fel y rhynga bodd iddo yn
y Gair, ac yn ein heneidiau ni. Ein bod
yn deall ei fod yn fynych yn bresenol yn y
Gair i eraill pan nad yw i ni, ac i ni heb
fod i eraill. Fy mod yn cael am y llyfr, a
elwir y Beibl, ei fod yn unig am amser,
tra y byddom yn y cnawd, ac na fydd ei
angen yn y byd ysprydol, am y gall Duw
lefaru yno yn ddigyfrwng wrth ein
heneidiau. Pan y mae yr Arglwydd yn
llefaru trwy y Beibl, fod y Uais a'r nerth
yn bethau ar wahan oddiwrth y Beibl, a'i
fod yn farw hyd yn nod y pryd hwnw, er
fod bywyd yn dyfod i ni trwyddo, ac nad
yw ond cyfrwng."
Prawf y difyniad hwn fod Harris yn
dduwinydd ardderchog, ac y meddai graff-
der dirfawr i adnabod pethau sydd a
gwahaniaeth rhyngddynt. Gwehr hefyd
fod y gwahanfur rhyngddo a'r YmneiUdu-
wyr yn ymddyrchafu yn raddol, a bod y
naill wedi myned yn ddrwgdybus o'r Uall.
Dau ddiwrnod o orphwys, os gellir ei alw
yn orphwys, a gafodd wedi dychwelyd o
Lundain, cyn cychwyn drachefn ar ei
deithiau. Nos Sul y cyrhaeddodd adref ;
dydd Mercher canlynol wyneba ar Glan-
yrafonddu, yn yr hwn le y cynhelid
Cymdeithasfa Chwarterol. Ar y ffordd
goddiweddodd rai o'r ŵyn, cymdeithas pa
rai a fu yn foddion i danio ei enaid. " Pan
y clywais," meddai, " am y gweinidogion
YmneiIIduoI yn troi yn ein herbyn, ac yn
bwrw rhai allan am ymuno â ni, galerais.
Pan y clywais drachefn fod y gwaith yn
myned yn mlaen yn ogoneddus trwy y
brodyr Rowland, Williams, a Davies,
Ilawer yn dyfod tan argyhoeddiadau, a
chanoedd lawer yn dyfod i'r ordinhad,
íìiamiodd fy enaid ynof, a thynwyd fi allan
i fendithio yr Arglwydd." Yn Llwyny-
berllan cyfarfyddodd a'r tri offeiriad y
clywsai am eu Ilwyddiant, sef Daniel
Rowland, Williams, Pantycelyn, a Howell
Davies, a thaniwyd ei yspryd yn eu cwmni.
Teimlai amddifadrwydd o rym i fyned i
ügledd Cymru, ond meddai, " teimlwn y
gallai fy enaid apelio at Dduw, gan lefain :
' O Arglwydd, ti a wyddost fy mod yn
foddlon myned yno i farw, ac yna i ddod
atat ti." Pregethodd Howell Davies yn
Llwynyberllan, oddiar Esaiah i. 6, a chaf-
odd odfa nerthol. Dranoeth cyrhaeddodd
cenhadau Crist Glanyrafonddu, a chafodd
Herbert Jenkins afael ryfedd ar weddi wrth
agor y Gymdeithasfa. I gychwyn, llefar-
odd Harris hyd nes tua haner awr wedi
dau wrth yr holl frodyr cynulledig, am
fawredd y gwaith, am drefn a darostyng-
iad, am ddarllen yr Ysgrythyr, a Ilyfrau da
eraiU er diwyllio eu meddyliau ; a'i fod yn
gweled mai ei le ef oedd cynorthwyo y
gweinidogion ordeiniedig.
Ond chwythodd ystorm ar y Gymdeith-
asfa. Meddai Howell Harris: "Cyfododd
dadl yn ein mysg gyda golwg ar y Moraf-
iaid ; yr oedd y brawd Rowland yn rhag-
farnllyd o'u plaid ; safais inau yn erbyn eu
cyfeiliornadau. A'r gelyn a Iywodraethodd
fy yspryd. Drachefn, y brawd Morgan
John Lewis a ddatganodd ei argyhoeddiad
gyda golwg ar adael yr Eglwys Sefydledig,
fod ei sail yn luddewaidd, ei chanonau yn
anysgrythyrol, ei hoffeiriaid yn elynion
Duw, a'i haddoliad yn ffurfiol, gyda llawer
o goelgrefydd Babyddol, a'i fod yn meddwl
y dylem ei gadael yn awr ; mai yn awr yw
yr amser i adael cyfeiliornadau, pan yr
ydym yn argyhoeddedig o honynt. (Dat-
ganodd yn mhellach) : Ein bod yn awr yn
eglwys, ac y dylem ymwahanu ; i'r eglwys
luddewig gael ei sefydlu yn gyntaf yn yr
Aipht, yn ganlynol iddi gael ei dwyn i'r
anialwch, ac ymwahanu ; fod yr eglwys
Gristionogol am beth amser yn yr eglwys
luddewig, ac yna iddi ymwahanu. Yna
yr holl frodyr a gytunasant yn erbyn hyn,
nad oeddem yn cael ein galw i ymneillduo;
na ddarfu i ddisgyblion Crist adael yr
eglwys luddewaidd nes iddynt gael eu
gwthio allan ; ac nad ydym ni yn euog am
ddim o'r drygau sydd yn yr Eglwys, gan
ein bod wedi codi ein llais yn eu herbyn.
Datgenais i fy ffydd a'm rhesymau y bydd
i'r gwaith hwn (sef y diwygiad) lanw yr
Eglwys a'r deyrnas." Y mae yn dra sicr
i'r ddadl fod yn frwd, ac i Howell Harris
gyffroi yn enbyd. Y mae yr ymadrodd fod
y gelyn yn Ilywodraethu ei yspryd, yn dra
arwyddocaol, ond yn dangos gonestrwydd
na cheir yn gyffredin ei gyffelyb. Ai parch
i deimladau Howell Harris a barodd i'r
brodyr benderfynu yn unfryd na wnaent
ymwahanu, ynte argyhoeddiad gwirion-
eddol mai aros yn yr Eghvys oedd eu
s ^ ,í
Ì 'S
J =
o ^
o J
Q
û
w
2
Z
Q
O
Q
Q
^
Q
Q
Q
Q
O
Q
743-
HOWELL HARRIS.
257
dyledswydd, nis gwyddom. Ond hyfryd
cüfnodi ddarfod i'r ystorni dawelu, ac i
dangnefedd lanw y gynhadledd. Meddai
y dydd-lyfr : " Yna, wedi cyduno i aros fel
yr ydym, a chwedi ateb rhyw bethau i'r
rhai a betrusent, gweddîasom a chanasom,
a daeth nerth a thân i'n mysg."
O hyn hyd y diwedd aeth y Gymdeith-
asfa yn mlaen yn hyfryd. Dygai yr
arolygwyr eu hadroddiadau i mewn, y
rhai oeddynt yn nodedig o galonogol, a
phenderfynwyd Uawer o bethau. Yn yr
ymdrafodaeth, cafwyd goleuni arbenig
trwy y brodyr Morgan Johrj Lewis, a
W'illiam Richard, Gosodwyd y brawd
John Richard, Llansamlet, yn ol yn ei le,
wedi iddo fod dan ychydig gerydd.
" Wedi ' penderfynu pob peth," meddai
Harris, " a chael fod arolygwyr Siroedd
Mynwy, a Threfaldwyn, yn glauar, agor-
odd yr Arglwydd fy ngenau, a chyda
dwyfol ddoethineb, gallu, awdurdod, car-
iad, a melusder, mi a hyderaf, anerchais y
cynghorwyr gyda golwg ar eu gwaith ; y
pwys iddynt iawn ymddwyn yn mysg yr
ŵyn ; am ein hanghymwysder, bawb o
honom, i'r gorchwyl ; am y pwys o ymroddi
i ddarllen ; am adeiladu y saint fel meini
bywiol, am gymeryd y gwaith yn union-
gyrchol o law Duw, ac am garu ein
gilydd. Yr oedd bywyd a galhi yn cyd-
fyned a'r ymadroddion, yn dangos pa mor
fawr yw y pethau a wna Duw yn fuan
trwy y gymdeithas hon." Boreu dran-
oeth, sef dydd lau, ysgrifena drachefn :
" Yr oedd swn canu a gweddío i'w glywed
trwy gydol y nos. Yr oedd cwmwl cyfan
o dystion yr Oen wedi ymgynull, sef tri
offeiriad, dau frawd Ymneillduol, deuddeg
arolygwr, a nifer mawr o gynghorwyr.
Teimlwn agosrwydd mawr at Dduw.
Treuliais y boreu mewn ffarweho a'r
brodyr, ac yn trefnu fy nheithiau, yr hyn
wyf yn wneyd bob amser gyda mawr ofal
a gweddi." Arosodd yn Glanyrafonddu
hyd dydd Sadwrn, ac yna cychwynodd
,am Langeitho. Y Sul, cafodd flas mawr
ar wasanaeth yr Eglwys, a phregethodd
Rowland yn rhyfedd oddiar Hosea i. 10.
Yr oedd mewn agosrwydd mawr at yr
Arghvydd hefyd ar y cymundeb. Dywed
fod y gynulleidfa fawr a ddaethai yn
nghyd yn dyfod o wyth o wahanol siroedd.
Yn y prydnhawn, am bump, pregethodd
Harris oddiar y geiriau : " Aroswch yn fy
nghariad," a chafodd ryddid ymadrodd
dirfawr. Boreu dydd Llun, cyfid am
bump, teimla gariad angerddoi at Row-
Rhan V.
land a Wilhams, Pantycelyn, fel nad
hawdd ffarwelio â hwy, ac am chwech
cychwyna tua Llanbrynmair. Tramwy-
odd trwy ranau helaeth o Siroedd Tref-
aldwyn, Maesyfed, a Brycheiniog cyn
dychwelyd.
Yn mis Tachwedd cawn ef yn bresenol
mewn Cymdeithasfa Fisol yn Llanddeu-
sant. Ni fu yno na digter na dadl, ond
pob peth yn myned yn mlaen yn hyfryd.
Rhoddodd Harris siars ddifrifol iawn i'r
cynghorwyr, gyda golwg ar eu hymddyg-
iad, eu gwisg, a'u darllen ; dangosai
fawredd y gwaith, gwerth yr ŵyn, a pha
fodd y dylent eu caru, a bod yn dyner o
honynt, er mwyn Crist. " Yr oeddwn yn
fanwl," meddai, " wrth ddangos sut y mae
hunan a balchder yn dyfod i mewn, dan
wahanol liwiau, megys gwisgoedd, &c.
Yna agorwyd fy ngenau, gan Dduw, yr
wyf yn credu, i geryddu brawd am fod yn
anffyddlawn i'w ymddiriedaeth. Tra yr
oeddvvn yn ei geryddu aethum i lawr i'r
Ilwch, yr oeddwn yn cael fy nhrywanu
gan gariad ato, a dangosais ganlyniadau
niweidiol anffyddlondeb i ymddiriedaeth i
bawb o honom, ei fod yn ddirmyg ar aw-
durdod Duw yn ein mysg." Nid oedd
Harris yn fwy dirmygus a gwael yn ei olwg
ei hun un amser, na phan yn gweini cerydd i
arall, a chawn ef y tro hwn yn Ilefain ar y
canol : " O Arglwydd ! Pwy wyf fi i fod
yn y fath le o ymddiried ! Yr wyf yn ei
deimlo i'r byw, ei fod yn fy ngosod fwy-
fwy yn Ile tad, ac y mae hyn yn fy ngyru
i'r Ilwch."
Diorphwys y teithiai Howell Harris
misoedd Tachwedd a Rhagfyr, 1743. Yr
ydym yn ei gael yn barhaus naill ai yn
Llangeitho, neu ynte yn nghymdeithas
Daniel Rowland a WiIIiams, Pantycelyn,
mev/n rhanau eraill o'r wlad, yr hyn a
arwydda fod materion pwysig cysylltiedig
â'r diwygiad yn peri dirfawr bryder, ac yn
gofyn am aml a dwys gydymgynghoriad.
Eithr yr oedd yspryd Harris ar uchel-
fan?u y maes. Dydd Nadolig ysgrifena :
" Yr wyf yn awr yn dychwelyd o daith am
bedair wythnos trwy Siroedd Aberteifi,
Penfro, a Chaerfyrddin, lle y mae ygwaith
yn myned yn mlaen yn rhyfedd. Ni
welais erioed o'r blaen yn y nifer amlaf o
leoedd y fath dân, bywyd, nerth, a rhyddid
ffydd. Bydded i Grist gadw mewn cof yn
ein mysg ryfeddol waith yr Yspryd Glân.
Yn sicr, y mae yr Arglwydd wedi
dychwelyd i'w deml. Neithiwr, yn y
dirgel, yr oedd fy enaid yn Ilosgi gan
s
258
y TADAU METHODISTAIDD.
[1744-
awydd am ogoneddu Duw ; yr oedd fy
enaid ar dân gan fawl i Dduw. Llefwn :
' O Dduw, yr wyf yn dy garu ac yn dy
fendithio am Grist, Yr wyf yn dy fen-
dithio am ei fywyd, fy nheitl perffaith i'r
nef ; yr wyf yn dy fendithio am ei far-
wolaeth, fy ngwaredigaeth rhag y felldith;
yr wyf yn dy fendithio am ei adgyfodiad,
am orchfygu marwolaeth, a phechod, a'r
diafol ; yr wyf yn dy fendithio am ei
fod yn awr mewn gogoniant, a phob awdur-
dod ganddo.' O, y rhyddid hwn ! Cryf-
hawyd fy ffydd yn fawr wrth ddarllen
Mat. i. 21, y gelHd fy ngwaredu oddiwrth
fy mhechodau. Cefais lawer o nerth i
weddio dros y sir hon, yn enwedig ar i
Dduw aros yma, a'm bendithio inau iddi."
Blwyddyn ryfedd yn hanes Methodist-
iaeth Cymru yw y flwyddyn 1743. Ynddi
y cymerodd cyfansoddiad y Cyfundeb ffurf
arosol, ac y darostyngwyd y seiadau a'r
cynghorwyr i drefn. Bu yn gyfnod o
ddirfawr bryder, o ymdrechion arwrol, ac
o ymweHadau grymus. A chawn Howell
Harris ar ei therfyn mewn yspryd ben-
digedig, yn bendithio ac yn moHanu Duw.
Y dydd Mercher cyntaf yn y flwyddyn
1744, cyfarfyddai y Gymdeithasfa Chwar-
terol yn Watford. Y mae profiad Harris
ar ei fFordd yno yn haeddu ei groniclo :
" Llefais mewn dwfn ddarostyngiad : ' O
Arglwydd, oni bai am y gras sydd ynot ti,
O lesu, nis gaHwn fyned yn y blaen ;
dychrynid fi gan y treialon a'r croesau ;
ynot ti ac ar dy ras yr wyf yn pwyso.'
Cefais olwg hyfryd ar ogoniant, cariad, a
mehisder Duw ; gorweddais yn gysurus
arno, gan lefain : ' Gyda golwg ar fyned i
Lundain, dangos i mi, Arglwydd, a ydwyt
yn fy anfon. Yr un peth i mi yw myned
neu beidio myned. Yn unig bydded i mi
dy gael di, yna danfon fi i ufîern, os wyt yn
ewyHysio, i bregethu i'r gethr sydd yno.
Yr wyt ti yn frenin arnynt hwy, ac y maent
yn rhan o dy deyrnas.' Gwelais hyn mor
amlwg fel yr oeddwn yn barod i fyned neu
beidio myned. Yna yn ddisymwth cododd
cri ynof: 'O Arglwydd, anfon fi i Lun-
dain ; anfon genadwri gyda mi er bendith
i'r \Vyn.' Teimlwn gariad dwfn, a dymun-
iad am gael fy anfon i'w mysg. Gyda
golwg ar y mawrion yr wyf i ymddangos
ger eu bron, sef esgobion, &c., gwnaed i fy
enaid lefain : ' O Arglwydd, yr wyt ti yn
y nefoedd ; ar y gras sydd ynot ti yr wyf
yn pwyso.' ... Y ddoe oedd y dydd
yr ymddangosai yr ẃyn perthynol i Sir
Drefaldwyn, gerbron y gelynion yn Ban-
gor ; teimlais gymundeb dwfn à hwy yn
eu dyoddefaint, a hyder y byddai i Dduw
fod gyda hwy. Am danaf fy hun, teimlwn
yn barod i fyned i ganol y werinos, a mar-
wolaethau o bob fFurf, gan fy mod yn
gweled Crist uwchlaw pob peth."
Gyda golwg ar Fethodistiaid Sir Dref-
aldwyn yn cael eu gwysio i Bangor, teifl y
difyniad canlynol o Iythyr Howell Harris
at yr Hybarch Griffith Jones, rywgymaint
o oleuni : " Oddiar pan welais chwi bum yn
Sir Drefaldwyn. Y ddoeaethant (y Meth-
odistiaid) i Bangor ; ac yn ol eich cyfar-
wyddydchwi ymgynghorais â rhai personau
deallus yn y gyfraith. Ymddengys mai yr
unig ffordd trwy ba un y gellir symud
achosion o'r llys hwnw i'r Court ofArchcs yw
trwy writ oddiwrth yr Arglwydd Brif Ynad,
a elwir nolle pvosequi. Dydd Sadwrn nesaf,
yn Nhrefecca, yr wyf yn dysgwyl cael
hysbysrwydd am y gweithrediadau yn eu
herbyn, a pha un a fydd i hyny, a materion
eraill, fy ngalw ar unwaith i Lundain.
Neithiwr, cyfarfyddais a Mr. Whitefield
yma ; y mae efe am i mi fyned, ac am
gario yr achos yn mlaen. ünd gan mai
achos yr Arglwydd ydyw, nid amheuaf y
bydd iddo dueddu meddyliau pawb ydynt
dan Iywodraeth deddf ei gariad i uno,
galon a Ilaw, i'w gario yn mlaen. Ben-
digedig a fyddo Duw, y mae y gwaith
ar gynydd yn mhob man, a drysau newydd-
ion yn agor." Ysgrifenwyd y llythyr hwn
o \Vatford, lonawr, 1744. Gwelwn fod
Griffith Jones, er na ymunai yn ffurfiol â'r
Methodistiaid, yn calonog gydymdeimlo
â'r diwygiad, a'i fod yn \vr o gynghor i'r
Diwygwyr ar bob achos dyrys. Sut yr
aeth pethau yn mlaen yn Mrawdlys
Bangor, nis gwyddom, ond gallwn fod yn
sicr ddarfod i'r Arglwydd, yn ol ei arfer, i'r
rhai a garant ei enw, ofalu am ei eiddo. Y
" materion eraill" y cyfeiria Harris atynt,
fel yn debyg o'i alw i Lundain, oedd y
cynghaws cyfreithiol a ddygid yn mlaen yn
erbyn y rhai ddarfu ymosod ar y Method-
istiaid yn Hampton, gan derfysgu eu cyf-
arfodydd. Yr oedd canlyniad y cynghaws
o'r pwys mwyaf i'r Methodistiaid, am y
penderfynai eu hawl i gael llonyddwch i
addoli Duw yn ol argyhoeddiad eu cyd-
wybod.
Cymdeithasfafechan ydoedd yn Watford.
Yr oedd Daniel Rowland, WiIIiams,
Pantycelyn, a Howell Davies, yn absenol ;
dywed cofnodau Trefecca mai gerwinder
yr hin a'u rhwystrodd, ac i'w ceffylau
fethu. Ond daethai Whitefield yno yn
1744-]
HOWELL HARRIS.
259
ffyddlawn i gymeryd y gadair ; yr oedd y
Parch. Henry Davies, Bryngwrach, wedi
cyrhaedd, ac hefyd y nifer anilaf o'r
arolygwyr. Dechreuwyd am ddeuddeg
trwy weddi a mawl. Meddai Harris:
" Dysgwyhais am nerth i roddi fy mywyd
i lawr ; teimlwn fy hun yn foddlawn
gwneyd hyny, ac eto ni chymerwyd arswyd
marwolaeth i ffwrdd ; gwelwn ddadgysyllt-
iad natur a newid stad yn beth i'w fawr ofni.
Gwelais angau fel angheníìl dychrynllyd,
ond gwelais lesu Grist uwchlaw iddo, ac
uwchlaw y diafol ; ac yn yr ymdeimlad o
nerth Crist cymerwyd yr arswyd ymaith."
Gwaith cyntaf y GymdSithasfa oedd
derbyn adroddiad yr arolygwyr. Yna
traddododd Whiteíìeld anerchiad i'r
cynghorwyr. Yn ganlynol, pregethodd
Whitefìeld, gyda chryn nerth, oddiar
Heb. viii. 10-12. Yna ail eisteddodd y
frawdohaeth i ymdrin â gwahanol faterion,
o'r hyn y rhydd Harris y crynodeb can-
lynol : " i. Llefarodd Whitefìeld am y
cynghaws cyfreithiol, a daeth Yspryd Duw
i lawr ; cefais nerth i weled ei fod dros yr
Arglwydd, felly hefyd y gwelai yr holl
frodyr. Profodd yn foddion i'n gwasgu yn
agosach at ein gilydd, ac felly ni a gyfran-
asom yr hyn a fedrem at yr achos.
2. Gofynodd Whitefield genyf ysgrifenu
hanes fy my wyd ; cefais inau ryddid mawr
tuag at Grist, gan ganfod ei fod yn dysgwyl
hyn genyf; cefais nerth i benderfynu
gwneyd, er mwyn yr ŵyn, ac o gariad ato
ef, gan mai ei eiddo ef yw yr holl waith.
3. Pan y gofynwyd genyf i fyned i
Lundain, i weled llawer o'r mawrion, a
phan oedd arnaf ofn y prawf, cefais nerth
i gyfeirio fy ngolwg at glwyfau yr lesu, a
chododd cri ynof : ' O Arglwydd, gad i mi
fyned ; gad i mi fyned, ac anfon fi.' Yna,
wedi gweddio mewn cryn ryddid gyda'r
brodyr, agorwyd fy ngenau i gynghori, a
daeth tân, a nerth, a bywyd i'n mysg.
Tuag un-ar-ddeg aethom i'r Watford, ac
eisteddasom i fynu hyd bump, yn siarad
yn rhydd gyda'r brodyr am lawer o fater-
ion, megys cynhanfodiad eneidiau, taith
yr Israeliaid tua Chanaan, &c. Y mae fy
holl hyder yn y gras sydd yn Nghrist. O
fel yr ydym yn cael ein ffafrio, ac fel y mae
yr üen yn ein harwain ac yn tosturio
wrthym." Hawdd gweled fod yr yspryd
goreu yn ffynu, a bod y brodyr yn rhydd
iawn yn nghymdeithas cu gilydd. Tyna
Harris mewn ychydig linellau ddarlun
prydferth o'r cwmni yn mhalas Wat-
ford o gwmpas y tân, wedi gorphen eu
gwaith, ac yn aros i fynu hyd bump o'r
gloch y boreu, yn ymdrin â chwestiynau
dyrys a damcanol, cyffelyb i gynhanfodiad
eneidiau. Gwelwn hefyd mai yn y capel y
cynaliwyd y cyfarfodydd. Ond pa un ai
capel Watford, ynte capel y Groeswen,
sydd ansicr ; y mae duU y geiriad yn
ffafrio y diweddaf.
A ganlyn yw yr adroddiad am y Gym-
deithasfa yn nghofnodau Trefecca : — •
" Darllenwyd llythyr oddiwrth seiat
Cnapllwyd, yn gofyn ar i'r brawd George
Philhps gael ei anfon i'w cynorthwyo.
Pwyswyd y mater gan y brodyr, a chyd-
unwyd ei fod i gael ei anfon.
" Yr oedd adroddiad y brawd Beaumont
am ei seiadau yn felus ; dangosai eu bod
mewn stad o gynydd ; ond yr oedd arno
angen Ilafurwr oddifewn, i feithrin yr
eneidiau. Cydunwyd ei fod i ofalu am
danynt ei hun, mor bell ag y bydd hyny
yn gyson â'i gynllun, hyd nes y cyfyd yr
Arglwydd rywun yn meddu y ddawn neill-
duol hon.
" Y mae y brawd Thomas Lewis i gael ei
roddi yn gyfangwbl i'r brodyr Saesnig.
" Creda y brodyr fod y brawd Jacob Jones
yn cael ei alw gan ein Hiachawdwr i
weithio yn ei winllan, ac y maent yn cyd-
uno iddo fod yn gynorthwywr i'r brawd
Morgan John Lewis. Yr un fath am y
brawd Richard Edward.
" Cydunwyd fod y brawd WiIIiam John i
fod yn arolygwr dros- Sir Gaerfyrddin, yn
lle y brawd Bloom, yr hwn sydd wedi ym-
ddiswyddo.
" Derbyniwyd adroddiadau y brodyr
Morgan John Lewis, Thomas WilHams,
W'illiam Richard, William John, Thomas
James, a Richard Tibbot, am seiadau
Trefaldwyn, Morganwg, Brycheiniog,
Mynwy, a rhanau o Faesyfed, a Chaer-
fyrddin. Yr oeddynt yn hyfryd yn wir.
Nis gelhd cael yr adroddiadau eraill. Y
mae Cymdeithasfaoedd Misol wedi cael eu
cynal yn mhob cylch o arolygiaeth er ein
Cymdeithasfa ddiweddaf, sef yn Gelh-
dorchleithe, Cayo, Trefecca, a Watford ;
siomiant a fu yn Dygoed ; ac yr oedd yr
Arglwydd gyda ni yn mhob man ; a phen-
derfynem bob peth, yr ydyni yn gobeithio,
yn ol ewyllys ein Hiachawdwr, mewn
cariad, a heddwch, ac undeb. Ein Cym-
deithasfa nesaf i fod yn y Fenni, y dydd
Mercher cyntaf gwedi Gwyl Fair."
Ymddengys ddarfod i holl drefniadau y
Gymdeithasfa gael eu gwneyd y diwrnod
cyntaf, ond pregethodd Whitefield boreu
s 2
26o
Y TADAU METHODISrAlDD.
[1744-
dranoeth am wyth, oddiar i Cor. xv. 53,
dan arddehad anarferol. O gwmpas deg,
cychwynodd Harris ac yntau tua'r Fenni.
Ar eu ífordd pasient gymydogaeth Ponty-
pŵl, maes llafur y Parch. Edmund Jones.
Llonwyd Howell Harris yn fawr wrth
glywed ani ymdrechion a llwyddiant y g\Vr
da hwnw. Meddai : " Cefais lawer o
undeb ag ef, a serch ato, er ddarfod i Satan
ar y cyntaf geisio creu pellder rhyngom,
fel nad oeddwn yn hoffi ei weled." Fe
goíìr mai Edmund Jones fviasai a'r llaw
flaenaf yn Uuniad ac anfoniad al.lan y pro-
clamasiwn hwnw yn erbyn y Methodist-
iaid ; ac felly y mae yr yspryd a ddengys
Harris yn y difyniad uchod yn fawrfrydig
anarferol.
Y mae y Uythyr canlynol, a anfonwyd at
arweinwyr y diwygiad gan aelodau seiat
Mynyddislwyn, yn esbonio ei hun, ac yn
taflu goleuni pruddaidd ar fywyd llygredig
clerigwyr Eglwys Loegr ar y pryd :
" Anwyl frodyr ; yr ydym mewn cyfyng-
der yn ein meddyhau o herwydd ein bod
yn ffaelu bod yn gyfranog o'r ordinhadau.
O herwydd y mae ein cuwrad ni yn un ag y
mae y gair am dano ei fod wedi ei dyngu
yn odinebwr, ac oblegyd hyny yr ydym yn
methu cael rhyddid i gydfwyta, heb dori
gorchymyn Duw. Yr ydym yn dymuno
cael eich barn chwi ar y mater. Yr ydym
yn gweled fod yr ordinhadau yn foddion na
ddylid eu hesgeuluso, ac na ddyUd,
ychwaith, bwyso arnynt yn ormod. Dy-
muno cael cynghor oddiwrthych yr ydym,
gyda chofio am danom gerbron gorsedd-
fainc y gras." Dyddiad y llythyr hwn yw
lonawr 2, 1744. Diau y bwriedid iddo
gael ei ddarllen a'i ystyried yn Nghym-
deithasfa Watford, eithr nid oes un cyf-
eiriad ato yn ei chofnodau. A gafodd efe
sylw yno, ac os do, pa ateb a roddwyd,
sydd yn gwbl anhysbys.
Dydd Mercher, lonawr 11, 1744, y mae
Howell Harris yn cychwyn am Lundain.
Cyrhaeddodd Ross o gwmpas tri yn y pryd-
nawn, wedi cymdeithas anarferol o fuddiol
am ran o'r fîbrdd gyda y brawd Morgan
John Lewis ; dysgasant amryw wersi
buddiol yn nghyd, gan weled mai trwy
brofiad y mae adnabod Duw, ein hunain,
Crist, a dichellion y diafol. Cyrhaeddodd
Gaerloyw erbyn pump, a chwedi cael
adgyfnerthiad i'w gorph aeth i'r seiat, lle y
cafodd achlysur i lawenhau. Cododd
boreu dranoeth am chwech, er mwyn
anerch aelodau y seiat, yr hyn a wnaeth
cddiar y geiriau : " Canys ciddot ti yw y
deyrnas." Nos Sadwrn, daeth i Lundain,
gan fyned ar ei union i dŷ Mr. W'hitefield,
lle y clywodd newyddion gogoneddus am
Iwyddiant y gwaith. Boreu y Sul, aeth
tua St. Paul ; nis gallai glywed yr offeiriad
yn pregethu ; ond cafodd nerth i weddío
dros Eglwys Loegr : " O Arglwydd,
dychwel ; y mae dy ogoniant ar riniog y
drws, bron ymadael oddiwrthym. O tyred,
ailadeilada yr adwyau ; fel, os oes yma
goffadwriaeth i'th enw, os oes genyt had
yn ngweddill, os nad yw y gogoniant wedi
llwyr adael, y gallwyf aros yn yr Eglwys
druan hon." Teimlodd y fath gariad at
yr eneidiau tywyll oedd yn yr Eglwys fel
nas gallai eu gadael, ond gwnaed iddo
lefain : " O lesu, yr wyt wedi agor tai
cyrddau (y mae Uawer o dai cyrddau Avedi
eu hagor yn awr), ac yr wyf, Arglwydd, yn
dy fendithio am hyny ; ond ai ni wnei di
ein bendithio ninau, ac agor drysau yr
eglwysydd?" Teimlodd yspryd galar ;
cyffesodd ei bechodau ei hun, pechodau yr
Eglwys, a phechodau y genedl, a llefodd :
" O Arglwydd, yr wyt yn canfod ein bod
yn farw, mewn trwmgwsg, ac nid yn unig
hyny, ond yn gwrthryfela yn dy erbyn di,
ac yn dy demtio yn mhob ryw fodd. O
tosturiawrthym,a dychwel atomdrachefn."
Wedi i'r bregeth orphen aeth at fwrdd y
cymun, a gwelodd yr oll y safai mewn angen
am danoyn Nghrist. Y noson hono aeth i
wrando Whitefield yn pregethu, yr hyn
a wnaeth yn ardderchog, oddiar hanes
Samson ; ac yn y seiat a ddilynai anerch-
odd Harris y frawdoliaeth. Clywodd yno
am Esgob Llundain yn ysgrifenu yn eu
herbyn.
Boreu dydd Llun aeth efe a Whitefield
at y cyfreithiwr,gyda golwg ar y cynghaws.
Cafodd ar ddeall na wnai y terfysgwyr
unrhyw ddiffyniad, yr hyn a barodd i
Harris lefain allan : " Gogoniant !" Dydd
Mawrth yr oedd Cymdeithasfa , Fisol yn
cael ei chynal yn y Tabernacl ; ymddengys
nad oedd llawer o faterion yn gahv am
sylw ; yr unig beth y cyfeirir ato yn y
dydd-lyfr oedd, priodas rhai brodyr, i'r
hyn nad oedd tadau eu darpar-wragedd yn
foddlawn. Beth a benderfynwyd ar hyn
ni ddywedir. Buyn Llundain hyd Mawrth
i^fed, yn pregethu, yn cynghori yn y cym-
deithasau, ac mewn amryw gynadleddau o
weinidogion. Ymwelodd a'r palas bren-
hinol yn Kensington ; a charcharorion wedi
eu dedfrydu i angau yn Newgate ; a chawn
ef amryw droiau ar ymwehad a'r larlles
Huntingtcn. Yr oedd Llundain yn ferw
1744-]
HOWELL HARRIS.
261
yr amser yma rhag i'r Ffrancod oresgyn y
deyrnas ; cyfranogai Harris ei hun o'r ofn, a
dywed ddarfod i lynges elynol ddyfod un-
waith i fynu y Thames. Ymddengys
fod ei iechyd hefyd yn wael trwy yr holl
amser ; weithiau methai godi o'i wely hyd
ganol dydd. Cyrhaeddodd Gaerloyw nos
Wener, Mawrth 16, ac amcanai fod yn y
brawdlys, yn mhrawf terfysgwyr Hampton.
Ni wnaethant fawr o ddiffyniad, a dyfarn-
wyd hwy yn euog, ond gadawyd maint y
ddirwy i'w thahi ganddynt i'w phenderfynu
gan Lys y Ring's Bench, yn Lhmdain.
Meddai Whitefield, yr hwn yntau hefyd
oedd yn bresenol : " Yr wyf yn clywed fod y
terfysgwyr wedi dychrynu yn enbyd ; ond
nid ydynt yn gwybod mai ein hamcan
yw dangos beth a allwn wneyd, ac yna
maddeu iddynt." Ychydig o enghreifftiau
a geir o ddynion mor alluog i faddeu i'w
gelynion, athrwy hynygyflawni gorchymyn
Crist, a'r Methodistiaid.
Nos Sul, Mawrth ig, y cyrhaeddodd
Drefecca, yn lluddedig ac yn llesg. Dydd
Mercher, yr wythnos ganlynol, yr ydym
yn ei gael mewn Cymdeithasfa Chwarterol
yn y Fenni. Daethai Whitefield yno i
gymeryd y gadair ; yr oedd Daniel
Rowland, WiIIiams, Pantycelyn, a Howell
Davies, yn bresenol, yn nghyd â chryn
nifer o'r arolygwyr. Y mae yn clywed,
gyda ei fod yn cyrhaedd y Ile, am gwymp
rhai brodyr. " Rhoddodd yr Arglwydd
i mi," meddai, " i deimlo baich o alar
oblegyd ein bod yn pechu fel hyn yn erbyn
ein hanwyl Dad ; ein bod ni, sydd yn cael
ein ffafrio mor fawr, yn pechu yn ei erbyn.
Cyfarfyddais a brawd arall, Mr. WiIIiam
Evans, yr hwn oedd dan ryw feichiau, a
theimlais yn fwy nag erioed fod ei faich yn
gwasgu ar fy yspryd." Yna dywed iddo
fyned yn mhell oddiwrth yr Arglwydd, i
lygredd ei natur ymdori i'r golwg mewn
llid, iddo golli ei dymher, a phoethi, a
chlywodd ddarfod i'w boethder daflíu
rhywun i lewyg. Gwelodd mor anghyf-
addas ydoedd i'w le, ac mor annheilwng i
fod yn ŵr priod, yr hyn yn awr a bwysai
yn drwm ar ei feddwl ; ac aeth i'w ys*afell
i ymddarostwng ger bron yr Arglwydd. Bu
yn drallodus iawn yno. Ond galluogwyd
ef cyn dod allan i ddiolch i Dduw am
guddio ei wyneb oddiwrtho, ac am adael
i'w lygredd amlygu ei hun, gan fod tuedd
yn hyn i'w gadw yn ostyngedig. Daeth
yn foddlon rhoddi i fynu ei ddarpar-wraig,
ei le yn yr eglwys, a phob rhodd a dawn a
gawsai. Agorodd Whitefield y Gym-
deithasfa trwy bregethu ar y geiriau, " A
wyt ti yn fy ngharu i yn fwy na'r rhai
hyn ?" Dangosodd nodau cariad at Grist,
ei fod yn Ilawenhau wrth glywed am Iwydd-
iant yr efengyl, ei fod yn awyddu marw,
yn gallu caru ei elyn, yn meddwl ac yn
siarad am dano ef, ac yn caru plant
Duw perthynol i bob plaid grefyddol.
Ei fod yn ein galluogi i agor ein calonau
i'n gilydd ; nas gallwn garu Crist heb
wybod hyny ; a'i fod yn peri i ni roddi
pob peth i fynu iddo ef. Wrth weddío
ar derfyn y cyfarfod cafodd nerth an-
arferol. Yn y cyfarfod neillduol, gosod-
wyd ar Harris i weinyddu dysgyblaeth
ar frawd oedd wedi troseddu ; gwelai
ei hun, wrth wneyd hyny, yn waeth na'r
un a ddysgyblai, ond fod Duw yn cuddio
ei ddrwg, tra y daethai drwg y brawd
oedd ger bron i'r golwg. Gwanai hyn ef
fel pe ei trywanid a dagr yn ei galon.
Tranoeth pregethodd gyda Ilawer o nerth.
Heblaw trefniad y Cyfarfodydd Misol
am y misoedd dyfodol, yr unig benderfyn-
iadau o eiddo y Gymdeithasfa a groniclir
yn nghofnodau Trefecca yw a ganlyn : —
" Cydunwyd yn ddifrifol nad oes neb i
fod yn absenol o Gymdeithasfa, oddigerth
iddo allu rhoddi rheswm am hyny a ddeil
yn nydd y farn.
" Fod y Gymdeithasfa Chwarterol nesaf i
gael ei chynal yn Nhrefecca, y dydd
cyntaf wedi pen y chwarter.
" Fod y brawd John Richard i barhau i
fyned o gwmpas hyd y Gymdeithasfa
nesaf, ac yn y cyfamser, fod Mr. Harris i
ymweled a'i seiadau, er eu cymhell i
ddwyn ffrwyth iddo. Yr oedd yn absenol,
ond anfonodd adroddiad am y seiadau, yr
hwn oedd yn hynod felus.
" Fod y brawd Dafydd WiIIiams i
ddyfod i'r Gymdeithasfa Chwarterol nesaf,
i ateb i'r pethau a roddir i'w erbyn.
" Fod pregethu i gael ei gynal yn mhob
Cymdeithasfa Chwarterol ; yr offeiriaid i
weinyddu yn eu cylch ; y Gymdeithasfa
i ddechreu am ddeuddeg, a'r brodyr wedi
cymeryd Iluniaeth yn flaenorol. Mr.
Rowland i bregethu y tro nesaf."
Ychydig sydd yn y cofnodau yma yn
galw am sylw. Gwelwn fod yr hen frawd
John Richard, Llansamlet, yn dlawd ei
amgylchiadau, ac mai amcan ymweliad
Harris a'i seiadau oedd eu cymhell i estyn
cymhorth arianol iddo. Gwelwn hefyd y
Ile mawr a gaffai pregethu yn y Cym-
deithasfaoedd o'r dechreu.
EbriII 2, 1744, yr ydym yn cael Harris
202
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1744-
mewn Cymdeithasfa Saesnig, yn Wiltshire.
Whitefield a lywyddai ; ymddengys mai
efe oedd cadeirydd sefydlog y Cymdeithas-
faoedd Saesnig yn ogystal a'r rhai Cymreig.
Ar y cyntaf teimlai Howell Harris ei hun
yn galed ac yn gnawdol ; ond pan ddech-
reuodd y cadeirydd weddio dros y brenhin,
a'r wlad, ac yn erbyn y Pabyddion, todd-
odd ei galon o'i fewn, a gollyngwyd ei
yspryd yn rhydd. Eisteddwyd hyd o
gwmpas pump yn trefnu rheolau cyffred-
inol, ac yn gosod pawb yn eu lle,
offeiriaid, pregethwyr, cynghorwyr, a gor-
uchwylwyr. Tra y gwneyd hyn, teimlai
Harris awydd myned allan i'r rhyfel, i
gael marw ar faes y gwaed. Dywed
hefyd iddo gael ei wneyd yn oíferyn i
gymeryd cam yn mlaen tuag at ymwahanu
oddiwrth y brawd J. W. ; John Wesley,
yn ddiau.
Ebrill 13, yr oedd Cymdeithasfa Fisol
yn Nantmel, yn Sir Faesyfed; yr oedd
Howell Harris yn bresenol, ond Wilhams,
Pantycelyn, a lywyddai. Meddai Harris,
yn ei ddydd-lyfr : " Yn wir fy ngenau a
agorwyd i anerch y brodyr yn gyffredinol,
gan ofyn a oeddynt yn teimlo y gwaith
wedi ei osod yn ddwfn yn eu calonau ; a
oedd cariad at eneidiau wedi ei gynyrchu
ynddynt ; ac a oedd golwg ar fawredd a
natur y gwaith, a gwerth eneidiau wedi
peri iddynt ofyn am nerth a doethineb ?
Hefyd, a oedd yr Yspryd wedi dangos
iddynt (i) Ogoniant Crist ? (2) Drygedd y
galon, nad yw y naill yn ddigon heb y llall ?
A ydy w Duw wedi rhoddi dwy ffydd iddynt,
un er mwyn eu heneidiau, a'r llall er mwyn
y gwaith ? A ydyw teimlad o fawredd y
gwaith yn eich gwasgui'r Uawr, a theimlad
o'r anrhydedd a berthyn iddo yn eich
gwneyd yn ostyngedig, ac yn eich cyffroi ?
Yna y brodyr a atebasant yn hyfryd.
Dangosodd y brawd Beaumont fel yr oedd
Duw wedi ei waredu ef rhag hunan-gariad,
trwy weled ei hun a'r gwaith yn Nuw am
amser, ac i dragywyddoldeb. Yna, gwedi
arhoH y brodyr (gwelwn fod yr Arglwydd
yn fy nghymhwyso ar gyfer y lle, ac yn fy
mendithio ynddo), galluogwyd fi i'w cyffroi
i ddiwydrwydd, ac i ddangos iddynt pa
fodd i ymddwyn mewn teuluoedd. Ym-
ddiddanais yn faith gyda y brawd — gyda
golwg ar ei briodas, a'i ragolygon mewn
bywyd, gan ddangos na ddylai gweinidog
ymrwystro gyda phethau'r byd ond mor
lleied byth ag sydd yn bosibl. Cefais
lawer o ffydd, a gwresawgrwydd, a zêl, a
rhyddid i gynghori, ac yn neillduol i
weddio, ac yna ymadewais yn hyfryd mewn
cariad." Gwehr ddarfod i Howell Harris
mor foreu a hyn weled mai dyledswydd
gweinidogion y Gair oedd llwyr ymroddi
i'r weinidogaeth, mor bell ag yr oedd hyny o
fewn eu cyrhaedd.
A ganlyn yw penderfyniadau Cymdeith-
asfa Nantmel, fel eu ceir yn nghofnodau
Trefecca : —
" Penderfynwyd fod y brawd Richard i
gael ei neillduo yn hollol ac yn gyfangwbl
i'r gwaith o ymweled a'r cymdeithasau, yr
oU o honynt bob wythnos.
" Fod y brawd Edward Bowen i oedi ei
briodas yn bresenol, am nad ydym yn ghr
ei bod o Dduw.
" Fod y cynghorwyr i ofalu, pan yn
ymweled a theuluoedd, i gynghori ac
addysgu y plant, y gweision a'r morwyn-
ion, &c. Cawsom lawer o wyneb yr
Arglwydd, yn ein haddysgu, ac yn tanio
ein calonau, gan roddi i ni lawer o oleuni
ysprydol gyda golwg ar ein gwaith a'n
lleosdd, a chan ddangos i ni fawredd y
gwaith, ac ymweled â ni yn nglyn ag ef."
Ymadawodd Howell Harris yn nghwmni
Wilhams, Pantycelyn, o gwmpas pump o'r
gloch ; melus odiaeth oedd y gyfeillach
rhwng y ddau gyfaiU wrth groesi mynydd-
oedd Maesyfed a Brycheiniog ; Wilhams
yn cyfeirio ei gamrau tua chartref, heibio
Llanwrtyd, lle y buasai yn guwrad gynt, a
Harris yn myned i Ddolyfehn, lle yr oedd
ei gyhoeddiad i bregethu. Meddai y dydd-
lyfr : " Cefais hyfrydwch dirfawr gyda y
brawd W^ilhams ; ffafriwyd fi â golwg ar
Dduw, oll yn oll, yn debyg i'r hyn a gefais
yn y boreu." Treuhodd y Sul yn Llan-
wrtyd, ac aeth i'r eglwys yn y boreu ; ond
nid Wilhams a wasanaethai yno yn awr,
ond rhywun hollol wahanol parthed dir-
nadaeth o wirioneddau yr efengyl, a dawn
i'w traethu. Meddai Harris : " Cefais
dosturi dirfawr at yr offeiriaid ' tlodion a
dall, gan lefain drostynt fel dros ddeilhon
ar ochr y ffordd." Wedi i'r gwasanaeth
ddarfod, pregethodd yntau, oddiar Sahn
xxiii. ; cafodd ryddid mawr wrth lefaru ac
wrth" weddio. Yn yr hwyr pregethodd i
dyrfa fawr, yn rhifo llawer o ganoedd,
mewn lle o'r enw Penylan, tua thair milltir
allan o'r pentref. Dydd Llun y mae yn
Llwynyberllan ; aeth yn ei flaen oddiyno i
Gilycwm, a phregethodd yn ymyl y dder-
wen fawr sydd yn nghanol y pentref oddiar
Salm xxiii., i dorf o amryw ganoedd. Yr
oedd yn odfa nerthol. Cyfarfyddodd yno a
chlerigwr o'r enw Llewelyn Llewelyn,
744-]
HOWELL LL4RRIS.
263
dyn galluog, llawn bywyd, ond yn Uithro
yn aml mswn modd ffiaidd. Teithiodd
rhagddo i Gayo, wedi pregethu ar y ffordd
cydrhwng, ac aeth y noson hono i saiat
breifat. Dydd Mawrth y mae yn Nghwm-
ygwlaw. Asth oddiyno i gapel Absrgor-
lech, lle y pregethai Daniel Rowland.
Llefarai oddiar Jer. viii. 7, a chafodd nerth
rhyfedd i egluro'r gwirionedd. Dydd
Mawrth, Ebrill 17, ymgynullent mewn
Cymdeithasfa Fisol, yn Glanyrafonddu ;
heblaw Rowland a Harris, yr oedd
WilUams, Pantycelyn, yno, yn nghyd a'r
Parch. Benjamin Thomas, a nifer mawr o
arolygwyr a chynghorwyr. Yr oadd yn
chwech o'r gloch yn yr hwyr ar y cyfarfod
yn dechreu; buont yn cydeistedd yn trefnu
materion, ac yn cydweddîo hyd o gwmpas
un-ar-ddeg. Yr oedd Harris mewn yspryd
rhagorol ; hawdd deall wrth ei sylwadau
fod y Gymdeithasfa íîaenorol yn yr un lle,
pan y Uywodraethwyd ei yspryd gan y
gelyn, yn pwyso yn drwm ar ei feddwl.
" Yr oeddwn," meddai, " mewn yspryd
gweddîgar, ac yn hyfryd at y brodyr ;
tueddai pob peth i'm darostwng ; yr
oeddwn yn isel, ac yn addfwyn, ac mor
ddedwydd. Wrth weddío gwelais fod
angau, uffern, rhyfel, a phob peth dychryn-
Uyd i natur, o fewn awdurdod Crist ; can-
fyddwn ef goruwch iddynt oU. Wrth
gynghori gwnaed fi yn rhydd ac yn hyf ;
dangosais eu dyledswydd at yr ŵyn, ddar-
fod i'r lesu eu llwyr brynu, fel y byddai
iddynt ddefnyddio enaid, corph, amser,
anadl, talent, ac arian yn ei wasanaeth, &c.,
ac nid i wasanaethu hunan. Cefais ryddid
i lefain : 'Arglwydd, y mae pob peth yn
eiddot ti; eiddot ti yw fy enaid, a'm corph ;
felly nis gellir eu colli.' Gyda y goleuni
hwn drylliwyd fy yspryd, fel y gallwn
oddef cael fy ngwrthwynebu, ac ymostwng
i bob peth." Yn sicr, prawf y difyniadau
hyn ei fod mewn tymher nodedig o hyfryd.
Yn canlyn wele y penderfyniadau a
basiwyd : —
" Penderfynwyd fod Dafydd William
Rees i fyned a chyfaddef iddo lefaru ar fai
wrth ymddiddan a Mr. Griffith Jones, ger
bron Mr. Davies; a phan eu cymodir, ei fod
i gael ei adfer i'w swydd fel cynghorwr, ond
ei fod i ymatal hyd hyny.
" Fod Thomas Dafydd, gan ddarfod i'r
YmneiIIduwyrei droi allan am gymdeithasu
â ni, i gael ei uno yn llwyr â ni yn Erwd,
ac i gynghori ar brawf, tan arolygiaeth
James WiUiams, ond nid yw i adael ei
orchwyl yn y cyfamser.
" Fod y cynghorwyr i lefaru yn y ffurf o
anerchiad, ac nid yn y ffurf o bregeth.
" P'od y brawd ThomasGriffith i gael ei
dderbyn fel cynghorwr preifat, tan arol-
ygiaeth y Meistri Rowland a WiIIiams.
" Fod Benjamin Rees i gael cynghori,
fel brawd perthynol i'r YmneiIIduwyr, hyd
y Gymdeithasfa nesaf.
" Fod John Dafydd i gynghori yn ei
gymydogaeth ei hun, ar brawf, tan arol-
ygiaeth y brawd James Williams, hyd nes
ceir adroddiad gyda golwg ar ei ddoniau,
a'i gymhwysderau, mswn trefn i arholiad.
" Fod y brawd Evan John i gael ateb
i'w lythyr trwy Mr. WiUiams, sef nad
ydym yn cael ein perswadio gyda golwg ar
ei alwad i gynghori, fel y gallwn roddi iddo
ddeheulaw cymdeithas, ac felly ein bod yn
ei gyflwyno i'r Arglwydd."
Gwelwn fod y dull o brofi pregethwyr y
dyddiau hyny yn gyffelyb iawn i'r dull
presenol, gyda'r eithriad fod y rhai nad
oedd gweledigaeth eglur gyda golwg ar eu
cymhwysderau, nid yn cael eu hatal, ond
yn cael eu cyflwyno i'r Arglwydd. Pa
beth yw ystyr hyny, nid ydym yn hollol
sicr. Efallai mai eu gadael tan fath o
brawf hyd nes y ceid goleuni ar y mater
oddiwrth Ben yr Eglwys.
Yn mhen dau ddiwrnod drachefn, sef
EbriII 19, yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn
Llandremore. Dylid cofio fod y Cyfar-
fodydd Misol hyn, sydd yn cael eu cynal ar
sodlau eu gilydd, yn perthyn i wahanol
randiroedd, ond y dysgwylid i Howell
Harris, hyd ag y byddai hyny yn bosibl
iddo, i bresenoli eu hunan ynddynt oll.
Yma Howell Davies a Iywyddai. Yr oedd
y ddau Howell y pryd hwn ar bwynt priodi,
a bu iddynt ymgynghoriad a chyfeillach
felus yn nglyn â'r mater. Cymdeithasfa
fechan ydoedd ; ychydig a ddaethai yn
nghyd, a chymharol ddibwys oedd y
gweithrediadau. Ond ymddengys iddynt
gael profion amlwg o foddlonrwydd Duw.
I gychwyn, pregethodd Harris oddiar
Matt. xxviii. 18, a chafodd nerth neillduol
i lefaru wrth saint a phechaduriaid. Wrth
agor y seiat breifat trwy weddi, daeth yr
Arglwydd i lawr, gan eu gwneyd oll yn
ostyngedig, a'u goleuo, a'u tanio. Wedi
sefydlu y brawd William Cristopher yn
gateceisiwr, siaradodd Harris yn bur blaen
a rhyw frawd, gyda golwg ar iddo ymuno
â'r YmneiIIduwyr, neu a'r Methodistiaid.
" Yna," meddai, " wedi trefnu pob un yn
ei le, ymadawsom fel mewn fflam." Dau
benderfyniad o'r Gymdeithasfa hon sydd
264
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1744-
ar y cofnodau ; sef " Fod Williarn Cristopher
i fod yn gateceisiwr, i gateceisio yn unig,
a'n bod i geisio sefydlu cateceisio yn mhob
lle; a chan fod galwad daer ar y brawd
Richard WilHam Dafydd i Gorseinon, a
bod dirfawr angen yno, ac yn Pembre, ein
bod yn cydsynio iddo ef, a'i frawd, i fyned
i ymweled a hwy hyd y Gymdeithasfa
nesaf yn Abergorlech."
Wedi tramwy trwy ranau helaeth o Sir-
oedd Caerfyrddin a Morganwg yr ydym yn
cael Howell Harris mewn Cymdeithasfa
Fisol yn Watford, a chan nad oedd yno yr
un offeiriad urddedig, efe a lywyddai. Pre-
gethodd ÿn y ty newydd, sef naiU ai capel
y Watford neu y Groeswen, y noson cynt,
gydag arddehad anghyffredin. Dangosodd,
gyda nerth na chafodd ei gyffelyb erioed
o'r blaen, y fath frenin yw Crist ; pa mor
ardderchog yw ei deyrnas ; fod nefoedd,
daear, ac uffern yn perthyn iddi ; y modd
y mae yn llywodraethu dros bob peth —
gras a phechod, goleuni a thywyllwch,
bywyd ac angau, y byd ysprydol a'r byd
naturiol. Yna eglurodd ddyogelwch deil-
iaid y deyrnas, fod gair Duw ; llw Duw ;
ffyddlondeb, gallu, doethineb, trugaredd, a
natur Duw, fel cadwynau cryíìon yn eu
cadw rhag syrthio ; ac nad oedd dynion
drwg, a phechod, a Satan, ond gweision
Duw, wedi eu bwriadu i ddwyn y saint yn
mlaen, trwy gyfarth fel c\vn wrth eu
sodlau. " Yna," meddai, " mi a gadarn-
heais y rhai a ofnent gael eu pressio i fyned
allan i'r rhyfel, gan ddangos y gwna pelen
magnel y tro cystal a rhywbeth arall i'w
hanfon adref. Bloeddiais ! pe y gwelech
mor gyfoethog ydych, mor ddyogel, ac
mor ddedwydd ; y fath Frenin sydd arnoch,
byddai arnoch gywilydd o honoch eich
hunain am eich ofnau a'ch diffrwythder ;
llefwch am i chwi, a'ch holl dalentau gael
eu defnyddio ganddo, gan deimlo y fath
anrhydedd ydyw ; ewch lle y mynoch, ac i
fysg unrhyw greaduriaid y mynoch, eich
bod o hyd o fewn tiriogaethau Crist. O
Frenin gogoneddus ! Ychwaneged eich
ffydd i weled gogoniant ei deyrnas!"
Ymddengys ei bod yn odfa nerthol, tu
hwnt ; dywed efe na chafodd ei chyffelyb
erioed o'r blaen, ac na chadd syniadau mor
ardderchog erioed. Efallai hyny ; ond y
cof diweddaf yw y cof goreu. Cynyddodd
yr hwyl wrth ganu a gweddío ar y diwedd.
" Canfyddais ogoniant teyrnas yr lesu,"
meddai, " yn y fath oleuni prydferth, fel y
fflamiwyd ac y cadarnhawyd fy enaid, ac y
parwyd i mi ymuno a'r còr fry i ganu.
' Teilwng yw'r Oen a laddwyd ! Teilwng
yw yn wir !' "
O gwmpas deuddeg, dydd Mercher,
agorwyd y Gymdeithasfa. Wrth weddío
ar y dechreu disgynodd ar yspryd Harris i
ofyn a oedd yr Arglwydd yn myned i roddi
y Methodistiaid i fynu ? Cafodd ei ber-
swadio i'r gwrthwyneb, a theimlai fod y
cyfryw argyhoeddiad yn dyfod oddiwrth
Dduw ei hun. Buont yn eistedd, gydag
ychydig seibiant, hyd ddeuddeg o'r gloch
y nos. Cawsant drafferth fawT gydag un
cynghorwr, o'r enw W^iUiam Rees, yn
ceisio ei argyhoeddi o'i gyfeihornadau.
Maentymiai ef ei fod yn berffaith ; ni
addawai ychwaith fod yn ddystaw gyda
golwg ar ei berffeithrwydd tybiedig yn y
cymdeithasau ; " felly," meddai Harris,
" er mwyn gogoniant Duw, daioni yr ẃyn,
a lles ei enaid ef ei hun, ni a'i troisom ef
allan o'r seiat, gan yr ymddangosai wedi
ymchwyddo yn fawr. Wrth ymgynghori
â Duw gyda golwg ar hyn, cefais hyder
gan mai yr Arglwydd oedd wedi fy anfon,
y byddai iddo ofalu fy nghynysgaeddu â
phob gwybodaeth a goleuni angenrheidiol."
Eisteddasant i lawr hyd o gwmpas pedwar
yn y boreu, yn rhydd ymddiddan am amry w
bethau ; am gymundeb Eglwys Loegr, ac
yspryd erledigaethus ei hoffeiriaid, am
briodas agoshaol Howell Harris, a phethau
eraill. Barnai y brodyr hefyd, mai John
Belsher oedd y cymhwysaf, mewn gwybod-
aeth o'r Ysgrythyr, doniau, a gras, i fod yn
gynorthwywr i Mr. Harris yn ei waith
mawr.
Y mae y penderfyniadau a basiwyd, fel
eu ceir yn nghofnodau Trefecca, y modd a
ganlyn : —
" Cydunwyd fod i'r brawd Price ofalu
am seiadau Sir Fynwy, ar y morfa, fel cynt,
ac i gael ei gynorthwyo gan y brawd
Thomas W^illiams, mor bell ag y gall.
" Wedi cryn ymgynghoriad cydunwyd i
drefnu y cynghorwyr anghyhoedd, na
byddo iddynt gynghori yn gyhoedd, ond
yn y seiadau preifat yn unig ; gyda yr
eithriad o W'ilHam Edward, am yr hwn yr
oedd galwad daer i Lantrisant a'r Groes-
wen. Joseph Simons i fod fel o'r blaen ;
Evan Thomas i fyned i Machen a Mynydd-
islwyn fel o'r blaen ar brawf ; a'n bod yn
chwiho am bersonau priodol i gateceisio y
rhai oddifewn ac oddiallan, er mwyn
sefydlu yr ŵyn a'r gwrandawyr mewn
gwybodaeth iachus o egwyddorion crefydd,
trwy gatecism Mr. Griffith Jones.
" Er mwyn gwell trefn yn nglyn â'r
1744-
HOWELL HARRIS.
265
cateceisio, pan ei sefydlir, fod yr arolygwyr
i fod yn bresenol, i gynorthwyo yn y
gwaith,
" Fod Edward Lloyd yn cael ei gynyg i
fod yn gateceisiwr yn y Groeswen, Samuel
Jeremiah yn Llanedern, W'ilHam Thomas
yn Aberthyn a Llanharry, Edward
Edwards in Dinas Powys a St. Nicholas,
Cristopher Basset yn Aberddawen, Howell
Griffith neu Morgan Howell yn Llantri-
sant, William Hughes yn Nottage, a
Jenlíin Lewis yn yr Hafod.
"Cydunwyd, gan fod cylchoedd yr arol-
ygwyr yn rhy fawr, y gallant ymweled a'r
seiadau unwaith y pythefnos yn unig ; a
chan fod y brawd Herbert Jenkins, a
gawsai ei osod i gynorthwyo y brawd
Harris fel arolygydd cyffredinol, yn treuho
haner ei amser yn Lloegr, y rhaid dewis
un i ymroddi yn gyfangwbl i'r gwaith, i
fyned o gwmpas fel cynorthwy vvr i'r brawd
Harris, ac i helpio yr arolygwyr. Wedi
ymgynghori gyda golwg ar ei gymhwys-
derau mewnol ac allanol, ein bod yn cynyg
y brawd John Belsher fel y mwyaf cym-
hwys i lanw y lle hwn, yn y rhanau o
Siroedd Mynwy, Morganwg, a Chaerfyr-
ddin, ar Ìàn y môr, a orweddant yn
nghylchoedd y brodyr John Richard,
Thomas WiUiam, Thomas Price, a rhan o
gylch Morgan John ; a bod yr arolygydd i
gyfarfod ei gynorthwy wyr, er mwyn sefydlu
yr \vyn, unwaith y pythefnos, ar nos
Wener.
" Cydunwyd nad ydym yn cael ein pers-
wadio am alwad y brawd WilHam Rees i
gynghori, a'n bod yn anfon ato i ddymuno
arno roddi i fynu, hyd nes y caffom ragor
o foddlonrwydd ynddo ; ond fod y brawd
Wilham Powell i barhau i fyned yn
mlaen, gan ddysgwyl i ba le y bydd yr
Arglwydd yn ei alw ac yn ei sefydlu.
" Gan fod y brawd Richard Jones i'w
feio, ar amryw gyfrifon, am ymlynu yn
ormodol wrth y byd, a bod yn anffyddlawn
i'r ymddiriedaeth a roddasid iddo, heb
ymdeimlo a'i ddyledswydd tuag atom ni,
ei frodyr, a'i fod wedi parhau yn y rhai
hyn, yn nghyd a beiau eraill, ar ol aml
gynghor a cherydd ; ein bod yn cyduno
i'w hysbysu oni wna edifarhau am ei
golHadau, ac addaw diwygio, ein bod yn
dymuno arno am beidio Hefaru mwyach
fel un o honom ni, a'n bod yn anfon at y
seiadau i'w hysbysu o'r penderfyniad hwn.
Ond os ymddengys yn edifeiriol, ein bod
yn caniatau iddo fyned yn mlaen ar brawf
hyd y Gymdeithasfa Gyffredinol nesaf.
" Cydunwyd y byddai i ni, trwy nerth
Duw, ddechreu Hefaru, &c., yn fanwl o
fewn i awr neu lai o'r amser a benodwyd.
" Fod y brawd Richard Thomas i ddyfod
i'n Cymdeithasfa yn Llanfìhangel i gael ei
sefydlu.
" Traethasom ar amrywiol bynciau
duwinyddol, a chydunwyd nad ydym yn
Eglwys na Sect, ac nad ydym i alw ein
hunain felly, ond seiadau oddifewn i'r
Eglwys Sefydledig, hyd nes y'n troir
allan ; ac nad yw y Ilefarwyr i alw eu
hunain yn weinidogion, ond cynghorwyr.
" Yr ydym yn gweled hefyd nad yw yr
hyn sydd er gogoniant i Dduw, ac yn
Ilesiol, mewn un man, yn ateb y pwrpas
mewn man arall.
" Gan nad yw dawn y cynghorwyr
anghyoedd ond byr, ei fod yn cael ei adael
i ddoethineb yr arolygwyr i'w cyfnewid,
fel y gwelant yn oreu yn eu cyfarfodydd
pythefnosol, ac nad yw y cynghorwyr i
drefnu eu Ileoedd eu hunain heb ganiatad.
" Gwedi ymddiddan yn hir a WiIIiam
Rees parthed rhai cyfeiliornadau Anti-
nomaidd, yr oedd wedi syrthio iddynt, a
chwedi cynyg iddo aros yn ein mysg, er
hyny, os addewai beidio ein terfysgu, a
therfysgu yr ŵyn, trwy ei gyfeiliornadau,
a phan nad addewai (er ei fod yn addef y
crwydrai yn aml ar weddi), ond y taerai
nad oedd wedi pechu er ys dyddiau, ac
nad oedd unrhyw bechod yn ei ddeall, ei
ewyllys, na'i gydwybod, ni a benderfyn-
asom ei droi allan o'r seiadau, ac o'r Gym-
deithasfa, gan rybuddio yr holl seiadau
rhag ei heresi, ac i beidio cael unrhyw
gymundeb agos âg ef. Felly, darfu i ni
yn ddifrifol, ar ol dwys ystyriaeth a gweddi,
ei droi allan, ac yr oedd ein calonau yn
doddedig o gariad ato, gofal am ogoniant
Duw, a chydag ofn sanctaidd, a gofal am
yr \Vyn."
Felly y terfyna cofnodau y Gymdeith-
asfa Fisol hon yn Watford, ac yr oedd yn
un o'r rhai pwysicaf a gynhaliwyd. Cawn
un, am y tro cyntaf yn hanes y Method-
istiaid, yn cael ei esgymuno am gyfeil-
iornad mewn athrawiaeth, ac yr oedd
calonau y brodyr yn mron myned yn
ddrylliau wrth orfod ei ddisgyblu. Anti-
nomiaeth oedd yr heresi a flinai y Meth-
odistiaid cyntaf ; efallai mai un rheswm
am hyn oedd tuedd i fyned i'r eithafion
cyferbyniol i'r YmneiIIduwyr, y rhai a
anrheithid gan Arminiaeth. Y mae yn
sicr nad yr un WiIIiam Rees a drowyd
allan, a'r brawd o'r un enw a ataliwyd
266
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1744-
rhag cynghori oblegyd byrder ei ddawn,
Yr oedd y blaenaf yn bresenol, a chafwyd
dadl faith ag ef ; yr oedd yr olaf yn absen-
ol, felly anfon cenadwri ato a wnaed. Yr
ydym yn gweled ymlyniad cryf wrth
Eglwys Loegr yn ngwaith y Gymdeith-
asfa yn penderfynu peidio ymgyfenwi yn
Eglwys nac yn Sect, ac yn gwarafun i'r
cynghorwyr alw eu hunain yn weinidogion ;
Howell Harris, yn ddiau, oedd yn gyfrifol
am y penderfyniadau hyn ; yr oedd efe yn
fwy ymlyngar wrth yr Églwys na neb ; yr
oedd Rowland, WilHams, Pantycelyn, a
Howell Davies, yn absenol ; ac yr oeddynt
hwy yn llawer llai eu parch i'r Sefydliad,
ac yn fwy parod i gefnu arno.
Y dydd Gwener canlynol cawn Harris
yn Pentyrch, tua chwech milltir o Gaer-
dydd, ac y mae y nodiad yn ei ddydd-lyfr
yn haeddu ei groniclo : " Yr oedd fy natur
wedi ei llwyr weithio allan, ac ni chyfodais
hyd gwedi deg. Wrth fod y brawd T. P.
a minau yn agor ein calonau i'n gilydd, a
chael fod fy ffaeleddau yn cael siarad am
danynt yn ddirgel, cefais olwg ar natur
hunan a balchder, gan ei weled ynof fel
mynydd, yn ymddyrchafu yn erbyn Daw,
a hyny i'r fath uchder fel nas gallai neb
ond Duw ei faddeu a'i ddinystrio, Cefais
galon i alaru o'i herwydd, a ífydd i gyf-
Iwyno fy hunanoldeb a'm balchder i law
Duw i gael eu dinystrio. Yr wyf yn cael
fod y brodyr yn dyfod yn agosach ataf,
gan deimlo fod eu hachos hwy yn debyg
i'r eiddof fi," Y mae yn gHr maiyn mysg
y Methodistiaid y siaredid am ffaeleddau
Harris yn ddirgel ; cyhoeddai ei elynion yr
hyn a ganfyddent yn feius ynddo ar benau
tai. Felly yr oedd tymher gyffrous y
Diwygiwr, a felltenai allan pan ei gwrth-
wynebid, neu pan y sonid am ymadael ag
Eglwys Loegr, wedi dyfod yn destun sylw
yn mysg y cynghorwyr a'r aelodau cyff-
redin. Ymdeimlai yntau a'i ffaeledd, a
gofidiai o'i herwydd, gan ei gymeryd at
yr Arglwydd i gael maddeuant ac ymwared
oddiwrtho. Dydd Sadwrn y mae yn
Aberthyn. Boreu y Sul aeth i eglwys
Wenfo, lle y gwasanaethai clerigwr efeng-
ylaidd o'r enw William Thomas ; cyfran-
ogodd o'r sacrament, a diolchai i Dduw
ei fod wedi gadael yr ordinhad yn yr
Eglwys. Llefai: "ODduw, na fydded i ni
gael ein troi allan o'r ordinhad yn yr
Eglwys dlawd, amddifad hon ; yn hytrach,
bydded i ni ddyfod yn halen iddi. Na
fydded i'n llygredigaethau ni, ein hunan-
oldeb, a'n balchder, a'n tuedd i ddirmygu
eraill ; nac i lygredigaethau rhai eraill, a'r
yspryd erledigaethus sydd ynddynt, ein
troi ni allan. O dychwel atom, a bydded
i ni ddyfod yn oleuni yr hoU dir."
Y mae y nodiad canlynol yn ei ddydd-
lyfr, wedi ei ysgrifenu yn Watford y dydd
Mawrth dilynol, yn esbonio ei hun : " Y
maent yn ceisio dwyn oddiarnaf yr hyn
wyf yn barod wedi ei roddi ymaith, a'r
hyn nad yw yn feddiant i mi, ond i Grist,
sef fy mywyd. Gwelaf yn hyn brawf i fy
ffydd. Y mae gwarant allan i fy mhressio
i'r fyddin. Pan aethum i feddwl am y
peth cefais ryddhad wrth lefain ar yr
Arglwydd : ' O Arglwydd, yr hyn wyt ti
yn wneyd a saif. Ti ydwyt frenhin. Nis
gallant weithredu hebot ti. Yn awr, dysg
fi yn unig i'th ogoneddu, ac i lawenychu
fod genyf enaid a chorph i'w rhoi i ti.' Ni
chefais erioed brofiad mor felus. Y mae y
newydd (am y warant) mor bsll o fod yn
boenus i mi, fel na chymerwn fil o fydoedd
am fod heb ei glywed. Daeth y geiriau i
fy meddwl a fendithiwyd i mi saith mlynedd
yn ol, sef : ' Ni ddichon neb ei gau.'
Gwelwn hwy oU yn llaw Crist." Profiad
bendigedig. Nid ydym yn gweled Howell
Harris yn ymddyrchafu mor uchel mewn
gras, nac yn dangos yspryd mor ardderchog,
un amser, a phan y mae yr ystorm yn
rhuthro ar ei draws.
Cynhelid Cymdeithasfa Fisol, Mai 3, yn
Llanfihangel ; nid oedd yma eto yr un
offeiriad urddedig yn bresenol, ac felly,
Howell Harris a lywyddai. A ganlyn yw
y penderfyniadau, fel eu ceir yn nghof-
nodau Trefecca : — -
" Cydunwyd yma, fel yn Watford, gyda
golwg ar gateceisio, ein bod yn ei ar-
gymhell ar y brodyr, a'n bod i ddefnyddio
catecism Mr. Griffith Jones, yn neiílduol
y catecism ar y credo.
" Fod y brawd John Belsher i gynorth-
wyo y brawd Harris mewn helpio yr arol-
ygwyr, fel y penderfynwyd yn Watford.
" Fod y cynghorwyr anghyoedd i gym-
eryd gofal uniongyrchol ymweled a'r
cymdeithasau preifat, pan gyfarfyddant
yn ddirgel, oddigerth ar amgylchiadau
arbenig, pan fydd rhywrai i'w derbyn, neu
i'w tori allan, neu ryw betrusder i'w
symud, neii pan fyddo angen ymgynghor-
iad gyda golwg ar briodas.
" Cydunwyd fel yn Watford gyda golwg
ar drefnu y cynghorwyr anghyoedd.
" Wedi ymddiddan a'n gilydd, a chyf-
Iwyno ein goleuni yn rhydd y naiU i'r Uall,
gyda golwg ar ein dyledswydd at yr hoU
^744-]
HOWELL HARRIS.
267
hil ddynol, a'r berthynas yr ydym yn
sefyll ynddi at bawb yn gyffredinol fel
cydgreaduriaid, at yr holl eglwys dros yr
holl fyd yn neillduol, fel corph Crist, ac at
y gangen hon o honi yn y wladwriaeth
hon, ond yn fwyaf arbenig at y rhai sydd
yn cymdeithasu â ni, cydunasom, er mwyn
symud mor bell ag y medrwn bob maen
tramgwydd, i gymuno yn ein heglwysydd
plwyfol, ac i gynghori y bobl i wneyd
hyny, fel na byddom yn ymddangos yn
debyg i sect. Yr oeddem wedi cyduno yn
ílaenorol i beidio galw ein cymdeithasau
yn eghvysi, ond seiadau o fewn yr Eglwys
Sefydledig ; ac i beidio galw y cynghorwyr
yn weinidogion. Yn neillduol, gan ein
bod yn gweled fod petrusder y rhan fwyaf
(gyda golwg ar gymuno yn eu heglwysydd
plwyfol) yn codi o"u tywyllwch a'u
llygredd, ac nid o'u gras ; yn (i), am eu bod
yn edrych ar, ac yn tramgwyddo wrth
feiau rhai eraill, sydd yn derbyn gyda
hwy, yr hyn sydd yn sawri yn gryf o
yspryd y Pharisead yn pwyntio at y
Publican, ac yn bradychu anwybodaeth
gormodol am danynt eu hunain, a rhy fach
o dosturi at eraill ; yn (2), am eu bod yn
edrych ar waeledd neu bechadurusrwydd
yr offeiriad, gan ddweyd : Pa fodd y gallwn
ddysgwyl bendith, neu dderbyn Iles trwy
y cyfryw un ? yr hyn sydd yn proíì diffyg
ffydd i edrych trwy y moddion at Dduw,
ac yn dangos dibyniad ar ras y person
sydd yn gweinyddu, ac nid ar y gras sydd
yn Nghrist.
" Cydunodd y brawd Morgan John
Lewis â hyn, mewn ffordd o gyd-ddwyn,
hyd nes y byddai i'r Arglwydd ein gwthio
allan, neu ynte ddwyn diwygiad i mewn.
Yn unig, mynegai fod eu heglwys blwyfol
hwy mewn annhrefn hollol, heb un trefn-
iant sefydlog gyda golwg ar amser (yr
ordinhad) ; a phan y cynygiai gael yr
ordinhad yn St. Brides, i'r offeiriad ei
dderbyn yn garedig, gan ddweyd nad
oedd ganddo un gwrthwynebiad iddo, ond
fod y canonau yn erbyn. Ni feddai y
brawd Belsher ryddid Ilawn gyda golwg
ar hyn, ond cadwai ei amheuaeth iddo ei
hun. Yr oedd y Ileill yn foddlon."
Gwelir fod yr un materion yn cael eu
trin, a'r un penderfyniadau yn cael eu
pasio, mewn gwahanol Gyfarfodydd Misol.
Yr amcan oedd cael cyd-ddealltwriaeth ar
ran yr holl gymdeithasau a'r holl gyng-
horwyr yn ngwahanol ranau y wlad. Y
mae yn amlwg ddarfod i berthynas y
Methodistiaid a'r Eglwys Sefydledig fod yn
destun dadl faith yn y cyfarfod. Eithr ni
chollodd Harris ei dymher, fel yn Nghym-
deithasfa Glanyrafonddu. Yn hytrach,
pwyswyd y rhesymau o blaid ac yn erbyn
ymadael gyda gofal ; ac yn y diwedd trodd
y cyfarfod o blaid aros hyd nes y byddai
iddynt gael eu bwrw allan. A ydyw
Harris yn rhoddi rhyw gymaint o liw ei
syniadau ei hun ar y cofnodau, pan yn
crybwyll fod y cri am beidio cyd-dderbyn
â dynion annuwiol o law offeiriad anfoesol,
yn codi nid o ras, ond o Iygredigaeth,
ac yn sawri o yspryd Phariseaeth, nis
gwyddom. Diau mai felly y teimlai efe, a
naturiol tybio fod ei deimladau yn dylan-
wadu arno pan yn ysgrifenu.
Dydd y Gymdeithasfa, lau Dyrchafael,
sef Mai 3, 1744, ysgrifena yn y modd a
ganlyn : " Saith mlynedd i'r dydd hwn,
pan yr ymddangosai y drws fel yn cael
ei gau yn fy erbyn i fyned o gwmpas,
darfu i dad '■' anfon ei fab i geisio genyf
lefaru yn ei dỳ ef, yr hyn a brofodd yn
foddion i agor y drws i mi i fyned o am-
gylch. Ac yn awr yr wyf yn myned i gael
ei ferch." Gwehvn oddiwrth y difyniad
hwn mai Mr. Williams, o'r Ysgrin, oedd y
boneddwr o Sir Faesyfed a wahoddodd
Harris i bregethu yn ei d^', yn y fîwyddyn
1737, ac a fu yn foddion yn Ilaw rhaglun-
iaeth i ledu y diwygiad dros y wlad.
Ymddengys fod priodas agoshaol Howell
Harris yn cyffroi mawrion Brycheiniog a
Maesyfed yn ddirfawr. Yr oedd Williams,
o'r Ysgrin, yn foneddwr, ac yn perthyn i'w
cylch neillduol hwy ; a byddai cael Miss
WiIIiams yn wraig yn dwyn Harris, y
Methodist a ddirmygent yn eu calon, i
fath o gysylltiad â hwy, yr hyn beth nis
gallant ei oddef. Ei rwystro i briodi Miss
WiIIiams, o'r Ysgrin, oedd y prif amcan
wrth godi gwarant i'w bressio i fod yn
filwr. " Yr wyf yn cael," ysgrifena, " fod
Ilid yr ynadon yn cyffroi yn ddirfawr yn fy
erbyn. Dywedai U.H. wrth dad ■•' y
gwnai fy anfon i'r rhyfel, pe yn unig er fy
rhwystro i gael ei ferch yn wraig." Darfu
iddynt gynhyrfu brawd Miss WiIIiams i
fod yn wrthwynebol i'r briodas, ac i ymuno
yn eu cynllwyn.
O'r diwedd dyma yr ystorm yn dechreu
rhuthro arno. Dydd Mawrth, Mai 8,
ysgrifena : "O gwnipas un o'r gloch daeth
WiIIiam G a'r cwnstab i gymeryd
Jemmi i fod yn filwr." James Morgan,
golygwr ei dŷ, a chynghorwr gyda'r
Methodistiaid, oedd "Jemmi." " Cawswn
fy rhybuddio eu bod yn dyfod ; felly
268
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1744-
rhedais i fynu y grisiau, a syrthiais ger-
bron yr Arglwydd. Ond am ychydig
amser yr oeddwn wedi fy ngadael, fel nas
gallwn weddío, na thynu yn agos at Dduw.
Yr oeddwn yn ymroddedig, ond gan fy mod
wedi suddo i afael hunan ni theimlwn y
nerth a'r bywyd a arferwn deimlo. Yr
oeddwn mewn llyfethair gan ofn slafaidd,
fel nas gallwn fod yn hyf. Cawswn fy
narostwng fel petrysen ; yr oedd y gelyn
gerllaw ; teimlwn y cnawd yn dychrynu
rhag i'r tŷ' o glai gael ei ddatod trwy ergyd
ar fy mhen. Yn raddol, pa fodd bynag,
daethum gymaint ataf fy hun fel ag i
fyned i lawr at y gweithwyr." Yr oedd y
gweithwyr hyn yn parotoi y iỳ yn Nhre-
fecca, a gawsai yn rhodd gan ei frawd
Joseph, ar gyfer ei ddarpar-wraig agyntau.
Hawdd gweled ddarfod i ffydd Howell
Harris ballu am enyd ; y mae y cadarn,
nad ofnai holl hioedd y fall, yn gwanychu
am ychydig, nes dyfod fel g\Vr arall. Nid
ysgrifenu hanes dyn perffaith yr ydym, ond
dyn duwiol, a'i ras ambell dro yn myned
dan gwmwl. Ond nid yw y cwbl wedi ei
adrodd eto. Rhag ofn i'r ustus a'r cwnstab
ddychwelyd a'i gymeryd yntau, dihangodd
i gyfeiriad Tynycwm, yn Sir Faesyfed.
Mewn difrif, ai dyma Howell Harris !
Nid rhyfedd ei fod yn croniclo ar y íîbrdd,
ei fod o hyd mewn caethiwed, a'i fod
yn gwaeddi : " O fy ngwendid !" Ond
meddai, drachefn : " Y mae yr Arglwydd
yn fy adwaen." Ni pharhaodd y ffìt o ddi-
galondid yn hir, pa fodd bynag. " Llanwyd
fy enaid â nerth," meddai ; " gwelwn nad
oedd fy mywyd, pe ei collwn ddeng mil o
weithiau, yn ddim yn ymyl ei ogoniant ef.
Gwelwn fy hoU elynion fel dim." Aeth
yn ei flaen i'r Ysgrin, i gysuro a gwroli
Miss Williams, ar gyfer y prawf oedd o'i
blaen, a thranoeth dychwelodd i Drefecca,
i aros y canlyniadau, beth bynag a fyddent.
Dydd lau, Mai ii, yr oedd ystad
ei feddwl yn ogoneddus. " Gwelais,"
meddai, " nad yw fy nghorph yn eiddof fì,
ond eiddo yr Arglwydd. Gwell genyf
ddisgyn i uffern fìHwn o weithiau trosodd,
na rhoddi lle am eiHad i syniad anfoddog,
iddo ef lywodraethu fy enaid, a gwneyd â
mi fel y mae yn ewyllysio, hyd yn nod pe
bai iddo fy nifodi, neu osod cospedigaeth
dragywyddol arnaf. Gan fy mod wedi
cael fy mhrynu ganddo, ai ni chaiff wneyd
â mi fel yr ewyllysia ? Clywais heddyw
drachefn a thrachefn y byddwn yn sicr o
gael fy nghymeryd yfory, a bod yr holl
ynadon yn llidiog yn fy erbyn, yn arbenig
o herwydd fy mhriodas." Tranoeth i'r
dydd yr ysgrifena yr oedd y Gymdeithasfa
Fisol i gael ei chynal yn Nhrefecca ; ac
ymddengys ddarfod i'r erhdwyr benderfynu
rhoddi y warant mewn grym pan fyddai
Harris yn anerch y cyfarfod cyhoeddus, er
mwyn gyru ofn ar bawb, ac yn neillduol ar
y cynghorwyr fyddai wedi ymgynull o
wahanol barthau y wlad. Ond yr oedd
g\vr Duw yn hoUol ddiofn.
" Cefais y fath olwg ar Dduw fel uwchlaw
iddynt oll, a'r fath sicrwydd y gwnai roddi
i mi ddrws agored nas dichon neb ei gau,"
meddai, "fel yr edrychwn ar fy ngwrthwyn-
ebwyr fel gwybed a gwagedd." Ni adawodd
ei Arglwydd ef heb gysuron yn y cythrwfl
hwn. Daeth un brawd yr holl ffordd o
Gastehnedd er ceisio sirioli ei yspryd.
Dygodd un arall y newydd iddo fod Maer
Bryste wedi cyhoeddi na wnai ddanfon yr
un o'r Methodistiaid i'r rhyfel. " Toddodd
hyn fy nghalon yn Uymaid," meddai ;
" gwelwn fod Duw o hyd yn ymddangos
o'n plaid. Y mae llawer yn fy nghynghori
i beidio llefaru yfory, gan fy mod yn sicr o
gael fy nghymeryd ; ond gwelaf mai fy
nyledswydd yw myned yn y blaen gyda'r
gwaith, a'm bod yn cael fy ngalw i ddyoddef
ynddo. Llenwir fi yn fynych a Ilawenydd
wrth weled fod fy nyoddefaint gerllaw ;
bryd arall yr wyf yn ofni ac yn crynu yn
yr olwg ar Dduw, ac ar eu cynddaredd a'u
llid hwy, yr hyn sydd wialen Duw, yn cael
ei chymhwyso ganddo at ein cnawd ;
y mae yn myned fel brath cleddyf
trwodd. Ond drachefn, gyda phob croes,
yr wyf yn cael rhy w gymaint o ychwaneg-
iad nerth i'r dyn newydd, a rhyw gymaint
o hunan a natur yn cael ei gymeryd
ymaith."
Dydd Gwener oedd y diwrnod i osod y
warant mewn grym, pan fyddai y
Gymdeithasfa wedi ymgynull. Cyfododd
Harris yn siriol ei yspryd ; gwelai Dduw
yn eistedd ar y Ilifeiriant. " Ysgrifenais
fy nydd-Iyfr," meddai ; " trefnais fy holl
amgylchiadau ar gyfer fy ngharchariad ;
ac yr oeddwn yn hapus a dedwŷdd.
Cadwyd fi rhag edrych am amddiffyn
cnawdol : gallwn ddianc pe yr ewyllysiwn ;
ond gwelwn mai fy nyledswydd oedd
sefyll." Fr cyfarfod yr aeth, i sefyll i fynu
dros ei Dduw. Cyn myned, gweddíai dros
ei fam, na ddiffygiai ei ffydd. Bu yn y
cyfarfod preifat gyda'r cynghorwyr hyd
gwedi un, yna aeth i'r odfa gyhoeddus.
Daeth torf fawr yn nghyd ; cafodd yntau
nerth anghyffredin wrth lefaru. Ei fater
1744-]
HOWELL HARRIS.
269
oedd y tŷ ar y tywod, a'r ty ar y graig,
Cyn terfynu, agorodd ei galon i'r bobl ;
dywedai ei fod yn barod i ddyoddef, ac
mai cariad at Dduw ac at eu heneidiau
hwy a'u dygasai yno y dydd hwnw. ,Ryw-
sut, ni roddwyd y w^arant mewn grym.
Ai nerth y geiriau a lefarai gvvr Duw a
wanhaodd freichiau yr erlidwyr; ynte a
oedd arnynt fraw i afaelu mewn dyn mor
enwog a Howell Harris, yr hwn a feddai
eiddo rhydd-ddaliol, ac a noddid gan rai o
brif bendefìgion y deyrnas, nis gwyddom.
Ond gofalodd Duw am ei was ; diarfogodd
yr erlidwyr mor eíîeithiol ag y cauodd
safnau y Ilewod yn y íîau gynt.
Bychan oedd y Gymdeithasfa Fisol yn
Nhrefecca ; nid oedd yr un o'r tri ofîeiriad
yn bresenol, ac ond dau o'r arolygwyr, sef
Morgan John Lewis, a Thomas James ;
efallai fod yr erledigaeth wedi cadw y
gweddill i ffwrdd. Daethai, modd bynag,
nifer da o gynghorwyr yn nghyd. Y
prif benderfyniadau a basiwyd ydynt a
ganlyn : —
" Rhoddasom ein barn i'r brawd Walter
Hill, gyda golwg ar ei betrusder i dderbyn
y sacrament gydag offeiriaid cnawdol, &c. ;
y dylem am y presenol, hyd nes y byddo i
ni gael ein troi allan, neu i ddiwygiad gael
ei ddwyn i mewn, oddef a chyd-ddwyn er
mwyn y gwaith.
" Cydunwyd fod i'r brawd John Williams,
fel y cynghorwyr anghyoedd eraill, beidio
aros yn sefydlog i arolygu yr un seiadau,
ond i gael ei anfon draw ac yma, yn ol
doethineb yr arolygwr, fel y byddo efe yn
canfod fod ei ddawn a chyflwr y bobl yn
galw.
" Fod y brawd Thomas Jones i gyflogi
ei hun gyda John Richard, ac i fod fel o'r
blaen hyd y Gymdeithasfa gyfí'redinol
nesaf, gan ymweled a Sir Faesyfed unwaith
y mis.
" Wedi cryn ymgynghoriad parthed
priodas y brawd Morgan John Lewis,
cawsom ryddid i gydweled a'r peth.
" Cydunwyd fod i fater priodas y brawd
Edward Bowen i gael ei benderfynu gan y
brodyr Thomas James a Thomas Bowen,
ar ol ymgynghori á'r seiadau y mae efe a
hithau yn perthyn iddynt.
" Fod y brawd Walter HiII i fyned i
wasanaeth y brawd William Evans, a bod
Mr. Roberts i gael ysgrifenu ato, i ddymuno
arno ei ollwng ; a bod y brodyr i gacl ym-
ddiddan â hwy, fel y byddo iddynt ryddhau
y brawd Evans o ran o'i gyflog.
" Fod y brawd WiIIiam Evans i gyflwyno
ei hun yn hollol i'r gwaith, mor bell ag y
byddo hyny yn gyson â'i ofalon teuluaidd,
a'i fod i arolygu yr holl seiadau sydd dan y
brawd Beaumont yn ystod ei absenoldeb
ef (Beaumont) yn Llundain, ac i gael ei
gynorthwyo gan y brawd Thomas James.
" Ein bod oll, yn ystod yr amser profed-
igaethus hwn, i arfer diwydrwydd dyblyg,
ac i ymdrechu gyda chateceisio yn ein
teuluoedd.
" Meddyliem nad oedd bwriad y brawd
Thomas i briodi o'r Arglwydd."
Yn mhen tri diwrnod wedi Cymdeith-
asfa Fisol Trefecca, sef Mai 15, yr oedd
Cymdeithasfa Fisol yn Brynbychan.
Daeth Iliaws yn nghyd yno, ac yn eu mysg
Daniel Rowland, yr hwn a lywyddai,
Williams, Pantycelyn, y Parch. Benjamin
Thomas, Richard Tibbot, &c. Aeth
Howell Harris tuag yno trwy gantref
Buallt, gan lefaru mewn amrywiol fanau
ar y ffordd. Am 10 o'r gloch, boreu y
Gymdeithasfa, pregethai Daniel Rowland
yn nghapel Eglwysig Abergorlech, tua
phedair milltir o Brynbychan. Ei destun
oedd, Salm ii. 6, a chafodd odfa hynod.
Dangosai pa mor dd^^ogel oedd eglwys
Dduw, mor anmhosibl oedd ei gorchfygu,
er cymaint o lid a fodolai yn erbyn Crist.
Gorphenodd trwy alw ar holl blant Duw i
fuddugoliaethu mewn gobaith, ac i beidio
cael eu cyfí^roi wrth glywed son am ryfel-
oedd, &c., gan fod ein Cesar (Crist) yn
fyw. " Nid yn unig y mae yn fyw," meddai
y pregethwr, " ond y mae yn teyrnasu.
Gorfoleddwch; y mae Crist yn teyrnasu!"
Gwaeddai enaid Harris oddifewn iddo
wrth wrando : " Gogoniant i Grist !" Yr
oedd yn odfa ryfedd. A phan y
gweddîai y pregethwr ar y diwedd dros
bob dosparth o ddynion, ac yn eu mysg
dros y brenhin, Ilewyrchodd goleuni anar-
ferol ar y gynulleidfa. Meddai Harris :
" Bendigai fy enaid Dduw am yr anwyl
Rowland ; am y dawn, y nerth, y ddoetfi-
ineb, y gwroldeb, a'r awdurdod a roddodd
iddo ; a theimlwn yn foddlawn bod heb
ddim (dawn) er mwyn iddynt hwy flaguro
er gogoniant Duw." Cyrhaeddasant
Brynbychan yn y prydnawn ; am bump
cyfarfyddodd y Gymdeithasfa, a buont
yn cydeistedd hyd ddeg yn yr hwyr.
Teimlai Harris yn bur sâl, ond agorodd
Duw ei enau i anerch y brodyr, gyda
golwg ar natur gostyngeiddrwydd, ac
yspryd drylliedig, ac ymgydnabyddiaeth â
Duw. Cafodd y fath olwg yn y cyfarfod
ar nerth y gelynion, mawredd y gwaith, ei
2 70
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1744-
anghymwysder ei hun ar ei gyfer, a'r
angen oedd arno am bob gras, fel y llefai :
" Arglwydd, ni wnai dim beri i mi fyned
allan (i bregethu), ond dy fod di yn fy
anfon ; hyn, a hyn yn unig yw y sail yr
wyf yn adeiladu arni, fy mod wedi cael fy
anfon ganddo ef." Dranoeth, aeth yn
nghwmni Rowland a Williams mor bell
a Dygoedydd ; yno pregethodd Daniel
Rowland, ar Can. ii. 14, ac ymddengys
iddo gael hwyl anarferol. Yna ymwahan-
odd y cyfeiUion, Rowland a WilHams yn
myned tua Cheredigion, a Harris tua
Threfecca.
Ychydig, a chymharol ddibwys, oedd pen-
derfyniadau Cymdeithasfa Brynbychan: — ■
" Cydunwyd, gwedi dadl faith, fod Evan
John i gael ei adael i'r Arglwydd, hyd nes
y caffom oleuni pellach i ganfod ei alwad ;
nid oedd ef yn teimlo ei hun yn rhydd i
roddi i fynu.
" Fod enw yr hwn sydd i gynghori i
gael ei hysbysu, pan y cyhoeddir fod cyng-
hori i gymeryd lle mewn unrhyw le.
" Fod cateceisio i gael ei osod i fynu,
a'i drefnu yn y fath fodd ag a fo fwyaf
buddiol, er cyffroi pawb i chwiHo yr
Ysgrythyrau.
" Fod William Samuel i gynghori ar
brawf o gwmpas cartref."
Fel yr oedd adeg priodas Harris yn
agoshau, cynyddai y gwrthwynebiadau i'r
undeb. Yr oedd teulu Aíiss Wiliiams ei
hun yn chwerw ac yn erUdgar. Cynygiai
ei thad, a roddasai unwaith ei gydsyniad
i'r briodas, bymtheg cant o bunoedd iddi
am dynu yn ol ; bygythiai ei mam ei churo ;
ac yr oedd ei brawd yn llawn cynddaredd.
Yn ychwanegol, taenid chwedlau ar led
oeddynt yn dra niweidiol i gymeriad y
Diwygiwr, sef ei fod yn priodi yn unig er
mwyn y gwaddol a gaffai gyda ei wraig,
ac nad oedd ef a hithau yn myned i'r
ystad briodasol mewn ffordd anrhydeddus.
Pan glywid am gwymp tybiedig y dyn a
elai o gwmpas i bregethu, gan fygwth
digofaint Duw ar hoU weithredwyr
anwiredd, llawenychai ustusiaid Brychein-
iog a Maesyfed fel pe wedi cael ysglyfaeth
lawer. Eithr yr oedd rhuddin yn y ferch
ieuanc ; ac er pob gwrthwynebiad, unwyd
hi a Howell Harris mewn glân briodas
yn Nghapel Ystrad-ffìn, Mehefìn 18, 1744.
Er rhoddi taw ar elynion crefydd, gwrth-
ododd Harris gymeryd ceiniog o waddol
gyda hi ; ac yn y cyfnod priodol profodd
amser fod y chwedl arall yn anwireddus.
Ar y ^yain o Fehefin, cynhelid y
Gymdeithasfa Chwarterol yn Nhrefecca.
YmgynuIIodd y frawdoliaeth yn bur gryno,
ac yn mysg eraill yr oedd Daniel Rowland,
Howell Davies, WiIIiams, Pantycelyn,
wedi dyfod. Am un-ar-ddeg yn y boreu,
pregethodd Rowland, oddiar Heb. vi. iS,
gan ddangos yr angenrheidrwydd am ffydd
o fîaen gweithredoedd, a'r ddyledswydd o
fyned at yr addewidion cyn myned at y
gorchymyn. Teimlai Harris eu hun yn
drymaidd a chysglyd yn ystod y cyfarfod.
Nid oedd hyd yn nod Rowland yn gallu
tanio cynulleidfa bob amser. Gwedi hyny
pregethodd Herbert Jenkins, oddiar Phil.
iv. 4, a chafodd gryn afael ar y bobl.
" Wedi iddo orphen," meddai Harris,
" aethom i giniaw, a chefais bleser mawr
tra yn gwasanaethu ar y brodyr wrth y
bwrdd, gan deimlo yn ddiolchgar fod
genyf dŷ i groesawu cenhadau Duw. O
gwmpas tri, aethum gyda'r gweddill o'r
frawdoliaeth i'r Gymdeithasfa, Ile yr aros-
asom hyd ddeg. Yr oedd genym faterion
o bwys i'w hystyried, yn arbenig y priod-
oldeb i"r offeiriaid gyfranu y sacrament
mewn tai. Yr oeddwn i, gyda mawr wres
a zêl, wedi bod yn erbyn hyn ; ond wrth
weled cymaint o anesmwythder yn yr ẃyn,
a bod Ilawer yn ein gadael o'r herwydd,
ymddangosai i mi fod llais rhagluniaetfi yn
galw ar yr offeiriaid i fyned un cam yn
mhellach. Ond gan na theimlent hwy yn
rhydd, cydunasom i neillduo diwrnod yr
wythnos nesaf i ymgynghori â Duw. Yr
oeddem yn unfryd yn ein holl ymgynghor-
iadau a'n penderfyniadau. Mor raddol y
mae yr Arglwydd yn ein harwain, fel y
gallwn ei ddwyn. Wrth ddarllen hanes
yr arolygwyr am yr ŵyn dan eu gofal,
cawsom foddhad mawr. Ond yr oeddwn
i yn sych. Yna swperasom, a chawsom
gymdeithas felus yn nghyd, yn trefnu ein
Cyfarfodydd Misol am y dyfodol." Dran-
oeth pregethodd Morgan John Lewis, gyda
nerth mawr, oddiar Hab. iii. 19, ac yna
ymwahanodd y brodyr.
Am unwaith, gwelwn fod Howell Harris
yn fwy rhyddfrydig na Daniel Rowland, a
Howell Davies, a WiIIiams, Pantycelyn.
Daethai ef yn foddlon i'r offeiriaid wein-
yddu y sacramentau mewn tai byw, yn y
plwyfydd hyny Ile yr oedd offeiriaid yn an-
foesol, neu lle y gwrthodid y cymundeb
i'r Methodistiaid, Nid oeddynt hwy eto
yn barod i gymeryd cam mor bwysig.
Diau y gwelent yr arweiniai hyn i beri i'r
Esgob gymeryd eu trwyddedau oddi-
arnynt, yr hyn a allai wneyd yn hawdd,
1744-]
HOWELL HARRIS.
271
gan nad oedd un o honynt yn fwy na
chuwrad.
Dyma y penderfyniadau a basiwyd, fel
eu ceir yn nghofnodau Trefecca : —
"Cydunwyd, wedi ymgynghoriad, parth-
ed yr angenrheidrwydd am gynorthwywr
i'r brodyr Morgan John, Thomas Price,
Thomas Wilham, a John Richard, fod i'r
braw'd John Belsher ymroddi yn hollol i'w
cynorthwo hyd y Gymdeithasfa Chwar-
terol nesaf.
" Deallwyd fod y brawd Evan WiUiams
am ein gadael, a myned i fysg yr Ymneill-
duwyr.
" Cydunwyd fod y brawd Morgan John
i gyfnewid taith gyda y brodyr Thomas
WiHiam a Thomas James.
" Atebwyd llythyr oddiwrth y brawd
Richard Charles gyda golwg ar weithio ar
y Sabbath, ar fod iddo ymgadw oddiwrth
bob gwaith diangenrhaid, a chadw y dydd
Sabbath yn sanctaidd.
" Cydunwyd fod y brawd (Herbert)
Jenlíins i ddyfod o Loegr fìs cyn y Gym-
deithasfa nesaf, ac yna i fod yn fwy arosol
a sefydlog.
" Fod ein Cymdeithasfa Chwarterol
nesaf i fod yn Mhorthyrhyd, tair milltir o
Lanymddyfri, y Mercher cyntaf wedi
Gwyl Mihangel, a'r brawd Howell Davies
i'w hagor, trwy bregethu am ddeg o'r
gloch y boreu.
" Fod yr hoh frodyr igadw diwrnod o ym-
pryd a gweddi yn yr wythnos nesaf ar eu
penau eu hunain, o herwydd amryw faterion.
" Darllenwyd yr holl adroddiadau, ac yr
oeddynt yn hyfryd.
" Cydunwyd fod y brawd Wilham
Wilhams i ymweled â'r cymdeithasau yn
mhen uchaf Sir Aberteifi, unwaith bob
chwech wythnos, ar brawf, hyd y Gym-
deithasfa Cìyffredinol nesaf."
Diau mai WiUiams, Pantj'celyn, oedd yr
ymwelwr hwn. Eithr dealler mai nid efe,
yr hwn oedd yn offeiriad ordeiniedig, a
osodid ar ei brawf, ond y cynllun yn ol pa
un yr oedd i ymweled bob chwech wythnos
a'r cymdeithasau. Ni theimlai y Gym-
deithasfa yn sicr pa fodd y gweithiai y
cyfryw drefniant.
Arosodd Howell Harris yn Nhrefecca,
yn adnewyddu t\' ei breswylfod, ac yn
pregethu yn yr ardaloedd o gwmpas, am
ryw naw diwrnod wedi y Gy-mdeithasfa.
Gorphenaf 7, y mae efe a'i briod yn
cychwyn am daith o dair wythnos trwy
ranau o Maesyfed, Brycheniog, Caer-
fyrddin, Morganwg, a Phenfro, gan
gyrhaedd Llangug, neu Llangwm, Gorph.
16. Yno cynhehd Cymdeithasfa Fisol.
Eithr ar eu ffordd yno buont ar ymwehad
â Howell Dayies, yn y Parke. Teimlai
Harris yn hyfryd wrth fyned tua'r Gym-
deithasfa. " Cefais y fath serch at ogon-
iant Duw," meddai, " fel y llyncwyd yr
holl achosion eraill i fynu yn hyn. Nid
oeddwn yn dymuno unrhyw ras na doniau,
ond er mwyn ei ogoniant ef. Nid oedd fy
iachawdwriaeth fy hunan yn ddim yn
ymyl hyn. Llefais : ' O Arglwydd, dyro i
mi ras, ffydd, cariad, doethineb, gostyng-
eiddrwydd, a gwroldeb i ymddyrchafu
uwchlaw pechod, angau, a Satan, yn unig
er mwyn hyn, sef fel y gallaf ogoneddu
dy enw, ac ymddwyn fel dy blentyn a'th
weinidog di. Am danaf fy hunan, dyro i
mi i'th wasanaethu, ac yna gwna fel y
mynot a íì, am amser a thragywyddoldeb.'
Eisteddasom ynghyd yn ein cyfarfod hyd
chwech, yn trefnu y cynghorwyr, ac yn
penderfynu amryw faterion. Yr wyf yn
credu i'r Arglwydd ein bendithio yn fawr,
y naill i'r llall, gan roddi i ni gryn oleuni
ar amryw bethau. Clywais oddiwrth y
brawd WiUiam Richard pa mor arswydus
yw myned o flaen yr Arglwydd gymaint a
cham, a pha mor llym fydd ein dyoddefaint
o'r herwydd ; ac hefyd y fath farn yw
peidio bod a'n hamser yn cael ei lanw gan
yr Arglwydd gyda y naill ddyledswydd neu
y UalL" Sicr yw mai y cynghorwr o Lan-
ddewi-brefi oedd y William Richard hwn ;
ac nid annhebyg mai efe ei hun, mewn
rhyw amgylchiad neu gilydd, oedd wedi
rhedeg o flaen yr Arglwydd, a chwedi cael
ei gospi yn drwm am y rhyfyg. Am natur
y cam a gymerodd, ynghyd a'r farn a
ddisgynodd arno mewn caniyniad, nid oes
genym yn awr ond dyfalu. " Dysgais
wersi gan amryw frodyr eraill," meddai
Harris, " yn enwedig pan ddywedai y
brawd Thomas Miles os na fydd genym
oleuni tufewnol, mai da yw canlyn y llais
allanol, sef eiddo rhagluniaeth. Dywed-
wyd Ilawer am William Edward (Rhyd-
ygele), a George Gambold." Yna ym-
adawodd Howell Harris am Hwlffordd,
lle y pregethodd y noson hono gyda nerth
anghyffredin oddiar eiriau yn Llyfr Job.
Ý mae penderfyniadau Cyfarfod Misol
Llangwm fel y canlyn : —
" Cydunwyd fod y brawd John Harry,
gan ddarfod iddo dderbyn cymeradwyaeth,
i gynghori fel o'r blaen hyd ein Cymdeith-
asfa Fisol nesaf, tan arolygiaeth y brawd
William Richard.
272
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1744-
" Fod y brawd George Bowen i lynu yn
ddiwyd wrth ei alwedigaeth bresenol, ac i
gynghori yn ei gymydogaeth dan y brawd
john Harris.
" Fod y brawd W. Gambold, gan ddarfod
iddo gael ei gymeradwyo fel cynghorwr, i
fyned o gwmpas gymaint ag a fedr, gyda
chymeryd gofal priodol am ei nain.
" Fod y brawd John Morris, gan ddarfod
iddo gael ei gymeradwyo fel cynghorwr, i
barhau i gadw ysgol, fel y mae yn gwneyd
yn awr, hyd nes y bo i ragluniaeth agor
drws arall iddo.
" Fod y brodyr John Sparks a John
Evans, gan ddarfod eu derbyn a'u cymer-
adwyo fel cynghorwyr, i arfer eu doniau
dan arolygiaeth y brawd Davies.
" Fod y brodyr John Lloyd a John
Gibbon i gynghori yn breifat, fel y gwnaent
o'r blaen, ac yn gyhoeddus dan arolygiaeth
y brawd W. Richard.
" Yr un peth gyda golwg ar y brawd
John Hugh.
" Fod y brawd John Griffiths i ymweled
a'i gymydogion, ac i ddarllen iddynt ar y
Sabbath, ac hefyd i gynghori yn breifat
dan y brawd W' . Richard.
" Fod y brawd John i gynghori fel o'r
blaen ar brawf, a'r brawd Wilham Jones
dan arolygiaeth Thomas Miller.
" Fod y brodyr WiIIiam Lewis a John
Thomas i gynorthwyo y brawd John
Harris yn ei waith preifat."
Dyna fel y darllen y cofnodau. Nid
ydym yn gwybod y nesaf peth i ddim am
amryw y crybwyllir eu henwau yma : eithr
buddiol cadw ar glawr y penderfyniadau
gyda golwg arnynt, fel esiampl o ddull y
tadau yn cario y gwaith yn mlaen. Aeth
Howell Harris a'i briod yn mlaen trwy
ranau o Sir Aberteifi,gan alw yn Nghastell-
newydd-Emlyn, Blaenporth, Llanwenog, a
Chilfriw. Erbyn y 26, yr oeddynt yn
Glanyrafonddu. Yna cyfarfyddodd Harris
a phrofedigaeth, hanes pa un a gaiffadrodd
yn ei eiriau ei hun : " Cefais demtasiwn yn
y Ile hwn, trwy glywed am gynyg o eiddo
Satan i beri rhaniad rhyngom a'r offeiriaid
gyda golwg ar y tân sydd yn ein mysg.
Neithiwr dygais fy nhystiolaeth yn erbyn
ymddygiad eithafol rhai, yn chwerthin
allan, yn Ilamu ac yn neidio, yr hyn y mae
yr offeiriaid yn ei gondemnio. Gwedi i mi
ddweyd fy meddwl, oddiwrth yr Arglwydd,
fel y tybiwn, gwrthwynebwyd íì yn gryf
gan y cnawd, a chan reswm daearol ;
minau a'i cyflwynais i Dduw, gwedi i mi
gael nerth i ymddwyn fel Cristion. . . .
Cefais atebiad gyda golwg ar yr hyn a
ddywedais am y tân, sef fod yr hyn a
lefarais yn boddio yr Arglwydd. ü fel y
mae Duw yn sefyll wrth fy ochr, gan fy
nghlirio a'm cyfiawnhau, pan yr wyf yn
dinystrio fy hun, a'm cymeriad, ac yn colli
fy awdurdod, trwy beidio ymddwyn yn
deilwng o Iysgenhadwr y nef." Nid yw y
difyniad yn hollol glir, ond gallwn feddwl
ddarfod i Harris lefaru gyda gwres yn
erbyn yr arddangosiadau gormodol o
deimlad a wnelid gan rai ; i ry wrai feiddio
ei wrthwynebu, a hawlio fod y cyfryw ar-
ddangosiadau yn gyfreithlon, ac iddo yntau
mewn canlyniad golli ei dymer, ac ym-
ddwyn, fel yr ystyriai efe yn ganlynol, yn
annheilwng o weinidog Crist. Pan dawel-
odd ei gyfFro, cyflwynodd yr holl fater i
Dduw yn y nefoedd. Yn mhen enyd,
cafodd atebiad ei fod yn iawn yn ei farn ;
eithr teimlai yn edifar oblegyd colli Ilyw-
odraeth ar ei yspryd ; ac yr oedd yn
ymwybodol ddarfod iddo ymddwyn yn
annheilwng o Iysgenhadwr oddiwrth Dduw.
Dyna y rheswm fod ei gydwybod yn ei
gondemnio, er fod ei farn ar y mater mewn
dadl yn gywir.
Prin y cafodd Howell Harris ddychwelyd
i Drefecca nad oedd yn bryd iddo gychwyn
drachefn i Gymdeithasfa Fisol, a gynheiid
yn Cwmbrith, ger Llandrindod, Áwst 1,
1744. Yno, WiIIiams, Pantycelyn, a Iyw-
yddai. Y mae y cofnodau am y cyfarfod
fel y canlyn : —
" Gwedi holi am ansawdd y cymdeith-
asau yn Sir Drefaldwyn, i'r brawd Richard
Tibbot, cydunwyd, gan nad yw ei holl
amser yn cael ei gymeryd i fynu, ei fod yn
awr, dros amser y cynhauaf, i gynorthwyo'r
brodyr, hyd nes y caffo ryw orchwyl arall.
" Ar ol arholiad manwl ar y brawd
Edward Buffton am ei wybodaeth o dduw-
dod yr lesu, a'i waith yn dwyn pechodau
ei bobl ar y pren ; am barhad y saint
mewn gras ; am ddatguddiad yr Yspryd
Glân, a thrueni yr holl ddynoliaeth wrth
natur, a chael ein boddloni gyda golwg ar
ei ras, a'i alwad i lefaru dros y Duw
mawr, cydunwyd ei fod i gynorthwyo y
brawd Beaumont fel cynghorwr anghy-
oedd.
" Yn gymaint a bod gwrthwynebiad ac
erlid mawr yn Llanllieni (Leominster), ac
yn gymaint a bod yr Arglwydd yn rhoddi
iddynt nerth ffydd yn eu heneidiau, cyd-
unwyd fod y brodyr i gyfarfod fel arferol,
gan orchymyu eu hunain i Dduw ; ac os
gwneir imrhyw gamwri, fel y byddo y
1744-]
HOWELL HARRIS.
273
Gair yn cael ei rwystro, a'u bywydau
hwythau yn cael eu gosod mewn perygl,
fod iddynt ddefnyddio y gyfraith mewn
ífydd, a bod y brawd Beaumont i fyned i'w
cynorthwyo gwedi i'w wraig gael ei dwyn
i'w gwelyfod."
Yn ychwanegol, gwelwn oddiwrth
ddydd-lyfr Harris ddarfod i'r cyfarfod
benderfynu fod Daniel Rowland, a Will-
iams, Pantycelyn, i fyned ar daith i Ogledd
Cymru ; neu i Williams hysbysu fod hyn
yn eu bwriad. Meddai : " Teimlais fod
holl alluoedd uffern wedi ymgynghreirio yn
ein herbyn, Yna cefais gariad mawr at, a
chydymdeimlad dwfn â y brodyr Rowland
a WiUiams yn eu gwaith, gan eu bod yn
myned yn fuan i Ogledd Cymru, i ganol
peryglon ; yn ganlynol cefais gydymdeim-
lad â'r holí Fethodistiaid a'r ofFeiriaid yn
Nghymru, yna yn Lloegr, ac yna dros y
byd, am fy mod yn gweled eu bod wedi
ymuno mewn un yspryd yn erbyn uffern.
O y gwahaniaeth rhwng deall a'r yspryd
a dim ond dirnadaeth o wirionedd yn y
llythyren ! "
Yn mhen deng niwrnod, sef Awst 12, yr
oedd Cymdeithasfa Fisol yn Llangeitho.
Teithiodd Howell Harris tuag yno trwy
Lanidloes a Llanbrynmair, gan bregethu
mewn amryw fanau yn Sir Drefaldwyn.
Cafodd Richard Tibbot yn gydymaith am
beth amser, ac wrth ymddiddan a'r cyng-
horwr duwiolfrydig hwnw, gwelai mor
fychan oedd ei ddirnadaeth ei hun o
ogoniant a dirgelwch pethau dwyfol.
Daeth i Langeitho yn hwyr nos Sadwrn.
Ar y ftbrdd, teimlai y fath gariad brawdol
at Daniel Rowland fel nas gallai ymatal
rhag llefain : " O Arglwydd, anfon genad-
wri o gariad a nerth drwof íi, greadur
gwan, iddo ef, fy mrawd hynaf ; ac O,
gwared fi oddiwrth fy hen natur, er mwyn
dy enw." Boreu y Sul, aeth i'r eglwys
erbyn naw. Williams, Pantycelyn, oedd
yn pregethu ; a'i destun oedd Zechariah
xiii. g : " A dygaf y drydydd ran trwy y
tân, a phuraf hwynt fel puro arian, a
choethaf hwynt fel coethi aur." Difyna
Harris yn helaeth o'r sylwadau, ac yr
ydym yn cofnodi rhai o honynt fel
esiampl o ardduU gweinidogaeth Wilhams.
" Dangosodd," meddai, " pa fath yw y
tân yn mha un y mae yn puro ei bobl.
Yn gyntaf, ei fod yn anfon yspryd caeth-
iwed arnynt ; nid caethiwed deddfol, yn
codi o ofn slafaidd ; ond cuddiad ei wyneb.
Ei fod yn gadael fìydd iddynt, ond eto yn
cuddio ei wyneb, yr hyn sydd yn waeth
nag uífern i'r cyfryw ag sydd yn ei garu.
Yn ail, ei fod yn puro trwy dân croesau
rhagluniaethol, gan nodi Dafydd a Job fel
esiamplau. Yn drydydd, trwy ollwng
pechod a llygredigaeth yn rhydd ynom, yr
hyn yw y tân dirgelaidd, a'r baich trymaf
o bob peth i'r Cristion. Yr oedd ei syl-
wadau yma yn agos. Dangosodd, yn
mhellach, effeithiau y tân, ei fod yn rhoddi
goleuni, a'i fod yn llosgi pob pechod."
Felly y pregethai Wilhams yn eglwys
blwyfol Llangeitho. Meddai Harris : " Yr
oedd yn bregeth hyfryd. O'r fath fendith
yw gweinidogaeth y Gair ! " Ond teimlai
hefyd nad oedd yn ddigon chr ar rai
pwyntiau. " Er mor rhagorol oedd yr
ymadroddion," meddai; "traddodwyd rhai
pethau yn y cyfryw fodd, fel pe buaswn yn
y cnawd, ac heb gael fy rhyddhau gan Ún
arall, y cawswn fy nwyn i gaethiwed, o
eisiau gwahaniaethu yn fwy cHr." Daeth-
ant allan o'r eglwys ychydig cyn deuddeg.
Yn y prydnawn aethant i Eglwys Llan-
cwnlle ; pwy a weinyddai yno ni ddy wedir.
Yn yr hwyr pregethodd Howell Harris i
gynulleidfa fawr oddiar y geiriau : " Fel y
byddo eich Ilawenydd yn gyflawn ;" ac
ymddengys fod yr odfa yn un dra grymus.
Yn ol y dydd-lyfr, nos Sabbath, wedi
gwaith cyhoeddus y dydd, y cynhaliwyd y
Gymdeithasfa Fisol. Meddai: "Daethom
adref yn ddedwydd, ac yr oedd undeb
hyfryd rhyngom. Eisteddasom i fynu hyd
ddeuddeg mewn Cymdeithasfa, ymddiddan-
asom am lawer o bethau, ac yr oeddym yn
hapus yn nghyd." Ychydig o arolygwyr a
chynghorwyr oedd yn bresenol, a'r drafod-
aeth dilynol, yn ol y cofnodau, oedd yr
unig fater y bu ymdriniaeth arno : " Wedi
ymchwiliad manwl i helynt y brawd
Morgan Hughes, ac heb feclru cyduno yn
ein goleuni, ni a'i rhoddasom i bleidlais, a
fyddai iddo gael Ilefaru yn breifat neu na
fyddai, ac yr oeddem yn gyfartal ranedig.
Arosasom am beth amser, a pharhäi pob
un yn ei olygiad, un haner am iddo lefaru,
a'r haner arall yn erbyn. Felly gadawyd
y peth heb ei benderfynu, a'r seiadau i
gael eu harolygu gan David Williams
a Thomas Grifíìths." Prawf sylwadau
dydd-lyfr Harris, er fod y brodyr yn y
Gymdeithasfa yn rhanedig, na fu dim
drwgdeimlad rhyngddynt, ond y cydunent
gyda phob heddwch i wahaniaethu. Ym-
ddengys hefyd i bethau eraill fod yn des-
tunau ymddiddan. Meddai Harris : " Yr
wyf yn hyderu fod yr Arglwydd yn myned
i gyflwyno i mi y fraint fawr o ddarllen ac
T
274
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1744-
ysgrifenu. Hyn nis gallaf ei wneyd hyd
nes y caf ryddid." Ai ysgrifenu llyfrau at
wasanaeth y dychweledigion a olyga, nis
gwyddom. Eto ; " Yn awr, gan fod y
brodyr Rowland a Williams yn myned i'r
Gogledd, gwnaed i mi ddwyn cyfran fechan
o'u beichiau, ac i ddadleu ar eu rhan, ar
i'r Arglwydd gadw eu calonau mewn
buddugoliaeth a rhyddid ; gan fy ngweled
fy hun yn rhy egwan i'r fath dreialon dir-
fawr, ac eto yn foddlawn myned, pe y
cawn fy anfon. Llefwn : ' O Arglwydd,
na âd i'th elynion fuddugoliaethu.' " Caf-
wyd pregeth yn Eglwys Llangeitho boreu
dydd Llun drachefn, a hyny gan Rowland,
yn ol pob tebyg. Yn y prydnhawn, aeth
Harris i Llanbedr Pontstephan, lle y pre-
gethodd oddiar gareg yn yr heol i gynull-
eidfa fawr, oddiar y geiriau yn Job : " Mi
a glywais a'm clustiau son am danat."
Dychwelodd drwy Gilycwm a Dolyfehn,
gan gyrhaedd Trefecca prydnhawn dydd
Gwener.
Yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn cael ei
chynal yn Nhrefecca yn mhen llai nag
wythnos, sef Awst i8. Cymdeithasfa
fechan ydoedd ; heb yr un offeiriad yn
bresenol, a Howell Harris yn llywyddu. A
ganlyn yw ei chofnodau : —
" Wedi darllen yr hyn y cytunasem
arno yn flaenorol, ac ymgynghori yn nghyd,
cydunwyd fod y brawd Thomas Jones i
ymroddi yn gyfangwbl i'r gwaith, ac i fod
yn gynorthwy wr i'r brodyr Thomas Jones,
Richard Tibbot, James Beaumont, a
Morgan John, a'i fod i ymweled a Siroedd
Brycheiniog, Trefaldwyn, y rhan Gymreig
o Faesyfed, yn nghyd a seiat Longtown,
dan arolygiaeth y brawd Howell Harris,
" Yn gymaint a bod y brawd Evans
mewn cyfyngder am ryw arian, eu bod i
gael eu benthyca yn uniongyrchol, a bod y
mater yn cael ei gyflwyno i'r cymdeithasau,
er niwyn ysgafnhau ei faich.
" Fod y brawd Joseph Saunders, mor
fuan ag y byddo ei amgylchiadau wedi
dod i drefn, i roddi prydnhawn dydd
Sadwrn, yn nghyd â'r Sabbath, i ymweled
ar yn ail a'r seiadau cymydogaethol.
" Fod y brodyr i wneyd yr oU a allant i
gael dau le i bregethu ynddynt bob Sul,
a'u bod i drefnu eu cyfarfodydd yn y cyfry w
fodd na byddont yn rhwystr ar ffordd neb
i fyned i leoedd eraill o addoliad.
" Fod y brawd Thomas Bowen i aros yn
Llanfair-muallt am haner blwyddyn heb
symud, i aros clywed llais Duw yn fwy
clir."
Ychydig sydd yn galw am sylw yn y
cofnodau hyn. Dengys y penderfyniad
am drefnu y cyfarfodydd fel na rwystrent
neb i fyned i leoedd eraiU o addoliad, mor
benderfynol oedd y Methodistiaid i beidio
ymffurfio yn blaid ar wahan. Prawf y
trefniant gyda golwg ar gynorthwyo y
brawd Evans, sef WilHam Evans, y
cynghorwr tanllyd ei yspryd o Nantmel,
yn ddiau, mor llawn oedd eu mynwesau o
gydymdeimlad, ac fel yr oedd baich un yn
dod yn faich pawb.
Yr ydym wedi dangos yn flaenorol
ddarfod i erledigaeth ar ran y werinos
ddarfod agos yn hollol cyn hyn, yn y rhan
fwyaf o'r Deheudir, ac yn neillduol yn
Mrycheiniog ; yr oedd y teimlad cyffredin
wedi troi o du y Methodistiaid. Ond yr
oedd yspryd erUd yn cyffroi y boneddigion
yn fwy nag erioed. Yn y Sessiwn a
gynhahwyd yn Aberhonddu, Awst 28,
1744, cyflwynwyd y penderfyniad canlynol
gan Uchel Reithwyr Brycheiniog i'r Barn-
wr a eisteddai ar y fainc : " Yn gymaint
a'n bod ni, Uchel Reithwyr Sir Frych-
einiog, wedi derbyn fel siars oddiwrth
Anrhydeddus Farnwr y gylchdaith hon,
yn mysg amryw bethau eraiU dysgedig a
chanmoladwy, y dylem alw sylw at bob
rhwystr ar ffordd ein crefydd sanctaidd, y
darn mwyaf gwerthfawr o'n cyfansoddiad
gwladol ; ac yn gymaint a'i fod yn rhy
wybyddus fod amryw (fel yr ydym yn cael
ein hysbysu) o gyfarfodydd anghyfreithlon
yn cael eu cynal ar y maes, a Ileoedd
eraill, gan bersonau sydd yn galw eu
hunain yn P'ethodistiaid, y rhai y mae
eu pregethwyr yn honi eu bod yn
esbonio yr Ysgrythyrau Sanctaidd tan
ddylanwad ysprydoliaeth, trwy yr hyn y
maent yn casglu yn nghyd dyrfaoeftd
mawrion o bersonau afreolus, er mawr
berygl i heddwch teyrnas ein harglwydd
Frenhin, a'r hyn, oddigerth iddo gael ei
osod i lawr yn fuan, a all beryglu heddwch
yr holl ymherodraeth yn gyffredinol ; ac
yn gymaint a bod y pregethwyr, neu y
dysgawdwyr ffugiol hyn, yn eu cyfarfodydd
afreolaidd, trwy ei hathrawiaethau pen-
boeth, yn dyrysu meddyliau Ilawer o
ddeiliaid ei Fawrhydi, yr hyn, mewn
amser, a eill brofi yn dra pheryglus, hyd
yn nod er dinystr ein crefydd sefydledig,
ac yn ganlynol dymchwel ein Ilywodraeth
dda, yn eglwysig ac yn wladol ; yr ydym,
er mwyn bod mor fanwl ag y gallwn wrth
ddynoethi y cynllun mileinig hwn, yn
cyflwyno i sylw y tai canlynol, sef : Ponty-
'44-]
HOWELL HARRIS.
275
wal, plwyf Bronllys, tŷ John Watkins, a
thv Howell Harris yn Nhrefecca, plwyf
Talgarth, y ddau yn y sir hon, fel lleoedd
sydd yn cynal ac yn cefnogi y cyfryw
gynulhadau afreolaidd ; ac yr ydym yn
dymuno ar ein Anrhydeddus Farnwr, os
nad yw awdurdod y llys yn ddigonol i
ddarostwng yr afreoleidd-derau hyn, ar
iddo appeho, er cyrhaedd hyny, at ryw
awdurdod oruwch, fel y byddo i'n crefydd,
heddwch y genedl yn gyffredinol, ac eiddo
y sir hon yn neillduol, gael ei dyogelu ar
sail ein Sefydhad henafol a chanmoladwy."
Byddai yn anhawdd dychymygu am
gofeb mwy gyflawn o anwiredd, a theb-
ycach o gyffroi yr awdurdodau gwladol yn
erbyn y Methodistiaid. Nid oedd cofion
y rhyfel cartrefol wedi myned ar ddifan-
coll eto, ac yr oedd y rhyfel rhwng y
deyrnas a Ffrainc yn peri fod y llywod-
raeth yn gwyho gyda llygad eiddigus bob
cynulliad, y tybid fod teimlad anniddig yn
cael ei feithrin ynddo. Felly, yr oedd
Uchel Reithwyr Brycheiniog yn llunio
pluen i gyfateb i liw'r dwfr. Anhawdd
meddwl na wyddent fod y Methodistiaid
yn deyrngarol i'r carn ; yr amcanent, hyd
ag oedd ynddynt, i gadw yr heddwch
cyffredin ; na fyddent yn cynal unrhyw
gyfarfod heb weddío dros y brenhin, a
thros bawb oedd mewn awdurdod ; ond yr
oedd gelyniaeth y boneddigion atynt yn
gyfryw, yr hyn yn ddiau a gyffröid gan
falais yr offeiriaid erlidgar ac eiddigus, fei
nad gormod ganddynt gyflwyno i'r barnwr
gwladol, yn mhrif Sessiwn y sir, ddarlun-
iad, y gwyddent ei fod yn gelwyddog, o
bobl a geisient addoli Duw yn ol argy-
hoeddiad eu cydwybod. Pa beth a ddy-
wedodd y barnwr ar yr achlysur, sydd
anhysbys ; ond sicr yw na ddaeth dim
o'r peth.
Yr ydym yn cael Cymdeithasfa yn
Abergorlech, Medi 4. Tebygol, oblegyd
bychandra rhif y rhai a ddaethant yn
nghyd, mai Cymdeithasfa Fisol ydoedd,
er na ddywedir hyny yn y cofnodau.
Y cymedrolwr oedd Daniel Rowland ; ac
yr oedd Williams, Pantycelyn, a Howell
Harris, yn nghyd â nifer o'r arolygwyr yn
bresenol, Pregethai Rowland yn nghapel
Abergorlech ar Heb. ii. 11: " Canys yr
hwn sydd yn sancteiddio, a'r rhai a sanct-
eiddir, o'r un y maent oll." Dangosai y
modd y daethai Crist i sancteiddio ei bobl;
mor fawr yw gwaith sancteiddhad ; fel yr
oedd Crist wedi ymddiosg o'i ogoniant er
ei ddwyn yn mlaen ; a'r modd yr ydym yn
cael ein gwneyd yn gyffelyb i Dduw, er
nad yn anfeidrol mewn graddau fel efe.
" Cafodd lewyrch anghyffredin," meddai
Harris ; " ac yn awr, pan yr ydym yn cael
ein troi allan o'r capelau, gwnaed i fy enaid
lawenychu o'i herwydd, gan fy mod yn
gweled yr Arglwydd uwchlaw iddynt olî."
Cyfeiria yr ymadrodd " troi allan o'r
capelau " at helynt capel Eglwysig Aber-
gorlech, yr hon a ddaw dan ein sylw yn y
cofnodau. Yr oll a ddywed Harris am y
Gymdeithasfa yn ei ddydd-lyfr yw iddynt
gael cyfarfod melus yn nghyd. Y mae ei
chofnodau fel y canlyn : —
" Cydunwyd fod deiseb at yr Esgob yn
cael ei thynu i fynu, gyda golwg ar gapel
Abergorlech, yn datgan, gyda phob gos-
tyngeiddrwydd, ein bwriad i barhau Mr.
Williams fel bugail ; ac, os bydd raid, i
ddyoddef o'r herwydd.
" Fod y brawd John Morgan i fod yn
ddystaw, a pheidio llefaru, hyd y Gym-
deithasfa nesaf.
" Fod rhyw gyfran o amser, yn yr wyth-
nos ddyfodol, yn cael ei neillduo gan bob
un o honom, er ymostyngiad ac ymbil.
" Fod tŷ i gael ei adeiladu yn Llansawel
at ddybenion crefyddol, megys pregethu, a
chadw ysgol."
Capel Eglwysig oedd Abergorlech ;
tebygol na chynelid gwasanaeth crefyddol
ynddo yr adeg hon gan yr Eglwys, ac felly
i'r Methodistiaid gymeryd meddiant o hono
er pregethu, ac efallai gyfranu yr ordinhad,
gan fod y Ile wedi ei gysegru. Diau mai
Williams, Pantycelyn, oedd " y bugail "
a ofalai am y Ile. Ymddengys fod yr Esgob
am eu rhwystro, ac am gau y capel, dyna
y rheswm am y ddeiseb, a'r penderfyniad i
barhau i bregethu ynddo, hyd yn nod pe
eu cospid am hyny. " Yna," ysgrifenai
Harris, "daethom i Glanyrafonddu. Pan
y clywais am Iwyddiant anarferol y brawd
Rowland, yn Ngogledd Cymru, Uanwyd fy
enaid a diolchgarwch." Aeth yn ei flaen,
efe a'i wraig, i Langathen ; clywodd ryw
glerigwr ieuanc yn eglwys y plwyf yn
pregethu ystwff rhyfedd yn Ile efengyl ; a
rhwng gwendid corph a chlywed y fáth
ffwlbri, teimlai y fath wasgfa nas gall iaith
ei ddesgrifio. Wedi i'r gwasanaeth orphen
pregethodd yntau y tu allan ; y testun oedd,
y mab afradlon, ac yr oedd y clerigwr yn
mysg y gwrandawyr. Cafodd nerth anghyff-
redin ; eithr pan aeth i ddangos fel yr oedd
plentyn Duw yn hiraethu am gartref, ac
nad oedd yn ofni dydd y farn, marchogodd
y clerigwr ieuanc i ffwrdd. Dydd Sadwrn
T 2 •
276
Y TADAU METHODISTAIDD.
744-
yr oedd Harris yn ei ol yn Nhrefecca.
Erbyn cyrhaedd yno cafodd fod cymylau
duon yn hofran uwch ei ben ; clywai sî fod
yr erlidwyr eto am ei bressio i'r fyddin ;
ond ymgysurai yn nghanol yr oll wrth
weled fod pob peth dan ofal yr Arglwydd,
ac y gallai oruwch-lywodraethu y cyfan
i'w ogoniant.
Y mae y dydd-lyfr yn dra dyddorol, ond
rhaid i ni foddloni ar ychydig loffion o hono.
Medi 10, ysgrifena Harris : " Heddyw
ffafriwyd fi a dau lythyr o Sir Forganwg,
yn mhob un o'r rhai y cefais bryd o fwyd
gan Duw. Cynwysai un newydd am yr
efengyl yn eniU tir yn Morganwg, yn mysg
y milwyr. Wrth ddarllen, yr oeddwn yn
fflam o gariad at Dduw, ac at yr anwylaf
Price." Tebygol mai Price, o'r Watford,
a ysgrifenasai y llythyr. " Y llall a daer
erfyniai arnaf fyned trosodd i borthi fy
mhlant ysprydol. Llefwn am gael fy
anfon yno, i borthi fy ẁyn, ac am gael fy
anfon, ac nid yn waglaw." Medi 11,
ysgrifena : " O gwmpas un-ar-ddeg aetlì-
um tua thŷ cwrdd Tredwstan (capel yr
Annibynwyr) ; ofnwn fyned, rhag rhoddi
tramgwydd i rywun, ac eto awyddwn am
fyned, er cael cyfarfod â fy Nuw. Felly
aethum, gyda phob symlrwydd, gan ym-
ddiried y cwbl iddo ef. Er fod dyn yn
pregethu nas gallwn farnu dim am ei ras ;
ac er fod yn ei bwnc fwy o reswm nag o
Grist — ' O na baent ddoethion' — eto, cefais
symlrwydd i wrando, ac 1 dderbyn y cyfan
mewn cariad a gostyngeiddrwydd. Ár y
dechreu, llefais ar ran y gynuUeidfa hon,
a holl gynulleidfaoedd yr Ymneillduwyr
perthynol i'r genedl, ar i'r Arglwydd
ddychwelyd atynt, a'u llanw. Yn nesaf,
pan y dywedai mai un ran o ddoethineb
yw cael amcan cywir er gogoniant Duw, a
chael cymdeithas ag ef, teimlais awydd-
fryd cryf am hyn, ac am hyn yn unig."
Dengys y difyniad hwn (i) fod yn mysg y
Methodistiaid rai mor llawn o ragfarn at
yr Ymneillduwyr, fel ag i beri i Howell
Harris ofni eu tramgwyddo wrth fyned i
gapel Ymneillduol. (2) Nad oedd Harris
ei hun yn cyfranogi mewn un gradd o'r
cyfryw ragfarn, er ei fod yn dra ymlyngar
wrth yr Eglwys Sefydledig ; ond yn
hytrach y disgwyliai gyfarfod a'i Dduw
dan weinidogaeth brawd o Annibynwr.
(3) Fod y weinidogaeth Ymneillduol yr
adeg hono, os oedd y bregeth yn Nhre-
dwstan yn engrhaifft deg o honi, yn rhy
amddifad o Grist, yn marn y Diwygiwr,
ac yn pwyso yn ormodol ar ddyledswyddau.
(4) Y teimlai Harris fod presenoldeb yr
Arglwydd wedi gadael yr Ymneillduwyr
yn Nghymru, y pryd hwnw, i raddau
mawr beth bynag, a'i fod yntau yn llawn
o yspryd gweddi ar i Dduw ddychwelyd
i'w pHth.
Dydd Sadwrn, Medi 17, cychwyna
Howell Harris a'i wraig am daith faith,
mewn rhan, o ufudd-dod i wahoddiad y
brodyr yn Morganwg, ac mewn rhan, er
bod yn bresenol mewn amry w Gymdeithas-
faoedd. Pregethodd y noson hono yn
nghapel Eglwysig Grwynefechan gyda
nerth anghyffredin. Gwelai fod gan Dduw
blant yno. Aeth yn ei flaen i Lanbedr,
ger Crughywel ; a boreu y Sul yr oedd yn
Cwm lau, yn gwrando yr offeiriad duwiol,
Mr. Jones. Pregethoddyntauynfelusoddiar
Dat. iii. 3, gan agor yr addewidion. Yn y
prydnhawn, pregethai Harris ; yr oedd ei
wendid corphorol gymaint, fel y methai
fyned yn ei flaen ; llefodd ar yr Arglwydd
mewn ffydd am nerth, gan ddweyd : " Pa
beth bynag a gaf genyt, oni wariaf ef oU
er dy fwyn di ? " Mewn atebiad i'r weddi
daeth nerth ; testun y sylwadau oedd y
geiriau yn loan : " Fel y byddo eich
llawenydd yn gyflawn ; " ond yn lle bod
yn fab dyddanwch, gwnaed iddo daranu,
nes yr oedd yr holl dorf yn cael ei chyffroi.
Oddiyno aethant i Aberbig ; yr oedd mor
sal fel mai o braidd y gallai siarad ; ond
wrth lefaru oddiar i loan iii. i, cafodd
nerth, enaid a chorph ; daeth yr Arglwydd
i'w mysg mewn modd anarferol iawn ;
agorwyd ei enau yntau yn rhyfedd i
ddangos rhagorfreintiau y duwiohon, a
natur cariad Duw tuag atynt. Dydd
Llun y maent yn y Goetre, dydd Mawrth
yn Llanheiddel, Mercher yn Tonsawndwr,
lau yn St. Bride, a nos lau cyrhaedda
Watford, lle y mae Cymdeithasfa Fisol
yn cael ei chynal. Harris oedd y cym-
edrolwr. Meddai : " Gwelwn y fath an-
rhydedd a osodid arnaf, fy mod yma fel
cymedrolwr ; darostyngwyd fi yn fy yspryd
oblegyd hyn, a gwnaed i mi grynu rhag
ofn balchder. Daeth yr Arglwydd i'n
mysg, a thynodd i lawr lawer o waith
Satan, megys rhagfarn, &c., a rhoddodd i
mi ddoethineb rhyfedd, gan ddysgu i mi
trwy bob peth lawer o wersi." Pregeth-
odd ar y diwedd i gynulleidfa anarferol o
fawr. Darllena cofnodau y Gymdeithasfa
fel y canlyn : —
" Gan fod y gelyn wedi dechreu creu peth
rhagfarn rhwng rhai o'r llafurwyr, yr hyn
a gododd oddiar ddiffyg rhagor o gariad a
1744-]
HOWELL HARRIS.
277
gostyngeiddrwydd wrth lefaru yn gyhoedd-
us, ac mewn ymddygiadau preifat, wedi
dysgwyl yn ostyngedig wrth Dduw, pob
un yn agor ei galon ac yn cyfaddef rhyw
fai, a phawb wedi dysgu gwersi pwysig,
gan weled yn neillduol nad digon fod y
llygad yn syml, ond y rhaid i'r rheol a'r
bwriad fod yn iawn, a'r oll mewn yspryd
iawn, cyn y byddo ein hymddygiad yn
ddyogel, cydunasom, ac yr oeddym yn un,
bendigedig fyddo Duw, gan ganfod Ilawer
o ddichellion y gelyn. Gan fod y brawd
Howell Griffith wedi cael ei oddiweddid
gan fai, a chwedi dangos profion digonol o
edifeirwch gwirioneddol at y brodyr, cyd-
unwyd ei fod i gael ei dderbyn drachefn ar
brawf, ar yr amod ei fod yn cymeryd gofal
am achos ei gwymp yn y dyfodol.
" Fod y brawd Richard Jones i gael
ymddiddan ag ef gan y brawd Harris, ac i
gael ei dderbyn yn unig ar arwyddion o
wellhad oddiwrth ei ddifaterwch, yr hyn a
ddangosodd yn mhen dau ddiwrnod wedi
siarad ag ef gerbron yr holl seiadau yn St.
Nicholas, pan y trefnwyd ei fod ef a'r
brawd Thomas Lewis, Pwllymeirch, i
gyfnewid bob yn ail Sabbath, ac i gadw yn
ddifwlch eu cymundeb â'r brodyr.
" Trefnwyd y goruchwylwyr yn seiadau
St. Nicholas, ac hefyd yn seiadau St.
Andrews, Aberthyn, ac Aberddawen.
" Gan ddarfod i Thomas WiIIiams
ddweyd rhywbeth yn erbyn y gŵn a'r
cassog {cassoch and gown), addefodd nad
hwy eu hunain oedd mewn golwg ganddo,
eithr gwneuthur eilunod o honynt.
" Addefodd y brawd Powell hefyd ei fai,
ddarfod iddo gyfeirio at y brodyr Price a
Belsher fel rhai heb fod yn uniongred
mewn rhai egwyddorion ; ac ystyrid ei fod
yn ddiofal wrth anog y bobl i beidio parchu
y pregethwyr yn fwy nag eraill ; fod hyn
yn tueddu i wanhau dwylaw y pregethwyr,
ac yn rhwystro y bobl i barchu y swydd ;
er mai ei amcan ef (Powell) oedd peidio
gwneyd eilunod o honynt, neu dderbyn
wyneb personau yn ol y cnawd."
Dengys y cofnodau hyn fod y Method-
istiaid yn dechreu cyfarfod â rhwystrau
mewnol ; fod rhai o'r cynghorwyr a berchid
fwyaf yn cael eu dal gan feiau, a mawr
angen am eu hadgyweirio ; ac nad oedd-
ynt yn gwbl rydd oddiwrth eiddigedd a
rhagfarn y naill at y Ilall. Y mae yn
amlwg nad yw diwygiad grymus, a theim-
ladau dyfnion a chyfîrous, yn dinystrio yr
hen ddyn yn y bobl oreu mewn diwrnod.
Anhawdd peidio gwenu wTth weled y mawr
ofal a gymerir rhag i neb lefaru gair con-
demniol am bethau perthynol i'r Eglwys,
ac yn arbenig y gwisgoedd offeiriadol.
Ond y mae yn deilwng o sylw nad oedd yr
un offeiriad urddedig yn bresenol yn y
Gymdeithasfa; ac felly nad neb o honynt
hwy oedd yn gyfrifol am yr eiddig-
edd hwn. Aeth Howell Harris yn bur
fanwl trwy ranau o Sir Forganwg a Sir
Gaerfyrddin, gan gyfeirio ei gamrau tua
Phorthyrhyd, Ile y cynhelid Cymdeithasfa
Chwarterol, Hydref 3^4. Prawf y
difyniad canlynol ansawdd ei yspryd :
" Cefais nerth i ddymuno ar i mi gael fy
ngwneyd yn fendith i bawb, y íîbrdd yr
wyf yn teithio ; i'r cynghorwyr, ac i'r \Vyn,
fel y gallwn fendigo pob tỳ yr awn iddo,
a bod o les i bawb sydd yn fy ngwrando.
Gwelais y fath anrhydedd y mae Duw yn
roddi arnaf trwy fy ngosod yn y fath safle.
Gweddiais dros y gweithwyr, yn arbenig
ar iddynt fod yn un."
Y diwrnod cyn y Gymdeithasfa daethant
i gapel Abergorlech, Ile y pregethai
Rowland, oddiar y geiriau : " Dos yn fy ol
i, Satan." Ymddengys ei bod yn bregeth
amserol, a thra miniog. Y "Satan" yr
anogai y brodyr i ddweyd wrtho, " Dos yn
fy ol i," oedd balchder. Ymhelaethai ar
ymfalchio mewn doniau, ac mewn gras-
usau, gan ddangos i'r rhai na feddent
ddawn mor ddedwydd ydynt, eu bod yn
gyffelyb i Iwyn isel, yn ddyogel rhag
Ilawer o dreialon a phrofedigaethau a
chwythant ar y rhai sydd wedi eu donio yn
helaeth ; ac fel yr oedd yr Arglwydd yn
edrych ar ffydd yn hytrach nag ar ddoniau.
Yna Ilefarai wrth y rhai a feddent ddon-
iau, gan ddangos yn (i) Nad yw y doniau
wedi eu rhoddi er ein mwyn ni, ond er
mwyn eraill ; (2) Fod y rhai a feddant
lawer o dalentau yn aml yn brin mewn
gras; (3) Nad yw dawn yn ddim yn ngolwg
Duw mwy na phe byddent hebddo ; mai
ar ffydd yr edrych efe ; (4) Fod doniau yn
cael eu rhoddi yn amodol ; y gellir eu
cymeryd ymaith, a bod hyn yn cael ei
wneyd yn aml ; (5) Fod doniau yn aml yn
arwain i brofedigaethau, fel siaced fraith
Joseph. Yna trodd at falchder mewn
grasusau, gan egluro fod Duw yn erbyn
pob ffurf ar falchder, nad oes dim a wneir
mewn balchder yn Ilwyddo. Yn ddiweddaf,
dangosodd arwyddion ymfalchio mewn
gras, sef mawrhau ein gras, ac ymddiried
ynddo, yn Ile yn Nghrist. Pregeth i'r
cynghorwyr ydoedd yn benaf ; yr oedd pob
gair yn dweyd ar Howell Harris. " Gwnaed
278
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1744-
i fy enaid blygu o dan y Gair," meddai ;
" llefwn am ostyngeiddrwydd i mi fy hunan
ac i'r cynghorwyr. Pan y clywais fod y
sacrament i gael ei weinyddu, wedi i'r
capel fod yn nghau, llanwyd fy enaid a
diolchgarwch, gan weled fod yr Arglwydd
yn dychwelyd atom. Ond pwy sydd yn
cael ei lethu gan y fath gorph o falchder a
mi ! Y fath gwympiadau wyf yn gael o'r
herwydd !"
Gw^elwn ddarfod i ymdrech y Method-
istiaid gyda golwg ar gapel Abergorlech
fod yn llwyddianus. Pregethai Rowland
drachefn yn Glanyrafonddu, y nos flaenorol
i'r Gymdeithasfa. Ei destun oedd, Dat-
guddiad xiv. i. Wrth fyned yn nghyd tua
Phorthyrhyd cyfarfyddasant a nifer mawr
o frodyr a'u gwyneb ar y cyfarfod. Clyw-
odd Harris amryw newyddion a'i llonodd
yn fawr : (i) Fod yr Archesgob wedi
cynyg ordeinio un o bobl Mr. Wesley ;
(2) Pan y tynwyd y cwyn yn erbyn ei dỳ
yn Nhrefecca (gan yr Uchel Reithwyr
yn Sessiwn Aberhonddu), i Mr. Joseph
Hughes sefyll yn ei erbyn, a'i rwystro ;
(3) Fod yr Arglwydd wedi bendigo Mr. Gw.
i agor ei ddrws i bregethu ; (4) Fod yr efeng-
yl yn enill tir mewn gwahanol ffurf mewn
llawer o leoedd. Agorwyd y Gymdeith-
asfa trwy bregeth gan Daniel Row'land.
Ei fater oedd, yr Arghvydd yn fur o dân o
amgylch ei bobl. Yna anerchodd Howell
Harris y cynghorwyr ar anrhydedd, mawr-
edd, a phwysigrwydd y gwaith ; eu
hanghymwysder ar ei gyfer, gan ddangos y
fath rai oeddynt, a phw'y a pha fath oedd
eu gelynion ; natur gwir ostyngeiddrwydd,
ei fod yn golygu ein bod yn ddim yn ein
golwg ein hunain, a'n bod mor ofalus am
helynt y brodyr ag am ein helyntion ein
hun ; a'r angenrheidrwydd oedd arnynt oU
am ddoethineb. " Wrth agoshau at
Dduw," meddai, " cefais y fath oleuni yn
fy yspryd, na chefais ei gyffelyb erioed o'r
blaen. Yna cawsom ymddiddan maith ar
natur ymrwymiad {contract) ; a chawsom
lawer o oleuni, yn neillduol i weled mor
anwybodus ydym."
Ymadawyd y noson hono mew-n tymer
hyfryd ; ond boreu dranoeth cyfododd
tymhestl yn eu mysg. Caiff Howell
Harris adrodd yr hanes. " Y boreu hwn,"
meddai, " cawsom groes. Ceryddais i y
brawd Rowland, ac eraill, am hunan-
esmwythid, ac am beidio myned o gwmpas
gymaint ag a ddylai. Digiodd yntau.
Ònd yn fuan drylliodd yr Arglwydd y
fagl, ac ail unodd ni. Ymresymais i yn
erbyn y ddau, a'r Arglwydd a ddrylliodd
fy nghalon, ac a'm darostyngodd yn y
fath fodd, fel yr oeddwn yn foddlawn nid
yn unig i'r brodyr weled fy ngwendidau,
ond yn llawenhau yn hyny ; ac oddiar
ymdeimlad o'm Ilygredigaethau a'm gwen-
did Ilefwn am gael fy ngosod o'r naill du,
gan weled pob un o honynt yn Ilanw ei le
yn well na mi. Yr oeddwn yn wir wedi fy
narostwng ; nis gallwn lai nag wylo ger
eu bron, gan gyfaddef beth oedd allan o
le ; galhvn orwedd wrth eu traed hwy
oll." Y mae yn bur amlwg ddarfod i
dymherau poeth Harris ei orchfygu yma
eto, a pheri iddo roddi briw i'w frodyr ; ac
yr ydym yn ei gael yntau yn y Ilwch
mewn canlyniad, yn gruddfan ac yn wylo,
ac yn taer ddymuno maddeuant. Yn sicr,
darfu canfod y dewr pan yn wyneb perygl,
yn ei ddagrau gerbron ei frodyr, effeithio
yn ddwys ar y frawdoliaeth, a gorchwyl
hawdd a dedwydd oedd estyn maddeuant
iddo. Ymadawyd yn y teimladau goreu.
A ganlyn yw penderfyniadau y Gymdeith-
asfa, fel y maent wedi eu croniclo yn y
cofnodau : —
" Wedi cryn ymgynghoriad gyda golwg
ar fawredd y gwaith, ac am weled a
theimlo ei faich, cydunwyd i gadw dau
ddiwrnod i fod yn nghyd.
" Fod un o'r offeiriaid urddedig i bre-
gethu yn mhob Cymdeithasfa Chwarterol,
yn olynol ; ac os rhwystra rhagluniaeth
yr un benodwyd rhag bod yn bresenol, fod
y nesaf ato i bregethu.
" Cydunwyd i ysgrifehu at y brodyr
Davies, a John Harris, am na ddarfu
iddynt anfon rheswm dros eu habsenol-
deb ; ac hefyd at y brawd Thomas Miller,
oblegyd llwyr esgeuluso ein Cymdeithas-
faoedd.
" Fod y brawd Jenkins, oblegyd yr
angenrheidrwydd presenol, a'i alwad i
Loegr, i fod yn gyfangwbl yno, oddigerth
pythefnos bob tri mis, y rhai y mae i'w
rhoddi i ni, adeg ein Cymdeithasfaoedd
Chwarterol.
" Fod y brawd Benjamin Thomas i
gynorthwyo y brawd Harris, yn lle y
brawd Jenkins, yn arolygiaeth holl Gymru.
" Fod y brawd James Ingram, gwas
cyflog gyda y brawd Harris, i'w gynorth-
wyo fel cynghorwr, ac ysgrifwas, ac i gael
ei anfon ganddo i Loegr a Chymru, i
gynorthwyo, fel y bo galw ; efe a'r brawd
Thomas ar brawf hyd y Gymdeithasfa
nesaf.
" Fod y brawd Roger Williams i fyned
1744-]
HOWELL HARRIS.
279
i Ferthyr, i ddilyn ei alwedigaeth, ac i
gynorthwyo y brodyr Thomas James, a
Morgan John, ar brawf hyd y Gymdeith-
asfa nesaf.
" Fod y rhai hyny o'r arolygwyr a fedd-
ant oleuni a chymhwysder, i gael rhyddid i
egluro yr Ysgrythyrau ; ond am y cyng-
horwyr anghyoedd, nad ydynt i lefaru
mewn ffordd o bregethu, oddiar destun,
ond cynghori neu esbonio. Hyn i'w
gadarnhau eto, pan y ceir rhagor o oleuni.
" Fod y brawd Harris i gario cerydd yn
enw y brodyr at y brawd John Wilhams,
oblegyd ei esgeulusdod i wyho dros y
cymdeithasau sydd dan ei ofal ; a'i fod i
gael myned yn mlaen eto ar brawf am fis,
ond ei fod i gael ei droi allan y pryd
hwnw oddigerth iddo ddangos ffyddlondeb
ac ufudd-dod."
Y mae amryw bethau teilwng o sylw yn
y cofnodau hyn, ond nid oes genym ham-
dden i fanylu. Hyfryd deall, modd bynag,
i Howell Harris ymweled ar ei ffordd
adref a'r brawd John WilHams, a chael
ganddo blygu hyd y llawr. " Nid oeddwn
fel y dylaswn," meddai Harris, " eto efe a
ddarostyngwyd ac a doddwyd ; a daeth
arnaf yr hyn na theimlais erioed o'r blaen
yr un fath, sef baich yr Arglwydd. Yr
oedd yr Arglwydd yn wir yn agos atom ein
dau ; drylliodd ein calonau, ac wylasom."
Nid llawer o amser a gafodd Howell
Harris yn Nhrefecca wedi dychwelyd ; yn
fuan yr ydym yn ei gael yn cychwyn am
Gymdeithasfa Fisol, a gynhehd yn Nant-
mel, Sir Faesyfed, Hydref 18. Ar ei
ffordd tua Nantmel, cafodd ddwy odfa
ryfedd, yn wir, odfaeon hynotaf ei oes.
Meddai : " Gwnaeth yr Arglwydd y dydd
hwn yn ddiwrnod mawr i mi. Mewn lle
o'r enw Gwernfyddai, tua deng milltir o
Dalgarth, gweddíais a phregethais oddiar
I loan i. 7 ; cefais ryddid mawr ; dysgwyd
fi pa fodd i drywanu, a chlwyfo, ac
argyhoeddi y rhai oeddynt heb Dduw, ac
yn byw mewn pechod. Yr oedd y llewyrch
yn anghyffredin. Yna, daethum i Tre-
filod, lle sydd tua dwy neu bedair milltir
yn mhellach. Ar y ffordd cefais olwg
eglurach nag erioed ar fawrhydi a gogon-
iant Duw, a hyny fel sicrwydd y gwnai fy
nwyn trwy yr holl dreialon ato ei hun.
Cefais ddatguddiad hefyd o ogoniant yr
lesu, a rhyddid mawr wrth lefaru oddiar
Dat. xii. I. Dangoswn fel yr oedd duw-
dod Crist yn cael ei amlygu i'r eglwys ; y
fath awdurdod sydd yn yr amlygrwydd a
rydd Duw ; effeithiau hyn ar ein heneidiau.
Yr oeddwn yn cyrhaedd hyd adref yma
Dangosais y modd y dylem wrando a
gweddío ; ein bod yn dyfod i gyfarfod â
Duw, a'r modd pan y deuwn yn ddifater
nad ydym yn ei weled. Yr oeddwn yn
awr yn trywanu i'r byw, ac yn Ilefaru
gydag awdurdod mawr. Dangosais fod
rhai pechodau a drwg arferion y geill
plentyn syrthio iddynt, a rhai nas gall ; a'r
modd yr oeddynt yn gaethion iddynt eu
hunain ac i'r byd. Yr oedd yn Ile ofnadwy
mewn gwirionedd. Cafodd Ilawer, mi a
hyderaf, eu dychwelyd." Gwelir mai
gwirioneddau amlwg a syml yr efengyl a
gyhoeddai Howell Harris ; nid yw yn
ymddangos fod y sylwadau ychwaith yn
nodedig am eu trefnusrwydd ; ond yr oedd
arddeliad dwyfol ar ei eiriau ; teimlai y
dorf oedd o'i flaen fod ganddo genadwri
oddiwrth Arglwydd yr holl ddaear ; a
chrynent fel dail yr aethnen gerbron y
nerth anorchfygol a deimlid.
Brysiodd Harris i Nantmel, Ile y pre-
gethai Daniel Rowland. Yr oedd y
teimlad dolurus a gynyrchwyd yn Mhorth-
yrhyd wedi llwyr iachau erbyn hyn.
Meddai y dydd-Iyfr : " O gwmpas pump
aethum i'r Gymdeithasfa, a theimlais yn
fy enaid, trwy yr Yspryd Glân, undeb a'r
brawd Rowland. O, y fath ddirgelwch
sydd yn yr eglwys, na wyr y byd ddim am
dano ! Y fath gydgymundeb ag ef ei hun
y mae yr Arglwydd yn roddi i'r creadur-
iaid tlawd sydd yn cael eu ffafrio ganddo !
Cefais y fath undeb a'r holl frodyr, fel nas
gallwn feddwl am eu gadael ar ol ; yr
oeddwn yn un â hwynt. Cefais oleuni
anghyffredin wrth arholi cynghorwr ieuanc,
a dangos iddo fawredd y gwaith. Ym-
drinasom a Ilawer o bethau, gan drefnu
diwrnod o ymostyngiad a gweddi, unwaith
y mis, a chymorth i'r saint erlidiedig yn
Llanllieni, a gwasgu ar yr \vyn i rodio yn
fwy agos, ac i ddwyn ffrwyth. Teimlwn
fy nghalon yn Ilosgi ynof. Yna agorwyd
fy ngenau gan yr Arglwydd i lefaru ani y
rhyddid Cristionogol, am fuddugoliaeth ar
bechod a Satan, y fraint o fod yn gred-
inwyr, perygl clauarineb, a'r angenrheid-
rwydd am zêl, tân, a bywyd ; na ddylem
fod mewn caethiwed, onide nas gallwn
arwain yr ŵyn i ryddid. Ond hyd yn nod pe
byddem ni ein hunain tan draed Satan, na
ddylem dynu eraill yno, ond yn hytrach
Ilawenychu wrth weled eraill yn gorchfygu.
Yr oeddwn i yn yr Yspryd ; ac yr oeddym
oll yn hyfryd a dedwydd. Teimlwn fy hun
yn fwy o goncwerwr ar ddiafol a phechod
28o
Y TADAU METHODISTAIDD.
.1744-
ffî
é-
» .' $. ~T"
MAP O DEITHIAU HOWELL HAERIS, WEDI EI DYNÜ GANDDO EF EI HUN.
[Cafwìjd hwn ijn inijsg ei hapijrau rhijddion. Ar y tu cefn ceir tafìen gyjìawn, yn dangos peUder y
gwahanol leoedd.']
1744-]
HOWELL HARRIS.
281
nag erioed. Ysgrifenasai un brawd lythyr
i'm ceryddu i a'r brawd Rowland am ein
hysgafnder. Cefais nerth i'w ateb mewn
cariad."
Felly yr ysgrifenai Howell Harris am
Gymdeithasfa Nantmel ; hawdd gweled fod
cariad brawdol yn llifo yno. Yr oedd y
Diwygiwr o Drefecca yn arbenig ar yr
uchel fanau, y diafol a phechod tan ei
draed, a'i galon yn nghlwm wrth eiddo ei
frodyr. A ganlyn y w y cofnodau : —
" Wedi arhoHad, a dangos natur a mawr-
edd y gwaith o gynghori, penderfynwyd
fod y brawd Thomas Meredith, Mochdre,
i gynghori ar brawf yn ei seiadau ei
hun.
" Gwxdi hir ymddiddan parthed stâd
y cymdeithasau, perygl clauarineb, a'r ang-
enrheidrwydd am dân dwyfol, a bywyd,
cydunwyd ar i'r holl frodyr gyfîroi y bobl
i wrando lle y mae arwyddion o fywyd, ac
i dderbyn yn serchus bob cenad sydd a
bywyd ynddo.
" Cydunwyd, gan fod esgeulusdra cyíf-
redinol gyda golwg ar ddwyn ffrwyth i'r
Arglwydd, ac hefyd yn rhodiad rhai, fod y
bobl i gael eu hanog i ddwyn ffrwyth, ac i
rodio yn addas.
" Fod dydd o ymostyngiad a gweddi i'w
gynal unwaith yn y mis, i ymddarostwng
oblegyd ein pechodau, a phechodau yr holl
eglwys weledig, yn nghyd ag eiddo yr holl
fyd, yn arbenig gyda golwg ar y rhyfel.
" Fod y dydd cyntaf o Dachwedd nesaf
i gael ei gynal yn ddydd o yinostyngiad
trwy yr holl seiadau, o herwydd yr erledig-
aeth yn Llanllieni.
" Fod y brawd Richard Tibbot i fyned
at y brawd John Richard i ddysgu y grefft
o rwymo llyfrau."
Yn mhen pum niwrnod cynhelid Cym-
deithasfa Fisol yn Nhrefecca. Howell
Harris a lywyddai. Yr holl gofnod a geir
am dani yvv hyn : " Wedi agor ein
calonau i'n gilydd, a chydnabod ein clauar-
ineb a'n difaterwch, yn nghyd ag arafwch
ein cynydd mewn sancteiddrwydd, a hyny
gyda chalonau drylhog i raddau, a than
deimlad o ddrygedd ein pechodau ein
hunain, a phechodau eraill, cadarnhawyd
y penderfyniadau a basiwyd yn Nantmel."
Y mae y nodiad canlynol yn dra arwydd-
ocaol o safle Howell Harris yn nglyn â'r
diwygiad : " Ni chynhaliwyd rhagor o
Gymdeithasfaoedd Misol y chwarter hwn.
Aeth y brawd Harris i Lundain."
Cychwynodd Howell Harris a'i briod tua'r
brif-ddinas tua chanol Tachwedd, a dych-
welasant yn eu holau dydd Sadwrn,
Rhagfyr 29.
PENOD XII
HOWELL HARRIS
(1745)-
Pregcth Williams, Paiitycelyn, yn NgJiymdcithasfa Watford — Ymdrin a phynciau athrawiacthol
dyfnion — Harris, yn Eyivd, yn galw gwaed Crist yn ^' waed Diiîìj" — Cymdeithasfa Aber-
gorlech — Hoivell Harris mewn dyfroedd dyfnion yn Sir Benfro — Daniel Rowland yn
rhybitddio Harris i fod yn fwy gofalns parthed yr athrawiacthan a bregethai — Sefyllfa
gyffrous Methodistiaid Lloegr — Cymdeithasfa Bryste — Cymdeithasfa Cayo — Llythyr cyng-
horwyr y Groeswen — Price Davies yn caniatau y sacrament ir Mcthodistiaid yn Nhaìgarth
Datganiad Howell Harris yn Nghymdeithasfa Watford — Howell Harris yn Llundain
eto — Pressio ir fyddyn — H. Harris ar daith yn Sir Forganwg~H . Harris yn arolygwr y
Methodistiaid Saesneg — Dadl a Griffith Jones, Llanddowror — Ymweled a Lìundain eto.
^IYCHWYNODD y Methodistiaid
ar y flwyddyn 1745 trwy gynal
Cymdeithasfa Chwarterol yn Wat-
ford, ar yr ail ddydd o lonawr, at ba
un, yn syn iawn, nid oes unrhyw gyf^
eiriad yn nghofnodau Trefecca. Cyr-
haeddodd Howell Harris y lle y noson
cynt. Cymysglyd oedd ei broíìad. Ar y
cychwyn llenwid ei feddwl a llawenydd ac
a rhyddid wrth weled yn Nghrist ei hoU
hawl a'i deitl i fywyd tragywyddol. Eithr
yn Watford clywodd, fel yr ymddengys,
am ryw gyfeihornadau oedd ar led, a dad-
leuon, a chyffrodd hyny ei yspryd yn
ddirfawr. " Gwelais," meddai, " ddarfod
i'r gelyn gael ei ollwng yn rhydd yn ein
mysg, ac megys y trigai yn ein llygredig-
aethau yn flaenorol, ei fod yn awr ynom yn
yspryd cyfeiliornad a thwyll. Yna, wrth
edrych ar ein dadleuon, cefais ryddid i
lefain : ' O Arglwydd, os wyt yn bwriadu
ein huno oU yn un, a'n dwyn yma oU, a
pheidio caniatau i ni gael ein gwasgar na'n
rhanu ynia, yna dyro i mi gael y fath olwg
arnynt (y brodyr cynulledig), ac ar y
gwaith, ag a bâr i mi fuddugoliaethu mewn
llawenydd, ac hefyd i alaru.' Wedi dys-
gwyl am beth amser, cefais y fath olwg ar
fawredd a mawrhydi Duw, y cartref
gogoneddus sydd fry, ei waith, pa mor
ogoneddus yw yr eglwys, yn nghyd â'r
gwaith sydd genym mewn llaw, fel y cefais
yspryd i alaru trosof fy hun a'r lleiil."
Y mae yn amlwg ei fod yn gythryblus ei
feddwl rhag i'r Gymdeithasfa fod yn faes
rhyfel, ac iddi derfynu mewn ymraniad.
Yna aeth i wrando WilHams, Pantycelyn,
yn pregethu, yr hyn a wnaeth gyda nerth
mawr, oddiar Can. iii. 8. " Agorodd yr
holl lyfr hyd y fan hon," meddai Harris,
" yna dangosodd natur y nos y cyfeirir ati
yma, fel (i) nos yspryd deddfol ; (2) nos
erledigaeth ; ac yn (3) nos profedigaethau a
thrallodion. OÎrheiniai hyn yn hanes yr
eglwys yn yr Aipht, yn Nghanaan, yn
Jerusalem, ac hyd yn awr, gan gyfeirio yn
neillduol at Job, a Joseph, &c. Dangos-
odd er mor lUosog oedd gelynion yr eglwys,
fod Duw yn ei hamddiffyn. Yr oedd yn
anghyffredin o bwerus wrth ddangos fod
erledigaeth, efallai, wrth y drws. Yr oedd
yn cyrhaedd i'r byw wrth gyffroi pawb i
fod yn ddiwyd, yn awr tra y mae ein
rhyddid genym."
Y mae yn amlwg i WiUiams gael odfa
anghyffredin. Yna eisteddodd y Gym-
deithasfa hyd o gwmpas wyth yn yr hwyr,
ac yn groes i ofnau liawer, ffynai undeb a
chydgordiad hyfryd yn y cyfarfod. Eithr
trowyd un brawd o gynghorwr o'i swydd
oblegyd ei esgeulusdra. " Yna," meddai
Harris, " ymdriniasom â rhai dadleuon a
gymerasai le yn mysg y brodyr. Gwelais
werth yr Ysgrythyrau, a'r drugaredd fawr
eu bod genym, a l")od yn rhaid i ni gredu y
gwirioneddau a gynwysant heb ymresymu
1745-]
HOWELL HARRIS.
283
yn eu cylch. Dywedais fod chwech o
ddirgeledigaethau i'w credu, nas gellir eu
hamgyffred. Yn (i) y Drindod ; (2) yr
ymgnawdoliad ; (3) cyfrifiad o bechodau
Adda i ni, a'n cyfranogiad o honynt wrth
natur ; (4) cyfrifiad o Grist trwy ras i ni,
a'n cyfranogiad o hono ; (5) fod Duw wedi
caru ei bobl a chariad tragywyddol, ac eto,
hyd nes eu hargyhoeddir, eu bod yn blant
digofaint, a than y felldith ; (6) fod gan
Dduw etholedigaeth, ond dim gwrthoded-
igaeth." Y mae yn amlwg nid yn unig
fod Harris yn iach yn y ffydd, ac yn
dduwinydd rhagorol, ond hefyd y meddai
syniad cywir am derfynau y rheswm
dynol, gan ddeall fod rhai dirgeledigaethau
yn perthyn i'n crefydd nad gwiw ceisio
Ìlygadrythu yn ymchwilgar iddynt, ond yn
hytrach ymostwng yn addolgar gerbron y
mawr ragorol ogoniant a gynwysant.
" Yna," meddai, " ymdriniasom a Supra-
lapsariaeth, a Sublapsariaeth, ddarfod i
Dduw ein caru yn rhad, ac mai Crist yw
y ffordd ar hyd pa un y rhed ei gariad
atom ; y modd y mae yn ewyllysio pechod,
sef trwy ei oddef ; ac wrth ymdrin â'r pethau
mawrion hyn gwelais ein hanwybodaeth."
Nid rhyfedd ; yr oedd y brodyr yn gwthio eu
cychod i ddyfroedd dyfnion. Ond y mae
yn ddyddorol sylwi nad dynion bychain,
yn cael eu dylanwadu gan zêl benboeth,
oedd y Tadau Methodistaidd, ond fod dir-
geledigaethau yr efengyl, y rhai nad yw yn
debyg y medr y rheswm dynol byth eu cwm-
pasu, yn meddu attyniad mawr iddynt. Fel
na byddo i'r darllenydd gael ei ddychrynu
gan y termau mawrion a dyeithr, Supra-
lapsariaeth a Sublapsariaeth, gallwn ei hys-
bysu fod a fynont a threfn y bwriadau yn
y cynghor dwyfol ; y cyntaf yn dal fod y
bwriad i achub dyn yn Nghrist yn blaenori
y bwriad i oddef iddo gwympo; tra y mae
yr olaf yn dal y gwrthwyneb.
Eithr rhaid i ni fyned yn mlaen gyda
desgrifiad Howell Harris o'r Gymdeithasfa.
" Cefais ryddid wrth ganu i ofyn i'r
Arglwydd a oedd yr hyn a wnaethom yn
foddlawn iddo. Pan yn gweddío, tynwyd
fi allan mewn dwfn ostyngeiddrwydd,
cariad, a drylHog galon. Wrth glywed
newyddion da am y modd yr oedd yr
Arglwydd yn arddel y brodyr, llawenychais
yn fawr, gan weled fy hun y gwaelaf o
honynt oll. Yna, gwedi bwyta, eistedd-
asom i lawr hyd o gwmpas deuddeg,"
Dranoeth, eisteddodd y Gymdeithasfa
drachefn hyd o gwmpas un-ar-ddeg, a chlo-
wyd y cwbl i fynu gyda phregeth gan
Daniel Rowland, oddiar y geiriau yn
Nehemiah : " O fy Nuw^ cofia hwynt."
Ymddengys fod yr odfa yn un arbenig, hyd
yn nod i Rowland. Meddai Harris :
" Wrth weddío teimlwn fy yspryd yn cael
ei dynu allan yn y deisyfiadau gydag ef ;
yn neillduol pan y gweddíai dros y brenhin
a'r genedl ; a chefais brawf yr ai y gwaith
yn ei flaen, ac nad ai yr erledigaeth yn
nilaen. Yn sicr, yr oedd yn Ilawn o Dduw.
Cefais nerth i gydymdrechu ag ef yn ei
bregeth. Y fath ddylanwad, yr wyf yn
meddwl, ni welais erioed, fel yr oeddwn
dan orfodaeth i anrhydeddu yr anwyl frawd
Rowland. Yn sicr, yr oedd y nerthoedd yn
rhyfeddol y tro hwn. Cafodd ddoethineb
rhyfedd, yn fewnol ac yn allanol, i ddangos
fel y mae pob aelod yn meddu ei le a'i
ddefnydd yn y corph, felly hefyd yn yr
eglwys. ' Os wyt wrthgiliwr,' meddai,
' darllen yr Hebreaid ; os wyt ddefos-
iynol, darllen y Salmau ; os wyt o duedd-
fryd ryfelgar, darllen Joshua a'r Barnwyr ;
ond os wyt am gyflawni pethau mawr,
darllen Nehemiah ; aeth efe tuhwnt i bawb
yn mawredd ei ymgymeriadau, a hyny heb
offerynau cymhwys.' " Nis gallwn fyned
yn mlaen gyda difynu pregeth Rowland,
er cymaint y brofedigaeth. Meddai Harris :
" Y mae nerth rhyfedd wedi ei roddi iddo
i dynu eneidiau at Dduw^, ac i dynu Duw
atynt hwy. Yr oedd fel pe nas gallai roddi
i fynu ymdrechu. Bendigedig a fyddo yr
Arglwydd, ei fod eto yn ein mysg yn y
fath fodd. Gwelaf fod graddau helaeth-
ach o allu wedi ei roddi iddo na neb o fewn
fy adnabyddiaeth. Am danaf fy hun,
ychydig o allu a feddaf, ac ychydig
ddylanwad." Nid rhyfedd i'r brodyr,
gwedi y fath amlygiad o bresenoldeb y
Goruchaf yn eu mysg, ymadael yn Ilawen.
Cynhelid Cymdeithasfa Fisol yn Nhre-
fecca, lonawr 16. A ganlyn yw ei chof-
nodau : —
" Gwedi treulio amryw oriau yn nghyd,
yn gweddîo ac yn canu, mewn cariad-
wledd, trwy yr hyn y taniwyd ein calonau
mewn modd anarferol, pob un yn teimlo
presenoldeb yr Arglwydd mewn modd tra
anghyffredin, wrth fod pob un o'r brodyr
yn darllen ei adroddiad am y seiadau oedd
dan ei ofal, penderfynwyd : —
" Ein bod yn trefnu rhyw foddion i
ysgafnhau y brawd James yn ei amgylch-
iadau allanol, fel y byddo yn fwy rhydd i
fyned o gwmpas.
" Ymroddi i weddi gyda golwg ar fwriad
y I)rawd Thomas Jones parthed priodas,
284
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1745-
gan gyduno ei fod i adael ei ysgol yn
gyfangwbl.
" Fod y brawd Thomas Jones i chwilio
i mewn i amgylchiadau y brawd Edward
Bowen, ac i geisio deall a ydyw yr Ar-
glwydd am iddo symud o'r lle y mae.
" Fod y brawd Lewis Evan i fyned mor
bell ag y gall i'r Gogledd, i Sir Feirionydd,
mewn ufudd-dod i alwadau allanol.
" Anerchwyd y cyfarfod gan y brawd
Harris gyda golwg ar ostyngeiddrwydd,
ffydd, a zêl, ac am chwilio yr Ysgrythyrau,
ynghyd a gofal na byddo ein zêl a'n
cynhesrwydd yn myned y tu hwnt i'n
gwybodaeth, a'n golwg ar Dduw trwy
ffydd.
" Fod y brawd Harris i siarad â brawd
yn Merthyr sydd yn myned i briodi gwraig
heb ganiatad ei thad, er ceisio cael ganddo
oedi.
" Fod y brawd Harris i benderfynu
rhyw anghyd-ddealltwriaeth yn seiat Llan-
afan, yn codi oddiar fod yr Ymneillduwyr
yn dyfod (i bregethu) i'r tŷ lle y cyfar-
fyddent, yn amser eu cyfarfodydd, a
hwythau yn cwyno nad ydynt yn cael un
budd wrth eu gwrando.
" Wedi bod yn fwy dedwydd, hyfryd, a
llawnach o'r cariad dwyfol nag arfer, a
chwedi penderfynu pob peth, pob un yn
dwyn tystiolaeth i bresenoldeb amlwg yr
Arglwydd yn ein mysg, ymadawsom o
gwmpas deuddeg, wedi bod yn nghyd yn
y pregethu, y gariad-wledd, a'r Gymdeith-
asfa, am o gwmpas deuddeg awr. Gogon-
iant yn y goruchaf i Dduw ! "
Y mae yn sicr iddynt gael Cymdeith-
asfa lewyrchus anarferol. Meddai Harris :
" Wrth ganu a gweddío llanwyd ein
calonau a'n heneidiau fel â gwin newydd.
Cefais ddoethineb wedi ei roddi i mi
i drefnu ein hamgylchiadau, wedi chwilio i
stâd yr holl gymdeithasau a'r cynghonwyr.
Anogais i ostyngeiddrwydd, doethineb,
chwilio yr Ysgrythyrau, gan eu rhybuddio
gyda golwg ar dân a zêl. Ond wedi cael
mwy o dân nag y gallai ffydd ei ddwyn,
y cnawd a'i derbyniodd, a minau a syrth-
iais. Ond O, dynerwch yr Arglwydd tuag
atom. Cefais ychydig olwg i weled fod
Duw o'n plaid." Nid hawdd deall beth
a feddylia wrth ddarfod iddo gael mwy o
dân nag y gallai ffydd ei ddwyn. Ai nid
yw yn awgrymu tuedd, yn ymylu ar fod yn
afiach, i ddadansoddi yn ormodol ystâd
ei galon, a natur ei deimladau ? Modd
bynag, tebygol yr ystyriai nad oedd ei zêl
yn y cyfarfod yn gyfangwbl yn ol gwybod-
aeth, a bod yr hwyl i raddau yn fwy na'r
argyhoeddiad. Dengys y nodiad dyner-
wch cydwybod na cheir yn gyffredin ei
gyffelyb.
Tranoeth, y mae yn parotoi i gych-
wyn i daith fawr, o dros fis o amser,
trwy ranau helaeth o Ddê a Gogledd
Cymru. Dengys y nodiad canlynol ei
deimlad ar yr achlysur : " Heddyw,
ysgrifenais lythyr Cymraeg i Sir Feir-
ionydd, wedi cael fy llanw o gariad neill-
duol atynt, a deall fod ewyllys yr Arglwydd
i mi ymweled â hwynt, ac efallai i farw
yn eu mysg." Ai y gorlafur yn debyg o
brofi yn ormod i'w gyfansoddiad eiddil, a
olyga, ynte y posiblrwydd iddo gael ei
osod i farwolaeth gan yr erlidwyr, nis
gwyddom. Dydd Gwener, aeth mor bell
ag Erwd, lle y pregethodd gyda nerth
anarferol. " Dywedais wrthynt," meddai,
" am edrych at waed Duw. Ni chefais
gymaint erioed o'r blaen o'r goleuni hwn,
i ganfod y gwaed, ac i weled yr angen-
rheidrwydd am iddo fod yn waed Duw.
Felly, ni chefais erioed o'r blaen gymaint
o nerth ac awdurdod wrth bregethu." Y
mae y bregeth hon yn Erwd yn drobwynt
yn ei hanes, fel y pryd y defnyddiodd
gyntaf yr ymadrodd " gwaed Duw," yr
hwn ddywediad a brofodd yn dramgwydd
mawr i'r brodyr, ac a fu yn un o brif
achosion yr ymraniad. Ond dilynwn y
daith trwy gyfrwng y dydd-lyfr : " Aethum
yn fy mlaen yn hyfryd tua Llanfair-
mualít, ac ar y ffordd yr oedd gwaed
Crist fel gwaed Duw wedi ei osod yn
rhyfedd gerbron fy ngolwg. A'r goleuni
hwn a'm cadwai yn ddedwydd. Ni welais
yn flaenorol ddirgelwch y gwaed hwn fel
gwaed Duw. Daethum i Lanfair. Wrth
weled y plant yn chwareu, drylliwyd fy
nghalon gan alar duwiol ; prin y gallwn ei
oddef." Pregethodd yno gyda chryn
arddeliad. Aeth i Dolyfelin, lle' y cyfar-
fyddodd â Mr. Gwynn, presenoldeb yr
hwn yn wastad a daniai ei enaid. Pre-
gethodd oddiar Gal. iv. i. Lletyai yn
nhŷ Mr. Gwynn y noswaith hono, Ue y
darllenodd lyfr o waith Mr. Griffith Jones
ar dragywyddol gariad Duw. " Wrth
ddarllen," meddai, " rhwygodd Duw y
gorchudd ; cefais y fath oieuni na chefais
ei gyffelyb o'r blaen, i weled ddarfod iddo
fy ngharu â chariad tragywyddol, ac y
bwriadai yn nhragywyddoldeb fy nwyn i
ogoniant. Yn y goleuni hwn gwelwn bob
peth yn diílanu i ffwrdd, a fy hun yn
wrthddrych cariad tragywyddol y Drindod,
1745-
HOWELL HARRIS.
285
fel y ffieiddiwn fy hun oblegyd pechod, ac
y deallwn natur pechod, wreiddyn a
changen, yn fwy nag erioed." Aeth i Lan-
gamarch, lle y pregethodd oddiar eiriau yn
Hosea, ac y cafodd odfa nerthol. Pasiodd
trwy Merthyr Cynog, lle y pregethodd
oddiar Phil. iv. 4 ; oddiyno i Landdewi,
lle y derbyniodd y sacrament ; ac yn ei
flaen i'r Glyn, lle y pregethodd oddiar
Esaiah lxxx, i. " Cefais yma fwy o nerth
i bregethu y gwaed nag erioed," meddai ;
" dangosais nad hwn sydd yn cael ei
bregethu, ond rhesymau, ac mai dyna
paham yr ydym wedi colU y nerth o'n
mysg ; a bod rhai yn ei ddirmygu. Cyf-
eiriais at allu yr Arglwydd ; mai gwaed
Duw ydyw, ac am adnabod Crist yn unig."
Gwehr fod yr un syniad yn oruchaf yn ei
feddwl trwy y daith. Aeth yn mlaen trwy
Blaenllywel, gan ddyfod i Landdeusant y
diwrnod o flaen y Gymdeithasfa Fisol yn
Abergorlech. Y mae ei brofiad yma yn
haeddu ei groniclo. Meddai : " Heddyw a
ddoe toddwyd fi yn llwyr, a darostyngwyd
fi wrth draed yr Arglwydd, wrth gael
goleuni gan yr Yspryd Glân i ganfod y
trugareddau allanol sydd yn fy nghylchynu.
Ac felly, tan ddylanwadau dwyfol, mi a
syrthiais ar y llawr, ac a addolais, gan
gyfaddef fel y canlyn : ' O Arglwydd,
tydi ydwyt oll yn gariad ; y mae yn Ihfo
yn rhydd i mi. Minau ydwyf oll yn
bechod, a hunan, ac anwybodaeth, a
gelyniaeth ; ac yn arbenig yn annghrediniol
ac anniolchgar. Ond eto, yr wyt ti yn
maddeu y cwbl. O gariad digyffelyb !'
Yna tynwyd fi allan mewn dymuniad ar
iddo egluro ei ogoniant yn Nghrist. Yno
cefais ryddid i ddymuno ar iddo fod yn ein
mysg, a dylanwadu ar y brawd Rowland i
fyned yn fwy o gwmpas yr ŵyn, i'w porthi
a'u tanio."
Gwelwn fod Harris dan yr argyhoeddiad
eto nad oedd Daniel Rowhind mor ym-
drechgar gyda theithio ag y dylasai. Nis
gallwn benderfynu a oedd gradd o wir-
ionedd yn hyn ; ai ynte nad oedd Harris
yn cymeryd yn ddigonol i ystyriaeth am-
gylchiadau ei gyfaill, yr hwn oedd yn
guwrad tair o eglwysydd pwysig. lon. 22
y cynhelid y Gymdeithasfa Fisol yn Aber-
gorlech ; yr oedd Rowland, a Williams,
Pantycelyn, yn bresenol, a'r cyntaf oedd
yn y gadair. Agorwyd y gweithred-
iadau gyda phregeth gan Rowland oddiar
Jeremiah vi. 5. Meddai Harris : " Wrth
ymuno yn y weddi fwyaf nerthol, fedd-
yliaf, a wrandewais erioed, teimlwn fy
hun yn cael fy narostwng ; gwelwn fy hun
y creadur gwaethaf a greodd Duw ; fod
mwy o bechod yn dylifo allan o honof na
neb o fewn y byd. Fy enaid a ddaros-
tyngwyd ynof ; canfyddwn fy hun y
diweddaf yn ngwinllan Duw ; gwelwn y
brawd Rowland fel fy mrawd hynaf, ac
eto fod Duw wedi fy anfon inau." Wedi y
bregeth gweinyddid y sacrament. Ó
gwmpas pump ymgynullwyd i drin gwa-
hanol faterion, a buwyd wrth hyny hyd o
gwmpas deg. Nid yw Harris yn son dim
am y penderfyniadau ; yn unig crybwylla
ei fod ef a Rowland yn cydletya. Y mae
cofnodau y Gymdeithasfa fel hyn : —
" Wedi gwrando am ystad y seiadau, a
chael fod clauarineb yn ffynu yn Sir For-
ganwg, a Ileoedd eraill, penderfynwyd cadw
dydd o ymostyngiad rhwng hyn a Chwef-
ror 2iain.
" Cydunwyd fod y brawd John Morgan i
fyned o gwmpas ar unwaith, i gasglu yr
arian am y Ilyfrau, i dalu Mr. Farley,
cyhoeddwr y WeeMy History.
" Fod y brawd David WiIIiams i fyned
i ymddiddan â Mr. Griffith Jones, dydd
Sadwrn nesaf, ac i gynorthwyo y brawd
John Richard pan y gall, gyda gofalu am
yr ysgol."
Dyna yr holl o'r cofnodau, a gwelwn mai
cymharol ddibwys ydynt. Gwelwn fod y
Parch. D. Williams, Llysyfronydd, wedi
symud i Forganwg erbyn 1745. Aeth Harris
a Rowland yn nghyd tua Chilycwm, Ile y
pregethodd y diweddaf. Teithiodd Harris
trwy Glanyrafonddu, Ile y pregethodd ac y
bu yn anerch y seiat, a Llanarthney,
Llanon, a St. Clears, gan gyrhaedd y
Parke, cartref Howell Davies, erbyn y
Sul. Bu mewn dyfroedd dyfnion y Sul
hwn, a chaiff ef ei hun adrodd yr hanes :
" Gwelwn fy hun," meddai, " heb ddim
gofal am ogoniant Duw, heb ddim cariad
at y brodyr, heb dosturi, nac ystyriaeth o'r
canlyniadau. Canfyddwn fy mod yn pechu
yn erbyn cariad a gras ; yn erbyn trugar-
edd, moddion, perthynasau, a bendithion.
Gwelaf fy mod yn suddo yn ddyfnach,
ddyfnach. O ddyfnder drwg pechod !
Yr oeddwn yn y fath drueni a dyryswch,
fel nas gallaswn ddyfod allan o hono.
Ond er fy mod wedi fy ngwanhau a'm
dryllio, teimlwn gariad pur at y brodyr,
a gwelwn fy hun yn annheilwng i fod yn
eu mysg, gan eu bod oll yn cael eu ffafrio
yn fwy na mi mewn gras a sancteiddrwydd.
O gwmpas tri aethum i lawr, ond ni
theimlwn yn rhydd i fyned at y brodyr ;
286
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1745-
gwelwn yr un pryd ganlyniadau niweidiol
peidio myned ; ond nis gallwn help. Yn
unig cefais nerth i lefain ar i'r Arglwydd
gyflawni ei ewyllys, bydded y peth a fyddo.
Eithr fel yr oeddwn yn dychwelyd tua
Llanddowror, a chwedi dyfod i"r fan lle yr
oedd yn rhaid i mi benderfynu, tosturiodd
yr Arglwydd wrthyf, a rhoddodd yn sydyn
y fath gariad i mi at y brodyr, fel nas
gallwn lai na llefain yn fy yspryd am fod
gyda hwynt, a chael byw a marw gyda
hwynt. Yr oeddwn yn un â hwy niewn
modd neillduol. Cefais y fath undeb â'r
brawd (Howell) Davies, na chefais ei
gyffelyb o'r blaen, gan deimlo ffrwd o serch
at ei enaid a'i gorph fel teml Duw, fel un
yn ffafr Duw, ac fel cenad Duw." Amlwg
yw iddo fod mewn ystorm ofnadwy o ran
ei feddwl ; ac y mae yn bur sicr iddi godi
oddiar ryw dramgwydd a gawsai yn y
brodyr. Nid annhebyg iddo glywed rhyw
chwedl, naill ai ar ei ífordd i Sir Benfro,
neu ynte yn nhŷ Howell Davies y nos o'r
blaen, a barodd iddo ymddigio. Efallai
iddo glywed ei bregethau yn cael eu
beirniadu, neu fod rhai o'i hoff gynlluniau
yn cael eu gwrthwynebu. Ffromodd yn
aruthr o herwydd hyn ; poethodd ei dym-
herau nes y collodd pob llywodraeth arnynt
am yspaid ; a chwedi ymlonyddu i raddau, er
y teimlai gywilydd o hono ei hun, ni fedrai
gael rhyddid i fyned i fysg ei gyfeilhon,
oeddent wedi cydymgynull y dydd cyn y
Gymdeithasfa, ac yn treuHo y prydnhawn
mewn gweddi a mawd. Bu mewn cyfyng-
gynghor pa beth a wnelai, ai tori pob
cysylltiad â hwy, a dychwelyd adref, ynte
myned i'w mysg. Trwy drugaredd, Ilan-
wyd ei fynwes a chariad, fel y trodd y rhod
o blaid y diweddaf ; ond yr oedd yr am-
gylchiad yn flaenbrawf o'r dymhestl a-
giudodd Harris allan o'r cylch Methodist-
aidd yn mhen pum mlynedd ar ol hyn.
Ar ol tymhestl y daw hindda ; ac ym-
ddengys fod yr haul yn llewyrchu ar y
frawdohaeth oedd wedi ymgynull yn
Hwlffordd, yn y Gymdeithasfa, prydnhawn
dydd Llun. ]Meddai Harris: "Yroeddwn
yn agos at Dduw, a galluogwyd ni i drefnu
ein cynlluniau tuhwnt i bob disgwyliad,
fel y synwn ddarfod i'r gelyn geisio fy
rhwystro i ddyfod yma. Yn sicr, gwnaed
llawer o waith ; a threfnasom amryw
bethau a ymddangosent yn dra dyrus ;
megys ani arolygwr newydd, trefnu y
cynghorwyr anghyoedd, symud rhagfarnau
am y ty newydd yn y Ile hwn, agor ein
calonau i'n gilydd gyda golwg ar gyíìawn-
had, a pha mor bell y geill eneidiau fyned
heb ras achubol, Saul yn enghraifft,
yn nghyd â Judas, Balaam, Demas, y
morwynion ffol, a'r rhai y crybwyllir am
danynt yn Heb. vi. Cawsom lawer o
serch at ein gilydd, ac undeb, a chyd-
\veithrediad. Yna aethum i bregethu."
Gyda golwg ar ei bregeth, dywed :
" Eangwyd fy nghalon, fy ngenau a agor-
wyd, teimlai y bobl, a disgynodd yr Ar-
glwydd mewn modd anghyffredin i lawr ;
yn enwedig pan ydangosaismor arddérchog
y byddai gyda hwynt yn angau, pan
fyddai eu llygaid yn pylu, a'r galon yn
pallu ; ' yna,' meddwn, ' y cewch chwi, íe,
chwi bechaduriaid tlawd a dirmygedig sydd
yn credu, weled gogoniant tŷ ein Tad, uno
â'r llu nefol, a sefyll o gylch yr orsedd i
orfoleddu ac addoli.' " Cafodd odfa nerthol
iawn, ac wrth ymadael yr oedd ei galon yn
gynhes at ei Waredwr ac at y brodyr. A
ganlyn yw y prif benderfyniadau a gafodd
eu pasio : —
" Fod y brawd WiIIiam Edward i fod ar
brawf hyd y Gymdeithasfa nesaf, ac i ym-
weled yn wythnosol a seiadau Tyddewi,
Penrhos, a Mounton ; a'i fod ef, yn nghyd
â'r holl gynghorwyr anghyoedd eraill, i
beidio ymweled a Ìleoedd eraill, ond fel y
bydd eu hamgylchiadau, a'u gofal pen-
odol yn caniatau, a than gyfarwyddid eu
harolygwyr.
" Fod y brawd Cristopher Mendus i
ymweled yn wythnosol a seiadau Walton-
West, a Studder, gyda y rhyddid a'r
rhwymau y cyfeiriwyd atynt.
" Fod y braw^d John Sparks i gynghori
ar brawf fel cynt yn nghymydogaeth
Hwlffordd, dan aroiygiaeth y brawd
Davies.
" Fod y brawd George Gambold i fyned
o gwmpas yn gyfangwbl,ac i adael yr ysgol,
er llefaru yn gyhoeddus fel arolygwr, ar
brawf hyd ein Cymdeithasfa Chwarterol
nesaf yn Cayo."
Wedi y Gymdeithasfa aeth Howell
Harris trwy ranau helaeth o Benfro, gan
basio trwy Dyddewi, Treíin, Ile y cafodd
odfa anarferol iawn, Bwlchygroes, Llwyn-
ygrawys, ac Eglwyswrw. Testun ei
weinidogaeth yn mhob Ile oedd y gwaed,
a'r clwyfau. Yna teithiodd Sir AÌSerteiíì
ar ei hyd, gan ymweled a Llechryd, Cwm-
cynon, Cilrhed^-n, Llanbedr-pont-Stephan,
Capel Bettw^s, a Llanddewi-brefi, Ile y
Iletyai mewn hen balasdy yn nghesail y
mynydd, o'r enw Foelallt. Yn mhob man
rhoddai bwys mawr ar rinw'edd y gwaed.
1745-]
HOWELL HARRIS.
287
oblegyd ei fod yn waed Duw. " Yr wyf
yn gweled fy mod yn pregethu'r gwir-
ionedd," nieddai. Aeth y Sul i Langeitho,
i wrando Rowland ; ac oddiyno i eglwys
Llancwnlle, a phregethodd ei hun yn yr
hwyr yn mhentref Gwynfil, ger Llan-
geitho, i gynulleidfa o rhwng dwy a thair
mil, Rhwystrwyd ef i fyned i Ogledd
Cymru, fel y bwriadesai, a dychwelodd
adref trwy Gayo a Llwynyberllan. Rhydd
y crynodeb canlynol o'r daith : " Mis i
heddyw yr aethum o gartref i ymweled á
Siroedd Caerfyrddin, Penfro, ac Aberteifi,
taith o tua thri chant o filltiroedd, a
galluogwyd fi i bregethu o gwmpas haner
cant o weithiau, gan brofi bendithion
diderfyn, yn nghyd â nerth meddwl a
chorph anarferol i gyhoeddi Crist." Yn
mhen ychydig ddyddiau wedi ei ddych-
weliad yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn
Nhrefecca. Dibwys oedd y trefniadau a
wnaed ; ond yn nglyn â hi cynhaliwyd
cariad-wledd, yn mha un y cafwyd arwydd-
ion arbenig o bresenoldeb y Goruchaf.
" Yr oedd yn gariad-wledd yn wir ; buom
yno yn canu, yn gweddío, ac yn cynghori,
hyd nes yr oedd gwedi deg. Ond beth
wyf fi wrth lawer o honynt ? Yr oedd y
brodyr wedi eu tanio i'r fath raddau fel y
buont yn canu ac yn gweddîo hyd yn
agos i ddau. Gogoniant i Dduw, yr hwn
sydd eto yn ein mysg ! Yn y gariad-
wledd cefais nerth i geisio, ac i guro ;
teimlwn ryw gymaint o agosrwydd at
Dduw ; ond ni ddaeth yn y modd fflamllyd
hwnw y daethai gynt, i gymeryd ymaith y
gorchudd, gan ddangos ei ogoniant, nes
toddi fy enaid, a rhoddi i mi fynediad i
mewn agos, Ond parhausom i ymdrechu
gyda Duw, ac yn mhen ychydig cefais
nerth i ofyn i'r Arglwydd a oedd yn
bwriadu ymweled a'r genedl yn ei ras, a
dychwelyd atom ? A oedd yn bwriadu
sefyll wrth gefn y Methodistiaid tlodion,
gan eu harwain a'u hamddiffyn ? Yn
ganlynol, cefais foddlonrwydd yn fy enaid
fy hun ei fod yn dyfod atom mewn cariad.
Gwedi hyny, cefais ryddid i ofyn yr un
peth yn y weddi gyhoeddus, a'r Arglwydd
a ymddangosodd yn nghydwybod y brodyr,
a boddlonodd hwy yn yr un dull ag y
boddlonwyd fi, Yna, cefais ryddid mawr
i'w hanog i ymdrech, i fywyd, a zél, a
gweithgarwch."
Dengys y difyniadau hyn ddyn yn byw
yn agos iawn at yr Arglwydd. A oedd ei
waith yn cwestiyno y Duw mawr, ac yn
gofyn ateb pendant ganddo gyda golwg ar
y dyfodol, ac yna yn cymeryd ei deim-
ladau boddlongar ei hun a'i frodyr fel
atebiad cadarnhaol i'r hyn a ofynwyd, yn
dangos ystad meddwl hollol iachus, ni
chymerwn arnom benderfynu. Ymddengys
fel blaguryn o'r dueddfryd gyfriniol a
ymddadblygodd ynddo i raddau gormodol
wedi hyn. Yr oedd Cymdeithasfa Fisol
yn Nhrefecca drachefn ar yr ail ddydd o
Fawrth, a daeth Daniel Rowland i bre-
gethu i'r ardaloedd cylchynol amryw
ddyddiau yn flaenorol. Aeth Harris i'w
wrando i Erwd. Pregethodd yntau yn
rhyfedd oddiar Phil. iii. i : " lë, yn ddi-
ameu, yr wyf hefyd yn cyfrif pob peth
yn golled, o herwydd ardderchawgrwydd
gwybodaeth Crist lesu fy Arglwydd."
O'r cofnodau Ilawn o'r bregeth a rydd
Harris, nis gallwn ddifynu ond ychydig,
" Dangosodd," meddai, " fel yr oedd ein
cyflwr yn Nghrist yn rhagori ar eiddo
Adda. Yn (i) Pe y parhäi Adda heb
bechu, nid ydym yn cael y cawsai ei
symud oddiar y ddaear ; ond yr ydym ni i
gael ein symud i'r nefoedd at Dduw.
(2) Nid oadd efe ond mewn paradwys i ba
un yr oedd Satan yn gallu cael mynediad,
ond yr ydym ni i gael ein symud i fan lle
nas gall ddyfod. (3) Er ei fod mewn ystyr
yn llawn o ras, eto nid oedd ganddo
ddigonedd y tu cefn ; felly, er y medrai
sefyll, yr oedd yn bosibl iddo syrthio ; ond
y mae genym ni drysorau dihysbydd y tu
cefn i ni, faint bynag a wariom. Yma yr
oedd (Rowland) hyd adref ar barhad mewn
gras, gan ddangos os oedd Satan wedi ein
dinystrio trwy bechod fel nasgallwn achub
ein hunain, eto fod Crist yn well gweith-
iwr nag efe ; felly, ai ni fydd iddo ein hachub
mor effeithiol fel nas gallwn ddamnio ein
hunain ? Dangosodd fod y rhai a gam-
ddefnyddiant yr athrawiaeth hon yn
gnawdcl. Yn nesaf, eglurodd ardderch-
awgrwydd gwybodaeth Crist, gan ddangos
mawredd y wybodaeth hon, a'i defnydd-
ioldeb, ei bod yn dwyn pardwn, gras, a
dedwyddwch. Yr oedd yn Ilawn addysg,
ac o ddoethineb ddwyfol," meddai. " Yna
aethum gydag ef tua Threfecca, i wrando
arno, ac i gael fy nghryf hau wrth wrando.
Dywedai fod yr Arglwydd yn fy rhoddi i
iddo gyda hwy i gryfhau ei ddwylaw, ac i
lefaru yr un peth ag yntau, a rhybuddiai
fi i fod yn fwy gofalus yn fy athrawiaeth."
Y mae yr ymadrodd olaf hwn yn dra
arwyddocaol, ac yn dangos fod y Diwygiwr
o Drefecca, yn marn ei frodyr, yn tueddu i
fod yn anochelgar yn ei ymadroddion pan
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1745-
yn egluro athrawiaethau mawrion yr
efengyl. Derbyniodd ef y rhybudd, modd
bynag, yn yr yspryd yr oedd yn cael ei
roddi, " Cawsom gariad ac undeb,"
meddai, " a chefais ryw gymaint o ostyng-
eiddrwydd wrth weled fy hun yn cael sylwi
arnaf gan unrhyw un. Wrth ei wrando yn
pregethu (yn Nhrefecca) oddiar y geiriau :
' Os myn neb ddyfod ar fy ol i, ymwaded
ag ef ei hun,' nid oeddwn yn meddwl i mi
erioed glywed y fath ddoethineb." Teim-
lai Harris yspryd milwr yn deffro ynddo
wrth wrando.
A ganlyn yw cofnodau y Gymdeithasfa
Fisol : " Yr oeddym wedi cyfarfod o'r
blaen (Chwef. i6), gan dreuho cryn amser
yn dra buddiol i ystyried cyflwr y genedl,
a'r eglwys, a sylwi ar arwyddion yr
amserau, pob un yn gofyn i'r llall pa
oleuni, yn ei dyb ef, oedd yr Arglwydd yn
roddi y pryd hwn gyda golwg ar y gwaith,
pan y mae cymaint o bethau yn dygwydd
i fygwth dinystr. Meddai pob un ffydd,
yn fwy cUr neu wan, yr a'i y gwaith yn ei
flaen ; yn wir nad oedd eto ond dechreu,
er fod rhai yn tybio y gallai treialon ddyg-
wydd yn gyntaf. Ýr oedd yr Arglwydd
gyda ni mewn modd arbenig iawn ; cad-
wyd y brodyr i fynu, i ganu ac i weddîo,
hyd gwedi deuddeg.
" Wedi agor ein calonau i'n gilydd, a
gofyn cwestiynau y naill i'r llall gyda
golwg ar y gwaith, cydunwyd i gyfarfod
drachefn dydd Gwener, Mawrth 29, am
ddeg yn y boreu, a phob pedwerydd dydd
Gwener, o Mawrth y cyntaf, fel y byddai
i bob dydd perthynol i'n Cymdeithasfa
breifat fod yn ddydd o ymostyngiad a
gweddi yn nghyd.
" Cydunwyd fod amgylchiadau y brawd
Thomas Jones i gael eu gosod gerbron y
seiadau preifat.
" Fod y dydd Mawrth yn mhen y
pythefnos i fod yn ddydd o ymostyngiad
personol yn mhhth y ffyddloniaid, o her-
wydd yr ymraniadau yn Lloegr, a'r clau-
arineb a phechodau eraill yn Lloegr a
Chymru."
Dengys y cofnod diweddaf fod sefyllfa y
Methodistiaid yn Lloegr yn dra chyffrous;
fod ymbleidio a rhaniadau yn eu mysg; ac
yr oedd eu llywydd, Whitefield, yn yr
America er y tìwyddyn flaenorol ; o gan-
lyniad, ar ysgwyddau Howell Harris, yn
benaf, y disgynai y gofal. Dechreu
Mawrth, cynehd Cymdeithasfa yn Mryste,
ac aeth Harris yno yn nghwmni Beaumont.
Yr oedd ei yspryd yn brudd ynddo oblegyd
yr amrafaehon rhwng y cynghorwyr. Yn y
cwch, wrth groesi yr Hafren, rhoddwyd
iddo agosrwydd mawr at Dduw, a nerth i
ofyn iddo am ei gadw rhag ei yspryd ei
hun yn nydd y demtasiwn oedd yn agos-
hau, rhag iddo ei dramgwyddo ef, na
thramgwyddo y brodyr, yr hyn a ofnai
uwchlaw pob peth. Boddlonodd Duw ef
y gwnai ei gadw. Wedi cyrhaedd Bryste
galwodd y frawdohaeth yn nghyd ; cynal-
iwyd cyfarfod i ymostwng gerbron y
Goruchaf Dduw, ac i ofyn am arweiniad ;
yna anerchodd Harris hwy, gan ddweyd
fod gan yr Arglwydd gweryl â hwy. Boreu
dydd y Gymdeithasfa bu mewn ymdrech
angerddol â'r x\rglwydd cyn myned allan
o'r tŷ ; gwelai y diwrnod yn ddydd o dreial,
yn ddydd galar, ac yn ddydd o ymostyng-
iad. Cododd chwant myned adref arno,
ac eto llefai ei fod yn foddlon aros yno ond
iddo weled bod hyny er gogoniant i Dduw.
" Y fath nifer," meddai, "hyd yn nod o'r
rhai a broffesant eu bod yn adnabod yr
Arglwydd, sydd yn Ilawenychu yn ein hym-
raniadau ; rhai a gondemniant y gwir-
ioneddau ydym yn draethu ; eraill a
gondemniant yr yspryd a'r zêl. O
Arglwydd, pa hyd y gadewi ni i fod yn
watwargerdd ? Ai nid dy blant di ydym,
a'th genadon tlawd, wedi eu hanfon genyt P
O tosturia wrthym !" Yn yr yspryd hwn
yr aeth i fysg y brodyr. Daeth rhyw
deimlad drylliedig dros y brodyr wrth
ddarllen cofnodau y Gymdeithasfa o'r
blaen. " Yna," meddai, " bum yn ym-
resymu â'r brawd Bishop, yr hwn sydd yn
myned i ymneillduo, ac i uno â'r Bedyddwyr.
Wedi siarad rhydd daethom i ddealltwr-
iaeth ag ef, gyda golwg ar y rhai sydd heb
eu bedyddio, ond wedi eu hargyhoeddi.
Tybiai ef y dylem godi trwydded i bregethu,
mai dyfais ddynol yw bedydd babanod ;
fod ganddo hawl i weinyddu y sacramentau
heb ordeiniad nac arddodiad dwylaw. A
hyn darfu i ni oll anghytuno. Nid oedd
rhai o honom, a minau yn eu mysg, yn
rhydd i godi trwydded. Yr oedd pawb o
honom yn anmharod i weinyddu yr ordin-
hadau heb ordeiniad,ac yn anmharod hefyd
iordeinioynein mysgeinhunain. Yroeddym
yn unfarn hefyd parthed bedydd babanod,
ond cytunasom y gallai efe ddyfod i'n mysg,
os dymunai. Wedi cael fy nghymhell,
aethuni i bregethu i'r neuadd, i dorffawr."
Cafodd odfa dda, ac agosrwydd mawr at
yr Arglwydd ar weddi, wrth ddechreu a
diweddu.
Parhäi y Gymdeithasfa dros ddydd
1745-]
HOWELL HARRIS.
289
lau a dydd Gwener, a ffynai heddwch yn
yr holl gyfarfodydd. " Yn sicr, gwrandaw-
odd yr Arglwydd ein gweddi," meddai
Harris, " ac unodd yn hyfryd ein calonau
a'n heneidiau. Teimlwn fod yr Arglwydd
yn rhoddi i mi symlrwydd, cariad, a
rhyddid, a buddugoliaeth ar ragfarn, i
siarad yn syml, ac i beidio ymryson
parthed geiriau. Gwelwn ein bod yn
meddwl yr un peth (i) gyda golwg ar
Grist ein cyfiawnder ; yr oeddynt hwy yn
golygu yr un peth wrth ei alw ein sanct-
eiddrwydd, ag a olygwn ni wrth ei alw yn
gyfiawnder cyfranedig ; neu sancteidd-
rwydd personol. (2) Eu bod hwy yn
golygu yr un peth wrth ffrwythau íîydd,
neu ffrwythau yr Yspryd, ag a olygwn ni
wrth y creadur newydd, sef egwyddor o
ras oddifewn yn yr enaid. (3) Eu bod
hwy yn golygu yr un peth wrth y gair
ffydd mewn ymarferiad ag a olygwn ni
wrth ffydd, neu gymundeb â Duw. (4)
Eu bod hwy yn meddwl yr un peth wrth
ffydd allan o ymarferiad ag a olygwn ni wrth
y gair anghredu, neu wrthgilio yn y galon.
(5) Pan' y siaradent yn erbyn profiad,
golygent yn unig peidio ei osod allan o'i
le, sef yn gyfnewid am Grist. Yna,
cydunasom, os byddem yn defnyddio rhyw
derm nad yw yn yr Ysgrythyr, i'w egluro
mewn geiriau Ysgrythyrol ; ac, hyd y mae
yn bosibl, i gyfyngu ein hunain i ym-
adroddion Beiblaidd." Drachefn, " Cyd-
unasom am gyfiawnhad a sancteiddhad ;
mai Crist, ac nid ífydd, yw y sylfaen ar ba
un y dylem bwyso ; a chawsom oleuni a
rhyddid anghyffredin wrth ymdrin parthed
angenrheidrwydd a Ile ffrwyth, sef sanct-
eiddrwydd calon a buchedd ; yn nghyd â
Ile y gyfraith neu y gorchymyn mewn
crefydd. Golygem yr un peth yn flaenorol,
pan yr ymddangosem fel yn gwrthddweyd
ein gilydd. Cydunasom hefyd am y modd
i ddelio a'r rhai sydd yn tori y ddeddf yn
eu bucheddau : nad ydynt yn gredinwyr,
am fod Crist yn ysgrifenu ei gyfraith ar
galon y credadyn. Mynegasom ein holl
galonau i'n gilydd ar bob pwynt ; ysgrif-
enasom hefyd i lawr y pethau y cydunem
arnynt. Cydunasom hefyd gyda golwg ar
wahanol raddau íîydd — ffydd wan a ffydd
gref, ffydd ddamcaniaethol, ffydd grediniol,
a ffydd achubol. Cydunwyd hefyd gyda
golwg ar y brawd Cudworth ; nid oeddwn
i yn tueddu ato fel cydlafurwr ; ond pan y
mynegodd ei fod yn syml, heb dwyll na
hoced, yn cyduno a'r hyn a ysgrifenasid i
lawr, cefais ryddid i'w dderbyn. Trefnwyd
cylchdeithiau pob un ; a chwedi trefnu y
pregethwyr ieuainc yn eu gwahanol leoedd,
ymadawsom yn hyfryd a dedwydd, wedi
offrymu mawl a gweddi i Dduw, yr hwn a
roddodd i ni y fuddugoliaeth."
Felly y terfynodd Cymdeithasfa Bryste,
ac y mae yn sicr fod ei dylanwad yn fawr
ar Fethodistiaeth Cymru yn gystal ag
eiddo Lloegr. Am y waith gyntaf, tynwyd
i fynu fath o Gyffes Ffydd, a Rheolau Dis-
gyblaethol, a gosodwyd y cyfryw i lawr
mewn ysgrifen, fel y gellid apelio atynt yn
ol Ilaw. Hawdd gweled fod yr adeg yma
yn un o gyffro mawr, a bod y cyffro hwnw
yn peri fod holl athrawiaethau crefydd yn
cael eu chwilio a'u dadleu. Yr oedd an-
uniongrededd yn cael yr un driniaeth ag
anfoesoldeb, a hawdd iawn i frodyr oedd
myned i ymryson yn nghylch geiriau, pan
y golygent yr un peth. Doeth iawn yn y
frawdoliaeth oedd cyduno i arfer geiriau
Ysgrythyrol, hyd byth ag oedd yn bosibl,
wrth egluro pob athrawiaeth ; ac nid
rhyfedd fod Harris yn galw y Gymdeithasfa
yn " Gymdeithasfa fendigedig." Y mae
yn ddiau fod perygl ymraniad ar y pryd.
Felly, o leiaf, y golygai Howell Harris ;
a chredwn mai ei ddoethineb a'i arafwch
ef fel Ilywydd y gynadledd a fu yn offer-
ynol i ailsefydlu heddwch, ac i gadw y
brodyr rhag ymwahanu. Fel hyn yr ys-
grifena gyda golwg ar yr ymdrafodaeth at
Mr. Ersííine, ÉbriII 12, 1745 : " Ni fedraf
byth anghofio eich gofal pan y cyfarfyddem
yn Mryste. Yr oedd, yn wir, yn amser
enbyd ; ond y Duw sydd yn wrandawr
gweddi a agorodd ei glustiau i lefau ei
liaws plant a afaelent ynddo. Yr oedd
pethau wedi myned mor bell fel na allai
unrhyw foddion dynol leshau, ond Duw a
dosturiodd wrthym, ac ni oddefai i'w
ogoniant, ei waith, a'i blant, a'i genhadau
tlawd a drygionus gael eu sathru dan
draed, nac i'w gelynion orfoleddu. Gwnaeth
ryfeddodau erddom. Ni ddynoethwyd ei
fraich yn fwy o'n plaid erioed. Cynllun-
iau Satan a ddarganfyddwyd, a'i fwriad
uffernol a wnaed yn ddim. Gan y gwn
eich bod wedi cael y manylion gan y
brawd Edwards, nid rhaid i mi ond nodi
mai y moddion a ddefnyddiodd i'n huno
oedd a ganlyn. Yn gyntaf, datguddiodd i
ni, o leiaf i rai honom, y canlyniadau ar-
swydus a fyddant yn debyg o ddilyn
ymraniad ; y dianrhydedd a dderbyniai ein
hanwyl Arglwydd, y tramgwydd a deflid ar
ffordd yr annychweledig, a'r annhrefn a
ddeuai i'n niysg ninau, a phawb sydd yn
u
290
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1745-
ein caru. Yn nesaf, wedi creu ynom, o
leiaf yn rhai o honom, ddymuniad am fod
yn un, a than ddylanwad y dymuniad
hwn i dywallt ein calonau gerbron yr
Arglwydd, efe a symudodd ein rhagfarnau
allan o'n hysprydoedd, gan roddi i ni ffydd
y byddai iddo eto drugarhau wrthym, a'n
huno yn ei wirionedd, er mor annhebyg yr
ymddangosai hyny. Yna, wrth agor ein
calonau i'n gilydd, y gorchudd a'n cadwai
rhag deall ein gilydd o'r blaen a gymerwyd
ymaith, a chawsom fod ein camddealltwr-
iaethau a'n gwahaniaethau yn cyfodi o
gamgymeryd geiriau ein gilydd. Óblegyd
gyda golwg ar gyíìawnhad a sancteiddhad,
a ffydd achubol, golygem yr un peth, er y
gwahaniaethem yn ein dull o egluro yr un
gwirionedd. Fel y gwelwch, yr wyf yn
credu, yn nghofnodau ein cytundeb, yr
oedd y brawd Cennick wedi bod yn an-
wyliadwrus yn rhai o'i ymadroddion, yn
ngwres ei zê], ac oddiar ddymuniad difrifol
am ddyrchafu y Duw-ddyn, yr Emmanuel
gogoneddus ; ac wrth ddifodi y gau nodd-
feydd sydd yn cadw cynifer heb ddyfod i
fyw mewn ffydd wirioneddol ar y gwaed a'r
clwyfau, darfu i'r gelyn ei wthio fel y
llithrodd ryw gymaint wrth lefaru, ac y
dyrysodd rai o'r bobl a wrandawent, fel ag
i'w gamgymeryd yn y ddau eithafìon. Yr
oedd rhai o'r dynion ieuainc, mi a gredaf,
yn fwy beius fyth. Ond ar bob llaw, yr
wyf yn gobeithio ein bod wedi cael ein
darostwng, a'n dwyn yn agosach at ein
Meistr tyner a thosturiol."
Nis gallwn fanylu ar gynwys y llythyr,
er fod ynddo amryw bethau yn haeddu
sylw. Treuliodd Howell Harris ei Sab-
bath yn Bath, a dychwelodd adref erbyn
dydd lau, Mawrth 29, fel ag i fod yn
bresenol yn y Gymdeithasfa Fisol, yn
Nhrefecca. Cyfarfyddai ei frodyr gy'da
chalon lawen, oblegyd fod pethau wedi troi
allan gystal yn Mryste ; ac eto yr oedd
pob Ilwyddiant gyda'r gwaith yn ei ddar-
ostwng, ac yn ei lenwi agostyngeiddrwydd.
Fel hyn yr ysgrifena : " Yr oedd ein cyf-
arfod yn Ilwythog o newyddion da. Wrth
weddi tynwyd fi allan yn hynod, a Ilew-
yrchodd yr Arglwydd ei wyneb arnom,
gan wresogi ein calonau. Wrth fy mod
yn gosod o'u blaen y cynygiad o Scotland,
am gadw diwrnod bob tri mis, a phob
boreu Sul, i ddiolch i'r Arglwydd am yr
adfywiad diweddar yn Lloegr, a Chymru,
ac America; cynygiad a pha un y darfu i'r
brodyr gyduno, cefais nerth i weled nad
oedd hyn yn perthyn i neb yn fwy na mi.
Yn (i) Nid oes neb wedi cael ei ffafrio
yn gymaint a mi, y gwaethaf a'r annheil-
yngaf o bawb. (2) Nid oes neb wedi
digio a themtio yr Àrglwydd fel myfi, ac
felly nid oes ar neb gymaint o rwymau i'w
ganmol, ac i ymostwng ger ei fron.
(3) Nid oes ar neb gymaint o rwymedigaeth
i ddymuno am Iwyddiant y gwaith. Llefais
am gael fy ngwneyd yn gydwybodol yn
hyn. Gwedi ymholi am ansawdd y cym-
deithasau, ac am y dull y cedwid y dyddiau
o ymostyngiad, ymadawsom yn hylryd ein
hysprydoedd."
Yn nghofnodau Trefecca ceir yr adrodd-
iad a ganlyn : —
" Cymdeithasfa Trefecca, Mawrth 29 ;
Howell Harris, cymedrolwr : Wedi ad-
rodd ddarfod i'r Arglwydd wrando ein
gweddíau parthed uno y brodyr yn Lloegr,
trefnwyd ein Cymdeithasfa Fisol nesaf i
fod yn nhŷ Thomas James, dydd Gwener,
EbriII 26.'
" Gan fod cynygiad wedi dyfod o Scot-
land i gadw diwrnod bob tri mis, gan
ddechreu gyda Thachwedd i, yn ddydd o
weddíau, am ddwy flynedd, ac hefyd i
gyfarfod bob boreu Sul, oblegyd y gwaith
diweddar yn Lloegr, Cymru, Scotland, ac
America, i ddiolch i Dduw am dano, i
weddîo am iddo fyned yn mlaen, ac i ym-
ostwng oblegyd y pechod oedd yn cydfyned
ag ef ; cydunasom â'r cynygiad i gadw y
dydd cyntaf o Fai nesaf, a phob boreu
Sul, gyda chynifer ag a allwn gael. Ac
hefyd yn breifat, i roddi i hyn gymaint o
le ag a allwn yn ein calonau, a'n hamser,
bob nos Sadwrn, ac i gymhell hyn ar
eraill."
Y dydd Mercher a lau canlynol, sef yr
wythnos gyntaf yn EbriII, cynelid Cym-
deithasfa Chwarterol yn Nghayo ; Cym-
deithasfa bwysig ar amryw gyfrifon, ond
nid yw ei hanes yn ysgrifenedig yn nghof-
nodau Trefecca. Agorwyd y gynhadledd
gyda phregeth gan John Powell, yr offeiriad
o Sir Fynwy. Meddai Harris : " Yr oeddwn
yn ddifrifol ac yn drymaidd, ond nid yn yr
Yspryd, wrth wrando. Eithr cefais nerth
i ymdrechu drosto, ar i Dduw lewyrchu
arno, a daeth yr Arglwydd i lawr. Yna
ciniawasom ; a phregethodd y brawd G.
oddiar loan i. i, 2. Yr oedd ganddo gyf-
lawnder o eiriau, ond yr oedd wedi ei
adael yn hollol, a ninau yn sych yn ym-
ddangosiadol. Yr oedd yr Arglwydd fel
pe yn mhell oddiwrthym. Trywanwyd fi
wrth glywed y brawd Rowland yn dweyd
fod yr Arglwydd fel pe yn gadael y
1745-]
HOWELL HARRIS.
291
cynghorwyr. Gwelwn hyn fy hunan,
mewn cysylltiad â mi ac eraill. Bendith-
iwyd yr ymadrodd ; rhoddwyd i ni ryw
gymaint o wyhadwriaeth, a zê], a galar
am ein gwrthgihad parhaus oddiwrth yr
Arglwydd, a'n heilunaddohaeth, a'n putein-
dra ysprydol. Ond, yn sicr, nid oedd ein
cyfarfod eto yn llawn o Dduw. Wrth
ddarUen llythyr oddiwrth y brawd Howell
Davies, yn datgan y fath anrhydedd oedd
cael pregethu gwaed Crist, cefais oleuni ac
argyhoeddiad i weled nad yw gogoniant y
gwaed hwn ond prin dechreu dyfod i'r
golwg. Darllenasom ddau lythyr o Fynwy
a Morganwg gyda golwg ar ymadael oddi-
wrthym." Pa gymdeithas yn Sir Fynwy
a anfonodd y cyfryw lythyr sydd anhysbys,
ond yr oedd y llythyr o Sir Forganwg
oddiwrth gynghorwyr y Groeswen, ac y
mae mor bwysig, ac mor nodweddiadol o
deimlad llawer o'r cynghorwyr ar y pryd,
fel yr haedda gael ei gofnodi oU. Fel hyn
y darhena : —
" At yr anwyl frodyr yn gyffredinol, a'r
gweinidogion yn neillduol, cynulledig yn
íslghayo, anfon anerch.
" Gras fyddo gyda chwi oll. Amen.
Yr ydym yn credu am danoch mai rhai
ydych sydd anwyl gan Dduw, a bod Duw
yn anwyl genych chwithau, a'ch bod mswn
modd neillduol wedi cael eich galw gan
Dduw i waith y weinidogaeth, a bod achos
Duw yn agos atoch, ac yn pwyso ar eich
ysprydoedd ; a'ch bod wedi cael adna-
byddiaeth helaeth o'i ewyllys, ac o herwydd
hyny angenrhaid a osodwyd arnom i
ddanfon atoch fel rhai a dderbyniodd y
gras o gydymdeimlad â ni, ac amryw eraill
sydd yr amser hwn mewn llawer o gaeth-
iwed, o herwydd yr annhrefn sydd yn ein
phth. Mae ein cydwybodau wedi eu
rhwymo gan Air Duw, fel nas gahwn
barhau fel hyn allan o drefn Duw ; canys
gweled yr ydym fod Duw wedi gosod trefn
yn ei eglwys, er y dechreuad, yr hon sydd
i barhau hyd y diwedd. Ni a dybygem
mai eich dyledswydd chwi y w cydymdeimlo
â ni yn yr achos mawr hwn ; canys chwi
a fuoch yn anogaeth i ni fyned dros Dduw
aUan o drefn ; ac er dim a wyddom ni fe'n
llwyddodd Daw ni mewn mesur, ac a fydd
i chwi, fel goruchwylwyr da yn nhỳ Dduw,
ymegnio i ddwyn y gwaith da hwn yn
mlaen i drefn ? Mae yn annhebygol iawn
i un corph o bobl barhau fel hyn dros ei holl
amser. Yr y'm ni yn disgwyl am gael
eich meddyhau chwi yn yr achos hwn, yn
agos er ys dwy flynedd, ac nid y'm yn
gweled dim argoel eich bod chwi wedi
pwyso y mater hwn fel y dylasai gael ; ond
yr y'm yn ofni fod gormod o ragfarnau yn
eich dygiad i fynu yn nglyn wrthych. Ein
meddwl yw, eich bod yn ormod yn nglyn
wrth yr Eglwys Sefydledig. Yr ydym ni
yn gweled pe bai chwi yn cael eicfa or-
deinio yn Eglwys Losgr, fel ag yr ydych
yn disgwyl, na byddai hyny yn
ddigon i wneuthur yn esmwyth amrywiol
o frodyr a chwiorydd yn y wlad ; canys
eisiau sydd arnynt gael rhai i weinidog-
aethu y Gair a'r ordinhadau iddynt yn ei
bryd, ac i edrych drostynt fel bugail dros y
praidd, ac y byddai raid i ni gael ein hatal,
neu fod fel ag yr ydym, yr hyn beth nis
gallwn feddwl ar ei wneuthur.
" Yr ydym wedi rhoddi ein hachos yn
llaw Duw, gan obeithio, os na fydd i chwi
dosturio wrthym, y bydd i Dduw agor
ffordd i ni gael gwell trefn. O frodyr, y
mae yn dost genym glywed nad oes genych
ddim rhyddid i nigynghori, o herwydd nad
ydym wedi ein hordeinio ; ac nad ydych,
can behed ag y gaUwn ni weled, yn gofalu
pa un a gaffom ni ein hordeinio a'i peidio.
Os na fydd i chwi gydymdeimlo â ni, yr
ydym yn gweled fod galwad i ni droi ein
golygon ffordd arall, a Duw fyddo yn gyf-
arwyddwr i ni. Yr ydym yn cyfaddef mai
eich llafur chwi ydym, ac y mae yn dost
genym orfod ymadael â chwi, a rhoi lle i
eraiU ddyfod i mewn i'ch llafur chwi ; eto,
yr ydym yn rhwym i dori trwy bob an-
hawsdra, er mwyn enw yr A.rglwydd lesu,
a chydwybod dda. Ac nid ydym yn
gwneuthur hyn mewn byrbwyUdra. ond
gan ei ystyried yn ddwys ac yn ddifrifol ;
ac fel y mae yn cael ei ystyried y mae yn
dyfod yn nes atom, fel ag y mae yn an-
hawdd ei ddyoddef. Un achos paham y
mae ein cydwybodau mor gaethiwus yw,
o herwydd fod trefn o arddodiad dwylaw
yn cael ei arfer yr amser gynt, sef amser
yr apostohon, ar bob math ag oedd yn
gweinidogaethu y Gair, nid yn unig yr
esgobion a'r henuriaid, ond hefyd y diacon-
iaid, fel y gallwch weled yn Actau vi. 6 :
' Y rhai a osodasant hwy gerbron yr
apostohon ; ac wedi iddynt weddío hwy a
osodasant eu dwylaw arnynt hwy.' Wedi
hyn yr ydym yn cael hanes am yr effaith
ragorol a ganlynodd, fel y gellwch weled
yn y wers ganlynoL Mae yn debygol fod
y rhai hyn, fel ninau, wedi bod lawer
gwaith yn llefaru, a bod Daw yn eu
llwyddo ; eto, feallai, nad oedd gan yr
esgobion a'r henuriaid hollol ryddid iddynt,
u 2
292
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1745-
mwy nag sydd genych chwi, yr oífeiriaid,
atom ni yn bresenol ; am hyny ni a ddy-
munem arnoch wneuthur yr un peth ; ac
wrth wneuthur felly ni ellwch dramgwyddo
neb dynion a gymero Air Duw fel rheol
benaf i rodio wrthi, ac ni a allwn ddisgwyl
yr un effeithiau, sef chwanegu at ein
rhifedi, a bod yn gadernid i'r rhai sydd
eisoes wedi eu galw. Ni a ddymunem na
fyddo i'r brodyr edrych arnom fel pobl
wedi syrthio i glauarwch, o herwydd ein
bod fel hyn yn anfon ein meddyhau atoch,
na'n bod yn disgwyl am gael enwau mawr-
ion yma ; nage, canys os rhoddwch chwi
le iddo yn eich rheswm, nid ydym yn actio
yn y cyfryw fodd. O herwydd hyn, ni
allasem fyned ymaith yn ddystaw, ac felly
cael ein hordeinio, a chymeryd cynulleid-
faoedd dan ein golygiad. Nage, frodyr ;
yr ydym yn foddlawn i gydlafurio gyda
chwi, fel yr ydym hyd eto, ac i gymeryd ein
Ilywodraethu genych chwi fel o'r blaen,
eto yn yr Arglwydd, ac yn ol ei Air. Yr
ydym wedi bod yn ceisio dodi ein hachos-
ion o'ch blaen chwi er ys talm o amser,
ond ni chawsom ryddid i wneuthur felly.
Duw a dosturio wrthym mewn amser o
gyfyngder, pan y mae ein tadau yn
Nghrist, a'n brodyr yn yr Arglwydd, yn
ein gadael yn amddifaid. Hyn, yn bre-
senol, oddiwrth eich caredicaf frodyr,
" Thomas Price,
" WlLLIAM EdWARD,
" Thomas William,
" JOHN BeLSHER,
" EvAN Thomas."
Rhaid addef fod hwn yn Iythyr cryf, er
y cynwysa rai cyfeiriadau personol nad
ydynt yn gwbl barchus. Prin yr oedd
yn weddus ar ran y cynghorwyr hyn i
awgrymu, pe y caífai rhai o ddynion blaenaf
y Gymdeithasfa eu hordeinio yn ol trefn
Eglwys Loegr, nad gwaeth ganddi beth a
ddeuai o'r IleiII. Hawdd darllen rhwng y
Ilinellau awydd mawr am ordeiniad ; yr
oeddynt yn barod i aros gyda'r Methodist-
iaid, ond iddynt gael eu hordeinio; yr oedd-
ynt yn benderfynol i ymadael oni chaent.
Diau genym fod y cyffelyb ysprydiaeth yn
ymweithio fel lefain yn mysg y cynghor-
wyr trwy lawer o'r cynulleidfaoedd.
Dyddorol fyddai gwybod pa ateb a rodd-
wyd i'r Ilythyr, os atebwyd ef o gwbl ; nid
yw y wybodaeth hono genym ; ond teifl
dydd-Iyfr Howell Harris lawer o oleuni ar
stâd meddwl y frawdoliaeth cynulledig yn
Nghayo, yn nglyn a'r mater hwn. Meddai :
" Cawsom hir ymchwiliad i natur ac ar-
wyddion balchder, sydd yn awr yn dechreu
ymddangos yn y cynghorwyr. Agorasom
ein calonau i'n gilydd, gan weled fod yn
rhaid i ni ddatgan yn erbyn yr YmneiIIdu-
wyr, eu bod yn cysgu, ac yn gadael yr
Arglwydd. Rhoddodd yr Arglwydd i mi
genadwri i'w chyhoeddi i'r brodyr ; cenad-
wri ofnadwy, yn tori i'r byw, gyda golwg
ar ostyngeiddrwydd, a thlodi yspryd, Yr
oedd yr Arglwydd yno yn wir. Datganai
amryw fod y geiriau yn trywanu eu
heneidiau fel cleddyfau. Cyfeiriais at
berygl balchder ; mor íìiaidd oedd ein
gweled ni (y cynghorwyr) yn falch, gan
na feddwn ond ychydig ddoniau, ac ychydig
wybodaeth mewn unrhyw beth ; a'n bod
heb ddysg na medr, yn wael, ac yn
ddirmygus yn ngolwg pawb, ac felly hefyd
mewn gwirionedd. Dangosais y dylem
gywilyddio, ac ymostwng gerbron Duw,
wrth weled cynifer yn ymgynull i wrando
ar greadviriaid mor wael ; a'r modd y
mae balchder yn ymddangos mewn anallu
i oddef cerydd." Prawf y difyniadau hyn
mai fel balchder yspryd ar ran y cyng-
horwyr, yr edrychai Howell Harris, a'r
brodyr yn Nghayo, ar y dymuniad ang-
erddol am urddiad oedd yn dechreu dangos
ei ben, ac yn peri dadleuaeth frwd ac
ymraniad. Ymddengys y pethau canlynol
yn bur glir : (i) Fod arweinwyr y Meth-
odistiaid yr adeg hon, ac yn arbenig
Howell Harris, yn dra ymlyngar wrth yr
Eglwys Sefydledig, ac yn rhy anmharod i
gydnabod hawliau y cynghorwyr mwyaf
galluog gyda golwg ar ordeiniad i gyflawn
waith y weinidogaeth. Awyddent am i
amryw gael urddau esgobol ; eithr oni
chaent y fraint hono, nid oeddynt yn
barod i ymgymeryd a'r cyfrifoideb o
ordeinio yn eu mysg eu hunain. Gwell
ganddynt, yn hytrach, oedd i'r cym-
deithasau ddyoddef amddifadrwydd, ac
i'r cynghorwyr galluocaf gefnu. (2) Tra
yr oedd rhai cynghorwyr wedi eu cyn-
ysgaethu â doniau helaeth, ac yn meddu
gwybodaeth ddofn o'r Ysgrythyr, fod
Iliaws o rai eraill yn weiniaid eu gallu-
oedd, yn brin eu dirnadaeth, ac yn am-
ddifad o chwaeth a barn ; ac eto, nid
annhebyg fod yr awydd am ordeiniad, er
mwyn cael safle uwch yn yr eglwys, yn
gryfach yn y dosbarth olaf hwn na neb.
Felly, pe y dechreuid ordeinio y cynghor-
wyr, nid annhebyg y byddai hyny fel pe
yr agorid argae, y llifai cenfigen ac eiddig-
edd i fewn i fysg y brodyr fel afon.
(3) Y mae yn bur sicr fod amryw, a'r rhai
1745-]
HOWELL HARRIS.
293
hyny, efallai, y dosparth mwyaf parchus,
o'r rhai a ganlynent y Diwygwyr, ac a
ymgyfenwent yn Fethodistiaid, yn fwy
ymlyngar wrth yr Eglwys na'r arweinwyr ;
a phe y gwelent y duedd leiaf yn y Cyfun-
deb i ymffurfio yn blaid Ymneillduol, y
troent eu cefnau arno ar unwaith. Rhwng
pob peth, ni welai Rowland a Harris eu
ffordd i symud ; disgwyhent yn awyddus am
oleuni mwy pendant a chhr. Ar yr un
pryd, tueddwn i feddwl iddynt fod yn rhy
amddifad o feiddgarwch yn y cyfnod hwn,
a'u bod yn disgwyl arwydd eglurach nag
oedd ganddynt hawl i wneyd, a thrwy
hyny iddynt golH canoedd o'u canlynwyr,
y rhai a ymunasant â phleidiau eraill. Ni
fu hyn, modd bynag, yn golled i grefydd,
oblegyd bu yn foddion i greu yspryd llawer
mwy efengylaidd, a mwy ymosodol, yn y
cyfryw bleidiau, ac efallai yn atalfa effeith-
iol ar yr yspryd cyfeihorni a ffynai yn eu
mysg.
Y peth cyntaf a wnaeth Howell Harris
ar ol cyrhaedd adref oedd myned at Price
Davies, offeiriad Talgarth, er cael ganddo
ganiatau i'r Methodistiaid gymuno yn yr
eglwys, yr hon fraint a atahasai oddiwrth-
ynt am agos i ddwy flynedd a haner.
" Gwrthwynebai yntau," meddai Harris,
" yn (i) Am fy mod yn pregethu gartref ar
adeg y gwasanaeth dwyfol. Atebais inau
na wnaethum y fath beth, yn fwriadol,
erioed. (2) Fy mod yn pregethu yn erbyn
canonau yr Eglwys. Atebais nad oedd y
canonau yn gyfraith, am na chawsent
erioed eu cadarnhau gan Weithred Sen-
eddol. (3) Fy mod wedi dolurio Esgob
Llundain. Dywedais fy mod yn meddwl
na wnaethum hyny, ond nad oedd yr Esgob
yn ghr gyda golwg ar gyfiawnhad, a phe y
cawn fy ngalw o'i flaen y teimlwn yn
ddyledswydd arnaf i ddweyd hyny wrtho ;
ond os oeddwn wedi camddifynu ei eiriau
yn fy llythyr at Mr. Glyde, mai y rheswm
oedd, nad oedd llythyr yr Esgob genyf wrth
law pan yn ysgrifenu, ac y gwnawn gyf-
addef fy mai mewn llythyr arall. (4) Nad
oeddwn yn dyfod i wrando i eglwys fy
mhlwyf. Atebais mai anaml yr oeddwn
gartref ; fy mod weithiau yn myned i'r
capel, a'm bod wedi clywed llawer o bre-
gethu da yno ; ac weithiau i eglwys
Talarchddu, lle y clywn yr hyn a gytunai
a'm chwaeth yn well (nag yn eglwys
Talgarth) ; ond nad oeddwn yn cadw i
ffwrdd oddiar unrhyw ddrwgfwriad, ac yr
awn i Dalgarth oni bai am Mr. Edwards,
y cuwrad. (5) Fy mod yn ymosod ar yr
offeiriaid yn eu cefnau ; ac os oeddynt yn
feius, mai fy nyledswydd oedd tosturio
wrthynt. Atebais na oddefwn ynof y fath
deimlad at neb, ond ei bod yn rhwymedig
arnaf i sefyll yn gyhoeddus yn erbyn eu
pechodau, am eu bod yn foddion i galedu
eraill mewn pechod trwy eu hesiampl, gan
fod llawer o honynt yn feddwon, ac yn
cael eu canfod yn feddw. Dangosais iddo
fel yr oeddwn wedi llafurio i gadw llawer yn
yr Eglwys, oeddynt yn annhueddol i hyny
oblegyd annuwioldeb ac anwybodaeth y
clerigwyr, y rhai a bregethent weithredoedd
yn lle Crist. Pan y gwrthwynebai hyn, cyd-
nabyddais y dylent gael eu pregethu yn eu
Ile, fel ffrwythau ftydd. Dywedai fod y
bobl, ar ol gwrando arnaf fi, yn edrych yn
watwarus arno ef, ac yn ei ddirmygu.
Dywedais fy mod yn gobeithio na wnaeth-
um i hyny erioed. Cydnabyddodd na
wnaethum. Dywedais, yn mhellach, pa
bryd bynag y gwelwn y cyfryw yspryd
ynof fy hun, neu mewn eraill, fy mod yn
ei geryddu. Yr oedd yn chwerw yn erbyn
y brawd Rowland, gan ei fygwth a gwys
os byth y deuai yno drachefn. Pan yr
honai nas gallwn ddwyn cosp arno ef am
wrthod y sacrament i mi, fel yr oeddwn
wedi bygwth yn fy llythyr, cyfeiriais ef at
y prawf rhwng Esgob Manaw a'r llyw-
odraeth, pan yr oedd wedi gwrthod y
sacrament, ac y cafodd ei wysio o'r her-
wydd." Felly y terfynodd yr ymddiddan
rhwng Harris a'r hen Price Davies, ac y
mae yn dra dyddorol fel engrhaifft o'r
teimlad o'r ddau tu. Nid yw yn ym-
ddangos i'r offeiriad roddi ateb penderfynol
ar y pryd ; ond ildio a wnaeth, oblegyd ar
gyfer Sul y Pasg cawn y nodiad a ganlyn
yn y dydd-Iyfr : " Aethum i eglwys Tal-
garth, a chefais ganiatad i gyfranogi o'r
sacrament. Yr oeddwn yn isel fy meddwl
yn ystod y canu, eithr yn y bregeth, ar
Col. iii. I, synwyd fi at ei huniongrededd
a'i hysprydolrwydd ; yna aethum at y
bwrdd, wedi bod yn agos at yr Arglwydd
trwy ystod y bregeth, a gwnaed fi yn
ddiolchgar o herwydd clywed y fath
bregeth yma."
Fel y trefnasid yn flaenorol, cynhaliwyd
Cymdeithasfa Fisol yn nhŷ Thomas James,
Cerigcadarn, ar y 26ain o EbriII. Ni
cheir ei phenderfyniadau yn y cofnodau ;
tebyg mai dibwys oeddynt ; ond rhydd
Howell Harris ryw gymaint o'i hanes yn
y dydd-Iyfr. " Eisteddasom yn nghyd,"
meddai, " hyd gwedi pedwar, a'r Ar-
glwydd a'm gwnaeth yn finiog, ac yn dra
294
y TADAU METHODISTAIDD.
[1745-
llym i'r brodyr. Dangosais y rhaid i ni
gael ein dysgu gan Dduw yn yr oll ag a
geisiwn ddysgu i'r bobl, onide nas gallwn
lefaru gydag awdurdod, a bywyd, a hyfdra;
y dylem ddeall ein perthynas â holl
greaduriaid Duw, â phawb dynion, ac â
phawb credinwyr, gan weled ein bod wedi
ein geni i'r byd cynddrwg a'r diaflaid ;
pan fyddom yn myned gerbron y bobl, ein
bod yn wynebu ar greaduriaid sydd yn
farw mewn pechod, y rhai na effeithia
geiriau na rhesymau fwy arnynt na phe y
ceisiem dyllu careg â bys, oddieithr i Dduw
lefaru wrthynt a'u dwysbigo ; y dylem
benderfynu peidio myned at y bobl heb
Dduw, a gofalu, gwedi myned, am gadw ein
llygaid yn sefydlog ar Dduw ; oblegyd pan
fyddom yn myned yn y cnawd, os can-
fyddwn yn y gynulleidfa ŵr doeth a phrof-
iadol, ni a anghofiwn y bobl, gan gyfeirio
ein holl ymadroddion ato ef, a cheisio gosod
ein hunain yn iawn yn ei syniad ef, ac
felly anghofio yr Arglwydd. Yna dangosais
fel yr oedd y bobl wedi syrthio i drwm-
gwsg, fel, er eu bod yn teimlo tan weinid-
ogaeth y Gair, nad ydynt yn eu bywydau
yn cydnabod yr Arglwydd, ac na dderbyn-
iant gerydd. Sylwais y byddai yn well i
ni beidio pregethu, oni wneir ni yn effeith-
iol i ddwysbigo ac argyhoeddi. Cyfeiriais
at falchder — balchder mewn dillad — ein
dull o geisio ei guddio, ac fel yr ydym yn
gaethion iddo. Yr oedd nerth mawr yn
ein mysg. Yr wyf yn credu y caiff hyn ei
fendithio iddynt, ac i'r ẁyn. Gwelais
ddarfod i'r Arglwydd fy anfon gyda'r
genadwri hon atynt. Yna, gwedi trefnu
dydd o ymostyngiad, a phenderfynu ein
cylchdeithiau, aethum, o gwmpas wyth,
tua Llangamarch." Pregethodd yno gyda
nerth mawr, ac aeth i dŷ Mr. Gwynn i
gysgu.
Yr wythnos ganlynol aeth ar daith i
ranau o Fynwy a Morganwg, er mwyn, yn
un peth, bod yn bresenol yn Nghym-
deithasfa Watford ; ac, fel y dengys y
dydd-lyfr, er mwyn cadarnhau y cynghor-
wyr. Yr oedd y cyffro a'r anesmwythder
a ffynai yn eu mysg yn gwasgu yn drwm ar
ei feddwl. Meddai : " Yr wyf yn teimlo
fy enaid yn crynu oblegyd y cynghorwr;
y mae hunangais yn cynyddu yn eu mysg,
a thlodi yspryd yn darfod, a gwybodaeth y
pen yn dyfod yn mlaen. O fy Nuw, dwg
ni i'th ddysgeidiaeth di, fel y gwelom ac y
gogoneddom di, ac y deuwn yn debyg i ti.
Byddai yn beth arswydus i'r Methodistiaid
adael yr Arglwydd ar ol cymaint a wnaeth
efe iddynt. Eithr y mae fy Arglwydd yn
dyner wrthyf yn y dydd hwn o brawf. Yr
wyf yn cael mai yr hyn yn unig a geisiant
yw, ordeiniad, disgyblaeth, a chynulleid-
íaoedd. O, ai nid ydynt yn hyn yn debyg
i'r Israeliaid a geisient frenin er mwyn bod
fel y cenhedloedd eraill ? " Wedi pregethu
yn Cantref, Dolygaer, Llanheiddel, a New
Inn, cyrhaeddodd Watford y nos cyn y
Gymdeithasfa. Yr oedd yma o fewn dwy
fiUtir i'r Groeswen, canolbwynt y cyffro am
ordeiniad, o'r hwn le hefyd yr anfonasid y
llythyr i Gymdeithasfa Cayo. O angen-
rheidrwydd, felly, rhaid fod awydd y
cynghorwyr am gael eu hordeinio, a'r cyn-
hwrf yn nglyn â hyny, yn uchaf ar feddwl
pawb a ddaethai yn nghyd ; a rhaid i'r
mater gael ei drafod. Cymerodd Harris
fantais ar bresenoldeb Ilawer o'r brodyr i
drin y pwnc yn flaenorol i gynulliad ffurfiol
y Gymdeithasfa, gan draethu yn helaeth ei
syniadau ei hun, ac ateb rhesymau a gwrth-
ddadleuon. Caiff y dydd-Iyfr adrodd yr
hanes : " Wrth ymddiddan â'r brodyr,
dywedais fy mod yn gwahaniaethu oddi-
wrthynt mewn tri pheth. Yn mlaenaf,
nad oeddwn erioed wedi edrych ar y seiadau
fel eglwysi, ond fel canghenau bychain o
Eglwys. Yn nesaf, nad oeddwn wedi
edrych ar y cynghorwyr fel gweinidogion
i weini yr ordinhadau, na, gyda golwg ar
lawer o honynt, fel rhai i gyfranu y Gair yn
y ffordd o bregethu, ond mewn ffordd o
gynghori. Yn drydydd, nad oeddwn wedi
edrych arnom erioed fel sect, ond fel pobl
o fewn i'r Eglwys, wedi ein galw er mwyn
diwygiad, hyd nes naill y gwrandewir ni
neu y troir ni allan. Dangosais y rhaid
i bwy bynag a elwir i lafurio fel di-
wygiwr gael cariad cryf i ddyoddef
Ilawer. Dywedais fod yr holl anesmwyth-
der hwn, yn ol fy marn i, yn codi yn —
"I. Oddiwrth Satan yn gweithio yn ddir-
gel i geisio ein rhanu. Fy rhesymau
ydynt y rhai canlynol: (i) Nis gallaf gredu
fod y petrusder (gyda golwg ar gymuno yn
yr Eglwys) wedi cael ei gynyrchu gan
Dduw, gan na ddaeth yr amser eto i'w
symud, na gweithredu yn ei ol. (2) Am y
rhai ddarfu ildio i'r petrusder hwn, fel pe
yn dyfod oddiwrth yr Arglwydd, nid ydynt
wedi Ilwyddo. (3) Nis gallem gyduno â'r
YmneiIIduwyr pe yr ymumem â hwy,
oblegyd eu Baxteriaeth mewn athrawiaeth,
a'u clauarineb fel proffeswyr, tra y byddent
hwy yn edrych arnom ni fel rhai urddasol,
ac na chaem awdurdod yn eu mysg i fyned
yn mlaen â gwaith y diwygiad. (4) Fod
1745-]
HOWELL HARRIS.
295
y syniad am fyned allan fel sect wahan-
iaethol yn arswydus i mi.
" II. Yr wyf yn meddwl fod y petrusder
hwn yn codi hefyd oddiar hunan. Rhes-
ymau: (i) Y maent yn meddu cryn gredin-
iaeth yn eu gallu i ddeall yr Ysgrythyr.
(2) Nid ydynt yn teimlo pwysfawredd y
gwaith yn dyfod yn ddigon dwys ar eu
heneidiau. (3) Nid ydynt yn gweled can-
lyniadau yr hyn a geisiant.
"III. Ỳr wyf yn credu y dangosai yr
Arglwydd y dymunoldeb o hyn i'r rhai y
mae wedi egluro mwyaf o'i feddwl, ac y
dechreuai yr ymraniad (oddiwrth yr Eg-
Iwys) trwy y rhai y mae wedi, ac yn,
rhoddi mwyaf o amlygrwydd o hono ei
hun. Mewn atebiad i wrthddadleuon,
dy wedais : (i) Nad oedd neb wedi gadael
eglwys sefydledig hyd nes y caent eu
gwthio allan, megys yr apostolion oddiwrth
yr luddewon, a'r Protestaniaid oddiwrth y
Pabyddion ; a bod y diweddaf wedi derbyn
yr ordeiniad a'r ordinhadau oddiwrth y
Pabyddion am gan' mlynedd cyn ymffurfio
yn eglwys. (2) Pan y gwrthddadleuid nad
oedd yn debyg y byddai i lawer o'r
cynghorwyr gael eu hordeinio gan yr
Eglwys Sefydledig, oblegyd diffyg gwybod-
aeth o'r ieithoedd, atebais, pan yr agorid y
drws i ni y rhaid i hyny gymeryd lle trwy
i'r Arglwydd agoryd calon (yr Esgobion) i
ordeinio o herwydd cydwybod, ac nid
glynu wrth ffurfiau ; neu ynte rhaid iddynt
ein gwthio o'u mysg. (3) Dangosais, gyda
golwg ar ordeiniad, er fod llawer yn ein
mysg yn ei ddymuno, na ystyrid ef yn
beth o bwys mawr yn nyddiau yr apostol-
ion. Pan y pregethai Apolos, na anghy-
meradwyir ef am fyned o gwmpas heb ei
ordeinio, ond am ddiffyg goleuni i adnabod
Crist. (Ni roddid pwys ar ordeiniad)
ychwaith yn nghlyn â'r rhai a elent o
gwmpas pan laddwyd Stephan. Gwrth-
ddadl : Ond adeg erledigaeth oedd hyny.
Ateb : Felly y mae yn awr, pan yr ydym
ni yn ceisio cael ein hordeinio.
" Lleferais fy meddwl, a meddwl y l)rawd
Rowland, gyda golwg ar y cynghorwyr,
fy mod wrth weled y fath falchder, a'r fath
ansefydlogrwydd yn rhwym wrth lawer
o honynt, yn crynu drostynt ; ac hefyd
gyda golwg ar y bobl gyffredin, eu bod yn
syrthio i gwsg, o ddiffyg rhai i bregethu
iddynt fywyd ffydd, ac i ddangos mai yr
hyn sydd o bwys ydyw, nid beth y maent
yn ei deimlo, ond beth y maent yn ei
wneyd. Yr wyf yn credu i'r Arglwydd
fendithio ein dyfodiad yn nghyd yn rhy-
feddol, a thuhwnt i'm dysgwyhad. Cafodd
y brodyr fwy o gariad, gostyngeiddrwydd,
ac ymddarostyngiad nag a ddysgwyhwn,
gan ei gymeryd yn garedig fy mod yn
dweyd fy marn am danynt, ac yn dangos
na Iwyddent os aent yn mlaen (gyda mater
yr ordeiniad) ; ond y profai hyny, yn fy
marn i, yn fwy o rwystr i'r gwaith na dim
a ddigwyddasai hyd yn hyn. Dywedais fy
meddwl hefyd gyda golwg ar ffurf o addol-
iad, y buasai yn dda genyf pe bae un
yr Eglwys yn cael ei ddiwygio, a'i ddef-
nyddiad yn cael ei adael at farn y gwein-
idog. Atebais wrthddadl arall hefyd, gan
ddangos nas gallai ordeiniad gadw dynion
cnawdol rhag ymaflyd yn y gwaith."
Yr oedd hwn tuhwnt i ddadl yn gyfarfod
pwysig ; ac ymddengys i Howell Harris ei
hunan, heb gymhorth neb o'i frodyr, orch-
fygu y wanc am ordeiniad a ffynai yn mysg
y cynghorwyr. Ei brif resymau dros
beidio ymneillduo oeddynt yn (i) Ofni nad
oedd Yspryd yr Arglwydd yn arwain hyn,
ac felly y profai y peth yn rhwystr mawr
ar ffordd y diwygiad. (2) Gobaith yr
etholid esgobion llawn cydymdeimlad â'r
diwygiad, y rhai a ordeinient y rhai mwyaf
galluog a chymhwys o'r cynghorwyr, heb
roddi gormod o bwys ar ddysgeidiaeth
ddynol. Nid rhyfedd ei fod ar ei ben ei
hun yn ymostwng gerbron Duw am yr
anrhydedd a rodded arno, a'i fod yn gweled
teyrnas Satan yn cwympo i'r llawr. Yn y
Gymdeithasfa, dranoeth, yr oedd pob peth
yn gysurus. Anerchodd Harris y cynghor-
wyr gyda grym ; penderfynasant hwythau
i adael i'r mater mewn dadl syrthio, a
myned yn mlaen fel cynt. Eithr cydun-
wyd i dynu i fynu bapyr yn egluro eu holl
achos, i'w gyflwyno i'r esgobion. Y noson
hono aeth Harris i bregethu i'r Groeswen, at
y rhai oeddent wedi ymneillduo. Ei destun
oedd yr ymadrodd yn Llyfr yDatguddiad:
" Nacofna; myfi yw y cyntaf a'r diweddaf ;"
a chafodd odfa anghyffredin. A defnyddio
ei eiriau ef ei hun, daeth yr Arglwydd
i lawr. " HoU ddyinuniad fy enaid,"
meddai, " oedd am i'r Arglwydd ddod
yno, ac aros yn mysg y bobl, gan nad yw
geiriau, na mater, na dyrchafu y Ilais, nac
wylo, yn ddim heb Dduw. Cefais ryddid
mawr i ddangos sut y mae lesu Grist y
cyntaf, a'r nerth sydd yn hyn i orchfygu ofn ;
ei fod y cyntaf o flaen dynion, os oes arnom
ofn dyn ; y cyntaf o flaen y diaflaid ; a'r cynt-
af o flaen pechod. Y gallai yr lesu ddweyd :
' Mi a wn ddechreu dyn, a dechreu Satan,
a dechreu pechod; mi a wn eithaf eugallu,
296
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1745-
^ '/^^i^l'¥^y
'J ^(^a^
d
íít^
<í»'<íí(' <^W Ỳ^^ ■'^^ -^^ ÿ^-^ •^/<^>*« >ÿ#ẃ 2C /i4e,jÇy..J^
PHOTOGRAPH O LYTHYR RICHARD TIBBOT AT HOWELL HARRIS, AR YR ACHLYSUR O
FARWOLAETH EI BRIOD.
iGwel tuclalen 213.
1745-]
HOWELL HARRIS.
297
a'u cyfrwysdra ; mi a allaf blymio eu gwael-
odion.' Yna, dangosais y modd yr oedd
y diweddaf, a'i fod yn cyhoeddi: ' Mi a
fyddaf y diweddaf gwedi pechod, a dynion,
a diaflaid ; mi a arosaf ar y maes hyd nes
y byddont oll wedi eu concro ; mi a arosaf
yn dy enaid i'w lanhau hyd nes y byddo
yn berffaith. Yr wyf yn dy enaid, i dy
olchi hyd nes y byddot yn lan ac yn bur,
heb na brycheuyn na chrychni. Yr wyf
ynot i ymladd dy frwydrau, hyd nes y
byddo yr lioll elynion sydd yn dy amgylchu
wedi eu concro. Nac ofna, yn y dydd
olaf, pan y bydd y cyfan yn cael ei losgi
gan dân ; mi a fyddaf y diweddaf. Myfi,
yr hwn sydd wedi dy garu, a'r hwn wyt
tithau yn garu ; myfi, yr hwn wyt yn
ddymuno uwchlaw y cwbl, a'r hwn yr wyt
wedi gadael pob peth er ei fwyn ; myfi a
fyddaf yno, y diweddaf. Yr wyf wedi bod
yn farw, mae yn wir ; mi a orphenais dy
iachawdwriaeth ar y groes ; disgynais i'r
dyfnder i orchfygu angau a Satan ; ond er
i mi farw, yr wyf yn fyw.' " Erbyn hyn,
yr oedd yn lle ofnadwy yn y cyfarfod, a'r
bobl wedi cyfodi fel gallt o goed ar eu
traed. Ond y mae y pregethwr yn myned
yn mlaen i gymhwyso'r athrawiaeth.
" Dyma ddigon," gwaeddai : " Y mae'r
lesu yn fy w ! Dowch yn awr, dyrchafwch
eich llygaid at y gwaed ! Edrychwch, a
chwi a welwch gastell marwolaeth wedi ei
ddymchwelyd, y llew wedi ei gadwyno a'i
goncro, uffern wedi ei gorchfygu ; chwi a
gewch weled goleuni yr ochr hwnt i
angau." Yr oedd y pregethwr yn awr yn
feistr y gynulleidfa ; yr oedd yn llawn o
íîydd ac o'r Yspryd Glân, a phob gair a
lefarai yn cyrhaedd hyd adref. Yna, aeth
yn mlaen i daranu yn erbyn gelynion
Crist, y Sosiniaid, yr Ariaid, y Deistiaid,
y Pab, ac uffern, a gorphenodd y bregeth
trwy eu hanog oll i ymostwng i'r Gwar-
edwr. " Cefais nerth rhyfedd," meddai ;
" yr oedd fy enaid yn rhydd, ac yn llawn
o ffydd, o oleuni, ac o Yspryd yr lesu. O
mor ogoneddus yw y goleu hwn ! " Nid
annhebyg fod a fynai y nerthoedd a
deimhd yn yr odfa yn dwyn gwell yspryd
i mewn i fysg y cynghorwyr, lawn cymaint
ag ymresymiadau Howell Harris yn y
Gymdeithasfa.
O Watford, aeth Harris tua'r Aber-
thyn, yn dra dedwydd ei feddwl, gan adael
y cynghorwyr, a gawsent eu ceryddu
ganddo, yn iselfrydig o yspryd. Ei destun
yma oedd Es. xx. 2, 3, a chafodd gryn
nerth i ddangos beth a wnaethai yr
Arglwydd erddynt, ac fel yr oeddynt
hwythau yn myned yn mlaen i buteinio
oddiwrthi. Yn y seiat a ddilynai, bu y
pwnc o ymadael a'r Eglwys dan sylw, ac
yr oeddynt oll yn unfryd i beidio ym-
wahanu. Dydd Sadwrn, aeth i St.
Nicholas. Clywodd yma fod y press gang
alhan, a llawenychai ei enaid o'i fewn wrth
feddwl am y peryglon ar ba rai yr oedd ei
wyneb. Yn eglwys Wenfo, yr oedd
clerigwr tra efengylaidd, ac yn ol ei arfer,
pan fyddai yn y gymydogaeth, aeth Harris
yno y Sul i wrando y Gair, ac i gyfranogi
o'r sacrament. Yna, cyfeiriodd ei wyneb
tua chartref, gan basio trwy Watford, a
phregethu, gydag arddehad, yn Mynydd-
islwyn, Gelligaer, a Pontsticyll, a chyr-
haeddodd adref erbyn y cyntaf o Fai, yr h wn
oedd yn ddydd o ymostyngiad ac ympryd,
yn ol trefniad y Gymdeithasfa. Yn mhen
ychydig ddyddiau derbyniodd lythyr o
Lundain, yn ei alw i fynu, gan fod llawer
o faterion pwysig yn galw am eu trefnu, a
Whitefield o hyd yn America. Lledodd
yntau y llythyr gerbron yr Arglwydd ;
teimlai ei fod yn gyfangwbl at ei wasan-
aeth ef, fel clai yn llaw y lluniwr ; a
theimlai yn anrhydedd i fyned, os oedd
Duw yn ei alw. Cyn cychwyn tua'r brif-
ddinas, modd bynag, cymerodd daith faith
trwy Orllewin Morganwg, gan ymweled â
Llansamlet, a gwlad Browyr; trwy ranau o
Sir Gaerfyrddin, ac aeth mor bell a'r Parke,
yn Sir Benfro. Yr hyn a'i dygodd yma
oedd cydymdeimlad a'i anwyl gyfaill,
Howell Davies, yr hwn oedd mewn
dyfroedd dyfnion oblegyd colh ei briod.
Wedi treuho Sabbath yn Llanddowror,
gyda yr Hybarch Grifhth Jones, dych-
welodd Harris i Abergorlech, lle y cyn-
hehd Cymdeithasfa FisoL Yno pregethai
Daniel Rowland. Cafodd afael ryfedd ar
weddi ar y dechreu. Meddai y dydd-lyfr :
" Yr anwyl frawd Rowland a weddiodd yn
rhyfeddol. Pan aeth i ddeisyf ar ran y
genedl, ac i alw Duw yn ol i breswyho yn
ein mysg, llanwyd y Ue gan bresenoldeb
yr Arglwydd. Yr wyf yn teimlo yn sicr
i'r weddi hon fyned ar ei hunion i'r nef."
Testun Rowland oedd, 2 Cor. vii. i ; a'i
fater ydoedd, fod athrawiaeth rhad ras yn
ddinystriol i bechod. Yr oedd yr Arglwydd
yn y lle mewn modd anarferol iawn. Nid
oes unrhyw gofnod o'r Gymdeithasfa ar
gael, ond yr hyn a gronicla Howell Harris
yn ei ddydd-lyfr. Meddai : " Eisteddais
gyda'r brodyr yn hwyr, am fod gwarant i
bressio allan. Holasom ein gilydd gyda
298
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1745-
golwg ar ein parodrwydd i fyned i'r rhyfel ;
yr oedd pob un yn foddlawn, os cai ei alw ;
ond penderfynasom fod yn synwyrol a
chall, Cydunasom i fod yn fwy trefnus
yn ein teithiau, fel y caffai yr ŵyn well
porthiant. Cawsom lawer o gariad, a
chymundeb yspryd." Dychwelodd adref
trwy Glanyrafonddu, a Llanddeusant.
Ymddengys nad oedd meddwl Harris ei
hun ddim yn hoUol esmwyth gyda golwg
ar y penderfyniad i aros yn yr Eglwys
Sefydledig ; cyfeiria ato amryw droiau yn
ystod y daith ; ac wedi dychwelyd i
Drefecca, y mae nodiad pur hynod yn y
dydd-lyfr : " Gweddíais yn daer ar i'r
Arglwydd ddychwelyd i'n mysg ; ond pan
y cefais atebiad ffafriol gyda golwg ar y
gwaith, ni chefais ddim yn ffafr y SefydHad,
yr esgobion, a'r clerigwyr, er fy mod yn
dadleu Uawer o'u plaid." Yn sicr, y mae
y geiriau yn arwyddo cryn anesmwythder
yspryd.
Tua chanol Mai, cawn ef a Mrs. Harris
yn cychwyn am Lundain. Nid oedd yn
ddibryder gyda golwg ar yr achos yn
Nghymru yn ystod ei absenoldeb ; "ond,"
meddai, " cefais ffydd i gyflwyno yr hoU
lafurwyr i'w ofal ef, gan fy mod i yn
myned i'w gadael am ychydig, a llefais ar
i'r x\rglwydd fod yn ddoethineb, ac yn
nerth iddynt, a'u galluogi i sathru Satan
dan eu traed." Erbyn cyrhaedd y brif-
ddinas, cafodd fod y cymdeithasau yno
mewn stâd dra annhrefnus ; ymraniadau a
dadleuon wedi dod i mewn i'w mysg, a
chwestiynau wedi codi parthed purdeb
buchedd rhai o'r aelodau. " Yr wyf yn clyw-
ed y fath bethau yma, ac yn gweled y fath
ymraniadau, fel nas gwn beth i'w wneyd nac
i'w ddweyd," meddai. " Y mae yn dda i mi
mai Crist yw fy holl ddoethineb a'm nerth ;
yr wyf yn gweled fy mywyd a'm hiechyd yn
ei law. O, pa fodd yr ymddygaf yn y
dydd hwn o brawf." Un Mr. Cudworth
oedd wrth wraidd y drwg, sef yr un
ag a fuasai yn cynhyrfu yn flaenorol
yn Mryste. Nid yn unig yr oedd
wedi dwyn dadleuon i mewn am natur
cyfranogiad yr enaid o gyfiawnder Crist,
ond yr oedd rhyw helynt flin wedi codi
gyda gohvg ar ei gymeriad personol, a
chyhuddid ef o ryw anfoesoldeb na enwir.
Credai Harris am dano na chawsai erioed
ei aileni, a'r diwedd a fu tori pob cysyllt-
iad ag ef. Tua phythefnos y bu Mr. a
Mrs. Harris yn Llundain, ac ymddengys
iddo fod yn nodedig o Iwyddianus yn mysg
y brodyr Saesnig i wastadhau eu hymraf-
aehon, a'u dwyn at eu gilydd. Nis gallwn
ddifynu y dydd-lyfr am yr yspaid hwn, er
y cynwysa hanes manwl a dyddorol, ond y
mae ynddo un nodiad tra arwyddocaoí.
" Neithiwr," meddai, " datgenais mai un
gofal yn unig a arferai fod arnaf pan yn
esgyn i'r pwlpud, sef ar i bawb yn y cyf-
arfod gael Iles trwy fy ngeiriau, ac ar i
Grist gael ei ddatguddio i bawb ; ond yn
awr fod arnaf bryder gyda golwg ar beth
arall, sef ofn rhag i mi dramgwyddo rhyw
rai. Ac os gwelaf amryw o blant Duw yn
dyfod i wrando gyda chlustiau gochelgar,
yn unig er mwyn gweled a ffaelaf, y mae
yn brawf dolurus fy mod yn methu credu
eu bod yn ceisio fy nghynorthwyo, a dal fy
mreichiau i fyny â'u gweddíau. O mor
boenus yw dadleuaeth ! Mor falch ar bob
cyfrif a fyddwn i gael myned i neillduaeth,
oni bai mai yr Arglwydd ddarfu fy ngalw
yma." Awgryma y nodiad fod rhai o'r
frawdoliaeth, yn Llundain, yn dechreu
amheu a oedd Harris yn iach yn y ffydd,
ac yn myned i'w wrando gyda y bwriad o'i
ddal yn tripio. Bu ef a'i briod am gryn
amser tua Bath a Bryste ar eu ffordd
adref, ac yr oedd yn Fehefin 26, pan y
cyrhaeddasant Drefecca.
Llonwyd calon Howell Harris yn fawr
wrth ddeall fod y gwaith da wedi myned
rhagddo yn Nghymru yn ystod ei absen-
oldeb. Clywai yn arbenig am y nerth
oedd yn cydfyned a gweinidogaeth Howell
Davies, ac enynodd ei enaid yn fflam
ynddo o'r herwydd. " Llonwyd fy yspryd,"
meddai, " â diolchgarwch, ac hefyd â
chariad ato, ac at bob tyst sydd gan Dduw
yn y byd. O ddaioni fy Arglwydd, yn fy
mendithio fel pe na byddwn un amser yn
pechu yn ei erbyn ! Tynwyd fy enaid
allan mewn Ilawenydd oblegyd y doniau, y
grasau, y Ilwyddiant, y doethineb, a'r
nerth'y mae yn roddi i eraiU." Yn sicr,
ceir yma ryddfrydigrwydd yspryd' na welir
yn aml ei gyffelyb. Yn fuan clywodd fod
dyn yn dyfod y dydd hwnw o Aberhonddu,
er ei gymeryd, a gwneyd milwr o hono.
Teimlai nerth ei natur Iygredig fel y
gwelwodd wrth glywed y newydd. Ond
aeth i'r dirgel ; yno cafodd olwg ar ogon-
iant yr Arglwydd lesu Grist, fel un a phob
awdurdod yn ei law. Gwelai fod y diaflaid,
a phob math o ddrwgddynion, ac yn eu
mysg y dyn â'r warant, o Aberhonddu,
mewn cadwyn ganddo ef. Llanwodd hyn
ei yspryd a thangnefedd. Gwelai werth yr
addewidion, yn neillduol yr addewid,
" Pan elych trwy y dyfroedd myfi a fyddaf
1745-]
HOWELL HARRIS.
299
gyda thi," fel y galluogwyd ef, nid yn unig
i fod yn dawel o ran ei feddwl, ond liefyd i
gysuro ei deulu. Eithr ystori gelwyddog
oedd y chwedl yn y diwedd ; neu, os oedd
y cyfryw ddrwgfwriad yn mryd y gwrth-
wynebwyr, ni roddwyd mo hono mewn
grym.
Ar y 3ydd dydd o Orphenaf cyneHd
Cymdeithasfa Chwarterol, yn Blaenyglyn.
Nid oedd Daniel Rowland yno, eithr
daethai Howell Davies, a Williams, Panty-
celyn, i'r cyfarfod, yn nghyd á'r Parch.
John Powell, yr ofFeiriad, o Fynwy. Fel y
geUid disgwyl, yr oedd Howell Harris
hefyd yn bresenol. A ganlyn yw y cof-
nodau : —
" Wedi derbyn llythyr oddiwrth y brawd
George Gambold, gyda golwg ar ei alwad,
pa un ai (cynghorwr) cyhoedd neu breifat
fyddai, a chwedi deall fod ei ddoniau yn
hytrach at adeiladu y saint nag at argy-
hoeddi, a'i fod wedi cael ei fendithio mewn
amryw leoedd yn gyhoeddus, ni a ledasom
y mater gerbron yr Arglwydd, ac yna ni
a'i cyflwynasom i'r brawd Howell Davies,
gan adael iddo benderfynu yn mha leoedd
y caffai lefaru yn gyhoeddus, ac yn mha
leoedd yn breifat, a hyny ar brawf hyd y
Gymdeithasfa nesaf.
"Gwediderbyn dau Iythyr, un oddiwrth
y brawd John Richards, a'r Ilall oddiwrth
y brawd Richard Tibbot, y rhai oeddynt
mewn cryn betrusder pa fodd i ymddwyn
ar hyn o bryd, gan y byddent yn sicr o
gael eu pressio pe yr aent i rai Ileoedd yr
arferent fyned iddynt, ac yn gofyn am gyf-
arwyddyd, ai nid gwell iddynt roi eu
hunain y tuhwnt i gyrhaedd gelynion,
trwy gymeryd trwydded, cydunasom oll
y byddai cymeryd trwydded, yn bresenol,
yn ddianrhydedd i'r Arglwydd, yr un fath
ag y byddai gadael y gwaith. Meddyliem,
felly, mai gwell i'r rhai sydd allan o afael
y gelyn fyned i'r Ileoedd mwyaf peryglus,
a'r IleiII fyned yn fwy preifat, gan arfer pob
doethineb diniwed, am mai prawf am
amser ydyw hwn, ac na ddylai gael edrych
arno fel erledigaeth. Ond am y brawd
WiIIiam Richard, yr oedd efè a'i feddwl
mor Ilawn o amgylchiad Daniel fel y
teimlai ei hun dan rwymau i fyned fel cynt.
Cydunasom hefyd, os deuai yr erledigaeth
yn gyífredinol, a'r efengyl yn cael ei
rhwystro yn hollol, i apelio at y Ilywodr-
aeth. Os gwrthodir ni yno, i ddeisebu yr
esgobion ; yna, os cymerir ein rhyddid
ymaith yn gyfangwbl, bydd y ffordd yn
rhydd i ymwahanu.
" Darllenwyd adroddiadau y brodyr, y
rhai a ddygent newyddion da am Iwydd-
iant yr efengyl yn y rhan fwyaf o leoedd ;
y brodyr Thomas James a Thomas
WiIIiams, heb ysgrifenu adroddiad.
" Cydunwyd fod i'r brodyr dderbyn tan-
ysgrifiadau er argraffu llyfr EIizeus Cole,
ar ' Benarglwyddiaeth Duw,' yn Gymraeg,
hyd y Gymdeithasfa nesaf."
Rhaid fod gwrthwynebiad y brodyr i
ymneillduo, ac i ymffurfio yn blaid, yn
gryf, pan y dewisent gymeryd eu Ilusgo o
fynwes eu teuluoedd, a'u rhwygo oddiwrth
y cymdeithasau oedd mor anwyl ganddynt
a'u Ilygaid, yn hytrach na gosod eu hunain
allan o gyrhaedd y perygl, trwy gymeryd
trwydded i bregethu, a thrwy hyny gyf-
addef eu hunain yn Anghydffurfwyr.
Gweddus cadw mewn cof hefyd fod y rhai
a basient y penderfyniad uchod yn agored
i'r ddryc-hin eu hunain. Disgwyliai
hyd yn nod Howell Harris bob dydd i'r
awdurdodau anfon gwarant i'w gymeryd.
Yn ychwanegol, yr oedd amryw o'r
cynghorwyr a gawsent eu pressio yn barod
yn bresenol yn y cyfarfod, wedi cael
caniatad i ymweled â'u brodyr ; ac am
beth amser buont hwy a'r lleill yn cyd-
gyniysgu eu dagrau, ac yn cyd-ddyrchafu
eu hocheneidiau at Dduw. Y rhai y cyf-
eirir atynt, fel allan o berygl, oedd y rhai a
gawsant eu hordeinio, naiU ai yn yr Eg-
Iwys Sefydledig, neu yn ol trefn yr Ym-
neillduwyr. Tybiai Howell Harris mai y
dull goreu i ddwyn y cyfarfod i deimlad o
ymddiriedaeth tawel oedd cyfeirio at wir-
ioneddau tragywyddol yr iachawdwriaeth.
" Cyfeiriais," meddai, " gyda grym at
berygl ein synwyr ein hunain, ac at ddir-
gelwch y Duwdod, nad yw yn bosibl ei
ddirnad ond trwy ffydd yn ngoleuni yr
Yspryd. Dangosais fel y mae fy Ilygaid
yn dechreu cael eu hagor i ganfod mawr
ddirgelion y Duwdod. Yn (i) Y Gair yn
cael ei wneuthur yn gnawd. (2) Y Trindod
mewn undod. (3) Gwirioneddolrwydd yr
undeb rhyngom a Christ. Credaf i hyn
brofi yn foddion i gyffroi y brodyr allan o'u
doethineb eu hunain, i dremio ar y dirgel-
edigaethau dwyfol ; ac yn arbenig cyn-
hyrfwyd hwy wrth edrych ar y gwaed.
Yno yr ydym yn gweled y Tad, y Mab,
a'r Yspryd. Ỳno yr ydym yn canfod
cariad tragywyddol Duw. A daeth yr
Arglwydd i lawr, ac yr oeddym yn dded-
wydd yn nghyd." Byddai yn anhawdd
cael gwell engrhaifft nag a geir yma o
saint yn ymddiried yn yr Arglwydd, ac yn
300
Y TADAU METHODISTAIDD.
_i745-
nghadernid ei allu ef, nes yr oedd ofn
perygl yn cael ei lyncu o'r golwg gan
fawredd y tra-ragorol ogoniant sydd yn
Nuw.
Ar y i6eg o Orphenaf, yr oedd Cym-
deithasfa Fisol yn Erwd, ac a ganlyn yw
ei chofnod : " Yn y Gymdeithasfa hon, ni
phenderfynwyd dim neillduol, ond treul-
iwyd yr amser mewn canu, a gweddîo, ac
agor ein calonau i'n gilydd gyda golwg ar
ansawdd y gwaith, ac ystâd yr Eglwys a'r
genedl. Buom yno am rai oriau, a daeth
Duw i'n mysg, gan ein dal i fynu."
Tua diwedd y mis, aeth Harris am
daith i Sir Forganwg, hanes pa un a
ddifynwn allan o'i ddydd-lyfr : —
" Trefecca, Sul, 28 Gorphenaf, 1745.
Gan mai heddyw yr wyf yn dechreu fy
nhaith trwy Sir Forganwg, syrthiais
gerbron yr Arglwydd, a chefais agoshad
nodedig ato wrth ofyn ar ran fy anwyl
wraig, a'm teulu. Atebodd fì y cawn ei
gweled drachefn, a'i derbyn o law marwol-
aeth, fel y gwnaethwn y boreu hwn wrth
ddihuno. Cefais ryddid i ddeisyf gyda
golwg ar fy nhaith, am i mi gael fy
mendithio, a chael fy ngwneyd yn fendith
i bawb, pa le bynag yr af. Wedi gweddío
gyda'r teulu, cychwynais. Pan gyrhaeddais
Cantref, yr oedd y brodyr yn dyfod allan
o'r eglwys. Siriolwyd íì yn fawr wrth eu
cyfarfod ; a fflamiwyd fy enaid ynof wrth
glywed pa mor dda yw efe i'r brodyr sydd
wedi cael ei pressio. Ar y ffordd tua
Watford, cefais gryn agosrwydd at Dduw
wrth ganu, ac wrth foUanu ei enw am y
trugareddau a roddasai i eraiU. Daethum
yno o gwmpas saith, gwedi trafaelu
oddeutu deugain milltir mewn wyth awr.
Yno, mi a lewygais gerbron y bobl ar
derfyn y weddi ; gwedi dyfod ataf fy hun,
lleferais oddiar yr ymadrodd : ' A'r Gair a
wnaethpwyd yn gnawd.' Cefais ryddid
mawr wrth gyfeirio at undeb y natur-
iaethau, ac at waed y Duwdod. Daeth y
nerth i lawr yn benaf wrth fy mod yn
cymhwyso yr athrawiaeth, gan ddangos
fel y mae y ddynoUaeth yn Nghrist wedi ei
huno â Duw, felly yr ydym ninau ynddo
wedi ein huno â Duw. Cefais gymorth i
egluro yr undeb hwn, fel y mae yr enaid
a'r corph yn un â Christ, ein henaid ni yn
un a'i eiddo ef, a'n corph ni a'i gorph ef.
Yna, cyfeiriais ataf fy hun, er i dân losgi
fy nghorph, ac i bryfed ei fwyta, eto y
cawn ef drachefn yn ogoneddus. Cefais
ryddid mawr i'w cyffroi i fyw yn ngolwg
Crist, ac i gadw yn agos ato."
Bwriedid cynal Cymdeithasfa yn Wat-
ford, am yr hyn y ceir y nodiad canlynol
yn Nghofnodau Trefecca : " Bwriadem
gynal Cymdeithasfa, ond yr oedd y brawd
Price wedi myned i Sir Gaerfyrddin, ac
nis gallem gael cyfarfod a'r brawd Richard
Jones, yr hwn yr oedd pob moddion wedi
eu defnyddio tuag ato, er ei ddiwygio
oddiwrth ei ddiofalwch, a'i esgeulusdra
gyda'r gwaith. Dymunwyd arno drachefn
i beidio Uefaru yn gyhoeddus hyd nes
y caffai ei adnewyddu drachefn trwy
edifeirwch, a phenderfynodd y brodyr i
beidio anfon am dano hyd nes y byddo
achos Duw yn pwyso mwy ar ei galon."
Ond i ddychwelyd at y dydd-lyfr :
" Watford, dydd Llun. Heddyw, gwelais
ddirgelwch y gwaed yn fwy nag erioed ;
yr oedd gerbron fy llygaid trwy y dydd.
Gwelwn fy holl iachawdwriaeth, a'm
nerth, a'm ffynon i ymolchi, fel môr yn
IHfo allan oddiwrth Dduw, yn rhinwedd
yr undeb dirgeledig ; ac felly fod ei gwraidd
yn Nuw. Llefwn am i ogoniant y gwaed
a'r cyfìawnder yma gael ei amlygu trwy yr
holl fyd, gan fod pob gwirionedd yn cyfar-
fod ac yn canolbwyntio yn y gwirionedd
hwn — y Gair wedi ei wneuthur yn gnawd.
Cefais ryddid i ddangos i'r brawd Thomas
Wilham mai Duw y w y pen saer celfydd ;
mai efe sydd yn gwybod i ba le yn yr
adeiladaeth y mae pob un yn gymhwys ;
ac hyd nes y byddo pawb yn y Ile a
fwriada efe iddynt, mai gwanhau, ac nid
cryfhau, yr adeilad a wnant." Tebygol fod
cyfeiriad y sylwadau hyn at awydd cynghor-
wyr y Groeswen am ordeiniad, fel y byddai
ganddynt hawl i weini yr ordinhadau, ac
felly sefyll ar yr un tir a gweinidogion
Ymneillduol. " Datgenais fy syniad fy
mod yn gweled rhyw gymaint o Dduw yn
mhob fifurf ar addohad — Esgobyddiaeth,
Presbyteriaeth, ac Annibyniaeth — a rhyw
gymaint o'r dyn hefyd, efallai. Geill pob
un o honynt fod yn iawn ar ambell adeg,
mewn rhai lleoedd, a than ryw amgylch-
iadau ; ond nis gall un o honynt fod mor
gyffredinol iawn, fel ag i beidio goddef y
lleill. Y mae gwahaniaeth mawr hefyd
rhwng pan fyddo y brenin a'r llywodraeth-
wyr yn Gristionogion, a phan fyddant yn
elynion Crist.
" Daethum yn fy mlaen i Dinas Powis.
Cefais lawer o ryddid wrth weddío, ac wrth
lefaru ar Matt. i. 21. Yr oeddwn wedi
cael awdurdod i drywanu, i ddefifroi, ac i
argyhoeddi. Dangoswn fel yr oedd Duw
yn cashau pechod, ei fod wedi dyfod i'w
1745-]
HOWELL HARRIS.
301
ddinystrio, wreiddyn a changen ; a pha le
bynag y byddo Yspryd yr Arglwydd, yno
y bydd rhyfel, hyd nes y byddo pechod
wedi ei orchfygu. Dangosais sut y mae yn
ei ddinystrio, trwy ddatguddio y gwaed.
Yma yr oeddwn yn cyrhaedd i'r byw.
Llefarais mewn modd argyhoeddiadol yn
Gymraeg ac yn Saesneg, gan ddatgan mai
fy ngwobr i am fy Uafur oedd eu gweled
hwy yn rhodio gyda Duw. Er fy mod yn
wan, yn sâl, mewn poen, ac yn mron
llewygu, siaradais yn breifat hyd adref am
rodio yn sanctaidd, am gadw dysgyblaeth,
am dori allan pwy bynag sydd yn rhodio
yn anweddaidd, a rhwystro pawb i
gynghori oni fydd arwyddion fod y gwaith
ar eu calonau. Cefais ryddid mawr gyda
y rhan hon hefyd. Deallais fod y gelyn
yn ceisio fy nuo, a gwanhau fy mreichiau,
trwy daenu ar led fy mod wedi syrthio i
gyfeihornadau. Yn hyn hefyd cefais fy
nghadw yn dawel a diolchgar, er yn
nghanol poen.
"DiNAs Powis (dydd Maẅrth). Neith-
iwr cadwyd fi yn agos at yr Arglwydd, yn
mhell uwchlaw'r cnawd, yn fy mhoenau i
gyd. Yr wyf yn cael fod y brawd Wesley,
yn nghyd á'r brodyr, yn fy narlunio fel
wedi syrthio i gyfeiHornadau. Yn hyn yr
wyf yn llawenychu, eu bod yn fy ngwneyd
i yn ddim, gan fy yspeiho o fy enwogrwydd,
ac o'r eneidiau (a argyhoeddwyd drwof),
fel y byddo i'r Person rhyfeddol sydd fry
gael ei ddyrchafu. Llefais: ' O Arglwydd,
na chofier fi, ond i'r graddau y byddot yn
defnyddio y cof am danaf, er lledu dy
foUant di. Dysg bawb i dy adnabod ; gallu-
oga ni oll i feddwl ac i lefaru yn iawn am
danat ti.' Aethum tua St. Nicholas, rhyw
bum' miUtir o bellder, mewn poen mawr o
herwydd y ddanodd. Gelwais gyda Mr.
Hodge, a chefais ef yn llawn cariad. Pan
ddaeth yr amser i lefaru, rhoddodd yr
Arglwydd nerth ynof i wynebu ar y
gwaith, a chefais lawer o awdurdod a
goleuni. Yr oeddwn yn llym yn erbyn y
rhai a esgusodent bechod, neu a geisient
dadogi y bai ar Dduw ; dangosais fod
gwraidd pob drwg ynom ni, ac yn y
diafol. Yr oeddwn yn cyrhaedd i'r byw
wrth ddynodi y gwirionedd yn cynyddu
yn y pen, ac nid yn y galon. Yn breifat,
drachefn, yr oeddwn yn agos iawn parthed
chwynu y seiat, a pheidio goddef drygioni
ynom ein hunain, nac yn neb arall, onide
y byddai i'r Arglwydd ein gadael. Dat-
genais na wnawn arbed neb, ond y trown
allan bawb a rodiai yn anweddaidd, pwy
bynag fyddent. Gwrthddadl : Yna, ni a
awn yn ychydig. Ateb : Pe na baem ond
dau, bydded i ni fod yn nghyd yn yr
Arglwydd. Gwrthddadl: Fe â y seiadau
i lawr. Ateb : Gadawer iddynt fyned ;
oni chawn seiadau yn yr Arglwydd, bydded
iddynt oll fyned yn ddarnau mân. Yna,
gosodais o'u blaen achos Richard Jones ;
ei fod wedi cael ei ddystewi oblegyd ei
ddifaterwch, ac eto, fod rhai yn ei alw i
lefaru. Datgenais ei fod wedi tristhau yr
Arglwydd, a'i fod yn dangos nad yw achos
Duw yn agos at ei galon ; ac hyd nes y
rhoddir edifeirwch iddo, nas gallaf gyd-
lafurio ag ef, ac na ddeuaf ychwaith i'r
seiadau sydd yn ei alw. Yr wyf yn
gwneyd hyn o gydwybod tuag at Dduw.
Pan ddatgenais felly, llewyrchodd yr
Arglwydd yn fy enaid ; toddodd fy nghalon
ynof yn felus, gan ddwyn tystiolaeth
ddarfod i mi ryngu ei fodd ef. Aethum
ymaith yn llawn cariad.
" Cyfeiriais fy nhraed tuag Aberddawen
erbyn chwech. Yr oedd poen y ddanodd
yn mron bod yn annyoddefol, ond gwnaed
i fy enaid fendigo a moH Duw o'r herwydd;
gwelwn mai gwialen ydoedd, oblegyd fy
mod yn crwydro oddiwrth yr Arglwydd,
ac yr oeddwn yn caru Duw am dani.
Gelwais yn Ffonmon, ond gan mor fawr
oedd . y boen, nis gallwn aros yma ond
ychydig fynydau. Pan ddaethum i Aber-
ddawen, cefais lonydd gan y boen i lefaru
i dorf fawr ar, ' Byddwch lawen yn
wastadol ; ' ond trowyd fy ymadrodd i fod
yn finiog a llym. Daethum i Pentrythyn,
rhyw chwech milltir o íFordd ; yr oedd y
boen yn dyfod yn mlaen drachefn ; teimlwn
fy mod wedi cael fy ngwaredu oddiwrth
angau, ond O, mor wan a fyddwn mewn
poenau oni bai fod genyf Dduw ! Cefais
ddyoddefgarwch wrth dynu y dant allan ;
pan yr oedd y boen yn aros drachefn,
gofynais feddwl yr Arglwydd gyda golwg
ar dynu dant arall ; gwedi tynuhwnw
allan darfyddodd y poenau.
"Pentrythyn (dydd Mercher). Neith-
iwr, yn Aberddawen, yr oedd llawer o
bobl Mr. Wesley yn gwrando, a dywedais
ein bod ni a hwythau yn cyduno gyda
golwg ar hyn, y rhaid i ni gael ein gwaredu
oddiwrth bechod yn y pen draw, a bod y
Cristion yn Uawenychu yn yr olwg ar
hyn ; ei fod yn llawenychu hyd yn nod yn
nghanol ei alar oblegyd llygredigaethau ei
natur, gan fod Duw yn ei garu, yn maddeu
iddo, ac yn edrych arno fel yn berffaith yn
Nghrist. Y boreu hwn, yn y dirgel, cefais
302
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1745.
olwg bellach yn fy yspryd, y rhaid i mi
fod ar fynydd Seion, yn nghymdeithas
myrddiwn o rai sanctaidd, ac felly, gwelwn
fy hun yn estron yma. Aethum o gwmpas
un i lefaru yn yr Aberthyn, a chefais
odfa anghyffredinol o nerthol wrth bre-
gethu ar, ' Aroswch yn fy nghariad.'
Yr oeddwn yn llym wrth y rhai nad
oedd a'u holl hyfrydwch yn Nuw.
O mor felus yw cael pregethu yn yr
Arglwydd ! Yr oedd y cynulleidfaoedd yn
Ihosocach nag arferol yn y rhan fwyaf o
fanau. Yna aethum i'r seiat breifat, ac
eisteddasom i fynu yr hoU nos, hyd yn agos
i chwech ; a rhyfedd fel y cryíhaodd yr
Arglwydd fì yn fy enaid a'm corph. Daeth
efe yno ; gwnaeth ni fel fflam o dân â'i
gariad ; cynysgaethodd ni â bywyd, a
nerth, a gwres. Yr oeddwn yn Ilym atynt,
na oddefent bechod yn eu mysg, na dim
tebyg iddo. Yna cadarnheais eu fFydd yn
y gwaith, gan ddangos fod pob arwydd ei
fod o Dduw, a'i fod wedi ymledu trwy yr
holl wlad, eu hochr hwy a'r ochr arall i'r
môr. Am yr wrthddadl fod yr oíferynau
yn wael, atebais fod hyn yr un fath ag
yn amser yr apostoHon ; ac, yn llaw Duw,
fod yr ofîerynau gwaelaf gystal a'r goreu.
Cyfeiriais at atahad Richard Jones oddi-
wrth bregethu, oblegyd ei ddilaterwch, ac
na oddeíai gerydd, gan ddangos y rhaid i
ni fod yn un mewn gwrthod ei fath, onide
na fydd dim awdurdod yn ein mysg. Yna
dangosais, gyda grym, yr anghenrheid-
rwydd ani i bawb gael eu dysgu gan Dduw,
a'u llanw o hono, ar gyfer eu lleoedd.
Yna, wrth ganu a gweddío, taniwyd ein
hysprydoedd ; yr oedd yr Arglwydd gyda
ni yn wir. Cadwyd fy Ilygaid yn sefydlog
ar y Jerusalem newydd, yr oeddwn yn
llawn o deimlad, ac yn awyddu bod yno.
Cynhyrfais y brodyr yn erbyn y diafol,
gan ddangos fel y darfu iddo ein dinystrio
ar y cyntaf, ac fel y mae yn parhau i'n
rhanu, ac i'n gwneyd yn annedwydd.
Erbyn hyn yr oedd y brodyr yn Uawn
bywyd. O, gogoniant i Dduw am ddych-
welyd atom eto ! Cyfeiriais at y dirgelwch
mawr ; y Gair wedi ei wneuthur yn gnawd,
a'r modd y llewyrchodd arnaf gyntaf.
Gwedi hyn, cUriwyd amryw achwyniadau
oedd ganddynt yn erbyn eu gilydd, ac yr
oeddynt yn awr yn hoUol rydd oddiwrth y
demtasiwn i ymneillduo."
Er mor ddyddorol yw y dydd-lyfr, rhaid
i ni frysio yn mlaen. Aeth o'r Aberthyn
i Penprysc, ffermdy, nid yn nepell o Lan-
trisant, Ile y pregethodd gyda nerth anar-
ferol iawn, oddiar Matt. xxviii. 18. Toddai
y gynulleidfa fel Ilyn dwfr tan ddylanwad
y Gair. Yr un diwrnod (dydd lau) Uefar-
odd mewn lle o'r enw Hafod, oddiar y
geiriau: " Canys byw i mi yw Crist, a
marw sydd elw." Tybia na chafodd y
fath nerth i bregethu erioed o'rblaen. Yr
oedd yr Arglwydd yn wir yn y Ile. Wylai
Ilawer yn hidl ; bloeddiai eraill dan rym
argyhoeddiad ; cafodd Satan ei glwyfo, a
dynoethwyd angau yn ogoneddus gerbron
y credinwyr, fel yr wylai Harris ei hun
ddagrau melus o lawenydd. Gwaeddai :
" Nid wyf yn gofalu pa un a fydd trefn ar
fy mhregethu a'i peidio ; nid trefn sydd
arnaf eisiau, ond gallu." Aeth yn ei flaen
i gyfeiriad Castellnedd, a chlywai fod y
werinos yno wedi penderfynu ei fobio.
Gwingai y cnawd o'r herwydd am ychydig,
ond tawelodd Duw ei yspryd yn fuan.
Cyn cyrhaedd yno pregethodd mewnUeo'r
enw Cwrt Herbert, ar " Byddwch lawen yn
wastadol." Cafodd dynerwch mawr yma
wrth wahodd yr holl gynulleidfa at Grist.
Cafodd lonydd gan werinos Castellnedd.
Yn Llansamlet, darfu i oruchwyliwr y tir ar
ba un y safai wrth bregethu, gydio yn ei
geffyl ef, a cheffylau y cynghorwyr eraill,
at y rhent oedd yn ddyledus ar yr amaeth-
wr. Aeth Harris i siarad ag ef ; dangos-
odd yr a'i gwaith Duw yn mlaen er pob
gwrthwynebiad. Cynygiodd y goruch-
wyliwr ei geffyl yn ol iddo, ond iddo addaw
na ddeuai yno i bregethu drachefn.
Atebai yntau, nas gallai addaw y fath beth
am fil o geffylau, nac am ei fywyd. Yr
oedd ganddo ddigon o gariad i ddymuno
gweled y dyn anghyfiawn yn y nefoedd ; nid
yn unig boddlonai i'r ceffyl gael ei gym-
eryd, ond bendithiai Dduw am hyny, am
y tueddai yn flaenorol i fod yn falch o'r
anifail. Oddiyno brysia yn mlaen i fferm-
dy, o'r enw Perllan-Robert, yn Nghym-
ydogaeth Abertawe, yn yr hwn leyr oedd
Howell Davies yn pregethu. Pa beth
oedd yn dwyn Efengylydd Penfro i For-
ganwg, nis gwyddom. Pregethodd, gyda
dylanwad, oddiar Zech. xii. 8 ; dywed
Harris ei fod yn marchog ar adenydd yr
Hollalluog ; a bod yr odfa yn un nerthol
anarferol. Yr oedd cydgyfarfyddiad y ddau
gyfaill, a ymdreulient yn ngwasanaeth eu
Harglwydd, yn adnewyddiad yspryd i'r
ddau. Hysbysai Mr. Davies fod llwydd-
iant rhyfedd ar y gwaith yn Sir Benfro,
yn y rhanau Saesnig a'r rhai Cymreig.
Aeth Howell Harris yn ei flaen trwy
Abergorlech, Glanyrafonddu, Llanddeu-
1745-]
HOWELL HARRIS.
303
sant, a Llywel, gan gyrhaedd Trefecca,
gwedi absenoldeb o bythefnos. Trwy yr
hoU daith yr oedd ei gorph yn wan ;
llewygai weithiau gan lynider y poen a
ddyoddefai ; ond nerthai yr Arglwydd ef
yn rhyfedd pan godai i lefaru, a chafodd
odfaeon mor nerthol ag a gafodd yn ei
fywyd. Yr oedd cyflwr yr eglwysi yn
Lloegr hefyd yn gwasgu yn drwm ar ei
feddwl ; dywed iddo gael llythyrau o
Lundain, yn dangos fod yr annhrefn yn y
seiadau yno yn parhau ; ei gysur yn
ngwyneb yr oll ydoedd mai yr Arglwydd
sydd Dduw.
Awst 8, cynhehd Cymdeithasfa Fisol yn
Nhrefecca, yn yr hon y llywyddai Howeli
Harris. Y mae ei chofnodau fel y
canlyn : —
" Agorodd y brawd Harris, trwy ddan-
gos ansawdd gwaith yr Arglwydd yn
Lloegr, Scotland, Cymru, America, a
Ffrainc ; ac yna agorodd pob un ei galon
gyda golwg ar ystâd y gwaith yn ein
mysg ni, a chyflwr y genedl. Dymunai y
brawd Morgan John Lewis i ddeiseb at
yr esgobion gael ei thynu i fynu, ac i un
neu ddau o bersonau priodol gael eu
hanfon o bob seiat at yr offeiriaid plwyfol,
i geisio mewn modd tyner dyfod i gyd-
ddealhwriaeth â hwy, er gweled pa effaith
a gaffai hyn, dan fendith Duw, i hyrwyddo
y diwygiad. Tybiai eraill na ddaethai yr
amser eto, a bod y gwaith yn sicr o fyned
yn ei flaen.
" Cymerwyd i ystyriaeth anwiredd y
wlad, cyflwr y proffeswyr, ein pechodau
a'n gwaeleddau ein hunain ; a chawsom
adnewyddiad dirfawr /wrth glywed am y
moddion a ddefnyddiodd yr Arglwydd yn
Ngogledd Cymru, lle yr oedd y drws wedi
ei gau yn erbyn y Gair, i ddwyn yr efengyl
i'r trefi ; sef trwy ddyn ieuanc a gawsai ei
bressio i'r fyddin, yr hwn a galonogwyd,
ac yn wir a gymhellwyd, i bregethu gan y
cadben, yr hwn a safai wrth ei ochr, gyda
ei gleddyf noeth yn ei law, i'w amddiffyn
tra y pregethai.
" Rhai o'n rhesymau paham na wnai
Duw roddi i fynu y genedl hon ydynt y
canlynnl : (i) Anchwihadwy ohid ei ras.
(2) Fod ganddo eglwys yma, oddiar adeg
y Diwygiad Protestanaidd. (3) Y diwyg-
iad diweddar, yr hwn a ddechreuwyd
ganddo mewn modd mor nodedig, trwy
füddion anarferol. (4) Ei waith yn dwyn
y diwygiad yn mlaen er gwaethaf pob
gwrthwynebiadau, y rhai ydynt eto yn
parhau. (5) Ei fod yn cadw meddyhau y
Uafurwyr mor rhydd, a chathohg, heb
duedd at ymwahanu. (6) Ei waith yn
dyogelu ein rhyddid i ni, fel nad oes cyf-
reithiau erhdgar wedi cael eu pasio.
Cynghorodd y brawd Harris yn wresog; a
chwedi canu a gweddío, a thywallt ein
calonau y naiU i'r hall, yr oeddym yn
dra hapus a gwynfydedig, Yr oedd yr
Arglwydd yn wir yri ein mysg, a rhoddodd
i ni lawer o fendithion."
Awgryma y cofnodion amryw gwest-
iynau, ond rhaid i ni basio. Ymddengys
fod cynygiad Morgan John Lewis, parthed
deisebu yr esgobion, a nesu at offeiriaid y
gwahanol blwyfydd, wrth fodd calon
Howell Harris, a dywed yn ei ddydd-lyfr y
canfyddai M. J. Lewis a James Ingram
fel colofnau o nerth i'r achos. Dywed yn
mheUach, iddo egluro i'r cyfarfod yr
anghydfod a gyfodasai rhyngddo ef a
John Cennick. Am tranoeth, ysgrifena ei
fod yn ddydd o brawf iddo. Daeth i'w
law bapyryn o waith Archesgob Caer-
gaint, wedi ei gyfeirio at y Methodistiaid.
Wedi darllen hwnw, yn ol pob tebygol-
rwydd dynol, nad oedd dim gobaith i'r
gwaith fyned yn y blaen (yn yr Eglwys) ;
a gwnaed iddo edrych at Dduw yn unig,
gan adael y mater i orphwys gydag efe.
Ar y 22ain o Awst, yr oedd Cymdeith-
asfa yn y Tyddyn. Llywyddai Daniel
Rowland, ac yr oedd WiIIiams, Pantycelyn,
hefyd yn bresenol. Cyn cychwyn tuag
yno clywodd Harris fod dau o'r brodyr
Saesnig wedi troi eu cefnau, ac aeth y
newydd i'w galon fel dagr. Pregethai
W^illiams, Pantycelyn, ar yr adnodau
blaenaf yn loan xv. Marwaidd oedd yr
odfa ; ond pan aeth Rowland i weddio
daeth awel dyner dros y cyfarfod. Y
Gymdeithasfa hon yw yr olaf y croniclir ei
gweithrediadau yn nghofnodau Trefecca ;
o hyn allan rhaid i ni ddifynu am yr hanes
ar y dydd-Iyfr, ac ar y Ilythyrau. A
ganlyn yw ei chofnodau : —
" Cydunwyd fod y brawd Evan David i
fyned yn mlaen fel cynt ; felly hefyd
Ándrew Whitaher.
" Wedi ymddiddan maith a'r brawd
Benjamin Cadman, gan nad yw yn ben-
derfynol yn ei feddwl pa un a'i vmo â ni,
neu ynte â'r Ymneillduwyr, a wna, cyd-
unwyd ei fod i ymatal oddiwrth gynghori
hyd y Gymdeithasfa Chwarterol nesaf ; a
bod ei benderfyniad ef, a barn y seiadau,
gyda golwg arno, i gael eu dwyn yno gan
y brawd Richard Tibbot."
Yn y dydd-lyfr, dywed Howell Harris
304
Y TADAU METHODISTAWD.
[1745-
ddarfod i ymgeisydd oddiwrth yr Ym-
neillduwyr ddyfod i'w mysg ; bu y frawd-
oliaeth yn ymresymu ag ef, gan ddangos
fod cryn wahaniaeth rhwng yr Ymneilldu-
wyr a hwythau, ac nas gallai gyduno a'r
ddau, a'u bod yn gweled y rhai a ymunent
a'r Ymneillduwyr yn dilyn rheswm cnawd-
ol, ac yn myned yn glauar ; eu bod yn
dymuno llwyddiant a nerth iddo ; ond os
byddai yn ffyddlon fel hwy mewn cysylltiad
ag Eglwys Loegr, ac ar yr un pryd
ddatgan yn erbyn ei llygredigaethau, y
byddai yn sicr o gael ei nerthu. Cyd-
unodd pawb ar hyn. Yn yr hwyr, wedi y
Gymdeithasfa, aethant tua th}- Thomas
James, tua deng milltir-ar-hugain o bellder,
ac ar y fîordd, testun y siarad oedd, ys-
prydion a bwganod. Clywodd Harris y
fath hanesion am danynt, ac am y pethau
a wnaent, nes y treiddiai iasau trwy ei
gnawd.
Tua chanol Medi, yr oedd Cymdeithasfa
Chwarterol y brodyr Saesnig yn cael ei
chynal yn Caerloyw, ac oblegyd yr
anghydfod a fodolai yn eu mysg, teimlai
Howell Harris ei hun dan rwymau i fyned
yno. Mor fuan ag y cyrhaeddodd, daeth
John Cennick ato, gan agor ei galon, a
dangos fel yr oedd achos Duw yn pwyso
ar ei feddwl, ac fel yr oedd ymddygiadau
rhai o'r brodyr wedi blino ei enaid, a
pheri iddo wyio ffrydiau o ddagrau wrth
draed y Gwaredwr. Mynegai, yn mhell-
ach, ddarfod iddo ymgynghori ag amryw
y teimlai ymddiried yn eu barn, a'u
bod yn cyduno y rhaid iddynt hwy eu
dau, Cennick a Harris, ymgymeryd a holl
ofal yr achos, a rhoddi y brodyr ieuangaf
tan ddysgyblaeth. " Pan y dywedodd,"
meddai Harris, " fod arno eisiau rhywun
a ai gydag ef at yr ystanc, teimlais agos-
rwydd mawr ato ; ond yr oedd fy mhech-
adurusrwydd a fy ngwendid yn rhythu
arnaf." Ei benderfyniad oedd cyflwyno
yr holl fater i'r Arglwydd, a dyma ei eiriau
gerbron yr orsedd : (i) " Nis gallaf ym-
wrthod â'r anrhydedd hon, a sefyll yn
erbyn yr alwad am fil o fydoedd. (2) Nid
oes genyf unrhyw ateb i'w roddi, ond
Iledu ger dy fron di fy holl bechodau,
a'm hannheilyngdod, a'm hammurdeb, a'm
balchder, a'm tymher, a'm hanghymhwys-
der. (3) Os wyt ti yn fy ngalw, yna
gwn y derbyniaf o'th drysor ras i lanw fy
Ile, ac argyhoeddiad Ilawnach gyda golwg
ar beth yw dy ewyllys. (4) Dyro i mi
olwg newydd ar dy eglwys, ac ar dy achos;
gâd i mi ei deimlo wedi ei osod yn fy
nghalon ; (ac felly y cefais. Rhoddwyd i
mi ddatguddiad helaethach o ogoniant a
dirgelwch yr eglwys, fel priod i Dduw, ac
wedi ei dyrchafu allan o bechod ac uffern i
ogoniant. Yn y goleu hwn, er nad oedd
ond gwan, gwelwn bob rhwystr fel dim o
flaen yr eglwys ogoneddus.) (5) Yna dyro
i mi Iygad eryr, er doethineb a dealltwr-
iaeth ; nerth ych, er amynedd, diwydrwydd,
a sefydlogrwydd ; a chalon Ilew, er dewr-
der, beiddgarwch, a phenderfyniad, fel y.
gallwyf dy ogoneddu a Ilanw y Ile hwn.
(6) Cwyd fi uwchlaw y bywyd hwn, gan
nad yw yr holl a berthyn iddo ond tarth a
gwagedd."
Nid oedd unrhy w swm o waith yn ormod
i'r Diwygiwr o Drefecca ymgymeryd ag
ef. Ar ei ysgwydd ef yn benaf, er fod
ganddo gydweithwyr galluog, y gorweddai
pwys y trefniadau yn nglyn â gwaith y
diwygiad yn Nghymru. Braidd nad oedd
y Ilafur a'r cyfrifoldeb perthynol i hyn yn
mron Ilethu ei natur ; ac yn awr dyma ef
eto, mewn undeb a John Cennick, yn ym-
gymeryd a holl gyfrifoldeb yr achos yn
mysg y brodyr Saesnig. Ymdeimlad â
phresenoldeb Duw yn unig a allasai ei
gynysgaethu a'r fath wroldeb. Aed i'r
Gymdeithasfa gwedi ciniaw, ac eisteddwyd
i lawr trwy y nos hyd chwech o'r gloch
dranoeth, gyda'r trefniadau. " Yn sicr, yr
oedd yr Arglwydd yn ein mysg, ac yn ein
goruwch-Iywodraethu," meddai Harris.
Gwnaeth Cennick araeth hyawdl, yn
dangos sut y dylent fod a'u holl enaid yn
ngwaith yr Arglwydd hyd oni ddelo.
Wedi gorphen gyda'r allanolion aed i
siarad am wahanol athrawiaethau, ac yn
eu mysg am iachawdwriaeth gyffredinol.
Dywedai Cennick ei fod yn credu yr
athrawiaeth, ond nad oedd yn athrawiaeth
i'w phregethu, oddigerth gan angel, tua mil
o flynyddoedd gwedi yr adgyfodiad. Ym-
ddiddanwyd am y Duwdod, ac yr oedd
pawb yn gweled Iygad yn Ilygad. W'rth
ganu yr emyn, cafodd Harris olwg ar ddir-
gelwch y Duwdod yn y dyn, a darostyng-
wyd ei enaid ynddo. Wrth gadarnhau
penderfyniadCymdeithasfa Llundain, gyda
golwg ar ddiarddel Mr. Cudworth, yr hwn
oedd yn myned bellach, bellach, teimlai
Howell Harris agosrwydd mawr at y
brodyr, a dywedodd ei feddwl wrthynt yn
bur groyw.
Cyn diwedd mis Medi cynelid Cym-
deithasfa Chwarterol y Cymry, yn Erwd,
Daeth pump o gynghorwyr, ac un offeiriad
i letya i dŷ Mr. Harris y noson cynt ;
1745-]
HOWELL HARRIS.
305
diolchai yntau am y fraint o'u cael.
Pregethodd WiUiam Richards, y cynghor-
wr o Aberteifì, ar ras, ei natur a'i ragor-
iaeth, a chafodd odfa felus. Dranoeth, yn
Erwd, pregethodd Daniel Rowland i
gychwyn, oddiar y geiriau: "O na bai i
mi adenydd fel colomen," a chafodd, fel
arfer, odfa nerthol. Ar ei ol, pregethai
John Sparlís, yn Saesneg, oddiar y gen-
adwri at eglwys Laodicea. Teimlai
Harris yn ddirfawr drosto, am ei fod yn
ieuanc, a gweddíai am i'r Arglwydd ei
arddel ; yr hon weddi a atebwyd yn helaeth.
Yn y cyfarfod preifat, rhoddodd Rowland
anerchiad llym, yn cyrhaedd i'r byw, gyda
golwg ar drefn, yn nghyd a gwagedd rhai o'r
cynghorwyr. Eithr yn raddol teimlai Harris
fod yspryd rhy ysgafn wedi dod i'r cyfarfod,
o ba un yr oedd efe ei hun wedi cyfranogi.
" Ceryddais y brawd Price," meddai, " gan
ddatgan mai efe oedd yn fy Uygru i.
Digiodd yntau, ac aeth allan. Yn ganlynol,
drylHwyd fy nghalon ynof ; yna llewyrch-
odd yr Arglwydd arnaf, a gwelais y deuai
y cwbl yn iawn, am mai eie sydd Dduw.
Ac felly y bu." Y mae darllen am yr am-
gylchiad hwn, a'r cyffelyb, yn dra dydd-
orol, pe na bai ond er dangos nad oedd y
Methodistiaid cyntaf ond dynion, a'u bod
yn agored, weithiau, i fyned yn blentyn-
aidd, ac i ddigio wrth eu gilydd am y nesaf
peth i ddim. Dengys hefyd dynerwch
cydwybod dirfawr ; fod y gradd lleiaf o
ysgafnder yn annyoddefol yn eu mysg.
Boreu dranoeth, codwyd yn foreu, er
gorphen gwaith y Gymdeithasfa. Gwedi
agor eu calonau y naill i'r Ilall, cafwyd eu
bod oll yn deyrngar i'r brenin, a datganai
Harris mai y brenin George oedd yr unig
deyrn cyfreithlawn. Yna, aeth y brodyr
William Richards, Rice, Llanwrtyd ;
James Ingram, a Morgan John Lewis, i
weddi yn olynol, gan ymostwng o herwydd
eu pechodau eu hunain, a phechodau y
genedl. Daeth yr Arglwydd i'w mysg yn
amlwg. Datganent i'w gilydd, yn gystal
ag ar eu gliniau, nad oedd eu cyrph yn
eiddo eu hunain. Anogent y naill y Ilall i
ganlyn Crist yn fwy agos, ac i bregethu
ychwaneg ar ífrwyth yr Yspryd. Taer
gymhellai Harris hefyd yr offeiriaid urdd-
edig i ymweled â Morganwg a Mynwy,
fod mawr angen am danynt, a bod eu
doniau yn tra rhagori ar yr eiddo ef. Ym-
adawyd yn felus, wedi cael Cymdeithasfa
ddedwydd.
Ar ddydd Mercher, yn nechreu mis
Hydref, cawn Howell Harris yn cychwyn
am daith faith i Sir Benfro. Aeth yn
nghyntaf i'r Glyn ; oddiyno yn ei flaen i
Crai, Ile nad oedd y bobl wedi ymgasglu,
am, yn ol pob tebyg, na chlywsent am ei
ddyfodiad. Pregethodd y noswaith hono
yn gyfagos i Trecastell, a chafodd odfa
nerthol. Dranoeth y mae yn Llanddeu-
sant, a Glanyrafonddu ; dydd Sadwrn yn
Glancothi ; ac wedi pregethu y Gair mewn
amryw fanau yn Sir Gaerfyrddin, cyr-
haeddodd Landdowror prydnhawn dydd
Sul, mewn pryd i wrando yr Hybarch
Griffìth Jones. Pwnc pregeth Mr. Jones
oedd y sarfif bres. Diolchai Harris i
Dduw am fod y fath oleuni yn mysg y
Cymry. Aeth i dŷ Mr. Jones i letya, a
deallodd yn fuan fod y g\vr da wedi clywed
Ilawer o chwedlau parthed annhrefn y
Methodistiaid. " Dywedai Mr. Jones,"
meddai, " fod gormod o honom yn agored
i gael ein cyhuddo o falchder, a barn ehud,
yn nghyd â chwerwder yspryd ; a'n bod yn
ddiffygiol mewn gostyngeiddrwydd a char-
iad, ac yn galw eraill yn erlidwyr. Yr
oedd wedi clywed am ein troion anghall
yn Lloegr a Chymru ; am ein hymraniad
yn Lloegr ; ac yr oedd yn dramgwyddedig
oblegyd y bloeddio a'r gwaeddi allan dan
y Gair. Cyfeiriai at ein gwaith yn cate-
ceisio, yr arweiniai mewn amser i annhrefn,
ac y deuai yn y diwedd i'r dim. Atebais,
nas gallai hyny ddigwydd ; pa beth bynag
a ddeuai o honom ni fel Corph, fy mod
yn credu fod canoedd wedi cael eu hargy-
hoeddi a'u hachub. Dywedais fy mod yn
credu yr oll a ddywedasai oddiar wybod-
aeth bersonol ; ond ei fod yn faich arnaf
ddarfod iddo wrando ar ein cyhuddwyr, a'u
credu, heb ein dwyn ni wyneb yn wyneb
â hwy ; a phe y gwnaethai hyny y cawsai
fod y gwaith hwn o Dduw. Meddyliwn y
dylasem gael rhagor o le yn ei serch-
iadau. Lleferais wrth Madam Bevan
ac yntau, gan gael rhyddid oddiwrth
Dduw i ddweyd yr oll a wyddwn ; y modd
yr oeddynt oll (yr Eglwyswyr) wedi
gwanhau ein dwylaw, a'n diarddel, a chreu
rhagfarn yn meddyliau rhai yn Bath yn
ein herbyn. Pan y cyfeiriodd at ei lyfr ar
yr Articlau, gan fy nghyhuddo i o rwystro
ei werthiant, dywedais nad oeddwn yn
cyduno a'r Ilyfr, a pha beth bynag a ddy-
wedais neu a ysgrifenais, ei fod yn codi o
gydwybod. Gofynai ai nid oeddwn yn
teimlo dymuniad am i bawb gael eu
hachub ? Atebais fy mod yn cael fy
nhemtio yn gryf weithiau i weddîo dros y
cythraul ; ond nad oeddwn yn gweled un
X
3o6
y TADAU METHODISTAIDD.
[1745.
lle canol rhwng achubiaeth yr etholedigion
yn unig, ac achubiaeth pawb. Pan y
gwasgai arnaf am fy marn, dywedais fy
mod yn meddwl mai yr etholedigion yn
unig a gedwir ; am y lleill, fod yna an-
mhosiblrwydd ar y ffordd, a hwnw yn
tarddu nid o Dduw, ond o honynt eu
hunain, a'm bod yn credu ei fod yn
gyfeihornus wrth bleidio y posiblrwydd i
bawb gael eu hachub. Cyfeiriodd at waith
Tillotson, Holl Ddyledswydd Dyn, gan gan-
mawl TiUotson fel y dyn goreu a eisteddodd
erioed yn y gadair archesgobol, a dadleu fod
ei lyfr yn un o'r rhai galluocaf ar y pwnc ;
a bod y llyfr mor llawn o garedigrwydd
Cristionogol, fel mai prin yr oedd yn
gadael neb yn golledig yn y pen draw.
Atebais yn ol y gallai gael y fath syniadau
yn ngweithiau athronwyr, ond nad dyna
athrawiaeth Paul na Christ. Yna, myn-
egais iddo am ei draethodau Saesnig
{Welsh Piety, Griffith Jones), yn y rhai y
fîlangellai ni fel Corph, fy mod yn tybio
am yr ymosodiad cyntaf, er yr aroglai yn
ormodol o ddoethineb y byd hwn, fod ei
lygad yn syml wrth ei wneyd, gan mai cael
rhagor o ryddid gan yr esgobion a fwriadai ;
ond pan y gwelais ef yn ailadrodd yr un-
rhyw, gan grybwyll am ein gwendidau, heb
gyfeirio at ddim arall, nas gallai y fath
ymddygiad fod yn garedig, ac y gwnai
gryfhau y rhagfarn yn ein herbyn, yn
arbenig gan ei fod niewn argraff, ac hefyd
yn dyfod oddiwrtho ef, gwaith yr hwn a
ddarllenid, efallai, yn mhen mil o flynydd-
oedd. Addefai ei fod yn rhagfarnllyd yn
erbyn ein Corph ni, gan ei alw yn wrth-
Ysgrythyrol, ac yn ordeiniad. Esboniais
iddo ein hamcan, sef cael gwybodaeth o
stâd ysprydol y dychw^eledigion, ac nid
sefydlu ordeiniad, Mewn cysylltiad â
chateceisio, tybiwn ei fod yn ei ddyrchafu
yn rhy uchel, mai ei wir ddefnydd oedd
nid cymeryd lle pregethu, ond bod yn
is-ddarostyngedig i hyny ; ar yr un pryd,
yr hoffwn ei weled yn cael ei osod i fynu
mewn teuluoedd Ue y byddai personau
cymhwys at hyny, a'm bod i w'edi gwneyd
fy ngoreu i'w osod i fynu. Yr oedd yn
ymosod yn drwm ar y cynghorwyr ang-
hyoedd, gan ddweyd eu bod yn anwybodus,
ac yn anghymwys i'r gwaith, a bod
ganddynt gopi o'n seiadau, a'r lleoedd eu
cedwid. Gwedais inau ein bod yn anfon
y cyfryw allan ond i wyho dros eneidiau
eu gilydd, a phan y caem fod neb yn
ymddwyn yn anweddaidd, ein bod yn peri
iddo beidio. Gofynai ai nid oeddym yn
tueddu i ymffurfio yn sect ? Atebais ein
bod yn dysgwyl, naiU ai cael ein himpio
i mewn yn gyfangwbl i'r Eglwys Sefydledig,
neu gael ein troi allan ; ac yna, naiU ai
i ymuno a rhyw blaid arall, neu ymffurfio
yn blaid ar wahan. Mynegais yn mhell-
ach fy mod wedi clywed y brawd Rowland
yn ceryddu y rhai a floeddient yn y
cyfarfodydd, ond fy mod yn credu am
lawer o honynt nas gallent ymatal, a bod
yn well genyf eu gweled yn gwaeddi nac
yn dylyfu gên. Addefai yntau ei fod yn
hoffi gweled pobl yn wylo yn yr odfaeon,
ac hyd yn nod yn gruddfan. Siaredais ag
ef yn breifat am wneyd rhywbeth i fynu
rhyngddo a Mr. Rowland, fel na chaffo y
gelyn ddyfod rhwng y rhai sydd yn caru
yr Arglwydd ; a dymunais arno, gan fy
mod yn gwybod ei fod yn myned a'n hachos
yn feunyddiol at yr orsedd, ar iddo beidio
myned yn rhagfarnllyd yn ein herbyn,
oblegyd ein camsyniadau a'n hafreolaeth
ymddangosiadol ; mai gyda phob gostyng-
eiddrwydd y dymunwn ei ddweyd, ond fod
Duw yn wir yn ein mysg. Ymadawsom
yn ddrylhog, ac yn gariadlawn ; ac wrth
ymadael, dywedais fy mod yn ei anrhyd-
eddu yn fawr ; felly hefyd y gwna pawb
o'r brodyr, hyd y gwyddwn i. Dymunais
arno ddyfod i'n mysg ; dywedais fy mod
yn credu y buasai yn nes atom oni bai am
eraill, a'm bod inau i'm beio am na fyddwn
yn ymweled ag ef yn fwy mynych. Ym-
ddangosent (Griffith Jones a Madam
Bevan) yn fwy cyfeillgar atom nag o'r
blaen, ond yr oeddynt wedi clustymwrando
ar adroddiadau annyoddefol. Dywedai ein
bod yn cael ein cyhuddo o gofleidio
Cwaceriaeth, a phob math o gyfeihorn-
adau, ac o adael y Beibl, gan ddilyn y
teimlad tufewnoL Atebais nad oedd hyn
yn wir ; eithr nad oedd y Beibl ond
llythyren farw i ni hyd nes y profom waith
yr Yspryd ar ein calonau ; mai nid y naiU
na'r llall ar wahan, ond y ddau yn nghyd
raid i ni gael."
Fefly y terfyna yr ymddiddan rhwng
HoweU Harris ar y naill law, a Griffith
Jones a Madam Bevan ar y flaw aralL
Hawdd gweled fod y ddadleuaeth yn
fynych yn frwd ; yr arferai y ddwy ochr
lawer iawn o blaendra ; ond y mae yn
hyfryd sylwi iddynt gael eu llywodraethu
gan yspryd cariad trwy y cyfan, a phan y
llefarent y caswir eu bod yn nes at golii
dagrau nag at golh eu tymherau. Nid yn
unig y mae y ddadleuaeth yn ddyddorol,
ond yn ogystal yn taflu ffrwd o oleuni ar
Í745-
HOWELL HARRIS.
307
amryw bethau cysylltiedig â Methodist-
iaeth. Gwelwn (i) Fod Grifíith Jones, tra
ar y dechreu yn cydymdeimlo yn ddwfn
a'r diwygiad Methodistaidd, erbyn hyn
wedi troi yn feirniad, ac wedi roddi gormod
o goel i'r chwedlau anwireddus a daenid
am y Diwygwyr. Efallai fod a fynai
awydd rhai o'r cynghorwyr am gael eu
hordeinio yn ol dull yr Ymneillduwyr â
hyn. (2) Fod Howell Harris yn fwy o
Galfin, a braidd na ddywedem, yn allu-
ocach duwinydd na Griíîith Jones. Yr
oedd yr olaf, yn bur amlwg, yn ormod tan
ddylanwad Archesgob Tillotson, yr hwn a
gyfeihornasai yn bur bell i dir Arminiaeth.
(3) Fod Howell Harris, tra yn synio yn
uchel am Griffìth Jones, ac yn ei an-
rhydeddu yn fawr, yn rhy annibynol i'w
ganlyn yn wasaidd, a'i fod yn meiddio
gwahaniaethu oddiwrtho gyda golwg ar rai
o wirioneddau trefn yr iachawdwriaeth.
Ond rhaid i ni ganlyn Howell Harris ar
ei daith. " Yr oeddwn yn ddiolchgar am
Griffith Jones," meddai, " ac am ei holl
geryddon ; llefwn am i mi beidio cael fy
ngadael heb ryw un i'm rhybuddio."
Dydd Llun, pregethodd yn y Pale i
gynulleidfa anferth, oddiar y geiriau :
" Canys i chwi y rhoddwyd, bod i clmi, er
Crist, nid yn unig gredu ynddo ef, ond
hefyd ddyoddef erddo ef." Yr oedd yr
Arglwydd yma yn amlwg ; torai Ilawer
allan i folianu, ac arferai yntau ei ddylan-
wad i gymedroli yr hyn a dybiai allan o
le. Yn y prydnhawn, yr oedd yn Carew,
Ile y pregethodd oddiar y Salm gyntaf.
Odfa ofnadwy oedd hon, " Ar y cych-
wyn," meddai, " yr oeddwn yn dra
arswydlawn i'r annuwiol. Yn sicr, yr
oedd yr Arglwydd yn y Ile mewn modd
rhyfeddol iawn." Bu hefyd yn cynghori
yr vvyn, y rhai, yn angerdd eu zêl, oeddynt
yn rhy barod i fyned allan o'r llwybr,
Boreu dydd Mawrth, yn Carew, cafodd
rhyw frawd afael rhyfedd ar weddi, nes
peri i Harris deimlo fod yr Arglwydd
yn amlwg yn Sir Benfro. Mewn lle o'r
enw Lampha, ger tref Penfro, cyn-
helid Cwrt Leet, i ba un y. cyrchasai
amryw o'r mawrion ; cymerodd yntau
fantais ar yr amgylchiad i bregethu. Ei
destun oedd, Ex. xx. i : " Myfi yw yr
Arglwydd dy Dduw ;" a chyda Ilawer o
serchawgrwydd ceryddodd y boneddigion,
y clerigwyr, a'r bobl oll, am eu bywydau
afreolus. Cymerai fantais yr adegau hyn
i weddi'o tros yr Eglwys, y brenin, a'r
deyrnas, yr hon oedd yn llawn berw, ac i
daranu yn erbyn y rhai a bleidient yr
Ymhonwr (Pretendey). Nos Fawrth, yr
oedd yn Nerth, ger Aberdaugleddyf ;
dydd Mercher, yn Menfro a Walton, lle y
pregethodd gyda chryn hwylusdod, oddiar
Rhuf. viii. 15, Dydd lau, cafodd odfa
anghyffredin yn Hwlfifordd. Yna aeth i
Hay's Castle ; yr oedd Duw yma yn amlwg ;
gwedi hyn i Lanilow a Longhouse ; a
boreu y Sul aeth i eglwys Morfil, nid yn nepell
o Woodstoclí, i wrando Howell Davies.
Dydd Llun, yr oedd Cymdeithasfa Fisol
mewn lle o'r enw Ffynon Gaino. " Yma,"
meddai, " agorodd yr Arglwydd fy ngenau
i lefaru am y tân, ac am allu Duw, a'i fod
ef yn y Gair oll yn oll. Cydunai yr holl
frodyr fod y tân o Dduw. Y brawd
Gambold a sylwai y rhaid i ni fod yn farw
i ni ein hunain, heb ddysgwyl dim wrth
fyned o gwmpas ond oerni, a noethni, a
newyn, a thlodi, a chael ein difenwi, a
hyny gan Gristionogion ; ond y dylem fyned
dros Grist pe baem yn garpiog, ac yn
droednoeth, gan roddi ein dillad a'n hym-
borth y naill i'r Ilall, a bod heb y cyfryw
ein hunain, os rhaid. Cydunai pawb.
Cyfeiriais, gyda nerth, am beidio rhoddi
tramgwydd i'r clerigwyr, hyd ag y mae yn
bosibl ; mai yn yr Eglwys Sefydledig yr
ydym ni. Dangosais eu rhagfarn yn
Ysgotland ac America. Cyfeiriais at le
pob un ; mai fy mhlant ysprydol i yw y
brodyr Davies a WiIIiams ; ond gan eu
bod wedi eu hordeinio, fy mod yn dal fy
hun mewn darostyngiad iddynt, ac y dylem
oU ddyfod i'w cynorthwyo. Siaradais am
Griffith Jones, y dylem nesu ato, hyd byth
ag y mae yn bosibl, a'i garu. Y dylem
osod cateceisio i fynu hyd byth ag sydd yn
bosibl, a chadw at y Gair ysgrifenedig,
gan ddwyn pawb dynion ato, oblegyd efe
yw ein rheol. Cydunai pawb. Cydun-
wyd hefyd i gadw y dydd cyntaf o Dach-
wedd yn ddydd o ymostyngiad."
Y mae un peth newydd hollol i ni yn yr
hanes hwn, sef, mai Howell Harris oedd
tad ysprydol Howell Davies, yn gystal a
WiIIiams, Pantycelyn. Eithr felly y
dywedir yn bendant. Aeth Harris, yn yr
hwyr, yn mlaen at Lwynygrawys ; taran-
odd yn erbyn yr Ymhonwr, a chanmolodd
y brenin George, a chafodd nerth anarferol.
Yna cyfeiriodd ei gamrau trwy Eglwyswrw,
Cerig loan, gan groesi i Aberteifi, ac ym-
weled a Blaenporth, Cwmcynon, a Ileoedd
eraill. Nos Wener, daeth i Langeitho ;
boreu dranoeth, croesodd y mynydd, gan
basio trwy Abergwesyn, a chyrhaeddodd
X 2
3o8
Y TADAU METHODISTAIDD. [i745-
(Ä^
'iT^^/ít' fe^, 2j. //j^ _ ^
A Whe-n fíý^^ J ''"T*^ iyn^iyiTrv^ ^ ^^^ /^jr;^ «/a/^i ^^ >*> ifnijntet
^:^ •^'^ ^*»^ ^t^^ ^o/m. ^ ^ ^ ỳ-r^ /^^;>f ^,^
^ Î1 ij^â ù<j /3&-à^^f^ U A^ U/in<A, /y/í^ í^ »^ŵW^ ^étí^ ^ính
^ §• &/ Cl ÍxíÍ'ctW '^caC % ^ ^u/i.ifMuttA^ sfe^^hr^^ H>v M Pî.n-^
t<^' tû' LAý 4r «^^/fc. (jhAtAt^ ttì'. t^ TK^ JAa/ Y^ ft^ ^ẃ ŵtŵa/ti^P
^ '^•ŵí'ÄÄ/2. t.^,f ^^t-£-yẃ*-^tc <níí' rt. t/ a.ìjí/l>MJ>^ uauùjí ìl ^ U
(ì^ 1^1 ir^curu^^^ CluUi^'^ /fUa/>ẃttjj ?iâu cí^â^dc U)^ a áTuj ^t/e^u^
\ \. /c^ fl^ C^tcj.h /^Url^ f^/^ l^urJJ^JÍ^ ^ fi/u^
\ ^/ M^'^f^ f ^*^ cuŷtoíiu/ ^T^ /ô^T r/ U: a^/i) ^ y^
PHOTOGRAPH O LYTHYR CEBYDDOI. Y PABCH. PEICE DAYIES, TALGARTH,
I HOWELL HARRIS. ^^^^^^ ^^^^^^^^^ ^^_
1745-]
HOWELL HARRIS.
309
Drefecca y noswaith hono. Eithr dros y
Sabbath yn unig y cafodd fod gyda ei
deuhi. Boreu dydd Llun, ar lasiad y
wawr, y mae ymaith drachefn, ac yn cyr-
haedd Cayo tua chanol dydd, lle y pregeth-
odd gyda nerth oddiar y Sahn gyntaf. Yn
gynar yn y prydnhawn yr oedd yn Llwyn-
yberllan, yn yr hwn le y cedwid Cymdeith-
asfa Fisol. Daniel Rowland a lywyddai.
Nid yw yn ymddangos ddarfod i bender-
fyniadau o bwys gael eu pasio; ond bu
Howell Harris yn anerch y cynghorwyr
gyda difrifwch mawr. Meddai : " Dat-
genais mai perfîeithrwydd oedd y nod o fy
mlaen ; os syrthiaf, fod yn rhaid i mi
gyfodi, ac rnai hunanymwadiad sydd yn
gosod gwerth ar waith. Anogais ar i'r
seiadau gael eu cyfifroi i ddarllen yr Ys-
grythyr, a dwyn eu holl brofiadau at faen
prawf yr Ysgrythyr ; ac oni fyddant yn
gyson â'r Beibl nad ydynt i gael eu derbyn.
Dywedais y rhaid i'r bobl gael pregethu
iddynt mor gyson ag sydd bosibl, a'u
cynghori i beidio gwneyd sŵn yn yr odfaeon
cyhoeddus." GweHr fod anghymeradwy-
aeth Grifììth Jones o waith y rhai mwyaf
tanbaid eu tymherau, yn tori allan i waeddi
dan y Gair, yn cael ei ghido trwy Harris
i'r cymdeithasau. Dranoeth, pregethodd
Daniel Rowland yn nghapel Abergorlech,
oddiar Hosea ix. 12. Gwedi y bregeth
yr oedd cymundeb, a daeth Harris allan
yn hyfryd a dedwydd ei deimlad, ac yn
ddyn rhydd. Aeth y ddau gyfaiU yn nghyd
i Glanyrafonddu. Melus odiaeth oedd y
gyfeillach rhyngddynt ; y naill yn agor ei
galon i'r llall. Yno gorfodwyd Harris i
bregethu, yr hyn a wnaeth yn efteithiol,
am ddirgelwch duwioldeb. Pregethodd
Daniel Rowland boreu dranoeth, yna
aethant i Dygoedydd, a chafodd Rowland
odfa i'w chofio byth. Yma ymadawsant,
a dychwelodd Howell Harris drwy Cein-
coed, Llangamarch, a Wernddyfwg, gan
gyrhaedd gartref yn hwyr nos Sadwrn.
Yr wythnos ganlynol yr oedd Cymdeith-
asfa Fisol yn Watford, a chawn Harris a
Rowland yno eto. Rhaid fod eu llafur yn
ddiderfyn. Dychwelodd Harris adref nos
lau, a boreu dydd Sadwrn cychwyna am
daith i Sir Drefaldwyn, gan bregethu
yn Tyddyn, Trefeglwys, Llanbrynmair,
Blaencarno, Llanllugan, a Mochdref. Yn
y lle olaf datganodd ei farn yn bur rhydd
wrth Richard Tibbot am yr YmneiUduwyr,
nad oeddynt yn ymddangos iddo ef yn
gosod ceisio Duw fel eu prif amcan, eithr
yn hytrach imiongrededd, trefn, swn, a
moesoldeb ; am dano ei hun, na ofalai pe
na lefarai air wrth y bobl, oddigerth fod
yr Arglwydd yn defnyddio y cyfryw air i
glwyfo rhai, ac i feddyginiaethu eraill ;
mai ei hoU amcan oedd delio a chalonau.
Ei fod yn bleidiol i uniongrededd, ac hyd
yn nod i efrydu llyfrau ac ieithoedd, fel
pethau is-ddarostyngedig i'r Yspryd, ond
ei fod am i Dduw gael cymhwyso y
pregethwyr at y gwaith, trwy ddatguddio
ei hun iddynt. Fod ei galon ef yn gatholig,
a"i fod yn erbyn rhagfarn o bob tu, ac am
gynydd mewn pob math o wybodaeth, ond
nid trwy nac yn y llythyren yn unig, ond
yn yr Yspryd, trwy weithrediad ffydd, ac
mai hanfod ffydd yw adnabyddiaeth o
Dduw, fel y mae yn datguddio ei hun yn
lesu Grist. Pa beth a achlysurodd yr
ymddiddan hwn, nis gwyddom ; nid an-
nhebyg fod Tibbot yn gwasgu ar Harris
am gymeryd dalen allan o Iyfr yr Ym-
neillduwyr, a sefydlu math o athrofa i
addysgu y cynghorwyr, fel yr awgrymasai
yn ei lythyr at y Gymdeithasfa. Ond i
fyned yn mlaen, ymadawodd Harris yma,
gyda serchawgrwydd mawr, a nifer o \Vyn
anwyl yr lesu, o Siroedd Caernarfon a
Meirionydd, ac aeth yn ol trwy Lwyn-
ethel a Llandrindod.
Yr wythnos olaf yn Tachwedd, cawn ef
a Mrs. Harris yn cychwyn am Lundain.
Parhau yn gymysglyd yr oedd pethau yn
mysg y brodyr Saesnig, ac yn ben ar y
cwbl, bygythiai Cennick eu gadael, gan
ymuno a'r Morafiaid. Yn y Gymdeithasfa
Chwarterol, a gynhelid yn y Tabernacl,
Rhagfyr 4, daeth y mater yn mlaen.
" Agorodd y brawd Cennick," meddai
Harris, " ei galon gyda golwg ar y Mor-
afiaid, a'r rheidrwydd a deimlai i ymuno
â hwy ar unwaith. Dywedais inau fy
mod yn eu hadwaen, ac yn eu parchu, ond
nas gallwn gydweled â hwy, am (i) Eu
bod yn gwrthod cyhoeddi y gyfraith i
bechaduriaid, i ddangos iddynt eu hangen
o Grist. (2) Am nad oedd ganddynt ond
un mater yn eu gweinidogaeth, sef person yr
Arglwydd lesu, ac felly eu bod yn gwrthod
addef graddau mewn ífydd. (3) Am eu
bod yn dal y caiff pawb eu hachub yn y
pen draw. Dywedais yn mhellach, pan y
cyflwynai efe ofal y Tabernacl i mi, nas
gallwn wrthod ymgymeryd a'r baich, hyd
nes y dychwelai Mr. Whitefield, neu y
trefnid rhyw gynllun arall. Yr oeddwn
yn barod wedi Iledu y mater gerbron yr
Arglwydd, ac yr oedd yntau wedi eu gosod
(y brodyr Saesnig) ar fy nghalon, fel yr
310
Ÿ TADAU METHODISTAIDb.
[1745-
oeddynt yn asgwrn o'm hasgwrn, ac yn
gnawd o'm cnawd." Y mae yn anhawdd
peidio synu at ei feiddgarwch. Ar ei
ysgwyddau ef yn benaf y gorphwysai gofal
achos y Methodistiaid yn Nghymru ; yr
oedd ei lafur yn eu phth hwy bron bod yn
ormod i'w natur ; a dyma ef yn awr, ac wedi
colh John Cenniclí, ar ei ben ei hun yn ym-
gymeryd â hoH ofal yr achos yn Lhindain ac
yn Lloegr. Y noswaith hono aeth Harris i'r
Tẁr at ei frawd. Dranoeth, y mae Cennick
yn ffarweho a'r Gymdeithasfa, ac, yn
nghanol dagrau, yn cyflwyno yr hoU ofal i
Howell Harris. " Siaradodd," meddai y
dydd-lyfr, "am ddirgelwch person Crist yn
ogoneddus ; cyfeiriodd lygaid y bobl at y
gwaed, gan erchi iddynt addoh'r clwyfau.
Wylai y bobl yn hidl ; cefais inau ryddid i
wylo. Ar y diwedd, gweddíodd yn afael-
gar trosof fi, a llewyrchodd goleuni i mewn
i fy enaid." Yn sicr, nid dyma y modd y
bydd dynion yn gyffredin yn cefnu ar eu
cyfeilHon crefyddol, ac yn ymuno â phlaid
arall. Os oedd Cennick yn cyfeihorni o ran
ei farn, nis gelhr peidio edmygu ei gyd-
wybodolrwydd. Ond nid oedd y diwedd
eto. Tranoeth, sef dydd olaf y Gym-
deithasfa, y mae nifer o'r brodyr blaenaf,
sef Hammond, Heatly, SoHvan, a Thorn,
yn datgan eu penderfyniad i ganlyn
Cennick, ac ymuno a'r Morafiaid. Dat-
ganai un araU, Goodwin, ei fwriad i
ymadael, ond yr arosai am oleuni peUach
cyn penderfynu a wnai uno a'r Morafiaid.
O'r rhai a ystyrid yn arweinwyr, nid oedd
yn aros bellach i sefyh wrth ochr Howell
Harris, ond Herbert Jenkins, ac Adams.
Ni Iwfrhaodd ei .enaid ynddo yn yr ar-
gyfwng difrifol hwn ; ymnerthodd yn y
gras sydd yn yr Arglwydd ; ysgrifenodd at
\Vhitefield, i'w hysbysu o'r hoU amgylch-
iadau, a Hifodd cysur i'w yspryd oddiwrth
y geiriau : " A bydd y Hywodraeth ar ei
ysgwydd ef." Wedi trefnu pethau cystal
ag y geHid yn y Tabernacl, ac yn Lloegr
oH, ar ol yr argyfwng difrifol yr aethid
trwyddo, dychwelodd Howell Harris a'i
briod i Gymru ychydig cyn y NadoHg.
Eithr ni ddychwelodd i orphwys. Ail
tranoeth i'r Nadolig, y mae yn cychwyn
am daith faith drachefn i Siroedd Mynwy
a Morganwg ; ac yn Dinas Powis, o fewn
rhyw dair milHir i Gaerdydd, y torodd
gwawr 1746 arno.
r=^-*^
PENOD XIII.
H O W E L L H A R R I S ,
(1746).
Taith Howcll Hawis yn Sir Forganwg — Giwthwynehiad i\v athraimaetìi yii dcchren codi — •
Thoinas Williains, y Groesiven, yn dychwelyd at y Methodistiaid — Cyindcithasfa y
Glyn — Llythyr at Mr. Thoinas Adams — Cyindeithasfa Glancothi — Y Cyfarfod Chwcch-
wythnosol — Ho-well Harris yn Llnndain — Cyindeithasfa ystorinus yn Watford — Yinosodiad
y Morafiaid ar Gyinru — Howell Harris yn Hwlffordd — -Yr anghytundeb rhwng Rowland a
Harris yn cychwyn yn Nghymdeithasfa Trcfecca — Rowland a Harris yn ail-heddychu —
Cymdeithasfa gyffrous yn Castellnedd — Cymdeithasfa ddymunol yn Watford.
^lEL y dywedasom, yn Dinas Powis
"^IM/ y torodd gwawr y flwyddyn 1746
— '^ ar Howell Harris, ac y mae ei
sylwadau yn y dydd-lyfr yn haeddu eu
difynu : " Dinas Powis, dydd Calan. Y
boreu hwn cefais galenig, yn wir, gan fy
anwyl Arglwydd, Dangosodd i mi ei fod
uwchlaw fy nghalon, ac uwchlaw fy llyg-
redigaethau, er cymaint eu cryfdwr, a'i fod
uwchlaw yr holl ddiaflaid, uwchlaw dynion,
ac uwchlaw fy ofnau a'm treialon. Wrth
ganfod hyn mewn ffydd darfu i fy enaid ei
addoh a'i foUanu yn ogoneddus. Aethum
i Aberddawen erbyn un. Yno pregethais
ar Rhuf. vii., am gorpli pechod. Cefais
ddirfawr ryddid i egluro y pechod gwreidd-
iol ; fod y plant yn bechaduriaid ; a'u bod
mewn gwirionedd wedi eu damnio a'u coUi
yn Adda. Dangosais fel y mae yr Yspryd yn
argyhoeddi yr enaid o hyn, ac yn peri iddo i
alaru o'i herwydd, fel gwrthryfel yn erbyn
Duw. Cefais nerth i gyhoeddi gogoniant a
dirgelwch Crist, a'r fraint o gael addoli y
dyn Crist ; ac am y rhai sydd yn esgeuhiso
un cyfleustra, na chaent byth gyfle drachefn
oni bai am dragywyddol gariad Duw, ac y
byddent yn anghredinwyr yn oes oesoedd.
Dangosais am y doethion, y dysgybhon,
Thomas, a Stephan, yn ei weled ac yn ei
addoli, ac fel y mae efe a'r Tad yn un,
megys y dywedodd wrth Phyhp. Yn sicr,
cawsom galenig yma, a bendithiwyd ef
hefyd.
" Aethum erbyn chwech i'r Aberthyn.
Yma anrhydeddodd yr Arglwydd fi yn fwy
nag erioed wrth weddîo a phregethu. Er
fod Satan wedi arfogi meddyhau yr aelodau
yn erbyn dirgelwch Crist, trwy resymeg,
eto yr Arglwydd, fel yr addefent eu hunain,
a dynodd i lawr eu hoU resymeg trwy ei
Air a'i Yspryd ; ar yr un pryd, dalient yn
gryf yn erbyn addoH ei ddyndod ar y
cyntaf. Cawsom galenig ardderchog o
gariad, yn sicr. Pregethais oddiar y geiriau
yn Esaiah : ' Canys bachgen a aned i ni,
mab a roddwyd i ni.' Yr oeddwn yn agos
at yr Arglwydd ; teimlwn fy hun yn farw
i fy hunan ; yn sicr, yr oedd yr Yspryd
Glân yn bresenol. Dangosais mai y
Duw mawr oedd baban Bethlehem ; fefly
yr addolai y doethion ef ; fefly hefyd yr
addolai Stephan y dyn lesu, sef oblegyd
ei weled ef yn Dduw ; feUy hefyd y
cyfaddefai Petr wrth y dyn (lesu) ei fod yn
Dduw ; dyna fel y dywedai wrth yr
luddewon ddarfod iddynt groeshoeho
Arglwydd y gogoniant, sef Duw ; dyna y
modd y galwai Paul ei waed, yn waed
Duw ei hun ; felly y galwai Thomas y dyn
(lesu) ei Dduw. Yn sicr, y mae yn Dduw,
a phwy bynag sydd yn ei weled ef, y mae
yn gweled y Tad, megys y dywedodd
wrth PhyHp. Er fod tri Pherson yn y
Drindod, nid oes ond un Duw. Dangosais
y modd y rhwygwyd y gorchudd, amryw
flynyddoedd yn ol, ar y ffordd i Sir Dref-
aldwyn, ac y tywynodd Duw arnaf trwy y
gair hwnw : ' Mawr yw dirgelwch duwiol-
deb,' ac mai hyn yn awr yw fy mwyd a'm
bywyd. Darostyngwyd fi wrth weled yr
anrhydedd a osodid arnaf fy mod yn cael
cario y genadwri hon i'r ẁyn."
Yr ydym yn difynu ei eiriau yn helaeth,
er dangos mor Hwyr oedd ei fyfyrdodau
wedi cael eu Hyncu gan ddirgelwch undeb
y ddwy natur yn mherson Crist. Dyna
312
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1746.
fater mawr ei weinidogaeth yn bresenol.
Prin yr ydym yn tybio fod ei syniadau, ar
y cyfan, yn gyfeiliornus, ond y mae ei dduU
o eirio yn anhapus ; a theimlwn fod gor-
mod o duedd ynddo i fanylu, ac i gario ei
gasghadau yn rhy beU. Hawdd gweled
hefyd fod gwrthwynebiad yn dechreu codi
i'w olygiadau yn y cymdeithasau, ond
fod ei bresenoldeb ef, yn nghyd â
grym ei hyawdledd, a'i frwdfrydedd, yn
darostwng pob gwrthwynebiad a ddeuai
iddynt. Ond i fyned yn mlaen â'r dydd-
lyfr : " Aberthyn, dydd lau. Neithiwr,
cawsom seiat hyd gwedi deg. Cefais
ryddid i ddatgan fy ofnau am y seiadau, eu
bod yn gorphwys ar rywbeth, heb ddyfod
at waed Crist i weled eu cwbl oll. Dyma
y rheswm am eu cwerylon a'u dadleuon,
ac ni chawn byth ein huno heb ddyfod at
y gwaed hwn. Dangosais, yn gyhoeddus
ac yn breifat, fel yr oeddwn yn gweled yn
yr lesu dosturiaethau, tynerwch, a chyd-
ymdeimlad dyn, ac anfeidroldeb y Duwdod
wedi ei uno â hyn. Pa fodd, nas gallwn
ddweyd, as nas gallai yr angelion. Dang-
osais y modd y mae rheswm cnawdol yn
gwahanu y Duw a'r dyn, am na fedr
ddirnad y dirgelwch. Yn y dirgel,
drachefn, clywais fel y mae yr Arglwydd
yn dwyn y brawd Thomas Williams yn ei
ol, ac yn eu rhwystro i gael eu rhanu a'u
gwasgar yn Llantrisant. Porthwyd fi wrth
weled mai yr Arglwydd sydd Dduw.
Cafodd un brawd a fuasai mewn profedig-
aeth gref, parthed duwdod Crist, ei ollwng
yn rhydd heno. Dangosais iddynt y modd
yr oedd yr Arglwydd wedi eu galw i
ddangos ei ogoniant ynddynt. Peidiwch
gorphwys ynte mewn ffurfiau, a gwybod-
aeth, a threfniadau ac allanolion.
" Yna aethum i St. Nicholas, Ile y cefais
ryddid a nerth mawr i lefaru oddiar eiriau
yn Ilyfr Datguddiad. Gwedi hyn aethum
tua Llantrisant. Ar y ffordd, clywais fod
rhai yno yn wrthwynebol i mi, yr hyn a
brofodd yn fendith i mi, i'm darostwng i'r
Ilwch, a'm gwneyd yn dlawd yn yr yspryd.
Plygais i weddio yn ngwydd cynulleidfa
fawr, yn y llwch, gan deimlo fy anghym-
hwysder, eithr yr Arglwydd a'm dyrchafodd,
gan roddi i mi yspryd Ilew, fel yr oeddwn
yn cario pob peth o'm blaen. Yr oeddwn
yn flaenorol wedi profi dwyfoldeb Crist
allan o'r Ysgrythyr, gan ddangos fod y dyn
hwn yn Dduw. Ni chefais erioed o'r blaen
y fath awdurdod. Cyhoeddais i bawb a
allai glywed mai y Duw-ddyn yw fy
mywyd, a'm pob peth, i dragywyddoldeb.
Os nad yw ef yn Dduw, nad yw ei waed
yn meddu unrhyw rinwedd ; ein bod oll
yn goUedig yn oes oesoedd. Pregethwn
am y doethion yn dyfod i addoli y sanct-
aidd faban, sef íesu. Rhyfedd fel y mae
rheswm cnawdol a natur yn gwingo yn
erbyn y gwirionedd hwn ; yr wyf yn ei
deimlo fy hun. Ond galluogwyd fi i
frawychu, i bledio, ac i agor yr Ysgrythyr,
fel y cafodd rheswm ei ddystewi, gan
ddangos ei dywyllwch, ei anwybodaeth, a'i
elyniaeth at Dduw. Dangosais fel yr oedd
marwolaeth a chlauarineb wedi ymdaenu
tros Eglwys Loegr, a thros yr YmneiII-
duwyr yn ogystal, er pan beidiwyd pre-
gethu y gwaed hwn. Yn flaenorol, fod yr
athrawiaeth yma yn adsain trwy yr holl
eglwysydd, a bod nerth a bywyd ynddynt
y pryd hwnw. Atebais resymau a ddef-
nyddir yn ein herbyn (fel Methodistiaid),
sef fod ein pregethu yn annysgedig.
Profais fod hyn yn ddadl o'n plaid.
Oblegyd o ba le y gallwn gael y doniau
hyn, os nad oddiwrth Dduw ? Y mae
eraill lawn mor ddoniol, ac yn fwy dysg-
edig, eithr na fedrant bregethu, pe y caent
y byd am hyny. Yr wyf fi yn cyhoeddi,
nid trwy fy ngwybodaeth, oblegyd ychydig
wybodaeth a feddaf, na thrwy fy nysgeid-
iaeth, eithr yr wyf yn Ilefaru yr hyn a gaf
gan yr Arglwydd ; pan fyddwyf yn myned
gerbron y bobl nas gwn beth a ddywedaf,
ond fy mod yn rhoi fy hun i Dduw. Cefais
lawer o awdurdod i gymhwyso y gwir-
ionedd, ac i ddangos, os nad oedd y baban
hwn, y dyn hwn, yn Dduw, sut nad oedd
y doethion yn pechu wrth ei addoli, a
Stephan ddim yn pechu wrth weddio arno,
a Thomas, wrth ei alw, ' Fy Arglwydd a'm
Duw;' a Phetr wrth ei alw yn Arglwydd,
ac yn Fab Duw ?
" Yn y seiat breifat agorodd y brawd
ThomasÄYilIiamsei holl galon,gan ddangos
y modd y daeth y demtasiwn i yilineillduo
gyntaf arno, o gwmpas pedair blynedd yn
ol ; i gychwyn, trwy ddymuniad am gael
ei ordeinio ; yna, trwy fwyhau mân
bethau, nes eu gweled yn fawr ; a phan
na ildiem i'w betrusder, iddo fyned i
edrych arnom fel rhai rhagfarnllyd, ac i'w
galon fyned oddiwrthym. Yn ganlynol,
aeth i'n dirmygu, gan ganfod ein gwael-
eddau, ac edrych arnom fel rhai ieuainc,
dibrofiad, a hunangeisiol. A'i fod o hyd yn
tybio mai canlyn ei gydwybod yr ydoedd
hyd bron yn awr ; pan gwedi iddo ym-
neillduo yr agorodd yr Arglwydd ei Iygaid
i weled, mor glir ag sydd bosibl, mai
1746.]
HOWELL HARRIS.
313
gwaith y diafol oedd y cwbl, a magl, a'i
fod yn meddwl hyny am bawb oedd wedi
ein gadael. Dywedai yn mhehach ei fod
yn rhydd yn awr i gymuno yn yr Eglwys,
yr hyn na fedrai o'r blaen. Llewyrchasai
yr un goleuni hefyd ar feddwl y brawd a
ymneillduasai y Sul o'r blaen, ac y mae
yntau yn dyfod yn ei ol. O Arglwydd,
dy waith di yw hyn ! Darostwng fi ! Yr
wyt yn ein harddel, am dy fod yn ewyllysio,
ac am mai Duw ydwyt. Eglurais inau
holl hanes y Diwygiad Protestanaidd, fel
yr oedd Duw wedi anrhydeddu Eglwys
Eoegr, am mai ynddi y tywynasai y
goleuni gyntaf trwy Wycliffe ; cyfeiriais at
Huss, Jerome, o Prague ; oddiwrthynt
hwy aetiium at Luther, Calvin, sefydliad
yr Eglwys Brotestanaidd ; yna at Harry,
Edward, Mary, ac Elizabeth, yn y wlad
yma ; fel yr oedd yr Eglwys yn wrth-
glawdd yn erbyn Pabyddiaeth tu hwnt i
bawb arall ; y modd na chaem y fath
oddefiad gan unrhyw eglwys arall o fewn
y byd. Dangosais y modd y maent yn
rhoddi i lawr bregethu lleygol yn Ysgotland,
ac yn awr yn yr America ; eu bod yn
carcharu y cenhadon Morafaidd yn unig
am bregethu gwaed Crist, fel y gwnawn
ni. Agorais yr holl gwestiwn gyda golwg
ar yr Ymneillduwyr, a'r Parch. Edmund
Jones; eu hystàd pan yr adnabyddais hwy
gyntaf, a'u hystâd yn awr ; y modd yr wyf
yn gweled y sawl sydd yn ymuno â hwy
yn suddo yn raddol i'r un ffurfioldeb a
hwythau, ac fel y maent yn ceisio tynu
pawb a fedrant oddiwrthym ni ; a'r fath
wahaniaeth sydd rhyngddynt, parthed
yspryd, athrawiaeth, a chynllun, a'r
eiddom ni, fel y mae unrhyw gysylltiad
agos rhyngom yn anmhosibl."
Y mae amryw bethau yn ein taro wrth
ddarllen y difyniadau hyn : (i) Mai prif
destun, a braidd unig destun, gweinidogaeth
Howell Harris yn awr oedd dirgelwch
undeb y ddwy natur yn Mherson yr
Arglwydd lesu ; teimlai ei fod wedi cael
datguddiad ar y mater o'r nefoedd ; ym-
ddangosai holl rinwedd y dyoddefaint a'r
gwaed iddo yn dibynu ar fod yr undeb
mor agos, fel, mewn ystyr, fod y natur
ddynol yn cael ei dwyfoli, ac yn dyfod yn
wrthddrych addoliad. Gallwn ni yn bres-
enol weled fod cryn gymysgedd yn ei
syniadau, er, hefyd, fod ganddo gymal
pwysig o'r gwirionedd ; a'i fod yn gwahanu
mewn athrawiaeth yr hyn na fuasai erioed
ar wahan mewn ffaith, sef natur ddynol y
Gwaredwr oddiwrth ei berson dwyfol.
Wrth ymresymu y pwnc yma, defnyddia
ymadroddion an-Ysgrythyrol, ymadroddion
nasgallent lai na rhoddi tramgwydd, erbyn
eu hystyried yn bwyllog, er fod ei wres-
awgrwydd ef yn cuddio eu hanmhryd-
ferthwch ar y pryd. Ac yr oedd yn
gwthio ei syniadau i eithafion, gan ang-
hofio y gwirioneddau cyferbynioì. (2) Y
mae yn dra sicr mai Thomas Williams,
y Groeswen, a gawsai ei ordeinio yn
weinidog yno yn ol duli yr Ymneillduwyr,
oedd y brawd a gyfaddefai ei edifeirwch
oblegyd gadael y Methodistiaid. Efallai
na ddylem wasgu ei gyffes yn rhy bell,
a thybio ei fod am beidio gweini yr
ordinhadau mwy. Ond amlwg yw ei fod
wedi cael ei siomi yn yr Ymneillduwyr, ac
am wasgu yn glosach at y Methodistiaid ;
gan gyfaddef fod mwy o'r dylanwadau dwyfol
yn cael eu teimlo yn eu mysg ; ac mai fel
Methodist ydymunaigaeledrycharnomwy.
(3) Canfyddwn resymau Howell Harris
dros lynu wrth Eglwys Loegr, nad oedd
yn cael ei lywodraethu gan ragfarn ddall
yn y mater. Tybiai, fel y gwnai John
Elias ar ol hyny, mai hi oedd yr unig
wrthglawdd effeithiol yn erbyn Pabydd-
iaeth ; nad oedd yn gweled y cai pregethu
lleygol, yr hyn a gawsai ei fendithio mor
amlwg i Gymru, ei oddef mewn unrhyw
gyfundeb crefyddol arall ; ac yr oedd
ffurfioldeb, clauarineb, a chyfeiliornadau
athrawiaethol nifer mawr o'r Ymneilldu-
wyr yn dramgwydd iddo.
O Lantrisant, aeth i dỳ William Powell ;
yna i'r Graigwen, yn mhlwyf Eglwys
Ilan, yn egwan o gorph, ond yn gadarn
mewn ffydd. Cafodd odfa nerthol yma, er
fod llawer o wrthwynebwyr undeb y
ddwy natur yn bresenol. Ni chymerodd
destun, eithr dangosodd allan o'r Ysgryth-
yr fawredd y dirgelwch ; llawer a doddwyd
wrth wrando, ond darfu i rai aros yn sych.
Gwedi y bregeth, yn y seiat a ddilynai,
agorodd yr hoU helynt gyda golwg ar
Thomas Williams ; dywedodd Thomas
WiUiams ei hun yr un peth ag a gyfaddef-
asai yn Llantrisant ; gofynodd Harris i
bawb o honynt, a oeddynt yn argyhoedd-
edig eu bod yn awr yn ffordd Duw, ac a
oeddynt heb unrhyw awyddfryd am ymuno
a'r Ymneillduwyr ? Dywedasant oU yn
un llais eu bod. Ymhelaethodd yntau ar
y gwahaniaeth rhwng y Methodistiaid a'r
Ymneillduwyr ; fod yr YmneiUduwyr yn
gorphwys mewn ffurf a chynllun ; tra yr
ymwthiai y Methodistiaid yn mlaen yn
llawn yspryd a goleuni ; nad yw yr Ym-
314
Ÿ TADAU METHODISTAIDD.
[1746.
neiUduwyr ychwaith yn canfod drygedd
Ihaws o bechodau, fel yr ymddangosant i'r
Methodistiaid. Gwedi hyny, dywedodd
rhywun nas gallai gyduno a'r hyn oedd
Harris wedi draethu ; datganodd cyng-
horwr perthynol i'r seiat hefyd, os rhaid
iddo draethu ei farn, fod y farn hono yn
groes i'r hyn oedd wedi cael ei bregethu
y noson hono. Y mae yn amlwg mai
syniad Howell Harris parthed person
Crist oedd yn cael ei wrthwynebu.
Cafodd yntau awdurdod i ateb nad oedd
ganddo ddim i'w ychwanegu at yr hyn a
draethasai allan o'r pwlpud ; os oedd y
cynghorwr yn gwrthwynebu hyny, mai
heretic ydoedd, ac nas gallasai efe, Harris,
ddal unrhyw gymundeb ag ef. Yna
gofynodd i aelodau y seiat, a oeddynt yn
credu yr athrawiaeth a bregethai efe ?
Atebasant hwythau eu bod. " Troes inau
at y cynghorwr," meddai Harris, yn ei
ddydd-lyfr, " a dywedais nas gallwn gym-
deithasu ag ef (y cynghorwr) hyd nes y
byddai iddo ymddarostwng am dywylhi
gogoniant Crist, tramgwyddo ei ŵyn, a
gwrthwynebu yr hyn na ddeallai. Dywed-
ais, yn mhellach, mai dyma y genadwri
oeddwn wedi dderbyn oddiwrth Dduw ; nas
gallwn ildio un iota o honi, mai hi oedd
fy mywyd ; a thrwy ras, fy mod yn
foddlawn marw drosti. Os nad yw Crist
yn wir Dduw ac yn wir ddyn, ac fel y
cyfryw wedi byw a dyoddef ; yna, yr wyf
fi wedi fy ngholli yn oes oesoedd. Dang-
osais nad digon dweyd fod Duw yn y
dyn hwn ; fod Duw yn y credinwyr ; mai
cyfeihornad oedd galw y Gwaredwr yn
Dduw ac yn ddyn; fod undeb tragywyddol
rhyngom ni sydd yn credu â Duw ; ond
ddarfod i'r Gair gael ei ivneutìiiir yn gnawd.
Pa fodd, nis gwn. Os oedd ef, y cyng-
horwr, yn gwadu ddarfod i Dduw ddyoddef,
a bod Crist yn gweddío ar y Tad, na
ddylwn ymresymu ag ef, am mai dirgelwch
ydoedd, ac nas gelhd ei dderbyn ond trwy
yr Yspryd Glân. Cyfeiriais at Grist yn
galw ei hun yn Ddviw weithiau, a phryd
arall yn ddyn ; weithiau yn honi fod ganddo
awdurdod i roddi ei einioes i lawr, ac i'w
chymeryd hi drachefn, a phryd arall yn
gweddío ar y Tad, ac yn cyfaddef nas
gallai wneyd dim hebddo, mai yr un
person a wnelai y ddau beth. Dyma y
gwirionedd, ond nis gallwn ei amgyffred.
Yn ganlynol, pan y dymunai wrthwynebu,
gorchymynais iddo fod yn ddystaw, am ei
fod wedi tori ei hun i ffwrdd o fod yn
perthyn i ni. Yr oedd yntau yn gyndyn,
a gwadai fy awdurdod i'w droi ef allan ;
mai yn y seiat yr oedd yr awdurdod hono,
ac nid ynof fi. Àtebais nad oeddwn yn ei
ddiarddel ond mewn undeb a'm cydweith-
wyr ; ac nad oeddwn i na hwythau
yn gwneyd hyny onid yw y seiat hon
yn ein dewis yn ewyllysgar i'w rheoH
ac i wyHo drosti ; ac os oedd yn gwneyd
hyny fy mod yn barnu fod genyf awdur-
dod i dderbyn i mewn ac i droi allan. Yna
mi a genais Salm. Yr oeddwn yn flaen-
orol, wrth siarad, wedi cael fy nhoddi, ond
wrth ganu llanwodd yr Yspryd ft â
dymimiad ar i Dduw gymeryd ymaith fy
holl ddoniau, a'i wisgo ef, y cynghorwr, â
hwy. Llefais, yn dufewnol, ar i mi gael y
fraint o'i weled yn llewyrchu yn ddysgleir-
iach na mi mewn gogoniant. Wrth gyd-
weddío, daeth yr Arglwydd i lawr mewn
modd anghyffredin, gan ddrylHo ein
calonau. Yr oedd yma wylo mawr, a'r
fath gariad, a gostyngeiddrwydd, ac ys-
prydoedd drylliedig, na welais y cyffelyb
o'r blaen. Gofynais i'r Arglwydd, pa hyd
y cawn gnoi a thraflyncu ein gilydd, ac
ymranu ? Ar y terfyn, dysgwyliwn y deuai
efe, y cynghorwr, ataf, gan gyfaddef mai
temtasiwn oedd wedi ei orddiwes ; ond
gan na ddaeth, aethum i ato ef, gan ei alw
yn frawd, a syrthio ar ei wddf. Yr oU a
ddywedodd ef ydoedd, nad oedd yn cael
undeb â ni. Atebais fy mod yn gwneyd y
cyfan er mwyn yr Arglwydd, a'i wirionedd,
ac o gydwybod ; ac er fod ei ddiarddel fel
rhwygo fy nghroen oddiam fy esgyrn, fy
mod yn rhwym o'i wneyd. Gwrthodais
ddadleu yn hwy, gan ei bod yn un-ar-ddeg
o'r gloch ; feHy, cusenais ef, a gweddíais
gydag ef a'r brodyr, ac felly aethum i
ffwrdd, yn drymach fy nghalon nag erioed."
Y mae yn amlwg fod Howell Harris
wedi cael syniadau dyrchafedig am berson
yr Arglwydd lesu, ac am agosrwydd undeb
y ddwy natur ynddo, a hyny y tuhwnt i
neb o'i frodyr. Yr oedd gwirionedd
gogoneddus wedi gwawrio ar ei feddwl ;
gwirionedd nad oedd y Diwygwyr eraiU,
efallai, yn talu sylw digonol iddo. Er
hyny, cawn yn brithio ei ddydd-lyfr ym-
adroddion an-Ysgrythyrol, y rhai a brofant
fod ei syniadau i raddau yn gymysglyd, a'i
dduH o eirio yn fynych yn anhapus. A
dyma ef yn awr, am y tro cyntaf, yn
diarddel, aUan o'r seiat, gynghorwr nad
oedd yn gaUu syrthio i mewn a'i olygiadau
neiUduol ef. Hawdd gweled fod defnydd-
iau ystorm yn dechreu cael eu cynyrchu.
Aeth Howeíl Harris yn ei flaen tua Wat-
1746.]
HOWELL HARRIS.
315
ford, yn glaf, ac yn barod i lewygu o ran ei
gorph. Wrth feddwl am y genadwri
neillduol a roddasid iddo, a'r gwrthwyneb-
iad a welai yn dechreu codi, llefai : " O
Arglwydd, ti a wyddost, fy unig amcan yw
dwyn pawb atat ti, i'th weled di, fel yr
wyt wedi datguddio dy hun yn dy Air."
" Yna," meddai, " cefais yspryd i alaru
am bob gair a ddywedaswn allan o le, ac
i ddymuno am iddo ddangos ei ogoniant.
Dychrynwn rhag myned i'r Gymdeithasfa,
rhag ofn iddynt wrthwynebu y genadwri.
Eto, ymddiriedwn yn yr Arglẅydd, gan
lefain : ' O Arglwydd, nis gallaf wadu dy
wirionedd di, ac nis gallaf anghytuno a'm
brodyr.' Yna, aethum tua Gelligaer, lle y
cefais dystiolaeth fod Duw wedi fy anfon,
ac wedi maddeu fy holl bechodau hyd yn
awr. Cefais ryddid i lefaru oddiar : ' Fy
ngeiriau i, yspryd ydynt a bywyd ydynt.' "
Tybia i'r gynuUeidfa gael bendith ; yna,
aeth i Mynyddislwyn ; yr oedd yn glaf, ac
yn wan, yn mron llewygu, ond yr hwn a'i
danfonasai yno a'i nerthodd, gorph a
meddwl. Ei destun oedd : " Mab a
roddwyd i ni." Teimlai ei fod wedi cael
ei ahv yma i lefaru am y dirgelwch, yr
hyn na chawsai yn Gelligaer. " Gallu-
ogwyd fi," meddai, " i lefaru am ardderch-
awgrwydd gw^ybodaeth y Mab hwn ; y
modd y rhaid i bawb ddod i'w adnabod ;
truenusrwydd y rhai nad ydynt yn ei
adnabod ; y modd y mae yr Ysgrythyrau
yn dwyn tystiolaeth iddo ; mai hwy y w y
meusydd, ac efe yw y perl sydd wedi ei
guddio ynddynt. Dangosais am y dat-
guddiad o Grist sydd yn cael ei roddi yn
unig gan yr Yspryd. Cefais ryddid i
ddangos am ddirgelwch Crist ; fod y dyn
hwn yn Dduw ; yr oedd yr Yspryd yn
cydfyned a'r Gair, yr oedd llawer yn
teimlo, a llawer yn wylo."
Cyrhaeddodd le o'r enw Pen-heol-y-
badd nos Sadwrn. Aeth filltir yn mheíl-
ach, i Tonsawndwr, boreu y Sul, lle y
pregethodd oddiar y geiriau : "A hyn yw
y bywyd tragywyddol." Yr oedd yr Àr-
glwydd yn bresenol, ac wylai llawer.
Dangosai fod dydd gogoneddus ar wawrio,
gan fod y ceiUogod, sef gwenidogion Duw,
yn canu trwy yr holl wlad. Cyfeiriodd
yma hefyd at y dirgelwch. Oddiyno aeth
yn ei flaen i'r New Inn. " Mab a rodd-
wyd i ni " oedd y testun yma eto, a
dirgelwch Crist oedd y mater. Yr oedd
gras mawr ar y bobl, a gobeithiai fod
gogoniant y Gwaredwr ar lewyrchu ar yr
eglwys. Cyhoeddasid Howell Davies i
bregethu yn Tonsawndwr dydd Llun ;
methodd gyrhaedd yno oblegyd afiechyd,
a dychwelodd Howell Harris i gymeryd
ei le. Cafodd odfa anghyffredin wrth
lefaru am gorph pechod. Eithr cafodd
Iwybr rywsut i fyned at y pwnc oedd yn
awr wedi llyncu ei fryd, sef dirgelwch y
ddwy natur yn Nghrist. " Yn sicr,"
raeddai, " bendithiodd yr Arglwydd y bobl
a mi, ac ymddangosodd ynof, yn gystal a
throsof, tra yr oeddwn yn ei bregethu ef
a'i ddirgelwch. Dangosodd y cawn yn
fuan, trwy ei wirionedd a'i waed, gyfarfod
y bobl eto mewn gogoniant, allan o gyr-
haedd pechod." Cychwyna am Lanheiddel
yn nesaf. Cafodd odfa ryfedd iawn yma,
gan deimlo fod yr addewidion iddo yn
fwyd, ac yn ddiod, ac yn nerth. " Ni
chefais y fath wyUau erioed o'r blaen,"
meddai; " cadwodd y gwin goreu yn olaf.
Dywedais, hyd yn nod pe bawn yn Ym-
neillduwr (dangoswn nad oeddwn yn eu
herbyn, ond o'u plaid, gan fy mod yn eu
caru), y deuwn at y Methodistiaid, oblegyd
gyda hwy y mae yr Arglwydd." Eithr y
mae y chwerw yma yn gymysg a'r melus
yn barhaus, a chafodd Harris brofi hyny
yn Llanheiddel. Fel hyn yr ysgrifena :
" Boreu dydd Mawrth. Cefais ergyd wrth
glywed fod y brodyr yn Watford wedi
suddo yn ddyfnach i'w cyfeiliornad o
wrthod addoH dynoliaeth Crist, a'u bod
wedi tynu atynt Mr. Davies, a'r dyn
ieuanc oedd gydag ef; a bod rhyw un o
honynt wedi galw corph marw ein Har-
glwydd yn gelain farw. Gyda y baich
hwn cefais ffydd i lefain ar i'r Arglwydd
ei sancteiddio i mi, i'm darostwng. Cefais
ryddid mawr hefyd i weddio dros y
brodyr, y rhai ydynt yn Uefaru am yr hyn
na wyddant eto ; yna, daHwyd gogoniant
Crist ger fy mron, ei ogoniant o'r cryd i'r
bedd, ac yr oedd Duw yn agos ataf."
Pwy oedd y Mr. Davies a gawsai ei hudo
gan y brodyr yn Watford, nis gwyddom.
Y mae yn amlwg fod pregethu Howell
Harris am ddirgelwch person Crist yn
dechreu berwi y seiadau ; fod yr ym-
adroddion eithafol ac anwyHadwrus, efaüai,
a ddefnyddiai ef, yn cynyrchu yr eithafion
cyferbyniol ; a bod yn rhai yn tueddu i
ddefnyddio ymadroddion carlamus. Ych-
wanega Harris yn ei ddydd-lyfr : " Y mae
genyf i fyned i'r Gymdeithasfa ; ac mi a
awn dan ofn y brodyr, rhag i'r cyfeiHornad
hwn gael ei goledd yn eu mysg, oni bai
am ffydd. Yr wyf yn meddu goleuni,
tynerwch, gwroldeb, ac awdurdod mewn
3i6
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1746.
cysylltiad â rhai o honynt, fel brodyr
ieuangach wedi eu hymddiried i'm gofal, a
bod yn rhaid i hyn weithio er daioni, fel
y mae pob gwrthwynebiad wedi gwneyd
hyd yma." Yn y Glyn yr oedd y Gym-
deithasfa i"w chynal, lonawr g, 1746; y
dydd cyn hyny, wrth deithio tua Thaf-
Fawr ; ceisiai ddyfalu pa wrthwynebiad
iddo ef a'i athrawiaeth a gyfodid gan y
brodyr. Cafodd olwg newydd ar ogoniant
a duwdod Crist, wrth weled fod y llyw-
odraeth ar ei ysgwydd. Yn Taf-Fawr,
cafodd gryn nerth wrth bregethu y gwaed.
Cyfeiriodd yn llym hefyd at yr Ymneilldu-
wyr cnawdol, y rhai a siaradent yn ddidaw
am drefn, a ffurf-lywodraeth eglwysig, ac
a alwent eu hunain yn eglwys, ond oeddynt
yn hollol amddifad o fy wyd. Oddiyma aeth
i'r Glyn, lle y cynheHd y Gymdeithasfa ; yr
oedd ganddo daith o ddeg awr ar gefn
cefifyl, a chyrhaeddodd yno yn hwyr y nos
flaenorol i'r cyfarfod.
Y mae yn sicr fod Howell Harris yn
dychrynu wrth feddwl am y Gymdeith-
asfa ; dysgwyhai yn sicr y byddai i ym-
osodiad enbyd gael ei wneyd arno, ac ar
yr athrawiaeth neillduol a bregethai, a
cheisiai ymgadarnhau ar ei gyfer. " Teim-
Iwn," meddai, " fod arnaf awydd cyfarfod
a'r brodyr er cael fy sathru dan draed, fy
nghondemnio, a'm gwrthwynebu ; ni welwn
ddim arall o'm blaen ; llawenychwn ynddo,
gan ei weled yn foddion i dynu i lawr fy
malchder. Ond cefais olwg hefyd ar y
dianrhydedd a gaflfai ein Harglwydd wrth
ein bod yn gwrthwynebu ein gilydd, ac ar
yr ŵyn yn cael eu gwasgaru, a'u rhanu ;
yr oedd hyn yn dra dolurus i mi. Cefais
nerth i weddío ar i Dduw ein cadw yn
nghyd." Agorwyd y Gymdeithasfa gyda
phregeth gan WilHams, Pantycelyn, oddiar
Eph. vi. II ; ac ymddengys ei bod yn
odfa nodedig o lewyrchus. " Daeth awel
nerthol i lawr arnom," meddai Harris ;
" fflamiwyd fy enaid o'm mewn, a dar-
ostyngwyd íì i'r Hwch ; yr oeddwn yn
ddiolchgar am y dawn, a'r gras, a'r nerth
oedd yn cael ei roddi." Gwedi y bregeth,
cydginiawodd y brodyr, a dechreuwyd
trin y gw^ahanol faterion, ar ol gweddi felus
gan y brawd Morgan Jones. Yn ystod y
weddi, yr oedd yr amenau mor uchel a
chyffrous, fel y tramgwyddodd rhai ; eithr
dadleuodd Harris fod y tân o Dduw. Dar-
Henwyd nifer o lythyrau, ac yr oedd ffydd
y frawdoHaeth yn cynyddu fel y cynyddai
eu treialon. " Y mae Satan yn ein profi o
bob cyfeiriad," meddai Harris, " ond yr
Arglwydd a ymddangosodd yn rhyfedd yn
ein mysg ni heddyw, gan wneyd i fynu y
rhwyg erchyH a ofnwn o Sir Forganwg.
O dynerwch Duw ! Yr hyn a ofnwn a
symudwyd, a'n hysprydoedd a unwyd ;
eithr dengys hyn y fath blant ydym, mor
Ueied o gydymdeimlad a'n gilydd a feddwn ;
mor barod ydym i ymranu, ac i osod yr
esboniad gwaethaf ar eiriau ein gilydd.
Addefodd y brodyr iddynt fy ngham-
gymeryd, a'u pechod, yn cychwyn cwest-
iynau cnawdol parthed addoH dynoHaeth
Crist, a'u gwaith yn rhoddi bod i syniadau
cnawdol am ddyndod y Gwaredwr, fel pe
y byddai ei ddyndod ar wahan oddiwrth ei
dduwdod yn ei ddyoddefiadau, ac feHy nad
yw i'w addoH ; a'u gwaith yn honi mai ei
ddyndod yw y ffordd, y drws, a'r offrwm,
ac feHy, nad ydoedd i'w addoH o gwbl.
Ar eu gwaith yn cydnabod eu bai, cefais
ryddid i lefaru am ddirgelwch Crist, a'r
modd y datguddiwyd ef i mi gyntaf. Dy-
wedodd y brawd Rowland fod Ainsworth
yn sylwi ddarfod i Dduw farw fel yr oedd
yn Dduw-ddyn ; ac fel pe bai yr un yn phys-
igwr ac yn gyfreithiwr, y byddai yn
briodol dweyd i'r physigwr farw, neu ynte
y cyfreithiwr. Ai fod ef ei hun wedi
pregethu, dydd NadoHg, am ddirgelwch
Crist, oddiar y geiriau : ' A'r Gair a
wnaethpwyd yn gnawd.' O Dad tyner !
Dangosais fel yr oedd y duwdod yn nglyn
a'r enaid a'r corph (yn Nghrist) pan yr
oeddynt wedi eu hysgar oddiwrth eu
gilydd ; y modd yr oedd hyn yn Hewyrchu
arnaf ; fy mod yn credu nad oeddynt hwy
yn eu weled ond yn ngoleu rheswm, ac
feHy y dylent fod yn ddystaw. Dywedais
fy mod yn credu fod y Morafiaid yn iawn
yn y mater yma, ac nad oeddwn i wedi
newid fy meddwl gyda golwg ar unrhyw
wirionedd, ond wedi tyfu ac wedi ymgryfhau
yn y goleuni. Yr wyf yn cael fod y gelyn
yn ceisio ein gwahanu yn Sir Benfro, a bod
yr yspryd Morafaidd yn ymledu yno ;
ceisiais inau dawelu pethau. Y mae yn
dda mai yr Arglwydd sydd Dduw. Dy-
wedais wrth John Belsher fy mod yn tybio
fy mod yn gweled ynddo anghymwysder i
ddeho ag eneidiau gweiniaid. Cefais
ryddid mawr ar weddi ar y terfyn."
FeHy y terfynodd y Gymdeithasfa bwysig
hon. Nid ydym yn teimlo y rhaid i ni
wrth esgusawd am ddifynu ei hanes mor
helaeth aHan o'r dydd-lyfr, yn nghyd a
hanes y daith. Y pryd hwn y rhoddwyd
lefain yr ymraniad yn y blawd. Yr oedd
yr hyn a eilw yn ddirgelwch Crist wedi
1746.]
HOWELL HARRIS.
317
llyncu bryd Harris i'r fath raddau fel mai
prin y cyfeiriai at un pwnc arall wrth
bregethu ; yr oedd mor argyhoeddiadol o'i
wirionedd, ac o'i bwysigrwydd fel gwir-
ionedd, fel yr oedd yn barod i farw yn
hytrach nag ildio modfedd ar y mater. Y
mae yn amlwg mai yn mhhth y cynghor-
wyr y cododd gwrthwynebiad gyntaf i'r
athrawiaeth. Diau yr ofnai Harris y
buasai Rowland, a W'iUiams, yn y Gym-
deithasfa, yn cymeryd eu phiid, ac yn cyd-
uno â hwy i ymosod arno ; yn hyny
cafodd ei siomi yr ochr oreu ; yr hyn a
wnaethant hwy oedd darbwyllo y rhai
a wrthwynebent i gyfaddef eu bod
wedi camddeall ei eiriau, a'u bod wedi
cyfodi cwestiynau cnawdol yn nglyn â
pherson ein Harglwydd ; ac mewn can-
lyniad i ymostwng wrth ei draed. Os
oedd Rowland yn canfod gwrthyni -•rhai o
ymadroddion Harris y pryd hwnw, ni
awgrymodd hyny mewn un modd ; gosodai
hyny i lawr i dduU o eirio, gan gredu eu
bod iU dau yr un yn y gwraidd. Nid
rhyfedd fod Harris mewn tymher fuddug-
ohaethus, a'i draed ar yr uchelfanau.
Pa mor orfoleddus y teimlai a ddangosir
yn y llythyr canlynol, a ysgrifenwyd
ganddo o Drefecca, dranoeth i'r Gym-
deithasfa, at Mr. Thomas Adams, un o
gynghorwyr Whitefield, yn y Tabernacl :
" Fy anwyl gyd-weithiwr, a'm hanwylaf
frawd, — Yr wyf wedi bod am bythefnos o
daith ; neithiwr y daethum adref o'r Gym-
deithasfa ; ac ni fu genyf erioed y fath
adroddiad i'w anfon i chwi. Ni ddarfu i'n
Harglwydd erioed, yr wyf yn meddwl,
ddyrysu cynllwynion y gelyn, a bendithio
ei ddrudfawr \Vyn a brynwyd ganddo, ac
agor ei gariadlawn fynwes, i'r fath raddau
ag yn awr. Er pan ddychwelais, gwnaed
fi yn dyst o'i ogoniant a'i fawrhydi. Nis
geiU tafod fynegu y fath weithredoedd
nerthol sydd yn cael eu cyflawni ganddo
trwy ddwylaw ei weinidogion yma. Y
mae yr offeiriaid fel seraphiaid fflamllyd ;
a llawer o'r brodyr lleyg ydynt yn nodedig
o Iwyddianus. Y mae tair sir — Penfro,
Caerfyrddin, ac Aberteifi — yn ymddangos
fel preswylfeydd arbenig yr Arglwydd, ac
yn ganohìwynt y gwaith, fel pe bae.
Mewn amryw fanau yn Siroedd Morganwg,
Mynwy, Brycheiniog, Maesyfed, a Thref-
aldwyn, y maent yn tyfu yn ardderchog,
ac er fod y gelyn yn barhaus yn hau ei
efrau, eto y mae cariad brawdol a syml-
rwydd yn fîynu. Y fath yw yr arddang-
osiad o ogoniant Duw yn ngras lesu Grist
fel, mewn amryw leoedd, y mae yn llwyr
orchfygu natur. Y mae amryw yn cael
eu bedyddio ag addawedig dân y Glân
Yspryd i'r fath raddau, fel y maent yn
methu bod yn ddystaw ; eu huchel amenau,
a'u haleliwia o fawl i'r hwn a'u prynodd,
yn fynych sydd yn boddi llais y pregethwr.
Treulir llawer o oriau, íe, nosweithiau
cyfain, mewn canu a gweddio. O ddyddiau
gogoneddus ! Y mae y ceiliogod yn canu,
ac y mae gwawr boreu clir yn tori. Yn
sicr, y mae y Cadben ar y maes ; yr Ar-
glwydd a ymwelodd a'i deml. Y deillion
(ysprydol) ydynt yn cael eu golwg yn
ddyddiol ; clustiau y byddariaid sydd yn
cael eu hagor ; y cloffion sydd yn rhodio,
a'r meirw yn cael eu cyfodi. Y mae
teyrnas ein Duw a'n Crist wedi dyfod i'n
mysg ; gwae y rhai a wrthwynebant, yn
gyhoedd neu yn ddirgel. Yn ein Cym-
deithasfa yr oeddym yn fwy hapus nag
erioed. Cawsom adroddiadau ardderchog
gan y gwahanol arolygwyr am yr eneidiau
oeddynt dan eu gofal. Satan sydd mewn
dyryswch. Anwyl frawd, ewch yn mlaen
yn hyf, sethrir ef yn gyfangwbl heb fod
yn hir. Ein Duw a'n bendithia ac a'n
llwydda ; bydded i ninau bob amser olchi
ei draed. Y fory, yr wyf yn pregethu
gartref; dydd Llun, yr wyf yn cychwyn
ar daith arall. Yn union gwedi fy nych-
weliad bwriadaf, os Duw a'i myn, fyned i
Lundain. Y mae eich ceffyl yn gryf. Ar
y daith hon bwriadaf fenthyca ceffyl i'm
hanfon o le i le. Una fy ngwraig mewn
cofion serchog atoch chwi a'ch priod.
Yr eiddoch, yn ein hanwyl Waredwr,
How. Harris."
Fel yr arfaethasai, cawn ef yn cychwyn
i'w daith dydd Llun, lonawr 13. Ceir ei
brofiad wrth fyned yn ei ddydd-Iyfr :
" Heddyw, cyn cychwyn i daith i Siroedd
Morganwg a Chaerfyrddin, dyrchafwyd fy
enaid uwchlaw pechod, ofn, a Satan, a
gwnaed fi yn orchfygwr trwy ffydd. Aeth-
um tua Chwmcamlais, pellder o ddeg neu
bymtheg milltir ; ar y ffordd, fy enaid a
adfywiwyd ynof, wrth weled nad oedd
genyf yr un Duw ond y dyn Crist lesu, a'i
fod yn Dduw maddeugar, a chariadlawn,
yn fy nghyfiawnhau, yn fy mendithio, ac
yn fy arwain. Gwelais fod rhyw gyfoeth
dihysbydd yn y dirgelwch — Duw wedi ei
wneuthur yn gnawd. Cefais ryddid mawr
wrth weddío a phregethu oddiar i loan
V. 7 ; cyfeiriwyd fi yn fwyaf neillduol at y
clauar a'r cnawdol, y cyfryw oeddynt wedi
ein gadael, ac ymuno a'r Ymneillduwyr ;
3i8
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1746.
dangosais eu bod wedi myned allan o
íìfordd Duw ; pa nifer sydd yn feddw
beunyddiül ar win newydd Duw, a bod y
gwaith yn ddwyfol, fel y profa yr arwydd-
ion." Nid hawdd deaìl y cyfeiriad at y
rhai oeddynt yn feddw ar win newydd
Duw ; geill olygu yn y cysylltiad, naill ai
mai ychydig o'r Ymneillduwyr, neu ynte
fod llawer o'r Methodistiaid felly. Pre-
gethodd yma hefyd am y dirgelwch. Aeth
yn ei flaen i Landdeusant, lle y pregethodd
oddiar loan xvii. 3. Cafodd lawer o.nerth ;
llefarai weithiau yn erbyn proffeswyr
cnawdol, bryd arall yn erbyn y rhai oedd-
ynt yn gyhoeddus annuwiol. Gwelai ei
fod yn cael ei arwain mewn gwahanol
fFyrdd ; weithiau i daranu ; bryd arall yn
fwy i gysuro ac iachau. Yma eto, cyn
gorphen, cyhoeddai y dirgelwch sydd yn
Nghrist. " Agorais y cyfan gydag aw-
durdod," meddai, " gan ddangos fod y dyn
hwn yn Dduw, ac mai efe oedd yr unig
Dduw." Dydd Mercher, aeth tua Thy-
gwyn. Ei destun yma oedd : " A hwy a'i
gorchfygasant ef trwy waed yr Oen." Yr
oedd yn agos at yr Arglwydd wrth lefaru,
ac yn ddedwydd ; ymddangosai y bobl
hefyd yn gariadlawn. Ond ni ddaetli
y nerth mawr hyd nes y dechreu-
odd son am fuddugoHaeth y dyn duwiol
trwy Grist ar bechod. Dydd lau, cawn
ef yn Gell-y-dorch-leithe, ac fel hyn yr
ysgrifena : " Neithiwr, llamai a neidiai yr
ŵyn, ar ol cael eu porthi ar ddirgelwch
Crist ; yn awr y mae y goleuni yn dechreu
tywynu arnynt." Yn Llangadog, llefarodd
gyda chryn nerth a goleuni oddiar i loan
V. 7, ac wrth ei fod yn dangos y gwahan-
iaeth rhwng canlynwyr Crist a phechadur-
iaid, llewyrchodd goleuni o dragy wyddoldeb
ar ei enaid, dysgleiriach na dim a welsai
o'r blaen ; gwelai y byd hwn fel cysgod
gw^anaidd o'r un i ddod. Efengylu a
wnelai yno, a gwahodd pawb at Grist yn
felus ; ond ni ddaeth y nerth hyd nes y
dechreuodd ymdrin â dirgelwch Crist.
" Dangoswn," meddai, " fod ofn yn ciHo
pan fyddo gogoniant Grist yn ymddangos.
Agorais y cwbl, fel arfer, am Grist, yn
arbenig am dano yn sefyll yn fud gerbon
Pilat, a'i waith yn cymeryd ein pechod a'n
heuogrwydd ni arno ei hun, trwy yr hyn y
mae Duw yn gallu ymddwyn at y rhai
sydd yn credu, fel pe byddent heb bechu.
Dangosais, os bu Crist farw dros bawb,
yna y rhaid i bawb gael eu rhyddhau, nas
gelHr eu cospi hwy drachefn. Yr oeddwn
yn nerthol wrth ymdrin â genedigaeth.
bywyd, dyoddefiadau, a marwolaeth yr
lesu, ac wrth egluro cyffes Petr, Paul,
a Thomas. Yraa hefyd yr ẃyn a borth-
wyd."
Cawn ef yn nesaf yn Llansamlet.
Tebygol mai rhyw blwyf yn Sir Forganwg
oedd y Llangadog blaenorol. Teimlai yn
egwan, ac yn barod i lewygu, ar y íFordd ;
ond pan y dechreuodd bregethu, daeth
nerth corphorol iddo yn ddisymwth.
Gwybodaeth benarglwyddiaethol Duw yn
Nghrist oedd y mater y Hefarai arno, a
chafodd ei arwain i roddi arbenigrwydd ar
ddirgelwch y gwaed, gan ddangos mai
dyma sylfaen yr oH oeddynt yn fwynhau,
a Hefain ei fod yn barod i fentro tragywydd-
oldeb ar bwys y gwaed hwn. Yr oedd yn
odfa nerthol iawn. Ar y diwedd, cadwyd
seiat breifat, ac meddai : " Arosasom yn
nghyd hyd ddeg ; yr oedd y nerth a'r
bywyd yn peri ein bod fel fflam ; daeth
adref ataf mor agored ydym i ddichelHon
Satan ; eithr cefais lonyddwch wrth gyf-
Iwyno y cwbl i law Duw." Amlwg yw
fod rhyw arwyddion annymunol yn y cyn-
uHiad yn nghanol y gwresawgrwydd, y
rhai oeddynt yn eglur i lygad y Diwygiwr.
Cawn ef yn nesaf yn MherHan-Robert.
Pregethodd yma yn Gymraeg ac yn Saes-
neg ; odfa doddedig ydoedd ; ond nid oedd
ynddi gymaint o dân, a nerth, a gwaeddi
aHan, ag a geid dan weinidogaéth yr
offeiriaid. " Cefais dynerwch mawr,"
medd, " wrth gyflwyno fy nghenadwri
arferol am ddirgelwch Crist ; ymddangosai
Hawer fel be byddent yn teimlo ; ac yr
oedd nerth yn cydfyned a'r Gair wrth fy
mod yn pregethu am ddirgelwch y Gwar-
edwr, a dirgelwch y Drindod, ac yn
dynoethi rheswm cnawdol." Nos Wener,
aeth yn ei flaen i CasHwchwr, He y pre-
gethodd oddiar y geiriau : " Un peth a
ddeisyfais i gan yr Arglwydd." Ynia
clywodd am y boneddwr a gynierasai ei
geft'yl oddiarno yn agos i Gastellnedd, pan
ar ei daith trwy y rhanbarth hwn yn
flaenorol, ei fod wedi colli dau o'i geftylau ;
a'i fod yntau wedi cael ei gymeryd yn sal
mewn clefyd, o ba un yr oedd eto heb
gael ei adfer. " Llawer ac amrywiol yw
y gwersi a ddysgir i mi, gan bob math o
bobl wyf yn gyfarfod," meddai Harris ;
" ond nid wyf yn gweled neb cynddrwg a
mi fy hun, na neb yn cael y fath ffafr."
Cyfarfyddodd yma hefyd y boneddwr
ieuanc, Mr. Dawkins, wrth ei enw, yr
hwn a ymddangosai dan gryn deimlad, a
chafodd lawer o bleser wrth ymddiddan
1746.]
HOWELL HARRIS.
319
ag ef am bethau ysprydol. " Y niae
gwaith mawr yn cael ei gario yn mlaen,"
meddai ; " ordeiniwyd ofFeiriad ieuanc yma
yn ddiweddar, yr fiwn sydd yn Gristion.
O Arglwydd, ymwel â dy eglwys ! "
Rhaid fod cyflwr offeiriaid Eglwys Loegr
yn ddifrifol yr adeg hon, pan y mae
ordeiniad offeiriad oedd yn Gristion yn
ffaith i alw sylw arbenig ati, ac i ddiolch
am dani.
Dydd Sadwrn, aeth i Pembre erbyn
dau ; yr oedd y bobl wedi bod yn dysgwyl
am dano am bedair awr ; syna yntau fel y
mae yn colli ei amser yn barhaus, ond
dywed nas gallai help. Cafodd ryddid i
lefaru yma, ond nid oedd y dylanwad yn
fawr. Bwriadai gyrhaedd Llanddowror
nos Sadwrn, ond methodd groesi y culfor
yn Llanstephan, nes yr oedd yn rhy hwyr
i fyned yn mhellach. Modd bynag, ni
threuliodd ei amser yn ofer ; clywodd y
bobl ei fod yn y Ue ; daeth torf yn nghyd,
a chafodd yntau gyfle i lefaru. Yr oedd ei
bregeth ar ffurf ei bregethau cyntaf, sef
dynoethi cnawdolrwydd adaUineb offeiriaid
yr Eglwys, drygioni y boneddigion, ac
arferion isel y bobl gyffredin. Ymddengys
ei bod yn odfa iw chofio byth. Yr oedd
y dylanwad ar deimlad Harris ei hun yn
niron yn llethol. Wrth weled fel yr oedd
yr Arglwydd yn cario ei waith yn mlaen,
gwaeddai : " HaleHwia ! Amen ! O fehis
dragywyddoldeb ! Gwelaf yn awr paham
y darfu i'r Arglwydd fy nghadw mor hir
mewn caethiwed gan ofn angau, sef er
mwyn i mi ymgydnabyddu â chelloedd
tywyll marwolaeth, ac felly allu cysuro
eraill pan fyddont yn croesi." Cyrhaedd-
odd Landdowror o gwmpas un y Sul ; yr
oedd yn mhell oddiwrth yr Arglwydd ar y
ffordd. Testun y Parch. Grifíìth Jones
ydoedd : " A hon yw y ddamnedigaeth."
Cafodd Howell Harris fendith wrth
wrando, ac yn neillduol yn y cymundeb a
ddilynai. Eithr pan y soniai yr hen
offeiriad am " amodau iachawdwriaeth,"
teimhii Harris mai Crist oedd ei amod ef,
a'i deitl i hoU fendithion y cyfamod. Aeth
i Merthyr, yn Sir Gaerfyrddin, erbyn y
nos, lle y cafodd odfa fehis.
Dydd Llun, cynheHd Cymdeithasfa
Fisol yn Glancothi, a chyrhaeddodd
HoweU Harris yno o gwmpas dau. Yr
oedd Daniel Rowland, a WiHiams, Panty-
celyn, yn bresenol, yn nghyd a Benjamin
Thomas, y gweinidog YmneiUduol ; ond
nid yw Harris yn croniclo unrhyw ym-
driniaeth ar faterion, na dim a ddywedwyd
gan neb ond efe ei hun. Fel hyn yr ys-
grifena : " Cefais agosrwydd mawr at yr Ar-
glwyddyn y weddi ; gostyngwyd fy nghalon,
a daeth yr Arglwydd i lawr pan y dang-
oswn fel yr oedd Uygaid pawb arnom, ac
yr anogwn i wyhadwriaeth, a pheidio
rhoddi tramgwydd i neb mewn dim. Eg-
lurais fod ymddwyn yn wahanol yn profi
diffyg cariad at eneidiau. Yr oeddwn yn
rymus wrth ddangos yr angenrheidrwydd
am ostyngeiddrwydd, a thra y caem ein
cadw yn y Uwch y byddai i'r Arglwydd
ein hanrydeddu. Disgynodd Duw i'n
pHth ; toddwyd Uawer, ac wylent yn hidL
Eisteddasom am o bedair i bum' awr ; yr
oedd yr Arglwydd yn ein mysg mewn
modd neiUduol, gan roddi i ni gariad a
doethineb i ddyoddef ein gilydd, tra yr
ymdriniem a materion o'r pwysigrwydd
mwyaf, ac am y rhwyg a geisiai Satan ei
wneyd yn ein pHth. Yr oeddem oU yma
yn ostyngedig, ac mewn undeb." Yna,
cronicla anerchiad a draddodwyd ganddo ;
dywed iddo gyfeirio at ddirgelwch Crist ;
fel yr oedd angau Crist wedi dinystrio
marwolaeth ; fel yr oedd corph ac enaid
ein Hiachawdwr mewn undeb a'i dduw-
dod tra ar wahan oddiwrth eu gilydd ; fel
y cawsai y dirgelwch hwn ei ddatguddio
iddo ef gyntaf, ac fel na bu yntau yn an-
ufudd i'r weledigaeth nefol. Dangosai
hefyd fel yr oedd Satan yn ceisio peri i
rai gyfeiHorni, trwy wrthwynebu yr ym-
adrodd, " cymhwysiad o'r gwaed," gan
ddewis yn hytrach y term, " derbyniad o
Grist," a thrwy hyny ddynesu at athraw-
iaeth yr Antinomiad, sef cyfiawnhad er
tragywyddoldeb mewn sylwedd, a chyf-
iawnhad gweithredol pan fu Crist farw.
Cydunai y brodyr a phob gwirionedd a
draethai. Yr oedd yn nerthol ac yn agos
wrth ddangos fod Duw wedi caru yr ethol-
edigion er tragywyddoldeb, a Christ, fel
eu pen, wedi marw dros eu pechodau oU,
ac yn eu Ue ; ac eto eu bod yn farw, ac yn
wrthrychau digofaint Duw, hyd nes y
caffont eu geni drachefn, ac y credont, ac
y caffo Crist ei gymhwyso atynt. Yr oedd
pawb yn gweled lygad yn Uygad, ac ym-
adawyd yn hyfryd o gwmpas naw.
Er hwyred ydoedd, aeth Rowland,
WiUiams, Pantycelyn, a Harris, i Glanyr-
afonddu i letya, ac yr oedd yn ddeuddeg
o'r gloch arnynt yn cyrhaedd. Wrth ochr
WilHams y marchogai Harris, a chafodd
fendith hyfryd yn y gymdeithas. Dydd
Mawrth, pregethai Rowland yn nghapel
Abergorlech. Meddai Harris : " Clywais
320
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1746.
y bregeth fwyaf ardderchog, gan ŵr niawr
Duw, oddiar Salm cv. 14, 15." Ym-
ddengys fod yr Arglwydd yn agos hefyd
yn y sacrament. Gwelai Howell Harris
dri dirgelwch mawr, Duw, Crist, a'r eg-
Iwys ; am y diweddaf, canfyddai ei bod yn
ogoneddus yn wir. Wrth ei fod yn siarad
am y dirgeledigaethau hyn, tramgwyddodd
rhai ; ceryddodd yntau hwy am yr hyn a
welai allan o le ynddynt ; ond yr oedd undeb
anwyl rhyngddo a'r brawd Rowland.
Wedi dychwelyd i Glanyrafonddu, pre-
gethodd Rowland drachefn, oddiar Joel
iii. 13 ; odfa anghyffredin oedd hon eto ;
yr oedd enaid Harris yn fílam o'i fewn ;
gwelai yn Rowland yr un yspryd ag oedd
ynddo ef ei hun. Ymddengys fod gor-
foleddu mawr yn y cyfarfod hwn. Cyng-
horodd Harris mewn modd brawdol y rhai
oeddynt ar dân gan gariad, a theimlad o
fuddugoHaeth, ac yr oeddynt hwythau yn
ddigon gostyngedig i dderbyn y cynghor.
Aeth y cyfeilHon yn nghyd dydd Mercher
i Lwynyberllan ; pregethodd Rowland yma
eto ar Jer. xxxiii. 6 ; cafwyd yma arwydd-
ion amlwg o bresenoldeb yr Arglwydd.
Llefarodd Harris yma hefyd, a dywed fod
ei dafod fel pin ysgrifenydd buan. Yna,
wedi bod yn ddedwydd tu hwnt yn
nghymdeithas y brawd Rowland, cyfeiriodd
Howell Harris ei wyneb tuag adref. Yr
oedd yn Bronydd dydd lau, yn Nolyfehn
dydd Gwener, a chyrhaeddodd Drefecca y
noson hono, wedi taith o yn agos i byth-
efnos. Dengys y cofnodau fod dirgelwch
person Crist yn parhau i fod yn brif
wrthddrych myfyrdod Harris ; mai dyna
a bregethai braidd yn mhob lle ; ac ar y
cyfan, nad oedd fawr gwrthwynebiad i'r
athrawiaeth a gyhoeddai yn cael ei ddangos.
Yn arbenig, yr oedd Daniel Rowland ag
yntau mewn undeb perffaith.
Y peth cyntaf a wnaeth wedi myned
adref oedd sefydlu math o gyfarfod chwech-
wythnosol, agored i bawb oedd yn llefaru.
Trefn y cyfarfod oedd pregethu am ddeg ;
yna, seiat breifat a chariad-wledd i'r holl
aelodau allent ddyfod, o bob cyfeiriad ; a
chwedi hyny, Cymdeithasfa i'r cynghor-
wyr, nidyn gymaint er trefnu materion, ag
er gweled gwynebau eu gilydd yn yr
Arglwydd. Y tro hwn pregethodd Harris;
ei destun oedd : " Mawr yw dirgelwch
duwioldeb ; " a llanwodd Duw y lle a'i
bresenoldeb. Yn y seiat, drachefn, deuai
y dylanwadau nefol i lawr yn ddidor.
Amddiffynai Harris y gorfoleddu yn yr
odfaeon, gan gyfeirio at Dafydd yn dawnsio
o flaen yr arch, a Christ yn marchog
mewn buddugohaeth i Jerusalem, fel
profion. Wedi ciniawa, cyfarfyddasant yn
y Gymdeithasfa ; yr oedd yr Arglwydd yn
eu mysg fel fflam dân ; nis gallant ddweyd
yr un gair am amser, ond llefain, " Gogon-
iant ! Gogoniant ! Halehwia ! " Wedi
cael seibiant, siaradodd Harris am falch-
der, diogi, a difaterwch, a'u bod trwy y
peth hyn yn gofidio y rhai oedd yn agos at
Dduw. " Agorasom ein holl galonau i'n
gilydd," meddai ; " rhai o faglau Satan a
ddrylHwyd, a'r Arglwydd a ymddangosodd
drachefn i rwystro y rhwyg oedd Satan
wedi arfaethu. Siaradais a'r brawd Beau-
mont gyda golwg ar rai ymadroddion
tywyU a arferai. Daeth yr Arglwydd
arnom eto fel fflamau tân ; yr oeddem yn
Hawn cariad, a llawenydd, a chanem
fuddugoHaeth. Gwedi swpera, a siarad
yn breifat, ymadawsom, yn feddw gan win
newydd Duw." Y mae yn sicr fod y
cyfarfodydd yn Hawn bywyd a hwyl, ac
fod y dylanwadau yn dra nerthol.
Ddechreu Chwefror, aeth HoweH Harris
i Lundain, i gyflawni dyledswyddau ei
swydd fel arolygwT cyíîredinol yr eglwysi
Saesneg. Er fod y cyfrifoldeb yn fawr,
nid oedd heb ymdeimlo a'r anrhydedd a
roddedarno; pan yn synu at ddaioni Duw
tuag ato, cyfeiria drosodd a throsodd at y
íîaith ei fod wedi cael ei osod yn ben yr
achos yn Lloegr. Nid oedd yn amddifad
o uchelgais ; ac yr oedd ei safle uchel a
phwysig yn foddhad i'r cyfryw deimlad.
Bu yn Llundain am dros fis, ac yr oedd
Ilywodraethu y brodyr bron yn ormod o
dasg iddo. Nis gallwn fanylu ar yr
hanes, er ei fod wedi ei ysgrifenu yn Ilawn,
am nad yw yn perthyn yn hanfodol i
Fethodistiaeth Cymru. Ar ei ffordd adref,
daeth Harris i Gymdeithasfa Bryste, a
gynhelid Mawrth yfed a'r 8fed. Heblaw
helyntion mewnol, yr oedd perthynas y
seiadau a'r Morafiaid yn peri trafferth, a
phenderfynodd y Gymdeithasfa anfon
llythyr at y cyfundeb Morafaidd, fod
galwad arni i sefydlu achosion yn Swydd
Wilts, Dywed y cofnodau fod cryn lawer
o annhrefn a chyífro yn y Gymdeithasfa,
oblegyd yr annhueddrwydd a ddangosai
Herbert Jenkins i gydweithredu a'i frodyr.
Dychwelodd Harris adref, gan bregethu
mewn amryw leoedd yn Sir Fynwy ar y
ffordd, megys Llanfaches, Goetre, a'r
New Ìnn. Yn y Ile diweddaf, cynhaliwyd
math o Gymdeithasfa, a chafodd gysur
dirfawr o herwydd agwedd ymostyngar, a
HraB^BÌ^^^"'^^^^^^?!
HH^^^RL j^^^H
1 j
mîì
'i
f^iL
.'4ÉM
^^wi
A 4(
o
Q
Q
u^
fc(
r-^
a
C:?
tó
z;
V
oi
y
-<
>— H
1
o
1
'XI
'>!
-*
>^
cq
4
Q
o
Ccí
<
o
6
Q
Q
Q
a
>
o
n
o
Q
Q
o
w
o o
1746.]
HOWELL HARRIS.
321
phrofiad crefyddol, y brawd Morgan Jones.
Wrth gymharu eu golygiadau, yr oedd y
ddau yn cyduno yn hollol. Cydolygent na
ddylent geisio caethiwo yr Yspryd o ran
ei weithrediadau trwy unrhyw gynlluniau»
na thrwy unrhyw drefn wrth bregethu ;
fod yn rhaid wrth yr Yspryd a'r Gair ; mai
y ddau yn nghyd oedd goleuni a rheol yr
eglwys.
Ychydig o orphwys oedd i Howell
Harris gwedi dychwelyd adref. Diwedd
Mawrth, a dechreu Ebrill, cawn ef ar
daith yn Siroedd Brycheiniog, Maesyfed,
a Threfaldwyn, gan ymweled a'r Tyddyn,
Bwlchyrhaidd, Mochdref, Llanllugan, a
Llansantffraid. Caffai gyfarfodydd nerthol
tu hwnt yn mhob man, braidd ; y bobl a
dorent allan mewn sain cân a moliant ;
byddai eu hamenau a'u haleliwia yn aml
yn boddi ei lais, ac arosent yn nghyd i
orfoleddu am oriau gwedi i'r odfa orphen.
Ar y dechreu, bu Harris yn wrthwynebol
i'r cyfryw dori allan ; dylanwad Grfíìth
Jones, Llanddowror, arno a gyfrifai am
hyny yn benaf ; ond yn awr, y mae yn
gefnogol i'r peth, ac yn ei amddififyn â
gorchymynion ac esiamplau allan o'r
Beibl. Tua diwedd mis Ebrill, cynheUd
Cymdeithasfa Chwarterol yn Watford.
Y nos Fawrth cyn y Gymdeithasfa, pre-
gethai Daniel Rowland yn nghapel y
Groeswen, ac aeth Harris yno. Mater y
bregeth oedd, ymdrech gydag achos yr
Arglwydd. Pregethodd Harris hefyd, a
dywed i'r Arglwydd lanw y lle a'i bresen-
oldeb. Y mae yn ymddangos fod y seiat
yn y Groeswen erbyn hyn, ar ol ychydig
o ymddyeithrwch, lawn mor Fethodistaidd
ag unrhyw un o'r seiadau. Pregethodd
Harris gyda'r fath yni nes yr oedd ei
gorph yn ddolurus. Átebai wrthddadleuon
y rhai a ofynent, ai Arminiaid, ynte Anti-
nomiaid ydych ? " Nid wyf wedi dod i
ymdrin â phethau felly," meddai y pre-
gethwr, " ond i ofyn pwy sydd ar du yr
Arglwydd. Y mae Duw wedi myned
allan yn erbyn Satan ac yn erbyn pechod ;
os yw dy galon o blaid yr Arglwydd, rho
dy law i mi ? "
Bu i raddau yn ystormus yn y Gym-
deithasfa. Yr oedd y Morafiaid am sef-
ydlu achosion yn Nghymru, ac yn ceisio
denu atynt y rhai a gawsent eu hargy-
hoeddi trwy weinidogaeth y Methodistiaid.
Y lle y ceisient osod eu traed i lawr gyntaf
arno oedd Hwlffordd, yn Sir Benfro.
Efallai fod dylanwad John Gambold,
gwedi hyn, yr Esgob Gamboid, yn cyfrif
am eu dewisiad o Hwlffordd ; gan fod
amryw o'r Methodistiaid yn y dref, a'i
chwmpasoedd, yn berthynasau agos iddo
yn ol y cnawd. Naturiol oedd i'r peth
ddyfod yn destun ymdriniaeth yn y Gym-
deithasfa. Tueddai rhai i gondemnio y
Morafiaid yn Uym. " Eithr," meddai
Harris, " datgenais fy marn fod gormod o
gulni a rhagfarn ynom ni a hwythau, ae
y rhoddem fantais i'r diafol oni fyddem yn
fwy gostyngedig ; fy mod gymaint a neb
yn erbyn cyfeiliornadau y Morafiaid, ac
yn erbyn eu gwaith yn dyfod i Gymru i
greu ymraniad ; ond nas gallwn gyduno
ag ymadroddion y brodyr yn y Gymdeith-
asfa, a'm bod yn gweled ynddynt ddiffyg
ffydd i adael y gwaith yn liaw yr Ar-
glwydd." Yr oedd Howell Harris yn fwy
cydnabyddus a'r Morafiaid ; arferai fyn-
ychu eu cyfeillachau pan yn Llundain ;
gwyddai mai trwy eu hofferynoliaeth hwy
yn benaf y cawsai John W^esley ei arwain
at grefydd efengylaidd ; a chredai fod
gwreiddyn y mater ganddynt, er nad oedd
yn cydweled â Ilawer o'u syniadau ; felly,
naturiol oedd iddo deimlo yn dynerach
atynt. Modd bynag, aeth y ddadleuaeth
yn Watford yn boeth ; ac wrth fod Harris
yn dadleu dros roddi yr eglurhad tyneraf
ar olygiadau y Morafiaid, cyhuddodd
rhywun ef o fod yn x\ntinomiad. Teim-
lodd yntau y sarhad i'r byw. Yr oedd yn
dra dolurus ei deimlad wrth ymadael ;
meddyliai fod y brodyr yn edrych arno fel
peth gwael. Felly y teimlai boreu dran-
oeth. Ond daeth Howell Davies, a Will-
iams, Pantycelyn, ato yn dra Ilariaidd a
gostyngedig ; adroddodd yntau ei helynt
a'i dywydd wrthynt, a chawsant gyfeillach
nodedig o felus. Y rheswm nad oedd
Rowland gyda y ddau offeiriad arall oedd
ddarfod iddo gael ei gyhoeddi i bregethu
y boreu hwnw. Gwedi yr ymddiddan,
brysiasant i glywed Rowland ; ond erbyn
iddynt gyrhaedd, yr oedd yr odfa trosodd.
Yn breifat, galarai Harris wrth weled y
brodyr o wahanol syniadau mor chwerw
yn erbyn eu gilydd, ac wrth weled Daniel
Rowlandmorystyfnigynerbyn y Morafiaid.
Yr oedd ei feddwl yn dra chymysglyd.
Ail-agorodd y mater yn y Gymdeith-
asfa, gan ddatgan ei fod yn erbyn pob
peth beius yn y Morafiaid, ac yn wrth-
wynebol i'w gwaith yn dyfod i Gymru,
i beri ymraniad ; nas gallai eu con-
demnio, am y credai eu bod yn rhan
o gorph Crist ; ac er fod eu penau i raddau
yn gyfeiliornus, eto, fod Ilawer o honynt
Y
322
Y TADAU METHODISTAIDD
[1746.
yn eu calonau yn meddu adnabyddiaeth
agosach o'r lesu na rhai o'r Methodistiaid.
Dywedai, yn nihellach, nad oedd teyrnas
ein Harglwydd yn dibynu ar ragfarn, ac
ar zél boeth dros yr hyn a ystyrir yn
wirionedd, ond ar addfwynder, a chariad ;
nad oedd ef ei hun ond gwas, ac nad oedd
ganddo awdurdod i rwystro erailL Dat-
ganai mai nid trwy wrthwynebiad agored
y buasent debycaf o rwystro y Morafiaid,
ond trwy yspryd cymhedrol a chariad-
lawn, ac ymresymu á hwy yn arafaidd.
Ofnai rhag i'r helynt rwystro y gwaith, a
gwneyd i ffwrdd a symlrwydd y weinidog-
aeth yn eu mysg. Ni ddywed yn bendant
pa fodd y terfynodd yr ymdrafodaeth, ond
gallwn feddwl mai penderfyniad y brodyr
oedd fod Howell Harris i ymweled â
Hwlffordd. Cychwynodd yntau ddiwrnod
y Gymdeithasfa ; cyrhaeddodd Hafod,
pellder o bum'-milldir-ar-hugain, nos lau.
Erbyn nos Sadwrn, yr oedd yn Llan-
ddowror ; bu y Sul yn ymgynghori â
Griffith Jones, ac yn gwrando arno yn
pregethu ; a daeth nos Sul i dý Howell
Davies, sef y Parke. Nos Lun, aeth i
Hwlíîordd, ac yn y seiat breifat cafodd
lawer o ryddid i egluro dichelhon Satan,
ac i gyfeirio at ragfarn, balchder, a hunan-
ymddiried. Boreu dranoeth, gwnaeth ef
a John Sparlís eu goreu i rwystro ym-
raniad. Pregethai Harris oddiar Rhuf.
vii. 24 ; ac yn y bregeth llwyddodd i roddi
yr ergyd olaf ar ddyfais y diafol, am y
pryd, modd bynag. Eglurodd gyfeihorn-
adau y Morafiaid ; yr angenrheidrwydd
am bregethu y ddeddf ; y pwys o chwiho
yr Ysgrythyrau, a gwreiddio y dychweled-
igion ynddynt. Teimlai ei fod wedi llwyddo
yn ei neges, ac aeth ymaith yn hapus a
dedwydd tua Wolfs Castle. Oddiyno
tramwyodd trv/y Laneilw, Tyddewi,
Longhouse, Abergwaen, Ty'r Yet, Cerig
loan, Cwm Cynon, a Llangeitho, lle y
treuhodd y SuL Boreu y Sabbath, cafodd
Rowland odfa ryfedd yn LlancwnUe ; ei
fater oedd, ymdrechu yn erbyn y diafol ;
yr oedd y dylanwad ar Howell Harris
bron yn fwy nag y medrai ymgynal o
dano ; dywed mai unwaith o'r blaen yn
unig y clywsai Rowland yn y fath yspryd.
Hawdd darllen rhwng y IhneUau y teimlai
Harris ddarfod iddo boethi gormod yn
Watford ; ac nad oedd ei yspryd yn y
Gymdeithasfa y peth y dylasai fod ; dywed
ei fod wedi dyfod i Langeitho mewn
yspryd hunanymwadol. Meddai : " Yr
oeddwn yn teimlo undeb agos at y brawd
Rowland ; gwelwn mai fy mraint a'm
dedwyddwch oedd cael cadarnhau ei
ddwylaw, byw a marw mewn undeb ag
ef, a threuho tragywyddoldeb yn ei gym-
deithas. Yr oeddwn yn ei garu fel fy
enaid fy hun. Gwedi y sacrament, aethom
i Langeitho ; am chwech, sefais i fynu i
bregethu ; ac wedi dechreu y cyfarfod,
llonwyd fi yn fawr wrth weled y brawd
Rowland yn dyfod i mewn." Ymddengys
mai odfa galed a gafodd. " Teimlwn
gywilydd," meddai, "nad oedd dylanwad yn
cydfyned a'm geiriau ; ni wylai neb, ac nid
oedd neb yn teimlo." Efallai fod rhyw
gymaint o blentyneiddiwch yn y teimlad a
ddatgana, ond y mae yn dra naturioL
" Eithr," meddai, " gwnaed fi yn ostyng-
edig ; ac yr oeddwn yn foddlon bod yn
wael yn eu golwg."
Boreu dydd Llun, cronicla fod ei galon
yn Ihfo drosodd gan serch at Daniel
Rowland. " Dywedais wrtho," meddai,
" y teimlwn yn anrhydedd i gael golchi ei
draed, ac i gyflawni erddo y swyddau
gwaelaf ; fy mod yn hawen ac yn ddiolch-
gar am y talentau a dderbyniasai, a'r
Uwyddiant a goronai ei ymdrechion, ac am
gael fy rhifo yn mysg ei gyfeiUion. Cefais
ffydd i weled y byddai i mi a Rowland
orchfygu pob rhwystrau." Hyfryd gweled
fel yr ymglymai enaid y ddau gyfaiU wrth
eu gilydd, er fod cymylau yn codi rhyng-
ddynt weithiau. Pregethodd Harris yn
Llangeitho dydd Llun drachefn, cyn
ymadael, a chafodd odfa nerthol. Yna,
cyfeiriodd ei gamrau yn ei ol, gan ymweled
â Glanyrafonddu, Llandilo Fawr, Gehy-
dorch-leithe, Tref-Feurig, ger Llantrisant,
he y rhoddwyd ceffyl yn rhodd iddo gan y
frawdohaeth ; Aberthyn, St. Nicholas, a
Dinas Powis. Y Sul, yr oedd yn y Groes-
wen, ac wrth bregethu ar y geiriau, " A hwy
a'i gorchfygasant ef trwy waed yr Oen,"
yr oedd yn ofnadwy i annuwiohon, ac yn
cario pob peth o'i flaen. Cawn ef yn
Watford, y Llun, ac ymddengys fod rhyw
ddadleuon poenus yn parhau yma yn mysg
y frawdohaeth. Rhybuddiodd hwy fod
Satan wedi ei oUwng yn rhydd yn eu
mysg, a'i fod am eu rhanu, fel y rhanasai
y brodyr yn Lloegr trwy ei ddichellion.
Archodd iddynt hefyd hoh eu hunain, a
oedd pob gras ganddynt mewn gweith-
rediad, yn arbenig ediféirwch efengylaidd,
hunanymhohad, a thynerwch cydwybod.
" Hynod," meddai, "fel y mae yr Arglwydd
yn ein cadw rhag cyfeihornadau, er ein
bod fel pe ar y dibyn yn aml. Hyderaf
1746.]
HOWELL HARRIS,
323
ddarfod i Arminiaeth ac i\.ntinomiaeth
gael ergyd effeithiol." Nos Lun, ymwelodd
â Mynyddislwyn. Ei destun oedd: " Bydd-
wch lawen yn wastadol ; " ond yn lle
dyddanu y saint, fel yr arferai wrth lefaru
ar y geiriau hyn, arweiniwyd ef yn ddi-
arwybod iddo ei hun i daranu yn ofnadwy.
" Yr oeddwn yn trywanu i'r byw y rhai
ydynt yn llawen," ysgrifena, " ond sydd
heb eu geni drachefn, ac heb ras Duw yn
eu calonau. Yn arbenig, yr oeddwn yn
ddychrynllyd i'r arweinwyr mewn rhysedd,
ac i'r erlidwyr. Nis gallwn mo'r help,
Yr Arglwydd a'm harweiniai ; nid oedd
genyf feddyhau o'r eiddof fy hun. Con-
demniwn y rhai oeddynt yn Uawen am fod
y byd ganddynt, ac am eu bod yn iach, ac
yn debyg o fod yn hirhoedlog. Cefais
fy arwain i daranu yn ofnadwy iawn yn
erbyn yr offeiriaid cnawdol, y rhai ydynt
yn rhegu, ac yn meddwi, ac yn anwybodus
am Dduw. Dangosais nad rhyfedd fod y
cyfryw i'w cael pan nad oes neb yn y
plwyf yn gweddío am gael dyn da yn
offeiriad. A diweddais trwy ddangos mai
o gariad at eu heneidiau yr oeddwn yn
llefaru fel hyn." Pregeth ryfedd yn ddiau,
oddiar y fath destun ; ond teimlai Harris
mai dyna y cyfeiriad y gofynai yr Ar-
glwydd iddo ei gymeryd. Dydd lau, y mae
yn Llanfihangel, yn Sir Fynwy. Oddiyno
â yn ei flaen i'r New Inn, eithr ychydig o
nerth sydd yn cydfyned a'r llefaru. Yna,
tramwya trwy Coedca-mawr, a Llan-
heiddel, gan ddychwelyd adref dranoeth,
gwedi taith faith a phwysig.
Ddechreu Mai, y mae yn cychwyn eto
am Lundain. Y mae nodiad yn ei ddydd-
lyfr sydd yn bwysig : " Aethum i Fair
Óak erbyn yr hwyr. Ar y ffordd, cefais
olwg ar ogoniant person Crist ; eithr
hysbyswyd fi fod y brawd Rowland yn
benderfynol o wrthwynebu pregethu y
gwaed. Daeth y newydd yn drwm ar fy
enaid ; ond gwnaeth Duw fi yn ostyngedig,
a chefais nerth i I'efain ar iddo anfon
gyda'r hwn yr anfonai. Yr oeddwn yn
foddlawn cael fy nyosg o'm hoU ddoniau,
ond i'r gwirionedd, a'r holl wirionedd, gael
ei fynegu." Arosodd yn Llundain hyd
gwedi y Gymdeithasfa, yr hon a gynhelid
Mehefin 18, ac yna dychwelodd yn ei ol
i Drefecca.
Ar y 27ain o Fehefin, cynhaliwyd Cym-
deithasfa Chwarterol yn Nhrefecca, a
medd y Gymdeithasfa ddyddordeb a
phwysigrwydd pruddglwyfus, oblegyd mai
ynddi y dechreuodd yr anghydwelediad
rhwng Howell Harris ag arweinwyr eraiU
y diwygiad yn Nghymru, a derfynodd
yn y pen draw mewn ymraniad hollol.
Caiff Harris adrodd yr hanes, oddiar
ei safbwynt ef. " Teimlwn neithiwr
a heddyw," meddai, " Iwythi o feichiau
ar fy enaid ; yr oedd i mi agosrwydd
yspryd mawr at y brawd Rowland ; ond
yr oedd fy nghalon yn ofidus oblegyd
fy mhechodau fy hun, a phechodau y
brodyr. Pan y gofynodd y brawd Row-
land am lyfr i mi, teimlwn barodrwydd i
roddi gwaed fy nghalon iddo. Teimlais fy
hun dan angenrheidrwydd i siarad ag ef.
Wrth ymddiddan ag ef yn breifat, yn lle
cael fy maich wedi ei ysgafnhau, trym-
hawyd ef, fel y gallaf ddweyd fy mod yn
dechreu dyoddef gyda Christ. Gwelais
ychydig o'r baich y mae Crist yn orfod
gario, oddiwrth gyndynrwydd a gwrthnys-
igrwydd ei blant ; a phan yr wyf fi yn
teinilo cymaint oblegyd ymosodiad arnaf o
un cyfeiriad, pa faint a deimlai ef pan yr
oedd holl bechodau ei bobl yn pwyso arno ?
Pan y cwynai Rowland ar y cynghorwyr,
ac y dirmygai eu gweinidogaeth, clywedais
nad oedd yn anrhydeddu y rhai oedd yr
Arglwydd wedi anfon ; a dyrchefais fy Uef
at Dduw, ar iddo eu gwisgo â gostyng-
eiddrwydd, ac os oedd rhai o honynt heb
gael eu hanfon ganddo ef, ar iddo chwynu
y cyfryw allan. Dymunwn hefyd ar iddo
ddangos eu hanfoniad i'r anwyl frawd
Rowland, yr hwn sydd yn credu eu bod
yn dwyn gwaradwydd ar yr efengyl, ac
nad ydynt yn gwneyd dim da. Yn fy
ymddiddan a'r brawd Rowland, cefais
ryddid i bwyntio allan yr oll a welwn yn
feius ynddo, sef ysgafnder, a diffyg yspryd
tadol, gan ddangos y dylem ni fyned o
flaen y brodyr mewn ffydd, gostyngeidd-
rwydd, cariad, a hirymaros. Cyfaddefai
yntau hyn, ond dywedai nad oedd yr
Arglwydd wedi ei osod ef yn dad i'r saint,
ac na feddai gymhwysder ar gyfer y Ue.
Atebais fy mod i yn ei anrhydeddu ef fel
y cyfryw, ond fy mod yn gofidio wrth ei
weled mor ddiofal yn gosod beichiau ar
ysgwyddau ei frodyr. Dywedais ddarfod
i mi lefaru yn Llundain, yn gyhoeddus ac
yn breifat, yn erbyn y Morafiaid ; yn erbyn
eu balchder, a'u cyfeiliornadau ; fy mod yn
awr o'r un farn gyda golwg ar bob pwynt
o athrawiaeth ag oeddwn ddeng mlynedd
yn ol ; nad oeddwn wedi cyfnewid o gwbl,
na thuag at y brodyr a'm galwent yn
gyfnewidiol. Pan y cyhuddai fi o For-
afiaeth, am fy mod yn rhoddi arbenigrwydd
Y 2
324
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1746.
ar waed Crist, a'm bod yn addoli y Dyn
(Crist), ac yn defnyddio y term ' Oen,' dy-
wedais ddarfod i mi gael cipolwg ar ogoniant
person Crist cyn i mi wybod fod y fatli
bobl a Moraíìaid ; ac mor bell ag y maent
yn pregethu y dirgelwch, fy mod yn cyduno
â hwynt ; ond nad oeddwn wedi derbyn
dim oddiwrthynt, ond oddiwrth yr Ar-
glwydd. Pan y defnyddiwn y gair ' Oén,'
ei fod yn-felus i mi, ond fod genyf ryddid i
arfer holl enwau yr lesu ; fod un enw yn
cael ei wneyd yn felus i mi yn awr, ac un
arall bryd arall, ond nad oeddwn i yn digio
oblegyd eu bod hwy yn defnyddio unrhyw
un o'r teitlau, ac na ddylem ymyraeth â
rhyddid ein gilydd yn hyn. Dywedais, yn
mhellach, nad oeddwn yn adwaen un Duw
allan o Grist ; fy mod yn gweled yr oU o'r
Duwdod yn y Dyn hwn, gan fod y Tad a'r
Mab yn un ; a phan yr edrychaf ar Dduw
yn fy rheswm, fy mod yn ei weled yn
Dduv/ mawr, ond yn Nghrist fy mod
yn gweled ei anfeidroldeb. Grwgnachai
(Rowland) am fy mod yn defnyddio y term
dirgelwch, ond atebais fod Paul yn cyfeirio
at ddirgelwch Crist yn fynych. Yr oedd
yn dra anystwyth pan y datganwn mai am
heddwch, a chariad, a thynerwch yr
oeddwn i, a'u bod hwy (y Morafìaid) yn
blant megys ninau, a'n bod ni yn ffaeledig
fel hwythau ; a'n bod o'r ddwy ochr yn
cael ein hanrheithio gan yr unrhyw falch-
der, yr hyn yw ein pechod. Dywedodd
ddarfod iddo fy nghlywed yn pregethu
Antinomiaeth ; atebais nas gẅyddwn pa
ymadroddion anwyhadwrus a allwn fod
wedi ddefnyddio, ond os nad oeddwn yn
camddeall beth a feddyhr wrth Antinom-
iaeth, nad oeddwn yn dal cymaint a brigyn
o'r fath athrawiaeth. Ar yr un pryd, fy
mod yn gweled rhyddid gogoneddus yn yr
efengyl, a'm bod wedi cael fy arwain i
wahaniaethu rhwng goruchwyliaeth y
ddeddf a goruchwyhaeth yr efengyl, am
fod y cyntaf yn pwyso ar y llythyren, tra
yr oedd y diweddaf yn gynyrch Yspryd yr
Arglwydd. Hysbysais ef fy mod wedi ei
glywed ef yn pregethu y cyfryw athraw-
iaeth yn Uawer mwy nag yn awr, sef am
gyfiawnhad, a chyfiawnder Crist, yr hwn
sydd wedi ei orphen ; a chan mor ychydig
a glywn ganddo am y gwirioneddau
gogoneddus hyn yn awr, fy mod yn cael
fy nhueddu i feddwl eu bod ganddo yn ei
ddeall, ond nid yn ei galon. Dymunais
arno gyfeirio at yr ymadroddion an-
Ysgrythyrol a ddefnyddiaswn, fel y gallem
fyned yn y blaen megys brodyr, heb
eiddigeddu wrth ein gilydd ; eithr atebodd
nad oedd yn eu cofio. Hysbysais ef, yn
mhellach, yr awn yn mlaen heb ofni un-
rhyw frawd, gan mai oddiwrth yr Ar-
glwydd y derbyniaswn fy nghenadwri
a'm gweinidogaeth ; fy mod yn cychwyn
wrthyf fy hun, ac yr awn yn mlaen
wrthyf fy hun. Ond mai dolurus fyddai
myned yn mlaen fel yn awr, ac yr ym-
neillduwn i Loegr hyd nes y byddai yr
ystorm drosodd. Gofynais iddo, a oedd
yn tybio ei fod yn gweled inor ddwfn i
ddirgelwch Crist yn awr ag y gwnai yn
mhen deng mlynedd eto ? Ond gyda
golwg ar y duU o gyflwyno y gwirioneddau
ysprydol hyn y dylem fod yn dyner, a
chyd-ddwyn a'n gilydd, fel na byddom yn
peri i'r naill y llall ddweyd yr hyn a
ewyllysiwn ni. Ond yr oedd yn dra
ystyfnig ; er fy mod yn gobeithio y bendithia
yr Arglwydd rywbeth iddo. Nid oes ond
Duw a all rwystro ymraniad yn awr.
Cyfeiriais at falchder y bobl oedd gyda
hwy (yr ofFeiriaid) ; hefyd at eu hyspryd
beirniadol, nad ífrwyth yr Yspryd oedd
hwnw. Yna, wedi ymddiddan ag ef, mi a
ghidais fy maich, ac a'i teflais gerbron yr
Arglwydd ; yna, ysgrifenais fy nydd-lyfr
hyd ddeuddeg o'r gloch."
Y mae cofnodi yr anghydfod hwn
rhwng y ddau, ag y gelHr edrych arnynt
yn allanol fel dwy golofn y diwygiad, yn
orchwyl bHn. Rhaid cofio mai un tu i'r
ddalen yn unig a gawn yma, a phe y
byddai yn bosibl cael adroddiad Daniel
Rowland o'r helynt, y mae yn sicr y caem
hanes tra gwahanol. Gwelwn, hefyd,
ddarfod i Howell Harris ysgrifenu yr
adroddiad yn nghanol teimladau cyff-
rous, pan yr oedd digllonedd chwerw yn
berwi ei yspryd ; ac y buasai ef ei hun
yn mhen amser gwedi, ar ol i'r ystorm
basio, yn debyg o gymedroh llawer o'i
eiriau. Ond i fyned yn mlaena'r dydd-
lyfr : " Aethum i lawr i wrando Williams,
Pantycelyn, yn pregethu ; cawsom bregeth
ragorol iawn, ar undeb y credinwyr ; a
saethodd i fy meddwl mai yr Arglwydd a
roddasai y mater iddo. Gwelwn y fath
wrthwynebiad i'r undeb hwn, fel nas gallai
neb ond yr Arglwydd eu symud. Gwedi
hyny pregethodd y brawd Howell Davies
yn Saesneg, oddiar Joshua i. g. Yr oedd
yr ymadroddion yn gymhwys i mi ; yr
oeddwn yn eu credu mewn íîÿdd ; ond yr
hyn y teimlwn ei eisiau oedd cymhwysiad
uniongyrchol o honynt ataf. . . . Gwedi
hyn aethum i'r Gymdeithasfa, yr hon a
1746.]
HOWELL HARRIS.
325
ofnwn mor fawr, oblegyd y rhagfarnau
oeddynt wedi cripio i feddyliau y brodyr
yn erbyn eu gilydd. Yr oeddwn yn
llwythog ; a dangosodd yr Arglwydd rag-
farn y braw^d Rowland yn erbyn y brodyr.
Addefai nad oedd yn teimlo yn rhydd at
lawer ; ei fod yn dirmygu anwybodaeth y
brodyr. Pan ofynwyd syniad y frawdol-
iaeth am danaf fi, dywedodd rhai eu bod
yn ofnus am danaf, fy mod yn gwyro at
Antinomiaeth a Morafiaeth. Atebais nad
oeddwn wedi cyfnewid mewn unrhyw bwnc
o fíydd er pan y cawswn fy ngwreiddio
yn athrawiaeth etholedigaeth ; yn unig
ddarfod i mi arfer rhai ymadroddion
tywyll gyda golwg ar berff'eithrwydd, ryw
chwech mlynedd yn ol, ond hyd yn nod y
pryd hwnw na olygwn berffeithrwydd
dibechod, a phan y deallais fod y brawd
Wesley yn golygu hyny, i mi ddatgan yn
ei erbyn. Ymdrechodd y brawd Rowland
brofi fy mod yn gyfnewidiol, yn gwrth-
ddweyd fy hun, yn dra anwireddus, ac yn
Antinomiad. Dywedais fel y synwyd fi
pan yr hysbysodd fi gyntaf fod llawer yn
edrych arnaf fel un cyfnewidiol, hyd nes y
cofiais fy mod wedi gweddío yn daer am
i'r Arglwydd fy narostwng yn marn y
brodyr, rhag iddynt feddwl yn rhy uchel
am danaf, ac y saethodd i fy meddwl mai
dyma y ffordd oedd Duw yn gymeryd i
ateb fy ngweddi. Am fy ngweinidogaeth,
dywedais fy mod wedi ei derbyn gan yr
Arglwydd ; a'm bod yn sefyll neu yn
syrthio i fy Meistr fy hun. Gyda golwg
ar y brodyr, fy mod yn eu caru ac yn eu
hanrhydeddu yn yr Arglwydd, nas gallwn
oddef iddo (Rowland) eu dirmygu ; ond
am eu ffaeleddau, fy mod yn gobeithio y
byddai i"r Arglwydd a'u hanfonodd eu
symud, a'u cymhwyso hwythau i'w gwaith
fwy fwy. Dywedais wrtho fy mod yn caru
ac yn gwerthfawrogi ei weinidogaeth, a'm
bod yn ei anrhydeddu yntau yn y pwlpud ;
ond am dano allan o'r pwipud, fod yn
ddrwg genyf drosto ; ac os oedd yr hyn a
glywswn am dano yn wir,- fod yn anhawdd
genyf feddwl fod y fath swm o hunan a
balchder yn perthyn iddo. Oni bai fy
mod yn credu ddarfod iddo gael ei anfon
gan Dduw, nas gallwn aros gydag ef ; ond
yn awr y caffai wneyd yr hyn a fynai, a
dweyd yr hyn a fynai. Gan ei ìod yn
credu yn y Gair fel rheol, y buasai yn dda
genyf pe bai y cyfryw yn cael ei ddwyn
adref at ei gydwybod ; ac nad oedd yr
ymadroddion llymion, ffraeth, a chnawdoi
a ddefnyddiai yn dyfod oddiwrth yr Ys-
pryd. Cawsom ymddiddan am sancteidd-
had, a phan y cyfeiriasant at gyfaddasder
i ddyfod at Grist, sef argyhoeddiad, sefais
i fynu i wrthdystio, a dywedais fy mod yn
dyst yn erbyn ; fy mod i, a Ilawer eraill,
wedi cael ein tynu gan gariad ; ac nad oes
dim yn angenrheidiol er iachawdwriaeth,
ond cymhwysiad o gyfiawnder Crist.
Darfu iddo ef (Rowland) a Ilawer o rai
eraill ddatgan yn erbyn fy ngwaith yn
pregethu y gwaed, am (i) nas gallent
dderbyn yr athrawiaeth ; (2) am nas
gallasai Duw farw ; (3) am na ddylid
pregethu dirgelwch nas gellir ei esbonio.
Dywedais fy mod wedi derbyn hyn gan
Dduw, ac nid oddiwrth ddyn, ac y gwnawn
ei bregethu ; y gwnai Duw dori ffordd i mi
trwy ddiaflaid a dynion ; a phe y baent oll
yn sefyll yn erbyn, nad oeddwn yn edrych
arnynt yn fwy na gwybed. Nad oeddwn
yn gofidio am ddim ond oblegyd eu han-
wybodaeth hwy am y dirgelwch, yr hwn
yw fy mwyd i. Dangosais na ddarfu i
Dduw ddyoddef, ac nas gallasai ; ond i'r
Duw-ddyn ddyoddef ; nid y Dyn na'r Duw
ar wahan, ond y ddwy natur yn nghyd ; ac
na welais i eriosd mo hono yn Ddyn, ond
yn Dduw yn ogystal. Pe y buaswn wedi
ei weled yn y preseb, y gwnaethwn ei
addoli ; ac yr addolaswn ei gorph marw
cysegredig ar waelod y bedd, am fod y
corph mewn undeb a'r Duwdod, yn gystal
a'i enaid yn mharadwys. Am yr athraw-
iaeth hon, dywedais fy mod yn foddlon ei
selio â fy ngwaed; ac hyd nes y darfu i mi
ei chredu, nad oeddwn wedi fy rhyddhau
rhag ofn angau. Datgenais fy mod yn
caru y Morafiaid, am fy mod yn credu eu
bod yn perthyn i'r Arglwydd ; ond oddiar
fy adnabyddiaeth gyntaf o honynt, nad
oeddwn wedi cyduno a'r oll o'u daliadau,
a'm bod wedi pregethu yn erbyn eu
cyfeiliornadau yn Llundain ac yn Hwl-
ffordd, gan rybuddio y brodyr yn erbyn y
cyfryw gyfeiliornadau. Pan y dywedent
(yn y Gymdeithasfa) fy mod yn addoli
gwaed Crist, dywedais fy mod, fel rhan o
Grist, gan nad oedd un rhan o hono ar
wahan oddiwrth ei Dduwdod. Pan y
dy wedasant fy mod wedi cyfnewid yn fy null
o bregethu, fy mod ar y cyntaf yn taranu,
a chw^edi hyny yn cyhoeddi rhad ras, ac
yn ganlynol ffrwythau ffydd, atebais fod
yr oll trwy yr un Yspryd ; fy mod yn cael
fy arwain i daranu yn awr weithiau, ond
fod yn rhaid i mi bregethu fel ei rhoddir i
mi. Addefais nad oeddwn, oblegyd fy
nghnawdolrwydd a'm pechod, yn chwilio
326
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1746.
digon ar yr Ysgryth^^rau, ond y gwyddent
olì fel yr oeddwn wedi llafurio i osod i
fynu gateceisio, a darlleniad cyson o'r
Beibl. Pan y Ilefarodd y brawd Rowland
yn awdurdodol, datgenais fy mod yn
gwadu ei awdurdod, fy mod yn edrych ar
ei swydd fel dim ; fy mod yn barod i'w
dderbyn fel brawd, ond nid mewn un
modd arall. Gwedi darllen yr adrodd-
iadau, gweddíodd un brawd ; gweddíais
inau, a daeth yr Arglwydd i lawr. Cefais
ryddid i lefaru yn hyf wrth y brodyr— yr
oedd efe (Rowland) a'r offeiriaid wedi
myned allan — gan ddangos fod gan yr
Arglwydd lais tuag atom yn hyn ; cyffröais
hwy i fwy o ddiwydrwydd mewn darllen
yr Ysgrythyrau, a Ilyfrau da eraill ; am
fod yn ddifrifol yn y gwaith, a mynu
gweled eu bod yn gwneyd pob peth dros
Dduw. Gwedi i ni swpera, ac i'r offeiriaid
fyned i'w gwelyau, daeth yr Arglwydd i lawr
mewn modd rhyfedd ; teimlwn fy nghalon
yn fflam, a'm henaid yn Ilawn goleuni a
ffydd. Arosodd cwmni da ar y Ilawr trwy
y nos hyd bedwar o'r gloch y boreu, yn
canu, ac yn gorfoleddu ; yr oeddym yn
debyg i Dafydd o flaen yr arch, Cyng-
horais i fwy o wyliadwriaeth, gostyng-
eiddrwydd, ac ofn duwiol. Ond goddi-
weddwyd íì gan y gelyn, a syrthiais am
ryw gymaint o amser ; ond cyfodwyd fi
drachefn wrth fy mod yn gofyn yn syml
gan yr Arglwydd. Yna, trefnais fy
nheithiau."
Felly y terfyna hanes y Gymdeithasfa
ofidus hon. Boreu tranoeth, yr oedd
Rowland, Williams, Pantycelyn, a Howell
Davies yn ymadael am gartref; ond cyn
eu myned, mynodd Howell Harris gyfle i
ddweyd gair wrth Rowland. " Dywedais
wrtho," meddai, " am ofalu pregethu Ilai
allan o Iyfrau, a mwy allan o'i galon, yr
hyn a dderbyniai oddiwrth Dduw ; fy
mod yn gofidio wrth weled mor Ileied o
ffrwyth yr Yspryd yn ei ymddygiad ; a'm
bod yn falch gweled yr pffeiriaid yn unol,
er fy mod i yn ddafad ddu yn eu mysg."
Cofnoda yn mhellach fod Rowland yn
dyner wrth ymadael. Gwedi iddynt
gefnu, pregethodd gweinidog perthynol i'r
Bedyddwyr gyda Ilawer o hwyl ; dywedai
nad oedd neb i feddu awdurdod ar y
pregethwyr ond Crist, ac anogai y bobl i
beidio myned i wrando offeiriaid cnawdol.
Y tri offeiriad oedd wedi myned i ffwrdd a
olygai, yn ddiau. Y mae teimlad Howell
Harris ar derfyn y Gymdeithasfa yn an-
esboniadwy. " I'r Gymdeithasfa flaen-
orol," meddai, " mi a aethum yn llawn
hyfrydwch, a sirioldeb, ac ymadawais dan
feichiau trymion ; daethum i'r Gymdeith-
asfa hon yn llwythog ac yn flin, ac aethum
o honi yn llawn gorfoledd." Gorfoledd
yn wir, pan yr oedd Methodistiaeth wedi
cael dyrnod a barlysodd ei holl symudiadau
am amser, ac oddiwrth ba un y teimla hyd
y dydd hwn ! Ond rhaid i ni gofio mai
ysgrifenu hanes dynion anmherffaith yr
ydym.
Rhaid i ni adael hyd yn nes yn mlaen
unrhyw ymchwiliad i uniongrededd golyg-
iadau duwinyddol Howell Harris, ond y
mae yr hanes a rydd yn ei ddydd-Iyfr yn
awgrymu i'r meddwl amryw bethau.
(i) Y mae yn dra sicr ddarfod iddo gam-
gymeryd geiriau Daniel Rowland, a'rddau
offeiriad arall. Rhy brin y gallwn dybio
iddynt ddweyd wrtho eu bod yn dirmygu
ei weinidogaeth ; cawsai ei eiriau eu ben-
dithio er iachawdwriaeth i ddau o'r tri, a
naturiol meddwl eu bod yn synio ac yn
siarad yn barchus am ei bregethu. An-
hawdd meddwl, ychwaith, eu bod yn ei
gondemnio am alw Crist yn " Oen;" heb-
law fod y term yn Ysgrythyrol, ceir ef yn
britho pregethau Rowland, a hymnau
Williams, Pantycelyn, a chydnebydd
Harris ei hun fod y tri yn ymostwng i
awdurdod y Beibl. Rhydd efe yr hyn a
ddywedent fel yr ymddangosai iddo ef ar y
pryd, pan yr oedd ei dymher wedi ei chyff-
roi i'r pwynt eithaf, ac felly yn analluog i
ddirnad yn glir ystyr ymadroddion ei
wrthwynebwyr. (2) Hawdd gweled ei
fod yn y Gymdeithasfa yn cario pethau yn
mlaen gyda Ilaw uchel. Ni wnai ymres-
ymu a'r brodyr gyda golwg ar yr hyn a
bregethai, am y tybiai ddarfod iddo dder-
byn cynwys ei genadwri fel datguddiad
oddiwrth Dduw ; bygythiai, os gwrthwyn-
ebid ef, yru yn mlaen trwy ddynion a
diaflaid ; a dywedai nad oedd ei wrth-
wynebwyr ond fel gwybed yn ei olwg.
Hawdd gweled hefyd iddo ddefnyddio ym-
adroddion chwerw a brathog. Cyhudda
Rowland o fod yn meddu crefydd y pen,
ac nid crefydd y galon ; ac o fod yn
cael ei Iywodraethu gan falchder. Mor
bell ag y gallwn gasglu, nid oedd yr
offeiriaid agos mor chwerw eu hyspryd ;
ystyfnigrwydd yw y prif fai a rydd yn eu
herbyn. (3) Rhaid cydnabod fod teimlad
eiddigus wedi dyfod i mewn i fysg yr ar-
weinwyr. Diau nad oedd y tri offeiriad,
yn arbenig Daniel Rowland, yn rhydd
oddiwrtho. Gwelent Howell Harris, er
1746.]
HOWELL HARRIS.
327
heb ei ordeinio, ac heb feddu doniau
gweinidogaethol rhai o honynt, o herwydd
ei yni, a thanbeidrwydd ei zêl, yn fwy ei
ddylanwad na hwy ar y cymdeithasau, ac
wedi cael ei ddyrchafu i fod yn ben ar
Fethodistiaid Calfinaidd Lloegr. Gan
mai dynion anmherffaith oeddynt, a'u bod,
efallai, yn berchen uchelgais, naturiol idd-
ynt oedd teimlo yn eiddigus, a thalu sylw
gormodol i golliadau yr hwn oedd wedi ei
ddyrchafu mor uchel. O'r tu arall, nid
annhebyg fod ei ddyrchafiad wedi peri i
Harris ymchwyddo, ac i fyned i edrych i
lawr ar yr ofíeiriaid, y rhai a berchid gan
yr adran fwyaf Eglwysig o'r Methodistiaid
yn fwy nag efe, oblegyd eu hordeiniad.
Ofnwn fod yr hen gwestiwn, " Pwy fydd
fwyaf ? " wedi cael gormod o le yn myn-
wesau y naill a'r Ilall. (4) Ymddengys yn
bur amlwg fod Howell Harris yn y Gym-
deithasfa, os nad yn flaenorol i hyny, yn
gwneyd ymgais effeithiol i ffurfio y cyng-
horwyr yn blaid yn erbyn yr ofíeiriaid.
Cawn efe a hw"ythau yn aros ar ol mewn
ymgynghoriad gwedi i'r tri ofíeiriad fyned
allan. Buont i lawr hefyd hyd wawr y
boreu yn canu, ac yn gweddío, ac yn ym-
ddiddan, pan yr oedd y tri arall wedi
myned i orphwys i'w gwelyau. Yn flaen-
orol, yr ydym yn cael Harris yn pwysleisio
ar anwybodaeth y cynghorwyr ; yn awr,
y mae yn eu dyrchafu fel rhai wedi eu
hanfon gan Dduw. Amcan amlwg yr oll
yw eu cylymu wrtho ei hun. Hawdd iddo
oedd dylanwadu ar y cynghorwyr. Efe
oedd tad ysprydol Ilawer o honynt. Yn
ychwanegol, yr oedd efe a hwythau mewn
ystyr ar yr un tir, sef heb urddau, ac fellÿ
nid anhawdd eu cael i gyduno mewn eidd-
igedd at y rhai oeddynt wedi derbyn or-
deiniad esgobol. (5) Ofnwn mai ei gred
ei fod wedi llwyddo i ff"urfio plaid gref,
trwy gymhorth pa un y gallai ysgwyd
ymaith Daniel Rowland, a'r ddau ofíeiriad
arall, oedd gwreiddyn y teimlad Ilawen a
lanwai ei fynwes ar derfyn y Gymdeith-
asfa. Ni ddychymygodd y gallai yr offeir-
iaid ei drechu. Gwelai ei hun yn y dy-
fodol agos yn ben ar Fethodistiaid Cymru,
fel yr oedd yn barod ar Fethodistiaid
Calfinaidd Lloegr, ac felly heb neb i'w
wrthwynebu. Nid ydym am dybio mai
balchder calon oedd wrth wraidd yr
awyddfryd hwn ; yr ydym yn credu gwell
pethau am dano ; diau y perswadiai ei
hun y gallai, yn ei sefyllfa newydd a
dyrchafedig, wasanaethu yr Arglwydd
lesu a'r efengyl yn fwy effeithiol. Pe y
gwelsai y trychineb a achosid gan yr ang-
hydfod rhyngddo ef a'i frodyr, diau y
buasai ei galon yn chwerw ynddo, a'i
obenydd yn foddfa o ddagrau.
• Dranoeth i'rGymdeithasfa,cawn deimlad
arall yn ei feddianu ; teimlad o alar am
fod y brodyr wedi gwrthod y genadwri
parthed dirgelwch Crist, a gogoniant ei
waed ; a'u bod yn ei ddirmygu yntau
oblegyd ei symlrwydd a'i anwybodaeth.
Ddechreu yr wythnos ganlynol cychwyh-
odd ar daith i Sir Fynwy, a diau fod
sefydlu ei awdurdod ei hun dros y seiadau
yn un o'i amcanion. Cawn ef, i gychwyn,
yn Fairmeadow, rhwng Talgarth a Chrug-
hywel ; ei destun oedd : " Gwir yw y
gair ; " ac ymosodai yn enbyd ar falchder.
Y noswaith hono yr oedd yn Cilonwy, a
dywed iddo gael yma yr hen nerth a
nodweddai ei bregethu ar y cyntaf, wrth
lefaru oddiar : " Rhoddwyd i mi bob
awdurdod yn y nef ac ar y ddaear."
Dydd Mercher, aeth i le yn mhlwyf
Grismond, Ile y gwelodd lawer o ddrwg-
deimlad ar ran yr YmneiUduwyr. Dywed
iddo gael cenadwri ar y ffbrdd oddiwrth
yr Arglwydd nad oedd i fyned i Sir Aber-
teifi, ond y cai awdurdod a nerth wrth
bregethu y gwaed, a dirgelwch Crist, yr
hon genadwri ni dderbyniai ei wrthwyn-
ebwyr. Pasiodd yn ei flaen trwy y Fenni,
Ile y cafodd odfa dda, ac y deallodd fod y
newydd wedi rhedeg fel tân gwyllt trwy y
wlad fod Rowland yn erbyn y cynghorwyr ;
ac ymwelodd a'r Goetre, Llanfihangel, Ton-
sawndwr, a New Inn, Ile yr anerchodd y
cynghorwyr gyda nerth. Dychwelodd yn ei
ol i Drefecca erbyn y Sul. Er ei holl wrol-
deb, ceir arwyddion ei fod yn teimlo cryn
unigrwydd ar ol colli cyfeillgarwch y
brodyr ; a chawn ef yn troi at Grist, gan
ddweyd : " Ti yw fy mrawd ! Fy mrawd
oeddyt gerbron Pilat ; fy mrawd oeddyt ar
y groes ; a'm brawd ydwyt yn awr yn y
nefoedd ; ac ynot ti yr wyf yn ogoneddus
ac yn orchfygwr." Dywed ddarfod i'r
Arglwydd ei arddel yn rhyfedd yn y daith
hon, gan ei anrhydeddu i'r un graddau ag
yr oedd y brawd Rowland yn ei ddirmygu.
" Y mae y cymeriadau gwaethaf," meddai,
" yn dwyn tystiolaeth i mi fy mod yn
ddyn gonest."
Ddechreu yr wythnos ganlynol cych-
wyna am daith faith trwy Siroedd Caer-
fyrddin, Trefaldwyn, a Maesyfed. Aeth i
Drecastell-yn-LIywel y noson gyntaf, lle y
cafodd nerth i ddangos anfeidrol rinwedd
gwaed Crist ; ac yn y seiat breifat a
328
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1746.
ddilynai dangosodd glauarineb, rhagfarn,
a doethineb pen yr Ymneillduwyr, gan
ddweyd ei fod yn eu caru, ond y dymunai
eu gweled yn gwasgu yn nes at Dduw. Y
mae yn nesaf yn Llanddeusant, ac yn cael
odfa rymus. Gofynai iddo ei hun a wnai
barhau i dalu dwy bunt yn y flwyddyn
tuag at gael y brawd Rowland i bregethu
yn y sir hono yn íìsol ? Tebyg fod
Daniel Rowland yn dyfod yn fisol yn awr
i Abergorlech, a bod Harris yn ei gyn-
orthwyo i dalu y person a gymerai ei le yn
Llangeitho. A ganlyn yw profiad Howell
Harris yn Llanddeusant : " Cefais barod-
rwydd neithiwr i ddyoddef pob peth, o
bob cyfeiriad ; oddiwrth y rhai cnawdol
a'r rhai ysprydol, ac hyd yn nod oddiwrth
y brawd Rowland, yr hwn sydd wedi cael
caniatad i fy nirmygu, a'm gwarthruddo,
ac i sathru arnaf, gan fy nghyhuddo o
gyfeiHorni, ac o Antinomiaeth. Y boreu
hwn breuddwydiais fod fy nghalon wedi
ymddrylHo o gariad (at Rowland) ; ei fod
yntau hefyd felly, ac i ni syrthio ar yddfau
ein gilydd." Ỳmddengys i'w freuddwyd
effeithio yn ddwys ar ei feddwl, am y
credai mewn breuddwydion fel cenad-
wriaethau oddiwrth Dduw. Yr oedd
Daniel Rowland yn pregethu yn Aber-
gorlech ; tebygol fod Cymdeithasfa Fisol
yno ; ac wedi cryn betrusder, ac ymladd
ag ystyfnigrwydd ei yspryd, penderfynodd
Harris fyned i'w wrando. Testun Row-
land oedd, Dat. ii. 17 : " I'r hwn sydd yn
gorchfygu y rhoddaf iddo fwyta o'r manna
cuddiedig," &c. " Agorodd yn ardderch-
og," meddai Harris, " trwy ddangos fod
pob gras yn ras gweithgar ; dadlenodd
gyfeihornad yr Antinomiaid, y rhai a
briodolant haeddiant i ras, ac a ddywedant
eu bod yn caru Crist, tra yn byw mewn
pechod." Wrth wrando, y mae Harris yn
toddi ; cyfid cri yn ei enaid ar iddynt aílu
caru eu gilydd, a deall eu gilydd yn well ;
a gofynai i Dduw : " Pa hyd y goddefir i mi
ddwyn ffrwythau balchder, cyndynrwydd,
a chnawd ? Yr wyf yn clywed yr un iaith
gan dy holl fifyddlon genhadau, tra y
maent yn gwrthwynebu eu gilydd, a'r
naill yn credu am y llall ei fod yn elyn i'r
gwirionedd." Dymunai ar i'r ystorm
chwythu trosodd. " Yr oedd goleuni ac
efengyl yn mhregeth y brawd Rowland,"
meddai ; " dangosai fod y rhyfel Cristion-
ogol yn rhyfel sanctaidd ; mai y Sanctaidd
yw y Cadben ; fod y tir ar ba un yr
ymleddir, sef yr eglwys, yn sanctaidd ; a'i
fod i gael ei ddwyn yn mlaen trwy foddion
sanctaidd. Pwy all osod allan mewn
ysgrifen y bywyd a'r nerth oedd yma ? "
Sicr yw ei bod yn odfa rymus, a chafodd
Harris ei orchfygu. Aeth y ddau yn
nghyd i Talyllychau. " Ar y ffordd,
cyflawnwyd fy mreuddwyd," meddai
Harris ; " agorais iddo fy hoU enaid ;
llawer o waith y gelyn a olchwyd ymaith,
a daethom yn nes at ein gilydd. Dywedais
wrtho fel yr oeddwn yn cyduno a'i bregeth
heddyw. Dywedodd yntau ei fod yn
anrhydeddu fy ngweinidogaeth, ac y rhaid
i bawb gydnabod ddarfod i'r Arglwydd fy
anfon, a'm harddel. Dywedais wrtho fy
maich ; fy mod yn teimlo nad oedd yn
anrhydeddu y Morafiaid yn ddigonol, ac
felly ei fod yn pechu yn erbyn yr Arglwydd.
Dywedodd yn ol nad oedd yn teimlo yn
gas atynt, ac y caent bregethu yn ei
eglwys, ond iddynt beidio cyhoeddi eu
hopyniynau neillduol. Dywedais inau, os
deuent i Gymru, y gwrthwynebwn eu
cyfeihornadau ; ond y gwnawn hyny yn
nghariad Duw, am y tybiwn y gwyddant
fwy am yr Arglwydd na myfi. Achwynai
fy mod yn gwasgu yn rhy glos at y brawd
Beaumont ; addefais inau hyny, ond fy
mod yn gwneyd er ei gymedroh, ac fel na
byddai iddo gael ei droi allan oddiwrthym."
Dyma y ddau Ddiwygiwr wedi ymhedd-
ychu i raddau mawr.
Pregethodd Howell Harris yn Nhaly-
llychau ; ond pregethodd Rowland gyda
nerth ac angerddoldeb neillduol, ar Dat.
xii. 9. Teimlai Harris fod yr Arglwydd
yn llawer amlycach yn ngweinidogaeth
Rowland nag yn ei eiddo ef. " Hynod y
goleuni a'r nerth sydd ganddo," meddai ;
" trwy yr holl amser yr oedd yn llefaru,
teimlwn undeb enaid ag ef, a'm bod yn
nglyn wrtho. Wedin, aethum gydag ef i
Gwmygwlaw. Yr wyf yn gobeithio fod
yr ystorm hon trosodd. Ar y fíbrdd, yr
oeddym yn gorfoleddu, yn neidio, ac yn
canu, ac yr oeddym yn debyg i bersonau
gwedi meddwi." Yr oedd y fath orfoledd
yn Uenwi eu mynwesau, o herwydd cael
eu dwyn yn nghyd, fel nas gwyddent beth
i wneyd â hwy eu hunain. Braidd nad
ydynt yn ymddangos yn debyg i blant, yn
eu cwerylon, ac yn eu cymod drachefn.
Dywedai Harris wrth Rowland iddo bre-
gethu yn Llundain yn erbyn y Morafiaid,
ac yn Nghymru yn erbyn yr Antinomiaid,
a hyny bron yn yr un geiriau ag y pre-
gethai Rowland y dydd cynt. Meddai
Harris, yn mhellach : " Cyfaddefai nad
dim a glywodd genyf fi oedd wedi peri
1746.
HOWELL HARRIS.
329
iddo ymddigio, ond fy ngwaitli yn glynu
wrth y brawd Beaumont, a thrwy hyny
gyfiawnhau yr hyn nad yw yn iawn. Yr
wyf yn gobeithio ddarfod ein huno eto yn
y gwirionedd. Dywedais wrth Rowland
ei fod wedi pechu yn erbyn fy ngweinidog-
aeth. Gwadodd hyn, a maentymiai ei fod
yn edrych arnaf fel cenad Duw, ond addefai
ei fod yn edrych i lawr ar y cynghorwyr.
Arglwydd, dinystria y teimlad hwn ynddo.
Creda hyd yn nod yn awr fy mod yn rhy
dyner at y Morafiaid ; ond am heddwch
yr wyf fi, a chariad, a thawelwch yn nhỳ
yr Arglwydd."
Aeth y ddau i Lwynyberllan. Pre-
gethodd Howell Harris ar ogoniant yr
eglwys ; yna llefarodd Daniel Rowland
oddiar Mat. ix. 49, a chafodd odfa nerthol
tu hwnt. Yma ymadawent ; aeth Harris i
Bronydd, lle yr oedd nerth a dylanwad yn
cydfyned a'r genadwri ; oddiyno i Merthyr,
Erwd, Llanfair-muallt, a Llangamarch.
Yr oedd goleuni a nerth anarferol yn cyd-
fyned a'i eiriau yn y lle diweddaf. Boreu
y Sul dilynol yr oedd yn Dolyfehn ; oddiyno
aeth yn ei flaen i Rhaiadr, lle yr oedd mewn
cadwyn wrth geisio llefaru, a chyrhaedd-
odd Tyddyn y noswaith hono. Yr oedd
cynulleidfa anferth wedi dod yn nghyd
yma, a chafodd yntau odfa dda. Gwedi y
bregeth buwyd mewn seiat breifat hyd
ddeuddeg o'r gloch. Am waed Crist, ei
Dduwdod, ei ogoniant, a'i ddirgelwch, y
llefarai Harris yn y seiat ; dywedai mai
dyma y sail, a bod Duw a ninau yn un yn
y fan yma. Dywedai, yn mhellach, fod
pump peth yn cael eu priodoh yn yr
Ysgrythyr i w^aed Crist : (i) Anfeidrol
rinwedd, (2) Gallu i ddofi anfeidrol hd,
(3) Ei fod wedi diddymu angau i'r cred-
adyn, (4) Wedi diffodd y tân tragywyddol
iddo, (5) Ac wedi dwyn i mewn fendithion
annherfynol. " Nid oes un Duw ond
Crist," meddai ; " ac os wyt wedi dy uno
â Christ, yr wyt wedi dy uno a'r oU sydd
Dduw." Er hwyred ydoedd pan y gorph-
enwyd y seiat, nid aeth Howell Harris
i'w wely, eithr arosodd i lawr trwy gydol
y nos, yn anerch ac yn rhybuddio y cyng-
horwyr. Tranoeth, cynhehd Cymdeith-
asfa Fisol yma. Nid yw yn ymddangos
fod yr un o'r offeiriaid yn bresenoi, ond
daeth lliaws o'r cynghorwyr yn nghyd ;
dechreuent hwy edrych ar Harris fel eu
cadben. Athrawiaethodd yntau ar y
dirgelwch, gan ddangos fel yr oedd ei
enaid mewn undeb ag enaid Crist, a'i
gorph â chorph Crist am dragywyddoldeb,
Eglurodd yn nesaf y modd yr oedd rhan-
iadau yn dyfod i'w mysg, sef trwy fod rhai
yn rhoddi arbenigrwydd ar un gwirionedd,
megys cyfiawnhad, gan alw y rhai sydd
yn pwysleisio ar sancteiddhad yn rhai
deddfol ; tra yr oedd eraill yn rhoddi
arbenigrwydd ar sancteiddhad, ac yn galw
y rhai a bwysleisient ar gyfiawnhad yn
Antinomiaid. Ymdriniwyd yno ag athraw-
iaeth y Drindod, ac am undod y Duwdod.
Cronicla ei fod mor lluddedig gan feithder
ei daith, a'r nifer o weithiau yr oedd wedi
pregethu, fel nas gallasai fwyta. Ym-
adawodd o gwmpas pedwar dydd Lhm, a
chafodd gerydd am rywbeth gan ryw
gyfaill anwyl, yr hyn oedd yn dra dolurus
i gnawd, ac hyd yn nod i ras.
St. Harmon, ar derfyn Sir Faesyfed,
yw y lle y mae yn ymweled ag ef yn nesaf ;
gwedi hyny y mae yn nhŷ un Hugh
Edwards. Yma cafodd ei gymeryd i fynu
yn anarferol gan ogoniant corph yr Ar-
glwydd lesu, a rhed yr ymadrodd, " Bwyta
ei gorph, ac yfed ei waed," yn barhaus
trwy ei feddwl. Gwedi hyny cawn ef
yn cyfeirio ei gamrau tua thŷ William
Evans, Nantmel. Ar y ffordd, fel yr
oedd dylanwad personol Daniel Rowland
yn gwanhau ar ei deimlad, ymddengys fod
yr hen gweryl yn cael Ile mwy yn ei
feddwl. " Gwelais yn glir," meddai, " fel
yr oedd Duw wedi fy nghadw yn y canol
rhwng pob cyfeiliornadau, ac fel y darfu
i'r brawd Rowlaud, trwy fy ngwrthwynebu,
leddfu fy ngwroldeb, a gwanhau fy
mreichiau. Gwelais fod gogoniant Duw
wedi ciho allan o'i galon, a hunan wedi
cripio i fewn. Gwelais y cyfodai Duw fi i
fynu, ac y safai o'm plaid." Y mae yn
syn darllen fod y fath deimladau an-
nheilwng yn cael Ile yn ei feddwl am ei
gyfaill, yr un y dawnsiai mewn gorfoledd
ychydig ddyddiau cyn hyny, oblegyd cael
heddwch ag ef. Nid yw yr ymdoriad hwn
yn un clod i ben na chalon Howell Harris.
Ond nid croniclo hanes dynion perffaith
yr ydym. Yr oedd yn bur ddolurus ei
galon wrth fyned i dŷ William Evans ;
ymddengys fod yr hen gynghorwr o
Nantmel yn un o bleidwyr Daniel Row-
land yn Nhrefecca. Ond cafodd undeb
yspryd a'r brawd, ac ymadawsant wedi
deall eu gilydd yn well. Yn nesaf, aeth i
dŷ y brawd Buffton, Ue y pregethodd ar
waed Crist, gan, ar yr un pryd, anog y
brodyr i gyd-ddwyn a'u gilydd. Yr oedd
James Beaumont wedi pregethu yn flaen-
orol ar ddirgelwch Duw, Eisteddasant
33°
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1746.
yn nghyd yn breifat hyd yr hwyr, gan
agor eu calonau i'w gilydd, a symud
rhagfarnau. Yr oedd Beaumont yn myned
gryn lawer yn mhellach na Harris yn ei
ymadroddion ; ac amddiffyn Beaumont
oedd un o'r cyhuddiadau a roddid yn erbyn
Harris. Bu y Diwygiwr yma ar ei oreu
yn ceisio cymedroH rhai o syniadau
Beaumont, yn arbenig ei esboniad ar yr
ymadrodd, " Bwyta corph ac yfed gwaed "
ein Harglwydd. Dywedai wrtho, hyd yn
nod os oedd y gwirionedd ganddo, nad
oedd yr amser i'w gyhoeddi wedi dyfod
eto. Yna, aeth trwy Dolyberthog, Llan-
santffraid, Ty'ncwm, a Dolywilod, a
dychwelodd i Drefecca, ar ol taith o yn
agos i dair wythnos. Y mae un nodiad
am ei helynt yn Llansantffraid yn haeddu
ei gofnodi. " Cefais lawer o ryddid,"
meddai, " i siarad ag offeiriad y plwyf,
Mr. Williams. Ceisiais hefyd ei dyneru
at y brawd Beaumont, yr hwn oedd wedi
ei dramgwyddo, fel y mae wedi tram-
gwyddo Uawer o rai eraill." Profa y
difyniad fod athrawiaeth Beaumont yn
dyfod yn gyffredinol anghymeradwy, a da
fuasai i Harris beidio gwneyd cymaint
cyfaill o hono.
Tranoeth i'w ddychwehad, cynhehd
Cymdeithasfa Fisol yn Nhrefecca ; nid
oedd un o'r offeiriaid ynddi, a Howell
Harris a lywyddai. Llefarodd yn helaeth
am waed Crist, a rhoddodd gyfarwydd-
iadau i'r cynghorwyr pa fodd i ymddwyn,
gan ei fod ef ar fyned i Lundain. Bu
priodas y cynghorwr Thomas Jones hefyd
dan sylw, a'r hyn y cytunwyd. Derbyn-
iodd Howell Harris Grynwr i'w d\', yn
Nhrefecca, i letya, fel y gallai fwynhau
breintiau y lle. Ai nid dyma flaenffrwyth
" teulu " Trefecca ? Dywed iddo hefyd
gael ei gyfarwyddo gan yr Arglwydd i
anfon ei geffyl i'r cynghorwr Thomas
James. Tua chanol Awst, y mae yn
cychwyn am Lundain, ac ar ei ffordd yno
yn tramwyo rhanau helaeth o Siroedd
Morganwg a Mynwy, gan bresenoh ei hun
yn y Gymdeithasfa Fisol yn y Groeswen.
Nid oedd yr un o'r offeiriaid yno ; felly,
efe a lywyddai. Nid yw yn ymddangos ei
bod yn Gymdeithasfa hollol hapus. Yr
oedd cryn wrthwynebiad yn Watford a'r
Groeswen i ardduU ei weinidogaeth ; yn
wir, oddiyma y cychwynasai y gwrth-
wynebiad. " Aethum i fysg y brodyr, sef
y pregethwyr," meddai ; " dywedais wrth-
ynt nad oeddwn yn eu clywed yn cwyno
digon am eu hanwybodaeth o Dduw a
Christ, a'u tuedd at Antinomiaeth ; a'm
bod yn ofni am danynt nad oeddynt yn
argyhoeddedig o'u hanwybodaeth, neu
ynte, eu bod yn rhy hunanol i'w addef.
Cyfaddefent ychydig o hyn, ond yr oedd-
ynt yn dramgwyddedig am nad oeddwn
yn gwahaniaethu yn ddigon chr (yn fy
ngweinidogaeth). Yna, agorais iddynt y
geiriau, ' Bwyta cnawd Mab y Dyn,' fel y
gwnaethum yn Aberthyn. Ceisiais hefyd
symud ymaith eu maen tramgwydd.
Ceryddais eu balchder, ond ni dderbyniwyd
ef. Agorais fy nghalon iddynt, fel yr egyr
tad ei galon i'w blant, fy mod yn credu yn
y Drindod, ond fod fy ffydd yn rhy wan i
ymborthi ar yr athrawiaeth, nac i'w phre-
gethu ; ond fy mod yn cael fy ngalw i
bregethu undeb person Crist, ac mai dyma
fy ymborth. Perswadiais hwy nad oeddwn
am ymuno a'r Morafiaid. Yna, aethum
ymaith tua Watford a'm calon yn drom."
Ar y ffordd yno, teimlai bwysigrwydd y
lle a lanwai ; ei fod wedi cael ei osod yn
mysg y tadau yn nhy Dduw, ochr yn ochr
a'r offeiriaid ordeiniedig.
GeUid meddwl fod y Gymdeithasfa yn
cael ei chynal yn rhanol yn Watford, yn
gystal a'r Groeswen. A boreu tranoeth,
cyfarfyddodd Harris a'r cynghorwyr dra-
chefn yn Watford, gan eu hanerch gyda
golwg ar ei berthynas ef â hwy. " Dang-
osais i'r brodyr ieuainc eu lle," meddai,
" a'm he inau ; a'r modd yr oeddwn yn
teimlo fod yr Yspryd Glàn wedi fy ngosod
fel tad dros y cynghorwyr ; mai fy nghyn-
orthyy^ywyr i ydynt ; ond nad oeddynt yn
caniatau i.mi awdurdod tad i'w ceryddu ;
ond fy mod yn cael fy nghateceisio gan-
ddynt, a'm dwylaw yn cael eu gwanhau,
a'm gweinidogaeth ei rhwystro, ac yr
ymddangosent i mi fel wedi ymgolU mewn
balchder. Dywedais fy mod yn argy-
hoeddedig ddarfod i mi fyned yn rhy bell
wrth geisio eu boddloni, ac eglurofy hun,
a darostwng fy hun iddynt. Ceryddais
hwynt am eu balchder, a'u diffyg gofal am
ogoniant Duw. Toddodd un o honynt wrth
fy mod yn gweddío ; dywedodd un arall fy
mod yn dwyn cyfeihornadau i'r eglwys.
Gofynais gan Dduw faddeu iddo, ac aeth-
um i ffwrdd." Na, nid oedd yn Gym-
deithasfa hapus. Ceir awgrymiadau fod
Howell Harris yn trin y cynghorwyr gyda
llaw uchel, a'i fod yn dysgwyl ymostyngiad
personol a gwarogaeth iddo ef oddiwrth-
ynt ; a'i fod yn ystyried ei hunan yn ben
arnynt, rhagor Daniel Rowland, a'r ddau
offeiriad arall.
1746.]
HOWELL LL4RRIS.
331
Bu yn Llundain am ddau fis. A'i
helynt yno nid oes a fynom, gan nad yw
yn dal cysylltiad uniongyrchol â INlethod-
istiaeth Cymru. Daeth yn ei ol tua
diwedd mis ]\íedi. Dranoeth i'w ddych-
weliad pregethai yn Nhrefecca, ac achwyna
ddarfod i"w frawd — ni ddywed pa un ai
Joseph ai Thomas — wrthod dyfod i'w
wrando, er ei fod yn aros gydag ef ar y
pryd. Yn mhen ychydig ddyddiau yr oedd
Cymdeithasfa Chwarterol i gael ei chynal
yn Castellnedd, ac aeth Harris tuag yno.
Yn y Glyn, ar ei fîordd tua'r Gymdeith-
asfa, clywodd ei fod, mewn ystyr, wedi
cael ei fwrw i ffwrdd gan y brodyr, a'i fod
yn cael ei bortreadu mewn lliwiau duon.
Gwnaeth hyn ei yspryd yn chwerw ynddo.
Yn Gelly-dorch-leithe, clywodd bregeth
ryfedd gan Alorgan John Lewis, ar íab yr
addewid, y ryfeddaf a glywsai yn ei oes.
Diolchai Harris am fod y fath oleuni yn
eu mysg, ac nas gallai lai na'i anrhydeddu.
Eithr yr oedd gweled fod y brodyr wedi
cydymuno yn ei erbyn ef (Harris) yn
pwyso yn drwm ar ei feddwl ; a gofynai
i'r Arglwydd ai cerydd arno am ryw
bechod ydoedd hyn, ynte, ai anrhydedd a
osodid arno, ac y tröai eto i fod yn berl
yn ei goron ?
Cyfarfyddodd y Gymdeithasfa o gwm-
pas saith nos Fercher, a bu yn gyfarfod
tra chyffröus. Caiff Howell Harris adrodd
ei hanes. " Dywedais wrth y brodyr,"
meddai, " eu bod yn anwyl genyf fi, y
gallwn olchi eu traed ; a'm bod yn fodd-
lawn bod heb ddoniau, na llwyddiant, na
gallu, er mwyn iddynt hwy gael y cwbl.
Ỳma yr oeddwn yn ddrylliog, a thorais
allan i wylo. Cyn hyn, yr oeddwn yn fy
yspryd fy hun, am fy mod wedi cael fy
nhemtio. Yr oeddwn wedi clywed iddynt
gynal Cymdeithasfa, • ryw bythefnos yn
ílaenorol, ac yn hono icldynt drefnu fod y
brawd Rowland i gymeryd fy Ile, gan
roddi hawl iddo i benderfynu pwy oedd i
gael ei ddanfon i bregethu, ac i ba le. Am
danaf fi, trefnent fy mod i fyned i Sir
Gaerfyrddin, ac na chawn fyned i For-
ganwg, am nad oedd derbyniad i mi yno,
ac y tybiai y cymdeithasau fy mod yn
pregethu cyfeiliornadau. Yna, mi a eglur-
ais fy syniadau am berson Crist, gan
ddangos nad oeddwn yn gwahaniaethu
oddiwrthynt hwy, ond fod y gelyn wedi
dyfod i'n mysg. Agorais yr holl fater am
fy mhenodiad ar y cyntaf, y modd yr
oeddynt hwy, mewn undeb â Mr. White-
field, wedi fy newis, ond yn awr fy mod
yn cael fy nhroi allan, ac nas gwn am
beth, ond yn sicr fod rhyw bechod yn cael
ei ffeindio ynof. Eglurais fy mod yn cael
fy ngalw yn ddyn deddfol yn Lloegr, am
fy mod yn pregethu yn erbyn yr Anti-
nomiaid, a"r Morafiaid, a darfod i mi
droi Mr. Cudworth allan ; tra yn Nghymru,
y gelwir fi yn Antinomiad, ac yn P'orafiad.
Pan y dywedent hwy fy mod gynt, os
codai rhyw anghydwelediad rhyngof a'r
brawd Rowland, yn crio, yn syrthio ar ei
wddf, ac yn derbyn ei air, ond yn awr fy mod
yn fwy anystwyth, dywedais nad oeddwn
yn gwybod i mi ei geryddu am ddim, oddi-
gerth ysgafnder, a'm bod yn gwybod mai
myfi oedd y gwaethaf o honynt oll, ond fy
mod yn cael fy nyrchafu trwy edifeirwch ;
ac nad oeddwn yn gwybod fy mod yn
ystyfnig gyda golwg ar ddim, oddigerth eu
bod am geisio fy yspeilio o'r gwirionedd
yma, sef fod y Dyn hwn yn Dduw. Os
oeddynt am geisio hyny, y caent fi yn
ystyfnig, ond fy mod yn gobeithio nad
oeddynt. Efallai ddarfod i mi yn flaenorol
fyned yn rhy bell mewn darostwng fy hun
(i Rowiand) ; os do, ei"bechod ef a chwithau
yw eich bod yn duo fy nghymeriad, yn
gwanhau fy nwylaw, ac yn pechu yn erbyn
fy ngweinidogaeth, gan fy ngalw yn Anti-
nomiad. Dangosais fel yr oeddwn i yn
cyduno à phob gair a bregethent hwy, ond
eu bod hwy, heb gael un achos o'r cych-
wyn, yn troi yn fy erbyn i. Am fy Ile,
nas gallaf ei roddi i fynu ; fod yr Ar-
glwydd wedi gosod o fy mlaen ddrws
agored, yr hwn nis dichon neb ei gau ; na
feiddiwn ei roddi i fynu, am mai Duw a'm
gosododd ynddo ; a chan mai yr Arglwydd
a'm gosododd ynddo, bydded iddynt hwy
edrych ati am geisio fy nhroi ymaith. Yr
w^yf yn gweled yn awr i Satan gael
caniatad i ddallu Ilygaid, ac i frashau
calon y brodyr, gan osod y naill yn erbyn
y llall. O'r fath ystorm ydyw ! Agorais
drachefn am ddirgelwch Crist, a'i ddy-
oddefiadau ; nad ydym yn gwybod pa
iodd i lefaru am danynt. Pan y cyhuddent
fi o addoli y gwaed, dywedais nad oeddwn
yn gwahanu gwaed Crist oddiwrth ei
berson, ond yn edrych arno fel rhan o
hono ; nas gallaf weled un rhan o hono
heb weled yr oU o hono, a bod perffeithiau
y naill natur yn aml yn cael eu priodoli i'r
llall. Ddarfod i Dduw farw am i'r Dyn
oedd yn Dduw farw. Yna, datgenais yn
erbyn John Belsher, ei fod yn ymddangos
i mi yn ymchwyddo, ac nas gallwn gyd-
weithio ag ef. Enwais leoedd yn mha rai
332
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1746.
y cyhuddent fi o Antinomiaeth ; cyfeiriais
at y modd yr oeddynt wedi cadw Cym-
deithasfaoedd yn fy absenoldeb, a'r modd
y meddyUwn eu bod wedi pechu yn fy
erbyn, er mai fi oedd tad y nifer fwyaf
o honynt.
" O gwmpas deg aeth y brodyr i swpera,
minau a aethum i ysgrifenu fy nydd-lyfr,
pawb yn llawn o honom ein hunain, ac heb
ond ychydig o'r Arglwydd yn ein mysg.
Yr oedd ganddynt hwy gynygiad i'w osod
gerbron y frawdoliaeth parthed gosod y
brawd Rowland yn fy lle, i dderbyn ac i
fwrw allan y cynghorwyr, ac i drefnu i bob
un ei gylchdaith. Datgenais fy mod yn
rhydd i roddi fy lle i fynu fel arolygwr
cyífredinol, ond nas gallwn osod fy hun
dan ei awdurdod ef (Rowland), i gael fy
anfon yma a thraw, fel y gwelai efe yn
dda. Yr oeddwn wedi derbyn hawl oddi-
wrth yr Arglwydd i fyned i'r lleoedd a
dybiwn yn briodol, ac nas gallwn roddi
hyn i fynu heb bechu yn erbyn Duw.
MeddyHwn na ddeuai pethau i'w lle hyd
nes yr ymddarostyngent gerbron yr Ar-
glwydd am eu pechod yn fy erbyn, ac yn
erbyn fy ngweinidogaeth.
" Castellnedd, dydd lau. Y Gym-
deithasfa yn parhau. Neithiwr, cefais
ryddid i fyned at yr Arglwydd, ac i bledio
ar ran y brodyr, gan lefain : ' O Arglwydd,
ti a wyddost ddarfod i ti fy narostwng
gerbron y brawd Rowland, gan wneyd i
mi lafurio am heddwch ac undeb ; ti a
wyddost hefyd eu bod wedi pechu yn
erbyn fy ngweinidogaeth, gan wanhau fy
nwyla.w. Bydded i ti faddeu iddynt.' Yn
y Gymdeithasfa, cyhuddid fi o ohebu a'r
Morafiaid ; dywedais nad oedd un oheb-
iaeth rhyngom, ond fy mod yn awyddus
am hyny, gan yr anrhydeddwn hwynt yn
fawr, oblegyd eu bod yn adnabod lesu
Grist. Mr. Powell (yr offeiriad) a ger-
yddodd y cynghorwyr a'm gwrthwynebent ;
brawd arall a siaradodd i'r byw, fod eu
geiriau yn fy erbyn i yn ei wanu ef ; ac un
arall drachefn a ddywedodd mai myfi oedd
tad ysprydol y nifer amlaf o honynt, os
nad eu tad oll. . . . Dywedais, drachefn,
fy mod yn barod i roddi fy lle i fynu i'r
brawd Rowland, ond nas gallwn, heb
bechu yn erbyn yr Arglwydd, roddi iddo
awdurdod ar fy ngweinidogaeth, i'm trefnu
i ba leoedd i fyned, a pha beth i bregethu.
Yna, gwedi i mi ddatgan fy mod yn edrych
arnaf fy hun fel wedi cael fy symud o fy
lle hyd nes yr ail-benodid fi, y brawd
Morgan Jones a safodd i fynu, ac a ddyw-
edodd, mi a feddyhwn yn yr Arglwydd, ei fod,
gerbron Duw a dynion, yn fy newis i fod yn
olygwr drosto yn yr Arglwydd, gan ddarfod
i'r Arglwydd fy nghymhwyso tuag at y
cyfryw le tuhwnt i neb. Yr oedd y brawd
Powell wedi dweyd felly o'r blaen. . Dyw-
edai amryw yr un peth yn awr. Gwelais
fod yr Arglwydd yn fy ail-sefydlu yn fy Ile.
Dangosais, gyda golwg ar y brawd John
Belsher, ei fod wedi ceisio gwneyd rhwyg,
trwy gamddarlunio pethau i'r brawd Row-
land, a'i fod wedi ymchwyddo i'r fath
raddau, fel nas gallwn gydweithio ag ef,
nes iddo ymddarostwng, Am y brawd
Benjamin Thomas, yr oedd ef wedi con-
demnio fy athrawiaeth, ac wedi Uefaru yn
fy erbyn ; dygaswn ei faich er ys amser,
gan ddysgwyl i'r Arglwydd ei argyhoeddi,
nas gallwn lafurio gydag yntau heb iddo
gael ei ddarostwng. Achosodd hyn gyffro
adnewyddol. Eithr glynais wrth fy mhen-
derfyniad, am ei fod ar fy nghydwybod.
Yna, darllenwyd yr adroddiadau, aethum i
weddi, a daeth yr Arglwydd i lawr. Cefais
ryddid i gynghori y brodyr ; boddlonais
hwy gyda golwg ar bob peth. Y mae yn
rhyfedd fel yr oeddynt wedi derbyn cam-
achwyn am danaf. Clywsent fy mod am
uno a'r Morafiaid ; fy mod yn duo eu
cymeriadau wrth bregethu, a bod genyf
ryw ddull newydd o bregethu ; ond caw-
sant gymhorth i fy nghredu yn awr. An-
erchais hwynt, gan ddangos fod y prawf
hwn wedi dyfod arnom am nad oeddym yn
treulio digon o amser mewn hunanymhol-
iad, a dywedais nad oeddwn yn clywed
digon o swn edifeirwch yn eu gweddíau.
Gwedi terfynu, syrthiasant ar fyngwddf;
a'r brodyr tramgwyddus a ddaethant ataf,
gan ofyn i mi faddeu iddynt, yr hyn a
wnaethum yn hawdd. Dywedais nas
gallwn wrthsefyll dynion ymostyngar a
drylhog. Yna, ni oll a ollyngwyd yn
rhydd ; mwynasom lawenydd cyff"redinoI,
a syrthiodd ein beichiau i fîwrdd. Cefais
ryddid i addaw cyfarfod yma yn mhen
pythefnos a'r brawd Rowland."
Ysgrifenodd Howell Harris y nodiadau
hyn yn ei ddydd-lyfr yn nghanol cyffro yr
helynt, pan yr oedd ei yspryd yn ferw o'i
fewn ; ac i ba raddau y darfu i'w deimladau
daflu eu Ihw ar yr hyn a ddywed, sydd
anhawdd ei benderfynu. Yn anffodus, ei
ymadroddion ei hun, yn mron yn gyfan-
gwbl, a gronicla ; prin y dengys â pha
eiriau ei hatebwyd. Gallwn dybio ddarfod
iddo gael ei gynhyrfu yn enbyd ar y ffordd
i'r Gymdeithasfa gan y cliwedlau a,
1746.]
HOWELL HARRIS.
333
glywodd ; iddo, wedi cyrhaedd y cyfarfod,
ymosod yn uniongyrchol ar y brodyr
cynulledig, gan eu cyhuddo o geisio ei
ddisodli yn ei absenoldeb, o bechu yn
erbyn ei weinidogaeth, a phardduo ei
gymeriad ; iddo ddatgan na wnai ym-
ostwng i gymeryd ei lywodraethu gan
Daniel Rowland, a'i anfon o le i le i bre-
gethu fel ei trefnid ; ac na cliymerai
ychwaith ei gyfarwyddo gyda golwg ar
gynwys ei weinidogaeth gan neb. Yr
oedd yn ddyn o deimladau cryíìon, a rhaid
fod ei ruad ar lawr y Gymdeithasfa yn
dra brawychus i'r frawdoliaeth. Yn ol
pob tebyg, prin y caent wneyd unrhyw
hunan-amddiffyniad ganddo ; ac yn sicr,
ni chaent gyfeirio at unrhyw fai a welent
ynddo, er ei fod ef yn dynoethi eu beiau
hwy yn gwbl ddibetrus. O'r diwedd,
llwyddwyd i'w dawelu, wrth fod nifer o'r
cynghorwyr yn datgan o'r newydd eu
hymddiried ynddo ; ac, yn ol pob tebyg,
wrth fod Daniel Rowland, a'r ddau offeiriad
arall, yn ei sicrhau nad oedd y chwedlau
a gawsant eu cludo iddo yn wirionedd.
Ar yr un pryd, nid annhebyg fod rhyw
gymaint o sail i'r ystoríau yma. Gan fod
nifer o gynghorwyr Sir Forganwg yn dra
gwrthwynebol i syniadau athrawiaethol
Harris, a bod yr odfaeon a gynhaliai yno
yn aml yn gorphen mewn dadleuon brwd,
a theimlad chwerw, nid annaturiol tybio
ddarfod i'r Gymdeithasfa farnu mai gwell,
dan yr amgylchiadau, fyddai iddo beidio
ymweled â Morganwg can amled ag yr
arferai, a gwneyd Sir Gaerfyrddin yn fwy
o faes ei lafur. Ceir arwyddion anngham-
syniol fod eiddigedd wedi dyfod i mewn
rhwng Harris a Rowland erbyn hyn ; yr
oedd y ddau yn ddynion o dyraheraucryfion,
a'r naill fel y Ilall, efallai, yn hoffi Ilywod-
raeth, ac y mae yn fwy na thebyg fod eu
canlynwyr yn chwythu'r tân o'r ddau tu.
Nid yw papyrau Rowland, yn anffodus, ar
gael ; felly, nis gallwn roddi yr hanes fel
yr edrychai ef arno. Ond naturiol ddigon
tybio fod dylanwad mawr Harris ar y
cynghorwyr, yn nghyd a'r dyrchafiad a
gawsai i fod yn brif olygwr y seiadau
Saesnig, wedi cynyrchu rhyw gymaint o
eiddigedd yn mynwes y Diwygiwr hyawdl
o Langeitho, yn arbenig gan ei fod yn
ymwybodol y meddai ar ddoniau gwein-
idogaethol rhagorach na'i gyfaill. O'r
ochr arall, credwn y ceir arwyddion an-
nghamsyniol, hyd yn nod yn ei adrodd-
iad ei hun o Gymdeithasfa Castellnedd,
fod Howell Harris yn hawlio arglwydd-
iaeth ac uchafiaeth yn mysg y Methodist-
iaid. Cyhudda y brodyr o gynal Cym-
deithasfa pan yr oedd ef yn absenol, fel pe
byddai ei bresenoldeb yn angenrheidrwydd
anhebgor mewn cynulliad o'r fath. Cyfeiria
at ei " le " fel arolygwr cyffredinol, fel
pe byddai uwchlaw eiddo Rowland, a
Williams, Pantycelyn, a Howell Davies,
tra yn y blynyddoedd cyntaf y daliai ei hun
mewn darostyngiad iddynt, am eu bod
hwy yn offeiriaid urddedig, tra nad oedd
ef ond Ileygwr. Ymddengys ei fod yn
tybio, pan y datganai na wnai gydweithio
â gwahanol frodyr, y gallai ysgwyd ymaith
o'r frawdoliaeth y neb a ewyllysiai, hyd
yn nod Rowland ei hun. Cryfheid ef yn
yr ysprydiaeth hon, am y tybiai ei fod
mewn cymundeb uniongyrchol a'r nefoedd,
ac felly yn rhwym o fod yn iawn mewn
pob dim, a'r rhai a'i gwrthwynebant yn
gyfeiliornus. Ni wnai ymresymu gyda
golwg ar ei syniadau duwinyddol ; edrychai
arnynt fel datguddiad a gawsai oddiwrth
yr Arglwydd. Yn y cnawd yr oedd pawb
a feiddiai olygu yn wahanol iddo. Tybiai,
yn mhellach, ei fod yn cael Ilais yr Ar-
glwydd gyda golwg ar luniad ei deithiau,
trefniad amgylchiadau ei dŷ, ac amgylch-
iadau y seiadau, yn nghyd a'r moddion y
dylid eu harfer i gario gwaith y diwygiad
yn mlaen. O ganlyniad, nid oedd arno
eisiau ymgynghori â neb am ddim ; credai
y dylai pawb ymostwng i'w drefniadau,
am eu bod yn ddwyfol. Ond teg dweyd
fod ei gydwybodolrwydd yn yr oll yn
ddiamheuol ; ei fod i raddau mawr yn
anhunangar ; os yr awyddai am y brif
gadair, y gwnai hyny nid er mwyn porth-
iant i'w wagedd, ond er mantais i gario yn
mlaen waith yr Arglwydd yn fwy effeithiol ;
a'i fod mewn yni, ac ymdrech, a pharod-
rwydd i dreulio ei hun allan yn ngwaith
yr lesu, yn rhagori ar ei frodyr oll.
Dychwelodd Howell Harris o'r Gym-
deithasfa trwy Lansamlet a Blaenllywel,
gan bregethu mewn amryw leoedd ar y
ffordd. Ceir ei brofiad yn y difyniad
canlynol allan o'i ddydd-Iyfr : " O Ar-
glwydd," meddai, " bydded i'r brodyr gael
eu darostwng ger dy fron di. O anwyl
Dad, nis gallaf foddloni rhoddi i fynu y
goron a gyflwynaist i mi yn y gwaith hwn.
Ond yr wyf yn dwyn y brodyr atat ti ; pâr
iddynt adnabod eu lle, ac i blygu i'th
Yspryd." Wedi bod gartref yn Nhrefecca
am o gwmpas pythefnos, cawn ef yn
cychwyn tua Watford, i'r Gymdeithasfa,
er ymgynghoriad pellach â Daniel Row-
334
Y TADAU METHODISTAIDD.
;i746.
land. Yn Gelligaer, ar y ffordd yno,
ysgrifena : " Yr oeddwn yn caru y brawd
Rowland ; teimlwn nas gallwn ymadael
ag ef, er ei fod ef yn foddlon ymadael â
mi ; ond am frawd arall — Benjamin
Thomas — y mae yn gofwedd yn bwysau
arnaf, a gweddíais ar i'r Arglwydd ei
ddarostwng." Cyrhaeddodd y Gymdeith-
asfa yn y prydnhawn. Ar y cyntaf, yr
oedd pawb yn dra dystaw, fel pe byddent
arnynt ofn eu gilydd ; yna, dechreuodd
Harris agor ei fynwes, gan ddatgan fod y
brodyr wedi pechu yn ei erbyn, trwy
goleddu drwgdybiau am dano, ac eiddigedd
at yr athrawiaethau a bregethai, a'i wres-
awgrwydd wrth draddodi. Cyfaddefodd
Rowland ei fod ar fai wrth ddarllen gormod
ar lythyrau yn achwyn arno, ac y teimlai
yn hollol rydd at Harris a'i weinidogaeth,
ond iddo wadu pwyntiau neiUduol y Mor-
afìaid. Atebodd yntau na fu yn eu coledd
erioed ; ei fod wedi pregethu yn eu herbyn
yn Llundain, ac yn erbyn yr Antinomiaid
wrth eu henwau. Yna, agorasant eu
calonau i'w gilydd, a chawsant eu bod yn
cydweled yn hollol. Yn ganlynol, pre-
gethodd Daniel Rowland, a chafodd odfa
nerthol. Teimlai Harris fod yr athraw-
iaeth wrth ei fodd. " Cefais heddwch yn
fy enaid," meddai ; " gwelais fod y brawd
Rowland wedi cael un ddawn, a minau
ddawn arall." Gelhr meddwl mai yn y
Groeswen y cynhehd y cyfarfod, gan y
sonir am danynt yii myned yn nghyd i
Watford wedi i'r odfa orphen. Cyd-
gerddai Harris gyda Morgan John Lewis ;
yr oedd y gymdeithas rhyngddynt yn dra
melus ; a dywedai ei holl feddwl wrtho.
Buont i lawr yn rhydd-ymddiddan hyd
bump o'r gloch y boreu. " Yr ydym yn
deall ein gilydd," meddai Harris, " ein
hundeb diweddaf yw yr egluraf a'r goreu
ydym wedi gael." Boreu dranoeth, agor-
odd Howell Harris ei feddwl drachefn,
gan ddangos y modd yr oeddynt oll wedi
syrthio i bechod ; fel yr oedd yn cashau
Antinomiaeth, a'i fod yn un a'i frodyr yn
ei olygiadau. Cyfeiriai at yr hyn y beuid
ef o'i herwydd, sef ei fod yn llefaru yn
barchus am y Morafiaid, a dywedai y
rhaid fod hyny yn codi o'i ras, oblegyd ei
fod yn wrthwynebol iddynt ar lawer pwynt.
Yna, ymadawodd am Rhywderyn, lie y
pregethodd am ogoniant Crist. Yn St.
Bride, ei destun ydoedd : " Ac efe a wared
ei bobl oddiwrth eu pechodau." Cyrhaedd-
odd dŷ un Robert Evans, yn agos i Gaer-
lleon-ar-Wysg, nos Sadwrn, a phregethodd
gyda gwresawgrwydd a nerth oddiar y
geiriau : " I hyn yr ymddangosodd Mab
Duw, fel y datodai weithredoedd diafol."
Dengys ei fyfyrdodau boreu y Sul canlynol
nad oedd wedi llwyr wella oddiwrth y
teimlad a gawsai. " Yr wyf yn gweled,"
meddai, " fod ein profedigaeth ddiweddar
wedi arwain pob un i adnabod ei le yn
well, ac i astudio mwy ar ífurf-lywodraeth
eglwysig. Yr wyf yn gweled mai fy lle i
yw bod yn rhydd, i edrych ar ol y seiadau
a gesglais yn nghyd, oni fydd iddynt fy
ngwrthod. Gwelaf fod llawer o'r brodyr
yn fy nirmygu, ac yn ddolurus o herwydd
fy ngwendidau ; ond yr wyf yn cael nerth
i gyíiwyno yr oll i'r Árglwydd, ac i ofyn
iddo ar iddo fy nghadw yn fy lle." Yn
nesaf, yr ydym yn ei gael yn teithio trwy
Lanfaches a'r New Inn. Yn y lle diwedd-
af, mewn seiat breifat, cymerodd fantais
i ddangos y gwahaniaeth rhwng yr Ym-
neillduwyr a'r Methodistiaid. " Yr ydym
ni," meddai, (i) yn pregethu yn benaf i'r
galon a'r yspryd, ac yr ydym yn eu cyr-
haedd, gan glwyfo y cnawd, a'i wneyd yn
ddolurus. Pwysleisiwn am gael ffydd yn y
galon, yn hytrach na goleu yn y pen. Ÿ
mae eu goleuni hwythau (yr Ymneilldu-
wyr) yn dyfod o'r pen, yn gwneyd yr
enaid yn esmwyth, ac nid yw yn cryf hau
flydd. (2) Yr ydym ni yn cyffroi yr enaid
i'w ddyfnder, gan gario yr argyhoeddiad
i'r gwaelodion, gan roddi gwybodaeth
helaethach trwy yr Yspryd o Grist ; y
maent hwythau yn gadael yr enaid yn
dawel a digyffro. (3) Nid ydynt yn
chwiHo y galon, ac yn dangos eu íîydd
mewn ymarferiad, fel y mae ganddynt
mewn athrawiaeth. (4) Nid ydynt yn
rhydd o duedd i dynu eneidiau atynt
(oddiwrth y Methodistiaid). Dywedodd
un fod y seiadau yn honi hawl i ofyn i'r
sawl a fynent ddod i bregethu i'w mysg.
Atebais inau fy mod yn erbyn eu gorfodi i
dderbyn unrhyw un yn groes i'w hewyllys ;
ond os oeddynt yn edrych arnaf fel un a
fu yn oíferyn i'w casglu yn nghyd ar
y cyntaf, ac os oeddynt wedi syrthio i
mewn a'r drefn a sefydlwyd gan Mr.
Whitefield, mewn cydymgynghoriad a'r
brodyr, y rhaid i mi fel tad wyho dros-
tynt, ac y rhaid i mi hefyd wybod,
a rhoddi fy nghydsyniad parthed pwy
a fydd yn cydlafurio â mi. Gyda
golwg ar y cynghorwyr hefyd, fy mod
am wyho trostynt, eu galw yn nghyd
i'w cynghori a'u cadarnhau, eu ceryddu,
ac hefyd am eu cael i bregethu ar brawf."
1746.]
HOWELL HARRIS.
335
Gwelir na wnai ganiatau penrhyddid
i'r seiadau.
Dranoeth, yn y Goetre, drachefn, y mae
ffurf bricdol ar lywodraeth eglwysig y
Methodistiaid yn Nghymru, a"i le ei hun
yn eu mysg, yn dyfod yn destun ei fyfyr-
dod. Fel hyn yr ysgrifena : " Y mae
arnaf eisiau gwybod natur a helaethrwydd
y lle yn mha un y cefais fy ngosod gan yr
Arglwydd, fel na phechwyf rhagUaw, trwy
ofn fy hun, na'r gwrthwyneb, ond ei lanw
fel y dymunai y Gwaredwr i mi, er adeilad-
aeth i'r ŵyn. Gwelaf ein bod yn cael ein
harwain i fod i raddau yn gyfíelyb i
Esgobiaeth a Henaduriaeth, gyda y brawd
Whitefield fel archesgob ; myfi, er fy mod
heb ordeiniad, fel y bu Paul am beth
amser, wedi cael fy addysgu i fod yn
arolygwr cyffredinol dros y gweithwyr a'r
praidd ; a'r offeiriaid ordeiniedig fel efeng-
ylwyr, i bregethu yn mhob man. Ond y
mae un peth yn aneglur i mi ; efallai ei
fod yn aros yn dywyll am na wyddom yn
mha le y terfyna y symudiad ; ac o bosibl y
cawn ein himpio i mewn i'r Eglwys, ac y
daw goleuni ar y mater fel y byddo amgylch-
iadau yn cyfnewid. Yr hyn sydd yn an-
eglur i mi yw, a ydyw yr ofíeiriaid a minau
i fod yn unol yn ein gofal am y seiadau, ac
yn y pregethu ? neuynte, a ydyw y gwaith
preifat yn perthyn i mi yn briodol, a
hwythau yn cynorthwyo ? neu ynte, a
ddylai adran o wlad gael ei rhoddi i bob
un ? neu ynte, drachefn, a ydym i fyned
yn y blaen fel hyn hyd nes y gwthir ni
allan, neu y cawn ein derbyn i mewn i'r
Eglwys ? Modd bynag, yr wyf yn teimlo
gofal y seiadau y bum yn foddion i'w
casglu yn nghyd, a'r rhai sydd wedi fy
newis i fod yn olygwr arnynt, yn gwasgu
arnaf yn y fath fodd fel nas gallaf eu
rhoddi i fynu. Arglwydd, nid wyf yn
gwybod dim ; dangos i mi yr hyn sydd yn
angenrheidiol dros yr amser presenol, fel
na chyfeihornaf ar y naill law na'r llah.
Hyd yn hyn, y mae y gwaith yn Nghymru
wedi bod trwyddo draw i bawb ; ond
amlwg fod eisiau dod i ryw ffurf ; da fod y
Ilywodraeth ar dy ysgwydd di, Arglwydd.
Eisiau gwybod ewyllys fy Arglwydd sydd
arnaf, fel na phechwyf. Gallwn feddwl
ein bod yn cael ein harwain i ryw fath o
ddysgyblaeth. Arglwydd, dos di o'n blaen.
Gallwn feddwl mai gwaith yr offeiriaid
fyddai myned o gwmpas i bregethu, ac i
weinyddu y sacramentau, bod yn bresenol
yn y Cymdeithasfaoedd, a gweini y cym-
undeb ynddynt ; fy ngwaith inau, myned
i'r Cymdeithasfaoedd, a siarad yno, pre-
gethu pan fedraf, ymweled a'r holl seiadau
preifat ac a'r Cymdeithasfaoedd Misol
hyd byth ag y medraf, yn Nghymru ac yn
Lloegr, er fod gofal Llundain wedi ei osod
arnaf hefyd. Êeth hefyd (a berthyn i mi)
nis gwn eto. Gyda goiwg ar berthynas y
naill o honom a'r Ilall, Arglwydd, arwain
a goleua fi." Gwelir fod cynllun o ffurf-
Iywodraeth eglwysig yn dechreu cael ei
íîurfio yn meddwl Howell Harris. Yn y
cynllun hwn, ymddengys yn bur glir ei
fod am gau yr offeiriaid allan o bob Ilyw-
odraeth uniongyrchol ar y seiadau a'r
cynghorwyr ; yr ystyriai hyny yn hawl-
fraint yn perthyn iddo ei hun ; a'i fod am
eu cyfyngu hwy, o leiaf yn benaf, i weini-
dogaeth y Gair, a gweinyddiad o'r sacra-
mentau. Y Goetre oedd y Ile diweddaf y
bu ynddo ar y daith hon cyn dychwelyd
adref.
Y peth cyntaf a glywodd wedi cyrhaedd
Trefecca oedd, fod Rowland yn parhau i'w
gyhuddo o gyfeiliorni oddiwrth y wir ath-
rawiaeth. Un o'r cynghorwyr a gludodd
y chwedl iddo. Nid annhebyg ei fod yn
rhy barod i dderbyn chwedlau disail.
Penderfynodd oddef, modd bynag, fel na
chymerai ymraniad le. i\r y dydd cyntaf
o Dachwedd, cynhelid Cymdeithasfa Fisol
yn Nhrefecca, eithr nid oedd un o'r offeir-
iaid yno. Cafwyd anerchiad gan y brawd
Beaumont, yn mha un y datganai nad
oedd y ddeddf i gael ei phregethu fel
moddion i argyhoeddi a deffro pechadur,
mai yr hyn a ddylid bregethu oedd íîydd ;
nad oedd y ddeddf yn rheol bywyd i gred-
inwyr ; a gwadai hefyd dragywyddol gen-
hedliad Crist. Ymddengys fod Beaumont
erbyn hyn wedi myned yn Antinomiad
rhonc. Buont i lawr am y rhan fwyaf o'r
nos yn ceisio ymresymu ag ef, ond yn ofer.
Gwedi iddo ef ymadael, bu Harris, a thua
haner cant o gynghorwyr, ar lawr hyd y
boreu yn gweddío, yn canu, ac yn molianu,
a theimlent fod yr Arglwydd yn wir yn eu
mysg. Tua chanol Tachwedd, cynhelid
Cymdeithasfa Fisol yn Tyddyn, ac aeth
Harris yno, gan bregethu mewn amryw
leoedd yn Siroedd Brycheiniog a Maesyfed
ar y ffordd. Yr oedd WiIIiams, Panty-
celyn, yn bresenol, a phregethodd gyda
nerth mawr. Daethai dyn o'r Bala yno i
ofyn cynghor, am fod y brawd Lewis Evan
wedi cael ei fwrw i garchar Dolgellau.
Cafodd gyfarwyddyd pa fodd i weithredu,
a gwnaed casgliad o bedwar gini yn y man
i'w gynorthwyo, er mai deg-ar-hugain
336
Y TADAU METHODISTAIDD.
:i746.
oedd rhif y rhai oeddynt yn bresenol.
Teimlent yn ddiolchgar am ei garchar-
iad, oblegyd ei fod yn gyfleustra iddynt
ddangos iddo ryw arwydd o'u serch.
Dywedai Harris y rhaid iddynt oll wneyd
ymdrech yn erbyn y diafol yn Ngog-
ledd Cymru. Cyfeiriodd at ei safîe ei
hun ; nad oedd yn ddyledus i unrhyw
ddyn o fewn y byd, ond yn unig i'r Àr-
glwydd ; ei fod yn aml yn gwrthod arian
fel cydnabyddiaeth am ei waith, oblegyd
nad oedd yn rhydd i'w derbyn, oddigerth
eu bod yn cael eu roddi mewn ffydd, gan ei
theimlo yn anrhydedd i gael rhoddi i'r
Arglwydd. Ymddiddanwyd hefyd a brawd
a wrthodai athrawiaeth y gwaed. Dyw-
edai Harris ei fod yn derbyn ac yn teimlo
yr athrawiaeth ; a'i bod i'w chael yn y
Beibl, ac nid yn íîugrol, ond yn sylweddol
ac ysprydol.
Ýn ystod mis Rhagfyr,bu Howell Harris
ar daith ddwy waith drwy ranau o Sir-
oedd Morganwg a Chaerfyrddin. Y dydd
olaf o'r flwyddyn yr ydym yn ei gael yn
Llanddowror, mewn ymgynghoriad a'r
Parch. Griffith Jones. Llonwyd ef yn
fawr wrth ddeall fod bwriad i osod i fynu
ysgolion cateceisio yn mhob rhan o'r wlad,
os byddai yr Archesgob, yn nghyd a'r
esgobion . a'r clerigwyr, yn foddlawn.
Dywedai fod y Methodistiaid yn barod i
gynorthwyo gyda hyn, ac i ymostwng
i'r Esgob ; eu bod yn benderfynol i beidio
gadael Eglwys Loegr ; a dangosai y gradd-
au yr oedd cateceisio wedi cael ei ddwyn i
mewn i'r seiadau preifat. Taer ddymunai
ar Griffith Jones i ymuno â hwy, fel na
fyddai dynion ystrywgar yn gallu eu rhanu,
trwy gario chwedlau anwireddus am y
naill i'r llall. Yr oedd y gymdeithas ag
ofifeiriad duwiol Llanddowror yn falm i'w
enaid.
PENOD XIV.
HOWELL HARRIS
(1747-48).
Gwaredigaeth hynod yn Llansantffraid — Amryii) Gymdeithasfaocdd — Harris yn cyhiddo
Williams, Pantycelyn, 0 bregethu yn ddeddfol — Dealltmriaeth ar Wcsleyaid Howell
Harris yn ymweled a Mon, Ärfon, Dinbych, a Meirionydd — Llythyr cryf at y Parch.
Edmund Joncs — Taith i Orllewin Llocgr — Syr Wathin Wüliams Wynnc yn erlid 'y
Methodistiaid — Cymdcithasfa Llanbcdr — Adroddiad am gasgliad — Cy mdcithasfa Cacrfyrddin
—Ymyfyrwyryn rhuthro i'r Gymdcithasfa—HowcllHarrisyn Sir Bcnfro—Dadi a dau
weinidog Ymncillduol.
iR ydym yn cael Howell Harris, y
dydd cyntaf o'r flwyddyn newydd,
yn Hwlffordd, yn Sir Benfro.
Gwedi pregethu, bu mewn ymgynghoriad
a'r gweinidogion Morafaidd, y rhai erbyn
hyn oeddynt wedi sefydlu achos yn y dref.
Tybiai mai gwell fyddai cael cynhadledd
o'r Morafiaid a'r Methodistiaid, er symud
rhyw feini tramgwydd. Nid oedd am
undeb â hwy, ychwaith, ond am i'r ddwy
blaid synio am eu gilydd mewn cariad.
Tranoeth, y mae yn Longhouse, a'r nos-
waith hono yn Nhyddewi, lle yr oedd
cynulleidfa anferth wedi ymgynull. Aeth
yn ei flaeri trwy Fehndre, Llechryd, a
Thy'r Yet, gan gyrhaedd Castellnewydd-
yn-Emlyn dydd Mercher, lle y cynhehd
Cymdeithasfa Chwarterol. Agorwyd y
Gymdeithasfa gyda phregeth gan Wil-
h'ams, Pantycelyn ; yr oedd yn hynod felus.
Yna, pregethodd Harris, yn benaf ar
gyflwr y deyrnas, yn wleidyddol a chref-
yddol. Bu yn Gymdeithasfa hapus drwy-
ddi ; teimlai Harris fod ei yspryd wedi ei
uno ag eiddo y brodyr am byth. Ymdrin-
iwyd ag amryw faterion, megys cateceisio,
dyledswydd y seiadau i ymgynghori a'r
arweinwyr cyn derbyn neb i'w mysg i
bregethu, a pheidio goddef neb i fod yn bres-
enol yn y seiadau ond yr aelodau. Gwedi
darllen yr adroddiadau, yn mysg y rhai yr
oedd cyfeiriad at y tŷ seiat a gawsai ei
adeiladu yn Llansawel, a chwedi trefnu
y Gymdeithasfa ddilynol, ymadawyd yn
felus. Nid oes unrhyw gyfeiriad yn cael
ei wneyd at Daniel RowÌand na Howell
Davies ; y mae yn debyg nad oeddynt yn
bresenol. " Tybiaf," meddai Harris, " f y
mod yn gweled pethau mawrion yn agos-
hau, gwedi yr ystorm a'r brofedigaeth
ddiweddar, yr hon, mi a hyderaf, sydd yn
agos trosodd." Dychwelodd trwy Maes-
noni, Llangamarch, a Llansantffraid. Yn
y he diweddaf cafwyd gwaredigaeth ryfedd.
" Yn y seiat breifat," meddai Harris, " yr
oeddym i fynu y grisiau, tua dau gant o
honom, a thorodd y trawst canol, fel y
syrthiasom oll. Eithr ni thorwyd asgwrn
i neb. Yr oedd plentyn bach yn y cryd
o dan y cyfan ; ond aeth estyllen ar draws
y cryd, fel na chyffyrddodd dim a'r baban ;
yn wir, ni ddeffrodd o'i gwsg. Pe y
digwyddasai bum' mynyd yn gynt cawsai
Ilawer eu clwyfo." Aeth gyda Mr. Wil-
liams, offeiriad Llansantffraid, i'r eglwys,
Ile y gwrandawodd bregeth dra rhagorol.
Gwedi pregethu ei hun, yn ofnadwy o
ddifrifol, dychwelodd adref.
Yr wythnos ganlynol yr oedd Cymdeith-
asfa Fisol yn Nhrefecca. Agorwyd hi
gyda phregeth gan Howell Harris, oddiar
y geiriau : " Hyd yn hyn ni ofynasoch
ddim yn fy enw i," &c. " Cefais yr
Yspryd gyda mi yn wir," meddai, " i
egluro iddynt natur cyfiawnhad ; y modd
yr ydym yn gyfiawn yn nghyfiawnder
Crist ; yn addfwyn yn ei addfwynder, ac
yn ufudd yn ei ufudd-dod. Dangosais nad
oes genym ddim cyfiawnder ynom ein
hunain ; a pha mor bell y gallwn fyned
mewn gras, ac eto bod yn dra anwybodus
am farwolaeth a chyfiawnder yr lesu. Yn
sicr, rhwygwyd y llen heddyw, a gwelodd
llawer eu hunain yn gyflawn yn y wisg
z
33«
Ÿ TADAU METHODISTAIDD.
[1747-
hon." Y mae yn amlwg nad oedd Harris
yn glynu yn glos wrth ei destun, ond ei
fod yn cymeryd rhyddid i fyned oddiwrtho
at unrhyw wirionedd y tybiai mai buddiol
fyddai ei draethu. Gwedi y bregeth yr
oedd seiat gyffredinol i'r holl aelodau. Ac
ymddengys ei bod yn gyfarfod rhyfedd ; y
dylanwadau dwyfol a lanwent y lle. Yn
ngwres y cynhyrfiad, gwaeddai Harris : " Y
chwi a fedr fyned ymaith, ewch ; ni fynwn
neb yma ond y rhai sydd a gorfodaeth
arnynt i ddyfod. Os nad ydych wedi eich
geni oddi uchod ; os nad ydych o rif y
rhai y rhaid iddynt weddío, a bod yn
ddiwyd gyda eu hiachawdwriaeth, cedwch
draw. Önd nis gallwch gadw draw ; y
mae yn rhaid i chwi ddyfod, oblegyd yr
Arglwydd sydd Dduw, a rhaid i bob peth
roddi ffordd. O, gynifer o bethau sydd yn
eich tynu yn y blaen ! Y mae y cyfamod
yn dweyd, ' Y mae yn rhaid iddynt ddyfod ! '
Y gwaed sydd yn dywedyd, ' Rhaid iddynt
ddyfod ! Felly hefyd y dywed gras, a'r
addewidion." Hawdd deall fod tân Duw
wedi disgyn i'r lle, a bod calon Harris yn
llosgi yn ei fynwes. Yn y Gymdeithasfa,
nid yw yn ymddangos i benderfyniadau o
bwys gael eu pasio, ond cymhellai y
Diwygiwr y cynghorwyr gyda phob difrif-
wch i osod i fynu gateceisio yn mhob man,
ac i anog yr aelodau i ymgydnabyddu a'r
Ysgrythyr.
Diwedd yr wythnos, cychwyna am
daith o rai wythnosau trwy Wlad yr Haf,
Devon, a Chornwall, ond ar ei ffordd y mae
yn pregethu mewn amryw leoedd yn
Siroedd Morganwg a Mynwy. Aeth y
noson gyntaf tua Blaentawe, ac wrth
groesi y mynyddoedd, yr oedd ei fyfyrdodau
yn sefydlog ar yr Ysgrythyr, a theimlai
fod Duw yn gydymaith iddo. Yr oedd y
myfyrdod tawel hwn wedi nawseiddio ei
yspryd ar gyfer yr odfa. Yr efengyl yn
allu Duw er iachawdwriaeth oedd ei fater,
a chafodd lawer o ryddid i lefaru. Boreu
dranoeth, pregethodd yn Gelly-dorch-leithe,
a'r nos yn Castellnedd. Ymddengys fod
y seiat yn y lle diweddaf mewn cryn
derfysg, fod ynddi rai o olygiadau Armin-
aidd, yr hon gyfundraeth nas gallai Harris
ei goddef. Anerchodd yr aelodau yn gryf,
dywedodd y rhaid iddynt ddewis y naill
blaid neu y llall, nas gallent berthyn i'r
ddwy. Yna, eglurodd athrawiaeth ethol-
edigaeth, ac atebodd wrthddadleuon.
" Paham y geilw Duw arnom i droi, oni
feddwn allu i droi ? " meddai y gwrth-
ddadleuydd. Atebai yntau : " Os ydym
ni wedi colH y gallu i gyflawni, nid yw yr
Arglwydd wedi colU ei hawl i ofyn."
Eglurodd, yn mhellach, ddarfod i Dduw
roddi y gyfraith i ddyn er argyhoeddiad,
dangos iddo ei fod yn golledig, a'i gau
dan gondemniad. Gwedi hyn, esboniodd
iddynt ei safle ei hun, y modd yr oedd yr
Arglwydd a'r brodyr wedi ei osod yn ei le,
fel Arolygydd cyffredinol dros y seiadau
a'r cynghorwyr ; ond rhag ofn hunangais
nad oedd wedi defnyddio ei awdurdod ; a
gorchymynodd iddynt na oddefent i neb
ddyfod i'w mysg i gynghori ond rhai wedi
eu hawdurdodi i hyny. Tybia iddo fod
yma, dan fendith Duw, yn foddion i
rwystro rhwyg. Gwedi hyn ymwela a'r
Hafod, a Nottage. Yn y lle diweddaf,
datgana ei farn y byddai i'r Methodistiaid,
y Wesleyaid, a'r Morafìaid, gael eu huno
a'r Eglwys Sefydledig. Yn sicr, y dymun-
iad oedd tad y meddylddrych. Dranoeth,
y mae mewn lle o'r enw Ffwrnes-newydd-
ar-Daf. Yn y seiat breifat yma cododd
Satan wrthwynebiad i athrawiaeth dirgel-
wch y gwaed, yn mherson rhyw gynghorwr
anghyoedd. Ceryddodd Harris ef, a chan
ei fod yn parhau yn gyndyn bu raid iddo
ei ddiarddel. Y dydd canlynol, yr oedd
Cymdeithasfa Fisol yn New Inn, Sir
Fynwy. Llefarodd yntau yn helaeth ar
ei le ei hun fel Arolygwr cyffredinol ; ar ei
benderfyniad i beidio gadael Eglwys Loegr,
er ei fod yn caru yr Ymneillduwyr ; anog-
odd i ddysgyblaeth mewn teuhioedd, ac ar
i bob un adnabod ei le. " Gwedi i mi
orphen," meddai, " cefais brofedigaeth
oddiwrth y brawd Morgan John Lewis.
Dywedai fy mod yn tra awdurdodi arnynt,
ac yn eu cadw mewn caethiwed. Nad
iawn i mi ddweyd fod paw^b a'm gwrth-
wynebai i yn dywyll, yn gnawdol, a than
lywodraeth y diafol. Nad oedd genyf
awdurdod Gair Duw dros yr hyn a wnawn,
a thros i bawb roddi i fynu eu cred- i Grist
a'i eglwys, ond fy mod wedi ei gael oddi-
wrth y Morafiaid. Dywedai ei fod ef yn
bleidiol i Rowdand, a bod genyf ragfarn at
y Parch. Edmund Jones. Canlynwyd hyn
gan derfysg dirfawr." A pha eiriau y
darfu iddo ateb Morgan John Lewis nid
yw yn dweyd ; ond ymddengys i'r Gym-
deithasfa fod yn dra anhapus. " Yr oedd
llawer o frwdaniaeth yno," meddai, " a
daeth Satan i lawr." Eithr ymddengys i
bethau dawelu cyn y diwedd, ac iddynt
drefnu amryw bethau yn heddychol.
7\eth yn ei flaen trwy Bryste, lle y
cynhehd Cymdeithasfa, Bath, Weflington,
î 747-1
HOWELL HARRIS.
339
Exeter, Ringsbridge, Plymouth, a St.
Gennis, yn Cornwall. Parhaodd y daith
hon am bum' wythnos, ac am ran fawr o
honi yr oedd John Wesley yn gydymaith
iddo. Tri diwrnod y bu gartref ar ol dych-
welyd cyn cychwyn i Gymdeithasfa Fisol
Llanfair-muallt. Yr oedd nifer o'r cyng-
horwyr wedi ymgasglu yma, yn nghyd â
dau oífeiriad, a'r boneddwr duwiolfrydig,
Mr. Gwynn. Galarai Harris o herwydd
fod Antinomiaeth ar gynydd yn y parthau
hyn. " Arholais bregethwr," meddai, " a
daethom i benderfyniad gyda golwg ar dy
yma." Y " t}- " hwn oedd Capel Alpha, yr
hwn yn fynych, ond yn annghywir, a
elwir yn gapel cyntaf y Methodistiaid yn
Nghymru. Eu capel cyntaf yn Mrychein-
Adroddais iddynt fy hanes ; fy mod am
amser wedi bod yn teithio haner can'
milltir y dydd, ond na wnaent hwy ddyfod
ychydig íìlltiroedd i'r cyfarfodydd, rhag
ofn cael anwyd. Datgenais y trown allan
bawb a absenolai eu hunain o ddwy seiat,
pwy bynag a fyddent ; na chaíîai tŷ
Dduw ei ddirmygu ganddynt, y caent
deimlo awdurdod y weinidogaeth." " Yr
ydym wedi derbyn cenadwri gan Dduw,"
meddai ; " ac er nad ydym yn galw ein
hunain yn esgobion, offeiriaid, na diacon-
iaid ; eto, yr ydym yn weinidogion yr
Arglwydd. Y mae Duw yn ein hadwaen.
Yma yr oeddwn yn llym, oblegyd nad
oedd ganddynt dŷ cwrdd, gan ddangos y
gallai amryw o honynt gyfranu pum' neu
CAPEL ALPHA, LLANPAIE-MÜALLT, SIB FRYCHEINIOG.
[Ädcüadioyd gyntaf yn y flwijddyn 1747. Darlim yr aü Gapel ydyio hwn.]
iog ydoedd. Ymwelodd yn ganlynol a'r
Tyddyn, lle y treuhodd y Sabbath. A
oedd yma fath o Gymdeithasfa, nis gwydd-
om ; ond penderfynodd ef a'r brodyr i
wneyd y dydd Mercher canlynol yn ddydd
gweddi dros Lewis Evan, yr hwn o hyd
oedd yn y carchar. Gweddíodd yn daer
dros Ogledd Cymru, ar i Air yr Arglwydd
redeg ; gwelai mai yn erbyn Duw yr oedd
yr holl wrthwynebiad. Y dydd dilynol,
yr oedd yn Penybont, Sir Faesyfed, a bu
yn dra llym yn y seiat breifat wrth y
proffeswyr clauar. " Dangosais y ddyled-
swydd," meddai, " o roddi y cwbl a feddem
i'r Arglwydd, a chael pob peth yn gyffredin ;
a'r modd yr oedd yr Arglwydd wedi' ym-
ddwyn atynt hwy, a hwythau ato ef.
ddeg punt. Llawer a ddarostyngwyd, ac
a oeddynt yn ddrylhog, gan waeddi : ' Myft
yw y gŵr.' A darfu i rai o honynt gyduno
i gyfarfod, i adeiladu tŷ." Gwelwn ddau
beth yn y difyniadau hyn. Sef (i) Fod
capelau wedi cael eu hadeiladu mewn cryn
nifer o leoedd yn mysg y Methodistiaid,
fel y mae Harris yn ei theimlo yn ddyled-
swydd arno i geryddu seiat Penybont —
lle gwledig, yn Sir Faesyfed — am na
buasent hwythau wedi gwneyd yn gyffelyb.
(2) Cawn yma, am y tro cyntaf, awgrym,
ar ba un y gweithredodd Howell Harris
ar ol hyn yn Nhrefecca, sef na ddylai
Cristionogion ddal eiddo personol, ond
bod a phob peth yn gyffredin rhyngddynt.
Dranoeth, brysiodd Howell Harris i
z 2
340
Y TADAU METHODISTAIDD.
\MM-
Drefecca, lle yr oedd Cymdeithasfa Fisol
i gael ei chynal. Agorodd y Gymdeithasfa
gyda phregeth ar y geiriau : " Pan wyf
wan, yna yr wyf gadarn." Dywed ei fod
yma mewn Ue ofnadwy, yn sefyll megys
rhwng y byw a'r meirw. " Yr oeddwn
yn Ilym at yr Ymneillduwyr," meddai,
" a'r holl brofîeswyr cnawdol, gan ddangos
eu bod oU yn ddigllawn wrthyf am fy mod
yn eu ceryddu, ond mai mewn cariad yr
oeddwn yn gwneyd hyny, a phe bai yn fy
ngallu, y dyrchafwn hwy i fynu o'r llwch.
Dangosais ein bod yn gyflawn yn Nghrist,
yn ddyogel yn Nghrist, ac yn fwy na
choncwerwyr ynddo ef." Yn y seiat
breifat a ddilynai, daeth yr Arglwydd i
lawr, a rhoddodd i Harris bethau newydd
a hen i'w dweyd. Dangosodd nas gallent
fyned yn ol, y rhaid iddynt fyned yn
mlaen. Yn y Gymdeithasfa, nid yw yn
ymddangos i unrhyw benderfyniadau gael
eu pasio ; treuHwyd yr amser trwy fod
Harris yn adrodd am Iwyddiant y gwaith
yn Lloegr.
Ddechreu mis Mawrth, aeth i Lundain,
lle yr arhosodd hyd y Pasg. Prin yr oedd
wedi dychwelyd na chawn ef yn cychwyn
drachefn i Gymdeithasfa Chwarterol Wat-
ford. Y dydd Gwener blaenorol i'r Gym-
deithasfa, pregetha yn y Goetre, Sir
Fynwy ; ac yn y seiat breifat trinia yr
aelodau yno yn llym. " Dangosais iddynt,"
meddai, " y fath yspryd gwrthwynebol
i'm gweinidogaeth oedd yma o'r cychwyn ;
mor ddiog oeddynt, fel na ddeuent dair
milltir o íîordd, i'r New Inn, i'n cyfarfod
cyífredinol ; ac felly, eu bod yn gwneyd yr
oU a allent i rwystro y gwaith. Eu bod yn
absenoH eu hunain o'r Eglwys, ac yn gadael
ei chymundeb, tra y mae yn amlwg
ddarfod i'r Arglwydd ein galw yn y dull
hwn ; a'u bod yn gwanhau fy nwylaw
yn fwy na neb. Dywedais, oni symudent
yn mlaen, na ddeuwn i'w mysg ; nas
gaUwn fyned He nad oedd athrawiaeth y
gwaed, a'r gwaed ei hun, trwy yr Yspryd,
yn cael rhedeg yn rhydd. üs yw yr
athrawiaeth yn faich arnoch, meddwn, y
mae, mewn ystyr, feHy i mi, oblegyd yr
wyf yn appeho at Dduw nas gaHaf beidio
ei phregethu ; nid gan ddyn na dynes ei
derbyniais, ond gan Dduw ; y mae genyf
er ys saith mlynedd. Datgenais mai dyma
fy ymwehad olaf, oddigerth i mi weled
cyfnewidiad ; yna, Heferais yn felus am y
gwaed, a'r Yspryd a ddaeth i lawr, ac yr
oeddym yn dra thyner." Yr oedd seiat y
Goetre yn gyfagos i'r New Inn, He y
gweinidogaethai Morgan John Lewis, yr
hwn oedd yn wrthwynebwr cryf i athraw-
iaethau neiHduol HoweH Harris, a rhydd
hyn gyfrif am y gwrthwynebiad a deimHd
yno at y Diwygiwr o Drefecca. Y mae
yn ffaith awgrymiadol na ymwelodd Harris
y tro yma a'r New Inn. Aeth i Lan-
heiddel y Sadwrn ; treuHodd y Sul yn
nhỳ Robert Evans, ger CaerHeon-ar-
Wysg ; pregethodd yn Llanfaches dydd
Llun, ac yr oedd yn bur Hym at yr
aelodau. Daeth i Watford y nos cyn y
Gymdeithasfa, a chlywodd y fath chwedlau,
fel y gofidiwyd ei enaid ynddo. Nis
gwyddai pa fodd i weithredu, gan fod rhyw
gynghorwr wedi ei ddwyn yno a droisai
efe aHan, am nad oedd ei yspryd mewn
cydymdeimlad a'r Methodistiaid. Yr oedd
yno, hefyd, weinidog perthynol i'r Ym-
neiHduwyr, yr hwn, yn groes i ddymuniad
Harris, a elai o gwmpas y seiadau. Yn ei
draHod, ymneiHduodd i weddîo. Llew-
yrchodd yr Arglwydd arno pan ar ei
liniau ; dychwelodd at y brodyr, ac wrth
gydymddiddan symudwyd rhan fawr o'i
faich. Yna, aeth i'r Groeswen i wrando
Daniel Rowland yn pregethu. Y testun
oedd, Heb. vi. 7, a chafwyd odfa ryfedd ;
teimlai Harris ei serchiadau yn ymglymu
am ei anwyl frawd wrth wrando, a hyny
braidd yn dynach nag erioed.
Y peth cyntáf a wnaed yn y Gymdeith-
asfa oedd appwyntio tri brawd i gynorthwyo
HoweH Harris yn ei waith fel arolygydd,
sef Benjamin Thonias, y gweinidog Ym-
neiHduol, Thomas Jones, a Thomas
WilHams. Thomas WiHiams, o'r Groes-
wen, oedd y diweddaf, yn ddiau, a phrofa
ei appwyntiad ei fod wedi ail-gysylltu ei
hun yn Hwyr a'r Methodistiaid. Daeth
cryn gyffro ac anghydwelediad i fysg y
brodyr wrth ymdrin ag achos y cynghorwr
yr oedd Harris wedi ei ddiarddel. Er na
ddywedir hyny yn bendant, awgryma y
dydd-lyfr na chadarnhawyd y ddedfryd.
Yn y cyfwng rhwng y cyfarfodydd cafodd
Harris ymddiddan preifat pur faith â
Rowland, ac ymddengys fod teimladau
da yn ffynu rhyngddynt. " Yr Arglwydd
a gymerodd ymaith y beichiau annyodd-
efol oedd yn gwasgu arnaf," meddai
Harris ; " cefais ryddid i ddweyd wrth y
brodyr oH yr hyn a dybiwn oedd aHan o
le ynddynt, a'r modd y dylem grýfhau
breichiau ein gilydd. Y dylai yr offeiriaid
a minau ddweyd wrth ein gilydd y pethau a
glywn, fel y gaHwn ymdrin â hwy cyn
dyfod i fysg y brodyr, onide y coHwn bob
1747-]
HOWELL HARRIS.
341
awdurdod. Cefais nerth i geryddu balch-
der y brodyr, gan ddangos y dylai gwrol-
deb, calUneb, ffyddlondeb, a thynerwch
fod yn ein mysg yn wastad, ac y dylai pob
un adnabod ei le. Cefais lef ynof am i'r
Arglwydd ddyfod i'n mysg. Gwedi pen-
derfynu amryw bethau, a threfnu cylch-
deithiau y brodyr, ymadawsom yn hyfryd,
wedi ein dwyn unwaith i fin ymraniad."
Ar y terfyn, pregethodd Daniel Rowland
oddiar y geiriau : " Onid oes bahn yn
Gilead ? " Ar y cychwyn, yr oedd Harris
yn sych ; ond pan ddaeth y pregethwr at
waed Crist, er mai ychydig eiriau a ddy-
wedodd am dano, cyffrodd ei yspryd
ynddo ; gwelai ynddo ei hun fynydd o
hunan, a byd o falchder; ond gwelai, hefyd,
y cai ei waredu oddiwrth y cwbl, gan mai
yr Arglwydd sydd Dduw. " Yr wyf yn
cael," meddai, " nad yw pregethu profiad
yn fy mhorthi ; eithr pan leferir am y Dyn
Crist, yna yr wyf yn cael ymborth." Y
mae yr ymadrodd nesaf yn anhawdd ei
ddeaU. " Crybwyllais wrth y brawd
WilHams," meddai, " ei fod yn ddeddfol,
a'i fod ar ol mewn athrawiaeth, gyda
gorchudd ar ei lygaid. Ond wrth ganfod
yr Arglwydd gydag ef, ac yntau mor synil,
gwnaed fi yn ddiolchgar am yr hoU
ddoniau a rodded i'r naiU a'r UaU o
honom." WiUiams, Pantycelyn, ar ol
mewn athrawiaeth ! Yr ydym ni wedi
arfer edrych arno fel y penaf, braidd, o'r
duwinyddion ; fel un, yn rhinwedd rhyw
reddf ysprydol a drigai ynddo, yn dyfod i
gydnabyddiaeth â gwirioneddau dwyfol, y
methai y duwinyddion athronaidd, gyda
eu holl resymeg, ymddyrchafu atynt.
Tybiem mai efe oedd y nesaf yn ei syniadau
o'r Diwygwyr Methodistaidd at olygiadau
neiUduol Harris, parthed agosrwydd perth-
ynas y ddwy natur yn mherson ein Har-
glwydd. Cawn yn ei emynau lawer o'r
ymadroddion ag y beid ar y Diwygiwr o
Drefecca am eu defnyddio. Ác eto,
cawn yma Harris yn ei gyhuddo o fod yn
ddiffygiol mewn duwinyddiaeth, ac o fod â
gorchudd ar ei lygaid. Nid oes genym un
esboniad i'w roddi ar hyn ; rhaid i ni
gymeryd y dydd-lyfr fel y mae.
Dydd Sadwrn, aeth i St. Nicholas, Ue y
cafodd odfa felus. Ar y terfyn, cafodd
ymddiddan a'r cynghorwr anghyoedd,
WiUiam Harry, am gryfhau yr undeb
rhyngddo ef a'r brawd Rowland. Gwelai
y cynghorwr y byddai rhwyg rhwng y
ddau arweinydd yn ddinystr i'r seiadau.
Ymwelodd, yn nesaf, a'r Aberthyn, Ue y
Uefarodd yn Uym, gan ddangos y byddai y
rhai nad ydynt yn ufuddhau i'r efengyl yn
waeth eu cyflwr na'r paganiaid. Nos
Sadwrn, daeth i Lantrisant, a phregethodd
yn gyffelyb i'r modd y gwnaethai yn
Aberthyn. Yn y seiat breifat a ddilynai
gwnaeth ei oreu i uno yr aelodau ; cym-
heUodd hwynt i osod i fynu gateceisio.
Boreu y Sul, aeth i'r eglwys, Ue y cafodd
ei loni gan bregeth dda ; a chwedi hyny, yn
y sacrament, profodd ddirfawr felusder.
Dydd Llun, y mae yn yr Hafod, Ue
y Uefara am natur y gwaith a gerid
yn mlaen gan Dduw yn Nghymru er
ys deng mlynedd beUach. Cynghora
y rhai a gymunent yn y capelau Ym-
neiUduol i barhau i wneyd hyny, a'r
rhai a arferent gyniuno yn yr Eglwys i
barhau yr un modd. Dengys y modd yr
arosodd yr Apostohon yn yr Eglwys
luddewig, er fod yr un rhesymau ganddynt
dros droi eu cefnau arni, ag sydd gan y
Methodistiaid dros gefnu ar yr Eglwys
Sefydledig. Yna, aeth tua ChasteUnedd.
Ar y ffordd yno gwelai fod Duw yn
anfeidrol ; yn anfeidrol yn ei berffeitliiau,
yn anfeidrol yn ei wirionedd, ac yn an-
feidrol yn ei gariad, fel nad oes un gwrth-
ddrych mewn un man i'w gymharu iddo.
Yn NghasteUnedd, cyfarfyddodd â chwaer
grefyddol, a fwriadai ail-briodi, yr hon a
honai ei bod wedi cael ateb oddiwrth yr
Arglwydd gwahanol i'r hyn a gawsai
Harris ; daeth hyn yn drwm arno, gan
beri iddo lefain ar yr Àrglwydd : " Paham
y gosodaist fi yn y safle hon ? " Eithr
gwnaed ef yn dawel yn ei feddwl, gan
weled mai yr Arglwydd a drefnasai y Ue
iddo, ac a roddasai iddo gymhwysderau ar
ei gyfer, a hyny er mwyn ei ogoniant ei
hun. Pregethodd gyda rhyddid mawr,
oddiar Gal. vi. i. Dangosai y fraint o
gael canlyn Crist ; taranai yn erbyn
anwiredd, gan ddangos fod y cyfamod
tragywyddol yn erbyn pechod o bob math.
Yn y seiat breifat, gosododd ryw gasgUadau
ger eu bron, ac anogodd hwynt i ddysg-
yblaeth. Dydd Mawrth, cawn ef yn
myned i wrando Daniel Rowland, i rywle
cyfagos i Gastellnedd. " Pregethodd y
brawd Rowland yn ogoneddus heddyw,"
meddai, " ar undeb y credinwyr ; dangos-
odd yr angenrheidrwydd ar iddynt oll
gydimo mewn cariad, ac ar i bob un
adnabod ei le, ac aros ynddo, fel na bydd
y frwynen yn tybio ei hun yn gedrwydden,
a'r falwoden yn meddwl ei hun yn gawrfil.
Mwynheais ef yn ddirfawr ; gwnaed i mi
342
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1747-
lawenychu o'i herwydd ; a theimlwn yr
undeb agosaf ag ef, gan ddymuno cael
byw a marw gydag ef. Yr oedd nerth
anarferol yn cydfyned a'r Gair ; Uanwyd
eneidiau o'r Arglwydd, a chwythodd
awelon bahiiaidd drosom." Wedi y cyfar-
fod, aeth Harris i ymweled â brawd claf,
oedd yn llawn o fîydd ; yna, teithiodd
Rowland ag yntau yn nghyd i Glanyr-
afonddu, pellder o bum'-milltir-ar-hugain,
ac ymddengys fod WilUams, Pantycelyn,
yn y cwmni. " Cefais lawer o ryddid i
ddweyd wrth y brawd Rowland am fy
undeb ag ef," meddai Harris ; " am i ni
fod yn un i gadarnhau dwylaw ein gilydd,
ac er meddu awdurdod, gan geisio ganddo
ef gynorthwyo. Cyfeiriais, hefyd, at yr
angenrheidrwydd am ddysgyblaeth. Yr
oedd ef yn gryf yn erbyn yr athrawiaeth
am dystiolaeth yr Yspryd, ac yn ddolurus
ar Mr. Grifhth Jones. Llwyddais i'w
gymedroH yn y ddau beth. Bu pethau
eraill yn destunau ymddiddan, megys fy
ngalwad i bregethu ; yr Urim a'r Thumim,
&c." Dranoeth, wedi cyrhaedd Glanyr-
afonddu, ysgrifena drachefn : " Y ddoe,
wrth drafaelu gyda y brawd Rowland,
cefais lawer o ryddid, ond gwelaf fod cryn
waith i'w wneyd eto gan yr Arglwydd.
Siaredais am sancteiddrwydd y gwaith^
am ein hannrhefn, ein diffyg dysgyblaeth,
a'n pleidgarwch ; ac am i ni gydweled yn
breifat gyda golwg ar bob peth, fel y
byddom yn myned i fysg yr eneidiau gan
lefaru ag un llais. Dangosais am y modd
y mae y gwaith i'w gario yn y blaen yn y
canol, megys rhwng Esgobyddiaeth a Hen-
aduriaeth ; am y brawd Wesley yn dyfod
i fysg ein llafur ; ac am benderfynu i bob
un ei le. Ymddiddanasom am y rhyfel ;
ac am y cri oedd yn fy enaid ar i mi adael
bendith ar fy ol pa le bynag yr awn.
Llefarais i'r byw wrtho ef, a'r brawd
Wilhams, gyda golwg ar ysgafnder, am
iddynt fod yn ofalus, fel y gallwyf geryddu
y brodyr eraill, onide y byddai iddynt
redeg am loches at eu hesiampl hwy ; ac
am iddynt oddef fy lle i yn y gwaith
preifat, yr hwn sydd yn perthyn i'm lle
a'm swyddogaeth."
Nid oes genym hamdden i sylwi ond ar
un peth yn y difyniadau dyddorol hyn, sef
yr ysgafnder y rhybuddir Rowland, a
Williams, Pantycelyn, rhagddo. Nid oes
genym sail o gwbl dros feddwl eu bod yn
ddynion ysgeifn yn ystyr arferol y gair ; yr
oeddynt yn byw gormod yn nghymdeithas
gwirioneddau dwysion yr efengyl i arfer
ysgafnder ; ond ymddengys eu bod yn
naturiol yn siriol o dymher, ac yn medru
mwynhau chwerthiniad iachus, gan weled
yr ûchr ddigrif i ambell ddigwyddiad ; tra
yr oedd Howell Harris, o'r ochr arall, mor
eithafol o sobr a dwys, fel yr ymddangosai
pob digrifwch iddo, pa mor ddiniwed bynag
y gaUai fod, fel yn agoshau i gymydogaeth
yr hyn sydd bechadurus. Ymwahanodd y
cyfeillion yn Glanyrafonddu, ac aeth
Harris tua chyfeiriad cartref, gan bregethu
ar y ffordd yn Llanddeusant, a Chefny-
fedw. Dau ddiwrnod y bu yn Nhrefecca
cyn cychwyn drachefn am daith i Sir
Drefaldwyn. Ymddengys fod y cynghorwr
William Richard yn myned gydag ef, fel
cyfaill iddo. Aethant trwy Ty'nycwm, a
Llansantffraid, yn Sir Faesyfed, i Moch-
dref. Pregethodd yma yn Gymraeg ac
yn Saesneg i nifer o bobl syml, yn dechreu
dyfod i wrando yr efengyl. Ei destun
oedd, Mat. xi. 28. " Cefais ryddid mawr,"
meddai, " a Ilawer o nerth i'w gwahodd at
Grist. Dangosais nas gallent gael eu
hachub trwy eu gweithredoedd ; ac os
oeddynt yn ymddiried yn eu gweithredoedd,
mai eilunaddolwyr ydynt, ac nad yw
cariad Duw ynddynt," Gwedi y bregeth,
cynhaliwyd seiat breifat ; Ilefarodd y
Diwygiwr ar waed Crist ; aeth yn Ile
rhyfedd yno ; a buont yn nghyd hyd dri
o'r gloch y boreu, yn canu, yn gweddío,
ac yn cynghori. Bloeddiai Harris yn ddiym-
atal: ''Y Givaed! ygwaed! Y GWAED!"
ac yn y diwedd boddid ei lais gan floedd-
iadau y cynghorwyr oeddynt yn bresenol.
Oddiyma aeth i Lanfair, Ile y cafodd odfa
rymus, wrth ymosod ar falchder. Yn
nesaf, cawn ef yn Llanbrynmair, ac wrth
ei fod yn llefaru am waed Crist, daeth yr
Yspryd Glân i lawr yn rhyfedd. Dang-
osodd mai gwaed Duw ydoedd, a bod
angenrheidrwydd anorfod am dano ; yna,
ymhelaethodd ar dduwdod Crist;acnid
oedd neb yn bresenol i wrthwynebu yr
athrawiaeth. Yn y seiat breifat a ddilynai,
gan fod Ilawer wedi ymgasglu yno o Môn, a
Sir Gaernarfon, eglurodd natur y seiadau,
dysgyblaeth y Methodistiaid, ei le ei hun
yn mysg y Methodistiaid, yn nghyd a'r
modd y dechreuasai fyned o gwmpas i
bregethu. Ymhelaethodd, yn mhellach,
ar y gwahaniaeth rhwng y Methodistiaid
a'r Ymneillduwyr, ei fod yn (i) Yn wahan-
iaeth mewn athrawiaeth, gan fod Ilawer o
honynt hwy (yr YmneiIIduwyr) yn Baxter-
iaid. (2) Yn wahaniaeth mewn dysgybl-
aeth, gan fod y Methodistiaid oddifewn i'r
1747-]
HOWELL HARRIS.
343
Eglwys Sefydledig. Ac yn (3) Yn wa-
haniaeth mewn yspryd. Yn nesaf, aeth i
Blaen-Trefeglwys, lle y pregethodd oddiar
I loan V. 4 : " Oblegyd beth bynag a aned
o Dduw y mae yn gorchfygu y byd."
Cafodd odfa nerthol anghyíFredin ; daeth
yr Arglwydd i lawr mor amlwg, fel y bu
raid i'r pregethwr roddi i fynu, am y
boddid ei lais gan floeddiadau y dyrfa.
Oddiyno teithiodd i'r Tyddyn, a chlywodd
am ryw frawd anwyl o gynghorwr a syrth-
iasai i amryfusedd, fel yr oedd yn rhaid ei
dori allan. Aeth calon Harris yn ddrylliau
wrth glywed ; neshaodd at orsedd gras er
gwybod meddwl yr Arglwydd ar y mater ;
a'r ateb a gafodd oedd fod gogoniant Duw
a phurdeb y ddysgyblaeth yn galw am i'r
cerydd gaeÌ ei weinyddu, ac y byddai yn
foddion i gadw i lawr Satan a phechod.
Yr oedd nifer o Siroedd Môn, Caernarfon,
a Meirionydd yn y Tyddyn eto ; yn wir,
ymddengys eu bod yn ei ganlyn trwy ystod
y daith ; ac yn y seiat breifat a ddilynai y
bregeth, cymerodd fantais ar eu presenol-
deb i osod gerbron amryw faterion am-
gylchiadol. " Gosodais o'u blaen," medd-
ai, " achos y tỳ yn Sir Gaerfyrddin ; y
cynghaws cyfreithiol ; a dwyn íTrwyth i'r
Yspryd, sef yn benaf, gostyngeiddrwydd.
Dywedaisy rhaid i ni enill, pa un a gariwn
y gyfraith a'i peidio, am fod Duw gyda ni.
Anogais hefyd i ddysgyblaeth ; gan ddangos
pe na byddai ond chwech yn y seiat, fod
hyny yn ddigon i fyned yn mlaen yn yr
Arglwydd, ac y gwnai efe ychwanegu
atynt. Wedi gorphen pregethu, yr oedd-
wn gyda yr hoU bregethwyr ; gwelwn fy
Ile, a bod yr Arglwydd wedi rhoddi goleuni
a doniau i mi i'w lanw. Yna, wedi
gweddío, ymadawsom yn felus a'r ŵyn o'r
tair sir bellenig." Tebygol mai capel
Llansawel a feddyha wrth " y tŷ yn Sir
Gaerfyrddin." At ba gynghaws cyfreithiol
y cyfeiria sydd anhysbys ; yr oedd y Meth-
odistiaid, druain, yn cael eu herlyn mewn
rhyw lŷs neu gilydd yn barhaus yr adeg
hon. Tramwyodd oddiyma i Ddolyfelin, a
Llanfair-muaÌlt, gan gyrhaedd adref wedi
absenoldeb o ryw naw diwrnod. Cronicla
fod dylanwadau anarferol yn cydfyned a'i
weinidogaeth yn ystod y daith fion. Dyl-
asem grybwyll fod Cymdeithasfa Fisol yn
Llanfair-muallt, ac, yn ol cyfrif Harris, yr
oedd o bedwar i bum' cant o aelodau yn
bresenol.
Yr wythnos ganlynol, yr oedd Cym-
deithasfa Fisol yn Merthyr Cynog. Daeth
y cynghorwr Beaumont i Drefecca y dydd
blaenorol ; dywedodd Howell Harris wrtho
am y pethau a welai allan o le yn y seiadau
dan ei ofal, a chyfeiriodd at y dadleuon a'r
eiddigedd oedd yn eu mysg. Cydunasant
ar ddau beth, sef fod pob un at ei ryddid
i draethu y genadwri yn ei ffordd ei hun,
ond iddo wneyd hyny mewn symlrwydd ;
ac yn nesaf, mae yr hyn sydd yn oU-bwysig
mewn pregeth yw fod yr Argiwydd ynddi.
Aethant yn nghyd tua'r Gymdeithasfa.
Ar y ffordd, dadleuai Beaumont mai unig
ddefnydd y ddeddf yw egluro trueni
pechadur ; na ddylid anog neb i rinwedd,
oblegyd fod y ddeddf yn ei orchymyn, ond
mai cyfeirio y pechadur at Grist a ddylid.
Atebai Harris fod yr athrawiaeth hon
yn sawru o Antinomiaeth. Yn Merthyr,
ceisiodd Harris ddwyn rhai aelodau cref-
yddol, oeddynt wedi cwympo allan, i
gymod ; ond ofer a fu ei ymdrech. Agor-
wyd y Gymdeithasfa gyda phregeth gan
WiUiams, Pantycelyn, ar y morwynion
ffol. Gofidiai Harris yn ddirfawr wrth
glywed mor lleied o Grist ynddi ; tybiai ei
bod yn ddeddfol ; ac eto, ymdawelai, gan
gredu fod y pregethwr yn llaw Duw,
ac y byddai iddo ef ei dywys i'r iawn.
Gwedi darfod yr odfa, ceryddodd Harris
y pregethwr am ryw ymadroddion deddfol
a ddefnyddiasai ; ond ni dderbyniodd
Williams y cerydd mewn yspryd gostyng-
edig, eithr gwresogodd ei dymher, Dy-
wedai ei fod yn caru pawb, ac na ofalai
pa foddion a ddefnyddiai i yru pobl
oddiwrth eu pechodau. Eithr cafodd
Harris wledd i'w enaid wrth wrando
ar Morgan John Lewis yn pregethu
ar ddirgelwch yr iachawdwriaeth yn
Nghrist. Dangosai na wnaeth yr lesu
ddim fel Duw, na dim fel dyn, ond pob
peth fel Emmanuel ; eglurai y modd y
dywedasai Crist yn y tragywyddoldeb pell :
" Wele fi yn dyfod i wneuthur dy ewyllys,
o fy Nuw;" a'r modd yr oedd yr Oen
wedi ei ladd er dechreuad y byd ; dywedai
fod nid yn unig ein heuogrwydd wedi ei
roddi arno, ond hefyd ein hanwireddau.
" Cefais fwy o undeb ag ef nag erioed,"
meddai Harris ; " nis gallwn beidio ei
garu." Aeth y ddau yn nghyd yn gariadus
i Drefecca, ac agorodd Flarris ei holl
fynwes i'w gyfaill, gan bwysleisio ar yr
angenrheidrwydd am ragor o undeb rhyng-
ddynt, a mynu deall eu gilydd cyn myned
gerbron y bobl.
Yr ydym wedi cael aml gyfeiriad yn y
dydd-lyfr gyda golwg ar y ddau Wesley
yn dyfod i mewn i ìafur y Methodistiaid
344
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1747-
yn Nghymru. Ymddengys fod John
Wesley wedi pregethu yn Nghaerdydd, ac
hefyd yn Nghastellnedd, a rhyw leoedd
eraill, efallai, yn y Dywysogaeth, yn ystod
y flwyddyn 1746, ac ofnai y brodyr
Cymreig y ceid dau enwad o Fethodist-
iaid yn Nghymru, a'r naill yn tynu dan
sail y llall. Er cael cyd-ddealltwriaeth
ar hyn, gwahoddwyd John Wesley i
Gymdeithasfa, a gynhehd yn Mryste,
diwedd lonawr, 1747, ac y mae y pender-
fyniad y cydunwyd arno yn bwysig a
dyddorol. Fel hyn ei ceir yn nghofnodau
y Gymdeithasfa : " Ofnid, oblegyd ddarfod
i Mr. Wesley bregethu yn Nghastelhiedd,
mai y canlyniad a fyddai ymraniad yn y
seiat' Atebodd Mr. Wesíey : ' Nid wyf
yn bwriadu gosod i fynu seiat yn Ngastell-
nedd, nac mewn unrhyw dref arall yn
Nghymru, lle y mae seiat yn barod ; ond i
wneyd yr oU a allaf i rwystro ymraniad.'
Ac yr ydym yn cyduno oll, pa bryd bynag
y bydd i ni bregethu yn achlysurol yn
mysg pobl ein gilydd, y bydd i ni wneyd
ein goreu, nid i wanhau, ond i gryfhau
dwylaw ein gilydd, a hyny yn arbenig
trwy lafurio i rwystro ymraniad. A chan
fod ymraniad wedi cymeryd lle yn Ngor-
llewin Lloegr, cydunwyd fod brawd oddi-
wrth Mr. Wesley i fyned yno, gyda y
brawd Harris, i geisio iachau y clwyf, ac
i anog y bobl i gariad. Cydunwyd, yn
mhellach, i amddiffyn yn ofalus gymeriad
y naill y llall." A'r adran berthynol i
Gymru o'r penderfyniad y mae a fynom
ni. Y mae yn sicr i John W'esley gadw
at y cytundeb yn deyrngar, ac mai hyn
sydd yn cyfrif am y fîaith na wnaeth
Wesleyaeth ei hymddangosiad yn y Dy wys-
ogaeth hyd ddechreu y ganrif ddilynol.
Teimlai y ddwy adran o'r fyddyn Fethod-
istaidd, er eu bod wedi ymwahanu, a'u
bod yn gwahaniaethu oddiwrth eu gilydd
ar rai athrawiaethau o bwys ; eto, eu bod
wedi cychwyn o'r un fìynhonell, ac yn
cael eu llywodraethu gan y cyffelyb
yspryd, a'u bod yn rhy agos gyfathrach i
ymosod ar eu gilydd trwy osod i fynu
seiadau gwrthwynebol.
Ganol mis Mai, cychwynodd Howell
Harris am Lundain, a bu yno am agos i
ddau íìs o amser. Prin y cafodd fod
gartref dri diwrnod wedi dychwelyd, nad
oedd galw arno i fyned i Gymdeithasfa
Chwarterol Cilycwm. Dywed y dydd-lyfr
fod y Gymdeithasfa yn cael ei chynal yn y
" T\' Newydd," yr hyn a brawf fod yma
gapel Methodistaidd wedi ei adeiladu.
Agorwyd y Gymdeithasfa gyda phregeth
gan Peter Wilhams, y tro cyntaf y
darllenwn am dano yn pregethu mewn
Sassiwn. Ei destun oedd : " Mor gu
genyf dy gyfraith di," a phregethodd yn
rhagorol, meddai Harris. Ar ei ol, pre-
gethodd Daniel Rowland yn ardderchog.
Teimlai Harris fod yma genadwri oddi-
wrth yr Arglwydd ato ef ; toddwyd ei
enaid o'i fewn ; ac er fod yn y bregeth rai
ymadroddion deddfol, teimlai yn ddiolch-
gar fod gan Dduw y fath ddyn i sefyll i
fynu drosto. " Cefais dystiolaeth ynof,"
meddai, " fod Duw wedi dyfod i'r gwersyll
yn erbyn Satan a phechod, ac felly ein
bod yn sicr o'r fuddugohaeth." Gwedi
llawer o gymhell, ufuddhaodd Howell
Harris i bregethu, a chafodd odfa hapus
iawn. Ymddengys ei bod yn Gymdeith-
asfa ddedwydd drwyddi. " Yr oeddym yn
ddedwydd ac yn gariadlawn," meddai y
dydd-lyfr ; " a phenderfynasom amryw
bethau, yn tueddu at well dysgyblaeth, yn
hollol unol, y rhai y methem eu penderfynu
yn ílaenorol. Darfu i ni gadarnhau dwy-
íaw ein gilydd, a threfnu rheolau parthed
priodas. Cawsom hyfrydwch dirfawr wrth
ganu a gweddío ; ac yr oedd yn felus fod
yr Arglwydd wedi rhoddi i ni seibiant
oddiwrth ystorm enbyd." O'r Gymdeith-
asfa, aeth Howell Harris i'r Ceincoed, Ue
y preswyhai Peraidd Ganiedydd Cymru
ar y pryd. Boreu dranoeth, pregethodd
Thomas Wilhams, y Groeswen, a Harris
ar ei ol. Gwaed Crist, yn ei rinwedd, ei
ogoniant, a'i anfeidroldeb, oedd mater
Harris ; ac ychwanega fod y brawd Will-
iams, Pantycelyn, yn gwrando. Wedi
yr odfa, aeth Howell Harris a Thomas
W^ilhams yn nghyd i Drefecca, a chawsant
gyfeillach felus ar y ffordd.
Tua dechreu Awst, cawn y Diwygiwr
yn cychwyn am daith faith trwy Siroedd
Caerfyrddin, Aberteiíì, a Phenfro. Pre-
gethodd yn nghyntaf yn Llanfair-muallt,
ar yr heol, i gynuUeidfa anferth o bobl.
Ffynon wedi ei hagor i dŷ Dafydd ac i
breswylwyr Jerusalem oedd ei fater ; ac
efengylai yn felus, gan wahodd pawb i'r
ffynon. Yn y seiat breifat, bu yn ymdrin
a'r tỳ cwrdd y bwriedid ei godi yn y dref.
O Lanfair, aeth Mr. Gwynn ag yntau i
Glanirfon, ger Llanwrtyd ; cyfrifa fod y
gynuheidfa yma yn ddwy fil o bobl. Dir-
gelwch ein cyfiawnhad a'n sancteiddhad
yn Nghrist, trwy ei fod ef yn cael ei wneyd
yn bechod trosom, oedd ei fater, ac ym-
ddengys iddo gael odfa rymus. Yr oedd
1747-]
HOWELL HARRIS.
345
ganddo daith o ugain milltir i Gayo, ac yr
oedd yn hwyr arno yn cyrhaedd yno; felly,
yr oedd y gynuUeidfa a ddaethai i wrando
arno wedi gwasgaru. Pregethodd boreu
dranoeth, modd bynag. Sylwa yma, nad
oedd mewn angen am drefnusrwydd, na
chanlyn testun, wrth bregethu : " Yr Ar-
glwydd sydd yn siarad," meddai ; " yr
wyf finau yn argyhoeddi, yn taranu, yn
cymhell, neu ynte yn cyhoeddi fod Duw
wedi caru y byd, yn union fel y byddaf yn
cael fy nghyfarwyddo." Awgryma y
sylw mai pregeth ddidestun a roddodd yn
Nghayo. Y lle nesaf y pregetha ynddo
yw y t)' cwrdd newydd yn Llansawel ;
ífynon wedi ei hagor yw y testun ; a dy wed
ei fod yn enbyd o lym at y rhai a broffesent
grefydd, ond a aent at yr Ysgrythyr gyda
goleuni natur. " Yr oedd yr Arglwydd
yn amlwg yn mysg y bobl," meddai ;
" llawer oeddynt yn ddrylliog, ac a fendith-
iwyd." Trafaelu yn fras y mae, a chawn
ef y noson hono wedi croesi y gadwyn
fynyddoedd sydd ar derfyn gogledd-orllewin
Sir Gaerfyrddin, ac wedi cyrhaedd Maes-
noni. Cyd-deithiai ag ef yno ryw gler-
igwr ieuanc, newydd gychwyn gyda
chrefydd, a chynghorai Harris ef yn
ddifrifol iawn i íod yn fîyddlawn i Dduw,
ac i'r eneidiau dan ei ofal, a pheidio
ymgynghori â chig a gwaed. Ei destun
yn Maesnoni oedd, Rhuf. vii. 21. Yr
oedd dau offeiriad a chynghorwr yn
gwrando arno, a chafodd awdurdod a
nerth i'w rhybuddio, fel y byddai iddynt
ateb i Dduw, ar iddynt bregethu y gwaed
i'r bobl. Yna, aeth at ei hoff bwnc,
dirgelwch y Duwdod, a dirgelwch Crist.
" Y Dyn hwn yw Duw," meddai, " nid
oes un Duw arall. Dangosais fod rhai
Cristionogion yn gwneyd tri Duw, ac yn
edrych ar y Tad fel uwchlaw Crist."
Dranoeth, sylwa drachefn : " Neithiwr,
dangosais nad oes yr un Duw ond Crist ;
nad yw y Tad a'r Yspryd yn Dduwiau
eraill, onide na fyddai yr un o honynt yn
Dduw ; eto, mai y Gair, ac nid y Tad
na'r Yspryd, a wnaed yn gnawd. Dang-
osais y modd y daeth Duw yn ddyn, ac y
bu farw, a bod ei waed yn waed Duw."
Y lle nesaf y pregetha ynddo yw Cwm-
cynon, a dirgelwch y gwaed yw y mater.
Oddiyno, teithiai trwy Pengwenallt,
Llwynygrawys, lle y teimlai yn wael ei
iechyd, ac Abergwaun. Odfa ddilewyrch
a gafodd yn y lle diweddaf. Dydd Sul,
wythnos wedi ei gychwyniad o gartref,
cawn ef yn Nghastellyblaidd. Aeth yn y
boreu i eglwys Hay's Castle, " lle y mae
yr Arglwydd yn casglu ei braidd yn nghyd
i'w porthi trwy y brawd Howell Davies,"
ac efe a weinyddai yn yr eglwys y boreu
hwnw. " Y cyfiawn a fydd byw trwy
ffydd," oedd ei destun ; eithr teimlo yn
galed a chnawdol a wnelai Harris wrth
wrando. Eithr ar y cymundeb a ddilynai,
daeth yr Arglwydd i lawr, a gwnaed pen
Calfaria yn hynod felus, wrth fod yr Yspryd
yn ei ddangos. " Cefais olwg fwy ardd-
erchog nag erioed ar fendithion a chyfoeth
Calfaria," meddai ; " yr wyf yn myned i
fynu ato ef yno, lle y mae pechod a marw-
olaeth yn cael eu concro. O, Calfaria !
Caffaria ! Dyma lle y mae pardwn a phob
bendith i'w cael." Gwedi hyny, pregeth-
odd yntau, oddiar Eph. iii. 18, a chafodd
odfa rymus anarferol. Y noson hono, aeth
i Longhouse, lle y cadwodd seiat breifat,
gan ymdrin â nifer o faterion, megys y
pleser o gyfarfod Paul, Petr, a Dafydd, yn
y nefoedd, gwobrau ffyddlondeb, a'r ang-
enrheidrwydd am oddefgarwch. Ac yna
aeth at ei hoff fater, sef dirgelwch Crist.
Dydd Mercher, cynhehd Cymdeithasfa
Fisol yn Hwlffordd, ac aeth yntau yno.
Ar y ffordd, gweddîai yn daer dros y
brodyr, ar i hunan gael ei ddinystrio
ynddynt, ar i Dduw fod oll yn oll, ac ar i
bob un weled ei le ei hun, a Ile eraill.
Pwy oedd yn y Gymdeithasfa, ni ddywed,
ac ni chronicla ymadroddion neb, oddi-
gerth ei eiddo ei hun. Agorodd y gyn-
hadledd gydag anerchiad, yn yr hwn yr
aeth dros nifer mawr o wahanol faterion ;
dangosodd y modd y tywynodd goleuni yr
addewidion amodol arno gyntaf; y modd
y dylai ffydd, gras, a gwaith, gael eu
pregethu yn eu lleoedd priodol, a'r angen-
rheidrwydd am dlodi yspryd. Yr oedd
yn dra Ilym' wrth gyfeirio at falchder a
difaterwch, ac at y rheidrwydd i bob un
adwaen ei le, ei berthynas a'r corph, ac
a'r Pen. Ymddengys fod rhywrai yn euog
o dori eu cyhoeddiadau y pryd hwnw,
a dywedai Harris y dylent gael eu hatal i
bregethu am flwyddyn. " Yna," meddai,
" cyfeiriais at waith rhai o'r offeiriaid yn
fy nghyhuddo o fod wedi cyfnewid mewn
athrawiaeth, ac yn fy ngalw yn Anti-
nomiad. Ymgyngorasom am y modd i
dderbyn i'r seiat, ac i dori allan. Gwelwn
nad oedd yr un dull ddim yn gweddu pob
man, ac y rhaid i ni ymwadu a'n rheswm
ein hunain. Yr oeddwn yn finiog wrth
gyfeirio at dderbyn wyneb, ac am yr
angenrheidrwydd i ni gryfhau dwylaw ein
346
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1747-
gilydd, a dywedais fy mod wedi dod yno i
gryfhau dwylaw yr offeiriaid. Yna, aetii-
um i'r ystafell, lle y lleferais oddiar Mat.
viii. 26." Gwedi y bregeth, bu seiat
drachefn ; eisteddodd y cynghorwyr a
Harris i fynu hyd ddau o'r gloch y boreu,
a dywed ei bod yn noswaith fendigedig.
Ymddengys ei bod yn Gymdeithasfa hapus,
a phawb yn cydweled ; ond y mae yn dra
thebyg nad oedd neb o'r offeiriaid yno, a
bod Howell Harris yn cael pob peth yn ei
ffordd ei hun. Oddiyma, pasia trwy
Walton-West, Llangwm, a Mounton, ac
yna dychwel i Drefecca, wedi taith o un-
diwrnod-ar-bymtheg. Y mae yn deilwng
o sylw na alwodd y tro hwn yn y Parke,
cartref Howell Davies, er ei fod yn pasio
yn agos, nac ychwaith yn Llangeitho.
Er ei fod yn cydweithio a'i frodyr hyd yn
hyn, hawdd gweled fod ei deimladau atynt
wedi oeri, ac nad oedd, fel cynt, yn dyheu
am eu cymdeithas. Gyda golwg ar y
cyhuddiad o Antinomiaeth, y cyfeiria ato
fel wedi cael ei ddwyn yn ei erbyn gan un
o'r offeiriaid, efallai fod rhyw gymaint o
sail iddo. Cymdeithasai ormod a Beau-
mont, yr hwn a gyfeiliornasai yn bur bell
i gyfeiriad Antinomiaeth ; wedi bod yn
nghyfeillach y brawd hwnw, a chael ei
ddylanwadu i raddau ganddo, byddai yn
defnyddio ymadroddion nas gellid eu cyf-
iawnhau, ac yn galw pregethu dyledswydd
yn ddeddfol ; ond wedi ymryddhau oddi-
wrth ddylanwad Beaumont, deuai yn ei ol
drachefn.
Y mae yn ddrwg genym fod y dydd-
lyfr, o ganol Awst hyd ddiwedd rais
Hydref, ar goll, ac y mae ein gofid yn
fwy oblegyd iddo gymeryd taith i'r Gog-
ledd yn mis Hydref. Cawn ef yn ysgrifenu
at ei wraig o Lanbrynmair, Hydref 21 ; ac
y mae olysgrif i'r llythyr o'r Bala, y dydd
Gwener canlynol. Fel hyn y dywed :
" Daethom yn ddiogel yma, a hynod fel y
mae yr Arglwydd wedi bod gyda ni. Y
mae Duw wedi cymeryd y Ile hwn ; ni
chawsom ddim gwrthwynebiad ; ond yr
oedd pob peth yn dawel. Nid yw yn
debyg y cawn ein rhwystro mwy. Yn
mhen deuddeg diwrnod yr wyf yn gobeithio
eich gweled eto. Yr ydym yn myned i
Sir Gaernarfon, a Môn, ac yna trwy
Siroedd Dinbych, a Meirionydd." Tebygol
fod James Beaumont gydag ef fel cyd-
ymaith. Cawn ef yn yr Amwythig,
Hydref 31, yn dychwelyd adref, ac yn ei
ddydd-Iyfr ysgrifena fel y canlyn : " Daeth-
um yma neithiwr, gwedi taith yn Ngogledd
Cymru, Ile y dysgwyliaswn y cawn fy
Ilofruddio, a'r Ile yr oedd y drws wedi cael
ei gau yn fy erbyn am rai blynyddoedd,
gan lid y werinos, a chwerwder y clerig-
wyr, y rhai a gawsent eu cynhyrfu yn
waeth am fod y bobl yn gadael yr Eglwys
yn hollol ar ol fy ngwrando. Yn awr y
raae y drws yn agored, ac er i mi fod
yn y Bala, a Sir Gaernarfon, lle y buaswn
mewn perygl am fy mywyd, yr oedd y
gelyn wedi ei gadwyno, ac yr wyf yn
gobeithio i lawer o dda gael ei wneyd.
Sefydlwyd seiadau ; Ilawer o'r rhai a
adawsent yr Eglwys a arweiniwyd i ddyfod
yn eu hol, ac i aros ynddi. Cefais fy
nerthu yn oruwchnaturiol i drafaelu o
gwmpas deg-milltir-ar-hugain y dydd ; i
aros i lawr hyd ddeuddeg, a thri, a chwech
o'r gloch y boreu ; i drefnu seiadau, i holi
eneidiau, ac i bregethu. O Arglwydd, ti
a glywaist ein gweddíau, ac a roddaist i
mi i ddychwelyd. Ti a roddaist i mi i
weled dy iachawdwriaeth yn dyfod i
Ogledd Cymru, druenus a thywyll. Ym-
welaist a'r bobl a eisteddent mewn tywyll-
wch Aiphtaidd tew. Tebygol y gwneir
gwaith mawr yn Siroedd Meirionydd, Caer-
narfon, Môn, a Dinbych ; gellid meddwl fod
tueddfryd at wrando yn y bobl ; O na
chyfrifid fi yn deilwng i ddwyn cenadwri y
Brenhin." Felly yr ysgrifena y Diwygiwr
yn yr Amwythig, ar ei ffordd adref.
Hyfryd fuasai genym ei ganlyn trwy yr
holl daith, gan ddeall â pha leoedd yr
ymwelai, a pha fatli odfa a gaffai yn mhob
lle ; ond o'r pleser hwn yr ydym wedi cael
ein hamddifadu. O'r Amwythig, tram-
wyodd trwy Berriw, y Tyddyn, a Llanfair-
muallt, gan bregethu yn mhob Ile ar ei
ffordd i Drefecca.
Cyn myned i'r Gogledd, ysgrifenodd
lythyr pwysig at y Parch. Edmund Jones ;
ac er meithed y Ilythyr, teimlwn y dylai
gael ei osod i mewn yn Ilawn, ar gyfrif ei
eglurder, ei yspryd Cristionogol, a'r goleu
a deifl ar amryw gwestiynau. Fel hyn y
darllena : " Anwyl frawd, — Yr wyf yn
cael, oddiwrth Iythyr o'r eiddoch at Mr.
Price, fy mod yn cael fy nghyhuddo o
haeru pethau croes i Air Duw, a chroes
i'ni hymadroddion fy hun ar adegau eraill.
Ac nid hyny yn unig, ond hefyd o haeru
mai Duw sydd yn rhoddi hyn i mi yn
ddigyfrwng, ac felly, fy mod yn gwneyd
Duw yn geiwyddog. Yr ydych yn meddwl
fod hyn yn beth enbyd ; yr wyf finau yn
meddwl yr un peth ; ac oddiar pan ei
clywais yr wyf wedi bod yn holi fy hun,
1747-]
HOWELL HARRIS.
347
gan wysio fy nghydwybod i gyflawni ei
swydd, ond yr wyf yn methu cael fy hun
yn euog. Ar ba seiUau y gwneir y
cyhuddiad, nis gwn ; a pheth a allaswn
ddweyd, oddiwrth yr hyn y gallai rhai
pobl dda, trwy gamddeall, trwy demtasiwn
Satan, neu trwy fy mod yn llefaru yn
aneglur, rywbryd neu gilydd, gasglu y
cyfryw syniad, nis gallaf goíìo ; gan nad
wyf wedi cael clywed pwy yw y cyhudd-
wyr, na pheth yw y geiriau a ddefnyddiais.
Ond os defnyddiais y cyfryw ymadroddion,
neu rywbeth yn ymylu arnynt, yr wyf yn
datgan fy mod yn ofidus am danynt. Ond
synwn fy mod yn cael fy nghyhuddo, fy
mhrofi yn euog, a chael ymddwyn ataf
felly, a minau heb glywed dim am y peth.
Yr oeddwn yn tybio na wnelai Mr. Jones-
ymddwyn felly at neb. Efallai eich bod
yn meddwl wrth ysgrifenu at arall, heb fy
hysbysu i, y cymerwn y cerydd yn fwy
tirion gan arall. Ond beth bynag am
hyny, nid oedd hyn yn ganlyn y rheol
wrth ba un yr ydym i rodio. Ar yr un
pryd, gallaf ddweyd fy mod yn ddiolchgar
i ddyfod i wybodaeth am fy ffaeleddau
rywfodd, oblegyd gwn fy mod yn llawn o
honynt. Os gellwch edrych arnaf mewn
unrhyw ystyr fel yn cael fy nefnyddio gan
Dduw, er fy mod, yn ol y goleu sydd
genych chwi, yn cael fy nghamarwain ; os
gellwch edrych arnaf fodd yn y byd fel
brawd, neu gydweithiwr, byddai yn dda
pe na baech yn rhoddi coel i adroddiadau
sydd yn rhwystro cariad brawdol, yr hwn,
y galíaf ddweyd, fy mod yn ei gael yn fy
enaid atoch chwi. Er fy mod wedi meddwl
fod eich zêl dros Annibyniaeth wedi eich
cario weithiau yn rhy bell, i geisio rhwystro
y gwaith ag y mae yr Arglwydd, yr wyf
yn gostyngedig dybio, wedi ei ymddiried i
mi ; ac er fy mod wedi ei chael yn ddyled-
swydd i wrthdystio yn erbyn rhai mesurau
a gymerasoch ; oni wnaethum hyn mewn
gostyngeiddrwydd, a chyda chariad a
phwyll, yr wyf yn edrych arno fel un o'r
pethau ag y mae yn rhaid i mi alaru o'u
herwydd bob dydd.
Bid sicr, y mae rhyw bethau yn ein
golygiadau a'n barnau yn ein cadw i
raddau yn mhell oddiwrth ein gilydd. Yr
wyf wedi, a throsof fy hun yn, dymuno ar
i bawb a arddelir i unrhyw fesur gan yr
Arglwydd gael cyfleusderau cyffredinol i
gyfarfod, i gydymddiddan, ac i benderfynu
ar ryw reolau i rwystro oerfelgarwch,
rhagfarn, celwydd, a gwanhau dwylaw ein
gilydd. Gyda golwg ar y profion a
ddygwch yn mlaen y byddai yn well i ni
adael yr Églwys Sefydledig, a'r haeriad ei
fod yn ein bwriad i osod ein hunain i fynu
fel eglwys ; nid wyf yn foddhaol gyda
golwg ar y naill na'r llall. Am y diweddaf,
ni chlywais gymaint a son am dano o'r
blaen. x\m y cyntaf, buasai yn dda genyf
pe baech yn fy hysbysu parthed defnydd-
ioldeb y brodyr sydd wedi ein gadael. Yr
ydych chwi yn addef fod crynswth y bobl
ydynt yn marw o eisiau gwybodaeth yn
perthyn i'r Eglwys Sefydledig ; ac y mae
drysau newyddion yn agor iddynt yn
barhaus o fewn cylch eu Heglwys eu hun.
Am y brodyr a'n gadawodd, y maent eu
hunain yn cyffesu eu bod yn cael mwyaf
o'r Arglwydd pan y cyfarfyddant a'u hen
gyfeillion, Nid wyf yn cael eu bod yn
cael eu bendithio i ail-ddeffro y proffeswyr
cysglyd, yn mysg pa rai y maent. A chan
fod arnom eisiau cymhorth i fyned allan
yn erbyn byd tywyll a drwgdybus, nis
gallaf lai na chredu ddarfod i gylch eu
defnyddioldeb gael ei gyfyngu yn ddirfawr,
o herwydd eu bod yn gadael y gwaith
cyhoeddus am un Ilai cyhoeddus. Gyda
golwg ar ein bod yn rhwystro pobl i uno
â rhyw frodyr YmneiIIduoI, nis gallaf lai
nag edrych ar y cyhuddiad fel un hollol
annheg, gan ei fod yn gwbl wybyddus i'r
nifer amlaf o'r cynulleidfaoedd (YmneiII-
duol), y darfu i ni sefydlu yn eu cymydog-
aeth, gael eu cynyddu a'u bywhau trwy
ein hofferynoliaeth. Yn ol y goleuni a
feddem, ymddangosai i ni nad oedd yr
eneidiau yn llwyddo (yn mysg yr Ym-
neillduwyr), ac addefent hwy eu hunain
mai yn ein mysg ni yr oeddynt yn cael eu
porthi. Am eraill, oeddynt yn fywiog, ac
yn taflu eu heneidiau i'r gwaith, tra gyda
ni, gwedi iddynt ymneillduo, hwy a aethant
yn glauar a difater. Felly, yn Ile cynyddu
mewn bywyd ysprydol, hwy a aethant yn
ol. EraiII a gawsant eu tramgwyddo, a'u
cadw rhag dyfod i wrando arnom, trwy
dybio ein bod mewn cyfrwysdra yn honi
perthynas ag Eglwys Loegr. Yr oedd
rhagfarn y rhai hyn yn annyoddefol, a
gwnaent eu goreu i dynu pobl o'r Ileoedd,
yn mha rhai y darfu i'r Yspryd Glân eu
cadw, a'u porthi am amser maith. Os ar
yr ystyriaethau hyn y darfu i mi lefaru yn
erbyn ymddygiadau rhai o honoch, ond i
chwi gadw mewn cof y rheol am wneyd i
eraill fel yr ewyllysiech i eraill wneyd i
chwithau, bydd i'ch digofaint gaeí ei
leddfu i raddau mawr. Pe y deuai rhyw-
rai i fysg y bobl y buoch chwi yn offerynol
348
Y TADAU METHODISTAIDD.
.1747-
i'w galw, a'u casglu allan o'r byd, gan eu
harwain ar gyfeiliorn ; yn enwedig os oedd-
ynt yn hoUol dawel pe y cawsent lonydd ;
a phe y caech eu bod mewn canlyniad yn
myned i wrando pregethwyr nad oeddycii
yn hollol foddhaus ar eu hathrawiaeth,
oni theimlech hi yn galed fod y rhai hyn
(sef y rhai a arweinient eich pobl ar
gyfeihorn) yn cwyno am eich bod yn
ceisio cadw eich cynulleidfaoedd yn nghyd,
tra mewn gwirionedd mai hwy oedd yr
ymosodwyr, ac a ruthrasent i mewn i. lafur
rhai erailí ?
Y mae ein rhesymau dros aros yn yr
Eglwys Sefydledig yn ymddangos i ni yn
drymach o lawer na'r rhesymau dros ei
gadael. Felly, credem y pechem yn erbyn
yr Arglwydd a'i waith pe y troem ein
cefnau arni ; a rhoddem gyfle i'r gelyn i
rwystro y diwygiad gogoneddus, yr hwn
sydd yn helaethu ei derfynau bob dydd.
Yn fy nhyb ostyngedig i, pe y codasai
rhyw ddiwygiwr yn mysg yr eglwysi
Ymneillduol, heb osod i fynu gynulleidfa-
oedd ar wahan, buasai yn gwneyd mwy o
wasanaeth i eglwys Dduw, ac yn rhoddi
llai o dramgwydd i eraill. Yr wyf yn
dweyd hyn yn unig fel fy syniad i ar y
mater ; nid wyf yn barnu ; gwn fod gan
Dduw amrywiol fwriadau, felly, yr wyf
yn ddystaw. . . . Fy marn i ydyw, a dyna
oedd eich barn chwithau unwaith, fod yr
Arglwydd yn gadael yr Ymneillduwyr, ac
yn myned i fywhau ei waith yn yr Eglwys
Sefydledig. Pe y deuech i'n mysg fel
cynt, ac mewn dull na fyddai genym le i
feddwl eich bod yn dyfod i geisio ein
rhanu, yr wyf yn credu y gwelech ein bod
yn y íîurf y mynai Duw i ni fod ; a'i fod ef
yn ein mysg, er ein llygredigaethau, ein
gwendidau, a'n cymysgedd. Pe y deuech
felly, cryfhaech ein dwylaw, yn lle eu
gwanhau, gan weled ein bod yn dwyn
pwys y dydd a'r gwres, a bod yr holl fyd
ac ufifern yn ein herbyn. Wrth ganfod yr
anhawsderau â pha rai yr ydym yn ymladd,
cynhyrfid eich calon ddewr ynoch eto, a
llosgai eich yspryd mewn cydymdeimlad
a'r dynion ieuainc sydd yn myned allan,
a'u bywydau yn eu dwylaw, yn erbyn y
Philistiaid. Deuwch. Na fydded cynhen
rhyngom mwyach. Bydded i ni gytuno
yn hyn, sef na byddo i ni wanhau dwylaw
ein gilydd ; ac os na ellwch gredu ein
bod ni yn iawn wrth aros yn yr Eglwys
Sefydledig, peidiwch a'n condemnio, pan
y sicrhawn chwi mai mater o gydwybod
yn hollol ydyw genym. Yr ydyni yn
gweled y fath waith wedi ei ddechreu ;
rhai clerigwyr o enwogrwydd wedi cael eu
deffro ; nifer o bersonau o'r safle fwyaf
anrhydeddus yn dyfod i wrando, a rhai o
honom wedi cael ein galw i bregethu yn
breifat o flaen pendefigion, yn mysg pa
rai y mae un ardalydd, un iarll, dwy
arglwyddes, a dwy foneddiges o deitl. Yr
ydym yn gweled rhagfarn yn syrthio, a
drysau yn agor trwy yr oll o Loegr, yn
mron, ac, o'r diwedd, yn Ngogledd Cymru,
a hyd yn nod yn yr Iwerddon. Felly,
peidiwch ein condemnio, os oes arnom ofn
rhedeg o flaen yr Arglwydd. . . . Ni
frysia yr hwn a gredo. Bydded i ni
gymeryd ein dysgu gan Dduw, a bod yn
amyneddgar, ac yn ddyoddefus, ac yn
ffyddlawn iddo ef ; yna, gwelwn y bydd i'r
gwirionedû Iwyddo yn amser da Duw, gan
yru cyfeiliornad a phenrhyddid allan o'r
Eglwys ; neu ynte, caiff Satan y fath allu
i greu erledigaeth o fewn i'r Eglwys, fel
ag i yru allan yr holl ffyddloniaid. . . . Os
ydyw yr hen Eglwys i gael ei gadael i
wrthod y goleuni, a chynulleidfaoedd ar
wahan iddi i gael eu ffurfio, yr hyn yr wyf
yn gobeithio na fydd byth, yna, rhaid i
Ragluniaeth drefnu yr amser a'r offerynau.
O, gan Dduw, na allech chwi ddyoddef
mwy gyda'r hen Ymneillduwyr, a Ilafurio
yn eu mysg mewn amynedd, a cheisio
cael dynion ieuainc Ilawn cariad i ddilyn
yr hen weinidogion, a pheidio sefydlu
cynulleidfaoedd ar wahan, gan geisio tynu
pobl oddiwrthym ni ; eithr ein gadael yn
yr Eglwys Sefydledig. Yna, mi a allwn
eich cyfarfod yn breifat, neu mewn Cym-
deithasfa, i'r pwrpas o sefydlu pethau, a'ch
anrhydeddu fel un nad wyf yn deilwng i
olchi ei draed. Yna, mi a allwn agor fy
holl galon i chwi gymaint ag erioed. Yr
wyf yn gobeithio fy mod yn ysgrifenu yn
symlrwydd yr efengyl. A gallaf yn ddi-
ragrith alw fy hun mor gariadus ag.erioed :
Eich annheilyngaf Frawd, a chyd-bech-
adur, eithr wedi ei achub trwy ras, ac yn
wir awyddus am eich cyfarfod fry, i gyd-
foli yn dragywyddol ; ac i ymddwyn yma
fel eich cyd-ddinesydd, a'ch cyd-Iafurwr, —
H. Harris."
Llythyr cryf, eto boneddigaidd, wedi ei
ysgrifenu mewn yspryd Cristionogol, ac
yn Ilawn o natur dda. Y mae rhai pethau
sydd i raddau yn dywyll ynddo, megys yr
anogaeth i Edmund Jones i lafurio mewn
cydweithrediad a'r hen Ymneillduwyr. A
oes yma awgrym fod y prophwyd o Bont-
yp\vl, er ei holl dduwioldeb, nid yn unig
1748.]
HOWELL HARRIS.
349
yn erlid y Methodistiaid, ac yn ceisio
lladrata eu pobl, ond hefyd yn ddraen yn
ystlys ei frodyr ei hun, ac yn methu cyd-
weithio â hwynt ? Modd bynag, gwneir
rhai pethau yn hollol gUr yn y llythyr :
(i) Dengys nad oes sail o gwbl i'r hyn a
haerir gan Dr. Rees, Abertawe, a hanes-
wyr eraill a'i canlynant, sef mai prosel-
ytiaid o fysg yr Ymneillduwyr oedd
aelodau cyntaf y Methodistiaid. Dywed
Harris yn bendant, fel ffaith oedd yn
gyffredinol wybyddus, na ddarfu i'r Meth-
odistiaid adeiladu ar sail yr Ymneillduwyr,
na thynu pobl oddiwrthynt ; ond, yn
hytrach, i sefydHad seiadau yn nghymyd-
ogaeth hen eglwysi Ymneillduol, fod o
fantais i'r eglwysi hyny, trwy ychwanegu
eu rhif, a chynyddu eu gweithgarwch.
(2) Er yr ymlynai Harris wrth yr Eglwys
Sefydledig, nid oedd yn erhdgar o gwbl at
y rhai a'i gadawsent. Ar yr un pryd, ofnai
ddarfod iddynt gyfyngu ar gylch eu
gweithgarwch trwy gefnu arni, a lleihau eu
cyfleusterau i wneyd daioni. (3) Breudd-
wydiai fod yr Eglwys Sefydledig i gael ei
leíeinio trwyddi gan y diwygiad ; y deuai
y pendeíìgion yn bleidiol i bregethu efeng-
ylaidd, ac efallai yn aelodau gweithgar
o'r seiadau Methodistaidd. Nid rhyfedd,
felly, ei fod yn wrthwynebol i ymneillduo
oddiwrthi. Tra y byddai gobaith i'w
freuddwyd gael ei sylweddoh, ystyriai mai
rhedeg o flaen yr Arglwydd fyddai ei
gadaei.
Yr wythnos wedi iddo ddychwelyd o
Ogledd Cymru, cynheHd Cymdeithasfa
Fisol yn Nhrefecca. Nid oedd yr un o'r
offeiriaid yno ; felly, Howell Harris a
lywyddai. Agorodd y Gymdeithasfa gyda
phregeth, ac ymddengys iddo gael cyfarfod
annghyffredin. Yn y seiat a ddilynai,
anerchodd yr aelodau ar amryw faterion,
ac yn arbenig cyfeiriodd eu golygon at
waed Crist. " Ỳ gwaed ! " meddai ; " y
mae yn waed hollalluog, yn waed an-
feidrol ; pwy a fedr ei blymio ? Y gwaed
hwn a unodd fy enaid â Duw. üs oes
arnoch awydd am fod yn sanctaidd, ym-
olchwch yn hwn. Os ydych am goncwerio
pechod a Satan, dewch at y gwaed. Os
ydych am fyned i'r nefoedd, cymerwch y
gwaed gyda chwi." Ac wrth ei fod yn
ymhelaethu ar rinwedd y gwaed, aeth yn
floedd trwy y lle, nes y boddwyd ei lais yn
gyfangwbl gan lefau y rhai a wrandawent.
TeimÌai ei fod wedi cael y fath awdurdod
na chafodd yn fynych ei gyffelyb. Yr ail
wythnos yn Tacliwedd, cychwynodd am
Lundain ; pasiodd trwy Henffordd ; bu
mewn Cymdeithasfa berthynol i'r brodyr
Saesnig yn Ross ; ac ni chyrhaeddodd
Drefecca yn ei ol, gwedi ei ymdaith yn y
Brif-ddinas, hyd y Llun olaf o'r flwyddyn.
Tri diwrnod y cafodd fod gartref cyn ei
fod yn cyclìwyn am daith faith i Orllewin
Lloegr, yr hon oedd i barhau am fis.
Torodd gwawr y flwyddyn newydd arno
yn Cwmdu, Ile rhwng Talgarth a Chrug-
hywel. Dranoeth, cawn ef yn y New Inn,
Sir Fynwy. Heblaw pregethu, yr oedd
yn casgla at y capel newydd oedd wedi ei
adeiladu yn Llanfair-muallt, ond yn groes
i arfer casglwyr yn gyffredin, ni wnai
dderbyn nac arian nac addewidion ar y
pryd, rhag i'r rhoddion gael eu cyfranu o
gariad ato ef, ac nid mewn ffydd. Yr un
prydnhawn, cynhelid Cymdeithasfa Fisol
yn y Ile ; gorchwyl penaf yr hon oedd
adferu y brawd William Edward, o'r
Groeswen, yr hwn a gawsai ei osod tan
ddysgyblaeth, oblegyd cyfeiliornad mewn
athrawiaeth. Dau gwestiwn a ofynodd
Howell Harris iddo, ac y mae ffurf arbenig
y cwestiynau yn dynodi syniadau neillduol
yr holwr. (i) A oedd yn galonog yn
medru addoli y baban lesu ? (2) A oedd
yn credu fod datguddiad ysprydol o Grist
i'w gael uwchlaw y wybodaeth am dano a
geir yn y Ilythyren ? Atebodd William
Edward y ddau ofyniad yn foddhaol, a
chafodd ei ail-sefydlu fel cynghorwr. Yn
y Gymdeithasfa, hefyd, bu ymddiddan
parthed priodas, am ofalu am ystafeli
(capel) New Inn, a derbyniwyd dau i
ddechreu pregethu. Eithr derbyniodd
lythyr oddiwrth ddau frawd yn ei gyhuddo
o wneyd rhywbeth allan o le. Yr oedd y
Gymdeithasfa yn hapus trwyddi ; cydwelai
ef a'r brodyr yn hollol ar bob peth. Yn
Ngorllewin Lloegr ymwelodd ag Exon,
Plymouth, Ringsbridge, a Ileoedd eraill,
ac ni ddychwelodd yn ei ol hyd ddechreu
Chwefror.
Dranoeth i'w ddychweliad, yr oedd
Cymdeithasfa Fisol yn Nhrefecca, ac
agorodd hi gyda phregeth oddiar y geiriau :
" Du ydwyf fi, ond hawddgar." Cymer-
odd achlysur ar ei bregeth i gyfeirio at y
chwedlau anwireddus a daenid am dano
gan yr YmneiIIduwyr, sef ei fod yn elynol
iddynt. " Yr unig reswm sydd ganddynt
dros ddweyd hyn," meddai, " yw fy mod
yn Ilefaru yn erbyn eu pechodau ; ac ar yr
un tir yn union gellid haeru fy mod yn
elynol i Eglwys Loegr, gan fy mod yn
ymddwyn yr un modd ati hithau. Ond
350 Y TADAU METHODISTAWD.
[1748.
/-'^ * ":Z4, . fl^ oJU^ uJ)^ Jfy:^ I
BYB-HANES O EELEDIGAETH PJÍTEB WILLIAMS YN ADWY'b OLAWDD, FEL YR
YSGEIFENWYD EF GANDDO EF EI HCN.
{.Ceìy y copi gwreiddiol yn Atìirofa Trefeccj.2
1748.
HOWELL HARRIS.
351
dywedais fy mod bob amser yn gwahan-
iaethu rhwng y dieuog a'r euog ; a'm bod
yn adnabod llawer o ddynion da a grasol,
yn bregethwyr ac yn bobl, yn mysg yr
Ymneillduwyr, y rhai wyf yn garu ; a phe
bai yn fy ngallu, na wnawn roddi terfyn ar
nac eglwys na chapel, eithr yn hytrach eu
llanw o Dduw." Yn nghyfarfod neillduol
y Gymdeithasfa, bu ef a'r pregethwyr yn
ymdrin â gwahanol faterion, ac yn trefnu
eu teithiau, a gorphenwyd y cyfan yn
hynod hapus. Ar y dydd olaf o lonawr,
y mae yn cychwyn am daith i Siroedd
Caerfyrddin, Aberteifi, a Phenfro. Y mae
nodiad yn ei ddydd-lyfr ar gyfer Llan-
gamarch sydd yn haeddu ei groniclo.
" Ymgynghorais a'r Arglwydd am lawer o
bethau," meddai, "a chefais nerth mawr
i ymdrechu â Duw gyda golwg ar Syr
Watkin Wilhams Wynne ; gelwais arno
yn lew, ar iddo amlygu ei alhi. ' Na ad
i'r ymgais yma o eiddo Satan Iwyddo,'
meddwn ; ' achub enaid y boneddwr, ond
dymchwel ei gynlluniau.' " Yr oedd Syr
Watkin yr adeg yma yn erhd saint Duw
gyda llaw uchel. Teifl y difyniad can-
lynol o lythyr, a ysgrifenwyd gan Howell
Harris at chwaer grefyddol yn Llundain,
oleuni ar ymddygiadau y barwnig o
Wynnestay : " Yr ydych wedi clywed
rhyw gymaint am y driniaeth a dderbynia
ein brodyr a'n chwiorydd ar law Syr
Watkin Williams Wynne. Darfu iddo
osod dirwy o bedwar ugain punt ar y
bobl . dlawd am dderbyn a gwrando ein
brodyr, fel y mae amryw trwy hyn wedi
cael eu dinystrio yn hollol, a'r efengyl
wedi cael ei rhwystro am amser. Yr wyf
yn dymuno ar y brawd Jenkins, os yw
yna, i alw yr eneidiau yn nghyd ar ryw
amser. penodol i weddío,' ac i ysgrifenu
parthed hyn at yr holl seiadau. Byddwch
wrol, fy chwaer, newydd da ydyw ; y mae
yr Arglwydd yn dyfod, ac y mae Satan yn
rhuo. Bydded i bob un edrych at ei arf-
ogaeth, y mae amseroedd ardderchog a
gogoneddus gerllaw." Yr ydym yn gweled
oddiwrth Iythyr Peter WiIIiams i'r gŵr da
hwnw orfod teimlo Ilid Syr Watkin, Yn
ychwanegol at hyn, yr oedd yn bygwth
troi ymaith oddiar ei ystâd bawb a feiddiai
ymgysylltu a'r Methodistiaid, a chan mai
efe a berchenogai yr holl wlad, yn mron,
golygai ei fygythiad, pe y cai ei gario
allan, ddiwreiddiad crefydd agos yn Ilwyr
allan o'r fro. Felly, yr oedd ugeiniau
heblaw Howell Harris yn agoshau at yr
Arglwydd i geisio ganddo gyfryngu. At-
ebwyd eu gweddíau mewn ffordd ofn-
adwy. Un prydnhawn, tua blwyddyn
ar ol hyn, marchogai Syr Watkin ar
gefn ei farch yn mharc Wynnestay ; ac ar
ddaear wastad tripiodd yr anifail rywsut,
nes y cwympodd ei farchogwr, gan ddisgyn
ar ei ben ar y Ilawr, fel y bu farw yn y
fan. Yn ddiau, y mae Duw a farna y
ddaear. Ceir traddodiad arall am yr
helynt yn y Gogledd, sef fod nifer o bobl
druain dlodion wedi cydymgynull mewn
cyfarfod gweddi, yn nghymydogaeth y
Bala, a darfod i un o'r gweddiwyr gael
y fath afael wrth grefu ar i'r Arglwydd
gyfryngu i atal yr erledigaeth, fel y
teimlai yn sicr wrth gyfodi oddiar ei
liniau fod ei ddymuniadau wedi cyrhaedd
y nefoedd. A rhoddodd benill allan i'w
ganu, o'i gyfansoddiad ei hun, yn cofnodi
ei deimlad : —
" Mae Estber wedi cychwyn
I mewn i lys y Brenhin,
Caifí pardwn iddi ei cstyn,
Ac ofer waith Syr Watkin."
Ar yr adeg benodol hon, meddir, tra y
cenid y penill yn y cyfarfod gweddi, y
cyfarfyddodd y barwnig a'i angau yn
mharc Wynnestay.
O Langamarch, aeth Harris i Lanwrda,
ac oddiyno i Lanbedr-Pont-Stephan, trwy
oerni dirfawr, Ile yr oedd Cymdeithasfa
Chwarterol i gael ei chynal. Clywodd
chwedlau anhapus ar y fíordd, parthed
teimlad ei frodyr tuag ato, fel yr oedd ei
yspryd ynddo yn Ilwythog wrth nesu at y
dref. Wedi llawer o gymhell, cafwyd
ganddo bregethu yn Llanbedr, boreu y
Gymdeithasfa. Teifl brawddeg neu ddwy
o'i eiddo oleuni ar y syniadau neillduol a
goleddai. " Dangosais nad oes ond un
Duw," meddai ; " nad oes un Duw i
fynu nac i lawr, ond lesu Grist. Eglur-
ais y modd yr oedd rhai yn gwneuthur
eilun, gan ei alw y Tad, a'i osod uwchlaw
lesu Grist, a'u bod yn addoli yr eilun hwn
yn Ile yr unig wir a'r bywiol Dduw.
Dangosais fel yr oeddynt gystal a bod yn
Ariaid, wrth osod Crist i roddi boddlon-
rwydd i'r Tad ; ac os gwnaeth efe hyny,
pwy a roddes foddlonrwydd i'r Mab,
a'r Yspryd. Gwrthddadl : Eithr yr
ydych chwi yn addoli yr lesu ? Ateb :
Yr ydym yn addoli y Tad, y Mab, a'r
Yspryd ynddo (sef yn yr lesu) ; tri yn un,
ac un yn dri," Dengys y difyniad hwn
fod Harris yn dra chymysglyd o ran ei
olygiadau ar y Drindod, a'i fod yn nesu yn
yn bur agos at Sabeliaeth.
352
Y TADAU METHODTSTAIDD.
[1748.
Yn nghyfarfod neiUduol y Gymdeithasfa
bu dadleu brwd, a rhyw gymaint o deimlad
anhapus. " Tra y mynwn i roddi i fynu
y gyfraith mewn fifydd, yn Ngogledd
Cymru," meddai, " ac y ceryddwn hunan
ac yspryd cnawdol, un a ddaethai oddiyno
i ofyn am gyfarwyddyd, daeth Satan i
Ìawr. Cyhuddodd rhywun fì o falchder.
Gwrthodais inau weithredu heb i'r brodyr
gydnabod eu bai, a datgan gofid, gan fy
ngosod yn fy lle priodol ; a dywedais nad
oedd genyf un amcan wrth ddyfod yno
heblaw gwasanaethu Crist, ac y rhaid i
bob un sefyll yn ei le ei hun. Daeth yr
Arglwydd i'n mysg drachefn. Cefais
gyíieustra i egluro ein rhesymau dros aros
yn yr Eglwys. Yr wyf yn cael fod yr
Arglwydd, trwy amrywiol ffyrdd, yn dwyn
y brodyr i ymsefydlu o'i mewn. Cydun-
asom i gasglu i ddwyn yn mlaen y gyfraith
yn erbyn Syr Watkin Williams Wynne.
Trefnodd y brodyr eu teithiau. Yn breifat,
cefais ateb oddiwrth yr Arglwydd gyda
golwg ar y gyfraith, a chyda golwg ar
gyflogi Mr, Williams, Caerlleon, i'w chario
yn mlaen. Yr wyf yn cael Yspryd Duw
ynof yn gwaeddi yn gryf yn erbyn Syr
Watkin." Byddai yn ddyddorol gwybod
sut y terfynodd helynt y gyfraith, ac ai
marwolaeth ddisymwth y boneddwr a
roddodd ben arni. Dranoeth, aeth pethau
yn mlaen yn bur hwylus ; eithr bu
Harris yn rhoddi gwers Ìem i rai brodyr
am eu hysgafnder a'u cnawdolrwydd, ac
aeth yn ddadl rhyngddo a Rowland, a
WiUiams, Pantycelyn, am reolau i droi
proffeswyr cnawdol allan. Dadleuent hwy
fod hyn yn anhawdd ac yn beryglus.
" Ond," meddai Harris, " deliais i yn
gryf fod yna lygad, neu oleuni ysprydol,
yn y Cristion, yr hwn sydd yn barnu ac
yn mesur pob peth." Mynai ef osod y
rhai difraw oll dan ddysgyblaeth. Sut y
terfynodd y ddadl, nis gwyddom, ond
gwnaed Uawer o drefniadau, ac ymwahan-
odd y brodyr mewn teimlad hapus at eu
gilydd. Eithr y mae yn anmhosibl darllen
adroddiad Howell Harris ei hun am y
Gymdeithasfa, heb deimlo ei fod yn dra
arglwyddaidd, ac yn honi Ilywodraeth ; a'i
fod yn cyfeirio yn rhy fynych at " ei le "
yn y Gymdeithasfa, fel pe buasai wedi
cael ei osod yn oruchaf ar ei frodyr. Y
mae yn ofidus gweled un mor Ilawn o
natur dda, a mor gynhes ei yspryd, wedi
cael ei feddianu gan y fath deimlad.
O Lanbedr, aeth Harris ar daith bur
fanwl trwy ranau isaf Sir Aberteifi, rhanau
o Benfro, Caerfyrddin, a Morganwg.
Heblaw pregethu, a threfnu materion yn
y seiadau, yr oedd hefyd yn casglu at f)ỳ
yr Amddifaid, a sefydlasid gan Whitefield
yn Georgia. Ar amlen y dydd-Iyfr, ceir y
swm a gasglwyd yn mhob lle, a chan mai
dyma yr adroddiad cyntaf o gasgliad
cyffredinol yn mysg Methodistiaid Cymru,
yr ydym yn ei groniclo. Heblaw ei fod
yn ddyddorol, teifl ryw gymaint o oleuni
ar nerth cymharol y gwahanol seiadau.
" Derbyniais," meddai, " at Dŷ^ yr Am-
ddifaid yn—
P.
s.
e.
IMaesnoni
.. 0
13
0
Twrgwyn
.. 0
11
1
Gwmcynon
.. 0
11
0
Castellnewydd-Emlyn
.. 0
7
8
Llechryd
.. 1
4
3
Trefdraeth
.. 0
10
3
Abergwaun
.. 0
3
6
Trevin . .
.. 0
9
3
Llanferan
.. 0
0
8
Hay's Casfcle
.. 1
6
10
Hwlíîordd
.. 1
6
6
Llangwm
.. 0
6
3
Carew . .
.. 1
1
lè
Jefferson
.. 0
12
14
Meidrim
.. 0
12
2
Caerfyrddin
.. 1
3
5
Llanddeusant
.. 0
2
2
Ffoi (ger Llanelli)
.. 0
4
1
Llanon . .
.. 0
3
2
Abertawe
.. 0
8
4
Llansamlet
.. 0
6
1
Castellnedd
.. 0
8
9
Hafod ..
.. 0
5
n
Penprysg
.. 0
12
0
Llantrisant
.. 0
15
0
How. Grifaths . .
.. 0
2
6
Aberddawen
.. 0
3
7
St. Nicholas
.. 1
1
6
Groeswen
.. 1
8
0"
Teithiai Howell Harris yn ddiorphwys
yn ystod y Gwanwyn hwn ; nid oedd ball
ar ei ymdrechion : cawn ef weithiau yn
Morganwg a Mynwy ; bryd arall yn Sir
Drefaldwyn, neu Sir Gaerfyrddin ; a phan
na fyddai yn mhell o gartref, ymwelai a'r
Ileoeddcyfagos yn Mrycheiniog a Maesyfed.
Ofer i ni geisio ei ganlyn i bob man, a
phrin y byddai yn fuddiol i'r darllenydd.
Yr wythnos gyntaf yn mis Mai, cynhelid
Cymdeithasfa Chwarterol yn Nghaer-
fyrddin. Dywed Harris iddo fyned i'r
ystafell, a phregethu yno i dorf anferth.
Awgryma hyn fod y Methodistiaid wedi
adeiladu capel yn y dref. Ei destun
ydoedd : " Trwy ras yr ydych yn gadw-
edig," a chafodd nerth a goleuni anarferol
i ganmol gras Duw. Yn nghyfarfod neill-
duol y Gymdeithasía, daeth rhyw awel
dyner wrth ganu ar y cychwyn. Yna,
1748.]
HOWELL HARRIS.
353
darllenwyd cofnodau y Gymdeithasfa flaen-
orol ; derbyniwyd arian o wahanol leoedd
at y gyfraith ; ymgynghorwyd am y modd
i'w chario yn mlaen ; a phenderfynwyd fod
Harris, a Price, o Watford, i ymweled a'r
cyfreithiwr. Trefnwyd brodyr, hefyd, i
ymweled â Gogledd Cymru. Boreu yr
ail ddiwrnod, darllenwyd yr adroddiadau,
ac yr oeddynt yn dra melus. " Ond,"
meddai Harris, " yr oedd y brawd Row-
land yn eiddigus o honof fi gyda golwg ar
y Drindod. Yr oedd wedi digio oblegyd
rhywbeth a ddywedais gyda golwg ar
ein bod yn rhanu y Duwdod yn gnawdol,
ac yn gosod y Tad uwchlaw y Mab.
Dywedais wrtho fy mod yn ofni nad oedd
yn adnabod yr Arglwydd, a bloeddiais
gydag awdurdod : Nid oes ond un Duw,
ac fe ymleda y goleuni hwn dros y byd, er
gwaethaf pob gwrthwynebiad ! Pan y
darllenaf y Puritaniaid, nid wyf yn cael fy
mod yn gwahaniaethu oddiwrthynt mewn
un dim. Dirmygodd (Rowland) fi, a
dywedodd nad oeddwn yn darllen nac yn
pregethu yr Ysgrythyr. Syrthiais dan
hyn, a dywedais : ' Y mae yn wir nad
wyf yn astudio nac yn myfyrio digon ar yr
Ysgrythyrau ; hoíFwn fyfyrio ynddynt bob
moment, a'm gofid yw fy mod yn methu ! '
Gwrthwynebai dystiolaeth yr Yspryd.
Atebais, er fod Ilawer yn twyllo eu hunain,
eto, rhoddir ateb i weddi. Yna, yr ystorm
a chwythodd drosodd, a phan oedd pob
peth yn dawel, gwahoddodd fi yn galonog
i Sir Aberteifi." Amlwg yw fod y naiìl
a'r Ilall yn meddu tymherau poethlyd, ac
yn eu cyffro yn dweyd pethau caledion am
eu gilydd. Prin yr oedd heddwch wedi ei
adfer, pan y daeth Ilythyr i'r Gymdeith-
asfa, yn anuniongyrchol oddiwrth fyfyrwyr
athrofa y dref, yn cynwys hèr i ddadl,
gyda golwg ar rywbeth a ddywedasai
Ilarris yn ei bregeth. Yn ganlynol,
rhuthrodd y myfyrwyr i'r cyfarfod, ac
etholasant un o'u mysg i fod yn enau
drostynt mewn dadl. Yr oedd hyn yn
ymddygiad tra anweddus ; a chan mai
pregethwyr ieuainc yr athrofa YmneiIIduoI
oedd y nifer amlaf o honynt, yr oedd yr
hyn a wnaethant yn fwy annheilwng fyth.
Dywed Harris fod Ilawer o dymher ddrwg
wedi cael ei hamlygu o'r ddwy ochr ; yn
neillduol o'i du ef, pan y ceryddai hwy am
eubalchder. Máentymienthwy,igychwyn,
fod Harris yn dinystrio rheswm. Atebai
yntau fod teimlad dwfn yn rhwym o ym-
ddangos. " Beth," meddai, " pe bai drwg-
weithredwr ar y ffordd i'r crogbren yn
derbyn pardwn o law'r brenhin ; a mwy,
yn cael sicrwydd ei fod i gael ei fabwysiadu
i deulu y brenhin, ai ni floeddiai dros y
Ile ? " Addefodd yr efrydwyr fod ei gym-
hariaeth yn anwrthwynebol. Yn ganlynol,
dechreuodd wneyd gwawd o honynt, gan
ddweyd eu bod wedi dysgu ymresymu
wrth reol, a holai iddynt paham na ddyg-
asent eu meistr gyda hwynt. Pan yr
achwynent oblegyd y wawdiaeth, dywedai
ei fod yn dilyn y cyfarwyddyd Ysgryth-
yrol, sef ateb y íîol yn ol ei ffblineb. Dy-
wedodd, yn mhellach, ei fod yn synu at eu
balchder, a'u gwaith yn ymosod ar gorph o
bobl lafurus gyda chrefydd, ac mai hyn
oedd yr ymosodiad agored cyntaf a wnaed
ar y Gymdeithasfa. Cyhuddai un o honynt
ef o ddweyd y gosodai yr Ymneillduwyr
ef, pe y medrent, yn uffern. Gwadodd
Harris i'r fath ymadrodd ddisgyn erioed
dros ei wefusau. " Dywedais," meddai,
" nas gallwn oddef i neb fychanu y gwein-
idogion YmneiIIduoI, fy mod yn meddwl
yn uchel am lawer o honynt, a'm bod am
heddwch. Ceryddais y dyn ieuanc, Evan
WiIIiam, a ddychwelasai o Ogledd Cymru,
am mai efe oedd wedi cyffroi yr YmneiII-
duwyr yn erbyn gwaith Duw." Yn sicr,
yr oedd yn syn gweled Evan WiIIiam, a
fuasai yn gynghorwr yn mysg y Method-
istiaid, yn awr yn mysg y terfysgwyr a
ruthrent i'r Gymdeithasfa. Ceryddodd
\Vr ieuanc arall, yr hwn a daenasai y
chwedl trwy y dref fod yr oft'eiriaid yn
dyfod i wrthwynebu Harris a'i ganlynwyr,
a bod rhagolygon golygus am derfysg.
" Yr wyf yn gobeithio," meddai, " y
bendithir hyn iddynt, i ddarostwng eu
balchder, oblegyd teimlwn gariad at eu
heneidiau."
Ar y nawfed o P'ai, agorodd ysgol yn
Nhrefecca, ac aeth o gwmpas y rhieni i'w
cymhell i anfon eu plant yno. Yr oedd er
ys rhai blynyddoedd yn adeiladu tỳ yn
Nhrefecca ; a oedd casglu teulu mawr yno,
o wahanol gymydogaethau, er rhoddi iddynt
fanteision crefyddol, yn fwriad ganddo ar
hyn o bryd, sydd anhawdd ei benderfynu.
Yr wythnos ganlynol, cawn ef mewn
Cyfarfod Misol yn Dyserth. Adroddodd
wrth y brodyr hanes y Gymdeithasfa yn
Nghaerfyrddin ; y gwrthwynebiad a gawsid
oddiwrth yr efrydwyr ; eglurodd ei ym-
ddygiad tuagat yr Ymneillduwyr; trefnodd
gyda golwg ar gael ysgol yno ; a phender-
fynodd fod y dydd lau canlynol i gael ei
dreulio mewn gweddi. Yr oedd yno gyng-
horwyr o Sir Drefaldwyn, a gawsent eu
354
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1748.
gosod dan gerydd gan Howell Harris
oblegyd eu balchder ; gobeithiai allu eu
derbyn yn awr ; ond nid oedd eu pechod
Avedi ei ddarostwng ; a rhaid ydoedd
parhau y ddysgyblaeth. Bu gyda hwy
drachefn a thrachefn yn ceisio eu pers-
wadio ; yr oedd y boreu yn gwawrio pan y
rhodd y gorchwyl i fynu ; a phan y meth-
odd ei hun, anfonodd y cynghorwr Thomas
James atynt. Eithr ofer a fu ymgais y
ddau. Eu gwir drosedd oedd cyfeihorni
mewn athrawiaeth. Ganol mis Mai, aeth
i Lundain, ac arosodd yno hyd ddechreu
Gorphenaf. Yn ystod yr amser hwn,
disgynodd i'w ran y gorchwyl annymunol
0 droi Herbert Jenkins allan o'r Cyfundeb.
Y mae y dydd-Iyfr, o ddechreu Gorph-
enaf hyd ganol Awst, ar goll. Yr ydym
yn cael Daniel Rowland a Howell Harris,
Awst 19, yn teithio yn nghyd i Drefynwy,
ac yn hynod gyfeillgar. Agorodd Harris
ei holl fynwes iddo, gan egluro y rheswm
am ddiarddehad Herbert Jenkins, ac hefyd
esbonio rhai ymadroddion o"i eiddo yn
Ngogledd Cymru. Tueddwn i feddwl mai
dychwelyd yr oeddynt, wedi bod yn heb-
rwng yr larlles Huntington yn ei hol i
Loegr, ar ol treuho rhai wythnosau yn
Nghymru. Yr oeddynt hwy eu dau, yn
nghyd â Griffith Jones, a Howell Davies,
wedi cyfarfod yr larlles yn Mryste ; teith-
iasant trwy y rhan fwyaf o Ddeheudir
Cymru yn araf ; byddai rhai o'r oífeiriaid
yn pregethu yn y pentrefydd, trwy ba rai
yr oeddynt yn myned, neu ynte, rai o'r
prif gynghorwyr, a chafwyd odfaeon y
cofiodd y foneddiges dduwiol am danynt
hyd ei bedd. Buont yn aros am rai dydd-
iau yn Nhrefecca, a chafodd Griffith Jones
odfa ryfedd yno ar y maes. Yn The
Life and Times of Selina, Conntess of Hiint-
ington, dywedir i'r daith hon gymeryd lle
ddiwedd Mai a dechreu Mehefin. Ond yn
01 dydd-lyfr Howell Harris, nis geill hyn
fod yn gywir, oblegyd bu ef yn Llundain
yn gweinidogaethu trwy y rhan fwyaf o
Fai, a thrwy yr oll o Fehefin. Tebygol,
mai diwedd Gorphenaf, a dechreu Awst,
" rhwng y ddau gynhauaf," fel y dywedir,
y cymerodd yr larlles y daith hon.
Yn ganlynol, yr ydym yn ei gael ar
daith trwy Siroedd Aberteifi a Phenfro.
Nis gallwn ei ddilyn o le i le, ond
hyfryd gweled fod Howell Davies yn
gyfaiU ac yn gydymaith iddo ar ei ymwel-
iad a Phenfro. Ac yr oedd cynulleidfaoedd
aruthrol yn dyfod i'w wrando yn mhob
man. Yn y Parke yr oedd mewn cyfyng-
gyngor gyda golwg ar beth i bregethu, gan
fod nifer mawr o offeiriaid yn bresenol, a
llawer o YmneiUduwyr rhagfarnllyd. Ym-
ddengys ei fod ef a'r Ymneillduwyr yn
pellhau yn gyflym oddiwrth eu gilydd.
Wedi ymgynghori â Duw, cymerodd yn
destun, i Cor. ii. 2 : " Canys ni fernais i
mi wybod dim yn eich phth ond lesu Grist,
a hwnw wedi ei groeshoeho." " Dangos-
ais " meddai, " y modd yr oeddynt wedi
bhno Paul a'u dadleuon ; ond yn awr ei
fod wedi penderfynu na chaent ei flino
mwy ; na fyddai a fynai ychwaneg ag un-
rhyw wybodaeth ond Crist croeshoehedig.
Yna, arweiniwyd fi i lefaru ar ddirgelwch
duwioldeb. Pwysleisiais mai dirgelwch
ydyw, ai fod tu hwnt i ddadl. Yn unol
a'm harfer, llefarais yn gryf parthed Düw-
dod Crist, ei fod yn Dduw yn y preseb, ac
yn Dduw ar y groes ; ac er mai y natur
ddynol a ddyoddefodd, eto fod ei ddyoddef-
iadau yn Ddwyfol. Eglurais ei eiriau gyda
golwg ar ei fod yn israddol i'r Tad, ac yn
gydraddol ag ef. Cyfeiriais at y lleidr yn
gweddío ar y Dyn hwn, iddo fentro ei
enaid arno, gan ei weled yn Oruchaf Lyw-
odraethwr, ac yn Dduw ar y tragywyddol-
deb i ba un yr oedd ar gymeryd naid. Ni
ddarfu iddo yntau wrthod y weddi, ond
atebodd hi gyda mawrhydi teilwng o Dduw.
Cyfeiriais at Stephan yn gweddîo arno.
Dangosais, nid yn unig ei fod ef — y Dyn
hwn — y Person hwn — yn Dduw, ond ei
fod yn Dduw tragywyddol ; mai efe yw yr
unig Dduw, mai efe a wnaeth y bydoedd,
ac nad oes yr un Duw arall ar wahan nac
uwchlaw iddo ; ein bod yn credu yn y
Duwdod, yn ol credoau Athanasius,
Nicene, a'r Apostohon, fod tri o gyd-dra-
gywyddol Bersonau, ond nad oes ond un
Duw ; ac mai yr un Duw hwn yn mherson
y Mab a ddaeth yn ddyn, ac a roddodd ei
fywyd i lawr. Yna, troais atynt, a gofyn-
ais ai nid oeddynt yn gwneyd tri Duw ?
Ac ai nid oeddynt yn myned heibio iddo
at Dad, yr hwn a ystyrient yn fwy nag ef ?
Dangosais nad oedd y fath Dad, oddiwrth
ei ymadrodd ef ei hun wrth Phyhp ; ac
nad oes na mwy na llai, na chynt na
chwedin, yn y Duwdod ; a bod yr hwn
sydd yn gweled y Mab yn gweled yr oU
o'r Duwdod, yr hwn a leinw bob lle, a
phob peth ar unwaith. Yn awr, os mai
efe yw yr unig Dduw, ac os nad oes ond
efe, ai nid oes rhai o honoch wedi bod yn
addoh Duw dyeithr, íe, yn addoh Ihm a
delw yn eich deall ? Yr ydych yn pasio
heibio y Duw byw, i addoh hwn, y duw
1748.]
HOWELL HARRIS.
355
dychymygol yma a elwch yn Dad. Yr
oeddwn yn gryf ar hyn, er y rhaid i mi
arfer pob tynerwch at bawb, eto fod yn
rhaid i mi sefyll wrth y gwaed hwn." Yr
ydym yn cofnodi ei sylwadau yn helaeth,
er dangos natur ei olygiadau. Yna aeth
yn mlaen i ddangos ei berthynas a'r Ym-
neillduwyr, ei fod yn eu parchu, ac
yn pregethu yn eu capelau ; mai ei holl
amcan oedd eu dyrchafu at Dduw ; nad
oedd y Methodistiaid yn bwriadu gosod i
fyny blaid, mai yn yr Eglwys Sefydledig
yr oeddynt wedi eu galw. Cyfeiriodd
hefyd at ryw lythyr a daenid trwy Gymru
a Lloegr gyda golwg arno, yr hwn a gyn-
wysai gyhuddiadau hoUol anwireddus.
Yr oedd y wasg Saesnig yn ty wallt allan
bob math o lysnafedd ar y Methodistiaid
yr adeg hon. Mewn un pamphledyn,
dywedid eu l)od yn gwneyd eu canlynwyr
yn wallgof ; ddarfod i amryw o honynt yn
Nghymru gyflawni mwrddradau, a'u bod
yn hongian mewn gefynau ar y pryd.
Desgrifid Whitefield fel un a melin wynt
yn ei ben, ac fel yn myned o gwmpas y
byd i geisio rhywun y gallai daro ei ymen-
ydd allan. Ond Griffith Jones, Llanddow-
ror, a enllibid waethaf o bawb. Honai
ysgrifenydd arall, yr hwn, fel y mae'r
gwaethaf, oedd \Vr dysgedig, fod Method-
istiaid Cymru yn arfer godineb, ac na
ystyrid puteindra yn bechod ganddynt o
gwbl. Dywedai, yn mhellach, fod y
pregethwyr Methodistaidd yn peri i'r ael-
odau gyffesu eu pechodau iddynt, a bod
un o honynt, Will Richard, wrth ei enw, a
chobler wrth ei gelfyddyd, pan fyddai yn
maddeu pechodau un, yn estyn iddo ddarn
o bapyr, gan sicrhau y cyfryw y gwnelai
y papyr agor drws y nefoedd iddo. Nid
annhebyg y cyfeiriai Harris at un o'r rhai
hyn.
Boreu dranoeth, derbyniodd Iythyr oddi-
wrth ddau weinidog YmneiIIduoI, gyda
golwg ar ei bregeth y noson cynt. Gwelai
y rhaid iddo ddyoddef oblegyd ei weinidog-
aeth. Aeth i lawr i ymddiddan â hwynt.
Dywedodd un o honynt, Thomas Morgan,
wrth ei enw, nad oedd y Dyn a ddyoddef-
odd yn Dduw tragywyddol. Oblegyd yr
ymadrodd hwn galwodd Harris ef yn
heretic, a dywedodd y gwnai bregethu yn
ei erbyn hyd at waed, ond os galwai ei
eiriau yn ol, neu yr addefai ei fod yn ddall,
y gwnelai yntau fod yn ddystaw hyd nes y
caffai ef (Thomas Morgan) oleuni pellach
oddiwrth Dduw. " Dywedais ei fod yn
fater cydwybod genyf," meddai, " ac y rhaid
AA
i mi ymdrechu drosto hyd at waed, mai
efe yw y Duw tragywyddol. Dangosais
iddynt eu hanwybodaeth, ac na all neb
adnabod Crist ond yn ngoleu yr Yspryd
Glân ; fod yr undeb rhwng y ddwy natur
yn Nghrist yn dragywyddol, ac felly mai y
cabledd a'r digywilydd-dra mwyaf yn fy
ngolwg i, oedd dweyd ei fod yn cyflawni
unrhyw beth, neu yn dyoddef fel dyn, ac
nid fel y tragywyddol Dduw." Datganai
ei obaith y Ilewyrchai gogoniant y Person
hwn yn mysg yr Ymneillduwyr. Ymadaw-
sant yn y diwedd yn hapus ; gair diweddaf
Howell Harris wrthynt ydoedd : " Peid-
iwch gwneyd mân wahaniaethau deillion ;
fflamiwch ar led ogoniant y Dyn hwn, ac
yna mi a ddymunaf i chwi fîawd dda."
Oddiyma dychwelodd trwy Lacharn, Caer-
fyrddin, Pontargothi, Capel Llanlluan,
LIandremore,Abertawe,GeIIy-dorch-Ieithe,
a'r Hafod, gan gyrhaedd Trefecca ar y
24ain o Fedi. Cafodd gynulleidfaoedd
anferth yn mhob man, ac ymddengys fod
cryn arddeliad ar ei weinidogaeth. Dir-
gelwch Crist, ac agosrwydd undeb y ddwy
natur ynddo, fel yr oedd y ddynoliaeth yn
cael ei dwyfoli fel rhan o'r Person ; dyna
oedd y mater y pregethai arno yn mhob
man, er y byddai yn amrywio ei destynau.
O Medi 25 hyd Rhagfyr 18, y mae y
dydd-Iyfr ar goll, felly nis gallwn gael un-
rhyw wybodaeth am ei lafur yn ystod y
cyfnod hwn. Dranoeth i'r Nadolig, cyn-
helid Cyfarfod Cyffredinol — felly y geilw
Harris ef — yn Nhrefecca. A ydoedd yn
Gymdeithasfa reolaidd, nis gwyddom ; ond
nid oes grybwylliad fod yr un o'r ofifeiriaid
yn bresenol. Agorwyd y cyfarfod gyda
phregeth gan Harris, ar yr angelion yn
ymweled a'r bugeiliaid pan anwyd Crist.
Nid y w yn ymddangos fod Ilawer o drefn
ar y bregeth ; aeth ar draws Iliaws o
faterion ; dywed iddo lefaru am dair awr,
a bod cryn lawer o nerth yn cydfyned a'r
genadwri. Fel arfer, ymhelaethodd ar
ddirgelwch Crist, gan brofi mai efe oedd
y gwir a'r tragywyddol Dduw ; nad oes yr
un Duw uwchlaw iddo, a bod y Drindod
trwy yr undeb sydd yn y Duwdod yn
preswylio ynddo. Dangosodd ei Ddwyfol
ymostyngiad yn preswylio yn mru y
wyryf, ac yn cymeryd ein natur ni, a
thrwy hyn, ff"urfio y fath Berson na wel-
wyd ei gyffelyb erioed o'r blaen. Yna,
cyfeiriodd at yr Ymhonwr, gan ddatgan
nad oedd arnynt awydd am un brenin i
Iywodraethu dros eu cyrph ond y brenhin
George ; ond fod y Brenhin lesu uwchlaw
356
Y TADAU METHODISTAIDD.
;i748.
iddo ef. "Awn lle y mynwn," meddai, " ni
a fyddwn yn nheyrnas yr lesu. Pan yr
oedd y gwaith hwn yn cychwyn, creodd
Satan wrthwynebiad iddo ; eithr daeth i'r
dim. P'le mae Satan yn awr ? " Yn y
seiat a ddilynai, bu yn dra llym wrth y
proffeswyr am nad oeddynt yn dwyn
ffrwyth. Dywedai ei fod weditaiu ardreth
yr ystafell yn Nhrefecca ei hun am gryn
amser ; na ddaeth neb ato i ofyn sut yr oedd
yn gallu fforddio ; ei bod yn ddigon iddo
ef bregethu y Gair iddynt heb roddi ystafell
yn ogystal ; ai fod wedi cynhal ysgol yn
y lle am amser ar ei draul ei hun. Con-
demniodd hwy am beidio cydymdeimlo a'u
brodyr, gan ddweyd fod rhai o'r cynghor-
wyr yn dlodion, ac mewn perygl o gael eu
hanfon i'r carchar. " Beth a fyddai i
gynifer o seiadau eu cynorthwyo ? " meddai.
Gallwn feddwl fod ei eiriau yn cyrhaedd
i'r asgwrn. Buont yno hyd ddauo'rgloch
y boreu, a Harris yn dangos i'r brodyr eu
diffygion. Yna, trefnwyd amryw faterion.
Bu achos James Beaumont dan sylw, yn
yr hwn yr oedd yspryd cyfeiUorni wedi
ymaflyd. Dadleuai Harris yn erbyn ei
droi allan, eithr ymddwyn ato mewn modd
efengylaidd, yn y gobaith y byddaii Dduw
ei ddwyn i'r iawn. Cyn diweddu, daeth y
dylanwadau nefol i lawr yn helaeth ; llamai
y brodyr gan faint eu llawenydd ; a chwedi
bod yn canu ac yn bloeddio concwest, yr
oedd yn bump o'r gloch y boreu ar Howell
Harris yn myned i'w weiy.
Y mae yn debygol fod Harris yn fwy
rhydd i'r gwaith yn Nghymru yr haner
olaf o'r flwyddyn 1748 nag y buasai am
gryn amser yn flaenorol, gan i Whitefìeld,
ar ol bod yn yr Amerig am bedair blynedd
a haner, ddychwelyd i Lundain ddechreu
Gorphenaf. Yn y Gymdeithasfa a gyn-
helid yn Llundain, Gorphenaf 20, 1748,
Whitefield a Iywyddai. Fel math o is-
gadben dan Whitefield, yredrychai Harris
arno ei hun yn ei berthynas a'r brodyr
Saesnig. Nid oedd Whitefield, modd
bynag, yn hollol barod i gymeryd ei le fel
cynt yn eu mysg. Dywedai fod y fath
annhrefn wedi dod i mewn i'w plith, trwy
fod y pregethwyr ieuainc yn myned tu
hwnt i'w terfynau priodol, fel nas gwyddai
beth i'w wneyd. Y mynai glywed o
wahanol gyfeiriadau cyn gwneyd ei feddwl
i fynu, ond ei fod yn benderfynol o beidio
cydlafurio à neb na ddangosai barodrwydd
igymeryd ei ddysgu, ac i fod tan ddysgybl-
aeth. Nid oedd, meddai, yn awyddu am
fod yn ben, ond y rhaid iddynt (y pregeth-
wyr ieuainc) adnabod eu Ile, ac edrych
arnynt eu hunain fel ymgeiswyr ar brawf,
ac arno yntau fel tad arnynt, onide na ddal-
iai gysylltiad â hwynt. Mewn canlyniad
i'r araeth hon, plygodd y brodyr, a dywed-
asant eu bod am ymostwng yn gyfangwbl
iddo, a defnyddio pob moddion i gynyddu
mewn defnyddioldeb. Cymerodd dyfodiad
Whitefield ran o faich Harris oddiar ei
war ; a diau fod cynghor a chydymdeimlad
cyfaill mor ddiffuant, yn falm i'w enaid yn
y treialon trwy ba rai yr oedd yn pasio.
PENOD XV.
HOWELL HARRIS
(1749-50)-
Harris yn amddiffyn James Beaumont — Dyledswyddau y govucìmylwyr — Harris yn heio seiat y
Groeswen ain ordeinio brodyr i weinyddu yr ordinhadau — Ei syniad am athrofa — Taith i
Sir Drefaldwyn — Ymweliad arall a Llangeitho — Ymheddychu a'r Parch. Price Dauies — •
Taith arall trwy Benfro, Caerfyrddin, a Morganwg — Parotoi at ymraniad — Tlarris yn
ymosod ar yr offeiriaid — Pregeth nerthol yn y Groeswen — Howell Harris a Price, oW
Watford — Ffrwg-wd parthed troi y goruchwylwyr allan yn yr Aberthyn — Cymdeithasfa
Llanidloes — Dini yn bosibl hellach ond ymraniad.
î^r7Î|\OREU y dydd cyntaf o'r flwyddyn
Cî^ì ^749' cawn Howell Harris yn
rà=-^ deffro yn Aberedw, lle y cyr-
haeddasai o gwmpas un-ar-ddeg y nos
flaenorol, ar ei ffordd i Gymdeithasfa Fisol
Llanfair-muallt. Y mae ei brofiad wrth
fyned o Aberedw i Lanfair yn haeddu ei
gofnodi. " Cefais ddychryn yn fy nghal-
on," meddai, " rhag colh gwedd wyneb
Duw ; llefais yn fwy nag y gwnaethum
erioed : ' O Arglwydd, yr wyf yn ofni dy
ẁg yn fwy nag uffern ! Y mae arnaf fwy o
ofn colh gwedd dy wyneb, rhwystro dy
waith, a thristhau dy Yspryd, nag unrhyw
erledigaeth. Os gwgi di, pwy all fy
nghysuro ? ' Teimlwn yn fy enaid ofn cael
doniau, llwyddiant, a nerth, rhag na
roddwn yr holl ogoniant i'r Arglwydd."
Yn Llanfair, pregethodd ar Luc ii. 5.
Gwedi y bregeth, yr oedd seiat i'r hoU
aelodau. Yma yr oedd yn dra llym wrth
y rhai oeddynt yn byw mewn pechod, gan
ddangos iddynt fod Duw yn eu canfod, ac
y gwnai eu datguddio, oni edifarhäent.
Ceryddai y rhai oeddynt yn ddifater am
gymdeithas a'r Arglwydd, ac yn edrych ar
bechod yn fach, gan fod eu cydwybodau
wedi eu halogi ; ond cysurai y rhai oedd-
ynt yn ddryUiog o herwydd eu beiau, gan
fod yn barod i'w gadael. Dywedodd
wrthynt mai plant y wraig rydd, sef Sarah,
oeddynt, a'u bod yn perthyn i'r Jerusalem
newydd. Yn nghyfarfod neiHduol y Gym-
deithasfa, daeth achos Beaumont i fynu
drachefn ; yr oedd llawer o'r cynghorwyr
am ei droi allan, oblegyd heresi ; ond nis
gallai Harris gyduno ; credai na fyddai
Duw yn foddlon i hyn ar y pryd, a bod yr
awydd yn codi oddiar rhagfarn y cynghor-
wyr. Dywedai wrthynt y gwyddai fod
Beaumont yn blentyn Duw, a'i fod yn fwy
ei ddawn na hwy, ac mai eu balchder oedd
y rheswm am euparodrwyddi'w ddysgyblu.
Llwyddodd yn y diwedd i'w gadw i mewn.
Yr oedd Howell Harris yn gyfaiU din''uant.
Yna, ymhelaethodd ar natur y gwaith ; y
modd yr oedd yn teimlo y treialon a'r
beichiau perthynol iddo yn anrhydedd.
Yn nesaf, aeth i Glanirfon, ffermdy yn
nghymydogaeth Llanwrtyd. Pregethodd
yma am y nefoedd, ac am y farn. Nis
gwyr pa sut y llefarodd, ond daeth yr
Arglwydd i lawr, a boddwyd ei lais yn
Hosanah y gwrandawyr.
lonawr 3, y mae yn Llwynyberllan, ac
yn y seiat breifat, cynghora yr aelodau i
sefydlu ysgol Gristionogol — ysgol Griffith
Jones, yn ddiau — ar unwaith. Ymddengys
fod hyn yn genhadaeth arbenig ganddo y
pryd presenol. Anoga hwy hefyd i gyfranu
rhyw gymaint i'r Arglwydd yn wythnosol.
Yn Llansawel, cyfarfyddodd a dyn ieuanc
o ysgolfeistr, i'r hwn yr eglurodd y modd
priodol o addysgu, sef cyfeirio llygaid y
plant yn mlaenaf oll at Dduw, piygu eu
hysprydoedd dan iau Crist, a'u hyfforddi
yn ngwahanol ganghenau moesoldeb, yn
gystal ag yn egwyddorion y grefydd Grist-
ionogol. Wedi pregethu ar enedigaeth
Crist, cadwyd seiat breifat. Yma ymdrin-
iodd ag addysg plant, yr angenrheidrwydd
am sefydlu ysgol Gristioriogol, y pwys i'r
aelodau i fod yn ddarostyngedig i'w hath-
rawon, a cheryddodd hwy yn llym am na
pharchent James WilHams, eu harolygwr,
íel yr oeddynt yn ei barchu ef, a Daniel
358
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1749-
Rowland. Cyn terfynu, modd bynag,
trodd at bethau mwy cysurlawn, ac aeth
yn ganu ac yn foHanu dros y lle. Oddi-
yma aeth i Glanyrafonddu, a dywed iddo
lefaru y dydd hwnw saith o weithiau,
rhwng pregethu ac anerch seiadau. Teith-
iodd trwy Langathen, Llanegwad, a Glan-
cothi, gan gyrhaedd Caerfyrddin erbyn y
Gymdeithasfa Fisol, a gynhehd yno lon-
awr 5. Ofnai fod treialon dirfawr i'w
gyfarfod yma, ac aeth at yr Arglwydd am
gymhorth. Ymwehad yr angehon a'r
bugeihaid ar feusydd Bethlehem, oedd
pwnc y bregeth agoriadol yn Nghaer-
fyrddin ; ond nid yw yn ymddangos ei fod
yn cadw yn glos gyda ei destun. " Cefais
lawer o awdurdod," meddai, " i geryddu
pechod, i ddangos yr angenrheidrwydd am
edifeirwch, ac i rybuddio y rhai a ymdro-
ent mewn anwiredd. Yr oeddwn yn ar-
swydlawn wrth draethu am hollwybodaeth
Duw, ac am ei fygythion, a'i wiaiL" Gyda
ei fod yn gorphen pregethu, a chyn i
gyfarfod neiUduol y Gymdeithasfa ddech-
reu, deallodd fod ei was wrth y drws, yn
dwyn y newydd galarus fod ei ferch fechan
— yr anwylaf, y brydferthaf, a'r ffelaf o
fewn y byd, yn marn ei thad — wedi marw.
Aeth at yr Arglwydd ar ei union i ofyn am
gyfarwyddyd ; datganai ei barodrwydd i
fyned yn y blaen ar ei daith, a gadael i'w
wraig gladdu y marw, os mai hyny oedd
yr ewyllys ddwyfol. Cafodd ateb, am
iddo drefnu y materion perthynol i'r Gym-
deithasfa, a dychwelyd tranoeth. Hyny a
wnaeth. Dangosodd le y brodyr, a'i le ei
hun ; fod rhyw Moses neu gilydd, Uawn o
awdurdod, yn barhaus yn yr eglwys ; fod
ei fantell yn disgyn oddiar ei ysgwyddau
wrth fyned i'r nefoedd ; eithr fod rhywun
arall yn barhaus yn ei chael, a bod dawn
ac awdurdod yr apostohon yn perthyn i
rywun yn awT, oblegyd fod yr un angen-
rheidrwydd am danynt. Braidd nad oes
yma fwy nag awgrym mai Harris a wisgai
y fantell ar hyn o bryd. Anogodd y cyng-
horwyr i ymwadu â hwy eu hunain, ac i
feddu undeb yspryd a chalon. Bu yma
lawer o ganu a moHanu. Cychwynodd
tua Threfecca am dri o'r gloch boreu
dranoeth, a chyrhaeddodd yno, pellder o
driugain milltir, erbyn yr hwyr.
Dydd ]Mercher, lonawr 12, cychwyna i
daith arall. Yr'oedd yn nos, ac yn enbyd
o dywyll arno, cyn cyrhaedd Cantref, wrth
draed Bannau Brycheiniog ; rhuai y gwynt
yn ofnadwy, y gwlaw a ddisgynai fel
rhaiadr, ac yr oedd y teithiwr bhn yn oer,
ac yn wlyb. Ond ni theimlai y gronyn
lleiaf o anghysur. " Gwnaeth yr Arglwydd
y tywyllwch a'r dymhestl yn felus i mi,"
meddai, " gwelwn fy hun y dyn hapusaf o
fewn y byd ; ni newidiwn sefyllfa a'r
mwyaf cyfoethog." Tranoeth, pasiodd
trwy y Glyn, a Blaen-GIyn-Tawe, gan
gyrhaedd Gelly-dorch-leithe, ffermdy pur
fawr yn nghymydogaeth CasteIInedd,erbyn
yr hwyr. Ar y fíbrdd, myfyriai ar fawr-
edd ei ragorfreintiau, ac ar ogoniant Duw,
y Tri yn Un wedi ymgnawdoli. Dydd
Gwener, pregethodd yn Llangattwg, oddi-
ar I loan iii. 8 ; dangosodd fawredd y
prynedigaeth, i Dduw greu y byd mewn
chwe' diwrnod, ond iddo fod bedair mil o
flynyddoedd yn parotoi ar gyfer gwaith yr
iachawdwriaeth. Yna, aeth at ei hoff"
bwnc, dirgelwch y ddwy natur yn Nghrist.
Cynhelid Cymdeithasfa Fisol yma, eithr
cyn iddi ddechreu, clywodd Harris new-
yddion tra anghysurus, sef fod rhywrai a
adwaenai mewn dyled, a bod gŵr o ddy-
lanwad wedi bod yn rhedeg y Methodist-
iaid i lawr, gan ddweyd eu bod yn dyfod
i'r dim ; a'i fod ef, Harris, wedi cyfnewid.
Disgynodd hyn yn drwm arno ; ond, fel arfer,
aeth a'i faich at yr Arglwydd ar ei union.
Yn y cyfarfod neillduol, anerchodd y
cynghorwyr a'r aelodau yn ddwys, parthed
darllen yr Ysgrythyrau, a'u gwneyd yn
rheol yn mhob dim ; am wneyd casgliadau
yn fwy cyson ; am aberthu hunan, a dy-
wedai ei fod ef yn ddiweddar wedi ym-
wrthod a chan' punt yn y flwyddyn. Anog-
odd hwy i fod yn ífyddlawn i'r goleuni
oedd ganddynt. " Nid wyf yn eich gweled
ond dim o flaen y diafol," meddai, " os
pechwch Dduw ymaith." Teimlodd undeb
anarferol a'r holl frawdoliaeth, Pasiodd
trwy Nottage, Ile y pregethodd ar Grist
wedi dyfod i geisio ac i gadw yr hyn a
gollasid ; a'r Hafod, Ile y bu yn dra Ilym
wrth y proffeswyr cnawdol ; a Chefncrib-
wr, Ile y cafodd nerth na chawsai ei gyff-
elyb o'r blaen, i anog am roddi iau Crist yn
drom ar yddfau y Cristionogion ieuainc.
Dydd Llun, yr oedd yn Llantrisant. Dy-
wed ei fod yn gwisgo y dillad gw-aelaf o'i
holl frodyr, ac yn marchog y ceífyl salaf,
ond ei fod yn hollol foddlawn. Yna,
cadwai seiat breifat, ac anogai yr aelodau
i beidio ymgyfathrachu gormod a'r Ym-
neillduwyr, y rhai oeddynt yn farw i
Dduw, i raddau mawr, ac wedi ymroddi i
íîurfioldeb, ond heb ddim awdurdod i
gadw y byd a hunan allan. Yna, eglurodd
drefn y Methodistiaid, a'i le ei hun.
1749-]
HOWELL HARRIS.
359
Gwelai fod yr Arglwydd yn ei gymhwyso
fwy fwy ar gyfer ei le, gan fyned gydag
ef, a gwneyd pob peth erddo. Üydd
Mawrth, ymwelodd a St. Nicholas. Yma,
anogai hwy i ranu eu heiddo yn dair rhan ;
un i dalu eu dyledion cyfiawn, y rhan
arall i gynal eu rhieni a'u teuluoedd, a'r
rhan arall mewn gwneuthur daioni, yn
nghylch yr hyn y dylent ymgynghori a'r
Arglwydd. Wrth weddio ar y terfyn,
daeth Duw i lawr mor amlwg, fel y boddid
llais y pregethwr gan floeddiadau y dorf.
Cyn ymadael, bu mewn ymgynghoriad a'r
pregethwyr a'r goruchwylwyr. Dangos-
odd y cymhwysderau angenrheidiol yn y
goruchwylwyr, sef eu bod yn adnabod
Duw, ac yn cael cymdeithas ag ef, er
gwybod ei ewyllys ; a'u bod yn gynefin a
themtasiynau, er mwyn bod yn feddianol
ar amynedd. Eu gwaith ydoedd : (i)
Derbyn yr holl gasghadau, cadw cyfrif o
honynt, a dwyn y swm i'r Gymdeithasfa
Fisol. (2) Gofalu am y drws yn y gyn-
ulleidfa, arwain dyeithriaid i'w lleoedd, a
chadw y plant a'r c\Vn yn ddystaw. (3)
Edrych ar ol y cleifion a'r tlodion. (4)
Sylwi ar y rhai ydynt yn mynychu y
moddion, a thori atynt i siarad â hwynt.
(5) Edrych am y rhai absenol, a gweled a
ydynt wedi syrthio, neu yn tueddu at
ysgafnder. Yna, eglurodd nad oedd y
Methodistiaid ond rhan o gorph Crist ;
fod y Wesleyaid, y Morafiaid, a'r Ym-
neillduwyr yn perthyn iddo yn ogystal.
Cadwer mewn cof, mai y rhai a alwn ni
yn flaenoriaid, a adwaenid yn amser Harris
fel goruchwylw^yr, neu stewardiaid seiat.
Yn nesaf, aeth i Aberddawen ; ei destun
yma ydoedd : " Dysgwch genyf." Oddi-
yno i Dinas Powis, Ile y pregethodd oddiar :
" Cymerwch fy iau arnoch." Yn y Groes-
wen, pregethodd am dair awr ; dechreuai
am wyth, a pharhaodd hyd un-ar-ddeg.
Ar derfyn yr odfa, cadwodd seiat breifat
am chwech awr yn mhellach, sef hyd
bump. Felly y dywed ef ei hun. Ym-
ddengys fod nifer mawr o'r gwahanol
seiadau wedi ymgasglu i'r Groeswen, er
na chynhelid yno Gymdeithasfa reolaidd,
a chymerodd yntau fantais i osod mewn
trefn y pethau a ystyriai allan o le yn
mhob un. Dechreuodd gyda Llantrisant,
gan alw yr aelodau yn mlaen, a'u trin yn
llym am yr annrhefn oedd yn eu mysg,
yr annghariad, a'r diffyg gofal am ogon-
iant Duw. Dywedai fod yr Arglwydd yn
eu bendithio tra y byddent yn unol, ond
pan y byddent yn cweryla, eu bod yn tori
ei galon. Yna, aeth i weddi ar eu rhan, a
chafodd afael ryfedd ; daeth Duw i lawr,
gan eu darostwng yn isel, ac yn y diwedd
cawsant oruchafiaeth. Gwedi hyn, gos-
ododd ddwy seiat arall mewn trefn, ni
ddywed beth oedd allan o le ynddynt.
Yn ganlynol, rhoddodd gynghorion cyfF-
redinol, gan eu hanog i ddyfod i'r Cyfar-
fodydd Misol, y rhai a esgeulusid yn mron
yn gyfangwbl ganddynt. Dywedodd fod
yn rhaid iddynt adael pob peth, fel yntau,
a'i fod yn benderfynol o wasanaethu y
rhai a feddent yr un ffydd ag efe, gan fod
yn farw iddynt eu hunain, heb ofalu beth
a fwytaent, na pheth a wisgent, na phwy
fyddai yn uchaf, na phwy yn isaf. Ei fod
yn ei theimlo yn anrhydedd cael bod yn
wlyb hyd ei groen, cael ymdreulio, a bod
ar ei eithaf, a chael ei gashau gan bawb
oblegyd yr efengyl ; yr ai i djdaeargelloedd
am flynyddoedd, îe, y dyoddefai angau er
eu mwyn. Dywedai, yn mhellach, ei fod
yn gwneyd yr oll a wnelai bron yn ddidâl,
y gallai deithio can' milltir heb fod neb yn
hoH pa fodd yr oedd ei amgylchiadau ; ond
fod Ilawer yn dyfod ato am gymorth mewn
cyfyngder, gan gredu ei fod yn gyfoethog,
am y Ilanwai y fath le yn mysg y IMethodist-
iaid, a bod cynifer o seiadau dan ei ofal.
Gwasgoddd arnynt am gymeryd achos
Crist at eu calonau ; rhoddodd ger eu bron
achos y capel newydd yn Llanfair-muallt,
ac anogodd hwy i gasglu at achos Duw
yn wythnosol. Atebodd rhywun nas
gallent gyfranu, eithr rhoddodd Harris
wers iddo nad anghofiai am dro. Dywed-
odd fod pawb i gyfranu, hyd yn nod y
tlodion, gan gyfeirio at ddwy hatling y
wraig weddw ; eu bod oll yn rhan o'r
Corph ; eu bod yn pechu wrth feddu,
oddigerth eu bod yn meddianu yn Nuw,
ac nad oes dim ffrwyth yn gymeradwy,
hyd yn nod pe y caffai ei olchi yn ngwaed
Crist, oni fydd yn ffrwyth Yspryd Duw.
Wedi gorphen y seiat, bu yn anerch y
cynghorwyr a'r goruchwylwyr yn gyff-
elyb i fel y gwnaeth yn St. Nicholas, gan
ddangos iddynt eu gwahanol ddyledswydd-
au. " Gelwais hwy oll yma i gyfrif am
gyfranu y sacrament yn y tŷ hwn (Groes-
wen), gan ei fod yn dal cysylltiad a'r holl
Gorph, heb ymgynghori â ni oll. Dy-
wedais, os aent yn y blaen fel hyn, y
dyoddefai y gwaith, ac y gwnawn i eu
gadael. Dangosais fy mod wedi dyfod i
symud yr hyn oedd rhy drwm iddynt, ac
i'w cadarnhau. Rhoddais gynghorion idd-
ynt parthed dysgyblaeth, ac eisteddasom
300
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1749-
yn nghyd hyd wyth ; yr oeddwn wedi bod
yn y gwaith am ddeuddeg awr, heb gael
dim i fwyta nac i yfed."
Cyfarfod rhyfedd oedd hwn, yn ddiau.
Ceir yma gryn gadarnhad i'r traddodiad
mai ar anogaeth Daniel Rowland yr or-
deiniwyd rhai i weinyddu y sacramentau
gyntaf yn y Groeswen ; y mae cwyn
Harris, na ddylasent gymeryd y fath
ryddid heb ymgynghori â hwy oll, yn aw-
grymu yn bur gryf ddarfod iddynt ym-
gynghori a rhywun, neu rywrai. Ac â
phwy y gwnaethent, ond â Daniel Row-
land ? Dengys yn amlwg, hefyd, fod y
peth yn gwbl groes i farn a theimlad
Howell Harris ; efe a lynai dynaf wrth yr
meddygol, yn ogystal a duwinyddiaeth,
hanesiaeth eglwysig, a dadleuon athraw-
iaethol. Siaredais yn rhydd ag ef am
natur y gwaith, y modd y mae yn mynéd
yn ei flaen gyda nerth, a'r modd y dylem
ddefnyddio rhyw foddion er diwylho y
pregethwyr, a chael coleg, er dwyn i fynu
ddynion ieuainc blaenllaw i'r weinidogaeth.
Yr oeddwn hefyd yn credu fod Mr. White-
field yn rhy benderfynol, pan yr honai fod
gwybodaeth o Ladin yn hanfodol." Dyma
yr hedyn a blanodd Richard Tibbot, yn
ei lythyr at y Gymdeithasfa, parthed
addysgu y cynghorwyr, yn awr yn íîrwytho
yn meddwl Howell Harris. GweHry fath
goleg a fwriadai, sef sefydliad lle y byddai
CAPEL ABERTHYN, GER PONTFAEN, YN MHRO MORGANWG.
[Ádeiluäuyd yn y flwyddyn 17i9.^
Eglwys o bawb. Y mae ei fod yn cael
rhyddid i ddyfod yno, i bwyntio allan
iddynt eu dyledswyddau, ac hyd yn nod
i'w ceryddu am yr hyn a dybiai oedd allan
o le ynddynt, yn brawf diymwad fod cyn-
ulleidfa y Groeswen lawn mor Fethodist-
aidd gwedi yr ordeiniad a chyn hyny.
Dranoeth, yn Watford, cafodd ymddiddan
nodedig o ddyddorol a'r brawd Thomas
Price. " Dangosais iddo natur ein lle,"
meddai, " fod y fath gorph o bobl yn di-
bynu arnom, ac yn dal perthynas plant â
ni ; y dylem, er eu mwyn, fod yn rhyw
gymaint o gyfreithwyr, ac o feddygon, yn
gystal ag o dduwinyddion, ac o dadau ; ac
y dylem ddarllen llyfrau cyfreithiol a
elfenau meddyginiaeth, ac egwyddorion y
gyfraith wladol, yn ogystal a gwahanol
adranau duwinyddiaeth, yn cael eu dysgu.
Rhoddai bwys ar y pethau blaenaf, am
fod llawer o'r dychweledigion yn dra an-
wybodus ynddynt, ac yn dibynu yn gyfan-
gwbl am oleuni ac arweiniad ar y rhai a
ystyrient yn dadau crefyddol. Teithiodd
trwy Fair Oak a Redwick ; daeth gahvad
sydyn arno i ddychwelyd i Drefecca ; eithr
yr oedd yn ei ol yn y Goetre, dydd Mawrth,
lonawr y 24, wedi teithio trwy gydol y
nos. " Cyrhaeddais yma am dri o'r gloch
y boreu," meddai, " gorphwysais am ddwy
awr yn fy niUad ; yr oedd yn rhaid i mi
fyned yn y blaen i gyfarfod Mr. Whitefield
1749-]
HOWELL HARRIS.
361
yn Nghaerloyw ; gan fod gwaith y Bren-
hin yn galw am frys a phenderfyniad."
Nid oes genym hamdden i adrodd hanes
Cymdeithasfa y brodyr Saesnig yn Nghaer-
loyw ; ond y mae yn amlwg fod Harris yn
edmygydd diderfyn o Whitefield, ac yn ei
garu yn angerddol. " Cefais y fath olwg
ar Mr. Whitefield," meddai, " ag a wres-
ogodd fy nghalon ato yn fawr, gan fod yr
Arglwydd, a'i gariad, yn trigo ynddo. Yr
oeddwn yn ei garu yn ddirfawr, ac yn
llawenychu fod y fath ddyn wedi ei eni."
Ar y chwechfed o Chwefror, yr oedd Cym-
deithasfa Fisol yn Nhrefecca, yr hon a
agorwyd gan Howell Harris gyda phre-
geth rymus, oddiar y geiriau : " Y rhai a
ymddiriedant yn yr Arglwydd a fyddant
fel mynydd Seion, yr hwn ni syflir." Nid
yw yn cofio ddarfod iddo gael y fath odfa
o'r blaen, yr oedd yr Arglwydd mewn
gwirionedd yn eu mysg. Yn nghyfarfod
neillduol y Gymdeithasfa trefnwyd teithiau
y brodyr, Ileoedd y Cyfarfod Misol, a gor-
uchwylwyr ar y gwahanol seiadau. An-
ogodd y brodyr ieuainc, hefyd, i ddod
unwaith yr wythnos, yn awr ac yn y man,
i Drefecca, i gael gwersi. Pwy oedd i'w
haddysgu, ni ddywedir, ac nid ydym yn
gwybod i ba raddau y rhoddwyd yr anog-
aeth mewn gweithrediad. Cofnoda, hefyd,
fod y brawd WilHam Grifìiths, o Sir Gaer-
narfon, yn bresenol.
Dydd Llun, Chwefror 14, cawn ef yn
cychwyn am daith i Siroedd Maesyfed a
Threfaldwyn. Pregethodd yn Erwd y
nos gyntaf ar natur ffydd. Dranoeth, yn
Llanfair-muallt, ei destun ydoedd : " Ys
truan o ddyn ydwyf fi." Yn y seiat
breifat a ddilynai, yr oedd amryw gyng-
horwyr yn bresenol, a chymerodd yntau
fantais ar y cyfleustra i ddangos y fath
anrhydedd iddynt oedd cael gwasanaethu
yr Arglwydd. " Dywedais wrthynt,"
meddai, "am y cynyg a gefais ar le gwerth
can' punt yn y flwyddyn, lle y gallaswn
wisgo coler hardd, gyda lace aur ; nad oedd
dim yn fy rhwystro ond cydwybod. Gyda
gwaith yr efengyl yr wyf yn aml yn wlyb
hyd y croen, ac yn oer. A ydwyf yn
grwgnach ? A ydwyf yn ei theimlo yn
galed ? Na, na ; yr wyf yn synu fy mod
yn cael fy anrhydeddu mor fawr." Yna,
cyfeiriodd at y casghad wythnosol, y
dylent roddi, nid pob un geiniog, ond
pob un yn ol ei allu ; ac anogodd y gweith-
wyr, pan yn gwneyd cytundeb a'u meistr-
iaid, ar iddynt gadw amser at waith Duw.
Yn Llansantfíraid, ei destun ydoedd :
" Byddwch lawen yn wastadol." Yn y
seiat breifat, dangosodd fod rheol Gair
Duw, ac esiampl yr Arglwydd lesu, yr un.
Fod dadleu am y gwahaniaeth rhyngddynt
yn debyg i ddadleu ar y gwahaniaeth
rhwng fod un a dau yn gwneyd tri ; neu
ynte fod dau ac un yn gwneyd tri. An-
ogodd hwy i fod yn rhydd oddiwrth bartî-
aeth, ac am dderbyn yr holl bregethwyr,
beth bynag a fyddai eu doniau, yr un fath.
Yn Dolswydd, yr oedd Beaumont yn
gwrando arno, ac aeth y ddau yn nghyd i
Lwynhelyth. Ei destun yn Mochdref
oedd : " O Israel, ti a'th ddinystriaist dy
hun," a chafodd odfa dyner. Mynegodd
ei fod wedi gadael dau cant o bunoedd y
flwyddyn er mwyn y gwaith ; ac y gwnelai
hyny eto. Dangosodd y fath waith oedd
Duw yn gario yn mlaen, ac nad oedd ond
dechreu yn awr ; mai yr hyn a wnelai yn
benaf yn bresenol oedd symud y drain a'r
mieri o'r ffordd ; fod uffern wedi ymgyn-
hyrfu yn ofnadwy yn erbyn y gwaith hwn
ar ei gychwyniad, ond nas gallai ei ddi-
nystrio ; mai eiddo yr Arglwydd oedd yr
oll a feddent ; pan y rhoisant eu hunain i
Dduw iddynt roddi eu meddianau yn
ogystal ; nas gallent ei alw yn ol mwy, ac
nad oeddynt am hyny. Cawn ef yn Berriw
dydd Gwener ; pwnc y bregeth oedd, y
mab afradlon. Yn Llanllugan, pregethai
yn nhŷ un Richard Thomas ; " Gwir yw
y gair," oedd ei destun ; ac ar y terfyn
cafodd ymddiddan tra dyddorol â Lewis
Evan, yr hwn a gawsai ei oUwng yn
rhydd o garchar DolgeUau, am natur
balchder. Dydd Sadwrn, cawn ef yn
Llanfair-careinion ; Eph. ii. 8, oedd ei
destun ; a chyhoeddai i'r bobl nad oedd
un gwahaniaeth rhyngddynt hwy a'r dam-
nedigion ond a wnelai gras Duw, ac eto, mor
anniolchgar ac anffrwythlawn oeddynt hwy
wedi bod. Yr oedd awdurdod a nerth yn
cydfyned a'i genadwri. Yn Blaen Carno,
pregethai ar : " Chwi a ddaethoch i fynydd
Seion ;" odfa sych, braidd, ac eto cafodd
fesur o oleuni wrth gymhwyso y gwir-
ionedd.
Yn Llanbrynmair yr oedd nos Sadwrn,
a phregethodd oddiar y geiriau : " Adda,
pa le yr wyt ti ?" Boreu y Sul, cafodd
seiat breifat yn yr un lle ; deuddeg oedd
yn bresenol. Dangosodd, i gychwyn, fod
y seiadau yn debyg i glafdai, Ue yr oedd
pawb yn sâl, ac yn rhaid iddynt wrth
gymhwysiad beunyddiol o waed Crist hyd
ddyfnder y galon ; fod yn bosibl i'r deall
gael ei oleuo, a'r teimladau eu cyffwrdd,
362
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1749-
ac eto i bechod, rhagfarn, ac ofn angau
fod yn aros yn nyfnder yr enaid. Fod y
seiadau yn debyg i ysgolion, Ue yr oedd
pawb yn cael eu dysgu gan Dduw. Aeth
yn mlaen i ganmol yr Eglwys Sefydledig,
gan alw y Methodistiaid yn Ddiwygwyr
o'i mewn ; dangosodd ei le ei hun, fod
gofal yr holl bregethwyr a'r seiadau trwy
Gymru yn gorphwys arno ; cyfeiriodd at
y brawd Richard Tibbot, ac at y gwa-
haniaeth rhyngddynt a'r Ymneillduwyr.
Wedi y seiat, cynhaliwyd odfa gyhoeddus ;
pregethai Lewis Evan yn mlaenaf ; taranu
y gyfraith yn ofnadwy a wnelai efe, ac ar-
weiniwyd Harris ar ei ol i efengylu. Yn
y prydnhawn, aeth tua Llwydcoed, pell-
der o ryw un-milltir-ar-ddeg. Ar y ffordd,
gofynodd dri chwestiwn i'r Arglwydd.
(i) A oedd rhywbeth yn ei yspryd oedd
yn gwrthod plygu, ac ymostwng i Dduw ?
Cafodd ateb, nad oedd. (2) Mewn atebiad
i ofyniad sicrhawyd ef fod athrawiaeth,
dysgyblaeth, a thréfn y Methodistiaid yn
gymeradwy gan yr Arglwydd, ac y gwnai
ei breswyl yn eu mysg. (3) Gofynai ai
buddiol fyddai iddo ddyfod y ffordd hono
drachefn, yn mhen ychydig ddyddiau, i
addysgu y cynghorwyr ? a chafodd ateb
yn gadarnhaol, yn mhen enyd. Gwelai y
llesaallai ddeilliawoddiwrth hyn; eithrmai
gwaith newydd ydoedd, ac ofnai ei gym-
eryd heb i'r Arglwydd ei roddi iddo, a'r
angenrheidrwydd anorfod am i Dduw fod
wrth ei gefn, os oedd i ymaiîyd ynddo.
Llawenhäi wrth feddwl fod yr Arglwydd
am ddefnyddio ei holl alluoedd ef (Harris),
hyd yn nod y ddysgeidiaeth a gafodd yn y
gwahanol ysgolion. Prawf hyn fod Howell
Harris am ychwanegu at ei orchwylion
blaenorol, y swydd o fod yn fath o athraw
symudol, er cyfranu i'r cynghorwyr addysg
gyffelyb i'r hyn a gawsent mewn coleg duw-
inyddol. Cafodd ymddiddan maith hefyd a
Richard Tibbot am yr YmneiIIduwyr. Dy-
wedai fod ei galon yn uniawn tuag atynt ; ei
fod yn eu caru, ac yn galaru am yr hyn oedd
allan o le ynddynt ; mai ei amcan wrth
lefaru yn eu herbyn .oedd eu symud o'u
marweidd-dra a'u íîurfìoldeb. Dangosodd,
yn mhellach, y modd y dechreuasant oeri
ato, pan y gwelodd oleuni yr efengyl yn
glir gyntaf, ac y dechreuodd wahodd pech-
aduriaid at Grist fel yr oeddynt. Tybiai
fod llawer o'r Ymneillduwyr yn blant
dynion da, ac wedi derbyn addysg dda,
mewn canlyniad i'r hyn y daethent i
broffesu ; ond nad oeddynt wedi cael eu
symud allan o honynt hwy eu hunain, nac
wedi derbyn yr efengyl mewn gwirionedd,
er y credai fod Ilawer o'u pregethwyr a'u
pobl yn perthyn i'r Arglwydd. Cydunai
Tibbot, a dywedai y gwnai gymuno yn yr
Eglwys, er fod hyny, o herwydd ei addysg
a'i ddygiad i fynu, braidd yn chwith
ganddo ; mai yn achlysurol yn unig yr
oedd wedi derbyn gan yr YmneiIIduwyr ;
ond gan ei fod yn Ilafurio yn awr yn eu
canol, tybiai y gwnai eu tramgwyddo wrth
gymuno yn eglwys ei blwyf, ac y gallai
fyned i ryw eglwys blwyfol arall i dderbyn.
À hyn cydwelai fiowell Harris.
Yr oedd torf anferth wedi ymgasglu yn
Llwydcoed ; Rhuf. vii. 24, oedd testun
Harris, a chafodd odfa nerthol. Gwedi y
bregeth, cadwodd seiat gyffredinol breifat,
sef seiat i'r aelodau a'r cynghorwyr o
wahanol fanau oedd yn digwydd bod yn
bresenol, a bu yno, a chyda'r cynghorwyr,
hyd un o'r gloch y boreu. Anogodd hwy
i brynu yr amser, ac i addysgu y plant ;
penderfynodd ryw faterion dyrys i'r
brodyr ; a threfnodd oruchwylwyr yn y
gwahanol seiadau, i ddarllen y Beibl a'i
egluro, a chyfeiriodd at ei fwriad i ddyfod
yno yn mhen ychydig ddyddiau i addysgu
y cynghorwyr. Wrth wasgu arnynt i ym-
roddi i wasanaeth Duw, dywedai : " Nid
wyf yn cynyg unrhyw ddysglaid i chwi,
heb fy mod wedi proíì o honi fy hun ;
rhaid i ni gael ein dysgu ein hunain, a
hyny yn aml trwy demtasiwn boeth, cyn
y gallwn eich dysgu chwi." Dywedai, yn
mhellach : " Y mae yr Arglwydd yn myned
i gymeryd meddiant o'r wlad rhag biaen.
Nid wyf yn gofyn dim llai yn bresenol na
Phrydain Fawr. Ar y dechreu, ni ofynwn
am fwy na fy mherthynasau, fy nghymyd-
ogion, a'r plwyf ; ond yn awr, ni wna
dim Ilai na'r holl wlad fy nhro." Cafwyd
seiat ryfedd iawn. " Yr oedd yn amser
gogoneddus o ryddid," meddai. Dydd
Llun, yr oedd yn Ty-mawr, Trefeglwys.
Oddiyno aeth i Lanidloes, Ile y pregethodd
yn Gymraeg ac yn Saesneg, ond y rhan
fwyaf yn Gymraeg. Yn y Tyddyn y mae
dydd Mawrth, ac ymdrinia yma ag achos
y cynghorwr Thomas Bowen, yr hwn oedd
wedi colli yspryd crefydd i raddau mawr.
Bu Harris yn ymddiddan ag ef am rai
oriau, yn ateb ei wrthddadleuon, ac yn
ymresymu ; cafodd ddoethineb mawr yn
nglyn â hyn, ond parhau yn ystyfnig a
wnaeth Thomas Bowen. Boreu dranoeth,
gwnaeth gynyg arno drachefn ; galwodd
yn ei àỳ, gan ateb ei resymau, a chau ei
enau, fel nad oedd ganddo air i'w ddweyd ;
1749-]
HOWELL HARRIS.
363
ond ofer a fu yr ymgais, yr oedd calon y
cynghorwr wedi suddo i'r byd. Oddiyma
pasiodd trwy Rhaiadr, Dolyfehn,ac Erwd,
gan ddychwelyd adref dydd Gwener,
gwedi taith lafurus o yn agos i bythefnos.
Yn ystod yr ychydig amser y bu gartref,
cronicla ddarfod iddo dderbyn pedwar
gwrthgihwr i'r seiat yn Nhrefecca ; gwrth-
ododd dderbyn un wraig oddiwrth yr
Ymneillduwyr, nes iddi, yn gyntaf, gael
hamdden i ystyried y mater mewn dilrif-
wch. Cyfarfyddodd ddwy waith a'r cyng-
horwyr, er eu haddysgu a'u cymhwyso at
y gwaith. Dywed iddynt fod yn ymwneyd
am beth amser ag egwyddorion sylfaenol
sillebiaeth, darlleniaeth, rhifyddiaeth, a
gramadeg. Gyda y gwaith hwn teimlai
bleser dirfawr. Daeth y newydd i'w
glustiau fod ei frawd-yn-nghyfraith wedi
cael swydd dan y brenhin, gwerth pum'
cant o bunoedd yn y flwyddyn. " Yr
oeddwn yn ddiolchgar am y swydd sydd
genyf fi," meddai ; " yr wyf fìnau yn was
y Brenhin, sef gwas Brenhin brenhmoedd,
ac y mae genyf le anrhydeddus yn ei
gyfrin-gynghor."
Tua diwedd Chwefror, cawn ef yn cy-
chwyn am daith faith yn Siroedd Aberteifì
a Phenfro. Yn Bolgoed, ffermdy tua dwy
fiUtir o Aberhonddu, llefarodd oddiar y
geiriau : " Du ydwyf fi, ond hawddgar."
Yn Bronwydd, yn y seiat breifat ar ol y
bregeth, arweiniwyd ef i adrodd cychwyn-
iad a chynydd y diwygiad, y modd y
cawsai ef ei benodi yn Watford yn arolyg-
wr cyíîredinol ; yna, dangosai nad oedd y
seiadau yn eglwysi, ond canghenau diwyg-
iedig o'r Eglwys Sefydledig, yn mha un
yr oeddynt i aros hyd nes y Uyncid y
tywyllwch oedd yn y Sefydliad yn y
goleuni claer, neu ynte y caent eu gwthio
allan o honi. Dywedai, yn mhellach, ei
fod yn caru yr Ymneillduwyr, ac nasgallai
oddef i neb eu dirmygu na'u hamarchu.
Üddiyma aeth i Gilycwm, lle y pregethodd
ar y ddyledswydd o aros yn Nghrist. Caf-
wyd seiat ryfedd ar ol y bregeth. Wrth
ei fod yn egluro gymaint a wnaeth yr
Arglwydd erddynt, torodd y fath orfoledd
allan, a chanmol Duw, fel y bu raid iddo
roddi i fynu am amser. Tramwyodd yn
ganlynoîtrwy Lwynyberllan, Llansadwrn,
Cayo, a Llancrwys ; ac ar y ffordd cafodd
sicrwydd i'w feddwl y rhoddai yr Arglwydd
yr ieithoedd — Lladin, Cìroeg, a Hebraeg —
iddo, fel y byddai yn fwy defnyddiol i'r
praidd. Cawsai ffydd i weddío am hyn ;
ni chymerai ball mewn un modd, am y
gwelai y tueddai at ogoniant Duw. Yr
oedd yn foreu Sabbath arno pan y croesai
ar draws y mynyddoedd, a thrwy ddyffryn
ffrwythlawn Teifi, nes dod i Capel Bettws,
tua dwy filltir islaw Llangeitho. Yma
arosodd hyd nes y deuai Rowland o Lan-
cwnlle i w^einyddu y sacrament. Diau
fod ei yspryd i raddau yn gythryblus
ynddo, oblegyd ni fuasai yn Llangeitho er
ys dwy flynedd bellach, o herwydd yr
oerfelgarwch a gyfodasai rhwng Rowland
ag yntau. Cafodd arwydd arbenig o ffafr
Duw yn yr ordinhad. Y prydnawn hwnw,
yn Nghapel Gwynfil, yr enw wrth ba un
yr adnabyddir pentref Llangeitho yn y
cymydogaethau cyfagos, pregethodd i dyrfa
anferth yn yr awyr agored. Ei destun
ydoedd : " Du ydwyf fi, ond hawddgar."
Yr oedd wedi gwlawio yn drwm trw^y y
dydd, ond nid cynt y gorphenodd Harris
ei weddi, nag y gwasgarwyd y cymylau,
ac y daeth yr haul i'r golwg, a chafwyd
hîn ddymunol i gynal y cyfarfod. Gwedi
y bregeth, cadwodd seiat breifat am dair
awr. Llefarai am amryw bethau ; am
ganlyn esiampl Crist, ac nad oedd yn
gweled ei hun yn ddiafol mewn cnawd
ond pan yn myfyrio ar ymddarostyngiad
y Gwaredwr ; am dynerwch Crist at Petr
yn peidio danod ei gwymp iddo, ac am
ddarllen yr Ysgrythyrau, gan ddangos y
byddai hyn yn aros wedi i'w teimladau
oeri. Rhoddodd reolau i'r gwŷr a'r gwrag-
edd yn y seiadau, ar iddynt ddarllen
penod, a gweddío, ac oni fyddai i Dduw
agor eu genau i siarad er adeiladaeth, ar
iddynt beidio siarad o gwbl. Yr oedd y
presenoldeb dwyfol mor amlwg yn y cyf-
arfod, fel y methai Harris fyned yn ei
flaen. " Bloeddiwn i fy hun," meddai,
" nis gaUwn ymatal ; dydd o ymgymodi
ydoedd. Cefais nerth ychwanegol at y
gwaith. Gweddiai llavvrer, ac nis gall
tafod fynegu y gorfoleddu oedd yno." Y
noswaith hono teimlai ei gorph yn dra
lluddedig. Cyn ymadael, taer ddymunai
ar Daniel Rowland i ymweled a Sir Frych-
einiog. Y mae yn sicr fod gwell deall-
twriaeth yn'ffynu rhwng y ddau nag a
fuasai.
Nos Lun, pregethai yn Abermeurig ;
pregeth lem, a llawn bygythion, a deddf, a
tharanau. Deallodd yn ganlynol fod y
lle yn dra annuwiol a llygredig, ac mai
dyna oedd eisiau yno. Dydd Mawrth,
cawn ef yn Cwm Cynon ; ac yn y seiat ar
ol y bregeth, dywedai na ddylai hunan a
diafol gael trigo yn nh ý Dduw ; fod ganddo
3^4
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1749-
ef gomissiwn yn erbyn y diaflaid, ac yn
erbyn pob peth a ddeiUiai o uffern yn y
proffeswyr. Taranodd hefyd yn erbyn
y duU cnawdol o garu oedd yn y wlad, a
holai hwynt a oeddynt yn myned i'r eglwys
bob Sul, i wrando Rowland neu Howell
Davies. Yn Dyffryn Saith, pregethai ar :
" A hyn yw y bywyd tragywyddol," ac yn
Nghastell-newydd-Emlyn, ar : " Ys truan o
ddyn ydwyf fi." Pasiodd yn mlaen trwy
Pen-y-wenallt, Dygoed, i Ty'r Yet. Yn y
lle diweddaf, yr oedd nifer o gynghorwyr
wedi ymgynull, a bu yntau yn eu cymhell
i sefydlu casghad wythnosol yn mhob man
Dangosodd iddynt ei amgylchiadau ei hun
nad oedd ganddo ddim ond yr addewid
syrthio yn ol arni, ac y buasai wedi rhoddi
ei waith i fynu er ys llawer dydd oni bai
y tyst oedd o'i fewn fod Duw wedi ei alw
ato. Ymwelodd yn nesaf â Longhouse,
ac a Hay's Castle, lle y bu yn gwrando
Howell Davies yn eghvys y plwyf, ac yn
cyfranogi o'r sacrament.
Y dydd Llun canlynol, brysiodd i Hwl-
ffordd, lle y cynhehd Cymdeithasfa Fisol.
Cafodd fod yr Arglwydd yno o'i flaen.
Pan y trefnent parthed casgUad wythnosol,
gwrthwynebai rhai ; a chynghorai Harris
hwy i fod yn araf gyda hyn, rhag nad oedd
Duw ynddo, a phe y gwthient y peth yn
mlaen trwy y tew a'r tenau, efallai y coll-
ent eu dylanwad yn yr efengyl, yr hwn
ddylanwad yr oedd Crist wedi ei bwrcasu
a'i briod waed. Dangosai mai y ffordd
oreu i orchfygu cyndynrwydd oedd trwy
gariad ac amynedd. Cyfeiriodd at ei
amgylchiadau, nad oedd wedi derbyn pum'
punt mewn chwe' mis ; ei fod wedi gwrth-
od can' punt y flwyddyn, yr hyn a fuasai
yn ddau cant yn bur fuan ; ond ei fod yn
llawenychu wrth fod mewn tlodi ac ang-
hysur, gan ei chyfrif yn anrhydedd. Wedi
trefnu amryw bethau, aeth i'r ystafell i
bregethu ; ei destun oedd, Eph. v. 20, a
moesoldeb Cristionogol ei fater. Cyfar-
fyddai y Gymdeithasfa ar ddiwedd yr odfa,
a bu HoweU Harris yn dangos iddynt yr
addysg a hoffai i'r cynghorwyr gael, sef
sillebiaeth, gramadeg Saesneg, rheitheg,
rhesymeg, daearyddiaeth, hanesiaeth, ath-
roniaeth, ac ieithoedd. Mynegodd fel y
buasai yn rhoddi gwersi yn Nhrefecca ; yr
oedd yr holl gynghorwyr yn ymddangos
yn foddlon, a chydunwyd fod John Sparks
i barotoi llyfrau sillebu, a chopîau, erbyn
y Gymdeithasfa nesaf. Dysgwyhd i'r gor-
uchwylwyr hefyd gymeryd gwersi. " Yna,"
meddai, " dangosais fod eisiau addysg yn
mhob peth, onide nis gallent fod yn ddef-
nyddiol, ac fel tadau ; y dylent ddysgu pa
fodd i ymddwyn wrth y bwrdd, ac mewn
cwmni, yn ol eu cymeriadau, nid fel fops,
ac nid fel ynfydion ; a pha fodd i gyfarch.
Dysgais yr hyn a allwn, ac ar iddynt fod
yn farw iddynt eu hunain, ac i'r byd, ac
i'w ffasiynau, fel na byddai o bwys gan-
ddynt beth a wisgent. Dangosais anrhyd-
edd ein swydd, ein bod yn cael agoshau at
berson y Brenhin." Gwelir fod cynllun
Howell Harris o addysg athrofaol yn un
tra eang. Canfyddai y rhaid dechreu yn
isel. Yr oedd rhai o'r cynghorwyr heb
gael ond ychydig o addysg foreuol, ac felly
rhaid eu hyfforddi mewn sillebiaeth ac
ysgrifenu ; ond bwriadai i'r cwrs ymeangu
ac ymddyrchafu, fel na fyddai y rhai a
elent trwyddo yn ol mewn diwylhant i
glerigwyr yr Egìwys Sefydledig. Dengys
y cyfeiriad at hyfforddi y dynion ieuainc
mewn cyfarch, ac mewn iawn ymddygiad
wrth y bwrdd, mor ymarferol ydoedd
Harris yn ei hoU gynlluniau. Yr oedd
Uawer o'r pregethwyr ieuainc yn hanu o
deuluoedd tlodion ; gwyddent gryn lawer
am athrawiaethau yr efengyl, ond ychydig
am reolau moesgarwch, ac arferion cym-
deithasol, fel eu dysgid gan Arglwydd
Chesterfield ; a chan y byddent yn cael eu
gwahodd, nid yn anfynych y pryd hwnw,
i dai boneddigion y wlad, amryw o ba rai
a dueddent at Fethodistiaeth, yr oedd
perygl iddynt fyned yn wrthddrychau
gwawd i'r rhai anianol yn y cyfryw leoedd.
Eithr yr oedd y Diwygiwr yn dra awyddus
am iddynt beidio myned yn falch, pa
anrhydedd bynag a roddid arnynt ; a
phwyntiai allan fod cael agoshau at berson
y Brenhin yn fwy o urddas na chael
myned i d}' unrhyw bendefig.
O Hwlfìbrdd, aeth Harris i dref Penfro,
lle y pregethodd i gynulleidfa fawr, ar Mat.
i. 21. Enw yr lesu oedd ei fater ; dang-
osai ei fod yn Frenhin, yn Offeiriad, ac yn
Brophwyd ; ac yr oedd nerth a goleuni
dirfawr yn cydfyned a'r sylwadau. Cawn
ef yn nesaf mewn lle o'r enw Caino. Dy-
wxd ei fod yn lluddedig o ran corph, a'i
fod yn llefaru mewn cryn gaethiwed, ond
hydera i rywrai dderbyn bendith. " Y
rhai a ymddiriedant yn yr Arglwydd a
fyddant fel mynydd Seion," oedd ei destun.
Yn y seiat breifat, cafodd ryddid mawr
wrth gynghori yr aelodau i fyw trwy ffydd.
Dywedai am y cynghorwyr eu bod yn
benderfynol i fyned yn eu blaen i bregethu,
hyd yn nod pe raid iddynt fod heb ddillad.
1749-
HOWELL HARRIS.
365
a myned o gwmpas yn droednoeth. Dang-
osodd ddyledswydd meistri a gweision, y
dylent hunan-ymwadu mwy ; mai lesu
Grist yw yr esiampl yn hyn, ac mai
buddiol iddynt fyddai byw yn îs na'u
sefyllfa, fel y byddai ganddynt rywbeth i'w
gyfranu i'r Arglwydd. Am dano ei hun
dywedai, yr ystyriai hi yn anrhydedd cael
bod yn wlyb, a thrafaelu can' milltir yr
wythnos, gan bregethu ddwy neu dair
gwaith y dydd, heb gael dim fel tâl am
ei lafur, ond yr hyn a dderbyniai gan yr
Arglwydd. Ei le nesaf oedd Jefferson.
Wrth deithio tuag yno, cythruddwyd ef
yn ddirfawr gan ryw chwedl a ddaeth i'w
glustiau, sef ddarfod i Daniel Rowland
ddweyd fod dylanwad Mr. Whitefield arno
wedi peri iddo newid ei farn gyda golwg
ar athrawiaeth y Drindod ; a darfod i
Howell Davies awgrymu i ry wun nad oedd
efe (Harris) yr un yn awr ag a oedd gynt.
Ar y dechreu, teimlai y rhaid iddo gael
iawn am y sarhad ; ond yn mhen ychydig
llonyddodd ei dymher, a phenderfynodd
ddyoddef yr oll. Y mae yn sicr fod clud-
wyr chwedlau yn gwneyd llawer o niwed
i'w yspryd. Yn Jefferson, ei destun
ydoedd : " Mawr y w dirgelwch duwioldeb."
" Dangosais," meddai, " yn mha ystyr y
mae yn ddirgelwch. Yn (i) am ei fod
wedi ei guddio yn gyfangwbl oddiwrth y
dyn anianol ; ni ẁyr efe ddim yn ei gylch.
(2) Am mai trwy ífydd, a thrwy ddysgeid-
iaeth yr Yspryd Glân yn unig y gelhr ei
wybod, ac nid trwy foddion naturiol, megys
darllen, efrydu, a myfyrio, er fod yr Yspryd
yn aml yn dyfod trwy y cyfryngau hyn, ac
felly y dylem eu defnyddio. (3) Y mae
yn ddirgelwch am nas gelhr píymio i'w
waelodion, hyd yn nod gan y rhai sydd yn
canfod ddyfnaf iddo." Dywed, yn mhell-
ach, iddo gymhwyso yr athrawiaeth gyda
nerth at bechaduriaid difater. " Yr oeddwn
yn ofnadwy o lym," meddai, " hyrddiais
ddychrynfeydd Duw arnynt, gan ddangos
eu bod yn pechu yn erbyn deddf ac
efengyl. Dangosais pa fodd y mae yr hen
a'r ieuainc, y cyfoethog a'r tlawd, yn cyd-
bechu ar y ffordd lydan, ac eto yn taeru
nad oes un rheidrwydd am fyned o gwmpas
i gynghori y bobl. Dangosais sefyllfa y
sir ; taranais yn arswydus, a rhybuddiais
hwy." Diau ei bod yn lle ofnadwy yno,
a bod y dylanwad yn ormod i gnawd. Yn
y seiat a ddilynai, yn yr hon yr oedd John
Harris yn bresenol, anogodd hwy yn gryf
i gariad brawdol, ac i beidio esgeuluso y
moddion. " Ni wyddoch faint eich colled
wrth esgeuluso un cyfleustra," meddai.
Pregethodd gyda nerth yn St. Kennox ; ac
wrth fyned oddiyno i Maenclochog, rhaid
oedd iddo ef a John Sparks, yr hwn oedd
yn dra anwyl ganddo, ymadael. Eithr
aeth John Harris yn mhellach gydag ef,
ac anogai yntau ef i gyíîroi yr aelodau i
fod ar eu goreu dros yr Arglwydd. " Am
danaf fy hun," meddai, " dywedais nas
gallwn orphwys, a'm bod yn benderfynol,
trwy ras, o farw yn y gwaith anrhydeddus
hwn."
O Maenclochog, cawn ef yn myned yn
nghwmni ei hen gyfaill, Howell Davies,
i'r Parke. Cyffelyba hwy i deithwyr wedi
cael eu dwyn yn nghyd, ar ol bod yn
tramwy trwy ystormydd enbyd. Agorodd
Harris ei holl galoni'w frawd, gan ddangos
mawredd y gwaith, y modd yr oedd yn
llwyddo, ac fel y credai fod y tymhestloedd
y buont ynddynt, yn tueddu i'w cadw
rhag ymfalchio. Ei destun yma oedd :
" Gwir yw y gair." Yna, teithia trwy
Gilfach, Mounton, Lacharn, Merthyr, a
Llanpumsant. Yn y rhan fwyaf o'r
lleoedd hyn, pregethai heb un testun, ac
yr oedd nerth mawr yn cydfyned a'i weini-
dogaeth. Yn Nghaerfyrddin, gwrandaw-
odd ar John Richard yn pregethu ar
ymddarostyngiad y Gwaredwr ; yn gan-
lynol, pregethodd yntau ar ddirgelwch
Crist. Ymddengys fod yma Gymdeithasfa
Fisol, a gwasgai Harris yn ddwys ar y
pregethwyr y dymunoldeb iddynt i ym-
drechu am ragor o addysg. Gorphenodd
ei daith yn Llanddeusant ; yr oedd yn
ddyfnder nos arno yn cyrhaedd y lle, a
dywed ei fod yn wlyb hyd ei groen, ac yn
oer, wrth groesi y Mynydd Du. Er
hwyred ydoedd, yr oedd yn rhaid iddo
bregethu ; dechreuai yr odfa am ddeuddeg
o'r gloch y nos, a'r mater oedd : " lachaw-
dwriaeth orphenedig;" adaethyr Arglwydd
i lawr. Oddiyma, aeth ar ei union tua
Threfecca, yr hwn le a gyrhaeddodd am
bedwar o'r gloch y boreu, y dydd o flaen
y Pasg. Fel hyn yr ysgrifena wedi dych-
welyd : " Y boreu hwn daethum adref, ar
ol taith o dros dair wythnos yn Siroedd
Penfro, Aberteifi, a Chaerfyrddin, a chwedi
tramwy dros un-cant-ar-ddeg o filltiroedd.
Ffafriodd yr Arglwydd fi yn rhyfedd yn
mhob man, wrth bregethu, cynghori yn y
seiadau preifat, a threfnu pethau cysylltiedig
a theyrnas dragywyddol ein Hachubwr.
Er ein hoU bechadurusrwydd, y mae yr
Arglwydd yn cario ei waith yn mlaen yn
mhüb man. Yr wyf yn credu fy mod yn
366
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1749-
cael yr anrhydedd o adael bendith ar fy ol,
pa le bynag yr af, i'r eglwys, i'r byd, ac
i'r cynghorwyr. Llawer o ddarganfydd-
iadau melus o'i ogoniant a roddwyd i mi
gan yr Arglwydd."
Ar y 25ain o Fawrth y dychwelodd
Howell Harris. Y dydd Mawrth canlynol,
cynhelid Cymdeithasfa Fisol yn Nhrefecca.
" Yn y seiat gyffredinol," meddai, " cefais
y fath deimlad o'r cariad a'r presenoldeb
Dwyfol, fel na allwn lefaru. Yr oedd
pawb yn llawn o Dduw. Yna, fy ngenau
a agorwyd dros ddwy awr, mewn tynerwch
a chariad ; dangosais iddynt am gariad
Duw, am yr anrhydedd o gael bod yn
ngwasanaeth Duw, ac am fywyd ffydd."
Yn y cyfarfod neillduol, holodd y cynghor-
wyr yn fanwl, a threfnwyd teithiau pob
un. Ar y dydd cyntaf o Ebrill, cychwyn-
odd am Lundain, ac ni ddychwelodd yn ei
ol hyd y nawfed o Fai. Ún hwyr, yn bur
fuan wedi ei ddychweUad, daeth y Parch.
Price Davies, Ficer Talgarth, i ymweled
ag ef, ac yr oedd yn fwy isel a serchog nag
y gwelsai Harris ef erioed o'r blaen. Ad-
roddodd ei holl hanes wrth Price Davies,
y modd y cawsai ei ddeffro trwy ei waith
ef yn galw y bobl at y sacrament, a'r
modd y dechreuasai fyned o gwmpas i
bregethu. Nad oedd ganddo unrhy w gyn-
llun ar y cychwyn ; nad oedd wedi clywed
am Whitefield na Wesley, ac nad oedd
ganddo unrhyw ddychymyg y buasai y
gwaith yn cynyddu fel y gwnaethai. Dat-
ganai, yn mhellach, ei benderfyniad i lynu
wrth yr Eglwys Sefydledig. " Dywed-
ais," meddai, " y dylai y rhai a ddygasid
i fynu yn yr Eglwys aros ynddi ; os codai
rhyw betrusder yn eu meddwl y dylent
fyned ag ef at yr offeiriad ; os na wnai ef
ddangos amynedd a rhoddi boddlonrwydd
iddynt, y dylent fyned at ryw offeiriad
arall ; os na chaent eu boddloni gan un-
rhyw offeiriad, y dylent ddyfod ataf fi, neu
ryw un o honom (y Methodistiaid) ; ac os
methent gael boddlonrwydd yn neb o
honom, yna, eu bod at eu rhyddid i ganlyn
eu goleuni, a'u cydwybod." Datganodd,
yn mhellach, am elyniaeth yr offeiriaid ato,
eu bod wedi arfer pregethu yn ei erbyn, a
darfod iddo fod mewn perygl am ei fywyd
oddiwrthynt ; ond mai am ddiwygiad oedd
efe, a gwneyd cymaint o dda ag a oedd
bosibl, a phe y gadawai y Methodistiaid
yr Eglwys, y gadawai yntau hwythau.
Addefai Mr. Davies fod eisiau diwygiad
yn fawr. " Yna," meddai Harris, " dang-
osais i Mr. Price Davies, fod rhagfarnau
(yr offeiriaid at y Methodistiaid) wedi
lleihau yn ddirfawr, am fod Ilawer o beth-
au oedd yn feius ynom wedi cael eu cywiro,
a'u bod yn gweled ein bod yn glynu wrth
yr Eglwys. Addefais hefyd ddarfod i mi
ac eraiU fod yn rhy wresog yn ein zêl.-
Dy wedai yntau mai hyn a aethai i glustiau
y clerigwyr a'r esgobion ; eto, addefai
íod llawer o honynt yn ddynion drwg, a'i
fod ef ei hun yn eithaf drwg." Wrth
glywed yr addefiad hwn, torodd y Diwyg-
iwr i fohanu : " Rhyfedd, Arglwydd,"
meddai ; " beth na elh di wneyd ? " Yna,
aeth yn mlaen i ganmol yr Eglwys, fod ei
gwasanaeth o'r fath felusaf. Yr ydym yn
croniclo yr hanes hwn er mwyn tegwch
hanesyddol, yn gystal ag o herwydd ei
ddyddordeb. Profa fod yspryd Howell
Harris, oedd yn wastad yn gynhes at yr
Eglwys Sefydledig, ac yn ymlyngar wrthi,
er cymaint o feiau a ganfyddai o'i mewn,
erbyn hyn yn ymgordeddu am dani yn
dynach, a'i fod yn benderfynol o beidio ei
gadael, hyd yn nod pe bai raid cefnu ar y
Methodistiaid, oblegyd ei ymlyniad. Nid
annhebyg mai adnewyddu ei gymdeithas â
Whitefield a ddygodd oddiamgylch y cyf-
newidiad hwn yn ei deimlad.
Yn mis Mai, pasiodd Daniel Rowland
trwy Drefecca, a bu Harris yn ei wrando
yn pregethu. Ei destun ydoedd, Rhuf.
viii. 13, a'i fater, gras mewn ymdrech â
phechod. Dywedai na ildiai gras i lygr-
edd hyd nes y byddai y drwg wedi ei
Iwyr orchfygu ; fod y Cristion yn marw-
eiddio gweithredoedd y cnawd, ac a'i hoU
galon yn eu cashau ; fod llawer o Pharis-
eaid i'w cael, oeddynt yn foesol yn unig
oddiallan, ac na wna dim foddloni Duw
na gras ond llwyr ddinystr pechod. Yr
oedd yr athrawiaeth wrth fodd calon
Howell Harris. " Gwelwn," meddai, "fod
yr Arglwydd yn myned allan yn erbyn
pechod ; canfyddwn hyn wrth ei fod yn
rhoi y fath gomissiwn i'w was, a gwnaed
i'm henaid lawenychu ynof o'r herwydd."
O ganol Mai hyd ddiwedd Gorphenaf, y
mae y dydd-lyfr ar goll. Ddechreu mis
Awst, aeth Howell Harris i Lundain, ac
arosodd yno hyd ganol Medi. Prif ddi-
gwyddiad y cyfnod hwn oedd gwaith
Whitefield, mewn Cymdeithasfa a gyn-
hahwyd yn y Tabernacl, Medi 1-7, yn
ymneillduo yn gyfangwbl oddiwrth arol-
ygiaeth y Cyfundeb Saesnig, ac yn tros-
glwyddo yr holl ymddiriedaeth i Howell
Harris. Cydunai amryw bethau i beri i
Whitefield gymeryd y cwrs hwn. (i) Er
1749-]
HOWELL HARRIS.
367
ei fod yn meddu cymhwysder at drefniad-
aeth, a llawer o fedr at lywodraethu ac
arwain, eto, nid dyma ei brif allu, na'i hoíf
waith. Uwchlaw pob peth, pregethwr
oedd Whitefield, a galw pechaduriaid at
Grist oedd y gorchwyl yn mha un yr ym-
hyfrydai. Ac er cael rhyddid i fyned o
gwmpas i ba le bynag y byddai galwad, a
phregethu yr Argiwydd íesu yn mhob
man lle y caffai ddrws agored, teimlai fod
yn rhaid iddo roddi i fynu bob cyfrifoldeb
a gofal am allanolion. (2) Yr oedd yr
anghydfod a'r dadleuon parhaus a an-
rheithiai y Cyfundeb yn Lloegr, wedi bhno
ei yspryd ; teimlai nas gallai gyd-ddwyn
a'r brodyr gwrthnysig yn hwy ; ac er nad
oedd am dori ei gysylltiad â hwy, eto, nid
oedd am gymeryd ei flino yn hwy gan eu
hymrysonau. (3) Y mae yn bur sicr fod
ei deimlad at yr Eglwys Sefydledig wedi
newid. Ar y dechreu, credai fod diwygiad
ynddi yn anmhosibl ; barnai y byddai raid
i'r Methodistiaid, fel corph o bobl, ei gad-
ael yn bur fuan ; ond yn awr, trwy gym-
deithasu a llawer o fonedd y tir, ac yn
arbenig a'r larlles Huntington, daethai i
dybio mai trwy ddiwygio yr Eglwys, y
gellid diwygio y deyrnas. Tybiai y cai ef
ei wneyd yn esgob, ac y caffai clerigwyr
efengylaidd eu dyrchafu i safleoedd o aw-
durdod, a thrwy hyn, y deuai yr Eglwys
drwyddi yn efengylaidd. Felly, nid oedd
yn awyddus am Hosogi seiadau Methodist-
aidd, nac am fod yn arweinydd iddynt. Y
mae yn bur sicr ddarfod iddo ddylanwadu
ar Howell Harris, a'i wneyd yntau hefyd
yn fwy ymlyngar wrth Eglwys Loegr,
Cawn Howell Harris, tua diwedd mis
Medi, yn ymweled a rhanau o Sir Gaer-
fyrddin. Mewn seiat yn Llwynyberllan,
dywedai ei fod yn foddlon bod o'r golwg
mewn cysylltiad a'r gwaith ; i Whitefield
fod yn ben ar y Cyfundeb yn Lloegr, a
Rowland yn Nghymru ; ac os boddlonent,
fod Jühn Wesley drostynt hwythau dra-
chefn. Y gwnai y Ile isaf ei dro ef
(Harris) ; fod cario y gwirionedd o gwmpas,
heb neb yn ei weled, yn ddigon o anrhyd-
edd iddo ; ac nad gwaeth ganddo i eraill
gael yr holl barch a'r poblogrwydd. Diau
ei fod yn hollol onest yn yr hyn a ddywed,
ac mai dyna ei deimlad y íoment hono.
Eithr y mae un frawddeg yn dilyn, a aw-
gryma ryw gymaint o chwerwder yspryd,
sef : " Dymunaf na fyddo i'r brawd
Rowland gael cwymp, fel yr ymddengys
yn debyg yn awr." Yn bur fuan, cawn ef
yn cychwyn am daith i Forganwg. Dy-
wed ei fod yn wanllyd o gorph, a bod ei
enaid yn flin ynddo o herwydd yr annhrefn
oedd yn mhlith y Methodistiaid. Pregeth-
odd y noson gyntaf yn Cantref ; boreu
dranoeth yn Taf-Fawr, ac achwyna yn
enbyd ar erwinder y ffordd ; y nos, yr oedd
yn Llanfabon. Ar ei ffordd i'r Groeswen,
clywodd am rhyw helynt a ddigwyddasai
yn y Goetre. Teimlai faich annyoddefol
yn pwyso arno mewn canlyniad ; gwelai
fod serch partiol yn debyg o wneyd byd o
niwed yn eu rnysg, ac ocheneidiai wrth
weled Satan yn cael caniatad i'w rhwygo.
Eithr wrth bregethu, ar Mat. xi. 28, 29,
daeth yr Arglwydd i lawr, a chafwyd odfa
rymus. Yn y seiat breifat, agorodd ei
galon ; dywedai ei fod yn gweled ei hun y
gwaethaf o bawb ; ond yn Nghrist ei fod
fel pe byddai heb bechu, ac fel pe bai
pechod heb ddyfod i'r byd. " Daeth awel-
on nerthol o'r Yspryd i lawr," meddai,
" pan y dangoswn ein hundeb â Christ.
Gofynais iddynt, ' A ydych chwi yn teithio
ffordd hyn ? ' Dyma fy mywyd i. Nid
wyf yn ddyledus i'r cnawd, ond i'r
Arglwydd, am fyw iddo." Gwedi y seiat,
bu gyda y pregethwyr a'r goruchwylwyr hyd
ddeuddeg o'r gloch y nos. Daeth awel
gryf i lawr yma eto. " Dangosais iddynt,"
meddai, " y Duw tragy wyddol yn y preseb.
Cwestiynais hwynt hyd adref am Dduw-
dod y Gwaredwr ; dangosais y modd y
datguddiwyd y gwirionedd hwn i mi ; ac
eglurais am fy undeb a'r Morafiaid, am
ddirgelwch y Drindod, a'r modd y mae
y Drindod sanctaidd yn preswylio yn
Nghrist ; am beidio gwneyd dim heb ym-
gynghori a'r Arglwydd, gan ei gydnabod
ef fel Meistr. Daeth chwythwm cryf i
lawr, a phenderfynasom lawer o bethau."
Dranoeth, aeth ef, a Thomas Price, o'r
Watford, i Gaerdydd. Wrth glywed
crochfloedd y werinos yma tueddai i grynu ;
ni fedrai feddianu ei hun am dipyn ; ond
yn y man nerthwyd ef i efengylu yn felus,
oddiar y geiriau : " O angau, pa le y mae
dy golyn ? " Gwenodd yr Arglwydd arno
ef ac ar y bobl. Cafodd ymddiddan maith
a'r brawd Price, yr hwn sydd yn haeddu
ei güfnodi. " Cynygiais," meddai Harris,
" roddi fy Ile i fynu o ran yr enw o hono ;
i Rowland gael bod yn ben yn Nghymru,
Whitefield yn Lloegr, a Wesley drostynt
hwythau ill dau. Dywedais y gwnawn yr
un gwasanaeth wedin ag yn awr, ac nad
oes genyf fawr ymddiried yn neb ; fy mod
yn gweled diffyg arfer rheol cariad at ein
gilydd, a bod eiddigedd wedi dyfod i'n
368
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1749-
mysg. Dangosais y modd y mae y brawd
Rowland yn gwanhau fy nwylaw ; fy mod
yn Lloegr yn cael fy meio am gadw y
Morafiaid a'r Wesleyaid allan o Gymru,
ac yn Nghymru fy mod yn cael fy nghy-
huddo o'u bradychu (sef i'r Morafiaid).
Cyfeiriais at falchder, at gariad at y byd,
ac nad oedd ef (Price) mor syml ag y
buasai. Agorodd yntau ei holl galon a'i
ofnau. Dy wedodd na wnai y brawd Row-
land gymeryd fy lle, yr unai â hwy i fy
anrhydeddu am fy nhalentau a'm gwas-
anaeth ; ond ei fod (Rowland) yn meddwl
nad wyf yn arfer fy rheswm yn wastad,
ond yn gweithredu oddiar deimlad y foment.
Dywedodd, yn mhellach, na wnai ef (Price)
a'r brodyr, gymeryd y brawd Rowland yn
fy lle. Ymadawsom yn felus." Y mae
yn bur sicr fod Thomas Price yn dweyd
yn eglur beth oedd teimlad Daniel Row-
land at y Diwygiwr o Drefecca, sef ei fod
yn ei anrhydeddu am ei yni, a'i wasanaeth,
ac nad awyddai mewn un modd am gymeryd
ei le ; ond ei fod yn beio arno am fyr-
bwylldra a diffyg barn.
Cawn Harris yn nesaf yn Dinas Powis,
lle y pregethodd ar ateb yr lesu i ddysg-
ybüon loan Fedyddiwr. Duwdod Crist
oedd y mater. Yn St. Andrew's, cyfar-
fyddodd a'r brawd Morgan Jones, gan yr
hwn y clywodd am y gyfraith yn Ngogledd
Cymru. Ni ddywed ddim am natur y
newyddion. Ymddengys fod Morgan
John Lewis yma hefyd, a thorodd Harris
ato, parthed sefyllfa pethau yn eu _mysg.
" Dywedais," meddai, " fod y gwaith yn
rhy drwm i mi, oni chawn gymorth gan
eneidiau ydynt yn feirw iddynt eu hunain,
ac yn ei gweled yn anrhydedd i ymdreulio
yn ngwasanaeth yr Arglwydd, gan fod a'r
achos ar eu calonau. Dangosais fod fy
ngwaith mor fawr fel mai da fyddai i
rywun ddilyn fy ergyd, gan fagu y cyng-
horwyr a'r goruchwylwyr ieuainc, a myned
o gwmpas teuluoedd, i'w deffro, fel y byddo
yr Arglwydd yn ben ar y cwbl. . . .
Cynygiais osod yr offeiriaid yn ben yn
Lloegr ac yn Ngymru, ac i minau fod o'r
golwg." Gwelir fod ei deimlad yn parhau
i raddau yn chwerw at yr offeiriaid, a bod
y cwestiwn, pwy a fydd ben ? yn cael
gormod o le yn ei feddwl. Aeth yn nesaf
i St. Nicholas, a chafodd gyfleustra yma
i wrando Howell Davies. Gwedi yr odfa,
dywedodd Mr. Davies wrtho, fod y diafol
yn rhuo yn ei erbyn yn ofnadwy yn
Nghaerfyrddin, ac yn Dygoed, a'i fod yn
cael ei gyhuddo o ryw' anfoesoldeb, a bod
caneuon gwawdlyd wedi eu cyfansoddi
iddo. Aeth y peth trwy ei galon fel brath
cleddyf. Wrth fyned tua'r Aberthyn nis
gallai lefaru gan faint ei ofid. Yno, modd
bynag, cafodd lawer o nerth wrth lefaru
ar y geiriau : " Myfi yw yr Arglwydd dy
Dduw\" Yn y seiat a ddilynai, dywedodd
lawer am berson Crist, a'i waed, a'i haedd-
iant ; ei fod yn Anfeidrol yn y groth, yn
Anfeidrol yn ei enedigaeth, ac yn Anfeidrol
yn ei fywyd, yn ei ufudd-dod, ac yn ei
angau. Ceryddodd yr aelodau yn Ilym
am eu balchder, eu cybydd-dod, a'r modd
y gwarient eu harian, a rhybuddiodd hwy
rhag barnu y cynghorwyr, onide, y gallent
syrthio i'r un pechod a Corah. Wedi y
seiat i'r aelodau, yr oedd seiat drachefn i'r
cynghorwyr a'r goruchwylwyr, ac ym-
ddengys fod Harris yn y seiadau yma yn
trefnu pethau, fel pe y byddent yn meddu
awdurdod Cyfarfod Misol. Pasiodd trwy
Penprysc, gan bregethu efengyl y deyr-
nas, a daeth i Nottage. Yma, clywodd y
bwriedid ei osod yn ymddiriedolwr ar y
capel oedd agos a chael ei orphen yn
Aberthyn. Taflodd hyn ef i beth petrus-
der ; ofnai rhag i'r offeiriaid Methodistaidd
deimlo, o herwydd fod ei enw ef yn y
weithred, a'u henwau hwythau allan ; ac
na ddeuent i bregethu i'r capel o'r her-
wydd. " Yr wyf yn foddlon," meddai,
" cymeryd fy rhan yn holl drafferthion tŷ
Dduw, ond nid yn ei anrhydedd." Pasiodd
trwy yr Hafod o Langattwg, gan ddyfod
i Lansamlet, lle yr oedd torf anferth wedi
ymgasglu. Cafodd odfa rymus, wrth
ddangos gogoniant yr lesu, ac anfeidroldeb
yr iachawdwriaeth. Ei destun yn Aber-
tawe oedd : " Canys efe a wared ei bobl
oddiwrth eu pechodau ;" a bu ar ei oreu
yn cyhoeddi dirgelwch y Drindod. Yn y
seiat breifat, ceryddodd yr aelodau yn
Ilym am eu balchder trefol, am eu gwrth-
wynebiad i frodyr o dalentau bychain i
ddyfod i'w mysg i gynghori, ac am rwystro
y gwaith trwy y cyfryw ymddygiad. " Nid
yw hyn," meddai, " ond eich balchder,
a'ch diffyg o farn addfed ; yr hyn sydd
arnom eisiau, yw cael gallu Duw gyda
phwy bynag sydd yn dyfod." Oddi-
yma aeth yn bur fanwl trwy wlad Gower,
a rhanau o Sir Gaerfyrddin, gan ddych-
welyd i Drefecca tua chanol mis Hydref.
Gyda ei grefyddolder dwfn, a'i synwyr
cyffredin cryf, yr oedd Howell Harris yn
dra hygoelus, ac yn ymylu ar fod yn goel-
grefyddol. Tybiai ei fod yn derbyn
cenadwri bendant oddiwrth Dduw, trwy
1749-]
HOWELL HARRIS.
369
adael i'r Beibl agor o hono ei hun, a darllen
yr adnod gyntaf a ddeuai o flaen ei lygaid.
Holai gwestiynau i'r Anfeidrol ar bob
mater, fychan a mawr, a chredai fod ystâd
ei feddwl mewn canlyniad yn atebiad oddi-
wrth yr Arglwydd i'w ofyniadau. A
chawn ef yn awr, o herwydd y dueddfryd
hon ynddo, yn cyfarfod a phrofedigaeth
bur chwerw. Daeth dynes a ymunasai â
chrefydd tan ddylanwad ei weinidogaeth
ef, i Drefecca. Ei henw oedd Mrs.
Griffiths, neu fel ei gelwir yn y cofnodau,
" Madam Griíîìths." Yr oedd ei g\Vr,
ar ol ei chamdrin yn enbyd, wedi ei
gadael. Honai hon ei bod wedi ei
llanw a'r ddawn brophwydol, a'i bod yn
alluog i broíì yr ysprydion. Yn syn iawn,
credodd yntau ei honiadau, ac yn ei ddi-
niweidrwydd, tybiodd fod Pen yr Eglwys
wedi anrhydeddu y Methodistiaid ag un
o ddoniau arbenig yr oes Apostolaidd.
Meddyliodd y gallai fod o wasanaeth dir-
fawr i'r diwygiad, trwy fod yn Ile Ilygaid
iddo ef, gan ei gyfarwyddo pa fodd i ym-
ddwyn mewn achosion o anhawsder, a'i
alluogi i wahaniaethu y rhagrithwyr oddi-
wrth y gwir gredinwyr. Penderfynodd ar
unwaitheichymeryd gydagef ar ei deithiau,
er y gwelai y gwnai rhy wrai dynu cam-gasg-
liad oddiwrth y cyfryw ymddygiad. Ond
nid oedd ei briod yn credu ynddi. A phan
aeth i osod y mater gerbron rhai o'r brodyr,
yn y rhai yr oedd ganddo ymddiried, dang-
osasent hwythau anfoddlonrwydd. Ond fel
arfer, ni wnai gwrthwynebiad leddfu dim
ar ei syniadau ; yn hytrach, gwnelai ef yn
fwy penderfynol yn ei farn. " Rhaid i'r
gwrthwynebiad hwn ddarfod," meddai,"fel
y mae pawb a'm gwrthwynebodd o'r dech-
reu wedi dyfod i'r dim. Diau genyf fod Mrs.
Griffiths yn golofn yn nhŷ Dduw." Nid
oes y sail leiaf dros amheu purdeb bywyd
Howell Harris ; yr oedd ei holl syniadau
mor ddihalog a gwawr y boreu ; yn wir,
cyfodai ei berygl o'i ddiniweidrwydd, ac
o'i anhawsder i ganfod achlysur i ddrwg-
dybiaeth mewn pethau a ystyridyn amheus
gan bobl eraill. Ar yr un pryd, ymddengys
rhywbeth tebyg iawn i fel pe byddai
gorphwylledd crefyddol wedi ei feddianu.
Yn bur rhyfedd, yr ydym yn cael i John
Wesley, un o'r dynion craffaf ei farn, fod
mewn profedigaeth gyffelyb. Modd bynag,
y mae yn bur sicr ddarfod i hygoeledd
Harris yn y mater roddi achlysur, am
dymhor, i elynion yr Arglwydd gablu.
Ddechreu mis Tachwedd, cychwynodd
ar daith trwy ranau o Sir Faesyfed a Sir
Drefaldwyn. Nid awn i fanylu ar ei hanes,
ond cawn yn nglyn â hi, ddau beth o ryw
gymaint o bwysigrwydd. Un oedd, ei
waith yn ymwasgu yn nes at James
Beaumont, yr hwn a goleddai syniadau
pur hynod am y Drindod, ac a aethai yn
mhell i gyfeiriad Antinomiaeth. Meddai
Harris ryw dynerwch rhyfeddat Beaumont;
efe, mewn ystyr, oedd ei Absalom. Y mae
yn awr yn ei gymeryd yn gydymaith iddo,
yn ei ganmol yn pregethu, ac yn dweyd ei
iod o yspryd mor ostyngedig, ac mor
barod i gymeryd ei ddysgu. Sut y gallai
ddweyd hyn sydd yn syn, pan yr oedd ef
a'r cynghorwyr wedi treulio noswaith yn
Nhrefecca i geisio darbwyllo Beaumont i
adael rhyw ymadroddion an-YsgrythyroI
a ddefnyddiai, ac wedi methu. Gwyddai
Harris ei fod, trwy wneyd cyfaill o
Beaumont, yn tramgwyddo ei frodyr yn
enbyd. Peth arall a nodweddai y daith
oedd, ei waith yn hysbysu y cynghorwyr,
nad oedd y gwahaniaeth rhyngddynt a
John Wesley yn rhyw fawr iawn, " Cef-
ais ymddiddan â Mr. Wesley," meddai,
" a gwelwn nad oeddym yn gwahaniaethu
rhyw lawer gyda golwg ar berffeithrwydd,
ond yn unig gyda golwg ar ei natur, am
mai Crist yw ein perffeithrwydd ni, a'n
bod yn tyfu i fynu yn raddol hyd ato trwy
ffydd. Hefyd, am syrthiad oddiwrth ras,
a pharhad mewn gras, yr ydym yn gwa-
haniaethu gyda golwg ar y pwynt Ile y
dylid ei osod. A chyda golwg ar bryned-
igaeth gyffredinol, ein bod ni yn credu
ddarfod i Grist farw dros bawb, ond nad
yw rhinwedd ei farwolaeth yn cael ei
gymhwyso at neb, ond yr etholedigion.
Cydunem hefyd gyda golwg ar gyfiawn-
had ; fod bywyd, yn gystal a marwolaeth
Crist, yn cael ei gyfrif i ni." Tueddwn i
feddwl fod Harris yn agored i gael dylan-
wadu arno i raddau gan ei gyfeillion, a
bod eu syniadau hwy, am dymhor, yn cael
IIiwio ei syniadau ef, oni fyddai iddynt
fyned i ddadleu yn ei erbyn, ac i'w wrth-
wynebu. Gwthiai Beaumont arno hefyd
y syniad y cai, yn bur fuan, fod yn ben
gwirioneddol ar yr holl seiadau yn
Nghymru.
Ddiwedd mis Tachwedd, cychwynodd
am Lundain, ac ni ddaeth yn ei ol hyd
lonawr 27, y flwyddyn ganlynol, sef 1750.
Cyn ymadael, torodd ei gysylltiad yn Ilwyr
a'r brodyr Saesnig. Y rheswm am hyn oedd
anghydwelediad rhyngddo a Whitefield.
Mynai y diweddaf iddo beidio ymgymysgu
a"r Wesleyaid a'r Morafiaid, a mynychu eu
BB
370
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1750.
cymdeithasau, fel yr arferai wneyd. A
hyn ni chydsyniai yntau : " Fy awydd
mawr i," meddai wrth Whitefield, " yw
undeb, ar i'r eglwys weledig fod yn un,
fel yr eglwys ddirgeledig, ac ar i Grist
gael ei bregethu yn ol dysgeidiaeth yr
Ysgrythyr." Ychwanegai : " Dywedais
wrtho nad oedd ganddo awdurdod arnaf tì,
mwy nag sydd genyf íì arno ef, sef yn
unig dweyd wrth ein gilydd beth a welwn
allan o le, y naiU yn y llall." Y mae ym-
ddygiad Whitefìeld yn y mater yma yn
dra hynod, yn arbenig gan ei fod ef wedi
ail-ddechreu newid pwlpud â John Wesley,
a'u bod yn cyduno i ddwyn yn mlaen
wasanaeth crefyddol, un yn darllen y
gweddîau, a'r liall yn pregethu. Modd
bynag, oerodd hyn deimlad Harris at
Whitefield, a phenderfynodd na wnai
lafurio mwyach yn yr un cyfundeb ag ef.
Ar y dydd olaf o lonawr, cynhelid
Cymdeithasfa Chwarterol yn y New Inn,
Sir Fynwy, ac aeth Harris yno. Agor-
wyd y Gymdeithasfa gyda phregeth gan
Daniel Rowland. Ar y dechreu, hoffai
Harris yr athrawiaeth ; pan y dywedai y
pregethwr fod yr iachawdwriaeth wedi ei
gorphen, chwythodd awel dyner dros y
cyfarfod. " Ónd," meddai, " tywyllodd
bethau trwy ymadroddion cnawdol am y
Drindod ; gellid meddwl wrtho fod y Tad
ar ei ben ei hun pan yn creu ; fod y Mab
wrtho ei hun pan yn prynu ; a'r Yspryd
Glân wrtho ei hun pan yn sancteiddio.
Dywedai hefyd, fod y dynion goreu yn
amheu weithiau, oblegyd eu llygredig-
aethau, a'u gwaith yn peidio edrych at yr
Arglwydd." Awgryma ei gondemniad o'r
dywediad hwn gan Rowland, ei fod wedi
cael ei ddylanwadu, i ryw fesur, gan syn-
iadau Wesley, parthed perffeithrwydd.
Dywed, yn mhellach, na ddaeth gogoniant
Crist i'r amlwg, ac iddo gael ei feddwl yn
ymwneyd a'r pwnc o brynu coed ieuainc,
i'w planu yn Nhrefecca. Dengys hyn
gyfnewidiad dirfawr yn ei yspryd ; nid
dyma y modd yr arferai wrando ar Daniel
Rowland. Yn nghyfarfod neillduol y
Gymdeithasfa, cyhuddodd Rowland ef o
fod yn barhaus yn newid ei syniadau, ac o
dra-arglwyddiaethu ar bawb na wnai ym-
ostwng iddo, gan wneyd ei arch yn mhob
dim. Atebodd yntau ei fod yn ddieuog o'r
ddau gyhuddiad. Am y cyntaf, bod yn
bwhwman mewn athrawiaeth, nad oedd
wedi cyfnewid o gwbl, er pan ddechreuodd
fyned allan yn gyhoeddus. Am yr olaf,
sef arfer tra-awdurdod, mai dyna y pechod
â pha un yr oedd wedi halogi ei hun leiaf ;
mai ei brif ddyben yn wastad oedd dyrch-
afu Crist. " Dywedais yn mhellach,"
meddai, " y gwnawn eu hargyhoeddi o
gywirdeb fy amcanion, trwy ymneillduo, a
rhoddi i fynu fy lle yn mysg y pregethwyr,
ac yn mysg y bobl. Fy mod wedi gweith-
redu ynddo mor hir ag yr oeddent hwy yn
barod i'm derbyn mewn ffydd ; ond os
oedd pethau fel y dywedai eíe (Rowland),
a'u bod yn ofni dweyd eu meddyliau wrth-
yf, y gwnawn ymadael, gan fyned o
gwmpas yn unig i'r lleoedd y cawn ddrws
agored gan Dduw. Yr awn at y pregeth-
wyr a'r bobl a roddai dderbyniad i mi, nas
gallai neb fy rhwystro i wneyd hyny."
Ychwanega, fod yr ystorm yma wedi codi
oddiwrth Mr. Whitefield, ac oddiwrth eu
rhagfarn at y brawd Beaumont. Tebyg
y tybiai ddarfod i Whitefield anfon at
Rowland, fod syniadau arbenig John
Wesley yn nav/seiddio ei bregethu i ryw
raddau. Gyda hyn, cododd Howell Harris
i fyned allan. Atebodd Rowland mai
gwell i Harris aros, ac yr ai ef (Rowland)
allan. Tawelodd pethau am ychydig.
" Cododd ystorm drachefn," meddai," gyda
golwg ar y brawd Beaumont. Dywedais
fy mod yn foddlawn iddynt ei geryddu am
unrhyw beth oedd allan o le ynddo, mewn
athrawiaeth neu ymddygiad ; ond na wnawn
gyduno i'w droi ef i ffwrdd, yn unig obleg-
yd rhagfarn, ac heb achos cyfiawn.
Dywedais fy mod yn gwybod ei fod yn
iach yn y ffydd, ac yn cael ei arddel gan
Dduw, a fy mod yn anfoddlawn i'w rwymo,
megys â chadwyn, gyda golwg ar y Ileoedd
i bregethu ynddynt, rhag fod gan yr
Arglwydd ryw genadwri i'w hanfon trwy-
ddo. GweÌwn eu bod (yr offeiriaid) yn
cam-ddefnyddio eu hawdurdod. Gwelwn,
a dywedais hyny, ein bod yn wynfydedig
nad oedd neb yn ein mysg mewn awdiir-
dod, a'r fath farn fyddai i rywun gael ei
osod." Aeth yn ei íiaen i siarad am Grist,
anwybodaeth Ilawer o honynt am dano,
anfeidroldeb ei ddyoddefaint, ei glwyfau,
a'i waed, ac anfeidroldeb pechod. " Pan
y siaradai y brawd Rowland yn gnawdol,"
meddai, " dywedais wrtho am weddío rhag
i'w holl wybodaeth fod allan o Iyfrau. Yr
oedd yn ystorm enbyd, a'r brawd Rowland
a fygythiai ymadael, oni throem Beaumont
allan." Aeth Harris a'r achos at yr
Arglwydd ; gwelai yn glir mai cadw
Beaumont i mewn oedd achos yr holl
gyffro yn Lloegr, ac yn Nghymru. Ond
gadael pethau fel yr oeddynt am y chwar-
I750-]
HOWELL HARRIS.
^JT-
ter hwnw a fu y diwedd, a thynerodd
Philhps gryn lawer ar y frawdohaeth, trwy
ddweyd fod Beaumont yn credu yn y
Drindod. Gwedi hyny, trefnwyd nifer o
faterion, a cheryddwyd rhyw frawd am
ysgrifenu yn erbyn Griffith Jones, ac ym-
yraeth mewn mater nad oedd yn perthyn
iddo. Y mae y brawddegau nesaf yn y
dydd-lyfr yn haeddu eu croniclo: " Ar hyn,
aeth y brawd Rowland, a'r brawd Price i
íìfwrdd, ac yn uniongyrchol daeth yr
Arglwydd i lawr. Dangosais iddynt, i
bwrpas, anfeidroldeb a gogoniant y gwaith ;
eglurais fel y mae yn ymledu, ac os byddai
i'r cynghorwyr fod yn fifyddlawn ar ych-
ydig, y caent eu dyrchafu i fod yn dadau.
Cyhoeddais, yn ngwydd pawb, anfeidroldeb
a gogoniant Crist ; mai ofer fyddai ceisio
ei wrthwynebu ; bum yn llym at un a'i
gwrthwynebai, ac a edrychai arno yn
gnawdol. Gwelwn, a dangosais hyny i'r
brodyr, nad oedd Duw yn dyfod i lawr
atom, hyd nes i Rowland a Price, &c.,
ymadael, ac mai eu hanghrediniaeth a'u
hunanoldeb yn y mater hwn oedd yn cadw
Duw i fîwrdd." Yn sicr, yr oedd y sylw
hwn yn un tra angharedig, ac yn dangos
yspryd wedi myned yn mhell ahan o'i le.
Cyn ymadael o'r New Inn, cafodd
Howell Harris ymddiddan maith drachefn
â Rowland, Price, a Howell Davies. Dy-
wedasant wrtho fod Whitefield wedi anfon
atynt gyda golwg arno, ac am ei syniadau ;
a'i fod ef (Whitefield) am yru y pregeth-
wyr atynt hwy. Dadleuai Harris o blaid
Beaumont, ond ni fynent wrando arno yn
y pwnc hwn, Eithr, wrth ymddiddan,
daethant gryn lawer yn nes at eu gilydd,
a thynerodd y naill at y Ilall. Rhybuddiai
Harris hwy am gadw yn nes at Dduw ;
ceisiai ganddynt gael cyfarfod yn breifat,
ac i'r naill agor ei galon i'r llall, a dweyd
beth a welent allan o le yn eu gilydd.
Achwynai fod Daniel Rowland yn erbyn
y Morafiaid, ac yn erbyn y Wesleyaid ;
ei fod ef (Harris) yn gweled canlynwyr
Whitefield a Wesley fel dwy gangen o'r
eglwys ddiwygiedig. Wedi dangos y dy-
lent deimlo beiau eu gilydd fel eu beiau eu
hunain, a bod eu gwaith yn duo eu gilydd
yr un peth a phe y duent eu hunain,
chwythodd yr ystorm heibio, ac wrth ganu
emyn, teimlent fod yr Arglwydd yn eu
mysg.
Yr oedd dau ddylanwad tra niweidiol ar
Howell Harris yr adeg hon, y rhai ni
fynai, er pob cynghori a rhybuddio, eu hys-
gwyd i fifwrdd. Un oedd dylanwad James
HB
Beaumont. Ymddengys fod Beaumont
yn bresenol, nid yn unig wedi cyfeiliorni
yn mhell oddiwrth y fifydd, ond ei fod yn
ogystal wedi ymlenwi o falchder, a'i fod,
hyd y medrai, yn ceisio troi calon Harris
oddiwrth y rhai y buasai yn cydweithio â
hwy o'r cychwyn. Pe y buasai yn cyd-
synio i daflu Beaumont dros y bwrdd yn
Nghymdeithasfa y New Inn, fel y dylasai,
yn ddiau, buasai yr ystorm yn tawelu ar
unwaith. Ond ni fynai ; yr oedd yn ben-
derfynol o gadw Jonah yn y Ilong. Y
dylanwad niweidiol arall arno oedd eiddo
y wraig a hònai yspryd prophwydoliaeth.
Credai am hon, ei bod wedi ymddyrchafu
yn uwch i'r goleuni dwyfol na neb ar y
ddaear, ond efe ei hun ; fod gan yr Arglwydd
waith dirfawr i'w gyflawni yn Nghymru,
trwyddo ef a hithau, a bod pob gwrthwyn-
ebiad iddi, yn wrthwynebiad yn erbyn
ewyllys Duw. Yr oedd hithau yn ddi-
chellgar, yn Ilanw ei fynwes â rhagfarn yn
erbyn ei frodyr. Yr oedd wedi prophwydo,
meddai Harris, y byddai iddo ymwahanu
oddiwrth Mr. Whitefield ; ac hefyd, y dar-
fyddai pob undeb rhyngddo â Daniel
Rowland. Cymerai arni yn awr, ei bod
wedi cael datguddiad, y byddai efe yn fuan
yn ben ar yr holl bregethwyr a'r seiadau yn
Nghymru. Ysgrifenai ato o Lundain,
i'w rybuddio i fod yn fifyddlon i bregethu
y Dyn lesu ; ac edrychai yntau ar y
rhybudd fel cenadwTÌ uniongyrchol oddi-
wrth yr Arglwydd. Gwnaeth dylanwad y
ddynes gyfrwys a rhagrithiol hon niwed
dirfawr iddo ; parodd anghysur yn ei
deulu ; a rhoddodd achlysur i'w wrthwyn-
ebwyr i daenu chwedlau anwireddus ar
led gyda golwg ar burdeb ei fuchedd. I'r
chwedlau hyn nid oedd rhith o sail ; ni fu
dyn ar wyneb y ddaear yn fwy rhydd
oddiwrth Iywodraeth nwydau anifeilaidd ;
y mae tôn ysprydol ei gyfeiriadau at y
ddynes, yn ei ddydd-Iyfr, yn brawf o'r
goleu yn mha un yr edrychai arni. Ni
fuasem yn cyfeirio at ei dylanwad arno yn
awr, oni bai ei fod yn hollol sicr fod
ganddi law fawr yn nygiad oddiamgylch
y rhwyg rhyngddo ef a'i gymdeithion, a'i
gyd-Iafurwyr.
Ychydig o ddyddiau y bu Howell Harris
gartref cyn cychwyn ar daith i Sir Benfro.
Nis gallwn fanylu ar y daith hon, eithr
cyfeirio yn unig at rai pethau o ddyddor-
deb cysylltiedig â hi. Yn Llandilo Fawr,
cyfarfyddodd à Daniel Rowland, eithr
ychydig o'r hen gyfeillgarwch a fifynai
rhyngddynt. " Nid wyf yn cael nemawr
2
372
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1750-
o gariad brawdol, a chymundeb Cristion-
ogol ag ef yn awr," meddai Harris, " ond
yn hytrach, y mae fy yspryd yn cael ei
gau. Dywedais wrtho mai ychydig o
natur pechod a welem, onide y byddai
arnom fwy o'i ofn ; ac nad oeddwn yn gweled
y gwaith yn pwyso ar neb, o ganlyniad,
yr awn allan wrthyf fy hun. Ymddiddan-
asom, hefyd, am gael tỳ i bregethu ynddo
yma." Yn Longhouse, yn Sir Benfro,
cyfarfyddodd â Benjamin Thomas, yr hwn
a ystyriai yn nesaf at Daniel Rowland, fel
un o'i brif wrthwynebwyr. Fel hyn y
dywed yn ei ddydd-lyfr : " Lleferais yn
rhydd wrth Benjamin Thomas, gan ddang-
os y fath blant ydym oll, a'r modd yr
ydym, bawb o honom, allan o drefn, heb
neb yn adnabod ei le, ac mor anwybodus
ydym oll o Grist. Cymerodd yntau y
cwbl genyf. Gwelais, a theimlais, mor
fawr y w y gorchwyl o ddwyn Crist gerbron
y bobl ; nad oeddwn yn ei wneyd yn iawn,
a Uefwn am gael bod gerbron yr Arglwydd,
gan nad wyf yn goddef unrhyw bechod (yn
y seiadau), ac nad wyf yn caniatau lle i
hunan. Ó ganlyniad, y mae y gwrthwyn-
ebiad, nid yn fy erbyn i, ond yn erbyn
Duw." Teifl y difyniad diweddaf gryn
oleuni ar ystâd ei feddwl, sef, yr ystyriai
fod yr Argíwydd wedi ei benodi yn llyw-
odraethwr ar y cymdeithasau, a chan
ddarfod iddo yntau, hyd eithaf ei allu, fod
yn ffyddlawn i'r ymddiriedaeth, fod codi
yn ei erbyn yn wrthryfel yn erbyn y trefn-
iadau dwyfol. Cawn ef, yn nesaf, mewn
Cymdeithasfa Fisol yn Hwlffordd, yn mha
un yr oedd Howell Davies yn bresenol.
Nid yw yn ymddangos i ddim o bwys gael
ei benderfynu ynddi, ond y mae ei ym-
ddiddan wrth ffarweHo â Howell Davies
yn haeddu ei gofnodi. " Dywedais wrtho,"
meddai, " fod gogoniant Crist yn dechreu
cael ei amlygu, ac y cai pawb a wrthwyn-
ebai eu dinystrio. Dangosais iddo am
gnawdolrwydd a deddfoldeb y brawd
Rowland, nad yw yn cynyddu mewn gwyb-
odaeth o Grist, a'i fod yn ymddangos fel
yn tyfu mewn hunanoldeb. Cyfeiriais at
falchder y brawd Beaumont, a'r modd yr
oeddwn, hyd y gallwn gael cyfleustra, er
pan gafodd gogoniant Crist ei amlygu
gyntaf yn ein mysg, yn ymdrechu chwiHo
y Beibl, a gweithiau dynion da. Ac yn
awr, y dinystrai Duw yr holl wrthwyneb-
wyr. Dywedais, fy mod yn tybio mai y
brawd Rowland a fyddai y diweddaf i ddod
i mewn." Y diweddaf i ddod i gydna-
byddiaeth â gogoniant yr Arglwydd lesu
a olyga, yn ddiau. Pa ateb a wnaeth
Howell Davies i hyn oH, nis gwyddom ;
efaHai y gwelai nad gwiw iddo ar y pryd
wneyd unrhyw amddiffyniad i Daniel
Rowland.
CynheHd Cymdeithasfa Fisol, hefyd, yn
Nghaerfyrddin, a bu Harris yn anerch y
cynghorwyr a'r goruchwylwyr gyda difrif-
wch mawr. " Y mae hyn," meddai, " yn
rhan o fy swydd bwysig, i'r hon, yn wir, y
perthyn Hawer o ganghenau, y rhai na
welais yn y goleu priodol o'r blaen.
Gwelaf fod mwy o ganghenau wedi eu
rhoddi i mi nag i neb o'r pregethwyr, yr
offeiriaid, na'r cynghorwyr, oddigerth Mr.
Jones (Griffìth Jones, Llanddowror). Ar-
weiniwyd fi yma i geryddu am ysgafnder,
ac yfed, ac am fod yn un â Christ; a
dangosais fel y mae Hawer wedi syrthio
trwy falchder. Yr oeddwn yn Hym am
gynyddu mewn tlodi yspryd. Dangosais
fel y mae y gwaith, er pob peth, yn myned
yn y blaen yn rhyfedd, a'r modd y mae fy
mwa yn arhoi yn gryf. Gwrthodais un a
syrthiasai, oedd yn cynyg dyfod atom, ac
a ymddangosai yn dra gostyngedig, am
nad oedd ei yspryd yn ddigon dryHiedig,
ac am nad oeddwn yn teimlo yspryd yn ei
eiriau." Wedi teithio trwy gryn lawer o
Sir Gaerfyrddin, a rhan o Forganwg, cawn
ef yn Llangattwg, ger CasteHnedd, ac y
mae yr adroddiad a rydd am ei helynt yn
y He hwn yn dra phwysig. " Neithiwr,"
meddai, " gwedi i mi bregethu yn gy-
hoeddus gyda chryn arddeHad, darfu i Mr.
Peter WiHiams fy ngwrthwynebu yn ben-
dant, gan ddweyd fy mod yn cyhoeddi fy
hun ; gwnaeth hyny yn fwy ar ol y seiat
breifat ; yna, aeth i ffwrdd. Yr oeddwn
yn Hym ac yn geryddol yma, fel yn Hwl-
ffordd ; ond yma, yn benaf, oblegyd eu
difaterwch am waith Duw, ac am eu
pleidgarwch a'u cnawdolrwydd tuag at
Mr. Rowland. Dywedais, nad oeddvvn yn
gweled neb yn adwaen ei le, ac feHy, fy
mod yn benderfynol o fyned o gwmpas
fy hun, gan weled pwy a unai yr Arglwydd
â mi, gan osod ei waith arnynt, fel yr
aent trwy bob peth. Dangosais, fy mod
yn gweled yspryd slafaidd a sismaidd yn
meddianu y bobl ; mai gweinidogaeth y
Gair yn unig a gawsai ei roddi i ni, a'r
ordinhadau i fod yn yr eglwysydd plwyf-
ol. Rhoddais gynghorion gyda golwg ar
amryw achosion. Gwedi hyn, cynghorais
yn llym, am fod yn un â Christ yn mhob
peth. Daeth yr Arglwydd i lawr ar hyn.
Llawer o'r cynghorwyr a'r stiwardiaid
I750-]
HOWELL HARRIS.
373
a gyffesasant fawredd eu pechodau, eu
dyledswyddau, a'u breintiau. Datgenais
fy serch atynt, a'm bod yn eu ceryddu
niewn cariad. Clywais gymaint am lyg-
redigaethau a sismau yn tori allan yn ein
mysg, fel mai braidd y gallwn ddal, ac
am frodyr yn esgeuluso eu lleoedd wedi
iddynt gael eu cyhoeddi. Gymaint o
bethau sydd genyf i fyned trwyddynt. Y
mae yn dda mai yr Arglwydd sydd Dduw."
Yr ydym yn cael yma, am y tro cyntaf, y
cytunai Peter WiIIiams a'r offeiriaid, sef
Rowland, WiUiams, a Davies, mewn
gwrthwynebiad i Howell Harris. A oedd
yn wrthwynebol i'w athrawiaeth, nis
gwyddom ; y prif gyhuddiad a rydd yn ei
erbyn yw, ei fod yn pregethu ei hun.
Braidd na awgryma hyn fod ei safle yn
mysg y Methodistiaid, a'i gwerylon a'i
frodyr, yn cael cryn le yn mhregethu
Harris yn ystod y daith hon. Yr ydym
yn cael, hefyd, fod Harris erbyn hyn, wedi
gwneyd ei feddwl i fynu i ymranu, ac i
ffurfio plaid ei hun, gan obeithio y byddai
i'r nifer fwyaf o'r cynghorwyr, ac o'r bobl,
ei ganlyn. Yr oedd hyn yn ei fryd er ys
tipyn, a chawn ef yn awgrymu y peth
wrth Daniel Rowland, yn Llandilo Fawr.
Yn Rhosfawr, Ile yn ngorllewin INIor-
ganwg, cafodd ymddiddan maith â dau
gynghorwr, sef John Richard, Llansamlet,
a WiUiam James. Ei amcan yn amlwg
oedd eu henill i fod o'i du ef, yn yr ym-
raniad ag yr oedd wedi penderfynu arno.
Fel hyn y dywed : " Dangosais iddynt ein
cwymp oddiwrth Dduw i yspryd y byd, a
gwelent nad yw yr Arglwydd lesu yn
awr yn cael ei garu, ond fod Ilygredig-
aethau yn dyfod i mewn fel afon. Dang-
osais mai gwybodaeth pen a bregethai yr
offeiriaid ; mai y pen a'r teimlad y maent
yn gyfarch ; ond fod yspryd y bobl yn
myned yn fwy daearol, hunangar, cellweir-
us, nwydus, a chnawdol ; fod y bobl yn
diystyru pawbond yr offeiriaid, gan barchu
y gŵn, a'r enw. Eglurais yr angenrheid-
rwydd am edrych ar yr oll yn Nuw, a
chanfod pob peth yn awr yn ngoleu y
dydd diweddaf. Dymunwn arnynt ym-
gasglu yn nghyd, nid er mwyn plaid, ond
i gadarnhau y naill y Ilall yn y goleu a
roddasid iddynt gan Dduw ; ar iddynt
fyned i fysg y bobl, i'w hachub rhag y plâ
sydd yn ein hanrheithio, sef ysgafncler, ac
edrych yn y cnawd am bob peth ; ar
iddynt geisio dyrchafu y bobl i fynu hyd
at y goleuni ; ac ar iddynt adael i mi
wybod sut yr oedd pethau yn myned yn
mlaen. Dangosais nad oedd genyf neb
yn awr i'm cynorthwyo ; fod llawer yn
cyfarwyddo y cynulleidfaoedd, ond nad
oeddynt yn cynyddu yn nghariad Crist,
nac yn gofalu am ei orchymynion ; nad
oedd Gair yr Arglwydd yn cynyddu mewn
dylanwad, am nad oeddent yn gweled
Crist yn ei fygythion, yn ei addewidion,
ac yn ei orchymynion ; nad ydynt yn ei
weled ef a'i Air yn un, a'u bod yn edrych
ar y Gair yn y cnawd, fel y gwna y byd.
Gwelwn ei bod yn bryd, bellach, i sefyll,
ac i wrthwynebu parchu y pen, a pharchu
y cnawd. Dywedais fy meddwl am yr
offeiriaid, ac yn arbenig Rowland, fy mod
yn tybio mai efe a fyddai y diweddaf i
ddyfod i'r goleuni ; a'i fod yn elynol i bob
bygwth, ac yn ddifater am wybod meddwl
Duw." A yn ei flaen i gyhuddo yr offeiriaid
o ariangarwch, ac i ddweyd nad oedd eu
gweinidogaeth yn effeithiol i ddwyn oddi-
amgylch fywyd ysprydol. " Gwelwn ei
bod yn bryd i mi," meddai, " i ddyfod o
Loegr i Gymru i wrthsefyll yr hunan sydd
yn dyfod i mewn. Rhaid i mi ddysgwyl
cael fy marnu yn llym, a'm camdrin gan
bobl, y rhai, fel plant drygionus, a ymwrth-
odant a'r iau." Yna, datgana ei ffydd yn
ei swydd, ac y rhaid i'r gwaith fyned yn y
blaen, er cymaint y gwrthwynebiad. Nid
yw yr hanes hwn mewn un modd yn ddy-
munol i'w adrodd ; nid melus gweled hen
gyfeillion wedi ymranu, ac wedi myned i
gamddeall eu gilydd mor drylwyr ; a
rhaid fod yspryd Harris ei hun yn cael ei
glwyfo, pan yn cyhuddo ei gymdeithion
a'i gyd-Iafurwyr gynt, o fod yn meddu ar
oleu pen yn unig, ac o edrych ar wirion-
eddau gogoneddus yr efengyl yn gyfangwbl
yn y cnawd. Eithr yn hyn oll, tybiai ei
fod yn cario allan y comissiwn dwyfol.
Yn Cefngleision, cynghora y goruchwyl-
wyr perthynol i'r seiadau i gyfarfod un-
waith y mis o leiaf, ar eu penau eu hunain,
i gydweddio, i agor eu calonau i'w gilydd,
ac i drefnu y gwahanol achosion a fyddai
yn codi. Nid oedd am i'r trefniadau fyned
o flaen yr holl gymdeithas, gan fod perygl
felly iddynt gael eu mynegu i'r byd.
" Dangosais," meddai, " am fabanod a
phlant, na ddylid ymddiried cyfrinach idd-
ynt ; mai bara yn unig sydd yn angen-
rheidiol i'r cyntaf, ac ymborth, dillad,
dysgyblaeth, a gwaith, i'r ail ; ac oni ched-
wir hwy danodd, y gwnant ddinystrio eu
hunain, a phawb cysylltiedig â hwynt."
Gwelir ei fod yn credu mewn Ilywodraethu
y cymdeithasau â gwialen haiarn, braidd,
374
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1750.
ac nad oedd am ganiatau llais o gwbl mewn
ymdriniaeth ag achosion i'r aelodau cyff-
redin. Eithr ychwanega : " Lleferais i'r
byw am wneyd eilunod o'r g\vn, a'r enw,
a phethau eraill perthynol i'r offeiriaid.
Dangosais yr angenrheidrwydd am edrych
ar y cwbl fel y gwna yr Arglwydd. Nad
yw yr enwau a'r pethau yma (o eiddo yr
offeiriaid) ond cnawdol, ac ar gyfer rhai
cnawdol ; ond fod llawer o Gristionogion
(Methodistaidd) na wnant edrych ar un-
rhyw weinidogion ond offeiriaid, ac felly
hefyd yr offeiriaid eu hunain ; ond fod
doniau yr Yspryd a gwaith Crist yn gyfar-
tal ogoneddus yn mhawb. Cyfeiriais at
waith lleygwyr yn addysgu, megys Paul,
Apolos, a'r brodyr gwasgaredig o Jerusa-
lem ; fod Calvin, a hyd yn nod yr esgobion,
yn cyfaddef y gallai lleygwyr bregethu
mewn achosion o angenrheidrwydd ac
erledigaeth. Eglurais pwy oedd yn fawr
yn fy ngolwg i, sef y rhai ydynt yn ofni,
yn caru, ac yn anrhydeddu Duw mewn
gwirionedd, y rhai sydd a'i achos ar eu
calon, sydd yn rhodio yn ostyngedig ger-
bron Duw, ac a ydynt yn wyhadwrus.
Gwelwn bethau yn fwy yn yr Yspryd nag
erioed, a bod yr Arglwydd wedi myned
allan,gan ddechreu gosod meini yn nghyd."
Ystyr y frawddeg olaf, feddyliem, yw, ei
fod yn canfod addfedrwydd yn bresenol i
ffurfio plaid ar wahan i'r Methodistiaid.
Meddai eto : " Dangosais y modd yr oedd-
ynt hwy hyd yn nod yn parchu y clerig-
wr am fod yr enw offeiriad arno ; ond y
dylem eu parchu i'r graddau ag y mae yr
Arglwydd yn eu harddel, a dim yn mhell-
ach." Diau ei fod yn hoUol yn ei le yn
hyn, ond gwelir fod ei yspryd wedi newid
yn ddirfawr er y Gymdeithasfa gynt yn
Watford, pan y gweinyddai gerydd ar ryw
gynghorwr anffodus, oedd wedi dweyd
rhywbeth yn anmharchus am y gẁn.
Ychwanega : " Cefais ffydd i gyflwyno yr
oll a ddywedais am yr offeiriaid, sef
Rowland a WiUiams, i Dduw, gan mai
am ddyrchafu yr Arglwydd yr wyf fi, ac
am i bob un aros, a chael ei weled, yn y
lle y gosododd yr Arglwydd ef ynddo.
Cefais lythyr o Gilycwm, i gymeryd gofal
y seiat yno ; lledais yr achos gerbron yr
Arglwydd, a chefais ganiatad i'w chym-
eryd yn Nuw, a thros Dduw." Y mae y
frawddeg olaf yn bwysig tuhwnt. Dengys
fod y cweryl rhwng Rowland a Harris yn
rhedeg i mewn yn gryf i'r seiadau, a'u bod
hwythau yn dechreu rhesu eu hunain
gydag un neu y llall. Syn, braidd, yw
gweled seiat Cilycwm yn anfon y fath
genadwri at Howell Harris ; yn Nghily-
cwm yr oedd Williams, Pantycelyn, ar yr
hwn yr edrychai Harris yn awr fel gwrth-
wynebwr, yn aelod, a rhaid fod dylanwad
y bardd yn ei gartref ei hunan yn gryf.
Deallwn ar ol hyn nad oedd y llythyr wedi
cael ei anfon gan y seiat yn ei chyfanswm,
ond gan ryw bersonau ynddi.
Ar y pumed o Fawrth, cyrhaeddodd
Drefecca, ar ol taith fwy manwl trwy
Ddeheudir Cymru nag a wnaethai erioed
o'r blaen. Yno yr oedd llythyr oddiwrth
John Cennick yn ei aros. Teimlai y fath
anwyldeb at y brawd hwn, fel y gallai
rhedeg yn ei gwmni dros y byd, a llefai
am ei gael yn gydymaith yn y gwaith
drachefn. Y mae yn sicr y teimlai Howell
Harris yn dra unig yn awr. Yr oedd wedi
anghytuno â Whitefield, ar yr hwn yr
edrychai unwaith fel tywysog Duw ; ac
yr oedd wedi ymddyeithrio oddiwrth ei
hen gydweithwyr yn Nghymru. Enwa
Cennick, Beaumont, John Sparks, John
Harry, John Richard, a Thomas Williams,
Groeswen, fel rhai oeddynt yn cydym-
deimlo ag ef. Yr oedd yn awr yn pregethu
yn gyhoeddus yn erbyn yr offeiriaid Meth-
odistaidd, fel y dengys y difyniad canlynol
o'i ddydd-lyfr : " Mawrth 10. Arweiniwyd
fi i lefaru yn llym am falchder a hunan ein
proffeswyr ieuainc, nad yw crefydd Crist
i'w gweled ynddynt. Dangosais y modd
y mae offeiriaid a phobl y Methodistiaid
yn syrthio fwy fwy i hunan a balchder.
Pa nifer o honynt a ddaw yn mlaen, Duw
yn unig a ŵyr. Am y nifer fwyaf, dang-
osais eu bod o'r gwraidd yn luddewon, yn
Phariseaid, ac yn elynion i'n Hiachawdwr ;
nad yw eu crefydd ond ychydig o oleuni
pen, a chyffyrddiadau ysgafn ar y dymher,
tra y mae hunan o dan y cwbl, a'u bod yn
tyfu yn y cnawd, gan ddwyn ffrwyth i'r
cnawd ac i'r byd." Buasai yn anhawdd
dweyd dim mwy miniog, a rhaid ei fod yn
peri i'r bobl edrych ar Daniel Rowland
a'i blaid mewn goleu tra anffafriol.
" Byddai cystal genyf," meddai, " fyned i
uffern yn gyhoeddus, a myned yno yn
nghymdeithas proffeswr cnawdol."
Ychydig o ddyddiau y bu gartref ; cawn
ef yn fuan yn cychwyn ani daith i Sir
Drefaldwyn. Yn mhob pregeth o'i eiddo
yn mron y cyfeiriai at yr offeiriaid, nad
oeddynt yn adnabod eu lle, a'u bod yn
byw yn y cnawd. Yn y Tyddyn, Mawrth
14, ysgrifena fel y canlyn : "Y brawd
Richard Tibbot a ofynodd i mi pa beth i
I750-]
HOWELL HARRIS.
375
wneyd, gan fod y tadau, sef Rowland a
minau, yn anghytuno ? Agorais iddo yr
oll o'n hanghydwelediad ; y modd yr oedd
yr Arglwydd wedi peri i mi ddechreu y
gwaith hwn wrthyf fy hun, ac i fyned
allan o flaen Whitefield, Wesley, a
Rowland ; ddarfod iddo fy ngosod yn dad
yn y Gymdeithasfa, a'u bod yn arfer ym-
ostwng i'm ceryddon, hyd nes, rai blyn-
yddoedd yn ol, y dechreuodd Rowland
eu gwrthod, a gwrthwynebu pregethu y
gwaed o ragfarn at y Morafiaid. Dang-
osais y modd yr oeddwn wedi derbyn
gogoniant a marwolaeth ein Hiachawdwr
bedair blynedd cyn dyfod i gydnabyddiaeth
â hwy, ac i mi ffurfio undeb á hwynt pan
ddeallais eu bod yn adnabod ei Dduwdod
a'i farwolaeth. Eglurais y modd yr
oeddwn wedi rhoddi i fynu Siroedd Aber-
teifi a Chaerfyrddin, lle y mae ganddo ef
(Rowland) ddylanwad, am fod ein goleuni
yn anghytuno wrth drefnu materion
allanol, ac am nad yw wrth bregethu yn
cynyddu, oddigerth mewn deddfoldeb, ac
efrydiau a gyffyrddant a'r deall ac a'r
teimlad. Ond yn awr fy mod wedi cael
anfon am danaf i Sir Gaerfyrddin, ond na
weithredaf (ar y gwahoddiad) oni ddewisant
fi yn hollol i drefnu materion preifat, ac
yntau (Rowland) yn unig i bregethu ; neu
ynte, efe yn unig i drefnu, a minau i
bregethu. Felly yr wyf wedi cynyg i'r
cynghorwyr yn mhob man, ac felly yma."
Nid annhebyg mai at y Ilythyr o Gilycwm
y cyfeiria wrth son am yr alwad o Sir
Gaerfyrddin. Gwelwn nad yw yn gryf
yn ei amseryddiaeth ; nid oedd pedair
blynedd rhwng ei argyhoeddiad a'i gyd-
nabyddiaeth â Daniel Rowland, eithr
ychydig gyda dwy flynedd. Gwedi ym-
weled â Mochdref, Llanbrynmair, Llwyd-
coed, Dolyfelin, a Llangamarch, dych-
welodd trwy Aberhonddu i Drefecca,
Mawrth 24. Gwelai fod holl Gymru wedi
ei rhoddi gan yr Arglwydd iddo, ei fod
wedi cael ei osod ar binacl y deml, ond
teimlai ei annigonoldeb i'w sefyllfa a'i
gyfrifoldeb.
Ar y dydd olaf o Fawrth, cawn ef yn
nhŷ un WiIIiam Powell yn pregethu, a
hyny i dyrfa anferth. Ei destun ydoedd :
" Trwy ei gleisiau ef yr iachawyd ni."
Tebygol fod tŷ Mr. Powell rywle yn Sir
Forganwg. Ond yr oedd meddwl Harris
yn Ilawn o sefydlu plaid ar wahan oddi-
wrth y Methodistiaid. Fel hyn y dywed
yn ei ddydd-lyfr : " Cefais ymddiddan a'r
brawd Thomas Williams am gael cyfarfod
preifat arall gydag ef, W. Powell, Thomas
Jones, John Richard, a Beaumont, &c., a
rhai cyfFelyb ydynt yn tyfu i fynu hyd at
ein goleuni, i gyfnewid syniadau a'n
gilydd, ac i ynigynghori parthed casglu yn
nghyd yr eneidiau, ac i weled pwy yn
mysg y bobl sydd yn cynyddu mewn
gwybodaeth o Grist croeshoeliedig, ac
mewn bywyd ffydd, gan fyw ar Grist, a
marw i hunan ac i'r byd." Y Ile nesaf y
cawn ef yvv Llantrisant, a Thomas Wil-
liams yn gydymaith iddo, a dywed iddo
bregethu gyda nerth, a gwroldeb, a beidd-
garwch, i gynulleidfa anferth o fawr. Yn
y seiat breifat, gorchymynai gydag aw-
durdod ar iddynt ufuddhau i Grist, ac yr
oedd yn Ilym i bawb a unai ag unrhyw un
i bechu yn ei erbyn. Yr oedd cynulleidfa
fawr hefyd yn yr Aberthyn ; gwelai fod
Ilawer yn dyfod i'r goleuni, a'i fod yntau
yn myned i fuddugoliaethu, a gweddiai
mewn hwyl : " Gogoniant am waed yr
Oen ! " Gwedi y bregeth, cynhaliodd seiat
breifat o'r holl seiadau. Dywedai wrthynt
y parchent ef yn fwy pe buasai yn v/erth
mil o bunau yn y flwyddyn, ac yn gwisgo
gŵn offeiriadol. " Dangosais," meddai,
" fod Paul yn ddirmygus yn ngolwg Ilawer;
nad oedd Calvin ond Ileygwr ; y modd yr
oedd Duw wedi fy ngwneyd yn dad ac yn
ddechreuydd y diwygiad hwn, a'm bod
wedi myned allan (i bregethu) bedair
blynedd o flaen Whitefield, Wesley, na
Rowland." Gwelwn ei fod yn hollol gyfeil-
iornus yn ei amseryddiaeth. " Efallai,"
meddai, yn mhellach, "i Dduw beri hyn er
tynu i lawr falchder yr offeiriaid, ac i
ddangos y gwna efe weithio yn ei íFordd ei
hun, ac mai efe ei hunan sydd yn gwneyd
y gwaith. Mynegais iddynt oni ddeuent
yn ol y Beibl at draed Crist, y drylliwn y
seiadau yn ddarnau, na chai Crist ei
watwar gyda rhith o ufudd-dod." Wrth
ddyfod at draed Crist y golygai, yn ddiau,
credu yr athrawiaeth a ddysgai efe am
berson Crist. Gwedi y seiat gyffredinol,
bu ganddo gyfarfod i'r cynghorwyr a'r
goruchwylwyr, ac ymddengys i bethau
fyned yn dra annymunol. Achwynai rhai
ar William Powell ; dywedai Harris mai
ei ffyddlondel) i Dduw oedd y rheswm am
hyny. " Daeth Satan i'n mysg," meddai ;
" troais ddau allan, a cherddodd tri arali
allan." Dywed fod ei enaid yn ofidus o'i
fewn wrth geryddu a dysgyblu, ond mai
yr Arglwydd a osodasai y peth arno.
Wedi teithio trwy Nottage ac Aber-
ddawen, daeth i gastell Ffonmon, Ile y
376
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1750.
cafodd odfa dda, wrth bregethu am y dyn
a gafodd ei oUwng i lawr trwy y tô at
Grist, Yr oedd WiUiam Powell a Thomas
WilHams gydag ef yn mhob man, ac yr
oedd yntau yn eu cyfarwyddo gyda golwg
ar gasglu yn nghyd y rhai oedd o gyffelyb
olygiadau. Cafwyd seiat ystormus braidd
yn Dmas Powis ; " troais un cynghorwr
allan," meddai, "a derbyniais un arall i
mewn." Yn Nghaerdydd, pregethai ar
ddyoddefaint Crist. Yr oedd Thomas
Price, o'r Watford, yno, ac aeth y ddau yn
nghyd i'r Groeswen. Ar y ffordd, dywedai
Harris nad oedd Daniel Rowland yn caru
Crist, ac mai anaml y byddai yn ei bre-
gethu ; nad oedd y dylanwadau a ddeuent
trwy Rowland ond awelon ysgeifn allanol
yn disgyn ar y bobl, y rhai a ddiflanent
yn fuan ; ac mai y rhai a gadwent fwyaf
o swn yn y cyfarfodydd oeddynt yn aml y
mwyaf difater. Yr ydym yn teimlo yn
ofidus wrth ddarllen ei sylwadau ; nis
gelhr eu hesbonio ond ar y tir fod teimlad
chwerw yn peri iddo weled pob peth o
chwith. " Dywedais hefyd wrth y brawd
Price," meddai, " ei fod wedi suddo i'r byd,
ei fod yn caru y byd, a'i fod wedi gadael yr
Arglwydd. Yna, cododd ystorm enbyd, a
dangosodd elyniaeth at ddirgelwch Crist.
Aethum ymaith yn llwythog fy yspryd ;
daeth ar fy ol ; ymddiddanasom am bob
peth yn dawel, a dywedodd ei fod yn
derbyn fy athrawiaeth fel y pregethais hi
yn Nghaerdydd, a"i fod yn benderfynol o
ddechreu o'r newydd. Yna, cynygiais iddo
i ni fyned yn nghyd i Ogledd Cymru, ond
nid oedd yn rhydd i hyny." Credwn mai
amcan y mynediad i'r Gogledd oedd
cymeryd meddiant o'r seiadau.
Y mae ei bregeth yn y Groeswen mor
gyífrous, fel yr haedda ei difynu. Ei
destun ydoedd, i loan iii. i : " Gwelwch
pa fath gariad a roddes y Tad arnom, fel
y'n gelwid yn blant i Dduw." Meddai :
" Dangosais, gyda llawer o ryddid, mor
agos y mae Duw at y credinwyr, a'r modd
y mae yn eu rhyddhau oddiwrth eu pech-
od. Eglurir y gwirionedd hwn yn y Beibl
fel peidio cyfrif, peidio cofio, peidio gweled,
maddeu, cuddio, a rhoddi ar y bwch di-
hangol. Dangosais fod rhai yn y byd yn
awr ag y mae Duw yn edrych arnynt, yn
Nghrist, fel pe byddent heb bechu.
Meddwn : ' Trwy ddatguddio ei ogoniant
y mae yr Arglwydd wedi agor y nefoedd i
chwi ; trwy eich uno ag efe ei hun y mae
wedi eich gosod yn y nefohon leoedd, gan
eich gwneyd fel pe byddech heb bechu.
Yr wyf yn gofyn i chwi, pwy o honoch,
wedi peryglu ei fywyd i achub cyfaiU, ac
wedi gorchfygu pob rhwystr, a adawai y
cyfaiU yn y diwedd i'r gelyn ? Y chwi
sydd dadau, a fedrwch chwi aros mewn tỳ
cynhes, llawn o bob math o luniaeth, a
gadael eich plentyn i farw o'r tu allan, o
eisiau ymborth a thân, yn arbenig pe y
Uefai efe arnoch, hyd yn nod pe baech
wedi digio wrtho ? O deuwch, a dychwel-
wch at yr Arglwydd. Efe a faddeua eich
holl bechodau, ond i chwi beidio byw
ynddynt. Teifl sothach, megys deng mil
o bunoedd yn y flwyddyn, i'w elynion, îe,
i g\vn ; beth sydd ganddo, ynte, yn stôr ar
eich cyfer chwi, ei blant ? ' Dangosais y
rhaid i ni gael darlun o'r credadyn a'r
anghredadyn yn y ddau fyd cyn y bydd
ein syniad yn gyflawn. Eglurais, yn
mheUach, fod y credinwyr, mewn gwirion-
edd, yn byw ar ymborth angehon, sef bara
y bywyd, a'u bod yn yfed gwaed Crist, fel
y byddant byw yn dragywyddol. ' Ni a
fyddwn byw byth ! ' meddwn. ' Ni bydd-
wn farw yn dragywydd ; cysgu yn unig a
wnawn ; cau ein llygaid ar y byd, a'u
hagor drachefn yn Nuw, a'n holl bechodau,
a'n profedigaethau, a'n maglau o'r tu ol i
ni. A phan yr ymddangoswn yn ngogon-
iant yr lesu, ni fydd yno na hen ẁr na
baban, na neb yn gloff, na neb yn llesg.
Y mae ein cyrph a'n heneidiau yn awr
mewn undeb â Christ, ac a fedr efe drigo
mewn purdeb a gogoniant, uwchlaw pech-
od, uwchlaw angau, ac uwchlaw Satan,
a'ch gadael chwi, ei blant, o danynt ? Na
fedr byth. Deífrowch, ynte ! Cyfodwch
o'r llwch ! ' Yna, dangosais fawredd y
Cristion wrth y wisg sydd am dano, yr un
wisg a Duw y Tad ei hun, yr un ,wisg ag
a wisgir gan yr holl deulu yn y nefoedd,
ac ar y ddaear ; a bod lesu Grist yn frawd
iddynt, ac nad oedd arno gywilydd eu
harddel." Cofnoda ddarfod iddo gael odfa
fendigedig, fod nerth y dyddiau gynt yn
cydfyned a'r genadwri. Yn y seiat breifat
a ddilynai, yr oedd yr un teimlad hyfryd
yn ffynu,
Pan yr oedd Howell Harris yn gallu
anghofio ei dramgwyddiadau, a'i le ei hun
yn y seiadau, ac yn cael ei lanw ag yspryd
yr efengyl, fel yn y Groeswen, yr oedd yn
ofnadwy o nerthol, ac yn cario pob peth
o'i flaen. Rhyferthwy cryf ydoedd, yn
dadwreiddio y coedydd talgryfion, ac yn
ysgubo ymaith bob rhwystr a allai fod ar
ei ffordd, Yr oedd Ilewyrch nefol ar ei
yspryd yr odfa hon, ond tywyniad haul
I750.]
HOWELL HARRIS.
377
rhwng cymylau ydoedd, a chawn y ty-
wyllwch yn dychwelyd yn fuan. Gwedi
y seiat, bu mewn ymgynghoriad a'r cyng-
horwyr a'r stiwardiaid ; cydiodd yr un
yspryd ag a amlygasid yn yr Aberthyn,
yn un o'r stiwardiaid ; trodd Harris
ef allan ; dywedai yntau ei fod yn tra-ar-
glwyddiaethu ar etifeddiaeth Duw. Ymr
helaethodd Harris, gan ddangos fod y
pregethwyr ag yntau yn meddu yr un
weinidogaeth a Moses, a'r prophwydi, a'r
apostoUon ; eu bod yn ymiadd yn erbyn yr
un diaflaid, ac wedi cael eu llanw a'r un
yspryd ; ac er eu bod, o ran eu teimlad,
yn barod i fyned dan draed pawb, eto, fod
yn rhaid iddynt fawrhau eu swydd, onide
y cai lesu Grist ei ddarostwng.
Chwythwm bychan oedd yr helynt
gyda'r stiwardiaid yn y Groeswen, eithr
daeth ystorm enbyd yn Watford dran-
oeth. Caiíf Harris ei hun adrodd yr
hanes. " Y boreu hwn," meddai, " cefais
frwydr ofnadwy iawn â Satan, yn y brawd
Price, a'r brawd David Williams, am y
stiwardiaid y darfu i mi eu troi allan
yn Aberthyn. Pan ddaw Satan i mewn,
anhawdd iawn ei gael allan. O'r diwedd,
dywedais wrthynt y gwnawn eu gadael, a
myned allan wrthyf fy hun, fel cynt. Dy-
wedais mai luddewon ydynt, nad ydynt
yn adnabod yr lesu, nac yn ei garu, ac
eto, eu bod yn tybio eu bod yn dadau.
Eu bod wedi tyfu yn y cnawd, a bod yr
Arglwydd wedi cyd-ddwyn â hwy hyd yn
awr ; ond na wna oddef yn hwy, a'i fod
wedi myned allan yn erbyn cnawdolrwydd.
' Os ydych chwi,' meddwn, ' yn gaeth i
ddyn ac i gnawd, nid ydwyf fi.' Yr oedd-
ynt hwy yn eiriol dros y goruchwylwyr,
ac yn dweyd y perai eu troi allan annhrefn
mawr. Dywedais fy mod yn gweled y
gwaith yn pwyso ar yr Arglwydd, ac nid
ar ysgwyddau y fath ddynion, a'm bod yn
barod i adael y canlyniadau iddo ef.
Dangosais eu bod, trwy eu hymddygiad,
yn sathru fy lle o dan eu traed, ac yn cyf-
ansoddi eu hunain yn fath o lys uwchlaw ;
ond fy mod yn benderfynol o fynu y
rhyddid a brynodd Crist i mi. ' Nid oes
yr un o honoch ag awdurdod arnaf fi,'
meddwn ; ' nid ydych wedi cael awdurdod
o'r fath gan Dduw na dyn. Pe bai yr holl
Gymdeithasfa gnawdol, fel yr ydych yn ei
galw, yn fy esgymuno, gwnawn yr un peth
eto. Nid wyf yn talu un sylw i neb, ond
i'r Arglwydd.' " Yna, ymneillduodd i
weddio ; ac yr oedd yn flaenorol wedi derbyn
llythyr oddiwrth Madam Grifíìths, y ddynes
a hònai yspryd prophwydoliaeth, yn rhag-
fynegu am annhrefnmawroedd wrthydrws,
ac yn debyg o gynyddu. David Williams,
gweinidog yr Aberthyn, yn ddiau, oedd y
brawd oedd gyda Thomas Price yn y ffrw-
gwd. Dengys y difyniad hwn fod tymher
Harris weithiau yn aflywodraethus ; ei fod
yn hòni awdurdod unbenaethol ar yr holl
seiadau, ac na oddefai i neb ymyraeth a'i
waith, hyd yn nod mewn fíbrdd o gynghor
ac eiriolaeth. Braidd na theimlwn fod
gradd o wallgofrwydd wedi ei feddianu.
Yn y dirgel, dywed iddo weled i ddyfn-
deroedd pethau ysprydol yn mhellach
nag erioed. " Yna," meddai, " gan fy
mod yn gweled fod y gwrthwynebiad yn
erbyn yr Arglwydd, ac nid yn fy erbyn i,
mi a aethum yn ol at y brodyr, a dangosais
iddynt fel y maent wedi suddo i'r cnawd,
a'u bod wedi gadael i'r cythraul ddyfod i
mewn i dŷ Dduw, ac yn awr, nad oeddynt
yn foddlawn ei droi allan ; ond fy mod i
yn benderfynol o fyned yn y blaen, ac y
safwn fy hunan. Dywedais y cydsyniwn
a'u cais (sef i adferu y stiwardiaid) oni
bai fod arnaf ofn digio yr Arglwydd.
Meddwn : ' Nis gallwn barhau i fyned yn
mlaen yn nghyd, gan nad ydych yn gweled
yr un fath a mi, ac na feddwch ffydd i
ymddarostwng i'm goleuni i, a'm gadael i
i'r Arglwydd. Dyn rhydd Duw wyf fi, ni
thalaf sylw i neb ond efe.' Dangosais y
modd yr oedd y stiwardiaid wedi ym-
ddwyn, gan farnu y pregethwr yn ei gefn,
heb ddweyd yr un gair wrtho ef, nac
wrthyf fi. Erchais i Thomas Williams
fynu gweled a oedd y bobl yn yr yspryd
hwn ; os oeddynt yn galw am danaf fi, am
iddo anfon ataf, onide na ddeuwn i'w
mysg byth." Amlwg yw nad oedd mewn
tymher y gelUd ymresymu ag ef. Edrych-
ai arno ei hun fel mewn cymundeb cyson
a'r nefoedd, ac yn cael ei arwain yn un-
iongyrchol gan yspryd Duw yn yr oll a
wnelai ; ac felly, fod ei wrthwynebu ef yr
un peth yn hollol a gwrthwynebu Duw.
Modd bynag, Ileddfodd y dymhestl i radd-
au ; aeth Thomas Price a David WiIIiams
gydag ef, i'w wrando yn Machen ; a
siriolodd hyny lawer ar ei yspryd. Teith-
iodd trwy Sir Fynwy, yn arbenig y rhanau
nesaf at Loegr o honi, yn fanwl, ac ni
ddychwelodd adref hyd y i^fed o EbriU.
Mai y 5ed, cawn ef yn cychwyn i Gym-
deithasfa Elanidloes, gyda Beaumont yn
gydymaith iddo. Yr oedd yn myned
mewn tymher orfoleddus ; gwaeddai yn
barhaus : " Gogoniant am waed yr Oen ! "
378
Y TADAU METHODISTAIDD.
[1750.
Yn Llanfair-muallt, cymerodd Beaumont
y naill du, a cheryddodd ef yn llym am
ddefnyddio geiriau Groeg wrth bregethu.
" G\vyr pawb," meddai, " nad ydych chwi
yn gwybod Groeg. Balchder yspryd sydd
yn eich cyffroi. A phe baech yn ei wybod,
mor ffol fyddai dangos hyny wrth bre-
gethu? Y mae arnaf ofn ei fod yn myned
o flaen cwymp. Yr ydych wedi Uygru yr
holl bregethwyr, ac er fod goleuni yr
efengyl genych, luddew ydych o ran ys-
pryd, ac yr ydych yn annheilwng o'r ẃyn,
ac o Grist." Medrai Harris geryddu
Beaumont ei hun, ond ni oddefai i neb
arall wneyd. Eithr wrth glywed ei gyfaiU
yn pregethu yn Llansantffraid am ddyn-
dod Crist, gwelai ei fod yn mhellach yn
mlaen nag efe yn ngwybodaeth ffydd, a
daeth awel nerthol dros ei yspryd, a thros
y cyfarfod. Oddiyno aeth i Lanidloes.
" Mor fuan ag y daethum i'r dref,"
meddai, " teimlwn y diafol yn bwysau
anferth ar fy yspryd, fel yr oedd yn
rhaid i mi floeddio am fy mywyd :
' Gogoniant am waed yr Oen ! ' er cadw fy
nhymer yn ei lle." O fewn ei yspryd, y
mae yn debyg, y gwaeddai. Agorwyd y
Gymdeithasfa gyda phregeth gan_ Peter
Williams, ar drueni dyn. Dywedai ei fod
yn gyfreithiol farw, tan ddedfryd tragy-
wyddol ddamnedigaeth, ac yn elyn i
Dduw ; fod y drws o gymundeb rhyngddo
â Duw wedi cael ei gau ; ond fod Crist
wedi dyfod er ein llwyr brynu. Ymddeng-
ys ei bod yn odfa nerthol, ond ofnai Harris
mai ychydig oedd efe, a'r gwrandawyr
eraill, yn deimlo o fin y gwirionedd.
" Yna," meddai, " aethum i giniaw, ond
yr oedd Mr. Rowland, a WilHams, mor
llawn o elyniaeth, ac, fel yr wyf yn meddwl,
o falchder, ac o hunan, fel y bu raid i mi
ddweyd wrtho, y gallwn rodio gydag ef fel
brawd, ond nad oedd wedi cael ei osod fel
archesgûb drosof fi, nad oedd ganddo un
awdurdod oddiwrth Dduw na dyn arnaf,
ac na wnawn blygu iddo mewn un modd.
Dywedais yr un fath am WiUiams." Pa
beth a atebasant, nis gwyddom. Yna,
aeth Harris i bregethu ; ei destun oedd, i
Cor. ii. 2 : " Canys ni fernais i mi wybod
dim yn eich plith, ond lesu Grist, a hwnw
w^edi ei groeshoeiio." Cafodd afael ang-
hyffredin ar weddi. Yna, dangosodd fod
Ilawer o bethau yn dda yn eu Ile, ond fod
yr apostol yn troi ei lygaid oddiwrthynt i
gyd at Grist croeshoeliedig, fel at ganol-
bwynt ; fod y wybodaeth sydd yn Nghrist
yn egluro natur y cwymp, anfeidroldeb yr
angen cysylltiedig, anfeidrol ddrwg-haedd-
iant pechod, a gwirioneddolrwydd uffern ;
a bod y perygl o wrthod Crist yn fawr.
" Yna," meddai, " cyhoeddais athrawiaeth
y gwaed, a daeth Duw i lawr, tra y dang-
oswn mai trwy y gwaed y cawsem ein
prynu, a'n dwyn yn agos at Dduw.
Gwedi hyn, aethom yn nghyd (i gyfarfod
neillduol y Gymdeithasfa), a'r Arglwydd
a gadwodd y diafol yn rhwym mewn cad-
wyn ; cawsom lonyddwch ; teimlwn yn fy
yspryd ein bod yn cael buddugoliaeth
trwy ffydd; penderfynasom y teithiau yn
Ngogledd Cymru, ac amry w faterion eraiU,
a gosodasom ddau bregethwr i'r Gogledd.
Mor fuan ag yr aeth Mr. Rowland allan,
daeth Duw i lawr yn ogoneddus ; gosod-
wyd fy yspryd yn rhydd, a dangosais
iddynt ogoniant yr lachawdwr, gan eu
hanog i edrych arno, i fod yn un ag ef, ac
i adeiladu eu heneidiau arno." Yr oedd y
Gymdeithasfa yn parhau dranoeth, ond
ymadawodd y ddau bregethwr o Ogledd
Cymru, a siarsai Harris hwy i wylio yn
erbyn hunan, a balchder, ac i arwain y
bobl at Grist. Yn y cyfarfod neillduol,
ymosododd Howell Harris yn enbyd ar
Morgan John Lewis, gan ei gyhuddo o
feddu gwybodaeth pen yn unig ; " cyfod-
wyd fy llais a'm hyspryd," meddai, " yn
erbyn y diafol oedd yn ei yspryd ef ; a
chwedi i dri dystiolaethu yn ei erbyn,
dywedais wrtho na chaffai bregethu gyda
mi, oni ddeuai i lawr, ac addef ei fai."
Yna, dywed iddo drefnu nifer o faterion,
ac anerch y cynghorwyr, gan ddangos ei
fod wedi cael ei osod gan. Dduw yn dad
y Gymdeithasfa.
Felly y terfynodd Cymdeithasfa Llan-
idloes, yr olaf i Harris a Rowland fod
ynddi yn nghyd. Dengys yr adroddiad
ifod Howell Harris yn cario pob peth o'i
flaen. Yn Siroedd Trefaldwyn, Maesyfed,
a Brycheiniog, efe oedd y mwyaf ei ddylan-
wad o lawer ; mewn Cymdeithasfa, lle yr
oedd y nifer amlaf o'r cynghorwyr yn
dyfod o'r siroedd hyn, gallai wneyd fel y
mynai ; nid gwiw i'r offeiriaid ei wrth-
wynebu, ac ymddengys i Daniel Rowland
ymadael, gan roddi y maes iddo. Gwedi
i'r offeiriaid fyned yr oedd fel brenhin yn
mysg llu ; yr oedd y pregethwyr yn ufudd
iddo, ac yntau yn cael trefnu pob materion
yn ol ei ddoethineb a'i farn. Nid rhyfedd,
felly, ei fod ar uchel fanau y maes. A
siarad yn fanwl, ni chymerodd ymraniad
ffurfiol le yn Llanidloes ; nid yw yn ym-
ddangos i ddadleuon poethion iawn gym-
I750-]
HOWELL HARRIS.
379
eryd Ue yn y Gymdeithasfa ychwaith ; ond
yr oedd y teimlad yn dra annymunol, ac
ymddengys i'r ddwy ochr ymadael, gan
benderfynu yn ddirgel na wnaent gyd-
gyfarfod mewn Cymdeithasfa drachefn.
Gyda yr yni a'r cyflymder a'i nodweddai,
gweithredodd Harris ar y teimlad hwn ar
unwaith. Ar y fîordd adref, yn Erwd,
eisteddodd ef, a'r cynghorwyr John
Richard, Thomas Wilhams, Thomas
James, a Thomas Bowen, i fynu hyd yn
hwyr y nos, i drefnu gyda golwg ar y
gwaith, ac ar ddyfod i undeb agosach a'u
gilydd. Dywedai wrthynt fod hyn yn
anhebgorol angenrheidiol, a chydunent
hwythau. " Gwedi dangos," meddai, "y
modd y dylem ystyried ein gilydd yn Nuw,
a pha beth i wneyd mewn cysylltiad a'r
pregethwyr, a'r modd y dylem eu harwain
at y goleuni, fel yr arferai ein Harglwydd
wneyd, dywedais wrthynt am wyho dros y
seiadau, a rhoddi gwybod am eu hystâd i
mi. Ac yna y caem gyfarfod drachefn
mewn mis o amser i weddío, ac i gyd-
ymgynghori." Gwehr penderfyniad i
gasglu y seiadau yn nghyd, a gosod Harris
yn ben arnynt, yn amlwg yn y difyniad
hwn.
Am y gweddiU o fis Mai, bu Harris yn
teithio Sir Frycheiniog, ac yn trefnu
pethau gartref. Ar y dydd cyntaf o
Tehefin, cychwynodd am daith faith i
P'organwg a Mynwy. Y Sul, yr oedd yn
Aberthyn, a dywed iddo gael cynulleidfa
anferth, y fwyaf a gafodd yn y sir erioed,
ac yr oedd awdurdod yn y weinidogaeth.
Ond yn y seiat breifat yr oedd pethau yn
dra therfysglyd ; dywedai Harris fod y
diafol yn y lle, a throdd allan y stiward-
iaid a ddaethent yno heb ymgynghor-
iad blaenorol ag ef. Aethant hwythau.
Parhaodd i geryddu ; dywedai eu bod yn
llawn o falchder a hunan, ac yn y diwedd
cofnoda i lawer dori allan i wylo. Wedi
pregethu yn St. Nicholas, a Chaerdydd,
daeth i Watford. Yr oedd yn nerthol
wrth bregethu ; gwaeddai yn ddiymatal :
' Y GWAED ! Y GWAED ! Y GwAED ! üni
yfwch ef, fe'ch demnir byth ! " Yn y
seiat, dywedai eu bod oU yn y cnawd, nad
oeddynt yn argyhoeddedig o'u pechod yn
erbyn Crist, eu bod yn ddeiUion, a chyffel-
ybai hwy i Judas. " Dywedais wrth Price,"
meddai, " yr awn allan wrthyf fy hun, ac
y mynwn weled pwy a anfonai yr Ar-
glwydd gyda mi. Agorais iddo am yr oU
sydd wedi pasio, ac am Rowland ; y modd
y mae (Rowland) wedi syrthio er ys blyn-
yddoedd, fod ei syniadau yn ddeddfol, a
bod y diafol ynddo mor gryf, fel na fedr ei
wrthsefyll." Aeth oddiyma i Lanheiddel,
a'r New Inn, a bu yn amser enbyd
rhyngddo a Morgan John Lewis a David
Wilhams. Gorphenodd ei daith yn y
Goetre, lle yr ysgrifena : " Cefais allan fod
cydfwriad wedi cael ei íîurfio yma yn fy
erbyn, ac yn erbyn athrawiaeth y gwaed ;
ni wyddwn ddim ani dano, ond yn awr
daeth i'r goleu." Ymddengys i agwedd
pethau yma, yn nghyd a'r yspryd a welai
trwy ei holl daith, beri iddo benderfynu
dychwelyd i Drefecca ar unwaith.
Prin y dychwelasai pan y cafodd lythyr
o Sir Fynwy yn ei hysbysu fod yr holl
bregethwyr wedi troi yn ei erbyn, a'u bod
yn ei feio yn enbyd am gymeryd o gwmpas
Madam Griffiths, y ddynes a hònai ys-
pryd prophwydoliaeth. Yr ydym wedi
cyfeirio at y wraig hon droiau o'r blaen.
Credai efe ei bod yn meddu ar ddawn
prophwydoHaeth, a'i bod wedi cael ei
rhoddi gan Dduw i fod yn llygad iddo,
i farnu a phrofi yr ysprydion, fel y
gallai adnabod pob math o gymeriadau ac
athrawiaethau. Y mae yn syn fod dyn
mor ysprydol ac mor graff mor hygoelus.
Sicr yw ddarfod i'r ddynes ragrithiol hon
wneyd niwed dirfawr i'w yspryd ac i'w
achos. Yn Nhrefecca, galwodd y frawd-
oliaeth yn nghyd ; nid annhebyg hefyd fod
yno gynghorwyr wedi ymgasglu o'r seiad-
au cymydogaethol ; eglurodd iddynt sef-
yllfa pethau, a phwysigrwydd ymraniad.
" Ond," meddai, " y mae y brodyr wedi
ymranu oddiwrthym ni yn barod." Aeth-
ant a'r achos at yr Arglwydd. " Cefais
ateb gan yr Arglwydd," meddai, " mai ni
yw corph a chanolbwynt gwaith y Meth-
odistiaid ; ac mai yn y corph hwn y mae
meddwl, gwirionedd, gwaed, a gogoniant
Duw ; a bod Duw yn ein mysg, gyda yr
holl rasau a'r doniau sydd yn cydfyned a'i
bresenoldeb," Wedi ymgynghori dra-
chefn, cydwelwyd fod yn rhaid iddynt
ymranu cyn y gallent byth fod yn un, gan
fod Rowland a'i blaid yn pregethu gras yn
lle Crist, a'u bod yn ymddyrchafu fwy fwy
yn erbyn athrawiaeth y gwaed.
PENOD XVI
YR YMRANIAD.
Syniadau atìiraiviaetìiol Hoivell Harris — '^ Ymddiddan rhwng Uniawngred a Chamsyniol" —
Achosion i'r ymraniad heblaw gwahaniaeth barn parthed athrawiaeth—Harris yn petrnso
cyn ymranu — Plaid Rowland yn cyfarfod yn Llantrisant, ac yn ymwrthod a Harris —
Ỳntau yn cynal pwyllgor yn Llansamlet — Cymdeithasfa gyntaf plaid Harris, yn St.
Nicholas — Cymdeithasfa Llanfair-muallt — Lìythyr Harris at Rowland — Harris yn Sir
Benfro — Harris yn Ngogledd Cymru — Cymdeithasfa Llwynyberllan a Dyserth.
ij^îp^lFALLAI mai dyma y lle mwyaf
priodol i wneyd ychydig sylwadau
ar syniadau athrawiaethol How^ell
Harris. Nis gall neb sydd wedi ym-
gydnabyddu mewn un gradd a'i bregethau,
ei lythyrau, a'i ddadleuon â gwahanol
bersonau ar wahanol bynciau, amheu ei
fod yn dduwinydd gwych. Meddai lygad
eryr i adnabod y pethau sydd a gwahan-
iaeth rhyngddynt ; ac mewn cysyhtiad ag
un gwirionedd pwysig, ymddengys ei fod
wedi plymio yn ddyfnach na neb o'i
gydoeswyr yn Nghymru, oddigerth, o
bosibl, WilHams, Pantycelyn. Y gwir-
ionedd hwn oedd, agosrwydd undeb y
ddwy natur yn mherson ein Harglẃydd.
Ymdeimlai a'r gwrthyni o wahanu y
naturiaethau, ac o ddweyd fod y Gwaredwr
yn gwneyd un peth fel Duw, a pheth
arall fel dyn ; a beiddiodd gyhoeddi fod yr
oU o berson Crist yn mhob peth a wnelai,
ac yn mhob peth a ddyoddefai. Tra nad
cywir nac Ysgrythyrol dweyd ddarfod i
Dduw farw, yr oedd Howell Harris yn ei
le pan yn dadleu fod perthynas agosach
rhwng duwdod y Gwaredwr a'r angau, na
nerthu a dal y natur ddynol i fyned trwy
y dyoddefaint ; i Fab Duw farw ; a bod y
Person Anfeidrol yn yr iawn. Nid ydym
yn meddwl ychwaith ei fod yn dal, pan yr
eglurai ei syniadau, ddarfod i Dduw farw ;
oblegyd cawn ef yn dangos amryw weith-
iau, fod natur ddwyfol yr Arglwydd lesu
yn dal gafael ddioUwng yn ei gorph pan
yn gorwedd yn farw ar waelod bedd, ac yn
ei enaid, pan am ychydig amser y preswyhai
ar wahan i'r corph yn mharadwys. Nid
ydym yn hoffì yr ymadrodd, " gwaed
Duw ; " tuedda yn ormodol i fateroU y
Duwdod ; ond nid oedd y geiriau yn
ngenau y Diwygiwr ond ffordd gref o osod
allan y gwirionedd pwysig, oedd wedi
llanw ei enaid a'i ogoniant, sef fod holl
berson y Duw-ddyn yn ei angau, ac yn
cyfansoddi ei aberth. Credai ef iddo
ddarganfod y gwirionedd hwn trwy ddat-
guddiad o'r nef ; a darfu i fawr ddysgleirdeb
y datguddiad ddallu ei feddwl am beth
amser, fel nas gallai weled unrhyw wir-
ionedd arall. Yn nglyn a'r athrawiaeth
hon, yr oedd wedi gwthio yn fwy i'r dwfn
na'r un o'i gydlafurwyr.
Ond nid oedd ganddo weledigaeth eglur,
a rhaid addef fod cryn gymysgedd yn ei
syniadau, neu ynte ei fod yn anfFodus yn
ei ddull o eirio. Ymddengys fel pe yn
tybio ddarfod i natur ddynol ein Har-
glwydd, wrth ddyfod i undeb a'i berson
dwyfol, gael ei thrawsnewid a'i gogoneddu
rywsut, nes dyfod i gyfranogi o briodol-
eddau arbenig y ddwyfoHaeth. Pan y
dy wed fod y gwaed yn anfeidrol, a'i fod yn
llanw tragywyddoldeb, gorfodir ni i gredu
y golyga rywbeth heblaw anfeidroldeb
haeddiant. Yr oedd gan bob peth cyfriniol
ddylanwad mawr arno. Nid hawdd
ychwaith deall ei syniadau am y Drindod.
Weithiau, geUir meddwl ei fod yn hollol
uniongred ; dywed yn groew ei fod yn
credu mewn tri pherson ; mai y Mab, neu
y Gair, a ddarfu ymgnawdoli, ac nid y
Tad na'r Yspryd, a'i fod yn wrthwynebol i
SabeHaeth. Ónd yn ymyl hyn, yr ydym
yn dyfod ar draws cymysgedd. Dywed
fod y Drindod Sanctaidd wedi ymgnawdoH
yn yr lesu ; nad oes yr un Duw y tu allan
i'r lesu ; fod y Drindod ynddo ef ; a bod y
rhai a gredant fod y Tad mewn unrhyw
YR YMRANIAD.
381
ystyr uwchlaw yr lesu yn gosod i fynu
eilun ddychymygol, gerbron yr hwn y
syrthient i lawr ac yr addolent. Gwadai
felly ddarfod i"r Gwaredwr ddyhuddo
digofaint y Tad ; a gofynai yn wawdlyd,
pwy a ddyhuddodd hd y Mab, a'r Yspryd
Glân ? Rhaid i bob dyn meddylgar
gydymdeimlo ag ef pan y dywed íod y
Drindod yn ddirgelwch iddo, a bod yr
athrawiaeth yn ormod o ddirgelwch iddo
allu ymborthi arni, ac efallai, yn y diwedd,
fod y cymysgedd yn fwy yn ngosodiad y
syniadau allan, nag yn y syniadau eu
hunain.
Fel hyn yr ysgrifena Mr. Charles, o'r
Bala, ar fater yr ymraniad : " Tebygol
fod Mr. Harris yn \vr o dymher go wresog,
a pha beth bynag a gymerai le yn ei
feddwl, yr oedd yn ei dderbyn, ac yn ei
ddilyn gyda bywiogrwydd poethlyd. Teb-
ygol fod y bobl heb eu haddysgu yn
fanwl yn y pynciau mawrion hyn, gan íod
yr athrawiaeth, gan mwyaf, yn cerdded
llwybr cwbl wahanol. Dywedodd un o'r
hen broífeswyr wrthyf, ei fod ef, ac amryw
frodyr, gyda eu gilydd mewn cymdeithas
neillduol dros bum' mlynedd, heb wybod
dim am Grist, hyd yn nod yn hanesiol, a
phan glywsant ryw bregethwr yn son yn
neillduol am dano, nid oeddynt yn ei
ddeall, nac yn gwybod am bwy yr oedd
yn pregethu. Gofynais i'r hen \Vr duwiol,
beth oedd yn cael ei bregethu iddynt ?
Atebodd nad oeddynt yn clywed am ddim
ond am ddrwg pechod, tân uffern, a dam-
nedigaeth, nes y byddent yn crynu gan
ofnau mawrion, a dychryn calon." Y
mae yn bur sicr fod yr hen \Vr yma yn
camddarlunio pethau, neu ynte nad oedd
wedi clywed neb yn ystod y pum' mlynedd
y cyfeiriai atynt, ond y mwyaf anwybodus
o"r cynghorwyr, oblegyd yr oedd pregethau
Rowland a Harris yn llawn o Grist, a
phan y byddent yn dangos drygedd pechod,
aent i Galfaria er ei weled yn ei liwiau
duaf. Ond i fyned yn mlaen gyda geiriau
Mr. Charles : " Cafodd Harris ei wrth-
wynebu gan rai brodyr oedd yn cael eu
bhno gan ei ddull yn llefaru am berson a
marwohieth Crist, sef fod Duw wedi
marw, &c., &c. Barnent fod y dywediad
yn an-Ysgrythyrol, ac yn tueddu at Sab-
ehaeth. Yr oedd gwrthwynebiad oddi-
wrth ei frodyr crefyddol yn beth hoUol
anadnabyddus i Mr. Harris ; hyd yn hyn
yr oeddent yn gwrando arno fel tad, a
phen-athraw, fel yr oedd yn wirioneddol
i'r rhan fwyaf o honynt. Yn lle arafu, a
phwyllo, ac ystyried yn ddiduedd a oedd
ei ymadroddion yn addas am y pynciau
uchod, chwerwodd ei yspryd tuag atynt,
a phellhasant yn raddol oddiwrth eu gil-
ydd, hyd nes y diweddodd mewn ymran-
iad gofidus."
Er mwyn deall golygiadau Daniel
Rowland, yr ydym yn cofnodi traethawd
byr a gyhoeddwyd ganddo yn y flwyddyn
1749, pan yr oedd y ddadl rhyngddo ef a
Harris yn ei phoethder mwyaf. Ei enw
yw, " Ymddiddan rhwng Uniawngred a
Chamsyniol." Prin y rhaid dweyd mai
Rowland ei hun yw " Uniawngred," ac
mai Howell Harris yw " Camsyniol " : — ■
" Uniawngycd. Henffych well, fy mrawd ;
y mae yn dda genyf eich gweled, a chael
yr odfa hon i ymddiddan â chwi. Yr wyf
yn clywed eich bod chwi, ac eraill, yn
camachwyn arnoni ; yr ydych yn dweyd
ein bod ni yn Ariaid.
" Camsyniol. Gwir iawn ; mi a ddy wedais
felly, ac yr wyf eto —
" Un-iawn. Yr ydych ! Pa fodd y beidd-
iwch chwi haeru y fath anwiredd ? Yr
ydym ni yn credu fod lesu Grist yn wir
Dduw, a'i fod ef yn gyd-dragywyddol,
gogyfuwch, a chydsylweddol a'i Dad.
" Cam. Yr wyf fi yn dweyd niai Ariaid
ydych ; ac yr ydym yn cyhoeddi hyn i'r
byd.
" Uniawn. Dyma ffordd ofnadwy o ym-
ddwyn. Ystyriwch, atolwg, pwy yw tad
y celwydd. Yr ydych, nid yn unig wedi
eich rhoddi i fyny i gredu anwiredd, ond
yn ddigywilydd i'w gyhoeddi ; ac nid hyn
yw yr unig beth ag yr ydych yn camach-
wyn arnom. Maddeued yr Arglwydd i
chwi am eich holl ddrwg enllib. Atolwg,
dysgwch o hyn allan, i gadw o fewn ter-
fynau gwirionedd. Yr ydys yn dywedyd
wrthyf, eich bod chwi yn gwadu fod tri
pherson yn y Duwdod.
" Cam. Tri pherson ! Yr wyf fi yn dy-
wedyd i chwi, mai gair cnawdol yw pcrson ;
nid allaf ei arferyd.
" Uniawn. Pam ? Y mae yn cael ei
arferyd yn yr Ysgrythyr, Heb. i. 3 ; ac y
mae yn cael ei arferyd er y dechreuad.
Yr wyf fi yn barnu ei fod yn air priodol,
ddigon. Önd yr ydych chwi yn ddoethach
na'ch hynafiaid. Bod tri pherson yn y
Duwdod sydd eglur, oddiwrth amryw
fanau yn yr Ysgrythyr. Y mae ein Har-
glwydd yn gorchymyn i'w ddysgybhon i
fedyddio yr holl genhedloedd yn cmv y Tad,
y Mab, a'r Yspryd Glan. Ac y mae St.
loan yn dweyd wrthym fod tri yn tystiol-
382
Y TADAU METHODISTAIDD.
aethu yn y nef, y Tad, y Gair, av Yspryd
Glan ; av tvi ìiyn, un ydynt. Y mae Athan-
asius, ac Eglwys Loegr, yn rhagorol yn
gosod allan ÿ gwirionedd mawr hwn ; tin
person sydd i'r Tad, avall tr Mab, ac avaU
îV Yspvyd Glan. Y gogoncd, lan, fendigaid
Dvindod, tvi ỳhevson, ac un Duw, S'C. Ond
yr wyf fi yn clywed eich bod chwà yn
maentymio heresi y Patripassiaid ; yr
ydych yn dweyd fod y Tad wedi cael ei
wneuthur yn gnawd, yn gystal a'r Mab.
" Cíi;k. Yr ydwyf; fe a'i datguddiwyd
felly i mi.
" Uniaivn. Datguddiwyd ? Pa ddat-
guddiadau yw y rhai hyn genych ? Y mae
hyn yn wrthwyneb i ddatguddiedig Air
Duw, yr hwn sydd yn dweyd wrthym mai
y Gair a wnaethpwyd yn gnawd. Yr
ydych, mae'n debygol, yn maentymio her-
esi y Patripassiaid, yn gystal a'r SabeHaid.
" Cam. Chwi a ellwch alw enwau. Dy-
ma'r peth yr wyf fi yn ei gredu, fod y Tad,
yn gystal a'r Mab, w^edi cael ei wneuthur
yn gnawd, dyoddef, a marw, Ond, atolwg,
a ydych chwi yn credu i Dduw farw ?
" Uniawn. Yspryd yw Duw, heb gorph,
rhanau, na dyoddetìadau ; ac felly, ni all
ddyoddef, na marw. Fe ei gelwir ef yn
anfavwol Dduw, ac am hyny, ni ddichon
farw.
" Cani, Yr ^vyf fi yn dweyd i Dduw
ddyoddef, a marw.
" Uniawn. Yr wyf fi yn credu i'r ail
berson yn y Drindod fendigaid, Duw y
Mab, gymeryd arno natur ddynol, yr hwn
a ddaeth i fod yn un person yn y Duw-
ddyn ; ond yr oedd y ddwy natur mor bell
yn wahanol, y naill oddiwrth y llall, fel mai
y natur ddynol a ddyoddefodd, ac a fu
farw. Ond, fel ag yr oedd wedi ei huno
â'r Duwdod, yr hyn a wnaeth, ac a ddy-
oddefodd, oedd o'r cyfryw werth, a haedd-
iant anfeidrol, ag a foddlonodd gyfiawnder
Duw am bechod dyn. Yr Ysgrythyrau
canlynol ydynt yn dangos yn oleu, mai yn
ei natur ddynol yn unig y bu Crist farw.
I Petr iii. i8: Wedi ei fanwlaetìiu, neu a
fu farw, yn y cnawd. 2 Cor. xiii. 4 : Ei
groeshoeho ef 0 ran gwendid, neu megys yr
oedd ef yn ddyn. i Petr ii. 24 : Yr hwn,
ei hun, a ddug ein pechodau ni yn ei gorph
ar y pren.
" Cam. Yr wyf fi yn credu fod y fath
undeb rhwng y ddwy natur, fel y darfu i
Dduw, yn gystal a dyn, farw.
" Uniawn. Felly, chwi a chwanegasoch
heresi yr Eutychiaid at y ddwy arall.
Ond yr wyf fi yn credu y gwirionedd, yr
hyn y mae Athanasius yn ei ddal, sef fod
ein Harglwydd lesu Grist yn berffaith
Dduw, a pherffaith ddyn, ond un person,
a hyny nid wrth gyniysgu y sylwedd, ond
trwy undeb person ; Un, nid trwy ym-
chwelyd y Duwdod yn gnawd, megys ag
yr wyf fi yn deall eich bod chwi yn ei osod
ef allan, ond gan gymevyd y dyiidod at Dduw.
" Cam. Ònid yw yr Ysgrythyr yn dy-
wedyd fod y Gair wedi cael ei wneuthur
yn gnawd ?
" Uniawn. Mae yr esgob duwiol Bever-
idge, yr wyf yn meddwl, yn gosod y gwir-
ionedd hyn mewn goleuni eglur : ' Pan
gymerodd ein Harglwydd,' medd ef, ' ein
natur ni arno, fe ddaeth yn ddyn, yn gystal
ag yn Dduw. Y natur ddynol ynddo ef,
nid oedd yn cael ei chymysgu, fel pe buasai
y ddwy natur yn awr wedi eu gwneuthur
yn un. Yr oeddynt eiU dwy yn aros yn
wahanol oddiwrth eu gilydd ynddynt eu
hunain, er eu bod wedi eu huno yn y
cyfryw fodd, ag yr oeddynt yn gwneuthur
ond un person.' Yn fy marn i, dweyd fod
Duw yn marw, a Duw yn dyoddef, sydd
gabledd ofnadwy. Heresi y SabeHaid
sydd yn eich arwain i osod heibio arferyd
yr Arglwydd lesu fel cyfryngwr, a dad-
leuwr gyda ei Dad ; a heresi yr Eutychiaid
sydd yn eich arwain i haeru fod corph
Crist, yn mhob man, yn gystal a'i dduw-
dod.
" Cam. Yr ydwyf fi yn dywedyd fod y
fath undeb rhwng y ddwy natur, fel lle y
byddo un, y bydd y llall hefyd.
" Uniawn. Mae fy Meibl i yn dywedyd
wrthyf, fod corph yr Arglwydd lesu wedi
esgyn i'r nefoedd, a'i fod ef i arosj.'«o, hyd
amseroedd adferiad pob peth. Nid yw
credo yr Apostohon a'ch credo chwi yn
cytuno. Rhyfedd y fath gynwysiad o
heresiau ydych wedi bentyru yn nghyd.
Heblaw eich bod chwi yn Antinomiad, yr
ydych yn ^Sabehad, iPatripassiad, ^Eu-
tychiad, ac ^Ubicwitariad.
" * Y Sabeliaid oeddent hereticiaid, canlyawyr un
Sabelius (esgob neu henadur yn Alìrica, yn y
drydedd ganrif), yr hwn a ddysgodd nad oedd
dim gwahaniaeth rhwng y tri Pherson yn y
Drindod, ond eu bod hwy i gyd yu un ; ac o
herwydd hyny fe ddarfu i'r Tad a'r Yspryd
Glân ddyoddef marwolaeth yn gystal a'r Mab.
" t Y Patripassiaid ocddeut hcreticiaid (tua diwedd
yr ail ganrif), y rhai a ddywedent i'r Tad
ddyoddef yn gystal a'r IMab. (ü'r Lladin,
pater a, passio — tadoddefìad).
" \ Yr Eutychiaid oeddent hereticiaid, y rhai oedd-
ent yn maentymio bod y ddwy uatur felly
YR YMRANIAD.
383
" Cam. Dyma fy marn i, beth bynag a
wnaeth Crist yn un natur, fe a'i gwnaeth
yn y ddwy ; ni wnaeth efe ddim mewn un
natur yn wahanol oddiwrth y llall.
" Uniawn. Os felly y mae, fe fu chwant
bwyd ar y Duwdod ; fe gysgodd, ac a fu
ddarostyngedig i'r cyfryw wendidau, yr
hyn yw cabledd erchyll, yn wir. Ac os
yw'r peth yr ydych chwi yn ei haeru yn
wir, sef, heth bynag a wnaeth Crist mewn un
natny, fe a'i gwnaeth yn y ddwy ; ni wyddai
Crist, fel yr oedd ef yn Dduw, pa bryd y
byddai dydd y farn ; ac wrth hyny, nid
oedd efe ddim yn wir Dduw, yn eich barn
chwi, gan nad oedd efe ddim yn hollwyb-
odol. Gwelwch yn awr pwy yw yr Ariad.
" Cam. Yr wyf fi yn dywedyd wrthych,
fod y pethau yma, ag yr ydych chwi yn
eu gwrthwynebu, wedi eu datguddio i ni.
Pe buasech chwithau wedi eich gwir
oleuo, ac heb gael eich arwain gan eich
rheswm cnawdol, chwi a welech y dirgel-
edigaethau hyn fel ninau. Ond yn awr,
gan eich bod chwi yn dywyll, nid ellwch
amgyffred y pethau gogoneddus ag sydd
wedi eu datguddio i ni.
" Uniawn. Gadewch fod y peth felly,
ein bod ni yn dywyll ac yn anwybodus ;
ond, atolwg, peidiwch a barnu yr holl
henafiaid, cyfansoddwyr gwasanaeth ein
Heglwys ni, yr hen ẁr da hyny, Athan-
asius ; íe, yn wir, yn fyr, yr holl gorph o
ddefinyddion uniawngred.
" Cam. Felly, yr ydych chwi yn
crynhoi eich gwybodaeth wrth ddarllen
llyfrau. Mi a ddymunwn pe bai yr holl
lyfrau wedi eu llosgi. Ond, atolwg, a
ydych chwi yn maentymio fod y Duwdod
yn gadael ein Harglwydd yn ei groes-
hoeliad ?
" Uniawn. Mi a glywais eich bod yn
dweyd i mi ddywedyd felly, pan nad yw
hyn ond un arall o'ch anwireddau. Yr
wyf fi yn dywedyd, i Dduw guddio ei
wyneb yn y cyfryw fodd, fel ag yr oedd y
natur ddynol heb deimlo cysur y Duwdod,
yr hyn a barodd i Grist waeddi allan : Fy
Nuw, fy Nuw, pahamy'm gadewaist P Dyma
yr ymadawiad ag yr wyf fi yn ei feddwl.
wedi eu cydgymysgu yn Nghrist, fe] y darfu
i'r Duwdod ddyoddef a marw. (Oddiwrth
Eutychus, abad o Gaercystenyn, o.c. 448.)
§ Yr Ubicwitariaid sydd yn dywedyd bod corph
ein Hiachawdwr yn mhob man yn gystal a'i
Dduwdod. (O'r Lladin, ubique — yn mhob lle.
Plaid yn mysg y Lutheriaid oeddent, a god-
odd tua'r fiwyddyn 1560.)"
Ond yr wyf fi yn credu fod undeb personol
y ddwy natur yn aros o hyd, fel ag yr
oedd ein Harglwydd yn Dduw-ddyn yn y
groth, yn Dduw-ddyn ar y groes, ac yn
Dduw-ddyn yn y bedd.
" Daniel Rowland.
" Mi a ail-ddymunaf arnoch, unwaith
yn ychwaneg, i gadw o fewn terfynau
gwirionedd. Mi a gynghorwn i chwi, yn
lle llosgi Ilyfrau da, eu darllen hwy, yn
enwedig y goreu o Iyfrau, y Beibl. A
chwanegwch lawer o weddi at hyn ; a
chwedi'n, yr wyf yn ymddiried, y bydd i
chwi gael eich gwaredu oddiwrth eich
hunan-dyb, a rhoddi heibio duo a diystyru
eraill, ac heb gael eich arwain gan yr
yspryd gwyllt ag sydd yn awr yn eich
meddianu ; ac fe fydd i chwi gael eich
adferyd i'r hen Iwybrau gwirionedd ; ac
ni bydd eich barn yn hwy gael ei llygru
gan yr heresiau yr ydych yn awr yn eu
maentymio. A Duw a roddo i chwi ddeall
da yn mhob peth. Amen."
Cyhoeddwyd trydydd argraffiad o'r Ym-
ddiddan yn y flwyddyn 1792, dros y Gym-
deithasfa, a chafodd ei argraffu yn swyddfa
John Daniel, Caerfyrddin. I'r argraffiad
hwn, ceir y rhagymadrodd a ganlyn :
" Ddarllenydd diduedd, nid oedd meddyl-
iaa cydsyniol yr Asso:iation, wrth roi
anogaeth i ail-argraffu yr Ymddiddan rhimg
yv Uniawngred a'r Camsyniol, yn tueddu i
ddianrhydeddu, diystyru, nac enllibio un
person penodol, nac un gangen eglwysig
sydd yn proffesu ffydd yn enw tragy-
wyddol Fab Duw, a brawdgarwch. Ond
yn gymaint a bod aneirif o bobl newydd
yn awr yn weithwyr yn y winllan ; rhai
yn dadau, yn athrawon, a chynorthwywyr ;
y dyben ydyw hysbysu yn eirwir beth oedd
barn uniawngred tadau, cenadon, a chyn-
orthwywyr, yn nechreuad yr Association,
yn enwedig y Parchedig Mr. D. Rowland.
I loan ii. 24: Arosed, gan hyny, ynoch chwi
yv hyn a glywsoch oW dschreuad. Od erys
ynoch yv hyn a glywsoch o'v dechreiiad, chwith-
au hefyd a gewch avos yn y Mah, ac yn y
Tad.'' Wrth y rhagymadrodd yma cawn
enwau J. E. a J. T. Dywed Mr. Morris
Davies, Bangor, ar sail tystiolaeth a ys-
tyria yn ddigonol, mai yr Hybarch John
Evans, o'r Bala, oedd J. E. ; a thybia mai
yr hen bregethwr ffyddlawn, John Thomas,
o Lancwnlle, ond a orphenodd ei yrfa yn
Ninbych, oedd J. T. Y mae argraffiad
1792, hefyd, yn cynwys yr emyn ganlynol;
ni wyddis a ydoedd yn yr argraffiadau blaen-
384
Y TADAU METHODISTAIDD.
orol ; felly, nid oes sicrwydd mai Daniel
Rowland yw eu hawdwr : — •
"Y Tii yn Un mewn undeb,
Yn nhragywyddoldeb draw,
Ymrwymodd mewn cyfamod,
Fel rhoddi llaw mewn llaw,
I godi f'enaid euog,
0 ryw ddyfnderoedd mawr,
A'm cànu fel yr eira,
Ffieiddiaf Iwch y llawr.
Pan oedd cyíìawnder difrif
Yn llosgi megys tân,
A swn taranau Sinai
Yn gyru'r gwres yn mlaen,
Gwaed lesu croeslioeliedig
A wraeth foddlonrwydddlawn ;
Myrdd o fyrddiynau heddy'
Sy'n canu am yr iawn.
Yr Yspryd Glân sancteiddiol,
Y ffynon o lanhad,
Sydd yn cymhwyso'n helaeth
Yr iachawdwriaeth rad,
Nes byddo f'enaid ofnus,
Crynedig, ar y llawr,
Yn dechreu hwylio'i danau,
Yn y cystuddiau mawr.
Fe'm dysg, fe'm cyfarwydda,
1 gerdded ar fy nhaith ;
Fel colofn dân fe'm harwain
Trwy'r dyrys anial maitli ;
Nes delwy' i Sîon dawel,
Sy' heb ryfel byth, na phoen,
Ond cydsain Haleluwiah !
Hosana i Dduw a'r Oen.
Fe dderfydd peraidd bynciau
Yr hediaid mân y sydd
Yn chwareu 'u llaes adenydd,
Ar doriad gwawr y dydd ;
Ond gwaredigion Sion,
A ddaeth o'r cystudd mawr ;
Par eu caniadau 'n newydd,
A newydd fydd eu gwawr."
Dengys yr Ymddiddan hwn fod syniadau
Daniel Rowland ar y pynciau mewn dadl,
yn gyffelyb i eiddo y rhai a ystyrir yn
gyffredin yn dduwinyddion uniawngred,
a'i fod yn dra chydnabyddus a hanesiaeth
eglwysig. Dengys, hefyd, ysywaeth, ei fod
wedi ymddigio trwyddo, ac i chwerwder ei
yspryd ei arwain i ddefnyddio geiriau llym-
ion, fel brath cleddyf. Nid ydym yn sicr,
ychwaith, ei fod yn cyflwyno golygiadau
Howell Harris gyda hollol degwch ; prin,
efallai, y gellid dysgwyl hyny wrtho mewn
dadleuaeth mor gyffrous. Nid cywir
dweyd fod Harris yn ymwrthod, o leiaf
yn gyfangwbl, a'r gair person, pan yn
cyfeirio at y Drindod ; yr ydym wedi dod
ar draws y term droiau, yn y difyniadau
a rydd o'i bregethau. Nid ydym ych-
waith wedi cael ei fod yn dal ddarfod i'r
Tad ymgnawdoH, ond efallai yr ystyriai
Rowland hyn yn gasghad anocheladwy
oddiwrth y dywediad fod y Drindod yn
preswyho yn lesu Grist. Nid annhebyg,
hefyd, fod Harris, yn ngwres ei areith-
yddiaeth wrth bregethu, yn defnyddio
ymadroddion mwy eithafol nag a gofnoda
pan yn ysgrifenu yr hyn a ddywedodd,
gwedi i'r gwres giho. Eithr am y pethau
eraill, sef ei fod yn condemnio gwybodaeth
llyfrau, yn galw ei wrthwynebwyr yn
Ariaid, ac yn Ddeistiaid, ei fod yn dal fod
corph yr Árglwydd lesu yn holl-bresenol,
a'i fod, pan y gwesgid yn galed arno, yn
syrthio yn ol ar y datguddiad y tybiai ei
fod wedi ei dderbyn, y mae sail iddynt oll
yn nydd-lyfr Harris ei hun. Hyd yn nod
pe na byddai ei olygiadau ar y Drindod a
dirgelwch person Crist yn annghywir, yr
oedd yn pwysleisio yn ormodol ar hyn, ac
yn rhoddi iddo fwy o le nag oedd yn
briodol, yn ol cysondeb y ffydd. Yn
mlynyddoedd olaf ei gysylltiad a'r Meth-
odistiaid, prin y cai dim arall sylw yn ei
weinidogaeth ; beth bynag a fyddai ei
destun, troai at y pwnc hwn fel y nodwydd
at begwn y gogledd ; ac un o'r achwyn-
iadati a ddygid yn ei erbyn ydoedd, fod
cyfnewidiad hollol wedi cymeryd lle yn
nhòn ei bregethu. Diau mai un rheswm
am hyn oedd y gwrthwynebiad a gyfododd
i'w athrawiaeth. Ymgyndynu, a myned
yn fwy penderfynol, a wnelai, yn ddi-
eithriad, pan y caffai ei wrthwynebu. A
gosodai allan ei syniadau mewn ymadrodd-
ion a dull tra chyffrous. Meddai unwaith :
" Nid wyf yn adnabod yr un Duw ond
lesu Grist ; cymerwch chwi y Ileill i gyd ;
yr wyf yn eu herio oll." Yr oedd ym-
adroddion o'r natur yma, yn nghyd a'r
haeriad fod ei wrthwynebwyr yn addoli
eilunod o greadigaeth eu dychymyg eu
hunain, ac yn gwadu priodoÌ dduwdod yr
Arglwydd lesu, yn annyoddefol i deimlad
Daniel Rowland a'i gyfeilHon, ac yn
gwneyd aros mewn cydgymimdeb ag ef
yn anmhosibh
Rhaid cofio, hefyd, fod achosion eraiU
i'r ymraniad heblaw gwahaniaeth barn
parthed athrawiaeth. Hònai Harris aw-
durdod unbenaethol dros y seiadau a'r
cynghorwyr. Geilw ei hun drosodd a
throsodd yn dad y Gymdeithasfa ; cyffelyba
ei swydd i eiddo Moses, yr hwn a osodasid
yn farnwr ar Israel, ac ystyria ei fod wedi
cael ei osod ynddi gan Dduw lawn mor
uniongyrchol. Nid ymgynghorai â barn
ei frocíyr ; ac ystyriai fod dy wedyd yn ei
erbyn yn wrthwynebu Duw. Diarddelai
o'r seiat, a thorai y cynghorwyr allan,
YR YMRANIAD.
385
wrth ei ewyllys ; nid ymostyngai i ym-
gynghori â na Chyfarfod Misol na Chym-
deithasfa yn y mater hwn. Gwaith yr
oflfeiriaid, fel y tybiai, oedd myned o gwm-
pas i bregethu a gweinyddu yr ordinhadau ;
a gwaith y cynghorwyr a'r stiwardiaid
oedd cario allan y trefniadau a wnelai efe
ar eu cyfer. A chan ei fod yn hawdd ei
gyffroi, ac yn meddu tymherau cryfion, yn
wir, bron aílywodraethus, gweithredai yn
fynych oddiar deimlad y foment. Cyhudda
Rowland ef yn ei wyneb o droi y cynghor-
wyr allan mewn nwyd. Nid gwiw ym-
resymu ag ef ; barnai fod llywodraethu y
seiadau yn perthyn i'w swyddogaeth ef, ac y
dylai pawb arall fod yn ddystaw ; a chredai
ei fod yn gweithredu yn uniongyrchol dan
arweiniad dwyfol. Nid rhyfedd, gan
hyny, i wrthryfel dori allan. A hawdd
gweled fod ei dra-awdurdod yn boenus i
Daniel Rowland, a Howell Davies, a
Williams, Pantycelyn, y rhai oeddynt yn
oífeiriaid urddedig, tra nad oedd efe ond
lleygwr. Naturiol iddynt hwy fuasai
edrych ar eu safle, a gwrthod ei gydnabod
fel cydradd, chwaithach fel un wedi ei
osod mewn awdurdod drostynt. Ni theim-
lent feljy ; ond yr oeddynt yn anfoddlawn
iddo gael yr holl awenau i'w ddwylaw.
Cynyddodd yr anfoddlonrwydd yn erbyn
Howell Harris yn enbyd trwy ei waith
yn cymeryd Madam Griffiths, y ddynes a
hònai yspryd prophwydoliaeth, o gwmpas.
Dygai hi i'r seiadau, ac i'r Cymdeithasfa-
oedd Misol ; galwai hi yn " Llygad," a
chredai ei bod yn rhodd Duw iddo i'w allu-
ogi i adnabod y rhagrithwyr, ac i'w gyn-
orthwyo mewn barn. Fel y darfu i ni sylwi,
nid oes rhith o sail dros amheu ei burdeb.
Nid ydym yn tybio fod unrhyw amheuaeth
gwirioneddol am hyny ar y pryd. Ond
eto, cynyrchodd ei ymddygiad deimlad
blin. Credai y nifer amlaf, hyd yn nod
o'i ganlynwyr, mai dynes ragrithiol ydoedd,
ac yr oeddynt yn hollol iawn. Wrth ei
fod yn dychwelyd adref o Lundain, trw}'
Erwd, dywedai un o'i brif gyfeillion wrtho,
fod pethau wedi dyfod i stâd ryfedd, pan
yr oedd dynes yn ben ar y Gymdeithasfa.
Ysgrifenodd Thomas James, y cynghorwr
o Cerigcadarn, ato gan ei feio. Ei ateb
iddynt oll oedd, nad oedd ganddo ef un
ewyllys yn y mater ; ddarfod iddo cf
ymladd yn erbyn y peth ar y dechreu, ond
i'r Arglwydd ei drechu ; ac erbyn hyn fod
llawer o'r pregethwyr yn credu mor
ddiysgog ei bod hi yn " Llygad," fel na
safent i mewn yn y Cyfundeb, oddigerth
Rhan VII.
ei bod hi yn cael ei Ile. Yr oedd ei ym-
ddygiad yn nodedig o blentynaidd, ac yn
dangos hygoeledd na cheir yn fynych ei
gyffelyb ; ond eto, yr oedd yn hollol unol
â chymeriad Howell Harris, yr hwn, er
ei holl nerth a'i graffder, oedd mewn rhyw
bethau yn dra choelgrefyddol. Yr ydym
yn tybio ddarfod i hyn, yn gymaint a dim,
gyflymu dyfodiad yr ymraniad.
Gwedi y Gymdeithasfa yn Llanidloes,
teimlai y ddwy ochr nas gallent gydfyw ;
ac eto, wedi dyfod i ymyl y dibyn, yr
oedd Harris yn petruso cymeryd naid i'r
tywyllwch ; ond cymerwyd y mater o'i
ddwylaw gan y blaid arall. Ar ddydd
Sadwrn, Gorph. 4, 1750, cyfarfyddodd
Daniel Rowland, Howell Davies, Wil-
liams, Pantycelyn, yn nghyd â rhyw
offeiriad arall nas gwyddom ei enw, mewn
Cymdeithasfa yn Llantrisant ; yr oedd yno
yn ychwanegol un-ar-ddeg o gynghorwyr
cyhoedd, a phedwar o rai anghyoedd ; ac
yn y cyfarfod hwn penderfynwyd tori pob
cysylltiad â Howell Harris. Yr oedd efe
ar daith yn Nghapel Evan, Sir Gaer-
fyrddin, ar y pryd. CyfFrowyd ei ys-
pryd pan y clywodd, ond dywedodd yn
y seiat ei fod yn benderfynol o fyned yn
ei flaen ; ddarfod iddo yn íiaenorol weled y
diafol yn codi yn ei erbyn yn y werinos,
yr offeiriaid, a'r boneddigion, ac i'r cwbl
ddod i'r dim ; y gwelai y gwrthwynebiad
yma yn diflanu eto, a'i fod yn teimlo
yspryd o'i fewn oedd yn anorchfygol.
Dywedai, yn mhellach, fod yr ymraniad
gwirioneddol wedi cymeryd Ile bedair
blynedd yn flaenorol. Yn awr, cawn
yntau yn dechreu trefnu ei blaid. Y dydd
Llun canlynol, Gorph. 6, casglodd wyth o
bregethwyr yn nghyd i Lansamlet, i \Vern-
Llestr, yn ol pob tebyg, Ile y cedwid y
seiadau, i wneyd yr hyn a eilw ef yn " osod i
lawr sylfaen tŷ Dduw." Dywed iddynt gael
cyfarfod bendigedig ; eu bod yn bwyta yr
un bara, ac yn cael eu bywiocau gan yr
un yspryd. Galwyd Harris ganddynt i
fod yn ben ar yr holl seiadau ; Ilawenychai
y brodyr yn y rhwyg ; a dywedai Harris
fod Rowland a'i blaid yn codi yn erbyn yr
Arglwydd, yn erbyn ei Yspryd, ac yn
erbyn ei wirionedd. " Yn y dirgel,"
meddai, " gwelais y mynai Duw i ni ym-
wrthod a'r brodyr, ac a'u Cymdeithasfa,
am (i) Eu bod o rah eu hyspryd wedi
cefnu ar yr Arglwydd. (2) Am eu bod
mewn gwirionedd yn elynion iddo. (3)
Am eu bod yn cashau Ilywodraeth ei
Yspryd. (4) Am eu bod yn dirmygu yr
386
y TADAU METHODISTAIDD.
Urim a'r Thumim. (5) Am na feddant
fywyd i "ymborthi ar Grist. (6) Am eu
bod yn dirmygu athrawiaeth y cnawd a'r
gwaed hwn ; ac yr wyf finau yn caru y
cnawd a'r gwaed anfeidrol ac anwyl hwn
mewn gwirionedd." Pa beth a olyga wrth
yr " Urim a'r Thumim," nis gwyddom, os
nad y ffug-brophwydes. Ar y nawfed o
Orphenaf, cawn ef yn cadw seiat yn
Llwynyberllan, a chwyna yn enbyd fod y
seiadau wedi myned yn íiurfiol, yn gnawd-
ol, ac yn fagwrfa i falchder ; ond dywed
ei fod ef yn foddlon ymweled â hwy cyhyd
ag y byddai ei ymweliadau yn dderbyniol,
ac o fendith. Dranoeth, yn Cefnygweision,
Rowland a'i blaid yn adnabod yr Ar-
glwydd, a'u bod yn elynol i'r gwaed ; eu bod
yn wrthwynebol i bob peth oedd o Dduw ;
ac nad oeddynt yn eu pregethau yn myned
i ddyfnder yspryd y bobl, ond eu bod yn
appelio yn benaf at y pen a'r teimlad, ac
felly fod y gwrandawyr yn myned yn
ysgafn ac yn gnawdol. Dy wedai, yn mhell-
ach, ddarfod iddynt trwy gydgyfarfod, ac
ymwrthod ag ef, ei gau allan o'r t}' (y
capel) yn Nghilycwm. Dengys y nodiad
hwn nad oedd y seiat yn Nghilycwm, fel y
cyfryw, wedi ei wahodd yn flaenorol i
gymeryd ei gofal, eithr rhyw bersonau
ynddi. Poenus tu hwnt yw gweled y
i.LA>;xitioA:sx, biii iüiiGA>;uü.
[Lle y c!juhalhvyd Cymdeithasfa (jyntaf plaid lìowland.]
cofnoda iddo ddyfod allan yn fuddugol-
iaethus o'r rhyfel poethaf y buasai ynddo
erioed. Ymddengys i Daniel Rowland ag
yntau gyfarfod, efallai yn Llwynyberllan,
ac iddi fyned yn ymrafael chwerw rhyng-
ddynt. Cyhuddai Rowland ef o fod wedi
syrthio oddiwrth ras, o gyfnewid yn bar-
haus, o dalu sylw yn unig i ranau o'r
Ysgrythyr, ac o'r gwirionedd am berson
Crist, ac nid i'r oll, o droi pobl allan o'r
seiadau mewn nwyd, o ymranu oddiwrth-
ynt, ac o ddweyd nad oes dros chwech
yn Nghymru yn adnabod yr Arglwydd.
Atebai Harris ei fod yn ofni nad oedd
ddau hen gydlafurwr wedi myned mor
chwerw yn erbyn eu gilydd, yn benaf
trwy annealltwriaeth ; ond dengys yr
ymddiddan o ba bethau y cyhuddent eu
gilydd.
Yn mhen wythnos gwedi, sef Gorph. 17,
clywodd am farwolaeth James Beaumont.
Ymddengys iddo farw yn sydyn, ond
awgryma y cofnodiad iddo farw yn ei
gartref, yn Sir Faesyfed ; ac nid oes
unrhyw awgrym yn cael ei roddi iddo
gael ei osod i farwolaeth gan elynion yr
efengyl. Ei eiriau diweddaf, medd y
dydd-lyfr, cyn i'w yspryd ddianc at ei
YR YMRANIAD.
387
Waredwr, pan y cynygid ychydig win
iddo gan ei briod, oedd : " Nid yfaf o
íTrwytli hwn y winwydden hyd onid yfwyf
ef yn newydd yn nheyrnas fy Nhad."
Teimlodd Harris yn enbyd ar ol ei gyfaill ;
yr oedd i Beaumont le cynhes yn ei galon,
a dywed fod ei enaid yntau yn hiraethu
am fyned adref. Yr ydym ninau yn medd-
wl fod gwreiddyn y mater yn y cynghorwr
o Sir Faesyfed ; llafuriodd yn galed, a
dyoddefodd lawer gyda'r efengyl ; ond yr
oedd iddo lawer o ffaeleddau, a chyfeil-
iornasai yn bur bell oddiwrth y ffydd sydd
yn Nghrist. Ac yr ydym yn teimlo yn
sicr ddarfod iddo ddylanwadu er niwed ar
yspryd Howell Harris.
Gwnelai Harris bob ymdrech posibl
yr adeg hon i sicrhau cydymdeimlad y
seiadau gydag ef, ac i gael y cynghorwyr
o"i blaid. Teithiai yn ddiorphwys ; ac
anfonai lythyrau at y rhai y tybiai y
medrai ddylanwadu arnynt. Yn bur faan
wedi cyfarfod yr oífeiriaid yn Llantrisant,
anfonodd lythyr yn llaw cenad at John
Sparks, y cynghorwr o Hwlffordd, o ba
un y difynwn a ganlyn : " Y mae yr
ofíeiriaid, ac amryw o'r cynghorwyr, wedi
datgan yn fy erbyn, oblegyd fy egwydd-
orion, fy ymarferiad, a'm hyspryd. Nid
wyf yn ysgrifenu atoch i'ch sicrhau o'm
plaid i yn y rhyfel hwn, oblegyd gwyr yr
Arglwydd lesu, yr unig ddoeth Dduw, yr
hwn yw fy oll, nad oes genyf blaid, ond fy
mod ar fy mhen fy hun, fel yr aethum allan
ar y cyntaf, gyda'r eithriad fod ychydig o'r
rhai a garant y cnawd, y clwyfau, a'r
gwaed, yn crogi wrthyf. Ni fedrant adael
y penaf pechadur (Harris). Tybiais yn
ddyledswydd arnaf i ysgrifenu atoch yn
fyr ; cewch y manylion gan y dygiedydd.
Os yw ein Hiachawdwr yn eich tueddu i
ddynumo rhagor o wybodaeth, cyn pender-
fynu gyda pha blaid y gwnewch uno i
lafurio, gwnaf gyfarfod â chwi yn Lacharn,
dydd lau pythefnos i'r ncsaf. Os medrwch
chwi, a'r brawd Gambold, a'r brawd John
Harris ddyfod i'm cyfarfod i Lacharn,
anfonwch air. Neu ynte, mi a ymdrechwn
ddyfod i St. Kennox, i'ch cyfarfod oll, neu
rai o honoch, fel y byddo i chwi gael
gwybod yr holl wirionedd. Y mae Mr.
(Howell) Davies, a Benjamin Thomas,
&c., wedi cyduno oll i'm gwrthod ; a chan
ei fod ef (Howell Davies), a'r bobl, o
bosibl, yn edrych ar Sir Benfro fel ei faes
neillduol ef, ni wnaf ddyfod, oni chaf fy
ngalw gan y bobl, neu y pregethwyr, neu
y ddau. Ydwyf, gyda'r serch cryfaf yn
cc
nghorph darniedig ein Duw a'n Hiach-
awdwr, yr eiddoch i bob tragywyddoldeb, —
How. Harris," Y mae yn anmhosibldar-
Ilen y llythyr hwn, gyda'r teimlad dwfn o
unigrwydd a red trwyddo, heb fod deigryn
yn dyfod i'r Ilygad, pwy bynag a gondemn-
iwn íel yn fwyaf cyfrifol am yr ymraniad.
Ar y 26ain o Orphenaf, 1750, cynhaliodd
Harris a'i blaid eu Cymdeithasfa gyntaf
yn St. Nicholas, pentref gwledig bychan
yn Mro Morganwg, tua chwech milltir o
Gaerdydd. Paham y dewiswyd y llecyn
hwn, nis gwyddom ; nid oedd mewn un
modd yn ganolog i'r oll o Gymru ; efallai
fod y seiadau o gwmpas yn fwy Iliosog, ac
mewn mwy o gydymdeimlad ag ef. Yr
oedd y rhai canlynol yn bresenol : Howell
Harris, Thomas WiIIiams (Groeswen),
John Richard (Llansamlet), Henry
Thomas, WiIIiam Jones, Roger Williams,
Thomas Bowen (yr hynaf), Thomas
Bowen (yr ieuangaf), Richard Tibbot,
Thomas Sheen, Thomas Meredith, Lewis
Evan, Edward Davies, John Lewis, David
William Thomas, Stephen Jones, Richard
David, John Davies, a George PhiIIips.
Gwelir eu bod yn namyn un ugain. Sut
yr oedd cyngh'brwyr Sir Benfro yn absenol,
nis gwyddom ; yr oedd yno amryw mewn
dwfn gydymdeimlad â Howell Harris ;
efallai eu bod heb Iwyr benderfynu gyda
pha blaid i uno. Aeth Harris tuag yno
yn nghwmni offeiriad, o'r enw Henry
Lloyd, eithr nid ydym yn cael yr offeiriad
hwn yn bresenol yn nghyfarfod neillduol y
Gymdeithasfa. Ymddengys fod rhai o
bleidwyr Rowland wedi dyfod i'r Ile o
ran cywreinrwydd. " Pan welais elynion
croes Crist yno," meddai Harris, " fy
anwyl Arglwydd a'm cyfarfyddodd, ac a'm
dyrchafodd uwchlaw pawb, wrth ganu yn
fuddugoliaethus, ac wrth weddío a phre-
gethu oddiar, ' Ni a welsom ei ogoniant
ef.' Yn sicr, yr oedd yr Arglwydd fy
Nuw yma fel rhyfelwr, yn cyhoeddi
rhyfel yn erbyn yr Ariaid, y Deistiaid,
a'u Duw. Datgenais (wrth ganlynwyr
Rowland) fy mod yn benderfynol o fyned
yn nilaen, gan ganlyn yr un yspryd ag
oedd genyf o'r dechreuad ; ac os mai o'r
diafol y mae yr yspryd, ei fod yn fy ngwneyd
yn dra dedwydd, ac yn fy arwain at Grist.
Dy wedais : ' Yr ydym ni yn benderfynol o
fyned yn mlaen ; y mae amryw ugeiniau o
honom wedi cyduno ; a thra nad ydych
chwi yn credu dim ond a ddeallwch, yr
ydym ni yn derbyn Duw ar ei Air, ac yn
ymwrthod a'n deall ein hunain.' " Ych-
388
Y TADAU METHODISTAIDD.
wanegodd ei fod yn foddlon mentro ei
dragywyddoldeb ar yr yspryd oedd yn
gweithio ynddo, a chyffelybai hwythau
i Cora, Dathan, ac Abiram.
Dywed y cofnodau : " Dyma y Gym-
deithasfa gyntaf a gynhahwyd wedi i'r
pedwar offeiriad a'r un-pregethwr-ar-ddeg
gyfarfod, i ddatgan yn erbyn athrawiaeth
ac yspryd y brawd Harris. Cyfarfyddasom
ninau i ddysgwyl wrth yr Arglwydd, i
gael gweled beth a elhd wneyd, gan fod yr
hoU waith agos wedi sefyll. Teimlodd
pawb rywbeth na chawsent mewn Cym-
deithasfa erioed o'r blaen, a gwelsant fod
ein Hiachawdwr wedi gosod i lawr sail
gwaith pwysig. Yr oedd cymaint a hyn
drachefn wedi uno, ond ni fedrent fod yn
bresenol oblegyd amgylchiadau. GelÌid
meddwl fod gwedd newydd ar bethau. Yr
ydym yn awr mewn gobaith o weled
gogoniant yr lachawdwr, dysgyblaeth ei
Yspryd, a bywyd ífydd yn cael ei ddwyn
i mewn i'r diwygiad, ac yspryd mwy
cathohg at bawb ; ac o weled doethineb a
balchder dyn yn cael eu halltudio unwaith
eto, ac enw Crist yn cael ei ddyrchafu yn
ein mysg. Wedi y bregeth ar, ' Ni a
welsom ei ogoniant ef,' wrth ein bod yn
canu mewn modd buddugohaethus, daeth
yr Arglwydd i lawr i ddatgan rhyfel yn
erbyn y pregethwyr eraiU oeddynt wedi
ymgynghori yn erbyn Duw, ei angau,
a'i Yspryd. Rhoddodd yr Arglwydd
i ni un galon ; ond pan y cawsom nad
oedd yr Yspryd yn rhedeg mor rhydd
yn mysg y brodyr ieuangaf, rhag iddynt
gymeryd tramgwydd oddiwrth Madam
Griffìths, archasom i bawb agor eu calonau
gyda golwg arni." " Madam Grifhths "
oedd y ffug-brophwydes, ac yr oedd wedi
dyfod i St. Nicholas i'r Gymdeithasfa.
Agorodd Harris ei hoU hanes, y modd yr
oedd wedi cael ei gwneyd yn fam yn
Israel, nad oedd wedi cael cymaint ffydd
yn neb arall, ddarfod iddi brophwydo am
yr ymraniad hwn cyn ei ddyfod, a'i bod
wedi bod o ddirfawr gymhorth iddo ef i
wasanaethu mewn ffydd yn yr Arglwydd.
Dywedai fod tri math o oleuni, sef goleuni
natur, goleuni prophwydohaeth, a goleuni
ffydd, yn gweddnewid ac yn cymeryd
meddiant o'r hyn a ganfyddwn. Mewn
canlyniad i eglurhad Harris, dywedodd y
naw brawd y ceir eu henwau yn mlaenaf
ar y rhestr, ddarfod iddynt gael eu temtio ;
ond eu bod wedi cael eu hargyhoeddi yn
yr Arglwydd ddarfod i Madam Griffiths
gael ei chyfodi i fod yn Llygad iddynt.
i'w bendithio yn yr hyn yr oeddynt yn
ddiffygiol ynddo, ac hefyd i ddarganfod yr
ysprycíion, ac i gael meddwl Crist yn eu
plith. Mewn canlyniad, cydunwyd i anfon
am dani i'r Gymdeithasfa, i'w cynorthwyo
yn eu hymdriniaeth â gwahanol achosion.
Yn nesaf, cafwyd helynt gyda rhyw
frawd, a elwir yn " Old Adams." Dywed
y cofnodau ei fod wedi cael ei dwyllo gan
ddiafol, a darfod iddo ddyfod i'r Gym-
deithasfa i'w dolurio a'u rhwystro. " Dy-
wedais wrtho," meddai Harris, " os oedd
John Wesley a George Whitefìeld yn
cynyg eu seiadau, yr awn a'r mater at yr
Arglwydd. Eithr pan orchymynwyd iddo
fyned allan, dechreuodd ruo ; fy yspryd
inau a ddyrchafwyd, a gelwais ef yn
dwyllwr, yn elyn Duw, ac yn au-
brophwyd ; ac yn enw yr holl frawdohaeth
mi a'i hesgymunais ef." Y mae y geiriau
nesaf yn y cofnodau o'r dyddordeb mwyaf :
" Yna, daeth Mr. Peter WiUiams i'r cyfar-
fod ; yr oedd am aros i mewn, ond ni wnai
uno." Anhawdd dweyd beth oedd amcan
ei ddyfodiad, ai ceisio cyfryngu rhwng y
ddwy blaid cyn i bethau fyned yn rhy
bell, ynte ceisio gwybodaeth ychwanegol
am y materion mewn dadl. " Datganasom
ein penderfyniad i beidio uno (a phlaid
Rowland) hyd nes y byddai i'r brodyr
ymranedig edifarhau, a chael eu dwyn at
yr Arglwydd. Dangosais y tri pheth yn
mha rai yr ydym yn gwahaniaethu. (i)
Y maent hwy yn pregethu Crist yn benaf
i'r pen, ac y maent yn erbyn gogoniant
ein Hiachawdwr, yr hwn a geisiwn ni ei
osod gerbron y bobl. (2) Y maent hwy
yn adeiladu ar hen syniadau, ac ar brofiad ;
yr ydym ninau yn cyffroi yr eneidiau i
grediniaeth barhaus yn yr Arglwydd. (3)
Yr ydym ni am ddysgyblaeth wirioneddol
yr Yspryd, tra y maent hwy wedi cilio
oddiwrth yr Arglwydd, a geill eneidiau
wrando arnynt yn barhaus, heb gael eu
deffro i ganfod pechadurusrwydd angrhed-
iniaeth, hunangyfiawnder, deddfoldeb, a
pheidio ymborthi ar yr Arglwydd. Myn-
egasom, yn mhellach, mai ein pwynt yw
nid pwy a fydd fwyaf, ond pwy a fydd
leiaf. Dywedodd y brawd Harris ei fod
yn gweled ei hun y gwaelaf o'r brodyr,
ond fod gwahaniaeth rhwng gweithwyr
(yn yr eglwys) ag aelodau preifat ; fod
rhai yn fabanod, eraill yn ieuainc, ac eraill
yn dadau ; a bod gwahanol ddoniau, a
graddau o ffydd, a gwahaniaeth yn yspryd
y pregethwyr ; a'n bod yn syrthio gerbron
yr Arglwydd i weled lle pob un. Dywed-
YR YMRANIAD.
389
odd, hefyd, ein bod yn cymeryd esiampl,
yspryd, a gorchymyn ein Harglwydd fel
ein rheol. Yn hyn oU yr oeddym yn
cyduno fel un. Gwedi hyn, efe (Peter
Wilhams) a aeth allan." Efallai iddo
deimlo fod pob goì)aith am gymod wedi
darfod.
Yn canlyn ceir y penderfyniadau : " Cyd-
unwyd fod y pregethwyr i gyfarfod mewn
Cymdeithasfaoedd fel cynt ; fod y Gym-
deithasfa nesaf i fod yn Llanfair-muallt,
Medi 26, ac yn y cyfamser ein bod i gymeryd
i ystyriaeth y priodoldeb o gynal Cymdeith-
asfa i hoU Gymru unwaith yn y flwyddyn,
a Chymdeithasfa bob chwech mis yn
Neheudir ac yn Ngogledd Cymru ar
wahan.
" Cymerwyd i ystyriaeth y priodoldeb o
gynal seiadau preifat, a chytunasom oll
i'w cynal, gwedi i'r brawd Harris egluro
natur y seiadau allan o'r Hen Destament
a'r Testament Newydd. Penderfynasom,
hefyd fagu yr eneidiau sydd wedi eu deffro i
weled eu hangen am lachawdwr, mewn cor-
lanau bychain iddo ef ; ond na wnawn gym-
eryd neb i fod yn rhan o'r Corph hwn, nac
i gael ei alw ar ein henw, ond y rhai sydd
naill ai yn gweled gogoniant yr AchubwT,
neu ynte eu hanwybodaeth o hono, ac yn
byw mewn ffydd arno. Cydunwyd, hefyd,
fod y rhai sydd yn canfod y gogoniant i
gyfarfod ar wahan i edrych ar Grist,
ymborthi arno, siarad am dano, a gweddío
arno ; a bod y lleill i gael eu cyfarfod gan
berson priodol i gael eu meithrin, mor
hir ag y byddant yn barod i gymeryd eu
dysgu, ac y parhant yn ostyngedig, yn
ddiwyd, ac yn parhau i ymarfer â moddion.
" Cydunasom fod ein holl aelodau i
gyduno yn addoliad ac yn ordinhadau yr
Eglwys Sefydledig ; mai Gair y cymod yn
unig a ymddiriedwyd i ni ; a'n bod i fyned
yn y blaen fel Diwygwyr yn yr Eglwys,
fel y gwnaethom o'r dechreu, ac yn yr un
goleuni a'r un yspryd.
" Cydunwyd, hefyd, fod y brawd W.
Powell a'r brawd Thomas Williams i
ddwyn adroddiad am ansawdd yr achos
yn Mynwy a Morganwg i'r Gymdeithasfa
nesaf; y brawd John Richard a'r brawd
Rue Thomas i wneyd yr un peth am
Orllewin Morganwg, Caerfyrddin, a Phen-
fro ; Thomas Jones i wneyd hyny am ran
o Frycheiniog a Henffordd ; Charles
Bowen am y gweddill o Frycheiniog a
Maesyfed, a Richard Tibbot am Drefald-
wyn. Yr oeddynt, yn mhellach, i weled pa
le yr oedd drysau yn cael eu hagor, a pha
le y gallai y brawd Harris sefydlu seiadau
o'r newydd, neu yn mysg y rhai oedd wedi
cael eu gwasgar."
Dywedir ddarfod i un Stephen Jones
gael ei droi allan gan blaid Rowland, am
iddo ddatgan fod gwaed Crist mor fawr,
fel nas gallai ei ddirnad na'i egluro ; a
chyhuddir Rowland a'i bleidwyr o haeru
nad oeddynt yn credu dim ond a ddeallent.
Wrth reswm, yr oedd i'r Stephen Jones yma
dderbyniad croesawus yn Nghymdeithasfa
St. Nicholas. Siaradwyd am ein Hiach-
awdwr, ei fod yn Llew yn gystal ac yn
Oen ; fod yspryd cerydd yn deilliaw oddi-
wrtho, yn ogystal ag yspryd addfwynder.
Penderfynwyd, hefyd, anfon cenhadau i
Ogledd Cymru, gan fod y brodyr oedd
wedi ymwahanu yn rhwystro yr eneidiau
i ddyfod at Grist ; yr oedd y cenhadau
yma, hefyd, i geisio perswadio pawb i
beidio myned i wrando ar neb perthynol i
blaid Rowland, hyd nes y dychwelai y
blaid hono at yr Arglwydd. Y cyntaf a
drefnwyd i fyned i'r Gogledd oedd Roger
WiIIiams ; yr oedd ef i gychwyn ar un-
waith ; yr oedd Rue Thomas i fyned yn
mhen pythefnos gwedi ; Richard WiIIiam
Dafydd i fyned yn ganlynol ; ac yr oedd
Lewis Evan i gyfarfod â phob un, ac i fod
yn gydymaith iddo hyd nes y dychwelai.
Ac yn olaf, fis cyn y Gymdeithasfa nesaf,
yr oedd Thomas Williams a David
Thomas i fyned, i benderfynu ar gyfar-
fodydd, ac i alw y pregethwyr oeddynt am
uno â Harris i ddyfod i'r Gymdeithasfa yn
Llanfair. Dywedir, yn mhellach, ddarfod
i'r Arglwydd agor genau Madam Griffìths,
y Llygad, i lefaru i'r byw. Dywedai, pe
y byddent yn ddigon ysprydol, y gallent
weled ysprydoedd pobl raor glir ag yr oedd-
ynt yn gweled eu gwynebau.
Felly y terfynodd Cymdeithasfa gyntaf
plaid Harris. Yr ydym yn teimlo fod
cryn lawer o gymysgedd i'w ganfod ynddi.
Nid oes amheuaeth fod Harris a'i bleidwyr
yn hollol gydwybodol ; eu bod yn credu
mai gyda hwy yr oedd y gwirionedd, a
bod yr ofîeiriaid wedi gadael Crist. Tyb-
ient fod parhad gwir grefydd yn Nghymru
yn dibynu ar iddynt hwy gael goruch-
afiaeth. O'r ochr arall, anhawdd credu
fod yr holl frwdaniaeth o'r nefoedd ; tra
y condemnient gnawdolrwydd, nid oedd-
ynt hwy eu hunain yn rhydd oddiwrth
y cnawd. Gyda danfoniad allan y
cenhadau hyn, dechreuodd cyffro enbyd
yn ngwersyll y Methodistiaid. Gwedi
pregethu, byddai y cenhadau yn casglu
390
Y TADAU METHODISTAIDD.
y proffeswyr yn nghyd ; rhybuddient
hwy rhag yr ofteiriaid, y rhai, medd-
ent, oedd wedi colli Duw ; ac yn
yspryd y gorchyniyn a gawsent wrth
fyned allan, anogent hwy i beidio gwrando
ar Rowland a'i blaid. Mewn canlyniad,
aeth y seiadau yn rhanedig, ac hyd yn nod
aelodau yr un teulu. Ni roddid derbyn-
iad i Daniel Rowland mewn IHaws o fanau
ag yr edrychid ar ei ddyfodiad yn flaenorol
fel eiddo angel Duw. Nid anmhosibl fod
cryn lawer o chwerwder ac yspryd erled-
igaeth, hefyd, o du yr offeiriaid a'u
pleidwyr, ond nad yw eu gweithrediadau
hwy wedi eu croniclo. O'r Gymdeithasfa
yna ryw dybiaeth yn nyfnder ei yspryd eu
bod yn un yn eu golygiadau am y gwirion-
eddau hanfodol, yr ydym am gofnodi
llythyr a ysgrifenwyd ganddo : " Fy anwyl
frawd Rowland. Pa le yr ydych yn awr ?
Pa yspryd sydd wedi eich meddianu ? Pa
frwydrau ydych yn ymladd, ac yn erbyn
pwy ? Deuwch yn awr, a dychwelwch.
Os ydych yn edrych arnaf fi yn waeth na
chwi eich hun, fel y mae genych hawl i
wneyd, rhydd hyny hawl i mi i waeddi
yn uwch, Gras ! Gras ! Beth Ijynag, y
mae arnoch chwithau eisiau eich golchi
fel finau ; gadewch i ni ein dau, ynte,
fyned i'r ffynon ar ein cyfer. Peidiwch
WEEN-LLESTR.
iLle ìj pìetjethodd H. Harris gyntaf ijn Tjlansamlet, a lle y mae yn debygol y
cynhaliodd ei biuyllgor cyntaftoedi yr ymraniad.}
gyntaf a gynhaHwyd gan blaid Rowland,
anfonasid gorchymyn i Harris i anfon
cyfrif, a hyny, o bellaf, cyn pen tair
wythnos, am yr arian oedd wedi gasglu at
y gyfraith yn erbyn Syr Watkin WiíHams
Wynne. Ateba yntau mai yr oll a dder-
byniasai oddiwrth bleidwyr Rowland,
oedd pum' punt oddiwrth Rowland ei hun,
pum' punt oddiwrth Benjamin Thomas, a
gini oddiwrth WiHiams, Pantycelyn. Am
y gweddill o'r arian, nad oedd yn gyfrifol
iddynt hwy. Yn ganlynol, dengys sut yr
oedd yr arian wedi cael eu talu aUan.
Eithr fel prawf nad oedd serch Harris at
Daniel Rowland wedi Uwyr oeri, a bod
tramgwyddo am y grisiau. A ydych yn
tybio ei fod yn bosibl fy mod i yn -caru
pechod, ac wedi gadael anwyl gariad
Duw ? Yr wyf yn fwy pechadur na
phawb ; ond yr wyf yn gadael iddo ef
ddangos yr ochr araU i'r ddalen i chwi, pa
un a )'dwyf yn goddef i mi fy hun ei
ddolurio, ac ai wnawn farw er mwyn
dangos ei ogoniant i chwi. Deuwch ;
peidiwch ymladd yn hwy ; yn hytrach,
ymdrechwch i fynu gafael. Daniel ! Fy
anwyl frawd, Daniel ! ymaith a'r rhai sydd
yn ei groeshoeHo ef. Dyro heibio dy
ragfarn, rhag i eraiU fesur i chwi yr hyn
ydych chwi yn fesur i eraill." Ar gefn y
YR YMRANIAD.
391
llythyr hwn ceir y nodiad canlynol :
" Ysgrifenwyd hwn at Rowland yn yr
Hen Fynachlog, yn Sir Aherteifi, yn y
flwyddyn 1750, ond ni chafodd ei ddanfon."
Trueni na fuasai y llythyr yn cael myned ;
os na fuasai yn foddion i ail-uno, gallasai
fod yn foddion i rwystro Ihiwer o chwerw-
der yspryd. Dengys ei ysgrifeniad, modd
bynag, fod llawer o'r hen serchawgrwydd
yn aros yn mynwes Harris, ond ei fod yn
orchuddiedig am amser gan haen drwchus
o chwerwder.
Medi 26 a 27, cynhahodd plaid Harris
eu hail Gymdeithasfa, fel y trefnasid yn
flaenorol, yn Llanfair-muallt. Yr oedd
hon yn Ihosocach na'r un yn St. Nicholas.
wedir. Eithr cyfiawnha Harris y gwa-
harddiad a wnaethid yn flaenorol, am fod
lle i gredu pan y gwnaed ef fod y blaid
hono, o herwydd eu tuedd i wadu y dir-
geledigaethau, ac i ddal fod y ddwy
natur wedi eu rhanu, yn tueddu at
Ariaeth. Dengys hyn fod Howell Harris
yn dechreu dyfod i weled nad oedd pell-
der mawr wedi'r cwbl, parthed athraw-
iaeth, rhyngddo ef â Daniel Rowland.
" Ond," meddai y dydd-lyfr, " yr ydym
yn argyhoeddedig nad oes yr un cyfnewid-
iad yn eu hyspryd ; a geiU y datganiad
hwn am dduwdod ein Harglwydd fod yn
unig yn argyhoeddiad y pen, neu ynte yn
tarddu oddiar ystryw, ac nid yn gynyrch
CATEL PRKSKN()I, ],]..\.:..-a:.1 Ll. I .
Cyn dechreu y cyfarfod rheolaidd, bu
Howell Harris yn ymgynghori a'r Ar-
glwydd, ac â John Richard, " am y priod-
oldeb o oddef i'r rhai a ddaethent i'r
goleuni, ac a ddangosent yspryd ufudd
mewn peidio myned i wrando y lleill, pan
y ceisiem hyny ganddynt, ac hefyd a
ddeuent i'r cyfarfodydd ar y Sabbath i
gael eu cynghori, ac i gael siarad yn
bersonol â hwy," i fyned i wrando pleid-
wyr Rowland. Y penderfyniad oedd
gadael iddynt fyned, gan fod pleidwyr
Rowland yn awr wedi gwneyd datganiad
o'u huniongrededd parthed marwolaeth
Crist. Pa bryd, ac yn mha ffurf, y
gwnaethent y datganiad hwn, ni ddy-
unrhyw olwg newydd y maent wedi gael
ar berson yr lachawdwr." Ychwanega
ei fod yn iawn yn awr i rybuddio yr
eneidiau sydd ar hyn o bryd yn tyfu rhag
myned i'w gwrando, oblegyd deddfoldeb
eu hyspryd. Agorwyd y Gymdeithasfa
trwy bregethu. I gychwyn, traddododd
y brawd Relly " bregeth fawr a gogonedd-
us," oddiar PhiL ii. 8 : " A'i gael mewn
dull fel dyn," &c. " Y fath fendith yw
cael yr efengyl," meddai Harris, wrth
Avrando. Ychwanega i'r gogoniant lanw y
cyfarfod, ac y bu raid i'r pregethwr aros
am gryn amser cyn myned yn mlaen. Ar
ei ol pregethodd y brawd John Richard,
oddiar y geiriau : " Y mae tri yn tystiob
392
Y TADAU METHODISTAIDD.
aethu ar y ddaear." Daeth y gogoniant
yn amlwg yn ystod ei bregeth yntau. Yr
oedd Harris wedi siarsio y rhai a ymgyn-
uUasent, cyn dechreu y cyfarfod, nad
oeddynt i guddio nac i roddi atalfa ar eu
teimladau. " Dangosais," .meddai, " mai
ni yw corph Crist, ein bod wedi cael ein
galw y tufewn i'r llen allan o'r cnawd, ac
oni wnawn lawenychu yn yr Arglwydd, a
dangos ein harwydd oddiar benau tai, ein
bod yn gnawdoí, ac nad ydym yn. farw
gyda golwg ar ein henwau yn y byd."
Tueddai hyn i roddi rhaíìf yn y cyfarfod i'r
teimladau a enynid.
Gwaith cyntaf y cyfarfod neillduol oedd
cwestiyno yr holl gynghorwyr oedd yn
bresenoL (i) HoHd hwy am eu gwybod-
aeth o'n Harglwydd. Cafwyd fod hawer
yn anwybodus am dano, ond ymddangos-
ent yn syml, ac o un yspryd ; yr oedd
eraill wedi cael cipolwg arno ; tra yr ôedd
eraill yn dyfod i fynu i'r goleuni. (2)
HoHd hwy am yr ymraniad. Cydunai
pawb ei fod o Dduw, a bod yspryd y rhai
a'u gadawsent hwy wedi gadael yr Ar-
glwydd, a"u bod yn adeiladu ar dywod
hunan-ddoethineb, tra yr oedd pleidwyr
Harris yn adeiladu ar y graig, trwy gred-
iniaeth wastadol. (3) Hohd hwy am
Madam Grifftths, a oeddent yn ei gweled
yn iawn ac yn Ysgrythyrol, ac yn teimlo
yn rhydd yn eu calonau, iddi ddyfod i'r
Cymdeithasfaoedd, a bod yn un o'r frawd-
oHaeth. Datganodd amryw ddarfod idd-
ynt fod yn rhwym yn ngefynau rheswm, ond
yn awr eu bod wedi cael eu cadarnhau yn
yr Arglwydd, ac yn ei Air, a'i Yspryd ; fod
Madam Griffiths wedi bod o ddirfawr
fendith iddynt, i brofì calonau ac yspryd-
oedd y rhai oeddynt yn aros, a thrwy yru
ymaith y rhai cnawdol. Canlyniad yr
arhoHad oedd cael fod y cynghorwyr yn
rhanedig i dri dosparth. Cynwysai y dos-
parth cyntaf ddeuddeg. Yr oedd y' rhai
hyn yn y goleuni, ac yn canfod gogoniant
yr lachawdwr. Rhenid y dosparth i ddwy
adran. Cynwysai yr adran ílaenaf y rhai
oeddynt yn gymhwys i fod yn dadau, sef
John Sparlcs, ReHy, Thomas WiHiams,
John Richards, a WiHiam PoweH, yn
nghyd ag un araH na roddir ei enw. Cyn-
wysai yr ail adran chwech o ddynion
ieuainc oeddynt wedi dyfod at y gwaed,
sef Roger WiHiams, Stephen Jones,
Thomas Jones, Edward Jones, Edward
Bowen, a Thomas Davies. Yr oedd yr
ail ddosparth hefyd yn rhifo deuddeg ; a
gwneHd ef i fynu o rai cryfìon, oedd yn
gweled eu cwbl yn Nghrist, ac yn tynu at
y goleuni a'u holl egni. Y rhai hyn oedd-
ent Rue Thomas, Henry Thomas, Richard
Edwards, Richard Tibbot, Richard Wat-
kins, Rue Morgan, John WiHiams, Thomas
Meredith, ac Evan Thomas. Ni roddir
enwau y tri araH. Yr oedd y trydydd
dosparth yn gynwysedig o bedwar-ar-
hugain, y rhai oeddynt yn weiniaid, ond
yn meddu yr un syniadau athrawiaethol,
a'r un yspryd. Ychwanegir fod rhai o'r
dosparth hwn mewn amheuaeth am
Madam Griffiths.
Ceir y penderfyniadau a ganlyn yn
mysg y cofnodau : " Gan ein bod yn
gweled y fath amryfusedd cadarn yn
gweithio yn y brodyr eraiH (plaid Row-
land), a'r fath yspryd drwg yn dangos ei
hun ynddynt mewn amrywiol ífyrdd, a'r
moddion a ddefnyddiant i hudo y gwan,
cafwyd cryn ddadl ar y priodoldeb o fyned
i wrando arnynt, ac ymddiddan â hwyní.
Cydunodd yr hoH frodyr i roddi rhyddid i'r
rhai a ddewisent fyned, fel y gaHent farnu
drostynt eu hunain, hyd nes y byddent
wedi gwneyd eu meddyHau i fynu i ym-
adael atynt hwy, neu ynte i ymuno â ni ;
ond gwedi hyny nad oeddynt i fyned i'w
gwrando hyd nes y byddai i'r hoH Gym-
deithasfa gael ei boddloni ynddynt.
" Cafwyd dadl ar y rhai a wahoddent
atynt y blaid araH a ninau. Cydunasom
yn (i) Gyda golwg ar y rhai ydynt mewn
amheuaeth gyda golwg ar dderbyn y ddwy
blaid i'w tai i bregethu, ein bod yn pre-
gethu yn eu mysg hyd y Gymdeithasfa
nesaf, neu hyd nes y gwnelont eu medd-
yhau i fynu i uno â ni, neu â hwy. (2)
Ein bod i bregethu yn mysgy rhai cnawd-
ol sydd yn eu galw hwy a ninau, ar yr
amod eu bod yn cadw y He yn agored i
ni, yn ddifwlch, pa bryd bynag y deuwn."
Trefnwyd hefyd fath o gyfeisteddfod
gweithiol, cynwysedig o ugain o bersonau,
gyda Howell Harris yn ben arno, i ben-
derfynu pob peth amgylchiadol. NeiH-
duwyd brodyr i gymeryd gofal y seiadau,
ac i ymweled â gwahanol ranau y wlad.
Eithr nid oedd y Gymdeithasfa i derfynu
heb ryw gymaint o ddiflasdod. Daeth un
Joseph Saunders ag achwyniadau yn er-
byn Madam Griffiths. Trodd Harris ef
allan ar unwaith. Trodd Thomas Seen
aHan yn ogystal, am nad oedd yn gweled
gwaith yr Arglwydd yn Madam Griffiths,
ac yn WiHiam PoweH. Parodd hyn i'r
priodoldeb o gael Madam Griffiths yn y
Cymdeithasfaoedd a'r seiadau gael ei
YR YMRANIAD.
393
ddadleu drachefn. Amheuai Richard Tib-
bot hawl benywod i lefaru yn gyhoeddus.
Dygodd hyn Howell Harris i fynu ; dy-
wedai y dylent nid yn unig ei goddef, ond
teimlo yn fraint ei chael ; ei bod yn golofn
o oleuni, a bod y dystiolaeth wedi ei seHo
yn ei chalon. Boddlonodd Tibbot. Teimla
Harris iddynt gael Cymdeithasfa fendig-
edig, mai yn awr yr oedd y gwaith yn
dechreu mewn gwirionedd, fod y brodyr
eraill yn yr anialwch, eu bod fel Saul,
wedi colli y deyrnas, a'u bod yn defnyddio
moddion cnawdol i dynu pobl atynt. Ych-
wanega ddarfod i James Relly, George
Gambold, John Harry, a John Harris, y
tri diweddaf o Sir Benfro, ymuno â phlaid
Harris dair wythnos gwedi y Gymdeith-
asfa ; a bod Ilawer yn Siroedd Fflint,
Dinbych, Meirionydd, Môn, a Chaernar-
fon, wedi uno, ond nad oeddynt eto wedi
eu gosod mewn trefn.
Ar y dydd cyntaf o Hydref, cychwynodd
am Sir Benfro, gan alw ar ei daith yn
Llwynyberllan, a Chaerfyrddin, a rhai
Ileoedd eraill, ac yr oedd John Sparks, a
Madam Griffiths yn gymdeithion iddo.
Ar y ffbrdd, eglurodd iddynt y cynllun o
fFurf-Iywodraeth oedd wedi dynu allan i'r
seiadau a Iynent wrtho. Yn mlaenaf, yr
oedd Cymdeithasfa Gyffredinol i gael ei
chynal, cynwysedig o efengylwyr, cyng-
horwyr, ac henuriaid, tua haner cant
mewn rhif, o wahanol ranau y wlad. Ei
gwaith fyddai rhoddi math o gymeradwy-
aeth gyffredinol i'r hyn oedd wedi ei ben-
derfynu yn flaenorol mewn cylch mwy
mewnol ; ac yr oedd pob aelod o honi i
gael cyfleustra i ddangos y goleuni oedd
ynddo. Yn mhellach, ynddi yr oedd cer-
yddon cyhoeddus, a dysgyblaeth gyhoedd-
us i gael eu gweinyddu, a phob mater a
ddaliai gysylltiad a'r holl Gorph i gael ei
drafod, Yn nesaf, yr oedd Cymdeithasfa
fwy mewnol i fod, cynwysedig o tua
phump-ar-hugain o efengylwyr a henur-
iaid. I hon dysgwylicl i bob aelod i
ddyfod a holl gynyrch ei sylwadaeth, gyda
golwg ar achosion tymhorol ac ysprydol,
i'w Iledu gerbron yr Arglwydd ; ynddi yr
oedd materion i gael eu penderfynu cyn
eu dwyn i'r Gymdeithasfa Gyífredinol ;
ynddi hefyd yr oedd y pregethwyr i gael
eu harholi a'u derbyn, gwahanol achosion
i gael eu gwrandaw a'u penderfynu, a
chyfarwyddiadau i gael eu rhoddi parthed
priodas a dysgyblaeth. Yn drydydd, yr
oedd corph mwy mewnol drachefn i fod,
cynwysedig o'r efengylwyr oeddynt dadau.
y rhai yr oedd meddwl Crist ganddynt, ac
a oeddynt yn byw gydag ef, ac felly a
feddent synwyrau ysprydol wedi cael eu
hawchlymu, fel y gallent wahaniaethu
rhwng gwirionedd a thwyll. I'r corph
mwyaf mewnol hwn yr oedd achosion o
anhawsder i gael eu dwyn, ynddo y profid
yr ysprydion, yr amlygid y pethau mwyaf
dirgel, ac y penodid i bob un y Ile yn mha
un y mynai yr Arglwydd ei osod. Meddai
Harris : " Y corph hwn yw bywyd a
chalon y Gymdeithasfa fewnol, ac hefyd y
Gymdeithasfa Gyffredinol, yn nghyd â
holl gyfanswm yr eneidiau sydd wedi cael
eu gosod dan ein gofal." Gwelir fod y
cynllun hwn o ffurf-Iywodraeth eglwysig
yn ei feddwl yn y Gymdeithasfa yn Llan-
fnir-muallt, er mai yn awr y gwna ei
datguddio, ac mai er mwyn ei roddi mewn
gweithrediad y cynhaliwyd arholiad ar y
cynghorwyr yno, ac y cawsent eu rhanu
yn dri o wahanol ddosparthiadau. Bu yn
Sir Benfro am bythefnos, gan wneyd ei
oreu i ddwyn seiadau y sir i berthyn i'w
blaid, yn yr hyn y cynorthwyid ef yn
zêIog gan John Sparks. Gwnelai ei gar-
tref yn Hwlffordd, ac oddiyno elai ar
wibdeithiau i'r holl wlad o gwmpas. My-
nega iddo gael ei siomi yn enbyd na ddaeth
John Harry, y cynghorwr, ato yn St.
Kennox ; i'w absenoldeb ei wanu fel brath
cleddyf. Gwelir felly nad cywir y nodiad
yn nghofnodau Cynideithasfa Llanfair-
muallt am y cynghorwr hwn. Un noson,
yn y seiat breifat yn Hwlffordd, daeth y
diafol i mewn. Dangosodd ei bresenoldeb
trwy beri i rywun holi parthed y priodol-
deb o fyned i wrando Howell Davies yn
pregethu. Nid oedd Harris yn barod i
ateb, felly ceryddodd y dyn am ofyn y fath
gwestiwn. Dywedai ei bod yn rhy hwyr
i ymdrin a'r mater y noson hono ; nad
oedd neb i lefaru ond efe, ac mai efe, am
y pryd, oedd genau Duw. Dywedodd, yn
mhellach, fod y mwyafrif o'r cynghorwyr
a'r aelodau perthynol i dŷ cwrdd Hwl-
ffbrdd yn cydweled ag ef ; ond yn hytrach
nag ymladd, os byddai y blaid arall yn ei
hawlio, yr ai efe a'i ganlynwyr allan i'r
heol. Yr un seiat cyfododd anghydweled-
iad rhyngddo â John Sparks, a Madam
Griffiths, am fod y ddau yn sibrwd wrth
eu gilydd pan fyddai ef yn siarad yn y
Gymdeithasfa. Mor ddolurus oedd ei
deimlad fel y gadawodd y cyfarfod a'r dref
yn ddisymwth, gan fyned tua St. Kennox.
Yno, holai ei hun ai nid oedd gwaith
Madam Griffìths ar ben, neu ynte, ai nid
394
y TADAU METHODISTAIDD.
ewyllys yr Arglwydd oedd tori y Cyfundeb
Methodistaidd i fynu yn hollol ? Yn
raddol, modd bynag, llonyddodd ei deim-
lad, ac aeth yn ei ol i Hwlffordd, at y
brodyr a'r chwiorydd, gan gyfaddef ei
edifeirwch.
O Sir Benfro teithiodd trwy ranau isaf
Sir Aberteifì, a'r rhanau agosaf iddi o Sir
Gaerfyrddin, ond cafodd fod y rhan fwyaf
o'r seiadau yn cydymdeimlo â Rowland.
Bu yntau yn dra llym wrthynt o'r herwydd,
gan ddweyd nad oedd am ymweled â hwy
drachefn, oddigerth iddynt roddi iddo y
lle a gawsai gan Dduw. Wedi cyrhaedd
Llwynyberllan yn ei ol, croesodd dros y
mynyddoedd i'r Hen Fynachlog, lle o fewn
eidfa fawr yn yr Hen Fynachlog, a chwedi
pregethu, cadwodd seiat breifat. Dy-
wedodd yno drachefn am ei anwyldeb at
Rowland, ond fod yn rhaid iddo yn awr
ymladd yn ei erbyn. Ymddengys, modd
bynag, iddo ddeall mai nid oddiar ddyb-
enion crefyddol yr oeddynt wedi anfon am
dano, a dywedodd na ddeuai yno drachefn,
hyd nes y byddent wedi ymffurfio yn
rheolaidd, ac wedi anfon am dano, nid
oddiar ragfarn at y brawd Rowland, ond
oddiar ofn Duw, ac yspryd cariad. Tran-
oeth, croesodd y Mynydd Mawr, ac wedi
ymweled ag amryw leoedd yn Sir Faes-
yfed a Brycheiniog, dychwelodd i Dre-
fecca.
EGLWYS ST. NICHOLAS, SIR FORGANWG.
rhyw filltir i Bontrhydfendigaid, ac heb fod
dros ddeg miUtir o Langeitho. Ymddeng-
ys fod y ddeadell yma yn wrthwynebol i
Rowland, a'u bod wedi anfon gwahoddiad
i Harris ymweled â hwy. Wrth ei fod yn
pasio trwy Dregaron, llanwyd ei yspryd â
chariad dirfawr at Rowland. " Yr wyf
yn gweled mai fy mrawd ydyw,"' meddai ;
" yr wyf yn llawen am mai efe sydd yn
ben (ar y brodyr oedd wedi ymwrthod â
Harris) ; ac y mae yn flin genyf weled
cynifer o wiberod o'i gwmpas, yn ei frathu
ac yn ei wenwyno." Gwehr fod Harris,
yn nyfnder ei yspryd, yn gorfod anwylo
Rowland, a'i fod yn beio rhywrai oedd o'i
gwmpas yn fwy nag efe. Cafodd gynull-
Ar y dydd olaf yn Hydref, cyfarfyddodd
corph mewnol y Gymdeithasfa yn'Nhre-
fecca, Llefarodd Harris yn helaeth am
ddyfod i feddu yr un goleuni, onide na
fyddai yr undeb rhwng yr aelodau yn
ysprydol o gwbl, eithr yn undeb cnawdol, fel
eiddo y blaid oedd wedi ymranu. Trowyd
dau gynghorwr, sef William James, a Rue
Thomas, allan o'r cyfarfod, i weddío, am
nad oeddynt yn tyfu, ac nad oedd pwys y
gwaith yn gorphwys ar eu hysprydoedd, ac
hefyd am nad oeddynt yn gallu ymwthio
yn mlaen oddifewn i'r llen. Ychydig o
wahaniaeth a welai Harris rhwng eu
hysprydoedd ag eiddo y blaid arall. Am-
Iwg fod ei safon o'r hyn a ystyriai yn
YR YMRANIAD.
395
ysprydolrwydd yn yinddyrchafu yn gyflym,
a'i bod ar gyrhaedd pwynt uwchlaw yr
hyn sydd yn bosibl i'r cyffredin o dduwiol-
ion.
Cawn ef ar y ^edd o Dachwedd yn
cychwyn ar daith i'r Gogledd. Gwedi
ymweled ar ei ffordd ag amryw leoedd yn
Sir Faesyfed, y mae, dydd Gwener,
Tachwedd g, yn cyrhaedd Llwydcoed, yn
Sir Drefaldwyn. Nid oedd pall ar ei
wroldeb wrth wrthwynebu yr anhawsderau
a welai o'i flaen. " Y mae fy yspryd,"
phregethodd yno drachefn ar y geiriau :
" A ydych chwi yn awr yn credu ? "' Ym-
ddengys iddo gael odfa nerthol iawn.
Dangosai dri nod yr etholedigion, sef eu
bod yn cael eu dysgu gan Dduw ; eu bod
yn adnabod Ilais Crist, ac yn gwrando
arno ; a'u bod yn edrych ar yr hwn a
wanasant. Taranai yn ofnadwy yn erbyn
yr yspryd hunanol a balch oedd wedi dyfod
i fewn i fysg y rhai a fuasent unwaith yn
syml, ac yn barod i gymeryd eu dysgu.
" Rhybuddiais y bobl," rneddai, " rhag
LAPi, I, iitiaiiL,
MilioLAs, «Ut l'UlHiANWG.
meddai, " uwchlaw holl ddiaflaid y Gog-
ledd; yr wyf yn edrych arnynt fel gwybed."
Yn Llanrhaiadr Mochnant, un awr yr
arhosodd, i gael ymborth iddo ei hun a'i
anifail, ac yna, trafaelodd trwy y nos, gan
gyrhaedd Mwnglawdd, Ile heb fod yn
nepell o \Vrexham, boreu y Sadwrn.
Pregethodd yma gyda dylanwad mawr ar
y Drindod, bwyta cnawd ac yfed gwaed
Mab y Dyn, a dangosai am farwolaeth
Duw, ei fod uwchlaw dirnadaeth y cnawd.
Yn Mwnglawdd yr arosodd dros y Sul, a
gwrando ar reswm, ac anogais hwynt i
wrando ar yr Arglwydd yn unig ; am
iddynt ein gadael ni i'r Arglwydd. Dy-
W'edwn fy mod w'cdi dyfod i droi eu
calonau at yr Arglwydd ; nad oedd genyf
un gwaith arall, ' ac oni chlywch lais
Crist ynom ni,' meddwn, ' yn cyrhaedd
eich calonau, gadewch ni. Nid yw o un
pwys beth a fuoch, beth ydych yn awr yw
y pwnc. Bu Saul yn mysg y prophwydi,
a'r morwynion ffol yn mysg y morwynion
call, ond nid ydynt gyda hwy yn awr.
396
Y TADAU METHODISTAIDD.
Gwrthddadl : Felly, yr ydych yn dal
syrthiad oddiwrth ras ? Nac ydym ; nis
geill y rhai sydd ar y graig syrthio, ond
pwy ydynt ? Yr ydym yn galw llawer yn
frodyr na wna Duw arddel. Rhaid i mi
siarad yn blaen wrthych ; nid yw o un
pwys genyf beth a ddywedir am danaf,
oblegyd nid trosof fy hun yr ydwyf wedi
dod, eithr dros yr Arglwydd.' Dywedais,
yn mhellach, mai Diwygwyr yn yr Eglwys
ydym, ac nad oeddym yn eglwys nac yn
sect ar wahan."
Diau fod y bregeth hon yn esiampl bur
deg o'i genadwri yr adeg yma at seiadau
Gogledd Cymru. Prydnhawn y Sul, aeth
i dref \Vrexham, lle y pregethodd oddiar
y geiriau : " A thrwy ei gleisiau ef yr
iachawyd ni." " Odfa gyda llawer o
ryddid mewn modd syml," y geilw hon.
Aeth yn ei ol i Mwnglawdd nos Sul, lle y
pregethodd drachefn. Gwedi y bregeth,
cadwodd seiat breifat, a siaradodd yn hir
ar enedigaeth, dyoddefìadau, a gwaed
Duw. " Llefais," meddai, " ychydig, yn
ol pob tebyg, a gaiff Duw yma yn
foddlon i gymeryd eu dysgu ganddo, tra y
bydd eraill, ar ol iddynt ei brofi am lawer
blwyddyn, a'i gael ef yn ffyddlon, yn ei
adael, gan ymddiried yn eu doethineb eu
hunain, ac yn eu cof, ac mewn llyfrau.
Yr oedd y gogoniant yma, a daeth yr
Arglwydd i lawr mewn gwirionedd, i
gadarnhau yr eneidiau. Gwedi hyn, bum
gyda'r pregethwyr hyd ddau o'r gloch y
boreu, agorwyd fy ngenau yn wár i roddi
gofal yr eneidiau yn y lle yma iddynt, yn
yr un geiriau ag y gwnaeth Paul i hen-
uriaid Ephesus. Eto, nid myfi a lefarai,
eithr yr Arglwydd ynof fi." Dydd Llun,
cawn ef yn Llansanan, a phregethodd,
gyda chryn ryddid, i ychydig o eneidiau
syml oeddynt yn barod i wrando yr
efengyl. Nos Lun, y mae yn yr Hen
Blas, ac yn pregethu oddiar y geiriau :
" Gwir yw y gair, ac yn haeddu pob
derbyniad." Ei destun yn y Plasbach,
boreu dydd Mawrth, oedd : " Wele yr
wyf yn sefyll wrth y drws ac yn curo."
Dywed fod awdurdod rhyfedd yn cydfyned
a'i eiriau. " Dangosais i bwrpas," meddai,
" fel y mae yr Ysgrythyr yn dwyn tystiol-
aeth i ogoniant y Dyn hwn ; nad digon
credu fod Duw ynddo, neu gydag ef, ond
mai efe yw y Perffaith, a bod ei waed yn
waed Duw," Ychwanega : " Y fath us
sydd i'w gael yn awr yn mhob man ! Y
mae Uawer yn cael eu taflu o gwmpas, ac
yn cael eu profi, gan yr ymraniad hwn.
Ychydig yn y rhanau hyn o'r wlad sydd
wedi cael eu deffro, er fod yma lawer o
bregethu." Ai ychydig wedi eu deffro fel
ag i ymuno â chrefydd a olyga, ynte wedi
eu deffro i ganfod pethau yn yr un goleuni
ag ef, sydd ansicr.
Dydd lau, y mae yn Waunfawr, ger
Caernarfon, ac yma y cenfydd, am y tro
cyntaf, bamphledyn Daniel Rowland.
" Neithiwr," meddai, " gwelais gyhuddiad
yr anwyl frawd Rowland yn fy erbyn, sef
fy mod yn dal pedair o heresiau ; gwadu y
term ' Person,' dal i'r Tad ddyoddef ac i
Dduw farw, fod corph Crist yn holl-
bresenol, a'm bod wedi ymchwyddo.
Pwysais y cyhuddiadau hyn gerbron yr
Arglwydd, a chefais fy mod yn ddieuog."
Nid ydym yn sicr beth a olyga wrth
" ddieuog." Prin y gallai wadu ei fod yn
dal rhai o'r athrawiaethau a dadogir arno
gan Daniel Rowland ; defnyddiai yr ym-
adrodd am farwolaeth Duw yn fynych
wrth bregethu yn ystod y daith hon ;
efallai mai ei feddwl yw nad oedd y
golygiadau y dywedir ei fod yn eu coleddu
yn heresiau. Ond y mae yn amlwg fod
ei deimlad at Rowland yn dyfod yn llai
dohirus. " Yr oeddwn yn ofidus," meddai,
" ddarfod i'r brawd Rowland ysgrifenu fel
hyn ; byddai yn dda genyf pe bai yn
cymeryd y papyr, ac yn ei olchi yn y
gwaed, a'i gyflwyno i'r Arglwydd." Dydd
Gwener, aeth i Leyn, i Brynengan, yn ol pob
tebyg, a phregethodd oddiar Zecharias xii.
lo. Yn y seiat breifat, dangosai fod yr Ar-
glwydd wedi dyfod i'w mysg a'i wyntyll, ac
aeth yn fanwl ac yn helaeth dros ei hanes ei
hun o'r cychwyn, yn nghyd ag achos yr
ymraniad rhyngddo a phlaid Rowland.
Dydd Sadwrn, nlae mewn Ue yn Sir Fôn,
o'r enw Ysgubor Fawr ; ei destun yw :
" Yn y byd gorthrymder a gewch." Yma,
cafodd ei daro yn glaf, fel y methodd fyned
yn ei flaen i Lanfihangel, fel yr arfaeth-
asai ; dywed, hefyd, ei fod yn isel ei
yspryd. Medrodd fyned yno y Sul, modd
bynag, a phregethcdd am anfeidroldeb
dyoddefiadau Crist. Dydd Mawrth, cawn
ef eto yn Waunfawr, yn troi ei wyneb
tuag yn ol. " Yn awr," meddai, " yr wyf
yn troi fy wyneb o'r Gogledd am gartref,
gwedi cyflawni gwaith fy Arglwydd, yr
wyf yn gobeithio, ac wedi gosod yn nghyd
ychydig feini, gan wahanu rhwng y cred-
inwyr a'r annghredinwyr, a'i gwneyd yn
hawdd i'r rhai sydd yn y ffordd i dyfu."
Y mae y frawddeg nesaf yn cyfeirio at
rywbeth a'i cyfarfyddodd, nas gwyddom
YR YMRANIAD.
397
ei natur na pha le y digwyddodd : " Fy
mywyd yn trin a achubwyd o safn y
llew ; atebodd y pwrpas o drywanu fy
nghnawd, a dinystrio y sothach oedd ynof,
gystal a phe buaswn wedi cael fy nwyn
i brawf. Y maent hwy yn erhd, nid
gyda cherig a phastynau, ond â geiriau
gwenwynig."
Nos tranoeth, cyrhaeddodd y Bala. Ei
destun ydoedd : " Yn hyn yr adnabuom
gariad Duw, oblegyd dodi o hono ef ei
einioes drosom ni." " Cadwyd íì rhag
suddo," meddai, " cefais awdurdod, a
rhyddid, a nerth, y fath na chefais erioed
o'r blaen yma. Dangosais yr angenrheid-
rwydd am yr Yspryd, ac eiddilwch pob
moddion hebddo ; yr oeddwn yn llym
at annghrediniaeth, ac at anwybodaeth
am Grist. Dywedais y rhaid i mi fod yn
ffyddlon, a llefaru y gwirionedd i'r amcan
hwn ; fy mod yn gadael pob peth er
myned oddiamgylch. Yna, Ilefarais yn
llym wrth y credinwyr am iddynt aros
ynddo, trwy barhau i gredu ; mai hyn yw
ein dyledswydd, ac nad yw pob gras ydym
wedi dderbyn o un gwerth i ni yn ymyl
hyn." Beth a fu ei ddylanwad yn y I3ala,
nis gwyddom ; nid y w yn dweyd pa un a
Iwyddodd i droi y seiat o'i blaid. Y dydd
Sul canlynol, yr ydym yn ei gael yn
Llanfair-Careinion, Ile y pregetha oddiar
yr un testun ag yn y Bala. Pregethodd
yno nos Sul, yn ogystal ; ei destun
ydoedd : " Gwir yw y gair ; " eithr dywed
na chafodd fawr ryddid hyd nes y dechreu-
odd lefaru am ddirgelwch Crist. " Dyma
y genadwri a roddir i mi yn mhob man,"
meddai. Y dydd Mawrth canlynol, yr
oedd yn y Fedw, Ile y pregethodd oddiar
y geiriau : " Y mae hwn yn derbyn
pechaduriaid." Dywed : " Wrth weddío,
a chanu, a phregethu, dyrchafwyd fi
uwchlaw y diafol yn mhawb, a chefais
ryddid dirfawr i ddangos gogoniant y
Dyn hwn, Dangosais mai efe yw y Duw
tragywyddol ; y bydd i bob cnawd addef
ei Dduwdod yn y man ; ei fod yn Dduw
yn mhob man, ond na fu Duw farw.
Eglurais i'r Anfarwol farw, ei fod yn byw
pan yn angau, ac yn ogoneddus a mawr.
Ni addefent hwy (plaid Rowland) ei fod
yn Dduw, eithr fod Duw gydag ef, ac
ynddo, a'i fod yn berffaith." Yn sicr, nid
yw hyn yn ddarnodiad cywir o syniadau
Rowland, credai efe yn nuwdod y Gwar-
edwr lawn mor ddiysgog a fiarris ei hun.
Ychwanega : " Gelwais seiat breifat ar ol,
ond yr oedd cymaint o'r diafol yn eu
mysg, fel yr aethum allan, ac y gadewais
hwynt." Yna, aeth i gyfeiriad Sir Aber-
teifi, ac ymwelodd a'r Hen Fynachlog eto.
Hawdd gweled ei fod yn awyddus am gael
gafael yn rhai o seiadau Sir Aberteifi, yr
hon a ystyrid fel yn perthyn yn arbenig i
Daniel Rowland. Dywed iddo glywed am
ryw wraig yn Northampton, oedd wedi
prophwydo y byddai un yspryd, un athraw-
iaeth, ac un eglwys trwy yr holl deyrnas.
Credai efe mewn prophwydoliaeth, a
chafodd y dywediad le mawr yn ei feddwl.
" Oni wrthid y genedl yr efengyl," meddai,
" bydd heddwch a gogoniant mawr ; ond
os fel arall, nid oedd y ddaeargryn ond
arwydd o farn." Oddiyma, aeth adref
trwy Lwynyberllan.
Yr oedd ei weithgarwch yr adeg yma
yn ddiderfyn : ac y mae yn sicr fod cyffro
enbyd yn y seiadau trwy yr holl wlad.
Yn wir, ymledai y cyfFro i'r Eglwys
Sefydledig, ac i fysg yr enwadau Ym-
neillduol ; a chymerai yr Eglwyswyr a'r
Ymneillduwyr blaid Rowland. Ar y
ddeunawfed o Rhagfyr, 1750, cawn ef yn
St. Andrew's, ger Caerdydd, ac fel hyn yr
ysgrifena : " Dyma ddyddiau ardderchog
mewn gwirionedd. Y mae pawb yn cael
eu profi, eu hysgwyd, a'u gwyntyllu.
Yr holl weinidogion YmneiIIduol, a'r holl
offeiriaid, ein brodyr ein hunain, ydynt
mewn arfau yn fy erbyn. Yma, yr wyf
yn cael Mr. Lewis Jones wedi aros, yn fy
ngwrthwynebu, a dynoethodd fi neithiwr
wrth bregethu. Aeth un o'r brodyr gau
at yr offeiriad yma i'm dynoethi, ac yr
oedd yntau am anfon am y cwnstabli ar
unwaith i'm cymeryd. Pan glywais y
pethau hyn, Ilawenychodd fy yspryd ynof.
Teimlwn y groes yn dra melus, ac yr
oedd y syniad am gael fy nghymeryd yn
foddhaol iawn genyf." Nid oes amheu-
aeth nad oedd yspryd erledigaeth yn
rhedeg yn uchel o'r ddau tu, fod plaid
Harris a phlaid Rowland yn camddarlunio
geiriau a gweithredoedd eu gilydd, a
bod Ilawer o fustl chwerwder o'r ddwy
ochr. Ar y 22ain o Rhagfyr, pre-
gethai yn Mhontypridd, a thra yr oedd
wedi hoelio sylw'r gynulleidfa, darfu i
ryw YmneiIIduwr, Ilawn o'r diafol, ei
wrthwynebu yn gyhoeddus. Trodd
Harris arno ; aeth yntau allan o'r
cyfarfod, a rhywun arall, Ilawn o'r diafol,
fel ei hun, gydag ef, ac yna daeth yr
Arglwydd i lawr.
Ar y dydd olaf o"r flwyddyn 1730, a'r
dydd cyntaf o'r fiwyddyn newydd, cyn-
398
Y TADAU METHODISTAIDD.
helid math o gyfarfod rhagbarotoawl i'r
Gynideithasfa gan Howell Harris a'i blaid
yn Llwynyberllan. Ymddengys mai cyf-
arfod y " Corph mewnol " ydoedd ; ac yr
oedd tua phump-ar-hugain yn bresenol,
yn mysg pa rai, heblaw Harris ei hun a
Madam Grilîfiths, y cawn Richard Tibbot,
John Sparks, John Richard, ac eraill o
ryw gymaint o enwogrwydd. Yr oedd yr
hunanymwadiad a ofynai Harris gan y
cynghorwyr, a'r ddysgyblaeth a gadwai
arnynt, yn dechreu dyfod yn annyoddefol
o lym ; ac un o brif orchwyhon y gwahanol
Gymdeithasfaoedd oedd gwyntyllu y pre-
gethwyr, er cael gweled pwy a ddeuai i
fynu a'r safon. Rhoddwyd hwy dan ar-
hoUad caled yn Lhvynyberllan. Gofynid
tri chwestiwn iddynt : (i) A oedd eu
gwybodaeth o Grist yn yr yspryd, ynte yn
y pen yn unig ? (2) A oeddynt yn meddu
llawn sicrwydd eu bod wedi cael eu galw
ganddo i bregethu ? Ac os felly, a oedd-
ynt yn feirw i bob math o amcanion
personol, ac yn barod i ddyoddef pob math
o galedi, oerfel, newyn, noethni, a phob
cyffelyb groesau ? (3) A oeddynt yn
ymlynu wrth waith hwn y diwygiad, fel y
mae yn cael ei gario yn mlaen oddifewn i'r
Eglwys Sefydledig ? Braidd nad yw yn
gofyn ganddynt i hunanymwadu a'u
hewyllys ac a'u barn, a bod yn gwbl
ddibris o'u hamgylchiadau, gan fod yn
fath o beirianau yn ei law ef, i fyned o
gwmpas, ac i weithredu fel eu gorch-
ymynid. Er caleted y prawf, atebodd y
cynghorwyr y gofyniadau yn foddlonol,
rhai gyda mwy a rhai gyda llai o ffydd.
Eithr yr oedd un cwestiwn llosgawl yn
aflonyddu meddyliau y cynghorwyr, sef
presenoldeb a swyddogaeth Madam Grif-
fiths, " y Llygad," yn y Gymdeithasfa.
Mewn gwirionedd, hi a lywodraethai i
raddau mawr, gan y credai Harris fod
meddwl Duw ganddi ; a phan y gweith-
redai mewn rhyw amgylchiad heb ymgyng-
hori â hi, nid esgeulusai hithau ei geryddu
yn llym. Yr oedd ei llywodraeth yn
pwyso fel hunllef ar y pregethwyr, a dyma
y mater yn dyfod i'r bwrdd. " Gwedi
hyn," meddai Harris, " pan nad oedd
Madam Griffìths yn cael rhyddid i siarad,
mi a aethum allan, a thorwyd y cwbl i
fynu mewn annhrefn." Ai y cynghorwyr
a"i rhwystrent i lefaru, gan wrthod
gwrando ; ynte hi a deimlai nas gallai
siarad fel arfer, am nad oedd y cyfarfod
mewn cydymdeimlad â hi, nis gwyddom.
\^r olaf sydd fwyaf tebyg. Parhaodd yr
annhrefn a'r dyryswch am bum' awr ;
Madam Griíîfìths yn bygwth ymadael, a
Harris a rhai o'r cynghorwyr yn crefu
arni beidio ; " a'r Arglwydd a'i cadwodd
rhag myned," meddai y dydd-lyfr. O
gwmpas deuddeg, cyfarfyddwyd drachefn,
buwyd wrthi yn dadleu hyd dri o'r gloch
y boreu, ac yna trodd y fuddugoliaeth o
blaid Harris. " Gwedi brwydr enbyd a
maith â Satan," meddai, " o gwmpas tri
o'r gloch y boreu, daeth yr Arglwydd i
lawr, ac unodd hi a minau â hwy." Diau
genym mai parch, yn ymylu ar fod yn
addoliad, i I^owell Harris a barodd i'r
brodyr roddi ffordd. Cyfodasai Harris yn
y canol, gan ofyn pwy oedd yn teimlo ar
ei galon i roddi ei hun, enaid a chorph, i'r
x\rglwydd, ac i'w gilydd dros byth ? Y
cyntaf i ateb yr alwad oedd Thonias Jones ;
y nesaf oedd Thomas Williams, yn dra
difrifol ; gwedi hyny, amryw eraill, ac yn
eu mysg Richard Tibbot. "Yna," medd
y cofnodau, " mor fuan ag yr oedd pob un
yn ildio, yr oedd gogoniant gweledig yn
gorphwys arno, a theimlai pawb berthynas
a'u gilydd na wyddent am ei chyffelyb o'r
blaen, a theimlent bob peth yn gyffredin."
Yn awr y gwelai Harris sylfaen teml
Dduw yn Nghymru yn cael ei gosod i
lawr. Hawdd gweled eu bod wedi colli
pwyll a barn, gan ymgladdu yn y cyfriniol
a'r dychymygol. Ond yr oedd amryw o'r
brodyr yn petruso, wedi y cwbl, a gwrth-
odasant ateb ar y pryd.
Ar yr ail o lonawr, yr oedd y Gym-
deithasfa yn Dyserth. Yn Llanfair-
muallt, ar y ffbrdd tuag yno, pregethodd
Thomas Williams a John Relly. Agorwyd
y Gymdeithasfa gyda phregeth rymus gan
John Sparks. Yna, dechreuodd Harris
lefaru, am yr angenrheidrwydd anorfod i
bawb roddi eu hunain i fynu i'r Arglwydd,
i'w waith, ac i'w gilydd ; fod yr. amser
wedi dyfod yn awr i osod i lawr y sylfaen,
ac i ymuno yn nghyd. Yna, gofynai,
megys y gwnaethai yn Llwynyberllan :
" Pwy sydd yn awr yn barod i adael pob
peth er mwyn Duw a'r gwaith hwn ?
Pwy a fedr roddi ei enaid, ei gorph, a'i
yspryd, yn nghyd a'r oll ag ydyw, a'r oll
sydd ynddo, i'r Arglwydd, ac i ni, ei frodyr
a'i weision ? " Crybwyllodd fod deg o
honynt wedi cydymrwymo i wneyd hyny
yn Llwynyberlian. Cododd nifer mawr i
ddangos eu parodrwydd, ac wrth eu
gweled ar eu traed, sibrydai y cynghorwr
William Powell wrth Harris : " Y mae yr
Arglwydd yn gwneyd gwaith mawr."
YR YMRANIAD.
399
Eithr aeth nifer allan heb ateb, ac yn eu
mysg rai oeddynt wedi rhoddi i mewn yn
Llwynyberllan, sef John Richard, Llan-
samlet, Thomas Bowen, Llanfair-muallt,
Stephen Jones, WiUiam Jones, a Rue
Thomas. &c. Nifer y rhai ddarfu ym-
rwymo oedd saith-ar-hugain, ac ymgyfam-
odent eu bod hwy, a'r hyn oll a feddent, i
gael eu Uywodraethu a'u trefnu gan y
corph cyffredin ; y gwnaent bregethu neu
beidio pregethu, rhoddi eu hoU amser i
fyned o gwmpas, yn union fel y trefnid
iddynt ; y rhoddent eu gwasanaeth oll
iddo ef ac i'w gilydd, gan gymeryd y naill
y Uall, er gwell ac er gwaeth. " Dangosais
iddynt fawredd y gwaith," meddai Harris,
" ei fod tu hwnt i'r hyn yr oeddym yn
ymwneyd ag ef yn ílaenorol ; fod hwnw
yn gofyn am i ni fod yn farw i'n hewyllys
a'n doethineb ein hunain ; eithr fod hwn
yn gofyn doethineb arbenig, i weled pwy
sydd wedi cael ei anfon gan yr Yspryd
Glân." Gwehr fod y cynghorwyr a gan-
lynent Harris yn ymffurfio yn fath o urdd,
ac yn cymeryd arnynt fath o adduned, nid
annhebyg o ran llymder dysgyblaeth, a
llwyrder ufudd-dod, i'r urddau arbenig yn
yr Eglwys Babaidd. Cofnodir nad oedd
Richard Tibbot yn Dyserth, am y cawsai
ei anfon ar daith i'r Gogledd, a Lewis
Evan gydag ef.
Y dydd Llun canlynol, yn Gore, clywodd
fod ei fam wedi marw. Brysiodd tuag
adref, ac wrth edrych ar y corph, yr oedd
natur yn derfysglyd ynddo, ond pan y
clywodd mai ei geiriau diweddaf oeddynt :
" Arglwydd lesu, derbyn fy yspryd," ym-
dawelodd, ond hiraethai yntau am fyned
adref. Pregethodd yn ei hangladd oddiar
y geiriau : " O angau, pa le niae dy
golyn ? " Erbyn hyn, y mae yn cael sail
i ofni fod y llanw yn dechreu troi yn ei
erbyn yn ngwahanol ranau y wlad. Yn
Erwd, cafodd lythyr o Dyserth, lle y
cadwai ei Gymdeithasfa yr wythnos cyn
hyny, fod y seiat wedi ymwrthod ag ef, ac
wedi rhoddi ei hun dan ofal Thomas
Bowen. Yn Cwmcynon, ar ei ffordd i
Sir Benfro, cofnoda fod pawb a wrandaw-
sent arno yno, naill ai wedi cael eu har-
gyhoeddi, neu eu dystewi ; na wnaeth neb
ei wrthwynebu, ond iddynt fyned allan.
Mewn amryw fanau yn Sir Gaerfyrddin,
dywed iddo adael y seiat heb gymeryd ei
gofal, am y teimlai yno bresenoldeb y
diafol. Trafaelodd Benfro yn bur fanwl ;
dywed iddo gael odfaeon da, " ond,"
meddai, " yr wyf yn cael fy nuo gymaint
oblegyd fy athrawiaeth, a'm canlynwyr, a
Madam Griíìiths, fel y mae yn gofyn cryn
lawer o ffydd i'm derbyn i d}'." Yn nesaf,
cawn ef ar daith yn Sir Forganwg, a thra
cymysglyd y mae yn cael pethau. Ar y
ddegfed o Chwefror, ysgrifena fel y canlyn
yn y Dyffryn, ger Taibach : " Neithiwr,
daethum yma, ar ol pregethu yn yr Hafod,
ac wedi gwrthod aros yno, am nad oedd
yr Arglwydd yn eu mysg. Pan y pre-
gethwn iddynt, yr oedd y cyfan yn eu
condemnio, am iddynt adael yr Arglwydd."
Prydnhawn yr un dydd, pregethai yn
Castellnedd, ac aeth yr hwyr hono i d\'
John Richard, Llansamlet, i letya. Eithr
yno cafodd fod John Richard wedi sefyll
ar ol, ac wedi methu dyfod i'r goleuni, gan
gymeryd ei berswadio gan ei wraig, a
chan ei reswm cnawdol, a'i ddiffyg ffydd.
Yr oedd, hefyd, wedi troi yn erbyn Madam
Grifììths. Ymadawodd Harris ar unwaith,
gan deithio trwy y nos, nes cyrhaedd
Llandilo Fach. Ar y ffordd, amheuai ai
ni wnai yr Arglwydd godi rhyw gorph
arall o bobl i gario yn mlaen ei waith ?
Ac ai ni fyddai iddo ef a Madam Griffiths
gael eu gadael wrthynt eu hunain yn y
diwedd, a'r bobl wedi myned i wrando y
blaid arall ? Yn Gelly-dorch-leithe, dran-
oeth, cyfeiria at dý y cynghorwr George
Philhps, fel tỳ ychwanegol y darfu iddo
wrthod aros o'i fewn, am nad oedd yr
Arglwydd yn ben yno.
Ar y i^eg o Chwefror, 1751, cynhehd
cyfarfod yn Nhrefecca i drefnu teithiau y
cynghorwyr i wahanol leoedd. Pender-
fynwyd fod pump i fod ar daith yn gyson
yn y Dê, a phedwar yn y Gogledd ; trwy
y trefniant yma, tybid y byddai pob seiat yn
cael ymweliad unwaith yr wythnos. Cyd-
unwyd, yn mhellach, fod y cynghorwyr i
ymweled ag aelodau preifat, y rhai y tybid
eu bod yn gymhwys i uno, gan roddi
gwybod ara danynt i Harris a Madam
Griffiths, fel y gallent hwy eu sefydlu yn
eu Ile. Nid oedd neb i gael eu hystyried
yn aelodau ond a feddent y ffydd, ac a
roddasent eu hunain i'r Arglwydd, ond yr
oedd y rhai a ddifrifol geisient, ac a ym-
drechent ddyfod i fynu, i gael ymweled â
hwy. Cafwyd yma, hefyd, fod amryw
frodyr yn weiniaid, a rhai yn tueddu i droi
yn ol. Yr ydym yn cael cyfarfod cyffelyb
yn Nghastellnedd, EbriU 10 a 11, yn mha
un, heblaw Howell Harris a Madam
Griffiths, yr ocdd yn bresenol John Sparks,
Richard Tibbot, Lewis Evan, ac amryw
eraill. Y nesaf at Harris ei hun, John
4O0
Y TADAU METHODISTAIDD.
Sparks oedd prif ddyn y Gymdeithasfa yn
awr, ac efe, fel rheol, a agorai y gwahanol
gyfarfodydd gyda phregeth. Traethodd
Harris yn helaeth ar y nodweddion gofynol
yny " tadau," y " gwŷrieuainc," a'r " plant."
Gan y "tadau," gofynid am galon ac
yspryd tadol, eu bod wedi tyfu mewn
ffydd a phrofiad, nes meddu sefydlogrwydd
ysprydol ; eu bod yn barod i flaenori y
lleill mewn wynebu pob math o berygl a
gwrthwynebiad. Dysgwyhd iddynt feddu,
yn mhellach, fywiogrwydd o ran eu hoU
synwyrau ysprydol, fel y gallent adnabod
yr ysprydion, a deall holl ddirgel ddyfeisiau
Satan ; yn eu mysg, hefyd, rhaid cael
dirgelwch yr Arglwydd, cariad pur, a
marweidd-dra i hunan. Yr oeddynt i fod
yn llygaid, yn enau, ac yn glustiau i'r
praidd, ac i wyHo dros y pregethwyr
erailL Nid rhyfedd, gwedi arhohad
manwl, iddynt fethu caeì neb yn dyfod
i fynu yn hollol a'r safon uchod ; ond
gobeithid ■ fod yr Arglwydd yn parotoi
rhai. Cawn ddarfod i John Richard,
Llansamlet, ofyn caniatad i ddyfod i
mewn i'r Gymdeithasfa ; y caniatad a
roddwyd iddo ; ond ni thaflodd ei goel-
bren i'w mysg, am ei fod yn gaeth gan
ei reswm.
Rhaid i ni basio amryw o fân gyfar-
fodydd, a dyfod at Gymdeithasfa bwysig
a gynhahwyd gan Harris a'i blaid yn
Llwynbongam, Gorphenaf 2, 3, 1751.
Yr oedd safon Harris, fel y mae yn amlwg,
yn myned yn uwch yn barhaus, a'i ddysg-
yblaeth yn fwy llym, ac felly, yr oedd y
cynghorwyr, y naill ar ol y llall, yn
cwympo i ffwrdd oddiwrtho. Hefyd, cof-
nodir ddarfod i Whitefield, yr haf hwn,
ddyfod i lawr i Gymru, gan bregethu yn
gefnogol i Rowland a'i blaid, ac yn erbyn
gwaith Harris yn cymeryd Madam Grif-
fiths o gwmpas, a sicr yw ddarfod i'w ym-
wehad ef ddylanwadu ar lawer. Methodd
John Sparks ddyfod i'r Gymdeithasfa,
oblegyd afiechyd ; anfonodd eraiU air nas
gallent ddyfod, ac yr oedd eraiU, drachefn,
w^edi tramgwyddo. Ond daethai Richard
Tibbot, Lewis Evan, ac amryw eraill.
Cynygiodd Harris ar y dechreu fod pawb
yn agor ei calonau, fel y gwelent pwy
oedd yn meddu ffydd i fyned a chymeryd
y wlad, ac i sefyll o blaid yr Arglwydd
wrtho ei hun, heb neb gydag ef ? Mewn
canlyniad, trowyd amryw allan, am na
feddent y ffydd ofynoL Yr oedd Richard
Tibbot erbyn hyn yn dechreu petruso, ac
yn teimlo annhueddrwydd i fyned o gwm-
pas, a dymunai gael myned i ymddiddan
a'r brodyr eraill (plaid Rowland). Yn
ngwyneb hyn, cododd Harris ar ei draed,
gan ymhelaethu ar yr angenrheidrwydd i
bob un i fod yn sefydlog yn yr Arglwydd,
ac yn y gwaith, na ddylai neb glofíi o
herwydd y rhai oedd wedi ymadael,
oblegyd fod y cyfryw oll wedi tramgwyddo
wrth y gwirionedd, a bod pob moddion
wedi cael eu defnyddio tuag at eu hadfer.
Dangosai, yn mhellach, am y gwalian-
iaeth rhwng pregethwyr ; fod rhai wedi
cael eu galw i fod yn dadau, eraiU yn wŷr
ieuainc, yn blant, yn efengylwyr, ac yn
brophwydi ; a bod rhai yn meddu yspryd
Moses a Phaul i drefnu ac i orchymyn.
Yna, cyfeiriodd at blaid Rowland, nas
gellid, o gydwybod, eu derbyn yn ol, hyd
nes y cydnabyddent bechadurusrwydd eu
hyspryd, ac annghrediniaeth eu calonau.
Am Madam Grifììths, dywedodd ei bod yn
parhau i fod yn fendith iddo, trwy fod yn
Llygad, ac yn brofydd yr ysprydion. Ar
ddiwedd y cyfarfod, y nos gyntaf, rhodd-
odd amryw eu henwau, fel yn barod i
ddyfod tan y ddysgyblaeth fanwl y cyfeir-
iasid ati ; ac yn eu mysg cawn Thomas
Williams, a Lewis Evan. Y penderfyniad
cyntaf a geir boreu dranoeth yw a
ganlyn : " Trowyd Richard Tibbot i
ffwrdd am wrthod cymeryd taith, ac am
fyned i ymweled a'r brodyr eraill, gan fod
pob moddion wedi cael eu harfer atynt, ac
nad oes genym íîydd mai yr Arglwydd
sydd yn ei anfon atynt." Terfynwyd y
Gymdeithasfa, wedi gwneyd amryw drefn-
iadau, trwy i Lewis Evan bregethu ar
ddyoddefiadau Crist, a Thomas Wilhams
ar adeiladiad y demL
Hydref 2, 1751, cynhehd Cymdeithasfa
yn Nhrefecca. Nid oedd yn un hosog,
eithr yr oedd Lewis Evan yn bresenol,
a Thomas WiUiams, ac amryw eraill,
heblaw Howell Harris a Madam Griffiths.
Eithr yr oedd John Sparks yn absenol, a
Richard Tibbot. Dywedir am yr olaf ei
fod wedi suddo oddiwrth yr Arglwydd,
eithr ei fod wedi ysgrifenu llythyr i'r
Gymdeithasfa. Cafodd un Thomas Rob-
erts, o Sir Fôn, ei arhoh, a'i dderbyn fel
pregethwr, a chafodd bregethu yn y Gym-
deithasfa. Ymddengys fod llawer o'r tai
anedd, yn mha rai yr arferai Harris
bregethu, yn awr wedi eu cau iddo, ac yn
enwedig i'w gynghorwyr ; ac felly, y mae
yn gorchymyn i'r pfegethwyr lefaru yn yr
awyr agored. Rhydd y rhesymau canlynol
dros ei ymddygiad : (i) Dyma y com-
YR YMRANIAD.
401
isiwn cyffredin, " Ewch, a phregethwch
yr efengyl i bob creadur." (2) Hyd nes
y byddent yn cymeryd y prif-ffyrdd a'r
caeau, na fyddent yn cymeryd mantais ar
y rhyddid ardderchog oedd yn eu dwylaw
trwy ganiatad caredig y llywodraeth.
(3) Am fod llawer o bobl gnawdol a ddeu-
ent i wrando i'r maes agored, neu i'r heol,
ond na ddeuent i dŷ. (4) Am mai trwy
bregethu allan y dechreuodd y gwaith, a'i
fod yn ymddangos yn rhesymol iddo gael
ei ddwyn yn mlaen yn yspryd ei gych-
wyniad. (5) Hyd oni fydd.ent wedi cym-
eryd y prif-ffyrdd a'r caeau, nas gallent
deimlo yn hyderus eu bod wedi gwneyd yr
oll o fewn eu gallu dros iachawdwriaeth y
wlad. Y Gymdeithasfa hon yw y diweddaf
y ceir ei hanes yn nghofnodau Harris.
Ar y dydd cyntaf o lonawr, 1752, cawn
Gymdeithasfa Gyffredinol yn Lanllugan,
Sir Drefaldwyn. Tua phump-ar-hugain
oedd yn bresenol. Nid ydym yn meddwl
fod Lewis Evan yn eu mysg, oblegyd yn
fuan ar ol hyn yr ydym yn cael Harris yn
gweinyddu cerydd Ilym arno fel un oedd
wedi methu dyfod i fynu i'r goleuni, ac
wedi dangos gelyniaeth at yr Arglwydd.
Gwaith cyntaf y Gymdeithasfa oedd ym-
wrthod a'r enw " Methodistiaid," gan fod
yr enw wedi cael ei halogi yn enbyd trwy
au athrawiaeth, hunanoldeb, a gelyniaeth
at y gwaed. O hyn allan yr oedd pobl
Howell Harris i gael eu hadnabod wrth yr
enw " Cynghorwyr," yr hwn enw nid oedd
neb yn ei ddefnyddio, ac yr oedd eu prif
gyfarfodydd i gael eu galw yn Gynghorau,
ac nid yn Gymdeithasfaoedd. Tebygol
fod y rhai a elent o gwmpas i rybuddio
pechaduriaid yn dechreu cael eu hadnabod
fel Ilefarwyr, neu bregethwyr, a bod cyng-
horwr, fel enw swyddol, yn myned allan
o arferiad. Yr oedd Harris yn y " Cyng-
hor " hwn yn enbyd o Iym ; dywedai wrth
y brodyr, nad oeddynt yn tyfu, na feddent
yspryd y diwygiad, nad oedd cariad Duw
yn Ilosgi yn eu heneidiau, ac mai dyna y
rheswm paham yr oedd mor Ileied yn
dyfod i'w gwrando. Dywedai, yn mhell-
ach, nad oedd ar y diafol ddim o'u hofn,
eithr yn hytrach fod arnynt hwy ofn y
diafol. Achwyna, hefyd, fod pawb fel pe
byddent yn ei erbyn ef a'r rhai a Iynent
wrtho, a bod rhai o'r brodyr mewn perygl
o gael eu lladd yn Siroedd Mòn a Dinbych.
Un o benderfyniadau y Cynghor oedd
peidio adeiladu rhagor o gapelau, a pheidio
defnyddio capel o gwbl, ond pregethu yn
yr awyr agored, mewn ffeiriau, a niarch-
nadoedd, ac yn y pentrefydd. Ar y ffordd
adref o Gynghor Llanllugan, y mae yn
galw yn y Fedw, ac yma cawn y syniad
am " deulu " yn Nhrefecca yn cymeryd
ffurf. " Ymddiddenais," meddai, " â dwy
chwaer, Sarah a Hannah Bowen, y rhai
ydynt yn teimlo eu hunain dan rwymau i
gyflwyno eu hunain i'r Arglwydd, ac i
mi. Cymhellais hwynt i ddyfod i fyw i
Drefecca, gan ei fod yn debygol fod yr
Arglwydd yn myned i osod i lawr sail tv
yno, ac efallai mai hwy fyddai y meiiii
cyntaf. Yr wyf íì yn awr i fod yn fwy
cartrefol, er ysgrifenu, &c." Merched Mr.
Bowen, o'r Tyddyn, oedd y ddwy hyn, ac
aethant i Drefecca, fel y cymhellai hwynt.
Miss Sarah Bowen a ddaeth gwedi hyn
yn wraig i Simon Lloyd, o'r Bala.
Cynhaliwyd y Cynghor nesaf yn Nhre-
fecca, Chwefror 11, 1752. Erbyn hyn, yr
oedd amryw o'r prif gynghorwyr, a saf-
asent o blaid Howell Harris yn ddewr ar
y cyntaf, wedi ei adael, Yn mysg y
cyfryw yr oedd John Sparks, John Harris,
St. Kennox, a Thomas WiIIiams, o'r
Groeswen. Yr oedd yntau yn Ilym iawn
wrth y pregethwyr oedd ar ol. Dywedai
wrthynt nad oeddynt i gadw seiadau o
gwbl ; nad oedd neb o honynt wedi dyfod
yn ddigon o dad i hyny, ond myned allan i
bregethu yn unig. Ac y mae yn sicr fod
y pregethwyr a Iynent wrtho yn fwy an-
wybodus, yn fwy anniwylledig eu moes,
ac yn Ilawnach o ryw fath o zêl benboeth,
na'r rhai oeddynt wedi cefnu. Yn union-
gyrchol wedi y Cynghor, aeth am daith
faith trwy Siroedd Caerfyrddin, Penfro,
rhan o Sir Aberteifi, a Sir Forganwg.
Cafodd gynulleidfaoedd anferth yn mhob
man, yn arbenig yn ngodreu Sir Aberteifi,
ac yn Sir Benfro. Yn yr awyr agored y
pregethai yn mhob Ile ; dywed fod y
cynulleidfaoedd yn rhy fawr i unrhyw dý ;
ond y mae Ile i gasglu fod Ilawer o'r tài,
yn mha rai yr arferid ei dderbyn fel angel
Duw, wedi cael eu cau iddo yn awr. Yn
Cilgeran, sylwa fod ei gynulleidfa yn cael
ei gwneyd i fynu yn gyfangwbl yn mron o
ddynion digrefydd, y rhai na arferent
fyned i wrando i un man ; ond fod y
proffeswyr yn absenol, ac mai felly yr
oedd yn y nifer amlaf o'i gyfarfodydd.
Yn Hwlffordd, pregethai ar yr ystryd, a
dywed fod Howell Davies, Joìhn Sparks, a
John Harris, St, Kennox, yn mysg ei
wrandawyr, Pregethu yn enbyd o Iym a
wnelai ; ac nid yw yn ymddangos iddo
gael unrhyw gymdeithas a'i hen gyd-
DD
402
Y TADAU METHODISTAIDD.
lafurwyr. Rhaid fod mesur o brudd-der
yn mynwes y naill blaid a'r Uall. O Sir
Gaerfyrddin, croesodd dros y mynyddoedd
i Landdewi-brefì, a dywed i gynulleidfa
o amryw íìloedd ddyfod yn nghyd. Beth
a'i cymhellai i fyned gymaint allan o'i
fFordd er pregethu yno, y mae yn anhawdd
dweyd, os nad oedd am daflu i lawr fath o
hèr i Daniel Rowland, yr hwn a wasan-
aethai yn yr eglwys yno fel cuwrad.
Eithr llawn rhagfarn y cafodd bobl Llan-
ddewi-brefi ; nid oedd neb fel pe am ym-
ddyrchafu at y goleuni. Oddiyma, wedi
ymweled â nifer o leoedd yn Siroedd
Caerfyrddin a Maesyfed, dychwelodd i
Drefecca. Dyma y daith ddiweddaf, o
unrhyw bwys, am faith flynyddoedd i
Howell Harris gydag achos yr efengyl yn
Nghymru. Teimlai fod ei achos yn gwan-
hau dros y wlad. Yr oedd y safon a
osodosai i fynu yn rhy uchel, ei ddysg-
yblaeth yn rhy lem, a'i ymddygiad yn rhy
dra-awdurdodol, i'r cynghorwyr a'r seiadau
allu glynu wrtho. Ac y mae yn amlwg
fod plaid Rowland yn eniU tir. Gyda
hwy yr oedd cydymdeimlad yr enwadau
eraill, yn Eglwyswyr, ac yn Ymneilldu-
wyr. Cawn ddarfod i Whitefield, yr haf
hwn drachefn, ddyfod i lawr i Gymru, a
phregethu tros ddeugain o weithiau gyda
phobl Rowland, a bu yn bresenol mewn
un Gymdeithasfa. Er y teimlai Harris
fod y llif yn myned yn ei erbyn, ni Iwfr-
haodd ei galon mewn un modd, ond y mae
yn dechreu ar ffurf newydd o weithredu,
sef casglu teulu i Drefecca, a dysgyblu
pregethwyr ac eraill yno, fel y gallai y
lle ddyfod yn ganolbwynt gweithrediadau
crefyddol, a ymledent dros holl Gymru,
a rhanau o Loegr.
PENOD XVII
HOWELL HARRIS— GWEDI YR YMRANIAD.
Hoînell Harris yn gosod i lainr sylfaen yr adeilad newydd yn Nìirefecca — Ei afiechyd difrifol —
Anerchiad pwysig yn y " Cynghor" — Anfon milwyr ir fyddin — Harris yn gadben yn y
milisia — Ei lafur yn Yarmouth, a manaii eraill — Gosfegu y terfysgivyr yn Nghymdeithasfa
Llanymddyfri — Blioyddyn ei Jiwhili — Anfon at Roivland, yn Llangeitho, i ofyn am nndeb —
Y ddau yn cyfarfod yn Nhrecastell — Harris yn teithio yn mysg y Methodistiaid — Cymdeith-
asfa eto yn Nhrefecca, gn'edi tair-hlynedd-ar-ddeg — Cymdeithasfa Woodstoch — Amryîv
Gymdeithasfaoedd eraill — Coleg yr larlìes Huntington yn N hrefecca-I saf—Y mîveliadau y
Methodistiaid a Threfecca — Terfyn oes Howell Harris.
gJp^MDDENGYS fod gwneyd Trefecca
^IM yn rhyw sefydliad crefyddol pwys-
^— ig yn syniad oedd wedi cael lle yn
meddwl Harris er ys blynyddoedd, er nad
oedd ganddo weledigaeth eglur, mewn
modd yn y byd, parthed ei natur, a'i ffurf.
Yr oedd yn adeiladu yno er ys cryn amser,
a hyny heb wybod yn iawn i ba bwrpas.
Yn awr, gwedi yr ymraniad, dyma y
meddylddrych yn cymeryd ffurf bendant.
Dywed yn ei ddydd-lyfr fod Trefecca y
lle mwyaf canolog a elhd gael ; ei fod yn
gorwedd yn y canol rhwng Caerfyrddin a
Chaerloyw ; a rhwng Bryste a Llanfair-
Careinion ; ac mai agos yr un faint o
ffordd oedd oddiyno i Dregaron, Llan-
idloes, Casnewydd, Caerdydd, Llantrisant,
Castellnedd, ac Abertawe. Ar y i^eg o
Ebrill, 1752, gosododd i lawr sylfaen darn
newydd o adeilad, eangach, a mwy gol-
ygus, na'r adeilad blaenorol. Nid oedd
ganddo arian o gwbl at y gwaith, na dim
i syrthio yn ol arno, wrth wynebu ar yr
anturiaeth, ond addewidion y digelwyddog
Dduw. Er holl lafur Howell Harris, a'i
ymdrechion difesur, nid oedd wedi cael fel
ffrwyth i'w lafur, mor bell ag y mae aur
ac arian yn myned, ond prin digon i gynal
ei hun a'i deulu. Cawn ef yn dweyd
droiau, er nad mewn íìfordd o achwyniad,
ei fod ef yn llymach ei wisg na neb, a bod
ei geffyl yn waelach. Yn bur fynych yr
ydym yn ei gael mewn dyled, ac mewn
pryder mawr am gael swm o arian i
gyfarfod â rhyw ofyn oedd arno. Er hyn
oil, y mae yn anturio ar waith a gostiai
fìloedd o bunoedd, heb geiniog y tu cefn.
Tranoeth, wedi gosod i lawr y sylfaen,
cychwynodd am Lundain, a dywed iddo
adael ar ol yn Nhrefecca un-ar-bymtheg o
weithwyr, tair o fenywod, a phedair yn
rhagor i ddyfod yn fuan. Gorchymynodd
hwy i'r x\rglwydd wrth ymadael, gan
ddweyd ei fod yn ei adael ef yn ben
arnynt.
Yn haf 1752, cymerodd dau amgylchiad
pwysig yn nglyn â Howell Harris le. Un
oedd marwolaeth Madam Grifhths, yr hyn
a ddigwyddodd yn Llundain, ar y dydd
olaf o Fai. Galarodd ef yn fawr ar ei hol,
meddyliodd fod ei hymadawiad yn golled
anadferadwy i'r gwaith ; ond y mae yn
sicr ddarfod i'w marwolaeth brofi yn
fendith iddo, gan ei bod, tra y bu mewn
cysylltiad ag ef, yn un o'r elfenau a
ddylanwadodd gryfaf i wenwyno ei yspryd.
Y Ilall oedd iddo gael ei daro i lawr gan
afiechyd difrifol, y tybiai ef a fyddai yn
angeuol iddo. Ffrwyth gorlafur oedd
hwn. Er cadarned cyfansoddiad Harris,
ac er gwydnwch ei natur, nis gallasai
cnawd ddal yr holl lafur, y Iludded, a'r
teithio yr aethai trwyddynt, heb dori i
lawr. Yn arbenig, y ddwy flynedd ddi-
weddaf, gwedi yr ymraniad, nid oedd
ganddo neb o gyffelyb feddwl iddo ei hun
i fod yn gynorthwy iddo, ac felly, yr oedd
yr holl faich yn dod i bwyso arno ef.
Mordeithiau Whitefield, yn y rhai y caíîai
seibiant oddiwrth ei lafurwaith dibaid, a
gadwodd y gŵr enwog hwnw cyhyd yn
iach ac yn gryf. Erbyn Gorph. 28, 1752,
yr oedd un adran o'r adeilad yn barod, ac
yr oedd Cynghor wedi cael ei drefnu i
gyfarfod y pryd hwnw yn Nhrefecca, er
gwneyd math o agoriad ar y Ile, yn gystal
DD 2
404
Y TADAU METHODISTAIDD.
ag er trefnu materion. Sal enbyd oedd
Howell Harris ; tybiai ef ei fod ar groesi
yr lorddonen ; eto, mynai ymlusgo i'r
Cynghor y naiU ddiwrnod ar ol y llall, er
anerch y pregethwyr cynulledig. Cyfran-
ogai ei anerchiadau o ddifrifwch byd arall.
" Yr wyf yn ffarweho â chwi am dra-
gywyddoldeb," meddai ; " nid wyf yn
dysgwyl gweled eich wynebau mwy. Yn
ngwaed y Duwdod yn unig y mae fy
hyder, ac eto yr wyf wedi eich galw, gan
ddatgan fy serch angerddol at bawb sydd
yn dyfod ato. Y chwi, sydd wedi myned
yn ol, gadewch i mi yn fy marwolaeth
wneyd yr hyn y methais ei gyflawni yn
ystod fy mywyd, sef eich cyffroi i ddyfod
yn mlaen, gyda phalmwydd yn eich dwy-
law, fel y dysgleirioch am byth gerbron yr
orsedd. Y mae gwaed Crist yn golchi
oddiwrth bob pechod. Er fod Satan wedi
eich dallu ac wedi eich caledu, dewch at y
fFynhon hon, a chwi a orchfygwch, ac a
gyfarfyddwch â Duw. O na ailwn beri i'r
holl greadigaeth fy nghlywed ! Mi a'u
hanfonwn oU at y fîynhon. Gadewch i mi
eich cyfarch o ymyl tragywyddoldeb.
Deuwch at y groes ; chwi a welwch yno
bob rhyfeddod, y Tad, y Mab, a'r Yspryd
Glân, y Tri yn Un, yn llewyrchu arnoch.
Gadewch i mi ymadael mewn gobaith cryf
y caf eich cyfarfod gerbron yr orsedd."
\Vrth draddodi yr anerchiad hwn bu agos
iddo lewygu, a'i gario a gafodd yn ei ol i"w
ystafell. Rhaid ei bod yn olygfa i'w
chofio byth. Cofnodir fod rhai yn bresenol
ar yr achlysur o bob sir yn Nghymru,
oddigerth Aberteifi a Fflint.
Ond yn wrthwyneb i'w ddysgwyhadau,
gwellhaodd yn raddol. Mor fuan ag y
daeth yn abl, dechreuodd bregethu i'r
gweithwyr, ac i'r rhai oedd wedi dyfod i
Drefecca i fyw, dair gwaith yn y dydd.
Canlyniad hyn ydoedd i ddynion ym-
gynull yno o bob parth o'r wlad ; rhai
teuluoedd cyfain ; ond yn benaf dynion
dibriod, yn feibion ac yn ferched, y rhai a
dybient ei bod yn ddyledswydd arnynt i
ymroddi i wasanaeth yr Arglwydd. Nid
oedd ef wedi dysgwyl am ddim o"r fath.
Lle i ryw haner dwsin o deuluoedd, a
nifer o bregethwyr sengl, yn nghyd ag
ychydig ferched i weini arnynt, oedd ef yn
olygu wrth osod i lawr sylfaen yr adeilad.
Eithr yr oedd bob amser yn ymddyrchafu
goruwch ei anhawsderau, a chawn ef yn
awr yn prysuro i helaethu ei dy, ac yn
codi tai o gwmpas, nes ffurfio yno bentref.
Daeth amaethwyr crefyddol, hefyd, i'r
gymydogaeth, gan gymeryd y tiroedd o
gwmpas ar ardreth, neu eu prynu, er mwyn
bod yn ddigon agos i fwynhau y breintiau
crefyddol oedd i'w cael yno. Cyn pen
blwyddyn a haner, yr oedd " teulu " Tre-
fecca yn rhifo dros gant, y rhai a ddaeth-
ent yno o bob sir yn Nghymru braidd.
Cyn ymuno a'r " teulu," yr oedd yn rhaid
i bawb gyflwyno yr oil a feddent i'r
drysorfa gyfifredin. Ac yr oedd rhai yn
dra chyfoethog ; ond diau fod y rhan
fwyaf yn dlodion, ac felly, disgynodd y
baich o gynal y teulu mawr hwn ar
ysgwyddau Howell Harris yn gyfangwbl.
Cymerodd yntau dir i'w amaethu, mynodd
wlan i'r merched i'w nyddu a'i wau, a daeth
Trefecca yn ganolbwynt amryw fathau
o ddiwydrwydd. A gofalodd Duw am
danynt, fel na welsant eisiau dim. " Bum
yn fynych mewn pryder," meddai, " ac
eisiau ugain neu gant punt o arian arnaf,
heb wybod pa le i droi am danynt, a'r
Arglwydd heb estyn ymwared hyd y
pwynt diweddaf ; ond bob amser daeth
ymwared, a hyny fynychaf o gyfeiriad nad
oeddwn yn ddysgwyl. Anfonid deg, ugain,
ac weithiau gan' punt i mi, gan bersonau
yn byw ugeiniau o filltiroedd o bellder,
heb un rheswm, ond fod rhyw orfodaeth
arnynt nas gwyddent ei natur. Digwydd-
odd hyn i mi lawer gwaith." Nid oedd
dim i attynu y diog na'r mursenaidd i
Drefecca. Yr osdd yr hoU deulu tan
ddysgyblaeth lem, ac yn gorfod byw ac
ymarweddu yn mhob dim wrth reolau
manwl. Caled oedd yr ymborth, a garw
oedd y gwisgoedd, a gofynai dysgyblaeth
y lle am hunanymwadiad mawr. Nid
Howell Harris oedd y dyn i hulio bwrdd â
danteithion, ac i roddi achles i segurdod a
diofalwch ; nid oedd erioed wedi ymroddi
i'r cyfryw bethau ei hun, ac nid oedd am
eu darpar i eraill. Ond yr oedd un peth
yn y lle, mwy ei werth na phob peth
daear yn ngolwg y bobl ddysyml oedd wedi
yragynull yno, gwerth aberthu cysuron
naturiol er ei fwyn ; yr oedd efengyl Crist
yn cael ei phregethu yno yn ei phurdeb ;
yr oedd bara y bywyd yn cael ei ranu yn
dafellau mawrion gyda chysondeb difwlch.
Meddai Wilhams, yn ei farwnad : —
" Ti fuost ffycldlon yn dy deulu,
Llym yn dy adeilad mawr,
Ac a dynaist flys ac enw,
A gogoniant dyn i lawr.
Ac ti wnest dy blant yn ufudd
At eu galwad bob yr un,
Byw i'th reol, byw i'th gyfraith,
By w i'th oleu di dy hun ;
HOWELL HARRIS—GWEDI YR YMRANIAD.
405
Fel na fedr neb yn Nghymru,
Trwy na clileddyf fyth na lîon,
Ddod â th\', o'r un rhifedi,
Tan y dymher hyfryd hon.
Y mac gweddi cyn y wawrddydd
Yn Nhrefecca ganddo fe,
'R amser bo trwm gwsg breuddwydlyd
Yn teyrnasu yn llawer lie ;
A chyn llanw'r bol o fwydydd,
Fe geir yno gynghor prudd,
A chyn swper, gweddi a darllen —
Tri addoliad yn y dydd."
Parodd cyfodiad yr adeilad, a sefydliad
y teulu, yn Ntirefecca, i liaws o chwedlau
anwireddus gael eu taenu ar led yn
Nghymru. Awgrymid mai amcan y Di-
wygiwr oedd ymgyfoethogi ar draul y
bobl oludog a hudai i'r Ue, a gwneyd arian
trwy eu llafur a'u diwydrwydd. Nid oedd
un sail i'r chwedlau hyn. Pa beth bynag
oedd fifaeleddau Howell Harris, nid oedd
gwanc am gyfoeth, nac anrhydedd daearol,
yn un o honynt. Ar yr un pryd, nid oedd
yn gwbl rydd o roddi achlysur i ddrwg-
dybiaeth. Pan fyddai pobl gyfoethog, yn
arbenig os mai merched ieuainc a fyddent,
yn bwrw yr oU a feddent i'r drysorfa
gyffredin yn Nhrefecca, yr oedd yn natur-
iol i'r perthynasau a ddysgwylient elwa
oddiwrth eu meddianau mewn rhyw ífordd
neu gilydd, fyned yn chwerw eu teimlad,
a hau eu drwgdybiau ar led. A chwedi
i'r meddiant gael ei fwrw i mewn, nid heb
anhawsder dirfawr y gellid ei gael allan
drachefn, hyd yn nod pan fyddai yr
amgylchiadau yn cyfreithloni hyny. Fel
esiampl, gallwn gyfeirio at helynt Miss
Sarah Bowen, un o'r ddwy chwaer o'r
Tyddyn, yr hon oedd yn meddu cryn
gyfoeth, ac fel pawb a ddeuent i Drefecca
a'i rhoddasai oU i'r sefydlaid. Un diwrnod,
daeth Mr. Simon Lloyd, o Plasyndref,
Bala, i'r lle, mewn rhan, feallai, o gyw-
reinrwydd, ac mewn rhan er cael budd
ysprydol i'w enaid. Wedi iddo guro, pwy
agorodd y drws iddo ond Miss Bowen.
Rhedodd serch y boneddwr ar y ferch
ieuanc ar unwaith ; a chan iddo allu ei
denu hithau i gyfranogi o'r unrhyw
deimlad, gwnaeth y ddau drefniadau i
briodi, O.nd sut i gael meddianau y fonedd-
iges yn ol oedd yr anhawsder. Bu yn
gryn helynt yn nghylch y peth ; daeth
John Evans, y pregethwr adnabyddus o'r
Bala, yn ei un swydd i Drefecca, i gyf-
ryngu, ac wedi tipyn o ddadleuaeth,
llwyddwyd i wneyd gweithred briodas
foddhaol, yr hon sydd ar gael hyd y
dydd hwn.
Tua'r ílwyddyn 1756, yr oedd y deyrnas
yn Uawn cyffro o ben bwy gilydd iddi gan
ofn y byddai i'r Ffrancod geisio croesi tros-
odd i ddarostwng Prydain. Yr oedd Howell
Harris yn deyrngar hyd ddyfnder ei yspryd ;
credai fod crefydd, yn ogystal a gwleid-
lywiaeth, yn gaiw arno i bleidio y Brenhin
Sior ; ac nid oedd mewn un modd yn
amddifad o yspryd rhyfelgar. Dan ddylan-
wad y cyffro, darfa i Gymdeithas Am-
aethyddol Brycheiniog gyflwyno anerchiad
i'r brenhin, yn cynyg ymffurfio yn gatrawd
o feirch-filwyr ysgeifn, a myned ar eu
traul eu hunain i unrhyw ran o'r Deyrnas
Gyfunol y gelwid am eu gwasanaeth.
Pan glywodd Harris am y peth, anfonodd
at y gymdeithas, y gwnai efe, os derbyn-
id eu cais, godi deg o feirch-filwyr mewn
llawn arfogaeth, ar ei draul ei hun, i fod
yn ychwanegiad at y gatrawd. O herwydd
rhyw resymau, ni dderbyniwyd cynygiad
gwladgarwyr Brycheiniog, ond darfu i'r
gymdeithas gydnabod ei rhwymedigaeth i
Harris trwy ei ethol yn aelod anrhydeddus
o honi. Yn fuan gwedi hyn rhoes fater y
rhyfel gerbron y teulu yn Nhrefecca, ac
mewn canlyniad, ymrestrodd pump o wyr
ieuainc crefyddol i'r fyddin. Buont mewn
amryw frwydrau poethion ; cymerasant
ran yn eniUiad Quebec oddiar y Ffrancod,
pan laddwyd y Cadfridog Wolf. Tra y
syrthiai eu cydfilwyr yn feirwon o'u
cwmpas, yr oedd rhyw amddiíTyn dros
filwyr Harris, ac ni laddwyd cymaint ag
un o'r pump. Bu pedwar o honynt feirw
o farwolaeth naturiol mewn gwledydd
tramor, a dychwelodd y pumed yn ei ol i
Dreíecca, ar ol cael ei gymeryd yn garch-
aror gan y Ffrancod, lle yr arhosodd hyd
ddydd ei farwolaeth.
Tua gwanwyn y flwyddyn 1760, yr
ydym yn cael Howell Harris, tan ddylan-
wad cymheUion ei frawd, Joseph, ac
aelodau Cymdeithas Amaethyddol Brych-
einiog, yn ymuno a'r milisia, ac yn dwyn
gydag ef o deulu Trefecca bedwar-ar-
hugain o wỳr. Yn bur fuan, rhoddwyd
iddo gomisiwn fel cadben. Ar un
olwg, peth syn oedd canfod efengylwr, fel
Harris, yn troi yn filwr ; ond ystyriai efe
fod Protestaniaeth yn y chwareu ; credai,
os yr enillai y Ffrancod y dydd, y deuai Pab-
yddiaeth yn oruchaf, ac y cai y Beiblau
eu halltudio o'r wlad mewn canlyniad.
Teimlai ei fod yn gwasanaethu ei Dduw
lawn mor wirioneddol wrth afaelu yn y
cledd, ag y gwnelai gynt wrth deithio o
gwmpas i bregethu yr efengyl. Cyn
4o6
Y TADAU METHODISTAIDD.
myned, gosododd y sefydliad yn Nhrefecca
yn nwylaw ymddiriedolwyr liyd oni ddych-
welai, a phenododd Evan Moses i fod yn
llywodraethwr yn ystod ei absenoldeb.
Brodor o Aberdar oedd Evan Moses, a
dyn annysgedig, ond tra difrifol, ac yr
oedd ei barchedigaeth i Howell Harris yn
ddiderfyn. Y Ue cyntaf yr anfonwyd y
miHsia iddo oedd Yarmouth, ac ar ei ffordd
yno, pregethai Harris yn mhob man.
Wedi cyrhaedd y dref, holodd ai nid oedd
Methodistiaid yno ? Hysbyswyd ef ddar-
fod i amryw wneyd ymgais i bregethu
yno, ond iddynt gael eu rhwysto gan
gynddaredd y werinos, ac mai yn brin y
dihangasant a'u bywyd ganddynt. Yn
ddiegwan o ffydd, anfonodd griwr y dref
allan i roddi rhybudd y byddai pregethwr
Methodistaidd yn llefaru yn y farchnadfa
ar awr benodol. Yno yr ymgasglodd
tyrfa anferth, gyda cherig, a darnau o
briddfeini, a llai'd, i'w hyrddio at y pre-
gethwr, pan ddeuai, a thyngent y gosodent
derfyn ar ei hoedl. Yr oedd Harris ar y
pryd yn peri i'w ddynion fyned trwy ryw
ymarferiadau milwraidd, ar lecyn oedd yn
ymyl. Pan ddaeth awr y cyhoeddiad i
fynu, aeth at y dyrfa, a gofynodd beth
oedd y mater. Atebasant eu bod yn
dysgwyl pregethwr Methodistaidd, a bod
yn dda iddo na ddaeth. Dywedodd yntau
yn ol fod yn drueni iddynt gael eu siomi,
ac y gwnai ef ganu emyn gyda hwy, a
myned i weddi, ac hefyd roddi gair o
gyfarchiad. Aeth i ben bwrdd oedd wedi
ei osod yn ymyl ; ymgasglodd ei wŷr o'i
gwmpas ; canwyd nes adseinio y farchnadfa,
a gweddiodd yntau yn ganlynol gyda nerth
dirfawr. Yr oedd newydd-deb yr olygfa,
y gwj-r arfog oedd o gwmpas i amddiffyn
eu cadben, y rhai a ddywedent Amen
yn uchel, yn nghyd â rhyw ddylanwad
dwyfol oedd yn y Ue, wedi trechu y dorf,
fel y cafodd Harris bob llonyddwch i
bregethu. A chafodd odfa nerthol iawn ;
disgynodd y fath ddylanwadau ar y werin
fel yr argyhoeddwyd amryw ar y pryd.
Bob prydnhawn, braidd yn ddieithriad,
pregethai yn y farchnadfa i dorf anferth,
yn ei wisgoedd milwraidd. Yn raddol,
daeth pregethwyr eraill yno, ffurfiwyd
seiat gref a üiosog, a daeth Yarmouth mor
enwog am ei chrefyddolder ag oedd yn
flaenorol am ei hannuwioldeb.
Y gauaf canlynol, cafodd y mihsia eu
gorchymyn i Aberhonddu, ac aeth Cadben
Harris i bregethu i amryw leoedd, fel yr
arferai gynt. Ymddengys, hefyd, fod
teimladau llawer caredicach ya ffynu yn
awr rhyngddo ef a Rowland a'i blaid ; yr
oedd y ddwy ochr wedi dyfod i deimlo
ddarfod iddynt gamddeall eu gilydd, mai
ymryson yn nghylch geiriau oedd y cweryl
a fuasai rhyngddynt, i raddau mawr ; a
bod y naill a'r llall wedi cyfeihorni oddi-
wTth frawdgarwch yr efengyl. Teimlai y
Methodistiaid eisiau gwroldeb a medr
trefniadol y Diwygiwr o Drefecca yn eu
cyfarfodydd. Yn y flwyddyn 1759, yr
oeddynt wedi myned mor bell ag anfon
cenadwri ato i geisio ganddo ddychwelyd ;
a chariwyd y genadwri i Drefecca mewn
llythyr gan Daniel Rowland yn bersonol.
Ni welai efe ei ffordd yn rhydd ar y pryd i
gydsynio, ond diau i'r cais effeithio yn
ddirfawr ar ei yspryd. Tybir mai yr adeg
hon, pan yr oedd y mihsia yn Aberhonddu,
y digwyddodd yr helynt yn nglyn â
Chymdeithasfa Llanymddyfri. Y tradd-
odiad yw iddo unwaith, wrth fyned tua
thref Llanymddyfri, gyfarfod â Daniel
Rowland, Wifliams, Pantycelyn, a nifer o
gynghorwyr, yn dianc oddiyno am eu
bywyd, wedi methu cynal Cymdeithasfa
oblegyd terfysg ac erledigaeth y werinos.
Ceisiodd yntau ganddynt ddychwelyd
gydag ef. Wedi cyrhaedd y dref, esgynodd
i ben y gareg farch, a wasanaethai fel
pwlpud, a chan edrych fel llew ar y terfysg-
wyr, gwaeddodd : " Gosteg, yn enw Brenhin
y nefoedd ! " Ni effeithiodd ei floedd ddim
ar y dorf, rhegent a bygythient fel cynt.
Ar hyny, diosgodd ei wisg uchaf, nes
yr ymddangosai ei ddillad milwraidd, a
bloeddiodd : " Gosteg, yn enw y Brenhin
Sior ! " Dychrynwyd y dorf gan y gwisg-
oedd swyddogol ; aethant yn fud ac yn
welw ; teyrnasodd dystawrwydd hollol
trwy y lle, a chymerodd yntau fantais ar
y cyfleustra i ddanod iddynt fod arnynt
fwy o ofn brenhin Lloegr nag oedd arnynt
o ofn Duw. Wedi hyn, cafodd y Method-
istiaid berffaith lonyddwch i gynal eu
Cymdeithasfa.
Yn mis Rhagfyr, 1762, ymwasgarodd y
miHsia yn Aberhonddu, a rhoddodd Harris
ei gomisiwn fel cadben i fynu. Yr oedd
wedi eniH iddo ei hun ganmoHaeth nid
bychan trwy ei wladgarwch a'i ddewrder ;
teimhd parch diffuant ato gan fonedd
Brycheiniog, a chawn yn awr yr efeng-
ylydd distadl, a fygythid gynt â dirwy ac â
charchar, a'r hwn yr oedd uchel reithwyr
y sir wedi dwyn achwyn yn ei erbyn
gerbron un o farnwyr ei Fawrhydi,
yn uchel yn ffafr y rhai a'i herHdient.
HOWELL HARRIS—GWEDI YR YMRANIAD.
407
Yr oedd ei wyr wedi ymddwyn yn y
modd mwyaf canmoladwy. Ysgrifenai Syr
Edward Williams, milwriad y gatrawd,
ato fel y canlyn : " Cadben Harris — Nid
oes genyf hamdden i wneyd tegwch ag
ymddygiad eich gwŷr, ond gallaf eich
sicrhau, ar fyr eiriau, fod eu buchedd yn
adlewyrchu anrhydedd ar yr egwyddorion
crefyddol y darfu i chwi gymeryd cymaint
o drafferth i'w hyfforddi ynddynt."
Ar y 23ain o lonawr, 1763, yr oedd
Howell Harris yn dechreu ar ei haner
canfed flwyddyn, yr hon a eilw yn
flwyddyn ei JiwbiH. Erbyn hyn, yr oedd
ei yspryd yn dyheu o'i fewn am undeb
a'i hen gyfeiUion ; ac anfonasai Evan
Moses, ei ben gwas, bedwar diwrnod
cynt, gyda Uythyr at Daniel Rowland,
Llangeitho, yn gofyn am ail uno. Diau
fod Rowland ac yntau wedi trin y pwnc
yn flaenorol, pan alwodd y blaenaf arno
gyda Uythyr y brodyr, a'i fod yn gwybod
fod y Diwygiwr o Langeitho yn coleddu
y cyffelyb deimlad ag yntau, onide ni
fuasai yn anfon ei was gyda'r fath genad-
wri. Yr oedd yn amser braf ar Gymru yr
adeg hon. Ar ol blynyddoedd o falldod ac
o sychder dirfawr, torasai diwygiad allan
yn Llangeitlio yn y flwyddyn 1762, gyda
dyfodiad hymnau WiUiams, Pantycelyn,
yr hwn a ymledodd dros yr hoU wlad,
nes yr oedd y pentrefydd a'r cymoedd- yn
adsain gan fohant ; a diau i'r gwres
nawsaidd doddi ysprydoedd y Diwygwyr,
a'u dwyn i deimlo yn gynhes at eu gilydd.
Ar y 3oain o lonawr, cafodd lythyr oddi-
wrth Evan Moses, yn ceisio ganddo
gyfarfod â Daniel Rowland, yn Nhre-
casteU-yn-Llywel y dydd Mercher can-
lynol. Ymddengys fod Rowland yn myned
y pryd hwnw i Gyfarfod Misol a gynhehd
yn Llansawel. " Pan y darllenais,"
meddai Harris, " teimlwn yn Uawen tu
hwnt fod yr Arglwydd yn agor drws o
ddefnyddioldeb i mi. Yr oeddwn wedi
clywed am y bywyd oedd yn eu mysg, ac
am eu Uwyddiant ; a'm hunig ofn ydoedd
rhag i mi, trwy fy hunanoldeb a'm pechod,
ddwyn meUdith arnynt. Darostyngwyd
íì ; yr oeddwn mor rhydd oddiwrth eidd-
igedd fel y bendithiwn Dduw am eu
cyfodi, ac y dymunwn ar iddynt beidio
cyfranogi o angau gyda mi, ond i mi gael
cyfranogi o'u bywyd hwy. Gwmaed fi yn
Uawen yn y gobaith o gael myned i'w
mysg eto." GweUr fod ei syniadau am
Rowhind a'i ganlynwyr wedi newid yn
hoUol, a bod yspryd newydd wedi ei fedd-
ianu. Cychwynodd i DrecasteU i gyfarfod
Rowland, ond yr oedd dirfawr bryder yn
llanw ei fynwes, rhag iddo fod yn an-
ffyddlawn i'w Dduw y naiU ffordd neu y
UaU. Am y duU y cyfarfyddodd Rowdand
ac yntau, ni ddywed air ; ond sicr yw fod
yno wasgu dwylaw cynhes, os nad oedd
yno gofleidio a thy wallt dagrau. Gwasgodd
Rowíand arno am fyned gydag ef i'r Cyfar-
fod Misol i Lansawel, dywedai mai dyna
ddymuniad y bobi gyffredin, yn gystal a'r
eiddo yntau. Yr oedd Harris, yn y rhag-
olwg y gwneUd y fath gais ato, wedi
penderfynu gwrthod ; ond aeth cymhelUon
ei gyfaiU yn drech nag ef, ac ar ol gwneyd
y peth yn fater gweddi, cafodd fod yr
Arglwydd yn foddlawn. Boreu dranoeth,
cychwynodd y ddau yn nghyd, a chyr-
haeddasant Lansawel o gwmpas chwech.
Yno cyfarfyddasant â WiIIiams, Panty-
celyn, Peter Williams, a Uu o gynghorwyr.
" Yr oeddwn wedi clywed," meddai, " am
yr yspryd canu oedd wedi disgyn yn
ngwahanol ranau Sir Aberteifi, a Sir
Gaerfyrddin, ac am y canoedd oedd yn
ymgynull i wrando. Agorodd yr Ar-
glwydd fy ngenau i lefaru, na ddylem
dderbyn na gwrthod yr arwyddion allanül
hyn, ond y dylem eu barnu wrth eu
dylanwad ar y galon, a'r bywyd, ac yn
arbenig-wrth chwilio a oeddent yn cyn-
yrchu tlodi yspryd." Cyfeiriodd yn ei
anerchiad, hefyd, at Iyfr WiIIiams, Pant-
ycelyn, sef, Pantheologia, neu hanes holl gi'ef-
yddau y byd, a chanmolodd ef fel Ilyfr
tra buddiol. Y noswaith hono, Iletyai
WiIIiams ac yntau yn yr un tỳ, a buont
i lawr hyd ddeuddeg o'r gloch. " Addefai
WiIIiams," medd Harris, " ei ofid o
herwydd iddo fy ngwrthwynebu gynt, ac
eglurodd y modd yr arweiniwyd ef yn
ganlynol i bregethu ac i argraffu yr
athrawiaeth a wrthwynebasai. Dywedai,
yn mhellach, mai myfi oedd ei dad."
Diau fod y gymdeithas yn felus odiaeth.
Y nos hono, wedi myned i'w wely, cymer-
wyd Harris yn glaf gan boen enbyd yn ei
goluddion ; nid annhebyg mai cyífro ei
deimladau, a'i orlawenydd o herwydd cael
ei hun unwaith drachefn yn mysg ei
frodyr, oedd achos y selni. Yr oedd yn
dra eiddil dranoeth, ond aeth i fysg y
cynghorwyr, a siaradodd wrthynt yn faith
ac yn ddifrifol. Yn mysg pethau eraill,
dywedodd wrthynt am iddynt wylio yr
yspryd canu oedd yn ffynu, rhag iddo
ddifianu, neu ynte roddi achlysur i'r
cnawd. Cynghorai hwy, yn mhellach,
4o8
Y TADAU METHODISTAIDD.
i beidio ymgymysgu gormod a'u gwranda-
wyr, ond ar iddynt, wedi pregethu, ym-
neillduo. Yna, gwnaed iddo bregethu yn
y capel, yr addoldy y buasai ef yn benaf
yn offerynol i'w godi, ac y casglasai
trwy Gymru tuag ato. Ei destun oedd,
Zechariah xii. lo : " A thywalltaf ar dŷ
Dafydd, ac ar breswylwyr Jerusalem,
yspryd gras a gweddíau." Nis gallwn
gofnodi y bregeth, ond cafodd odfa wrth
ei fodd. Y noswaith hono, dychwelodd i
Lanymddyfri, ac y mae ei brofiad boreu
dranoeth yn haeddu ei groniclo : " Dych-
welais yma neithiwr, wedi cael y gwahodd-
iadau taeraf ifyned i Gastellnedd, Cilycwm,
Sir Aberteifi, a Sir Gaerfyrddin, gan
Rowland, WilHam WilHams, Thomas
Davies, John WiHiams, ac eraiH. Yr
wyf yn cael fod y cynghorwyr wedi cael
eu gosod ar fy nghalon fel fy mhlant. Yn
sicr, dyma flwyddyn y JiwbiH ! Y mae yr
amser wedi dyfod ; cysgodau rhagfarn
ydynt yn ciHo ; yr hen gariad a'r syml-
rwydd ydynt yn dychwelyd, ac ymddengys
fod y pethau a rwystrent gynt wedi cael eu
symud. Y mae yr yspryd canu yma sydd
wedi disgyn yn ymddangos yn hoHol
rydd oddiwrth yr ysgafnder, a'r hunan, a
weHd yn nglyn a'r diweddaf. Ac wrth
weled cynifer o leoedd newydd wedi cael
eu cychwyn ganddynt hwy, a dim un
genyf fi, teimlwn ei fod yn anrhydedd cael
myned i'w mysg, a chysur i mi yw gweled
fod fy He, a'm gwaith, a'm pobl gynt, yn
cael eu cynyg i mi eto, gwedi ymraniad o
dair-blynedd-ar-ddeg." ,
Ni phasiwyd unrhyw benderfyniad
ffurfiol yn Llansawel gyda golwg ar ail-
uniad Howell Harris a'r Methodist-
iaid, ond cawsai ei wahodd yn y modd
mwyaf caredig i ddyfod i'w mysg fel
cynt, a theflid pob drws yn agored iddo.
Ar y i8fed o Fawrth, 1763, cychwynodd
am daith fer i ranau o Sir Gaerfyrddin, a
Sir Aberteifi. Y He cyntaf y pregethodd
ynddo oedd Cilycwm, cartref crefyddol
WiHiams, Pantycelyn. Ar y maes y
cedwid yr odfa, obiegyd Hiosogrwydd y
dorf ; y testun oedd : " ChwiHwch yr
Ysgrythyrau ; " pregethodd am ddwy awr
a haner, gyda nerth a dylanwad arbenig ;
ac yr oedd yn ofnadwy o lym yn erbyn y
rhai a ddirmygent neu a esgeulusent Air
Duw. Wedi yr odfa, aeth drachefn i'r
capel i gadw seiat ; yr oedd rhai canoedd
yno, ac anogodd hwynt oH i weddi. Cin-
iawodd gyda chuwrad yr eglwys, WiHiams,
Pantycelyn, ac amryw o'i hen gyfeiHion,
nad oedd wedi eu gweled er adeg yr ym-
raniad, ac yna aeth i'w hen lety, LÍwyny-
berHan, i gysgu. Ar y ffordd yno, cafodd
lawer o wybodaeth gan ei arweinydd am
y diwygiad oedd yn ymledu dros y wlad.
Meddai : " Llefwn am i beth o'r tân hwn
gydio yn fy yspryd inau ; oblegyd deaHwn
fod Hawer wedi cael eu deffro yn y rhanau
hyn, trwy yr yspryd canu a^bendithio yr
Arglwydd sydd wedi tori aHan, yr hwn a
barha weithiau trwy gydol y nos." Deng-
ys ei sylwadau, nad oes genym yn awr
un syniad priodol am y dylanwad a fu gan
emynau WiHiams, er ail enyn tân Duw
yn Nghymru, pan yr oedd agos wedi cael
ei ddiffbdd trwy ymrafaeHon ac ymran-
iadau. Yn nesaf, cawn ef yn nghapel
Llansawel yn pregethu" ar i ol un Mr.
Gray. Diau mai y Parch. Thomas Gray,
olynydd yr hen Mr. Pugh yn Llwynpiod,
Abermeurig, a Ffosyffin, ydoedd hwn, yr
hwn, gwedi hyn, a Iwyr ymunodd a'r
Methodistiaid. Ac ymddengys iddo wneyd
hyny yn bur fuan. Hysbysa cyfaiH ni ei
fod wedi chwiHo yn fanwl gofnodau hen
gymanfaoedd yr Annibynwyr, fel eu ceir
yn yr Evangelical Magazine, a chyhoedd-
iadau eraill, ac nad oes ynddynt gymaint
a chyfeiriad at Gray ; tra y ceir ef yn
pregethu yn barhaus yn Nghymdeithas-
faoedd y Methodistiaid yn y Dê a'r
Gogledd. Daethai cynuHeidfa anferth
yn nghyd ; yr oedd capel Llansawel
y pryd hwn wedi dyfod yn fath o ganol-
bwynt i'r Methodistiaid yn Sir Gaer-
fyrddin. Cafodd odfa nerthol, ac yr oedd
yn Hym wrth y rhai oedd mewn rhyddid
heb fod yn gyntaf mewn caethiwed. Wedi
iddo orphen, nid ai y bobl i ff"wrdd ; eithr
tyrent i'r capel, a bu raid iddo lefaru yno
drachefn. Yr angenrheidrwydd am hunan-
ymhoHad oedd ei fater. Oddiyno aeth i
Gaerfyrddin, ac am ddau o'r gloch pre-
gethodd ar Castle Green i'r gynuHeidfa
fwyaf a gafodd erioed yn ei fywyd ; cyfrifa
ei bod yn ddeng mil. Llefarai yn Gym-
raeg ac yn Saesneg oddiar : " Ni a welsom
ei ogoniant ef;" a dangosai mai y ffbrdd
i gynyrchu moesoldeb uchel oedd trwy
bregethu lesu Grist. Nid ymfoddlonodd
ychwaith ar athrawiaethu ; taranodd yn
ofnadwy yn erbyn rhegu, meddwdod, a
phuteindra, a phechodau cyffelyb ; a Hef-
odd gyda nerth : " Gyda y rhai sydd yn
ei adwaen ac yn ei garu ef bydded fy
nghartref yn dragywydd ! " Aeth y noson
hono i Bant HoweH ; yr un oedd ei destun
ynia eto, eithr gwahaniaethai y bregeth i
HOWELL HARRIS—GWEDI YR YMRANIAD.
409
gryn raddau. Yr oedd ei yspryd yn
bresenol wrth ei fodd. " Yr wyf yn
gweled," meddai, " yr anrhydedd dirfawr
a osodir arnaf, fy mod yn cael fy ngalw
gan fy Arglwydd anwyl i'w waith, a'i fod
wedi rhoddi lle i mi eto yn ei dŷ." Ar
ddydd Gwener Croghth, y mae yn nhref
Aberteiíì, a gwelai wrth deithio tuag yno
fod pawb wedi myned o'i flaen ef mewn
goleuni, ffydd, a chymundeb â Duw. Bu
yn yr eglwys yn y boreu ; yn y prydnhawn
pregethodd ei hun, ac er mai y nos flaen-
orol y cawsai y bobl wybod am ei ddyfod-
iad, daeth torf anferth yn nghyd. Dyodd-
efiadau y Gwaredwr oedd ei fater. Yn yr
hwyr yr oedd yn Twrgwyn, lle yr oedd
capel erbyn hyn wedi cael ei adeiladu.
Mat. xi. 28, oedd ei destun ; cofnoda fod torf
fawr wedi ymgynull, ac meddai : " Y fath
ganu, a'r fath orfoleddu, ni chlywais
erioed." Gwelsom ei fod ar y cychwyn
yn ddrwgdybus o'r canu, ac yn erchi i'r
crefyddwyr ei wyHo ; yn awr, modd bynag,
y mae wedi cael ei Iwyr orchfygu ganddo.
" Arweiniwyd fi," meddai, "i gyfiawnhau
y canu sydd yn awr yn y sir, lle y mae
Ìlawer yn canu clodydd Duw ac yn ei
foHanu trwy gydol y nos. Dangosais i'r
cnawdol, y rhai ydynt yn tramgwyddo
oblegyd fod y crefyddwyr yn canmol Duw
yn ormodol, y dylent ystyried nad ydynt
hwy (y cnawdol) yn canmol Duw o gwbl,
ac feüy y rhaid i'r crefyddol ei ganmol,
nid yn unig drostynt eu hunain, eithr
drostynt hwy yn ogystal. Wedi yr
odfa, aeth i letya i dŷ Mr. Bowen,
ynad heddwch, Gwaunifor, ac yr oedd yn
ddeuddeg o"r gloch y nos arno yn cyr-
haedd. Boreu dranoeth, am naw o'r
gloch, pregethodd gerüaw y capel, yr
hwn a adeiladasai Mr. Bowen ar ei draul
ei hun, i dorf fawr. Yma ymadawodd â
Mr. Gray, a Mr. Popkin, y rhai a fuasent
yn gymdeithion iddo o Gilycwm hyd yn
awr, a dychwelodd ar ei union i Dref-
ecca. GweHr mai brasgamu a wnaeth,
a phaham y dewisodd yr ychydig leoedd a
nodwyd i ymweled â hwynt, nis gwyddoni.
Dydd Mawrth, gwedi y Pasg, aeth i
Lanfair-muallt, He na fuasai ynddo ond
unwaith er ys deuddeg mlynedd. Pregeth-
odd gyda nerth mawr. Cyfarfyddodd yno
â John Richard, Llansamlet, a chyng-
horwr arall o'r enw Evan Roberts ; aeth
y ddau gydag ef i Drefecca, a boreu
dranoeth yr oedd John Richard yn cych-
wyn am daith i'r Gogledd. Ychydig
ddyddiau ar ol hyn, dywed ei fod yn
darflen gweithiau Rowland, ac eiddo
WiHiams, Pantycelyn ; ac iddo gael ei
ddarostwng yn enbyd wrth weled mor ddi-
ddefnydd ydoedd o'i gymharu a'i frodyr.
" Nid oedd genyf ddim i'w ddweyd trosof
fy hun," meddai, " ond fy mod yn segur,
diddefnydd, a llygredig." Yn sicr, yr
oedd yn rhy galed arno ei hun ; oblegyd
gallai ddweyd lawn mor wirioneddol a'r
apostol Paul : " Mi a lafuriais yn hel-
aethach na hwynt oH." Ond tebygol mai
meddwl am ei ymneiHduad yr ydoedd.
EbriH 21, 1763, cychwyna am daith faith
trwy Siroedd Aberteifi, Penfro, a Chaer-
fyrddin. Y lle cyntaf yr ymwelodd ag ef
oedd Llangamarch, He y pregethodd, heb
gymeryd unrhyw destun, i dorf Hosog.
" Cyfarwyddais y dychweledigion ieuainc,"
meddai, " ac adeiledais y ffyddloniaid."
Profa hyn fod nifer Hiosog yn y cymydog-
aethau yma wedi ymuno â chrefydd yn
ddiweddar. Cymerodd un o'r diwygiadau
mwyaf nerthol a welodd Cymru erioed le y
flwyddyn yma ; ymledodd yn dân anorch-
fygol dros yr hoH wlad, nes oedd y cym-
oedd mynyddig, yn ogystal a'r gwastadedd,
fel pe yn llawn o foHant Duw. A ydoedd
wedi tori aHan mor gynar a hyn yn y
flwyddyn, nis gwyddom ; ond boed a
fo, yr oedd " dychweledigion newydd "
yn Llangamarch. Dranoeth, sef dydd
Mawrth, croesodd y Mynydd Mawr, a
daeth i Dregaron. Yma yr oedd Daniel
Rowland yn ei gyfarfod, ac meddai :
" Gwnaed fi yn ostyngedig wrth weled fod
yr Arglwydd yn agor y drysau i mi, 1
fyned o gwmpas gyda fy hen gydlafurwyr,
yr hon safle oeddwn wedi fforffetio trwy
fy mhechod." Cafodd ryddid dirfawr ar
weddi, ac wrth bregethu yr oedd yn
ofnadwy o lym yn erbyn y rhai a farnent,
ac a wrthwynebent Dduw a'i waith, a
dangosai ysprydolrwydd y gyfraith, ac
mor fewnol a manwl oedd ei gofynion.
Cofnoda fod tri offeiriad heblaw Daniel
Rowland yn gwrando. O Dregaron, aeth
i Lwyniorwerth, nid yn nepeH o Aber-
ystwyth. Dilynai y bobl ef, gan ganu a
nioHanu yr hoH ffordd. Wrth weled a
chlywed, teimlodd fod yr Arglwydd wedi
dwyn yn mlaen ei waith hebddo ef, a'i fod
wedi anrhydeddu Rowland a'r cynghorwyr
yn fwy ; eithr yr oedd yn mhell o fod yn
eiddigus, ac yr oedd yn barod i ymroddi
i'w cynorthwyo, gan obeithio y caíîai
fendith yn eu pHth. Aeth i ymddiddan a'r
bobl, a chafodd eu bod yn syml, yn barod
i gymeryd eu dysgu, yn addfwyn, a hunan-
410
Y TADAU METHODISTAIDD.
ymwadol. " lesu Grist wedi dyfod i gadw
pechaduriaid " oedd ei fater yma, ac efeng-
ylu yn felus a wnelai. Y noswaitli hono
yr oedd yn Lledrod ; yr oedd yr hoU wlad
wedi ymgynull i'r odfa, a chafodd yntau
nerth rhyfedd i bregethu oddiar y geiriau :
" Canys efe a wared ei bobl oddiwrth eu
pechodau." Dranoeth, yr oedd yn ddydd
o ddiolchgarwch cyfFredinol am yr hedd-
wch gwladol a gawsid, ac aeth yntau i'r
eglwys yn Lledrod i uno.
Yn nesaf, yr ydym yn ei gael yn Llan-
geitho, lle na fuasai ynddo er ys pedair-
blynedd-ar-ddeg ; deng mil o bobl o leiaf
oedd ei gynulleidfa ; a chwedi cael gafael
ryfedd ar weddi, pregethodd gyda rhyddid
mawr oddiar y geiriau : " Canys yr ydym
ni y rhai a gredasom yn myned i mewn
i'w orphwysfa ef." Dangosai mai ffydd
sydd yn puro y galon, ac yn gorchfygu y
byd, ac yr oedd yn dra llym wrth y rhai a
geisient wneyd ffydd a phenboethni yr un.
Cafodd fod tros ddau cant o ddynion, a thros
ddeugain o blant cymharol ieuainc wedi
ymuno a'r seiat yma. Wedi yr odfa, gwnaed
iddogadw seiat breifat,yn yr hon y llefarodd
ar amryw faterion, ac ar y terfyn gweddí-
odd yn daer dros Mr. Rowland. " Gwel-
af," meddai, " fod yr Arglwydd wedi ei
ddyrchafu ef yn uwch na mi ; ei fod wedi
rhoddi iddo yr hoU waith a'r anrhydedd
hwn, ac hefyd yr holl seiadau, a'r hoU
gynghorwyr." üs oedd Harris, wrth
ganfod y pethau hyn, yn gwbl rydd oddi-
wrth eiddigedd, fel y dywed ei fod, rhaid
fód gras Duw wedi ei dywallt yn helaeth
yn ei yspryd. Dydd Gwener, cawn ef yn
Abermeurig ; yna, gadawa ddyffryn pryd-
ferth Aeron, gan groesi y bryniau i Lan-
bedr, yn nyffryn Teifì. Ei destun yma
oedd : " Gwir yw y gair, ac yn haeddu pob
derbyniad ; " yr oedd amryw o'r dosparth
uchaf yn gwrando, felly, pregethai yn
Gymraeg ac yn Saesneg. Cyfeiria at
ddwy foneddiges yn benodol, sef Miss H.
Lloyd, a Miss Evans. Wedi galw yn
Dolgwm, ffermdy pur fawr islaw Llanbedr-
pont-Stephan, daeth, nos Wener, i Waun-
ifor. Yr oedd Rowland yn cyd-deithio ag
ef o hyd, ac ar y ffordd agorai ei fynwes
wrth ei gyfaill am gael John Wesley, ac
un o'r Morafiaid, i fyned o gwmpas Cymru
gydag ef ; ac am fFurfio undeb cyffredinol
rhwng y gwahanol bleidiau yma, oddifewn
i Eglwys Loegr. Beth a atebodd Row-
land iddo, nis gwyddom. Yn Waunifor,
pregethodd gydag awdurdod ar waed
Crist yn glanhau oddiwrth bob pechod.
Yn y seiat breifat a ddilynai, gwasgai ar y
crefyddwyr yr angenrheidrwydd am alaru
yn ogystal a molianu, Wedi pregethu yn
Twrgwyn, ac yn Nghwmcynon, daeth i
Lechryd, nos Sul, lle y cafodd y gynull-
eidfa fwyaf a gafodd erioed yn ei fywyd, a
chyfrifa ei bod yn ddeuddeg mil. " Mawr
yw dirgelwch duwioldeb," oedd ei destun.
" Pregethais ei glwyfau a'i waed," meddai ;
" mai dyma yr unig noddfa ; gelwais a
gwahoddais bawb ato, gan ddangos fod
Duw ynddo, fel yn ei deml. Yr oeddwn
yn Ilym wrth y rhai a wrthwynebent y
gwaith hwn, ac a ddymunent ar iddo
ddyfod i'r dim, gan ddangos eu bod o'r un
yspryd â Chain." Cafodd ymddiddan
yma ag un Mr. Enoch, arolygwr ysgolion
Madam Bevan yn y tair sir, a gwelai ei
fod yn ddyn syml a gostyngedig.
Ymddengys i Daniel Rowland ddych-
welyd oddiyma, a darfod i Mr. Popkins
gael ei osod i fod yn gydymaith i Harris
yn ystod ei daith yn Sir Benfro. Dyn o
yspryd balchaidd oedd Popkins ; yn tueddu
yn gryf at Antinomiaeth, a chofir i Daniel
Rowland gael trafferth ddirfawr gydag ef
ar ol hyn, ac yn y diwedd iddo orfod ei
ddiarddel. Dechreuodd Popkins ddanod
i Harris ei ymadawiad a'r Methodistiaid,
a'i fod wedi gwastraffu Ilawer o'i amser yn
ofer ; a chanmolai Daniel Rowland i'r
cymylau. Dyoddefodd y Diwygiwr yn
amyneddgar am dipyn ; eithr yn y diwedd
trodd arno, a dywedodd na chai efe
(Popkins) fod yn esgob arno ef. Wedi
pasio drwy Lwynygrawys, daeth i Dref-
draeth ; " Fy nghnawd i sydd fwyd yn
wir," oedd ei destun, ac arweiniwyd ef yn
gyntaf i daranu yn enbyd, gan gyfeirio
gyda difrifwch at angau a thragy wydd-
oldeb. ünd cyn gorphen, efengylodd yn
felus, a chyhoeddai fod yr Arglwydd lesu
yn ddigyfnewid. Yr oedd cynulleidfa
fawr, yn rhifo amryw filoedd, yn Aber-
gwaun ; " Y mae hwn yn derbyn pech-
aduriaid," oedd y testun ; ac yr oedd yn
dra Ilym wrth y rhai na theimlent eu
pechadurusrwydd. Am y tro cyntaf yn
ystod y daith, cafodd fod cryn ragfarn ato
yn meddyliau y bobl. Nid oedd y diwyg-
iad wedi cyrhaedd yma eto ; nid oeddynt
yn canu, fel y gwnaent yn Sir Aberteitì.
Y noswaith hono yr oedd yn Nhyddewi,
a dywed fod yno gynulleidfa o amryw
filoedd. Wedi pasio trwy y rhan Saesnig
o Sir Benfro, daeth i Hwlffordd, a phre-
gethodd yn y capel ; yr oedd yno gynull-
eidfa dda, ond nid cynifer ag a fuasai oni
HOWELL HARRIS—GWEDI YR YMRANIAD.
411
bai fod rhyw gamddealltwriaeth wedi bod
am y cyhoeddiad. Wrth bregethu, cyfeir-
iodd am y dymunoldeb o gael undeb
rhwng y gwahanol bleidiau crefyddol, mai
brodyr oeddynt, a'u bod i dreuho tragy-
wyddoldeb yn nghwmni eu gilydd. Wrth
ymddiddan â Mr. Howell Davies, yr hwn
yntau oedd wedi dyfod i'w wrando, am y
priodoldeb o gael John W^esley ac un o'r
Morafiaid i fyned trwy y wlad gydag ef
(Harris), deallodd fod meddwl Mr. Davies
yn rhagfarnllyd yn erbyn. Dranoeth,
aeth i Woodstock, lle yr oedd capel wedi
ei adeiladu, a phregethodd gyda nerth
oddiar y geiriau : " Trowch eich wynebau
ataf fi, hoU gyrau y ddaear, fel y'ch
achuber." Yn nghwmni y cynghorwr
John Harry, aeth i Mounton, ac yna i
Lacharn, ac achwyna ei fod yn dra egwan
o ran ei gorph. Yma yr oedd yn nghym-
ydogaeth Llanddowror, ond yr oedd ei
hen gyfaill, yr Hybarch. Griffith Jones,
wedi noswylio er ys dwy flynedd. Eithr
galwodd i weled Madam Bevan ; ceisiodd
siarad â hi am amryw bethau perthynol i
grefydd, ond nid oedd yn barod i gofleidio
ei syniad ef parthed cael undeb rhwng yr
oU o bobl yr Arglwydd, ac yr oedd yn
gryf yn erbyn pregethu Ileygol. Gwrth-
ododd giniawa gyda Madam Bevan, a
brysiodd i Gaerfyrddin, Ile y pregethodd
am ddwy awr glir, gydag awdurdod, a
bywyd, ac eífeithioldeb, i dorf o amryw
filoedd, oddiar y geiriau : " A thi a elwi ei
enw ef lesu." Yn hwyr yr un dydd,
pregethodd yn Brechfa, Sir Gaerfyrddin,
ar gyfiawnhad a sancteiddhad. Dranoeth,
cawn ef yn Llansawel, lle y mae WiIIiams,
Pantycelyn, yn cyfarfod ag ef. Anghred-
iniaeth oedd mater Williams ; darluniai ef
fel y gwaethaf o'r holl bechodau, a dywedai
pan y cawn ffydd i weled y byd hwn a'i
deganau fel dim, yr awn i ddibrisio ei wj^r
mawr, ac y gallwn lawenhau yn wastadol.
" Yr oeddwn yn caru yr yspryd a'r Ilais,"
meddai Harris. Pregethodd yntau yn
ganlynol ; " Trwy ei gleisiau ef yr iach-
awyd ni," oedd ei destun ; yr oedd myn'd
ar y bregeth hon yn wastad, a chatodd
hwyl arni yn Llansawel. Wedi pregethu
yn Llanymddyfri ar yr heol, i gynulleidfa
yn rhifo dros dair mil, dychwelodd i Dre-
fecca yn hapus ei yspryd. Cawsai ei
sirioli yn ddirfawr gan gymdeithas cyfeill-
ion na welsai wynebau llawer o honynt er
ys tair-blynedd-ar-ddeg.
Yn ystod y daith flaenorol, gwahoddasai
y Gymdeithasfa ganlynol i Drefecca, Ile
nad oedd cynulliad o'r fath wedi bod
oddiar yr ymraniad, a chydsyniai y
brodyr gyda phob parodrwydd. Yr oedd
ei galon yn dychlamu ynddo wrth feddwl
am gael y fraint o groesawu gweision
Duw ; dywed fod ugain o welyau at eu
gwasanaeth ganddo ef yn Nhrefecca, heb-
law cyflawnder o letyau yn y ffermdai o
gwmpas. Fel hyn yr ysgrifena : '• Tre-
fecca, Mai 18. Y Gymdeithasfa unedig
gyfì^redinol gyntaf. O ! Jiwbili ! Neithiwr,
am saith, daeth Mr. Rowland yma, a'i fab,
Mr. Edward Rowland, yn nghyd â WiIIiam
Richard, WiIIiam Richard, yr ail, David
WiIIiam Rees, John Thomas, Thomas
Gray, y gweinidog YmneiIIduoI, cuwrad o'r
enw Lewis, yn nghyd â Popkins a WiIIiam
John, dau gynghorwr. Daeth wyth o
fenywod a saith o ddynion yn ychwanegol.
Wedi cael taer anogaeth, pregethais ar
dlodi ein Hiachawdwr. Cefais nerth ac
awdurdod anarferol. Derbyniais hwynt
oll gydag yspryd gostyngedig, ac yn yr
Arglwydd, a Ilefwn am i'r Arglwydd
ddyfod i'n mysg i'n bendithio, yr hyn
hefyd a wnaeth yn ehelaeth. Y boreu
hwn yr oeddwn i fynu am chwech, boreu-
fwyd am saith, ac am wyth eisteddasom
yn nghyd. Erbyn hyn, yr oedd amryw
yn ychwanegol wedi cyrhaedd, sef Mr.
Peter WiIIiams, John WiIIiams, Jeffrey,
Stephen Jones, a David WiIIiams. Dar-
Ilenwyd Ilythyrau oddiwrth Howell Davies,
William Williams, John Richard, a John
Harry, yn esbonio eu habsenoldeb. Eglur-
ais iddynt y modd y danfonasent am danaf
bedair blynedd yn ol, ac y daethwn i
gyfarfod Llansawel ; nas gallwn uno â
hwy, oddigerth fy mod yn cael sicrwydd
eu bod oll yn yr Eglwys Sefydledig ; ac
oni unant yn addoliad a chymundeb eglwys
y plwyf, eu bod yn sect newydd ; a phan y
bydd Mr. Rowland farw, y rhaid iddynt
gael gweinidogion YmneiIIduoI drostynt
oll. Dywedais nad oeddwn yn wrthwyn-
ebol iddynt fyned i gapelau, a derbyn y
cymundeb o law Mr. Rowland, tan ddysg-
yblaeth ac arholiad priodol. Cydunodd
pawb i aros i mewn (yn yr Eglwys), os
gallent berswadio y bobl i foddloni. Yna,
dangosais yr angenrheidrwydd anorfod am
ddysgyblaeth, a dechreu yn y Gymdeith-
asfa gyda y cynghorwyr, y rhai y dylid eu
harholi yn fanwl ; yna, yn y seiadau, a
chael trefniant priodol gyda golwg ar
deuluoedd ; heb hyn, yr ai y cyfan i an-
nhrefn. Cydunodd pawb, ac unasant i
geisio fy nghymorth gyda hyn, am.fod fy
412
Ÿ tadau methodistaìdd.
lle yn wag er pan yr ymadewais. Wedi
penderfynu cyfarfod yn mhen pythefnos
eto, torwyd y cyfarfod i fynu."
Yn y difyniadau uchod gwehr athryhth
arbenig Howell Harris yn amlwg ; ei
hoffder o drefn, ei ofal am ddysgyblaeth ;
ac hefyd ei ymlyniad cryf wrth Eglwys
Loegr. Wedi y cyfarfod preifat, yr oedd
yr odfa gyhoeddus yn yr awyr agored yn
y pentref ; daethai cynulleidfa anferth yn
nghyd, nid yn unig o'r cymydogaethau
cyfagos, ond hefyd o gyrau pellenig y sir,
ac o Sir Forganwg. Diau fod son am
Drefecca, a'r sefydhad hynod a gynwysai,
wedi ymledu dros y wlad ; a thueddai hyn,
yn nghyd a'r swyn oedd yn nychwehad
Harris at ei hen gyfeilhon, i dynu pobl yn
nghyd. Popkins a bregethai yn mlaenaf ;
ei destun oedd : " Dy briod yw yr hwn
a'th wnaeth ; " dynoda Harris hi fel un
dra Chalfinaidd ; gelhr darllen rhwng y
llinellau y golygai hi yn tueddu at Anti-
nomiaeth. " Önd," meddai, " pan y
cododd Rowland ar ei òl, ac yr agorodd ei
enau, teimlais yr Arglwydd yn ílanw fy
yspryd, a fy holl rasau yn cael eu cyffroi.
Teimlwn mai fy mrawd ydoedd, fy mod
yn ei garu, a ilawenychwn wrth ei glywed
y dydd hwn. Ei destun ydoedd ; ' Cysur-
wch, cysurwcli fy mhobl ; ' yr oedd yn dra
argyhoeddiadol, gan ddangos nad oes
eisiau cysur ar y rhai sydd yn hapus yn
y cnawd. Yr oedd awelon melus yn
chwythu dros y cyfarfod ; daeth y mawr
ragorol ogoniant i lawr ; ysgydwid y cwbl;
yn wir, y mae yr Arglwydd wedi ymweled
â ni yn ei gariad." Pan yr oedd yspryd
Howell Harris yn ei le, byddai gweinidog-
aeth Daniel Rowland yn wastad yn ei
orchfygu, ac y mae yn amlwg ei fod yn
awr wedi toddi yn swp tan ei dylanwad.
Tranoeth, ysgrifena : " Y ddoe, cefais
ryddid i ofyn i'r Arglwydd ddyfod i lawr
a'n bendithio, gan fy mod yn gweled mai
peth anarferol yw gwneyd i fynu rwyg yn
nhŷ Dduw, a dwyn Israel a Judah yn
nghyd drachefn. Llefwn y gwyddai mai
er ei fwyn ef yr oeddwn wedi eu gwahodd
yma, ac fel y gallwn inau gyfranogi o'u
bywyd a'u bendith. Yr oeddwn yn dded-
wydd wrth eu gwrando. Am dri, aetliom
i giniaw ; ac yr oeddym yn liapus. Dat-
genais fy serch atynt ; gwelwn mai
Rowland yw eu tywysog, a'u bod yn
plygu iddo, ac yr oeddwn yn llawen am
hyny." Hawdd darllen serch angerddol
at Daniel Rowland yn treiddio trwy bob
brawddeg. Am bedwar, pregethodd Peter
Wllliams, am yr afon bur o ddwfr y
bywyd, a phren y bywyd yn tyfu o'r ddau
tu. Cafodd ddylanwad mawr. " Yr oedd
yma lawer," meddai Harris, "o Sir Aber-
teifi a lleoedd eraill, yn canu ac yn moU-
anu ; yn sicr, y mae Duw wedi ateb ein
gweddi, ac wedi tynu ymaith ein gwar-
adwydd." Aeth pawb ymaith yn hapus,
ac yn llawn o gariad. Yr unig beth
anhyfryd yn y Gymdeithasfa oedd gwaith
Poplíins, yr hwn a feddai yspryd pigog
a chwerw, yn ceisio rhoddi sèn i'r Diwyg-
iwr o Drefecca.
Yn sicr, gyda yr eithriad o"r dydd y
cafodd ollyngdod oddiwrth ei faich o
bechod, adeg ei argyhoeddiad, y diwrnod
hwn, pan y teimlai ei fod yn cael ei
dderbyn yn ol i fynwes ei frodyr, oedd yr
hapusaf a gafodd Howell Harris ar y
ddaear. " O'r Arglwydd y mae hyn,"
meddai. Bellach, y mae galwadau yn
gwlawio arno o bob cyfeiriad. Yr wythnos
ganlynol i'r Gymdeithasfa, cawn ef yn
cofnodi ei fod wedi derbyn gwahoddiad-
au o Blaen Crai, Trecastell-yn-Llywel,
Merthyr, Tir Abbad, Hay, a Ileoedd eraill.
Wedi treulio rhyw gymaint o amser yn
Mryste, aeth i Bath ; a chawn ef ar y dydd
cyntaf o Fehefin yn Nghaerdydd. Yn
Llandaf, cyfarfyddodd â Mrs. Jones, Ffon-
mon, " dynes syml, ddiragfarn," yr hon a'i
hysbysodd am erledigaeth yn tori allan, a
bod y barnwyr ar y fainc yn datgan yn
erbyn y diwygiad, a'i bod yn cael ei
rhybuddio i godi trwydded ar ei thỳ. I
hyn yr oedd Harris yn anfoddlawn ;
sawrai yn ormodol o YmneiIIduaeth, a
chynghorodd hi i ymddiddan a'r esgob.
Aeth i'r Aberthyn, lle yr addawsai gyfar-
fod Rüwland mewn Cymdeithasfa Fisol ;
eithr cyn iddo gyrhaedd, yr oedd y cyfarfod
drosodd, a'r bobl wedi ymwasgaru. Eithr
casglwyd cynulleidfa drachefn, a, phre-
gethodd yntau ar : " A hwy a edrychant
arnaf fi, yr hwn a wanasant." Oddiyma,
teithia i'r Pîl, ac Abertawe, Ile yr oedd tua
phedair mil yn gwrando, a Llansamlet, a
Phontneddfechan, o'r hwn le dychwela
i Drefecca yn llesg o gorph. Yn mis
Gorphenaf, yr ydym yn ei gael yn Llun-
dain, er mwyn bod yn bresenol yn nghyn-
hadledd y Wesleyaid. Yno ceisiwyd ganddo
gan Mr. Charles Wesley i anerch y pre-
gethwyr, yr hyn a wnaeth yntau. Dy-
wedodd wrthynt fod yn dda ganddo weled
y fath gariad a'r fath symlrwydd yn eu
mysg, a bod y gwaith yn cael ei ddwyn yn
miaen yn yr yspryd y cafodd ei ddechreu ;
HOWELL HARRIS—GWEDI YR YMRANIAD.
413
mai efe a gawsai yr anrhydedd o fod y
lleygwr cyntaf a aeth o gwmpas i bre-
gethu, a darfod iddo fyned at yr esgob
bedair gwaith i geisio cael ei urddo, a
chael ei wrthod bob tro. Terfynodd ei
anerchiad trwy waeddi am undeb cyfFred-
inol, yr hwn a gynwysai y Morafìaid, y
Wesleyaid, a'r Methodistiaid. Cafodd
bregethu, hefyd, yn nghapel Spittalfields,
lle yr oedd cynulleidfa fawr. Yr oedd y
syniad am undeb wedi llyncu bryd Harris
y pryd hwn ; dyna yn benaf a'i dygasai
i Lundain ; er ei gael, yr oedd yn barod i
wneyd pob aberth, oddigerth aberth o
wirionedd.
fel milwr, a Popkins ar ei ol, ar Dduwdod
Crist. Wedi ciniaw, pregethodd Howell
Harris. Y mae yn amlwg oddiwrth y
dydd-lyfr fod Daniel Rowland yn gwneyd
yn fawr o hono, ac yn ei anrhydeddu yn
mhob modd. Yr oedd y cynghorwyr yn
pwyso ar feddwl Harris, a chasglodd
Rowland hwy yn nghyd er mwyn iddo eu
cyfarch. Ei fater oedd, yr angenrheid-
rwydd am ddysgyblaeth, onide, nas gallent
byth sefyll. Ymddengys mai yr hyn y
cwynai yn benaf arno oedd fod y cyng-
horwyr yn cael myned o gwmpas gwlad
fel yr ewyllysient, heb neb yn trefnu eu
cyhoeddiadau, na neb yn eu llywodraethu,
EGLWYS LLANDDEWI-BEEFI, SIR ABBRTEIFI.
[Fel yr yäoedä yn amser Daniel Eowland.]
Ar y trydydd o Awst, cychwynai i
Gymdeithasfa Llangeitho, gan basio trwy
Abergwesyn, a Llanddewi-brefi. Teimlai
fod Rowland wedi myned yn mhell yn
mlaen arno ; heblaw ei fod yn offeiriad
urddedig, yr oedd y diwygiad presenol
w^edi cael ei gychwyn trwyddo, ac iddo ef
y plygai yr holl gynghorwyr ; " ond,"
meddai, " nid wyf yn eiddigeddu wrtho ;
yn gyflawn o ogoniant yr ydoedd pan y
gwelais ef gyntaf yn y pwlpud yn Defyn-
og." Pan gyrhaeddodd Langeitho yr oedd
y Gymdeithasfa wedi dechreu, a Thomas
Davies (Hwlfìbrdd ?) yn gweddío ; a phre-
gethodd yr un gẁr yn ganlynol, ar y Cristion
a'u bod yn gwneyd casgUadau yn y cynull-
eidfaoedd. Cydunai Wilhams, Pantycelyn,
yn y cwyn ; dywedai fod Rowland yn
dysgleirio yn y pwlpud, ond nad oedd yn
alluog i ddwyn y cynghorwyr i drefn ; a chyn
i'r (Hwygiad diweddar dori allan, fod pethau
wedi myned i stâd isel yn y seiadau. " Cyd-
unodd pawb i gael dysgyblaeth," meddai
Harris. " Dywedodd Mr. Rowland eu
bod oll yn gwybod iddo ef o'r dechreu
wrthod bod yn ben, pan y cynygiwyd hyny
iddo ; ei fod wedi dweyd wrthynt bob
amser fod fy lle i yn wag er pan yr ym-
adewais ; a'i fod yn parhau yn yr un
meddwl, ac yn fy ngalw i i'm lle, yn yr
414
Y TADAU METHODISTAIDD.
hwn yr oeddwn o'r blaen." Golygai hyn
osod Harris, fel cynt, yn arolygwr cyffred-
inol, gydag awdurdod helaeth dros y cyng-
horwyr. Rhaid fod Rowland o feddwl tra
ardderchog pan y gwnelai y fath gynygiad,
a rhaid fod ganddo syniad uchel am ddoeth-
ineb ei gyfaill fel trefnydd. Tueddai
Howell Davies, modd bynag, i wrthwyn-
ebu, am fod Harris yn ceisio undeb
rhyngddynt a'r Wesleyaid, a'r Morafiaid ;
dywedai nad oedd hyny yn bosibl, ac
achwynai ar waith John Wesley yn dyfod i
Sir Benfro. Modd bynag, daeth yn fodd-
lawn. Yna, cynygiodd Harris fod y tri
offeiriad yn unol yn gweithredu fel arol-
ygwyr ; gwrthododd pob un ; ac yn un-
frydol darfu iddynt alw arno ef i gymeryd
y lle. Yr oedd arno yntau eisiau amser i
ystyried pwnc mor bwysig, eithr addaw-
odd wneyd a allai i gyfarfod y seiadau.
Yr oedd Rowland, a Wilhams, Pantycelyn,
yn gafaelu yn dyn yn Harris, a Howell
Davies i raddau ; ond yr oedd amryw o'r
cynghorwyr, y penaf o ba rai oedd Pop-
kins, yn tueddu i wrthwynebu yn ddystaw;
a sibrydent wrth eu gilydd ddarfod iddo
gael ei dderbyn yn ei ol fel y mab afradlon.
Y mae un frawddeg o bwysigrwydd
hanesyddol yn y dydd-lyfr yn y fan hon, sef :
" Y mae Mr. Rowland newydd gael ei fwrw
allan o'r eglwysydd." Ceir rhai haneswyr
Eglwysyddol am wadu i Rowland gael
ei droi allan, am nad oes gofnod am y peth
ar lyfrau yr esgobaeth, heb gofio na raid
wrth gofnod na phenderfyniad ffurfiol gyda
golwg ar guwrad ; eithr pe byddai eisiau
prawf ychwanegol am beth ag y mae
genym dystiolaeth llygad-dystion arno,
ceir ef yn y crybwylUad hwn o eiddo
Harris, yr hwn sydd yn cael ei ysgrifenu
yn Llangeitho, ac yn ol pob tebyg yn nhŷ'
Daniel Rowland ei hun. O Langeitho
aeth Harris, yn nghwmni Howell Davies,
i Abermeurig, lle y pregethodd ar barhad
mewn gras. Yna, croesodd trwy Lan-
ymddyfri i Drefeccá. Treuhodd ddarn
mawr o fis Awst yn Bath ac yn Mryste.
Ar yr ugeinfed o Fedi, cychwyna i Lan-
ymddyfri, i ymgynghori â Rowland, a
WiUiams, Pantycelyn, yn nghyd â Wil-
Uam Richards, ar amryw bethau o bwys
i'r Cyfundeb. Cyfeiria yma yn fwy
manwl at dröad Rowland allan. Fel hyn
y dywed : " Y mae Mr. Rowland wedi
cael ei droi aUan, ac nid yw yn cael ei
dderbyn yn ei eglwysydd. Teimlwn ei
bod yn galed arno, ei fod ef y cyntaf i gael
ei droi ymaith, oddigerth Mr. Harris,
Exon ; ac efaUai fod hyn yn ddechreu
erledigaeth gyffredinol. Crefais arnynt
am berswadio y bobl, yn (i) I beidio troi at
Ddeddf Goddefiad, mai braich o gnawd
ydyw hono, ac y gaUai gael ei symud.
(2) Ar iddynt beidio meddwl am adael yr
Eglwys ar gyfrif hyn, rhag i hyny fod yn
ddialedd, neu ymddangos felly, ac yn líid
at yr esgob oblegyd ei lymder. (3) Ar
iddynt beidio siarad yn chwerw am waith
yr esgob, rhag i hyny fod yn hedyn drwg,
a pheri i ni godi yn erbyn y Uywodraeth."
Nis geiU dim fod yn fwy clir gyda golwg
ar gysyUtiad Esgob Tyddewi a thröad
Daniel Rowland aUan na hyn ; ac y mae
yn gryfach am ei fod yn dyfod oddiwrth
HoweU Harris, yr hwn yn awr a lynai
wrth Eglwys Loegr trwy y tew a'r tenau.
Am y cynghorion a roddai, yr oedd yn
rhaid wrth lawer o ras i'w cario aUan, ac
y mae peth amheuaeth am ddoethineb y
ddau gyntaf, o leiaf; dylasai ofyn, ai nid
oedd hyn yn awgrym oddiwrth ragluniaeth,
yn eu cyfarwyddo i ymffurfio yn blaid ar
wahan iddi ? Dyma yr awgrym y dysg-
wyUai ef am dano ugain mlynedd cyn hyn.
Yr unig beth a benderfynwyd rhwng y
cyfeilUon yn Llanymddyfri oedd gohirio
dysgyblaeth y cynghorwyr hyd y Gym-
deithasfa ddyfodol yn yr un Ue.
TreuUodd Howell Harris yr oU o fisoedd
Medi a Hydref ar daith yn Lloegr. Ym-
welodd â Swyddi Caerloyw, York, Bed-
ford, Lincoln, a Rutland, a threuliodd ryw
gymaint o amser yn Llundain. Pregethai
yn mysg y Morafiaid, y W^esleyaid, yn
nghyd a'r rhai perthynol i Eglwys Loegr
a'i derbyniai. Ei brif genadaeth, heblaw
cyhoeddi yr efengyl, oedd ceisio uno yr
hoU seiadau y gellid edrych arnynt fel
cynyrch y diwygiad, yn un sefydliad cryf,
a'r oll yn perthyn i'r Eglwys Sefydledig.
Y dydd olaf o Dachwedd, y mae yn cych-
wyn o Drefecca, wedi aros yno 'yn brin
wythnos, i Gymdeithasfa Llanymddyfri.
Nid oedd Daniel Rowland yn bresenol ;
eithr yr oedd WiIIiams, Pantycelyn, wedi
dyfod, a WiIUam Richards, John Thomas,
William Harry, a Peter WiIIiams. Daeth
yma i benderfyniad i ail-gymeryd a bod
yn arolygwr cyffredinol dros yr holl seiadau,
fel y cawsai ei anog yn Nghymdeithasfa
Llangeitho ; gwelai ei fod nid yn unig yn
cael ei garu, ond hefyd ei anrhydeddu.
Ymddengys fod WiUiam Richard ac yntau
yn arbenig yn ymglymu am eu gilydd ; ac
aethant yn nghyd i Drefecca. Ond yr
oedd Popkins ar ei eithaf yn ceisio cyn-
HOWELL HARRIS—GWEDI YR YMRANIAD.
415
yrchu rhwyg. Dau beth o bwys a
grybwylhr ganddo oddiyma i ddiwedd y
flwyddyn, sef iddo bwrcasu fFerm Trefecca
Isaf, gan ei frawd Thomas ; ac hefyd
iddo, ar anogaeth Evan Roberts, un o'i
brif ddynion yn Nhrefecca, brynu chaise.
Daeth Evan Roberts a'r chaise ganddo i
lawr o Lundain. Ond braidd nad oedd
Harris yn rhy yswil i ddefnyddio y cerbyd
wedi ei gael. " O rhyfedd," meddai,
" cerbyd yn dyfod i'r lle hwn ! Dy waith
di, Arglwydd, ydyw hyn."
Gyda dechreu y flwyddyn 1764, rhaid i
ni ymfoddloni ar ychydig ddifyniadau o'r
dydd-lyfr draw ac yma, y rhai a daflant
fwyaf o oleuni ar yr hanes.
lonawr 3. Price Davies, ficer Talgarth,
yn caniatau cymundeb bob mis yn yr cg-
Iwys ; y newydd yn cael ei gludo i Harris
gan John Morgan, y cuwrad, a'i enaid
yntau yn llawenychu ynddo o'r herwydd.
lonawr 22. Harris yn cychwyn i Sir
Aberteifi i sefydlu y seiadau, ac am y tro
cyntaf yn myned yn ei chaise. Pregethu i
dorf o amry w filoedd yn Nghilycwm ; yr oedd
yn foddlon cadw seiat breifat, ond ni ofyn-
wyd hyn ganddo. Ymweled â Chayo, Llan-
bedr-pont-Stephan, Abermeurig, a chyr-
haedd Llangeitho ar y ^^ain. Pregethu yno
ar y maes i amryw filoedd ; yna, cyfarch
canoedd yn y capel mewn seiat breifat.
Clywed gan Rowland beth oedd ateb
Esgob Tyddewi pan yr appehwyd ato
parthed ei wrthwynebiad i'r diwygiad, sef
fod y bobl wedi gadael yr Eglwys, ac yn
gwarthruddo y clerigwyr ; mai dyna y
rheswm am droi y cuwradiaid allan, ac na
ordeinid neb eto yn dal cysylltiad a"r
Methodistiaid. Ymweled â Lledrod ; pre-
gethu i dorf anferth, a gosod pob un yn ei
le yn y seiat breifat. Ymweled a'r Morfa,
Gwndwn, Gwaunifor, Dolgwm, Taly-
llychau, a Llanymddyfri. Ar y daith hon,
Harris yn cynal seiadau preifat am y
tro cyntaf gwedi yr ymraniad, yspaid o
bedair-blynedd-ar-ddeg ; ac yn cael ei
argyhoeddi fwy fwy mai Rowland oedd
tad y cynghorwyr, a'r prif ddyn mewn cys-
ylltiad â gwaith y diwygiad yn Nghymru.
Cwefror ig. Teulu Trefecca yn eis-
tedd am y tro cyntaf ar yr oriel yn eglwys
Talgarth, ac yn canu yn fendigedig, nes
yr oedd yr holl eglwys yn llawn o ogon-
iant. Chwefror 27. Harris yn myned am
daith i Blaen Crai, Blaenglyntawe, Castell-
nedd, Abertawe, a gwlad Gower ; dych-
welyd trwy Gelly-dorch-Ieithe, a chyr-
haedd Trefecca, Mawrth 4.
EbriII I. Harris yn myned eto i
daith ; yn pregethu ar yr heol tua phum'
milltir o Lanymddyfri i dorf liosog ;
cyrhaedd Cross Inn yn hwyr. Pregethu
dranoeth yn Nghaerfyrddin, ar Castle
Green, i dorf fawr, a chael awdurdod
anarferol ; wedi ei gymhell, yn pregethu
yn y capel drachefn ; ac yr oedd WiIIiams,
Pantycelyn, Thomas Davies, WiIIiam
John, Evan Richard, a phregethwyr eraill
yn gwrando. Y dydd nesaf yn myned
i'r Capel Newydd, yn Sir Benfro ; yna i
Trefdraeth ; Abergwaun, Ile yr oedd yn
curo yn drwm ar y pechod o angrhed-
iniaeth ; ac Woodstoclí, Ile y dysgwyliai
glywed Howell Davies, a chyfranogi o'r
sacrament, gan mai y Sabbath ydoedd,
ond y cyfarfod drosodd cyn iddo gyrhaedd.
Trwy wlaw dirfawr y daethai yma. Ym-
weled â Chastellyblaidd, Solfach, a Hwl-
ffbrdd. Yn y Ile diweddaf, cyfarfod â Mr.
Nyberg, gweinidog yr eglwys Forafaidd,
a theithio yn nghyd i dref Penfro. Yn
Mhenfro, Harris yn pregethu yn y capel i
dorf fawr, ar, " Gwir yw y gair," Mr.
Nyberg yn y pwlpud gydag ef. Dych-
welyd trwy Lacharn, Llandilo Fawr, a
Llangadog ; yn y Ile diweddaf, pregethu
ar y maes i dorf o amryw filoedd ; Rhaiadr,
y Tyddyn, a Llanfair-muallt. Cofnoda
i'r daith barhau am ddau-ddiwrnod-ar-
bymtheg ; iddo bregethu ddeunaw gwaith ;
teithio dros dri chant o filltiroedd ar hyd
ffbrdd ddrwg, a phe y rhoddid ei hoU
gynulleidfaoedd yn nghyd, y byddai ea rhif
dros haner can' mil.
Mai g. Harris yn cychwyn i Gym-
deithasfa Woodstock, gan basio trwy
Drecastell, Caerfyrddin, St. Clears, a
Hwlffordd, a phregethu yn mhob un o'r
Ileoedd hyn, ac yn cyrhaedd Woodstock
ar y i^fed. Yn y Gymdeithasfa, y mae
Harris yn gwasgu ar Daniel Rowland y
dylai ymgymeryd a bod yn ben ; yntau yn
gwrthod drachefn a thrachefn. Williams,
Pantycelyn, yn dweyd fod gan Harris y
ddawn oedd eisiau arnynt ; mai prif ddawn
Rowland, Howell Davies, ac yntau, oedd
appelio at y teimladau, a bod Duw gyda
hwy felly ; ond er pan ymadawsai Harris,
nad oedd neb wedi gallu Ilanw ei le, ei fod
yn pregethu yn rhagorol, gan osod Crist
uwchlaw pob peth, a'i fod yn gosod pwys
ar ddwyn ffrwyth ; ond mai dyn ydoedd,
ei fod yn boethlyd o dymher, y credai y
cynghorwyr ei fod yn amcanu at fod yn
ben, ac mai da fyddai pe y Ilefarai lai am
fyned i'r Eglwys. Atebai Harris ei fod am
4i6
Y TADAU METHODISTAIDD.
i'r gwaith fyned rhagddo yn yr yspryd y
cawsai ei ddechreu, ei fod yn gobeithio y
peidiai y gwrthwynebiad (ar ran yr esgob)
yn fuan, ac y ceid esgobion efengylaidd.
Achwynai fod y bobl yn gadael cymundeb
yr Eglwys, ac yn cael cymundeb yn eu
tai ; a thrwy hyn, fod pellder yn cael ei
greu. Gwedi hyn, Popkins yn darllen
papyr, ac yn condemnio llun Crist oedd
i'w ganfod yn rhai o'r eglwysydd ; Harris
yn teimlo yn enbyd, ac yn bygwth ymaflyd
yn ei het, a myned allan ; eithr Rowland
a WilUams yn llwyddo i'w dawelu. Con-
demniodd Howell Davies, a WilHams,
Pantycelyn, Popkins yn enbyd. Dywedai
y diweddaf am dano ei fod mor gyfnewid-
iol a'r gwynt ; amser yn ol, mai EHseus
Cole oedd ei hoff awdwr ; gwedi hyny,
Erskine, ac ar ol hyny, Hervey ; ond yn
awr, mai Robert Sandeman oedd ei bob
peth. Y Gymdeithasfa yn hapus drwyddi
o hyny allan. Ar y maes, y mae Rowland yn
pregethu ar Mair yn golchi traed ein
Harglwydd, a Harris ar ei ol gyda dirfawr
awdurdod. Harris yn dychwelyd yn
hapus ei yspryd trwy Hwlffordd, St.
Clears, Cross Inn, Llansawel, Llanfihang-
elfach, a Llangadog. Ni chafodd erioed
Hosocach cynuHeidfaoedd, na mwy o aw-
durdod wrth draddodi.
Gorphenaf 20. Harris yn myned i
Aberhonddu i gyrchu yr larhes Hunting-
ton i Drefecca. Yno, clywed Daniel
Rowland yn pregethu ar yr heol, am bob
rhodd ddaionus a pherfîaith yn dyfod
oddiwrth yr Arglwydd ; a Pheter Wil-
Hams, ar ei ol, yn Saesneg ; yr Arglwydd
yn amlwg gyda y ddau. Yr larlles yn
aros amryw ddyddiau yn Nhrefecca, yn
mawr hoffi y He a'r ddysgyblaeth, ac yn
hysbysu Harris fod arni awydd sefydlu
coleg i'r pregethwyr yno, fel yr elent allan
yn yspryd Trefecca i gyhoeddi Crist ;
y gallent bregethu yn mysg y Method-
istiaid a'r YmneiUduwyr, a byw yn nh_ŷ
Harris, a bod dan ei ofal. \Vrth hebrwng
yr larlles i Fryste, yn cael ei hoH ganddi
am Trefecca Isaf, fel y geUid adeiladu y
coleg, yr hwn a alwai yn ysgol y proph-
wydi, yno, gyda Mr. Jordan, oedd ar y
pryd yn cadw ysgol ramadegol yn y Fenni,
yn brif athraw. Y syniad am gael ysgol
y prophwydi i Drefecca yn mawr gymer-
adwyo ei hun i feddwl Harris.
Aros yn Bath, a Bryste, yn nghyd a'r
amgylchoedd, hyd Awst 14. Ar yr 2iain,
cychwyn i Gymdeithasfa Llangeitho. Yno,
cael rhyw gymaint o deimlad gan y cyng-
horwyr, ac oblegyd y gwelai duedd i
ymadael ag Eglwys Loegr. WiUiams,
Pantycelyn, yn pregethu ar Grist fel
cyflawniad o'r hoH gysgodau ; ar ei ol,
Peter WiUiams yn pregethu ; awelon
cryfion yn chwythu ar y dorf, Uawer yn
canu ac yn gorfoleddu, yn arbenig pan y
cyfeiriai at yr aberth ar y groes. Wedi
ciniaw, Harris yn cyfarch y seiadau
preifat, gan ddangos y fath fraint iddynt
oedd eu bod aHan o uffern, ac yn ngwlad
efengyl, a darfod i Dduw mewn un gradd
gyffwrdd a'u calonau. Pwysleisiai hefyd
ar yr angenrheidrwydd iddynt ddyfod dan
ddysgyblaeth. Cael Hawer o ryddid wrth
eu cyfarch. Popkins yn poenu rhyw
gyrnaint ar Harris eto, trwy ddweyd nas
gallai gydweddío â neb a wnelai bictiwr o
Grist ; eithr Harris yn gallu gweddio
drosto. Penderfynu cyfarfod yn Nghaer-
fyrddin yn mis Medi i arhoH y cynghor-
wyr, a chynal y Gymdeithasfa nesaf yn
NghasteHnewydd-yn-Emlyn. Harris yn
dychwelyd trwy Abermeurig, Llanbedr,
Llanymddyfri, ac Aberhonddu.
Medi 12, 1764. Harris yn cyfarfod â
WilHams, Pantycelyn, Daniel Rowland,
Howell Davies, a John Sparks, yn nhref
Caerfyrddin, i'r pwrpas o arholi y cyng-
horwyr, a gweled i ba le yr oedd pob un
yn gymhwys. Dweyd wrthynt am fwriad
yr larlles Huntington i gael coleg yn
Nhrefecca ; ac anog John Sparks i ym-
ryddhau oddiwrth ei fasnach, fel y gallai
Iwyr ymroddi i'r efengyl. Harris mewn
cyfyng gynghor dirfawr parthed a oedd
Duw yn ei alw i fyned i blith y bobl, a
bod yn dad i'r cynghorwyr ; gweled ei
anghymwysder oblegyd ei bechodau mewn-
ol ac allanol ; o'r diwedd, yr lachawdwr
yn rhoddi boddlonrwydd iddo. Gweled ei
fod yn gwahaniaethu i raddau oddiwrth ei
frodyr mewn ymlyniad wrth yr Eglwys, a
chyda golwg ar gymuno ynddi ; Tiid oedd
ef am ffurfio nac eglwys na sect, eithr
diwygio Eglwys Loegr. Gwelai hwy,
hefyd, yn fwy poblogaidd nag ef, ac yn
fwy Ilwyddianus ; a medrai eu hanrhyd-
eddu fel y cyfryw. Arholi y cynghor-
wyr am ddiwrnod cyfan ; Harris yn
tori allan i lefain : " O fy mhlant, fel
yr wyf yn eich teimlo wedi eich gosod
ar fy nghalon ! Mor gyfoethog ydwyf,
ac mor ddedwydd wrth eich cael yn eiddo
i mi eto ! " Ychwanega : " Pwy bynag
oedd yn y bai yn yr ymraniad, y mae hyny
drosodd. O, y fath ymysgaroedd o dosturi
a deimlaf atynt. Teimlwn fy mod yn
HOWELL HARRIS—GWEDI YR YMRANIAD.
417
eiddo iddynt i'w gwasanaethu. Y mae
ein Hiachawdwr wedi dwyn pethau o
gwmpas tu hwnt i ddysgwyhadau neb.
Cefais eu bod oh yn un â mi yn y goleuni."
Harris yn teimlo fod hwn yn ddiwrnod
mawr ; dweyd wrth y cynghorwyr ei fod
yn eu mysg er ys blwyddyn a haner, ond
mai yn awr yr oedd yn dechreu gwneyd
gwaith. Yn pregethu ar Castle Green i
gynulleidfa Hosog, a chael dirfawr ryddid ;
dychwelyd trwy Cross Inn, a Llanym-
ddyfri, a phregethu i gynulleidfaoedd
mawrion yn y ddau le.
Hydref ig. Harris yn cychwyn am
Lundain. Yn dychwelyd i Drefecca,
Tachwedd 16. Ail tranoeth, y mae yn
cychwyn am y Gymdeithasfa yn Nghastell-
newydd-yn-Emlyn. Cyfarfod yma â Dan-
iel Rowland, Enoch, Benjamin Thomas,
WiUiam John, Popkins, a Howell Davies.
Cael ar ddeall fod rhyw gymaint o ragfarn
yn meddyhau y brodyr at y sefydHad yn
Nhrefecca ; teimlo, hefyd, o herwydd fod
Daniel Rowland wedi cael ei gyhoeddi i
bregethu ar yr adeg yr oedd Harris i
arhoH y cynghorwyr ; clywed sî fod y
cynghorwyr yn edrych arno fel yn tueddu
i dra-awdurdodi arnynt. Daniel Rowland,
gwedi pregethu, yn brysio at Harris, ac
yntau yn cwyno nad oedd arnynt eisiau ei
ddawn ef (Harris), a bod yn rhaid iddynt ei
gymeryd fel yr ydoedd. Yn mhen ychydig,
Thomas Davies, Hwlffordd, a John Harry
yn dyfod yno, mewn yspryd hyfryd, ac yn
gwahodd Harris i Sir Benfro. Myned i
fysg y cynghorwyr, tua chant o honynt yn
nghyd, a dweyd wrthynt am eu rhagfarn
at Drefecca. Hwythau yn cynyg fod y
mater yn cael ei gyflwyno i ystyriaeth H.
Edwards, a John Evans, y I3ala. Yntau
yn gwrthod. Clywed ei hun yn cael ei
alw yr " Yswain Harris," a phryd araH,
" Cadben Harris ; " teimlo yn anfoddlawn
i'r enw cyntaf, ond boddloni i gael ei
gyhoeddi fel cadben, os byddai hyny o
fantais i'r efengyl. Siarad yn breifat â John
Evans, a Humphrey Edwards, o'r Bala, ac
addaw myned i'w cynorthwyo. Pregethu
am un-ar-ddeg i gynuUeidfa fawr, gyda
llawer o ryddid a nerth. Rowland yn
dweyd wrtho ar derfyn yr odfa ei fod yn
meddu yr un Hais, a'r un ergyd, ag a
feddai ddeng-mlynedd-ar-hugain yn flaen-
orol ; yntau yn ateb na ddymunai gael dim
amgenach gan Rowland na'r hyn a gly wodd
ganddo y tro cyntaf, pan y cyfarfyddasant
yn eglwys Defynog. Harris yn myned
am daith i Sir Benfro, gan ymweled ag
Eglwyswrw, Dinas, Woodstock, Castelly-
blaidd, Tyddewi, Tygwyn, Narberth,
Hwlffordd, Lacharn, a Chaerfyrddin. A
chwedi pregethu yn Llangadog, a Thre-
casteH, cyrhaeddodd Drefecca y dydd
cyntaf o Rhagfyr.
Rhagfyr 1 1 , 1 764. Harris yn cychwyn
am daith i Sir Drefaldwyn. Pregethu yn
mlaenaf yn Llanfair-muallt gyda dylanwad
mawr. Pregethu yn y Rhaiadr yn y
farchnadfa, i dorf Hosog, ar Dduw wedi
ymddangos yn y cnawd, a chael Hawer o
nerth. Croesi y mynydd i Lanidloes,
disgyn wrth y Red Lion, ond methu cael
drws agored i bregethu ; o'r diwedd, y
tafarnwr yn caniatau ei d_v, ond tyrfa mor
fawr yn ymgasglu, a swyddogion yr excise
yn dyfod yn mhlith y dorf, fel yr aeth yn
annhrefn hollol yn y lle. Neuadd y dref
yn cael ei gwrthod iddo. Ceisio llefaru
mewn tý aHan bychan, ond methu, ' am
fod y lle yn rhy gyfyng. Cychwyn tua'r
Tyddyn ; yr un dorf, gyda yr un arweinydd,
yn ei ganlyn ; neb yn gosod ei law arno,
nac ar y cerbyd, eithr ymfoddloni ar
floeddio : " Pwy a glywodd son i'n Hiach-
awdwr erioed eistedd mewn chaise ? Pre-
gethu yn y Tyddyn oddiar y geiriau : " A
thrwy ei gleisiau ef yr iachawyd ni," a
chael nerth dirfawr i egluro natur dyodd-
efiadauein Harglwydd. Yn y Drefnewydd,
" Gwir yw y gair " yw y testun. Ym-
weled â Pool, yr Amwythig, Wenlock,
Madeley, Ludlow, Leominster, a Hay,
gan ddychwelyd i Drefecca, Rhagfyr 22.
lonawr i, 1765. Cychwyn i Gymdeith-
asfa Llansawel. William Richard yn
agor y Gymdeithasfa trwy weddi, a Harris
yn traddodi anerchiad miniog i'r cynghor-
wyr, ac yn cyfeirio gyda chymeradwyaeth
mawr at emynau Williams, Pantycelyn.
Arholi deuddeg o gynghorwyr. Harris yn
y Gymdeithasfa yn anog cael undeb a'r
Wesleyaid a'r Morafiaid, ac yn dweyd fod
John a Charles Wesley wedi cael cyfarfod
i'r pwrpas â Mr. Nyberg, gweinidog y
Morafiaid yn HwlfFordd. Daniel Rowland
yn dangos rhyw gymaint o wrthwynebiad.
Cael bendith wrth glywed Popkins yn
pregethu ar : " Pa fodd y gwnaf y mawr
ddrwg hwn ? " Dychwelyd i Drefecca,
lonawr 5.
lonawr 20. Cychwyn i ranau o For-
ganwg nad oedd wedi bod ynddynt er
ys pedair-blynedd-ar-ddeg. Pregethu yn
Glascoed i gynulleidfa fechan, ar ddwfn
drueni dyn. Ymweled â Maesaleg, ger
Casnewydd, ac â Chaerdydd. Llonaid
EE
4i8
Y TADAU METHODISTAIDD.
capel o gynulleidfa yn y lle diweddaf yn y
boreu, a Harris yn cael nerth dirfawr wrth
bregethu. Myned i giniaw gyda Mrs.
Jones, Ffonmon ; yna, ymweled â Llan-
trisant, lle y câ fawr ryddid i gyffroi a
tharanu oddiar y geiriau : " Nid rhaid i'r
rhai iach wrth feddyg." Yna, pregethu
yn Mhontfaen, Pîl, Castellnedd, Aber-
tawe, Gower, Llanelli, a Chaerfyrddin, gan
ddychwelyd i Drefecca erbyn Chwefror 2.
Y mae y dydd-lyfr am y gweddill o
1765 ar goll. Erbyn dechreu y flwyddyn
ganlynol, yr oedd Howell Harris wedi cael
ei argyhoeddi yn drylwyr fod cymeryd ei
le cynteíìg, fel arolygydd cyffredinol y
Cyfundeb Methodistaidd yn Nghymru, yn
anmhosibl iddo. Cydgyfarfyddai amryw
achosion i effeithio hyn. Gadawer i ni
daflu byr olwg ar rai o honynt. (i) Yr
oedd neillduaeth, ac absenoldeb o fysg ei
frodyr, am dair-blynedd-ar-ddeg, ar ran
Harris, yn gyfryw nas gellid dileu ei
effeithiau. Er fod Daniel Rowland yn
barod, yn wir, yn awyddus i drosglwyddo
y llywodraeth iddo ; ac er y cyfranogai
WiUiams, Pantycelyn, a Peter WilHams,
yn yr unrhyw deimlad, yr oedd dosparth
o gynghorwyr wedi cyfodi yn ystod y
cyfnod hwn, y rhai na adwaenent mo
Harris, ac nad oeddynt yn barod i ym-
ddarostwng iddo. Y mae genym sail i
gredu fod cryn nifer o honynt, a Popkins
oedd eu genau. I Daniel Rowland y
tyngent, ac ni oddefent i neb gymeryd y
deyrnwialen o'i law.
(2) Yr oedd llywodraeth Harris yn
tueddu at fod yn drom. Cawn ef yn
datgan drosodd a throsodd yr angenrheid-
rwydd am ddysgyblaeth yn mysg y cyng-
horwyr ; wrth hyn y golygai ymhoH yn
fanwl i gymhwysder pob un, trefnu cylch
cydweddol a'i allu a'i ddawn i bob cyng-
horwr i lafurio ynddo ; a'i warafun i fyned
y tu allan i'r cylch hwnw, pa beth bynag
a fyddai y cymhelliad, dan berygl cerydd
cyhoedd. Yr ydym yn cofio am John
Richard, ac eraill, yn gwingo yn erbyn
trefniant manwl, peirianyddol, fel hyn ar
y cychwyn cyntaf, a chafwyd peth an-
hawsder i osod y gwrthwynebiad i lawr y
pryd hwnw. Yn awr, pan y mae Harris
wedi bod am rai blynyddoedd yn swyddog
milwraidd, hawdd meddwl fod ei syniad
am ddysgyblaeth ac isddarostyngiad yn
gryfach. Dysgwyliai am ufudd-dod ar
ran y cynghorwyr i'r arolygwr, cyffelyb
i eiddo y milwyr i'w cadben, yr hwn
ufudd-dod nid oeddynt hwythau yn barod
i'w roddi. O'r ochr arall, y mae yn bur
sicr fod Ilywodraeth Rowland wedi bod i
raddau yn Ilac ; caffai y cynghorwyr fyned
i bregethu lle y mynent, o leiaf, lle bynag
y caent rywfath o wahoddiad, heb fod neb
yn ceisio gosod unrhyw rwystr ar eu
ffordd. Y tebygolrwydd yw fod cryn
annhrefn wedi dyfod i mewn gyda hyn,
os nad oedd y rhyddid wedi cael ei arfer
weithiau yn achlysur i'r cnawd. Cyfodai
holl natur Howell Harris yn erbyn y
penrhyddid hwn, ond ni fynai y cynghor-
wyr, ar ol cael eu ffordd mor hir, gymeryd
eu dwyn drachefn dan yr hyn a ystyrient
hwy yn iau caethiwed.
(3) Yn ystod amser ei neillduaeth yn
Nhrefecca yr oedd Howell Harris wedi
ymwasgu yn glosach fyth at Eglwys
Loegr. Gwnaethai heddwch a'r hen
Brice Davies, ficer Talgarth ; Ilwyddasai i
gael cymundeb niisol yn yr eglwys yno, a
chael yr oriel wedi ei neillduo i gantorion
Trefecca ; yr oedd Mr. Morgan, y cuw-
rad, yn gyfaill mynwesol iddo, ac yn ym-
weled ag ef yn aml. Pan y dechreuasai y
clerigwyr a'r esgobion erlid y Methodist-
iaid, a nacau y cymundeb iddynt, dywedai
Harris mai glynu wrth y bobl a wnelai
efe, a dysgwyliai eu gweled yn cael eu
bwrw allan, fel prawf y bwriadai yr
Arglwydd iddynt fyned yn gyfundeb ar
wahan. Yn awr, y mae yn benderfynol o
Iynu wrth yr Eglwys, hyd yn nod pe y
gorfyddai iddo gefnu ar ei hen gyfeillion ;
pan y gwel yr eglwysydd yn cael eu cau
yn erbyn Rowland, ei ofal mawr yw na
fyddo neb yn dweyd gair chwerw am yr
esgob ; a pharha i freuddwydio am benodiad
esgobion efengylaidd, y rhai osodent y
clerigwyr Methodistaidd yn eu holau, ac a
ordeinient y penaf o'r pregethwyr Ileygol.
Yr oedd y Methodistiaid, o'r tu arall, yn
ystod cyfnod neillduaeth Harris, wedi
ymddyeithrio yn ddirfawr oddiwrth yr
Eglwys yn eu teimlad ; yr oedd blynydd-
oedd lawer o erlid, a difrio, a bygwth,
wedi gwneyd eu gwaith ; ac yn awr yr
oedd eu hyspryd yn chwerw ynddynt am
fod Daniel Rowland, yr hwn a ystyrid yn
dywysog Duw yn eu plith, wedi cael ei
fwrw allan o'i eglwysydd. Mewn canlyn-
iad, ni aent i gymuno i eglwys y plwyf;
eithr cyfranogent o'r elfenau yn y gwahanol
gapelau a benodasid i hyny. Dywed
Harris y gweinyddent swper yr Arglwydd
mewn tai anedd, yr hyn oedd yn groes
iawn i'w deimlad. Yr unig linyn a
gysylltai y Methodistiaid a'r Eglwys y
HOWELL HARRIS—GWEDI YR YMRANIAD.
419
pryd hwn oedd, mai gan glerigwyr yn
unig y derbyniai y rhan fwyaf o honynt y
cymun, ac nad oeddynt wedi ymsymud yn
gyffredinol i ordeinio yn eu mysg eu
hunain. Yr oedd rhyw arwyddion fod hyd
yn nod hyn ar gymeryd lle. Ordeiniasid
Morgan John Lewis yn weinidog y New
Inn ; David Wilhams yn weinidog yr
Aberthyn ; a Thomas William, a Wilham
Edward yn weinidogion y Groeswen, yn
barod ; a thybiai Howell Harris y cymerai
symudiad mwy cyffredinol gyda golwg ar
ordeinio le yn fuan. Ac á hyn ni fyddai
iddo na rhan na chyfran.
(4) Nid oedd y Methodistiaid, o ran y
cyffredinolrwydd o honynt, wedi cymeryd
o gwbl at y sefydHad yn Nhrefecca. Tra
yr addefent fod Harris yn bur yn ei fwriad,
ac yn gweithredu tan ddylanwad cymheU-
ion anhunangar, credent mai camgymeriad
difrifol oedd yr adeilad a'r teulu. Yr oedd
hyd yn nod cyfaill mor drylwyr i Harris a
WiUiams, Pantycelyn, yn ei feio am hyn,
fel y dengys y difyniadau canlynol o'i
farwnad iddo : —
" Pa'm y llechaist mewn rhyw ogof,
Castell a ddyfeisiodd dyn ?
Ao anghofìaist dy ddeadell,
Argyhoeddaist ti dy hun '?
Y mae plant it' ar hyd Cymru,
Yn bymtheg-mlwydd-ar-hugain oed,
A ddymunasai genyt glywed
Y pregethau cynta' erioed.
Eisiau parch, neu eisiau elw?
Neu ry w fendith is y ne' ?
llhoist fíarwel i'r fyntai ddcfaid,
Ac arosaist yn dy le ?
Yr oedd canoedd gynnau'n gruddfan,
Ac yn gofyn beth yw hynt
Yr hen udgorn fu'n Nhrefecca,
Ac yn uchel seiniodd gynt ?
Ai bugeilio cant o ddefaid,
O rai oerion, hesbion, sych,
Ac adeilo iddynt balas,
A chorlanau trefnus gwych,
Etyb seinio pur efengyl,
Bloeddio'r iachawdwriaeth rydd,
O Gaerlleon bell i Benfro,
0 üaergybi i Gaerdydd ?
Pa'm y treuliaist dy holl ddyddiau
1 wneyd i'hyw fynachlog fawr,
Pan y tynodd Harri frenhin
Fwy na mil o'r rhai'n i lawr?
Diau buaset hwy dy ddyddiau,
A melusach fuasai 'nghán,
Pe treuliasit dy holl amscr
Yn nghwmpeini'r defaid mân.
Trist yw'r ffrwythau a ddigwyddodd
O it' beidio rowndio'r byd ;
Mwy fuasai dy ogoniant
Hyn pe buasai'th waith o hyd."
Os mai fel hyn y teimlai cyfaill mor
anwyl a Wilhams ar y mater, diau fod y
cyffelyb yn deimlad cyffredinoÌ. Ar yr un
pryd, fel y bardd, y mae yn sicr eu bod
yn maddeu iddo ei gamgymeriad : —
" Ond mae pawb yn maddeu heddyw ;
Mae rhyw arfaeth faith uwchben,
Ag sy'n trefnu pob materion
A ddychmygo dyn is nen."
Ond ni chaniatäi yntau fod arno angen am
faddeuant yn nglyn a'r mater hwn, ac yr
oedd canfod ei frodyr a'i gyfeiUion yn
edrych ar y sefydliad yn Nhrefecca gyda
llygad drwgdybus yn dra dolurus iddo.
(5) Yr oedd rhyw syniad am undeb
cyffredinol rhwng pawb ag a feddai
ysprydolrwydd crefydd wedi ei feddianu.
Breuddwydiai am grynhoi yn nghyd
ganlynwyr Whitefield, y Wesleyaid, y
Morafiaid, a Methodistiaid Cymru, mewn
un undeb mawr. Bu unwaith yn meddwl
am osod John Wesley, at yr hwn y meddai
anwyldeb diderfyn, fel pen ar yr undeb,
ac nid ydym yn sicr nad oedd hyny yn ei
feddwl yn bresenol. Tra yr oedd y breudd-
wyd yma yn Ilefaru yn uchel am gatholig-
rwydd yspryd Howell Harris, breuddwyd
ydoedd ; yr oedd yn gwbl anymarferol.
Y cyntaf i ddatgan yn erbyn oedd Howell
Davies ; hwyrach ei fod ef yn teimlo yn
ddolurus wrth waith y Morafiaid yn ym-
sefydlu yn Hwlffordd, fel y teimlai Harris
ei hun ar y cyntaf. Nid oedd yr un o'r
Methodistiaid yn edrych yn ffafnol ar y
syniad ; edrychent ar y peth fel dwyn
estroniaid i mewn, i fedi ffrwyth eu Ilafur
hwy. Awgryma yntau mewn canlyniad
eu bod yn gul ; mai lesu Grist a biau yr
eneidiau, ac nid hwy.
O herwydd y rhesymau a nodwyd, ac
efallai rai eraill, yr oedd Harris yn gwbl
argyhoeddedig ddechreu y flwyddyn 1766,
nas gallai weithredu fel arolygwr cyffredin-
ol yn mysg y Methodistiaid. Chwefror ig,
1766, cynhelid Cymdeithasfa yn Nghaer-
fyrddin, ac yn hono datganodd ei bender-
fyniad i beidio ymgymeryd a'r arolygiaeth ;
eithr y deuai i fysg y Methodistiaid fel
cyfaill a chàr, ac y pregethai yn eu capelau
a'u Cymdeithasfaoedd pa bryd bynag y
caffai gyfleustra a gwahoddiad, er nad allai
ystyried ei hun yn hollol fel un o honynt.
Y mae yn deilwng o sylw fod y teimlad
goreu yn ffynu rhyngddo â phrif ddynion
y Methodistiaid, ac yn arbenig â Daniel
Rowland, a Williams, Pantycelyn, yr adeg
yma ; ac i'r brawdgarwch cryfaf fodoli
rhyngddynt hyd ddydd ei farwolaeth. Yn
2
420
y TADAU METHODISTAIDD.
y Gymdeithasfa, pregethai John Harry ar
eiriau Crist wrth y wraig o Samaria ; ar
ei ol yr oedd Mr. Gray, olynydd Mr.
Pugh yn Llwynpiod, ac Abermeurig. Ei
fater ef oedd, Crist yn esgyn i'r uchelder,
yn caethiwo caethiwed, ac yn derbyn
rhoddion i ddynion. ^-^m dri, pregethai
Daniel Rowland ; ei destun ydoedd : " Fy
anwylyd sydd eiddof fi ; " a chafodd
odfa i'w chofio byth. Meddai Harris :
" Gwelwn y fath ogoniant digymhar arno
rhagor i mi ; galluogwyd fi i'w anrhydeddu,
ac i lefain ar i'r Arglwydd estyn ei einioes,
a'i ddefnyddioldeb, O, fel y dangosodd
ddirgelwch yr undeb rhwng Crist a'i
eglwys ! Dangosodd fod y nefoedd yn
dechreu yma mewn cariad ; nad yw angau
yn gwneyd unrhyw gyfnewidiad ar y
credadyn, oddigerth cynyddu ei rasau.
Gwaeddai : ' Y mae gan bob math o
greaduriaid eu cân ; ac y mae gan yr
eglwys ei chân ; a dyma hi : Fy anwylyd
sydd eiddof fi ! Cenwch hi, gredinwyr !
Yr wyf yn dweyd wrthych, cenwch yn
mlaen ! ' Yr oedd yn ogoneddus, mewn
gwirionedd." Dyma adroddiad Howell
Harris am bregeth ei gyfaill, ac y mae yn
amlwg fod yr effaith arno yn orchfygol.
Nid oes un hanes genym iddo ef bregethu
yn ystod y Gymdeithasfa, eithr bu yn
anerch y cynghorwyr gyda difrifwch mawr.
Trefnodd, hefyd, daith o dair wythnos o
amser trwy ranau o Benfro, a Chaer-
fyrddin. Yn unol a'r trefniant hwn
cawn ef yn ymweled â Narberth, Penfro,
Redford, Hwlffbrdd, Tenant, Llandegege,
Abergwaun, Woodstock, Machendre,
Capel Newydd, FeHndre, Gwaunifor,
Glanrhyd, Caerfyrddin, Ue y gwrandawai
amryw filoedd ar Castle Green, Llan-
ddarog, Llandilo Fawr, a Llangadog ;
a chyrhaeddodd Drefecca ar y lafed o
Fawrth. Cofnoda mai pregethu yn unig
a wnelai ar y daith hon, a chynghori y
seiadau a'r pregethwyr ar faterion ys-
prydol ; nad ymyrai bellach ag unrhyw
drefniadau, am y teimlai nad oedd ganddo
hawl i wneyd hyny.
Ar y trydydd o Ebrill, 1766, yr ydym yn
ei gael mewn lle o'r enw Petty France,
nid yn nepell o Fryste, mewn cyfarfod
perthynol i'r Morafiaid. Wedi cael ei
gymhell, llefarodd yn gryf yn erbyn San-
demaniaeth ; mynegodd hefyd wrth y
pregethwyr Morafaidd fod perygl yn eu
mysg i'r Beibl beidio a chael ei wneyd yn
rheol i brofi pob peth wrtho. Darllenodd
yma hefyd bregeth John Wesley ar gyf-
iawnder cyfrifedig ; hoffai hi yn ddirfawr,
ac wrth ei darllen cryfhäi ei obaith gyda
golwg ar undeb. Y Sul yr oedd yn Bath.
Aeth i'r Eglwys yn y boreu, a chyfranog-
odd o'r sacrament. Yn y prydnhawn pre-
gethodd yn nghapel y Wesleyaid, ac yn yr
hwyr aeth i gapel yr larlles Huntington,
lle y pregethai Howell Davies. Testun
Mr. Davies oedd : " Gwyn eu byd y bobl
a adwaenant yr hyfryd lais," a chafodd
odfa nerthol. Bu Harris yn ei gymdeithas
hyd ddeg o'r gloch. Yn mhen rhyw dair
wythnos wedi dychwelyd adref, cawn
Harris yn cychwyn am daith i Sir For-
ganw^g a rhanau o Sir Gaerfyrddin.
Pregetha gyntaf yn Llanbradach, íTermdy
tua phum' milldir o GaerphiH. Tranoeth
cawn ef yn Watford, ac yn pregethu yn y
capel YmneiUduol; eithr y mae yn pasio y
Groeswen heb alw. Cafodd odfa rymus
yn Nghaerdydd, wrth lefaru am Dduw yn
ymddangos yn y cnawd. Pregethai yn
dra argyhoeddiadol hefyd yn St. Nicholas.
Ymddengys na chymerodd destun, eithr ei
faterion oeddynt, credu, caru, ac edifarhau.
Yn Llantrisant taranai yn erbyn hunan-
gyfiawnder. Ei destun yn Mhontfaen
ydoedd : "O Lsrael, ti a'th ddinystriaist
dy hun." Yn nesaf cawn ef yn Mheny-
bont-ar-Ogwr, a phregethodd yn y capel
Methodistaidd, a chafodd ryddid dirfawr i
ymdrin a'r athrawiaeth am berson ein
Harglwydd. Yn Margam, wrth ddrws
tafarndy y pregethai ; rhifai ei gynuUeidfa
amryw ganoedd. Ei destun oedd : "Gwir
yw y gair ;" a thaer gymhellai bechadur-
iaid hunan-gondemniedig i ddyfod at y
Ceidwad. Yn yr Hen Fynachlog, ger
Castellnedd, rhifai ei wrandawyr amryw
filoedd. Cafodd gynulleidfa dda hefyd yn
Abertawe. Wedi tramwy trwy Gower, ac
ymweled a LlanelH, Llanedi, Llanon,
Golden Grove, a Llangadog, dychwelodd
i Drefecca erbyn y iSfed o Fai.
TreuHodd ran fawr o fisoedd Gorphenaf
ac Awst, 1766, yn Ngogledd Lloegr, yn
mysg y Wesleyaid. Gwnelai ei gartref yn
benaf yn Huddersfield, ac elai i'r wlad o
gwmpas i bregethu. Bu yn bresenol yn
nghynadledd y Wesleyaid, yn Leeds,
ganol Awst. Yn mis Medi cawn ef yn
ymweled ag amryw leoedd yn Sir Gaer-
fyrddin. Cafodd gynuUeidfa anferth yn
Llanymddyfri, yn rhifo amryw filoedd.
Porthi praidd Duw oedd ei fater ; Hefarai
yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan fod
amryw fawrion yn bresenol, ac yr oedd
cryn ddylanwad yn cydfyned a'r weinidog-
HOWELL HARRIS—GWEDI YR YMRANIAD.
421
aeth. Cafodd odfa rymus hefyd yn Llan-
gadog ; eithr bu bron a digio wrth ŵr y
tafarndy, lle y lletyai, am na chaffai dalu
am ei le, a lle ei geffyl. Yr oedd gan y
Methodistiaid gapel newydd yn Nhre-
castell. Yno cyfarfyddodd Harris a thuag
ugain o aelodau y seiat, a rhoddodd lawer
o gynghorion buddiol iddynt. Dau ddi-
wrnod y bu gartref cyn cychwyn am
Orllewin Lloegr. Yn mis Tachwedd, bu
am daith faith yn Sir Forganwg. A
diwedd y flwyddyn cawn ef yn Llundain.
Yr ydym yn cyfeirio at y teithiau cyson
hyn, er dangos anghywirdeb y dyb gyff-
redin ddarfod i Howell Harris gau ei hun
i fynu yn Nhrefecca flynyddoedd olaf ei
fywyd, gyda'r eithriad o ambell i ymwel-
iad achlysurol a wnelai i fanau lle y caffai
wahoddiad. Yn wrthwyneb i hyny, cawn
fod ei deithiau yn fynych a meithion, a'i
ymroddiad i gyhoeddi yr efengyl yn ddi-
derfyn.
TreuHodd Howell Harris y ddau fis
cyntaf o'r flwyddyn 1767 yn Brighton,
gan bregethu yn mysg y Morafiaid, a'r
Wesleyaid, ac ymweled â Llundain yn
awr ac yn y man. Y mae y dydd-lyfr
oddiyno hyd ddiwedd y flwyddyn ar goll.
Ond yr ydym yn cael ei fod yn bresenol
yn nghynadledd y Wesleyaid, a gynhal-
iwyd yn Llundain, mis Àwst. Y peth
cyntaf a gawn am dano yn 1768 yw, ei fod
yn myned i Gymdeithasfa y Methodist-
iaid, a gynhehd yn Nghayo, Chwefror 17.
Ar y ffordd yno, teimlai fod yn rhaid wrth
ryw gymaint o ffydd i fyned fel ymwelydd
i gyfarfod Ue yr arferai fod yn rheolwr.
Cyfarfyddodd â Rowland, a gofynai iddo a
oedd pawb yn foddlon i'w bresenoldeb.
Wedi cael atebiad cadarnhaol, aeth i'r
cyfarfod neillduol, ac ar gais WilHams,
Pantycelyn, traddododd anerchiad i'r cyng-
horwyr. Cafodd ryddid mawr gyda hyn.
Gwahoddai y Gymdeithasfa ef yn unfrydol
i ddyfod i'w mysg ; atebai yntau ei fod
yn foddlawn ymweled â hwy pa bryd
bynag y byddai arnynt ei angen. Myn-
egodd am y coleg a fwriadai larlles
Huntington sefydlu yn Nhrefecca, ond
cafodd fod cryn ragfarn yn ei erbyn.
Yna, ymoUyngodd i lefaru ain ffydd,
hunanymhoUad, a darllen y Beibl. Wedi
iddo orphen, cyfododd Wilhams ar ei
draed i gefnogi ei sylwadau. Yn yr odfa
gyhoeddus, pregethai Daniel Rowland ar
y geiriau : " Glanha fi ag isop, a mi a
lanheir ; golch fi, a byddaf wynach na'r
eira." Meddai Harris : " Wrth ei glywed
yn pregethu mor effeithiol am waed Crist,
a'r angenrheidrwydd am daenelliad o hono
ar y gydwybod, ac yn gwrthwynebu
golygiadau Sandeman, gan wahodd pawb
yn daer at yr lesu, a hyny mewn modd na
chlywais ef yn gwneyd erioed o'r blaen,
teimlwn gariad mawr ato ac at y bobl.
Wedi gofyn genyf, Ilefarais inau, am edrych
ar ein Hiachawdwr a'i ddyoddefiadau.
Fel yr oedd Rowland wedi dangos am
waed Crist, ei fod yn sancteiddio ac yn
gogoneddu, cadarnheais inau ei ymadrodd-
ion. Cefais ryddid dirfawr i bregethu yr
lesu." Y mae yn amlwg iddo gael odfa
dda, ac ymadawodd a'i hen frodyr a'i
galon yn gynhes tuag atynt, ac felly yr
oeddynt hwy ato yntau. Y noson hono
pregethai yn Llanymddyfri ; yr oedd Wil-
liams wedi dychwelyd gydag ef. Aflon-
yddwyd ar y cyfarfod gan glerigwr
meddw, a bu Harris yn dra Ilym wrtho.
Er fod yr larlles Huntington wedi hir
goleddu y syniad am gael coleg yn
Nhrefecca, ni chyflawnwyd y bwriad hyd
Awst 24, 1768, dydd pen blwydd yr
larlles. Agorwyd y colegdy, yr hwn oedd
ar dir Harris yn Nhrefecca Isaf, gyda
phregeth gan Whitefield, oddiar Ex. xx.
24: " Yn mhob man Ile y rhoddwyf
goffadwriaeth o'm henw, y deuaf atat, ac
y'th fendithiaf." Y Sul canlynol, pre-
gethodd yr un gŵr drachefn, yn yr awyr
agored o flaen y colegdy, i gynulleidfa o
amryw filoedd. Ymddengys mai yr hyn a
barodd i'r larlles roddi ei bwriad mewn
grym yn awr, oedd gwaith Prifysgol
Rhydychain yn esgymuno allan o honi
chwech o ddynion ieuainc, oblegyd eu
tuedd at Fethodistiaeth. Bu hyn yn
achlysur cyffro dirfawr, a rhoddodd friw i
deimladau y rhai a garent grefydd efeng-
ylaidd. Y chwech hyn, gellid meddwl, a
ffurfient flaenffrwyth efrydwyr Trefecca,
ac ychwanegwyd atynt o bob rhan o
Gymru a Lloegr, nes y chwyddodd y rhif i
fod tua deg-ar-hugain. Wedi bod yn ddyfal
wrth eu gwersi ar yr wythnos, cychwynai
yr efrydwyr i wahanol gyfeiriadau ar y
Sadwrn i bregethu yr efengyl ; ac i'r rhai
a elent i deithiau pell yr oedd yr larlles
wedi parotoi ceffylau. Pregethent yn
mysg pob enwad yn ddiwahaniaeth, ond
yn benaf yn mhlith y Methodistiaid. Y
mae yn deilwng o sylw mai coleg i bre-
gethwyr ydoedd ; ni chaffai neb fyned
iddo oddigerth iddo roddi prawf boddhaol
ei fod wedi cael ei argyhoeddi i fywyd, a
datgan ei benderfyniad i Iwyr ymgyflwyno
422
Y TADAU METHODISTAIDD.
i wasanaeth yr lesu. Llywydd cyntaf y
sefydliad oedd y Parch. John Fletcher,
ficer Madeley, yn Sir Amwythig, gŵr a
haedda fwy o sylw nag a allwn roddi
iddo. Brodor o Switzerland ydoedd, ac
ymddengys ei fod yn disgyn o un o'r
teuhioedd mwyaf pendefigaidd. Braidd
na elhr dweyd ei fod yn dduwiol o'r groth,
a'i brif ddymuniad pan yn llaric oedd
cael gwasanaethu Crist yn yr efengyl.
Yn y flwyddyn 1752, pan yn bedair-
blwydd-ar-hugain oed, daeth i Loegr er
dysgu yr iaith Saesneg. Yma daeth i gyff-
yrddiad â John Wesley, ac ymrestrodd yn
aelod o'r seiat Fethodistaidd yn Lhmdain.
Yn y flwyddyn 1757, cafodd ei ordeinio yn
ddiacon gan Esgob Henffordd ; ac yn bur
fuan cafodd, ar lythyrau cymeradwyol
Esgob Bangor, ei ordeinio yn off^eiriad gan
Esgob Llundain. Ddiwrnod ei ordeiniad,
cynorthwyodd John Wesley i weinyddu
sacrament swper yr Arglwydd yn ei gapel
yn Llundain. Yn y flwyddyn 1760, penod-
wyd ef i ficeriaeth Madeley. Ymddengys
ei fod yn ysgolor gwych, ac yn dduwinydd
da, a'r fath oedd ymddiried John Wesley
ynddo, fel y bwriadai iddo fod yn olynydd
iddo fel pen y cyfundeb Wesleyaidd.
Hyn, modd bynag, a rwystrodd angau.
Nid ymddengys y gwnelai Fletcher ragor,
fel llywydd yr athrofa yn Nhrefecca, nag
ymweled a'r sefydliad yn awr ac yn y
man, fel y caffai hamdden.
Pwy oedd athraw cyntaf yr athrofa
sydd fater a rhyw gymaint o dywyllwch
o'i gwmpas. Gwnaethai un John Jones,
pregethwr teithiol yn mysg y Wesleyaid, a
gŵr o haniad Cymreig, yn ddiau, gais am
y swydd. Yr oedd John Jones yn ysgolhaig
clasurol gwych, ac yn awdwr gramadeg
Lladin o fri ; dywedasai Charles Wesley
am dano, mai efe oedd y cymhwysaf o
bawb a adwaenai i addysgu dynion ieuainc.
Ond oblegyd rhyw ffohnebau oedd yn
nglyn ag ef, ac yn arbenig oblegyd iddo
gymeryd ei urddo gan esgob perthynol i
Eglwys Groeg, nid yw yn ymddangos iddo
gael yr appwyntiad. Yn hanes bywyd
yr larlles Huntington, dywedir mai un
Joseph Easterbroolí, mab i grîwr yn
Mryste, ac un a gawsai ei ddwyn i fynu
yn ysgol y Wesleyaid yn Ringswood, oedd
athraw y coleg. Y mae Tyerman, modd
bynag, yn tybio yn wahanol. Dywed mai
yn ysgolfeistr plwyf Madeley y penod-
wyd Easterbrook ; ac felly, er ei fod dan
Fletcher, nad oedd un cysylltiad rhyng-
ddo a Threfecca. Ar awdurdod pregeth
angladdol o eiddo y Parch W. Agutter,
maentymia mai unig athraw Trefecca am
y flwyddyn gyntaf, oedd plentyn deuddeg
mlwydd oed, o'r enw John Henderson.
Fel hyn y dywed Mr. Agutter am Hender-
son : " Pan nad oedd ond bachgen, cawsai
ei gyflogi i weini addysg yn yr ieithoedd
clasurol. Pan nad oedd ond deuddeg oed,
addysgai mewn Groeg a Lladin yn athrofa
Trefecca. Llywydd y coleg ar y pryd
oedd Mr. Fletcher, ficer Madeley." Y
mae yn ddiau fod y llanc John Henderson
yn mron yn wyrth am ei wybodaeth ; a
phrawf y difyniad uchod ei fod yn athraw
yn Nhrefecca mewn oedran rhyfedd o
ieuanc ; ond ni phrawf mai efe oedd yr
unig athraw. Yr ydym yn credu yn gryf
fod Tyerman wedi syrthio i gamgymeriad.
Heblaw y gwrthyni o osod plentyn yn
unig athraw ar sefydhad a gynwysai
ddynion mewn oed, yr ydym yn cael
amryw gyfeiriadau yn nydd-lyfr Flowèll
Harris at Easterbrook yn Nhrefecca, er na
ddy wedir yn bendant ei fod yno yn y cymer-
iad o athraw. Pwy bynag oedd yr athraw,
sicr yw fod cryn lawer o'r gofal yn disgyn ar
ysgwyddau Harris. Modd bynag, dechreu
y flwyddyn 1770, appwyntiwyd Joseph
Benson, hen daid Archesgob presenol
Caergaint, yn brif-athraw. Yn Nhrefecca
Isaf y bu yr athrofa hyd y flwyddyn 1792.
Y flwyddyn hono, gan fod Howell Harris
wedi marw er ys amser, a bod prydles
Trefecca Isaf wedi rhedeg allan, symud-
wyd yr athrofa i Cheshunt. Trwy ystod
ei fywyd, y mae yn sicr fod cysylltiad agos
rhwng Harris a'r athrofa ; tan ei ddysg-
yblaeth ef yr ystyrid y myfyrwyr ; byddai
yn aml yn traddodi anerchiadau iddynt,
ac yn pregethu yn nghapel y coleg. Rhaid
fod ei ddylanwad arnynt yn fawr.
Ar yr ail-ar-hugain o Dachwedd, 1768,
yr ydym yn ei gael yn cychwyn.ar daith
faith i Siroedd Caerfyrddin a Phenfro.
Ymwelodd â ThrecastelI-yn-LIywel, Llan-
ymddyfri, Llangadog, Llandilo Fawr,
Caerfyrddin, Narberth, Hwlffordd, Wood-
stock, Eglwyswrw, a Chapel Newydd.
Pregethodd drachefn wrth ddychwelyd yn
Nghaerfyrddin, a Llanymddyfri, ac yr
oedd yn ei ol yn Nhrefecca, Rhagfyr 4.
Yr wythnos olaf o'r flwyddyn cawn ef
mewn Cyfarfod Misol yn mysg y Method-
istiaid yn Llanfrynach, Sir Frycheiniog.
Cafodd dderbyniad o'r serchocaf. Llef-
arodd yntau yn helaeth am ddechreuad y
gwaith, addawai ddyfod i'r Cyfarfodydd
Misol pa bryd bynag y gelwid am dano,
HOWELL HARRIS—GWEDI YR YMRANIAD.
423
ac anogodd hwy i bwysleisio ar waed ac
angau y Gwaredwr. Pregethodd gyda
nerth oddiar y geiriau : " Ac ni ddwg neb
hwynt allan o law fy Nhad i." Y mae
ei eiriau nesaf yn haeddu eu cofnodi, am y
cynwysant gryn wybodaeth am sefyllfa
yr achos yn Nghymru. " Clywais gan
Benjamin Thomas," meddai, "fod pedwar-
ar-hugain o gynghorwyr yn Ngogledd
Cymru yn cyfarfod yn fisol ac yn gwart-
erol i drefnu eu teithiau ; fod saith-ugain
o aelodau yn y Bala ; a bod y gwaith yn
llwyddo yn rhyfedd yn Sir Aberteifi. Ỳn
Llangeitho, cyferfydd saith-ugain o blant
(y diwygiad) bob wythnos, i weddío, i
ganu, ac i agor eu calonau i'w gilydd ; a
llawer o rai cnawdol sydd yn cael eu
dwysbigo wrth eu gweled a'u clywed.
Cyfarfyddant, hefyd, yn Llanddewi-brefi,
a lleoedd eraill. Yn Llanddewi-aberarth,
lle yr oedd y bobl oll yn gnawdol, y maent
wedi adeiladu capel iddynt eu hunain, ac
yr oedd Benjamin Thomas yn pregethu
ynddo bythefnos yn ol, a chwedi iddo ef
orphen, buont yno yn canu ac yn gweddío
hyd ddeuddeg o'r gloch y nos. Gwelaf
yn amlwg fod yr Arglwydd yn eu mysg,
ac yn eu hanrhydeddu. Llawenychwn yn
ddirfawr o'r herwydd, a chefais nerth i
lefain ar yr Arglwydd dros Rowland, ar
iddo gael ei gadw rhag ymchwyddo gan ei
Iwyddiant, a'i boblogrwydd, ac ar i'r
Ilwyddiant fod yn yr Yspryd." Dengys y
difyniad fod diwygiadau nerthol yn ysgwyd
Cymru yr adeg hon, a bod y gwaith yn
myned rhagddo gyda nerth. Dengys,
hefyd, fod yspryd Howell Harris mewn
cydymdeimlad Ilwyr a'i frodyr, y Method-
istiaid, a bod eu Ilwyddiant yn peri i'w
galon ddychlamu o'i fewn.
Tua dechreu y flwyddyn 1769 yr ydym
yn cael fod Ilesgedd wedi ei orddiwes,
ac ychydig a deithiodd allan o Drefecca.
Yn mis Mawrth, y flwyddyn hon, cyfar-
fyddodd a phrofedigaeth lem trwy farwol-
aeth ei anwyl wraig. Yr oedd yn ddynes
nodedig o dduwiol, a meddai yn ychwan-
egol lawer o nerth cymeriad ; gallai sefyll
hyd yn nod yn erbyn ei phriod, pan y
tueddai i fyned i eithafion. Gwaelu yn
raddol a wnaeth ; deallai ei bod yn tynu at
y diwedd, a dywedaiwrth Harrisam beidio
wylo pan ddiangai yr yspryd o'r corph,
gan y byddai hi gyda ei Gwaredwr. Eithr
wedi y cyfan daeth y diwedd yn sydyn.
Yn yr hwyr, pan yr oedd efe mewn cyfar-
fod crefyddol gyda'r teulu, ac un Mr. Cook
yn eu hanerch, dyma floedd Miss Harris
allan o ystafell ei mam yn adsain trwy y
Ile. Rhoddodd yntau i fynu ar unwaith,
ac yr oedd yn brin mewn pryd i'w gweled
yn anadlu yr anadl olaf, Cafodd ergyd
a'i syfrdanodd am amser, oblegyd yr oedd
ei serch ati yn angerddol. Meddai : " Cef-
ais ergyd na chefais ei gyffelyb o'r blaen ;
daeth y Ilifeiriant dros fy enaid ; yr oeddwn
yn gyfangwbl o dan y dwfr ; cyffyrddasant
â gwraidd fy mywyd. Bum am amser dan
draed, fel nas gallwn sylwi ar ddim, eithr
yn unig galw ar yr Arglwydd ; a'r meddwl
cyntaf a gefais oedd, ai ergyd mewn
cariad ydoedd ei waith yn ei chymeryd
ymaith, a gwrthod gwrando ar fy
ngweddi am gael ei chadw." Bu
mewn pangfeydd enaid enbyd yr adeg hon ;
dywed mai o ymladdfa i ymladdfa yr yd-
oedd, a'i fod ef yn dyst o fodolaeth y diaibl.
Eithr yn y diwedd cafodd oruchafiaeth drwy-
adl ar y cnawd a'r diafol. x\m Mawrth 13,
ysgrifena : " Dyma ddydd i'w gofio byth
genyf fi, pan y rhoddwyd corph fy
anwylaf wraig, yr hon a roddasai yr Ar-
glwydd i mi, i orwedd yn eglwys Tal-
garth." Diwrnod ystormus a gwlyb oedd
dydd claddedigaeth Mrs. Harris. Yn y
tŷ, cyn cychwyn, pregethodd Mr. White,
ac yna Uefarodd Harris ei hun yn Gym-
raeg, gan adrodd hanes ei bywyd, a nerth
ei chrefydd. Cariwyd y corph gan aelodau
teulu Trefecca. Heblaw Ilawer eraill, yr
oedd holl efrydwyr coleg yr larlles Hunt-
ington yn yr angladd, a chanasant wrth y
tŷ, a braidd yr holl ffordd i Dalgarth, er
cymaint y gwlaw. Yn yr eglwys, gwas-
anaethodd y Parch. John Morgan, y
cuwrad, a dychwelodd Harris yn ei ol i'r
tỳ gwag, er cynifer oedd ynddo, gan
deimlo ei fod wedi gosod dárn o hono ei
hun yn y ddaear. Cofnoda ddarfod iddo
roddi menyg duon i'r holl fyfyrwyr, a
galarwisgoedd i'r holl wragedd a'r merched
yn y teulu, y rhai a rifent un-ar-bymtheg-
a-deugain.
Ar y dyddolaf o Fawrth y mae yn myned
i Lundain, a Brighton, yn benaf ar ym-
weliad â'r larlles Huntington, a'r dydd
cyn y Sulgwyn y dychwelodd i Drefecca.
Ar yr wythfed o Orphenaf, cychwynodd am
daith i Siroedd Morganwg a Mynwy. Y
lle cyntaf a pha un yr ymwelodd oedd
Llanbradach ; cafodd gynulleidfa fawr,
mil o leiaf, ac yr oedd nerth mawr yn cyd-
fyned a'i eiriau pan y rhybuddiai y dorf i
ddianc am eu bywyd. Erbyn myned i
Gaerphili yr oedd y gynuUeidfa yn fwy
fyth. Pregethai yn Gymraeg ac yn
424
Y TADAU METHODISTAIDD.
Saesneg ; a chwedi taranu am beth amser
arweiniwyd ef i efengylu yn felus. Wedi
pregethu yn Llysfaen daeth i Gaerdydd,
ac achwyna ei fod yn wael, ac mewn poen
dirfawr, a'i fod yn fynych yn colH ei lais
wrth lefaru. Yn Baduchaf, yr oedd y
gynulleidfa yn fawr, eithr y pregethwr yn
gryg ; modd bynag, nerthwyd ef o wendid
i lefaru am yr lesu yn agoryd llygaid y
deilhon, ac yn gollwng y carcharorion yn
rhydd. Y dwfr a rydd ein Harglwydd yn
tarddu i fywyd tragywyddol oedd ei fater
yn Llantrisant, lle y daethai torf i wrando,
ac y cafodd yntau, mewn cryn lesgedd,
gymhorth i bregethu. Wedi llefaru yn
Mhontfaen, ciniawodd yn Nghastell Ffon-
mon, a phregethodd y noswaith hono yn
Aberddawen gyda mwy o ryddid nac arfer.
Yn nesaf, cofnoda ei fod yn pregethu yn
Llangana, " plwyf Mr. Jones," meddai ; a
phan gofir mai yr Hybarch Jones, Llan-
gan, oedd y Mr. Jones hwn, y mae y
crybwylliad o ddyddordeb. Nid yw yn
ymddangos fod Mr. Jones yn gwrando.
Wedi ymweled a Phenybont, aeth i'r Pîl ;
achwyna ar y gwres, a'i lesgedd yntau,
eithr, fel arfer, pan aeth i lefaru nerthwyd
ef yn rhyfedd. Yn eglwys Llanilltyd, ger
Castellnedd, clywodd bregeth ardderchog,
ar berson Crist, gan offeiriad o'r enw Mr.
Jones. Tybed mai Jones, Llangan, ydoedd ?
Pregethodd yntau yn nghyntedd y Fyn-
achlog i ddeng mil o bobl, o leiaf. Cafodd
gynulleidfa lawn mor Hosog yn Abertawe,
lle y llefarai oddiar Hdiart y tuì'npihe. Ni
phregethodd drachefn nes cyrhaedd Llan-
dilo Fawr ; nerthwyd ef yn ddirfawr yma
i son am Dduw yn tynu ymaith y galon
gareg. Yn y capel newydd, ger Pontar-
gothi, ei destun ydoedd : " Du wyf fi, ond
hawddgar." Llym enbyd ydoedd yn y
bregeth hon. Yr ydym yn ei gael yn
nesaf yn Nghaerfyrddin, yn ymyl y castell ;
Duw yn darostwng ucheldrem dynion yw
ei fater. Wedi ymweled a Llansawel,
daeth i Gilycwm ; yn nghanol y pentref y
pregethai, oblegyd mawredd y gynuHeidfa ;
ei destun ydoedd : " Os dyoddefwn gyda
Christ, ni a deyrnaswn gydag ef." Syna
fel y mae yn cael ei gynorthwyo yn y
gwaith, ac at y derbyniad a roddir iddo,
a'r cariad a ddangosir ato gan bobi
Rowland. Cyfeiria hefyd at y tân oedd
yn eu mysg. W^edi pregethu yn Nhre-
castell i dorf fawr, cyrhaeddodd Drefecca,
Gorph. 22ain. Meddai : "Daethum yma
neithiwr o gwmpas naw ; clywais fawl yr
Arglwydd yn cael ei ganu, a dywedais wrth
fy mhobl y pethau mawrion a welais, fod
yr hoH wlad yn addfed i'r cynhauaf; na
chefais erioed o'r blaen y fath gynuHeidfa-
oedd, na'r fath ryddid i lefaru, na'r fath
wrandawiad. Dywedais, yn mheHach, fy
mod wedi dychwelyd i godi eu hyspryd-
oedd, i'w gosod ar dân, ac i dystiolaethu
am yr lachawdwr wrthynt." Hawdd
gweled fod ei daith wedi bod o ddirfawr
fendith iddo.
Awst i6eg, 1769, daeth larHes Hunting-
ton i Drefecca i gadw cylchwyl gyntaf ei
choleg, gan ddwyn gyda hi larlles Buclian,
yr Arglwyddes Anne Erskine, Miss Orton,
yn nghyd â'r Parch. WaHer Shirley,
brawd larH Ferrers. I'w chyfarfod daeth
Fletcher, Ilywydd y coleg, Daniel Rowdand,
WiHiams, Pantycelyn, Howell Davies,
Peter WiHiams, a John W'esley, yn nghyd
â Hu o sèr Ilai. Mewn canlyniad i'w
dyfüdiad cadwyd wythnos o gyfarfodydd
pregethu. Boreu dydd Sadwrn, Awst 19,
pregethodd Rowland yn nghapel y coleg
i gynuHeidfa fawr, ar y geiriau : " Ai
ychydig yw y rhai cadwedig ?" Y pryd-
nhawn gweinyddwyd sacrament swper yr
Arglwydd ; Fletcher yn anerch y cymun-
wyr, Williams yn rhoddi aHan yr emyn,
a'r gynulleidfa yn canu nes yr oedd y He
ar dori gan fawl. Erbyn y nos yr oedd y
gynulleidfa yn rhy Hosog i'r capel, a phre-
gethodd HoweH Harris allan oddiar y geir-
iau: " Canys daeth yr amser i'r farn ddech-
reu o du Dduw." Y Sul, yn y cyntedd oddi-
allan, darHenodd Fletcher y gwasanaeth, a
phregethodd Shirley. Am un, gweinydd-
wyd y cymundeb drachefn, Rowland,
Fletcher, a Williams, yn cymeryd rhan.
Yn y prydnhawn, pregethodd Fletcher i
dorf anferth oddiar y geiriau : "Canysnid
oes arnaf gywilydd o efengyl Crist ;" a
Rowland, yn Gymraeg, ar ei ol, oddiar :
" Gosodwyd i ddynion farw unwaith."
Ymddengys mai dydd Llun y daeth John
Wesley, HoweH Davies, a Peter Williams
i'r He ; a'r dydd hwnw, a'r dyddiau canlyn-
ol, cymerasant hwythau ran yn y gwaith.
Fel hyn yr ysgrifena John Wesley am
ddydd lau, diwrnod olaf yr wyl :—
" Gweinyddais swper yr Arglwydd i'r
teulu. Ám ddeg, pregethodd Fletcher
bregeth nodedig o fywiog yn y cyntedd o
flaen y capel, am fod y capel yn Ilawer
rhy fach. Ar ei ol pregethodd WiIIiam
WiIIiams, yn Gymraeg, hyd nes yr oedd
rhwng un a dau. Am ddau ciniawsom.
Ar yr un pryd yr oedd torf oddiallan yn
cael eu porthi â basgedeidiau o fara a
HOWELL HARRIS—GWEDI YR YMRANIAD.
425
chig. Ain dri, cymerais i fy nhro, yna
Mr. Fletcher, ac o gwmpas pump goll-
yngwyd y dyrfa yniaith. Rhwng saith ac
wyth, dechreuodd y gariad-wledd, pan y
cysurwyd llawer, yr wyf yn meddwl."
Ychwanega fod ty Howell Harris, yn
nghyd â'r gerddi, a'r perllanau, a'r rhod-
feydd o gwmpas, yn baradwys fechan.
Sicr fod y cynulhad yn ardderchog ; ac
wrth ddarllen enwau y rhai oedd yn
bresenol, y mae yn anhawdd peidio
meddwl am eiriau yr Ysgrythyr : " Wele
mor ddaionus ac mor hyfryd yw trigo o
frodyr yn nghyd."
Yn fuan gwedi hyn cymerwyd Howell
Harris yn bur glaf, ac nid aeth nemawr
allan o Drefecca hyd fis Hydref, pan yr
ydym yn ei gael yn cychwyn am daith i
Sir Benfro. Yn nghapel Hwlffordd yr
ydym yn ei gael yn pregethu gyntaf ; yna
aeth i Woodstoclí. Wedi hyny ymwelodd
ag Abergwaun, Solfach, Tyddewi, a
Gwaunifor. Wrth ddychwelyd pregethodd
yn Nghaerfyrddin, Llandilo Fawr, a Llan-
gadog. Cafodd flas mawr ar ei daith.
" Yr wyf yn teimlo fel pe bai y wlad yn
cael ei rhoddi i mi o'r newydd," meddai.
Dyma y daith olaf iddo yn y flwyddyn
1769.
Ar y Sul cyntaf yn Chwefror, 1770,
cawn ef yn Nghaerfyrddin, ar ei ffordd
drachefn i Sir Benfro. Wedi pregethu yn
Narberth, aeth i Hwlffbrdd, Ile y cynhelid
Cyfarfod Misol, y cyntaf wedi marwolaeth
Howell Davies. Yr oedd yno gynulliad
mawr o bregethwyr, cynghorwyr, a stiward-
iaid. Wedi i John Harry geisio ganddo,
anerchodd y cyfarfod am agos i dair awr.
Dywedai iddo ddyfod mewn canlyniad i
Iythyr oddiwrth Mr. Thomas Davies ;
pwysleisiai ar yr angenrheidrwydd iddynt
oU adnabod Crist. " Nid oes genym ddim
i'w ddweyd trosom ein hunain, ein bod yn
myned o gwmpas i bregethu, heb or-
deiniad," meddai, " onid ydym yn cael ein
hanfon gan yr Yspryd Glân." Cafodd
ymddiddan preifat a John Harry, yr hwn
a ddywedai fod ganddo fab yn bwriadu
myned i Athrofa Trefecca. Y mab hwn,
yn ddiau, oedd y Parch. Evan Harris, yr
hwn a gafodd ei ordeinio ar y neillduad
cyntaf yn 181 1, yn Llandilo Fawr. Yn y
capel, pregethodd am agos i ddwy awr heb
un testun. Pregethodd yn yr un Ile nos
dranoeth, gyda Ilawer o ryddid, ar dduw-
dod y Gwaredwr. Wedi ymweled â nifer
o leoedd yn Mhenfro, yn benaf yn y rhan
Saesneg, aeth i Woodstock, i gyfarfod
Daniel Rowland, ac y mae ei deimlad ar y
ffordd yno yn haeddu ei groniclo. " Yr
wyf yn myned i Woodstock," meddai, "i
gyfarfod Mr. Rowland, er gofyn iddo ef a'r
Gymdeithasfa i ddyfod i Drefecca, ac yr
wyf yn gadael y canlyniadau i'r Arglwydd.
Yr wyf yn cael fod Ilwyddiant anarferol
gydag ef; tros ddwy fil o bobl yn dyfod
i'r sacrament yn Llangeitho bob dydd
Sadwrn, a hyny dros ddeugain milltir o
bellder. O, beth wyfi fi ?" Eto dywed :
" Cefais gariad mawr heddyw at Rowland,
wrth weled ei fod yn cael ei garu yn fwy
nag y cefais i erioed, a'i fod wedi cael mwy
o ras na mi i'w gadw yn ostyngedig, ac i
fod yn ffyddlawn i'r Arglwydd. Y mae yn
fwy ei ddawn a'i awdurdod, ac y mae ei
Iwyddiant wedi bod yn fwy. Á'm holl
galon dymunwn ar i'w Iwyddiant barhau,
ac iddo gael oes hir, a nefoedd yn y
diwedd." Hyfryd meddwl fel yr oedd y
ddau hen gyfaill, ar ol ymranu am yspaid,
wedi dyfod i ddeall eu gilydd, ac fel yr
oedd calon y naill wedi ymglymu drachefn
am y llall. Testun Rowland ydoedd :
" Edrychwch na byddo yn neb o honoch
galon ddrwg anghrediniaeth, yn ymado â
Duw byw." Cafodd odfa hynod ; a
gweddíai Harris am iddo gael yr eneiniad
yn helaeth yn barhaus. Wedi y bregeth
yr oedd y sacrament. " Daeth yr Arglwydd
ataf," meddai Harris, " gan ddwyn tyst-
iolaeth i'w gorph a'i waed sanctaidd."
Tranoeth, sef Chwefror 14, 1770, yr
oedd Cymdeithasfa Chwarterol yn Aber-
gwaun. Nid yw yn ymddangos fod Harris
yn bwriadu myned yno ; ond ar gais un-
frydol cyfeillion Sir Benfro efe a aeth. Nid
aeth ar ei union i'r cyfarfod neillduol, eithr
dywedodd yr elai os gelwid am dano. Yn
fuan daeth y gwahoddiad iddo. Y mater
tan sylw pan aeth i mewn oedd cynygiad i
osod William Davies, Castellnedd, yn
arolygwr ar y seiadau yn Sir Benfro, yn
lle Howell Davies. Erfyniodd Harris
arnynt ymbwyllo, a'i glywed yn gyntaf, a
mynu deall a oedd yr Yspryd Glân wedi
ei gymhwyso i fod yn dad. Siarsodd hwy
hefyd i gymuno hyd y gallent yn eglwys eu
plwyf. Yna rhoddwyd gerbron ddymun-
iad Harris, ar i'r Gymdeithasfa Chwarterol
ganlynol gael ei chynal yn Nhrefecca.
Gwrthwynebai John Evans, y Bala, yr
hwn a ofynai am dani i'r dref hono.
Atebai Harris, mai dyma y cais cyntaf a
wnaethai atynt er ys ugain mlynedd, ac na
fyddent yn dangos Ilawer o gariad drwy
wrthod. Dywedai John Evans yn ol fod
426
Y TADAU METHODISTAIDD.
Harris yn gosod ffafr bersonol iddo ef o
flaen daioni y Gogledd. Sut y penderfyn-
wyd y mater ni ddywedir, ond ymddengys
mai John Evans a enillodd. Am un-ar-
ddeg, gweddíodd Mr. Gray, a phregethodd
Mr. Rowland oddiar y geiriau : " Gosod fi
fel sêl ar dy galon." Byr iawn y bu, ac
nid aeth yn dori allan o dano. Ar ei ol
pregethodd Howell Harris. Ni ddywed
beth oedd ei destun, ond cafodd nerth
dirfawr.
Wedi trefnu ei daith yn Abergwaun,
aeth Harris i Bontfaen ; yna ymwelodd ag
Eglwyswrw, lle yr ymadawodd â John
Harry a Thomas Davies ; Capel Newydd,
Machendref, Caerfyrddin, Llanddarog,
Llandilo Fawr, a Llanymddyfri, a chyr-
haeddodd Drefecca, Chwefror 24. Yn
mis Mai, yn yr rm flwyddyn, yr ydym yn
ei gael ar daith yn Sir Benfro, ac yn ym-
weled a'r un lleoedd. Yn Mehefìn y mae
yn ymweled ag amryw o seiadau Sir Faes-
yfed, megys Claerwy, Caebach, Dolswydd,
a Phenygorig. Yn Dolswydd bu yn hallt
wrthynt, oblegyd eu bod yn taflu eu Cym-
raeg dros y bwrdd, a phriodolai hyny i
falchder Lloegr. Yn Caebach, ger Llan-
drindod, daeth offeiriad ato ar derfyn y
cyfarfod i ddiolch iddo am ei bregeth, gan
ddymuno arno fyned trwy yr holl sir a'r
athrawiaeth hono. Er na Iwyddasai yn
Abergwaun i gael y Gymdeithasfa i Dre-
fecca, ac mai y Bala a eniUodd, oblegyd
mawr daerni John Evans, y mae Howell
Harris, yn Ue dal dig, yn cychwyn i Gym-
deithasfa Llangeitho, Àwst 20, gan deimlo
mai hyny oedd ewyllys yr Arglwydd.
Diau ei fod wedi cael ei wahodd gan
Rowland. Ar y ífordd pregethodd yn
Llanfair-muallt, Cribat, a Llanwrtyd, lle
yr oedd capel erbyn hyn wedi ei adeiladu.
Y nos cyn y Gymdeithasfa cyrhaeddodd
Dregaron. Nid yw yn ymddangos iddo
gymeryd testun yma, ond llefarodd ar ym-
briodi â Christ. Aeth i Langeitho erbyn
deuddeg dranoeth. Yr oedd rhai canoedd
o bregethwyr a stiwardiaid yn y capel
newydd. Ni ddywed ddim am yr ymdrin-
iaeth yn y cyfarfod neillduol, ond yn yr
odfa gyhoeddus, y prydnhawn cyntaf, pre-
gethodd rhyw frawd o gymydogaeth
Wrexham, na roddir ei enw, ar y geiriau :
" Canys ni appwyntiodd Duw nyni i ddig-
ofaint, ond i gaffael iachawdwriaeth, trwy
ein Harglwydd lesu Grist." Pregethodd
am etholedigaeth, am farwolaeth ein
Harglwydd yn boddloni cyfiawnder, ac am
fod y pechadur yn cael myned yn rhydd,
gan ddarfod i'n Hiachawdwr dalu yr oll a
fedrai y ddeddf ofyn. Ymddengys ei bod
yn odfa dda. Ar ei ol cyfododd Davies,
Castellnedd, gan gymeryd yn destun :
" Oblegyd Crist hefyd a ddyoddefodd dros
bechodau, y Cyfiawn dros yr anghyfiavv'n,
fel y dygai ni at Dduw." Ymddangosai i
Harris fod dawn y pregethwr hwn yn fwy,
ei oleuni yn gryfach, a'i wybodaeth o'r
Ysgrythyr yn fanylach na'r cyntaf, a bod
mwy o arddehad ar ei weinidogaeth.
Torai mawl allan drachefn a thrachefn yn
mysg y dyrfa, tra y bloeddiai cenad Duw
fod Crist wedi cymeryd ein lle, ddarfod
ein pechodau ni fyned yn eiddo iddo, a bod
ei gyfiawnder ef wedi dyfod yn feddiant i
ni. Yr oedd y dylanwad mor fawr fel
braidd nad oedd Harris wedi ei syfrdanu.
" Arosais mewn dystawrwydd," meddai,
" wrth feddwl fel yr oedd yr Arglwydd yn
eu harddel ; gwelwn mai dyma lle y mae
Jerusalem, a bod yma ryw fywyd, a nerth,
a gogoniant rhyfedd, a'i fod yn ymledu yn
mhell ac yn agos." Cafodd Harris y lle
mwyaf anrhydeddus, sef deg o'r gloch yr
ail ddiwrnod. Ni ddywed beth oedd ei
destun, ond yr oedd Duw gydag ef.
Dychwelodd y noswaith hono i Dregaron,
a phregethodd i dorf fawr. Tranoeth
aeth ar ei union dros y mynyddoedd i
Drefecca. Dyma y tro olaf iddo i ymweled
â Llangeitho ; yn wir, dyma ei daith ddi-
weddaf allan o Drefecca.
Gyda ei fod yn dychwelyd yr oedd ail
gylchwyl sefydliad coleg larlles Hunting-
ton, yn Nhrefecca, yn dechreu. Y mae yr
adroddiad a roddir yn Life and Times of
Selina, Countess of Huntington, am y rhai
oedd yn bresenol, a'r sawl a gymerodd ran
yn y cyfarfodydd, yn mhell o fod yn gyson
a'r adroddiad a geir yn y dydd-Iyfr ; a'r
tebygolrwydd yw mai y dydd-lyfr sydd yn
gywir. Dechreuwyd y cyfarfodydd gyda
gweinyddiad o'r cymundeb yn nghapel y
coleg, am wyth yn y boreu; cyfarfyddwyd
a'r Arglwydd yn y cyfarfod hwn. Yn y
prydnawn pregethai Mr. Fletcher, Ilywydd
yr athrofa, ar ddirgelwch Crist. Ar ei ol
cyfododd Peter WiIIiams, gan lefaru yn
Gymraeg ac yn Saesneg ; ei bwnc oedd
gwagedd y byd ; a phan y dechreuodd son
am ogoniant yr lesu, a bod nefoedd yn ei
gariad, aeth yn gyfTro mawr yn mysg y
bobl, ac yr oedd y Ile yn Ilawn bywyd a
gogoniant. Y noswaith hono cynaliwyd
cariad-wledd. Tranoeth,pregethodd Harris,
ar Daniel yn galaru am anwiredd y bobl ;
a chofnoda fod y Parch. J. Walters, yr
HOWELL HARRIS—GWEDI YR YMRANIAD.
427
offeiriad, awdwr y Geirlyfr Saesneg a
Chymraeg, yn bresenol. Y noswaith
hono pregethodd Mr. Walters bregeth
bwysig. Yn ychwanegol, cawn fod Simon
Llwyd, o'r Bala, yn bresenol, yn nghyd ag
un Mr. Hammer, yr hwn hefyd a gymer-
odd ran yn y gwaith cyhoeddus. Daethai
yno hefyd lu o ddyeithriaid, a dy wed Harris
fod ugain o welyau yn llawn yn ei dŷ ef.
Eithr yr oedd ystorm ar dori uwchben
athrofa yr larlles yn Nhrefecca. Ddechreu
mis Awst, tua phythefnos cyn cylchwyl y
coleg yn Nhrefecca, cyfarfu cynhadledd y
Wesleyaid yn Llundain. Yno, datganodd
John Wesley eu bod fel corph o bobl
wedi tueddu yn ormodol at Galfiniaeth, a
rhoddodd fynegiant i syniadau llawer
mwy Arminaidd. Yn mysg pethau eraill,
dywedodd y dylai y W'esleyaid gael eu
dysgu i ymdrechu am, ac i ddysgwyl
sancteiddhad, nid yn raddol, trwy fywyd
o ymdrech, ond yn uniongyrchoî. Pan
ddaeth cofnodau y gynhadledd i law yr
larlles, ymofidiodd ei henaid ynddi ; nis
gallai ymatal rhag tywallt dagrau yn IH, a
theimlai fod agendor nas gelUd ei chroesi
wedi cael ei hagor rhyngddi a chanlynwyr
John Wesley. Yr oedd wedi llawn fwriadu
ei gymeryd gyda hi i Drefecca y flwyddyn
hon eto ; ond yn awr, nis gallai feddwl am
hyny. Gan fod Benson, yr athraw clas-
urol yn yr athrofa, yn Wesleyad zêlog,
rhoddwyd rhybudd iddo ymadael, yr hyn
a wnaeth yntau ddiwedd y flwyddyn.
Gan ddarfod i'r larlles ddatgan ar gyhoedd
na chelai yr un Armin fod mewn cysylltiad
a'r coleg, taflodd Fletcher ei swydd fel lly w-
ydd i fynu. Rhaid ddarfod i'r helynt gyn-
yrchu cryn ferw yn y coleg ; ac, fel yr oedd
yn naturiol, rhedai cydymdeimlad y myfyr-
wyr yn gryf gyda'r larlles, bara yr hon y
fwytaent. Aeth rhai o honynt hwy i'r
eithafion cyferbyniol, gan bregethu Uchel
Galfiniaeth, os nad rhywbeth yn ffinio
ar Antinomiaeth. Modd bynag, er fod
Harris yn Galfin cryf, credai fod yr larlles
yn gweithredu yn rhy fyrbwyll, a theimlai
yn ddirfawr dros Benson. Yr oedd i John
Wesley le cynhes yn ei fynwes ; a chan
fod ei gyfaiU yn glynu yn sefydlog wrth yr
athrawiaeth efengylaidd am gyíìawnhad
trwy ffydd, nid oedd Harris am ei gondemnio
am ei olygiadau eraill. Ac oblegyd hyn,
bu rhyw gymaint o oerfelgarwch rhwng
Harris a'r larlles am dymhor. Ymddengys
mai y Parch. Mr. Shirley a gymerodd le
Benson am ryw gymaint o amser.
Treuhai yr larlles lawer o'i hamser y
pryd hwn yn Nhrefecca, ac mewn canlyn-
iad ymwelai Uawer o bregethwyr Cymreig
a'r Ile. Ddechreu Medi, daeth Daniel
Rowland yno, a phregethodd yn y coleg
oddiar y geiriau : " Oblegyd rhyngodd
bodd i'r Tad drigo o bob cyflawnder
ynddo ef." Dywed Harris iddo gael
llawer o oleuni, a bod y gynulleidfa yn
anferth. " Tra y pregethai Rowland,"
meddai, " fy yspryd a'i carai ; teimlwn ei
fod yn asgwrn o'm hasgwrn, ac yn gnawd
o'm cnawd." Yr un wythnos, daeth un
Mr. Owen, o Meidrim, yno, a phregethodd
yn rhagorol iawn, yn Gymraeg ac yn
Saesneg, oddiar : " Rhosyn Saron, a lili y
dyífrynoedd, ydwyf fi." Ar y dydd olaf,
cawn Peter Williams, a WiIIiams, Panty-
celyn, yn Nhrefecca. Pregethodd y cyntaf
yn nghapel y coleg, ar, " Myfi yw y
íîordd ; " ar ei ol, pregethodd Wihiams, ar,
y t}' ar y graig. Dranoeth, pregethai
Peter Wilhams drachefn, ar, yr Arglwydd
yn gwneyd cyfamod newydd â thŷ Israel ;
dangosai fod y cyfamod yn ddiamodol, fod
y galon newydd yn rhan o hono, a safai
yn gryf dros barhad mewn gras. Yr oedd
y dylanwad yn fawr ; y fath oedd ei allu
a'i ddoniau, fel y teimlai Harris gywilydd
agor ei enau. Cofnodir yn y dydd-lyfr am
Hydref 22 : " Heddyw, o gwmpas pedwar,
daeth Edmund Jones yma, yn y cerbyd a
anfonaswn i'w gyrchu ; am chwech, pre-
gethodd i'r efrydwyr, ar, yr hwrdd a
ddaliesid yn rhwym mewn dyrysni." Hoíî
gweled rhai, a fuasent unwaith yn methu
deaU eu gilydd, yn dyfod yn gyfeillion
drachefn. Arosodd Edmund Jones yn
Nhrefecca rai dyddiau, a phregethodd
drachefn ar : " Nid wyf yn gweddío dros
y rhai hyn yn unig."
Ar y lofed o Dachwedd, clywodd am
farwolaeth Mr. Whitefield yn America, ac
yr oedd ei alar ef, a'r larlles, ar ol y gwas
enwog hwn i Grist, yn fawr. Er fod rhyw
gymaint o bellder wedi myned rhwng
Harris ac yntau, yr oedd y ddau yn
gyfeillion calon yn y gwraidd, a theimlai
Harris, pan y daeth y newydd am ei
angau, ergyd cyífelyb i'r un a gafodd pan
y collodd ei briod. Ar gais yr larlles,
pregethodd ar ei farwolaeth y noswaith
hono. " Dangosais," meddai, " fod colofn
wedi cael ei symud ; fy mod wedi bod yn
gydnabyddus ag ef am ddeuddeg-mlynedd-
ar-hugain ; cyfeiriais at y Ile mawr a
lanwai, y gwagle dirfawr oedd ar ei ol yn
y tair teyrnas, a'r fath nifer sydd yn
galaru o herwydd ei golh, ac y byddai
428
Y TADAU METHODISTAIDD.
dros fil o eneidiau yn y dydd hwnw yn ei
gydnabod fel eu tad. Dygais ar gof
ei zêl, ei ddiwydrwydd, ei ffyddlondeb, a'i
wroldeb yn cario y gwirionedd ani rad ras
yn nihell ac yn agos. Yr oeddwn yn daer
am i'w fantell syrthio ar y rhai sydd yn
ol, a dangosais fawredd gras Duw yn ei
gynal yn nghanol y fath glod a phoblog-
rwydd." Y mae yn ddiau fod y pregeth-
wr tan deimladau dwysion, ac anhawdd
meddwl nad oedd y dagrau yn llifo dros
ruddiau ei wrandawyr.
Y niae y dydd-lyfr am ran o'r flwyddyn
1771 ar goll ; ond y mae yn mron yn sicr
nad aeth Howell Harris o cartref i bre-
gethu yn ei hystod, nac yn wir hyd ddydd
ei farwolaeth. Yr oedd llesgedd wedi ei
orddiwes, a'i gyfansoddiad, er cadarned
ydoedd, yn prysur dori i fynu. Y syndod
ydyw, pan feddyhr am fawredd ei lafur,
iddo barhau cyhyd. Dywed iddo orphen
yr adeilad yn Nhrefecca yr haf hwn ; a
thybiai fod hyny yn arwyddo ei fod ar
orphen ei waith. Ar yr un pryd, pregethai
yn ddyddiol, os nad yn amlach na hyny,
i'r teulu yn Nhrefecca ; ac yn fynychaf,
anerchai yr efrydwyr yn y coleg. Gofalai,
hefyd, am achosion tymhorol y t^' yn
Nhrefecca, er fod ganddo gynorthwywyr
ffyddlon yn Evan Moses ac Evan Roberts.
Yn mis Áwst, cynhehd cyfarfod blynyddol
yr athrofa fel arfer ; ond nid oedd Daniel
Rowland, na WilHams, Pantycelyn, yn
mysg yr ymwelwyr. Y rhai y cawn eu
henwau ydynt, John Harry, a Benjamin
Thomas, a phregethodd y cyntaf ar y
geiriau : " Crea galon lan ynof, O Dduw."
Terfyna y dydd-lyfr yn Chwefror, 1772,
ac am ei hanes o hyny allan, rhaid i ni
ddibynu ar dystiolaeth aelodau y teulu a
gasglodd o gwmpas.
Efallai mai dyma y lle mwyaf priodol i
hoU paríhed maint y niwed a gafodd
crefydd Cymru, ac yn arbenig Methodist-
iaeth Cymru, trwy yr ymraniad gofidus a
gymerodd le rhwng Harris a'i frodyr.
Sicr yw fod y niwed yn fawr iawn. Nid
colH gwasanaeth y Diwygiwr ei hun, a
throi yr yni a arferai redeg tros holl
Gymru i gylch cyfyng sefydhad teuluaidd
yn Nhrefecca, oedd y peth mwyaf. Yr
ydym yn addef fod y golled hon yn fawr ;
ond dylid cofio fod Howell Harris yn
barod, trwy ei lafur blaenorol, wedi gwan-
ychu ei gyfansoddiad yn ddirfawr, ac nas
gallasai barhau yn hir i deithio gyda yr
un ymroddiad ag y gwnaethai. Y niwed
pwysig a effeithiodd yr ymraniad oedd y
dylanwad difaol a gafodd ar y seiadau,
Ilawer o ba rai oeddynt newydd eu sefydlu,
ac yn gyfansoddedig o grefyddwyr cym-
harol ieuainc. Pan feddylir fod pregeth-
wyr Harris yn cyniwair trwy holl Gymru,
gan gyhoeddi yn groch fod yr oíîeiriaid
wedi colli Duw ; ac yna, fod y pregethwyr
a ganlynent Rowland yn dilyn ar eu hol,
gan alw Harris yn Sabeliad, yn Batripas-
iad, a Ilawer o enwau eraill, rhaid fod y
seiadau yn cael eu syfrdanu, a bod y rhai
a'u mynychent yn y benbleth fwyaf.
Chwalwyd llawer o honynt mewn canlyn-
iad, ac ni ail-sefydlwyd rhai byth. Yn
arbenig, pan yr ymneillduodd Harris i
Drefecca, ceisiodd rhai o'i ddilynwyr osod
i fynu fân bleidiau, gyda hwy eu hunain
yn ben arnynt. Yn mysg y rhai hyn,
gallwn gyfeirio yn neillduol at Thomas
Meredith, a Thomas Seen, y cyntaf o
gymydogaeth Llanfair-muallt, a'r ail o Sir
Drefaldwyn, y rhai oeddynt ill dau yn
bresenol yn Nghymdeithasfaoedd cyntaf
Harris, ond yn raddol a aethant i bregethu
rhyw gymysgedd o Antinomiaeth a Sand-
emaniaeth, nas gwyddai neb beth ydoedd.
Bu i'r naill a'r Ilall nifer o ganlynwyr am
ychydig, eithr buan y darfuant.
Ni theimlodd Gwynedd lawn cymaint
oddiwrth yr ystorm, am eu bod yn mhell-
ach oddiwrth ganolbwynt yr ymdrech, er,
hefyd, i'r corwynt difaol gyrhaedd yno.
Yn y Dê, Sir Àberteifi a deimlodd leiaf ;
yma yr oedd dylanwad Rowland yn orch-
fygol ; a seiat yr Hen Fynachlog, ger
Pontrhydfendigaid, y w yr unig un y darllen-
wn am dani ei bod yn gwahodd plaid
Harris. Nid cymaint, ychwaith, a f u y
niwed yn Sir Gaerfyrddin, am fod Wil-
liams, Pantycelyn, yn y pen uchaf, a
Rowland, trwy ei bregethu misol yn ngapel
Abergorlech, yn y rhan isaf, yn meddu
cryn ddylanwad ar y seiadau. Bu y
rhwyg yn fwy yn Sir Benfro. Yr oedd
Howell Davies yn cael edrych i fynu ato
fel tad gan ganoedd ; ond yr oedd John
Sparks, a John Harris, St. Kennox,
yn fawr eu dylanwad, ac yn pleidio
Howell Harris yn gryf, a phan y darfu
i'r Diwygiwr ymneillduo i Drefecca,
aethant hwy drosodd at y Morafiaid.
Rhaid iddynt hwy ddylanwadu ar gryn
nifer. Diau i seiadau Sir Forganwg gael
eu hysgwyd yn enbyd, ac i rai o honynt
ddiflanu. Ar ol hyn, nid ydym yn darllen
am seiadau Gelligaer, Llysfaen, y Cymmer,
Dolygaer, ac eraill. Am Sir Fynwy,
chwalwyd y nifer amlaf o'r seiadau a
HOWELL HARRIS—GWEDI YR YMRANIAD.
429
gynwysai ; ac o'r oll a sefydlwyd gan
Howell Harris, yr unig un sydd wedi
glynu wrth Fethodistiaeth yw seiat y
Goetre, ger Pontypŵl. Am yr eglwysi
eraill a fedd y Cyfundeb yn Mynwy,
ífrwyth llafur diweddarach ydynt. Gwir
i'r New Inn, a Mynyddislwyn, barhau
am rai degau o flynyddoedd i ystyried eu
hunain yn Fethodistaidd ; ond gan eu bod
mor bell o ganolbwynt y diwygiad, ac na
chododd yr un pregethwr o ddylanwad
pwysig ynddynt, darfu iddynt yn raddol
ymgyfathrachu a'r Annibynwyr, a choU-
wyd hwy i'r Cyfundeb. Ond yn Sir
Faesyfed y bu y canlyniadau fwyaf
alaethus. Collwyd yr holl seiadau perth-
ynol iddi. Gelhr rhoddi amryw resymau
am hyn. Yn un peth, ni adeiladasid
capelau yma ; yr unig un y cawn hanes
am dano yn y sir yw capel Maesgwyn ;
cyfarfyddai y seiadau mewn tai anedd, ac
felly yr oeddynt yn fwy hawdd eu chwalu.
Peth arall, o gwmpas adeg yr ymraniad,
daeth yr iaith Saesneg fel dihiw dros y
sir ; ac nid yw yn ymddangos fod gan y
Methodistiaid bregethwyr Saesneg i ym-
weled a'r cynuUeidfaoedd gyda chysondeb;
felly, aeth llawer o'r dychweledigion i'r
Eglwys Sefydledig, ac ymunodd eraiU a'r
Annibynwyr, a'r Bedyddwyr. Ac yn
ddiweddaf, aeth amryw o'r crefyddwyr
mwyaf blaenllaw i Drefecca, gan ymuno
a'r teulu yno ; felly, yr oedd y rhai a
weddillasid yn amddifad o arweinwyr, ac
heb ddynion profìadol yn eu mysg i fod
yn fywyd ac yn nerth. Rhwng y cwbl,
coUwyd Maesyfed yn gwbl i Fethodist-
iaeth. Ymddengys fod y seiadau wedi
diflanu, gan mwyaf, yn ystod bywyd
Howell Harris ; yr unig rai y cawn ef yn
ymweled â hwy wedi ei ymheddychiad a'r
Methodistiaid yw Penybont, Claerwy, a
Llandrindod. Os oedd rhagor yn haner
dadfyw, ac os cawsant ryw gymaint o
adnewyddiad trwy sefydiiad coleg yr
larlles Huntington yn Nhrefecca, ani y
caent yno rai â fedrent eu hanerch yn yr
iaith Saesneg, diflanasant yn llwyr pan y
symudwyd y coleg hwnw o Drefecca i
Cheshunt. Ffrwyth ymdrechion cenhadol
cymharol ddiweddar yw yr eglwysi Meth-
odistaidd a geir yn Sir Faesyfed yn bresen-
ol. Eithr ni ddyhd tybio i'r dychweledig-
ion oll, nac yn wir y nifer amlaf o honynt,
gael eu cofli i grefydd. Ymunodd canoedd
o honynt ag enwadau eraiU. Diau fod
rhai degau o eglwysi cymharol gryfion,
perthynol i'r Bedyddwyr a'r Annibynwyr,
i'w cael yn Siroedd Morganwg, Mynwy, a
Maesyfed, ag y geUir olrhain eu sefydhad
i lafur Howell Harris, neu i eiddo rhai o'r
Diwygwyr Methodistaidd eraill.
Trwy ystod y flwyddyn 1772, gwaelu a
wnaëth iechyd Howell Harris, ac yr oedd
ei babefl yn prysur ymddatod. Hyd y
medrodd, elai i goleg yr larlles i anerch y
myfyrwyr. Ond yn fuan aeth hyn yn
ormod o dasg iddo. " Y tro diweddaf y ^
pregethodd yno," meddai yr larfles, " yr
oedd yno dorf hosog, fel arfer, ac yr oedd
ei weinidogaeth yntau mor gyrhaeddgar a
chyff^rous ag erioed. Llefarodd gyda
theimlad dwfn am Dduw, a thragywyddol-
deb, ac am anfarwoldeb a gwerthfawredd
eneidiau ei wrandawyr ; am eu flygred-
igaeth wrth natur, perygl y sefyflfa o fod
yn ddiailenedig, yr angenrheidrwydd an-
orfod am ailenedigaeth trwy yr Yspryd
Glân, ac am gredu yn Nghrist mewn trefn
i dderbyn pardwn. Llefarai fel oracl
Duw, yn eglurhad yr Yspryd ac mewn
nerth, a phan ddaeth at y cymhwysiad,
cyfeiriodd at y gwrandawyr gyda y fath
dynerwch, a'r fath ddifrifwch, gan anog
pawb o honom i ddyfod i gydnabyddiaeth
a'r anwyl Waredwr, fel y toddodd y gynufl-
eidfa i ddagrau." Sicr yw ei bod yn odfa
o'r fath fwyaf efifeithiol.
Er methu myned aflan o'r tj', ymlusgai
i'r flawr i anerch y teuhi fliosog a gasglasai
yn Nhrefecca, yn mron hyd y diwedd.
Gadawodd ei anerchiadau yr adegau yma
argraff" annileadwy ar feddyhau y rhai a'u
clywent, a darfu iddynt, yn angherddoldeb
eu serch ato, groniclo flawer o'i ddywed-
iadau. Ni fedrwn ddifynu ond ychydig o
honynt. " Yr wyf yn caru pawb sydd yn
dyfod at y Gwaredwr," meddai un tro, "ac
yn ymborthi ar ei gnawd a'i waed ef ; yr
wyf yn teimlo mai efe, ac nid dim yma,
yw fy ngorphwysfa a'm dedwyddwch. Yr
wyf yn caru tragywyddoldeb am ei fod ef
yno. Yr wyf yn llefaru wrtho, ac yn
llefain arno. O, dywyflwch y cnawd hwn
sydd yn ei guddio oddiwrthyf ! O, tydi, yr
hwn a fuost yn gwaedu i farwolaeth, a'r
hwn wyt yn awr yn fyw, tyred a dwg fi
adref. Am y íìbrdd, mi a orchymynais
hono i ti, i ofalu am danaf. Dy eiddo di
ydwyf, yma a byth ; un o'th waredigion
ydwyf, gwerth dy waed a'th chwys gwaed-
lyd ; a'th ewyflys di yw fy nefoedd." Yn
y diwedd aeth yn gaeth i'w wely, ac ni
fedrai ysgrifenu, eithr medrai glodfori yr
Arglwydd. " Bendigedig fyddo Duw,"
meddai, " y mae fy ngwaith wedi ei orp'hen,
430
Y TADAU METHODISTAIDD.
ac mi a wn fy mod yn myned at fy anwyl
Dduw, a'm Tad, canys efe a gafodd fy
nghalon, i'e, fy holl galon."
Ar yr 2iain o Orphenaf, 1773, pan yn y
driugeinfed flwyddyn o'i oedran, ehedodd
ei enaid pur at ei Dad a'i Dduw. Gwnaeth-
pwyd galar mawr am dano, nid yn unig
gan deulu Trefecca, ond trwy holl Gymru.
Ymgasglodd miloedd i'r angladd. Cyfrifa
yr ìarlles Huntington fod ugain mil wedi
dyfod yn nghyd, ac yn eu mysg bymtheg o
glerigwyr. Anerchwyd y dorf anferth oddi-
ar dair o esgynloriau gwahanol, gan chwech
clerigwr. Yr offeiriad a weinyddai wrth y
bedd oedd y Parch. John Morgan, cuwrad
Talgarth, â'r hwn yr oedd yr ymadawedig
ar delerau o gyfeiUgarwch agos er ys blyn-
yddoedd. Camgymeriad yw y dybiaeth
fod y Parch. Price Davies, y ficer, gwedi
marw, a bod ei swydd wedi ei rhoddi i un
o'r enw William Davies. Cafodd Price
Davies oes hirfaith ; bu fyw am beth
amser gwedi marwolaeth y Diwygiwr o
Drefecca, ond yr oedd yn rhy lesg i
gymeryd rhan yn ngwasanaeth y claddu ;
ac yn wir nid yw yn ymddangos ei fcd yn
bresenol. Y mae traddodiad, cyffelyb i'r
un am angladd Howell Davies, i John
Morgan dori lawr wrth ddarllen ar lan y
bedd, ac iddo estyn y llyfr i un arall, a
darfod i hwnw, ac eraill i'w ganlyn, dagu
gan ddagrau, ac mai yn nghanol ochen-
eidiau, a wylofain uchel, y rhoddwyd
gweddillion marwol Howell Harris i orwedd
yn y ddaear. Hawdd genym gredu hyn,
oblegyd yr oedd yn cael ei anwylo y
tuhwnt i neb ar y ddaear, gan ganoedd.
Yn eglwys Talgarth, yn agos i fwrdd yr
allor, y cafodd fedd.
Nid oedd casglu cyfoeth yn un amcan
gan y Diwygiwr. Tra y bu yn trafaelu o
gwmpas gwlad, ac yn ysgwyd Cymru a'i
weinidogaeth, ychydig a dderbyniodd o ran
rhoddi a derbyn, yn ol ei dystiolaeth ef ei
hun. Gydag anhawsder y gallai gadw ei
ben uwchlaw'r dwfr mewn cysylltiad a'i
amgylchiadau. Ond y rhan olaf o'i oes,
trwy ei ddiwydrwydd, ac ymdrechion y
bobl oedd wedi ymgasglu ato, a thrwy ei
fawr fedr i drin amgylchiadau pan yr ym-
roddaiat hyny, yr oedd y t\' yn Nhrefecca,
a rhyw gymaint o diroedd a thai o gwmpas,
yn eiddo rhydd-ddaliadol iddo. Gadawodd
y cwbl mewn ewyllys, nid i neb a berthynai
iddo yn ol y cnawd, ond i'r Sefydliad, tan
ofal ymddiriedolwyr. Un plentyn a
feddai ; i'r ferch hono disgynodd cyfoeth
ei mam ; a chyn ei farw ef yr ydoedd wedi
priodi a meddyg yn Aberhonddu, ac uwch-
law angen ; felly yr oedd at ei ryddid i
wneyd a'i feddianau fel yr ewyllysiai.
Wedi marw y Sylfaenydd, dyhoeni a
wnaeth y teulu yn Nhrefecca ; nid oedd
neb wedi ei adael ar ol o gyffelyb feddwl i
gario y gwaith yn mlaen ; ac erbyn
dechreu y ganrif hon yr oedd y Sefydliad
wedi ymddirywio i fod yn siop fechan
mewn gwlad. Tua'r flwyddyn 1840, cyf-
Iwynodd aelodau y teulu a weddillasid y
cyfan i fynu i Gyfarfod Misol Brycheiniog,
ar yr amod eu bod hwy i gael rhyw
gymaint o flwydd-dal tra y byddent byw.
Cyflwynodd y Cyfarfod Misol y cyfan i
Gymdeithasfa y Deheudir ; ac oddiar y
flwyddyn 1842, y mae athrofa y Cyfundeb
yn Neheudir Cymru yn cael ei chynal yno.
Cymeriad ardderchog oedd Howell
Harris. Mewn ymroddiad i lafur, mewn
beiddgarwch i wynebu rwystrau a pher-
yglon ; ac mewn dibrisdod o gysuron
corphorol, nid oes yr un o'r Tadau Meth-
odistaidd a ddeil eu cymharu ag ef. Yr
unig rai ag y gellir eu dwyn o'r tu fewn i
gylch cymhariaeth yw Wesley a White-
field yn Lloegr ; ond pan feddylir am
agwedd Cymru ar y pryd, pa mor an-
hygyrch oedd y ffyrdd, pa mor wael oedd
yr ymborth a'r Ilety, a pha mor enbyd
oedd Ilid y clerigwyr a'r werinos, y mae y
glorian yn troi, ac yn troi yn drwm, o
blaid y Diwygiwr o Drefecca. Braidd
nad yw yn anmhosibl cyflwyno i drigolion
yr oes hon unrhyw syniad am ei yni,
a'i ymroddiad. Teithiai dros fynyddoedd
geirwon, heb braidd lun o ffbrdd ; delid ef
yn fynych gan ystormydd enbyd ar ei
hynt ; byddai raid iddo yn aml fyned trwy
ganol y nentydd chwyrn oeddent wedi
gorlifo dros eu ceulanau, ac nid anfynych y
byddai ei anifail ac yntau mewn perygl o
gael eu cario i ffwrdd gan ruthr y Ilifeir-
iant ; ac yn aml pregethai i dyrfaoedd
mawrion yn wlyb hyd ei groen, a'i gylla yn
wag. Nid oedd unrhyw rwystr a'i hataliai.
Yr ydym yn darllen droiau am Rowland
a'r Ileill yn methu myned i Gymdeithasfa
oblegyd afrywiogrwydd yr hin ; ni chawn
hyny am Howell Harris gymaint ag un-
waith. Wedi teithio trwy afonydd, ac
wedi bod yn y Iluwchfeydd eira hyd ei ên,
byddai yn pregethu fel cenad o dragywydd-
oldeb, a'i enaid yn fflamio o'i fewn.
Efallai y treuliai y nos drachefn yn gor-
wedd ar gadeiriau o flaen y tân yn ei
ddillad gwlỳbion, er mwyn cychwyn i'w
daith dranoeth gyda glasiad y wawr. Nid
HOWELL HARRIS—GWEDI YR YMRANIAD.
431
rhyfedd ei fod weithiau, rhwng cellwair a
difrif, yn cyhuddo ei frodyr o ddiogi, ac o
ormod gofal am gysuron corphorol. Efe
oedd yr arloesydd yn Nghymru ; ganddo
ef y torwyd y garw. Nid bychan a fu
llafur Rowland, Wilhams, a Howell
Davies, ac nid ychydig a ddyoddefasant ;
ond ni ddeil eu teithiau a'u bhnderau eu
cymharu â'r eiddo ef.
Efe hefyd oedd y mwyaf amlochrog ei
athryhth. Yn y pwlpud y dysgleiriai
Rowdand ; yno, nid oedd neb a allai ddal
cystadleuaeth ag ef. Mewn cadw seiat,
ac yn arbenig mewn prydyddu a chyfan-
soddi emynau, y rhagorai Wihiams ; yn y
cylch hwn y mae heb ei gyíîelyb. ünd
am HoweU Harris, rhagorai yn mhobpeth
yr ymgymerai ag ef. O ran nerth gwefr-
eiddiol ei areithyddiaeth, ychydig yn is
ydoedd na Rowland ei hun ; ac fel duwin-
ydd, yn arbenig mewn dirnadaeth ddofn
o'r gwirionedd am berson Crist, er y
graddau o gymysgedd oedd yn ei syniadau,
credwn ei fod yn fwy na'i frodyr oll. Ac
. ni aUai yr un o honynt ddal canwyll iddo
fel trefnydd. Meddai grebwyll i roddi
bod i gynhun ; ac er y dylanwad oedd gan
y cyfriniol arno, yr oedd ei gynlluniau
braidd oll yn rhai ymarferol. Yn y cyf-
uniad o'r cyfriniol a'r ymarferol dygai fawr
debygolrwydd i 01iver CromweH. Harris,
yn ddiau, yw tad ffurf-lywodraeth eglwysig
y Methodistiaid Calfinaidd yn Nghymru ;
ei saerniaeth ef yn benaf yw y trefniadau
presenol gyda golwg ar Gymdeithasfaoedd,
a Chyfarfodydd MisoL A phe y cawsai
aros dros ei oes mewn cysyhtiad â'r
Methodistiaid, fel arolygydd cyffredinol, y
mae yn sicr y buasai y trefniant yn fwy
pendant a manwl, gyda mwy o awdurdod
yn y Gymdeithasfa fel canolbwynt. Ai
mantais ynte anfantais i'r Cyfundeb a
fuasai hyn yn y pen draw, ni chymerwn
arnom benderfynu. Ond yr oedd ochrau
eraiU eto i athrylith y Diwygiwr. Rhaid
fod yr hwn a fedrai nid yn unig lywodr-
aethu teulu o chwech ugain o ddynion, o
bob math o dymheredd, ac wedi eu casglu
yn nghyd o bob rhan o'r wlad, ond hefyd a
fedrai ddarpar tuag at eu cynhahaeth, trwy
gynUunio gwahanol fathau o ddiwydrwydd
ar eu cyfer, yn meddu nerth meddyhol o'r
radd flaenaf, hyd yn nod pe na byddai
ganddo unrhyw orchwyl araU i'w gyflawni.
Er rhoddi gwaith i'r rhai oedd dan ei
gronglwyd, a chyfarfod a'u hanghenion,
cawn Harris yn ymgymeryd a bron bob
math ar waith. Amaethai dir, Uuniai
ffyrdd; yr oedd ganddo weithfaoedd gwlan
a choed ; mewn gair, prin yr oedd dim y tu
aUan i gylch ei athryhth. Ychwaneger at
hyn oU mai efe, am flynyddoedd, a fu
bywyd Cymdeithas Amaethyddol Brych-
einiog, a darfod iddo brofi ei hun yn
swyddog milwraidd efi'eithiol; a bydd yn
rhaid cydnabod ei fod yn un o'r dynion
mwyaf amlochrog ei feddwl a welodd y byd.
Nid oedd heb ei ffaeleddau, ac y mae y
rhai hyny, fel yn gyffredin mewn dynion o
deimladau cryfion, ar y wyneb, ac yn
hawdd eu canfod. A geUir dweyd am
danynt oU eu bod yn gogwyddo i gyfeiriad
rhinwedd. Os oedd yn boeth ei dymher,
ac yn tueddu at dra-awdurdod, cyfodai
hyn oddiar ddyfnder ei argyhoeddiadau, a'i
fawr zôl dros yr hyn a ystyriai yn wir-
ionedd. Yr oedd mor agored a'r dydd, ac
yn gwbl rydd oddiwrth bob math o ys-
tryw. Oblegyd hyn syrthiai weithiau i'r
rhwyd a daenid iddo gan ddynion dieg-
wyddor. Nis gwyddom ychwaith i ba
raddau yr oedd gwendid corph, yn cyfodi
oddiar or-lafur, yn gyfrifol am gyffröadau
ei nwyd. Eithr yn nglyn â hyn meddai
lonaid calon o serchawgrwydd ; medrai
garu yn angerddol ; ac yr oedd ei afael yn
ei gyfeiUion yn ddioUwng fel y bedd. Os
caffai ei dramgwyddo, byddai gair caredig
oddiwrth yr hwn a roddasai y tramgwydd
iddo yn ddigon i'w ddwyn i'w le ar un-
waith. Rhaid ei ddal ef yn benaf yn
gyfrifol am yr ymraniad. Aethai i ryw
ystad meddwl ar y pryd fel na dderbyniai
na chynghor na cherydd ; edrychai ar ei
wrthwynebu ef fel yr un peth a gwrth-
wynebu Duw. Y mae yn anhawdd cyfrif
am yr ystad meddwl hwn, ond ar y tir fod
rhy w fath o orphwylledd wedi dyfod drosto.
Ar yr un pryd, credwn y dylasai ei frodyr
ddangos mwy o dynerwch tuag ato, a
chymeryd i ystyriaeth ei lafur a'i ymrodd-
iad. Eithr pan y gwnaeth y Methodist-
iaid estyn Uaw tuag at gymod, estynodd
yntau ei law i'w cyfarfod ar unwaith. A
Ìlawenydd digymysg i ni oedd darganfod,
trwy gyfrwng ei ddydd-lyfr, fod deng
mlynedd olaf ei fywyd yn Uawer dysgleir-
iach nag yr oedd neb wedi breuddwydio,
a'i fod wedi eu treulio mewn undeb agos
a'i frodyr gynt. Daethai ef a Daniel
Rowland i ddeall eu gilydd yn drwyadl, ac
wedi iddynt ymheddychu, ni chyfododd
cwmwl cymainfa chledr Uaw g\Vr rhyng-
ddynt tra y buont fyw. Yn ystod y
blynyddoedd hyn, ac hyd ei fedd, yr oedd
Howeli Harris yn un o'r Methodistiaid
43^
Y TADAU METHODISTAlDD.
mewn pob peth ond enw. Teithiai yn eu
mysg, pregethai yn eu capelau, ymwelai
a'u Cyfarfodydd Misol ac a'u Cymdeithas-
faoedd, a chaffai ganddynt y Ile mwyaf
anrhydeddus a fedrent roddi iddo. Teg
cadw mewn cof mai taith i Gymdeithasfa
Llangeitho oedd y diweddaf a gymerodd
cyn cael ei gyfyngu gan lesgedd i Drefecca ;
a darfod i'r hyn a welodd ac a glywodd yno
sirioU ei yspryd i'r fath raddau, fel y dat-
ganai ei argyhoeddiad fod Duw yn amlwg
yn y lle, ac mai dyna Jerusalem Cymru.
Aeth yn ei ol, tros y mynyddoedd, i Dre-
fecca, fel un wedi cael ysglyfaeth lawer ;
ac er na fedrodd deithio o gwmpas mwy,
deuai Rowland, a Wilhams, a Peter
Williams, i ymweled ag ef yn fynych.
Bu Howell Harris farw yn ddyn cym-
harol ieuanc ; nid oedd yn llawn triugain
oed pan y galwyd ef oddiwrth ei waith at
ei wobr. Ond yn ystod yr adeg fer hon
gwnaeth waith anhygoel, gwaith y bydd
cofio am dano gẅedi i amser ddarfod. A
bu fyw yn ddigon hir i weled chwildroad
moesol a chymdeithasol wedi cymeryd lle
yn Nghymru. üs ar ei darawiad allan yr
edrychai y byd arno gyda chilwg, gan ei
ystyried yn freuddwydiwr Ilawn pen-
boethni, cyn ei farw amgylchynid ef ag
anrhydedd, ac heddy w edrychir arno fel un
o brif gedyrn Cymru. Nid oes seren
ddysgleiriach nag efe yn llewyrchu yn
ffurfafen hanesyddiaeth ein gwlad. Pa
bryd bynag y cawn fel cenedl ein bendithio
â hanes a fyddo i ryw raddau yn deilwng o
honom, yn yr hanes hwnw rhaid i Howell
Harris, y teithiwr diorphwys, yr arloesydd
beiddgar, y pregethwr hyawdl, y seraph
tanllyd, a'r gwladgarwr pur, gael Ile
amlwg. Yr ydym yn teimlo anhawsder i
ffarwelio ag ef, gan fel y mae ei swyn yn
enill arnom. Y mae WiIIiams, Pantycelyn,
yn y farwnad ardderchog a gyfansoddodd
iddo, wedi arddangos ei gymeriad a'i nod-
weddion mor oleu, fel yr ydym yn rhwym
o ddifynu ychwaneg o'r penillion : —
" Mae'n cryfhau y breichiau gweinion,
Ac yn dala'r llesg i'r lan ;
Yn ei athrawiaeth y mae ymborth,
Bwyd i'r ofnus, bwyd i'r gwan ;
Geiriau dwys, sylweddol, gloew,
Wedi eu tempru yn y tân,
Lamp i arwain pererinion
Trwy'r auialwch mawr ymlaen.
Y mae'r iachawdwriaeth rasol
Yn cael ei rhoddi i maes ar led,
Ag sy'n cymhell mil i'w charu,
Ac i roddi ynddi eu cred ;
Haeddiant lesu yw ei araeth,
Cysur enaid a'i iachad,
Ac euogrwydd dua pechod
Wedi ei ganu yn y gwaed.
Bytli na chofier am ei bechod,
Na 'sgrifener dim o'i fai,
Blotiwyd llyfrau'r nef yn hoUol,
Pa'm caiíY rhagfarn dyn barhau?
Ni chaiíî pen, nac inc, na thafod,
'Rwy'n eu gwa'rdd o hyn i maes,
Sôn am ddim ond y Diwygiad
Trwyddo lanwodd Gymru las.
'Nawr mae'n gorwedd yn y graian,
Mewn lle tywyll, dystaw iawn,
Harris, gynt, a'i waedd ddihunodd
Weinidogion lawer iawn ;
Can's trwm gwsg oddiwrth yr Arglwydd
Oedd fel diluw'n Ilanw'n lân,
Yn y dydd cyhoeddodd Howell
I fod Nini'n myn'd ar dân.
Griffìth Jones, pryd hyn, oedd ddefîro,
Yn cyhoeddi efengyl gras,
Hyd cyrhaeddai'r swn o'r pwlpud,
Neu, os rhaid, o'r fynwent las ;
Ond am fod ei foreu'n dywyll,
Ac nad oedd ei ffydd ond gwan,
Fe arswydodd fyn'd i'r meusydd,
Ac i'r Ileoedd nad oedd Ilan.
Yntau, Howell, heb arddodiad
Dwylaw dynion o un rhyw,
Na chael cenad gan un esgob
Ag sy'n llawer Ilai na Duw,
Fe gyhoeddodd yr efengyl,
Anfeidroldeb dwyfol 'stór,
0 derfynau'r Hafren dawel
Obry i'r gorllewin fôr.
Nid oes heddyw ond rhyw 'chydig,
Duw o'r nef estyno eu hoes,
A ddihunodd yn y plygain,
Pan yr oedd hi yn dywyll nos,
Ac a chwythodd a'u hoU egni
Yn yr udgorn gloew, las,
Nes dihuno eirth a llewod,
A bwystfilod gwaetha'r maes.
Os oedd eisiau íîrynd fîyddlonaf,
Harris unig oedd efe,
Gwell na'r ceraint goreu anwyd
Mewn un ardal is y ne' ;
Maddeu bai, a chadw cwnsel,
Yspryd cydymdeimlo yn un,
A gwneyd hoU ofidiau ei gyfaill,
Megys ei ofidiau ei hun.
*****
Cwsg i lawr yn Eglwys Talgarth,
Lle nad oes na phoen na gwae,
Ti gai godi i'r lan i fywyd
Sy'n dragywyddol yn parhau ;
Gwell i ti gael gorphwys yna
Blith dra phlith a'r pryfed mân,
Na chael mil o demtasiynau
At y dengmil ge'st o'r blaen.
Ffarwel, Harris, darfu heddyw
A chwenychu bod yn ben,
Ce'st ddyrcliafiad mwy godidog,
Canu yn y nefoedd wen ;
Ac 'rym ninau yn dy ganlyu
'Rhyd y grisiau yma lawr,
Ac nid oes ond rhyw fynydau
Rhwng y gloch a tharo ei hawr."
Ängmviìii^' .
/ //////y// // '//■■',■ jf,/,,r„ , /'//[' /'„/„,„ //„:,/ A/"^ /'//>/>.
PENOD XVIII
PETER WILLIAMS.
Ei enedigaeth ai ddygiad i jynn — Ei fani yn ei fwriadu i'r weinidogaeth — Colli ei rieni yn
foren — Rhagluniaeth yn gofalu am yr amddifad — Peter Williams yn myned i athrofa
Thomas Einion~Yn cael ei argyhoeddi trwy bregeth Whitefield — Cael ei urddo yn guwrad
eglwys Gymmun — Colli ei le oblegyd ei Fethodistiaeth — Colli dwy guwradiaeth arall am yr
un rhesiínn — Yn ymuno ar Methodistiaid — Ei daitK gyntaf i'r Gogledd — Cael ei erlid
oblegyd yr efengyl yn y De ar Gogledd — Cael lle amlwg yn fuan yn y Gymdeithasfa — Yn
ymuno a phlaid Rowland adeg yr ymraniad — Ysgrythyroldeb ei bregethau — Dwyn allan y
Beibl mazvy, gyda sylwadau ar bob penod — Cyhoeddi y " Mynegair" yn nghyd a " Thrysorfa
Gwybodaeth,'" sef y cylchgrawn Cymreig cyntaf — Anfoddlonrwydd i'w syhmdau gyda golwg
ar y Drindod — Yr anfoddlonrwydd yn cynyddu oblegyd iddo newid rhai geiriau yn Meibl
Canne — Dadleu brwd yn y Gymdeithasfa — Peter Williams yn cael ei ddiarddel gan y Meth-
odistiaid — Yn gìíneyd amryw geisiadau am ail brawf, ond yn glymi wrth ei olygiadau — Canlyn-
iadau ei ddiarddeliad — Diwedd ei oes — Pnrdeh ei amcanion, a mawrcdd ci ddefnyddioîdeì).
PID oes yn Nghymru enw mwy
adnabyddus, na mwy parchedig,
nag eiddo Peter Wilhams, y pre-
gethwr efengylaidd, a'r esboniwr duwiol-
frydig. EfaUai mai yn brin y geUir ei
rifo yn mysg sylfeinwyr y Cyfundeb Meth-
odistaidd ; yr oedd tuag wyth mlynedd
o'r diwygiad wedi pasio, ac amryw Gym-
deithasfaoedd, chwarterol, a misol, wedi
eu cynal, cyn iddo ef gael ei argyhoeddi.
A bu am rai blynyddoedd drachefn cyn
cael ei arwain gan Ragluniaeth i fwrw ei
goelbren yn mysg y Methodistiaid. Ond,
oblegyd dysgleirder ei dalentau, duwiol-
frydedd ei yspryd, eangder ei wybodaeth,
a llwyredd ei ymroddiad, ni bu fawr
amser gwedi ymuno cyn cael ei gydnabod
fel yn perthyn i'r rhestr flaenaf oU, ac
edrychid arno fel un o'r arweinwyr.
" Peter Wilhams, Caerfyrddin," ei gelwir
ar lafar gwlad ; eithr ymddengys mai am
ychydig amser y bu yn drigianydd yn y dref
hono, ac y rhaid deall " Caerfyrddin " fel
yn dynodi y sir yn hytrach na'r dref.
Ganwyd ef lonawr 7, 1722, yn agos i
Lacharn, mewn amaethdy, o'r enw Morfa,
yr hwn, fel yr awgryma yr enw, oedd yn
ymyl y môr. Saesneg ydoedd, ac ydyw,
yr iaith arferedig yn Lacharn ; y rheswm
am hyny, meddir, ydyw ddarfod i drefed-
igaeth o Saeson ymsefydlu yno rywbryd
yn yr hen amser. Y mae yr iaith wedi
glynu yno hyd heddyw, er mai Cymraeg a
siaredir trwy yr holl wlad o gwmpas. Ac
am y rheswm hwn, yr oedd Peter Williams,
pan yn blentyn, yn fwy o Sais nag o
Gymro. Yr oedd ei rieni yn bobl barchus,
yn dda arnynt o ran pethau y byd, ac yn
hanu o deuluoedd anrhydeddus. Ei fam,
yn arbenig, oedd yn ddynes dra chrefyddol.
Arferai fyned ar y Suliau ar gefn ei chefFyl
i Landdowror, i wrando yr offeiriad enwog,
Griffith Jones, ac nid anfynych cymerai y
plentyn, Peter, gyda hi. Er fod ganddi
blant eraill, mab a merch, ymddengys
mai am Peter yr oedd ei serchiadau wedi
ymglymu yn benaf. Gwelai ynddo ar-
wyddion annghamsyniol o dalent ; parai
ei feddwl bywiog, a'i gof cyflym, iddi
ddysgwyl pethau mawr oddiwrtho ; a
phenderfynodd roddi iddo bob manteision
addysg posibl. Ei dymuniad ydoedd ei
gysegru i'r weinidogaeth, a diau iddi
amlygu ei hawyddfryd i Peter ieuanc
lawer gwaith wrth dramwyo rhwng Lach-
arn a Llanddowror, ac ar adegau eraill.
Eithr pan nad oedd Peter ond un-
mlwydd-ar-ddeg oed, bu farw ei fam yn
ddisymwth mewn twymyn. Y flwyddyn
ganlynol bu farw ei dad. A dyma y tri
phlentyn amddifad yn cael eu gadael
mewn oedran tyner i wynebu ar ystormydd
bywyd. ünd, fel arfer, cyfryngodd Rhag-
luniaeth ar eu rhan, a dangosodd yr
Arglwydd mewn modd annghamsyniol ei
fod yn Dad yr amddifad. Rhyw fonedd-
FF
434
Y TADAU METHODISTAIDD.
iges o Fryste a gymerodd ofal y ferch ;
daeth ewythr o du y tad yn mlaen i
ymgymeryd â gofal y mab ieuangaf ; ac
ewythr o du y fam a dderbyniodd Peter
i'w d\-. Ymddengys i'r ferch farw yn
gynar. Am Dafydd, y bachgen ieuangaf,
cafodd ysgol dda gan ei ewythr, ac yn
nghymydogaeth Bryste y preswyhodd
hyd ddydd ei farwolaeth. A ddarfu iddo
briodi, a chael plant, ni wyddom. Cawsai
Peter ei gadw yn yr ysgol tra y bu ei rieni
byw, a gwnaethai gynydd mawr mewn
dysgeidiaeth. Darfu i'r ewythr ganlyn ar
yr un llwybr, gan ei osod mewn ysgol ar
unwaith, a than addysg y bu hyd nes yr
oedd yn un-mlwydd-ar-bymtheg oed. Yr
oedd ei wanc am wybodaeth yn angerddol.
Pan fyddai plant yr ysgol allan yn chwareu,
myfyrio uwchben ei lyfrau a wnelai ef ;
nis gallai eistedd wrth y bwrdd i fwyta
heb fod rhyw lyfr yn agored ger ei fron.
Wedi iddo ddechreü ymgydnabyddu a'r
ieithoedd Lladin a Groeg, daeth ei gynydd
yn fwy amlwg, a'i ymroddiad yntau yn
llwyrach. Ni chymerai seibiant adeg y
gwyhau, fel y gwnelai y llanciau eraill,
eithr parhäi i ddarllen a meddwl o ddifrif.
Oddiwrth yr hyn a ddywed am dano ei
hun, gallwn dybio ei fod yn yr oedran
hwn o duedd feudwyol, yn ddibris o bob
chwareuon, yn ddifater am gwmniaeth
llanciau o gyffelyb oed, ac yn llwyr ym-
roddedig i'w efrydiau.
Yr oedd ei fuchedd yn foesol, braidd o'r
dechreuad. Am hyn, yr oedd yn ddyledus
mewn rhan i dueddfryd ei natur, ac hefyd
mewn rhan i ofal a chynghorion ei fam.
Mynega ddarfod iddo, yn ystod adeg ei
blentyndod, glywed rhywrai yn tyngu ac
yn rhegu, ac iddo yntau ddysgu eu hym-
adroddion ; ond pan y clybu ei fam ef,
hi a'i ceryddodd yn llym, ac ni bu yn euog
o'r cyfryw bechod mwy. A chwedi iddi
hi gael ei phriddo, glynai ei chynghorion
yn ei feddwl, fel na fu gan rysedd afael
arno o gwbl. Dywed i Dduw ei gynal yn
nyddiau ei ieuenctyd, a blynyddoedd ei
ynfydrwydd, fel na fu yn euog o bechodau
rhyfygus, nac o unrhyw fai a ystyrir yn
waradwyddus yn mysg dynion. Nid yd-
oedd ychwaith yn amddifad o argraffiadau
crefyddol. Llenwid ei gydwybod yn fyn-
ych gan ofn marw, a dychryn y farn.
Medd'ai : " Y cwestiwn mwyaf genyf
ydoedd, Pa fodd yr ymddangoswn gerbron
Duw ? Pa fodd y dysgwyUaf am ollyng-
dod a màddeuant gan y Duw pur a
sanctaidd hwnw, o wydd yr hwn, yn ei
ymddangosiad, y diflana'r byd, a'r cwbl
sydd ynddo ? " Ceisiai gysuro ei hun nad
ydoedd yn waeth na dynion eraill, a bod
miloedd o bechaduriaid, cynddrwg ag
yntau, rhai o'r cyfryw a adwaenai, wedi
marw mewn gobaith o adgyfodiad i fywyd
tragywyddol. Ond nid oedd yr esgusodion
gwagsaw hyn yn foddlonol i'w gydwybod.
Ffuríìasai yr arferiad o hunanymhohad ;
arferai droi ei olygon i mewn i ystafelloedd
ei galon ; a gwelai yno hadau pob llygred-
igaeth. Eithr, er hyn oll, nid adwaenai yr
Arglwydd, ac ni wyddai nemawr am drefn
yr efengyl i faddeu.
Pan yr oedd o gwmpas un-mlwydd-ar
bymtheg oed, ceisiodd ei ewythr ganddo
ddewis rhyw alwedigaeth. Teimlai yntau
anhawsder dirfawr i wneyd ; neu, yn
hytrach, teimlai anhawsder i wneyd ei
ddewisiad yn hysbys. Yn nirgelwch ei
galon, yr oedd wedi rhoddi ei fryd ar fyned
yn offeiriad. Fel y darfu i ni sylwi,
cawsai yr awyddfryd hwn ei blanu ynddo
gan ei fam. A thua blwyddyn cyn ei
marwolaeth, cawsai Peter ieuanc freudd-
wyd hynod, yn yr hwn, yn mysg pethau
eraill, y gwelsai ddau \vr dyeithr, mor
hardd eu gwedd ag angelion, yn dyfod
ato, ac yn ymddiddan ag ef. Dehonglai y
fam y freuddwyd fel prophwydohaeth y
byddai hi farw yn fuan, ond y deuai lesu
Grist i gymeryd ei lle, ac y gwnelai yr
lesu ei hoff blentyn yn weinidog enwog yn
ei deyrnas. Sicr ydyw i'r breuddwyd a'r
dehonghad adael argrafF ddofn ar feddwl
Peter, a thebygol fod a fynai hyn a
thueddu ei feddwl yn awr at y weinidog-
aeth. Y mae mor sicr a hyny mai nid o
herwydd ei fod wedi cael gras, ac nid o
herwydd fod ei enaid yn llosgi ynddo gan
awydd am achub eneidiau, y chwenychai y
swydd. Yn ol ei syniad ef ei hun, yr ydoedd
eto heb gael troedigaeth. Ond oblegyd yr
argrafif a dderbyniodd oddiwrth ei fam,
yn nghyd a'i hoífder yntau o lyfrau, a
gwybodaeth, nid oedd dim a'i boddlonai
ond yr offeiriadaeth. Eithr teimlai an-
hawsder dirfawr i ddatgan ei awyddfryd
i'w ewythr. Nid yw yn ymddangos mai
ofn ei ewythr oedd arno, ychwaith ; yn
hytrach, yr hyn a ofnai oedd fod y draul
yn ormod. Eithr dweyd a fu raid, a
throdd pethau allan yn well na'i ofnau.
Gwelai yr ewythr na wnelai ei nai amaeth-
wr, ac felly yr oedd yn dda ganddo ei
weled yn ymaflyd mewn rhywbeth mwy
cydnaws a'i dueddiadau ; a chafodd y
llanc myfyrgar ei anfon i ysgol ramadegol
PETER WILLIAMS.
435
dda, a gedwid yn Nghaerfyrddin, gan un
Thomas Einion. Yno y bu am dair
blynedd, yn ymroddgar i'w efrydiau. Yn
ystod yr amser hwn gwnaeth y fath
gynydd mewn gwybodaeth o'r ieithoedd
clasurol, fel, ar ei ymadawiad, yr oedd yn
alluog i ysgrifenu llythyr o ddiolchgarwch
i'w athraw yn yr iaith Ladin, yr hwn
lythyr, fel y cawn weled eto, a fu yn
foddion i ddwyn oddiamgylch ei ordeiniad.
Y mae genym bob sail i gredu ei fod,
tra yn yr athrofa, yn foesol ei rodiad, ac
yn foneddigaidd o ran ymddygiad ; nid
annhebyg yr edrychai ei athraw arno fel
y penaf o'i efrydwyr. Ond nid oedd eto
wedi cael ei ddwyn i gydnabyddiaeth â
threfn yr iachawdwriaeth trwy Grist. Ar
yr un pryd, yr oedd ei gydwybod yn an-
esmwyth o'i fewn ; nid oedd dychrynfeydd
y farn, a gorfod rhoddi cyfrif i Dduw, wedi
ei adael ; gwnelai lawer o addunedau, y
rhai, yn ganlynol, a dorai. Eithr yn y
flwyddyn 1743, yn mis Ebrill, cymerodd
amgylchiad le, a newidiodd holl gyfeiriad
ei fywyd, ac a'i gwnaeth yn ddyn newydd.
Yr amgylchiad hwn oedd dyfodiad George
Whitefield i dref Caerfyrddin i bregethu.
Mawr oedd y son am dano cyn ei ddyfod.
Yr oedd hyawdledd llifeiriol ei areith-
yddiaeth, yn nghyd a'r ffaith ei fod, ac
yntau yn offeiriad, yn pregethu ar y maes
agored, ac mewn Ileoedd annghysegredig,
yn cynyrchu dirfawr siarad; ond yr hynod-
rwydd mwyaf cysylltiedig ag ef oedd ei
fod yn cyhoeddi y pechod gwreiddiol, yr
angenrheidrwydd am ail-enedigaeth, ac
am gyfiawnhad trwy ffydd heb weithred-
oedd. Heresi ronc y golygai y mwyafrif
o glerigwyr Eglwys Loegr yr athraw-
iaethau hyn ; felìy hefyd yr ymddangosent
i Mr. Thomas Einion, athraw yr ysgol
ramadegol. Am un-ar-ddeg o'r gloch, arfer-
ai y meistr ollwng y plant allan ; ond am y
dosparth blaenaf, y rhai yr oedd eu llygad
ar y weinidogaeth, arferai eu cadw yn ol
am beth amser, er eu cyfarwyddo gyda
golwg ar eu hefrydiau, a pha lyfrau y
byddai mwyaf buddiol iddynt eu darllen.
Ond y diwrnod y dysgwylid Mr. Whitefield,
pwnc Mr. Einion oedd y pregethwr per-
yglus oedd i ymweled a'r dref, a rhybudd-
iai y dynion ieuainc yn ddifrifol ar iddynt
beidio myned i'w wrando. Er gwaethaf
y rhybudd, cydunodd pedwar o'r efrydwyr,
un o ba rai oedd Peter WiIIiams, yr aent
i wrando yn ddirgelaidd, er cael gweled
a chlywed drostynt eu hunain.
O gwmpas deuddeg o'r gloch, safodd
FF
Mr. Whitefield yn mhen heol Awst. Ei
destun ydoedd, Esaiah Iiv. 5 : " Canys dy
briod yw yr hwn a'th wnaeth, Arglwydd y
Iluoedd yw ei enw, dy waredydd hefyd,
Sanct Israel, Duw yr holl ddaear y gelwir
ef." Dechreuodd trwy ddangos rhagor-
iaethau yr Arglwydd lesu fel priod, ac
anog y gynulleidfa i'w ddewis. " A oes
rhywun," meddai, " am gael priod yn
meddu doethineb ? Crist ydyw hwnw. A
oes rhywun yn dymuno priod cyfoethog ;
priod a dâl eiholl ddyled, fel y rhaid i ni
bechaduriaid gael ? Y cyfryw un yw yr
lesu ; y mae yn berchen ar holl drysorau
nefoedd a daear, y mae yn meddianu pob
peth ag sydd yn meddiant y Tad tragyw-
yddol. O fy nghyd-bechaduriaid tlodion,
yr ydym oll yn ddyledwyr i gyfraith Duw ;
yr ydym mewn perygl bob awr o gael ein
dal gan ei gyfiawnder, a chael ein tori i
lawr yn ein pechodau, a chael ein rhan yn
y Ile hwnw nad oes obaith. Nid rhyfedd
gan hyny i Ffelix grynu pan oedd Paul yn
ymresymu am gyfiawnder, a dirwest, a'r
farn a fydd. Er hyn i gyd, y mae dynion
i'w cael a chanddynt feddyhau da am eu
rhinweddau, a'u cyfiawnderau eu hunain ;
a haerant eu dieuogrwydd yn ngẅyneb
deddf ac efengyl. Pe y buasent ddieuog,
yna bu Crist farw yn ofer, yr hyn sydd yn
ynfydrwydd ac yn gabledd ei feddwl.
GeiII y goreu o hönom ddweyd fel yr
Apostol : ' Ynof fi, hyny yw yn fy nghnawd,
nid oes dim da yn trigo.' Pe bai y goreu
o honom yn cael ei alw i'r farn, a gwneuthur
â ni yn ol ein haeddiant, fe'n bwrid i
uffern yn dragywydd." Teimlai Peter
WiIIiams yn enbyd o dan y bregeth ; ac
eto, y mae Ile i feddwl ei fod yn ceisio
gwneyd noddfa o'i hunan-gyfiawnderau,
gan lechu yn eu cysgod rhag y saethau
ofnadwy a deflid oddiar fwa y pregethwr.
Meddai ef ei hun : " Myfi a gefais fy
nghlwyfo, ond nid fy nychwelyd ; yr oedd-
wn fel yn teinílo blaen ei gleddyf, ond ni
syrthiais i lawr." Eithr nid oedd White-
field wedi gorphen eto, ac nid oedd Yspryd
yr Arglwydd wedi darfod â Peter Williams.
Y mae y pregethwr yn dyrchafu ei lais fel
udgorn, a chyda bloedd ofnadwy o eíîeith-
iol, sydd yn cyrhaedd cyrau eithaf y dorf,
dywed : " Fy mhobl anwyl ! Mi a fum
am flynyddoedd mor ddiwyd a gofalus a
neb sydd yn bresenol. Bum yn gweddîo
saith gwaith yn y dydd ; yn ymprydio
ddwy waith yn yr wythnos ; yn myned i'r
eglwys bob dydd, ac yn derbyn y cymun
bob Sabbath ; ac eto, yr holl amser hwnw.
43^^
y TADAU METHODISTAIDD.
nid oeddwn yn Gristion." Gyda yr ergyd
hwn dyma noddfa hunan-gyfiawnder Peter
WiUiams yn garnedd ; nid oes ganddo
loches mwy i ymguddio ynddi. Meddai :
" Y geiriau uchod, yn cael eu llefaru gydag
awdurdod, a aethant megys saeth at fy
nghalon ; cefais fy nharo yn y fath fodd,
fel yr oeddwn yn crynu trwy bob aelod.
Bellach, nid oeddwn yn debyg i mi fy
hun ; yr oeddwn fel y clai yn llaw y
crochenydd." Y pwnc yr awyddai y llanc
ei ddeall yn awr oedd, beth oedd bod yn
Gristion. Ar y mater yma, ni adawodd y
pregethwr ef mewn tywyllwch. " Bod yn
Gristion," meddai, " yw derbyn Yspryd
ond cafodd Peter WiUiams ei achub yn y
cyfarfod. Wrth ymadael, canmolai ei
gymdeithion y pregethwr ; mawr edmyg-
ent ei hyawdledd, ei ddifrifwch, a'i ddon-
iau ; " ychydig a wyddent," meddai Peter
WiUiams, " am yr adeilad a gododd efe
ynof, neu'r creadur newydd oedd wedi ei
ffurfio o'm mèwn, a hyn oU mewn yspaid
awr." Nid yw yn ymddangos, er hyn, ei
fod wedi meddianu rhyddid yr efengyl.
Gweinidogaeth Sinai a lanwai ei yspryd ;
yn nganol y taranau a'r meUt y preswyhai ;
nid oedd Calfaria eto wedi dyfod i'r golwg
yn amlwg, ac nid oedd y mellt wedi
diffodd yn y gwaed. Meddai : " Angelion
LAClIAltN, SIR GAERFYRDDIN
[Golygfa ar y Castell a'r Morfa.]
Crist. ' Od oes neb heb Yspryd Crist
ganddo, nid yw hwnw yn eiddo ef.' Bod
yn Gristion yw bod yn brofiadol o'ch
trueni wrth natur; gweled eisiau lach-
awdwr ; credu fod y dyn Crist lesu yn
Fab Duw, ei fod wedi dyfod i'r byd i
achub pechaduriaid, a'i fod yn alluog i
gyflawni y gwaith y daeth ef i'r byd i'w
wneuthur. Yn mhellach, bod yn Gristion
yw adnabod Uais Crist, codi ei groes, a'i
ganlyn ; bod yn un ag ef, yn asgwrn o'i
asgwrn, ac yn gnawd o'i gnawd ; aros
ynddo ; bod yn deml iddo ; ymddiddan ag
ef ; adnabod ei ewyUys, a byw i'w glod."
Nis gaUwn ddilyn y pregethwr yn hwy,
yr uchelderau a ymwelasant â mi ; amser
fy niwygiad a ddaeth ; a'm hoU bechodau,
mewn meddwl, gair, a gweithred, a ddaeth-
ant i'm cof, fel pe buasai Uifddorau yn cael
eu hagor, a'r Uifeiriant yn myned droswyf,
nes yr oedd fy enaid yn soddi mewn ofn a
dychryn." Ýr oedd pob peth wedi newid
i'r Uanc erbyn hyn. Aeth y Uyfrau clas-
urol, gweithiau yr awdwyr paganaidd,
Homer, Horace, Virgil, ac Ovid, yn ddiflas
iddo ; nis gaUai osod ei feddwl arnynt o
gwbl. Ceisiai gelu ystâd ei feddwl ; ond
deaUai ei athraw yn dda fod pregeth
Whitefield wedi dylanwadu arno; eithr ni
ddywedodd air wrtho. Cefnodd ei gyfeiU-
PETER WILLIAMS.
437
ion arno ; ni chymerent arnynt ei weled ar
yr heol. Cwynai eraill o'i blegyd, fod
arwyddion unwaith y deuai yn ysgolhaig
gwych, yn gystal a chyfaill dyddan ; ond
yn awr, ei fod wedi myned yn Fethodist.
Meddai : " Câr a chyfaill a'm gadawsant."
Ni wyddai am neb i adrodd ei dywydd
wrtho, nac i ofyn gair o gyfarwyddyd,
oddigerth un ddynes ieuanc, aelod o'r
teulu yn mha un y lletyai; yr hon a gawsai
ei hargyhoeddi dan yr un bregeth ag
yntau. Pa hyd y bu cyn cael rhyddhad
i'w enaid, a pha foddion a fendithiwyd i
gymeryd ei faich i ífwrdd, sydd anhysbys ;
ond sicr ydyw i'r maglau gael eu tori, ac
iddo yntau ddianc fel aderyn o law yr
adarwr. Bellach, yr oedd Peter Wilhams
yn ddyn newydd, a'r cwbl yn newydd iddo
yntau. Cyn ei droedigaeth, yr ydoedd,
mewn undeb â rhai o'i gyfeilHon ieuainc,
wedi gwneyd parotoadau i gynal cyfar-
fodydd llawen, a dawnsio, yn ystod gwyhau
y Pasg a'r Sulgwyn ; i'r pwrpas hwn,
cyflogasent delynwr ; ond bellach, nid
oedd swyn iddo yn y cyfryw bethau. Nid
ydym yn gwybod a gynhahwyd y cyfar-
fodydd, ond y mae yn sicr nad aeth efe
iddynt, os do. Ar yr un pryd, nid yw yn
ymddangos iddo ymuno a'r seiat Fethod-
istaidd yn Nghaerfyrddin.
Yn fuan gwedi hyn gadawodd yr athrofa,
ac aeth i gadw ysgol i Cynwil Elfed,
plwyf gwledig tua phum' milltir o Gaer-
fyrddin. Nid yw yn ymddangos iddo
geisio urddau esgobol yn uniongyrchol.
Yr oedd arno eisiau hamdden i astudio
duwinyddiaeth, a hwyrach fod éi argy-
hoeddiad wedi dyrysu ei feddwl am
dymhor, fel nas gallai dori allan gynllun
i'w fywyd. Bu yn dra ymdrechgar yn
Nghynwil, nid yn unig fel ysgolfeistr, a
chyda ei efrydiau, eithr i atal llygredig-
aethau, ac i ddwyn y trigolion i feddwl am
grefydd. Yr oedd gwneyd rhywbeth dros
yr lesu wedi dyfod yn awyddfryd ang-
herddol ynddo. Ail-gyneuodd yr awydd
yn ei yspryd am ymgyflwyno i'r weinidog-
aeth ; teimlai fel Paul, mai gwae ef oni
phregethai yr efengyl. Eithr nid y cym-
hellion gynt, sef cydymdeimlad ag addysg,
a hoffder o lyfrau, a ddylanwadai arno yn
awr, ond dymuniad am gyhoeddi ar led
drysorau gras, fel y gallai pawb gyfranogi
o honynt fel yntau. Gwnaeth gais at yr
esgob am ordeiniad, a chafodd gymer-
adwyaeth Mr. Einion, ei hen athraw, yr
hwn a fu yn ddigon caredig i beidio a
dweyd gair am ei duedd Fethodistaidd.
Ymddengys i Mr. Einion hefyd amgau i'r
esgob y Ilythyr Lladin o ddiolchgarwch a
anfonasai y gŵr ieuanc iddo. Profodd
hwn yn allwedd effeithiol i agor iddo ddrws
yr offeiriadaeth, a chafodd ei ordeinio i
guwradiaeth eglwys Gymmun, plwyf ar
gyffiniau Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
Nid yw dyddiad yr ordeiniad genym, ond
y mae yn sicr iddo gymeryd Ile tua diwedd
y flwyddyn 1743, neu ddechreu y flwyddyn
1744.
Yn eglwys Gymmun yr oedd holl ofal
y plwyf arno. Preswyliai y periglor yn
Lloegr, Ile y meddai swyddogaeth uchel,
ac y caffai gyflog dda; ni ofalai am ei
blwyfolion tlodion yn Nghymru o gwbl,
oddigerth dyfod unwaith y flwyddyn i'w
mysg i dderbyn y degwm. Bychan oedd
cyflog Peter Williams ; gofalai y periglor
am gadw y brasder iddo ei hun, ond nid
oedd hyn yn poeni y cuwrad ieuanc o
gwbl, oblegyd ychydig oedd yn eisiau arno,
a chadwai ysgol ddyddiol, fel na byddai
mewn petrusder gyda golwg am gynhal-
iaeth. Ymdaflodd ar unwaith i'w waith.
Pregethai gyda nerth, er mai darllen ei
bregethau a wnelai. Yn fuan sefydlodd
gyfarfod gweddi yn y plwyf, yr hwn a
gedwid mewn gwahanol dai yn gylchynol.
Yn y cyfarfodydd hyn, nid yn unig gwedd-
íai, eithr rhoddai air o gynghor i'r rhai
oedd yn bresenol, gan eu hanog i fywyd
rhinweddol a duwiol. Y mae yn an-
mhosibl darllen ei hanes heb weled fod ei
ddechreuad yn hollol yr un fath ag eiddo
Howell Harris ; yr unig wahaniaeth o
bwys ydoedd fod Peter Williams yn \Vr
mewn urddau, tra yr oedd Harris yn am-
ddifad o'r cyfryw fraint. Ymddengys fod
rhyw gymaint o gallineb y sarph yn y
cuwrad ieuanc. Llenwid y wlad y pryd
hwn gan ofn, rhag y byddai i'r Ymhonwr
(Pvdendcv) enill gorsedd Prydain ; crynai
Llundain ei hun. Parodd hyn i lawer
weddío am ddwyfol amddiffyn dros y
brenhin nad arferent blygu ar eu gliniau.
Cymerodd Peter WiIIiams yr helynt yn
gochl i guddio yr hyn a ystyrid yn afreol-
aeth, yn ei waith yn cynal cyfarfodydd
gweddío. Eithr er ei ofal, drwgdybid ef o
fod yn tueddu yn ormodol at Fethodist-
iaeth. Yr oedd purdeb ei fuchedd,
gwresawgrwydd ei weddíau, ei waith yn
gweddío heb Iyfr, a thôn ei gyfarchiadau,
yn peri i'r bobl ledamheu mai Methodist
ydoedd. Ac yr oedd tueddu at hyn yn
cael ei ystyried yn bechod enbyd yn mysg
yr Eglwyswyr yr adeg yma. Perai peth
43«
Y TADAU METHODISTAIDD.
arall iddynt amheu ycuwrad. Pan fyddai
un o'r plwyfolion farw, anghefnogai yn
gyfangwbl y defodau Pabaidd oedd mewn
arferiad yn yr ardal ar y cyfryw achlysur,
eithr anogai y bobl i ddifrifwch, darllen y
Beibl, gweddío, a chanu sahnau.
Eithr dygwyddodd amgylchiad yn fuan
a benderfynodd y mater tuhwnt i ddadl.
Un boreu Sabbath aethai y cuwrad i'r
eglwys fel arfer. Yr oedd ei bregeth
ganddo wedi ei hysgrifenu yn ofalus ar
bapyr. Gwedi myned trwy y gweddíau
dechreuodd ddarllen yr hyn a ysgrifenasai
gyda dwysder ; eithr wrth godi ei ben, a
thaílu golwg frysiog ar y gynulleidfa,
gwelai ryw bobl ieuainc anystyriol, yn lle
talu sylw i'w ymadroddion, yn cellwair,
ac yn taflu blodeuglv/m, mewn chwareu, y
naill at y llall. Cyffrodd enaid gweinidog
Crist o'i fewn. x\rosodd am enyd, i edrych
a wnelai ei ddystawrwydd eu cywilyddio.
Pan welodd nad oedd hyn yn peri iddynt
gywilydd, dechreuodd lefaru wrthynt am
sancteiddrwydd - tv Dduw, a'r parch
dyladwy i ordinhadau y tỳ ; dywedai fod
eu hymddygiad yn gyfryw na oddefid
mewn chwareudy, chwaethach yn nghysegr
yr Arglwydd, a'u bod yn euog o daflu yr
anfri mwyaf ar fawrhydi y Jehofah. Gwedi
llefaru fel hyn nes esmwyth-hau ei gyd-
wybod, ceisiodd ail ddechreu darllen, ond
methai a chael o hyd i'r man y gadawsai,
ac oddiyno i'r diwedd bu raid iddo ymdaflu
ar ei adnoddau, a Uefaru fel y rhoddai yr
Arglwydd iddo ymadrodd. Teimlai ef ei
hun ar y pryd fod hyn yn gryn drosedd, a
gofynai yn gyhoeddus am faddeuant y
gynuUeidfa. Eithr yr oedd maddeu pechod
mor ysgeler yn beth hollol anmhosibl i'r
bobl foneddigaidd oedd yn bresenol. Di-
bwys ganddynt oedd fod yr ieuenctyd yn
chwareu ac yn cellwair yn ystod yr addoliad
cyhoeddus ; bychan yn eu golwg oedd fod
y werin yn marw o eisiau gwybodaeth ; ond
am lefaru yn y pwlpud, dan ddylanwad
eiddigedd sanctaidd dros ogoniant Duw,
heb fod y sylwadau wedi cael eu hysgrifenu
yn flaenorol, yr oedd hyn yn bechod mor
waradwyddus fel yr ystyrient ef y tu alian
i derfynau maddeuant. Wrth fyned allan
clywai Peter Williams y gwýr mawr yn
sibrwd wrth eu gilydd: " Yr oeddym yn ei
ddrwgdybio yn flaenorol," meddent, " mai
Methodist ydoedd ; eithr dyma y peth
yn amlwg o'r diwedd, y mae wedi tynu
ymaith y llen-gudd." Dygwyddai gwraig
y periglor fod yn bresenol, yr hon a an-
fonodd adroddiad o'r hyn a ddygwyddasai
i'w g\vr. Gyda throad y post dyma lythyr
i'r cuwrad yn cymeryd ei swydd oddiarno.
Sail yr ymddygiad hwn, yn ol geiriau y
llythyr, oedd a ganlyn : " Y mae y Parch.
Peter Williams, cuwrad eglwys Gymmun,
yn cael ei gyhuddo o bregethu y pechod
gwreiddiol, cyfiawnhad trwy ffydd, a'r
angenrheidrwydd anorfod am aiî-enedig-
aeth." Pechodau difrifol, onide, mewn
gweinidog ? Atebodd Peter Williams,
mai yr athrawiaethau, am bregethu pa rai
yr oedd yn cael ei gondemnio, yn ol ei farn
ef, oedd sylfaen erthyglau Eglwys Loegr ;
a dymunodd ar y periglor i ddatgan ei
olygiadau gyda golwg arnynt, ac addawai,
os medrai wneyd hyny gyda chydwybod
rydd, i ddilyn y cyfarwyddiadau a gaff^ai.
Fr llythyr hwn nid atebodd y periglor air;
eithr yn mis Awst daeth i lawr, gan was-
anaethu ei hun hyd nes gorphen blwyddyn
y cuwrad. Aeth y gŵr ieuanc ato, gan
ddymuno cael pregethu yn ei glyw, fel y
gallai farnu parthed ei gymhwysder i'r
offeiriadaeth. Yr unig ateb a roddai y
periglor iddo oedd, ei fod yn credu mai
Methodist ydoedd, ac na fyddai a fynai ag
ef mwy. Dadleuai y cuwrad fod ganddo
drwydded i bregethu oddiwrth Esgob
Tyddewi. Atebai yr ofFeiriad y gwnai ei
roddi yn Nghwrt yr Esgob, ac y cymerid
ei drwydded oddiarno yn fuan. Erbyn
hyn canfyddai Peter Williams ei bod yn
tywyllu arno o bob tu, a brysiodd at yr
Esgob, i ragflaenu y cyhuddiad a welai
oedd yn dyfod. Eithr derbyniad hynod o
oeraidd a gafodd. Yr oedd rhywrai wedi
bod yn ddiwyd yn cludo chwedlau am
dano i'r Esgob. " Yr wyf wedi clywed
eich hanes," meddai, " yr ydych wedi bod
yn pregethu yn Llanlluan a Chapel Ifan."
Capelau Eglwysig oedd y rhai hyn, a
gawsent eu gadael i fyned yn adfeilion ;
eithr yr oedd y Methodistiaid wedi cymeryd
meddiant o honynt, gan eu hadgyweirio i
raddau, a'u defnyddio i bregethu yr efengyl
ynddynt. Awgryma cyhuddiad yr Esgob
fod cryn gyfathrach wedi bod rhwng Peter
Williams a'r Methodistiaid yn barod, er
nad ydoedd wedi ymuno â hwy yn ffurfiol.
Dadleuai yntau, yn ngwyneb y cyhuddiad,
mai Ileoedd cysegredig perthynol i Eglwys
Loegr oeddynt. Yr unig atebiad a gafFai
gan ei arglwyddiaeth ydoedd, os gwnai
beidio pregethu am dair blynedd, ac ym-
ddwyn yn weddus, sef, yn ddiau, peidio
ymgymysgu â'r Methodistiaid, y rhoddai
efe iddo ar ben y tymhor hwn gyflawn
urddau. " Sut y gallaf fyw cyhyd heb na
PETER WILLIAMS.
439
gwaith na chyflog?" gofynai y cuwrad.
" Gwnewch fel y medroch," meddai yr
Esgob yn ol. Felly y terfynodd yr ym-
ddiddan, a chafodd Peter Wilhams ei
ollwng o'r palas esgobol heb gael cynyg
ar fwyd na diod.
Dyma Peter W'ilhams, druan, heb le,
na golwg am dano, oblegyd pregethu yr
hyn a ystyriai efe yn wirionedd Duw.
Eithr yr oedd ganddo gyfaill calon yn yr
Hybarch Griffith Jones, Llanddowror.
Pan glywodd efe am y tro, anfonodd am
dano, a hysbysodd ef fod eisiau cuwrad yn
nhref Abertawe. Brysiodd yntau yno,
a'r guwradiaeth a gafodd. Eithr am fis
yn unig y cafodd wasanaethu. Yr achos
a barodd iddo gael ei yru i íîwrdd oedd a
ganlyn : Daeth y Sabboth i"r maer, yn
nghyd â chorphoraeth Abertawe, ac hefyd
yr aelod seneddol dros y fwrdeisdref, i
fyned i"r eglwys. Gwedi i Peter WiUiams
ddarllen yr holl wasanaeth, cyfododd y
boneddigion i fyned allan ; nid yw yn ym-
ddangos yr arferent gael pregeth ar y
cyfryw achlysur. Eithr rhoddodd ef sahn..
allan i'w chanu ; eisteddodd y boneddigion
yn eu holau, a thraddododd yntau bregeth
effeithiol iddynt oddiar 2 Cron. xix. 67 :
" Canys nid dros ddyn yr ydych yn barnu,
ond dros yr Arglwydd," &c. Taranodd
yn erbyn derbyn gwobrau wrth farnu ; a
dywedodd wrthynt, oni ymddygent yn gyd-
wybodol yn ol cyfraith Duw, y byddai holl
bechodau y bobl yn gorwedd wrth eu
drysau. Anfoddlonodd rhai o'r boneddwyr
yn enbyd, a'r maer yn eu mysg. Ystyrient
fod y cuwrad wedi gwneyd yn rhy hyf
arnynt, a thalasant y pwyth iddo, trwy
beidio ei wahodd i'r wledd arferoi. Yn
mhen y mis aeth Peter WiIIiams i"r eglwys,
a gwelai ŵr yn y pwlpud yn barod, ac
wedi ymddiddan ag ef, deallodd ei fod
wedi cael ei anfon i gymeryd ei le. Yr
esgus a roddwyd i"r cuwrad ydoedd, fod y
plwyfolion wedi anfoddloni wrtho. Er
byred yr amser y bu yn Abertawe, ym-
ddengys i'w lafur gael ei fendithio yn ddir-
fawr. Dywedai amryw o'r rhai a garent
yr Arglwydd lesu iddo fod yn offeryn i'w
cadarnhau yn ngwirionedd Crist.
Wedi dychwelyd i Gaerfyrddin clywodd
fod eisiau cuwrad yn Llangranog a Llan-
dysilio, yn Sir Aberteifi, a chwedi appelio,
cafodd y Ile. Gwnaethai gytundeb pen-
dant am chwarter blwyddyn, eithr am
ddau fis yn unig y cafodd aros yno. Yr
oedd yn dra derbyniol gan y plwyfolion,
eithr rhoddodd ei Fethodistiaeth dram-
gwydd i'w noddwr, ac i ffwrdd y gorfu iddo
fyned. Gyda hyn y mae ei gysylltiad â'r
Églwys Sefydledig yn darfod. Yr oedd
yn dra ymlyngar wrthi ; o fewn ei chymun-
deb, ac yn gwasanaethu wrth ei hallor, y
treuliasai ei fywyd, pe y cawsai ganiatad ;
ond yr oedd duwioldeb, ac awydd am
gyhoeddi yr efengyl yn ei phurdeb i bech-
aduriaid, yn bethau na oddefid o fewn ter-
fynau yr Eglwys yr adeg hono, ac allan y
bu rhaid i Peter Williams droi. Aeth
allan fel Abram gynt, heb wybod i ba le
yr oedd yn myned. Eithr clywodd am
ryw gynghorwr enwog yn Sir Benfro, yr
hwn, yn ol pob tebyg, nid oedd yn neb
amgen na'r gwas enwog hwnw i Grist, y
Parch. Howell Davies, a chafodd ar ddeall
ei fod yn pregethu yr efengyl gyda nerth
ac arddeliad mawr. Penderfynodd fyned
i'w wrando. Mewn Ile o"r enw Castell-y-
Gwair, yn y flwyddyn 1746, y cymerodd
hyn le, pan yr oedd Peter WiIIiams
tua phedair-mlwydd-ar-hugain oed. Caf-
odd y fath flas ar bregeth Howell Davies,
fel y torodd allan i weddío yn gyhoeddus
ar y diwedd ; a gwnaeth hyny gyda'r fath
wres ac eneiniad nefol, nes gwefreiddio
pawb, ac aeth yn orfoledd cyffredinol trwy
yr holl gynulleidfa. Penderfynodd fwrw
ei goelbren gyda'r Methodistiaid yn ddi-
ymdroi. Cymerodd y pregethwr ef i
Gymdeithasfa Fisol, a gynhelid rywle yn
nghyffiniau Sir Benfro ; cyflwynodd ef i
sylw y frawdoliaeth, ac ysgrifenwyd ei enw
yn mysg y brodyr.
O hyn allan, pregethwr teithiol yw
Peter Williams, ac ymddengys iddo
ddechreu ar ei orchwyl ar unwaith. Yn
bur fuan, aeth i gapel Abergorlech, er
mwyn clywed Daniel Rowland ; eithr
gwnaeth Rowland iddo ef bregethu. Caf-
odd odfa nerthol ; bu ei bregeth yn effeith-
iol, dan fendith Duw, er achubiaeth i
amryw. Cymerodd Rowland ef i Lan-
geitho, Ile y pregethodd gyda chryn
ddylanwad. Cyfaddefa na wyddai nemawr
y pryd hwn am olygiadau gwahaniaethol
yr amrywiol bleidiau ; diau y clywsai am
Arminiaid, Baxteriaid, a Morafiaid ; eithr
ni wyddai fwy am danynt na'u henwau ;
yr oedd eu golygiadau ar wahanol athraw-
iaethau crefydd yn hoHol ddyeithr iddo.
Eithr pregethai efe lesu Grist wedi ei
groeshoelio, fel Ceidwad holl-ddigonol i
bechaduriaid, ac yr oedd yr x\rglwydd yn
arddel ei genadwri syml. O Langeitho,
aeth am daith i Ogledd Cymru. Y lle
cyntaf yr ymwelodd ag ef oedd Llan-
440
Y TADAU METHODISTAIDD.
idloes, a chawsai ei gyfarwyddo i alw yn
nhỳ crydd, o'r enw Evan Morgan, yr hwn
a breswyHai yn heol y Gogledd. Yr oedd
yspryd erUd yn gryf yn Llanidloes yr adeg
hon ; nid diberygl i Fethodist oedd ym-
weled a'r dref ; bu yn gryn helbul ar
Peter Williams cyn dod o hyd i dŷ y
crydd, eithr wedi iddo Iwyddo, cafodd
garedigrwydd mawr yno. Nid yw yn
ymddangos iddo bregethu yn y dref,
namyn cynghori yr ychydig bobl druain,
dlodion, a ymgynullent yn nhŷ Evan
Morgan. Oddiyma, aeth i gyfeiriad y
Drefnewydd ; pregethai pa le bynag y
caffai gyfleustra ; ac weithiau, byddai
ganddo gyfaill crefyddol yn ei hebrwng o'r
naill le i'r llall. Bu yn galed arno yn y
Drefnewydd ; galwasai gyda gòf i bedoli
ei gefifyl, ond yn fuan clywai y bobl yn
sibrwd mai Cradog ydoedd, a dyma hwy
yn dechreu lluchio cerig ato. Dywed fod
y cerig yh dyfod gyda y fath ruthr, fel y
tarawent dân allan o'r pahnant. Ffodd
am ei fywyd i gyfeiriad Llanfair-Careinion.
Yn y gymydogaeth hono daeth o hyd i
foneddwr lletygar oedd wedi gyfarfod yn
flaenorol yn Llandrindod ; gan hwn, cafodd
garedigrwydd mawr, a gwahoddodd ef i
bregethu y dydd canlynol yn nhy un o'i
amaethwyr. Sylwa mai dyma y tro
cyntaf iddo ganfod ychydig o haul er
dechreuad ei brofedigaethau. Y lle nesaf
iddo ymweled ag ef oedd y Bala, lle y
clywsai fod ychydig o garedigion yr
efengyl yn arfer cyfarfod. Yn nhŷ Ysgot-
iad duwiol yr arosai, ac ymddengys, hefyd,
mai yma y darfu iddo bregethu. Ni
wnaed ei ddyfodiad' yn gyhoedd, eithr
gwahoddwyd ychydig gyfeillion a pherth-
ynasau i wrando. Daeth mwy nag a
wahoddasid, ac er mwyn symud ymaith
ragfarn, gwisgai y pregethwr ei dorch-
wddf {neck band) oíFeiriadol wrth lefaru.
Gwrandawai rhai yn ystyriol ; yr oedd
eraill yn ddifater, ac hyd yn nod yn anfoes-
gar. Er mwyn enill eu sylw, cymerodd yn
destun, nid adnod o'r Beibl, ond adran o'r
gyíîes a arferir yn y Llyfr Gweddi Cyíf-
redin : " Aethom o'th fifyrdd di fel defaid
ar gyfrgoll." Rhai yn unig a roddent
glust ; am y IleiII, yr oeddynt yn Ilawn o
yspryd erlid, a thaflent gerig mawrion,
rhai yn dri phwys yn y man Ileiaf, at y
man y tybient ei fod yn cysgu. Eithr yr
Arglwydd a'i cadwodd rhag derbyn niwed.
Cly wsai fod ychydig yn gwrando yr efeng-
yl yn Lleyn, ac yno yr aeth, eithr ni ddyw-
ed i ba leoedd. Cafodd gynulleidfaoedd
Iliosog, nid am fod y mwyafrif yn rhoddi
gwerth ar Air yr Arglwydd, ond am eu
bod yn awyddus am weled cyfarfod cref-
yddoÌ yn cael ei gynal yn yr awyr agored,
gan un o offeiriaid yr Eglwys Sefydìedig.
Eithr cafodd amryw eu hargyhoeddi, ac
yn eu mysg un foneddiges ieuanc, yr hon
a ddywedai mai efe a gydnabyddai yn dad
ysprydol tra y byddai byw. Oddiyma
wynebodd ar Sir Fôn. Clywsai bethau
enbyd am wŷr Môn, a'u hatgasedd at
bregethu teithiol, ac am y dull ofnadwy yr
ymosodent ar y pregethwyr, yn nghyd â'r
rhai a'u canlynent. Yn arbenig, adroddid
iddo hanes un odfa yn ddiweddar, pan yr
oedd y gynulleidfa wedi ymranu, un blaid
am giywed beth oedd gan y cablwr (dyna
fel y galwent y pregethwyr tlawd) i'w
ddweyd, a'r IleiII am ei yru o'r wlad.
Terfynodd y ffrwgwd rnewn ymladdfa
waedlyd, a hn raid i'r pregethwr ddianc
am ei hoedl. Er y chwedlau yma ni
chymerodd Peter WiIIiams ei ddychrynu ;
wynebodd ar yr ynys yn nerth Duw. Ar y
dechreu, cadwai o'r trefydd a'r Ileoedd
poblog, gan deithio ar hyd y rhan fwyaf
bryniog o'r ynys, Ile yr oedd y trigolion yn
deneu. Gwyddai *y byddai cynuUeidfa
fawr yn sicr o'i rwystro i siarad. Llefarai
pa le bynag y cai bump neu chwech o
wrandawyr ; eithr pan elai y si ar led fod
un o'r Pengryniaid wedi dyfod i bregethu
yno, nes peri i'r Iliaws ddyfod yn nghyd,
Ììyddai yntau yn dianc. Yn araf fel
hyn daeth yn alluog i enill clustiau llawer
o bobl, ac yn raddol eu calonau, nes medru
bod yn fwy cyhoedd. Cyfarfyddodd hefyd
a mab i ryw foneddwr, yr hwn a gawsai ei
argyhoeddi trwy off"erynoIiaeth Howell
Harris ; bu hwn yn arweinydd iddo am
beth amser, gan ei gymeryd i fanau Ile yr
oedd rhai mewn cydymdeimlad â'r efengyl.
Nid oedd i gael ymadael o Fôn, modd
bynag, heb brofi rhyw gymaint o lid y
gelyn. Mewn tref, na rydd ei henw, yr
oedd yr erlidwyr wedi ymgasglu yn llu ;
gwawdient a chrochlefent, a cheisient
ddychrynu ceífylau Peter WiIIiams a'i
gyfaill, trwy ysgwyd c\vd llawn o gerig,
wedi ei rwymo ar ben pastwn hir ; eithr
nid rhyw Ìawer o luchio cerig oedd yno.
Pan y tybiai y pregethwyr y caent basio
heb gael dim gwaeth na gwatwaredd daeth
rhyw grydd allan o'i weithdy, yr hwn a
gymerodd lonaid ei law o fudreddi yr heol,
ac a'i taflodd i wyneb Peter WiIIiams, nes
yr oedd am ychydig yn hollol ddall o'r
ddau lygad. Modd bynag, wedi ei rwbio
PETER WILLIAMS.
441
ymaith, cafodd nad oedd yr un o'i lygaid
wedi eu niweidio. " Yna gorfoleddais,"
meddai, " a bu dda genyf fy mod yn cael
fy nghyfrif yn deilwng i'm herhd er mwyn
Crist, a'i efengyl bur."
O Sir Fôn aeth i Drefriw. Yma yr
oedd ei ddyfodiad wedi cael ei hysbysu yn
rhy gyhoeddus, ac felly yr oedd yr erhdwyr
wedi cael cyfleustra i'w dderbyn, yn eu
duU neillduol hwy, Daethai torf lawn o
íFyrnigrwydd yn nghyd, y rhai a gyflogasid
gan ddau foneddwr oedd ar y pryd wedi
yfed i ormodedd. Ymddengys na ddarfu
iddynt guro y pregethwr, eithr rhoisant ef
yn garcharor yn y tafarndy, ac yno y
thrachefn. Gofynais am fwyd a gwely,
pryd y chwarddasant eilwaith, a dywed-
asnt gyda dirmyg : ' Cewch fwyd a gwely
yn y man.' Dysgwyhais gael fy nhroi
allan, a'm curo â cherig i farwolaeth, ac
felly, mai yn y tywyllwch y gwneid pen
ar fy einioes. Rhoddais fy hun i'r Ar-
glwydd, gan barhau mewn gweddi ar ran
fy ngwatwarwyr rhagrithiol. Ni chania-
teid i mi weddío na phregethu mewn Uais
uchel ; ac yr oeddwn yn gruddfan am y
gorfodid fi i wrando ar eu maswedd, eu
rhegfeydd, a'u hymadroddion llygredig."
Diau mai noswaith anfelus iawn a dreuhodd
yn nghanol y fath haid annuwiol, ac eto,
cadwasant ef o chwech o'r gloch y nos,
hyd ddau yn y boreu, a cheisient ei wneyd
yn destun difyrwch, fel y Philistiaid â
Samson gynt. Meddai Peter Wilhams :
" Gwnaethant i mi yfed ; rhyddhasant fy
nillad, trwy ddatod fy motymau oddi fynu
hyd i waered ; rhoddasant ferch i eistedd
ar fy nghn, a gofynent lawer o gwestiynau
am fy nysgeidiaeth, fy athrawiaeth, a'm
canlynwyr, a beth oedd fy nhestun y boreu
hwnw. Atebais : ' Os gwelwch yn dda,
foneddigion, adroddaf i chwi'r testun, a'r
bregeth hefyd.' Ar hyn, galwodd un o
honynt am ddystawrwydd ; ' y mae o
yn myned i bregethu i'n diwygio ni,' ebai
efe, ac yna, chwerthin mawr drachefn a
cysurai ei hun trwy adgofìo fod gwell
triniaeth yn cael ei hestyn iddo nag i'w
Arglwydd. Cyn caniad y ceihog cafodd
ei ryddhau. Pa ddylanwadau a fu yn
effeithiol i ddwyn hyn oddiamgylch, nis
gwyddom. Cyn ymadael, gorchymynodd
y boneddwyr i'r tafarnwr roddi bwyd a
diod iddo ; talasant hefyd ei holl gostau,
ond siarsiasant ef na phregethai yn y
pentref. Yr oedd efe, modd bynag, erbyn
hyn yn y cyfryw stad fel nas gallai na
bwyta nac yfed. Aeth i'r gwely, a chysg-
odd, yr hyn na fedrai ei gyfaill. Eithr yr
oedd ei urdd-lythyrau wedi cael eu lladrata
trwy dwyll. Ond yn ystod y dydd, daeth
merch y g\vr a'u cymerasai, ar ei ol, a
442
Y TADAU METHODISTAIDD.
dychwelodd hwynt, rhag ofn cyfraith.
Teimlai efe, a'r cyfaiU oedd yn gydyniaith
iddo, eu bod wedi cael cyniaint gwaredig-
aeth a Daniel o íTau y llewod. Yn sicr,
yr oedd y pethau hyn yn brawf tanllyd i
\vr ieuanc, heb gyrhaedd ei bump-ar-
hugain mlwydd oed, i fyned trwyddynt.
Pa le yr ymgartrefodd Peter Wilhams
pan yr ymunodd a'r Methodistiaid gyntaf,
ni wyddis i sicrwydd ; eithr cyn i lawer o
flynyddoedd basio, cawn ef yn byw yn
Llandyfeilog, gerllaw y ffordd fawr sydd
yn arwain o Gydweh i Gaerfyrddin. Enw
yr amaetlidy a wnaeth yn breswyl oedd
Gelhlednais, ac y mae yn gorwedd tua
phiun' miUdir o dref Caerfyrddin. Yno y
bu byw hyd derfyn ei oes, ac yn mynwent
Llandyfeilog y rhoddwyd ei gorph i orwedd
gwedi iddo farw. Fel yr arfera plant
dynion, priododd yntau, a bu iddo deulu
cymharol hosog. Enw ei briod oedd Mary
Jenkins, merch i foneddwr o gymydogaeth
Llanlluan. Ychydig a wyddis am dani,
ond yn ol pob hanes yr oedd yn ddynes
rinweddol, ddystaw, a nodedig o dduwiol-
frydig. Bu fyw am chwech mlynedd-ar-
hugain ar ol ei phriod, ac yr oedd yn
nghymydogaeth cant pan y bu farw.
Parhaodd i fyned i'r addohad hyd y
diwedd, a dywedir iddi farchogaeth i'r
capel o fewn pythefnos i ddydd ei marwol-
aeth. Fel pob gwraig dda, yr oedd ei
ffydd yn ei phriod yn ddiderfyn. Yn ei
henaint, gwedi i'w golygon bahu, gwnelai
i'w hwyrion ddarhen penod o'r Beibl iddi
yn ami, a rhaid oedd darllen sylwadau
eglurhaol ei phriod ar y benod yn ogystal,
a braidd nad ystyriai y sylwadau mor
ysprydoledig a'r benod ei hun. Cawsant
y fraint o ddwyn i fynu chwech o blant,
sef tri o feibion, a thair o ferched. Cyr-
haeddodd dau o'r meibion, sef Ebenezer a
Peter Bayley, fesur helaeth o enwogrwydd
yn yr Eglwys' Sefydledig fel offeiriaid
dysgedig ac ymroddgar ; eithr bu y mab
arall, John, farw yn gymharol ieuanc.
Enwau y merched oeddynt Deborah,
Margaret, a Betti. Ymddengys i'r tair
ymsefydlu yn y byd, a chael teuluoedd.
Mab i un o honynt oedd y Parch. David
Humphreys, Llandyfeilog, gweinidog o
gryn enwogrwydd yn mysg y Method-
istiaid, doniau yr hwn a gyffelybid gan
lawer o'r hen bobl i eiddo Ebenezer
Morris. Merch iddo ef, ac felly orwyres i
Peter Williams, yw Mrs. Davies, gweddw
R. J. Davies, Ysw., Cwrtmawr. Y mae
nifer mawr o hiliogaeth Peter Williams,
trwy y merched, i'w cael ar hyd a iled
gwlad Myrddin, a siroedd eraiU, hyd
heddyw, a chan mwyaf y maent mewn
cysylltiad a'r Cyfundeb Methodistaidd.
Ond i ddychwelyd at hanes Peter
WiIIiams. Y mae yn sicr iddo gael Ile
amlwg yn mysg y Methodistiaid ar un-
waith, Un rheswm am hyn oedd ei fod
yn offeiriad urddedig, yr hyn a ystyrid ar
y pryd yn beth tra phwysig ; ond y mae
yn sicr fod a fynai helaethrwydd ei ddysg-
eidiaeth, a dysgleirder ei ddoniau, â hyn.
Yn niis Mai, 1747, sef yn mhen tua blwydd-
yn gwedi ei ymuniad a'r Methodistiaid, yr
ydym yn darllen am dano yn pregethu yn
Nghymdeithasfa Chwarterol Cilycwm, o
flaen Daniel Rowland. Ei destun ydoedd :
" Mor gu genyf dy gyfraith di," a chan-
molai Howell Harris y bregeth yn ddirfawr
fel un dra Ysgrythyrol. O hyn allan,
cawn ef yn cymeryd Ile blaenllaw yn mysg
yr arweinwyr. Os nad ystyrid ef ysgwydd
yn ysgwydd yn hollol â Rowland, Harris,
W'iIIiams, Pantycelyn, a Howell Davies,
yr oedd yn agos iawn atynt, ac yn mhell
uwchlaw neb arall. Nodwedd fawr ei
bregethau oedd Ysgrythyroldeb. Ni ryf-
ygai un amser esgyn i'r pwlpud heb
barotoi, ac felly, tra y dibynai eraill lawer
ar hwyl, byddai ef braidd bob amser yn
gyffelyb, sef yn sylweddol, a Beiblaidd, ac
athrawiaethoi. Hyn a barodd i WiIIiams,
Pantycelyn, ddweyd wrtho mewn tipyn o
gellwair : " Gelli di, Peter, bregethu lawn
cystal pe byddai yr Yspryd Glân yn
Ffrainc ; ond am danaf fi, nis gallaf wneyd
dim o honi, heb ei gael wrth fy mhenelin."
Meddai John Evans, o'r Bala, am dano :
" Gẁr cryf o gorph a meddwl oedd Peter
W^illiams, a phregethwr da. Llafuriodd
yn ddiwyd a ffyddlawn ; bu ei weinidog-
aeth yn dra bendithiol, a chafodd Ilawer
eu galw trwyddo." Clywsom sylw am
dano mai fel " Gŵr y ddau bwnc " yr
adwaenid ef; a'r ddwy linell yn cael eu
cymhwyso ato : —
" Y cldau iawn bwnc ganddo'n bod,
Y camwedd a threfn y cymod."
Prin y gellir meddwl fod gŵr o alluoedd
Peter WiIIiams yn cyfyngu ei hun at " y
ddau bwnc " hyn ; ac eto, diau eu bod yn
cael arbenigrwydd yn ei weinidogaeth,
gan fod holl wirioneddau trefn iachawdwr-
iaeth yn dal cysylltiad hanfodol a'r naill
neu y Ilall o'r pynciau hyn. Os mai byr
oedd ei wybodaeth dduwinyddol ar y
cyntaf, gwnaeth gynydd dirfawr yn fuan,
PETER WILLIAMS.
443
a chyn pen nemawr amser, braidd y
rhagorai neb arno yn mysg y Method-
istiaid o ran dirnadaeth o egwyddorion
crefydd.
Ymunodd Peter WilUams a'r Method-
istiaid ar adeg bwysig, sef pan yr oedd y
ddadl rhwng Howell Harris a'r arweinwyr
eraiU ar dori allan. Cawn ef yn bres-
enol mewn amrai Gymdeithasfaoedd y bu
dadleu brwd ynddynt, a theimladau cyff-
rous yn cael en henyn ; yr ydoedd yn
Nghymdeithasfa Llanidloes, ac yn pre-
gethu, sef yr olaf i Harris a Rowland fod
yn nghyd ynddi cyn yr ymraniad. Nid
yw yn ymddangos iddo ef gymeryd rhan
yn y ddadi o gwbl. Efallai yr ystyriai eì
hun yn ormod o newyddian yn y ffydd i
ddweyd dim, y naiU ochr neu y llall.
Gallesid dysgwyl, oddiwrth y golygiadau
a gyhoeddwyd ganddo ar ol hyn, mai
cymeryd plaid Harris a wnelai. Gellid
meddwl fod cryn debygolrwydd yn syniad-
au y ddau gyda golwg ar y Drindod. Eithr
wrth Daniel Rowland y glynodd. Ai efe
oedd y pedwerydd offeiriad, oedd yn
bresenol gyda Rowland, Wilhams, a
Howell Davies, yn Nghymdeithasfa Llan-
trisant yn y flwyddyn 1750, pan y pender-
fynwyd tori pob cysylltiad â Harris, nis
gwyddom. Ar y naill law, nid ydym yn
adnabod unrhyw offeiriad arall oedd yn
fyw ar y pryd, a fuasai yn debyg o gael ei
alw i'r cyfryw gyfarfod. Ar y llaw arall,
prin y mae y dybiaeth yn gyson â phresen-
oldeb Peter WilHams yn Nghymdeithasfa
gyntaf plaid Harris yn St. Nicholas. A
pha beth oedd ei neges yn St. Nicholas,
sydd ddirgelwch. Amlwg yw nad aeth
yno gyda'r bwriad i ymuno ; gwrthododd
hyny yn bendant. Braidd na ellid tybio
mai ei amcan oedd ceisio rhwystro rhwyg,
cyn i bethau fyned yn rhy bell ; oblegyd
pan y gwnaeth Harris araeth, yn gosod
allan ddrygedd ymddygiad Rowland a'i
ganlynwyr, a'r anmhosiblrwydd i uno â
hwynt heb iddynt edifarhau mewn sach-
Han a Uudw, aeth Peter Wilhams allan,
ac ni fu unrhyw gyfathrach rhyngddo,
mor bell ag y gwyddom, â " phobl Harris"
tra y buont yn blaid ar wahan. Pan y
gwnaed heddwch rhwng Harris a'r Metli-
odistiaid, yn mhen tair-blynedd-ar-ddeg
gwedi, yr oedd Peter Williams yn un o
brif ddynion y Gymdeithasfa. Braidd
nad ystyrid ef y nesaf at Rowland. Ac yr
ydym yn cael ei fod, yn ogystal a'r
arweinwyr eraill, yn derbyn y Diwygiwr
o Drefecca yn ol gyda breichiau agored.
Eithr nid ydym yn cael fod cyfeillgarwch
arbenig yn ffynu rhyngddo ef â Harris ;
dau brif gyfaill y diweddaf, hyd ei fedd, er
y cymylau a godai rhyngddynt weithiau,
oedd Daniel Rowland, a WiIIiams, Pant-
ycelyn. Yr oedd ei enaid wedi ymglymu
am y ddau hyn, fel eiddo Jonathan wrth
Dafydd.
Derfydd yr Hunangofiant a gyfansodd-
wyd gan Peter WiIIiams gyda hanes ei
daith gyntaf i Ogledd Cymru. Ychydig o
hanes manwl a feddwn am dano o hyny
allan. Y mae yn amlwg, niodd bynag,
mai fel pregethwr teithioì y treuliodd ei
oes, ac iddo drafaelu hoU Gymru, o Gaer-
gybi i Gaerdydd, ddegau o weithiau.
Meddai gymhwysderau arbenig tuag at
deithio y wlad yr adeg hon. Yr oedd ei
gorph yn gadarn a gwydn, fel y gallai
ddal pob math o dywydd ; ei yspryd oedd
wrol a hyf, ac ni ddychrynai rhag llid yr
erlidwyr ; yr oedd ei ddoniau gweinidog-
aethol mor enillgar, fel yn aml y byddai
yn swyno ei wrthwynebwyr heb yn wybod
iddynt ; ac yr oedd ei ddyoddefgarwch a'i
ymroddiad yn ddiderfyn. A dylid cofio,
mai nid myned yn ol cyhoeddiad, wedi
cael ei drefnu yn fanwl, y byddai, o leiaf
yn nechreuad ei lafur, a chyfeillion caredig
yn dysgwyl am dano ac yn barod i'w
groesawi yn mhob lle ; ond byddai raid
iddo weithio ei ffordd yn mlaen goreu y
medrai, gan anfon rywsut a rhywffordd i
hysbysu ei fod yn dyfod ; ac efallai mai yr
unig dderbyniad a gaffai, fyddai IIu o
erlidwyr yn ei aros, gyda cherig a phast-
ynau yn eu dwylaw, a llidiowgrwydd
lonaid eu hyspryd. Nis gallwn ddych-
ymygu am fawredd ei ddyoddefaint.
Mewn Ilythyr a ysgrifenwyd ganddo
•'lonawr 3, 1747, adrodda iddo ef ac eraill
gael eu dal yn eu gwely yn Rhosllanerch-
grugog, trwy warant wedi cael ei harwyddo
gan Syr Watkin Williams Wynne ; idd-
ynt fod tan arholiad gan Syr Watkin, yn
ei balas, hyd yr hwyr, heb gael tamaid i'w
fwyta na thracht i yfed ; ac i'r prawf
orphen trwy iddo ef gael ei ddirwyo o
ugain punt, a phob un o'i wrandawyr o
bum' swUt yr un. Wedi cyhoeddi y dded-
fryd goUyngwyd hwy yn rhydd. Eithr o
gwmpas deg o'r gloch y nos dyma y cwn-
stabli, a'r chujcìmarden, yn llety Peter
W^illiams, gan hawlio y ddirwy. Gom-
eddodd yntau dalu. Yna, y prif gwnstab
a afaelodd yn ei fraich, a'r churcìiwarden a
* Gwel Y Tadau MetJiodistaidd, tudal. 350.
444
Y TADAU METHODISTAIDD.
wthiodd ei law i'w logell, gan gymeryd yr
holl arian oedd ganddo ar y pryd, sef punt
a dwy geiniog. Ac felly y terfynodd yr
helynt.
Éi brif elynion oeddynt offeiriaid Eglwys
Loegr. Deuai rhai o honynt yn aml i'w
gyfarfodydd i derfysgu ; a phan na fyddent
yn bresenol, yr oeddynt wedi gofalu cyflogi
dihyrod i gyflawni y gwaith. Pregethai
unwaith yn y Garnedd Fawr, yn Môn, a
daeth clerigwr yn mlaen, a fuasai yn gyd-
ysgolor ag ef yn athrofa Caerfyrddin.
" Ffei, Peter," meddai yr off"eiriad ; " pa
fodd y meiddi bregethu mewn lle anghys-
egredig ? " Ebai yntau yn ol : " Maddeu-
wch fy anwybodaeth ; yr oeddwn i yn
tybio fod y byd oll, er pan y sangodd Mab
Duw arno, yn gysegredig i efengyl Crist."
Dro arall, pan ar un o'i deithiau yn Sir
Fôn, safai i bregethu yn ymyl tafarndy yn
Rhosllugwy. Eithr ymgasglasai torf o
greaduriaid diriaid, y rhai a benderfynas-
ent ei rwystro i lefaru. Ni chaniateid i'r
pregethwr fyned i'r tŷ, ac ni chaffai ei
anifail le. Ar hyn, yn hoUol foneddigaidd,
ond yn ddiegwan o ffydd, rhoddodd yr
emyn ganlynol allan i'w chanu : —
" Yr Arglwydd bia'r ddaear lawr,
A'i llawuder mawr sydd eiddo ;
Yr Arglwydd bia yr holl fyd,
A'r bobl i gyd sydd ynddo."
Cymaint oedd y dylanwad cydfynedol a
rhoddiad allan yr emyn, fel y darfu i'r
terfysgwyr daflu y pastynau, yn nghyd a'r
cyrn, a hoU daclau yr aflonyddwch o'u
dwylaw ; cafodd y pregethwr dawelwch
hoUol i draethu cenadwri ei Dduw ; ac yn
yr odfa hono achubwyd amryw a fuont
gwedi hyny yn golofnau cedyrn dan achos
y Gwaredwr yn Sir Fôn.
Nid yn y Gogledd yn unig y bu Peter
Williams dan erledigaeth, cafodd ei gam-
drin aml i dro yn y Dê, ac hyd yn nod yn
ei sir ei hun. *Pregethai un prydnhawn
Sabbath mewn lle a elwir Cwmbach, yn
gyfagos i eglwys y plwyf. Safai y pre-
gethwr ar gareg farch yn yr awyr agored,
a daethai torf yn nghyd i wrando. Gyda
ei fod wedi dechreu pregethu, dyma heHwr
Mr. Pryse, Plasnewydd, yr hwn foneddwr
oedd yn ynad heddwch, yn dyfod i'r lle.
Gwelid fod yn mwriad yr heliwr i greu
terfysg, a'i fod, trwy yfed cyflawnder o
wirodydd, wedi parotoi ei hun i'r gwaith.
Nesaodd at y gynulleidfa, gan fytheirio
llwon a rhegfeydd, a chrochlefain yn erbyn
* Methoiistiaeth Cymnc.
cynal cyfarfod o'r fath. Ymatahodd Mr.
W'ifliams dros enyd, a gofynai ai nid oedd
yno neb a allai berswadio yr aflonyddwr i
fyned aUan. Aeth dau ẁr ato, un o ba
rai ydoedd Henry Pugh, y rhai a'i hatal-
iasant i ruthro ar Mr. WilUams, eithr a'i
harweiniasant ef ymaith. Wrth ei fod yn
myned, galwodd Peter WiUiams sylw y
gynuUeidfa ato, ac mewn modd ofnadwy o
ddifrifol, dywedodd : " Os wyf fi yn genad
dros Dduw wrth lefaru yma heddyw, chwi
a gewch weled mai nid fel dyn araU y bydd
y dyn yna farw." Gwir oedd ei eiriau.
Yn mhen naw diwrnod gwedi, syrthiodd i
bwU glo dwfn, fel y bu farw gwedi ei
ddryUio yn arswydus. " Diau fod Duw a
farna ar y ddaear."
I Yn NghydweU, tref fechan heb fod yn
nepeU o'i gartref, cafodd driniaeth mor
arw a dim a dderbyniodd yn ystod ei oes.
Ymddengys fod y Ue yn enbyd o annuwiol.
Ceir traddodiad ddarfod i HoweU Harris
gael ei gamdrin yn dost yno pan yn gwneyd
ymgais am bregethu yr efengyl. Aeth
Peter WiUiams yno un prydnhawn Sab-
bath, gan sefyU ar gareg farch yn ymyl tỳ
g\Vr o'r enw John Rees. Ar hyny, dyma
haid o oferwyr yn dyfod i aflonyddu arno,
y rhai a flaenorid gan ddyn mawr, garw
yr olwg arno, a elwid Deio Goch, a
rhywun araU. Yr oedd Mr. WiUiams
wedi darllen penod o'r Beibl, ac ar fyned i
weddi, pan y neidiodd Deio Goch ato, gan
gipio y Beibl o'i law, a'i dynu i lawr oddiar
y gareg ar ba un y safai. Yr oedd y
dihyrwyr, meddir, wedi cael eu gosod ar
waith gan offeiriad y plwyf ; ac yr oeddynt
wedi ymgymhwyso at y gorchwyl oedd
ganddynt mewn Uaw trwy ymlenwi â diod
gref. Yr oedd y pregethwr, beUach, yn ei
gafael. Curasant ef yn ddidrugaredd a'u
fíyn ; yn ganlynol, gosodasant ef ar ei
geffyl, a gyrasant hwnw ar hyd y morfa,
gan ei symbylu i neidio dros ffosydd
mawrion ; a rhyfedd ydoedd na fuasai yr
anifail wedi tori ei goesau, a'r hwn a'i
marchogai wedi tori ei wddf. Yn nesaf,
cymerasant y pregethwr i'r tafarn, gan
benderfynu ei feddwi, a thrwy hyny ei
wneuthur yn destun gwawd. Gofynent
iddo : " A wnewch chwi yfed ? " " Gwnaf,
fel ych," oedd yr ateb. Estynwyd y ddiod
iddo ; yntau, yn ddirgel, a'i tywaUtai, nid
i'w enau, ond i'w fotasau, nes yr oedd y
rhai hyny yn Uawnion. Wrth ei weled'
mor hwyr yn dychwelyd, anfonodd ei
t Ibid.
PETER WILLIAMS.
445
briod y gweision i edrych am dano, a
thrwy eu cymhorth amserol hwy y cafwyd
ef yn rhydd o grafangau yr anwariaid.
Ofer fyddai ceisio adrodd yr oU a ddy-
oddefodd Peter Wilhams, yn ei lafur o
blaid yr efengyl yn Nghymru. Adroddir
iddo, yn y flwyddyn 1766, fyned i Lanrwst,
gan amcanu pregethu wrth neuadd y dref.
Gyda ei fod yn dechreu, dyma lances o
forwyn yn dyfod allan o dŷ oedd gerllaw,
ac yn ymosod arno a'i holl egni, trwy luchio
wyau gorllyd ato, nes yr oedd ei ddillad
mewn cyflwr enbyd. Yn mhen amser,
gwelodd y ferch fod perthynas agos iddi,
o'r enw Gabriel Jones, yn sefyll yn ymyl y
osododd ar y dihyrwyr, gan eu chwalu yn
chwimwth ar bob llaw, ac achubodd y
diniwed o'u dwylaw. Cymerodd y pre-
gethwr adref i'w dŷ yn ganlynol, a chwedi
gweini iddo bob ymgeledd angenrheidiol,
aeth i'w ddanfon, dranoeth, dair milltir o
ffbrdd, rhag iddo syrthio drachefn i ddwy-
law yr erUdwyr. Ni chymerai Richard
Roberts arno ei fod yn bleidiwr i'r Meth-
odistiaid. EglwyswT ydoedd, ac felly y
parhaodd trwy ystod ei oes ; ond pryd-
íerthid ei gymeriad â Uawer o rinweddau
dynol a Christionogol, ac nis gallai oddef
gweled gweinidog yr efengyl yn cael ei
anmharchu.
(_i;-:li,ii.i,i>n \i.-, 1.1,1; li,andyí'í:ilog.
[P)-esivylfod Peter [Filliams.]
pregethwr, a bod yr wyau weithiau yn ei
daro ef. Mewn canlyniad,. hi a ymatahodd.
Eithr wedi iddi hi beidio, dyma haid o
oferwyr yn gafaelu ynddo, ac yn ei
lusgo at yr afon. Yno, rhai a ddalient
ei freichiau i fynu ; eraill a godent ddwfr
o'r afon, ac a'i harllwysent i'w lawes ; a
chan fod yr hin yn rhewllyd ac yn oer, yr
oedd ei fywyd mewn perygl. Anhawdd
gwybod beth a fuasai y canlyniad, oni bai
i Richard Roberts, Tymawr, g\vr cyfrifol,
o gymeriad da, ac yn meddu corph cryf,
ddyfod heibio megys ar ddamwain. Cyff-
rodd yspryd hwn ynddo pan ddeallodd
beth oedd yn myned yn mlaen ; ym-
Dyoddef yn gyffredin a wnelai Peter
WiIIiams, heb wneyd unrhyw ymgais i
amddiffyn ei hun ; dyna, hefyd, arferiad
cyffredinol y Methodistiaid cyntaf, ond
ambell i dro rhedai eu hamynedd i'r pen,
ac appelient at gyfraith y wlad. "■ Un
waith yr ydym yn cael ddarfod i Mr.
Williams gael ei gamdrin yn enbyd yn
Ninbych ; ac nid digon gan yr erlidwyr
oedd ei guro, eithr yspeiliasant ef o'r oll a
feddai, W^edi iddo ddychwelyd adref i'r
Deheudir, adroddodd yr hanes wrth ei
gyfeillion. Cyffirodd y rhai hyny, a
* Methodistiaeth Cymru.
446
Y TADAU METHODISTAIDD.
chasglasant arian i'w amddiífyn. Rhodd-
wyd yr achos yn llaw cyfreithiwr a bres-
wyhai yn Aberhonddu. Mewn canlyniad,
gwysiwyd wyth o"r prif faeddwyr i Lun-
dain, i sefyll eu prawf, ac yn eu mysg yr
oedd dyn ieuanc yn perthyn i un o'r
teuluoedd mwyaf cyfrifoL Meddai hwn
ddigon o gyfoeth i gyflogi y dadleuwyr
goreu o"i blaid ; ond methodd, er pob
ymdrech, yn ei amddiffyniad, a chafwyd y
rhai a gyhuddid oll yn euog. Y gosp a
roddid arnynt oedd eu dihatru o nodded y
gyfraith (outlmi>yy). Trodd y teimlad,
bellach, yn eu herbyn. Dywedai pawb
mai cyhawn oedd eu cosp. Gan hyny, yr
oeddynt yn esgymunedig, ac ni allent aros
yn y wlad. Bu farw rhai o honynt yn
fuan o ymollyngiad meddwl ; eraill a
giHasant o'r golwg, ac ni chlybuwyd am
danynt mwy. Am y g\vr ieuanc cyfoethog,
bu yn nghudd ac yn alltud hyd nes y
darfu i'w rieni allu prynu ei ryddid iddo,
a'i ddwyn drachefn dan nawdd y gyfraith.
Dywedir i'r ddedfryd hon ddwyn dirfawr
ymwared i'r crefyddwyr, ac i arswyd eu
herhd ddisgyn ar y gwŷr mawr.
Fel y darfu i ni sylwi, pregethwr ath-
rawiaethol oedd Peter Wihiams yn benaf.
Y deaü a'r gydwybod a gyfarchai fel
rheol, ac nid yn aml yr appehai at y
teimlad. Y mae lle i gasglu nad oedd yn
gefnogol iawn i'r tori allan, a'r mohanu, a
fyddai yn cydfyned a'r diwygiadau. Ac
eto, torai y cynulleidfaoedd allan mewn
clodforedd a mawl, nid yn anaml, tan ei
weinidogaeth ef ei hun. Pan yr ymwel-
ai Howell Harris â Llangeitho un tro,
wedi iddo ymgymodi a'r Methodistiaid,
Peter Wilhams oedd yn pregethu yn y
Gymdeithasfa, ac aeth yr holl gynulleidfa
yn fflam, nes yr oedd enaid y Diwygiwr
o Drefecca yn Uawenychu ynddo. Ceir cof-
nod tra dyddorol am dano yn nydd-lyfr un
o "deulu" Trefecca. Daeth ar daith i
Frycheiniog, gwedi marw Harris, gan
bregethu efengyl y deyrnas, ac nid oedd
am ddychwelyd heb ymweled â Threfecca.
Evan Moses a lywodraethai yno ar y
pryd, ac ymddengys ei fod yntau yn ang-
hefnogol i bob arddangosiad o deimlad
mewn cyfarfod crefyddol. A ganlyn yw y
cofnod : " Dydd Mercher, 6 Gorphenaf,
1774. Pregethodd Peter WiUiams yma.
Aeth Gwen Yaughan i neidio. Yr oedd
Evan Moses yn dra anfoddlawn, a mynai
beri iddi fod yn llonydd. Eithr yr efryd-
wyr (yn athrofa yr larlles Huntington) a
gymerent ei phíaid. Eithr efe (Evan
Moses) a ddygodd dystiolaeth yn ei her-
byn gyda brwdfrydedd priodol, ac a ddy-
wedodd wrth Mr. Wilhams y byddai raid
iddo roddi cyfrif am gefnogi y fath deim-
ladau anmhriodol. Hònai nad oedd hyn
ond nwyd, a bod gwahaniaeth mawr
rhwng calon ddryUiog ac yspryd cystudd-
iedig, ag yspryd cyfan a balch, fel ei
heiddo hi, y rhai a wrthwynebent. Aeth
Mr. Wihiams o'r pwlpud ar unwaith, pan
ddywedodd Evan Moses wrtho y byddai
raid iddo roddi cyfrif, gan ateb, y byddai
raid iddo, yn ddiamheu." Felly y terfyna
y cofnod, ac awgryma fod Peter Wilhams
yn tueddu at fod o'r un syniad ag Evan
Moses gyda golwg ar neidio a mohanu.
Y mae yn bur sicr ddarfod i Peter Wil-
Uams, heblaw teithio Cymru ar hyd ac ar
led lawer gwaith, fod yn foddion i gychwyn
Uawer o achosion crefyddol yn ei sir ei
hun. Efe, fel y cawn weled eto, a adeil-
adodd gapel Heol-y-dwr, Caerfyrddin, a
hyny, gan mwyaf, os nad yn gyfangwbl,
ar ei draul ei hun. Pe na buasai ond
am ei lafur fel efengylydd, haeddai gofifa-
dwriaeth barchus, a Ue uchel, yn mysg y
Tadau Methodistaidd ; eithr nid gormod
dweyd mai mewn cylch arall y cyflawnodd
waith pwysicaf ei fywyd, ac y gosododd ei
gydgenedl tan y rhwymedigaeth fwyaf
iddo. Yr ydym yn cyfeirio at ei lafur fel
esboniwr. Darfu i'w waith yn dwyn allan
y Beibl mawr, yn nghyd a sylwadau ar
bob penod, yn y flwyddyn 1770, greu
cyfnod newydd yn hanes llenyddiaeth gref-
yddol Cymru. Ychydig iawn a wnaethid
yn y cyfeiriad yma o'r blaen. Ymddengys
ddarfod i'r Parch. Evan Evans, " bardd
ac offeiriad," fel ei gelwir weithiau, eithr
sydd yn fwy adnabyddus wrth ei enw
barddonol, leuan Brydydd Hir, ddechreu
ysgrifenu sylwadau ar y Beibl, ar gynllun
nid annhebyg i eiddo Peter WUIiams.
Eithr dros nifer fechan o lyfrau cyntaf yr
Hen Destament yn unig yr aeth efe, ac ni
chafodd yr hyn a ysgrifenodd erioed ei
argraff'u.* Yr unig Iyfr Cymreig o natur
esboniadol, a gawsai ei gyhoeddi yn flaen-
orol i Feibl Peter Williams, mor bell ag y
gwyddom, oedd Cysondeb y Pedair Efengyl,
gydag agoriad byr a nodau athrawus, ar yr
hyn a dybid yn dywyll ac anhaic'saf ynddynt,
gan y Parch. John Evans, A.C. Cawsai
John Evans ei ddwyn i fynu yn y Meini
Gwynion, ger Llanarth, ond gwasan-
aethai yn Plymouth, ac felly, fel " Oífeir-
* Llyfryddiacth y Cymry, tudal. 513.
PETER WILLIAMS.
447
iad PlymoLith " yr adwaenid ef yn ei sir
enedigol. Er ddarfod i'r Cysondeb ym-
ddangos yn y liwyddyn 1765, sef tua
phum' mlynedd o flaen y Beibl mawr,
rhaid i Mr. Williams ddechreu ar ei
waith lawn mor gynar a John Evans, os
nad yn gynarach, gan fod ei faes yn
llawer helaethach. Felly, nid gormod
dweyd mai i Peter Wilhams y perthyn
yr anrhydedd o fod yn dad esboniadaeth
Gymreig.
Nis gelhr dirnad y dylanwad a gafodd
Beibl Peier Williauis ar fywyd ysprydol y
genedl. Prynwyd ef gydag awch ; nid
oedd teulu crefyddol o fewn y Dywysog-
aeth yn foddlon bod hebddo, os gallent
rywlun hebgor yr arian i'w bwrcasu.
Cynilai gweithwyr o'u henilHnn bychain,
a braidd nad aent heb eu beunyddiol
ymborth, er mwyn ei feddu. Yn y ddyled-
swydd deuluaidd, darllenid nid yn unig y
benod allan o'r Ysgrythyr, eithr sylwadau
Peter WilHams yn ogystal, a phrin y
deallai Ilawer o ddynion da a duwiol nad
oedd y sylwadau mor ddwyfol a'r Beibl ei,
hun. Ofer fyddai i neb feiddio dweyd gair
-yn ei erbyn ; yr oedd sylw y Beibl mawr ar
unrhyw fater yn derfyn ar bob ymryson.
Edrychid arno gyda y parchedigaeth
mwyaf, fel rhan anhebgor o addoliad Duw
yn y teulu ; coffaid y sylwadau yn y
seiadau, a buont yn ymborth ac yn faeth i
bererinion Seion o'r adeg yr ymddangos-
asant hyd y dydd hwn. Ceir rhai yn
bresenol yn dibrisio sylwadau Peter Wil-
liams, gan ddweyd na ddaliant eu cymharu
ag amryw o'r esboniadau sydd erbyn hyn
wedi eu cyhoeddi yn yr iaith Gymraeg.
Dywedwn ninau na ddylid eu cymharu.
Cyn cael syniad priodol am werth y
sylwadau, rhaid galw i gof sefyllfa Cymru
o ran manteision addysg pan yr ysgrifen-
wyd hwynt, Ychydig o Iyfrau oedd
yn y wlad, a'r ychydig hyny, gan mwyaf,
allan o gyrhaedd y werin. Yr oedd yr
Ysgol Sabbothol heb ei sefydlu, ac yr oedd
yr hen Efengylydd o Gaerfyrddin yn tynu
at derfyn ei yrfa, pan yr oedd Mr. Charles
yn anterth ei nerth yn Ilafurio i'w chych-
wyn. Ychydig, mewn cymhariaeth, a
fedrent ddarllen, er fod ysgolion cylch-
ynol Griffith Jones wedi gwneyd llawer o
les yn y cyfeiriad hwnw. Felly, braidd
nad unig gyfrwng gwybodaeth grefyddol o
fewn cyrhaedd y lliaws oedd yr hyn a geid
yn ngweinidogaeth yr efengyl, ac yn y
seiadau. Fr werin bobl, yn y sefyllfa yr
oeddynt ynddi ar y pryd, nis gellid cael
dim gwell na sylwadau Peter WiIIiams.
Ac erbyn cymeryd pob peth i ystyriaeth,
y syndod yw eu bod mor sylweddol,
cyfoethog, a chyflawn. Ei gynllun ei hun
a gymerodd, ac y mae ei ddelw ei hunan
ar yr holl sylwadau yn amlwg, er, ar yr
un pryd, nad oedd yn amddifad o Iyfrau
cynorthwyol, yn mysg pa rai, y penaf, -,
efallai, oedd sylwadau Osterwald, yr j
Allmaenwr, y rhai a gawsent eu cyfieithu /
ychydig yn flaenorol. Cadwai Mr. Wil-
liams ddau amcan o'i flaen wrth ysgrifenu
ei sylwadau, sef, ar y naill law, gosod
ynddynt ddigon o fater, fel ag i fod yn
gymhorth sylweddol i'w gyd-genedl mewn
ystyr grefyddol ; ac ar y Ilaw arall, peidio
esgyn uwchlaw cyrhaeddiadau gwerin ei
oes, rhag i'w lafur brofi yn ddifudd. Yn
y ddau beth hyn bu yn dra Ilwyddianus.
Nid bychan y Ilafur oedd yn angen-
rheidiol tuag at barotoi y gwaith, ac y
mae yn syn iddo allu ei gyflawni, pan
feddyliom ei fod yn teithio cymaint o
gwmpas gyda phregethiad yr efengyl.
Nid bychan oedd yr anturiaeth, ychwaith,
o ddwyn allan argraffiad yn cynwys 8,600
o gopiau, yn arbenig pan y cofir nad oedd
poblogaeth y Dywysogaeth y pryd hwnw
fawr mwy nag un rhan o dair o'r hyn
ydyw yn awr. Llawer o'i frodyr, â pha rai
yr ymgynghorasai, a gredent mai ffblineb
oedd meddwl am y fath beth, ac a geisient
ei berswadio i roddi i fynu y syniad. Ond
mor angerddol oedd ei zêl, a chymaint ei
íFydd, fel y gosododd ei wyneb fel callestr.
Profodd y canlyniad mai efe oedd yn ei
le, a choronwyd yr anturiaeth â Ilwyddiant.
Gwerthwyd yr argraffiad cyntaf allan yn
Ilwyr yn mhen ychydig flynyddoedd, a
daeth galw am ail argraffiad.
Heblaw y Beibl mawr, gyda sylwadau
ar bob penod, dygodd Peter Williams
allan y Mynegair Ýsgrythyyol, yr hwn Iyfr, 1
er nad ellir ei ystyried yn hollol wreiddiol,
a f u o wasanaeth dirfawr i'r genedl. Siar-
adai Mr. Charles yn uchel iawn am dano,
a chafodd gylchrediad helaeth. Iddo ef,
hefyd, y perthyn yr anrhydedd o ddwyn
allan y cyhoeddiad cyfnodol cyntaf yn yr '
iaith Gymraeg, yr hwn a alwai, Trysorfa
Giiiybodaeth, neu, Yr Eurgraîan Cymraeg.
Cyhoeddiad pythefnosol ydoedd, pris tair
ceiniog ; pymtheg rhifyn o hono a ddaeth
allan. Cyhoeddwyd ef yn y flwyddyn
1770. Erbyn hyn y mae cyfnodolion )
Cymru yn IIu mawr iawn, ond Trysorfa '
Gtiiybodaeth Peter Williams oedd ysgub y
blaenffrwyth. Yn ychwanegol at y Beibl
448
Y TADAU METHODISTAIDD.
Teuluaidd, Y Mynegair, yn nghyd â Beibl
John Canne, at yr hwn y cawn gyfeino
eto, cyhoeddodd nifer mawr o fân lyfrau,
ar wahanol faterion, rhai yn wreiddiol
iddo ei hun, ac eraili yn gyfieithiadau
o'r Saesneg, ond oU yn tueddu i lesoh
ei gydwladwyr, yn foesol a chrefyddol.
Ysgrifenodd gryn lawer o farddoniaeth o
bryd i bryd, a thebyg fod y ddawn bryd-
yddol yn bur gryf ynddo, ond gan fod
Wilhams, Pantycelyn, yn cydoesi ag ef,
ac yn seren mor ddysglaer, ni ddaeth ef i
lawer o amlygrwydd fel bardd. Modd
bynag, gelHr gweled oddiwrth hyn oll fod
ei lafur yn ddiderfyn, ac nad oedd ball ar
ei yni.
Yr ydym wedi cyfeirio at y Beibl mawr,
yn nghyd a'r sylwadau ynddo ar bob
penod, fel prif waith Peter WilHams, ac
fel colofn benaf ei anrhydedd ; ond yn
nglyn â hyn, hefyd, y cychwynodd ei
brofedigaethau, a dyma, ,yn y diwedd, a
fu yn achos iddo gael ei ddiarddel gan
Gymdeithasfa y Methodistiaid. Buasai
yn dda genym allu pasio heibio hyn, ond
y mae yr helynt yn un mor gyhoeddus, fel
y rhaid i ni gyfeirio ati. Yn yr argraffiad
cyntaf o'i Feibl, ceir y sylw canlynol ar y
benod gyntaf yn Efengyl loan : " Yr un
yw meddwl Duw a'i ewyllys, a'r un yw
ei ewyllys a'i air (o herwydd nid yw yn
cyfnewid), ac efe a ewyllysiodd cyn bod
byd nac angel, roddi Crist yn ben ar y
byd ; felly, y mae Duw yn Dad, Mab, ac
Yspryd Glân, o dragywyddoldeb, yn ei
ewyllys dragy wyddol ei hun ; nid ' mewn
dull angenrheidiol o fod, pe na buasai
rhaid achub un dyn, na sancteiddio un
enaid,' fel y mae rhai mewn annoethineb
yn dywedyd ; eithr am ei fod yn ewyllysio
achub a sancteiddio ; canys Crist (yn yr
hwn y mae doethineb Duw yn ymddangos
yn benaf) oedd hyfrydwch y Tad yn
nechreuad ei ffyrdd ; ac yn Alpha ac
Omega' ei holl weithredoedd ; yn gytunol
a'r hwn ewyllys, Y Gair (yn nghyflawnder
yr amser) a wnaetìipwyd yn gnawd, ac a
drigodd yn ein plith ni, — ac fe welodd rhai
ei ügoniant, ac a gredasant fod lesu yn
Dduw ! Nid ' yn Dduw trwy ordeiniad,'
fel y mae rhai yn ofer siarad, eithr mai efe
yw yr îinig wir a'r bywiol Dduw ; canys y
mae yr ysgrythyr yn tystio mae'r Dyn
lesu yw'r Tad tragywyddol ; a phwy
Gristion a ddichon ddyoddef cabledd y
rhai a wadant Dduwdod Crist ? "
Nid yw yn hollol glir pa beth a olyga
yn y sylwad hwn. Efallai nad yw y
geiriau yn gwbl annghyson a'r syniad fod
y Duwdod yn hanfodi erioed, ac o angen-
rheidrwydd natur yn Dri Pherson ; ond
am y berthynas hanfodol hon, nad oes
genym unrhyw wybodaeth, am nad ydyw
wedi ei ddatguddio i ni ; ac mai perthynas
y Personau Dwyfol a'u gilydd yn nhrefn
iachawdwriaeth pechadur yn unig sydd
yn cael ei dynodi yn yr enwau Tad, Mab,
ac Yspryd Glân. Os mai hyn a feddyliai,
bu yn dra anffortunus yn ei ddull o eirio,
a dweyd y lleiaf. Pa mor fuan y craffodd
yr arweinwyr yn mysg y Methodistiaid ar
y sylwad, ac y dygwyd achos yr awdwr
ganddynt i'r Gymdeithasfa, gan ei gyhuddo
o Sabeliaeth, sydd yn anhysbys. Y tebyg-
olrwydd yw na ddigwyddodd hyn cyn yr
ail argraffiad o'r Beibl mawr, a ddygwyd
allan yn y flwyddyn 1781, gan ddarfod i'r
un sylwad yn hollol ymddangos yn hwnw.
Eithr yn fuan ar ol hyn, daeth y pwnc yn
destun dadleuaeth frwd a phoenus mewn
gwahanol Gymdeithasfaoedd. Nid yw
hanes y ddadl genym, eithr cyfeiria Peter
Williams ati yn un o'i lythyrau, a ysgrif-
enwyd ganddo tua diwedd ei oes. Fel
hyn y dywed : " Ond amheu yr wyf fod
rhyw rai yn cyffroi cynhen, trwy adgoffa
yr hen ddadl, yn nghylch Maboliaeth ein
Hiachawdwr, lesu Grist ; sef, pa un ai
trwy genhedliad tragywyddol o sylwedd y
Tad, fel y dywed rhai, neu o herwydd y
natur ddynol a genhedlwyd trwy yr Ys-
pryd Glân, fel yr wyf fi, yn ostyngedig yn
meddwl, y cafodd ei alw yn Fab. Salm
ii. 7." Profa y difyniad i ddadl boenus
gymeryd Ile ar y mater yn y Gymdeith-
asfa. Y mae yn sicr fod y Gymdeithasfa
yn gyffredinol yn annghymeradwyo y
sylwad ; yr oedd yn anmhosibl i Daniel
Rowiand yn arbenig beidio, gwedi y safle
a gymerodd yn y ddadl â Howell Harris ;
a diau fod WiIIiams, Pantyçelyn, yn
cydweled ag ef. Ar yr un pryd, tra yr
oedd plaid am ddiarddel yr esboniwr fel
un oedd yn euog o heresi, safai Rowland a
WiIIiams yn gryf yn erbyn defnyddio
mesurau mor eithafol. Nid annhebyg fod
yn edifar gan y ddau na fuasent wedi cyd-
ddwyn mwy â Harris ; yr oedd canlyn-
iadau alaethus yr ymraniad yn fyw yn eu
cof ; ac erbyn hyn, yr oedd addfedrwydd
oedran a dechreuad henaint wedi dysgu
goddefgarwch iddynt. Felly, ni fynai y
naill na'r Ilall glywed am ddiarddel Peter
Williams, eithr ymfoddlonasant ar an-
nghymeradwyo ei olygiad, a gweini cerydd
iddo. Nid annhebyg fod cerydd Rowland
^T ^gj
ÍKVJ-Û.\
'í't^/:"'Ja//í- íf. /;o'' /:y 7f:I'í'/r\í/A'°ò'fIirr/iení Strct-/ .<S'I.'^7.,.
PETER WILLIAMS.
449
yn dra llym, ond gwyddai yr Esboniwr ei
fod yn cyfodi oddiar gariad, ac felly gallai
ei oddef. Hyn barodd iddo ganu yn ei
farwnad i Daniel Rowland : —
" 0, mrawd Eowland, ni'th anghofiaf,
Ti roddaist i mi lawer sen ;
Ymhob tywydd, ymhob dirmyg,
Pwy oud ti orchuddiai 'mhen ? "
Tawelodd yr ystorm am beth amser, a
chafodd Peter WilHams ryddid i fyned o
gwmpas fel arfer, i bregethu yr efengyl,
ac i werthu ei lyfrau. Eithr tua'r flwydd-
yn 1790, dyma y dymhestl yn ail gyfodi,
a hyny gyda mwy o gynddeiriogrwydd.
A ganlyn oedd yr achos : Yn y flwyddyn
a nodwyd, dygodd Peter Wilhams aUan
argraffiad o Feibl bychan, gyda chyfeir-
iadau John Canne ar ymyl y dail, a
nodiadau eglurhaol o'i eiddo ei hun ar y
godre. Y tebygolrwydd yw ddarfod iddo
j .ngymeryd a'r anturiaeth o gyhoeddi y
Beibl hwn oddiar gymeradwyaeth ei frodyr
yn y Gymdeithasfa, a chydag addewid am
eu cynorthwy tuag at ei ledaeniad. Yr
oedd y nodiadau eglurhaol yn cynwys
sylwadau ar y Drindod, a Mabolaeth
Crist, nid annhebyg i'r sylwad a ym-
ddangosasai yn y Beibl Teuliimdd ; yn wir,
braidd na ddefnyddiai yr Esboniwr ym-
adroddion cryfach wrth egluro ei olygiadau
neiilduol ei hun. O angenrheidrwydd,
tueddai hyn i ail enyn y tân. Er mwyn
cael gwybodaeth helaethach am olygiadau
Peter WilHams parthed y Drindod, ni a
ddifynwn ychydig ymadroddion allan o
draethawd a ysgrifenwyd ganddo yn fuan
gwedi ei dori allan, yr hwn a eilw yn
Dirgelwch Duwioldeb. Meddai : " Y mae
yn angenrheidiol credu fod yn uiidod y
Duwdod Drindod, sef Tri Pherson yn un
Duw, ac a eilw yr Ysgrythyr, y Tad, y
Mab, a'r Yspryd Glân. Ond na feddylied
y darllenydd fod tri hanfod givahanol, canys
fe fyddai hyny yn wrthwyneb i ìindod y
Duîí'dod. Nage, eithr y maent yn Dri
Pherson mewn un hanfod." Beth a allai
fod yn fwy uniongred ? Yn nes yn mlaen,
cawn : " Y Tad yw ffynhon y Duwdod,
canys Duw trwy yr Yspryd a genhedlodd
y Mab o Fair y Forwyn. Ac, fel y dywed
y Credo, y mae yr Yspryd yn deilliaw
oddiwrth y Tad a'r Mab." Eithr yn fuan
yr ydym yn dyfod ar draws cymysgedd ;
cymysgedd syniadau, yn gystal ac an-
eglurder geiriad : " Y sawl a ddysgir gan
Dduw i weled y fendigedig Drindod yn
nghnawd y dyn Crist lesu (pa mor ddifíyg-
iol bynag fyddont mewn dysgeidiaeth
Rhan VIII.
ddynol), hwy a fedrant dystiolaethu trwy
brofiad fod yr olwg arno yn adfywio eu
heneidiau." Eto : " Ni feiddiaf fi ddweyd
fod Trindod yn angenrheidiol i hanfod
Duw, fel y mae rhai yn rhyfygus haeru ;
eithr mi a ddywedaf, ac yr wyf yn credu,
fod y Drindod yn gwbl angenrheidiol i
ddatguddio Duw i etifeddion bywyd tra-
gywyddol." Eto : " Un yw Duw, a'r
Mab ynddo fel brigwydd {misletoe) yn y
pren, yn byw ar nodd y pren, heb un
gwreiddyn gwahanol." Eto : "^// Ber-
son," meddynt (sef gwrthwynebwyr Peter
\\'illiams), " wedi ei genhedlu gyda Duw !
Y mae yn anmhosibl i Dduw genhedlu
Duw arall ; os darfu Duw genhedlu Duw,
rhaid fod yr un a genhedlwyd yn Ilai na'r
hwn a'i cenhedlodd. Onid yw y cyfryw
athrawiaeth ddisail yn waradwydd i Grist-
ionogrwydd ? " Eto : " Nid yw yr Ail
Berson a genhedlodd Duw yn nhragywydd-
oldeb, allan o hono ei hun, ar ei ddelw ei
hun, ond person dychymygol, nad oes son am
dano yn y Beibl." Eto : " Fel y mae'r Tri
Pherson wedi ymbarotoi i waith iachawd-
wriaeth ; neu, fe ellir dweyd, y mae Duw
wedi addasu ei hun dan y tri enw, Tad,
Mab ac Yspryd." Rhaid addef y cynwysa
y difyniadau uchod ymadroddion dyeithriol,
a dweyd y Ileiaf, am y Drindod, ac am
berson ein Harglwydd ; ac oni thybir eu
bod yn cael eu hachosi gan gymysgedd
iaith a syniad, a chan anfedrusrwydd i
gyflwyno ei olygiadau i'r cyhoedd mewn
iaith glir, nis gellir rhyddhau yr Esboniwr
oddiwrth y cyhuddiad ei fod yn tueddu yn
gryf i gyfeiriad Sabeliaeth.
Darfu i beth arall yn nglyn â dygiad
allan ei argraffiad o Feibl John Cannc
chwerwi y teimlad yn erbyn Peter Wil-
liams yn ddirfawr, sef ei waith yn newid
y cyfieithiad mewn amrywiol fanau. Yn
ngholwg Ilawer o'r Methodistiaid, yr
oedd y cyfieithiad Cymraeg o'r Ysgrythyr
lân agos mor ysprydoledig a'r Ysgrythyr
ei hun ; rhyfyg enbyd yn eu golwg fyddai
i neb, pa mor ddysgedig bynag y gallai
fod, geisio newid gair neu ymadrodd ynddo ;
a phwy bynag feiddiai, caff'ai deimlo pwys
eu hanfoddlonrwydd. Pan ddeallwyd
ddarfod i Peter WiIIiams ryfygu newid y
cyfieithiad, cododd cri cyffredinol yn ei
erbyn. Cyhuddwyd ef o wneyd hyny er
naddu yr adnodau i ffitio ei gyfundraeth.
Nid yw yn ymddangos fod y cyfnewidiadau
yn bwysig iawn, a thueddwn i feddwl na
amcanai efe, wrth eu gwneyd, gefnogi
unrhyw gyfundraeth benodol o'i eiddo éi
450
y TADAU METHODISTAIDD.
hun ; ar yr un pryd, rhaid addef fod rhai
o honynt yn tueddu i greu drwgdybiaeth.
Yn Diar. viii. 25, lle y gosodir yn ngenau
Crist y geiriau : " Cyn sylfaenu y mynydd-
oedd, o flaen y bryniau, y'm cenhedlwyd,"
cyfìeithai Peter Wilhams, " ü flaen y
bryniau y'm hesgorwyd." A chan ei fod
yn gwadu ddarfod i'r Mab gael ei genhedlu
er tragywyddoldeb, oddigerth yn arfaethol,
yr oedd y newidiad a wnaeth yn peri i
bobl dda fyned yn ddrwgdybus o burdeb
ei amcan. Ei reswm ef oedd fod y gair
yn yr iaith wreiddiol yn cael ei arfer yn yr
ystyr a roddai efe iddo. Yn Esaiah hii.
10, yn lle " pan osodo efe ei enaid yn
aberth dros bechod," darllenai, " pan
idiadau, nid oedd unrhyw newidiad ar y
synwyr ; ond rhwng ysgelerder y trosedd,
yn ngolwg llawer, o gyffwrdd mewn un
modd a'r cyfieithiad o'r Beibl, a'i fod
yn dyfod ar gefn geiriadaeth gymysg-
lyd, os nad rhywbeth gwaeth, am athraw-
iaeth y Drindod, cododd y hif yn uchel
yn erbyn yr Esboniwr o Gaerfyrddin.
Cyn canlyn y ddadl i'w therfyn, gwedd-
us nodi fod Peter W'iUiams mewn llafur
dirfawr gyda gweinidogaeth yr efengyl yn
ystod yr hoh amser y dygai ei argraffiad o
Feibl Cannc aUan, megys cyn hyny. Ceir
prawf nodedig o hyn mewn llythyr o'i
eiddo, yn ei lawysgrif ef ei hun, sydd ar
gael yn Nhrefecca, yr hwn na argraffwyd
^
'•'^•**»«'^*»sr
CAPEL 11K(_)L-
CAJ.iil YliUUlN.
osodo efe ei hun yn aberth dros bechod."
Dros hyn, rhydd ddau rheswm, sef fod y
gair yn y gwreiddiol yn arwyddo yr holl
ddyn, a'i fod yntau am ragflaenu cyfeil-
iornad, gan fod rhai yn tybio mai enaid
dyn yn unig sydd yn pechu, ac felly mai
enaid y Gwaredwr yn unig a ddylai
ddyoddef. Ond, yn sicr, nid oes gan
gyfieithydd un hawl i roddi darheniad
penodol er rhagflaenu cyfeiHornad. Yn y
lafed adnod o'r un benod : " Efe a rana yr
yspail gyd â'r cedyrn," darhenai, " Efe a
feddiana yspail y cedyrn." Yn Hebreaid
V. 9, yn lle " Efe a wnaethpwyd yn Awdwr
iachawdwriaeth dragywyddol," darllenai,
" Efe a ddaeth yn Awdwr iachawdwriaeth
dragywyddol." Mewn Uawer o'r cyfnew-
erioed. Yr ydym yn ei gyhoeddi air am
air, a hythyren am lythyren, fel yr ysgrif-
enwyd ef, gan fod cryn ddyddördeb yn
perthyn iddo ar amryw gyfrifon : " Caer-
fyrddin, Awst 22, 1789. Fy nghyfeilhon,
Ýr wyf yn gobeithio eich bod yn iach, fel,
trwy drugaredd, yr wyf finau. Dyma
Gig 4 X yn dyfod i'ch dwylaw ; atolwg, a
gawsoch chwi bob papurlen a ddylasech
ei chael ? Dywedodd Mr. Wosencroft
wrthyf i'w gyfaill adael yr un a ym-
ddiriedais iddo ef, naill ai gyda Longfellow
yn Aberhonddu, neu yn y postdy. Os
ydych heb ei chael, mi a ymofynaf yn
fanylach. Yr wyf yn rhyfygu diwygio
ambell air yn y cyfieithiad beunydd ; ac
yr wyf yn hyderu ynoch, yn yr Arglwydd,
PETER WILLIAMS.
451
y bernwch yn ddiduedd ; ac os gwelwch .
fi yn cyfeiHorni, dilynwch yr hen fîordd !
Yr wy'n meddwl eich bod yn fy nyled o
brawflen, ond nid ydych yn ofni y diangaf
yn rhy bell arnoch ! Yr wyf yn gweled
Beibl Mr. Canne yn fwy buddiol pa fwyaf
y trafodwyf arno ; ac oni chaiff e' gam yn
y wasg, e' fydd yn odidog. Chwi anfon-
asoch i mi ddwy brawflen y tro diweddaf.
Pa un ai'n fwriadol, neu'n ddaniweiniol,
nis gwn ; ond yr oedd un yn rhy ddu ! ac
mi taflais hi heibio. Yr wyf yn myned y
Sabbath nesaf i Gapel Colby, neu'r Capel
newydd, ar gyífyniau tref Aberteifì, ac yn
bwriadu dychwelyd dydd Mawrth, i yru'r
gwaitìi ymlaen drachefn. Llwydded yr
efengyl fwy fwy er gwaethaf holl gryfder
y gelyn. A bendith yr Arglwydd fo' ar
bob duwiol amcan a lles i Sion ac adeil-
adaeth y Jerusalem newydd ! yw dymuniad
eich cydbererin a'ch cyfaill yn y cariad
a bery byth, — Peter Williams." Ym-
ddengys i'r llythyr yma gael ei anfon at y
gŵr a arolygai yr argraffwasg yn Nhref-
ecca, lle yr oedd y Beibl hwn yn cael ei
argraffu. Gwehr fod Peter Wilhams, er
yn dynesu at ei nawfed-flwydd-a-thriugain,
yn flawn Uafur gyda phregethu yr efengyl,
ac yn myned o gwmpas, a hyny i gryn
beflder, yn feunyddiol. Gweddus hefyd
hysbysu fod y Parch. David Jones, gwein-
idog perthynol i'r Bedyddwyr, yn gyfranog
ag ef yn nygiad allan Beibl Canne, ond
dywedir mai ar ysgwyddau Mr. WilHams
y disgynodd pwys y gorchwyl.
Y mae yn sicr ddarfod i'r dymhestl
ruthro ar Peter Wilhams yn ei holl rym
yn y flwyddyn 1790, ac i'w olygiadau fod
yn destun dadleuaeth chwerw yn amryw
o Gymdeithasfaoedd y flwyddyn hono, yn
y Dê a'r Gogledd. Ei brif wrthwynebydd,
fel y dywed traddodiad, oedd y Parch.
Nathaniel Rowland, mab yr hen Efengyl-
ydd o Langeitho. Yr oedd ef yn Uawn
uchelgais, yn ddyn nodedig o falch, ac
yn awyddu am lywodraethu yn y Gym-
deithasfa, a diau y tybiai, ond iddo
aflu symud Peter WiHiams o'r ffordd,
fod y llwybr i'r gadair uchaf yn rhydd
iddo. Yr oedd Daniel Rowland yn llesg,
ac yn anafluog i fyned oddicartref, a bu
farw, fel y gwelsom, Hydref, 1790. Yr
oedd gwendidau henaint wedi cael gor-
uchafiaeth ar Wilhams, Pantycelyn, yn
ogystal, a bu yntau farw yr lonawr
canlynol. I'elly, nid oedd neb o hen
gyfeilüon yr Esboniwr yn gallu dyfod i'r
Gymdeithasfa i'w amddiffyn. Eithr dy-
GG
wedir fod Rowland, tra yn annghymer-
adwyo golygiadau ei gyfaill, yn anfoddlawn
i weithredu yn llym tuag ato ; a phan y
daeth ei fab, Nathaniel, adref o ryw gyfar-
fod, gan ymfifrostio ei fod wedi llwyddo
i gael pleidlais o gondemniad ar Peter
WiIIiams, iddo dori allan, a dweyd : " Nat,
Nat, ti a gondemniaist dy well." Yn
cynorthwyo Nathaniel Rowland yr oedd
Grifíìths, Nevern, oífeiriad arall ; a phrin
yr oedd neb yn y Gymdeithasfa yn meddu
digon o nerth i wrthwynebu y ddau. Rhaid
addef, hefyd, fod Peter Williams ei hun yn
gyndyn a gwrthnysig ; amddiffynai ei hun
mewn tôn chwerw ; ni wnai leddfu ei
ymadroddion, na newid ei dduU o eirio, i
gyfarfod â syniadau ei frodyr. Mor wir y
dywediad, fod grym a gwendid g\vr yn
tarddu o'r un ffynhonell ! Yn awr, y mae
ewyllys gref, anhyblyg, yr hen weinidog o
Gaerfyrddin, yr hon a'i daliai yn ngwyneb
llid ac erlid ei elynion, yn peri ei fod
yn ystyfnig pan y ceisiai ei gyfeillion ei
ddarbwyllo.
Dywed Owen Williams, yr hwn a
ysgrifenodd gofiant iddo, i'r ddadl gael
ei chychwyn yn Nghymdeithasfa y Bala,
yn yr hon yr oedd Daniel Rowland yn
bresenol, ac i Peter WiIIiams amddififyn
ei hun mor gadarn, a rhesymol, ac Ysgryth-
yrol, nes taro ei wrthwynebwyr â mudan-
dod ; a phan y gofynwyd i Daniel Rowland
a wnai ef ateb, dywedodd na wnai, fod y
mater yn rhy bwysfawr, ac nad oedd A
ganddo ddigon o ddeall i wybod a ydoedd ^
Peter Wilhams yn cyfeiliorni, ai nad
oedd. Yr unig un, meddir, a feiddiodd
wrthwynebu yn y Gymdeithasfa hono
oedd Richard Tibbot, yr hwn, er ei fod y
wedi ymuno a'r Annibynwyr, a ddeuai i
gymanfaoedd y Methodistiaid, ac a gym-
erai ran yn y dadleuon. Trueni mawr na
fuasai yr Esboniwr wedi cael gwell cofiant-
ydd ; yr oedd Owen WiIIiams, heblaw
pob annghymhwysder arall, yn Ilawn rhag-
farn at y Methodistiaid. Daeth y mater
yn destun sylw drachefn yn Nghymdeith-
asfa Aberystwyth ; nid oedd Daniel Row-
land yn bresenol yn hon, ac yma tybir ddar-
fod i Nathaniel Rowland gymeryd rhan
flaenllaw yn y ddadl. Yn Nghymdeithasfa
Llanidloes, a gynhaliwyd yn y flwyddyn
1791, gwedi ymdriniaeth faith, ymddengys
i'r frawdoliaeth ddyfod i'r penderfyniad
fod yn rhaid diarddel Peter WiIIiams,
oddigerth iddo ymwrthod a'r syniadau a
gyhoeddasai, ac addaw peidio eu cyhoeddi
rhagllaw. Nid oedd ef yn bresenol, eithr
2
45-
Y TADAU METHODISTAIDD.
anfonwyd llythyr ato yn ei hysbysu o'r
penderfyniad, Mewn canlyniad, cawn ef
yn ysgrifenu at ei gyfaiU : " Mi a gefais
lythyr anngharuaidd oddiwrth y brodyr yn
Llanidloes, yr hwn a barodd i mi fawr
ofid calon." Eithr tynu ei eiriau yn ol
ni fynai, nac addaw peidio eu cyhoeddi yn
olllaw; yn y peth hyn, nid oedd darbwyllo
arno, a'r diwedd fu iddo gael ei Iwyr ddi-
arddel yn Nghymdeithasfa Llandilo, yn y
flwyddyn 1791. Nid yw hanes y drafod-
aeth genym, felly, ni wyddom pwy a gym-
erodd ran yn y ddadl. Nid oes amheuaeth
mai prif wrthwynebydd Peter WiUiams
yma eto oedd Nathaniel Rowland, i'r hwn
y teUd Uawer o barch ar gyfrif ei dad
enwog. Efe yn unig a ddeUr yn gyfrifol
am y weithred gan draddodiad, a chredir
mai goddefol a fu corph y Gymdeithasfa.
Gwir fod y Parch. Thomas Charles, o'r
Bala, a'i frawd, y pryd hwnw, Mr. David
Charles, Caerfyrddin, yn bresenol ; ond
ymddengys iddynt fod yn hoUol ddystaw
yn ystod yr ymdrafodaeth. Nid oedd
gan y Parch. Thomas Charles un drwg-
deimlad at yr hen Esboniwr ; yr oedd
yn gyfoed, a buasai yn gydefrydydd,
a'i fab, sef y Parch. EUezer WilUams,
a dywedir ei fod ar delerau cyfeiUgar,
os nad rhywbeth mwy, ag un o'i ferched.
Gwyddis am dano, hefyd, mai un o hedd-
ychol fíyddloniaid Israel ydoedd. Eithr
yr oedd yn gymharol ieuanc, ac nid oedd
blynyddoedd lawer er pan yr ymunasai a'r
Methodistiaid, feUy, prin yr oedd yn
briodol iddo gymeryd rhan mewn dadl
mor bwysig, ac yr oedd yn rhy yswil i
wrthwynebu dau offeiriad o safle. Am
Mr. David Charles, nid oedd yntau ond
dyn ieuanc, a phrin y geUir tybio iddo
agor ei enau. Gwyddom y íìfyna traddod-
iad yn mhUth disgynyddion Peter Wil-
Uams, hyd y dydd hwn, ddarfod i'r ddau
Charles brofi yn anfíyddlon iddo yn y
Gymdeithasfa, a'u bod i raddau mwy neu
lai yn gyfrifol am ei ddiarddeUad ; ac
oblegyd hyn, na fu y teimladau goreu yn
fíynu rhwng y ddau deuhi am beth amser.
Os oes rhyw sail i'r traddodiad, y tebyg-
olrwydd yw mai bod yn ddystaw a wnaeth-
ant, pan, yn ol barn cyfeiUion Peter
WiUiams, y dylent lefaru.
Y mae Uawer iawn o feio wedi bod ar y
Methodistiaid oblegyd eu hymddygiad at
Peter WiUiams ; awgrymir fod a fynai
cenfigen a'r peth, a'u bod yn gul, yn an-
frawdol, ac yn hòni anffaeledigrwydd.
Am Nathaniel Rowland, ac eraiU o'i
wrthwynebwyr, gaUent fod yn cael eu
dylanwadu gan deimladau personol, ond
y mae yn anmhosibl credu hyny, am
gorph y Gymdeithasfa. Pe y cawsai
teimlad personol le, diau y buasai yn troi
o blaid cadw yr hen Esboniwr i mewn, ar
gyfrif ei oedran, ei barchusrwydd, a"i
ddefnyddioldeb. Ac y mae yn anmhosibl
pwysleisio gormod ar y ffaith mai godd-
efol yn benaf a fu y Gymdeithasfa ar
y mater. Dylid cofio hefyd fod pwys
mawr yn cael ei roddi y pryd hwnw ar
uniongrededd, fod cyfeiliornad mewn barn
ar brif bynciau yr efengyl yn cael ei
ystyried yn waeth na chyfeiliornad mewn
buchedd. Talai ein tadau warogaeth i
wirionedd ; credent fod y ffydd a rodded
unwaith i'r saint yn werth dyoddef o'i
phlegyd, ac yn teilyngu aberthu cyfeill-
garwch, a theimlad personol er ei mwyn.
Pwy a faidd ddweyd nad hwy oedd yn eu
Ile ? Ai nid yw Ilawer o'r rhyddfrydig-
rwydd, a'r goddefgarwch, am yr hyn
bethau y molir yr oes bresenol, pan fyddo
syniadau amheus yn cael eu traethu, yn
codi o ddifaterwch, ac o ddiffyg teyrn-
garwch dwfn o'r gwirionedd ? Anhawdd
peidio tosturio wrth Peter WiIIiams, pan
y gwelwn ef yn ei henaint yn cael ei
alltudio o fysg ei frodyr a'i gyfeillion, a
hyny am amddiffyn yr hyn a ystyriai ef
yn wir athrawiaeth. Yr oedd y Gymdeith-
asfa hefyd yn wrthddrych tosturi, oblegyd
yr oedd llygaid Ilawer o'r aelodau yn Ilawn
dagrau wrth ei weled yn cael ei fwrw allan.
Meddai Mcthodistiaeth Cymru : " Os gwnaed
cam ag ef, o gamsynied y bu hyny, ac nid o
fwriad ; os bwriwyd ef allan gyda gormod
ffrwst a haerllugrwydd, fe wnaed hyny
mewn poethder dadl, ac oddiar syfrdandod
yr ymryson." Y mae yn dra sicr genym,
oddiar ein hadnabyddiaeth o brif ddynion
y Methodistiaid ar y pryd, mai goddefol
a fuont yn y cam, os cam hefyd ; ac na
fuasent yn oddefol oni bai fod cymysgedd
syniadau yr Esboniwr yn peri iddynt
betruso.
Trychinebus iawn i Peter Williams a
fu ei ddiarddeliad gan y Methodistiaid,
oblegyd nid yn unig cauwyd capelau yr
enwad rhag iddo gael pregethu ynddynt,
ac anghefnogwyd yr aelodau i fyned i'w
wrando ; eithr trwy hyny, rhwystrwyd
gwerthiant y Beibl bychan a ddygodd
allan, neu Feihl Cannc. Ymosoda ei fyw-
graffydd, Owen Williams, Waunfawr, yn
enbyd ar y Methodistiaid o'r herwydd,
gan eu cyhuddo o dori amod ag ef. Yn y
PETER WILLIAMS.
453
mater yma hefyd, y mae yn sicr ei fod yn
gwneyd cam â hwynt. Nid oeddynt wedi
amodi cefnogi gwerthiant llyfr a gynwysai
sylwadau oeddynt, yn ei barn hwy, yn
gyfeiliornus a pheryglus. Os bu tori
amod yn y mater, Peter Williams wnaeth
hyny, trwy osod i mewn yn nglyn a'r
Beibl nodiadau ag yr oedd y Methodist-
iaid yn flaenorol wedi dangos annghym-
eradwyaeth hollol o honynt. Mewn
canlyniad, arosodd y Beiblau yn llu ar
law Peter WiUiams a David Jones, a
throdd yr anturiaeth allan yn dra choll-
edus. Gwedi ei ddiarddel, elai yr hen
Esboniwr o gwmpas i bregethu fel cynt,
eithr cadwai ei hen gyfeillion i ífwrdd
oddiwrtho. Agorai yr enwadau eraill
eu capelau iddo, ond y mae lle i ofni nad
tosturi at ei gyflwr, na chydymdeimlad
a'i olygiadau, oedd y rheswm am hyny,
yn mhob amgylchiad ; yn hytrach, hoífent
j gael cyfle i dderbyn un ag yr oedd y
' Methodistiaid wedi ei wrthod. Eithr os
tybiai y naill blaid neu y Ilall y gwnai yr
hen Esboniwr ymuno â hi, gwnaeth gam-
gymeriad ; ni ddangosodd efe yr awydd
lleiaf am ymuno â chyfundeb crefyddol
arall ; yn wir, nid yw yn ymddangos i'r
syniad ddyfod i'w feddwl. Eithr gwnaeth
apêl drosodd a throsodd at ei frodyr yn y
Gymdeithasfa am ail driniaeth ar ei achos;
y mae y llythyrau a ysgrifenodd ar gael,
ac y maent yn dangos dysgeidiaeth, cyd-
nabyddiaeth a'r Ysgrythyr, a gallu ym-
resymu o radd uchel ; ond dangosant
hefyd lawer o chwerwder yspryd. Eithr
gan na ddangosai yr awydd lleiaf ei fod
am dynu dim yn ol, na rhoddi i fynu
amddiffyn ei olygiadau neillduol, ni wnai
y Gymdeithasfa dderbyn ei apêl. Y mae
ei ymlyniad ef o un tu, a'r Gymdeithasfa
o'r tu arall, wrth yr hyn a ystyrid yn
wirionedd ganddynt, er cryfed y cymhellion
i roddi ffbrdd, yn ddangoseg o gydwybod-
olrwydd dwfn yn y naiU a'r Ilall. Eithr
nis gallwn lai na gofidio iddo gael ei
demtio i fyned i Gymdeithasfa y Bala, a
gosod ei hun a'i hen gyfeillion mewn
profedigaeth chwerw. Dywed ei fyw-
graffydd iddo gael ei wahardd i bregethu
ar y platform. Yr ydym yn amheus iddo
geisio hyny ; os do, gwnaeth y cais, gan
wybod mai ei wrthod a gaffai. Nid oedd
rhith o rcswm dros osod un a gawsai ei
ddiarddel am gyfeiliornad, i bregethu yn y
Ile mwyaf cyhoeddus, a hyny gan y blaid
a'i diarddelodd. Modd bynag, rhwng yr
odfaeon, pan oedd yr heolydd yn Ilawn
dynion, safodd Peter Williams "ar gongl
heol i bregethu. Rhaid mai enyn tosturi,
a thaflu gwaradwydd ar y Methodistiaid,
oedd ei amcan. Ar yr un pryd, gweddus
hysbysu na ddywedodd air yn anmharchus
am neb ; ond iddo yn aml yn ystod ei
bregeth gyfeirio gyda chymeradwyaeth at
y pregethau blaenorol. Ond yr oedd yn
flin gan y rhai a'i hadwaenent ei weled
wedi gosod ei hun yn y cyfryw sefyllfa.
Nid ymddibynai Peter Williams am
wrandawyr, a chyfleustra i bregethu, ar
deithio o gwmpas ; efe, fel y darfu i ni
sylwi, a adeiladasai gapel Heol-y-dwr,
Caerfyrddin, a hyny yn benaf ar ei draul
ei hun ; nid yw yn ymddangos fod ym-
ddiriedolwyr wedi cael ei gosod ar y capel,
nac unrhyw drosglwyddiad o hono i'r
Methodistiaid wedi ei wneuthur ; felly, yn
gyfreithiol, ei eiddo personol ef ydoedd.
Ac yma, yn benaf, y darfu iddo bregethu
yr efengyl yn mlynyddoedd olaf ei oes,
heb fod mewn undeb ag unrhyw blaid.
Rhyw bum' mlynedd y bu byw wedi '^
Cymdeithasfa Llandilo ; gwanhaodd ei
iechyd yn raddol, ac ymollyngodd ei
gyfansoddiad cryf, eithr daliodd i bregethu
ac i efrydu tra y medrai. Er dangos
ansawdd ei yspryd, difynwn ranau o
Iythyr a ysgrifenwyd Awst 5, 1796, sef tri
diwrnod cyn ei farw, gan ei fab, y Parch.
Peter Bailey WiIIiams, Llanrug : " Fy
anwyl Frawd,— Yn ol pob ymddangosiad,
bydd y post nesaf yn dwyn i chwi hanes
marwolaeth fy anwyl dad. .... Pre-
gethodd yn Nghaerfyrddin bythefnos i'r
Sul diweddaf, ac yn Llanlluan y Sabbath
dilynol. Yn y lle cyntaf, pregethodd yn
rymus ac effeithiol i gynulleidfa fawr ; ac
yn y diweddaf, yr oedd yn anmhosibl i'r
mwyaf anystyriol ddal dan ei appeliadau
difrifol. Ond yr hyn a chwanegai at brudd-
der yr olygfa oedd, ei fod yn siarad ac yn
edrych fel dyn yn marw ; ac yr oedd yr
holl gynulleidfa yn wylo yn hidl wrth
feddwl na chaent ei weled byth mwy. Y
mae yn parhau i godi yn foreu ; neu,
gwnai hyny hyd o fewn ychydig ddyddiau
yn ol ; ac yn dilyn ei efrydiau arferol.
Mae yn hynod dduwiolfrydig ei yspryd,
ac yn hollol dawel dan ei flinderau. Par-
haodd y weddi deuluaidd tra y gallodd
dori geiriau. Y Sabbath diweddaf, gofyn-
odd i Bowen, yr hwn oedd yn bresenol,
fyned i weddi, gyda dweyd ei fod ef yn
analluog, o herwydd diffyg anadl. ' Tra
yr oeddwn yn gallu,' meddai, 'fy hyfryd
waith oedd neshau at orseddfainc y gras.'
454
Ÿ TADAU METHODISTAIDD.
Ddoe, pan ddygodd fy mam iddo ychydig
o lymru a gwin, safodd i fynu i ofyn
bendith, er yn gwegian gan wendid, ac
heb fod yn ddealladwy iawn cyn hyny, a
dywedodd y geiriau canlynol mor eglur ag
y cly wais ef erioed : ' Anwyl Arglwydd, a
gaf fi y fraint o neshau o dy flaen unwaith
yn ychwaneg, a llefaru wrthyt, a deisyf
dy fendith ? Beth a ddywedaf ? Rhyfedd
wyt ti yn mhob peth, tu yma i goUedigaeth
ac ufìfern. Dysg i ni ymostwng i dy
ewyllys, a dywedyd gyda'r hen EH, Yr
Arglwydd yw efe, gwnaed a fyddo da yn
ei olwg.' Mae fy mam yn drallodedig
iawn, ac yn mhell o fod yn iach ; ofnaf na
pan ddaethum adref, ac ni chanfyddais
erioed agwedd meddwl mwy nefolaidd.
' Aethum ar fy nghniau i weddío ar fy
anwyl lachawdwr,' meddai un diwrnod,
' ond yr oeddwn mor wan, fel mai prin y
gallwn godi oddiar fy nghniau.' Ddiwrnod
neu ddau yn ol ymwelodd offeiriad o'r
gymydogaeth ag ef, a'r unig ran ddifrifol
oedd cyngor i fy nhad i beidio bod yn isel
ei feddwl ; neu, fel y dywedai ef (yr
oíFeiriad), ' peidio gadael i'w galon fyn'd i
lawr.' ' Nis gall fyn'd yn mhell, Syr,
canys y mae craig o dani,' oedd ateb cyr-
haeddgar ac eíîeithiol fy nhad. Mae fy
mhapyr yn fy ngorfodi i derfynu ; bydd fy
^'
\ 1 ~ I , . l.LAND YFKILOG .
ILlc claddcdUjueth Pcter íyilliams.'ì
bydd iddi fod yn hir ar ei ol. Yr wyf wedi
cynyg gwerthu y capel yn Heol-y-dwr,
mewn trefn i dalu ei ddyledion. A oes
genych ryw wrthwynebiad ? Mae y Meth-
odistiaid wedi cynyg ^250 am dano. Bydd
yr elw oddiwrth y Beiblau mawr yn ddigon
i gyfarfod y draul yn nglyn a'r Beiblau
bychain ; a bydd ;^2oo arall, feallai, yn
ddigon i ghrio yr oll. Mae wedi gwneyd
ei ewyllys yn ffafr fy mam, wrth gwrs ; ac
wedi gadael y cwbl iddi hi tra y bydd
byw, a'r gweddiü, ar ei marwohieth hi,
i fyned i David Humphreys a'i blant. Yr
wyf wedi gwylio fy nhad nos a dydd er
llythyr nesaf, yr wyf yn ofni, yn dwyn
newydd drwg."
Nis gallwn sylwi ond ar un neu ddau
o bethau yn y Ilythyr tra dyddorol hwn.
Y " David Humphreys" y cyfeirir ato,
oedd mab-yn-nghyfraith Peter Williams,
a thad y Parch. David Humphreys,
Llandyfeilog. Gallem feddwl, gan mai y
Methodistiaid a feddianent gapel Llan-
lluan, ac i Peter WilUams draddodi yno ei
bregeth ddiweddaf ar y ddaear, ei fod yn
ei amser olaf yn cael ei oddef i bregethu
yn rhai o gapelau y Cyfundeb. Nis
gwyddom yn hoUol pa fodd i gysoni yr
PE TER WIL L lA MS.
455
hyn a geir yn y llythyr parthed capel
Heol-y-dwr, a'r adroddiad a roddwyd i'r
diweddar Barch. J. Wyndham Lewis gan
un o flaenoriaid y he, sef ddarfod i Peter
WilHams osod adran i mewn yn ei ewyllys,
fod y Methodistiaid i gael y capel, ar yr
amod iddynt dahi tri chant o bunau i'w
ymddiriedolwyr ef. Modd bynag, naill ai
yn oi yr ewyllys, neu ynte trwy gytundeb
a'r meibion, cafodd y capel ei werthu i'r
Methodistiaid am dri chant o bunau,
"yn y flwyddyn 1797. Yr oedd yr ym-
ddiriedolwyr cyntaf yn gynwysedig o dri
offeiriad, sef y Parchn. Jones, Llangan,
Griffìths, Nevern, Davies, Abernant ; a
thri Ileygwr, sef Mri. D. Charles,
W. Lloyd, Henllan, a J. Bowen, Tygwyn,
Llangunnor.
Dydd Llun, Awst 8, 1796, bu farw
Peter Williams, yn 76 mlwydd oed.
Claddwyd ef yn mynwent Llandyfeilog.
A ganlyn yw ei fedda'rgraff : " Yma y
gorwedd gweddillion y Parchedig Peter
WiIIiams, yn ddiweddar o'r Gellilednais,
yn y plwyf hwn. Cysegrodd ei holl fywyd
er dyrchafu ei gydwladwyr, yn dymhorol
ac yn ysprydol. Pr amcan hwn, cy-
hoeddodd dri argrafììad o'r Beibl pedwar-
plyg yn Gymraeg, gyda sylwadau ar bob
penod. Cyhoeddodd hefyd argraffiad o
Feibl wyth-plyg, a Mynegair Cymraeg,
yn nghyd â nifer o draethodau bychain,
gan mwyaf yn Gymraeg ; am hyn oll,
gellir dywedyd yn gywir na dderbyniodd
ond anniolchgarwch ac erledigaeth. Par-
haodd i lafurio gyda fíyddlondeb a diwyd-
rwydd fel gweinidog yr efengyl am 53
mlynedd ; a bu farw, yn gorfoleddu yn
Nuw ei lachawdwr, Awst 8, 1796, yn 76
mlwydd oed. * Canys nid gelyn a'm
difenwodd ; yna y dyoddefaswn ; nid fy
nghasddyn a ymfawrygodd i'm herbyn ;
eithr chwi, y rhai oedd felus genym gyd-
gyfrinachu, ac a rodiasom i dŷ Dduw
yn nghyd.' " Diau mai y meibion oedd
yn gyfrifol am y beddargraff, a naturiol
iddynt oedd cydymdeimlo a'u tad ; ond
trueni iddynt wneyd mynwent a chareg
bedd yn gyfleustra i arllwys allan chwerw-
der eu hyspryd.
Dywedir yn Mctliodistiacth Cymvu na
ddarfu i fwriad allan Peter Williams
effeithio cymaint ar y Cyfundeb ag a
allesid ddysgwyl ; ac na fu nemawr o
ymadawiad oddiwrth y Corph o'r herwydd
yn un man, er fod teimlad o dosturi ato, a
pharch iddo yn gryf yn meddyliau pawb
a'i hadwaenai. Diau fod hyn, ar y cyfan,
yn gywir. Ac eto, mor bell ag y gallwn
ddeall, teimlai y werin, nad oedd yn alluog
i ddeall manylion yr ymdrafodaeth, ddarfod
i'r hen Esboniwr gael ei drin yn galed.
Dyna fel y teimlai IIu o'r Methodistiaid,
er na ddarfu iddynt fyned mor bell a
gadael y Cyfundeb o'r herwydd. Eithr
bu un ymadawiad cymharol bwysig yn
Mro Morganwg, dan arweiniad Thomas
WiIIiams, gwedi hyny, y Parch. Thomas
WiIIiams, Bethesda-y-Fro."
Haedda y gẁr hwn air o sylw. Cafodd
ei enw mewn amaethdy, o'r enw Tre-
rhedin, yn mhlwyf Pendeulwyn, nid yn
nepell o'r Bontfaen, Morganwg. Amaeth-
wr oedd ei dad, ac yr oedd yn gefnog o ran
ei amgylchiadau. Yr oedd yn feddylgar a
dwys er yn blentyn, a phan yn ddeg oed,
ymunodd a'r seiat Fethodistaidd yn Nhre-
hill. Bu bron cael ei ddigaloni wrth
ymuno a'r seiat, am, pan y methai ateb
rhyw ofyniad, i arweinydd y cyfarfod,
meddir, gynyg ei fod i gael ei anfon allan
hyd nes y dysgai ei wers yn well. Eithr
ar gynydd yr aeth Thomas W^iIIiams.
Dechreuodd fynychu y cyfarfodydd gweddi,
a'r seiadau, ac ni ystyrid fod unrhyw
gyfarfod o'r fath yn Mro Morganwg yn
ÍÌawn heb ei fod ef yno. Nid annhebyg
yr ystyrid ef yn fath o gynghorwr, er nad
oes genym wybodaeth ddarfod iddo gael
ei gydnabod felly gan Gyfarfod Misol.
Yn y flwyddyn 1790, mewn canlyniad i'w
briodas, aeth i fyw i Ffonmon, yn mhlwyf
Penmarc, a thebygol mai yn ^'Yberddawen
yr oedd yn aelod. Cydymdeimlai yn
ddwfn â golygiadau Peter W^iIIiams ; a
oedd amryw o'r un syniadau yn seiat
Aberddawen, nis gwyddom ; ond, bron o'r
dechreuad, yr oedd plaid gref yn yr Aber-
thyn yn tueddu at Sabeliaeth. Pan ddi-
arddelwyd Peter WiIIiams, darfu i Thomas
WiIIiams, a'r rhai yn seiadau y Fro a
ymsynient yn gyffelyb, droi eu cefnau ar y
Methodistiaid, ac ymffurfio yn blaid ar
wahan. Cyfarfyddent i addoli mewn tri o
wahanol leoedd, sef t>' Thomas WiIIiams,
yn Penmarc ; tŷ ardrethol yn yr Aber-
thyn, a thŷ arall yn y Brittwn. Buont
am rai blynyddoedd heb neb i weinyddu
yr ordinhadau iddynt ; eithr yn y flwydd-
yn 1789, dewisasant Thomas Williams yn
weinidog, gan ei neillduo i'r gwaith trwy
gyfodiad dwylaw yr henuriaid, yn nghyd
ag ympryd a gweddi. Ysgrifenydd yr
eglwysi oedd John WiIIiams, St. Athan,
* Traethodydd, Mai, 1894, tudal. 145.
45^'
Ÿ TAüAU METHODISTAÎDD.
bardd o radd uchel, ac awdwr y penillion
adnabyddus : —
" Pwy welaf o Edom yu clod ? "
Fel y darfu i ni sylwi, yr oedd Thomas
WiUiams yn edmygydd diderfyn o'r hen
Esboniwr ; llosgai ei galon ynddo wrth
weled y gamwri, yn ei dyb ef, a gaffai
gan y Methodistiaid, a phan y bu Peter
Wilhams farw, cyfansoddodd alarnad iddo,
yn yr hon y fflangella ei wrthwynebwyr
yn llym. Cymerer y penillion a ganlyn
yn engrhaifft : —
" Dacw ych o lawr y dyrnii,
Wedi myned eto i'r lan ;
Hir ddydd gwresog iawn y gweithiodd,
Heddyw safodd yn ei ran ;
Fe fu'n nod i saethau lawer,
Darfu hyny, fe aeth trwy,
Ni ddaw rhagfarn nac anghariad
Byth i'r lle mae'n aros mwy.
Peter, mae llyth'renau d'enw
Yn creu hiraeth dan fy mron ;
Dyn a gerais, dyn a'm carodd,
Meddwl dy fod dan y don ;
Anwyl oeddem yn ein bywyd,
Cu iawn genyf oeddit ti,
A thu hwnt i gariad gwragedd
Oedd dy gariad ataf íì.
Fe chwedleuodd j'n dy erbj'n
Ddynion rai o ddoniau mawr,
Dynion eraiU isel raddau
Geisiodd dynu d'enw lawr ;
Ti ge'st wawd oddiwrth bob enw,
Ti ge'st wawd oddiwrth bob dawn,
Plant dy fam edrychent arnat
Megys estron dyeithr iawn.
Ca'dd ei guro, nid mewn cariad,
Gan y cyfìawn is y nen ;
Waith eu holew penaf dorodd
Glwyfau dyfnion ar ei ben ;
Ond mae'r clwyfau dyfnion hyny,
Heddyw'n holliach yn y nef,
Ga'dd e'n nhŷ ei garedigion,
Yn mhrydnawn ei íywyd ef.
Cym'ryd ôg i ddyrnu lîacbys
Wnaeth dy frodyr (gwyro 'mhell),
Troisant olwyn men ar gwmin,
Pan oedd gwiail lawer gwell ;
Geiriau llym fel brath cleddyfau,
Leíìwyd atat heb un rhi',
Sacthau tân ac arfau marwol
Gym'rwyd i'th geryddu di.
Am wrthod credo Athanasius,
Fel gwnaeth gwyr o ddoniau maith :
Fe siglwyd îírn yr hen Sabelius
Yn dy wyneb lawer gwaith ;
Cyfîes fíydd, a llunio credo,
Gwneyd articlau mawr eu clod,
Magu 'mryson, rhanu eglwysi,
Fu efîeithiau rhai'n erioed.
Tithau gym'raist aden c'lomen,
Est o'u swn yn ddigon pell,
Draw i'r dymhestl a'r gwynt 'stormus,
I ardaloedd llawer gwoll ;
Lle mae myrdd o rai lluddedig,
Fu mewn carchar, fu mewn tân,
Yno'n gorphwys wedi gorplien
Eu cystuddiau mawr yn làn."
Teimhr serch yn treiddio trwy bob llinell
o'r alargan, a bu am beth amser yn dra
phoblogaidd. Nis gwyddai a amcanai
Thomas WiIUams, a'r rhai a gydym-
deimlent ag ef, ffurfìo yn blaid wahan-
iaethol ; os gwnaent, trodd yr ymgais
laUan yn fethiant. Yn mhen amser, ym-
gydnabyddodd a'r Annibynwyr ; ac yn y
flwyddyn 1814, derbyniwyd ef, a'r rhai a
lynent wrtho, i'r undeb Annibynol. A
holwyd rhywbeth iddynt am eu golygiadau
athrawiaethol, nis gwyddom. Ỳr oeddynt
cyn hyn wedi gadael y Brittwn, ac ym-
sefydlu yn Bethesda-y-Fro. Yr oedd
Thomas WilUams yn bregethwr o'r melus-
af ; tuag ugain mynyd, meddir, oedd hyd
ei^ bregeth ; ac am y pum' mynyd olaf,
byddai yr hoU gynuUeidfa ar ei thraed fel
gaUt o goed, gan faint y dylanwad. Ond
ni fu yn Uwyddianus o gwbl, fel y profa y
peniUion canlynol, a gyfansoddwyd ganddo
gwedi Uafur gweinidogaethol o dros ddeng-
mlynedd-ar-hugain : —
" Deg-ar-hugain o flynyddau,
Bum yn hau trwy hyd y rhai'n,
Syrthio wnaeth yr had gan mwyaf,
Wrth y fîordd, y graig, a'r drain ;
Mewn tir da ni syrthiodd nemawr,
Nemawr iawn — fe syrthiodd peth,
GwUth y nef aroso arno,
Fel nad elo byth ar feth.
O Bethesda anniolchgar,
Ac anghofus iawn o Dduw,
Wedi hau, a hau drachefn,
Braidd eginyn sydd yn fyw ;
INfae'r hen frodyr, ond rhyw 'chydig,
Wedi myned draw i dre,
Ac nid oes arwyddion nemawr
Am rai eraill yn eu llc.
0 na ddoi rhyw un o'r Gogiedd,
Neu o'r Dwyrain, ynte'r Dè,
O'r Gorllewin, neu o rywle,
Ni waetli genyf ddim o b'le ;
Ond i'r nefoedd fawr ei anfon,
Heb ei anfon, thal ef ddim,
1 Bethesda i bregethu
Gair y bywyd yn ei rym."
Cwestiwn dyddorol ydyw ; sut y bu
gweinidogaeth gŵr, a feddai y fath dal-
entau dysglaer, mor aflwyddianus ? Priod-
ola Dr. Thomas Rees yr aflwyddiant i
waith Thomas WiUiams yn gweinidog-
aethu i bobl ei ofal yn rhad ; a dywed fod
eglwys heb gyfranu yn gymaint rhwystr
i Iwyddiant ag eglwys ddi weddi. Diau
fod rhyw gymaint o wirionedd yn hyn ;
efaUai hefyd fod rhesymau eraiU, nas
PETER WILLIAMS.
457
gwyddom ni yn awr am danynt. Bydded
y rheswm y peth y bo, aflwyddianus a fu
Thomas WiUiams. Cafodd oes faith ; a
bu farw Tachwedd 23, 1844, yn 84
mlwydd oed.
Yr ydym wedi aros cyhyd gyda Thomas
Williams, oblegyd mai efe oedd yr unig
un y gwyddom am dano, o unrhyw enwog-
rwydd, gyda yr eithriad o'i gyfaill, ac
ysgrifenydd ei eglwys, sef John Williams,
St. Athan, a ymadawodd a'r Methodistiaid
oblegyd diarddeUad Peter Williams, ac a
geisiodd ffurfio eglwysi ar wahan. Eithr i
ddychwelyd at Peter Williams. Dywedir
ei fod o ymddangosiad boneddigaidd ac
urddasol, yn tueddu at fod yn dal, ei
wynebpryd braidd yn hir, ac o liw
gwelw ; a'i fod bob amser yn drefnus a
glanwaith yn ei wisg a'i berson. Meddai
gorph cryf, ac yspryd eofn a phenderfynol,
ac yr oedd fel pe wedi ei gyfaddasu o ran
corph a meddwl ar gyfer sefyllfa Cymru
yn yr oes yr oedd yn byw ynddi. Nid oes
amheuaeth am ei dduwioldeb, a'i gyd-
wybodolrwydd dwfn. Pa gamgymeriadau
bynag a wnaeth, yr oedd ei amcanion
yn bur, a'i olwg yn wastad yn syml ar
ogoniant Duw, a lles eneidiau. Perarogla
ei goffadwriaeth hyd y dydd hwn. Ac er
i'r Methodistiaid deimlo ei bod yn ddyled-
swydd arnynt i dori pob cysylltiad ag ef,
teimlent barchedigaeth dwfn iddo, ac i'w
goffadwriaeth, ar ol iddo huno. Yn y
rhifyn cyntaf o'r Dyysorfa Yspyydol, ceir
ysgrif arno, o gyfansoddiad y Parch.
Thomas Charles, yn ol pob tebyg, yn yr
hon nid oes cymaint a gair yn tueddu i'w
iselu ; eithr yn hytrach, dyrchefir ef fel
gẃr a fu yn dra defnyddiol. " Yr oedd
Mr. Peter WiIIiams," meddai Mr. Charles,
" yn rhagori mewn cynheddfau cryfion,
corph a meddwl ; yspryd gwrol, er hyny,
addfwyn a thirion tuag at ei gyfeillion
a'i deulu ; ac yn ymroddi gyda phob
dyfalwch, diwydrwydd, ac egni parhaus
yn ngwaith yr Arglwydd. Bu o fendith,
y mae Ile i obeithio, i lawer o eneidiau,
ac yn oíferyn i'w troi o'r tywyllwch i'r
goleuni, ac o feddiant Satan at Dduw."
Dywedai y Parch. John Elias unwaith,
pan yn anerch efrydwyr y Bala, iddo ef
fod yn pregethu am flynyddoedd, heb
feddu un esboniad ar y Beibl, ond eiddo
Peter Williams. Ac ychwanegai : '■' " Es-
boniad byr a da ydyw ; a dyn da a
defnyddiol yn ei oes a fu efe." A gwyddis
nad oedd gan Mr. Elias fawr cydym-
deimlad a'r rhai a gyfeiliornent oddiwrth
y wir athrawiaeth. Ffaith dra arwydd-
ocaol ydyw, fod mwy o hiliogaeth Peter
Williams wedi parhau yn aelodau cref-
yddol yn mysg y Methodistiaid, nag o
eiddo un o'r tadau eraill. Awgryma hyn
eu bod i raddau yn argyhoeddedig mai
goddefol yn benaf a fu y Cyfundeb yn yr
helynt. Nis gallwn orphen ein hysgrif
ar yr hen Esboniwr enwog yn well na
thrwy ddifynu penill arall o'i farwnad
gan Thomas Williams : —
" 'Nawr yn mynwent Llaudyfeilog,
'Nol ei flin siwrneion pell,
Gorphwys mae ei gnawd mewn gobaith
Ara yr adgyfodiad gwell.
Y corph gwael ar ddelw Adda,
'R Adda cyntaf aeth i lawr,
A ddihun ar ddelw ei Arglwydd,
Gyda rhyw ogoniant mawr."
'■ Llythyr oddiwrth yr Hybarch John Jones,
Ceinewydd.
HANES Y DARLUNIAü.
Mae y darlun 0 Petcr Williams a gyhoeddir
genym yn gopi o'r un a ymddangosodd yn y Bcihl
Teuluaidd, a wnaed yn Nghaernarfon, ac a gy-
hoeddwyd gan Mr. Lcwis Evan Jones, yn y
ílwyddyn 1822. Yr ocdd cynifer ag wyth argralí-
iad o Fcihl Tfíuluaicld Fctcr Williams wedi eu
cyhoeddi ganddo ef ei hun, ac o dan nawdd y
teulu, cyn yr argraffìad liwn, ond nid oedd darhin
o'r awdwr yn yr un o honynt. Nid dan nawdd
teulu Peter Williams y cyhocddwyd argraífiad
Caernarfon ; ond yn erbya eu hewyllys, ac yn
ddiystyr o wrth-dystiad a wnaed ganddynt. Cy-
hoddwyd amryw argraffìadau o'r Beibl hwn wcdi
hyny, ond nis gM'yddom fod darlun o'r awdwr
ynddynt, hyd yr argralfìad a gyhoeddwyd gan
William Mackenzie, Glasgow, yn 1868. Darfu
iddo ef wneyd darlun mawr o Peter Williams, i'w
gyflwyno i'w ddcrbynwyr fel prescntation platc.
Darlun i'w fframio ydocdd hwn ; a gwelir copîau
0 hono ar furiau cin hancddau. Gwnawd cf
oddiwrth gopi Caemarfon.
Gwelir fod y ddalen ar ba un y mae y darlun
yn mynegu fel yraa : " From an engraving in
the Gospel Magazine, 1777.'^ Ond y mae yn debyg-
01 nad oes darlun o Peter Williams i'w gael yn
y misolyn hwnw am y flwyddyn hono, nac ych-
waitli yn y blynyddoedd cyfagos. Nid oes ond un
copi o'r misolyn o fewn ein cyrhaedd, sef yr un
sydd yn Llyfrgell yr Amgueddfa Frytanaidd
{British Museuni), felly, nid ydym mewn ffordd
458
Ÿ TADAU METHODISTAÌDD.
i sicrhau na chyhoeddwyd ef yn y Gospol Maganine
o gwbl. Gall y copi a welsoua ni fod yn annghyf-
lawn, a bod y darlun wedi ei gymeryd o hono i
ryw bwrpas neu gilydd, ond y mae liyn i fesur yn
annhebygol, am nad oes grybwylliad am ddarhin o
Peter Williams i'w gael o gwbl yn y Gospel
Magazine, mor belled ag y gaílasom graffu wrth
chwilio. Nid ydym yn alluog i roddi unrhyw
eglurhad ar y ffaith hon ; y mae hyd yma yn
hollol anesboniadwy. Gellir dyfalu llawer, ond
nis gellir penderfynu dim.
Gwelir fod y darlun o wncuthuriad celfydd, er
nas gellir sicrhau ei fod yn ddarhiniad cywir o
Petor WiUiams. Y mae llythyr, a ysgrifenodd ei
fab, y Parch. Peter Bailey WilHams, i'r Gwyl-
iedydd, yn mhen blynyddau ar ol cyhoeddiad y
darlun, yn taflu amheuaeth ar liyn. Dywed fel
yma : " Nid yw y darlun [portraitj a gyhoeddwyd
yn ddiweddar yn y Beibl Cymraeg, a argraíîwyd
yn Nghaernarfon, yn debyg i fy mharchedig dad,
mewn pryd, na gwedd, na lliw, na Uun, na chorpli-
olaeth. Gwelais gynt ddarlun o hono wedi ei
dynu yn Nghaerodor (Bristol), yr hwn oedd yn
lioUol annhebyg i'r un blaenorol ; ac yno, yr oedd
yn ymddangos niewn goum du a band, a'i wallt yn
rhanedig, yn Ued debyg i lun Mr. John Wesley, a'i
law ddeheu ar y pwlpud, a'i aswy ar ochr ei wyneB,
fel y byddai yn arferol wrth bregethu, ac o danodd
yr oedd y geiriau hyn : ' The Rev. Peter Williams,
of Garmarthcn, Chaplain to the Counfess of Hunt-
ington.' " Ac nid yw disgynyddion Peter WiUiams
drwy y blynyddoedd yn credu yn nghywirdeb
darlun Caernarfon.
Yn y flwyddyn 1823, blwyddyn ar ol ymddangos-
iad argraffiad Caernarfon, yn nghyd ù darlun
Peter Williams, ymddangosodd argraffiad o'r Beibl
Teuluaidd gan Henry Fisber, o Lundain. Y'n
hwnw, ceid darlun o'r Parch. Peter Bailey
WiUiams, Rector uf Tjlanrug and Llanberis, sef un
o feibion Peter WiUiams, gyda nodiad fel yma :
" Gan nad oedd yn ddichonadwy gan y cyhoedd-
wyr gael darlun o'r awdwr, y maent yn deisyf
cenad i anrhegu eu tanysgrifwyr ag un o'i fab, y
Parch. Peter Bailey WiUiams, o Lanrug, swydd
Gaernarfon, yr hwn, fel yr ydym wedi clywed,
sydd yn dwyn tebygolrwydd agos i'w ddiweddar
dad parchus." Gyhoeddwyd yr argraffiad hwn, y
mae'n ymddangos, dan nawdd teulu Peter Wil-
liams, a gwneir i ddarlun Peter Bailey i wasan-
aethu yn lie darlun Peter WiUiams, naiU am nad
oedd ganddynt ddarlun o hono o gwbl, neu ynte,
am nad oedd ganddynt ddarlun o hono ag yr
oeddynt hwy yn eu hoffi.
Y mae tebygrwydd neiUduol rhwng y darlun o
Peter Williams, a gyhoeddwyd gan Mr. Lewis
Evan Jones, Caernarfon, a'r un a gyhoeddwyd o'i
fab, Mr. Peter Bailey WiUiams, gan Mr. Henry
Fisher, yn Llundain. Pe buasai darlun Peter
Bailey wedi ymddangos ílwyddyn o flaen ei dad,
ac nid ar ei oi, buasem yn cael ein tueddu i feddwl
fod ]Mr. Lewis Evan Jones wedi gwneyd darlun
o Peter WiUiams trwy gymeryd ei fab yn gynllun,
a'i ddiosg o'i ddiUad clerygol — y goivn a'r band ;
ond gan mac fcl arali y bu, yr oedd gwneyd felly
yn anmhosibl.
Gwnaethom bob ymchwiliad dichonadwy i gael
copi o'r darlun a wnaed o Peter WiUiams yn
Mhiistoi, fel y tystiolaethir gan ei fab, ond nid
ydym wedi llwyddo.
Dichon, gyda tlireigliad amser, y deuir i fwy o
sicrwydd nag sydd genym yn bresenol o barth i
hanes ag awduraeth darlun Peter Williams ; hyd
hyny, rhaid ymfoddloni ar y darlun a gyflwynwyd
i ni gan Mr. Lewis Evan Jones, o Gaernarfon.
Y mae y darluniau eraill sydd yn y benod hon
yn egluro eu hunain.
'^'^^
PENOD XIX.
DAYID JONES, LLANGAN.
Sylfaeimyr ac arwcinyddion cyntaf y Mctìiodistiaid — Joncs heb fod yn un o lionynt — Ei gyd-
oesivyr ai gyfocdion — Hanes ei enedigacth a'i ieaenctyd — Yn cyfarfod a daniivain — Ei
addysg a'i urddiad i Lanafan-fawr — Syniiid i Dydweiliog — Dyfod i gyffyrddiad a Dr.
Read yn Trefethin, ac yn cael ei gyfneimd tritjy ras- — Yn cael bywioliaetli Llangan, drwy
ddylanwad larlles Hnntington — Sefyllfa foesol a chrefyddol y plwyf — Ei gydiveithwyr
yn Morganwg — Desgrifiad o Sul y Cymun yn Llangan — Yn prcgethu mewn lleoedd an-
nghysegredig—Yn adeiladn Caỳel Salem — Marwolaeth a chladdcdigaeth ei ivraig — Yn gosod
i lawr ddrivg arferion yr ardal — Achuyn arno wrth yr csgob — Ei lafiir yn niysg y Saeson —
Ei allu i gasglu arian at gapclau — Ei lafuryn mysgy Cymry — Yn cyfarfod ag erledigaethau,
ac yn eu gorchfygu — Ei bohlogrwydd fel pregethîvr — Annas yn dyfod ö Sir Fón i gcisio
cyhoeddiad ganddo — Yn cfengylydd yn hytrach nag yn arweinydd — ■Pemllion Thomas
Williams, Bcthesda-y-Fro — Desgrifiad Williams, Pantycelyn ; Robcrt Jones, Rhoslan ; a
Christmas Evans, o hono — Ei ail briodas, a'i symudiad i Manoroivcn — Yn dyfod o fewn
cylch mwy egltiysig — Yn heneiddio ac yn llesghau — Diivedd ei oes.
^fM RWEINYDDION cyntaf y Meth-
(^JÊd odistiaid yn Nghymru oeddynt
J>m Daniel Rowland, Howell Harris,
Howell Davies, WilUam Wilhams, a
Peter WiUiams. Ffurfiant ddosbarth ar
eu penau eu hunain. Gwir mai i'r tri
cyntaf yn unig y perthyn yr anrhydedd o
osod y syU'aen i lawr ; ond darfu i'r ddau
WilUams ymuno â hwy mor foreu, fel
mai o'r braidd y geUir edrych arnynt ar
wahan i'r sylfaenwyr. Ymunodd y Bardd
á hwy o fewn pum' mlynedd i'r dechreuad,
a gwnaeth yr Esboniwr ei ddilyn o fewn
pum' mlynedd araU. Ac yr oedd doniau
y ddau mor nodedig, a'u hymroddiad i
waith y diwygiad mor Uwyr, fel y daeth-
ant i'r cyfryw agosrwydd i'r sylfaenwyr,
ag sydd yn gwneuthur y gorchwyl diraid
o'i gwahanu, yn bur anhawdd. Ni raid
petruso ystyried y pump gwỳr enwog hyn
fel yn ffurfio arweinyddion cyntaf y Meth-
odistiaid Cymreig. Llanwyd hwy oU a'r
un yspryd gweithgar a hunan-aberthol,
ac yr oedd pob un o honynt yn meddu ar
aUuoedd a doniau ag a esid arbenigrwydd
arno hyd y dydd hwn.
Nid ydoedd David Jones, o Langan, o
fewn y cylch cysegredig yma, ac nid oedd
yn ddichonadwy iddo fod. Yn y flwyddyn
1735, blwyddyn dechreuad Methodistiaeth
Cymru, y ganed ef. Yn wir, nid yw ei
lafur ef yn nglyn a'r diwygiad Cymreig yn
dechreu hyd ei ddyfodiad i Langan, yn
1768, pan yr oedd efe yn 33 mlwydd oed.
Darfu i'r diwygiad ymdaenu dros yr boU
wlad, ac ymwreiddio yn y tir, yn mheU
cyn iddo ef ymddangos ar y maes. Aethai
cenhedlaeth gyfan heibio, ac yr oedd
dyddiau dau o'r tri Sylfaenydd yn prysur
ddirwyn i ben, pan y dechreuodd efe ar ei
yrfa weinidogaethol gyda'r Methodistiaid.
Canys bu farw HoweU Davies yn mhen
dwy flynedd wedi dyfod David Jones i
Langan ; ac yn mhen tair blynedd eil-
waith, yr oedd yr hynodol HoweU Harris
wedi croesi yr lorddonen. Gwelir feUy
fod David Jones yn un ag oedd yn ffurfio
megys ail ddosbarth o bregethwyr ac ar-
weinyddion y diwygiad — ail o ran amseriad
a feddyUwn, — ac yn perthyn i'r ail dô o'n
gweinidogion. Cafodd y fraint o gydoesi
a chydlafurio â Daniel Rowland, a'r ddau
WiUiams am flynyddau meithion, ond nid
oedd efe yn gyfoed a hwynt hwy. Pan y
goddiweddwyd hwy gan henaint, yr oedd
efe yn gymharol ieuanc ; a bu yn Uafurio
yn y winllan am o gylch ugain o flynydd-
oedd wedi iddynt hwy oU fyned oddiwrth
eu gwaith at eu gwobr. Cyfoedion David
Jones oeddynt John Evans, o'r Bala ;
WiUiam Davies, CasteUnedd ; David Grif-
fith, Nevern, David Morris, Twrgwyn ; a
William Llwyd, o Gaio ; er fod cryn wa-
haniaeth oedran rhwng yr hynaf a'r ieu-
460
y l'ADAU METHODISTAÌDD.
angaf o'r rhai hyn. Yr oedd y ddau
gyntaf a enwyd yn hỳn na David Jones ;
a'r lleiU yn ieuangach nag efe. O ran
amseriad, geUir ystyried David Jones yn
ddolen gydiol rhwng Daniel Rowland,
Llangeitho, a Thomas Charles, o'r Bala ;
canys yr oedd efe ugain mlynedd yn ieu-
angach na'r naill, a chynifer o flynyddoedd
yn hŷn na'r llall.
Cyfleus ddigon fyddai fod genym raniad
ar hanes y Cyfundeb i gyfnodau, fel y
gallem weled ar darawiad safle amseryddol
bywyd ein prif weinidogion, yn nghyd â
phrif symudiadau y Methodistiaid. Ym-
estyna ein hanes, bellach, dros fwy na
chant-a-haner o flynyddau, amser rhy
faith i fanylu arno, heb ei ddosparthu i
gyfnodau. Dichon mai anhawdd fyddai
cael rhaniad boddhaol arno. Hwyrach,
er hyny, fod yr hyn a wnaed gan y Cyf-
undeb yn y flwyddyn 1893, sef dathliad y
JuwbiH, eisioes wedi gwneyd brâs-raniad
arno. Os gwneir yn y dyfodol, fel y
gwnaed yn y flwyddyn hono, bydd y
Juwbih ei hun yn dosparthu ein hanes i
gyfnodau o haner cant o flynyddoedd bob
un, gan ddechreu cyfrif gyda chorphoriad
y Cyfundeb yn Nghymdeithasfa \Vatford,
yn 1743, ac ystyried yr wyth mlynedd cyn
hyny fel cyfnod byr o gychwyn a pharo-
toad, er mai blynyddoedd deheulaw y
Goruchaf oeddynt, ac i waith mawr
gael ei wneyd ynddynt. Arweinir ni
i wneyd y sylwadau hyn yn y fan
hon gan y ffaith fod, efallai, mwy o
gamgymeriad yn nghylch amseriad gwein-
idogaeth Jones, o Langan, na nemawr
un o'n prif weinidogion. O bosibl fod
rheswm, heblaw diffyg rhaniad ar ein
hanes, am hyn. Y mae ysgrifenwyr, yn
ddieithriad, mor bell ag y gwyddom, pan
yn traethu ar enwogion y pwlpud Cymreig,
yn y cyfnod Methodistaidd, yn cysylltu
enw David Jones â Daniel Rowland a
Howell Harris. Fynychaf, os nad bob
amser, efe yw y cyntaf a enwir ar eu holau
hwy. Felly y gwna y diweddar Barch.
Dr. Owen Thomas, pan yn traethu arnynt
yn ei gofiant ardderchog i'r Parch, John
Jones, o Dalysarn ; ond dyhd cadw mewn
cof, y rhoddir y lle parchus yma iddo am
ei enwogrwydd fel pregethwr, ac nid
oddiar ystyriaeth amseryddol. Gwedi ceisio
cywiro y syniad cyfeihornus hwn, awn
bellach at brif ffeithiau ei fywyd.
Y mae hanes boreuol David Jones yn
anhysbys. Yn wahanol i Howell Harris
a Peter WiUiams, ni ddarfu iddo ef
ysgrifenu dim o'i hanes ei hun ; ac yn
anffodus, oedwyd ysgrifenu cofiant iddo
am 31 o flynyddau wedi iddo farw.
Erbyn hyny, yr oedd llawer o hysbys-
rwydd yn ei gylch wedi ei goUi yn an-
adferadwy. Yn y flwyddyn 1841 y cy-
hoeddwyd y cofiant hwnw iddo gan y
Parch. E. Morgan, M.A., Syston, g\vr a
ysgrifenodd goffadwriaeth i amryw o'r
enwogion Methodistaidd. Yr oedd Mr.
Morgan yn enedigol o'r Pil, Ue heb fod yn
nepeU o Langan, ac yr oedd yn adwaen y
gweinidog yn y cnawd, ac mewn perffaith
gydymdeimlad ag efe, ac feUy yn meddu
cymhwysder at y gwaith â pha un yr ym-
gymerodd.
Ganwyd David Jones mewn amaethdy,
o'r enw AberceiHog, yn mhlwyf Llan-
Uueni, yn Sir Gaerfyrddin, ar lan yr afon
Teifi. Cymerodd hyn le yn 1735. Ni
chofnodir enwau ei rieni, ond y mae yn
amlwg eu bod yn bobl gysurus eu ham-
gylchiadau, gan y bwriadent ddwyn un
o'u plant i fynu yn offeiriad yn yr Eglwys
Sefydledig. Yr oedd iddynt ddau fab ac
un ferch. Bwriad y tad oedd gosod y
mab hynaf yn offeiriad, ac i Dafydd fod,
fel ei dad, yn ffarmwr. Ond nid hyn oedd
trefniad y nefoedd, ac amlygwyd hyny
mewn ffordd bur ryfedd a bUn. Pan yr
oedd Dafydd yn blentyn ieuanc iawn,
syrthiodd i bair Uawn o laeth berwedig, a
bu agos iddo gael ei ysgaldio i farwolaeth.
Bu yn hir heb weUhau, a pharhaodd am
amser maith yn wanaidd ac afiach. Yn
mhen enyd, daeth y tad i weled fod ei
gynUun wedi ei ddyrysu, fod Dafydd
beUach wedi ei anghymwyso at waith y
tyddyn, er, hwyrach y geUid gwneyd
offeiriad o hono. Penderfynodd wneyd y
goreu dan yr amgylchiadau, a chafodd
Dafydd fyned i"r Eglwys, a'r mab hynaf i
drin y tir. Arferai David Jones ddweyd
mewn blynyddoedd gwedi hyn, mewn
cyfeiriad at yr amgylchiad hwn : '* Yr
wyf yn cario nodau ac achos fy ngalwed-
igaeth ar fy nghefn ; " oblegyd dygodd
greithiau y ddamwain enbyd ar ei gefn i'w
fedd. Y mae dywediad o'i eiddo pan yn
ieuanc, ag sydd yn Iled arwyddo fod
rhyw gymaint o addysg grefyddol yn y
teulu; digon, beth bynag, i alluogi Dafydd
i wneyd defnydd tra tharawiadol o'r Ys-
grythyr lân. Un diwrnod, yn hir ar ol
y ddamwain, ond cyn i'r plentyn wellhau
oddi wrth ei heffeithiau, efe a ymwthiai yn
Ilesg at ei fam. Hithau a'i gwthiodd i
ffwrdd, gan ddweyd, o bosibl, yn chwar-
DAŸID JONES, LLANGAN.
461
ëus : " Druan o honot, yr wyf wedi blino
ar dy fagu di." Edrychodd yntau gyda
thynerwch yn ei hwyneb, a dywedodd :
" Pan y mae fy nhad a'm mam yn fy
ngwrthod, yr Arglwydd a'm derbyn." Ar
hyn, cipiodd y fam ei bachgen ífraethbert
i'w mynwes, a dywedodd : " Am y gair
hwn, mi a'th fagaf yn Ilawen tra y byddot
byw ar y ddaear." Hynodid ef pan y
daeth i addfedrwydd oedran gan ei ffraeth-
ineb, parodrwydd a phriodoldeb ei ateb-
ion, ac yn yr amgylchiad hwn, cawn
olwg ar y ddawn hon yn ei blagur.
Derbyniodd ei addysg athrofaol yn
Ngolegdy Caerfyrddin, a dywed ef ei hun
na ddarfu iddo dreulio term erioed yn y
prif ysgolion. Urddwyd ef i guwradiaeth
Llanafan-fawr, yn Sir Frycheiniog, tua'r
flwyddyn 1758 ; ond symudodd yn bur
fuan oddi yno i Dydweilog, yn Lleyn, Sir
Gaernarfon. Ac nid hir fu ei arhosiad
yno ychwaith ; oherwydd cawn ef yn
gwasanaethu plwyfau Trefethin a Chal-
dicot, yn Sir Fynwy, yn y flwyddyn 1760.
Beth oedd yn achlysuro y symudiadau
parhaus hyn, nid yw yn wybyddus, ond
gallwn ddweyd yn ddiogel mai nid ei
grefydd oedd yr achos. Yr oedd hyd yn
hyn yn ddigon difater am ei gyflwr ys-
prydol ei hun, a chyfrifoldeb ei swydd, i
foddio personiaid oferwag yr oes hono.
Dywedir ei fod y pryd hwn yn bregethwr
enillgar a phoblogaidd, a dichon fod hyny
yn ddigon o fai ynddo, yn ngolwg y per-
soniaid ag yr oedd efe danynt. Modd
bynag, daeth yn guwrad i Drefethin a
Chaldicot, yn Swydd Fynwy. Y mae
Trefethin yn ymyl tref Pontyp\vI, ac yr
oedd yn byw yn Mhontymoel, yn ymyl y
dref hono, ar y pryd y daethai David
Jones yno, feddyg enwog yn ei alwad, a
thra enwog hefyd am ei rinweddau a'i
dduwioldeb. Ei enw oedd Dr. William
Read. Yr oedd clod y meddyg hwn wedi
lledu dros Gymru oll, a chleifion yn tyru
ato o'i chyrau pellaf. Ymgyfathrachai
efe a'r Methodistiaid, ac yr oedd y Bardd
0 Bantycelyn ac yntau yn arbenig yn
gyfeillion mynwesol. Pan fu y meddyg
farw, yr hyn a gymerodd le yn 1769,
ysgrifenodd WiIIiams farwnad iddo, un
o'r goreuon a gyfansoddwyd ganddo. Ceir
hi yn mysg ei weithiau argraffedig. Gellir
Iled dyI)io oddiwrth awgrym sydd yn y
farwnad, fod y bardd yn bresenol yn yr
angladd, o herwydd y mae yr awdwr, ar
01 datgan ei anghrediniaeth o'r hanes am
farwolaeth y doctor, mewn tri o benillion
prydferth, yn troi ac yn dywedyd : —
" Mae'n wirionedd, fe ddiangodd
0 fyd gwag i deyrnas neíoedd,
Mae ei gorph ef heddyw'n llechu,
Älewn cist o bren yn isel obry ;
Fe rowd arno yn ddiöafar,
Bedair troedfedd lawn o ddaear ;
Hoeliwyd y gist, '/• wyf yn dyst, estyllod durfìu,
Read sy'n gorwedd gyda'r werin,
Cwsg 0 fewn i eglwys Trefddyn.
Yr oedd Dr. Read yn fyw, ac yn nghan-
ol ei boblogrwydd a'i ddefnyddioldeb,
pan ddaeth y cuwrad ieuanc i Dre-
fethin. Trigent yn ymyl eu gilydd, a
daethant yn hynod o gyfeillgar. Nid yw
yn hoUol eglur, pa un ai crefydd y meddyg
a achlysurodd droedigaeth y cuwrad, neu
ynte troedigaeth y cuwrad a'i dygodd ef i
gydnabyddiaeth a'r meddyg. Yr hyn a
ddywed Mr. Morgan, Syston, am hyn
yw, mai trwy ddarlleniad Ilyfr o waith
yr enwog Flavel yr effeithiwyd ei droed-
igaeth, pan yr oedd yn gwasanaethu
yn y Ile hwn. Dywed, yn mhellach,
ddarfod i'r gŵr ieuanc, wedi iddo gael ei
gyfnewid i fywyd, dderbyn anngharedig-
rwydd a chreulondeb ar law y gẃr eglwys-
ig ag yr oedd efe yn gwasanaethu dano ;
ac nad oedd gan L)avid Jones na châr nk
chyfaill yn agos ato i ddweyd ei gwyn
wrtho, na chael cyfarwyddyd ganddo, ond
Dr. William Read. Hwyrach mai ar ol
i'r cyfnewidiad mawr gymeryd Ile, trwy
ddarlleniad llyfrau FIave], y dechreuodd
ei gyfeillgarwch a'r meddyg duwiol o
Bontymoel ; ond y mae yn Ilawn mor
debygol, mai y meddyg a osododd weith-
iau FIaveI o fewn ei gyrhaedd. Sut
bynag y bu, daeth David Jones i gysylltiad
a'r Methodistiaid yn Trefethin, a phar-
haodd ei gyfeillgarwch â Dr. Read hyd ei
farwolaeth ; ac nid bai David Jones ydoedd
na ddaeth un o'i ferched yn wraig iddo, yn
mhen blynyddau lawer wedi hyn.
Am ba gyhyd o amser y darfu rheithor
Trefethin gydymddwyn a'i guwrad ar ol yr
anffawd o iddo gael crefydd, ni fynegir i ni.
Diau fod y dygwyddiad, yn ei dyb ef,
wedi ei anghymhwyso yn fawr at wasan-
aeth yr Eglwys. Cawn fod y cuwrad, ar
ol hyn, yn peri cyíìfro yn yr ardal ; fod
tyrfaoedd yn tyru i'w wrando ; fod mîn ac
arddeliad ar ei weinidogaeth ; ei fod yn
holi ac yn dysgu y bobl ieuainc yn ngwir-
ioneddau crefydd ; ac yn eu dysgu i ganu
mawl i Dduw ; a'i fod ef ei hun yn hynod
hoíî o gerddoriaeth. Nid oedd dim i'w
wneyd â gŵr ieuanc mor ddireol a hyn
ond ei yru i fifwrdd ; ac ymaith y cafodd
462
Y TADAU METHODISTAIDD.
fyned. Y rheswm dros ei symudiad o
Drefethin, yn ddiau, oedd ei arferion
Methodistaidd, a hwyrach ei gyfeillgarwch
gormodol â Dr, Read a'i deulu. I le yn
agos i Fryste yr aeth nesaf, ond ni fu
nemawr o amser yn y fan hono ; symud-
odd yn fuan i le yn Swydd Wilts. Yr
oedd erbyn hyn fel colomen Noah, yn
methu braidd a chael lle i roddi ei droed i
lawr, canys nid oedd llonyddwch i guwrad,
o'i yspryd ef, i'w gael y pryd hwnw yn yr
Eglwys Wladol yn Lloegr, nac yn
Nghymru. Yr oedd tân y weinidogaeth
yn llosgi o'i fewn ; ond ni fynai perchen-
ogion bywiohaethau wasanaeth ei fath.
Aflonyddai y wlad, gwnai anesmwytho
Jones. Cymerodd hyn le, fel y dywedwyd
yn flaenorol, yn y flwyddyn 1768, pan yr
oedd efe yn 33 mlwydd oed.
Plwyf bychan ydyw Llangan, yn gor-
wedd rhwng Pontfaen a Phenybont-ar-
Ogwr, yn Sir Forganwg, ac y mae ynddo
bentref bychan, gwasgaredig, a elwir ar
enw y phvyf. Y mae yr eglwys yn adeilad
hynafol, er nad ydyw yn un o'r rhai mwyaf
o faintioh. Adgyweiriwyd hi yn drwyadl
yn y flwyddyn 1856. Mae croes nodedig
iawn ar y fynwent, un o hen ohon yr oes-
oedd Pabaidd. Dywedir mai adeiladwaith
y i2fed ganrif ydyw. Eir o bellder ffbrdd
i'w gweled gan hynafiaethwyr, ar gyfrif ei
maint, destlusrwydd ei cherfiadaeth, yn
EGLWYS LLAÎTGAN, GER PONTFAEN, SIR FORGANWG.
cydwybodau y bobl, ac yr oedd y gweith-
redoedd ysgeler hyn yn bechodau nas
geUid eu maddeu. Ymddengys iddo, tra
yn aros yn Wihs, ddyfod i gyffyrddiad â
rhai o Fethodistiaid Lloegr, ac yn eu pHth
daeth i gydnabyddiaeth a'r enwog larlles
Huntington, gwraig o fendigaid goffadwr-
iaeth. Chwihai hon am ffyddloniaid yr
lesu, i'w noddi a'u cynorthwyo yn ngwas-
anaeth crefydd. Yr oedd yr larlles wedi
bod yn foddion i ddwyn pendefiges arall at
draed y Gwaredwr, sef yr Arglwyddes
Charlotte Edwin, perchenog etifeddiaeth
eang yn Sir Forganwg. Ac yn fuan daeth
personoHaeth Llangan yn wag, pa un oedd
yn rhoddiad yr Arglwyddes hono, ac ar
gais yr larlles cyflwynodd hi i David
nghyd a'i bod mewn cadwraeth mor dda.
Cyfrifir yn gyffredin mai ar adeg dyfodiad
David Jones i Langan y mae ei gysylltiad
ef a'r Methodistiaid yn dechreu, Gwehr
oddiwrth yr hyn a ddywedwyd eisioes, nad
yw hyn yn gywir. Tra sicr ydyw iddo ef
ddyfod o fewn cylch dylanwad y Method-
istiaid tra yn gwasanaethu yn Nhrefethin
a Chaldicot. Yma y gwnaed ef yn gristion,
ac yma yr ymddangosodd yr arwyddion
cyntaf ei fod ef yn Fethodist. Pa reswm
bynag ddichon gael ei roddi am symud-
iadau aml David Jones, cyn iddo ddyfod
i'r lle hwn, nid oes le i amheuaeth, mai ei
arferion Methodistaidd barodd ei hoU
symudiadau ar ol hyn. Dygodd hyn arno
erledigaeth a dial. Ond os mai ei yspryd
DAVID JONES, LLANGAN.
463
Methodistaidd, a'i weithgarwch efengyl-
aidd, a dynodd arno ddialedd y clerigwyr
cnawdol, dyna hefyd a enillodd iddo ffafr
yr larlles Huntington, y foneddiges fwyaf
Fethodistaidd ag y mae hanes am dani.
Ond pe na bai genym lawn sicrwydd yn
nghylch yr adeg y daeth yn Fethodist, y
mae ei weithredoedd a'i eiriau yn profi
iddo ddyfod yn fore i arddel yr enw, fel y
gwelir yn y difyniad canlynol, a ysgrifen-
wyd ganddo yn y cofìant a wnaeth efe i
Christopher Basset. Fel yma y dywed:— -
" Galwyd fy ardderchog frawd (Basset) yn
Fethodist ; enw o bwys, yn ddiamheu,
canys o le dysgedig iawn y tarddodd ar y
dechreu, nid llai lle na Rhydychain favvr ei
yr enw Methodist yn awr yn barod i foddi
y Pen^iym'íud a'r Cradogiaid hefyd." Dyma
arddehad diamwys o Fethodistiaeth yn
ymadroddion David Jones ei hun, ac y
niae yn cydgordio yn hollol a"r bywyd a
dreuhodd efe.
Er hyn oll, yr oedd ei ddyfodiad i Lan-
gan yn dechreu cyfnod newydd yn ei
hanes, canys yno y cafodd ei hun gyntaf
yn ŵr rhydd. Yr oedd bellach wedi dianc
oddi tan orthrwm y personiaid, ac wedi
cael llywodraeth eglwysig plwyf bychan
mewn sir boblog iawn ; ac yn awr, yn
arbenig, y dechreuodd ei lafur y tuallan i'w
bhvyf ei him.
Ceisiwn, yn awr, gymeryd brâs-olwg ar
MYMWENT EGLWYS LLÄNGAN.
[Yn iUiìujos y Groes a adeiladwyd ynddi yn y ddeiiddi'gfed ganrif.]
hun, ac fel y bydd y lle, felly y bydd y
fFrwyth. Ni chedwais dymhor fterm) yno
erioed, eto, er hyn, fe welwyd fy nghym-
hwysiadau mor fawr fel y sefydlwyd y
radd yma, doed fel y dêl, arnaf finau, er fy
mod yn amddifad o eraiU. Fy meddwl yw
hyn am y gair, mai siart (charter) gogon-
eddus ydyw, a Hthrodd yn ddiarwybod o
blith y doctoriaid yno, i bob offeiriad ag
sydd yn sefyll yn gydwybodol at burdeb
articlau Eglwys Loegr. Enw mor fawr,
gan y rhai sydd yn caru y rhoddwyr, fel yr
wyf yn barod i'w ddymuno ar fy arch
{coffin), ac os pydra yno, gadewch iddo, fe
gymer y diafol ofal i anrhydeddu pobl
Dduw â rhyw enw newydd eto, fel y mae
ystad crefydd yn mhHth y Methodistiaid,
yn Sir Forganwg, pan y daeth David
Jones i Langan. Yr ydym yn y penodau
blaenorol, yn enwedig yn nglyn â hanes
HoweH Harris, wedi dangos fod llawer o
lafur wedi ei gymeryd i efengyleiddio Sir
Forganwg yn dra bore, a bod llwyddiant
mawr wedi canlyn y Uafur a wnaed. Nis
bwriadwn helaethu ar hyn yn bresenol,
dim ond braidd dch'gon i gael golwg ghr
argysyHtiadau yr hanes. Yr oedd seiadau
wedi eu sefydlu yn Morganwg, yn gystal a
siroedd eraiU y Deheudir, o fewn wyth
mlynedd gyntaf y diwygiad, ac erbyn
Cymdeithasfa Watford yr oedd eglwys y
Groeswen wrth y gorchwyl o adeiladu
464
Y TADAU METHODISTAIDD.
capel, y cyntaf yn y sir. Cynyddodd y
seiadau yn fawr yn ystod y blynyddoedd
canlynol, ond yr oedd y bobl yn hwyr-
frydig i godi capelau. Adeiladwyd un
arall yn mhen chwe' mlynedd ar ol y
cyntaf, sef capel Aberthyn. Dyma yr
unig addoldai oedd gan y Methodistiaid yn
Morganwg pan ddaeth David Jones i
Langan. Y mae Aberthyn o fewn pedair
milltir i Langan, a'r ' Groeswen o fewn
ugain milltir i'r lle. Yr oedd eglwysi
cryfion yn y ddau le yma y pryd hwmw, ac
yr oedd arnynt weinidogion ordeinieJig a
sefydlog. WiUiam Edward, yr adeilad-
ydd, ydoedd gweinidog y Groeswen; a
Dafydd WilHams, o Lysyfronydd, ydoedd
gweinidog Aberthyn. Yr oedd y ddau,
erbyn amser dyfodiad Mr. Jones i Langan,
mewn addfedrwydd oedran, eiU dau yn eu
haner-canfed flwyddyn ; ac yr oeddynt yn
ddynion o fedr a dylanwad mawr. Yr
oedd hefyd amryw o gynghorwyr yn
Uafurio yn y sir ar y pryd hwn, y rhai
penaf o honynt oeddynt WiUiam Thomas,
o'r Pîl, a Jenkin Thomas, yr hwn a ad-
waenir yn weU wrth yr enw Siencyn Pen-
hydd. Yr oedd y cyntaf yn bump-a-
deugain oed, a'r olaf yn un-ar-ddeg-ar-
hugain. Glaslanciau rhwng deg a phym-
theg oed ydoedd Christopher Basset,
a HoweU HoweUs, Trehill, yr adeg hon,
dau ag a ddaethant ar ol hyn yn ofîeiriaid
Methodistaidd o enwogrwydd a defnydd-
ioldeb. Yn ychwanegol at y gweinidogion
a'r cynghorwyr yr ydym yn awr wedi
crybwyil eu henwau, pa rai oeddynt er ys
blynyddau wedi bod yn Uafurio yn Mor-
ganwg, daeth clerigwr i'r sir tua'r un adeg
a David Jones, sef yr enwog a'r anwyl
William Davies, CasteUnedd. Daeth y
ddau i gydnabyddiaeth buan a'u gilydd, os
nad oeddynt felly o'r blaen, a buont yn
cydlafurio, ac yn cyd-deithio Cymru oU yn
ngwasanaeth yr efengyl, am yspaid ugain
mlynedd, sef hyd farwolaeth Wüliam
Davies. Cuwrad oedd William Davies,
yn NghasteUnedd, o dan Mr. Pinkey, yr
hwn oedd yn meddu personoliaeth dau
blwyf, Castellnedd a LlaniUtyd, ac nid
ymddyrchafodd i safle uwch na chuwrad
yn ei fywyd. Bendith anmhrisiadwy i
grefydd ydoedd dyfodiad cyfamserol y ddau
weinidog ffyddlawn hyn i Grist i Sir For-
ganwg. Hyd yn hyn nid oedd yr un o sêr
dysgleiriaf y pwlpud wedi ymddangos
yn Morganwg, yn frodorion nac yn ddyfod-
iaid. At Howell Harris, yn benaf, yr
edrychai pobl Morganwg fel eu tad, a
phan ymneiUduodd efe, ac y peidiodd dalu
ei ymweUadau mynych yno, nis gadawodd
ar ei ol neb ag y gellid am foment ei gym-
haru ag efe. Cymerasai yr ymraniad le
ddeunaw mlynedd cyn dyfodiad yr enwog-
ion hyn i Forganwg, ac yr oedd eu dyfod-
iad hwy yno fel codiad haul o'r uchelder
i'r hoU sir, ac i Gymru oU. Blynyddoedd
maith o draUod i bobl yr Arglwydd fu y
blynyddoedd hyny ; cyfnod o gyndyn-
ddadleu, a thymhor o ddirywiad crefyddol.
Dilynwyd hwy a dyddiau gwell, dyddiau o
adfywiad ac adferiad, a chydnabyddir yn
gyffredinol mai trwy offerynoliaeth David
Jones, Llangan, a \Ý. Davies, CasteUnedd,
yn Morganwg; y ddau WiUiams, a
WiUiam Llwyd, o Gaio, yn Nghaerfyrddin ;
a Daniel Rowland a Dafydd Morris, yn
nghyd â Dafydd Jones, o'r Derlwyn, yn
Aberteifi, yr ail-feddianwyd y Deheudir i
Fethodistiaeth.
Y mae hanes David Jones yn Llangan
yn bur gyffelyb i hanes Rowland yn
Llangeitho, ond ei fod ar raddfa lai.
Daeth y lle yn gyrchfa pobloedd, yn
ganolbwynt gweithrediadau crefyddol rhan
fawr a phw^ysig o'r wlad. Ymddengys i
David Jones ymdaflu i weithgarwch yn
union y daeth i Langan, ac y mae hanes
fod sefyUfa crefydd o fewn y plwyf yn
resynus. Dywed hyd yn nod Mr. Morgan,
Syston, fod ei ragflaenydd wedi esgeuluso
ei ddyledswyddau, a dichon y gaUasai
ychwanegu ei fod wedi camarwain ei bobl,
ar air a gweithred. Tebygol ei fod yn
gyffelyb i'r person yr oedd gofal y plwyf
nesaf i Langan arno, am yr hwn y canodd
Shanco Shôn fel yma : —
" Y 'ffeiriad ffol uffernol,
Shwd achub hwn ei bobl,
Sy'n methu cadw dydd o saith,
Heb ddilyn gwaith y diafol."
Yr oedd yr offeiriaid, gydag ychydig eithr-
iadau, yn parhau yn ddifraw a difater ; a
Uawer o honynt yn blaenori mewn an-
nuwioldeb, a rhysedd. Ni pherchid hwy
hyd yn nod gan yr oferwyr yr ymgyfath-
rachent â hwy. Dirmygid hwy gan bob
dyn bucheddol, a hwy oedd prif destun
gwawd a chân y beirdd a'r prydyddion.
Temtid hyd yn nod lolo Morganwg i
ogan-ganu iddynt. Cyfansoddodd efe gàn,
a alwai yn " Drioedd yr offeiriaid," cân
faith, o bedwar-ar-hugain o benillion.
Gosodwn yma y penill cyntaf a'r olaf o
honi fel enghraifft, ac fel dangoseg o'r
dirmyg a deimlai yr hen fardd dichlynaidd
hwnw tuag at bobl oedd yn byw yn
Capel Salem, Pencoed.
[4 acleUadwìjd y tro ci/Htaf (jaii D. Jonei, Llantjan, ijn ij Jiiuijddijn lì'75.'\
Eglwvs a Mynwent Manorowen, Sir Benero.
[He ij cladilwijd D. -Tones, Llan<jan.\
DÁYID JONES, LLANGAN.
4^5
annghyson a'u swydd a'u gwaith. Dyma
hwy : —
"Tri pheth sydd gas gan brydydd,
Bost uchel gŵr aniighelfydd,
Aweu ddifìas, heb ddim hwyl,
A 'ffeiriad plwyf di'menydd.
Tri pheth a gâr fy nglialon,
Heddychu rhwng cym'dogion ;
Cadw'r iawn heb fyn'd ar goll,
A chrogi'r hoU 'ffeiriadon."
Amlwg yw nad oedd y mwyafrif mawr
o bersoniaid y wlad ronyn yn well eu
moes, a'u buchedd, y pryd hwn, nag yr
oeddynt gan' mlynedd cyn hyny ; ac yr
oedd plant y diwygiad hefyd wedi myned
yn ol, ac nid yn mlaen, yn ystod yr ugain
mlynedd hyn. Fel y darfu i ni sylwi,
daethai dadleuon i mewn i'r eglwysi Meth-
odistaidd, ac ymraniadau o bob math ; y
rhai a droisant ardd yr Arglwydd yn anial-
wch. Nid hawdd desgrifìo y dirywiad a
gymerodd le yn nihhth crefyddwyr mewn
amser mor fyr ag ugain mlynedd. Mae
darllen hanes eglwys Fethodistaidd yr
Aberthyn yn y tymhor hwn, yn dwyn i gôf
hanes eglwysi Annibynol Cefnarthen a
Chwmyglo, ger Merthyr, mewn adeg
foreuach.
Gan hyny, rhaid fod dyfodiad gŵr o
yspryd a thalentau Mr. Jones i ardal fel
yma, fel bywyd o feirw. Cafodd Llangan
y fraint oruchel hon, canys nid hir y bu
cyn teimlo grym ei weinidogaeth. Llosgai
ei enaid ynddo o gariad at y Gwaredwr,
ac o dosturi tuag at ei blwyfohon, pa rai a
lusgid i angau. Yn fuan, dechreuodd y
bobl ddefFroi, a'r eglwys lenwi. Aeth y
gair ar led am rym ei weinidogaeth,
3 thyrai y bobl i'w wrando o'r plwyfì
cyfagos, a daeth Llangan yn gyíTelyb i
Langeitho, fel cyrchfa pobloedd o bell ac
agos.
Er mwyn rhoddi rhyw syniad am fawr-
edd y gwaith a wnaed yn Llangan, rhodd-
wn yma, gyda chaniatad yr Awdwr, "ddes-
grifiad campus yr Hybarch W. Wilhams,
Ábertawe, o Sul y cymundeb yn Llangan
yn amser David Jones : " Tyred gyda ni,
ddarllenydd hoff, ni a eisteddwn yn nghyd
ar ben y maen mawr yma ar gopa cribog
mynydd Eglwysfair. Y mae yn foreu
Sabboth hyfryd. A weH di ar dy law
aswy rhyngot a'r deheu-ddwyrain, hen
adeilad fawreddog, braidd yn ganfyddadwy,
o herwydd y coed a'i hamgylchant ? Dyna
gastell PenUin. Edrych eto ar dy law
" * Traetliodydd, 1850.
ddeheu, ryw bedair milltir i'r gorllewin, ti
a weh dref fechan ar wastadedd pur
hyfryd. Dyna Benybont-ar-Ogwr. Ed-
rych yn awr rhag dy flaen. Yn union
rhyngom a'r deheu, ar waelod y gwastad
oddi tanom, ti a weh y pentref bychan
annyben gwasgaredig yna ; a braidd
rhyngom ag ef, ond yn hytrach yn fwyi' '
gorllewin, eglwys fechan ddigon gwael yr
olwg, heb fod iddi yr un clochdy, ond
rhywbeth tebyg i simnai, a thwU yn
hono, a chloch yn hwn, yr hon na chlywem
hyd y fan hon, tincied ei heithaf. Dyna
Llangan. Dyna y fan y bydd Mr. Jones
yn pregethu ac yn cyfranu heddyw, a
dyna lle bydd yn ei gyfarfod dyrfa fawr.
Aros enyd ; ti gei eu gweled yn ymgasglu.
Ust ! dacw rai o honynt yn dechreu dyfod.
Edrych ar dy gyfer, ti a weh lonaid yr
heol serth acw o gopa y Filldir Aur, tua
Llangan, llawerar feirch, a mwy ar draed.
Pobl y Wîg, Llanífa, Ty'rcroes, a Thre-
golwyn ydynt, yn ymdywallt tua Llangan.
Edrych eto rhyngom a chastell Penlhn,
dacw dyrfa yn ymarllwys oddiar y croes-
heolydd tua dyfîryn Llangan. Edrych
eto ar dy ddeheulaw, y mae yr heol fain
wastad yna o Dyle-y-rôd, heibio i Lan-
grallo a Mehn-y-mur, i Dreoes, yn frith o
fywiohon ; ffordd yna y daw pobl Peny-
bont, Trelalas, Pil, Llangynwyd, Margam,
ac Aberafon. Y mae rhai o honynt yn
dyfod o Gastellnedd, ac o'r Cwm uwch-
law, ac hyd yn nod o Langyfelach, y
Goppa, ac Abertawe. ünd behach, gad i
ni ddisgyn i'r gwastadedd — awn rhagom i
Langan. Bydd rhyw ' gynghorwr' yn an-
erch y gynulleidfa, yn ysgubor y persondy,
am naw o'r gloch. Ni bydd Mr. Jones yn
yr eglwys dan haner awr wedi deg. Dacw
\vr teneu, trwynllym, Uygadgraff, yn sefyll
ar yr ystòl. Y mae yr olwg arno yn dy
argyhoeddi ar unwaith nad yw wedi bod
yn yr athrofa, ac y mae ei ddull o ym-
adroddi yn dangos nad yw erioed wedi
astudio na gramadeg na rheithioreg. Ond
y mae rhyw nerth yn ei eiriau — mae rhyw
wreiddiolder yn ei ddrychfeddyhau — ^mae
rhyw swyn yn ei lais, yn dangos ei fod ef
yn rhywbeth tuhwnt i'r cyffredin. Dyna
Edward Coslett, gôf wrth ei alwedigaeth,
ond pregethwr wrth ei swydd, a'r pregeth-
wr Methodistaidd goreu yn Sir Fynwy,
meddai ef ei hun. Ei reswm dros
ddweyd hyny ydoedd, nad oedd yr un
pregethwr Methodistaidd, ar hyny o bryd,
yn Sir Fynwy, ond ei'hunan. Gofynodd
Mr. Jones iddo, wedi ei wrandaw yn
H H
466
y TADAU METHODISTAIDD.
pregethu mewn rhyw fan, pa le yr oedd
wedi astudio y bregeth hono. ' Lle na
ddarfu i chwi astudio yr un erioed, Syr,'
meddai yntau. ' Ond pa le, Ned ? ' ych-
wanegai Mr. Jones : ' Rhwng y tân a'r
eingion,' oedd yr ateb. Barnai rhai dyn-
ion mai dyna paham yr oedd pregethau
Edward Coslett mor wresog, neu mor
danllyd, fel y dywedent. Ond wedi'r cwbl,
nid yw efe namyn ' cynghori ticyn,' Mr.
Jones sydd i hregethu yn yr eglwys. Gan
hyny, i'r eglwys â ni. Dacw Mr. Jones
yn esgyn y pwlpud bychan. Edrychwch
arno am fynud. Nid yn fynych y ceir
cyfle i weled dyn mor brydferth. Y mae
yn rhy dal i'w alw yn fychan ; ac y mae
yn rhy fyr i'w alw yn dal ; llydain ei ys-
gwyddau, prafif ei fraich, goleu ei wallt,
llawn ei fochgernau. Y mae ei aehau
bwäog, ei lygaid mawrion duon dysglaer,
ei drwyn mawr cam, a'i wefusau serchog,
yn dangos eu bod yn preswyho yn nghym-
ydogaeth cyfoeth o synwyr cyíìfredin, a
byd o natur dda. Ond wele, y mae yn
dechreu darllen : ' Pan ddychwelo yr an-
nuwiol oddi wrth ei ddrygioni, &c.'
Ymddengys fel pe byddai mewn brys i
ddybenu. Lhthra y geiriau, y gweddîau,
a'r Ihthiau ar ol eu gilydd dros ei wefusau,
fel y cenlhf gwyUt. Cyn ein bod yn
dysgwyl, dyma Amen y gwasanaeth gosod-
edig. Yn awr, am y weddi ddifyfyr, y
canu, a'r bregeth. Y mae y cyntaf yn
dangos cydnabyddiaeth y gweddíwr a'r
hyn sydd o fewn y Uen. Gelhr bod yn
sicr ei fod wedi bod yn y nef neithiwr, gan
mor hawdd y mae yn myned yno heddyw.
Y mae y canu fel swn dyfroedd lawer ;
' dyfroedd yn rhuthro dros greigiau Lodor.'
Nid oes arno ryw drefn ardderchog ; ond
y mae yr yspryd yn ardderchog, a'r hwyl
yn hyfryd ; am yr effaith, y mae yn an-
nesgrifiadwy. Roddem rywbeth am gael
clywed canu o'r fath unwaith eto.
" Ond dyna y canu yn dybenu, a'r bregeth
yn dechreu. Y mae dystawrwydd, fel eiddo
y bedd, yn teyrnasu trwy yr adeilad gor-
lawn. Y mae pob dyn fel pe byddai wedi
anghofio fod un rhan yn perthyn i'w gyf-
ansoddiad ond Uygad, a chlust, a chalon.
Y mae y pregethwr yn dechreu fel pe
byddai yn penderfynu rhoddi llawn waith
i'r tri. Y mae meddyhau ei galon yn ym-
dywallt yn ffrydhf gyson, mor gyflym ac
mor ddidrafferth, nes peri i ti dybied fod
cartrefle ei feddwl yn nhaflod ei enau. Y
mae ei eiriau yn ddetholedig, ei lais yn
soniarus ; y bobl yn credu ei fod yn bre-
gethwr heb ei ail. Y mae y pethau hyn
yn fanteisiol i gynyrchu y teimlad a weh,
ac a glywi, yn ymdaenu trwy y dyrfa.
Ond nid hyn yw y cwbl ; nid yna y mae
cuddiad ei gryfder. Y mae bywyd yn
mhob gair ; y mae nerthoedd yn mhob
brawddeg ; y mae yn gwaeddi, ond y mae
yr Yspryd tragywyddol wedi dweyd wrtho
eisioes pa beth i waeddi. Y mae y pregethwr
yn crcdii fod pob gair a ddywed yn wirionedd
tragyîeyddol. Y mae yn teimlo pwys an-
rhaethol pob brawddeg a hthra dros ei
wefus ; eu pwys anrhaethol iddo ef ei
hunan; eu pwys anrhaethol i bob enaid
byw o'i flaen ! Dyn newydd ei gipio o'r
dwfr ; newydd ei waredu rhag boddi ;
newydd ei osod yn y cwch ; yn gwaeddi,
' Bâd ! bâd !' ar y soddedigion o'i am-
gylch, yw efe. Wrth ddweyd ei bregeth
y mae yn dweyd ei galon. Dywed am
ddagrau, a chwys a gwaed, a chroes ac
angau ein Gwaredwr, a'i gariad anfeidrol
yn berwi ei enaid. Sieryd am adgyfodiad
y meirw a'r farn dragywyddol ; a thra yn
siarad teimla ei hun ar derfynau y byd
anweledig, ac y mae ei wrandawyr yn
teimlo yr un modd. Y mae y chwys a'r
dagrau fel yn rhedeg gyrfa tros ei ruddiau
glandeg, ac y mae cawod o ddagrau yn
gwlychu llawr yr hen eglwys. Ond dyna
y bregeth yn dybenu. Rhyfedd mor fyr ;
ond hynod mor felus. Dyna y pregethwr
yn eistedd yn foddedig mewn chwys.
Dyna y gwrandawyr, am y waith gyntaf
oddiar pan ddechreuodd, yn edrych ar eu
gilydd, ac yn gweled afonydd o ddagrau.
" Ond nid yw y cwbl drosodd eto. Y mae
y bwrdd wedi ei ledu ; y mae y dyrfa cyn
ymadael yn bwriadu gwneyd cof am farw-
olaeth eu Hiachawdwr mawr. Aros i
weled y diwedd. Darllena y gweinidog y
gwasanaeth arferol, ond nid yw yn gor-
phwys ar hyny. Ni welir un argpel ei fod
am arbed ei gorph ; y mae nerthoedd yr
aberth yn Ilenwi ei enaid. Nid yw y
geiriau arferol, ' Corph ein Harglwydd
lesu Grist,' &c., yn ymddangos fel wedi
pylu dim wrth eu hadrodd trosodd a
throsodd ; mwyhau y mae eu nerth, dyfn-
hau y mae eu hargraff ar y pregethwr ei
hunan pa fynychaf eu dywed. Ymwthia
drwy y dorf, ireiddia hwynt â'i ddagrau ;
gwlych hwynt â'i chwys ; cynhyrfa hwynt
drwyddynt draw â'i eiriau melusion. Yn
awr, dyna ddernyn o hymn ; yn awr dyna
bwnc o athrawiaeth ; yn awr dyna waedd-
olef annynwaredol am angau'r groes ; yn
awr y mae
DAYID JONES, LLANGAN.
467
' Jones fel angel yn Llangana,
Yn udganu'r udgorn mawr.'
A thyna
' Dorf, mewn twymn serchiadau,
Yn dyrchafu uwch y llawr.'
" Dyna wreichionen y bregeth wedi
niyned yn fflam angerddol. Rhaid i ti
bellach ymdaro trosot dy hun, gyfaill. Nis
gallwn ddesgrifio ychwaneg. Y mae y
pwyntil wedi syrthio. Y mae y dyrfa wedi
myned i'r hwyl ; yr ydym ninau wedi
myned i'r hwyl hefyd. Pwy ddichon beidio ?
Bendigedig ! Bendigedig byth !
" Ond wele, nid yn Llangan yr ydym ni
yn y diwedd, ond yma, yn y fan hon ;
haner can' mlynedd yn rhy ddiweddar i
weled y lle hwnw yn ei ogoniant ; rhyw
eilun anmherffaith o'r peth a welsom ni ar
ein hynt ! O! na chawsem weled y peth ei
hunan. O ddiffyg hyny, fe allai fod y bras-
ddarlun uchod mor debyg iddo a dim a elli
daro wrtho am enyd o amser."
Ni chyfyngodd efe ei hun mewn un modd
i'w eglwys, ac i'w blwyf ; ystyriai hyny yn
drefniad dynol, ond yn hytrach ufudd-
haodd i'r gorchymyn dwyfol : " Ewch i'r
holl fyd, a phregethwch yr efengyl i bob
creadur." Pregethai mewn amser ac allan
o amser, ac yn mhob math o leoedd.
Weithiau mewn ysgubor, neu ar y ffordd
fawr, neu mewn tŷ anedd, dan gysgod
pren, neu ar lechwedd mynydd ; mewn
gair, yn mhob lle y cai gyfleusdra i bre-
gethu Crist a'i groes. Dichon ei fod yn
Eglwyswr anghyson a direol, ond yr oedd,
er hyny, yn gristion hardd a diargyhoedd,
ac yr oedd yn prisio cymeradwyaeth Duw
yn fwy na gwenau pendefigion y tir ; a
gwell oedd ganddo ddychwelyd pechadur-
iaid o'u ffyrdd drygionus, na chyfyngu ei
hun i unrhyw sect neu blaid grefyddol.
Yn y flwyddyn 1775, sef yn mhen saith
mlynedd ar ol ei fynediad i Langan, cod-
odd Mr. jones, mewn undeb â'r Method-
istiaid, gapel Salem, Pencoed, mewn Ile
cyfleus ar y brif-ffordd sydd yn arwain o
Benybont-ar-Ogwr i Lantrisant. Cymer-
wyd llawn ddau erw o dir at y pwrpas
hwn, a dyogelwyd ef mewn gweithred i'r
Cyfundeb. Cyfrifid capel Salem, y pryd
hwnw, yn adeilad helaeth fel addoldy.
Dangosai Mr. Jones fawr serch at y Ile, ac
arolygai ei hun y gwaith pan yn ei adeiladu.
Codwyd tj' anedd at wasanaeth yr achos
wrth y naill ben i'r capel, a gwnaed myn-
went at gladdu yr aelodau wrth y pen
arall. Ac y mae yn hynodol, mai yr hen
HH
weinidog ffyddlawn, Dafydd WiUiams, o
Lysyfronydd, a gladdwyd ynddi gyntaf;
ac yn fuan wedi hyny y bu farw priod Mr.
Jones, a dewisiodd yntau idd ei anwyl
" Sina " gael ei chladdu yn ymyl yr hen
bregethwr ; a mynych y dywedodd mai yn
y fynwent hon y dymunai i'w weddillion ei
hun orphwys ; ond nis cafodd hyn o fraint,
gan iddo ail briodi, a diweddu ei ddydd yn
Sir Benfro.
Ffaith hynod iawn ydoedd i David
Jones, offeiriad eglwys Llangan, ddewis
claddu ei hoff briod mewn tir annghysegr-
edig yn ymyl Salem, capel y Methodistiaid
yn Mhencoed, yn hytrach nag yn myn-
went gyfleus Llangan, y plwyf yr oedd efe
yn ei wasanaethu. Dengys y weithred
hon o'i eiddo ei fod yn bur eang ei syn-
iadau am gysegredigrwydd daear ; ac yn
rhyfeddol ymlyngar wrth y Methodistiaid.
Nid oedd capel Salem ond tua thair
milldir o bellder oddiwrth eglwys Llangan.
Arferai Mr. Jones bregethu yn ei eglwys
ei lìun am haner awr wedi deg ar fore
Sabbath, ac yn Salem am ddau o'r gloch
yn y prydnawn. Ni chynhaliwyd cyfar-
fodydd eglwysig erioed yn Llangan, ond
yn Salem, Pencoed, y cynhelid hwy. Yr
oedd yno seiat bob wythnos, a chyfarfod
parotöad unwaith yn y mis, ar ddydd
Sadwrn, am un o'r gloch, o flaen Sul y
cymundeb yn Llangan. Byddai Mr. Jones
yn bresenol bob amser, os byddai gartref,
ac yr oedd ei wraig hawddgar a duwiol yn
mynychu y cyfarfodydd hyn gyda chyson-
deb mawr.
Capel Salem oedd y cyntaf a adeilad-
wyd gan Mr. Jones, ond nid hwn oedd y
diweddaf a adeiladwyd ganddo. Hwyrach
iddo ef füd yn offerynol i adeiladu mwy o
gapelau Methodistaidd yn ei ddydd na neb
o'i gydoeswyr. Yr oedd yn ymddiriedolwr
ar y nifer amlaf o gapelau y Deheudir a
adeiladwyd yn ei amser ef, ac yr oedd yn
dra ymdrechgar i'w diddyledu ar ol eu
codi. Bu yn foddion i adeiladu rhai
capelau yn y Gogledd hefyd, yn enwedigol
capel cyntaf Dolgellau.
Dywedir nad llawer a alwyd trwy wein-
idogaeth Mr. Jones o blwyfolion Llangan.
Bu ei lafur yn fwy bendithiol yn mhob
man nag yn ei bíwyf ei hun. Cafodd
y ddiareb Ysgrythyrol ei gwirio yn ei
hanes ef. Methodistiaid yr ardaloedd
cylchynol oedd ei wrandawyr, gan mwyaf,
rhai a sychedent am y Duw byw, ac a
hiraethent am gynteddau yr Arglwydd.
Er hoU lafur y Diwygwyr yn y sir cyn
2
468
y TADAU METHODISTAIDD.
amser David Jones, nis gallasent hwy
Iwyr osod i lawr ofer arferion y werin bobl
yn nghymydogaeth Llangan. Yr ydym
yn cael fod gwyhnabsantau yn y wlad mor
ddiweddar a'i amser ef. Yn mhhth manau
eraiü, cynhehd un bob blwyddyn yn Lhm-
bedr-ar-fynydd, lle oddeutu pum' milltir
i'r gogledd o Langan. Hwn ydoedd prif
" fabsant " y wlad. Yma yr ymgynullai
canoedd o ieuenctyd Morganwg i yfed,
meddwi, dawnsio, ymladd, a phob an-
nuwioldeb. A dydd yr Arglwydd ydoedd
prif ddiwrnod yr wyl felldigedig hon.
Penderfynodd Mr. Jones wneyd ymdrech
i osod terfyn ar y cynuUiad pechadurus.
Yr oedd wedi bod yn pregethu yn ei herbyn
yn Llangan, ond nid oedd hyny ynddo ei
hun yn ddigon. Ar un Sabbath, aeth yno
ei hun, a phregethodd Grist croeshoehedig
iddynt. Llwyddodd yn ei amcan, a bu yn
myned i'r un lle i gynal math o gymanfa
ar ddyddiau y mabsant am ddeng-mlynedd-
ar-hugain. Gwthiodd Duw y gelyn o
flaen y pregethwr ar y cynyg cyntaf, a
mynodd yntau ei Iwyr ddifetha ef.
Cawn iddo unwaith wrth ddychwelyd
adref, wedi bod yn pregethu, daro wrth
haid o oférwyr oeddynt wedi ymgynull er
mwyn y difyrwch creulawn o ymladd
ceiHogod. Trodd atynt, a chyfarchodd
hwy yn garedig, gan ddweyd : " Y' mae
genyf fì newyddion da rhyfeddol i chwi,
bobl fach, os byddwch mor fwyned a
gwrandaw ; cewch fyned yn y blaen a'ch
gwaith wedi hyny, os byddwch yn dewis."
Wedi eu gorchfygu gan diriondeb, dywed-
asant y cai wneyd fel y carai. Ar hyn,
dechreuodd ddweyd wrthynt am fater eu
heneidiau, am gariad y Gwaredwr, a
disgynodd nerth Duw gyda'r siarad. Tar-
awyd yr ofer-ddynion â syndod, ac aethant
i'w cartrefleoedd heb gyflawni yr hyn a
fwriadent wneyd.
Gẃr boneddigaidd o ymddygiad, add-
fwyn o yspryd, a rhyfeddol dirion yn ei
ymwneyd â dynion oedd efe, ac eto cafodd
ei ran o erhdiau. Cawn ddarfod i rywun
daro y Beibl o'i law pan yn pregethu
mewn man yn Ngogledd Cymru. Yr unig
sylw a wnaeth ar y weithred anfoneddig-
aidd ydoedd : " Och ! druan, ti a darew-
aist dy farnwr ! " Pan yn pregethu yn
Machynlleth, ymgasglodd torf o elynion
o'i gwmpas, gan gipio y Gair sanctaidd o'i
ddwylaw, a'i anmharchu. Dywedasant
wrtho na wnaent iddo niwed, os gwnai
addaw peidio dyfod yno i bregethu byth
mwyach. " O na," ebai yntau, " nis
gallaf wneyd hyny, nid oes yr un addewid
yn perthyn i chwi nac i'ch tad." Dyodd-
efodd erledigaeth oddi ar law boneddwyr a
phersoniaid y gymydogaeth yr oedd yn
byw ynddi. Anfonwyd achwyniadau at
yr esgob, ei fod yn pregethu heb lyfr, ei
fod yn tynu pobl o blwyfau eraiU i'w
wrandaw yn Llangan a lleoedd eraill, a'i
fod yn euog o bob math o afreolaeth.
Darfu i'r esgob gau ei glustiau i'r cwynion
hyn hyd y gaUai, ond gorfodwyd ef o'r
diwedd i'w aíw i gyfrif. Cyfarchodd ef,
í/^/
IWife of tb
CAREG FEDD GWRAIG GYNTAF Y PARCH.
DAYID JONES, LLANGAN.
gan ddweyd : "Y mae yn ddrwg genyf,
Mr. Jones, fod achwyniadau yn eich
erbyn ; cyhuddir chwi o bregethu mewn
lleoedd annghysegredig." " Naddo, erioed,
fy arglwydd," meddai yntau ; " pan y
rhoddes Mab Mair ei droed ar y ddaear,
darfu iddo gyscgyu pob modfedd o honi ;
oni buasai hyny, yr wyf yn ofni na wnai
unrhyw gysegriad o eiddo eich arglwydd-
iaeth ddaioni yn y byd," Ar ol ychydig
eiriau cariadus, ymadawsant, ac aeth Mr.
Jones yn mlaen fel cynt. Dr. Barrington
oedd yr esgob y pryd hwn, ac yr oedd efe
yn gefnogol, neu o leiaf, nid oedd yn an-
DAVID JONES, LLANGAN.
469
nghefnogol i arferion afreolaidd Person
Llangan. Adnewyddwyd yr achwyniadau
pan wnaed y Dr. Watson yn Esgob Llan-
daf. Penderfynodd yr esgob newydd ei
orfodi i aros yn ei blwyf ei hun. Galwodd
ef o'r neilldu ar ddydd ymwehad yn
Mhontfaen, a dywedodd nad oedd iddo
ryddid i fyned i blwyfau eraill, hyd y
byddai pob enaid yn ei blwyf ei hun wedi
ei achub, Atebodd Mr. Jones yn ostyng-
edig, ei fod yn teimlo ei hun dan rwymed-
igaeth i gydsynio â chymheUion y bobl
oeddynt yn byw mewn plwyfau ag yr
oedd ofîeiriaid yn esgeuhiso eu dyled-
sAvydd. " Os felly," ebe yr esgob, " rhaid
i mi gymeryd mesurau i'ch atal." " Gell-
wch wneyd hyny, fy arglwydd," atebai
Mr. Jones, " ond nis gallaf fi newid fy
mhenderfyniad." Yr esgob, yn synu wrth
weled y fath wroldeb digyffro, yn gysyllt-
iedig a'r fath ostyngeiddrwydd boneddig-
aidd, a ofynodd, a oedd ganddo deulu.
" Oes, fy arglwydd," meddai yntau," " y
mae genyf wraig a thri o blant." " Wel,"
ebe ei arglwyddiaeth, wedi ei orchfygu
gan deimlad, " Mr. Jones bach, nis gallaf
mewn modd yn y byd feddwl am eich
niweidio, ond y mae offeiriaid plwyfau
P a Ff yn wrthwynebol iawn i
chwi, gwnewch hyn ar fy nghais, peidiwch
a myned i'w plwyfau hwy." " Gwnaf yr
hyn a geisiwch genyf," ebe yntau, a
chadwodd ei air.
Gorchwyl hollol anmhosibl ydyw cof-
nodi llafur Mr. Jones am fwy na deugain
mlynedd, sef o'i ddyfodiad i Langan hyd
ei farwolaeth yn Manorowen. Nid oes
ddefnyddiau ar gael at orchwyl o'r fath.
Ond y mae yn dra amlwg iddo ef lanw ei
fywyd â gwaith, ac i'r Arglwydd mewn
modd neillduol goroni ei lafur â llwydd-
iant. Heblaw ei ymdrechion yn Nghymru,
llafuriodd yn gyson drwy ei oes yn nglyn
â chyfundeb yr larlles Huntington yn
Lloegr, ac yr oedd ei weinidogaeth mor
gymeradwy gan y Saeson, ag yr oedd gan
ei genedl ei hun. Cafodd
" Llundain boblog, falch, dcrfysglyd,
Glywed Uais ei bibcU ef ;
Cafodd wybod fod yn Ngliymru
üdyn oedd lawn o ddoniau'r Nef."
Nid gẁr o gyrhaeddiadau cyffredin a wnai
y tro yr adeg hono i bregethu i gynull-
eidfaoedd cyfundeb yr larlles ; yr oedd
llawer o honynt yn hufen cymdeithas, yn
bobl o ddysg a chwaeth. Casglwyd hwy
yn nghyd drwy hyawdledd yr anghymarol
Whitefield, ac yr oeddynt wedi cynefino à
doniau uchaf y pwlpud. Ymwelai Mr.
Jones yn aml â phrif eglwysi y prif dref-
ydd, ac yn amlach fyth a'r brif-ddinas.
CynuIIai y Saeson wrth y miloedd i'w
wrando, a dilynent ef o gapel i gapel tra
fyddai o fewn eu cyrhaedd. Yr oedd yn
meddu ar y fath helaethrwydd dawn, y
fath barodrwydd ymadrodd, a'r fath wres-
ogrwydd yspryd, fel y llwyr orchfygid pob
math o bobl gan ei weinidogaeth. Yn
ddiau, efe oedd un o'r pregethwyr mwyaf
poblogaidd yn ei ddydd. Byddai yn ym-
weled yn aml â Bryste, a phan fyddai yno,
yr oedd Dr. Rylands yn wastad yn gofalu
am gael odfa neu ddwy ganddo, a bron yn
ddieithriad byddent yn odfaeon tra Ilew-
yrchus. Arferai y Dr. parchedig ddweyd
wrtho yn chwarëus ar ddiwedd y gwasan-
aeth : " Dyma chwi eto, Jones, o Langan,
wedi Iladrata calon fy mhobl i, ac wedi
difetha fy ngwrandawyr am fis cyfan ; ni
cheir ganddynt wrando ar neb arall am
amser maith ar ol hyn." Pregethai am
wythnosau yn olynol yn Spa Fields Chapel,
Llundain, un o gapelau mwyaf y brif-
ddinas y pryd hwnw, ac yr oedd yn rhyf-
eddol o boblog. Gosodid ef i bregethu yn
mysg y Saeson ar yr uchel-wyliau, ac ar
amgylchiadau neillduol; a phob amser Ilan-
wai ddysgwyliadau y tyrfaoedd a dyrent
i'w wrando. Efe oedd y g\vr a gafodd yr
anrhydedd o bregethu pregeth angladdol
yr larlles Huntington, ac y mae yn ym-
ddangos mai efe oedd yr unig weinidog
a weinyddai ar y bendefiges urddasol hono
yn ei chystudd diweddaf. Yr ydym hefyd
yn cael i Gymdeithas Genhadol Llundain,
yn ei hail gyfarfod blynyddol, ei osod i
bregethu ar ei rhan, yn un o gapelau
mwyaf y brif-ddinas. Cymerodd hyn le,
Mai i^eg, 1796, dau fis cyn i'r fintai
gyntaf o genhadau hedd gael eu hanfon i
Ynysoedd Môr y Dê. Ceir yn yr adrodd-
iad o'r cyfarfod hwnw gyfeiriad fel yma
at bregeth Mr. Jones : " /\r ddydd Gwener,
gorphenwyd ein cyfarfodydd cyhoeddus,
gyda phregeth ragorol gan y Parchedig
Mr. Jones, o Langan. Y mae ei ddull a'i
yspryd ef yn rhy adnabyddus i wneuthur
unrhyw ganmoliaeth oddiwrthym ni yn
angenrheidiol." Cyhoeddwyd y bregeth
hon yn y gyfrol gyntaf o'r Missionavy
Sermons ; ac y mae yn engrhaifft dda o'i
ddullwedd ef. Darfu i Mr. T. Chapman,
Fleet Street, Llundain, gyhoeddi y
bregeth hon ar ei phen ei hun ; a
chyhoeddodd Mr. E. Grifíiths, Abertawe,
47°
Y TADAU METHODISTAIDD.
gyfieithiad Cymreig o honi yn y flwyddyn
1797.*
Ond os oedd y Saeson yn awyddu
am ei wrando, yr oedd yntau yn Uawn
mor barod i dalu ymweliadau â hwy,
o herwydd yr oedd yn gofahi i'r ymwel-
iadau hyny â chyfoethogion Lloegr fod
o ryw fantais i Gymru dlawd. Byddai
ganddo fynychaf achos rhyw gapel neu
ysgoldy yn Nghymru, ag yr oedd eisiau ei
adeiladu, neu eisiau talu am dano ; a daeth
â llawer swm da o arian y Saeson yn ol
gydag ef. Yr oedd ei olwg foneddigaidd,
ei ddull deniadol, a'i ddawn parod, yn
meddu y fath ddylanwad ar ei wrandawyr,
fel nas gallent atal eu rhoddion oddi wrtho.
Adroddai yr hen bobl lawer o hanesion
difyr am dano yn nglyn â' chasglu arian.
Rhoddwn yma esiampl neu ddwy. Dy-
gwyddodd fod Cymro un tro ar ymweHad
â Llundain, ac aeth i'w wrando yn pre-
gethu yn un o'r capelau Saesnig. Wrth
siarad ar y casghad ar ddiwedd y gwasan-
aeth, gollyngai y pregethwr holl ífrwd ei
hyawdledd ar draws y bobl, er mwyn eu
cynhyrfu i roddi. Teimlai y Cymro y
cwlwm rhyngddo a"i arian yn datod yn
gyflym, ac yn y man, nis gallodd ymatal
rhag gwaeddi allan yn iaith ei fam : " Mr.
Jones anwyl, ymatahwch, da chwi ! peid-
iwch a gwasgu yn dynach eto, onide bydd
raid i mi roddi y cwbl a feddaf, heb adael
fìyrhng i'm cario adref." Dywedir iddo
dro arall, yn yr un ddinas, ddefnyddio
hanes Petr yn bwrw ei fâch i'r môr, ac
yn cael o hyd i bysgodyn a darn o arian
yn ei enau, yn dra effeithiol. Boreu dran-
oeth, curai gwas boneddiges wrth ddrws
y llety, lle yr oedd yn aros, gan adael
basged yno gyda'r cyfeiriad : '■'■ To tìic
Rev. Mr. Jones, Walcs.'' Erbyn ei hagor,
wele bysgodyn ynddi a llythyr yn ei enau,
yn cynwys archeb am ddeg punt. Yr oedd
Mr. Jones yn gweled llaw yr Arglwydd
yn yr amgylchiad hwn mor amlwg ag y
gwelai Petr hyny yn ei amgylchiad ef.
Ond er ei ymwehadau mynych â thref-
ydd Lloegr, Cymru er hyny ydoedd prif
faes ei lafur. Ỳr oedd yr yspryd Cymreig
yn berwi yn ei wythienau, a chysegrodd
ei fywyd i wasanaeth ei genedh Nid oes
modd gosod trefn ar y teithiau aml a
meithion a gymerodd ar hyd a lled Cymru,
niwy nag y gelhd gwneyd y cyffelyb â
theithiau Wilhams, o Bantycelyn. Braidd
nad yw yr oll o'r hanes sydd genym am
* Llijfryddiadh y Cìjiìinj, 708.
Mr. Jones, o Langan, yn gynwysedig
mewn byr hanesion a geir am dano
yn nglyn â hanes boreuol ein heglwysi ;
rhywbeth a wnaed iddo, neu ganddo ; neu
ynte, rhyw ymadrodd tarawiadol a ddyfer-
odd oddiar ei wefusau. Hwyrach fod yr
adgofìon hyn yn gystal allwedd i'w gymer-
iad a dim a ellid ei gaeh
Yr ydym eisioes wedi dangos y modd y
darfu iddo orchfygu erledigaeth yr offeir-
iaid drwy ei ymddygiad gostyngedig a
pharchus o flaen yr esgob ; ac y mae
genym engrheifftiau lawer mai dyna oedd
ei ffordd arferol ef o gyfarfod anhawsderau
o'r fath. i Cawn ei fod un tro yn pre-
gethu yn Nolgellau, ac ar ganol yr odfa,
daeth rhyw un o'r dref, gan yru berfa-
olwyn {wheel-harrow), yn ol ac yn mlaen
trwy ganol y gynulleidfa, a pheri llawer o
rwystr i'r gwasanaeth. Y tro nesaf y
daeth Mr. Jones yno, yr oedd y g\vr
hwnw wedi cael ei draddodi, oblegyd rhyw
drosedd, i'r carchar, yr hwn oedd yn ymyl
y lle y safai y pregethwr arno. Mewn
canlyniad, yr oedd teulu y dyn wedi eu
darostwng i iselder a thlodi. Mynegwyd
hyn i Mr. Jones, yr hwn oedd yn wastad
yn barod i wneuthur cymwynas i'r trallod-
edig. Eghirodd yntau yr achos i'r gynull-
eidfa, dadleuodd dros y teulu tlawd yn
daer, gan ddeisyf ar rai o'r cyfeilhon fyned
â het o amgylch, i dderbyn ewyllys da y
bobl tuag at ddiwallu eu hangen. Effeith-
iodd yr ymddygiad caredig hwn o eiddo
Mr. Jones yn fawr i ddarostwng yr erled-
igaeth a ffynai yn y dref hono yn erbyn y
Methodistiaid.
Cofnodir yn Methodistiaeth Cymru y modd
y darfu iddo ragflaenu eríedigaeth yn
nhref Caernarfon. Yr oedd y Diwygwyr
boreuaf wedi derbyn triniaeth arw yno,
ac nid oedd sicrwydd y cai yr Efengylydd
o Langan wrandawiad. Modd, bynag,
meiddiodd ef ac ychydig gyfeiUion fyned
i'r heol, ac i gyfeiriad porth y casteU.
Esgynodd Mr. Jones i dròl oedd gerhaw,
ac ymgasglodd pobl ynghyd, rhai gyda'r
bwriad o derfysgu, rhai o gywreinrwydd, a
rhai, feallai, gydag amcanion gwelh Di-
osgodd y pregethwr ei gôb uchaf oddiam
dano, a gwelai y bobl fwy o foneddigeidd-
rwydd ynddo nag oeddynt wedi ddysgwyl
gael yn neb o'r pengryniaid. Yn awr, yr
oedd y gown du, y napcyn gwyn, a'r lapedau
ysgwar a ddisgynent ar ei fynwes, wedi
dyfod i'r golwg. Yr oedd peth fel hyn yn
t MctJiudistiucth Cymrii, oji. i. 5-11.
DAYID JONES, LLANGAN.
471
synu y bobl — gweled gŵr eglwysig yn ei
wisg glerigawl yn cyfarch dynion ar ymyl
y ffordd fawr ! Rhyw gynghorwr gwlad-
aidd, mewn diUad cyffredin, heb na phryd
na thegwch ynddo, oeddynt hwy wedi
ddysgwyl ; ond yn lle hyny, dyma fonedd-
wr, o wisgiad ac o ymddygiad, ger eu
bronau. Yr oedd yno un o leiaf a cherig
yn ei logellau, er clwyfo ac anafu, os nad
lladd y llefarwr ; ond llwfrhaodd pan
welodd mai offeiriad urddasol oedd yno, a
gollyngodd y cerig i lawr mewn cywilydd
o un i un. Yr oedd yn ysgafn wlawio ar
y pryd. Dechreuodd Mr. Jones gyfarch
y dyrfa mewn ymadroddion serchog, a
chyda thôn hollol hyderus, fel g\vr yn
teimlo ei hun yn nghanol ei gyfeilHon.
Yn fuan gofynodd, a wnai rhyw foneddwr
roddi benthyg gwlawlen iddo i gysgodi ei
ben rhag y gawod ? Ymddygiad lled eofn
ydoedd hwn, gan ŵr a wyddai ei fod mewn
perygl o dderbyn niwaid, ac nid cymwynas,
gan y rhai oedd o'i flaen. Ond gwnaeth
ef yr apêl yn ei ffordd serchog ei hun. Ar
darawiad, dyma un Mr. Howard, cyfreith-
iwr o ddylanwad mawr yn y dref, yn ym-
adael i gyrchu gwlawlen iddo ; a phan
ddaeth yn ei ol, estynodd hi i'r pregethwr
parchus. Derbyniodd yntau hi o'i law
gydag ystum foesgar, a chyda'r wên fwyaf
nefolaidd ar ei wynebpryd, a dechreuodd
ar ei bregeth trwy ddywedyd ei fod yn
teimlo mor gysurus dan y wlawlen a phe
buasai yn St. Paul, yn Llundain. Cafodd
berffaith lonyddwch i bregethu, yr hyn ni
chafwyd yno cyn hyny. Fel yma y gwnai
efe orchfygu drygioni â daioni ; ac y
pentyrai farwor tanllyd ar ben ei elyn.
Y mae yn ddiamheu ei fod yn bregethwr
rhyfeddol o enillgar a phoblogaidd. Yr
oedd ei draddodiad yn ddifai ; yr oedd pob
goslef ar ei lais, pob symudiad ar ei law,
pob ystum ar ei gorph, yn hoelio llygaid
pawb arno, fel yr oedd y gwrandawyr
mwyaf difater yn rhwyni o sylwi, a
gwrando yr hyn a draethid. Yr oedd yn
ardderchog o urddasol pan y byddai y
deigryn gloew yn treiglo dros ei ruddiau
hardd, ac yntau yn tywallt allan gynwys
ei galon fawr gynes. Ni welid dim gwrthun
un amser yn ei berson na'i ymddygiad,
dim i dynu oddiwrth effaith yr ymadrodd-
ion grasol a ddisgynai dros ei wefus. Yr
oedd yn ymadroddwr wrth natur. Byddai
pol) gair yn disgyn i'w le ei hun fel wrth
reddf. Ei ymadroddion oeddynt ddethol-
edig, a'i chwaeth yn bur. Byddai pob
math ü bubl yn cael eu swyno gan neilldu-
olrwydd ei ddawn, a melusder ei weinidog-
aeth. Gorchfygai y coeth a'r dysgedig,
fel yr anwybodus a'r anwrteithiedig ; ac yr
oedd pawb fel eu gilydd yn teimlo nerth
ei weinidogaeth. ''■'■ Cawn fod dynion, fel
Jack Jones, y cigydd, yn deall rhagor
rhwng Mr. Jones, o Langan, a phregeth-
wyr cyffredin. Dywedir i ni fod Mr. Jones
yn pregethu yn Rhuthyn ar y geiriau :
" Ni lefarodd dyn erioed fel y dyn hwn,"
o flaen tyrfa derfysglyd. Darllenodd ei
destun gyda llais cryf a gwyneb siriol, fel
arfer. Yr oedd rhywbeth tarawiadol yn
ei ymadroddion dechreuol. " Llefarodd
hwn Iygaid i'r deillion," meddai, " Ilefar-
odd hwn glustiau i fyddariaid, llefarodd
draed i gloffion, llefarodd iechyd i gleifion,
Ilefarodd gythreuliaid allan o ddynion, íe,
Ilefarodd fywyd i feirwon ; gall wneyd yr
un peth eto," l^'C. Jack Jones, y cigydd,
ydoedd blaenor yr erlidwyr yn y cyfarfod,
ond cafodd ei swyno gan rym y bregeth,
fel y dywedodd : " Ni lefarodd dyn erioed
fel tithau ychwaith, a myn d -I, mi
fynaf chwareu têg i ti lefaru, a phwy
bynag wnelo dim i ti, mi dalaf i'w groen
o." 1 Cawn ddarfod i hen wreigan dduwiol
yn Niwbwrch, yn Môn, ddangos awydd-
fryd am weinidogaeth Mr. Jones, Llangan,
ag sydd bron yn annghredadwy. Yr oedd
efe wedi bod yn pregethu mewn cymanfa
yn y lle hwnw. Pan oedd ar ddychwelyd,
aeth hen wraig, Annas wrth ei henw, i
ofyn addewid ganddo i ddyfod yno dra-
chefn. " Pa bryd, Mr. Jones bach, y
deuwch chwi yma eto ? " " Pan y deui
di, Annas, i Langan, i ymofyn am danaf,"
oedd yr ateb, gan dybied, hwyrach, ei fod
yn gosod telerau anmhosibl iddi. Ond
cydiodd yr hen wraig yn yr addewid,
a phenderfynodd fynecl i Langan. Yr
oedd ganddi gant a haner o fiUdiroedd i'w
cerdded, ac er nad oedd ganddi am ei
thraed ond clocs, nac yn ei Ilogell ond a
gardotai, nag at ei chynhaliaeth ond a
roddid iddi ar y ffordd, eto, cyn hir, cych-
wynodd ar ei thaith. Dyddorol fuasai
hanes y daith hon o eiddo Annas, a chael
gwybod yn mha leoedd y Iletyai ar y
ffordd, pa anhawsderau a"i cyfarfyddodd, •
pa sarugrwydd a gafodd oddiwrth rai, a
pha dosturi oddiwrth eraill ; ond nid oes
genym am y cwbl ond dychymyg. Ond
cyrhaedd Llangan a wnaeth, er mawr
syndod i Mr. Jones. Ryw ddiwrnod, wrth
Methodistiaeth Cymru, cyf. iii., tudal. 167.
MciltOiliÿíiactÌL Cijinru, cyf ii., tiidal. 50tí.
472
Y TADAU METHODISTAIDD.
edrych drwy ffenestr ei dỳ, fe ganfu yr
hen wreigan, a'i ffon yn un llaw, a'r cẃd
yn y llall, yn dyfod at y ty. Aeth i'w
chyfarfod, gan ddweyd : " Och fi ! Annas ;
a ddeuaist ti eisioes ? '' Y canlyniad a
fu iddi gael ei llawn wobrwyo am ei
llafur, canys cafodd addewid i gael tri o
Efengylwyr penaf eu hoes i Sir Fôn, sef
Jones, Llangan, Rowland, Llangeitho, a
Llwyd, o Henllan. Bu y gwýr hyn yn
ffyddlon i'w haddewidion, a chafodd Môn
cyn hir fedi ffrwyth oddi ar y maes a
hauodd Annas dlawd.
Gelhr nodi yn y fan hon y ffaith mai
dan weinidogaeth Mr. Jones yr argyhoedd-
wyd i fywyd y seraph bregethwr, Robert
Roberts, o Glynog. Dengys hyn mor
orchfygol oedd ei weinidogaeth ar feddyhau
a chalonau gwahanol. Cymerodd hyn le
mewn odfa a gynhahwyd yn Mrynyr-
odyn, yn agos i Gaernarfon. Ei destun
oedd y geiriau : " Trowch i'r amddiffynfa,
chwi garcharorion gobeithiol," &c. Hysbys
yw i Mr. Roberts ddyfod ar ol hyn yn un
o addurniadau penaf y pwlpud Cymreig ;
yn un ag oedd yn anhawdd cael neb a ym-
gymerai i gydbregethu ag ef mewn Cym-
deithasfaoedd." Yn bur fuan wedi i Robert
Roberts ddechreu pregethu, yr ydym yn
cael ddarfod iddo gael ei enwi i gyd-
bregethu â Mr. Jones mewn Cymdeithasfa
a gynhaliwyd yn rhywle yn y Deheudir.
Pregethodd Robert Roberts gyda grym
anarferol, nes gorchfygü y gynulleidfa.
Ar ei ol cyfododd Mr. Jones, a dygwydd-
odd — fel y dygwydd yn fynych ar ol
effeithiau grymus gyda'r bregeth gyntaf —
fod yr ail bregeth braidd yn drymaidd a
dieffaith. Boreu dranoeth, cynhehd cyfar-
fod neillduol — cyfarfod y pregethwyr wrth-
ynt eu hunain, y mae'n debyg. Mater
y cyfarfod hwn oedd " Hunan." Tra yr
oedd amryw yn traethu ar y drwg, a'r
perygl o fod egwyddor hunanol yn ein
llywodraethu gyda gwaith yr Arglwydd,
sylwid fod Mr. Jones yn aflonydd, fel dan
ryw gynhyrfiadau mewnol, yn codi ac yn
eistedd, ac weithiau yn cerdded yn ol ac
yn mlaen hyd lawr y capel. O'r diwedd,
gofynodd y llywydd : " Yn awr, Mr. Jones,
dywedwch chwithau dipyn ar yr hunan
yma." Atebai yntau yn gyffrous : " Na
'wedaf fi ddim 'nawr ; ond ewch chwi
'mlân, frodyr anwyl ! Ewch yn 'mlân,
dahwch ati, ymosodwch arno, peidiwch a'i
Ci'fiaiit Eohert Eoberts, gan Dr. rarry, Carno,
tudal. 13.
arbed, waith/í*/» agos iddo'in lladd i neithiwr,
wrth weled ' Robin bach o'r North ' wedi
myn'd gymaint tu hwnt i fi." Cofnodir yn
Mctìiodistiacth Cymrn hanes pur gyffelyb
i'r un uchod am Mr. Jones, pan yn cyd-
bregethu â Hugh Pritchard, clochydd
Llanhir-yn-Rhôs, o Sir Faesyfed. Yr oedd
y gŵr hwnw yn glochydd yn yr Eglwys
Sefydledig, ac yn gynghorwr gyda'r
Methodistiaid. Dygwyddodd fod Hugh
Pritchard y tro yma hefyd yn pregethu
o flaen Mr. Jones mewn Cymdeithasfa yn
y Deheudir, ac i'r cyntaf gael mwy o hwyl
i bregethu na'r olaf. Craffodd Mr. Jones
ar hyn, ac mewn llythyr at gyfaill cyfeiriai
at y tro yn y dull ftraeth ag oedd mor
briodol iddo : " A wyddoch chwi pwy
ddarfu 'nhwy gyplysu yn y gymanfa a'r hen
offeiriad penllwyd ? — clochydd Llanhir, os
gwelwch yn dda. Ac os dywedir y cyfan,
y mae yn rhaid addef i'r clochydd guro y
'ffeirad o ddigon ! "
Nid ydym yn cael i Mr. Jonesdanw Ile
mor fawr yn nghynadleddau y Cyfundeb
ag a allasem ddysgwyl. Gwnaeth wasan-
aeth i'r Cyfundeb nas gellir byth ei
fynegu ; ond yn y pwlpud y cyflawnodd
efe y gwasanaeth hwnw, yn hytrach nag
yn nghynadleddau y Cymdeithasfaoedd,
a'r Cyfarfodydd Misol. Bu yn gadeirydd
y Gymanfa lawer gwaith, yn enwedig
gwedi marwolaeth Daniel Rowland ; ond
prin y gellir dweyd ei fod wedi profi ei
hun yn arweinydd medrus mewn amser-
oedd o derfysg ac anghydfod. Mab tang-
nefedd oedd efe, ac yr oedd yn rhy dyner
ei deimlad i fod yn arweinydd dyogel mewn
amseroedd cyffrous ac enbyd. Eto, meddai
ar lawer o gymhwysderau arweinydd. Yr
oedd yn ŵr amyneddgar a phwyllog, o farn
addfed, yn gyflawn o synwyr cyffredin, ac
yn garedig tuag at bawb ; ond yr oedd
hytrach yn ddiffygiol mewn gwroldeb.
Pe buasai yn fwy uchelgeisiol nag ydoedd,
ac o feddwl mwy penderfynol, gallasai yn
hawdd ddyfod yn brif arweinydd y Cyf-
undeb ar ol marwolaeth Daniel Rowland,
a W. WiIIiams, Pantycelyn ; o herwydd
prin y mae lle i amheuaeth mai efe ar y
pryd oedd y mwyaf ei barch a'i boblog-
rwydd. Ond yr oedd yn rhy Iwfr ei
yspryd, ac yn rhy dyner ei deimlad i
arwain. Nid ymddengys iddo gymeryd
rhan gyhoeddus yn y ddadl yn nglyn â
golygiadau athrawiaethol Peter WiIIiams ;
a dangosodd gryn wendid yn adeg di-
arddeliad Nathaniel Rowland, a hefyd yn
y ddadl ar ordeiniad gweinidogion yn
DAVID JONES, LLANGAN.
473
niwedd ei oes. Yn sicr, nid g\vr o
ryfel oedd efe, ond mab tangnefedd yn
hytrach.
Pregethwr yn ddiau ydoedd Mr. Jones,
o Langan, a braidd na ddywedem mai
pregethwr yn unig ydoedd, gan mor fawr
oedd ei ddoniau gweinidogaethol. Yr oedd
ei allu i bregethu Crist yn cysgodi pob
dawn arall a feddai, ac yn cuddio pob
gwendid a diffyg a berthynai iddo. Os mai
prin y cymerodd efe y rhan ddyladwy yn
nadleuon y Methodistiaid yn ei ddydd,
gwnaeth anrhaethol fwy o wasanaeth i
grefydd ein gwlad, yn y rhan íîaenllaw a
gymerodd yn y diwygiadau mawrion a
ymwelasant â Chymru. Cawn i gynifer a
phump o ddiwygiadau grymus gymeryd lle
yn ystod ei fywyd cyhoeddus ef. Torodd
y cyntaf allan yn 1773, tua phum' mlynedd
wedi i Mr. Jones ymsefydhi yn Llangan,
a'r olaf o honynt yn 1805, bum' mlynedd
cyn ei farw, Pwy all fesur y gwasanaeth
a gyflawnodd efe yn nglyn a"r diwygiadau
hyn ? Gwell oedd gan yr Efengylydd o
Langan bregethu Crist i bobl wresog
yn yr yspryd ar adeg o ddiwygiad, na
chyndyn ddadleu yn ngylch athrawiaethau
crefydd. Hyfryd y desgrifiad a rydd
Thomas WiUiams, Bethesda-y-Fro, ohono,
onide ? : —
" lacliawdwriaeth i bechadur,
Trwy rinweddau angau'r groes,
Oedd o hyd ei destun hyfryd,
Cy'd y parodd hyd ei oes ;
Fe ymdrechodd, fe ymdreuliodd,
Fe lafuriodd tra fu byw,
Nes cyflawni'r weinidogaeth
A ro'w'd iddo gan ei Dduw.
Un o'r manau, byth mi gofìa',
Gwelais i ef gynta' gyd,
Yn cyhoeddi gair y cymod
I golledig anwir fyd ;
lesu'n marw, lesu'n eiriol,
Diwedd byd a boreu'r fä,rn,
Oodd ei araetlî o flaeii canoedd
Wrth hen gapel Talygarn.
Dyddiau hyfryd oedd y rhei'ny,
Pan oedd Rowland uchel ddysg,
Peter ffyddlon, William Wiihams,
Llwyd a Morris yn cu mysg ;
Jones fel angel yn Jjlangana
Yn udganu'r udgorn mawr,
Nes bai'r dorf mewn twymn serchiadau
Yn dyrchafu uwch y llawr.
Jlinau yno'n un o'r werin
(Er mai'r annheilynga'i gyd),
Tan y bwrdd yn bwyta'r briwsion,
(O mor hyfryd oedd fy myd I )
Torf yn bwyta'r Viwydydd brasa',
Gwin a manna, nefol faeth,
Wrth y fron ro'wn iuau'a chwcrthin,
Tra'n ymbortlji ar y llacth.
Beth sy' fater, nid oes ronyn,
Ond i ni gael blasus fwyd,
Beth fo gwisg y gẁr a'i rhano,
Brethyn glâs, neu brethyn llwyd ;
Neu ynte frethyn du, a'i guddio
Drosto gyda Uian gwyn ;
Byddwn gallach o hyn allan,
Nag ymryson yn nghylch hyn.
Ni gymunwn yn yr eglwys,
Lle sancteiddia' sydd yn bod,
Neu mewn teiau na thywalltwyd
Olew sanctaidd yno erioed ;
Ac na ddigied meibion Levi,
Plant yr offeiriadaeth wèn,
I ni dderbyn gan rai na fu
Llaw un esgob ar eu pen."
Gresyn na chawsem farwnad i Mr. Jones,
o Langan, gan y prif Farwnadwr. (Jnd yr
oedd hyny yn anmhosibl, gan i W'ilhams
ei ragflaenu i'r byd tragywyddol o gylch
ugain mlynedd. Er hyny, y mae gan y
Bardd o Bantycelyn gyfeiriad neu ddau
ato yn y marwnadau a ysgrifenodd efe i
bobl eraill, sydd yn werth eu coffhau.
Yn ei farwnad i Mrs. Grace Price, o'r
Watford, dywed : —
" Yn Llancjan, o dan y pwlpud,
'II oedd ei hyspryd, 'r oedd ei thre',
Tra f'ai Dafijdd yno'n chwareu
'N beraidd ar delynau'r ne' ;
lesu'r Text, a lesu'r Bregeth,
lesu'r Ddeddf, a lesu'r Ffydd,
Meddai Jones, a hithau'n ateb —
Felly mae, a Felly bydd ! "
Yn gyffelyb y mae yn ei farwnad i Daniel
Rowland, yn cyfarch ei fab, Nathaniel,
fel yma : —
" Bydd yn dad i'r Assosiasiwn,
Ac os teimli'th fod yn wan,
Ti gai lielp gwir efengylwr,
Dafydd onest o Langan ;
Dodd y cerig a'i ireidd-dra,
A thrwy rym ei 'fengyl fwyn,
Wna i'r derw mwyaf caled
Blygu'n ystwyth fel y brwyn."
Y mae pob cyfeiriad ato, a wneir gan
ysgrifenwyr yr amseroedd hyny, yn gwbl
gydfynedol. Wrth son am dano, dywed
Robert Jones, Rhoslan, yn Nhrych yv
Amseyoedd, eiriau fel yma : " Byddai yn
hyfryd chwareu tanau telyn auraidd yr
efengyl, nes y byddai llawer credadyn
Uwfr yn barod i lamu o lawenydd." Ac y
mae tystiolaeth y galluog Christmas Evans
fel hyn : " Bu gwrando Dafydd Morris,
Jones, o Langan, Davies, o Gastellnedd,
a Peter Williams, o ddefnydd mawr i mi
tuag at fy nwyn i ddeall gras Duw trwy
gyfryngdod, heti ddim haeddiant dynol."
Ceir crybwylhad parchus iawn o hono
yn Nghojìüiií Johii Joiws, Talysayu, gan y
474
Y TADAU METHODISTAIDD.
diweddar Dr. Owen Thomas. Dywed :
" Fel pregethwr, y mae yn ddiamheuol ei
fod yn un hynod iawn. Cyfrifid ef y
mwyaf toddedig o'r hoU hen dadau. Nid
oedd neb yn gyffelyb iddo yn hyny, ond
Mr. Evan Richardson, o Gaernarfon.
Efengylwr yn arbenig ydoedd. Nid oedd
dim o'r ' gwynt nerthol yn rhuthro ' yn ei
weinidogaeth ef ; ond y ' deheuwynt ' tyner
' yn chwythu ar yr ardd,' ac yn peri iddi
' wasgar ei pheraroglau.' Yr ydym yn
cofio clywed ein hanwyl hen fam yn
dywedyd am dano, ei fod yr un fath yn
gwbl a'r adnod hono : ' Fy athrawiaeth
a ddefnyna fel gwlaw ; fy ymadrodd a
ddifera fel gwhth ; fel gwhth-wlaw ar ir-
wellt, ac fel cawodydd ar laswellt.' Yr
ydym yn cofio clywed y diweddar Mr.
Michaei Roberts, o Bwllheh, yn dywedyd
wrthym am y tro cyntaf iddo ef, pan yn
fachgen pedair-ar-ddeg oed, fyned i Gym-
deithasfa y Bala, yn y flwyddyn 1794,
fod Mr. Jones yn pregethu yno gyda'r fath
hwyl ac effeithiau, nes oedd yr holl gynuU-
eidfa yn foddfa o ddagrau ; a Ihaws, yn
methu ymatal, wedi tori i orfoledd mawr.
' Yr oeddwn yn edrych arno,' meddai, ' fel
pe buasai yn angel Duw. Yr oedd yn
ymadael ar ol odfa y boreu, ac yr oeddwn i
wedi niyned at áy Mr. Charles i'w weled yn
myned ymaith ; ac yr wyf yn cofio yn
dda fod Mr. Charles yn dyfod allan o'r
tŷ gydag ef ; a phan yn ysgwyd llaw wrth
ítarwelio, a'r dagrau yn treiglo dros ei
ruddiau, yn dywedyd wrtho : Brysiwch
yma eto, da chwi, Mr. Jones bach, gael i ni
gael ein bedyddio a'ch gweinidogaeth.' "
Treuhodd Mr. Jones yr un-mlynedd-ar-
bymtheg diweddaf o'i fywyd yn Manor-
owen, lle o fewn dwy filltir i Abergwaun,
yn Sir Benfro. Achlysurwyd y symudiad
hwn gan briodas a gymerodd le rhyng-
ddo ef a Mrs. Parry, gweddw gyfrifol a
pharchus a drigianai yno. Yr oedd y
foneddiges hon yn chwaer i Mr. Gwynne, o
Kilkifeth, gŵr cyfoethog, yn hànu o deulu
cyfrifol yn yr ardal, yr hwn oedd yn berch-
enog amryw o ffermydd, ac yn trin y tir
lle yr oedd yn byw arno. Ystyrid fod ei
chwaer, Mrs. Parry, hefyd, mewn am-
gylchiadau tra chysurus. Teulu caredig
a chymwynasgar i'r Methodistiaid a fu
teulu Kilkifeth drwy y blynyddoedd, a
buont yn dal côr yn nghapel Abergwaun
am flynyddau lawer. Wedi marwolaeth
ei gẃr, yr oedd Mrs. Parry yn cyfaneddu
yn mhalasdy Manorowen, ac yn amser ei
hunigrwydd, yr oedd Miss Gwynne, merch
ei brawd, yn byw gyda hi. Y foneddiges
ieuanc hon a ddaeth mewn amser ar ol
hyn yn wraig i'r Parch. Thomas Richards,
Abergwaun. Mae pob lle i gredu i briodas
Mr. Jones â Mrs. Parry, o Manorowen,
fod yn fanteisiol iawn iddo yn niwedd ei
ddydd, ac yn ychwanegiad mawr at ei
gysuron. *Adrodda Mr. Morgan, Syston,
hanesyn difyr iawn am dano a ddygwydd-
odd yn fuan wedi ei ail briodas. Pan yr
oedd ar gychwyn ar daith bregethwrol,
cafodd Mr. Jones fod ceffyl golygus iawn
yn ei aros. Aeth ar gefn yr anifail, ac
wedi marchogaeth am beth amser, trodd i
edrych o'i gwmpas, a gwelodd fod gwas
mewn dillad smart iawn yn marchogaeth y
tu ol iddo, yn ol arfer boneddigion. Dych-
welodd yn union, gan orchymyn i'r gwas
i aros. Pan gyrhaeddodd y t\', disgynodd,
a gofynodd i Mrs. Jones : " Mary, paham
y darfu i chwi ddanfon y bachgen acw i fy
nganlyn i?" Yr ateb a gafodd oedd :
" Am ei fod yn edrych yn respedable, Mr.
Jones." " O ! " ebe yntau, " y mae yn well
i chwi adael hyny i mi. Yr wyf wedi
teithio miloedd o filltiroedd ar wasanaeth
fy Nhad Nefol, heb fod neb yn fy nghan-
lyn." Yna, gofynodd iddi gyda gwên
serchog : " Beth a ddywed fy nghyfeiUion
am beth fel hyn ? Hwy gredant yn sicr
ddigon fod yr hen Jones, o Langan, wedi
myned yn falch. Na, gwell peidio bod yn
rhodresgar. Mi ddanfonaf y bachgen yn
ol i weithio ar y ffarm." Ac felly y bu.
Parhaodd i ddal bywioliaeth Llangan hyd
ddiwedd ei oes, er ei fod yn cartrefu yn
Manorowen. Arferai dreulio tua thri mis
yn yr haf yn Llangan, a phresenoli ei
hun yn yr eglwys ar Sul y cymundeb, bob
mis o'r flwyddyn, nes y daeth henaint a
llesgedd i wasgu yn rhy drwm arno. Ac yr
oedd Llangan yn agos at ei galon hyd y diw-
edd. Ysgrifena ar y igeg o Ebrill, 1,808, o
fewn dwy flynedd i'w farwolaeth : " O'r
diwedd, yr wyf wedi cyrhaedd y sir hon, yn
yr hon y mae fy mhrif hyfrydwch. Ü Lan-
gan ! Bendigedig yr Arglwydd ! Cafodd fy
enaid yn aml wledda o'th fewn di ! Mae fy
nghyfeillion yn parhau yn eu caredigrwydd
arferol tuag ataf, ac yr wyf yn berífaith
ddedwydd yn eu cymdeithas hwy. Bell-
ach, yr wyf yma er ys pump wythnos, ar ol
gauaf cystuddiol iawn, yn Manorowen."
Bendith fawr i Benfro fu symudiad Mr.
Jones yno. Yr oedd Nathaniel Rowland
erbyn hyn wedi cymeryd gofal yr eglwysi
* Ministcrial Rccurds, iii. 154.
DAVID JONES, LLANGAN.
475
a blanwyd gan Howell Davies ; ac yr
oedd yn eu Uywodraethu á gwialen haiarn.
Ni wnai efe bregethu yn nghapel Aber-
gwaun ; yn y llan y pregethai yn wastad ;
a gweinyddai y sacramentau mewn tŷ
anedd. Gorphwysai gwneyd felly yn fwy
esmwyth ar ei gydwybod ef na gweinyddu
y cymun sanctaidd yn y capeî. Pan y
ceisiwyd ganddo bregethu yn y capel,
yn hytrach nag yn y llan, dywedodd yn
bendant na wnai hyny byth, a chadwodd
ei air. Ond yn mhen amser, dygodd Mr.
Jones gyfnewidiad o amgylch, Cafodd
ganiatad mewn Cymdeithasfa yn Llan-
geitho, yn y flwyddyn 1802, i weini yr
ordinhadau yn nghapel Abergwaun, fel y
gwnelid mewn capelau eraiU yn íìaenorol.
Bu yn ofiferynol i estyn yr un fraint i
eglwys Caerfyrddin, dan amgylchiadau
pur neillduol a chyffrous. Darfu i Mr.
David Charles, mewn Cymdeithasfa yn
nhref Caerfyrddin, anturio gofyn am y
fraint o gael gweinyddiad o Swper yr
Arglwydd yn yr eglwys hono. " Mae yr
eglwys yn y lle hwn," ebe fe, " wedi
gosod arnaf i ofyn drostynt, a gânt hwy y
fraint o wneyd coffa am farwolaeth eu
Prynwr ? " I hyn yr atebodd Nathan-
iel Rowland yn dra awdurdodol : " Na
chewch ! — mae capel Llanlhian yn ddigon
agos." Yr oedd tua deng miUdir o ffordd
i hwnw, Ond ni chymerodd David Charles
yr ateb byr a thrahaus hwn fel un terfynol.
" Unwaith eto," ebe fe, " yr wyf yn gofyn
a gawn ni y fraint hon ? Yr ydym yn
cael pregethu Crist, yn cael ei broffesu,
yn cael credu ynddo — a gawn ni goíìo
iddo farw drosom ? " " Na chewch, yn y
lle hwn," atebai Nathaniel Rowland, yr
ail waith. " Nid i chwi yr archwyd i mi
ofyn," ebe David Charles, " ond i'r Gym-
anfa." Ar hyn, methodd Jones, o Langan,
ag ymatal, a gwaeddodd allan : " Cewch ! "
Yna, cyfarchodd Mr. Charles mewn ym-
adroddion cyfeiUgar ac agos : " Pa bryd
wyt ti am gael hyny, Deio bach ? Mi
ddof fi i'ch helpio chwi i gofio am dano."
Ac felly y bu.
Nid oes lle i amheu fod Mr. Jones yn
rhyfeddol o ymlyngar wrth y Methodist-
iaid hyd derfyn ei ddydd. Parhaodd yn
offeiriad yn yr Eglwys hyd y diwedd, mae
yn wir, ond yr oedd yn fwy o Fethodist
nag ydoedd o Eglwyswr, a'i farnu yn deg
wrth y bywyd a dreuhodd. Pan symudodd
i Manorowen, daeth o fewn cylch dylanwad
clerigwyr, ag oeddynt yn llawer mwy ym-
lyngar wrth yr Eglwys nag ydoedd efe ei
hun. Yr oedd David Griffiths, Nevern,
a Nathaniel Rowland, yn llawer mwy cul
nag efe. Tra yr oeddynt hwy yn ceisio
gosod y Methodistiaid dan lawer o anghyf-
leusderau, yr oedd yntau wedi gweithredu
yn wahanol dros ystod ei fywyd maith.
Ond pobl o benderfyniad anhyblyg, ac o
ewyUys gref, oedd offeiriaid Methodistaidd
Sir Penfro, ac y mae yn ddigon posibl
iddynt ddylanwadu yn niweidiol ar feddwl
Mr. Jones. Nid ydym yn golygu yn y fan
hon, i ddwyn i sylw y rhan a gymerodd efe
yn nglyn ag ordeiniad gweinidogion ; cawn
gyfeirio at hyny eto.
Nis gelhr dweyd fod Mr. Jones wedi
cyfoethogi llawer ar lenyddiaeth ei wlad.
Nid ystyriai efe ei hun yn llenor, ond yn
yr ystyr ag y mae pob gweinidog ag sydd
yn cyfansoddi ei bregethau ei hun felly.
'■'■'■ Cyhoeddwyd ganddo, yn y flwyddyn
1784, gofiant i Mr. Christopher Basset,
dan y teitl : " Llythyr oddiwrth Dafydd
ab loan, y Pererin, at loan ab Gwilym, y
Prydydd, 'yn rhoddi byr hanes o fywyd a
marwolaeth y Parchedig Mr. Christopher
Basset, Athraw yn y Celfyddydau, o Aber-
ddawen, Sir Forganwg. Argraffwyd yn
Nhrefecca." Nid oes le i amheuaeth
mai Jones, o Langan, oedd Dafydd
ab loan, y Pererin, ac mai Mr. John
Wifliams, St. Athan, awdwr yr emyn
adnabyddus : —
" Pwy welaf o Edom yn dod," &c.,
ydoedd loan ab Gwilym, y Prydydd. Cy-
hoeddwyd ei bregeth angladdol i'r larlles
Huntington yn y flwyddyn 1791, a'r bre-
geth a draddododd yn Spa Fields Chapel
ar ran y Gymdeithas Genhadol yn 1797.
Y mae atnryw dalfyriadau o'i bregethau
wedi eu cyhoeddi yn y cyfnodolion mewn
amseroedd diweddarach.
Yr ydym, bellach, yn dyfod at derfyn
bywyd y gweinidog ffyddlawn hwn. Gallai
arfer geiriau yr apostol : " Mi a ymdrech-
ais ymdrech deg, nii a orphenais fy nghyrfa,
mi a gedwais y ffydd." Yn mlynyddoedd
olaf ei fywyd, yr oedd ei iechyd wedi
dirywio yn fawr, y babell bridd yn ym-
ollwng, ond ai o gylch i bregethu cyhyd
ag y medrai. Yniwelodd â Llundain o
fewn dwy flynedd i'w farwolaeth. Yn
ystod ei afiechyd olaf, carai dreulio ychydig
wythnosau yn ardaloedd Llangan, ei hen
gartref. Y mae yn ysgrifenu oddi yno dri
mis cyn ei farw : " Yr wyf yn gobeithio
'' Llyfrìjddiartìi y Cyinry, tudal. Giy.
476
Y TADAU METHODISTAIDD.
aros yma hyd y Sulgwyn ; ac os oes rhyw-
beth ag y gallaf wneyd erddoch, mi a'i
gwnaf, hyd eithaf fy ngallu. Y mae
genyf hiwer o bethau ag y carwn eu dweyd
wrthych, pe bai genyf amser i ysgrifenu,
ond yr wyf o hyd yn brysio o fan i fan.
Yr wyf yn awyddus am eich gweled, ond,
fy anwyl gyfaill, chwi ryfeddech fel yr wyf
wedi cael fy nhori i lawr. Bu y gauaf
diweddaf yn brofedigaethus iawn i mi.
Cefais fy mUno gan y gont, nes fy nwyn i
ymyl y bedd. Cefais ymosodiadau enbyd
o'r anhwylder yn fy ngylla, ond dyma fi
yn golofn o drugaredd yr Hollalluog, ac
yn cael codi fy mhen i fynu eto ! Y fath
ddyledwr wyf i ras y nefoedd. Yr wyf yn
awr yn ceisio gwasgu fy nghrefydd i un
pwynt yn unig — Crist yn oll. Felly, yr
wyf yn myned yn mlaen i orphen fy
nhaith ar y ddaear, yr hon sydd yn fyr ac
yn ddrwg. Crediniaeth yn yr lesu ydyw
mêr fifydd. Nis gallwn byth ymddiried
gormod ynddo ef. Gall achub hyd yr
eithaf. Anwyl lesu ! gwna ni yn eiddo i ti
byth ! " Pregethodd Jones yn Llangan y
Sulgwyn hwnw, a gweinyddodd y cymun
am y tro diweddaf.
O Langan y cychwynodd efe ar ei daith
ddiweddaf. Ymadawodd a'r lle, fel y
bwriadai, ddydd Mawrth ar ol y Sulgwyn,
ac aeth ar hyd Hnell union tua Llan-
geitho, lle yr oedd Cymdeithasfa i gael
ei chynal, taith o tua deg-a-thriugain o
fiUtiroedd, gan bregethu ar y fFordd, fel
yr arferai wneyd. Cyrhaeddodd Lan-
geitho yn nechreu mis Awst. Pregethodd
yn y Gymdeithasfa yn ogoneddus o flaen
y miloedd oddiar y geiriau : " Canys fy
nghnawd i sydd fwyd yn wir, a'm gwaed i
sydd ddiod yn wir." Pan oedd y cynulHad
drosodd, cychwynodd Mr. Jones, a'i was
oedd yn gofaUi am dano, tua Manor-
owen, ond torodd y siwrnai ar y ffordd, a
phregethodd eilwaith yn y Capel Newydd,
Sir Benfro, ar y geiriau : " Deuwch
yr awr hon, ac ymresymwn, medd yr
Arglwydd ; pe byddai eich pechodau fel
ysgarlad, ânt cyn wyned a'r eira, pe
cochent fel porphor, byddant fel gwlan."
Hon oedd ei bregeth olaf. Cyrhaeddodd
ei gartref, yn Huddedig, dydd Gwener, y
lofed o Awst. Teimlai fod ei ymadawiad
beUach gerllaw. Ymwelwyd ag ef dydd
Sadwrn gan y Parch. Thomas Harris, o
Wotton-under-Edge, gynt o Benfro. Yn
ystod yr ymddiddan ag ef, tynodd aHan ei
logell-lyfr, a darHenodd Esay xlv. 24 :
" Diau yn yr Arglwydd, medd un, y mae
i mi gyfiawnder a nerth." Yr oedd wedi
ysgrifenu yr adnod fehis hon ar ei lyfr y
dydd lau blaenorol. " Hon sydd genyf,
anwyl Harris," ebe fe, " ac y mae yn
ddigon i fy nerthu i wynebu y byd araH
wrth fy modd." Yn y prydnawn, dywed-
wyd wrtho fod y cyfeiHion wedi ei gyhoeddi
i bregethu yn Woodstock y dydd canlynol.
" Y maent yn ëofn iawn arnaf," meddai
yntau, " ond nid yn fwy felly na'r groes-
aw ; os byddaf yma, amcanaf fyned tuag
yno." Nos Sadwrn, dywedai wrth un o'r
morwynion : " Lettice fach, mae yma
loned y tŷ o weision Hfrau y nef wedi
dyfod i gyrchu fy enaid tuag adref. Os
tarewi wrth rai o'u hesgyll, paid a chym-
eryd ofn, da merch i." Cyn toriad y
wawr, boreu Sabbath, y i2fed o Awst,
1810, yn bymtheg-a-thriugain mlwydd
oed, hunodd yn yr lesu, a chladdwyd ef
yn mynwent Manorowen. Ac ysywaeth,
canlynwyd ef yn mywioHaeth Llangan
gan \Vr o yspryd hoHol wahanol, heb ddim
cydymdeimlad â Methodistiaeth ; a rhodd-
odd hyn ben ar unwaith ar y cyrchu i'r
eglwys. Meddai Thomas Williamseto: —
" 'Nawr mae eglwys fach Llangana
Wedi newid oll yn lân,
Porfa las yn awr sy'n tyfu
Ar y fíordd oedd goch o'r blaen ;
Muriau'r llan oedd oU yn echo,
Yn ateb bloedd y werin fawr,
'D oes na IJef, na Uais, nac adsain,
Idd ei glywed yno'n awr."
DAVID JONES, LLANGAN.
477
HANES Y DAELUNIAU.
Mae hanes darlun David Jones, o Langan, yn
ddigon syml. Copi o'r darlun cyntaf a ym-
ddangosodd o hono ef yw yr un sydd yn addurno
y gwaith hwn. Y mae y darlun ei hun yn myn-
egu ei hanes. Paentiwyd ef gan Mr. R. Bowyer,
Miniature Painter i'r Brenhin Sior y III. Y'r
oedd Mr. Bowyer yn gristion hardd, yn gystal ag
yn gelfyddgar yn ei alwedigaeth, ac yr oedd ar
delerau cyfeillgar iawn à I\Ir. .Jones. DarUm wedi
ei fwriadu i'w fíramio ydoedd liwn, ond nid oedd
nemawr yn fwy o faiutioli na'r copi a geir yn
nlieclireu y benod hon. Gwelir fod arfbais (Coat of
Arms) ]Mr. Jones, wedi ei gosod o dan y darlun, sef
oenyn cario croes, ac yn sathru'r sarph dan ei draed,
a'r gair Gorphenwyd oddi tanodd. Uwch ben, y
mae darlun o golomen Noah, a'r ddeilen olew-
ydden yn ei chilfyn. Cyhoeddwyd y darlun hwn
yn y flwyddyn 1790, pan yr oedd efe yn 55
mlwydd oed.
Yn mhen wyth mlynedd wedi cyhoeddiad y
darlun uchod, ymddangosodd un o Mr. Jones yn
y Gospel Magmine. Y mae yn sicr mai yr un
darlun yn hollol ydyw hwn a'r un blaenorol. Y'r
unig wahaniaeth rhyngddynt ydyw, fod y Coat of
Arms wedi ei gadael allan yn y Gospel Magaziìie.
Ymddangosodd darlun eto o hono yn yr Evan-
gelical Magazíne, am Chwefror, 1807, tua phedair
blynedd cyn marwolaeth ]\Ir. Jones. Nid yr un
darlun ydyw hwn. Gwnaed y ddau gyntaf oddi ar
ddarlun Mr. Bowyer, a cherfìwyd ef ar ddur gan
Mr. Fittler ; ond cerfiwyd yr olaf hwn gan Meistri
Ridley & Blood. Gadawyd allan y Coat of Arms
yn y darUm hwn hefyd. ìlae tebygolrwydd mawr
rhwng y darluniau hyn, ac y mae yn amlwg mai
darlun Mr. Bowyer ydoedd cynllun pob un o
honynt. Y mae pob lle i gredu fod darluniau
Mr. Jones, o Langan, yn bortead cywir o hono ef.
Nid yw y darluniau eraill yn y benod hon yn
galw am unrhyw eglurhad.
PENOD XX.
WILLIAM DAYIES, CASTELLNEDD ; DAFYDD MORRIS, TWRGWYN ;
A WILLIAM LLW^YD, O GAYO.
Wiìliam Davies yn Jiaiiii o Siy Gaerfyyddin — Ei ddyfodiad i Gastellnedd — Ei bohlogrwydd —
Yn colli ei guiüyadiaeth — Adneivyddu capel y Gyfylchi iddo — Bayn Hoîiell Hayris am dano
— Odfa yyfedd yn Llangeitho — Y tair chwaer — Ei farivolaeth — Boyeu oes Dafydd Moryis —
Dechreu pregethu yn ìenanc — Meddwl uchel Rowland am dano — Swyn ei lais — Yn symud i
Dwrgîvyn — Yn teithio Cymru — Pyegeth y golled fawr — Ceryddu hlaenoy sarug — Amddiffyn
Lleîe/elyn John — Dafydd Morris fel emynydd — Marwolaeth ei ivraig — Ei fanvolaeth yntau
— Hamad WiUiam Llwyd, o Gayo — Ei aygyhoeddiad — Ei ymuniad a'y Methodistiaid — Yn
dechyeu ỳyegethu — Hynodywydd William Llwyd — Nodwedd ei ìi'einidogaetìi — Ei faywol-
aeth.
^WjTí^IS gallwn lai na datgan ein gofid o
(>'£^p herwydd fod amryw o brif bre-
— "^J gethwyr y cyfnod Methodistaidd
cyntaf, dynion o ddoniau dysglaer, a
phoblogrwydd niawr, nad oes ond y nesaf
peth i ddim o'u hanes yn wybyddus,
Llafuriasant yn galed, dyoddefasant erlid-
iau, a diau fod eu gweithredoedd wedi eu
cofnodi yn ofalus ar Iyfrau y nefoedd, ond
ychydig o'r pethau a ddygwyddodd iddynt
sydd wedi eu croniclo ar lyfrau y ddaear.
Yn mysg y rhai hyn, ac yn mhlith y
penaf o honynt, rhaid gosod WiIIiam
Davies, Castellnedd, Yn ol y farwnad a
gyfansoddwyd iddo gan WiIIiams, Panty-
celyn, cafodd ei eni tua'r flwyddyn 1727 ;
felly, nid oedd ond rhyw ddeng mlwydd
yn ieuangach na'r Emynydd enw^og, tair-
ar-ddeg yn ieuangach na Howell Harris,
a phedair-ar-ddeg yn ieuangach na Daniel
Rowland. Gan hyny, perthynai i'r rheng
flaenaf o'r ail dô o bregethwyr, Ym-
ddengys mai brodor o Sir Gaerfyrddin
ydoedd. Yr oedd ei rieni yn amaethwyr
parchus, ac yn byw niewn tŷ o'r enw
Stangrach, Ile sydd o fewn haner milltir i
gapel y Methodistiaid yn Llanfynydd.
Cynhaliai y Methodistiaid gyfarfodydd cref-
yddol yn y Stangrach, feily nid annhebyg
fod rhieni WiIIiam Davies yn perthyn i'r
Cyfundeb, Gallwn gasglu eu bod mewn
amgylchiadau cysurus, gan iddynt ddwyn
eu mab i fynu yn offeiriad. Buasai yn
dda genym wybod rhywbeth am helynt-
ion boreu oes William Davies, ac yn
enwedig pa bryd y deffrowyd ef i ystyriaeth
o'i gyflwr, a than ba ddylanwadau y cafodd
ei ddychwelyd; ond y mae yr oll o'r pethau
hyn wedi eu cuddio yn anobeithiol oddi-
wrthym, ac nid ydym yn gydnabyddus â
dim o hanes ei fywyd, nes yr ydym yn ei
gael yn gristion gloyw, yn bregethwr aidd-
gar a phoblogaidd, ac yn Fethodist zêlog,
yn Castellnedd, yn gwasanaethu fel cuwrad
i Mr, Pinkney, tua'r flwyddyn 1757, Ein
hawdurdod dros hyn eto ydyw Williams,
yr hwn, uwchben y farwnad, a gofnoda
am dano iddo farw " yn y flwyddyn' 1787,
yn y driugeinfed flwyddyn o'i oedran, wedi
treulio dros ddeg-ar-hugain o flynyddoedd
i bregethu efengyl Crist yn mysg y Meth-
odistiaid." Ar yr un pryd, gweddus nodi
fod cryn amheuaeth am gywirdeb hyn.
Yr ydym wedi chwilio Ilyfrau cofrestru
eglwysydd Castellnedd a LlaniIItyd yn
fanwl ; a'r nodiad cyntaf a geir ynddynt
wedi ei arwyddo gan WiIIiäm Davies yw
Rhagfyr 24, 1762 ; ac y mae yn hollol an-
nhebyg iddo wasanaethu yno am bum'
mlynedd cyn gweinyddu mewn bedydd na
phriodas, yn arbenig gan nad oedd Mr.
Pinkney yn byw yn un o'i blwyfydd. Ond
WILLIAM DAVIES, CASTELLNEDD.
479
gallasai William Davies fod wedi gwasan-
aethu fel cuwrad mewn rhyw le, neu
leoedd, cyn dyfod i Gastellnedd. Modd
bynag, y mae yn amlwg ddarfod iddo
ddyfod i Forganwg tua chwech mlynedd
o flaen Jones, Llangan.
Yr oedd Mr. Pinkney yn meddu person-
oUaeth Castellnedd a LlaniUtyd ; ymddeng-
ys hefyd nad oedd yn byw yn y naiU na'r
llall o'i blwyfydd, ac felly fod y llafur a'r
gofal yn disgyn yn gyfangwbl ar y cuwrad.
Pan y daeth Wilham Davies i Gastell-
nedd, yr oedd crefydd mewn cyflwr tra
isel. Ni feddai yr Églwys Wladol gynull-
eidfa yno o gwbl ; darllenid y gwasanaeth
ar y Sul i furiau moehon, tra yr ymroddai
rhyw ychydig gymydogion a fyddai wedi
ymgynull gyda hwynt, o ben cadair ddi-
addurn. Mentrodd hefyd fyned allan i'r
awyr agored, ac i ganol y chwareu, gan
bregethu Crist wedi ei groeshoelio i'r
cymeriadau gwaethaf. Yn bur fuan, dyma
gynhwrf yn mysg yr esgyrn sychion.
Deallodd y bobl fod bywyd a nerth yn y
g\Vr a weinyddai yn y Uan, a dechreuasant
dyru tuag yno, fel na ddaliai yr adeiladau
y gynulleidfa. Daeth CasteUnedd a Llan-
illtyd yn fath o Langeitho ar raddfa
fechan ; cyrchai torfeydd yno o bob cyf-
eiriad ; gwehd gwŷr Llansamlet yn eu
dillad gwladaidd, a'u benywod yn eu
bedgynau a'u shawls cochion, yn britho y
STANGRACH, GER LLi^NFYNYDD, SIR GAERFYBDDIN.
[Preswijlfod rhieni William Davies, Castellnedd .]
y werin i oferedd. Llwydaidd anarferol
hefyd oedd y seiadau Methodistaidd o
gwmpas ; nid ydym yn sicr nad oedd rhai
o honynt wedi darfod yn hollol. Yr oedd
yr ymraniad rhwng Harris a Rowland
wedi dygwydd er ys dros ddeng mlynedd ;
mewn canlyniad, yr oedd gwedd wywedig
ar yr achos crefyddol dros y whid ; ac yr
oedd yr adfywiad a_ gymerodd le gyda
dyfodiad cyntaf emynau WiUiams, Panty-
celyn, heb dori allan. Eithr yr oedd
yspryd gwaith yn y cuwrad ieuanc, a
chariad Crist yn berwi yn ei enaid. Gan
na ddeuai y bobl i'r eglwys, penderfynodd
yr ai efe i'w tai. Yno cynghorai hwy yn
ddifrifol, ac weithiau pregethai iddynt, a
fiyrdd tuag yno ar foreu y Sul. Deuent
yno yn llu o Gwm Tawe, ac o'r Creunant,
a blaen Cwmnedd, os nad o Hirwaun
Wrgant, ac Aberdar. Am blwyfi Castell-
nedd a Llanihtyd, dywedir fod haner y
trigolion, o leiaf, yn wrandawyr rheolaidd.
Achubwyd canoedd yn ddiau i fywyd
tragywyddol. Dywedir mai tan ei wein-
idogaeth ef y cafodd yr hynod Jenkin
Thomas, neu Siencyn Penhydd, olwg ar
drefn gras fel yn ddigonol i'r penaf o
bechaduriaid, ar ol iddo fod am dymhor
ar lewygu gwedi pregeth daranUyd lefan
Tyclai.
Yn ol tystiolaeth unfrydol yr hen bobl,
pregethwr melus oedd Davies, Castell-
480
y TADAU METHODISTAIDD.
nedd. Nid ar fynydd Ebal yr hoífai sefyll,
ac nid cyhoeddi melldithion a wnelai ;
gwell ganddo, yn hytrach, oedd sefyll ar
gopa Gerizim, gan roddi datganiad hyfryd
i fendithion yr efengyl. Nid clwyfo oedd
ei hofforchwyl, ond iachau ; cymhwyso y
balm o Gilead at archollion dyfnion pech-
aduriaid. Dwg Howell Harris, tua diwedd
ei oes, dystiolaeth amryw weithiau i felus-
der ei ddoniau, a'i allu i egluro gwirion-
eddau cysurlawn yr efengyl. Awgrymir
yr un peth gan Williams, Pantycelyn,
yn y farwnad. Mewn un penill darlunia
yr Arglwydd lesu yn ei groesawu ar ei
fynediad i'r nefoedd yn y modd a ganlyn : —
" Cai'iacl oedcl dy fwyd a'th ddiod,
Scrcliog oecld dy eiriau i gyd,
Dy addfwynder sugnodd yspryd
Rhai o oerion blant y byd ;
Treuliaist d' amser mewn ffyddlondeb,
Trwy dy yrfa is y nen,
Mae dy goron geny'n nghadw,
Heddyw gwisg hi ar dy ben."
Tra yr oedd y bobl yn tyru i wrando
Mr. Davies, ac yn derbyn maeth i'w
heneidiau trwy ei weinidogaeth efengyl-
aidd, yr oedd dosparth arall yn Ilawn
bustl chwerwder, ac yn awyddus am ei
yru allan o'r plwyf. Y dosparth hwn a
wnelid i fynu yn benaf o grach-foneddigion
y dref, a'i hamgylchoedd ; a diau fod
clerigwyr annuwiol a diddawn y plwyfydd
o gwmpas yn cynhyrfu eu goreu. Nis
gallent gael dim i achwyn arnò parthed
buchedd ac ymarweddiad ; ond yr oedd
sancteiddrwydd ei fywyd, ei zêl angerddol
dros ogoniant Duw, ac efengyleidd-dra ei
bregethau yn annyoddefol iddynt. Ac
uwchlaw y cwbl, yr oedd yn Fethodist.
Felly, anfonasant gofeb at Mr. Pinkney,
yr hon a gynwysai grynodeb llawn o
bechodau y cuwrad, yn erfyn arno ei yru i
ffwrdd. A oedd Mr. Pinkney yn meddu
llawer o gydymdeimlad a'r diwygiad, nis
gwyddom ; ond yr oedd yn credu yn Mr.
Davies, ac yn gweled ei deilyngdod ; a
thra y bu y Rheithor fyw, ni chafodd neb
aflonyddu arno. Eithr bu Mr. Pinkney
farw yn y flwyddyn 1768, ac yn mhen
dwy flynedd gwedi hyn cafodd y cuwrad
ei droi ymaith. Ceir y nodiad olaf o'i
eiddo ar Iyfrau yr eglwys Ebrill 5, 1770.
Dygwyddai bywioliaeth Llangiwc, plwyf
tuag wyth milltir o bellder o Gastellnedd,
fod yn wag ar y pryd, a gwnaed cais taer
am i WiIIiam Davies ei chael. Ond yr
oedd gwŷr mawr y plwyf yn estroniaid
i'r efengyl, a safasant yn benderfynol yn
erbyn. Nid oedd dyrchafiad yn yr Eglwys
Wladol yr adeg hono, oddigerth o ddam-
wain, i neb a bregethai wirionedd Duw yn
fíyddlon ; yn arbenig os byddai yn tueddu
at y Methodistiaid. Gan na oddefid iddo
weinidogaethu yn y Ilan, penderfynodd
Mr. Davies wneyd a allai y tu allan i'w
chymundeb ; casglodd y rhai a lynent
wrtho yn seiat ar wahan ; aeth allan i'r
prif-fîyrdd a'r caeau ; teithiodd Gymru,
Ddê a Gogledd, lawer gwaith, a diau iddo
fod yn foddion i droi Ilawer o gyfeiliorni
eu ffyrdd. Ymddengys mai yn nhŷ un
Edward Morgan, Penbwchlyd, gerllaw i'r
fan y bu Daniel Rowland yn pregethu dan
y sycamorwydden, y cadwai Mr. Davies y
cyfarfod eglwysig yn Nghastellnedd. Ond
o herwydd Ilwyddiant ei weinidogaeth aeth
y Ile yn rhy gyfyng, a gwnaed math o le
cyfarfod o ddau dŷ anedd, yn y pen
dwyreiniol i'r dref. Àm beth amser gwedi
ei ymadawiad o'r Eglwys, nid didrafferth
iddo oedd cael moddion cynhaliaeth ; bu
am ry w hyd yn cadw ysgol ddyddiol ; a
chyfranai rhai o'r Methodistiaid mwyaf
cefnog o'u heiddo iddo. Dywedir i am-
aethwr cyfrifol o blwyf Llangiwc, ar ol
cael ei siomi yn ngwrthodiad y fywioliaeth
iddo, barhau i'w gynorthwyo mewn arian
hyd ddydd ei farwolaeth. Tua'r flwyddyn
1776, adeiladwyd, neu yn hytrach, efallai,
adgyweiriwyd, hen gapel y Gyfylchi iddo.
Medd y capel hwn gryn hynodrwydd.
Saif ar fynydd tra uchel rhwng dau gwm
dwfn, yn mhlwyf Mihangel, ryw gymaint
i'r dwyrain o Gastellnedd. O ran ei ffurf,
y mae yn Eglwysig ; a chan yr arferai yr
offeiriaid Methodistaidd weinyddü Swper
yr Arglwydd ynddo, nid annhebyg ei fod
wedi ei gysegru. Ymddengys mai hen
gapel Eglwysig wedi myned yn adfeilion
ydoedd, ac i'r Methodistiaid gymeryd
meddiant o hono, fel y gwnaethant a chapel
Llanlluan. ■•'■ Rhenid yr adeilad megys yn
ddau gysegr ; y sancteiddiolaf a'r cyffredin.
Fr sancteiddiolaf yr ai yr offeiriaid yn
unig ; ond yn y Uall yr arferai holl bre-
gethwyr y Cyfundeb weinyddu. Fel rheol,
byddai rhyw gynghorwr yn traddodi ei
genadwri yn y Ue cyffredin am naw o'r
gloch y boreu ; ac wedi iddo ef ddarfod,
ymddangosai yr offeiriad yn ei le yntau,
a'r holl gynulleidfa a droent eu hwynebau
ato. Fel hyn y bu am flynyddoedd lawer,
heb fod yr un pregethwr di-urddau yn
anturio croesi y wahanlen ; ond o'r diwedd
diflanodd y swyn, a chymerodd y pregeth-
Mefhodistiaeth Cynirn.
Q
O
X
u
Q
Q
W
" H
< <
>^ „
tó
D
Q
>
<
^
Q
<5l
1— 1
J
^
J
'^
>
P
(--
<
WIL L Lí M DA VIE S, CA S TEL L NE DD .
481
wyr druain galondid i fyned i mewn i'r lie
sanctaidd. Er na chawsai yr hen adeilad
ei gysegru yn ffuríiol gan esgob, cysegrwyd
ef yn effeithiol ddegau o weithiau trwy
ymweHadau y Pen Esgob, sef yr Arglwydd
lesu. Cafwyd odfaeon yn y Gyfylchi i'w
coíìo byth. Heblaw^ William Davies, bu
nifer mawr o'r offeiriaid Methodistaidd yn
gweinyddu ynddo, megys Jones, Llangan ;
Howells, Trehill ; Howells, Llwynhelyg,
yr hwn sydd yn fwy adnabyddus fel
" Howells, Longacre ; " a Phillips, Llan-
grallo. Yn mysg y cynghorwyr a fu yn y
capel yn Ilefaru, un o'r rhai hynotaf yn
ddiau oedd Siencyn Penhydd, at yr hwn y
cawn gyfeirio eto. Nid yn y sancteidd-
iolaf y îlefarai efe ; er hyny, yr oedd dan
y gronglwyd ; a sicr yw iddo gael aml i
odfa ryfedd. Yr oedd yr hen grefyddwyr
a ymgynullent i'r Gyfylchi yn nodedig am
wresawgrwydd eu hyspryd, a thanbeid-
rwydd eu teimladau ; os ceid ychydig lew-
yrch mewn cyfarfod, byddent yn tori allan
mewn clodforedd ; ganoedd o weithiau
buont yn dawnsio mewn hwyl sanctaidd ar
lawr yr hen gapel, ac yn peri i'w furiau ad-
sain gan swn eu moliant. Y mae coffadwr-
iaeth yr odfaeon bendigedig hyny yn aros
yn gynes yn mysg y trigolion o gwmpas
hyd y dydd hwn. Yma y bu y Methodist-
iaid yn addoli hyd y flwyddyn 1827, pan yr
adeiladwyd capel Pontrhydyfen. Mewn
cysylltiad a'r Gyfylchi hefyd yr oedd
Richard James, pan y dechreuodd bre-
gethu, ac yma y gorphenodd ei daith.
'•' Er prawf pa mor uchel y syniai y
Methodistiaid am WiIIiam Davies, parthed
doniau gweinidogaethol, a medr i gyfranu
Gair y Bywyd i'r dychweledigion, gallwn
gyfeirio at yr hyn a gymerodd le yn
Nghymdeithasfa Abergwaun, Chwefror
14, 1770. Yno cynygid ei osod yn arol-
ygwr ar holl seiadau Sir Benfro, fel
olynydd i'r Parch. Howell Davies, yr hwn
oedd newydd ei gymeryd i ogoniant. Pan
gofiom mor seraphaidd oedd doniau Howell
Davies, ac mor uchel y safai yn ngolwg ei
frodyr, rhaid y chwilid am ddyn o allu-
oedd nodedig i gymeryd ei le. A thaerni
Howell Harris, yn crefu arnynt ymbwyllo,
yn unig a rwystrodd y brodyr i wneyd y
penodiad. Nid oedd gan Harris ddim
ychwaith i'w roddi yn erbyn WiIIiam
Davies ; yn unig hoffai gael rhagor o
brawf arno, er deall a oedd yr Yspryd
Glân wedi ei gymhwyso i fod yn dad.
* Y Tadau Mctliodistaidd, tudal. A'HJ.
Yn ystod amser enciliad Harris y daethai
WiIIiam Davies i amlygrwydd ; dyna y
rheswm paham y gwyddai y Diwygiwr
o Drefecca can Ileied yn ei gylch, ac
y dadleuai dros ymbwyllo cyn gwneyd
penodiad mor bwysig. Eithr wrth roddi
hanes Cymdeithasfa Llangeitho, a gyn-
haliwyd yn Awst, yr un flwyddyn,
cawn Howell Harris ei hun yn dwyn
tystiolaeth i ragoriaeth yr Efengylydd
o Gastellnedd. Pregethai Davies y di-
wrnod cyntaf, ar ol rhyw frawd o gym-
ydogaeth Wrexham, Ymddengys y cawsai
hwnw odfa dda, a bod cryn ddylanwad yn
cydfyned a'i eiriau pan y darluniai yr lesu
yn talu holl ofynion y ddeddf, ac yn prynu
ei ryddid i bechadur. Dyoddefiadau Crist
oedd mater William Davies yn ogystal ;
cymerasai yn destun y geiriau : " Oblegyd
Crist hefyd a ddyoddefodd dros bechodau,
y Cyfiawn dros yr annghyfiawn, fel y
dygai ni at Dduw." Meddai Harris :
" Ymddangosai dawn y pregethwr hwn yn
fwy, ei oleuni yn gryfach, a'i wybodaeth
o'r Ysgrythyr yn helaethach na'r cyntaf,
ac yr oedd mwy o arddeliad yn cydfyned
a'i weinidogaeth." Mewn gwirionedd, yr
oedd yr Efengylydd o Gastellnedd wedi
Ilwyr feistroli y dorf anferth oedd ger ei
fron ; pan y bloeddiai, nes yr oedd y bryn-
iau o'r ddau tu i ddyffryn prydferth Aeron
yn diaspedain, fod Crist wedi cymeryd ein
lle, ddarfod i'n holl' bechodau fyned yn
eiddo iddo, a bod ei gyfiawnder yntau
wedi dyfod yn eiddo i ni, torai y gynull-
eidfa allan mewn bloeddiadau gorfoleddus.
Y fath oedd y dylanwad, fel yr oedd
Howell Harris agos wedi ei syfrdanu.
" ^'Yrosais mewn dystawrwydd," meddai,
" wrth feddwl fel yr oedd yr Arglwydd yn
eu harddel ; gwelwn mai dyma Ile y mae
Jerusalem, a bod yma ryw fywyd, a nerth,
a gogoniant rhyfedd." Dyma y Gym-
deithasfa ddiweddaf i Howell Harris ar y
ddaear. Yn fuan gwedi hyn yr ydym yn
darllen am WiIIiam Davies yn pregethu
yn Nhrefecca, a chafodd Harris flas an-
arferol ar yr odfa. Yn ei ddydd-Iyfr,
canmola y pregethwr yn ddirfawr, gan
gyfeirio gydag edmygedd at ei ddirnadaeth
o wirioneddau yr efengyl, dysgleirder ei
ddoniau, naws hyfryd ei yspryd, a'r difrif-
wch a'i nodweddai wrth gymhell pech-
aduriaid at Fab Duw.
Nid oes hanes manwl i'w gael am
WiIIiam Davies, fel y darfu i ni nodi, felly
rhaid i ni foddloni ar groniclo ychydig o
hanesion sydd i'w cael am dano. Cyhoedd-
1 1
482
Y TADAU METHODISTAIDD.
asid ef unwaith i bregethu yn eglwys
Cenarth. Pan y clywodd y Cadben Lewis,
a breswyUai yn y Gellidywyll, hyny, anfon-
odd ei was yno gyda dryll, gan orchymyn
iddo saethu y pregethwr. Hysbyswyd y
bwriad i Mr. Davies. "Gadewch i mi
fyned i'r pwlpud," meddai, " ac yna byddaf
yn foddlon iddo fy saethu." Ì'r pwlpud
yr aeth, a phregethodd gyda'r fath felus-
der a dylanwad, nes yr oedd yr holl gynull-
eidfa, ac yn eu mysg gwas y Cadben, yn
foddfa o ddagrau. Nid oedd gan y gwas,
wrth ddychwelyd at ei feistr, ond yr un
esgusawd ag a roddid gan swyddogion y
Sanhedrim gynt, a anfonasid i ddal yr
lesu : " Ni lefarodd dyn erioed fel y dyn
hwn." Yn mhen ychydig flynyddoedd
gwedi hyny bu y boneddwr hwnw farw
dan arwyddion amlwg o farn Duw. Mor
druenus ydoedd, ac mor ofnadwy oedd
cnofeydd ei gydwybod, fel y methai y rhai
caletaf mewn annuwioldeb aros yn yr un
ystafell ag ef. Eithr nid bob amser y
ílwyddai y pregethwr melus o Gastell-
nedd i orchfygu y rhwystrau a deflid ar ei
ffordd. Unwaith, pan ar daith yn y
Gogledd, pregethai yn y Bettws, ger Aber-
gele, a chyfodasid pwlpud iddo wrth dâs
uchel o frigau coed, eiddo hen ŵr a hen
wraig oeddynt yn dra gelyniaethol i gref-
ydd. Tra yr ydoedd yn llefaru daeth
perchenogion y dâs, gyda rhyw greaduriaid
anystyriol yn eu cynorthwyo, ac er mwyn
dial eu llid ar y crefyddwyr, ceisient wthio
y dâs frigau gyda phygffyrch o'r tu cefn
iddi, fel ag i'w dymchwelyd ar ben y pre-
gethwr. Clywai yntau y brigau yn rhugl-
drystio, deallodd beth a fwriedid, a dyrys-
odd hyn ef i'r fath raddau fel y methodd
fyned yn ei flaen yn mhellach.
Adroddir hanesyn tra dyddorol am dano
yn Metìiodistìaetìi Cymru, yr hwn a ddengys
natur yr hunan-ymwadiad oedd yn ofynol
yr adeg hono, hyd yn nod ar ran y pregeth-
wyr penaf. Trefnasid iddo fyned i lefaru
i ardal fynyddig, mewn rhyw fan yn y
Deheudir, lle yr oedd yr achos yn bur isel,
a'r bobl yn dlodion. Wrth fyned tuag yno,
a chael y ffordd yn mhell, ac yn dra anhy-
gyrch, ymresymai ynddo ei hun fel yma:
" Paham y gwnaed a fì fel hyn ? Paham y
trefnwyd íì i fyned i le mor anghysbell, ar
hyd ffordd mor erwin ?" Erbyn cyrhaedd
yno, drachefn, yroedd yr olwg ar y fangre,
y tai, a'r bobl, yn ychwanegu at ei anfodd-
ogrwydd. Nid oedd yn y golwg ond ychydig
o dai tlodion, yn nghanol mynydd-dir
gwyllt ac anial. Ac adeilad gwael, mewn
llawn gydweddiad â'r tlodi o gwmpas,
oedd y capel yn mha un yr oedd i bregethu.
Ar ei ddyfodiad i'r fan, arweiniwyd ef i
fwthyn gwael ei wedd, lle y preswyliai tair
o chwiorydd, hen ferched heb briodi.
Cymerwyd ei geffyl i'r ystabl gan un ; y
llall a arweiniai y pregethwr i'r bwthyn,
a'r drydedd a agorai ddrws y capel, gan
wneyd y parotoadau angenrheidiol ar gyfer
yr odfa. Erbyn hyn yr oedd mynwes y
pregethwr wedi cythruddo yn fwy fyth.
Dan ruthr y brofedigaeth, meddyliai ei bod
yn ormod darostyngiad ar \vr o'i safle ef
i'w anfon i'r fath le. Yn y teimlad hwn yr
ydoedd pan ddaeth yr amser i ddechreu yr
odfa. Daeth rhyw nifer yn nghyd ; eithr
nid oedd y pregethwr yn gwerthfawrogi y
cyfleusdra i'w cyfarch. Ond wrth fyned
rhagddo gyda'r gwasanaeth, teimlai yr
awyrgylch yn nodedig o ysgafn ; caffai flas
rhyfeddol wrth ddarllen y benod ; yr oedd
rhyw naws nefolaidd yn y canu ; ac yn y
weddi teimlai fod ei enaid yn cael dyfodfa
at Dduw. Wrth bregethu yr ydoedd
mewn hwyl ; yr oedd siarad iddo mor
hawdd ag anadlu. Cafodd odfa fendigedig ;^
ac ar y terfyn meddyliai nid am dlodi yr
hen ferched, ond am eu llwyr ymroddiad i
grefydd. Gwedi iddo ddychwelyd gosod-
odd un o'r chwiorydd ger ei fron fwrdd
bychan, prin cyfuwch a'i ben ghn. Ar y
bwrdd gosododd Han bras, ond can wyned
a'r cambric ; yna cyfododd ychydig
bytatws o'r lludw mawn ar yr aelwyd, y
rhai a roddasid yno i'w rhostio, a chwedi
eu sychu yn lân, a thynu ymaith y croen,
gosododd hwynt ar y bwrdd, gan geisio
gan y boneddwr ofyn bendith yr Arglwydd
ar yr ymborth. Nid yw yn ymddangos
fod yno ddim ychwaneg, oddigerth ychydig
fara ac ymenyn. Synai Mr. Davies yn
fawr iawn arno ; gwelai yno ddirfawr dlodi
a charedigrwydd wedi cydgyfarfod. Teim-
lai erbyn hyn mai braint oedd cael dyfod
yno, a gofynai i'r un a wasanaethai wrth y
bwrdd pa nifer o aelodau a berthynai i'r
seiat yno.
" Nid oes o honom ond nyni ill tair,"
meddai hithau,
" Pa fodd, gan hyny," meddai Mr.
Davies, " yr ydych yn gallu dwyn yr achos
yn ei flaen ?"
Ebe hithau : " Y mae i bob un o honom
ei gorchwyl. Un chwaer a ofala am y t\-
cwrdd, y llall am yr ystafell a cheffyl y
pregethwr, a minau sydd yn cael y fraint o
weini wrth y bwrdd. Yr ydym ein tair yn
cyfarfod yn y ty cwrdd unwaith yn yr
DAFYDD MORRIS, TWRGWYN.
4«3
wythnos, i gadw seiat, gan adael y drws
yn agored i bwy bynag a ewyllysio ddyfod
atom, ac ymuno â ni." Wrth ymadael,
cynygid iddo chwe' cheiniog yn gydnabydd-
iaeth am ei wasanaeth ; mynai yntau
wrthod ; eithr ni chymerent eu nacau.
Dy wedent fod y darn arian wedi ei gysegru
at wasanaeth yr Arglwydd, ac na feiddient
ei ddefnyddio at ddim arall. Yna gofynent
iddo, pa bryd y caíîai y fraint o ddyfod yno
drachefn. Erbyn hyn yr oedd ei galon
wedi ei gorlenwi. Wrth deithio yn ei flaen
galwai ei hun, " Y cythraul balch," ani
iddo edrych yn isel ar waith Duw, oblegyd
y wedd dlawd oedd arno. Yn mhen
ychydig flynyddoedd cafodd y fraint o
fyned i'r Ile drachefn ; ac erbyn hyn yr
oedd yr eglwys wedi cynyddu i naw ugain
o rifedi.
Fel y nodwyd, teithiodd y Parch.
Wilham Davies Gymru oll, ar ei hyd a'i
lled, lawer gwaith. Yn ei farwnad iddo y
mae WilHams, Pantycelyn, yn crybwyll
enwau amryw o'i gydnabod, o bob parth
o'r Dywysogaeth, oeddynt wedi myned i'r
nefoedd o'i flaen, ac yn ei groesawu i mewn.
Tua'r flwyddyn 1780, cynhahwyd Cym-
deithasfa yn NghasteUnedd, a daethai yno
y Parchn. Daniel Rowland, ei fab
Nathaniel, Peter Wilhams, WiHiams, Pant-
ycelyn, ac amryw eraill heb fod lawn mor
enwog. Yr oedd y Gymdeithasfa dan ar-
ddehad mawr ; y nefoedd a ddyferai y
gwHth grasol i lawr yn helaeth, a bu cofio
hir am dani. Lletyai y pregethwyr yn
nhai Mr. Leyshon, o'r Hifl, ger Llanilltyd,
gŵr nodedig am ei dduwioldeb, a Mr.
Thomas Smith, tad Mr. Smith, Aberafan.
Tua saith mlynedd gwedi y Gymdeithasfa
hon y bu WiIIiam Davies byw. Yn y
flwyddyn 1787 efe a hunodd yn yr lesu, yn
y driugeinfed flwydd o'i oedran, a chladd-
wyd ef yn mynwent Castellnedd. Pre-
gethodd Mr. Jones, Llangan, yn ei angladd ;
ac wrth weinyddu ar lan y bedd yr oedd ei
deimladau wedi ei orchfygu yn hollol. "O
Davies anwyl !" meddai, "O Davies, gwas
yr Arglwydd ! Ti fuost farw. Do ; dis-
gynaist i'r bedd a'th goron ar dy ben."
Nis gallwn wrthsefyll y demtasiwn o ddi-
fynu ychydig o benillion o'r farwnad nod-
edig a gyfansoddwyd iddo gan Beraidd
Ganiedydd Cymru : —
" Pam y tynodd angau diiied
Ddavies fwyn oddiwrtli ei waith ?
Pwy sy' i gario 'mlaeu ei ystod
Addfed ar y meusydd maitli?
Pwy heb flino, megys yntau,
Ac heb orijhwys, gasgla 'nghyd,
II
Yn ddiachwyn, yn ddiduchan,
Feichiau mawrion, trymion yd ?
Yn ei rym ac yn ei hoewder,
Galwyd fîrynd y nef i'r lan,
Tru'gain mlynedd ar y ddaear
Drefnodd arfaeth idd ei ran ;
Yna rhaid oedd iddo newid
Ei berth'nasau, ei íîryns, a'i le,
A rboi ei gorph i'r ddae'r i gadw
Nes glanhau 'i fudreddi e'.
Castellnedd, mewn mynwent eang,
'R oedd raid iddo lechu lawr,
Lle mae deng mil, neu fyrddiynau,
Yn ei gwmni ef yn awr ;
Ond fe gwyd wrth lais yr angel,
Bloedd yr udgorn gryna'r byd,
A'i holl Iwch, b'le bynag taenir,
Gesglir yno'n gryno 'nghyd.
Deugain agos o bregethwyr
Oedd e'n 'nabod yn y nef,
Ac fu'n seinio'r jubil hyfryd
Yn ei ddyddiau byrion ef,
011 a'u t'lynau aur yn canu
Yr un mesur, a'r un gàn,
Ag a ganodd y côr nefol
A'r bugeiliaid gwych o'r blaen.
Na alerwch mwy am Davies,
Ond dihatrwch at eich gwaith ;
Y mae'r meusydd mawr yn wynion,
Mae llafurwaith Duw yn faith ;
Pob un bellach at ei arfau,
Aml yw talentau'r nef ;
Sawl sy'n fîyddlon gaifî ei dalu
Ar ei ganfed ganddo ef .
Doed i waered i'r Deheudir
Ddoniau Gwynedd fel yn lli,
Aed torfeydd o dir y Dehau
Trwy Feirionydd fynu f ry ;
Fel bo cyniysg ddoniau nefol
Yn rhoi'r gwleddoedd yn fwy llawn,
'Falau a photelau llawnion,
O lâs foreu hyd brydnbawn."
Yr ail bregethwr, ag y mae ei enw
uwchben ein hysgrif, yw Dafydd Morris,
un o'r pregethwyr mwyaf nerthol a wel-
odd Cymru. Gelwir ef yn gyff"redin yn
" Dafydd Morris, Twrgwyn ; " ond fel
" Dafydd Morris, Lledrod," y caff'ai ei
adwaen gan yr hen bobl, am mai yn
Lledrod y cafodd ei eni, ei ddwyn i fynu,
y dechreuodd bregethu, ac y gwnaeth iddo ei
hun enw fel pregethwr. Ardal amaeth-
yddol ydyw Lledrod, yn tueddu at fod yn
fynyddig, yn rhan uchaf Sir Aberteifi, a
thuag wyth milltir o Langeitho. Ymddeng-
ys i Dafydd Morris gael ei eni rywbryd tua'r
flwyddyn 1744. Tua naw mlynedd cyn
hyny y dechreuasai Daniel Rowland ei
weinidogaeth danllyd yn Llangeitho. Nid
annhebyg ddarfod i Dafydd Morris, ac efe
yn llanc ieuanc, fyned i Langeitho gyda
2
4'^4
Y TADAU METHODISTAIDD.
Uanciau eraill yr ardal i wrando y " Ffeirad
crac," ac mai rhyw saeth oddiar fwa
Rowland ddarfu ei glwyfo. Modd bynag,
cafodd grefydd yn gynar, a dechreuodd
bregethu pan yn un-mlwydd-ar-hugain
oed. Ychydig o fanteision addysg a gawsai
yn moreu ei oes ; tebygol mai tlodion oedd
ei rieni ; ond ymroddodd i lafurio am
wybodaeth a dysg, a llwyddodd i gyrhaedd
mesur helaeth o honi. Daeth yn alluog i
ysgrifenu yn dda ; yr oedd yn dra chyd-
nabyddus â gweithiau y prif dduwinydd-
ion, a medrai wneyd y defnydd angen-
rheidiol o awduron Saesnig. Fel y rhan
fwyaf o bregethwyr y Methodistiaid yn y
cyl'nod hwnw, bu yn efrydydd caled a
chyson ar hyd ei oes ; o herwydd nodwedd
deithiol y weinidogaeth, gorfodid ef, yr un
fath a'r pregethwyr eraill, i dreulio llawer
o'i amser ar gefn ei gefFyl ; ond gofalai na
fyddai y cyfry w amser yn cael ei wastraffu ;
byddai wrthi yn gyson, naill ai yn darllen
llyfr, neu ynte yn cyfansoddi pregeth.
Daeth Dafydd Morris yn boblogaidd ar
gychwyniad ei weinidogaeth, ac ymddeng-
ys fod gan Daniel Rowland feddwl uchel
am dano, ac am ei ddoniau. Gwahoddai
ef i Langeitho, ar Sul pen mis, fel ei
gelwid, i bregethu i'r miloedd a fyddent
yno wedi ymgynull o bob parth o Gymru.
Yn nyddiau ei ieuenctyd yr oedd yn nod-
edig o ran prydferthwch ymddangosiad; yr
oedd yn llyfndeg ei wedd, ei wallt oedd yn
wineu-felyn, ac yn disgyn yn deneu ar ei
dalcen ; ei lygaid oeddynt yn fawrion a
bywiog, a'i lais yn gryf a soniarus. Pan
yn gymharol ieuanc daliwyd ef gan dew-
ychder dirfawr, yr hwn a gynyddodd fel
yr elai yn mlaen mewn dyddiau ; yn ei
amser olaf ni feiddiai farchogaeth, eithr
teithiai mewn cerbyd. Gwelsom yn am-
ryw o dai capelau Sir Aberteifi gadair
lydan hen ffasiwn, a digon o le i ddau i
eistedd ynddi yn gysurus ; gelwid hi yn
" gadair Dafydd Morris," a dywedid mai
er ei fwyn ef y cawsai ei gwneuthur.
Oblegyd y tewychder hwn y darfu i
Dafydd Ddu o"r Eryri, ac efe yn fach-
genyn ieuanc llawn direidi a digrifwch,
gyfansoddi iddo y penill a ganlyn : —
" Am Dafydd Morris, 'r wyf fi'n S3'n,
Nid oes, mae hyn yn rhyfedd,
Berffeithiach cristion mewn un plwy',
Yn cario mwy o lygredd.
Ar fyr elieda'i enaid ef,
Yn iach i'r nef fendigaid :
A'r gorph a fydd, yn ugwaelod i)edd,
Ddanteithiol wledd i bryfaid."
Fel pregethwr, meddai ddirnadaeth ddofn
o brif wirioneddau trefn yr iachawdwr-
iaeth ; yr oedd pob pregeth o'i eiddo yn
dangos craffder sylw, a meddylgarwch.
Ond ei brif nodwedd oedd angerddolrwydd
teimlad. Byddai y gwirioneddau a lefarai
yn tanio ei enaid ei hun, ac yn cyneu y
cyffelyb dàn yn ysprydoedd y rhai a'i
gwrandawent. Meddai Christmas Evans
am dano : " Yr oedd Dafydd Morris yn
bwysig, a thra defifrous, yn ei anerchiadau
at gydwybodau, a serchiadau ei wranda-
wyr. Nid hawdd darlunio yr effeithiau
oedd yn canlyn ei ddawn yn y dyddiau
cyffrous hyny." Desgrifiai rhai o'r hen
bobl ei ymwehad a'r gwahanol ardaloedd
fel ymdoriad ystorm o fellt a tharanau.
Wrth ei wrando, safai dynion anystyriol
yn syn, wedi eu dal gan ddychrynfeydd,
fel pe buasai y Barnwr yn ymddangos ; ac
elai y rhuthr heibio gyda chawodydd
bendithiol o'r gwlaw graslawn. Fel cyf-
rwng i gludo angerdd ei deimlad, rhodd-
asid iddo lais cryf a soniarus, yr hwn oedd
ar unwaith yn dreiddgar a llawn o fiwsig.
Meddai ei fab, Eben Morris, lais perseiniol
ac o gwmpas dirfawr. Gofynai Hiraethog
unwaith i Dr. Owen Thomas : " A ydych
chwi yn cofio Ebenezer Morris?" Átebai
yntau nad oedd. " Wel," meddai Hir-
aethog, " ni chlywsoch chwi ddim llais,
ynte." Ond mynai yr hen bobl, oeddynt
yn gydnabyddus a'r ddau, fod Ilais Dafydd
Morris yn rhagori o ddigon ar eiddo ei fab.
Yn y flwyddyn 1 774, symudodd o Ledrod
i Dwrgwyn i drigianu. Gwnaeth hyny ar
gais eglwysi dyffryn Troedyraur, y rhai a
alwent arno i roddi heibio bob Ilafur bydol,
ac ymroddi yn gyfangwbl i'r weinidogaeth,
gangadwcyfarfodyddeglwysig, aphregethu
yn yr wythnos fel y byddai cyíieustra yn
rhoi, ac addawent ei gydnabod am ei
lafur. Yn nhafodiaeth yr oes hon, galwad
i fod yn fugail a gafodd, ac ufuddhaodd
yntau iddi. Isel oedd agwedd crefydd
yn rhanau isaf Sir Aberteifi yr adeg yma,
ar ol bod yn Iled flodeuog unwaith ; yr
oedd yr ymraniad â Harris wedi taflu ei
ddylanwad gwenwynig dros y seiadau, ac
ymddangosai yr achos yn ei holl ranau yn
dra gwywedig. Eithr yn fuan gwedi ei
symudiad ef, newidiodd gwedd pethau er
gwell ; teimlwyd effeithiau grymus yn
cydfyned a'r weinidogaeth, a chwanegwyd
Ilawer iawn at y gwahanol eglwysi. Dar-
ostyngwyd y rhagfarn oedd yn meddyliau
Ilawer o'r trigolion at y Methodistiaid, a
lliosogodd y gwrandawyr i'r fath raddau,
fel yn mhen pedair blynedd, sef yn 1778,
DAFYDD MORRIS, TWRGWYN.
4«5
yr oedd yr addoldy yn Twrgwyn wedi
myned yn rhy fychan, a bu raid cael
adeilad helaethach. Yn mhen tua chwech
mlynedd gwedi agoriad y capel newydd,
torodd adfywiad grymus allan. Dechreu-
odd foreu Sabbath, pan oedd Dafydd
Morris yn pregethu, ac ymledodd dros y
wlad, gan ddwyn canoedd i broffesu cref-
ydd. Ac er i rai wrthgilio, parhaodd y
nifer fwyaf yn ffyddlawn, gan roddi profion
annghamsyniol eu bod wedi cael eu dych-
welyd at Dduw. Dywedir ddarfod i'r
diwygiad hwn barhau am amser maith.
Nis gaUwn roddi hanes bywyd Dafydd
Morris yn gyflawn ; nid oes ar gael ddef-
nyddiau at hyny ; rhaid ymfoddloni ar
hanesion sydd wedi aros mewn gwahanol
ardaloedd ; ond prawf y rhai hyny ei fod
yn bregethwr anghyffredin. Er dangos
tuedd athronaidd ei feddwl adrodda Dr.
Owen Thomas, yr hanesyn a ganlyn : —
Rhyw Sabbath yn y flwyddyn 1834, elai
Dr. Thomas o Lanllyfni, gwedi odfa'r
boreu, i Dalsarn, at ddau yn y prydnhawn.
Yn cydgerdded âg ef yr oedd un o hen
frodyr Llanllyfni. Er byrhau y ffordd
croesent gae ; ac yn y man, meddai yr hen
ŵr, " A welwch chwi y gareg hon ?
Wyddoch chwi beth ? Mi glywais i
Dafydd Morris yn pregethu yn y fan yma,
ac ar y gareg yna yr oedd yn sefyll."
Cyffrowyd Dr. Thomas : " Aie," meddai,
" a ydych yn cofio y testun ?" " O, ydwyf,
yn eithaf da ; y geiriau yna yn y Salm :
' O drugaredd yr Arglwydd y mae'r ddaear
yn gyflawn.' " " A ydych yn cofio rhywbeth
o'r bregeth ?" " Ydwyf, yr wyf yn cofio
fod ganddo drugaredd mewn creadigaeth,
trugaredd mewn rhagluniaeth, a thrugar-
edd mewn iachawdwriaeth. Ac wrth sôn
am drugaredd mewn creadigaeth, yr wyf
yn cofio ei fod yn tybio rhyw rai yn codi
gwrthddadleuon yn erbyn hyny, am fod
cymaint o'r ddaear yma yn anialwch di-
ffaeth, cymaint o honi yn foroedd diffrwyth,
a chymaint o honi yn fynyddoedd gwyllt-
ion." " Wel, sut yr oedd o yn ateb y gwrth-
ddadleuon ?" " Nid wyf yn cofio," meddai
yr hen flaenor, "sut yr oedd o yn ateb
gwrthddadl yr anialwch a'r mòr, ond yr
wyf yn cofio yn dda sut yr atebai wrth-
ddadl y mynyddoedd : ' Cistiau Duw ydyw
y mynyddoedd yma, bobl,' meddai, ' yn
llawn o'i drysorau ; ac fel y bydd o yn
gweled ar ei blant eu heisiau, fe deifl ef yr
allwedd i ryw un i'w hagor hwy.' " Byddai
yn anhawdd cael prawf cryfach o feddyl-
garwch, yn enwedig pan feddylir fod
gwyddoniaeth y pryd hwnw yn ei maban-
dod, ac mai prin yr oedd gwerth cynwys y
mynyddoedd wedi cael ei ddatguddio.
Nid yn anfynych byddai rhyw nerth di-
gyffelyb yn cydfyned â'i weinidogaeth, fel
nas gallai y caletaf sefyll o'i blaen. Sonir
yn Sir Fôn, hyd y dydd hwn, am bregeth
ryfedd a draddodwyd ganddo yn Pont
Rippont, o fewn rhyw bedair milltir i
Gaergybi, yr hon a elwir, " Pregeth y
golled fawr." Y testun ydoedd : " Pa
leshad i ddyn os ynill efe yr holl fyd, a
cholli ei enaid ei hun ? neu pa beth a rydd
dyn yn gyfnewid am ei enaid ? " Wrth
feddwl am enaid wedi ei golli, yr oedd
yspryd Dafydd Morris wedi ei gyffroi i'w
ddyfnderoedd, a bloeddiai ar y gynulleidfa
oedd ger ei fron : " Ow ! Ow ! Plant y
golled fawr." Yna darluniai fawredd y
golled, ac fel byrdwn ar derfyn pob sylw
deuai y floedd galon-rwygol, " Y golled
fawr !" Gan mor uchel a threiddgar oedd
ei lais, a'r fath effeithiolrwydd oedd yn
cydfyned â'r traddodiad, rhedai y bobl yno
o bob cyfeiriad ; a gyda eu bod yn cyr-
haedd y Ile, yr oedd difrifwch annaearol y
pregethwr, a nerth y floedd am y " golled
fawr," yn eu sobri ar unwaith, ac yn eu
cyffroi i fin gwallgofrwydd. Bernir i bawb
a wrandawent y noson hono gael eu hachub.
Ceir yn Ngìiofiant Joìin Jones, Talsarn, gan
Dr. Owen Thomas, hanesyn tra dyddorol,
yn dal cysylltiad â'r odfa hon. Un nos
Sabbath, pregethai y diweddar Barch.
David Roberts, Bangor, yn Llanerchy-
medd ; gwedi y bregeth cynhelid seiat, ac
aeth y gweinidog o gwmpas i holi rhai o'r
aelodau am eu profiadau. Aeth at un hen
chwaer, gan feddwl y caffai rywbeth
ganddi, a gofynodd, er ys pa faint o amser
yr oedd gyda chrefydd. Nid oedd yr hen
chwaer yn gallu dweyd. " Ond," meddai,
" yr oeddwn yn hogen go fechan, yn agos
i Bont Rippont ; a rhyw ddiwrnod, wrth
fyned i rywle, mi gollais fy marclod
(ffedog). Yr oeddwn wedi myned i chwilio
am dano, ac yn teimlo yn fawr, bron a
chrio, os nad oeddwn yn crio, am fy mod i
wedi ei golli. Pan yr oeddwn i felly yn
chwilio am dano, mi a glywn ryw lais
uchel, cryf, yn swnio yn fy nghlustiau :
' Y golled fawr ! Y golled famr !' Mi a
feddyliais mai sôn am fy marclod yr
ydoedd o. Ond mi a ddilynais y swn, nes
yr oeddwn yn y Ile. Erbyn dyfod yno, yr
oedd yno lawer o bobl wedi ymgasglu, a
dyn yn pregethu ar yr adnod : ' Pa leshad
i ddyn, os ynill efe yr holl fyd, a cholli çi
486
Y TADAU METHODISTAIDD.
enaid ei hun ?' Ac mi ddois i toc i ddeall
fy mod mewn perygl i golli peth anhraethol
fwy gwerthfawr na fy marclod. Dyna yr
amser y dechreuais i gyda chrefydd. A
Dafydd Morris oedd y pregethwr hwnw."
Diau fod y bregeth hono, a wnaeth y fath
argraff ar feddwl genethigieuanc, yn gystal
ag ar hobl wedi tyfu i fynu, gan beri iddi
hi a hwythau anghofio pob colled, yn
mhresenoldeb "y golled fawr," yn rymus,
tuhwnt i bob peth.
Coffeir am bregeth ryfedd arall, nid yn
annhebyg o ran dylanwad i'r un yn Pont
Rippont, a draddodwyd ganddo yn Llan-
armon, Dyffrynceiriog. Pregethai dan
goeden frigog, yn muarth Sarphle, ar y
gair : " Dyro gyfrif o'th oruchwyHaeth,
canys ni elh mwy fod yn oruchwyliwr ? "
Tan y bregeth hon dywedir fod pawb yn
gwaeddi neu yn wylo, yn molianu neu yn
gweddio. Llefai y pregethwr, ag awdur-
dod o dragywyddoldeb yn ei lef, " Dyro
gyfrif o'th oruchwyliaeth ;" ac yn mhre-
senoldeb y cyfrif ofnad^yy, crynai y caletaf,
a churai ei liniau yn nghyd ; toddai calonau
creiglyd fel y tawdd cwyr o flaen tân.
Golygfa ydoedd na welsid ei chyffelyb yn
y wlad hono ; ac nid oedd gan baganiaid
y fro un cyfrif i'w roi am y fath beth, ond
fod rhyw gyffroad o wallgofrwydd wedi
syrthio yn ddisymwth ar y gwrandawyr.
Yr ydym yn barod wedi nodi ei fod yn
deithiwr mawr. Am flynyddoedd cymerai
bedair o deithiau bob blwyddyn i Siroedd
Mòn ac Arfon, ac eraill o siroedd y Gogledd.
Yr oedd mor adnabyddus yn y Gogledd ag
oedd yn y Dê ; a mawr fyddai y dysgwyl-
iad am dano, a'r syched am ei glywed.
Anaml y cynhehd Cymdeithasfa heb ei
fod yn pregethu ynddi. Ar ei deithiau
cyfarfyddai, o angenrheidrwydd, â llawer
math o helynt, a chafifai mewn gwahanol
leoedd bob math o dderbyniad. Pan ar
daith yn Sir Ddinbych unwaith, ac yn
myned o'r Bont Uchel i Adwy'r Clawdd,
cafodd nad oedd ei gyhoeddiad, o herwydd
rhyw anffawd neu gilydd, wedi cyrhaedd
yr Adwy. Gan mai hwn oedd y tro
cyntaf iddo fod yn y wlad, nid oedd yno
neb a'i hadwaenai. Modd bynag, daeth o
hyd i nifer o wragedd yn proffesu crefydd,
i ba rai yr hysbysodd mai pregethwr o'r
Deheudir ydoedd, a gofynai, ai nid oedd
modd anfon gair ar led trwy y gymydog-
aeth, a chasglu pobl i wrando ? Ar hyn
cyrhaeddodd y blaenor, a gofynai, gyda
chryn sarugrwydd, " Pwy ydych ? A
ydych yn werth anfon am wrandawyr i
chwi ?" Ymddangosai y g\Vr yn afrywiog
ei dymher, a bustlaidd ei yspryd. Eithr
rywfodd cafwyd cynulleidfa; dechreuodd
Dafydd Morris bregethu, ac ar unwaith
deallwyd mai nid dyn cyffredin ydoedd.
Yn fuan dyma ryw nerth anorchfygol yn
cael ei deimlo ; cynhyrfid y bobl fel y
cyffroir coedwig gan gorwynt ; dyma
deimladau dyfnion y galon yn ymdywallt
allan, yn ocheneidiau uchel, ac yn afonydd
0 ddagrau, y rhai a redent i lawr yn lUf-
ogydd dros bob wyneb. Yr oedd yr hen
flaenor sarug wedi cael ei orchfygu, fel
pawb arall. Ar derfyn yr odfa aeth at y
pregethwr, gan ymesgusodi, a dywedyd :
" Dafydd Morris bach, gobeithio y
gwnewch faddeu fy ymddygiad atoch cyn
dechreu y cyfarfod." Meddai yntau yn
01 : " Y dyn, mi a welaf mai ci ydwyt ;
cyn i'r odfa ddechreu yr oeddit yn dangos
dy ddanedd ; yn awr yr wyt yn ysgwyd dy
gynffbn." Profodd Dafydd Morris fod
ganddo fedr arl^enig i ddeall cymeriad,
oblegyd yn fuan wedi hyn trodd y blaenor
ei gefn ar yr achos, a gorphenodd ei yrfa
mewn anfuchedd gyhoeddus, ac yn wrth-
wynebwr i'r efengyl.
Dyoddefodd lawer o erlidiau, ac nid yn
anfynych y gwaredodd yr Arglwydd ef yn
rhyfedd. Un tro pregethai yn y Berthen-
gron, a daethai cynulleidfa fawr yn nghyd
i wrando. Ar ddechreu yr odfa gwelid
haid o ddynion cryfion, a dibris, yn dynesu
at y fan, wedi ymbarotoi i aflonyddu yr
addoliad, ac o bosibl i niweidio y neb a
feiddiai ddweyd gair yn eu herbyn. Ond
pan yr oeddynt yn nesu at y t\-, syrthiodd
eu blaenor, a thorodd ei goes, a hyny ar
dir gwastad a thêg. Cafodd y fyntai
ddigon o orchwyl i ymgeleddu y clwyfedig,
a chafodd Dafydd Morris bob Ilonyddwch
i gyhoeddi yr efengyl. Dro arall, yr oedd
ar daith yn Arfon, ac aeth i'r Gwastad-
nant, Ile yr arferid cynal pregethu. Yn
anfifodus, yr oedd g\vr y tŷ oddicartref, ac
yr oedd y wraig yn wrthwynebol i'r efengyl.
Pan y daeth y pregethwr at y drws, gan
ofyn a oeddynt yn dysgwyl g\vr dyeithr
yno, atebodd yn sarug : " Nac ydym ; nid
oes yma ond swp o boblach dlodion, ar eu
heithaf yn ceisio magu eu plant." Dy-
wedodd hyn mewn tymher mor chwerw fel
y barnodd Dafydd Morris mai doethineb
ynddo fyddai troi ymaith ; a hyn a wnaeth
heb iddo ef na'i anifail gael Iluniaeth na
Ilety ; ac allan ar y mynydd, rhwng Llan-
beris a Llanrug, y buont, meddir, trwy
ystod y nos.
DAFYDD MORRIS, TWRGUTN.
487
Tybir mai efe oedd y pregethwr yr
adroddir hanes tra chyffrous am dano yn
Llangynog, Sir Drefaldwyn. Safai i dra-
ddodi y Gair wrth ddrws t\' tafarn ; a
gyferbyn ag ef, yr ochr arall i'r ffordd, yr
oedd tair coeden yn tyfu gyda glan yr afon.
Yn fuan wedi dechreu y bregeth daeth dyn
meddw heibio, yr hwn a waeddai allan, ar
derfyn pob sylw o eiddo y pregethwr :
" Celwydd a dd}nvedi.'' Goddefodd Dafydd
Morris am enyd, ond wrth fod y dyn yn
parhau i grochlefain a bytheirio, cyffro-
wyd ei yspryd, a dywedodd wrth y gynull-
eidfa : " Gwrandewch ! bydd y taircoeden
yna yn dwyn tystiolaeth yn erbyn y dyn
hwn yn y farn, oni oddiwedda dialedd ef
cyn hyny." Sylwodd y bobl ar y dywed-
iad ; ac yn fuan dygwyd ef yn fyw i'w côf
drachefn, gan i'r dyn yn ei feddwdod, ryw
noson dywell, syrthio dros y mur i'r afon,
a boddi. Ac yr oedd hyn o fewn ychydig
latheni i'r man y safai y pregethwr arno.
Meddai y Beibl : " Na fydd ry annuwiol ;
ac na fydd ffol ; paham y byddit farw cyn
dy amser ?"
Cawn hanes am dano yn pregethu yn
Amlwch, Sir Fòn, cyn adeiladu y capel
cyntaf yno. Pregethai yn yr awyr agored,
am fod y gynulleidfa, yn ddiau, yn rhy
fawr i unrhyw d}'. Safai wrth dalcen tŷ
yr hen bregethwr, WilHam Roberts, y
crydd. Yr oedd llyn o ddwfr, meddir, yn
gyfagos i áỳ Wilham Roberts ; Ilyn lled
fawr, a lled fudr ei ddwfr yn gyffredin.
Yr oedd yn byw yn y gymydogaeth ar y
pryd amaethwr, yr hwn oedd yn dra dig-
îlawn at y Methodistiaid. Penderfynodd
y g\vr hwn, wedi deall fod cyfarfod cref-
yddol i gael ei gynal yn y dref, fyned yno
i wneuthur gwawd o hono, ac i'w aflon-
yddu. Daeth i'r dref ar ei geffyl, gan
fwriadu marchogaeth trwy y gynulleidfa,
a thrwy hyny ei dyrysu a'i chwalu. Tybiai
y caffai ddifyrwch wrth weled penbleth y
bobl druain oedd wedi ymgynull i wrando.
Eithr pan ddaeth yn gyfagos, mynai y
ceffyl, er gwaethaf ei berchenog, droi i'r
llyn ; ac wedi cyrhaedd yno, taflodd ei
farchog oddiar ei gefn i'r dwfr, gan orwedd
ar ryw ran o hono fel nas gallai symud.
Ofnai yr edrychwyr iddo foddi yn y Ìlyn, a
gwaeddent ar i rywun ei achub ef. " O,
na," ebai irhyw hen wraig, mwy ei nwyd,
debygyd, na'i gras, " gadewch iddo ; gan
i'r Llywydd mawr weled yn dda fyncd ag
ef yna, yna y dylai fod." Tybiai rhai fod
llygaid yr hen wraig ar Diar. xxviii. 17 :
" Dyn a wnelo drawsedd i waed neb, a ffŷ
i'r pwll ; nac atalied neb ef." Modd
bynag, rhuthrodd rhywrai i'r Ilyn, a Ilusg-
asant y dyn druan allan o'i wely peryglus,
heb fod fawr gwaeth, ond fod ei ddiwyg
yn Ilawer butrach. Felly, siomwyd yr
erlidiwr. Nid difyrwch, ond poen, a f u y
tro iddo ; ac yn Ile medru dyrysu y modd-
ion, cafodd y gynulleidfa bob hamdden i
wrando heb i neb feiddio gwrthddywedyd.
Ymddengys mai Dafydd Morris oedd y
cyntaf o'r Methodistiaid i bregethu yn
nhref Beaumaris. Ar yr heol y safai, ond
ychydig o lonyddwch a gafodd ; ymosod-
wyd arno gyda cherig a thom ; a chodwyd
y fath dwrf a therfysg, fel nas gallai fyned
yn mlaen. Yr oedd Ilais Dafydd Morris
yn gryf a chlochaidd, a'i galon ynddo yn
wrol ; ond ymddengys fod yno yn perthyn
i'r Methodistiaid ddyn, WiIIiam Lewis
wrth ei enw, a feddai lais cryfach fyth.
Safodd hwn i fynu yn ddiofn, wedi i'r
terfysgwyr orchfygu y pregethwr o'r Dê,
ac ymliwiodd a'r bobl am eu hymddygiad
at \vr dyeithr, a ddaethai o bell i geisio
gwneyd daioni iddynt. Gostegodd hyn i
raddau ar y terfysg, a chafwyd peth Ilon-
yddwch i orphen y cyfarfod. Pe buasai
Dafydd Morris wedi ysgrifenu ei hanes yn
fanwl, fel y gwnaeth Howell Harris, gan
gadw cofnod manwl o bob peth a ddyg-
wyddodd iddo, yr erlidiau a ddyoddefodd,
a'r gwaredigaethau a estynwyd iddo,
buasai yn ffurfio penod debycach i ramant
nag i ddarn o hanesiaeth.
Ceir yn Methodistiaeth Cymru gynllun o'i
gyhoeddiad yn Sir Gaernarfon, yn y
flwyddyn 1771, yr hwn sydd yn meddu
cryn ddyddordeb : —
Tachwedd 23, 1771, am 12, Waunfawr; uos,
Llwyncelyn.
Dydd Mawrth, Llanllyfni, 2 ; a chadwynbreifat
(seiat).
Dydd jMercher, am 10, Tynewydd ; y nos, Bryn-
ygadfa.
Dydd lau, am 12, Nefyn ; nos, Tydweiliog.
Dydd Gwener, am 10, Tymawr ; prydnhawn, am
3, Lon-fudr.
Dydd Sadwrn, am 12, Saethonbach.
Boreu Sul, PwUheli ; Cricieth, am 2.
Dydd Llun, am 10, Brynengan : a cliadw yn
breifat yu y Garn, am 5.
Nid annhebyg mai cynifer a hyn o leoedd
pregethu oedd gan y Methodistiaid yn Sir
Gaernarfon ar y pryd ; ac os felly, pur
araf y cynyddodd yr achos ynddi.
Ceir yn yr un Ilyfr fraslun o daith a
wnaeth yn Sir y\berteifi, tua'r flwyddyn
1789, sef ryw ddwy flynedd cyn ei farw;
ac yn y braslun hwn rhoddir y testunau
oddiar ba rai y pregethodd yn ogystal : —
488
Y TADAU METIIODISTAIDD.
GoRPiiENAP 18, 1789.
Capel Twrgwyn. . . Esaiah lv. .3.
Glynyrhedyn . . . Luc i. 74.
Abeiteifì Can. vii. 1.
Llandudocb .... Luc
Llochryd 1 Cor. iii. 21, 22.
Treniain Luc i. 47.
,, f TT 1 í i 1 Cor. iii. 21, 22, mcwn
Morfa ucbaf . . . { „i ' ij
I angladd.
Tro I Sasiwn Llangeitho.
Yn y Sasiwn yn gyntaf Can. vii. 1.
Llanddewi-brefi . . 1 Cor. iii. 21, 22.
Tregaron Actau xvi. .30, .31.
Swyddfîynon . . . Heb. vi. 7, 8.
Lledrod 1 Cor. iii. 21, 22.
Llangwyryfon . . . Luc i. 74.
Llanbadarn Fawr . . Heb. iv. 3.
Aberystwyth . . . Actau xvi. 30, 31.
Rhyd-y-felin-fach . . Zech. xii. 10.
Llanrhystyd . . . Phil. iii. 20, 21.
Llannon Heb. ii. 3.
Penant Actau xvi. 30, 31.
Llanarth Heb. ii. 3.
Geufíos Zech. xii. 10.
Un ffaith ddyddorol a geir yn y braslun
hwn ydyw, fod Dafydd Morris yn pregethu
yn Nghymdeithasfa ei sir ei hun. Yr oedd
hyn flwyddyn cyn i Daniel Rowland farw,
ac y mae yn sicr fod a fynai efe â'r trefn-
iant. Dywedir fod ganddo gynifer a saith
o wahanol bregethau ar Actau xvi. 30, 31.
Parhäi Dafydd Morris i gyfansoddi pre-
gethau newyddion trwy ystod ei oes, ac
ymddengys fod hyn yn orchwyl hawdd
iddo. Dywed awdwr Metìwdistiadh Cymvu
iddo weled saith o bregethau o'i eiddo,
wedi eu cyfansoddi mewn chwech wythnos
o amser, yn y flwyddyn 1789, sef dwy
flynedd cyn ei farw. Nid oes dim yn
awgrymu fod hyn yn beth anarferol iddo.
Dywedai Mr. John Jones, Castellnewydd,
ddarfod iddo ef ei wrando saith-ar-hugain
o weithiau mewn un flwyddyn, a bod
ganddo bregeth newydd bob tro. Yn y
brasluniau o'i bregethau sydd ar gael, ym-
ddengys nad oes dim anarferol o ran cyn-
Uun na chyfansoddiant ; eu prif nodwcdd
yw Ysgrythyroldeb ; ond diau ei fod yn
cael llawer o'i syniadau dysgleiriaf ar y
pryd, pan y byddai ei yspryd yn poethi
wrth ymdrin â'r gwirionedd.
Yr ydym wedi dangos yn barod fod
Dafydd îýlorris yn meddu craffder arbenig
i adnabod cymeriad. Ceir hanes am dano
yn Llansamlet a brawf yr un peth, ac a
ddengys fod ganddo awdurdod nodedig i
lywodraethu,agweinyddudysgyblaeth, pan
fyddai galw. Yr oedd yn Llansamlet ẃr
o'r enw Llewelyn John, cristion gloyw, a
chymeriad pur. Yn ychwanegol, meddai
ddawn gweddi helaeth, ac arferai fyned o
gwmpas gyda phregethwyr i ddechreu y
cyfarfodydd iddynt. Bu unwaith yn y
Gogledd gyda Jones, Llangan. Yn mhen
amser maith aeth Llewelyn John yn
hen ac yn dlawd. Penderfynodd y seiat
gyfranu ryw gymaint yn wythnosol at ei
gynaliaeth ; ond bu hyn yn foddion i beri
cenfigen a therfysg. Yr arweinydd yn yr
helynt oedd " Beni y crydd." W'edi cryn
gyffro, penderfynwyd anfon cenhadau yno,
er ceisio adfer trefn. Yn y cyfamser, daeth
Dafydd Morris heibio ; ac ar ol yr odfa,
mewn cyfarfod eglwysig, gosododd y
brodyr y mater ger ei fron. Ar ddechreu
y drafodaeth rhoddes " Beni " amnaid i
Dafydd Morris ddarllen y drydedd benod o
2 Thes,, lle y ceir y geiriau : " Os byddai
neb ni fynai weithio, na chai fwyta
ychwaith." " Na wnaf fi," ebai yntau,
" darllen hi dy hunan, os myni." Gwnaeth
Beni hyny ; ac yn ganlynol, wrth drafod y
mater, coffaodd hi drachefn, fel un bender-
fynol ar y pwnc. Bellach, yr oedd yspryd
Dafydd Morris wedi cyffroi ynddo, ac nis
gallai ymatal, a dyma ef yn arllwys ei
dynghed ar Beni, druan. " Clyw, y
cythraul," ebai, " a wyt ti yn cymhwyso
yr adnod yna at yr hen ẃr duwiol ?
Rhwygwr wyt ti, a rhwygwyr yw y rhai
sydd yn dy gynghrair, ac allan â thi a
hwythau." Yr oedd y Parch. Hopkin
Bevan yn y cyfarfod ar y pryd, ac arferai
ddweyd na fu mewn lle mor ofnadwy
erioed ; ei fod yn teimlo fel pe byddai llawr
y capel yn crynu gan yr awdurdod oedd yn
y geiriau. Gwedi hyn ymrestrodd y ter-
fysgwr yn filwr, ac adferwyd tangnefedd
i'r eglwys.
Yr oedd Dafydd Morris, heblaw bod yn
bregethwr gwych, yn emynydd o fri, a
cheir amryw o'i emynau yn y llyfr a ar-
ferir yn bresenol gan y Methodistiaid.
Cyhoeddodd lyfr bychan o'i gyfansodd-
iadau cyn iddo adael Lledrod, a dywed y
wyneb-ddalen iddo gael ei argraffu yn
Nghaerfyrddin, yny flwyddyn 1773. Felly,
nid oedd yr awdwr ar y pryd ond naw-
mlwydd-ar-hugain oed. Enw y llyfr yw,
Cáii y PererÌHÌon Cystiiddiedig. Yn y rhag-
ymadrodd ceir a ganlyn : " Gwybydded
pwy bynag y dygwyddo hyn o emynau
ddyfod i'w ddwylaw, na fwriedais i erioed
wrth eu canu eu rhoddi mewn print ; ac
mai afreidiol oedd i mi osod fy enw yn
gyhoeddus trwy eu hargraffu. Ond wrth
gofio am y gwŷr goludog oedd yn bwrw
i'r drysoría o'r hyn oedd yn ngweddiU
ganddynt, mi glywais beth cymhelliad
Capel Twhüwyn, Siu Aiieiíxeifi.
[Mae y geirian. liijn yn argraffediç/ arffrynt y capel:—" Y Ty hwii a aileìladwycl i'r Parch.
Dan. Boivlands, O.C. 1750, a ail adeiladwyd O.C. 1816, a adntiwyddwyd O.C. 26Ŵ'."]
PeNTREF PeNEFOS, GElt TWBGWYN.
[Preswyliai yr enwoy bregethwr yn y prif dy ar y darlun,]
DARLUNIAU YN DAL PERTHYNAS A CHOFFADWRIAETH
DAVID MORRIS, TWRGWYN (LLEDROD).
DAFYDD MORRIS, TWRGU'YW
4S9
ynof i daflu fy nwy hatling i mewn yn eu
mysg, Heblaw hyny, wrth roddi ambell
air maes o honynt weithiau mewn cynull-
eidfaoedd cristionogol, a gweled ambell
blentyn newynog yn adfywio trwy yr ym-
borth gwael hwn, a'r Árglwydd yn dys-
gleirio arnynt trwy y moddion, mi a
feddyliais ei bod yn hechod i gadw bara
haidd oddiwrth eneidiau newynllyd ; hyn
a'm cwbl gymhellodd idd eu gosod o'th
flaen yn y drych y gweli hwynt. üs ben-
dith a gei oddiwrthynt trwy eu darllen,
neu eu canu, rho'r clod i Dduw, a gweddia
drosof finau, yr hwn ivyf dy gydymaith
mewn cystndd, — Dafydd Morris." Aw-
gryma y geiriau sydd mewn llythyrenau
Italaidd fod yr awdwr ar y pryd yn wael ei
iechyd. Yn sicr, nid oedd raid iddo ym-
esgusodi o herwydd cyhoeddi y llyfr, na
galw ei Emynau yn "ymborth gwael" nac
yn " fara haidd ;" y mae yspryd y peth byw
yn amryw o honynt, a byddant yn debyg o
gael eu canu tra y parhao y Cymry i
offrymu mawl i Dduw yn eu hiaith eu
hunain. Yn mysg eraill, perthyn yr em-
ynau canlynol i Dafydd Morris : —
" Mae brodyr imi aeth ymlaen."
" Os rhaid yfed dyfroedd Mara."
" Arglwydd grasol, dyro gymhorth."
" A ddaw gwawr ar ol y plygain ?"
üs nad oedd ei awen mor hedegog ag
eiddo WilUams, gwehr fod ei emynau yn
nodedig am eu Hysgrythyroldeb a'u dwys-
der.
Yr oedd Dafydd Morris hefyd yn
ddyn nodedig o garuaidd, a thyner ei
deimlad ; ac arferai letygarwch ar
raddfa eang, fel y ceid aml gyfleustra y
dyddiau hyny. A braidd nad oedd ei
wraig, Mary, un o'r benywod serchocaf ar
y ddaear, yn rhagori arno yn y rhinwedd
hwn. Ni byddai wythnos yn pasio na
byddai ryw " lefarwr " yn ymweled a
Twrgwyn ; ac ambell wythnos byddai
pedwar neu bump ; oblegyd cyfnod y
teithio oedd hwnw, ac yn nhŷ Dafydd
Morris y lletyent gan amlaf, a byddai Mrs.
Morris wrth ei bodd yn gweini arnynt.
Parchai hwynt oll, y sychlyd ei ddawn fel
y talentog ; yr anwybodus fel y galluog ;
anrhydeddai y gwaelaf fel cenad Duw.
Bu farw yn y flwyddyn 1788, yn gymharol
ieuanc, ac ysgrifenwyd marwnad iddi gan
WilUams, Pantycelyn. Braidd nad yw y
farwnad yn awgrymu na pherchenogai
dalent ddysglaer, ond mai mewn duwiol-
frydedd a charedigrwydd y rhagorai. Wele
ychydig o'r peniUion : —
" O galared y gyn'ileidfa
Fawr, liosog, faith, am hyn,
Sydd yn bwyta bara'r bywyd
0 fewn capel y Twrgwyn ;
Collwyd mam, a chwaer, a mamaeth,
Collwyd gwraig garuaidd wiw ;
Ac nid oes all lanw'r goUed,
Ond yr Hollalluog Dduw.
Os rhagluniaetli drefna imi —
F'allai fyth fydd hyny'n bod —
Wrth gyhoeddi'r 'fengyl oleu,
1 dŷ Dafydd IMorris ddod ;
A gwel'd Mary'n eisiau yno,
Gwn y tyn afonydd hallt
0 fy Uygaid, fel o greigydd,
Er mor wyned yw fy ngwallt.
INIwy yw Dafydd yn mhob ystj-r,
Uwch na Mary raddau heb i'i',
Mwy talentau, mwy arddeliad,
Godidocach sw)'dd ua hi ;
Ond am garu, ymgeleddu,
Gwneyd y rheidus oer yn glyd,
Yr oedd Mary'n abl ateb,
Neb rhyw wraig o fewn y byd.
Doed pregethwyr fan y deuant,
Gogledd, de, neu ddwyrain bell,
I'r Twrgwyn, gyhceddi allan
Bur newyddion Juwbil well ;
O ba ddwg, o ba dalentau,
O ba raddau, o ba ddawn,
Hwy gaen' íîeindio ]\lary IMorris,
0 garueiddiwch pur yn llawn."
Bu i Dafydd Morris a Mary dri o bhint,
sef Theophilus, Eleazer, ac Ebenezer.
Cymerodd angau y ddau flaenaf ymaith yn
nyddiau eu hieuenctyd, a chyn cael cyf-
leustra i wneyd dim yn haeddu ei goffa ;
ond am yr olaf, Ebenezer, daeth yn un o
ser dysgleiriaf y pwlpud, ac y mae enw
" Eben Morris" yn anwyl gan y genedl
hyd y dydd hwn. Daw efe dan ein sylw
eto. Oes fer a gafodd Dafydd Morris; can-
wyU yn Uosgi yn ddysglaer ydoedd, a Uosg-
odd i'r soced yn bur fuan. Ar yr ail-ar-
bymtheg o fls Medi, 1791, galwyd ef oddi-
wrth ei waith at ei wobr, ac efe ond saith-a-
deugain mlwydd oed, ac wedi bod yn pre-
gethu am ryw chwech-mlynedd-ar-hugain.
Rhoddwyd ei weddillion i orwedd yn myn-
went Troedyraur, yn nghanol dagrau
lawer. Ond i ni gadw mewn côf ei fod yn
cydfyw, yn mron trwy ystod ei oes, á'r
Tadau Methodistaidd cyntaf; mai tua
blwyddyn o'i flaen y bu farw Daniel
wyth mis o'i flaen y
Pantycelyn, yr lor-
Peter W^lliams, ei
oroesi ; ac iddo fod yn gydlafurwr â Howell
Rowland ; mai tuag
croesodd WiIIiams,
ddonen ; ddarfod i
490
Y TADAU METHODISTAIDD.
Davies a Howell Harris ; ac eto i gyd
iddo, yn mysg yr enwogion hyn, enill iddo
ei hun safle fel pregethwr o'r radd flaenaf,
fel y daeth ei enw yn air teuluaidd yn
Nghyniru, o Fôn i Fynwy, rhaid fod
Dafydd Morris yn bregethwr anghyffredin.
A chan iddo droi liawer i gyfìawnder,
rhaid ei fod heddyw, yn ol geiriau yr Ys-
grythyr, yn seren o'r niwyaf dysglaer yn
íîurfafen y nefoedd. Cyfansoddwyd marw-
nad iddo gan y Parch. Thomas Jones, o'r
Maes, yn Sir Gaerfyrddin, wedi hyny o
Peckham, Surrey, o ba un y difynwn
ychydig benilhon : —
" Seren ddysglacr yn goleuo
Yn nchoulaw lesu gwiw,
Gariodd atlirawiaethau grymus,
Pur wirionedd geiriau Duw ;
Chwiliai ddyfnion droiou calon,
Troion gwrthgiliadau cas,
Yn ngoleuni ei athrawiaeth
Fe'i datguddiai hwynt i maes.
Nid ymryson gwag a dadleu
Ydoedd ei bregethau ef ,
Ond canolbwynt ei atbrawiaeth,
Oedd gogoniant Brenin nef ;
Dyn yn ddyn, a Christ yn bobpeth,
Fyddai e'n gyhoeddi maes,
Mewn rhyw ddysglaer oleu, hyfryd,
A rhyw ddwyfol nefol flas.
Y mae rhai o'i ddwys gynghorion
Ar fy meddwl hyd yn awr ;
'Rwy'n hyderu caf eu cofìo
Tra b'wyf ar y ddaear lawr ;
Wrth drafaelu dyffryn Baca,
Sych ac anial, llawn o wres,
Mewn tywyllwch anghysurus,
Gwnaethant i fy enaid les."
Y trydydd enw sydd uwchben y benod
yw eiddo William Llwyd, o Gayo. Fel am-
rai o bregethwyr cyntaf y Methodistiaid, yr
oedd Mr. Llwyd yn hànu o deulu parchus,
yn meddu eiddo rhydd-ddahadol, a pher-
thynai yn agos i Lwydiaid y Briwnant, yr
hwn deulu iDreswylia yn y Briwnant, ar y
naill du rhwng Cayo a Phumsaint, hyd y
dydd hwn, ac a ystyrir yn mysg bonedd
Sir Gaerfyrddin. Enw ei dad oedd Dafydd
Llwyd, a phreswyliai yn Blaenclawdd, ger
Cayo.* Cafodd \ViIIiam ei eni yn y
flwyddyn 1741, seftua chwe' blynedd wedi
cychwyniad y diwygiad Methodistaidd, a
rhyw ddwy flynedd cyn Cymdeithasfa
gyntaf \Vatford. Pan yr oedd efe yn
blentyn bychan, yn chwareu o gwmpas
gliniau ei fam, yr oedd Rowland a Harris
yn tanio Cymru, a than fendith Duw yn
Trysorfa Ys^yrydol.
cynyrchu chwildroad hoUoI yn nghyflwr
moesol y trigolion. Ymddengys i rai o'r
gwreichion gydio yn WiIIiam pan yn ei
fabandod, obíegyd dywed ei fod dan fesur
o argyhoeddiad, ac mewn pryder oblegyd
ei gyflwr, er pan o gwmpas saith mlwydd
oed. Diau mai rhyw ddylanwad, mwy
neu lai uniongyrchol, oddiwrth weinidog-
aeth y Diwygwyr cyntaf a fu y moddion i
gynyrchu hyn. Am helynt dyddiau ei
ieuenctyd ychydig a wyddom ; eithr cafodd
addysg well na'r cyffredin, a bu am beth
amser yn ysgol y Parch. Owen Davies,
gweinidog perthynol i'r YmneiIIduwyr.
Pan oedd tua deunaw mlwydd oed cafodd
gyfleustra i wrando Peter WiIIiams, a
than y weinidogaeth dyfnhawyd ei argy-
hoeddiadau yn ddirfawr, fel y darfu i fater
enaid Iyncu pob peth iddo ei hun yn ei
deimlad. " O'r blaen," meddai Mr.
Charles, " nid oedd ei argyhoeddiadau,
mewn ystyr, ond meirwon a dieffaith, yn ei
ddangos ac yn ei farnu yn euog ; eithr
heb fawr o ymgais i ffoi rhag y Ilid a fydd,
ac heb y waedd yn ei yspryd: Beth sydd
raid i mi ei wneuthur fel y byddwyf cad-
wedig ? Ond efíeithiodd gweinidogaeth
y gweinidog llafurus hwnw, y Parch. P.
WiIIiams, yn fywiog ac yn danllyd arno,
nes yr oedd dyfnder ei bechadurusrwydd,
a'i drueni yn ganlynol, heb un Ilen yn ei
olwg, a chadw enaid y peth mwyaf ei
bwys a'i ganlyniad o ddim yn y byd."
Ymddengys ddarfod i'r Ilanc, WiIIiam
Llwyd, fod mewn gwasgfa meddwl am
gryn yspaid ; dan Sinai yn swn y taranau
y preswyliai ; am agos i flwyddyn Ilanwai
dychrynfeydd y ddeddf ei enaid, heb gael
tawelwch yn un man. Y gŵr a ddefnydd-
iwyd i agor drws gobaith o'i flaen oedd
Evan Jones, cynghorwr o Ledrod, yn Sir
Aberteifi. Ychydig neu ddim o hanes yr
Evan Jones yma sydd ar gael ; yn unig
ceir ei enw yn mysg cynghorwyr Rowland ;
ai byr ei ddawn ydoedd, ynte a feddai
dalent naturiol gref, ni wyddom; ond efe a
fendithiwyd i dywallt balm yr efengyl i
glwyfau dyfnion WiIIiam Llwyd, ac eiddo
i Grist a f u y gŵr ieuanc o hyny allan.
Brysiodd i ymuno âg eglwys Crist, ac
yn ol Mr. Charles, gyda chynulleidfa yr
Ymneillduwyr yn y gymydogaeth, sef, yn
ddiau, cynulleidfa Crugybar, y bwriodd ei
goelbren. Awgryma Mr. Charles, yn
mhellach, mai y rheswm paham y gwnaeth
felly oedd, am nad oedd seiat Fethodist-
aidd o fewn cyrhaedd iddo ; a dywed mai
yn y flwyddyn 1760 y ffurfiwyd cymdeithas
WILLIAM LLWYD, O GAYO.
491
neiUduol gan y Methodistiaid yn Nghayo.
Prin y geiU hyn fod yn gy wir, . oblegyd
dengys cofnodau Trefecca fod yno seiat
gref, yn rhifo 44 o aelodau, yr hon oedd
dan arolygiaeth James Wilhams, mor
foreu a 1743. Tybia Mr. Hughes, awdwr
Metìwdistiaeth Cyiui'ii, i'r seiat yn Nghayo
ddiflanu o fod, neu ynte wanhau yn ddir-
fawr, yn ystod encihad Harris, a'r terfysg
a ddilynodd. " Y pryd hwnw," meddai,
" y Uaesodd dwylaw llawer o'r cynghor-
wyr cyntefìg, y dyrysodd ysgogiad y peir-
iant crefyddol a osodid i fynu gan y Diwyg-
wyr, ac y chwalwyd Ihaws o'r mân eglwysi
a gasglesid at eu gilydd y blynyddoedd
blaenorol." Digon tebyg mai fehy y dyg-
wyddodd yn Nghayo, a darfod i'r achos
gael math o ail gychwyniad tua'r ílwyddyn
1760.
Nid hir y bu Wilham Llwyd gydag
Annibynwyr Crugybar ; trwy oíferynol-
iaeth y Methodistiaid y cawsai ei ddwyn
i adnabyddiaeth o'r Gwaredwr, a chyda
hwy yr oedd am gyfaneddu. Felly, pan yr
ail gychwynwyd yn Nghayo, er mai tua
deunaw oedd rhif yr aelodau yno, ymunodd
a'r gymdeithas ar unwaith. Ar yr un
pryd, ni fu unrhyw deimlad anngharedig
rhyngddo a'r eglwys Annibynoí ; par-
haodd mewn cyfeillgarwch â hi, ac a'i
gweinidog, tra fu byw. Er yn ddyn
newydd, yr oedd arno angen am fagwraeth
ysprydol, ac ymddengys mai tan weinidog-
aeth Daniel Rowland yn benaf y caffai
hyny. Cyrchai yn fisol i Langeitho tros
ei holl ddyddiau, oni fyddai amgylchiadau
yn ei luddias ; ac fel y Ihaws a ymgasglai
yno, cyfranogai yn helaeth o'r danteithion
ysprydol a arlwyid mor ddibrin. Pan oedd
tua dwy-ar-hugain oed, penderfynodd
ymroddi i waith yr efengyl, a daeth yn
bur fuan yn nodedig o boblogaidd. Ei
brif nodwedd fel pregethwr oedd tân, yn
nghyd â Uais soniarus a nerthol. Yr
oedd ei hun o deimladau cyffrous, ac yn
nodedig o danbaid ; a thuedd ei weinidog-
aeth oedd cyffroi eraiU. Nid oedd .dim a
safai o'i flaen pan gaffai y gwynt o'i du.
Lledai ei hwyhau i'r awelon ; a byddai ei
lestr yn morio yn ogoneddus. Nid oedd
yn amcanu goleuo y deall yn gymaint ; at
y galon yr anelai yn benaf. Nid oedd i'w
gymharu â Rowland a Harris o ran dirnad-
aeth o ddyfnion bethau Duw ; ac yr oedd
yn mhell o fod i fynu â hwy mewn mater
a meddwl ; ond meddai yntau ddawn
arbenig, hollol annhebyg i eiddo pawb arall,
a bendithiwyd ef i ddychwelyd canoedd at
Grist. Meddai Mr. Charles : " Yr oedd
ucheledd a phob rhagoriaethau yn noniau
Mr. Daniel Rowland, dyfnder defnyddiau,
grym a phereidd-dra llais, ac eglurdeb a
bywiogrwydd yn traddodi dyfnion bethau
Duw, er syndod a'r effeithioldeb mwyaf ar
ei wrandawyr. Yr oedd Mr. Llwyd yn
fwy arwynebol, ond yn efengylaidd, yn
wlithog, yn hyfryd, ac yn doddedig iawn ;
a pheth sydd fwy, ac yn coroni y cwbl,
yr oedd Duw yn ei arddel ac yn mawr
Iwyddo ei lafur."
Priododd ferch i un Mr. John Jones,
o'r BIack Lion, Llansawel, ac aethant i
gyfaneddu i Henllan, fferm yn ymyl Cayo
oedd yn eiddo iddynt. Yr oedd Mrs.
Llwyd yn ddynes o dduwioldeb amlwg, ac
o yspryd tanbaid ; yn ei ffordd ei hun, yr
oedd lawn mor hynod a'i phriod. Teithiai
Mr. Llwyd lawer : ymwelai yn fynych â
phob ran o Gymru ; a chan fynychaf
byddai Mrs. Llwyd yn ei ganlyn fel
" cyfaill," a dywedir y byddai yn arfer
dechreu yr odfaeon iddo. Yn ngwres ei
deimlad, byddai Mr. Llwyd ei hun yn tori
allan yn aml i folianu yr lesu ar ganol ei
bregeth ; a chyfranogai ei wraig yn yr
hwyl nefol, a byddai yn fynych yn neidio
ac yn molianu ar lawr y capel. Clywsom
am dano unwaith wedi myned allan i dŷ'r
capel, gan adael y dorf ar ol yn gorfoleddu
yn hyfryd, ac yn mysg y IIu, ei briod. Yn
mhen ychydig dilynwyd ef gan un o'r
blaenoriaid, yr hwn a ddywedai wrtho :
" Y mae Mrs. Llwyd yn molianu yn
ogoneddus yn y tỳ cwrdd." Meddai yntau
yn ol : " Gadewch iddi ; un gyfrwys iawn
yw hi ; nid yw byth yn gwthio ei Ilestr i'r
môr, nac yn codi hwyl, ond pan fyddo yr
awel o'i thu ; ond am danaf fi, rhaid i mi
forio yn aml yn erbyn y gwynt a'r tonau."
Yn mhen amser gwedi hyn, os nad ydym
yn camgymeryd, dangosodd y Gymdeith-
asfa ryw gymaint o anfoddlonrwydd i
bregethwyr gymeryd eu gwragedd o gwm-
pas ar eu teithiau, oblegyd y teimlid an-
hawsder yn fynych i gael llety priodol
iddynt.
Diau fod " Llwyd, o Gayo," yn meddu
cymhwysder arbenig ar gyfer yr oes
yr oedd yn byw ynddi. Daeth yn fuan
yn un o'r pregethwyr mwyaf poblog-
aidd. Dywed Mr. Charles am dano yn
mhellach : " Yr oedd yn mhob ystyr yn
enillgar, ei berson yn hardd, ei ystymiau
yn addas, ei lais yn beraidd, a'i areithydd-
iaeth yn barod, yn fywiog, yn hysain, ac yn
weddus." Ac meddai Christmas Evans: —
492
Y TADAU METHODISTAIDD.
" William Llwyd a'i ddalen wyrdd."
Rhaid ei fod yn areithiwr wrth natur ; a
phan y cysylltir hyn â chyffro ei yspryd,
nid rhyfedd iddo enill enwogrwydd dirfawr
fel pregethwr, a bod y wlad yn tyru i'w
wrando. Er y pregethai weithiau yn ar-
gyhoeddiadol, prif destun ei weinidogaeth
oedd Crist a'i iachawdwriaeth, golud gras,
eangder yr addewidion, a pharodrwydd
trugaredd ddwyfol i ymgeleddu y pechadur
gwaelaf a thruenusaf.
" Tangnefeddwi-, carwr lieddwcli,
Meddyg mwyn at glwyfau'r gwan ;
Ond dwrn o blwm ar ben rhagrithiwr,
I'w guro i lawr, i'w gael i'r lan."
Yn ei amser bendithiwyd Cymru a nifer
o ddiwygiadau grymus. Yr ydym wedi
cyfeirio yn barod, yn hanes Howell Harris,
at yr un a gymerodd le tua'r flwyddyn
1763, pan ddaeth hymnau WilHams, Pant-
ycelyn, allan gyntaf, ac y llanwyd y wlad
a'r hyn a eilw Harris yn yspryd canu.
Ymddengys iddo weled chwech o rai ych-
wanegol. Cymerodd un le yn 1773, yr ail
yn 1780, y trydydd yn 1789, y pedwerydd
yn mhen blwyddyn gwedi, sef yn 1790, y
pumed yn 1894, ^r chwechfed yn
1805. Mewn cysylltiad â'r diwyg-
iadau hyn yr oedd Mr. Llwyd yn
dra gweithgar. Porthai yr ieuenctyd â
didwyll laeth y Gair ; fel bugail íìyddlawn
gwyliai drostynt, a chadwai ddysgyblaeth
fanwl arnynt. Meddai Mr. Charles : "Ei
bwyll, ei arafwch, a'i ddoethineb, yn nghyd
â'i fFyddlondeb yn ymdrin â chyflyrau
dynion, oedd yn nodedig o werthfawr."
Nid oedd neb mwy cymeradwy nag ef yn
ei sir ei hun ; a phrawf o'r lle uchel a
feddai yn syniad ei frodyr yw y ff"aith mai
efe a gafodd yr anrhydedd o bregethu
pregeth angladdol y Prif-fardd o Banty-
celyn.
Bu yn y weinidogaeth am tua phum'-
mlynedd-a-deugain. Yn ystod y cyfnod
maith hwn pregethodd lawer yn yr ardal-
oedd o gwmpas ei gartref, heblaw, fel y
darfu i ni sylwi, deithio hoU Gymru lawer
gwaith ar ei hyd a'i lled. Parhaodd yn
boblogaidd hyd derfyn ei oes, ac ni fu
ystaen ar ei gymeriad. Yn ei ddyddiau
diweddaf, ystyrid ef, a hyny yn hoUol
deilwng, yn un o dadau y Cyfundeb. Y
Sul olaf y bu byw, pregethodd yn Llan-
ddeusant a Llansadwrn. Daeth adref yn
glaf, a chwedi pum' niwrnod o gystudd
gorphenodd ei yrfa, Ebrill 17, 1808, yn 67
mlwydd oed. Caniataodd yr Arglwydd
iddo ei ddymuniad, sef cael marw heb fod
yn hir yn sâl. Drwy ystod ei gystudd byr
yr oedd ei feddwl yn hollol dawel, gan
bwyso yn gyfangwbl ar haeddiant a ffydd-
londeb lesu Grist. Pan y gofynodd uno'r
brodyr iddo, beth oedd yn feddwl am yr
athrawiaeth y bu yn ei phregethu am
gynifer o flynyddoedd. Atebai : " Yr wyf
yn mentro fy mywyd arni i dragywydd-
oldeb."
" Yn forcu, foreu, aetli i'r winllan,
Yn lân fe weithiodd hyd brydnhawn."
Dygwyd yr hyn oedd farwol o hono, o
Henllan, !le y treuliasai y rhan fwyaf o'i
oes, i fynwent Cayo, ac yno rhoddwyd ef i
orwedd hyd ganiad yr udgorn.
Y mae yr un sylw ag a wnaethom am
Dafydd Morris yn wir hefyd am William
Lhvyd, sef iddo enill poblogrwydd cyffred-
inol yn nyddiau Daniel Rowland, Williams,
Pantycelyn, a Jones, Llangan, ac y mae
hyn yn brawf o dalentau Ilawer rhagorach
na'r cyffredin, a medr arbenig i draddodi
yr efengyl.
Gyda golwg ar y tri phregethwr hyn,
WiIIiam Davies, Castellnedd, Dafydd
Morris, a William Llwyd, y mae pob Ile
i gasglu na chymerwyd darluniau o hon-
ynt ; o leiaf, er dyfal chwilio, yr ydym ni
wedi methu darganfod yr un ; ond gan y
meddent y fath enwogrwydd, ac felly fod
pob peth cysylltiedig â hwy o'r fath
ddyddordeb, yr ydym wedi gosod i mewn
amryw ddarluniau o leoedd y dalient
gysylltiad â hwynt.
^^^
ATTODIAD I'R GYFROL GYNTAF.
Y TADAU METHODISTAIDD A'U CYHUDDWYR.
EL y dysgwyliem, clarfu i'r benod gyntaf yn
I ,i, Y Tadaìt Metliodistaidl, ar sefyllfa foesol
IẄti Cymru adeg cyfodiad Methodistiaeth, yn
nghyd a'r dadleniad a wnaethom ynddi o'r
modd y darfu i'r diweddar Dr. Rees, Abertawe,
gam ddifynu taflen Dr. John Evans, beri cryn
gyfíro mewn rhai cylchoedd. Daeth cyfeiUion Dr.
Rees allan i'w amddifîyn ; ysgrifenwyd erthyglau
ar y mater yn y newyddiaduron, a phasiwyd peh-
derfyniadau yn ein condemnio mewn cynadleddau.
Teimlwn fod hyn yn galw arnom i ail gerdded y
tir mewn dadl, ac ymdrechwn wneyd hyny gyda
pbob boncddigeiddrwydd. Ar yr un pryd, teimlwn
ei fod yn gorphwys arnom i wneyd cyfìawnder a
chofîadwriaeth Sylfaenwyr y Cyfundeb, y rhai sydd
wedi huno er ys ugeiniau o íiynyddoedd bellach,
ac wedi gadael eu cymeriadau dysglaer, yn ogystal
â ffrwyth eu llafur, ar ol i ni, eu holynwyr, yn
etifeddiaeth werthfawr.
Nid anfuddiol adgofio ein darllenwyr o'r modd y
cychwynodd y ddadl. Dechreuodd trwy i Dr.
Rees, yn ei History of Protestant Nonconformity
in Wales, gyhuddo y Tadau ]\Ietliodistaidd o gam-
ddarlunio yn wirfoddol sefyllfa foesol y Dywysog-
aeth, naiU ai o ragfarn at yr YmneiUduwyr, neu
ynte o awydd am gael iddynt eu hunain yr hoU
glod o efengyleiddio Cymru. Fel na byddo un-
rhyw amheuaetli ar y pen liwn difynwn ei eiriau :
" It seenis tliat tlie early Metìiolisfs, citlier froni
prejtidice against their Nonconf'iniiini/ brctliren, or
a desire to claim to theniselves thc uiidicided ìionour
of having evangelized the Principality , designedly
mispresented or ignored tlte labours of all other
sects. . . . Mr. W. Williams, of Pantycelyn, in his
clegy on the death of Mr. Howell Harris, printed in
1773, asserts, loithout any ^nnlifyinçi remarh, that
all Wales tuas eyiveloped in thiclc darìmcss" (tudal.
279, ail argraffiad). Cyliuddiad mwy difrifol na
hwn nis gellid ei ddwyn yn erbyn unrhyw ddos-
parth o bobl. Gesyd y Tadau ^fcthodistaidd allan
fel dynion dibarch i wirionedd, llawn o ymfîrost ac
o awydd am wag-ogoniant, gan fod wcdi ymlenwi
o genfìgcn a rhagfarn yn erbyn eu brodyr Ymneill-
duol. Gydagolwg ar hyn, meddai un Ysgrifenydd,
" Tcmtiwyd y Doctor i ysgrifenu eu bod wedi cam-
gyfleu pethau yn fwriadol." Tcmtio dyn, yn ol
ystyr gyffrcdin yr ymadrodd, yw ei fod yn cael ci
orddiwes gan l)rofedigaeth sydyn, yr hon yn aml
a'i gorchfyga, ac a bàr iddo, mewn byrbwylldra,
gyfiawni gweithred y bydd yn edifar ganddo am
dani yn ol llaw. Ond, yn sicr, nid dan amgylch-
iadau felly y dygodd Dr. Recs ei gyhuddiad yn
erbyn y IMethodistiaid. Dautb yr argraffiad cyntaf
o'i lyfr allan yn y flwyddyn 18(il ; ni ddygwyd yr
ail argraffiad allan hyd y llwyddyn 1883 ; felly,
cafodd y Doctor ddwy-flynedd-ar-hugain i feddwl
uwchbcn yr hyn ocdd wedi ysgrifenu, a phe y
teimlai ei fod wcdi gwneyd unrhyw gamwri, i
wella ei eiriau. Dywed, yn ei ragymadrodd i'r
ail argraffiad, ei fod wedi ceisio peidio ysgrifenu
brawddeg i ddolurio teimlad neb ; ond y mae y
cyhuddiad gwaradwyddus yn erbyn y Tadau Meth-
odistaidd yn cael ei gadw i niewn ; parheir i'w dal
ger bron y byd fel pobl ymffrostgar, trachwantus
am glod, ac yn ddigon diegwyddor i bardduo cym-
eriad eu cenedl eu hun er mwyn gwag-ogoniant ;
ac aeth Dr. Rees i'w fedd gan adael yr ystaen ddu
hon ar gymeriad Sylfaenwyr y Cyfundeb. Pa
ryfedd fod IMethodistiaid y dyddiau presenol yn
teimio yn ddolurus, ac, i raddau, yn ddigllawn ?
Os oes unrhyw chwerwder wedi cael ei ddwyn i
mewn i'r ddadl, ac os oes geiriau caledion wedi
cael eu Ilefaru a'u hysgrifenu, ceir y rheswm am
hyny yn yr ymadroddion celyd ydym wedi ddifynu.
Er mwyn edrych ar y pwnc yn gymharol gyf-
lawn, cymerwn i fynu o un i un y gwahanol
ddadleuon, â pha rai y ceisir cyíìawnhau ymosod-
iadau Dr. Thomas Rees ar y ÌMethodistiaid. I
gychwyn, honir na ddywedodd erioed fod Cymru
wedi cael agos ei chwbl grefyddoli cyn i'r Method-
istiaid gyfodi, a honir fod y ddadl hon yn tynu y
tir yn hoUoI odditan ein traed. Ein geiriau ni, yn
Y Tadaìi Methodiitaidd, ydynt fod Dr. Rees yn
honi fod rhanau helaeth o'r Deheudir wedi cael
agos eu Ilwyr feddianu gan yr YmneiUduwyr cyn
cyfodiad y Cyfundeb Methodistaidd (gwel tudal.
10 a 14). Dyna a ddywedasom, " yn ei hyd, a'i
led, a'i drwch," ac yr ydym yn giynu wrtho. Y
mae yn wir nad yw Dr. Rees yn defnyddio y
cyfryw eiriau, ond dyna y casgliad anocheladwy y
rhaid dod iddo oddiwrth yr hyn a ysgrifena. Gwna
rif yr YmneiUduwyr yii Nghymru yn y fiwyddyn
1715, yn ol taflen Dr. John Evans, yn haner can'
mil {History of Nonconformity, tuáa,]. 266); dywed
yn mhellach (tudal. 279), nad oedd YmneiUduwyr
Goglcdd Cymru, ar y pryd, ond prin un ran o
ugain o hoU YmneiUduwyr y Dywysogacth ; felly,
rhaid fod rhif Ymneillduwyr y Deheudir, o leiaf,
yn saith-mil-a-deugain a phum' cant. Ac yn ol
cyfrifiad Dr. Rces, rhif hoU drigolion y Dywysog-
aetli yr adeg hono oedd pcdwar can' mil, o ba rai
yr oedd dwy ran o dair yn perthyn i'r Dò. Yr
ydym yii teicnlo yn gwbl sicr fod ei ffigyrau yn
anghywir ; fod poiìlogacth Cíymru yr adeg bono yn
nes i dri chan' mil nac i bedwar can' mil ; a chan
nad oedd y fath wahaniaeth y pryd hwnw ag sydd
yn awr rhwng poblogaeth y Deheudir ag eiddo
Gwynedd, y mae yn amhcus genym a ocdd dau
can' mil o drigolion yn Neheudir Cymru yr adeg
hono. Ond hyd yn nod pc y cymerem gyfrif y
Doctor o boblogaeth Cymru fel un cywir, ni a
welwn ei fod yn gwneyd YmneiUduwyr y Dalaeth
Ddeheuol yn agos i un ran o bump o'r hoU boblog-
aeth. Nis gallai hyn fod, heb i ranau helaeth o'r
494
Y TADAU METHODISTAIDD.
Deheudir fod wedi cael eii meddianu yn bur llwyr
gan Ymneilleuaoth.
ünd daw ein liymresymiad yn fwy eglur os
cymerwn rai o'r gwahanol leoedd ar wahan. Yn
ol taflen I)r. John Evans, yr oedd cynulleidfa
Llanafan a Llanwrtyd yn rhifo wyth cant. Yr
ydym yn barod wedi datgan ein barn fod y rhif hwn
yn ormod ; ond mae Dr. Rees, trwy y cyfnewidiad
a wnaeth yn y daflen, yn dyblu y rhif yma, ac yn
gwneyd cynulleidfa Llanafan a Llanwrtyd yn
un-cant-ar-bymtheg. Cymerer yn ganiataol fod
Llanafan a Llanwrtyd yn golygu holl Gantref
Buallt, o fynydd Abergwesyn yn y gorllewin, hyd
Llanfair-muallt a Rliaiadr-ar-Wy yn y dwyrain, ai
tybed fod un-cant-ar-bymtheg' o drigolion i'w cael
yn yr hoU fro fynyddig hono ar hyny o bryd '? Pa
ÌEaint yn ychwaneg nag un-cant-ar-bymtheg sydd
yn mynychu moddion gras yn Nghantref Buallt
yn bresenol, pan y mae y fath gynydd wedi
cymeryd Ile yn y bob'.ogaeth tuag ardaloedd Llan-
wrtyd, a Llangamarch, a'r cyffiniau ? Ond i adael
hyn, nid ydym yn gweled y posiblrwydd i neb ysgoi
y casgliad, os oedd un-cant-ar-bymtíieg o Ymneill-
duwyr yn Nghantref Biiallt yn y flwyddyn 1715, y
rhaid fod y darn hwnw o'r wlad, beth bynag, wedi
cael ei Iwyr feddiauu gan Anghydffurfiaeth. Ac
eto, tuag ardaloedd Llanfair-muallt a Rhaiadr yr
erlidiwyd Howell Harris waethaf, ac y cafodd ei
gamdrin fwyaf. Pa le yr oedd yr un-cant-ar-
bymtheg YmneiUduwyr y pryd hwnw ? Cymerer
eto y cyfiifon a roddir i Sir Gaerfyrddin. Rhifai
Ymneiiìduwyr Caerfyrddin a Bwlchnewydd, yn ol
Dr. John Evans, GOO ; yn ol Dr. Rees, l,20ü; '^Ym-
neillduwyr Henllan, yn ol Dr. John Evans, 700 ;
yn ol Dr. Rees, 1,400 ; Ymneillduwyr Rhydyceis-
iaid, Äloor, ac Aberelwyn, yn ol Dr. John Evans,
800; yn ol Dr. Rees, 1,600; Y'mneiIlduwyrLlanedi,
Crugybar, a Chrugymaen, yn ol Dr. John Evans,
600; yn ol Dr. Rees, 1,200; YmneiIIduwyr Capel
Seion a Lletyhawddgar, yn ol Dr. John lívans,
500; yn ol Dr. Rees, 1,000; ac YmneiIIduwyr
Llanybri, yn ol Dr. John Evans, 400 ; ac yn ol Dr.
Rees, 800. Os cymerir cyfrif Dr. Rees o Ymneill-
duwyr y lleoedd uchod, yn y flwyddyn 1715, fel un
cywir, a chofisr eu bod yn ardaloedd amaethyddol,
heb ond un dref o bwys rhyngddynt oll, ai tybed
nad rhaid casglu fod Ymneillduaeth wedi eu
meddianu yn bur llwyr ? Yn Sir Aberteifi drachefn,
rhoddir rlìif YmneiUduwyr y Cilgwyn, a phump
neu chwech o leoedd eraill, yn 1,000 gan Dr. John
Evans ; ac yn 2,000 gan Dr. Rees ; ac ystyried fod
hyn yn golygu yr holl randir o Llwynpiod i Llan-
bedr-pont-Stephan, rhaid fod YmneiUduaeth wedi
ei meddianu i raddau mawr, pe y byddai cyfrifiad
Dr. Rees yn gywir. Ac ychwaneg, yn ol Dr. Rees,
bu y cyfnod cydrhwng adeg cyfrif Dr. John Evans
yn 1715 a chyfodiad ]\Iethodistiaeth, yn adeg o
Iwyddiant anarferol yn nglyn âg YmneiIIduaeth yn
ardaloedd Sir Aberteifi a Sir Gaerfyrddin. Dy-
wedir i gant gael eu hychwanegu at gymunwyr
Capel Isaac yn ystod yr aniser hwn ; fod eglwysi
Crugybar a Chrofítycyfí wedi cynyddu yn ol yr
un raddeg; ac i dros ddau cant gael eu hychwanegu
at gymunwyr Llwynpiod a'r Cilgwyn. Nis gallai
yr ychwanegiadau mawrion hyn at rif yr aelodau
cyflawn gymeryd Ile, heb fod cynydd mawr wedi
cymeryd lle yn rhif y gwrandawyr. Ychwanegcr
y cynydd hwn at y rhif a roddir gan Dr. Rees yn y
flwyddyn 1715, a rhaid ei fod yn edrych ar ranau
helaeth o'r Dê agos wedi cael eu llwyr feddianu
gan YmneiIIduaeth cyn i'r Methodistiaid wneyd eu
hymddangosiad.
Credwn yn sicr ein bod wedi profì yr hona Dr.
Rees yn ei Iyfr yr hyn a briodolwn iddo parthed
agwedd Cymru adeg cyfodiad Methodistiaeth. Pa
fodd bynag, nid oes neb yn amheu ei fod j'n honi
fod y wlad wedi cael ei hefengyleiddio i raddau
llawer helaethach nag a ddarlunia y Tadau
]\Ietlaodistaidd. Oni bai am hyn, ni buasai
anghytundeb rhyngom âg ef. Dywed yn bendant
iddynt gamddarlunio agwedd y Dywysogaeth, a
gwneyd hyny yn wirfoddol. Am y rhan olaf o'r
cyhuddiad, ni ddylasai gael ei ddwyn ond tan ar-
gyhoeddiad difrifol o wirionedd, a dylasai gael ei
brofi hyd y carn. Ond nid yw y Doctor yn gweled
yn dda gyflwyno i ni rith o brawf . Dysgwylia i ni
ei dderbyn ar ei air noeth ef ; " It seems " yw jr oll
a ddywed gyda golwg arno. Da genym weled yr
Annibynwyr yn bresenol yn taflu y rhan hon o'r
cyliuddiad dros y bwrdd yn ddiseremoni, gan ddat-
gan eu gofid iddi gael eu hysgrifenu, a'i galw yn
" fryntwaith." A bryntwaith yn ddiau ydyw ; nis
gallesid ysgrifenu dim mwy annheilwng.
Ond cyduna Dr. Rees, a'i amddifíynwyr, i ddadleu
ddarfod i'r Tadau Methodistaidd gamddarlunio
sefyllfa foesol ac ysprydol y wlad, a gwnant hyn
yn gyfangwbl ar sail damcaniaetliau a thybiau
nas gellir eu profi. Y mae damcaniacthau a dych-
ymygion yn werth rhywbeth weithiau, yn absen-
oldeb tystiolaeth bendant ac uniongyrchol ; ond
pan y ceir y cyfryw dystiolaetb, nidydyntyn werth
dim. Y' mae owns o dystiolaeth gan lygad-dyst,
yn pwyso yn drymach na thunell o ddamcan-
iaeth. Ac ar sail tystiolaeth felly, tystiolaeth
dynion yn adrodd yn syml yr hyn a welent ao a
glywent, yr ydym yn dadleu fod sefyllfa foesol y
Dywysogaeth yn ddifrifol o druenus pai y cododd
Duw y Methodistiaid i fynu. Goddefer i ni alw
sylw at y tystiolaethau sydd genym. Y gyntaf
ydyw Dydd-Iyfr Howell Harris. Ysgrifenai efe yn
fanwl bob nos ddygwyddiadau y diwrnod ; cof-
nodai y golygfeydd llygredig a ganfyddai, y ft'eiriau
annuwiol oeddynt yn cael eu cynal, tywyllwch
ysprydpl dudew y bobl a gyfarfyddai, a'r ymosod-
iadau ffyrnig a wnelid arno gan greaduriaid
meddw a rheglyd, y rhai a geisient ei fywyd. Yn
sicr, nid croniclo dychymygion yr ydoedd, na
chyfansoddi ffughancs, ond adrodd yn syml yr
hyn a welodd â'i Iygaid, a glywodd â'i glustiau,
îe, ac a deimlodd â'i gorph mewn gwaed. Pe y
credem am dano, ar ol bod yn gyfrwng dylan-
wadau ysprydol cryfion, na theimlwyd eu cyfíelyb
hyd yn nod yn Nghymru ond yn anaml, y rhai a
barent i oferwyr annuwiol grynu fel dail y coed yn
ei bresenoldeb, y gallai fyned yn uniongyrchol i'w
ystafell, ac ysgrifenu anwiredd pendant ar ei
Ddydd-Iyfr, byddem wedi darfod ag ef am byth.
Cofier na fwriedid y Dydd-Iyfr liwn i'w ddarllen
gan neb ond efe ei hun ; yn wir, ni ddarllenwyd
mo hono gan neb arall am ugeiniau o flynyddoedd
wedi ei farw. Y^ mae llythyr ar gael yn awr yn
Nhrefecca oddiwrth berson yn Lloegr, yn ceisio
gan Harris ysgrifenu hanes y Diwygiad. Gwrthoda
yntau yn bendant, gan roddi fel rheswm am hyny
y byddai y cyfryw hanes, o'i du ef, yn rhy debyg i
wag ymfírost.
Y dystiolaeth nesaf yw eiddo Williams Panty-
celyn. Darlunia ef gyflwr gresynus y wlad mewn
Iliwiai; cryfion. Yr ydym yn methu deall paham
y mae yr Aunibynwyr uior Ilawdrwm ar y Bardd o
Bantycelyn, ac mor ddrwgdybus o hono, gan dybio
na chaent chwareu tcg ar ei law. Yn eu mysg
hwy y cafodd ei ddwyn i fynu ; diacon pai'chus yn
eglwys Annibynol Cefnarthcn oedd ei dad, ac yn
AirODIAD.
495
ol pob tebyg Annibynwraig zêlog a fu ei fam hyd
ddydd ei marwolaeth, er i'w mab droi yn Feth-
odist. Iddo ef byddai diraddio yr Ymneillduwyr yn
debyg i aderyn yn aflanliau ei nyth ei hun. Ac y
mae yn anmhosibl credu y byddai yr awen hono, a
esgynai mor uchel i'r y.sprydol, nes bron cy.'haedd
y goleuni pur lle y mae Duw yn cartrefu, yn ym-
ostwng i gamddarluniad ac anwiredd.
Y drydedd dyitiolaeth yw eiddo Charles o'r
Bala, tad Cymdeithas y Bciblau, a thad Ysgol
Sabbothol Cymru. Y mae y darluniad a rydd ef
yn y Drysorfa Yspî-ydol o gyflwr moesol y Dy wysog-
aeth pan yr ymddangosodd Methodistiaeth yu nod-
edig o ddu. Ỳr oedd Mr. Charles yn ẁr mor bwyllog,
mor gymedi'ol ei eiriau, ac mor rhydd oddiwrth
bob math o eithafion, fel nad yw hyd yn nod Dr.
Rees yn meiddio ei gyhuddo ef o gamddarlunio.
Oud dywed mai Gogledd Cymru a ddarluniai.
Nage, yn gyfangwbl, yn sicr. Cawsai Mr. Charles
ei ddwyn i fynu hyd nes yr aeth i Rydyclaain yn y
Dê, a hyny o fewn ychydig filltiroedd i Gaer-
fyrddin, lìe yr oedd athrofa gan yr Ymneillduwyr,
ac yn yr hwu le mewn undeb â Bwlclinewydd, yr
oedd cynulleidfa o YmneiIIduwyr, yn rhifo 1,200,
yn ol Dr. Rees, yn y flwyddyn 1715. Rhaid felly
y gwyddai ]\Ir. Charles yn dda am ansawdd gief-
yddol y Dé yn ogystal a'r Gogledd. Tystiolaeth
arall y gallen gyfeirio ati ydyw eiddo Robert
Jones, Rhoslan, yn Nrych yr Amsaroecld, yr hwn
lyfr sydd yn nodedig o ddyddorol, ac yn rhoddi lle
mawr i waith y Tadau YmneiIIduol oeddynt yn
byw cyn i'r Methodistiaid ymddangos.
Os dadleuir mai Methodistiaid yw yr oll o'r
tystion hyn, ac felly nad ydynt i'w credu, gallwn
ddwyn yn mlaen gwrnwl o dystion yn sicrhau yr
un peth, heb fod yn Pethodistiaid. Dyna un,
Griffith Jones, Llanddowror. Cawsai ^-ntau ei
ddwyn i fynu gyda'r YmneiIIduwyr ; i gapel An-
nibynol Henllan yr arferai fyned i wrandaw gyda
ei rieni pan yn ieuanc, ac y mae yn anhawdd
credu y gwnelai gam a'r enwad mewn modd yn y
byd. Dywedai efe fod anwybodaetli y wlad yn
gyfryw, fel pan y cafîai gynulleidfa o driugain neu
bedwar ugain yn nghyd, na fyddai ond ryw dri neu
bedwar yn medru Gweddi yr Arglwydd, nac yn
deall pwy oedd eu Tad yr hwn oedd yn y nefoedd.
A ellir dychymygu am anwybodaeth mw^' dybryd '?
Faint o grefydd allasai fod yn mysg gwcrin felly ?
Tyst arall yw y Parch. John Thomas, gweinidog
yr Annibynwyr yn y Rhaiadr. Y mae y darluniad
a rydd ef o gyflwr Cymru lawn mor ddu ag eiddo
Williams, Pantycelyn. Ac yn sicr, ni fwriadai
leihau clod yr enwad i'r liwn y perthynai efe ei
hun. Yr ydym yn Y Tadau Mctìiodistaidd hefyd
wedi difynu tystiolaethau Dr. Eraîmus Saunders,
ac eiddo Mr. Pratt, y rhai ydynt yn hollol i'r un
perwyl. Yn awr, yr ydym yn dadleu fod y cyfan-
gorph yma o dystiolaethau yn gyfryw nas gellir
eu troi yn ol. Nis gellir dychymygu am brawf
cryfach ; y mae can gadarned ag unrhyw brawf yn
Euclid. Y mae nifer mawr o dystion yn dwyn
tystiolaeth i'r Ijyn ydoedd o fcwn cylch cu sylwad-
aeth, a hyny i raddau mawr yn annibynol ar eu
gilydd, ac eto y cyfryw dystiolaeth yn cydredeg
mewn cysondeb ; y mae hyn, meddwn, yn lîurfio y
math uchaf o brawf. Ofer ceisio ei wrtlibrofi â
damcaniaethau. Cyn y gellir ysgubo i ffwrdd y
prawf ydyni wedi ei ddwyn yn mlaen, rhaid cael
nifer mwy o dystion, gyda mwy o sicrwydd o'u
geirwiredd, i dystiolaethu i'r gwrthwyncb. Ond
nid yw Dr. Rees na neb o'i amddifîynwyr wedi
dwyu yn mlaen gymaint ag un tyst felly.
Teimla Dr. Rees ei hun fod y tystiolaethau am
gyflwr gresynus Cymru, adeg cyfodiad IMcthodist-
iaeth, yn rhy gryfion i'w gwrthsefyll, ac felly, dar-
para loches arall i ddianc iddi, trwy ddweyd
iddynt adael rhanau helaeth o'r wlad yn hollol yn
yr un cyflwr. Defnyddia un o'i amddifîynwyr
ymadrodd cryfach fyth, a dywed y buasai y tystiol-
aethau uchod ydym wedi ddifynu yn wir agos
oll yn mhen can' ralynedd wedi i Pethodistiaeth
gychwyn. Y mae yu anhawdd genym dybio iddo
feddwl y fraw'ddeg hon cyn ei hysgrifenu. Os oes
ystyr i eiriau, golyga ddarfod i'r diwygiad Meth-
odistaidd basio heb adael nemawr ddim o'i ôl ar y
wlad. Wedi i Howell Harris daranu, ac i Daniel
Rowland gynhyrfu, ac i WiIIiams, Pantycelyn,
ganu ei emynau bendigedig, dywedir iddynt farw
gan adael Cymru agos yn hollol fel yr oedd ! Dianc
o loches i loches yw peth fel hyn. I gychwyn,
honir nad oedd y nos mor dywyll ag y myn y
Methodistiaid ; wedi gorfod cydnabod fod y nos yn
ddu dros ben, dywedir nad oeid nemawr ddim
goleuach wedi i'r Methodistiaid lafurio yn galed
am haner cant o flynyddau. Tybed fod hyn yn
wir '? A ellid cael cynulleidfa o bedwar ugain
mewn unrhyw ardal, wedi i'r jMethodistiaid fod
yn cynhyrfu am haner can' mlynedd, ac yn pre-
gethu y gwirionedd i'r bobl, yn mysg pa rai na
fyddai ond pedwar yn gwybod pwy oedd eu Tad yr
hwn sydd yn y nefoedd ? Tybed fod y Ilygredig-
aethau mor uchel eu pen, y drygfoes mor amlwg,
y cynuUiadau annuwiol raor Uiosog, a'r wlad mor
ddifater gyda golwg ar grefydd ? Beth mewn
difrif a wnaeth y ÌMethodistiaid yn ystod yr haner
can' mlynedd hyn ? A pheth a wnaeth yr An-
nibynwyr a'r Bedyddwyr, y rhai oeddent ill dau
wedi cyfranogi yn helaeth o dân y diwygiad, yn
ystod y tymhor hwn ? Ai y nesaf peth i ddim ?
Os felly, cyfyd y gofyniad yn naturiol, Gau bwy y
newidiwyd moesau y trigolion '? Pwy gondemniodd
y cyfarfodydd Ilygradig, yr halogi Sabbathau, y
difi'awder gyda golwg ar wrando yr efengyl, a'r
holl ddrygfoes, gyda'r íath nerth ac angerddoldeb,
nes eu gwneyd yn anghymeradwy yn ngolwg y
werin? Canmolir Howell Harris a Daniel Row-
land fel dynion anghylîredin ; cyfeirir atynt fel
dynion o ysprydolrwydd a brwdfrydedd eithriadol ;
cydunir fod pellder mawr rhyngddynt fel Diwyg-
wyr â bron bawb o'u cydoeswyr yn Nghymru, a'u
bod wedi eu tauio yn líwyrach ; ac eto, dywedir y
buasai y desgrifiad a roddwyd am ddrygfoes y
werin Gymreig cyn i'r dynion anghyffredin hyn
ddechreu llafurio yn wir agos oll wedi iddynt foi
ar y macs am haner can' mlynedd ! Os felly, cyf-
ododd dynion cryfach na hwy ar eu hol, ac an-
rhaethol mwy Ilwyddianus. Y mae geuym hawl
i ofyn pwy oedd yr enwogion hyn ? Beth oedd
eu henwau ? Ac yn raha le yr oeddynt yn
preswylio ? Nid ydym yn gwybod ddarfod i neb
yn Nghymru, heblaw Daniel Rowland, dynu tair
mil o gymunwyr i bentref anhygyrch bob Sul
pen mis, o eithaf Älôn yn y Gogledd hyd eithaf
Älorganwg yn y Dê, a liyny am haner can'
mlynedd ! Ac eto dywedir iddo adael y wlad agos
raor annuwiol ag y cafodd hi. Rhaid i ni addef
nad ydym yn credu yr lioniad hwn. Y raae yn
rhedeg yn ngwddf pob tystiolaeth sydd genyra,
ac yn groes i farn gyffredinol y Bedyddwyr, yr
Eglwyswyr, a'r Aunibynwyr eu hunain, hcblaw y
Methodistiaid. Ni wnawn ei dderbyn ond ar sail
y prolion cadarnaf, ac nid oes rhitli o brawf wedi
cael ei roddi eto.
Y gwir yw, i gyfodiad Methodistiaeth ddwyn
496
Y TADÄU METIIODISTAIDD.
oddiamgylch chwyldroad yn Nghymru. Yr oedd
y cyffro ddarfu iddynf gynyrchu yn aruthrol. Pa
le bynag yr aent, gosodent y wlad yn lUam.
Addefa Dr. Recs ci hun hyn ; mcddai (tudal. 354) :
" Before tìieyiose of the year 17á'2, tìtc population
of almost every district of South Walcs, and of
many iiarts of the North, had been aroused to be
either earnestly religious, or enraged persecutors."
A chan i'r erledigaeth yn y Dê beidio yn fuan, ac
i'r elfen grefyddol orchfygu, rhaid fod y cyfnewid-
iad a gymerodd le yn sefyllfa crefydd yn y wlad yn
un sydyn a chyflym iawn. Dwg WiUiams, Pant-
ycelyn, dystiolaeth i ddysgleirdcr y goleuni yn
ogystal a dwysder y tywyllwch blaenorol. Meddai
yn Marwnad Danicl Rowland : —
" Mae'r torfeydd yn dyehwel adref
Mewn rhyw yspryd llawen fryd,
Wedi taíiu 'laẁr eu beichiau,
Oedd yn drymion iawn o hyd ;
Y tîyrdd mawr yn frith o werin,
Swn caniadau'r nefol Oen,
Nes yw'r creigydd oer a'r cymydd
Yii adaeinio'r hyfryd dôn."
Pan y dechreuodd Rowland ar ei waith adseiniai
y creigiau gan grechwen ffyliaid, a chan swn rheg-
feydd yr oferddyn ; pan y bu farw, adseinient gan
" swn caniadau'r nefol Oen."
II. Yn nesaf, dadleuir ddarfod i'r Tadau Ym-
neiUduol wneyd gwaith mawr yn Nghymru cyn
cyfodiad Methodistiaeth. Nid oes i ni unrhyw
ddadleuaeth â Dr. Rees, nac a neb o'i amddiffyn-
wyr, ar y pen hwn. Y mae awdwr parchus
Metlíodistiaeth Cymru wedi talu parch dirfawr i
W. Wroth, Walter Cradoc, John Wihiams, Llan-
ddwrog, a Hugh Owen, o Fronyclydwr, ac eraill.
Yr ydym ninau, yn ein Llyfr, wedi dihysbyddu
ein geiriadaeth wrth edmygu eu coffadwriaeth, a
dangos pa mor dra rhagorol oedd eu liymdrechion,
ac mor fawr oedd eu dyoddefìadau a'u hamynedd.
Ffurfìa eu gwaitli benod ardderchog yn hanes
eglwys Crist. Ac y mae yn sicr, a chymeryd eu
hanfanteision i ystyriaeth, y cyflwr paganaidd
yn mha un y cawsant y wiad, y deddfau sen-
eddol erUdgar â pha rai y rhwystrid eu gweith-
rediadau, a'r gorthrwm a arferid atynt gan y pen-
defìgion, i'w Uwyddiant fod yn fawr. Ar yr un
pryd, rhaid cofio mai yn mysg y dosparth canol y
buont fwyaf Uwyddiauus ; dynion cefnog ac yn
dda arnynt yn y byd oedd eu gwrandawyr a'u
haelodau gan mwyaf ; i raddau bychan y buont yn
alhiog i ddylanwadu ar y bobl gyfíredin. Diau
fod rhai tlodion yn perthyn i'w cynuUeidfaoedd ;
ceir nifer yn cael eu dynodi fel labrwyr yn nliaflen
Dr. John Evans, a dywedir am rai Ueoedd fod y
gwrandawyr gan mwyaf yn dlodion ; ond wedi y
cyfan, perthyn i'r dosparth canol yr oedd eu haei-
odau gan mwyaf ; ychydig a deimlodd y werin
bobl oddiwrtli eu pregethau. Cyfaddefa y Parch.
John Thomas, D.D., Liverpool, hyn yn rhydd ac
yn agored, ac, yn sicr, nid oes neb a amheuaei fod
ef yn .\nnibynwr zêlog, yn gystal ag yn hanesydd
gwych. Fel hyn y dywed efe : " Yr oeddynt gan
mwyaf " (yr Ymneillduwyr a flaenorent y Llethod-
istiaid) " mewn amgylchiadau bydol cysurus, ac
uwchlaw lliaws y boí)! o'u cylch mewn gwybod-
aeth. . . . Nid ocddynt eto wedi cyfEwrdd ond âg
ymylon cymdeithas. Yr oedd corpìi mawr gwerin
y genedl yu aros inewn anwybodaeth dybryd, ac
yn ymoUwng i bob rhysedd ac annuwioldeb. Nid
oedd y Sabbath ond dydd i chwareu ac ymddifyru,
i ddilyn ofergoeledd ac anghymedroldeb. Cynelid
lîeiriau gwagedd a gwylmabsantau, a'r Sabbath
oedd dydd mawr yr wyl." Dyna yn hoUol fel y dar-
lunia haneswyr y Methodistiaid agwedd pethau yn
riaenorol i'r diwygiad. Yr oedd y Tadau Ynmeill-
duol cyntaf yn ddynion tra rhagorol ; buont yn
hynod Iwyddianus, a chymeryd i ystyriaeth eu
hanfanteision a'r rhwystrau oedd ar eu fîordd.
" Ond nid oeddynt eto wedi cyfíwrdd ond âgymylon
cymdeithas ; yr oedd corph mawr gwerin y genedl
yn aros mewn anwybodaeth dybryd, ac yn ymoil-
wng i bob rhysedd ac annuwioldeb." Ni ddarfu
i'r un Methodist ddefnyddio ymadroddion cryfach
wrth ddesgrifio sefyllfa druenus Cymru cj'n i
Rowland a Harris ddechreu cynliyrfu.
III. Y mae Dr. Rees a'i amddiffynwyr yn gwadu
fod Ymneillduaetli wedi dirywio i'r fath raddau
fel ag i fod mewn perygl o farw pan gyfododd
Methodistiaeth. Dywed awdwr fel Mr. Jobnes ei
bod. " Till thc brcahing out of Metìiodism their
cause continued to decline,'" meddai efe. Ofer
ceisio gosod Mr. Johnes allan fel dyn anwybodus
yn hanesiaeth ei wlad ; nid yw camsynied parthed
enw, neu gamgyfleu dyddiad, yn profi nad oes
ganddo syniad cywir ar y cyfan am gwrs amgylch-
iadau. Cadarnheir yr hyn a ddywed hefyd yn
llyfr Syr Thomas PÌiiUips. Y gwir yw, fod rhai
o'r eglwysi Y'mneillduol wedi dirywio i'r fath
raddau, fel y methodd y diwygiad a rhoddi bywyd
newydd ynddynt. Fel esiampl o'r cyfryw, gallwn
gyfeirio at yr eglwys ar yr hon y gweinidogaethai
Hugh Owen, o Fronyclydwr. Yr oedd wcdi Uwyr
ddarfod pan y dechreuodd y IMethodistiaid
lafurio yn y lle. Y''n hytrach nag ymroddi i
ddadleu, caiff y Parch. John Thomas, D.D.,
LÌYcrpool, ddarlunio cyflwr yr Ymneillduwyr yn
Nghymru pan yr ymddangosodd y Methodist-
iaid. Meddai, yn Hanes Eglwysi Aìinibynol
Cymru (cyf. v., tudal. 462): "Ond wedi y cwbl,
nid oedd eu nerth ysprydol (sef yr Ymneillduwyr),
i gario dylanwad ar y genedl, yr hyn a allesid ei
ddysgwyi, yn ol eu nifer, eu gwybodaeth, eu
cymeriad, a'u safle gymdeithasol. Yr oedd oerni
a ffurfioldeb yn eu holl wasanaeth, at yr hyn yr
ychwanegid yn fawr gan ei hirfeithder. Ymdrin-
ient â phob gwirionedd, yn bynciol ac yn ddadleu-
gar, heb ei ddwyn adref gyda difrifwch at eu
gwrandawyr. Cadwent ddrysau eu capeli yn
agored bob Sabbath, fel bugail yn cadw drws y
gorlan yn agored, modd y gallai y ddafad golledig
ddychwelyd, ond nid anfonid y bugail allan i'r
anialwch i chwilio am dani. Nid elent allan i'r
prif ffyrdd a'r caeau i gymhell yr esgeuluswyr i
mewn fel y llenwid y t}-. . . . Erbyn yr ychwan-
egir at hyn yr ymadawiad mawr oddiwrth y ffydd
oedd mewn nifer o eglwysi, nid j'w yn rhyfedd o
gwbl fod nerth yr eglwysi wedi gwanychu, ac nad
oedd ynddynt y gallu hwnw y mae yn rhaid ci
gael i ddarostwng gwlad i'r efengyl. Nid oeddynt
eto ond wedi cyfíwrdd ag ymyion cymdeithas."
Felly yr ysgrifena Dr. Jobn Thomas, ac y mae y
darlun a dynir ganddo o gyflwr yr ben Ymneill-
duwyr yn dra gresynus. Gwelwn hwynt wedi
llwyr goUi yr yspryd yniosodol y rhaid ei gael i
efengyleiddio gwlad ; nid ydynt yn myned ar ol y
colledig ; caiff y werin bobl redeg tua'r trueni heb
unrhyw ymdrecli i'w hachub o'u tu hwy, rhagor
na chadw drysau eu capelau yn agored. Eu
haddoliad sydd yn ffurfiol ac yn oor ; y pregethau
ydynt yn bynciol ac yn ddadleugar, ac yn hollol
aniddifad o ymdrech i wasgu y gwirionedd adref at
y gydwybod. Yn ychwanegol, y mae ymadawiad
mawr oddiwrth y fíydd mewn amryw leoedd, a
nerth yr eglwysi wedi gwanychu yn ddirfawr o'r
PEDWAR ü DDARLUNIAU YN DAL PERTHYNAS A CHOFFAD-
WRL\ETH WILLIAM LLWYD, O GAYO.
1. — Amaethuy Blaenclawdü.
ILlü u (jimwi/d c/.ì
3. — Capel Cayo.
[Llc ijv ijiiídelodili.]
2. — Amaethdy Henllan.
iLlc II proswìjliai.]
4. — Eglwys a Mynwent Cayo.
\Lle ij eladdwijd e/.]
DAU O GAPELAU MWYAF HYNAFOL SfR GAERFYRDDIN.
5. — Cefnbyhach, 17i7.
ü. — Llanllüan, 1745.
ATTODÍAD.
V)7
herwydd. Nid yw y Parcb. -John Hughes, yii
MetJwdistiaeth Cymrii, ac nid ydym ninau yn ein
Llyfr wedi ysgrifenu gair am gyflwr YmneiUduwyr
Cymru yn íîaenorol i'r diwygiad, nad yw yn cael
ei gydnabod yn llawn yn y difyniad uchod. Y
mae darlun ì)r. Thomas o'u cyflwr mor ddu a'r
un a dynwyd. Os nad yw egwyddorion marwol-
aetb i'w gweled yn amlwg yn y petbau a noda efe,
rhaid i ni gyfaddef nad ydym yn adnabod arwydd-
ion angau. Y peth cyntaf sydd gan amddifîynwyr
Dr. Rees i'w wneyd, os ydynt am lynu wrth eu
dadl, yw cywiro Hanes Eglioysi Aymibynol Cymru,
a rhoddi Dr. John Thomas, Liverpool, ar yr iavvn.
Yn awr, deuwn at daflen Dr. John Evans, ac yn
y fan hon y gorwedd cnewullyn y ddadl. Ebodd-
asom ein rhesymau dros dybio nad yw y daften yn
un y gellir rhoddi ymddiried llwyr ynddi ; ac os
yw yn cj'feiliorni, ei bod yn gwneyd byny yn
ffafr Y'mneillduaetli. Nid oes neb wedi cyfîwrdd
a'r un o'r rhesymau hyny ; felly, rhaid i ni eu
hail-adrodd.
, (1) Caria yr ystadegau ar cu gwyneb amddifad-
rwydd o fanylwch ; crynhoir amryw eglwysi yn
nghyd ; wedi enwi dwy neu dair, cawn yn fynych
" &c." yn dynodi fod cyfrif eglwysi eraill, na roddir
eu henwau, yn cael ei osod i fewn. Ceir un eglwys
a chynulleidfa yn cael eu harddangos fel yn wasg-
ai'edig dros wlad ddeugain milldir o byd wrth
ugain o led. Efallai y gofynir pa wabaniaeth a
wna byn ? Y mae yn gwneyd yr boll wahaniaeth ;
dengys yr amddifadrwydd manylwcb mai cyfrifon
ar antur ydynt : a tbuedd pob cyfrif felly yw
chwyddo y rhif yn ormodol. Er j)rawf o byn,
difynwn gyfran o erthygl olygyddol y Tyst am
Jíedi 29ain, 1882, ac yn sicr fe gymer yr Annibyn-
wr mwyaf zêlog yr byn a ddywed y Tyst ar bwnc
o'r fath fel gwirionedd. Y' mae cyfeiriad cyntaf y
sylwadau at y cyfrifon a gasglai Dr. Rees ar y
pryd ; ond y maent lawn mor gymhwysiadol at
gyfrifon Dr. John Evans. " Drwg genym weled
Dr. Rees yn dywedyd," medd y Tyst, " na fwriada
gyhoeddi cyfrifon pob eglwys ar wahan, ond cyf-
answm pob sir. Nis gwyddom a ydyw yn tybied
y bydd yn debycach o gael cyfrifon pob lle wrtb
ddweyd na fwriedir cyhoeddi cyfrifon pob eglwys
ar wahau. Buasem ni yn tybied yn amgen, ac
ychydig o bwys a roddem ar gyfrifon na ellir eu
cyhoeddi yn y manylion. Ycbydig iawn o werth
a osodwn ar ystadegaeth yn y cyfanswm, oblegyd
heb y manylion nis gellir profi eu cywirdeb ; ac
nid yn meddiant un dyn y dylai y manylion byny
fod, ond dylent fod yn gyfryw ag y gallo y rbai
a'u bamheuo eu profi. . . . Y' mac pob ystadeg-
aeth a gymcrir ar antur yn agored i fyned yn
mhell iawn oddiwrth y nod, ac, fcl y dywedasom
eisioes, nid oes dini y mae dynion yn camgymeryd
yn fwy ynddynt na rhif eu cynulleidfaoedd. Bydd-
wn yn tynu 25 y cant oddiwrth gyfrifou a gymerir
felly, a gcllir yn aml gymcryd .50 y cant, a bod ar yr
ochr ddyogclaf." Drachcfii cawn : " Nid oes dim
mor gamarwciuiol a'r cyfrif o cglwysi a cbynull-
cidfaoedd a gymerir ar antur." Felly y dywcd y
Tyst, ac yr j'dym yn cyduno yn hollol. Ycbydig o
wertb sydd mewn ystadegaeth yn y cyfanswm ;
cyn y gellir ymddiricd ynddi, rhaid cacl y inanyl-
ion. Nid yw taflcn Dr. John Evans yn rhoddi y
manylion ; ac yn ol y !7'//sí, dyogel, o leiaf, fyddai
cymeryd 25 y cant oddiwrth y cyfrif a roddir.
(2) Amcan yr ystadcgaeth a gymerodd Dr. John
Evanb oedd dangos pa mor gryf oedd Ymneilldu-
aeth yn y deyrnas ar y pryd, cr mwyn cynyrchu
ofn yu yr crlidwyr. Ac cr mwyn gwncyd byn, yr
oedd yn rhaid dangos y cynullcidfaoedd moi- lliosog
ac mor barchus ag oedd bosibl. Pe y rhoddid
y cyfrif yn llai nag ydoedd, ni fuasai yn atcb y
pwrpas ; yn wir, buasai yn gwrthweithio y cyfryw
bwrpas, ac yn rhoddi arf peryglus yn Ilaw y
gwrthwynebwyr. Am y rheswm yma y dywedir
fod nifer penodol o ynadon, ac o rai yn ìneddu
pleidlais yn y sir ac yn y dref, yn perthyn i'r
gwahanol gynulleidfaoedd. Oni bai fod yr amcan
bwn mewn golwg, buasai y fath ddynodiad yn
brawf 0 falchder dirmygus. Ymddengys i ni feîly
yn hollol sicr na chyfrifwyd y cynulleídfaocdd yn
llai nag oeddynt ; ac os oes rbyw gymaint o wyro
yn bod, fod y gwyriad o'r tu arall.
Addefìr ddarfod i Dr. Rees gyfnewid penawd
prif golofn taflen Dr. John Evans, gan osod yn llc
"mimber of Jiearers," " average attendance."
" Cyfaddefwn yn rbydd," meddai un Annibynwr
galluog, " fod y penawd wedi ei gyfnewid." Nis
gellid gwadu hyn, oblegyd y mae y daflen ar glawr
a chadw yn Ilyfrgell Dr. Ẁilliams, yn Llundain,
ac wedi ei pbotographio yn Y Tadau MetJiodistaidd .
Y mae y cyfnewidiad a wnaed yn un mor bwysig,
fel y mae yn newid holl ystyr y golofn ; trwy rin-
wecîd y sleigìit of Jiand yma y mae cynulleidfa
Dyffryn Honddu yn chwyddo o 1-50 i 300 ; cynull-
eidfa Tredwstan o 250 i 500 ; ac felly trwy y golof n
o'r pen i'r gwaelod. I'n bryd ni y mae hyn yn
drosedd Ilenyddol eubyd ; nis gallwn ddychymygu
am àmryfusedd gwaetb. Dysgwyliem yn sicr y
byddai ein brodyr parchus, yr Annibynwyr, er eu
mwyn eu hunain, yn datgan eu gofid oblegyd i Dr.
Rees ymostwng i gyflawni gweithred o'r fatb. Ond
cawsom ddysgwyl yn ofer. Cydnabyddant y buasai
yn dda ganddynt pe buasai y Doctor wedi egluro
pabam y gwnaeth y cyfnewidiad : ond nid oes air na
sillaf yn dynodi galar oblegyd y wcithrcd. Yn wir,
ceisir ei gyfiawnbau a'i wyngalcbu ; ond y mae hyny
yn anmhosibl beb allu profi ar yr uu pryd nad oes
gwabaniaetb hanfodol rhwnggwirionedd a ffalsdcr.
Goddefer i Jii edrycb ar y rbesynuiu a roddir
paham y darfu i Dr. Rees, y\\ Ile rboddi pcnawd
Dr. Jobn Evans, " amcauu dyfcisio penawd " o"i
eiddo ei liun, a fuasai yn fynegiad tecacb o gynwys
y golofn. " Nid ydym yn meddwl ei fod wedi
ílwyddo," mcddai un o'i amddifîynwyr, " ond yn
hytracb wedi metbu." Rhaid mai ystyr byn yw
fod cyfnewidiad Dr. Rees yn gamarweiniol. Y
mae yr Ysgrifenydd dy wededig am gynyg cyf ncwid-
iad arall yn y penawd, sef rhoddi " /cnown adult
adJierents," yn lle " number of liearers." Yn cnw
jjob synwj'r, pabam y ceisir gwthio tybiaetliau
disail i fcwn i'r daflen ? Ai ni wyddai Dr. Jolin
Evans, a'r rhai a gydlafuricnt âg cf yn y gorchwyi
o gasglu y cyfrifon, ]>& benawd i roddi uwclihen
gwahanol golofnau eu taflen, yn well na phobl
sydd yn byw agos i ddau cant o íiynyddoedd ar cu
bolau? Ond yn awr at y rbesymau dros "ddyf-
eisio pcnawd." (1) Y buasai " nìimbcr of Jicarers"
yn sicr o grcu camargrafî i fcddyliau darllenwyr
Cymrcig, yn gymaint ag inai riuii licl) fud \n
aelodau a fcddylia y Cymry fynycliaf wrth wian-
dawyr. Nid oes rbith o brawf fod y Cymry yu
cdrych ar y tcrm " gwraiidawyr " mewn golcu
gwahanol i'r Sacsou. A phc mai liyua ocdd anican
Dr. Rccs, ni fuasai raid llurguniuy dailcn cr mwyn
ci gyrhaedd; gallesid rhoddi nodiad ar y tcrfyn
fod " Jícarers " Dr. Jobn Evans yn cynwys y
gwrandawyr oeddynt yn aclodau, a'r rhai uad
ocddynt yn aclodau. Buasai hyn yn syml ac yn
onest. (2) Nad yw colofn Dr. John Evans yn
rbüddi Iioll ncrth Ymncillduacth yu Ngliymruury
K K
49«
Y TADAU METHODISTAIDD.
pryd. Dychymygol hollol yw y rbeswra hwii cto ;
ymddengys i ni, fel yr ydym wedi dangos yn barod,
ci bod yn debycach o fod yn gorgyfrif nag yn
rhoddi cyfrif rhy fychan. Honir i Dr. Joîm
Evans adael allan hx o weision a morwynion a
phlant. Yr unig sail o blaid y dybiaeth yw, fod
dyblu y rhai a ddesgrifìr fel boneddwyr, rhydd-
ddeiliaid, crefftwyr, a llafurwyr, yn rhoddi mwy
na'r cyfanswm mewu dwy o'r eglwysi, ac mewn
pedair o rai eraill fod cu dybhr yn dyfod yu
agos iawn at y cyfanswm. Ond yr eglurhad ar
hyn yw, nid fod y gweision a'r morwynion wcdi
cael cu gadael allan, ond nad ocddynt, fel rheol,
yn cydymdeimlo âg Ymnoillduaeth ; yr oeddynt
ícl dosparth heb eu crefyddoli. Fel y dywed Dr.
Thomas, Liyerpool, rliai " mewn amgylchiadau
bydol cysurus," oedd yr Ymncillduwyr ; "yr oedd
corph mawr gwerin y genedl yn aros mewn anwyb-
odactli dybryd." Buasai Dr. John PJyans yn cyf-
rif y gwas a'r forwyn yn o gystal a'r boneddwr a'i
foneddiges, pe buasai y cyfryw yn arfer gwrandaw
gyda'r Ymneillduwyr, ond nid oeddynt. Gwraidd
camgymeriad amddiffynwyr Dr. Rees yn y fan yma
yw cymeryd yn ganiataol fod Ymneillduwyr yr adeg
hono yn gyíîelyb o ran sefyllfa fydol i Ymneilldu-
wyr ein dyddiau ni. Y' mae mor amlwg a'r haul i
ni y cyfrifid y plant. Dyna y rheswm dros ddyblu,
ac weithiau treblu, y rhai y rhoddir desgrifiad o'u
sefyhfa yn y cyfauswm. lë, hyd yn nod pe y gellid
dangos nad yw taflen Dr. John Evans yn rhoddi holl
nerth yr Ymneillduwyr ar y pryd, ni fuasai gan Dr.
Rees yr hawl leiaf i ddyblu y rhif. Addefir fod ei
average attendance yn gamarweiniol, yn gystal ag
yn anghywir. Y mae ei sail yn bwdr. Os eir i
gyfuewid, gelHr trebhi lawn cystal a dybhi. Yr
un sail fyddai i'r naill a'r llalL Yn wir, y mae Dr.
John Thomas, Liverpool, yn taflu dyfaliaeth Dr.
Rees dros y bwrdd yn ddiseremoni. " Y mae Dr.
Rees," meddai, " yn dybhi y nifer, ac yn gosod
rhifedi Y'mneillduwyr Cymru yn .50,000; ond yn
absenoldeb unrhyw reol ddyogel i gyfrif, gwell
genym beidio dyfalu " (Hanes Eglwysi Annibynol
Cymni, cyf v., tudah 456). Hohol wir ; unwaith
yr ymwrthodir a'r daflen, gan ychwanegu ati, ncu
dynu oddiwrthi, yr ydym yn yr anialwch, yn
nghanol y niwL Gallem feddwl mai tua 30,000 y
cyfrifai Dr. Thomas Y^mneillduwyr y dyddiau
hyny. Y mae yn sicr pe y gwybuasai mai nid
average attendance sydd yn y golofn, ond nuinber of
Itearers, y buasai yn gosod y rhif gryn lawer yn is.
Eithr, a chaniatau y tybiai Dr. Rees fod tafien
Dr. John Evans yn cyfrif Y^mneillduwyr y Dywys-
ogaeth yn is nag oeddynt, nid oedd ganddo hawl i
wau ei dybiaetliau a'i ddychymygion i mewn iddi,
gan gyflwyno falsified copy o honi i'r byd yn lle
copi gwirioneddoL Ei ddyledswydd ddiamheuol
f uasai gosod y document i mewn yn ei lyfr fel yr
ydoedd, air am air, a ffugr am ffugr, heb ychwan-
egu at, na thynu oddiwrth ; ac os meddyliai ei
bod yn ddifíygiol mewn unrhyw gyfeiriad, ei chyf-
lenwi ar y diwedd, gan ddangos yn gUr i'r darllen-
ydd mai cyflenwad ydoedd, a nodi ei resymau dros
geisio ei diwygio. I hanesydd cywir nid oedd
unrhyw gwrs arall yn agored. Y^r ocdd Uurgunio
docuinent o'r fath bwysigrwydd, a'i chyhoeddi felly
i'r byd, lieb gymaint ag awgrymu ei fod wedi ci
chyfnewid, yu drosedd nas gelUr ci ddarluuio mewn
Uiwiau rhy ddu. Trwy drugaredd, Dr. Recs yw yr
unig hanesydd y gwyddom am dano a fu yn euog
o'r fath beth. GelUr maddeu i hauesydd am
dynu casgUadau unochrog ; geUir maddeu iddo am
edrych ar ffeithiau mewn goleu anghywir ; ac, yn
wir, am adaol yn ddisylw ffeithiau anghydnaws a'i
syniadau ; y mae yr holl ffaeleddau hyn yn faddeu-
adwy, er nad ydynt mewn un modd i'w canmol,
a'u bod yn tynu yn fawr oddiwrth werth safonoi
Uyfr ; ond am hirgunio tafleni pwysig mewn gwaed
oer, a'u hanfon allan felly i'r byd yn eu holl
anghywirder, y mae yn drosedd Uenyddol nas
gellir, ac na ddylid ei faddeu. Addefir hyn gan
ysgrifenydd perthynol i'r Annibynwyr, yr hwn
sydd wcdi gwneyd hancsiaetli yn faes arbenig ei
efrydiaeth ; a dywed mai anfcdrusrwydd Dr. Rees
a'i harweiniodd i'r pwlL Fel hyn y dywed cfe am
Dr. Rccs mewn newyddiadur dyddiol sydd yn cacl
cylchrcdiad mawr yn y Deheudir : " Unfortunately
for his reimtation, and for the sticcess of his object,
he, it scems clcar, tainpcred with a return which Dr.
J. Evans, of London, made in 1715, of the mcmbcr
of Nonconforinists His motivcs loere pure,
and his dcductions lucrc undoubtedly right. But no
historian shuidd tahc upon himself to alter in any
degree an original documetit, from which he is
guoting, without apprising the reader of tlie fact,
and, unfortitnately, Dr. Bees nmst be held guilty of
doing tìiis. In guoting Dr. J. Evans' return he
changed the heading ' numbcr of hearers' into ' average
attendance.' We believe Jie was perfectly justifled
in concluding that Dr. Evans' hcarers loould in our
days bc rechoned as the average attendance ; but it
was an umoarranted liberty, cxcusable only in a
ma?i wÌLo had rcceioed no special training for the
work of a historian, to einbody his oion convictions
in Dr. Eoans' returns toithout a loord of loarning
or explanation." Yn mhob cymal o'r difyniad
uchod, teimlir awyddfryd i geisio taflu clogyn dros
ymddygiad Dr. Rees ; priodolir purdeb aincan
iddo, a chredir fod ei dyb yn gywir, ond y mae
greddf hanesyddol yr Y''sgrifenydd yn ei orfodi i
gyfaddef fod ymddygiad y Doctor yn hyn o fater
yn umoarranted liberty. Dyna yn ddiau ydoedd, ac
y mae yn syn genym na chyfaddefid hyny yn ddigêl.
Rhydd i ni yw cyfaddef ddarfod i ni gamgym-
eryd wrth dybio fod ail-argraffiad Uyfr y Parch.
W. WilUams, Abertawe, allan o flaen ail-argrafíiad
History of Protestant Nonconformity in Wales,
gan Dr. Rees, ac yr ydym yn ofidus am y camsyn-
ied. Ond nid yw yn gwueyd y gwahaniaeth Ueiaf
i'r pwnc mewn dadl. Yr hyn sydd yn bwysig
i'w gadw mewn cof ydyw, ddarfod i Dr. Rees gael
ei gyhuddo yn ystod ei fywyd o ymyraeth yn
anghyfreithlon â thaflen Dr. John Evans ; i'r
cyhuddiad hwn gael ei ddwyn yn ei erbyn, nid
mewn Ilythyr dan ffugenw mewn newyddiadur,
ond mewn llyfr safonol gan weinidog Ymueillduol
a breswyliai yn yr un dref ag ef, ac o safle
barchus fel yntau ; ond na ysgrifenodd y Doctor
gymaint a lUnell i'r wasg i amddiffyn ei hun, nac
i egluro ei resymau dros yr hyn a gyflawnodd. Y
mae genym awdurdod dros ddweyd ddarfod i Mr.
Williams a'r Doctor gael aml i awr o ymgom ar ol
hyn, ond na wnaeth Dr. Rees y cyfeiriad
Ueiaf at y cyhuddiad pwysig a ddygasai Mr.
Williams yn ei erbyn. Pe buasai ganddo am-
ddiffyniad digonol, amddiffyniad a fuasai yn
cymeradwyo ei hun i gydwybod y cyhoedd, tybed
na fuasai yn dal ar y cyfie cyntaf i'w gyflwyno
i'r wlad? ISÍi fuasai raid iddo fod j'u amddifad o
gyfryngau, oblegyd yr oedd gwasg Cymru yn
agored iddo.
Y mae llawer o ymdrech wedi cael ei wneyd i
ddangos fod Y''mneillduaeth wedi cynyddu yn
Nghymru, rhwng y blynyddoedd 1715 a 1735, sef
rhwng cyfrif Dr. John Evans a chyfodiad Method-
ATTODIAD.
499
istiaeth, Gwelsom daflen wedi cael ei thynu
allan, yn desgrifio sefyllfa y gwabanol eglwysi yn
ystod y cyfnod bwn ; ond y mae y daflen mor
awyrol, ac mor anmhenodol, fel nas gellir gwneyd
dim 0 boni i bwrpas j'mresymiad. Dywedir am
ambell eglwys ei bod " yn cynyddu." Byddai
hyn yn wir pe bai eglwys o ddau yn enill aelod
ycbwanegol, fel ag i fyned yn dri ; nid yw yn profi
dim gyda golwg ar ei rhif mewn cyfartaledd i
faint poblogaetb y wlad. Tuag at gael rhyw
wybodaetb am rifedi yr YmneiUduwyr yn 1735,
rbaid cael rhywbeth llawer mwy pendant na
geiriau " yn llwyddianus," " ar gynydd," &c.
Byddai yn dda genym befyd wybod ar ba seihau y
dywedir fod rbai o'r eglwysi sydd ar y rhestr yn
llwyddo 0 gwbl. Cymerer y gyntaf ar y llecbres,
sef Peumaen. Ar Ì^a sail y dywedir ei bod yn
llwyddianus? Addefa y Parcb. Edmund Jones
iddi syrtbio i gyflwr isel tua dechreuad y
ddeunawfed ganrif ; elai rhif yr aelodau i lawr yn
gyson, gan fod y gweinidog yn anmboblogaidd.
Ond dywed iddi gynyddu yn fawr rbwng 1720 a
1739, ac i o gwmpas cant i ymuno â'r gynuUeidfa.
Ai nid trwy ymweliadau Howell Harris yn y
flwyddyn 1738 y caf wyd y cynydd hwn gan mwyaf ?
Cyrbaeddai eglwys Penmaen dros y wlad, o Goed-
duon hyd Gwm Tileri, gan gymeryd i fewn Gwm
Ebwy Fawr. Cynyrcliodd ymweUad Howell
Harris â'r rhan hono o'r wlad, Pasg, 1738, gyíîro
mawr ; ysgydwyd yr holl gymydogaetbau, gan eu
dwyn dan ddylanwad yr efengyl ; ymunodd degau
â'r eglwys, ac ycbydig o deuluoedd oeddynt trwy
yr holl fro na ddeuent i wrando. Cymera y cyn-
ydd y cyfeiria Edmund Jones ato i mewn y
dychweledigion byn. Ond yn y flwyddyn 1739,
bu terfysg ac ymraniad yn Penmaen ; ymadawodd
un blaid o'r eglwys dan arweiniad Edmund Jones,
gan ymsefydhi yn Mhontypẁl, tra y glynai erailí
wrth yr hen achos. A bu Ýmneillduwyr Cwm
Ebwy a Cbwm Tileri am flynyddoedd lawer yn
rhanedig, ac yn cbwerw eu teimladau at eu gilydd.
Ceir barn Edmund Jones am eglwys Penmaen yn
y flwyddyn 1741, wedi ei chofnodi mewn llythyr at
Howell Harris. Meddai : "J îoish sonie of the
sound Dissenting ministers separated from the
loose and erroneous Dissenters ; but perhaps it will
come to tìiat. Both the ministers at Penmaen
deny that there is any need of discipline among
tJiein, and call iny attempts of discipline by the
approbious names of rirjid, punctilious, and novel
customs. Tlius these men refuse to be reformed,
the morc is tJie pity." Dyna ddesgrifiad y Parch.
Edmund Jones, yr hwn oedd yn Annibynwr o'r
Annibynwyr, o gyflwr yr eglwys y dywedir ei bod
yn Ihyyddo. Ystj'riai efe bi yn eglwys ddiddysgybl-
actb a chyfeihornus, a'i gwcinidogion iU dau yn
gwrtbod diwygiad, fel ag i wneyd ymwahanu oddi-
wrthynt yn beth i'w ddymuno.
Dyna egiwys Maesyronen eto, dywedir ei bod
yn cynyddu dan ofal David Price. A ellir profi
liyn ? Yn fuan wedi cyfodiad Methodistiaeth,
darfyddodd yr acbos yn llwyr yma. Ai nid oedd
elfenau marwolaeth yn gwcitbio yn ci chyfansodd-
iad er's blynyddocdd? Nid mewn amser byr y
mae eglwys Iwyddianus yn suddo i ddifodiant.
Gymerer eto eglwys Pwllheli, am yr houy dywed
yr Ysgrifenydd ei bod " yn declireu adfywio trwy
ymweliadau Lewis Rees." Faint oeddyr adfywiad?
Pa brawf sydd o adfywiad o gwbl ? Yn ol Drych
yr Amseroedd (tudal. 5.5), pan aetli Lewis Kees
yno, cwynai y cyfeillion fod yr achos yn isel, ac yn
ddigalon, neb o'r newydd yn dyfod atynt, a'r
gwrandawyr yn lleihau. Anogai yntau hwynt i
beidio ymollwng. " Y mae y wawr nefol yn
dechreu tori gyda ni yn y Deheudir," meddai. " Y
mae acw ryw ddyn rhyfedd iawn wedi codi yn
ddiweddar, a elwir Mr. Howell Harris ; y mae yn
myned oddìamgylch i'r trefydd a'r pentrefydd, y
prif-ffyrdd a'r caeau ; ac fel óg fawr, y mae yn
rliwygo y fîordd y cerdda." " 0 !" meddent, " na
chaem ni ef yraa." Atebodd Mr. Rees, ei fod yn
bosibl y deuai. Soniodd wrthynt hefyd am
Jenkin Morgan, a gadwai ysgol dan Griffitb Jones.
Felly, os bu adfywiad yn eglwys Ymneillduol
Pwllheli, son am waith Duw trwy Howell Harris
a'i hachosodd.
Drachefn, dywedir am Bentretygwyn a Chefn-
arthen : " Er ychydig o annealltwriaetb, yn Ilwyddo
a chynyddu." Ycbydig annealltwriaeth, yn wir !
Am saitb mlynedd o amser buasai tri o weinidogion
ar eglwys Cefnarthen yr un pryd, dau yn Arminiaid
ac un yn Galfiniad, a pbregetbent yn erbyn eu gil-
ydd o'r un pwlpud. Wedi dadleuaetla cbwerw, a rhy-
feloedd poethion, ymranodd yr eglwys, ac aeth y
Calfiniaid allan, yn cael eu harwain gan dad
Williams, Pantycelyn, a sefydlasant acbos mewn
amaethdy o'r enw Clinypentan. Dygwyddodd hyn
tua'r amser yr oedd Howell Harris yn dechreu
cyfîroi. Y rhwyg yma a elwir yn " ychydig an-
nealltwriaeth ! " Beth ŵys a fyddai annealltwr-
iaeth mawr ? Os yw terfysg, ymddadleu, ac yn y
diwedd ymranu, yn brawf o Iwyddiant, cyfaddefwn
fod eglwys Cefnarthen, adeg cyfodiad Methodist-
iaetb, mewn sefyllfa nodedig o Iwyddianus. Tra-
cbefn, cymerer Wrexham. Dywedir ei bod yn
cryfbau, yn iacbau o'i cblwyfau ar ol ymraniadau,
a darfod i J. Kenrick lafurio yma gyda pbarch
mawr am agos i ddeugain mlynedd. Ond, fel
amryw o'r hen weinidogion Presbyteraidd, tueddai
J. Kenrick at Ariaeth; aeth ei ddisgynyddion yn
Sociniaid rbonc ; Ariad hefyd oedd ei olynydd,
Mr. Boult ; derbyniai ei olynydd yntau, y Parch.
William Brown, Undodiaid i gymundeb eglwysig
yr un fatb a Thrindodiaid. Yr oedd yr eglwys
Bresbyteraidd yn Wrexbam yn gymysgedd o Undod-
iaeth, Ariaeth, a Chynulleidfaolwyr efengylaidd byd
nes yr oedd cbwarter cyntaf y ganrif bresenol wedi
niyned heibio. Y piyd hwnw gorchfygodd y blaid
efengylaidd, a llwyddasant i gacl y Parch. Jobn
Pearce yn weinidog. (Gweler A History oftJie Oldcr
Nonconformity of WrcxJiam and its NeigJiboiirJiood,
by Alfred Neobard Palmer, F.C.S.). Rhy brin y
gellir dynodi cyflwr eglwys a wneHd i fynu o'r fath
gymysgedd fel un llwyddianus.
Nid oes genym liamdden i fyned trwy y gweddiU
o'r daflen. Y mae i raddau mawr yn ddychymygol
ac yn ddisail, ac yn wir yn gamarwciniol. Nis geliir
rlioddi dim pwys o gwbl arni fel sail ymresymiad.
Ac eto, dywedir y rbaid i bob dyn têg gydnabod
fod y rhestr bon yn wadiad effcitliiol ar y dybiaeth
fod crefydd efengylaidd yn marw allan yn Ngbymru
yn nechreu y ganrif ddiweddaf . Tucddwn i feddwl
mai yr liyn a wnai y " dyn têg," cyn rhoddi barn o
gwbl ar y mater, fyddai gofyn am brofion dros y
nodiadau a roddir mewn cysylltiad a'r gwabanol
eglwysi ; byddai yn debj-g o ofyn pabam y gelwid
terfysg byd at ymraniad mewn cglwys yn " ych-
ydig anncalltwriacth ? " A pbaliam y dynodid
eglwys arall, oedd yn amddifad o ddysgyblaeth, ac
a feddai weinidogion na cbymerent eu diwygio, fel
mewn cyflwr llwyddianus ? Teimlwn yn sicr y
gofynai y " dyn tèg " liaws o gwestiynau mewn
perthynas i wahanol items y rhestr hon, y byddai
yn anhawdd iawn cael atebiad iddynt.
500
Y TADAU MRTIIODISTAJDD.
Cîoisii' ainhcu ein gosocliacl íocl y gogwydd mor
gryf at Ariaeth, yn y ganrif ddiweddaf, fel y mae
lle i ofniy buasai Cymru oll yn Undodaidd heddyw
oni buasai i'r diwygiad ^Methodistaidd clori allan.
Mater o opiniwn ydyw hyn ; ond dyna ein barn ni,
wedi edryeli mor ddìragfarn ag y medrwn ar
íîcithiau. Yr oedd Ariaeth yn yr awyr yn y ganrif
ddiweddaf ; ymledai syniadau anöyddol neu Ariaidd
gyda chyflymdra dirfawr, a deucnt i mewn i eglwysi
Ymncillduol Cymru gyda rliutln-, fcl llanw y múr.
Nid oedd dim gyda golwg ar athrawiacth yn trust
tlccds y capelau. Yr oedd Athrofa Caerfyrddin, Ue
yr addysgid ymgeiswyr am y weinidogaeth, wedi
cael ei tharo yn clrwm gan yr haint ; anfonai allan
ílwyddyn ar ol blwydcTyn weinidogion i gymeryd
gofal eglwysi a goleddent syniadau ancfcngylaidd,
ac yn racìdol aeth yr athrofa i raddau mawr yn
l'ndodol. Beth oedd y dylanwad a drodd y
Uanw hwn yn ol, os nad y diwygiad a
gychwynodd yn gyntaf gyda'r Methodistiaid ?
Uhydd amddiffynwyr Dr. Rees ddau reswm dros
amhcu hyn ; yn
(1) Fod Dr. Rees yn tystio nad ocdd ond un
cglwys yn pioffesu Arminiaeth cyn 1735. Pa
eglwys oedd hono, ni ddywedir. Ond y mae yn
sicr fod cryn nifer o eglwysi wedi ymlygru yn
ddirfawr. Yn eglwys Cwmyglo, gèr IMertliyi'
Tydfìl, yr oedd yr adran Arminaidd yn ddigon cref
yn y fiwyddyn 1732 i fynu ordeinio Richard Rees
yno yn gydweinidog a'r Parch. James Davies, a bu
y ddau yno am bymtheg mlynedd yn pregcthu yn
erbyn eu gilydd o'r un pwlpud. O'r eglwys hon yr
aeth Undodiaid Cefncoedcymmer allan, a chwedi
liyny Undodiaid Aberdar. Yn 1750, cawn fab y
Parch. James Davies yn cael ei oráeinio yn gyci-
weinidog a'i dad yn yr Ynysgau ; yr oedd y tad yn
rTalfin da, ond y mab yn Armin rhonc, ac yno y
hu y ddau am amser yn pregethu athrawiaethau
croes. Bu eglwys Y'nysgau yn llygredig gan yr
haint Arminaidd oedd yn ymylu àr Ariaeth hỳd
yn nghof rhai sydd yn fyw. Y'r ydym wedi cỳf-
eirio yn barod at eglwys Cefnarthen fel lle yr oedd
yr Arminiaid yn gryfach na'r Caltiniaid ynddo,
ac ar adeg yr ymraniad llwyddasant i gadw y
capel, a'r Calfiniaid a fu raid ymadael. Mewn
llythyr at Howell Harris, dyddiedig Awst 7fed,
1741, dywed Edmund Jones ; " Tlicre are morc of
oiir Disscnting ministcrs who are fricnds to tlie
Metliodists than you mention And I cannot
hut obseire tliat tliey are oiir best mcn wJio are
favourable to you : and that they are for the most
part dry and inexperienced, or Arminians, tliat are
against you — at least who are bittcr." Prawf y
difyniad hwn fod nifer o weinidogion Arminaidd
ar eglwysi Y^mneillduol yr adeg hono, a'u bod yn
chwerw yn erbyn y diwygiad.
(2) Fod amddiffyniad galluog i'r ffydd Galfin-
aidd wedi cael ei wneyd ar wahan i'r Methodist-
iaid. Efallai hyny, ond ychydig o allu a fedd
dadleuaeth i wrthsefyll cyfeiliornad. Rhaid cael
rhywbeth cryfach na rhcsymau i droi yn eu holau
syniadau anefengylaidd. Er gwaethaf " yr amddi-
fíyniad galluog," ymlygru fwyfwy a wnaeth yr
eglwysi Ymneillduol na chyfranogodd o yspryd y
diwygiad, ac erbyn hedclyw y maent yn gyfangwbl
Undodaidd. Nid â rhesymau, ac nid trwy ddadl-
euaeth, y trowyd yn ol y Ilanw Arminaidd, ond
trwy fod dynion fel Howell Harris, a Daniel
Rowland, wedi eu gwisgo â'r Presenoldeb Dwyfol,
ac yn ymddangos mor ofnadwy a phc y baent yn
genhadau yn dyfod o dragywycídoldeb, yn cyhoeddi
llygredd clyn, a'r anmhosiblrwydd i ddynion achub
eu hunain, nes cario argyhoeddiad i feddyliau
pawb, ac nes peri i bechaduriaid yswatio a gwlad-
eiddio yn eu presenoldeb. Fel y dywedascmi, nid
ydym am honi yr holl glod am îiyn i'r Älethodist-
iaid ; ymaflodd y tân nefol hefyd yn yr YmneiII-
duwyr oedd ar y maes yn barod, ac yr oedd
angerddolrwydd y gwres mor ofnadwy fel y gorf u i
Arminiaeth anefengylaidd gilio.
Yr unig beth ychwanegol y galwn sylw ato yn
yr ysgrif hon y w Ilythyr y Parch. Edmund Jones,
dycldiedig Hydrcf 26ain, Ì742, yn mha un y rhydd
gipdrcm ar sefyllfa crefydd yn Nghymru. Gwna
efe rif eglwysi yr YmneiIIduwyr yn y Dywysog-
aeth yr adeg hono yn gant a saith. Ond nid yw
yn ymddangos i ni fod y Ilythyr hwn yn y gradd
lleiaf yn profi honiadau Dr. Rees. Yn
(1) Yr oedd y IMethodistiaid wedi bod ar y
maes am dros saith mlynedd, yn cyffroi, ac yn
cynhyrfu, ac yn chwyddo eglwysi yr Ymneilldu-
wyr â dychweledigion, yn gystal ag yn eu galluogi
i blanu eglwysi newyddion, pan ysgrifenwyd y
Uythyr hwn. Nid teg cymeryd cynyrch Ilafur y
Methodistiaid i ddangos mor grefyddol oedd y
wlad cyn i'r Methodistiaid godi. Gellir dadleu
nad yw saith mlynedd ond cyfnod cymharol fyr.
Ond ar adeg o gyfíro fcl a fodolai ar y pryd, cyííro
na welwyd ei gyfíelyb yn Nghymru, pan yr oedd
yr holl wlad yn cael ei Iiysgwyd gan nerthoedd
Dwyfol, gwneid gwaith mawr mewn ychydig fis-
oedd, chwaethach mewn saith mlynedd. Fod
Ilafur y Methodistiaid, a'r Ilwyddiant a djilynai
eu pregethu, yn cael ei ddwyn i mewn i'r eyfrif
sydd eglur oddiwrth y Ilythyr ei hun. Am Sir
Faesyfed dywed : " One of our six congrcgations
tliere was gathered lately, partly by tJie labours
of tJie MetJiodists." Eto am Brycheiniog dywed :
" TJiere are eigJtt congregations of our Dissenters,
tiuo of lüJiom I had tJie favour, upon tJie late
rcformation, to gatJicr and set tip." Y diwygiad a
gynyrchwyd trwy Howell Harris oedd y " late
rcformation," ac am ladrata ei ddychweledigion yn
j Ileoedd yma, a fíurfio eglwysi Annibynol o honynt
y cwynai Howell Harris arno, mewn Ilythyr tra
christionogol a anfonodd ato. Yn ystod y saith
mlynedd yma manteisiodd YmneiIIduwyr yn fawr
ar lafur y Methodistiaid. Y'r ychwanegiadau
trwy weinidogaeth Howell Harris a alluogodd
Edmund Jones i adeiladu capel Annibynol Pont-
ypẁl yn y flwyddyn 1739 ; dychweledigion yr un
Diwygiwr nerthol a alluogodd David Williams i
adeiladu capel Watford. Meddai David Williams
mewn Ilythyr at Howell Harris, IMehefin 12fed,
1738: " T/ic two days' service witJi iis Jias bcen
attendcd witJi marrellons success. TJie cJiurcJies
and meetings are crotoded, SabbatJi breaJiing
goes doicn." Eto, Ilythyr dyddiedig Tachwedd
17eg, 1738 ; " TJiings Jiave a comfortable aspect
Itere at present. Praying societies go up every-
iuJiere. Seventeen Jiave been admitted to com-
munioyi last time ; more Jiave been proposed."
Eto, llythyr dyddiedig Chwefror 7fed, 1739 : " TJie
society in Cardiff present tJieir love and service.
We Jiave rcceived nine to our comnmnion since
you loere Jiere, and about so mnny niore to pro-
posc." Tebyg y cyfeiria y Ilythyr diweddaf at ail
neu drydydd ymweliad o eiddo Howell Harris, a
bod y naw a dderbyniwyd i gymundeb yn ych-
wanegol at y dau-ar-bymtheg y cyfeirid atynt yn
y Ilythyr blaenorol. Yn ngwyneb ffeithiau fel hyn,
nid oes rhitli o reswm dros wneyd agwedcl crefydd
yn Nghymru, ddiwedd y flwyddyn 1742, wedi dros
saitli mlynedd o lafur digyftelyb o Iwyddianus gan
AITODIAD.
501
y Methodistiaid, yii brawf o sefyllfa crefydd yn y
wlad cyn i'r IMethodistiaid godi.
(2) Nis gall cant a saith o eglwysi roddi syniad
cywir am nerth Ymneillduaeth ynNghymru, oddi-
gertli ein bod yn gwybod rhif yr aelodau, a'r
gwrandawyr perthynol iddynt. Pe y gwnaem bob
eglwys yn lianer cant o aelodau, ni fyddai rhif
cyfanswm yr aelodau ond ychydig dros bum mil.
Eithr ofer dyfalu ; gallai y rhif ar gyíartaledd fod
yn fwy ; ond y mae yn ymddangos yn llaw'n mor
debyg ei fod yn Uai. Dywedir yn y Ilythyr fod y
rhan fwyaf o gynuUeidfaoedd-Sir Aberteifì yn rhai
mawrion. Geiriau cymliarol yw mawr a bach ; a
rhaid i ni beidio tybio fod cyuulleidfa fawr Edmund
Jones yn gyfíelyb mewn rhif i gynulleidfa fawr yn
ein dyddiau ni. Adwaenem amryw o hen gapelau
yv Ymneillduwyr yn Sir Aberteifi ; rhai bychain,
eulion, diolwg oeddynt, wedi eu gosod mewn cym-
ydogaethau gwledig, gan mwyaf, lieb bentref,
chwaetliach tref, yn gyfagos, a chredwn mai cryn
gamp a f uasai gwtliio cynulleidfa o gant a haner o
ddynion i un o honynt.
Yn wir, i'r Rlethodistiaid y priodola Edmund
Jones efengyleidd-dra y wlad yn y llytliyr hwn.
Meddai am Sir Aberteifì : " Jlere were lately tioo
eìninent clergymen — Mr, David Jenhins, a yonncj
man latcly clead, and Mr. Daniel Roioland, who
liad at his chiirch some time ago above two thousnìid
communicants. Almost all tìie lower part of the
county is become reliç/ions since Mr. Howell Harris
ancl the Methoclists laboiired there." Eto : " Pem-
hroheshire hath been latcly mightily roused up, and
abundance of people conrinced, reformed, and con-
verted by means of the e.rliortations of Mr. Hmell
Harris, and otìier Mctliodist exhorters.'" Eto :
" Tìie npper part of Pembrohcsìnre hath heen roused
and reformed, and that almost nnirersally, to a
concern ahont religion. Certainly, a very great
%oork lias been done ]iere." Pe buasai rliyw hanes-
ydd Methodistaidd yn ysgrifenu fel uchod, gan
briodoli y cyfnewidiad yn y wlad i ymdrechion y
Methodistiaid, a pheidio son o gwbl am Jafur yr
Y'mneiUduwyr, buasai yn sicr o gael ei gyhuddo o
bleidgarwch a rhagfarn. Ond Annibynwr oedd
Edmund Jones, ac ni fu neb erioed mwy zêlog dros
ei enwad.
IV. Haerir yn nesaf fod gwaith yr Ymneilldu-
wyr wedi cael ei anwybyddu yn ormodol gan y
y diwygwyr G. Jones, Harris, a Rowlands. Cyn ateb
hyn, goddefer i ni ddangos fel y mae cyhuddiad
Dr. Rees yn erbyn y Tadau Methodistaidd wedi ei
leddfu i lawr, ac wedi newid ei fîurf, nes y mae yn
anmhosibl ei adwaen. Nid anwybyddu yn or-
modol lafur yr Ymneillduwyr oedd y cyhuddiad a
ddygai efe i'w herbyn ; ond camddarlunio yn
fwriadol agwedd foesol ac ysprydol y wlad, dan
ddylanwad gwanc am wag-ogoniant. Y mae Ued
y nefoedd o wahaniaetii rhwng y ddau bcth hyn.
Am anwybyddu yn ormodol lafur eraill, gailai
dynion da fod yn euog o hono yn anymwybodol ;
gallent wrth sylwi yn ddwys ar un dosparth o
ìîeithiau anghofìo fod ffeithiau cyferbyniol i'w
cael ; ac, fel y sylwa un, gallai eu hysprydolrwydd
a'u brwdfrydedd eithriadol fod yn achlysur o'r
cyfryw esgeulusdod. Ond am gyhuddiadDr. Rees,
sef ddarfod iddynt yn fwriadol gamddarlunio
sefyllfa Cymru er mwyn hunan-ogoniant, y mae
yn hollol anghydweddol â chrefydd o ddim grym ;
nis gallai y cyfryw deimlad fodoli ond mewn
dynion cnawdol, dan Iywodraeth tcimladau daearol
isel a gwael , ac y mae yn anmhosibl peidio dir-
mygu y personau yn mynwesau pa rai y caiff y
cyfryw deimlad lety am foment. Ymddengys i ni
fod yr Annibynwyr yn tafiu cyhuddiad Dr. Rees
dros y bwrdd, ac yn dwyn uu arall, llawer tyner-
ach, yn mlaen yn ei le.
Ond pa faint o sail sydd i'r cyhuddiad tyner-
ach? Pa resymau a ddygir yn mlaen i brofi
ddarfod i'r Tadau IMethodistaidd anwybyddu
yn ormodol lafur yr Y'mneillduwyr ? Un prawf
yn unig sydd yn cael ei gynyg, sef prinder cyfeir-
iadau yn eu hysgrifeniadau at yr YmneiUduwyr.
Sail gul iawn, yn sicr, i adeiladu y fath gastcll
golygus arni. Nid ysgrifenu hanes Cymru a
wnelai Harris a Rowland ; ni ddaeth i'w meddyl-
iau i holi pa fodd y syrthiasai y wlad i'r cyfìwr
truenus yn mha un yr oedd yn gorwedd ; ac nid
eu pwnc hwy oedd ymchwilio pa ymdrechion
anefîeithiol a wnelsid yn flaenorol i efengyleiddio
y werin. Y cwestiwn a losgai fel tân yn eu hys-
prydoedd oedd, Sut i achub y rhai a lusgid i
angau ? Nid ysgrifeim hanesiaeth yr oeddynt
hwy, ond gwneyd hanesiaeth. Gwelent goiph y
werin, fel y sylwa Dr. John Thomas, LiverpooI, yn
gorwedd mewn anwybodaeth a thrueni dybryd ;
gwelent hefyd nad oedd unrhyw ymdrech eíîeith-
iol a Uwyddianus yn cael ei gwneyd gan neb i
geisio eu hachub ; fod yr offeiriaid yn yr Eglwys
Sefydledig yn ddifater, a"r gweinidogion YmneiII-
duol yn ymfoddloni i fugeilio yr ychydig ddefaid
oedd ganddynt yn eu corlanau, heb fod neb yn eu
mysg yn myned i'r anialwch ar ol y coUedig. Yn
y cyfwng hwn rhuthrodd Harris a Rowland i'r
adwy ; ymdaflasant gyda brwdfrydedd diderfyn
i'r gorchwyl o achub gwerin Cymru, a gyru o'r
wlad yr arferion annuwiol a'i gwartliruddent ; ac
yn hyn llwyddodd yr Arglwydd hwynt tu hwnt i
fesur ; ac yn raddol cawsant yr hyfrydwch mawr
o weled y gvYeinidogion Ymneillduol yn cael eu
meddianu â'r un a'r unrhyw yspryd, gan ddyfod
allan yn gynorthwy i'r Arglwydd yn erbyn y
cedyrn. Beirniadaeth fìtw a distadl yr ymddengys
i ni yw holi a ddarfu iddynt ranu y clod am y
gwaith a gyflawnwyd yn deg. Clod yn wir ! Ni
ddaeth i'w meddwl i gymeryd dim o hono ; nid
oedd hunan a gwag-ogoniant yn cael lle yn eu
mynwesau, ac ni ddarfu iddynt ddychymygu am
ranu yr anrhydedd, gan gymeryd rhan eu hunain,
a rhoddi rlian i eraill.
Honir fod Dr. Rees yn ei le, wrth briodoli i'r
Tadau Methodistaidd gulni dii-fawr at yr Ymneill-
duwyr a'i blaenorai. Dy wedir iddynt fod yn anghar-
edig o ddystaw am yr hyn a wnaethant, a rhoddir
dau reswm am hyny, sef rhagfai-n Eglwysig, ac
ysprydolrwydd eithriadol. Ymddengys y ddau
reswm hyn yn ddinystriol i'w gilydd. Nis geill
rhagfarn ac ysprydolrwydd meddwl gyd-drigo yn
yr un galon ; y mae y naill yn sicr o ddisodii y
llall. Os mai ysprydoh'wydd fydd yn oruchaf,
derfydd am ragfarn o angenrheidrwydd. Y mae
dynion ysprydol yn byw mewn agosrwydd mawr
at Dduw ; o lewyrch ei wyneb Ef y sugnant eu
hysprydoliaeth ; nis geill ond agosrwydd at y
Dwyfol roddi iddynt y cyfryw nodwedd. Ac yn
y presenoldeb rhyfedd hwn nis geill rhagfarn
enwadol fodoli ; y mae y màn wahaniaethau a'r
mûn ffiniau sydd yn gwahanu y naill sect oddiwi'th
y Ilall yn myned yn ddim. Yn sicr, wrth ddar-
Ìunio y Tadau Methodistaidd fel dynion o yspryd-
olrwydd meddwl eithriadol, gwneir y cyhuddiad
cu bod yn llawn o ragfarn Eglwysig yn anmhosibl.
Ni fu dynion mwy diragfarn yn rhodio daear
na Rowland, a Harris, a'u cydweithwyr. Yr
ydym yn cyfaddoí eu bod yn Eglwyswyr cyd-
502
Y TADAU METHODISTAIDD.
wybodol ; dyna y goleuni oedd ganddynt hwy ar y
pryd ; ond nid yw yn canlyn eu bod yn rhagfarnllyd
at enwadaii eraill. Nid yw ymlyniad gonest wrth
blaid grefyddol yn profì dyn yn gul ac yn llawn
rhagfarn at bob cyfundeb crefyddol arall. Y mae
aml un, ni a gredwn, yn Annibynwr cryf, ac yn
dra ymlyngar wrtlì ei blaid a'i bobl ; ond gallwn
ni edrycli arno fel dyn diragfarn, eang ei gyd-
ymdeimlad, a rlayddfrydig ei olygiadau. Yn y
goleu hwn yr hofîem ni ein hunain gael ein barnu.
Tra yn credu yn gryf mewn Metliodistiaeth, nid
ydym yn ddall o gwbl i rinweddau a rhagoriaethau
y cyfundebau crefyddol sydd o'n cwmpas. Paham
na chaniateir yr un egwyddor gyda golwg ar y
Tadau IMethodistaidd ? Ac nid oeddynt mor ym-
lyngar wrth yr Eglwys ag y tybir. ISÎid hoiîder
ati oedd yr unig, na'r prif reswm dros eu gwaith
yn aros o'i mewn, ond y fîaith mai mewn undeb
a hi yr oedd yr Arglwydd wedi eu llwyddo, ac yr
oedd arnynt ofn symud allan, a bwrw eu coelbren
gyda'r YmneiUduwyr, am nad oeddynt yu gweled
fod y golofn yn myned i'r cyfeiriad hwn. Y maent
drosodd a tlirosodd yn datgan parodrwydd i adael
cymundeb yr Eglwys pe y gwelent yn glir mai
hyny oedd ewyllys yr Arglwydd.
Y mae llawer iawn wedi cael ei wneyd o ben-
derfyniad Cymdeithasfa Watford gyda golwg ar
dderbyn y sacrament yn yr Eglwys. Fel hyn y
ceir y penderfyniad yn nghofnodau Trefecca :
" Cydunwyd ar i'r brodyr a deimlent betrusder
gyda golwg ar dderbyn y sacrament yn yr Eglwys,
oblegyd annuwioldeb yr oíîeiriaid ; a chyda'r
Ymneillduwyr oblegyd eu claearineb, barhau i
dderbyn yn yr Eglwys hyd nes yr agorai yr Ar-
glwydd ddrws amlwg i ni adael ei chymundeb."
Geilw Dr. Rees hyn yn ymlyniad dall wrth yr
Eglwys, a chyíeirir ato gan ei amddiffynwyr fel
prawf o ragfarn Eglwy.syddol. Nid yw yn ym-
ddangos i ni fod y penderfyniad yn haeddu y con-
demniad diarbed a deflir arno. Gellir dwyu y
rhesymau eanlynol drosto : Yn (1) Anogaeth ydoedd
i'r rhai oeddynt hyd hyny wedi arfer cymuno yn
yr Eglwys ; profir hyn gan y gair " parhau ; " nid
oes yma gymaint ag awgrym i'r Ymuneillduwyr
adael cymundeb eu henwad. (2) Yn mryd y Meth-
odistiaid yr oedd yr oerni a feddianasai yr Ym-
neiUduwyr yn gymaint rhwystr ar íìordd crefydd,
a buchedd anfoesol yr ofíeiriaid. Yn eu golwg
hwy, nis gallai oerni ysprydol a duwioldeb gyd-
drigo. Nis gallai dyn wedi ei ferwi gan y diwygiad,
a'i galon yn llosgi ynddo o gariad at y Gwaredwr,
lai na theimlo gwrthnaws o'i fewn wrth weled
gwasanaeth y cymundeb yn cael ei gyíìawni gan
weinidog a'i yspryd ynddo mor oer a'r rhew. Ac
yn aml yr oedd yr oerni yn gynyrch syniadau an-
efengylaidd am berson Crist, a natur yr lawn. Yn
yr eglwys, pa mor anfucheddol bj^nag y gallai yr
ofíeiriad fod, yr oedd y gwasanaeth a ddarllenid
ganddo yn ardderchog, ac yn llawn maeth i dduw-
ioldeb. (3) " Hyd nes y i'hoddai yr Arglwydd
ddrws agored i adael cymundeb yr Eglwys" yr
oedd yr anogaeth. Felly y darllena y penderfyniad.
Ac ymddangosasai yr adeg i'w gadael yn ymyl
iddynt. Yr oedd yr offeiriaid yn dechreu gwrthod
y sacrament i'r Methodistiaid, a thrwy hyn yr
oedd eu sefyllfa mewn argyfwng difrifol. Ac os y
dymunent i'r rhai a argyhoeddwyd ganddynt, eu
píant ysprydol, barhau yn nghyd, heb fod rhai yn
ymuno â phlaid arall, pwy a fedr eu beio'?
Howell Harris oedd y mwyaf ymlyngar wrth yr
Eglwys, ond yr oedd yn holloí ddiragfarn at yr
YmneiUduwyr. Cyfeiria gyda ijharch a thyner-
wch mawr at amryw o'u gweinidogion yn ei
lytliyrau, ac yn ei Ddydd-lyfr. " Yr anwyl Edmund
Jones," meddai drosodd a throsodd. " Fy mrawd,
Lewis Rees," meddai drachefn. Gohebai yn y
modd mwyaf cyfeiUgar â gweinidogion efengyl-
aidd yr Ymneillduwyr yn Nghymru a Lloegr ;
gofynai gyfarwyddyd ganddynt mewn gwahanol
aragylchiadau, ac adroddai ei helynt, a'i Iwyddiant,
a'i brofìad ysprydol iddynt yn y modd mwyaf
dysyml. Byddai yn anhawdd cael syniadau mwy
catholig na'r rhai a draethir ganddo. Meddai
mewn llythyr at Mr. Oulton, gweinidog y Bedydd-
wyr yn Llanllieni : " Anhawdd i ni oll ddyfod i
gydweled gyda golwg ar y rhanau hyn}' o'r Beibl
a gyfeiriant at ffurflywodraeth eglwysig, adeg, a
duU bedydd, a rhyw allanolion felly ydynt yn
fuan i ddarfod. Y mae undeb yn anmhosibl hyd
nes y cydunwn i beidio gwneyd dim yn amod
aelodaeth ond adnabyddiaeth achubol o'r Ar-
glwydd lesu, a fíydd fywiol yn cynyrchu sanct-
eiddrwydd buchedd. Pe bawn i a gofal cynull-
eidfa arnaf, ystyriwn ei bod yn ddyledswydd arnaf
i dderbyn pawb yn aelodau y gallwn obeithio am
danynt eu bod wedi eu geni o Dduw, er na fyddent
yn cydweled â mi ar ychydig o bethau allanol."
Y dyn hwn, sydd mor ddiragfarn a chatholig ei
syniadau, a gyhuddir o gulni at yr Ymneillduwyr.
Mor bell o fod yn gul, apeliai Edmund Jones a
gweinidogion YmneiUduol eraill ato am iddo
gasglu yn ei gynulleidfaoedd mawrion er eu
cynorthwyo i adeiladu eu capelau, ac y mae yn fwy
na thebyg ei fod yn cydsynio.
INIeddai un Ysgrifenydd am Howell Harris :
" Credai nad oedd gan neb hawl i weinyddu yr
ordinhadau ond a fyddai wedi cael ei urddo gan
Esgob." Nid oes rhith o sail i'r haeriad hwn. Y
mae yn hollol groes i dôn gyffredin ei weinidog-
aeth a'i ddysgeidiaeth. Yr ydym wedi myned
yn fanwl trwy ei lythyrau a'i Ddydd-lyfr, ac nid
oes tebyg i hyn i'w gael ynddynt. Yr oedd
gweinidogion yr Ymneillduwyr a gydymdeimlent
â'r diwj'giad yn cael croesaw i Gymdeithasfaoedd a
Chyfarfodydd Misol y Methodistiaid, caent gymeryd
rhanynyrymdrafodaeth, a phleidleisio ar wahanol
faterion, fel pe byddent yn Fethodistiaid. Yr oedd
y Parchn. Henry Davies, Bryngwrach, a Benjamin
Thomas, mewn amryw o'r Cymdeithasfaoedd cyn-
taf, a chroniclir eu henwau yn mysg y Parchedig-
ion oeddynt wedi derbyn urdd esgobol, ac o flaen
eiddo Howell Harris, a'r cynghorwyr ; yr hyn a
brawf yr ystyrid gweinidog Ymneiilduol fel yn
meddu yr un safle yn hollol ag offeiriad. Ni
wnelid gwahaniaeth o gwbl rhwng y ddau. A
thrachefn pan yr ymadawai un o'r cynghorwyr,
gan gymeryd gofal eglwys Ymneillduol, nid oedci
yn llai ei barch yn mysg y Älethodistiaid o'r
herwydd. Gwedi i Richard Tibbot ymadael, ac
ymsefydlu yn Llanbrynmair, deuai i Gymdeithas-
faoedd Llangeitho a'r Bala yn flynyddol, ac er nad
oedd ei ddoniau gweinidogaethol yn ddysglaer, cai
bregethu mewn lle anrhydeddus. Y mae y Parch.
John Thomas, o'r Rhaiadr, wedi gadael tystiolaeth
ar ei ol am garedigrwydd a thynerwch mawr
Daniel Rowland ato, wedi iddo ymuno â'r Anni-
bynwyr, pan yr oedd ar rynu oblegyd yr oerni
ysprydol oedd wedi eu meddianu. Pa le y mae y
culni a'r rhagfarn dychymygol ? Arfer ddi-
eithriad pobl ragfarnllyd yw erlid y rhai fyddo yn
encilio oddiwrthynt. Ond ni wnelai y IMethodist-
iaid ddim o'rfath, ond parhaent i'w hystyried fel
brodyr.
Yn wir, gallwn droi y byrddau ar ein gwrth-
ATTODIAD.
503
wjTiebwyr, a pbroíi mai pertbyii i Ymneillduwyr y
dyddiau byiiy yr oedd y culni a'r rbagfarn, a'u
bod yn llawu o'r cyfryw deimlad. Dyna a allesid
ddysgwyl oddiwrtb ddynion ffurfìol ac oer, pan
welent bobl llawn tàn a zêl yn ymroddi i gyflawni
gwaitb ag yr oeddynt bwy wedi ei esgeuluso.
Dywed Howell Harris ci fod yn boblogaidd iawn
yn eu mj'sg ar y cyntaf, pan yr oedd nertb ei
bregetbu yn chwyddo eu cynulleidfaoedd ac yn
gorlenwi eu capelau ; ond pan welsant na ymadawai
!i'r Eglwys, a'i fod yn ffurfio ci ddycbweledigion
yu seiadau, aetbant i deimlo yn ddiíias ato, ac i'w
gasbau. " Fel byn," meddai, " yr oedd y Metbod-
istiaid yn cael eu casbau gan Eglwyswyr ac Ym-
neiUduwyr." Aetb cyfeillacbu A'r Metbodistiaid
yn drosedd i'w gospi âg esgymundod yn ngolwg yr
Y'mneilldu^'j-r. ÙNIewn llythyr o eiddo William
Richards, arolygydd y c^nudeitbasau yn rban isaf
o Sir Aberteifi, dyddiedig IMedi 12fed, 1742, ceir a
ganlyn : " Y mae y diafol wedi cyfíroi y Dissenters
yn ein herbyn fel y cyfíroa y gwynt y coed. Y maent
yn gwyrdroi ein geiriau a'n hymddygiadau, gan
dynu y casgliadau mwyaf dycbrynllyd oddiwrtb-
ynt. Y mae ein banwyl cbwaer Betti Thomas yn
cael ei bhno yn fawr ganddynt ; bygythiant ei
hesgymuno, os nad ydynt wedi gwneyd hyny yn
barod, am ei bod yn derbyti y jMetbodistiaid i'w
thj'. Y mae yn dyfod i'r seiat breifat, ac nis
gwyddant beth i'w wneyd o honi (y seiat). Dy-
wedant mai drws agored i Babyddiaetb ydyw, a
llawer o betbau cableddus ereill." Os yw geiriau
yr hen gynghorwyr yn wir, ac nid oes genym un
rheswm dros eu hanghredu, yr oedd yr Ymneilldu-
wyr yn erlid y rhai a gyfeillachent â'r Metbodist-
iaid, ac yn camddarlunio y seiat brofìad, trwy
awgrymu weitbiau ei bod yn dwyn cyfíelybrwydd
i gyfíesu pechodau yn yr Eglwys Babaidd ; ac
weitbiau, fel yr awgryma y gair " cableddus," trwy
honi fod gweithredoedd pechadurus yn cael eu
cyílawni ynddi, ac mai dyma y rheswm paham ei
dygid yn mlaen yn breifat. Yn ngbofnodau
Cyfarfod Misol Glanyrafonddu, a gynaliwyd Ebrill
17eg 1744, ceir a ganlyn : " Yn gymaint a bod
Thomas David wedi cael ei droi allan gan yr Ym-
neillduwyr am ymgyfeillacbu â ni, ci fod i gael ei
uno â seiat Erwd." Yr oedd Daniel Rowland,
WiUiams, Pantycelyn, a Benjamin Thomas, gwein-
idog Ymneillduol, yn bresenol pan y pasiwyd
y penderfyniad hwn, a sicr yw fod ganddynt fíeith-
iau diymwad i syrtbio yn ol arnynt. Ceir prawf
o'r un ragfarn ddall yn nglyn ag ordeiniad Morgan
John Lewis yn weinidog ar eglwys y New Inn.
Gan na alwyd gweinidogion Ymneillduol i gyfarfod
yr ordeiniad, ond i'r neillduad gacl ei wneyd gan
yr eglwys mewn modd difrifol wedi gweddi ddwys,
sorodd yr Ymneillduwyr ; ni fynent gydnabod
Morgan John Lewis yn weiiiidog o gwbl ; ac ym-
ddygent ato, ac at yr eglwys a'i neillduasai, fol yr
ymddygai yr luddewon gynt at y gwabangleifion.
Mewn canlyniad i liyn, cyiioeddodd y gweinidog
grynodeb o'r egwyddorion a gredai, ac yn y rhag-
yrnadrodd achwynai yn enbyd ar y driniaetli oedd
yn gaeL Yr oedd yr Ymneillduwyr yn crcdu
mewn olyniaetb Apostolaidd gnawdol mor gryf a'r
Eglwyswyr. Yr unig rai a gydnabyddent jMorgau
Jobn Lcwis a'i eglwys ocdd y ^lctbodistiaid. Ym-
welent bwy ag ef, ac a'r gynuUeidfa, gan loni eu
hysprydoedd. Ni raid ond darllen Hanes Crefydd
yn Nghyìnru, gan y Parch. D. Peter, er gweled y
cyfíro a achosodd gwaith y Parcb. S. Hughes yn
beiddio myned i'r Eglwys Wladol i wrando ofíeiriad
yn pregetbu, yr bwn gyfíro a derfynodd mewn
ymraniad, am na addawai y g\vr parcbedig beidio
cyflawni peth o'r fatb eilwaitb. Nid melus geuym
yw cofnodi y petbau byn ; buasai yn well genym
eu claddu mewn bebargofiant ; ond pan y gwartb-
ruddir y Tadau Metbodistaidd ar gam, angenrhaid
a osodwyd arnom.
Cyn terfynu, rbaid i ni wneyd sylw neu ddau o
natur fwy personol. Cyhuddir ni yn fynych o
ddweyd pethau gwaradwyddus am y marw. Ai
tybio yr ydis y dylasai camwri Dr. Rees gael ei
adael yn ddisylw am ei íod ef yn ei fedd '? I hyn
atebwn, (1) Na weitbredai Dr. Rees ei bun ar yr
egwyddor yma. Yr oedd Williams, Pantycelyn,
yn ei fedd er's ugeiniau o flynyddoedd pan y gwar-
adwyddid ef gan Dr. Rees, ac y dygid i'w erbyn
gyhuddiadau nad oedd iddynt ritb o sail. Sut na
chododd yr Annibynwyr eu llef yn erbyn gwaith y
Doctor yn ymosod ar y marw '? A ydyw cofíadwr-
iaetb Dr. Rees yn fwy cysegredig nag eiddo yr " hen
Williams ?" (2) Dygwyd y cyhuddiad a wnaethom
yn erbyn Dr. Rees yn ystod ei fywyd, a cbafodd
gyfleustra teg i'w ateb pe buasai ganddo ateb i'w
gael. Hyn ni chafodd Williams, Pantycelyn.
(3) Y mae ymddygiadau cyboeddus dynion cy-
hoeddus yn eiddo cyhoeddus, ac i'w beirniadu pan
fydd y rbai a'u cyflawnodd wedi marw, yn hollol ar
yr un egwyddorion a plie buasent yn fyw. Oni
chaniateir hyn, bydd banesyddiaeth deg yn an-
mhosibl ; ni cbaem gyfeirio at droseddau Mari
Waedlyd, nac at fíolinebau Charles yr Ail. A'r
troseddwr mwyaf yn Ngbymru fyddai Dr. Rees,
oblegyd yr oedd yr erlidwyr y cyfeiria atynt yir ei
Iyfr yn eu beddau oll pan yr oedd efe yn ysgrifenu.
Yn mhellach, goddefer i ni ddweyd nad oes
ynom y gradd Ileiaf o deimlad eiddigeddus at yr
Annibynwyr. Y mae i ni gyfeillion anwyl yn eu
mysg. Yr ydym yn mawr lawenbau yn cu
llwyddiant, ac yn dymuno iddyut Dduw yn
rbwydd. Da genym weled eu pwlpudau yn cael
eu Ilenwi gan ddynion mor alluog, mor efengyl-
aidd, ac mor ymroddgar. A maddeuer i ni am
ddweyd, yr ymddangosant i ni yn cyfranogi yn
helaethacb o yspryd Daniel Rowland a Howell
Harris nag o yspryd y gweinidogion Ynuieillduol,
y dywedai Dr. Jolni Tbomas am danynt, nad aent
i'r anialwch i chwilio am y colledig.
Nid oes i ni gweryl â Dr. Rees ychwaith, ond fcl
hanesydd. Yr ydym yn parchu ac yn mawrbau
Ilawer o'i nodweddion. Nid ydym yn ddall o gwbl
i'r amryfal rinweddau a harddent ei gymeriad.
Bu yn felus genym lawer gwaith ei wrando yn
efengylu. Ond yr ocdd a fynem ag cf yn Y
Tadau Methodistaidd fel hanesydd ; ac, yn y
cymeriad hwn, rbaid i ni Iynu wrtb y darnodiad
a roddasom o hono, er mor llym ydyw. A plian
y pasia y ddadl, ac y cafío ein cyfeillion liamdden
i feddwl, credwn y bydd iddynt ymwrtbod a'i
dduU anbcg o ymwncyd a documents banesyddol
pwysig.
DIWEDD CYFROL I.
A B E R T A AV E :
ARGRAFFWYD GAN LEWIS EYANS,
C A S T L E S T R E E T .
V JUL
.% 1976
PLEASE DO NOT REMOVE
CARDS OR SLIPS FROM THIS POCKET
UNIVERSITY OF TORONTO LIBRARY
1Ò6200313018